– Senedd Cymru ar 11 Mehefin 2019.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar y gronfa ffyniant gyffredin, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Cynnig NDM7062 Rebecca Evans, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod Cymru yn cael tua £370m o gyllid strwythurol a buddsoddi bob blwyddyn o ganlyniad i aelodaeth y DU o'r UE;
b) yr addewidion a wnaed yn ystod refferendwm yr UE na fyddai Cymru'n colli ceiniog o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE;
c) cefnogaeth Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a Phwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Gyllid ar ôl Brexit ar gyfer Cenhedloedd, Rhanbarthau ac Ardaloedd Lleol, a'r rhan fwyaf o randdeiliaid, ar gyfer trefniadau i'r dyfodol sy'n parchu'r setliad datganoli.
2. Yn gresynu at ddiffyg manylder Llywodraeth y DU ynglŷn â'i chynigion ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r ffaith ei bod wedi methu â pharchu'r setliad datganoli wrth ddatblygu'r cynigion hyn.
3. Yn gwrthod y syniad o gronfa ganolog neu gronfa dan gyfarwyddyd y DU neu un sy'n ceisio osgoi'r gweinyddiaethau datganoledig ar ôl Brexit.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) cyflawni'r addewidion na fyddai Cymru'n colli ceiniog o ganlyniad i ymadael â’r UE;
b) parchu datganoli a sicrhau bod Cymru'n cadw'r ymreolaeth i ddatblygu a darparu trefniadau olynu ar gyfer cronfeydd strwythurol a buddsoddi sydd wedi'u teilwra i sefyllfa arbennig Cymru o ran polisi, deddfwriaeth a phartneriaeth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn cael ei chynnal yn ystod cyfnod o anhrefn lwyr yn sgil y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ymwneud â Brexit. Nid yw'r Senedd yn gallu gweithredu, ac mae ethol arweinydd Ceidwadol newydd yn golygu bod posibilrwydd Brexit 'dim cytundeb' trychinebus yn fyw iawn. Rydym ni'n debygol o wynebu dewis syml rhwng Brexit 'dim cytundeb' neu aros yn yr UE. Wrth wynebu'r posibilrwydd hwn, byddwn ni'n ymgyrchu i aros yn yr UE ac rydym ni o'r farn bod yn rhaid i'r Senedd ddeddfu cyn gynted ag sy'n bosibl i gynnal refferendwm i benderfynu ar y mater hwn.
Mae'r anrhefn sy'n cael ei hachosi gan Lywodraeth y DU hefyd yn ymestyn i'r diffyg eglurder o ran sut y bydd y £370 miliwn hanfodol y flwyddyn o gronfeydd strwythurol a buddsoddi'r UE yng Nghymru yn cael ei ddisodli. Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, mae cyllid yr UE wedi helpu i ddod â swyddi newydd a gwell i Gymru, ac mae wedi rhoi'r sgiliau i bobl eu gwneud. Ugain mlynedd yn ôl, roedd gan Gymru rai o'r lefelau uchaf o fod heb waith yn y DU. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae diweithdra ac anweithgarwch economaidd wedi bod ar eu hisaf erioed ac yn well na'r rhan fwyaf o rannau'r DU. Mae cronfeydd yr UE wedi rhoi cefnogaeth i greu 48,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd. Maen nhw wedi helpu 25,000 o fusnesau gyda chyllid neu gymorth, ac wedi helpu 86,000 o bobl i gael gwaith. Mae dros 300,000 o gymwysterau newydd wedi eu darparu.
Mae arian yr UE wedi gwella cwmpas band eang, wedi adeiladu cynhwysedd ymchwil, wedi buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac wedi datblygu seilwaith hanfodol ar gyfer trafnidiaeth, twristiaeth a busnes. Mae'r rhain, ac ystod eang o fanteision eraill, mewn perygl heb fuddsoddiad parhaus hirdymor sy'n seiliedig ar anghenion.
Er gwaethaf y gwelliannau sylweddol ledled Cymru ers datganoli, mae anghydraddoldebau o fewn y DU yn parhau a'r rhain yw'r uchaf yn yr UE o gryn dipyn. Ni fydd y problemau hyn yn diflannu gyda Brexit. Mae'r mwyafrif helaeth a llethol o ddadansoddiadau economaidd credadwy yn awgrymu mai'r ardaloedd sy'n fwyaf agored i niwed economaidd a gaiff eu taro'n galetaf gan Brexit. Felly, mae angen inni sicrhau buddsoddiad parhaus er mwyn osgoi dad-wneud y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud.
Beth yw neges Llywodraeth y DU i'r bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru y mae'r cyllid hwn, bob dydd, yn cefnogi eu dyfodol? Cynigiodd Llywodraeth y DU gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer y DU gyfan i ddisodli arian yr UE dros ddwy flynedd yn ôl ac addawodd y byddai'n ymgynghori arni droeon yn ystod 2018. Nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Yn y cyfamser, maen nhw dro ar ôl tro wedi gwrthod ymwneud yn ystyrlon â ni o ran disodli'r cyllid hwn yng Nghymru.
Ers y refferendwm, mae ein gofynion wedi bod yn gyson ac yn glir. Rydym ni wedi galw am beidio â chael ceiniog yn llai na'r hyn y byddem ni wedi'i ddisgwyl o fewn yr UE, gan ofyn dim ond am gadw'r addewidion a wnaethpwyd i bobl Cymru yn ystod refferendwm 2016. Rydym ni hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fod yn annibynnol wrth ddatblygu a chyflawni trefniadau olynol, gan ofyn yn unig bod datganoli, y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ddwywaith, yn cael ei barchu. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo sawl gwaith i barchu datganoli wrth ddatblygu'r gronfa ffyniant gyffredin, ond yn bendant nid yw eu camau gweithredu wedi gwneud hynny.
Felly, gadewch inni fod yn glir—mae'r diffyg penderfyniad a'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU yn peryglu bywoliaeth pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn y dyfodol. Mae anwybyddu confensiynau hirsefydlog ar weithio rhynglywodraethol a thanseilio setliadau datganoli yn rhoi ein hundeb cyfan mewn perygl. Yn gwbl groes i hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati ar unwaith, yn glir ac yn eangfrydig i ddatblygu dull o fuddsoddi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol. Rydym ni wedi ymgysylltu'n eang â phwyllgorau'r Cynulliad a grwpiau Seneddol yr holl bleidiau. Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach, CLlLC, prifysgolion Cymru, CCAUC, a CGGC, a melinau trafod gan gynnwys Sefydliad Joseph Rowntree a'r Sefydliad Ymchwil dros Bolisi Cyhoeddus, i gyd yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru.
Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau'n parhau i godi mater cyllid cyfnewid, gan atgyfnerthu ein sefyllfa a phwyso am eglurder gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn wedi cynnwys yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, cyfarfodydd pedairochrog y Gweinidogion cyllid, a thrwy ohebiaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r materion hyn gyda Phrif Weinidog y DU, ac, wrth gwrs, byddwn yn dal i hyrwyddo ein sefyllfa gyda'r Prif Weinidog a'r Cabinet newydd.
Dywedwyd wrthym y bydd penderfyniadau ar gyllid disodli yn cael eu gwneud yn ystod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Gan fod hyn yn debygol o gael ei ohirio erbyn hyn, mae angen eglurder arnom ni ar frys ynghylch setliad ariannol hirdymor sy'n seiliedig ar anghenion. O fewn yr UE, byddem ni eisoes wedi cael y sicrwydd hwn, a byddem ni'n cynllunio rhaglenni newydd yn ffyddiog o gael arian newydd ar gael a'r ymreolaeth i'w ddarparu. Yr hyn na allwn, ac na fyddwn, ni'n ei wneud yw sefyll yn ein hunfan tan y bydd y materion hyn yn cael eu datrys. Nid hyn y byddai ein cymunedau, ein pobl a'n busnesau yn ei ddisgwyl gennym ni, ac mae dyfodol Cymru yn rhy bwysig.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym ni wedi cael cyfraniadau manwl i'r ddadl ar drefniadau olynol yng Nghymru gan randdeiliaid a chan bwyllgorau'r Cynulliad. Mae'r rhain yn datblygu cyfeiriad y trywydd a nodwyd yn ein papur polisi Brexit, 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'. Rydym ni wedi sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Cymru i roi cyngor i ni ar y trefniadau olynol, gan fanteisio ar arbenigedd o fyd busnes, llywodraeth leol, academia a'r trydydd sector. Bydd gwaith manwl yn parhau gyda phartneriaid yng Nghymru a'r tu hwnt yn ystod yr haf, wrth i Lywodraeth y DU edrych tuag at i mewn unwaith eto.
Diolch i'r cadeirydd, Huw Irranca-Davies, ac aelodau'r grŵp llywio am eu hymrwymiad hyd yn hyn. Mewn ymateb i farn rhanddeiliaid, nododd fy rhagflaenydd yr egwyddorion a oedd yn sail i'r dull a ffefrir gennym ym mis Hydref y llynedd. Byddwn yn sicrhau bod arian disodli yn cael ei fuddsoddi mewn datblygu rhanbarthol a lleihau anghydraddoldeb. Byddwn ni'n gwneud hyn sawl gwaith y flwyddyn o fewn ein fframwaith cyllideb ein hunain. Rydym ni eisiau gweld canolbwyntio mwy cadarn ar ganlyniadau, sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n cynllun gweithredu economaidd. Yn rhan o hyn, byddwn yn cryfhau swyddogaeth rhanbarthau Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau. Rydym ni hefyd yn edrych tuag allan. Bydd ein gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn sicrhau bod arfer gorau rhyngwladol ar ddatblygu a llywodraethu rhanbarthol yn rhan o'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Felly, i gloi, rydym ni angen sicrwydd ar frys ynghylch y cyllid hwn. Gobeithiaf y bydd Prif Weinidog newydd yn ailystyried agwedd Llywodraeth y DU ac yn parchu datganoli drwy ei weithredoedd yn ogystal â'i eiriau. Mae ein llais yn y dadleuon hynny'n gryfach pan ei fod yn unedig, ac felly anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch. Rwyf i wedi dewis y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Nick Ramsay i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Nick Ramsay.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am agor y ddadl hon? Rwyf yn falch o gyfrannu ati, ac o gytuno, mewn gwirionedd, â sawl un—ond nid pob un, fel na fyddwch yn synnu fy nghlywed i'n ei ddweud—o'r pwyntiau sydd wedi eu gwneud, ond, er hynny, roedd nifer o'r pwyntiau a wnaethoch yn rhywbeth, fe gredaf, y gallai pob un ohonom ni gytuno â nhw, Gweinidog, o ran datblygu system sy'n deg, sy'n gwarantu cyllid i Gymru yn y dyfodol, sy'n lliniaru rhywfaint o ansicrwydd y broses Brexit, yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohono, ac sydd yn y pen draw yn darparu cyllid effeithiol i Gymru y gellir dibynnu arno gan Lywodraeth Cymru a gan bobl Cymru a gan fusnesau.
Mae'r cynnig yn cydnabod bod Cymru yn cael tua £370 miliwn bob blwyddyn mewn cronfeydd strwythurol a chronfeydd buddsoddi o ganlyniad i aelodaeth y DU o'r UE ac mae hefyd yn galw arnom ni i gofio'r addewidion a wnaed yn ystod refferendwm yr UE na fyddai Cymru'n colli ceiniog o ganlyniad i Gymru'n gadael yr UE. Mae hynny'n rhywbeth y byddem ni i gyd yn awyddus i'w gyflawni. Pa ffordd bynnag yr ydych yn ei eirio a pha iaith bynnag yr ydych yn ei defnyddio, mae sôn am beidio colli ceiniog yn achosi cynnwrf, ond mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda ein bod wedi cael addewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol o ran yr arian y byddem yn ei gael yn lle'r arian Ewropeaidd ar ôl i'r broses Brexit ddod i ben, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni ar yr ochr hon yn credu y dylai ddigwydd. Dylai Cymru barhau i gael y cymorth ariannol sydd ei angen arnom ni.
O ran mater y gronfa ffyniant gyffredin, y sonnir amdani'n benodol yn y cynnig, wrth gwrs y byddem i gyd yn hoffi gweld mwy o fanylion am y gronfa honno ac ar y cyfle cyntaf. Yn amlwg, mae hynny'n hanfodol yn fy marn i, ond er hynny, rwy'n credu ei fod yn annoeth ac afrealistig i ddiystyru’r gronfa'n llwyr ar ba wedd bynnag y mae hi ar hyn o bryd, fel y mae'n ymddangos bod y cynnig hwn yn ceisio ei wneud. Mae o leiaf yn ymgais i geisio disodli cyllid Ewropeaidd gyda mecanwaith sy'n deg ac sydd nid yn unig yn cefnogi—mae yna ymgais i wneud hynny—Cymru a'r Alban a chenhedloedd y DU, ond hefyd rhanbarthau'r DU. Credaf mai dyna oedd yr egwyddor wreiddiol y tu ôl i hyn. Ac fel y dywedodd y Gweinidog ei hun, ar hyn o bryd mae cwestiynau heb eu hateb, yr ydym ni'n ei dderbyn, ac rwy'n credu y byddai Llywodraeth y DU yn ei dderbyn, nad ydyn nhw wedi'u datrys eto, a dim ond pan gaiff y rheini eu datrys ac y gallwn ni weld ffurf derfynol ar gronfa ffyniant y DU y gallwn ni ddweud, 'O'r gorau, nid yw'n mynd i ddarparu yn y ffordd y dymunwn', neu byddwn yn gallu dweud ei fod yn mynd yn bell ar hyd y ffordd tuag at ddarparu'r math o gefnogaeth y mae ei hangen ar Gymru.
Mewn egwyddor, mae'n syniad da, ond mae'n rhaid iddo gael ei weld fel un sy'n gydnaws â datganoli, ac roedd hwnnw'n bwynt a wnaeth y Gweinidog, rwy'n credu, drwy gydol yr holl ddadl a thrafodaeth hon, rydym ni wedi cael y ddadl barhaus hon ynghylch pa un a ddylid—. Ar y naill law, mae gennych chi gronfa ffyniant y DU. Sut y mae hynny'n gydnaws â datganoli? A oes rhyw fath o dynnu yn ôl ar ddatganoli? Nid dyna oedd y ddealltwriaeth o gwbl ar ddechrau'r broses hon, ynglŷn â sut y byddai hyn yn mynd rhagddo, ac yn sicr ni ddylai hynny fod yn wir. Ni ddylai disodli arian yr UE arwain at dynnu datganoli a phwerau'r Cynulliad hwn yn ôl. Nid dyna yr oeddem ni wedi'i ragweld ac nid dyna wnaeth pobl Cymru bleidleisio drosto.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Felly, pam ydych chi'n cynnig gwrthod paragraff 3 y cynnig, sy'n dweud yn y bôn y dylid gwrthod y syniad o gronfa ganolog a gyfarwyddir gan y DU neu un sy'n ceisio osgoi'r weinyddiaeth ddatganoledig, oherwydd, i bob pwrpas, yr ydych chi newydd ddweud eich bod yn cytuno'n llwyr â hynny? Felly, pam ydych chi'n ei wrthod?
[Anghlywadwy.]—cyfreithiwr weithiau. Wel, yn gyntaf, dydw i ddim yn hoffi tôn y cynnig. Credaf, pe byddem ni i gyd yn trafod—. Gwn eich bod wedi cael trafodaeth glos gyda Phlaid Cymru ynghylch sut y byddai'r cynnig yn cael ei eirio a'ch bod chi'n fodlon iawn ar hynny, ond credaf y byddai wedi bod yn bosibl ceisio cael cytundeb ehangach ar y cynnig hwnnw, a dweud y gwir, a chredaf y gallem ni fod wedi cael gwell tôn. Rwyf i eisoes wedi dweud wrth y Gweinidog fy mod i'n credu, er bod rhai manylion am y gronfa ffyniant gyffredin yn dal yn ansicr, rhai ohonyn nhw yn ddealladwy felly, ei bod hi'n annheg felly i ddiystyru'r gronfa gyfan ar hyn o bryd. Rwyf yn derbyn yn nes ymlaen efallai y byddwch eisiau dweud na ddylid ei derbyn ac y gallwch chi gael gwared arni, ond ar hyn o bryd nid wyf yn credu y dylai pwynt 3 fod yna. Mewn gwirionedd, rydym ni yn derbyn pwynt 4, sy'n dilyn o bwynt 3—rhywbeth amlwg i ddweud wrthych chi mae'n debyg,—ond mae pwynt 4 yn dweud bod angen tegwch. Mae'n dweud—. Gallaf weld bod Mick Antoniw nawr yn darllen y pwynt 4 hwnnw. A byddwch yn gweld bod y pwyntiau sy'n cael eu gwneud ym mhwynt 4 yn fy marn i yn gwneud pwyntiau pwynt 3 mewn ffordd llawer mwy effeithiol a gyda gwell tôn, a dyna pam y gwnaethom ni bleidleisio i ddileu pwynt 3. [Torri ar draws.] A gaf i wneud dim ond ychydig bach o gynnydd? Yna, fe wnaf i eich gadael chi i mewn.
Rydym ni i gyd yn cytuno bod angen setliad teg i genhedloedd a rhanbarthau'r DU gyfan, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thanfuddsoddi ar hyd a lled y wlad. Rydym ni hefyd yn cytuno bod angen i'r trefniadau newydd barchu datganoli a sicrhau bod Cymru yn cadw'r ymreolaeth i ddatganoli a chyflawni trefniadau llwyddiannus ar gyfer cronfeydd olynol—y pwynt a wneir ym mhwynt 4. Ildiaf.
Diolch am ildio, Nick. Os ydw i'n gwrando'n iawn ar yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, rydych chi'n cefnogi o leiaf yr egwyddor y tu ôl i bwyntiau rhif 2 a rhif 3, ond dydych chi ddim yn hoffi'r tôn. Mae egwyddor rhif 2 ynghylch y diffyg manylder yr ydych chi newydd sôn amdano yn fwy huawdl nag y gallaf i; rydych chi hefyd yn gresynu at y diffyg manylion. Ac rydych chi'n gwrthod y syniad o gronfa wedi'i chanoli neu o dan gyfarwyddyd y DU; rydych chi eisiau iddi gael ei rheoli yma yng Nghymru. Felly, a gaf i o leiaf gael eglurder ar y cofnod, er nad ydych chi o bosibl yn hoffi tôn rhywbeth yn y fan yma, eich bod yn derbyn egwyddor cynnig y Llywodraeth?
Yn gyntaf oll, oes, mae yna broblem yn ymwneud â thôn. O ran pwynt 2, mae'n dweud:
'Yn gresynu at ddiffyg manylder Lywodraeth y DU'.
Rwyf eisoes wedi dweud ein bod eisiau gweld mwy o fanylion, a bydd hynny'n dod yn fuan. Iawn. Gan adael hynny i'r naill ochr, mae pwynt 3:
'Yn gwrthod y syniad o gronfa ganolog neu gronfa dan gyfarwyddyd y DU neu un sy'n ceisio osgoi'r gweinyddiaethau datganoledig ar ôl Brexit.'
Nid ydym ni'n derbyn bod ymgais i osgoi. Yr iaith—efallai y byddech yn dweud y tôn—sy'n annerbyniol i ni, gan ei bod yn pwysoli'r ddadl i ryw gyfeiriad nad yw'n dderbyniol yn ein barn ni. A byddai wedi bod yn llawer gwell pe byddem ni i gyd wedi cytuno ar iaith y cynnig hwn, fel y gallem ni i gyd fod wedi ei dderbyn. Ond cedwir pwynt 4. [Torri ar draws.] Os oes gen i amser, fe wnaf i ildio. Rwy'n credu eu bod yn gwneud pwynt pwysig, ond mae'n fater i'r Llywydd.
Yn wir, ac rwyf yn croesawu eich bod chi'n ildio am fod hynny'n helpu'r ddadl.
Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw po fwyaf o ymyriadau sy'n digwydd, y llai tebygol y bydd rhai pobl yn cael eu galw yn nes ymlaen yn y ddadl.
Ac os bydda i'n dioddef, byddaf i'n derbyn hynny, Llywydd.
Y cyfan y mae'n ei wneud yw dweud nad ydych chi'n derbyn y syniad bod Llywodraeth y DU yn rhif 3 yn ceisio osgoi hynny. Ond y syniad o gronfa wedi'i chanoli neu o dan gyfarwyddyd y DU, gwrthod hynny—a ydych chi'n derbyn bod hynny'n cael ei wrthod?
I fod yn gwbl glir ynglŷn â hyn, rwyf i'n credu bod pwynt 3, ac rydym ni'n credu bod pwynt 3, yn awgrymu bod Llywodraeth y DU yn ceisio osgoi yn fwriadol er mwyn tynnu pwerau yn ôl, rhywbeth nad ydyw'n ei wneud. Mae'r ffaith y gallai hynny—[Torri ar draws.] Mae'r ffaith y gallai'r canlyniad hwnnw fod yn ganlyniad anweledig ymhellach i lawr y ffordd yn rhywbeth y gallwn ni ei drafod, a dyna pam rwy'n credu bod pwynt 4 yn fwy effeithiol o lawer wrth wneud y pwynt, ond nid wyf i'n credu bod pwynt 3 yn gwneud hynny Rwy'n sylweddoli bod fy amser i bron ar ben, felly os caf i orffen.
Rwyf yn cytuno'n llwyr—mae'r ymgyrch 'gadael' yn llafar iawn draw yn y fan yna—gyda sylwadau'r ymgyrch 'gadael' cyn y refferendwm na ddylai Cymru fod yr un geiniog ar ei cholled ar ôl i hyn i gyd fynd heibio. Gobeithio mai dyna fydd yn digwydd mewn gwirionedd, ac nid geiriau'n unig ydoedd hynny. Rwyf yn gwerthfawrogi bod rhai rhesymau dealladwy pam mae gennym ni'r dryswch presennol hwn, ond credaf os byddwn i gyd yn cydweithio yma y gallwn ni gyflwyno neges i Lywodraeth y DU sydd, yn fy marn i, yn dderbyniol i bob un ohonom, a bydd hynny'n dweud bod Cymru eisiau cael ymreolaeth ac atebolrwydd ariannol yn y fan yma, ac nad yw eisiau gweld hynny'n cael ei golli i'r DU.
Wythnos neu ddwy cyn y refferendwm yn 2016, llofnododd grŵp o ymgyrchwyr 'ymadael' lythyr nid yn dweud y dylai Cymru gael yr un faint o arian ar ôl Brexit, ond y byddai'r arian y mae Cymru eisoes yn ei gael o Frwsel yn cael ei gynnal gan Lywodraeth y DU ar ôl i ni adael yr UE. Byddaf i'n garedig ac yn hytrach na dweud eu bod nhw'n dweud celwydd—er y gall eraill ddod i'w casgliadau eu hunain—rwyf am ddweud mai dweud rhywbeth rywbeth oedden nhw. Efallai eich bod yn gyfarwydd â rhai o lofnodwyr y llythyr hwnnw—Boris Johnson, Michael Gove a Dominic Raab yn eu plith. Tair blynedd ymlaen, rydym ni'n dal i fod heb addewid o gyllid i Gymru ar ôl Brexit. Yn union fel y mae'r dystiolaeth wedi bod yn pentyrru y byddai Brexit yn achosi niwed dwfn i economi Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi digon o dystiolaeth nad oedd yn malio dim am yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru fod yn derbyn arian yr UE yn ôl angen—rhywbeth, wrth gwrs, nad yw fformiwla Barnett, sydd wedi dyddio, yn ei wneud.
Nododd maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2017 y byddan nhw yn defnyddio arian y gronfa strwythurol a ddaw'n ôl i'r DU yn dilyn Brexit i greu cronfa ffyniant gyffredin yn y Deyrnas Unedig, a gynllunnir yn arbennig i leihau anghydraddoldeb rhwng cymunedau ledled ein pedair gwlad. Byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal a byddai'n cael ei gwblhau cyn diwedd 2018. Cyfle i ni amheuwyr, efallai, herio Llywodraeth y DU, i'w gwthio ar eu haddewidion. Ond rydym ni'n dal i fod heb gael ymgynghoriad. Nid oes addewidion mwyach. Dim cynllun, dim manylion, dim cynnig. Yn gynharach eleni, fe gyhoeddais i a'm cyd-aelod o Blaid Cymru, Ben Lake AS, yr adroddiad hwn, 'Dim Ceiniog yn Llai'—ein hymateb i'r ymgynghoriad ar y gronfa ffyniant gyffredin. Roedd yn rhywbeth braidd yn anarferol i'w wneud, oherwydd ein bod ni’n ymateb i bapur ymgynghori nad oedd hyd yn oed wedi'i gyhoeddi eto. Ond roedd yn rhaid i ni wneud hynny.
Roedd y cyhoeddiad am y gronfa ffyniant gyffredin wedi cael ei groesawu yn ôl yn 2017 gan arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ar y pryd, Andrew R.T. Davies, y dywedwyd wrthyf nad yw'n gallu bod yma y prynhawn yma. Roedd croeso mawr iddo, meddai, ac yr oedd yn dystiolaeth bellach y byddai Cymru'n well ei byd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n fath rhyfedd o 'well ei byd'. Un o'r breuddwydion rhamantus Brexitaidd hynny, rwy'n tybio, yn hytrach na bod yn well ein byd yn yr ystyr y byddem ni mewn gwirionedd yn well ein byd—wedi ein cyllido'n well, mewn sefyllfa well yn economaidd. Oherwydd bod y dystiolaeth nawr yn glir—[Torri ar draws.] Na, dywedodd na allai fod yma'r prynhawn yma, felly rwy'n tynnu sylw at y ffaith nad yw yma y prynhawn yma. [Torri ar draws.] Roeddwn i'n sôn am Andrew R.T. Davies, ac yn egluro nad yw yma y prynhawn yma.
Siaradwch am y gronfa ffyniant gyffredin.
Mae'r dystiolaeth yn glir erbyn hyn. Mae'r risg yn amlwg y bydd Whitehall ddim ond yn ailadrodd ei fformiwla arferol o ddosbarthu arian datblygu economaidd. Ac edrychwch ar yr hyn y mae'r ffigurau a gyhoeddwyd ddoe gan y mudiad Communities in Charge yn ei ddweud wrthym am yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Dywedodd un o drefnwyr yr ymgyrch y byddai'n debyg i roi siec am dros £200 i bob un o drigolion Llundain a chymryd £700 oddi wrth bob person yng Nghymru. Mae'n bosibl y gallai Cymru golli dros £2.3 biliwn dros chwe blynedd, gydag arian yn llifo i dde-ddwyrain ffyniannus Lloegr. Felly, yn hytrach na lleihau anghydraddoldeb, byddai Llywodraeth busnes fel arfer y DU ddim ond yn cynyddu'r anghydraddoldeb rhwng rhanbarthau'r DU a gwledydd y DU. Dyma yw realiti Brexit, dyma sy'n wynebu Cymru, a hynny heb gymryd i ystyriaeth y difrod a fyddai'n llifo o drychineb economaidd Brexit 'dim cytundeb'.
Llywydd, mae'r adroddiad yma dwi wedi'i grybwyll yn pwysleisio gwerth cronfeydd Ewropeaidd i Gymru, o ran sgiliau, o ran isadeiledd ac yn y blaen. Allwn ni ddim derbyn colli ceiniog os adawn ni'r Undeb Ewropeaidd. Ond ar hyn o bryd, does yna ddim sicrwydd o hynny, ac mae hynny, i fi, yn brawf o gyn lleied o flaenoriaeth ydy lles Cymru yng nghanol hyn oll. Mae gennym ni gyfres o ofynion. Mae angen sicrwydd y bydd arian yn cael ei neilltuo yn llawn ymlaen llaw, nid ei ddyrannu drwy broses fidio gystadleuol. Mae eisiau iddi fod yn rhaglen gyllido aml-flynyddol. Mae eisiau iddo fo adlewyrchu’r sefyllfa bresennol, wrth gwrs, lle mae arian yn cael ei roi yn ôl galw, nid poblogaeth. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n derbyn 22 y cant o arian cronfeydd strwythurol Ewrop. Rydych chi'n clywed ein neges ni—dim ceiniog yn llai.
Ond nid dim ond sicrwydd am y symiau o arian rydym ni'n chwilio amdano fo—ac mae hyn wedi cael ei gyfeirio ato fo eisoes. Mae angen sicrwydd y byddai'n cael ei reoli gan Gymru. Rydym ni'n gweld yn barod beth sy'n gallu digwydd drwy'r bargeinion dinesig a'r fargen ranbarthol i'r gogledd, er enghraifft. Wrth gwrs fy mod i'n mynd i groesawu unrhyw arian ddaw o'r Trysorlys i gefnogi datblygiadau yng Nghymru, ond beth sy'n digwydd ydy bod Gweinidogion yn Whitehall eisiau rheoli a chael y gair olaf ar wariant. Mae'n rhaid parchu y setliad datganoli a sylweddoli mai yma yng Nghymru ddylai'r penderfyniadau gael eu gwneud ar osod blaenoriaethau ar gyfer creu Cymru fwy llewyrchus. Ac mae'n ddrwg gen i; mae'r ffaith bod y Ceidwadwyr yn eu gwelliant yn tynnu'r cymal sy'n dweud bod rhaid grymuso y gweinyddiaethau datganoledig yn dweud y cyfan am y bygythiad sydd o'n blaenau ni.
Rwyf eisiau cefnogi cynnig y Llywodraeth, felly roeddwn i'n gobeithio y gallwn i wneud sylwadau cydsyniol, ond mae'n rhaid imi ddweud ar y dechrau bod y Gweinidog wedi dweud ei bod hi eisiau gweld addewidion o refferendwm 2016 yn cael eu hanrhydeddu. Iawn, a beth am inni ddechrau drwy anrhydeddu canlyniad y refferendwm? Soniodd hi ei bod hi eisiau gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i gynnal refferendwm ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, heb dynnu sylw at y ffaith ein bod ni wedi cynnal un. Pleidleisiodd Cymru i adael, a'r broblem yw ei bod hi a'r carfannau y tu ôl iddi yn credu eu bod yn gwybod yn well na'r bobl sydd, ar y cyfan, yn eu hethol nhw, ac nid ydyn nhw eisiau gweithredu'r canlyniad. Dyna'r cwbl sydd ar y pwynt hwnnw. Mae'r materion—[Torri ar draws.] Mae'r materion yr ydym ni'n eu hwynebu—[Torri ar draws.]
A gawn ni ganiatáu i'r Aelod barhau â'i gyfraniadau mewn tawelwch, os gwelwch yn dda?
Wedi dweud y ddau bwynt cychwynnol hynny, fe wnaf i geisio dychwelyd at y dull mwy cydsyniol yr oeddwn i wedi'i fwriadu. Rwy'n cytuno â chynnig y Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod wedi'i eirio â phwyll ac, yn gyffredinol, synnwyr da. Pwynt 1(a)—rwy'n nodi'r gymhariaeth, hyd yn oed os ydym yn derbyn y ffigur hwnnw o £370 miliwn y flwyddyn, ei fod yn cymharu â'r swm yr ydym yn ei dalu i'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, wrth gwrs, gall fod naill ai'n ffigur gros, gall fod yn ffigur net, ac mae amryw o wahanol ffynonellau y gallwn ni eu ddefnyddio i amcangyfrif. Ond, hyd yn oed ym mhen isaf yr amcangyfrifon ar gyfer y cyfraniad net, rydym yn edrych ar ryw £9 biliwn y flwyddyn, a gan fod poblogaeth Cymru yn cyfrif am 5 y cant o boblogaeth y DU, mae ein cyfran ni o hynny yn isafswm o £450 miliwn—h.y. mwy nag yr ydym yn ei dderbyn yn ôl hyd yn oed ar sail y rhifau hyn.
Mae pwynt 1(b) yn gwbl gywir y gwnaed yr addewidion hyn. Nodwyd llythyr penodol yn gynharach. Rwy'n credu mai ymgyrchwyr 'ymadael' ar y cyfan, ac nid Llywodraeth y DU, a wnaeth yr addewidion hyn. Mae'n wahaniaeth pwysig, ac rwy'n credu ei fod yn un y dylem ni ei gofio. Fodd bynnag, yr hyn y byddwn i yn ei ddweud yw bod llawer o'r bobl a wnaeth y datganiadau hynny—ac eto, soniodd yr Aelod, rwy'n credu, am Boris Johnson, Michael Gove a Dominic Raab—yn gwneud cais ar hyn o bryd ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, ac felly, mae'n bosibl o leiaf, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu un peth da, o bosibl, am yr oedi—. Rwy'n cytuno ac yn gresynu at y diffyg manylion a welsom am y gronfa ffyniant gyffredin, ond tybed a yw er gwell, oherwydd yr hyn a welsom oedd rhywun a oedd yn dymuno aros yn yr UE, Theresa May, yn cymryd awennau'r Llywodraeth, yn rhoi rhai ymadawyr mewn swyddi penodol fel addurn, er mwyn ymddangos fel eu bod yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â Brexit, ond wedyn yn trafod rhywbeth drwy sianel gefn gyfrinachol, drwy weision sifil, yn gwneud rhywbeth hollol wahanol i'r hyn yr oedd y Gweinidogion Brexit hynny yn credu eu bod yn ei arwain. [Torri ar draws.] Gwnaf, fe wnaf ildio.
Diolch am dderbyn ymyriad. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n ei weld fel symptom arall o'r diffyg eglurder ynghylch y cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo. Un o'r materion mawr i mi ynglŷn â'r refferendwm yn 2016 yw nad ydym ni'n gwybod o hyd beth y pleidleisiodd pobl drosto. Efallai fod gennych chi syniad; efallai y bydd gan bobl eraill yn yr ystafell hon syniad. Unwaith eto, ar ôl tair blynedd o fethu â dod i gasgliad ynglŷn â hynny, nid ydym ni ychwaith, ar ôl tair blynedd, wedi dod i gasgliad ynglŷn â sut y gallai cronfa ffyniant gyffredin weithio.
Fe wnaethom ni bleidleisio i adael, ac mae'n ddrwg gen i nad yw'r Aelod yn parchu hynny mwyach. Rwy'n sylwi na wnaeth ei aelodau bleidleisio yn erbyn sbarduno erthygl 50, ac eto dyma nhw yn ceisio dadwneud y canlyniad.
Fodd bynnag, yr hyn yr wyf i'n ei gredu yw, i ddatblygu'r pwynt yr oeddwn i'n ei wneud, os bydd Boris Johnson, Michael Gove, Dominic Raab, neu yn sicr os bydd Boris Johnson neu Michael Gove yn dod i mewn—mae'n ddrwg gen i, nid Michael Gove, ond Dominic Raab—a fu'n glir iawn ynglŷn â hyn, gall y pethau hyn ddod yn ôl at ei gilydd, gobeithio, a bydd yr union bobl sy'n gwneud yr addewidion hynny, sy'n gwneud yr ymrwymiadau hynny, yn arwain Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac mewn sefyllfa i roi'r ymrwymiadau hynny ar waith. Ac rwy'n credu, felly, y gallai fod yn beth da nad ydym ni wedi gweld y manylion yn y gronfa ffyniant gyffredin, i'r graddau ei bod yn bosibl yn awr y bydd gennym ni, cyn hir, Lywodraeth dan arweiniad y bobl sy'n gwneud yr addewidion hynny, ac y gallwn ni ddweud, 'Wel, edrychwch, dyma wnaethoch chi ei ddweud wrthym bryd hynny; gwnewch yn siŵr bod Cymru'n cael yr hyn y gwnaethoch chi ei addo.' Nid oedd yn ymddangos bod Theresa May yn dymuno cyflawni hynny. Gobeithio y bydd pwy bynnag sy'n ennill yr etholiad arweinyddiaeth hwn yn dymuno cyflawni hynny.
O ran pwynt 1(c), rwyf wedi gweld, David Rees, eich bod wedi rhoi cryn dipyn o gyhoeddusrwydd i'r grŵp seneddol hollbleidiol hwn y mae Stephen Kinnock yn ei arwain. Nid wyf i'n gwybod a yw hynny oherwydd eich bod yn rhannu etholaeth, neu a yw Stephen wedi cael mwy o ddewis ar gyfer y grŵp seneddol hollbleidiol hwn. Rwy'n gobeithio ei drafod gydag ef yn ddiweddarach yn yr wythnos. Ond, yn sicr, rwy'n credu ei bod yn galonogol ei fod yn dod â phobl i mewn i hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd Aelodau o ochr y Ceidwadwyr hefyd yn cysylltu â'r grŵp seneddol hollbleidiol hwnnw. Gwnaf.
Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Er mwyn egluro: o ran fy ngyd-gynrychiolydd Stephen Kinnock, sef AS fy etholaeth i, fel y gwnaethoch ei nodi, mae gan y grŵp hollbleidiol seneddol aelodaeth drawsbleidiol—yr SNP, y Ceidwadwyr, grwpiau amrywiol—ac felly barn dorfol ydyw, nid ei farn ef yn unig, ac mae hefyd yn farn academyddion sydd wedi cyfrannu ymchwil at yr adroddiad. Mae hyn yn seiliedig ar ymchwil academaidd, ac felly mae'n amlwg bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y pryderon sydd ganddynt.
Da iawn. Wel, rwy'n dymuno'n dda iddo ac rwy'n llongyfarch Stephen Kinnock ar y gwaith y mae'n ei wneud yma, a hefyd ar gysondeb ei safbwynt ar Brexit. Yn wahanol i'r Aelodau yma, nid yw ef wedi ei newid, ac rwy'n croesawu hynny. Rwy'n annog y Ceidwadwyr hefyd, gobeithio, i gysylltu â'r grŵp hollbleidiol seneddol hwn, i ystyried ble y gallan nhw ddylanwadu ar y ddadl fel y mae'n digwydd. Mae yna ornest am yr arweinyddiaeth. Mae pobl yn trafod materion. Beth am geisio gwneud yn siŵr bod polisi Llywodraeth y DU yn cysylltu â pholisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â chael yr arian a addawyd?
Rwy'n siomedig nad yw'r Ceidwadwyr yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, oherwydd mae pwynt 3, yn fy marn i, wedi ei eirio'n dda mewn gwirionedd. Nid ydym ni eisiau cronfa wedi'i chanoli na'i chyfarwyddo gan y DU; rydym ni eisiau un y mae gennym ni fwy o ddylanwad arni nag a fu gennym pan gafodd ei rhedeg gan yr UE. Nid ydym ni eisiau osgoi'r gweinyddiaethau datganoledig; rydym ni eisiau ceisio cytuno ar rywbeth sy'n gweithio i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Rwyf i'n edrych ymlaen at gefnogi'r cynnig.
O ran bwrw ymlaen â'r ddadl hon, nid wyf i mewn gwirionedd yn diystyru'r cyllid fel a awgrymodd yr Aelod dros Sir Fynwy mewn cyfraniad cynharach, ond yr hyn sy'n peri pryder mawr i mi yw nad oes gennym unrhyw weledigaeth nac uchelgais amlwg ar gyfer y gronfa hon. Flynyddoedd ar ôl ei chyhoeddi, nid ydym ni'n gwybod beth yw amcanion y gronfa, heblaw am ambell frawddeg yn etholiad 2017 y Ceidwadwyr. Nid ydym yn gwybod beth yw'r arian fydd ar gael, nid ydym yn gwybod sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu, nid ydym yn gwybod pa fesurau a ddefnyddir i ddosbarthu'r arian hwnnw, ac nid ydym yn deall sut y caiff datganoli ei gydnabod na'i ystyried, wrth ddatblygu polisi a chyflwyno polisi. Mae hynny'n rhan bwysig o'r ddadl hon, gan fod y ddadl hon yn dweud mwy wrthym am y Deyrnas Unedig nag y mae'n ei ddweud am gyllid yn y gorffennol gan yr Undeb Ewropeaidd. Fe gymeraf ymyriad.
Rwy'n credu bod angen ychydig o realiti yn y fan yma. Dylem ni fod wedi bod â chytundeb ymadael wedi'i gymeradwyo gan y Senedd hydref diwethaf. Dyna'n amlwg yr oedd y Llywodraeth yn ceisio'i wneud. Dylem ni fod wedi ymadael ym mis Mawrth ac erbyn hyn dylem ni fod mewn cyfnod pontio lle byddai'r holl daliadau presennol wedi eu gwarantu tan ddiwedd y cylch hwn, ac yn ystod y cyfnod hwn byddem wedyn wedi ffurfio'r gronfa ffyniant gyffredin, a byddai'r ymgynghoriad wedi'i gynnal. Yr holl bobl yn y fan yma sydd wedi atal, naill ai'n uniongyrchol neu drwy gefnogi eich cydweithwyr yn San Steffan, gytundeb ymadael rhag mynd drwy'r Senedd, hynny sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa hon. Ni allwch chi drafod y materion gwirioneddol bwysig hyn sy'n deillio o'r penderfyniad i ymadael a gadael cyn i chi wneud hynny.
Mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, rwy'n meddwl ei bod yn rhyfeddol bod y Llywodraeth yn beio'r gwrthbleidiau os na allan nhw gyflawni eu busnes. Dyna'r ddadl fwyaf hurt yr wyf i wedi'i chlywed ar unrhyw adeg yn y lle hwn. Ac rwy'n dweud hyn wrth David Melding hefyd: fe wnaeth bwynt yn gynharach, yn ystod ymyriad yn gynharach, yn dweud y byddai'n cael ei gyfarwyddo gan Frwsel—dan gyfarwyddyd Ewrop, rwy'n credu yw'r hyn a ddywedodd—o ran strwythur y cyllid hwn. Nid yw hynny'n wir. Nid yw'n wir o gwbl. Rwy'n cofio fel Gweinidog fynychu'r Cyngor Materion Cyffredinol yn Lwcsembwrg pan fyddem yn cael dadleuon ynghylch y materion hyn. Rwy'n cofio mai fy swyddogion i a helpodd i lunio rhannau o'r ddeddfwriaeth hon; mai swyddogion Llywodraeth Cymru gan weithio gyda Llywodraeth y DU, gan weithio gydag UKREP hefyd, a gynlluniodd ac a ddatblygodd y gronfa hon mewn gwirionedd. Ni fu unrhyw waith llunio polisïau anhryloyw a ddigwyddodd yn y Trysorlys nac yn Whitehall a chafwyd areithiau achlysurol gan Weinidogion. Roedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth a'r polisi a ddaeth i fod oherwydd y ddeddfwriaeth honno.
Felly, o ran y ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn, i mi, yr hyn sy'n bwysig yw nad oes gennym ddatganoli o ran darparu polisïau, ond mae gennym gydnabyddiaeth o Deyrnas Unedig amlfodd, os yw hynny'n bosibl, wrth ddatblygu polisïau. Felly, swyddogion Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn cydweithio â'n cydweithwyr yn yr Alban ac â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain, gan ddatblygu polisi a datblygu'r hyn y dylai'r gronfa fod, ac nid yw beio'r gwrthbleidiau oherwydd nad yw hynny digwydd, a bod yn onest, yn bwynt difrifol.
Ond yr hyn sydd gennym, yn hytrach na hynny, yw cuddio a chamarwain, a'r hyn sydd gennym yw rhwystro datblygiad polisi. Ac mae hynny'n digwydd o'r DU ac nid o fannau eraill, oherwydd rwy'n clywed geiriau camarweiniol Gweinidogion y DU yn dweud y byddwn yn cronni pwerau ychwanegol ar ôl unrhyw Brexit, ond nid yw'n ymddangos eu bod yn deall nac yn gwerthfawrogi beth y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw a beth y mae hynny'n ei olygu i'r modd y maen nhw'n gweithredu a sut y maen nhw'n datblygu eu polisi. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau bod gennym gronfa ffyniant gyffredin nad yw'n adlewyrchu dymuniadau Llundain, ond anghenion y Deyrnas Unedig.
Y pwynt olaf sydd gen i yw hyn: bydd llawer ohonom ni wedi gweld ffigurau yn cael eu cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe a gynhyrchwyd gan yr Huffington Post, a oedd yn ceisio rhoi enghraifft, hyd y gallwn i ei weld, o sut y byddai gwahanol rannau'r undeb yn ymdopi pe byddai'r gronfa ffyniant gyffredin hon yn cael ei dosbarthu yn ôl methodolegau ariannu presennol. A'r hyn a oedd fwyaf brawychus ynghylch y ffigurau hyn, oedd nid yn unig colli cyllid i Gymru a throsglwyddiad net arian o Gymru i rannau cymharol gefnog o'r Deyrnas Unedig, ond bod y trosglwyddiadau cyllid hyn yn adlewyrchu polisi presennol y DU a dull presennol y DU, bod cyllid yn llifo o'r tlawd i'r cyfoethog, o'r di-rym i'r pwerus ac o'r cyrion i'r canol. Beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym ni am ddarlun y Deyrnas Unedig o'r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd? Os yw'r DU yn golygu unrhyw beth, yna mae'n golygu nid yn unig undeb gwleidyddol, ond undeb o undod cymdeithasol lle y rhennir adnoddau, lle y dosberthir arian yn ôl yr angen a lle y ceir dosbarthu ac ailddosbarthu i'r rhannau hynny o'r Deyrnas Unedig lle mae angen y cronfeydd hynny. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sylweddoli nac yn deall hyn, ac yn sicr nid yw eu cynigion yn cydnabod hynny.
Felly, wrth gloi, Llywydd, gadewch imi ddweud hyn: prawf yw hwn yn sicr ac mae'n sicr yn brawf i'r Llywodraeth Dorïaidd hon, ond mae hefyd yn brawf, nid yn unig o'r modd y maent yn cyflawni datblygu economaidd neu ffyniant cyffredin, mae'n brawf o'u barn yn y dyfodol ar yr hyn y gall y Deyrnas Unedig fod. A ydym ni'n deulu o genhedloedd lle mae pob un yn gweithio gyda'r llall ac yn ei pharchu? Neu, ydym ni am gael gwybod beth i'w wneud a bod yn ddiolchgar am y briwsion yr ydym ni'n eu derbyn, addewidion ai peidio? I mi, mae'n rhaid i'r Deyrnas Unedig fod yn deulu o genhedloedd lle'r ydym yn gweithio gyda'n gilydd, lle'r ydym yn parchu ein gilydd. Ar hyn o bryd, mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth bresennol hon yn gwneud hynny.
Yn rhy aml mewn dadleuon fel hyn sy'n canolbwyntio ar gyllid, gallwn ganolbwyntio gormod ar fanylion y canrannau a'r ffigurau yn y pellter sy'n ymddangos mor bell ei bod yn anodd olrhain eu perthynas â bywydau pobl. Mewn gwirionedd, bydd y cynigion yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw, hynny yw, sut y bydd cronfeydd yn cael eu dyrannu ar ôl Brexit i helpu ein cymunedau, yn cael effaith annileadwy ar fywydau pobl. Ac, fel sy'n digwydd yn rhy aml, y bobl sydd angen y cymorth mwyaf sy'n debygol o ddioddef y gwaethaf o ba ergydion bynnag y mae ein heconomi yn gorfod eu dioddef.
Un o brif feirniadaethau refferendwm 2016 oedd bod yr ochr 'aros' wedi methu â chyfleu'r manteision enfawr a gynigiwyd i ni o fod yn aelod o'r UE. Gellid dadlau bod awdurdodau lleol a chyrff eraill, gan gynnwys y lle hwn efallai, hefyd, am flynyddoedd, wedi methu â dweud hanes sut yr oedd cronfeydd penodol yn helpu ein cymunedau. Felly, gadewch inni ddweud y stori honno nawr. Gadewch i ni egluro sut mae cronfeydd strwythurol o fudd i Gymru a'n dinasyddion sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Dosberthir y cronfeydd hanfodol hyn ar sail angen—dull sy'n ymddangos yn wrthun i Lywodraeth San Steffan, sy'n ffafrio'r boblogaeth fesul pen fel yr unig fesur o ddosbarthu cyfoeth. A nod y gronfa yw mynd i'r afael ag anghyfiawnder tlodi ac allgáu cymdeithasol.
Mae'r cronfeydd wedi cefnogi nifer o brosiectau yng Nghymru, megis STEMCymru 2, sy'n cefnogi pobl ifanc mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i annog mwy o fenywod ifanc i fynd ar drywydd peirianneg. A'r rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, sy'n helpu rhieni di-waith i gael gwaith neu hyfforddiant drwy eu helpu â chostau gofal plant. Mae'r rhaglen Gweithffyrdd+, yn y cyfamser, yn helpu'r rhai dros 25 oed nad oes ganddyn nhw swydd i mewn i gyflogaeth. Mae'r rhaglenni hyn yn achubiaeth i bobl pan fo'u hangen arnyn nhw fwyaf. Mae'n rhaid i'r gronfa ffyniant gyffredin anrhydeddu'r amddiffyniadau a gynigir gan y system bresennol, ac mae'n rhaid ei dosbarthu ar sail egwyddorion tebyg. Nid mater ariannol yn unig yw ffyniant; wrth gwrs dyna'r elfen ganolog, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau lles a mynd i'r afael â gwahaniaethau strwythurol sy'n sail i annhegwch anghydraddoldeb yn ein cymdeithas.
Rydym ni'n gwybod y rhan hon o'r stori, o leiaf: mae Cymru'n cael cyfran uwch o gronfeydd strwythurol y pen na gweddill y DU. Yn wir, rydym ni yng Nghymru'n cael chwe gwaith yn fwy o gyllid yr UE y pen na Lloegr. Mae hynny'n gyfystyr â £230 y pen ar gyfartaledd yng Nghymru, o'i gymharu ag £85 y pen yn Lloegr. Ond mae Chwarae Teg wedi tynnu sylw at y ffaith mai menywod fydd yn dioddef waethaf os dilëir yr arian hwn, yn ogystal â grwpiau lleiafrifol eraill, pobl anabl, a phobl o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Dyma'r grwpiau sy'n elwa ar hyn o bryd o raglenni a ariennir gan yr UE, fel y rhai yr wyf newydd eu crybwyll. Nhw yw'r rhai y dylem ni fod yn meddwl amdanyn nhw yn y ddadl hon.
Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar effeithiau posibl Brexit, ond nid yw'n benodol i Gymru. Mae angen archwiliad sy'n benodol i Gymru arnom ni o effaith debygol Brexit—yn enwedig, yn awr, Brexit caled—ar ein heconomi. Unwaith eto, mae gan yr UE hanes cryf o amddiffyn rhannau o gymdeithas y mae angen eu hamddiffyn fwyaf, nid yn unig drwy weinyddu cronfeydd, ond hefyd drwy ddeddfu ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hawliau dynol a hawliau gweithwyr. Nid yw San Steffan wedi rhoi unrhyw sicrwydd y bydd yn amddiffyn pob un o'r hawliau hyn. Byddai tynnu ein hunain o'r system hon o dan yr amgylchiadau hyn yn debyg i dynnu'r sgaffaldiau o amgylch tŷ pan na fydd y sylfeini wedi'u gosod. Ni fydd dim yno i'n rhwystro rhag dadfeilio i'r ddaear.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo na fydd ceiniog yn llai i'n cymunedau; rwy'n siŵr y bydd yr ymadrodd hwnnw'n eu plagio, ond mae'n rhaid inni beidio â gadael iddyn nhw ei anghofio.
Yn rhyfedd iawn, rwy'n siarad heddiw mewn dwy swyddogaeth, fel Cadeirydd y pwyllgor materion allanol, sydd wedi edrych yn ofalus iawn ar hyn, ond hefyd fel Aelod etholaeth ar gyfer etholaeth sydd wedi elwa ar yr arian gan Ewrop. Fe wnaf i ddechrau trwy fyfyrio ar y pwynt olaf hwnnw, yn enwedig ar gyfraniad Delyth Jewell, gan ein bod ni'n aml yn sôn am gyllid Ewropeaidd ar adeiladau a ffyrdd a strwythurau, ond gwir fanteision cyllid Ewropeaidd fu'r rhaglenni yr ydym ni wedi'u gweld yn gweithredu yn ein hetholaethau ni ein hunain, yn y cymunedau difreintiedig, yn helpu pobl i ennill cymwysterau, symud ymlaen gyda sgiliau, symud i gyflogaeth, yn llawn amser neu'n rhan amser, i allu datblygu eu bywydau. Dyna'r gwir fudd yr ydym ni wedi'i weld o'r cronfeydd hyn, ac yn aml iawn caiff y rhaglenni hynny eu hanghofio wrth sôn am gronfeydd strwythurol.
Mae'r cynnig yn nodi'n gywir ein bod yn derbyn £370 miliwn y flwyddyn, ac a gaf i atgoffa Mark Reckless nad yw'r cronfeydd strwythurol yn cyfeirio at unrhyw beth ar yr ochr amaethyddol? Felly, pan wnaethoch chi ddyfynnu eich ffigur, roeddem yn fuddiolwyr yn hyn, mewn gwirionedd, nid oeddem ni ddim ar ein colled o ganlyniad i gyllid i raglenni Ewropeaidd—[Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf.
Beth am yr holl arian ychwanegol y mae trigolion Cymru yn ei dalu o ran y prisiau uwch am fwyd y dywedodd amdano, ond hefyd, yn wir, am ddillad ac esgidiau?
Dyma ni eto. Nid wyf i'n dymuno mynd i ddadl am reolau Sefydliad Masnach y Byd, ond rydych chi'n gwybod yn iawn y bydd y gost am nwyddau y bydd yn rhaid i bobl ei thalu yn cynyddu yn fawr iawn, os byddwn yn mynd i reolau Sefydliad Masnach y Byd, ac mae hynny'n rhywbeth nad yw fy etholwyr i'n dymuno'i dalu. Ond ta waeth; nid ydym ni'n sôn am y rheini. Rydym ni'n sôn am gronfeydd strwythurol, felly, gadewch inni fynd yn ôl at y pwnc yr ydym ni yma i siarad amdano.
Ni allwn anghofio, yn ystod refferendwm 2016—ac mae'n rhaid inni ddal i atgoffa pawb—am y sylwadau a wnaed na fyddem ni geiniog ar ein colled, oherwydd ein dyletswydd ni yw cynrychioli ein hetholwyr a sicrhau bod y bobl hynny sy'n gwneud yr addewid yn cadw'r addewid, a bod y bobl hynny sy'n hyrwyddo ymadael yn gwneud yn siŵr nad ydym ni geiniog yn dlotach ac nad ydym ni'n colli unrhyw bwerau. Eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud hynny, a'n cyfrifoldeb ni yw eu hatgoffa. Dylai unrhyw un sy'n dweud 'ymadael' gofio hynny.
Ond a gaf i hefyd atgoffa pobl, mewn gwirionedd, o hanfod economaidd-gymdeithasol y gwaith y mae'r cyllid Ewropeaidd yn ceisio ei gyflawni? Hynny yw codi perfformiad economaidd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig i'r safonau gorau ledled Ewrop. Mae'n rhaid inni barhau â hynny ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn parhau â'r cyllid priodol. A phan fyddaf yn sôn am gyllid—. Fe wnaethom ni sôn am y cyllid Ewropeaidd. Rwy'n credu bod Rhun wedi sôn am yr arian—dyfynnwyd bod y swm a gawn gan Ewrop yn mynd i'r gronfa ffyniant gyffredin. Ni ddylem ni anghofio'r cyfraniad y mae'r DU yn ei wneud yn y cyllid hwnnw hefyd; ni allwn golli golwg ar hynny, oherwydd fel cynghorau ledled Lloegr—. Yn wir, cefais ymateb gan Gyngor Cernyw heddiw i'n cais ar ffyniant cyffredin, ac maen nhw'n ein hatgoffa, nid dim ond y cyllid Ewropeaidd ond cyfraniad y DU a fyddai'n cyd-fynd â hynny, yr arian cyfatebol, hefyd yn gorfod mynd i'r gronfa ffyniant gyffredin honno, fel nad ydym yn colli unrhyw agwedd ar y cyllid hwnnw.
Amlinellodd y pwyllgor ei waith ar gronfeydd strwythurol a'r risgiau amlwg o ddyrannu cyllid yn y dyfodol ar sail unrhyw beth a elwir, fel Barnett, yn bosibilrwydd. Na, mae angen dull arnom sydd wedi'i seilio ar anghenion, fel a nodwyd. Ni allwn wneud dim heblaw hynny, oherwydd dyna'r rheswm y mae'r arian hwn yno, anghenion ein cymunedau, ac mae'n rhaid parhau i fynd i'r afael â hynny.
Nawr, soniwyd yn yr adroddiad hwn—ac mae gen i gopi, os oes unrhyw un eisiau copi—mae hefyd yn adlewyrchu popeth y gwnaethom ni ei ddweud yn ein pwyllgor. Mae'r adroddiad hwnnw'n gwneud 18 o argymhellion, sydd yn y bôn yn ategu'r hyn y buom yn ei ddweud am sut y mae'n rhaid i'r gronfa hon ddiwallu anghenion y gwledydd a'r rhanbarthau ledled y DU. Ni allwn anwybyddu'r ffaith nad Cymru yn unig yw hyn—mae hyn yn effeithio ar leoedd fel Cernyw ac Ynysoedd Sili ac mae'n effeithio ar ogledd-orllewin Lloegr; mae'n effeithio ar Ogledd Iwerddon ac mae'n effeithio ar yr Alban. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y gronfa hon yn deg a bod y gwledydd a'r rhanbarthau'n cytuno arni. A dyna un broblem y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod y manylion, fel y dywedodd Nick Ramsay—nid ydym yn gwybod y manylion, nid oes gennym ni ddim gwybodaeth amdano, ond mae angen inni sicrhau bod yn rhaid i'r gwledydd gytuno ar unrhyw benderfyniad ynglŷn â'r gronfa. Ac mae Alun yn llygad ei lle: mae hyn yn ymwneud â chenhedloedd yn cydweithio ac nid yn cael eu cyfarwyddo gan San Steffan.
Nawr, rydym ni hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru gadw golwg ar y cronfeydd hyn ac felly diwallu dibenion yr hyn sydd ei angen arnom, ond, wrth gwrs, mae hynny'n golygu rhoi cyllidebau i awdurdodau lleol hefyd, oherwydd eu bod yn nes at y ddaear. Mae'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth—rhywbeth sy'n rhagorol yng Nghymru yn fy nhyb i, yn y dull ariannu Ewropeaidd hwn. Mae'r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, a phenderfynu sut y mae'r cyllidebau hynny wedi gweithio, wedi bod yn rhagorol ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n parhau ac nad yw meini prawf a bennir gan San Steffan a Whitehall yn amharu arni, a'n bod yn parhau i sicrhau bod y meini prawf yn addas i Gymru a bod y penderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru a bod cyllid yn cael ei ddyrannu.
Llywydd, rydym ni'n un o'r gwledydd mwyaf anghyfartal yn Ewrop. Mewn gwirionedd, mae'r graff cynnyrch domestig gros rhwng Cymru a Llundain yn ein gwneud ni yr aelod-wladwriaeth fwyaf anghytbwys yn yr UE o ran gwahaniaethau economaidd rhanbarthol. Ac, yn wir, mewn gwirionedd, os meddyliwch chi am y peth, mae hwnnw'n ystadegyn brawychus—ein bod yn un o'r gwledydd mwyaf ffyniannus ac eto yn un o'r gwledydd mwyaf anghytbwys yn yr UE. Mae'r bwlch rhwng y cyfoethocaf, sydd yng nghanol Llundain mewn gwirionedd, a'r tlotaf, sy'n un ohonom ni mewn gwirionedd, yn fwy nag mewn unrhyw le arall yn yr UE. Felly, mae angen inni roi sylw i hynny a dyna'r oedd, ac mae'n rhaid i Lundain ddeall na all anwybyddu'r angen i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw. Nid yw'n gallu gorchymyn ac ni all sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei rannu ymhlith ei ffrindiau yn etholaethau mwy gwledig Lloegr; mae'n rhaid iddo, mewn gwirionedd, fynd i'r afael ag anghenion y cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli.
Llywydd, rwy'n gweld bod fy amser bron ar ben, ond rwyf i eisiau atgoffa pawb o un peth. Os gwelwch yn dda, i Aelodau'r wrthblaid, pan fyddwch yn siarad â'ch cyd-Aelodau yn Llundain, atgoffwch nhw fod y gronfa hon yn ymwneud â sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu bod yn ffyniannus. A dylai gael ei adlewyrchu a dylai ganiatáu i anghenion Cymru gael eu penderfynu yng Nghymru ac nid yn San Steffan. I'r gweddill ohonom: dylem eu dwyn i gyfrif oherwydd nhw yw'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau yn Whitehall. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod Boris, Dominic, Michael—pwy bynnag sy'n cael y swydd—yn anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed i bobl Cymru ac na fyddwn geiniog ar ein colled ac na fyddwn yn colli yr un pŵer. Dyna'r gwaith y mae'n rhaid i ni ei wneud.
Roeddwn i'n awyddus, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, i wneud cyfraniad i'r ddadl yma ac i amlygu, a dweud y gwir, y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud, wrth gwrs, ar y mater yma, oherwydd llynedd fe gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i asesu'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, gan ein bod ni, fel nifer o Aelodau yn y Siambr yma, wrth gwrs, yn pryderu mai ychydig iawn o wybodaeth oedd ar gael am beth fyddai'n dod yn eu lle nhw. Nawr, fel pwyllgor fe wnaethon ni gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru na ddylai Cymru fod ceiniog ar ei cholled ar ôl Brexit a bod sicrhau cyllid ar ôl Brexit, wrth gwrs, yn gwbl hanfodol i Gymru.
Ar hyn o bryd, fel rŷn ni wedi clywed, mae Cymru'n cael y gyfran fwyaf o bell ffordd o gyllid yr Undeb Ewropeaidd y pen, o'i gymharu â'r gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr. Roedd hi'n glir o'r dystiolaeth a gawson ni yn ystod yr ymchwiliad y bydd effaith difrifol iawn ar Gymru oni bai fod cyllid yn parhau mewn modd sy'n seiliedig ar anghenion. Mi ddaethon ni i'r casgliad ei bod hi'n hanfodol y dylai Cymru barhau i gael o leiaf yr un faint o gyllid—nid jest yr un faint, ond o leiaf yr un faint o gyllid y byddai wedi ei gael drwy ffynonellau'r Undeb Ewropeaidd pe na bai'r Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael. Mae'r un mor bwysig sicrhau hefyd, wrth gwrs, fod cyllid yn parhau i gael ei reoli a'i weinyddu yng Nghymru—mae hynny yr un mor bwysig ym marn y pwyllgor.
Ar adeg ein hymchwiliad ni, mi oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y byddai cronfeydd strwythurol yn cael eu disodli gan gronfa ffyniant gyffredin y Deyrnas Unedig, ond ychydig iawn o fanylion oedd ar gael am sut y byddai’r gronfa hon yn gweithredu. Fe gafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, felly, ei wahodd i sesiwn dystiolaeth gyda'r pwyllgor, ond fel ŷch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, mi wrthododd y cyfle hwnnw. Roedden ni yn siomedig â’r diffyg ymgysylltiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a bod penderfyniadau allweddol ynghylch sut y byddai cyllid yn cael ei ddyrannu i’r gweinyddiaethau datganoledig eto heb eu gwneud.
Mewn ymateb i’n hadroddiad ni fel pwyllgor, pan gyhoeddon ni ein hadroddiad, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar y gronfa ffyniant gyffredin erbyn diwedd 2018. Mae’n siomedig iawn, ac mae'n dweud y cyfan, yn fy marn i, fod hynny dal heb ddigwydd.
Digwyddodd ddau beth yr wythnos hon a ddylai roi rhywbeth i bawb ei ystyried o ran y posibilrwydd o fod â chronfa ffyniant gyffredin wedi'i chynllunio gan Lywodraeth bresennol y DU. Y cyntaf yw'r adroddiad gan Communities in Charge, y cyfeiriwyd ato eisoes gan fy nghyd-Aelod Alun Davies. Mae'r ffigurau moel hynny—siec o £200 i bob unigolyn yn Llundain, bil o £700 i bob unigolyn yng Nghymru—yn dangos yr hyn sy'n wynebu'r wlad hon gyda chynllun a reolir gan Whitehall. Nid yw'r ffaith bod y ffigurau hyn wedi'u seilio ar wariant cyfredol Llywodraeth y DU ar ddatblygu economaidd ond yn tanlinellu pa mor bell i ffwrdd yr ydym yng Nghymru o gael bargen deg gan y Torïaid. Gallwch chi fod yn siŵr, os yw'r fargen yn ddrwg i Gymru, y bydd yn waeth byth i Gymoedd y de, sef yr ardal sy'n elwa fwyaf ar y cronfeydd strwythurol presennol.
Yr ail ddatblygiad, a ddigwyddodd bron ar yr un pryd â chyhoeddiad Communities in Charge, oedd penderfyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gefnogi Boris Johnson yn ymgyrch arweinyddiaeth y Torïaid. Nawr, gallwn ddadlau na ddylai'r gystadleuaeth hon fod yn bwysig i'r ddadl, ond mae yn bwysig. Mae'n bwysig iawn. Gwnaeth y sawl a ofynnodd inni ymddiried ynddo i fod yn llais Cymru wrth fwrdd y Cabinet ei benderfyniad ar bwy y dylid ei gefnogi ar ôl i Boris gefnogi toriadau treth ar gyfer pobl gwell eu byd, cam a fyddai'n arwain at roi bron i £200 miliwn ym mhocedi'r bobl gyfoethocaf yng Nghymru, tra byddai bron i £500 miliwn o golled i ysgolion ac ysbytai Cymru. A yw hynny'n swnio'n wir fel rhywun sy'n gofalu am fuddiannau Cymru? Mae torri trethi ar gyfer y cyfoethog yn anathema i nodau rhaglen y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd, sy'n ymwneud ag undod a chefnogaeth economaidd i'r bobl hynny sydd ei angen fwyaf.
Felly, yr Ysgrifennydd Gwladol, sydd eisoes wedi goruchwylio colli'r morlyn llanw, trydaneiddio'r rheilffyrdd a Wylfa Newydd, sy'n gofyn inni ymddiried ynddo i ddarparu cronfa ffyniant gyffredin a fydd yn deg i Gymru—Ysgrifennydd Gwladol y byddai'n well ganddo gefnogi Maes Awyr Bryste na Maes Awyr Caerdydd, ac sy'n honni y dylem ni ystyried gwariant datblygu economaidd yn Lloegr yn fendith i Gymru. Nid oes dim yn hanes Llywodraeth hon y DU sy'n rhoi coel ar eu honiadau y bydd datganoli'n cael ei barchu wrth ddatblygu cronfa newydd. O'r cychwyn, bu'n ymgais amlwg i gipio pŵer gan yr Ysgrifenyddion Gwladol yng Nghymru a'r Alban mewn ymgais anobeithiol i arfer perthnasedd mewn byd sydd wedi mynd heibio iddynt.
Nid ydym yn sôn am gronfa ffyniant gyffredin, rydym yn sôn am dwyll anhrefnus, hurt. Yn wir, yr unig resymeg sydd gan y Torïaid i amddiffyn cynllun newydd, canolog, yw'r hyn y maen nhw'n ei ystyried yn aneffeithlonrwydd yn y ffordd y mae'r cylchoedd diweddaraf o arian Ewropeaidd wedi eu gwario, ac eto mae'r dystiolaeth i'r gwrthwyneb i hyn ar gael yma i bawb ei gweld.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn gyflym iawn.
Diolch. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y dystiolaeth—a fyddech chi'n derbyn bod y dystiolaeth o'r ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi gwario adnoddau cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn ddiffygiol iawn? Os edrychwch chi ar setliadau awdurdodau lleol, er enghraifft, ledled y wlad hon yn ystod y degawd diwethaf, fe welwch chi fod y gogledd ar ei cholled yn sylweddol o'i gymharu ag awdurdodau lleol yn y de, ac mae llawer o'r adnoddau hynny wedi'u buddsoddi mewn awdurdodau lleol a weithredir gan y Blaid Lafur, yn hytrach nag yn deg ar draws y wlad.
Wel, nid dadl am y fformiwla llywodraeth leol yw hon. Mae'r penderfyniadau a wnaed gan y Llywodraeth hon wedi bod o ganlyniad i gyni y Torïaid. Ac fel yr oeddwn i'n ei ddweud am gyllid Ewropeaidd, mae wedi creu 48,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd, mae 25,000 o fusnesau wedi cael cyllid neu gymorth, ac mae 86,000 o bobl wedi cael cymorth i gael gwaith. Nid oedd unrhyw rwystrau rheoliadol a oedd yn atal trydaneiddio rheilffordd Abertawe, ac eto nid oedd Llywodraeth y DU yn gallu ei chyflawni. Roedd digon o heriau o ran cyflenwi campws newydd gwerth £300 miliwn Prifysgol Abertawe, ac eto gweithiodd partneriaid yng Nghymru gyda'i gilydd i'w gyflenwi gan ddefnyddio cyllid hanfodol yr UE. Dywed y Torïaid nad yw cyllid Ewropeaidd yn ddigon i gefnogi cymunedau tlotach y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd, fel petai hon yn gêm sero. Wel, os oes ardaloedd sydd o'r farn bod angen mwy o gymorth arnyn nhw, nid oes unrhyw rwystrau iddyn nhw ddarparu adnoddau ychwanegol i Gymru gyfan, ac eto maen nhw wedi dewis gwneud y gwrthwyneb. Y gwir o ran ariannu strwythurol, fel gyda llawer o addewidion eraill sy'n gysylltiedig â Brexit, yw bod yr ymgyrch 'ymadael' wedi dweud celwydd wrth bobl Cymru. Yn hytrach na chymryd rheolaeth yn ôl dros gyllid rhanbarthol, bydd cymunedau Cymru yn colli rheolaeth ar y modd y caiff yr arian hwnnw ei wario.
Mae unrhyw farn wrthrychol yn cytuno ar yr hyn a ddylai ddigwydd nesaf. Mae'r paratoadau'n mynd rhagddynt yng Nghymru i ddatblygu'r rhaglenni ariannu presennol, gan gynnwys busnesau, y trydydd sector a llywodraeth leol. Mae adroddiadau gan, ymhlith eraill, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Sefydliad Joseph Rowntree a'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus i gyd yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i raglen ariannu newydd gael ei chyflwyno'n lleol lle mae'r arbenigedd a'r ddealltwriaeth yn bodoli eisoes. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n ystyrlon â'r partneriaid hyn ar unrhyw adeg o'r broses. Unwaith eto, mae gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cloi allan o benderfyniadau y maen nhw yn y sefyllfa orau i'w llunio a'u cyflawni na'r rhan fwyaf o adrannau Whitehall sydd â dealltwriaeth brin o ddarpariaeth, sybsidiaredd a pholisi rhanbarthol.
Mae'r gronfa ffyniant gyffredin yn addo bod yn ddim mwy nag enghraifft arall mewn rhestr gynyddol o drychinebau economaidd a chymdeithasol a achosir yng Nghymru gan y cymysgedd anfad o Lywodraeth Dorïaidd, sydd wedi bod yn draed moch, a phleidlais Brexit a seiliwyd ar dwyll.
Mae'n bleser gen i siarad o blaid y cynnig a gyflwynwyd ger ein bron heddiw oherwydd bod y pwnc hwn yn un gwirioneddol bwysig, yn ymarferol ac mewn egwyddor—yn ymarferol gan fod hyn yn ymwneud â disodli cyllid gwerth £370 miliwn i Gymru bob blwyddyn, cyllid sydd wedi'i ddefnyddio i greu degau o filoedd o swyddi newydd yng Nghymru, i gynorthwyo a sefydlu degau ar filoedd o fusnesau, i helpu pobl Cymru fel y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yng Nghwm Cynon i ennill cannoedd ar filoedd o gymwysterau newydd, gan wneud gwahaniaethau mawr ledled Cymru ac mewn etholaethau fel fy un i, newid bywydau, rhoi cyfleoedd newydd a chefnogi'r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Mae'r cynnig hwn hefyd yn bwysig mewn egwyddor gan ei fod yn mynd at wraidd y setliad datganoli. Mae methiant Llywodraeth y DU i gadarnhau y bydd Cymru'n cael dweud sut y caiff unrhyw gyllid ei ddyrannu a'i wario yn anwybyddu realiti datganoli. Mae'n hollol dwp, yn ansensitif ac nid yw'n cydnabod y cyfeiriad polisi gwahanol iawn yr ydym wedi'i gymryd yma yng Nghymru.
Yma yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio ar genedlaethau'r dyfodol ac ar agwedd economaidd gyfannol, sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr ag obsesiwn gwleidyddion Torïaidd San Steffan â chyni. Ond nid yw'n ymwneud â Chymru yn unig. Fel yr awgrymodd cyfranwyr eraill, mae'r ymagwedd hon yn dangos diffyg dealltwriaeth o sensitifrwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn gwirionedd hefyd. Nododd y grŵp seneddol hollbleidiol ar gyllid ôl-Brexit ar gyfer rhanbarthau, gwledydd ac ardaloedd lleol yn ei ymchwiliad i'r gronfa ffyniant gyffredin nad oes unrhyw reswm anorchfygol pam y dylai Llywodraeth y DU glustnodi sut y caiff arian ei wario yn y gwledydd datganoledig. Dylai dyrannu cyllid fod yn fater datganoledig i'r cenhedloedd datganoledig. Yn bwysig, dyma oedd consensws llethol y cyfranwyr i ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r canfyddiadau hyn, ac rwy'n falch bod y cynnig yn cyfeirio at hyn.
Yn gynharach eleni, cafodd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, yr wyf i'n gadeirydd arno, gyfle i ystyried yn fanwl ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol i'r gronfa ffyniant gyffredin. Yn wir, cafodd ei adroddiad ei lywio gan brofiadau rhanddeiliaid sy'n darparu rhaglenni cyfredol yr UE, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u harferion gorau i nodi sut y dylai unrhyw gronfa weithio yn y dyfodol, ac mae'r adroddiad hwnnw'n cynnwys llinellau coch clir. Ni ddylai Cymru gael ceiniog yn llai mewn cyllid ôl-Brexit; mae'n rhaid gwrthsefyll unrhyw ymgais gan San Steffan i gipio unrhyw arian neu bŵer. Clywsom gyfres druenus o oedi, ymraniadau a gwrthodiadau i gyfarfod, ond mae adroddiad y grŵp hollbleidiol seneddol yn amlwg yn darparu fframwaith defnyddiol wrth fwrw ymlaen ac, ar ben hynny, un sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol yn San Steffan. I'r perwyl hwnnw, rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cynnig heddiw yn un gwirioneddol gydweithredol. Mae hwn yn fater y mae angen i bob un ohonom fod yn unfryd yn ei gylch. Gwneir nifer o bwyntiau pwysig yn yr adroddiad hwn—a byddwn i'n annog yr holl Aelodau i'w ddarllen, os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny'n barod—gan yr Athro Steven Fothergill, sef cyfarwyddwr cenedlaethol y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol. Edrychodd yr Athro Fothergill ar ganlyniadau tebygol, gan ailadrodd na ddylai unrhyw gyllid yn y dyfodol fod yn llai, mewn termau real, na'r ffrydiau arian presennol, y dylid cadw'r cyfrannau presennol rhwng y pedair gwlad, ac y dylai unrhyw gronfa weithredu ar sail dyraniadau amlflwydd, gyda rheolaeth a'r gallu i bennu blaenoriaethau wedi'u datganoli. Gallai gweithrediad unrhyw gronfa, meddai, gynnig cyfle gwirioneddol i ddiwallu anghenion cymunedau a adewir ar eu hôl. Ond, i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn dryloyw a pheidio â bod ofn cydnabod realiti datganoledig y DU.
Daeth llawer o randdeiliaid i'r cyfarfod grŵp trawsbleidiol hwnnw, ac roedd llawer ohonyn nhw wedi cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol. A dangosodd nifer y bobl gymaint o bwys ac angerdd sy'n gysylltiedig â phwnc dyfodol y gronfa ffyniant gyffredin. Yn yr un modd, mae'n rhaid mynd i'r afael â'r pwyntiau a wnaed gan randdeiliaid wrth i gynlluniau ar gyfer cronfa ddatblygu. Er enghraifft, mynegwyd pryderon bod y cynigion a ddaeth i'r amlwg yn adlewyrchu'n gryf strwythurau llywodraethu yn Lloegr yn unig. Mae angen i drefniadau partneriaeth fod yn gadarn, ac mae'n rhaid i unrhyw ddull sicrhau bod y canlyniad yn gynhwysol ac yn gyfartal. Gallai fod cyfleoedd o ran rhanbartholi cronfeydd yng Nghymru. Dylai cronfeydd fod y tu allan i fformiwla Barnett, ac mae'n rhaid i unrhyw ddyraniadau a wneir fod yn seiliedig ar ddeddfwriaeth sylfaenol. Ar y cyfan, clywodd y bobl hynny a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw mor bwysig yw ymateb cyson gan Gymru, er mwyn sicrhau nad ydym ar ein colled. Mae'r cynnig heddiw'n rhan olaf o'r broses honno.
Wrth imi gloi, hoffwn ailadrodd maint yr her. Os ydym ni o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â pha mor hanfodol yw hynny, mae'r ystadegau yn yr adroddiad gan Communities in Charge a gyhoeddwyd ddoe yn dangos hynny'n glir iawn i ni. Os nad ydym yn cyflwyno ein dadleuon yn llwyddiannus, os methwn â datblygu ein hachos, gallai Cymru golli arian sy'n cyfateb i £743.11 i bob dinesydd. Ac mae hynny'n rhywbeth na allwn ni ei dderbyn o gwbl.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Rwyf bob amser yn ceisio cael consensws lle gallaf ddod o hyd iddo, ac rwy'n credu bod rhywfaint o hynny wedi'i ddangos yn y ddadl yr ydym wedi'i chael y prynhawn yma. Un o'r themâu, rwy'n credu, a ddaeth i'r amlwg yn gryf iawn mewn gwirionedd oedd prinder yr wybodaeth sydd gennym ni am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Roedd yn ymddangos ym maniffesto'r Ceidwadwyr, yn ôl yn hanner cyntaf 2017, ond ers hynny nid ydym wedi cael unrhyw wybodaeth sylweddol iawn. Er gwaethaf sawl cwestiwn i'r Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a hefyd, wrth gwrs, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid oes gennym ragor o fanylion o hyd. Er bod yr addewidion a ailadroddwyd yn aml i barchu setliadau datganoli ac ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch datblygu cronfa ffyniant gyffredin i'w croesawu'n fawr, nid oes unrhyw weithredu ystyrlon wedi dilyn y trywydd hwnnw. Rydym yn ymwybodol bod dogfen ymgynghori ddrafft yn bodoli, ond gwrthodir ei dangos i ni, a gwrthodir unrhyw gyfraniad iddi. Ac rwy'n credu, oni bai bod y ddogfen honno wedi'i chyfyngu'n benodol i Loegr, yna nid yw'r broses hon yn parchu datganoli, yn sicr, gan mai Senedd ydym ni, a Llywodraeth ydym ni, ac nid ydym yn ymgyngoreion mewn unrhyw ymgynghoriad y gallai Llywodraeth y DU ei gyflwyno maes o law.
Rydym yn siarad â chydweithwyr ar lefel weinidogol a swyddogol am y gronfa ffyniant gyffredin, ond mae'r sgyrsiau hynny, unwaith eto, yn rhai un ffordd i raddau helaeth. Rydym ni'n glir iawn ynghylch yr hyn yr ydym ni ei eisiau, ond mae Llywodraeth y DU yn fwriadol amwys, rwy'n credu, o ran beth yw ei chynlluniau. Mae llawer o'r hyn yr ydym yn credu ein bod yn ei wybod am y gronfa ffyniant gyffredin felly yn ddyfaliadau a sïon, ond ymddengys bod rhai o'r ofnau bod Llywodraeth y DU yn ceisio swyddogaeth newydd wrth lywio cyllid wedi'u cadarnhau mewn rhai o'r datganiadau diweddar gan Weinidogion Llywodraeth y DU. Er enghraifft, yn ddiweddar, mynegodd Michael Gove rwystredigaeth yng nghynhadledd Ceidwadwyr yr Alban pan ddywedodd na all Llywodraeth y DU gyfeirio rhywfaint o arian mewn gwledydd datganoledig pan fo'n cynnwys meysydd polisi sydd wedi'u datganoli. Wel, wrth gwrs na allan nhw—gwaith gweinyddiaethau'r cenhedloedd datganoledig yw hynny. Ond roedd ef yn rhwystredig ynghylch hynny. Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn daer yn ceisio dod o hyd i swyddogaeth ar ei gyfer ei hun, ac mae'n llygadu'r gronfa ffyniant gyffredin yn hynny o beth.
Mae rhywfaint o wrthddweud cynhenid o ran safbwynt Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin. Ni all fod yn parchu datganoli os yw Llywodraeth y DU yn bwriadu pennu'r telerau cyllido, bod â swyddogaeth allweddol ym mholisi economaidd Cymru a cheisio osgoi Llywodraeth Cymru. Cyfeiriwyd at y bargeinion dinesig, er enghraifft, fel un enghraifft o'r ffordd y gallai'r gronfa ffyniant gyffredin weithio. Wel, wrth gwrs mae'r bargeinion dinesig wedi darparu buddsoddiad ychwanegol yng Nghymru a gafodd ei groesawu, ond yn sicr nid ydyn nhw'n yn fodel ar gyfer disodli arian yr UE ac nid ar gyfer cefnogi'r polisi datblygu economaidd rhanbarthol a ddisgrifiwn drwy ein cynllun gweithredu economaidd. Felly, mae angen cadarnhad syml iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau'n annibynnol o ran ble a sut i wario cyllid rhanbarthol yn y dyfodol, ynghyd ag agor trafodaethau manwl ar y setliad cyllido ar gyfer pob un o genhedloedd y DU a chyfle i drafod y meysydd lle y gallai Cymru fod eisiau cyd-gysylltu neu gydweithio.
Oherwydd, gan droi at gysylltiadau rhynglywodraethol, mae'r ffaith bod—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Mae'n bwynt priodol i gofio rhywbeth a ddywedodd Vikki Howells—yn ei chyfraniad hi—rwy'n credu mai Vikki ydoedd—y gallai fod pryderon mawr am y gronfa ffyniant gyffredin, ond ceir problemau hefyd yn ymwneud ag effaith fformiwla Barnett ar gyllid sy'n dod i Gymru. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi bod yn rhaid inni sicrhau, pan ddaw'r manylion i'r amlwg ynghylch y gronfa ffyniant, nad yw'r arian hwnnw a ddaw i Gymru, os caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, yn mynd drwy'r broses Barnett, sydd, yn y gorffennol, wedi darparu llai o arian i Gymru am nifer fawr o flynyddoedd?
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ac rwy'n falch eich bod yn teimlo felly hefyd. Byddwn wir yn eich annog i gyflwyno'r sylwadau hynny i'r ymgeiswyr ar gyfer arweinydd newydd y Blaid Geidwadol. Oherwydd rwy'n siŵr bod—. Wel, rydym ni'n sicr yn cytuno a byddwn yn gobeithio y bydden nhw hefyd. Ac rwy'n bwriadu dod yn ôl i roi sylw i rai o'r sylwadau ynghylch adroddiad Communities in Charge, y mae nifer o'r Aelodau wedi cyfeirio ato.
Ond roeddwn i eisiau sôn ychydig am gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'r confensiynau gweithio yr ydym wedi'u sefydlu yn cael eu hanwybyddu ac mae hynny'n peri gofid mawr, o ystyried yr angen absoliwt am fwy o gydweithredu rhwng gweinyddiaethau yng nghyd-destun Brexit. Mae ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at ddisodli cronfeydd strwythurol yn mynd yn groes i'r gwaith da sy'n digwydd yn gyffredinol ledled y DU i gryfhau gweithio rhynglywodraethol mewn amrywiaeth eang o feysydd wrth i ni ddynesu at Brexit ac mae'n ei danseilio. Ac rydym ni wedi pwysleisio dro ar ôl tro, os ydym yn cael ein cynnwys yn ystyrlon mewn modd lle perchir y naill ochr a'r llall, yna bydd Llywodraeth y DU yn gweld ein bod yn bartneriaid cwbl adeiladol. Rydym ni wedi gwneud gwaith enfawr y gallwn ei rannu â nhw. Yn anffodus, nid ydyn nhw wedi manteisio ar ein cynnig ni hyd yn hyn.
Rydym ni wedi bod yn glir bod datblygu economaidd yn gymhwysedd datganoledig, a bod y broses o weinyddu cyllid rhanbarthol wedi bod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ers datganoli. Ac mae parchu'r cymhwysedd hwnnw yn awgrymu bod angen caniatáu i bob gwlad yn y DU roi ei threfniadau ei hun ar waith. Ac mae'n gwbl amhriodol i Lywodraeth y DU fod yn ystyried pennu blaenoriaethau neu bennu dulliau cyflenwi ar gyfer y cyllid hwn yng Nghymru.
Pe byddai Llywodraeth y DU yn benderfynol o fynd ar drywydd ymgynghoriad ledled y DU ar y gronfa ffyniant gyffredin, yna byddem yn amlwg yn disgwyl i unrhyw gyfeiriad at Gymru gael ei drafod a'i gytuno gyda ni ymlaen llaw, gan fod dyraniadau neu drefniadau llywodraethu yng Nghymru yn fater i Lywodraeth Cymru, mewn trafodaeth â'n partneriaid yma yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod yn fuddiol cydgysylltu dulliau ar draws y DU, ond mae'n rhaid gwneud hynny ar y sail bod y gwledydd datganoledig yn cael eu trin fel partneriaid cyfartal, a bod unrhyw gytundebau yn cael eu llunio drwy gyd-drafod ac nid eu gorfodi'n unochrog. Er enghraifft, gan gydnabod bod ein heconomïau'n gydgysylltiedig, rydym wedi nodi ein bod yn cefnogi dull newydd o ymdrin â buddsoddiad rhanbarthol a fyddai'n galluogi buddsoddiadau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, byddai angen i'r buddsoddiadau hynny adlewyrchu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru a dod â manteision amlwg i Gymru. Ac nid yw cael rheolaeth dros gyllid sydd wedi bod gennym ers datganoli yn ymwneud ag ymynysiaeth. Bydd cydweithio'n agosach â rhanbarthau Lloegr yn hanfodol, a bydd mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y defnyddiwn arian newydd yn ein helpu i wneud hyn yn fwy effeithiol.
Ond fe wnaf sôn yn fyr am adroddiad Communities in Charge, y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato, ac roedd hwnnw'n dangos, os yw'r dyraniadau ar gyfer cyllid yn y dyfodol yn seiliedig ar Barnett, y byddai Cymru ar ei cholled yn sylweddol o'r cronfeydd hanfodol hyn i gefnogi ein busnesau, ein pobl a'n cymunedau, ac, wrth gwrs, byddai Llundain ar ei hennill. Mae'r ffigurau'n gyfarwydd inni yn awr—felly, byddai Cymru ar ei cholled o fwy na £700 y pen, byddai Llundain yn ennill £200 y pen, a byddai Cymru, fel cyfanswm, ar ei cholled o £2.23 biliwn. Ond y ffaith syfrdanol nad yw neb wedi sôn amdani eto yn y ddadl hon, sy'n amlwg yn yr adroddiad hwnnw, yw bod Cymru, o'r chwe ardal arall sydd ar eu colled, yn colli mwy na phob un o'r lleill gyda'i gilydd.
Mae'r heriau hirdymor yr ydym ni'n eu hwynebu yn cael eu hadlewyrchu yn y gwahaniaethau rhanbarthol hynny sy'n amlwg ledled y DU, ac ni fydd y rheini'n diflannu gyda Brexit. Efallai os edrychwn ni'n gyflym ar yr hyn y gallem ni fod wedi'i gael, wrth i mi gloi, yn seiliedig ar ffigurau Eurostat, pe na byddai Brexit byddai cyfran y DU o'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd wedi cynyddu, o gofio'r ffaith bod cynnyrch domestig gros wedi gostwng o'i gymharu â chyfartaledd yr UE dan gyfnod y Torïaid, a byddai mwy o ranbarthau yn y DU yn gymwys fel ardaloedd llai datblygedig. A, phe na byddai Brexit, mae dadansoddiad gan Gynhadledd Rhanbarthau Morol Ymylol Ewrop yn amcangyfrif y byddai cyfran y DU o gronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd wedi cynyddu 22 y cant, o ystyried perfformiad gwael y DU o gymharu â chyfartaledd yr UE. A, phe byddai Cymru yn cadw'r un gyfran o'r gronfa honno, gallai gyfateb i £450 miliwn ychwanegol dros gyfnod y cynllun, neu tua £65 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i Gymru. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod addewidion a wnaed na fyddai Cymru ar ei cholled y tu allan i'r UE—byddwn yn sicrhau bod yr addewidion hynny'n cael eu cadw.
Rwy'n ddiolchgar, fel y dywedaf, i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Gobeithio y bydd eu cefnogaeth i gynnwys, os nad naws y ddadl yn caniatáu inni anfon neges unedig i Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog newydd mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw ymagwedd sy'n deg i Gymru, sy'n parchu datganoli ac sy'n cadw'r addewidion a wnaed.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.