– Senedd Cymru am 3:16 pm ar 16 Gorffennaf 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn y datganiad deddfwriaethol yma, byddaf yn amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y Biliau byddwn yn eu cyflwyno yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn. Ein bwriad yw helpu creu Cymru fwy cyfartal, wedi'i seilio ar gyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
Fe fyddwn yn gyrru ymlaen gyda mesurau pwysig ym meysydd addysg, tai a thrafnidiaeth, a fydd yn sbarduno gwelliannau ledled Cymru. Fe fyddwn yn cryfhau llywodraeth leol ac yn amddiffyn hawliau plant. Ar yr un pryd, fe fyddwn yn parhau i fwrw ymlaen gyda chynlluniau a fydd yn hanfodol os byddwn yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Llywydd, yn ystod y 12 mis diwethaf, drwy ymdrechion y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa, rydym ni wedi cyflwyno, ystyried a phasio swm digyffelyb o ddeddfwriaeth, gan gynnwys mwy na 150 o offerynnau statudol a oedd eu hangen i gywiro'r llyfr statud o ystyried y posibilrwydd y byddai'r DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 29 Mawrth eleni. Roedd angen llawer iawn o ymdrech ar ran Llywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad ac Aelodau Cynulliad i gwblhau'r rhaglen waith hon mewn pryd, ac rwyf eisiau diolch ar goedd i'r holl swyddogion, Aelodau a phwyllgorau a wnaeth hynny'n bosib.
Os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn cael miloedd o bwerau a swyddogaethau newydd mewn meysydd polisi a oedd gynt yn cael eu pennu gan gyfreithiau'r UE. Ac mae hynny'n golygu, Llywydd, nad yw'r effaith o adael yr Undeb Ewropeaidd ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ar ben eto. Mae'r cwestiwn sy'n parhau ynglŷn â sut y bydd y DU yn ymadael â'r UE yn golygu na all neb ragweld gydag unrhyw sicrwydd beth fydd yn digwydd yn yr hydref ac a oes angen deddfwriaeth ychwanegol efallai, a pha fath. Fodd bynnag, rydym ni wedi gallu asesu a ydym ni bellach mewn sefyllfa i gyflwyno Bil amaethyddiaeth i Gymru a Bil llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol yn y tymor hwn, os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Rydym ni wedi ymgynghori ar egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu yng nghyd-destun Brexit. Rydym ni'n parhau'n ymrwymedig i ddeddfu er mwyn mynd i'r afael â'r diffygion a fydd yn dod i'r amlwg o ran egwyddorion a llywodraethu pe bai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae hwn yn parhau i fod yn fater cymhleth ac rydym ni wrthi'n trafod â gweinyddiaethau eraill ledled y Deyrnas Unedig ynghylch sut y gallwn ni weithio ar y cyd i sicrhau dull gweithredu cydlynol a byddwn yn parhau i adrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i'r darlun sy'n datblygu ddod yn gliriach.
O ran Bil amaethyddiaeth i Gymru, mae'r oedi wrth ddatrys Brexit yn golygu y byddwn ni nawr yn canolbwyntio ar baratoi Bil o'r fath yn y tymor Cynulliad hwn i'w gyflwyno yn y tymor nesaf. Bydd hwn yn gyfle i fod yn uchelgeisiol ac yn eang, gan fynd ymhellach na dim ond cyfyngu deddfwriaeth i gynlluniau cymorth fferm i edrych ar faterion ehangach fel hawliau ffermwyr tenant. Lansiodd fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir' yr wythnos diwethaf. Mae'n cyflwyno cynigion uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys talu ffermwyr am yr hyn y gallan nhw ei wneud i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau a dal carbon. Edrychaf ymlaen at y sgyrsiau a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru mewn sioeau amaethyddol ac mewn lleoliadau eraill yn ystod yr haf hwn. Gan ddefnyddio canlyniadau'r ymgynghoriad hwn, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn i fraenaru'r tir ar gyfer deddfwriaeth.
Llywydd, tra buom ni'n paratoi ar gyfer Brexit, rydym ni wedi parhau i ddeddfu ar gyfer materion domestig pwysig, gan sicrhau'r fframwaith gweinyddol ar gyfer ein cynnig gofal plant i ddarparu cymorth y mae ei ddirfawr angen i deuluoedd sy'n gweithio, a sefydlu isafswm pris yr uned am alcohol, i'w gyflwyno yn y flwyddyn newydd. Rydym ni wedi cyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn plant drwy ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol—Bil y mae pwyllgorau yma yn craffu arno ar hyn o bryd—ac wedi cyflwyno Bil i sicrhau diwygiadau allweddol i'r system iechyd a gofal.
Yn ddiweddarach heddiw, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn pasio Bil Deddfwriaeth (Cymru), y Bil cyntaf o'i fath yng Nghymru, a fydd yn cefnogi sut y caiff ddeddfwriaeth Cymru ei dehongli ac yn gwella hygyrchedd cyfraith Cymru.
Llywydd, mae'r 12 mis diwethaf hefyd wedi bod yn nodedig am ddeddfwriaeth a hyrwyddir yma heblaw gan Lywodraeth Cymru. Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 oedd y Bil pwyllgor cyntaf i gael Cydsyniad Brenhinol ers i'r Cynulliad hwn ennill pwerau deddfu llawn. Mae Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) y Llywydd ei hun wedi cyrraedd ei gamau diwygio. Bydd ganddo oblygiadau pellgyrhaeddol i'r sefydliad hwn ac i bobl ifanc ledled Cymru, gan ei fod yn ymestyn yr etholfraint yn etholiadau'r Cynulliad i rai 16 a 17 oed.
Gan droi, Llywydd, nawr at y flwyddyn sydd i ddod, bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth i roi'r bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed mewn etholiadau llywodraeth leol yn rhan o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yr ydym yn bwriadu ei gyflwyno. Bydd y Bil hwnnw hefyd yn cryfhau democratiaeth, atebolrwydd a pherfformiad awdurdodau lleol, a bydd yn sefydlu dull cyson ar gyfer cydweithredu a chydweithio, gan gynnwys trefniadau ar gyfer trafnidiaeth. Bydd hyn yn grymuso awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch, o ansawdd uchel ar gyfer a gyda'r cymunedau lleol y maen nhw'n eu gwasanaethu.
Llywydd, byddwn hefyd yn cyflwyno Bil indemniad meddygon teulu yn ystod y flwyddyn nesaf hon i ategu'r cynllun presennol, a gyflwynwyd ym mis Ebrill. Bydd y Bil yn sicrhau bod yr holl hawliadau am esgeulustod clinigol, pryd bynnag yr adroddwyd amdanyn nhw neu y bu iddyn nhw ddigwydd, yn dod o dan ein cynllun atebolrwydd.
Llywydd, mae'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi gwneud sawl peth pwysig i wella'r sector rhentu preifat a'i wneud yn ddewis cadarnhaol i denantiaid. Caiff ffioedd annheg a godir gan asiantau gosod eu gwahardd o fis Medi ymlaen o ganlyniad i gyfraith a basiwyd yma. Ac rwy'n falch o gael dweud y prynhawn yma, Llywydd, y gallwn ni nawr fwrw ymlaen â gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a fydd yn sicrhau bod tenantiaid yn gallu manteisio ar ystod eang o fuddion, gan gynnwys amddiffyniad rhag cael eu troi allan er mwyn dial.
Ond mae mwy y gallwn ni ac y byddwn ni yn ei wneud, gan gynnwys ymateb i'r pryderon cyffredinol am droi allan heb fai. Yr wythnos diwethaf, lansiwyd ymgynghoriad gennym ni yn nodi cyfres o gynigion i ymestyn y cyfnod rhybudd y byddai'n rhaid i landlordiaid ei roi cyn y gallan nhw feddiannu eiddo. Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, rydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn i fynd i'r afael â'r mater o droi allan heb fai.
Llywydd, byddwn yn cyflwyno Bil trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y tymor hwn o'r Cynulliad, gan adeiladu ar y cynigion yn y Papur Gwyn 'gwella trafnidiaeth gyhoeddus'. Bydd y Bil hwn yn rhan allweddol o'r diwygiadau ehangach i wasanaethau bysiau yma yng Nghymru a bydd yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n wirioneddol integredig, wedi'i gynllunio a'i ddarparu er budd y cyhoedd, ac sy'n diwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio. Roedd y Papur Gwyn hefyd yn gofyn am farn pobl am gyfres o gynigion i foderneiddio'r system drwyddedu ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat er mwyn ymateb i'r farchnad hon sy'n prysur newid. Cafodd agweddau ar y cynigion hynny gefnogaeth glir, ond fe wnaethon nhw hefyd esgor ar syniadau, gan y diwydiant, gan undebau llafur, gan awdurdodau lleol, i wneud mwy i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant. Mae'r syniadau pellach hyn, ynghyd â datblygiadau ar lefel y DU, wedi ein harwain at y casgliad y dylid cymryd mwy o amser i benderfynu'n derfynol sut byddwn ni'n mynd i'r afael â thacsis a cherbydau hurio preifat. Caiff deddfwriaeth ar yr agweddau hyn ar y Papur Gwyn ei chyflwyno nawr ar ôl etholiadau nesaf y Cynulliad.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i ddiwygio a gwella addysg yng Nghymru. Rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran ein hagenda ddiwygio uchelgeisiol. Rydym ni wedi newid y system ar gyfer cymorth i fyfyrwyr ac wedi cyflwyno'r pecyn cymorth mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig i israddedigion, graddedigion a myfyrwyr rhan-amser. Rydym ni wedi newid y gyfraith i gyflwyno system addysg a chymorth newydd ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol hyd at 25 oed. Rydym ni wedi diwygio hyfforddiant athrawon, ac rydym ni wedi cyflawni'r rhaglen fuddsoddi fwyaf uchelgeisiol yn ein hysgolion a'n colegau ers dros 50 mlynedd. Yn rhan o'r agenda ddiwygio hon, rydym ni hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran datblygu ein cwricwlwm newydd arloesol, a gaiff ei gyflwyno mewn ysgolion yng Nghymru o fis Medi 2022. Er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, byddwn nawr yn cyflwyno Bil cwricwlwm ac asesu i nodi mewn statud yr egwyddorion, y rhyddid a'r strwythurau ar gyfer y cwricwlwm uchelgeisiol, newydd hwnnw.
Ac, mewn Bil ar wahân, Llywydd, byddwn hefyd yn deddfu i sefydlu'r comisiwn addysg ac ymchwil trydyddol, i ddisodli'r cyngor cyllido addysg uwch yma yng Nghymru. Bydd y comisiwn yn cryfhau cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol, bydd yn atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng ymchwil ac addysg, a bydd yn darparu system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol sydd mewn sefyllfa well i ddod â'r sector at ei gilydd i ddarparu gwir ddysgu a sgiliau gydol oes ar gyfer pobl Cymru.
Llywydd, fel y cyhoeddais yr wythnos diwethaf, byddwn yn rhoi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol drwy gyflwyno Bil cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn i ymgorffori'r model partneriaeth gymdeithasol anstatudol presennol yn y gyfraith a sicrhau ei bod hi'n amlwg bod modd gorfodi cytundebau a wneir mewn partneriaeth gymdeithasol.
Y rhain yw'r uchelgeisiau deddfwriaethol y mae'r Llywodraeth hon wedi eu cadarnhau ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn.
Llywydd, i gloi, fe fydd y cynlluniau hyn yn cyflwyno gwelliannau positif a blaengar ar gyfer pobl Cymru. Mae rhaglen y Llywodraeth yn dangos ein bod yn benderfynol o yrru ymlaen gyda newidiadau uchelgeisiol hyd ddiwedd y Cynulliad hwn, er gwaethaf yr ansicrwydd sy’n ein hwynebu. Rwy’n cymeradwyo’r rhaglen ddeddfwriaethol hon i’r Cynulliad. Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod? Heddiw, mae wedi cyhoeddi mwy o'r un peth gan y Llywodraeth Lafur flinedig hon yng Nghymru. Y llynedd, cyhoeddodd y cyn Brif Weinidog amrywiaeth o Filiau newydd, a ble'r ydym ni arni o ran y rhain? Croesewir y gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau gan y mwyafrif yn y Siambr hon, ond pam mae hi wedi cymryd cyhyd i'w weithredu? Arferai Cymru arwain y DU, os nad y byd, ar les anifeiliaid, ac eto ar y mater hwn, ac eraill, rydym ni y tu ôl i'r Alban ac yn awr Lloegr.
A chyda'r newidiadau arfaethedig i'r cynghorau iechyd cymuned, mae'n nodweddiadol o'r Llywodraeth hon, pan na fydd rhywbeth yn mynd yn iawn, pan fydd pobl yn dechrau ei dwyn i gyfrif am ei methiannau, mai hi naill ai'n cael gwared ar y targed neu'n diddymu'r sefydliad sy'n meiddio codi llais dros unigolion. Ac rwy'n dweud wrth y Prif Weinidog: mae angen inni hybu atebolrwydd yn ein gwasanaeth iechyd, nid cuddio methiannau.
Nawr, roedd hi'n siomedig dros ben i mi a'r miloedd o bobl yng Nghymru sydd ag awtistiaeth neu sy'n gofalu am eu hanwyliaid sydd ag awtistiaeth, fod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn y Bil awtistiaeth, a fyddai wedi rhoi llawer o gymorth i'r teuluoedd hynny ar adeg pan fo arnyn nhw angen hynny fwyaf. Ac rwy'n annog y Llywodraeth i ailedrych ar gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn.
I droi at y Biliau newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae'n dda gweld y Prif Weinidog yn cymryd yr arferion gorau o Ddeddf Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth y DU 2017 yn ei fesur trafnidiaeth gyhoeddus arfaethedig drwy ryddfreinio gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Fodd bynnag, beth a wnaiff Llywodraeth Cymru i gefnogi, er enghraifft, y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau ar gyfer pobl ifanc, a sut y bydd yn cefnogi cwmnïau bysiau bach a chanolig eu maint drwy'r ddeddfwriaeth benodol hon? Hefyd, sut fydd gwasanaethau bysiau a arweinir gan gymunedau, sydd hefyd yn llenwi bylchau yn y ddarpariaeth, yn cyd-fynd â'r cynigion i awdurdodau lleol ryddfreinio neu redeg gwasanaethau bysiau yn uniongyrchol?
Nawr, realiti llym camreoli'r Llywodraeth o ran y GIG yng Nghymru yw bod cleifion a staff sy'n gweithio'n galed yn talu'r pris. Mae'n annerbyniol bod bron i un o bob dau glaf yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad cyfleus â'u meddyg teulu, a hyn gan Lywodraeth a ymgyrchodd i wneud gwasanaethau meddygon teulu yn llawer mwy hygyrch. O gofio'r ffars ym mis Ebrill, pan adawyd meddygon teulu yn nhir neb ar ôl i'r Gweinidog iechyd dorri mwy na £11 miliwn o gyfanswm indemniad meddygon teulu yn gwbl unochrog i gyflawni'r cynllun indemniad a gefnogir gan y wladwriaeth, sut fydd ei Lywodraeth yn ceisio gwrthdroi camgymeriadau o'r fath drwy'r cynnig deddfwriaethol penodol hwn? A ymgynghorwyd â Chymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol cyn cyhoeddi'r Bil hwn heddiw?
Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw raglen ddeddfwriaethol yn gyflawn heb sôn am ddiwygio llywodraeth leol, gan fod ganddi'r potensial unwaith eto i adael cynghorau, staff, a'r rhai sy'n dibynnu ar wasanaethau lleol yn nhir neb eto. Cyhoeddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol fis diwethaf y byddai argymhellion gan y gweithgor annibynnol ar lywodraeth leol yn cael eu cynnwys yn y Bil, yn enwedig uno gwirfoddol awdurdodau lleol. Sut ellir sicrhau'r Cynulliad hwn na fyddai unrhyw gynnig gan awdurdodau lleol yn dibynnu ar fympwy'r Gweinidog Llywodraeth Leol, fel y ddigwyddodd yn ôl yn 2015?
O gofio'r protestiadau parhaus heddiw yn ein prifddinas, mae'n siomedig nad yw ei Lywodraeth yn cyflwyno unrhyw fesur sy'n ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn syndod, oherwydd mae'n ymddangos y bu i'w Weinidog ddatgan hynny yn y wasg yn gyntaf cyn rhoi'r newyddion diweddaraf iddo yn ystod unrhyw fater arall yn y Cabinet. Mae hwn yn fater difrifol y mae angen ei ystyried o ddifrif, ac yn amlwg mae'n rhaid inni dreulio amser yn trafod y mater hwn ac yna mynd ati'n bendant i weithio tuag at Gymru ddi-garbon. Byddai rhai pobl yn awgrymu bod y Llywodraeth hon yn esgus cefnogi eu pryderon ynglŷn â'r amgylchedd, oherwydd pe bai ei Lywodraeth o ddifrif, yna siawns na fyddai'n cyflwyno deddfwriaeth benodol cyn gynted ag y bo modd.
Nawr, rwy'n siomedig o hyd bod y Llywodraeth hon wedi penderfynu peidio â chyflwyno cynigion pendant i wahardd plastigau untro yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog felly roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni, neu hyd yn oed gadarnhau a fydd yn cyflwyno gwaharddiad yn ystod tymor y Cynulliad hwn, ac a fydd yn ceisio creu cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd yn rhan o hynny yn y dyfodol?
Felly, i gloi, Llywydd, edrychaf ymlaen at graffu ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn. Byddwn ni fel gwrthblaid yn gweithio'n agored ac yn adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pan gredwn ni ei bod hi'n gwneud y peth cywir, a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau yn y ffordd orau bosib er mwyn cynhyrchu deddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn rhoi amser i fyfyrio dros yr haf ar y polisïau sydd eu hangen ar Gymru i'n gwneud yn genedl arloesol, yn genedl sy'n barod i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ac a fydd, ar ôl 20 mlynedd o Lafur Cymru, yn dechrau cyflawni o'r diwedd ar gyfer pobl Cymru.
Diolch i'r Aelod am y sylwadau yna. Ceisiaf ateb y cwestiynau a ofynnodd ynddyn nhw.
Bydd y ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yng nghyswllt gwasanaethau bysiau yn cael ei chynllunio i wrthdroi'r difrod a wneir i wasanaethau bysiau yng Nghymru gan y polisïau dadreoleiddio a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth yntau. Dyna beth yw gwraidd y problemau gwasanaethau bysiau. Mae'n deillio o wrthod rhoi pwerau i awdurdodau lleol allu gweithredu'n bwrpasol er budd y cyhoedd, er gwaetha'r ffaith bod mwyafrif helaeth y refeniw a dderbynnir gan gwmnïau bysiau yng Nghymru'n dod mewn un ffordd neu'r llall yn uniongyrchol o'r pwrs cyhoeddus. Ac mae yn llygad ei le y dylai'r cyhoedd fod yn ffyddiog bod yr arian y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer y gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddefnyddio er budd y cyhoedd. Dyna'r hyn y bydd ein Bil yn ei sicrhau a bydd yn gwneud hynny ar y cyd â'r pethau eraill yr ydym ni eisoes yn eu gwneud: ehangu teithio drwy gymhorthdal ar fysiau i bobl ifanc a braenaru'r tir ar gyfer dyfodol gwasanaethau bysiau drwy gael gwasanaethau sy'n ymateb i'r galw yn gweithredu mewn rhannau o Gymru, gan gynnwys darparu gwasanaethau newydd yn ardal Cymoedd y De.
O ran meddygon teulu, sylwaf i'r Aelod fethu â chyfeirio at y gyfradd fodlonrwydd o 93 y cant y mae pobl yng Nghymru'n ei fynegi o ran eu gwasanaethau meddygon teulu. Ac, wrth gwrs, mae'r cynigion yr ydym ni'n eu cyflwyno o ran atebolrwydd yn deillio o'n trafodaethau gyda'r proffesiwn a chyda'r undebau amddiffyn meddygol. Ac, wrth gwrs, mae'r materion cytundebol y cyfeiriodd atyn nhw bellach wedi'u datrys yma yng Nghymru. Rydym ni wedi dod i gytundeb â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru ar ddiwygio contractau dros y 12 mis nesaf ac mae'r cytundebau hynny'n amlwg yn well na'r fargen a gafodd ei tharo ar gyfer meddygon teulu gan ei Lywodraeth yntau ar draws ein ffin—a dyna farn y proffesiwn.
O ran y Bil Llywodraeth Leol, wel, bydd y Bil yma i Aelodau graffu arno. Pan ddywedwn ni 'uno gwirfoddol', mae'r gair 'gwirfoddol' yn golygu hynny'n union a bydd yr Aelod yn gallu gweld hynny pan gaiff y Bil ei gyhoeddi.
O ran argyfwng hinsawdd, yna dim ond un o'r ystod eang o'r pethau y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud i wireddu ein hymateb i effaith newid yn yr hinsawdd ar ein planed yw deddfwriaeth. Dyma, Llywydd, dim ond tri o'r pethau y byddwn yn eu gwneud ac maen nhw'n dangos ehangder yr uchelgais sydd gan y Llywodraeth hon. Ym maes trafnidiaeth, byddwn yn bwrw ymlaen dros y 12 mis nesaf gyda'n penderfyniad mai cael parthau 20 milltir yr awr ddylai fod yn arferol mewn ardaloedd trefol gyda'r holl effaith a gaiff hynny nid yn unig ar yr hinsawdd ond gyda phob mantais arall a ddaw yn ei sgil o ran cymunedau cysylltiedig. Byddwn yn cyflwyno rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol, oherwydd gwyddom fod llygredd yn y diwydiant amaethyddol yn niweidio ein hamgylchedd yn uniongyrchol yn union fel y mae'n niweidio enw da'r diwydiant amaethyddol yn uniongyrchol. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar ffurf rheoliadau i ymdrin â hynny yn ystod y 12 mis nesaf. Erbyn diwedd y 12 mis nesaf, Llywydd, bydd Llywodraeth Cymru wedi plannu'r filiynfed goeden o'r coed y byddwn wedi'u plannu yn Uganda ar ran pobl Cymru. Byddwn yn creu coedwig yn Uganda ddwywaith maint arwynebedd Cymru gan weithio gyda'n partneriaid yno yn y rhaglen Cymru o blaid Affrica. Mae hynny'n rhan o'n hymrwymiad nid yn unig i bobl yr ardal honno ond i'r cyfrifoldeb sydd arnom ni yn fyd-eang o ran yr argyfwng hinsawdd. Yr holl bethau hynny—a dim ond tair enghraifft yw hynny; mae llawer mwy y gallwn fod wedi dweud wrth yr Aelod y prynhawn yma i ddangos y pethau yr ydym ni'n eu gwneud. A gyda llaw, Llywydd, dydw i ddim yn credu i mi glywed un cynnig deddfwriaethol gan yr wrthblaid y bydden nhw wedi'i gyflwyno yng nghyfnod olaf y Cynulliad hwn.
Yn olaf, o ran plastigau untro, Llywydd—[Torri ar draws.] Mae'n rhy hwyr iddyn nhw ddechrau mwmian y syniadau hyn nawr. Cafodd arweinydd yr wrthblaid ddigon o gyfle i'w cyflwyno gerbron y Cynulliad ac ni allent ddod o hyd i eiliad i gyfeirio atynt. O ran plastigau, buom yn gweithio gyda'i Lywodraeth, buom yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gydag ymgynghoriad y Trysorlys ar gynigion i ddefnyddio mesurau treth i ymdrin â phlastigau. Ac rydym ni wedi cytuno â'r Trysorlys ar y gyfres gyfyngedig o syniadau y maen nhw wedi'u cyflwyno. Yma, rydym ni wedi cyflwyno ein cynigion ein hunain ar gyfer ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr a chynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mai eleni; rydym ni'n ystyried yr ymatebion. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hynny cyn bo hir, ac yna byddwn yn parhau i weithio ar y cyd ag eraill i gyflwyno mesurau trethu newydd.
Mae yna elfennau, wrth gwrs, yn y datganiad a'r rhaglen ddeddfwriaethol mae’r Prif Weinidog wedi’i chyhoeddi'r prynhawn yma i’w croesawu. Dŷn ni eisoes wedi datgan ein cefnogaeth i’r egwyddor o gofleidio'r model o bartneriaeth gymdeithasol fydd ynghlwm wrth y Bil mae’r Prif Weinidog wedi cyfeirio ato.
Dŷn ni hefyd yn croesawu'r symudiad tuag at ailreoleiddio, i bob pwrpas, y sector bysiau. Dŷn ni’n cyd-fynd o ran y dadansoddiad o’r difrod a wnaethpwyd wrth ddadreoleiddio yn ystod y 1980au, ac mae symud, felly, i’r cyfeiriad arall, dwi’n credu, yn gam ymlaen. Gaf i ofyn, gan fod y sector yma yn un sydd yn mynd trwy ailstrwythuro dybryd, heriol ar hyn o bryd am amryw o resymau, pa waith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i sicrhau ein bod ni ddim yn aros am y pwerau deddfwriaethol hynny, neu’r pwerau statudol hynny? Er enghraifft, gwnes i godi’r sefyllfa gyda’r Prif Weinidog rai wythnosau’n ôl o ran First Cymru, a’r cyfle, efallai—mae’n fygythiad ond hefyd yn gyfle—i ni sicrhau ein bod ni ddim yn gweld erydu’r gwasanaeth ar draws rhannau helaeth o dde-orllewin Cymru ac ar draws Cymru. Mi oedd e wedi sôn y byddai fe’n cael gair gyda’i Weinidog llywodraeth leol er mwyn cael trafodaeth gyda dinas Abertawe yn y lle cyntaf.
O ran tacsis, unwaith eto, mae e’n sector—. Dwi’n credu bod y Prif Weinidog yn ei ddatganiad wedi cydnabod ei fod e'n sector sydd hyd yn oed yn mynd trwy fwy o ailstrwythuro, oherwydd, wrth gwrs, y bygythiad neu’r her o’r economi gig ac yn y blaen, ac efallai dyna yw'r gyriant ar gyfer y syniadau sydd wedi dod o wahanol randdeiliaid. Dwi'n siomedig ein bod ni’n oedi oherwydd, hynny yw, mae’r tirwedd yma yn mynd i edrych yn wahanol mewn dwy neu dair blynedd. Roedd e’n edrych yn wahanol ddwy neu dair blynedd yn ôl, felly allwn ni fforddio, a dweud y gwir, colli’r cyfle er mwyn sicrhau ein bod ni’n gosod y sector yna ar dir teg a gwastad?
Mae yna bethau i’w croesawu hefyd o’r Deddfau sydd wedi’u gohirio. Dŷn ni’n croesawu’r penderfyniad i bwyllo o ran y Bil amaeth. Dyna dŷn ni’n gyson wedi'i ddweud ym Mhlaid Cymru, ac mae hwnna’n rhoi cyfle, dwi’n credu, nawr i ni bwyso a mesur a datblygu fframwaith fydd yn gosod sylfaen ar gyfer y dyfodol hirbell.
Mae yna bethau ar goll. Dwi ddim yn gallu gweld cyfeiriad at, er enghraifft, Ddeddf awyr glân. Dwi ddim wedi darllen maniffesto’r Prif Weinidog fel arweinydd y Blaid Lafur o glawr i glawr, ond dwi’n credu bod hwnna’n elfen yn y rhaglen roeddech chi wedi’i chyflwyno—hynny yw, Deddf fyddai, wrth gwrs, er enghraifft, yn rhoi hawl statudol i anadlu, yn gosod cyfrifoldeb, neu’n rhoi canllawiau’r WHO ar ryw fath o sail statudol ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, rŷn ni’n gwybod bod yna broblem ddybryd gyda ni ar draws Cymru, felly mae hwn yn rhywbeth lle mae angen symud ymlaen. Ond buaswn i'n dal yn pwyso ar y Llywodraeth, a dweud y gwir, i ailfeddwl ynglŷn â pheidio deddfu ar hyn o bryd.
Mi oeddech chi hefyd wedi crybwyll, neu wedi ymrwymo, a dweud y gwir, i estyn y gwaharddiad ar ysmygu, os dwi'n cofio'n iawn, i fannau awyr agored yng nghanol dinasoedd a threfi. Ydy hwnna'n dal yn fwriad gennych chi a gan y Llywodraeth, a phryd ydych chi'n bwriadu deddfu i'r cyfeiriad hwnnw?
O ran TERCW—nid wyf yn gwybod beth yw'r acronym Cymraeg eto—mae yn wir, rwy'n credu, fod y corff yma, nid yn unig yn mynd i fod yn gyfrifol am addysg trydyddol ac ymchwil, ond mae hefyd yn mynd i fod yn gyfrifol am arloesi yn yr ystyr eang. Ac rwy'n credu, os dwi'n cofio'n iawn, y bwriad yw i ffurfio is-bwyllgor a fydd yn benodol yn gyfrifol am arloesi ac ymchwil. Onid oes peryg, Brif Weinidog, yn hynny o beth, oherwydd bod arloesedd, wrth gwrs, yn dibynnu ar ymchwil o'r sector addysg uwch, ac yn y blaen, ond mae hwnna dim ond yn cynrychioli un dimensiwn o arloesedd? Mae'r dimensiwn busnes hefyd, wrth gwrs, yn hollbwysig, ac mi oedd yna argymhelliad gan yr Athro Kevin Morgan, sydd yn arbenigwr byd-eang ym maes arloesedd, y dylid, yn hytrach, creu corff arloesedd cenedlaethol ar y model Scandinafaidd. Nid dyna, wrth gwrs, sydd ynghlwm wrth yr argymhellion rydych chi yn eu gweithredu, ond ydy hwnna'n dal yn rhan o'r weledigaeth ar gyfer y Ddeddf rŷch chi'n mynd i gyhoeddi?
Ac yn olaf, mae yna gyfeiriad yn eich datganiad tuag at gyfyngiadau deddfwriaethol—'legislative constraints'. Beth yn union yw'r cyfyngiadau hynny? Ife nifer yr Aelodau, yr amser yn ystod yr wythnos yn y Senedd, sy'n mynd â ni nôl i'r ddadl gawsom ni wythnos diwethaf? Ydy e'n ymwneud â'r nifer o weision sifil sydd gyda chi? A allwch chi roi ryw fath o syniad i ni ble mae'r esgid yn gwasgu, a beth y gellir ei wneud? Wrth gwrs, roedd un awgrym go bendant gyda ni wythnos diwethaf ynglŷn ag un elfen o'r broblem yma, ond beth arall y gellir ei wneud, achos os ydy'r cyfyngiadau yma yn golygu bod yna syniadau da ar gyfer Deddfau ddim yn gallu mynd rhagddi, wrth gwrs, rŷn ni gyd ar ein colled oherwydd hynny?
Diolch yn fawr i Adam Price am ei gyfraniad y prynhawn yma, a diolch iddo fe am beth ddywedodd e am gefnogaeth Plaid Cymru i'r Bil rŷn ni'n mynd i fwrw ymlaen i gyflwyno ar y bartneriaeth gymdeithasol—a dwi'n edrych ymlaen at y drafodaeth honno—ac am beth ddywedodd e am ailreoli bysiau yng Nghymru. Wrth gwrs, mae heriau yn wynebu'r sector. Dydyn ni ddim jest yn mynd i aros am y pwerau newydd. Mae lot o bethau yn cael eu gwneud yn barod yng Nghymru. Dwi'n croesawu'r ffaith bod 50 o fysys electrig newydd yn mynd i gael eu cyflwyno yng Nghymru dros y misoedd nesaf, a, fel dywedais i yn y cwestiynau i Paul Davies, mae pethau rŷn ni'n eu gwneud yn barod gyda'r pwerau sydd gyda ni i ymestyn pethau, i dynnu pobl ifanc i mewn i ddefnyddio'r bysiau hefyd.
Ar ochr tacsis, wrth gwrs, mae pethau yn symud yn gyflym. Mae pethau yn newid yn y byd tu fas i'r byd tacsis. A'r pwynt ar y gig economy, ac yn y blaen, roedd yr undebau wedi codi y pwyntiau yna gyda ni, a dyna un o'r rhesymau pam rŷn ni eisiau ailfeddwl ac ailystyried y syniadau newydd sydd wedi dod i mewn. Dwi eisiau dweud, Llywydd, ein bod ni yn mynd i baratoi pecyn o bethau rŷn ni'n gallu gwneud nawr gyda'r pwerau sydd gyda ni ar hyn o bryd i ymateb i rai o'r pethau sydd wedi codi yn y drafodaeth ar y Papur Gwyn.
Ar y Bil amaeth, nawr, dros yr haf, rŷn ni'n mynd i siarad ledled Cymru ar y papur newydd mae Lesley Griffiths wedi'i gyflwyno, ac wrth gwrs, fel rŷm ni wedi meddwl am y Papur Gwyn cyntaf, i feddwl am bethau mae pobl yn y maes yn mynd i ddweud wrthym ni. Rŷm ni’n hyderus bydd pwerau gyda ni o dan y Bil sy’n mynd drwy Dŷ’r Cyffredin i ddelio â’r sefyllfa os ydym ni’n ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ond rŷm ni eisiau dod ymlaen â’r Bil sydd jest mewn perthynas â ni yma yng Nghymru, ac rŷm ni’n dal eisiau paratoi am hwnna a chyhoeddi Papur Gwyn arall cyn diwedd y tymor hwn i baratoi am y dyfodol.
Yn y maes awyr glân, rŷm ni’n mynd i gyhoeddi cynllun awyr glân yn yr hydref a bydd hwnna’n paratoi’r tir am ddeddfu yn y maes yna yn y dyfodol. Yn y maes ysmygu, rŷm ni’n mynd i ddod ymlaen â rheoliadau i ymestyn rheoliadau ble rŷm ni’n gallu rheoli pobl yn ysmygu, a gwneud mwy yn y maes yna. A bydd hwnna’n arwain at bethau eraill, fel yr ydym ni wedi sôn amdanynt yn barod.
Jest am funud, Llywydd, i ddweud gair yn fwy am y tertiary education and training Bill—dwi ddim cweit yn siŵr beth yw e yn Gymraeg, dwi’n ymddiheuro—ond jest i esbonio’r cefndir i bobl unwaith eto.
Bydd yr Aelodau'n gwybod ei fod yn gynnyrch adolygiad Hazelkorn. Argymhellodd y dylid sefydlu un awdurdod trosolwg a chydlynu rheoleiddiol ar gyfer y sector addysg ôl-orfodol, a bwriadwn i'r Comisiwn ddod ag ystod o swyddogaethau a ffrydiau cyllido sydd ar hyn o bryd yn wahanol, at ei gilydd a darparu cenhadaeth ddinesig dryloyw i'r sector, gan ei fod yn cwmpasu addysg uwch, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith, prentisiaethau, addysg chweched dosbarth ac ymchwil ac, fel y dywedodd Adam Price, arloesi yma yng Nghymru. Ein huchelgais yn llwyr yw ein bod yn cynhyrchu un sector cydweithredol sydd yn uchelgeisiol ac arloesol, a bydd y Gweinidog wedi clywed y sylwadau a wnaed gan Adam Price yma y prynhawn yma, ac mae'n siŵr y cânt eu trafod ymhellach yn ystod hynt y Bil.
O ran cyfyngiadau ar ein gallu deddfwriaethol, Llywydd, y cyfyngiad mwyaf yr ydym ni'n ei wynebu yw Brexit a sut mae eisoes wedi effeithio ar y Cynulliad hwn. Cyhoeddwyd 130 o ddatganiadau ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad ag offerynnau statudol yn unig yn ystod eu hynt drwy'r Cynulliad hwn. Rydym ni wedi cael y dadleuon niferus hynny, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dadansoddi'r weithdrefn negyddol a chadarnhaol a fydd yn caniatáu i'r Cynulliad hwn gyflawni ei swyddogaeth graffu. Mae wedi bod yn gyfyngiad enfawr ar ein gallu i roi sylw i rai blaenoriaethau deddfwriaethol eraill yr hoffem ni fod wedi'u cyflwyno ac nid yw wedi dod i ben eto. Rwy'n credu fy mod i wedi cyhoeddi rhaglen y prynhawn yma a fydd yn rhoi pwysau enfawr ar Aelodau'r Cynulliad yma mewn pwyllgorau ac ar lawr y Cynulliad, oherwydd y swmp uchelgeisiol o ddeddfwriaeth yr ydym ni eisiau ei gwblhau yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn.
Ond dim ond eisiau manteisio yr wyf i ar sylw a wnaeth Adam Price i ddweud bod angen, i ryw raddau, adolygu hyn i gyd yn unol â'r ddeddfwriaeth y bydd yn rhaid inni ei chyflwyno mewn argyfwng efallai, pe bai'r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ddisymwth mewn modd yr ydym ni'n dweud yn bendant bod yn rhaid ei osgoi, ac a fydd wedyn yn arwain at ganlyniadau annisgwyl y bydd angen ymateb deddfwriaethol iddynt. Mae cyfyngiadau eraill, wrth gwrs, o ran a fydd arbenigedd ar gael, a fydd amser pwyllgorau ar gael, amserlenni'r Cynulliad hwn ei hun, ond Brexit yw'r cyfyngiad unigol mwyaf yr ydym ni wedi'i wynebu dros y 12 mis diwethaf a rhagwelaf y bydd yn parhau i fod yn gyfyngiad dros y 12 mis nesaf hefyd.
Dechreuodd y Prif Weinidog ei ddatganiad drwy ddweud:
'Yn y datganiad deddfwriaethol hwn, byddaf yn amlinellu cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y Biliau byddwn yn eu cyflwyno yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn.'
Credaf ei fod tua hanner ffordd drwy'r datganiad cyn inni glywed ynghylch hynny. Clywsom o'r blaen am yr hyn a ddigwyddodd neu'r hyn yr oedd eraill yn ei wneud neu pam na fyddech yn gwneud gwahanol bethau, ac ynglŷn â'r rheini, fe wnaethoch chi ddweud ein bod:
'wedi gallu asesu a ydym ni bellach mewn sefyllfa i gyflwyno Bil amaethyddiaeth i Gymru a Bil llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol yn y tymor hwn'.
Rwy'n glir o'ch datganiad ac, yn wir, o'r rhagfriff arno—nid wyf yn cwyno am hynny—ond a yw'n amlwg nad yw Bil amaethyddiaeth Cymru yn mynd yn ei flaen. Fodd bynnag, rydych chi'n dweud, o ran egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu:
'Mae hwn yn parhau i fod yn fater cymhleth ac rydym ni'n trafod yn barhaus â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau eraill ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hyn'.
A yw hynny'n golygu 'na'? A yw hi'n bendant na fydd y Bil hwnnw'n gweld golau dydd?
O ran y Bil amaethyddol, rydych chi'n sôn am edrych ar:
'materion megis hawliau ffermwyr tenant'.
Ond ni chaiff y Bil hwn mo'i gyflwyno tan y Cynulliad nesaf, a meddyliais, o'ch trafodaethau gyda Neil McEvoy o'r blaen, eich bod eisoes yn gweithredu yn y maes hwn. A allech chi egluro?
O ran y materion newid yn yr hinsawdd, gwnaeth Paul Davies, roeddwn yn credu, gwynion teg iawn am y ffordd yr ymdriniwyd â nhw yng Nghymru—eitem o unrhyw fater arall ar ôl datganiad i'r wasg a oedd eisoes wedi'i gyhoeddi. Ond ni ddywedodd unrhyw beth am y ffordd yr ymdriniwyd ag ef yn San Steffan, lle rhoddodd Llywodraeth Geidwadol y DU 90 munud o amser Seneddol i offeryn statudol na chafwyd hyd yn oed bleidlais arno, ac ar y sail honno, newid targed o 80 y cant o leihad erbyn 2050, a oedd yn dod beth ffordd i gael cefnogaeth y cyhoedd a rhywfaint o gonsensws, o leiaf, o'i gymharu â'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi, i rywbeth yr ofnaf na fydd yn cynnwys hynny. Ac mae'r Trysorlys ac eraill yn Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif costau o rhwng £50 biliwn a £70 biliwn y flwyddyn. Ni chawsant hyd yn oed eu trafod yn San Steffan, heb sôn am bleidleisio arnynt, a phan fyddwn yn sôn yma, ar gyfer Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cyfrifo y bydd y gost tua £1 biliwn neu oddeutu hynny i gyllideb Llywodraeth Cymru, rydych chi i gyd yn codi'ch dwylo ac yn dweud, 'does dim posib y gallwch chi wneud hynny,' gan honni ei fod yn gymaint o flaenoriaeth. Wyddoch chi, pa un ydyw?
Tybed, gyda'r datganiad hwn, a fu unrhyw gynnydd. Rydych chi'n sôn am:
'talu ffermwyr am yr hyn y gallan nhw ei wneud i ymateb i'r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau a dal carbon'.
Felly, mae Llywodraeth Cymru yn hoffi dweud ei bod yn cael £680 miliwn y flwyddyn i Gymru—rwy'n credu mai dyma'r ffigur a roesoch chi—gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae llawer o hynny'n mynd i amaethyddiaeth. A ydych chi'n dweud bod cyfran, ac os felly, faint yw'r gyfran o'r arian hwnnw a gaiff ei newid o'i roi i ffermwyr ar sail perchnogaeth eu tir, cyhyd â'u bod yn ffermio'n weithredol i ryw raddau, i ddweud nad ydyn nhw ond yn mynd i'w gael i'w digolledu am y pethau a fydd yn costio iddyn nhw, fel storio hinsoddol neu gamau gweithredu eraill yn hynny o beth? A oes newid polisi yn hynny o beth a pha mor bell ydym ni o gael y £1 biliwn hwn y mae ei angen arnom ni i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd sydd wedi'i ddatgan? O ble geir yr arian hwnnw?
Fe wnaethoch chi sôn o ran gofal plant:
'rydym ni wedi parhau i ddeddfu ar gyfer materion domestig pwysig, gan sicrhau'r fframwaith gweinyddol ar gyfer ein cynnig gofal plant i ddarparu cymorth y mae ei ddirfawr angen i deuluoedd sy'n gweithio'.
Dydych chi ddim yn mynd y tu hwnt i'r ddeddfwriaeth. Rydych chi wedi cyflawni hyn yn gynnar mewn gwirionedd. Roedd gennych chi hynny yn y maniffesto Llafur, ac yn y maes hwn, rydych chi wedi bod cystal â'ch gair. Fe wnaethoch chi ddweud y byddai cynnig gofal plant penodol yn hytrach nag un cyffredinol ar gael i rieni sy'n gweithio, ac rydych chi wedi mynd ati i'w ddarparu, ac rydych chi wedi gwneud hynny'n gynnar. O'r blaen, roedd y system gofal plant yng Nghymru yn ffafrio, mewn cymhariaeth, y sector cyhoeddus, o leiaf o gymharu â Lloegr. Ac eto, y cynllun hwn, wyddoch chi, nid yw'n caniatáu ychwanegu ato, ond yn ei hanfod mae'n gynllun talebau, lle rhoddir yr arian i'r rhiant ddewis pa ddarparwr gofal plant i'w ddefnyddio, ac mae cydraddoldeb rhwng y sector cyhoeddus a'r sectorau preifat. Mae hynny'n rhywbeth yr ydych chi wedi'i gyflawni mewn gwirionedd, a hoffwn i, o leiaf, eich canmol am hynny.
Y Bil indemniad meddygon teulu, unwaith eto, rwy'n gwybod bod meddygon teulu wedi bod yn pwyso'n galed iawn am hyn ac roeddent yn pryderu na fu unrhyw gynnydd yn ei gylch. Mae cynnydd bellach, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol i'r Llywodraeth weithredu yn y maes hwn.
O ran y Bil trafnidiaeth gyhoeddus, mae gennym ni feddwl agored ar y meinciau hyn ynghylch beth yw'r model gorau ar gyfer darparu cludiant bysiau. Nid ydym ni wedi'n hargyhoeddi bod y dadreoleiddio a welsom ni y tu allan i Lundain ers y 1980au wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac rydym ni'n credu ei bod hi'n briodol ein bod yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol roi cynnig ar fasnachfreinio, i roi cynnig ar ddarparu'n uniongyrchol. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y byddai'n fanteisiol pe bai—? Rwy'n credu bod modd taro bargen o ran annog gweithio rhanbarthol lle mae ei angen, ond hefyd, a fyddai'n fanteisiol pe baem yn gweld rhai awdurdodau lleol neu rai rhanbarthau, o leiaf, yn mynd ati mewn ffordd wahanol, fel y caem ni rywfaint o dystiolaeth bellach o'r hyn sy'n gweithio, a gweld pa ddulliau sy'n fwy llwyddiannus wrth ymdrin â'r hyn y mae cwsmeriaid ei eisiau yn y maes hwn?
Nid yw'n sôn am y cyd-awdurdodau trafnidiaeth, ac un maes lle'r oedd llawer o feirniadu ar y Papur Gwyn oedd ynghylch y cyd-awdurdodau trafnidiaeth, ac yn enwedig cael rhai rhanbarthol, ac yna cael un cenedlaethol. Ac er fy mod i'n credu bod yr Aelodau'n awyddus i roi hwb i Drafnidiaeth Cymru gan ddeall ei fod yn gwmni preifat yn y modd yr oedd yn gweithredu, beth yw diben y cyd-awdurdodau trafnidiaeth ranbarthol a chenedlaethol hyn, ac onid oes perygl o ddyblygu? Pa benderfyniad sydd wedi'i wneud o ran sut y byddwn yn deddfu yn y maes hwn?
Ac yna mae gennym ni'r Bil cwricwlwm ac asesu, a'r bartneriaeth gymdeithasol. Credaf wythnos neu ddwy yn ôl y clywsom gan y Prif Weinidog am ei frwdfrydedd dros sosialaeth mewn un cymal drwy gychwyn y rhan hon o'r Ddeddf Cydraddoldeb. Rwy'n pryderu am yr elfen asesu yn benodol yn y Bil Addysg. Mae'n sôn am ryddid, ond ai ystyr hynny fydd na chaiff ysgolion eu dwyn i gyfrif? Beth sy'n cael ei ddileu o ran asesu ac atebolrwydd ar gyfer ysgolion? Ac a yw'r Prif Weinidog yn dweud, yn ogystal â sosialaeth mewn un cymal, os ydych chi eisiau bwrw ati i geisio gweithredu sosialaeth, efallai mai'r peth cyntaf y mae sosialwyr yn ei wneud yw atal mesur pethau fel na ellir eu gweld yn methu?
Llywydd, ceisiaf ymateb i nifer o'r sylwadau a wnaed. Nid wyf yn credu ei bod hi'n bosib deall rhaglen ddeddfwriaethol y flwyddyn nesaf heb ystyried y mesurau sydd eisoes ar y gweill a'r baich gwaith y mae'r Cynulliad hwn yn ei ysgwyddo er mwyn eu cwblhau, a dyna'r hyn yr oeddwn yn ceisio ei wneud yn fy natganiad.
O ran y Bil amaethyddiaeth, byddwn yn parhau i ymgynghori, nawr, dros yr haf, ar y cynigion a amlinellwyd gan fy nghydweithiwr, Lesley Griffiths, yr wythnos diwethaf. Ein nod yw gwobrwyo ffermwyr gweithredol am ddau ddiben hanfodol: am gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac am gyflenwi'r nwyddau cyhoeddus hynny na fyddai ffermwyr, heb gymorth o bwrs y wlad, yn gallu eu cyflenwi fel arall. Ein nod yn awr yw dod â hynny ynghyd mewn un cynllun ffermio cynaliadwy. Nawr, rwy'n credu bod yr undebau ffermio wedi croesawu hynny'n gyffredinol, ac rwy'n credu eu bod o'r farn fod hynny'n ymateb diffuant i'r pryderon a grybwyllwyd ganddyn nhw yn ystod yr ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir' ynghylch cael dau gynllun ar wahân, lle'r ydym ni mewn gwirionedd eisiau darparu un incwm fferm cynaliadwy i'r ffermwyr hynny sy'n ffermwyr gweithredol, fel nad ydyn nhw ond yn cael eu gwobrwyo ar sail faint o dir sydd ganddyn nhw, pa un a ydyn nhw'n gwneud unrhyw beth gydag ef ai peidio, ac rwy'n credu eto bod hynny'n rhywbeth y mae'r diwydiant yn ei groesawu, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr fod y buddsoddiad y mae'r cyhoedd yn ei wneud yn ein diwydiant amaethyddol, yr ydym ni'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn parhau i'w wneud, yn fuddsoddiad lle y bydd y cyhoedd yn gweld elw ar y dibenion amgylcheddol hynny y soniodd yr Aelod amdanynt.
Mae'r Bil indemniad meddygon teulu yn enghraifft dda iawn o sut, pan fydd llywodraethau'n gweithredu ar ran grŵp ar y cyd, y gallwn ni roi grym y Llywodraeth y tu ôl i angen gwirioneddol bwysig mewn galwedigaeth. Gallwn ei ddisgrifio fel ateb sosialaidd i'r hyn a oedd fel arall yn fethiant yn y farchnad, ac nid wyf yn credu y byddwn i yn cyfeiliorni llawer wrth ddweud hynny. Yr wythnos diwethaf, diolchais i'r Aelod am ei gymeradwyaeth hael i'n partneriaeth gymdeithasol fel 'sosialaeth mewn un cymal', ond mae wedi bod yn ddigon da i ailadrodd hynny y prynhawn yma.
O ran cludiant bysiau, credaf y byddem ni'n mynd ymhellach na dweud nad yw dadreoleiddio wedi bod yn llwyddiant mawr. Rwy'n credu ein bod wedi gweld dadreoleiddio yn difrodi gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Gwelwn gystadleuaeth am y nifer cymharol fach honno o lwybrau proffidiol, ac felly mae arian yn cael ei sugno o allu awdurdodau lleol i gefnogi gwasanaethau bysiau ar lwybrau na fyddan nhw byth yn goroesi ar sail gwbl fasnachol. Rydym ni eisiau gallu osgoi'r gystadleuaeth wastraffus honno drwy roi i awdurdodau lleol y pwerau sydd eu hangen arnyn nhw i ddarparu gwasanaeth bws wedi'i gynllunio sy'n cyflawni er lles y cyhoedd yn ehangach. Sut y byddant yn gwneud hynny—nid wyf yn credu bod gennym ni wrthwynebiad i'r syniad y bydd awdurdodau lleol yn cyflwyno gwahanol ddulliau gweithredu, ond credwn y dylai'r gwahanol ddulliau gweithredu hynny gael eu mapio'n rhanbarthol. Gallaf weld yn llwyr pam y byddai ymagwedd ranbarthol at wasanaethau bysiau yn y de-orllewin yn wahanol i ddull rhanbarthol yn ardal Gwent. Felly, nid anhawster gyda gwahaniaethu yw hynny, ond teimlad nad yw gwasanaethau bysiau yn gweithredu yn unol â ffiniau awdurdodau lleol. I gynllunio llwybr bysiau, mae angen i chi allu cynllunio sut mae'r llwybr bws hwnnw'n gweithredu ar draws y ffin, nid o fewn awdurdod lleol yn unig. Dyna pam, yn ein cynigion ar gyfer trafnidiaeth bysiau ac yn ein cynigion ar gyfer llywodraeth leol, y byddwn yn dod â chyfres o gynigion at ei gilydd i gefnogi datblygu a darparu gwasanaethau bysiau'n rhanbarthol, oherwydd credwn mai hynny yn syml sy'n gwneud fwyaf o synnwyr, yn y ffordd y mae'r diwydiant yn gweithredu ar lawr gwlad.
Prif Weinidog, cyfyngaf fy sylwadau, rwy'n credu, i'r cyfeiriadau at y rhan o'r rhaglen ddeddfwriaethol sy'n ymwneud â phartneriaeth gymdeithasol, oherwydd credaf y gallai hyn fod yn un o'r rhannau a ddiystyrir fwyaf o'r hyn sydd, yn fy marn i, yn agenda flaengar iawn ei gweledigaeth. Un o brif amcanion unrhyw Lywodraeth yw lles ei phobl. Yng Nghymru, mae diweithdra wedi gostwng o 7.7 y cant wyth mlynedd yn ôl i 4.4 y cant erbyn hyn, i rai o'r lefelau isaf yr ydym ni wedi'u cael ers cenedlaethau. Eto i gyd, mae lefel tlodi mewn gwaith yn aros yr un fath. Mae'n rhaid ei bod hi'n hanfodol i unrhyw gymdeithas, os bydd rhywun yn gwneud wythnos dda o waith, y dylent fod â hawl i safon byw weddus ac y dylent fod â hawl i gael safon resymol ar gyfer eu teuluoedd hefyd.
Mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol yn dweud bod trafod a thegwch wrth wraidd bargeinio torfol ac yn helpu i adeiladu cymdeithasau sefydlog a boddhaol, ac y gall cydfargeinio greu economi decach. Rwyf eisiau croesawu'r rhan benodol honno o'r rhaglen ddeddfwriaethol, ond hefyd i ddweud ar goedd pa mor bwysig yw hyn mewn gwirionedd yn economaidd-gymdeithasol. Mae hon yn ddeddfwriaeth sydd â gweledigaeth, a hefyd yn ddeddfwriaeth a gaiff ei chydnabod ledled y DU ac, yn wir, y tu hwnt fel rhywbeth sy'n sylfaenol i un o'r heriau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu yn ein cymdeithas, sef anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. Felly, rwy'n croesawu hynny. Tybed a wnewch chi roi syniad inni o'r amserlen ar gyfer proses y ddeddfwriaeth hon. Y tu hwnt i hynny, rwy'n credu y bydd hyn efallai yn dod yn un o'r perlau yng nghoron rhaglen ddeddfwriaethol Llafur Cymru.
Diolch i Mick Antoniw am hynny. Mae'n gywir yn dweud na threuliais lawer o amser ar y cynigion ar gyfer partneriaeth gymdeithasol yn y datganiad heddiw, Llywydd, yn bennaf am imi gael cyfle ar lawr y Cynulliad yr wythnos diwethaf i wneud datganiad yn benodol ar y mater hwnnw ac i ateb cwestiynau gan Aelodau bryd hynny. Yr hyn sydd wrth wraidd ein huchelgeisiau mewn partneriaeth gymdeithasol yw creu'r hyn y mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol (Cymru) yn ein hymrwymo iddo, sef creu Cymru sy'n fwy cyfartal. Nid dim ond y Sefydliad Llafur Rhyngwladol sy'n nodi bod cymdeithasau mwy cyfartal yn gwneud yn well yn economaidd. Dyna gasgliad Banc y Byd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol hefyd. Ac mae'r ddau'n dweud bod cymdeithasau mwy cyfartal gydag economïau mwy llwyddiannus yn cael eu creu pan fydd gweithwyr yn cael cyfran deg o gynnyrch yr economi honno, a'r cydfargeinio drwy Undebau Llafur yw'r ffordd y mae pobl yn dod at ei gilydd i sicrhau'r gyfran decach honno. Felly, bydd ein Bil partneriaeth gymdeithasol yn Fil gwaith teg hefyd, oherwydd mae hynny heb os nac oni bai yn rhan o'n huchelgais i greu Cymru sy'n fwy cyfartal.
Diolch i Mick Antoniw am yr hyn a ddywedodd am y diddordeb yn y Bil, sydd, rwy'n gwybod, y tu hwnt i Gymru. Dywedais yn y fan yma yr wythnos diwethaf y byddwn, ar y diwrnod canlynol, dydd Mercher yr wythnos diwethaf, yn cwrdd â'r partneriaid cymdeithasol, ac y byddem yn gweithio gyda'n gilydd ar ffurf partneriaeth gymdeithasol i gynllunio'r cynnydd o ran cyflwyno'r Bil ar lawr y Cynulliad. Rwy'n hapus i adrodd y prynhawn yma, Llywydd, bod y cyfarfod hwnnw wedi digwydd, ei fod yn gyfarfod cynhyrchiol, y byddem yn cydweithio ar yr agenda partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys paratoi ar gyfer y Bil, a'n bod yn parhau, fel Llywodraeth, yn ymrwymedig i'w gyflwyno ac i'w hynt yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn.
Efallai y gallaf wahodd y Prif Weinidog, yn gyntaf oll, i gynnal dadl efallai ar ein rhaglen ddeddfwriaethol rywbryd, dim ond i brofi bod un mewn gwirionedd, ac wrth gwrs mae sawl cyhoeddiad polisi wedi bod ers hynny.
Diolch ichi am eich datganiad, fodd bynnag. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud
'Fe fyddwn yn gyrru ymlaen gyda mesurau pwysig ym meysydd addysg...a thrafnidiaeth'.
Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn cyntaf yw pam nad ydych chi'n cyflwyno Deddf newydd i ddisodli'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sydd wedi chwythu ei blwc, yn anad dim er mwyn diogelu amcanion eich strategaeth ar gyfer cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, nad yw wedi ei adlewyrchu mewn mannau eraill yn y cyhoeddiad yr ydych chi wedi'i wneud heddiw. Ond o leiaf byddai hynny'n un ffordd o sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob oedran.
Diolch am gydnabod gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn eich datganiad, a'i waith ar offerynnau statudol, ond gobeithiaf eich bod yn cydnabod hefyd y rhwystredigaeth a leisiwyd gan y pwyllgor hwnnw o ran y diffyg cyfle i graffu yn ystod y broses honno yn ystod hanes offeryn statudol Brexit. Ni fydd hynny, gobeithio, yn ymdreiddio i unrhyw brosesau pellach y gallem ddod ar eu traws pan ddaw'n fater o allu craffu.
Rwy'n gwybod y bydd Aelodau'n siomedig gyda'r oedi yn y Bil amaethyddiaeth a fydd yn cael ei lunio yma yng Nghymru. Nid wyf eisiau trafod hynny'n benodol, ond cofiwch, Aelodau, y cyflwynwyd hynny inni fel rheswm dros dderbyn y Bil cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y pryd, pan fydd deddfwriaeth sylfaenol bob amser yn well. Nawr, mae deddfwriaeth sylfaenol yn well, ond mae angen iddi fod yn swyddogaethol, felly a wnewch chi roi syniad inni, Prif Weinidog, o ba mor 'fframweithiol' y mae eich deddfwriaeth sylfaenol yn debygol o fod o ran cymeriad? Rydym ni eisoes wedi gorfod ymdrin â chryn dipyn o Filiau diffygiol yn y Cynulliad hwn, felly rwy'n edrych am sicrwydd yr ymchwilir yn drwyadl i bob Bil ymlaen llaw gydag eglurder llwyr ar gysyniadau allweddol, canlyniadau disgwyliedig a gweithredu, gyda dim ond materion technegol gwirioneddol yn cael eu cyfeirio at is-ddeddfwriaeth. Roedd hi'n hurt fod yr isafswm pris alcohol ar goll o'r Bil isafswm pris alcohol, ac ni ddylai Aelodau fod yn barod i dderbyn deddfwriaeth mor annatblygedig o'r fath yn y dyfodol.
Gobeithio na welwn ni ddim byd tebyg yn y Bil cwricwlwm ac asesu. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhai pryderon gweddilliol o hyd ynglŷn â sut i droi'r maes profiad dysgu yn brofiad addysgu go iawn, felly byddai gennyf i ddiddordeb os oes gennych chi unrhyw fanylion am sut yr eir i'r afael â hynny yn y Bil hwnnw. Bwriad y ddeddfwriaeth hon yw galluogi newid enfawr sydd wedi'i anelu at ddiddymu neu o leiaf at wyrdroi'r hanes diweddar o dangyflawni, ac rydym ni'n cydnabod bod angen i rywbeth newid, ond ar y ddeddfwriaeth hon byddwn yn effro iawn i'r ffaith ei bod hi'n gwbl hanfodol peidio rhoi cyfle i gelu pethau neu i guddio. Felly, a fydd y Bil yn nodi sut y caiff ysgolion eu dwyn i gyfrif?
Ac yna, yn olaf, Prif Weinidog—a diolch, Llywydd—am y ddau Fil Addysg, ond am bob Bil, mewn gwirionedd: Biliau drafft. Rydym ni'n hoffi'r rheini yn y Cynulliad hwn, felly a wnewch chi gadarnhau mai'r peth arferol nawr yw inni dderbyn mesurau drafft i graffu arnyn nhw cyn cyflwyno papurau gwyrdd yn ffurfiol? Diolch.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Suzy Davies am hynna. Edrychaf ymlaen at weld y Blaid Geidwadol yma'n defnyddio un o'r dadleuon niferus y mae'n eu cael yn y fan yma yn ei hamser ei hun i gyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol y mae'n dweud y byddai'n ei chyflwyno pe bai mewn sefyllfa mor annhebygol erioed i wneud hynny yma yng Nghymru. Byddai'n ddadl fer, rwy'n deall hynny, ond edrychwn ymlaen at ei chael.
Rwy'n deall y pwyntiau y mae Suzy Davies wedi'u gwneud am y tensiwn rhwng yr angen i graffu'n briodol yn y fan yma a pha mor gyflym yr oeddem yn gorfod ymdrin â swmp y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit. Rhan o'r rhwystredigaeth oedd bod yn rhaid inni gyflwyno ein hofferynnau statudol ar ôl sefydlu offerynnau statudol Llywodraeth y DU, oherwydd yn aml roedd yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn dibynnu ar yr hyn yr oedden nhw yn ei wneud yn gyntaf, ac roedd yr oedi wrth gyflwyno eu hofferynnau statudol nhw yn cael effaith ganlyniadol ar yr hyn y byddem yn ei wneud yn y fan yma. Mae hynny'n bendant yn wir yng nghyswllt y Bil amaethyddiaeth. Pan oedd disgwyl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth, gyda mwy na dwy flynedd o dymor y Cynulliad hwn ar ôl, roeddem yn ffyddiog y byddem wedi cael popeth yn ei le yr oedd ei angen arnom ni i gyflwyno ein Bil amaethyddiaeth ein hunain. Yn sicr, nid yw hynny'n wir nawr. Efallai y byddwn yn gadael ar 31 Hydref—pwy a ŵyr? Rydym ni'n gobeithio na fyddwn ni, wrth gwrs, ond hyd yn oed os gwnawn ni hynny, mae'r amser a fyddai ar ôl yn y tymor Cynulliad hwn yn golygu nad yw'n ymarferol, fel yr oeddem ni'n credu y byddai hi cyn i gynllun gwreiddiol Llywodraeth y DU fynd i'r gwellt, pan oeddem yn credu y byddem yn gallu gwneud hynny.
Rwy'n cydnabod y tensiwn, wrth gwrs, rhwng yr hyn sy'n mynd ar wyneb y Bil a'r hyn yr ydym yn ei adael i is-ddeddfwriaeth. Ac mae'n siŵr y byddwn yn trafod hynny, y cydbwysedd, gyda'r holl Filiau a gyflwynir gennym ni. Ond mae'r enghraifft y dewisodd yr Aelod ddal sylw arni yn dangos pam nad yw rhai o'r honiadau a wneir am yr angen i bethau fod ar wyneb y Bil yn synhwyrol. Yn fy marn i, byddai wedi bod yn gwbl hurt i roi pris uned o alcohol ar wyneb y Bil, oherwydd bob tro y byddai angen i chi ei newid, byddai wedi bod angen deddfwriaeth sylfaenol o'r newydd. Dyna fyddai—[Torri ar draws.] Wel, mae David Melding yn dweud wrthyf, 'na, ni fyddai'. David, mae Suzy Davies yn gweiddi arnaf, 'byddai'. Felly, rwy'n credu efallai y dylech chi eich dau gael sgwrs yn gyntaf. Mae rhai pethau wedi eu cynnwys yn briodol mewn is-ddeddfwriaeth, y creffir arni ar lawr y Cynulliad hwn, a manylion o'r math hwnnw, pan fydd prisiau'n newid, yn anochel, dros amser—nid oedd ei roi ar wyneb y Bil, yn fy marn i, y math o fanylder sy'n perthyn i hynny. Mae'n iawn—[Torri ar draws.] Cyflwynir hynny'n briodol drwy reoleiddio, ac fe greffir ar reoleiddio'n briodol ar lawr y Cynulliad hwn. Felly, rwy'n gweld y bydd hon yn ddadl y byddwn yn parhau â hi gyda chyflwyno pob Bil. Ond rwyf eisiau cydnabod ei bod yn ddadl briodol, dadl briodol, ac rwy'n cydnabod y bydd yn rhaid i ni ei chael bob tro o ran yr hyn sy'n briodol ar wyneb y Bil a'r hyn sy'n cael ei adael yn briodol i reoleiddio, hyd yn oed pan fyddwn yn anghytuno ynglŷn â ble y gellid tynnu'r llinell.
O ran y pwynt a wnaeth yr Aelod ynglŷn ag atebolrwydd, rwy'n wirioneddol gredu bod hwn yn fater cynhennus arall yn y Cynulliad. Y diwylliant yr ydym eisiau ei greu yn ein gwasanaethau cyhoeddus yw un o gryn ymddiriedaeth, lle'r ydym ni'n cydnabod arbenigedd proffesiynol pobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau hyn, ac yn gweithio gyda nhw i greu'r canlyniadau yr ydym ni eisiau eu gweld. Does arnaf i ddim eisiau diwylliant o ddrwgdybiaeth, a dyna'r hyn y clywais yr Aelod yn ei amlinellu—mai ymdeimlad o atebolrwydd yw bob amser bod yn amheus o'r hyn y mae pobl yn ei wneud yn ein gwasanaethau cyhoeddus, gan deimlo bob amser llygaid Llywodraeth Cymru arnyn nhw yn gwylio popeth y maen nhw'n ei wneud. Nid dyna'r hyn rwy'n ei ystyried yn atebolrwydd, ac yn sicr nid wyf yn credu ei fod yn cynhyrchu gwasanaethau cyhoeddus da.
Ac, yn olaf, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gaf i groesawu'r ffaith dyw y Llywodraeth nawr ddim yn mynd i ddod â Bil amaeth i Gymru cyn yr etholiad nesaf? Mae'n sicr yn rhywbeth dwi a Phlaid Cymru wedi bod yn dadlau drosto fe yn yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Dwi yn teimlo y dylem ni fod yn aros i weld beth yw'r tirlun masnachu ôl-Brexit rŷm ni'n ei wynebu—hynny yw, pa fynediad fydd gan ffermwyr Cymru i farchnadoedd, a fydd y lefel o dariffau yn llethu'r diwydiant, ac, yn wir, faint o gyllid fydd ar gael trwy Lywodraeth Prydain, neu o Lywodraeth Prydain drwy Lywodraeth Cymru, i gefnogi'r sector yng Nghymru—cyn ein bod ni'n bwrw ymlaen i weithredu yn derfynol unrhyw argymhellion fydd yn dod allan o'r ymgynghoriad sydd newydd gychwyn. Dyw cyflwyno newidiadau fel hyn ddim yn rhywbeth rŷch chi'n ei wneud ar chwarae bach—rŷch chi'n ymwybodol o hynny. Unwaith mewn cenhedlaeth mae newidiadau mor bellgyrhaeddol yn gallu cael eu cyflwyno, ac felly mae'n bwysig ein bod ni'n troi pob carreg ac yn gwyntyllu pob opsiwn yn llawn cyn bwrw ymlaen. Roeddwn i wastad yn teimlo bod amserlen y Llywodraeth yn afrealistig, a dwi'n falch bod y Llywodraeth bellach wedi cydnabod hynny o safbwynt deddfwriaeth Gymreig.
Nawr, mae'r ymgynghoriad presennol, wrth gwrs, yn cau ddiwrnod cyn y gall Brexit fod yn digwydd, ar ddiwedd Hydref. Wedyn mae angen ystyried yr opsiynau a'r ymatebion. Wedyn, wrth gwrs, mae angen mynd ati i gynnal asesiadau effaith a modelu impact cynigion y Llywodraeth ar y sector. Wedyn, mae angen dylunio rhaglenni gyda'r sector, wedyn creu'r ddeddfwriaeth. Felly, roedd hi wastad yn uchelgeisiol i wneud hyn i gyd cyn 2021. Ond yr hyn liciwn i ei ofyn ynghylch hyn yn benodol yw: nawr bod mwy o amser, os liciwch chi, o fewn yr amserlen, gan dyw'r Ddeddf ei hunan ddim yn mynd i gael ei chyflwyno cyn yr etholiad nesaf, allwch chi gadarnhau i ni na fydd Llywodraeth Cymru yn cario allan yr impact assessments a'r modelu ar y sector tan ein bod ni'n gwybod sut beth fydd canlyniad Brexit? Oherwydd fe ddwedoch chi eich hun rhai munudau’n ôl ynglŷn â'r unforeseen consequences a'n bod ni'n mynd i diroedd rŷm ni ddim yn gallu dychmygu, efallai, ble fyddwn ni. Y realiti yw, os fyddwch chi wedi gwneud yr impact assessments a'r modelu cyn bod Brexit yn digwydd, wel, mae'n gynamserol, oherwydd dŷn ni ddim yn gwybod a fydd y cyd-destun yn adlewyrchu efallai lle fyddwn ni ar ôl Brexit.
Rwyf wedi drysu braidd o ran y ddeddfwriaeth egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu. Crybwyllwyd hyn yn gynharach. Rwyf braidd yn siomedig, rwy'n credu—na, rwyf yn siomedig—fod Llywodraeth Cymru'n ymddangos yn dawedog neu'n annhebygol o geisio cyflwyno deddfwriaeth benodol ar lywodraethu amgylcheddol i Gymru. Mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu efallai y buoch yn disgwyl i Lywodraeth y DU wneud hynny ar eich rhan, i ddechrau. Wrth gwrs, mae hynny'n mynd yn groes i'r hyn yr ydym ni wedi bod yn ei glywed gan y Llywodraeth hyd yn hyn, oherwydd rydym ni wedi cael gwybod bod y sefyllfa o ran polisi amgylcheddol yng Nghymru yn wahanol iawn, iawn, yn dra gwahanol—mae'r ddeddfwriaeth a'r dyletswyddau sydd gennym ni sy'n deillio o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn rhoi Cymru mewn lle tra gwahanol i weddill y DU, ac yn arbennig i Loegr, yn yr hyn sydd ei angen arnom ni o ran egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu ac mewn unrhyw ddulliau atebolrwydd ar ôl Brexit.
Nawr, wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cofio y cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei greu yn ateb pwrpasol yng Nghymru i anghenion Cymru. Mae eich Llywodraeth eich hun ar hyn o bryd yn ystyried cael arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru oherwydd yr ymwahanu polisi rhwng Cymru a Lloegr sy'n golygu bod angen corff Cymreig unigryw. Fy mhryder i yw bod atodi Cymru mewn modd ôl-weithredol i ddeddfwriaeth y DU ynglŷn â, neu gynigion ynglŷn â swyddfa gwarchod yr amgylchedd yn mynd yn groes, yn amlwg, i hynny. Gallaf ddeall y rhesymeg dros gael corff llywodraethu i'r DU gyfan, gan efelychu, i bob pwrpas, yr hyn sydd gennym ni eisoes ar lefel yr UE—ac mae gennyf rywbeth i'w ddweud am hynny hefyd, fel y gallwch chi ddychmygu—ond nid wyf yn argyhoeddedig y byddai'r math hwnnw o ymagwedd yn seiliedig ar bartneriaeth gydradd ac, wrth gwrs, byddai'n golygu bod angen i bob gweinyddiaeth ddatganoledig ddod ynghyd i drafod. Ac, o'm dealltwriaeth i, nid oes awydd am hynny yn yr Alban ar hyn o bryd. Felly, mae'n debygol y bydd gennym ni gorff ar gyfer Cymru a Lloegr yn y diwedd, ac mae RSPB Cymru a sefydliadau eraill wedi ei gwneud hi'n glir mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Amgylchedd mai dyna fyddai'r sefyllfa waethaf i fod ynddi, oherwydd, fel y gwelsom ni mewn cyd-destunau eraill, eu pryder nhw yw y byddem yn debygol o weld canolbwyntio gwaith ble mae'r mwyaf o adnoddau ac, yn eu geiriau nhw, mae hynny'n fwyaf tebygol o fod yn Lloegr. Felly, a ydych chi'n cydnabod y risg honno, pe baem ni'n cael corff i Gymru a Lloegr yn y diwedd? Ac a fydd unrhyw drefniant hwyr gyda Lloegr—oherwydd, wrth gwrs, mae deddfwriaeth y DU eisoes ar ei hynt drwy San Steffan—yn parchu datganoli a chyfraith bresennol Cymru mewn difrif, ac onid oes peryg y cawn ni yn y pen draw, felly, y ddarpariaeth fwyaf sylfaenol bosib?
Wel, diolch i Llyr Huws Gruffydd am beth ddywedodd e am y Bil amaeth. Wrth gwrs, roeddwn ni eisiau bwrw ymlaen gyda Bil amaeth yn y tymor hwn. Y broblem yw nid beth roeddwn ni eisiau ei wneud; y broblem yw gydag amserlen Brexit ei hunan. Yn y cyd-destun newydd, dwi'n cytuno â beth roedd Llyr yn ei ddweud: does dim digon o wybodaeth gyda ni nawr i ddeddfu yn y tymor hwn, a fydd dim digon o wybodaeth gyda ni hefyd yn y cyd-destun Brexit newydd. Dyna pam rŷn ni wedi gwneud y penderfyniad i ddod ymlaen â'r Papur Gwyn. Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n mynd i weithio'n galed gyda'r sector i dynnu pethau i mewn o'r sector cyn diwedd mis Hydref ac ailweithio gyda nhw ar ôl diwedd mis Hydref hefyd, pan fyddwn ni wedi tynnu popeth i mewn.
Nid yw'n fater o gamu'n ôl o'r uchelgais, Llywydd, oherwydd rydym ni o ddifrif ynglŷn â'n huchelgais ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru, ac mae'r newidiadau yr ydym ni eisiau eu cyflwyno yn fy marn i yn cyfateb i rai'r bobl uchelgeisiol hynny yn y sector. Ni allwn ni wneud asesiadau effaith heb wybod beth yw'r gyllideb. Mae'r Aelod yn gywir ynglŷn â hynny, ac ni fyddwn yn bwrw ymlaen â nhw nes byddwn yn fwy clir ynglŷn â'r gyllideb yr ydym ni'n gweithio ynddi.
O ran y diffygion yn yr egwyddorion amgylcheddol a llywodraethu, am eiliad daeth geiriau Mark Isherwood yn ôl ataf: 'sut ydych chi'n ateb 'un dryslyd' o'r gogledd, sydd wedi dweud wrthyf—?' Wel, ceisiaf egluro unrhyw ddryswch drwy fod yn glir: rydym ni yn bwriadu deddfu yn y maes hwn yma, ydym. Nid ydym yn credu y byddwn ni'n gallu dibynnu'n llwyr ar ddeddfwriaeth mewn mannau eraill. Ni fyddai'n dderbyniol i ni nac i Lywodraeth yr Alban gael corff trosolwg yn Lloegr yn gweithredu ar lefel y DU gyfan. Rydym ni'n dal i drafod yn helaeth gyda'r holl weinyddiaethau, nid dim ond Llywodraeth y DU, ond Llywodraeth yr Alban hefyd, ynglŷn â lle bydd y bylchau'n dod i'r amlwg o'r diwedd mewn perthynas â llywodraethu ac egwyddorion. Dyna pam nad oedd hi'n bosib y prynhawn yma, Llywydd, i fod yn sicr ynghylch pryd y byddai'r ddeddfwriaeth yn digwydd. Ond, os nad oedd yn glir yn yr hyn y dywedais ein bod yn bwriadu deddfu yn ei gylch, rwy'n hapus i gadarnhau hynny wrth ateb cwestiwn Llyr.
Un cyfraniad cryno olaf—Alun Davies.
Rydych chi'n garedig iawn, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad y prynhawn yma, ac rwyf eisiau croesawu'r datganiad hwnnw, yn enwedig y pwyslais ar gydraddoldeb, sydd wedi bod yn rhan o hynny i gyd.
Mae'n bwysig, rwy'n credu, pan fydd San Steffan yn penderfynu a all hyd yn oed eistedd neu beidio yn yr hydref, pa un a ganiateir i Aelodau Seneddol eistedd yn eu Siambr eu hunain a thrin a thrafod y materion sy'n ein hwynebu yn Deyrnas Unedig, ein bod ni yn y Senedd hon yn canolbwyntio ar sut yr ydym ni'n mynd i wella bywydau'r bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli.
Rwyf eisiau croesawu'n arbennig y datganiad am ddeddfwriaeth ar reoleiddio gwasanaethau bysiau. Mae hyn yn rhywbeth y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol fy mod wedi ei gyflwyno i'r Siambr ar sawl achlysur, ac sy'n cael effaith sylweddol ar bobl Blaenau Gwent, ac mae'n rhywbeth a gaiff groeso cynnes iawn ym mhob rhan o Gymru.
Rwyf hefyd eisiau croesawu'r cadarnhad bod y Llywodraeth yn mynd rhagddo i ddeddfu i ostwng y fasnachfraint mewn etholiadau llywodraeth leol. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y mae cefnogaeth gref iawn iddo drwy'r Siambr gyfan. Gobeithio y bydd y Prif Weinidog hefyd yn gallu cadarnhau y caiff y newid hwnnw yn y fasnachfraint hefyd yn ei ymestyn i garcharorion ar ddedfrydau tymor byr o leiaf.
Rwyf hefyd eisiau croesawu'r diwygiadau radical parhaus i addysg. Mae hyn yn rhywbeth a fydd, unwaith eto, yn cael croeso cynnes ym Mlaenau Gwent, ac mae'n rhywbeth rwy'n gwybod ei fod yn rhoi nod o radicaliaeth ar y Llywodraeth hon.
Mae rhai meysydd, Prif Weinidog, lle mae gennyf rai pryderon. Byddwch yn ymwybodol fy mod yn bryderus iawn bod y Llywodraeth bellach wedi penderfynu peidio â pharhau â'r holl ddeddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg. Os ydym ni o ddifrif ynglŷn â chydraddoldeb, yna mae'n amlwg bod bwlch amlwg mewn deddfwriaeth gydraddoldeb i'r rheini ohonom ni sy'n defnyddio'r Gymraeg. Nid wyf yn deall sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu cyflawni ei hamcan o filiwn o siaradwyr Cymraeg heb fframwaith statudol i weithredu oddi mewn iddo. Os na cheir hynny cyn yr etholiad nesaf, rwy'n pryderu o ddifrif a fydd modd cyflawni'r targed hwnnw.
Yn ail, ni fydd y Prif Weinidog yn synnu o glywed fy mod yn hynod siomedig nad yw'n bwrw ymlaen i ad-drefnu llywodraeth leol. Roedd hwn yn un o ymrwymiadau maniffesto Llafur Cymru. Cafodd pob aelod o blaid Lafur Cymru yn y Siambr hon ei ethol, fel finnau, gydag ymrwymiad cadarn i hyn yn rhan o'n maniffesto. Felly, mae cefnu ar yr ymrwymiad maniffesto hwnnw yn rhywbeth yr wyf yn siomedig iawn yn ei gylch. Rwyf eisiau gweld—[Torri ar draws.] Rwyf eisiau gweld—. Pan soniwn am gydraddoldeb, rwyf eisiau gweld cydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau hefyd. Rydym ar fin clywed datganiad gan y Gweinidog cyllid ynglŷn â gwariant cyhoeddus yn y dyfodol. Gwyddom na allwn ni barhau â strwythur llywodraethu yng Nghymru a roddwyd ar waith gan John Redwood. Felly, rwy'n siomedig ynghylch hynny.
Fe hoffwn i gwblhau fy nghwestiynau i chi, Prif Weinidog, drwy ailadrodd rhai sylwadau a wnaed eisoes am y meysydd hynny o ddeddfwriaeth y gallai ymadael â'r UE effeithio arnyn nhw. Rwy'n cydnabod ac yn derbyn y sicrwydd a roddwyd ynglŷn â meysydd megis pysgodfeydd, amaethyddiaeth a'r amgylchedd. Fodd bynnag, byddwn yn bryderus iawn pe bai San Steffan yn deddfu ynglŷn ag unrhyw rai o'r meysydd hyn. Nid yw hyn yn fater o gyfleustra deddfwriaethol nac yn fater sy'n gysylltiedig ag adnoddau; mae'n hanfodol inni fod deddfwriaeth gadarn i Gymru ar waith, y deddfir ynglŷn â nhw yn y fan yma, a fydd yn galluogi naill ai'r Cynulliad hwn neu Gynulliad yn y dyfodol i sicrhau bod y mesurau a roddir ar waith yn cael eu cefnogi gan bobl Cymru, a'r bobl sy'n eistedd yma yn eu cynrychioli fydd yn deddfu ynglŷn â nhw.
Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Byddaf yn ymdrin â nhw o chwith, os caf i. Rwy'n credu ei fod wedi disgrifio dull Llywodraeth Cymru o weithredu'n gwbl gywir mewn cysylltiad â deddfwriaeth yr UE. Bydd rhai adegau pan fydd rhaid inni ddibynnu, am resymau ymarferol llwyr, mewn modd trosiannol ar bwerau a grëir yn neddfwriaeth y DU, ond nid yw hynny ond yn llwybr at gyflwyno deddfwriaeth ar lawr y Cynulliad hwn, nid yn unig o ran amaethyddiaeth, ond o ran pysgodfeydd hefyd. O ran pysgodfeydd yn arbennig, mae'n bwysig aros hyd nes y caiff deddfwriaeth y DU ei rhoi ar waith, oherwydd bydd yn ymestyn pwerau'r Cynulliad hwn yn sylweddol iawn o ran pysgodfeydd, a byddwn eisiau cyflwyno Bil pysgodfeydd a fydd yn caniatáu i'r Cynulliad ystyried a deddfu mewn ystod o bwerau newydd a fydd gennym ni. Ond dyna'n union yw ein bwriad.
Rwy'n clywed, wrth gwrs, yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am ad-drefnu llywodraeth leol. Mae ei farn ef yn hysbys iawn ar lawr y Cynulliad, er, byddai'n rhaid imi ddweud, rwy'n ofni, efallai nad yw'r farn honno mor gyffredin ag y byddai wedi gobeithio ar un adeg. Ni fydd ein Bil ni yn gadael llywodraeth leol gyda dulliau llywodraethu John Redwood. Bydd yn cynnig ffyrdd newydd a radical i awdurdodau lleol allu ymarfer pwerau newydd ac fe fyddan nhw'n gallu gweithredu gyda'i gilydd mewn ffordd statudol i gyflawni swyddogaethau ar y sail ranbarthol honno.
O ran yr iaith Gymraeg, mae gennym, fel y gŵyr, chwe chyfres o reoliadau sy'n cwmpasu 120 o wahanol gyrff eisoes, ac mae'r safonau a gyflwynir ynddynt, a'r gydymffurfiaeth â'r rhain, yn cael eu monitro gan Gomisiynydd y Gymraeg. Nid y neges a glywaf i, wrth siarad â phobl, yw bod angen i'r safonau fod yn brif ganolbwynt ein sylw ni, ond yn hytrach sut y cânt eu gweithredu a'u defnyddio—y defnydd o wasanaethau gan bobl sy'n siarad Cymraeg, drwy eu dewis iaith, ac annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd. Nawr, wrth gyhoeddi'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Bil y Gymraeg, cyhoeddodd Eluned Morgan y byddai'r rhaglen o gyflwyno safonau ar gyfer cyrff newydd yn ailgychwyn, a'r cam nesaf ar y daith honno fydd cyflwyno safonau newydd ar gyfer rheoleiddwyr gofal iechyd ac ar gyfer y cwmnïau dŵr yng Nghymru. Felly, yn sicr, nid mater o wneud dim byd ynglŷn â'r Gymraeg yw hyn. Ein hymrwymiad ni, a gwn fod yr Aelod yn daer o'i blaid hefyd, yw cyflawni ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Diolch iddo am yr hyn a ddywedodd am natur radical ein diwygiadau addysg, am ein penderfyniad i fwrw ati i ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 oed ac, yn wir, i bobl o rannau eraill o'r byd sy'n byw yn ardaloedd ein hawdurdodau lleol ac sydd â rhan yn nyfodol yr awdurdodau lleol hynny.
Mae'r Aelod yn llygad ei le i nodi gwasanaethau bysiau yn fater o gydraddoldeb. Mae'n wir; fe wyddom, pan soniwn am y gwasanaethau trên ar lawr y Cynulliad, y ceir llawer o gyffro yn aml ynglŷn â hynny. Nid yw'r gwasanaethau bysiau yn denu'r un math o sylw gan y cyhoedd, ac eto i gyd, mae llawer mwy o bobl yn defnyddio'r bysiau, yn enwedig y bobl yr oedd ef yn sôn amdanyn nhw yn ei gyfraniad. Dyna pam yr ydym wedi penderfynu canolbwyntio yn ddiamwys ar reoleiddio'r bysiau yn ystod y tymor Cynulliad hwn, oherwydd, fel y dywedodd Alun Davies, dyma'r edefyn sy'n rhedeg drwy'r rhaglen ddeddfwriaethol. Mae'n rhoi cydraddoldeb ar y blaen, yn ganolog, ac wrth wraidd popeth y mae'r Llywodraeth hon yn dymuno ei wneud yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.