– Senedd Cymru am 3:29 pm ar 15 Hydref 2019.
Rydym yn symud at eitem 5 nawr, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar bolisi cyfansoddiadol, ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Carwn wneud datganiad ar bolisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru. Ar ddydd Iau 10 Hydref, fe gyhoeddwyd ein dogfen bolisi newydd 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y Deyrnas Unedig'.
Pan ddaeth y Prif Weinidog newydd i Gaerdydd ym mis Gorffennaf, dywedais wrtho fod Brexit yn bygwth dyfodol yr undeb. Dywedais fod yr undeb dan fygythiad mwy difrifol nag ar unrhyw adeg yn fy mywyd i. Ond, o ran ymateb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae dim ond tawelwch. Dyma pam yr ydym ni'n cyhoeddi'r ddogfen newydd hon. Os nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig i barod i gymryd hwn o ddifri, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud. Rydym ni'n credu mewn Cymru gref o fewn Deyrnas Unedig gref. Felly, rydym ni'n galw am ddiwygiad sylfaenol, sef newid sefydliadau, prosesau a diwylliant y Deyrnas Unedig.
Ac nid oes unrhyw amheuaeth yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, fod Brexit yn fygythiad sylfaenol i lywodraethu'r Deyrnas Unedig. Ond prin iawn yw'r dystiolaeth fod Llywodraeth y DU ei hun yn rhoi unrhyw ystyriaeth ddifrifol i hynny. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn amlinellu ein cynigion ni ar gyfer y diwygio sylfaenol sy'n angenrheidiol.
Rydym yn cynnig gweddnewidiad sylfaenol i'r cysyniad o sofraniaeth yn y Deyrnas Unedig; setliad cyfansoddiadol di-syfl, gyda diwygiad o gonfensiwn Sewel i sicrhau llawer mwy o eglurder yn y berthynas rhwng Senedd y DU a'r deddfwrfeydd datganoledig. Ac rydym yn galw am ddiwygio Tŷ uwch y Senedd, gydag aelodaeth, a gaiff ei hethol yn bennaf neu'n gyfan gwbl, sy'n ystyried cymeriad amlwladol yr Undeb. O ran y gweinyddiaethau datganoledig, rydym yn dadlau y dylai'r ffordd y dyrennir cyfrifoldebau llywodraethol yn y DU fod yn seiliedig ar egwyddor sybsidiaredd; y dylai'r berthynas rhwng y pedair Llywodraeth fod yn seiliedig ar bartneriaeth gydradd mewn ysbryd o barch cyffredin; a bod yn rhaid diwygio'r mecanweithiau rhynglywodraethol presennol yn gyfan gwbl, gan gynnwys gwella gweithdrefnau i ddatrys anghydfod a chydraddoldeb o ran cyfranogi yn y ffordd y mae'r mecanweithiau hynny'n gweithio. Rydym yn galw am gynnwys gweinyddiaethau datganoledig wrth lunio polisi Llywodraeth y DU ar gysylltiadau rhyngwladol a masnach, ac am gyllido teg ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Dirprwy Lywydd, mae'r cynigion hyn i gyd yn seiliedig ar y cysyniad o'r Deyrnas Unedig fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd sy'n cydweithio i hyrwyddo ein buddiannau cyffredin. Felly, ein hystyriaeth sylfaenol ni yw'r ffordd y dylid llywodraethu'r DU gyfan, yn seiliedig ar gydnabod ein cyd-ddibyniaeth. Mae hynny'n gofyn am rywfaint o lywodraethu ar y cyd. Ond mae'n rhaid diwygio'r trefniadau yn sylfaenol ar gyfer y cyd-lywodraethu hwnnw er mwyn gallu gwasanaethu ein dinasyddion yn dda. Ac mae'n rhaid inni roi'r gorau i wneud addasiadau ad hoc i setliadau unigol heb ystyried cyd-destun ehangach y DU.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn gyfnod o chwalu confensiynau a dealltwriaethau cyfansoddiadol traddodiadol. Felly, yn y ddogfen hon, rydym yn ailadrodd ein galwad ni am gonfensiwn cyfansoddiadol i fynd i'r afael â'r materion hyn, gydag ystyriaeth benodol o'r berthynas yn y dyfodol rhwng y sefydliadau datganoledig ar y naill law a San Steffan a Whitehall ar y llaw arall. Ni ddylai confensiwn o'r fath, yn ein barn ni, gael ei gyfyngu i'r rhai sy'n gweithio o fewn y systemau hyn eisoes. Bydd yn rhaid ei ehangu a'i lywio gan lais torfol y dinasyddion hefyd. A byddai angen i gonfensiwn o'r fath ystyried, yn y cyfnod hwn o hollt cyfansoddiadol posibl, ai'r peth iawn fyddai symud nawr tuag at gyfansoddiad ysgrifenedig neu un sydd wedi ei godio ar gyfer y Deyrnas Unedig.
Felly, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n rhoi agenda uchelgeisiol ar y bwrdd. Os yw'r Deyrnas Unedig am oroesi'r heriau a godir gan y ddadl ynghylch Brexit, mae hon yn ddadl na allwn ni ei hosgoi. Rwy'n gwybod, yma yn y Senedd, fod yna Aelodau sydd eisoes yn cydnabod difrifoldeb yr her hon a pha mor ddifrifol yw'r angen i fynd i'r afael â hyn. Ac wrth gwrs, rwy'n croesawu clywed barn yr holl Aelodau ynglŷn â'r materion hyn.
Ond, Llywydd, gadewch imi wneud y pwynt olaf hwn: mae fformat y ddogfen hon yn bwysig. Rydym ni'n awyddus i ysgogi dadl frys, ond nid ydym yn honni bod yr atebion i gyd yn ein meddiant. Felly, yr hyn yr ydym ni wedi ei gyflwyno yw cyfres o gynigion, ac rydym yn awyddus i Lywodraeth y DU, ac i eraill wrth gwrs, ymgymryd â'r gwaith o ymdrin â nhw. Gwir ddiben gwleidyddiaeth yw dadlau ynghylch cynigion cystadleuol a gwahanol safbwyntiau am ein dyfodol ni. Yn y ddogfen hon, fe ddywedwn ni, 'Dyma ein fersiwn ni o sut y dylid achub y dyfodol hwnnw.' Ac i eraill yma yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fe ddywedwn ni, 'Gadewch inni ddechrau ar y ddadl honno.' Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Mae Prydain bellach yng nghanol proses gyfansoddiadol ddigynsail, a bydd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn newid y berthynas rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Wrth i Brydain fynd rhagddi yn y broses hon, mae'r cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng pob rhan o'r DU yn gwbl dyngedfennol o ran cael sefydlogrwydd cyfansoddiadol i'r Undeb. Mae'n amlwg bod adroddiad Llywodraeth Cymru, 'Diwygio ein Hundeb', yn galw am ddiwygio'r mecanweithiau rhynglywodraethol presennol o'r bôn i'r brig, gan gynnwys memoranda cyd-ddealltwriaeth, i ateb yr heriau newydd sy'n ymwneud â'r byd wedi Brexit. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i'r Prif Weinidog yw holi pa drafodaethau rhynglywodraethol uniongyrchol sydd wedi bod rhyngddo ef a'i gymheiriaid ledled y DU ar y mater penodol hwn, gan fod cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol yn hanfodol i sicrhau bod cymwyseddau'r Undeb Ewropeaidd yn cael eu trosglwyddo heb drafferthion i'r gweinyddiaethau datganoledig.
Mae datganiad heddiw ar adroddiad 'Diwygio ein Hundeb' Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn gywir y dylid ystyried yr egwyddorion sy'n sail i ddatganoli yn sylfaenol i gyfansoddiad y DU. Ar hyn o bryd, mae gan Lywodraeth y DU gymhwysedd deddfwriaethol di-ben-draw ledled y DU, ac rwy'n credu bod cryn sylwedd i'r ddadl y gellid cyflwyno setliad newydd i sicrhau nad yw Llywodraethau'r DU yn deddfu yn y dyfodol ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Wrth amlinellu'r achos hwn, mae'r Prif Weinidog wedi sôn eto am gysyniad sybsidiaredd, gan gydnabod sofraniaeth y bobl ym mhob rhan o'r DU, ac roedd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi o blaid y cysyniad hwnnw hefyd yn ei ymchwiliad i'r undeb a datganoli. Serch hynny, daeth yr adroddiad hwnnw i'r casgliad hefyd mai dim ond i genedl benodol y dylid datganoli pwerau, pan fyddo hynny er lles pobl y genedl honno, heb amharu ar yr undeb yn ei gyfanrwydd. Felly, yng ngolau hyn, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym beth yw ei farn ef ynglŷn â sut y gellir rhoi prawf effeithiol ar egwyddor sybsidiaredd wrth geisio datganoli pwerau ymhellach, fel na all Llywodraethau Cymru yn y dyfodol, o unrhyw liw, geisio datganoli pwerau mewn unrhyw achos sy'n ddymunol yn eu golwg, ar sail eu hewyllys gwleidyddol eu hunain?
Mae pryderon hefyd ynghylch datblygu fframweithiau cyffredin wrth i Brydain ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae toreth o drafodaethau i'w cael eto ynghylch natur rhai o'r fframweithiau hynny—er enghraifft, a fyddan nhw'n cael eu llunio ar ffurf deddfwriaeth neu efallai drwy femorandwm dealltwriaeth. Efallai y gallai'r Prif Weinidog, yn ei ymateb, fanteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â'n sefyllfa ni o ran datblygu fframweithiau cyffredin.
Wrth gwrs, ni fydd unrhyw drafodaeth ar ddiwygio cyfansoddiadol wedi ei chwblhau heb roi ystyriaeth i gyfrifoldebau ariannol y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod cyfrifoldeb cyllidol wedi dod yn rhan gynyddol bwysig o'r newidiadau diweddar i'r setliadau datganoli ledled y Deyrnas Unedig. Ac rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, wedi galw ers amser am ddiwygio ariannol a fyddai'n gweld cydbwysedd tecach o ran pŵer ac adnoddau ledled Prydain. Ac felly, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn argymell disodli fformiwla Barnett gyda system sy'n seiliedig ar anghenion. Mae'r Prif Weinidog yn egluro ei fod ef o'r farn na ellir diogelu cyfreithlondeb fframwaith cyllidol y DU yn iawn heb gytuno arno ar y cyd a'i sicrhau a'i weithredu'n annibynnol. Ac efallai y gwnaiff y Prif Weinidog roi rhywfaint o wybodaeth sy'n fwy penodol ynglŷn â'r cynnig hwn.
Wrth wraidd unrhyw ddiwygio cyfansoddiadol mae'n rhaid cael ymrwymiad gan bob deddfwrfa, ledled y DU, er mwyn parchu'r setliad datganoli. Rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog y dylai'r berthynas rhwng pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn seiliedig ar barch y naill at y llall, ac yn sicr fe allaf weld rhinweddau mewn confensiwn cyfansoddiadol fel cyfrwng i ddwyn datblygiadau cyfansoddiadol ymlaen yn y dyfodol. Wrth gwrs, bydd yn rhaid i Gymru gael sedd wrth y bwrdd pan ddatblygir polisi cyfansoddiadol newydd, ond mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad yw unrhyw drefn gyfansoddiadol newydd yn achosi cyfaddawd o ran y setliad datganoli ac, yn wir, o ran undeb y Deyrnas Unedig. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym sut y mae ef yn rhagweld y byddai'r confensiwn newydd hwn yn gweithio? A pha mor hyderus yw ef y gall y setliad datganoli gael ei ddiogelu gan y cyfrwng cyfansoddiadol newydd hwn?
Wrth i ddyfodol cyfansoddiadol Prydain ddechrau newid yn sgil tynnu'n ôl o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach nag erioed i bobl y DU fod â rhan lawn yn y drafodaeth am strwythur y DU. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod pobl, ar y cyfan, yn poeni mwy am ansawdd eu gwasanaethau cyhoeddus ac atebolrwydd eu llywodraethau, ac felly mae'n rhaid i ni, wrth eu cynrychioli nhw, wneud mwy i ymgysylltu â phobl Cymru ynglŷn â'r dyfodol. Mae'r Prif Weinidog yn sôn am roi llais i'r dinesydd yn y broses hon, ac felly efallai y gallai ddweud ychydig mwy wrthym am gynlluniau ymgynghori ac ymgysylltu Llywodraeth Cymru gyda phobl Cymru ynglŷn â'u barn nhw am faterion o ran sefyllfa gyfansoddiadol ein gwlad yn y dyfodol.
Felly, gyda hynny, Llywydd, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn unfryd ag ymrwymiad y Prif Weinidog i weld Cymru yn ffynnu mewn Teyrnas Unedig gadarn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a llywodraethau ledled y DU yn adeiladol ar gyfer parchu'r setliad datganoli ac amddiffyn Undeb y Deyrnas Unedig i'r dyfodol.
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Paul Davies am y cyfraniad meddylgar ac adeiladol hwnnw, a llawer o bwyntiau y credaf ein bod ni'n cytuno arnyn nhw i ryw raddau? Ceisiaf ymdrin â'i gwestiynau orau y gallaf i. Fe ofynnodd am adroddiad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran trafodaethau ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Ac mae'n ddrwg gennyf i ddechrau gyda nodyn sy'n llai na chadarnhaol, ond fe fydd yn gwybod y cytunwyd ar adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol mewn cyfarfod llawn o gyd-bwyllgor y Gweinidogion 18 mis yn ôl—y cytunwyd arno rhwng fy rhagflaenydd i, Carwyn Jones, a Mrs May y Prif Weinidog a Nicola Sturgeon. Cafodd cyfrifoldebau eu rhannu ymysg y gwledydd i arwain ar chwe gwahanol thema yn yr adolygiad hwnnw, ac eto ni chafodd yr adolygiad hwnnw byth ei orffen. Heb unrhyw gyfarfod llawn o gydbwyllgor y Gweinidogion yn y dyddiadur, nid oes unrhyw fecanwaith i adrodd ar y cynnydd sydd wedi bod, hyd yn oed. Ac, a bod yn deg, rwy'n clywed gan swyddogion fod rhywfaint o gynnydd wedi bod ar rai o'r meysydd hynny—y prif feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn arwain arnyn nhw, a rhywfaint o gynnydd mwy diweddar o ran dulliau annibynnol o ddatrys anghydfodau, ac fe fyddai hwnnw'n gam gwirioneddol ymlaen, pe baem ni'n gallu gwneud cynnydd yn y maes hwnnw. Ond mae'r cynnydd yn ofnadwy o araf. Nid oes digon o ymdeimlad o frys, sy'n angenrheidiol, o gofio'r ffaith ein bod ni efallai ar drothwy ymadael â'r Undeb Ewropeaidd o fewn ychydig ddyddiau. Ac mae hynny'n adlewyrchiad o'r rhwystredigaeth sydd gennym ni pan ydych chi hyd yn oed yn cael cytundeb â Llywodraeth y DU bod angen gwneud rhyw waith, fod hynny'n ymestyn i dragwyddoldeb cyn ichi gael unrhyw ymdeimlad o ddatrysiad.
Llywydd, roeddwn i'n falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid am allu i ddeddfu sy'n gorgyffwrdd. Oherwydd wrth galon rhai o'r cynigion yn ein dogfen ni, ceir gwahanu'r cyfrifoldebau hynny a chilio'n ôl oddi wrth y caniatâd yn y setliad presennol i Senedd y DU fod â'r gallu i ddiystyru cymhwysedd deddfwriaethol a chyfrifoldeb ac, yn wir, y broses o wneud penderfyniadau yn y cyrff datganoledig.
Rydym wedi cyflwyno cynigion ar gyfer confensiwn Sewel. Mae Sewel i fod yn amddiffyniad rhag deddfu gan Lywodraeth y DU yn fympwyol mewn meysydd datganoledig. Ond fel y dywedodd y Goruchaf Lys yn achos Miller, confensiwn cwbl wleidyddol yw hwn ac mae angen ei godeiddio o leiaf, yn y ffordd a nodir gennym ni. Oherwydd, ar hyn o bryd, y ffordd y mae Sewel yn gweithio yw mai Llywodraeth y DU yn unig sydd i bennu pryd y penderfynir bod cyfres o amgylchiadau 'heb fod yn arferol'. Y nhw sy'n gwneud y penderfyniad hwnnw; y nhw sy'n penderfynu sut i weithredu. Nid oes raid iddyn nhw adrodd yn ôl ar sut y bu iddyn nhw ddod i'r casgliad hwnnw, ac rydym ni wedi nodi ffyrdd y gellid codeiddio Sewel. Gellid ei nodi mewn cyfres o reolau a fyddai'n bosibl o leiaf i'w herio gan rai sydd o farn arall. Rydym ni wedi cynnig y byddai gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi gyfrifoldebau ar wahân i gael adroddiadau ar weithrediad Sewel. A phe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu ceisio deddfu mewn maes a ddatganolwyd i ni, yn groes i ewyllys y Cynulliad, fe fyddai gennym ni, neu'r Cynulliad Cenedlaethol, yn hytrach, y gallu i gyflwyno sylwadau i Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi i gyflwyno'r safbwynt arall. Credaf fod honno'n ffordd o ddiwygio'r sefyllfa bresennol, ond rydym yn mynd ymhellach na hynny yn y papur ac yn cynnig dyfodol lle bydd gwahanu eglur yn y cyfrifoldebau a byddai gallu Llywodraeth y DU i ymyrryd yn cael ei ddisodli.
Rwy'n cytuno'n fawr iawn, Llywydd, â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am ddatganoli at ddiben penodol. Pan fyddwn ni'n penderfynu ar egwyddorion sybsidiaredd, lle y dylai pwerau orwedd, fe ddylai hynny ddigwydd oherwydd bod rhesymeg y tu ôl i hynny. Ceir thema yn y papur y bydd ef wedi ei weld lle mae rhai o'r ffyrdd y caiff pwerau eu gwasgaru ledled y Deyrnas Unedig yn gwbl ddiffygiol o ran cydlyniant. Ac felly, rydym ni'n dadlau o blaid yr ymdeimlad hwnnw o resymoldeb yn y ffordd y caiff pwerau eu dosbarthu, a phwerau yn cael eu dosbarthu am fod yna reswm iddynt gael eu lleoli yno.
O ran cyfrifoldebau cyllidol, rydym yn dadlau o blaid fframwaith cyllidol i'r DU; fe wnaethom ni sôn am hynny'n gynharach y prynhawn yma. Ond pe byddai fframwaith cyllidol i'r DU, yna fe fydd yn rhaid i'r broses o'i weithredu gael ei hategu gan fecanwaith datrys anghydfod sy'n annibynnol ar unrhyw un o'r pedair plaid. Felly, nid ydym yn gofyn am hynny i fod yn ein dwylo ni, ond ni ddylai fod yn nwylo'r Trysorlys ychwaith, ac ar hyn o bryd mae'n gyfan gwbl yn nwylo'r Trysorlys—sef y barnwr a'r rheithgor a'r dienyddiwr: mae'r holl rannau'n cael eu chwarae gan yr un chwaraewr. Nawr, rydym yn nodi ffyrdd y gellid cyflwyno lefel newydd o annibyniaeth i hynny.
O ran sut y gellid diogelu setliad newydd, wel, fe fyddwn ni'n edrych gyda diddordeb ar adroddiad Arglwydd Andrew Dunlop, y gwnaeth y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, ofyn iddo wneud darn o waith ynglŷn â gweithrediad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Fe wnes i gyfarfod ag Arglwydd Dunlop yn y fan hon ar 17 Medi, a mwynhau fy sgwrs gydag ef. Mae'n bwriadu cyflwyno adroddiad ym mis Tachwedd. Byddwn ni'n edrych ar yr adroddiad hwnnw i weld a oes modd y gellir gweld system ddi-syfl o ddatganoli, sydd wedi'i diogelu'n wirioneddol rhag difrod gan eraill, yn cael ei rhoi ar y llyfr statud.
Ac yn olaf, o ran ymgysylltu â dinasyddion, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud mai confensiwn i'r DU gyfan yw'r math o gonfensiwn yr ydym ni'n ei awgrymu yn y cynnig terfynol yn y papur. Nid confensiwn Cymreig yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru neu ddinasyddion Cymru yn unig mohono. Mae'n rhaid iddo fod yn gonfensiwn sy'n cynnwys y Deyrnas Unedig gyfan—y pedair rhan gyfansoddol—lle byddai ymgysylltu â dinasyddion yn digwydd ledled y Deyrnas Unedig. Byddem yn dymuno chwarae ein rhan ni yma, ond fe fyddai'n dibynnu ar eraill y tu hwnt i Gymru.
Prif Weinidog, diolch i chi am yr 20 cynnig hyn ar ddiwygio'r Undeb, sy'n ddiddorol i'w darllen, fel y 95 pwnc a hoeliwyd gan Luther ar ddrws yr Eglwys honno yn Wittenberg flynyddoedd maith yn ôl. Fe fyddem ni'n cytuno â llawer o'r beirniadaethau o'r undeb, sydd ymhlyg neu'n eglur; rydym ni'n cytuno â llawer o'r diagnosis. Rydym ni'n anghytuno, wrth gwrs, ar y datrysiad. Nawr, fel y daeth Martin Luther hyd yn oed i'r casgliad yn y diwedd, rydym ni'n credu bod y camweithredu, a ddatgelir yma yn nhudalennau'r ddogfen hon, wedi eu gwreiddio mor ddwfn fel bod testun y cynigion, mewn gwirionedd, y tu hwnt i'w ddiwygio. Mae'n rhaid inni ddechrau o'r newydd.
Nawr, rydych chi'n dyfynnu, rwy'n meddwl, yn eich rhagair i'r ddogfen y llinell enwog o The Leopard gan Lampedusa:
'Os ydym yn dymuno i bethau aros fel y maen nhw, fe fydd yn rhaid i bethau newid.'
Mae'r llinell honno mewn gwirionedd yn cael ei llefaru gan Tancredi, sef uchelwr ifanc tlawd sy'n ymuno â'r gweriniaethwr radicalaidd Garibaldi—Jeremy Corbyn ei ddydd, o bosibl—yn ei wrthryfel yn erbyn brenhinoedd y Bourbon a oedd yn teyrnasu yn Sisilia hyd at uniad yr Eidal. Y broblem a awgrymir gan y nofel yw, unwaith eto, ar drothwy'r newid hwnnw a ysgogir yn allanol—bod llywodraethwyr Sisilia yn newid ond, mewn gwirionedd, nid oes unrhyw beth yn newid o gwbl i bobl Sisilia. Nid yw'r llewpart byth yn newid ei smotiau. 'Dyma'r hen fos, yr un fath â'r bos newydd', i ddyfynnu genre llenyddol hollol wahanol.
Nawr, rwy'n credu bod llawer i'w groesawu yn y ddogfen o ran rhai o'r cynigion penodol. Hoffwn i'r Prif Weinidog egluro'r rhyngberthynas rhwng yr hyn y mae ef yn ei amlinellu a'r gwaith y mae wedi gofyn i Alun Davies ei wneud a'r adroddiad a ddaw yn y gwanwyn, rwy'n credu, am ddyfodol y Deyrnas Unedig. Rydym yn amlwg yn croesawu nawr, fel y cyfeiriwyd ato, y cynigion ar gyfer awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu neilltuol yma yng Nghymru i ymuno â'r rhai yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ac ar gyfer datganoli pwerau plismona a chyfiawnder. Rwy'n siŵr y bydd Arglwydd Thomas o Gwmgiedd yn cyflwyno achos grymus a diymwad hefyd pan fydd ei gomisiwn ef ar gyfiawnder yng Nghymru yn adrodd yr wythnos nesaf, rwy'n credu.
Rydym yn croesawu'r ffaith eich bod yn cydnabod ei bod yn rhaid disodli fformiwla Barnett, sy'n seiliedig ar boblogaeth ar gyfer dosbarthu cyllid ledled y DU, gan un sy'n seiliedig ar asesiad annibynnol o anghenion, ac yn wir y newidiadau ehangach o ran y fframwaith cyllidol y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw'n gynharach, ac y dylai'r egwyddor hon gael ei chymhwyso i feysydd cyllid sydd heb eu datganoli hefyd.
Yn anad dim, rwy'n croesawu eich cynnig agoriadol fod sofraniaeth seneddol yn San Steffan, y syniad am oruchafiaeth San Steffan yn unig, yr egwyddor, y gwerth, hyd yn oed, wedi hen chwythu ei blwc, a bod sofraniaeth y bobl yn gorwedd gyda phobl Cymru. Yn wir, mae ganddyn nhw'r hawl i fynnu eu hannibyniaeth nhw drwy refferendwm, ac rydych chi'n cyfeirio yn adran 3 o'r ddogfen mai barn Llywodraeth Cymru, ar yr amod bod Llywodraeth, naill ai yn yr Alban neu yng Nghymru, wedi sicrhau mandad etholiadol penodol ar gyfer cynnal refferendwm, ac yn mwynhau cefnogaeth barhaus gan ei senedd i wneud hynny, mae ganddi'r hawl i ddisgwyl i Senedd y DU gymryd pa gamau bynnag sy'n angenrheidiol i sicrhau bod hynny'n digwydd. O ran ei heffaith uniongyrchol ac, yn wir, yn yr hirdymor, mae'n debyg mai'r egwyddor olaf honno o symud at system o sofraniaeth y bobl, yn seiliedig ar genedligrwydd yn ein hachos ni, yw'r un fwyaf pellgyrhaeddol oll mae'n debyg. Ond wrth gwrs un peth yw cyhoeddi sofraniaeth a pheth arall yw mynnu hynny yn nannedd gwrthwynebiad parhaus gan San Steffan—Senedd sydd o'r farn ei bod yn flaenaf o hyd. Rwy'n cofio pan gafodd datganoli plismona ei gynnig ddiwethaf gan eich rhagflaenydd chi, fe gafodd ef—fel y dywedodd y Western Mail—ei lambastio gan ASau Llafur o Gymru. Felly, roedd gwrthwynebiad yno yn sicr.
Mae hyn yn codi pwynt arall, yn fy marn i, oherwydd mewn rhai agweddau mae'r math o broblem a ddaw yn sgil popeth yn canolbwyntio ar Lundain neu San Steffan mewn gwirionedd yn plagio cyfansoddiad Prydain yn ei gyfanrwydd hefyd ac yn achosi problem, onid ydyw, o fewn y Blaid Lafur Brydeinig? Gwelwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda'r cwestiwn hwn o hawl i gael refferendwm ar annibyniaeth, yn yr Alban neu Gymru, yr ydych chi'n ei gefnogi ar hyn o bryd, fod Richard Leonard, y dyn sy'n cyfateb i chi yn yr Alban, wedi dweud y bydd cymal penodol ym maniffesto nesaf Plaid Lafur y DU yn diystyru refferendwm annibyniaeth i'r Alban mewn pob amgylchiad. Mae John McDonnell wedi dweud ei fod ef yn bwriadu ei gefnogi, tra bod Jeremy Corbyn wedi dweud ei fod yn ef eisiau aros cyn penderfynu. Felly y bu erioed. Beth yw statws y cynnig hwn, mewn gwirionedd, o fewn y Blaid Lafur?
Er y carwn i demtio'r Prif Weinidog ymhellach byth—mae'n amlwg nad ydych chi gyda ni o ran annibyniaeth Cymru yn ei chyfanrwydd, ond yn sicr, hyd yn oed er mwyn cyflawni'r agenda hon ar gyfer diwygio'r Deyrnas Unedig, efallai mai un o'r pethau gorau y gallech chi ei wneud i gyflawni hynny yw cyhoeddi annibyniaeth y Blaid Lafur yng Nghymru, a hynny er mwyn wedyn, mewn gwirionedd, creu deinameg wleidyddol newydd o fewn eich plaid chi eich hun ac yn fwy eang. Gwn ein bod yn anghytuno ynghylch pa mor ddymunol yw annibyniaeth fel diben gwleidyddol. Mae gennym ni ddehongliad gwahanol, rwy'n credu, o effeithiolrwydd yr undeb fel modd o ailddosbarthu. Roeddech chi'n cyfeirio at hyn fel fframwaith ar gyfer cyfuno gwobr a risg. Mae'n rhaid imi ddweud, gyda rhai eithriadau, mae San Steffan yn fynych wedi bod yn fwy o risg i Gymru nag o wobr, ac rwy'n credu y caiff y dadleuon mwyaf grymus a welais i o blaid hyn eu gwneud weithiau, Prif Weinidog, gennych chi'n wythnosol wrth y blwch dogfennau. Rydym yn rhannu ein dicter, rwy'n meddwl, tuag at y Llywodraeth yn San Steffan sy'n chwarae gyda ni ac yn ein trin fel doli glwt, yn ein rheoli ni, yn gwadu cyllid teg i ni ac yn ein trin ni fel dinasyddion eilradd.
Nawr, mewn rhai agweddau, fel sy'n digwydd yn aml, mae diwylliant gwleidyddol poblogaidd yn fwy blaengar na gwleidyddiaeth ffurfiol. Rydym wedi gweld hynny ar strydoedd Merthyr ac mewn mannau eraill, a'm hunig gwestiwn i yw: ar y mater hwn o'r confensiwn cyfansoddiadol, credaf yn bendant mai dyna'r ffordd i ymgysylltu'n briodol â'r cwestiynau mwyaf dyrys hyn, ond pam na allwn ni arwain y ffordd? Pam mae'n rhaid inni aros am benderfyniad i greu confensiwn cyfansoddiadol i'r DU gyfan gan San Steffan? Pam na allwn ni fod yn rhag-ddywediadol? Pam na allwn ni ddechrau yma a chael yr union fath o drafodaeth ymgysylltiol y mae ef wedi ei rhoi ger ein bron, gan ddechrau yma yng Nghymru, a chyda'r gobaith o weithredu fel catalydd ar gyfer trafodaethau ehangach ledled yr ynysoedd hyn?
Rwy'n diolch i'r Aelod unwaith eto am gyfraniad diddorol ac ymgysylltiol. Fel y dywed ef, mae yna bethau yn y ddogfen yr ydym ni'n cytuno â nhw ar draws y pleidiau. Gadewch i mi gytuno ag ef mai'r cynnig mwyaf radical yn y ddogfen yw ailffurfio cysyniadau am sofraniaeth. Nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth, 20 mlynedd yn ôl, pan ystyriwyd datganoli gyntaf, ei bod hi'n gred ym meddyliau'r bobl a oedd yn trafod hynny fod sefydliadau datganoledig yn bodoli er mwyn gallu addasu polisi cenedlaethol i fodloni amgylchiadau lleol, a'r sefyllfa ddiofyn oedd bod y pwerau hynny yn San Steffan a bod rhai ohonyn nhw wedi cael eu rhoi ar osod ar sail amodol fel y gallai eraill eu hymarfer. Nawr, 20 mlynedd wedi datganoli, nid wyf i o'r farn fod hynny'n mynd i oddef ei archwilio erbyn hyn. A dyna pam yn y papur hwn rydym yn sôn am sofraniaeth y bobl, wedi ei gwasgaru ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, wedi ei chefnogi gan refferenda, wrth gwrs, o'r lle y caiff sefydliadau datganoledig eu cyfreithlondeb a'i gadw. Ac yn y dyfodol, yr hyn sydd ei angen arnom yw nid ymdeimlad o sofraniaeth seneddol sydd â rhyw gymeriad diderfyn i bob golwg lle mae San Steffan bob amser yn gallu arfer cymhwysedd deddfwriaethol ar ran y Deyrnas Unedig gyfan, ond lle ceir y syniad hwnnw o sofraniaeth wasgaredig lle nad yw sofraniaeth yn cael ei throsglwyddo. Mae'r gair 'datganoli', hyd yn oed, yn fy marn i, yn gamarweiniol 20 mlynedd yn ddiweddarach, gan fod iddo yn ei hanfod yr ymdeimlad fod pethau'n parhau i gael eu trosglwyddo—yn cael eu dal yma ond wedi eu trosglwyddo—tra mai'r hyn yr ydym yn dadlau o'i blaid yn y papur hwn yw ymdeimlad o sofraniaeth a leolir yn y pedair gwlad ac yna'n cronni'n ôl yn wirfoddol at ddibenion y cytunir eu bod yn cael eu cyflawni orau yn ôl y patrwm ehangach hwnnw. Ac mae'n debyg mai'r anghytundeb mwyaf rhyngom ni yw nad yw Plaid Cymru yn credu bod achos dros gronni'n ôl—nid ydych chi'n credu fod yna gyfres o ddibenion cyffredin y byddai'n well eu cyflawni ar sail y DU, tra ein bod ni'n parhau i gredu bod hynny'n wir. Ac er mwyn bod yn rhan o'r clwb mwy eang hwnnw, mae'n rhaid ichi fod yn aelod o'r clwb eang hwnnw, fel yr ydym wedi dadlau erioed yng nghyswllt yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae hynny'n fater priodol ar gyfer dadl a gwahaniaeth barn a pherswadio ein gilydd ac eraill o rinweddau'r achos hwnnw. Ond rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Adam Price yn ei gyfraniad mai dyna'r newid mwyaf radical yn y ffordd yr ydym yn ffurfio cysyniadau o ran y ffordd y mae pedair rhan y Deyrnas Unedig yn gweithredu gyda'i gilydd. Ac yna fe ddadleuwn ni, fel y gŵyr ef, am i hynny gael ei ymwreiddio—i hynny fod y tu hwnt i allu un rhan yn unig o'r pedair rhan i'w wrthdroi. Rhaid i hynny ymwreiddio ym mhedair rhan y Deyrnas Unedig.
Fe holodd am y berthynas rhwng hyn a gwaith Alun Davies, ac mae hyn, wrth gwrs, yn seiliedig ar barhad y Deyrnas Unedig. Mae'n sôn am y ffordd y gall y Deyrnas Unedig barhau i oroesi a ffynnu. Ond fel y dywedais i yn fy natganiad, mae mwy o berygl i'w oroesiad heddiw nag a fu ar unrhyw adeg yn fy oes wleidyddol i, ac mae gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ddewisiadau y gallan nhw eu hymarfer. A'r hyn y bydd Alun yn edrych arno yw'r dewisiadau a fyddai gan Gymru mewn amgylchiadau gwahanol i'r rhai y mae'r adroddiad hwn yn eu rhagweld. Dyna pam mai adroddiad gan y Llywodraeth yw hwn, a dyna pam y bydd ef yn cyflawni ei waith yn y ffordd fwy rhydd honno a fydd ganddo ef.
Diolch am eich cyngor ar gyfansoddiad y Blaid Lafur i'r dyfodol. [Chwerthin.] Gadewch imi ddweud yn syml yn y fan hon yr hyn a ddywedais i yn fy araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur, lle'r oeddwn i'n amlinellu, yn rhagddweud, rhai o'r pethau sydd yma ac fe ddywedais i yno fod fy marn i am ddatganoli a'i ymwreiddiad yn y Deyrnas Unedig yn cael ei adlewyrchu yn fy marn i am y ffordd y mae angen i'r Blaid Lafur weithredu. Felly, nid wyf yn credu mewn annibyniaeth o'r Blaid Lafur, ond rwyf i'n grediniol fod yr egwyddorion yr ydym ni'n eu hamlinellu yma yn berthnasol i'r Blaid Lafur, yn union fel y maen nhw'n berthnasol i'n cyfansoddiad yn fwy cyffredinol.
Yn olaf, i ymdrin â'r materion ynglŷn â risg a gwobr a'r confensiwn cyfansoddiadol, rwy'n credu mai'r gwahaniaeth rhyngom ni, yn syml, yw hyn—fy mod i'n credu, ym marn Plaid Cymru am y Deyrnas Unedig, nad yw byth yn bosibl cael cyfrifiad lle mae'r gwobrwyon yn drech na'r risgiau. Ar y llaw arall, o'm safbwynt i, er bod yna adegau pan gredaf fod y cyfrifiad yn anffafriol, rwyf i o'r farn fod yna bosibilrwydd iddo fod fel arall, ac ar y cyfan fel arall y bu, ac ar y cyfan, mae ein haelodaeth ni o Deyrnas Unedig, gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda rhwyd diogelwch o nawdd cymdeithasol, gyda dull cenedlaethol o ddiwallu anghenion lles ein pobl—mae'r cyfrifiad wedi bod o blaid pobl Cymru, a phobl Cymru wedi elwa ar y cyfrifiad hwnnw. Nid yw bob amser mor eglur ag y byddwn i'n hoffi i hynny fod, ac y mae hynny dan straen, nid dim ond o achos Brexit, ond oherwydd degawd o gyni digyffelyb hefyd. Ond rwyf i o'r farn fod potensial i bethau fod fel arall, ac mae Llywodraeth Lafur gyda phrosbectws o'r math y byddem ni'n ei gyflwyno unwaith eto yn rhoi'r cyfrif hwnnw'n gadarn i gyfeiriad Teyrnas Unedig lle mae'r gwobrwyon yn fwy o lawer i Gymru nag y bydden nhw fel arall.
Nid wyf yn dymuno gorffen ar nodyn negyddol, ond rydym ni'n awyddus i gael confensiwn cyfansoddiadol ar sail y DU. Yr hyn a ddywedais i wrth Paul Davies—yw bod cychwyn ar hyn ar ein pennau ein hunain, mewn rhai ffyrdd, yn tanseilio holl ddiben y papur, sef tynnu eraill i mewn i'r sgwrs. Nawr, nid wyf yn dymuno swnio fel fy mod i'n diystyru'r syniad, pe na allwn ni gynnwys pobl eraill ynddo, ac os nad yw'r ymgais hon i ddenu pobl eraill i mewn yn mynd â ni i unman, na fyddem ni'n parhau i fod yn awyddus i gael rhyw sgwrs ar ein cyfer ni ein hunain. Ond byddai dechrau gyda sgwrs ar ein cyfer ni ein hunain, yn fy marn i, yn dechrau ar ben arall y daith y byddai'r papur hwn yn hoffi iddi ddechrau. Mae angen inni ddenu pobl eraill i mewn, oherwydd os nad gennym ni eraill gyda ni, ni fyddwn yn cyflawni'r hyn yr ydym yn awyddus i'w gyflawni yn y papur hwn. A dyna pam mae ein hymdrechion ni ar hyn o bryd wedi eu cyfeirio at geisio ysgogi'r sgwrs ehangach honno, oherwydd ar sail y sgwrs ehangach honno y bydd dyfodol y Deyrnas Unedig, yr ydym ni'n eiddgar i'w sicrhau, yn cael ei gyflawni.
Rwy'n eich canmol chi, Prif Weinidog, am y ddogfen hon ac am eich cynigion diddorol chi, a hefyd am eich awydd i gymryd rhan mewn dadl ledled y DU yn hytrach na chyfyngu hyn i fanylion datganoli yng Nghymru. Rydych chi'n dweud na fydd Plaid Cymru byth yn gweld y risgiau'n gorbwyso gwobrwyon annibyniaeth—y maen nhw o leiaf, o bosibl, hyd 2030, ac rwy'n credu mai dyna'r dyddiad y maen nhw'n ei roi ar gyfer eu refferendwm. Ond rydych chi wedi rhoi amddiffyniad llawn iawn o'r Deyrnas Unedig heddiw. Rwyf i wedi teimlo bod rhai o'ch Gweinidogion chi ac yn sicr rai o Aelodau'r meinciau cefn wedi cloffi ynghylch y mater hwnnw, ond ni wnaethoch chi heddiw o gwbl, ac am hynny rwy'n diolch i chi.
Mae corff eich dogfen chi yn dechrau drwy ddweud mai'r ffordd orau o weld y Deyrnas Unedig erbyn hyn, beth bynnag ei tharddiad hanesyddol, yw fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd ar ffurf gwladwriaeth amlwladol y mae ei haelodau yn rhannu ac yn ailddosbarthu adnoddau a risgiau ymysg ei gilydd i hybu eu diddordebau cyffredin. Mae hwn yn ddisgrifiad eithaf allweddol o'r undeb, ond mae hefyd yn cydnabod y swyddogaeth sydd gan Lywodraeth y DU a Senedd y DU, yn ffeithiol ar hyn o bryd o leiaf, sut bynnag y byddech chi'n hoffi hynny, ac i ba raddau y maen nhw'n ailddosbarthu adnoddau ariannol, ar leiaf, o Loegr i'r tair cenedl arall? Ac onid yw hwnnw'n safbwynt sy'n gysgod dros y ddadl?
Mae eich dogfen chi yn fy argyhoeddi i fwyaf pan soniwch am y manylion a rhai o'r rhwystredigaethau sydd wedi eich wynebu yn Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r strwythurau gweinidogol ar y cyd yr oeddech chi'n eu hwynebu, ac yn benodol yr addewidion a gawsoch chi 18 mis yn ôl yr ymddengys nad oes fawr ddim symudiad wedi bod arnynt, os o gwbl. Ond mae'r ddogfen yn ei chyfanrwydd yn pwysleisio confensiwn, cydraddoldeb, ac rydych chi'n siarad ar sail egwyddorion cyffredinol. Ac rwy'n credu bod hynny'n llawer anos pan fyddwch chi o'r farn nad yw Llywodraeth y DU a Senedd y DU yn cyfateb i'r sefydliadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond eu bod nhw'n siarad ar ran y genedl, sef Lloegr, sy'n cynnwys dros bum rhan o chwech o boblogaeth yr ynysoedd hyn, yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r holl swyddogaethau hynny sydd heb eu datganoli. Ac er nad wyf i'n dadlau yn eich erbyn chi, rwy'n holi pa mor realistig yw mynnu cydraddoldeb o egwyddorion cychwynnol, ac yn meddwl tybed a fyddai'n well ichi ganolbwyntio ar rai o'r dadleuon argyhoeddiadol iawn sydd gennych o ran y manylion ynglŷn â sut mae'r system yn methu a sut y gellid gwella hynny.
A gaf i fwrw rhyw ychydig o amheuaeth hefyd, yn dechnegol felly, ar un o'r meysydd yr ydych chi wedi bod yn anelu ato? Rydych chi'n cyfeirio at Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac yn y troednodyn mae'r rhan berthnasol. Rydych chi'n dweud bod ein sefydliadau yn rhan barhaol o drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig— mae hynny'n cael ei gyhoeddi yn y ddeddfwriaeth. Ond rydych chi'n dweud wedyn efallai nad yr amddiffyniad parhaol yw hwnnw y gallai darlleniad syml ohono ei awgrymu. Ac yna fe ewch chi ymlaen i ddweud:
rhoddir mynegiad pellach nad yw'r sefydliadau datganoledig i'w diddymu ac eithrio ar sail penderfyniad gan bobl Cymru/yr Alban drwy bleidleisio mewn refferendwm.
A gaf i holi: a yw hynny hefyd yn dod o Ddeddf Llywodraeth Cymru, ac a ydych chi'n bwriadu newid hynny? Oherwydd, mewn man arall yn y ddogfen, nid refferendwm i bobl Cymru yw'r amod a roddir gennych chi, ond cydsyniad y sefydliad hwn. A yw hynny'n adlewyrchu eich profiadau chi yn refferendwm yr UE? Ai symudiad bwriadol yw hwn oddi wrth ganiatáu refferendwm i Gymru benderfynu ar ddyfodol y lle hwn i ddweud, beth bynnag fydd barn pobl Cymru mewn refferendwm, na ellid byth â diddymu'r lle hwn, ac eithrio drwy ei benderfyniad ef ei hun?
A gaf i eich holi chi ychydig am y llysoedd a'r rhannau cyfreithiol sydd gennych chi—rwy'n meddwl mai rhannau 18 a 19 yn y papur? Mae gennym yr Arglwydd Thomas yn lansio ei adroddiad amser brecwast ddydd Iau nesaf, rwy'n credu, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed beth fydd ganddo ef i'w ddweud. A ydych chi'n gallu barnu o flaen llaw unrhyw beth y bydd ef yn ei ddweud yn yr adroddiad hwn? O'r blaen, ac fe gyfeiriodd Adam at hyn gynnau fach, roedd yna ddadl ynghylch a ddylem ni gael awdurdodaeth ar wahân, ac wedyn roedd pobl yn cyfeirio at honno fel awdurdodaeth neilltuol. Yn yr adroddiad hwn, rydych chi'n cyfeirio at system o lysoedd ar wahân ac awdurdodaeth ar wahân. A yw hwnnw'n wahaniaeth pwysig o ran ystyr? Ai disgrifiad yw hwn sydd hanner ffordd rhwng y ddau ddisgrifiad blaenorol, neu a wyf i'n darllen gormod i mewn i hynny?
Rwyf i'n eich annog chi hefyd i beidio ag edrych ar y canlyniad yn unig o ran pwy yw'r beirniaid. Rydych chi'n cyfeirio, ac yn argyhoeddiadol yn fy marn i, at y ddadl dros gael rhywun sydd â gwybodaeth am gyfraith Cymru yn aelod o'r Goruchaf Lys, ond mae'r mater hefyd yn ymwneud â'r modd y penodir y barnwyr uwch. Mae gennym ni banel, rwy'n credu, o bump, ac fe geir dau o'r barnwyr uchaf, Arglwydd Brif Ustus, Meistr y Rholiau, Llywydd y Goruchaf Lys, ac yna benaethiaid y tri chomisiwn penodiadau barnwrol. Felly, dim ond un ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan, o'r safbwynt hwnnw, un ar gyfer yr Alban, ac un o'r panel o bump ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'n ymddangos bod hynny'n rhoi llawer iawn o bwys i'r Alban ac yn enwedig i Ogledd Iwerddon ac ychydig iawn o bwys i Gymru. Tybed, yn ogystal â chwilio am yr un ynad yn y Goruchaf Lys, a ddylem ni ystyried adolygu'r ffordd y mae uwch-farnwyr yn cael eu penodi ynddi hefyd?
Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny. Fe gymeraf ei bwynt olaf yn gyntaf. Rwy'n credu bod yna ddadl ehangach dros ddiwygio'r ffordd y caiff penodiadau barnwrol eu cyflawni. Rwy'n credu bod angen i hynny gyd-fynd â'r unfed ganrif ar hugain. Mae angen i hynny edrych ar y canlyniadau a gaiff o ran amrywiaeth y bobl sy'n cael eu penodi i'r swyddi pwysig iawn hyn. Felly, rwy'n credu ei fod yn codi pwynt mwy cyffredinol na'r un penodol, sy'n haeddu ystyriaeth ehangach.
Rwyf wedi ceisio parchu adroddiad Arglwydd Thomas drwy beidio â thresmasu gormod ar y diriogaeth honno heddiw. Ac ni fyddwn i'n darllen gormod i mewn i gywirdeb ymadroddion ac ni fydd raid ond aros wythnos cyn inni gael gweld adroddiad Arglwydd Thomas ac fe fyddwn ni'n gallu trafod y materion hyn ar sail hwnnw.
Mae ef yn gywir i ddweud fod yna ystyr cymharol allweddol o'r undeb yn y papur hwn. Ychydig iawn o ymlyniad sentimental sydd gennyf i i'r Deyrnas Unedig o'm rhan fy hun. Nid oes gennyf i ffydd yn nyfodol y Deyrnas Unedig yn ôl y rhagosodiad hwnnw. Mae gennyf i ffydd oherwydd rwyf o'r farn ei bod yn gweithio i Gymru, rwy'n credu ei bod yn gweithio i bobl Cymru, a dyna'r achos y mae'n rhaid inni ei ddadlau o'i phlaid hi. Mae gwleidyddiaeth hunaniaeth wedi symud ymhell yn ystod fy oes i, ac i Gymru y mae fy ymlyniad sentimental i. Rwyf bob amser wedi fy ystyried fy hun yn Gymro yn gyntaf ac yn aelod o'r Deyrnas Unedig wedi hynny, ond credaf hefyd mai bod yn aelod o'r Deyrnas Unedig sy'n iawn i Gymru. Felly, rydych chi'n iawn—yr achos ymarferol dros yr undeb a wnawn ni yma, yn hytrach nag apêl ar rywbeth mor ddiflanedig â gwerthoedd Prydeinig neu ddadleuon o'r fath.
Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud pwynt pwysig iawn am gwestiwn Lloegr a sut y caiff hwnnw ei ddatrys. Mae hyn y tu hwnt i gwmpas y papur hwn, ond mae'n fater pwysig. Nid ydym ni'n dadlau yn y papur am gydraddoldeb ar sail Cymru yn cael pleidlais, yr Alban yn cael pleidlais, Lloegr yn cael pleidlais, Gogledd Iwerddon yn cael pleidlais. Nid ydym yn credu bod hynny'n gredadwy mewn undeb pan fo pump o bob chwech yn y boblogaeth yn perthyn i un o'r pedwar sy'n cymryd rhan. Rydym ni'n dadlau dros gydraddoldeb o ran cyfranogiad, cydraddoldeb ymgysylltu, cydraddoldeb parch—y nodweddion hynny a fyddai, yn fy marn i, yn mynd ffordd bell tuag at wneud i sefydliadau'r Deyrnas Unedig weithio'n effeithiol yn y dyfodol. Yr holl bethau yr ydym ni wedi eu hymarfer yma yn y fan hon o'r blaen sy'n rhwystro hynny—pam mai dim ond yn Llundain y gall ein fforymau gweinidogol ar y cyd gyfarfod, a'u cadeirio gan Weinidog yn Llywodraeth y fan honno, pam mai Llywodraeth y DU yn unig sy'n cael gosod agenda, ysgrifennu'r cofnodion, sy'n gallu—. Wyddoch chi, nid egwyddorion cydraddoldeb cyfranogiad mo'r rhain, a dyna'r pethau yr ydym ni'n dadlau drostyn nhw yn y papur hwn fel eu bod nhw'n cydgrynhoi ymdeimlad o Deyrnas Unedig lle mae gan bawb gyfran gyfartal, heb ddadlau bod pawb o'r un maint ac felly'n disgwyl cael, fel y dywedaf i, gymryd rhan ar sail un cerdyn yn llaw pob un.
O ran sut y gellid dirwyn y Cynulliad Cenedlaethol i ben, wel, yn y pen draw mae hynny yn nwylo pobl Cymru. Dyna sut y cawsom ni ein sefydlu—gan refferendwm—a, phe baem ni byth yn cael ein dadwneud, byddai'n rhaid i hynny fod drwy benderfyniad y bobl a'n rhoddodd ni yma. Byddai gan y sefydliad hwn ran i'w chwarae wrth lunio'r penderfyniad hwnnw, ond mae'r sofraniaeth, yn yr ystyr boblogaidd a amlinellwn yma, yn perthyn yn nwylo'r bobl.
Prif Weinidog, a gaf i groesawu'r papur yn fawr a hefyd i ba raddau y mae'r papur yn tynnu oddi ar lawer o'r gwaith a'r dadlau sydd wedi digwydd yn y gwahanol bwyllgorau ac yn Siambr hon, yn ogystal â'r pwyllgorau cyfansoddiadol amrywiol ledled Seneddau amrywiol y DU? Fe fyddwch chi'n ymwybodol o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, 'Llywodraethiant y DU ar ôl Brexit', ac mai un o'r prif argymhellion ynddo oedd argymell diwygio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn sylfaenol a chydnabod yr angen i gydweithio nid yn unig rhwng Llywodraethau ond, yn bwysig, i gydweithio rhwng seneddau hefyd. Ac roedd gennym ni gyfarfod bwrdd crwn, agored a chyhoeddus, ddoe, gyda rhai o arbenigwyr cyfansoddiadol mwyaf blaenllaw'r DU yn siarad mewn gwirionedd am lawer o'r materion allweddol hyn sydd ger ein bron.
Un o'r materion sylfaenol sy'n dod i'r amlwg o'r papur—ac sydd wedi bod yn gyffredin, rwy'n credu, ym mhob un o'r dadleuon—yw, os bydd unrhyw ddiwygiad cyfansoddiadol sylweddol yn digwydd, yna mae sofraniaeth yn greiddiol i hynny, ac yn gosod cyfyngiadau ar sofraniaeth ac ar allu San Steffan i ddiystyru neu anwybyddu'r arfer o gyflawni cyfrifoldebau a ddatganolwyd gan San Steffan. Felly, bydd yn rhaid cael diwygiad llwyr o'r ffordd y gellir ymarfer sofraniaeth seneddol a, heb hynny, mae'n anodd gweld y gellir cael unrhyw newid cyfansoddiadol sylweddol.
Un mater sy'n peri cryn bryder, yn amlwg, yw bod angen inni fod yn ofalus nad ydym yn sôn am ymladd rhwng seneddau, ond rydym ni'n cydnabod bod mater y cyfansoddiad, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, yn eiddo i bobl Cymru, a hefyd i bobl y DU gyfan, o ran natur yr hyn a allai ddigwydd neu beidio. Nawr, mae swyddogaeth y pwyllgorau a'r Siambr hon yn bwysig iawn. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n gwneud rhai sylwadau ynghylch sut yr ydych chi'n gweld natur y dadleuon a'r digwyddiadau hyn yn datblygu ar gyfer sicrhau bod y Cynulliad hwn yn cyfranogi yn llawn yn y prosesau hynny wrth iddyn nhw ddatblygu.
Ac yna, yn y bôn, y peth allweddol yw ein bod ni wedi mynegi'r pwyntiau hyn dro ar ôl tro, yn aml heb fawr o ymateb ar lefel y DU, a'r cwestiwn yw: sut mae sicrhau bod newid yn digwydd? Roedd yna athronydd enwog iawn, economegydd, a ddywedodd nad yw athronwyr hyd yn hyn ond wedi dehongli'r byd mewn amrywiol ffyrdd, ond y pwynt, serch hynny, yw ei newid.
Mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cynnig cynhadledd i'r Llefarydd, fel y digwyddodd, mewn gwirionedd, ym 1920. Felly, nid syniad newydd mohono, ond ffordd o gychwyn a dechrau dadl gyfansoddiadol, efallai y tu allan i'r awyrgylch gwenwynig sy'n bodoli o fewn gwleidyddiaeth y DU. Ac un o'r rhwystrau i hyn, wrth gwrs, yw bod siaradwr presennol Senedd y DU yn cael ei ystyried gan rai yn ffigwr dadleuol, ac ni ellid symud i'r cyfeiriad hwn. Ond fe fyddwn yn cael Llefarydd newydd yn San Steffan cyn bo hir ac efallai y bydd penodi'r Llefarydd yn gyfle i hyn ddigwydd. Felly, tybed pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo gweithredu a rhoi ysgogiad cychwynnol i'r ddadl angenrheidiol hon. A wnewch chi gymryd o ddifrif ac ystyried y cyfle a ddaw, efallai, i gyflwyno sylwadau fel y gallai cychwyn cynhadledd i'r Llefarydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fod yn un ffordd o ddechrau'r broses hon mewn gwirionedd?
Llywydd, hoffwn ddiolch i Mick Antoniw am y sylwadau yna. Mae'n iawn, wrth gwrs: nid dim ond Llywodraethau Cymru ac, yn wir, yr Alban sy'n teimlo'n rhwystredig oherwydd ein hanallu i gael ymatebion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Galwodd Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin am ddatganiad clir gan Lywodraeth y DU ar ei pholisi ar gyfer yr undeb, ac ym mis Medi y llynedd, 2018, ymrwymodd Llywodraeth y DU i lunio datganiad o'r fath, ac maen nhw a ni yn dal i ddisgwyl amdano.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Mick Antoniw fod dadlau a chyfraniad gwirioneddol drylwyr i'w gweld yn adroddiadau'r pwyllgorau yma ac yn Nhŷ'r Cyffredin, ac yn wir yn Nhŷ'r Arglwyddi. Mae llawer iawn o bethau diddorol wedi'u hysgrifennu ynddynt, ac rydym ni i gyd yn straffaglu mewn ffordd i gael sylw gan Lywodraeth y DU, sydd, fel y meddyliaf yn aml amdani, wedi'i llethu gan Brexit ac yn methu â dod o hyd i unrhyw ofod—gofod meddwl, gofod amser, gwleidyddol, gofod cyfalaf—i fynd i'r afael â'r materion yr ydym ni wedi bod yn siarad amdanyn nhw y prynhawn yma.
Dywedodd Mick, 'Sut allwn ni newid pethau?' Wel, rwy'n ofni y gallai'r cwestiwn fod ychydig yn wahanol i hynny. Bydd newid. Mae pethau'n newid o'n cwmpas ni i gyd. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn newid pethau'n sylweddol. Nid sut y dylai newid ddigwydd yn yr ystyr, 'a ddylid cael newid?', ond, 'Sut mae mynd i'r afael â newid er mwyn i ni fod yn gyfrifol am newid, yn hytrach na chael ein llywio gan hynny ac wynebu ei ganlyniadau heb wneud yr ymdrech angenrheidiol i wneud y newid yn y modd yr ydym ni wedi siarad amdano mewn ffyrdd gwahanol ar draws y Siambr?'
Mae syniad cynhadledd y Llefarydd, wrth gwrs, yn un diddorol dros ben. Dechreuodd ar ei waith yn union 100 mlynedd yn ôl yr hydref hwn. Pan bleidleisiwyd dros gynnig cynhadledd y Llefarydd ar ddatganoli ar lawr Tŷ'r Cyffredin, Cymru oedd yr unig ran o'r Deyrnas Unedig lle na phleidleisiodd yr un aelod o Gymru yn erbyn sefydlu'r cyfryw gynhadledd y Llefarydd. Ac fel y gŵyr rhai Aelodau yma, pan adroddodd, roedd yn dadlau dros ymagwedd gwbl ffederal i'r Deyrnas Unedig a hyd yn oed yn datrys y cwestiwn Saesnig yn ei amser ei hun hefyd. Felly, nid yw'r cynsail o ran effeithiolrwydd y gynhadledd yn wych, ond o ran pa mor gyforiog oedd ei dadleuon, mae'n werth ailymweld â hynny, ac nid wyf yn sicr sut i ddechrau'r sgwrs. Awgrymwyd confensiwn cyfansoddiadol gennym ni. Pe gellid cychwyn cynhadledd y Llefarydd mewn ffordd wahanol a gwneud y math o ymgysylltu yr ydym ni wedi sôn amdano, fe fyddwn yn fodlon iawn â hynny.
Mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, fy mod yn teimlo ymlyniad emosiynol dwfn iawn wrth Brydeindod ac at Gymreictod, ac rwyf yn credu bod yr undeb yn llawer mwy na threfniant cyfansoddiadol. Felly, dyna'r sylw cyntaf y byddwn yn ei wneud am eich safbwynt bod angen diwygio cyfansoddiadol yn ddi-os.
Rwyf yn croesawu diwygio ein hundeb. Rwy'n meddwl ei bod yn ddogfen ddiddorol ac rwy'n lled-gefnogol ohoni, ar y cyfan. Ond mae gwendid mawr iawn ynddi sef yr ymdriniaeth o'r cysyniad o sofraniaeth. Mae sofraniaeth o ran meddwl am gymdeithasau gwleidyddol yn gysyniad dyrys iawn mewn athroniaeth wleidyddol, ond mae'n gofyn am feddwl dwfn iawn, ac ni allwn ni osgoi gwneud hyn oherwydd bod iddi ganlyniadau ymarferol iawn. Gwelwn hynny yn llawer o'r dadlau am Brexit ar hyn o bryd. Felly, rwy'n meddwl pan ddywedwch yn y ddogfen y derbynnir bod sofraniaeth (y dylid rhannu rhywfaint ohoni) yn gorwedd gyda phob rhan o'r DU,
Rwy'n credu bod angen i chi fod yn ofalus iawn â'r gystrawen yn y fan yma. Mae'n gorwedd 'ym' mhob rhan o'r DU, rwy'n fodlon ar hynny, oherwydd rwy'n credu y dylai ein sefydliadau gael eu gwreiddio, ond mae hefyd wedi ymwreiddio ar lefel y DU ac mae hynny'n wahaniaeth hanfodol.
Sylwaf i'ch rhagflaenydd nodedig ysgrifennu yr wythnos diwethaf:
Rhowch derfyn ar sofraniaeth San Steffan a'i rhoi i'r pedair cenedl.
O wneud hyn, yn ôl pob tebyg, byddai rhyw fath o gronni ar gyfer amddiffyn, materion tramor, polisi macroeconomaidd ac ati. Ond, ni allaf gefnogi'r cysyniad hwn gan nad yw'n egwyddor ffederal. Mae'n gamgymeriad gweld ffederaliaeth wedi ei nodweddu gan ddatganoli mor radical. Yn hytrach, mae ffederaliaeth yn ceisio creu awdurdod sofran canolog ac effeithiol, er mai un cyfyng ei gwmpas ydyw.
Dywedir weithiau i Alexander Hamilton dderbyn ffederaliaeth fel y pris i greu Llywodraeth ganolog. Roeddynt, adeg cadarnhau cyfansoddiad yr Unol Daleithiau wrth gwrs, yn dioddef o'r anhrefn a oedd yn bodoli yn yr erthyglau cydffederasiwn. Felly, dyna oedd natur ffederaliaeth: creu awdurdod canolog a oedd â'r grym i weithredu.
Fodd bynnag, rwy'n credu y gallai'r syniadau hyn gael eu profi a'u harchwilio mewn confensiwn cyfansoddiadol ac ers dros 10 mlynedd rwyf wedi credu bod hyn yn angenrheidiol. Ac rwy'n nodi gyda chymeradwyaeth alwad Llywodraeth Cymru am i'r egwyddor o ddatganoli fod yn sylfaenol mewn cyfansoddiad ysgrifenedig. Credaf fod hynny wrth wraidd ffederaliaeth.
Yn olaf, mae'n hen bryd diwygio Tŷ'r Arglwyddi. Bu hynny ar fin digwydd, yn ôl y jôc, ers 1911, ac yn sicr dylai fod yn Dŷ'r Undeb. Ond gadewch i mi orffen ar y mater hwn o sofraniaeth. Rwy'n credu fod sofraniaeth boblogaidd, pan gaiff ei ddefnyddio'n llac, yn gysyniad peryglus iawn. Mae sofraniaeth yn sicr yn dod o'r bobl, ond mae bron bob amser yn cael ei fynegi mewn sefydliadau gwleidyddol. Mae ambell eithriad i hynny fel refferenda. Ac rwy'n meddwl bod angen llawer o ofal a manylder arnom ni pan fyddwn yn edrych ar hanfodion ein cyfansoddiad, ond mae'n rhaid cael y ddadl hon, ac mae hynny wedi dechrau o ddifrif.
A gaf i ddiolch i David Melding am hyna? Rwy'n cydnabod, yn llwyr, hyd ei ymgysylltiad â'r materion hyn, ynghyd â chyn Brif Weinidog Cymru. Mae rhai ohonom ni yn y fan yma yn cofio aros yn fisol am y bennod ddiweddaraf mewn ymdrech tebyg i Charles Dickens i adeiladu'r achos dros ffederaliaeth. Nid ydym yn defnyddio'r gair 'ffederaliaeth' yn y papur hwn, ac roedd hynny'n fwriadol, er y byddai dull ffederal wrth gwrs yn rhan o gonfensiwn cyfansoddiadol, fel yr oedd 100 mlynedd yn ôl. A byddai'n rhaid i rai o'r sylwadau y mae David Melding wedi'u gwneud am yr angen am ddealltwriaeth fanwl o sofraniaeth, gan gynnwys ym mhle y mae wedi'i lleoli, sut y'i deellir a sut y caiff ei harfer, fod yn rhan o'r ddadl honno.
Wrth gwrs, roedd hi'n ddiddorol clywed sylw agoriadol cyntaf David Melding, oherwydd gwyddom fod llawer iawn o hunaniaethau yma yng Nghymru. Bydd unrhyw un sy'n dilyn gwaith yr Athro Richard Wyn Jones yn gwybod bod pobl sy'n byw yng Nghymru yn disgrifio eu hunaniaeth mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, ond dyna'n rhannol pam yr wyf yn credu fod seilio eich amddiffyniad o'r Deyrnas Unedig mewn disgrifiad o hunaniaeth yn—mae'r tir yn simsan o dan eich traed ac nid dyma'r safbwynt yr wyf yn dechrau ohono yn fy ymlyniad wrth y Deyrnas Unedig.
Mae hi'n hwyr glas, wrth gwrs, diwygio Tŷ'r Arglwyddi. Rydym yn ei gynnwys yma yn un o'r elfennau oherwydd mae'n rhaid i Deyrnas Unedig wahanol, un sy'n meddu ar gydrannau llwyddiant, gynnwys diwygio Tŷ'r Arglwyddi. Ac er nad yw'r Senedd yn yr Unol Daleithiau yn fodel y buasem yn dewis ei efelychu'n union, dadleuwn o blaid cael cynrychiolaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi nad yw'n seiliedig ar y boblogaeth, fel ei fod yn gallu cynrychioli rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig yn well.
A gaf i groesawu'r datganiad yn fawr, Prif Weinidog, a chroesawu'r ddogfen a gyhoeddwyd gennych chi? Roedd hi, wrth gwrs, yn addas ac yn briodol eich bod yn siarad ar y mater hwn wrth draddodi darlith Keir Hardie. Roedd maniffesto etholiad cyntaf Keir Hardie yn seiliedig ar ymreolaeth—ymreolaeth, isafswm cyflog a dirwest, mewn gwirionedd. Nid wyf yn siŵr a fydd cefnogaeth i'r holl wahanol faterion hynny, ond yn sicr mae'n gosod ymreolaeth ac ymdeimlad o le yng Nghymru, ac ymdeimlad o hunanlywodraeth yng Nghymru mewn cyd-destun hanesyddol, sy'n bwysig yn fy marn i.
Rwy'n croesawu'r ffordd y cawsom ni ddadl ddifrifol a gwybodus am y materion hyn y prynhawn yma. Mae'r rhain yn faterion difrifol ynghylch sut yr ydym ni'n llywodraethu ein hunain. Nid wyf yn rhannu pryderon David ynghylch sofraniaeth. Caiff sofraniaeth ei harfer, wrth gwrs, gan y cantonau yn y Swistir, ac maen nhw'n gwneud hynny mewn ffordd effeithiol i sicrhau hunan-lywodraethu'r cydffederasiwn hwnnw. Dros y blynyddoedd, byddwn yn edrych ar wahanol fodelau ac yn ceisio ysbrydoliaeth o wahanol ffyrdd o lywodraethu ein hunain er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y fan lle dymunwn fod, ac wrth wneud hynny, byddwn, gobeithio, hefyd yn uno'r wlad.
Mae hanes ymreolaeth, wrth gwrs, wedi'i wreiddio ym Merthyr—ni allem ni siarad am ymreolaeth heb sôn am S. O. Davies hefyd—ac mae wedi'i wreiddio mewn ymdeimlad o le yng Nghymru, ac mae'r gwahanol agweddau yn dwyn ynghyd hanes Plaid Cymru gyda hyd yn oed hanes y Blaid Geidwadol. Wrth gwrs, gadawodd arch-elyn Gladstone, Joseph Chamberlain, yr Unoliaethwyr Rhyddfrydol er mwyn ymuno â'r Blaid Geidwadol, felly nid yw hyn yn eiddo i un traddodiad penodol, nac unrhyw sefydliad gwleidyddol penodol. Mae'n ymwneud â lle yr ydym ni fel gwlad a lle yr ydym ni eisiau bod fel gwlad. Wrth i ni wynebu'r amseroedd ansicr iawn hyn, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gwreiddio'r dadleuon hyn a'n bod yn gwreiddio'r sgyrsiau hyn a'n bod yn gwreiddio'r trafodaethau hyn a gawn ni mewn synnwyr o bwy ydym ni a'r rhan yr ydym ni eisiau gweld Cymru yn ei chwarae yn y byd.
Rwy'n falch hefyd bod y Prif Weinidog—gobeithio fy mod yn ei ddyfynnu'n gywir—wedi wfftio'r gair 'datganoli'. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn casáu'r gair 'datganoli', peth ofnadwy a thechnocrataidd nad yw'n golygu fawr ddim i neb, ac fe fyddwn yn falch petai Kilbrandon heb feddwl amdano. Ond mae'n bwysig ein bod yn edrych y tu hwnt i'r elfennau technocrataidd a'r prosesau llywodraethu i edrych ar yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni. I mi, rhyddid y Senedd hon yw gwneud y penderfyniadau sydd eu hangen i gynrychioli anghenion buddiannau Cymru, ein bod yn gwreiddio ein sofraniaeth, ein bod yn cyfuno ein sofraniaeth â'n cyd-genhedloedd ar draws y ffin yn Lloegr a'r Alban ac ar draws y dŵr yng Ngogledd Iwerddon er budd holl bobloedd y gwledydd hynny, nid yn unig er budd pobl Cymru, ond er eu lles hwythau hefyd, fel ein bod yn estyn allan, gobeithio, ac yn rhannu sofraniaeth lle mae angen hynny er mwyn sicrhau gwell lywodraethu i bobl yr holl ynysoedd hyn.
Gobeithiaf yn y blynyddoedd i ddod—. Pan roedd yn Weinidog Cyllid, bu i'r Prif Weinidog gau pen y mwdwl ar y cytundeb rhynglywodraethol ar Brexit. Credaf fod hynny'n gyflawniad eithriadol, ac yn un na fu dealltwriaeth dda ohono weithiau yn y Siambr hon, ond yn sicr y tu allan i'r Siambr hon, wrth newid natur y ddealltwriaeth o'r modd y mae llywodraethau a seneddau a sefydliadau Prydain yn gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol.
Ni allwn beidio ag achub ar y cyfle hwn i sôn am fy ngobaith mawr mai dyma fydd diwedd Swyddfa Cymru, sefydliad dibwrpas bellach ers tro byd. Eisteddais unwaith yn un o'r swyddfeydd yno sydd ar fenthyg i ni, a minnau'n Weinidog, ac eisteddais ymysg toreth o gardiau Nadolig ar y ddesg yno. Roedd y cyfarfod ym mis Gorffennaf. Mae hynny bob amser yn aros yn fy nghof pan fyddaf yn meddwl am Swyddfa Cymru.
Gobeithio, hefyd, y byddwn yn edrych ar ddiwygio'r fan yma. Ni allwn ni barhau i bregethu ynglŷn â diwygio mannau eraill heb wneud hynny yn y fan yma. Fe gawsom ni yr hyn a gredwn i oedd yn ddadl dda iawn yr wythnos diwethaf ynglŷn â rhai materion, ond ni allwn ni—dywedaf hyn wrth ein cyfeillion Ceidwadol: ni allwch chi fynnu diwygio mewn mannau eraill, ond peidio â diwygio yma lle mae'n effeithio arnom ni. Dywedaf wrth aelodau o'm plaid fy hun: rhaid i'r diwygio hwnnw gynnwys diwygio etholiadol, ac nid diwygio sy'n fanteisiol i ni yn unig, ond efallai diwygio y tybir nad yw o fudd inni ein hunain. Felly, mae angen inni fod yn onest gyda'n hunain ynglŷn â'r math o ddiwygio yr hoffem ni ei weld.
Gorffennaf drwy ddweud hyn, Prif Weinidog: credaf y bu hon yn ddogfen eithriadol. Mae rhai materion lle byddwn yn awgrymu bod angen inni edrych ymhellach. Y materion sy'n ymwneud â chytundebau rhyngwladol a masnach ryngwladol, rwy'n credu bod angen i ni edrych ymhellach ar hynny. Roedd y dadleuon a gawsom ni ddoe yn y trafodaethau bord gron, y cyfeiriodd Mick Antoniw atynt, yn glir iawn bod enghreifftiau da iawn mewn mannau eraill o sefydliadau megis ein sefydliad ni yn cael mynegi barn yn glir iawn, ac efallai feto hefyd, ar rai meysydd o fasnach ryngwladol, a chredaf fod hynny'n fater y mae angen inni ei ddadlau a'i drafod ymhellach, ond hefyd y mater o gyllid ac ariannu'r undeb. Yr eironi yw, wrth sôn am barhad y Deyrnas Unedig, fod angen inni greu sefydliadau sydd ym mherchnogaeth y Deyrnas Unedig ond nid o anghenraid ym mherchnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu mai un o'r methiannau a welsom ni dros y blynyddoedd wrth ddiwygio'r Deyrnas Unedig yw drysu rhwng llywodraethiant y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu symud y tu hwnt i hynny.
Ac yn olaf, dywedaf wrth fy nghyd-Aelodau fy hun yn fy mhlaid fy hun, y mae rhai ohonyn nhw, yn ddiau, wedi'u dychryn yn llwyr gan y ddadl hon, mai'r gwendid mwyaf a welsom ni yng ngwleidyddiaeth gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, ar hyd a thrwy gydol y ganrif ddiwethaf, ers galwad herfeiddiol Keir Hardie am ymreolaeth, yw ein bod yn rhy aml wedi drysu rhwng undebwriaeth a chanoliaeth, ac mae angen inni symud y tu hwnt i hynny lle'r ydym ni'n gryf a lle'r ydym ni'n gweld undeb cryf ac effeithiol. Nid yw hynny'n golygu canoli, nid yw'n golygu unffurfiaeth; yr hyn y mae'n ei olygu yw seneddau sy'n gallu gweithio gyda'i gilydd, cyflawni dros y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, a chyfuno'r sofraniaeth fel y gallwn ni i gyd gydweithio er budd pobl yr holl ynysoedd hyn.
Diolch. Llywydd, safodd George Bernard Shaw yn ymgeisydd Llafur yn ward St Pancras Awdurdod Llundain Fwyaf yn 1904. Safai ar bolisi o weriniaetholdeb, llysieuaeth, anghrediniaeth a llwyrymwrthodiaeth. [Chwerthin.] Nawr, rwy'n cynnig y rheini fel bwydlen yn hytrach na rysáit ar gyfer yr Aelod dros Flaenau Gwent, oherwydd mae'n rhaid imi ddweud wrtho na chafodd George Bernard Shaw ei ethol y tro hwnnw.
Ond hoffwn ddiolch i Alun Davies am ein hatgoffa o hanes hir hyn i gyd. Pan draddodais ddarlith Keir Hardie yr wythnos diwethaf, ceisiais ddwyn ynghyd ddadl Keir Hardie am undebaeth llafur a'i ddadl dros ymreolaeth i bawb, a dadlau o safbwynt egwyddorion undebau llafur ynghylch pam y credaf fod Cymru ar ei hennill yn undeb y Deyrnas Unedig ac yn undeb yr Undeb Ewropeaidd hefyd.
Datganoli—credaf nad yw'r term o fudd bellach ac y dylem ni fod yn ceisio meddwl am wahanol ffyrdd o fynegi'r trefniadau y byddwn yn eu gweld ar gyfer y Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Cytunaf fod yr IGA—y cytundeb rhynglywodraethol—yn enghraifft dda o sut y gallwch chi gytuno'n wirfoddol i weithredu gyda'ch gilydd mewn ffordd sydd, yn eich tyb chi, yn fuddiant cyffredin. Ac mae Alun Davies yn iawn, wrth gwrs: mae hwn yn fan cychwyn. Dywedwn ynddo ein bod yn credu bod yna ffyrdd y bydd y ddadl yn mynd â'r peth ymhellach ac, yn sicr, mae hynny'n wir o ran masnach ryngwladol. Dywedais nad oeddwn yn sentimental ynghylch y Deyrnas Unedig, ond pwy allai gredu y byddwn eisoes yn teimlo'n sentimental ynghylch y dyddiau pan yr oedd Dr Fox yn gyfrifol am fasnach ryngwladol? [Chwerthin.] [Torri ar draws.] Yn wir. Ond mae hynny'n cadarnhau pwynt olaf Alun Davies, mai'r hyn sydd gennym ni yma yw cyfres o drefniadau sefydliadol sy'n mynd y tu hwnt i unigolion—na allwn ni gael system lle mae gennych chi Weinidog yn y Llywodraeth sy'n deall pethau, rydych chi'n gwneud rhywfaint o gynnydd, mae'r person hwnnw'n gadael neu'n symud i rywbeth arall, ac rydych chi'n ôl yn y dechrau unwaith eto. Mae'n rhaid i ni gael trefniadau sefydliadol sy'n sefydlu'r pethau hyn ac yn mynd y tu hwnt i hap a damwain o ran pwy sy'n digwydd bod yn yr ystafell gyda chi ar unrhyw ddiwrnod penodol.
Ac yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Ac a gaf i, wrth groesawu'r datganiad a hefyd naws y cyfraniadau sydd yma heddiw, ddweud—mae hwn yn ddatganiad cryno, nid dyma'r hiraf a welsom ni yn y fan yma—pa mor bellgyrhaeddol a blaengar yw hi i gael Prif Weinidog Cymru yn sefyll ac yn cyflwyno rhai cynigion manwl, gyda pheth eglurder, ger ein bron, ond hefyd i lunio'r ddadl ynghylch diwygio cyfansoddiadol gydag eglurder o'r fath hefyd? A chan y bûm i'n Aelod Seneddol cyn dod yma, wrth imi eistedd yma yn gwrando ar y Prif Weinidog a'r cyfraniadau, roeddwn yn ceisio dychmygu'r diwrnod y byddai un o Brif Weinidogion Prydain yn codi yn y Siambr arall yn San Steffan ac yn dweud, 'Mae angen confensiwn cyfansoddiadol arnom ni; mae angen i ni ymgysylltu â gwledydd a rhanbarthau datganoledig y Deyrnas Unedig; mae angen inni lunio dyfodol, sydd, fel y'i hamlinellwyd yn y datganiad byr ond dwys hwn heddiw, yn sicrhau Cymru gref o fewn Teyrnas Unedig gref, ond yn cydnabod hefyd mai cymdeithas wirfoddol o genhedloedd yw hon sy'n cydweithio i ddatblygu ein diddordebau cyffredin.' Mae hynny, byddwn yn awgrymu, yn ail-lunio'r ddeialog hon yn radical, yn amserol iawn, a byddwn yn croesawu'r cyfle—a chlywais eiriau Paul, arweinydd y Ceidwadwyr, funud yn ôl a'i gefnogaeth i gonfensiwn, confensiwn dinasyddion. Pe gallem ni, Paul, ddadlau gyda'n gilydd yma ar draws y pleidiau gyda'n cyd-Aelodau yn San Steffan i gyflawni hynny mewn gwirionedd, pwy bynnag sy'n eistedd yn sedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd, yna byddem yn gweld cynnydd yn wir.
Ond ceir rhai cynigion arwyddocaol yn y fan yma, materion ynghylch ffordd wahanol o ddychmygu sofraniaeth yn y gwledydd a'r rhanbarthau hyn o'r Deyrnas Unedig; Tŷ uchaf diwygiedig yn Senedd y DU, Senedd San Steffan, a oedd yn wir yn gynrychioliadol o'r cenhedloedd a'r rhanbarthau hynny; lle byddai'r egwyddor o sybsidiaredd wedi ymwreiddio'n ddwfn, a gwybodaeth ynghylch beth y mae hynny'n ei olygu; ac, i bob pwrpas, y posibilrwydd o gael confensiwn dinasyddion i edrych ar hyn yn hollol wahanol ac i ddweud, 'dyma gompact, cytundeb gan y cenhedloedd a'r rhanbarthau, i ddweud mai'r rhain yw'r pwerau, dyma'r awdurdod yr ydym yn ei fuddsoddi yng nghanol y Deyrnas Unedig, a dyma'r hyn y dylem fod yn ei gael yma.' A bod cydraddoldeb parch, a chydraddoldeb rhwng y swyddogaeth weithredol a'r swyddogaeth graffu o fewn y sefydliadau hynny. Mae hyn yn fater o dyfu yn y Deyrnas Unedig.
Dim ond un cwestiwn sydd gennyf, ac mae wedi cael ei eirio eisoes mewn ffordd wahanol, ond yn bendant mae mantais i roi eglurder i hyn er mwyn dechrau'r ddadl, ac mae eraill sydd hefyd yn cychwyn y ddadl hon. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Choleg y Brenin yn Llundain, a chyn-gydweithwyr i mi sy'n ymwneud â hyn. Beirniadaeth fechan iawn fyddai bod yr aelodaeth a'r pwyslais a'r cylch gorchwyl yn canolbwyntio gormod braidd ar San Steffan, fel y gallech chi ddychmygu. Ond fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog fyddai hyn: os gallwn ni drafod hyn a rhoi cychwyn ar y ddadl, sut y byddwn yn symud ymlaen mewn gwirionedd fel bod gennym ni ddylanwad yn Whitehall, yn yr Alban, gydag Andy Burnham ym Manceinion, gyda Sadiq Khan yn Llundain, a'r sefydliadau hynny hefyd? A oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud ar y cyd i weithio gydag eraill yng ngwahanol rannau o Loegr, heb sôn am Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, i yrru'r agenda hon yn ei blaen? Oherwydd mae'r hyn sydd gennym i'w gynllunio—. Rwy'n cytuno ag ef wrth ddweud—bydd hyn yn digwydd pa un a yw wedi'i gynllunio ai peidio. Bydd rhywbeth yn newid oherwydd ei fod yn dechrau torri a hollti. Felly, sut ydym ni'n achub y blaen ar y sefyllfa hon? Beth allwn ni ei wneud i ddod ag eraill i'n cefnogi ni i sefydlu'r confensiwn hwn? Nid dweud yr wyf i mai dyma'r cynllun mawr hudolus ar gyfer gwireddu hynny, ond siawns mai rhan o hyn yw sefydlu'r confensiwn hwnnw mewn gwirionedd, ac efallai y bydd gennym ni gynghreiriaid o gwmpas Lloegr yn ogystal â rhannau eraill o'r DU a fyddai'n ein cefnogi ni i wneud hynny.
Diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies am hynna, ac fe hoffwn i adleisio'r hyn a ddywedodd ar y cychwyn cyntaf, sef fy mod yn credu bod naws y ddadl hon wedi bod yn un a ddylai roi rhywfaint o obaith inni ynglŷn â gallu'r sefydliad hwn i drafod, gwyntyllu, llunio syniadau cymhleth, ond mewn ffordd gydweithredol a phryd yr ydym ni'n parchu'r gwahanol gyfraniadau a wnawn. Rwy'n credu os gallwn ni fod yn hyderus ynghylch ein gallu ein hunain yn hynny o beth, yna ni ddylem ni anobeithio ynghylch ein gallu i ddenu eraill i'r ddadl hon hefyd. Hoffwn ddyfynnu rhywun am eiliad:
mae ein Hundeb yn seiliedig ar ac yn cael ei ddiffinio gan gefnogaeth ei bobl. Nid yw'n cael ei ddal wrth ei gilydd gan gyfansoddiad caeth na thrwy geisio mygu beirniadaeth ohono. Bydd yn parhau cyhyd ag y mae pobl eisiau hynny—cyhyd â bod cefnogaeth boblogaidd iddo gan bobl yr Alban a Chymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Wel, dyna eiriau Theresa May mewn araith a wnaeth yn ystod yr wythnos diwethaf o fod yn Brif Weinidog, yng Nghaeredin. Rwy'n credu os ydych chi'n darllen yr araith honno, mae hi ychydig yn debyg i'r hyn a ddywedodd Adam Price wrthyf—darllenais araith Mrs May ac rwy'n cytuno â llawer iawn o'r dadansoddiad. Rwy'n anghytuno â'i chasgliadau a'r argymhellion y mae'n eu tynnu ohoni. Ond mae'n araith hynod o ryfeddol gan Brif Weinidog Ceidwadol y DU, ac mae'n anodd iawn ei dychmygu hi'n gwneud yr araith honno yn yr wythnos gyntaf iddi fod yn Brif Weinidog, ond mae'n arwydd, rwy'n credu, o'r ffordd y mae'n rhaid i bobl ymwneud â gwirionedd newid, a phan fyddant yn gwneud ymdrech i ymgysylltu â rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig, gall barn pobl newid a gallant ddwysáu.
A sut ydym ni'n symud hyn ymlaen? Wel, rwy'n credu y cymeraf y pwynt y gorffennodd Huw ag ef bod yn rhaid i hyn fod yn eang, ein bod ni'n gorfod meddwl nid yn unig amdanom ni ein hunain neu hyd yn oed dim ond am ein cyd-Aelodau yn yr Alban sy'n barod i gymryd rhan yn hyn, ond fe fydd cynghreiriaid mewn mannau eraill yn Lloegr hefyd. Ac ymhlith y meiri, yr ydym yn gweithio gyda nhw ar bethau eraill—efallai y cawn ni gynghreiriaid yno. Yn y grwpiau hynny sy'n bodoli eisoes, yn y grŵp diwygio cyfansoddiadol y gwn i fod rhai aelodau o'r Siambr hon yn ymwneud ag ef, gyda'u cyd-Aelodau yn San Steffan. Efallai fod cyfryngau y gallwn ni eu defnyddio yn y prifysgolion, yn y cylchoedd lle mae'r pethau hyn yn cael eu trafod yn barod. Ac yn y ffordd honno, efallai y byddwn yn llwyddo i wneud yr hyn y mae'r papur hwn yn ceisio ei wneud, sef meithrin dadl ymysg ein gilydd, ond yn allweddol gydag eraill, i sicrhau dyfodol y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n gweithio i Gymru.
Diolch i'r Prif Weinidog.