– Senedd Cymru am 4:49 pm ar 16 Hydref 2019.
Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y cynllun bathodyn glas yng Nghymru, ar gymhwystra a gweithredu. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. John Griffiths.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y cynllun bathodyn glas yng Nghymru. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y rhai a gymerodd ran yn y sesiynau grŵp ffocws niferus a gynhaliwyd gennym ledled y wlad. Hoffwn groesawu cynrychiolwyr o Grŵp Mynediad Trefyclo, sydd yn yr oriel gyhoeddus heddiw, a diolch iddynt am hwyluso un o'r cyfarfodydd hynny. Diolch yn fawr.
Cynhaliwyd 12 gennym ledled Cymru, a denodd y rhain nifer uwch o bobl nag unrhyw un o'r meysydd blaenorol o waith ymgysylltu a gyflawnwyd gennym fel pwyllgor. Credaf fod hyn yn dangos pwysigrwydd bathodynnau glas—maent o ddifrif yn achubiaeth i'n cymunedau. Hebddynt, byddai llawer yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau hanfodol, megis apwyntiadau meddygol, neu'n cael trafferth byw'n annibynnol.
Gwnaethom 19 o argymhellion yn ein hadroddiad, a derbyniwyd 13 ohonynt yn llawn neu mewn egwyddor. Cytunodd y pwyllgor y dylwn ysgrifennu at y Gweinidog cyn y ddadl heddiw i amlinellu ein pryderon pellach ynglŷn â'r ffaith bod rhai o'r argymhellion wedi'u gwrthod. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu bwrw ymlaen â'r materion hyn drwy ddulliau amgen, fel y mae'n awgrymu yn ei ymateb.
Rwy'n falch fod argymhelliad 1 wedi'i dderbyn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o'r meini prawf cymhwystra ar gyfer bathodyn. Clywsom lawer o dystiolaeth ynglŷn â chysylltu cymhwystra â chymhwysedd ar gyfer budd-daliadau lles. Er y gallai hyn fod yn ddefnyddiol i rai, mae llawer o rai eraill dan anfantais oherwydd y meini prawf cymhwysedd awtomatig. Dyna pam y mae'n rhaid i'r broses ar gyfer asesu pellach fod yn addas i'r diben, i sicrhau bod y rhai sydd angen bathodyn glas, ond nad ydynt yn gymwys yn awtomatig, yn gallu cael yr achubiaeth hanfodol honno. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ganlyniad yr adolygiad ar iddo gael ei gwblhau.
Derbyniwyd argymhelliad 2 mewn egwyddor. Y neges bwysig yma yw sicrhau bod pobl sy'n cael diagnosis terfynol yn cael bathodyn glas cyn gynted â phosibl. Byddai'n well pe bai canllawiau'n ei gwneud yn orfodol i geisiadau gael eu rhoi ar y trywydd carlam, ond rwy'n cydnabod y cyfyngiadau mewn perthynas â gwneud hynny.
Mae'r pwyllgor yn siomedig fod argymhelliad 4 wedi'i wrthod. Mae'n ymwneud ag archwilio opsiynau ar gyfer cyflwyno cynllun parcio rhatach ar wahân ar gyfer pobl sydd angen mynediad cyflym at amwynderau ond nad ydynt yn gymwys i gael bathodyn glas yn eu hawl eu hunain. Roedd y Gweinidog o blaid edrych ar drefniant o'r fath yn ei dystiolaeth i ni, a soniodd am broses gyfochrog ar gyfer cynllun parcio cadarnhaol a fyddai'n agored i nifer fwy o bobl. Felly, roeddem yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno cynllun o'r fath.
Mae'r ymateb yn cyfeirio at yr angen am sylfaen dystiolaeth gadarn, ac er ein bod yn cydnabod hynny, hanfod yr argymhelliad hwn yw archwilio opsiynau. Gofynnodd fy llythyr i'r Gweinidog ailystyried, a sylwaf fod ei ymateb yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda'r awdurdodau lleol a fyddent yn agored i ehangu parcio rhatach. Byddem yn gwerthfawrogi'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog pan fydd y trafodaethau hynny wedi digwydd.
Rwy'n falch fod argymhelliad 6 wedi'i dderbyn. Rydym yn deall pam nad oes gan feddygon teulu rôl ffurfiol mwyach yn y broses asesu. Fodd bynnag, teimlai llawer o randdeiliaid ei bod yn bwysig, pan fydd gwybodaeth ychwanegol ar gael gan feddygon neu weithwyr proffesiynol eraill i gefnogi cais, y dylai hyn gael ei ystyried yn briodol.
Clywsom am bwysigrwydd sicrhau bod yr holl aseswyr bathodynnau glas yn deall ac yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd. Rwy'n derbyn safbwynt Llywodraeth Cymru, sef na all canllawiau a roddir i awdurdodau lleol nodi bod yn rhaid i staff fod wedi'u hyfforddi. Fodd bynnag, oni bai ei fod yn orfodol, sut y gallwn fod yn sicr y bydd hyfforddiant o'r fath yn digwydd?
Derbyniwyd argymhelliad 8 mewn egwyddor. Buom yn trafod gyda'r Gweinidog yr angen i gynnwys y rheini sydd wedi cael profiad byw o'r broses asesu. Roedd yn hyderus, pan fydd cyd-awdurdodau trafnidiaeth yn cael eu sefydlu, y byddai hon yn nodwedd bwysig i roi cyngor ar sut y gellid gwella'r modd y darparir gwasanaethau. Rydym yn sylweddoli bod darpariaethau sy'n ymwneud â sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth yn ymwneud yn bennaf â gwasanaethau bysiau a thacsis, ond cawsom ein sicrhau gan y Gweinidog y gallai fod rôl hefyd o ran rhoi cyngor ar y broses o wneud cais am fathodyn glas. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae'n rhagweld rôl i'r rhai sydd â phrofiad byw o'r system bathodynnau glas wrth sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth.
Yn yr ymateb, mae Llywodraeth Cymru yn datgan y bydd yn disgwyl i'r cyrff rhanbarthol newydd fod â threfniadau ar waith ar gyfer gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys deiliaid bathodynnau. Byddai'r pwyllgor yn gwerthfawrogi cael mwy o sicrwydd ynglŷn â sut y bydd hyn yn gweithio. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y caiff hyn ei weithredu a'i fonitro.
Mae argymhelliad 11 yn ymwneud â diwygio Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, yn benodol mewn perthynas â chyhoeddi canllawiau statudol. Roedd anghysonderau o ran gweithredu'r cynllun bathodynnau yn un o'r prif bryderon a godwyd gan randdeiliaid ac yn wir, dywedodd y Gweinidog wrthym mai ei flaenoriaeth gyntaf oedd sicrhau cysondeb ledled Cymru. Eto i gyd, ymateb Llywodraeth Cymru yw gwrthod, er i'r Gweinidog gydnabod mewn tystiolaeth i ni y byddai'n fwy dymunol i gael canllawiau statudol ar waith. Cawsom ein synnu a'n siomi gan yr ymateb. Sylwaf fod llythyr y Gweinidog yn dweud y bydd swyddogion yn trafod y canllawiau gydag awdurdodau lleol ac unwaith eto, byddem yn gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf maes o law.
Mae gwrthod argymhelliad 13 yn fater arall sy'n peri pryder. Rydym yn gwybod bod y broses adnewyddu yn achosi pryder diangen i bobl, felly dywedasom y dylai'r rhai sy'n dioddef o gyflwr gydol oes neu gyflwr sy'n dirywio allu adnewyddu'n awtomatig, gan na fyddai eu hamgylchiadau wedi newid. Wrth wrthod hyn, cyfeiriodd y Gweinidog at wasanaeth digidol y bathodyn glas, sydd wedi bod ar waith ers mis Chwefror, fel modd o ddynodi a yw bathodyn wedi'i ddyfarnu am oes. A all y Gweinidog roi sicrwydd fod y system hon yn gweithio'n effeithiol?
Cyfeiriodd ein hadroddiad at dystiolaeth a glywsom gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n cysylltu'n rhagweithiol â'r rheini y mae dyddiad terfyn eu bathodynnau yn agosáu. Roeddem yn croesawu'r dull hwn o weithredu. Eto i gyd, clywsom yn anffurfiol gan randdeiliad fod awdurdodau lleol yn optio allan o alluogi'r system newydd i gyhoeddi llythyrau atgoffa, gan mai cyfrifoldeb ymgeiswyr oedd ailymgeisio. Byddai'n fater o bryder pe bai'r arfer hwn yn un a ailadroddir yn eang, a hoffwn ofyn a yw'r Gweinidog yn ymwybodol o'r materion hyn.
Mae gorfodaeth briodol yn hanfodol i sicrhau uniondeb y cynllun, felly rwy'n falch fod y rhan fwyaf o'r argymhellion ar hyn wedi'u derbyn, mewn egwyddor o leiaf. Argymhelliad 16 oedd bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'i gilydd i ehangu'r ystod o gosbau a osodir ar y rhai sy'n euog o gamddefnyddio'r cynllun. Rwy'n falch fod yr ymateb yn cyfeirio at gyfle i gynnal trafodaeth gychwynnol. Fodd bynnag, buaswn yn ddiolchgar am ragor o fanylion gan y Gweinidog ynglŷn â sut y caiff hyn ei ddatblygu.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, fel y dywedais eisoes, mae'r cynllun bathodyn glas yn hanfodol i alluogi llawer o bobl i fyw'n annibynnol, ac mae'r posibilrwydd o fethu cael bathodyn yn achosi llawer o bryder. Mae'r rhain yn faterion pwysig, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru ailystyried rhai o'n hargymhellion a wrthodwyd er mwyn sicrhau bod y cynllun yn gweithredu mor effeithiol â phosibl ar gyfer ein holl gymunedau ledled Cymru.
Wel, mae'r model cymdeithasol o anabledd, a ddatblygwyd gan bobl anabl, yn dweud bod pobl yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas, nid oherwydd eu nam nac unrhyw wahaniaeth. Gall rhwystrau fod yn gorfforol, fel adeiladau heb doiledau hygyrch, neu gallant gael eu hachosi gan agweddau pobl tuag at wahaniaeth. Gan gadw hynny mewn cof, ac fel y mae ein hadroddiad yn datgan,
‘Mae bathodynnau glas yn achubiaeth i ystod eang o bobl yn ein cymdeithas. Hebddynt, byddai llawer o’r bobl hyn yn ei chael hi’n anodd sicrhau mynediad at wasanaethau hanfodol, gan gynnwys mynd i apwyntiadau meddygol. Byddai’n anodd iddynt fynd i siopa a defnyddio cyfleusterau hamdden, a byddai hynny’n cyfyngu ar eu gallu i fyw bywydau annibynnol. O ganlyniad, gallent gael eu hynysu’n gymdeithasol, a gallent fod yn gaeth i’w cartrefi eu hunain.'
Ar ôl derbyn ein hargymhelliad 1, fod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad o'r meini prawf cymhwystra ar gyfer y bathodyn glas, cymhwysodd Llywodraeth Cymru hyn trwy nodi,
‘Bydd swyddogion yn ystyried ymchwil bellach trwy gydweithio â thair gwlad arall y DU', lle bydd canfyddiadau’n llywio’r camau nesaf, gan ychwanegu,
'ni ellir cadarnhau a oes modd talu am y costau hyn o'r cyllidebau presennol.'
Fel y mae wedi'i eirio, felly, nid derbyn yw hyn, ac mae angen eglurder yn unol â hynny.
Mae argymhelliad 4 yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio opsiynau ar gyfer cyflwyno cynllun parcio rhatach, ar wahân i'r cynllun bathodyn glas, i ddiwallu anghenion y rhai sydd angen mynediad cyflym at amwynderau, fel gofalwyr, rhai â phroblemau anymataliaeth, a'r rhai sy'n dioddef nam dros dro y disgwylir iddo bara llai na 12 mis, heb effeithio ar argaeledd lleoedd parcio ar gyfer pobl â phroblemau symudedd.
Wrth wrthod hyn, mae Llywodraeth Cymru yn datgan y bydd y sail dystiolaeth gadarn a fydd yn ofynnol,
'yn cael ei gynnwys yn yr adolygiad a nodwyd yn argymhelliad 1', h.y. gan godi’r un pryder ag a nodwyd yn gynharach.
Bûm yn galw ers amser maith am fathodynnau glas dros dro, ar ôl derbyn gohebiaeth gan etholwyr dros y blynyddoedd sydd wedi bod â namau dros dro, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddibynnu ar gymhorthion symudedd am gyfnodau cyfyngedig oherwydd damwain, llawdriniaeth, neu ffactorau eraill o bryd i'w gilydd. Wrth siarad yma yn 2016, cynigiais welliant i ohirio cyflwyno bathodynnau glas dros dro oherwydd nad oedd rheoliadau diwygio Llywodraeth Cymru yn mynd agos digon pell ac yn dal i achosi i ormod o bobl fod yn anabl. Er bod y bathodynnau glas hyn a oedd ar gael i bobl â namau dros dro sy'n para mwy na 12 mis ond nad ydynt yn barhaol yn gam i'r cyfeiriad cywir, dywedais eu bod,
'yn torri’r ymrwymiadau y gwnaeth Llywodraeth Cymru eu datgan yn gyhoeddus i gymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i fyw'n annibynnol ac i'r model cymdeithasol o anabledd.'
Dywedodd Age Cymru wrthyf ar y pryd,
Rydym yn cytuno â chi y dylai fod hyblygrwydd ynghylch y cyfnod o amser y rhoddir bathodynnau dros dro ar ei gyfer, a barnwn y dylid seilio cyfnod o amser y bathodyn mewn amgylchiadau o’r fath ar faint o amser y bydd y sawl sy’n ymgeisio yn ei gymryd i wella, a dywedodd Anabledd Cymru,
Yn ddelfrydol, dylai fod terfyn amser sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn i fathodynnau glas er mwyn adlewyrchu'r nam penodol, yn hytrach nag un cyfnod o flwyddyn i bawb.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad 7, a oedd yn argymell,
'y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei chanllawiau i awdurdodau lleol i nodi’n glir bod yr holl staff sy’n ymgymryd ag asesiadau bathodyn glas yn cael eu hyfforddi i ddeall y model cymdeithasol o anabledd ac i’w rhoi ar waith', ar y sail mai argymell yn unig y gall ei chanllawiau ei wneud, yn hytrach na nodi’n benodol. Fel y dywed ein hadroddiad, amlygodd Anabledd Cymru anghysonderau yng ngwybodaeth a dealltwriaeth aseswyr ar draws awdurdodau lleol a dywedodd,
Nid ydym yn gwbl argyhoeddedig ynghylch cymhwysedd pobl i gynnal yr asesiadau hynny. Nid oes gennym wybodaeth ynglŷn â pha hyfforddiant y mae’r bobl hynny wedi’i gael i allu gwneud y penderfyniadau hynny.
Codwyd y mater hwn hefyd gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a awgrymodd y dylai hyfforddiant addas, gan gynnwys hyfforddiant awtistiaeth, fod yn orfodol i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar gymhwystra ar gyfer bathodyn glas o dan y meini prawf dewisol ar gyfer nam gwybyddol. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau hyfforddiant profiad byw ar gyfer aseswyr bathodynnau glas, bydd camgymeriadau asesu yn parhau i wneud cam â phobl, fel y gwnaiff y ffaith ei bod yn gwrthod argymhellion 9 a 10 y pwyllgor y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi prosesau adolygu ac apelio ffurfiol ar waith i ymgeiswyr allu herio penderfyniad awdurdod ynghylch cais bathodyn glas.
Er i gyfreithwyr y Cynulliad nodi y gall Llywodraeth Cymru osod dyletswyddau ar awdurdod lleol i wneud trefniadau gyda'r bwriad o sicrhau bod ei swyddogaethau'n cael eu cyflawni gyda sylw dyledus i'r angen i fodloni'r gofynion cyfle cyfartal, trwy ddiwygio Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad oes unrhyw le yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y tymor Cynulliad hwn. Rwy'n cloi felly trwy alw ar bob plaid i gynnwys ymrwymiad i wneud hyn yn eu maniffestos etholiadol ar gyfer tymor nesaf Senedd Cymru.
Dilynodd yr ymchwiliad hwn y gwaith a wnaeth fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian, pan oedd yn aelod o’r pwyllgor hwn o’r blaen drwy dynnu sylw at rai o’r anawsterau a gafodd eu creu gan wendidau drafftio’r rheoliadau gwreiddiol. Roedd problemau wedi codi pan ddaeth yn amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru yn gallu egluro manylion pan oedd awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau gyda gweithredu'r cynllun. Felly, rwy'n falch iawn fod ein pwyllgor wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru ei chanllawiau i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eglurder fel y gall sefydliadau cymwys wneud cais am fathodyn glas yn eu hawl eu hunain. Ac wrth gwrs, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Fodd bynnag, yn wreiddiol, gwrthododd Llywodraeth Cymru naw o’r 19 argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor, ac mae hynny’n syfrdanol mewn gwirionedd. Gan synhwyro pa mor wael y gallai hynny edrych, maent wedi cytuno wedi hynny i dderbyn tri argymhelliad pellach mewn egwyddor, gan ddod â chyfanswm yr argymhellion a wrthodwyd i ychydig llai na thraean o'r cyfanswm. Mae'r argymhellion a wrthodwyd yn cynnwys hyfforddi'r holl staff sydd ynghlwm wrth asesiadau yn y model cymdeithasol o anabledd ac i'r ddeddfwriaeth ddarparu ar gyfer proses adolygu i bobl allu herio penderfyniad.
Nawr, sawl gwaith y gwelsom Aelodau Cynulliad Llafur yn y lle hwn yn nodi annhegwch asesiadau ar gyfer anabledd pan gânt eu cynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau? Sawl gwaith y gwnaethom gydnabod pwysigrwydd apeliadau yn erbyn eu penderfyniadau a phwysigrwydd sicrhau bod staff yn deall yr anghenion a'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu? Rydym yn canfod dro ar ôl tro fod problem gyda'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd mewn perthynas ag asesu pobl anabl, a dim ond pan fydd gennym brosesau apelio cadarn a staff wedi'u hyfforddi'n briodol y gwelwn fod y problemau hyn wedi’u lleihau. Felly, rwy'n siomedig fod yr argymhellion hyn wedi'u gwrthod. A’r rheswm a roddwyd—nad oes gennych amser i’w wneud—wel, mae’r ffeithiau’n dangos, yn nhymor y Cynulliad hwn, fod llai o ddeddfwriaeth wedi bod nag a gafwyd yn nhymor diwethaf y Cynulliad, felly nid wyf yn derbyn yr esgus hwnnw. Mae'n ymwneud mwy â syrthni a'r Llywodraeth yn ystyried hwn fel mater dibwys y credai ei bod wedi'i ddatrys gyda'i rheoliadau a ddrafftiwyd yn wael.
Rwyf fi, a llawer o Aelodau Cynulliad eraill hefyd, rwy'n siŵr, yn cyfarfod â digon o bobl trwy gymorthfeydd, neu sy'n cysylltu â fy swyddfa—pobl sydd wir angen bathodyn glas. Mae yna bob amser fwy o geisiadau nag y gall y cyngor ddarparu ar eu cyfer. Mae'n ymddangos nad yw llawer o gynghorau ond yn cyhoeddi nifer gyfyngedig o fathodynnau glas bob blwyddyn. Gwn fod yn rhaid mynd i'r afael â phryderon ynghylch twyll a gwn fod y tir sydd ar gael ar gyfer parcio yn gyfyngedig, ond mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau bod dinasyddion Cymru a allai fod â salwch, anableddau neu broblemau symudedd am resymau eraill yn gallu mynd allan a byw bywyd mor llawn ag y gallant. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r epidemig iechyd meddwl cynyddol sy'n gysylltiedig ag unigrwydd cynyddol. Gall bathodyn glas olygu'r gwahaniaeth rhwng cael bywyd neu fod yn garcharor yn eich cartref eich hun. Felly, rwy’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn myfyrio ar hynny ac yn cydnabod eu cyfrifoldebau o ran atal salwch meddwl ac unigrwydd wrth ystyried y cynllun bathodyn glas hwn.
Er fy mod bellach yn aelod o'r pwyllgor, nid oeddwn yn aelod ar yr adeg y cynhaliwyd yr ymchwiliad, ond hoffwn ddiolch i bawb a fu’n casglu'r dystiolaeth a chyflwyno'r adroddiad ar fater mor bwysig i gynifer o bobl sy'n defnyddio'r cynllun bathodyn glas. Ac fel Aelodau eraill, rwy'n gweld llawer o'r rhain yn dod trwy fy swyddfa’n rheolaidd, ac mewn gwirionedd, mae'r staff yn fy swyddfa wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt yn gwrthdroi nifer o apeliadau a chael achosion wedi’u hadolygu gyda'r awdurdod lleol. Felly, mae yna broses lle y gall hynny ddigwydd, ond gall fod yn feichus a gall achosi oedi ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam roeddwn i eisiau siarad. Oherwydd, fel sy'n digwydd yn aml, pan gawn adroddiad wedi'i gyflwyno fel hyn, byddwn yn gweld rhannau o waith achos wedyn sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r adroddiad a gyhoeddwyd.
Felly, rwy'n mynd i gyfyngu fy sylwadau i faes penodol sydd wedi'i ddwyn i fy sylw gan etholwr, ac mae'n fater sy'n gysylltiedig ag argymhelliad 4 ynghylch cyflwyno cynlluniau parcio rhatach dros dro ar gyfer rhai achosion tymor byr. Nawr, rwy’n sylweddoli bod argymhelliad 4 wedi’i wrthod gan y Llywodraeth, ond mae wedi dweud y bydd yn cynnwys hyn yn yr adolygiad a nodwyd yn argymhelliad 1, gan roi ystyriaeth i’r cynllun cerdyn Just Can't Wait. Felly, yn yr un adolygiad, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi ystyried y mater cysylltiedig a grybwyllwyd wrthyf gan ddeiliad bathodyn glas yn fy etholaeth a wynebodd oedi wrth adnewyddu ei gais? Lle mae oedi’n digwydd wrth adnewyddu bathodyn glas, awgrymodd yr etholwr wrthyf y gellid rhoi awdurdodiad dros dro, tebyg i'r un sydd ar gael i'r rheini sydd ag anableddau tymor byr, nes bod y materion sydd angen eu hegluro neu unrhyw anghydfod ynghylch tystiolaeth arall wedi'i ddatrys, oherwydd, fel y mae pethau ar hyn o bryd, maent yn cwympo i’r bwlch rhwng yr amser y maent yn gwneud cais am adnewyddiad tan yr amser y caiff ei roi—mae ganddynt gyfnod o amser lle nad oes ganddynt fathodyn glas mewn gwirionedd. Mae fy etholwr yn dadlau'n gywir y byddai hynny'n golygu y gallai unigolion gynnal lefel dderbyniol o symudedd wrth iddynt aros i'r mater ynghylch adnewyddu gael ei ddatrys.
Nawr, gwn na dderbyniodd y pwyllgor dystiolaeth benodol ar y pwynt rwy’n ei ddwyn i’ch sylw, ac felly, ni fydd wedi clywed tystiolaeth yn ei gylch. Felly, rwy’n ei ddwyn i’ch sylw yn awr, Weinidog, ac yn gofyn a wnewch chi edrych ar hynny fel rhan o'ch adolygiad i sicrhau nad yw pobl yn cwympo i'r bwlch pan fyddant yn adnewyddu bathodyn glas sydd ganddynt eisoes.
Diolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu hadroddiad ar y cynllun bathodyn glas yng Nghymru. Rwyf am gofnodi fy niolch i'r clercod a phawb a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad i gymhwystra a gweithrediad y cynllun bathodyn glas yng Nghymru. Ymunais â'r pwyllgor tuag at ddiwedd yr ymchwiliad, felly hoffwn innau hefyd fynegi fy niolch i gyn-aelodau'r pwyllgor am eu rôl yn ystod y sesiynau tystiolaeth.
Rwy’n hynod siomedig ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad a’n hargymhellion. Gwrthodasant naw o'n hargymhellion i ddechrau, ond ers hynny maent wedi ailystyried ac wedi derbyn argymhellion 2, 8 ac 16 mewn egwyddor. Hoffwn annog y Gweinidog i dderbyn y chwe argymhelliad arall, yn enwedig gan fod eu gwrthodiad yn gwrth-ddweud safbwynt y Gweinidog yn ystod ei dystiolaeth i'r pwyllgor. Yn benodol, mae gweld y Gweinidog yn gwrthod argymhelliad 11 yn syndod mawr, oherwydd, yn ystod ei dystiolaeth lafar, nododd y byddai'n fwy dymunol cael arweiniad statudol ar waith. Rwy'n credu mai hwn yw un o'n hargymhellion pwysicaf, gan ei fod yn mynd at galon y problemau gyda gweithrediad cynllun bathodyn glas.
Rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn y Siambr wedi cael etholwr yn cysylltu â ni i gwyno am anghysonderau yn y ceisiadau bathodyn glas—ceisiadau y dylid eu derbyn ac a fyddai’n cael eu derbyn pe bai'r ymgeisydd yn byw yn rhywle arall. Mae'r cynllun bathodyn glas yn achubiaeth i'r rhai sy'n byw gydag anableddau ac yn gwneud bywyd o ddydd i ddydd cymaint â hynny’n anos. Y peth olaf sydd ei angen ar ein hetholwyr yw fod awdurdodau lleol yn methu dilyn y canllawiau ac yn eu hamddifadu o’u hachubiaeth. Canllawiau statudol yw'r unig ffordd y gallwn sicrhau cysondeb wrth weithredu'r cynllun bathodyn glas ym mhob rhan o Gymru. Mae'r Gweinidog yn gwybod hyn, a chyfaddefodd hyn yn ei sesiynau tystiolaeth. Felly, pam y byddai'n gwrthod argymhelliad 11? Mae'r cynllun bathodyn glas yn gynllun cenedlaethol, ac nid oes lle i ddehongliad lleol—
Caroline, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Fel chi ac ACau eraill, cefais lawer o sylwadau ar yr hyn rydych chi newydd ei ddweud—fod anghysondeb ledled Cymru o ran y ceisiadau am y cynllun bathodyn glas. Felly, roeddwn i'n meddwl bod yr argymhelliad i'w roi ar sail statudol yn syniad da iawn, felly byddai gennyf innau hefyd ddiddordeb yn yr ymateb a gewch i’r cwestiwn hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Nick. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddod dros ei chyndynrwydd i gyfarwyddo llywodraeth leol er mwyn y miloedd o bobl anabl a gafodd eu siomi gan weithrediad y cynllun bathodyn glas yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn holl argymhellion y pwyllgor. Rhaid inni sicrhau bod proses ymgeisio'r cynllun bathodyn glas yn deg, yn gyflym ac yn effeithlon. Dylai'r broses ymgeisio gynnig achubiaeth, nid rhwystr arall eto i bobl anabl ei oresgyn. Weinidog, er mwyn ein hetholwyr anabl, os gwelwch yn dda, ailystyriwch.
Roeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan ddechreuodd yr ymchwiliad hwn, ond nid oeddwn yn aelod pan ddrafftiwyd yr argymhellion, felly rwy'n falch iawn o ymuno yn y ddadl. Rwy'n credu bod yna sawl peth y mae'n rhaid i ni eu cofio. Un yw po fwyaf y byddwn yn cyfyngu ar y defnydd o geir oherwydd materion iechyd cyhoeddus yn ymwneud ag ansawdd aer neu geisio gwneud canolfannau siopa yn fwy deniadol i bobl, i gerddwyr, mae angen i ni sicrhau nad yw bathodynnau glas yn cael eu defnyddio'n dwyllodrus i osgoi’r cyfyngiadau hyn ac i'w hatal rhag gorfod talu am y fraint o ddefnyddio’u ceir ar strydoedd gorlawn. Oherwydd mewn rhannau o Lundain, mae'r bathodynnau glas yn newid dwylo am brisiau premiwm ar y farchnad ddu oherwydd eu bod yn caniatáu i yrwyr barcio yn unrhyw le, a pheidio â gorfod talu i fynd i ganol Llundain. Felly rwy'n credu bod hwn yn fater sylweddol. Yn sicr mae’n fater sylweddol yno. Cynghorir pobl â bathodynnau glas i beidio â gadael eu bathodynnau anabl yn weladwy yn eu ceir, yn enwedig dros nos, oherwydd fel arall mae rhywun yn mynd i dorri i mewn a dwyn y bathodynnau. Felly mae angen i ni sicrhau na chaniateir i'r sefyllfa honno ddatblygu yn ein dinasoedd.
Credaf fod yr adolygiad yn bwysig, i edrych ar y meini prawf cymhwystra ac i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n rhesymegol, ac os dywedir wrth rywun y byddant yn colli eu golwg yn ystod yr wythnosau nesaf, mae'n amlwg y bydd angen rhoi trefniadau ar waith yn gyflym i sicrhau bod eu hanghenion anabledd yn mynd i gael eu diwallu. Ond ar yr un pryd, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cydgysylltu’r cyfan. Rwy'n credu bod angen i awdurdodau lleol edrych ar sut y mae darparu bathodyn glas yn cydblethu â darparu man parcio anabl y tu allan i gartref rhywun, oherwydd gall fod gennych gar ond os na allwch barcio'n ddigon agos i lle rydych chi'n byw, gall fod yn rhwystr difrifol i allu defnyddio'r bathodyn anabl hwnnw. Mae gennyf etholwr ag anabledd corfforol parhaus, ac mae ei rhieni'n awyddus iawn i sicrhau bod eu merch yn byw bywyd mor egnïol â phosibl, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt ei chludo i weithgareddau ar ôl ysgol mewn car, gan y byddai'n ei chael hi'n anodd iawn mynd â’i chadair olwyn ar fws a gwneud ei ffordd i leoliad y gweithgaredd. Mae'r stryd gul lle mae'n byw yn llawn o bobl sydd wedi’u bendithio â digon o arian i gael car, neu hyd yn oed ddau gar, ac yn ffodus mae'r cymdogion i gyd yn cefnogi eu cais am fan parcio anabl, ond mae’n parhau i gael ei wrthod ar y sail fod yr awdurdodau lleol yn ymweld yng nghanol y dydd, ac maent yn hysbysu'r teulu nad oes anhawster parcio yng nghanol y dydd—am fod pawb wedi defnyddio'u ceir i fynd i'r gwaith. Ond nid dyna pryd y mae angen iddynt barcio. Mae angen iddynt barcio ar ddiwedd y dydd, ac mae angen i'w plentyn allu mynd i mewn i'r tŷ heb gymhlethdodau enfawr.
Gan droi at y rhai na allant fforddio cael car, rwy’n credu ei bod yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 8 i gyflymu’r gwaith o sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth, fel y gall y rhai sydd â phrofiad byw o anabledd roi cyngor ar y ffordd orau o ddiwallu anghenion yr holl ddinasyddion anabl. Mae hynny'n cynnwys pobl nad oes ganddynt gar, pobl nad ydynt erioed wedi dysgu gyrru, pobl na all eu teuluoedd fforddio car, ond sydd ag anghenion anabledd er hynny sy'n eu hatal rhag taro i’r siop heb orfod meddwl am y peth a'i wneud yn weithgaredd diwrnod cyfan yn lle hynny. Mae sgwteri anabledd wedi trawsnewid bywydau llawer o bobl, ac mae bob amser yn hyfryd gweld pobl oedrannus yn rhoi pas i'w hwyrion ar eu sgwteri. Ond roeddwn yn meddwl hefyd tybed a wnaiff y Llywodraeth roi rhywfaint o ystyriaeth i rôl beiciau trydan, sy'n llai anhylaw ac sy'n gallu mynd o gwmpas corneli’n gynt o lawer na sgwter anabledd, yn enwedig mewn mannau prysur.
Rwyf hefyd yn siomedig eich bod wedi gwrthod argymhelliad 16, oherwydd credaf y bydd hyd yn oed deiliaid bathodynnau anabl yn torri'r rheolau. Byth a beunydd, rwy’n gofyn i bobl symud oddi wrth y palmant isel y tu allan i fy swyddfa etholaethol er mwyn galluogi pobl mewn cadeiriau olwyn i groesi'r ffordd. Ac maent yn dweud, ‘Ond mae gennyf fathodyn anabledd,’ ac rwy'n dweud, ‘Efallai fod gennych chi fathodyn anabledd, ond parciwch ychydig ymhellach i lawr dyna i gyd, fel bod y rhai sydd mewn cadair olwyn yn gallu croesi'r ffordd’. Felly, credaf fod angen system lawer llymach i atal pobl nad oes ganddynt hawl i wneud hynny rhag parcio mewn mannau parcio i bobl anabl.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am gynhyrchu'r adroddiad rhagorol hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, ond mae'r materion y mae'n eu trafod yn peri pryder mawr i lawer o fy etholwyr. A buaswn yn mynd ymhellach i ddweud, am gyfnod sylweddol o amser ers i mi gael fy ethol, mai helpu etholwyr y gwrthodwyd bathodyn glas iddynt yw’r elfen unigol fwyaf yn fy ngwaith achos, felly rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl hon.
Hoffwn ganolbwyntio ar brofiadau pobl yng nghwm Cynon, a nodi sut y mae argymhellion yr adroddiad yn adlewyrchu realiti eu bywydau, gan ddechrau gydag argymhelliad 1. Mae’r newidiadau sydd wedi digwydd i'r meini prawf cymhwystra i'w croesawu yn fy marn i, ac fel y mae siaradwyr eraill wedi dweud, mae bathodynnau glas yn achubiaeth sy’n galluogi eu deiliaid i gael mynediad at wasanaethau hanfodol, i wella eu dewisiadau a'u grymuso i fyw bywydau annibynnol.
Mae'n iawn fod y broses ymgeisio yn cydnabod mathau eraill o gyflyrau a diagnosis—fod bathodynnau glas ar gael i bawb a allai elwa ohonynt. Ond cefais fy nharo gan y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor nad yw hyn yn digwydd ym mhob man. Er enghraifft, dyfynnir Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn yr adroddiad yn dweud nad yw’r manteision posibl o gynnwys namau gwybyddol wedi’u gwireddu go iawn. Ac mae hyn yn rhywbeth a welais yn amlwg iawn yn fy ngwaith achos. Rwyf wedi ymdrin â nifer o achosion lle y gwrthodwyd bathodyn i bobl yn dioddef o orbryder a materion iechyd meddwl eraill. O fy ngwaith achos, buaswn yn dweud bod y grŵp hwn yn cael ei effeithio'n anghymesur pan ymddengys bod yna unrhyw symudiad tuag at gyfyngu ar geisiadau. Ac mae'r rhain yn afiechydon gwanychol sy'n effeithio ar allu pobl i weithredu'n gymdeithasol, pan fyddai bathodyn glas yn helpu'r deiliad i fynd allan ac i ymgysylltu mwy.
Daeth etholwyr â phroblemau iechyd sylweddol sy’n effeithio ar eu symudedd, megis clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, i gysylltiad â mi hefyd. Fodd bynnag, oherwydd eu bod yn ymdrechu i oresgyn eu cyflwr, gallant ddioddef oherwydd nad yw lefel eu symudedd yn bodloni’r meini prawf cymhwystra. Nid yw'n ymddangos ychwaith fod y meini prawf hyn yn ystyried y ffaith bod pobl â phroblemau iechyd parhaus yn teimlo'n well ar rai dyddiau nag ar ddyddiau eraill.
Mae gennyf etholwr hefyd a ddywedodd wrthyf y gallent dderbyn un o'r budd-daliadau a fyddai'n rhoi hawl iddynt i fathodyn glas yn awtomatig. Fodd bynnag, roedd eu sefyllfa ariannol yn golygu nad oeddent yn teimlo eu bod am wneud cais am y budd-daliad penodol hwnnw. Ond o ganlyniad i beidio â gwneud cais amdano, roeddent ar eu colled gan i’w cais am fathodyn glas gael ei wrthod yn awtomatig yn sgil hynny. Nawr, mae hon yn ymddangos yn sefyllfa chwerthinllyd, ac rwy'n credu bod gwir angen i ni gael y meini prawf cymhwystra'n iawn.
Yn yr un modd, buaswn yn cefnogi argymhelliad 2. Roedd rhai o'r achosion mwyaf torcalonnus ac anesboniadwy y bu'n rhaid i mi a fy staff ymdrin â hwy'n ymwneud â bod bathodyn glas wedi’i wrthod i ymgeiswyr â salwch terfynol.
Mae argymhelliad 13—ymdrin ag adnewyddu—yn allweddol hefyd. Y rheswm pam y bydd pobl yn cysylltu â mi amlaf, fel ACau eraill rwy’n siŵr, yw i ofyn am gymorth pan fydd cais wedi’i wrthod. Mewn llawer o'r achosion hyn, adnewyddiad sydd wedi'i wrthod, ac roedd etholwyr a gafodd eu heffeithio gan hyn yn bobl â chyflyrau difrifol a gyfyngai ar eu bywydau ac a oedd wedi bod â bathodynnau glas ers blynyddoedd lawer, pobl nad oedd eu cyflyrau wedi gwella, ond er hynny, gwrthodwyd y bathodyn glas yr oeddent wedi dibynnu arno. Rhoddaf un enghraifft yn unig i chi. Roedd gan un o fy etholwyr lu o anawsterau iechyd corfforol a meddyliol, ac roedd hi wedi bod yn defnyddio bathodyn glas ers dros 20 mlynedd. Gwrthodwyd ei chais i’w adnewyddu am nad oedd hi’n defnyddio ffon gerdded. Câi’r y defnydd o ffon gerdded ei ddefnyddio fel tystiolaeth o anawsterau cerdded. Yr hyn na chafodd ei ystyried, er gwaethaf llawer o dystiolaeth feddygol a ddarparwyd gan weithwyr proffesiynol a oedd wedi gweithio gyda hi, oedd y ffaith na allai fy etholwr ddefnyddio ffon gerdded am ei bod yn gwella ar ôl cael canser y fron, a chael mastectomi, ac wedi colli'r cryfder roedd hi ei angen yn ei braich i afael mewn ffon.
I ymdrin ag apeliadau, hoffwn sôn hefyd am argymhellion 9 a 10. Hoffwn weld rhyw fath o broses apelio ffurfiol. Yn Rhondda Cynon Taf, mae gallu o’r fath ar gael i ymgeiswyr aflwyddiannus apelio, ond mae llawer o'r achosion yr ymdriniais â hwy yn ymgeiswyr a wrthodwyd ar apêl cyn iddynt ddod ataf. Felly er gwaethaf y broses hon, rwy'n credu bod rhywbeth yn mynd o'i le o hyd.
I gloi, rwy'n teimlo bod angen i ni gyflwyno dwy egwyddor, sef cyfrifoldeb ac eglurder, i'r system hon. Mae wedi bod yn rhwystredig iawn wrth i mi nodi profiadau etholwyr, pan fo Llywodraeth Cymru yn dweud wrthyf mai'r broblem yw’r modd y mae awdurdodau lleol yn dehongli'r canllawiau, ac mae cynghorau'n dweud mai’r ffordd yr ysgrifennwyd y canllawiau hynny sydd ar fai. Gallai'r argymhellion y mae'r adroddiad yn eu nodi gyflwyno cyfrifoldeb ac eglurder i'r system, a byddai hynny o fudd i brofiadau fy etholwyr o'r cynllun bathodyn glas.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am eu hymchwiliad ac am eu hadroddiad ar y cynllun bathodyn glas yma yng Nghymru? Mae eu hadroddiad yn cynnwys 19 o argymhellion, ac rwyf wedi'u hystyried ac wedi myfyrio arnynt yn ofalus. Bydd rhai o'r argymhellion hyn yn galw am waith, ymchwil a thrafodaethau pellach ar draws pedair gwlad y DU, tra bydd eraill yn destun gweithredu cynnar gan swyddogion.
Ddirprwy Lywydd, roedd yn dda gweld ehangder y dystiolaeth a gymerodd y pwyllgor gan ystod o bartïon, ac yn bersonol roeddwn yn falch fy mod wedi cael cyfle i gyfrannu er mwyn pwysleisio pa mor bwysig yw'r cynllun hwn i'r rhai sy'n dibynnu arno. Mewn gwirionedd, heb y cynllun, ni fyddai llawer o'r 212,000 o ddeiliaid bathodynnau yng Nghymru yn gallu defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau, byddai rhai yn gwbl gaeth i’w cartrefi ac yn ynysig, a byddai llawer o rai eraill yn colli eu hannibyniaeth. Felly, mae'n rhaid i bawb ohonom ofalu ein bod yn diogelu hawliau deiliaid bathodynnau presennol ac yn y dyfodol, er mwyn sicrhau y gallant barhau i fwynhau manteision y cynllun mewn amgylchedd lle mae nifer y lleoedd parcio’n gyfyngedig.
O ran adroddiad y pwyllgor, trof yn gyntaf at gymhwystra. Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol fod Lloegr yn ddiweddar wedi ymestyn y cymhwystra i fathodyn glas i gynnwys pobl â namau gwybyddol, yn benodol pobl na allant adael cartref oherwydd trallod seicolegol llethol neu oherwydd eu bod yn wynebu risg sylweddol naill ai iddynt hwy eu hunain neu i eraill. Yma yng Nghymru, rydym wedi cynnwys pobl ag anableddau cudd ers 2014, ac yn arbennig pobl sydd angen cymorth gyda phob taith oherwydd namau gwybyddol. Dylai Cymru fod yn falch o fod wedi arwain y ffordd a chydnabod y gall anableddau cudd gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ac ar eu symudedd. Ond o'r dystiolaeth, mae'n amlwg fod angen gwneud mwy o waith.
Gall Cymru fod yn falch hefyd o'r ffordd rydym yn trin cymhwystra. Ar sail gyfrannol, rhoddir bathodyn glas i fwy o bobl yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae gan 6.8 y cant o’r boblogaeth fathodyn, yng Ngogledd Iwerddon mae'r ffigur yn 5.3 y cant, yn yr Alban mae'n 4.5 y cant, ac yn Lloegr, nid yw ond yn 3.8 y cant. Fodd bynnag, gwn fod y pwyllgor yn cwestiynu a ydym wedi mynd yn ddigon pell i ymestyn y cymhwystra. Mae hwn yn gwestiwn anodd ac mae angen ei ystyried ymhellach.
I'r perwyl hwnnw, mae fy swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda'r tair gwlad arall i rannu gwybodaeth am gymhwystra cyfredol i bennu a oes rhesymau cyfiawn dros ei newid. Credaf na ellir gwneud unrhyw newidiadau pellach i'r meini prawf cymhwystra oni bai fod yna sylfaen dystiolaeth gadarn i gefnogi newidiadau o'r fath. Nid wyf am leihau argaeledd consesiynau parcio i ddeiliaid bathodynnau cyfredol, sef bron i 7 y cant o'r boblogaeth.
Gallai cynyddu'r meini prawf cymhwystra yn ddireolaeth a pheidio â seilio newid ar dystiolaeth gadarn gynyddu nifer y deiliaid bathodynnau’n ddramatig, gan arwain at bwysau ar adnoddau a mynediad at gonsesiynau parcio pwrpasol, a gallai hynny danseilio gweithrediad yn ogystal â hygrededd y cynllun y dymunwn ei ddiogelu. Felly mae sicrhau bod y meini prawf cymhwystra yng Nghymru yn gywir a bod y consesiynau parcio gwerthfawr yn cael eu diogelu yn gydbwysedd bregus.
Trof yn awr at yr asesiad o bobl sy'n ymgeisio am y cynllun. Rwy'n credu y bydd pob Aelod yn ymwybodol mai awdurdodau lleol sydd i benderfynu pwy sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra, ond mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu offer i'w cynorthwyo yn eu dyletswyddau. Mae'r gwasanaeth ar-lein cenedlaethol, gwasanaeth digidol y bathodyn glas, dan arweiniad Lloegr, yn galluogi pobl i wneud cais ar-lein ac yn trefnu’r gwaith o gynhyrchu a dosbarthu bathodynnau. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu gwasanaeth asesu annibynnol. Mae'n darparu cyngor a chymorth i awdurdodau lleol pan na allant wneud penderfyniad. Fodd bynnag, nid yw pob awdurdod lleol yng Nghymru yn defnyddio'r offer a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sicrhau bod awdurdodau lleol yn fodlon â'r deunyddiau a'r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu ac i weithio gydag awdurdodau lleol ar ddatblygu unrhyw offer neu hyfforddiant pellach. Mae gweithgor o awdurdodau lleol a rhanddeiliaid wedi'i sefydlu, ac mae'r cyfarfod cyntaf wedi bod yn hynod gynhyrchiol. Datblygir rhaglen waith i fynd i'r afael ag argymhellion adroddiad y pwyllgor.
Gan droi at orfodi, mae ymarferion diweddar mewn dau awdurdod lleol wedi datgelu lefelau na ellir eu hanwybyddu o gamddefnydd o gynllun consesiwn parcio y bathodyn glas. Yng Nghaerdydd, dros gyfnod o 12 diwrnod rhwng Ebrill a Mehefin, atafaelwyd 15 bathodyn oherwydd camddefnydd. Yn bersonol, cefais fy synnu a fy nigalonni gan ymddygiad y rhai sy'n camddefnyddio’r cynllun. Hyd yn oed yn fwy rhyfeddol, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dros ddau ddiwrnod o weithgaredd gorfodi, targedodd swyddogion ardal hysbys, gan arwain at 16 o droseddau difrifol, gydag o leiaf 10 o'r rhain yn symud ymlaen i gamau gorfodi pellach. Credaf fod gorfodi yn allweddol i amddiffyn y consesiynau ar gyfer deiliaid bathodynnau, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y gellir cynnal ymarferion pellach. Tynnodd y pwyllgor sylw at orfodaeth mewn gwirionedd, ac argymhellodd y dylwn adrodd i'r Cynulliad y flwyddyn nesaf ar berfformiad awdurdodau lleol, a gobeithio, bryd hynny, y byddwn yn gallu dangos cynnydd pellach ar orfodi ar draws rhannau eraill o Cymru Siaradodd Jenny Rathbone, ymhlith eraill, yn gywir am bwysigrwydd gorfodi, a hoffwn achub ar y cyfle i sicrhau Jenny ein bod wedi derbyn argymhelliad 8 a 16 mewn egwyddor.
Gan droi at gyfathrebu, bydd sicrhau bod y cynllun bathodyn glas yn cael ei barchu a'i ddeall yn helpu yn y frwydr yn erbyn camddefnydd, a gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion i wella cyfathrebu. Mae gwaith eisoes ar y gweill i adolygu taflenni a chanllawiau sy'n gysylltiedig â'r cynllun trwy weithgor gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid.
Mae'r ymchwiliad wedi dod â'r cynllun gwerthfawr hwn i'r blaen ac wedi ein hatgoffa am bwysigrwydd y cynllun hwn, a phwysigrwydd rheoli camddefnydd. Rwy'n hyderus, Ddirprwy Lywydd, y bydd fy ymateb i argymhellion y pwyllgor a'r camau a amlinellais yn fy anerchiad yn cyflawni newid sy'n deg i bawb. Ac ni ddylai’r ffaith fy mod yn gwrthod rhai o'r argymhellion gael ei gweld fel parodrwydd ar fy rhan i beidio â gweithredu trwy ymyriadau amgen. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gryfhau cysondeb yn eu dull o drin ceisiadau a wrthodwyd, a byddwn hefyd yn trafod gydag awdurdodau lleol a ydynt yn agored i ehangu parcio rhatach ac os felly, byddwn yn darparu cymorth i bennu a oes cyfle i wneud hynny. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro'r defnydd o ganllawiau cyfredol a hefyd yn chwilio am gyfleoedd i wella eu cynnwys a'u defnydd.
Mewn perthynas ag argymhelliad 13, wrth gwrs, byddwn yn gwirio effeithiolrwydd gwasanaeth digidol y bathodyn glas ac yn atgoffa awdurdodau lleol i'w ddefnyddio. Byddaf hefyd yn archwilio'r pwynt penodol a godwyd gan Dawn Bowden ynghylch adnewyddu.
Nawr, er bod nifer o'r argymhellion yn dda o ran eu bwriad, trwy eu gweithredu, gallai fod—gallai fod—canlyniadau niweidiol nad yw'r pwyllgor wedi gallu ymchwilio iddynt, megis canlyniadau posibl cynyddu nifer y bathodynnau sydd mewn cylchrediad yn sylweddol. Ond rwy’n barod i ystyried argymhellion pellach os ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth feintiol ac ansoddol gadarn. Ac i'r perwyl hwnnw wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am drafodaethau'n ymwneud ag argymhellion 4 ac 11.
Unwaith eto, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu hymchwiliad a'u hadroddiad ar y cynllun bathodyn glas, sydd o fudd i bron ddwbl y gyfran o ddinasyddion yng Nghymru o gymharu â Lloegr? Mae'r holl Aelodau'n cytuno bod yn rhaid amddiffyn gwerth y cynllun bathodyn glas, ac mae hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o'i wneud.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Pwysleisiodd Mark Drakeford—Mark Isherwood, mae'n ddrwg gennyf—[Chwerthin.] Mae'n anodd iawn drysu rhwng y ddau, Ddirprwy Lywydd—rhaid ei fod yn arwydd o flinder, rwy'n meddwl. Pwysleisiodd Mark Isherwood y model cymdeithasol o anabledd wrth ystyried y materion hyn, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth a ddaeth i'r amlwg yn glir yn y dystiolaeth a gawsom yn ein gwaith fel pwyllgor. Nid oes amheuaeth fod yn rhaid i'r cysyniad o'r model cymdeithasol o anabledd—y dull hwnnw o weithredu—fod yn sail i bopeth sy'n digwydd mewn perthynas â'r materion pwysig hyn. Gwyddom fod y ffordd y mae cymdeithas yn ei threfnu ei hun, neu'n methu trefnu ei hun, yn gwbl allweddol i ansawdd bywyd a gallu pobl ag anableddau i fyw'r bywyd annibynnol y maent yn dyheu amdano. Rhaid i hynny fod wrth wraidd ein hystyriaeth o'r holl faterion hyn.
Ddirprwy Lywydd, gadewch i mi ystyried ymateb y Llywodraeth a wyntyllwyd gan y Gweinidog yn awr, ac a drafodwyd gan Aelodau eraill. Fel y dywedwyd, yn wreiddiol, gwrthododd Llywodraeth Cymru naw o'n 19 o argymhellion. Gwnaethom bwyntiau pellach i Lywodraeth Cymru drwy lythyr, fel pwyllgor, ac yna derbyniwyd tri argymhelliad arall mewn egwyddor. Yna, gwnaethom ysgrifennu eto gan wneud pwyntiau eraill, ac yna, mewn ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, derbyniodd y Gweinidog ei bod yn bosibl fod ffyrdd eraill o fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.
Felly, er bod y pwyllgor wedi'i siomi yn yr ymateb cychwynnol, ac yn dal i fod yn siomedig na chafodd mwy o'r argymhellion eu derbyn, credaf ei bod yn deg dweud i ni fod mewn cysylltiad â'r Gweinidog ac rydym wedi gweld symudiad ar ei ran, ac yn wir, rydym wedi cael sicrwydd pellach heddiw. Felly, ydy, mae'r pwyllgor yn siomedig, ond rydym wedi cael deialog ac rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd.
Ar bwynt Dawn Bowden ar y mater penodol hwnnw, mater y mae Dawn yn llygad ei lle yn dweud na chawsom dystiolaeth arno fel pwyllgor—felly, lle mae oedi cyn adnewyddu, mae'n cymryd peth amser i ymdrin â'r mater, ac yn y cyfamser gallai'r bathodyn barhau gan ganiatáu i ddeiliad y bathodyn barhau i fwynhau'r consesiynau a ddaw yn ei sgil. Clywaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth ymateb ac fel pwyllgor, edrychwn ymlaen hefyd at gadw llygad ar hynny.
Credaf fod Jenny Rathbone wedi crybwyll rhai materion diddorol o ran y deiliaid bathodynnau eu hunain, efallai, nad ydynt bob amser yn deall pwysigrwydd eu hymddygiad mewn perthynas ag anabledd a phobl—defnyddwyr cadeiriau olwyn, er enghraifft—sy'n defnyddio palmentydd isel. Yn rhyfedd ddigon, cyfarfûm â grŵp o Drefyclo, a oedd, fel grŵp o bobl ag anableddau—grŵp defnyddwyr—yn gymorth mawr gyda gwaith y pwyllgor yn hwyluso grŵp ffocws ac maent yn parhau i ymgysylltu'n frwd. Yn wir, gwnaethant yr union bwynt a wnaeth Jenny Rathbone—sef mai deiliaid bathodynnau glas eu hunain mewn gwirionedd sydd, yn Nhrefyclo, yn rhy aml yn parcio mewn modd sy'n rhwystro mynediad at balmentydd isel, ac maent yn atgoffa pawb o'r materion hynny'n barhaus.
Felly, siaradwyd am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chyfathrebu, ac unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth y soniodd y Gweinidog amdano. Mae angen inni wneud y pwyntiau priodol yn barhaus a cheisio sicrhau, mor aml â phosibl, fod pobl yn deall y materion hyn ac yn ymddwyn yn briodol. Gallai fod rôl i ymgyrchoedd teledu a chodi ymwybyddiaeth yn ehangach os ydym am fod mor effeithiol ag y mae angen inni fod ar y pwyntiau hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod y Gweinidog wedi cydnabod pwysigrwydd y materion hyn a chael y cydbwysedd cywir fel ein bod yn ymestyn manteision y cynllun gymaint ag y bo modd, ond rydym yn ymwybodol, pe bai hynny'n mynd yn rhy bell, y byddai'n lleihau gwerth y cynllun i ddeiliaid bathodynnau presennol a'r rhai a fydd yn dod yn ddeiliaid bathodynnau o dan y meini prawf presennol. Rydym yn ymwybodol o'r cydbwysedd hwnnw, ac edrychwn ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog fel y gallwn asesu ymhellach i weld a yw'r cydbwysedd hwnnw'n cael ei daro'n briodol.
Ddirprwy Lywydd, gwelaf fod fy amser wedi dod i ben. Gadewch imi ddweud i gloi fod y cynllun hwn yn wirioneddol bwysig oherwydd, fel y nododd y Gweinidog eto, yng Nghymru yn arbennig, mae cyfran uchel o'r boblogaeth yn ddeiliaid bathodyn glas. Felly, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cael y cynllun hwn yn iawn. Mae'n gwneud cyfraniad sylweddol at ansawdd bywyd deiliaid y bathodynnau hyn yma yng Nghymru.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.