– Senedd Cymru am 2:57 pm ar 1 Ebrill 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch ichi, Lywydd. Yn ôl y disgwyl, rydym yn parhau i weld cynnydd yn nifer yr achosion o coronafeirws sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru. Yn anffodus, rydym hefyd wedi gweld mwy o farwolaethau. Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys â'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid ac â'r rhai sy'n ddifrifol wael o hyd.
Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol eithriadol. Fodd bynnag, mae'r ymateb o bob rhan o'n gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn wirioneddol eithriadol hefyd—eithriadol wrth helpu i ddiogelu ein cymunedau ac achub bywydau. Mae pobl yn gweithio'n ddiflino i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Mae'r gwaith hwnnw'n bwysig ar gyfer heddiw, yfory a'n paratoadau ar gyfer yr wythnosau nesaf. Rwy'n ddiolchgar ac yn teimlo'n wirioneddol wylaidd wrth weld cyfraniad pob un o'r bobl hynny i'r ymdrech genedlaethol hon.
Mae gan Lywodraeth Cymru, y GIG a sefydliadau'r gwasanaethau cymdeithasol gynlluniau ar waith eisoes ar gyfer pandemig ffliw posibl. Mae'r cynllun hwnnw'n rhoi sylfaen gadarn inni adeiladu arni, ac mae'r cynlluniau hynny'n cael eu rhoi ar waith yn gyflym yn awr. Mae sefydliadau'r GIG yn gweithio i gynyddu capasiti gwasanaethau lleol, gwelyau ac argaeledd gweithlu. I roi hyn yn ei gyd-destun ac i ddangos maint y gwaith hwn, bydd ein byrddau iechyd wedi creu'r hyn sy'n cyfateb i hyd at 7,000 o welyau ychwanegol gyda'r cynlluniau sydd ganddynt ar waith ar gyfer ysbytai maes neu ysbytai Nightingale—gofal cam-i-fyny a cham-i-lawr yn y bôn. Mae hynny, i bob pwrpas, yn ddwbl nifer gwelyau presennol y GIG. Mae hynny'n eithriadol o dan unrhyw amgylchiadau ac mae wedi digwydd dros nifer o ddyddiau.
Mae cyhoeddiadau pwysig wedi'u gwneud yn ystod yr wythnos ddiwethaf, fel y gŵyr yr Aelodau. Er enghraifft, cymeradwyais £8 miliwn i alluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Undeb Rygbi Cymru, i droi Stadiwm Principality yn ysbyty maes gyda hyd at 2,000 o welyau—mae hynny'n ddwywaith maint Ysbyty Athrofaol Cymru yma yng Nghaerdydd. Mae hynny'n ychwanegol at y capasiti ychwanegol sy'n cael ei greu ar safleoedd ysbytai presennol y bwrdd iechyd.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gynlluniau datblygedig ar ystod o safleoedd, gan gynnwys Parc y Scarlets—fel y gwelsom ar newyddion ITV Cymru neithiwr—ystod o ganolfannau hamdden ledled Sir Gaerfyrddin, a Bluestone yn Sir Benfro. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda'i ddau awdurdod lleol, wedi nodi canolfannau hamdden a Bay Studios yn Llandarcy. Mae'r rhain oll yn ychwanegol at y 350 o welyau a fydd ar gael yn Ysbyty Athrofaol y Grange o fis Ebrill ymlaen. A gwyddom fod gogledd Cymru eisoes wedi nodi Venue Cymru fel un o'i safleoedd, gyda mwy i'w cadarnhau yn y dyddiau nesaf. Felly, mae pob bwrdd iechyd yn datblygu manylebau a chynlluniau capasiti cyfatebol ar gyfer model gwasgaredig o gapasiti gwelyau ychwanegol ledled Cymru.
Ar ofal critigol, rydym eisoes wedi mwy na dyblu nifer y gwelyau yng Nghymru i 313. Ddoe, roedd y defnydd o unedau gofal critigol oddeutu 40 y cant. Mae 69 y cant o'r bobl mewn gwelyau naill ai'n achosion posibl neu'n achosion a gadarnhawyd o COVID-19. Byddwn yn parhau i gynyddu niferoedd gwelyau gofal critigol yn gyflym, a chefnogir hynny drwy brynu dros 965 o beiriannau anadlu ychwanegol, gydag opsiynau pellach i brynu neu weithgynhyrchu peiriannau anadlu'n cael eu harchwilio ar frys.
Gwn fod pryderon parhaus, yn hollol ddealladwy, ynghylch argaeledd cyfarpar diogelu personol. Dros y penwythnos, darparwyd mwy na 600,000 o fasgiau anadlu FFP3 ychwanegol i fyrddau iechyd i'w trosglwyddo ymlaen i safleoedd gofal sylfaenol, cymunedol ac ysbytai, yn ogystal â gwasanaethau a gomisiynwyd, megis ysbytai iechyd meddwl annibynnol a hosbisau. Darparwyd rhagor o gyfarpar diogelu personol ddydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos hon i storfeydd cyfarpar cymunedol ar y cyd awdurdodau lleol i gyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol eu dosbarthu yn y sector gofal cymdeithasol. Rydym bellach wedi darparu, o stociau pandemig Llywodraeth Cymru, mwy na phum miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol i'w defnyddio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r hyn a ddarparwyd i'r storfeydd ar y cyd yn ddigonol i ddarparu digon o gyfarpar diogelu personol i alluogi pob un o’r 600 a mwy o gartrefi gofal yng Nghymru i gyflawni 200 o ymyriadau unigol. Mae cyswllt ffôn ac e-bost wedi'i sefydlu i'r GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol ei ddefnyddio mewn argyfwng os terfir ar gyflenwadau cyfarpar diogelu personol, neu os bydd cynnydd nas rhagwelwyd neu nas cynlluniwyd yn eu defnydd. Dyma'r pwynt y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato mewn cwestiynau yn gynharach.
Er ein bod yn wynebu amser digyffelyb a galw cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, mae'r ymateb gan ein gweithlu wedi bod yn aruthrol. Rydym wedi, a byddwn yn parhau i arloesi wrth fynd ati i ddiwallu’r galwadau arnom yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Wythnos yn ôl, gofynasom i'n nyrsys a'n meddygon sydd newydd ymddeol ddychwelyd i'r GIG, ac maent wedi ymateb yn eu heidiau. Eisoes, mae dros 1,300 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymateb i'r alwad i ddychwelyd ac i wasanaethu'r wlad.
Mae ein myfyrwyr hefyd yn awyddus i'n cefnogi. Rydym yn archwilio ffyrdd o harneisio egni ac ymrwymiad hyd at 3,760 o fyfyrwyr meddygol, nyrsio, bydwreigiaeth, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, parafeddygol a gwyddonwyr iechyd hefyd. Gan weithio'n agos gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym wedi gallu gwneud cynnydd yn yr amser digyffelyb hwn. A bydd pob un o'r myfyrwyr sy'n ymgymryd â chynnig yn cael eu talu yn unol â'u hamser—ni fyddwn yn chwilio am wasanaeth gwirfoddol gan y bobl hynny.
Mae gennym fwy na 1,200 o feddygon teulu ar ein cofrestr locwm yng Nghymru, a byddwn yn gofyn i bob meddyg teulu ystyried pa amser a chapasiti pellach sydd ganddynt i'w gynnig. Dyna pam rydym yn gofyn i bob meddyg teulu locwm ystyried contract dros dro gyda'u bwrdd iechyd. Gall eu harbenigedd helpu mewn cymaint o ffyrdd ym maes gofal cymunedol a sylfaenol.
Mae hwn yn amser anghyffredin sydd wedi galw am fesurau anghyffredin, ond mae ein dull unigryw yng Nghymru o weithio mewn partneriaeth yn ein helpu i wneud gwahaniaeth. Bydd hyb COVID Cymru yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach yr wythnos hon i gefnogi ein hatebion recriwtio estynedig ac esblygol ar draws y gwasanaeth iechyd.
Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i fod mor wydn â phosibl drwy'r galw cynyddol arnynt, rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae meddygon teulu a'u timau aml-broffesiynol, timau fferylliaeth, deintyddion ac optometryddion yn darparu gofal i gleifion ledled Cymru. Mae'r newidiadau rwyf wedi cytuno arnynt wedi'u cynllunio i ymateb i bobl sydd â'r anghenion mwyaf taer, p'un a ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 ai peidio, ac wrth gwrs, i leihau lledaeniad COVID-19.
Rydym yn gofyn i ddarparwyr weithio'n gyfunol yn eu cymunedau i ymdrin â'r sefyllfa hon, ac rwy'n falch fod ein rhanddeiliaid yn cefnogi'r dull hwn o weithredu. Rwy’n annog pawb i ddilyn y cyngor a gyhoeddwyd ar sut i gael mynediad at wasanaethau yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n ddiolchgar i'n darparwyr gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol am eu hymdrechion parhaus yn ystod y sefyllfa hon.
Nodwyd bod oddeutu 81,000 o bobl yng Nghymru yn wynebu risg uchel iawn o salwch difrifol yn sgil COVID-19. Yr wythnos hon, bydd pob unigolyn wedi cael llythyr gan brif swyddog meddygol Cymru. Efallai na fydd wedi cyrraedd eto; rydym yn aros tan ddiwedd yr wythnos i'r holl lythyrau hynny gyrraedd. Mae'r llythyr yn cynnwys cyngor clir i aros gartref am o leiaf 12 wythnos. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £15 miliwn arall i sicrhau y bydd pobl yng Nghymru nad ydynt yn gallu gadael eu cartrefi yn cael bwyd ac eitemau hanfodol eraill wedi’u danfon yn uniongyrchol at eu drysau, ac roedd hwnnw'n bwynt a grybwyllwyd yn natganiad y Prif Weinidog a’r cwestiynau dilynol.
Mae fy nghyd-Aelod o’r Cabinet, Lesley Griffiths, wedi arwain ein sgyrsiau ag archfarchnadoedd a chyflenwyr cyfanwerthol i gytuno ar drefniadau cyflenwi a danfon ar gyfer y grŵp hwn o bobl sy’n cael eu gwarchod mewn cyfnod byr iawn o amser. Mae Julie James, fel y byddech yn ei ddisgwyl, mewn cysylltiad dyddiol â'n hawdurdodau lleol. Ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i'r teulu llywodraeth leol am y ffordd y maent wedi ymateb i arwain a chydgysylltu ymdrechion cymunedol er mwyn cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain.
Felly, mae cynnydd sylweddol eisoes wedi’i wneud ar draws ein system iechyd a gofal. Byddai'n hawdd anghofio bod hyn oll wedi'i gyflawni o fewn ychydig wythnosau yn unig, a dyddiau'n unig mewn rhai achosion. Mae gwaith ein gweision cyhoeddus a'n gwirfoddolwyr yn wirioneddol ysbrydoledig yn fy marn i. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn defnyddio'r wythnosau i ddod i roi paratoadau pellach ar waith. Ond ni fydd y rhain ond mor effeithiol ag y gallent ac y dylent fod os bydd pob un ohonom yn cadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol rydym wedi'u cyflwyno. Arhoswch gartref, diogelwch ein GIG, ac achubwch fywydau.
Weinidog, diolch am eich datganiad. Mewn gwirionedd, credaf fod hwnnw'n bwynt da iawn i’n hatgoffa amdano ar y diwedd. Ar 1 Mawrth, pwy oedd ag unrhyw syniad y byddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw? Felly, rwy'n awyddus iawn i ychwanegu fy niolch a fy llongyfarchiadau am y 7,000 o welyau ychwanegol sydd wedi'u creu yn y GIG. Credaf fod hynny'n waith rhagorol ar ran neu gan y GIG a chan yr holl sefydliadau partner hynny, o'r awdurdodau lleol i'r nifer o sefydliadau sydd wedi cefnogi ac wedi cynnig lleoedd. Credaf fod 7,000 yn rhif cyflym a hawdd iawn i'w ddweud, ond brensiach, pan ystyriwch y logisteg y tu ôl i hynny, rwy'n llongyfarch pob un ohonynt yn fawr iawn am lwyddo i wneud hynny.
Yn eich datganiad, Weinidog, rydych yn sôn am gyfarpar diogelu personol, a bydd yn rhaid imi ddychwelyd at y mater hwn, oherwydd mae'n debyg mai hwn yw'r mater—neu un o'r materion—y mae pobl yn cysylltu â mi fwyaf yn ei gylch. Yn y dyddiau cynnar, nid wyf yn credu i ni weld cyfathrebu clir i bobl ynglŷn â phryd a phwy ddylai ddefnyddio cyfarpar diogelu personol, a chredaf fod y sefyllfa bellach yn fwy niwlog byth. Rwy'n deall y cyngor gwyddonol, sef os ydych yn trin rhywun sydd â symptomau COVID-19, rydych yn gwisgo cyfarpar diogelu personol, a bydd y math o gyfarpar diogelu personol y byddwch yn ei wisgo yn dibynnu ar eich lle yn y gadwyn o bobl sy'n trin rhywun sy'n sâl â COVID-19.
Ond credaf mai'r broblem, Weinidog, yw bod hwn yn glefyd brawychus; fod pobl yn barod i roi eu hunain mewn perygl i helpu'r gweddill ohonom; ein bod yn gwybod na fydd 30 y cant o'r bobl sydd â COVID-19 yn dangos unrhyw arwydd o fod â symptomau; a gwyddom y bydd oddeutu 80 y cant o boblogaeth Cymru yn cael COVID-19 ar ryw adeg neu'i gilydd. Felly, rwy’n deall pryderon nyrsys ardal, y bydwragedd, y trefnwyr angladdau, yn ogystal â phryderon y bobl sydd ar y rheng flaen fel rydym yn adnabod y rheng flaen, sef y wardiau acíwt mewn geiriau eraill.
Felly, a allwch ddweud wrthym, efallai, sut rydym am gael gafael ar y cyfarpar diogelu personol hwn? Pryd y bydd ar gael? Pa mor glir yw’r canllawiau y byddwch yn gallu eu darparu fel bod pobl yn deall pwy ddylai ei ddefnyddio? Ac a ydych yn rhagweld sefyllfa lle rydym yn derbyn, os ydych yn ymdrin â'r cyhoedd, y bydd angen i chi gael rhyw fath o gyfarpar diogelu personol, ni waeth ar ba ffurf?
Felly, er enghraifft, gall gweithiwr gofal cartref fod yn gofalu am 10 o bobl fregus iawn, ac wrth iddynt deithio i ofalu am y 10 o bobl hynny, gallent fod yn lledaenu'r afiechyd yn ddiarwybod, gan na wyddom sut y mae'n amlygu ei hun ym mhawb. Felly, ar fater cyfarpar diogelu personol, mae hwn yn fater nad ydym wedi cyrraedd ei wraidd eto. A allwch ddweud wrthym faint o gyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnom, faint o gyfarpar diogelu personol sydd gennym, ac a fyddwch yn gallu ei gyrchu ar yr adegau priodol i allu ymdopi â’r sefyllfa hon?
Hoffwn ofyn dau gwestiwn arall hefyd, Lywydd. Y cyntaf yw: gan fod gennym ddull caffael ar gyfer y DU gyfan, a allwch ddweud wrthym pa fath o ddata y mae angen i Lywodraeth Cymru ei fwydo i Lywodraeth y DU? A oes gennych syniad clir o’r angen a ragwelir am offer fel peiriannau anadlu, cyfarpar diogelu personol a chitiau profi? Ac a allwch rannu'r niferoedd clir o ran ein sefyllfa yn awr a’r sefyllfa y mae angen inni ei chyrraedd?
Yn olaf, Weinidog, deallaf fod canllawiau moesegol yn cael eu llunio i helpu meddygon i flaenoriaethu cleifion ar gyfer eu derbyn a'u trin yn yr ysbyty. Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo'n fawr â'r meddygon hynny, gan fod y rhain yn benderfyniadau anodd i feddygon eu gwneud wrth weithio mewn amgylchiadau anodd, ond maent yn benderfyniadau sy'n rhaid eu gwneud yn deg. A allwch gadarnhau, Weinidog, pryd y bydd y canllawiau hynny ar gael? Ac a allwch gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi clywed y datganiad hawliau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Age UK, Age Cymru, Age Northern Ireland, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon, ymhlith pobl eraill?
Oherwydd rwy'n credu o ddifrif na ddylid defnyddio'r ffaith bod rhywun angen gofal a chymorth ac mewn cartref gofal neu yn eu cartref eu hunain ar hyn o bryd fel procsi ar gyfer eu statws iechyd. A ydych yn cytuno y byddai gwneud penderfyniadau o'r fath heb ystyried anghenion pobl hŷn na'u gallu i elwa o driniaeth mewn ysbyty yn wahaniaethol ac yn annheg? Ac a wnewch chi sicrhau bod sgyrsiau hanfodol ynghylch gofal lliniarol diwedd oes a gorchmynion peidiwch â dadebru ac na cheisier dadebru cardio-anadlol yn cael eu cynnal mewn modd parchus, tosturiol a gwybodus?
A wnewch chi ymrwymo i ddarparu arweiniad ar y mater hwn? Oherwydd mae llawer o bobl hŷn a grwpiau anabl wedi cysylltu â mi gan ddweud eu bod yn teimlo dan bwysau aruthrol i gytuno i bethau nad ydynt wedi cael sgyrsiau amdanynt ac nad ydynt am gytuno iddynt. Mae gan bawb hawliau, ac mae pawb am geisio trechu’r afiechyd ofnadwy hwn.
Diolch am eich cwestiynau. O ran y 7,000 o welyau ychwanegol, rwy'n falch iawn fod y gwasanaeth iechyd wedi gallu ymgymryd â'r gwaith hwn o dan yr amgylchiadau anoddaf, a'r ymateb gan bartneriaid hefyd. Credaf ei bod yn gwbl briodol fod Angela Burns wedi croesawu a chydnabod hynny hefyd—teulu’r awdurdodau lleol, partneriaid ehangach, ac wrth gwrs, y gefnogaeth y mae’r fyddin wedi'i darparu inni bellach dros y dyddiau diwethaf hefyd. Felly, mae'n ymdrech wirioneddol genedlaethol, ac mae'n dangos yr hyn y gall ein gweision cyhoeddus ymroddedig ei wneud mewn argyfwng.
Fe wnaf ymdrin â'ch pwyntiau ar gyfarpar diogelu personol. O ran ein stociau, rydym yn rhyddhau’r stociau pandemig rydym wedi'u cronni. Mae'r angen am faint o gyfarpar y bydd angen ei ailgyflenwi yn dibynnu i raddau ar nifer yr achosion, a chan na allwn ragweld yn gywir pryd y daw'r argyfwng i ben, ni allwn ragweld yn gywir faint o gyfarpar y bydd ei angen arnom. Ond gwyddom y bydd angen inni ailgyflenwi ar sawl pwynt arall, ac rwyf wedi cael sgyrsiau gyda'r Gweinidogion Cabinet eraill dros iechyd yn nhair Llywodraeth genedlaethol arall y DU. Buom yn siarad ddydd Gwener ac eto ddoe, a byddwn yn siarad eto yfory. Ond ar bob pwynt, mae pob un ohonom wedi gwneud pwyntiau am yr angen i gael mecanwaith DU gyfan i gaffael a dod â chyflenwad o gyfarpar diogelu personol i'r DU, ac yna i’w ddosbarthu’n deg a phriodol i bob un o'r pedair gwlad, a cheir cytundeb ar wneud hynny. Mae hwnnw’n bwynt arall rwyf fi, Jeane Freeman a Robin Swann wedi'i wneud ac rwy'n falch o ddweud bod Matt Hancock wedi cadarnhau ei fod yn cytuno mai dyna'n union a ddylai ddigwydd.
O ran y canllawiau y sonioch chi amdanynt, mae her wirioneddol yma, ac rwy'n cydnabod y pwynt a wnaethoch ynglŷn â’r ffaith bod pobl yn poeni. Mae pobl yn poeni p'un a ydynt yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ai peidio. Mae mater yn codi hefyd ynglŷn â'r ymddiriedaeth yn y canllawiau. Rhan o'n hanhawster yw bod cryn alw wedi bod am gyfarpar diogelu personol mewn unrhyw leoliad, a’r canllawiau diwygiedig sy'n cael eu llunio, mae’r canllawiau’n cael eu hadolygu’n gyflym, felly mae pob un o'r prif swyddogion meddygol ledled y DU yn edrych arnynt, cafwyd ystod o—. Mae pob un o'r colegau brenhinol meddygol wedi cyfrannu, a staff y rheng flaen hefyd, ac mae hynny wedi bod yn bwysig, gan ei bod yn edrych fel pe bai pobl wedi colli hyder yn y canllawiau a'r ffordd roedd y canllawiau'n cael eu rhoi ar waith. Rwy'n disgwyl i'r adolygiad cyflym hwnnw fod ar gael cyn bo hir, a phan fydd ar gael, y pwynt pwysig i Lywodraethau yw gallu cadarnhau nid yn unig beth yw'r canllawiau hynny i staff, ond pwy sydd angen cyfarpar diogelu personol a pha fath o gyfarpar diogelu personol, ond hefyd ar gyfer y bobl nad oes arnynt ei angen. Ac mae'n bwysig iawn i'r canllawiau hynny ymdrin nid yn unig â'r lleoliadau a'r tasgau sydd gan bobl ar gyfer cyfarpar diogelu personol priodol, a dyna ble dylid ei ddarparu, yn hytrach na phwy bynnag sy'n digwydd eu cyflogi, a'n tasg ninnau wedyn fydd sicrhau bod y cyflenwad yn cyfateb i'r canllawiau hynny.
Ar beiriannau anadlu a chitiau phrofi, rwyf wedi rhoi diweddariad o'r niferoedd yn y datganiad hwn. Unwaith eto, rydym yn cymryd rhan mewn mecanweithiau caffael ar gyfer y DU gyfan yn ogystal â rhywfaint o'n caffael ein hunain hefyd. A’r her, unwaith eto, o ran yr hyn sydd ei angen arnom, bydd honno'n ymwneud yn rhannol â chynnydd y pandemig, ond rwy’n fwy na pharod i barhau i roi diweddariadau nid yn unig yn y sgyrsiau a gaf gyda llefarwyr iechyd, ond yn gyhoeddus hefyd, ac i'r Senedd fach wrth iddi gyfarfod, a phobl Cymru.
Ac o ran eich pwynt olaf ar ganllawiau moesegol, rwy’n cytuno â chi fod yn rhaid cael fframwaith addas ar gyfer gwneud penderfyniadau i helpu ein staff i wneud dewisiadau anodd iawn, ac ni all hynny olygu dweud wrth bobl fod angen i chi fynd o'r ffordd am nad ydych yn werthfawr mwyach; dyna'n union na ddylai ddigwydd. Rwy’n falch o ddweud, heddiw, fod Coleg Brenhinol y Meddygon wedi cyhoeddi canllawiau i feddygon edrych arnynt a’u hystyried, a gwnaed hynny gyda 14 coleg brenhinol arall a chyfadrannau meddygol eraill hefyd. Felly, mae’r canllawiau hynny wedi’u cyhoeddi a byddwn yn eu hailddarparu i sicrhau bod pobl yn eu cael, ac rwy’n fwy na pharod i sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu i'r holl Aelodau eu gweld hefyd.
Diolch i'r Prif Weinidog am gadarnhau pa gwmni oedd yn rhan o'r cytundeb a fethodd. Tybed, Weinidog, a fyddech yn ymateb i’r datganiad, felly, a gyhoeddwyd gan Roche neithiwr nad oes ganddynt, ac nad ydynt erioed wedi cael contract na chytundeb yn uniongyrchol â Chymru i gyflenwi profion ar gyfer COVID-19? A ydych o’r farn, felly, nad yw'r datganiad hwnnw'n wir, y byddent wedi gwybod nad oedd yn wir, a’u bod yn dweud celwydd i bob pwrpas?
Gwyddom bellach yr ateb i’r cwestiwn 'pwy' mewn perthynas â'r cytundeb hwn a fethodd, ond rydym yn dal ychydig yn ddryslyd ynglŷn â 'pham', felly tybed a allech ddweud mwy am hynny, eich dealltwriaeth o'r rheswm pam y methodd y cytundeb, ac yn arbennig yr awgrym eang ei fod, i bob pwrpas, wedi ei drechu gan gytundeb cyffelyb â Public Health England y rhoddwyd blaenoriaeth iddo gan y cwmni ar draul y cytundeb â Llywodraeth Cymru.
Mewn perthynas â'r trefniant pedair gwlad newydd ar gyfer caffael profion, dywedwyd bod Cymru yn derbyn cyfran o’r profion ar sail ei phoblogaeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Ond oni ddylai hynny fod yn uwch o ystyried demograffeg benodol Cymru, sy’n rhywbeth rydych chi, Weinidog, wedi cyfeirio ato o'r blaen, a'r epidemioleg hefyd, y ffaith bod gan Gymru 4.7 y cant o boblogaeth y DU, ond 8 y cant, rwy'n credu, o’r achosion a gadarnhawyd hyd yn hyn, felly oni ddylem fod yn cael 8 y cant o'r profion?
A fyddwch yn cyhoeddi ffigur dyddiol ar gyfer nifer y profion a gynhelir fel y mae'r Alban yn ei wneud, fel y gallwn olrhain cynnydd wrth inni symud ymlaen? A hefyd, tybed a allech ateb y cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog: a yw Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â phrifysgolion Cymru neu a yw'r prifysgolion wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i weld a allwn ddefnyddio'r arbenigedd gwyddonol yn ein labordai yno i wella ein capasiti profi ein hunain yng Nghymru? Ac a oes gennym ffigur—? Credaf fod gennym ffigur ar gyfer nifer y profion a gynhaliwyd gyda staff y GIG. A oes gennym unrhyw ffigurau ynghylch nifer yr achosion a gadarnhawyd o ganlyniad i'r profion hynny? Sut y mae hynny'n cymharu â'r boblogaeth gyffredinol?
Gan symud ymlaen at gyfarpar diogelu personol, rydych yn cyfeirio at rai o'r niferoedd o eitemau sydd wedi'u cyrchu a'u cyflenwi. A oes gennych syniad o gyfanswm y bobl rydych yn eu cynghori ar hyn o bryd fod angen cyfarpar diogelu personol arnynt? Byddai'n ddiddorol gweld, os oes gennych ffigurau, i gael rhywfaint o syniad ynglŷn â hynny. Sylwais fod y cwmni cydweithredol o Wlad y Basg, Mondragon, newydd gyhoeddi llinell gynhyrchu newydd i gynhyrchu 0.5 miliwn o fasgiau y dydd. A fyddwch yn cysylltu â gwneuthurwyr yng Nghymru i weld a allem wneud yr un peth yma yng Nghymru er mwyn gwella lefel ein cyflenwad ein hunain?
Yn olaf, ar y mater a grybwyllais hefyd ynghylch awdurdodau lleol, deallaf mai’r cyngor i awdurdodau lleol yw peidio â chaffael eu cyfarpar diogelu personol eu hunain yn annibynnol, ond maent yn rhydd i wneud hynny os ydynt yn teimlo bod hynny'n angenrheidiol?
Iawn, os caf droi at y pwynt olaf yn gyntaf, nid oes unrhyw waharddiad cyfreithiol ar awdurdod lleol rhag caffael ffynhonnell amgen o gyfarpar diogelu personol. Ond rydym yn ceisio sicrhau dull cydgysylltiedig o gaffael cyfarpar diogelu personol a’i drosglwyddo ledled Cymru wedyn.
O ran cynhyrchu a chyflenwi nid yn unig cyfarpar diogelu personol ond eitemau eraill a fydd yn ddefnyddiol yn yr ymateb, rydym wedi cael cryn dipyn o ymholiadau, cynigion o gymorth a diddordeb, ac mae hynny bellach yn cael ei sianelu drwy dîm cyson yn Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion Ken Skates a fy swyddogion innau’n cydweithredu i sicrhau ein bod yn cyrraedd y bobl iawn i gefnogi busnesau yng Nghymru, ond hefyd i ddeall y problemau posibl mewn perthynas â chaffael. Nawr, mae rhan o hynny’n ymwneud â deall gwerth y cynnig a wnaed, gan y byddwch yn deall, er y gall llawer o bobl gynnig cefnogaeth sydd, ar yr wyneb, yn edrych yn dda, mae angen inni sicrhau bod pobl yn gallu cyflawni'r hyn y dywedant y gallant ei gyflawni a bod hynny'n mynd i fod yn effeithiol.
Ar eich pwynt am y galw am gyfarpar diogelu personol, wel, bydd hynny'n dibynnu mewn gwirionedd ar y canllawiau diwygiedig ynglŷn â faint o gyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnom. Os bydd y canllawiau'n newid, naill ai o ran y math o gyfarpar diogelu personol y dylid ei wisgo neu'r amrywiaeth o leoliadau a thasgau y dylid ei wisgo ar eu cyfer, yn amlwg, bydd angen inni gaffael mwy o gyfarpar diogelu personol. Bydd angen i faint o gyfarpar diogelu personol rydym yn ei gaffael adlewyrchu'r hyn sydd yn y canllawiau, fel y dywedais mewn ymateb i Angela Burns.
O safbwynt y cytundeb ysgrifenedig a gawsom, ni chredaf ei bod yn ddefnyddiol o gwbl i mi fynd i gecru gyda chwmni, gan mai fy ngwaith, rwy'n credu, yw sicrhau ein bod yn arallgyfeirio ein cyflenwad a'n capasiti ar gyfer cynnal profion, a gwneud y defnydd gorau o hynny i ddarparu'r budd mwyaf. Dyna rwy'n canolbwyntio arno, felly nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i faterion y byddwn, rwy'n siŵr, yn y misoedd i ddod, wedi i ni ddod drwy hyn, yn awyddus i edrych arnynt mewn mwy o lawer o fanylder.
Dyna pam y bu modd i mi gyhoeddi ar y penwythnos ein bod wedi arallgyfeirio ein capasiti i'w gynyddu yr wythnos hon, ac yn ystod y ddwy i dair wythnos nesaf, i'w gynyddu i oddeutu 5,000 o brofion yma yng Nghymru, heb ddibynnu ar unrhyw gyfran o'r trefniadau a fydd ar waith ledled y DU. Wrth arallgyfeirio cyflenwad a chapasiti yn fwriadol, rydym wedi bod yn cael sgyrsiau, wrth gwrs, gyda phrifysgolion ers peth amser ynglŷn â ble y gallent helpu i ddarparu hynny.
O ran yr hyn sy'n gyfran deg o'r darlun ledled y DU, gwnaethom ymrwymo i drefniadau, fel y gwnaeth Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn wir, i geisio caffael y capasiti mwyaf posibl ledled y DU. Nawr, efallai y byddwn yn dechrau o gyfran o'r boblogaeth, ond pan edrychwch ar beth sy'n gyfran deg a beth sy'n gapasiti, rwy'n hyderus y byddwn yn ymestyn hynny fel sy'n ofynnol ledled y DU. Efallai y bydd Cymru a'n cyfran a'n hangen heddiw yn wahanol iawn ymhen tair wythnos, pan fydd gan rannau eraill o'r DU fwy o angen o bosibl, a dyna'r pwynt—sut y mae gennym ein gallu ledled y DU i ddarparu mwy o gapasiti ac i ddiwallu anghenion pobl ledled y DU, a sicrhau ein bod yn cael ein cyfran deg o hynny.
O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â niferoedd wedi'u diweddaru ar gyfer cynnal profion a staff, byddwn yn darparu niferoedd wedi'u diweddaru drwy gydol yr wythnosau ar niferoedd ein staff rheng flaen sydd wedi cael profion a'r rhai sydd wedi gallu dychwelyd i'r gwaith, a’r rhai a gadarnhawyd. Nid yw’r niferoedd gennyf, felly nid wyf am geisio eu dyfalu i chi, ond byddwn yn darparu mwy o eglurder ynglŷn â'r hyn y mae ein cyfundrefn brofi wedi'i gynhyrchu.
Rydym yn amlwg mewn gwell sefyllfa na rhannau eraill o'r DU gan ein bod wedi dechrau cynnal profion ar staff rheng flaen ar bwynt cynharach. Felly, mae rhai o'n haelodau staff rheng flaen eisoes wedi dychwelyd i'r gwaith yn brydlon gan eu bod wedi cael y diagnosis cywir, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â nifer y bobl sy'n gwneud hynny a beth y mae hynny'n ei olygu i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Diolch am eich datganiad, Weinidog. Mae llawer o feirniadaeth wedi bod am y diffyg profi yng Nghymru, ac mae cymariaethau'n cael eu gwneud â gwledydd eraill. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon ynghylch methiant y cytundeb i sicrhau profion ychwanegol i Gymru, ond pa sicrwydd a gawsoch gan Lywodraeth y DU, a'r gwledydd cartref eraill, nad ydym yn cystadlu am yr un cyflenwad cyfyngedig?
Mae’r cyfryngau’n cyfeirio at Dde Korea fel enghraifft y dylem fod yn ei dilyn. Ond nid oedd De Korea yn dechrau o'u hunfan gan fod ganddynt eisoes gryn dipyn o gyfleusterau profi cyn yr argyfwng hwn oherwydd problemau parhaus gyda'r Syndrom Anadlol Acíwt Difrifol (SARS). Weinidog, a ydych wedi trafod gyda gwledydd y tu hwnt i'r DU, fel De Korea, y ffordd orau o ddwysáu ein cyfundrefn brofi? Hefyd mae gwledydd eraill, fel yr Almaen, mor bell ar y blaen gan fod ganddynt gapasiti labordai, a dyna pam fod y prawf ar gyfer y coronafeirws newydd hwn, a ddatblygwyd yn labordai'r Almaen, yn cael ei ddefnyddio ym mhob rhan o'r byd. Weinidog, rwy’n derbyn nad mater o brynu stoc o adweithyddion yn unig yw cynyddu nifer y profion a gynhelir: mae angen personél arnom i gasglu samplau; rhwydwaith logistaidd helaeth i symud y samplau; technegwyr labordai hyfforddedig i gynnal y prawf; a seilwaith TG i goladu'r canlyniadau. Rydym yn bell iawn o ble mae angen i ni fod. Weinidog, a allwch amlinellu'r trafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r sector fferyllol yng Nghymru ynghylch eu rôl yn cefnogi'r frwydr yn erbyn y coronafeirws, ac a allwch hefyd amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gallwn ddiwallu nid yn unig yr anghenion profi ar hyn o bryd, ond y galw yn y dyfodol hefyd? Mae hwn yn bandemig byd-eang, ac rydym yn wynebu feirws newydd, anghyfarwydd, felly mae angen ymateb byd-eang arnom. A allwch chi amlinellu sut y mae ymchwilwyr a swyddogion iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn gweithio gyda gwledydd eraill i fynd i'r afael â'r bygythiad newydd hwn?
Weinidog, mae pob un ohonom wedi cael llythyr gan Gymdeithas Feddygol Prydain ynghylch materion sy’n ymwneud â'r rhestrau o gleifion sy'n agored i niwed. Ddoe, cysylltodd etholwr sy'n agored i niwed â mi, ond nid ydynt ar y rhestr o bobl eithriadol o agored i niwed, hyd y gwyddant. Mae'r etholwr hwn, ers blynyddoedd lawer, wedi dibynnu ar fwyd a meddyginiaeth yn cael eu danfon iddynt, ond ni all hynny ddigwydd bellach gan nad ydynt ar restr Llywodraeth Cymru. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, ni all meddygon teulu gynorthwyo cleifion gan nad oes ganddynt fynediad at y rhestrau o gleifion. Felly, Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau nad yw ein hetholwyr yn wynebu dewis rhwng llwgu a dal y clefyd o bosibl, clefyd a allai'n hawdd fod yn angheuol oherwydd eu cyflyrau iechyd?
Mae ysbytai'n cael eu codi mewn dyddiau ac mae pobl yn paratoi i helpu mewn unrhyw ffordd y gallant, ond mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch ffyrdd o wirfoddoli yng Nghymru yn dilyn y cyhoeddusrwydd ynghylch lansiad GoodSAM yn Lloegr. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau y gall pawb yng Nghymru sy’n awyddus i helpu yn y frwydr yn erbyn y clefyd hwn wneud hynny?
Hefyd, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae prifysgolion, y diwydiant, a chymuned y gwneuthurwyr wedi bod yn datblygu dulliau newydd o gynhyrchu popeth o sgriniau wyneb i beiriannau anadlu, ac mae peiriannau CPAP newydd wedi'u datblygu a masgiau falf awtomataidd wedi cael eu treialu i sicrhau y gellir cadw peiriannau anadlu ar gyfer yr achosion mwy difrifol. Felly, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda’r diwydiant a'r sector addysg uwch yng Nghymru ynglŷn â chynyddu cyflenwad Cymru o beiriannau anadlu? Diolch yn fawr.
A bod yn deg, Lywydd, credaf fy mod wedi ateb y pwynt ynglŷn â pheiriannau anadlu, o ran cyflenwi a gweithgynhyrchu, mewn ymateb i'r cwestiynau a ofynnodd Adam Price, a hefyd Angela Burns ar y cydweithrediad rhwng swyddogion yn fy adran i, adran Ken Skates, a phobl sy’n eu gwneud ac yn eu cynhyrchu yma yng Nghymru.
Ar y pwynt ynglŷn â gwirfoddoli, rydym wedi cael ymateb sylweddol iawn gan bobl yng Nghymru, felly er y bu rhywfaint o ddryswch ynglŷn â'r prif negeseuon sy'n cael eu cyfleu, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi dod o hyd i ffyrdd o allu gwirfoddoli yn eu cymunedau lleol, naill ai mewn grwpiau llai sydd wedi'u sefydlu, ond hefyd drwy borth cenedlaethol Gwirfoddoli Cymru. Felly, mae gennym dros 30,000 o bobl wedi cofrestru fel gwirfoddolwyr, ac yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cael cyfradd o 1,000 o bobl y dydd yn cofrestru i fod yn wirfoddolwyr i gefnogi pobl yn eu cymuned leol. Roedd rhan o'r her, yn fy marn i, yn ymwneud â’r ffaith y bu camddealltwriaeth yn y ffordd y lansiwyd y cynllun ar gyfer Lloegr yn unig. Nid oedd rhai o'n cyd-gynrychiolwyr etholedig yng Nghymru yn deall bod y cynllun yn gynllun ar gyfer Lloegr yn unig, yn hytrach na chynllun a oedd wedi’i lunio a'i gyflenwi gan y pedair Llywodraeth ledled y DU. Felly, rydym wedi cael ymateb da yn barod, ac mae’r trydydd sector a llywodraeth leol yn gweithio gyda'i gilydd i'w roi ar waith.
O safbwynt mynediad meddygon teulu at y rhestr o bobl agored i niwed, rydym wedi bod yn agored iawn wrth ddatblygu'r rhestrau a'r meini prawf ar gyfer y bobl yn y grŵp o 81,000 o bobl sy’n cael eu gwarchod. Felly, rydym wedi gweithio gyda Chymdeithas Feddygol Prydain a choleg brenhinol yr ymarferwyr cyffredinol, ac ers 2 o’r gloch heddiw fan bellaf, bydd y rhestr honno wedi bod ar gael yn y porth meddygon teulu i bob practis meddyg teulu adolygu’r grwpiau o’u cleifion ar y rhestr honno fel y gallant arfer eu barn a'u gwybodaeth am eu grŵp o gleifion os ydynt yn credu bod pobl eraill a ddylai fod yn y grŵp hwnnw o bobl sy’n cael eu gwarchod. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein hymateb yn cefnogi'r grŵp ehangach o bobl agored i niwed dros y dyddiau nesaf, fel rwy'n dweud, gan weithio ar y cyd, rwy'n siŵr, â llywodraeth leol a'r trydydd sector.
Ac ar eich pwyntiau ehangach ynglŷn â phrofi a dysgu gyda gwledydd eraill, wel, mae'n deg dweud bod De Korea, er enghraifft, mewn lle gwahanol oherwydd eu profiad o gael eu heffeithio’n waeth o lawer gan SARS yn y gorffennol. Nawr, bydd gwersi inni eu dysgu yn awr, ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â sefydliadau iechyd y cyhoedd mewn gwledydd yn Ewrop a'r byd ehangach, gan drafod cymorth a chyngor ar yr adeg hon.
Felly, er enghraifft, rydym wedi dysgu gwersi o'r Eidal, yn sicr; dyna pam rydym wedi rhoi cymaint o egni ac ymdrech i greu capasiti ysbytai maes ar y fath gyflymder, gan fod hynny'n ymwneud â symud pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen iddynt fod yno mwyach. Ac mae hynny hyd yn oed yn fwy hanfodol yn awr, gan fod pobl sy'n methu mynd i ysbyty mewn pryd yn bobl a allai fod angen gofal i achub eu bywydau. Felly, dyna un o'r gwersi rydym wedi'u dysgu eisoes, ac rydym yn sôn am wersi wrth iddi ddod i'r amlwg y bydd rhai o'r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn dechrau cael eu llacio. Mae hynny'n bwysig iawn i ni o ran ein hymateb i'r pandemig yma yng Nghymru a gweddill y DU. Ond yn yr un modd, bydd y sgwrs honno'n parhau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn sefyllfa dda iawn yn y gymuned iechyd cyhoeddus yn fyd-eang, ac yn sicr yn rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, o ran y parch a ddangosir i ni, y gallu sydd gennym i rannu dysgu ar amrywiaeth o bynciau gwahanol, a bydd hynny'n bwysig iawn—edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd i ddysgu gwersi lle credwn y gallem fod wedi gwneud dewisiadau gwahanol a gwell yn ystod y pandemig hwn, ond hefyd ar gyfer y dyfodol. A bydd honno’n sgwrs ar gyfer y gymdeithas gyfan, oherwydd os ydym am gael capasiti ychwanegol ar waith ar gyfer pandemig yn y dyfodol, mae angen inni ariannu hynny a chreu’r capasiti hwnnw a sicrhau ei fod yn barod ac ar gael. Ac mae hwnnw'n fath gwahanol o ddewis inni ei wneud am y ffordd rydym yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus.
Mae rhai o fy nghwestiynau wedi'u hateb, ond hoffwn ddychwelyd at fater y llythyrau gwarchod, gan y credaf fod hynny'n anhygoel o bwysig. Oherwydd i lawer o bobl, bydd hynny'n datgloi'r gefnogaeth a fydd yn eu galluogi i aros gartref am dri mis. Rwyf wedi bod yn cynghori pobl i gysylltu â'u meddyg teulu os nad ydynt wedi cael llythyr ac yn credu y dylent gael eu gwarchod. Croesawaf yr hyn y mae’r Gweinidog newydd ei ddweud am bawb yn cael mynediad at y rhestr honno heddiw, ond mae meddygon teulu bellach yn dweud wrthyf yn lleol nad oes ganddynt gapasiti i ymdrin â nifer yr ymholiadau y maent yn rhagweld eu cael gan bobl sy’n credu y dylent gael eu gwarchod. Felly, hoffwn gael sylwadau'r Gweinidog ar hynny—pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd pobl y dylid eu gwarchod yn gallu dod ar y rhestr honno mewn pryd i gael y gefnogaeth sydd ar gael?
Yn yr un modd, gan nodi problemau gyda fferylliaeth hefyd, mae pobl sâl sydd bob amser wedi cael eu presgripsiynau wedi’u danfon iddynt yn poeni am nad ydynt ar y rhestr warchod bellach, ac na fydd modd iddynt gael eu presgripsiynau wedi'u danfon iddynt. Felly, eich ymateb ar hynny hefyd, os oes modd, os gwelwch yn dda.
Gwn eich bod wedi rhoi sylw i fater y peiriannau anadlu a godwyd gan Angela Burns a Caroline Jones, ond rwyf wedi cyfeirio nifer o gwmnïau sydd wedi cynnig cymorth at y Llywodraeth. Rwy'n deall bod proses i'w dilyn, ond a allwch ddweud mwy ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati mor gyflym â phosibl i ymdrin â chynigion o gymorth gan gwmnïau gweithgynhyrchu mewn perthynas â pheiriannau anadlu?
[Anghlywadwy.]—cefnogaeth. Efallai y bydd hynny'n codi eto mewn cwestiynau gyda Ken Skates, gan fod ei adran ef, o ran y gefnogaeth fusnes i'r bobl hynny, yn wirioneddol bwysig i sicrhau eu bod yn cael cymorth i gynhyrchu. Felly, mae mwy nag un cyfle posibl i gynhyrchu peiriannau CPAP, sydd lefel yn is na chymorth anadlu mewnwthiol, ond a all fod yn ddefnyddiol. Mae'r gyfadran ofal dwys wedi cynhyrchu rhywfaint o ganllawiau ynghylch y defnydd cynyddol o'r peiriannau hynny. Felly, rydym yn cefnogi ystod o gwmnïau ac yn gweithio ochr yn ochr â hwy i gynorthwyo i’w gweithgynhyrchu ar yr adeg hon. Gwn fod penawdau'r DU yn gyffrous iawn fod tîm Fformiwla 1 Mercedes yn gwneud rhywbeth, ond mae gennym ystod o enghreifftiau yma yng Nghymru lle rydym yn gweithgynhyrchu'r peiriannau hynny hefyd.
Felly, mae'n gyfrifoldeb i dîm canolog yma yn y Llywodraeth ddeall yr hyn sydd ar gael, ac yna i ddeall manylebau technegol yr hyn a allai fod ar gael, ac yna, os oes angen cymorth busnes, dyna ble y daw tîm Ken i mewn. Mae gennym broses ganolog, felly nid yw'n mynd i dri neu bedwar o bobl wahanol, rydym yn deall pa grŵp o swyddogion sydd i fod i ymdrin â hynny, darparu'r gefnogaeth a hefyd o fewn amserlen resymol.
Ar eich pwynt ynglŷn â llythyrau gwarchod at bobl sydd i gael eu gwarchod, mae'r 81,000 o bobl wedi'u dethol ar sail meini prawf clinigol. Nawr, mae grŵp ehangach o bobl y tu hwnt i hynny rydym hefyd wedi cynghori y dylent fod yn aros gartref os yw hynny'n bosibl—felly, er enghraifft, menywod beichiog a phobl dros 70 oed. Ni fydd pob unigolyn beichiog, ni fydd pob unigolyn dros 70 oed yn cael llythyr gwarchod; ni ddylent ddisgwyl cael un. Credaf fod rhywfaint o ddryswch yn hynny o beth, ond mae'n bwysig inni ddweud yn glir wrth ein hetholwyr, os ydych dros 70 oed, nid yw hynny'n golygu y byddwch yn cael llythyr gwarchod yn awtomatig, ac i fod â rhywfaint o amynedd ac i ofyn i bobl beidio â ffonio meddygon teulu, gan y byddant yn cael eu gorlethu fel arall.
Nawr, mae'r gwaith rydym yn parhau i'w wneud gyda'r trydydd sector ac awdurdodau lleol, ac yn wir y sector cyflenwi bwyd, yn ymwneud yn y lle cyntaf â sicrhau cefnogaeth i bobl yn y grŵp mwyaf agored i niwed hwnnw—yr 81,000—nad oes ganddynt fecanwaith eisoes i gael cyflenwadau eu hunain, boed hynny'n fwyd neu'n feddyginiaeth neu nwyddau eraill, ac yna gweithio ar gefnogaeth i'r grŵp ehangach hwnnw o bobl. Nawr, mae rhai awdurdodau lleol eisoes mewn sefyllfa i allu gwneud hynny. Rydym yn gobeithio gallu darparu rhywfaint o eglurder yn genedlaethol ynglŷn â sut y mae'r grŵp ehangach hwnnw o bobl yn parhau i dderbyn cefnogaeth i allu aros gartref. Dyna pam fod y rhwydwaith ehangach o wirfoddolwyr mor bwysig i ni, i helpu'r grŵp ehangaf o bobl y gallwn.
O ran danfon presgripsiynau, rwyf wedi ceisio dweud yn glir sawl gwaith, ac rwy'n fwy na pharod i wneud hynny eto, os yw pobl yn gallu casglu eu presgripsiynau eu hunain—os na allant, os ydynt i fod i aros gartref, eu ffrindiau, teulu neu bobl ddibynadwy sy'n gallu mynd i gasglu’r presgripsiynau ar eu rhan—dylent wneud hynny. Os ydynt yn dibynnu ar gael presgripsiynau wedi’u danfon ac os nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o’u cael, dylai eu fferyllfa eu danfon. Cawsom ddigwyddiad yr wythnos diwethaf lle cafwyd heriau lleol gyda chwmni fferyllol adnabyddus, a chefais gysylltiad uniongyrchol â'r cwmni hwnnw yng Nghymru ar yr hyn sydd i fod i ddigwydd. Nid oedd hynny o fudd i bobl a oedd mewn sefyllfa lle nad oedd y cyflenwadau’n cael eu danfon at eu drysau fel y dylent allu ei ddisgwyl, ond roedd yn ddefnyddiol yn yr ystyr ei fod yn golygu bod y grŵp hwnnw wedi mynd allan a dweud wrth reolwyr eu holl siopau am y canllawiau roeddent wedi'u rhoi ar waith i sicrhau, os na all pobl gasglu eu presgripsiynau eu hunain, eu bod yn cael eu danfon iddynt, ac na ddylid codi tâl am ddanfon drwy gydol cyfnod y pandemig COVID-19. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ddefnyddiol.
Dau fater byr iawn yr hoffwn eu codi gyda chi, Weinidog—yn gyntaf oll, rwy'n siŵr y byddwch wedi gweld y pryderon neithiwr yn y cyfryngau gan elusen canser Tenovus, sy'n hynod bryderus y gallai cannoedd o gleifion canser yng Nghymru farw yn sgil oedi triniaethau a sgrinio o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws. Wrth gwrs, rwy'n deall angen y Llywodraeth i fynd i'r afael â lledaeniad coronafeirws yn uniongyrchol. Fodd bynnag, bydd hyn heb os yn arwain at lawer o bryder a rhwystredigaeth i lawer o gleifion sy'n byw gyda chanser a'u teuluoedd. Yn wir, mae etholwyr wedi cysylltu â mi gyda chwestiynau ynglŷn â gofal canser yn ystod yr argyfwng hwn. Felly, a allwch ddweud wrthym, Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i gefnogi'r rheini sy'n byw gyda chanser yng Nghymru yn ystod yr argyfwng COVID-19, ac a fyddwch yn cyflwyno strategaeth ganser benodol ar hyn o bryd?
Yn ail, Weinidog, mae ein dyled yn fawr i staff rheng flaen wrth gwrs, gan gynnwys fferyllwyr cymunedol Cymru y cyfeirioch chi atynt heddiw. Fodd bynnag, mae parchu cadw pellter cymdeithasol yn anodd mewn llawer o fferyllfeydd ledled Cymru oherwydd eu cynllun. Yn y bôn, ni allwch gadw pellter o 2m, er enghraifft, mewn llawer o'n fferyllfeydd. Felly, a allwch ddweud wrthym pa ganllawiau a chefnogaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i fferyllwyr i'w helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sylweddol y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac a yw'r Llywodraeth yn cynllunio arweiniad pellach i fferyllwyr a'u staff, o gofio eu bod yn teimlo'n agored i niwed yn yr amgylchiadau hyn?
Yn dilyn cwestiwn Lynne Neagle, deallaf fod y rheolau ynghylch dosbarthu presgripsiynau amlroddadwy wedi cael eu llacio, ond gallai hyn effeithio ar gyflenwadau o feddyginiaethau. Felly, pa gamau rydych chi a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod fferyllwyr yn gallu cael mynediad at gyflenwadau digonol ar yr adeg hon, a pha drafodaethau a gawsoch gyda'r cwmnïau fferyllol ynghylch cyflenwi meddyginiaethau a thriniaethau?
Iawn. Diolch am eich cwestiynau. Ar ofal canser, gwelais yr hyn a ddywedodd Tenovus ddoe, a'n disgwyliad yw y gallwn gynnal gofal brys ar draws y gwasanaeth iechyd cyn belled ag y bo modd. Ond ein her yw—a dyma pam, ym mhob un o'r dewisiadau y mae ein clinigwyr yn eu gwneud ac y cânt eu cefnogi i'w gwneud—nid oes ystod o ddewisiadau hawdd, ac mae hon yn enghraifft dda ohonynt. Felly, mewn rhai meysydd lle gall wneud gwahaniaeth a yw rhywun yn goroesi ai peidio, byddem yn disgwyl i'r driniaeth honno fynd yn ei blaen os yw hynny'n bosibl o gwbl, ond os ydym yn gwybod, fel rydym yn gwybod, y bydd mwy a mwy o bobl yn dod i mewn i'n system ysbytai, ac rydym yn sôn am nifer fawr o bobl yn byw neu'n marw oherwydd y dewisiadau a wnawn ar draws y system gyfan, rhaid i ni gydbwyso pob un o'r dewisiadau hynny. Ond er enghraifft, yn sicr, nid ydym yn dweud bod pobl sydd angen gofal ar frys, p'un a yw'n argyfwng, neu'n wir yn ofal canser neu gyflyrau hirdymor neu gyflyrau eraill sy'n peryglu bywydau—nid ydym yn dweud bod yn rhaid i’r holl driniaethau hynny ddod i ben; ddim o gwbl.
Ond rydym yn gweld ymateb cyhoeddus i'r ffordd y maent yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd. Fe gofiwch o'r sgwrs y bore yma y bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n dod i'n hadrannau brys, gan y byddai cyfradd presenoldeb uwch o lawer fel arall—tair neu bedair gwaith yn uwch, rwy’n credu, na’r hyn a welwn ar hyn o bryd. Felly, mae'r ymateb cyhoeddus hwnnw'n helpu i ddiogelu ein capasiti, ac fel y soniais yn fy natganiad agoriadol, o'r holl bobl sydd mewn gwelyau gofal dwys ar hyn o bryd, mae 69 y cant ohonynt yn achosion o COVID neu'n achosion posibl o COVID. Mae hynny'n golygu nad yw, neu na chredir bod dros 30 y cant o'r bobl hynny yn achosion o COVID. Felly, mae gennym eisoes nifer o bobl mewn gofal dwys, ac mae'n dangos bod ein system yn parhau i drin pobl eraill. Byddaf yn parhau i wrando ar yr hyn y mae ein clinigwyr yn ei ddweud am eu capasiti i wneud eu gwaith, ac efallai y bydd yn rhaid inni wneud dewisiadau ar gyfer y system gyfan wedyn. Os gwnawn hynny, rwy’n fwy na pharod i fod yn agored gyda'r cyhoedd a'r Aelodau ynglŷn ag unrhyw ddewisiadau o'r fath.
Ar fferyllfeydd, rwy'n cydnabod ei bod hi'n anodd os nad yn amhosibl i staff gadw pellter o 2 fetr oherwydd cynllun rhai o'r rhain. Nawr, y cyngor rydym wedi'i roi yw cadw cymaint o bellter ag y bo modd, ond o ystyried y rôl allweddol y mae fferyllfeydd yn ei chwarae, rydym am i fferyllfeydd cymunedol aros ar agor i ddarparu meddyginiaethau i bobl a chynorthwyo pobl i reoli eu hystod o gyflyrau gofal iechyd. Mae'n bwysig fod y cyhoedd yn ymddwyn yn y ffordd honno. Gwyddom inni weld rhai achosion annerbyniol o ymddygiad tuag at staff ein fferyllfeydd dros yr wythnosau diwethaf, ac ymddengys bod hynny wedi gwella bellach. Rwyf hefyd wedi gwneud dewisiadau ynglŷn â'r ffordd y mae fferyllfeydd yn gweithredu i'w galluogi i sicrhau eu bod mewn sefyllfa i barhau i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd ehangach. Mae fy swyddogion a minnau, wrth gwrs, yn fwy na pharod i ddal ati i wrando ar fferylliaeth gymunedol os oes angen inni wneud mwy i'w galluogi i wneud eu gwaith ar yr adeg hynod bwysig hon, ond nid wyf wedi clywed cais pellach eto gan naill ai’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol neu'n wir gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru ar gamau pellach y mae'n rhaid inni eu cymryd i ganiatáu i fferyllwyr cymunedol gyflawni eu rôl yn cefnogi'r cyhoedd.
Ac o ran y cyflenwad o feddyginiaethau, mae'n fater a drafodais ddoe gyda chyd-Weinidogion Iechyd Cabinetau o bob rhan o'r DU, ac nid ydym yn gweld problem ar hyn o bryd gyda'r cyflenwad o feddyginiaethau, ond mae'n ffaith bod yn rhaid i’r gwasanaeth iechyd gwladol yn y pedair gwlad ymdrin â materion yn ymwneud â'r cyflenwad o bryd i'w gilydd. Mae honno'n her reolaidd, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn sylwi ei fod wedi digwydd. Ar hyn o bryd, nid wyf yn ymwybodol o broblem benodol gydag ailgyflenwi meddyginiaethau, ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei drafod ar draws y pedair gwlad—mae gennym ddulliau o wneud penderfyniadau sy'n cael eu harfer yn dda ar draws y pedair gwlad, sydd, os mynnwch, yn ganlyniad cadarnhaol i'n paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb; roedd yn rhaid inni feddwl am ffyrdd o ymdopi â phroblemau posibl gyda'r cyflenwad o feddyginiaethau. Mae'r trefniadau hynny'n dal i fod ar waith i sicrhau tegwch yn y cyflenwad ar draws pob un o'r pedair gwlad.
Weinidog, rwy'n gweld datgysylltiad yma rhwng y realiti ar lawr gwlad a'r hyn a glywaf gennych. Y gwir amdani yw nad oes gan nyrsys rheng flaen gyfarpar diogelu. Y gwir amdani yw nad oes gan gwmnïau gofal gyfarpar diogelu. Felly, y penwythnos hwn, rwyf wedi ymdrin ag etholwyr, etholwyr anabl, a chanddynt symptomau, na ellid gofalu amdanynt, ac a adawyd ar eu pen eu hunain. Cynhaliais gyfweliad gydag Ashley Morgan, dyn ifanc yng Nghaerau, sy'n meddu ar argraffydd 3D, ac mae wedi creu ei fasgiau ei hun o ansawdd eithriadol o dda, ac mae bellach yn cyflenwi ysbyty'r Waun ac ardaloedd eraill. Mae ciwiau o staff meddygol y tu allan i'w gartref, bron â bod. Felly, mae gennym fyddin, bron, o bobl—yn llythrennol, mae rhai ohonynt yn gweithio yn eu hystafelloedd byw eu hunain, yn eu hystafelloedd cefn eu hunain—yn cynhyrchu cyfarpar diogelu o safon. Gallai Ashley greu miloedd yr wythnos pe bai'n cael cefnogaeth. Felly, yn gyntaf oll, rhan gyntaf hyn yw bod cronfa o bobl allan yno sy’n barod i helpu. Credaf fod y cadwyni cyflenwi mawr wedi gwneud tro gwael â ni. Beth y gallwn ei wneud i rymuso’r bobl hynny? Pwy allant gysylltu â hwy? Pryd y gallant gysylltu â hwy? A sut a phryd y gellir eu cefnogi?
Yr ail beth yr hoffwn sôn amdano yw profion. Cawsoch e-bost ar 19 Mawrth—fe'i hanfonwyd at y Prif Weinidog hefyd—yn cynnig citiau profi, a oedd eisoes wedi'u dilysu, yn ôl yr hyn a ddywedir wrthyf, ac ni ymatebodd neb i'r cwmni hwnnw. Yn yr un modd, cysylltwyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru wedyn, ac ni chafwyd unrhyw gyswllt â'r cyflenwr hwnnw hyd nes i mi ymyrryd. Nododd y cyswllt, yn y bôn—gwelais yr e-bost, dywedai y byddai rhywun yn cysylltu â hwy, efallai, yn ôl yr angen. Wel, mae'r angen yma. Nid ydym yn dilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd, rwy'n gwybod hynny, ond credaf fod pob un ohonom yn cytuno ein bod angen mwy o brofion beth bynnag.
Mae yna'n dal i fod staff meddygol, sydd â theuluoedd yn dangos symptomau, na ellir eu profi ac sy’n ynysu’n ddiangen. Felly, fy nghwestiwn i chi yw hwn: sut a phryd y byddwn yn galluogi pobl i gael eu profi? Dylem fod yn profi pawb yr amheuir eu bod yn dioddef o’r coronafeirws. Credaf ei bod yn wirioneddol hanfodol inni sylweddoli ei bod yn argyfwng go iawn ar lawr gwlad, lle nad yw pobl yn ddiogel yn gwneud eu gwaith bob dydd gan nad yw'r cyfarpar ganddynt.
A chan ddychwelyd at y gofalwr, os oes gan ofalwr y feirws ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau a'u bod yn ymweld â phobl agored i niwed yn ddyddiol, byddant yn rhoi'r feirws iddynt os nad ydynt yn gwisgo cyfarpar diogelu—menyg, masgiau. Nid wyf yn deall pam fod pethau mor brin ar y rheng flaen ar hyn o bryd. Felly, fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yw: gyda phwy y dylai'r bobl hyn gysylltu, a sut a phryd?
Diolch am eich cwestiynau. Os gwnaf ateb eich pwynt ynglŷn â gweithgynhyrchu, gan mai dyna'r union bwynt a drafodais mewn cwestiwn cynharach. P'un a ydynt yn wneuthurwyr peiriannau anadlu neu’n wneuthurwyr cyfarpar diogelu personol, mae'r cyfleoedd yno i gael eu cefnogi i gyflawni hynny. Mae gennym hefyd allu i ddilysu ansawdd y cyflenwadau gyda'r cyfleuster sydd gennym yma yng Nghymru.
Rwyf hefyd wedi gweld y Bathdy Brenhinol, er enghraifft, yn cynhyrchu fisorau ar gyfer staff rheng flaen sydd eu hangen. Datblygu'r hen ganllawiau ar yr hyn roeddem yn ei ddisgwyl ar gyfer pandemig ffliw yw hynny o bosibl. Rwy'n disgwyl i'r canllawiau diwygiedig newydd ddweud mwy am sbectolau diogelwch, a dyna pam y gwnaethom ddosbarthu ystod o sbectolau diogelwch yn gynharach nag y byddem wedi'i ddisgwyl fel arall.
Rwy'n fwy na pharod i bwy bynnag sy'n credu bod ganddynt allu i helpu i gynhyrchu rhywbeth yn ôl manyleb gywir gysylltu â'r Llywodraeth. Gallant gysylltu â fy nghyfeiriad gweinidogol ac fe wnaf yn siŵr ei fod yn cyrraedd y lle iawn i gael ei adolygu, fel yr eglurais yn gynharach ar y pwynt ynglŷn â gweithgynhyrchu peiriannau anadlu hefyd.
O ran y cynigion o gitiau profi, mae pob un ohonynt yn cael eu hadolygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nawr, rydym wedi cael ymateb sylweddol gyda phobl yn dod i mewn ac yn gwneud cynigion, a'r pwynt a wneuthum yn gynharach mewn ymateb i Adam Price oedd bod angen inni ddeall gwerth y cynnig a wneir, effeithiolrwydd unrhyw un o'r llwybrau profi posibl a gynigir, a'r gwerth y maent yn ei ddarparu wedyn. Mae'n rhaid inni allu gwneud hynny, oherwydd fel arall, byddwn o bosibl yn gwastraffu adnoddau ar gitiau nad ydynt yn effeithiol. Nawr, nid wyf am drafod achosion unigol, oherwydd fel y gwyddoch, nid wyf yn darllen pob e-bost â fy enw arno, ond rwy'n sicrhau eu bod yn cael sylw ac atebion.
Ar eich pwynt ynglŷn â chyfarpar diogelu personol, rwyf wedi ymateb i gwestiynau, nid yn unig heddiw ond mewn amrywiaeth eang o fforymau—wrth siarad ag undebau llafur, wrth siarad ag arweinwyr awdurdodau lleol, wrth siarad â phrif weithredwyr a chadeiryddion byrddau iechyd, wrth siarad â staff—ac mae pob un ohonynt yn cydnabod bod heriau mewn rhai rhannau o'n system o ran cyfarpar diogelu personol yn cyrraedd pobl ar y rheng flaen. Nid yw'n wir fod ein holl staff yn cael eu gadael heb gyfarpar diogelu personol; ond mae'n wir i rai o'n staff ar hyn o bryd. Os ydym yn darparu'r cyfarpar diogelu personol i 98 y cant o'n staff, nid yw hynny'n golygu nad ydym yn poeni am y 2 y cant nad ydynt yn ei gael.
Rwy'n wirioneddol bryderus nad oes gan staff rheng flaen sydd angen cyfarpar diogelu personol gyflenwadau digonol o'r cyfarpar diogelu personol cywir iddynt ei ddefnyddio. Mae hyn wedi cymryd cryn dipyn o fy amser a fy egni, a dyna pam ein bod wedi darparu cymaint o gyfarpar diogelu personol—fel y dywedais yn fy natganiad, dros bum miliwn o eitemau. Nid cyflawniad bach nac ymylol mo hwn, ac mae'r Llywodraeth yn gwbl ymwybodol o faint yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae'n argyfwng na welodd neb ohonom erioed mo’i debyg yn ein bywydau mewn gwasanaeth cyhoeddus, ac nid oedd yr un ohonom yn disgwyl ei weld.
Felly, byddwn yn parhau i weithio yn unol â'r canllawiau y gwn eu bod yn cael eu hadolygu, ac y gwyddoch chithau eu bod yn cael eu hadolygu o fy natganiad cynharach ac mewn atebion i'r holl gwestiynau, a byddwn yn ystyried ein cyfrifoldebau i gaffael y cyfarpar diogelu personol cywir yn unol â'r canllawiau diwygiedig hynny.
Ac yn olaf, David Rees.
Diolch, Lywydd. Mae'r mwyafrif o fy nghwestiynau wedi'u hateb gan y Gweinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed am y capasiti ychwanegol o 965 ar gyfer peiriannau anadlu a bod y pum miliwn a mwy o eitemau cyfarpar diogelu personol wedi'u dosbarthu. Ond mae'n rhaid imi gytuno bod cryn bryder o hyd ynghylch faint o gyfarpar diogelu personol sydd ar gael, yn enwedig ar gyfer y rheng flaen mewn ysbytai a hefyd i'r gweithwyr gofal cymdeithasol hynny. Mae gennyf lawer o etholwyr sydd wedi mynegi cryn bryder ynghylch gofalwyr yn dod i'w cartrefi, pan fyddant hwy eu hunain yn agored i niwed neu pan fydd eu partneriaid yn agored i niwed, ac efallai'n dod â'r afiechyd i'w cartrefi. Felly, credaf fod hwnnw’n faes rydym eto i fynd i'r afael ag ef.
Nawr, gwn i chi sôn am y canllawiau newydd, ac fe’ch cofiaf yn dweud ar y penwythnos eich bod yn disgwyl i hynny ddigwydd ddydd Llun. Ddoe, yn eich cynhadledd i’r wasg, fe ddywedoch chi eich bod yn gobeithio y byddent ar gael ddoe. Heddiw, fe ddywedoch ei fod yn esblygu'n gyflym. Credaf ei bod yn bwysig fod gennym amserlen o ran pryd y bydd y canllawiau newydd hynny ar waith, fel ein bod yn gwybod pa gyfarpar diogelu personol fydd yn briodol ar gyfer pwy ac ym mha sefyllfa, fel y gallwn sicrhau bod y cyfarpar diogelu personol yn cyrraedd y bobl iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Mae yna gryn bryder, yn y proffesiynau eu hunain ac ymhlith yr etholwyr sy'n derbyn y gofal, ynghylch argaeledd cyfarpar diogelu personol.
A gaf fi ofyn hefyd—? Rwy’n cefnogi cwestiwn Paul Davies ar ganser, gan fod llawer o etholwyr yn poeni’n fawr am yr oedi. Mae eu hapwyntiadau ar gyfer llawdriniaethau wedi cael eu canslo oherwydd sefyllfa'r coronafeirws. Mae pob un ohonom yn deall y gofynion sy’n wynebu’r GIG, ond pan fyddwch yn wynebu sefyllfa lle mae gennych ganser y fron ac mae gennych apwyntiad i gael llawdriniaeth a'i bod yn cael ei chanslo wedyn, mae'n amlwg fod yna bryderon mawr. Felly, mae angen inni edrych ar fyrddau iechyd a sut y maent yn amserlennu llawdriniaethau o'r fath i sicrhau nad yw pobl â chyflyrau eraill sy'n peryglu eu bywydau yn mynd i fod dan anfantais drwy beidio â chael y llawdriniaethau pan fydd eu hangen. Felly, a wnewch chi edrych ar yr agwedd honno a sicrhau bod byrddau iechyd yn cyflwyno'r mathau hynny o fanylion i Lywodraeth Cymru ac i ninnau er mwyn gwybod hynny?
O ran yr ysbytai maes, dywedwyd heddiw y gallai NHS Nightingale alw am 16,000 o staff i gyflawni hynny. Nawr, os oes gennych 7,000 o welyau ychwanegol, a oes gennych gapasiti i staffio'r math hwnnw o nifer ychwanegol o welyau? Oherwydd rydym eisoes yn deall y gallai fod rhywfaint o leihad mewn capasiti gan y gall y staff eu hunain gael y feirws. Beth yw ein sefyllfa o ran sicrhau, os ydym yn creu'r ysbytai maes hyn, y bydd digon o staff ac adnoddau i ddarparu'r gofal yn yr ysbytai maes hynny?
Ac yn olaf, efallai eich bod yn ymwybodol o lythyr a anfonwyd gan feddyg teulu, nid yn fy etholaeth i, ond mae rhai o fy etholwyr wedi derbyn y llythyr hwnnw, yn gofyn iddynt a oeddent am gael eu hystyried yn gleifion 'peidiwch â dadebru' pe byddent yn cael y feirws. Byddaf yn cysylltu â phob bwrdd iechyd ar frys i sicrhau nad oes unrhyw lythyr o'r fath yn cael ei anfon eto gan bractis meddyg teulu arall, gan fod bywyd pob claf yn werthfawr iawn. Nid yw'n rhywbeth y dylent fod yn gofyn: 'A ydych am i nodyn 'peidiwch â dadebru' gael ei roi ar eich nodiadau?' A allwch ddychmygu claf yn cael y llythyr hwnnw, sy’n dweud, 'Os ydych yn cael y feirws, arhoswch gartref. Byddwn yn gofalu amdanoch, ond ni fyddwn yn eich nodi fel rhywun y mae angen eu dadebru. Ni fyddwn yn mynd â chi i'r ysbyty fel claf brys'? Nid yw'n dderbyniol—rwy’n siŵr eich bod yn cytuno â hynny. A wnewch chi sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn dweud wrth eu meddygfeydd nad dyna'r ffordd ymlaen? Diolch.
Diolch. Rwyf bellach yn disgwyl i'r canllawiau ar gyfarpar diogelu personol gael eu darparu yfory. Rwy'n darparu'r holl amserlenni hyn yn ddidwyll, ond maent yn amserlenni nad wyf yn eu rheoli, gan fod y canllawiau’n cael eu darparu gan ystod o wahanol gynghorwyr arbenigol—mae’r prif swyddogion meddygol yn gweithio gyda'i gilydd ac rydym yn edrych ar y dystiolaeth wyddonol. Gallaf ddweud yn onest, 'Gorau po gyntaf,' fodd bynnag, gan y gwn y byddaf yn parhau i wynebu cwestiynau hyd yn oed ar ôl i'r canllawiau gael eu cynhyrchu. Ond pan fydd mwy o sicrwydd ac eglurder ynglŷn â phwy sydd angen cyfarpar diogelu personol a phwy na fydd ei angen, bydd hynny'n helpu i wella'r sefyllfa ac yna gallwn sicrhau ein bod yn caffael y cyfarpar diogelu personol hwnnw yn unol â'r canllawiau. Felly, rwy’n cydnabod y pryder a’r rhwystredigaeth y byddwch chi ac Aelodau eraill sydd yma, ac a fydd yn gwylio’r recordiad diweddarach, yn ei nodi, gan fod hynny’n bryder i staff rheng flaen hefyd.
O ran canser a chyflyrau eraill sy'n peryglu bywydau, fel y nodais wrth Paul Davies, byddwn yn edrych ar sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn parhau i ddarparu gofal i'r bobl hynny wrth gwrs. Ond ni allwch osgoi'r gwirionedd na all y gwasanaeth iechyd gwladol esgus y gall barhau fel arfer ym mhob agwedd arall gyda'r her sylweddol y mae COVID-19 yn ei chreu. Bydd y ffordd rwyf eisoes wedi cau rhannau sylweddol o weithgarwch y GIG i ganiatáu i bobl baratoi ar ei gyfer yn arwain at rai canlyniadau i'r ffordd rydym yn darparu mathau eraill o driniaethau.
Y pwynt pwysig yw bod pobl yn cael sgyrsiau â’r clinigwyr sy'n eu trin ynglŷn â’r hyn sy'n digwydd, ac os yw llawdriniaeth yn cael ei gohirio neu ei symud ymlaen, fod ganddynt ffordd o ddeall pam fod hynny wedi digwydd a beth y mae hynny'n ei olygu. Oherwydd mae nifer o'n cleifion, er enghraifft, yn awyddus i beidio â chael triniaeth os oes posibilrwydd y byddant yn mynd i ardal glinigol lle gallai fod pobl â COVID-19. Felly, mae rhai pobl yn awyddus i ohirio eu triniaeth beth bynnag. Gwn fod galwadau’n digwydd rhwng clinigwyr, eu timau, a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Ac mae'r pwynt hwnnw am beidio â pharhau fel arfer yn gysylltiedig â'ch pwynt ynglŷn â'r 7,000 o welyau ychwanegol a'r gallu i'w staffio. Dyna pam rydym yn chwilio am bobl i ddychwelyd i’r gwasanaeth; dyna pam ein bod yn ceisio recriwtio pobl i'r gwasanaeth; dyna pam hefyd ein bod yn llwyddo i berswadio rhai o'r dros 3,700 o israddedigion sy'n astudio ar gyfer graddau meddygol a graddau iechyd proffesiynol eraill i weithio yn y gwasanaeth.
Bydd yn ffordd wahanol o weithio, ac fel rwyf wedi’i ddweud sawl tro eisoes, bydd y ffordd rydym yn gweithio ar hyn o bryd, neu'r ffordd y byddem wedi gweithio, dyweder ar 1 Mawrth, yn wahanol iawn i'r ffordd y byddwn yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac yn darparu gofal am gyfnod o amser i ddod. Ond rwy'n deall, mae'n fater a godais heddiw yn fy ngalwad â phrif weithredwyr a chadeiryddion sefydliadau’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru i sicrhau nad gwelyau mewn ystafelloedd sy'n cael eu hanghofio yw'r capasiti gwelyau ychwanegol rydym yn ei greu, ond y gallwn eu staffio'n ddigonol. Felly, rwy’n fwy na pharod nid yn unig i fynd ar drywydd hynny ond i sicrhau fy mod yn gallu rhoi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd ar y mater staffio.
Ac o ran y llythyr meddyg teulu, rwy'n ymwybodol o'r mater. Dywedodd yr Aelod etholaeth Huw Irranca-Davies wrthyf am yr her a'r sgyrsiau roedd eisoes yn eu cael gyda'r practis a'r bwrdd iechyd. Ac rwyf wedi cael sicrwydd, cyn y bore yma, fod sgwrs wedi digwydd am y llythyr ei hun; mae'r practis meddyg teulu yn cysylltu â phobl i geisio gwella'r sefyllfa; a gwn eu bod wedi cyhoeddi ymddiheuriad.
Mae'n anodd cael sgwrs am rybudd 'peidiwch â dadebru' ar unrhyw adeg, mae trafod gofal diwedd oes bob amser yn anodd yn y parth cyhoeddus, ac mae'n sgwrs sy'n galw am sensitifrwydd. Rwy'n hyderus, ar ôl y digwyddiad hwn, na welwn lythyrau tebyg gan feddygfeydd i'w cleifion, ac y bydd gwir sensitifrwydd ac urddas yn y sgwrs rhwng meddygon teulu a'u cleifion. A chan ystyried pwynt cynharach Angela Burns am y ffordd y mae pobl yn gwneud dewisiadau anodd iawn, bydd fframwaith moesegol ar gyfer gwneud hynny ar gael i gynorthwyo ein staff i roi'r gofal gorau posibl i bawb, ni waeth beth yw eu hoedran, ledled y wlad.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a'i atebion. Fel y bydd yr Aelodau wedi sylweddoli, rwyf wedi ymestyn yr amser a neilltuwyd ar gyfer y ddau ddatganiad blaenorol yn sylweddol er mwyn cynorthwyo gyda chraffu, ond byddaf yn deall os bydd angen i Aelodau neu Weinidogion adael y cyfarfod ar unrhyw adeg yn awr oherwydd ymrwymiadau yn eu dyddiaduron.