6. Dadl Aelod o dan Rheol Sefydlog 11.21 (iv): Incwm Sylfaenol Cyffredinol

– Senedd Cymru am 4:26 pm ar 30 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:26, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Eitem 6 yw'r ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21, a'r testun yw incwm sylfaenol cyffredinol. Galwaf ar Jack Sargeant i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7384 Jack Sargeant

Cefnogwyd gan Adam Price, Alun Davies, Bethan Sayed, Dai Lloyd, Dawn Bowden, Helen Mary Jones, Huw Irranca-Davies, Jenny Rathbone, John Griffiths, Leanne Wood, Mick Antoniw, Mike Hedges, Rhianon Passmore, Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y niwed y mae tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan o dlodi;

b) bod y pandemig wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd;

c) yr oedd twf y DU, hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl;

d) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac, yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl;

e) y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi; 

f) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu cymdogion. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i sefydlu treial incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru;

b) i lobïo Llywodraeth y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:27, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar iawn i Bwyllgor Busnes y Senedd ac i'r rhai a gefnogodd y cynnig hwn gan ganiatáu i'n Senedd fod yn rhan o'r sgwrs gynyddol ynghylch incwm sylfaenol cyffredinol. Nid syniad newydd yw'r incwm sylfaenol cyffredinol, ond mae'n syniad sy'n dechrau codi ei lais. Fel bob amser, mae gwrthwynebiad i newid a bydd rhai bob amser yn mynnu nad yw ceisio gwella bywydau pobl yn bosibl. Codwyd y lleisiau hyn o'r blaen i wrthsefyll newid, gan ddweud na allwn fforddio gwneud yn well: pan roddwyd y gorau i anfon plant i lawr y pyllau glo, pan soniwyd am gyflwyno'r wladwriaeth les a phensiynau ac wrth gwrs, pan ddaeth ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol anhygoel i fodolaeth.

Wrth ddadlau'r achos dros dreial incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru fel cam cyntaf tuag at fabwysiadu'r polisi yng Nghymru, roeddwn yn meddwl y byddwn yn rhannu'r hyn a sbardunodd fy niddordeb fy hun yn y pwnc gyda chi. Roedd yn gwestiwn sylfaenol iawn i ddechrau: sut rydym yn osgoi problemau tlodi mewn byd mor gythryblus a newidiol? Sut y mae creu llwyfan o ddiogelwch sy'n caniatáu i bobl dyfu, dysgu, astudio a chyflawni eu potensial mewn oes o ansicrwydd cynyddol? Yr hyn y mae COVID wedi'i ddangos i ni yw y gallwn ac y dylem ymyrryd i sicrhau y gall pawb chwarae rhan mewn economi marchnad. Fel bob amser, y bobl sydd ar flaen fy meddwl yw trigolion gwych Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae fy nghymuned wedi gweld trychineb economaidd o'r blaen. Magwyd fy nghenhedlaeth i yng nghysgod y colli swyddi enfawr a welwyd yng ngwaith dur Shotton, a dyma yw'r diswyddiad unigol mwyaf a welwyd yng ngorllewin Ewrop o hyd. Gallai'r digwyddiad dinistriol hwn ddigwydd eto ar draws ystod eang o ddiwydiannau oherwydd colli swyddi yn sgil awtomatiaeth. Y tro hwn, mae angen i'r Llywodraeth fod yn gweithio gyda ni ac nid yn ein herbyn.

Disgwylir y bydd deallusrwydd artiffisial yn cael gwared ar fwy fyth o swyddi, a gallem wneud iddo wasanaethu'r ddynoliaeth a'i groesawu, neu gallwn ganiatáu iddo arwain at golli swyddi niferus heb ddim i'w rhoi yn eu lle. Nodwyd mai Alun a Glannau Dyfrdwy yw'r etholaeth sydd â'r mwyaf i'w golli. Nid gweithgynhyrchu, manwerthu a thrafnidiaeth yw'r unig feysydd a welodd newidiadau; bydd miloedd o swyddi coler wen yn y proffesiwn cyfreithiol, cyfrifyddu a gofal iechyd yn cael eu gwneud gan ddeallusrwydd artiffisial cyn bo hir. Ceir newidiadau enfawr eraill rydym eisoes yn mynd drwyddynt neu sy'n rhuthro tuag atom, sy'n golygu efallai y bydd angen inni ymyrryd i sicrhau bod gan bobl sefydlogrwydd rhwyd ddiogelwch a sbardun go iawn.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 4:30, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae'r ffactor cyntaf gyda ni eisoes, a gellir ei weld o'n cwmpas: tlodi. Mae tlodi'n prysur ddod yn endemig—digartrefedd a thlodi bwyd yw'r arwyddion mwyaf gweladwy. Mae Marcus Rashford, y pêl-droediwr, wedi taflu goleuni ar y mater hwn yn ddiweddar, gan ddefnyddio ei stori bersonol ei hun i egluro pa mor ofnadwy yw mynd i'r ysgol yn llwglyd. Gall effeithiau hyn bara am oes, a byddant yn gwneud hynny'n aml. Nawr, rydym yn aml yn twyllo ein hunain mai problem i bobl eraill yw tlodi, ond gyfeillion, ystyriwch y ffaith hon: mae traean o aelwydydd un cyflog mis i ffwrdd o fod yn ddigartref. Nawr, mewn byd lle mae bywydau pobl yn fwyfwy ansicr, pa ateb y credwch y byddem yn ei gael pe baem yn ymestyn y ffigur hwnnw i bedwar mis? Cyfrannwr pwysig arall i'r angen i edrych ar incwm sylfaenol cyffredinol yw natur gynyddol ansicr gwaith, a'r gwastatáu yn nhwf cyflogau i bawb ond ychydig o bobl gyfoethog. Nododd adroddiad diweddar gan Gyngres yr Undebau Llafur fod llawer o'r gyflogaeth a grëwyd yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn waith am gyflog isel ac o natur ansicr, fel yr adlewyrchir yn y defnydd cynyddol o gontractau dim oriau a'r cynnydd mewn swyddi yn yr economi gìg.

Y ffactor olaf yw cynhesu byd-eang, a'r risg wirioneddol, os na fyddwn yn newid y ffordd rydym yn meddwl am dwf, na fydd neb o gwmpas i elwa ohono. Bydd ffyniant anghynaliadwy lle nad ydym yn ystyried yr angen i fod yn garbon niwtral yn drychinebus. Nawr, er bod angen y newid hwn, ni fydd yn ddi-boen, a bydd rhai ar eu colled yn ogystal â rhai ar eu hennill. Felly, sut rydym yn eu cefnogi drwy hyn? Mae'r Prif Weinidog Jacinda Ardern yn crynhoi fy safbwynt mewn gwirionedd: mae twf yn ddibwrpas os nad yw pobl yn ffynnu. Dywedodd Ardern y dylai Llywodraethau ganolbwyntio yn hytrach ar les cyffredinol dinasyddion a buddsoddi mewn meysydd sy'n datgloi'r potensial dynol. Cyfeiriodd at gyllideb llesiant newydd Seland Newydd, sy'n ceisio ehangu gwasanaethau iechyd meddwl, lleihau tlodi plant a digartrefedd, ymladd newid yn yr hinsawdd a gwella cyfleoedd.

Nid llwyddiant yw twf economaidd a ddaw â chanlyniadau cymdeithasol sy'n gwaethygu yn ei sgil— meddai Ardern— methiant ydyw.

Felly, beth yn union rwy'n gofyn amdano? Wedi'r cyfan, mae treial yn ymddangos yn eithaf niwlog. Ond Aelodau, mae'n eithaf syml mewn gwirionedd. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru ddewis grŵp o bobl a gweld a yw eu canlyniadau'n gwella drwy gael incwm sylfaenol cyffredinol. Gallai grŵp o'r fath fod yn bobl sy'n gadael gofal neu'n bobl a ddiswyddwyd yn ddiweddar mewn diwydiant sydd wedi dioddef yn fawr yn sgil COVID. Byddem yn cefnogi'r grŵp hwn wedyn tra'n gweld a yw ein treial yn ailadrodd canlyniadau cadarnhaol treialon mewn mannau eraill. Dangosodd treial yng Nghanada fod pobl ifanc yn fwy tebygol o aros mewn hyfforddiant; dangosodd astudiaeth yn y Ffindir fod pobl sy'n cael incwm sylfaenol cyffredinol yn fwy tebygol o weithio. Nawr, mae hyn yn wahanol i gredyd cynhwysol, sy'n mynd ati'n weithredol i gosbi gwaith. 

Rwy'n deall y bydd llawer, yn enwedig ar yr asgell Geidwadol, 'gwladwriaeth fach' mewn gwleidyddiaeth, yn dweud na allwn fforddio cefnogi pobl mewn cyfnod cythryblus. Ond rwy'n aml yn meddwl tybed pam nad yw'r lleisiau hyn yn codi pan fydd costau credyd cynhwysol yn cynyddu allan o reolaeth, pan roddir biliynau i gwmnïau allanol sy'n darparu gwasanaethau gwarthus, neu pan welwn gostau prosiectau seilwaith mawr, fel HS2, yn mynd drwy'r to. Ac rwy'n gwybod hefyd nad yw llawer ar fy ochr i o'r sbectrwm gwleidyddol wedi'u hargyhoeddi, nid oherwydd nad ydynt eisiau cefnogi pobl, ond am eu bod yn poeni am yr adnoddau cyfyngedig mewn gwlad sydd eisoes wedi gweld y Torïaid yn torri cymaint o'r hyn rydym i gyd yn ei ystyried yn werthfawr. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthynt yw: edrychwch ar y rhestr o broblemau rwyf wedi'u trafod heddiw—pa bwysau fydd canlyniadau'r newidiadau hyn yn ei roi ar wasanaethau cyhoeddus? 

Nawr, Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau heddiw, felly rwyf am orffen gyda hyn: os yw economi marchnad yn mynd i ffynnu, mae angen i'w holl ddinasyddion allu cymryd rhan ynddi. Mae angen iddynt allu amsugno'r ergydion sydd i ddod a bod yn berchnogion cartrefi, yn ddefnyddwyr, yn grewyr ac yn entrepreneuriaid. Os ydym am roi lle iddynt gymryd cyfrifoldeb a sicrhau y gallant wneud hyn, bydd angen sbardun llawer gwell arnom—sbardun llawer mwy caredig—a'r sbardun hwnnw yw incwm sylfaenol cyffredinol. Diolch yn fawr.

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:35, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae gennyf wyth siaradwr sy'n gobeithio cael eu galw, neu wyth Aelod sy'n gobeithio siarad, felly pum munud ar y mwyaf, os gwelwch yn dda, a byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallai rhai Aelodau fod yn fwy cryno na hynny. Mark Isherwood.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 721,000 neu 23 y cant o'r holl unigolion—plant, oedolion o oedran gweithio a phensiynwyr—yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru, sy'n uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Yn ôl rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, Cymru sydd â'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y DU, ac mae 25 y cant o swyddi yng Nghymru yn talu llai na'r isafswm cyflog.

Mae incwm sylfaenol cyffredinol wedi ennyn diddordeb sylweddol yn ddiweddar. Fodd bynnag, fel y dywed Sefydliad Bevan:

Fel gyda llawer o gynlluniau sy'n effeithio ar incwm pobl, mae cynllun a gwerth yr argymhellion yn wirioneddol bwysig.

Er y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn helpu i gyrraedd pobl sydd y tu allan i'r system fudd-daliadau ar hyn o bryd, ac y gallai leihau stigma, daethant i'r casgliad fod anghenion pobl yn gwahaniaethu'n fawr. Roeddent yn dweud nad yw'r rhain yn debygol o gael eu bodloni gan gyfradd uchel hyd yn oed o incwm sylfaenol cyffredinol, ac roeddent yn dweud:

Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau'n dangos mai effaith gyfyngedig ar y cyfan y mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ei chael ar ymgysylltiad pobl â'r farchnad lafur... Yn fwyaf arbennig, canfuwyd bod menywod â phlant a phobl hŷn sy'n derbyn incwm sylfaenol cyffredinol yn lleihau rhywfaint ar eu cyfranogiad mewn cyflogaeth.

Maent hefyd yn gofyn a fyddai cyfradd uchel o incwm sylfaenol cyffredinol mor ddrud fel y byddai'n anodd buddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol eraill, megis adeiladu tai cymdeithasol newydd a darparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus cost isel.

Dadleuodd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Universal Basic Income: An Effective Policy for Poverty Reduction?', hefyd nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn fforddiadwy, gan beryglu'r gallu i ddarparu gwasanaethau pwysig mewn gofal iechyd ac addysg, gan ychwanegu:

Nid yw'n diwallu anghenion aelwydydd incwm isel sy'n wynebu problemau cymhleth fel dibyniaeth ar gyffuriau, dyledion peryglus, a chwalfa deuluol; mae'n ddatgymhelliad mawr i ddod o hyd i waith...ac nid yw'n fwy hael i'r aelwydydd mwyaf difreintiedig na darpariaethau'r credyd cynhwysol.

Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros fusnes, Alok Sharma:

Yr hyn sy'n bwysig iawn yn y ffordd rydym yn darparu cymorth, yn enwedig yn fwy cyffredinol yn y system les, yw ein bod yn ei dargedu at bobl, ac mae incwm sylfaenol cyffredinol yn cael ei brofi mewn gwledydd eraill ac nid yw wedi cael ei ddatblygu.

Y llynedd, ni wnaeth Llywodraeth y Ffindir fwrw ymlaen ag incwm sylfaenol cyffredinol ar ôl treial dwy flynedd, gan ddod i'r casgliad ei fod wedi methu helpu pobl ddi-waith i ailymuno â'r gweithlu. Er bod math o incwm sylfaenol cyffredinol ar waith yn Alaska, nid yw lefel y taliad yn ddigonol i gymryd lle incwm pobl ac felly nid yw ond yn gweithredu fel atodiad. Er bod Sbaen wedi cyflwyno cynllun isafswm incwm yn ddiweddar, mae'n ymddangos bod ganddo fwy'n gyffredin â system nawdd cymdeithasol y DU na'r fersiwn o incwm sylfaenol cyffredinol sydd dan sylw.

Ni ellir lleihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru gydag un weithred. Mae Sefydliad Bevan yn galw am ddatblygu strategaeth gwrthdlodi sy'n nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Fel y dywed Oxfam Cymru, nid yw'n wir nad yw strategaethau gwrthdlodi yn gweithio; mae'n ymwneud â sut y caiff y strategaethau hynny eu targedu. 

Yn ddiweddar, mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer prydau ysgol, y grant datblygu disgyblion a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gan ddweud y byddai hyn yn ei gwneud yn haws i deuluoedd mewn tlodi gael mynediad atynt. Lle bo modd, dywedant, dylid darparu'r cymorth hwn ar sail pasbort. Fel y dywed National Energy Action Cymru, dylai Llywodraeth Cymru ddynodi tlodi tanwydd yn flaenoriaeth seilwaith.

Mae atal yn hanfodol os yw pobl a sefydliadau yng Nghymru am fynd i'r afael â'r heriau mawr a wynebwn, a rhoi camau ymarferol ar waith i atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Nid yw plastr yn ddigon; mae angen inni ddod o hyd i'r achosion sylfaenol a gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â hwy. Os yw pobl yn disgyn i mewn i afon o hyd, oni fyddai'n well codi ffens yn uwch i fyny i'w harbed rhag syrthio i mewn, yn hytrach na'u hachub dro ar ôl tro cyn iddynt foddi? Fel y nododd Sefydliad Joseph Rowntree, nid yw incwm sylfaenol cyffredinol yn fforddiadwy, mae'n annymunol i'r rhan fwyaf o'r cyhoedd oherwydd ei dag "arian am ddim" ac efallai'n bwysicaf oll—mae'n cynyddu tlodi oni bai ei fod yn cael ei addasu'n rhywbeth hollol wahanol.

Dyfyniad uniongyrchol ganddynt hwy oedd hwnnw. Ni fydd camau i fynd i'r afael â thlodi'n ehangach ond yn llwyddo drwy sicrhau bod ymwneud dinasyddion yn ganolog iddynt. Rydym angen troi geiriau'n gamau gweithredu go iawn yn awr, gan wneud pethau gyda phobl yn hytrach nag iddynt. O'r diwedd, mae angen inni roi croeso llawn i gydgynhyrchu, gan symud y tu hwnt i rethreg ac ymgynghori i wneud pethau'n wahanol yn ymarferol, gyda gweithwyr proffesiynol gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau yn gweithio ochr yn ochr i ddarparu atebion. Diolch yn fawr.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:41, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig ac yn ddiolchgar i Jack Sargeant am ei gyflwyno a rhoi cyfle i ni gefnogi ac am ei araith agoriadol rymus. Ac wrth gwrs, fel y dywedodd Jack, mae cyfraniad Mark Isherwood i'r ddadl newydd ddangos y bydd yna bobl bob amser yn ceisio awgrymu bod syniadau newydd ac arloesol yn amhosibl eu cyflwyno. Byddwn yn dweud bod angen inni fod yn fwy uchelgeisiol na hynny. 

Rwyf wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, a byddaf yn dal i'w ddweud tra bydd yn parhau i fod yn wir, mae'n warth cenedlaethol ein bod yn byw mewn gwlad lle mae traean o'n plant yn dlawd. Mae'r system fudd-daliadau bresennol yn gymhleth, mae'n gosbol ac mae'n cadw teuluoedd mewn tlodi. Mae hefyd yn gostus i'w gweinyddu ac yn gwbl annheg. Fel y mae'r cynnig hwn yn nodi, nid yw gwaith, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn llwybr allan o dlodi bellach. Mae gormod o deuluoedd yng Nghymru lle mae'r ddau riant yn gweithio dan gontract dim oriau mewn swyddi economi gìg yn dal i fod yn dlawd.

Nid oes amheuaeth na fydd COVID-19 yn taro ein heconomi'n galed, ond hyd yn oed cyn COVID roedd ein heconomi'n newid. Mae heriau awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial, ymhlith pethau eraill, yn debygol o drawsnewid y byd gwaith dros amser. Efallai nad oes gennym ddigon o'r hyn a ystyriwn yn draddodiadol yn waith i fynd o gwmpas. Mae llawer o gamau y gallwn ac y dylem eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ac ni fyddwn yn anghytuno â phopeth a ddywedodd Mark Isherwood, ond mae'n rhaid i archwilio incwm sylfaenol cyffredinol fod yn un ohonynt. 

Mae'r cynnig yn amlinellu llawer o'r manteision yn glir, a hoffwn ychwanegu at y rhestr honno drwy sôn am gapasiti incwm sylfaenol cyffredinol i ganiatáu i bobl dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd, ac yn enwedig gyda phlant. Rwy'n adnabod gormod o deuluoedd yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli lle mae'r ddau riant yn gweithio oriau hir mewn gwaith cyflog isel. Gallai incwm sylfaenol cyffredinol ganiatáu iddynt leihau eu horiau, gwella ansawdd eu bywydau yn aruthrol yn ogystal ag ansawdd bywydau eu plant. 

Rwy'n gyfforddus yn cefnogi'r cynnig fel ag y mae, ond mae 'ond'—bydd yn anodd iawn sefydlu hyd yn oed treial incwm sylfaenol cyffredinol cyfyngedig yng Nghymru heb ddatganoli'r system fudd-daliadau. Efallai y gallem dreialu gyda theuluoedd ar incwm isel sy'n uwch na'r trothwy budd-daliadau, ac rydym yn gwybod bod gormod o'r rheini yn ein gwlad, ond yn sicr ni fyddai diben o gwbl darparu incwm sylfaenol cyffredinol i unigolion a theuluoedd o gronfeydd Cymru os byddai hynny'n peri iddynt golli eu budd-daliadau gan Lywodraeth y DU. 

Ac er na fyddwn yn gwrthwynebu lobïo Llywodraeth y DU i ariannu incwm sylfaenol cyffredinol drwy Gymru, gyda Llywodraeth bresennol y DU mewn grym, rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn dal fy ngwynt. Onid gwell fyddai dilyn cyngor gofalus, ystyriol y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a cheisio datganoli'r broses o weinyddu budd-daliadau i Gymru? Yna, gallem fynd ati o ddifrif i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol. Ac os yw'n gweithio, gallai drawsnewid bywydau pobl. Diolch yn fawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:44, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Bob hyn a hyn, daw syniad, syniad dychmygus ac arloesol, a chredaf fod gennym ddyletswydd, yn enwedig yn y Senedd hon, i groesawu'r syniadau hynny a'r cyfleoedd y gallant eu cynnig i ni. Mae'r syniad o incwm sylfaenol wedi bod o gwmpas am amser hir. Bu economegwyr, athronwyr a gwleidyddion yn trafod ers tro byd sut i drechu tlodi. Cychwynnodd Llywodraeth Lafur 1945 ar y daith hon o ddifrif drwy sefydlu'r wladwriaeth les, ac fe weithiodd am ddegawdau lawer. Cododd y di-waith, y rheini nad oeddent yn gallu gweithio a'r rhai mewn gwaith ar gyflogau isel allan o dlodi. Ac roedd yn gweithio'n eithaf da mewn cymdeithas lle roedd cyflogaeth lawn bron iawn, undebaeth lafur gref ac ymrwymiad cyhoeddus i'r lles cyffredin.

Nawr, yn ystod y 1980au a'r degawdau dilynol, mae'r tri rhagofyniad hwnnw, sy'n sail i'r wladwriaeth les, wedi cael eu herydu a'u tanseilio fwyfwy gan arwain yn y pen draw at ddeddf warthus y Torïaid, Deddf Diwygio Lles 2012. Dechreuodd yr ymgais i greu credyd cynhwysol newydd ar y trywydd cywir, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, ond ochr yn ochr â'r dreth ystafell wely, bwriwyd amheuaeth ar y syniad yn sgil obsesiwn y Llywodraeth Dorïaidd â chyni. Ers dyddiau Margaret Thatcher hefyd, mae agweddau gwleidyddol tuag at bobl ar fudd-daliadau wedi tyfu'n fwyfwy gelyniaethus. Credaf fod penawdau cyson am dwyllwyr budd-daliadau, lloffwyr taliadau lles, a mantra diweddaraf y Torïaid, y tlawd haeddiannol, wedi cuddio'r tlodi a'r anghydraddoldeb sydd wedi ansefydlogi ein cymdeithas fwyfwy.

Felly, mae'n bryd cael meddylfryd newydd a syniadau newydd. Mae ymddangosiad y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol yn amserol ac yn rhywbeth i'w groesawu. Yr egwyddor sylfaenol ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol yw y dylid talu swm o arian i bob oedolyn sy'n ddigonol i gael safon byw sylfaenol rhesymol. Nawr, dyna'r pwynt. Beth a olygir wrth rhesymol? Beth a olygir wrth sylfaenol? Beth sy'n ddigonol? Yn ychwanegol at hynny ceir llawer o heriau eraill. Rydym eisoes wedi cael rhai budd-daliadau cyffredinol, megis presgripsiynau am ddim a budd-daliadau plant, a oedd tan y newidiadau diweddar yn mynd i bawb ac mae pawb yn talu amdanynt. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yr un fath. Nid yw'n wahanol mewn rhai ffyrdd i'r cysyniad o lwfans sylfaenol di-dreth, ar wahân i'r ffaith ei fod yn mynd gam ymhellach ac yn dod yn daliad heb brawf modd i bob oedolyn. Nawr, wrth gwrs, gall fod taliadau ychwanegol arbennig ar gyfer anghenion arbennig a dyna un o'r cysyniadau. Ond mae yna lawer o amrywiadau. Felly, gwneud iddo weithio ac ennill cefnogaeth yw'r her wirioneddol. A fydd cymdeithas yn ei dderbyn? A fydd y rhai sy'n gweithio yn barod i dderbyn y cysyniad hwn? Sut y bydd yn effeithio ar gyflogau a'r rheini sydd mewn gwaith? Pa rwymedigaethau y bydd yn eu rhoi ar gymdeithas i sicrhau bod gwaith cymdeithasol defnyddiol a phriodol ar gael a bod pobl yn cyflawni'r gwaith hwnnw? Beth yw cyfrifoldebau'r derbynwyr? Sut rydych yn gorfodi'r cyfrifoldebau hynny? Ac mae llawer o gwestiynau eraill. 

Nawr, os oes gan y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol botensial i ddileu tlodi, mae'n rhaid inni ei ystyried a'i drafod a dod i gasgliad yn ei gylch. Mae Jack Sargeant wedi dechrau'r broses gyda'r ddadl Aelod unigol hon. Mae'n ddadl gyffrous. Gadewch inni barhau â'r ddadl gyda meddwl agored, oherwydd mae gennym lawer i'w ennill a fawr ddim i'w golli. Diolch, Lywydd dros dro.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:48, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd cael incwm sylfaenol cyffredinol, fel gyda'r syniadau mwyaf arloesol, yn debygol o greu canlyniadau cadarnhaol a negyddol. Yn y lle cyntaf, os edrychwn ar fanteision taliad o'r fath, byddai pobl yn rhydd i ddychwelyd i addysg, gan roi mwy o obaith iddynt gael gwell cyfleoedd gwaith. Byddai mwy yn gallu aros gartref i ofalu am berthynas. Mae gan hyn botensial i greu arbedion sylweddol i'r gost enfawr sydd ynghlwm â gofal cymdeithasol. Gallai dynnu miloedd lawer o bobl o'r fagl tlodi a gaiff ei chreu gan fathau mwy traddodiadol o raglenni lles. Gallai pobl gael taliad syml, uniongyrchol a allai leihau biwrocratiaeth. Unwaith eto, arbediad cost a fyddai'n helpu i dalu am unrhyw gostau ariannu ychwanegol a fyddai'n gysylltiedig â'r polisi incwm sylfaenol, oherwydd gwyddom i gyd fod gweinyddu'r system les bresennol yn ddrud ofnadwy ac yn gymhleth iawn. Byddai gan gyplau ifanc fwy o ryddid i ddechrau teulu a byddai ganddynt incwm gwarantedig, gan wella'r cyfraddau geni isel mewn rhai sectorau o boblogaeth y DU o bosibl. Gallai incwm gwarantedig helpu i sefydlogi'r economi yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad, gan liniaru effaith dirwasgiadau economaidd. Fodd bynnag, fel gyda phopeth, mae'n rhaid sicrhau'r cydbwysedd cywir.

Os yw'r taliad sylfaenol cyffredinol wedi'i osod yn rhy uchel, gall fod yn ddatgymhelliad i bobl ymuno â'r farchnad swyddi. Os caiff ei osod yn rhy isel, bydd yn parhau i gadw cyfran o'r boblogaeth mewn tlodi cymharol. Unwaith eto, os caiff ei osod yn rhy uchel, gallai'r galw am nwyddau a gwasanaethau sbarduno chwyddiant, a allai, yn y pen draw, negyddu'r safon byw uwch i'r rhan fwyaf o bobl a fyddai'n derbyn yr incwm sylfaenol. Ni fydd rhaglen lai gyda thaliadau llai, ar y llaw arall, yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi.

Os ydym eisiau i'r incwm sylfaenol cyffredinol gael ei dderbyn yn gyffredinol, mae'n rhaid inni brofi'r manteision posibl i'r nifer fawr o bobl sy'n gwrthwynebu'n llwyr yr hyn y maent yn ei deimlo sy'n arian am ddim o unrhyw fath. Ym mhob rhan o'r byd, mae gwledydd naill ai'n awyddus i arbrofi gydag incwm sylfaenol cyffredinol neu eisoes yn ei gynnig. Mae'r rhain yn cynnwys rhai o daleithiau America, y Ffindir, Kenya, Canada a Thaiwan. Gallai monitro'r cynnydd roi cyfle i'r Senedd feincnodi effaith taliad sylfaenol cyffredinol.

Mae llawer o academyddion, economegwyr a diwydianwyr hyd yn oed bellach yn credu, os ydym am greu cymdeithas decach, fwy cyfartal, fod rhyw fath o incwm sylfaenol cyffredinol nid yn unig yn ddymunol ond yn anochel. Mae awtomatiaeth wedi newid strwythur economi'r byd yn sylfaenol, gyda deallusrwydd artiffisial yn ein harwain at chwyldro diwydiannol arall yn y ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn marchnata nwyddau a gwasanaethau. Bydd yr effaith sy'n deillio o hynny ar yr angen am waith llaw ac ymyrraeth pobl mewn swyddfeydd yn lleihau'r farchnad swyddi'n sylweddol. Credaf y byddem i gyd yn cytuno na ddylai'r chwyldro diwydiannol hwn ddyblygu rhai'r gorffennol, a amlygai'r bwlch gwarthus rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Os ydym am greu cymdeithas deg a chyfartal, rhaid i bawb ohonom dderbyn bod incwm sylfaenol cyffredinol nid yn unig yn ddymunol ond yn hanfodol. Fodd bynnag, ni ddylem dwyllo ein hunain: rhaid cyflawni'r broses o'i gymell gyda gofal mawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:51, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Cyflwyniad rhagorol gan Jack, a dadl ddiddorol iawn gan bobl o bob plaid, a dyna sut y dylai fod. Mae'n ymddangos i mi mai'r pandemig COVID, a'r cydweithredu sy'n rhaid ei gael i'w drechu, yw'r hyn sydd wedi dod ag ymatebion radical o dan y chwyddwydr. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai Canghellor y Trysorlys, yn un o'r Llywodraethau rhyddewyllysol mwyaf asgell dde y mae'r DU wedi'i chael ers cyn cof, yn cytuno i dalu 80 y cant o holl gyflogau'r wlad hon er mwyn achub swyddi pobl?

Rwyf wedi cefnogi'r egwyddor o incwm sylfaenol cyffredinol ers tro byd. Roeddwn yn un o gefnogwyr cynnar Wages for Housework, ymhell cyn i lawer o'r Aelodau, gan gynnwys Jack, gael eu geni. Mae angen inni gofio mai nod y lwfans teulu gwreiddiol, a ddaeth yn fudd-dal plant yn ddiweddarach, oedd cydnabod y gwaith pwysig o fagu'r genhedlaeth nesaf. Yn anffodus, mae wedi cael ei adael i ddihoeni ac mae'n gyfraniad cwbl annigonol gan gymdeithas at y gost o fagu ein plant. Ond tan yn ddiweddar, nid oeddwn yn teimlo mai nawr oedd yr amser i bwyso am incwm sylfaenol cyffredinol, oherwydd roeddwn yn credu, yng nghanol pandemig, fod llawer gormod o broblemau uniongyrchol eraill roedd angen i Lywodraethau fynd i'r afael â hwy. Ac yn ogystal â hynny, nid oes gan Lywodraeth Cymru adnoddau, na phwerau yn wir, i wneud iddo ddigwydd. Ond rwy'n credu bod dyfnder yr argyfwng a wynebwn yn awr, yr argyfyngau sy'n hel at ei gilydd, yn gwneud hyn yn rhywbeth y mae gwir angen inni edrych arno ar fyrder yn awr, oherwydd nid pandemig yn unig rydym yn ei wynebu, rydym hefyd yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol y bydd y DU yn torri ei chysylltiadau â'n cymdogion Ewropeaidd ar ôl 40 mlynedd heb gael cytundeb masnach dichonadwy. Ac ar ben hynny, mae gennym argyfwng hinsawdd cynyddol, a fydd, os na wnawn unrhyw beth yn ei gylch, yn gwaethygu'n gyflym iawn.

Felly, rwy'n argyhoeddedig mai dyma sydd ei angen arnom yn awr: incwm sylfaenol cyffredinol i ddiogelu ein gwlad rhag y lefel o chwalfa economaidd a chymdeithasol sy'n llawer mwy ac yn fwy dinistriol nag unrhyw beth a welsom yn 1973, 1982, 1989 a 2008. Yn anad dim, mae'n rhaid inni osgoi'r newidiadau gwleidyddol treisgar sy'n aml yn cael eu sbarduno gan fethiant i reoli ysgytiadau economaidd. Dyn a ŵyr beth fyddai wedi digwydd yn 2008 pe na bai Gordon Brown ac Alistair Darling wedi llwyddo i atal ein holl fanciau rhag mynd i'r wal.

Felly, cyn COVID, roedd Cymru eisoes yn dioddef o lefelau uchel iawn o ansicrwydd, fel y mae eraill wedi'i ddweud eisoes. Gwyddom fod un o bob wyth o bobl mewn gwaith ansicr, ac mae gan Gymru un o'r lefelau uchaf o gontractau dim oriau, sef y ffordd fwyaf ansicr, mae'n debyg, i unrhyw un orfod ceisio jyglo cyfrifoldebau cartref a gwaith. Ond yn sail i'r ystadegyn gwarthus hwnnw mae'r ffaith bod traean o blant yn y wlad hon yn byw ar aelwydydd sy'n ei chael yn anodd rhoi digon o fwyd ar y bwrdd heb wneud arbedion ar hanfodion eraill fel gwres a theithiau ysgol, ac mae hyn yn digwydd yn y chweched economi gyfoethocaf yn y byd.

Hefyd, mae gennym system fudd-daliadau gosbol a gwastraffus, a gynlluniwyd i gosbi pobl am fethu dod o hyd i swydd, hyd yn oed os nad oes swyddi'n bodoli. Fel y mae Mick eisoes wedi'i ddweud, pe bai budd-daliadau cyffredinol wedi cael eu hariannu'n briodol a'u gweithredu mewn ffordd wahanol, gallent fod yn rhwyd ddiogelwch ddibynadwy y mae unrhyw gymdeithas wâr ei hangen pan fydd pobl yn mynd i drafferthion, ond ni ddigwyddodd hynny, ac nid yw hynny'n wir. Y cyfan a wnaethant yw cynyddu diflastod a thlodi'r rhai mwyaf agored i niwed. Ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch ddarllen am rai o'r pethau gwarthus sy'n digwydd i bobl cyn gynted ag y bydd unrhyw newid yn digwydd i'w budd-daliadau cyffredinol. Mae gorfodi pobl i aros pum wythnos am unrhyw fudd-daliadau cyffredinol yn sicr o arwain at fenthycwyr arian didrwydded a dyled gynyddol. Mae budd-daliadau cyffredinol yn costio—

Photo of David Melding David Melding Conservative 4:56, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben—. Dewch â'r cyfraniad i ben, os gwelwch yn dda.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Felly, yn y bôn, rwyf eisiau dweud bod gwir angen inni edrych ar ddyfodol y ffordd rydym yn rheoli'r holl newidiadau hyn, ac mae'r syniad na fydd digon o waith i fynd o gwmpas yn gwbl anghywir, yn fy marn i. Ond mae angen y sail honno arnom i alluogi pobl i bontio yn y set radical iawn hon o newidiadau y byddwn yn eu dioddef.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:57, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, fel y clywsom yn y ddadl, y sbardun ar gyfer y drafodaeth ar incwm sylfaenol cyffredinol yw'r don enfawr o newid technolegol sy'n datblygu o flaen ein llygaid. Mae yna ddadl economaidd ynglŷn ag i ba raddau y bydd awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau cysylltiedig yn creu diweithdra technolegol torfol yn barhaol. Mae yna economegwyr difrifol sy'n credu bod yr hyn rydym yn sôn amdano'n awr yn rhywbeth sylfaenol wahanol i gamau cynharach o fecaneiddio, ac sy'n credu y bydd graddau'r awtomatiaeth, mewn gwirionedd, yn cyrraedd rhannau o'r economi gwasanaethau. Nid ydym yn sôn yn unig am awtomatiaeth, robotiaid ar lawr y ffatri weithgynhyrchu; rydym yn sôn am wasanaethau proffesiynol coler wen, gwasanaethau cyfreithiol, yn cael eu hawtomeiddio i bob pwrpas, gan arwain at system economaidd gwbl wahanol lle mai lleiafrif yn unig fydd â swyddi o gwbl. Byddai eraill yn dadlau, yn y pen draw, oherwydd bod gan fodau dynol amrywiaeth ddiderfyn o ddymuniadau, y bydd swyddi newydd yn cael eu creu na allwn ni hyd yn oed eu dychmygu yn awr. Ond mae hyd yn oed yr economegwyr hynny'n derbyn y byddwn, dros y 10, 15, 20 mlynedd nesaf, yn wynebu ton enfawr o newid strwythurol cyflym a bydd hynny bron yn anochel yn creu lefelau o ansicrwydd economaidd i nifer fawr o bobl. Felly, beth bynnag yw eich safbwynt, ceir dadl gref dros greu incwm sylfaenol cyffredinol fel ffordd o reoli'r newid hwnnw i ddyfodol economaidd gwahanol iawn.

A cheir dadl arall gysylltiedig. Bydd llawer o bobl wedi dilyn y ddadl ynghylch gwaith Thomas Piketty sy'n dangos bod y saeth, yn sicr o dan gyfalafiaeth, tuag at anghydraddoldeb yn y tymor hir. Un o'r rhesymau am hynny, wrth gwrs, yw oherwydd bod perchnogaeth ar gyfalaf yn nwylo nifer gymharol fach o bobl mewn gwirionedd ac os cysylltwch hynny wedyn ag awtomatiaeth, gallwch weld beth fydd ein sefyllfa yn y pen draw. Oni bai ein bod yn creu system ar gyfer ailddosbarthu incwm sy'n llawer mwy effeithiol na'r un sydd gennym ar hyn o bryd, byddwn yn gweld yr anghydraddoldeb cynyddol sydd wedi bod yn nodwedd o'r gorllewin datblygedig dros yr holl ddegawdau diwethaf—ac yn wir, mae Piketty yn dadlau, dros ganrifoedd—yn cynyddu'n gynt ac yn gynt dros y blynyddoedd i ddod.

Un o fanteision incwm sylfaenol cyffredinol, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn rhoi dewisiadau i bobl, oherwydd ei fod yn rhoi dewisiadau i weithwyr, yw ei fod yn golygu y gallant wrthod yr hyn a alwodd y diweddar David Graeber—a dyfyniad yw hwn, Ddirprwy Lywydd—yn 'bullshit jobs', a gallant wrthod swyddi incwm isel. Felly, mae'n creu'r hyn y mae economegwyr yn ei alw'n daliad cadw newydd, oherwydd nid oes rhaid i bobl dderbyn cyflogau a swyddi ar unrhyw lefel, ac mae'n newid craidd disgyrchiant yr economi mewn gwirionedd o ran pŵer economaidd.

Credaf y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn rhyddhau ton o greadigrwydd, oherwydd byddai—a ydych chi'n cofio'r cynllun lwfans menter? Roedd yn un o'r ychydig bethau a wnaeth Llywodraeth Thatcher y byddwn yn ei gefnogi mewn gwirionedd. Yr hyn a olygai oedd, os oeddech mewn band, ac yn y blaen, neu'n artist sy'n ei chael yn anodd, roeddech yn cael lefel sylfaenol o incwm, pe baech yn defnyddio'r cynllun hwnnw o leiaf, a allai ganiatáu i chi wneud pethau eraill mwy diddorol. Felly, mewn ystyr entrepreneuraidd, mae hon yn ddadl a fyddai'n apelio at rai ar yr ochr dde i'r sbectrwm gwleidyddol—mae creu incwm sylfaenol cyffredinol mewn gwirionedd yn caniatáu i bobl gymryd rhai risgiau yn eu bywydau oherwydd bod ganddynt sicrwydd economaidd sylfaenol sy'n eu galluogi i wneud hynny.

Yn olaf, mae hefyd yn caniatáu i bobl wneud dewisiadau eraill o ran dewis rhwng gwaith cyflogedig neu dreulio amser gyda'u teuluoedd, fel y dywedodd Helen Mary, ond hefyd dewis rhwng gwaith cyflogedig a gwaith di-dâl, gwaith gwirfoddol, ac yn y blaen, a chaniatáu i gymdeithas elwa o'r buddion hynny. Rwyf o blaid archwilio treial. Credaf y gallai diswyddiadau—yn anffodus, rydym wedi gweld y rheini'n ddiweddar yng Nghymru—fod yn un maes. Mae incwm sylfaenol ieuenctid yn rhywbeth y mae gwledydd eraill wedi'i wneud, ond mae pwynt canolog Helen Mary yn hollol wir—os ydym am wneud hyn fel cenedl, mae'n rhaid inni ddatganoli pwerau lles. Felly, gadewch inni gael cefnogaeth drawsbleidiol i hynny hefyd.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch hefyd i Jack Sargeant am gyflwyno'r cynnig gwirioneddol bwysig hwn rwy'n hapus iawn i'w gefnogi? Hoffwn ddechrau drwy roi rhywfaint o gyd-destun i fy nghyfraniad, gan obeithio peidio ag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud, ac egluro pam rwy'n credu bod hwn yn syniad y mae ei amser yn dod, a pham y byddai o fudd i gymunedau fel y rhai rwy'n eu cynrychioli ym Merthyr Tudful a Rhymni.

Felly, rhywfaint o gyd-destun yn gyntaf. Ym mis Ebrill 2018 cyhoeddais ddarn trafod i Fabians Cymru am Gymru'n bod yr hyn a ddisgrifiais fel gwladwriaeth lesiant, ac yn y darn hwnnw ymchwiliais i'r awgrym y gallai rhwyd ddiogelwch ein gwladwriaeth les draddodiadol esblygu'n wladwriaeth lesiant fwy cyfannol. Roedd y syniad wedi dod i'r amlwg o ddarn a awdurdodwyd yn wreiddiol gan ein Cwnsler Cyffredinol bellach, Jeremy Miles, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu,

'Roedd Bevan yn un o benseiri'r wladwriaeth les. Yr orchwyl yfory fydd Gwladwriaeth Lesiant.'

Ond roedd angen i mi ofyn i mi fy hun sut beth yn union fyddai gwladwriaeth lesiant Gymreig, ac i mi, yn ganolog i ymagwedd o'r fath, rhaid cynnwys llesiant yn ein holl bolisïau, yn debyg iawn i'r ffordd rydym yn sicrhau bod ein polisïau'n bodloni'r prawf cydraddoldeb, a'r ffordd y dylem, yn fy marn i, sicrhau bod polisïau'n bodloni'r prawf tlodi. Felly hefyd, dylem sicrhau bod polisïau'n bodloni'r prawf llesiant. Ac yna nodais amryw o syniadau a allai helpu i adeiladu gwladwriaeth lesiant, ac roeddent yn cynnwys gwarant isafswm incwm i ddinesydd yng Nghymru sy'n cyfateb i gyflog byw go iawn, gan wella amgylchiadau nifer o bobl o fewn arbediad cost-effeithlonrwydd cysylltiedig, ac ychwanegu at daliadau gwladwriaeth les â thaliadau llesiant personol, i'w talu mewn cyfnodau byr i wrthbwyso straen a chyflyrau gwanychol megis argyfyngau iechyd meddwl. Mae'n dilyn, felly, y dylai symud o fod yn dderbynnydd lles i fod yn gyfranogwr mewn llesiant fod yn sail i wladwriaeth lesiant. Byddai hyn yn cydnabod rhwymedigaeth i fod yn ddinesydd gweithgar yn y gymuned lle rydym yn rhannu cyfrifoldeb cyffredin i wella llesiant.

Felly, beth yw mantais ymarferol y syniad hwn i gymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni? Wel, gallai herio a newid rhai o'r amgylchiadau ofnadwy sydd wedi plagio rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig ac sydd wedi'u dwysáu yn ystod yr argyfwng COVID presennol. Fel y mae eraill eisoes wedi sôn, mae pethau fel cyflogaeth ansicr gyda chontractau dim oriau, amodau ac arferion gwaith camfanteisiol a chyflogau isel a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn falltod ar ormod o fy etholwyr, ac maent yn haeddu gwell. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ateb, ac mae'n ateb synhwyrol yn awr, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r pandemig ofnadwy hwn.

Mewn argyfyngau, mae cyfleoedd yn codi, a chredaf fod yr hyn a nodwyd yn 2018 a'r hyn sy'n cael ei ddatblygu yn y ddadl bresennol hon yn ymateb synhwyrol a rhesymegol i'n hamgylchiadau presennol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn feiddgar ac yn ymatebol, ac yn ystyried y galwadau yn y cynnig hwn, oherwydd nid yw bellach yn ddigon da i barhau i wneud yr hyn a wnawn a disgwyl i bethau newid. Mae fy etholwyr wedi aros yn rhy hir am hynny, a rhaid inni edrych ar ddull gwahanol o weithredu. Gallai incwm sylfaenol cyffredinol fod yn floc adeiladu yn yr adferiad ôl-COVID, ac mae'n rhywbeth y dylem ei groesawu. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:06, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

A'r siaradwr olaf sydd gerbron y Gweinidog yw Mandy Jones.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon a'r aelodau niferus o'r Senedd sy'n cefnogi'r cynnig. Rwyf wedi clywed rhai pethau am incwm sylfaenol cyffredinol, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fod fy ymennydd fel arfer yn diffodd cyn gynted ag y sonnir amdano. Mae bob amser wedi'i gloi i ffwrdd yn y rhan o fy mhen sy'n dweud, 'Rhywbeth am ddim? Nid wyf yn credu hynny.' Felly, er mwyn agor fy meddwl fy hun, gwirfoddolais i gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwyf wedi gwneud rhywfaint o ddarllen a rhywfaint o ymchwil.

Rwyf wedi gweithio drwy gydol fy oes, ers fy arddegau cynnar. Rwyf wedi ennill fy holl arian fy hun, ac rwyf wedi magu pedwar o blant heb fawr o gymorth ariannol nac emosiynol gan y ddau dad. Roeddwn yn gofalu am fy nhad oedrannus yn ystod ei flynyddoedd olaf hefyd. Rwyf wedi gwneud pob math o swyddi—swyddi diraddiol yr oeddwn yn ddiolchgar iawn amdanynt. Rwyf wedi gwneud swyddi am £1 yr awr, ac roeddwn yn falch o gael y rheini. Yr unig adeg yr hawliais unrhyw fath o fudd-dal oedd pan gefais anaf i fy asgwrn cefn. Roedd arnaf angen y rhwyd ddiogelwch honno, ac roeddwn yn ddiolchgar amdani. Wedi dweud hynny, os byddaf byth yn wynebu adegau anodd eto, os bydd un o fy meibion yn colli ei waith, os daw fy merch yn ôl i Gymru a methu dod o hyd i swydd yn ein byd ôl-COVID, rwyf am weld rhwydwaith cymorth ar waith ar eu cyfer, ar gyfer pawb, sy'n dosturiol ac yn realistig, ac yn gallu ymateb i anghenion yr unigolyn.

Rwy'n credu bod system fudd-daliadau'r DU yn llanast, wedi'i gweinyddu gan wasanaeth sifil diysgog sy'n rhoi pwyslais ar dicio blychau ac yn methu ei gael yn iawn. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod y rhan fwyaf o'r budd-dal yn cael ei dalu i bobl mewn gwaith y tu hwnt i mi. Pam y mae'r trethdalwr i bob pwrpas yn rhoi cymhorthdal i gyfranddalwyr corfforaethau mawr na fyddant yn talu cyflog teilwng i bobl am waith gweddus? Tra bydd hyn yn parhau, bydd cyflogau'n aros lle maent, ac rwy'n credu eu bod wedi aros yn eithaf gwastad ers y cwymp ariannol. A bydd angen cymorth budd-daliadau ychwanegol ar bobl a banciau bwyd tra bo hyn yn parhau. Mae'n gwbl warthus.

Darllenais gyda diddordeb adroddiadau ynglŷn â threialu incwm sylfaenol cyffredinol yn y Ffindir yn 2018-19, ond y peth sy'n peri pryder i mi yw mai'r canlyniad net oedd bod y di-waith wedi mynd i ddioddef llai o straen ac ychydig yn hapusach. Yn ystod y cyfnod hwn, ni wnaethant chwilio am gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Byddai honno'n broblem fawr. A does bosibl mai'r nod i'r rhai sy'n gallu gweithio—ac rwy'n derbyn na all rhai pobl wneud hynny, ond i'r lleill—yw dihoeni yn eu cartrefi. Rhaid eu hannog i ddod o hyd i waith neu i uwchsgilio. A gadewch inni beidio ag anghofio bod pawb mewn gwaith yn cael £12,500 yn ddi-dreth ac yn osgoi talu yswiriant gwladol o dan £9,500. 

Fel rhan o fy ymchwil, edrychais ar fyd y credyd cynhwysol, wedi'i adeiladu ar sail un taliad ar gyfer pob budd-dal sy'n ddyledus. Nid wyf fi'n bersonol yn cael unrhyw anhawster gyda'r cysyniad o gredyd cynhwysol, ond rwy'n anghytuno â'r ffordd y mae wedi'i weinyddu, gan achosi tlodi dyfnach a straen diddiwedd i hawlwyr. Onid yw credyd cynhwysol yr un math o beth ag incwm sylfaenol cyffredinol? Mae hwn yn gwestiwn dilys i'r rhai sy'n gwybod mwy am hyn na mi. Rydym yn cynrychioli cenedl o weithwyr, a dylai pob un ohonynt ymfalchïo'n fawr yn y cyfraniad a wnânt i gymdeithas, beth bynnag a wnânt, ac maent hwy, yn fwy na dim rwy'n credu, am weld chwarae teg. Beth fyddent yn ei feddwl o gynnig o blaid incwm sylfaenol cyffredinol? Nid wyf yn siŵr y bydd yn gyfrwng i ennill pleidleisiau er, yn sicr, nid yw hynny'n rhwystr i'w drafod yn helaeth, ac nid wyf yn siŵr fod pobl gyffredin yn barod amdano. Er fy mod yn deall bod rhai o'r teimladau sy'n sail i'r cynnig yn gwbl ganmoladwy, mae rhai o'r datganiadau ysgubol sydd ynddo yn amheus. 

Ni fydd fy ngrŵp yn cefnogi'r cynnig hwn fel y mae. Credwn fod gan yr ymdeimlad o bwrpas, hunan-werth a disgyblaeth y mae swydd yn eu cynnig lawer mwy o werth na'r Llywodraeth yn rhoi arian i'r rhai nad oes ei angen arnynt o reidrwydd. Fel y soniais yn gynharach, mae problemau strwythurol gwirioneddol gyda'r system les yn y wlad hon, yn enwedig y modd y cynhelir busnesau mawr nad ydynt eisiau talu cyflogau gweddus. Er fy mod bellach yn gwybod mwy am incwm sylfaenol cyffredinol, ac am hynny diolch i chi am y ddadl hon, nid wyf yn credu mai incwm sylfaenol cyffredinol yw'r ateb i'r broblem ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:11, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar y Gweinidog cyllid, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r hyn a fu'n ddadl ddiddorol iawn. Mae gan y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol lawer o rinweddau. Pe bai'n cael ei gyflwyno o fewn cyfres gydlynol o ddiwygiadau i'r system dreth a lles, mae gan ei fanteision botensial i sicrhau enillion economaidd i fenywod ac i grwpiau difreintiedig yn arbennig. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gwbl gefnogol i'r amcanion hynny a gallai treial, mewn egwyddor, helpu i ganfod i ba raddau y gellid gwireddu'r amcanion hyn yn ymarferol. 

Wrth gwrs, ni waeth pa mor ddeniadol yw polisi mewn egwyddor, mae yna gymhlethdodau, cyfyngiadau neu ganlyniadau anfwriadol bob amser a allai greu risg o danseilio'r cyfraniad y gall ei wneud i'r nod o drechu tlodi ac anghydraddoldeb os na chânt sylw llawn a'u hasesu. Pe bai incwm sylfaenol cyffredinol yn cael ei dalu ar lefel a fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i safonau byw pobl, byddai hyn yn anochel yn golygu cost uchel, ac yn hytrach na bod yn feirniadaeth o incwm sylfaenol cyffredinol, dim ond cydnabyddiaeth yw hyn o'r realiti mai bwriad incwm sylfaenol cyffredinol fyddai gwneud gwahaniaeth trawsnewidiol i fywydau pobl.

Er enghraifft, pe bai incwm sylfaenol cyffredinol llawn yn cael ei dalu yng Nghymru i bob oedolyn o oedran gweithio ac wedi'i osod ar lefel y cyflog byw swyddogol, byddai'r gost yn fras iawn oddeutu £35 biliwn y flwyddyn. Os caiff ei bennu ar lefel y cyflog byw go iawn, byddai'r gost oddeutu £40 biliwn. Ac unwaith eto, i ddarlunio'r hyn a olyga, mae'r ffigurau tua dwywaith maint cyllideb Llywodraeth Cymru ac fel cymhariaeth bellach, mae treth incwm yng Nghymru'n codi cyfanswm o ychydig dros £5 biliwn. Wrth gwrs, gellid lleihau'r costau'n fawr pe bai incwm sylfaenol cyffredinol yn cael ei dalu ar gyfradd is, ond wrth gwrs, byddai hynny wedyn yn lleihau ei apêl.  

Yn naturiol, byddai cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol hefyd yn cynyddu refeniw treth ac yn dileu neu'n lleihau'r angen am rai budd-daliadau. Felly, byddai angen ailgynllunio'r system dreth a budd-daliadau gyfan yn gynhwysfawr ac wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf o'r elfennau yn y system hon wedi'u datganoli. Hyd yn oed pe bai incwm sylfaenol cyffredinol llawn o'r math y buom yn sôn amdano yn cael ei gyflwyno, mae'n bwysig cydnabod bod ymchwil yn dangos y gallai rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig fod yn waeth eu byd oni bai bod rhai o elfennau'r system fudd-daliadau'n cael eu cadw, ar ffurf wedi'i haddasu o leiaf. Felly, yn amlwg, byddai'n rhaid inni fod yn effro iawn i hynny. Byddai'r rhai a allai fod yn waeth eu byd yn cynnwys teuluoedd mawr ac yn enwedig, teuluoedd lle mae rhai o'r aelodau'n anabl.

Yn ogystal, byddai angen i lefel a strwythur y trethi newid er mwyn sicrhau bod y system gyffredinol mor flaengar â phosibl, a hefyd i godi'r refeniw ychwanegol y byddai ei angen. Felly, byddai angen gwneud gwaith cynllunio gofalus iawn i leihau'r risgiau i grwpiau difreintiedig, ac i sicrhau fforddiadwyedd. 

Wrth wynebu newid mor gymhleth, credaf y dylem hefyd ystyried a ellid sicrhau'r amcanion a ddymunir yn gyflymach neu'n fwy effeithiol drwy ddiwygiadau eraill i drethi a budd-daliadau sy'n bodoli eisoes. Lle da i ddechrau fyddai gwrthdroi'r toriadau trychinebus i fudd-daliadau lles a gyflwynwyd gan Lywodraethau presennol a blaenorol y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr, ac adfer y toriadau a wnaed i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae'r rheini sydd ar yr incwm isaf yn dibynnu fwyaf arnynt. 

Pan fydd gwasanaethau cyhoeddus wedi'u hadfer yn llawn, dylem hefyd ystyried a allai model sy'n seiliedig ar ddatblygu gwasanaethau sylfaenol cyffredinol, gyda ffocws ar y gwasanaethau a ddefnyddir fwyaf gan bobl ar incwm isel, gynnig gwell canlyniadau na darparu incwm ar ffurf ariannol. Gallai treialu incwm sylfaenol cyffredinol wneud llawer i'n helpu i asesu manteision a risgiau gwneud newid mor sylfaenol, gan ei gymharu â'r dewisiadau amgen a phenderfynu beth fyddai angen inni ei wneud i leihau'r risgiau. Ym marn Llywodraeth Cymru, byddai treial mor fawr a thrylwyr yn hanfodol cyn ymrwymo i ail-lunio'r system dreth a budd-daliadau'n llwyr.

Byddai Llywodraeth Cymru yn agored i dreial o'r fath gael ei gynnal yng Nghymru, ond rhaid inni fod yn realistig na fyddai treial felly'n bosibl heb gydweithrediad gweithredol Llywodraeth y DU, a hynny oherwydd y rhyngweithio rhwng incwm sylfaenol cyffredinol a'r system dreth a budd-daliadau, fel rwyf newydd ddisgrifio. Pe bai treial o'r fath yn cael ei gynnig, byddem hefyd yn mynnu bod amodau'n cael eu bodloni i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn gallu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynllunio, llywodraethu a sicrhau atebolrwydd unrhyw gynllun. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i unigolion heb gydweithrediad Llywodraeth y DU, gallai hynny olygu na fyddent yn gymwys i gael budd-daliadau presennol neu eu bod yn talu mwy mewn treth. Ar wahân i'r ffaith na fyddai hyn wedyn yn brawf priodol o effaith taliad diamod i bob pwrpas, byddai'n arwain at drosglwyddo adnoddau o Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU. Ac yn anffodus, nid yw ein profiad diweddar o ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at drethu ein taliadau i weithwyr gofal cymdeithasol yn awgrymu y dylem ddisgwyl eu cydweithrediad gweithredol. Er ein bod wedi gallu gwneud taliadau tebyg i ddioddefwyr llifogydd heb orfod cael y didyniadau hynny, mae'n amlwg na allwn ddisgwyl ymateb cyson a dibynadwy gan Lywodraeth y DU ar y materion hyn.

Dylid datblygu unrhyw dreial hefyd gyda phartneriaid cymdeithasol, ac rwy'n cydnabod bod rhai safbwyntiau cymysg ymhlith y partneriaid hynny ynglŷn ag effaith unrhyw gynllun incwm sylfaenol cyffredinol ar ddiogelwch swyddi a chyflogau. Dywedir wrthyf mai un canlyniad anfwriadol fyddai cynnydd mewn arferion cyflogaeth ansicr, neu gyfraddau cyflog nad ydynt yn cydnabod tâl teg am waith. Felly, yn gwbl briodol, byddai cefnogwyr incwm sylfaenol cyffredinol yn dadlau y byddai angen i unrhyw gynllun gael ei gefnogi gan isafswm cyflog uwch a rheoliadau cryfach ar gyfer contractau dim oriau i warchod rhag y risgiau hyn.

Felly, er bod Llywodraeth Cymru yn agored i egwyddor treialu, rhaid i amseriad unrhyw dreial a chyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol yn ehangach wedyn fod yn ddibynnol ar sefydlu Llywodraeth y DU sy'n bartner gwirioneddol yn ein hamcanion mewn perthynas â thlodi, anghydraddoldeb a gwaith teg, ond wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs. Diolch ichi am ddadl wirioneddol ddefnyddiol.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:17, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 5:18, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad ar ran Llywodraeth Cymru a hefyd yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw o bob ochr i'r ddadl, a'r rhai sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw. Os caf, hoffwn gloi drwy fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd a sut y gallai incwm sylfaenol cyffredinol leddfu'r rhain.

Yn gyntaf, mater iechyd meddwl gwael. Mae'r elusen Mind wedi adrodd bod mwy na hanner yr oedolion a dwy ran o dair o bobl ifanc wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfyngiadau symud. Nawr, fel rhywun sydd wedi cydnabod yn agored fy mod yn cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, mae hyn yn peri gofid mawr, ond yn anffodus, nid yw'n syndod. Nawr, rwy'n deall na all incwm sylfaenol cyffredinol ddatrys y pandemig presennol, ond byddai o leiaf yn gwarantu sylfaen gadarn o sefydlogrwydd ariannol i bawb allu ymdopi â'r argyfwng, sicrhau to dros eu pennau a rhoi bwyd ar y bwrdd.

Enghraifft arall o'r problemau a wynebwn fel cymdeithas yw tlodi mislif, ac er fy mod yn croesawu mentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn, ni allant ddatrys y broblem yn y gwraidd. Golyga tlodi eang fod un o bob saith merch yn ei chael hi'n anodd fforddio cynhyrchion mislif—rheidrwydd dynol sylfaenol. Nawr, o ystyried bod hanner y merched yn teimlo embaras oherwydd eu mislif, dim ond un enghraifft yw hon o sut y mae ein diffyg mynediad at anghenion sylfaenol iawn yn achosi straen diangen a chywilydd i aelodau ieuengaf ein cymdeithas. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn sicrhau mynediad i bawb at y pethau mwyaf sylfaenol.

Nawr, i'r rheini sy'n dadlau nad incwm sylfaenol cyffredinol yw'r ateb i'r problemau, ac yn enwedig y rheini sydd wedi cefnogi Llywodraeth Geidwadol y DU dros y 10 mlynedd diwethaf lle mae tlodi wedi cynyddu, byddwn yn dweud hyn: mae'r system bresennol wedi torri. Roedd Helen Mary Jones yn llygad ei lle pan ddywedodd nad yw'r system bresennol yn gweithio. Rhaid inni fod yn feiddgar a dyma'r amser ar gyfer newid.

Mae'r system hon, y system bresennol hon, yn un sylfaenol angharedig. Mae credyd cynhwysol nid yn unig yn anodd ei ddeall ac yn gostus, mae'n gosbol, yn gorfodi sancsiynau am resymau mympwyol ac yn achosi ansefydlogrwydd ariannol i filiynau ledled y DU. Yn wir, mae'r system bresennol, ac yn enwedig credyd cynhwysol, yn methu amddiffyn pobl agored i niwed o gwbl. Er enghraifft, gan fod taliadau'n cael eu gwneud i aelwydydd ac nid i unigolion, gall y rhai sydd wedi'u dal mewn perthynas gamdriniol yn hawdd fod yn agored i reolaeth ariannol, gan ofni y gallant fod yn ddigartref neu'n methu cynnal eu hunain pe baent yn gadael partner camdriniol. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn adfer galluedd ariannol y menywod hyn, gan ddarparu'r rhwyd ddiogelwch sy'n eu grymuso i adael sefyllfaoedd peryglus ac anwadal.

Lywydd, mae gennym gyfle yn awr i wneud newid sydd nid yn unig yn mynd i'r afael â'r heriau anoddaf y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu heddiw ond sy'n diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag y newidiadau economaidd anochel a ddaw i'n rhan. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando'n ofalus ar y pwyntiau a wnaed heddiw ar bob ochr i'r Siambr, ac a gefnogwyd gan alwadau am dreial incwm sylfaenol cyffredinol a allai helpu i drawsnewid bywydau ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yma yng Nghymru, oherwydd mae David Rowlands yn llygad ei le, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ddymunol ac yn hanfodol ond mae angen ei gyflwyno'n ofalus. Ac mae'n bwysig—ac fe ddof i ben yn awr, Lywydd—fel y dywedodd Mick Antoniw yn ofalus iawn yn ei gyfraniad pwerus, mae'n bwysig ein bod yn parhau i archwilio'r ddadl hon yn y Senedd oherwydd mae'n iawn ein bod yn siarad amdani yn y Senedd Gymreig hon. Felly, rwy'n falch o gyflwyno hyn yma heddiw. Felly, diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch yn fawr iawn i chi, yr Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig hwn eisoes, a byddwn yn annog eraill, ar ôl dilyn y ddadl, i bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:22, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:22, 30 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd toriad o 10 munud yn awr tra byddwn yn newid personél. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:22.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:33, gyda'r Llywydd yn y Gadair.