– Senedd Cymru am 2:52 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Y datganiad yna sydd nesaf, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar fesurau diogelu iechyd ar ôl y cyfnod atal byr. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Prif Weinidog.
Diolch yn fawr, Llywydd. Carwn ddiolch i chi am y cyfle i gyflwyno adroddiad i’r Senedd ar y camau nesaf ar ôl y cyfnod clo byr presennol. Gallaf gadarnhau y bydd y cyfyngiadau presennol yn dod i ben ddydd Llun nesaf, 9 Tachwedd. Fel y gwyddom ni i gyd, rydym yn wynebu cyd-destun newydd yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddydd Sadwrn.
Llywydd, dydw i ddim am feirniadu penderfyniadau Llywodraeth arall yn y Deyrnas Unedig. Mae pob un ohonom yn gwneud ein gorau glas wrth ymateb i’r argyfwng presennol. Mae'n rhaid i ni ystyried effaith y feirws ar unigolion, ar y gwasanaeth iechyd ac ar yr economi, mae'n rhaid pwyso a mesur tystiolaeth sy’n newid yn ddyddiol, ac mae pob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn atebol i’r Senedd benodol rydym ni yn ei gwasanaethu.
Llywydd, fe ddylwn i roi'r penderfyniadau am y cyfnod y tu hwnt i'r cyfnod atal byr yng nghyd-destun y ffigurau diweddaraf sydd gennym ynglŷn â'r coronafeirws yng Nghymru. Maen nhw'n dangos mai nifer yr achosion o'r feirws am saith diwrnod yng Nghymru gyfan yw 259 fesul 100,000 o bobl, gyda'r niferoedd yn cynyddu ym mhob un heblaw am ddyrnaid o'n hardaloedd awdurdodau lleol ni. Mae'r darlun hwn ar gyfer Cymru gyfan yn gynsail i'r angen am fesurau cenedlaethol wrth inni ymadael â'r cyfnod atal byr.
Yn gynharach heddiw, Llywydd, fe adroddodd prif weithredwr GIG Cymru am effaith y feirws ar ein gwasanaeth iechyd ni. Ar hyn o bryd mae 1,275 o gleifion sy'n gysylltiedig â COVID yn yr ysbytai yng Nghymru, 18 y cant yn fwy na'r wythnos diwethaf, a'r nifer fwyaf ers diwedd mis Ebrill. Rydym yn disgwyl i'r duedd gynyddol hon barhau hyd nes y bydd effaith y cyfnod atal byr yn cael ei theimlo. Er gwaethaf y pwysau cynyddol hwn, mae ein hysbytai'n parhau i gynnig gweithgarwch a gynlluniwyd, gydag atgyfeiriadau canser yn dychwelyd i'r lefelau disgwyliedig a nifer y cleifion allanol newydd 75 y cant yn uwch ym mis Medi nag ym mis Ebrill. Cafodd ein camau ni eu cynllunio nid yn unig i ddiogelu gallu'r GIG i ddarparu gofal ar gyfer cleifion COVID, ond i ddal ati i wneud yr holl bethau eraill hyn sydd mor bwysig i gleifion ledled Cymru.
Yn ystod y cyfnod atal byr, rydym wedi cymryd camau i gryfhau ein hymateb ni i'r feirws a gwireddu ein cynllun i ddiogelu'r GIG trwy'r gaeaf. Fe gaiff datblygiadau arloesol megis y gwasanaeth archebu ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys yma yng Nghaerdydd a'r Fro eu cyflymu mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae ein byrddau iechyd lleol ni'n parhau i weithio ar gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n capasiti o ran ysbytai maes. Mae ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu ni'n parhau i wneud gwaith da wrth ymdrin â niferoedd yr achosion, sydd wedi codi'n sylweddol, a gwelwyd cynnydd yn yr adnoddau. Fe agorwyd canolfannau prawf lleol newydd i'w gwneud nhw'n fwy hygyrch, gan gynnwys i fyfyrwyr, ac mae mwy o ganolfannau lleol o'r fath yn yr arfaeth. Mae gwaith arloesi yn cael ei ddatblygu i gynyddu capasiti'r labordai a galluogi profion pwynt gofal, a allai fod yn arbennig o werthfawr mewn ysbytai a chartrefi gofal. Fel y dywedais i'n gynharach y prynhawn yma, fe fydd y Gweinidog iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am dechnolegau profi newydd yn y dyddiau nesaf.
Llywydd, yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi parhau â'r dull ymgynghorol yr ydym wedi bod yn ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig hwn, gan siarad â phartneriaid cyn inni wneud penderfyniadau, nid eu hysbysu nhw'n unig pan fydd y penderfyniadau wedi eu gwneud. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau hyn: y cyngor partneriaeth gymdeithasol, sydd wedi cyfarfod ddwywaith mewn cyfarfodydd eithriadol, gan gynnwys undebau llafur, busnesau a phartneriaid eraill; y fforwm rhyng-ffydd; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chyngor y trydydd sector; comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid heddluoedd Cymru; a phobl ifanc o Blant yng Nghymru, a llawer iawn o rai eraill hefyd. Llywydd, fe fydd y rheoliadau a wnawn ni'r wythnos hon yn effeithio'n uniongyrchol ar yr holl bartneriaid hyn ac mae pob un wedi cyfrannu at eu llunio nhw. Fe fyddwn ni'n cwblhau'r rheoliadau pan fyddwn ni wedi clywed gan Aelodau'r Senedd o ganlyniad i'r datganiad hwn heddiw.
Canlyniad hyn yw y byddwn ni, o 9 Tachwedd, yn cyflwyno ymateb cenedlaethol, gydag un gyfres o reolau ar gyfer Cymru gyfan. Fe fydd y rhain yn ein galluogi ni i ailddechrau gydag agweddau ar fywyd Cymru, ond nid yw'r feirws wedi diflannu a dim ond drwy ymddwyn yn gyfrifol a diogelu ein gilydd y byddwn ni'n sicrhau'r cynnydd angenrheidiol wrth gefnu ar yr argyfwng hwn. Llywydd, o ddydd Llun, rydym yn cynnig newid y gyfraith yng Nghymru yn y ffyrdd canlynol: fe fydd eglwysi, temlau, synagogau a mannau addoli eraill yn gallu ailagor fel yr oedden nhw cyn y cyfnod atal byr. Fe fydd canolfannau cymunedol yn ailagor hefyd. Fe fydd prifysgolion yn parhau i weithredu fel y buon nhw yn ystod y cyfnod atal byr, ac fe fydd ysgolion a cholegau yn gallu croesawu pob disgybl a myfyriwr yn ôl. Fe fydd siopau, canolfannau ffitrwydd a phob safle arall sydd ar agor i'r cyhoedd, y bu'n ofynnol iddyn nhw gau yn ystod y cyfnod atal byr, yn ailagor. Ond, ym mhob un o'r safleoedd hyn ac mewn gweithleoedd, fe fydd y gofyniad cyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws yn parhau i fod yn gymwys er mwyn diogelu staff a chwsmeriaid fel ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys tafarndai, caffis a bwytai. Fe fydd y rhain yn ailagor, ond ein cyngor clir ni i bobl Cymru yw y dylem ymweld â'r lleoedd hyn mewn grwpiau mor fach â phosibl ac, i lawer, bydd hynny'n golygu y bobl yr ydym ni'n byw gyda nhw. Ond rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae pobl ifanc a phobl sengl yn arbennig wedi ei ddweud wrthym ni o ran pa mor bwysig yw gallu cwrdd â ffrindiau ac aelodau eraill o'r teulu. Ein bwriad ni yw y bydd y rheoliadau yn caniatáu i grwpiau o hyd at bedwar o bobl gyfarfod mewn lleoliad sy'n cael ei reoli, fel bwyty, caffi neu dafarn, ond y bydd hyn yn amodol ar fesurau diogelu caeth a drafodir gyda'r sector lletygarwch, gan gynnwys archebu ymlaen llaw, slotiau amser cyfyngedig a gallu profi hunaniaeth. Llywydd, fel ym mhob agwedd ar ein bywydau ni, fe fydd cadw at hanfodion hylendid da a chadw pellter yn hanfodol yn y lleoliadau hyn hefyd.
Dyma un o'r newidiadau mwyaf heriol o safbwynt iechyd y cyhoedd, ac fe fyddwn ni'n ei adolygu drwy'r amser. Fe fydd ei lwyddiant yn dibynnu ar yr hyn a wna'r sector a phob un o ddinasyddion Cymru wrth ddefnyddio'r ailagor hwn mewn ffordd gyfrifol a chall. Ac fe fyddwn ni, Llywydd, yn parhau i ddod â gwerthu alcohol i ben am 10 p.m. yng Nghymru.
Llywydd, o ganlyniad i'r trafodaethau lawer a gynhaliwyd dros y 10 diwrnod diwethaf, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r angen i roi cyfle i bobl gael cyswllt cymdeithasol yn ystod misoedd y gaeaf. Fe fydd gweithgareddau a drefnir i grwpiau o hyd at 15 o bobl dan do a 30 o bobl yn yr awyr agored yn cael eu caniatáu eto pan ddaw'r cyfnod atal byr i ben. Ond, unwaith eto, fe fydd angen cynnal asesiadau risg ymlaen llaw, a chymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddal neu ledaenu'r feirws, ac ni fydd y gweithgareddau hyn yn gallu cynnwys gwerthu nac yfed alcohol. Fe fydd eithriad ar wahân ar gyfer hyd at 15 o bobl i allu bod yn bresennol mewn gwledd briodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, ac ni fydd plant dan 11 oed yn cael eu cyfrif yn rhan o'r cyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn y lleoliadau rheoledig hyn.
Rwyf am droi nawr, Llywydd, at faes heriol iawn arall, sef i ba raddau y dylem gwrdd â'n gilydd yn ein cartrefi ni ein hunain, sy'n lleoliad y gwyddom fod y coronafeirws yn parhau i ledu a ffynnu ynddo. O ganlyniad, y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, yn y cartref, gan gynnwys mewn gerddi, ni all pobl gwrdd â neb oni bai am y rhai sydd o'r un aelwyd estynedig, ac fe fydd yr aelwyd estynedig honno'n cael ei chyfyngu i ddwy aelwyd sy'n dod at ei gilydd a neb arall. Os ydym ni am wneud yn fawr o'r enillion a greodd y cyfnod atal byr, fe fydd yn rhaid inni osgoi'r mathau mwy peryglus hyn o ymddygiad yn gyfan gwbl y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw. Fe fydd partïon mewn tai, digwyddiadau mwy o faint ac ymgynnull dan do yn anghyfreithlon, ac fe fyddwn ni'n gwneud hyn yn gwbl glir yn ein rheoliadau ni.
Llywydd, er mwyn inni allu cadw'r rheolau cenedlaethol newydd hyn mor syml â phosibl, ni fyddwn yn cael cyfyngiadau teithio lleol eto. Fe fydd pobl yn gallu teithio i unrhyw le yng Nghymru, ond, unwaith eto, rydym ni'n gofyn i bobl fod yn gyfrifol wrth deithio, gan aros yn agos i gartref a pharhau i gyfyngu ar eu cysylltiadau nhw â phobl eraill. Nid yw caniatâd i deithio yn gyfarwyddyd i deithio, ac fe fydd y ffordd yr ydym ni'n ymddwyn o ran yr agwedd hon ar ein bywydau yn cael ei hadolygu hefyd yn yr wythnosau sy'n dilyn y cyfnod atal byr.
Pan fydd y cyfnod clo'n weithredol yn Lloegr, fe fydd rheoliadau Lloegr yn gwahardd teithio i Loegr ac oddi yno oni bai bod hynny am reswm hanfodol fel gwaith neu addysg. A chan gydnabod y bydd Cymru'n dod allan o'r cyfnod atal byr hwn fel ardal o'r DU sydd â nifer fawr o achosion, fe fyddwn ni hefyd yn rhoi cyfyngiadau teithio ar bobl sy'n ymadael neu'n dod i Gymru hyd nes i'r cyfraddau hynny ostwng. Ni chaniateir teithio rhyngwladol heb reswm digonol.
Llywydd, gan ein bod ni ar fin dechrau ar y cam nesaf yn ein hymdrech genedlaethol i reoli'r feirws, fe fydd y ffordd y mae pob un ohonom yn ymddwyn ym mhob agwedd ar ein bywydau ni wrth wraidd yr ymdrech honno. Mae angen i bob un ohonom gymryd camau i gadw ein gilydd yn ddiogel. Fe wn i'n iawn fod mwyafrif llethol pobl Cymru wedi aberthu llawer iawn ar gyfer byw yn ôl y rheolau a fu cyn y cyfnod atal byr. Rwy'n hynod ddiolchgar i bob un ohonyn nhw. A thros gyfnod y gaeaf hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod yn barod i fyw ein bywydau mewn ffordd wahanol fel nad yw'r ymdrech a wnaethom gyda'n gilydd yn mynd yn ofer ac nad ydym yn cael ein hunain yn y sefyllfa hon unwaith eto. Fe fydd yn rhaid i bob un ohonom gadw ein cysylltiadau â'n gilydd mor ysgafn â phosibl, a chadw'r cylch o bobl yr ydym ni'n cyfarfod â nhw mor fach â phosibl, a rhoi ystyriaeth i'r holl ffyrdd eraill o barhau i gadw mewn cysylltiad â nhw.
Llywydd, yn ystod yr wythnosau ar ôl 9 Tachwedd fe fydd gennym ni fwy o dystiolaeth o effaith y cyfnod atal byr. Fe fyddwn ni'n adolygu'r mesurau hyn i sicrhau eu bod nhw'n gymesur ac yn effeithiol. Ond mae'n rhaid inni beidio â bod dan unrhyw gamargraff. Wedi i'r cyfnod atal byr ddod i ben, ni fydd y feirws wedi darfod o'r tir. Yn ystod yr wythnosau i ddod fe fydd yn rhaid inni ofyn i ni ein hunain nid, 'Beth alla i ei wneud?', ond, 'Beth ddylwn i ei wneud?' er mwyn ein cadw ni a phobl eraill yng Nghymru yn ddiogel rhag yr hyn sy'n parhau i fod yn glefyd difrifol. Llywydd, diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad cynhwysfawr ef y prynhawn yma? Mae'r mesurau newydd a gyhoeddwyd ddoe gan Lywodraeth Cymru i ddilyn y cyfnod clo presennol ledled Cymru, wrth gwrs, yn rhoi rhywfaint o eglurder, ac mae'r hyn a glywsom ni gan y Prif Weinidog y prynhawn yma wedi rhoi mwy o eglurder, ond mae yna rai materion a phryderon sy'n weddill y mae angen rhagor o wybodaeth amdanyn nhw fel y gallwn ddeall yn well yr hyn y dylem ac na ddylem ei wneud o'r wythnos nesaf ymlaen.
Yn gyntaf, rwy'n gwerthfawrogi'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ganiatáu i ddwy aelwyd fod mewn swigen yng Nghymru. I laweroedd o gymunedau ledled y wlad, fe fydd yna groeso mawr i allu cwrdd ag aelwyd arall ac mae hynny o rywfaint o gysur i'r rhai nad ydyn nhw wedi gweld aelodau o'u teuluoedd ers cryn amser.
Nawr, mae eich cyhoeddiad chi'n eglur iawn ynglŷn ag ysgolion ledled Cymru yn ailagor o ddydd Llun, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig fod plant a myfyrwyr yn gallu dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, ar yr amod bod y dystiolaeth yn dangos ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod ni'n deall mwy am sut y gall y feirws fod yn cael ei drosglwyddo neu beidio mewn ysgolion a phrifysgolion. Felly, gan fod y darparwyr addysg ar agor unwaith eto, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n dweud ychydig mwy wrthym am yr asesiad a wnaed o drosglwyddiad y feirws yn y lleoliadau hynny a sut mae hynny wedi effeithio ar bolisi'r Llywodraeth.
Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn egluro hefyd y bydd gweithio o gartref yn mynd i fod yn bwysicach eto, ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn ystyried symud tuag at fwy o weithio o gartref ledled Cymru. Er bod manteision i weithio o gartref, fe geir canlyniadau economaidd i'r stryd fawr a chanol trefi, ac mae rhai pryderon dilys ynghylch effaith gweithio o gartref ar iechyd meddwl rhai pobl hefyd. Gan hynny, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru hyd yn hyn gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, arweinwyr awdurdodau lleol ac eraill ynglŷn â pholisi gweithio o bellter Llywodraeth Cymru a'r effaith economaidd, ac yn wir yr effaith y gallai gweithio o gartref ei chael ar iechyd meddwl yn y tymor hwy?
Mae'n gwbl hanfodol, wrth symud ymlaen, fod y flaenoriaeth yn cael ei rhoi gan Lywodraeth Cymru i iechyd meddwl, boed hynny mewn cysylltiad â'r gofalwyr, plant a phobl ifanc, neu yn wir, bobl hŷn. O gofio bod y feirws yn parhau i fod yn gyfredol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru, ac o ganlyniad, y cyfyngwyd ar ryddid llawer o bobl ers peth amser, a wnaiff Llywodraeth Cymru nawr ddatblygu strategaeth iechyd meddwl ar gyfer y tymor hwy sy'n adlewyrchu'r heriau y mae'r feirws yn eu cyflwyno?
Wrth gwrs, yn sail i'r mesurau newydd sy'n dilyn y cyfnod atal byr, mae angen i fusnesau ledled Cymru allu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Rydym ni i gyd yn gwybod am fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi'r pandemig ac mae'n amlwg y bydd angen mwy o gymorth ar lawer ohonyn nhw yn ystod y misoedd nesaf. Nawr, fel y dywedais i'n gynharach heddiw, mae llawer o fusnesau wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiad gan y Llywodraeth nid yn unig am y cyfnod atal byr o bythefnos, ond mewn rhai achosion am gyfnod llawer hwy. Felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pryderon nhw ac yn eu helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw'n gyflym. A wnewch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pa newidiadau a wneir i sicrhau bod busnesau yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw ac yn cael y cymorth angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn?
Fe wn i fod trafodaethau wedi parhau rhwng Gweinidogion â'r sector lletygarwch ynglŷn â'r rheolau ar gyfer ailagor, ac rwy'n croesawu'r newyddion y bydd lletygarwch yn ailagor er mwyn caniatáu i grwpiau o hyd at bedwar o unigolion gyfarfod mewn lleoliad sydd dan reolaeth. Fe ddywed y datganiad heddiw y caiff hyn ei adolygu'n gyson, ac rwy'n sylweddoli y bydd yn rhaid monitro hyn yn ofalus iawn. Serch hynny, a wnewch chi gadarnhau pryd y byddwch chi'n adolygu'r mesur hwn ac a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n ymgysylltu â busnesau ledled y wlad i sicrhau mai'r mesur yw'r un priodol wrth symud ymlaen?
Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cyfnod atal byr, fe fynegwyd yn eglur bod y cyfnod o bythefnos yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau gwelliannau sylweddol i'w phrosesau, ac er fy mod i'n derbyn bod gennym ni wythnos i fynd eto, mae'n bwysig iawn y gall pobl Cymru weld y gwelliannau hynny a deall sut mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r amser yn ystod y cyfnod clo i gyflawni'r newidiadau angenrheidiol. Mae rhywfaint o wybodaeth wedi cael ei rhoi eisoes am y gwaith a wnaed o ran y system brofi, sydd i'w groesawu'n fawr, ac rydych chi wedi cadarnhau heddiw yn eich datganiad fod canolfannau prawf newydd wedi eu hagor a bod mwy ar y gweill. Ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am hynny a pha waith arall sydd wedi digwydd yn barod yn ystod y cyfnod atal byr o ran rhaglen brofi Llywodraeth Cymru, a beth arall y gallwn ni ei ddisgwyl dros y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau nesaf?
Prif Weinidog, rydych chi wedi clywed y newyddion gofidus am 30 o farwolaethau eraill yn gysylltiedig â haint COVID-19 a drosglwyddwyd y tu mewn i bedwar ysbyty, ac mae'n amlwg bod angen cymryd camau ar fyrder i fynd i'r afael â hynny. Fe ddywed datganiad heddiw bod byrddau iechyd lleol yn parhau i weithio ar gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n gallu ni mewn ysbytai maes. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni felly am ddatblygiad y gwaith hwnnw a phryd y cawn ni ddechrau gweld y capasiti hwnnw ar waith?
Ac yn olaf, Llywydd, fe hoffwn i ddiolch yn ddiffuant ar goedd i staff ardderchog ein GIG ni a'n sefydliadau a'n helusennau trydydd sector sydd wedi parhau i gyflawni cymaint i gefnogi pobl ledled Cymru mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn. Ac fe wn i, Prif Weinidog, y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion dros y misoedd diwethaf. Diolch.
Llywydd, rwy'n diolch i Paul Davies am y cwestiynau yna ac rwy'n llwyr ategu ei sylwadau diwethaf. Fe roddaf i gynnig ar ateb nifer o'r cwestiynau penodol a gododd mor gyflym ag y gallaf.
O ran ysgolion yn ailagor, mae'r dystiolaeth yn parhau i esblygu drwy'r amser, ac mae hwn yn faes arall lle mae'n rhaid inni fod yn barod i addasu ein hymateb pe bai angen, pe bai tystiolaeth wahanol yn dod i'r amlwg. Ond ar hyn o bryd, y dystiolaeth sydd gennym o hyd yw nad yw plant iau, yn enwedig, yn dioddef o'r coronafeirws eu hunain nac yn ei drosglwyddo i bobl eraill mewn niferoedd sylweddol. Rydym wedi cael hanner tymor llawn o'r ysgolion yn eu holau yng Nghymru ac, unwaith eto, y dystiolaeth yn bennaf yw, lle cafwyd achosion mewn ysgolion, mai'r rheswm am hynny yw bod pobl wedi cael y feirws y tu allan i'r ysgol, ac nad yw trosglwyddo o fewn yr ysgol wedi bod yn nodwedd bwysig o brofiad yr ysgolion yng Nghymru yn ystod y chwe wythnos diwethaf. Teyrnged yw honno i'r holl waith a gafodd ei wneud gan staff addysgu a staff nad ydyn nhw'n addysgu yn yr holl leoliadau hynny, i'w cadw nhw eu hunain a'u myfyrwyr yn ddiogel. Ac er mai dyna'r dystiolaeth sy'n aros, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am wneud plant a'u haddysg nhw'n brif flaenoriaeth inni, a cheisio sicrhau, beth bynnag fydd y cyfyngiadau eraill y bydd yn rhaid inni eu rhoi ar fywyd yma yng Nghymru, ein bod ni'n rhoi plant a'u dyfodol ar frig ein rhestr ni.
Fe gyfeiriodd Paul Davies at effaith barhaus yr argyfwng ar iechyd meddwl, ac mae hynny'n wir ym mhob rhan o'n bywydau ni, ac mae hyn yn effeithio ar bobl, a rhai pobl sy'n gweithio o gartref. Dyna pam rydym wedi bod yn awyddus i bwysleisio nad ein dull ni o weithredu gweithio o bell yw y bydd canran benodol o bobl bob amser i mewn yn y gwaith yn llawn amser ac y bydd pobl eraill bob amser yn gweithio o gartref; ond mae gennym ni ddull cyfunol lle gall pobl dreulio rhywfaint o'r wythnos waith yn gweithio o bell ac ar adegau eraill o'r wythnos gallant weithio yn eu man gwaith arferol. A phan fyddwch chi'n ychwanegu hyn i gyd at ei gilydd, fel y gŵyr ef, yn nhŷb Llywodraeth Cymru, rydym wedi ystyried 30 y cant yn rhagdybiaeth ymarferol ar gyfer nifer y bobl sy'n gallu gweithio'n llwyddiannus o gartref, gan eu bod nhw yn eu cartrefi yn ystod yr argyfwng hwn. Ac fe gafodd hynny ei gynllunio, yn fy marn i, i ymateb i'r ffaith bod gweithio o gartref, i rai pobl, heb gyfle i gael bod yn y gweithle weithiau yn gallu effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl. Fe fydd fy nghyd-Aelod i, Eluned Morgan, sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru erbyn hyn, yn siarad ag Aelodau, fel y bu hi, fel y gwn i, yn siarad ag ystod eang iawn o fuddiannau, am sut y gallwn ni ymateb yn yr hirdymor i effaith yr argyfwng ar iechyd meddwl, na fydd yn dod i ben yn ystod yr argyfwng ei hun. Fel y gwyddom, fe geir rhai effeithiau hirdymor yn sgil coronafeirws, yn gorfforol, ond o ran lles pobl hefyd.
O ran cymorth i fusnesau, rwy'n cydnabod wrth gwrs, fel y dywedodd Paul Davies, fod llawer o fusnesau yng Nghymru wedi bod yn byw gyda chyfyngiadau ers mwy na phythefnos. Dros y ffin yn Lloegr, mae Caerlŷr wedi bod dan gyfyngiadau am fwy neu lai tri mis, ac erbyn hyn mae'r ddinas yn wynebu cyfnod clo o bedair wythnos arall. Nid oes yr un Llywodraeth yn gwneud y penderfyniadau ynglŷn â hyn ar chwarae bach. Mae pob Llywodraeth—fel y dywedais i ar ddechrau fy natganiad—yn gorfod jyglo'r cyfyng-gyngor amhosibl hwn rhwng bywydau a bywoliaeth, rhwng ein hiechyd ni a'n dyfodol economaidd ni. Yma yng Nghymru, fe fyddwn ni'n parhau i ddatblygu ein cynnig ni o gymorth i fusnesau a sicrhau ei fod ar gael drwy wefan Busnes Cymru. Ac yn yr holl sgyrsiau a gawn ni, boed hynny drwy'r cyngor partneriaeth gymdeithasol neu drwy—fel y bûm i'n ei wneud ddoe—siarad yng nghynhadledd flynyddol y Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, rydym ni'n manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael i siarad â'r gymuned fusnes a sicrhau ein bod ni'n deall eu safbwyntiau ac yn cael eu cefnogaeth nhw. Fe fyddwn ni'n adolygu'r mesurau a roddwn ar waith yn ystod y cyfnod wedi'r cyfnod atal byr ar ôl pythefnos. Rwy'n hapus i roi'r cadarnhad hwnnw i fusnesau lletygarwch ac eraill.
Rydym wedi defnyddio'r cyfnod hwn, fel y dywed Paul Davies, i gyflwyno newidiadau mewn nifer o'r gwasanaethau, gan gynnwys cryfhau ymhellach ein gwasanaethau profi, olrhain, a diogelu. Am resymau amser yn unig, Llywydd, fe wnaf i sôn am un ffordd arall o wneud hynny. Rydym yn mynd i greu capasiti canolog a fydd yn ymdrin ag ymchwydd mewn achosion—tîm y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw ran o Gymru pan fydd y system dan bwysau arbennig oherwydd achosion lleol. Ac o ran capasiti ysbytai maes, fe ddefnyddir hyn eisoes yng Nghwm Taf Morgannwg, lle mae Ysbyty'r Seren yn agored ac yn derbyn cleifion. Fe wnawn ni ddysgu, ym mhob rhan o Gymru, o'r ffyrdd y gellir defnyddio'r profiad cynnar hwnnw yn y ffordd orau mewn mannau eraill.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Diolch, Prif Weinidog, am y datganiad ac am gyhoeddiad ddoe yr wyf i'n gwybod y byddai croeso mawr iddo gan lawer iawn o bobl ledled Cymru, nid yn lleiaf fy rhieni i fy hun, sy'n edrych ymlaen at gael cysylltiad â'u hŵyr unwaith eto. Rwy'n siŵr bod hynny i'w deimlo ymhlith llawer iawn o deuluoedd ledled Cymru.
Mae Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth eich Llywodraeth chi wedi dweud ei bod hi'n annhebygol mai'r cyfnod atal byr presennol fydd yr un olaf yng Nghymru, a bod cyfnod clo arall ledled Cymru yn ymddangos yn debygol yn y flwyddyn newydd. A fyddech chi'n cytuno y dylem ni gael nod y cytunir arno, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl, mai'r cyfnod clo hwn ddylai fod yr un olaf genedlaethol? Nawr, wrth gwrs, fel yr oeddech chi'n iawn i'w bwysleisio, mae gan bob un ohonom ni ran, fel unigolion a chymdeithas, i wneud hynny'n bosibl, ond mae yna rai pethau, wrth gwrs, na ellir eu gwneud nhw ond gan Lywodraeth. Rydych chi wedi cyfeirio at y system brofi ac olrhain, sy'n gwbl ganolog i hyn, ac rydych chi wedi dweud ychydig am yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod atal byr. Ond tybed a wnewch chi ddweud pa welliant yr ydych chi'n bwriadu ei wneud o ran y targed hanfodol o 24 awr ynglŷn â dychwelyd canlyniadau'r profion i bobl, sy'n gwbl ganolog er mwyn gwneud hyn yn amddiffyniad effeithiol i atal cynnydd cyflymach eto mewn achosion.
Hefyd, tybed a wnewch chi ddweud a ydych chi wedi ailystyried mater profi cysylltiadau asymptomatig, fel y gwna gwledydd eraill eisoes, oherwydd fe wyddom oddi wrth dystiolaeth wyddonol nawr fod trosglwyddo asymptomatig yn elfen bwysig iawn yn ymlediad y feirws. A phryd ydych chi'n tybio y byddwn ni mewn sefyllfa lle gallem weld profion ledled y boblogaeth, fel y cyfeiriais i atyn nhw'n gynharach sydd wedi bod yn digwydd dros y penwythnos yn Slofacia, ac sy'n cael eu cynnig yn ninas Lerpwl? O ran olrhain cysylltiadau hefyd, a ydym ni'n debygol o weld pwyslais cynyddol ar olrhain cyswllt yn ôl yn ogystal ag ymlaen, sy'n bwysig o ran nodi ffynonellau unrhyw haint, ac a ydych chi wedi ystyried mabwysiadu'r system olrhain tair haen, sydd wedi profi i fod yn elfen lwyddiannus iawn yn Fietnam?
O ran brechlynnau, mae'r Alban, fel yr adroddwyd, yn paratoi i ddechrau brechu ymhen chwe wythnos. A ydych chithau hefyd yn gweithio'n galed i gwtogi'r amserlen cyn belled ag y bo modd er mwyn inni allu rhoi brechlynnau ar waith ym mis Rhagfyr o bosibl? Rwy'n ymwybodol, Prif Weinidog, o fethiant neu lanast y labordy goleudy. A ydym ni'n gwneud ein cynlluniau annibynnol ni yng Nghymru fel nad ydym yn dibynnu ar dasglu'r DU, o dan arweiniad penodiad gwleidyddol arall gan Boris Johnson? Ac o ran sylwadau Prif Weinidog y DU ddoe—oherwydd mae angen i bolisi economaidd, wrth gwrs, weithio'n gyfochrog â pholisi iechyd—y byddai ffyrlo a chymorth economaidd arall ar gael i'r gweinyddiaethau datganoledig pan oedd eu hangen arnynt, ond a gafodd ei wrthddweud heddiw gan yr Ysgrifennydd tai a llywodraeth leol, Robert Jenrick, a ddywedodd mai mater i'r Canghellor fyddai hynny. Beth yw eich dealltwriaeth chi o sefyllfa ddiweddaraf Llywodraeth y DU yn hyn o beth?
Yn olaf, wrth inni gefnu ar y cyfnod atal byr, rydym wedi argymell dull pwyllog a chyson, yn hytrach na llacio'r cyfyngiadau yn ddisymwth, i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r hyn a enillwyd trwy aberth. A wnewch chi ddweud, Prif Weinidog, beth yw'r cyngor gwyddonol presennol o ran beth fydd y gyfradd heintio, yr R, ddydd Llun nesaf? Beth yw'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o'r ffigur R? A ydych chi o'r farn, neu a yw'r cyngor gwyddonol ar gael ichi ar hyn o bryd, y bydd y fframwaith presennol a gyhoeddwyd gennych heddiw yn ddigon i gadw'r gyfradd R hollbwysig honno o dan 1 fel na fyddwn yn y pen draw mewn sefyllfa o orfod cael cyfnod pellach o glo a datglo?
Diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiynau yna.
Rwy'n diolch iddo am fynegi ei gefnogaeth yn gyffredinol dros y dyddiau diwethaf ac am y cyfle i drafod rhai o'r mesurau a gyhoeddwyd ar y cyd ag Aelodau o'i blaid ef. Y cyfan y gallaf i ei ddweud wrtho ef yw'r hyn a ddywedais i wrth bobl eraill o ran yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol, sef nad ydym ni mewn sefyllfa i allu diystyru unrhyw beth. Mae'r dyfodol mor ansicr drwyddo draw fel bod unrhyw un sy'n dweud wrthych chi y bydd angen rhywbeth yn bendant neu na fydd angen rhywbeth yn bendant ymhen wyth wythnos yn dibynnu ar ddim amgen mewn gwirionedd na dewiniaeth, ac nid wyf i'n credu y byddai pobl yng Nghymru yn diolch inni pe byddem ni'n ceisio bwrw ymlaen yn y ffordd honno.
Roeddwn i o'r farn fod Adam Price wedi gwneud pwynt pwysig, Llywydd, pan ddywedodd mai dim ond Llywodraethau a all wneud rhai pethau ac mae yna bethau eraill na all neb eu gwneud ond pob un ohonom ni yn ein bywydau ni ein hunain, ac mae'n rhaid inni wneud y gorau o'r ddeubeth hynny. Rydym wedi bod yn gwneud nifer o bethau i ymateb i rai o'r pwyntiau y soniodd Adam Price amdanyn nhw. Rydym ni'n rhan o'r arbrawf profi tref gyfan sy'n cael ei gynnal yn Lerpwl, yn yr ystyr y byddwn ni'n gallu casglu'r hyn a ddysgwyd o hynny'n uniongyrchol. Rwy'n credu y bydd yna lawer i'w ddysgu o gylchu'r trac hwnnw am y tro cyntaf a gweld a allwn ni ddefnyddio'r dull sy'n deillio o'r arbrawf hwnnw wedyn mewn rhannau o Gymru lle byddai'n ddefnyddiol i ni.
Rwy'n credu bod y profion asymptomatig a'r profion ledled y boblogaeth yn cysylltu'n agos iawn â'r genhedlaeth nesaf o brofion a allai fod ar gael ac y bydd Vaughan Gething yn adrodd arnyn nhw eto yn ddiweddarach yr wythnos hon. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei wneud yw syrthio i'r fagl yr wyf i'n gweld eraill yn ei syrthio iddi o ddweud wrth bobl yng Nghymru, 'Mae yna ryw ddatrysiad hud a lledrith rownd y gornel, mae yna brawf, mae yna frechlyn, mae yna rywbeth a fydd yn ein gollwng ni'n rhydd o'r carchar.' Rwyf i o'r farn fod pobl wedi syrffedu ar gael clywed, 'O, fe fydd y cyfan drosodd ymhen 12 wythnos', 'Fe fydd y cyfan drosodd erbyn y Nadolig', 'Fe fydd y cyfan drosodd erbyn y gwanwyn', 'Mae yna rywbeth ar fin digwydd; arhoswch chi, ac fe fydd popeth yn iawn.' Nid yw pobl yn coelio hyn ac maen nhw'n iawn i beidio â'i goelio. Mae'n frwydr hir a chaled y bydd yn rhaid i bob un ohonom fod â rhan ynddi, nid yn unig am y dyddiau nesaf neu'r wythnosau nesaf, ond ymhell i'r flwyddyn nesaf.
Ac yna, pan ddaw'r cyfleoedd newydd hyn i'n rhan ni, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn awyddus i'w defnyddio nhw, a'u defnyddio nhw i wneud bywyd yn haws i bobl—drwy olrhain cyswllt yn ôl, sy'n digwydd eisoes yn ein system profi, olrhain, diogelu ni yng Nghymru, am yr union reswm a grybwyllodd Adam Price. Fe wyddom ni fod yna unigolion a digwyddiadau a all fod yn gyfrifol am nifer anghymesur iawn o achosion o heintio o'r newydd, a dyna pam rydym ni'n gwneud hynny i gyd. Mae gennym ni gynlluniau annibynnol ar gyfer gweinyddu brechlyn pan fydd hwnnw ar gael, ond, unwaith eto, nid wyf eisiau awgrymu i bobl Cymru mai'r brechlynnau cyntaf a fydd ar gael fydd y math y maen nhw'n fwyaf cyfarwydd â nhw—brechlyn ffliw sy'n para am flwyddyn gyfan neu frechlyn MMR sy'n para am oes gyfan. Fe fydd y brechlynnau cynnar sy'n debygol o fod ar gael yn rhoi rhywfaint o imiwnedd am gyfnod o amser, ond ni fyddan nhw yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl, o ystyried eu profiadau blaenorol mewn bywyd.
O ran ffyrlo, siomedig iawn yw ein bod ni yn ôl mewn dryswch unwaith eto, wedi inni gael eglurder, fel yr ymddangosodd ddoe, gan Brif Weinidog y DU. Fe gafodd Gweinidogion Llywodraeth y DU eu siarsio gan yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru mewn cyfarfod COBRA ddoe i sicrhau bod yr eglurder sydd ei angen ar gael inni, ac nad yw'n bosibl i Weinidogion Lloegr, ar eu pennau eu hunain, ddatgan argyfwng iechyd cyhoeddus a galw cynllun ffyrlo. Roeddwn i o'r farn fod yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth, ac ynglŷn â hyn, mae gwir angen cyflawni'r hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei ddweud.
Ni fyddwn ni'n gwybod beth yw'r ffigur R ar gyfer dydd Llun nesaf am ychydig wythnosau ar ôl dydd Llun nesaf, oherwydd mae yna oedi gyda'r dangosydd R. Dyna pam rwyf i bob amser wedi dweud na fyddwn ni'n gwybod pa mor effeithiol fu'r cyfnod atal byr am rai wythnosau eto. 'A fydd hynny'n ddigon?', fel mae Adam Price yn ei ofyn yn gwbl briodol. Wel, Llywydd, fy ateb i yw hyn: bydd hynny'n ddigon dim ond os bydd pob un ohonom yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol inni ei wneud, yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud, ond hefyd y pethau y gallwn ni eu gwneud yn ein bywydau ni ein hunain, oherwydd ni all Llywodraethau ddatrys yr argyfwng hwn ar eu pennau eu hunain. Yn y pen draw, sut rydym ni'n ymddwyn ar ein haelwydydd ein hunain, yn ein gweithleoedd, pan fyddwn ni tu allan ac mewn lleoliadau eraill sy'n cael eu rheoli, dyna sy'n ysgogi'r feirws hwn ac yn rhoi pobl eraill mewn perygl. Fe all pob un ohonom ni wneud pethau i leihau'r perygl hwnnw. Fe all pob un ohonom ni wneud pethau i gynyddu'r perygl hwnnw. Os ydym ni'n gwneud y pethau iawn ac yn gofyn i ni ein hunain, fel y dywedais i, 'Beth ddylwn i ei wneud?', fe all hynny fod yn ddigon.
Os caf i, Prif Weinidog—rwy'n ddiolchgar ichi am eich datganiad chi'r prynhawn yma—barhau â thema cymorth i fusnesau. Mae llawer o bobl, wrth gwrs, yn croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud dros y dyddiau diwethaf, ac yn croesawu'r ymdeimlad o gyfrifoldeb personol a'r ysbryd hwnnw yr ydych chi wedi ei gyflwyno i'r ddadl gyhoeddus ynglŷn â hyn, ond rwyf i'n clywed gan lawer o fusnesau bach a phobl hunangyflogedig sy'n awyddus iawn i ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng cynnal eu busnesau, cynnal cyflogaeth, cynnal y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu i bobl leol, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel drwy'r cyfnod anodd iawn hwn hefyd. Mae'r anhrefn a welsom ni yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf—y Prif Weinidog yno'n dweud ddoe bod ffyrlo ar gael, a hwnnw'n cael gwybod gan ei Weinidogion heddiw ei fod wedi gwneud camgymeriad ddoe—yn golygu, wrth inni siarad heddiw, nad ydym yn gwybod beth yw polisi'r Trysorlys, ac a ydyn nhw wedi dweud wrth Brif Weinidog y DU eto beth yw eu polisi nhw. Felly, mae angen rhywfaint o gydlyniad yn ogystal ag ymdeimlad o gefnogaeth ddi-dor i bobl, ac mae cefnogaeth y gronfa cadernid economaidd gan Lywodraeth Cymru wedi cynnig hynny. Rwyf i o'r farn y byddai llawer ohonom ni'n ddiolchgar o weld cymorth gan y gronfa cadernid economaidd yn ailddechrau ac ar gael i fusnesau cyn gynted â phosibl.
Yr ail bwynt, Prif Weinidog, yw hwn: rydych chi newydd ateb Adam Price ynglŷn â mater profi ac olrhain, ac mae'n hwnnw'n un o lwyddiannau mawr, os mynnwch chi, y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y Llywodraeth wedi gwario tua £102 miliwn yng Nghymru ar hyn, sy'n cynrychioli £32 y pen, ac sydd ar gael i 80 y cant a 90 y cant o'r bobl hynny sydd ei angen. Dros y ffin yn Lloegr, lle cafodd ei breifateiddio, wrth gwrs, maen nhw'n gwario £12 biliwn, £1,700 y pen, ac nid yw ar gael yn yr un niferoedd yn y fan honno. Felly, mae hynny'n dangos pa mor rymus yw rhoi gwerthoedd ar waith. Mae hynny'n dangos grym y sector cyhoeddus—byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol—yn cydweithio â'i gilydd. A wnewch chi egluro i ni, Prif Weinidog, beth yw eich gweledigaeth o ran sut y bydd profi ac olrhain yn rhoi cyfle inni reoli trosglwyddiad y feirws, a thorri ar drosglwyddiad y feirws, a chaniatáu inni fod â rheoliadau sy'n cydnabod bod profi ac olrhain yn gallu, trwy ei rymuster, sicrhau y gallwn reoli ymlediad y feirws? Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd.
Llywydd, diolch yn fawr i Alun Davies. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd ef yn llwyr am y ffordd y mae cynifer o fusnesau wedi gweithio mor galed i sicrhau y gallan nhw barhau yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel i'w staff a'u defnyddwyr nhw, a dyna brofiad y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru. Lle ceir busnesau nad ydyn nhw'n gwneud felly, fe fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau yn eu herbyn, oherwydd mae hynny'n annheg, i'w staff a'u defnyddwyr, ac mae'n annheg â busnesau eraill hefyd, sydd wedi gwneud yr ymdrech y gofynnwyd iddyn nhw ei gwneud.
Ac o ran tegwch hefyd, gadewch imi ddweud, nid yn unig y mae'r ansicrwydd ynglŷn â'r cynllun ffyrlo wedi bod yn gwbl ddi-fudd, ond y ffaith inni ofyn i Ganghellor y Trysorlys roi rhywfaint o hyblygrwydd i fusnesau yng Nghymru wrth inni ddechrau ar ein cyfnod atal byr ni ac fe ddywedwyd wrthym fod hynny'n amhosibl, ond pan benderfynodd Llywodraeth Lloegr, yn y swyddogaeth honno, gyflwyno cyfnod clo, yn sydyn iawn roedd hynny'n gwbl bosibl wedi'r cyfan. A'r hyn sy'n taro pobl yng Nghymru ynglŷn â hynny yw nad yw'n deg pan wrthodir cymorth i un rhan o'r Deyrnas Unedig a bod hwnnw ar gael i ran arall. Mae'r Trysorlys yn Drysorlys y Deyrnas Unedig gyfan, nid dim ond un rhan ohoni'n unig, ac mae angen iddo ailgipio rhywfaint o dir a gollwyd ganddo oherwydd y ffordd bleidiol honno o ymddwyn yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Rwy'n cytuno'n llwyr gydag Alun Davies fod y system profi, olrhain, diogelu wedi bod yn llwyddiant mawr yma yng Nghymru. Mae pob punt a roddwn ni ynddi yn mynd i'r gwasanaeth cyhoeddus. Nid oes unrhyw arian yn cael ei ddihysbyddu i wneud elw preifat, fel sy'n digwydd yn anochel yn Lloegr. Ac mae hynny oherwydd ein gwerthoedd ni, oherwydd ein bod ni'n credu mai gwasanaeth cyhoeddus yw hwn y mae'n well iddo gael ei ddarparu gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus, a chyda'r ethos hwnnw o roi gwasanaeth i'r cyhoedd, ond mae'n rhoi gwerth am arian i ni hefyd, fel y clywsoch chi. Nawr, fe fyddwn ni'n parhau i recriwtio mwy o bobl i'n timau lleol ni. Fe fyddwn ni'n atgyfnerthu'r capasiti hwnnw i ymdrin â'r ymchwydd mewn achosion, a grybwyllais i'n gynharach. Ac wrth inni ymadael â'r cyfnod atal byr, fe fyddwn ni'n rhoi sylw eto i'r ymdrechion enfawr a wnaeth ein timau profi, olrhain, diogelu ni, gan wneud mwy o ran olrhain tuag yn ôl, gyda chyfres newydd o arfau, i berswadio pobl i hunanynysu, ac esbonio canlyniadau peidio â gwneud hynny iddyn nhw, a pharatoi ar gyfer yr amser pan, fel y dywedais i, fydd yna genhedlaeth newydd o brofion ar gael efallai a allai ganiatáu inni gwtogi'r amser y byddwn ni'n gofyn i bobl hunanynysu ac a allai ganiatáu inni wneud mwy o ran profion asymptomatig, fel y soniodd Adam Price yn gynharach. Ac mae hynny i gyd yn cael ei ystyried, wrth inni siarad, yn ein system profi, olrhain, diogelu fel ein bod ni'n defnyddio'r 17 diwrnod hwn o gyfnod atal byr nid yn unig i gael ein gwynt atom ni gyda phrofi, olrhain, diogelu, ond i baratoi hefyd ar gyfer posibiliadau newydd a'r cyfraniad mwy hyd yn oed y gallai hyn ei wneud yma yng Nghymru yn y dyfodol.
Diolch am eich datganiad chi, Prif Weinidog. Rydym wedi gweld bod cyfnodau clo yn difrodi bywyd a bywoliaeth y cyhoedd yng Nghymru yn aruthrol, a'r tlotaf yn ein cymdeithas ni'n arbennig felly, oherwydd cafodd llawer o bobl sy'n agored i niwed mewn cymdeithas eu gadael ar ôl. Mae pobl wedi colli eu gwaith ac mae busnesau wedi cau. Ac er fy mod i'n sylweddoli bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod y cydbwysedd yn gywir, wrth symud ymlaen, Prif Weinidog, a wnewch chi addo gwneud popeth o fewn eich gallu i osgoi cyfnodau clo ledled y wlad yn y dyfodol, oherwydd mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda feirws SARS-CoV-2 os yw Cymru am osgoi dirwasgiad a dyled andwyol a fydd yn cymryd cenedlaethau i'w hadfer wedyn? Ni ddylid caniatáu i'r rhai tlotaf yn y gymdeithas fod yn dlotach eto ar ddiwedd y cyfnod clo hwn ychwaith, a'r ffordd orau o fyw gyda'r feirws yw cael gwell profion, fel y gallwn ni ynysu'r cleifion yn hytrach nag ynysu'r bobl iach hefyd yn ystod cyfnod clo.
Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n bwriadu cynyddu'n ddramatig nifer y profion, o rai miloedd y dydd i ddegau o filoedd? Mae gwledydd sydd wedi ffrwyno'r clefyd wedi mabwysiadu profion torfol, ac fe hoffwn i ofyn ai dyma yw nod Llywodraeth Cymru hefyd. Ac fe hoffwn innau hefyd ddiolch ar goedd i bawb yn y GIG sydd wedi ein cadw ni'n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn, ond i'r nifer fawr o siopwyr, gyrwyr cyflenwi, a staff mewn gwasanaethau eraill hefyd, fel y gwasanaeth carchardai, sydd wedi darparu prydau bwyd a llawer iawn o wasanaethau angenrheidiol i bobl sy'n llai ffodus na ni. Diolch yn fawr.
Mae Caroline Jones yn llygad ei lle yn ein hatgoffa ni bod yna weithwyr rheng flaen mewn sawl agwedd ar fywyd yma yng Nghymru, pobl sydd wedi dal ati i weini bwyd, pobl a fu wrthi'n casglu ein sbwriel, gweithwyr cymdeithasol sy'n parhau i fynd allan a sicrhau bod plant a phobl hŷn sy'n agored i niwed yn cael gofal. Ym mhob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus, mae pobl wedi bod yn barod i roi eu hunain mewn perygl er mwyn amddiffyn pobl eraill, ac mae'n briodol ein bod yn cydnabod hynny y prynhawn yma. Ac rwyf hefyd yn cydnabod sylw agoriadol Caroline Jones, wrth gwrs, fod mwy nag un math o niwed yn deillio o'r coronafeirws. Ac mae popeth yr ydym ni'n ei wneud yn fater heriol iawn, iawn o geisio sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Nid wyf fi fy hun yn cytuno â'r cynnig mai'r ffordd o ymdrin â'r coronafeirws yw ynysu pobl sâl, na cheisio eithrio pobl sy'n agored i niwed o gymdeithas, fel y gall pawb arall barhau â'u bywydau. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hwnnw'n safbwynt moesegol i'w arddel. Ond hyd yn oed os nad oes gennych chi bryderon moesegol ynghylch hynny, nid yw'n ffordd ymarferol o fynd ati chwaith, oherwydd mae gan y bobl hynny gynifer o gysylltiadau â phobl eraill yn eu bywydau. Nid yw'n gweithio, yn ogystal â bod yn annerbyniol.
Rwyf wedi cyfeirio sawl gwaith y prynhawn yma at y posibilrwydd bod cyfleoedd newydd o'n blaenau o ran profion. Ac fe hoffwn i bwysleisio eto fod hynny'n bosibilrwydd, nid yn sicrwydd gwirioneddol. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo o hyd, o ran dibynadwyedd y profion hynny, o ran sut y gellir gweinyddu'r profion hynny'n llwyddiannus, sut y gellid eu defnyddio. Ni ddylai neb feddwl ein bod o fewn trwch blewyn o daro ar ryw fath o ddatblygiad hud, fel y dywedais. Ond yn ddi-os bydd posibiliadau newydd yn y dyfodol, a bydd yn caniatáu i ni, fel y dywedodd Caroline Jones, wneud dewisiadau gwahanol ac amddiffyn pobl mewn ffyrdd newydd. Ac mae dau ddiben i bopeth yr ydym ni, Lywodraeth Cymru, yn ei wneud. Mae ein gweithredoedd wedi eu cynllunio i ymdrin â'r presennol—dyna pam ein bod ni yn ehangu nifer y profion cyfredol, dyna pam mae gennym ni labordai sydd nawr yn gweithio 24 awr y dydd yma yng Nghymru—ond hefyd i baratoi ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau ein bod yn gyfredol gyda'r holl ddatblygiadau posib hynny, ac i sicrhau, pan fyddant mewn gwirionedd ar gael, ein bod yn barod i fanteisio arnyn nhw yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Tri phwynt cyflym yn deillio o'r datganiad, os caf i. Fe wnaethoch chi sôn am ysbytai'n gallu ymgymryd â gwaith arferol y GIG. Mae'n bwysig ein bod yn deall beth yw'r amseroedd aros a beth yw'r targedau perfformiad. A wnewch chi ymrwymo i ailgychwyn cyhoeddi'r amseroedd targed hyn, fel y gallwn ni asesu'r amseroedd aros a'r amseroedd targed y mae'r GIG yn cymharu eu perfformiad â nhw?
Yn ail, o ran Ysbyty Calon y Ddraig a oedd yn Stadiwm Principality, a'r ysgubor ym Mro Morgannwg, i drigolion Caerdydd a'r Fro, mae'n amlwg na chaiff y ddau gyfleuster yma eu defnyddio nawr, ac ni fydd yr ysbyty maes a fydd yn eu disodli ar gael tan fis Chwefror. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro i sicrhau bod capasiti yn y maes hwn fel nad oes diffyg?
Ac, yn drydydd, fe wnaethoch chi sôn ar ddiwedd eich datganiad am fwytai a chyfleusterau cymdeithasol gan ddefnyddio ffyrdd dilys o adnabod pobl. I'r rhan fwyaf o bobl, byddai hynny'n golygu naill ai pasbort neu drwydded yrru. Ond a allwch chi egluro beth fyddai'n dderbyniol ynghylch y derminoleg y gwnaethoch chi ei defnyddio o ran ffyrdd dilys o brofi hunaniaeth? Ac i bwy ddylid dangos hynny—ai i berchennog y sefydliad, neu wrth archebu lle, neu wrth fynd i mewn i'r sefydliad? Diolch.
Mae'n ffaith anochel, mae arnaf ofn, nad yw amseroedd aros ar gyfer llawer math o driniaeth yn y GIG, ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, yr hyn yr oedden nhw cyn dyfodiad y pandemig hwn. Ac rwy'n gresynu'n fawr at hynny, oherwydd yr ymdrech enfawr a fu yng Nghymru, drwy'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu, ond gan weithwyr rheng flaen hefyd. Roeddem yn ein sefyllfa orau ers 2014 pan drawodd y pandemig, a bydd cymaint o'r cynnydd hwnnw wedi'i golli nawr a bydd yn anodd iawn ei adfer os na allwn ni wneud yr holl bethau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma i gadw'r coronafeirws draw. Oherwydd bob dydd y mae mwy o welyau yn ein hysbytai yn cael eu defnyddio gan gleifion sy'n dioddef o'r coronafeirws, bob dydd mae mwy o bobl mewn gwelyau gofal critigol â'r coronafeirws arnyn nhw, mae hynny'n anochel yn lleihau'r cyfle i gynnig triniaethau i bobl ar gyfer yr holl bethau eraill sydd mor angenrheidiol. Byddwn ni'n ystyried gydag eraill ledled y Deyrnas Unedig pryd fydd hi'n synhwyrol ailgyflwyno disgwyliadau ar y GIG, ond nid wyf yn credu ein bod yn y sefyllfa honno lle yr ydym ni heddiw, lle yr ydym ni yn ddwfn—yn ddwfn—mewn argyfwng iechyd cyhoeddus y bydd hi'n ddoeth i bob Aelod yn y Siambr hon ei gydnabod a'i gyfleu yn y datganiadau cyhoeddus a wnânt ar y mater hwn.
O ran Calon y Ddraig, yna mae modd canfod tua hanner y 5,000 o welyau ychwanegol yr ydym ni wedi'u cynllunio ar gyfer y gaeaf hwn o fewn y GIG drwy ehangu capasiti sydd ar gael o fewn ein system bresennol. Felly, daw oddeutu eu hanner o gapasiti newydd mewn ysbytai maes a daw oddeutu hanner mewn ffyrdd eraill, ac mae ein cynlluniau ar waith, wrth gwrs, gyda Chaerdydd a'r Fro i sicrhau bod ffyrdd y bydd yn gallu ymateb pe bai'r niferoedd yn parhau i godi.
Mae'r pwynt olaf y mae Andrew R.T. Davies yn ei wneud yn un pwysig. Wrth gwrs, mae ein lleoliadau sy'n cael eu rheoleiddio, ein tafarndai, wedi hen arfer â gwirio hunaniaeth pobl. Maen nhw'n gwneud hyn drwy'r amser er mwyn gwneud yn siŵr bod rhywun mor hen ag y maen nhw'n dweud eu bod er mwyn gallu archebu diod. Felly, dyma'r math o adnabod yr ydym ni'n chwilio amdano, ac mae rhan o hyn yn seiliedig, fel y bydd Andrew, rwy'n siŵr, yn deall, ar y mater newydd o ran y ffin sydd wedi'i greu drwy gau'r sefydliadau hyn am bedair wythnos yn Lloegr pan fo nhw ar agor yn y fan yma, fel yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod ar agor yma, yng Nghymru. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi ein cymheiriaid yn Lloegr i atal nifer fawr o bobl rhag ceisio croesi'r ffin er mwyn gallu cael diod pan fo hynny yn erbyn y gyfraith yn Lloegr. Ac mae gallu archebu ymlaen llaw, ac yna gwirio pwy ydych chi, yn un o'r ffyrdd y byddwn yn gallu cefnogi ein cyd-Aelodau mewn mannau eraill yn eu hymdrechion nawr i oresgyn y feirws mewn rhannau eraill o'r DU.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ac, fel y mae Adam Price eisoes wedi'i ddweud, mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Plaid Cymru wedi cefnogi'n gyffredinol yr angen am y cyfnod atal byr ac wedi dadlau o blaid dull gofalus wrth inni adael y cyfnod hwnnw.
Cyfeiriodd y Prif Weinidog at ymgynghori yn y broses hon, a chredaf y bydd yn deall bod rhai sectorau o'r sector lletygarwch nad ydynt efallai wedi teimlo eu bod wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwnnw gymaint ag y gallent fod. Gofynnaf iddo heddiw a all roi ystyriaeth bellach, gan fod angen i reolau a rheoliadau newid, er mwyn sicrhau yr ymgynghorir â'r ystod ehangaf bosib o'r busnesau hynny yr effeithir arnynt fwyaf cyn gynted â phosib wrth inni symud ymlaen, ac wrth iddo adolygu'n briodol effaith y cyfnod atal byr ac effaith llacio'r mesurau hynny.
Yn benodol, mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at ddarparu canllawiau manwl i'r sector lletygarwch ar ôl heddiw, ac mae hi'n gwbl briodol, wrth gwrs, y dylid cynnal y trafodaethau hyn yn y Senedd ac y dylai'r Llywodraeth gwblhau canllawiau ar ôl hynny. Ond a all ddweud wrthym ni heddiw pryd y bydd y canllawiau manwl hynny ar gael i fusnesau lletygarwch fel y gallan nhw fod yn glir ynghylch beth yn union a ddisgwylir ganddynt? Ac yn benodol yn hynny o beth, a gaf i ofyn iddo yntau a Llywodraeth Cymru sicrhau y caiff manylion cwsmeriaid, pan gânt eu cymryd, eu cadw'n ddiogel a'u defnyddio at ddibenion priodol yn unig? Rwyf wedi clywed am fenywod, yn enwedig menywod ifanc, yn cael eu holi am eu manylion cyswllt, a'r rheini wedyn wedi eu defnyddio gan aelodau o staff neu reolwyr mewn busnesau lletygarwch ar gyfer dulliau amhriodol. Gwn fod hyn wedi'i godi gyda Llywodraeth Cymru fel risg, felly a gaf i ofyn iddo sicrhau yr eglurir i fusnesau yn union yr hyn sydd ei angen wrth ofyn am hunaniaeth ac y rhoddir pwyslais pellach ar gadw'r wybodaeth honno'n ddiogel a'i defnyddio'n briodol?
Bydd yn rhaid i chi ddod â'ch cyfraniad i ben nawr; mae eich amser ar ben. Diolch, Helen Mary.
A gaf i ofyn, felly, yn olaf, o ran cymorth busnes pellach, a all y Prif Weinidog ystyried a ddylid targedu hynny'n well efallai yn y dyfodol at y busnesau hynny yr effeithir arnynt fwyaf, yn hytrach na mynd ati mewn modd lle mai'r cyntaf i'r felin sy'n elwa?
Diolch i Helen Mary Jones am y cwestiynau yna, ac, fel y dywedais, rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth eang y mae Plaid Cymru wedi'i chynnig i'r ffordd yr ydym ni wedi mynd ati yma yng Nghymru. Ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones am natur amrywiol iawn y sector lletygarwch. Fel Llywodraeth, rhaid inni ddibynnu'n gyffredinol ar y cyrff cynrychioliadol hynny sy'n bodoli yn y sector, ac rydym ni yn sicr wedi bod yn siarad â nhw, ond, mewn sector mor amrywiol â lletygarwch, nid yw pob busnes yn cael ei gynrychioli yn y math hwnnw o fforwm. Mae'n anochel bod pa mor gyflym y mae'n rhaid inni weithredu yn golygu ein bod yn dibynnu ar y rhwydweithiau presennol y gallwn fanteisio arnynt. A hwnnw, mewn ffordd, yw'r tensiwn yr ydym ni yn ei wynebu wrth ateb cwestiynau mewn canllawiau yn y ffordd y mae Helen Mary wedi gofyn yn eithaf priodol, oherwydd mae pa mor gyflym y gallwn ni ddarparu canllawiau, i raddau, yn adlewyrchiad o nifer y cwestiynau y mae'r sector yn eu holi gan ofyn i ni allu dod o hyd i ateb iddynt. Felly, po fwyaf y cwestiynau sydd yna, yr arafaf y mae'n tueddu i fod, ond byddwn yn ceisio cael y canllawiau, wrth gwrs, cyn gynted â phosib.
Llywydd, rwy'n bryderus iawn am yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones am gamddefnyddio gwybodaeth sy'n cael ei darparu, a byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr, ar ddiwedd y datganiad hwn, y byddaf yn gwneud rhai ymholiadau fy hun am hynny. Hoffem i bobl ddefnyddio ap y GIG fel sail i'r ffordd y maen nhw'n casglu gwybodaeth, oherwydd yna mae'n sicr o fod yn ddiogel, a pho fwyaf y gallwn hyrwyddo hynny a pho fwyaf y gallwn sicrhau ei fod ar gael, y lleiaf y byddwn yn wynebu'r risg y soniodd Helen Mary Jones amdani. Ac, wrth gwrs, byddwn yn parhau i edrych bob amser i weld a ellir sicrhau rhagor o gymorth i fusnesau. Ac mae'r dull cyntaf i'r felin yn ddull cyntefig iawn, rwy'n deall hynny, ond, fel y bydd hi'n gwybod, gwnaeth miloedd o bobl, miloedd o fusnesau gais, hyd yn oed ar y sail honno, a gwelwn beth arall y gellir ei wneud.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a dweud fy mod i, yn amlwg, hefyd yn edrych ymlaen at gyfle i ailgysylltu rywbryd â'm pedwar o wyrion ac wyresau, a hefyd, mae'n debyg, at ymweld â'm tafarn leol a chael fy holi am brawf hunaniaeth? Mae yfed o dan oed yn bla ar ein cymdeithas.
A gaf i grybwyll yn arbennig faterion llesiant, lles meddyliol ein cymunedau? Ac a gaf i ddweud bod rhai o'r mesurau sydd wedi eu gweithredu nawr, yn enwedig o ran campfeydd, o ran cynulliadau crefyddol, a chwaraeon, dawns, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol rwy'n credu—pa mor bwysig ydynt? Gan eu bod ymhlith rhai o'r sefydliadau sydd wedi cael eu rheoleiddio'n eithriadol o dda, ond maen nhw hefyd yn cyfrannu'n sylweddol iawn at les corfforol ac, rwy'n credu, meddyliol, ein cymunedau. Credaf fod lles meddyliol yn rhywbeth sy'n wirioneddol ganolog i rai o'n hystyriaethau wrth i fisoedd o gyfyngiadau amrywiol ddod ar ein gwarthaf yn y dyfodol.
A gaf i ofyn yn arbennig i'r Prif Weinidog am ei gysylltiadau â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r undebau llafur, yn enwedig o ran lles y degau ar filoedd o'r bobl hynny sydd bellach yn gweithio gartref, na fyddent wedi bod yn gweithio gartref o'r blaen, yn aml mewn amgylcheddau pur anaddas, ond hefyd y risgiau gwirioneddol i iechyd meddwl sydd bellach yn bodoli oherwydd yr oriau hir sylweddol a'r ffaith yr ymddengys hi bellach fel pe baem yn cael ein rheoleiddio, neu ein rheoli, yn helaeth iawn gan Zoom a Teams a mathau eraill o dechnoleg, yn hytrach na fel arall? Mae'n ymddangos i mi na roddwyd ystyriaeth ddigonol i hynny. A gaf i ofyn a ydych chi'n credu mai dyma'r adeg y dylai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, mae'n debyg, gael ei ddatganoli yng Nghymru, oherwydd mae'n rhan mor bwysig o'n hiechyd cyhoeddus ni?
Ac a gaf i grybwyll hefyd un mater arall, sef caethiwed i gamblo? Byddwch yn ymwybodol o'r ohebiaeth ddiweddar yn The Lancet yn awgrymu y dylem ni gael clinigau caethiwed i gamblo erbyn hyn. Mae cyfran fawr o'n poblogaeth bellach yn agored i niwed ac yn agored i ymosodiad parhaus hysbysebion gamblo, ac mae gan hyn ganlyniadau sylweddol, rwy'n credu. Credwn ei bod hi'n haws nag erioed i lawer o bobl ledled Cymru ddechrau gamblo ac mae canlyniadau hyn ar gyfer y dyfodol, rwy'n credu, yn eithaf arwyddocaol ac mae angen mynd i'r afael ag ef fel mater iechyd cyhoeddus difrifol, yn enwedig mewn cysylltiad â COVID nawr. Diolch, Prif Weinidog.
Llywydd, diolch, ac rwy'n diolch i Mick Antoniw am y cwestiynau yna. Rwy'n gwybod fod Mick Antoniw wedi dechrau drwy dynnu coes braidd, ond, mewn gwirionedd, Llywydd, rydym ni i gyd, pob un ohonom ni, rwy'n credu, yn osgoi dweud rhyw lawer am effaith y coronafeirws ar ein bywydau ein hunain ac ar fywydau'r staff yr ydym ni i gyd yn eu cyflogi yn rhinwedd ein cyfrifoldebau etholaethol ein hunain, ac y gwn i eu bod wedi ysgwyddo baich enfawr yr ymdrechion yr ydym ni i gyd yn ceisio eu gwneud o ran ein cyfrifoldebau lleol i ateb cwestiynau pobl, a sicrhau bod yr wybodaeth fwyaf cyfredol ganddyn nhw. Ond mae yna oblygiadau iechyd meddwl a lles yn hynny i gyd i'n cynrychiolwyr etholedig yn ein swyddogaethau etholaethol, ac i'n timau hefyd. Felly, rwyf wastad wedi meddwl, Llywydd, mai un o'r pethau gwych am ddatganoli yng Nghymru yw bod y bwlch rhwng y bobl hynny sy'n cael eu hethol a'r bobl hynny sy'n ein hethol yn llawer culach nag ydyw mewn llawer o ddeddfwrfeydd eraill, a'n bod yn byw bywydau sydd mor llawn o'r profiadau y mae'n rhaid i'n cyd-ddinasyddion eu profi ag unrhyw un arall, a chredaf ei fod yn dod â math gwahanol o gyfoeth i'r math o drafodaeth y buom ni yn ei chael y prynhawn yma.
O ran yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac undebau llafur, mae gennym ni, wrth gwrs—bydd Mick Antoniw yn gwybod—fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol newydd yng Nghymru tan yr adeg y mae'r awdurdod wedi'i ddatganoli. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r fforwm am gytuno i gymryd rhan yn y fforwm hwnnw a sicrhau bod staff ar gael i gyfrannu at y trafodaethau hynny, gan gynnwys trafodaethau ynglŷn ag iechyd a lles pobl sy'n gweithio gartref. Rwy'n sicr nad fi yw'r unig un sydd, ar ddiwedd dyddiau lawer, yn dioddef o flinder Zoom, ac nid wyf yn golygu hynny o ran dim ond ei effaith arnoch chi, ond yn llythrennol, pan fo eich llygaid yn llosgi a'r teimlad y buoch yn syllu ar y sgrin honno am fwy o amser nag sy'n synhwyrol i unrhyw un ei wneud. Ac mae pobl eraill sy'n gweithio gartref yn profi hynny hefyd. Dyna pam y bydd gan y fforwm iechyd a diogelwch ddiddordeb yn hynny; dyna pam yr ydym ni yn cyflymu ein rhaglen o greu canolfannau lleol, lle gall pobl weithio o bell, ond nid yn eu cartrefi eu hunain.
A bydd Eluned Morgan wedi clywed y sylw am gaethiwed gamblo, y mae Mike Antoniw wedi'i wneud yn rheolaidd iawn drwy gydol yr amser y bu'n Aelod Cynulliad, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus i drafod yn uniongyrchol ag ef effaith benodol argyfwng y coronafeirws ar bobl sydd gartref ac yn cael eu peledu, fel y dywedodd, gan wahoddiadau a hysbysebion sy'n ceisio eu cymell, pobl sydd weithiau'n agored i niwed, i wario arian yn y ffordd honno.
Mae gennym ni dri o wyrion newydd, i gyd yn byw gerllaw, ond dau yn Lloegr. Gallwch ddychmygu sut yr ydym ni'n teimlo. Dywed Epilepsi Cymru nad oes llawdriniaeth epilepsi ar gyfer plant nac oedolion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac ni fu am y saith mis diwethaf. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y bydd hyn yn newid fel y gellir darparu llawdriniaeth hanfodol i'r bobl hynny sy'n hynod o agored i niwed ac sy'n byw gyda ffitiau na ellir mo'u rheoli, gyda'r holl risg gysylltiedig i iechyd a bywyd, pan fo'r rhan fwyaf o ganolfannau arbenigol eraill ledled y DU wedi ailddechrau llawdriniaeth epilepsi hanfodol i'w cleifion sydd ag epilepsi sy'n gwrthsefyll cyffuriau?
Fis diwethaf, cyhoeddodd Asthma UK a British Lung Foundation Wales adroddiad ynglŷn ag ailddechrau gofal sylfaenol. Roedd 70 y cant o'u buddiolwyr yn gyfrifol eu hunain am reoli symptomau a oedd yn gwaethygu, megis pwl o asthma. Dywed dros 40 y cant fod eu gofal anadlol naill ai wedi'i ohirio neu ei ganslo yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, ac mae bron i chwarter yn osgoi'r GIG yn gyfan gwbl, sy'n golygu nad ydyn nhw bellach yn rheoli eu cyflwr. Wrth inni nesáu at y gaeaf nawr, pan fydd cyfraddau atgyfeirio hanesyddol ar gyfer derbyn cleifion i ysbytai oherwydd clefydau'r ysgyfaint yn cynyddu 80 y cant, beth fyddwch chi yn ei wneud nawr, yn seiliedig ar argymhellion yr adroddiad, fel ei bod hi'n rhwyddach i filoedd o bobl ledled Cymru sydd â chyflwr ar yr ysgyfaint gael gofal sylfaenol eto fel ag o'r blaen?
Yr wythnos diwethaf, lansiodd Cymorth Canser Macmillan eu hadroddiad newydd, 'The Forgotten 'C'? The impact of Covid-19 on cancer care', a oedd yn manylu ar y cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sydd nawr yn aros am ddiagnosis a thriniaeth. Sut felly ydych chi'n ymateb i ddatganiad yr adroddiad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu a neilltuo gwasanaethau canser yn ystod ail don y pandemig?
Ac, yn olaf, yn dilyn eich cyhoeddiad y bydd y ffin ar gau nes i'r cyfnod cyfyngiadau symud newydd yn Lloegr ddod i ben ar 2 Rhagfyr, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i fyfyrwyr Cymru sy'n preswylio yn ystod y tymor mewn prifysgolion yn Lloegr y gallan nhw ddod adref i Gymru ar gyfer y Nadolig a thymor y gwyliau ar ôl i'r tymor prifysgol ddod i ben ddechrau Rhagfyr?
Wel, Llywydd, byddaf, wrth gwrs, yn ymchwilio i'r sylw penodol y mae Mark Isherwood yn ei wneud am epilepsi ac fe ysgrifennaf ato ynghylch hynny. Mae'n siŵr mai dyma'r ateb cyffredinol i'w holl ymholiadau: bod ein gallu i ail fwrw iddi yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru gyda gwasanaethau heblaw am rai sy'n ymwneud â'r coronafeirws yn gwbl ddibynnol ar y graddau y gallwn ni droi llanw y coronafeirws ei hun yn ei ôl. Ac mae pethau y gall pob un ohonom ni eu gwneud i helpu i berswadio'r cyhoedd i gymryd y mater hwn o ddifrif a chadw at y cyfyngiadau yr ydym ni yn gofyn iddyn nhw gadw atyn nhw, oherwydd, os na wnawn ni, ac os byddwn ni yn gwneud pethau sy'n annog pobl i beidio â chymryd hyn o ddifrif ac i beidio â chadw at y rheoliadau, yna'r cyfan a wnawn yw gwarantu y bydd mwy o bobl yn dal y clefyd hwn a bydd yr holl gyfleoedd y mae Mark Isherwood wedi fy holi yn eu cylch yn lleihau yn hytrach na chynyddu. Felly, edrychaf ymlaen at ei gefnogaeth, ei gefnogaeth lwyr, a chefnogaeth ei blaid, yn ein hymdrechion yma yng Nghymru. Bydd fy mhlaid yn Llundain yn pleidleisio dros y cyfyngiadau y mae'r Prif Weinidog yn eu hymestyn yn Lloegr. Byddai'n dda iawn pe gallem ni ddibynnu ar yr un math o gefnogaeth i'r hyn yr ydym ni yn ei wneud yng Nghymru gan ei blaid ef.
O ran y mater sy'n ymwneud â'r Nadolig, roeddwn yn falch o gytuno, yn y cyfarfod COBRA ddoe, y dylid cael cyfarfod cyflym arall rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig er mwyn cynllunio gyda'n gilydd ar gyfer cyfnod y Nadolig er mwyn ymdrin â'r union fath o faterion a gododd Mark Isherwood am fyfyrwyr sy'n byw ar y naill ochr a'r llall i'r ffin yn ystod y tymor sydd â chartrefi y maen nhw'n dymuno dychwelyd iddyn nhw. Mae hwnnw'n fater y credaf fod dull pedair gwlad yn synhwyrol er mwyn ymdrin ag ef, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd gennym ni y math o batrwm ymgysylltu rheolaidd yr wyf wedi bod yn galw amdano ers misoedd lawer er mwyn gallu gweithio tuag at gynllun ac ymagwedd gyffredin o'r fath.
Rhun ap Iorwerth. Rhun ap Iorweth. Dyna ni.
Mae'n ddrwg gen i, roeddwn yn aros am yr arwydd. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am y datganiad, Prif Weinidog. Diolch yn benodol am gydnabod materion llesiant, boed a wnelo hynny â chaniatáu i gampfeydd ailagor, sydd mor bwysig i iechyd corfforol a meddyliol, ac yn benodol, yn ogystal, rwy'n credu, caniatáu i bobl sengl ddod at ei gilydd mewn amgylchiadau rheoledig iawn. Mae sawl mater—fe wnaf i eu crybwyll yn gyflym iawn. Rwy'n poeni'n fawr am drosglwyddo'r feirws mewn ysbytai—ar hyn o bryd, rwy'n credu y bu tua 200 o achosion o drosglwyddo mewn ysbytai yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf. Faint o flaenoriaeth yw hi i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hynny, sydd mor bryderus o ran tanseilio'r hyder y mae angen inni ei feithrin mewn pobl y dylen nhw barhau i geisio triniaeth ar gyfer afiechydon ac ati?
O ran profi, byddaf yn pwysleisio eto fy nymuniad ein bod yn clywed mwy am y datblygiadau y mae arnom ni eu hangen ar ôl y cyfnod clo byr hwn er mwyn gwneud ein system brofi'n fwy cadarn. Mae datblygiadau cyffrous mewn technoleg y mae angen eu paru â datblygiadau cyffrous mewn polisi hefyd. Cafodd fy merch brawf COVID yr wythnos diwethaf, cafodd ganlyniad y prawf mewn 18 munud. Mae hynny'n newid sylweddol, ac mae angen i ni wybod mai dyna'r sefyllfa yr ydym ni eisiau ymgyrraedd ati o ran profi ar raddfa sylweddol yng Nghymru.
Triniaethau—byddwch yn gwybod fy mod wedi treulio llawer o amser yn ystod misoedd cyntaf y pandemig yn ceisio dadlau'r achos dros ymyrraeth gynharach. Roeddwn yn credu bod pobl yn marw oherwydd dywedwyd wrth bobl i beidio â dod i gael triniaeth nes eu bod yn rhy sâl. Mae gennym ni driniaethau gwell nawr—mae hynny'n dda—gan gynnwys pethau y buom yn dadlau drostyn nhw—pwysedd positif parhaus yn y llwybr anadlu a thriniaeth ocsigen ac yn y blaen. Ydych chi'n meddwl bod modd ymyrryd yn gynharach fyth fel nad yw pobl yn mynd mor sâl?
O ran lletygarwch, rwy'n falch bod gennym ni eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd ym maes lletygarwch. Mae twristiaeth yn gysylltiedig â lletygarwch, wrth gwrs. Nawr, a allwch chi roi syniad inni o'r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl neu beth y dylid ei ganiatáu o ran llety ac atyniadau? Mae'n amlwg nad ydym yn gwahodd pobl i deithio'n bell at ddibenion twristiaeth, ond rydych chi yn cydnabod wrth agor y diwydiant lletygarwch fod hamdden yn bwysig. Beth all pobl ei ddisgwyl ym maes twristiaeth? Ac rwy'n cyflwyno'r achos eto, boed yn dwristiaeth neu'n feysydd eraill nad ydynt yn cael unrhyw gymorth gan y Llywodraeth o hyd o ran cymorth ariannol, ceisiwch lenwi'r bylchau hynny. Credaf fod yr hyn a ddigwyddodd gyda'r gronfa yr wythnos diwethaf, a'r ffaith iddi gau o fewn diwrnod neu ddau yn hytrach na bod ar agor am fis, wedi tanseilio hyder. Edrychwch eto ar hynny, a gwnewch yn siŵr bod busnesau'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Yr un mor gyflym, fel y dywedais, dywedodd prif weithredwr y GIG bethau'n gynharach heddiw ynglŷn â throsglwyddo'r haint mewn ysbytai, a gofynnaf i Aelodau edrych ar yr hyn a ddywedodd. Rwyf yn bryderus—dylwn fod wedi dweud hynny wrth ateb cwestiwn Mark Isherwood pan soniodd am bobl yn osgoi'r GIG. Dydw i ddim am i ni fynd yn ôl i'r man lle yr oeddem ni yn ôl ym mis Ebrill, pan oedd cymaint o achosion o'r coronafeirws yn ein hysbytai fel nad oedd pobl yn teimlo'n ddigon diogel i fynd yno at ddibenion eraill. Dyna reswm arall eto pam y mae angen i ni wneud y gorau o'r cyfnod atal byr hwn a pherswadio pobl i ymddwyn mewn gwahanol ffyrdd y tu hwnt i hynny.
O ran y technolegau, fel yr wyf wedi dweud, bydd y Gweinidog iechyd yn cyhoeddi datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon ynghylch rhai o'r posibiliadau technolegol hynny a sut yr ydym ni yn paratoi ar eu cyfer. Rwyf innau hefyd yn cydnabod yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth ynghylch bod gwell triniaethau ar gael yn yr ail don hon nag yn y gyntaf, a gallwch weld hynny, rwy'n credu, eisoes, i raddau, yn nhreigl arafach pobl o welyau ysbyty i ofal critigol. Mae gennym ni fwy o bobl mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru nag oedd gennym ni dair wythnos yn ôl, mae hynny'n anochel, ond nid yw'r gyfradd y mae cleifion ysbyty'n troi'n gleifion gofal critigol yr hyn yr oedd yn y don gyntaf, a'r rheswm am hynny yw bod gennym ni y triniaethau ychwanegol hynny.
Wrth gwrs fy mod yn cydnabod y sylwadau a wnaeth Rhun am dwristiaeth yn ogystal â lletygarwch. Bydd modd i dwristiaeth ailddechrau yng Nghymru, ond mae'n anochel y bydd ar y raddfa lai sy'n dod heb ein marchnad fwyaf, yn yr ystyr bod y nifer fwyaf o bobl sy'n teithio i Gymru ar gyfer twristiaeth yn dod o Loegr, ac ni fydd hynny'n digwydd dros y pedair wythnos nesaf.
Prif Weinidog, a yw pandemig y coronafeirws wedi cyflymu'r gwaith o adeiladu gwladwriaeth Gymreig? Cyn iddo ddechrau, nid oedd gan lawer yng Nghymru fawr o syniad o'r grym a oedd gennych chi drostyn nhw. Yn wir, doedd llawer ddim yn gwybod pwy oeddech chi. Nawr cewch eich taflunio i mewn i'w hystafell fyw a byddwch yn penderfynu pryd y gallant adael eu tŷ. Yn y cyfamser, mae ffin a oedd gynt prin yn weladwy rhwng Cymru a Lloegr yn gadarnach fyth. O ddydd Llun, rydych chi yn adfer rhyddid i symud yn fewnol yng Nghymru ond yn atal symud i mewn ac allan o Gymru, fel petai Adam Price eisoes yn Brif Weinidog.
Rydych yn honni bod hyn oherwydd COVID, ond mae nifer yr achosion o COVID yn amrywio llawer iawn mwy yng Nghymru nac yn Lloegr. Ni fydd gennych chi unrhyw broblem gyda'm hetholwyr ym Merthyr, lle mae nifer yr achosion o COVID yn uchel, yn ymweld â sir Fynwy, lle mae'n isel, ac eto rydych yn gwahardd fy etholwyr yn sir Fynwy rhag teithio i ardaloedd lle mae nifer yr achosion yn uchel, dim ond oherwydd bod yr ardaloedd hynny yn Lloegr. Prif Weinidog, rydych chi yn cyhuddo Adam Price o fod eisiau ein gwahanu, ond onid dyna yr ydych chi yn ei wneud?
Llywydd, y cyfan yr wyf yn ei wneud yw canolbwyntio ar y coronafeirws. Nid wyf yn rhannu'r obsesiynau sydd gan yr Aelod â'r holl gyfraniadau cwbl amherthnasol a chyfeiliornus eraill hyn. Gadewch iddo am funud yn unig, rwy'n credu, yn un o'r pethau y mae'n ei ddweud wrth y Senedd, ganolbwyntio ar y bywydau sy'n cael eu colli, y dyfodol sy'n cael ei ddifetha yma yng Nghymru, oherwydd y clefyd enbyd hwn. Gadewch iddo am unwaith ddweud rhywbeth wrthym ni am hynny yn hytrach na'n diddanu yn y ffordd y mae'n ei wneud gyda'r damcaniaethau hyn sy'n perthyn ar gyrion eithaf bywyd cyhoeddus Cymru, a gobeithio, cyn bo hir, y tu hwnt i'r cyrion.
Yn olaf, Laura Jones. Laura Anne Jones. A oes modd dad-dawelu'r meicroffon?
Rwyf newydd wneud hynny. Diolch.
Yn gyntaf, diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad, a diolch i chi, Llywydd, am adael imi ddweud pwt ar y diwedd fel hyn. Ceisiaf gadw'r cyfraniad yn fyr. Hoffwn ddweud yn gyntaf, Prif Weinidog, rwy'n falch iawn bod Alun Davies a Delyth Jewell ill dau hefyd wedi cydnabod yr angen dybryd i ailagor cam 3 y gronfa cadernid economaidd ar gyfer busnesau a oedd yn gwneud cais am £150,000 ac y dywedir wrthynt nawr am wneud cais am grantiau o £2,000 yn unig. Mae'n amlwg nad yw'n ddigonol, felly rwy'n diolch i chi gan eich bod nawr yn ystyried ailagor hwnnw.
Mae fy nghwestiwn, yn gyflym, yn ymwneud â phêl-droed ar lawr gwlad. Byddai eich rheol ar ôl y cyfnod atal byr o 30, o ran pêl-droed, yn golygu 14 yn erbyn 14 ar y naill ochr a'r llall mewn gêm, gydag un dyfarnwr ac un person cymorth cyntaf, sy'n golygu un chwaraewr wrth-gefn a dim llumanwyr. At ddibenion hyfforddi, mae hynny'n iawn, Prif Weinidog; ar gyfer gemau cyfeillgar, mae'n amlwg nad yw hynny gystal. Ond, o'r rheol hon o 30, a wyf yn tybio nad oes bwriad i ddechrau tymhorau pêl-droed ar lawr gwlad yma yng Nghymru? Yn Lloegr, yn amlwg, fel y gwyddoch chi, mae tymhorau pêl-droed ar lawr gwlad wedi dechrau ac maen nhw bellach wedi'u gohirio ond gyda'r bwriad o'u hailgychwyn. Felly, a allai'r Prif Weinidog egluro pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch hyn, ac ai'r bwriad yw dechrau'r tymhorau hynny, ai peidio, oherwydd yn amlwg mae angen i'n clybiau ni gael gwybod? Diolch.
Llywydd, efallai nad oeddwn i yn dilyn cwestiwn yr Aelod yn ddigon manwl; roeddwn yn credu bod pêl-droed yn cael ei chwarae ag 11 bob ochr a, gyda 30, y byddai'n bosib felly cynnal gêm bêl-droed. Felly, efallai fy mod wedi camddeall y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud, ac rwy'n ymddiheuro os wyf wedi gwneud hynny.
Yr hyn yr hoffwn i ei ddweud wrthi yw ein bod ni wedi addo adolygiad ar ôl tair wythnos; sef adolygiad o bopeth yr ydym yn ei weithredu y tu hwnt i'r cyfnod atal byr. Os yw pethau'n llwyddiannus, os gallwn ni ddangos bod y cyfnod atal byr wedi cael yr effaith y mae angen iddo ei chael o ran troi'r llanw'n ôl ac atal pobl rhag mynd i'r ysbyty ac ati, yna byddwn yn edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud. Os nad ydym ni yn y sefyllfa honno, yna, yn anochel, ni fyddwn ni'n gallu cynnig rhagor o lacio yn y ffordd yr hoffem ni. Ond, yn y maes hwn, fel ym mhob un arall, byddwn yn ei adolygu'n barhaus, byddwn yn siarad â'r cyrff llywodraethu yn y ffordd yr awgrymodd Laura Anne Jones ac, fel y dywedais, yn y pen draw mae hyn yn dibynnu ar bob un ohonom ni. Gall bob un ohonom ni wneud pethau a fydd yn golygu, bythefnos y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, y gallwn ni roi sylw i rai o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Neu, fe allwn ni i gyd ystyried terfyn y cyfnod atal byr fel cyfle i anghofio bod y coronafeirws yn bodoli ac ymddwyn mewn ffyrdd a fydd yn gwarantu ei fod yn dychwelyd mewn modd nerthol iawn ac yna ni fydd hi'n bosib cefnogi unrhyw rai o'r pethau y mae hi'n sôn amdanyn nhw.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.