– Senedd Cymru ar 2 Rhagfyr 2020.
Dadl Plaid Cymru ar y sector bwyd sydd nesaf. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.
Cynnig NDM7495 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd y sector bwyd i ystod eang o agendâu polisi yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, yr economi a thlodi;
2. Yn gresynu at y diffyg aliniad i ddarparu polisi bwyd cenedlaethol cydlynol o fewn strategaethau a chynlluniau gweithredu bwyd Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf;
3. Yn cydnabod bod pandemig COVID-19 wedi amlygu gwendidau ein system fwyd bresennol.
4. Yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru yn ei chwarae yn y broses o gadw ein silffoedd wedi stocio.
5. Yn deall bod argyfyngau'r hinsawdd, natur a bioamrywiaeth yn cynyddu'r tebygolrwydd o dywydd eithafol a fydd yn effeithio'n sylweddol ar y system fwyd fyd-eang.
6. Yn nodi bod 14 y cant o deuluoedd â phlant yn y DU wedi profi ansicrwydd bwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020, a bod Ymddiriedolaeth Trussell wedi dosbarthu 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) symud tuag at ddull mwy cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru drwy ddod â chomisiwn system fwyd traws-sector at ei gilydd a rhoi iddo’r dasg o ddatblygu cynllun i ddarparu system fwyd sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol;
b) sicrhau bod systemau bwyd yn gallu gwrthsefyll ffactorau allanol yn y tymor hir, fel yr argyfwng hinsawdd;
c) datblygu gallu prosesu lleol ledled Cymru;
d) cynyddu faint o fwyd a diod o Gymru a gaiff ei gaffael drwy wasanaethau cyhoeddus.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r cynnig yma yn enw Plaid Cymru y prynhawn yma. Fel mae'r cynnig yn ei gydnabod, wrth gwrs, mae'r sector bwyd yn un pwysig ac yn un arwyddocaol iawn inni yma yng Nghymru. Ond mae yn deg i ddweud fod y pandemig wedi amlygu gwendidau yn y system fwyd presennol, gwendidau efallai sydd wedi bod yna, wrth gwrs, ers talwm ond wedi dod fwyfwy i'r amlwg, efallai, yn y flwyddyn ddiwethaf yma. Ac mae hynny yn ei dro hefyd wedi tanlinellu i nifer ohonon ni sut y mae polisïau Llywodraeth Cymru o safbwynt bwyd wedi tueddu i weithredu mewn rhigolau, neu seilos. Mae lot o ffocws ar effaith economaidd y sector, ac mae hynny'n ddealladwy, ond dim cymaint, efallai, ar effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, iechyd ac eraill y system fwyd ehangach.
Cymhelliad y ddadl yma y prynhawn yma, felly, yw'r angen inni feddwl am y system fwyd mewn ffordd fwy cyfannol, mwy holistaidd. Mae angen system bwyd arnon ni yng Nghymru sy'n cysylltu yn well y cynhyrchu bwyd, y gweithgynhyrchu a phrosesu, manwerthu, defnydd bwyd—consumption—ac addysg hefyd; dod â'r rheini at ei gilydd yn well. Un approach integredig ar draws y system fwyd, o'r fferm i'r fforc a thu hwnt. A'r hyn rydyn ni'n ei olygu, wrth gwrs, wrth 'system fwyd' yw'r holl rhanddeiliaid yna, yr holl berthnasoedd—y relationships—sy'n ymwneud â thyfu bwyd, cynhyrchu, prosesu, cyflenwi a defnyddio bwyd, ac mae'n cwmpasu amaethyddiaeth, pysgodfeydd, cynhyrchu bwyd, fel roeddwn i'n sôn, manwerthu, gwasanaethau bwyd, bwyta bwyd, a gwastraff bwyd hefyd, wrth gwrs, ar ben arall y sbectrwm.
Mae'n cynnwys ffactorau cymdeithasol ac economaidd sy'n gyrru dewisiadau bwyd, ac mae'n torri ar draws pob agwedd ar bolisi, wrth gwrs, yn cynnwys yr economi, yr un amlwg, yr amgylchedd hefyd, wrth gwrs, yn amlwg i raddau, busnes hefyd, addysg, lles, iechyd, trafnidiaeth, masnach, cynllunio, llywodraeth leol—mae'n berthnasol bron iawn i bawb. Ac mae nawr, wrth gwrs, y foment hon, yn gyfle inni allu adeiladu nôl yn well, fel y mae pobl yn ei ddweud, ond gyda COVID-19 wedi amlygu ac wedi dwysáu nifer o'r gwendidau sy'n bodoli yn ein system fwyd ni, mae adeiladu system fwy gwydn a mwy cynaliadwy yn mynd i fod yn rhan bwysig o'r gwaith i atal argyfyngau tebyg i'r hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar wrth inni symud ymlaen. Ac mae'n mynd i fod yn rhan allweddol o'n llwybr ni tuag at adferiad gwyrdd ac adferiad cyfiawn.
Mae Plaid Cymru am weld Cymru lle mae gan bawb fynediad wrth gwrs—mynediad urddasol—at ddigon o fwyd, at fwyd maethlon, bwyd wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy, mewn ffordd sy'n sicrhau incwm teg i ffermwyr a holl weithwyr y sector bwyd. Gall ein system fwyd gyfrannu'n sylweddol at ffyniant cyfunol Cymru pan gaiff ei llunio drwy lens economeg llesiant ac egwyddorion yr economi gylchol a'r economi sylfaenol. Ac wrth gwrs, mae economeg llesiant yn ymwneud ag ystyried ansawdd bywyd yn hytrach na chyfraddau twf cynnyrch domestig gros neu werth ychwanegol gros gwlad yn unig. Mae arnom angen gweledigaeth gyffredin sy'n seiliedig ar yr egwyddorion hynny ar draws holl adrannau'r Llywodraeth, ynghyd â rhanddeiliaid ehangach y system fwyd, fel y gallwn sicrhau bod pob agwedd ar y system fwyd yn cael ei hystyried a'i hintegreiddio. Rwy'n credu'n angerddol fod system fwyd sy'n gweithio'n dda yn hanfodol i ddyfodol ein cenedl, mae'n ganolog i'n hiechyd a'n lles, i'n diwylliant, i'n cymdeithas, yr amgylchedd wrth gwrs, a'r economi. Ac er mwyn darparu system fwyd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol gyda'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth system fwyd ar gyfer Cymru.
Felly, beth sydd o'i le ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd? Wel, gallwn edrych ar ddetholiad o'i strategaethau a'i pholisïau ynghylch amaethyddiaeth, bwyd a diod, a cheir llu ohonynt: mae gennym 'Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru: Strategaeth Fwyd i Gymru', y cynllun gweithredu bwyd a diod, cynllun gweithredu strategol diwydiant cig coch Cymru, cynllun gweithredu strategol garddwriaeth, strategaeth y sector llaeth, cynllun gweithredu twristiaeth bwyd Cymru, strategaeth bwyd môr Cymru, ac yn y blaen. Maent i gyd yn iawn yn eu hawl eu hunain wrth gwrs; maent i gyd yn nodi amcanion a chamau gweithredu pwysig. Ond ble, neu ar ba bwynt, y dônt i gyd at ei gilydd? Ble mae'r aliniad sydd yn y pen draw ac ar y cyd yn darparu polisi cenedlaethol?
Gofynnodd y cyn Weinidog Cyfoeth Naturiol a'r cyn Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru roi cyngor ynglŷn ag a oedd strategaeth fwyd Llywodraeth Cymru yn ddigon cynhwysfawr a diweddar, a gwnaeth yr adolygiad nifer o argymhellion, ac mae'n ymddangos, yn anffodus, fod y rheini wedi'u hanwybyddu i raddau helaeth. Yn yr adroddiad, dônt i'r casgliad—ac rwy'n dyfynnu—
Mae gwendidau a rhwystrau yn y modd y llywodraethwyd polisi bwyd yng Nghymru ers 2010, ynghyd â gwell dealltwriaeth bellach o'r gwendidau rhyng-gysylltiedig sy'n sail i systemau bwyd cynaliadwy, yn golygu bod angen dybryd i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth newydd a chlir ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.
Ac wrth gwrs, mae hynny'n golygu mwy nag ailysgrifennu'r strategaeth bwyd a diod; mae angen iddo fynd yn llawer ehangach ac yn llawer dyfnach na hynny.
Felly, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn system fwyd traws-sector. Rydym yn ychwanegu ein llais at y rhai sy'n galw am i'r comisiwn hwn gael y dasg o ddatblygu cynllun tuag at system fwyd sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Fel y gŵyr yr Aelodau rwy'n siŵr, roedd hwnnw'n un o alwadau allweddol y gwaith sylweddol a gomisiynwyd gan y WWF ar hyn, gyda chefnogaeth Cynghrair Polisi Bwyd Cymru ac eraill, sydd am i'r cynllun arfaethedig ystyried chwe blaenoriaeth yn benodol. Yn gyntaf, fod bwyd yn hygyrch, a bod Cymru'n dod yn wlad gyntaf i ddileu'r angen am fanciau bwyd, a bod gan bawb yng Nghymru fynediad urddasol at y bwyd sydd ei angen arnynt i fyw bywyd iach. Ac mae hynny'n arwain at yr ail flaenoriaeth wrth gwrs, sef bwyd ar gyfer iechyd y cyhoedd, gan adeiladu ar strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo deietau iach a chytbwys drwy sicrhau bod y llysiau a argymhellir ganddo i'w bwyta yn cael eu cynhyrchu'n gynaliadwy yng Nghymru, sy'n golygu cynnydd mawr mewn garddwriaeth ddomestig a thyfu llysiau yng Nghymru. Nesaf mae'r angen am system fwyd carbon sero-net, sy'n hunanesboniadol, fel y mae'r angen i fabwysiadu egwyddorion mwy amaethecolegol ar draws y system fwyd gyfan, er mwyn atal a gwrthdroi colledion natur, ac wrth gwrs i gynyddu gallu i wrthsefyll newid hinsawdd. Mae sicrhau bwyd môr cynaliadwy yn un arall o'r blaenoriaethau a amlinellir, a phennu terfynau ar gyfer daliadau sy'n galluogi i stociau pysgod gael eu hadfer a'u cynnal uwchben lefelau biomas sy'n darparu'r cynnyrch cynaliadwy mwyaf posibl, ac yn olaf blaenoriaeth i greu swyddi a bywoliaeth gynaliadwy yn y sector bwyd; dylai pawb sy'n ennill eu bywoliaeth o fewn y system fwyd dderbyn neu allu derbyn o leiaf y cyflog byw neu elw teg am eu gwaith, a gwaith sydd hefyd yn rhydd o arferion camfanteisiol wrth gwrs.
Un wers y mae'r pandemig wedi'i dysgu i ni yw na ddylem byth eto gymryd ein gweithwyr iechyd a gofal yn ganiataol, ac ni ddylem ychwaith gymryd y rhai sy'n cynhyrchu ac yn cyflenwi'r bwyd a fwytawn yn ganiataol. Mae COVID-19 wedi tanlinellu gwerth cael sylfaen gynhyrchu sylfaenol frodorol, yn enwedig mewn byd lle mae cadwyni cyflenwi mor gymhleth wrth gwrs, yn gweithredu ar sail mewn union bryd ac eithaf hawdd tarfu arnynt, fel y gwelwyd yn ddiweddar a hyd yn oed cyn diwedd cyfnod pontio Brexit. Mae gwarchod y cadwyni cyflenwi hynny rhag ergydion yn her wirioneddol, ac un ffordd o gyflawni hyn yw drwy fyrhau ein cadwyni cyflenwi, sy'n golygu mwy o brosesu lleol. Ac mae gan fwy o brosesu lleol rôl enfawr i'w chwarae yn helpu i greu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru.
Y realiti, serch hynny, yw bod ystadegau diweddar AHDB yn awgrymu nad oes gan Gymru gapasiti i brosesu hanner y llaeth a gynhyrchwn. Mae'r rhan fwyaf o'r llaeth a gynhyrchir yng Nghymru, un o'r meysydd llaeth mwyaf yn Ewrop, yn cael ei gludo allan o Gymru i'w brosesu. Caiff miliynau o alwyni o laeth hylif ei gludo allan bob blwyddyn, ac mae cannoedd o filoedd o dunelli o gynnyrch llaeth yn cael ei gludo'n ôl i mewn. Wel, faint o filltiroedd bwyd yw hynny, tybed? A chanfu adolygiad o'r sector cig eidion yng Nghymru yn 2014 fod 72 y cant o wartheg Cymru wedi'u lladd y tu allan i Gymru. Caiff 31 y cant o ddefaid Prydain eu magu yng Nghymru, ond dim ond 24 y cant sy'n cael eu lladd yng Nghymru. Felly, mae hyn i gyd yn golli gwerth, colli incwm a swyddi i economi Cymru, heb sôn am y gost enfawr ar ffurf allyriadau carbon a ddaw yn sgil hynny. Mae'n rhaid i hyn newid.
Nawr, yr ateb amlwg i hyn yw cynyddu capasiti prosesu Cymru yn gyffredinol, sy'n golygu nid yn unig atal ond gwrthdroi tueddiadau o ran nifer y lladd-dai bach yng Nghymru, sydd wedi haneru dros y 25 mlynedd diwethaf. Rwy'n credu mai dim ond tua 18 sy'n dal i fodoli, ac ar gyfer prosesu llaeth, rwy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru wrth gwrs, ac rydym wedi gweld yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf sut rydym wedi colli Arla yn Llandyrnog, Tomlinsons yn Wrecsam—proseswyr llaeth mawr yma yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Felly, byddai gwrthdroi colli'r ddarpariaeth hon yn gam cadarnhaol i'r cymunedau sy'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, byddai'n dda i les anifeiliaid hefyd wrth gwrs, gan nad ydych yn symud cymaint o anifeiliaid o amgylch y wlad, byddai'n dda ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, ac yn dda i'r economi wledig. Dyna, wrth gwrs, yw'r lens economeg llesiant a grybwyllais yn gynharach—yr olwg fyd-eang newydd y credwn fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fod i'w hymgorffori ym maes polisi cyhoeddus Cymru.
Nawr, bydd fy nghyd-Aelodau'n ymhelaethu ar agweddau eraill y mae angen mynd i'r afael â hwy yn y ddadl hon, megis rôl caffael cyhoeddus, pwysigrwydd prynu bwyd lleol, rôl bwyd yn yr adferiad gwyrdd, tlodi bwyd ac effeithiau bwyd ar iechyd, a byddaf yn mynd i'r afael â gwelliannau a gyflwynwyd gan y pleidiau eraill yn fy sylwadau cloi ar ôl gwrando ar gyfraniadau pobl eraill. Mewn amgylchiadau arferol, wrth gwrs, yr wythnos hon byddai llawer ohonom wedi mynychu ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru, un o'r sioeau stoc gorau yn Ewrop, sy'n denu torfeydd o bell ac agos i fwynhau dau ddiwrnod yn llawn cystadlaethau, dathliadau, siopa Nadolig a chyfle gwych i arddangos y bwyd gorau sydd gennym i'w gynnig o Gymry wrth gwrs.
Ond ceir problemau systemig o fewn y system fwyd ehangach yng Nghymru sy'n galw am sylw ar frys. Ceir gormod o bobl yng Nghymru na allant fforddio bwyta deiet iach. Mae'r system fwyd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, ar iechyd y cyhoedd, ac ar ein lles economaidd, ac mae hyn i gyd yn llesteirio ein gallu i ffynnu fel cenedl. Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflwyno polisi bwyd mwy cydlynol yng Nghymru a hynny ar frys. Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau o bob ochr i'r Siambr. Diolch.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-dethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. Gweinidog.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mynediad at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus.
2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;
b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon uchel;
c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol;
d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru.
Yn ffurfiol.
'Yn ffurfiol'. Rwy'n ddarllenydd gwefusau da. Gallwn ddarllen yr 'yn ffurfiol' gan y Gweinidog. Galwaf yn awr ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 2. Janet Finch-Saunders.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 7:
cyflwyno siarter bwyd a diod leol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod Cymreig o ffynonellau lleol a helpu i hyrwyddo'r cynllun i ddefnyddwyr;
datblygu strategaeth dwristiaeth i hyrwyddo llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ledled Cymru;
gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor.
Diolch, Lywydd. Rwy'n amlwg yn sefyll i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd gan Darren Millar, ac i ddiolch i Llyr Gruffydd am gyflwyno'r ddadl hon ar ran Plaid Cymru. Nawr, gyda'r wythnos hon yn ein gweld yn nodi ffair aeaf Sioe Frenhinol Cymru, rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu cynnal y ddadl hon, ond rwy'n cytuno â Llyr ei bod hi'n drist na allwn ddod at ein gilydd wyneb yn wyneb yn y digwyddiad gwych hwnnw.
Nawr, mae'n gwbl briodol ein bod yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru yn ei chwarae yn cadw ein silffoedd wedi'u stocio. Roedd graddau'r prynu panig yn y gwanwyn yn golygu bod defnyddwyr y DU wedi trosglwyddo gwerth £1.5 biliwn o fwyd i'r cartref mewn llai na mis. Mae'r pandemig hefyd wedi amlygu gwendidau ein system fwyd bresennol, a bod ffermwyr yn agored i gyfran anghymesur o risg. Gwelsom ddinistr yn ein diwydiant llaeth. Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod bron i 50 y cant o fusnesau llaeth yng Nghymru wedi cael eu heffeithio'n fawr o ganlyniad i'r pandemig, ond dim ond 10 y cant oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth llaeth.
Mae'r pandemig hefyd wedi sbarduno newid mewn polisi bwyd cenedlaethol. Mae Rwsia, Ukrain ac India wedi rhoi camau ar waith i gyfyngu ar allforio bwydydd strategol bwysig fel gwenith. Nawr, os bydd rheolaethau allforio'n digwydd yn amlach, gallai fod effaith wirioneddol ar gyflenwadau bwyd byd-eang. Felly, yn fwy nag erioed, mae angen inni gynorthwyo ffermwyr Cymru i gynnal cynhyrchiant. Fodd bynnag, dylai hyn gael ei gadw mewn cof gan y Gweinidog wrth iddi gyflwyno ei Phapur Gwyn, a hefyd dylai ystyried yn ofalus wrth drafod y galwadau yn adroddiad WWF Prifysgol Caerdydd am weld egwyddorion amaethecolegol yn dod yn ganolog i bolisi bwyd. Mae'r adroddiad yn rhoi enghraifft o fferm organig gymysg. Mae perygl i Gymru os yw'n dod yn 100 y cant organig, oherwydd mae'r astudiaeth wedi canfod mewn gwirionedd y byddai hyn yn cynhyrchu hyd at 40 y cant yn llai o fwyd, gan arwain at gynyddu mewnforion a chynnydd net mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Felly, mae angen inni sicrhau'r cydbwysedd cywir nad yw'n tanseilio cynhyrchiant bwyd lleol o ansawdd uchel, na'r hinsawdd yn wir.
Nawr, mae adroddiad WWF yn argymell y gallai anelu at neilltuo 2 y cant o'r arwynebedd tir i gynhyrchiant garddwriaethol fod yn arf polisi. Dyma sy'n ofynnol er mwyn i Gymru gynhyrchu'r llysiau sydd eu hangen i gyflawni pum dogn y dydd, ond credaf y dylai'r cynnydd mewn garddwriaeth ddod o ganlyniad i arferion prynu lleol. Mae cynlluniau a chamau gweithredu y gallwn fwrw ymlaen â hwy: meithrin mwy o safleoedd ar gyfer marchnadoedd bwyd; datblygu rhwydwaith o hybiau bwyd; creu gerddi perlysiau a llysiau cymunedol; gwneud perllannau o fannau gwyrdd segur sy'n eiddo i'r cyhoedd; cefnogi datblygiad proseswyr bwyd yng Nghymru; cyflwyno siarter bwyd a diod leol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod Cymreig lleol ac i helpu i hyrwyddo cynllun o'r fath i ddefnyddwyr; a datblygu llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ar gyfer ein holl etholaethau yma yng Nghymru. Caiff lleoliaeth ei hyrwyddo yn adroddiad y WWF hefyd.
Ffordd wych arall o gyflawni hyn yw drwy gaffael cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn methu olrhain tarddiad cynnyrch yn eu hofferyn cofnodi caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dychmygwch y gwahaniaeth y byddai gwariant caffael blynyddol o tua £78 miliwn ar fwyd a diod yn ei wneud pe bai'r eitemau a brynir yn tarddu o Gymru. Yn wir, mae fy mholisi a fy angerdd sy'n rhoi bwyd o Gymru a lleoliaeth yn gyntaf yn cymryd eu lle'n dda yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol. Er enghraifft, drwy ail-leoleiddio ein cynhyrchiant a'n defnydd o fwyd, a hyrwyddo cadwyni cyflenwi byrrach, gallwn ddod yn gyfrifol yn fyd-eang. Gallwn helpu diwylliant ac iaith Cymru i ffynnu, a gallwn greu Cymru iachach.
Yn ystod seminar ffair aeaf NFU Cymru, roedd hi'n amlwg fod potensial enfawr i hybu busnes hefyd drwy werthu ein cynnyrch cynaliadwy i'r byd. Mae enghreifftiau, wrth gwrs, yn cynnwys allforio i Tsieina, sydd, o ganlyniad i brinder protein yn eu deiet, bellach mewn sefyllfa dda i fewnforio cig oen o Gymru. Mae potensial allforio yn un rheswm pam ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor. Gallai Llywodraeth Cymru helpu'n fawr drwy gyflwyno targed statudol ar gyfer gwella oes silff cig oen o Gymru, fel y gall gystadlu'n well â Seland Newydd.
Yn olaf, rwy'n rhoi croeso gofalus i'r galwadau am gomisiwn, ond hoffwn i Blaid Cymru egluro pam na ddylem droi at fwrdd y diwydiant bwyd a diod fel modd o arwain ar strategaeth system fwyd. Yn bwysig, gallai'r naill ddull neu'r llall alluogi'r weledigaeth i gael ei chydgynhyrchu rhwng y Llywodraeth, ffermwyr, busnesau bwyd a rhanddeiliaid eraill. Fodd bynnag, mae hon yn enghraifft arall eto o broblem fawr yn y Senedd a'r Llywodraeth hon: trafod a pheidio â chyflawni. Nid yw 'Bwyd o Gymru, Bwyd i Gymru 2010-2020' erioed wedi cael ei weithredu'n llawn. Yn 2018—
Bydd yn rhaid i chi ddod â'ch cyfraniad i ben.
Yn 2018, daeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i'r casgliad fod angen gweledigaeth strategol ar gyfer sector bwyd Cymru. Byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw, a gobeithiwn y byddwch yn cefnogi ein gwelliannau. Diolch.
Credaf fod yn rhaid inni gofio pwysigrwydd enfawr y diwydiant bwyd a diod sydd yma yng Nghymru bellach. A dim ond i roi ychydig o enghreifftiau, mae gan y diwydiant fel y mae—a gallem wneud cymaint mwy wrth gwrs—drosiant o £22.1 biliwn ac mae'n cyflogi 229,000 o weithwyr yn uniongyrchol, ac mae peth tuedd, weithiau, i feddwl nad yw'r rheini i gyd yn swyddi o ansawdd da ac nad yw'n sector i fod eisiau gyrfa ynddo, ond nid yw hynny'n wir, er bod llawer y gallwn ei wneud i wella ansawdd peth o'r gwaith hwnnw. Gall y diwydiant bwyd a diod fod yn lle gwych i bobl ifanc adeiladu gyrfa, a chredaf fod angen inni anfon y neges honno'n glir, a hynny ar draws y diwydiant, o'r cychwyn cyntaf, lle mae'r cynnyrch yn tarddu ar y fferm, yr holl ffordd drwodd i'r man lle rydym yn ei werthu. Fel y dywedodd Llyr, mae'n rhan hanfodol o'n heconomi, ond mae gymaint yn fwy na hynny hefyd.
Mae argyfwng COVID wedi dangos i ni i gyd, rwy'n meddwl, pa mor bwysig y gall cyflenwad bwyd lleol fod, a sut y mae'r system fwyd ddiwydiannol bresennol yn methu. Mae'n gwneud cam â chynhyrchwyr, mae'n gwneud cam â phroseswyr ac mae'n gwneud cam â'r rheini ohonom sy'n bwyta ac yn yfed y bwyd.
Cafwyd llawer o straeon adeg COVID, Lywydd, sydd wedi bod yn dorcalonnus i bob un ohonom, ond un a'm gofidiodd yn fawr oedd galwad ffôn gan ffermwr yn yr Hendy yn Sir Gaerfyrddin ar ddechrau'r argyfwng COVID, yn dweud ei fod yn gorfod arllwys ei laeth i lawr y draen am mai'r busnes lletygarwch oedd ei gwsmeriaid yn bennaf—siopau coffi ac yn y blaen—y tu allan i Gymru, ac roeddent wedi dweud wrtho nad oedd angen ei laeth arnynt. Ac roedd natur eu contract o'r fath fel ei bod yn eithaf anodd iddo ei werthu i unrhyw un arall. Ac yn waeth iddo ef a'i deulu, ychydig filltiroedd i fyny'r ffordd yn Llanelli, roedd teuluoedd yn colli gwaith, gyda mwy a mwy o deuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd, ac eto, ni allai hyd yn oed roi'r llaeth hwnnw am ddim i neb, am nad oedd unrhyw gapasiti i'w werthu ymlaen.
Wel, edrychodd teulu Beynon-Thomas yn hir ar hynny a phenderfynu na allent oddef hynny, ac mewn amser byr iawn, fe wnaethant droi un o'u hadeiladau allan yn ganolfan basteureiddio ar raddfa fach ac maent yn gwerthu llaeth drwy beiriant gwerthu llaeth, sydd yn rhywbeth nad oeddwn erioed wedi clywed amdano o'r blaen, rhaid i mi ddweud. Ac mae cymaint o fanteision i hynny. Gall pobl leol brynu cynnyrch lleol, ffres iawn, ac mae'r holl elw'n mynd yn ôl i'r fferm ac yna'n cael ei wario'n lleol. Dywedodd tad Ifan Beynon-Thomas, y ffermwr ifanc a sefydlodd y fenter hon, ei fod yn credu bod ei fab yn wallgof pan ddechreuodd siarad am beiriant gwerthu llaeth, ond nawr, gall ei dad weld yr elw'n mynd yn syth i'r fferm wrth gwrs. Maent wedi gwneud cystal fel eu bod bron â bod wedi talu eu dyled o fewn ychydig fisoedd ac maent ar fin creu swydd newydd oherwydd bod y galw wedi bod mor fawr fel na all Ifan ddal i fyny â hynny a'i holl gyfrifoldebau ffermio eraill. Ac mae hyn, i mi, yn enghraifft wych o'r hyn y gallem ei wneud, ar raddfa fach, ond mae'r galw wedi bod yn enfawr ac erbyn hyn mae'n gwerthu i fusnesau lleol hefyd, a gall ehangu ei gapasiti pasteureiddio. Ac mae'n cael rhoi llaeth am ddim; nid oes raid gwastraffu dim. Un enghraifft fach leol yw honno o'r hyn y gallwn ei wneud a'r hyn y mae angen i ni fuddsoddi ynddo.
Y mater arall a amlygwyd drwy argyfwng COVID yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yw pwysigrwydd caffael cyhoeddus a chaffael cyhoeddus lleol. Rydym i gyd yn cofio—soniais am hyn yn y Siambr o'r blaen—y blychau bwyd ar gyfer ein cyd-ddinasyddion sy'n gwarchod a oedd yn cael eu prynu gan gwmni mawr ledled y DU. Roedd rhywfaint o'r bwyd yn anaddas a pheth ohono wedi pydru hyd yn oed. Pan oedd yr ail rownd—ac nid wyf yn beio'r Llywodraeth yn yr argyfwng am fynd am un cyflenwr mawr—ond pan oedd ail rownd y blychau bwyd hynny'n gallu mynd allan, roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gallu defnyddio Castell Howell, cyflenwr bwyd lleol yn Cross Hands; roedd ansawdd y cynnyrch yn llawer gwell ac roedd yn llawer mwy priodol i'r bobl yn y cymunedau hynny ac wrth gwrs, mae'r holl arian hwnnw wedyn yn cael ei ailgylchu mewn swyddi lleol ac yn y gymuned leol. Rhaid inni—ac mae eraill wedi crybwyll hyn—atal gwariant y sector cyhoeddus ar fwyd rhag llifo allan. Mae 45 y cant o'r hyn y mae ein sector cyhoeddus yn ei wario ar fwyd yng Nghymru—ac fel y mae eraill wedi dweud, mae'n swm o dros £70 miliwn y flwyddyn—yn mynd allan o Gymru. Rhaid inni allu lleihau hynny.
Lywydd, nid yw'r system fwyd ddiwydiannol yn gweithio fel y mae. Mae'n gadael pobl mewn tlodi bwyd. Rwy'n llawn canmoliaeth i'r hyn y mae'r gwirfoddolwyr mewn banciau bwyd lleol yn ei wneud, ond rwy'n llawn cywilydd fod yn rhaid i bobl ddibynnu ar fanciau bwyd yn un o wledydd cyfoethocaf y byd, ac mae Llyr Gruffydd wedi crybwyll tlodi bwyd. Mae ein cynhyrchwyr bwyd yn aml yn fregus fel busnesau; yn aml, ni allant werthu ar y gyfradd—ni allant hyd yn oed wneud elw. Ac rydym yn wynebu budrelwa gan rai o'r cwmnïau mawr iawn, a phan edrychaf ar yr hyn y mae rhai o'r archfarchnadoedd a rhai o'r cyfanwerthwyr mawr eraill yn ei dalu i'n ffermwyr, nid wyf yn ymddiheuro am ddefnyddio'r gair 'budrelwa'.
Fel y dywedodd Llyr, mae'n rhaid inni alinio'r holl fentrau bwyd. Mae pob un ohonynt yn gadarnhaol ynddi'i hun, ond mae angen iddo fod yn gyson. Mae angen comisiwn traws-sector i ddatblygu cynllun tuag at bolisi bwyd cynhwysfawr sy'n cyflawni i bob un ohonom.
Hyd yn hyn, mae pawb wedi siarad cryn dipyn am COVID a'r hyn y mae wedi'i ddweud wrthym, ond nid oes neb wedi sôn am yr eliffant yn yr ystafell, sef diwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, sy'n digwydd mewn llai na mis. Yn yr amser byr hwnnw, mae'n bosibl y byddwn yn wynebu'r chwyldro mwyaf aruthrol yn ein cadwyni cyflenwi bwyd, a fydd yn gwneud i giwiau archfarchnadoedd mis Mawrth edrych fel te parti mewn cymhariaeth.
Felly, rwy'n glir fod cynllun gweithredu diwedd cyfnod pontio Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod ffrwythau a llysiau yn debygol o gael eu tarfu—rydym yn hoffi meddwl am Brydain fel gwlad werdd a dymunol, ond caiff y rhain eu mewnforio'n bennaf o'r UE, yn enwedig yn y gaeaf. Ni fyddwn yn newynu, ond bydd y dewis yn gyfyngedig, mae prisiau bron yn sicr o godi, ac ysbytai, cartrefi gofal ac ysgolion, yn ogystal â'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, sydd hefyd wedi cael eu heffeithio waethaf gan y pandemig, yw'r rhai sy'n debygol o ddioddef fwyaf o brinder bwyd ffres.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau glas i weithio gyda busnesau bwyd i osgoi argyfwng, dywedir wrthym, ac rwy'n siŵr yr hoffem wybod llawer mwy am hynny. Rwyf wedi ceisio cael gwybodaeth gan y pedair archfarchnad fwyaf yn y wlad, ond dywedant fod cyfrinachedd masnachol—neu dyna mae Tesco yn ei ddweud o leiaf—yn eu hatal rhag dweud wrthym beth yn union yw eu cynlluniau, o gofio nad yw eu model 'mewn union bryd' yn mynd i weithio yn y senario hon o gwbl.
Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi rhybuddio, er bod cynnydd wedi bod yn adrannau Llywodraeth y DU, ei bod yn dal yn debygol y bydd tarfu eang yn digwydd o 1 Ionawr. Mae Tŷ'r Arglwyddi wedi rhybuddio yn yr un modd; mae cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd y DU wedi rhybuddio hyn. Llywodraeth y DU a benderfynodd beidio â gofyn am estyniad i'r cyfnod pontio, oherwydd ei bod yn ymddangos bod y Maöyddion yn Llywodraeth y DU yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r newid mwyaf yn ein perthynas fasnachu yn yr amgylchiadau mwyaf anffodus, yng nghanol y gaeaf ac yng nghanol pandemig. Y brwdfrydedd hwnnw dros yr hyn y maent yn ei alw'n 'doriad glân' yw'r hyn a allai eu gweld eto'n mynd â ni dros ymyl y dibyn i adael yr UE heb gytundeb.
Gyda phedair wythnos i fynd cyn diwedd y cyfnod pontio, mae masnachwyr a darparwyr logisteg yn dal i aros am lawer o'r wybodaeth ac eglurder gan y Llywodraeth, ac maent wedi'u syfrdanu lawn cymaint ynglŷn â'r diffyg cysondeb ym mholisi'r Llywodraeth. Mae Duncan Buchanan, cyfarwyddwr polisi'r Gymdeithas Cludo Nwyddau, wedi dweud ei fod, o fis Ionawr ymlaen, yn disgwyl rhywbeth 'rhwng arswydus a thrychinebus.' Gallai gymryd hyd at wyth wythnos i nwyddau ddod i mewn ar lorïau pan fyddwn yn adfer rheolaeth ar ein ffiniau, ac mae'r holl dystiolaeth yn dynodi y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio beio pawb ond eu hunain am y sefyllfa hon.
Mae llythyr a ddatgelwyd yn answyddogol gan Weinidog Swyddfa'r Cabinet, Michael Gove, at sefydliadau logisteg, yn rhoi'r bai arnynt hwy ac yn dweud mai'r cwmnïau sydd ar fai am giwiau o hyd at 7,000 o lorïau drwy beidio â bod wedi paratoi. Mae'n tybio, pan fydd cerbydau nwyddau trwm yn sylweddoli y bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â'r rheoliadau newydd, y bydd y ciwiau'n diflannu dros amser. Mae'n siŵr mai dyna pam y maent yn adeiladu parc lorïau 27 erw yng Nghaint.
Mae'r rhybuddion hyn wedi dod gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach. Disgrifiodd un arbenigwr bwyd wrthyf, 'Nid oes dim yn barod, ni fydd dim yn gweithio. Disgwylir y bydd system gyfan mewnforio ac allforio'n chwalu, ac ar ben tywydd gwael a COVID, bydd yn drychineb a grewyd gennym ni ein hunain.'
Felly, mae'n rhaid canolbwyntio ar hyn nawr. Mae rhai awgrymiadau rhagorol yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan y WWF, ond rhaid inni wneud rhywbeth nawr. Rhaid inni sicrhau ein bod yn cynyddu ein garddwriaeth yn aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grantiau bach o rhwng £3,000 a £12,000 i wneud hynny, ac mae Gweinidog yr economi wedi darparu dros £400,000 o grant economi sylfaenol ar gyfer tyfu mewn amgylchedd rheoledig, a elwir hefyd yn hydroponeg. Mae'n ymddangos i mi mai dyna'r union fath o beth sydd angen i ni ei ddatblygu nawr.
Mae angen inni atal awdurdodau lleol rhag gwerthu ffermydd sirol, sy'n un o'r ffyrdd y down o hyd i newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth, oherwydd mae arnaf ofn fy mod yn anghytuno â Janet Finch-Saunders y gallwn ddal ati gyda'r un hen system sydd gennym ar hyn o bryd, a sicrhau na all pobl fod mewn unrhyw ffordd—. Mae angen iddynt—. Mae angen i ffermwyr gynnal cynhyrchiant; ni allwn danseilio hynny. Mae'n rhaid i ni newid y ffordd rydym yn gwneud pethau, oherwydd ein hargyfwng natur heb sôn am unrhyw beth arall, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod gennym fwyd lleol i bobl leol, er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr enillion iechyd cyhoeddus y mae angen i ni eu gweld yn ystod y cyfnod nesaf.
Felly, bydd y materion hyn yn cael eu trafod ymhellach yn y grŵp trawsbleidiol ar fwyd yfory, ac yn amlwg, byddwn yn awyddus iawn i weld unrhyw un ohonoch sy'n gallu dod draw, a sicrhau bod gennym bolisi bwyd gwell ar gyfer ymdrin â'r materion hyn yn y chweched Senedd.
Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r sector bwyd, ond yr hyn yr hoffwn siarad amdano yn gyntaf yw'r effaith y mae diffyg bwyd yn ei chael ar ormod o bobl yn ein cymdeithas. Oherwydd, er mai'r DU yw'r seithfed economi gyfoethocaf yn y byd, mae gormod o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd fforddio'r bwyd sydd ei angen arnynt i gadw'n iach, ac mae hynny'n effeithio nid yn unig ar iechyd corfforol pobl, eu bywiogrwydd a'u cryfder, ond hefyd eu hiechyd meddwl, eu gorbryder, eu lefelau straen a'u hwyliau.
Rhwng 2017 a 2018, roedd 20 y cant o bobl Cymru yn poeni ynglŷn â mynd yn brin o fwyd, a bu'n rhaid i 14 y cant fynd yn brin o fwyd yn y lle cyntaf cyn y gallent fforddio prynu mwy. Mae arnaf ofn fod y ffigurau hyn yn debygol o fod wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd effaith y feirws ar lefelau cyflogaeth. Rydym eisoes wedi clywed yn y ddadl hon am yr angen i sicrhau bod cadwyni cyflenwi'n dal i weithio fel bod y sector yn addas i'r diben. Rhaid inni hefyd ystyried effaith gadwyn cyflenwadau nad ydynt yn mynd yn ddigon pell. Mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a darparodd Ymddiriedolaeth Trussell 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni. Nawr, rwy'n diolch i Ymddiriedolaeth Trussell a'u gwirfoddolwyr am yr hyn y maent yn ei wneud, ond fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones, mae rhywbeth gofidus iawn am gymdeithas lle ceir dibyniaeth ar fanciau bwyd neu lle mae angen parseli bwyd brys. Dyna pam y byddem ni ym Mhlaid Cymru yn darparu taliadau wedi'u targedu i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi, gan gyflwyno taliad plentyn o £35 yr wythnos ar gyfer y 65,000 o blant yng Nghymru sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Lywydd, rwyf wedi siarad yma am yr enghreifftiau mwyaf eithafol, er ei bod yn sefyllfa sy'n ddinistriol o gyffredin—hynny yw, pobl sy'n ei chael hi'n anodd fforddio bwyta digon. Ond i aelwydydd eraill, mae'r mater yn ymwneud mwy â gallu fforddio bwyd maethlon o ansawdd da. Mae'r Sefydliad Bwyd wedi canfod bod 160,000 o blant yng Nghymru yn byw ar aelwydydd lle mae deiet iach yn anfforddiadwy. Gwn fy mod yn dyfynnu ystadegau o'r adroddiad sydd wedi'u dyfynnu sawl gwaith eisoes yn y ddadl hon, ond mae 28 y cant o blant yn ordew ac nid yw 94 y cant yn cael pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Mae'r problemau wedi cael eu hailadrodd o'r blaen—caiff bwydydd rhad sydd wedi'u prosesu'n helaeth eu hyrwyddo'n eang, ac rwy'n gweld—. Mae strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach' Llywodraeth Cymru wedi dechrau ceisio mynd i'r afael â hyn, ond mae'n mynd i'r afael ag ef mewn seilos—y pwynt y rhybuddiodd Llyr Gruffydd yn ei gylch ar ddechrau'r ddadl hon. Nid yw'n edrych ar effaith marchnata a hysbysebu bwyd, cynhyrchu na chostau byw. Rhaid inni fynd i'r afael â'r malltod hwn er lles teuluoedd ledled Cymru. Ond mae'n mynd yn llawer ehangach na hyn. Fel y dywed yr adroddiad a gomisiynwyd gan y WWF y buom yn ei ddyfynnu, mae problemau yn y system fwyd yn effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd, ar iechyd y cyhoedd a lles economaidd, ac yn hollbwysig, ac rwy'n dyfynnu, maent yn llesteirio ein gallu i ffynnu fel cenedl yn awr ac yn y dyfodol.
Mae system fwyd sy'n gweithio'n dda, sy'n canolbwyntio ar gynnyrch lleol a chadwyni cyflenwi moesegol tynn, yn hanfodol er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ddiogelu eu hiechyd, diogelu eu bywoliaeth, heb sôn am ddiogelu ein planed. Ond ar hyn o bryd, mae'r system fwyd fyd-eang yn frith o rwystrau ac fel y dywed yr adroddiad unwaith eto, ac rwy'n dyfynnu, mae arferion cynhyrchu, dosbarthu a defnyddio camweithredol...yn peryglu iechyd, yn cyfrannu at argyfwng natur ac argyfwng hinsawdd ac ansicrwydd bwyd.
Nawr, Lywydd, rwy'n gwybod fy mod eisoes wedi sôn am bwysigrwydd peidio ag edrych ar fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd drwy seilos; mae'r un egwyddor yn wir am sut y dylem edrych ar gynhyrchu bwyd. Mae ein system fwyd wedi'i hintegreiddio ledled y DU a thrwy fasnach, mae gennym gysylltiadau rhyngwladol. Nawr, mae Jenny Rathbone wedi nodi sut y mae hyn ar y naill law yn creu llawer o heriau oherwydd rhagolygon Brexit, a Brexit 'heb gytundeb' yn enwedig, ac yn wir, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ei gadw mewn cof yn y ddadl hon. Ond fel y nododd Llyr hefyd, mae natur integredig y system yn rhoi cyfle i ni. Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gallwn ddefnyddio hyn i arwain y byd gyda pholisïau bwyd sy'n gynaliadwy ac yn gyfrifol yn fyd-eang.
Mae wedi codi'n anochel yn y ddadl wrth gwrs, fel gyda chymaint o faterion—mae pandemig COVID-19 wedi gwneud yr angen i wneud y newidiadau hyn i'n system fwyd hyd yn oed yn fwy hanfodol. Mae gennym gyfle nawr i greu system yng Nghymru sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, system sy'n foesegol ac sy'n adeiladu ar ein statws fel Cenedl Masnach Deg. Gallwn fuddsoddi yn sgiliau ein cymunedau i gefnogi cynhyrchiant bwyd lleol; gallwn greu Cymru fwy cyfartal i sicrhau bod pob dinesydd yn gallu bwyta'n iach. Mae gennym y cyfle hwn, Lywydd, i adeiladu system gynhyrchu a dosbarthu bwyd sy'n diwallu anghenion pawb heb ddwyn oddi ar fyrddau cenedlaethau'r dyfodol—gadewch inni ddefnyddio'r cyfle hwnnw nawr.
A gaf fi ddweud cymaint o bleser yw cymryd rhan yn y ddadl hon? Credaf fod y cyfraniadau cyn fy un i wedi bod yn rhagorol; gobeithio y gallaf ychwanegu rhywbeth atynt. Ond mae yna rywbeth rwyf wedi cytuno ag ef yng nghyfraniad pawb hyd yn hyn. Ceir rhai pethau rydym yn anghytuno yn eu cylch, ac rwyf am fynd ar drywydd y pwynt sydd newydd gael ei wneud. Ceir rhai rhannau da yng nghyfraniad fy nghyd-Aelod Ceidwadol, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith y dylem wneud mwy na chanolbwyntio ar gynhyrchiant yn unig. Mae cynhyrchiant yn bwysig o ran tir fferm, ond nid dyna'r stori lawn. Rwyf am droi hyn wyneb i waered i raddau, a chanolbwyntio ar yr hyn rydym yn ceisio'i gyflawni â bwyd a'r system fwyd. Rhaid imi ddweud, cafwyd rhai syniadau a strategaethau a chynlluniau gwirioneddol gryf dros nifer o flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi meddu ar rai o'r cynlluniau integredig, mwyaf arloesol a chydlynol gorau—Llywodraeth flaenorol Cymru, gyda llaw—ond ni wnaed gwaith dilynol trylwyr arnynt, a chaiff rhai pethau eu tynnu i gyfeiriadau gwahanol. Felly, gadewch i mi ddweud y dylem droi hyn wyneb i waered i ryw raddau.
Gadewch i ni ddechrau o'r hyn rydym yn ceisio'i wneud gyda'r system fwyd gyfan, ac mae siaradwyr eraill wedi sôn am hyn hefyd. Sut beth yw gweledigaeth gyfannol o fwyd? Nawr, byddwn yn dweud bod rhai pethau a all fod yn sail i hyn, a bod digon o bethau da wedi'u hysgrifennu a'u trafod ar hyn, yn enwedig yma yng Nghymru, rhaid imi ddweud. Dylai ymwneud â hawl absoliwt i fwyd da. Wyddoch chi, drwy ddweud hynny mewn gwirionedd—a chyda llaw, mae pwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig wedi beirniadu'r DU am beidio ag ymgorffori'r hawl hon yn neddfwriaeth y DU—efallai y gallwn wneud rhywbeth yma yng Nghymru. Ond os ydych yn rhoi hawl i fwyd da i bawb—bwyd da, fforddiadwy, ecogyfeillgar a chynaliadwy—mae'n gyrru newid o fewn y system fwyd mewn gwirionedd. Yn sydyn iawn, mae gennych y pethau y mae pobl wedi bod yn sôn amdanynt, sef rhwydweithiau bwyd lleol lle mae'r wobr yn mynd i weithwyr yn y caeau ac i ffermwyr lleol ac i ffermydd cymunedol a dosbarthwyr lleol, ac yna rydych yn gyrru caffael lleol o'i gwmpas.
Os oes gennych hawl i fwyd da, yr hyn sydd gennych yw plant sy'n gadael yr ysgol wedi cael mwy na gwers neu ddwy ar sut i wneud pizzas ac yn y blaen, ac sy'n deall o ddifrif o ble y daw'r bwyd a sut i'w ddefnyddio, ac yna maent yn tyfu i fyny yn gallu defnyddio'r bwyd a'r cynnyrch sy'n dod o'r ardal o'u cwmpas, ac yn bwysig, byddwch yn datblygu diwylliant bwyd yma yng Nghymru sy'n wahanol iawn i rannau o'r diwylliant bwyd sydd gennym ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, rydym yn sgitsoffrenig braidd. Mae gennym beth o'r bwyd gorau yn y byd yma yng Nghymru, rhai o'r brandiau gorau, peth o'r cynnyrch lleol gorau, ac mae gennym y dull mecanyddol diwydiannol mawr hefyd. Nawr, os oes gennym yr hawl honno i fwyd, yr hyn y mae'n ei yrru yw balchder yn y bwyd lleol hwnnw, o ble y daw, a'r ffaith ei fod yn ymddangos ar eich bwrdd. Os edrychwch ar yr hyn a wnânt mewn lleoedd fel yr Eidal a Ffrainc, lleoedd fel yr Eidal—gogledd yr Eidal, o lle daw rhan o fy nheulu—mae'n gwbl sicr fod yn rhaid i'r bwyd a ddarperir ar fyrddau'r ysgol ac yn yr ysbytai ac yn y cyrff cyhoeddus fod yn fwyd ffres, lleol, heblaw lle nad oes modd ei ddarparu, ac felly gallant fynd i rywle arall. Mae wedi'i gynnwys yn y ddeddfwriaeth ac yn y blaen.
Felly, yr hyn y byddwn yn ei awgrymu yw bod rhan o hyn—caiff sylw yn rhan o brif gynnig Plaid Cymru, fe'i nodir ym mhrif gynnig y Llywodraeth hefyd—yn edrych ar beth yw'r weledigaeth gyffredin. Un peth y byddwn yn ei ddweud yn gryf iawn yw fy mod yn hoffi'r syniad sy'n sôn am ddod â ffermwyr, busnesau, cyrff cyhoeddus, cymdeithas sifil, ffermydd cymunedol, tyfwyr cymunedol at ei gilydd, fel ein bod yn gweld diwedd ar fwyd anfforddiadwy nad yw'n faethlon yn cael ei gludo o ben draw'r byd, bwyd sydd â phob math o ychwanegion ynddo, a'n bod yn datblygu gweledigaeth wahanol iawn ohono ac yna'n adeiladu ar hynny.
Hyn i gyd—a dyma fy mhwynt olaf—pe baem am wneud hyn, ac fe allem yng Nghymru, oherwydd rydym wedi dechrau gwneud rhannau ohono eisoes, fy mhryder i yw y gallai rhai o'r argymhellion ynghylch cynigion marchnad fewnol y DU a rhywfaint o'r diffyg eglurder ynghylch cyllid sydd i ddod i ni ar ôl yr UE lesteirio ein gallu i wneud hyn, oherwydd mae angen tipyn o arian yn y banc i wneud y math hwn o newid o ran y ffordd rydym yn defnyddio ein tir, yn gwobrwyo nwyddau cyhoeddus ar y tir, ac mae angen gallu arnoch hefyd i wneud pethau'n wahanol i wledydd eraill yn y DU i arwain y ffordd. Felly, rwy'n poeni ychydig ein bod ar fin cael ein tanseilio o ran ein gallu i greu patrwm gwahanol, ond fe allwn ei wneud yma yng Nghymru.
Mae cynigion y WWF yn dda iawn. Byddwn hefyd yn argymell y maniffesto bwyd i Gymru, sef agwedd dinasyddion tuag at ddatblygu bwyd, ac mae'n sôn am yr amgylchedd, y rôl rydym yn ei chwarae ar y llwyfan byd-eang yng Nghymru, y ffaith bod ffermwyr a thyfwyr yn ymateb i alw lleol, y ffaith bod y Llywodraeth yn cydnabod gwerth pwysigrwydd bwyd yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol, y rheini i gyd. Mae gennym y syniadau, os gallwn ddod â hwy at ei gilydd mewn gweledigaeth wedi'i chydgynhyrchu, bydd yn gyrru'r strategaethau hynny, ac os na wnawn hynny nawr am nad ydym yn credu bod gennym amser, gadewch inni ei wneud yn y Llywodraeth nesaf.
Y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i siarad, Lesley Griffiths.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl ar ran y Llywodraeth heddiw ac yn croesawu'r cyfraniadau niferus i'r adroddiad a welwyd yn y ddadl heddiw. Y mis diwethaf, cynhaliwyd sawl sesiwn fywiog ar bwnc bwyd yn ystod Wythnos Hinsawdd gyntaf Cymru, ac rydym wedi gweld ystod eang o gynigion yn ymwneud â bwyd yn cael eu cyflwyno yng ngwaith Cyfoeth Naturiol Cymru wrth gychwyn camau gweithredu i gefnogi adferiad gwyrdd. Bydd angen cynghreiriau eang i greu atebion ar gyfer bwyd teg a chynaliadwy yng Nghymru er mwyn llywio strategaeth system fwyd newydd Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar ymgynghoriad y llynedd. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu'n agos ag unrhyw grŵp yng Nghymru sy'n dod at ei gilydd i geisio cyflawni'r nod hwnnw.
Mae sawl Aelod wedi cyfeirio at dlodi bwyd a'r defnydd a welsom o fanciau bwyd, yn enwedig yn ystod y pandemig, ac mae dewisiadau gwleidyddol a wnaed gan Lywodraeth y DU wedi tanseilio cadernid y system fwyd yma yng Nghymru, ac mae eu polisi diwygio wedi cynyddu'r defnydd o fanciau bwyd. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o gefnogi'r banciau bwyd hynny ochr yn ochr â chymunedau a busnesau ledled Cymru, yn enwedig y rhai a gafodd eu llethu gymaint yn ystod y pandemig, a lle roedd amheuaeth ynglŷn â'u gallu i ateb y galw.
Yr wythnos diwethaf, penderfynodd Llywodraeth y DU amddifadu Cymru o fwy na £200 miliwn o gyllid datblygu gwledig, gan aberthu incwm a rhagolygon ein cymunedau gwledig. Rwy'n cytuno â Janet Finch-Saunders, dylem gefnogi ein ffermwyr a'n heconomïau a'n cymuned wledig, ac rwy'n gobeithio y bydd hi a'i chyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig yn ddigon dewr i ymuno â ni i alw am wrthdroi'r penderfyniad hwnnw.
Er gwaethaf y cyd-destun heriol hwn, gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau cynhyrchiant bwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru a dosbarthiad tecach o fanteision bwyd iach o ansawdd uchel y gall, ac y mae Cymru'n ei gynhyrchu. Ein hased cenedlaethol mwyaf pwerus wrth ymestyn cynhyrchiant a defnydd o fwyd i'r eithaf yng Nghymru yw ein ffermwyr, sy'n rheoli'r rhan fwyaf o'r tir yma yng Nghymru, ac fel y nododd yr Aelodau, byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn ar ddyfodol ffermio yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae rhai'n dadlau y dylem barhau â'r polisi taliadau sylfaenol o ran cymorth fferm, er nad yw wedi llwyddo i feithrin diwydiant neu amgylchedd amaethyddol gwydn, a dysgasom yr wythnos hon am gynlluniau Llywodraeth y DU lle na fydd angen dim mwy na'r safonau gofynnol isaf o reolaeth ar dir ar y lefel mynediad. Felly mae'n gynllun taliad sylfaenol mewn gwirionedd ym mhob dim ond enw.
Felly rydym yn dadlau nad yw'r cynigion hyn—a gwn eu bod yn cael eu cefnogi gan rai yn y Senedd—yn agos at fod yn ddigon. Nid ydynt yn dangos y difrifoldeb sydd ei angen i ateb heriau'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, ac nid oes ganddynt yr uchelgais sydd ei angen arnom i'n cynhyrchwyr bwyd gryfhau eu henw da rhyngwladol eithriadol mewn amgylcheddau masnachu heriol ac ansicr. Felly dyna pam, yn wahanol i rai, ein bod yn cynnig, nid parhau â chynllun y taliad sylfaenol, ond toriad radical, fel y nododd Huw Irranca-Davies, fel bod yr holl arian cyhoeddus a fuddsoddir yn y sector yn eu cynorthwyo i gyflawni mwy dros yr amgylchedd naturiol a gwneud eu busnesau fferm yn fwy cynhyrchiol a gwydn.
Rydym yn gweld enghreifftiau o arloesedd ym mhobman, ac fel Helen Mary Jones, eleni gwelais beiriant gwerthu llaeth am y tro cyntaf, allan yng ngorllewin Cymru. Credaf ei fod yn un gwahanol i'r un y cyfeiriodd ato, ond mae'n wych gweld y math hwnnw o arloesedd, yn enwedig gan ein ffermwyr ifanc ledled Cymru. Roedd yn agoriad llygad i weld ymdrechion busnesau bwyd yn ystod y pandemig, nid yn unig i ddod o hyd i ffyrdd dychmygus o barhau i fasnachu mewn ffyrdd sy'n ddiogel rhag COVID, ond hefyd i gyfrannu'n uniongyrchol at yr ymdrech i ymladd y feirws, darparu bwyd i'n gweithwyr allweddol a hyd yn oed addasu eu gweithgarwch at ddibenion gwahanol er mwyn cyfrannu cyflenwadau hanfodol eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £32 miliwn i gefnogi busnesau bwyd ers mis Mawrth. Lansiwyd ymgyrch Caru Cymru Caru Blas, a oedd yn cynnwys cannoedd o fusnesau'n dathlu cynnydd eithriadol y sector yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan sicrhau cynnydd o 38 y cant yn y trosiant rhwng 2014 a 2020. Un o'r ffyrdd rydym wedi cefnogi twf y sector yw drwy sefydlu'r rhwydwaith clystyrau bwyd, y rhwydwaith mwyaf o'i fath yn y DU, sy'n cysylltu busnesau ar hyd pob rhan o'r gadwyn werth. Rydym wedi creu mentrau gwerthoedd brand cynaliadwy, i gryfhau unwaith eto ymrwymiad y sector i faterion amgylcheddol ac i les gweithwyr a gwaith teg. Ceir llawer o fusnesau bwyd yng Nghymru sy'n enghreifftiau o'r math o system fwyd sydd ei hangen arnom yng Nghymru: cadwyni cyflenwi lleol, gweithluoedd cynyddol fedrus ac amrywiol, sy'n cyfrannu cymaint mwy i'n cymdeithas na'r bwyd o ansawdd uchel y mae Cymru'n datblygu ei henw da rhyngwladol yn gynyddol am ei gynhyrchu.
Yn ogystal â newid yn y sectorau bwyd a ffermio, rydym hefyd am ddenu mwy o bobl i dyfu a rhannu bwyd yn eu cymuned leol, a chyfeiriodd Jenny Rathbone at y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i arddwriaeth. Mae gennym ddwy her gyda chyfnod pontio'r UE yn dod i ben a COVID-19, ond rydym wedi parhau i gefnogi pobl, oherwydd gwelsom gynnydd yn ystod y pandemig yn nifer y bobl sy'n ymddiddori mewn natur ar garreg eu drws. Ac rydym wedi cefnogi dros 100 o fentrau tyfu bwyd cymunedol, mawr a bach, i ehangu'r ddarpariaeth o fwyd cymunedol sy'n tyfu ym mhob rhan o Gymru.
Cyfeiriodd Llyr Huws Gruffydd at wastraff bwyd yn ei sylwadau agoriadol, a'r mis diwethaf cyhoeddais fuddsoddiad ychwanegol o £13 miliwn drwy ymestyn cronfa'r economi gylchol ymhellach, a bydd y cyllid hwnnw'n cefnogi datblygiad cyfleusterau canol y dref, sy'n rhan o ymgyrch ehangach tuag at fwy o ailddefnyddio ac atgyweirio. Byddwn yn parhau i weithio i ddargyfeirio bwyd o wastraff ac annog datblygu rhwydweithiau bwyd a rhannu sgiliau lleol. Mae'r prosiectau hyn, y ceir llawer o enghreifftiau ohonynt yng Nghymru eisoes, yn gwneud bwyd iach yn fwy hygyrch a fforddiadwy, gan hyrwyddo cydlyniant cymdeithasol, galluogi gweithredu ar y cyd rhwng awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol, adfywio canol trefi, adeiladu ar ein cyflawniad ailgylchu sy'n arwain y byd a lleihau effaith amgylcheddol ein bwyd. Felly mae'n bwysig iawn ein bod yn dwyn ynghyd y safbwyntiau a'r elfennau gwahanol niferus mewn perthynas â system fwyd Cymru, a dylai mesur llwyddiant gynnwys edrych ar sut y mae'r rhain wedyn yn trosi'n newid gwirioneddol ar lawr gwlad.
Mae'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn cael eu harwain gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i ffordd o weithio, ac mae'r Ddeddf a'r nodau llesiant wedi'u hymgorffori mewn ymgynghoriad a gawsom y llynedd. Ac mae'r ddogfen gweledigaeth a chenhadaeth yn mynd i'r afael â llawer o'r materion a godwyd yn ystod y ddadl hon. Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders hefyd at fwrdd diwydiant bwyd a diod Cymru, ac maent wedi bod yn bartner allweddol wrth inni roi cymorth i'r sector bwyd a diod.
Felly mae'r system fwyd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei chefnogi yn un lle mae ein cymunedau'n chwarae mwy o ran yn y broses o'i llunio drostynt eu hunain. Mae angen newid er mwyn diogelu treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru a dosbarthu manteision yr amgylchedd naturiol cyfoethog yng Nghymru mewn ffordd sy'n decach nawr, heddiw, yn ogystal ag ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd yn awr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael trafodaeth adeiladol mewn ysbryd da, ond un sydd yn amlwg wedi tynnu sylw at nifer fawr o faterion sydd angen delio â nhw, a dwi'n falch iawn o'r cyfraniadau gan bawb.
Mi wnaf i jest ddelio â'r gwelliannau i ddechrau. Dwi'n ofni bod gwelliant y Llywodraeth wedi ein colli ni wrth gwrs ar ôl y ddau air cyntaf—sef 'dileu popeth'—sy'n biti, oherwydd, mae yna gymalau yn y gwelliant dwi'n cytuno yn llwyr â nhw, ond dwi ddim yn cytuno â nhw ar draul cynnig gwreiddiol Plaid Cymru, felly fyddwn ni ddim yn cefnogi hwnnw. Fydd hynny ddim yn syndod i'r Llywodraeth, dwi'n siŵr. Ond mae yna eironi hefyd fod y Llywodraeth yn gosod gwelliant yn galw ar y Llywodraeth i wneud rhai pethau, ond dyna ni; dyna yw natur y gwelliannau yma, am wn i.
Mi fyddwn ni'n hapus i gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n iawn bod angen pwyslais ar gefnogi bwyd a diod lleol a cydnabod rôl twristiaeth a hefyd hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor—mae hynny wrth gwrs yn allweddol—ond mae yna eironi yn hynny o beth, wrth gwrs, fod y Ceidwadwyr ar un llaw yn galw am hyrwyddo bwyd a diod tramor, tra ar yr un pryd wedyn yn ein tynnu ni allan o'r farchnad dramor fwyaf sydd gennym ni. Ond dyna ni, mae ambell Aelod arall wedi cyfeirio at Brexit yng nghwrs y ddadl.
Mae Janet Finch-Saunders yn iawn; mae ffermwyr yn agored i gyfran anghymesur o risg o fewn y system fwyd, ond eto, pa gyfran o risg Brexit fydd yn rhaid i ffermwyr Cymru ei hysgwyddo? Ond tynnodd sylw at alwadau am neilltuo 2 y cant o'r tir i arddwriaeth; rwy'n credu ei fod yn 0.1 y cant o gyfanswm arwynebedd ffermydd ar hyn o bryd. Ond unwaith eto, gwelsom 82 y cant yn fwy o alw am gynlluniau blychau bwyd y DU na'r hyn oedd ar gael yn ystod y pandemig diweddar, gyda rhestrau aros cyfartalog o 160 o bobl, felly mae gennym yr hinsawdd, mae gennym y pridd ffrwythlon, mae gennym agosrwydd at ardaloedd poblog iawn. Credaf fod potensial enfawr yn hyn, ac mae angen inni wneud mwy.
Cyfeiriodd Helen Mary Jones at enghraifft yr Hendy o werthu llaeth yn uniongyrchol. Mae'n debyg ei fod yn cyfateb i'r blwch llysiau ym maes cynnyrch llaeth, onid yw? Ac mae'n ymwneud â chadw'r bunt leol honno, a ddaeth â ni at gaffael cyhoeddus, a gwneuthum y gyfatebiaeth o'r blaen fod ein heconomi leol yn rhy aml fel bwced sy'n gollwng, gyda nifer o dyllau ynddo, lle mae'r holl werth lleol yn llifo allan o'r gymuned leol, ac mae angen inni lenwi'r tyllau hynny gystal ag y gallwn, ac yn sicr mae gan fwyd ran fawr i'w chwarae yn hynny.
Fe'n hatgoffwyd eto gan Jenny am Brexit hefyd, ac mae 96 y cant o allforion cig coch yn mynd i'r UE. Ac fe'n hatgoffwyd gan Kevin Roberts, cadeirydd Hybu Cig Cymru, yn y seminar y soniodd Janet amdani'n gynharach y byddai canlyniad 'dim cytundeb' yn golygu cwymp o 30 y cant yn y prisiau wrth gât y fferm. Felly, mae'r cyfan yn y fantol ac mae amser yn brin; 28, 29 diwrnod o nawr, ac nid ydym yn gwybod o hyd beth sydd o'n blaenau.
Diolch i Delyth hefyd. Mae'n ystadegyn llwm iawn, onid yw, fod traean o blant yn byw mewn tlodi? Gadewch i ni oedi a meddwl am hynny. Traean o blant yn byw mewn tlodi. Mae sicrhau bod ganddynt fwyd yn un peth, ond mae sicrhau bod ganddynt fwyd iach yn her arall ar ben hynny. Ac wrth iddi siarad, cefais fy atgoffa o erthygl yn y British Medical Journal ychydig flynyddoedd yn ôl yn rhybuddio bod yr argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf—yn amlwg heb wybod bod coronafeirws ar ei ffordd—ond gallai'r argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf yn hawdd ymwneud â maethiad plant. Yn y DU. Nawr mae hynny'n dweud rhywbeth wrthym am y math o gymdeithas rydym yn byw ynddi ar hyn o bryd, onid yw, a'r math o her sydd o'n blaenau mewn perthynas â bwyd?
Huw, credaf eich bod wedi taro'r hoelen ar ei phen mewn gwirionedd: beth rydym yn ceisio'i gyflawni o'r system fwyd? Efallai na ddylai fod wedi cymryd 20 mlynedd o ddatganoli i ni ofyn y cwestiwn hwnnw i ni'n hunain, ond rydym yn ei ofyn, ac rydych yn iawn, fe gafwyd mentrau, ond efallai nad ydynt mor gynhwysfawr, ac nad ydym yn mynd ar eu trywydd mor frwd ag y dylem fod wedi gwneud. Wel, gadewch i'r ddadl heddiw nodi'r foment pan wnawn y penderfyniad hwnnw, pan wnawn yr addewid hwnnw i bobl Cymru, i'r traean o blant sy'n byw mewn tlodi, y byddwn yn mynd i'r afael â hynny. Ac os yw'n golygu hawl i fwyd da i bawb, boed hynny fel y bo: gadewch i ni wneud hynny. Gadewch i ni ei wneud. Ac rwy'n rhannu ei bryderon am effaith y Bil marchnad fewnol a chyllid ar ôl yr UE hefyd, a allai ein llesteirio, ond credaf fod angen inni fod yn fwy penderfynol a sicrhau ein bod yn gwneud ein gorau glas i gyflawni hyn.
Mae angen system fwyd ar Gymru sy'n cysylltu'r dotiau'n well rhwng yr holl wahanol agweddau y mae'r Aelodau wedi cyfeirio atynt heddiw. Mae'n dasg gymhleth; nid oes neb yn gwadu hynny. Nid yn unig fod angen dull gweithredu cydgysylltiedig o fewn y Llywodraeth—dull gweithredu mwy cydgysylltiedig o fewn y Llywodraeth—ond hefyd ym mhob rhan o'r system fwyd. Rwy'n credu y gallai comisiwn bwyd helpu i lunio hynny neu fynegi'r ffordd orau y gallem wneud i hynny ddigwydd, ond wrth gwrs, po gyntaf y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef, y cynharaf y gallwn ddod â mwy o fanteision cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, iechyd ac amgylcheddol i bobl Cymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Fe fyddwn ni nawr yn cymryd pum munud o doriad er mwyn paratoi ar gyfer y cyfnod pleidleisio. Toriad, felly.