7. Dadl Plaid Cymru: Hinsawdd a bioamrywiaeth

– Senedd Cymru ar 30 Mehefin 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Darren Millar. 

Photo of David Rees David Rees Labour 4:43, 30 Mehefin 2021

Yr eitem nesaf yw eitem 7, dadl Plaid Cymru: hinsawdd a bioamrywiaeth. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7725 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019.

2. Yn nodi y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) yn cyfarfod yr hydref hwn i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang.

3. Yn credu y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.

4. Yn cydnabod yr angen i gau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol a grëwyd drwy adael yr UE.

5. Yn datgan argyfwng natur.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol;

b) deddfu i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:43, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pan fyddwn yn meddwl am y byd naturiol, rydym yn meddwl am ddigonedd, onid ydym—coedwigoedd toreithiog, mynyddoedd epig, afonydd byrlymus. Ond mae'r byd naturiol yn cynnwys ecosystemau cyd-ddibynnol, cadwyni bwyd a chynefinoedd sy'n plethu ac yn cydgysylltu, a phan ddechreuwch gael gwared ar unrhyw ran ohono, mae'n cael effaith annileadwy ar y cyfan.

Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno'r ddadl heddiw oherwydd ein bod yn credu bod yna argyfwng natur sy'n cydfodoli ochr yn ochr â'r argyfwng hinsawdd, ac onid awn i'r afael â'r argyfyngau hyn gyda'i gilydd, ni fyddwn yn goresgyn y naill neu'r llall ohonynt. Ond Ddirprwy Lywydd, er bod gennym dargedau ar gyfer allyriadau carbon, nid oes mecanwaith cyfatebol ar gyfer byd natur, dim targedau i olrhain sut y byddwn yn cyfyngu ar faint o fioamrywiaeth sy’n cael ei cholli ac yn gwrthdroi hynny. Ac wrth sôn am y pwynt hynny, hoffwn roi’r holl ffigurau, targedau, acronymau, a geiriau technegol i un ochr am funud, gan fod hynny’n gwneud i rai pobl golli diddordeb. Yr hyn rydym yn sôn amdano yw bywyd planhigion, bywyd anifeiliaid, y prydferthwch sy’n gwneud ein cenedl a’n byd yn syfrdanol, yr hyn sy’n gwneud i feirdd greu barddoniaeth, sy’n gwneud i gantorion ganu, y tir rydym wedi’i etifeddu, ac y gobeithiwn ei drosglwyddo ymlaen i genedlaethau’r dyfodol. Mae’n rhywbeth y sy'n werth brwydro drosto. Mae’n rhywbeth sy’n werth ei ddiogelu a’i feithrin, a sicrhau ein bod yn ei warchod a’i ddathlu.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:45, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Ond, gan droi’n ôl at y targedau hynny, oherwydd maent yn chwarae rhan bwysig— mae targedau'n gosod y cywair a'r cyfeiriad—sut y mae'r dirwedd honno'n edrych yn rhyngwladol? Daeth targedau'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol i ben yn 2020; roeddent yn dargedau byd-eang i wrthdroi colli bywyd gwyllt a dirywiad yn yr amgylchedd naturiol, a chadarnhaodd y Cenhedloedd Unedig ein bod ni i gyd wedi methu'n llwyr â’u cyflawni. A phan fyddwch yn methu cyflawni targed fel hwnnw, nid yw'n aros yn ei unfan—mae'r golled honno, y dirywiad hwnnw, yn parhau i ddigwydd yn gyflym. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu. Mae gennym rwymedigaeth yn awr i ailosod targedau bioamrywiaeth ac i ategu'r rheini â buddsoddiad, gyda chynlluniau ar gyfer atebion ar sail natur, prosiectau i ganolbwyntio ar adfer rhywogaethau a newidiadau a fydd yn blaenoriaethu cynefinoedd gwyrdd a glas iach ledled Cymru.

Heddiw, rwy'n falch o gael fy mathodyn hyrwyddwr rhywogaethau gyda mi: fi yw hyrwyddwr rhywogaethau'r gardwenynen feinlais, un o lawer o rywogaethau yng Nghymru y mae eu niferoedd wedi lleihau dros yr ychydig ddegawdau diwethaf. Oherwydd colli cynefin, am fod pobl yn torri gweirgloddiau blodeuog neu'n adeiladu arnynt, mae niferoedd y wenynen hon yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 90 y cant ers y 1970au. Erbyn hyn, mae gan wastadeddau Gwent yn fy rhanbarth un o'r unig boblogaethau a geir ar yr ynysoedd hyn, a dyna pam ei bod mor bwysig nad yw gwastadeddau Gwent a safleoedd eraill o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cael eu defnyddio ar gyfer ffermydd solar, neu ffyrdd yn wir. Dyna pam fod y gwaith y mae Cyfeillion Gwastadeddau Gwent yn ei wneud mor bwysig.

Nawr, yn anffodus mae'r gardwenynen feinlais ymhell o fod ar ei phen ei hun fel rhywogaeth sydd mewn perygl. Canfu'r adroddiad ar sefyllfa byd natur yn 2019 fod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Dyna 10 y cant o'n planhigion, 36 y cant o famaliaid a 5 y cant o infertebratau fel gloÿnnod byw, malwod a gwenyn. Ac unwaith eto, rwy'n gwybod y gallwn i gyd fynd ar goll neu gael ein gorlethu gan y ffigurau weithiau, y canrannau, a gwrando ar y rhestrau hyn—yr hyn y mae'n ei olygu yw bod ecosystemau cyfan yn cael eu peryglu. Mae rhywogaethau o loÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant yng Nghymru ers 1976, ac mae mamaliaid fel y wiwer goch a llygod y dŵr mewn perygl o ddiflannu. Mae poblogaethau draenogod wedi gostwng 60 y cant ers 1995, o fewn fy oes i, ac mae niferoedd y llinos werdd drawiadol wedi gostwng 71 y cantl. Nawr, ers y 1970au, mae 73 o rywogaethau wedi'u colli yng Nghymru; maent wedi mynd, ac mae cyflymder y difodiant hwnnw'n cynyddu.

Nawr, y trychinebau hyn, y trallod hwn—ni sydd ar fai. Mae colli natur yn cael ei lywio gan weithgareddau dynol fel rheolaeth amaethyddol, trefoli ein tirweddau, llygredd afonydd, llygredd aer, rheoli coetiroedd. Oes, mae yna ffactorau eraill: newid hinsawdd—rhywbeth rydym ni, unwaith eto, yn cyfrannu ato—yn ogystal â rhywogaethau estron goresgynnol. Ond wrth inni gyfrannu tuag at y dirywiad, rydym hefyd yn dioddef o ganlyniad iddo. Mae natur yn darparu ein cynhaliaeth a'n bwyd, ein hegni a'n meddyginiaethau. Mae'r adroddiad asesu byd-eang ar fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystemau, sydd unwaith eto'n deitl hir, ond mae'n cydnabod bod colli natur yn cyfrannu at dlodi, at iechyd y cyhoedd a gwrthdaro. A byddwn yn ychwanegu annhegwch sy'n pontio'r cenedlaethau at y rhestr honno. Rydym yn dwyn rhywogaethau na fyddant byth yn cael rhannu'r byd â hwy oddi wrth genedlaethau'r dyfodol. Rydym yn eu hamddifadu o deimladau o ryfeddod, o lawenydd, ar y blaned hon, heb sôn am gwestiwn moesoldeb a’r ffaith nad oes gennym hawl i ddinistrio'r byd naturiol.

Felly, Ddirprwy Lywydd, beth sy'n rhaid digwydd? Mae'n hen bryd inni ddatgan argyfwng natur yng Nghymru, ac fel y mae ein cynnig yn nodi, yn sgil y datganiad hwnnw, mae'n rhaid felly i Lywodraeth Cymru gyflwyno targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth a dechrau cynllunio sut i adfer yr hyn a gollwyd. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i sefydlu corff llywodraethu annibynnol i Gymru. Nawr, nodaf fod gwelliant y Ceidwadwyr yn galw am gydweithrediad ac wrth gwrs, mae cydweithredu'n hanfodol ar y mater hwn, ond ni ellir mynd i'r afael â'r argyfwng ar sail y DU. Mae Bil Amgylchedd y DU yn sôn am swyddfa diogelu'r amgylchedd ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon yn unig. Mae gan yr Alban ei chorff safonau amgylcheddol ei hun. Mae angen i ni yng Nghymru gyflwyno ein deddfwriaeth sylfaenol ein hunain, ein strwythur llywodraethu ein hunain, felly mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil natur, Bil llywodraethu amgylcheddol—beth bynnag y dewiswch ei alw—gwneud iddo weithio, sicrhau ei fod yn cwmpasu targedau natur, gwneud iddo sefydlu corff llywodraethu cadarn yn lle'r amddiffyniadau a gollwyd ar ôl inni adael yr UE, sicrhau bod yr holl bortffolios gweinidogol, yn enwedig amaethyddiaeth a newid hinsawdd, yn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn, a sicrhau y gellir dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif os ydynt yn gweithredu mewn ffyrdd nad ydynt yn cyd-fynd â’r nod o wrthdroi colli bioamrywiaeth.

Mae Croeso Cymru yn gwneud llawer o'n golygfeydd ysblennydd yn ei hysbysebion, ac mae'n defnyddio'r slogan 'Find Your Epic'. Oni bai ein bod yn datgan argyfwng natur yng Nghymru heddiw, oni bai ein bod yn trin yr argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu gyda'r un ymdeimlad o frys, ac oni bai ein bod yn cymryd y camau a nodir yn ein cynnig i wrthdroi'r dirywiad, ni fydd unrhyw beth 'epig' i'w gael ar ein bryniau cyn bo hir. Bydd yr holl harddwch, yr holl fywyd hwnnw, yr holl amrywiaeth wedi ei golli. Dywedodd Jules Renard:

'Nid oes nefoedd ar y ddaear, ond mae yna ddarnau ohoni.'

Gadewch inni chwarae ein rhan i sicrhau bod jig-so natur yn cadw ei gyfoeth, ac nad yw'r darnau sy'n ffurfio'r jig-so mawreddog hwn o'r byd naturiol yn mynd ar goll am na allem drafferthu eu hachub.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:51, 30 Mehefin 2021

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y cyfle i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ar lywodraethu amgylcheddol ers i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:

'gweithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur.'

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:52, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy'n cynnig y gwelliannau, diolch, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar AoS.

Pan wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd tua dwy flynedd yn ôl, roeddem i gyd yn gobeithio fel Aelodau y byddai hyn yn sbarduno ton o weithredu gartref yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Fodd bynnag, nid oeddem yn disgwyl cyfres o fethiannau ar gychwyn cynnydd o'r fath. Nid oeddem yn disgwyl i argyfwng ac adferiad natur gael eu hanwybyddu. Mae peth o'r diffyg gweithredu hwnnw'n cynnwys y ffaith nad yw capasiti solar ffotofoltäig Cymru ond wedi cynyddu llai nag 1 y cant ers 2019, pum prosiect ynni dŵr newydd yn unig a gomisiynwyd yn 2019, ac mae cynlluniau ynni dŵr preifat bach ar ymyl y dibyn yn awr oherwydd penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i dynnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl. Er bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu at ddisgwyliad oes byrrach a marwolaethau, hyd at gyfanswm sy'n cyfateb i hyd at 1,400 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn, rydym i gyd yn gwybod bod y Prif Weinidog a'i Lywodraeth wedi methu cyflawni'r Ddeddf aer glân a addawyd yn y maniffesto. Yn wir, bydd y Gweinidog newydd yn gwybod bod y sector pŵer wedi dominyddu'r gostyngiadau mewn allyriadau, ac yn benodol, cau gorsaf bŵer Aberddawan. Felly, mae taer angen gweithredu ledled Cymru. Roedd hyd yn oed yr adroddiad ar y rheoliadau newid hinsawdd yng Nghymru 2021 yn nodi

'Yn awr, rhaid troi’r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant.'

Cawsom ein hatgoffa o hyn yn ddiweddar, gyda'r trydydd asesiad o risgiau newid hinsawdd yn datgelu

'Mae sgôr frys 26 o risgiau newid hinsawdd yng Nghymru wedi cynyddu.'

Mae'r rhain yn cynnwys y risgiau i rywogaethau tiriogaethol a chynefinoedd o ganlyniad i blâu, pathogenau a rhywogaethau goresgynnol, gyda bylchau mewn polisi megis diffyg monitro gwell, unrhyw fesurau gwyliadwriaeth ac ymateb cynnar; y risg i amaethyddiaeth a choedwigaeth o ganlyniad i blâu a phathogenau a rhywogaethau goresgynnol; methiant grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru i gyfeirio'n benodol at risgiau penodol sy'n ymwneud â newid hinsawdd neu gamau ymaddasu i reoli risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â phlâu a phathogenau ar gyfer iechyd anifeiliaid a gedwir; a'r risg i rywogaethau a chynefinoedd morol a physgodfeydd yn sgil amodau hinsawdd sy'n newid, gyda pholisi cyfredol nad yw'n cynnwys camau gweithredu manwl gyda chanlyniadau penodol ar gyfer y sector morol, cynlluniau ar gyfer cynnydd, nac adroddiadau sy'n cydnabod maint y risgiau newid hinsawdd sy'n ein hwynebu.

Yn sgil yr enghreifftiau diweddar iawn hyn, ni ddylai fod unrhyw amheuaeth fod yn rhaid inni ddatgan argyfwng natur hefyd bellach. Mae'n rhaid inni wneud hyn, wrth ystyried bod yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diweddaraf wedi canfod bod y duedd gyffredinol yn dangos dirywiad difrifol. Fel y mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi amlygu, gydag ystod mor eang o ysgogiadau, ni allwn fynd i'r afael â'r argyfwng natur fel atodiad i'r argyfwng hinsawdd yn unig. Yn wir, mae gan fesurau newid hinsawdd botensial i niweidio natur, megis plannu coed mewn mannau amhriodol a seilwaith ynni adnewyddadwy wedi'i leoli'n wael.

Felly, rwy'n falch o alw am weithredu penodol ar golli bioamrywiaeth. Mae Plaid Cymru yn gywir; dylem ddilyn penderfyniad Llywodraeth y DU a chyflwyno gofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Yn yr un modd, bydd Aelodau'n gwybod o'r Senedd ddiwethaf fy mod wedi rhoi fy nghefnogaeth yn llawn i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru. Bydd Llyr Gruffydd, Mike Hedges, Jenny Rathbone a Joyce Watson yn cofio ac yn deall o'n gwaith pwyllgor blaenorol y gellid ystyried pwynt 4 yn un direidus, a bod y bwlch wedi'i achosi yn sgil gohirio trefniadau hirdymor gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n erfyn arnoch i gefnogi gwelliant 1. 

Yn yr un modd, byddai'n aeddfed i bawb ohonom gefnogi gwelliant 2 a gweithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adferiad natur. Nid yw natur yn ymwybodol o unrhyw ffin ar ynysoedd Prydain. Yn wir, rwy'n obeithiol iawn y gellir cyflawni cydweithrediad domestig o'r fath, a chydweithrediad rhyngwladol o bosibl hyd yn oed eleni, diolch i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol COP15.

Rwyf am ddirwyn i ben drwy gyfeirio at waith Jason Singh, sy'n credu y byddem yn rhoi mwy o sylw i blanhigion pe baem yn gallu eu clywed. Yng Ngerddi Kew, mae wedi creu seinweddau yn seiliedig ar y signalau trydanol a gynhyrchir o fewn planhigion wrth iddynt ymateb i'w hamgylchedd, a'u trosi'n seinweddau arallfydol i ni eu clywed. Mae 'Extinction Songs' yn rhoi llais i natur sy'n galw arnom i weithredu'n gadarnhaol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y datganiad o argyfwng natur heddiw yn sbarduno cresendo o weithredu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn, yn hytrach na nodyn drwg, fel y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r argyfwng hinsawdd hyd yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.   

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:57, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud wrth Delyth Jewell, a gyflwynodd y ddadl hon yn enw Siân Gwenllian, gymaint rwy'n croesawu hyn? Ac mae'n teimlo, nid yn unig fel pe bai yna gonsensws trawsbleidiol yn tyfu erbyn hyn, ond bod momentwm go iawn y tu ôl i'r argyfwng newid hinsawdd, yr argyfwng natur a'r argyfwng bioamrywiaeth hefyd. A dylai hynny fod yn galonogol i'r Gweinidog, a siaradodd yn gynharach heddiw mewn digwyddiad a fynychwyd gan Llyr ac eraill ar y ffordd rydym yn diogelu'r gorau yn ein hamgylchedd morol, yn ogystal â manteisio'n gynaliadwy ar yr amgylchedd morol hefyd. Siaradodd y Gweinidog yn huawdl iawn yn ei sylwadau yn y ddadl honno, ond rwy'n falch iawn o'r ffaith bod gennym, mor gynnar yn y chweched Senedd, y momentwm cynyddol hwn i fod eisiau gwneud y peth iawn, dilyn y dystiolaeth, gan wneud y penderfyniadau caled ac anodd weithiau, a gwelaf fod y Gweinidog, Lee Waters, newydd ymuno â ni ac fe fydd yn gyfarwydd iawn â hynny o'r cyhoeddiadau wythnos yn ôl ar yr adolygiad ffyrdd hefyd: dilyn y dystiolaeth, dilyn y data newid hinsawdd, y data bioamrywiaeth. 

Wrth gwrs, mae hefyd yn dod yn sgil cynnig a gyflwynwyd yn y lle hwn ar 15 Mehefin ac a gydlofnodwyd gan Llyr a Janet a Jane Dodds, cynnig a gyfeiriai at y COP15 nesaf—Cynhadledd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol—ac a alwai ar

'Lywodraeth Cymru i gefnogi canlyniad llwyddiannus yn nghynhadledd COP15 drwy egluro ei chefnogaeth i darged byd-eang ar gyfer atal a dechrau gwrthdroi'r broses o golli bioamrywiaeth erbyn 2030 a sicrhau adferiad sylweddol erbyn 2050, ac ymrwymo i adlewyrchu hyn mewn cyfraith ddomestig, gan ymgorffori targedau ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd.'

Ac wrth gwrs, adlewyrchir hynny'n gryf iawn yn y cynnig sydd o'n blaenau heddiw.

Ond mae maint yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud wedi bod yn hysbys ers cryn dipyn o amser ac mewn gwirionedd, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gydnabod hefyd. Pan aethant ati i ddiweddaru'r cynllun gweithredu adfer natur, roedd yn cydnabod mewn sylwadau rhagarweiniol fod yn y fframwaith ôl-2020 ar gyfer cynllun strategol y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol hyd at 2050

'ychydig iawn o dargedau Aichi 2020 sydd wedi'u cyflawni a bod bioamrywiaeth yn dal i ddirywio.'

Roedd yn cydnabod:

'Fe wnaeth adroddiad yr Intergovernmental Science-Policy Platform on Biodiversity and Ecosystem Services...yn 2019... ddisgrifio colli bioamrywiaeth fel perygl cynddrwg â'r argyfwng hinsawdd', ac mae hynny wedi'i ymgorffori yn y cynnig hwn yma heddiw. Ac wrth gwrs, tynnodd sylw hefyd at yr angen i fynd i'r afael â'r bwlch llywodraethu ar ôl gadael yr UE. Ac ar wahân i'r agweddau gwleidyddol ar hyn, gwyddom fod risg amlwg o fwlch llywodraethu yn aros, wedi inni adael yr UE. Nid pwynt gwleidyddol yw hwn; mae'n bwynt realiti pragmatig y mae angen inni fynd i'r afael ag ef, ac mae'n cyfeirio at yr angen i newid y ffordd rydym yn ymdrin â rheoli tirwedd yma, drwy ffermio cynaliadwy hefyd, a byddwn yn dod at hynny yn ystod y Senedd hon.

Ond cyfeiriodd hefyd at rai o'r camau gweithredu tymor byr sydd eu hangen ar frys. Mae'n dweud bod angen inni gydlynu'r ymatebion i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng bioamrywiaeth. Mae hynny o fewn y cynnig hwn heddiw. Rwy'n llwyr gefnogi hyn. Mae'n dweud bod angen inni fynd i'r afael â'r bwlch cyllido ar ôl gadael yr UE ar gyfer mesurau amaeth-amgylcheddol—mae'r Llywodraeth yn bwrw ymlaen â hynny; mae angen inni gefnogi hynny—a bod angen inni ddarparu cyfeiriad gofodol ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth. Nid yw cynnig atebion tameidiog bach neu gynlluniau peilot ac yn y blaen yn ddigon mwyach; mae angen inni wneud hyn ar raddfa fawr ac mewn meintiau gofodol mawr, er mwyn gwella cyflwr y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig, ar y tir ac ar y môr yn ogystal, ac archwilio mecanweithiau ariannu newydd a chynaliadwy, ac yn y blaen.

Felly, gwyddom fod yn rhaid inni fwrw ymlaen â hyn. Rwy'n croesawu'r geiriad yn fawr ynghylch cau'r bwlch llywodraethu amgylcheddol, ynghylch canolbwyntio ar Gynhadledd y Partïon i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol yn yr hydref, ynghylch targedau, oherwydd mae targedau'n bwysig. Mae peryglon bob amser gyda thargedau, eich bod yn dewis y targedau anghywir ac yn cael canlyniadau negyddol, ond credaf ein bod yn ddigon clyfar i oresgyn hynny. Rwy'n credu hynny o ddifrif. Mae ymrwymiad gan y Llywodraeth i'w wneud, ac mae'r gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy'r targedau hynny'n bwysig.

Felly, Weinidog, credaf fod y ddadl hon yn ddefnyddiol—mae'n wirioneddol ddefnyddiol—ac edrychaf ymlaen at eich ymateb, ond teimlaf fod momentwm trawsbleidiol yn awr y tu ôl i'r mathau hyn o newidiadau, sy'n dda i'w weld. Ni ddylid ei ystyried yn fygythiad i'r Llywodraeth; dylid ei ystyried yn gymorth i'r Llywodraeth wneud y peth iawn, dilyn y dystiolaeth, a gwneud penderfyniadau anodd iawn weithiau hefyd.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:02, 30 Mehefin 2021

Fi ydy pencampwr llinos y mynydd—aderyn bychan, hardd, prin. Ond, diolch i waith adfer cynefin y llinos yn Eryri gan amaethwyr ac eraill, mae yna arwyddion fod y rhywogaeth ar gynnydd unwaith eto. Felly, mae gobaith. O gynllunio, o wneud y gwaith adferol, o weithio mewn partneriaeth, mae modd adfer rhywogaethau prin. Mae'r sefyllfa sy'n wynebu natur yng Nghymru a'r byd yn glir i bawb, ac mae'r ystadegau yn sobreiddiol. Mi fydd pob sector, pob cymuned, a phob cornel o Gymru yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan ddirywiad natur. A'r rhai fydd yn teimlo'r effeithiau fwyaf fydd ein plant a'n pobl ifanc—y genhedlaeth nesaf. 

Mae llawer o bobl ifanc yn pryderu am y dyfodol, ac mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth unrhyw wlad i gynnig atebion, i ddangos fod yr argyfwng natur yn cael ei gymryd o ddifri ac, yn bwysicach na dim, i osod allan y camau clir y gellid eu dilyn i oresgyn y sefyllfa. Drwy adfer natur a chaniatáu mwy o gyfleoedd i blant gael mynediad at natur, fe fedrwn ni gynnig ystod eang iawn o fuddiannau i'n plant a'n pobl ifanc ni, i'w haddysg, eu hiechyd a'u lles, ac yn bwysicaf oll, mi fedrwn ni gynnig gobaith am y dyfodol. Ond mae'n rhaid i ni atal y dirywiad drwy osod targedau cyfreithiol i wyrdroi dirywiad bioamrywiaeth, ac yna dilyn hynny drwy greu cynnydd gwirioneddol mewn bioamrywiaeth.

Yn ôl ymchwil gan Estyn, mae'r rhan fwyaf o ymarferwyr yn nodi bod dysgu yn yr awyr agored yn hyrwyddo ymgysylltiad a mwynhad plant mewn dysgu. Ond er bod yna fanteision hollol glir i blant a phobl ifanc yn deillio o'u cyswllt â'r amgylchedd naturiol, mae ymchwil wedi dangos bod faint o amser mae plant yn ei dreulio ar brofi byd natur yn dirywio, heb sôn am y ffaith bod natur ei hun yn dirywio ac yn crebachu ar draws y wlad, gan ei gwneud hi'n anoddach fyth i blant a phobl ifanc fwynhau'r byd naturiol. Ac yn waeth fyth, mae'r dirywiad mewn natur a'r diffyg mynediad at natur sy'n deillio ohono, yn effeithio ar blant mewn tlodi yn fwy na neb arall, gan waethygu anghydraddoldeb cymdeithasol ac o ran iechyd ac addysg.

Mae bioamrywiaeth yn dirywio, does dim amheuaeth am y ffaith yna, ond mi fedrwn ni wneud rhywbeth amdano fo. Mae'n rhaid diogelu llinos y mynydd, mae'n rhaid i ni adfer natur er budd pobl Cymru i'r dyfodol ac er budd dyfodol Cymru. Felly, rydyn ni'n galw ar y Gweinidog a'r Llywodraeth i wneud y peth cywir er budd natur, er budd addysg, er budd iechyd ein plant a phobl ifanc ac er budd y genhedlaeth nesaf, a'r ffordd ymlaen ydy gosod fframwaith cadarn efo ffocws ac amcanion clir drwy gyflwyno targedau adfer natur. Diolch yn fawr.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:06, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Gyda chweched Cynhadledd ar hugain y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd, COP26, i'w chynnal yn Glasgow o dan lywyddiaeth y DU ymhen pedwar mis, mae'r ddadl hon yn ailbwysleisio'r angen am sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth.

Mae gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig yn ailbwysleisio'r angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Llywodraeth y DU ar yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac adfer natur. Wedi'r cyfan, yn wahanol i bêl-droed, nid yw natur yn adnabod unrhyw ffiniau. Mae natur mewn argyfwng ledled Cymru. Er gwaethaf tirweddau godidog a golygfeydd hardd Cymru, mae bywyd gwyllt yng Nghymru yn dirywio'n ddifrifol. Canfu 'Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur 2019' fod un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru dan fygythiad o ddiflannu ac mae crynodeb diweddaraf yr 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' yn canfod bod cydnerthedd ecosystemau yng Nghymru yn dirywio yn unol â thueddiadau byd-eang.

Adlewyrchir y dirywiad hwn hefyd yn niferoedd y gylfinir yng Nghymru. Fel hyrwyddwr rhywogaeth y gylfinir yng Nghymru ers 2016, rwy'n gweithio gyda Gylfinir Cymru, menter gydweithredol rhwng asiantaethau'r Llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol, gan gynnwys undebau'r ffermwyr, a ffurfiwyd i geisio gwrthdroi dirywiad enbyd y gylfinir yng Nghymru—ymbarél ecolegol neu rywogaeth ddangosol. Mae'r DU yn cynnal hyd at chwarter poblogaeth nythu fyd-eang y gylfinir yn rheolaidd ac ystyrir bellach mai'r gylfinir yw'r flaenoriaeth gadwraethol bwysicaf yn y byd adar yng Nghymru a'r DU. Mae niferoedd nythu'n dirywio'n sylweddol yng Nghymru, i lawr 44 y cant dros y degawd diwethaf. Ar lefelau presennol y dirywiad, bydd y gylfinir wedi diflannu fel poblogaeth nythu yng Nghymru erbyn 2033 heb unrhyw ymyrraeth. Mater o flynyddoedd sydd gennym i achub y rhywogaeth eiconig a diwylliannol bwysig hon a'i llais arallfydol yn nhirlun Cymru.

Ym mis Mehefin 2019, mynychais yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar y gylfinir yn 10 Stryd Downing, ochr yn ochr ag uwch-adaregydd Cyfoeth Naturiol Cymru a rheolwr prosiect Curlew Country. Clywsom y bydd angen digon o adnoddau i gynghori, annog a chynorthwyo grwpiau o ffermwyr i ddod at ei gilydd i ddarparu, monitro a hyrwyddo'r gylfinir a bioamrywiaeth ar draws tirweddau, a bod angen deall y manteision lluosog i rywogaethau niferus o safbwynt cydnerthedd ecosystemau, diwylliant a threftadaeth naturiol y gellir ei gyflawni drwy weithgarwch cadwraeth y gylfinir. Clywsom hefyd fod plannu conwydd ar ucheldiroedd yn eang wedi arwain at golli cynefin enfawr ac nid y tir lle plannwyd y coed yn unig a arweiniodd at y dirywiad yn nifer yr adar; peidiodd y tir mewn ardal fawr o amgylch y goedwig â bod yn gynefin cynaliadwy i adar sy'n nythu ar y ddaear, gan fod y goedwig yn darparu gorchudd delfrydol i ysglyfaethwyr, llwynogod, brain tyddyn a moch daear yn bennaf.

Felly, rhaid i'r nod clodwiw o gynyddu coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru sicrhau bod gennym y coed cywir yn y lle iawn i ddiogelu bioamrywiaeth yn iawn. Mae'r adolygiad o fanteision bioamrywiaethol ac ecosystemaidd ehangach adfer y gylfinir a chymhwyso hynny i Gymru—adroddiad a gomisiynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru—yn datgan bod papurau wedi darparu amrywiaeth eang o dystiolaeth yn dangos y byddai adfer y gylfinir o fudd i rywogaethau lluosog, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, gan ategu ein dealltwriaeth o'r gylfinir fel rhywogaeth ddangosol. Er enghraifft, mae ysgyfarnogod yn rhoi genedigaeth ar wyneb y tir, tir fferm fel arfer, lle mae'r anifeiliaid ifanc yn aros heb symud, yn debyg i'r gylfinir, y betrisen, yr ehedydd neu'r gornchwiglen, sy'n dodwy eu hwyau mewn gwâl fas neu nyth ar dir fferm agored. Felly, mae'n ymddangos bod gweithgarwch cadwraeth sydd o fudd i adar sy'n nythu ar y ddaear hefyd yn cefnogi ysgyfarnogod er enghraifft.

Mae Gylfinir Cymru wedi bod yn gweithio ar gynllun gweithredu i Gymru ar gyfer y gylfinir, a gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo. Bydd yn nodi'r ardaloedd pwysicaf ar gyfer y gylfinir yng Nghymru ac yn pwysleisio pwysigrwydd cynllun ffermio cynaliadwy wedi'i gynllunio'n dda ac wedi'i ariannu'n dda, fel y gall ffermwyr wneud y peth iawn ar gyfer y gylfinir yn y lleoedd hyn. Mae cyrff anllywodraethol wedi croesawu cyllid ar gyfer y gylfinir sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ac CNC eleni, ond maent wedi tynnu sylw at y ffaith bod system gaffael Cyfoeth Naturiol Cymru a'r diffyg cyllid aml-flwyddyn yn golygu nad oedd yr arian ar gael ar gyfer y tymor nythu hwn, ac na fydd ar gael ar gyfer y nesaf ychwaith. At hynny, dim ond ar brosiectau cyfalaf y gellid ei wario, ond pobl sy'n mynd i achub y gylfinir a natur. Mae gwir angen sicrhau cydgysylltiad da a phobl ar lawr gwlad i gyflawni hyn. Mae gwerth cynhenid i natur, ond mae hefyd—

Photo of David Rees David Rees Labour 5:11, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

—yn chwarae rhan bwysig. Mae arnom ei angen ar gyfer y bwyd rydym yn ei fwyta, yr aer rydym yn ei anadlu, a'r dŵr rydym yn ei yfed. Rwy'n dod i ben. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng natur drwy ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth yn ystod blwyddyn gyntaf y Llywodraeth i osod targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith ar gyfer adfer natur er mwyn cyfuno ymdrechion ar draws y Llywodraeth a sectorau eraill i atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Diolch.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Fel y mae eraill wedi dweud, rydym yn prysur golli bioamrywiaeth yng Nghymru, gyda'r 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diweddaraf yn datgan bod y duedd gyffredinol yn dangos dirywiad difrifol, sy'n adlewyrchu sefyllfa fyd-eang argyfwng natur a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Ceir perygl o ddyfodol dystopaidd, gyda'r unig anifeiliaid a fydd yn goroesi yn anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm ac ysglyfaethwyr fel llygod mawr. A allai Kenneth Grahame ysgrifennu The Wind in the Willows heddiw, ac a yw plant yr oes fodern yn gwybod am yr anifeiliaid y mae'n sôn amdanynt? Cymerwch foch daear, nad yw llawer yn y Siambr hon yn eu hoffi, gan eu bod yn cael y bai am TB mewn gwartheg. Maent yn bwyta gwlithod, llygod a llygod mawr. Y perygl o golli ysglyfaethwyr ar frig y gadwyn fwyd yw y gall niferoedd yr anifeiliaid sy'n is i lawr y gadwyn fwyd gynyddu, fel y gwna cwningod, yn unol â'r Fibonacci. A ydych chi'n cofio Awstralia?

Mae colli bioamrywiaeth yng Nghymru yn cael ei yrru gan nifer o ffactorau a ysgogir gan bobl, gan gynnwys rheolaeth amaethyddol, newid hinsawdd, trefoli, llygredd, newid hydrolegol, rheoli coetiroedd a rhywogaethau estron goresgynnol, a'r mwyaf cyffredin ohonynt yn fy etholaeth i yw clymog Japan.

Mae angen deddfwriaeth sylfaenol ar frys i fynd i'r afael â'r bwlch a adawyd ar ôl yn y gwaith o oruchwylio a gorfodi cyfraith amgylcheddol o ganlyniad i adael yr UE. Yn anffodus, mae Cymru ar ei hôl hi o'i chymharu â holl rannau eraill y DU o ran sicrhau llywodraethu amgylcheddol effeithiol ar ôl Brexit. Ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i gyflwyno Bil llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol yn y chweched Senedd. Edrychaf ymlaen at y cyfle i bleidleisio drosto, a gobeithio y cawn ei weld yn fuan.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:13, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Mae canlyniad economaidd pandemig COVID-19 i'w deimlo ledled Cymru, a bydd i'w deimlo ar draws ein heconomi am flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, drwy fynd i'r afael â dirywiad bioamrywiaeth, gyda chyfres o dargedau clir ar gyfer cyflawni'r gwaith, gallwn greu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon ledled y wlad. Drwy fuddsoddi mewn natur, mewn adfer cynefinoedd a sgiliau gwyrdd, gallwn roi hwb i'r gweithlu a'r economi.

Canfu adolygiad diweddar Dasgupta fod ein heconomïau, ein bywoliaeth a'n llesiant i gyd yn dibynnu ar ein hased mwyaf gwerthfawr: natur. Mae ein hymgysylltiad anghynaliadwy â natur yn peryglu ffyniant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Pwysleisiodd yr adolygiad hefyd fod bioamrywiaeth yn rhan annatod o iechyd ecosystemau, a gallu ecosystemau i ddarparu manteision hanfodol i gymdeithas. Felly, mae colli bioamrywiaeth yn effeithio ar ein system cymorth bywyd.

Mae targedau adfer natur yn allweddol i sbarduno newid i economi sy'n gadarnhaol o ran natur. Fel y gwelwn gyda sero net, mae gan dargedau statudol rôl allweddol yn siapio buddsoddiad, nid yn unig ar draws y Llywodraeth ond ar draws sectorau. Mae grŵp Aldersgate, cynghrair o randdeiliaid lluosog sy'n cynnwys rhai o'r busnesau mwyaf yn y DU, wedi galw am reoleiddio amgylcheddol cryfach, wedi'i ategu gan dargedau amgylcheddol uchelgeisiol a chlir, i roi sicrwydd mawr ei angen i fusnesau yn hirdymor i wneud buddsoddiadau sy'n cynyddu cydnerthedd ac yn creu manteision economaidd a chyflogaeth posibl. Gallai buddsoddi mewn creu ac adfer cynefinoedd ar raddfa fawr gynnal miloedd o swyddi gwyrdd newydd a fyddai'n helpu i amsugno sioc economaidd y flwyddyn ddiwethaf. Bydd hyn hefyd yn helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau cadwraeth natur yng Nghymru i ateb anghenion y dyfodol ac yn y pen draw, i ddarparu'r sylfaen ar gyfer symud tuag at economi carbon isel sy'n gadarnhaol o ran natur.

Mae 150 o randdeiliaid o bob rhan o Gymru wedi datblygu cynnig ar gyfer gwasanaeth natur cenedlaethol, ac mae adroddiad gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar wedi amcangyfrif y gallai gwasanaeth natur cenedlaethol gefnogi hyd at 7,000 o swyddi gwyrdd yng Nghymru. At hynny, mae buddsoddi mewn atebion ar sail natur yn cynnig elw sylweddol ar fuddsoddiad. Yn ôl adroddiad gan Cambridge Econometrics i'r RSPB, mae pob £1 a fuddsoddir mewn adfer cynefin mawndir a morfa heli a chreu coetiroedd yn sicrhau £4.62, £1.31 a £2.79 o fudd yn y drefn honno. Drwy fuddsoddi mewn atebion ar sail natur, gallem wella ansawdd dŵr ac aer yn sylweddol, hybu ecodwristiaeth, atal llifogydd, storio carbon, a hybu bioamrywiaeth wrth gwrs, ynghyd â manteision eraill dirifedi. Ni allwn fforddio gwahanu ein heconomi oddi wrth natur; mae ein heconomi'n dibynnu arni ac mae'n bodoli o'i mewn.

Er mwyn sicrhau adferiad gwyrdd go iawn yng Nghymru, rhaid inni fuddsoddi mewn natur. Drwy gyflwyno targedau adfer natur sy'n rhwymo mewn cyfraith i adfer a chreu amrywiaeth eang o gynefinoedd yng Nghymru, gallem gyflawni ar ran yr economi, creu miloedd o swyddi tra'n cyflawni dros natur a dros yr hinsawdd. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif eisiau sicrhau adferiad gwyrdd, rhaid i fuddsoddi mewn natur fod yn darged blaenoriaethol absoliwt i ni. Byddai'n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer gweithredu i adfer natur, tra'n rhoi darlun clir hefyd ar gyfer creu swyddi yn y dyfodol a'r disgwyliadau i'n diwydiannau ein helpu i gyrraedd ein nodau amgylcheddol. Diolch yn fawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:17, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o fod yn hyrwyddwr rhywogaeth y wennol ddu ardderchog. Rwy'n cynrychioli'r etholaeth fwyaf trefol yng Nghymru, ac mae gweld a chlywed gwenoliaid duon yn un o ryfeddodau ein nosweithiau haf. Trelái yng Ngorllewin Caerdydd yw un o'u hoff leoliadau yn yr haf. Nododd arolwg yn 2019 14 o safleoedd nythu yn yr adeiladau hynny. Ni fu modd cynnal arolwg y llynedd, a bydd canlyniadau'r arolwg eleni ar gael ym mis Awst, ond mae gennym un darn o dystiolaeth gan aelod o'r RSPB a ddywedodd, 'Roeddwn yn Nhrelái ddechrau'r wythnos diwethaf, ac roedd llawer iawn o wenoliaid duon yn hedfan uwchlaw'r toeon'. Felly, rwy'n disgwyl i'r niferoedd nythu yno fod yn uchel. Os oes unrhyw waith adnewyddu ar eiddo'r cyngor neu gymdeithasau tai i ddigwydd yno, dylid ystyried gwenoliaid duon sy'n nythu a gosod blychau nythu. Byddai'n drueni mawr pe na bai cynllunwyr dinasoedd yn ymwybodol o bwysigrwydd yr ardal i wenoliaid duon. Rhaid iddynt gynnwys darpariaeth nythu yn eu gofynion ar gyfer datblygiadau perthnasol.

Er gwaethaf y dystiolaeth gadarnhaol honno, yn y categori oren y mae'r wennol ddu o ran statws cadwraeth ledled y DU. Yng Nghymru, cafodd ei gofnodi gan yr arolwg o adar nythu fel yr aderyn sy'n dirywio gyflymaf o ran ei niferoedd ers 1994. Mae'r niferoedd sy'n nythu yng Nghymru wedi gostwng i dri chwarter—dirywiad cyflymach nag ar draws y DU gyfan. Felly, beth yw'r rhesymau dros y dirywiad hwn? Ystyrir mai'r bygythiad allweddol yw colli safleoedd nythu pan gaiff adeiladau eu hadfer neu eu dymchwel. Anaml y bydd gwaith lliniaru'n digwydd, ac nid wyf yn ymwybodol o asesiadau effaith amgylcheddol sy'n digwydd sy'n rhoi sylw dyledus i hyn. Beth am y diffyg adnoddau bwyd i wenoliaid duon? Mae'n debyg fod y defnydd o bryfladdwyr yn cyfyngu ar niferoedd infertebratau hedegog sy'n fwyd iddynt.

Ar hyn o bryd, mae'r RSPB yn dweud nad oes tystiolaeth fod y dirywiad yn deillio o broblemau ar diroedd gaeafu yn Affrica i wenoliaid duon neu ar hyd eu llwybrau mudo. Gallai hynny newid gyda newid hinsawdd, ond am y tro, yn amlwg, yr hyn sy'n digwydd ym Mhrydain sydd ar fai, oherwydd nid yw rhannau eraill o Ewrop yn gweld yr un dirywiad. Felly, mae gwir angen inni fod o ddifrif ynglŷn â hyn. Rhaid gosod blychau gwenoliaid duon a briciau gwenoliaid duon fel mater o drefn ar bob adeilad newydd addas o uchel. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi bod yn edrych yn rhagweithiol ar hyn ac yn gweithio i'w ymgorffori mewn cyfraith gynllunio, a byddwn yn falch iawn o glywed pryd y gallwn wireddu hynny. 

Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gwbl ymwybodol o'r argyfwng natur. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn mynd i bleidleisio o blaid cynnig Plaid Cymru, ac mae hynny'n wych, ond nid yw datgan argyfwng natur yn mynd i fod yn ddigon. Bydd yn rhaid i bob un ohonom dorchi llewys er mwyn atal rhywogaethau cyfan rhag diflannu, rhywbeth sy'n anochel fel arall, ac ni allwn ganiatáu hynny er mwyn cenedlaethau'r dyfodol, fel y nododd Delyth Jewell eisoes. 

Rhaid inni droedio'n fwy ysgafn ar y ddaear hon. Amser cinio, clywais i a nifer o'r Aelodau eraill am y dinistr a achosir nid yn unig i'r tir, ond hefyd i'n cefnforoedd, a gwn fod y Gweinidog wedi mynychu'r digwyddiad hwnnw hefyd. Ar ôl i'r Gweinidog adael, soniais am y rhaglen ddogfen Seaspiracy, sydd ar y rhyngrwyd, ac sy'n gwbl erchyll. Rydym yn dinistrio ein cefnforoedd ym mhob rhan o'r byd, oherwydd trachwant yn y bôn, ac mae'n rhaid inni wneud rhywbeth am hynny. Nid wyf wedi fy argyhoeddi o gwbl fod cytundeb Llywodraeth y DU ar adael yr UE wedi gwneud y tamaid lleiaf o wahaniaeth i ddinistr ein moroedd o amgylch ein hynys, ac mae'n amlwg wedi lleihau ein gallu i berswadio pobl eraill, gwledydd eraill, i gydweithio er mwyn atal rhywogaethau cyfan rhag diflannu ar draws ein cefnforoedd.

Gallech ddadlau bod gadael marchnad rydd yr UE, ar ôl cau'r drws yn glep ar allu'r diwydiant pysgota i allforio i'r cyfandir, yn offeryn di-fin ar gyfer adfer bioamrywiaeth a gollwyd, oherwydd, os na allwch eu gwerthu, rydych yn annhebygol o'u pysgota o'r dŵr. Ond nid yw hynny'n gysur i fusnesau bwyd môr Cymru—

Photo of David Rees David Rees Labour 5:22, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

—fel y cynhyrchwyr cregyn gleision a dyfir ar raffau sy'n gweithredu busnes cynaliadwy heb ran yn y camfanteisio diwydiannol ar ddyfroedd Cymru gan fusnesau Ewropeaidd mawr, sy'n parhau. Edrychaf ymlaen at glywed sut y bydd y Llywodraeth yn ymdrin â'r mater sylweddol hwn.

Photo of James Evans James Evans Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth yn fy etholaeth i, sef Brycheiniog a Sir Faesyfed a ledled Cymru, o'r pwys mwyaf i'n hamcanion hirdymor i wella'r amgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r pleidiau ar draws y Senedd hon yn cytuno bod yn rhaid i ni wrthdroi colli bioamrywiaeth, a gweithio i sicrhau ein bod ar flaen y gad yn fyd-eang yn creu amgylchedd ffyniannus ar gyfer natur, er mwyn darparu safonau byw uwch i bobl Cymru a diogelu ein hamgylchedd.

Mae Brycheiniog a Sir Faesyfed yn fyd-enwog oherwydd parc cenedlaethol hardd Bannau Brycheiniog, sy'n rhedeg ar draws cefnen ddeheuol fy etholaeth, a chwm Elan i'r gogledd, sy'n drysor yng nghoron Cymru. Mae'n denu pobl o bob cwr o'r byd—o heicwyr i ferlotwyr, rhedwyr llwybrau a phobl sy'n ymddiddori ym myd natur. Mae cynnal a gwella'r amgylchedd yn hanfodol i'r economi a'r bobl sy'n byw yn fy nghymuned. 

Mae rhan gyntaf y ddadl hon yn galw am ofynion sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol. Mewn egwyddor, rwy'n cefnogi hyn at ei gilydd, ond byddaf yn ei chael hi'n anodd ei gefnogi os yw'r targedau a weithredir yn dod ar draul yr economi wledig a swyddi pobl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Rwyf eisoes yn gweld deddfwriaeth ffosffad benodol gan CNC yn effeithio'n enfawr ar adeiladu tai gwledig. Rhaid inni fod yn hynod ofalus i sicrhau'r cydbwysedd cywir.

Mae'r ddadl hon yn galw am sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol annibynnol i Gymru. Rwy'n credu mewn llywodraeth fach, ac ni chredaf y dylid gwario symiau enfawr o arian cyhoeddus pan allem weithio dros y ffin gyda Llywodraeth y DU yn fy marn i i reoli'r materion hollbwysig hyn. Nid mater i Gymru yn unig yw gwella a diogelu bioamrywiaeth, ond mater i'r DU gyfan.

Wrth iddynt gloi'r ddadl, rwyf am weld rhesymau cliriach gan y rhai a'i cynigiodd pam y dylid sefydlu'r sefydliad hwn yn annibynnol yng Nghymru, a pham na ellid ei rannu â Llywodraeth y DU mewn dull cydgysylltiedig go iawn o fynd i'r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Rwy'n pryderu y gallai ddod yn sefydliad arall a fydd ond yn gwastraffu arian ac yn cyflawni fawr ddim pan ellid defnyddio'r arian yn well mewn rhannau eraill o Gymru i wella'r amgylchedd. 

Fel y dywedais, rwyf o ddifrif yn awyddus i weithio ar draws y pleidiau yn y Siambr hon i helpu a gwella bioamrywiaeth a'n hamgylchedd, ac rwy'n croesawu sgyrsiau gyda'r pleidiau gyferbyn i weld sut y gallaf wneud hynny drwy gydol y Senedd hon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:25, 30 Mehefin 2021

Diolch am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Dwi'n ffodus fy mod i'n cynrychioli etholaeth sy'n gyforiog o fywyd gwyllt; meddyliwch am fforestydd glaw Celtaidd Maentwrog, llonyddwch Enlli neu Gors Barfog Cwm Maethlon. Mae'r ardal yn gartref i gasgliad rhyfeddol o fywyd gwyllt, o'r falwen lysnafeddog yn Llyn Tegid i lili'r Wyddfa, ond maen nhw o dan fygythiad.

Dwi am ganolbwyntio’n sydyn ar gyfraniad y cyhoedd a'r sector gwirfoddol, sy'n chwarae eu rhan wrth geisio sicrhau yr amrywiaeth naturiol godidog yma sydd gennym ni. Yn fy etholaeth i, mae Cymdeithas Eryri, sy'n elusen gadwraeth ar gyfer ardal Eryri, yn gweithio ym mhob tywydd i warchod a gwella ardal y parc cenedlaethol. Mae'r gymdeithas yn estyn allan i gydweithio mewn partneriaeth â chyrff eraill, fel awdurdod y parc, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac eraill i weithredu ei rhaglen Caru Eryri. Mae Caru Eryri yn ddibynnol ar wirfoddolwyr i gario allan y gwaith o glirio sbwriel, cynnal lwybrau a darparu cyngor cyfeillgar i helpu ymwelwyr i gael ymweliad diogel a chyfrifol, gan barchu'r cymunedau a bywyd gwyllt, a hynny ar draws ardal Eryri.

Mae'r gwirfoddolwyr yn gwneud y gwaith diflino a gwerthfawr yma rhwng mis Ebrill a mis Hydref, gan dderbyn hyfforddiant, offer a chefnogaeth er mwyn medru gwneud eu gwaith. Tu allan i'r misoedd yma, mae'r gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yma yn brysur gyda gwaith megis gwarchod ac adfer gwlypdiroedd, coedlannau a mawnogydd, a rheoli rhywogaethau ymledol. Mae'r fyddin yma o wirfoddolwyr yn cynrychioli miloedd o oriau o weithredu amgylcheddol yn flynyddol. Maen nhw'n gwneud hyn er mwyn gwarchod byd natur a mannau arbennig a'i gwneud hi'n bosib i bobl eraill a chenedlaethau'r dyfodol fwynhau godidogrwydd naturiol yr ardal arbennig yma.

Y rheswm dwi'n sôn yn benodol am Gymdeithas Eryri ydy er mwyn dangos bod y gweithredu sy'n digwydd ar hyn o bryd i warchod natur a bioamrywiaeth yn ddibynnol ar unigolion ac elusennau bach a mawr, lleol a chenedlaethol. Mae miloedd o wirfoddolwyr eraill yn gwneud gwaith tebyg i sefydliadau eraill hefyd, wrth gwrs. Ond fedrwn ni ddim dibynnu ar wirfoddolwyr i roi o'u gwirfodd yn unig. Maen nhw a'r elusennau a chymdeithasau yn y maes, megis Cymdeithas Eryri, yn disgwyl arweiniad cenedlaethol, ac i'r Llywodraeth weithredu hefyd.

Maen nhw'n croesawu'r gweithredu positif, lle mae Cymru'n cynorthwyo i arwain y ffordd, ond yr hyn y mae'r gwirfoddolwyr yma ac eraill am ei weld ydy'r Llywodraeth yn ymrwymo i dargedau clir ar gyfer adfer byd natur a deddfu er mwyn cau'r bwlch o ran rheolaeth amgylcheddol. Mae'r gwirfoddolwyr yn chwarae eu rhan, ond ble mae'r arweiniad? Maen nhw am weld y Llywodraeth yn gweithredu ar yr hinsawdd ac adfer byd natur. Ac ar ben hyn, yn ogystal â phenawdau a geiriau cynnes, maen nhw am weld tystiolaeth fesuradwy o effeithlonrwydd y gweithredoedd yma. Yn olaf, maen nhw am wybod faint mae'r rhai hynny sy'n gyfrifol am warchod yr amgylchedd yn atebol am eu gwaith. Mae'r bobl yma wedi dangos y ffordd; rŵan, mae'n rhaid i'r Llywodraeth gamu i fyny a gweithredu.

Photo of David Rees David Rees Labour 5:28, 30 Mehefin 2021

Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn, bawb, am gymryd rhan yn y ddadl. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i roi'r mater hwn gerbron y Siambr mor gynnar yn nhymor newydd y Senedd. Fel y mae pobl wedi dweud, ni fyddwn yn gwrthwynebu'r cynnig. Yn wir, rwy'n falch iawn o'i gefnogi. Wrth gwrs, rydym yn gosod newid hinsawdd a natur yn y canol yn holl benderfyniadau'r Llywodraeth newydd hon. Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n ein hwynebu. Yn fyd-eang, mae colli bioamrywiaeth yn dal i ddigwydd ar gyfradd frawychus, ac mae'r sefyllfa yng Nghymru yn debyg, gyda dirywiad cyflym ein rhywogaethau a'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr.

Serch hynny, Ddirprwy Lywydd, roedd yn galonogol gwrando ar nifer o'r Aelodau yn sôn am y rôl hyrwyddwr rhywogaethau sydd ganddynt. Gwn fod pobl yn falch iawn o'r rhywogaethau y maent wedi'u hyrwyddo, a soniodd nifer o Aelodau amdanynt. Yn bersonol, fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y wystrysen frodorol, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o weld ail-hadu'r gwelyau wystrys brodorol o amgylch Abertawe ac arfordir Gŵyr. Gwn mai fy nghyd-Aelod Lee Waters yw hyrwyddwr rhywogaeth y draenog, sy'n adnabyddus am fod yn ddangosydd ecosystem dda, ac yn ysglyfaethwr gwlithod a phlâu eraill yr ardd. Felly, rydym ninnau hefyd yn falch iawn o'n rhai ni. Rydym yn hapus iawn i weithio gyda'r hyrwyddwyr rhywogaethau ar draws y Siambr, ac rwy'n annog unrhyw Aelod newydd nad oes ganddo rywogaeth i'w hyrwyddo eto i fabwysiadu un cyn gynted ag y gallwch. Rydych yn dysgu llawer iawn am yr ecosystem sydd ei hangen i gynnal eich rhywogaeth a hefyd am y camau y gallwch eu cymryd er mwyn ei hyrwyddo.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:30, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Yn arbennig, ar y blychau gwenoliaid duon, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn eu cynnwys yn ein rhaglen dai arloesol. Mae gennym frics gwenoliaid duon yn mynd i fyny ar nifer o dai cymdeithasol ledled Cymru, ac rydym yn edrych—ac mae fy nghyd-Aelod Lee Waters yn enwedig yn edrych—ar fioamrywiaeth ar hyd llwybrau ffyrdd a llwybrau rheilffyrdd, gan gynnwys ymgorffori blychau gwenoliaid duon a blychau nythu eraill fel y bo'n briodol ar hyd y llwybrau hynny. Felly, gall y mathau hyn o gamau gweithredu wneud gwahaniaethau bach ond pwysig iawn yn y ffordd y mae adar mudol yn enwedig yn cael eu derbyn yng Nghymru. Ac rwy'n falch iawn o fod wedi'u gweld; dim ond yn ddiweddar iawn y gwelais wennol ddu yn fy ngardd fy hun, ac roedd yn olygfa hyfryd. 

Ac wrth gwrs, rydym wedi cydnabod yr argyfwng natur sy'n gwaethygu ac rydym ni, ynghyd â gweddill y byd, yn cydnabod yn llwyr nad ydym eto wedi gwneud digon o gynnydd tuag at y nod o wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Ac wrth gwrs, mae cysylltiad anorfod rhwng yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Mae'r naill yn deillio o'r llall. Newid hinsawdd yw un o'r prif ffactorau sy'n arwain at golli bioamrywiaeth. Gall newidiadau yn y tymheredd neu lawiad beri i gynefinoedd a rhywogaethau gael eu colli, gan leihau cydnerthedd yr ecosystemau yn gyffredinol. Nid yw'n fater o naill ai/neu, neu 'braf i'w gael'; mae cysylltiad cwbl annatod rhwng y pethau hyn. Gall colli bioamrywiaeth, yn enwedig mewn mannau fel mawnogydd, leihau gallu natur i storio carbon, gan waethygu newid hinsawdd mewn cylch dieflig cynyddol. Rhaid inni ymyrryd yn y cylch hwnnw a gwrthdroi'r newid. 

Nid yw hyn yn beth bach i'w ddweud, ac mae'n beth mwy fyth i'w wneud. Rydym i gyd yn gwybod hynny. Ond nid yw'n gwbl anobeithiol, ychwaith. Mae pethau y gallwn ac y dylem eu gwneud o hyd, ond nid yw'r rhain yn bethau hawdd ac nid ydynt yn bethau syml. A bydd yn rhaid i lawer ohonoch yma yn y Siambr ystyried eich blaenoriaethau penodol eich hun yn ofalus iawn yn ogystal â'r ffordd rydych yn ymddwyn, a Llywodraeth Cymru hefyd, oherwydd bydd angen inni wneud hyn gyda'n gilydd a gwneud y penderfyniadau anodd iawn hynny.

Felly, mae lleihau'r pwysau uniongyrchol ar natur yn sgil newid hinsawdd yn ogystal â llygredd a defnydd anghynaliadwy yn rhan annatod o'r camau sydd eu hangen i atal colli bioamrywiaeth. Fel Llywodraeth, rydym yn gweithredu i leihau'r pwysau mawr ar ein hecosystemau. Bydd hyn yn cynnwys gwella ansawdd dŵr, lleihau llygredd aer, datgarboneiddio a'r economi gylchol. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi'n sylweddol yn ein hamgylchedd naturiol i adfer a chreu rhwydweithiau ecolegol gwydn ledled Cymru. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn darparu'r manteision niferus y mae llawer o Aelodau wedi sôn amdanynt yn y ddadl heddiw, megis rheoli llifogydd, adfer pridd, dal a storio carbon a chaniatáu i rywogaethau symud, ac yn wir, i addasu i'r newid. 

Mae llawer o'n gwaith cyfredol yn cyfrannu at y rhwydweithiau natur hyn yn awr. Bydd cynllun Creu Coetir Glastir a'r goedwig genedlaethol yn cefnogi bioamrywiaeth drwy greu coetiroedd mwy cymysg, gan wella a chysylltu coetiroedd presennol wrth i ni fynd yn ein blaenau. Ac unwaith eto mae fy nghyd-Aelod, Lee Waters, wedi archwilio gweithgarwch plannu coed yng Nghymru yn fanwl i weld sut y gallwn sicrhau ein bod yn plannu mwy o'r coed cywir mewn mwy o'r mannau cywir cyn gynted â phosibl er mwyn gwella ein coetiroedd, gwella ein gallu i ddal a storio carbon ac wrth gwrs, er mwyn creu ein coedwig genedlaethol. 

Bydd y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndir hefyd yn gwella cydnerthedd ecosystemau mawndir ledled y wlad ac yn cyfrannu at liniaru effeithiau newid hinsawdd. Mae gennym brosiect ardderchog ar y gweill yng ngogledd Gŵyr, yn etholaeth fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, sef cynllun Cwm Ivy, lle'r ydym yn helpu i adfer y morfa heli yng ngogledd Gŵyr i greu tua 39 hectar o forfa heli yn sgil gorlif dros yr amddiffynfeydd môr yng Nghwm Ivy. Bydd y morfa heli newydd wrth gwrs yn helpu i ddarparu cynefin i wrthbwyso'r golled debygol o gynefin morfa heli yn y dyfodol oherwydd cyfuniad o gynnydd yn lefel y môr oherwydd newid hinsawdd a'r angen am amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd arfordirol ledled Cymru. Ac fel hyn, mae angen inni gael rhaglen integredig, o amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer ein cymunedau ond hefyd i liniaru'r effaith ar rywogaethau sydd angen y mannau rhynglanwol hyn i allu ffynnu. Wrth gwrs, mae morfeydd heli hefyd yn cyfrannu at ddal a storio carbon a nifer o wasanaethau ecosystem eraill. 

Y rheswm rwy'n dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, yw oherwydd nad yw'r economi a'n hecoleg, ein natur a'n hecosystemau yn gwrthdaro. Mae llawer o'r pethau rydym am eu gwneud i liniaru effeithiau newid hinsawdd ac i helpu i gynyddu ac adfer bioamrywiaeth hefyd yn helpu ein heconomi, a gall y pethau hynny fynd law yn llaw. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol nad yw'r Siambr hon yn eu gweld fel pethau sy'n gwrthdaro, fel dewis naill ai/neu, ond yn hytrach fel cyfanwaith integredig y gallwn gydweithio arno i sicrhau bod gan bobl swyddi'r dyfodol nad ydynt yn dinistrio ein planed.

Mae gennym gronfa rhwydweithiau natur, gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, i wella cyflwr, cysylltedd a chydnerthedd rhwydweithiau safleoedd gwarchodedig ar y môr ac ar y tir yng Nghymru i'w galluogi i weithio'n well wrth wraidd y rhwydweithiau natur—ardaloedd hanfodol o gydnerthedd ecolegol lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu. Rhaid i hyn fod yn ganolog i'n polisi rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i symud cymorth ariannol a ddarparwn ar gyfer amaethyddiaeth fel ein bod yn gwobrwyo ffermwyr yn iawn am y canlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol y maent yn eu cyflawni ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys dŵr ac aer glân wrth gwrs, dal a storio carbon a chreu ac adfer cynefinoedd gwerthfawr ar eu tir.

Rydym yn cydnabod hefyd mai rhan bwysig o fynd i'r afael â'r argyfwng natur a hinsawdd yw ymgysylltu a chyfeirio grym unigolion a chymunedau lleol i weithredu, a thynnodd Mabon ac eraill sylw yn dda iawn at yr hyn y gall cymunedau lleol ei wneud pan ddônt at ei gilydd yn eu hardal leol. Mae ein cronfa rhwydweithiau natur hefyd wedi'i chynllunio i greu rhwydweithiau o bobl sy'n cymryd rhan yn y safleoedd hynny, a gwneir hyn drwy gynyddu nifer ac arallgyfeirio canolfannau gwirfoddoli, cefnogi mentrau gwyddoniaeth dinasyddion, a chynlluniau hyfforddi megis Kickstart. Roeddwn yn meddwl bod enghraifft Mabon yn un dda iawn hefyd. 

Mae ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn annog pawb i ymgysylltu â natur, i werthfawrogi natur ac i greu natur ar garreg eu drws. Fel y nododd Siân, rhaid canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig cymunedau mwyaf difreintiedig Cymru a'r rhai lle nad yw natur yn hygyrch iawn iddynt, er mwyn sicrhau bod pob un o'n cenedlaethau iau, cenedlaethau'r dyfodol, yn ymwneud â'r amgylchedd naturiol. 

Mae buddsoddi yn ein hamgylchedd naturiol yn cyfrannu at ein huchelgais a nodir yn y rhaglen lywodraethu i adeiladu economi werdd gryfach. Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi datblygu sgiliau a swyddi gwyrdd, fel y dywedais. Fel gwlad fach, mae gennym uchelgeisiau ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng natur nid yn unig ar lefel leol, ond ar y llwyfan byd-eang hefyd. Rydym yn cefnogi datblygiad fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020 y confensiwn ar amrywiaeth biolegol, sy'n galluogi gweithredu beiddgar i sbarduno newid er mwyn atal colli bioamrywiaeth. Mae ein blaenoriaethau'n cynnwys prif ffrydio ystyriaeth o fioamrywiaeth ym mhob penderfyniad, cryfhau capasiti a gallu i weithredu atebion ar sail natur, a rhannu arferion gorau yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Rydym wrthi'n datblygu'r fframwaith monitro a dangosyddion ôl-2020, gan weithio gyda DEFRA ar lefel y wladwriaeth. Rydym yn rhagweld fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd gyda nodau a thargedau clir yn dilyn y confensiwn ym mis Hydref. 

Drwy broses Caeredin ar gyfer llywodraethau is-genedlaethol rydym wedi llofnodi datganiad Caeredin, sy'n galw ar bartïon i'r confensiwn i gymryd camau cryf a beiddgar i sicrhau newid trawsnewidiol. Mae hefyd yn cydnabod rôl hanfodol llywodraethau is-genedlaethol, dinasoedd ac awdurdodau lleol yn y broses o gyflawni'r weledigaeth honno. 

Ddirprwy Lywydd, gallwn barhau i siarad am tua 40 munud am yr holl bethau rydym yn eu gwneud, ond gallaf weld eich bod yn colli amynedd. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn fodd bynnag, a chredaf mai'r peth olaf rwyf am ei gyfleu i bobl yw bod angen inni gael corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru. Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer hynny, a byddwn yn edrych ar dargedau bioamrywiaeth, ond byddwn yn edrych ar y rheini yng nghyd-destun y fframwaith byd-eang, fframwaith y DU, ac i sicrhau nad oes gennym ganlyniadau anfwriadol yn sgil gosod targedau mewn maes penodol sy'n golygu bod meysydd pwysig eraill yn cael eu colli. Byddaf yn croesawu gwaith ar draws y pleidiau yn y Siambr hon i sicrhau ein bod yn gosod y targedau sy'n llywio'r camau gweithredu sy'n bwysig. Nid y targedau sy'n sbarduno'r newid, ond y camau gweithredu. Dull o fesur yn unig yw'r targedau—mae angen y camau gweithredu i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan lawn yn y gwaith o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ar y llwyfan byd-eang. Diolch. 

Photo of David Rees David Rees Labour 5:38, 30 Mehefin 2021

Galwaf ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, am ddadl wych yw hon wedi bod.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

Rwy'n diolch i Janet Finch-Saunders am ei haraith. Rwy'n cydnabod hefyd nad yw datgan argyfwng ar ei ben ei hunan ddim yn cyflawni digon, fel roedd y Gweinidog newydd ddweud. Dyna pham rŷn ni hefyd yn cynnig targedau ar lywodraethiant y pethau sydd angen cael eu gwneud, ond rwy'n hoffi'r ddelwedd o obaith a'r cresendo o weithredu yr oedd hi'n sôn amdano. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at y teimlad o gresendo, ymdeimlad cynyddol o gefnogaeth drawsbleidiol, ac rwy'n croesawu ei gefnogaeth yntau hefyd.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:39, 30 Mehefin 2021

Diolch i Siân Gwenllian am siarad eto am y gobaith sy'n dod o'r ffaith y gall y rhywogaethau prin gael eu hachub, a hefyd am siarad am ba mor bwysig yw hi i wyrdroi'r dirywiad er mwyn plant. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Fe'n hatgoffwyd gan Mark Isherwood am ffrâm ryngwladol ein dadl, wrth gwrs. Mae wedi bod mor wych clywed Mark, Siân, Jenny, Julie ac Aelodau eraill yn siarad am y rhywogaethau y maent yn eu hyrwyddo. I'r Aelodau ifanc—wel, i'r Aelodau newydd, dylwn ddweud, yn y Senedd, a allai fod yn genfigennus ynglŷn â'r holl rywogaethau y buom yn siarad amdanynt sy'n cael eu hyrwyddo, rwy'n siŵr y bydd Cyswllt Amgylchedd Cymru mewn cysylltiad cyn mis Medi. Mae yna raglen, a byddai'n wych pe gallai cynifer â phosibl ohonoch fod yn rhan ohoni.

Siaradodd Mike Hedges am y dyfodol dystopaidd posibl, lle na fydd plant yn adnabod yr anifeiliaid yn rhai o'n llyfrau mwyaf poblogaidd, ac roedd Luke Fletcher yn sôn sut y gallwn hybu'r economi drwy fuddsoddi mewn natur, a hybu ecodwristiaeth ac atal llifogydd. Dywedodd fod ein heconomi'n dibynnu ar natur ac yn bodoli o'i mewn. Clywch, clywch.

Nawr, cyflwynodd Jenny Rathbone safbwynt pwysig iawn i'r ddadl hon yn fy marn i: effaith trefoli ar fywyd gwyllt, yn benodol y gwenoliaid duon y soniodd Jenny amdanynt. Rwyf wrth fy modd gyda'r ymadrodd a ddefnyddiodd Jenny, 'Rhaid inni droedio'n ysgafnach ar y ddaear hon.' Am ymadrodd gwych yw hwnnw, ac yna'r persbectif gwrthgyferbyniol a gyflwynwyd gan James Evans am Fannau Brycheiniog. Nawr, James, rwy'n gobeithio bod modd i'r pwyntiau a wnaeth Luke yn gynharach leddfu rhywfaint ar rai o'r pryderon a fynegwyd gennych am yr economi wledig, ond rwy'n cydnabod bod hon yn ystyriaeth bwysig. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn dweud yr hoffech weithio'n drawsbleidiol ar hyn.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:40, 30 Mehefin 2021

Diolch, Mabon, hefyd am y cyfraniad am y natur godidog sydd yn Nwyfor Meirionnydd, Cymdeithas Eryri, ynghyd â phŵer cymunedau. Mae hynna'n elfen mor bwysig. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:41, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, yn olaf, i'r Gweinidog am gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Ymddangosodd gwenoliaid duon yng nghyfraniad y Gweinidog hefyd, a chredaf fod y pwynt a wnaeth y Gweinidog yn wirioneddol bwysig, nad peth bach yw dweud hyn, a'i fod hyd yn oed yn fwy o beth i'w wneud. Mae'n her bwysig, yn amlwg, fod angen inni wneud mwy na datgan argyfwng natur yn unig—rhaid inni gefnogi hynny drwy weithredu.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

Nawr, mae'n glir o'r cyfraniadau fod natur mewn argyfwng yng Nghymru, ond bod hefyd gennym ni gyfle nawr i newid hynny—cyflwyno targedau adfer natur sy'n gyfreithiol rwymol, fydd yn llywio buddsoddiad, monitro a gwelliant, canys heb ddeddfwriaeth yn y gorffennol, dydy'r targedau sydd wedi cael eu gosod ddim wedi cael eu gwireddu. Rwy'n deall safbwynt y Ceidwadwyr yma, ond buaswn i'n erfyn arnyn nhw i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio. Am ddatganiad clir fyddai hynny—bob plaid yn ein Senedd yn cefnogi.  

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:42, 30 Mehefin 2021

(Cyfieithwyd)

Nawr, o rai o'r cyfraniadau gwych a huawdl a gawsom heddiw, rwy'n tybio mai un o'r pwyntiau pwysicaf a ddeilliodd o'r ddadl yw nad er mwyn ein cenhedlaeth ein hunain yn unig y gweithredwn, y bobl sy'n byw ar y blaned hon yn awr; rydym yn ei wneud er mwyn y cenedlaethau sydd eto i gael eu geni—plant y mae eu hiechyd, eu hapusrwydd a'u sgiliau rhyngbersonol yn elwa cymaint o fod allan ynghanol gogoniant natur. Os ydym o ddifrif am flaenoriaethu llesiant cenedlaethau'r dyfodol, rhaid i weithredu ar yr argyfwng hwn fod o'r pwys mwyaf.

Felly, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi hoffwn ailadrodd ein galwadau y gobeithiaf yn fawr y cânt eu pasio yn awr. Rhaid cael datganiad o argyfwng natur. Rhaid inni gael targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a rhaid inni gael dull annibynnol o lywodraethu'r amgylchedd yng Nghymru. Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio ac yn disgwyl ein bod ar fin cymryd cam pendant a hanesyddol yn y Senedd hon. Rwy'n cymeradwyo ein cynnig i'r Siambr, ac yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n pleidleisio i ddatgan argyfwng hinsawdd a natur.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:43, 30 Mehefin 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad ar Zoom gan Darren Millar, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:43, 30 Mehefin 2021

Ac felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rydym ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ond fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais yna. Diolch. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:43.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:48, gyda'r Llywydd yn y Gadair.