10. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim

– Senedd Cymru ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:41, 14 Gorffennaf 2021

Dadl Plaid Cymru felly sydd nesaf: prydau ysgol am ddim, a dwi'n galw ar Sioned Williams i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM7767 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cyhoeddi sawl adroddiad yn ddiweddar gan Sefydliad Bevan a Chlymblaid Gwrthdlodi Cymru ar ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim a graddau tlodi yng Nghymru.

2. Yn nodi bod llythyr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Glymblaid Gwrthdlodi Cymru ac a lofnodwyd gan 10 sefydliad gwrthdlodi yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud ehangu prydau ysgol am ddim yn flaenoriaeth. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddiwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel bod pob disgybl ysgol mewn teulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol yn gymwys;

b) ymestyn hawliau prydau ysgol am ddim yn barhaol i ddisgyblion mewn teuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt;

c) cyhoeddi llinell amser ar gyfer gweithredu prydau ysgol am ddim i bawb fesul cam er mwyn gwarantu cinio ysgol maethlon o ffynonellau lleol i bob disgybl ysgol.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:41, 14 Gorffennaf 2021

Diolch, Llywydd. Mae effaith ddigynsail COVID wedi codi drych ar ein cymdeithas. Yr hyn a welwn yn yr adlewyrchiad yw nid yn unig effaith y misoedd anodd diwethaf ar bawb, ond hefyd y gwahaniaeth yn yr effaith ar wahanol rannau o'n cymdeithas—y gwahaniaeth sy’n deillio o anghydraddoldeb economaidd. A dyw’r darlun a welwn ddim yn un newydd chwaith. Mae’n drasig o gyfarwydd, yn gywilyddus o gyfarwydd.

Rŷm ni wedi clywed cymaint gan wleidyddion o bob plaid am yr awydd i greu normal newydd, am y cyfle cwbl unigryw a achoswyd gan y pandemig i weld y craciau yn y systemau, y tyllau yn y rhwyd sydd i fod i gadw'r mwyaf bregus rhag syrthio i’r ffos. Dylai’r ffocws newydd hwn ar y problemau sydd wedi creu sefyllfa argyfyngus i ormod o deuluoedd Cymru arwain at drwsio’r systemau, gwella’r arfer, cau'r bylchau cyllido i sicrhau adferiad cynhwysol, sy’n rhoi gwerth cyfartal ar bob bywyd ym mhob cymuned yng Nghymru. Mae’n gyfle y mae’n rhaid i ni ei fachu.

Mae ymchwil diweddar wedi tanlinellu pam fod angen i ni weithredu nawr. Mae'r sefydliad astudiaethau cyllid, yr IFS, yn amcangyfrif y bydd 27 y cant o boblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi cymharol, ac y bydd 39 y cant o blant yn byw mewn tlodi erbyn diwedd y flwyddyn. Mae adroddiad ar ôl adroddiad wedi amlygu sut mae tlodi yn cyfyngu cyfleon bywyd plant, yn gallu eu niweidio yn gorfforol, yn feddyliol, yn medru creu cadwyn anodd ei thorri am genedlaethau o broblemau iechyd, o ddiffyg cyfleon economaidd ac addysgiadol, o anawsterau personol a chymdeithasol.

Wedi i ni gael ein gorfodi drwy lens COVID i weld sut mae amddifadedd yn llythrennol yn gwestiwn o fyw a marw, mae'r ystadegau hyn yn codi mwy na chywilydd. Mae'n codi cyfog. Mae nifer y plant dros y Deyrnas Gyfunol sy'n byw mewn tlodi wedi cynyddu dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Polisïau llymder creulon Llywodraethau Torïaidd olynol San Steffan sy'n rhannol gyfrifol am hynny. Ond rhaid hefyd edrych yn fanylach ar y darlun yma yng Nghymru, lle bu, ac y mae, Llywodraeth Lafur mewn grym.

Mae lefel cyflogau yn ffactor bwysig yn y darlun. Nododd gwaith ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree ym mis Ebrill y llynedd bod cyflogau yng Nghymru yn is nag ym mhob rhan arall bron o'r Deyrnas Gyfunol, gan gyfrannu at y lefelau cymharol uchel o dlodi mewn gwaith a chymaint o weithwyr allweddol a rheng flaen yn ennill llai na'r cyflog byw go iawn. A nawr, wedi i'r pandemig rwygo drwy ein cymunedau, y tlotaf o'n pobl sydd wedi dioddef waethaf. Mae ymchwil gan y Senedd hon wedi datgelu mai pobl o aelwydydd incwm isel sydd wedi bod yn fwyaf tebygol o golli eu swyddi ac o golli incwm.

Yn ddiweddar, tynnodd Sefydliad Bevan sylw at y ffaith bod chwarter aelwydydd Cymru wedi gweld eu hincwm yn gostwng yn ystod y pandemig ac, ar yr un pryd, mae costau byw wedi cynyddu mewn mwy na phedair o bob 10 aelwyd. O ganlyniad, mae nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau sy'n cefnogi'r rhai ar incwm isel wedi cynyddu'n sylweddol. Ym mis Ebrill, roedd dros 125,000 yn fwy o bobl yng Nghymru yn hawlio credyd cynhwysol nag ar ddechrau'r pandemig. Mae mwy a mwy o'n pobl yn disgyn i dlodi, ac mae'r ffaith bod Llywodraeth San Steffan am dynnu'r cynnydd o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol yn ôl yn debyg o weld hyd yn oed yn fwy o aelwydydd yn profi trafferthion ariannol enbyd. Ac nid gor-ddweud yw hyn. Sefyllfa enbyd yw cael hi'n anodd talu am hanfodion bob dydd. Dyna yw'r sefyllfa ar gyfer 110,000 o aelwydydd—tua'r un faint â nifer yr aelwydydd yn Abertawe. Eto, aelwydydd â phlant sydd wedi cael eu taro'n drwm.

Felly, sut mae pobl wedi ymdopi â'r bwlch cynyddol rhwng incwm is a chostau byw uwch? Mae pobl yn mynd heb fwyd. Ac mae llawer o'r aelwydydd tlotach yn disgwyl y bydd yn rhaid iddynt wneud toriadau pellach yn y dyfodol: mynd heb wres, heb ddillad, heb olau neu drydan.

Beth, felly, medd y rhai sy'n dadansoddi'r ymchwil a'r ystadegau brawychus yma y dylid ei wneud? Beth sydd o fewn gallu Llywodraeth Cymru i'w newid? Mae un mesur, un cam penodol, fforddiadwy a syml i'w gyflawni yn dod i frig y mesurau posib dro ar ol tro: ehangu cymhwysedd a sicrhau mynediad at brydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn tlodi.

Nid yw dros 70,000 o blant sy'n byw o dan y llinell dlodi yng Nghymru ar hyn o bryd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Maen nhw'n colli mas ar rywbeth a fyddai yn gwneud gwahaniaeth sylfaenol a thrawiadol i'w bywydau ac yn lleddfu pwysau economaidd ar eu teuluoedd. Roedd dileu tlodi plant yn darged gan Lywodraeth Cymru—targed a ollyngwyd. Onid dyma'r darged bwysicaf a allai fod i unrhyw Lywodraeth?

Mae'r Llywodraeth hefyd wedi anwybyddu ei hadolygiad tlodi plant ei hun a oedd wedi canfod mai ehangu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc oedd yr un peth a fyddai'n helpu fwyaf.

Felly, mae'r dystiolaeth o blaid y mesur hwn yn gadarn. Ond mae'r record yn warthus. Mae Cymru yn darparu llai o brydau wedi'u coginio am ddim i'w phlant ysgol ar hyn o bryd nag unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae'n siomedig hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymestyn prydau ysgol am ddim yn barhaol i blant mewn teuluoedd heb unrhyw hawl i gael arian cyhoeddus oherwydd statws mewnfudo. Dyma rai o deuluoedd mwyaf bregus ein cenedl. Byddai hwn yn ddatganiad gwrth-hiliol pwerus ac yn helpu i gynyddu'r pwysau ar Lywodraeth Dorïaidd San Steffan i ddileu'r polisi anghyfiawn hwn. Mae'r gefnogaeth ar gyfer y mesur yn eang. 

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:47, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae symudiad cynyddol ac amlwg o blaid ehangu prydau ysgol am ddim yng Nghymru. Cyfarfûm â chynrychiolwyr y gynghrair gwrthdlodi yr wythnos diwethaf. Gwnaeth y rhwystredigaeth ynglŷn â'r lefelau cynyddol o dlodi plant a'r penderfyniad i weld y staen hon ar ein cymdeithas yn cael sylw argraff ddofn iawn arnaf. Daw'r gefnogaeth eang ac angerddol hon i ehangu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim gan amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt. Mae cefnogaeth hefyd o fewn grwpiau sy'n gysylltiedig â'ch mudiad Llafur eich hun. Mae'r blaid Lafur yn yr etholaethau, grwpiau Llafur a changhennau undebau llafur yn pasio cynigion ac yn gwneud galwadau. Unwaith eto, y cwestiwn yw: beth sy'n atal Llywodraeth Cymru rhag ymateb i'r corws cynyddol hwn o anghymeradwyaeth a dilyn y dystiolaeth?

Pan gyflwynwyd yr achos hwn gennym i'r Llywodraeth, fel rydym wedi gwneud droeon, dywedwyd wrthym mai cost yw'r rhwystr. Ond mae'r gost honno'n un gymharol fach, yn sicr pan fo'r canlyniad yn un mor bwysig. Mae cynghrair gwrthdlodi Cymru yn amcangyfrif y byddai'n costio £10.5 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn. Dim ond 0.06 y cant yw hynny o gyfanswm cyllideb refeniw'r Llywodraeth. Hyd yn oed pe bai pob plentyn yn cael pryd ysgol am ddim, y gost fyddai £140.7 miliwn. Mae hynny'n dal yn llai nag 1 y cant o gyfanswm cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â'r gost refeniw uwch, byddai darpariaeth estynedig hefyd yn arwain at rai costau cyfalaf ychwanegol, ond mae rhai pethau ymarferol y gellid eu gwneud i ganiatáu i'r buddsoddiad hwn gael ei ledaenu dros amser ac ehangu cymhwysedd cyn y byddai'r buddsoddiad wedi'i gwblhau.

Ffactor arall sy'n ymddangos fel pe bai'n atal Llywodraeth Cymru rhag gweithredu yw goblygiadau cost i bolisïau eraill, sy'n llawer mwy na'r costau a gysylltir yn uniongyrchol ag ehangu'r ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim. Fodd bynnag, mae diwygiadau hawdd y gellid eu gwneud i'r polisïau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn dal i ddarparu'r cymorth y cawsant eu cynllunio i'w ddarparu, hyd yn oed os cânt eu datgysylltu oddi wrth brydau ysgol am ddim. Felly, nid yw defnyddio prydau ysgol am ddim fel dangosydd ar gyfer penderfynu sut y dyrennir arian i awdurdodau lleol ac ysgolion yn rhwystr rhag ehangu cymhwysedd.

Felly, fe ellir parhau i ehangu cymhwysedd i bob plentyn y mae eu teuluoedd yn cael credyd cynhwysol, a gellir ei wneud yn weddol gyflym. O ystyried y manteision enfawr y byddai newid o'r fath yn eu creu i deuluoedd ledled Cymru, ac o ystyried yr argyfwng tlodi sy'n dyfnhau, dyma'r adeg i weithredu. A ydym o ddifrif yn ei olygu pan ddywedwn ein bod am gael Cymru decach? Dyma'r adeg i ofyn y cwestiwn hwnnw i ni'n hunain. Felly, beth sy'n atal Llywodraeth Cymru? A wnewch chi gefnogi'r cynnig heddiw a gweithredu, ac os na wnewch hynny, a fyddwch yn gallu edrych yn y drych yfory? Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:50, 14 Gorffennaf 2021

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Gweinidog i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi cychwyn adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn unol â’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, gyda’r bwriad o ymestyn yr hawl, mae data dros dro y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn dangos bod 108,203 o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, cynnydd o bron i 18,000 ers CYBLD 2020;

b) wedi darparu £60 miliwn ychwanegol ers dechrau’r pandemig i ddarparu prydau ysgol am ddim ychwanegol yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21 ac wedi cael cydnabyddiaeth gan y Sefydliad Polisi Addysg am ei chymorth i deuluoedd sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig;

c) yn mynd i ddarparu £23.3 miliwn ychwanegol i ymestyn prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol ym mlwyddyn ariannol 2021-22, gan sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf hael yn y DU; a

d) yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu’r unig gynllun cyffredinol i roi brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn y DU.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Rwy'n galw nawr ar Laura Jones i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Laura Jones.

Gwelliant 2—Darren Millar

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt (c).

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:50, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Diolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw, gan ei bod yn tynnu sylw at yr angen dybryd—yr angen gwirioneddol—i fynd i'r afael â thlodi yma yng Nghymru, a'r angen i amddiffyn a gofalu am blant mewn angen. Mae'n anodd iawn canolbwyntio a chael addysg dda pan fydd eich stumog yn wag, a dyna pam rwy'n credu bod cefnogaeth gyffredinol bellach i brydau ysgol am ddim i'n disgyblion tlotaf. Ond Lywydd, byddwn yn dadlau nad budd i bawb yw'r ateb. Wrth gwrs, mae gan y wladwriaeth ddyletswydd foesol i ddiogelu'r rhai sy'n syrthio islaw'r llinell dlodi, ond nid cyfrifoldeb y wladwriaeth yw bwydo plant pawb. Byddai prydau am ddim i bawb yn arwain at sefyllfa lle mae pobl ar incwm cymharol isel yn talu treth ychwanegol i ariannu prydau am ddim i deuluoedd sy'n gallu fforddio cyfrannu at y system. Mae'r system les yn rhwyd ddiogelwch i ddal y rhai sy'n agored i niwed cyn iddynt ddisgyn. Dylai ein dinasyddion gael urddas a rhyddid i ddewis sut y maent yn gwario eu harian a sut i fagu eu plant eu hunain. Os gall teulu fforddio bwydo eu plant, dylent gael rhyddid i wneud hynny.

Mae'r 16 mis diwethaf wedi gweld cyfradd eithriadol o gyfyngiadau ar y rhyddid a'r hawliau rydym i gyd yn eu cymryd yn ganiataol; mae llawer wedi bod am resymau da, i gadw pobl yn ddiogel, ond rhaid inni beidio â meddwl y bydd y cyhoedd yn goddef gorofal maldodus o'r fath yn hirdymor. Nid rôl y Llywodraeth yw dweud wrth deuluoedd sut y dylent fagu eu plant. Mae angen i'r Llywodraeth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a dibynadwy, gwneud y mwyaf o fuddsoddiad i greu swyddi, a dyna sut mae codi teuluoedd allan o dlodi, nid drwy ymyriadau biwrocrataidd maldodus. Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn dileu'r cyfeiriad at brydau ysgol am ddim i bawb, ond nid wyf am dynnu o weddill y cynnig i ymestyn prydau ysgol am ddim i'r aelwydydd sydd ar gredyd cynhwysol—bydd 16,400 yn fwy o aelwydydd yn gymwys, sy'n golygu y gallai'r plant hynny fod mewn sefyllfa well i ddysgu. Ond dylem ofalu rhag goreuro budd-daliadau fel credyd cynhwysol fel hyn yn rhy aml, gan ei fod yn creu ymyl clogwyn a'r risg y byddant yn well eu byd yn byw ar y rhwyd ddiogelwch yn hytrach na chael yr urddas a'r fantais y mae swydd a chyflog misol yn eu cynnig.

Gan ein bod yn trafod prydau ysgol am ddim, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i wella'r ffordd y maent yn prosesu data derbyniadau i ysgolion fel bod ysgolion yn cael eu hariannu ar sail nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, nid y nifer a oedd ganddynt ddwy flynedd yn ôl. Mae gan Lywodraeth Cymru system ariannu hurt o fiwrocrataidd, sy'n amddifadu disgyblion o'r cymorth a'r ymyrraeth wedi'u targedu y maent eu hangen. Rydym yn byw yn yr unfed ganrif ar hugain, Lywydd; dylai system o'r fath fod wedi gadael ein hystafelloedd dosbarth gyda'r cyfrifiadur BBC BASIC.

Lywydd, ni allaf adael i'r ddadl hon basio heb sôn, ochr yn ochr â phrydau ysgol am ddim, am fanteision academaidd chwaraeon a gweithgarwch corfforol, pethau eraill y profwyd eu bod yn gwella cyrhaeddiad academaidd ac yn gwella gallu disgyblion i ganolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth. Gall hyd yn oed cymryd rhan mewn rhaglenni fel y filltir ddyddiol, gweithgaredd y soniwyd amdano'n gynharach, gael effaith fawr, a gwn hynny o ysgol gynradd fy mab fy hun. Felly, os ydym o ddifrif am y manteision y clywsom amdanynt yn y Siambr heddiw, dylai Llywodraeth Cymru neilltuo amser a darparu cymorth ariannol priodol i alluogi ein hysgolion i annog chwaraeon a ffyrdd egnïol o fyw ymhlith ein pobl ifanc ochr yn ochr â phrydau ysgol am ddim. Ac roeddwn yn falch fod y Gweinidog wedi dweud rhywbeth am hynny yn gynharach, ond byddwn yn eich annog i fynd ati'n gyflym, Weinidog, gan fod hyd yn oed mwy o fanteision i weithgarwch corfforol ar ôl y pandemig na'r hyn a amlinellwyd gennym heddiw.

Ond y peth gorau y gallwn ei wneud i blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw mynd i'r afael â thlodi drwy ddenu mwy o fuddsoddiad sy'n creu swyddi gweddus sy'n talu'n dda—cyfleoedd i deuluoedd gamu ymlaen mewn bywyd. Nododd adolygiad o'r dystiolaeth ar dlodi plant a gyflawnwyd gan Lywodraeth y DU mai un o'r ffactorau pwysicaf sy'n cyfrannu at dlodi plant yw bod heb waith yn hirdymor ac enillion isel yng nghartref y plentyn. Mae 38 y cant o blant sy'n profi tlodi parhaus yn byw ar aelwydydd heb waith, ac er bod bwriadau da i'r ddadl hon, Lywydd, dyna pam y mae prydau ysgol am ddim yn bolisi i drin y symptom. Mae arnom angen ymyrraeth feiddgar i fynd i'r afael ag achosion dwfn tlodi, fel y gall pobl ifanc wneud yn dda yn yr ysgol a mynd ymlaen i gael swyddi sy'n talu'n dda. Mewn 22 mlynedd o reolaeth Lafur rydym wedi gweld economi Cymru'n aros yn ei hunfan, ac er gwaethaf adroddiadau sy'n llawn bwriadau da a pholisïau tymor byr, ni fu gwelliant o ran symudedd cymdeithasol. Weinidog, dyma'r adeg i weithredu ac adeiladu'r economi ddeinamig a fydd yn helpu teuluoedd tlotach i gamu ymlaen mewn bywyd. 

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 5:55, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n dorcalonnus ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, ac nid Llywodraeth Cymru yn unig sydd â llawer i ateb drosto, mae gan Lywodraeth y DU lawer i ateb drosto hefyd. Mae'r syniad o blant llwglyd yng Nghymru a theuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd yn fethiant. Mae'n fethiant ar ran y Llywodraeth ac mae'n fethiant ar ran systemau cymdeithasol ac economaidd. Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn yn un o'r plant hynny. Roeddwn yn cael prydau ysgol am ddim am beth amser. Mae fy mhrofiadau wedi fy arwain i'r casgliad y dylai prydau ysgol am ddim fod yno i bawb yn y pen draw. Ar wahân i'r effaith glir y mae prydau ysgol am ddim yn ei chael ar dlodi ac anghydraddoldeb economaidd, yn ogystal â lles disgyblion, mae hefyd yn cael effaith glir ar gyrhaeddiad addysgol. Wedi'r cyfan, sut y gall dysgwr ganolbwyntio yn yr ysgol os yw'n llwglyd?

Mae hawl i bawb gael prydau ysgol am ddim yn gwella cyrhaeddiad i raddau mwy ymhlith disgyblion o deuluoedd llai cefnog nag ymhlith disgyblion o deuluoedd mwy cefnog. Yng Nghymru, hanner cymaint o ddisgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o gymharu â phlant nad oeddent yn gymwys a gyrhaeddodd drothwy cyrhaeddiad addysgol lefel 2 cyfnod allweddol 4, ac maent yn llawer mwy tebygol o gael eu gwahardd o'r ysgol. Yn y tymor byr, mae plant o gartrefi heb gyflenwad diogel o fwyd yn fwy tebygol o ddioddef colledion addysgol, gan lesteirio eu cynnydd a'u datblygiad. Mae hyn yn anochel yn rhoi pwysau a straen ychwanegol ar blant sy'n byw mewn tlodi. Mae plant sy'n llwglyd yn llawer mwy tebygol o ddioddef gorbryder a straen difrifol, ac mae cysylltiad profedig rhwng bod yn llwglyd yn gynnar mewn bywyd ac iselder a phyliau o fod eisiau cyflawni hunanladdiad, yn ogystal â'r tebygolrwydd o ddatblygu afiechydon cronig fel asthma. Yn hollbwysig, er mwyn i'r ymennydd allu tyfu'n iawn mewn plant, rhaid iddynt gael maethynnau penodol. Felly, bydd sicrhau bod ein plant yn cael y maethynnau hyn drwy allu cael prydau maethlon hefyd yn sicrhau lles cenedlaethau'r dyfodol, gan atal afiechydon difrifol a chyflyrau cronig yn ogystal â sicrhau bod yr ymennydd yn datblygu'n iach. Mae'r dystiolaeth yn glir: mae plant nad ydynt yn bwyta deiet iach yn fwy tebygol o ddioddef problemau wrth iddynt heneiddio. Byddant yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau fel canser, diabetes, clefyd y galon a gordewdra.

Wrth gwrs, mae pandemig COVID-19 wedi golygu bod llawer o deuluoedd yn ei chael hi'n anodd bwydo eu plant, ac mae'r newidiadau dramatig mewn addysg wedi golygu bod llawer o blant oed ysgol ar ei hôl hi, gan lyffetheirio plant dosbarth gweithiol sydd eisoes yn ceisio dal i fyny â chyfoedion cefnog. Mae plant sy'n byw mewn tlodi wedi dioddef ergyd ddwbl fan lleiaf i'w llesiant, a byddai darparu prydau ysgol yn caniatáu iddynt wella a ffynnu. Os ydym am i blant a phobl ifanc ffynnu mewn addysg a thyfu i fod yn oedolion iach, mae angen maeth arnynt. Mae'n syml. Bydd goblygiadau cost tlodi a phlant llwglyd, yr effaith ar iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, yn ogystal ag ar gyrhaeddiad addysgol, o beidio â bwydo plant yn llawer mwy na'r gost o ddarparu prydau ysgol am ddim. Drwy ddarparu prydau maethlon i bob plentyn, yn enwedig pawb sy'n byw mewn tlodi, a thrwy gaffael y prydau hynny'n lleol, gallwn hybu'r economi a sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn gallu ffynnu a thyfu, beth bynnag fo'u cefndir. Byddwn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Lafur Cymru yn cytuno. Nid oes diben codi ar ein traed a dweud ein bod yn cynnig y ddarpariaeth orau o brydau ysgol am ddim yn y DU. Yn syml iawn, nid yw'r gorau'n ddigon da. Rydym wedi'i glywed dro ar ôl tro yn y Siambr dros y blynyddoedd—iaith blaenoriaethau yw crefydd sosialaeth. I mi a llawer o bobl eraill, mae hynny'n dal i olygu rhywbeth. 

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:58, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru heddiw oherwydd fy mod yn gwrthwynebu prydau ysgol am ddim i bawb. Ni chredaf mai darparu prydau ysgol am ddim i blant sy'n cael addysg breifat yw'r peth iawn i'w wneud na'r defnydd cywir o adnoddau—os edrychwch ar eich cynnig, mae'n dweud 'pawb'; nid yw'n dweud 'pawb yn y sector cyhoeddus', mae'n dweud 'pawb' ac mae 'pawb' yn cynnwys plant mewn addysg breifat—nid yn awr, ac nid yn y dyfodol. Ond pe bai Plaid Cymru yn dychwelyd gyda chynnig sy'n dweud 'diwygio'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim fel bod pob disgybl ysgol mewn teulu sy'n cael credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol yn gymwys, ac ymestyn hawliau prydau ysgol am ddim yn barhaol i ddisgyblion mewn teuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt', fe bleidleisiaf dros hynny. 

Weithiau, gellir symleiddio dadl yn ôl yr hyn sy'n iawn a'r hyn nad yw'n iawn. Mae'n iawn cynnig prydau ysgol am ddim i blant ar gredyd cynhwysol a'r rhai nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt. Nid yw'n iawn i beidio â gwneud hynny. Crëwyd y Blaid Lafur i sefyll dros y tlawd a'r rhai y camfanteisir arnynt mewn cymdeithas. Bydd yna blant sy'n llwglyd. Mewn cymunedau dosbarth gweithiol fel fy un i, gelwir y pryd o gwmpas hanner dydd yn 'ginio' ('dinner')—i lawer o blant, dyma fydd prif bryd y dydd. Mae gormod o blant yn mynd i'r gwely'n llwglyd yn y nos. Mae un pryd da y dydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i blentyn. Hefyd, mae bod yn llwglyd yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol.

Mae'r hawl i fwyd wedi ei diogelu yn y DU gan y cyfamod rhyngwladol ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Mae'r confensiwn ar hawliau'r plentyn hefyd yn ategu cyfrifoldeb y DU i sicrhau bod gan bob plentyn safon byw ddigonol, gan gynnwys yr hawl i fwyd. Er bod y DU wedi cadarnhau'r ddau gonfensiwn, nid yw wedi'u hymgorffori mewn cyfraith ddomestig, yn anffodus. Mae hynny'n golygu na ellir eu gorfodi'n gyfreithiol yn llysoedd y DU. Serch hynny, mae newyn plentyndod yn dramgwydd yn erbyn hawliau dynol y mae ein Llywodraeth dan rwymedigaeth i fynd i'r afael ag ef gan ddefnyddio cymaint o adnoddau ag sydd ar gael iddi. Mae'r hawl i fwyd hefyd yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn gallu cael bwyd heb golli urddas.

Rwy'n siŵr y bydd y Llywodraeth yn sôn am y gost a'r anhawster y mae'n eu hwynebu. Rwyf wedi gwrando'n astud ers dros flwyddyn bellach pan ddywedir wrthym mai ni sydd wedi rhoi'r cymorth ariannol mwyaf hael ym Mhrydain i fusnesau yn ystod y pandemig. Rydym wedi darparu rhyddhad ardrethi busnes i fanwerthwyr bwyd llai. Rydym wedi mynd ati i ddod o hyd i arian i gefnogi tai ar ochr y galw sy'n chwyddo prisiau tai. Rydym wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i gynlluniau economaidd na allent byth weithio. Nid ein bod wedi buddsoddi ynddynt a'u bod yn bosibl, a'n bod ychydig yn anlwcus. Ni wnaf eu henwi yn awr ond gallaf enwi rhai na allent byth weithio; nid oedd yn bosibl iddynt weithio. 

Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr o hyd nad yw hyn yn fforddiadwy. Yn wir, rydym newydd sôn am £75 miliwn ar gyfer teithio llesol. Nawr, dyma lle daw'n fater o flaenoriaethau. A fyddai'n well gennych weld yr arian hwnnw'n cael ei wario ar deithio llesol neu ar fwydo plant ysgol? Rwy'n ffafrio bwydo plant ysgol, a chredaf mai dyna pryd y daw'n fater o beth yw eich blaenoriaethau. Felly, nid wyf wedi fy argyhoeddi nad yw hyn yn fforddiadwy.

Un o'r prif resymau pam y mae cynifer yn ein cymdeithas yn byw mewn caledi a pham na all cynifer o bobl fforddio bwyd yw oherwydd ein bod yn byw mewn system sydd wedi'i gwreiddio mewn anghydraddoldeb strwythurol. A gadewch i ni fod yn deg, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn feirniadol iawn o doriadau credyd cynhwysol, a hynny'n gwbl briodol, ac maent wedi beio'r Ceidwadwyr yn weddol reolaidd, os nad yn rheolaidd iawn, am dorri £20 oddi ar y credyd cynhwysol, ac mae hynny'n anghywir. Ond mae hi'r un mor anghywir peidio â bwydo plant sydd ar gredyd cynhwysol, hyd yn oed yn fwy felly yn awr pan fo'r credyd cynhwysol £20 yn llai. Ac mae gennym system fudd-daliadau gosbol, sancsiynau ar y rhai sy'n dibynnu ar fudd-daliadau, a gorfod aros am bum wythnos am gredyd cynhwysol. Dyna pam fod llawer o blant a theuluoedd heb gyllid cyhoeddus ar gael iddynt; maent yn aros am bum wythnos i gael eu credyd cynhwysol. Nid oes ganddynt arian yn dod i mewn o unrhyw le. Sut y maent i fod i oroesi, nid wyf yn hollol siŵr. 

Roedd yr isafswm cyflog i fod i ddarparu digon i deulu fyw arno. Yn anffodus, nid dyma'r cyflog byw gwirioneddol, ac rwyf wedi eich diflasu yma fwy nag unwaith yn siarad am ba mor bwysig yw'r cyflog byw gwirioneddol, felly ni wnaf hynny yn awr. A wnaethoch chi ym Mhlaid Cymru ychwanegu'r drydedd eitem honno am ddarparu prydau ysgol am ddim sy'n cynnwys plant mewn ysgolion preifat er mwyn atal unrhyw Aelodau Llafur rhag pleidleisio drosto? Os mai dyna oedd y nod, mae'n debygol eich bod wedi llwyddo. Ond mae darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion y mae eu rhieni ar gredyd cynhwysol ac nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt yn un o'r pethau y crëwyd y Blaid Lafur i'w gwneud. Os na allwn wneud hynny, pam ein bod yn bodoli? 

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:03, 14 Gorffennaf 2021

Mewn byd ôl-COVID-19, dylai darparu bwyd ysgol am ddim fod yn fwy o flaenoriaeth nag erioed o'r blaen, am ei fod yn helpu ein cymdeithas ni i adeiladu yn ôl yn well. Mae rhaglenni bwyd ysgol effeithiol yn gallu helpu ein plant ni nid yn unig yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf o'u bywyd, ond hefyd y 7,000 diwrnod nesaf ar eu taith i fod yn oedolion. Ac rŷm ni wedi clywed y ffaith yma o'r blaen gan Luke Fletcher, ond rwy'n mynd i ailadrodd rhywbeth tebyg: mae ymchwil gan y GENIUS School Food Network yn 2020 yn dangos bod ansawdd deiet yn ystod plentyndod yn effeithio ar ddatblygiad pobl ifanc, yn effeithio hefyd ar eu cyflawniad addysgol, iechyd a lles yn y dyfodol, a hefyd yn dylanwadu ar ddeiet a risg o glefydau fel diabetes a chancr yn ddiweddarach mewn bywyd. Rhaid i ni felly gael ffyrdd effeithiol a chynaliadwy o helpu pobl ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd o anfantais economaidd gymdeithasol, i gael deiet gwell.

Ond yn ogystal â hyn, Llywydd, mae yna fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Nododd yr Athro Roberta Sonnino o Brifysgol Caerdydd fod caffael cyhoeddus yn un o'r offerynnau mwyaf pwerus sydd ar gael i lywodraethau i lunio economïau bwyd cynaliadwy. Mae caffael bwyd yn ganran enfawr o'n GDP ni—rhyw 13 i 14 y cant, fel arfer, yng ngwledydd Ewrop. Felly, mae hi'n gyfle euraidd i ni benderfynu pa fath o farchnadoedd bwyd rŷm ni am eu creu, i bwy, a sut. Byddai sicrhau bod y Llywodraeth, awdurdodau lleol, a sefydliadau eraill yn prynu bwyd sy'n cael ei dyfu'n lleol ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cryfhau yr economi leol hefyd. Gall cefnogi'r economi fwyd leol hefyd ddod â manteision economaidd ac amgylcheddol pwysig. Mae'r manteision yn cynnwys defnyddio tir fferm i dyfu llysiau a hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr i fod yn dyfwyr yn ogystal â bod yn gynhyrchwyr bwyd, a chig yn arbennig, o safon. Mae modd creu swyddi da drwy gynhyrchu, prosesu a gwerthu bwyd yn lleol. Byddai hyn yn creu hwb i'r economi leol ac yn sicrhau bod y bunt yn aros yn lleol.

Gwrandewch ar y data yma: mae'r sector cyhoeddus yn cyfrannu'n sylweddol at y gwariant ar fwyd a diod yng Nghymru—£78 miliwn y flwyddyn, yn ôl yr archwilydd cyffredinol. Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai £78 miliwn ei wneud i'n cymunedau ni pe bai'r gyllideb gaffael gyfan yn cael ei gwario yng Nghymru ar gynnyrch o Gymru. Mae ymchwil ddiweddar gan y New Economics Foundation yn dangos bod buddsoddi £1 mewn cynlluniau caffael lleol yn rhoi gwerth £3 mewn gwerth cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:06, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Cred Plaid Cymru y dylai caffael bwyd cyhoeddus flaenoriaethu prynu bwyd a gynhyrchir yng Nghymru bob amser. Bydd darparu prydau ysgol am ddim i blant cynradd, gyda phwyslais ar ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol, yn cefnogi ffermwyr a thyfwyr lleol, a busnesau lleol. Gyda bygythiad i'r sector ffermio yn sgil cytundebau masnach â gwledydd fel Awstralia, a chost gynyddol mewnforion, dyma gyfle euraid i'r sector cyhoeddus a ffermwyr a thyfwyr gydweithio i gynhyrchu bwyd ffres a thymhorol o ansawdd uchel a helpu i greu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru yn seiliedig ar gadwyni cyflenwi byrrach a mwy gwydn. O laeth i brosesu cig coch, mae gennym economi echdynnol, lle mae cynnyrch o Gymru'n cael ei gludo dros y ffin i Loegr i'w brosesu. Ar hyn o bryd, mae angen i unrhyw bolisi bwyd yng Nghymru gydnabod bod llawer o'i chadwyni cyflenwi confensiynol wedi'u clymu fwyfwy wrth ganolfannau prosesu a manwerthu'r DU. Mae ystadegau diweddar yn awgrymu nad oes gan Gymru gapasiti i brosesu mwy na 49 y cant o'i llaeth ei hun, 28 y cant o gig eidion Cymru, a 24 y cant o gig oen a defaid. Mae hyn i gyd yn golli gwerth a cholli incwm i economi Cymru a'r diwydiant bwyd ehangach, ac mae'n rhaid i hyn newid.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 6:08, 14 Gorffennaf 2021

Dwi'n gorffen gyda hyn, Llywydd: mae ehangu prydau ysgol am ddim hefyd yn rhoi'r cyfle inni sicrhau bwyd iachach i'n plant a chynyddu cynnyrch garddwriaethol yma yng Nghymru. I gloi, felly, byddai prydau bwyd am ddim i blant cynradd nid yn unig yn arwain at well batrymau bwyta'n iach, lleihau gordewdra, gwella'r gallu i ganolbwyntio yn y dosbarth ac yn lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi, ond mae hefyd iddo fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Felly, am bob math o resymau da, Llywydd, dwi'n erfyn ar bawb i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:09, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn y mae Cefin Campbell wedi'i ddweud, oherwydd mae wedi dweud llawer o'r pethau y bûm yn siarad amdanynt yn y Senedd ddiwethaf, felly edrychaf ymlaen at weithio gydag ef ar hynny. Ond nid wyf yn credu bod y ddadl hon yn ymwneud â hynny heddiw; rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r arian ar hyn o bryd. Nid oes gennym y ffynonellau bwyd lleol sydd eu hangen arnom. Clywsom yn y datganiad busnes ddoe am yr argyfwng o ran diogelwch y cyflenwad bwyd rydym yn ei brofi ar hyn o bryd, felly mae angen inni fod yn ofalus iawn ynglŷn â'r hyn rydym yn ei addo i'n plant a'n teuluoedd na allwn ei gyflawni.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:10, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Gwrandewais gyda diddordeb mawr ar Laura Jones yn dweud, 'Os gall teuluoedd fforddio bwydo eu plant, dylent gael rhyddid i wneud hynny fel y dymunant.' Nid wyf yn credu hynny. Ni allwn sefyll naill ochr os nad yw teulu'n bwydo deiet maethlon i'w plentyn o'u gwirfodd ac yn fwriadol a chyda'r gallu i wneud rhywbeth yn ei gylch. Nid yw hynny'n bosibl. A chanlyniadau deiet gwael, fel y gwelsom, yw'r hyn sy'n tagu ein hysbytai, oherwydd canlyniadau hirdymor deiet gwael. Ac fel y nododd Luke Fletcher yn wir, mae iddo ganlyniadau tymor byr a hirdymor difrifol iawn i allu'r plentyn i ddysgu yn ogystal â'r epidemig gordewdra a diabetes a'r holl bethau eraill sy'n mynd gyda hynny. Cytunaf mai'r pryd canol dydd y soniodd Mike Hedges amdano a ddylai fod yn brif bryd y dydd i blentyn. Nid yw'n wych iddynt gael y pryd hwnnw gyda'r nos; mae angen iddynt ei gael ganol dydd pan fyddant yn rhedeg o gwmpas, yn defnyddio ac yn llosgi llawer o'u calorïau.

Ond celfyddyd yr hyn sy'n bosibl yw gwleidyddiaeth, ac ar hyn o bryd, mae gwahaniaeth o £50 miliwn rhwng cyfrifiadau Sefydliad Bevan o gostau a chyfrifiadau Llywodraeth Cymru o'r hyn y byddai'n ei gostio i gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ar gredyd cynhwysol. Rwy'n ymwybodol iawn y gall gwallau cyfrifyddu ddigwydd, ond nid yw £50 miliwn yn bell o'r ddirwy o £70 miliwn a roddwyd i Southern Water am y drosedd o ryddhau carthffosiaeth amrwd i afonydd a moroedd Caint a Sussex. Byddai'n wych, oni fyddai, pe gellid defnyddio camweddau cwmnïau anghyfrifol sy'n gwenwyno plant i fwydo plant llwglyd yn ein hysgolion, ond nid dyna'r ffordd y mae pethau'n gweithio. Os yw Plaid Cymru o ddifrif am y mater ac yn blaid gyfrifol, rhaid ichi egluro beth y bwriadwch ei dorri i ddod o hyd i'r arian ar gyfer ariannu prydau ysgol am ddim i bawb, ac mae angen imi wybod beth yw'r ateb i hynny wrth ichi grynhoi. Rwy'n sylweddoli mai yn ddiweddar y daeth Plaid Cymru i ddadlau'r achos dros fater pwysig prydau ysgol am ddim, ond nid yw parhau i fynnu ein bod yn taflu arian at y broblem heb ddangos llawer o gydnabyddiaeth o gymhlethdod y mater yn ddigon da. Nid yw'n ateb syml o'r da yn erbyn y drwg. Gwyddom o welliant 1 fod Llywodraeth Cymru yn archwilio'r holl opsiynau, gan ddechrau drwy nodi'r goblygiadau o ran costau, a dim ond dechrau yw hynny.

Mae angen imi wybod faint o ddisgyblion sy'n cael cinio ysgol maethlon ar hyn o bryd. Yn fy etholaeth i, nid yw'n gymaint â hynny, yn syml am ei bod yn anodd iawn darparu cinio yn ystafell fwyta ysgol heb chwalu'r trefniadau swigod yn llwyr. Yn lle hynny, fe wyddom fod gofyn i'r rhan fwyaf o deuluoedd anfon pecyn bwyd gyda'r disgyblion i'r ysgol—pa mor faethlon yw'r pecynnau bwyd hynny? Rwy'n derbyn ei bod yn anodd ymweld ag ysgolion ond rwy'n sicr fod llawer ohonynt yn cynnwys pecyn o greision a bar o siocled oherwydd rwyf wedi'i weld niferoedd o weithiau. 

Mae'r cynnydd o 33,000 yn y nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig i'w groesawu. Fodd bynnag, mae angen inni wybod llawer mwy i weld a yw hyn wedi'i ysbrydoli gan chwistrelliad o arian parod i gyfrifon banc teuluol, sef y ffordd sy'n cynnig fwyaf o urddas, wrth gwrs, wrth gefnogi teuluoedd tlawd yn hytrach na'r cydau bwyd sy'n parhau i gael eu darparu gan rai awdurdodau lleol. Yn y gorffennol, faint o ymdrech y mae ysgolion lleol wedi'i wneud i sicrhau bod teuluoedd yn manteisio ar y gwasanaeth roedd gan eu plant hawl iddo? Faint o hynny sy'n deillio o stigma a faint y mae'n ymwneud â phlant yn gwrthod bwyta'r ciniawau ysgol sy'n cael eu gweini oherwydd bod yn well ganddynt eistedd dros yr egwyl ginio gyda'u ffrindiau sy'n cael pecynnau bwyd, neu am eu bod eisiau mynd i chwarae? Mae gennyf brofiad, yn bendant, o bobl sy'n cael prydau ysgol am ddim yn bwyta sglodion, yn syml am mai dyna'r cyfan y byddant yn ei fwyta—nid yw hynny'n ddefnydd da o arian cyhoeddus.

Beth am y brecwastau ysgol am ddim? Gobeithiwn y bydd y newid yn y rheoliadau ar swigod yn caniatáu eu hadfer ym mis Medi, ond mae'n fwy o wasanaeth i rieni sy'n gweithio nag o wasanaeth i blant llwglyd. Gwyddom hynny o ddata'r cyfrifiad ysgolion yn ôl ym mis Ionawr 2020—filiwn o filltiroedd yn ôl. Gallwn i gyd resynu at y toriad arfaethedig o £20 i'r credyd cynhwysol, ond os clymwn ein cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim wrth weithredoedd Llywodraeth y DU nad oes gennym reolaeth drostynt, beth y gallai hynny ei olygu i'n rheolaeth ar ein cyllideb ein hunain? Pe byddent yn gwybod bod ein plant i gyd yn cael prydau ysgol am ddim, a fyddai Rishi Sunak wedyn yn lleihau'r swm o arian a fyddai'n dod i deuluoedd ar gredyd cynhwysol? Mae hwn yn fater hynod o gymhleth, ac mae'n rhaid inni weithio'n eithriadol o galed gyda'n gilydd i'w gael yn iawn. 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:15, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Beth sydd ar gymdeithas i'w phlant? Mae hynny'n sicr yn un o'r cwestiynau mawr sy'n rhannu gwleidyddion. Yn fy marn i, mae gan gymdeithas a Llywodraeth gyfrifoldeb ar y cyd dros fywydau a lles plant, a bydd eraill o'r farn fod syniad o'r fath yn warthus. Yn wir, mae'n ymddangos bod rhai gwleidyddion, gwleidyddion cyfoethog, sydd wedi cael yr holl lwc yn y byd, yn meddwl y dylid cosbi plant am dlodi eu rhieni, fod y pethau gwirioneddol braf yn rhy dda iddynt, ac er y gall rhai plant dyfu i fyny mewn cartrefi gyda digonedd o fwyd a phapur wal euraid, rhaid i'r gweddill wneud y tro gyda gweddillion neu friwsion oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog.

Os oes un ddelwedd yn aros o'r llanast prydau ysgol am ddim yn Lloegr y llynedd, y ffotograffau a rennir ar y cyfryngau cymdeithasol o'r parseli bwyd annigonol yw honno: y llysiau wedi'u torri yn eu hanner a'u lapio mewn cling ffilm, am nad oedd y plant hynny'n haeddu llysiau cyfan, mae'n ymddangos, sy'n gwneud i chi ystyried yr ymdrech y byddai wedi'i chymryd i dorri a gwahanu'r darnau hynny o lysiau, yr amser a fuddsoddwyd er mwyn amddifadu plant o'r gyfran gyfan. Creulondeb di-hid y weithred ddiflas honno a'r diffyg ots neu bryder. Pasta a thiwna wedi'u tynnu o duniau a'u gosod yn y cydau tila rheini i sicrhau na allai gweddill y teulu elwa o'r prydau. Roedd fel pe bai'r holl beth i fod i ddileu pob gronyn o urddas i'r sawl a'i derbyniai. Roedd y ffotograffau hynny'n destun cywilydd i ni am eu bod yn datgelu rhywbeth dwfn yn ein cymdeithas, ein bod wedi cael ein magu gyda'n gilydd i dderbyn tlodi, cyhyd â'i fod yn digwydd draw acw. Ac os yw pobl yn dlawd, maent yn ei haeddu rywsut. Ac fe gymerodd bêl-droediwr, Marcus Rashford, dyn sy'n arwr o Sais, i godi digon o gywilydd ar y Llywodraeth Dorïaidd i wneud iddi newid ei pholisi. 

Nawr, nid wyf yn gwadu am eiliad fod y sefyllfa'n well yng Nghymru, ond nid yw'n ddigon o hyd, a byddwn yn methu gwneud fy swydd pe na bawn yn tynnu sylw at hynny. Lywydd, rwyf wedi codi cwestiynau'n ddiweddar am effaith newyn plentyndod ar iechyd meddwl, y niwed cudd a grëir yn seice'r plentyn, y cysylltiadau ag euogrwydd a chywilydd sy'n datblygu o gwmpas bwyd oherwydd tlodi, gan fod a wnelo newyn cronig â mwy na boliau gwag yn unig; mae a wnelo â diffyg maeth i hunan-barch, methiant i fwydo dyheadau a llwgu potensial. Mae'n ymwneud â methu fforddio'r darn o pizza sydd gan eich ffrindiau, teimlo embaras am eich cinio, mynd i giwio ar yr ochr arall i'r neuadd oddi wrth eich cyd-ddisgyblion gyda'r plant eraill sy'n cael pryd ysgol am ddim, colli cinio'n gyfan gwbl efallai am nad ydych am wynebu'r gwawd. Fel y mae'r ymchwiliad i fwyd plant yn ei wneud yn glir, mae newyn yn niwed cymdeithasol. Mae'n achosi trallod, arwahanrwydd; gall sbarduno iselder, anobaith a straen i rieni a phlant. Mae'n effeithio ar bresenoldeb a chyrhaeddiad yn yr ysgol.

Nid yw'r lwfans prydau ysgol am ddim yng Nghymru yn ddigon. Edrychodd siarter ar gyfer newid y comisiynydd plant ar hyn, a chanfu ei swyddfa nad oedd gan blant sy'n cael £2.05 y dydd ddigon o arian ar gyfer byrbryd amser egwyl yn ogystal â phryd o fwyd amser cinio. Y darn o pizza y soniais amdano, mewn un ysgol mae'n costio £1.95, gan adael dim ond 10c ar gyfer byrbryd amser egwyl neu ddiod. Nid oedd yn ddigon ar gyfer y naill na'r llall. Dywedodd plentyn arall, ac rwy'n dyfynnu, 'Y cyfan y gallwn ei fforddio oedd un frechdan neu ffrwyth a diod, byth bryd o fwyd.' Dywedodd trydydd plentyn wrthynt eu bod yn gorfod llwgu tan amser cinio tra gallai pawb arall brynu'r hyn roeddent ei eisiau. Gorfod llwgu.

Ni ddylid ystyried bwyd yn achubiaeth neu'n foethusrwydd. Dylai fod yn llinell sylfaen, yr hyn sy'n hanfodol, yr hyn a rennir a'r hyn sy'n gymunedol. Hyd nes y cyflwynwn brydau ysgol am ddim i bawb, bydd y stigma'n parhau. Bydd gennych y ddau giw cinio yn y ffreutur. Bydd gennych y rhai sydd â modd o gael, a'r rhai sydd heb fodd o gael. Bydd gennym rai plant yn tyfu i fyny yn cysylltu bwyd ag embaras a chywilydd, a bydd gennym gymdeithas sy'n dal i gredu ei bod yn dderbyniol i anfon cydau o lysiau wedi'u torri i blant yn y man lle dylai tosturi fod.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Llywydd. Mae prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn elfen bwysig o'n hagenda ar gyfer trechu tlodi. Rŷn ni wedi gweld eu pwysigrwydd yn glir yn ystod y 15 mis heriol diwethaf. Yn anffodus, mae nifer y dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu drwy gydol y pandemig. Mae data dros dro diweddaraf y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion 2021 yn dangos bod 108,203 o ddisgyblion yn gymwys ar hyn o bryd. Mae hyn yn gynnydd o bron i 18,000 o ddisgyblion mewn blwyddyn yn unig. Does dim modd anwybyddu realiti hynny.

Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ymateb i'r cynnydd yn y galw am brydau ysgol am ddim yn sgil y pandemig ac i adolygu'r meini prawf cymhwystra, gan ymestyn yr hawl mor bell ag y mae'n hadnoddau ni'n caniatáu. Rydw i wedi dwyn dechrau'r gwaith yma ymlaen yn seiliedig ar ddata dros dro, nid data wedi ei gadarnhau, felly rydym ni eisoes wedi cychwyn ar y gwaith, gan osod strwythur a chwmpas yr adolygiad. Bydd gwaith ar draws y Llywodraeth i weld beth yw'r goblygiadau o ran polisi a chost ar gyfer mentrau a grantiau eraill sy'n defnyddio gwybodaeth am gymhwystra ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Rŷn ni hefyd yn edrych ar ymchwil a thystiolaeth, fel y gwaith a gomisiynwyd gan Sefydliad Bevan a Chynghrair Gwrth-dlodi Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi cynnal eu hamcangyfrif eu hunain o'r gost o ymestyn y ddarpariaeth, sydd ar hyn o bryd o leiaf yn gryn bellter o'n hamcangyfrifon ni, ond rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd clir i fy swyddogion fod yn rhaid iddynt weithio'n agos ag ymchwilwyr Policy in Practice, a wnaeth y gwaith dadansoddi, i gael gwell dealltwriaeth o'u methodoleg a'u prisiad fel rhan o'n hadolygiad ni. Rwy'n disgwyl i'r adolygiad gael ei gwblhau yn yr hydref, ac fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ddechrau tymor newydd y Senedd ym mis Medi.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:22, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n annerbyniol, Lywydd, fod llawer o deuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt hefyd yn byw mewn tlodi eithafol. Byddai newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim o dan yr amgylchiadau hyn yn galw am ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, rwy'n annog awdurdodau lleol yn gryf i arfer eu disgresiwn er mwyn caniatáu i blant y teuluoedd hyn elwa o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, ac i hawlio costau gwneud hynny gan Lywodraeth Cymru.

Mae hefyd yn annerbyniol i mi y dylai plentyn neu berson ifanc golli cyfle i wneud gweithgareddau a chael profiadau allgyrsiol oherwydd eu hamgylchiadau personol. Mae ein cynllun mynediad at y grant datblygu disgyblion yn darparu cyllid yn uniongyrchol i'r teuluoedd sydd ei angen fwyaf, i helpu gyda rhai o gostau'r diwrnod ysgol—ymrwymiad yn ein rhaglen lywodraethu ac 'Adnewyddu a diwygio'. Felly, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd y cynllun mynediad at y grant datblygu disgyblion yn parhau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Rwyf wedi cynyddu'r cyllid mynediad at y grant datblygu disgyblion i £10.45 miliwn. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnig y grant i flynyddoedd ychwanegol, sef blynyddoedd 1, 5, 8, 9 ac 11, ar gyfradd o £125 y dysgwr.

Mae'r camau hyn yn adeiladu ar y rhai rydym eisoes wedi'u cymryd, ac rwyf am gydnabod gwaith ein partneriaid cyflawni yn cefnogi'r camau allweddol rydym wedi gallu eu cymryd yn ystod y cyfnod hwn. Y llynedd, darparwyd £60 miliwn o gyllid ychwanegol gennym ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn seiliedig ar y lwfans wythnosol mwyaf hael yn y DU. Ymatebodd ein hawdurdodau lleol yn gyflym a chydag ymroddiad, gan sicrhau nad oedd y dysgwyr a oedd yn dibynnu fwyaf ar brydau ysgol am ddim yn mynd heb pan nad oeddent yn yr ysgol. Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i warantu cyllid parhaus ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy gydol gwyliau'r haf mewn ymateb i'r pandemig, a'r gyntaf i gyhoeddi y byddai'r ddarpariaeth yn parhau tan y Pasg 2021. Gan adeiladu ar hynny, gallaf gadarnhau £23.3 miliwn ychwanegol i sicrhau y bydd darpariaeth prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod pob gwyliau ysgol ym mlwyddyn ariannol 2021-22. Rydym wedi dyrannu £477,000 ar gyfer darparu prydau am ddim i fyfyrwyr mewn addysg bellach dros yr haf.

Lywydd, rwy'n deall y bwriadau y tu ôl i alwad y cynnig i ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, ond y cyd-destun rydym yn ceisio gwneud hynny ynddo yw'r gyllideb gyfyngedig a ddarperir i Gymru gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Pe bai cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn cael ei ymestyn i gynnwys pob disgybl a theulu sy'n derbyn credyd cynhwysol, amcangyfrifwn ar hyn o bryd y byddai tua hanner y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn gymwys.

Daeth yn amlwg yn ystod yr etholiad diwethaf nad oedd Plaid Cymru, sy'n cyflwyno'r cynnig heddiw, wedi meddwl yn llawn am yr hyn y byddai eu polisi yn ei olygu i'r grant datblygu disgyblion. Credwn fod hwnnw'n gyllid hanfodol i'n hysgolion, er mwyn helpu i gefnogi ein disgyblion mwyaf difreintiedig. Mae cyswllt rhwng cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim a'r grant datblygu disgyblion. Amcangyfrifwn y gallai'r cyswllt hwn olygu costau ychwanegol o tua £168 miliwn y flwyddyn i'r grant datblygu disgyblion. Fel roedd Jenny Rathbone yn dweud, er mwyn cael dadl gwbl gynhwysfawr, pan fydd pleidiau'n cefnogi gwariant penodol, rwy'n credu ei bod yn bwysig eu bod hefyd yn nodi sut y telir amdano a lle byddai cyllidebau eraill yn cael eu torri, ac yn dweud hynny. Ond rwy'n deall gan Sioned Williams heddiw mai'r ateb i hynny'n rhannol yw nad yw Plaid Cymru bellach yn dadlau y dylai cyllid y grant datblygu disgyblion ddilyn y cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim.

Wedi dweud hynny, hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am y cyfle i fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn heddiw. Mae ein hadolygiad fel Llywodraeth o'r meini prawf cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim er mwyn sicrhau bod y rhai sydd ei angen fwyaf yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt eisoes ar y gweill ac edrychaf ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd y tymor nesaf ac at ymgysylltu â'r rhai yn y Siambr hon a thu hwnt sy'n rhannu'r amcan hwnnw. Diolch, Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:26, 14 Gorffennaf 2021

Galwaf ar Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Diolch yn fawr. Diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Mae siaradwyr Plaid Cymru wedi gosod y ddadl yn rymus iawn, yn gosod y cyd-destun ac yn amlinellu'r galwadau sydd yn cael mwy a mwy o gefnogaeth wrth inni drafod y mater yma a dwi ddim yn ymddiheuro am ddod â'r mater yn ôl yn fuan yn y Senedd yma. Mi wnaethom ni drafod hwn yn y Senedd ddiwethaf hefyd ac mae o angen bod ar yr agenda. Byddwn ni yn sicr ddim yn gadael i hyn fynd. Roedd Cefin yn sôn am fantais ein polisi ni o ran cryfhau'r economi fwyd leol, ac mae hwnna'n rhan greiddiol o'r hyn rydym ni'n ei gynnig.

Mae'r Torïaid yn colli'r pwynt yn llwyr. Mae yna dystiolaeth gadarn sy'n dangos bod cynnig cinio am ddim i bawb yn fanteisiol am nifer fawr o resymau ac mai'r garfan a fyddai'n elwa mwyaf ydy'r plant mwyaf difreintiedig, ac fe eglurodd Luke Fletcher hynny gan siarad o brofiad personol. Gaf i egluro i Mike Hedges mai polisi ar gyfer ysgolion y wladwriaeth ydy polisi Plaid Cymru ac na fyddai'n cynnwys nac yn ymestyn i'r sector breifat? Felly, gobeithio efo'r eglurhad hwnnw, er nad ydy o'n egluro hynny yn llythrennol yng ngeiriad cynnig, ond efo fi yn dweud hyn rŵan fel eglurhad, gobeithio y medrwch chi gefnogi ein cynnig ni, neu dwi ddim yn siŵr ai dadlau yn erbyn yr egwyddor o universalism y mae Mike, sydd yn egwyddor sydd wedi cael ei derbyn, wrth gwrs, gan y Blaid Lafur.

Yn y Ffindir, Sweden ac Estonia, mae prydau ysgol am ddim ar gael i bob disgybl ysgol, nid y disgyblion tlawd yn unig, ac rydym ni'n gwybod pa mor llwyddiannus ydy systemau addysg y gwledydd hynny. Yn yr Alban a Lloegr, mae pob plentyn oedran ysgol, yn nhair blynedd gyntaf eu haddysg, yn derbyn prydau ysgol am ddim, beth bynnag fo incwm y teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r trothwy enillion i'r rhai sy'n derbyn credyd cynhwysol wedi'i osod ar lefel uchel, gan helpu cefnogi mwy o deuluoedd sy'n gweithio. Ac mae peryg y bydd Cymru'n syrthio ymhellach ar ei hol hi. Mae Llywodraeth yr Alban bellach yn bwriadu cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn mis Awst y flwyddyn nesaf. Felly, mae gwrthwynebiad Llywodraeth Cymru i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob teulu ar gredyd cynhwysol yn mynd yn anoddach ac yn anoddach i'w gyfiawnhau.

Mae yna gymhlethdod ariannol, oes, ond os ydy rhoi cinio am ddim i rai o blant mwyaf tlawd ein gwlad ni yn flaenoriaeth, ac y mae o, yn ôl beth dwi'n ei glywed, yn rhywbeth sydd yn bwysig i'r Gweinidog addysg, yna mae'n rhaid canfod ffordd o gwmpas y cymhlethdod ariannol yna, ac mae'n rhaid ei osod o'n flaenoriaeth gyllidebol. A dyna ydy pwrpas cyllidebau. Pwrpas cyllideb ydy gosod gwariant yn unol â blaenoriaethau a dwi'n edrych ymlaen at weld ffrwyth gwaith yr ymchwil cyllidol sydd yn digwydd.

Dwi yn falch eich bod chi yn mynd i fod yn gweithio efo'r Sefydliad Bevan i ddeall sut maen nhw wedi bod yn gweithio ac ar y dadansoddiad maen nhw wedi'i wneud. Maen nhw yn amcangyfrif y byddai'r gost o ymestyn prydau ysgol am ddim i bob myfyriwr ysgol mewn teuluoedd ar gredyd cynhwysol yn costio £10.5 miliwn. Mae hynny'n llai na 0.06 y cant o gyfanswm cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru, ond, wrth gwrs, mi fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru, gan arbed dros £1,300 y flwyddyn ar gyfartaledd iddyn nhw.

O ran y cynnig sydd gerbron heddiw, rydyn ni siomedig o weld y Llywodraeth yn cynnig gwelliant sy'n golygu rhagor o ddiffyg gweithredu. Dydy adolygu ddim yn rhoi'r sicrwydd rydyn ni'n chwilio amdano, ac os bydd y cynnig yn cael ei wella yn y modd yna, fyddwn ni ddim yn gallu ei gefnogi, a byddwn ni yn ymatal ein cefnogaeth. Pwy all fod yn erbyn cefnogi mesur fyddai'n helpu dileu tlodi, yn lleihau anghydraddoldeb, yn lleihau pwysau ar gostau byw teuluoedd, yn helpu cyrhaeddiad a phrofiad dysgu, yn gwella iechyd plant ac yn lleihau'r stigma a'r boen feddyliol sydd yn deillio o dlodi? Cefnogwch y cynnig, a da chi, Llywodraeth Cymru, gwnewch hyn yn flaenoriaeth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 14 Gorffennaf 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly dyma fi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 14 Gorffennaf 2021

Rydyn ni'n cyrraedd yr amser pleidleisio nawr, ac felly fe wnawn ni gymryd toriad byr ar gyfer paratoi ar gyfer y bleidlais hynny.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:32.

Ailymgynullodd y Senedd am 18:41, gyda'r Llywydd yn y Gadair.