– Senedd Cymru ar 9 Tachwedd 2021.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynhwysiant pleidleiswyr, a galwaf ar y Cwnsel Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i wneud y cynnig—Mick Antoniw.
Cynnig NDM7818 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i foderneiddio gweinyddu etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall pobl bleidleisio a bod eu pleidleisiau yn cael eu cyfrif.
2. Yn nodi egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwygio Etholiadol fel y nodwyd yn natganiad ysgrifenedig y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar 15 Gorffennaf 2021.
3. Yn gofidio am y cynigion gan Lywodraeth y DU i gyflwyno mesurau ar gyfer adnabod pleidleiswyr a chyfyngu ar fynediad at bleidlais drwy’r post a phleidlais drwy ddirprwy, a fydd yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl yng Nghymru o’u hawliau democrataidd sylfaenol.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser cael agor y ddadl hon heddiw ar gynnwys pleidleiswyr.
Wrth edrych ar iechyd ein cymdeithas, rydym ni wrth gwrs yn ystyried pethau fel tlodi, cydraddoldeb, cyflogaeth, lles cymdeithasol, iechyd, diwylliant ac iaith. Mae ein deddfwriaeth arloesol, sy'n cael ei chydnabod drwy'r byd, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn nodi'r meini prawf i'w defnyddio wrth wneud penderfyniadau i ddiogelu a hybu lles cenedlaethau'r dyfodol. Ond, rwy'n awgrymu bod un mesur ar goll, sef iechyd ein democratiaeth, lles democrataidd ein cymdeithas.
Llywydd, pan nad yw tua 50 y cant o'r boblogaeth yn pleidleisio yn ein hetholiadau'n rheolaidd neu ddim o gwbl, awgrymaf nad yw iechyd democrataidd ein gwlad yn dda. Nid oes un ateb at bob diben ar gyfer y dirywiad hirsefydlog hwn mewn cyfranogiad dinesig, ond nid wyf yn credu mai chwilio am ffyrdd o osod rhwystrau rhag i bobl allu cymryd rhan yw'r ffordd ymlaen. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu dilyn cyfeiriad Llywodraeth y DU yn ei Bil Etholiadau. Yn hytrach, bwriadwn fabwysiadu dull gwahanol iawn, dull a fydd yn arwain at ddatblygu system etholiadol fodern sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bleidleisio cynhwysol a hygyrch mewn etholiadau ac mae eisiau annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Mae tymor y Senedd newydd hon yn rhoi cyfle i nodi rhaglen uchelgeisiol i gynyddu ymgysylltiad democrataidd Cymru, a bydd rhan o hyn yn archwilio'r ffyrdd y gallwn ni ail-ymgysylltu â'r etholwyr drwy ffyrdd newydd a hygyrch o gofrestru a phleidleisio. A byddaf yn trafod y rhain yn fanylach yn y man.
Ond yn gyntaf, wrth i ni yn Llywodraeth Cymru ac yn y Senedd heddiw ystyried a thrafod y ffyrdd o sicrhau'r cyfle gorau i gynhwysiant, hygyrchedd a chyfranogiad pleidleiswyr, rwy'n pryderu, fel y mae llawer o rai eraill, am gynigion Llywodraeth y DU yn ei Bil Etholiadau, sy'n cynnwys mesurau sy'n debycach i fesurau atal pleidleiswyr yn hytrach nag annog cyfranogaeth. Mae hyn yn arbennig o wir mewn cysylltiad â'r mesurau adnabod pleidleiswyr, nad oes sail dystiolaethol iddyn nhw ac sy'n amlwg yn rhoi'r rhai sy'n llai tebygol o fod â'r mathau gofynnol o gardiau adnabod o dan anfantais. Dyna pam yr ydym wedi bod yn glir na fyddwn yn cyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr na mesurau tebyg yng Nghymru ar gyfer etholiadau datganoledig. Mae gennym bryderon tebyg hefyd ynghylch cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cael mynediad at bleidleisiau drwy'r post a phleidleisiau drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl, ac ni fyddwn yn eu cefnogi nhw ychwaith.
Fel yr wyf wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, nid oes sail dystiolaethol ar gyfer cyflwyno'r mesurau hyn. Er enghraifft, mae data gan y Comisiwn Etholiadol yn awgrymu, yn 2019, ledled y DU, fod 595 o achosion o dwyll etholiadol honedig yr ymchwiliwyd iddyn nhw gan yr heddlu. O'r rheini, dim ond 142 o achosion a gafodd eu categoreiddio o dan gategori pleidleisio, dim ond un unigolyn a gafwyd yn euog o ddefnyddio pleidlais rhywun arall mewn gorsaf bleidleisio, a chafodd un unigolyn rybudd am yr un rheswm.
Llywydd, nid y ddadl hon yw'r amser i fanylu ar ein pryderon mewn cysylltiad â chynigion Llywodraeth y DU. Mae gennym broses ar wahân ar gyfer ystyried cydsyniad deddfwriaethol, ond fel y nodir yn y cynnig ar gyfer y ddadl hon heddiw, rydym yn gresynu at gynigion Llywodraeth y DU. Rydym yn credu bod perygl i ddull gweithredu Llywodraeth y DU amddifadu pobl Cymru o'u hawliau democrataidd a thanseilio cyfranogiad democrataidd.
Llywydd, ym mis Gorffennaf, cyhoeddais gyfres o egwyddorion ar gyfer diwygio etholiadol. Mae'r egwyddorion hyn yn adlewyrchu gwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, cynwysoldeb a democratiaeth yng Nghymru. Fel yr amlinellir yn y datganiad ysgrifenedig, mae'r egwyddorion yn cynnwys cydraddoldeb—mae'n rhaid galluogi pob person sy'n dymuno cymryd rhan mewn democratiaeth i wneud hynny mewn amgylchedd diogel a pharchus; hygyrchedd—dylai newidiadau i systemau etholiadol a chyfraith etholiadol fod yn seiliedig ar yr egwyddor o wneud pleidleisio a chymryd rhan mewn democratiaeth mor hygyrch a chyfleus â phosibl, ac mae egwyddorion eraill yn cynnwys cyfranogiad—gwella profiad dinasyddion, symlrwydd ac uniondeb. Defnyddir yr egwyddorion i feincnodi ein hagenda diwygio etholiadol yng Nghymru a'n dull o gefnogi ymgysylltiad a chyfranogiad democrataidd. Mae cynnydd eisoes wedi'i wneud tuag at gyflawni'r egwyddorion hyn, er enghraifft, o ran rhoi etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed a gwneud dinasyddion tramor yn gymwys—pobl sy'n cyfrannu at ein cymunedau a'n cenedl sy'n haeddu cael eu lleisiau wedi'u clywed yn ein democratiaeth.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol y bydd cyfres gyntaf Cymru o gynlluniau treialu etholiadol yn cael eu cynnal fel rhan o etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf. Bydd y rhain yn edrych ar gynyddu'r cyfleoedd i bobl bleidleisio, gan adlewyrchu bywydau prysur pobl. Ac rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi gosod datganiad ysgrifenedig y bore yma yn rhoi mwy o fanylion i'r Aelodau am y cynlluniau treialu hyn. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol ar gyfer Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen ar gyfres o gynlluniau treialu pleidleisio hyblyg i brofi gwahanol fathau o bleidleisio cynnar. Rydym wedi cynllunio'r cynlluniau treialu i ddarparu tystiolaeth ar gyfer y gwahanol fathau o bleidleisio cynnar, boed hynny mewn gorsaf bleidleisio bresennol neu mewn un ganolog newydd, ac agor y rhain ar ddiwrnodau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys gorsafoedd pleidleisio newydd sy'n cael eu sefydlu mewn ysgol a choleg i ymgysylltu â phleidleiswyr newydd sydd wedi cael etholfraint. Bydd pob cynllun treialu yn wahanol, gan ein helpu ni i weld beth sy'n gweithio orau yng Nghymru. Bydd hyn, yn ei dro, yn llywio ein gwaith ar ystyried y ffyrdd o atgyfnerthu a chodio deddfwriaeth etholiadol yng Nghymru, a sicrhau ei bod ar gael yn llawn yn Gymraeg a Saesneg, a thrwy hynny wella hygyrchedd cyfraith etholiadol Cymru. Bydd y dull hwn hefyd yn rhoi cyfle i ddigideiddio a moderneiddio'r system etholiadol yng Nghymru, gan ei gwneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a sicrhau bod etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru mor gynhwysol â phosibl. Byddwn yn ystyried ein cynigion ein hunain ar gyfer sut i gyflawni hyn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn y Senedd maes o law. Dirprwy Lywydd, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Darren Millar i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylai etholiadau yng Nghymru fod yn rhydd ac yn deg.
2. Yn croesawu Bil etholiadau Llywodraeth y DU a'i ddarpariaethau i gryfhau uniondeb etholiadau.
3. Yn nodi bod cyflwyno mesurau ar gyfer adnabod pleidleiswyr wedi'i gefnogi gan y Comisiwn Etholiadol a bod swyddfa sefydliadau democrataidd a hawliau dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi nodi bod eu habsenoldeb yn risg diogelwch.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i wella uniondeb yr holl etholiadau a gynhelir yng Nghymru.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Ar ddechrau fy araith, rwyf eisiau ei gwneud yn gwbl glir ein bod yn cytuno'n fras ag egwyddorion datganedig Llywodraeth Cymru ar ddiwygio etholiadol, a gyhoeddodd yn gynharach eleni h.y. i wneud y broses bleidleisio'n fwy cyfartal, yn fwy hygyrch, yn haws ac yn symlach i gymryd rhan ynddi a phroses gyda mwy o onestrwydd. Ond y gwahaniaeth rhyngom ni a'r Llywodraeth Lafur yw na welwn unrhyw reswm o gwbl dros ddweud bod Bil Etholiadau Llywodraeth y DU yn anghydnaws â'r egwyddorion hynny.
Er gwaethaf y stŵr y mae Gweinidogion Llafur wedi ceisio'i godi ynghylch y darpariaethau ym Mil Etholiadau Llywodraeth y DU, bydd y rhan fwyaf o bobl yn edrych yn syn ar eu gwrthwynebiad i fesurau diogelu syml yn erbyn twyll pleidleiswyr a fydd yn cryfhau diogelwch ac uniondeb etholiadau yma yng Nghymru. A'r cwestiwn mawr yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynigion synhwyrol tebyg ar gyfer etholiadau'r Senedd a'r cynghorau yma yng Nghymru? Mae twyll etholiadol yn drosedd erchyll, y mae pob unigolyn yn y Siambr hon a'r wlad hon wedi ei dioddef, ac mae'n drosedd y byddwn yn ei dioddef dro ar ôl tro os na roddir camau ar waith i fynd i'r afael â hi. Ac nid yw'r ffaith mai ychydig iawn o achosion o dwyll pleidleiswyr sy'n dod o flaen llys mewn gwirionedd yn golygu nad yw'n digwydd. Natur twyll yw ei fod yn aml yn osgoi sylw ac nid yn cael ei gofnodi. Ond lle mae wedi'i nodi—derbyniaf ymyriad mewn eiliad, Mike—lle mae wedi'i nodi mewn mannau fel Tower Hamlets, Slough, Birmingham a mannau eraill mae wedi amlygu gwendidau mewn trefniadau etholiadol y mae gennym ddyletswydd i fynd i'r afael â nhw.
Ni allaf siarad ar ran Gorllewin Clwyd, ond yn Nwyrain Abertawe, pan ewch i mewn i'r orsaf bleidleisio, yn aml nid oes rhaid i chi roi eich enw ac maen nhw'n eich cyfarch gyda, 'Helo, Mike,' 'Helo, Huw.' Mae'r bobl yno yn byw yn y gymuned; maen nhw'n tueddu i adnabod y bobl yno. Byddai ceisio cyflawni twyll etholiadol yn Nwyrain Abertawe yn eithriadol o anodd.
Rwy'n falch iawn o glywed hynny, Mike. Gadewch i ni symud ymlaen. Felly—[Chwerthin.]—y broblem yw bod y problemau hynny wedi'u hamlygu, a rhaid inni gymryd camau i fynd i'r afael â nhw, a dyna'n union y mae Bil Etholiadau Llywodraeth y DU yn ceisio'i wneud. Bydd yn atal dwyn pleidleisiau post pobl drwy ei gwneud yn ofynnol i bob pleidleisiwr gyflwyno cerdyn adnabod â llun, a bydd yn mynd i'r afael â gwendidau yn y trefniadau pleidleisio drwy'r post a drwy ddirprwy.
Nawr, o ran cerdyn adnabod â llun er mwyn cael pleidleisio, mae'r Gweinidog wedi lladd ar y syniad, nid heddiw, ond ar adegau eraill hefyd. Ac eto, ei blaid ei hun a ddeddfodd i gyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr yng Ngogledd Iwerddon, ac rydym yn eich cymeradwyo am gymryd y cam beiddgar hwnnw. A deallaf, hyd yn oed yng nghyfarfodydd dethol y Blaid Lafur, yn aml iawn, y gofynnir i bobl ddod â chardiau adnabod â llun i brofi y cânt bleidleisio dros eu hymgeisydd etholiad priodol. Y gwir amdani yw nad yw cerdyn adnabod pleidleiswyr y bygythiad y mae'r Blaid Lafur yn honni ei fod, mae gan 98 y cant o'r etholwyr ryw fath o gerdyn adnabod â llun addas eisoes, ac i'r rhai nad oes ganddyn nhw gardiau o'r fath, mae Bil Etholiadau'r DU yn darparu ar gyfer cerdyn pleidleiswyr dewisol am ddim a fydd ar gael, fel sydd eisoes yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r Comisiwn Etholiadol eisoes wedi dweud, ers cyflwyno cerdyn adnabod â llun yng Ngogledd Iwerddon, na chafwyd unrhyw achosion o ddynwared. Mae ffydd pleidleiswyr bod etholiadau'n cael eu cynnal yn dda yng Ngogledd Iwerddon yn gyson uwch nag yn unrhyw le arall yn y DU.
Felly, y realiti yw bod angen cerdyn adnabod â llun eisoes yn y rhan fwyaf o ddemocratiaethau'r Gorllewin, gan gynnwys pob un wlad yn Ewrop ac eithrio Denmarc, lle mae'n rhaid iddo fod ar gael ar gais yn unig. Felly, nid Llywodraeth y DU yn unig sydd eisiau i gerdyn adnabod pleidleiswyr gael ei gyflwyno ychwaith. Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi'i gefnogi, ac mae Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop wedi dweud bod ei absenoldeb yn etholiadau'r DU yn risg o ran diogelwch. Nawr, rwyf eisiau gweld y risg i ddiogelwch hwnnw'n cael sylw, a dylai pob un Aelod o'r Senedd hon fod eisiau hynny hefyd.
Nawr, o ran newidiadau i bleidleisiau post a drwy ddirprwy, unwaith eto, mae'r rhain yn gwbl synhwyrol. Pam y byddai unrhyw un sy'n credu mewn etholiadau rhydd a theg eisiau rhoi'r gorau i wahardd ymgyrchwyr plaid rhag ymdrin â phleidleisiau post yn gyfan gwbl gydag eithriadau cyfyngedig yn unig, gan wneud hynny'n drosedd? Pam y byddai unrhyw un eisiau rhoi'r gorau i atal casglu pleidleisiau post drwy gyfyngu ar nifer y pleidleisiau post y gall unigolyn eu cyflwyno ar ran pobl eraill? Pam y byddai unrhyw un eisiau rhoi'r gorau i ymestyn darpariaethau cyfrinachedd sy'n diogelu pleidleisiau mewn gorsafoedd pleidleisio ar hyn o bryd i bleidleisiau absennol, gan ei gwneud yn drosedd i unigolyn geisio darganfod neu ddatgelu dros bwy y mae pleidleisiwr post wedi pleidleisio, a pham y byddai unrhyw un eisiau rhoi'r gorau i'w gwneud yn ofynnol i'r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer pleidlais bost, gadarnhau eu hunaniaeth drwy ailymgeisio bob tair blynedd?
A wnewch chi ddirwyn i ben nawr, Darren, os gwelwch yn dda?
Mae'r rheina'n swnio'n gwbl synhwyrol i mi—fe wnaf, fe wnes i dderbyn ymyriad.
Amser.
Bydd yr holl fesurau hyn yn amddiffyn pleidleiswyr rhag twyll ac yn gwella diogelwch ac uniondeb etholiadau a fydd yn cael eu cynnal, felly yn hytrach na chwyno amdanyn nhw, fe fyddwn yn annog Llywodraeth Cymru i wneud rhywbeth cadarnhaol. Beth am eu mabwysiadu nhw ar gyfer etholiadau'r Senedd? Beth am eu mabwysiadu nhw ar gyfer etholiadau llywodraeth leol hefyd? Byddai hynny'n gwneud pleidleiswyr yn ffyddiog bod eu pleidleisiau'n gwneud gwahaniaeth ac na fyddant yn cael eu dwyn mewn etholiad.
Mae iechyd ein democratiaeth yn seiliedig ar ymddiriedaeth—ymddiriedaeth sydd wedi bod o dan brawf sylweddol yn ddiweddar, unwaith eto, gan gastiau Aelodau Seneddol yn San Steffan a llygredd—a defnyddiaf fy ngeiriau'n ofalus—llygredd wrth wraidd y Llywodraeth. Fel pe na bai'r ail swyddi niferus sy'n talu'n dda yn ddigon, mae Llywodraeth San Steffan hefyd yn atal pobl rhag pleidleisio drwy orfodi cardiau adnabod ar bleidleiswyr. Mae'n rhyfedd, rydym yn clywed y ddadl ar hawliau sifil gan y Torïaid pan fyddan nhw yn erbyn pasbortau COVID, ond maen nhw o blaid cardiau adnabod pleidleiswyr gorfodol. Y geiniog a'r geiniogwerth, Mr Millar.
Mae Llywodraeth San Steffan ei hun yn dangos y gall 2 filiwn o bobl, gan gynnwys 100,000 o bobl yma yng Nghymru, golli'r gallu i bleidleisio oherwydd cyflwyno ID i bleidleiswyr. Mae 48 y cant o bobl du ym Mhrydain heb drwydded yrru. Ac mae hyn i gyd, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, yn cael ei wneud er gwaethaf y dystiolaeth nad oes yna ddim problem i'w datrys. Roedd Gogledd Iwerddon yn hollol wahanol, fel rŷch chi'n gwybod yn iawn.
Er bod etholiadau Cymru'n dod yn fwyfwy cynhwysol a democrataidd, bydd etholiadau San Steffan yn gweld cam yn ôl gyda'r Bil Etholiadau hwn, gan fynd â ni'n ôl i'r ffordd Fictoraidd o gynnal etholiadau, gyda llai o bobl yn gallu pleidleisio. Dylai'r gwaith o ddiwygio'r bleidlais fod ym maes cynhwysiant, nid gwaharddiad fel yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd.
Yn ôl y peilot—
Iawn, Darren. Ie.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn derbyn yr ymyriad. Rwy'n cofio eich plaid chi a Llywodraeth Cymru yn gwneud dadleuon tebyg pan gyflwynodd Llywodraeth y DU gofrestru pleidleiswyr unigol, ac eto, er gwaethaf eich rhybuddion a'ch clychau larwm yn seinio, roedd gan y nifer fwyaf erioed o bobl hawl i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn 2019, ar ôl cyflwyno'r system honno. Nawr, mae hon yn system a fydd yn cyflwyno mesurau diogelu i sicrhau mai'r sawl sy'n dod i ddweud mai dyna yw ei gyfle i bleidleisio a bod ganddo hawl i bleidleisio yw'r unigolyn hwnnw mewn gwirionedd sydd â'r hawl. Beth yw'r broblem ynghylch hynny? Rydych chi newydd bleidleisio i ganiatáu i bobl—. Rydych chi newydd bleidleisio i fynnu bod pobl yn rhannu gwybodaeth feddygol breifat er mwyn cael mynd i'r sinema—
Wel, nid ydym wedi cael y bleidlais eto, Darren, ond—
—ac eto cyfrifoldeb mwyaf unrhyw ddinesydd o unrhyw wlad—
Rydych chi wedi gwneud eich pwynt, Darren.
—yw'r cyfle i bleidleisio. Rwy'n credu bod hwn yn fater pwysicach, ac felly dylai pobl ddangos cerdyn adnabod â llun.
Darren, lle mae'r Ceidwadwyr yn methu yma yw'r ffaith nad yw hyn yn broblem. Nid yw wedi bod yn broblem gydag etholiadau yng Nghymru a Lloegr yn yr un modd ag yr oedd yng Ngogledd Iwerddon yn etholiad cyffredinol 1983. Nid oes gennym gardiau adnabod gorfodol yn y wlad hon fel sydd yn Ewrop. A ydych chi eisiau hynny, Darren Millar? A ydych chi eisiau i hawliau sifil pobl gael eu tynnu oddi arnyn nhw, bod angen cardiau adnabod gorfodol arnyn nhw, lle bynnag y maen nhw'n mynd? A'r gost—£20 miliwn fesul etholiad cyffredinol fydd cost y cardiau adnabod hyn. Nid oes eu hangen. Mae'n wastraff amser drud arall gan y Llywodraeth Geidwadol.
Maen nhw'n dweud, onid ydyn nhw—. Wel, fe soniaf am y cynllun treialu yn gyntaf, y cynllun treialu yn 2019. O'r 2,000 o bobl yn y cynllun treialu a ddaeth i bleidleisio—. Mae'n ddrwg gennyf, cafodd 2,000 o bobl eu troi i ffwrdd o'r gorsafoedd pleidleisio am nad oedd ganddyn nhw y cardiau adnabod angenrheidiol. O'r 2,000 o bobl hynny, ni ddychwelodd bron i 40 y cant. Dyna oedd cynllun treialu Llywodraeth San Steffan. Ac nid yw hynny hyd yn oed yn ystyried nad oedd pobl yn cyrraedd yn y lle cyntaf am nad oedd ganddyn nhw'r cardiau adnabod angenrheidiol. Maen nhw'n dweud, onid ydyn nhw, ni allwch roi pris ar ddemocratiaeth, ond, oherwydd eich gweithredoedd chi, gweithredoedd Llywodraeth San Steffan, byddwn ni'n gwybod yn fuan beth yw cost democratiaeth—£34, cost trwydded gyntaf gyrrwr, neu £75.50 am y fraint o gael pasbort. Yng Nghymru, mae pobl unwaith eto'n wynebu gaeaf anodd, gan wynebu ansicrwydd ofnadwy—prisiau ynni a thanwydd uchel, toriadau i gredyd cynhwysol, trethi uwch, chwyddiant cynyddol. Does dim rhaid ystyried yn rhy hir beth fydd cost cerdyn adnabod pleidleiswyr pan fydd pobl yn ei chael hi'n anodd gwresogi eu cartrefi a bwydo eu teuluoedd. [Torri ar draws.] Rydych chi'n dweud ei fod am ddim; nawr, nid oes gennym ni unrhyw fanylion am y cardiau adnabod pleidleiswyr am ddim hyn. Maen nhw'n dweud y bydd angen i gynghorau ymdrin â'r broses—cynghorau sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ar hyn o bryd. Rhowch fanylion y cerdyn adnabod pleidleiswyr di-dâl hwn i ni. Nid ydych chi wedi gwneud hynny. Ac, fel y dywedais i, nid yw'n rhad ac am ddim—mae'n mynd i gostio £20 miliwn fesul etholiad cyffredinol. A phwy sy'n talu am hynny? Y trethdalwyr. Mae ffyrdd gwell o wario'r arian.
Fe af at fy nghwestiynau nawr, Cwnsler Cyffredinol, ond mae gwir angen i Lywodraeth Boris Johnson fynd i'r afael â'r materion gwirioneddol yn ein gwleidyddiaeth: rhoi trefn ar gyllid gwleidyddol, dod â'r 9 miliwn o bobl nad ydyn nhw ar hyn o bryd wedi'u cynnwys ar y gofrestr etholiadol ac, yn hollbwysig, diwygio San Steffan, Tŷ'r Cyffredin a'r Arglwyddi.
Rwy'n falch, Cwnsler Cyffredinol, o weld y peilot yma. Dwi'n falch o weld y pedair ardal, eu bod nhw'n ymestyn y gallu i bleidleisio, ond dwi'n sylwi eu bod nhw i gyd yn ardaloedd trefol, poblog. Oni fyddai fe'n well cynnwys o leiaf un ardal wledig? Sut daethoch chi i benderfyniad ar ble i leoli'r pedwar maes? Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a gafodd ei gyhoeddi ym Mawrth 2020 yn dweud mai un broblem fawr i bobl ifanc o ran peidio â phleidleisio yw'r ffaith ei bod hi'n anodd iddyn nhw ei ddeall ac nad ydyn nhw yn cael digon o addysg, felly sut mae modd i chi gefnogi athrawon i ddysgu gwleidyddiaeth Cymru yn well yn yr ysgolion? Roedd hi hefyd yn siomedig iawn cyn lleied o bobl ifanc wnaeth gofrestri. Wnaeth 54 y cant ddim cofrestru—
Bydd yr Aelod yn dod i gasgliad nawr, os gwelwch yn dda.
—ond roedd y ffigur yn llawer uwch mewn ardaloedd eraill, fel Ceredigion. Ydych chi'n edrych i weld sut oedd Ceredigion wedi gallu gwneud pethau lot yn well? A hefyd, does dim data ynglŷn â gwladolion tramor sy'n byw yng Nghymru. Sut ydyn ni yn gallu cael y data yna? Ond, yn y diwedd—yn y diwedd, mae'n gyfrifoldeb arnom ni i gyd fan hyn. Mae'n warth nad oes 50 y cant o bobl Cymru yn pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru, ac mae yna ddyletswydd ar bob un ohonom ni o bob plaid i danio dychymyg, i danio diddordeb pobl o bob oedran ac o bob cefndir yn beth sy'n digwydd fan hyn yn ein Senedd ni. Diolch yn fawr.
Mae iechyd ein democratiaeth yn arwydd o iechyd ein cymdeithas yn fwy cyffredinol. Mae'r ddau yn anwahanadwy a dyna pam yr wyf finnau hefyd yn gwrthwynebu ymagwedd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan o ran cyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau a gadwyd yn ôl. Mae'n ymagwedd gywilyddus a dan din i danseilio democratiaeth. Mae'r modd y mae'r Ceidwadwyr yn difreinio rhan sylweddol o'r boblogaeth sydd heb gardiau adnabod pleidleiswyr yn arwydd o'u dull o lywodraethu'n fwy cyffredinol. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai'r rhai y mae angen clywed eu lleisiau fwyaf—pobl ifanc, pobl dduon, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a phobl o gefndiroedd tlotach yw'r lleiaf tebygol o fod â math o gerdyn adnabod pleidleiswyr, ac felly byddan nhw'n cael eu difreinio rhag pleidleisio mewn etholiadau a gadwyd yn ôl. Yn union fel llawer o bobl, pan fyddaf yn curo drysau, fy nod—
Jane, a wnewch chi dderbyn ymyriad o'r Siambr? Gwnewch. Iawn, Darren.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle i wneud ymyriad, ac rwy'n gwerthfawrogi ei bod yn anodd drwy Zoom. Rydych newydd grybwyll mai lleiafrifoedd ethnig fydd y rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan y cais am gerdyn adnabod pleidleiswyr hwn. Nid yw hynny'n cael ei ategu gan yr ystadegau a ddarparwyd gan y Comisiwn Etholiadol. Maen nhw'n awgrymu bod gan 99 y cant o bobl o leiafrifoedd ethnig gardiau adnabod pleidleiswyr—bod ganddyn nhw ddogfennau adnabod a fyddai'n addas fel dogfennau adnabod pleidleiswyr—o'i gymharu â 98 y cant o'r boblogaeth gyffredinol.
Diolch, Darren. Rwyf am ddod at eich tystiolaeth—sydd, yn fy marn i, yn ddewisol iawn—gan y Comisiwn Etholiadol, ac rwyf am barhau.
Pan fyddaf yn curo ar ddrysau, fy nod yw ymgysylltu pobl yn y broses ddemocrataidd gymaint â phosibl. Felly, mae ceisio dwyn perswâd pobl i bleidleisio, na fydden nhw fel arfer, pan fydd gofyniad ychwanegol, yn mynd i fod yn llawer anoddach. Diolch i Lywodraeth Cymru am beidio â newid ein cyfreithiau mewn cysylltiad â chardiau adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau.
A chyn imi orffen, hoffwn wneud sylwadau ar welliant y Ceidwadwyr, os caf i, Dirprwy Lywydd. Mae'r Ceidwadwyr wedi honni yn eu gwelliant nhw heddiw fod cyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau rywsut yn cael ei gefnogi gan y Comisiwn Etholiadol a sawl sefydliad arall. Felly, dim ond i gymryd y Comisiwn Etholiadol, mae'n gorff annibynnol, nad yw â barn ar faterion polisi pleidiol, ac, am bob sefydliad y gall y Ceidwadwyr ei enwi sydd o blaid cyfreithiau cardiau adnabod pleidleiswyr yn y DU, gallaf enwi mwy o lawer sydd yn erbyn, megis y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, Ymgyrch y Bleidlais Ddu, Unlock Democracy, OpenDemocracy ac ati.
Yn olaf, rwyf wedi fy syfrdanu'n llwyr gan anghysondeb gwybyddol rhai o'r Aelodau Ceidwadol ar y mater hwn. Fel y clywsom ni, maen nhw'n honni ar y naill law eu bod am ddiogelu rhyddid ac maen nhw'n rhybuddio am gymdeithas o siecbwyntiau fel y'i gelwir wrth drafod materion pasbort, ond, ar y mater hwn, maen nhw'n pwyso am system sy'n eithrio pobl rhag cymryd rhan yn ein proses ddemocrataidd—tystiolaeth unwaith eto mai dim ond sefyll dros ryddid pan fydd hynny'n gyfleus iddyn nhw y mae'r Ceidwadwyr. Diolch—diolch yn fawr iawn.
Yr un cam sydd wedi cynyddu nifer y bobl sy'n pleidleisio yn yr etholiad yw'r bleidlais drwy'r post sy'n cael ei darparu ar gais. Yn anffodus i ddemocratiaeth, mae'r Gweriniaethwyr Americanaidd a'r Ceidwadwyr Prydeinig eisiau gael gwared ar bleidleiswyr o ddemograffeg sy'n anffafriol iddyn nhw ac i wneud pleidleisio'n anos i'r bobl hynny.
Mae pawb yn credu y dylai etholiadau yng Nghymru fod yn rhydd ac yn deg. Os ydym ni eisiau hynny, y ffordd orau ymlaen yw gorfodi gwariant etholiadol a sicrhau bod gwariant etholaethol yn cael ei ddangos fel gwariant etholaethol, nid fel gwariant cenedlaethol.
Mae Bil Etholiadau Llywodraeth y DU naill ai'n ymdrin â phroblem nad yw'n bodoli neu'n ceisio atal etholwyr rhag pleidleisio—fe adawaf i chi ddod i'ch casgliadau eich hun. Ein her fwyaf yw cael pleidleiswyr i bleidleisio. Yn etholiad y Senedd eleni, roedd y nifer a bleidleisiodd yn Nwyrain Abertawe yn 35.41 y cant, gyda dim ond Merthyr Tudful a Rhymni, sef 34.8 y cant, yn is. Er mai 2021 oedd â'r nifer uchaf a bleidleisiodd ers sefydlu'r Senedd, mae'n dal i fod 50 y cant yn brin. Un o swyddogaethau ymgeiswyr a'u timau ymgyrchu yw ennyn brwdfrydedd pobl i bleidleisio. Yn bendant, nid yw unrhyw beth sy'n ei gwneud yn anos eu cael nhw allan i bleidleisio yn mynd i helpu. Mae rhai pobl yn credu nad yw pwy sy'n cael ei ethol yn bwysig er gwaethaf y dystiolaeth ar eu cyfer ar y gwahanol ymatebion ar bynciau fel COVID a'r ardaloedd sy'n dod o dan reolaeth y Senedd. Faint yn anos fydd hi i gael pobl i bleidleisio os oes rhaid iddyn nhw ddod o hyd i rywbeth y gallan nhw ei ddangos i brofi pwy ydyn nhw? Mae'n mynd i'w gwneud hi'n anos fyth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Mae'n rhaid i bobl ddarparu dogfen adnabod â llun er mwyn casglu parsel o'r Post Brenhinol y dyddiau hyn. Pam ar y ddaear y mae hynny'n cael ei ystyried yn ofyniad cwbl resymol, o'i gymharu â phobl sy'n gorfod cyflwyno dogfennau adnabod â llun er mwyn manteisio ar eu cyfle democrataidd a phleidleisio?
Diddorol iawn, Darren, ond dydyn nhw ddim.
Ydyn, maen nhw'n gwneud hynny.
Dydyn nhw ddim.
Maen nhw yn gwneud hynny.
Y tro nesaf y bydd gennyf barsel gallwch ddod gyda mi i'w gasglu; dangosais fy ngherdyn credyd ac fe wnaethon nhw ei roi i mi.
Ond, ers etholiad 1992, pan bleidleisiodd 77.7 y cant o'r boblogaeth, mae nifer y pleidleiswyr a bleidleisiodd wedi gostwng ac wedi aros yn isel. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cael mwy o bobl i bleidleisio, yn hytrach na cheisio ei gwneud yn anos i'r rhai sy'n chwarae gyda'r syniad o bleidleisio i bleidleisio.
O ran newid y system etholiadol, mae ymgyrch dros y bleidlais sengl drosglwyddadwy, sef STV. STV yw'r system etholiadol a ddefnyddir ar gyfer etholiadau cynghorau yn yr Alban ac ar gyfer Senedd Iwerddon, y Dáil. Gwendid mwyaf STV yw bod yn rhaid i chi ddyfalu faint o seddi y gallwch eu hennill gydag ymgeiswyr enwebedig. Yn etholiad cyffredinol Iwerddon yn 2020, ni chafodd Sinn Féin, er iddi dderbyn y pleidleisiau dewis cyntaf mwyaf ledled y wlad, y nifer fwyaf o seddi. Er gwaethaf y ffaith iddyn nhw guro Fianna Fáil o 535,995 o bleidleisiau i 484,320, yn y diwedd roedd ganddyn nhw un sedd yn llai. Cymerodd 12,745 o bleidleisiau i ethol pob Aelod Fianna Fáil, ond 14,476 i ethol Aelod o Sinn Féin—yr oedden nhw'n dyfalu'n anghywir ynghylch nifer y seddi y gallent eu hennill. Felly, mae STV yn llai o system gyfrannol ac yn fwy o gêm ddyfalu fedrus.
A yw'n syndod—[Torri ar draws.]—bod yr Alban, er ei bod yn ei defnyddio ar gyfer etholiadau cyngor, wedi penderfynu peidio â'i defnyddio ar gyfer etholiadau seneddol yr Alban? Ardal Cyngor Highland Wester Ross, Strathpeffer a Lochalsh yw'r enghraifft glasurol o ward maint cyngor—nid yn unig y ward fwyaf yn y DU, mae'n fwy yn ei hardal na 27 o 32 o gynghorau'r Alban. Hefyd, mae tua'r un maint â Trinidad a Tobago. Yna mae angen y boblogaeth ar gyfer y wardiau hyn er mwyn caniatáu i STV weithredu'n effeithiol. Mae gan Ward 1 Glasgow etholaeth o 30,000, tua dwy ran o dair o boblogaeth etholaeth Senedd Aberconwy. Gan droi at Glasgow Govan, llwyddodd Llafur i gyrraedd y brig gyda 1,520, yr SNP yn dod yn ail ac yn drydydd gyda 1,110 a 1,096 o bleidleisiau yr un, a'r ymgeisydd Gwyrdd yn gwthio'r ail ymgeisydd Llafur allan i ennill y bedwaredd sedd. Er mai'r SNP gafodd y dewis cyntaf ar gyfer y ddau ymgeisydd a oedd yn agos iawn at ei gilydd, ni wnaeth Llafur, ac felly, er iddyn nhw gyrraedd y brig, dim ond un o'r pedair sedd a enillwyd ganddyn nhw yn y diwedd.
I grynhoi ynghylch y bleidlais sengl drosglwyddadwy, mae angen iddi gwmpasu ardal ddaearyddol fawr iawn, mae angen poblogaeth fawr arni, mae'n ei gwneud yn llawer anos i etholwyr adnabod ymgeiswyr—ac un peth y gallem i gyd gytuno arno yw ei bod yn bwysig bod etholwyr yn adnabod ymgeiswyr, yn gallu cwrdd â'u hymgeisydd ac adnabod rhywun o'u cymuned eu hunain—mae'n golygu dyfalu nifer y seddi yr ydych yn mynd i'w hennill, a phleidleiswyr yn pleidleisio dros ymgeiswyr y pleidiau.
Cefais ymyriad gan fy nghyd-Aelod Alun Davies ar ei eistedd yn dweud bod y cyntaf i'r felin hefyd yn ymwneud â dyfalu, ond nid yw hyn yn wir, oherwydd mae'r cyntaf i'r felin yn ymwneud â chael y nifer fwyaf o bleidleisiau. Felly, rydych chi'n rhoi eich ymgeiswyr yno ac nid oes rhaid i chi ddyfalu'r drefn y maen nhw'n mynd i ymddangos.
Na, wnes i ddim dweud hynny.
Do.
Yr hyn a ddywedais oedd nad yw'r cyntaf i'r felin yn system gyfrannol ac nad yw'n deg, ac nid yw'n darparu unrhyw fath o gymesuredd.
Wel, yn sicr nid yw'n gwneud hynny, ond—
Mae'n rhoi Llywodraethau Torïaidd i ni.
Mae hefyd yn rhoi Llywodraethau Llafur i ni, ac ystyriwch hyn: pe na baem erioed wedi cael y cyntaf i'r felin, ni fyddem wedi cael y gwasanaeth iechyd gwladol oherwydd byddai'r Ceidwadwyr a'r Rhyddfrydwyr, fel yr oedden nhw bryd hynny, wedi dod at ei gilydd yn 1945 i gymryd rheolaeth a bydden nhw wedi rheoli byth ers hynny. Cofiwch, y Rhyddfrydwyr yw adain chwith y Blaid Geidwadol.
Mae'r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon heddiw yn brawf, os oes angen prawf erioed, fod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn brin o syniadau, allan o'i dyfnder ac wedi drysu. Dyma ni, yn eistedd yma chwe mis ers etholiadau'r Senedd a gallaf gyfrif nifer y dadleuon gan Lywodraeth Cymru ar fy mysedd. A ydym yn trafod y materion mawr sy'n wynebu Cymru a sut yr ydym yn mynd i'w datrys? Na. Yma mae gennym dacteg tynnu sylw arall eto—'Edrychwch draw acw, mae Llywodraeth y DU yn ddrwg'—gan obeithio y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn anghofio am eich methiannau chi: nid ydych yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad o restrau aros; eich methiant i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio gofal cymdeithasol; eich methiant i gynnal ymchwiliad COVID yng Nghymru. Os parhewch i siarad am faterion cyfansoddiadol, efallai na fydd pleidleiswyr yn sylwi ar eu gwasanaethau cyhoeddus yn chwalu o'u cwmpas—'Gadewch i ni ganolbwyntio ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i etholiadau. Os dywedwn wrth bobl fod y Torïaid drwg yn ceisio eu hatal rhag pleidleisio, efallai y byddan nhw'n pleidleisio dros Lafur Cymru yn lle hynny'.
Y drafferth yw, nid yw'n wir. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio diogelu ein hetholiadau, etholiadau sy'n agored i dwyll. Dyna farn y Comisiwn Etholiadol a nifer o sefydliadau rhyngwladol. Y Comisiwn Etholiadol a argymhellodd gyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr. Cododd Swyddfa Sefydliadau Democrataidd a Hawliau Dynol y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydweithredu yn Ewrop, sefydliad sy'n arsylwi etholiadau ledled y byd, bryderon am y gwendidau maen nhw wedi'u gweld yn systemau pleidleisio'r DU sy'n eu gwneud yn agored i dwyll. Gwireddwyd eu pryderon yn Tower Hamlets yn ystod etholiadau maer 2014, a chanfu'r Uchel Lys dystiolaeth o dwyll eang gan bleidleiswyr. Dyma'r hyn a sbardunodd Lywodraeth y DU i weithredu, camau a oedd wedi'u hystyried yn ofalus a'u profi'n eang. Fe wnaethon nhw brofi gwahanol systemau adnabod pleidleiswyr yn ystod etholiadau yn 2018 a 2019. Fe wnaethon nhw sefydlu system o ddarparu dogfennau adnabod pleidleiswyr am ddim i'r rhai nad oedd ganddyn nhw unrhyw fath o ddogfennau adnabod, gan ladd y ddadl ffug honno am byth.
Pam mae'r chwith yn ofni cardiau adnabod pleidleiswyr gymaint, a pham y maen nhw yn parhau i gyflwyno dadleuon ffug yn erbyn cynnal etholiadau rhydd a theg? Siawns nad ydyn nhw ddim yn esgusodi twyll pleidleisio. Yr un ddadl a glywaf dro ar ôl tro yw nad oes tystiolaeth o dwyll o'r fath yn digwydd yng Nghymru ac felly nid oes angen cardiau adnabod pleidleiswyr arnom ar gyfer etholiadau Cymru. Wel, nid yw'r lle hwn erioed wedi dioddef ymosodiad terfysgol, felly pam yr ydym yn trafferthu cael swyddogion diogelwch a'r heddlu arfog? Mae'n ddadl hurt. Rydym yn rhoi mesurau ar waith i atal ymosodiadau o'r fath ac i rwystro ymosodiadau o'r fath, ac yn union fel yr ydym yn amddiffyn ein sefydliadau democrataidd, felly hefyd y dylem ni amddiffyn ein democratiaeth. Ond gadewch i ni fod yn glir, nid yw Llywodraeth y DU yn cyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr ar gyfer y Senedd nac etholiadau lleol, oherwydd nid yw hynny o fewn eu cylch gwaith. Mae'r cynigion hynny ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau lleol Lloegr, a hoffwn i'r lle hwn ddilyn yr un peth er mwyn diogelu ein hetholiadau yng Nghymru. Ond mewn gwirionedd, ni fydd byth yn digwydd cyn belled â bod gennym ni Lywodraeth yng Nghymru sy'n hapus i'w gwneud hi'n hawdd i bobl ddiegwyddor danseilio ewyllys yr etholwyr. Diolch yn fawr.
Rwy'n credu ei bod yn anodd tanseilio ewyllys etholwyr sy'n pleidleisio drosoch. Mae'n un o'r dadleuon mwy anarferol yr wyf wedi'i chlywed ers peth amser. Ond rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod yn trafod ein democratiaeth a sut i ddyfnhau ac ehangu'r ddemocratiaeth honno, ac mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn ei wneud nawr, yr adeg hon o'r flwyddyn. Y penwythnos diwethaf, yr oeddem yn nodi pen-blwydd gorymdaith y Siartwyr i Gasnewydd, lle gadawodd y Siartwyr Dredegar a Nant-y-glo a gorymdeithio dros ddemocratiaeth ac ymgyrchu a marw dros ddemocratiaeth, oherwydd mae democratiaeth yn rhywbeth y mae gormod ohonom yma ac mewn mannau eraill yn ei gymryd yn ganiataol, ac mae pobl yn ymgyrchu ac yn marw dros ddemocratiaeth mewn gwahanol rannau o Ewrop bob dydd o'r flwyddyn, a dylem gydnabod hynny, ac ni ddylem byth gymryd unrhyw rannau o'n democratiaeth yn ganiataol. Mwynheais gyfraniad agoriadol y Gweinidog, y Cwnsler Cyffredinol, ar y mater hwn. Mae'n un o'r meysydd hyn lle, i mi, mae cyd-ddigwyddiad hapus o ymarferoldeb ac ymrwymiad athronyddol yn dod at ei gilydd yn y ddadl hon. Mae'n iawn ac yn briodol bod Llywodraeth Cymru yn chwilio'n gyson am ffyrdd o ehangu cyfranogiad yn ein democratiaeth, ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog ac rwy'n falch o weld bod Blaenau Gwent wedi'i gynnwys yn y treialon hyn, ac edrychaf ymlaen at chwarae fy rhan i sicrhau y gallwn sicrhau bod mwy o bobl yn chwarae rhan mewn etholiadau democrataidd a chyfranogiad democrataidd nag a wnaethon nhw yn y gorffennol, ac edrychaf ymlaen at gael sgyrsiau gyda'r Gweinidog ynghylch sut y gellir cyflawni hynny.
Ond mae'n gwbl hanfodol, ac yn sicr yn ystod fy nghyfnod yn y Llywodraeth, roeddwn yn falch iawn o gynnig deddfwriaeth a oedd yn ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Roeddwn yn falch iawn o archwilio ffyrdd gwahanol o alluogi holl drigolion Cymru i gymryd rhan yn etholiadau Cymru. Un o'r agweddau mwyaf trawiadol ar y ddadl hon yw mai cyfraniad y Ceidwadwyr ati yw ceisio atal pobl rhag pleidleisio a pheidio ag annog mwy o bobl i bleidleisio. Mae'n gyfraniad eithriadol i unrhyw ddadl ddemocrataidd. Ac yn rhy aml o lawer—a dywedaf hyn wrthych chi gyda mwy o dristwch nag o ddicter—yr ydym i gyd yn cymryd ac yn dysgu llawer o'r Unol Daleithiau; mae rhai pethau na ddylai byth groesi Môr Iwerydd. Mae ymrwymiad y Blaid Weriniaethol i ddifreinio gwahanol rannau o boblogaeth America yn un o'r pethau nad ydym eisiau eu gweld yn y wlad hon. Derbyniaf yr ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Nid yw hyn yn ymwneud â mewnforio pethau o'r Unol Daleithiau. O ran cardiau adnabod â llun er mwyn pleidleisio, dyma sy'n arferol ar draws Ewrop gyfan. Ni yw'r eithriad. Ni yw'r unig rai sydd heb y rhain, ar wahân i Ogledd Iwerddon, cyn belled ag y mae'r DU yn y cwestiwn, fe'u cyflwynwyd yno gan eich Llywodraeth Lafur. A ydych chi felly'n ymgyrchu i gael gwared ar gardiau adnabod â llun yng Ngogledd Iwerddon?
Un o rannau mwy siomedig y Bil Etholiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw ei bod yn cymryd ystod eang o bwerau gwahanol, ac nid oes yr un o'r pwerau hynny'n ceisio annog cyfranogiad. Nid oes yr un ohonyn nhw'n ceisio ymestyn y cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd. Mae pob un ohonyn nhw yn ceisio lleihau cyfranogiad democrataidd, ac rwy'n credu beth bynnag yw'r mater unigol—rydych chi wedi siarad am gardiau adnabod pleidleiswyr y tro hwn, ond beth bynnag yw'r mater—mae angen inni ddiogelu ein democratiaeth. Cytunaf â chi ar hynny. Rwy'n credu eich bod wedi dewis y mater anghywir i ganolbwyntio arno y prynhawn yma. Credaf fod materion eraill, a deuaf at y rheini cyn imi gloi, ond mae angen mawr i ni barhau i edrych yn ddychmygus ac yn greadigol, i edrych i weld sut y gallwn ni annog mwy o bobl i bleidleisio ac annog pobl i bleidleisio mewn gwahanol ffyrdd. Hoffwn weld, Gweinidog—a gobeithio y byddwch yn gallu ymdrin â hyn yn eich ateb i'r ddadl hon—sut y gallwn gyflwyno pleidleisio aml-ddiwrnod i sicrhau y gall pobl bleidleisio dros benwythnos, er enghraifft, yn hytrach nag ar ddydd Iau yn unig. Sut y gallwn ni gyflwyno pleidleisio electronig i sicrhau y gall pobl bleidleisio o le bynnag y maen nhw'n digwydd bod? Sut y gallwn sicrhau bod y cofrestrau etholiadol i gyd yn electronig fel y gallwn bleidleisio yng Ngorllewin Clwyd neu Bontypridd neu Flaenau Gwent, a gallai'r Aelod dros Orllewin Clwyd bleidleisio ym Mlaenau Gwent hefyd, er mwyn sicrhau bod gennym y cyfranogiad mwyaf posibl, er mwyn sicrhau bod y dechnoleg sydd ar gael i ni yn cael ei defnyddio i sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posibl? Gobeithio y gallwn ni wneud hynny.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, mae dau beth y byddwn i'n gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar eu cyfer i ddiogelu uniondeb ein hetholiadau. Yn gyntaf oll, grymuso'r Comisiwn Etholiadol i reoleiddio mynediad at gyllid tramor, i arian tywyll yr ydym wedi'i weld yn llygru ein gwleidyddiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hefyd i rymuso naill ai Ofcom neu'r Comisiwn Etholiadol i reoleiddio'r gamwybodaeth a'r gamwybodaeth fwriadol a welsom dros y blynyddoedd diwethaf. Dyna lle mae ein democratiaeth yn cael ei thanseilio. A dywedaf wrthych nawr, Darren Millar, i le mae hynny'n mynd â ni: mae'n mynd â ni i'r Capitol yn America ar 6 Ionawr yn gynharach eleni. Dyna i le mae'r math hwnnw o wleidyddiaeth yn mynd â ni. Yn gyntaf, rydych yn ceisio atal pobl rhag pleidleisio, rydych yn rhoi'r holl rwystrau o flaen pobl i'w hatal rhag pleidleisio, rydych yn chwarae â ffiniau etholaethau ac, os bydd hynny i gyd yn methu, rydych yn defnyddio twyllwybodaeth a chamwybodaeth i danseilio uniondeb etholiad a cheisio dymchwel eich democratiaeth yn hytrach nag ildio.
A'r pwynt olaf—
Mae'n rhaid i'r Aelod gloi nawr.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw mai'r hyn sy'n eithrio etholwyr fwyaf yw'r drefn y cyntaf i'r felin, a gobeithiaf y byddwn ni'n gallu cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol—cynrychiolaeth gyfrannol deg—STV, i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys wrth ddewis pwy sy'n eu cynrychioli ac nid dim ond pobl sy'n digwydd byw mewn etholaethau lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno â'u dewisiadau.
Rwyf yn dal i synnu at y sylwadau sy'n ceisio awgrymu bod cysylltiadau rhwng terfysg y Capitol a'r drafodaeth ar gynhwysiant pleidleiswyr yma heddiw. Ond diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw.
Yn gyntaf, hoffwn ddechrau ailadrodd y pwyntiau y mae Aelodau wedi'u codi eisoes: pwysigrwydd etholiadau rhydd a theg. Rwy'n cefnogi symudiadau i sicrhau bod gan y rhai sy'n gymwys i bleidleisio y gallu gwybodus i wneud hynny'n hawdd ac yn hyderus. Ac ar y ffydd honno yn y system etholiadol yr wyf innau eisiau canolbwyntio fy nghyfraniad yma heno. Mae ffydd ac ymddiriedaeth mewn unrhyw Lywodraeth yn dechrau gyda'r bleidlais ac mae uniondeb y bleidlais hon yn sylfaen i ddemocratiaeth, fel y soniodd Mr ab Owen yn ei gyfraniad. A daw'r cyfan sydd gan genedl ddemocrataidd deg i'w gynnig o'r gallu hwnnw i fod â ffydd ac ymddiriedaeth yn y bleidlais honno. Os na ellir ymddiried yn y bleidlais hon, yna mae amheuaeth ynghylch gwneud penderfyniadau yn codi ar draws pob haen o lywodraeth. Wrth bleidleisio, mae angen i bobl ymddiried yn llwyr yn y broses, a dyma pam y dylem bob amser geisio addasu a gwella'r broses bleidleisio, sef yr hyn y mae Bil Etholiadau'r DU yn ceisio'i wneud yn fy marn i.
Fel y dywed gwelliant y Ceidwadwyr a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Darren Millar, dylai etholiadau yng Nghymru fod yn rhydd ac yn deg. Yn anffodus, mae tystiolaeth, serch hynny, nad yw rhannau o'n cymdeithas yn teimlo'n rhydd ac yn deg wrth bleidleisio. Ac eto, Mr ab Owen, fe ddywedoch chi nad yw camddefnydd etholiadol yn broblem, ond yn adroddiad 'Diogelu'r bleidlais' a edrychodd ar dwyll etholiadol yn 2016, canfu'r adroddiad fod twyll etholiadol yn arbennig o gyffredin ac yn risg mewn cymunedau pan oedd hawl unigolyn i bleidleisio'n gyfrinachol mewn perygl, gyda thystiolaeth o bwysau'n cael ei roi ar fenywod a phobl ifanc yn arbennig i bleidleisio yn ôl ewyllys pobl eraill. Ac rwy'n siŵr y byddai Aelodau ar draws y Siambr hon yn cytuno nad yw'n iawn i fenywod a phobl ifanc deimlo pwysau wrth bleidleisio, ac mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys. Ategir hyn hefyd gan ymchwil—soniaf amdano eto; rydym yn chwarae gêm o bingo yma heddiw—y Comisiwn Etholiadol, sy'n dangos nad yw llawer o bobl yn hyderus o ran diogelwch ein system bleidleisio, gyda 66 y cant o'r cyhoedd yn dweud y byddai gofyniad i ddangos cerdyn adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio yn gwneud iddyn nhw deimlo'n fwy hyderus. A dim ond yn y ddadl ddiwethaf yr oedd Aelodau ar draws y Siambr hon yn canmol y ffaith y dylem fod yn gwrando ar farn boblogaidd aelodau'r cyhoedd—byddai 66 y cant ohonyn nhw eisiau gweld cardiau adnabod pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio. Gyda'r wybodaeth hon, mae'n bwysig nodi, fel y soniwyd eisoes, fod y Comisiwn Etholiadol, corff annibynnol, unwaith eto, yn gosod safonau ar gyfer sut y dylid cynnal etholiadau gan gefnogi cardiau adnabod pleidleiswyr.
Gan ddod at gynnig Llywodraeth Cymru, maen nhw'n datgan y bydd system adnabod pleidleiswyr yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl yng Nghymru o'u hawliau democrataidd sylfaenol. Mae hwn yn honiad beiddgar, a dweud y lleiaf. Wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod cyflwyno cardiau adnabod pleidleiswyr yn gweithio, ac onid yw'n wych bod tystiolaeth ar draws cenhedloedd bod system adnabod pleidleiswyr yn gweithio? Rwy'n synnu clywed nad yw rhai o'r Ewrogarwyr yn yr ystafell heddiw eisiau efelychu'r hyn sy'n digwydd ar draws y cyfandir, gyda 47 o wledydd eraill—47 o wledydd eraill—yn Ewrop â gofynion cardiau adnabod pleidleiswyr llawn. Ac, wrth gwrs, fel y soniwyd eisoes heddiw, yn nes at adref, yn yr etholiad cyffredinol cyntaf ar ôl cyflwyno cardiau adnabod â llun, roedd y nifer a bleidleisiodd yng Ngogledd Iwerddon yn uwch nag yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Felly, mae'r sylwadau a wnaed o ran atal pleidleiswyr—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Mr Hedges, a oeddech eisiau ymyrryd?
Ond, roedd yn uwch o'r blaen hefyd. Yn hanesyddol, mae Gogledd Iwerddon wedi bod â nifer uchel iawn o bleidleiswyr. Mae ychydig fel dweud bod y nifer a bleidleisiodd ym Mrycheiniog a Maesyfed yn uwch nag ym Mlaenau Gwent neu Ddwyrain Abertawe.
Felly, gan ddod yn ôl at yr ensyniad y byddai dull adnabod pleidleiswyr yn atal pleidleisio ac yn amddifadu pobl o'u hawliau democrataidd sylfaenol, mae'n amlwg nad yw wedi cael unrhyw effaith yng Ngogledd Iwerddon. Ac mae gennym broblem yn etholiadau'r Senedd ac mae'n rhaid i ni wynebu hyn: pleidleisiodd 46.6 y cant o bobl yn etholiadau mis Mai o'i gymharu â 67 y cant yn etholiadau cyffredinol y DU. Efallai y bydd gan Lywodraeth y DU syniadau da yma ynghylch sut y gallwn sicrhau hyder pleidleiswyr adeg yr etholiad.
Rwyf yn ymwybodol o amser, Dirprwy Lywydd, felly symudaf ymlaen. I gloi, felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i gynyddu uniondeb pleidleisio, gan sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel, yn ddiogel ac yn rhydd wrth bleidleisio, a sicrhau bod pobl yn gallu pleidleisio'n deg. Mae gennym Fil Etholiadau Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth y Comisiwn Etholiadol ac a gefnogir gan y cyhoedd, i atal twyll pleidleiswyr, sy'n gweithio'n llwyddiannus ar draws llawer o wledydd eraill ledled y byd. Ac eto, rydym yma eto'n clywed Llywodraeth Cymru yn lladd ar Lywodraeth y DU fel arfer. Rwy'n annog pob Aelod i wrthod cynnig Llywodraeth Cymru a chefnogi ein gwelliant Ceidwadol i roi'r diogelwch a'r tegwch y maen nhw'n eu haeddu i'r pleidleiswyr hynny. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn cytuno y dylai etholiadau fod yn deg, yn agored ac yn hygyrch. Dylem fod yn annog cynifer o etholwyr i gymryd rhan yn ein democratiaeth â phosibl, a theimlo'n rymus i gael eu lleisiau wedi'u clywed y tu hwnt i'r cyfnod pleidleisio. Rwyf yn croesawu'r chwe egwyddor a nodwyd gan y Cwnsler Cyffredinol, sydd i'w defnyddio fel meincnod ar gyfer yr agenda diwygio etholiadol. Mae'n bwysig bod pleidleisio mor syml ac mor agos â phosibl at ein bywydau bob dydd. Roeddwn yn falch o glywed y bydd cynllun treialu ar gyfer etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf yn cynnwys myfyrwyr yn gallu pleidleisio yn eu coleg. Roedd gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn gam cadarnhaol iawn ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i ymgysylltu â phleidleiswyr ifanc. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau cynlluniau treialu Llywodraeth Cymru, megis pleidleisio cynnar, i foderneiddio etholiadau yng Nghymru a gobeithio y bydd yn arwain at fwy o bobl yn pleidleisio a chymryd rhan.
Rwyf hefyd, fodd bynnag, yn pryderu'n fawr am effaith ei gwneud yn ofynnol i bleidleiswyr gael dull adnabod ar gyfer etholiadau cyffredinol a'r effaith y bydd yn ei chael ar yr etholwyr, gan eu hamddifadu o'u hawl ddemocrataidd i gymryd rhan mewn etholiadau. Mae'r dystiolaeth yn glir iawn o ran nifer yr achosion, fel y soniwyd eisoes, a'r euogfarnau am dwyll pleidleiswyr a ddigwyddodd yn etholiad cyffredinol 2019—dim ond pedwar euogfarn a dau rybudd yn y Deyrnas Unedig gyfan—prin eu bod yn gyfiawnhad dros gyflwyno gwiriadau adnabod, fel y soniwyd yn gynharach. Bydd y symudiad gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn debygol iawn o leihau'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau, yn enwedig ymhlith cymunedau mwy difreintiedig ac ymylol. Gallwn eisoes weld hyn yn yr Unol Daleithiau: po gyfoethocaf yr ydych, y mwyaf tebygol yr ydych o gael dull adnabod. Mae gosod rhwystrau diangen a di-sail rhag cymryd rhan yn ein democratiaeth fel hyn yn gibddall ac nid yw'n cydnabod manteision cynhenid gwell cyfranogiad yn ein democratiaeth a grymuso dinasyddion. Wel, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei phenderfyniad i wneud mynediad i'n democratiaeth yn anos ac yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru wrth foderneiddio'r ffordd y gallwn bleidleisio. Diolch.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i, cyn i mi ddechrau fy mhrif grynhoad, ddweud fy mod wedi bod yng Ngholeg Gwent ddoe ym Mlaenau Gwent, yn etholaeth yr Aelod, ac wedi cwrdd â grŵp eithaf mawr o bobl ifanc, ac a gaf i ddweud am argraff mor dda yr oedden nhw wedi creu arnaf? Ond, anfonodd un ohonyn nhw e-bost ataf, a gefais y bore yma, ac fe hoffwn i ddarllen hwn, oherwydd mae'n ateb rhai o'r pwyntiau a godwyd.
'Fy enw i yw Maddy Dhesi. Rwy'n 18 oed ac o Wrecsam a'r tro cyntaf i mi bleidleisio oedd mis Mai eleni. Pe bawn wedi bod angen dull adnabod i bleidleisio am y tro cyntaf, nid wyf yn credu y byddwn i wedi gallu pleidleisio. Fy nghais am drwydded dros dro oedd y ffurflen swyddogol gyntaf i mi ei llenwi fy hun erioed. Cafodd ei hanfon yn ôl bedair gwaith a chymerodd dri mis i mi ei chael yn y pen draw. Roedd yn rhaid i un o fy athrawon wirio fy hunaniaeth... ac roedd ariannu cost trwydded dros dro o dan isafswm cyflog cenedlaethol y plentyn 16 oed o £4.20...yn golygu bod yn rhaid i mi weithio shifft naw awr er mwyn fforddio trwydded. Rwyf yn byw mewn cymuned wledig a olygai, pe bai cynllun cerdyn adnabod etholiadol ar waith, y byddwn yn ei chael yn anodd cael gafael ar hwn yn hawdd. At ei gilydd, bydd dull adnabod pleidleiswyr yn gwneud pleidleisio'n galetach pan fo'r holl dystiolaeth o nifer isel o bleidleiswyr yn dangos bod angen gwneud y gwrthwyneb.... Mae dull adnabod pleidleiswyr yn creu'r perygl y bydd cenhedlaeth newydd o bleidleiswyr yn troi oddi wrth ddemocratiaeth.
Credaf fod hynny'n crynhoi sefyllfa llawer o bobl ifanc a'r sylwadau a gefais ddoe. A gaf i wneud y pwynt hwn hefyd? Dywedodd Darren Millar 'Wel, chi'n gwybod, os ydych chi mor bryderus ynghylch hyn, pam nad ydych chi'n deddfu?' Wel, dyna'r holl bwynt. Byddwn yn deddfu. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yw dweud wrth Lywodraeth y DU nad ydym eisiau i'w cynigion fod yn berthnasol i etholiadau Cymru—hynny yw, etholiadau cynghorau lleol a'r Senedd. Byddwn yn diwygio i foderneiddio ac atgyfnerthu ein system etholiadol. Nawr, dywedais hyn yn fy araith. Yn anffodus, rwy'n amau bod sylwadau Darren Millar wedi'u hysgrifennu cyn iddo gael cyfle i wrando ar yr hyn a ddywedais. Onid oedd yn ddiddorol hefyd iddo ddweud yn y ddadl ar basbortau coronafeirws, 'Ond nid oes tystiolaeth', ac eto mae eisiau gweld cyfyngiadau yma ar bleidleisio, er nad oes tystiolaeth o gwbl.
Nid wyf am fanylu arno nawr, ond y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Comisiwn Etholiadol, nid dyna a ddywedant. Mae gennyf adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Rwyf wedi darllen yr adroddiadau llawn. Yn wir, nid yw'r adroddiad diweddaraf yn dweud unrhyw beth amdano, ond yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud yw ystumio a chymryd yr hyn y maen nhw'n ei ddweud mewn gwirionedd allan o gyd-destun.
Rhys ab Owen, a gaf ddiolch i chi am eich sylwadau hefyd, a'r holl Aelodau eraill am y sylwadau a wnaed heddiw? Y rheswm pam y dewiswyd y pedwar cyngor yw mai hwy oedd y pedwar a wnaeth gais. Gwahoddwyd pob cyngor gennym. Rwy'n siomedig nad oedd gennym rai eraill, efallai o'r gogledd ac o'r ardaloedd gwledig, ond dyna'r rhai a wnaeth gais, ac mae pawb a wnaeth gais wedi'u derbyn ar y cynllun treialu hwnnw. Ond rydym yn ystyried y pwyntiau penodol hynny. A chytunaf yn fawr â'r hyn a ddywedwch am fater gwybodaeth ddinesig, addysg ddinesig, oherwydd credaf mai dyna lle y dechreuwn baratoi pobl ar gyfer bod yn oedolion ac am oes, ac, wrth gwrs, mae problemau yn ymwneud â hynny gyda'r cwricwlwm, a hefyd o ran gwladolion tramor.
Ac a gaf i roi sylwadau felly ar sylwadau Darren Millar am gardiau adnabod pleidleiswyr? A gaf i ddweud wrth Darren Millar fod cardiau adnabod pleidleiswyr yn rysáit ar gyfer gorthrwm a gormes? [Torri ar draws.] A dyna pam mae'n rhaid i mi—.
'Os oes rheidrwydd arnaf i gael un o ganlyniad i weithredoedd y wladwriaeth, byddaf yn ei falu a'i fwyta ar fy nghreision ŷd.'
Dyna oedd sylwadau Boris Johnson yn 2004, ac mae'n debyg mai dyma'r unig beth y mae erioed wedi dweud yr wyf yn cytuno ag ef.
Felly, a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am eu sylwadau a'u cyfraniadau? Ond gadewch i mi fod yn gwbl onest ac yn blwmp a phlaen wrth yr holl Aelodau wrth gloi fy sylwadau gyda rhybudd. Mae gennym Lywodraeth Dorïaidd yn y DU sy'n chwalu strwythurau a hawliau democrataidd hirsefydlog yn strategol ac yn fwriadol. Rydym wedi gweld yn y dyddiau diwethaf i ba raddau y maen nhw'n barod i fynd i danseilio'r gwaith o gynnal safonau yn San Steffan. Mae democratiaeth yn y DU dan fygythiad, yn araf, fesul tipyn, ond yn bendant ac yn fwriadol.
Mae atal pleidleiswyr drwy gyflwyno cardiau adnabod yn bolisi bwriadol sydd wedi dod o adain dde'r Blaid Weriniaethol yn yr Unol Daleithiau, y mae'r Prif Weinidog a'i gydweithwyr wedi bod mewn cysylltiad mor agos â hi. Mae'r ymestyn arfaethedig i roi hawl i bleidleisio i bobl nad ydyn nhw'n byw yn y wlad ac sydd bellach wedi byw dramor, sydd wedi'i gynnwys ym Mil Etholiadau Llywodraeth y DU, ers dros 15 mlynedd—felly, pobl nad ydyn ydyn nhw wedi byw yn y wlad hon ers dros 15 mlynedd—ag un amcan yn unig, ac nid hyrwyddo democratiaeth yw hynny. Mae er mwyn cyfreithloni rhoddion gwleidyddol gan filiwnyddion a biliwnyddion sy'n byw dramor. Mae cynigion deddfwriaethol i gyflwyno cymalau wster i atal y llysoedd rhag adolygu gweithredoedd anghyfreithlon Llywodraeth y DU yn fygythiad uniongyrchol i reolaeth y gyfraith.
Yn y gyfres ddiwethaf o etholiadau maerol yn Lloegr, enillodd Llafur 11 o'r 13 sedd. Beth yw ymateb Llywodraeth y DU? Wel, nid edrych ar ffyrdd o ail-ymgysylltu â phleidleiswyr yn yr ardaloedd hynny; ond newid y system bleidleisio i'w gwneud yn anos i ymgeiswyr nad ydyn nhw'n rhai Ceidwadol ennill. Mae cynigion i sefydlu rheolaeth wleidyddol dros weithrediad y Comisiwn Etholiadol. Cyfeirioch at ei annibyniaeth; mae'r Bil mewn gwirionedd yn ceisio rhoi rheolaeth wleidyddol dros y Comisiwn Etholiadol, ac os bydd yn mynd rhagddo bydd yn tanseilio ei annibyniaeth.
Ac rydym hefyd wedi gweld, drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 ac adolygiad diweddar o wariant, fod arian codi'r gwastad yn cael ei dargedu'n llethol at geisio prynu pleidleisiau mewn seddi Torïaidd yng Nghymru a Lloegr. Dyna wleidyddiaeth Tammany Hall. Llywydd, pe bai hyn yn digwydd yn Rwsia—[Torri ar draws.] Pe bai hyn yn digwydd yn Rwsia, Llywydd, byddem yn ei alw yr hyn ydyw—
Cwnsler Cyffredinol, dwy eiliad. Rwy'n gwerthfawrogi efallai fod Aelodau meinciau cefn y blaid i'r dde ohonof eisiau codi eu sylwadau, ond hoffwn glywed sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol, ac ni allaf pan fydd yn cael ei heclo weithiau.
Mae bob amser yn anodd, Dirprwy Lywydd, pan fo gennych chi'r Ceidwadwyr y tu ôl i chi ac ni allwch chi weld beth y maen nhw'n ei wneud. [Chwerthin.] Dirprwy Lywydd, pe bai hyn yn digwydd yn Rwsia, byddem yn ei alw yr hyn ydyw: llygredd, ac ymosodiad ar ddemocratiaeth a thanseilio rheolaeth y gyfraith. Dyna'n union ydyw, a rhaid i ni agor ein llygaid i weld yr hyn y mae'r Torïaid yn ei wneud. A chredaf fod yn rhaid i'r Aelodau hefyd agor eu llygaid i weld yr hyn sy'n cael ei wneud yn eich enw chi. Dirprwy Lywydd, gofynnaf am gefnogaeth holl Aelodau'r Senedd hon i wneud yr hyn sy'n iawn, ac i sefyll dros ddemocratiaeth a rheolaeth y gyfraith.
Nawr, Dirprwy Lywydd, i gloi, mae Llywodraeth Cymru eisiau gosod esiampl i weddill y DU. Rydym eisiau gwneud etholiadau mor agored a hygyrch ac mor gadarn â phosibl. Rydym hefyd eisiau dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu â phleidleiswyr, er mwyn sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd—sylwadau a wnaed yn fedrus gan Aelodau eraill yn y Senedd hon. Ymddengys fod ein dull gweithredu, yn anffodus, yn wahanol iawn i ddull Gweithredu Llywodraeth y DU. Nawr, fel yr amlinellwyd yn gynharach, bydd yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn ffordd o brofi nifer o ddatblygiadau arloesol etholiadol, cyn o bosibl eu cyflwyno'n genedlaethol yn etholiadau'r Senedd yn 2026. Felly, edrychaf ymlaen at weithio ar y materion hynny ochr yn ochr â'm cyd-Aelodau yma maes o law, ac anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig ac i wrthod gwelliant y Ceidwadwyr.
Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.