– Senedd Cymru ar 26 Ionawr 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig, a dwi'n galw ar James Evans i wneud y cynnig yma. James Evans.
Cynnig NDM7880 James Evans, Jack Sargeant, Samuel Kurtz, Natasha Asghar, Rhys ab Owen, Carolyn Thomas, Mabon ap Gwynfor
Cefnogwyd gan Paul Davies, Peter Fox
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018-19, o'i gymharu â 129 miliwn yn 2004-05.
2. Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.
3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig;
b) sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;
c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.
d) blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.
Diolch, Lywydd, a hoffwn wneud y cynnig yn enwau fy nghyd-gyflwynwyr a minnau.
Mae’r ddadl hon yn fater y mae pob Aelod o'r Senedd yn ymwybodol iawn ohono. Mae trigolion yn ein hetholaethau yn cysylltu â ni drwy’r amser ynglŷn â'u trafferthion mewn perthynas â thrafnidiaeth leol ac yn gofyn inni beth y gallwn ei wneud i wella’r gwasanaethau. Roeddwn wedi syfrdanu gyda'r gefnogaeth eang, drawsbleidiol i’r cynnig hwn, a chredaf fod hynny'n dangos aeddfedrwydd y Senedd hon, ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd er lles pawb yng Nghymru. Roeddwn yn siomedig o weld gwelliant i’r cynnig hwn, ac fe soniaf am hynny yn nes ymlaen. Gobeithiaf y gallwn rannu syniadau gyda’n gilydd heddiw er mwyn mynd ati i wella bywydau a gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Mae byw yng nghefn gwlad Cymru, fel rwyf finnau a llawer o bobl eraill, yn sicr yn fendith. Mae'n lle sydd heb ei gyffwrdd gan lawer o gymdeithas fodern, ac mae'n dirwedd y mae pobl o bob cwr o'r byd yn dod i'w hedmygu. O harddwch Bannau Brycheiniog a chwm Elan yn fy etholaeth i arfordir Sir Benfro, hyd at fynyddoedd Eryri ac ar hyd arfordir prydferth gogledd Cymru, mae ein gwlad yn un wledig iawn, ac mae'n rhaid i wleidyddion o bob lliw gofio bod gan y rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig anghenion tra gwahanol i'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd mwy trefol.
Mae gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched ymgyrch o'r enw 'Get on Board' i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwasanaethau bysiau lleol. Fe wnaethant gomisiynu adroddiad i archwilio effeithiau’r toriadau sylweddol i wasanaethau bysiau lleol rydym wedi’u gweld dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r canfyddiadau'n dangos mai oddeutu un o bob pump o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg ac sy'n byw mewn ardaloedd gwledig sy'n gallu defnyddio gwasanaeth bysiau aml a dibynadwy; dywedodd 25 y cant o’r ymatebwyr fod toriadau i wasanaethau bysiau wedi gwneud iddynt deimlo’n fwy ynysig; a dywedodd 19 y cant fod eu hiechyd meddwl wedi'i effeithio'n negyddol. Mae toriadau i wasanaethau bysiau gwledig hefyd wedi golygu lleihad yn y gallu i gysylltu â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, ac o ganlyniad, dywedodd 72 y cant fod eu dibyniaeth ar ddefnyddio car a’u dibyniaeth ar deulu a ffrindiau wedi cynyddu, a hynny ar draul ein hinsawdd fregus.
Yn 2004-05, gwnaed 129 miliwn o deithiau bws yng Nghymru, o gymharu â 101 miliwn yn unig yn 2018-19. Mae hyn yn dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai fod nifer o resymau am hyn: gostyngiad yn ansawdd y gwasanaeth, mwy o fynediad at geir a thrafnidiaeth breifat, ac amharodrwydd, weithiau, i aros am drafnidiaeth gyhoeddus. Gallai fod nifer o resymau. Ond mae pobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus fel eu hunig ddull teithio yn haeddu gwasanaeth rheolaidd, cryf sydd wedi'i ariannu'n dda. Nid oes gan oddeutu 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau gar at eu defnydd, ac nid oes gan 23 y cant o bobl Cymru gar neu fan at eu defnydd. Felly, mae trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy yn hollbwysig.
Mae cymunedau fel Trecastell yng ngorllewin fy etholaeth wedi gweld eu gwasanaeth bysiau'n lleihau'n wasanaeth tacsis cyn COVID, a dim gwasanaeth o gwbl bellach, a hynny ar un o gefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Cyfarfûm ag aelodau Sefydliad y Merched yn Llanddewi-yn-Hwytyn, lle daeth y gwasanaeth bysiau i ben yn 2015, ar ôl i ysgol leol gau. Maent bellach wedi eu hynysu mewn ardal wledig, yn dibynnu ar ffrindiau a chymdogion i'w cludo i'r dref agosaf i siopa a chael y pethau arferol o'r siopau.
Mae’r data’n glir: gŵyr pob un ohonom fod cymdeithasu a gallu cyfarfod â phobl yn cadw ein hiechyd meddwl yn gryf ac yn atal teimladau o fod yn ynysig ac yn unig. Mae’r bobl yn y cymunedau hynny’n haeddu cael gwasanaeth sicr sy’n gynaliadwy yn hirdymor, a dylai cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rwy’n dra chyfarwydd â'r maes hwn gan fy mod yn arfer bod yn aelod cabinet o'r cyngor mwyaf gwledig yng Nghymru. A phe gellid gwarantu cyllid ar gyfer hirdymor, byddai’n rhoi ymdeimlad gwirioneddol o sicrwydd i’r cyngor a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny ac yn eu helpu i gynllunio'n hirdymor, ac yn ein helpu ar y llwybr tuag at sero net.
Rydym hefyd yn gweld moderneiddio trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig. Mae cerbydau allyriadau sero yn cael eu cyflwyno ar gyfer amryw o feysydd trafnidiaeth sector cyhoeddus. Mae’r newid yn hanfodol i sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, a sicrhau bod Cymru’n parhau i fod ag aer glân i’n dinasyddion ledled y wlad.
Sylwais fod fy nghyd-Aelod, Alun Davies, ac eraill wedi cyflwyno gwelliant i’r cynnig hwn, a chredaf fod hynny'n drueni, gan ei fod yn gwneud y cynnig yn rhy wleidyddol pan nad oes angen iddo fod felly. Maent yn beio Margaret Thatcher a'r Llywodraeth Geidwadol am ddadreoleiddio gwasanaethau bysiau amser maith yn ôl ym 1986, sydd bron i 40 mlynedd yn ôl. Os oedd dadreoleiddio mor ofnadwy, pam na wnaeth y Llywodraethau Llafur o dan Tony Blair a Gordon Brown wrthdroi’r penderfyniadau hyn rhwng 1997 a 2009? Ac rwy'n gobeithio y gall y bobl sydd wedi cyflwyno’r gwelliant ateb hynny pan fyddant yn gwneud eu cyfraniadau.
I gloi, edrychaf ymlaen at glywed y ddadl o bob rhan o’r Siambr heddiw. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn ac mae angen iddo fod uwchlaw gwleidyddiaeth bleidiol, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i bawb ledled Cymru. Diolch.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Alun Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw ef ac enwau Hefin David, Jack Sargeant a Rhys ab Owen. Alun Davies.
Gwelliant 1—Alun Davies, Hefin David, Jack Sargeant, Rhys ab Owen
Cefnogwyd gan Carolyn Thomas
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y difrod a wnaed drwy breifateiddio gwasanaethau bysiau yn y 1980au ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau fel mater o frys yn y Senedd hon.
Rwy’n ddiolchgar i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am gyflwyno’r ddadl y prynhawn yma, er bod yn rhaid imi ddweud wrtho fod dau beth rwy'n anghytuno â hwy yn ei gyflwyniad. Mae'r cynnig ei hun yn un y credaf y bydd y rhan fwyaf ohonom, a llawer ohonom, yn cytuno yn ei gylch, ond nid oes pwynt—ac fel Ceidwadwr, wrth gwrs, fe fyddwch yn cytuno â mi—arllwys arian i mewn i wasanaeth cyhoeddus nad yw'n gweithio. Mae angen diwygio, yn ogystal â mwy o arian. Ar hyn o bryd, mae cannoedd o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cefnogi gwasanaethau bysiau ledled Cymru gyfan, a’r un peth y mae pob un ohonom yn cytuno yn ei gylch yw na fyddai’r arian hwnnw, pe baem yn ei ddyblu, yn ddigon o hyd, ac ni fyddai'n gweithio.
Pan oeddwn yn cynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru, un o’r pethau a welais oedd bod pobl, ni waeth ble yn y rhanbarth hwnnw roeddent yn byw, eisiau yr un pethau, nid pethau gwahanol. Nid yw rhywun yng nghefn gwlad Cymru eisiau gwasanaeth cyhoeddus gwahanol i rywun sy'n byw yng nghanol Caerdydd. Yr hyn sy'n digwydd yn rhy aml o lawer yw nad ydynt yn cael y gwasanaethau cywir. Fel y gwelsom dro ar ôl tro—. Cyflwyniad gwych i’r lle hwn, pan gefais fy ethol gyntaf, oedd ymchwiliad a wnaethom ar amddifadedd yng nghefn gwlad Cymru, a’r hyn a welsom, yn union fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, oedd bod problemau gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn golygu nad oeddent yn gallu cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus mewn pob math o wahanol ffyrdd, ond roedd pobl eisiau yr un gwasanaethau, y gwasanaethau rwy'n siarad â phobl amdanynt heddiw ym Mlaenau Gwent. Ac ni chredaf mai ceisio creu gwrthdaro rhwng pobl mewn gwahanol rannau o'r wlad yw'r ffordd iawn o ymdrin â'r pethau hyn. Mae angen inni gytuno ar y gwasanaethau y mae pobl am eu gweld yn cael eu darparu, boed eu bod yn byw yn y pentref lleiaf ym Mhowys neu ynghanol ein prifddinas. Mae'n rhaid inni ddarparu'r gwasanaethau hynny, a'r ffordd rydych yn darparu'r gwasanaethau hynny yw'r pwynt hollbwysig dan sylw yma, nid y gwasanaethau eu hunain.
A’r hyn a wnaeth Thatcher ym 1986 oedd torri’r cysylltiad rhwng yr hyn y mae’r Aelod ei hun wedi’i ddisgrifio fel gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hynny, gan mai'r hyn a ddigwyddodd gyda phreifateiddio—. Ni ddigwyddodd yn Llundain, wrth gwrs, a dyna’r pwynt allweddol: pe bai hwn yn bolisi mor bwysig ac yn ddatblygiad mor arloesol mewn polisi cyhoeddus, byddai Llundain wedi profi'r un peth â mannau eraill, ond ni wnaethant hyn yn Llundain am eu bod yn gwybod na fyddai'n gweithio, ac nid yw wedi gweithio ers hynny. Gwelsom y tarfu a'r toriadau i wasanaethau o ganlyniad i hynny.
Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw ariannu awdurdodau lleol yn iawn, a chredaf fod hwn yn un maes polisi lle gallai'r cyd-bwyllgorau corfforaethol weithio'n dda iawn mewn gwirionedd, gydag awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau ar draws rhanbarth ehangach. Yn sicr, credaf y gallai hynny fod yn wir yn y rhan o Gymru rwy'n ei chynrychioli yn awr yng Ngwent. Ond credaf hefyd fod angen inni edrych ar strwythur y diwydiant, gan ein bod yn rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd i mewn i ddiwydiant nad yw’n gweithio. Nid yw'n synhwyrol parhau i ariannu diwydiant nad yw'n gweithio, mewn ffordd, ac ariannu gwasanaethau heb eu diwygio. Ac i mi, mae ailreoleiddio bysiau'n gwbl allweddol. Mae’r Gweinidog yn y maes hwn wedi gwneud ymrwymiadau dro ar ôl tro nid yn unig i gynnig gwasanaethau cyhoeddus mwy cynhwysfawr, ond gwasanaethau cyhoeddus aml-ddull hefyd. Yr unig ffordd y gallwch gyflawni hynny yw drwy reolaeth gyhoeddus a rheoleiddio cyhoeddus ar y gwasanaethau hynny.
Felly, mae angen inni allu gwneud hynny. Mae arnom angen yr offer, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, wrth ymateb i’r ddadl hon, yn dweud eu bod yn gweithio gyda llywodraeth leol a chyda gweithredwyr bysiau i sicrhau bod gennym yr offer ar gael i ni i sicrhau bod y pentrefi a gynrychiolir gan yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed a’r trefi a gynrychiolir gennyf fi yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ar yr adegau y mae angen y gwasanaethau hynny arnynt, ond mae hyn yn ymwneud hefyd ag ansawdd y gwasanaethau a gynigir. Gŵyr pob un ohonom, yn aml iawn—. Ac rwyf wedi gweld i lawr yng Nghaerdydd yn ddiweddar fod fflyd gyfan o fysiau trydan newydd yno. Mae'n wych. Mae'n wych i bobl Caerdydd. Rwyf am weld hynny ym Mlaenau Gwent, a pham na allaf weld hynny ym Mlaenau Gwent? A pham na ddylech gael hynny yng Ngheredigion neu Frycheiniog a Sir Faesyfed neu Gonwy? Pam na ddylech gael mynediad at wasanaeth o'r un safon ym mhob rhan o Gymru ag sydd gennych ynghanol Caerdydd? Dyna ddylai fod yn uchelgais i'r Llywodraeth.
A’r hyn y dylem ei wneud, y prynhawn dydd Mercher yma, wrth gyflwyno’r dadleuon hyn a chraffu ar y Llywodraeth, yw dweud: pa offer polisi rydych yn mynd i’w defnyddio i gyflawni hynny? Ac nid oes offeryn polisi ar gael i'r Llywodraeth, ac eithrio ailreoleiddio, ac eithrio rheolaeth gyhoeddus, sy'n mynd i ddarparu'r gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, y mae'r Aelod yn dweud ei fod am eu sicrhau.
Felly, rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, ond un peth y gŵyr pob un ohonom am wasanaethau cyhoeddus da o ansawdd uchel yw nad ydynt yn gwneud arian i bobl nad ydynt yn eu defnyddio. Golyga hynny fod angen inni gael rheolaeth gyhoeddus ar wasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod yr ansawdd ar gael i bobl, ac yna, cydgysylltu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny i ddarparu’r gwasanaethau ym mhob rhan o Gymru y mae’r Aelod wedi’u disgrifio. Ac rwy'n gobeithio, cyn i’r Senedd hon fynd i mewn i’r etholiad nesaf, y bydd gennym Ddeddf bysiau ar y llyfr statud a fydd yn ailreoleiddio’r gwasanaethau ac yn darparu’r sylfaen ar gyfer y math o wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel y gallwn i gyd fod yn falch ohono. Diolch.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod, James Evans, am gychwyn y ddadl hon. Mae’n ffaith bod 85 y cant o dir Cymru’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth neu fel tir comin, ac mae'r ffigur hwn yr un fath â Lloegr. Fodd bynnag, tra bo 18 y cant o boblogaeth Lloegr yn byw mewn ardaloedd gwledig, y ffigur yng Nghymru yw 35 y cant. Gwyddom ei bod yn anodd darparu trafnidiaeth gyhoeddus ymarferol a fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig, ond ni allaf ddeall pam fod hyn yn wir yn 2022. Treuliais dros 10 mlynedd yn Llundain, lle mae bws yn dod bob pump i 10 munud, ac er fy mod yn sylweddoli nad oes gennym yr un nifer o drigolion yng Nghymru ag yn Llundain, ni allaf ddeall pam, mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig ardaloedd gwledig, ei fod yn un bws yr awr a llawer hirach na hynny mewn rhai achosion. Nid oes amheuaeth fod pobl sy’n byw yma yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar geir—
Natasha, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ar y diwedd, os gwelwch yn dda, Ddirprwy Lywydd, os yw hynny'n iawn. Nid oes amheuaeth fod pobl sy’n byw yma yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar geir, gan fod gwasanaethau bysiau yn annigonol, yn anaml neu heb fod yn bodoli. Mae’n ffaith bod diffyg gwasanaeth trafnidiaeth digonol yn tanseilio economïau ardaloedd gwledig, sy'n ei gwneud yn anoddach felly i bobl gael mynediad at swyddi a gwasanaethau. Ceir canlyniadau amgylcheddol hefyd, gyda lefel uchel y defnydd o geir o gymharu ag ardaloedd trefol yn achosi mwy o allyriadau carbon y pen. O’r hyn a welais fy hun i’r hyn a glywaf gan etholwyr ledled de-ddwyrain Cymru, ac o’r llythyrau a gaf o rannau eraill o Gymru, mae dirywiad wedi bod mewn gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae nifer y teithiau bws lleol wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Mae gwasanaethau bysiau gwledig wedi dioddef yn arbennig gan eu bod yn cludo llai o bobl y filltir ac yn llai diogel yn economaidd. O ganlyniad, maent mewn mwy o berygl, boed yn cael eu gweithredu'n fasnachol neu'n cael cymorth.
Cyn y pandemig, roedd cymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru i’r rhwydwaith bysiau yn canolbwyntio’n bennaf ar y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Yn 2014, gwnaethant sefydlu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau yn lle'r grant gweithredwyr gwasanaethau bysiau, gyda £25 miliwn o gyllid. Nid yw'r gronfa benodedig hon o £25 miliwn wedi newid ers hynny. Pam? Mae'n amlwg fod y cyllid fesul teithiwr ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn annigonol, ac yn cymharu'n wael â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr rheilffyrdd.
Gyda dirywiad gwasanaethau bysiau gwledig, mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol wedi ceisio llenwi’r bwlch. Mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn ddarparwyr trafnidiaeth pwysig mewn ardaloedd gwledig, ac ni ellir gwadu bod eu gwybodaeth fanwl am eu marchnad leol a’u brwdfrydedd i wasanaethu eu cymunedau lleol yn amhrisiadwy. Fodd bynnag, ni all trafnidiaeth gymunedol fod yn hunangynhaliol mewn ardaloedd gwledig ac mae'n ddibynnol ar gymorth. Mae llawer o weithredwyr yn fach ac nid oes gan y sector fawr o gapasiti i ateb y galw cynyddol heb fuddsoddiad. Er bod darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn aml yn diwallu anghenion penodol i wasanaethu grwpiau penodol, ni allant ddarparu system drafnidiaeth gyhoeddus wledig gynhwysfawr.
Mae ar Gymru angen strategaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus wledig. Mae poblogaethau ardaloedd gwledig yn tueddu i fod yn hŷn, a bydd y cludiant preifat sydd ar gael at ddefnydd pobl fregus eraill yn gyfyngedig neu heb fod yn bodoli o gwbl. Ni ellir eu gadael i ymdopi â'u sefyllfa ar eu pennau eu hunain. Mae effaith ynysigrwydd cymdeithasol ar iechyd a lles pobl yn sylweddol fel y gwelsom yn ystod y pandemig. Byddai’r strategaeth trafnidiaeth gyhoeddus wledig yn cychwyn o’r sail y dylai pob ardal wledig gael gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sy’n darparu mynediad at gyflogaeth, addysg, gwasanaethau iechyd, siopau a gweithgareddau hamdden. Ar sail yr egwyddor hon, mae cyfle i ailfeddwl y ddarpariaeth o wasanaethau bysiau gwledig, i gydnabod eu pwysigrwydd, a rhoi cyfle i holl drigolion cefn gwlad gael mynediad at wasanaethau.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bysiau gwledig, a darparu’r fframwaith a’r cyllid sydd eu hangen ar gyfer eu cynorthwyo. Mae dros saith mis wedi bod ers i'r Dirprwy Weinidog rewi prosiectau ffyrdd newydd, ac ni allwn eistedd ac aros i rywbeth ddigwydd. Mae angen i rywbeth ddigwydd yn awr i roi sylw i anghenion y cyhoedd, boed yn fwy o gydweithredu â Llywodraeth Llundain, neu'n rhywbeth a grëir gan Lywodraeth Cymru ei hun. Mae angen dull gweithredu cyson a hirdymor, sy'n ystyried yr anghenion presennol ac anghenion y dyfodol, ac sydd nid yn unig yn darparu ar gyfer marchnad sy’n dirywio, ond sy’n caniatáu i drafnidiaeth gyhoeddus dyfu a ffynnu. Diolch yn fawr iawn. Fe gymeraf unrhyw gwestiynau neu ymyriadau yn awr.
Na, nid wyf yn credu bod galw am ymyriadau mwyach gan—. Mae'r Aelod wedi gorffen ei chyfraniad yn awr; nid ydych yn gofyn am ymyriadau ar ddiwedd cyfraniadau.
Ddirprwy Lywydd, mae'n gwbl hanfodol fod y system yn cael ei diwygio cyn gynted ag y gellir gwneud hynny. Credaf fod teithwyr ar hyd a lled Cymru wedi aros yn rhy hir o lawer am ddiwygiadau i system doredig, ac mae'n anffodus na fu modd inni fynd ar drywydd y diwygiadau hynny yn nhymor blaenorol y Senedd. Rwy'n croesawu'n fawr y cynnig fel y'i diwygiwyd, os caiff ei ddiwygio gan fy nghyd-Aelodau. Credaf ei bod yn gwbl gywir a phriodol inni achub ar y cyfle hwn i drafod pwnc mor bwysig, sy'n cael ei godi'n rheolaidd gan etholwyr pob un ohonom. Mae'r gallu i fynd o A i B, boed o adref i'r gwaith, boed o adref i wasanaeth hanfodol fel ysbyty neu feddygfa, yn gwbl hanfodol er mwyn cynnal ansawdd bywyd boddhaol i bobl. Mae llawer o bobl yn methu fforddio cerbyd preifat, ac mae nifer cynyddol o bobl yn dewis peidio â defnyddio cerbyd preifat, er lles yr amgylchedd naturiol. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac edrychaf ymlaen at glywed mwy o gyfraniadau gan gyd-Aelodau ar draws y Siambr.
Diolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl yma. Dwi'n falch o weld y drafodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau, ar ôl fy nadl yr wythnos diwethaf. Maen fater hollbwysig am nifer o resymau, ac yn hollbwysig i'r cymunedau hynny rydw i'n eu cynrychioli yma yn y Senedd. Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am ei ymateb i fy nadl yr wythnos diwethaf, ac am gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnig y Democratiaid Rhyddfrydol i gyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob person ifanc o dan 25.
Rwy'n cytuno gyda James fod trafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i ddod o dan bwysau. Oni bai bod buddsoddiad wedi'i ariannu a'i gydlynu'n briodol mewn trafnidiaeth gyhoeddus, bydd cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig, yn cael eu gadael ar ôl. Ers 2009, collwyd tua thraean o'r gwasanaethau â chymhorthdal yng Nghymru, ac rydym wedi gweld gostyngiad o 22 y cant yn nifer y siwrneiau ar fws rhwng 2008 a 2019. Rhaid i bolisi a strategaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol fynd i'r afael â chyllid cynaliadwy, cost a hygyrchedd, a chymorth ariannol ar gyfer datgarboneiddio a newid dulliau teithio.
Fodd bynnag, ni fydd yn llwyddiannus os na chaiff atebion eu cynllunio ar sail lle a chymuned, ac oni fyddant yn edrych ar atebion unigol sy'n cyfrannu at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol ledled Cymru gyfan. Mae arnom angen atebion sy'n cael eu datblygu o fewn cymunedau gwledig a chyda chymunedau gwledig, fel eu bod yn gweithio i'r cymunedau hynny. Gall hynny gynnwys trefniadau bws ar alw, defnyddio bysiau bach i gyrraedd cymunedau, gwasanaethau trên amlach ac o ansawdd da. Mae digon o syniadau wedi'u profi a allai helpu i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus wledig—rhai fel y gwasanaeth Ring a Link yng nghefn gwlad Iwerddon, yr asiantaeth symudedd yn yr Eidal, a'r Bürgerbus yn yr Almaen; nid wyf yn siŵr fy mod wedi dweud hynny'n iawn, ac nid yr hyn a feddyliwch ydyw.
Er mwyn newid y tueddiadau a welwn, mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chynlluniau teithio lleol gael dannedd ac adnoddau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddibynadwy ac yn hygyrch i bawb. Fel y dywedais, gelwais am drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc dan 25 oed er mwyn sicrhau ei bod yn fforddiadwy i bobl ifanc ac i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a sefydlu arferion hirdymor, gobeithio. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd James am unigrwydd yn benodol, pwynt sydd wedi ei gynnwys yn y cynnig. Mae trafnidiaeth gyhoeddus wael yn gadael rhai sydd heb gar yn bell o feddygfeydd neu apwyntiadau ysbyty, gwaith a hyfforddiant, neu gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu. Mae wedi gadael llawer iawn o bobl o bob oed wedi'u hynysu, ac yn enwedig i bobl hŷn, mae wedi erydu eu hannibyniaeth a'u hyder.
Rhannodd yr Ymgyrch dros Drafnidiaeth Well hanes un gyrrwr trafnidiaeth gymunedol a oedd yn cofio enghreifftiau o unigolion, pobl hŷn yn bennaf, nad oedd wedi gadael eu cartrefi am wythnosau neu fisoedd oherwydd cyfuniad o dywydd gwael a thrafnidiaeth gyhoeddus wael. A minnau bellach yn cynrychioli ardal wledig enfawr canolbarth a gorllewin Cymru, rwyf innau hefyd yn clywed straeon trist o'r fath, megis y rhai a nodwyd gan James Evans. Mae hon yn sefyllfa enbyd i bobl gael eu gadael ynddi ac mae'n dangos pa mor bwysig yw hyn. Rwy'n poeni nad ydym yn rhoi'r sylw y dylem ei roi i drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn enwedig polisi bysiau, ac felly rwy'n gobeithio gweld polisi a dulliau gweithredu newydd yn cael eu cyflwyno'n gyflym fel y gallwn ni, holl Aelodau'r Senedd hon, weithio'n well i gefnogi system drafnidiaeth gyhoeddus fwy effeithiol. Diolch yn fawr iawn.
A gaf fi ddiolch i gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, ac yn enwedig i James Evans am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon? Fel y dywedodd Aelodau eraill, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i atal pobl rhag teimlo'n unig ac yn ynysig, yn ogystal ag i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig gwasanaethau iechyd ar yr adeg hon. Mae annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach hefyd yn gam pwysig y mae'n rhaid inni ei gymryd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.
Ac eto, mewn etholaethau gwledig fel Mynwy, yn rhy aml mae pobl yn dal i'w chael hi'n anodd cael system drafnidiaeth gyhoeddus ddigonol at eu defnydd sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'r olaf yn bwynt arbennig o bwysig. Mae angen bysiau i bobl eu defnyddio, ond yn fwy na hynny mae angen iddynt fod ar gael ar yr adegau cywir ac aros yn y lleoliadau y mae angen i bobl fynd iddynt. Er enghraifft, Ddirprwy Lywydd, cysylltodd etholwr â mi'n ddiweddar a oedd yn dibynnu ar wasanaeth bws penodol i gyrraedd apwyntiadau ysbyty yn ysbyty'r Faenor. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i dorri'n sylweddol, ac nid yw'n mynd yn uniongyrchol at ysbyty'r Faenor mwyach, sy'n golygu bod yn rhaid i bobl ddal gwasanaeth sy'n cysylltu. Mae'r enghraifft hon yn dangos sut y mae diffyg dull cydgysylltiedig o weithredu gwasanaethau bysiau gwledig yn effeithio'n ddramatig ar fywydau pobl.
Gwn fod problemau pwysig yn effeithio ar wasanaethau, ac mae Aelodau eraill wedi cyfeirio atynt heddiw, megis cyllid, ac rwy'n falch fod cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i ddiogelu llwybrau bysiau gymaint â phosibl yn ei ymgynghoriad ar gyllideb 2022-23, er gwaethaf y pwysau ariannol parhaus y mae'n eu hwynebu oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, ceir problemau strwythurol ac ymarferol ehangach y mae angen edrych arnynt yn ofalus er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gwasanaethau y maent yn eu disgwyl.
Fel y dywedais, rwy'n croesawu llawer o'r ymrwymiadau ynghylch gwasanaethau trafnidiaeth wledig a amlinellir yn strategaeth 'Llwybr Newydd' Llywodraeth Cymru. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r Dirprwy Weinidog ddweud mwy ynglŷn â sut y mae'n rhagweld y bydd y cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd yn helpu i leihau anghydraddoldebau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig. Credaf hefyd y byddai'n ddefnyddiol cael strategaeth drafnidiaeth wledig benodol i gefnogi'r llwybr gwledig sy'n rhan o 'Lwybr Newydd'. Yn ogystal, credaf fod etholwyr yn fy etholaeth yn dal i feddwl tybed sut yn union y byddant yn elwa o gynllun metro de Cymru a phryd y byddant yn gweld gwelliannau i wasanaethau bysiau sydd wedi'u hamlinellu mewn cynlluniau ar gyfer y metro.
I orffen, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl heddiw, a gobeithio y bydd pob Aelod yn cefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Fel cynghorydd sir yn Sir y Fflint sy'n cynrychioli ward wledig, gwn yn rhy dda pa mor bwysig yw trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau fel fy un i. Anaml iawn y mae llwybrau bysiau gwledig yn gwneud arian, ond maent yn achubiaeth i lawer o bobl. Er bod ardaloedd poblog iawn yn tueddu i gael gwell gwasanaethau bws am mai dyna lle maent yn fwyaf proffidiol, cymunedau gwledig sydd heb fynediad at amwynderau yn lleol ac sydd angen y drafnidiaeth.
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cwmnïau bysiau ledled y DU yn mynd i'r wal neu'n torri llwybrau nad ydynt bellach yn fasnachol hyfyw. Gwnaeth un gweithredwr bysiau yn Sir y Fflint 14 newid i'w wasanaethau mewn blwyddyn, cymaint fel bod y cyngor yn ei chael hi'n anodd diweddaru amserlenni bysiau, a chollodd preswylwyr hyder yn y gwasanaeth, a dyna pam y mae angen mwy o reoleiddio arnynt. Tynnodd un arall allan o lwybr rhwydwaith craidd, a mynnodd gymhorthdal 10 gwaith yr hyn a delid yn flaenorol. Yn y pen draw, roedd yn anfforddiadwy a chafodd ei ddirwyn i ben. Gan ei fod yn llwybr craidd, roedd yn effeithio'n fawr ar lawer o drigolion. Roedd yn anodd inni ddeall pam nad oedd yn fasnachol hyfyw, gan ei fod yn brysur, ac roedd y ffaith na wnaeth unrhyw weithredwr arall gais am wasanaethau yn dangos bod prinder gweithredwyr i greu marchnad. Byddai'n gyfle da i awdurdodau lleol allu camu i mewn gyda'u gwasanaeth eu hunain.
Mae trigolion wedi bod yn ofidus, yn ddig ac yn rhwystredig pan dorrwyd gwasanaethau, ac yn briodol felly. Fe wnaethant anfon deisebau at y cyngor, a mynnu ein bod yn mynychu cyfarfodydd cymunedol, a oedd yn drawmatig iawn, ond gyda chyllid a phwerau cyfyngedig roeddem yn gyfyngedig o ran ble y gallem helpu. Mewn un achos, fe wnaethom lunio amserlen newydd o amgylch yr oriau a oedd yn gweddu orau i drigolion er mwyn sicrhau bod bws yn llawn, ond ni ddaeth cais gan weithredwr am y gwasanaeth. Heb fysiau ar gael, fe wnaethom logi bws mini tacsi a thacsi i sicrhau na fyddai trigolion yn cael eu hynysu. Er bod croeso iddynt, achosodd broblemau i aelod anabl o'r gymuned a oedd angen mynediad gwastad, ac weithiau nid oedd digon o seddi i bawb. Buan y gwelsom fod bysiau mini yn broblem. Mae trafnidiaeth â mynediad gwastad mor bwysig i bobl â phramiau, cymhorthion cerdded, beiciau, troliau siopa, pengliniau a chluniau blinedig hyd yn oed. Yn y pen draw, camodd gweithredwr i mewn i redeg bws a oedd wedi'i gaffael gan y cyngor, diolch i grant gan Lywodraeth Cymru, a oedd i'w groesawu'n fawr.
Yn y digwyddiadau ymgynghori a fynychwyd gennym, roedd y rhan fwyaf o'r bobl yn 60 oed a throsodd. Nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn defnyddio'r rhyngrwyd, ac roeddent am gael gwasanaeth wedi'i drefnu, nid un a oedd yn ymateb i'r galw; nid oeddent yn hoffi newid. Roeddent yn poeni am ynysigrwydd cymdeithasol, methu cyrraedd apwyntiadau meddygol neu fynd i siopa. Roeddent eisiau dibynadwyedd a sefydlogrwydd, sy'n bwysig iawn. Roedd yn dorcalonnus gweld rhai pobl yn eu dagrau, yn dweud y bydd yn rhaid iddynt symud i'r dref. Mae darparu gwasanaeth bws yn helpu pobl i gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser. Dyma pryd y cyflwynais ddeiseb nid yn unig i Weinidog yr economi a thrafnidiaeth, ond hefyd i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Galwai ar Lywodraeth Cymru i reoleiddio gweithredwyr gwasanaethau bysiau masnachol a rhoi pwerau a chyllid i awdurdodau lleol redeg y gwasanaethau sy'n gweddu orau i angen pobl leol gan mai hwy sy'n eu hadnabod orau. Roeddwn yn falch o glywed bod y Llywodraeth yn edrych ar hyn.
Dylid rhedeg llwybrau bysiau er mwyn pobl, nid er mwyn gwneud elw. Gellid grwpio llwybrau masnachol i gynnwys elfen o werth cymdeithasol, gyda chontractau sefydlog am gyfnod i roi sefydlogrwydd. Dyna pam y byddaf yn cefnogi'r gwelliant heddiw, sy'n cydnabod y niwed y mae preifateiddio wedi'i achosi i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn y wlad hon. Mae angen inni nodi hefyd fod trafnidiaeth bysiau cyhoeddus yn gymhleth iawn ac yn gysylltiedig â chludiant i'r ysgol, sy'n rhoi cymhorthdal gogyfer â gweddill y diwrnod. Yn Sir y Fflint, ceir 450 o gontractau trafnidiaeth, ac mae 350 o'r rheini'n gontractau ysgol sydd wedi'u hintegreiddio â thrafnidiaeth gyhoeddus i'w gwneud yn hyfyw. Mae 25 y cant o'r boblogaeth yng Nghymru yn gwbl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus fel yr unig ddull o deithio. Mae arnom angen system lawer gwell, sy'n eu cysylltu hwy a holl ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus â'r cymunedau ehangach, gyda dibynadwyedd, sefydlogrwydd a thocynnau integredig i feithrin hyder. Diolch.
Mae gan wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da rôl ganolog i'w chwarae yn cefnogi iechyd a lles, yn dileu ynysigrwydd cymdeithasol ac yn adeiladu ein cymunedau yn gyffredinol. Ond mae ganddynt hefyd rôl ganolog i'w chwarae yn cyflawni sero net 2050. Trafnidiaeth ffyrdd sy'n gyfrifol am 10 y cant o allyriadau byd-eang, ac mae'r allyriadau hynny'n codi'n gyflymach nag unrhyw sector arall. Roeddwn yn eithaf balch o glywed sylwadau Alun Davies heddiw, ac rwy'n llwyr gefnogi'r mentrau y siaradai amdanynt mewn perthynas â bysiau trydan.
Nawr, gwnaed cynnydd sylweddol ar ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus i gefn gwlad Aberconwy, diolch i'r gwasanaeth bws Fflecsi. Gwn fy mod wedi sôn amdano o'r blaen, ond mae'n fodel llwyddiannus iawn. Mae wedi'i brofi felly, ac rwyf wedi annog y Dirprwy Weinidog o'r blaen i ledaenu'r model hwn ar draws y Gymru wledig, gan gynnwys i'r gogledd o Eglwys Fach, fel y gall cymunedau ynysig eraill elwa ar gysylltiadau gwell â chanolfannau trefol. Byddai ei gyflwyno'n cyd-fynd â'r cynllun mini ar gyfer bysiau, ac yn arbennig yr addewid i ddarparu gwasanaethau bws arloesol a mwy hyblyg mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector.
Lle ceir darpariaeth, oherwydd nad oes digon o wasanaethau bysiau dibynadwy ar gael, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi dweud fod diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus erbyn hyn. Mae pobl hŷn yn dewis teithio i'w hapwyntiadau iechyd mewn cerbydau preifat, a hynny ar draul bersonol sylweddol. Ac mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, mae diffyg cyfleusterau sylfaenol fel cysgodfannau, seddi a gwybodaeth am amserlenni yn gwneud teithio ar ein bysiau yn brofiad mwy anghyfforddus ac anodd nag sydd angen iddo fod.
Gallaf ddweud hyn gan fy mod wedi gweld drosof fy hun lawer o drigolion yn sefyll yn y glaw i ddal bws wrth ymyl yr A470 ym Maenan, ond ymhellach i'r gogledd ym mhentref Glan Conwy, ceir sgrin ddigidol mewn safle bws. Felly, mae'n dangos sut y mae modelau da i'w cael ond mae angen mwy ohonynt. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn gallu darparu rhestr o safleoedd bysiau sy'n brin o gyfleusterau sylfaenol ac enghreifftiau o'r gwrthgyferbyniad rhwng y buddsoddiad mewn ardaloedd trefol a'r rhai yn ein hardaloedd gwledig. Mae gan 'Llwybr Newydd' ymrwymiad i fuddsoddi mewn gorsafoedd bysiau a safleoedd bysiau, felly byddwn yn ddiolchgar am rywfaint o eglurder ynghylch faint o arian sy'n cael ei fuddsoddi ar wella safleoedd bysiau gwledig.
Soniais o'r blaen am y broblem sydd gennym gyda'r bws olaf o Landudno i ddyffryn Conwy yn gadael am 6.40 gyda'r nos, sy'n golygu nad yw'r ddwy ardal wedi'u cysylltu gan drafnidiaeth gyhoeddus am weddill y nos. Ar ôl cysylltu â darparwyr gwasanaethau, fe'i gwnaed yn glir i mi nad yw pobl yn awyddus bellach i weithio'r sifftiau mawr eu hangen hyn yn hwyr y nos. Felly, mae angen cynllun gweithredu clir i gynorthwyo cwmnïau bysiau i recriwtio gyrwyr a dod o hyd i fentrau rywsut ar gyfer annog staff i weithio sifftiau hwyrach. Byddai hyn yn cyd-fynd â'r flaenoriaeth yn 'Llwybr Newydd' i wella atyniad y diwydiant i fwy o yrwyr bysiau.
Yn olaf, yn ogystal â hwyluso'r gwaith o symud pobl leol, mae gan drafnidiaeth gyhoeddus rôl allweddol i'w chwarae yn lleddfu'r pwysau ar ardaloedd gwledig yn sgil y don o ymwelwyr a welwn yn flynyddol, diolch byth. Er enghraifft, er bod Eryri yn gartref i dros 26,000 o bobl, mae tua 10 miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn. Tref Llandudno, gyda phoblogaeth o tua 22,000—sy'n tyfu i tua 60,000 y flwyddyn. Mae'r anhrefn traffig a pharcio a achosir wedi'i ddogfennu'n dda, ond mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn dal i fod yn brin o synnwyr cyffredin. Er eu bod yn gwybod bod y miliynau hyn yn heidio i'n parc cenedlaethol bob blwyddyn, rydych chi'n dal i fod heb gytuno i gyflwyno gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o borthladd Caergybi a Maes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog. Byddai hynny'n llacio'r straen, ac yn ychwanegu at brofiad ein hymwelwyr. Byddai camau o'r fath yn galluogi Eryri i gael pyrth trafnidiaeth gyhoeddus gwirioneddol ryngwladol sy'n cysylltu un o ardaloedd mwyaf trawiadol y Gymru wledig â gweddill y byd.
Rwy'n gobeithio y gallwn ddechrau gweld y Dirprwy Weinidog yn gweithredu'n rhagweithiol. Soniwyd am gymaint o syniadau da yma heddiw—
A wnaiff yr Aelod ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
Felly, galwaf ar y Dirprwy Weinidog yn awr, rydym wedi cael digon o siarad, gadewch inni weld rhywfaint o weithredu. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i fy nghyfaill ar yr ochr arall i'r Siambr, James Evans, am gyflwyno'r ddadl heddiw, a chredaf yn wirioneddol fod gwasanaethau bws a thrafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o biler allweddol ehangach y fenter ehangach i greu'r fargen newydd werdd y mae angen inni ei gweld a'i chyflawni a'i gweithredu yma yng Nghymru, ac mae'r cynnig ei hun yn gynnig da, ond credaf y byddai unrhyw un sydd â rhywfaint o wybodaeth am y diwydiant bysiau yn cydnabod bod y gwelliant gan fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yn gwneud y cynnig gymaint yn gryfach. Ac rwyf mewn sefyllfa, Ddirprwy Lywydd, lle rwy'n gorfod pleidleisio yn erbyn cynnig a gyd-gyflwynwyd gennyf, ac un rwy'n ei gefnogi, a phleidleisio dros y gwelliant mewn gwirionedd, i wneud y cynnig yn gryfach a chyrraedd calon y broblem yma yng Nghymru. A gadewch inni fod yn glir: mae'r gwelliant yn ymwneud â dileu Deddf Trafnidiaeth 1985, sy'n rhan o ddogma dadreoleiddio, ac mae'n rhan o ddogma dadreoleiddio sy'n perthyn i fin hanes, ac mae'n bryd inni gymryd y camau hynny'n awr.
Lywydd, Deddf Trafnidiaeth 1985 oedd y foment waethaf un i wasanaethau bysiau ledled y Deyrnas Unedig, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig. Ac mae'n dal i reoleiddio ein diwydiant yn ein gwlad yma heddiw, a dyna rydym yn sôn amdano. Ac os edrychwn ar yr hyn y mae'r Ddeddf wedi ei chynllunio i'w gyflawni, mae'n ceisio sicrhau mai gwneud elw yw'r unig reswm—yr unig reswm—y dylai llwybr bws fodoli. A golyga hyn ein bod yn cynllunio ein rhwydwaith bysiau bron yn gyfan gwbl o amgylch llwybrau proffidiol. Mae Aelodau wedi awgrymu bod cynghorau'n gallu rhoi cymhorthdal i lwybrau, ac maent yn gwneud hynny, ond daw hyn o gyllidebau sy'n crebachu ac ar ôl blynyddoedd lawer o gyni, nad awn i'w drafod heddiw. Gallwch ddyfalu beth a ddigwyddodd, ac edrychaf yn ôl at Ddeddf 1985 a'r amser hwnnw, ac roedd y cysyniad o les cyhoeddus mor sarhaus i'r Llywodraeth honno yn fy marn i fel eu bod wedi pasio'r ddeddf hon i wahardd ymdrechion o'r fath i sicrhau lles y cyhoedd. Fe'i cyflwynwyd ar fecanweithiau cymhleth rydym yn dal i'w gweld heddiw.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am grybwyll bod yr Aelod a gyflwynodd y cynnig wedi dweud yn gywir ar y dechrau y dylem geisio ateb rhai o'i gwestiynau, ac roeddwn am fynd yn ôl: rwy'n beio Margaret Thatcher a bydd yn gwybod fy mod yn beio Margaret Thatcher am lawer o bethau, na allaf ac nad oes gennyf amser i fynd i'w trafod heddiw. Ond dywedaf wrth yr Aelod a dywedaf wrth yr Aelodau ar draws y Siambr: rwy'n sefyll wrth fy nghredoau fel y mae llawer o fy etholwyr yn ei wneud. Ond os edrychwn ar ganlyniadau cynifer o'i phenderfyniadau ofnadwy, ond yn sicr y penderfyniad ofnadwy hwn, arweiniodd y nonsens a oedd yn sail iddo at lai o wasanaethau, tâl ac amodau gwaeth i'n gyrwyr gwych, a llai o arian i fuddsoddi mewn bysiau newydd, bysiau rydym wedi sôn amdanynt, bysiau dim allyriadau, bysiau trydan, fel rydym i gyd am eu gweld yn ein cymunedau o Flaenau Gwent i Alun a Glannau Dyfrdwy.
Felly, rwy'n annog yr Aelodau ar draws y Siambr heddiw sydd â diddordeb go iawn mewn trafnidiaeth bysiau i bleidleisio dros y gwelliant. Unwaith eto, cymeradwyaf yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Ond rhaid inni wneud mwy na dioddef y sefyllfa rydym ynddi, felly cymeradwyaf y cynnig, ond galwaf ar Aelodau o bob plaid wleidyddol i gydnabod pwysigrwydd y cynnig, cydnabod pwysigrwydd y cynnig diwygiedig a phleidleisio dros y cynnig diwygiedig pan ddaw'n amser i bleidleisio yn ddiweddarach heddiw. Diolch yn fawr.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddatgan buddiant fel Aelod o Gyngor Sir Penfro a hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am roi'r cyfle imi siarad yn y ddadl y prynhawn yma, gan fy mod yn gwybod y bydd o ddiddordeb mawr i lawer o fy etholwyr.
Fel llawer sy'n tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru, roeddwn yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus anaml a thymhorol, cael fy nghludo gan rieni neu hyd yn oed beicio boed law neu hindda i geisio cyrraedd fy swydd ran-amser pan oeddwn yn dal i fod yn yr ysgol. Felly, nid yw'n fawr o syndod fy mod wedi sefyll fy mhrawf gyrru cyn gynted â phosibl ar fy mhen blwydd yn 17 i roi rhyddid ac annibyniaeth i mi, ac roeddwn yn ffodus i wneud hynny. Fodd bynnag, i lawer o fy etholwyr, mae'r gwasanaeth bws lleol neu'r gwasanaeth trên lleol sydd hyd yn oed yn fyw anaml yn achubiaeth. Boed ar gyfer cymudo i'r gwaith, ymweld â ffrindiau a theulu neu er mwyn mynd i siopa, gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfrannwr mawr i les a safon byw unigolyn, fel y nododd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir.
Un o'r cyfarfodydd cyntaf a gefais ar ôl fy ethol fis Mai diwethaf oedd un i drafod yr her sy'n wynebu busnesau yn y sector lletygarwch o ran gallu llenwi bylchau cyflogaeth. Un o'r prif wersi a ddysgwyd o'r cyfarfod hwnnw oedd na allai gweithiwr a oedd yn gweithio oriau y tu allan i'r naw awr arferol o naw tan chwech yn Ninbych-y-pysgod, ac eto'n cymudo o Hwlffordd, ddychwelyd adref ar fws, gan fod y gwasanaeth olaf yn gadael cyn iddi dywyllu. Os ystyriwch nifer y swyddi sy'n gwasanaethu'r economi nos a'r diwydiant lletygarwch mewn tref fel Dinbych-y-pysgod, gallwch ddeall faint o her y mae hyn yn ei chreu.
Mae rhai o'r cyflogwyr mwy fel Bluestone ger Arberth wedi dechrau llogi eu cludiant eu hunain i helpu staff i deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith, ond mae'n amlwg nad yw hyn yn opsiwn i'r rhan fwyaf o fusnesau bach. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed pa sgyrsiau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol, megis Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, i helpu i gynorthwyo'r sector lletygarwch i alluogi staff i gymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus y tu allan i'r oriau gwaith mwy traddodiadol.
Hefyd, hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i dynnu sylw at y gwasanaeth trên yn ne Sir Benfro. Ymunodd fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar, â mi yr haf diwethaf i gyfarfod â grŵp o etholwyr yng ngorsaf drenau Dinbych-y-pysgod. Fe wnaethant egluro'r heriau a wynebent wrth deithio ar y brif reilffordd tuag at ddwyrain Cymru, a mynegwyd pryderon ynghylch capasiti'r trenau a'r amserlennu. Tynnodd y grŵp sylw hefyd at y problemau a wynebir wrth deithio ar drên rhwng de a chanolbarth Sir Benfro. Byddai'r daith gymudo syml 20 milltir, 30 munud mewn car o Hwlffordd i Ddinbych-y-pysgod ar fore o'r wythnos yn cymryd dwy awr a 15 munud ar y trên, neu dros awr a hanner ar fws yn y bore. A hynny i rai nad ydynt angen amser teithio ychwanegol i gyrraedd Hwlffordd yn y lle cyntaf.
Yn ôl yn yr hydref, cyhoeddwyd cynlluniau gan y Dirprwy Weinidog i wella seilwaith a chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus Cymru, gyda newyddion am welliannau i orsafoedd yn Hwlffordd, Aberdaugleddau a Hendy-gwyn ar Daf, yn ogystal ag awydd i ychwanegu capasiti ar lwybr Caerfyrddin i Aberdaugleddau. Er bod hyn yn newyddion gwych i Paul Davies yn yr etholaeth sy'n ffinio â fy etholaeth i, mae'n ymddangos bod y llwybr rhwng Doc Penfro a Hendy-gwyn ar Daf wedi'i anghofio. Y rheswm pam rwy'n canolbwyntio ar Ddinbych-y-pysgod y prynhawn yma yw am mai gorsaf drenau'r fan honno yw'r brysuraf yn Sir Benfro a dyna'r porth i un o'n cyrchfannau glan môr gorau. Ar yr un rheilffordd mae Doc Penfro, lleoliad allweddol i deithwyr sy'n teithio i ac o Iwerddon, ac eto ni fydd y rhain a gorsafoedd llai eraill ar hyd llwybr rheilffordd de Sir Benfro yn gweld unrhyw fanteision o sylwedd o'r buddsoddiad ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog.
Mae system drafnidiaeth gydgysylltiedig ledled Cymru yn arf hanfodol yn ein brwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond cyn annog pobl allan o'u ceir, rhaid cael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus barod sy'n gallu cyflawni ar gyfer anghenion y bobl. Fel yr esboniais, mae teithio rhwng gogledd a de Sir Benfro ar drafnidiaeth gyhoeddus yn heriol dros ben. Mae'n bwysig i economi'r sir fod de Sir Benfro yn cael ei thrin yn gyfartal â gogledd Sir Benfro wrth ddatblygu metro gorllewin Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos bod y cynlluniau wedi anwybyddu'r Sir Benfro sy'n bodoli i'r de o Afon Cleddau.
Yfory, rwy'n cynnal cyfarfod bord gron gyda chynghorwyr a sefydliadau lleol i ystyried cryfder y teimlad ynghylch gwasanaethau trên i wasanaethu eu cymunedau. Yn dilyn y ddadl heddiw, Ddirprwy Weinidog, byddai'n wych pe gallwn fynd â neges yn ôl gennych chi nad yw Llywodraeth Cymru wedi anghofio am dde Sir Benfro ac y bydd yn darparu'r cymorth a'r cyllid nid yn unig i uwchraddio'r cyfleusterau, ond hefyd i gynyddu amlder gwasanaethau sy'n defnyddio'r rheilffordd hon. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan hanfodol yn cysylltu ein cymunedau gwledig ac yn lleihau ein hôl troed carbon. Fodd bynnag, er mwyn cyflawni'r nodau hyn, rhaid i'r gwasanaethau ymateb i anghenion teithwyr. Diolch yn fawr.
Nid wyf yn credu mai diben dadl Aelodau bob amser yw dangos unfrydedd ymhlith aelodau meinciau cefn ar draws y Siambr, oherwydd bydd gwahaniaethau bob amser rhwng unigolion. Nid wyf am ymddiheuro i James Evans am gefnogi'r gwelliant gan Alun Davies ac yn wir, am ei gyd-lofnodi, oherwydd mae'n tynnu sylw at fater hanfodol.
Mae'r holl enghreifftiau a ddarparwyd—ac rwy'n edrych ar draws y sgrin yn awr a gallaf weld Aelodau Ceidwadol, gallaf weld Democrat Rhyddfrydol, Aelodau Llafur—yn dangos methiant y farchnad, ac mae methiant y farchnad yn digwydd oherwydd nad yw'r farchnad wedi'i rheoleiddio. Dyna'r rheswm am y problemau hyn a dyna pam y mae'r gwelliant yn rhoi asgwrn cefn gwleidyddol i'r cynnig. Wrth wrando ar Carolyn Thomas, rwy'n credu mai dyma lle gallech deimlo'r wobr i rywun sydd wedi ymladd y brwydrau hyn i gael gwasanaethau bws yn eu cymuned, fel aelod o gabinet, i gael y gwasanaethau bysiau hyn yn weithredol. Gallwch weld a chlywed rhwystredigaeth Carolyn wrth iddi geisio sicrhau bod hyn yn digwydd, a dyna'n union pam rwy'n cefnogi'r gwelliant hwn. Ac rwy'n ddig iawn, James Evans—edrychwch arnaf, James Evans, edrychwch i fyny ar y cyfrifiadur—rwy'n ddig iawn am yr hyn a ddywedoch chi pan ddywedoch chi fod dadreoleiddio wedi digwydd 40 mlynedd yn ôl, fel pe bai hynny'n amser pell i ffwrdd yn y gorffennol pell. Wel, rwy'n 45 eleni ac roeddwn i'n dal y bysiau hynny, James Evans; roeddwn yn dal y bysiau a gâi eu rhedeg gan gyngor dosbarth Cwm Rhymni. Ac roeddent yn ddibynadwy, roeddent yn mynd ar lwybrau nad ydynt yn cael eu rhedeg mwyach, a chaent eu rhedeg gan wasanaeth cyhoeddus. Yn 1986, ar ôl y Ddeddf y soniodd Jack Sargeant amdani, crëwyd Inter Valley Link fel cwmni lled braich—rwy'n gwybod oherwydd roedd fy nhad, fel cynghorydd, yn gyfarwyddwr ar y sefydliad. Ac ar ei ben ei hun, byddai'r cwmni wedi bod yn llwyddiannus, ond y broblem oedd bod llwyth o newydd-ddyfodiaid eraill wedi ymddangos yn y farchnad a dechrau rhedeg gwasanaethau rhatach ar yr un llwybrau. Ac yn 1990, aeth Inter Valley Link i'r wal. Nawr, y rheswm pam yr aeth Inter Valley Link i'r wal oedd oherwydd bod cwmnïau a oedd yn codi prisiau is wedi ymdreiddio i'r farchnad. Ond a ydych chi'n gwybod beth a ddigwyddodd wedyn? Gwnaethant roi'r gorau i redeg y llwybrau hynny. Gwnaethant roi'r gorau i redeg y llwybrau hynny, a gwelsom yr holl lwybrau hynny'n diflannu.
Nawr, drwy fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a thrwy fuddsoddiad gan y sector cyhoeddus, rydym wedi gweld rhywfaint o bontio ar y bylchau hynny yn y farchnad. James, a ydych chi am ymyrryd? A ydych chi am ymyrryd? Iawn. Ewch amdani.
Diolch, Hefin. Nid wyf wedi digio. Rwy'n falch eich bod yn arfer defnyddio'r bysiau hynny; hoffwn pe bai mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i'n helpu i leihau'r argyfwng hinsawdd. Ond un cwestiwn y byddwn yn ei ofyn i chi: a ydych yn cytuno felly fod y Llywodraeth Lafur wedi methu bryd hynny, rhwng 1997 a 2009, drwy beidio ag ail-reoleiddio'r gwasanaeth bws, a bod Gordon Brown a Tony Blair wedi methu yn hyn o beth?
Ydw, yn sicr, rwy'n cytuno. Ac rwy'n credu fy mod wedi digio mwy am y ffaith eich bod chi'n iau na fi na dim byd arall. Ydw, rwy'n credu ei fod yn gyfle a gollwyd—yn sicr. Rwy'n credu bod y Llywodraeth rhwng 1997 a 2007 wedi gwneud pethau gwych, ond hefyd ni wnaethant bethau y gallent fod wedi'u gwneud, a chredaf fod hwn yn un o'r pethau y gallent fod wedi'i wneud ac na wnaethant ac y dylent fod wedi'i wneud. Ond mae gan y Dirprwy Weinidog yno heddiw gyfle i'w wneud a gwn ei fod yn bwriadu ei wneud. Mae arnom angen yr ail-reoleiddio hwnnw.
Felly, gan droi'n ôl at yr enghreifftiau, y cynllun argyfwng bysiau—a gallaf weld Ken Skates, a sefydlodd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau (BES)—a achubodd y diwydiant bysiau. Achubodd hwnnw y diwydiant bysiau fel y mae ar hyn o bryd, yn dilyn y pandemig. Heb BES a BES 2, ni fyddai gennych ddiwydiant bysiau i adeiladu arno ar hyn o bryd, a hynny oherwydd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru. Felly, gallwn edrych ar ein rhagflaenwyr gwleidyddol a dweud, 'Dylent fod wedi gwneud hyn' ond nid yw hynny'n ein hatal ni rhag gwneud pethau heddiw a bod yn feiddgar.
Felly, pan edrychwch ar y llwybrau sydd gennym—. Rwyf wedi cael llond bol ar negodi, ar erfyn ar ddarparwyr sector preifat, fel y dywedodd Carolyn Thomas, i ddarparu llwybrau nad ydynt yn broffidiol. Rwyf wedi cael llond bol ar hynny; rwy'n ei wneud o hyd. Rydym eisiau i ddarparwyr preifat ddarparu llwybr i Ysbyty Brenhinol Gwent o Bontypridd drwy Nelson ac Islwyn a Chwmbrân. Rydym eisiau gwneud hynny. Fe allwn ei wneud; fe allwn weithio'n galed i'w gyflawni. Ond yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw gwasanaeth a ddarperir yn gyhoeddus i lenwi'r bylchau hynny i ni, a chredaf y byddai ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau yn caniatáu hynny a dyna y mae angen i'r Bil hwnnw ei wneud.
Felly, dywedaf wrth James Evans, ni allwch help eich bod yn iau na mi, ond gallwch wneud iawn am hynny drwy gefnogi ein gwelliant. A hoffwn ddweud hefyd wrth Mabon ap Gwynfor, sef yr unig Aelod arall a lofnododd y gwelliant nad yw'n Aelod Ceidwadol, rwy'n credu—credaf ei fod yn cloi'r ddadl heddiw—[Torri ar draws.] Do, Rhys, ond cefnogi'r gwelliant a wnaethoch chi. Hoffwn ofyn i Mabon: dewch i gefnogi'r gwelliant hwnnw hefyd. Yr unig reswm pam ein bod yn gwrthwynebu'r cynnig yw er mwyn pleidleisio dros y gwelliant. Mae'n bwysig iawn fod y gwelliant hwnnw'n cael ei dderbyn, oherwydd credaf y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, edrychwn ymlaen at gefnogaeth ar draws y Siambr.
Cyn imi alw ar y Dirprwy Weinidog, a gaf fi atgoffa pawb, yn ogystal ag enghreifftiau o blith Aelodau Ceidwadol a Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol, fod Aelodau Plaid Cymru hefyd yn y ddadl hon a gallaf eu gweld ar y sgrin, i fod yn deg â phawb?
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn i'r Aelodau sydd wedi siarad a diolch iddynt am gyflwyno'r ddadl hon. Unwaith eto, credaf ein bod wedi dangos yn y Siambr hon fod yna gefnogaeth a phryder trawsbleidiol am drafferthion trafnidiaeth gyhoeddus ac ewyllys i'w gwella. Credaf ei fod yn beth gwerthfawr y dylem ei feithrin. Mae'n siŵr y byddwn yn anghytuno ar rai o'r manylion ac rydym wedi treulio llawer o'r ddadl yn ceisio penderfynu pwy sydd ar fai am fethiannau yn y gorffennol. Ond rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno mai drwy weithredu ar y cyd y gallwn wella pethau, a gallaf sicrhau'r Aelodau bod y Llywodraeth hon yn benderfynol o wneud hynny.
Dywedodd Jane Dodds ei bod yn poeni nad yw polisi bysiau'n cael ei drin â'r brys angenrheidiol, a gallaf ei sicrhau nad yw hynny'n wir. Byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn ar fysiau, 'Bws Cymru', yn ystod y misoedd nesaf, ac rydym yn cymryd ychydig o amser i'w wneud, oherwydd rydym yn gweithio'n wirioneddol gydweithredol ag awdurdodau lleol a chyda gweithredwyr i gynllunio rhywbeth a fydd yn gweithio.
Gofynnodd James Evans, yn ei ymyriad ar Hefin David, ac yn ei gyfraniad gwreiddiol: pam na wnaeth y Llywodraeth Lafur ar ddiwedd y 1990au gael gwared ar y system dameidiog? Credaf fod yr hyn a wnaethant yn ymgais wirioneddol i ddefnyddio dull partneriaeth gyda gweithredwyr i ddatblygu ffordd wahanol o'i wneud. Ond rwy'n credu y gallwn ddweud nad yw dull partneriaeth wedi gweithio. Gallwn weld yn awr ym Manceinion, bedair blynedd ar ôl cyflwyno system masnachfraint partneriaeth, eu bod yn dal i fethu rhoi gwynt o dan ei hadain.
Felly, rwy'n credu ei bod yn gwbl briodol inni ddweud ein bod wedi rhoi cynnig ar ddulliau gwahanol i gyflawni amcan a rennir, ac rydym yn dysgu drwy'r amser am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Ac yn amlwg, mae budd i'r sector masnachol a breifateiddiwyd o danseilio rhai o'r cynlluniau hyn—gadewch inni fod yn glir am hynny. Yn aml, daw gweithredwyr preifat ag achos cyfreithiol yn erbyn ymdrechion i wneud hyn. Maent yn aml yn lobïo a llunnir cynlluniau amrywiol i awgrymu nad oes angen masnachfreinio'n briodol gan y gall partneriaethau weithio, ac nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd y dylem fynd o'i chwmpas. Dyna'r hyn rydym yn ei wneud yn y Llywodraeth hon sy'n wahanol i'r hyn a fu o'r blaen: edrych ar fodel cyfandirol o fwrdd goruchwylio yn hytrach na bwrdd partneriaeth lleol, dull Cymru gyfan, gyda Trafnidiaeth Cymru yn ganolog iddo, ond gan weithio'n iawn drwy'r gwahanol rannau o lywodraeth leol, lefel y cyngor sir, lefel y cyd-bwyllgor corfforaethol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, i geisio llunio system rhyngom sy'n mynd i weithio, sy'n mynd i ganiatáu masnachfreinio ar sail ardal gyfan. Oherwydd y system bresennol sydd wedi'i phreifateiddio yw gwraidd y broblem mewn gwirionedd, a dyna lle rwy'n cytuno â'r gwelliant. Yn amlwg, mae Gweinidogion y Llywodraeth yn draddodiadol, yn y dadleuon hyn, yn ymatal ar y cynigion, am mai cynigion y meinciau cefn ydynt, a byddwn yn parhau â'r traddodiad hwnnw heddiw. Ond rydym yn sicr yn cefnogi ysbryd yr hyn y dadleuir yn ei gylch y prynhawn yma, ac mae angen inni newid i sylfaen fwy cydlynol sydd wedi'i chynllunio'n well.
Nawr, fel y dywedodd Carolyn Thomas yn ei chyfraniad, a oedd yn bwerus iawn yn fy marn i, anaml iawn y mae gwasanaethau bws gwledig yn gwneud arian, ond maent yn achubiaeth. Ac mae hynny'n gwbl gywir. A soniodd am enghraifft o weithredwr yn rhoi'r gorau i lwybr ac yna'n mynnu cymhorthdal 10 gwaith yn fwy nag a roddwyd yn flaenorol, a dengys hynny sut y mae gweithredwyr masnachol yn chwarae'r system, a dyna sy'n digwydd mewn marchnad onid e? Ac nid wyf yn beirniadu'r gweithredwyr unigol wrth ddweud hynny; dyna y mae'r farchnad yno i'w wneud. Ond fel y dywedodd Hefin David yn ei gyfraniad da, mae methiant amlwg yn y farchnad, oherwydd nid yw'r farchnad yn gwasanaethu budd y cyhoedd. Felly, yr hyn a welwn yn aml yw gweithredwyr yn cystadlu am nifer fach o lwybrau proffidiol ac yna'n peidio â rhedeg llwybrau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol.
Nawr, roedd yna adeg pan oedd digon o arian cyhoeddus i allu cynnig cymorthdaliadau ar gyfer y llwybrau hyn sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol, ond ar ôl 10 mlynedd o gyni, nid yw'r cyllid disgresiynol hwnnw yno. Ac yn aml, rwy'n credu—. Rydym wedi gweld Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd â gwasanaethau masnachol yn unig bellach; nid oes cyllid ar gael ar gyfer rhoi cymhorthdal i lwybrau, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu yn natur y rhwydwaith bysiau sydd ar ôl yn yr ardal honno erbyn hyn. Nid ydym eisiau gweld hynny. Rydym eisiau gweld gwasanaeth bws rheolaidd a dibynadwy, fel y gallwn weld mewn llawer o systemau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio i'n cymdogion agos. Sylwaf ar yr hyn a ddywedodd Sam Kurtz am enghraifft o weithiwr rhan amser yn ceisio dychwelyd adref o shifft hwyr yn Ninbych-y-pysgod lle nad yw'r system yn ddigon da ar hyn o bryd. Rydym angen iddi fod yn ddibynadwy, rydym angen iddi fod yn rheolaidd, ac rydym angen iddi fod yn fforddiadwy. A wyddoch chi beth? Mae'n gwbl bosibl. Ceffyl da yw ewyllys. Nid yw hyn yn rhy gymhleth i'w wneud; ond nid ydym wedi bod yn barod i wario'r arian angenrheidiol, na rhoi'r strwythur rheoleiddio cywir ar waith er mwyn gwneud iddo ddigwydd, a dyna rydym eisiau ei wneud. Ac rwy'n credu mai dyma lle daw'r ffocws penodol ar ardaloedd gwledig i mewn iddi, oherwydd mae llawer o'r hyn rydym wedi'i ddisgrifio yn berthnasol i bob rhan o Gymru.
Mewn ardaloedd gwledig, mae yna gyfres ychwanegol o heriau. Nawr, gallwch gael system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl weithredol mewn ardaloedd gwledig. Os edrychwch ar yr Almaen wledig, neu'r Swistir wledig, sydd yr un mor denau ei phoblogaeth, os nad yn fwy tenau, â rhannau o gefn gwlad Cymru, mae ganddynt bentrefi yno, pentrefi bach, gyda gwasanaeth rheolaidd bob awr, am mai dyna maent wedi ei flaenoriaethu, a dyna maent wedi'i wneud yn eu systemau masnachfraint, lle maent yn defnyddio gwasanaethau gwneud elw mewn trefi i draws-sybsideiddio gwasanaethau sy'n gwneud colled mewn ardaloedd gwledig, gan gydnabod bod angen cymdeithasol yma.
Credaf fod yr achos dros system fysiau briodol yn ymwneud lawn cymaint â chyfiawnder cymdeithasol ag y mae'n ymwneud â mynd i'r afael â newid hinsawdd. Ac rwy'n teimlo'n angerddol am hynny, fel Aelodau eraill, yn wir, ar draws y rhaniad. Felly, gadewch inni weithio gyda'n gilydd i feddwl am rywbeth a fydd yn sefyll prawf amser. Felly, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn, ac fel y dywedais, rydym yn ymgynghori ag awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a phan gaiff hwnnw ei gyflwyno i'r Senedd, gadewch inni weithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol i weld a allwn ei gryfhau a sicrhau ei fod yn addas i'r diben. A byddaf yn sicr yn addo gwrando er mwyn gweithio gyda chi i weld a ellir ei wneud hyd yn oed yn gryfach. Felly, gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod o ddifrif ynglŷn â hyn, rydym yn ei drin gyda'r brys mwyaf, ond rydym eisiau ei gael yn iawn.
Nawr, gwnaeth Natasha Asghar y ddadl nad oes digon o arian ar gyfer bysiau, ac mae'n sicr yn wir, er ein bod yn rhoi swm sylweddol o arian—. Yn ystod y 15 mis diwethaf, rydym wedi blaenoriaethu mwy na £108 miliwn i gefnogi'r diwydiant bysiau drwy COVID. Fel y nododd Hefin a Jack Sargeant yn gywir, oni bai am y cyllid hwnnw, byddai'r diwydiant bysiau wedi mynd i'r wal. Mae hynny ar ben y £90 miliwn rydym eisoes yn ei wario'n flynyddol ar ddarparu gwasanaethau bysiau, ond nid yw hynny'n ddigon i gael y math o wasanaeth bws rydym ei eisiau a'r math a welir ar y cyfandir. Dyna un o'r rhesymau pam y gwnaethom gyflwyno'r adolygiad ffyrdd. Ac rwy'n sylweddoli nad yw pob Aelod wedi cefnogi hwnnw, ond y rheswm dros wneud hynny yw oherwydd ein bod eisiau rhyddhau cyllid i wneud buddsoddiad, i flaenoriaethu buddsoddiad, mewn trafnidiaeth gyhoeddus. A hoffwn ddweud mor garedig ag y gallaf wrth Aelodau ar draws y Siambr nad oes pwynt cefnogi ymrwymiadau lefel uchel o ran newid hinsawdd os nad ydych yn barod i ddilyn y camau angenrheidiol i wireddu'r ymrwymiadau hynny. Mae'n rhaid symud arian oddi wrth adeiladu ffyrdd a thuag at wella trafnidiaeth gyhoeddus os yw'r holl deimladau a glywsom yn y ddadl hon heddiw am gael eu trosi'n system fysiau sy'n gweithio'n iawn. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n myfyrio ar hynny.
Dywedodd Natasha Asghar ei bod wedi bod yn saith mis ers yr adolygiad ffyrdd ac na allwn aros a gwneud dim. Wel, efallai ei bod hi'n aros a gwneud dim, Ddirprwy Lywydd, ond yn sicr nid wyf fi'n gwneud hynny ac nid yw bwrdd y panel adolygu ffyrdd yn gwneud hynny, oherwydd maent yn cyfarfod yn rheolaidd ac maent yn rhoi ystyriaeth ddwys i'r dasg. Maent ar fin cyhoeddi adroddiad dros dro ac adroddiad llawn erbyn yr haf, felly maent yn gweithio'n gyflym.
Gwnaeth Peter Fox y pwynt am ddull cydgysylltiedig o ymdrin â gwasanaethau bysiau, ac roeddwn yn falch o gyfarfod â'r Cynghorydd Richard John, arweinydd Sir Fynwy, ddydd Llun i siarad am drafferthion penodol Sir Fynwy, nad yw'n cael ei gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus—ei olynydd ef—i ddeall y pryderon sydd ganddynt. Ac rwy'n credu—. Rwy'n cytuno â'i her fod gan gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, drwy'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, rôl hanfodol i'w chwarae yn gwneud i'r system fasnachfreinio weithio.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod fy amser wedi dirwyn i ben, ond hoffwn ailadrodd fy niolch i'r holl Aelodau am gytuno ar beth yw'r broblem. Nawr, rwy'n credu mai'r her i bob un ohonom yw dod at ein gilydd i ganfod yr ateb. Diolch.
Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth yma heddiw ac i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb. Diolch yn arbennig, wrth gwrs, i James Evans, yr Aelod dros Frycheiniog a Maesyfed, am gyflwyno'r ddadl mewn modd trawsbleidiol fel hyn.
Mae hi'n ddadl hynod o bwysig oherwydd nid yn unig ei bod hi'n cyflwyno datrysiad syml a pharod i'r broblem o sut mae cysylltu pobl rhwng pwynt A a phwynt B, ond mae'n gwneud cymaint yn fwy na hynny. Mae sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a llyfn yn ein cymunedau gwledig hefyd yn ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r trafferthion sylfaenol eraill sydd yn ein hwynebu, megis twf economaidd, sicrhau gwaith, sicrhau iechyd corfforol a meddyliol, addysg a llawer iawn yn fwy.
Ddaru ni glywed nifer fawr o gyfraniadau gan nifer o bobl. Fyddaf i ddim yn medru mynd drwy bob un ohonyn nhw, ond, wrth gwrs, ddaru James agor y drafodaeth wrth sôn am ei sgyrsiau efo'r corff arbennig yna sy'n cynrychioli menywod yma yng Nghymru, y WI, a sut mae aelodau o'r WI yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn aml iawn, ac, yn benodol, y ffordd maen nhw wedi edrych ar unigrwydd yn ein cymunedau ymhlith y bobl hŷn a sut mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio arnynt hwythau.
Ddaru Jane Dodds sôn am ei chynnig hi ddaru gael ei drafod o'r blaen a'r ffaith bod angen trafnidiaeth am ddim ar fysus i bobl o dan 25 oed, a chynnig datrysiadau amgen i'r broblem yma. Ddaru Carolyn sôn yn rymus iawn am ei phrofiad personol hi ar y cabinet yn Fflint a sôn am sut mae cwmnïau bysus erbyn hyn ond yn edrych i wneud elw ond bod yna angen mwy gan wasanaethau bysus, a bod y galw am wasanaethau bysus er mwyn cysylltu cymunedau a sicrhau bod gan bobl fynediad i wasanaethau yn bwysicach nac elw—pobl dros elw oedd hi'n ei ddweud.
Ac yna, dyma ni'n gweld cyfraniadau pwerus iawn gan Jack Sargeant a Hefin David yn sôn am y dadreoleiddio a fu yn ystod cyfnod Margaret Thatcher a sut roedd hwnna wedi bod yn niweidiol, ac mi fyddaf i yn sicr, felly, yn cefnogi'r gwelliant.
Roedd Sam Kurtz yn sôn am y ffaith bod trafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl angenrheidiol i bobl mewn cymunedau gwledig er mwyn cael swyddi, er enghraifft, a'i brofiad personol o. Ac yna, diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb, ac yntau, wrth gwrs, yn sôn am yr adolygiad ffyrdd. Rwyf innau, yng nghyd-destun Llanbedr, yn boenus o ymwybodol o hynny, a hoffwn i gymryd y cyfle yma, felly, i wahodd y Dirprwy Weinidog i ddod i Lanbedr efo fi er mwyn ein bod ni'n medru ceisio canfod datrysiad amgen i'r broblem yno.
Ond ta waeth am hynny, os ydyn ni o ddifrif, felly, am fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan, yna mae'n rhaid i ni leihau ein gorddibyniaeth ar drafnidiaeth breifat, fel mae nifer fawr yma wedi sôn heddiw. Fel y saif pethau, does yna ddim dewis gan bobl yn ein cymunedau gwledig ond defnyddio car.
Rhwng 2010 a 2018, fe ddisgynnodd y gwariant cyhoeddus ar fysiau o £10 miliwn. Yn ôl ffigurau Campaign for Better Transport, gwelwyd cwymp o bron i 70 y cant yn y pres cyhoeddus a roddwyd i fysiau yn y cyfnod yma ar draws Cymru. Mae sir Fynwy yn gweld cwymp o dros 65 y cant o doriadau; sir y Fflint yn gweld cwymp o 51 y cant; ac, yn wir, mewn rhai siroedd efo ardaloedd gwledig, gwelwyd toriad o 100 y cant yn y sybsidi cyhoeddus, er enghraifft yn Wrecsam a Chastell Nedd Port Talbot. Dydy hyn, felly, ddim yn gynaliadwy, a'r bobl dlotach a mwyaf bregus sydd yn dioddef. Ceir un o'r gwasanaethau gorau, wrth gwrs, yn Llundain, lle, fel rydyn ni'n gwybod, ni welwyd y dadreoleiddio yno o dan Thatcher, ac mae'r achos yna wedi cael ei roi.
Dros yr haf diwethaf yma yn Nwyfor Meirionnydd, gwelwyd busnesau lletygarwch yn gorfod cau yn ystod brig y tymor twristiaeth. Pam hynny? Oherwydd, wrth i ni yn ein swyddfa ffonio'r busnesau yna, yr hyn a ddywedon nhw oedd bod pobl yn methu â chyrraedd eu gweithle. Roedd yna fwytai yn methu agor oherwydd roedd pobl yn byw ymhell i ffwrdd heb drafnidiaeth. Ddaru fi fynd i siarad efo'r ganolfan waith ym Mhorthmadog, a hwythau'n sôn mai'r her fwyaf sydd yn wynebu eu cleientiaid nhw wrth chwilio am waith oedd y gallu i gyrraedd gwaith a'r diffyg gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i'w cymryd nhw yna.
Rwyf innau wedi sôn erbyn hyn sawl gwaith am y gwaith rhagorol mae elusen Gisda wedi'i wneud. Mae elusen Gisda wedi cynnal ymgynghoriad efo pobl ifanc yn edrych ar iechyd meddwl, a phobl ifanc Gwynedd yn dweud mai'r her fwyaf i'w iechyd meddwl ydy'r diffyg i gael mynediad i'r gwasanaethau oherwydd eu bod nhw mor bell i ffwrdd a methu â chael trafnidiaeth.
Mae'r achos wedi cael ei wneud yn glir, felly, ac mae nifer o bobl yma wedi rhoi nifer o atebion. Buaswn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog, wrth ei fod o'n paratoi'r Papur Gwyn—a chwarae teg i'r Dirprwy Weinidog am sôn am ardaloedd gwledig—i ystyried cynnig Peter Fox fod yna ystyriaeth benodol yn cael ei rhoi i ddatblygu strategaeth wledig yn y Papur Gwyn yna. Felly, diolch yn fawr iawn unwaith eto i James Evans am ddod â'r ddadl yma gerbron ac i bawb am eu cyfraniad. Dwi'n ddiolchgar iawn am hynny. Mi fyddaf i'n cefnogi'r gwelliant ac yn annog pawb i gefnogi'r gwelliant, ac, felly, y cynnig. Mae'r achos wedi'i wneud a dwi'n edrych ymlaen i'r bleidlais. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.