– Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.
Y ddadl nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd meddwl plant a'r glasoed. Dwi'n galw ar James Evans i wneud y cynnig. James Evans.
Cynnig NDM8005 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi effaith y pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
2. Yn gresynu bod amseroedd aros iechyd meddwl plant a'r glasoed yn parhau i fod yn wael, gyda llai nag un o bob dau o bobl o dan 18 oed yn derbyn asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn 28 diwrnod i'w hatgyfeirio.
3. Yn mynegi ei phryder ynghylch nifer y plant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n cael eu cadw o dan adran 136.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad brys o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed;
b) sicrhau bod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael i blant a phobl ifanc ledled Cymru; ac
c) ystyried dichonoldeb agor uned anhwylderau bwyta yng Nghymru.
Diolch, Lywydd, ac fe wnaf aros i Aelodau adael y Siambr iddi gael tawelu ychydig.
Iawn. Parhewch. Mae'n iawn.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n credu bod y ddadl hollbwysig hon heddiw ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn un o'r dadleuon pwysicaf a gawsom yn y Senedd, ac mae'n drueni fod cynifer o Aelodau newydd adael y Siambr a ninnau'n trafod pwnc mor bwysig.
Mae gan lawer o bobl yn y Siambr hon brofiad personol o ymdrin â phroblemau iechyd meddwl. Rwyf wedi dioddef problemau iechyd meddwl fy hun yn y gorffennol, a chredaf ei bod yn bwysig iawn fod mwy o bobl yn siarad am broblemau iechyd meddwl, er mwyn inni allu dadstigmateiddio iechyd meddwl a chaniatáu i bobl ofyn am y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Mae'r problemau sy'n wynebu pobl ifanc heddiw'n wahanol iawn i'r rhai a wynebai genedlaethau blaenorol. Mae ieuenctid heddiw yn byw yn y byd go iawn a'r byd digidol. Gall sefydliadau a busnesau nad ydynt erioed wedi clywed amdanynt ddylanwadu arnynt a chysylltu â hwy, ar gyfryngau cymdeithasol a fforymau ar-lein, gan greu, iddynt hwy, ganfyddiad camystumiedig o beth yw bywyd. Mae llawer o bobl ifanc yn agored i niwed ac i gael eu dylanwadu fel hyn, ac os cânt eu sugno ar hyd y llwybr anghywir, gallent ei chael yn anodd dod o hyd i ffordd allan neu ofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt.
Rwy'n siarad â phobl ifanc yn rheolaidd. Rwyf hyd yn oed yn ystyried fy hun yn berson ifanc, Ddirprwy Lywydd, felly rwy'n deall y trafferthion y mae llawer o fy nghenhedlaeth i yn eu hwynebu. Mae llawer yn pryderu'n fawr na allant ennill digon o arian i fodloni'r safonau sydd gan gymdeithas ar eu cyfer yn eu barn hwy. Mae llawer yn ceisio dangos eu bod yn byw bywyd hudolus ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu argraff ar eraill ar lwyfannau. Yn anffodus, mae hyn wedi dod yn gyffredin iawn, gyda phobl ond yn rhannu'r amseroedd da heb fod eisiau dangos yr adegau gwael, tra byddant yn eistedd gartref yn dioddef mewn distawrwydd. Canfu arolwg gan Mind Cymru fod 75 y cant o bobl ifanc yn dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod misoedd cyntaf y pandemig. Byddwn yn dweud mai'r rheswm am hyn yw'r cyfryngau a dewisiadau gwleidyddol a'r cyfyngiadau symud a ddeilliodd o hynny, a welodd gynnydd enfawr yn y dirywiad yn iechyd meddwl pobl.
Arweiniodd hyn at gynnydd yn nifer y bobl sy'n dioddef o anhwylderau bwyta, gyda gwasanaethau cymorth wedi'u dileu dros nos bron iawn a llawer yn cael eu gadael i ddioddef ar eu pen eu hunain. Mae angen inni sicrhau bod mwy o staff yn cael eu hyfforddi i nodi a chefnogi plant sy'n dioddef o anhwylderau bwyta. Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr meddygol yn cael llai na dwy awr o hyfforddiant ar anhwylderau bwyta, ac mae hynny dros bedair i chwe blynedd o astudio israddedig. Mae llawer o bobl ifanc sydd angen gwasanaethau arbenigol yn cael eu symud o'u cymunedau, i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd heb rwydwaith cymorth. Felly, mae angen inni archwilio'r posibilrwydd o sefydlu uned anhwylderau bwyta yma yng Nghymru.
Mae ein hysgolion hefyd yn chwarae rhan bwysig yn atal ac yn ymdrin â'r mater hwn. Dylai ysgolion fod yn adeiladu poblogaeth o bobl ifanc sy'n wydn yn emosiynol. Yn anffodus, mae UNICEF yn amcangyfrif bod mwy nag un o bob saith unigolyn ifanc rhwng 10 a 19 oed yn byw gyda diagnosis o anhwylder iechyd meddwl. Os ychwanegwn y rhai nad ydynt wedi cael diagnosis, mae hwn yn ddarlun sy'n peri pryder mawr wrth symud ymlaen. Mae ein gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y maes hwn. Yn anffodus, ar ôl bod yn Weinidog yr wrthblaid dros iechyd meddwl ers dros flwyddyn bellach, mae llawer o bobl ifanc wedi dweud wrthyf eu bod wedi cael cam gan y gwasanaethau hyn, gyda gormod yn aros am apwyntiad heb unman arall i droi, ac yn teimlo'n ynysig ac yn unig. Felly, mae angen diwygio CAMHS ar fyrder i sicrhau bod eu cymorth ar gael pan fydd ei angen.
Gallai un o'r diwygiadau hynny gynnwys cynyddu nifer y timau cymorth mewn ysgolion, ac rwy'n credu, a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn credu, y dylai fod gan bob ysgol aelod penodol o staff sy'n ymdrin ag iechyd meddwl mewn ysgolion, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi. Peth arall y mae'r Dirprwy Weinidog a minnau'n cytuno yn ei gylch yw defnyddio'r trydydd sector fel bod y bwlch rhwng atgyfeirio ac apwyntiad yn cael ei lenwi, er mwyn i'r unigolyn ifanc gael ei weld ar unwaith ac nad yw'n cael ei adael i ddioddef gartref.
Mae llenwi swyddi CAMHS arbenigol sy'n wag ers amser maith hefyd yn fater rwy'n siŵr fod pawb yn ymwybodol iawn ohono, ac mae'n un y mae angen mynd i'r afael ag ef ar frys yn awr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, dywedwyd wrthyf droeon fod hyn yn flaenoriaeth, ond nid yw pethau'n gwella; maent yn gwaethygu. Mae hwn yn fater sy'n rhy fawr i wleidyddion ddatgan ei fod yn flaenoriaeth a methu darparu'r adnoddau sydd eu hangen i ategu'r datganiadau. Mae rhagor o arian yn rhywbeth i'w groesawu, ac wedi'i groesawu, ond mae angen inni sicrhau bod yr arian hwnnw'n cyflawni'r canlyniadau a ddymunwn i'n pobl ifanc yng Nghymru.
Mae llawer o heriau'n wynebu pobl ifanc yng Nghymru, ac yn anffodus, bydd yr heriau hynny'n parhau i waethygu oni bai bod gwleidyddion yn y fan hon yn gwneud rhagor. Ceir llawer o sbardunau a all achosi iechyd meddwl niweidiol mewn plant a phobl ifanc, boed yn fwlio yn yr ysgol, ffurfiau ar fethu gwybod lle rydych chi am fod mewn bywyd, methu cael tai priodol, pwysau ysgol. Mae'n rhestr ddiddiwedd, a gallwn siarad am hynny am oriau. Rhaid inni sicrhau bod cymorth priodol ar gael i blant a phobl ifanc, a chymryd camau yn ogystal i fynd i'r afael â'r sbardunau a all achosi iechyd meddwl niweidiol. Felly, mae angen inni sefydlu gwasanaethau argyfwng 24 awr i blant a phobl ifanc ledled Cymru, er mwyn gallu darparu cymorth pan fyddant yn gofyn am gymorth. Mae gormod o bobl ifanc yn aros yn rhy hir o lawer am apwyntiad ac mae llawer yn cyrraedd pwynt argyfwng cyn i unrhyw beth gael ei wneud, ac ni all hyn barhau.
Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau llawer o Aelodau i'r ddadl hon heddiw. Mae'n drueni fod y Llywodraeth wedi gwneud eu 'dileu popeth' arferol—fel y gwnânt bob wythnos—i'n cynnig. Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw. Nid yw'n ddiwrnod i ganmol Llywodraeth Cymru, ond yn hytrach, i wneud ein gwaith yn y lle hwn, i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif a chael adolygiad brys ar y gweill o hyfywedd gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yma yng Nghymru. Mae'n bryd gweithredu, ac rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr i gefnogi ein cynnig heddiw.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 1—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc.
2. Yn cydnabod effaith y pandemig ar amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS).
3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar helpu gwasanaethau i wella wrth iddynt adfer a gwaith parhaus gyda phartneriaid i atal dwysáu i argyfwng a darparu ymateb amlasiantaeth, priodol.
4. Yn nodi adolygiad Uned Gyflawni’r GIG o CAMHS, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac y disgwylir ei adroddiad erbyn diwedd 2022.
5. Yn croesawu’r gwaith i barhau i gyflwyno 111, pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl i oedolion a phobl ifanc ledled Cymru.
6. Yn nodi ymgynghoriad presennol Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar Strategaeth Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, gyda rhanddeiliaid allweddol, sy’n cynnwys cwmpasu dichonoldeb Uned Anhwylderau Bwyta ar gyfer Cymru.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt (2) ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r prosiect peilot arfaethedig i sefydlu cyfleusterau yn y gymuned, i bobl ifanc gael mynediad hawdd at gymorth iechyd meddwl a lles emosiynol, er mwyn cynnig ymyrraeth gynnar ac osgoi uwchgyfeirio, ac yn annog cyflwyno cyfleusterau ymyrraeth gynnar i Gymru gyfan.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael cyfrannu i'r ddadl yma a dwi'n ddiolchgar ei bod hi wedi cael ei chyflwyno o'n blaenau ni. Mae iechyd meddwl yn destun rydyn ni yn ei drafod yn reit gyson yn y Senedd erbyn hyn, sydd yn dda o beth, yn wahanol i'r sefyllfa ers talwm, lle'r oedd iechyd meddwl yn cael prin dim sylw o gwbl, yn cael ei sgubo dan y carped. Ond fel dwi'n dweud, mae'n dda cael cyfle eto heddiw, achos drwy ddyfal donc mae gwneud yn siŵr bod camau gweithredu yn cael eu rhoi mewn lle sydd, gobeithio, yn mynd i helpu pobl efo'u hiechyd meddwl, a dwi'n falch ein bod ni eto yn rhoi sylw i iechyd meddwl pobl ifanc yn benodol.
Mi gefnogwn ni'r cynnig heddiw. Rydyn ni yn cytuno ynglŷn â'r impact gafodd y pandemig ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mi oedd o'n gyfnod digynsail o bryder am golli gwaith ysgol, o unigrwydd, o golli'r profiadau hynny sydd mor bwysig i bobl ifanc, o golli rhwydweithiau cefnogaeth ac yn y blaen. Dwi'n dad i dri o blant ac wedi gweld hynny drosof fi fy hun. Rydyn ni, wrth gwrs, yn gresynu at yr amser mae llawer gormod o blant a phobl ifanc yn gorfod aros am gefnogaeth a thriniaeth.
Mae'r trydydd pwynt, wedyn, ynglŷn â defnydd pwerau adran 136 yn ein symud ni at faes dydyn ni ddim wedi bod yn rhoi cymaint o sylw iddo fo, sef afiechyd meddwl difrifol a goblygiadau hynny. O edrych yn ôl dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth ymchwilio ar gyfer heddiw, dwi ddim yn gweld bod Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru wedi siarad am afiechyd meddwl difrifol o gwbl, ac mae'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, fod hynny yn cael sylw.
Yn aml, mae salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol, yn datblygu'n gyntaf rhwng 14 a 25 oed. Mae'n gyfnod tyngedfennol i bobl ifanc, oherwydd newidiadau niwrolegol, biolegol a gwybyddol y glasoed i fod yn oedolion ifanc. Mae'n gyfnod o newid mawr yn eu bywydau, pan fyddant yn cyrraedd cerrig milltir addysgol mawr.
Rydym yn aml yn siarad, onid ydym, am yr angen am ymyrraeth gynnar er mwyn osgoi gadael i broblemau iechyd meddwl ddirywio. Bu Plaid Cymru'n hyrwyddo ymyrraeth gynnar ers amser maith, gan gynnwys mewn ffyrdd mwy anffurfiol, neu efallai mewn ffyrdd llai ffurfiol: fe fyddwch wedi ein clywed yn hyrwyddo'r canolfannau galw heibio siop un stop yn debyg i fodel Seland Newydd, ac mae ein gwelliant heddiw yn cyfeirio at gyflwyno cynlluniau peilot o dan y cytundeb cydweithio, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y rheini'n datblygu, a rhaid iddynt ddatblygu. Ond gall yr ymyriadau llai ffurfiol hyn effeithio ar ganlyniadau clinigol. Mae bod yn ymwybodol o arwyddion cynnar o salwch meddwl difrifol yn gam cyntaf hollbwysig i bobl gael yr help sydd ei angen arnynt, ac mae atal clinigol yn bwysig. I lawer, ymyrraeth timau clinigol sy'n atal dirywiad a salwch pellach. Mae ymyrraeth gynnar a strategaethau ataliol yn cynnig cyfle i liniaru'r straen sy'n effeithio ar les corfforol, emosiynol a seicolegol ar adeg hynod agored i niwed ym mywyd unigolyn ifanc.
Mae seicosis yn effeithio ar un o bob 100 o bobl. Mae'r pwl cyntaf yn fwyaf tebygol o ddigwydd rhwng 18 a 24 oed, ond mae ymchwil ddiweddar yn dweud y byddai llai nag un o bob pump o bobl ifanc yn ddigon hyderus i sylwi ar arwyddion cynnar—nid oedd eu chwarter erioed wedi clywed amdano. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi'n ystyrlon mewn darpariaeth feddygol seiciatrig arbenigol yng Nghymru, yn awr ac yn hirdymor.
Rydyn ni wedi sôn yn helaeth am anghydraddoldebau iechyd yn ddiweddar. Buon ni'n sôn am hynny yng nghyd-destun iechyd merched ychydig funudau yn ôl. Mae'r anghydraddoldebau y mae pobl efo afiechyd meddwl difrifol yn eu hwynebu'n sylweddol iawn. Maen nhw'n fwy tebyg o wynebu problemau iechyd corfforol ac yn marw, ar gyfartaledd, 15 i 20 mlynedd yn fwy ifanc. Mae'n cael ei amcangyfrif bod dau o bob tri o bobl efo afiechydon meddwl difrifol yn marw o afiechydon corfforol a allai gael eu hatal. Felly, mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod yna fonitro gofalus ar iechyd corfforol pobl sydd yn dioddef.
Mae Rhan 2 Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn dweud bod pob person ifanc sy'n derbyn triniaeth iechyd gan wasanaethau iechyd meddwl plant a glasoed arbenigol i fod i gael cynllun gofal a thriniaeth cynhwysfawr i'w helpu nhw i wella. Mae'n ymddangos bod llawer o bobl ifanc ddim hyd yn oed yn gwybod am hynny.
Dirprwy Lywydd, i gloi, gallwn ni ddim cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw. Er bod yna waith da yn mynd ymlaen mewn rhai meysydd, gallwn ni ddim jest derbyn pethau fel ag y maen nhw; rydyn ni'n gwneud cam gwag â'n hunain wrth wneud hynny. Er bod gennym ni ein gwelliant ein hunain a fy mod i wedi egluro pwysigrwydd yr hyn sydd dan sylw yn hwnnw, mae'n bosib na wnawn ni gyrraedd at hwnnw, pwy a ŵyr, felly beth wnawn ni heddiw ydy mi gefnogwn ni'r cynnig gwreiddiol fel ag y mae o i ddechrau ac i uchafu'r siawns o gael cefnogaeth i rai o'r egwyddorion creiddiol sydd yn hwnnw.
Mae yna wastad gymaint y gallwn ni gyffwrdd arno fo pan rydyn ni'n sôn am iechyd meddwl, ond dwi'n falch o fod wedi gallu gwneud yr ychydig sylwadau yna, beth bynnag.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i James Evans am ddod â'r ddadl hon i'n Senedd heddiw. Mae'n bwnc pwysig iawn i'w drafod, ond fel y dywedodd yr Aelod dros Ynys Môn, mae'n wych gweld ein bod yn siarad amdano yn awr a bod y sgyrsiau hyn yn real, oherwydd mae'r sefyllfa sy'n ein hwynebu yn real iawn, ac mae'n braf gweld nad yw bellach yn bwnc tabŵ, fel y dywedoch chi, Rhun.
Fel y dywedodd James, mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn fwyaf diweddar, fel y dywedwyd eisoes, gyda'n pobl ieuengaf mewn cymdeithas a'r trafferthion a'r pwysau y gwnaethant eu hwynebu mewn addysg ac wrth dyfu i fyny yn ystod y pandemig. Yn anffodus, er bod Llafur Cymru'n honni'n barhaus fod iechyd meddwl a llesiant ein plant a'n pobl ifanc yn flaenoriaeth, fel y dywedodd James, mae'r realiti'n wahanol iawn. Mae plant a phobl ifanc yn aros yn hirach am wasanaethau iechyd meddwl ac mewn rhai byrddau iechyd, mae ymhell dros naw o bob 10 yn aros yn hirach na'r amser targed ar gyfer asesiadau. Yn amlwg, mae'r problemau hyn yn rhai hanesyddol. Cyn i COVID-19 daro yng Nghymru, roedd amseroedd aros ar gyfer plant a phobl ifanc eisoes yn hir, a chafodd pryderon eu lleisio gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bron i bedair blynedd yn ôl bellach am y problemau hyn yn y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Nid wyf yn siŵr a ydych yn cofio'r adroddiadau niferus a wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y maes hwn, ond cydnabu'r un pwysicaf gennym, 'Cadernid Meddwl', fod amseroedd aros wedi gwella'n sylweddol mewn gwirionedd a bod angen canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar. Efallai y dylech edrych ar rai o'r adroddiadau hynny.
Ond maent wedi mynd ar yn ôl ers hynny, Lynne.
Rwy'n mynd i roi sylw i hynny.
Bron i bedair blynedd yn ôl roeddem yn sôn am y problemau hyn, ac nid oes llawer o weithredu wedi bod o hyd, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n ei chael yn syfrdanol edrych ar y ffigurau diweddaraf, sy'n dangos bod llai na dwy ran o dair o bobl ifanc yn cael eu hasesiadau o fewn 28 diwrnod ac ar gyfartaledd, dros y chwe mis diwethaf, gwelwyd 48.5 y cant—llai nag un o bob dau—o fewn yr amser hwn. Yn fy rhanbarth i yn Nwyrain De Cymru, gwelwn fod amseroedd aros am CAMHS arbenigol yn wael, gyda thros 14 y cant o bobl ifanc yn aros dros bedair wythnos am apwyntiad cyntaf. Mae'n amlwg yn awr nad yw hyn yn ddigon da ac na all ein gwasanaethau presennol ymdopi â'r pwysau y maent yn ei wynebu. Mae bron i dair blynedd bellach ers y cyd-adolygiad thematig yn 2019, a dros ddwy flynedd ers adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y pumed Senedd ar y defnydd o osod dan gadwad o dan adran 135 a 136. Nododd y pwyllgor ar y pryd fod gwella gwasanaethau gofal argyfwng, yn enwedig gwasanaethau y tu allan i oriau, yn allweddol i leihau'r defnydd cyffredinol o adran 136 a sicrhau bod y rhai a ryddheir o adran 136 ar ôl asesiad yn mynd ymlaen i gael gofal a chymorth digonol yn eu cymuned. Wrth i amseroedd aros ymestyn, mae angen cymorth argyfwng ar fwy a mwy o blant a phobl ifanc, gyda 30 o blant dan 18 oed dan gadwad o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ni fydd gosod plant a phobl ifanc dan gadwad yn darparu'r cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt, felly mae'n hanfodol fod gwasanaeth argyfwng 24 awr ar gael er mwyn iddynt gael eu trin mewn amgylchedd diogel a phriodol, rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn destun dadl ar ei ben ei hun.
Mae'n amlwg i mi ac i eraill ar y meinciau hyn fod yn rhaid sefydlu canolfannau argyfwng iechyd meddwl er mwyn inni allu sicrhau bod gan bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl le diogel i gael eu hasesu a'u trin, gan leihau nifer y bobl dan gadwad ac a drosglwyddir.
Yn anffodus, gwelwn hyn hefyd gydag amseroedd aros ar gyfer awtistiaeth. Amcangyfrifir bod 30,000 neu fwy o bobl awtistig yng Nghymru, ac er bod pawb wedi clywed am awtistiaeth, nid oes digon o bobl yn deall sut beth yw bod yn awtistig a pha mor galed y gall bywyd fod os nad yw pobl awtistig yn cael y cymorth cywir. Mae miloedd o blant yn aros am fisoedd lawer neu flynyddoedd hyd yn oed i gael eu hasesu. Canfu astudiaeth ddiweddar mai 28 y cant o ddisgyblion awtistig yng Nghymru a deimlai fod eu hathrawon yn deall awtistiaeth, ac mae data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu mai dim ond 29 y cant o bobl awtistig sydd mewn unrhyw fath o waith. Heb gymorth, mae llawer o bobl awtistig yn datblygu problemau iechyd meddwl, sydd weithiau'n troi'n argyfwng.
Mae'r amser i siarad ar ben. Po hwyaf yr arhoswn i fynd i'r afael â gwir wraidd ac achosion yr argyfwng iechyd meddwl a'i driniaeth, y gwaethaf y bydd y sefyllfa'n mynd. Mae arnom angen gweithredu clir a diweddariadau rheolaidd yn y Senedd hon, yn amlinellu sut y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â'r argyfwng ac i weld a yw ei dulliau'n gweithio.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch ichi am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr heddiw. Iechyd meddwl plant a'r glasoed yw un o'r prif faterion y mae pobl ifanc yn ei ddwyn i fy sylw ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr wythnos diwethaf, roedd yn wych cynnal ein ffair pobl ifanc ar yr union bwnc hwn gyda Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, lle y daeth ysgolion, disgyblion a grwpiau cymorth lleol at ei gilydd i drafod sut y gallwn wneud darpariaeth iechyd meddwl yn well i bobl ifanc yn ein cymuned. Oherwydd, fel gyda llawer o faterion, neu'r holl faterion sy'n ymwneud â phobl ifanc, mae oedolion sy'n aml yn llawn bwriadau da yn rhagdybio beth sydd orau, ac nid felly y dylai fod. Dylai unrhyw benderfyniadau sy'n effeithio ar bobl ifanc o leiaf fod yn destun ymgynghori ac ymgysylltu i sicrhau ein bod yn darparu cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Gwn fod ein Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo'n llwyr i hyn. Roeddwn am ychwanegu hefyd fod un o'n Haelodau Senedd Ieuenctid o Ben-y-bont ar Ogwr, Ollie, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, am ddweud bod lleisiau a barn pobl yn cael eu hanwybyddu a'u tanbrisio weithiau wrth wneud penderfyniadau, felly rydym am sicrhau bod hynny bob amser yn flaenoriaeth.
Credaf ei bod yn werth cofio hefyd am y rôl ganolog y credaf fod pobl ifanc wedi'i chwarae yn cyflwyno'r sgwrs am iselder a gorbryder i'n bywydau bob dydd. I bobl ifanc ar draws ein cymunedau y mae llawer o'r diolch am lawer o'r gwaith a wnaed i chwalu rhwystrau a'r cywilydd o siarad am iechyd meddwl, a gwn fod hyn yn flaenoriaeth i'n Haelod Senedd Ieuenctid dros Ben-y-bont ar Ogwr, Ewan Bodilly, a ddywedodd ei bod wedi bod yn hawdd i bobl ifanc deimlo eu bod wedi'u dieithrio ers y pandemig, a dim ond drwy ymgysylltu â phobl ifanc y bydd pethau'n gwella. Ac yn y ffair iechyd meddwl, dywedodd ein maer ieuenctid, Xander, fod pobl ifanc wedi bod yn galw am i iechyd meddwl fod yn flaenoriaeth ers gormod o amser, ond mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod gwasanaethau ar gael a bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.
Hoffwn ddweud hefyd fy mod yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd meddwl i bobl ifanc drwy ysgolion gyda'r dull ysgol gyfan. Mae ysgolion ar draws fy etholaeth eisoes yn gwneud y gwaith hwn, gydag Ysgol Gyfun Porthcawl yn gweithio gyda grwpiau cymorth iechyd meddwl lleol i ddadstigmateiddio gofyn am gymorth a sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn gwybod lle i droi os oes angen. Ond dylid safoni hyn, a dylai pob plentyn ac unigolyn ifanc wybod lle i droi. Dylai pob plentyn gael yr offer i gael mynediad at gymorth pan fo angen, beth bynnag yw'r amgylchiadau.
Hoffwn orffen drwy ddweud nad oeddwn yn bwriadu siarad am hyn heddiw mewn gwirionedd, ond James, hoffwn ddweud hyn i gefnogi eich galwad am uned anhwylderau bwyta yng Nghymru, ac uned anhwylderau bwyta preswyl yn ddelfrydol. Roedd gennyf anorecsia nerfosa pan oeddwn yn 14 oed. Roedd yn gwbl frawychus i mi a fy nheulu, a fy ffrindiau a fy athrawon, a chefais sgwrs gyda fy mam am y peth ychydig fisoedd yn ôl—wythnosau yn ôl, mae'n ddrwg gennyf—pan oeddem yn gwneud y ddadl ar anhwylderau bwyta, oherwydd roeddwn am siarad amdano. A dywedodd fy mam rywbeth wrthyf nad oedd erioed wedi'i ddweud wrthyf o'r blaen, sef bod fy meddyg ymgynghorol pediatrig ar y pryd wedi ysgrifennu at fy nghwnselydd, a heb hyd yn oed ddweud hyn wrth fy rhieni—heb roi gwybod iddynt—fy mod ddeuddydd i ffwrdd o gael fy nerbyn i'r ward seiciatrig oedolion yn ysbyty dwyrain Morgannwg, pan oeddwn yn 14 oed. Byddent wedi fy nghloi mewn ward seiciatrig i oedolion yn ysbyty dwyrain Morgannwg. Ni fyddwn byth wedi dod allan. Ni fyddwn byth wedi dod allan. Felly, yr unig opsiwn arall ar y pryd oedd uned breswyl, a oedd ym Mryste, ac roedd yn llawn, ac roedd fy rhieni mor ofnus. A bod yn onest, rwy'n credu fy mod i mor sâl fel nad wyf yn meddwl fy mod i'n ofnus erbyn hynny; nid oeddwn yn gwybod beth oedd yn digwydd.
Fe wellais, ac rwy'n anghyffredin iawn. Os edrychwch ar yr ystadegau, mae gwella o hyn yn anghyffredin iawn, ac fe wnes i wella. Ac ni allaf ddweud yn iawn wrthych sut y gwnes i hynny, hyd yn oed yn awr. Ond roeddwn i eisiau dweud bod hynny 20 mlynedd yn ôl, ac nid oes gennym uned yng Nghymru o hyd. Ac yn fy nghymuned i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennym Mental Health Matters Wales, a flwyddyn neu ddwy yn ôl cyfarfûm â Michaela yn Mental Health Matters Wales, ac roedd ganddi grŵp anhwylderau bwyta lle y gall pobl sy'n dioddef ohono, a'u teuluoedd hefyd, ddod at ei gilydd i gael cefnogaeth. Ac nid oeddwn erioed wedi siarad am hyn mewn gwirionedd, ac fe es i mewn ac fe ddaeth y cyfan allan, ac fe wnaethom ni chwerthin, ac rwy'n gwybod bod hynny'n swnio'n rhyfedd iawn, ond mae rhai pethau'n rhyfedd weithiau, yn enwedig rhai o'r pethau y byddwch yn eu gwneud pan fyddwch chi'n mynd drwy hyn. Ac fe wnaeth imi deimlo mor—. Yr hyn a âi drwy fy meddwl oedd, 'Duw, byddai'n dda gennyf pe baech chi wedi bod yno pan oeddwn i yr oedran hwnnw. Byddai'n dda gennyf be bawn i wedi cael hynny, byddai'n dda gennyf pe baech chi wedi bod yno i fy rhieni pan oeddwn i yr oedran hwnnw'.
Felly, Weinidog, gwn eich bod yn gwneud cymaint ar hyn. Gwn ein bod wedi siarad amdano o'r blaen hefyd, ac rwyf bob amser yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr, ond os oes unrhyw ffordd y gallwn gael uned anhwylderau bwyta preswyl yng Nghymru—fel bod mwy o le—fel nad oes raid i bobl symud i ffwrdd o'u cartref. Unwaith eto, yn 14 oed, nid wyf yn gwybod sut y byddwn wedi mynd i Fryste fel yna. Felly, ie—diolch.
Hoffwn orffen drwy ddweud wrth unrhyw un a phob unigolyn ifanc allan yno, fel y dywedaf wrthych bob amser, nid ydych ar eich pen eich hun—nid oes dim o'i le arnoch, mae cymorth ar gael, a gallwch ddod drwy hyn. [Cymeradwyo.]
Cyfeiriaf yr Aelodau at fy nghofrestr buddiannau.
Nid wyf yn credu y dylid ymddiheuro nad yw'r ddadl hon y prynhawn yma yn un gyfforddus, ac mae pob cyfraniad a glywn yn hynod berthnasol i'r ddadl hon. Hoffwn dalu teyrnged i Sarah Murphy am rannu ei stori hynod bersonol gyda ni. Diolch ichi am roi o'ch amser i rannu hynny gyda ni.
Nid wyf yn credu mai bwriad y ddadl hon yw dwyn anfri ar Lywodraeth Cymru na chodi cywilydd; yn hytrach, fel y dywedodd yr Aelod dros Frycheiniog a Maesyfed yn gywir, mae'n rhaid dwyn y Llywodraeth i gyfrif, a bydd yn tynnu sylw at y methiannau gwirioneddol sefydledig yng ngwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Nghymru. Mae'r methiannau hyn wedi arwain at chwalu a chreu cythrwfl ym mywydau plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad y prynhawn yma i dynnu sylw'r Aelodau at y sefyllfa mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, sefyllfa lle mae ein gwasanaethau iechyd meddwl heb ddigon o adnoddau ac yn brin o gyllid.
Nawr, mae'n wir fod tyfu i fyny yn y Gymru wledig yn fendith, ac nid yw hynny'n golygu nad yw heb ei heriau a'i anawsterau—sefyllfa sy'n arbennig o wir i'n pobl ifanc. Mae ynysu gwledig yn broblem sy'n effeithio ar bob grŵp cymdeithasol, ond yn aml, ein pobl ifanc sy'n cael eu gadael heb y rhwydwaith cymorth sydd ei angen arnynt i ddatblygu perthynas iach ag eraill a thwf emosiynol. Heb y rhwydweithiau hyn a heb y cymorth angenrheidiol a'r mesurau ataliol, mae ein pobl ifanc yn aml yn cael eu gadael i frwydro yn erbyn iselder a mathau eraill o salwch meddwl, sefyllfa sydd wedyn yn galw am ymyrraeth broffesiynol gan wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Wrth edrych o gwmpas y Siambr, faint ohonom sy'n gorfod ymdrin yn uniongyrchol ac ymyrryd yn uniongyrchol mewn achos CAMHS unigol am nad oedd adnoddau ar gael i gael y cymorth hanfodol sydd ei angen ar blentyn neu unigolyn ifanc? Un o'r achosion cyntaf un yr ymdriniais ag ef ar ôl yr etholiad fis Mai diwethaf oedd merch ifanc ag anhwylder bwyta. Ac i mi, sy'n cynrychioli etholaeth wledig, mae ymyriadau fel hyn yn rhy gyffredin ac yn llawer rhy gyfarwydd.
Mae ffigurau diweddaraf rhestrau aros CAMHS yn dangos mai llai na dwy ran o dair o'r bobl ifanc sy'n derbyn yr asesiad gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol gofynnol o fewn 28 diwrnod. Yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n cynnwys fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, dim ond 3.2 y cant o atgyfeiriadau CAMHS a welir o fewn 28 diwrnod—3.2 y cant. Mewn cymhariaeth, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnal 91.3 y cant o'u hasesiadau gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol o fewn y cyfnod o 28 diwrnod, gwahaniaeth a allai, i lawer, fod yn wahaniaeth rhwng cael y gefnogaeth a'r mynediad sydd ei angen ar y bobl ifanc hyn neu dywyllu'r cymylau o'u cwmpas ymhellach.
Ond gadewch inni fod yn glir, nid canlyniad y pandemig yw'r problemau hyn; yn anffodus maent yn symptom o duedd hanesyddol o fynediad cyfyngedig ac adnoddau sy'n crebachu. Lle mae methiannau fel hyn yn digwydd, mae ein cymunedau lleol, ac fel y nododd yr Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed yn gywir, y trydydd sector, yn cyd-dynnu ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen. Ac nid oes neb yn well am wneud hyn na chymuned ffermwyr ifanc Cymru. Fel y dywedais droeon yn y Siambr hon, mae clybiau ffermwyr ifanc Cymru yn darparu mwy na chyfle i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth amaethyddol yn unig; maent hefyd yn darparu nifer o sgiliau bywyd, ond hefyd ymdeimlad o gwmnïaeth a chefnogaeth. Datblygir cyfeillgarwch gydol oes rhwng pobl a chaiff rhwydweithiau cymorth eu creu, ar lefel leol a ledled CFfI. Nid yw'n hawdd mesur y gwerth sydd i'r cysylltiadau hyn yn cefnogi aelodau a allai fod yn wynebu problemau iechyd meddwl, ond ar sail anffurfiol, ni ddylid tanbrisio gwerth cyfaill sy'n deall yr heriau a'r ansicrwydd sydd gan lawer o bobl ifanc wrth iddynt dyfu fyny. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at aelod o Lys-y-frân yng Nghlwb CFfI Sir Benfro, Hannah Rees, a gyflwynodd gynllun i CFfI Cymru o'i phen a'i phastwn ei hun i roi cymorth pellach i aelodau ifanc CFfI, drwy ddiwrnodau cystadlu. O gofio mai unigolyn ifanc yw hi sy'n gwybod bod bwlch yno ac a geisiodd lenwi'r bwlch hwnnw ei hun, rwy'n talu teyrnged i Hannah Rees am y gwaith y mae'n ei wneud.
Ond ni ddylai'r sefydliadau hyn fod ar eu pen eu hunain, ac nid yw bob amser yn ddigon. Dyna pam y mae hi mor bwysig sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn meddu ar yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Beth bynnag y bo'n lliwiau gwleidyddol, mae gennym ddyletswydd yn y Siambr hon i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt. Ond fel y clywsoch y prynhawn yma, nid yw hynny'n digwydd, yn anffodus. Mae rhestrau aros yn gwaethygu, mae'r galw'n rhy uchel a nifer y staff yn rhy isel. Y cynnig hwn sydd ger ein bron yw ein cyfle i newid y ffordd y mae ein gwasanaethau CAMHS yn gweithredu, gan sicrhau bod ein plant yn gallu cael y gwasanaethau iechyd meddwl y maent eu hangen ac yn eu haeddu. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
A gaf fi ddiolch i James am gyflwyno'r ddadl hon? Diolch yn fawr iawn, James. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi. Rwy'n siarad fel cyn-weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant a fu'n gweithio am oddeutu 25 mlynedd gyda phlant a phobl ifanc. Rhan o'r frwydr i mi oedd cael y plant hynny a'u teuluoedd i mewn i wasanaethau CAMHS.
Rwyf am gydnabod ychydig o bethau yng Nghymru y credaf eu bod wedi mynd yn dda. Rwy'n falch iawn o weld bod y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl yn parhau i gael ei gyflwyno, oherwydd mae canolbwyntio ar atal ac amgylcheddau ysgol sy'n defnyddio dull wedi'i lywio gan drawma yn hynod bwysig i feithrin iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc. Ond rydym mewn lle anodd iawn. Rwy'n mynd i wrando ar weddill y ddadl i benderfynu sut y byddaf yn pleidleisio heno, oherwydd mae'n peri pryder gwirioneddol imi fod dau fater pwysig yma. Un ohonynt yw'r amser aros am CAMHS. Mae'n rhy hir o lawer, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog beth yw'r ffigurau gyda'r amseroedd aros, oherwydd nid wyf yn hollol glir beth ydynt. A chlywsom rai gan Laura Anne Jones yn y ddadl, ond darllenais ffigurau gwahanol y bore yma, felly hoffwn ofyn i'r Gweinidog egluro beth yw'r amseroedd aros am bedair wythnos neu fwy.
Fy marn i yw bod arnom angen amrywiaeth eang o wasanaethau. Nid wyf yn siŵr fod angen gwasanaeth newydd drwyddo draw. Mae gennym wasanaethau da iawn. Mae'r gwasanaeth datrys argyfwng a thriniaeth yn y cartref yn darparu gwasanaeth cyflym yn y gymuned 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, ond dim ond ar gyfer pobl ifanc dros 18 oed. Rydym yn sôn yma am gyrraedd y sefyllfaoedd hyn ymhell cyn hynny.
Credaf fod dau fater pwysig yn codi. Un ohonynt, fel y dywedais, yw'r rhestr aros. Yn fy mhrofiad i fel gweithiwr cymdeithasol amddiffyn plant, mae'n llawer rhy hir. Os gallwch ddod i mewn yn gynnar, gallwch atal y plant a'r bobl ifanc hynny a'u teuluoedd rhag cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl a dod yn blant sy'n derbyn gofal, o bosibl, sy'n sefyllfa ofnadwy, i feddwl mai dyna sy'n digwydd i lawer o blant a phobl ifanc.
Yn ail, hoffwn dalu teyrnged i'r gwasanaethau gwirfoddol a'r trydydd sector ledled Cymru. Mae yna rai anhygoel, ac yn fy mhrofiad i, mae'n llawer gwell gan bobl ifanc fynd at y gwasanaethau gwirfoddol hynny nag at wasanaethau statudol. Maent yn teimlo'n llawer mwy diogel yn troi at wasanaeth nad oes ganddo 'GIG' uwch ei ben. Mewn gwirionedd, mae angen inni weithio'n llawer agosach gyda'r gwasanaethau gwirfoddol. Ceir llawer ohonynt, fel Youth Shedz ym Mlaenau Ffestiniog, yr ymwelais â hwy yr haf diwethaf, Mind Aberhonddu, prosiect Amethyst yn Aberteifi, a Noddfa yn sir Benfro. Yn fy marn i, mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar y gwasanaethau hyn, a'u mapio er mwyn inni weld sut y gallwn greu capasiti pellach iddynt allu diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, a rhoi cyllid hirdymor cynaliadwy iddynt ac i weld a allant ddarparu'r dull 24/7, sydd, yn fy marn i, yn gwbl amhrisiadwy.
Rwy'n mynd i orffen gyda dyfyniad a glywais gan unigolyn ifanc: 'Y rhai sy'n gwneud i eraill chwerthin a gwenu sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd.' Rhaid inni ystyried hynny, a rhaid inni weld bod pobl ifanc yn dioddef yn dawel. Mae angen inni eu cyrraedd a'u helpu. Rwy'n credu mai drwy fath o wasanaeth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos y mae gwneud hynny, i roi cymorth i blant a theuluoedd ar yr adeg y maent ei angen, cyn ei bod yn rhy hwyr. Diolch yn fawr iawn.
Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon. Rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl effeithiol o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc. Mae angen canolbwyntio mwy ar atal, nid darpariaethau adweithiol yn unig, cefnogi iechyd meddwl da fel rhan o raglen sy'n sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i leihau'r tebygolrwydd y bydd afiechyd yn digwydd yn y lle cyntaf.
Bu galw am adolygiad o'r cyfnod pontio rhwng gwasanaethau pobl ifanc a gwasanaethau i oedolion yn y GIG. Yn ddiweddar, ymdriniodd newyddion ITV â stori dynes ifanc ag awtistiaeth. Galwai am newid y system, fel nad yw pobl ifanc sy'n cael eu symud i ofal oedolion yn profi gostyngiad sylweddol yn y gwasanaethau y maent yn eu cael. Awgrymwyd bod sesiynau seiciatrig yn cael eu lleihau o un awr i ddim ond 10 munud. Gall hyn fod yn sylweddol i bobl ifanc mewn cyfnod mor fregus. Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £50 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y cyfnod 2022-23. Ond beth yw'r strategaeth i sicrhau bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol i ganiatáu i bobl ifanc bontio'n ddidrafferth i wasanaethau oedolion? A pha mor hyderus yw Gweinidogion eu bod yn gwneud popeth yn eu gallu i leihau'r risg o niwed i'r rhai sy'n symud o ofal plant i ofal oedolion?
Rwyf am droi at yr heriau a'r effaith ar bobl ifanc. Canfu adroddiad arolwg YoungMinds fod 80 y cant o blant a phobl ifanc a oedd eisoes â phroblemau iechyd meddwl yn cytuno bod eu hiechyd meddwl wedi dirywio yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid yw'r ffigur hwn yn cynnwys achosion newydd o ddirywiad mewn iechyd meddwl. Mae 91 y cant o bobl ifanc wedi defnyddio gwasanaeth iechyd meddwl ar ryw adeg. Mae'n ymddangos bod pobl ifanc o gartrefi incwm isel yn cael eu heffeithio'n arbennig. Mae ynysu oddi wrth ffrindiau a theulu, a chau gwasanaethau hanfodol, wedi cyfrannu at hyn.
Mae'n destun pryder fod bron hanner y bobl ifanc sy'n profi dirywiad mewn iechyd meddwl wedi defnyddio technegau ymdopi negyddol fel hunan-niweidio. Mae rhai wedi profi newidiadau dietegol sylweddol. Er bod unigedd yn ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol at ddirywiad mewn iechyd meddwl, mae dros hanner bellach yn teimlo'n bryderus ynglŷn â dychwelyd i fywyd normal. Mae'n amlwg y bydd effaith y pandemig i'w theimlo am gyfnod sylweddol. Mae'r ffeithiau hyn yn peri pryder a rhaid i'r Gweinidog eu hystyried wrth gynllunio ar gyfer dyfodol iechyd meddwl. Ym mis Chwefror 2022, canfu adroddiad yn y Senedd fod 60 y cant o blant a phobl ifanc a oedd angen gofal arbenigol yn gorfod aros dros bedair wythnos am apwyntiad cyntaf.
Mae gennyf ambell awgrym y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn eu hystyried. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried Deddf iechyd meddwl newydd, a fyddai'n diweddaru'r ddeddfwriaeth bresennol ac a fyddai'n cynnwys y syniadau diweddaraf ynglŷn â darpariaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n gwneud newidiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, a rhaid eu hystyried wrth newid y ddeddfwriaeth iechyd meddwl yma yng Nghymru.
Er mwyn sicrhau bod Bil iechyd meddwl newydd yn addas i'r diben, dylai'r egwyddorion cyffredinol: sicrhau bod barn a dewisiadau cleifion yn cael eu parchu; sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei defnyddio yn y ffordd leiaf cyfyngol posibl; sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol; ac yn olaf, dylid trin y claf fel unigolyn. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru ystyried newidiadau i adran 136 o Ddeddf 1983, a allai helpu i leihau'n sylweddol nifer y bobl dan gadwad. Er mwyn i rywun gael ei roi dan gadwad, rhaid iddi fod yn glir mai dim ond drwy fod dan gadwad y gellir sicrhau lles gorau'r claf. Bydd yr egwyddor hon yn lleihau 'warysu' cleifion, gan ganiatáu ar gyfer gwell gofal i'r rhai y mae angen eu rhoi dan gadwad, a dileu straen diangen i'r rhai nad oes angen eu rhoi dan gadwad.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu deialog rhwng San Steffan a Chaerdydd. Fodd bynnag, mae iechyd meddwl wedi'i ddatganoli, ac mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno Deddf iechyd meddwl sy'n cynnwys manteision argymhellion Llywodraeth y DU, ac sy'n sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ond sydd hefyd yn addas i Gymru. At hynny, mae angen inni sicrhau cydweithrediad ag elusennau iechyd meddwl fel YoungMinds, sydd, gyda chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, yn gallu darparu cymorth arbenigol i blant a phobl ifanc. Bydd hyn yn mynd i'r afael â'r agenda atal. I blant, gall profiad gwael newid bywyd, felly gadewch inni wella'r ffordd y gwnawn hyn. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lynne Neagle.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau heddiw am eu cyfraniadau. Nid oes dim sy'n bwysicach i mi na gwella, amddiffyn a chefnogi lles meddyliol ac emosiynol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rwyf wedi datgan ac ailddatgan fy ymrwymiad droeon yn y Siambr hon, ac rwy'n dal yn benderfynol o'n gweld yn gwneud y cynnydd sydd ei angen i drawsnewid eu bywydau er gwell. Mewn gwirionedd, dyma'r union reswm y deuthum i mewn i'r Llywodraeth, yn dilyn pum mlynedd o ymgyrchu ar hyn yn y Senedd ddiwethaf.
Mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae yn hyn o beth. Mae pobl ifanc wedi dweud wrthym, 'Peidiwch â meddygoli tyfu i fyny.' Gall pob un ohonom helpu i herio'r naratif fod angen cymorth arbenigol ar bob unigolyn ifanc pan fyddant yn ei chael hi'n anodd. Ni fydd ei angen ar y rhan fwyaf o bobl ifanc, a dylai pob un ohonom yn y Siambr hon godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo pobl ifanc i gael mynediad at y lefel briodol o wasanaethau, pan fo'i hangen arnynt a lle mae ei hangen arnynt.
Rwy'n llwyr gydnabod yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl, ac fel y dywedais wrth ymyrryd ar gyfraniad Laura Anne Jones, roeddem yn cydymffurfio â'r targedau amseroedd aros cyn y pandemig, a dyna'n union pam y galwodd y pwyllgor plant blaenorol am ffocws o'r newydd ar ymyrraeth gynnar, oherwydd eu bod hwy—y pwyllgor a gadeiriais—yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar amseroedd aros.
Mae perfformiad amseroedd aros wedi dirywio'n sylweddol o lefelau cyn y pandemig, ond mae hynny yng nghyd-destun mwy o atgyfeiriadau a chleifion â lefel fwy difrifol a chymhleth o broblem yn cael eu gweld gan weithlu ymroddedig ond dan bwysau. Er bod amseroedd aros mewn rhai ardaloedd wedi cynyddu, mae byrddau iechyd yn rhoi sicrwydd bod rhestrau aros yn cael eu hadolygu'n glinigol yn rheolaidd, gyda chleifion yn cael eu blaenoriaethu ar sail anghenion clinigol.
Mae'r data diweddaraf a gyhoeddwyd y bore yma yn dangos gwelliant cyson mewn amseroedd aros ers mis Rhagfyr, ac rwy'n croesawu hynny'n ofalus, ond nid wyf yn hunanfodlon o gwbl ynglŷn â'r heriau parhaus sy'n ein hwynebu. Ac a gaf fi ddweud wrth Jane Dodds fod yr holl ddata ar amseroedd aros yn cael ei gyhoeddi bob mis? Rwy'n falch o ddweud ein bod ym Mhowys yn cyrraedd y targed i weld 80 y cant o bobl ifanc o fewn pedair wythnos, ond mae'r sefyllfa'n amrywio yng Nghymru, yn enwedig gyda Chaerdydd a'r Fro yn ystumio'r darlun, gan fod mwy na 50 y cant o'r bobl ifanc sy'n aros yng Nghaerdydd a'r Fro. Fe ildiaf i Darren Millar.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n gwybod pa mor ymrwymedig ydych chi i'r achos hwn ac rydych chi wedi bod yn angerddol iawn yn ei gylch ers blynyddoedd lawer. Fodd bynnag, mae'n ymwneud â mwy na'r targed o 80 y cant, onid yw? Mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y therapïau siarad, yn enwedig, y maent yn gorfod aros yn hir iawn amdanynt ar hyn o bryd, hyd yn oed ar ôl iddynt gael eu hasesu fel rhai sydd eu hangen o fewn yr amser targed. A wnewch chi ddweud wrthym pa gynnydd sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw?
Diolch yn fawr, Darren. Fel y dywedwch, mae'n ymwneud â mwy na'r amseroedd aros yn unig. Rwyf fi fy hun wedi galw am fwy o ffocws ar ganlyniadau a'r hyn sy'n digwydd i bobl ifanc ar ôl iddynt gael asesiad. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar ddilysu'r data er mwyn inni allu darparu mwy o wybodaeth gyhoeddus am fynediad at driniaethau seicolegol. Ond rwy'n credu bod yr hyn rydych newydd ei ddweud, mewn gwirionedd, yn dangos bod yn rhaid iddo fod yn ddull system gyfan, sef yr hyn y ceisiwn ei wneud.
Rydym wedi cryfhau ein trefniadau i fonitro ansawdd a pherfformiad gwasanaethau iechyd meddwl y GIG drwy gyfarfodydd ag uned gyflawni'r GIG yn fisol. O ystyried yr amrywio ym mherfformiad amseroedd aros, rydym hefyd wedi comisiynu uned gyflawni'r GIG i gynnal adolygiad o CAMHS sylfaenol ac arbenigol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yr amrywio, a bydd yn cefnogi ein rhaglen wella, oherwydd rhaid inni gael y data cywir.
Wrth inni gefnu ar y pandemig, mae angen amser ar ein gwasanaethau i wella a datblygu modelau a all ddiwallu anghenion newidiol unigolion, a gwneud hynny'n gynaliadwy, heb ansefydlogi rhannau eraill o'r gwasanaeth. Rwy'n canolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar a chryfhau gwasanaethau arbenigol i bobl ifanc sydd angen y lefel honno o gymorth. Mae hyn yn cynnwys ein dull system gyfan gyd-weinidogol sydd â'n hysgolion wrth wraidd y broses o wella lles emosiynol pobl ifanc. Mae ein dull yn cynnwys cefnogi iechyd meddwl da drwy'r cwricwlwm, gan helpu ysgolion i nodi a chefnogi pobl ifanc sydd angen cymorth yn gynt, ond gan gysylltu hefyd â chyngor a chymorth gan CAMHS wrth gyflwyno'r gwasanaeth mewngymorth CAMHS. Felly, yn wir, James, rydym yn gwneud yr holl bethau y cyfeirioch chi atynt mewn gwirionedd.
Rydym yn parhau i lywio'r gwaith o weithredu ein fframwaith NYTH ledled Cymru drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ac rydym yn cefnogi gweithredu'r fframwaith mewn ffordd systematig ac integredig. Mae pob unigolyn ifanc angen perthynas ddiogel a meithringar gydag oedolion dibynadwy lle bynnag y maent yn byw eu bywydau. Mae hyn yn ganolog i'n fframwaith NYTH. Yn hollbwysig, bydd hyn yn helpu i ddarparu cymorth emosiynol ac iechyd meddwl cynnar i'r rhai nad oes angen cymorth neu ymyrraeth glinigol arnynt. Roeddwn yn falch o glywed yn uniongyrchol gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol am rai o'r gwasanaethau newydd ac estynedig a weithredwyd o ganlyniad i fframwaith NYTH, fframwaith sydd wedi'i gydgynhyrchu gydag ystod eang o randdeiliaid, ond yn fwyaf pwysig gyda'r bobl ifanc eu hunain.
Rydym yn parhau i gryfhau ein cynnig haen 0/1 ar gyfer pobl ifanc, gan ddarparu mynediad hawdd at ystod o gymorth heb fod angen atgyfeirio. Rydym wedi diweddaru'r pecyn cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc, sy'n rhoi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed mewn cysylltiad â gwefannau, apiau a llinellau cymorth sy'n ymdrin â gorbryder, hwyliau isel, profedigaeth, cyngor ar gadw'n iach ac adeiladu gwytnwch. Rydym wedi ymestyn ein gwaith o gyflwyno therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein drwy SilverCloud i gynnwys model newydd ar gyfer pobl ifanc.
Er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau arbenigol, rydym yn gweithredu un pwynt cyswllt ar gyfer gwasanaethau CAMHS ym mhob bwrdd iechyd, gan sicrhau mynediad haws at y lefel gywir o gymorth. Er mwyn gwella'r ffordd y mae gwasanaethau'n ymateb i argyfwng iechyd meddwl, mae byrddau iechyd yn gweithio tuag at gyflwyno '111, pwyso 2' yn llawn ar gyfer iechyd meddwl i rai o bob oedran. Bydd yn darparu mynediad uniongyrchol at ymarferydd iechyd meddwl dros y ffôn 24 awr y dydd i ddarparu cyngor, cymorth ac atgyfeiriad. Mae byrddau iechyd yn cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn raddol, ac mae'r gwerthusiad cynnar yn addawol.
Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru heddiw ac mae'n adlewyrchu'r ymrwymiad ar y cyd a wnaethom yn y cytundeb cydweithio, ond rwyf am fod yn gwbl glir mai ein hymrwymiad yw treialu cyfleusterau cymunedol i gefnogi pobl ifanc mewn argyfwng. Byddant yn cynnig dewis arall yn lle derbyn cleifion i'r ysbyty, ond byddant hefyd yn gallu darparu atgyfeiriadau clir at wasanaethau'r GIG os bydd angen, a byddant ar gael ar benwythnosau a chyda'r nos. Rydym ar gamau cynnar pedwar cynllun peilot yn Llanelli, Aberystwyth, Wrecsam ac Abertawe i brofi darpariaeth noddfa ar gyfer pobl ifanc. Nod y modelau hyn fydd cefnogi'r unigolyn ifanc ac atal yr angen i uwchgyfeirio. Os yw'n llwyddiannus, gallai'r model hwn ddarparu dewis amgen hefyd yn lle darpariaeth dan gadwad adran 136 pan fo'n briodol. Ond rwyf hefyd am bwysleisio bod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru eisoes yn mynd ati i ddiogelu iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc, sydd ag ymyrraeth gynnar ac atal yn ganolog i'w dull o weithredu. Mae ein dull ysgol gyfan, NYTH, mewngymorth CAMHS a gwell mynediad at wasanaethau haen 0/1 eisoes yn cael eu hariannu a'u cyflwyno ledled y wlad i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd ar yr agenda hon.
Mae cael gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy, amlbroffesiynol yn hanfodol i'r gwelliannau y soniais amdanynt wrth gwrs, a chyfarfûm ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ddoe i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu strategaeth newydd ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl yn dilyn eu hymgynghoriad helaeth. Ac wrth gwrs, mae'r dull a nodais heddiw wedi'i gefnogi gan ein buddsoddiad ychwanegol parhaus mewn gwasanaethau iechyd meddwl, gyda £50 miliwn o gyllid ychwanegol eleni, sy'n codi i £75 miliwn y flwyddyn nesaf a £90 miliwn yn 2024-25. Bydd dros £21 miliwn o'r arian ychwanegol hwn eleni yn mynd yn uniongyrchol i'r GIG i gefnogi meysydd blaenoriaeth, gan gynnwys CAMHS, anhwylderau bwyta a gofal mewn argyfwng. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a rheolaidd sy'n ategu ein dull system gyfan o gefnogi iechyd meddwl ac emosiynol holl blant a phobl ifanc Cymru. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma ar bwnc mor hanfodol bwysig. Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed wedi bod dan bwysau difrifol ers blynyddoedd lawer, ond mae'r pandemig wedi gwaethygu'r problemau, fel y nodwyd yn eang yn ystod y ddadl heddiw, o ran amseroedd aros, ond hefyd o ran cynyddu'r niferoedd sydd angen cymorth. Mae staff Barnardo's Cymru yn nodi cynnydd mewn problemau iechyd meddwl a llesiant ymhlith y plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda hwy. Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, gallais glywed tystiolaeth gan dystion am gyflwr gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod ein hymchwiliad i amseroedd aros. Clywsom gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, ymhlith eraill, a dynnodd sylw at y ffordd yr oedd gwasanaethau iechyd meddwl yn ei chael hi'n anodd ymhell cyn y pandemig. Dywedasant y byddai amseroedd aros a rhwystrau i fynediad yn annerbyniol mewn unrhyw faes meddygol arall. A chlywsom gan randdeiliaid am gostau gwirioneddol yr amseroedd aros hyn, am fod oedi cyn cael triniaeth yn arwain at ganlyniadau sylweddol i bobl ifanc, gan ddwysáu eu dioddefaint, ond gan arwain yn aml hefyd at anghenion mwy cymhleth a chostau cynyddol am driniaethau. Rydym yn gorfodi mwy o bobl ifanc i wynebu argyfwng iechyd meddwl oherwydd ein hanallu i ymyrryd yn gynnar.
Dylai'r ffaith mai hanner y bobl ifanc sy'n cael asesiad o fewn 28 diwrnod i gael eu hatgyfeirio fod yn destun cywilydd cenedlaethol, yn enwedig gan ein bod wedi bod yn ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu CAMHS ers blynyddoedd lawer. Mae'n hen bryd inni gael adolygiad brys o'r ddarpariaeth CAMHS yng Nghymru, fel yr amlinellodd James Evans wrth agor y ddadl. Roedd yn ddewr iawn i godi a siarad am rai o'i—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
A wnaethoch chi wrando mewn gwirionedd ar yr hyn a ddywedais pan esboniais ein bod yn cael adolygiad, adolygiad yr uned gyflawni, o wasanaethau CAMHS yng Nghymru? Felly, rydym yn gwneud yr hyn rydych chi wedi codi i alw amdano yn awr. Efallai y byddai'n help pe baech yn talu sylw.
Roeddwn yn talu sylw, ond roeddwn am amlygu'r angen gwirioneddol am yr adolygiad i wasanaethau CAMHS, sydd wedi'i ohirio ers amser maith ac mae'n hen bryd ei gael. Felly, Weinidog, byddwn yn croesawu rhywfaint o frys gyda'r adolygiad CAMHS hwnnw, a byddwn yn awyddus i glywed datganiad gennych maes o law ynglŷn â sut rydych yn bwrw ymlaen â hynny.
Fel y soniwyd, soniodd James am brofiadau personol, ac roedd yn ddewr iawn i godi yma a dweud hynny, ac mae arnom angen mwy o bobl i ddod ymlaen i godi proffil iechyd meddwl a mynd i'r afael â pheth o'r stigma o'i gwmpas. Mae rhai o'r cyfryngau cymdeithasol, y llwyfannau modern a natur rodresgar rhai o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cyfleu golwg ffug ar fywyd a all fwydo rhai o'r pryderon sy'n gysylltiedig â rhai sefyllfaoedd cymdeithasol. Ac wrth gwrs, pandemig COVID-19, a'r galw am uned anhwylderau bwyta, sydd oll yn gynnydd da, a'r angen, yn wir, am ganolfannau argyfwng 24 awr i blant a phobl ifanc—.
Yna clywsom gan Rhun ap Iorwerth a soniodd, unwaith eto, am bandemig COVID-19 a disgyblion ysgol yn cael eu hamddifadu o waith ysgol a chyswllt â grwpiau cyfoedion, sy'n eithriadol o bwysig i bobl ifanc sy'n tyfu fyny. Un o'r prif bwyntiau a wnaeth oedd y problemau iechyd meddwl difrifol, oherwydd clywn yn rhy aml yn y cyfryngau am orbryder ac iselder, sy'n chwarae rhan fawr mewn iechyd meddwl, ond mae hefyd yn ymwneud â chydnabod problemau iechyd meddwl mwy difrifol, weithiau, fel anhwylder deubegynol, sgitsoffrenia, seicosis a'r angen i atal y pwl cyntaf mewn seicosis, i drin pobl wrth iddynt ddod i mewn i wasanaethau, ac yn hytrach na threulio oes mewn gwasanaethau, mae'n ymwneud â thrin y pethau hyn pan fyddant yn eithaf ifanc. A chredaf fod hwnnw'n bwynt da iawn a godwyd gennych heddiw, Rhun.
Clywsom gan Laura Anne Jones am wahaniaethau rhwng peth o'r ddarpariaeth gan Lywodraeth Cymru a'r hyn sy'n realiti mewn gwirionedd. A'r pwynt a wneuthum nad yw dwy ran o dair o bobl yn cael eu gweld o fewn y cyfnod o 28 diwrnod, rhywbeth y mae gwir angen inni weld gwelliannau arno, a chael y cymorth cywir i blant ag awtistiaeth ac anableddau dysgu mewn ysgolion ac yn gyhoeddus.
Ac yna clywsom yr achos personol gan Sarah Murphy. Hoffwn eich canmol, unwaith eto, am ddangos y dewrder hwnnw, oherwydd mae gofyn cael llawer iawn o ddewrder i godi yma a siarad am rywbeth a ddioddefoch chi pan oeddech chi'n ferch ifanc, ac rwy'n eich canmol yn fawr am hynny. Ac yn amlwg, rydych wedi teithio'n bell o hynny a beth bynnag am wleidyddiaeth plaid, mae pobl dda Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl wedi ymddiried ynoch i'w cynrychioli yma ac rwy'n eich cymeradwyo am hynny, ac rydych yn gwneud yn dda iawn.
Ac yna clywsom gan Sam Kurtz ynglŷn â dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, a'r amrywio y gwyddom yn iawn amdano mewn cymunedau gwledig o'u cymharu â dinasoedd ac ardaloedd trefol mwy o faint. Clywsom gan Jane Dodds am ei phrofiad yn y proffesiwn gwaith cymdeithasol a gofynnodd am eglurhad ar yr amseroedd aros hynny, rhywbeth y gallodd y Dirprwy Weinidog ymateb i chi yn eu cylch—roeddwn yn gwrando, Ddirprwy Weinidog, er eglurder—a'r straeon cadarnhaol o wasanaethau timau triniaeth yn y cartref a'r cymorth gwirfoddol a'r trydydd sector sydd ar gael hefyd, sydd, fel y dywedwch yn gywir, yn ddull o gael gofal y mae rhai pobl yn ei ffafrio, yn enwedig y bobl iau a'r plant y siaradwn amdanynt heddiw.
Soniodd Altaf Hussain am drosglwyddo rhwng gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r gwasanaeth oedolion, y newid llyfn, a chredaf pe bai'r ailasesiadau'n fwy cyffredin rhwng y trosglwyddiadau hynny, a rhwng y gwasanaethau hynny, gallem weld pontio mwy di-dor rhwng systemau y byddwn yn awyddus i weld cynnydd arno, ac wrth gwrs, y Ddeddf iechyd meddwl yng Nghymru, a'r hyn y gall honno ei olygu i Gymru ei hun yng nghyd-destun y DU.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am eich ymateb heddiw ac am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd heddiw am rai o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnynt. Hoffwn weld diweddariadau rheolaidd i'r Senedd, fel y soniais, ynglŷn â sut rydych yn bwrw ymlaen â hynny, gan ei fod yn fater mor emosiynol a phersonol i lawer o Aelodau a phobl ledled Cymru. Felly, byddwn yn cadw llygad manwl ar hynny. Rwyf am orffen fy nghyfraniad drwy annog yr Aelodau, os ydych yn teimlo'n angerddol am hyn ac yn cytuno â'r pwyntiau a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, hoffwn eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Clywais wrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Ac yr ydym yn awr wedi cyrraedd yr amser hwnnw. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.