Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar ddarlledu, a dwi'n galw ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i wneud y cynnig yma. Dawn Bowden.
Cynnig NDM8023 Lesley Griffiths, Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu creu’r panel arbenigol a fydd yn ymchwilio i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
2. Yn nodi bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn datgan eu bod yn gytûn y dylid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i’r Senedd.
Diolch, Llywydd. Rydw i’n croesawu'n fawr y cyfle i siarad heddiw am y gwaith pwysig yr ydym ni’n ei wneud, drwy ein cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, i gefnogi fframwaith darlledu a chyfathrebu i Gymru sy'n addas i'r diben ac sy'n darparu'r cyfryngau mae Cymru'n eu haeddu.
Nawr, ni ddylwn orfod argyhoeddi'r Senedd hon bod darlledu'n hynod bwysig yng Nghymru. Mae'n chwarae rhan hanfodol o ran hysbysu, diddanu ac addysgu. Mae'n cyfrannu'n hanfodol at dwf ein diwydiannau creadigol, i'n heconomi, i'n hiaith, ac i'n democratiaeth. Ac os oedd amheuaeth ynghylch ei werth erioed, mae'n sicr bod cyfnod digynsail pandemig COVID-19 ond wedi cryfhau'r achos dros ei berthnasedd parhaus.
Fodd bynnag, er mwyn i ddarlledu ddiwallu anghenion Cymru, rhaid i'w fframwaith fod yn iawn. Rhaid iddo fod yn addas ar gyfer cyd-destun datganoledig a rhoi llais cryf a chymhellol i ni mewn unrhyw ddadleuon ar faterion darlledu, ac nid yw hynny'n wir ar hyn o bryd. Gormod o weithiau, mae penderfyniadau unochrog a wnaed gan Lywodraeth y DU wedi dangos diffyg dealltwriaeth lwyr o ddatganoli a diystyriad ymddangosiadol o effaith y penderfyniadau hynny yng Nghymru, ac yn wir ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus a'i hegwyddorion sylfaenol yn gyffredinol. Nid oes ond rhaid i ni edrych ar y penderfyniadau ar rewi ffi'r drwydded a'r bwriad i breifateiddio Channel 4 fel enghreifftiau diweddar o sut mae cynigion Llywodraeth y DU yn peryglu'r cyfraniad amhrisiadwy mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei wneud i Gymru. Mae hefyd nifer o enghreifftiau o gamadrodd gwybodaeth a chyfeiriadau annigonol at amgylchiadau datganoledig mewn newyddion darlledu sy'n tynnu sylw at yr angen i gymryd camau i fynd i'r afael â'r diffyg gwybodaeth hwn yn y cyfryngau.
Nawr, mae ein cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru yn cydnabod y consensws eang yng Nghymru bod y fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn annigonol. Mae'n cydnabod nad yw'n gallu cyflawni anghenion cyfryngau Cymru ac mae'n amlinellu'r awydd i weld pwerau yn y maes hwn yn cael eu datganoli. Felly, heddiw rwy'n falch o gyhoeddi sefydlu panel arbenigol sy'n nodi'r cam cyntaf tuag at weithredu i fynd i'r afael â'r diffygion yn y system bresennol. Rydym ni wedi penodi 12 aelod arbenigol i'r panel, a bydd yr unigolion hyn yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys cynhyrchu annibynnol, darlledu, newyddiaduraeth a'r byd academaidd, a gyda'i gilydd maen nhw’n dod â chyfoeth o brofiad a fydd yn ychwanegu gwerth a phwysau at ein trafodaethau yn y gwaith hwn.
Nawr, bydd gwaith y panel yn cael ei arwain gan yr ymrwymiadau darlledu a'r cyfryngau a nodir yn y cytundeb cydweithredu ac yn adeiladu ar hyn. Bydd yn ystyried amrywiaeth o faterion, gan gynnwys gwaith i archwilio sefydlu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru. Bydd y panel hefyd yn darparu rôl bwysig wrth i ni archwilio datganoli pwerau i Gymru, ac mae hyn yn arbennig o bwysig gan ein bod yn gwybod bod hwn yn nod heriol ac uchelgeisiol.
Bydd angen deall ac ystyried amrywiaeth o ffactorau, yn enwedig o ran cwmpas yr hyn rydym ni’n gobeithio ei gyflawni a fforddiadwyedd unrhyw newidiadau a argymhellir i'r fframwaith rheoleiddio presennol. Rôl y panel arbenigol fydd ystyried yn llawn yr holl gyfleoedd ac effeithiau posibl sy'n gysylltiedig â'n hopsiynau. Bydd eu gwaith yn cael ei lywio gan dystiolaeth a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r panel lunio barn wybodus ar ffactorau fel cwmpas unrhyw gylch gwaith unrhyw awdurdod darlledu arfaethedig, ar ei strwythur posibl, ei atebolrwydd a sut mae’n cyd-fynd â'r fframwaith rheoleiddio.
Er mwyn i unrhyw gamau gweithredu fod yn ymarferol, yn gyraeddadwy ac i sicrhau cefnogaeth ein rhanddeiliaid, rhaid i ni ddatblygu'r achos busnes cryfaf posibl ac ystyried amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys goblygiadau ariannol ac alinio â thirwedd ddarlledu gynyddol fyd-eang. Rydym ni’n gwybod ac yn deall hefyd, os yw darlledu i gael ei ddatganoli, y bydd angen i Lywodraeth y DU gytuno arno, felly bydd angen i gryfder ein hachos sefyll yn erbyn craffu yma ac ar lefel y DU—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Yn wir.
Rwy'n gwerthfawrogi'r pwyntiau yr ydych chi wedi bod yn eu gwneud yn eich cyfraniad agoriadol, ond, wrth gwrs, rydych chi'n dweud bod clymblaid o gefnogaeth i'r materion hyn. Nid yw'r Blaid Lafur yn rhan o'r glymblaid honno. Hyd y gwn i, polisi Llafur Cymru yw peidio â datganoli darlledu.
Nid yw polisi Llafur Cymru wedi'i ddatblygu eto yn y maes hwn, ond mae hyn yn rhan fawr o'r cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru a oedd yn angenrheidiol ar gyfer amrywiaeth o faterion roeddem ni eu hangen i gyflawni'r rhaglen lywodraethu. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n dal i'w ddatblygu.
O ran y craffu, fel y dywedais i, mae'n rhaid iddo sefyll yn erbyn craffu yma ac ar lefel y DU, felly bydd yn hanfodol ein bod yn parhau i ymgysylltu â'r ystod honno o randdeiliaid, arbenigwyr a phartneriaid perthnasol, ochr yn ochr â gwaith y panel, i nodi'r sylfaen dystiolaeth gadarn a chredadwy honno i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu. Felly, Llywydd, heddiw diolch yn fawr i chi am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad Aelodau eraill a'r hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol yr un gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Tom Giffard i gynnig y gwelliant hwnnw, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Tom Giffard.
Diolch yn fawr, Llywydd, a hoffwn i gynnig y gwelliant yn ffurfiol yn enw fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Darren Millar. [Torri ar draws.] Unrhyw bryd.
Yr hyn yr ydym ni’n ei weld yma heddiw, Llywydd, yw comisiwn arall sy'n cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar fater mae penderfyniad eisoes wedi’i wneud arno. Yr wythnos diwethaf mwy o ASau oedd hynny, a'r wythnos hon mae'n gomisiwn arall. Mae pot mêl Bae Caerdydd wir yn dal i fynd i gyfeillion y Blaid Lafur—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi eich clywed chi eisoes, Alun—[Torri ar draws.] Na, dim diolch, Alun. Na, dim diolch, Alun. Rydw i wedi eich clywed chi unwaith yn barod.
Ar ôl edrych y bore yma ar gefndiroedd a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yr unigolion sydd wedi'u penodi i'r pwyllgor, mae'n ymddangos mai dim ond un peth sydd gan nifer ohonyn nhw’n gyffredin: gwrthwynebiad i Lywodraeth y DU. Nid yw'n bwyllgor cytbwys gydag amrywiaeth o safbwyntiau, yn ei hanfod mae'n felin drafod adain chwith sy'n mynd â'i syniadau a'i haelodau'n gadarn o'r tu mewn i swigen Bae Caerdydd, a dylem ni drin y canfyddiadau anochel gyda hynny mewn golwg.
Sylwais y bore yma fod Plaid Cymru wedi trydar, ‘Newyddion yn Torri: grym dros ddarlledu Cymraeg gam yn nes', ond nid yw'n agosach o gwbl. Fel yr ydym ni newydd ei glywed gan Alun Davies a'r Dirprwy Weinidog, rydym ni’n gwybod na fydd y Blaid Lafur yn datganoli'r pŵer hwnnw—newyddion drwg i Blaid Cymru am hynny. Eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol—[Torri ar draws.] Rydym ni’n gwybod mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y pŵer ar hyn o bryd. Rydym ni’n gwybod bod maniffesto Llafur yn 2019 wedi dweud, a dyfynnaf,
'Bydd llywodraeth Lafur yn sicrhau dyfodol iach i'n holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys BBC Alba ac S4C.'
Nid yw hynny'n swnio i mi fel Llywodraeth Lafur a fyddai'n arbennig o awyddus i ddatganoli'r pŵer hwnnw chwaith. Efallai y byddai'n well cynghori'r Blaid Lafur i dreulio ychydig o amser yn cytuno ar safbwynt o fewn eu plaid eu hunain na gwastraffu arian trethdalwyr ar y comisiwn hwn.
Rydym ni’n gwybod bod datganoli darlledu yn syniad gwael. Beth yw'r diben? Beth ydym ni'n ceisio ei drwsio? Nid fy ngeiriau i yw'r rheini, geiriau cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, ydyn nhw wrth drafod darlledu ym mhwyllgor diwylliant y Senedd flaenorol. Dywedodd Phil Henfrey, pennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru, wrth yr un pwyllgor fod y ddadl am ddatganoli pwerau dros ddarlledu mewn perygl o anwybyddu apêl rhaglennu'r DU i gynulleidfaoedd Cymru.
Clywais yn gynharach heddiw fod y Prif Weinidog, mewn ateb i Adam Price, yn sôn am rinweddau gwrando ar yr arbenigwyr. Nid Llywodraeth Cymru yn gwrando ar yr arbenigwyr ar ddarlledu yw hyn, ond Llywodraeth Cymru sydd ag ymagwedd datganoli nawr a phoeni am y manylion yn ddiweddarach. Ac mae'n wir, oherwydd nid oes ganddyn nhw gynllun ynglŷn â'r hyn y bydden nhw’n ei wneud mewn gwirionedd gyda'r pwerau pe baent yn cael eu datganoli. Ni all fod yn gliriach nag yn y datganiad yr ydym ni newydd ei glywed gan y Dirprwy Weinidog, lle cyfeiriodd at rewi ffi'r drwydded a phreifateiddio Channel 4. Ond does dim byd heddiw i awgrymu y byddai dim ohono'n wahanol pe bai'n cael ei ddatganoli. A fyddai Llywodraeth Cymru yn ceisio gwrthdroi preifateiddio Channel 4? A fyddai'n ceisio cadw trethdalwyr i dalu ffioedd trwydded pan na fyddai gweddill y DU yn gwneud hynny? [Torri ar draws.] Byddai? Wel, mae'n dda gwybod y byddai dinasyddion Cymru—. Wel, mae'n ddiweddariad diddorol gan feinciau cefn y Blaid Lafur i glywed, pe na bai trethdalwyr y DU yn talu ffioedd am drwyddedau, y byddai trethdalwyr Cymru yn dal i wneud hynny pe bai'r pŵer hwnnw'n cael ei ddatganoli. Neu oni fyddai dim ohono'n dwyn ffrwyth a byddem ni'n parhau i wneud yr un pethau gan nad yw Llywodraeth Cymru'n hoffi dim mwy na chronni pwerau a gwneud dim gyda’r pwerau hynny?
Mae darlledu yng Nghymru o dan reolaeth Llywodraeth y DU wedi bod yn llwyddiant. Cymerwch S4C, er enghraifft, gan sicrhau £7.5 miliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth y DU i hybu ei hallbwn digidol a chefnogi'r sianel i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, gan arddangos ein Cymraeg i hyd yn oed mwy o bobl. Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau darlledu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Yn gyntaf, ble mae'r gefnogaeth gyfatebol i radio yng Nghymru, sydd yr un mor bwysig â theledu? Yn ail, ble mae'r gefnogaeth i raglennu Saesneg i Gymru? Roedd yn arfer bod gennym ni. Roeddem ni'n arfer bod â sianel o'r enw BBC Choice, BBC 2W, y cefais y pleser o gyfrannu ati ar adegau. Ble mae'r llwyfan darlledu Saesneg mai dim ond Senedd i Gymru a fyddai'n ei gyflawni?
Mae'n ddiddorol eich bod yn dweud hynny. Dydw i ddim yn siŵr a fyddai Senedd i Gymru yn cyflawni hynny, a dydyn ni heb weld dim o'r dystiolaeth honno heddiw. Rwy'n gwybod bod gennych chi gefndir helaeth yn y BBC, ond nid ydym ni wedi gweld hynny heddiw. Y cyfan rydym ni wedi'i weld heddiw yw sefydlu comisiwn sydd eisoes wedi penderfynu beth mae'n mynd i'w adrodd cyn iddo ddechrau.
Bydd Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau darlledu, sy'n cynnwys dileu rhai cyfyngiadau, yn golygu y bydd S4C yn gallu cyrraedd pobl ledled y DU. Mae byd mawr allan yna, a hyd yn oed ymhellach i ffwrdd, a bydd ei wasanaeth ar alw hyd yn oed yn fwy hygyrch eto. Mae angen i ni edrych y tu hwnt i'n ffiniau ein hunain. Rwy'n gwybod ei fod yn gysyniad estron i Blaid Cymru, ond mae byd y tu allan i Gymru, ac mae'r Papur Gwyn hwn yn rhoi cyfle i S4C, ac yn bwysicach na hynny, yr iaith Gymraeg, gael ei chlywed a'i gweld gan gynulleidfa lawer ehangach.
A mater olaf: amcangyfrifir gan y BBC bod £184 miliwn yn cael ei godi yng Nghymru o gyfanswm ffigur y DU o £3.7 biliwn. Yn 2018-19 derbyniodd S4C £74.5 miliwn o gyllid a gynhyrchwyd gan ffi'r drwydded. Mae hyn yn rhoi cyfanswm y gwariant a gynhyrchir gan ffi'r drwydded yng Nghymru ar £253.5 miliwn—mae bron i £70 miliwn yn fwy nag yr amcangyfrifir gan y BBC sy'n cael ei godi yng Nghymru. Mae hyn yn dangos bod Cymru'n cael llawer mwy o arian o ffi'r drwydded, unwaith eto hyd at bron £70 miliwn yn ychwanegol, nag y mae'n ei gynhyrchu ei hun yng Nghymru. Y cwestiwn sy'n dilyn wedyn yw hyn: o ble y daw'r gwahaniaeth yn yr arian pe bai'r pŵer hwn yn cael ei ddatganoli? Un awgrym—ac rwyf i'n dod i ben, Llywydd—gan yr Athro David Hutchison o Brifysgol Glasgow Caledonian, oedd, a dyfynnaf,
'byddai'n dal yn angenrheidiol wynebu'r ffaith, gan y byddai'n rhaid talu BBC y DU am wasanaethau cyffredin, y gallai fod yn rhaid i ffi'r drwydded yng Nghymru—fel yn yr Alban—fod yn sylweddol uwch nag ydy o ar hyn bryd.'
A fyddai datganoli'n newid y sefyllfa honno? Yn sicr, o gofio bod teuluoedd yn ei chael hi'n anodd oherwydd y cynnydd ym mhrisiau nwy a thrydan, mae rhoi baich sylweddol uwch ar ffioedd trwydded yn enghraifft arall o'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn mynd ar drywydd pwerau waeth beth fo'r gost.
Dwi ddim yn siŵr lle i ddechrau o ran hynny.
Beth ydym ni'n ceisio ei drwsio? Diffyg democrataidd. Dydw i ddim yn credu y dylem ni fynd â'n cap yn ein llaw at Lywodraeth y DU o ran dyfodol darlledu a'r cyfryngau yma yng Nghymru. Ni ddylem orfod gofyn am ganiatâd i gael cynnwys yn ein hieithoedd swyddogol ein hunain yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld toriad ar ôl toriad i S4C, ac eto rydym ni i fod yn ddiolchgar am eu bod bellach wedi addo. Ni wyddom beth fydd effaith dyfodol y BBC a'r hyn sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU ar ddarlledu yma yng Nghymru. Yn sicr, dydw i ddim yn ymddiried mewn Llywodraeth Dorïaidd yn y DU i ddiogelu ein darlledu a'n cyfryngau.
Am ddegawdau, mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu o blaid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru. Mae cyhoeddiad heddiw felly'n foment bwysig a hanesyddol wrth inni symud gam yn nes at hyn yn sgil ffurfio'r panel arbenigol. Yn wir, gellir olrhain y frwydr hon nôl i'r 1970au, cyn i rai ohonom sydd yma heddiw gael ein geni, gyda galwadau Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith am wasanaeth teledu Cymraeg, ac yna, wrth gwrs, ymgyrch Gwynfor Evans am sianel deledu Gymraeg, lle gwnaeth fygwth ymprydio os nad oedd Llywodraeth Margaret Thatcher yn sefydlu sianel.
Wedi'r cyfan, mae gennym ni ein timau chwaraeon ein hunain, ein sefydliadau cenedlaethol, gan gynnwys y Senedd hon, ein hiaith ein hunain, ac mae'n gwneud synnwyr inni hefyd fod yn gyfrifol am ddarlledu a chyfathrebu. A dwi'n falch o weld y Llywodraeth, yn sgil y cytundeb cydweithio, bellach yn cefnogi hyn, a dwi'n nodi pwyntiau Alun Davies nad ydy'r Blaid Lafur yn unedig ar hyn, ond dwi yn falch o weld ein bod ni'n gallu cydweithio a gweld gwerth o fewn hyn drwy'r cytundeb.
Pam mae hi'n bwysig i ddatganoli darlledu? Wel, mae diffygion yn y cyfryngau yn achosi bylchau gwybodaeth yma yng Nghymru, ac fe fyddai datganoli darlledu a sefydlu'r panel hwn—mae'n mynd i helpu i gau'r bwlch. Yn 2016, dim ond 37 y cant o bobl yng Nghymru oedd yn gwylio BBC Wales Today ac 17 y cant yn gwylio ITV Wales at Six. Gyda chymaint o bobl ein cenedl felly yn derbyn newyddion Prydeinig yn hytrach na chynhenid, mae hyn yn creu diffyg democrataidd ac ymwybyddiaeth wleidyddol. Yn wir, canfu astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a YouGov fod 40 y cant o bobl yng Nghymru yn credu'n anghywir fod Plaid Cymru mewn Llywodraeth rhwng 2011 a 2016. Yn amlwg, fe hoffwn pe bai hynny wedi bod yn wir, ond onid ydy o'n hynod bryderus dros ben nad oedd 40 y cant o'r boblogaeth ar y pryd yn gwybod pa blaid oedd yn gyfrifol am benderfyniadau oedd yn effeithio gymaint ar eu bywydau o ddydd i ddydd?
Mae'r diffyg hwn yn cael effeithiau pellach ar bobl Cymru. Nododd 'Adroddiad Cysgodol NGO ar y Cyd ar Anghydraddoldeb Hiliol yng Nghymru' yn 2021 y canlynol, ac rwyf yn dyfynnu:
'gan nad oes gan Gymru hunaniaeth annibynnol gref yn ei chyfryngau, bydd agenda'r wasg yn Lloegr yn aml yn cael ei adleisio yng Nghymru. Mae sylw’r cyfryngau Saesneg i ymfudwyr a ffoaduriaid yn peri pryder arbennig, gydag iaith ymrannol ac ymfflamychol fel "heidio" a "goresgyn" yn cael ei defnyddio i gyfeirio at y rhai sy’n ceisio lloches yn y DU. Yn fwy diweddar, yn 2020, derbyniodd y BBC a Sky News dros 8,000 o gwynion ar ôl darlledu delweddau byw o ymfudwyr yn croesi'r môr o Ffrainc i Loegr. Ymatebodd yr Aelod Seneddol Llafur Zarah Sultana: "dylem sicrhau nad yw pobl yn boddi wrth groesi'r Sianel, nid eu ffilmio fel pe bai’n rhyw sioe deledu realiti grotesg."
'Felly, rydym yn dadlau bod sylw cyfryngau Lloegr i ymfudwyr a ffoaduriaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf nid yn unig yn peri pryder gan ei fod yn ymrannol, yn ymfflamychol ac yn annynol, ond ei fod hefyd yn mynd yn groes i safbwynt Ll/Cymru ar fudo fel "Cenedl Noddfa".'
Dengys hyn, felly, sut mae’r ffaith bod cyfathrebu a darlledu heb ei ddatganoli yn tanseilio ein hanian a’n hamcanion fel cenedl.
Wrth gwrs, newidiodd rhai pethau yn sgil COVID. Ac, yn 2020, cynyddodd ffigyrau gwylio BBC Wales Today i 46 y cant o’r boblogaeth, sy’n dangos bod pobl wedi sylweddoli, am y tro cyntaf, efallai, fod materion pwysig fel iechyd ac addysg o dan gyfrifoldeb y Senedd hon yn hytrach na Llundain. Dangosodd y pandemig, felly, bwysigrwydd darparu cyfryngau cynhenid Cymreig i ddarparu gwybodaeth i bobl sy'n byw yng Nghymru.
Felly, allaf i ddim gorbwysleisio pam bod heddiw wir yn ddiwrnod pwysig wrth i ni wneud cynnydd pellach yn y maes hwn, er mwyn dod â holl fanteision posibl datganoli darlledu a chyfathrebu i Gymru. Os ydyn ni eisiau mwy o bobl i gymryd diddordeb yn ein democratiaeth, i graffu ar ein penderfyniadau, a phleidleisio, yna mae'n rhaid iddynt gael y cyfle i dderbyn gwybodaeth am yr hyn sydd yn digwydd yma.
Rwyf i’n croesawu'r cyfle heddiw i siarad am y ddadl amserol iawn hon. Rwy’n credu y dylai darlledu o Gymru, o bob math, ar ei orau, adrodd ein stori genedlaethol, a dylai adlewyrchu diddordebau ac angerdd Cymru. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth neu newyddion yn unig, er fy mod yn cytuno eu bod yn ffurfio rôl bwysig, ond mae ein cenedl yn angerddol ac yn falch o bêl-droed, ac mae am ymgysylltu â'i gêm genedlaethol. Llywydd, mae cynghreiriau menywod a dynion Cymru'n tyfu mewn poblogrwydd, ond, os ydym ni am adeiladu'n wirioneddol ar hyn, yna rhaid darlledu'r cynghreiriau'n fyw, yn rhad ac am ddim i'w gwylio, yn rhad ac am ddim i wrando.
Rwyf am dalu teyrnged yma i'n darlledwr cenedlaethol, S4C, oherwydd mae S4C yn gefnogwr hirsefydlog a chyson o'r gêm yng Nghymru, ac rwy’n credu y gellir ei disgrifio'n sicr fel cartref pêl-droed Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi cyflwyno nifer o gwestiynau ysgrifenedig ar y mater hwn, ac mae'n fraint fawr gwylio Sgorio, i wylio'r darllediadau byw o gynnydd tîm cenedlaethol Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd, ac mae hefyd yn bwysig nodi pa mor wych yw gwylio darllediadau byw BBC Cymru o bob gêm wrth i ferched Cymru geisio cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd 2023, ac wrth gwrs rydym ni’n dymuno bob llwyddiant iddyn nhw yn Siambr y Senedd hon.
Llywydd, y tymor diwethaf yn unig, mae S4C wedi darlledu 47 o gemau byw o Uwch Gynghrair Cymru a chystadlaethau cwpan cenedlaethol Cymru. Ond dylem fod yn anelu at ddarlledu mwy bob wythnos, a chynyddu'n sylweddol y sylw a roddir i gêm y menywod. Bydd yr Aelodau'n gwybod, a bydd y Llywydd yn gwybod, y byddaf yn datgan buddiant yma, gan fy mod yn aelod di-dâl, balch ac yn llysgennad clwb i bencampwyr gwych Uwch Gynghrair Cymru, Cei Connah.
Llywydd, rwyf i’n cefnogi heddiw ysbryd y cynnig wrth sefydlu panel arbenigol, ac edrychaf ymlaen at weld y manylion a ddaw o'r panel arbenigol, a'r cynigion ynghylch yr hyn y bydd datganoli darlledu yn ei olygu i'n cenedl. Ond rwy'n ei weld fel cyfle delfrydol i wella darlledu ar gyfer ein cynghreiriau cenedlaethol a'n pêl-droed rhyngwladol. Fy uchelgais i, Gweinidog, yw dod allan o'r broses hon a, phan fydd y panel arbenigol yn cyhoeddi ei gynigion manwl, y bydd pêl-droed cynghrair Cymru, cynghreiriau'r menywod a'r dynion, yn cael ei ddarlledu'n fyw—mwy o gemau, yn amlach, yn rhad ac am ddim i'w gwylio, yn rhad ac am ddim i wrando, yn y ddwy iaith genedlaethol. Byddwn yn ddiolchgar pe gall y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynghylch a yw'n cytuno â fy uchelgais, ac a wnaiff ymrwymo, heddiw, i gyflwyno’r uchelgais hwnnw i'r panel arbenigol a gofyn iddyn nhw ymateb yn uniongyrchol iddo. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud pa mor berthnasol yw'r cynnig heddiw, ac rwy’n diolch i'r Llywodraeth gyferbyn am roi'r cyfle i ni drafod mater mor bwysig, oherwydd, ni waeth pa ochr o'r ddadl rydych chi arni, rwy’n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod ansawdd darlledu yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, heb ei ail. Dro ar ôl tro mae'r BBC, ITV, S4C a chwmnïau cynhyrchu fel Tinopolis a Rondo wedi darparu gwasanaethau a rhaglenni o'r radd flaenaf sy’n cael eu mwynhau yma ac ar draws y byd. Wrth wraidd allbwn Cymru, ar sgriniau teledu ledled y byd, gallwch weld sêr o Gymru mewn rolau blaenllaw, lleoliadau a golygfeydd yng Nghymru, yr arwyr di-glod, a thalent o Gymru, o artistiaid colur i dechnegwyr sain a gweithredwyr camerâu, rhan o'r gwneuthuriad integredig sy'n gwneud cynyrchiadau o Gymru o safon mor uchel. Gallwn ni yng Nghymru ymffrostio'n briodol yn y llwyddiant hwn, a'r cyfan wedi'i gyflawni heb law anweledig Llywodraeth Cymru yn addasu lens y camera neu Quentin Taran-Drakeford yn eistedd yng nghadair y cyfarwyddwr. Dyna sydd gan Gymru i'w gynnig. Ac mae'n amlwg i mi nad yw datganoli darlledu yn ateb unrhyw ddiben i adeiladu ar ddiwydiant sydd eisoes yn ffynnu.
Nawr, bydd Aelodau'n honni, heb ei ddatganoli, y bydd gwasanaethau darlledu'n cael eu gadael i ddioddef a chael eu hafradu, bod ein diwylliant yn chwalu a'n hiaith yn cael ei hanghofio, ond ni allai fod ymhellach o'r gwir, ac mae'r dystiolaeth yn dangos hynny. Yn ystod y degawd diwethaf, rydym ni wedi gweld S4C a BBC Cymru yn ffynnu mewn ffordd sydd wedi allforio Cymru, ein hiaith, ein hunaniaeth a'n diwylliant ar draws y tonnau awyr. Mae darlledu yng Nghymru wedi cael cymaint o lwyddiannau y dylem ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw. Mae Un Bore Mercher, sy’n cael ei adnabod yn ddiweddar fel Keeping Faith, a ffilmiwyd yn Gymraeg i ddechrau, wedi'i gyfieithu i'r Saesneg, y gyfres gyffrous tri thymor, bellach yn cael ei ffilmio yn y ddwy iaith ac mae dros 50 miliwn o bobl wedi’i wylio ar BBC iPlayer; Doctor Who, cyfres deledu fyd-enwog, a ffilmiwyd yma yng Nghaerdydd, gan ddod â ffuglen wyddonol i bob sgrin deledu, gyda lleisiau Davros Dalek yn dychryn pob plentyn o bob cenhedlaeth; ac Y Gwyll/Hinterland, cyfres dditectif Gymraeg a fabwysiadwyd yn ddiweddarach gan BBC Cymru, drama deledu gyntaf y BBC i gynnwys deialog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Felly, pam mae Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru am roi rhwystrau rhag sicrhau llwyddiant o'r fath? Nawr, wrth gwrs, mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn nyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ond nid yw'r rhan honno'n un o reolaeth, na dylanwad. Gallwn ni barhau i sicrhau bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ffynnu yn y dyfodol o ystyried newidiadau i'r farchnad, ond nid yw hynny'n gofyn am reolaeth y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru na Phlaid Cymru. Rydym ni wedi gweld beth sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth Cymru yn ymwneud mewn diwydiant nad yw'n gwybod llawer amdano. Yn ôl yn 2014, gwariodd Llywodraeth Cymru £9.4 miliwn yn caffael canolfan ynni segur yng Ngwynllŵg gyda'r nod o ddatblygu'r safle yn stiwdio ffilm a theledu. Dair blynedd yn ddiweddarach, dosbarthwyd y stiwdio fel un anaddas ar gyfer cynyrchiadau ffilm cyllideb uwch. Methodd y galw a ragwelir am stiwdio ffilm Llywodraeth Cymru sy'n eiddo i'r wladwriaeth â dod i'r amlwg. Y canlyniad: cafodd y fenter gyfan ei rhedeg ar golled, ar draul trethdalwyr Cymru. Dyma'ch hanes chi o ran darlledu, ac mae'n sicr—[Torri ar draws.]—yn sicr nid yw'n enillydd Oscar.
Mae datganoli darlledu yn ddadl bwysig i'w chael, gadewch i ni fod yn ddiffuant, ond i ailadrodd sylwadau Rhodri Davies, cyfarwyddwr BBC Cymru, mae'n gwbl aneglur beth fyddai'r amcan o ddatganoli pwerau, gyda’r ddadl yn rhamantus ac yn gwasanaethu dibenion gwynfyd, tra bod Aelodau gyferbyn yn ceisio rheolaeth, heb fawr o sylw i'r canlyniadau a fyddai'n anochel yn dilyn. Byddai'n well gadael i'r Llywodraeth ganiatáu i ddiwydiant ffyniannus barhau i ffynnu. Mae gan ddarlledu yng Nghymru gymaint i'w gynnig, ni ddylai'r un ohonom ni fod eisiau ei rwystro. Diolch.
Gaf i ddatgan diddordeb ar y dechrau fel Aelod dynodedig a, digwydd bod, mae'r maes hwn yn un o'r cyfrifoldebau sydd gen i fel rhan o'r cytundeb cydweithio?
Rwy’n hynod o falch fy mod i'n gallu cyfrannu at y ddadl hon, dadl sy’n bwysig iawn, yn fy marn i, i’n democratiaeth ni fel cenedl ac un sydd â’r potensial i fod yn hanesyddol, wrth i ni baratoi’r tir ar gyfer datganoli darlledu i Gymru. Ac nid ar chwarae bach rwy’n defnyddio’r gair 'hanesyddol' wrth inni drafod y mater o ddatganoli darlledu. Fel rŷn ni wedi clywed gan Heledd Fychan yn barod, fe alwodd Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru am sefydlu awdurdod darlledu annibynnol i Gymru dros 50 mlynedd yn ôl. A dyma ni, 50 mlynedd yn ddiweddarach, wedi degawdau o brotestio, o lobïo ac ymgyrchu di-ildio, rŷn ni heddiw, yn ein Senedd ein hunain, yn cymryd cam yn agosach at wireddu uchelgais y 1970au drwy ymchwilio i'r posibilrwydd o greu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gyda’r nod o greu sylfaen dystiolaeth gadarn i gefnogi’r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru yn y maes arbennig yma. A diolch i bawb sydd wedi dal ati'n ddygn i hyrwyddo'r amcan hwn dros y degawdau diwethaf.
Rwyf hefyd yn awyddus i dalu teyrnged i Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd yn y Senedd ddiwethaf, a Chadeirydd y pwyllgor, Bethan Sayed, yn arbennig am yr adroddiad a gyhoeddwyd yn 2021 ar ddatganoli darlledu—adroddiad sy'n amlinellu'r heriau ond hefyd y potensial ar gyfer cryfhau ein cyfryngau yng Nghymru. Fel y gwnaeth Bethan Sayed ddweud yn ei rhagair i'r adroddiad,
'Mae'r cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol. Nid oes gennym ni'r ddarpariaeth newyddion a materion cyfoes y mae ei hangen ar Gymru, ac mae hyn yn amharu ar fywyd gwleidyddol a dinesig ein gwlad.'
Mae hyn yn
'golygu nad ydym yn gweld adlewyrchiad o’n hunain ar ein sgriniau.'
A dyna'r pwynt mewn gwirionedd, ac mae'n bryd, efallai, i'r blaid gyferbyn ddeall ein bod ni ddim yn gweld digon o'n stori ni'n hunain fel Cymry ar y sgrin ar hyn o bryd. Ac er bod twf wedi bod yn y cwmnïau mawr fel Netflix ac Amazon, sydd wedi gweld cynnwys llawer mwy ar ein sgriniau, dydy hyn ddim yn golygu bod mwy o raglenni yn portreadu bywydau pobl Cymru yn benodol, heb sôn am ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac yn ogystal â'r datganiad heddiw, a'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, sydd, gobeithio, yn paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli darlledu, rŷm ni hefyd wedi byw trwy gyfnod eithriadol o anodd dros y blynyddoedd diwethaf, cyfnod a fydd yn ysgrifennu pennod ei hunan yn llyfrau hanes y dyfodol.
Mae'r pandemig wedi ein gweld yn newid ein harferion dyddiol, gan gynnwys ein gwaith, ein bywydau teuluol a'n bywydau cymdeithasol, cyfnod lle bu aelwydydd ledled Cymru yn ymuno â chynadleddau wythnosol Llywodraeth Cymru i'r wasg, yn awyddus i wybod mwy am y pandemig yng Nghymru a'n hymateb iddo. Mae'r gair 'ein' yn arwyddocaol yma. Rwy'n credu nad gor-ddweud o bell ffordd yw dweud bod pandemig COVID-19 wedi dangos gwerth a phwysigrwydd hanfodol cyfryngau Cymreig cryf, annibynnol.
Fe wnaethom ni weld cipolwg ar botensial Cymru i gyflawni hyn drwy gydol y pandemig, ond dim ond cipolwg oedd y rhain. Roedd ein cyfryngau a'n siopau newyddion yn cystadlu'n barhaus ac yn aml yn cael eu boddi gan allfeydd ledled y DU yn canolbwyntio ar Loegr, gan bwmpio gwybodaeth i Loegr yn unig i'r DU gyfan, naill ai'n anymwybodol neu'n ddifater tuag at yr amrywiadau mewn cyfyngiadau ac ymatebion i'r pandemig gan y gweinyddiaethau datganoledig.
Nid oes ond rhaid i ni gyfeirio at y Diwrnod Rhyddid a gafodd ei chwalu ym mis Gorffennaf y llynedd, gyda dwndwr a gormodiaith arferol Boris. Er iddo gael ei annog i'w gwneud yn glir mai dim ond i Loegr y cafodd y cyfyngiadau eu codi, fe wnaeth e wrthod, gan olygu bod miliynau o bobl yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi'u gadael yn gwbl ddryslyd. Roedd y newyddion Eingl-ganolog hwn a rhannu gwybodaeth gyhoeddus nid yn unig yn anghyfrifol ac yn fyrbwyll, ond hefyd yn beryglus, gan ei fod yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd pobl, ac, o bosibl, ar fywydau.
Felly, i gloi, yn wyneb y diffyg hwn o ran plwraliaeth a thegwch, gadewch i ni felly gymryd cam arall heddiw i sicrhau democratiaeth iach a hyfyw yng Nghymru drwy gefnogi'r cynnig sydd ger bron, fel bod ein llais ni yn cael ei glywed a'n stori ni fel pobl yn cael ei hadrodd ar yr holl ystod o gyfryngau posibl. Diolch yn fawr.
Mae cyfryngau annibynnol sy'n eiddo i'r cyhoedd yn hanfodol i'n democratiaeth ac i hygyrchedd gwybodaeth ddiduedd. Mae'r sector darlledu yn chwarae rhan hanfodol wrth hysbysu, diddanu a chreu dinasyddiaeth ddiwylliannol gyffredin yng Nghymru. Mae darlledwyr yn cyfrannu'n hanfodol at dwf ein heconomi, i ddatganoli ac i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cynnal a thyfu'r Iaith Gymraeg. Pan welaf Lywodraeth y DU yn creu amgylchedd gelyniaethus, yn bwriadu gwerthu Channel 4 ar frys, ac yn galw am ddadgyllido'r BBC am resymau gwleidyddol yn unig, mae'n cryfhau'r achos dros ddatganoli darlledu i ddiogelu ei gyfanrwydd.
Apeliodd Gweinidog Llywodraeth y DU, Nadine Dorries, at boblyddiaeth ynglŷn â'r drwydded deledu, ond mae'r BBC wedi dioddef yn nwylo'r Torïaid ers amser maith, gan ddioddef toriadau o 30 y cant ers 2010. Mae'r penderfyniad i werthu Channel 4 am arian cyflym yn mynd yn gwbl groes i'r hyn mae'r cyhoedd ei eisiau. Cafodd yr ymgynghoriad ar newid perchnogaeth dros 56,000 o ymatebion ac mae 96 y cant ohonynt yn gwrthwynebu'r newidiadau hyn. Anwybyddwyd eu barn yn amlwg. Mae Channel 4 yn chwarae rhan unigryw ym maes darlledu Prydain fel cwmni sy'n eiddo i'r cyhoedd ym Mhrydain, sy'n costio dim i'r cyhoedd ac yn rhoi ei elw i gomisiynu rhaglenni newydd, creu swyddi a darganfod talent newydd ledled y wlad. Mae penderfyniad y Torïaid i breifateiddio Channel 4 yn dangos nad ydyn nhw o ddifrif ynghylch sicrhau ffyniant bro ein gwlad na chefnogi rhaglenni a wneir gan Brydain a'n diwydiannau creadigol cynhenid ein hunain.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Ydych chi'n credu y gallai fod cymhellion yn y cynnig i werthu Channel 4, a'i fod yn ymwneud yn fwy â rheolaeth?
Ydw wir, ydw wir.
Rwy'n gwybod bod consensws ymysg darlledwyr yng Nghymru fod angen setliad cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus newydd i gynnal amlygrwydd a chynaliadwyedd. Wrth gwrs, mae amlygrwydd yn bwysig iawn, o ystyried goruchafiaeth y cyfryngau cymdeithasol a setiau teledu clyfar. Eisoes, mae'r ffynonellau gwybodaeth sy'n cael eu hyrwyddo fwyaf ar-lein yn dod o'r Daily Mail a The Sun—cyhoeddiadau rhagfarnllyd iawn. Mae angen i ni ddod â fframwaith darlledu'r DU i'r unfed ganrif ar hugain, gan sicrhau bod ei gynnwys o ansawdd uchel yn hawdd ei weld ac yn hygyrch. Er mwyn cyflawni hynny, mae angen i ni oruchwylio darlledu gan Lywodraeth sy'n deall ei gwerth cynhenid.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Lafur Cymru yn deall gwerth ein darlledwyr Prydeinig mawr, sy'n darparu cymaint mwy i'n cymunedau lleol nag adloniant. Maen nhw'n darparu swyddi da mewn cymunedau o amgylch y gwledydd a chyfleoedd i'r diwydiannau creadigol sy'n tyfu'n gyflym, ynghyd â diogelu diwylliant, gwerthoedd a rhagoriaeth greadigol Prydain dramor, gan helpu ein gwlad i ffynnu. Diolch.
Mae'n bleser cael cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Rwyf wedi mwynhau gwrando ar y cyfraniadau yn fawr iawn, er nad wyf i’n cytuno â phopeth sydd wedi'i ddweud. Rwyf hefyd yn gefnogwr teledu a radio mawr, felly mae'n dda iawn cymryd rhan yn hyn y prynhawn yma.
Felly, mae gwasg rydd ac agored yn y cyfryngau newyddion yn hanfodol er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu. Nid oes ond rhaid edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Rwsia i ddeall y risgiau o gyfryngau sy'n cael eu rheoli gan y wladwriaeth a'r pŵer sydd gan ei dinasyddion: un llais sy’n cael ei reoli gan y wladwriaeth, ac yn cael ei ddefnyddio i ledaenu celwyddau i'r boblogaeth. Ar ben arall y pegwn, mae gennym ni’r sefyllfa hon yn yr Unol Daleithiau, lle mae tirwedd y cyfryngau yn rhad ac am ddim i bawb: mae gwybodaeth anghywir yn cael ei darlledu'n agored gan un neu ddwy gorfforaeth fawr sy'n rheoli holl allbwn y cyfryngau ledled UDA. Rwy’n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei weld yw cyfrwng hapus, lle mae gennym ni luosogrwydd ac annibyniaeth, ond sy'n cael ei reoleiddio gan gorff sy'n annibynnol ar y wladwriaeth, yn debyg iawn i dirwedd y cyfryngau sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd. Felly, os nad yw wedi torri, yna pam ydym ni’n ceisio ei drwsio? Beth yw diben datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru?
Rwyf wedi gwrando ar y dadleuon a gyflwynwyd gan wleidyddion Llafur a Phlaid Cymru y prynhawn yma, ac nid yw'n amlwg o gwbl beth maen nhw'n ceisio'i gyflawni. Sut y bydd rhoi pwerau i Weinidogion Cymru dros ddarlledu yn gwella tirwedd cyfryngau Cymru? Rwy’n credu bod ganddo obaith gwirioneddol o'i wneud yn waeth. Mae Cymru'n gartref i tua 4.5 y cant o gyfanswm poblogaeth y DU, tua 1.3 miliwn o aelwydydd. Hyd yn oed pe bai pob un o'r aelwydydd hynny'n talu ffi'r drwydded, ni fyddai'n ddigon o hyd i dalu am allbwn BBC Cymru a rhedeg S4C. Gan fod ffi'r drwydded yn cael ei chasglu o bob rhan o'r DU, gall Cymru elwa o symiau mwy o gyllid, felly rydym ni’n cyflawni llawer mwy na'r disgwyl yn hynny o beth.
Yn y flwyddyn cyn y pandemig, gwariwyd tua un rhan o bump o gyllidebau cynhyrchu annibynnol y DU yng Nghymru. Nid oes ond rhaid i chi edrych yma yng Nghaerdydd, a'r hyn y soniodd Sam Kurtz amdano sef creu Doctor Who a Casualty, ymhlith eraill sy'n cael eu ffilmio yma. Ac rydym ni’n cael mwy na'n cyfran deg o gyllid yn yr ystyr hwnnw. Felly, os caiff Llafur a Phlaid eu ffordd, mae'n siŵr y byddant am gael mwy o arian i ddilyn y cynnydd mewn pwerau. A sut fydd yr 82 y cant o aelwydydd y DU, h.y. talwyr ffi'r drwydded yn Lloegr, yn teimlo am ffi'r drwydded yn codi i ariannu darlledu yng Nghymru? Os yw darlledu wedi'i ddatganoli, beth sy'n digwydd i S4C y tu allan i Gymru?
Yn ôl darlledwyr yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf, daw mwy na dwy ran o dair o wylwyr y sianel o'r tu allan i'n cenedl, ac mae hynny'n cael ei yrru'n rhannol oherwydd y berthynas rhwng S4C a'r BBC, a gyda'r defnydd o dechnoleg fodern fel BBC iPlayer, mae ar gael ym mhob rhan o'r DU, fel y mae BBC Alba yn yr Alban. Beth fydd yn digwydd i'r berthynas honno os caiff darlledu ei ddatganoli i un o bedair gwlad y DU? Ni fyddwn yn gallu gorchymyn i'r tri arall.
Mae pryderon eraill hefyd o ran ariannu. Beth sy'n digwydd pan fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu bod ganddi flaenoriaethau ariannu eraill? Dywedwch fod angen mwy o arian arnyn nhw i drwsio'r llanastr y maen nhw wedi'i wneud o'r GIG, pan fyddan nhw'n sylweddoli hynny o'r diwedd, a fydd S4C neu'r cydweithrediad darlledu yng Nghymru hyd yn oed yn cael eu hystyried yn eu cyllidebau? Rydw i’n ei amau hynny o ddifrif. Nid oes rheswm rhesymegol dros ddatganoli darlledu ar wahân i gryfhau'r orymdaith araf tuag at annibyniaeth. Nid yw'r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi'r DU yn chwalu, ac rwy'n siŵr nad ydyn nhw'n cefnogi chwalu tirwedd cyfryngau'r DU. Mae darlledu a chynhyrchu cyfryngau ledled y DU yn wynebu heriau digon mawr, ac mae newidiadau mewn demograffeg a thechnoleg yn rhwygo'r hen ffyrdd o weithio, felly byddem yn ffôl i geisio mynd ar ein pennau ein hunain yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ie. Yn sicr.
Onid ydych chi'n credu mai Llywodraeth y DU yw'r bygythiad mwyaf i'r cyfryngau ar hyn o bryd? Os edrychwch chi ar yr hyn y mae'n ei wneud i'r BBC, onid ydych chi'n cyfaddef bod perygl i ddyfodol S4C? Oherwydd yr hyn yr ydych chi wedi ei amlinellu, mae'r berthynas rhwng S4C a'r BBC yn hollbwysig, ac eto mae Llywodraeth y DU yn rhoi hynny dan fygythiad, a dyna pam y mae angen datganoli darlledu arnom, er mwyn i ni allu diogelu dyfodol y cyfryngau yma yng Nghymru.
Nac ydw, dim o gwbl, ac rwy'n credu bod technoleg fodern a hygyrchedd S4C, nid yn unig yng Nghymru a ledled y DU, yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo mewn gwirionedd, a'r ffaith ein bod yn gallu hyrwyddo ein hiaith Gymraeg ar raddfa ehangach nag y byddem ni wedi gallu ei wneud 20, 30 mlynedd yn ôl mewn gwirionedd. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n anghywir i ddweud hynny, a dweud y gwir. Ac rwy'n credu bod angen i ni gydweithio â rhannau eraill o'r DU, nid gweithio ar wahân yn unig, ond gweithio gyda'n gilydd, a pheidio â gosod cenhedloedd yn erbyn ei gilydd i gystadlu yn erbyn ei gilydd, sef yr hyn a fydd yn digwydd pe baem ni'n mynd ar drywydd yr ideoleg hon o ddatganoli darlledu. Diolch.
Delyth Jewell fel Cadeirydd y pwyllgor.
Diolch, Llywydd. Mae darlledu yn bwnc sydd wedi bod ar flaen agenda y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Dŷn ni fel pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth gan lu o randdeiliaid sy'n awgrymu'n gryf fod angen newidiadau i helpu'r cyfryngau yng Nghymru, er bod amrywiaeth barn ynglŷn â sut i wneud hynny, ac fe wnaf i sôn ychydig yn fwy am hynny yn y man. Ond yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged i'r gwaith pwysig a wnaed yn y maes hwn gan y pwyllgor blaenorol, pwyllgor diwylliant a chyfathrebu y pumed Senedd, achos y gwaith rŷn ni'n ei drafod heddiw, yn sicr ynglŷn â sefydlu panel arbenigol i archwilio creu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gosodwyd sylfeini'r gwaith hwnnw gan y pwyllgor blaenorol.
Fyddai'r ddadl hon ddim yn digwydd heddiw oni bai am y gwaith a wnaed gan y pwyllgor hwnnw yn y pumed Senedd. Gwnaethon nhw hel tystiolaeth am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ac fe wnaethon nhw symud y ddadl ymlaen, ac ysgogi Ysgol Newyddiaduriaeth Caerdydd i gomisiynu ymchwil i lenwi'r bylchau lle doedd tystiolaeth ddim yn bodoli. Gwnaeth yr ymchwil hwnnw ddangos bod diffyg sylw yn y wasg Brydeinig i feysydd wedi'u datganoli, ac fel canlyniad roedd diffyg democrataidd. Doedd pobl Cymru ddim wastad yn deall polisïau Cymreig ac amlygwyd y broblem yma gan COVID. Achoswyd cymhlethdodau di-ri yn gynnar yn y pandemig gan ystyfnigrwydd rhai sylwebwyr wrth iddynt sôn am 'the Health Secretary', yn lle cydnabod bod Gweinidogion iechyd gwahanol i bob cenedl. Ac arweiniodd y cymhlethdod hwn at broblemau oedd ddim dim ond yn gyfansoddiadol, fel roedd y pwyllgor blaenorol wedi clywed, ond a oedd yn faterion iechyd cyhoeddus. Roedd yn rhaid i sylwebwyr Prydeinig fod yn glir wedyn, am y tro cyntaf erioed, fod iechyd yn faes datganoledig a bod angen cydnabod hynny. Mae camhysbysrwydd, misinformation, yn peryglu mwy na democratiaeth; mae'n gallu peryglu bywydau pobl hefyd.
Ac i droi at ein pwyllgor ni, pwyllgor diwylliant, cyfathrebu et al y chweched Senedd, bydd yna amrywiaeth barn ymysg aelodau'r pwyllgor yn amlwg. Ym mis Tachwedd llynedd, pan gyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gwnaethon ni fel pwyllgor adrodd ar sut byddai'r argymhellion yn effeithio ar Gymru. Cymeradwyon ni argymhellion Ofcom ynglŷn â'r angen am ddeddfwriaeth a fyddai'n cryfhau PSBs sy'n wynebu mwy a mwy o gystadleuaeth o wasanaethau ffrydio byd-eang, fel Netflix. Argymhellon ni fod angen llais cryfach ar Gymru pan ddaw i benderfyniadau. Fe wnaethon ni ddadlau y dylai DCMS a'r panel ymgynghorol darlledu gwasanaeth cyhoeddus gynnwys cynrychiolwyr o Gymru yn eu trafodaethau am y sialensiau sy'n wynebu PSBs yn yr oes ddigidol. Wnaethon ni ddadlau bod angen meddwl yn arbennig am amddiffyn rhaglennu yn yr iaith Gymraeg, a chynnwys sy'n adlewyrchu Cymru yn y ddwy iaith.
Mae'n glir bod angen newid o ryw fath yn y ffordd mae penderfyniadau am ddarlledu yn cael eu gwneud. Eto, bydd yna amrywiaeth barn am hyn, ond mae'r tirlun darlledu yng Nghymru yn un cymhleth; mae sialensau a chyfleoedd penodol i ddarlledwyr, ac mae anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru yn unigryw. Mae hwn yn faes lle bydd ein pwyllgor yn ymddiddori yn sicr dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu talu teyrnged i waith y pwyllgor blaenorol. Bydd gwahaniaeth barn yn y Siambr am ddiben y ddadl hon, ond heb os, mae'r dylanwad y cafodd y pwyllgor hwnnw'n un sydd angen ei glodfori. Mae'n dangos pa mor bwysig ydy gwaith pwyllgor a pha mor ddylanwadol mae'n gallu bod ar gyfer dyfodol Cymru. Diolch.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi synnu braidd o weld yr eitem hon ar ein papur trefn ar gyfer y prynhawn yma a'r ddadl sydd wedi bod yn digwydd. Rwyf i yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth agor y ddadl, ond rwyf i bob amser yn teimlo bod dadleuon ar y materion hyn braidd yn anfoddhaus ac, yn y pen draw, yn siomedig. Oherwydd yr hyn sy'n tueddu i ddigwydd—a gwelsom hyn gan rai o'r siaradwyr Ceidwadol y prynhawn yma—yw bod pobl ar ddwy ochr y ddadl, naill ai'n gryf o blaid datganoli neu'n gryf yn erbyn datganoli, yn arddangos y meddylfryd gwan a gwamal sy'n arwain at bolisi annhebygol ac annigonol. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw deall beth yw'r problemau yr ydym ni eisiau eu datrys. Mae materion difrifol i fynd i'r afael â nhw yma, ac rwy'n credu, Gweinidog, y dylem ni wneud hynny yn y ffordd y mae tuedd i Lafur Cymru fynd i'r afael â'r materion hyn, sef rhoi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei dadansoddiad o rai o'r materion yr ydym yn eu hwynebu. Nid yw'r systemau presennol sydd gennym o reoliadau a'r strwythurau a'r fframweithiau sydd gennym yn addas i'r diben, ac nid ydyn nhw'n cyflawni'r hyn sydd ei angen arnom fel cenedl. Fel rhywun a gafodd ei fagu mewn cymuned Saesneg ei hiaith, nid oes lle i'n diwylliant, i'n mynegiant cenedlaethol yn nhirwedd y cyfryngau heddiw; nid oes lle iddo o gwbl. Ac am y rheswm hwnnw, rwyf i o'r farn bod rheoleiddio wedi methu. Mae'r pwyntiau y mae Aelodau Plaid Cymru wedi eu gwneud yn y ddadl hon yn gwbl gywir: bu methiant i ddarparu newyddion cywir ar wahanol allfeydd darlledu; bu methiant i gyflwyno'r newyddion am y lle hwn ac am lywodraethu ein gwlad. Mae hynny'n fethiant o ran rheoleiddio ac mae'n fethiant gan Ofcom. Nid oes gan Ofcom yr adnoddau yng Nghymru i ddarparu'r mathau o reoleiddio y mae eu hangen arnom, ac mae gwneud dim mwy nag esgusodion, fel y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud y prynhawn yma, yn gyfystyr â methu'r bobl y maen nhw'n ceisio eu cynrychioli. Nid yw'n ddigon da dweud, oherwydd bod gennym ni rywfaint o ragoriaeth ym maes gwneud rhaglenni, rhywfaint o ragoriaeth ym maes cynhyrchu, rhywfaint o ragoriaeth ym maes diwydiannau creadigol, nid oes angen rhagor o gefnogaeth arnom o gwbl felly, mae'r hyn sydd gennym yn ddigon a dylem fod yn falch ohono. Nid yw hynny'n ddigon da. Rwyf i eisiau mwy i fy ngwlad.
Mae angen atebolrwydd arnom am rai o'r materion hyn hefyd. Rwyf i wedi anghytuno, mae arnaf ofn, fel ag erioed, â bron pob un yn y Siambr ar rai o'r materion hyn. I mi, nid wyf i'n hoffi'r ffaith bod Gweinidogion yn gwneud penodiadau. Rwy'n cofio Gweinidog Ceidwadol yn mynegi'n glir iawn, iawn pan oeddwn i mewn Llywodraeth nad oedden nhw eisiau'r person gorau ar gyfer y swydd—[Torri ar draws.] Dim ond newydd ddod i mewn ydych chi, James, felly caewch eich ceg. Nid oedden nhw eisiau'r person gorau ar gyfer y swydd; roedden nhw eisiau'r ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer y swydd, ac ni ddylai hynny fod yn digwydd ym maes darlledu. Ac am y rheswm hwnnw, rwyf i'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol y dylai darlledu, fel pwnc, fod yn atebol i'r Senedd hon ac i seneddau eraill ac nid i Weinidogion ac nid i lywodraethau. Mae'n rhy bwysig i ganiatáu i lywodraethau unigol, pwy bynnag ydyn nhw, gymryd atebolrwydd am y materion hyn. Ond mae angen i ni gael llawer mwy o atebolrwydd a llawer mwy o weithredu i fynd i'r afael â'r wybodaeth gam a'r wybodaeth anghywir sy'n bodoli heddiw.
Ond mae angen i ni edrych i'r dyfodol hefyd. Nid yw fy mab 11 oed yn gwylio'r BBC, nid yw'n gwylio S4C, nid yw'n gwylio dim ohono; mae'n gwylio YouTube, mae'n gwylio Netflix. Dywedwch chi wrthyf i sut y bydd rheoleiddiwr economaidd yng Nghymru yn rheoleiddio Netflix. Gadewch i mi ddweud wrthych chi: nid yw'n mynd i ddigwydd. Ac os byddwch chi'n ennill y gorau ar Gymru yn y ffordd honno, bydd llai o reoleiddio ac nid mwy o reoleiddio; bydd llai o atebolrwydd ac nid mwy o atebolrwydd. A gadewch i mi ddweud hyn, hefyd: bydd Radio 2 yn dal i ddarlledu os yw'r materion hyn wedi eu datganoli. Bydd Boris Johnson, neu rywun a fydd, mae'n siŵr, yn ei ddisodli yn ystod y misoedd nesaf, yn dal i wneud sylwadau anghywir am beth sy'n digwydd ble a phwy sy'n llywodraethu pa ran o bolisi. Ac eto, ni fydd unrhyw fath o reoleiddio a fydd yn gallu dweud wrth y person hwnnw, deiliad y swydd honno, fod angen iddo fod yn atebol am yr hyn y mae'n ei ddweud. Oherwydd os nad oes gennym ni reoleiddiwr a rennir yn y DU sy'n gallu gwneud y gwaith, ni fyddwn yn gallu dweud y pethau hynny ac ni fyddwn yn gallu cael y lefel honno o reoleiddio.
Rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi ymuno â ni ar gyfer y ddadl hon, oherwydd nid wyf i'n credu bod y ddadl wirioneddol y mae angen i ni ei chael yma yn ymwneud â pha un a ydym yn datganoli darlledu ai peidio, ond yn hytrach, beth yw diben y Deyrnas Unedig a beth yw'r sefydliadau a rennir a'r gwerthoedd cyffredin sydd gennym i'n galluogi ni i gyd i weld a theimlo'n rhan o'n cymunedau cenedlaethol, lle bynnag yr ydym yn digwydd bod yn y Deyrnas Unedig. Siawns, os yw'r Deyrnas Unedig am gael rôl yn y dyfodol, mae'n rhaid iddi sicrhau y gall fy mhlentyn 11 oed dyfu i fyny gan weld ei hunaniaeth Saesneg yn cael ei diogelu, ei bortreadu ar y sgrin, a'i deall fel rhan o'n cymuned genedlaethol, a bod ei hunaniaeth Gymraeg yn cael union yr un parch a lle cyfartal. Os gallwn wneud hynny, bydd y dadleuon sydd wedi dominyddu'r ddadl hon yn rhy hir yn diflannu. Bydd gennym ni sefydliadau a rennir a gwerthoedd cyffredin a gweledigaeth gyffredin o'r dyfodol y gallwn ni i gyd, gyda'n gilydd, eu cyflawni. Diolch.
Diolch am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau.
Bûm yn ddigon ffodus i weithio yn y diwydiant darlledu am ychydig ddegawdau cyn dod yma. Rwy'n datgan buddiant fel aelod o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr o hyd. Roeddwn i'n arfer cael fy nghyflogi gan y BBC yng Nghymru a nifer o gwmnïau darlledu annibynnol.
Cyfathrebu a darlledu yw sut rydym ni'n siarad â'n gilydd, am ein gilydd, yn dysgu am ein hanes, yn cyffroi gyda'n gilydd am ein dyfodol. Ond er mwyn hwyluso ac annog y math hwn o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus â phwyslais ar Gymru, mae rôl glir i lywodraethau a seneddau ddarparu'r llwyfannau hynny—o bellter, yn wir—ond i sicrhau bod y llwyfannau hynny'n bodoli. Y cwestiwn allweddol i mi yma yw: pwy ydym ni ei eisiau i gael rheolaeth yn y pen draw o ran tirwedd darlledu yng Nghymru? Ydym ni eisiau Llywodraeth y DU—a gallaf weld cyfeiriad y teithio yn y fan yno—neu ydym ni eisiau rhywbeth y gallwn gael rheolaeth drosto fel menter ar y cyd i'n cenedl? Mae datganoli darlledu a chyfathrebu yn hanfodol ar gyfer hynny.
Mae cyfeiriad y teithio o dan y Llywodraeth Geidwadol yn y DU ar hyn o bryd yn glir iawn, iawn. Ni allwn ei adael i rymoedd y farchnad yn unig. Dyna'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn mynd ar ei drywydd. Rwy'n credu bod preifateiddio Channel 4 bellach yn siarad cyfrolau am eu hagweddau tuag at y cyfryngau. Mae'r rhyddid y mae Channel 4 wedi ei gael wedi ei galluogi i ddatblygu rhaglennu gwirioneddol arloesol a newyddion annibynnol sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gynifer o bobl. Nid wyf i eisiau peryglu'r dyfodol y gallai darlledu yng Nghymru ei gael drwy ganiatáu i ni ddilyn y trywydd a osodwyd gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd i bwynt na ellir dychwelyd ohono.
Mae'n rhaid i ni wahaniaethu yn y fan yma rhwng y math o ddarlledu a chyfathrebu o Gymru yr ydym ni eisiau eu trafod a'r hyn y mae datganoli darlledu yn ei olygu, a'r diwydiant darlledu, teledu a ffilm y mae rhai Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr wedi dewis canolbwyntio arno. Oes, mae gennym ni sector cyfryngau gwych yng Nghymru, sy'n cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu sy'n cael eu mwynhau ledled y byd. Mae gennym ni gyfarwyddwyr, actorion a chyflwynwyr o'r radd flaenaf. Mae hynny'n rhywbeth y gallwn ei feithrin ar gyfer y dyfodol, ac mae'n rhywbeth y gall economi Cymru elwa arno am flynyddoedd lawer i ddod. Ond nid yw hynny yr un fath â sicrhau'r math o ddarlledu sy'n caniatáu i ni ddatblygu ein sgwrs genedlaethol.
Rydym yn siarad am S4C yn aml, ac mae'n bennawd rwy'n falch ei fod yno. Rwy'n falch bod S4C, ar ôl cymaint o flynyddoedd o doriadau, wedi cael cynnydd i'w chyllid. Ond gadewch i ni ganolbwyntio ar y radio. Beth fydd yn digwydd i Radio Cymru os byddwn yn colli ffi'r drwydded a bod y BBC yn dod yn fenter gwbl fasnachol sy'n gorfod talu amdani'i hun ym mhob elfen o'i gwaith? A fydd Radio Cymru yn talu amdano'i hun yn nhermau'r farchnad honno? O bosib, ond mae'n debyg ddim. Mae Radio Cymru, ers canol y 1970au, wedi bod yn gonglfaen i fywyd drwy'r Gymraeg. Mae Radio Cymru 2, hyd yn oed â chynulleidfa lai, yr un mor bwysig i ddyfodol darlledu Cymraeg. Ac er fy mod i wedi cyffroi, fel y mae cymaint ohonoch chi wedi gwneud, yn gwrando ar Nic Parry a Malcolm Allen yn sylwebu ar y bêl-droed, mae Dylan Griffiths ac Iwan Roberts yn ei wneud i mi yn union yr un ffordd, ac mae'n debyg fy mod i wedi gwrando arnyn nhw ar y radio yn fwy nag yr wyf i wedi gwylio pêl-droed ar y teledu.
Ond nid teledu a radio Cymraeg yn unig yr ydym yn sôn amdanyn nhw. Mae yna raglennu arbenigol yn yr iaith Saesneg y mae angen i ni sicrhau ei fod ar gael am flynyddoedd i ddod. Rwy'n cofio'r frwydr am awr newyddion 6 o'r gloch i Gymru, brwydr y canfuom nad oedd gennym ni unrhyw ddylanwad gwirioneddol drosti. Mae angen y math hwnnw o reolaeth arnom dros raglennu Saesneg yng Nghymru fel y gallwn siarad â'n gilydd a siarad am ein dyfodol yn ein dwy iaith genedlaethol. A phan fydd Cymru'n annibynnol, rwy'n eithaf sicr y bydd pob math o sefydliadau a rennir, a pham na fyddwn yn rhannu'r math o reoleiddio sydd ei angen arnom ar draws yr ynysoedd hyn ym maes darlledu hefyd, ond gadewch i ni beidio â cholli'r cyfle hwn i roi'r materion anodd hyn ar y bwrdd er mwyn i ni allu trafod y ffordd orau ymlaen i ddiogelu cyfathrebu a darlledu o Gymru ar gyfer y dyfodol.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl. Dawn Bowden.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Byddaf yn ceisio ymateb i nifer o'r pwyntiau a wnaed, ond maddeuwch i mi os nad wyf yn ymdrin â phopeth, oherwydd cafodd llawer o bwyntiau da iawn eu gwneud, ac roedd pobl yn gwneud yr un pwyntiau ond mewn ffyrdd gwahanol.
A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Tom Giffard am dynnu sylw at sut y bydd y Blaid Lafur yn bwrw ymlaen â phethau a dweud wrthyf beth y mae'r Blaid Lafur yn mynd i'w wneud a'r hyn na fydd yn ei wneud? Mae'n ymddangos eich bod yn gwybod mwy na mi, felly mae gennych chi wybodaeth fewnol am hynny, Tom. Nid wyf i'n gwybod o ble y daeth hynny. Ond a gaf i fod yn gwbl glir? Rydym ni wedi sefydlu'r panel arbenigol hwn nid oherwydd ein bod ni eisoes wedi penderfynu; rydym ni wedi sôn am gyfeiriad y teithio, ond rydym ni eisiau i'r adroddiad hwn gan y panel arbenigol fod wedi ei seilio ar dystiolaeth, ac ni allai fod unrhyw beth yn gliriach na hynny. Yng nghylch gorchwyl y panel, rydym yn sôn am yr angen iddyn nhw fod yn dryloyw ac yn atebol, iddyn nhw siarad am y trefniadau llywodraethu ar gyfer darlledu a'r cyfryngau yng Nghymru, i edrych ar y goblygiadau cyllid a'r cynaliadwyedd parhaus. Roedd y cyllid a'r cynaliadwyedd parhaus yn rhywbeth y soniodd sawl Aelod amdano, yn enwedig ar feinciau'r Ceidwadwyr. Soniodd Gareth Davies amdano, yn ogystal â Samuel Kurtz.
Soniodd Heledd Fychan am ddiffygion yn y cyfryngau sy'n achosi bylchau mewn gwybodaeth. Mae hi'n llygad ei lle, wrth gwrs, mai dyna un o'r meysydd allweddol y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw. Gwnaeth sawl Aelod sylwadau ar sut y tynnodd pandemig COVID sylw at y diffyg gwybodaeth hwnnw a welsom, yn enwedig o ran darparu newyddion a gwybodaeth am iechyd y cyhoedd. Gwnaeth sawl Aelod y pwynt nad diffyg gwybodaeth yn unig oedd hynny, ond ei fod mewn gwirionedd, o bosibl, yn beryglus iawn pan oedd gennym ni bobl yn cael gwybodaeth nad oedd yn berthnasol i'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yma yng Nghymru. Gwnaeth Cefin Campbell bwynt tebyg iawn am hynny, unwaith eto am y neges iechyd y cyhoedd sy'n cael ei chyflwyno.
Roedd Jack Sargeant yn llygad ei le pan soniodd am Gymru fel cenedl angerddol a balch. Cyfeiriodd at bêl-droed—a phwy na fyddai'n falch ac yn angerddol am bêl-droed ar hyn o bryd—gan adeiladu ar lwyddiant timau'r dynion a'r menywod ar hyn o bryd, ac mae S4C yn ganolog i hynny ac rydym am gynnal hynny. Mae gennym ni femorandwm cyd-ddealltwriaeth gydag S4C, sy'n adeiladu ar yr angen i ni ddatblygu ein portread o fywyd Cymru, holl agweddau diwylliannol ein bywyd ac, wrth gwrs, chwaraeon Cymru. Ac i ateb eich her yn arbennig, Jack, o ran sicrhau bod pêl-droed ar gael i'w weld am ddim wrth symud ymlaen, yn enwedig y tîm cenedlaethol, rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth yr ydych chi a minnau ar yr un dudalen yn ei gylch, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu'n fawr y bydd angen i'r panel arbenigol ei ystyried o ran pa reoleiddio a fyddai gennym yng Nghymru a fyddai'n caniatáu i ddigwyddiadau chwaraeon mor bwysig fod ar gael am ddim ac ar gael i unrhyw un eu gwylio.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf yn wir.
Ar hyn o bryd mae gemau pêl-droed Cymru ar gael i sianeli Cymraeg sy'n darlledu am ddim yn unig, fel S4C, ac yn yr iaith Saesneg maen nhw ar Sky Sports, sy'n amlwg ar sail talu wrth wylio. Felly, ydych chi'n gwybod faint fyddai'r gost, felly, o ddod â phêl-droed Cymru drwy'r Saesneg i'r sector cyhoeddus, y sector teledu?
Nac ydw, nid wyf i'n gwybod faint fyddai cost hynny, Gareth, ond byddai'n rhaid edrych ar yr holl oblygiadau ariannol i unrhyw un o'r cynigion hyn wrth i ni symud ymlaen, a byddai'n rhan o'r achos y byddwn yn ei ddatblygu naill ai i fynd ar drywydd datganoli darlledu ai peidio. Oherwydd rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn ynglŷn â hyn—mae'r panel arbenigol yn cael ei sefydlu i gyflwyno achos dros ddatganoli darlledu os yw'r dystiolaeth yn ei gefnogi. Felly, mae angen i ni fod yn glir iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud.
Ond roedd Sam Kurtz yn iawn i dynnu sylw—ac rwy'n credu y gwnaeth Rhun ap Iorwerth hefyd—at lwyddiant ein diwydiant sgrin a ffilm. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio hefyd fod hynny wedi cael cefnogaeth fawr. Roeddech chi'n siarad, Sam, fel petai hyn yn rhywbeth a oedd yn digwydd yn y sector preifat yn unig, gan gyflwyno'r holl gynyrchiadau gwych hyn, ac, ie, wrth gwrs, dyna sy'n digwydd, ond gadewch i ni beidio ag anghofio bod cynyrchiadau mawr fel The Pembrokeshire Murders a The Pact a llawer o gynyrchiadau eraill ar S4C—o leiaf wyth cynhyrchiad ar S4C—wedi eu cefnogi'n fawr gan Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru. Ac ni fyddai hynny'n dod i ben mewn fframwaith rheoleiddio newydd.
Soniodd Carolyn Thomas am y pryderon ynghylch gwerthu S4C a'r bygythiad y byddai dileu ffi trwydded y BBC yn ei achosi ar draws ein darlledu yn y sector cyhoeddus. Rwy'n credu bod Rhun ap Iorwerth wedi gwneud pwynt tebyg iawn. Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Nadine Dorries, Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ar y pwynt hwnnw, ond er mawr syndod, nid wyf wedi cael ateb ganddi ar hyn o bryd.
Cyfeiriodd Delyth Jewell, fel y gwnaeth Cefin Campbell, at waith y—[Torri ar draws.]
Ydych chi'n derbyn ymyriad?
Mae'n ddrwg gen i, esgusodwch fi. Mae'n ddrwg gen i, Tom. Ydw.
Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i eisiau ei gwneud yn glir, yn fy nghyfraniad roedd Alun Davies fel pe bai'n awgrymu y byddai datganoli darlledu yn gyfrwng i wrthdroi preifateiddio Channel 4 a chadw Channel 4 mewn perchnogaeth gyhoeddus yng Nghymru. Roeddwn i eisiau eglurhad ai dyna yw eich safbwynt chi hefyd.
Yr hyn nad wyf i eisiau ei wneud, Tom—. Dyna fyddai fy nyhead i, gan nad wyf i'n credu mai preifateiddio Channel 4 na diddymu ffi'r drwydded i'r BBC yw'r ffordd gywir i ni fwrw ymlaen. Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir, nid wyf i am nodi yn y lle hwn yn awr beth fydd canfyddiadau'r panel arbenigol oherwydd ni fyddai hynny'n briodol. Dyna'r hyn y mae'r panel arbenigol yn cael ei sefydlu i'w wneud. Nawr, mae'n ddigon posibl y bydd gan Alun Davies ei farn ei hun a'i safbwynt ei hun am hynny. Mae ganddo hawl berffaith i'w cael. Nid yw erioed wedi malu ei eiriau wrth fynegi ei farn. [Chwerthin.]
Carolyn Thomas oedd hynny ac nid Alun Davies.
Ond i ddweud yn olaf, o ran y pwyntiau hynny, cyfeiriodd Delyth Jewell a Cefin Campbell hefyd at waith y pwyllgorau diwylliant blaenorol yn y maes hwn, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd gwaith y pwyllgor diwylliant blaenorol yn waith ac yn dystiolaeth y gall y panel arbenigol gyfeirio atyn nhw ac y gall eu defnyddio fel rhan o'u gwaith i fwrw ymlaen â hyn i gyd, hefyd.
Felly, i gloi, Llywydd, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw fy mod i'n meddwl, o'r hyn yr wyf wedi ei glywed y prynhawn yma a heno, nid yw'r Torïaid, yn fy marn i, mae'n ddrwg gen i, cyd-Aelodau, yn sylweddoli nac yn cydnabod bod Cymru'n genedl yn ei rhinwedd ei hun, a bod gennym ni ddiwylliant ac iaith unigryw, ethos dwyieithog, natur a hanes sy'n wahanol yn y DU, a bod gwahaniaethau yn nhirwedd y cyfryngau yng Nghymru, a dibyniaeth ar wasanaethau darlledu fel newyddion, a bod hynny'n ei gwneud hyd yn oed yn fwy hanfodol bod ein hanghenion yn cael eu deall fel y gall ein dinasyddion gael mynediad at wasanaethau a chynnwys cywir, diduedd sy'n berthnasol i Gymru yn eu dewis iaith.
Daw gwaith y panel ar adeg dyngedfennol. Mae newid arferion, defnydd cynnwys, pryderon ynghylch cyflenwad a chywirdeb darpariaeth y cyfryngau a thoriadau cyllid dim ond wedi cryfhau'r angen i ystyried y fframwaith rheoleiddio mewn amgylchedd sy'n gynyddol ddigidol a byd-eang. Ac mae llawer o'r newidiadau hyn wedi eu cyflymu gan y pandemig byd-eang. Felly, edrychaf ymlaen at gael barn y panel i gefnogi ein gwaith parhaus i helpu i gryfhau darlledu yng Nghymru a datblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith rheoleiddio effeithiol ac addas i'r diben i Gymru. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Mae'r cynnig yna i dderbyn gwelliant 1 wedi ei wrthwynebu, felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Fe gymerwn ni doriad byr nawr i baratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais hynny.