– Senedd Cymru am 3:31 pm ar 21 Medi 2022.
Eitem 7 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr. Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon ar dlodi tanwydd a rhaglen Cartrefi Clyd yn ddefnyddiol i bob Aelod, gan fod hyn yn rhywbeth y gwn fod ein holl etholwyr yn hynod bryderus yn ei gylch. Dechreuodd y pwyllgor yr ymchwiliad hwn yn y gwanwyn eleni, pan oedd prisiau ynni yn draean yr hyn ydynt heddiw. Ac mae Cymru’n arbennig o agored i’r cynnydd digynsail hwn. Mae rhywfaint o stoc dai Cymru ymhlith yr hynaf yn Ewrop. Mae cartrefi heb eu hinswleiddio'n ddigonol, yn y sector preifat yn bennaf, ac sydd naill ai'n eiddo i berchen-feddianwyr neu'n cael eu rhentu'n breifat, yn costio swm anghymesur i'w gwresogi ac yn dibynnu ar ffynonellau ynni sy'n allyrru carbon. Y DU sydd ar waelod y tabl yn Ewrop ar inswleiddio cartrefi. Mae tai yn y DU, ar gyfartaledd, yn colli 3 gradd Celsius o wres dan do ar ôl pum awr, deirgwaith yn gyflymach nag yn yr Almaen. Ac mae gan hyd yn oed gwledydd de Ewrop fel yr Eidal a Sbaen, nad ydynt yn cael ein gaeafau oer a hirfaith ni, gartrefi sydd, ar gyfartaledd, wedi'u hinswleiddio ddwywaith cystal â chartrefi'r DU. Mae hyn yn wirioneddol syfrdanol.
Dros 20 mlynedd yn ôl, bwriad y Ddeddf cartrefi cynnes oedd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru a dileu tlodi tanwydd. Mae cyfuniad o lunio polisïau diffygiol, rheoliadau annigonol ac aflonyddwch ym marchnadoedd ynni’r byd yn golygu nid yn unig ein bod ymhell o gyflawni’r nod hwnnw, ond bod y sefyllfa bellach yn enbyd. O ganlyniad i godi'r cap ar brisiau ynni ym mis Ebrill, mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif bod dros 600,000 o aelwydydd, neu 45 y cant o’r holl aelwydydd, yn byw neu y byddant yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru cyn gynted ag y bydd y gaeaf yn dechrau. Yn ôl pob tebyg—mae'r sefyllfa wedi gwaethygu ers hynny—dyna, bellach, yw tynged y rhan fwyaf o aelwydydd Cymru. Y rhai mwyaf agored i niwed yw'r rhai sy'n wynebu'r dewis enbyd rhwng bwyta neu wresogi. Fel y nodir yn yr adroddiad hwn, mae angen gweithredu ar frys gan y Llywodraeth ar raddfa ddigynsail.
Hoffwn ddiolch i’r holl bobl a fu’n rhan o'r gwaith o lunio adroddiad yr ymchwiliad, yr holl randdeiliaid a’r arbenigwyr polisi a roddodd dystiolaeth ffurfiol, yr aelodau o’r cyhoedd a siaradodd â ni am eu profiadau personol o’r materion yr ydym yn ymdrin â hwy yn yr adroddiad, clercod y pwyllgor a’r staff ymchwil a gefnogodd ein hymchwiliad, yn ogystal â’r archwilydd cyffredinol a’i dîm yn Archwilio Cymru am eu harchwiliad manwl o raglen Cartrefi Clyd, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd y llynedd.
Roedd nwy yn arfer cael ei ystyried yn ffordd effeithiol a chymharol rad o wresogi ein cartrefi. Roedd hynny tan i nwy ddechrau cael ei ddefnyddio i bweru gorsafoedd pŵer yn lle glo, ac mae hyn, ynghyd â sgil-effeithiau'r rhyfel yn Wcráin, wedi cynyddu prisiau’r farchnad yn sylweddol. Mae'r cythrwfl wedi creu argyfwng digynsail i aelwydydd y gaeaf hwn. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) yn dweud y bydd y codiadau hyn yn taro'r cartrefi tlotaf yng Nghymru yn galetach nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU. Ac mae rhai aelwydydd yn gwario dros chwarter—26 y cant—o'u hincwm ar ynni a bwyd, sydd ill dau wedi cael eu heffeithio gan chwyddiant enfawr. I'r bobl hyn, fel y mae NIESR yn proffwydo, ni fydd twf cyflogau na budd-daliadau lles yn gwneud iawn am y cynnydd cyflym hwn mewn chwyddiant.
Rydym yn falch fel pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein tri argymhelliad cyntaf, sy’n ymwneud â’r camau y mae angen eu cymryd ar unwaith i adolygu effeithiolrwydd cynllun cymorth tanwydd y gaeaf, er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl yn sgil y toriad TAW ar gyfer deunyddiau arbed ynni ac inswleiddio. A yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa yn awr i rannu canlyniad ei hadolygiad o gynllun cymorth tanwydd y gaeaf? Mae angen i bob un ohonom wybod pa awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill sydd â’r strategaeth fwyaf effeithiol ar gyfer cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar y cynllun wrth inni wynebu problemau mwy enbyd byth y gaeaf hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £4 miliwn ychwanegol yn y Sefydliad Banc Tanwydd, sy’n rhoi taliadau ychwanegol i bobl â mesuryddion talu ymlaen llaw, a chronfa wres ar gyfer prynu olew gwresogi ymlaen llaw ar gyfer aelwydydd incwm isel nad ydynt ar y grid nwy. Mae hynny i’w groesawu’n fawr, a byddai’n dda gwybod a yw’r Llywodraeth yn credu bod hynny’n mynd i fod yn ddigonol i ddiwallu'r galw y gaeaf hwn.
Mae nifer fawr o sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eisoes wedi cynnig sefydlu hybiau cynnes y gaeaf hwn fel nad yw pobl yn crynu yn eu cartrefi. Pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhagweld, mewn partneriaeth â’r panel cynghori ar dlodi tanwydd ac eraill, i sicrhau y bydd y mentrau rhagorol hyn yn rheoli'r adnoddau uniongyrchol sydd eu hangen yn y cymunedau tlotaf un i atal pobl rhag rhewi i farwolaeth yn llythrennol?
Er bod rhaglen Cartrefi Clyd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i oddeutu 67,000 o aelwydydd a gafodd gymorth drwyddi, roedd ei diffygion yn amrywio o faint a graddfa’r rhaglen i feini prawf cymhwysedd cyfyngol a chap grant a oedd wedi’i gynllunio’n wael, ac a oedd yn rhwystro dulliau tŷ cyfan mwy cyfannol. Daeth Nyth ac Arbed, yn eu hanfod, yn gynlluniau amnewid boeleri nwy, gan flaenoriaethu systemau gwresogi sy'n allyrru carbon dros ymyriadau eraill. Disgrifiwyd y pwyslais a roddir ar osod boeleri newydd heb waith cyflenwol i insiwleiddio cartrefi gan un o’n rhanddeiliaid fel
'prynu tebot llawn craciau.'
Mae’r ffigurau ar gyfer 2020-21 yn dangos bod bron bob un o’r mesurau a roddwyd ar waith gan Nyth y flwyddyn honno yn ymwneud â systemau gwres canolog yn hytrach na chynlluniau inswleiddio, sy’n golygu eu bod yn parhau i osod systemau a oedd yn allyrru carbon. Mae ein hadroddiad, ochr yn ochr ag adroddiad yr archwilydd cyffredinol, yn nodi mewn du a gwyn y gwersi sy'n rhaid eu dysgu o ddiffygion rhaglen bresennol Cartrefi Clyd. Mae argymhelliad 6 yn ein hadroddiad, yn benodol, yn crynhoi’r angen i’r rhaglen nesaf fod yn fwy o ran maint, yn ddoethach o ran pwy y mae’n ei dargedu ac yn wyrddach yn ei hymyriadau.
Gan fod y Senedd bellach wedi ailddechrau ei busnes arferol ar gyfer tymor yr hydref eleni, edrychwn ymlaen at lansiad rhaglen nesaf Cartrefi Clyd. A wnaiff y Gweinidog nodi, naill ai yn awr neu’n ysgrifenedig i’r pwyllgor, y ffyrdd yr aethpwyd i’r afael ai peidio â’n pwyntiau penodol ynglŷn â’r rhaglenni olynol? Yn benodol, rydych yn dweud
'bydd y fersiwn nesaf yn ymateb i amodau'r farchnad a'r gadwyn gyflenwi, gan gydbwyso'r galw â'r capasiti sydd ar gael.'
Geiriau doeth, o ystyried lefel y tarfu yng Nghymru a’r byd. Yn y tymor hir, mae trechu tlodi tanwydd a diogelu ein ffynonellau ynni yn dibynnu ar ddatgarboneiddio pob cartref yn effeithiol, ac mae hynny’n cynnwys gwell effeithlonrwydd ynni.
Mae Cymru wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd o ran cynhyrchu dros hanner yr ynni y mae’n ei ddefnyddio ar hyn o bryd o adnoddau adnewyddadwy. Yr her i Lywodraeth Cymru yw sut y gall hynny drosi’n drawsnewidiad teg, cyfiawn a gwyrdd yng nghyd-destun y ffordd y mae marchnad ynni’r DU wedi’i rigio ar hyn o bryd i gost ddrudfawr nwy. Mae newid i ynni adnewyddadwy yn allweddol, ac mae'n fater brys.
Rydych wedi derbyn deunawfed argymhelliad y pwyllgor ar strategaeth glir, hirdymor ar gyfer datgarboneiddio gyda’r nod o roi’r hyder sydd ei angen ar ddiwydiant i fuddsoddi mewn sgiliau, technoleg a phobl. Gwyddom fod angen y cynllun sgiliau sero net yn awr, felly gobeithio na fydd y dyddiad cyhoeddi a ragwelir ym mis Rhagfyr yn llithro.
Bydd angen i'r newid i sero net edrych ar y stoc dai o bob oed a math o ddeiliadaeth yng Nghymru. Mae’r nifer fwyaf o aelwydydd tlawd o ran tanwydd yn y sector rhentu preifat ac mewn ardaloedd gwledig, ac mae angen camau penodol i fynd i’r afael â’r rhain. Mae'r heriau i denantiaid yn y sector rhentu preifat yn arbennig o ddifrifol. Ychydig iawn o denantiaid sy’n rhentu’n breifat a elwodd o’r rhaglen bresennol, a chanfu ymchwil a amlygwyd yn ein hadroddiad nad oedd fawr ddim cydberthynas rhwng effeithlonrwydd ynni eiddo a chyfraddau rhent y farchnad. Felly mae angen i Lywodraethau Cymru a’r DU fynd i’r afael â hyn drwy gyfuniad o gymhellion i landlordiaid, safonau mwy trwyadl ac ymgysylltu cyffredinol.
Felly, yn benodol mewn perthynas ag argymhelliad 22, a wnaiff y Gweinidog nodi a yw’n bwriadu annog Llywodraeth y DU i weithredu ar gynigion i gynyddu’r safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol i dystysgrif perfformiad ynni C ar gyfer pob eiddo rhent erbyn 2028? Ac os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i weithredu, a wnaiff Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen â gweithredu’r safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni uwch hyn yng Nghymru yn unig? Edrychaf ymlaen at sylwadau’r Aelodau ac ymateb y Gweinidog.
Rwy'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ar adroddiad ein pwyllgor ar dlodi tanwydd a rhaglen Cartrefi Clyd. Hoffwn ddiolch i’n Cadeirydd, Jenny Rathbone, am ein llywio drwy nifer sylweddol o faterion pwysig, sydd, yn y cyfnod hwn o her economaidd, wedi dod yn bwysicach byth i deuluoedd ledled Cymru. Mae tlodi tanwydd, y risg i iechyd a llesiant teuluoedd wrth inni wynebu misoedd oeraf y flwyddyn, gyda phrisiau eisoes yn llawer uwch nag ychydig fisoedd yn ôl, yn fygythiad y mae angen i’r Senedd hon a Llywodraeth Cymru ymateb iddo. Yn wir, rydym mewn lle gwahanol i’r adeg pan ddechreuodd y pwyllgor ar y gwaith hwn, gyda theuluoedd yn wynebu costau tanwydd, cynnydd ym mhrisiau’r archfarchnad, y perygl o ddirwasgiad ac effaith tlodi tanwydd, a fydd, eleni, yn taro mwy o aelwydydd nag a welwyd o'r blaen.
Hoffwn ganolbwyntio ar ymateb y Gweinidog i argymhellion y pwyllgor. Mae ein hadroddiad yn glir o ran y casgliadau y daethom iddynt, yn seiliedig ar y cyfoeth o dystiolaeth a ystyriwyd gennym, ac mae ymdeimlad o bwrpas yn yr hyn a argymhellwyd gennym. A chan ein bod wedi cyhoeddi ein hadroddiad ym mis Mai, bedwar mis yn ôl, rwy'n gobeithio bod y Gweinidog wedi gwneud cynnydd sylweddol bellach ar fwrw ymlaen â’r camau gweithredu a argymhellwyd gennym, gyda'r newidiadau yn y tywydd ar y gorwel.
Hoffwn sicrwydd y caiff ein hargymhellion eu cyflawni, ac yn arbennig yn y meysydd canlynol: yn gyntaf, gwnaethom alw am adolygiad o’r cymorth a gynigir i aelwydydd incwm isel drwy gynllun cymorth tanwydd y gaeaf cyn hydref 2022, gan asesu’r cyfraddau sy'n manteisio fesul ardal awdurdod lleol, asesu effeithiolrwydd y gwaith hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth, ac ystyried a oes angen rhagor o waith allgymorth i fynd ati'n rhagweithiol i gefnogi grwpiau sy’n anos eu cyrraedd ac sy’n agored i niwed. Dywedodd ymateb y Gweinidog fod adolygiad yn cael ei gynnal. A yw hwn wedi'i gwblhau bellach, ac os nad yw, pryd? A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd fod yr adolygiad mor gynhwysfawr ag y mae’r pwyllgor wedi galw amdano, i ddeall yn llawn effeithiolrwydd cymorth i aelwydydd incwm isel ac i feddwl am anferthedd yr heriau y mae llawer mwy o aelwydydd yn eu hwynebu bellach?
Yn ail, rwy'n pryderu nad yw’r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn rhai o’n hargymhellion yn cael ei adlewyrchu yn y naratif cysylltiedig. Er enghraifft, yn ein pumed argymhelliad, lle'r ydym yn galw am feini prawf cymhwysedd craffach, llai cyfyngol sy’n sicrhau, fan lleiaf, fod unrhyw aelwyd sy’n bodloni’r diffiniad o dlodi tanwydd yn gallu cael cymorth pan fo angen yn y fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd, dywed Llywodraeth Cymru y bydd
'yn ystyried argymhelliad y Pwyllgor wrth gynllunio manylion y meini prawf cymhwysedd i sicrhau yr eir i'r afael â'r pwyntiau a godwyd.'
Nid yw fy nehongliad o hyn yn ymrwymo’r Llywodraeth i wneud yn union fel yr argymhellodd y pwyllgor, er eu bod wedi derbyn yr argymhelliad. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y prynhawn yma y bydd y rhaglen newydd yn graffach ac yn llai cyfyngol?
Mae’r rhain yn ystyriaethau allweddol, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n awyddus i wybod bod gwersi’n cael eu dysgu, a hoffwn annog y Llywodraeth i gyhoeddi'r rheini cyn gynted â phosibl. Crybwyllwyd yr her ynghylch rhaglen sy’n graffach o ran pwy y mae’n ei dargedu gan Archwilio Cymru yn eu hadroddiad, a soniai y dylai’r Llywodraeth nodi sut y mae’n bwriadu sicrhau bod y fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd yn fwy o ran maint, yn graffach o ran pwy y mae'n eu targedu ac yn wyrddach yn ei hymyriadau. Rwy'n cytuno â’r archwilydd cyffredinol.
Ar argymhelliad 6, mae arnaf ofn unwaith eto nad yw'r naratif yn cyd-fynd â'r ffaith bod yr argymhelliad wedi'i dderbyn. Dywedir wrthym eto i aros i'r Gweinidog nodi cwmpas a diben y rhaglen newydd hon. A yw’r Gweinidog yn derbyn barn Archwilio Cymru y dylai’r rhaglen newydd fod yn fwy o ran maint, yn graffach ac yn wyrddach? Os felly, a fydd hynny’n cael ei nodi'n glir y prynhawn yma, i roi hyder i’r Aelodau fod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud, ynghyd â’r manylion y dylem ddisgwyl eu gweld yn awr?
Yn drydydd ac yn olaf, hoffwn sôn am faes arall yn ein hadroddiad sy’n hollbwysig.
Mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Er bod gennyf rai pryderon ynghylch cyflymder ymatebion gweinidogol, mewn cyfnod o her ddigynsail ac uniongyrchol, mae sawl maes yn ein hadroddiad sy’n ymwneud â’r tymor hwy. Mae un o’n hargymhellion, Rhif 11, yn gofyn am gynllun seiliedig ar ardal yn y dyfodol i ddatblygu strategaeth ymgysylltu â’r gymuned er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl o’r rhwydweithiau presennol—
Mae angen i’r Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
—a bod ymdeimlad cryfach o lawer o ymrwymiad ymhlith cymunedau lleol. Mae hyn yn bwysig. Gwlad fechan yw Cymru; mae gennym gapasiti sylweddol yn ein rhwydwaith o awdurdodau lleol, darparwyr tai, grwpiau cymunedol a thrydydd sector sydd wedi cyrraedd gallu i ymgysylltu’n uniongyrchol â chymunedau i helpu i sicrhau'r ymrwymiad hwnnw. Mae yna reswm pam fod hyn yn hollbwysig.
Hoffwn glywed gan y Gweinidog ynghylch hynny. Diolch.
Mae'r ymchwiliad a'r adroddiad yma i'r rhaglen Cartrefi Clyd a thlodi tanwydd efallai'n un o'r pwysicaf i fi fod yn rhan ohono fel aelod o bwyllgor yn y Senedd hyd yma, achos bob gaeaf mae cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd i fforddio gwresogi eu cartrefi, gan fyw mewn amodau llaith, oer sy'n beryglus i'w hiechyd. Dyna oedd y sefyllfa gaeaf y llynedd, a'r gaeaf cyn hynny, a'r gaeaf cyn hynny, cyn i'r rhyfel yn Wcráin ddechrau, cyn anterth yr argyfwng ynni presennol. Roedd yna sefyllfa argyfyngus yn barod yn bodoli a oedd yn gwneud y gwaith craffu a'r dadansoddi manwl hwn gan y pwyllgor, er mwyn sicrhau bod fersiwn nesaf y rhaglen yn elwa o ddysgu gwersi allweddol ac yn gwneud yr hyn mae angen iddi ei wneud, yn waith brys ac yn waith hollbwysig, yn hollbwysig o ran ein hangen fel cenedl i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'n hymdrechion hanfodol ni i dorri allyriadau carbon, ac o ran ein dyletswydd i ddileu lefelau cwbl annerbyniol o dlodi tanwydd, sydd bellach, fel ddwedodd y Cadeirydd, wedi cyrraedd 45 y cant, a siŵr o fod yn uwch.
Ac os nad oedd hynny'n ddigon o gymhelliad i'n sbarduno ni, dechreuon ni ymchwilio hefyd yn sgil methiannau dybryd a drudfawr y rhaglen Cartrefi Clyd a nodwyd gan adroddiad Archwilio Cymru. Roedd y diffygion a nodwyd yn rhaid sylfaenol a syfrdanol, o ystyried pwysigrwydd y rhaglen a maint y gwariant cyhoeddus arni, ac mae argymhelliad y pwyllgor y dylai fersiwn newydd y rhaglen gynnwys fframwaith fonitro, gwerthuso a rheoli cadarn yn gwbl greiddiol. Y peth canolog i nodi, efallai, yw bod y cyllid ar gyfer y rhaglen wedi bod yn gwbl annigonol. Roedd tystiolaeth comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn drawiadol o ran hynny, ac yn tanlinellu diffyg amlwg y rhaglen hyd yma o ran ei huchelgais a'i heffaith a'r angen brys am weithredu ar hyn.
Mae pris rhagor o oedi cyn buddsoddi a gweithredu ar fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn uwch o lawer nawr yn nhermau tlodi tanwydd, wrth gwrs, yn sgil yr argyfwng ynni presennol. Mae Plaid Cymru yn cefnogi argymhellion y pwyllgor ac yn falch o weld ymateb y Llywodraeth, sy'n derbyn pob argymhelliad. Ond mae nifer o'r ymatebion i'r argymhellion yn awgrymu y byddai diweddariad yn cael ei gynnig i'r Senedd ynglŷn â fersiwn nesaf y rhaglen erbyn dechrau y tymor newydd yma wedi'r toriad, ac yng ngolau'r argyfwng sy'n ein taro, sy'n bygwth iechyd ac yn wir bywydau teuluoedd, mae angen amserlen glir ac ymrwymiad polisi pendant ar frys ar gyfer rhaglen uchelgeisiol a chynhwysfawr i daclo'r argyfyngau costau byw a hinsawdd, sy'n cyflawni'r nod yn effeithiol, yn unol â chanfyddiadau'r adroddiad. Pryd gawn ni glywed hynny, Weinidog? Hoffwn gael llinell amser pendant yn eich ymateb i'r ddadl.
A tra ein bod ni'n aros am weithrediad y fersiwn newydd o'r rhaglen, mae Plaid Cymru yn cefnogi barn NEA Cymru y dylid gwneud newidiadau a buddsoddiadau newydd nawr oddi mewn i'r rhaglen Nest bresennol i'w gwneud yn fwy effeithiol ac er mwyn dyfnhau ei heffaith. Dylai'r Llywodraeth wneud y mwyaf o'r cynllun presennol drwy roi hwb ariannol i'r rhaglen a'i haddasu i gynnig mesurau ffabrig ac insiwleiddio ochr yn ochr â systemau gwresogi. Y dull ffabrig a gwaethaf yn gyntaf o ran ôl-osod, gan dargedu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran tanwydd, sydd angen bod wrth wraidd fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Bydd hyn yn lleihau'r galw am ynni ac yn cyflawni’r nod ddwbl yna o leihau tlodi tanwydd wrth leihau defnydd ynni ac felly allyriadau carbon.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Dorïaidd San Steffan i ddefnyddio treth ar elw grotesg o enfawr y cwmnïau olew a nwy i helpu ariannu rhaglen i wella stoc tai Cymru, sydd ymhlith y lleiaf ynni effeithiol yn y Deyrnas Gyfunol.
Un peth sy'n amlwg, mae angen gweithredu radical ar raddfa nas gwelwyd hyd yma. Dŷn ni'n hoffi defnyddio'r term yna, 'radical', efallai'n rhy aml. Mae'r rhaglen yma yn gofyn am wir ystyr y gair 'radical'. Mae'r adroddiad hwn yn cynnig llwybr sy'n glir o ddryswch a diffygion y rhaglen flaenorol. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn y map sydd wedi cael ei gynnig. Yr hyn sydd angen i ni yma a miloedd o drigolion Cymru ei glywed yw pryd fydd y cam nesaf ar y daith yn cael ei gymryd.
Pan oeddem ni i gyd yn dechrau allan ar yr ymchwiliad yma, doeddem ni ddim yn gwybod mai hwn fyddai'r pwnc mwyaf pwysig i ni i gyd, ac i ddweud y gwir, dwi'n teimlo tipyn bach yn drist fod yna ddim mwy o bobl yma yn y Siambr, achos hwn ydy'r peth mwyaf pwysig i ni i gyd ac i'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli hefyd. Hoffwn i ddechrau trwy ddiolch yn gyntaf i'r unigolion a'r cyrff hynny wnaeth gymryd rhan yn yr ymchwiliad yma, y Gweinidog a hefyd y Cadeirydd a'm cyd-Aelodau.
Mae'n bwysig bod yr adroddiad yn cael ei greu yn y cyd-destun rydym ni i gyd ynddo, hynny yw, beth rydyn ni'n ei wynebu rŵan a beth dwi'n ei ddweud: hwn ydy'r peth mwyaf pwysig. Dylem ni i gyd yn ein calon ac yn ein pen fod yn meddwl, 'Mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hyn ar gyfer y bobl rydyn ni i gyd yn eu cynrychioli.'
Mae 45 y cant o aelwydydd yng Nghymru yn debygol o fod mewn tlodi ynni eleni. Mae Banc Lloegr wedi rhagdybio y bydd chwyddiant yn cyrraedd rhyw 13 y cant erbyn diwedd y flwyddyn. Nid yw rhyw 70 y cant o'r bobl sy'n byw mewn tlodi ynni yn derbyn unrhyw fath o fudd-daliadau ac nid, felly, yw llawer o'r cymorth sydd ar gael yn berthnasol iddynt. A chyn y pandemig a chyn yr argyfwng costau byw yma, roedd traean o blant yng Nghymru yn wynebu tlodi.
Dwi eisiau canolbwyntio ar un o'r elfennau roeddem ni'n edrych arnynt, a dwi'n gwybod bod hyn wedi cael ei drafod y prynhawn yma, hynny yw, Cartrefi Clyd y Llywodraeth, ac Arbed a Nest.
Roedd adroddiad y pwyllgor ac adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi nifer o faterion a phryderon: rheolaeth wael ar gontractau a rhaglenni; problemau gyda chyrraedd cymunedau gwledig a rhentwyr preifat; diffyg eglurder ynghylch y meini prawf a'r amcanion; a'r cyflymder a'r raddfa sy'n angenrheidiol. Clywsom yn y dystiolaeth i’r pwyllgor, er bod y rhaglen wedi bod o gymorth i lawer o bobl ledled Cymru, na chafodd yr effaith ac nad oedd ganddi'r cyrhaeddiad a’r effeithiolrwydd sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth go iawn ar gyfer y bobl gywir, yn y ffordd gywir, o ran tlodi tanwydd a datgarboneiddio. Barnwyd nad oedd bron i hanner y bobl a gafodd gymorth drwy’r rhaglen y llynedd mewn tlodi tanwydd, ac roedd y ffigur hwnnw’n fwy na 60 y cant yn y flwyddyn flaenorol.
Gan gyffwrdd â’r rheini mewn cymunedau gwledig a gynrychiolir gennyf fi, a chan eraill yma, rwy'n gwybod, maent yn wynebu heriau penodol yn aml wrth ymdrin ag eiddo hen iawn sy’n anodd eu hôl-osod a’u hinswleiddio, ac ychydig iawn o allu sydd gan y rheini mewn llety rhent i fynd i’r afael â’r materion hyn, ac fel y gwyddom, mewn rhai amgylchiadau, gallant wynebu anawsterau a chael eu ceryddu wrth iddynt wneud hynny. Byddai’n ddefnyddiol clywed gan y Gweinidog felly pa gamau sy’n cael eu cymryd, neu’r opsiynau sy’n cael eu harchwilio, i sicrhau nad yw cymunedau gwledig a rhentwyr preifat yn cael eu gadael ar ôl yng ngham nesaf y rhaglen.
Yn ogystal ag edrych ar yr hyn sydd angen digwydd nesaf, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i ymchwiliad i fynd i’r afael â’r methiant ymddangosiadol i reoli arian cyhoeddus yn iawn. Mae’r materion sy’n ymwneud â throsglwyddo arian o un elfen o’r rhaglen i’r llall yn codi cwestiynau. Mae dadansoddiad cyflym o ddatganiadau blynyddol y rhaglen yn dangos bod nifer yr aelwydydd sy’n cael cymorth o dan y cynllun wedi gostwng o 5,500 i 4,500 yn 2020-21, ac ar gyfradd 2016-17, byddai’n cymryd 111 o flynyddoedd i insiwleiddio pob cartref, ac ar gyfradd 2021, 135 mlynedd. Felly, mae nifer enfawr o gwestiynau yma i'w hystyried mewn perthynas â maint a lefel y buddsoddiad, a hefyd sut y gall y rhaglen, wrth symud ymlaen, gyrraedd cymunedau gwledig a’n rhentwyr preifat.
Credaf ei bod yn bwysig canolbwyntio yn awr ar ddysgu’r gwersi hynny a symud ymlaen, ond erys y ffaith bod y targed statudol i drechu tlodi tanwydd erbyn 2018 wedi’i fethu, a hynny o gryn bellter. Mae £400 miliwn o bunnoedd wedi’i wario ar brosiect sydd wedi methu cyflawni ei amcanion, ac fel y dywedais ar y dechrau, rydym yn wynebu argyfwng ynni a allai fod wedi gwarchod pobl Cymru yn rhannol pe bai rhaglen Cartrefi Clyd wedi gwneud ei gwaith. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch hefyd i’m cyd-Aelodau, y Cadeirydd a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu gwaith ar yr adroddiad hollbwysig ac amserol hwn, ‘Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd’, yn ogystal â’r rheini a roddodd dystiolaeth ac a siaradodd gerbron y pwyllgor. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb naill ai drwy dderbyn argymhellion yr adroddiad, neu eu derbyn mewn egwyddor. Gwyddom fod yr argyfwng costau byw'n effeithio ar gynifer o bobl ar draws ein cymunedau. Mae’r adroddiad hwn wedi bod yn hollbwysig o ran nodi’r bylchau yn y cymorth, a deall sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i sicrhau na chaiff unrhyw gartref ei adael ar ôl. Ac wrth inni ddechrau’r tymor hwn, edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd ar waith, a byddwn yn croesawu cynlluniau i wneud y meini prawf cymhwysedd, yn enwedig ar gyfer cymorth, yn llai cyfyngol, fel y nodir yn argymhelliad 5.
Mae llawer o bobl yn ein cymunedau angen y cymorth hwn yn ddybryd, ond nid ydynt wedi gallu cael mynediad ato. Er enghraifft, mae Marie Curie yn tynnu sylw at y ffaith bod argymhelliad 5 yn gyfle i gefnogi pobl â salwch angheuol, pobl â chanser, neu gyflyrau niwrolegol, ac sydd bellach yn wynebu tlodi tanwydd oherwydd yr argyfwng parhaus. Mae pobl sy’n marw yng Nghymru, yn ogystal â’r rheini sy’n dioddef o salwch cronig, yn treulio llawer mwy o amser a llawer mwy o arian ar wresogi eu cartrefi’n ddigonol, ac fel y canfu Marie Curie, maent yn ofnus iawn ynghylch cost gwresogi eu cartrefi wrth symud ymlaen. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y bobl hyn yn ein cymunedau yn gymwys i gael y cymorth priodol ac yn cael eu cyfeirio'n effeithiol ato.
Rwyf hefyd yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3, i weithio gyda’r panel cynghori ar dlodi tanwydd i nodi camau neu fesurau uniongyrchol i fyrdymor i gefnogi teuluoedd sydd eisoes mewn tlodi tanwydd. Mae'n dorcalonnus fod rhai o'r fideos mwyaf poblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd yn awgrymu y dylai pobl ddiffodd yr holl reiddiaduron yn eich cartref a dibynnu ar flanced drydan i'ch helpu drwy'r misoedd nesaf. Mae’r pryder a’r straen ynglŷn â thalu costau tanwydd uwch ar gynnydd ar draws ein cymunedau, ac os oeddem yn credu bod unrhyw obaith y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn ac yn rhoi’r cyhoedd yn gyntaf, roeddem yn gwbl anghywir. Fel y dywedodd Martin Lewis o Money Saving Expert, bydd aelwydydd yn wynebu bil ynni nodweddiadol sy'n codi i hyd at £3,500 y flwyddyn o’r hydref hwn ymlaen, ac mae’r cymorth arfaethedig presennol gan Lywodraeth y DU yn druenus o annigonol.
Mae Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu polisi Plaid Lafur y DU o gael cap ar brisiau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod galwadau i godi treth ffawdelw ar y cwmnïau sy’n parhau i bocedu elw aruthrol o’r argyfwng. Amcangyfrifir y bydd yn costio £150 biliwn rhwng nawr a 2024, a fydd yn dod o fenthyca. Felly, bydd yn rhaid inni ei dalu’n ôl rywsut, na fydd ond yn gohirio'r broblem yn y bôn, a’r gost i’r cyhoedd.
Ond hefyd, £2,500 fydd y cap, gyda phawb yn derbyn £400 dros y chwe mis nesaf. Yn ôl fy nghyfrifiadau i, mae hynny’n dal i fod o leiaf £600 yn fyr o’r £3,500 a amcangyfrifwyd. O ble y mae Llywodraeth y DU yn disgwyl i hwn ddod? Dywed trigolion yn fy etholaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl wrthyf y bydd yn amhosibl iddynt ei dalu, gyda phrisiau bwyd, tanwydd ac ynni yn codi tra bo llawer o gyflogau'n aros yr un fath.
Yn ffodus, unwaith eto, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn na wnaiff Llywodraeth y DU, ac yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Gwelwn hynny mewn sawl argymhelliad ac ymateb gan Lywodraeth Cymru yn ei hymateb i’n hadroddiad—sy’n canolbwyntio ar gydweithio a phartneriaeth rhwng awdurdodau lleol, gan gynnwys sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar gynllun cymorth tanwydd Cymru, lle gall trigolion hawlio taliad untro o £200 drwy eu hawdurdod lleol i sicrhau y gallant dalu eu bil tanwydd, yn ogystal â thalebau tanwydd a chronfa wres i bobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw sy’n wynebu caledi.
Clywsom hefyd gan ein Prif Weinidog ddoe y bydd £1 filiwn ar gael i ganolfannau cymunedol, clybiau chwaraeon a grwpiau eraill i ddarparu banciau cynhesu i helpu tuag at eu costau tanwydd, wrth iddynt ddarparu mannau cynnes a chroesawgar i bobl barhau i ymgynnull. Dim ond drwy ddeall profiadau byw pobl o'r argyfwng hwn y gallwn sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei roi, a chredaf ein bod wedi gwneud ein gorau i gyfleu eu lleisiau yn ein hadroddiad. Ond mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau yn awr fod y bobl sydd angen cymorth yn gwybod ble a phryd y gallant gael mynediad ato, ac i sicrhau bod y cymorth mor hygyrch â phosibl i'r bobl sydd ei angen.
Canfu adroddiad y pwyllgor fod rhaglen Cartrefi Clyd gwerth £360 miliwn Llywodraeth Cymru yn ddiffygiol o ran ei graddfa, ei maint a'i diben. Mae hyn yn destun pryder difrifol, fel y mae canfyddiad yr adroddiad y disgwylir y bydd y newidiadau syfrdanol i’r farchnad ynni yn ystod y flwyddyn hon yn taro’r aelwydydd tlotaf yng Nghymru yn galetach nag unrhyw wlad neu ranbarth arall yn y DU, yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 21 o argymhellion yr adroddiad, mae'n destun pryder ei bod wedi derbyn y ddau arall mewn egwyddor yn unig. Fel y dywedais yn y Siambr hon yr hydref diwethaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, barn gyfunol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yw na ddylid defnyddio 'derbyn mewn egwyddor' mewn ymateb i adroddiadau pwyllgor eto, a rhaid derbyn neu wrthod argymhellion. Lle mae angen gwneud rhagor o waith i weithredu argymhelliad, neu os na ellir gweithredu o fewn terfyn amser penodol, dylid nodi hyn yn glir ym manylion yr ymateb.
Ar wahân i hynny, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni, rwyf hefyd yn ymwybodol o bryderon yng Nghynghrair Tlodi Tanwydd Cymru ynghylch ymatebion Llywodraeth Cymru i rai o’r argymhellion y mae wedi’u derbyn. Fel y dywedodd NEA Cymru yn ei gyflwyniad i ymgynghoriad y pwyllgor,
'nid yw’r cynlluniau presennol yn ddigonol i fynd i’r afael â graddau tlodi tanwydd yng Nghymru heb sôn am ddatgarboneiddio cartrefi. Mae nawr yn adeg hollbwysig i ystyried pa mor bell y mae’r rhaglen bresennol wedi mynd â ni, ac achub ar y cyfle wrth symud ymlaen i ddarparu cymorth gwarantedig i’r 'gwaethaf yn gyntaf'—hynny yw, y rhai ar yr incwm isaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon—gan wella bywydau aelwydydd tlawd o ran tanwydd wrth i ni ddatgarboneiddio ac uwchraddio effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.'
Roeddent yn dweud bod
'Effeithlonrwydd ynni gwael yn un o'r prif resymau dros dlodi tanwydd a bod mwy nag 80 y cant o’r aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn byw mewn cartrefi aneffeithlon; nifer uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU.'
Roeddent yn dweud bod
'Effaith ganlyniadol tai o ansawdd gwael ar wasanaethau iechyd yn ddifrifol ac yn costio tua £95 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mewn cyferbyniad, amcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod pob £1 sy’n cael ei gwario ar wella cynhesrwydd mewn aelwydydd agored i niwed yn arwain at £4 o fanteision iechyd, a gallai fod bron i 40 y cant yn llai o dderbyniadau i'r ysbyty yn achos rhai afiechydon sy’n gysylltiedig ag oerfel ymhlith pobl y mae eu cartrefi wedi’u huwchraddio. Mae'r arbediad blynyddol cyfartalog ar gyfer uwchraddio cartref i lefel resymol o effeithlonrwydd ynni dros £300 y flwyddyn, a dros £1,000 yn achos yr aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon.'
Daethant i'r casgliad fod yn rhaid cael cyllid digonol i fynd i'r afael â'r broblem. Dylid gwario’r cyllid hwn ar sail 'adeiledd yn gyntaf', gan weithio ar effeithlonrwydd ynni’r amgylchedd adeiledig i wneud cartrefi yn sero net cyn neu ar yr un pryd â gwneud newidiadau i’r system wresogi mewn cartref; mae’n rhaid codi ymwybyddiaeth a darparu cyngor digonol wrth gyflwyno’r rhaglen; rhaid sicrhau hefyd fod gan aelwydydd hyder y bydd y newidiadau a wneir i’w cartrefi o ansawdd da, wedi’u cefnogi gan fynediad at gamau unioni digonol. Yn olaf, er mwyn sicrhau hyder, rhaid cael tryloywder yng nghynlluniau’r Llywodraeth.
Fel y maent hwy a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru yn ei ddweud, mae’n hanfodol fod y fersiwn nesaf o’r rhaglen Cartrefi Clyd yn canolbwyntio ar godi aelwydydd allan o dlodi tanwydd, gan gefnogi’r rhai gwaethaf yn gyntaf—hynny yw, y rhai ar yr incwm isaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon—a’i fod yn cael ei gefnogi gan ddigon o gyllid hirdymor a deddfwriaeth i gyrraedd targedau a osodwyd yng nghynllun trechu tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru. Mewn perthynas â chyllid, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad y dylai nodi’r cyllid sydd ei angen i ymateb drwy adolygu digonolrwydd ei dyraniadau gwariant ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn tai, maent yn dweud nad yw’r ymateb ynglŷn â hyn yn ymrwymol, a bod angen y buddsoddiad a’r cyllid hwnnw i gyrraedd targedau tlodi tanwydd. Yn gyffredinol, maent yn datgan mai’r peth allweddol yw rhaglen Cartrefi Clyd i godi aelwydydd allan o dlodi tanwydd, gan godi’r gwaethaf yn gyntaf.
Ac fel y dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad fis Tachwedd diwethaf ar reolaeth Llywodraeth Cymru o raglen bresennol Cartrefi Clyd,
‘Wrth edrych ar unrhyw gynllun dilynol ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd, mae gan Lywodraeth Cymru sawl mater i'w ddatrys. Mae'r rhain yn cynnwys ailfeddwl am y mesurau effeithlonrwydd ynni a gynigir, bod yn gliriach am ddiben craidd y Rhaglen a thynhau contractau yn y dyfodol i alinio costau ac i gymell gwell gwerth am arian.’
Diolch i'r pwyllgor am ei waith. Dwi’n croesawu’r adroddiad ac mae o’n ategu llawer iawn o beth dwi wedi’i glywed. Yn wahanol i’r pwyllgor, fedraf i ddim siarad ar ran gweddill Cymru, ond mi fedraf i siarad ar ran fy etholaeth i, a’r rhwystredigaeth a gafwyd wrth geisio gweithredu rhai o’r cynlluniau, ac wrth gwrs y gwersi sydd i’w dysgu.
Dwi am ganolbwyntio ar rai o’r gwersi o un profiad yn Nwyfor Meirionnydd. Ystyriwch bentref Tanygrisiau ym mro Ffestiniog. Mae Tanygrisiau yn dioddef y lefel waethaf o dlodi tanwydd yn y Deyrnas Gyfunol, ac mae ymhlith y lefel isaf o incwm—ac maen nhw off gas. Roedd fy rhagflaenydd, Dafydd Elis-Thomas, wedi bod yn brwydro i gael datrysiad i broblemau gwres tai Tanygrisiau ers iddo gael ei ethol nôl ym 1974. Tua dwy flynedd yn ôl, daeth Arbed am Byth i Danygrisiau, ond yn ôl yr hyn dwi wedi’i glywed, ni ellir galw’r cynllun yn un llwyddiannus yno.
Rhoddwyd y cytundeb i gwmni o’r Alban. Roedd y cwmni yna i fod yn partneru efo sefydliad lleol, y Dref Werdd—sefydliad sydd yn adnabod ei bro, ac wedi bod yn brwydro i ddatrys tlodi tanwydd ym mro Ffestiniog. Ond, chafwyd ddim trafodaeth o gwbl rhwng y cwmni yma a’r Dref Werdd, er mai’r Dref Werdd oedd y partneriaid llawr gwlad. Rhaid, felly, dysgu’r wers o sicrhau bod yna fewnbwn lleol wrth ddatblygu’r gwaith.
Do, aeth y cytundeb ariannol i gwmni o’r Alban, ond gwirfoddolwyr y Dref Werdd oedd wedi gorfod mynd ati i farchnata a hysbysebu’r cynlluniau, o’u gwirfodd. Doedd ganddyn nhw ddim dealltwriaeth—y cwmni, hynny yw—o’r ardal, heb sôn am dopograffeg yr ardal. Roedden nhw wedi meddwl y medran nhw gyflwyno pibelli nwy ar gyfer rhai o’r tai er mwyn cyrraedd eu targedau, ond mae yna reswm pam nad oes yna bibelli nwy yn yr ardal hynny—a hynny oherwydd fod yna garreg ithfaen drwchus o dan y ddaear. Pe byddan nhw wedi trafod efo pobl ar lawr gwlad ymlaen llaw, yna mi fyddan nhw wedi gwybod am hynny, ac wedi addasu eu cynlluniau.
Yn y diwedd, cafwyd 41 panel PV. Mae hynny’n gam ymlaen, wrth gwrs. Ond rhoddwyd ddim yr un cyfarwyddyd ar sut i gael y gorau o’r paneli yma i’r trigolion lleol, ac mae’n gwbl annigonol i ddatrys y tlodi tanwydd sydd yn bodoli yn yr ardal. Efo Nyth, aethpwyd ati i ffeindio problemau mwyaf brawychus yn y tai, a’u datrys, ond ni wnaed y gwaith angenrheidiol eraill. Felly, er enghraifft, os oedd angen boeler newydd, yna rhoddwyd y boeler i mewn, ond nid aethpwyd ati i insiwleiddio'r tŷ hefyd, yn union fel ddaru Jenny Rathbone esbonio ar gychwyn y drafodaeth.
Un peth, os caf fod mor hy, mae'r adroddiad wedi ei fethu ydy'r ffaith fod yna raglenni cyffelyb hefyd yn cael eu gweithredu o du San Steffan, megis cynllun ECO. Mae yna achlysuron pan yw cynlluniau Llywodraeth Cymru a rhai Llywodraeth San Steffan yn cydredeg, yn mynd yn gyfochrog i'w gilydd, ac yn gwrthdaro. I'r person cyffredin ar lawr gwlad, dydy o'n gwneud dim synnwyr fod y rhaglenni yma'n cystadlu â'i gilydd, a dydyn nhw ddim yn deall pam nad oes posib i'r cynlluniau yma gydweithio. Felly, mi fuaswn i hefyd yn awgrymu fod unrhyw gynlluniau newydd gan y Llywodraeth yn edrych i weld beth arall sydd yn cael ei weithredu, ac os oes posib cydblethu'r gwaith er mwyn cael y mwyaf allan ohonyn nhw.
Mae argymhelliad 6 fod angen i'r rhaglen nesaf fod yn fwy uchelgeisiol, i bob pwrpas, hefyd yn un hollol gywir, a dylid ei dderbyn. Ac fel y dywedodd Sioned Williams, does dim yn agos i'r faint o bres sydd angen arnom ni wedi ei fuddsoddi hyd yma. Mae e'n awgrymu nad ydy'r Llywodraeth yn gwerthfawrogi'n llawn maint yr her o'u blaenau nhw. Mae'n stoc dai ni yng Ngwynedd ymhlith yr hynaf yn Ewrop, efo nifer o adeiladau cofrestredig, ac hefyd yn y parc cenedlaethol. Beth mae'r Llywodraeth am ei wneud i sicrhau fod yr adeiladau yma am fedru manteisio ar unrhyw gynllun newydd yn y dyfodol?
Gobeithio, efo hynny o eiriau, y bydd y gwersi yma yn cael eu dysgu wrth i'r Llywodraeth symud ymlaen i ddatblygu eu cynlluniau newydd.
Yn ystod fy nghyfnod fel cynghorydd sir, cefais brofiad uniongyrchol o bobl sy'n cael trafferth gyda thlodi tanwydd ac sy'n ceisio ymdopi â baich ychwanegol systemau gwresogi diffygiol yn enwedig oddi ar y grid. Gofynnwyd i mi ymweld â phreswylydd oedrannus a oedd yn cael problemau gyda'i gwres canolog olew. Roedd ei drysau a'i ffenestri yn llydan agored i ryddhau'r mygdarthau ofnadwy ac roedd y tŷ'n rhewi. Roedd y boeler olew yn gollwng ym mhantri'r hen wraig ac roedd yn ofnadwy. Roedd y ddynes nid yn unig yn gorfod dioddef y mygdarthau a'r oerfel, roedd ganddi broblemau symudedd ac roedd hi'n rhannol ddall hefyd. Buan y darganfûm fod gan eraill foeleri wedi'u gosod yn yr hen bantrïau.
Bûm yn ymweld â phreswylwyr cyfadeilad llety tai gwarchod hefyd, ac roedd ganddynt wresogyddion storio a oedd yn rhedeg allan o wres erbyn pedwar o'r gloch, ac yna roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio gwresogyddion trydan a oedd yn gostus iawn. Roeddent yn oer yn eu heiddo, ac ymgyrchais i gael nwy o'r prif gyflenwad i'w pentref. Yn y pen draw, llwyddodd y cyngor i weithio gyda chwmni cyfleustodau ac fe wnaethant helpu i'w ariannu ac fe wnaeth gymaint o wahaniaeth. Fe wnaethant osod gwres canolog nwy yn yr eiddo. Roedd rhai pobl yn amheus o gael nwy, ond roedd nifer yn falch o beidio â chael yr hen foeleri mawr y tu mewn i'r tai, ac roedd y cartrefi gymaint yn gynhesach gyda system wresogi ddibynadwy.
Mae trigolion wedi cysylltu â mi i ddweud bod ganddynt hen foeleri wedi torri, a dim gwres canolog, ac nad ydynt yn gallu fforddio rhai newydd, yn pendroni beth y gallant ei wneud, ac maent wedi cael eu rhoi mewn cysylltiad â'r arian grant gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi cael eu huwchraddio i foeleri nwy, gan nad ydynt yn mynd â llawer o le a chan eu bod wedi bod yn ddibynadwy drwy'r cynllun. Rwy'n adrodd y straeon hyn oherwydd nid yw pob eiddo, yn enwedig rhai hŷn, yn addas ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer, ac mae boeleri nwy newydd dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn hynod fuddiol i lawer, ac ni ddylid eu diystyru, yn enwedig i'r rhai hynny nad oes ganddynt ddewisiadau amgen pan fyddant wedi bod mewn sefyllfa enbyd. Mae'r cyllid hwn wedi bod yn achubiaeth i lawer o bobl.
Lle bo'n bosib ac ym mhob cartref newydd, dylid defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer, a solar wrth gwrs, ac rwyf wedi gweld y budd o osod y rhain. Ddeng mlynedd yn ôl, pan ymwelais â'r ddynes oedrannus hon, roedd yna ddatblygiad newydd o 43 o dai yn cael eu hadeiladu, ac roedd gan bob un bympiau gwres ffynhonnell aer. Unwaith eto, roedd pobl yn amheus ohonynt ond roeddent yn gweithio ac maent wedi bod yn dda iawn. Unwaith eto, roedd y diolch am hynny i gyllid Llywodraeth Cymru ar y pryd, a fu'n gymorth i allu fforddio adeiladu'r rheini.
Ond mae gennym broblemau gyda chysylltiad â'r grid, ac mae hynny'n gorgyffwrdd â'r ddadl nesaf. Lle mae paneli ynni solar wedi'u gosod ar fyngalos llety gwarchod, y rhai sydd newydd newid i nwy o'r prif gyflenwad, maent yn cael trafferth cysylltu â'r grid prif gyflenwad yn awr. Felly, mae angen inni sicrhau bod y gwaith atgyweirio ac ailosod boeleri yn cael ei wneud er budd pennaf tenantiaid, i helpu i gadw eu biliau'n is a'u cartrefi'n gynnes, gan sicrhau bod cartrefi wedi'u hinswleiddio a bod ganddynt system wresogi effeithiol. Dyma'r adnodd gorau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer helpu pobl i oroesi'r argyfwng hwn.
Mae gwaith amlenni wedi'i wneud mewn llawer o'r tai bellach hefyd ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr. A dweud y gwir, erbyn hyn mae gwaith amlenni wedi'i wneud yn yr holl dai cyngor yn yr ardal yr oeddwn yn ei chynrychioli. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei ariannu gan y cyngor ond maent hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r cyllid. Yn y tymor byrrach, mae'r mesurau a gymerwyd gan Gymru wedi bod yn achubiaeth, yn enwedig y talebau i'r rhai sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw, ac maent wedi bod yn cynnig gollyngdod hanfodol ar unwaith. Bûm yn y banc bwyd i bobl, yn helpu i gasglu bwyd, ond pan nad oedd ganddynt bŵer i gynhesu a choginio'r bwyd, mae wedi bod yn anhygoel, pendroni beth i'w wneud, a cheisiais eu helpu drwy roi arian yn y mesurydd fy hun. Ond nawr, mae'r talebau sydd ar gael yn gwneud cymaint o wahaniaeth, felly, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Mae angen inni sicrhau yn awr fod y cynllun Cartrefi Clyd yn cynorthwyo cymaint o dai ag sy'n bosibl cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau budd hirdymor. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ymchwiliad a'r adroddiad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi tanwydd a'r rhaglen Cartrefi Clyd, ac yn diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl bwysig hon heddiw.
Ond mae'r adroddiad sy'n deillio o'r ymchwiliad hwn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at gyflawni ein rhaglenni a'n cynlluniau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol sydd ohoni, ac roedd yn benderfyniad doeth i gynnal yr ymchwiliad hwn, ac rydym yn diolch i'r pwyllgor am eu tystiolaeth, eu mewnwelediadau a'u hargymhellion. Fel y mae eich adroddiad yn ei wneud yn glir, mae cost ynni wedi dod yn fwyfwy dylanwadol wrth ganfod lefel y tlodi tanwydd yng Nghymru. Mae'r cynnydd mewn prisiau ynni wedi bod yn ymosodiad ar ein safonau byw ac wedi cael effaith ddinistriol yn barod ar yr aelwydydd sydd leiaf abl i dalu. Bellach, mae llawer o bobl yn methu fforddio'r hanfodion y mae pawb ohonom yn dibynnu arnynt yn ein bywydau bob dydd; mae'n anodd credu'r creulondeb annirnadwy wrth i deuluoedd fethu rhoi bwyd ar y bwrdd neu ddarparu hanfodion sylfaenol fel gwres a golau yn 2022, ond dyma yw'r realiti i gynifer o bobl.
I adrodd ar rai o'r camau a llawer mwy, wrth gwrs, sydd wedi cael eu cyflwyno mewn datganiad ddoe gan y Prif Weinidog, ond camau ers cyhoeddi'r adroddiad ar 4 Awst, fe wneuthum gyfarfod ag Ofgem am newidiadau sy'n cael eu gwneud i amlder y newidiadau i'r cap prisiau. Ac fe wneuthum gyfarfod ag Ofgem eto ar 26 Awst, gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, y diwrnod y cyhoeddwyd pris mis Hydref, ac fe wnaethom fynegi pryderon dwfn am y cynnydd yn y cap prisiau i £3,549. Mae Prif Weinidog newydd y DU wedi rhoi camau ar waith i weithredu ar y pryderon a godwyd gennym, gyda chyhoeddiad y pris ynni, ac rwy'n edrych ymlaen at ddiweddariad Llywodraeth y DU ddydd Gwener. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu—mae cap prisiau o £2,500 dros ddwy flynedd yn fethiant i ddarparu cymorth ychwanegol wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae gan Lywodraeth y DU rym ariannol a chyfrifoldeb moesol i wella cymorth i ddeiliaid tai drwy'r argyfwng hwn. Ac rydym wedi galw'n gyson am dariff ynni domestig cymdeithasol, wedi'i osod yn is na thariffau safonol, er mwyn diogelu aelwydydd incwm isel yn well. Rydym wedi galw am gynnydd sylweddol yn yr ad-daliad a delir drwy gynlluniau, megis gostyngiad Cartrefi Clyd, dileu holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol yn barhaol o filiau ynni'r cartref, ac i'r costau hyn gael eu talu o drethiant cyffredinol, wedi'i ariannu'n rhannol o leiaf gan dreth ffawdelw ar yr elw gormodol y mae cynhyrchwyr nwy ac olew yn ei fwynhau.
Ar 17 Chwefror ac 11 Gorffennaf, gyda chymorth fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet, y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, cynhaliais uwchgynadleddau i archwilio beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi aelwydydd drwy'r amser anodd hwn. Ond ar 26 Mai, fe wneuthum gyfarfod hefyd â chyflenwyr ynni, gan gynnwys cwmnïau olew gwresogi, i ofyn am sicrwydd fod camau'n cael eu cymryd i ddiogelu aelwydydd bregus wrth i'r gaeaf agosáu. Ac rydym yn gweithredu, gan fuddsoddi mwy na £318 miliwn ers mis Hydref ar amrywiaeth o fesurau i helpu'r rhai mwyaf anghenus. Rwyf wedi ehangu'r gefnogaeth sydd ar gael drwy'r gronfa cymorth dewisol i aelwydydd sy'n byw oddi ar y grid, i helpu gyda phrynu olew gwresogi a nwy hylifedig, sy'n arbennig o bwysig i gymunedau gwledig a rhywbeth sydd wedi'i grybwyll yn y ddadl hon heddiw. Mae mwy na 900,000 o aelwydydd wedi derbyn eu taliad costau byw o £150 eleni, ac mae mwy na 166,000 o aelwydydd wedi cael y taliad cymorth tanwydd y gaeaf o £200. Mae cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru ar waith bellach ar gyfer y gaeaf sy'n dod, a byddwn yn agored i geisiadau o ddydd Llun nesaf, 26 Medi, ymlaen.
Ac rwy'n croesawu'r argymhellion gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar gynllun costau byw sylweddol Llywodraeth Cymru. Fel y dywedais yn fy ymateb i'r argymhellion, rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i sicrhau y gallwn estyn allan a gwella'r nifer sy'n derbyn hwnnw, ond hefyd, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rydym wedi ymestyn y cynllun, sy'n golygu y bydd hyd at 400,000 o aelwydydd yn gymwys. Bydd pobl ar gredydau treth plant, credydau pensiwn, budd-daliadau anabledd, lwfans gofalwr, yn ogystal â budd-daliadau cyfrannol a'r rheini sy'n cael cymorth gan y cynllun gostyngiadau'r dreth cyngor i dalu eu bil treth gyngor oll yn gymwys bellach ar gyfer y taliad o £200. Gwn y bydd yr holl bartneriaid a phob Aelod yn chwarae eu rhan i sicrhau bod nifer fawr yn manteisio ar y cynllun hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ddarparu gwybodaeth bellach am y nifer sy'n manteisio ar y cynllun cymorth tanwydd a gyflwynwyd y llynedd, a byddaf yn diweddaru hynny wrth inni gael rhagor o wybodaeth.
Ond bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod ni hefyd yn ariannu'r Sefydliad Banc Tanwydd i ehangu ei rwydwaith, er mwyn cynnig cymorth i'r aelwydydd mwyaf bregus ar draws Cymru sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu tanwydd. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Trussell, roeddwn yn falch o lansio hyn yn Wrecsam, lle roedd eu banc bwyd eisoes wedi datblygu'r cynllun, a dysgu hefyd gan fanc bwyd Blaenau Gwent, a oedd eisoes yn gysylltiedig ag ef. Ond bydd y cynllun hefyd yn rhoi cymorth iddynt ychwanegu at eu mesurydd talu ymlaen llaw neu brynu tanc llawn o olew gwresogi.
Rydym yn parhau i alw am gael gwared ar daliadau sefydlog o dariffau mesuryddion talu ymlaen llaw. Fel mater o flaenoriaeth, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael yn y tymor byr i helpu gyda'r argyfwng uniongyrchol. Ac yn dilyn llwyddiant y ddwy ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi', rydym wedi helpu pobl i hawlio mwy na £2.7 miliwn o incwm ychwanegol, a byddwn yn cynnal trydedd ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' i helpu pobl i gael gafael ar yr holl fudd-daliadau gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r cymorth y mae ganddynt hawl i'w gael. Ond mae angen gweithredu yn y tymor hwy fel y gwnaed yn glir yn yr argymhellion yn yr adroddiad hwn. Ein huchelgais hirdymor yw gwella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi a sicrhau ein bod ond yn defnyddio'r ynni sydd ei angen arnom i greu cartref gweddus a diogel. Mae ein rhaglenni ôl-osod tai yn seiliedig ar egwyddorion o drin y gwaethaf yn gyntaf, ar sail adeiledd yn gyntaf, gyda mesurau gwresogi wedi'u cynllunio i sicrhau pontio teg i wresogi carbon isel ar gyfer iechyd a llesiant ein pobl a'r blaned.
Bydd yr adroddiad ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ar fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd hefyd yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn nodi sut y bydd yr argymhellion hyn yn cael eu hystyried yn fersiwn nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Ac ar yr un pryd, rydym yn parhau i fuddsoddi yn y rhaglen Cartrefi Clyd gyfredol, gan gynyddu ei chyllideb 10 y cant eleni i £30 miliwn, gyda chyfanswm buddsoddiad o £100 miliwn yn y setliad cyllideb tair blynedd presennol. Bydd hyn yn cefnogi tua 5,000 o aelwydydd gyda mesurau effeithlonrwydd ynni cartref mawr eu hangen am ddim erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae disgwyl i gynllun Nyth hefyd ddarparu cyngor diduedd am ddim ynghylch effeithlonrwydd ynni drwy'r llinell gymorth i dros 1,600 a mwy o aelwydydd y flwyddyn. Bydd hyn yn cael ei ymestyn o fis Tachwedd gydag ymgyrch tanwydd gaeaf i ddarparu cyngor a chyfeirio at wasanaethau cymorth hanfodol, fel y nodais.
Yn olaf, mae contract Nyth hefyd yn parhau i arloesi, ac eleni mae wedi cynnwys gosod paneli solar. Caiff hyn ei ategu cyn bo hir drwy gyflwyno atebion storio batri, sy'n parhau i gael eu hargymell drwy'r asesiad tŷ cyfan. Bydd y cyfuniad o'r ddau fesur yn helpu i liniaru'r gwaethaf o'r cynnydd anwahaniaethol diweddar mewn prisiau ynni, gan wneud yr ynni solar yn hygyrch i aelwydydd yn ystod adegau brig, pan fydd y systemau solar ffotofoltäig yn llai effeithlon. Yn amlwg, byddwn yn cymryd tystiolaeth arall o'r ddadl heddiw o ran mynediad i'r grid.
Ar ran Llywodraeth Cymru, unwaith eto rwy'n croesawu'r adroddiad gwerthfawr hwn, gan dderbyn 21 o argymhellion yn llawn a dau argymhelliad mewn egwyddor. Bydd y rheini'n cael eu cyflawni, a byddwn yn mynd ati i weithredu'r argymhellion hyn yn unol â'r pwysigrwydd y maent yn ei haeddu, gan gefnogi ein hymdrechion ar y cyd i ymateb i'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael â thlodi o bob math, gan gynnwys tlodi tanwydd. Bydd hyn hefyd yn darparu camau cynaliadwy mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Diolch i'r holl bobl a gymerodd ran yn y ddadl, yn enwedig y rhai sydd heb fod yn rhan o drafodaethau'r pwyllgor. Rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig clywed gan bobl eraill sy'n gallu rhoi barn arbenigol benodol, boed hynny o'u hetholaeth neu o'u diddordeb arbenigol mewn tlodi tanwydd. Rwy'n credu bod angen o hyd i egluro llawer o'r manylion ar hyn i gyd, a bydd y pwyllgor yn cymryd camau dilynol ac yn darparu gohebiaeth ysgrifenedig fel y gallwn gael gwell syniad o (a) sut yn union y gwnawn ymateb i'r argyfwng presennol a (b) y rhaglen Cartrefi Clyd ddiweddaraf, y sylweddolaf ei bod yn rhan o gylch gwaith y Gweinidog Newid Hinsawdd, ac nid yw'n gallu bod yma ar hyn o bryd. Felly, edrychwn ymlaen at ei chynlluniau pwysig iawn ar gyfer dyfodol hirdymor ein gwlad.
Gan edrych ar yr hyn y mae pobl eraill wedi ei ddweud, mae angen i ni—. Fel y mae Altaf wedi'i ddatgan, mae dirwasgiad ar y ffordd, ac felly ni fydd pethau ond yn gwaethygu. Soniodd Sioned Williams am y lleithder y mae teuluoedd wedi gorfod ei ddioddef bob gaeaf, beth bynnag am yr argyfwng presennol. Rwy'n credu bod sawl Aelod wedi siarad am yr angen i ystyried adroddiad y swyddfa archwilio a gafodd ei gyhoeddi bron i flwyddyn yn ôl bellach. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ei holl argymhellion, ac er tegwch i Lywodraeth Cymru, rydym yn gweld rhaglenni'n cael eu gwerthuso'n rheolaidd yn awr, i sicrhau bod rhaglenni'n cyflawni'r hyn y maent i fod i'w gyflawni.
Roedd yn ddefnyddiol iawn clywed gan Mabon ap Gwynfor am y problemau penodol sydd wedi wynebu un o gymunedau tlotaf ac oeraf ei etholaeth, lle rhoddwyd y contract i sefydliad nad oedd yn gyfarwydd â thopograffi'r ardal, ac er bod paneli solar wedi cael eu hargymell a'u gosod, ni wnaeth sicrhau'r budd gorau am na chafodd yr adeiladau eu hinsiwleiddio, ac mae hynny'n rhywbeth a ddaeth allan o'n hadroddiad. Un o'r rhesymau pam y crybwyllodd Carolyn fater pympiau gwres ffynhonnell aer yw nad oes unrhyw bwynt gosod pympiau gwres ffynhonnell aer mewn cartrefi nad ydynt wedi cael eu hinswleiddio, oherwydd mae'n cynyddu'r biliau mewn gwirionedd, oherwydd bydd gennych fil trydan enfawr yn lle bil nwy enfawr. Felly, rwy'n credu bod y pwyslais a roddodd y Gweinidog ar adeiledd yn gyntaf fel y ffordd ymlaen yn bendant yn un defnyddiol iawn, oherwydd yn bendant mae angen i ni—. Hyd yn oed os nad oes gennym y dechnoleg heddiw a fydd yn gweddu i gartrefi penodol, mae angen inni sicrhau nad ydym yn colli'r gwres yr ydym yn ei golli ar hyn o bryd.
Un o'r pethau a wnaeth Jane Dodds oedd tynnu sylw at sut y methodd y rhaglen Cartrefi Clyd ddiwethaf gyrraedd y nod o ran yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddiogelu ein teuluoedd a gwneud ein cyfraniad ein hunain at yr argyfwng hinsawdd. Felly, yn 2020, byddai wedi cymryd 111 o flynyddoedd i gwblhau'r gwaith o inswleiddio ein holl gartrefi, ac yn 2021, ar y raddfa y câi pethau eu gwneud, byddai'n cymryd 138 o flynyddoedd. Nid yw'r blaned yn gallu aros tan hynny. Mae'n rhaid inni fwrw ymlaen â hyn nawr. Felly, rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n rhaid i ni ei wneud, pob un ohonom, yw sicrhau bod pobl yn meddwl 'inswleiddio, inswleiddio, inswleiddio' yn ogystal ag 'ynni adnewyddadwy, ynni adnewyddadwy, ynni adnewyddadwy.'
Dwy stori fach. Dyma un ohonynt: siaradais â rhywun ar garreg y drws y bore yma, a dweud, 'Rwy'n gweld eich bod yn ailosod eich to, a ydych chi wedi meddwl am roi paneli solar ar y rhan o'ch to sy'n wynebu'r de?' 'O, dyna syniad da—nid oeddwn wedi meddwl am hynny.' Felly, dywedais, 'Wel, mae gwir angen i chi fwrw ymlaen â hynny yn awr, oherwydd mae gennych chi'r sgaffaldiau i fyny, a bydd eich towyr, nad ydynt yn gymwys i wneud y gwaith, yn dweud wrthych y gallant gael cyfarwyddyd ynglŷn â ble mae'n rhaid i chi roi'r atgyfnerthiadau i osod y paneli solar.' Fel arall, rydych chi'n dad-wneud yr holl waith da cyn ichi allu gosod rhai newydd. Mae'r ail stori'n ymwneud â busnes bach a wnaeth fy nghalonogi'n fawr drwy ddweud ei fod wedi cael 17 o baneli solar wedi'u gosod yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a dangosodd y mesurydd bach sy'n dweud faint o egni a gynhyrchai, ac felly faint o arian a arbedai, a fydd yn cadw ei fusnes yn fyw. Oni bai bod busnesau'n meddwl am y pethau hyn, 'Sut y gallaf fi wneud rhywbeth?'—. Os oes gennych chi'r arian, mae angen i chi ei fuddsoddi ar inswleiddio eich cartref a gosod ffynonellau ynni adnewyddadwy. Nid oes dewis arall. Felly, rwy'n credu bod gennym heriau sylweddol iawn o'n blaenau fel y mae adroddiad Archwilio Cymru wedi dangos yn glir, ac mae'r ystadegau'n siarad drostynt eu hunain, mae arnaf ofn, ynglŷn â'r anawsterau a wynebwn y gaeaf hwn.
Un o'r pwyntiau a gododd Sarah Murphy yw'r hyn sy'n digwydd i bobl nad ydynt yn gallu mynd i hybiau cynnes? Os oes gennych salwch angheuol, mae'n debygol na fyddwch chi am gymysgu â llawer o bobl eraill. Sut y gellir eu cadw hwy'n gynnes y gaeaf hwn? Oherwydd ni fyddant yn elwa o hybiau cynnes ac efallai y bydd eu teuluoedd yn ymdrechu'n daer i sicrhau'r ansawdd bywyd gorau posibl i unigolion o'r fath, ond sut y mae gwneud hynny heb effeithio ar fywydau aelodau eraill y teulu, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae gwir angen inni feddwl amdano? Diolch yn fawr iawn am eich holl gyfraniadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.