– Senedd Cymru am 3:39 pm ar 19 Hydref 2022.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Ynni adnewyddadwy yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael cyflwyno y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, oherwydd ar ddechrau'r chweched Senedd fe gytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i ynni adnewyddadwy, gan gydnabod, wrth gwrs, rôl hanfodol ynni adnewyddadwy wrth fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd. Nawr, mi wnaethom ni edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a beth arall y mae angen iddi ei wneud hefyd er mwyn cynyddu datblygiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru, a phan wnaethom ni ddechrau ar ein hymchwiliad ddechrau'r flwyddyn, gallem ni byth, wrth gwrs, fod wedi rhagweld difrifoldeb yr argyfwng ynni presennol na'r effaith, wrth gwrs, y byddai hynny'n ei gael, nid yn unig ar Gymru, ond tu hwnt.
Felly, wrth i'r ymateb domestig i'r argyfwng barhau i ddatblygu, fe wyddom wrth gwrs y gallai ein rhoi ar y trywydd naill ai i gyflawni neu dorri ein hymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae’n bosibl y gall y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fis diwethaf ddarparu rhywfaint o hoe i fusnesau a chartrefi, er, yn dilyn cyhoeddiad dydd Llun, efallai mai byr iawn fydd yr hoe hon mewn gwirionedd. Ond mae’r penderfyniad i godi’r gwaharddiad ar ffracio a chynyddu cynhyrchiant olew a nwy ym môr y Gogledd yn llenwi’r rhai ohonom sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd ag ofn. Mae’r penderfyniadau hyn, a wnaed lai na blwyddyn—llai na blwyddyn—ar ôl yr addewidion a wnaed yn COP26 yn gywilyddus, a dweud y gwir.
Ni ddylai camau i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a diogelu ffynonellau ynni domestig ddod ar draul y blaned. Mae amser yn prysur ddiflannu i osgoi trychineb hinsawdd. Mae'r argyfyngau ynni a hinsawdd yn rhannu ffynhonnell gyffredin: tanwydd ffosil. Maent hefyd yn rhannu ateb cyffredin: ynni adnewyddadwy. Ac nid yw’r achos dros gyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy erioed wedi bod yn gryfach yn fy marn i.
Felly, cynhaliwyd ein hymchwiliad yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniad ei harchwiliad dwfn. Diben yr archwiliad dwfn, wrth gwrs, oedd nodi’r rhwystrau presennol i gyflymu datblygu a’r camau sydd eu hangen i fynd i’r afael â hwy. Cafodd argymhellion yr archwiliad dwfn eu croesawu gan randdeiliaid. Ond roedd yna deimlad hefyd, mewn rhai meysydd, nad ydynt ond yn crafu'r wyneb.
Nid yw nifer o’r rhwystrau a nodwyd gan yr archwiliad dwfn yn newydd, ac nid yw addewidion Llywodraeth Cymru o gamau i fynd i’r afael â hwy yn newydd ychwaith. Nododd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru ystod o gamau gweithredu i wella'r broses gynllunio a chydsynio, a'r seilwaith grid yng Nghymru hefyd—rhwystrau allweddol i ddatblygu. Ddegawd yn ddiweddarach, mae'n gwneud yr un addewidion. Wrth inni gychwyn ar gyfnod tyngedfennol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, mae'r angen i Lywodraeth Cymru fwrw iddi a chyflawni'r addewidion hyn yn fwy nag erioed.
Yn ein hadroddiad, gwnaethom 17 o argymhellion, a derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un ohonynt, neu o leiaf eu derbyn mewn egwyddor. Ar yr olwg gyntaf, ymddengys bod hynny'n ymateb cadarnhaol. Ond wrth ddadansoddi ymhellach, wrth gwrs, rydym yn cwestiynu a yw Llywodraeth Cymru wedi deall o ddifrif i ba raddau y mae angen iddi weithredu ar frys. Mae'r ymateb yn frith o dermau fel 'parhau i weithio ar', 'parhau i ystyried opsiynau', 'trafodaethau parhaus' ac 'archwilio potensial'. Nawr, wrth gwrs, rydym yn deall na fydd chwalu rhwystrau hirsefydlog yn digwydd dros nos. Ond gyda datblygu yng Nghymru'n arafu, mae angen inni weld canlyniadau yn sgil yr archwiliad dwfn, ac mae angen inni eu gweld ar fyrder.
Yn ein hadroddiad, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu manwl i nodi sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen ag argymhellion yr archwiliad dwfn, gan gynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni. Y meddylfryd y tu ôl i hyn oedd sicrhau tryloywder llawn, a hwyluso a chefnogi craffu. Mewn ymateb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adrodd i’r Senedd ddwywaith y flwyddyn ar y cynnydd tuag at weithredu, ac rydym yn croesawu hynny’n fawr. Cyhoeddwyd y cyntaf o’r adroddiadau hyn yn gynharach y mis hwn, ac fel pwyllgor, byddwn yn cadw llygad barcud ar y cynnydd drwy weddill tymor y Senedd hon.
Fel y soniais eisoes, un o’r rhwystrau allweddol i ddatblygu yng Nghymru, wrth gwrs, yw’r grid. Ers dros ddegawd, cafwyd galwadau croch a pharhaus am gamau gweithredu gan Lywodraethau i fynd i’r afael â chyfyngiadau'r grid. Er gwaethaf hyn, ychydig o gynnydd a wnaed, ac mae Cymru ymhell o fod â grid sy’n barod i allu cefnogi trawsnewid cyflym i ynni adnewyddadwy. Gwyddom mai cyfyngedig yw'r dulliau sydd gan Lywodraeth Cymru at ei defnydd i sicrhau gwelliannau i’r grid. Llywodraeth y DU, wrth gwrs, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am y drefn reoleiddiol sy’n llywodraethu’r grid a mynediad at gyllid. Yn ei adroddiad diweddar ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru, mynegodd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin bryderon nad yw Llywodraeth y DU wedi deall difrifoldeb cyfyngiadau'r grid ar yr ochr hon i’r ffin eto, ac mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ddim llai na brawychus. Mae'r heriau y mae cyfyngiadau'r grid yn eu hachosi i ddatblygu ac i uchelgeisiau datgarboneiddio ehangach Cymru yn golygu na ddylid caniatáu i hyn barhau.
Mae argymhellion 6 a 7 yn adlewyrchu ein barn fod rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy a gwneud mwy i sicrhau bod San Steffan yn deall anghenion seilwaith grid Cymru yn awr ac yn y dyfodol yn llawn. Felly, Weinidog, mae eich ymateb i’n hadroddiad yn cyfeirio at eich cyfarfod â Gweinidogion y DU ym mis Mehefin, pan wnaethoch grybwyll materion yn ymwneud â’r grid. Efallai y gallwch ddweud wrthym yn eich ymateb a ydych yn credu bod y geiniog wedi syrthio ac a ydynt o ddifrif ynglŷn â'r materion hyn mewn gwirionedd.
Rydym wedi ein calonogi gan brosiect grid ynni'r dyfodol Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio dylanwadu'n rhagweithiol ar fuddsoddiad yn y grid yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym y bydd y cynllun gweithredu a gynhyrchir gan y prosiect yn nodi camau gweithredu ar gyfer rhwydweithiau, ar gyfer Ofgem a Llywodraeth Cymru,
'i alluogi gwaith cynllunio a gweithredu rhwydwaith system gyfan optimaidd, hirdymor.'
Nawr, mae hyn oll yn swnio'n gadarnhaol iawn. Ond wrth gwrs, a dyma faen tramgwydd posibl, bydd camau gweithredu ar gyfer Llywodraeth y DU hefyd. Felly, Weinidog, pa mor hyderus ydych chi y bydd Llywodraeth y DU yn fodlon cyflawni'r camau hynny? A beth sy'n digwydd os ydynt yn gwrthod cydweithio?
Yn olaf ar y grid, Weinidog, rydych wedi sefydlu gweithgor grid i ystyried a yw eich cynnig gwreiddiol ar gyfer pensaer systemau ynni Cymru yn ymarferol. Efallai y gallech ddweud wrthym pryd y disgwyliwch gael ateb pendant ar hyn.
I symud ymlaen at rwystr allweddol arall i ddatblygu: y drefn gydsynio a thrwyddedu. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod trefn gydsynio effeithlon sydd â'r adnoddau priodol yn hanfodol er mwyn cefnogi twf y sector ynni adnewyddadwy. Mae'r drefn bresennol, wrth gwrs, yn ddiffygiol yn hyn o beth. Clywn am doriadau enfawr yng nghyllidebau awdurdodau cynllunio lleol, ac adnoddau annigonol i CNC, sy'n achosi oedi hir a chostus, weithiau, i brosiectau. Wrth gwrs, nid yw pryderon ynghylch cyllid i awdurdodau cynllunio a CNC yn newydd, ond os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei huchelgais ar gyfer ynni adnewyddadwy, ni all anwybyddu'r pryderon hyn mwyach, ac mae argymhelliad 9 yn ein hadroddiad yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Felly, yn eich adroddiad diweddar, Weinidog, ar weithredu argymhellion yr archwiliad dwfn, dywedwch fod angen gwneud rhagor o waith i adolygu anghenion Cyfoeth Naturiol Cymru o ran adnoddau yn y dyfodol. Pa mor hir y bydd yn rhaid inni aros am ganlyniad y gwaith hwnnw, ac a allwn ddisgwyl gweld unrhyw gynnydd yng nghyllideb CNC y flwyddyn nesaf o ganlyniad i hynny?
Ar awdurdodau cynllunio'n benodol—dau gwestiwn plaen yma. A oes ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i ymdopi â'r galw ar eu gwasanaethau? Ac os na, beth y bwriadwn ei wneud ynghylch hynny? Dywedodd rhanddeiliaid wrthym mai dim ond hyn a hyn y bydd cynyddu capasiti ac adnoddau yn ei wneud i wella’r broses gydsynio. Yn y pen draw, mae angen newidiadau deddfwriaethol. Ac rydym yn falch, felly, fod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi Bil cydsyniad seilwaith i Gymru yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf. Wrth graffu ar y Bil, heb os, fe geisiwn wneud yn siŵr ei fod yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng hybu uchelgais ynni adnewyddadwy Cymru yn ogystal â diogelu ein hamgylchedd mwyfwy bregus.
Yn olaf ar gydsynio, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei safbwynt y dylid datganoli cydsyniadau ynni'n llawn. Felly, Weinidog, a yw hyn yn rhywbeth yr ewch ati'n weithredol i'w drafod gyda Llywodraeth y DU? Ac os felly, a fu unrhyw lygedyn o obaith? Efallai y gallech ddweud wrthym.
Mae rhan olaf ein hadroddiad yn canolbwyntio ar gyfleoedd i gynyddu ynni cymunedol a lleol. Mae'n rhaid i’r twf yr ydym yn galw amdano mewn ynni adnewyddadwy fod o fudd i gymunedau ledled Cymru. Nid yn unig fod yn rhaid i gymunedau gael dweud eu dweud mewn prosiectau, mae'n rhaid iddynt fod yn rhanddeiliaid gweithredol, ac elwa ar y buddion cymdeithasol ac economaidd o'r newid i ynni adnewyddadwy. Dywedodd rhanddeiliaid wrthym, er mwyn cyflawni hyn, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gymell ac annog rhanberchenogaeth, a nod argymhellion 12 a 13 yn ein hadroddiad yw mynd i’r afael â hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion hyn, ac ers cyhoeddi ein hadroddiad, mae wedi cyhoeddi canllawiau ar ranberchenogaeth. Mae hefyd wedi ymrwymo i fonitro ac adrodd yn rheolaidd ar y nifer sy'n manteisio ar ranberchnogaeth o brosiectau ynni, sydd, wrth gwrs, unwaith eto, yn rhywbeth y mae'r pwyllgor yn ei groesawu.
Yn olaf, hoffwn sôn am argymhelliad 17. Roedd hwn yn galw am y wybodaeth ddiweddaraf am Ynni Cymru, gan gydnabod ei rôl yn cefnogi'r gwaith o ehangu ynni adnewyddadwy cymunedol yn arbennig. Roeddem wedi gobeithio y byddai’r argymhelliad hwnnw’n helpu i ateb rhai cwestiynau ynghylch Ynni Cymru, ond ni ddigwyddodd hynny. Er i Lywodraeth Cymru dderbyn ein hargymhelliad, yr ymateb, yn syml, oedd, 'Gwyliwch y gofod hwn'. Felly, Weinidog, rydym yn deall eich bod wedi sefydlu bwrdd interim y datblygwr ynni adnewyddadwy i ystyried cynigion ar gyfer cwmni datblygu. A ydym yn iawn i feddwl mai'r un peth fyddai’r cwmni hwn ac Ynni Cymru? Byddai’n ddefnyddiol pe gallech egluro hynny i’r pwyllgor. Ac a oes unrhyw beth arall y gallwch ei ddweud wrthym heddiw am gynnydd tuag at greu Ynni Cymru?
Lywydd, mae casgliadau’r pwyllgor yn glir. Mae’n rhaid inni achub ar y llu o gyfleoedd sydd gennym yma yng Nghymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy. Mae’n rhaid inni gael gwared ar y rhwystrau hirsefydlog sy’n atal datblygu. Ac mae'n rhaid inni wneud hynny, wrth gwrs, gan ddod â'n cymunedau gyda ni gan wybod y byddant yn elwa. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen inni ganolbwyntio ar y dyfodol ac nid y gorffennol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol o ynni adnewyddadwy diogel a fforddiadwy, ac nid tanwydd ffosil dinistriol.
Diolch i Gadeirydd fy mhwyllgor—Cadeirydd ein pwyllgor—am arwain y ddadl hon. Mae’r dyfyniad a ganlyn o’n hadroddiad pwyllgor trawsbleidiol yn tynnu sylw, yn gwbl briodol, at fethiant Llywodraeth Lafur Cymru i fanteisio'n llawn ar botensial ynni adnewyddadwy Cymru:
'Roedd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru yn addo ystod o gamau gweithredu i wella’r broses gynllunio a chydsynio, a seilwaith grid yng Nghymru, ymhlith pethau eraill. Ddegawd yn ddiweddarach, mae’r un addewidion yn cael eu gwneud. Dyma’r amser i Lywodraeth Cymru gadw at ei gair, a hynny ar unwaith.'
Yn 2012, Weinidog, addawodd eich Llywodraeth adolygu a gwella’r trefniadau cynllunio a chydsynio sy’n gysylltiedig â datblygu. Serch hynny, 10 mlynedd yn ddiweddarach, dylai Llywodraeth Cymru fod yn fwy—. O, mae'n ddrwg gennyf. Yn argymhellion eich archwiliad dwfn, rydych yn gwneud yr un addewid yn union, addewid y cyfeiriwch ato yn eich ymateb i argymhelliad 2. Felly, mae’n debyg mai’r cwestiwn yw: os na ddigwyddodd bryd hynny, pa hyder y gallwn ei gael y bydd yn digwydd o gwbl, ac nad ydych ond yn llusgo eich traed?
Yn yr un modd, er fy mod yn croesawu ystyriaeth Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 a gweithredu galwad adroddiad y pwyllgor am dargedau mwy uchelgeisiol, ni ddylai hyn dynnu sylw oddi ar y cyfeiriad y mae'n rhaid inni deithio iddo. Mae angen inni wrthdroi’r dirywiad difrifol y mae pob un ohonom wedi’i weld, ac y gwyddom ei fod yn digwydd, dros y blynyddoedd diwethaf. Fel y dywedodd y Sefydliad Materion Cymreig wrthym, 'Dylai Llywodraeth Cymru ymboeni mwy am gyflawni ac osgoi addasu targedau'n ddibwrpas.'
Gwn fy mod yn sefyll yma yn rhy aml ac yn clywed y bai'n cael ei daflu ar Lywodraeth y DU. Yn eich ymateb i argymhelliad 1 yn arbennig, mae'n rhaid inni gofio mai eich Llywodraeth Cymru chi a benderfynodd gael gwared ar y grantiau ardrethi busnes hanfodol i gynlluniau ynni dŵr bach, gan beryglu diwydiant lleol hyfyw, ac mae hyn wedi effeithio ar nifer o fy ffermwyr yn Aberconwy a gyfranogodd yn y cynlluniau hyn gyda phob ewyllys da, cyn clywed wedyn y byddent yn cael eu cosbi am wneud hynny. Mae hyn wedi golygu cynnydd o fwy nag 8,000 y cant mewn ardrethi busnes i gwmni North Wales Hydro Power, a ddisgrifiwyd gan y diwydiant fel cam annoeth iawn gan y Llywodraeth hon. Unwaith eto, ailadroddaf fy ngalwad ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi’r penderfyniad hynod niweidiol hwn, a byddwn yn croesawu pe baech yn ymateb i’r pwynt penodol hwnnw, Weinidog, p'un a ydych wedi'i ystyried, ac y byddwch, o bosibl, yn ceisio cefnogi’r rhai sy’n ceisio chwarae eu rhan i'n helpu gydag ynni adnewyddadwy.
Wrth gwrs, un maes lle gellid gweithredu newid mawr yn gyflymach o lawer yw allan ar y môr. Yn ôl RWE Renewables UK, mae datblygiadau ynni'r môr yn nyfroedd Cymru
'yn wynebu risg gynyddol o ran cydsyniad ac anfantais gystadleuol' o gymharu â’r rheini mewn mannau eraill yn y DU. Cyfeiriodd Ystad y Goron a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur at yr angen i gydbwyso cyflymu ac ehangu datblygiadau ynni adnewyddadwy ar y môr i gyflawni sero net, gan ddiogelu’r amgylchedd morol ac atal dirywiad bioamrywiaeth hefyd, ochr yn ochr â galwadau’r Sefydliad Materion Cymreig am broses gydsynio gliriach a mwy diffiniedig i sicrhau’r defnydd amserol o ynni adnewyddadwy morol. Sylwaf eich bod wedi egluro y dylai'r gwaith o nodi ardaloedd adnoddau strategol morol gael ei gwblhau yn 2023. Felly, fel y mae’r RSPB, y Gymdeithas Cadwraeth Forol ac eraill wedi’i nodi’n glir yma, bellach mae’n bryd creu llwyfan gwell eto ar gyfer datblygiadau ynni'r môr a byd natur, drwy greu cynllun datblygu morol cenedlaethol.
Mater allweddol arall—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n falch o'ch clywed yn dadlau'r achos hwn—credaf ei fod yn achos pwysig i'w ddadlau—ond wrth gwrs, yr hyn sydd gan y sefydliadau hynny'n gyffredin hefyd yw eu bod yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru, a fyddai'n darparu hwb ariannol i’r datblygiadau hynny. Rwy'n cymryd y byddwch chi hefyd yn cefnogi hynny yn awr.
Wrth gwrs.
Mater allweddol arall sy’n atal y broses o ehangu ynni adnewyddadwy yw’r diffyg seilwaith grid digonol, ac mae'n rhaid imi ddweud, bob tro y cyfarfûm ag aelodau o’r diwydiant, maent yn nodi hyn fel mater pwysig iawn, rhwystr mawr. Dim ond mewn egwyddor y gwnaethoch chi dderbyn argymhelliad 7, ac ar adeg pan fo Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin yn awgrymu efallai nad yw Llywodraeth y DU yn ymwybodol o ddifrifoldeb y materion capasiti grid, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos mwy o arweiniad ac ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth y DU ar y lefel uchaf un i sicrhau y caiff gofynion seilwaith grid Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol eu deall a’u bodloni’n llawn. Fel y cyfryw, ni fyddai'n gwneud unrhyw niwed codi’r argyfwng—ac a wnewch chi wneud hynny, Weinidog—yn y grŵp rhyngweinidogol nesaf ar sero net, ynni a newid hinsawdd.
Yn yr un modd, credaf y dylech wrando ar alwadau 'Strategaeth Ynni Gogledd Cymru' i edrych ar sefydlu treialon microgridiau, a byddai'r gogledd yn lle da i ddechrau gwneud hynny. Byddai hyn yn ddefnydd llawer gwell o arian trethdalwyr na sefydlu cwmnïau ynni sy’n eiddo i’r Llywodraeth, sy’n syniad annoeth yn fy marn i. Maent eisoes wedi ceisio gwneud hynny ym Mryste, lle arweiniodd at ganlyniadau enbyd i drethdalwyr lleol.
A wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda, Janet?
Gyda'r rhyfel Rwsiaidd yn Wcráin wedi gwneud i bob etholwr bron sylweddoli’r angen i Gymru a’r DU gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru gymryd camau gweithredu breision. Rwy’n hyderus fod mwy o feysydd yr ydym yn cytuno arnynt i alluogi’r Senedd gyfan i gydweithio er mwyn sicrhau bod Cymru’n cyflawni ei photensial o ran ynni. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn ddatgan bod fy mhartner yn gynghorydd i Bute Energy a fy mod innau'n gyfranddaliwr yng nghynllun ynni adnewyddadwy cymunedol Awel Aman Tawe.
Mae'n rhaid inni gamu i'r adwy yn y cyswllt hwn, gan fod yr argyfwng a oedd newydd ddechrau pan oeddem yn dechrau cymryd tystiolaeth—mae'n argyfwng, ond mae hefyd yn gyfle. Mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar hyn a chyflymu'r newid. Siaradodd Ken Skates yn gynharach am ei bryderon ynghylch pyllau nofio yn ei etholaeth, a chawsom ymateb gan Weinidog yr economi, ond ni chlywais unrhyw frys yn ei ymateb, er fy mod yn llwyr gydnabod fod hyn yn rhan o gylch gorchwyl Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, nad oedd yn y Siambr yn gynharach heddiw. Credaf fod hyn yn un o'r pethau lle bydd digwyddiadau'n mynd yn drech na ni oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch yn awr.
Felly, mae'n rhaid inni edrych ar yr hyn y mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig eisoes yn ei wneud i ddiogelu eu pyllau nofio. Er enghraifft, un o’r arweinwyr yn hyn o beth yw Narberth Energy, sydd ag un o’r pyllau cymunedol hynaf sy’n cael ei gynhesu gan ynni adnewyddadwy yn y DU. Mae Nofio Arberth yn bwll sy’n eiddo i’r gymuned, sy’n cael ei redeg er budd ei gymuned leol, a'i gefnogi gan Narberth Energy, cymdeithas budd cymunedol, a drefnodd gynnig cyfranddaliadau i godi arian i osod boeler biomas 200 kW ac aráe solar ffotofoltäig 50 kW yn ôl yn 2015. Maent i'w canmol am fod yn ddigon craff i wneud hynny, gan fod cymaint o byllau nofio eraill yn dal i fod yn ddibynnol ar nwy i wresogi eu pyllau, ac rwy'n pryderu'n fawr amdanynt. Ni allwn fod mewn sefyllfa lle na all y genhedlaeth nesaf nofio am nad oes ganddynt gyfleusterau diogel i ddysgu sut i wneud hynny.
Felly, ceir sawl enghraifft wych arall o sut i wneud hynny. Mae pyllau nofio yn tueddu i fod yn adeiladau ar eu pen eu hunain gyda thoeau mawr, sy'n sicr yn addas ar gyfer gosod araeau o baneli solar sy'n wynebu'r de. Maent hefyd yn tueddu i fod yn adeiladau sydd â digon o le ar gyfer pympiau gwres ffynhonnell aer neu bympiau gwres o'r ddaear, ac eto, tybed faint o hyn sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru. Yn yr Alban, er enghraifft, mae to a waliau wedi'u hinswleiddio ac unedau adfer gwres mewn pwll nofio yn Forres yn yr Alban, ynghyd â'r aráe solar sydd ganddynt, yn creu system effeithlon i hidlo'r pwll. Dyma'r pethau mwyaf amlwg y mae'n rhaid iddynt ddigwydd os ydym am achub ein pyllau nofio. Yn Ayrshire, mae’r unig bwll dŵr croyw awyr agored yn yr Alban yn cael ei gynhesu gan ddefnyddio pympiau gwres o’r ddaear, a ariennir yn rhannol gan ymddiriedolaeth ynni gwyrdd ScottishPower. Fe'i hailagorwyd yn 2017, gan ddefnyddio’r pympiau gwres o’r ddaear hyn yn unig. Yn yr un modd, yn Skipton, ceir pwll nofio sy'n defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer ar gyfer eu dau bwll a'r cawodydd, yn ogystal â thechnoleg adfer gwres, a cheir paneli solar ffotofoltäig eisoes ar y safle. Yn Rhydychen, mae gennych y pwll nofio awyr agored mwyaf yn y DU sy'n defnyddio pympiau gwres ffynhonnell dŵr. Mae'r rhain o ddifrif yn bethau y mae angen inni edrych arnynt fel mater o frys, neu byddwn yn colli ein holl byllau nofio.
Mae'n amlwg fod angen inni addasu'r grid hefyd—rhywbeth yr ydym wedi sôn amdano, ac sydd wedi'i grybwyll eisoes gan siaradwyr blaenorol—ond mae angen inni fynnu hefyd fod pobl sy'n gosod teils ar eu toeau yn meddwl am baneli solar ar yr un pryd. Ni allaf gredu faint o bobl yn fy etholaeth sy’n atgyweirio eu toeau tra bo'r haul yn dal i ddisgleirio ond sydd heb hyd yn oed ystyried ychwanegu araeau solar ar eu to sy’n wynebu’r de ar yr un pryd, oherwydd yn amlwg, mae llawer o gost ynghlwm wrth osod y sgaffaldiau a chael y gweithwyr ar y safle yn unig. Felly, mae'n rhaid inni ddechrau meddwl am hyn mewn ffordd wahanol. Mae'n rhaid i'r argyfwng hwn fod yn gyfle i edrych ar bopeth a wnawn. Mae angen inni sicrhau bod gennym baneli solar ar ein holl doeau sy’n wynebu’r de, gyda batris i fynd gyda hwy, fel y gall pobl ddefnyddio’r ynni o’r pŵer solar pan fyddant ei angen, sef pan fyddant yn dod adref gyda’r nos wedi i'r haul fachlud. Mae'n rhaid inni newid yn llwyr.
Jenny, a wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda? Diolch. Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ofnadwy o amserol. Mae'r crisis costau byw yn golygu poen anferthol ar gyfer pobl gyffredin, fel sy'n codi dydd i ddydd yn y Senedd, a hynny ar adeg o grisis newid hinsawdd, crisis natur, ac wrth gwrs, ymlediad gwrthdaro rhyngwladol. Mewn sawl ffordd, mae'r sialensiau hyn sy'n wynebu ein byd, sialensiau sy'n effeithio ar bawb, er mewn ffyrdd anghydradd, i gyd yn cael eu tanlinellu gan y thema gyffredin yma o ynni. Mae'r argyfwng hinsawdd wedi cael ei achosi mewn lot of ffyrdd gan ymddygiad dynolryw i ddefnyddio ynni mewn ffordd sydd ddim yn gynaliadwy—hynny ydy, trwy losgi tanwydd ffosiledig ers y chwyldro diwydiannol. Mae'r crisis costau byw yn cael ei ddwysáu fel canlyniad i filiau ynni, ac mae'r rhyfel yn Wcráin ac ymateb y gymuned ryngwladol i'r rhyfel hwnnw yn cael ei nodweddu gan wrthdaro ar gyflenwad ynni.
Mae miloedd ar filoedd o gartrefi yma yn wynebu amodau ofnadwy dros y gaeaf, ac mae'r Canghellor newydd yn San Steffan yn lleihau yr adeg pan fydd cymorth ar gael. Mae busnesau, iechyd a lles pobl i gyd yn y fantol, ac i wneud pethau'n waeth, mae rhybudd o flacowts ar y diwrnodau mwyaf oer. Mae hanes, Dirprwy Lywydd, yn ailadrodd ei hunan. Mae pwerau mawrion gwleidyddiaeth ryngwladol yn gwrthdaro; mae tensiynau rhwng archbwerau'r byd, a gartref, rŷn ni'n wynebu argyfwng domestig. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae Cymru mewn sefyllfa arbennig o fregus fel canlyniad i'n cyflenwad tai, sydd mor aneffeithlon o ran ynni, ac fel canlyniad hefyd i'r tlodi sydd wedi heintio ein cymunedau ers degawdau. Bydd ein pobl ni nawr yn profi'r crises hyn yn enbyd o llym.
Gwn fod y darlun hwnnw'n llwm, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n cael ei ddweud droeon yn y ddadl hon yw nad oes angen iddi fod felly. Mae Cymru yn allforiwr ynni net ac mae potensial datblygu ynni adnewyddadwy yn enfawr. Mae'r argyfyngau presennol yn gwneud yr achos dros y newid hwn yn fwy pwysig byth. Y tu hwnt i gymhwyso angenrheidiau ynni fel trydan, cynhesrwydd, cynhyrchu bwyd, trafnidiaeth, mae'r cwestiwn o reolaeth dros adnoddau ynni hefyd wedi cael mwy o sylw dros y blynyddoedd diwethaf. Nodaf fod Alun Davies wedi gwneud y pwynt hwn. O gwestiynau ynghylch diffyg rheidrwydd, am bwerau dros y grid, am brosiectau ynni mwy, am Ystad y Goron yng Nghymru, mae'r ffactorau hyn i gyd wedi llesteirio ein gallu i ddiwallu anghenion ynni Cymru yn ddifrifol, i ymateb i newid hinsawdd a lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil.
Pryd bynnag y cawn y dadleuon hyn, gwneir y pwynt fod hanes Cymru yn un a nodweddid, mewn cymaint o ffyrdd, gan gamfanteisio a thlodi. Roedd y pethau hynny'n diffinio oes y glo; rhaid inni sicrhau bod y dyfodol yn wahanol. Roedd y pwyllgor yn glir, fel finnau, y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i hybu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru, er mwyn gwneud yn siŵr fod rheolaeth dros ein system ynni ein hunain yn gryfach. Mae cynnydd cyfyngedig wedi'i wneud. Er hynny, mae Cymru'n dal i fod yn bell o fod â grid sy'n barod ac sy'n gallu cefnogi newid cyflym i ynni adnewyddadwy. Nid ydym yn agosach at bwerau datganoledig dros Ystad y Goron. Hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ddangos mwy o uchelgais, oherwydd yr holl argyfyngau hyn sy'n ein hwynebu, i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod gofynion seilwaith grid Cymru yn cael eu bodloni'n llawn yn awr ac yn y dyfodol. Pan gawn ymateb y Llywodraeth i'r ddadl, byddai'n ddefnyddiol iawn cael diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau sydd wedi digwydd mewn perthynas â datganoli pwerau dros Ystad y Goron i Gymru.
Rwy'n gwybod ein bod ni i gyd yn ymwybodol o'r angen i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur mewn ffyrdd cysylltiedig, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n sicr wedi codi yn ein tystiolaeth hefyd. Rwyf am orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd. Mae angen i ni gydbwyso'r angen i gyflymu ac ehangu ynni adnewyddadwy ar y môr a chyflawni sero net cyn gynted ag y gallwn gyda diogelu amgylcheddau morol ac atal dirywiad bioamrywiaeth. Felly, byddai'n dda pe gallem gael rhywfaint o fanylion ar hyn, oherwydd mae'r holl argyfyngau hyn wedi'u cydgysylltu yn y ffordd y maent yn ein taro, ond mae angen cydgysylltu'r ffordd yr ymatebwn iddynt gymaint â phosibl hefyd. Diolch yn fawr.
Wrth ddarllen drwy adroddiad y pwyllgor—rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor am ei gyflwyniad y prynhawn yma—a darllen drwy ymateb y Llywodraeth, fy nheimlad llethol oedd nad oedd llawer iawn o wahaniaeth rhwng y ddau, fod llawer iawn o bethau'n gyffredin, yn enwedig o ran uchelgais a gweledigaeth, rhwng y Llywodraeth a'r pwyllgor. Mae hynny i'w groesawu wrth gwrs. Fodd bynnag, wrth ddarllen drwy'r ddau, teimlwn hefyd fod y ddau braidd yn anfoddhaol mewn ffyrdd gwahanol. Gadewch imi egluro pam rwy'n meddwl hynny.
Os wyf edrychaf yn ôl dros gyfnod Llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, mae yna bethau yr ydym wedi eu gwneud yn dda iawn ac mae yna bethau eraill yr ydym wedi eu gwneud yn llai da, a dyna natur llywodraethu, wrth gwrs. Rwy'n credu bod ynni yn un o'r meysydd polisi lle nad ydym wedi llwyddo dros y ddau ddegawd diwethaf, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y gallwn ddysgu gwersi ohono. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog wedi dod i'w sedd ar gyfer y ddadl hon, oherwydd rwyf am ei longyfarch ar benderfyniad a wnaeth—mae'n edrych yn fwy pryderus byth yn awr. [Chwerthin.] Mae'n dechrau difaru nad aeth am baned o goffi.
Ond pan oeddwn yn Weinidog ynni rai blynyddoedd yn ôl, roeddwn yn un o dri Gweinidog ynni yn y Cabinet. Ar wahân i fi fy hun, roedd gennym Weinidog yr economi a'r Prif Weinidog ar y pryd. Roedd pob un ohonom yn gyfrifol am ynni, ac ni fyddai'n synnu neb yn y Siambr na thu hwnt na chyflawnodd y tri ohonom unrhyw beth gyda'n gilydd, na wnaethom gyflawni, oherwydd roedd gennym ddull tameidiog o weithredu, ac roedd gennym Weinidogion yn cystadlu â'i gilydd, os mynnwch, yn hytrach na chydweithio. Felly, rwy'n credu bod rhoi'r cyfrifoldeb i un Gweinidog ynghyd â newid systemau'r Llywodraeth i adlewyrchu hynny yn benderfyniad pwysig, ac mae'n ffordd bwysig o hyrwyddo polisi. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad y mae'r Gweinidog ei hun wedi'i wneud mewn perthynas â hyn. Rwyf hefyd yn derbyn y pwyntiau a wnaeth mewn dadl gynharach, ac sydd wedi'u gwneud mewn mannau eraill, am natur anfoddhaol y setliad. Nid wyf am geisio ailadrodd y dadleuon hynny eto y prynhawn yma.
Ond mae'n ymddangos i mi, o ystyried ein sefyllfa a natur y setliad heddiw, fod yna ddwy rôl y gall Llywodraeth Cymru eu chwarae yn fras mewn polisi ynni. Mae'r gyntaf yn rôl fwy goddefol o ran creu trefn gydsynio a chynllunio a fydd yn galluogi eraill i wneud penderfyniadau a gaiff eu hysgogi'n fasnachol yn bennaf.
Ond a ydych yn credu, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn gyfrifoldeb i'r Llywodraeth—? Beth all y Llywodraeth ei wneud i rymuso mwy o bobl i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb? Y rheswm rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yw oherwydd bod cymaint o bobl yn dweud wrthyf, 'O, byddwn wrth fy modd yn cael paneli solar, ond nid oes gennyf syniad sut i fynd ati', neu 'Byddwn wrth fy modd yn gosod pwmp gwres, ond nid oes gennyf syniad beth rwy'n ei wneud.' A oes yna ffordd y gallai'r Llywodraeth, wrth i ni symud ymlaen, geisio grymuso pobl i gymryd cyfrifoldeb eu hunain, ac annog y rhai sy'n dymuno mynd allan a phrynu'r pethau hyn i helpu, hyd yn oed os yw ond i gynhesu eu cartref eu hunain, neu fwydo i mewn i grid, y gellid annog hynny?
Mae'r Aelod dros Aberconwy yn gwneud fy ail bwynt ar fy rhan.
Y rôl gyntaf bosibl i'r Llywodraeth yw rôl fwy goddefol; mae'n darparu'r amgylchedd lle gall pobl eraill wneud penderfyniadau a gwneud buddsoddiadau. Mae'r ail rôl, rwy'n credu, yn un lawer mwy diddorol. Mae'r ffordd y fframiais y cwestiwn, wrth gwrs, yn dangos lle rwy'n sefyll, sef sbardun gweithredol i newid. Gall y sector cyhoeddus—cawsom y ddadl hon ddoe dros wariant cyhoeddus, i ryw raddau—newid telerau'r ffordd y gwnawn bethau yn ein cymdeithas. Rwy'n croesawu rhai o'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud a fydd yn ein galluogi i gyflawni polisi ynni sy'n canolbwyntio ar reolaeth leol ar ffurf wasgaredig.
Yn amlwg, mae angen y strwythurau grid mawr ac mae angen inni allu darparu cyflenwad llwyth sylfaenol—rwy'n deall hynny i gyd—ond mae'n rhaid inni ddeall hefyd fod Ofgem yn rheoleiddiwr arall sydd wedi methu. Un o'r problemau sydd gennym—. Dyma lle roeddwn yn anghytuno â Llywodraeth Blair nad yw perchnogaeth yn bwysig ac y gallwch gyflawni popeth drwy reoleiddio. Rwy'n credu bod perchnogaeth yn bwysig. Rwy'n credu bod ethos cwmni cyhoeddus yn bwysig, ac rwyf hefyd yn credu bod gallu cwmni cyhoeddus i ddarparu er budd cyhoeddus yn bwynt pwysig i bob un ohonom.
Felly, hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio—ac mae'r Llywodraeth yn dweud hyn mewn rhannau o'i hymateb—ar gynhyrchu ynni'n fwy lleol. Nawr, sut y gallwn ni wneud hynny? Sut y gallwn ni leihau'r risg sydd ynghlwm wrth hynny? Sut y gallwn ni ddarparu'r cyllid a fyddai'n galluogi llywodraeth leol ddiwygiedig, er enghraifft, i fuddsoddi mewn cwmnïau ynni lleol, neu gyfleoedd cyflenwi ynni cydweithredol? Credaf fod honno'n ddadl hynod ddiddorol y gallwn ei chael. Ac rwyf am erfyn ar y Gweinidog—gallaf weld bod fy amser yn dirwyn i ben—
Mae gennych amser ychwanegol gan eich bod wedi derbyn ymyriad.
Rwyf am fanteisio ar bob eiliad o'r cynnig hael hwnnw. Gadewch inni beidio â mynd i lawr y llwybr—. Rwyf wedi gweld cynigion yn fy etholaeth fy hun lle mae tyrbinau 180m, 650 troedfedd, yn cael eu hargymell o fewn 1km i rai aneddiadau. Dyna faint ochrau'r cymoedd yn fy etholaeth i. Mae'n ddatblygiad cwbl amhriodol, ac rwy'n credu y bydd hynny'n tanseilio cefnogaeth i faterion ehangach a phwysicach yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy.
Y pwynt rwyf am ei wneud i gloi yw: yn ymateb y Llywodraeth a'r adroddiad gan y pwyllgor, ni welsom unrhyw enghreifftiau rhyngwladol. Wyddoch chi, Ddirprwy Lywydd, gallai fod yn broblem i chi hefyd; yn fy amser i yn y lle hwn, rwyf wedi ein gweld yn meddwl llai am lefydd eraill. Rwyf wedi ein gweld yn meddwl llai ynglŷn â sut y gallwn ddysgu gwersi o lefydd eraill. Roeddwn wrth fy modd yn gweld y Dirprwy Weinidog chwaraeon yn cefnogi'r tîm rygbi merched yn Seland Newydd, a chyfarfod â sefydliadau chwaraeon a sefydliadau diwylliannol yno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud hynny. Dylem bob amser gefnogi pobl sy'n ymgymryd â'r rôl honno. Ond sut y mae dysgu gwersi gan Ffrainc neu'r Almaen, dyweder, gan yr Alban, yr Unol Daleithiau, Canada, am ddarparu cynhyrchiant ynni sydd wedi'i leoli'n lleol a'i wreiddio'n lleol? Credaf fod cyfleoedd yno inni ddysgu a chymhwyso'r gwersi hynny yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio na fydd y Senedd a'r Llywodraeth yn swil ynglŷn ag edrych am yr enghreifftiau rhyngwladol hynny a cheisio eu cymhwyso yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod yna ymdeimlad o fenter ar y cyd yn y lle hwn, gyda'n gilydd, rhwng y Llywodraeth a'r Senedd, ac os gweithiwn gyda'n gilydd ar y materion hyn, rwy'n credu y gallwn gyflawni pethau gwych ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch o weld bod diffyg capasiti grid wedi cael ei gydnabod yn argymhelliad 6 a 7. Dyma'r rhwystr mwyaf i fynd ar drywydd ynni adnewyddadwy yng ngogledd Cymru. Nid oes prinder aelwydydd sy'n dymuno cael ynni adnewyddadwy, fel pympiau gwres ffynhonnell aer ac ynni solar ffotofoltäig, ond mae cyrraedd y grid—y gweithredwr rhwydwaith dosbarthu sy'n ei osod—yn achosi cymaint o broblemau. Rwyf wedi cael gwybod ei bod yn arbennig o anodd cael unrhyw beth o werth wedi'i dderbyn gan SP Energy Networks, ac mae'n ymddangos mai ychydig iawn o awydd sydd yna i gysylltu ynni adnewyddadwy â'u grid yng ngogledd Cymru. Maent wedi gadael ceisiadau heb eu hateb am gyhyd â chwe mis, gan ychwanegu oedi a chymhlethdodau i brosiectau.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth geisio defnyddio ynni adnewyddadwy ar dai cymdeithasol i gynorthwyo tenantiaid, gan gynnwys llety gwarchod. Roeddent eisiau gosod 300 o systemau solar ffotofoltäig y flwyddyn, ond gwrthodir caniatâd i'w gosod yn aml. Mewn achos arall yn Saltney, dair blynedd yn ôl, cyflwynwyd cais i'r gweithredwr rhwydwaith ardal ar gyfer gosod 100 o systemau solar ffotofoltäig a cafodd hwnnw ei wrthod. Y rheswm a roddwyd oedd bod angen uwchraddio'r rhwydwaith lleol. Dair blynedd yn ddiweddarach, nid oes unrhyw gynlluniau i uwchraddio ar y gweill. Gyda'r cynnydd mewn biliau tanwydd dros y cyfnod, mae gennym sefyllfa lle nad yw 103 o aelwydydd yn derbyn y buddion a fyddai'n dod yn sgil paneli solar.
Yn fuan ar ôl y cais gwreiddiol, cafodd Cyngor Sir y Fflint ddyfynbris o £33,000 am y gwaith uwchraddio, ac fe'i gwrthodwyd, yn ddealladwy, gan nad oeddent yn gallu ei fforddio. Nid yw'n ymddangos yn iawn fod angen talu gweithredwr rhwydwaith ardal i uwchraddio eu rhwydwaith eu hunain pan fyddant yn cael trydan am ddim a phan fo gweithredwyr rhwydwaith ardal eraill yn dweud nad ydynt angen taliad. Felly, mae angen cydbwyso hynny, mewn gwirionedd—pam fod Scottish Power yn dweud eu bod angen taliad, ac eraill yn dweud nad ydynt angen taliad. Digwyddiad arall gyda thai cymdeithasol gogledd Cymru oedd bod bloc o fflatiau eisiau gosod 54 o bympiau gwres ffynhonnell aer wedi eu gwrthbwyso gan bŵer solar, ac unwaith eto, gwrthodwyd hyn gan SP Energy Networks. Fodd bynnag, dywedwyd wrthynt y byddent yn gallu gosod gwresogyddion storio trydan costus, a oedd yn ganlyniad llawer llai dymunol, oherwydd eu bod yn deall y dechnoleg honno yn y bôn. Felly rwy'n credu bod eu dealltwriaeth o dechnoleg yn ddiffygiol. Ambell enghraifft yw'r rhain o nifer y cefais wybod amdanynt.
Rwy'n credu mai'r mater allweddol yw na fyddwn byth yn cyrraedd targedau arfaethedig Llywodraeth Cymru heb uwchraddio radical i seilwaith y grid a dealltwriaeth y darparwyr rhwydwaith hyn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog ehangu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion hyn yn arbennig, gan eu bod mor hanfodol i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Rwy'n pryderu'n fawr hefyd nad yw'n ymddangos bod Prif Weinidog y DU yn credu mewn newid hinsawdd na'r argyfwng natur, a'i bod eisiau buddsoddi mewn tanwydd ffosil a ffracio—gan fynd yn groes i waharddiad ar ffracio na chaiff ei godi hyd nes y profir yn bendant nad yw'n achosi daeargrydiau. Mae arbenigwyr daeareg yn dal i fethu gwneud hyn, ond eto maent yn dal i fod eisiau bwrw ymlaen ag ef, sy'n bryderus iawn.
Roeddwn mor falch o weld yr uned beirianneg newydd yn cael ei hadeiladu yng Ngholeg Llandrillo yn Y Rhyl, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Maent yn adeiladu canolfan sgiliau ynni tyrbinau gwynt flaenllaw yno, sy'n wych. Felly fe fyddant yn arwain ar uwchsgilio prentisiaid peirianneg yng ngogledd Cymru, ond maent yn gobeithio sicrhau'r cytundeb ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr hefyd i wneud y ddarpariaeth honno yng ngogledd Cymru, sy'n wych. Diolch.
Mi fyddwn i’n licio gwneud pwynt neu ddau ynglŷn â datblygiadau ynni gwynt y môr yn y dyfodol, efo cyfeiriad yn benodol at argymhelliad 11, sydd yn gofyn am eglurhad o ba gamau y byddai’r Llywodraeth yn eu cymryd i symleiddio’r broses ar gyfer datblygu prosiectau ynni adnewyddol yn y môr Celtaidd mewn blynyddoedd i ddod. Dwi’n llongyfarch y pwyllgor am y gwaith sydd wedi mynd i mewn i’r adroddiad yma, ac sydd yn cyffwrdd â chymaint o feysydd pwysig fel hwn.
Dwi’n darllen yn ymateb y Llywodraeth wrth iddyn nhw dderbyn yr argymhelliad hwn eu bod nhw'n edrych ar y broses o drwyddedu a chydsynio, ac ati, sydd yn bwysig iawn, a dwi’n croesawu hynny. Dwi’n falch o weld cyfeiriad at y ffaith bod trafodaethau yn digwydd efo Ystad y Goron, sydd yn gwbl, gwbl allweddol, a dwi’n ategu’r angen yn fan hyn i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros Ystad y Goron i Gymru.
Ond, mi hoffwn i holi’r Gweinidog ynglŷn â’r angen hefyd i sicrhau datblygiad y seilwaith ehangach yna a all ganiatáu i ni fanteisio yn economaidd i’r eithaf ar ynni adnewyddol. Dwi yn credu bod hynny’n flaenoriaeth, a dwi’n frwd iawn—fydd y Gweinidog ddim yn synnu o glywed hynny—dros ddatblygu porthladd Caergybi fel porthladd i wasanaethu’r genhedlaeth nesaf o brosiectau ynni gwynt y môr oddi ar arfordir Cymru. Dwi yn gweld bod yna gyfle go iawn yn fan hyn i greu swyddi, i ddod â buddsoddiad, i roi defnydd cynaliadwy hirdymor i hen safle Alwminiwm Môn, nid yn unig fel canolfan wasanaethu’r ffermydd gwynt nesaf, ond hefyd ar gyfer cynhyrchu. Felly, mi fyddwn i'n croesawu clywed gan y Gweinidog y math o gefnogaeth a'r math o ymrwymiad mae hi'n barod i'w roi i geisio gwireddu potensial porthladd Caergybi yn y ffordd yma.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James
Diolch, Ddirprwy Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw, a diolch yn fawr i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith am eu hadroddiad gwerthfawr iawn. Mae'r argyfwng a nododd y Cadeirydd yn ei ragair yn amlwg wedi dyfnhau, fel y dywedodd, ac mae'r ffaith bod yr argyfwng costau byw yn parhau o ganlyniad i gamreoli economaidd Llywodraeth y DU hollol ddi-drefn yn rhywbeth yr ydym eisoes wedi'i drafod nifer o weithiau heddiw yn barod. Rwy'n dal i orfod edrych ar fy ffôn i weld pwy yw'r Gweinidog cyfrifol.
Ond mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rhywfaint o help gyda chostau ynni yn hwyr yn y dydd, ond mae'r sicrwydd ynghylch y mesurau hynny wedi diflannu fel un o'r nifer o droeon pedol a ddilynodd cyllideb ddi-drefn y Torïaid fis diwethaf, fel y buom yn ei drafod ychydig yn gynharach. Mae costau ynni'n dal i fod yn sylweddol uwch na'r gaeaf diwethaf, hyd yn oed gyda'r cymorth hwnnw. Ceir llawer o aelwydydd a busnesau na chânt gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt, ac mae gennym gyfraddau llog uwch a phunt wannach erbyn hyn, sy'n codi chwyddiant i lefelau nas gwelwyd ers y 1980au a'r llywodraeth Geidwadol fwyafrifol ddiwethaf.
Mae'r DU wedi gweld rhai o'r codiadau mwyaf yng nghostau ynni, er gwaethaf dibyniaeth uniongyrchol gymharol gyfyngedig ar gyflenwadau nwy o Rwsia, a hynny'n uniongyrchol oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddiwygio system ynni'r DU dros y degawd diwethaf. Ceir risg y bydd y methiant hwn yn ein gorfodi i fod yn ddibynnol ar danwydd ffosil, fel sy'n cael ei adlewyrchu yn y cyhoeddiadau enbyd gan Lywodraeth y DU ar ei bwriad i ehangu trwyddedau olew a nwy newydd ym môr y Gogledd, a hwyluso gwaith ffracio newydd yn Lloegr. Hoffwn ailadrodd unwaith yn rhagor, rydym yn gwrthwynebu'r ddau fesur hwn yn chwyrn, a bydd ein polisïau'n parhau i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i wrthwynebu unrhyw echdynnu newydd yng Nghymru.
Mae'r system bresennol wedi caniatáu i fusnesau mawr yn y sector ynni gynhyrchu ffawdelw digynsail, a dylai Llywodraeth y DU fod yn targedu'r enillion ffawdelw ar draws y sector ynni cyfan i ariannu'r cymorth i aelwydydd a busnesau. Mae'n anodd dirnad beth ddaeth dros Lywodraeth y DU i ddiystyru trethu ffawdelw yn y sectorau olew a nwy. Ni allaf ddirnad ai ideoleg yw hi neu a ydynt wedi paentio eu hunain i gornel wleidyddol nad ydynt yn gwybod sut i ddod ohoni.
O ystyried y troeon pedol diweddar a chyflwr truenus cyllid cyhoeddus o ganlyniad uniongyrchol i benderfyniadau a wnaethant, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd Llywodraeth y DU yn ailystyried ei safbwynt ar echdynnu tanwydd ffosil ar fyrder, Ddirprwy Lywydd, oherwydd nid esgus dros leihau uchelgais ar gyfer system ynni decach a gwyrddach yw'r argyfwng hwn. Mae'r argyfwng, mewn gwirionedd, yn mynnu ein bod yn rhoi camau pellach ar waith i fynd i'r afael â methiannau'r degawd diwethaf, tra byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed rhag y cythrwfl economaidd Torïaidd hwn.
Sefydlwyd yr archwiliad dwfn i ynni adnewyddadwy i nodi cyfleoedd a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n peryglu ein huchelgais i Gymru o leiaf ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain o ffynonellau adnewyddadwy, er, yn amlwg, byddem yn hoffi bod yn allforiwr net hefyd. Ac rwy'n hynod ddiolchgar i aelodau'r archwiliad dwfn am eu gwaith ystyrlon, ac am eu cefnogaeth barhaus wrth inni weithredu'r argymhellion.
Gydag uchelgais clir ar waith, byddwn yn ymgynghori ar dargedau ynni adnewyddadwy diwygiedig yn ddiweddarach eleni, yn unol â'n hymrwymiadau, fel y'u nodir yn 'Cymru Sero Net'. Mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn briodol y rôl y gall targedau ei chwarae yn helpu i ddod â mwy o eglurder i ddiwydiant, rhanddeiliaid ac i'r holl ddinasyddion ar y llwybr i system ynni sero net. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod gan Gymru doreth o adnoddau naturiol sy'n golygu ein bod yn gallu cynhyrchu ynni i ateb y galw mewn mannau eraill. Ond os ydym am ddefnyddio ein hadnoddau, rhaid inni wneud hynny mewn ffordd sy'n diogelu ein treftadaeth naturiol ac sy'n cadw cymaint â phosibl o fudd a gwerth yng Nghymru, gan rannu'r costau a'r gwobrau'n deg, fel y mae nifer fawr o'r Aelodau wedi dweud yn ystod y ddadl hon.
Rydym eisoes wedi cyflawni nifer o ymrwymiadau o'r archwiliad dwfn; rydym wedi cyhoeddi ein canllawiau ar berchenogaeth i gefnogi'r trafodaethau rhwng datblygwyr a chymunedau i gyflawni ein huchelgeisiau perchnogaeth leol a chymunedol; rydym wedi cynyddu'r adnoddau i Ynni Cymunedol Cymru a'r cyllid sydd ar gael drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i ddarparu prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol; ac rydym yn parhau i fwrw ymlaen â gwaith ar gwmni datblygu ynni adnewyddadwy mewn dwylo cyhoeddus, fel y gwnaethom ymrwymo i'w wneud yn 'Cymru Sero Net'.
Hoffwn nodi, Janet, eich amheuaeth yn eich cyfraniad am gwmni sy'n eiddo i'r wladwriaeth ar gyfer y DU neu i Gymru, ond wrth gwrs, caiff y grid ei ddarparu gan Scottish Power yng ngogledd Cymru, ac eironi'r hyn a ystyriwch yn gwmni preifat sy'n eiddo i wlad wahanol—yr un peth ar gyfer ynni, yr un peth ar gyfer y rheilffyrdd, yr un peth ar gyfer yr hyn a elwir gennych yn sector preifat—byddwn yn hoffi pe baech yn callio ac yn deall bod y gwledydd hynny'n elwa o ddiffyg uchelgais ein Llywodraeth ar gyfer ei phobl ei hun. Nid ydym yn rhannu'r diffyg uchelgais hwnnw. Byddwn yn cyflwyno manylion am ein cynlluniau ar gyfer cwmni datblygu mawr mewn dwylo cyhoeddus yr wythnos nesaf, a sut y byddwn yn datblygu perthynas newydd gyda'r sector preifat i gyflawni'r nod hwnnw.
Rydym eisiau cefnogi sector ynni adnewyddadwy preifat sy'n ffynnu ac sy'n darparu'r gwerth economaidd a chymdeithasol y gall buddsoddiad ei gynnig i Gymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth, lle mae gennym weledigaeth gyffredin ar gyfer y modd y bydd buddsoddiad o fudd uniongyrchol i bobl Cymru. Rhaid imi ddweud ar y pwynt hwn, Rhun, fy mod wedi cael trip pleserus iawn i Wynt y Môr, ond fe gawsom drafodaeth adeiladol iawn gyda datblygwr yno ynglŷn â sut y gallwn ymgorffori trefniadau ynni cymunedol yn y system honno, a bydd hynny'n gwella'r holl system ar draws gogledd Cymru. Rhaid inni sicrhau'n bendant fod y ffrydiau cyflenwi, ar gyfer cam adeiladu a cham gweithredu'r datblygiadau sector preifat hynny—er, unwaith eto, mae 'sector preifat' mewn dyfynodau—yn dod i Gymru, felly rwy'n benderfynol iawn o wneud hynny. Ond rydym hefyd yn benderfynol o gynnwys rhaglen perchnogaeth gymunedol yn y datblygiadau preifat hynny drwy gwmni datblygu mawr.
Mae ein trefniadau cydsynio a chynllunio a thrwyddedu yno i gefnogi datblygiadau priodol ac i osgoi effeithiau annerbyniol ar bobl a'r amgylchedd. Mae angen inni wneud yn siŵr fod y prosesau sy'n penderfynu ar geisiadau yn addas i'r diben ac nad ydynt yn oedi penderfyniadau'n ddiangen, ond nad ydynt yn effeithio'n ddiangen ar ein hamgylchedd ychwaith. Mae ein rhaglen waith i symleiddio'r prosesau cydsynio a sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gefnogi datblygwyr yn mynd rhagddi. Byddwn yn nodi casgliadau'r adolygiad annibynnol o drefniadau cydsynio morol erbyn diwedd eleni, ac fel y mae llawer o'r Aelodau wedi dweud, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Bil cydsyniad seilwaith cyn diwedd y flwyddyn nesaf.
Rhan allweddol o'r seilwaith sydd ei angen arnom yw digon o gapasiti grid, fel y mae pawb, fwy neu lai, wedi'i gydnabod. Mae'n amlwg nad yw'r system bresennol, gyda'r cyfrifoldeb wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU, yn addas i'r diben. Braidd yn drasig, ac ychydig cyn y traed moch go iawn a ddilynodd dros y ffin, roeddwn newydd siarad â'r Gweinidog ar y pryd, Greg Hands, ac o'r diwedd roeddent wedi derbyn yr angen am grid wedi'i gynllunio a gweithredwr system rhwydwaith uwch. Siaradais â phennaeth Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU y bore yma, i bwysleisio'r ffaith ein bod eisiau i'r ymrwymiad hwnnw barhau. Mae'n ymddangos i mi fod cyswllt â Llywodraeth bresennol y DU yn amhosibl oherwydd nid ydynt yn aros yn y swydd yn ddigon hir ichi allu cael eu cyfeiriad. Ond os cawn unrhyw synnwyr o bwy sy'n gyfrifol amdano, byddwn yn gwthio hynny. Mae gennyf gyfarfod grŵp rhyng-weinidogol wedi'i drefnu ar gyfer dydd Llun. Roedd i fod i gael ei gynnal wyneb yn wyneb yng Nghaeredin; mae'n rhithiol erbyn hyn, oherwydd nid ydym yn gwybod pwy yw'r Gweinidog a fydd yn mynychu o Lywodraeth y DU. Ond byddwn yn gwthio i sicrhau parhad yr ymrwymiad i weithredwr system rhwydwaith uwch a grid wedi'i gynllunio, oherwydd dyna sydd ei angen arnom. Rydym wedi bod yn gwthio am hynny ers cyn cof; rwyf wedi bod yn siarad am hyn ers 40 mlynedd yn bersonol. Sut y gallwn gael grid wedi'i lywio gan y farchnad mewn amgylchiadau lle nad oes marchnad weithredol, hynny yw, mae'n anghredadwy. Felly, byddwn yn gwthio am hynny. Er hynny, nid dim ond gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â hynny rydym ni; mae gennym brosiect grid Cymru ar gyfer y dyfodol yng Nghymru, felly byddwn yn arwain ar hynny. Rydym wedi mabwysiadu dull strategol o weithredu ar seilwaith y grid, wrth inni ddarparu'r dystiolaeth empirig ar gyfer yr hyn sydd ei angen ar y grid yng Nghymru, er mwyn llywio anghenion gweithredwr system.
Roedd yr archwiliad dwfn yn cydnabod yr angen parhaus am ddull gweithredu strategol i Gymru yn yr argymhelliad ar gyfer pensaer system; rydym yn ystyried honno fel un elfen mewn set ehangach o ddiwygiadau sydd eu hangen ar lefel y DU i reoleiddio'r system ynni i ddod yn faes mwy deinamig, effeithlon a chynaliadwy. Rydym yn gweithio ar wahân [Torri ar draws.]—ni fydd gennyf amser yn awr, mae fy amser wedi dirwyn i ben—gydag CNC ar y cyllidebau a'r Bil cynllunio seilwaith, ac rwyf am ddweud wrth Janet fy mod yn falch o weld ei bod wedi cefnogi datganoli Ystadau'r Goron, ac rwy'n edrych ymlaen at gael fy nghopïo i mewn i'w llythyr at y Gweinidog.
Ar bwynt o drefn—
Nid yw'n bwynt o drefn, ond fe wnaf ganiatáu ichi wneud ymyriad os ydych chi eisiau gwneud hynny.
Diolch yn fawr, a diolch am dderbyn yr ymyriad. Ni chlywais beth a ddywedodd Alun. Ni wneuthum ddweud yn onest fy mod yn ei gefnogi; nid oeddwn yn golygu hynny beth bynnag.
Rydych chi'n ei dynnu'n ôl. Tro pedol arall gan y Ceidwadwyr, yma ar lawr y Senedd. [Chwerthin.]
Rwy'n credu bod yr Aelod wedi mynegi ei hun a chywiro pethau, felly—.
Diolch.
Mae hi eisiau i'r arian aros yn—[Anghlywadwy.]
Weinidog.
Felly, Ddirprwy Lywydd, mae fy amser wedi dod i ben yn awr, er fy mod wedi derbyn nifer o ymyriadau. Yn y tymor byr sydd ar gael, rwyf wedi nodi rhai o'r camau allweddol a gymerwyd gennym yn unol ag argymhellion y pwyllgor. Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad cynnydd ar gyfer holl argymhellion yr archwiliad dwfn, fel y cydnabu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae angen inni weithredu ar y cyd ar draws nifer o feysydd yng Nghymru—gweithredu gan fusnesau, mewn cymunedau, a'r camau sy'n galw ar Lywodraeth y DU i ysgwyddo ei siâr o'r cyfrifoldeb. Mae angen inni weithredu ar frys i gyweirio'r farchnad doredig, er mwyn diogelu defnyddwyr y gaeaf hwn a sicrhau ein bod yn symud yn gyflym oddi wrth danwydd ffosil ac yn adeiladu system ynni sero net wydn a chynaliadwy. Ac rwyf am gloi drwy ddiolch unwaith yn rhagor i'r pwyllgor am ei waith gwerthfawr. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd, y Cadeirydd, i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Gwnaf i ddim ailadrodd popeth mae pawb wedi'i ddweud; mae yna beryg o wneud hynny weithiau wrth gau dadl fel hyn, ond dim ond i bigo rhai o'r prif themâu. Yn sicr, mae'r neges ynglŷn â thrwyddedu a chaniatadau yn dod trwyddo'n glir. Ar drwyddedu ar y môr, dwi'n ymwybodol bod, yn Lloegr, y Llywodraeth yn ymrwymo i leihau'r amserlen ar gyfer trwyddedu i 12 mis. Rŷn ni'n gwybod am enghreifftiau yn yr Alban lle mae’r Llywodraeth yn fanna wedi trwyddedu prosiectau mawr o fewn 11 mis. Felly, rŷn ni'n edrych nawr i Lywodraeth Cymru i wybod ble mae Cymru yn mynd, ac rôn i'n falch o glywed bod yna gyhoeddi efallai ar ganlyniadau gwaith sydd wedi digwydd ddiwedd y flwyddyn. Ond, wrth gwrs, eto, diwedd y flwyddyn—mae yna risg ein bod ni'n colli cyfle fan hyn a bod y cyfleoedd mawr y mae'r gwledydd eraill o'n cwmpas ni yn eu cofleidio yn mynd i fod wedi cael eu colli erbyn inni gyrraedd y pwynt lle rŷn ni'n barod.
Mi oeddwn i'n mynd i groesawu datganiad llefarydd y Ceidwadwyr eu bod nhw bellach o blaid datganoli Ystad y Goron. Mae hi bellach wedi egluro nad ydyn nhw o blaid hynny. Mae’n amlwg bod u-turns yn nodwedd y mae’r Ceidwadwyr yn falch iawn ohonyn nhw ac mae'r u-turn yna yn gynt hyd yn oed na rhai o rai Liz Truss yn yr wythnosau diwethaf. Ond, dyna fe, dwi ddim yn gwybod, rhyw bolisi—. Wel, cewch chi esbonio pam neu le rŷch chi'n sefyll efallai rhywbryd eto.
Mae yna gyfraniadau eraill wrth gwrs oedd wedi cyfeirio at bwysigrwydd ein bod ni'n cael rheolaeth dros ddewis y dyfodol ynni rŷn ni eisiau ei weld yng Nghymru, yn hytrach na bod eraill yn gwneud hynny drostyn ni, oherwydd rŷn ni'n gweld y legacy sydd wedi cael ei adael yng nghyd-destun glo a chyd-destunau eraill. Ond, ar yr un pryd, wrth gwrs, mae cydbwyso'r ehangu ynni adnewyddadwy yna gyda atal dirywiad bioamrywiaeth yn rhywbeth rŷn ni i gyd yn ingol ymwybodol ohono fe.
Roedd Alun Davies yn dweud, mewn gwirionedd, does yna ddim lot o wahaniaeth, efallai, rhwng beth mae’r pwyllgor yn ei ddweud a beth mae’r Llywodraeth yn ei ddweud. Y rhwystredigaeth fawr yw, wrth gwrs, fod y pwyllgor a’r pwyllgorau o'n blaenau ni wedi bod yn dweud hyn ers 10 mlynedd a rŷn ni dal yn gorfod ei ddweud e. Ac rwy'n derbyn bod yna nifer o'r elfennau hynny y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, ac mae rhywun yn cydnabod hynny. Ond mae yna deimlad o fenter ar y cyd—y joint venture yma yr oedd Alun yn sôn amdano, a rwy'n credu sydd yn rhywbeth y dylem ni fod yn adeiladu arno fe. Ond hefyd y joint venture go iawn rŷn ni eisiau ei weld yw rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn datgloi’r potensial rŷn ni eisiau ei weld.
Diolch i Rhun am gyfeirio’n benodol at y seilwaith, wrth gwrs, sydd yn gwbl ganolog i’r hyn sy’n gyrru llawer o’r weledigaeth rŷn ni eisiau ei weld, ac y mae porthladd Caergybi—fel Aelod rhanbarthol, gallaf ddweud y byddwn i'n cytuno 100 y cant. Fel cadeirydd y pwyllgor, byddwn i'n dweud, wrth gwrs, fod yna borthladdoedd ar draws Cymru rŷn ni eisiau gweld yn manteisio ar hyn. Ond, wrth gwrs, mae'r holl werth ychwanegol a fydd yn dod yn sgil y cadwyni cyflenwi ac yn y blaen—hynny yw, dyna’r gôl, yntefe? Hynny yw, rŷn ni eisiau gwireddu yr holl fuddiannau—nid dim ond y datgarboneiddio, ond y buddiannau economaidd a'r buddiannau cymdeithasol fydd yn gallu dod yn ei sgil e. Felly, dyw cyflawni un o'r rheini—dyw hwnna ddim yn llwyddiant; mae'n rhaid inni gyflawni ar bob un o'r ffryntiau yna.
Ac mae’r Gweinidog yn iawn, wrth gwrs: mae unrhyw fath o sicrwydd o fewn y sector yn yr hinsawdd rŷn ni'n ffeindio ein hunain yng nghyd-destun cyflwr Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn heriol eithriadol. Ac mae yna adroddiadau, onid does, fod y bleidlais ynglŷn â ffracio yn mynd i fod yn rhyw fath o bleidlais o hyder, neu fel arall, yn y Prif Weinidog. Wel, efallai fod hynny’n wir, ond, i mi, yn bwysicach na hynny, mi fyddai pleidlais felly yn bleidlais o hyder, neu ddiffyg hyder, yng nghenedlaethau’r dyfodol. Anghofiwn ni am unigolion, ond mi fyddai fe'n arwyddocaol iawn dwi'n credu ac yn ddatganiad clir o gyfeiriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod newid hinsawdd yn rhywbeth sydd bellach ddim yn flaenoriaeth, a hynny, fel rôn i'n dweud, lai na blwyddyn ers uwchgynhadledd COP.
Felly, diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau. Mae hwn yn ddarn o waith wrth gwrs fydd yn parhau o safbwynt y pwyllgor. Mi fyddwn ni'n parhau i graffu ar waith y Llywodraeth yn y cyd-destun yma ac mi fyddwn ni'n parhau i fod yn feirniadol pan fo angen, ond i fod yn gefnogol hefyd er mwyn trio cael y maen i'r wal. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.