– Senedd Cymru am 4:40 pm ar 25 Ionawr 2023.
Eitem 7, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Delyth Jewell.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n gwneud y cynnig ar ran y pwyllgor.
Mae’n bleser gen i agor y ddadl heddiw am adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ar effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwn ac sydd wedi rhannu eu profiadau nhw gyda ni fel pwyllgor. Mae hyn yn cynnwys y nifer sylweddol o ymatebion ysgrifenedig a gawsom. Mae hwnna'n dystiolaeth o ba mor bryderus y mae llawer o randdeiliaid am effaith costau byw ar eu gwaith. Hoffwn i ddiolch hefyd wrth gwrs i aelodau'r pwyllgor a’n tîm cynorthwyo am eu gwaith nhw.
Mae diwylliant a chwaraeon yn arbennig o agored i’r problemau sy’n cael eu hachosi gan gostau byw uwch. Dydy cymryd rhan mewn gweithgareddau heb ddychwelyd yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn niweidio’r incwm yn y sectorau hyn, ac yn golygu bod llawer o bobl—yn aml y rhai mwyaf difreintiedig—yn colli’r manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â chymryd rhan. Ac fel y clywsom ni, nid pethau moethus ydy chwaraeon a diwylliant, ond y pethau sy’n rhoi pwrpas i fywydau pobl, y pethau sy’n ennyn hapusrwydd. Dydy’r colled ddim yn ariannol yn unig.
Ond mae’r pictiwr ariannol ar gyfer y sectorau hyn yn un sy’n achosi pryder. Mae lleoliadau yn y sectorau yn aml yn defnyddio llawer o ynni ac yn gweithredu gyda maint elw cul iawn. Mae pyllau nofio, er enghraifft, yn ddrud i’w gwresogi, ac yn wynebu costau cynyddol mewn meysydd eraill, fel cemegion glanhau. Mae costau uwch a llai o incwm yn golygu bod lleoliadau fel hyn mewn perygl o gau yn barhaol. Unwaith y byddan nhw wedi cau, maen nhw’n annhebygol o ailagor.
Ac mae’r problemau yn ddifrifol gyda diwylliant hefyd. Dywedodd cyngor y celfyddydau ym mis Medi fod yr
'argyfwng sy’n wynebu'r sector mor fawr ag ar unrhyw adeg dros y ddwy flynedd diwethaf.'
Roedd y sectorau hyn dan fygythiad o gau lleoliadau ar raddfa eang yn barhaol yn ystod y pandemig. Fe wnaeth gweithredu cyflym yn ystod COVID, a chyllid hefyd gan Lywodraeth Cymru, dros £140 miliwn, gwnaeth hwnna atal hyn rhag digwydd. Ein pwynt ni fel pwyllgor yw y byddai'r arian hwn wedi cael ei wastraffu pe bai’r lleoliadau hyn yn cael eu cau nawr.
Rydyn ni wedi galw am gyllid ychwanegol wedi’i dargedu i gynnig achubiaeth i leoliadau a allai gau’n barhaol yn ystod y misoedd nesaf, ond sydd â siwr o fod dyfodol hir a chynaliadwy o’u blaenau fel arall. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi derbyn ein hargymhelliad allweddol ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer y sectorau hyn; mae hwn i'w groesawu, ond mae’r swm sy’n cael ei ddarparu, yn anffodus, yn ffracsiwn o’r hyn y mae’r sector wedi galw amdano.
Mae’r Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio at £3.75 miliwn ychwanegol ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23. Wrth gwrs, mae arian ychwanegol yn beth i'w groesawu, ond gellir cymharu hyn â’r £5 miliwn i £10 miliwn ar gyfer y celfyddydau yn unig y mae cyngor y celfyddydau wedi galw amdano. Byddai’n dda gwybod faint o’r £3.75 miliwn y cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog ato oedd ar gyfer dyfarniadau cyflog yn y sectorau hyn.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym yn ystod yr ymchwiliad fod y
'twf yng nghostau ynni ynghyd â chwyddiant cynyddol yn peri risgiau i unigolion, aelwydydd, busnesau, sefydliadau a sectorau na welwyd ers yr Ail Ryfel Byd.'
Ond ein barn ni fel pwyllgor yw nid yw’r ffordd y mae’n ymateb yn cyfateb i’r disgrifiad hwn. Cafodd Llywodraeth Cymru ganmoliaeth haeddiannol gan y sector ddiwylliannol am ba mor gyflym oedd ei hymateb i COVID-19, ond hyd yma, mae ei hymateb i effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon wedi methu â chyd-fynd â pha mor ddifrifol yw’r argyfwng. Roedd y pandemig yn broblem gyffredinol a oedd yn gofyn am ymatebion penodol i’r sector. Mae’r un peth yn wir am yr argyfwng costau byw, ac yn anffodus, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ers cyhoeddi ein hadroddiad.
Mae gostyngiadau yn y cymorth ar gyfer biliau ynni gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ionawr 2023 wedi cynyddu pryderon ynghylch cau busnesau ar draws y sectorau diwylliant a chwaraeon. Dywedodd UK Active y bydd cynllun gostyngiad biliau ynni newydd y Llywodraeth yn methu â rhoi’r cymorth sydd ei angen ar filoedd o byllau nofio, canolfannau hamdden a champfeydd i osgoi cyfyngiadau pellach ar wasanaethau, cau canolfannau a cholli swyddi. Dywedodd y Music Venue Trust fod lleoliadau, ynghyd â’r sector lletygarwch cyfan, wedi’u rhoi mewn categori cyffredinol o gymorth sydd mor annigonol fel ei fod yn anochel yn gorfod arwain at gau lleoliadau yn barhaol.
Rydyn ni wedi dechrau gweld arwyddion sy’n peri pryder y gallwn weld lleoliadau yn cau ar raddfa eang ac yn barhaol, a hynny yn fuan iawn: yng Nghaerdydd, gyda dyfodol Neuadd Dewi Sant ac Amgueddfa Caerdydd; ac mae Cyngor Sir Powys wedi osgoi o drwch blewyn cau pyllau nofio dros dro mewn ymateb i’r argyfwng ynni. Mae un o’r deisebau mwyaf poblogaidd yng Nghymru ar hyn o bryd yn galw am gyllid uniongyrchol i gefnogi pyllau nofio a chanolfannau hamdden yn ystod yr argyfwng ynni. Wrth gwrs, ym mis Tachwedd, rhybuddiodd UK Active fod 40 y cant o ardaloedd cyngor mewn perygl o golli eu canolfannau hamdden a phyllau nofio o fewn pum mis, neu weld gwasanaethau’n cael eu had-drefnu neu eu cau.
Felly, yn anffodus, dydy’r pictiwr ddim yn un braf; dyw e ddim yn un hawdd ei drafod, ond mae’n angenrheidiol inni ei drafod. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau eraill, ac wrth gwrs, y Dirprwy Weinidog. Ac rwy’n gobeithio y gallwn ni gynnig gobaith yn yr adeg dywyll iawn yma.
Hoffwn ddiolch hefyd, fel y gwnaeth Delyth Jewell, i randdeiliaid o'r sectorau chwaraeon a diwylliant yng Nghymru am roi eu hamser i'r pwyllgor a nodi'r materion allweddol sy'n eu hwynebu.
Fe wnaeth nifer o bethau fy nharo wrth inni gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad, gan gynnwys ystod enfawr o broblemau y mae'r sectorau hyn yn eu hwynebu. Er enghraifft, cawsom dystiolaeth a oedd yn dangos bod cynnydd mewn cyflogau yn ffactor mawr mewn perthynas â throsiant staff, yn ogystal â fforddiadwyedd cadw staff. Felly, mae'n amlwg fod yn rhaid i ni, unwaith eto, ddibynnu ar wirfoddolwyr i helpu i gadw ein sector diwylliant bywiog i fynd. Rwy'n gredwr mawr mewn gwirfoddoli, ond yn credu nad rhoi mwy o faich arnynt heb gefnogaeth gadarn yw'r ffordd i fynd. Felly, byddai'n dda clywed gan y Dirprwy Weinidog beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl sy'n dilyn gyrfaoedd yn y maes hwn yn cael eu hannog, ond hefyd pa gefnogaeth ychwanegol at hynny sy'n cael ei darparu i wirfoddolwyr yn ogystal.
Mae parodrwydd hefyd yn fater sy'n codi. Nid yw'r arian gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf wedi ystyried cynnydd mewn costau cyn y pandemig. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaethom ei glywed gan y tystion a ddaeth ger ein bron. Yn amlwg, cafodd lleoliadau diwylliannol a chwaraeon eu cefnogi drwy gydol y pandemig gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond mae yna ymdeimlad na cheir gwybodaeth am eu cyllid hirdymor, ac ni fydd cefnogaeth yn y tymor byr, fel yr amlinellwyd gan y Dirprwy Weinidog yn ei hymateb i'r pwyllgor, yn helpu yn hynny o beth. Felly, dylem fod yn edrych ymhellach i lawr y ffordd a sicrhau bod yr adnoddau cymunedol hanfodol hyn yn cael eu diogelu a'u meithrin. Ac rwy'n teimlo'r pryderon a amlinellir gan randdeiliaid pan ddywedant,
'Mae'r sector yn fregus yn ariannol—llawer o archebion hwyr, diffyg hyder y cyhoedd ac arian parod, niferoedd uchel nad ydynt yn dod felly dim incwm eilaidd yn y bariau ac ati.'
Mae'r breuder hwnnw, ochr yn ochr â chostau ynni cynyddol, yn peri i leoliadau godi eu prisiau, sydd yn ei dro yn prisio llawer o unigolion a theuluoedd yng Nghymru allan o fwynhau'r sector celfyddydau a diwylliant, sydd wedyn yn troi'n gylch dieflig.
Ddirprwy Lywydd, Chwaraeon Cymru a ddarparodd y rhan wirioneddol bryderus o'r dystiolaeth a gawsom, lle nodwyd bod costau cynyddol yn effeithio'n negyddol ar allu dau o bob pump o bobl a bod 30 y cant yn dweud eu bod yn gwneud llai o weithgarwch corfforol o ganlyniad. Dylai hynny ganu larymau ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn sgil ffocws ar leihau gordewdra, yn ogystal â gwerth chwaraeon i atal cyflyrau iechyd hirdymor.
Os caf droi at ateb Llywodraeth Cymru, rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn pob un heblaw dau o'r argymhellion. Fodd bynnag, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y ffaith bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn argymhelliad 4 ynglŷn â darparu cyllid cyfalaf i'r sector chwaraeon a diwylliant ar gyfer gwyrddu eu defnydd o ynni, ond yn ei hymateb soniodd y byddai'n cael ei ddarparu drwy'r cyllid grant cyfalaf heb ei glustnodi a roddir i gynghorau. A dywedodd y gellid defnyddio'r arian hwn
'a roddir i Awdurdodau Lleol i gynnal eu cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol os yw Awdurdodau o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.'
I mi, rwy'n teimlo bod hwnnw'n gymal osgoi braidd, gan y bydd gan awdurdodau lleol flaenoriaethau sy'n cystadlu, yn amlwg, ac efallai na fydd sicrhau bod lleoliadau diwylliannol a chwaraeon yn gwneud defnydd effeithlon o ynni ar frig y rhestr honno o reidrwydd. Roedd hwn yn bwynt a wnaed yn dda iawn gan Community Leisure UK Cymru yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor, felly byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed sut mae'r derbyniad hwn gan y Dirprwy Weinidog yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod.
Siom hefyd oedd gweld o'r argymhellion nad oedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn agor deialog gyda Llywodraeth y DU ar becynnau cymorth chwaraeon a diwylliannol, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n gyfle a gollwyd. Er enghraifft, roedd y Pwyllgor Technoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Senedd y DU yn galw am ryddhad treth gwerth ychwanegol ym mis Tachwedd, a allai fod yn help mawr i'r sector cerddoriaeth fyw a'r sector treftadaeth yng Nghymru, gan gynnwys ar gyfer adfer adeiladau a gwerthiant tocynnau. Hefyd, fe glywsom pa mor bwysig oedd y gronfa adferiad diwylliannol i lawer yn y sector celfyddydau yng Nghymru, ac mae angen inni sicrhau bod hynny'n cael ei ddatblygu.
Ymddengys bod yma thema. Roedd yr argymhelliad arall a wrthodwyd gan y Dirprwy Weinidog hefyd yn ymwneud â gwella ymgysylltiad â'r sector diwylliannol. Felly, mae'n edrych yn debyg efallai nad yw Llywodraeth Cymru'n dda am chwarae gydag eraill, ac mai perthynas un ffordd yw hi. Os yw'r hanes o ymgysylltu â'r sectorau hyn yn rhagorol fel y dywedwch, Ddirprwy Weinidog, pam mae'r argymhelliad hwnnw wedi ei gynnwys yn y lle cyntaf yn adroddiad y pwyllgor?
Nid yw'n alwad i sicrhau'n unig fod ein diwylliant yn cael ei ddiogelu, ond yn rhesymegol, mae'n rhan o'n heconomi hefyd. Mae'n drueni mawr fod Llywodraeth Cymru wedi colli cyfleoedd economaidd enfawr, fel gwneud cais i gynnal Eurovision a Gemau'r Gymanwlad, a fyddai wedi arddangos ein talent ar lwyfan rhyngwladol. I gloi felly, dylai fod yn ddyletswydd arnoch chi fel Gweinidog a ninnau fel Aelodau o'r Senedd i ddangos pa mor bwysig yw diwylliant cyfoethog a balchder chwaraeon Cymru, yn enwedig i sicrhau eu bod yn parhau. Yn hytrach, yr hyn na ddylem fod yn euog ohono yw gwylio o'r cyrion yn hytrach na mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n wynebu'r sectorau hyn. Diolch.
Fel eraill, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i'r bobl a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, a diolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor am y gwaith a wnaethant yn cynhyrchu'r adroddiad hwn. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn amserol iawn. Mae'n ymdrin â rhai o'r materion mwy sylfaenol sy'n ein hwynebu fel gwlad, ac fel Tom Giffard, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am dderbyn pob un ond dau o'n hargymhellion. Mewn sawl ffordd, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi'r hyn a wyddom eisoes—mae'n nodi'r amlwg, fod costau wedi cynyddu—a gwelsom effaith y cynnydd hwnnw mewn costau, a gallwn ddisgrifio mewn ffyrdd gwahanol sut mae'r cynnydd hwnnw wedi effeithio ar y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon yn ein hetholaethau ein hunain. Ond rwyf eisiau gwneud pwynt ychydig yn wahanol y prynhawn yma.
Er ei bod yn deg dadlau bod costau uwch yn cael effeithiau tebyg ar draws y wlad—yr un yw'r costau trydan cynyddol yma ag y byddent ym Mlaenau Gwent—yr hyn y byddwn i'n ei ddadlau serch hynny yw bod yr effaith ar bobl a lleoedd yn wahanol. Os mai ymateb Llywodraeth yn syml yw trin pob lle a phobl yn gyfartal, nid ydynt yn mynd i'r afael â'r problemau go iawn sy'n effeithio ar bobl mewn gwahanol rannau o'r wlad. Cawsom sgwrs yn y cwestiynau amserol am natur cydraddoldeb yn y byd rygbi, ond y pwynt rwy'n awyddus i'w wneud y prynhawn yma yw bod elfen bwysig a sylfaenol o gydraddoldeb ym mhopeth a wnawn o ran y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon, ac ar hyn o bryd, rwy'n credu ein bod yn methu prawf sylfaenol cydraddoldeb.
Fe gawsom sgwrs gyda'r Gweinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â chyllideb Llywodraeth Cymru, ac fe wnaeth y Gweinidog yr achos cywir a chlir mai mater i wahanol gyrff, fel Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yw dosbarthu arian yn ôl y llythyr cylch gwaith a osodwyd ar eu cyfer, a bod y llythyr cylch gwaith yn ymdrin â'r pum mlynedd nesaf. Rwy'n derbyn ac rwy'n cytuno â hynny, a dyna'r ateb cywir i'r cwestiwn, ond mae'n methu'r pwynt. Oherwydd bod gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i osod y llythyr cylch gwaith hwnnw, fel bod yr etholwyr rwy'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, a'r etholwyr y mae hi'n eu cynrychioli ym Merthyr Tudful mewn gwirionedd, yn cael eu trin yn gyfartal â'r bobl a gynrychiolir yma gan—Mae Jenny Rathbone bob amser yn dal fy llygad wrth imi edrych ar draws y Siambr, ac nid wyf yn pigo arnoch yn fwriadol, Jenny—ond y bobl y mae Jenny'n eu cynrychioli yng nghanol Caerdydd.
Felly, mae'n bwysig fod pobl nad ydynt yn gallu talu'r costau ychwanegol a godir i gael mynediad at weithgaredd diwylliannol neu chwaraeon yn cael cymorth ychwanegol i wneud hynny. Mae'n bwysig fod y lleoliadau a'r cyfleusterau nad ydynt yn gallu cynnal eu rhaglen weithgareddau na'u horiau agor i'r cyhoedd yn gyffredinol yn gallu gwneud hynny, ble bynnag y bônt. Ac mae mwy o ddibyniaeth ar gymorth Llywodraeth a chefnogaeth y Llywodraeth a rôl a lle Llywodraeth mewn llefydd fel Blaenau Gwent na mewn llefydd fel Caerdydd. Felly, os mai'r prawf a osodwn ar gyfer y Llywodraeth yw cydraddoldeb, rwyf am weld y Llywodraeth yn gwneud mwy lle mae'r angen mwyaf a llai lle mae llai o angen. Ac mae hwnnw'n bwynt anodd i'w wneud i'r Llywodraeth, oherwydd mae'r Llywodraeth yn hoffi dweud wrthym fod pob man yng Nghymru'n cael ychydig bach o jam, ac rydym wedi bod yn gwneud hyn ers y 15 mlynedd y bûm yma. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu bod rhai pobl yn dal i fod angen mwy o gymorth tra bod eraill yn cael cymorth nad ydynt ei angen yn llawn efallai. Ac rwyf am osod prawf cydraddoldeb i'r Gweinidog wrth ddadlau a thrafod yr adroddiad hwn, oherwydd mae'n bwysig, ac mae'n ymwneud â'r sgwrs a gawsom yn gynharach am gydraddoldeb.
Oherwydd yr hyn y ceisiwn ei gyflawni yng Nghymru yw newid diwylliannol, newid diwylliannol o ran gweithgaredd chwaraeon, fel bod pobl fel fi, sy'n edrych fel fi—a gadewch inni ei wynebu, rwyf wedi prynu siwt newydd bob blwyddyn am y 15 mlynedd diwethaf—yn gallu colli pwysau ac yn gallu cynyddu eu lefelau ffitrwydd. Ond ni allwch ei wneud os ydych chi'n cloi pobl allan o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd am na allant fforddio'r gost o'u defnyddio. Rydym eisiau gweld newid diwylliannol lle mae pawb yn cael yr un cyfle i fynegi pwy ydynt, eu hunaniaeth ddiwylliannol, eu cefndir eu hunain. Ond os nad ydynt yn mynd i'r lleoliadau diwylliannol sydd eu hangen arnynt i wneud hynny, rydych chi'n eu cloi allan o ddiwylliant ein gwlad.
Felly, os ydym am weld y newid y credaf ein bod i gyd eisiau ei weld, ar bob ochr i'r Siambr fel mae'n digwydd, mae hynny'n golygu na all y Llywodraeth sefyll yn ôl a dweud, 'Ysgrifennais lythyr y llynedd, ac fe ddof yn ôl atoch mewn pum mlynedd arall.' Mae'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth fod yn Llywodraeth weithredol, ac ymyrryd yn y materion hyn, fis ar ôl mis ac wythnos ar ôl wythnos, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r Llywodraeth wneud penderfyniadau anodd os yw o ddifrif ynglŷn â chydraddoldeb ac o ddifrif am gyflawni ei huchelgeisiau cydraddoldeb, a dyna rwyf am ei glywed yn eich ateb i'r ddadl hon, Weinidog. Diolch i'r Aelodau.
A gaf fi hefyd ategu fy niolch innau i'r clercod, fy nghyd-Aelodau a phawb a ddarparodd dystiolaeth? Fel dywedodd y Cadeirydd wrth agor y drafodaeth hon, mae'r sefyllfa yn waeth nag yr oedd hi pan oeddem ni'n cymryd tystiolaeth, ac mi oedd hi yn sefyllfa ddigon tywyll o ran dyfodol diwylliant a chwaraeon ledled Cymru ar y pryd. Ac mae pwynt Alun Davies yn un allweddol bwysig, dwi'n credu, o ran cydraddoldeb, oherwydd dwi'n casáu gweld arolygon gan gynghorau lleol ar y funud sydd yn gofyn, 'Ydych chi eisiau cadw eich llyfrgell neu'ch amgueddfa ar agor, neu ydych chi eisiau cael eich bins wedi'u gwagio yn rheolaidd? Ydych chi eisiau i bobl hŷn yn ein cymdeithas gael gofal neu ydych chi eisiau amgueddfa?' Dydy'r rhain ddim yn ddewisiadau teg, ac mae'n ffaith ein bod ni'n dal i weld diwylliant a chwaraeon fel pethau 'neis i'w cael'—rhai o'r pethau yma sydd jest yn ategu bywyd, yn hytrach na bod yn rhan hollol, hollol hanfodol o ran pawb ohonom ni.
Y gwir amdani ydy, er gwaethaf y ffaith bod gennym ni amgueddfeydd lleol, bod gennym ni lyfrgelloedd, bod gennym ni sefydliadau cenedlaethol, mae yna'n dal gormod o bobl yma yng Nghymru lle dydyn nhw ddim yn gallu cael mynediad ar y funud, fel y mae hi efo'r hyn sydd ar gael. Mae yna bob math o rwystrau am hynny. Rydym ni'n gwybod bod cost trafnidiaeth yn un o'r rhwystrau hynny. Os dydych chi ddim yn digon agos i allu mwynhau rhai o'r pethau anhygoel sydd ar gael am ddim, os ydych chi'n methu â'u cyrraedd nhw—. Dwi'n gwybod am amryw o bobl sydd yn byw yn agos iawn i Sain Ffagan ond yn methu â'i cyrraedd gan does ganddyn nhw ddim car neu eu bod nhw'n methu â fforddio bws. Mae honna'n rhwystr. Hyd yn oed pan ydych chi'n byw yng Nghaerdydd, mae yna rwystrau o allu cyrraedd.
Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni edrych hefyd, pan fo gennych chi'r costau trafnidiaeth, o ran hefyd bod lot o bobl yn dal i deimlo dyw diwylliant ddim iddyn nhw oherwydd dydyn nhw ddim wedi cael y cyfle, ac mae polisïau fel mynediad am ddim i'n hamgueddfeydd cenedlaethol yn rhan allweddol. Ond beth sy'n rhwystro pobl rŵan fydd costau bws i allu dod. Mae nifer o ysgolion yn dibynnu ar fws i allu dod i'n hamgueddfeydd cenedlaethol ni. Mae honna'n broblem ddirfawr oherwydd byddan nhw'n methu â fforddio'r tripiau yma. Felly, mae'r hyn fydd ar gael yn lleol yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig wedyn.
Rydyn ni'n sôn am wersi nofio; wel, mae cost hynny'n mynd i gynyddu. Mae pobl yn methu â'u fforddio nhw fel y mae hi. Yn lle ein bod ni'n cael ei weld o fel sgìl hollol allweddol, mi fydd yna benderfyniadau anodd yn cael eu gwneud, gan olygu bod yna lai o gyfleoedd, lle, ar yr un pryd, rydyn ni eisiau bod yn hyrwyddo'r agenda ataliadol, a hefyd, o ran cenedlaethau'r dyfodol, y ffaith ein bod ni eisiau i bawb gael yr un cyfle yng Nghymru, lle bynnag maen nhw'n byw. Felly, mae yna heriau gwirioneddol. Dwi'n meddwl mai un o'r pryderon mawr oedd yn dod allan o'r adroddiad hwn oedd y ffaith bod y cynnydd mewn costau yn mynd i gael yr effaith ar y rhai rydyn ni angen bod yn rhoi mwy o gyfleoedd iddyn nhw.
Un o'r pethau y byddwn i'n gofyn i'r Gweinidog, efallai, i ehangu, ydy pam y gwrthodwyd y degfed argymhelliad o ran cynyddu'r ddeialog o ran y sector diwylliannol. Dwi'n derbyn bod gennych chi berthynas dda, ond gaf i ofyn faint o ddealltwriaeth sydd yna, neu faint o fapio sy'n cael ei wneud, o ran y sefyllfa sy'n wynebu'r sector ar y funud, a hynny ledled Cymru, a beth fydd effaith hynny wedyn o ran cynulleidfaoedd? Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd cydweithio efo'r sector addysg ac ati i ddeall beth ydy effeithiau diffyg tripiau ysgol ac ati o ran y mynediad hwnnw.
Un o'r pethau sydd ddim yn glir i fi o ran yr ymateb ydy sut ydyn ni hefyd yn mynd i fod yn adeiladu ar waith pethau fel yr adolygiad amgueddfeydd lleol a fuodd yn 2015, a oedd yn dangos yn glir effaith toriadau blaenorol o ran y gwasanaethau hyn. Mae'r sefyllfa hyd yn oed yn fwy difrifol rŵan. Felly, efallai fod yna ddeialog, ond lle mae'r gweithredu wedi bod? Heb os, mae'n sefyllfa ariannol hollol, hollol anodd i'n cynghorau lleol ni am mai gwasanaethau anstatudol ydy nifer o'r rhain, gan gynnwys o ran chwaraeon, felly. Felly, os ydyn ni'n cymryd hyn yng nghyd-destun hefyd y gwasanaeth iechyd, mi wnes i sôn yn gynharach ynglŷn â phwysigrwydd chwaraeon a diwylliant o ran yr elfen ataliadol hefyd, ein bod ni'n sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb yng Nghymru. Sut ydyn ni felly yn mynd i fod yn edrych yn wahanol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn parhau?
Fe fyddwn i'n hoffi'n gweld neges glir gan y Llywodraeth dydyn ni ddim yn ystyried diwylliant a chwaraeon fel pethau neis i'w cael pan fo amseroedd yn dda, fod hyn yn eithriadol o bwysig o ran gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran pob elfen o'r agenda, o daclo tlodi plant i iechyd y genedl. Felly, a gaf i ofyn, Dirprwy Weinidog, am eich ymateb chi o ran yr hyn sy'n digwydd ledled Cymru, o ran gweld lleihad mewn gwasanaethau yma ar hyn o bryd, a sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau'r mynediad cydradd hwnnw i bawb, lle bynnag y bôn nhw yng Nghymru?
Hoffwn ddiolch hefyd i staff y pwyllgor a’r holl sefydliadau a roddodd dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad. Un o’r negeseuon allweddol yma yw, gyda chwyddiant ar ei lefel uchaf ers dros 40 mlynedd, mae llawer o bobl yn torri’n ôl ar wariant ychwanegol. I rai, mae hyn yn cynnwys gwariant ar chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol. Yn 2019-20, roedd 23 y cant o holl bobl a 31 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Y teuluoedd hyn sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, ond hefyd mae ymchwil Chwaraeon Cymru yn awgrymu mai hwy yw’r grŵp mwyaf tebygol o fod yn anweithgar, a gall hyn achosi canlyniadau iechyd difrifol.
Mae'n peri cryn bryder mai dim ond 52 y cant o ddisgyblion sy'n symud i'r ysgol uwchradd sy'n gallu nofio, yn ôl Nofio Cymru. Mae nofio'n sgìl bywyd hanfodol y dylid ei dysgu drwy'r ysgolion gan y bydd hynny'n darparu ar gyfer pob plentyn, a gall fod yn rhywbeth na all teuluoedd ei fforddio mwyach pan fyddant yn wynebu pwysau costau byw. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhywfaint o gyllid ar gyfer nofio am ddim, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ac mae'n helpu i gadw pyllau nofio ar agor, ond dylai fod yn fwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn wynebu toriadau mewn termau real oherwydd pwysau chwyddiant, felly rwy'n deall y pwysau ar Lywodraeth Cymru hefyd.
Dywed ysgolion hefyd fod cost gynyddol cludiant ar fysiau ysgol yn afresymol pan fyddant yn wynebu pwysau yn sgil costau eraill. Mae gogledd Cymru ac ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio'n arbennig gan fod angen trafnidiaeth i gyrraedd canolfannau chwaraeon a phyllau nofio, fel y nododd fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yn gynharach. Gallai gweithredwyr trafnidiaeth ddarparu cludiant am ddim i ysgolion fel rhan o’r contract caffael gwerth cymdeithasol i awdurdodau lleol wrth wneud cais am gontractau cludiant o’r cartref i’r ysgol, ac efallai fod hyn yn rhywbeth y gallai’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ei godi drwy CLlLC.
Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai—gwelaf fod y cadeirydd yn bresennol heddiw—wedi mynegi pryder ynghylch gwytnwch llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden, gan fod popeth anstatudol ar y bwrdd wedi degawd o gyni, ochr yn ochr â’r pwysau chwyddiant ar hyn o bryd, costau ynni uwch a chyflogau cynyddol. Rwy'n credu bod y pwyllgor hwnnw'n mynd i ymchwilio i hyn hefyd. Mae clybiau tennis yn teimlo’r pwysau hyn yn ogystal, gydag adborth gan leoliadau'r Gymdeithas Tennis Lawnt cyn y Nadolig yn nodi bod 75 y cant yn poeni am gostau ynni, tra bo 92 y cant o leoliadau a chanddynt fwy nag wyth cwrt yn poeni am effaith costau cynyddol. Mae’r sefydliadau hyn oll yn galw am gymorth wedi’i dargedu ar gyfer y rheini o’r ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol mwyaf y mae eu cyfranogiad wedi'i effeithio fwyaf gan y pandemig a’r argyfwng costau byw. Mae hwn yn gyfle pwysig i gynorthwyo mwy o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau bywyd a’u cyfleoedd drwy chwaraeon, gan gynnwys drwy wirfoddoli, a chymorth i fynd i’r afael â’r rhwystrau y gallent eu hwynebu wrth gamu ymlaen drwy lwybrau’r gweithlu.
Mae'n rhaid inni beidio ag anghofio bod chwaraeon a diwylliant yn rhan o’r gwasanaethau ataliol mewn perthynas ag iechyd a lles corfforol a meddyliol, fel y nododd fy nghyd-Aelod Heledd Fychan yn gynharach. Mae’r rhain yn rhan o’r gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym wedi sôn o'r blaen mewn dadleuon nad ymwneud â'r GIG yn unig y mae hyn, mae'n ymwneud â'r holl wasanaethau ataliol hyn, wrth symud ymlaen. Diolch.
Diolch i’r pwyllgor diwylliant am ymgymryd â’r gwaith hwn a chodi’r mater pwysig hwn.
Lywydd, rwy’n codi i gyfrannu heddiw yn fy rôl fel cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mae un o'r deisebau mwyaf poblogaidd ers dechrau'r flwyddyn hon wedi canolbwyntio ar effaith costau ynni uchel ar byllau nofio a chanolfannau hamdden. Mae’r ddeiseb o’r enw 'Diogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol' wedi denu dros 4,700 o lofnodion ers iddi agor ar ddiwedd 2022. Mae honno’n ddeiseb sy’n dal i gasglu llofnodion heddiw a hyd at ddiwedd y mis. Rwyf newydd wirio'r offeryn defnyddiol iawn y mae clercod y Pwyllgor Deisebau wedi'i roi i ni i'w ddefnyddio, ac mae llofnodion o bob etholaeth ar y ddeiseb hon. Credaf fod hynny'n arwydd o bwysigrwydd yr hyn y soniwn amdano yma. Mae’r ddeiseb yn nodi fel a ganlyn:
'Mae pyllau nofio a chanolfannau hamdden ledled y wlad dan fygythiad wrth i’r argyfwng ynni effeithio ar gymunedau ledled y genedl. Mae’r cyfleusterau hyn yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl Cymru ac maent yn hanfodol i lesiant y wlad. Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gydnabod pa mor fregus yw sefyllfa pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r Setliad Terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.'
Fel y dywedais, Lywydd, mae’r ddeiseb hon yn dal i gasglu llofnodion tan ddiwedd mis Chwefror, felly mae hynny’n cyfyngu ar yr hyn y gallaf ei ddweud yn uniongyrchol am y ddeiseb hyd nes y daw ger bron y pwyllgor yn nes ymlaen eleni. Ond os meddyliwn am y llynedd a gwaith y Pwyllgor Deisebau pan wnaethom gyhoeddi dogfen yn seiliedig ar atal boddi, un thema a oedd yn sail i’r gwaith hwnnw oedd pwysigrwydd hanfodol dysgu pobl ifanc i nofio ac i ddeall peryglon dyfroedd. Mae gwersi nofio'n datblygu sgìl bywyd allweddol sy'n agor y drws i fyd o hwyl a gweithgarwch corfforol, ond sydd hefyd yn datblygu diogelwch ac yn meithrin hyder. Mae angen cyfleusterau i ddysgu'r sgiliau hyn ym mhob cwr o'r wlad.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnewch ar y Pwyllgor Deisebau, a gwn eich bod yn ymchwilio i gefndir unrhyw ddeiseb. Felly, yn y gwaith y byddwch yn ei wneud, yn ôl pob tebyg, ar ôl i'r ddeiseb gau, a allech ymchwilio i weld a oes unrhyw byllau nofio yng Nghymru yn gweithredu gydag ynni adnewyddadwy? Oherwydd yn amlwg, os nad ydynt, byddant mewn sefyllfa hynod fregus.
A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei hawgrym? Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ymchwilio iddo ymhellach. Mae’n awgrym gwerthfawr gan yr Aelod. Wrth gwrs, mae unrhyw awgrymiadau ynglŷn â gwaith y pwyllgor i'w croesawu bob amser.
Lywydd, roedd yr her sy’n wynebu’r rheini sy’n rhedeg pyllau nofio yn fater a godwyd yn ymchwiliad y pwyllgor diwylliant, fel y clywsom heddiw, ac mae i'w gweld yn yr adroddiad rydym yn ei drafod. Clywodd y pwyllgor fod pyllau nofio eisoes yn gostwng eu tymheredd er mwyn arbed arian, ac mewn un ardal, roedd swyddogion yn rhagweld y bydd pyllau nofio’n cau o fewn y 12 mis nesaf. Sylwaf fod trydydd argymhelliad y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rheini sy’n rhedeg pyllau nofio a chanolfannau hamdden yn gymwys i gael cymorth i wyrddu eu defnydd o ynni,
'fel yr hyn sydd ar gael gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru'.
Mae ymateb y Gweinidog yn cadarnhau y bydd ymddiriedolaethau hamdden yn gymwys, ond nodaf eto mai benthyciad di-log yw’r unig gymorth ariannol sydd ar gael. Wrth gwrs, mae hynny i’w groesawu’n fawr, ac ni ddylem fychanu'r ffaith honno, ond efallai na fydd hynny’n ddigon i’n cynnal am y 12 mis nesaf. Gŵyr pob un ohonom yn y Siambr hon ein bod mewn cyfnod arbennig o anodd, a gŵyr pob un ohonom nad oes gennym yr holl arian y byddem ei eisiau i ddiwallu ein hanghenion, ond a yw’r Gweinidog wedi ystyried darparu cymorth ariannol uniongyrchol i dalu'r costau a wynebir gan byllau nofio a chanolfannau hamdden yn awr? Diolch.
A gaf fi ddiolch o galon i Delyth Jewell, Cadeirydd y pwyllgor, a’i chyd-aelodau o’r pwyllgor am yr adroddiad pwysig hwn a gyflwynwyd ger bron y Senedd heddiw? Credaf fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn deall bod diwylliant a chwaraeon yn rhan annatod o wead a hunaniaeth bywyd yng Nghymru. Gwyddom mai prin y goroesodd ein sefydliadau diwylliannol a chwaraeon y storm ariannol a ddaeth yn sgil pandemig COVID, a hynny er gwaethaf y £140 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, pan alwodd llawer o bobl am i'r arian hwnnw fynd i rywle arall. Ond wrth iddynt ailafael ynddi mewn byd ôl-bandemig, mae ein sectorau celfyddydol bellach yn wynebu’r argyfwng costau byw aruthrol hwn, a hynny ochr yn ochr â'r colledion sy'n weddill ar ôl COVID-19 o ran capasiti'r gweithlu, wrth i gerddoriaeth fyw wynebu un o’i chyfnodau gwaethaf ers yr ail ryfel byd. Rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ddau yn unig o argymhellion adroddiad y pwyllgor, er fy mod yn cydymdeimlo ag argymhelliad 6, â’r symiau sylweddol o arian sydd eu hangen, ond mae hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli’n llawn, ac felly rwy’n deall pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 6.
Yn gyntaf, argymhelliad 7, sef y dylai Llywodraeth Cymru annog gweithgarwch diwylliannol a chwaraeon mewn hybiau cynnes ac ariannu’r darparwyr yn unol â hynny. Rwy’n falch iawn o weld bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i dderbyn yr argymhelliad hwn. Yn Islwyn, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hybiau cynnes dynodedig y mae wedi'u galw'n 'fannau croesawgar' mewn amrywiaeth o leoliadau, megis llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, neuaddau eglwysi, clybiau chwaraeon a llawer o leoedd eraill. Un man croesawgar o’r fath yw llyfrgell Trecelyn, sy’n rhan o neuadd goffa Trecelyn, lle mae fy swyddfa etholaethol. Ond mae'r adeiladau cymunedol eiconig hyn—fel Memo Trecelyn, lle perfformiodd Paul Robeson—wedi chwarae rhan ddiwylliannol annatod ym mywyd ein cymunedau, ac mae'n rhaid iddynt barhau i wneud hynny. Yn wir, mae ein treftadaeth lofaol ddiwydiannol yn rhan annatod o gynigion diwylliannol a cherddorol neuaddau gweithwyr. Rwy’n gweld drosof fy hun yn wythnosol pa mor bwysig yw’r adeilad hwn fel hyb diwylliannol, a hefyd ei awditoriwm perfformio, sef calon yr adeilad. Felly, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cysylltu hyn, ac wedi darparu swm cychwynnol o £1 filiwn i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ac ehangu hybiau cynnes ledled Cymru. Mae’r pandemig, a'r argyfwng costau byw bellach, wedi dangos sut mae angen i ni, yn fwy nag erioed, greu a chynnal canolfannau cymunedol diwylliannol lle gall cymdeithas ddod at ei gilydd, oherwydd gyda’n gilydd, rydym yn gryfach, ac yn ddiwylliannol, rydym yn gryfach.
Yn olaf, hoffwn droi at argymhelliad 8, sef y dylai Llywodraeth Cymru roi arweiniad i’r sectorau diwylliant a chwaraeon yn ystod yr argyfwng costau byw. Roedd yn dda gweld Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn, a nodaf fod y Llywodraeth yn datgan ei bod wedi ymrwymo bron i £4 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a sector y celfyddydau, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal ag amrywiaeth o gyrff eraill. Mae gallu’r sectorau diwylliant a chwaraeon i gynyddu eu cymhwysedd i reoli ac arwain yn hanfodol i ddarparu digwyddiadau a chynigion ar lawr gwlad i'r cyhoedd a’n cymunedau, ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith hwn yn mynd rhagddo.
Lywydd, credaf fod pob un ohonom wedi cael ein galw yma i Senedd Cymru fel ceidwaid a gwarcheidwaid tapestri cyfoethog a bywiog bywyd Cymru, ac nid yn unig i warchod, ond i gefnogi ein bywyd diwylliannol, i fod yn wyliadwrus, i ddiogelu Cymru ac i ddiogelu ein tirweddau diwylliannol a'n chwaraeon, ac i hybu, llywio ac arwain Cymru i mewn i ddadeni newydd—hunaniaeth, celfyddyd a rhagoriaeth. Diolch.
Credaf fod hwn yn adroddiad pwyllgor ac yn ddadl bwysig iawn. Mae gan y sector hamdden ran bwysig iawn i’w chwarae yn ein bywydau yng Nghymru, gan gynnwys gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Maent mor bwysig er mwyn mwynhau bywyd, ar gyfer iechyd a ffitrwydd ac ar gyfer ansawdd bywyd. A diolch byth, credaf ein bod wedi gweld cysylltiadau llawer gwell rhwng y byd chwaraeon a ffitrwydd a byd iechyd, ac yn wir, gofal cymdeithasol. Yng Nghasnewydd, rydym yn lwcus o'n hymddiriedolaeth hamdden, Casnewydd Fyw, sydd, yn fy marn i, wedi dangos enghreifftiau da iawn yn gyffredinol ac o ran cysylltiadau â’r sector iechyd. Felly, maent wedi gwneud llawer o waith gydag atgyfeiriadau ar gyfer ymarfer corff, adsefydlu cardiaidd, ymdrin â COVID hir, defnyddio canolfannau ar gyfer brechu yn ystod y pandemig, ac yn awr, agor canolfan Casnewydd ar gyfer pobl sy'n cysgu allan. Felly, maent yn gweithio i sefydlu cysylltiadau mewn sawl maes, sy'n bwysig tu hwnt yn fy marn i.
Ond fel y clywsom, mae’r gwaith da hwn dan fygythiad enbyd bellach oherwydd costau ynni, yr argyfwng costau byw, chwyddiant, ac wrth gwrs, yr effaith ar gyflogau. Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i dalu’r cyflog byw, yn gwbl briodol, a bydd hynny ynddo’i hun yn arwain at gynnydd o £350,000 y flwyddyn yn eu bil cyflogau. Felly, credaf mai'r hyn a welwn yw llai o incwm a mwy o alldaliadau, a bydd hynny'n golygu llai o chwaraeon a llai o weithgarwch corfforol. Ac yn anffodus, diswyddiadau posibl i weithluoedd ymroddedig ledled Cymru, gan danseilio ein gwaith ar iechyd a lles, a fydd yn ychwanegu at bwysau hirdymor ar y gwasanaeth iechyd gwladol. Ac wrth gwrs, fel rydym eisoes wedi'i glywed, y rhai mwyaf agored i niwed a chymharol ddifreintiedig sy'n debygol o ddioddef fwyaf, gan y byddant yn cael eu prisio allan o'r farchnad, fel petai, ac ni fyddant yn gallu talu'r costau, ac yn wir, y costau uwch y mae'r pwysau hwn ar y sector yn debygol o arwain atynt.
Felly, mae’n gyfnod mor anodd. Ac fel y clywsom, mae’r effaith ar byllau nofio hefyd yn peri cryn bryder, fel rhan o’r darlun cyffredinol. Credaf ein bod yn gwybod, onid ydym, fod angen i lawer mwy o'n pobl ifanc ddysgu nofio, am y rhesymau y clywsom amdanynt eisoes. Rwy’n defnyddio fy mhwll nofio lleol yn rheolaidd, ac yn sicr, rwyf wedi sylwi ar y tymheredd yn gostwng yn y cyfnod diweddar, mae'n rhaid dweud. Ond mae o fudd mawr i oedolion sydd am fanteisio ar un o’r mathau gorau o ymarfer corff, ac mor bwysig hefyd ar gyfer dysgu ein pobl ifanc i nofio.
Rydym yn wynebu’r posibilrwydd o lai o oriau, costau cynyddol, y rhai mwyaf difreintiedig yn dioddef yn anghymesur o gymharu â grwpiau incwm uwch—mae hynny oll yn peri cymaint o bryder mewn perthynas â chynifer o strategaethau a rhaglenni pwysicaf Llywodraeth Cymru. Gwelsom gamau pwysig iawn gan Lywodraeth Cymru ac eraill i gynnal y sector yn ystod y pandemig, a byddai’n gymaint o drasiedi pe bai’r cymorth hwnnw’n cael ei danseilio gan yr argyfwng presennol, a phe na bai cymorth cyffelyb yn cael ei ddarparu yn awr i fynd i’r afael â’r her benodol hon. Fe wyddom, fel bob amser, fod ymateb Llywodraeth y DU yn druenus o ddiffygiol mewn perthynas â chostau ynni a'r ffordd y maent yn gwrthod cefnogi’r sector hamdden yn briodol ar adeg mor dyngedfennol.
A gaf fi ddweud hefyd, Lywydd, fy mod yn credu mai dyma'r sector sydd wedi bod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn? Nid ydynt yn eistedd o gwmpas yn aros am gymorth. Soniodd Jenny Rathbone am y sefyllfa ynni, er enghraifft, a gwn fod Casnewydd Fyw wedi gwneud llawer o waith yn gosod paneli solar ar doeau, a sicrhau effeithlonrwydd ynni; mae ganddynt lawer mwy o gynlluniau i ddefnyddio eu toeau ar gyfer paneli solar ac i ddefnyddio gwres o'r ddaear. Ond bydd angen cymorth arnynt i dalu'r gost gychwynnol os ydynt am allu gwneud hynny, ac mae'n gyfle buddsoddi i arbed gwych y gobeithiaf y gall Llywodraeth Cymru ei gefnogi.
Lywydd, mae gan y sector hamdden, chwaraeon a gweithgarwch corfforol gymaint i’w gynnig, ac mae’r ymddiriedolaethau hamdden hyn mor bwysig ar gyfer cefnogi clybiau chwaraeon lleol a grwpiau cymunedol. Mae hyn oll wedi'i gynnwys yr adroddiad pwysig hwn, ac rwy'n gobeithio y gallwn—Llywodraeth Cymru ac eraill—ymateb i’r heriau hyn i gynnig y cymorth sydd mor bwysig ar gyfer y tymor hir a’r agenda ataliol y mae ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol inni fod yn gyfan gwbl o ddifrif yn ei chylch.
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyfrannu i'r ddadl nawr, Dawn Bowden.
Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch. A gaf fi gofnodi fy niolch yn gyntaf i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol am eu hymchwiliad manwl ac ystyriol i effaith costau cynyddol ar ddiwylliant a chwaraeon, ac am gyflwyno’r ddadl hon yn y Senedd y prynhawn yma?
Mae effaith costau cynyddol yn arbennig o uchel ar draws meysydd diwylliant a chwaraeon yn fy mhortffolio, yn enwedig i sefydliadau a sectorau sydd wedi'i chael hi’n anodd adfer yn ariannol wedi’r pandemig. Ac fel y cydnabuwyd gan sawl cyfrannwr y prynhawn yma, rhoddwyd cymorth sylweddol i’r sectorau hyn drwy’r pandemig i sicrhau y gallent adfer ar ôl y pandemig a bod yn rhan o’n hadferiad ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, yn anffodus, aethom yn syth o'r pandemig i mewn i argyfwng costau byw ac argyfwng ynni nad oeddem wedi'u rhagweld. Mae cynnydd mawr mewn prisiau ynni yn ychwanegu at y pwysau sylweddol ar gyllidebau, fel y clywsom. Mae llai o incwm gwario'n golygu bod yn rhaid i bobl dynhau eu gwregysau a gwario llai ar hamdden ac adloniant. Mae costau byw uwch hefyd yn effeithio ar recriwtio a chadw staff a gwirfoddolwyr, wrth i bobl ei chael hi'n anodd fforddio costau teithio a gofal plant, neu ddewis swyddi sy'n talu'n well. Mewn rhai achosion, mae canlyniadau'r heriau hyn gyda'i gilydd yn arwain at gyfyngu rhaglenni gweithgareddau ledled Cymru. Mae cynnydd sylweddol yng nghostau'r gadwyn gyflenwi, yn enwedig mewn perthynas â deunyddiau a llafur, hefyd yn effeithio ar brosiectau cyfalaf a gwaith cynnal a chadw.
Felly, i droi at adroddiad ac argymhellion y pwyllgor, rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i adroddiad y pwyllgor a’i argymhellion, ac rydym yn falch o dderbyn y rhan fwyaf ohonynt—wyth o’r 10 argymhelliad—ac rwyf am ymhelaethu ychydig ar y ddau na wnaethom eu derbyn. Felly, ar argymhelliad 6, yr alwad am becyn cymorth ar gyfer y DU gyfan i gefnogi’r sectorau diwylliant a chwaraeon, fel y dywedom, mater i Lywodraeth y DU yw hwn yn gyfan gwbl. Mae effaith y cynnydd mewn costau byw a methiant addewidion Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid newydd yn lle cyllid yr UE yn llawn wedi creu heriau sylweddol, ac er gwaethaf yr hyn a ddywedodd Tom Giffard, ni ddylem adael i Lywodraeth y DU anwybyddu ei chyfrifoldeb am hyn, ac awgrymu bod pobl eraill yn gwneud y gwaith drostynt. Mae hwn yn faes a gedwir yn ôl yn gyfan gwbl, ac mae’n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Fel Llywodraeth Cymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Yn fy nghyfraniad, gelwais arnoch i weithio gyda Llywodraeth y DU—
I weithio gyda hwy, do.
—sy'n rhywbeth na wnaethoch. Nid i adael iddi anwybyddu ei chyfrifoldeb mewn unrhyw ffordd. Fel y gwyddoch, roeddwn yn rhan o’r pwyllgor a luniodd yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n dal i gredu ynddo'n llwyr. Felly, roeddwn am egluro'r sylw hwnnw.
Rwy'n credu bod yn rhaid ichi ei ddeall o'n safbwynt ni, oherwydd mewn gwirionedd mae gweithio gyda Llywodraeth y DU yn groesosodiad, gan nad ydynt yn gadael ichi weithio gyda hwy; maent yn dweud yr hyn y maent am ei ddweud wrthych, maent yn sathru ar bob maes cymhwysedd datganoledig drwy geisio ein hosgoi'n llwyr a rhoi arian mewn mannau nad ydynt yn rhan o'n rhaglen lywodraethu. Felly, nid hwy yw'r bobl hawsaf i weithio gyda hwy. Felly, fe ddywedaf hynny ar y dechrau.
Ond fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i weithio i flaenoriaethu ein cyllidebau i warchod y rhai mwyaf agored i niwed ac i gynnal ein hymrwymiad i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.
Yr argymhelliad arall na wnaethom ei dderbyn oedd argymhelliad 10, y dylai Llywodraeth Cymru wella ei gwaith yn ymgysylltu â’r sector diwylliant. Nawr, mae gennym hanes ragorol o ymgysylltu â'n sectorau. Rydym yn gweithio’n agos ac ar y cyd â chyrff y sectorau a sefydliadau unigol i fonitro a deall effaith yr argyfwng costau byw, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach drwy ein gwaith ar y strategaeth ddiwylliant newydd. Byddai derbyn yr argymhelliad hwn wedi bod yn anghyson, felly, gan y byddai wedi golygu derbyn nad oeddem yn gwneud yr hyn rydym yn amlwg yn ei wneud yn y maes hwn.
Mewn perthynas â'r argymhellion eraill a gafodd sylw yn y ddadl heddiw, mae ein hymatebion fel a ganlyn: ar weithio gyda’r llyfrgell genedlaethol i ddiogelu ei chasgliadau yn argymhelliad 1, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chymheiriaid yn y llyfrgell genedlaethol ac yn darparu cymorth ychwanegol, lle bo modd, o gofio effaith y costau cynyddol a welsom dros y misoedd diwethaf. Dyfarnwyd £650,000 yn ychwanegol yn 2022-23 i helpu i fynd i’r afael â chost gynyddol cyfleustodau a phwysau costau byw, a £500,000 arall i dalu am system dân newydd i sicrhau diogelwch eu casgliadau. Yn 2024-25, bydd yn cael £1.5 miliwn ychwanegol yn benodol tuag at ei storfa gasgliadau newydd.
Bydd y llyfrgell hefyd yn rhan o brosiect ehangach rydym yn edrych arno mewn perthynas â rheoli casgliadau a'r posibilrwydd o rannu cyfleusterau storio ar draws sefydliadau diwylliannol cenedlaethol a lleol. Byddai hyn yn archwilio gwelliannau cyfalaf, gan gynnwys y potensial i leihau costau drwy rannu adnoddau a lleihau'r defnydd o ynni, drwy gyfleusterau storio casgliadau a modelau mwy ecogyfeillgar. Disgwylir i gam cychwynnol y gwaith hwn gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2024.
Bydd refeniw cymorth grant y llyfrgell genedlaethol hefyd yn cynyddu. Ar gyfer y ddwy flynedd ariannol nesaf, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol wedi’i glustnodi am amser cyfyngedig i gynnal pwysau ychwanegol sy'n ymwneud â chyflogau, costau byw a chyfleustodau. Bydd cyllid ychwanegol pellach yn cael ei ddarparu i gefnogi blaenoriaethau’r cytundeb cydweithio, gan gynnwys cynaliadwyedd ariannol, ac er bod pwysau pellach yn ymwneud â chwyddiant yn parhau i fod yn bryder yn ystod y cyfnod hwn, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn helpu i gefnogi’r llyfrgell genedlaethol yn 2023-24 a 2024-25.
Ar argymhelliad 2, unwaith eto, mae hwn yn cyfeirio at un o gynlluniau Llywodraeth y DU. Menter Llywodraeth y DU yw’r cynllun rhyddhad ar filiau ynni, ac rydym eisoes wedi gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch cynnwys lleoliadau sy'n defnyddio llawer o ynni, megis pyllau nofio, o fewn y trothwy uchaf ar gyfer cymorth. Rydym yn gweithio’n agos gyda Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru i barhau i ddadlau’r achos hwnnw, oherwydd os bydd prisiau’n codi, bydd yn rhaid i fusnesau dalu’r costau ychwanegol.
Bydd llyfrgelloedd ac amgueddfeydd hefyd yn gymwys i gael cymorth ychwanegol fel diwydiannau ynni-ddwys, ond ni fydd canolfannau hamdden a phyllau nofio yn cael eu hamddiffyn i'r un graddau rhag prisiau ynni uchel. Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys sylwadau am byllau nofio yn ei hymateb i’r ymgynghoriad ar y cynllun rhyddhad ar filiau ynni, ac mae’n parhau i drafod y materion hyn ac i wneud sylwadau i Lywodraeth y DU. Cyfarfu swyddogion â chynrychiolwyr sector ar 20 Ionawr yn ogystal i gasglu tystiolaeth i ddadlau'r achos cryfaf posibl dros roi’r cymorth a amlinellwyd heddiw i ganolfannau hamdden a phyllau nofio.
Ar argymhellion 3 a 4 ynghylch cymorth i ymddiriedolaethau hamdden wyrddu eu cyflenwad ynni a'u defnydd o ynni, gall awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus gael cymorth technegol ac ariannol drwy wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni eu pyllau nofio a’u canolfannau hamdden, yn cynnwys y rheini a reolir gan ymddiriedolaethau hamdden, gan helpu i leihau allyriadau carbon, a’r cymorth ariannol ar ffurf benthyciadau di-log o raglen ariannu Cymru. Nawr, dylai sefydliadau ystyried eu costau ynni a’u gwytnwch eu hunain yn rhan o’u cynlluniau cyfalaf arferol ar gyfer eu hystadau. Fodd bynnag, gellir defnyddio'r cyllid cyfalaf heb ei neilltuo a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi cyfleusterau chwaraeon a chymdeithasol gan awdurdodau lleol yn y modd hwn os yw awdurdodau o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, oherwydd, fel y gŵyr Tom Giffard, rydym yn ymwybodol iawn fod yr awdurdodau wedi dweud yn glir nad ydynt yn dymuno cael cyllid wedi'i neilltuo. Felly, mae'r cynnydd ychwanegol y maent wedi'i gael yn eu grant cynnal ardrethi eleni yn eu galluogi i wneud mwy o ddewisiadau ynglŷn â sut y maent yn defnyddio eu harian.
Caiff cyllid cyfalaf penodol ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru hefyd ar gyfer gwaith adnewyddu ac ailwampio ailfodelu ysgolion a cholegau—er enghraifft, drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy. Mae'n ofynnol bellach i brosiectau o'r fath sicrhau statws carbon sero net, ac yn aml, maent yn cynnwys cyfleusterau chwaraeon. Darperir cyllid hefyd drwy grant cyfalaf adeiladau awdurdodau lleol, a gyflwynir o 2023-24 ymlaen, ac a allai hefyd fod o fudd i adeiladau chwaraeon neu ddiwylliannol yn ystad yr awdurdod lleol. Bydd prosiectau o'r fath hefyd yn gymwys i gael cymorth drwy gynllun cyfalaf trawsnewid yr is-adran ddiwylliant ar gyfer amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifdai lleol. Mae’r cyllid a ddarparwn i Chwaraeon Cymru hefyd yn cefnogi’r sector i gyflawni ein disgwyliadau mewn perthynas â chynllun sero net Cymru a meithrin gwytnwch rhag effeithiau newid hinsawdd, gan sicrhau y gallwn ddarparu a pharhau i ddarparu ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol.
Mewn ymateb i argymhellion 5 ac 8, sy’n canolbwyntio ar ddarparu cymorth ychwanegol a chyllid wedi’i dargedu i’r sectorau chwaraeon a diwylliant, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysau y mae cyrff hyd braich a sefydliadau sector lleol yn ei wynebu yn sgil chwyddiant eithriadol o ran costau cyfleustodau a chostau byw. Ac i gynorthwyo gyda’r pwysau hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno ar y cyd i ddarparu £4.175 miliwn yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23 i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, sector y celfyddydau drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, y sector chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru, yr amgueddfeydd annibynnol a llyfrgelloedd cymunedol yng Nghymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—Cyngor Llyfrau Cymru a’r diwydiannau creadigol annibynnol yng Nghymru.
Rwy'n gwrando ar eich araith. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi ymateb i’r adroddiad; roeddwn yn gobeithio y byddai’r Gweinidog hefyd yn ymateb i’r ddadl. Un mater y ceisiais ei godi yn y ddadl oedd mater cydraddoldeb, a chredaf ei bod yn bwysig fod hynny a’r materion y mae cyd-Aelodau eraill wedi’u codi—materion pwysig iawn—yn y ddadl hon y prynhawn yma—credaf ei bod yn bwysig inni glywed ymateb i’r materion hynny, gan ein bod wedi darllen ymateb y Llywodraeth i’r adroddiad, ac rydym am glywed ymateb i’r ddadl hefyd.
Roeddwn yn dod at rai o’r pwyntiau rydych wedi’u codi’n gynharach.
Wel, mae'n iawn meddwl am ddod atynt, ond rydym eisoes ddwy funud dros amser. Fe roddaf funud neu ddwy ichi gloi.
Iawn. Felly, credaf mai Chwaraeon Cymru yw’r pwynt a gafodd sylw gan Alun Davies, sy’n ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon a darparu mynediad cyfartal. Soniais am hyn yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, am y cyllid ar gyfer Chwaraeon Cymru a’r ffordd y mae ein cyllid wedi’i nodi’n glir iawn—mae ein cyfarwyddyd i Chwaraeon Cymru wedi’i nodi’n glir iawn yn y llythyr cylch gwaith. Mae rhan o’r llythyr cylch gwaith hwnnw’n nodi’n glir iawn ble rydym yn disgwyl i’r cyllid hwnnw gael ei dargedu, a dyna’r pwynt y ceisiwn ei wneud yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf. Mae’r llythyr cylch gwaith yn nodi’n glir iawn ein bod yn ceisio cyfeirio’r cyllid buddsoddi cyfalaf sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf i’w dargedu yn yr ardaloedd hynny lle mae’r angen mwyaf, sef yr ardaloedd o amddifadedd.
Rwy'n ymwybodol iawn o'r amser, Lywydd, ac nid wyf wedi rhoi sylw i'n hymateb i bob un o'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad. Digon yw dweud, wrth gloi, fy mod am ailadrodd ein bod yn cymryd camau ar unwaith ar draws nifer o feysydd i fynd i’r afael â’r materion cymhleth a godwyd gan yr adroddiad hwn, a byddwn yn ceisio rhoi'r argymhellion rydym wedi’u derbyn ar waith gyda’r pwysigrwydd y maent yn ei haeddu, gan gefnogi ein hymdrechion cyfunol i ymateb i’r argyfwng costau byw ac ynni, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac yn pwyso arnynt i ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ganddynt at eu defnydd i ddarparu cymorth ehangach i’r sectorau diwylliant a chwaraeon. Diolch yn fawr.
Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl nawr.
Diolch, Llywydd. Wel, diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Dwi'n meddwl bod hon wedi bod yn ddadl hynod o bwerus. Roedd Tom Giffard wedi sôn am bwysigrwydd y lleoliadau hyn i'n cymunedau ni; roedd e'n sôn am fragility, pa mor fregus ydyn nhw. Ac roedd Alun Davies wedi sôn am fel mae effaith y creisis hwn yn effaith anghymesur, a beth roedd e jest yn sôn amdano yn yr intervention yna hefyd, fel mae pobl, y bobl fwyaf difreintiedig, ond hefyd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, nhw sydd yn dioddef waethaf gyda hyn. Mae hwnna'n bwynt hynod o bwysig, dwi'n meddwl, ac mae wedi codi nifer o weithiau mewn gwahanol ffyrdd yn ystod y ddadl. Roedd Heledd Fychan hefyd wedi tynnu sylw at yr un pwynt yma am gydraddoldeb. Dydy chwaraeon a diwylliant ddim yn bethau neis i'w cael, fel roedd Heledd yn ei ddweud; maen nhw'n allweddol. Rôn i'n meddwl bod beth roedd Heledd wedi'i ddweud am y costau mwy cudd, fel trafnidiaeth, roedd hwnna'n rhywbeth rili bwysig, a hefyd roedd yr un llinyn wedi codi o ran beth roedd Carolyn Thomas wedi'i ddweud—eto, y costau ar deuluoedd, pethau fel trafnidiaeth, a phwysigrwydd hyn i gyd i iechyd pobl.
Mae hi wastad yn dda clywed gan Aelodau ehangach y Senedd, yn ogystal ag aelodau o'r pwyllgor, wrth gwrs. Diolch i Jack Sargeant am sôn, eto, am y petition yma am byllau nofio. Mae'r sefyllfa yna yn eithriadol o ddifrifol ar gyfer y sector—ar gyfer y boblogaeth hefyd. Fel yr oedd Jack wedi ein hatgoffa ni i gyd, mae nofio yn gallu achub bywydau pobl. Fe wnawn ni ddod yn ôl at beth y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud am hyn. Mae hyn yn rhywbeth—bydd y pwyllgor wir eisiau cadw llygad barcud ar beth sy'n digwydd gyda hyn.
Fe wnaethon ni glywed gan Rhianon Passmore am fel y mae lleoliadau hamdden a diwylliannol yn ganolog i hanes ein cymunedau—Paul Robeson ac ati—ond hefyd i'n hiechyd ni nawr, gyda'r warm hubs. Roeddwn i'n meddwl bod y pwynt yna yn eithriadol o bwysig: fel y mae ymgasglu fel cymuned yn rhoi mwy o elw i ni mewn ffordd y mae'n anodd ei diffinio. Dyw e ddim jest yn cael ei ddiffinio'n ariannol; dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth, eto, o ran ein hiechyd ni ac enaid y gymdeithas, efallai.
Roedd John Griffiths wedi sôn am y ffordd y mae ansawdd ein bywydau ni yn cael ei wella drwy'r canolfannau yna yng Nghasnewydd, ac mae hynny'n wir dros Gymru, wrth gwrs. Dwi'n meddwl yr oedd nifer o linynnau gwahanol yn codi, ac roedden nhw'n cael eu hadleisio—dwi'n cymysgu metaphors nawr, ond dwi'n meddwl bod nifer o bwyntiau a oedd yn rili bwysig yn ystod y ddadl.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei sylwadau. Dwi'n falch, eto, fod y mwyafrif o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn. O ran y rhai sydd ddim wedi cael eu derbyn, rwy'n dal i boeni nad ydy'r Llywodraeth yn ymateb yn ddigonol i'r risgiau i iechyd hirdymor y sectorau diwylliant a chwaraeon, ac, mewn ffordd arall, y risgiau i iechyd y genedl. Nawr, wrth gwrs, yn ddelfrydol, byddai pecyn ariannu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sbarduno cyllid canlyniadol Barnett y gallai Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i ariannu pecyn argyfwng costau byw diwylliant a chwaraeon. Yn sicr, fel pwyllgor, byddwn ni eisiau gweld rhywbeth fel hyn yn digwydd.
Ond dydy Llywodraeth Cymru, fel dwi'n ei ddweud, ar y cyfan—. Eto gwnaf i ddod nôl at y pwynt am byllau nofio, ond ar y cychwyn dydyn nhw heb gychwyn trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r perwyl hwn. Yn ystod y pandemig, ni wnaeth Llywodraeth Cymru aros i Lywodraeth San Steffan weithredu. Ym mis Ebrill 2020, bu'n gweithredu gyda chyngor y celfyddydau i roi pecyn brys ar waith ymhell cyn iddi gael unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac buaswn i'n dweud bod angen i Lywodraeth Cymru nawr efelychu'r teimlad o frys a oedd yn amlwg yn ystod y pandemig. Dwi'n meddwl bod cymaint o bethau sydd wedi cael eu codi yn y ddadl hon y prynhawn yma wedi amlygu pam mae hyn wir yn fater o frys.
Rydyn ni wedi dysgu, dwi'n meddwl, o'r pandemig ei bod hi weithiau'n well gorymateb yn hytrach nag aros a cheisio datrys problemau mwy yn y dyfodol. Eto, mae pethau wedi gwaethygu cymaint ers inni gyhoeddi'r adroddiad, dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n sôn am orymateb fan hyn. Mae'n wir bod cymaint o leoliadau, maen nhw'n wir o dan risg o gau'n barhaol. Eto, mae yna berygl difrifol o niweidio'r sectorau hyn am gyfnod amhenodol yn y dyfodol. Bydd hyn, yn ei dro, fel rydyn ni wedi'i glywed, yn niweidio incwm sefydliadau yn y sectorau, bydd yn golygu bod llawer o bobl—eto, y rhai mwyaf difreintiedig—ac, fel rydyn ni wedi'i glywed nifer o weithiau, yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd, byddan nhw'n colli mas ar gyfleoen a manteision corfforol, meddyliol a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â chymryd rhan, yn ogystal â'r pethau mor anodd eu diffinio rydyn ni wedi clywed eto amdanyn nhw o ran enaid ein cymdeithas ni. Buaswn i yn erfyn ar y Llywodraeth i achub ar y cyfle hwn.
Yn olaf, buaswn i'n dweud eto ei fod yn dda clywed bod y Llywodraeth yn gwneud yr achos am byllau nofio yn arbennig i San Steffan; mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu yn sicr. Rydyn ni wedi clywed yn helaeth yn ystod y ddadl am ba mor angenrheidiol ydy'r ymyriad yna. Felly, i gloi, fe wnaf i ddiolch eto i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ac, eto, yn yr ymgynghoriad. Rwy'n gobeithio, dal, y bydd mwy o oleuni ar gyfer y sectorau hynod bwysig i'n cymdeithas: diwylliant a chwaraeon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn a nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.