– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rydym nawr yn symud ymlaen i’r eitem nesaf, sef y datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y tasglu gweinidogol ar y Cymoedd. Ac rwy’n galw ar y Gweinidog, Alun Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd.
Mae gennym ni yng Nghymoedd y De hanes cryf a balch. Ni oedd y grym y tu ôl i’r chwyldro diwydiannol, ac fe wnaethom ni ysgogi datblygiad y Gymanwlad. Ni wnaeth gyfrannu at y camau mawr a gymerwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae cau’r gwaith haearn, y gwaith dur a’r pyllau wedi cael effaith hirdymor ar gymunedau’r Cymoedd, o’u ffin â Lloegr draw i sir Gâr.
Presiding Officer, our Valleys communities have borne the brunt of the impact of successive recessions and economic downturns. They have been at the forefront of the UK Government’s experiments to reform welfare.
As the result of last month’s European Union referendum revealed, many people living in our Valleys communities today feel left behind and left out. This was not simply a vote against EU membership; it was also a vote in which people demonstrated that they feel insecure with their place in the world, their job prospects, employment rights, and their futures.
In line with the Labour Party manifesto, and commitments made in the lead up to the Assembly election, I am today announcing the Welsh Government will set up a ministerial taskforce for the Valleys. We want a new approach to investing in the future of our Valleys that will engage and empower local communities and restore a sense of hope and aspiration.
We have already seen significant structural investment in the Valleys, including from the European Union. The taskforce will build on this foundation, working with people living in the Valleys, local businesses, local government, the third sector and civic organisations to promote the Valleys as a region for investment and as a place to live, to better co-ordinate existing investment, and to address long-term issues. It will work closely with both the Cardiff capital city region and the Swansea bay city region programmes and will seek to harness the potential of the Valleys’ unique and diverse landscape.
Using the knowledge of the public sector and the ability of the Welsh Government to act as a catalyst, the ministerial taskforce will direct and lead the regeneration and sustainable growth of the Valleys. The immediate priority for the taskforce will be to listen to what people in the Valleys want for our future. We will start an in-depth conversation about improving quality of life, economic development and regeneration, business efficiency and competitiveness, employment and skills, and, finally, sustainable development.
The taskforce will be an active and agile body and not a bureaucratic quango. It will have a small core membership and will call on contributions from others as required. Every Cabinet Secretary and Minister will share a responsibility for improving the lives of people who live in the Valleys. I will chair the taskforce. Its members will include the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure and the Minister for Skills and Science. It will also have a small number of external expert advisers. I will update Members on these appointments in due course.
It is important that we recognise that the diversification of the economy of the Valleys has already begun. New industries are being supported and we must continue to build upon this and ensure that everybody benefits, creating new opportunities in local communities and ensuring the benefits of inward investment are retained and shared in the Valleys.
The fundamental issues and challenges affecting the south Wales Valleys are rooted in the noxious cocktail of poverty and deprivation. The taskforce will respond to that range of negative socioeconomic indicators that have placed so many of our Valleys communities at the bottom of the health, wealth and well-being league tables. Although we have made important progress in Wales to reduce unemployment and the number of people living in workless households, parts of the Valleys continue to have high levels of economic inactivity, high levels of deprivation, and high levels of unemployment. This, in turn, has had an impact on educational attainment and long-term health.
The impact of the UK Government’s welfare reforms, from the introduction of the bedroom tax to cuts in disability benefits, has been felt most acutely by communities in the Valleys. Whilst we cannot undo these reforms, we can do more to support people and help them in their search for dignified, skilled and meaningful work. We will work with people to respond to their real-world circumstances and experiences. Access to jobs, access to high-quality services and access to support to improve employability has to underpin this approach. We know that many people and communities are feeling disenfranchised, dispirited and under-engaged. I want the taskforce to talk with and listen to these communities and these people to identify why people feel so left behind by the wider economy and those politicians who are elected to represent them.
Through the taskforce, we want to see sustainable growth that adds economic value to our Valleys communities. Where wealth is created, we want it to remain in those local economies, not flow away into distant communities, hedge funds or off-shore bank accounts. The ongoing regeneration of the south Wales Valleys must be rooted in an approach to economic policy that has the eradication of poverty as its primary objective. We can help improve families’ living standards, health and well-being and children’s life chances by ensuring people have access to better jobs closer to home. The taskforce will work across Welsh Government departments, with the economy, education, health and housing, to stimulate action to meet the Valleys’ developing needs.
Acting Presiding Officer, I do not underestimate the challenges that lie ahead, especially in light of the decision of the British people to seek an exit from the European Union. However, there is enthusiasm to co-operate and to work together, as previous generations have done, to meet the challenges of today and to provide a prosperous and secure future for the Valleys. I will keep Assembly Members informed as the work of the taskforce develops. Thank you.
Diolch yn fawr, Weinidog. Bethan Jenkins.
Diolch. Y cefndir i'r datganiad hwn yma heddiw, rwy’n credu, yw ymrwymiad maniffesto a wnaeth y Prif Weinidog ym mis Ebrill. Ond, pan gyhoeddodd y tasglu hwn, dywedodd ei fod yn cael ei wneud, ac rwy’n dyfynnu:
'i herio'r pesimistiaeth di-baid a glywn gan Blaid Cymru... yn y Cymoedd. I wrando arnynt, ni fyddech yn meddwl bod dim byd byth yn digwydd yma. Wel, ein gwaith ni yw eu cywiro nhw'.
Ond, rwy'n meddwl bod hyn yn llai o fater o’n cywiro ni nag yn fater o siarad â phobl yr ardal a cheisio eu grymuso nhw, a'u cymunedau, i wneud penderfyniadau dros eu bywydau eu hunain. Sut yr ydym ni’n gwybod hyn? Fel yr ydych eisoes wedi’i ddweud, Weinidog, mae oherwydd canlyniad y refferendwm. Er bod biliynau o bunnoedd o arian Ewropeaidd yn llifo i mewn i'r Cymoedd, roedd llawer o bobl yn edrych o'u cwmpas ac yn gofyn a oedd eu bywydau wedi cael eu gwella o ddifrif.
Wrth gwrs, gallwn bob amser bwyntio at brosiectau yma ac acw, ond a yw’r holl arian hwnnw wedi ymdrin yn derfynol ag etifeddiaeth ôl-ddiwydiannu? A yw wedi rhoi diwedd ar ddiweithdra uchel a phoblogaeth sâl? A yw wedi darparu gwir gyfle economaidd a llai o droseddu a materion gwrth-gymdeithasol eraill? Yr ateb yw nac ydy. Rydym yn dal i wynebu’r materion hyn, fel yr oeddem 20, 30 neu 40 mlynedd—neu hanner canrif—yn ôl, ac nid yw'n ddigon da.
Felly, y peth cyntaf y mae angen i’r tasglu hwn fod yn meddwl amdano, yn fy marn i, yw canlyniadau—sut y byddwch chi’n mesur llwyddiant eich ymdrechion. Beth am ddechrau â’r cwestiwn sylfaenol: sut y mae’r polisi neu’r fenter hon neu’r llall wedi gwella bywydau pobl y Cymoedd? Mae'n ymddangos i mi mai dyna’r cwestiwn mwyaf elfennol, ond mae'n debyg y cwestiwn pwysicaf yma. Felly, hoffwn i’r Gweinidog ddweud sut y bydd yn mesur canlyniadau. Hoffwn hefyd wybod a fydd y meini prawf mesur yn cael eu pennu’n annibynnol yn hytrach na gan Lywodraeth Cymru, oherwydd mae hynny’n debyg iawn i farcio eich gwaith eich hun, ac, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, nid yw pobl yn y Cymoedd wir yn credu yn hynny ar hyn o bryd.
Hoffwn wybod hefyd sut yr ydych yn bwriadu dechrau’r sgwrs hon â phobl. Rydym yn sôn am ymgysylltiad ar ôl Brexit a phobl yn flin gyda gwleidyddion. Sut yr ydych eisiau siarad â phobl ar wahân i'r bobl arferol? Mae'n rhaid inni ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau os ydynt nawr yn dweud wrthym eu bod yn teimlo bod gwleidyddion yn bell oddi wrthynt. Sut yr ydych yn mynd i wneud yn siŵr bod hynny'n newid o ran y dyfodol?
Rwy'n falch bod y cylch gorchwyl yn cyfeirio at ddarparu cyfle yn hytrach na brwydro yn erbyn tlodi. Rydym wedi cael yr olaf cyhyd ag y gallaf gofio bod yn Aelod Cynulliad, ac nid yw wedi gweithio. Rwy'n gadarn o'r farn, os ydym wir eisiau creu swyddi, y bydd llawer o'r materion eraill yn edrych ar ôl eu hunain os ydym yn canolbwyntio ar ragolygon economaidd pobl yn yr ardaloedd hyn. Felly, hoffwn ddeall—. Rwy’n gwybod nad dim ond yn y de y mae Cymunedau yn Gyntaf yn bodoli, ond os ydych yn mynd i fod yn lansio'r tasglu newydd, sut, felly, y mae’n cyd-fynd â chynlluniau fel hwn a mentrau gwrth-dlodi eraill a all fod yn cydblethu neu'n gwrthdaro â’r hyn yr ydych yn ei wneud yn y fenter newydd hon?
Rwy’n meddwl, yn hytrach na cheisio—i fynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud ar y dechrau—saethu’r negesydd, bod angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl arni hi ei hun, oherwydd nid Plaid Cymru yr unig lais sy’n dweud nad oes digon yn cael ei wneud. Cafwyd adroddiad gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ym mis Mehefin y llynedd, yn dweud, yn sgil diffyg cynnydd Llywodraeth Cymru o ran lleihau tlodi, yn enwedig o ystyried ei hymrwymiad hirdymor i fuddsoddi yn y mater, bod pryder dwfn yno. Felly, mae angen inni ystyried, yn hytrach na rhoi bai ar bobl, trin symptomau tlodi ac ymdrin ag achosion gwaelodol tlodi.
Hoffwn wybod, yn sgil y refferendwm, fel y soniasoch am Brexit ar y dechrau, a yw Llywodraeth Cymru wedi adolygu effeithiolrwydd yr arian Ewropeaidd sydd wedi ei wario yn ardal Cymoedd y de. Wedi'r cyfan, os mai darparwr cyllid ydyw, yn hytrach na chyflawnwr y dibenion a fwriadwyd gan y cyllid, dim ond rhywfaint o’r bai all yr UE ei ysgwyddo os nad yw cyllid yn arwain at welliant sylweddol a mesuradwy. Neu, i’w roi mewn ffordd arall, wnaiff palmentydd newydd neu rodfa yng nghanol tref ddim darparu swyddi ynddynt eu hunain—yr hyn sy’n dod i’r dref ac o’i chwmpas sy'n cyfrif.
Yn olaf, hoffwn wybod beth fydd y tasglu hwn yn ei wneud i dorri'r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol gwael. Yn y blaid hon, rydym wedi gwthio am ysgolion bro â chysylltiadau cryf â theuluoedd a'r gymuned ehangach, ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyflawni ei haddewid maniffesto ei hun i dreialu model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol, gan ddarparu gwasanaethau estynedig o 8 a.m. tan 6 p.m., gyda gofal plant, cymorth rhianta, dysgu teuluol a mynediad cymunedol i gyfleusterau wedi’u hadeiladu o amgylch y diwrnod ysgol. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol i gynnig o'r fath, ac rydym hefyd wedi addo troi ysgolion yn ganolfannau cymunedol fel y gallant fod yn agored ar benwythnosau, gallant fod yn agored i'r gymuned, yn hytrach na dim ond ar agor ar amseroedd ysgol, ac yna gallwn ymgysylltu ar sail ehangach o ran dileu tlodi yng Nghymru. Nid wyf yn anghytuno â sefydlu'r tasglu hwn, ond nid wyf am ychwaith iddo fod yn ddim mwy na darn arall o waith sy'n eistedd ar silff lyfrau yn rhywle ac yn cael ei anghofio; rwyf am i bobl yn ardaloedd y Cymoedd sy'n teimlo, yn aml, wedi’u difreinio a'u hymddieithrio ddod yn rhan o'r drafodaeth yn y dyfodol fel y gallwn wneud i ddatganoli weithio ar eu cyfer nhw ac fel y gallwn wneud i ddyfodol Cymru fod yn rhan o'u sgwrs nhw, nid dim ond ein sgwrs ni fel gwleidyddion.
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei hymateb, ac rwy’n cytuno â llawer ohono. Rwy’n sicr yn cytuno â'r pwyntiau a wnaethoch am ganlyniadau, yn hytrach na dim ond cyfrif yr hyn yr ydym yn ei wneud. Rwy’n meddwl, yn llawer rhy aml yn y Llywodraeth, bod temtasiwn wedi bod i gyfrif yr holl gamau gweithredu yr ydym yn eu cymryd, ac yna datgan bod hynny’n llwyddiant mawr oherwydd ein bod wedi gwneud llawer. Beth sy'n bwysig mewn gwirionedd yw effaith y camau gweithredu hynny ar y bobl a'r cymunedau yr ydym yn eu cynrychioli. Yn sicr, rwy’n cytuno’n fawr iawn hefyd y byddai'n ddefnyddiol i lawer o'r canlyniadau hyn gael eu diffinio, os mynnwch chi, nid dim ond gan y Llywodraeth, ond gan eraill yn ogystal, sydd â golwg fwy annibynnol ar hyn.
Pan wyf yn edrych ar y materion hyn, rwy’n gwneud mwy nag edrych ar gyfres o ystadegau; rwy’n deall ac yn gwerthfawrogi'r bywydau y mae pobl yn eu byw a'r effaith nad yw ein polisïau ni weithiau yn ei chael ar y bobl hynny, a'r angen i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Felly, roeddwn yn glir iawn, iawn, rwy’n gobeithio, wrth wneud y datganiad hwn yr hoffem weld dileu tlodi yn sbardun allweddol i’r hyn yr ydym yn ei wneud, nid dim ond yn rhywbeth yr ydym yn ei wneud wrth eistedd yma ym Mae Caerdydd, neu eistedd mewn gwahanol dasgluoedd neu bwyllgorau yn rhywle arall—ym Mharc Cathays, neu ble bynnag yr ydym yn digwydd bod—ond ein bod yn edrych ar yr holl gamau a gymerwn fel Llywodraeth, lle mae’r Llywodraeth yn gweithredu fel catalydd, gan ddod â phobl at ei gilydd, a’n bod yn sefydlu dileu tlodi yng Nghymoedd y de fel sbardun i bolisi, ac mai dyna'r meincnod yr ydym yn ei ddefnyddio ac yn ei wneud ar gyfer pob ymyriad polisi arall.
Y rheswm pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn ymuno â mi ar y tasglu hwn yw i ganolbwyntio ar y materion economaidd ehangach hynny ac ar sut y gallwn sicrhau bod gennym y cyfalaf dynol a’n bod yn buddsoddi yn ein cyfalaf dynol i sicrhau ein bod ni yn bodloni’r amcanion hynny. Byddaf yn sicr yn cynnwys fy nghydweithwyr o bob rhan arall o’r Llywodraeth, yn ôl y gofyn ac yn ôl yr angen, ac yn canfod yr arbenigedd sydd ei angen arnom o fannau eraill y tu allan i’r Llywodraeth. Ond, rwyf eisiau sicrhau nad yw'r tasglu hwn, yn eich geiriau chi, yn rhywbeth sy'n eistedd ar silffoedd, lle bynnag y maent yn digwydd bod, ond ei fod yn dasglu sy'n dod â phobl at ei gilydd i gyflawni canlyniadau go iawn, ac mae gennym y cyfle yma i wneud hynny.
Nid wyf yn siŵr a wyf yn cytuno’n llwyr â chi yn y feirniadaeth a wnaethoch am y buddsoddiadau a wnaethpwyd gan y gwahanol raglenni Ewropeaidd. Rwy'n meddwl eu bod wedi cael effaith wirioneddol iawn, ac rwyf wedi gweld yn fy etholaeth fy hun y newidiadau sydd wedi'u gwneud, o adeiladu ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd i adnewyddu Glynebwy, os mynnwch, yn safle’r Gweithfeydd—y buddsoddiad yn y rheilffordd, y buddsoddiad yn y coleg, a'r buddsoddiad mewn prentisiaethau a Twf Swyddi Cymru, sy’n cael effaith wirioneddol iawn ar fywydau pobl. Yr hyn yr hoffwn i inni ei wneud yw canolbwyntio ar sylwedd ac nid dim ond PR, canolbwyntio ar wneud newidiadau go iawn, ac nid dim ond newidiadau cosmetig, a chanolbwyntio ar newid cyfleoedd bywyd i bobl. Mae hwnnw'n uchelgais gwahanol iawn, ac yn weledigaeth wahanol iawn, efallai, i’r hyn yr ydym wedi ei weld ar wahanol adegau yn y gorffennol.
Sonioch chi am y cynlluniau gwrthdlodi sydd eisoes yn bodoli, a byddwn yn dwyn y cynlluniau hynny ynghyd a byddwn yn adolygu sut y mae’r cynlluniau hynny’n gweithio heddiw a sut y byddant yn gweithio yn y dyfodol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn edrych ar rai o'r materion hynny, ac rwy’n disgwyl ymuno ag ef i adolygu sut y mae rhai o'r rhaglenni gwrthdlodi hynny’n gweithio.
Gadewch imi orffen ar y pwynt hwn: roeddech yn sôn am sut yr ydym yn ymgysylltu fel gwleidyddion a Gweinidogion, ac rwy’n meddwl eich bod yn hollol gywir i ganolbwyntio ar hynny ac ar ein methiant, weithiau, i gyfleu ein negeseuon. Roeddwn yn awyddus i wneud y datganiad hwn cyn y toriad, fel y gallwn ddechrau ar y gwaith hwn cyn gynted ag y bo modd. Nid wyf yn gweld hyn fel dim ond ymarfer ymgynghori, fel efallai yr ydym wedi ei wneud ar adegau eraill yn y gorffennol; rwy'n gweld hyn fel ymgais i ysgogi trafodaeth gyfoethog a manwl a gonest â phobl—y bobl yr ydym ill dau’n eu cynrychioli mewn gwahanol rannau o Gymoedd y De. Rwy’n bwriadu gwrando'n astud ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym, oherwydd pan fydd pobl yn siarad â ni—ac rydym ni i gyd wedi cael sgyrsiau ar gerrig drysau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf—mae llawer o bobl wedi siarad â mi am yr amgylchedd lle maent yn byw, boed yn sbwriel ar strydoedd Glynebwy neu’n chwyn yn tyfu yn strydoedd Tredegar, neu’n dipio anghyfreithlon uwchben Nantyglo. Ac mae'r rhain yn bethau sy'n bwysig i bobl; mae'n effeithio ar eu lle nhw, mae'n effeithio ar eu canfyddiad nhw o bwy ydynt ac maent yn bethau yr hoffem ymdrin â hwy. Felly, ie, byddwn yn ateb yr heriau mawr sy'n ein hwynebu, ond mae angen inni hefyd ymdrin â'r mannau lle’r ydym yn byw, a fyddwn i byth yn tanbrisio pwysigrwydd hynny i bobl, ble bynnag yr ydym yn digwydd byw yn y Cymoedd.
A gaf atgoffa’r Aelodau ein bod eisoes hanner ffordd drwy'r amser sydd wedi’i neilltuo ar gyfer y sesiwn hon? Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai’r holl Aelodau ac, a dweud y gwir, y Gweinidog ei hun, yn gallu cadw eu cwestiynau a’u hatebion yn fyr i gael cymaint â phosibl o graffu eang ar y Llywodraeth. Diolch yn fawr. Mohammad Asghar.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd dros dro. Diolch hefyd i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae un o bob wyth o blant yng Nghymru’n byw mewn cartrefi di-waith hirdymor. Mae llawer o'r plant hyn yn byw yng Nghymoedd y de-ddwyrain. Mae ymchwil yn dangos nad yw plant sy'n byw gyda rhieni di-waith hirdymor yn gwneud cystal yn yr ysgol a’u bod yn wynebu risg uwch o fod yn ddi-waith yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae plant o deuluoedd mwy cefnog yn mwynhau gwell iechyd ac yn meddu ar sgiliau uwch na phlant o deuluoedd tlotach. Felly, mae unrhyw strategaeth i dorri cylch diweithdra, iechyd a lles gwael, tlodi a diffyg cyrhaeddiad addysgol yn rhywbeth i'w groesawu. O ystyried y ffocws ar hyrwyddo datblygiad economaidd ac adfywio, mae'n hanfodol bod y gymuned fusnes yn ymwneud yn llawn â'r tasglu hwn. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog: pa drafodaeth y mae wedi'i chael â'r sector preifat am eu mewnbwn nhw i'r tasglu hwn?
Yn yr un modd, bydd cydweithio â’r trydydd sector, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol yn bwysig yn yr achos hwn. Pa weithdrefn ymgynghori fydd y tasglu’n ei mabwysiadu gyda'r grwpiau hyn?
Mae nodau'r tasglu hwn yn croesi sawl ffin weinidogol. Pa dargedau ydych chi’n bwriadu eu gosod, a sut y byddwch chi’n monitro cynnydd ar draws y Llywodraeth wrth gyrraedd y targedau hyn? Sut y bydd y tasglu’n cydlynu ei waith ar y cyd â strategaethau presennol fel yr agenda sgiliau yng Nghymru?
Yn olaf, Weinidog, rwy’n gwybod eich bod yn bwriadu cadeirio'r tasglu hwn. A gaf i ofyn pa ystyriaeth a roddwyd i fabwysiadu cadeirydd annibynnol â phrofiad busnes o'r sector preifat i ddatblygu'r fenter hon? Soniasoch am gwpl o ardaloedd yng Nghymoedd y de-ddwyrain. Dylai'r Gweinidog wybod fy mod yn teithio bron bob wythnos i’r Cymoedd hynny, ac nid dim ond o ran swyddi y mae’r ardaloedd hyn wedi’u hamddifadu, ond ers i’r glo a’r dur fynd—ac mae Llywodraethau Llafur parhaus wedi bod yn rhedeg y wlad hon. Felly, does dim byd wedi ei wneud hyd yn hyn. Mae potensial mawr, Weinidog, os dechreuwch feddwl am rai trefi marchnad fel Tredegar, Glynebwy, Merthyr—roeddent yn ardaloedd a oedd yn ffynnu yn yr 1970au a'r 1980au, a, rhywsut, mae adeiladau adfeiliedig yno yn awr. Felly, a ydych wedi meddwl am y peth—a ellir, wyddoch chi, adfywio’r siopau hyn sydd wedi cau fel y gallant godi o’r newydd yn y rhan hon o'r byd gydag arian newydd a phobl newydd i fuddsoddi ynddo i wneud yn siŵr bod ein Cymoedd yn dod i'w gogoniant llawn, fel yr oeddent brin 30 neu 40 mlynedd yn ôl? Diolch.
Byddwn yn awgrymu’n ysgafn iawn i'r Aelod efallai y dylai ddarllen y datganiad cyn iddo ysgrifennu ei gyfraniad ato. Pe baech wedi darllen fy natganiad neu wedi gwrando arno, byddech wedi gwybod y byddwn yn ymgynghori â'r holl wahanol rannau o'r gymuned yr ydych wedi’u rhestru yn eich cwestiynau. A dewch imi ddweud hyn wrthych: mae'n eithaf digrif gweld unrhyw lefarydd y Ceidwadwyr yn dod yma i’r Siambr hon ac yn gwasgu eu dwylo ac yn crio eu dagrau ffug am y tlodi y maent wedi ei greu ar raddfa ddiwydiannol yn y cymunedau hyn.
Gadewch imi ddweud hyn wrth lefarydd y Ceidwadwyr: mae effaith diwygiadau lles ar gymunedau i fyny ac i lawr ac ar hyd a lled Cymoedd y de yn gwbl ryfeddol. Rwyf yn gweld, yn fy etholaeth fy hun, colled o tua £60 miliwn o bocedi rhai o'r teuluoedd mwyaf agored i niwed a thlotaf yn y gymuned honno. Rydym yn gweld hynny’n digwydd ar hyn o bryd. Gallwch ysgwyd eich pen, ond mae'n hollol wir ac rydym yn gweld effaith hynny. Rydym yn gweld yr effaith ar y teuluoedd hynny, ar y plant y buodd yn crio ei ddagrau ffug amdanynt, ac rydym hefyd yn gweld yr effaith, wedyn, ar fusnesau lleol a chymunedau lleol. Rydym yn gweld yr effeithiau hynny heddiw, ac mae’r gwaith hwn wedi ei gynllunio i liniaru'r anawsterau a'r problemau, yr argyfwng a'r anhrefn a achoswyd gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.
Gadewch imi ddweud hyn: byddwn, fel yr wyf wedi’i ddweud wrth ateb Bethan Jenkins, yn sefydlu targedau clir iawn. Yn amlwg, mae'r Gweinidog sgiliau ar y tasglu, felly bydd hi’n ymgysylltu'n llawn â'r agenda hon. Ond, rwy'n meddwl, os yw’r Ceidwadwyr yn dymuno cyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith sy'n cael ei wneud, mae angen iddynt ddechrau drwy gydnabod lle'r ydym heddiw a'r rhan y maent wedi’i chwarae o ran creu’r dirywiad economaidd sy'n effeithio ar bobl a chymunedau Cymoedd y de.
Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn i'r Gweinidog, hoffwn nodi, a nodi bod y Siambr hon yn nodi bod yr ACau UKIP sydd wedi bod yn canmol eu cynrychiolaeth o’r Cymoedd drwy gydol etholiadau'r Cynulliad ac sydd wedi bod yn dweud wrth Lafur eu bod wedi colli cysylltiad â’r Cymoedd—
A gawn ni symud at gwestiynau, os gwelwch yn dda?
[Yn parhau.]—wedi gadael, a heb hyd yn oed drafferthu aros yn y Siambr hon am y drafodaeth am union ddyfodol y Cymoedd hynny y maent yn ceisio eu cynrychioli.
Ond, a gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Does dim amheuaeth y bydd y fenter ôl-Brexit yn awr yn bwysicach fyth i gymunedau Cymoedd y de, fel yr ydym wedi’i ddweud. Ac nid wyf yn mynd i sefyll yma ac ailadrodd popeth sydd wedi cael ei ddweud. Rwy’n cytuno â llawer o'r hyn y mae Bethan Jenkins wedi ei ddweud ac, yn amlwg, yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud. Mae cymaint i’w wneud; mae’n agenda enfawr ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am yr hyn y mae'n ei osod allan.
Felly, hoffwn ganolbwyntio ar ddim ond un maes penodol y credaf ei fod wedi’i danddefnyddio’n ddifrifol yn y Cymoedd, sef hyrwyddo ein hamgylchedd a’n twristiaeth, gan gynnwys ein treftadaeth ddiwydiannol. Rwy'n falch iawn, felly, bod hynny'n elfen allweddol o agenda’r tasglu. Yn aml, rydym ni’n meddwl bod Cymru'n dibynnu'n drwm ar ei harddwch naturiol pan ydym yn edrych ar ddatblygu twristiaeth, ac mae hynny’n sicr yn wir yn fy etholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, sydd wedi’i bendithio ag ardaloedd o harddwch naturiol. Ond, wrth gwrs, mae'n eithriadol o gyfoethog o ran ei threftadaeth diwydiannol ac undebau llafur. Mae gennym, er enghraifft, y Tŷ Weindio, Canolfan Treftadaeth Ddiwydiannol Cyfarthfa, Canolfan Treftadaeth Haearn Ynysfach, ac, fel y gwyddom, roedd Merthyr yn ganolog i ddiwygio gwleidyddol a datblygiad undebaeth lafur yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau, lle mae uchelgais y tasglu’n sôn am hyrwyddo ein hamgylchedd a’n twristiaeth, y bydd hyn yn bendant yn cynnwys hanes ein diwydiant a’n hundebau llafur, a ddylai fod yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth, gan gydnabod bod hyrwyddo agweddau ar ein treftadaeth yn gallu chwarae rhan arwyddocaol o ran creu swyddi a chefnogi adfywio?
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod dros Ferthyr Tudful am wneud y pwyntiau hynny. Rwy'n meddwl y bydd pobl Cymoedd y de yn ffurfio eu barn eu hunain am yr Aelodau hynny sy’n ymddangos mewn ymgyrchoedd etholiadol yn addo’r ddaear ac yna pan fo’n amser gwneud y gwaith, yn diflannu i ffwrdd, boed ar wyliau neu mewn man arall, ond beth am adael i bobl eraill ffurfio barn—[Torri ar draws.] O, dyma nhw—mae’r teledu’n gweithio yn yr ystafell de, yn amlwg. [Chwerthin.]
Mae’r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn o ran twristiaeth. Mae fy mab bach wedi mwynhau ei daith ar y rheilffordd fynydd ym Merthyr ac mae'n bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni, weithiau, yn cydnabod popeth sydd gan y Cymoedd i'w gynnig. Rydym yn byw mewn rhan o'r byd sy'n hollol ysblennydd yn llygaid unrhyw un. Hefyd yn etholaeth fy ffrind, wrth gwrs, mae gennych y ganolfan beicio mynydd wych; rwy’n gyrru heibio iddi a bob amser yn cael fy nhemtio i fynd i mewn ar fy meic—fe wna’i hynny rywbryd yn ystod yr haf. Hefyd, wrth gwrs, mae gennym y dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog dros y ffordd ym Mlaenafon lle mae’r Pwll Mawr yn adrodd hanes y chwyldro diwydiannol. Rwy’n meddwl, weithiau, nad ydym yn deall yn llawn nac yn cydnabod ein hunain mai Blaenau'r Cymoedd oedd y gymuned ddiwydiannol gyntaf yn y byd, ein bod ni wedi arwain datblygiad haearn a glo, a’n bod ni, drwy wneud hynny, wedi creu cymuned a diwylliant sy'n unigryw ac sy'n rhywbeth sydd, yn ogystal ag allforio prosesau economaidd a diwydiannol gwych i'r byd, hefyd wedi allforio diwylliant i'r byd yn ogystal. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fod yn falch ohono ac mae'n rhywbeth y byddwn yn parhau i’w hyrwyddo, yn enwedig heddiw, wrth gwrs, a ninnau’n dathlu pen-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn 68 oed. Pan ddywedodd Aneurin Bevan wrth y Senedd ei fod yn mynd i 'Dredegareiddio' y Deyrnas Unedig, yn sicr fe wnaeth hynny ac fe greodd rhywbeth yr ydym ni i gyd yn falch iawn ohono ac, ar yr ochr hon i'r Siambr, y byddwn bob amser yn ei feithrin a bob amser yn ei amddiffyn.
Cwestiynau ac atebion byr yn awr, os gwelwch yn dda. Adam Price.
Rwy’n croesawu'r datganiad, ac rwy’n meddwl ei fod yn iawn, rwy’n meddwl, i gysylltu hyn â’r mynegiant o ddieithrio a risialodd i gynifer yn ein cymunedau yn y bleidlais 'gadael’. Tybed a yw hyn yn gyfle i ailfeddwl yn sylfaenol? Y patrwm a welsom, wrth gwrs, oedd llawer o bleidleisiau ‘aros’ mewn ardaloedd metropolitan, ac yn yr hen gymunedau glofaol ar draws Cymru a Lloegr, cafwyd pleidlais yn erbyn—cymunedau sy’n teimlo nad ydynt, efallai, wedi cael eu cysylltu â’r ffyniant trefol. Nid diferu i lawr, efallai, yw’r model sydd wedi bod ond diferu i fyny—crynodi ffyniant yn y dinasoedd, a rywsut byddai angen inni geisio ei gysylltu â'r Cymoedd. A oes angen model newydd arnom yn awr o ddatblygu economaidd? Ac, yn ogystal â'r tasglu, a allem mewn gwirionedd greu strwythur mwy hirdymor, gan edrych ar gorfforaeth datblygu ar gyfer y Cymoedd? Wyddoch chi, mae strategaethau’n wych, ond heb strwythurau, ni allwch gael darpariaeth hirdymor.
Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau y mae Adam Price wedi bod yn eu gwneud. Rwy'n meddwl bod hwn yn gyfle i ailfeddwl rhai o'r dulliau hynny. Gwnaeth yr astudiaeth lleoliad dwfn ar Dredegar, wrth gwrs, a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl erbyn hyn, argraff fawr arnaf. Rwy’n meddwl bod angen inni edrych ar yr ymagwedd gyfannol honno tuag at ddatblygu economaidd ochr yn ochr â’r amgylchedd, ochr yn ochr â pholisi cymdeithasol ac ochr yn ochr â pholisi ynni a chymunedau hefyd. Nid wyf yn credu ein bod ni, drwy greu gwaith yma yng Nghaerdydd, yn datrys y problemau diweithdra ym Merthyr Tudful neu yng Nglyn-nedd. Felly, mae angen inni edrych yn ofalus ar sut yr ydym yn gwneud hynny. Rwy’n croesawu'n fawr unrhyw gyfraniad y byddai'r Aelod yn dymuno ei wneud at y gwaith hwnnw. Er nad wyf wedi fy argyhoeddi’n llwyr gan y syniad o gorfforaeth datblygu, rwy’n cydnabod na fydd strwythurau a chynlluniau a gobeithion duwiol yn cael eu gwireddu heb benderfyniad a heb ffordd o gyflawni’r weledigaeth honno. Byddwn yn rhoi croeso mawr iawn i unrhyw sgwrs ar draws y Siambr ynghylch sut y gellid cyflawni hynny.
Rwy’n cytuno â'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud bod arnom angen ailfeddwl sylfaenol o ran strategaeth fuddsoddi, ond hefyd ynglŷn â gwydnwch hirdymor buddsoddi a throi'r peth ar ei ben fel ein bod ni’n gweld y buddsoddiad yn llifo i mewn i’r Cymoedd.
Ond hoffwn awgrymu dau beth. Un yw bod y metro, i mi, bob amser wedi bod yn fwy na’r metro fel y mae’n cael ei ystyried ar hyn o bryd. Os ydym yn mynd i gael cysylltedd go iawn, rhaid iddo fod yn metro plws. Rhaid iddo fod yn bethau sy’n ymwneud â chysylltu’r cymunedau hynny na fydd byth ar gledrau ysgafn na chledrau trwm hen ffasiwn. Y bysiau cyflym iawn sy’n cysylltu cymunedau—nid dim ond i fyny ac i lawr, ond ar hyd a lled cymunedau; y tocynnau cyffredinol; a fforddiadwyedd yn ogystal.
Hoffwn hefyd ddweud bod angen inni ailfeddwl, i godi ar y syniad a gynigiwyd gan Adam Price yno, sut yr ydym nid yn unig yn cysylltu pobl fel y gallant deithio allan o'r Cymoedd, ond dod i mewn i'r Cymoedd, ac mae hynny'n golygu buddsoddi mewn busnesau bach a microfusnesau sydd wedi’u gwreiddio yn y Cymoedd hynny ac yna sut yr ydym yn rhoi’r buddsoddiad hirdymor hwnnw i’w tyfu a’u tyfu a’u tyfu nhw â gwreiddiau dwfn yn y Cymoedd hynny. Ers rhy hir, rydym wedi bod yn dweud wrth ein pobl ifanc, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, mae angen i chi symud allan.' Dewch inni wyrdroi hynny a dweud, 'Os ydych chi eisiau mynd ymlaen mewn bywyd, gallwch aros yma a chael dyfodol ffyniannus.' Ond mae fy nghwestiwn i'r Gweinidog mor syml â hyn: a wnaiff yn siŵr, wrth wneud hynny, nad yw'n taflu'r babi allan gyda'r dŵr, gyda phethau fel Dechrau'n Deg, cynlluniau prentisiaeth—ond sut yr ydym yn mynd i gynnal y cyllid ar gyfer y rhain yn awr ar ôl ein penderfyniad yn y dyddiau diwethaf, nid wyf yn gwybod—gyda phethau fel y cysyniad Sony yno, yn dod ag ysgolion a phobl ifanc i mewn i'w dysgu am y diwydiannau digidol, wedi’i sbarduno gan y sector preifat i lawr ym Mhencoed—sut ydym ni’n adeiladu ar y mathau hynny o bethau, ac a fydd yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinwyr awdurdodau lleol, gan gynnwys y rhai yn fy ardaloedd i ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf?
Yr ateb i'r cwestiwn yw 'ie', 'ie' ac 'ie'. Rwy’n cytuno’n llwyr bod angen peidio â thaflu babanod allan gyda’r dŵr; mae hyn yn fater o adeiladu ar seiliau cadarn. Mae'r buddsoddiadau Dechrau'n Deg yr ydym wedi’u gwneud yn rhan allweddol o hynny. Rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gwaith y mae Sony wedi'i wneud ym Mhen-coed ac rwy'n meddwl bod hwnnw'n fodel gwych i’r hyn yr ydym am ei gyflawni yn y dyfodol. Un o seiliau athronyddol allweddol yr astudiaeth lleoliad ddwfn oedd y buddsoddiad mewn busnesau bach, busnesau lleol, yr economi leol ac nid dim ond dibynnu ar rai buddsoddiadau mawr yn unig, er ein bod yn cydnabod y gwaith y gall hynny ei gyflawni.
O ran y pwyntiau cyffredinol a wnewch am gludiant a'r metro, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae’r Cymoedd wedi mynd o'r gogledd i'r de erioed, ac mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn mynd o’r dwyrain i'r gorllewin hefyd a bod pobl yn gallu cael gwaith, cyfleoedd cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus ble bynnag y maent yn digwydd byw, ac mae hynny'n golygu cael system drafnidiaeth gadarn nad yw’n ddibynnol ar reilffyrdd yn unig, ond sy’n dibynnu ar y gydberthynas rhwng rheilffyrdd a bysiau a dulliau trafnidiaeth eraill i sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar yr holl gyfleoedd a gwasanaethau sydd ar gael iddynt.
Rwy’n mynd i gymryd dau gwestiwn arall gan fod y cwestiwn cyntaf wedi cymryd cymaint o amser i’w ateb. David Melding.
Diolch, Lywydd dros dro. Roeddwn yn cytuno’n gryf iawn â’ch pwyslais ar anweithgarwch economaidd gan fod hyn, yn anffodus, yn un o'r prif sbardunau i’n GYC cymharol isel ac, yn wir, y ffaith bod ein GYC wedi disgyn yn yr 20 mlynedd diwethaf o dan Lywodraethau’r ddwy blaid o ran pwy sydd wedi bod mewn grym yn San Steffan. Nid yw anweithgarwch economaidd yr un peth â diweithdra. Yn amlwg, maent yn aml yn gorgyffwrdd ond dydyn nhw ddim yr un pethau. Rydym wedi cael problem go iawn gyda phobl yn gadael y farchnad lafur yn llwyr yn ein hardaloedd tlotaf ac rwy’n meddwl bod angen inni ganolbwyntio ar hyn. Yn ail, mae llawer iawn o wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu defnyddio mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu gwneud i bobl ac nid ydynt yn cynnwys pobl yn llawn, hyd yn oed o ran cyflogaeth. Rwy'n meddwl bod angen inni edrych ar faint o ddarpariaeth leol sy’n cynnwys pobl leol. Yn olaf, rwy’n meddwl bod angen i ddinasyddion yn yr ardaloedd hyn allu ail-lunio rhai o'u polisïau cyhoeddus. Yn amlwg, mae'r craidd y mae angen ei gyflwyno’n annhebygol o newid mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ond gall fod anghenion a dewisiadau penodol a dylem wrando arnynt. Efallai nad ydynt yr un rhai â’n rhai ni; efallai y byddant yn gwneud penderfyniadau gwahanol.
Rwy'n ddiolchgar i David Melding am y pwyntiau y mae’n eu gwneud. Rwy’n cytuno’n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth am anweithgarwch economaidd. Rwy'n gobeithio mai dyma rai o'r materion y mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi’i chynllunio, neu am gael ei chynllunio, i roi sylw iddynt oherwydd mae gennym faterion o anweithgarwch yng nghymunedau'r cymoedd. Ond fel y dywedwch, nid ydynt o ganlyniad i ddiweithdra yn unig, ond rhesymau eraill, hefyd, ac mae angen inni edrych ar y rhesymau hynny. Hefyd, wrth gwrs, mae angen inni edrych ar achlysuroli, os mynnwch chi, yr economi, lle nad oes swyddi parhaol llawn amser o safon uchel ar gael i bobl, ac mae’n rhaid iddynt weithio ar gontractau dim oriau, gweithio ar gontractau â llai o oriau, gweithio gwaith rhan-amser a methu mewn gwirionedd â chynnal y teulu yn y ffordd y byddent yn dymuno ei wneud. Felly, mae nifer o heriau gwahanol yno o ran yr agenda ehangach, ac rwy’n sicr yn cytuno â David Melding bod angen inni allu gwneud hynny.
Roeddwn yn hapus iawn â gwaith TUC Cymru yn nhermau Gwell Swyddi, Agosach at Adref o ran edrych ar greu gwaith o fewn cymunedau'r Cymoedd, a sut y gall caffael cyhoeddus helpu gyda hynny. Rwy'n meddwl bod hynny'n bwynt sydd wedi'i wneud gan Blaid Cymru yn y gorffennol yn ogystal. Mae'n sicr yn fater y credaf y dylai'r Llywodraeth roi cryn bwyslais iddo.
Yn olaf, dim ond i brofi amynedd y Llywydd, mae’r mater ynghylch gwrando ar bobl yn gwbl hanfodol. Dyna pam yr oeddwn yn awyddus i wneud y datganiad hwn heddiw, cyn y toriad, er mwyn imi allu treulio rhywfaint o amser yn ystod yr haf yn gwrando ar bobl, oherwydd yn aml iawn mae’r hyn yr ydym yn ei glywed ar gerrig drysau yn wahanol i’r hyn yr ydym yn ei glywed ac yn ei ddarllen gan newyddiadurwyr a gan wleidyddion sy'n meddwl eu bod yn gwybod orau. Rwy'n meddwl ei bod yn ddyletswydd arnom ni i gyd i wneud mwy na dim ond gwrando, ond mynd ati i geisio gwrando a chlywed beth sy'n cael ei ddweud wrthym, ac nid dim ond gwneud hynny fel ymarfer ticio blwch.
Ac yna, yn olaf ac yn fyr, Rhianon Passmore.
Byddaf yn gryno. Diolch. Mae cymunedau'r Cymoedd yn wir wedi ysgwyddo baich effaith y dirwasgiadau Torïaidd a'r dirywiadau economaidd Torïaidd, heb os nac oni bai. Mae toriadau lles llym eisoes wedi eu trafod. Yn fy nghymuned, mae’r gweithredoedd anfoesol yn gysylltiedig â’r dreth ystafell wely wedi achosi anfantais enfawr ac eang. O ran torri’n syth at gwestiwn—diolch, Lywydd dros dro—mae canolfannau twristiaeth o fewn agenda cysylltedd y dinas-ranbarth yn gwbl hanfodol o ran rhyddhau potensial ein tirweddau hardd yng nghymunedau'r Cymoedd, felly, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi o ran pa mor bwysig yw hi, er enghraifft, bod taith olygfaol Cwmcarn yn fy etholaeth i yn cael ei hadfywio mewn gwirionedd a’i hadfer fel gwir weledigaeth o'r hyn y gallwn ei wneud gyda chymunedau’r Cymoedd, a’r hyn y gallwn ei wneud o ran adfywio cymunedau ein Cymoedd?
Rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n meddwl bod ffordd goedwig Cwmcarn yn adnodd gwych inni i gyd, ac nid dim ond i’r rhai ohonom sy'n byw yn y Cymoedd. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ei lle ac wedi clywed y pwyntiau yr ydych wedi eu gwneud. Ac, yn sicr, bydd y gwaith yr wyf yn credu bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef yn sicrhau bod taith olygfaol Cwmcarn ar gael i bobl yn y dyfodol. Mae'n enghraifft dda iawn o sut mae amgylchedd a daearyddiaeth a thirwedd y Cymoedd yn rhywbeth sy’n gallu darparu, nid dim ond mwynhad a phleser i'r rhai ohonom sy'n byw yno, ond gall hefyd sicrhau ein bod yn cael effaith economaidd, ac un y mae angen inni ei harneisio a’i defnyddio ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro.
Diolch.