– Senedd Cymru ar 4 Ebrill 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, ac rydw i’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig. Carwyn Jones.
Cynnig NNDM6289 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.
3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ‘Legislating for the United Kingdom’s withdrawal from the European Union’, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad datganoli.
4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.
6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogelu.
7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl hwnnw.
8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i’r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.
Diolch, Llywydd. Wel, yn dilyn cyflwyno’r llythyr erthygl 50 yr wythnos diwethaf, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Papur Gwyn yn deddfu ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd. Cawsom gopi 24 awr cyn ei gyhoeddi, ond dim cyfle i ymateb ar ffurf ddrafft. Rwyf wedi nodi sylwadau o'r blaen, wrth gwrs, am ein rhwystredigaeth ynglŷn â’r broses ar gyfer cael deialog o fewn y DU. Rwy’n gresynu bod Llywodraeth y DU wedi dewis gweithredu fel hyn hyd yma. Nid oes raid i bethau fod fel hyn, ond, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi buddiannau Cymru. Rydym ni eisiau’r hyn sy'n dda i Gymru ac, yn wir, y DU yn ei chyfanrwydd. Mae'n gywir dweud, Llywydd, fod rhannau o'r Papur Gwyn yn amwys a bod angen eu dadansoddi. Mae’r diben canolog yn synhwyrol, ond mae gennyf amheuon sylweddol iawn am yr agweddau datganoledig, a byddaf yn dod atynt.
Llywydd, rydym wedi dadlau’n hir am drefniadau pontio a reolir o’n haelodaeth o’r UE i’n sefyllfa newydd y tu allan iddo. Bydd y Bil diddymu mawr yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig ledled y DU ar adeg ymadael â’r UE ddwy flynedd o nawr, a bydd hynny’n rhoi parhad a sicrwydd i fusnesau a gweithwyr, wrth i ni addasu i amgylchiadau newydd. Byddwn yn cadw, o leiaf am gyfnod interim, at drefniadau cydgyfeirio â rheoliadau’r UE, ac mae hyn yn golygu y bydd allforwyr i farchnadoedd Ewrop, er enghraifft, yn gallu parhau i allforio gan gydymffurfio â'r safonau angenrheidiol. Ymhen amser, wrth gwrs, mae’n bosib y bydd pethau’n dechrau newid. Ond mae sicrhau cysondeb bras rhwng safonau amgylcheddol a chyflogaeth yn debygol o fod yn hanfodol os ydym ni i gadw mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Ond mae cyfnod pontio yn sicr yn fan cychwyn synhwyrol ac ymarferol.
Llywydd, ni fydd union oblygiadau'r Papur Gwyn yn gwbl amlwg hyd nes y byddwn yn gweld y ddeddfwriaeth ddrafft. Felly, ar y cam hwn, rydym yn annog Llywodraeth y DU i rannu ei chynigion deddfwriaethol drafft gyda ni cyn gynted â phosib. Bydd yn rhaid i'r DU ei hun ymgodymu â rhwng 800 a 1,000 o ddarnau o is-ddeddfwriaeth. Gwyddom y bydd deddfwriaeth sylfaenol ar dollau a mewnfudo, a bydd llu o Filiau eraill yn dilyn. Mae'n fwy tebygol na pheidio y bydd yn rhaid i'r Cynulliad hwn reoli swm sylweddol o ddeddfwriaeth yn y blynyddoedd nesaf, a bydd goblygiadau sylweddol o ran amser craffu.
Llywydd, rwyf am droi yn awr at fanylion y datganoli, fel y disgrifir yn adran 4 o'r Papur Gwyn. Mae'r Papur Gwyn yn dweud,
Roedd aelodaeth o’r UE…yn gynsail i’r setliadau datganoledig.
Nid ydym ni’n derbyn hynny, yn sicr nid fel sail ar gyfer polisïau cyfredol ac yn y dyfodol. Nid wyf i’n credu, yn 1997 a 2011, mai aelodaeth o’r UE oedd ar flaenau meddyliau pobl pan oeddent yn ystyried sut i ymateb i’r ddau refferendwm hynny. Hefyd, yn fy marn i, camliwio'r ffeithiau yw esgus mai Llywodraeth y DU yn unig sydd wedi arfer swyddogaeth y DU wrth lunio fframweithiau UE ar faterion datganoledig. Rwy'n gwybod nad yw hynny'n wir, oherwydd yr oeddwn i’n rhan o'r fframwaith y cytunwyd arno yn Lwcsembwrg pan oeddwn i’n Weinidog materion gwledig. I'r gwrthwyneb, roedd Llywodraeth y DU, ac mae o hyd, yn rhwym i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i lunio safbwynt y DU ar y cyd ar faterion sydd wedi'u datganoli o fewn proses gwneud penderfyniadau yr UE, megis y polisi amaethyddol cyffredin. Dyna yw'r sefyllfa, a ninnau yn yr UE. Ni allwn dderbyn dim llai y tu allan i'r UE.
Ar y pwynt hwnnw, onid yw'n cytuno â mi, felly, nad yw’r Papur Gwyn, mewn gwirionedd, yn arddel y dehongliad hwnnw y mae newydd ei nodi, ac yr wyf innau’n cytuno ag ef, ond yn hytrach yn arddel dehongliad gwahanol sef mai Llywodraeth y DU, hynny yw, Llywodraeth Lloegr sydd wedi arwain ar y materion hyn?
Wel, dyna beth yr wyf i newydd ei ddweud. Maent yn arddel safbwynt hollol wahanol i'r safbwynt y mae mwyafrif helaeth Aelodau’r Siambr hon yn ei arddel, yn fy marn i, ac, yn wir, y Llywodraeth hon a Llywodraethau rhannau eraill o'r DU. Fel y dywedais, nid oedd yr ysgogiad ar gyfer datganoli yn gysylltiedig â'r UE. Mae'n fater o ffaith a hanes, pan ddechreuodd datganoli, roeddem ni yn yr Undeb Ewropeaidd, ac roedd yn rhaid i’r setliad ystyried hynny. Mae bellach yn ffaith y byddwn yn gadael yr UE ac, wrth i ni wneud hynny, mae'n rhaid i ni ddatblygu ffyrdd newydd o wneud busnes o fewn y DU i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i fasnachu yn codi yn ein marchnad fewnol ni. Ond mae hynny'n gynnig gwahanol iawn i dderbyn y dylai Llywodraeth y DU gymryd lle sefydliadau'r UE pan ddaw i’r cymwyseddau sydd eisoes wedi eu datganoli. Rydym yn ystyried hynny’n gamsyniad o ran rhesymeg. Mae datganoli yn seiliedig ar ddymuniad y Cymry i lywodraethu eu materion eu hunain. Mae hynny wedi ei roi ar brawf mewn dau refferendwm, ac mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod nad oedd yr ysgogiad dros ddatganoli yn gysylltiedig â’n haelodaeth o'r UE. Ni all Llywodraeth y DU ddewis derbyn canlyniad un refferendwm a diystyrru canlyniad y refferendwm a gawsom ni yn 2011.
Mae'n rhaid i ni fod yn barod i ystyried y potensial i'r Cynulliad basio ei ddeddfwriaeth parhad ei hun, fel y cynigiwyd gan welliant Plaid Cymru. Ond yn ein barn ni, dewis olaf ddylai hynny fod. Nid ydym yn gwybod eto faint o ddeddfwriaeth y bydd ei hangen. A oes modd, mewn gwirionedd, ei chyfuno mewn un Bil ai peidio, ond rydym yn gwybod y bydd hwn yn gyfnod cythryblus i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru, a bydd angen iddynt gael cysur yn hynny o beth. Felly, o ran gwelliant 7, byddwn yn ymatal heddiw, ond dim ond ar y sail nad yw’n glir eto faint o ddeddfwriaeth fydd ei hangen yn y dyfodol.
Rydym yn derbyn bod angen fframweithiau cyffredin ar draws y DU mewn rhai meysydd. Mae gennym ddigon i'w ddweud am hyn yn y Papur Gwyn. Y ffordd o sicrhau bod gennym gydlyniad polisi, lle bo angen, yw i’r pedair Llywodraeth eistedd i lawr gyda’i gilydd a chytuno ar fframweithiau. Mae'n rhaid gwneud hyn drwy gonsensws, nid gorfodaeth. Rwyf wedi dweud hynny lawer, lawer gwaith. Mae'r cwestiwn—
Wrth gwrs.
A all ymhelaethu heddiw, felly, ar beth yw dyddiad cau Llywodraeth Cymru ar gyfer cael esboniad gan Lywodraeth Prydain ynglŷn â’i bwriadau o ran y Bil diddymu a'r ddeddfwriaeth arall a fydd yn nodi’n glir a oes angen i’r lle hwn ddeddfu ar ei setliad cyfansoddiadol ei hun ai peidio?
Pan fyddwn yn gweld y Bil ei hun fydd hynny. Bydd hwnnw’n rhoi gwell syniad i ni o feddylfryd Llywodraeth y DU. Pan fyddwn yn gweld beth yw'r Bil diddymu mawr hwn, fel y’i gelwir, yna, wrth gwrs, bydd ar gael i'r Cynulliad hwn, ac yn wir i Lywodraeth Cymru, i gynnig barn ar yr adeg honno. Ond byddwn i’n disgwyl gweld mwy o eglurder, boed hynny'n gadarnhaol neu'n negyddol, pan fydd y Bil yn cael ei gyhoeddi mewn gwirionedd.
Gofynnir y cwestiwn, wrth gwrs: beth fydd yn digwydd os na ellir dod i gytundeb? Rydym yn derbyn, yn yr amgylchiadau hynny, y bydd yn rhaid cael trefniant wrth gefn. Rydym yn credu mai’r ateb yw math annibynnol o gyflafareddu. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod angen i ni sicrhau os oes gennym farchnad sengl fewnol gyda rheolau, bod y rheolau hynny yn cael eu cytuno, nid eu gorfodi, ac yn ail bod yna ddull dyfarnu annibynnol fel llys—megis y Goruchaf Lys—sy'n plismona rheolau'r farchnad sengl fewnol honno. Rydym yn agored i drafodaeth bellach am hyn a sut y gallai ymddangos yn ymarferol. Ond yr hyn na allwn ei dderbyn yw pe byddai Llywodraeth y DU yn gorfodi ei hun mewn meysydd fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, sydd wedi eu datganoli'n llawn, yn unol â dymuniadau y Cymry, fel y mynegwyd drwy refferendwm ac y deddfwyd ar ei gyfer gan Senedd y DU ei hun. Awgrymwyd hefyd fod achos dros ailadrodd, drwy ddeddfwriaeth y DU, fframweithiau presennol a ddarperir gan reolau'r UE er mwyn—dywedir—rhoi sicrwydd cyfreithiol a gweinyddol. Os na fydd dim yn newid, yna byddwn yn gadael yr UE ym mis Mawrth 2019—dywedir—yn unol â thelerau erthygl 50. Mae materion gwirioneddol ynghylch trefniadau ymarferol wrth i ni drosglwyddo o aelodaeth yr UE i fywyd y tu allan. Dyna pam rydym wedi cynnwys pennod ar hynny yn y Papur Gwyn.
Nodwn fod Llywodraeth y DU yn sôn am weithio'n agos â'r gweinyddiaethau datganoledig, gan eu bod nhw'n dweud eu bod eisiau cyflwyno dull sy'n gweithio i’r DU gyfan a phob rhan ohoni. Alla i ddim anghytuno â hynny. Rydym yn awyddus i weithio gyda'r DU a’r rhannau datganoledig cyfatebol ar sail parch at ein gilydd a pharch cydradd. Gall Llywodraeth y DU helpu i feithrin ymddiriedaeth mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae angen iddi gydnabod—i addasu ymadrodd adnabyddus—bod datganoli yn golygu datganoli; bod yr hyn sydd eisoes wedi’i ddatganoli yn aros wedi'i ddatganoli. Ac yn ail, dylai unrhyw fesurau a gynlluniwyd fel rhai pontio gael eu labelu’n glir fel rhai felly trwy’r cyfnod o fabwysiadu cymalau machlud. Mae'n anobeithiol o annigonol i Lywodraeth y DU wneud addewidion amwys am ddatganoli posibl yn y dyfodol a disgwyl i’r Cynulliad hwn gydymffurfio, yn enwedig pan fyddant yn sôn am gymwyseddau yr ydym ni o’r farn eu bod eisoes wedi'u datganoli i ni.
Rydym yn gwybod, fodd bynnag, Llywydd, nad yw pwerau yn golygu llawer neu’n golygu dim oni bai eu bod yn dod gyda’r adnoddau i gyd-fynd â'r polisi. Nid wyf i wedi anghofio—ac ni fydd pobl Cymru yn anghofio—fod addewidion wedi'u gwneud na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr UE. Byddwn yn dwyn y rhai a wnaeth addewid hwnnw i gyfrif, oherwydd mae Cymru yn cael tua £680,000,000 o gyllid yr UE bob blwyddyn. Nid ydym yn disgwyl i’r arian hwnnw lynu at boced gefn rhywun yn Whitehall. Rydym yn disgwyl i'r arian hwnnw ddod i Gymru. Rydym yn disgwyl i'r arian hwnnw fod yn sail i'n heconomi wledig a rhanbarthol ac, wrth gwrs, raglenni eraill fel Horizon 2020, o'r adeg y byddwn yn ymadael â’r UE.
Nawr, rydym yn awyddus i weithio'n adeiladol. Rydym eisiau cael lle yn y cam nesaf o drafodaethau. Mae dyfodol y DU y tu allan i'r UE yn gymaint o fater i'r Llywodraeth hon a'r Cynulliad hwn ag y mae i Lywodraeth a Senedd y DU. Mae gan Lywodraeth y DU gyfle bellach i gyflawni ar ei rhethreg a symud ymlaen mewn gwirionedd mewn ffyrdd sy'n ein rhwymo ni at ein gilydd yn yr ymgyrch gyffredin o gyflawni’r telerau ymadael gorau posibl ar gyfer gadael yr UE—creu DU ddiwygiedig, ddeinamig, ddemocrataidd y tu allan i'r UE—ond bydd angen newid sylfaenol ym meddylfryd Whitehall. Os ydynt yn manteisio ar y cyfle hwnnw, yna, wrth gwrs, gallwn ystyried cydweithio fel partneriaid cyfartal yn y DU yn y dyfodol.
Trof, yn olaf, at y newidiadau a gyflwynwyd gan UKIP. Ni fydd yn syndod, rwy’n siŵr, i’r rhai hynny a gynigiodd y gwelliannau hyn, na fyddwn heddiw yn derbyn unrhyw un ohonynt. Ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt, gwelir y byd o bersbectif gwahanol iawn os ydych chi’n aelod o UKIP nag o'n safbwynt ni. Ond un y gwnaf i gyfeirio ato nawr, cyn ymdrin â'r lleill, efallai, wrth i mi ymateb, yw gwelliant 6, sef mater y tariffau. Mae'r gwelliant yn methu â chydnabod bod tariffau yn drethi ar ddefnyddwyr. Caiff cost tariff ei drosglwyddo i ddefnyddiwr y nwyddau hynny: codir £8 biliwn y flwyddyn mewn tariffau gan Lywodraeth y DU sy’n arian defnyddwyr y DU, nid gan y rhai sy'n allforio i mewn i'r DU. Mae hynny'n dreth o ryw £120 neu £130 y flwyddyn fesul pen y byddai'n rhaid ei thalu fel treth Brexit, i bob pwrpas, gan bob dyn, menyw a phlentyn yn y DU. Nid ydym yn credu bod hynny'n ffordd synhwyrol ymlaen.
Wnaiff y Prif Weinidog ildio?
Wrth gwrs y gwnaf.
Onid yw'n deall, fel mater syml o ddadansoddiad economaidd, sut y bydd y tariffau hynny’n berthnasol o ran y rhaniad rhwng defnyddwyr a chyflenwyr, ac y bydd faint sy’n cael ei drosglwyddo, yn dibynnu ar natur gystadleuol y farchnad?
Holl bwynt tariff yw diogelu yr hyn a gynhyrchir mewn gwlad. Mae'n gosod rhwystr i atal nwyddau rhag dod i mewn i wlad trwy eu gwneud yn ddrutach i ddefnyddwyr. Dyna holl bwynt tariff. Mae gorfodi tariffau—mae llawer o wahanol dariffau, mae hynny'n wir—ond mae'r tariffau mwyaf llym ar gynnyrch llaeth, yn 40 y cant. Nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd y tariffau hynny yn cael eu hamsugno gan y rhai hynny sy'n gwerthu i mewn i'r farchnad yn y DU. Bydd y gost yn cael ei throsglwyddo i ddefnyddwyr y DU, ac i'r gwrthwyneb, wrth i ffermwyr o Gymru a gweddill Prydain geisio allforio i'r UE. Ar ddiwedd y dydd, y defnyddiwr sydd bob amser yn talu'r tariff, a byddai hynny’n golygu, i bob pwrpas, cynnydd aruthrol mewn trethi cyn belled ag y mae’r defnyddwyr yn y cwestiwn. Nid oes raid i bethau fod fel yna.
Rydym bob amser wedi dweud bod nifer o wahanol opsiynau ar gael a fyddai'n golygu ein bod yn gallu gadael yr UE—gan barchu canlyniad y refferendwm, wrth gwrs—ac ar yr un pryd osgoi sefyllfa lle mae ein cynhyrchwyr a’n ffermwyr ni yn colli mynediad i farchnad o 500 miliwn a chael mynediad rhydd yn lle hynny i farchnad o ddim ond 60 miliwn. Nid wyf yn credu bod hynny o fantais i unrhyw un, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn gwybod y mae Llywodraeth y DU, i fod yn deg, yn awyddus i’w osgoi, ac yn rhywbeth y byddwn ni’n eu cefnogi nhw wrth geisio ei osgoi hefyd.
Mae llawer o heriau o'n blaenau. Mae hynny’n wir. Mae hwn yn ysgariad cymhleth iawn. Mae'r bobl wedi mynegi barn, ac ni allwn wrthdroi canlyniad y refferendwm y llynedd. Ond mae'n gwbl hanfodol, wrth inni edrych ymlaen, ein bod yn lleihau’r amhariad ac yn sicrhau nad yw twf economi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf yn cael ei beryglu dros y degawd sydd i ddod.
Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw David Rowlands. Neil Hamilton.
Gwelliant 4—David J. Rowlands
Ym mhwynt 5, dileu 'rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath' a rhoi yn ei le:
'yn cydnabod bod ymddygiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wrth barhau i frwydro yn erbyn ymgyrch y refferendwm ar ôl y canlyniad ar 23 Mehefin 2016 yn gwneud canlyniad o'r fath yn afrealistig'.
Gwelliant 6—David J. Rowlands
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, pe bai anhyblygrwydd yr UE yn atal cytundeb masnach rydd â'r DU, byddai costau pontio gadael yr UE, yn seiliedig ar reolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu lleddfu'n sylweddol gan arbedion Prydain o £8 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau net i Gyllideb yr UE, a refeniw net tebygol ar dollau ar fasnach rhwng yr UE a'r DU o £8 biliwn y flwyddyn.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn ffurfiol yn fy enw i.
Nid oes llawer y gallai rywun anghytuno ag ef yn yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud. Yn amlwg, rydym yn mynd i fod mewn byd gwahanol iawn yn weinyddol ac yn ddeddfwriaethol y tu allan i'r UE nag y byddem oddi mewn iddo, ac rwy’n mynd i ddweud hyn ar y dechrau un: ni cheir gwrthdroi’r setliad datganoli, ac ni ddylid erydu na chuddio’r pwerau sydd wedi eu datganoli i'r Cynulliad hwn mewn unrhyw ffordd gan beth bynnag sy'n digwydd fel rhan o'r broses Brexit. Mae'n fater o gyfraith yr hyn sydd eisoes wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad, ac yn sicr mae amaethyddiaeth a'r amgylchedd yn mynd i fod yn bwerau pwysig iawn i ni eu harfer yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae'n rhoi pŵer llawer gwell i ni yng Nghymru i wneud polisi amaethyddol neu bolisi amgylcheddol drosom ein hunain sy’n gweddu’n well i’n hanghenion ni. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ac, yn wir, Bapur Gwyn y Llywodraeth, ynghyd â Phlaid Cymru, mae llawer o wahaniaethau rhwng economi Cymru ac economi gweddill y Deyrnas Unedig. Yn benodol, mae, fel y gwyddom, warged masnach mewn nwyddau rhwng Cymru a'r UE, ond ar gyfer gweddill y DU y gwrthwyneb sy’n wir.
Ond ni allwn ystyried hyn yng nghyd-destun Cymru yn unig, oherwydd y Deyrnas Unedig sy'n mynd i fod yn gadael yr UE, nid dim ond Cymru. Mae’n rhaid i Gymru ei gweld ei hun yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig, lle mae manteision enfawr o ran trosglwyddiadau ariannol y byddai'n eu colli pe baem yn cymryd y safbwynt cenedlaetholgar a dod yn genedl annibynnol yn wleidyddol. Nid yw hwnnw yn anghydfod yr ydym ni eisiau ei drafod yn helaeth heddiw. Ond yr hyn yr wyf i eisiau ei ddweud, o ganlyniad i'r ddadl hon, yw bod y byd yn llawn cyfleoedd, nid lleiaf i’n gwlad ni ein hunain fanteisio arnynt.
Cyfeiriodd y Prif Weinidog at ein gwelliant o ran tariffau. Nodwyd y gwelliant hwn gennym nid oherwydd ein bod yn dymuno symud at bolisi diffyndollol—rydym yn blaid masnach rydd. Rydym yn credu bod tariffau yn ffordd ffôl o geisio gwarchod eich diwydiannau oherwydd, ar ddiwedd y dydd, y cyfan yr ydych yn ei wneud yw sefydliadu aneffeithlonrwydd a gwneud eich hun yn llai cystadleuol yn y byd. Mae cyfoeth o ddadansoddiad academaidd sy'n profi bod hynny’n wir.
Nid ein ffigurau ni yw’r rhai sy'n cael eu crybwyll yn y gwelliant. Nid ydynt yn cael eu cynhyrchu gan gorff Ewrosgeptig, mae’n wir. Cawsant eu cynhyrchu gan Open Europe, a oedd braidd yn ddiduedd ac yn niwtral ar y mater hwn ac roedd mewn gwirionedd o blaid Prydain yn aros yn yr UE. Mae effaith net y tariffau yr ydym ni’n cyfeirio atynt yn adlewyrchu'r anghydbwysedd enfawr mewn masnach rhwng Prydain yn ei chyfanrwydd a gweddill yr Undeb Ewropeaidd. Mae gennym ddiffyg masnach y flwyddyn o £60 biliwn gyda'r UE yn gyffredinol a, phe byddem yn mynd yn ôl i dariffau WTO ymhen dwy flynedd, oherwydd anhyblygrwydd yr Undeb Ewropeaidd—. Oherwydd mae Llywodraeth Prydain wedi gwneud ei phenderfyniad yn berffaith glir: ei bod am weld masnach heb dariffau, masnach esmwyth, rhwng Prydain a gweddill yr UE ar ôl i ni ymadael. Ond, os yw'r UE yn ein hatal rhag gwneud hynny, yna bydd yr effaith yn cael ei theimlo mwy fel punnoedd i’r Undeb Ewropeaidd nag y bydd i Brydain. Os caiff tariffau eu cyflwyno, yna bydd yr effaith net fel y disgrifir yn ein gwelliannau. Byddwn ni’n gwneud arian, yn sicr.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf siŵr.
A ydych chi’n credu mai’r canlyniad tebygol i bobl y Deyrnas Unedig fydd treth tariff ar nwyddau?
Wel, mae hynny'n rhagdybio y bydd negodwyr yr Undeb Ewropeaidd yn rhesymegol. Rwy’n gobeithio’n fawr na fydd gennym hynny. Mae'n rhaid imi ddweud nad yw’r dystiolaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf yn galonogol, gyda’r Canghellor Merkel yn dymuno datgysylltu trafodaethau ar fasnach o faterion eraill sy'n ein rhannu. Nid yw hyn yn synhwyrol o ystyried mai dim ond amserlen dwy flynedd sydd gennym i gytuno ar gytundeb fasnachu. Mae ychwanegu Gibraltar yn ddireswm i'r trafodaethau yn ddraenen arall nad yw’n debygol o gynorthwyo datrysiad synhwyrol o'r dadleuon rhyngom. Ond mae'n rhaid ei bod yn sicr er lles yr UE, yn ogystal â’r wlad hon, ein bod yn hwyluso masnach yn hytrach na’i rwystro.
O gofio, ar gyfer yr Almaen yn unig, bod gennym ddiffyg o £20 biliwn y flwyddyn mewn ceir, yn yr un sector hwnnw yn unig, yna mae'n amlwg ei bod o fudd i’r Almaen, fel modur yr UE, i ddefnyddio ei phwysau a'i dylanwad i gyflawni'r canlyniad a fyddai o fudd i'r ddwy ochr—sef masnach rydd. Mae’r hyn sy’n wir am geir yn wir am bob math o feysydd masnach rhyngom ni, hyd yn oed mewn cynhyrchion amaethyddol, y mae'r Prif Weinidog yn ddigon teg yn cyfeirio atynt, gan fod amaethyddiaeth yn farchnad sy’n cael ei rhannu i ranbarthau anghydweithredol o amgylch y byd i gyd. Hyd yn oed pan mae gennym gytundebau masnach rydd â gwledydd eraill, yn aml iawn mae amaethyddiaeth yn wahanol ac mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i bob math o gyfyngiadau masnach.
Hyd yn oed yn achos cig oen, er enghraifft, mae gennym mewn gwirionedd ddiffyg masnach yn y DU mewn cig defaid. Felly, er bod hwn yn fater aruthrol o bwysig i amaethyddiaeth yng Nghymru, gan ein bod yn allforio cyfran mor helaeth o'n cynnyrch cig oen, yn y DU yn gyffredinol, a fydd yn negodi ar ein rhan, mae gennym gyfle i sicrhau canlyniad synhwyrol.
Rwy'n gweld bod y golau coch ymlaen, Llywydd, ac nid wyf wedi gallu datblygu fy nadl oherwydd i mi gael fy nenu gan Rhianon Passmore i fynd ar drywydd llwybr nad oeddwn i wedi bwriadu ei ddilyn. Ond y prif bwynt yr wyf am ei wneud yw bod hwn yn gyfle i ni ac nid yn fygythiad. Mae'n her, wrth gwrs, ond mae bywyd yn llawn heriau. Mae unrhyw fusnes gwerth ei halen yn gwybod bod angen iddo newid. Does dim byd byth yn aros yn ei unfan. Dewch i ni achub ar y cyfle hwn a gwneud y gorau ohono i bobl Cymru.
Galwaf ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 7, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Rhun ap Iorwerth.
Mae Plaid Cymru yn credu y bydd y weithred o adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith fawr ar Gymru fel cenedl. Yr wythnos diwethaf, gwelsom ddau ddigwyddiad pwysig a fydd yn galluogi Llywodraeth y DU i dynnu Cymru a Lloegr allan o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r ffaith mai dim ond dwy ran o'r DU oedd yn dymuno gadael, ac sy’n bendant yn mynd i wneud hynny, eisoes yn dweud llawer am y newidiadau sylweddol iawn sy'n digwydd, ac mae'n dangos bod yn rhaid i ni yng Nghymru ddiogelu ac amddiffyn ein buddiannau cenedlaethol. Ni allwn fod yn wylwyr tawel. Mae'n rhaid inni ddefnyddio pa bynnag gyfle sydd gennym i greu ein llais ein hunain a llunio ein safbwynt ein hunain os yw Cymru am gael ei dyfodol ei hun, ar wahân i Loegr ac yn wahanol iddi.
Mae'r llythyr erthygl 50 a Phapur Gwyn y Bil diddymu yn cyfeirio at Gymru. Ond, o ran Plaid Cymru, nid yw Llywodraeth y DU yn gweithredu fel pe byddai Cymru yn bodoli o gwbl. Mae Plaid Cymru yn parhau i roi ei chefnogaeth gref i'r Papur Gwyn ar y cyd, ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’, fel yr amlinelliad mwyaf cynhwysfawr o fudd cenedlaethol Cymru ar gyfer proses Brexit, ond nid ydym yn gweld digon o dystiolaeth bod Llywodraeth y DU wedi gwrando. Nid ydym yn argyhoeddedig, hyd yn hyn, bod yr ymgynghori wedi bod yn ddiffuant.
Mae'r hysbysiad erthygl 50 yn ei gwneud yn glir, unwaith ac am byth, y bydd Llywodraeth y DU yn mynd â ni allan o'r farchnad sengl. Y cwestiwn i ni nawr yw sut y bydd y cytundeb masnach rydd yn edrych ac a fydd yn cynnwys tariff neu rwystrau rheoliadol. A fydd rhai sectorau o economi Cymru yn wynebu tariffau ac eraill ddim? Nid yw busnesau eisiau’r ansicrwydd hwn. Bydd angen i gyflogwyr fod yn gyfarwydd â’r maes chwarae ymhell cyn i Brexit digwydd.
Llywydd, efallai mai’r her fwyaf sy'n deillio o gyhoeddiadau Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yw’r dyfodol o ran sut y mae'r DU yn gweithio yn fewnol. Mae'r cynnig gwreiddiol yn cydnabod hyn i ryw raddau, ac mae gwelliant Plaid Cymru heddiw yn wynebu’r her honno ac yn cynnig ateb: bil parhad i Gymru i gynnal ein statws cyfansoddiadol presennol. Mae’r cyfansoddiad hwnnw wedi ei gymeradwyo gan bobl yng Nghymru mor ddiweddar â refferendwm 2011. Mae fframweithiau cyffredin yr UE yn cael eu trafod ym mhennod 4 Papur Gwyn Llywodraeth y DU. Y fframweithiau hynny yw'r sail y mae’r Cynulliad hwn yn gweithredu arni. Mae disodli’r fframweithiau hynny â threfniadau newydd i amddiffyn marchnad sengl y DU yn rysáit i San Steffan gipio pwerau.
Mae Papur Gwyn y Mesur diddymu yn rhoi'r pŵer i greu fframweithiau newydd y DU i Lywodraeth y DU. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n ymgynghori â'r Llywodraethau datganoledig, ac, ar y gorau, byddant yn gweithio'n ddwys gyda nhw, ond nid ydym yma i ymgynghori â ni. Fel y mae'r Prif Weinidog eisoes wedi ei ddweud, mae Cymru eisoes yn cyd-penderfynu safbwynt y DU ar fframweithiau’r UE. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn gorwedd gyda Chymru ac maen nhw yno i ni eu rhannu a’u trafod, nid i San Steffan eu gosod. Dyna pam mae Plaid Cymru eisiau’r bil parhad hwn. Dylem weithredu yn y ffordd fwyaf pendant posibl i wneud yn siŵr nad yw'r cydbwysedd grym o fewn y wladwriaeth yn symud hyd yn oed ymhellach tuag at San Steffan, a byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych o ddifrif ar y dewis hwn.
Os ydych chi’n cytuno â’n dadansoddiad, rwy'n eich annog i weithredu a chefnogi'r gwelliant hwn. Ni all hwn fod yn ddewis olaf. Mae gennym ffenestr gymharol fach o gyfle yma; peidiwch ag oedi cyn manteisio arni. Peidiwch ag aros i’r Torïaid newid eu meddylfryd a pheidiwch ag ymatal. Os gwelwch yn dda, cefnogwch welliant Plaid Cymru ar hyn heddiw.
Llywydd, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant UKIP. Nid ydynt yn cynnig dim byd o gwbl o ran diogelu budd cenedlaethol Cymru. Byddent yn dileu’r angen am gytundeb a chonsensws rhwng y Llywodraethau datganoledig a San Steffan. Maen nhw hefyd yn sôn am anhyblygrwydd yr UE ar adeg pan fo angen ffrindiau a chynghreiriaid yng ngweddill Ewrop ar Gymru. Ac onid yw hi'n ddiddorol nodi mai UKIP yw'r unig blaid sy’n sôn am y refferendwm yn eu gwelliannau heddiw? Pam mae’n ymddangos bod gan UKIP gymaint o obsesiwn â’r refferendwm? Ai, efallai, am nad oes ganddynt weledigaeth o gwbl y tu hwnt i'r canlyniad hwnnw? Ac rydym yn dal yn aros i glywed eu cynllun. Mae'r ddadl wedi symud ymlaen. [Torri ar draws.] Mae bellach yn fater o sicrhau budd cenedlaethol Cymru yn ystod y trafodaethau sydd o'n blaenau.
Mae'r cynnig gwreiddiol heddiw yn disgrifio ac yn dadansoddi'r sefyllfa honno. Nid oes unrhyw beth yn y cynnig hwnnw y gallwn ni anghytuno ag ef; dim ond disgrifiad ydyw. Ar y llaw arall, mae gwelliant Plaid Cymru yn cynnig gweithredu. Bil parhad yw'r cam nesaf y dylem ei gymryd ar unwaith i sicrhau’r sefyllfa honno. Mae’n rhaid i fframweithiau’r DU yn y dyfodol sy'n ymwneud â’r farchnad sengl, amaethyddiaeth neu unrhyw feysydd eraill sy'n rhyngweithio â datganoli gael eu cyd-gynhyrchu a’u cyd-benderfynu. Cyn belled ag y mae Plaid Cymru dan sylw, nid yw unrhyw beth yn llai na hynny yn dderbyniol a byddwn yn annog y Siambr i gefnogi ein gwelliant heddiw. Mae fy amser ar ben, mae'n ddrwg gen i.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn hon heddiw. Mae'n gwneud synnwyr llwyr i’r pwerau yn y meysydd datganoledig sy'n gorwedd yn Ewrop, fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, gael eu trosglwyddo yn ôl i Gymru. Nid wyf yn credu bod unrhyw achos i Lywodraeth y DU gymryd dim o'r pwerau hynny yn ôl mewn unrhyw ffordd, oherwydd rwy’n meddwl, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gyflwyniad, bod y pwerau hyn wedi eu datganoli, bod refferendwm wedi ei ennill, ac rwy’n cytuno â’r Prif Weinidog nad oedd gan aelodaeth o'r UE ddim byd i’w wneud â’r pleidleisiau yn y refferenda datganoli. Yn ei llythyr, mae’r Prif Weinidog yn dweud y bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori'n llawn ynglŷn â pha bwerau a ddylai aros yn San Steffan a pha rai y dylid eu datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond mae'r Llywodraeth yn disgwyl mai canlyniad y broses hon fydd cynnydd sylweddol ym mhŵer pob un o’r gweinyddiaethau datganoledig i wneud penderfyniadau.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y mater hwn yn cael ei egluro cyn gynted ag y bo modd gan fod y Prif Weinidog yn amlwg yn awgrymu pa ganlyniad y gallai Cymru ei gael, ond mae awgrym hefyd ei bod yn dal rhywbeth yn ôl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod hyn yn cael ei egluro oherwydd mae’n anodd iawn gweld, pe na byddai’r pwerau yn dod yn ôl i Gymru, ble ar y ddaear y gallent orwedd yn Llywodraeth y DU gan nad yw'n bosibl ail-greu’r Swyddfa Gymreig. Cafodd holl bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cymru yn 1998 ac enillwyd datganoli a digwyddodd y trosglwyddiad. Byddai'n chwerthinllyd ychwanegu swyddogaethau Cymru at yr adrannau cyfatebol yn Lloegr ar gyfer amaethyddiaeth a physgodfeydd, er enghraifft. Felly mae'n gwneud synnwyr llwyr iddynt ddod i Gymru. Os, wrth gwrs, o ganlyniad i gyd-drafod, y daw cyfrifoldebau ychwanegol i Gymru, mae'n hanfodol bod yr arian yn dod hefyd.
Mae'n amlwg yn fwy cymhleth mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, fel ymchwil wyddonol, er enghraifft, maes yr oeddwn yn awyddus i gyfeirio ato, lle mae llawer o wariant datganoledig gan Lywodraeth Cymru, ond cynghorau ymchwil y DU gyfan sy’n gyfrifol amdano. Yn amlwg, mae hyn yr un fath yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Wrth gwrs, mae'r DU yn fuddiolwr net. Mae'n gwbl allweddol nad yw Cymru’n colli dim o'r arian hwn. Dywedaf eto, fel y mae eraill wedi’i ddweud heddiw, cawsom addewid na fyddem yn colli yr un geiniog drwy adael yr UE, ac rydym yn disgwyl gweld yr addewid hwnnw’n cael ei gadw. Mae unigolion allweddol yn Llywodraeth y DU sy’n trafod hyn a ymgyrchodd yn gryf i adael yr UE a nhw a ddywedodd yr holl bethau hyn, ac mae’n rhaid inni eu dwyn i gyfrif i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Wrth gwrs, mae unigolion allweddol yma yn y Cynulliad hwn a wnaeth hefyd ymgyrchu dros inni adael yr UE ac rwy'n meddwl bod ganddynt gyfrifoldeb helaeth am hyn ac rydym yn disgwyl iddynt—y bobl hynny a ymgyrchodd mor gryf—wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd mewn gwirionedd. Rwy'n meddwl bod hyn yn gwbl hanfodol.
Yn fy etholaeth i, mae ariannu ymchwil yn fater allweddol, felly roeddwn i eisiau sôn am hynny, ond roeddwn hefyd eisiau sôn, cyn imi orffen, am wir bwysigrwydd hawliau dynol a’r hawliau yr ydym wedi’u hennill o Ewrop ar ôl brwydro’n galed. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod yr un deddfau mewn grym, gan gynnwys deddfau cydraddoldeb, pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb y Senedd wedi argymell bod y Bil diddymu mawr yn gyfle i wireddu addewid y Llywodraeth i roi'r un amddiffyniadau ar gydraddoldeb, neu rai gwell, ar ôl Brexit, ac maent yn argymell y dylid rhoi cymal yn y Bil diddymu mawr i ddweud na ddylai fod unrhyw droi’n ôl ar gydraddoldeb. Dywedodd Maria Miller, sef cadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb:
Os yw'r Llywodraeth eisiau cynnal y lefel bresennol o ddiogelu cydraddoldeb i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys menywod beichiog a theithwyr anabl— bu adroddiad newyddion am faterion yno heddiw—
Mae’n rhaid iddi fynd ati’n weithredol i ymgorffori cydraddoldeb yng nghyfraith y DU.
Ceir dwy flaenoriaeth bendant y dylai'r Llywodraeth ganolbwyntio arnynt: yn gyntaf, cynnwys cymal ar gydraddoldeb yn y Bil Diddymu Mawr i ddweud na fydd dim troi’n ôl ar y lefelau presennol o ddiogelu cydraddoldeb, ac yn ail, diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i rymuso’r Senedd a'r Llysoedd i ddatgan pa un a yw deddfau newydd yn gydnaws ag egwyddorion cydraddoldeb.
Rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r holl hawliau hynny y brwydrwyd yn galed amdanynt, ein bod yn cadw’r holl hawliau cydraddoldeb sydd gennym, eu bod wedi’u hymgorffori yn y gyfraith, ac rwy’n credu bod yn rhaid inni wneud yn gwbl siŵr bod hynny'n digwydd. Felly, fel y dywedais yn gynharach, rwy’n meddwl bod baich trwm ar rai o'n Haelodau Cynulliad i wneud yn siŵr nad yw Cymru yn dod allan o hyn yn ddim gwaeth. Rwy'n annog pawb yma yn y Siambr i ddefnyddio eu holl ddylanwad i sicrhau ein bod yn llwyddo i oroesi.
Ddydd Mercher diwethaf, rhoddodd y Prif Weinidog hysbysiad ffurfiol i’r Cyngor Ewropeaidd o fwriad y Deyrnas Unedig i dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd. Fel y dechreuodd ei llythyr, nid oedd penderfyniad pobl y Deyrnas Unedig i adael yr UE
'yn golygu ein bod yn gwrthod y gwerthoedd yr ydym yn eu rhannu fel cyd-Ewropeaid.... mae’r Deyrnas Unedig yn dymuno i’r Undeb Ewropeaidd lwyddo a ffynnu.... Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn gadael Ewrop—a hoffem barhau i fod yn bartneriaid ac yn gynghreiriaid ymrwymedig i'n ffrindiau ledled y cyfandir.
Addawodd Prif Weinidog Cymru i gyflwyno'r ddadl hon ar y mater hwn. Felly, mae'n anffodus bod cynnig Llywodraeth Cymru, yn hytrach na hynny, yn dechrau drwy gyfeirio at Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru, er ein bod eisoes wedi trafod hwn yma a bod digwyddiadau ers hynny wedi ei oddiweddyd. Fel y dywedais yn y ddadl ar hyn ar 7 Chwefror—.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mark?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy’n diolch ichi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi felly yn siomedig nad yw Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru i ddangos sut mae wedi cael ei gynnwys yn yr ystyriaethau ar gyfer y trafodaethau?
Yn anffodus, daeth amseriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar ôl digwyddiadau, gan eich bod yn dilyn yn hytrach nag yn arwain.
Fel y dywedais yn y ddadl ar 7 Chwefror ar hyn, er bod eu Papur Gwyn yn galw am fynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE, ac er bod rheolau'r UE yn gwneud hyn yn amhosibl ar ôl adfer rheolaeth dros ffiniau i'r DU, nid yw hyn yn anghyson â dymuniad Llywodraeth y DU am fargen fasnach rydd heb aelodaeth.
Byddwn yn parhau i ddenu'r mwyaf disglair a'r gorau, gan ganiatáu i DU sofran bennu a diwallu anghenion gweithlu ein heconomi a'n cymdeithas, boed hynny’n beirianwyr, gwyddonwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, gofalwyr neu weithwyr fferm. Ond roedd llais y bobl yn glir; mae’n rhaid cael rheolaeth.
Mae Llywodraeth y DU yn ymwneud yn agos â gweithgor lefel uchel o randdeiliaid ar ymadael â’r UE, prifysgolion, ymchwil ac arloesi, er mwyn sicrhau bod y DU yn adeiladu ar ei safle byd-eang cryf o ran rhagoriaeth ymchwil ac arloesedd ar ôl gadael yr UE. Mae cytundeb eisoes rhwng y DU a'r UE y bydd gwarantu hawliau i ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU, ac i ddinasyddion y DU sy'n byw yn yr UE, yn flaenoriaeth yn y trafodaethau. Dywedodd y Prif Weinidog fod cefnogi integreiddio a chydlyniant cymdeithasol yn golygu parchu’n llwyr ac, yn wir, cryfhau'r setliadau datganoli, ond, meddai, heb fyth ganiatáu i’n hundeb fynd yn fwy rhydd ac yn wannach, nac i’n pobl ddrifftio ar wahân.
Wrth siarad am y broses erthygl 50 yn Nhŷ'r Cyffredin, mynegodd ei disgwyliad mai canlyniad y broses hon fydd cynnydd sylweddol ym mhwerau pob gweinyddiaeth ddatganoledig i wneud penderfyniadau. Er eu bod yn ddigyfaddawd ar yr egwyddorion craidd, mae canllawiau negodi drafft yr UE yn ddigon hyblyg i ganiatáu bargen dderbyniol i'r ddwy ochr. Mewn ymateb i hynny, ailadroddodd Llywodraeth y DU ei bod yn chwilio am berthynas ddofn ac arbennig gyda'r UE ar fasnach a'r llawer o feysydd eraill lle’r ydym yn rhannu nodau a gwerthoedd, a'i bod yn hyderus bod canlyniad o'r fath er lles y ddwy ochr.
Fel y dywedodd prif ymgynghorydd cyfreithiol y Cynulliad ddoe, pan fyddwn yn gadael yr UE, bydd cyfyngiadau ar allu'r gweinyddiaethau datganoledig i ddeddfu mewn meysydd nad ydynt wedi’u cadw’n ôl i Lywodraeth y DU yn diflannu. Mae'r Papur Gwyn Llafur-Plaid Cymru yn galw am fframwaith y DU i ddarparu sail gyfreithiol ar gyfer rheoleiddio materion fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd yn effeithiol, sy'n cael eu llywodraethu i raddau helaeth gan gyfraith yr UE. Ac mae Papur Gwyn y Bil diddymu mawr yn amlinellu patrwm dal, i ddarparu sicrwydd ar y diwrnod ymadael drwy gynnal cyfreithiau a ddychwelwyd, a chaniatáu i Lywodraeth y DU weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ar fframweithiau’r DU.
Fel y mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn ei ddweud, dylai'r fframwaith amaethyddol atal cystadleuaeth annheg rhwng gweinyddiaethau datganoledig, a sicrhau a diogelu cyllid hirdymor digonol ar gyfer amaethyddiaeth. Ac mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i fod yn uchelgeisiol wrth adolygu deddfwriaeth sy'n deillio o’r UE sy'n ychwanegu'n ddiangen at y baich biwrocrataidd sy'n wynebu ffermwyr.
Economi'r DU oedd yr economi G7 a dyfodd gyflymaf y llynedd. Canfu arolwg a gyhoeddwyd ddoe fod bancwyr canolog byd-eang yn ffafrio sterling dros yr ewro fel buddsoddiad wrth gefn sefydlog hirdymor.
Pan fo ein hundeb gwych o wledydd y DU yn canolbwyntio ar rywbeth ac yn cydweithio, rydym yn rym diatal. Nid oes neb yn y DU nac yn yr UE—
Na, mae'n ddrwg gennyf.
[Yn parhau.]—yn ennill os bydd y broses hon yn gwneud pawb yn wannach. Felly, gadewch inni gondemnio a gwrthod unrhyw elyn mewnol sy’n neidio ar unrhyw drol un mater i geisio tanseilio datblygiad perthynas newydd gyda'r UE er mwyn gwanhau a rhannu ein hynysoedd a dinistrio ein Teyrnas Unedig, boed nhw yn yr Alban neu ddim ond yn dynwared eu harwyr o'r Alban. Yn llawn gobaith, gallwn fanteisio ar y cyfle hwn i adeiladu dyfodol deinamig, byd-eang, ond er mwyn i hyn ddigwydd bydd yn rhaid i gwlt diwedd y byd Carwyn roi’r gorau i ganu yr yn gân.
Os oes unrhyw un byth yn meddwl tybed pam yr wyf yn genedlaetholwr Cymreig, dylai wrando ar sylwadau'r siaradwr blaenorol. Llywydd, rhagwelodd llawer o bobl yn gywir y gallai Bil diddymu’r DU neu ddeddfwriaeth gysylltiedig fod yn fygythiad i gyfansoddiad presennol Cymru o ran ein cymhwysedd yn unol â mandad democrataidd gan bobl Cymru mewn dau refferendwm. Mae’r pryder yn seiliedig ar y ffaith, os yw'r DU yn tynnu allan o'r farchnad sengl Ewropeaidd, sef bwriad Llywodraeth y DU, yna, am y tro cyntaf ers 1973, bydd gan y DU farchnad fewnol a bydd angen fframweithiau er mwyn ei gweithredu'n effeithiol. Wrth gwrs, yn 1973, nid oedd datganoli a bydd marchnad fewnol newydd y DU yn anochel yn cynnwys fframweithiau a fydd yn effeithio ar faterion polisi datganoledig.
Mae Papur Gwyn cenedlaethol Cymru yn gwneud cynigion adeiladol ac ymarferol ar gyfer sut y gellir sefydlu fframweithiau o'r fath drwy gyngor o Weinidogion y DU, gyda phob Llywodraeth yn y DU yn gweithredu fel partneriaid cyfartal ac yn cytuno gyda’i gilydd ar fframweithiau a rennir pan fo hynny'n briodol. Ar hyn o bryd, os yw fframweithiau Ewropeaidd yn effeithio ar swyddogaethau datganoledig, mae Llywodraeth y DU yn cytuno ar safbwynt cyffredin i’r DU cyn cyfarfod cyngor Ewropeaidd, ac maent yn cyflwyno’r safbwynt cyffredin hwnnw y cytunwyd arno ymlaen llaw.
Mae paragraff 4.2 Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar y Bil diddymu, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn camliwio’r arfer presennol hwnnw ac mae'n gwneud hynny fel esgus i ganoli pwerau dros farchnad fewnol y DU ar lefel y DU. Rydym yn gwybod hynny oherwydd bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi dweud y penwythnos diwethaf fod llywodraethu marchnad fewnol y DU yn fater a gedwir yn ôl i San Steffan, ac, ar ôl gadael yr UE, y byddai fframweithiau’r DU yn cael eu pennu yn San Steffan a’u rhannu ar ôl hynny i lefelau gwahanol, fel y maen nhw yn San Steffan yn ei weld yn addas. Ni fydd gweinyddiaethau datganoledig yn fawr mwy nag ymgyngoreion ar faterion sy'n amlwg o dan eu hawdurdodaeth eisoes.
I achub y blaen ar hyn, mae Papur Gwyn cenedlaethol Cymru, ar dudalen 28, yn dweud, a dyfynnaf:
Rydym yn aros i weld manylion Bil Llywodraeth y DU i lywio ein hystyriaeth bellach ynghylch pa un a yw'r Bil Seneddol yn adlewyrchu'r setliad datganoli yn ddigonol. Os, ar ôl dadansoddi, y bydd angen i ni ein hunain ddeddfu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn diogelu ein setliad datganoledig o ran y Bil, yna byddwn yn gwneud hynny.
Llywydd, fy marn i a barn fy mhlaid yw nad yw'r setliad datganoli wedi ei adlewyrchu'n ddigonol ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hynny ym mhwynt tri ei chynnig heddiw, ac nawr mae angen i’r Cynulliad Cenedlaethol hwn ddeddfu. Nid wyf yn bychanu'r gwaith a fydd yn ofynnol i gyflawni hyn, ond, o ystyried mai bwriad Llywodraeth y DU yw cyflwyno ei Bil diddymu erbyn canol mis Medi, mae ffenestr y cyfle sydd gennym i weithredu yn un gyfyngedig iawn. O fewn ychydig fisoedd, efallai y byddwn wedi colli nid yn unig y cyfle i weithredu; efallai y byddwn wedi colli cyfrifoldebau sydd wedi eu hymddiried ynom gan bobl y wlad hon.
Rwy’n annog pob Aelod yma ar bob ochr sy'n credu mewn gwir deulu o genhedloedd yn yr ynysoedd hyn, ac sydd eisiau i farchnad fewnol y DU gael ei llywodraethu’n deg, i gynnal darpariaeth Papur Gwyn Cymru drwy gefnogi ein gwelliant heddiw yn galw am Fil parhad. Pa un a oeddem yn 'gadael' neu’n 'aros' y llynedd, a pha un a ydym yn genedlaetholwyr neu’n undebwyr heddiw, rydym i gyd wedi addo i bobl Cymru na fyddem yn caniatáu i’r wlad hon fod ar ei cholled naill ai yn ariannol nac o ran pwerau. Gadewch inni wireddu'r ymrwymiad hwnnw iddynt heddiw drwy gefnogi gwelliant Plaid Cymru.
Gadewch inni fod yn glir am un peth, nid oes llawer i’w ddathlu—dim byd i'w ddathlu, a dweud y gwir—am weithredoedd Llywodraeth y DU yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Unig rinwedd cyflwyno'r hysbysiad erthygl 50 yw ei fod yn rhoi diwedd ar y cwestiwn o ba un a ydym yn cychwyn ar broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ai peidio. Yr hyn y mae gennym gyfle i’w wneud nawr yw ymladd am y math o Brexit yr ydym ei eisiau er lles Cymru, ac, yn wahanol i gof braidd yn rhannol Mark Isherwood o'r papur rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, rwy’n meddwl bod hwnnw’n gosod cyfeiriad teithio clir iawn ar gyfer y math o Brexit yr hoffem ei gael i Gymru.
Ond mae angen inni hefyd, ar y cyd â hynny, fod yn ymdrin â'r math o Gymru yr hoffem fod ar ôl Brexit. I’r rheini a ymgyrchodd i adael, gadael yr Undeb Ewropeaidd oedd y cam cyntaf, nid y gair olaf. Ac mae ganddynt weledigaeth wahanol iawn o Gymru ac o’r DU i’r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon. Rydym wedi clywed Philip Hammond yn sôn am drefn economaidd newydd, a Theresa May yn dadlau dros newid sylfaenol yn sgil y penderfyniad. Nid yw’r mwyafrif yn y Siambr hon eisiau gweld hynny, ac er bod y dasg o drin Brexit yn enfawr, mae angen i bob un ohonom gymryd rhan yn y frwydr fwy honno yn erbyn y gwerthoedd hynny yn ogystal â’r fersiwn honno o Brexit a dadlau dros y math o Gymru yr hoffem fod y tu hwnt i hynny.
I droi at fater gwelliant Plaid Cymru ar y Bil parhad, yn y bôn, mae hwn yn gwestiwn o bwerau ac yn gwestiwn o gyllid. Mewn ffordd, mae'r cynnig ar gyfer Bil parhad yn ddewis amgen yn hytrach na rhoi ein ffydd yn Llywodraeth y DU i ddiogelu ein buddiannau yn y Bil diddymu Ewropeaidd. Ei effaith fyddai rhoi’r corff o gyfraith yr UE sy’n ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli i mewn i gyfraith Cymru, a rhoi'r hawl i Weinidogion Cymru newid hynny mewn termau technegol a nodi hawl y Siambr hon fel corff o atebolrwydd a hefyd nodi ei chymhwysedd deddfwriaethol. Mewn ffordd, byddai'n fersiwn a wnaethpwyd yng Nghymru o’r Bil diddymu, wedi’i gynllunio i ddiogelu setliad datganoli Cymru. Mae'n ymddangos i mi, am resymau y mae siaradwyr eraill eisoes wedi’u rhoi, ei bod yn debygol iawn y bydd angen diogelu’r setliad hwnnw.
Mae'r Papur Gwyn gwreiddiol a’r papur a welsom yr wythnos diwethaf yn disgrifio pwerau’n dod i Gymru 'pan fo hynny'n briodol'. Yr hyn nad yw yr un o'r ddwy ddogfen hynny’n ei ddweud yw y bydd pwerau’n dod i Gymru yn unol â’r setliad datganoli presennol. Nawr, gallech ddadlau y gellid gweld Bil parhad sy’n ymwneud â'r meysydd datganoledig fel cam cyntaf yn hytrach nag fel rhwyd ddiogelwch, ac mae'n debyg mai dyna'r achos mewn rhai ffyrdd, oni bai eich bod yn myfyrio ar y ffaith, yn y Siambr hon, nad yw’n ymwneud â’r pwerau sydd gennym yn unig, ond yr arian sydd gennym, a bod hwnnw, a dweud y gwir, yn gwestiwn mwy o lawer.
Rydym yn canolbwyntio ar gael ein pwerau o statud ac mae hynny'n iawn, ond rydym yn dal i gael ein cyllid, yn y bôn, ar sail ysgwyd llaw. Rydym yn gwybod bod Barnett wedi torri; rydym yn gwybod hynny ers amser maith, ac er bod y fframwaith cyllidol yn datblygu materion yn ymwneud ag adlewyrchu angen ac annibyniaeth dyfarnu, nid yw hynny'n ddigon. Mae’n amlwg mai’r hyn y mae Brexit wedi ei wneud yw dangos yn glir mai nawr yw'r amser i roi ein cyllid ar sail statudol, a hynny o ran y cyllid sylfaenol—yr hyn yr ydym yn ei gael drwy Barnett—ond hefyd o ran bargen deg ar gyfer cyllid Ewropeaidd, y cyllid Ewropeaidd yr ydym yn ei golli.
Rwy'n credu bod angen statud cyllid arnom—rhyw fath o gyfansoddiad bach, os mynnwch—sy'n nodi’r ymrwymiad i ariannu, yr egwyddorion y cawn ein hariannu arnynt, sef ailddosbarthu ac adlewyrchu angen, a’r mecanwaith barnwrol i ddatrys anghydfodau rhwng gwahanol rannau o'r DU. Mae'r rhan fwyaf o wladwriaethau modern yn gweld hynny’n eithaf naturiol. Mae Llywodraeth y DU yn ei weld yn rhywbeth sy’n anodd iddi, ond rwy’n meddwl, ar ôl Brexit, mai’ r un peth y mae pobl yn ei ddeall yw pwysigrwydd cyllid ar gyfer dyfodol Cymru, ac rwy’n meddwl—
A wnaiff yr Aelod ildio ar hynny?
Gwnaf.
A fyddai'r Aelod yn cytuno, dim ond ar y pwynt hwnnw, mai’r hyn y mae’n ei gefnogi, mewn gwirionedd, yw system ffederal ar gyfer y Deyrnas Unedig?
Nid wyf yn gwybod ai system ffederal ydyw, ond rwy'n cefnogi system sy’n cynnwys mecanwaith cyllid teg statudol i ddiogelu Cymru. Ac rwy’n credu, wrth ddod allan o'r ddadl Brexit, bod pobl yn deall yr angen am hynny, ac y dylem ddadlau dros y dyfodol hwnnw.
Ym mis Mehefin 2017 dywedodd y dinasyddion, o fwyafrif bach ond digonol, ddau beth, rwy’n credu, wrthym. Nid oedden nhw eisiau aros yn rhan o lywodraethu Ewropeaidd. Rwy’n gwybod ein bod yn clywed yn aml am ein bod yn dal i fod yn Ewropeaid—wrth gwrs ein bod, ac rydym yn rhan o'r etifeddiaeth ddiwylliannol fawr honno, ond rydym wedi pleidleisio i gael gwared ar lywodraethu Ewropeaidd a byddwn yn wynebu goblygiadau hynny.
Yn ail, rwy’n meddwl eu bod wedi dweud bod angen inni ofalu llawer mwy am y rheini sy’n cael eu gadael ar ôl. Roedd yn neges enfawr, a rennir mewn llawer o gymdeithasau gorllewinol, mae'n rhaid dweud, ond mae'n ymddangos i mi mai’r neges yw nad yw ein cymdeithas yn ddigon cydlynol, a bod llawer o bobl yn teimlo nad ydynt yn cael bargen deg. Mae’r argyfwng penodol hwn, a dweud y gwir, wedi taro ers anawsterau ariannol 2008, a sbardunodd y dirwasgiad mawr, a’r darn hwn yw’r un y mae gwir angen inni ganolbwyntio arno wrth i ni, yn y Cynulliad Cenedlaethol, ymdrin â Brexit, oherwydd ar hyn o bryd mae llawer o bobl yn teimlo nad yw ein holl lywodraethu’n cyflawni ar y lefel y mae angen iddo gyflawni, felly mae'n rhaid inni gofio’r rheini sy'n cael eu gadael ar ôl.
Felly, pleidleisiodd mwyafrif bach i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond rwy’n meddwl, i bawb ohonom sy’n undebwyr yn y Siambr hon—ac rwy’n parchu’r rheini nad ydynt—mae'n rhaid inni sylweddoli y bydd angen mwyafrif mawr i adfywio undeb y DU. Nid mater o warchod Prydain yw hwn, ond mater o ailadeiladu Prydain, a bydd y gwaith hwnnw’n gofyn am weledigaeth fawr, haelioni, ac ymwybyddiaeth bod angen perthynas newydd arnom nawr rhwng cenhedloedd y DU. Rydym mewn sefyllfa wahanol iawn i'r un yr oeddem ni ynddi ym 1973, ac mae hynny'n sicr yn wir, ac, yn wir, dyma pam, yn fras, yr wyf yn barod i gefnogi'r syniad o gyngor o Weinidogion nawr i ddatblygu proses Cydbwyllgor y Gweinidogion a'i gwneud yn fwy rhagweladwy, ffurfiol, a llawer agosach at galon ein trefniadau llywodraethu. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn optimist o ran—rwy’n meddwl bod llawer o'r iaith yn eithaf llym ar hyn o bryd o ran 'mae’n rhaid inni amddiffyn ein hardal', ac yn y cyfnod hwn o newid ac ansicrwydd mawr nid ydym yn ymddiried yn llwyr yn ein partneriaid eraill, boed yn yr Alban, yn Llundain, lle bynnag, ac rwy’n meddwl bod angen inni ddod dros hyn. Mae angen inni feddwl am y swyddogaethau sydd eu hangen arnom. Mae angen inni ofyn i ni ein hunain beth sydd ei angen er mwyn i farchnad y DU weithredu, nid yn unig dros yr economi—nid oes llawer o ddadlau am hynny—ond dros feysydd fel amaethyddiaeth a'r amgylchedd.
Mae angen i ni fod yn ofalus iawn, iawn am yr hyn yr ydym yn ei ddymuno, oherwydd rwy’n meddwl bod unrhyw ddadl sydd yn y bôn yn dweud bod y cymwyseddau presennol, a gafodd eu harchwilio ychydig flynyddoedd yn ôl yn yr astudiaeth honno yn y swyddfa dramor, a benderfynodd yn y bôn bod yr hyn a oedd ar lefel yr UE yn briodol ar lefel yr UE—. I ddadlau bod y cymwyseddau presennol hynny sy'n sail i’r fframweithiau Ewropeaidd yr ydym nawr yn eu gadael, bod y cymwyseddau hynny’n mynd o'r lefel uwch-wladwriaeth yn syth i lawr i'r lefel is-wladwriaeth heb aros yn y canol—wir, rwy’n meddwl bod angen inni fod yn ofalus am y dadleuon puryddol iawn hyn sy'n fy atgoffa o ddadleuon yr eglwys ganoloesol am natur yr undeb hypostatig; hynny yw, rydych chi’n colli’r darlun mawr. Mae angen i'r DU weithio fel—
A wnaiff yr Aelod ildio?
[Yn parhau.]—marchnad fentrus integredig. Gwnaf.
Rwy'n meddwl mai’r pwynt yw bod y pwerau eisoes yma nawr a’u bod yn cael eu cyfuno ar hyn o bryd at lefel yr Undeb Ewropeaidd, a, phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y pwerau’n aros yma. Nid dychwelyd pwerau yw hyn; mae gennym gymhwysedd yn y meysydd hyn nawr. Nid yw'n fater o’u trosglwyddo i Lundain neu i Frwsel neu i Gaerdydd, neu i ble bynnag arall; maen nhw yma nawr, dyna'r pwynt sylfaenol.
Wel, dywedodd gwas sifil doeth wrthyf unwaith mai’r gwir brawf o aeddfedrwydd yw'r gallu i fyw â pharadocs, ac rwyf wir yn meddwl bod yn rhaid inni gydnabod mai—. Wyddoch chi, y gwir mawr yma yw, yn 1997/8/9, pan symudodd y wlad hon at ddatganoli a Llywodraeth ddatganoledig, mai’r fframwaith oedd ein bod o fewn gwregys yr Undeb Ewropeaidd. Nid oedd unrhyw un yn meddwl ar y pryd—ar wahân i’n ffrindiau i’r dde i mi, ac roedd yn freuddwyd bell bryd hynny—y byddem yn gadael y fframwaith hwnnw. Dyna oedd sylfaen y setliad datganoledig, mewn gwirionedd, a phe na byddai hwnnw wedi bodoli bryd hynny, rwy’n meddwl y byddai wedi bod angen trefniadau gwahanol iawn o ran yr amgylchedd a llawer o bolisïau eraill. Ond rydych yn iawn, gall rhywun ei ddarllen yn eich ffordd chi, ond nid wyf yn meddwl bod hynny, yn swyddogaethol, yn mynd â chi’n bell iawn, oherwydd yn y bôn rydych yn dweud, 'Ie, hoffem gael y pwerau hyn i gyd, efallai y byddwn yn rhoi rhai ohonynt yn ôl i’r—
Na, maen nhw gennym. Maen nhw gennym eisoes.
Wel gadewch imi ddefnyddio'r iaith fel y mynnaf.
'A gyda llaw, yr hyn yr hoffem i Lundain ei gael yw’r holl ymrwymiadau i ariannu’r polisïau yr ydym nawr yn mynd i’w rhoi ar waith.' A dweud y gwir, os nad oes gennym gymwyseddau swyddogaethol ar y lefelau sydd eu hangen arnom, sef y ddadl pro-Ewropeaidd a fu gennym erioed—nawr rydych chi’n Brexiteer bach wrth ddweud, 'Na, na, mae'n rhaid inni fynd yn micro a chael popeth yn ôl a’i ddiogelu'. Mae angen inni gyfuno’r pethau hyn; mae angen inni weithio'n effeithiol.
Ond yma rwyf—ac rwy’n diweddu â hyn, gan fod fy amser yn brin—mae arnom angen strwythurau effeithiol, rhynglywodraethol. Ac mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU weithio'n galed iawn arno, ac yn ddiffuant arno, ac â gweledigaeth fawr, gan fod yn barod i roi a derbyn. Diolch.
Rwyf wrth fy modd o ddilyn David Melding. Rwy'n ymddiheuro iddo am fy anallu i gymryd rhan yn y ddadl ynglŷn ag undeb hypostatig yr eglwys ganoloesol. Efallai y gallwn drafod yn all-lein.
A gaf i ddweud fy mod yn gobeithio y bydd y broses dwy flynedd o dynnu allan yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd, o fewn ein Teyrnas Unedig ac o fewn y Cynulliad? Rwy’n credu bod y llythyr erthygl 50, a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU, yn gampwaith o iaith ddiplomyddol. Nid wyf yn gwybod a yw Prif Weinidog Cymru wedi ei argyhoeddi bod hynny’n well na dweud yn blaen, 'Rydym drwy hyn yn tynnu'r Deyrnas Unedig allan o dan erthygl 50 o gytuniad yr Undeb Ewropeaidd', ond fel darn diplomyddol i osod sail ein trafodaethau a’n dyhead am berthynas eang o ran masnach a diogelwch—a thu hwnt—roeddwn yn teimlo ei fod yn darllen mewn ffordd gymhellol iawn.
Rwy’n meddwl y bu—
A gaf i barhau am ychydig bach?
Mae’n siŵr gen i y bu llawer o gyswllt rhwng Llywodraeth y DU a'r Cyngor Ewropeaidd o ran gweld eu drafftiau ei gilydd a rhoi sylwadau, ac eisoes rhywfaint, os nad o drafod, o adborth gan y naill ochr i’r llall o leiaf. Nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ac rwy’n rhannu rhywfaint o edifeirwch y Prif Weinidog am hynny. Ond mae'n rhaid iddo ddeall nad oes Llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon, a bod Llywodraeth yr Alban yn Llywodraeth SNP sydd ag arweinydd sy’n ymroddedig i chwalu’r Deyrnas Unedig.
Rwy’n ei annog unwaith yn rhagor i ddiogelu buddiannau Cymru: os gwelwch yn dda, ceisiwch drafodaethau sylweddol, eang, dwyochrog, preifat, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i geisio gwthio rhai o'r materion hyn er budd Cymru. Byddwn hefyd yn ei annog i dderbyn ple Julie Morgan nad dim ond Gweinidogion y DU, ond Aelodau allweddol o’r Cynulliadau hyn, sydd wedi gwneud ymrwymiadau neu o leiaf wedi awgrymu y byddai rhai pethau’n digwydd er budd Cymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, yn enwedig ar yr ochr ariannol—byddwn yn ei annog i weithio gyda'r bobl hynny a ymgyrchodd dros ‘gadael’, nid dim ond y rhai a ymgyrchodd dros ‘aros’, gan gynnwys y rhai a allai ddylanwadu ar bartner negodi'r DU.
Mae’r mandad trafod drafft a ddaeth yn ôl o'r Cyngor Ewropeaidd yn fy nghalonogi, yn ogystal â llythyr erthygl 50. Mae'n cyfeirio at y ffaith y bydd trafodaethau o dan erthygl 50 yn cael eu cynnal fel un pecyn. Mae wedyn yn dweud y gellid nodi’r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol yn ystod ail gyfnod y trafodaethau o dan erthygl 50, cyn gynted â bod digon o gynnydd wedi'i wneud yn y cam cyntaf. Ac ydynt, mae trafodaethau ariannol yn rhan o hynny, ond mae amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys hawliau dinasyddion yr UE yn y wlad hon, yr ydym yn awyddus iawn i’w setlo a’u gwthio ymlaen a dangos cynnydd da arnynt. Felly, rwy’n meddwl bod cysylltu’r rheini’n rhywbeth calonogol.
Rwyf hefyd yn meddwl, o ran swyddogaeth Llys Cyfiawnder Ewrop—. Y paragraff perthnasol am hwnnw yw paragraff 16:
Dylai'r cytundeb tynnu'n ôl gynnwys mecanweithiau priodol i ddatrys anghydfodau.
Ond mae'r cyngor wedyn yn cyfeirio at y rhain ‘gan gofio’ budd yr undeb, a Llys Cyfiawnder Ewrop, sy’n rhywbeth yr wyf yn meddwl y gallwn weithio gydag ef wrth drafod yr hyn a fyddai'n weithdrefn setlo briodol.
Yna, mae gennym yr adran am Gibraltar, sydd wedi cael llawer o sylw. Rwyf wir yn meddwl y gallai fod pobl yn colli un o oblygiadau eithaf allweddol y paragraff 22 hwn yn y mandad negodi: sef, ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, na all unrhyw gytundeb fod yn gymwys i Gibraltar heb gytundeb Sbaen.
Nawr, byddai’r frawddeg honno’n ddianghenraid, yn ddiangen, oni bai bod rhywun yn ystyried y byddai’r cytundeb hwnnw’n golygu mwyafrif cymwysedig, yn yr Undeb Ewropeaidd. Os bydd, fel y mae’r Prif Weinidog Cymru yn ei ofni, yn drafodaeth gymysg, ar ôl gadael, byddai hynny’n gadael y cytundeb unfrydol i aelod-wladwriaethau, ac, o bosibl, i seneddau rhanbarthol, ac felly ni fyddai angen rhoi’r warchodaeth benodol honno i Sbaen, gan y byddai ganddi eisoes feto dros gytundeb o'r fath.
Felly, rwy’n meddwl ei bod yn galonogol bod yr Undeb Ewropeaidd yn edrych ar drefniadau masnach a threfniadau eraill cysylltiedig ar ôl Brexit fel rhai y gellid trafod drwy fwyafrif cymwysedig. Ac rwy’n meddwl bod y ffaith bod y trafodaethau hyn, o leiaf ar ôl ychydig, yn gallu symud ymlaen ochr yn ochr yn dda, i'r graddau, dyweder, yr oedd cytundeb Canada yn gytundeb cymysg a oedd yn gorfod mynd i'r seneddau rhanbarthol a bod yn unfrydol. Ond mae'r elfennau cymysg mewn unrhyw gytundeb masnach yn rhai y gallem o bosibl ymdrin â nhw gydag erthygl 50, a'r un o ran masnach fyddai'r un lle'r oedd gan y Comisiwn Ewropeaidd gymhwysedd unigryw. Felly, unwaith eto, byddai hynny drwy bleidleisio mwyafrif cymwysedig. Rwy’n meddwl bod hynny o bosibl yn gwneud cytundeb yn haws.
Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn ddiddorol bod yr UE yn dweud mai hwn yw’r olynydd i'r holl gytundebau. Hyd yn oed pan fyddem fel 28 neu 27 o aelod-wladwriaethau yn trafod ar ran yr Undeb Ewropeaidd oherwydd bod ganddo ddiffyg personoliaeth gyfreithiol, mae’r UE yn dweud, wel, dyna ei gytundeb ac nid yw'n ein rhwymo ni. Felly, er enghraifft, ar yr ymrwymiad WTO UE o ran y cwota di-dariff ar gyfer cig oen o Seland Newydd, maent yn awgrymu mai mater i'r UE yw hwnnw, ac maen nhw eisiau i ni gymryd ein cyfran o gytundebau rhyngwladol, ond mae hynny'n rhywbeth i ni gytuno arno â nhw, ac nid yw’n rhywbeth y maen nhw’n ei ystyried yn rhwymol arnom ni. Felly, rwy'n meddwl bod hynny'n addawol.
Yn olaf, fel Prif Weinidog Cymru, nid wyf eisiau gweld tariffau, ond ar y rhan fwyaf o ddadansoddiadau economaidd safonol, yn syml, mae’n anghywir dweud mai defnyddwyr sy’n gorfod talu’r cyfan o unrhyw dariff. Mae gennych gromlin galw a chyflenwad, ac wrth i’r pris godi, mae defnyddwyr yn prynu llai, fel bod cyflenwad ymylol yn cael ei wasgu allan, a gweddill y cyflenwad ar gael am bris is gan y cyflenwr tramor. Nawr, mae faint o'r tariff hwnnw sy’n cynyddu’r pris i'r defnyddiwr, a faint fyddai’n darparu pris gostyngol i gyflenwyr i ddal gafael ar eu cyfran ar adegau pan fo llai yn cael ei gyflenwi yn y farchnad, yn dibynnu ar ddeinameg y farchnad. Ond rwyf wir yn obeithiol y byddwn yn gweld bargen masnach rydd heb dariffau, ac rwy'n gobeithio y gwnaiff y Prif Weinidog weithio gyda phawb yn y Cynulliad hwn, yn ogystal â Llywodraeth y DU, a pharhau i edrych ar hyn i gyd mewn ffordd gadarnhaol.
Mi wnaf rai sylwadau perthnasol i Gymru gyfan, ac yn arbennig, felly, fy etholaeth i yn Ynys Môn. Rydym ni i gyd wedi clywed pobl yn sôn am bwysigrwydd cymryd rheolaeth yn ôl. Beth nad ydym yn eglur amdano fo, wrth gwrs, yw beth yn union rydym yn sôn amdano fo: pa fath o reolaeth, nac ychwaith beth fydd y gost o gymryd y rheolaeth yna. Y peryg rydym yn ei wynebu yng Nghymru bellach yw y gallem ni fod yn colli rheolaeth yn sgil bwriad Llywodraeth Prydain drwy’r ‘great repeal Bill’. Rydym ni wedi clywed rhai o fy nghyd-Aelodau i yn sôn am hynny. Er enghraifft, rwy’n bryderus iawn dros y diwydiant amaeth yn fy etholaeth i os yw Llywodraeth Prydain yn gwneud yr hyn y maen nhw’n bygwth ei wneud, maen ymddangos, o ran cadw hawliau fframweithiau Ewropeaidd iddyn nhw eu hunain, dros dro o leiaf, efo dim addewidion yn yr hirdymor, yn hytrach na gwneud yr hyn sydd yn gyfiawn, yn gyfansoddiadol, rwy’n credu, ac yn allweddol ar gyfer ein economi wledig, a chymdeithas wledig, sef i sicrhau bod Senedd Cymru yn parhau i fod â chyfrifoldeb llawn am faterion yn y maes yma, maes sydd yn gwbl glir yn faes datganoledig.
Ond mi soniaf, os caf, am fater arall o golli rheolaeth a ddaw yn sgil llythyr erthygl 50: nid colli rheolaeth am resymau cyfansoddiadol, nid am resymau deddfwriaethol, ond drwy oblygiadau ymarferol y math o ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd mae Llywodraeth Prydain, maen ymddangos, yn benderfynol o chwilio amdano fo. Ynys Môn ydy’r prif borth ar gyfer masnach rhwng y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. Drwy borthladdoedd Cymru mae dros tri chwarter y masnach ar lorïau rhwng Gweriniaeth Iwerddon ac Ewrop yn pasio. Mi wnaeth 79 y cant o’r rheini basio drwy borthladd Caergybi. Mi basiodd dros 2 filiwn o bobl drwy’r porthladd: cannoedd o filoedd o geir, a miloedd o fysys. Rwy’n gobeithio fy mod yn creu darlun o pam bod porthladd Caergybi mor bwysig i Gymru a mor bwysig i Ynys Môn, lle mae cannoedd, wrth gwrs, yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol yn y porthladd, a llawer mwy mewn busnesau sy’n gysylltiedig â llwyddiant y porthladd. Fy mhryder i ydy bod Llywodraeth Prydain yn gwirfoddoli i golli rheolaeth dros ffyniant y porthladd hwnnw, drwy benderfynu, maen ymddangos, ildio’i haelodaeth o’r farchnad sengl, ac, o bosib, yr undeb tollau. Os oes rhaid, am resymau amlwg iawn—achub y broses heddwch—sicrhau ffin feddal rhwng Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon, fyddai hynny ddim yn wir rhwng Cymru ac Iwerddon. Mi fyddai Caergybi/Dulyn yn ffin galed, bosib iawn. Mi fyddai yna demtasiwn mawr, rwy’n siŵr, i ddatblygu teithiau uniongyrchol o Weriniaeth Iwerddon i Ffrainc—teithiau sy’n bodoli ar hyn o bryd, wrth gwrs. Rwy’n ofni yn wirioneddol beth fyddai effaith troi Caergybi o’r llwybr cyflymaf, y llwybr hawsaf, y llwybr mwyaf effeithiol rhwng Ewrop ac Iwerddon, i un o’r llwybrau anoddaf.
Mi geisiom ni yn y Papur Gwyn, a gafodd ei lunio ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, ddweud pa reolaeth fyddem ni’n dymuno i Lywodraeth Prydain ei chadw, os liciwch chi, ar y berthynas rhwng Prydain ac Ewrop yn y dyfodol. Mae chwarae rhan yn y farchnad sengl yn agos at frig y rhestr honno, os nad ar y brig. Nid wyf i ishio gadael yr Undeb Ewropeaidd—ni fyddaf i byth. Ond gan mai dyna’r cyfeiriad rydym ni’n mynd iddo fo, rydym ni’n gorfod chwilio am fesurau lliniaru, ac mae’r farchnad sengl yn gwbl allweddol i hynny. Mae angen parhau i bwyso am hynny.
I gloi, mi wnaf i droi at y Bil parhad sy’n destun ein gwelliant ni. Mi ddywedodd y Prif Weinidog ei fod o’n credu mai ‘last resort’ ddylai Bil parhad fod er mwyn sicrhau dyfodol cyfansoddiadol Cymru a sicrhau ein bod ni yn Senedd Cymru yn datgan mewn deddfwriaeth ein disgwyliadau ni na fydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn tanseilio’n gallu i weithredu ar ran pobl Cymru. Mi ychwanegodd y byddai’n rhaid aros am y ‘great repeal Bill’ yn gyntaf. Mi ddywedaf i hyn: siawns mai rŵan ydy’r cyfle a’r amser inni weithredu, achos ni allwn ni ddim aros i weld os ydy Llywodraeth Prydain yn mynd i weithredu mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion pobl Cymru, achos nid ydy’r arwyddion yno ar hyn o bryd bod Llywodraeth Prydain am wneud hynny.
Diolch i'r Aelod am ildio. A fyddai hefyd yn cytuno â mi ei fod yn fater o fwy byth o frys ein bod yn deddfu cyn gynted â phosibl gan fod Llywodraeth y DU wedi dweud ar goedd na fydd yn cyhoeddi drafft o'r Bil diddymu mawr? Felly, beth bynnag a gyhoeddir a phryd bynnag y caiff ei gyhoeddi—erbyn canol mis Medi—ni fydd gennym yr amser i ymateb iddo, o leiaf yn ddeddfwriaethol.
Mae’r Aelod yn sicr yn pwysleisio, unwaith eto, culni'r ffenestr sydd gennym o'n blaenau.
The Secretary of State for Wales has made it quite clear that he isn’t interested in expressing the views of Wales in the Cabinet, but he sees his role as communicating to Wales what the Cabinet in Whitehall has decided for Wales, whether that is for our benefit or not. Now take this opportunity, Welsh Government, to set our legislative stall out. Protect what we have. Once the repeal Bill is on the statute book, without legislation to challenge it in place in this Parliament, then the Welsh line of defence will be very thin indeed.
Mae cyd-Aelodau eisoes wedi tynnu sylw y prynhawn yma at y ffaith bod Llywodraeth y DU, ar ôl llawer o gerdded drwy'r tywyllwch, wedi, o’r diwedd, cyrraedd pwynt lle mae nawr yn dechrau gwneud rhywbeth ynglŷn â chanlyniadau'r refferendwm ar 23 Mehefin. Fodd bynnag, fel y gwyddom i gyd, dim ond un peth a ddywedodd y refferendwm hwnnw: bod yn rhaid inni adael sefydliadau'r UE. Nid oedd yn penderfynu ar ba delerau y byddem yn gadael ac nid oedd yn trafod y berthynas newydd â’r 27 o aelod-wladwriaethau eraill. Dyma pam mae’n bwysig nawr rhoi ein hamcanion ni ar yr agenda, wrth i’r broses ynglŷn â hynny ddechrau.
Rwy'n siomedig, cyn y pwynt hwn a chyn rhoi erthygl 50 ar waith, nad yw Llywodraeth San Steffan wedi trin y mater hwn mewn modd sy’n dangos digon o barch i sefydliadau’r gwledydd datganoledig wrth symud ymlaen, er bod Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru ill dwy wedi cyflwyno eu cynigion eu hunain i’w hystyried. Nawr, mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cyflawni ei hymrwymiad datganedig i gynnwys y gwledydd datganoledig yn llawn. Mae angen i hyn fynd y tu hwnt i ddim ond cwrdd â Gweinidogion drwy'r Cydgyngor Gweinidogion, neu'r JMC(EN), ond ystyried mewn gwirionedd yr hyn y mae pob Llywodraeth wedi’i gyflwyno gan gynnwys Gweinidogion o genhedloedd datganoledig yn y broses negodi, pan fo’n briodol, a chreu mecanwaith cyfansoddiadol newydd ar gyfer ein gwledydd.
Cafodd hyn sylw yn yr adroddiad gan Bwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gyhoeddwyd heddiw, yn, i’r rhai a hoffai ei ddarllen, paragraff 10 a pharagraff 13—edrychwch yn ofalus arno—ond hefyd mewn adroddiad gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, sy'n datgan, a dyfynnaf:
Bydd hyn yn golygu y bydd angen i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig reoli rhyngwynebau newydd—a’r posibilrwydd o gyfrifoldebau sy’n gorgyffwrdd—rhwng materion a gadwyd a chymhwysedd datganoledig mewn meysydd lle nad yw gwrit cyfraith yr UE yn berthnasol mwyach. Bydd angen i Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig gytuno, cyn Brexit, sut i reoli’r rhyngwynebau newydd hynny.’
Mewn geiriau eraill, mae pawb yn dweud, ac eithrio Llywodraeth y DU, 'Mae angen strwythur cyfansoddiadol sy'n seiliedig ar statud, nid dim ond ar ysgwyd llaw da.' Llywydd, mae rhai yn Llywodraeth y DU sydd wir yn derbyn datganoli. Mae rhai hyd yn oed yn ei ddeall, ond mae gormod nad ydynt ac sy’n credu bod yn rhaid i bopeth gael ei lywio gan San Steffan a Whitehall. Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gydweithio’n wirioneddol gryf gyda'n cymheiriaid yn y gwledydd datganoledig eraill i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwireddu ei geiriau a’i theimlad yn y llythyr erthygl 50 ac ym Mhapur Gwyn y Bil diddymu mawr. Maent yn ei ddweud; gadewch inni wneud yn siŵr eu bod yn ei wneud.
Dirprwy Lywydd, roedd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru hefyd yn gosod yr economi ar frig yr agenda, ac yn ddealladwy felly, oherwydd mae angen ffyniant ar draws y genedl hon ac mae gallu busnesau Cymru i fasnachu heb rwystrau—boed yn ariannol neu’n rheoleiddiol—yn hanfodol i ganiatáu iddi dyfu. Ac mae gweithgynhyrchu’n chwarae rhan fawr yn economi Cymru, yn fwy nag unrhyw wlad arall yn y DU—yn wir, mae’n 16 y cant o GYC. Ac felly, mae’n rhaid inni sicrhau nad yw ysgariad anodd, â'r rheolau WTO Brexit, yn digwydd, gan y byddai'n golygu gosod tariffau andwyol ar ein hallforion.
Sylwais fod gwelliant 6 UKIP yn tynnu sylw at y ffaith yr hoffent ddweud, 'Mae'n £8 biliwn; gallwn ni ddefnyddio'r arian.' Rwy’n meddwl mai’r cwbl yw hynny yw esgus i gyfiawnhau pam na allant wir gyflawni eu haddewidion o ddarparu £350 miliwn yr wythnos i’n gwasanaethau cyhoeddus. Maen nhw’n awyddus i guddio'r ffaith na allant wneud hynny, ac felly maen nhw nawr yn dweud, 'O, gadewch inni gael rhyw £8 biliwn arall gan yr UE.' Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni ymdrin ag ef yn glir iawn. Blaenoriaeth y Papur Gwyn, mewn gwirionedd, yw mynediad dilyffethair, ac mae'n un y dylem i gyd ei chroesawu. Rydym yn gwybod bod—. Rydym yn deall bod cytundebau masnach rydd yn bwysig, ond mae’n rhaid i ni hefyd ddeall safbwynt 27 yr UE, oherwydd yn aml iawn, rydym yn sôn am ein safbwynt hi, ond ceir trafodaethau.
Soniodd Mark Reckless am ‘feistrolaeth’ y llythyr ar erthygl 50. Gwelais i fygythiad cudd yn y llythyr hwnnw am ddiogelwch. Nid wyf yn galw hynny’n ‘feistrolaeth’; rwy'n galw hynny’n ‘fygythiadau a brawychu’, ac nid yw hynny'n negodi da.
A gaf i ddweud, roedd fy araith gyfan bron yn ymroddedig i'r mandad negodi drafft, a gwelais ryw dri neu bedwar peth yr oeddwn yn meddwl eu bod yn gadarnhaol iawn, ac a allai wir ganiatáu negodi da er budd i'r ddwy ochr ac a oedd yn dangos parch at safbwynt yr UE?
Rwy'n derbyn y pwynt hwnnw, ond pan ofynnais am gael ymyrryd ar y pwynt a gododd ar y dechrau, ni wnaeth adael imi wneud hynny. Felly, cymerais y cyfle nawr i ddweud wrtho beth yr wyf yn ei feddwl am y peth—yn eithaf clir.
Nawr, rydym yn deall bod risgiau. Mae risgiau oherwydd ein bod yn gadael. Mae'n rhaid inni ymdrin â'r risgiau hynny yn y trafodaethau sydd i ddod, ac rwy’n credu’n gryf y bydd cyfranogiad uniongyrchol Gweinidogion Llywodraeth genedlaethol Cymru yn y trafodaethau hynny yn bwysig. Mae'n rhaid inni symud ymlaen. Rwy'n ymwybodol o'r amser, felly—. Ar y gwelliant, byddai’n dda gen i pe byddech wedi dweud y byddem yn 'paratoi' Bil, nid yn ‘gosod’ Bil, oherwydd rwy’n meddwl bod paratoi un, ar hyn o bryd, yn bwysig. Semanteg yw hynny, ond mae'n semanteg bwysig. Mae gosod Bil, efallai, ar hyn o bryd yn rhyfygus oherwydd nad ydym wedi gweld y Bil eto. Nid ydym wedi gweld y Bil eto. Mae angen inni ei weld. Ond ni wnaf wadu bod paratoi yn bwysig yn y sefyllfa honno.
Mae gan Lywodraeth y DU fandad i ni adael yr UE, ond does dim mandad i ddefnyddio Brexit fel esgus dros newid agweddau ideolegol yn y ffordd yr ydym yn edrych ar ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus. Wrth iddynt negodi ein gadael a'n perthynas yn y dyfodol, mae'n rhaid iddynt dderbyn newidiadau strwythurol cyfansoddiadol, ac mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau nad ydynt yn anwybyddu buddiannau a blaenoriaethau'r cenhedloedd datganoledig.
Diolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl heddiw. Roeddwn i'n meddwl bod y Prif Weinidog wedi codi rhai pwyntiau rhesymol heddiw, ac mewn modd cytbwys, ac nid yw pethau wedi bod mor chwyrn yma heddiw, sydd efallai’n ddatblygiad i’w groesawu—ond efallai y gwnaiff hynny newid. [Chwerthin.] Ar ôl Brexit, bydd angen canolwr annibynnol ar y DU i lywodraethu dros faterion fel cymhwysedd cyfreithiol a'r hyn sy'n cael ei alw’n ‘farchnad fewnol y DU’. Yr awgrym yw mai, yn y pen draw, efallai mai’r Goruchaf Lys fydd y prif ganolwr. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud cyn hyn na all Llywodraeth y DU, mewn termau cyfansoddiadol, fod yn farnwr ac yn rheithgor. Rwy'n siŵr nad yw'r rhan fwyaf ohonom yn UKIP yn rhy ofnus o gael ein Goruchaf Lys ni ein hunain yn y Deyrnas Unedig fel y canolwr cyfansoddiadol terfynol. Rydym hefyd yn awyddus i rymuso’r Goruchaf Lys, a dyna pam yr ydym ni yn UKIP eisiau i Brexit gynnwys ymadawiad y DU o Lys Cyfiawnder Ewrop. Gobeithio bod y Prif Weinidog yn cytuno â'r canlyniad hwn.
Mae’r Prif Weinidog yn dweud bod yn rhaid i’r hyn sy’n ddatganoledig aros yn ddatganoledig. Mae hyn yn swnio'n rhesymol. Y broblem yw bod mater cymhwysedd cyfreithiol wedi bod braidd yn hylifol—braidd yn niwlog—yn y byd ar ôl datganoli. Er enghraifft, mae'r Bil Undebau Llafur (Cymru) yn cael ei drafod ar hyn o bryd gan y pwyllgor Cynulliad perthnasol; rwy’n aelod ohono. Rydym yn cael ein hannog gan Weinidog Llywodraeth Cymru, yn yr achos hwn, i gefnogi’r Bil hwn er ei fod yn derbyn y bydd cymhwysedd cyfreithiol yn y maes hwn yn dychwelyd i Lywodraeth y DU ar ôl i Fil Cymru ddod yn gyfraith. Felly, mae’r pethau hyn yn eithaf hyblyg ac nid ydynt wedi’u hysgrifennu mewn carreg.
Yr hawliad bod yn rhaid i bob ceiniog a gollwyd o gyllid yr UE i Gymru gael ei darparu o gronfeydd Llywodraeth y DU: cododd Julie Morgan hyn heddiw, yn gwbl briodol. Rydym yn cytuno â'r hawliad hwn, ac rydym wedi gwneud hynny o’r cychwyn. Ond gwnaeth Jeremy Miles awgrym adeiladol heddiw, ac fe welodd gyfle—. O, mae wedi mynd, ond gwnaeth gyfraniad adeiladol, roeddwn i'n teimlo. Gwelodd gyfle yn Brexit, sef y gallai fod yn gyfle i roi cyllid Cymru ar sail statudol, a gallai fod yn werth archwilio hynny yn y dyfodol. Diolch.
Diolch. Ac yn olaf, David Rowlands.
Diolch, Llywydd. Wel, fel arfer, mae’r ddadl hon yn cael ei chynnal gyda’r cysyniad gwallus bod yr Undeb Ewropeaidd a'i sefydliadau llywodraethu wedi bod yn ffactor llesiannol enfawr i'r gwledydd y mae'n eu rheoli. Y gwir yw mai dim ond dau grŵp o bobl sydd wedi elwa ar yr Undeb Ewropeaidd: busnesau mawr a'r elît gwleidyddol. Os ydych chi’n herio cywirdeb y gosodiad hwnnw, gofynnwch am farn gwlad Groeg, yr Eidal, Sbaen a Phortiwgal, lle mae diweithdra oddeutu 50 y cant, ac unig obaith y bobl o gael gwaith yw ymfudo. Ni wnaf ofyn ichi i ble y maen nhw’n tueddu i ymfudo. Dro ar ôl tro, rydym yn gweld uchelgeisiau gwleidyddol gwleidyddion Ewrop yn cael blaenoriaeth dros les y bobl sy'n gweithio yn yr UE. Gallwch ddadlau yn ddiddiwedd am ganlyniadau masnachol Brexit o'r UE, ond y gwir yw bod yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn drychineb economaidd i lawer o'i aelodau. Mae gennym aelodau o'r Comisiwn Ewropeaidd sy’n gwneud penderfyniadau gan wybod yn iawn na fyddan nhw eu hunain yn dioddef yn ariannol mewn unrhyw ffordd oherwydd y penderfyniadau hynny. Tybed faint ohonyn nhw sy’n oedi i ystyried golygfa ofnadwy y fferyllydd o wlad Groeg a roddodd ei hun ar dân oherwydd bod eu polisïau wedi achosi dinistr ariannol iddo.
Dro ar ôl tro yn y Siambr hon, rydym wedi clywed dadleuon ‘Wnân nhw ddim caniatáu hyn’ neu ‘Wnân nhw ddim caniatáu’r llall.’ Wel, pwy yw'r ‘nhw’ yma yr ydych chi’n sôn amdanynt? [Torri ar draws.] Wel, gwleidyddion, wrth gwrs. Ond rwy’n ailadrodd yr hyn yr wyf wedi’i ddweud yn y gorffennol: nid gwleidyddion fydd—
Rydych chi’n wleidydd.
[Yn parhau.]—er eu holl fursennu, pwy fydd yn penderfynu ar y telerau ar gyfer inni adael Ewrop; busnesau Ewrop a fydd yn penderfynu, a nhw a fydd yn mynnu mynediad rhydd a dilyffethair i’n marchnadoedd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs, David.
Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych chi’n cytuno bod yn rhaid i ganlyniad terfynol unrhyw drafodaethau gael ei roi gerbron y cyngor, sef penaethiaid pob gwladwriaeth—gwleidyddion; bod yn rhaid ei roi gerbron Aelodau Senedd y DU—gwleidyddion—
Wrth gwrs.
[Yn parhau.]—a hefyd gerbron Llywodraeth y DU—gwleidyddion? Felly, mewn gwirionedd, gwleidyddion a fydd yn gwneud y penderfyniad, nid yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud.
Wel, gwrandewch ar y paragraffau nesaf ac efallai y gwnewch chi newid eich meddwl ar hynny, David.
Dydw i ddim yn meddwl.
Nid yw unrhyw un sy'n credu fel arall—[Torri ar draws.] Nid yw unrhyw un sy'n credu fel arall yn deall masnach ryngwladol o gwbl. Nid Llywodraethau sy’n gwerthu nwyddau i wledydd eraill; busnesau sy’n gwerthu nwyddau i wledydd eraill. Unig swyddogaeth a dyletswydd pob Llywodraeth yw cael gwared ar gymaint o rwystrau i'r fasnach honno ag y bo modd, a dyna, yn y pen draw, beth fydd yn rhaid i Lywodraethau Ewrop, ac felly y Comisiwn Ewropeaidd, ei wneud. Os ydym am drafod yr Undeb Ewropeaidd, gadewch inni beidio ag edrych ar y sefydliad hwn drwy sbectol lliw rhosyn, ac esgus ei fod yn sefydliad heb anfanteision enfawr. Mae ei bolisïau wedi achosi canlyniadau trychinebus i ran helaeth o boblogaeth Ewrop. Mae'r gwir bragmatyddion yn ein plith yn cydnabod bod ysgariad—unrhyw ysgariad—oddi wrth Ewrop yn well na chael ein clymu at undeb sy’n siŵr o lithro ymhellach ac ymhellach i lawr tablau masnach economaidd.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl. Carwyn Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau amrywiol at y ddadl. Os caf ddechrau, yn gyntaf oll, ag arweinydd UKIP. Nid wyf yn awyddus, yn ystod fy ymateb, i ailadrodd rhai o'r trafodaethau a gawsom o'r blaen; rwy’n mynd i ymdrin â rhai o'r materion mwy newydd sydd wedi codi. Yn gyntaf oll, mae peryglon mawr y bydd Llywodraeth y DU yn ceisio defnyddio pwerau Harri VIII er mwyn osgoi craffu gan Senedd y DU, ac yn wir i atal y sefydliad hwn rhag cymryd ei gamau ei hun o ran Brexit, ac mae hynny'n rhywbeth a fyddai’n gwyrdroi democratiaeth, yn fy marn i, a dweud y gwir—osgoi’r math hwnnw o graffu.
O ran y farchnad, mae'n rhaid inni gofio bod y farchnad Ewropeaidd sengl yn un o farchnadoedd mwyaf y byd a’i bod ar garreg ein drws. Pe byddem yn chwilio am berthynas newydd gyda'r UE, dyna’r farchnad gyntaf y byddem yn edrych arni, gan fod gennym ffin tir â hi, a bydd hynny’n parhau i fod yn wir yn y dyfodol. Iawn, efallai fod cytundebau masnach rydd â gwledydd eraill yn bwysig, ond nid yw Awstralia a Seland Newydd yn mynd i gymryd lle’r farchnad sengl Ewropeaidd o ran ei gwerth inni.
Nid oes neb yn dadlau o blaid tariffau. Nid wyf wedi clywed neb yn dadlau y dylid gosod tariffau. Nid wyf yn cytuno, o reidrwydd, â barn Mark Reckless y gallai tariffau rywsut gael effaith fach iawn. Bydd rhai yn cael mwy o effaith nag eraill a’r mwyaf anelastig yw’r galw am gynnyrch, y mwyaf o effaith y bydd tariffau’n ei chael. Y cryfaf yw brand cynnyrch—ar gyfer gwneuthurwr ceir o'r Almaen, nid wyf yn meddwl eu bod nhw’n arbennig o bryderus. Maen nhw’n gwybod y bydd pobl yn parhau i brynu BMW a Mercedes, hyd yn oed os aiff y pris i fyny, oherwydd bod pobl eisiau eu prynu oherwydd y brand. Bydd y defnyddiwr yn talu'r pris o ganlyniad i hynny. Ond bydd yn gwybod mai holl bwynt tariff yw gwneud nwyddau tramor yn ddrutach mewn marchnad ddomestig er mwyn i nwyddau domestig ymddangos yn rhatach i'r defnyddiwr. Felly, mae’n dreth y mae'n rhaid i ddefnyddwyr ei thalu os ydynt yn mynd i brynu nwyddau o'r tu allan i’r farchnad honno. Y pryder sydd gennyf yw, os nad oes cytundeb mewn amser anhygoel o fyr—erbyn, mewn gwirionedd, hydref y flwyddyn nesaf—bydd tariffau’n ymddangos yn ddiofyn. Nid oes neb eu heisiau nhw, ond maent yn ymddangos yn ddiofyn ar y cam hwnnw, a byddwn wedyn mewn sefyllfa sy'n anfoddhaol i bawb sy'n ymwneud â’r trafodaethau hyn.
Rwy'n pryderu am amaethyddiaeth, oherwydd, fel y dywedodd arweinydd UKIP yn ddigon gwir, mae gan amaethyddiaeth le arbennig yng nghalonnau pobl. Mae pobl yn arbennig o amddiffynnol tuag at amaethyddiaeth, ac mae'n aml yn wir bod amaethyddiaeth yn cael ei heithrio o gytundebau masnach rydd. A gaf i ei gwneud yn hollol glir na fyddem o dan unrhyw amgylchiadau yn derbyn cytundeb masnach rydd a fyddai’n eithrio gallu ein ffermwyr i werthu i’w marchnad fwyaf? Mae naw deg y cant o'r hyn yr ydym yn ei gynhyrchu sy'n cael ei allforio yn mynd i mewn i'r farchnad Ewropeaidd. Ni fyddem yn derbyn unrhyw rwystrau i fasnachu yn hynny o beth.
Ond rwy’n pwyso ar y rheini a oedd o blaid gadael i symud y tu hwnt i ail-ddadlau am y refferendwm a chyflwyno eu cynlluniau eu hunain. Yr eironi mawr ar hyn o bryd yw mai’r rhai ohonom a oedd o blaid aros sydd mewn gwirionedd yn bwrw ymlaen â chynlluniau i adael, tra bod y rhai a oedd o blaid gadael braidd yn ansicr beth sy'n digwydd nesaf. Mae gan rai ohonynt syniadau, ond nid eraill—nid wyf am roi pawb yn yr un categori—ond rwy’n annog pawb a oedd o blaid gadael i gyflwyno cynllun yn hytrach na dweud, 'Wel, mae canlyniad y refferendwm wedi digwydd, ac felly mae'n rhaid inni adael.' Mae angen mwy na hynny arnom.
O ran y Bil dilyniant, edrychwch, does gen i ddim gwrthwynebiad i barhau â thrafodaethau ar hyn. I mi, yr hyn y byddwn i eisiau ei wybod yw: beth fyddai'r Bil yn ei wneud? A yw'n ddatganiad yn hytrach na Bil? Sut siâp fyddai ar y Bil? A sut y byddem yn osgoi sefyllfa lle câi Bil o'r fath ei drosysgrifo, i bob pwrpas, gan San Steffan beth bynnag, o ganlyniad i'r Bil diddymu mawr? Felly, gadewch inni barhau â'r trafodaethau hynny. Byddwn yn parhau i ymatal heddiw, ond o ran—[Torri ar draws.] Mewn eiliad. O ran egwyddor Bil o'r fath a'r hyn y gallai ei gyflawni, rwy’n meddwl bod lle i drafodaethau pellach.
Rydym yn sicr yn nodi—mae pawb yn y Siambr yn nodi—nad yw’r Prif Weinidog yn diystyru Bil parhad, er efallai y dylem ei alw y Bil parhad mawr; os gall fod Bil diddymu mawr, gall fod Bil parhad mawr. Ond dylai fod yno fel rhywbeth wrth gefn, oherwydd yn sicr y peth cyntaf y mae angen inni ei wneud yw gweld a yw Llywodraeth y DU yn ddiffuant yn ei hawydd, a nodwyd yn y derminoleg amwys honno yr wythnos yma, i sicrhau canlyniad da i’r DU ac i Gymru gyda'r un parch a’i gilydd. Os yw hynny'n digwydd, ni fydd angen Bil parhad mawr arnom; dim ond bwrw ymlaen â'r gwaith er lles y bobl yr ydym yn eu cynrychioli.
Rwy'n fwy na bodlon i helpu â’r trafodaethau neu â'r Bil ei hun, ac i weld beth allai Bil o'r fath ei gyflawni. Mae'n rhaid imi ddweud, o ran mater y farchnad sengl, fy mod wedi gwneud y pwynt hwn i’r Prif Weinidog, os bydd gennym reolau ar gyfer marchnad sengl fewnol i’r DU ac nad ydym wedi cyfrannu at ei llunio, byddwn yn gwneud ein gorau i i’w newid yn gyfan gwbl. Byddwn yn ceisio eu hosgoi. Ni fydd gennym unrhyw synnwyr o berchnogaeth ohonynt. Os nad oes llys—a gwnaiff y Goruchaf Lys y tro yn iawn fel y llys sy'n plismona’r rheolau hynny—yna sut ar y ddaear y bydd Llywodraeth y DU yn gorfodi'r rheolau beth bynnag, oherwydd ni fyddai ganddi unrhyw bwerau cyfreithiol i wneud hynny? Hollol iawn: dylai'r Llys Goruchaf fod yn farnwr yn hytrach nag yn ganolwr yn hynny o beth. Mae'n eithaf hawdd i'w wneud, ac mae'n rhywbeth y dylai Llywodraeth y DU ei dderbyn yn eithaf cynnar.
O ran yr hyn a ddywedodd Mark Isherwood, rwy’n ei atgoffa bod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn hŷn na Phapur Gwyn Llywodraeth y DU, nid i’r gwrthwyneb, ac unwaith eto, dywedodd 'rheoli ffiniau'. Fydd yna ddim rheoli ffiniau. Bydd gennym ffin agored â’r Undeb Ewropeaidd yn Iwerddon. Ni fydd unrhyw reolaeth ar y ffin honno, ac nid yw’r mater hwnnw wedi’i ddatrys eto. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud, 'A, wel, roeddem yn meddwl y byddai Iwerddon yn gadael hefyd.' Nid yw hynny’n mynd i ddigwydd. Nid yw pobl Iwerddon yn enwog am ddilyn yr hyn y mae'r DU yn ei wneud, ac nid yw’r mater hwnnw wedi ei ddatrys eto. Felly, rwy’n annog pobl—pan fyddant yn sôn am reoli ein ffiniau, camsyniad yw hynny. Camsyniad llwyr. Oherwydd, oni bai ein bod yn fodlon derbyn canlyniadau gwleidyddol ffin galed ar ynys Iwerddon a'r cyfan y mae hynny’n ei olygu, nid yw’r mater hwnnw’n rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd.
A wnaiff y Prif Weinidog ildio?
Wrth gwrs.
Rwy’n cydnabod bod eich Papur Gwyn yn gynharach, ond dim ond wythnos yn gynharach, ac rwy'n amau bod eu papur nhw wedi mynd heibio i’r cam drafftio terfynol erbyn hynny. Ond, o ran y ffin, mae dogfennau Llywodraeth y DU yn ymdrin â'r mater hwnnw, ac mae hefyd wedi ei gydnabod yn yr ymateb gan y Cyngor Ewropeaidd. Felly, gan gydnabod bod angen i’r ffin o amgylch gweddill y DU gydymffurfio â'r cynigion, mae'r sefyllfa ar y ffin ag Iwerddon yn cael ei chydnabod gan bob parti.
Ydy, mae'n cael ei chydnabod fel problem—dyna'r peth. Rwy’n ei atgoffa na chafodd y Papur Gwyn ei lunio mewn tafarn un noson rhwng dwy blaid. Roedd llawer o waith ynghlwm wrth lunio hwnnw hefyd, a chafodd ei gwblhau cyn Papur Gwyn Llywodraeth y DU.
Y realiti yw, fel y mae pethau, pan fyddwn yn gadael yr UE, pe byddai rhywun yn dymuno dod i mewn i'r DU heb gael eu canfod, byddent yn dod drwy Iwerddon. Does dim archwiliad o gwbl. Mae hynny'n rhywbeth nad yw wedi’i ddatrys eto. Nid oes neb eisiau dychwelyd i ffin galed, ond mae'n broblem a nodais cyn y refferendwm, ac mae'n broblem sy'n dal i fodoli.
O ran y DU yn drifftio ar wahân, dyna'n union yr hyn yr wyf yn meddwl y bydd yn digwydd os nad yw Llywodraeth y DU yn deffro i hyn—caiff tensiynau eu creu lle bydd Llywodraeth y DU yn camu ar fodiau traed y gweinyddiaethau datganoledig, felly bydd y Deyrnas Unedig ei hun yn disgyn yn ddarnau. Does dim angen i hynny ddigwydd, ond mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn wyliadwrus ohono cyn belled ag y mae’r dyfodol dan sylw. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid cael cytundeb, yn fy marn i, sydd wedi’i dderbyn gan y pedair Senedd. Pam y dylai fod gan Senedd Wallonia fwy o lais dros berthynas Cymru â'r UE na Senedd Cymru? Nid yw hynny’n gwneud synnwyr o gwbl. Ble mae'r ddemocratiaeth yn hynny?
Rwyf yn dweud wrtho bod pobl yn aml yn dweud wrthyf y bydd Brexit yn golygu llai o fiwrocratiaeth. Nid wyf byth yn cael unrhyw enghreifftiau o'r hyn y mae hynny'n ei olygu, ond dyna y mae'n ei ddweud. Unwaith eto, rwy’n dweud wrtho: yn 1997, pan gawsom y refferendwm yn y fan yma a digwyddodd canlyniad tebyg, wnes i ddim galw’r rheini a bleidleisiodd yn erbyn sefydlu datganoli yn ‘elyn mewnol’. Rwy’n ei annog i ailystyried ei sylwadau—pleidleisiodd 48 y cant o bobl i aros. Roedd yn farn onest. Nid ydynt yn elyn mewnol yn y DU ei hun. Roedd ganddynt eu barn. Nid ydyn nhw rywsut yn fradwyr i'w gwlad—[Torri ar draws.]–sef yr hyn a awgrymodd ef.
Mae fy amser yn brin, yn anffodus, Dirprwy Lywydd; rwy’n ceisio ymdrin â nifer o'r materion hyn.
Roedd un neu ddau o ymyriadau, felly rhoddaf rywfaint o amser ychwanegol ichi.
Iawn, iawn. Gwnaeth Steffan Lewis ei bwyntiau. Soniodd am fater y farchnad sengl. Nid wyf yn credu bod mater y farchnad sengl yn un a gedwir. I ddatblygu pwyntiau David Melding, ildiodd y DU reolaeth dros rai pwerau amaethyddol penodol yn 1973 i'r Gymuned Ewropeaidd, yna i’r Undeb Ewropeaidd. Yna, ildiodd ei holl bwerau amaethyddol eraill i'r Cynulliad hwn. Ni all ddweud, ar sail hynny, bod pwerau sy’n dod yn ôl dros amaethyddiaeth yn mynd yn ôl i Senedd San Steffan. Y rheswm pam yr wyf yn dweud hynny yw hyn: mae ein setliad datganoli yn dweud yn eithaf clir bod amaethyddiaeth wedi'i ddatganoli. Nid oes unrhyw gafeatau. Nid yw'n dweud y byddai pwerau sy'n perthyn ar hyn o bryd i’r Undeb Ewropeaidd yn mynd yn ôl i Senedd San Steffan pe byddai’r pwerau hynny’n dychwelyd. Efallai na ddylem ddisgwyl iddo wneud hynny; mae'n dawel. Ar fodel cadw pwerau, lle mae tawelwch, mae’n rhaid i'r rhagdybiaeth fod o blaid datganoli, a dyna sut yr wyf fi’n ei weld. Rwy’n parchu ei farn yn fawr iawn, ond dyna fy marn i am hynny, â'r model cadw pwerau wedi’i sefydlu.
O ran rhai o'r materion eraill a godwyd—. Nid wyf yn cytuno â Mark Reckless. Mae ef yn gweld y cyfeiriad at Gibraltar fel rhywbeth sy'n ymwneud â symudiad tuag at bleidleisio mwyafrif cymwysedig. Mewn gwirionedd, mae fy marn i i’r gwrthwyneb yn llwyr. Mae'r ffaith ei fod wedi cael ei grybwyll yn ffordd o geisio rhoi sicrwydd i Sbaen o ran cystadleuaeth dreth, er mwyn i Sbaen gefnogi unrhyw gytundeb yn y dyfodol. Felly, mae fy marn i’r gwrthwyneb llwyr i’w un ef am hynny.
Soniodd Rhun ap Iorwerth am—. Rydym wedi sôn o'r blaen, yn y Siambr hon, am y posibilrwydd o golli masnach os gwelir bod Gogledd Iwerddon yn llwybr haws i mewn i Weriniaeth Iwerddon o ran masnach, a beth fyddai hynny'n ei olygu i Gaergybi, Doc Penfro, ac, yn wir, Abergwaun. Mae'n codi’r pwynt, yn gwbl briodol, bod masnach yn digwydd rhwng Iwerddon a Ffrainc. Mae'n wasanaeth tymhorol, a gynhelir yn yr haf, i mewn i Cherbourg ac i mewn i Roscoff. Ond mae yna berygl y bydd gweithredwyr cludo nwyddau sy’n mynd i Iwerddon eisiau osgoi Dover ar bob cyfrif, oherwydd y problemau gyda mynd drwy Dover ac yna problemau gyda mynd drwy Gaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru i mewn i Iwerddon, a cholli masnach felly ar y llwybrau i Ffrainc o ganlyniad i hynny.
David Rowlands, yn olaf—. David, mae’n rhaid imi ddweud, nid yw'r Undeb Ewropeaidd yn estyniad o’r Drydedd Reich. Mae'n cyfrannu £680 miliwn y flwyddyn at economi Cymru. Nid yw diweithdra yn 50 y cant yn ne Ewrop. Roedd y DU yn ysu i ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd—yn ysu, gan fod economi'r DU yn methu ar y pryd. Mae angen inni wneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd yn y dyfodol. Rydym yn gwybod bod y bobl wedi penderfynu y dylem adael yr UE. A dweud y gwir, David, pe byddai busnes wedi cael ei ffordd, byddem yn dal i fod yn yr UE, oherwydd roedd busnesau Prydain yn dymuno i ni aros yn yr UE. Ac rwy’n dweud wrtho: nid busnesau—[Torri ar draws.] Nid busnesau—[Torri ar draws.] Nid busnesau a fydd yn penderfynu beth yw natur cytundeb masnach rydd; ond Llywodraethau. Nid oes gan weithgynhyrchwyr ceir yr Almaen sedd wrth y bwrdd. Nid nhw sy’n penderfynu beth mae eu Llywodraethau yn ei wneud; eu hetholwyr sy’n gwneud hynny. Felly, yn anad dim byd arall, mae'n hynod o bwysig peidio â rhoi argraff o haerllugrwydd, a dweud, 'Mae ar yr UE fwy o’n hangen ni nag y mae eu hangen nhw arnom ni.' Mae arnom angen ein gilydd. Mae arnom angen ein gilydd i sicrhau bod gennym heddwch ar y cyfandir, mae arnom angen ein gilydd i wneud yn siŵr bod gennym fasnach, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn rhannu diben cyffredin i gynyddu ffyniant a chydraddoldeb ar draws y cyfandir hwn, a, beth bynnag sy'n digwydd gyda Brexit, mae hynny'n rhywbeth y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i’w wneud.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw cytuno ar welliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf bleidleisio o dan yr eitem hon, felly, tan y cyfnod pleidleisio.