3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r adolygiad seneddol interim ar iechyd a gofal cymdeithasol wedi amlygu bod rhwystrau sylweddol o hyd sy’n atal syniadau a pholisïau da rhag cael eu gweithredu’n llawn drwy’r GIG oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol ac ofn methiant. Mae yna gydnabyddiaeth, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fod cyfran sylweddol o’r sector cyhoeddus yn aml yn gwneud pethau heb ddeall beth sy’n gweithio mewn gwirionedd, ac mae’n pwysleisio’r angen i beidio â bod ofn methiant, ond i ddysgu ohono, oherwydd bydd y dull hwn yn caniatáu ar gyfer agwedd lawer mwy arloesol ac agored at newid na all ond esgor ar ganlyniadau cadarnhaol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol fod y Tîm Dirnad Ymddygiad, sy’n gweithio’n agos iawn gyda Llywodraeth San Steffan, yn mynd ati i annog y sector cyhoeddus i fynd i’r afael â newid mewn ffordd debycach i’r sector preifat. Roeddwn yn meddwl tybed, a’r hyn yr hoffwn ei wybod yw: a ydych wedi ymgysylltu neu wedi ystyried ymgysylltu â sefydliadau megis y Tîm Dirnad Ymddygiad fel y gallwn gynllunio newid effeithiol a chynaliadwy yn llawn ar draws y GIG yng Nghymru?
Mae pwynt difrifol yn y cwestiwn y mae’r Aelod yn ei ofyn ynglŷn â’n gallu i newid a diwygio gwasanaethau cyhoeddus drwy ddewis, a deall y dewis y byddwn yn ei wneud wrth ddarparu gwasanaeth gwahanol. Ceir dadleuon ein bod eisiau i’r gwasanaeth fod wedi torri cyn ein bod yn ei drwsio. Ac rwy’n derbyn bod yna heriau diwylliannol sylweddol ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd. Felly, rhan o’n her, fel y nodoch yn gywir, yw edrych i weld ble y cafwyd y profiad hwnnw. Mae gennym waith ar y gweill, ac rwy’n sicr yn barod i wrando ar y gwasanaeth ac ar ei gyfer ac i ymgysylltu ag amrywiaeth o wahanol bobl, oherwydd mewn gwirionedd, nid yw cyflawni newid sylweddol mewn cyflogwr sector preifat mawr yn hawdd o reidrwydd, ac felly mae pethau i’w dysgu yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus hefyd. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn ildio gwerthoedd ac ethos y gwasanaeth, ond mae angen i ni ddeall sut rydym yn cyflawni’r newid sydd ei angen yn amlwg.
Nid yw ailgynllunio’r broses waith byth yn beth hawdd i’w gyflawni, ond ceir tystiolaeth dda iawn i gefnogi tactegau procio ac arwain a newid diwylliant ac maent wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus yn y sector preifat a’r sector cyhoedd. A byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymgysylltu â sefydliadau fel hynny, oherwydd gall pob un ohonom ddysgu, ac mae yna arferion da i’w dysgu oddi wrth y mathau hyn o sefydliadau. Er y bydd y tîm adolygu seneddol hefyd yn gweithio dros yr ychydig fisoedd nesaf ar ddatblygu map mwy manwl i gynorthwyo’r cyfeiriad teithio a nodwyd ar gyfer y GIG a sectorau gofal cymdeithasol, a ydych yn credu y dylai’r sectorau hyn barhau gyda chynlluniau cyfredol ar gyfer diwygio strwythurol? Os ydych, a oes unrhyw waith a arweinir gan y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw wahaniaeth rhwng diwygio strwythurol arfaethedig ar hyn o bryd a’r hyn y gallai’r adolygiad seneddol ei ddweud yn y tymor hwy yn cael ei leihau?
Mae hyn yn mynd yn ôl at y benbleth a drafodwyd gennym mewn perthynas â gosod a chytuno ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr adolygiad seneddol. Ar wahân i chi eich hunain, mae llefarydd Plaid Cymru hefyd wedi codi’r pwynt ynglŷn ag ‘A fydd yr adolygiad yn golygu y byddwch yn rhoi’r gorau i wneud pethau y mae angen i chi eu gwneud yn awr ac yn gosod pethau o’r neilltu?’ Mae’n rhaid i chi edrych ar y cydbwysedd wrth ddweud, ‘A ydym eisiau gohirio rhywbeth hyd nes y bydd yr adolygiad yn cyflwyno eu hargymhellion?’ Mae angen cael cydbwysedd, ond rwy’n parhau i gredu, lle y ceir achos clir sy’n dangos bod angen i wasanaethau newid, ac achos clir sy’n dangos bod angen i wahanol rannau o’r gwasanaeth weithio’n agosach gyda’i gilydd, yna dylai hynny ddigwydd. Felly, er enghraifft, ar ofal dewisol, mae bwrdd iechyd Hywel Dda a bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi cael cyfarfod cynllunio ar y cyd. Rwy’n disgwyl y bydd y cyfarfodydd hynny’n digwydd yn rheolaidd. Mae’r byrddau iechyd yn ne-ddwyrain Cymru—Cwm Taf, Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro—yn cael cyfarfodydd cynllunio ar y cyd yn ogystal. Felly mae’n rhaid cael dealltwriaeth o’r hyn sydd angen digwydd yn awr o ran hynny, yn hytrach nag aros a gohirio popeth hyd nes y bydd yr adolygiad seneddol yn adrodd yn eu cylch. Oherwydd mae’r her a nodwyd gennych yn eich cwestiwn cyntaf am yr heriau diwylliannol—maent yn bodoli ymhlith clinigwyr, maent yn bodoli ymhlith y cyhoedd ac, yn wir, ymhlith gwleidyddion yn ein gallu a’n parodrwydd i gefnogi a hyrwyddo newid. Felly, nid wyf yn credu bod angen gohirio’r cymhelliant i geisio trafod a siarad am newid, ond mae angen deall yn iawn beth fydd yr adolygiad seneddol yn ei gyflwyno mewn nifer o fisoedd—ac rwy’n credu y byddant yn mynd heibio’n go gyflym—ac yna deall sut rydym yn gwneud yr hyn y maent yn ei awgrymu a deall yr hyn rydym yn credu sy’n gweithio ac yna gwneud hynny’n gyflym ac ar raddfa fawr ar draws y gwasanaeth iechyd gwladol.
Credaf fod adroddiad interim yr adolygiad seneddol yn glir iawn o ran y cyfeiriad teithio, a deallaf ei fod wedi cael cefnogaeth y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â chefnogaeth wleidyddol o ran y cyfeiriad teithio. Y cwestiwn a ofynnais i chi mewn gwirionedd oedd: a oes rhyw fath o drosolwg yn digwydd i sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau strwythurol sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd, neu sy’n cael eu cynnig gan fyrddau iechyd ar hyn o bryd, wedi cael rhyw fath o adolygiad dros dro er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i’r cyfeiriad teithio cywir at ei gilydd? Oherwydd, fel chi, nid wyf yn credu y gallwn roi stop ar bopeth hyd nes y bydd gennym adroddiad mawr trwchus yn ein dwylo y gallwn i gyd ei astudio.
Ac wrth gwrs, un o’r meysydd sydd wedi cael ei nodi’n fynych gan bob un ohonom yma, gan y byrddau iechyd, gan yr adolygiad seneddol, yw bod angen i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, a bod yn onest, gael eu hailwampio’n llwyr ar gyfer oedolion a phlant. Rwy’n derbyn bod gwaith ar y gweill, ac yn wir, roeddwn yn falch o noddi a chadeirio sesiwn a drefnwyd gan Gydffederasiwn y GIG lle y cafodd cynlluniau eu hamlinellu o ran yr hyn y byddwn yn ei wneud i—neu’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella a sicrhau newid trawsnewidiol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer oedolion a phlant. Ac mae’n amlwg bod rhai ardaloedd yng Nghymru wedi gwneud cynnydd rhagorol. Felly, unwaith eto, rwy’n gofyn i chi: er nad ydym yn disgwyl y bydd yr adroddiad hwn yn cyflawni popeth, beth fyddwch chi’n ei wneud i ysgogi ac i nodi’r mentrau hynny sydd wedi cyflawni rhai newidiadau rhagorol, newidiadau trawsnewidiol, i ofal iechyd meddwl ar gyfer plant ac oedolion? Beth fyddwch chi’n ei wneud i nodi’r rheini a cheisio sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso’n gyson ac yn gyflym drwy weddill Cymru? Oherwydd mae hwn yn un maes lle nad ydym ni fel cenedl yn gwneud yn dda iawn.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn yr ystyr gyffredinol, ynglŷn ag adolygiad dros dro a’r gallu i feddwl a ydym yn cyflawni newid ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn mynd, yn fras, i’r cyfeiriad cywir, dyna pam fod yna gydweithrediaeth y GIG, sy’n dod â phrif weithredwyr at ei gilydd i drafod ac adolygu tystiolaeth ar gyfer newidiadau a gaiff eu hargymell. Dyna pam fod gennym gynlluniau tymor canolig integredig i geisio sefydlu’r cyfeiriad teithio ar gyfer pob bwrdd iechyd—i gael cynllun, wrth symud ymlaen, ar gyfer y newidiadau sy’n cael eu hystyried a’u cyflwyno. Dyna pam fod gan fyrddau iechyd eu hunain [Anghlywadwy.] brosesau sy’n cynhyrchu buddsoddiad cyfalaf hefyd. Mae’n rhaid cael achos busnes, yna ceir bwrdd buddsoddi sy’n edrych ar geisiadau cyfalaf Cymru gyfan, felly, lle y caiff cyfalaf ei ddefnyddio i geisio ailgynllunio gwasanaeth.
Ceir gwahanol haenau o drosolwg mewn perthynas â rhai o’r cynlluniau a’r heriau sy’n gysylltiedig â diwygio gwasanaethau. Yn y maes penodol rydych yn sôn amdano mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, ni fyddwn mor besimistaidd ynglŷn â’r angen am ailwampiad llwyr. Ceir heriau mewn gwahanol rannau o’r wlad, o wahanol faint, ond mae hynny’n rhan o’r rheswm—wrth gydnabod, os mynnwch, fod y pwysau wedi cynyddu’n sylweddol yn y tymor byr—pam y gwnaethom y penderfyniadau i ddechrau ymarfer Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc gyda’r GIG, gan weithio gyda’r trydydd sector, gweithio gyda phartneriaid statudol, ac yn wir, gyda phobl ifanc eu hunain yn cael rhan ynddo, ac mae wedyn yn ymwneud â darparu model gwasanaeth y maent yn ei argymell. Dyna pam rydym wedi buddsoddi’r symiau ychwanegol o arian hefyd. Rydym yn gweld amseroedd aros yn gostwng yn y maes gwasanaeth penodol hwn, ac rydym yn gweld mynediad cyflymach at therapïau, wedi’i gefnogi, wrth gwrs, gan safonau llymach ar amseroedd aros yn y maes hwn. Ond nid yw hon yn sefyllfa lle y dylai unrhyw un ohonom ddweud yn awr fod gennym yr ateb perffaith.
Mae’r cynnydd rydym wedi’i wneud yn gynnydd go iawn. Y gwir amdani yw ei bod hefyd yn wir fod yna ormod o blant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn aros yn rhy hir o hyd, ac mae’n broses barhaus o adolygu ein sefyllfa a’r hyn sydd angen i ni ei wneud nesaf, ac mae hynny eisoes yn sicrhau newid trawsffurfiol yn ein gwasanaeth. Ond nid yw’n ymwneud yn unig â’r pen arbenigol; mae’n ymwneud â’r gwasanaethau ehangach sy’n gofalu am deuluoedd, ac rydych yn iawn i ddweud ei fod yn ymwneud â chysondeb y gallu i wneud hynny. Dyna pam fod myfyrio, cael mecanwaith cenedlaethol yn ogystal â mecanwaith lleol i wneud hynny, yn wirioneddol bwysig, a dyna pam hefyd ein bod o ddifrif ynglŷn â’r trydydd sector a lleisiau plant a phobl ifanc eu hunain wrth ddylunio a darparu ein gwasanaethau.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr. Ddydd Llun, rhyddhaodd yr archwilydd cyffredinol adroddiad beirniadol am ymddygiad Caerdydd a’r Fro mewn perthynas â chaffael a recriwtio. Nawr, rwy’n deall hynny. Mewn ymateb, mae prif weithredwr GIG Cymru wedi ysgrifennu at Fyrddau Iechyd Lleol i ofyn am sicrwydd ynglŷn â’u prosesau. Beth yw eich barn chi? A ydych yn credu mai un digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn?
Rwy’n credu ei fod yn debygol o fod yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun, ond rhan o’r pwynt am y prif weithredwr yn ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yw sicrhau mai digwyddiad ar ei ben ei hun ydoedd. Os oes materion eraill yn codi, rydym eisiau eu canfod a rhoi sylw iddynt, gan fod ymchwiliad Swyddfa Archwilio Cymru wedi datgelu darlun nad yw’n dderbyniol o gwbl ac nad yw’n unol â’r prosesau a’r argymhellion sefydledig, ac unwaith eto, mae llythyr y prif weithredwr at bob prif weithredwr GIG Cymru yn dangos yn glir iawn ein bod yn disgwyl i bawb gadw at y safonau hynny’n llwyr.
Amlygodd yr adroddiad ei hun yr hyn rwy’n credu y gallwn gyfiawnhau ei alw’n ‘nepotiaeth’ mewn perthynas â chaffael a recriwtio. Nododd yr archwilydd cyffredinol hefyd ei bod yn anodd iawn cael darlun clir o’r ffeithiau mewn perthynas â’r materion sy’n rhan o’r archwiliad. Mae swyddogion Bwrdd Iechyd y Brifysgol a chyn-swyddogion wedi darparu adroddiadau sy’n anghyson ac yn groes i’w gilydd. Roedd tuedd iddynt feio’i gilydd am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad. Gallwn fynd ymlaen.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennym rai rheolwyr a swyddogion rhagorol—nifer o reolwyr a swyddogion rhagorol—yn y GIG yng Nghymru, ond rwy’n siŵr y byddech yn cytuno, yn yr achos hwn, fod ymddygiad wedi bod yn annerbyniol. Mae gennym y Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer meddygon, mae gennym y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer nyrsys a bydwragedd, felly ble mae’r corff ar gyfer rheoleiddio rheolwyr y GIG? Wrth gwrs, gall rheolwyr wneud yr un faint o niwed i gleifion drwy wneud penderfyniadau gwael. A yw hyn yn rhywbeth y byddech yn ei ystyried?
Rwyf bob amser yn agored i ystyried a yw ein fframwaith atebolrwydd yn gweithio fel y dylai, ond dylai hyn weithio drwy her briodol y bwrdd ei hun—yr aelodau annibynnol, yr aelodau anweithredol. A dyna ran o’r her yma wrth ddeall pa wybodaeth a ddarparwyd, sut na chafodd gwybodaeth ei darparu i’r bwrdd, ac rwy’n credu mai’r gwir yn onest yw bod y bobl sy’n gyfrifol am y penderfyniadau yn yr adroddiad penodol hwn, fel y cafodd ei ddatgelu yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n gam anarferol—. Mae’n anarferol i adroddiad ddarparu hynny i gyd, ac nid wyf yn credu bod yr archwilydd cyffredinol wedi darparu adroddiad fel hwn am GIG Cymru o’r blaen. Mae rywfaint yn fwy cyffredin yn Lloegr, lle mae caffael yn anifail gwahanol. Yr her yma yw gwneud yn siŵr ein bod yn glir ynglŷn â’n disgwyliadau, yn glir ynglŷn â’r atebolrwydd sy’n gorfod dilyn pan fo pobl yn cael hyn yn anghywir, a bod hwnnw’n atebolrwydd priodol. Rwy’n credu, mewn gwirionedd, fod y bwrdd iechyd yn awr—ac roedd yn galonogol clywed ymateb y prif weithredwr newydd, sydd, unwaith eto, wedi dweud yn glir nad oedd yr hyn a ddigwyddodd yn dderbyniol ac na fydd yn cael ei amddiffyn, ac mae’n bwysig fod hyder ymhlith y staff a’r cyhoedd ynglŷn â’r prosesau sydd ar waith heddiw, a’r disgwyliad mewn perthynas ag ymddygiad heddiw hefyd.
Fe sonioch am eu hatebolrwydd o fewn y GIG a sut y mae’r GIG ei hun yn ceisio gwella’i hun drwy ei ddull llywodraethu ei hun. Yn ddiweddar, fe gyhoeddwyd Papur Gwyn gennych ar ddiwygio dull llywodraethu’r GIG, a thynnwyd fy sylw at bryderon go iawn, mewn gwirionedd, ynglŷn â rhai o’r awgrymiadau a wnaed, yn sicr o ran cael gwared ar gynghorau iechyd cymuned a gwneud trefniadau newydd yn eu lle ac yn benodol, y posibilrwydd y bydd gwybodaeth leol yn erydu, a hefyd diffyg sicrwydd y bydd llais cryf a pharhaus i gleifion mewn unrhyw argymhellion newydd. Ond a fyddech yn derbyn mai ffordd well ymlaen, efallai, yn hytrach na diwygio dull llywodraethu’r GIG yn awr, fyddai cael adolygiad annibynnol o reolaeth ar draws GIG Cymru i gychwyn, gan amlygu a cheisio hyrwyddo’r arferion da diamheuol sydd gennym, gan geisio cael gwared ar y drwg ar yr un pryd a defnyddio hynny fel sail ar gyfer deddfwriaeth newydd?
Wel, mae’r Papur Gwyn yn ymgynghoriad dilys. Felly, mae’n wir mai ei unig bwrpas yw er mwyn i bobl fynegi eu barn, ac os nad ydynt yn cefnogi’r argymhellion, i feddwl am ddewisiadau eraill i wella ansawdd a dull llywodraethu a chyfeiriad y gwasanaeth iechyd gwladol. Felly, nid y Llywodraeth yn dweud, ‘Rydym yn gofyn i chi, ond rydym eisoes wedi penderfynu’ yw hyn. Mae’n ymgynghoriad dilys.
Ar y pwynt ynglŷn ag a oes achos bellach dros gael adolygiad annibynnol o reolwyr a rheolaeth o fewn y gwasanaeth iechyd, byddai’n rhaid i mi gael fy mherswadio mai dyna’r peth iawn i’w wneud, ond os ydych yn credu bod achos cryf dros wneud hynny, byddwn yn hapus i ystyried sylwadau gennych ar sut y gall hynny ychwanegu gwerth y tu hwnt i’r hyn sydd gennym eisoes ar waith, ac yn ychwanegol at y disgwyliadau proffesiynol y gallem ac y dylem eu cael yn briodol mewn perthynas ag uwch-reolwyr y GIG a gweithrediad y byrddau o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ail arolwg profiad cleifion canser Cymru unwaith eto wedi tynnu sylw at y ffaith fod llawer o gleifion canser heb weithiwr allweddol o hyd. Er ein bod wedi gwneud cynnydd, nid oes gan 14 y cant o gleifion weithiwr allweddol o hyd, a dywedodd mwy na chwarter y cleifion ei bod yn aml yn anodd cysylltu â’r gweithiwr allweddol. Mae’r arolwg hefyd wedi tynnu sylw at y manteision a brofodd rhai cleifion o gael nyrs glinigol arbenigol, gyda’r rhan fwyaf o’r 81 y cant o gleifion a oedd ag un yn datgan bod eu triniaeth wedi gwella’n fawr o ganlyniad i hyn. O ganlyniad, mae Macmillan Cymru wedi galw am fynediad at nyrs glinigol arbenigol i bob person sydd â chanser yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cefnogi’r farn hon ac a ydych yn cytuno y dylai’r nyrs glinigol arbenigol weithredu fel gweithiwr allweddol ar gyfer cleifion canser yng Nghymru?
Rydym yn sicr eisiau i bob claf gael nyrs glinigol arbenigol lle bo’n briodol ar gyfer darparu gofal. Mae’r her ynglŷn ag ai’r nyrs glinigol arbenigol yw’r gweithiwr allweddol, rwy’n credu, yn wahanol, oherwydd, i rai pobl, nid oes raid mai’r nyrs glinigol arbenigol sy’n gweithredu fel gweithiwr allweddol, er mai’r nyrs glinigol arbenigol, yn ymarferol, yn y mwyafrif helaeth o achosion, sy’n cyflawni’r rôl honno. Mae gwelliant sylweddol wedi bod o ran sicrhau bod pobl yn gwybod pwy yw eu gweithiwr allweddol. Yn yr arolwg cleifion canser blaenorol, yn 2013, 66 y cant o bobl oedd yn gwybod pwy oedd eu gweithiwr allweddol dynodedig. Yn yr arolwg hwn, mae’r ffigur wedi codi i 86 y cant. Unwaith eto, mae hwn yn ymrwymiad sylweddol. Mae dros 6,700 o staff wedi rhoi eu hamser i roi eu barn ar ystod eang o’u profiad eu hunain o ofal canser, ac o ganlyniad i’r arolwg eang hwn, rydym yn gallu deall cyflwr ein gwasanaethau presennol, y meysydd lle rydym wedi gwella, ac yr un modd, y meysydd lle mae angen i ni wella ymhellach yn y dyfodol.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Gan aros gydag arolwg profiad cleifion canser Cymru, dywedodd bron i chwarter y cleifion nad oedd y meddyg teulu wedi bod o ddifrif ynglŷn â’u symptomau cyn eu diagnosis. Yn wir, dywedodd 6 y cant o gleifion eu bod wedi gorfod gweld eu meddyg teulu o leiaf bum gwaith cyn cael eu hatgyfeirio i’r ysbyty. Fel y nodwyd yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser, mae canfod canser yn gynharach yn ei gwneud yn fwy tebygol y gall triniaeth fod yn iachaol, yn llai dwys ac yn llai costus. Felly, mae’n hanfodol, pan fydd rhywun â symptomau a allai gael eu hachosi gan ganser, eu bod yn cael eu cymryd o ddifrif. Yn anffodus, mae’n ymddangos ein bod yn gweithredu mewn model lle rydym yn ystyried cyflyrau drwy ddechrau o ddim yn hytrach na’u diystyru yn eu tro. Rydym yn gweithio tuag at y cyflyrau mwyaf difrifol yn hytrach na gweithio’n ôl ohonynt. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth arall y gellir ei wneud i wella’r broses o ganfod canser yn gynnar mewn gofal sylfaenol?
Nid wyf yn credu fod y modd rydych wedi disgrifio’r ffordd y mae meddygon teulu yn gwneud eu gwaith yn arbennig o deg. Rwy’n credu bod achos difrifol, fodd bynnag, dros wella nifer ac ansawdd atgyfeiriadau. Mae hon yn her fawr iawn i’r gwasanaeth iechyd, oherwydd mae’r mwyafrif llethol o bobl a gaiff eu hatgyfeirio gydag amheuaeth o ganser yn cael gwybod nad oes canser arnynt mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ymrwymiad sylweddol eisoes lle rydym yn chwilio am y lleiafrif o bobl sy’n cael eu hatgyfeirio ac sydd wedyn yn cael gwybod bod ganddynt fath o ganser sydd angen cael ei drin.
Mae hefyd yn wir fod atgyfeiriadau canser wedi codi’n sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf. Maent wedi cynyddu 12 y cant yn y flwyddyn hon yn unig, ac mae’n ymwneud â sut rydym yn parhau i wella’r gyfradd atgyfeirio, ond hefyd beth yw’r gyfradd drosglwyddo, oherwydd yn y byrddau iechyd, ceir cyfraddau atgyfeirio gwahanol, a gwahanol gyfraddau trosglwyddo hefyd. Felly, i’r rhai nad ydynt yn gwybod, y gyfradd drosglwyddo yw nifer y bobl sy’n cael eu hatgyfeirio ac sy’n mynd ymlaen i gael gwybod bod ganddynt ganser penodol. Gallai hynny ymwneud â’r cymunedau eu hunain. Gallai ymwneud hefyd â’r niferoedd o bobl a sut a pham y maent yn cael eu hatgyfeirio. Mae’n bwysig iawn, unwaith eto, fod gennym ddull myfyriol priodol o weithredu lle y gall meddygon teulu siarad â’i gilydd, a rhai eraill yn y gwasanaeth, er mwyn deall beth sy’n digwydd a’r canlyniadau y maent yn eu darparu ar gyfer eu cleifion. Rwy’n credu bod yn rhaid cael dull myfyriol a chefnogol priodol yn hytrach na dweud y bydd yna fai ar feddygon teulu, sy’n cael gwybod eu bod yn gwneud eu gwaith yn y ffordd anghywir. Rwy’n credu bod hynny’n annhebygol o weld y math o ddull myfyriol a chadarnhaol y mae pobl eisiau ei fabwysiadu. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl yn dewis mynd i’r byd meddygol er mwyn gofalu am bobl ac er mwyn helpu i wella bywydau, ac mae angen i ni eu helpu i wneud eu gwaith yn ogystal â myfyrio’n briodol ynglŷn â ble mae angen gwella.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn olaf, llai na hanner yn unig o gleifion canser sy’n cael cyfle i drafod eu hanghenion, a 18 y cant yn unig o gleifion a gafodd gynnig cynllun gofal ysgrifenedig. Nid ar anghenion gofal iechyd yn unig y mae cynlluniau gofal yn canolbwyntio, maent hefyd yn ymdrin â chefnogaeth emosiynol, ariannol ac ymarferol. Ni chafodd dros hanner y cleifion yng Nghymru wybodaeth am gymorth ariannol a budd-daliadau na chael cyfle i drafod yr effaith y byddai eu canser yn ei chael ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Mae angen inni wella’r ffordd rydym yn ymdrin ag effaith canser ar y claf, nid yn unig ar eu hiechyd corfforol, ond ar yr agweddau ehangach. Felly, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau y cynigir cynllun gofal ysgrifenedig i bob claf sy’n cynnwys asesiad o’u hanghenion holistaidd?
Rydym wedi nodi’n glir ein disgwyliadau ar gyfer gwella’r cynllun cyflawni ar gyfer canser. Nid yw’r ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn gwasanaethau gofal trydyddol, eilaidd a sylfaenol yn dadlau ynglŷn â’r angen i wella, nac ynglŷn â gwerth gwirioneddol cael cynlluniau gofal ysgrifenedig. Y rheswm am hynny yn wir yw oherwydd bod pobl yn gweld y person cyfan, ac nid effaith uniongyrchol penodol canser yn nhermau triniaeth, ond yr hyn y mae hynny’n ei olygu i’r unigolyn dan sylw—eu gallu i weithio, eu gallu i fyw eu bywydau, i wneud penderfyniadau gwahanol ac mewn gwirionedd, eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Felly mae’n bwysig iawn cael y drafodaeth ehangach honno a deall y bydd yn digwydd ar wahanol adegau i wahanol bobl. Mae’n bosibl y bydd rhai pobl, ar ôl cael diagnosis, eisiau gwybod popeth. Mae’n bosibl fod pobl eraill eisiau gadael yr ystafell cyn gynted ag y bo modd. Mae’n ddealladwy pam fod hynny’n digwydd, a dyna pam na all gwasanaeth fabwysiadu dull un maint sy’n addas i bawb; mae’n ymwneud â bod yn fwy hyblyg ac mae’n rhaid iddo gael ei addasu o gwmpas y person hwnnw. Mae hefyd yn ailadrodd yr angen i sicrhau nid yn unig fod gofal sylfaenol a gofal ysbyty mewn perthynas briodol ac adeiladol â’i gilydd, ond hefyd, gwerth gwirioneddol pobl yn y trydydd sector sy’n gallu cynorthwyo pobl mewn ffordd wahanol, mewn lleoliad anfeddygol.
Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig peidio â cholli golwg ar y ffaith fod mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer canser, mae mwy o bobl yn cael eu trin ar gyfer canser, mae mwy o bobl yn cael eu trin ar gyfer canser mewn pryd, ac mae mwy o bobl yn cael canlyniadau gwell. Mae mwy o bobl yn goroesi yn awr nag erioed o’r blaen ac mewn gwirionedd, o ran y profiad o ofal, mae 93 y cant o bobl yn cael profiad da o ofal canser yma yng Nghymru. Felly, mae angen mwy o welliant, rwy’n derbyn hynny’n llwyr, ond gadewch i ni beidio â cheisio dweud fod popeth yn ddrwg yma. Mae gennym lawer o bethau i fod yn falch iawn ohonynt.