– Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar dreth trafodiadau tir ar dir masnachol. Galwaf ar Mark Reckless i wneud y cynnig—Mark Reckless.
Cynnig NDM6719 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer treth trafodiadau tir ar drafodiadau tir masnachol dros £1 miliwn yn sylweddol uwch na'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer trafodiadau o'r fath yn Lloegr (pump y cant) a'r Alban (4.5 y cant).
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r broses oddeutu £12 miliwn i brynu safle gorsaf bysiau Caerdydd ar 29 Mawrth 2018, gan felly osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun gan dri diwrnod a sicrhau bod y trafodiad wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil sylwadau gan y sector, i ailystyried y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer y dreth trafodiadau tir newydd ar drafodion tir masnachol dros £1 miliwn a fydd yn cael effaith andwyol ar ddatblygu economaidd yng Nghymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Paul Davies AC. Fe gyfeiriaf at y gwelliannau yn gyntaf.
Rydym yn hapus i gefnogi gwelliant 2 Plaid Cymru, sy'n adlewyrchu datganoli pwerau a gytunwyd rhwng y Cynulliad a'r Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn San Steffan. Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant 3 Plaid Cymru. Gyda'n pwerau treth newydd, mae angen inni graffu'n dda ar sut y'u defnyddir ac unrhyw effaith ar yr economi. Mae adolygiad o drethiant eiddo yn briodol, o ystyried nifer y trethi sydd gennym bellach sy'n effeithio ar eiddo. Dylid cyflymu hyn yn awr gan ein bod am roi ystyriaeth frys i uwch dreth 6 y cant y Blaid Lafur ar drafodiadau masnachol sylweddol. Byddwn yn gallu cymharu effaith eu huwch dreth 6 y cant—un rhan o bump yn uwch na'r 5 y cant o dan dreth dir y dreth stamp—a'r gyfradd 4.5 y cant is yn yr Alban. Yn ôl arweinwyr diwydiant, mae hyn wedi gwneud eiddo masnachol yr Alban yn fwy cystadleuol, sy'n amlwg o'r galw cynyddol a brofodd y farchnad. Mae datganoli yn caniatáu inni asesu tystiolaeth o bob rhan o'r DU ac i ailystyried polisi anghywir. Rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwnnw.
Gan droi at welliant y Llywodraeth y byddwn yn ei wrthwynebu oherwydd ei gymal 'dileu popeth' diystyriol, fe gyfeiriaf at ei ddwy ran. Mae Llywodraeth Cymru yn gywir i ddweud nad oes unrhyw Aelod Cynulliad wedi pleidleisio yn erbyn gosod y bandiau treth hyn, ond fel y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn ac yn cofio o'n dadleuon ar y Pwyllgor Cyllid, ac ymdrechion gennyf fi a Nick Ramsay i roi'r cyfraddau hynny ar wyneb y Bil, y rheswm am hynny yw bod y bandiau treth, yn groes i'n deisyfiadau, wedi'u cyflwyno drwy reoliadau, ac nid oes gennym bŵer i'w diwygio. Roedd yn benderfyniad i'w gymryd neu ei adael a'r hyn rydym yn pryderu yn ei gylch yw'r uwch dreth o 6 y cant ar drafodiadau masnachol sylweddol, nid cyfundrefn y dreth trafodiadau tir yn ei chyfanrwydd.
Mae ail hanner gwelliant y Llywodraeth yn ymwneud â phrynu safle gorsaf fysiau Caerdydd ychydig ddyddiau'n unig cyn y newid o dreth dir y dreth stamp i dreth trafodiadau tir. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru bellach yn gliriach ynglŷn â'i sefyllfa, ond mae'n dal yn aneglur ynglŷn â pham na wnaeth unrhyw gyhoeddiad am brynu safle'r orsaf fysiau ddiwedd mis Mawrth tan 18 Ebrill, na pham y rhoddodd Ken Skates ateb mor niwlog i mi yn ysgrifenedig ar 11 Ebrill. Efallai na ddylwn roi amser rhy galed i Ken am ei atebion ysgrifenedig ar ddechrau mis Ebrill—wedi'r cyfan, roedd yn ein cynrychioli yng Ngemau'r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur lle bu ein hathletwyr yn llwyddiannus iawn o dan ei anogaeth. Yr un peth sydd i'w weld yn gyson drwy ymateb y Llywodraeth i'n cwestiynau yw nad yw wedi ennill unrhyw fantais o ran trethiant. A all egluro felly beth oedd y cymhelliad i frysio cytundeb gorsaf fysiau Caerdydd drwodd cyn diwedd mis Mawrth? Ai er mwyn i'r gwariant cyfalaf gyfrif yn erbyn cyllideb 2017-18 yn hytrach na chyllideb y flwyddyn hon y gwnaed hynny?
Wrth gwrs, y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru yn mwynhau mantais dreth wrth ymdrin ag eiddo. Mae'n elwa o esemptiad y Goron. Felly, nid yw'n talu treth dir y dreth stamp na threth trafodiadau tir, yn wahanol i'r sector preifat. Fel buddsoddwr mewn eiddo, ni chaiff ei heffeithio pa un a yw'r gyfradd yn 5 y cant neu'n 6 y cant—[Torri ar draws.] Ai ymyriad oedd hwnnw?
Na, na. Parhewch.
A, rhagorol.
Credaf ein bod yn llwyr ymwybodol o esemptiad y Goron, ond ni allaf ddeall, felly, pam nad ydych yn hapus i dderbyn gwelliant y Llywodraeth, oherwydd yn amlwg, gan fod ganddynt esemptiad y Goron, ni fyddai byth angen iddynt orfod talu'r dreth trafodiadau tir. Mae'n non sequitur llwyr.
Wel, y rheswm rydym yn gwrthwynebu'r gwelliant yw ei fod yn dechrau gyda 'dileu popeth' gan gyfeirio at ein cynnig. Hefyd, mae gennym rai pryderon ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei thrin o gymharu ag awdurdodau lleol a chyrff eraill o bosibl, a'r gwahaniaethau posibl rhwng treth trafodiadau tir a threth dir y dreth stamp a'r effeithiau canoli y credwn y gallai hynny eu cael ar bartneriaethau.
Beirniadais Lywodraeth Cymru o'r blaen am ei diffyg dull cydgysylltiedig o weithredu mewn perthynas â datblygu swyddfeydd a thwf cyflogaeth, yn enwedig yn etholaeth yr Aelod sydd newydd siarad, Canol Caerdydd. Mae un Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates, yn hyrwyddo ardal fenter, ac eto mae un arall, Mark Drakeford, yn ei gwneud yn ddarostyngedig i drethi cosbol. Mae arweinwyr diwydiant yn dweud eu bod eisoes yn gweld prisiadau asedau'n gostwng a buddsoddwyr na fyddant mwyach yn ystyried Cymru o ganlyniad uniongyrchol i'r penderfyniad polisi hwn. Sut y mae cysoni'r hyn y mae Ken Skates yn ei ddisgrifio fel ei ddull o weithredu sy'n gyfeillgar i fusnes ag uwch dreth newydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid? Mae'r diwydiant eiddo'n dweud wrthym y bydd diddordeb buddsoddwyr preifat yn edwino'n sylweddol gyda'r codiad yn y dreth trafodiadau tir a bydd yn arwain at wneud eiddo Cymru yn llai cystadleuol na gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Bydd buddsoddwyr yn bryderus y gallai hyn ddigwydd eto wedi i'r dreth godi unwaith. Efallai na fydd symud y Gweinidog a gefnogir gan Corbyn, y Gweinidog a gododd y dreth, i'r brif swydd yn lleddfu ofnau o'r fath. Adroddodd y BBC ar 28 Mawrth sut y gallai Llywodraeth Cymru ochrgamu o gwmpas buddsoddwyr preifat sy'n amharod i dalu ei baich treth cynyddol. Yn ôl y BBC, ar gyfer y Sgwâr Canolog, bydd Llywodraeth Cymru yn prynu'r swyddfeydd ar y safle, felly mae trethiant cosbol yn arwain at wladoli. Bydd Jeremy Corbyn wrth ei fodd.
Er bod gan Lywodraeth Cymru esemptiad y Goron rhag treth dir y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir, y cyngor a gefais gan dîm cyfreithiol y Cynulliad drwy'r Gwasanaeth Ymchwil yw y gallai awdurdodau lleol gael eu trin yn llai hael gan y dreth trafodiadau tir. Os byddant yn prynu eiddo ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gallai treth trafodiadau tir fod yn daladwy, ond gallai rhai pryniannau y gallai Cyllid a Thollau EM fod wedi'u heithrio rhag treth dir y dreth stamp fod yn ddarostyngedig i'r dreth trafodiadau tir. Efallai mai'r opsiwn mwy diogel i awdurdodau lleol mewn perthynas ag adfywio bellach fyddai ymostwng i arweiniad Llywodraeth Cymru, a dibynnu ar esemptiad y Goron i Lywodraeth Cymru grynhoi tir ar gyfer yr hyn a ddylai fod yn gynlluniau a ysgogir yn lleol. Rwyf wedi siarad am orsaf fysiau Caerdydd, ond gallai'r goblygiadau fod yn ehangach fel y bydd Suzy Davies yn ei drafod ar gyfer rhanbarth Abertawe.
Yn olaf, rwy'n pryderu'n fawr y gallai Ysgrifennydd y Cabinet fod wedi gwneud camgymeriad difrifol ym mis Ionawr yn ei adroddiad ar bolisi treth Cymru ym mharagraffau 60 a 61. Mae'n cyfaddef y bydd treth trafodiadau tir uwch yn gostwng prisiau a nifer y trafodiadau amhreswyl, ond mae'n dweud wedyn,
Amcangyfrifir maint yr effeithiau hyn gan ddefnyddio effeithiau ymddygiadol y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, gan ddefnyddio hyblygrwydd treth dir y dreth stamp. Mae seilio ei ragolwg ar gyfrifiadau ledled y DU i gyd yn anwybyddu'n llwyr yr effaith newidiol debygol oddi wrth economi gymharol fach Cymru. Er ei bod yn anodd i fuddsoddwyr y DU ddianc rhag treth dir y dreth stamp sy'n uwch, gallant osgoi treth trafodiadau tir yn llawer haws drwy fuddsoddi ym Mryste neu Birmingham neu Reading, yn hytrach nag yng Nghaerdydd neu yn Abertawe. Rwy'n ofni bod penderfyniadau a chyllideb Ysgrifennydd y Cabinet wedi methu ystyried hynny.
Heddiw, rydym yn trafod y dreth trafodiadau tir a'r gyfradd gosbol o 6 y cant a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer eiddo masnachol gwerth uwch. Ysgrifennydd y Cabinet, ai dyma sut y bydd pethau gyda'r dreth incwm hefyd?
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig yn ffurfiol welliant 1.
Gwelliant 1. Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018.
b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 2 a 3.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 2 a 3 yn enw Plaid Cymru. A jest i fod yn glir, er fy mod i'n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw i'n siarad heddiw ar ran Plaid Cymru ac yn absenoldeb, wrth gwrs, aelod arall Plaid Cymru o'r pwyllgor, sef Steffan Lewis.
Mae'n dda gen i siarad ar y mater yma. Rydw i'n falch ein bod ni'n cael trafodaeth ar y dreth ddatganoledig gyntaf. Dyma'r drafodaeth gyntaf, y dreth gyntaf—rydym ni'n gwneud pethau am y tro cyntaf. Ac rydym ni'n cael Aelod yn siarad dros y Blaid Geidwadol am y tro cyntaf sydd ddim yn aelod o'r Blaid Geidwadol, so mae hynny'n dro cyntaf hefyd, ac nid ydw i'n siŵr pa mor gysurus y gwnaed hynny, o edrych ar wynebau rhai o'i gyd-aelodau o'r grŵp. Ond beth bynnag, mae e wedi agor y drafodaeth.
Nid yw Plaid Cymru yn cytuno—. Wel, a gawn ni ei ddweud e fel hyn? Nid ydym ni o'r un farn â Mark Reckless wrth gyflwyno'r cynnig yma. Mae'n bwysig, rydw i'n meddwl, ein bod ni'n gweld a yw'r gwahaniaeth mewn trethi rhwng Cymru a Lloegr—sydd wedi'i amlinellu, ac wedi'i gymeradwyo, fel mae gwelliant y Blaid Lafur ei hun yn ei ddweud, gyda chefnogaeth pawb yn y Senedd hon—yn mynd i weithio. Achos er bod yna gyfradd uwch ar gyfer eiddo dros £1 miliwn, mae yna gyfradd is, neu heb gyfradd o gwbl, ar gyfer rhai enghreifftiau o eiddo masnachol yng Nghymru, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni, o leiaf, gadael blwyddyn i weld a ydy'r polisi yma yn mynd i weithio, a ydy e'n mynd i annog datblygiad yn yr economi sylfaenol—rhywbeth mae Plaid Cymru wedi bod yn gofyn amdano fe—ac a ydy e'n wir yn mynd i arwain at ddatblygiad diddorol, yn enwedig yng nghanolfannau ein trefi ni.
Rydw i'n gweld bod aelod arall o'r Pwyllgor Cyllid eisiau ymateb.
Diolch, Simon. Oni fyddech yn cytuno, os mai'r cyfan a wnawn yw copïo popeth a wneir yn Lloegr o ran cyfraddau, waeth i ni beidio â chael trethi wedi'u datganoli?
Wel, ie, mae hynny'n bwynt hollol deg, a dyna pam rŷm ni wedi gofyn am ddatganoli rhai o'r trethi yma, a dyna pam mae gwelliant Plaid Cymru yn sôn yn benodol am gyfraddau treth yn mynd law yn llaw gydag effeithiau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, achos mae mwy i bolisi trethu na beth yw'r gyfradd ar gyfer eiddo penodol. Yr effaith rŷch chi'n moyn i'r trethi yma ei gyrru sydd yn bwysig, ac mae ein gwelliant ni, wrth gwrs, yn crisialu nodau Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn y ffordd rydym ni wedi'i osod e allan.
So, er nad ydym yn cefnogi'r hyn sydd gan y Torïaid i ddweud heddiw, a'n bod ni am, wrth gwrs, i bobl gefnogi ein gwelliannau ni, rydym ni hefyd yn cydnabod ei fod yn briodol iawn i drafod, hyd yn oed yn fuan iawn, beth yw pwrpas polisi trethu a sut mae'n mynd i gael effaith economaidd a masnachol. Yn hynny o beth, mae Plaid Cymru wedi rhoi gwelliant i lawr sy'n sôn yn benodol am waith ehangach polisi trethu ac eiddo yng Nghymru. Rŷm ni wedi cyflwyno treth trafodiadau tir newydd, ond y trethi busnes, wrth gwrs, yw'r prif drethi y mae pobl yn eu talu. O flwyddyn i flwyddyn, dyna'r brif dreth sy'n cael effaith ar ddiwydiant a masnach yng Nghymru, a dyna'r un lle mae polisi treth y Llywodraeth wedi datgan eu bod nhw eisiau edrych i mewn i hyn, i weld a oes yna bosibiliadau o wella trethi busnes yng Nghymru. Mae ein gwelliant ni yn gofyn i gyflymu'r broses yma, achos rydw i yn meddwl, ac mae Plaid Cymru o'r farn, fod yna enghreifftiau yn fan hyn o lle y gallwn ni wella er lles yr economi leol.
Fe wnaf i jest ddewis un maes fel enghraifft o hyn—ac rydw i'n datgan diddordeb yn fan hyn, achos rydw i'n gadeirydd ar y grŵp trawsbleidiol ar dafarndai a chwrw. Ond mae tafarndai, os edrychwch chi ar effaith trethi busnes ar dafarndai—sut mae hynny wedi digwydd, y diwygio'r llynedd a wnaeth arwain at nifer o dafarndai a gwestai yn gweld cynnydd uchel iawn—ar hyn o bryd, mae tafarndai yng Nghymru yn talu bron 3 y cant o'r holl drethi busnes yng Nghymru, ond maen nhw ond yn 0.5 y cant o'r nifer o fusnesau yng Nghymru. Mae yna mismatch llwyr rhwng y nifer o fusnesau sy'n dafarndai a faint o dreth busnes maen nhw'n ei hysgwyddo. Maen nhw'n talu rhywbeth fel £0.5 biliwn, oherwydd hynny, yn fwy nag y bydden nhw pe bydden nhw'n cael eu trethu yn yr un modd â busnesau eraill. Mae hi hefyd yn cael ei rhagweld y bydd trethi busnes ar dafarndai yng Nghymru yn cynyddu rhyw 18 y cant erbyn 2021-22.
Nawr, nid gofyn ydw i i hynny gael ei newid yn llwyr, ond i ni ddechrau symud at system o drethi busnes sydd yn cydnabod—fel mae'r gwelliant yn ei wneud—pwysigrwydd cymdeithasol ac economaidd unrhyw bolisi treth, a hefyd y posibiliadau yn fan hyn o sicrhau bod naill ai tafarndai, neu fusnesau yng nghanol trefi, hefyd yn gweld bod eu trethi yn cael eu seilio ar drosiant ac elw yn hytrach na phresenoldeb lle a thir yn unig. Rydw i'n credu bod y materion yma yn werth eu trafod, felly rydw i'n croesawu'r ffaith bod gennym ni drafodaeth o'r fath, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed barn nifer o Aelodau eraill ar hyn, achos un peth sydd yn sicr gyda dyfodiad treth incwm yn cael ei datganoli yw y bydd hwn yn fwy o bwnc llosg fyth yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwy'n canmol y sawl a'i hagorodd am y sylwadau a wnaeth yn gosod y cefndir ynglŷn â'r ffordd y mae Cymru'n wynebu'r amgylchedd newydd, cyfnod newydd o gyfraddau treth, a'r fantais gystadleuol—neu fel arall, fel y bo'n berthnasol—y mae Cymru ynddo gyda'r cyfraddau y mae'r Llywodraeth yn eu gosod. Mae'n hollol iawn a phriodol i'r Llywodraeth osod y cyfraddau. Rydym yn byw mewn democratiaeth, ac yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ganddynt, a'r galwadau am eu gwasanaethau cyhoeddus a diogelu refeniw cyhoeddus, dyna'n amlwg yw rôl y Gweinidog Cyllid, fel yr amlygodd yn ei lythyr ataf ar 21 Mawrth. Nid ydym yn anghytuno â hynny o gwbl. Y pwynt yr ydym yn ei wneud yn y ddadl heddiw mewn gwirionedd yw bod lefel y trethiant y mae'r Gweinidog wedi dewis ei gosod wedi rhoi Cymru dan anfantais gystadleuol, ac nid y Ceidwadwyr sy'n gwneud y pwynt hwnnw, y diwydiant ei hun sy'n gwneud y pwynt hwnnw gan bron bob syrfëwr masnachol blaenllaw sydd, yn amlwg, wedi bod yn lobïo'r Ysgrifennydd Cyllid ar y mater penodol hwn.
Pan edrychwch ar y manteision economaidd y mae Cymru wedi elwa ohonynt dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'n ystyriaeth bwysig i brosiectau yn yr uwch gynghrair o brosiectau dros £50 miliwn, megis campws y bae Prifysgol Abertawe, datblygiad Waterside Caerdydd, 2 Sgwâr Canolog, unedau eiddo'r Llywodraeth yn y Sgwâr Canolog, Friars Walk yng Nghasnewydd, datblygiad Aston Martin, a phentref manwerthu Pen-y-bont ar Ogwr. Buaswn yn awgrymu bod y rhain oll yn brosiectau allweddol sydd wedi helpu i ysgogi a datblygu cyfleoedd economaidd yma yng Nghymru, a'r cyfan â thagiau o £50 miliwn a mwy o fuddsoddiad. Pan ewch i'r sector masnachol i edrych am y lefel honno o fuddsoddiad, nid yw'n afresymol fod y sector yn edrych ar y cynnyrch a gaiff o'r arian y mae'n ei fuddsoddi. Yng Nghymru, rydym yn wynebu amgylchedd cystadleuol iawn i geisio dod â'r datblygwyr hyn draw yr ochr hon i'r dŵr i wneud y penderfyniadau allweddol a'r buddsoddiadau allweddol hynny. Ac yn enwedig nawr, gyda datblygiad democratiaeth leol yn Lloegr, megis y maer ym Mryste, meiri yn Birmingham, Lerpwl a Manceinion, mae yna ffocws penodol yn eu mandadau fel meiri ar ddatblygu amgylchedd cyffrous a deinamig ar gyfer buddsoddi a chyfleoedd i fuddsoddi. Oherwydd, yn amlwg, pan fyddant yn dod gerbron yr etholwyr yn eu cylch pedair blynedd, dyna un o'r meysydd y cânt eu marcio yn eu herbyn i weld a ydynt wedi rhoi mantais gystadleuol i'w cyfryw ardaloedd. Yr hyn a welwn yma yng Nghymru yw'r sector yn amlwg yn dangos nad ydynt yn credu y bydd y gyfradd dreth a bennwyd gan y Gweinidog, drwy bwerau codi treth Llywodraeth Cymru, yn rhoi Cymru—. Ac nid gwleidyddion sy'n dweud hynny, y sector eu hunain sy'n dweud hynny, ac mae'n bwysig gwrando ar yr arbenigwyr yn y maes sydd, yn y pen draw, yn ymdrin â'r cronfeydd buddsoddi mawr a'r cronfeydd pensiwn pan fyddant yn ceisio denu'r lefel honno o fuddsoddiad i Gymru.
Unwaith eto, pan fo'r Ysgrifennydd Cyllid yn canolbwyntio ar y dystiolaeth o adroddiad Prifysgol Bangor, 'Gwaith Craffu Annibynnol ar Ragolygon Refeniw Trethi Datganoledig ar gyfer Cymru' a gomisiynwyd ganddo, yr hyn sy'n destun pryder gwirioneddol yw bod y sector yn dangos yn glir iawn—a darllenais o'r llythyr a anfonasant at y Gweinidog—nad oeddent wedi ymgynghori gyda'r sector o gwbl ar lunio'r adroddiad hwn. Nawr, unwaith eto, rwy'n sylweddoli, yn y llythyr yr anfonodd y Gweinidog ataf ym mis Mawrth, ei fod yn dweud mai ymwneud â lefel y rhagolwg o refeniw trethi oedd adroddiad Ysgol Fusnes Bangor—nid y polisi fel y cyfryw. Ond yn sicr, mae angen i chi gysylltu'r polisi â'r rhagolwg, oherwydd os yw'r polisi'n anghywir, gallai beth bynnag rydych yn ei ragweld fynd o chwith yn ogystal, a gallai'r refeniw yr ydych yn ei ddisgwyl leihau'r pwrs cyhoeddus. Fel y gwelsom yn yr Alban, lle maent wedi mynd am gyfradd is o dreth, bu cynnydd sylweddol yn lefel y dreth a ddaeth i'r gwasanaethau cyhoeddus yn yr Alban—credaf ei fod oddeutu £13.5 miliwn—oherwydd eu bod wedi dewis gosod eu cyfradd dreth trafodiadau tir ar 4.5 y cant er mwyn rhoi mantais gystadleuol iddynt eu hunain dros rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Deallaf y pwynt y mae'n ei wneud, ond a yw'n derbyn bod popeth a ddisgrifiwyd yma yn union yr un fath â'r hyn sy'n digwydd gyda Llywodraeth y DU yn cynhyrchu ei pholisi, gyda'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gweithio arno wedyn i lunio rhagamcanion, ac felly, dyna'r ffordd y mae polisi'n ysgogi'r rhagamcanion? Nid yw hynny'n golygu bod Bangor neu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn gyfrifol am y polisi yn ei dro. Felly, mae gwir angen inni ddeall—oherwydd mae'r Alban ar y blaen inni—pa un a yw hyn mewn gwirionedd yn ysgogi newid yng Nghymru. Mae ei sylwadau'n rhy gynnar, a dweud y lleiaf.
Wel, hoffwn ddweud hyn: dengys y dystiolaeth sy'n deillio o'r sefyllfa yn yr Alban fod y gyfradd is o dreth—ac rwy'n credu hyn fel Ceidwadwr beth bynnag: fod economi treth ar gyfradd isel yn cynhyrchu mwy o refeniw yn gyffredinol oherwydd eich bod yn ysgogi unigolion i fynd allan, i weithio'n galed a chreu mwy o gyfoeth. [Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad arall os gallwch gyfeirio at economi treth uchel sy'n gwrth-ddweud y ddadl honno.
Nid oeddwn yn mynd i gael fy nargyfeirio'n llwyr ar hyd y llwybr hwnnw. Roeddwn am nodi'n unig ei fod yn gofyn am economi treth isel. Nid oes gan y gyfradd dreth hon rydym wedi bod yn siarad amdani yng Nghymru, ac a gymeradwywyd gan bawb ohonom, dreth ar gyfer band uwch o eiddo masnachol. Felly, efallai y gwelwn dwf yno.
O'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg—ac rwy'n derbyn bod angen inni weld y dystiolaeth honno'n dod i'r amlwg, ond ni fyddai'n iawn os nad ydym fel gwleidyddion yn ymateb i bryderon a ddygwyd i'n sylw—mae'r gweithwyr proffesiynol yn y maes sy'n ceisio denu'r mewnfuddsoddiad eisoes yn nodi dirywiad yn y sector masnachol. Maent yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anos denu buddsoddiad—[Torri ar draws.] Wel, nid pedair wythnos ydyw, oherwydd roedd y nodiadau a anfonwyd at y cronfeydd buddsoddi eisoes yn gofyn am ostwng buddsoddiadau, Weinidog, fel y gwyddoch yn iawn o'r sylwadau a gawsoch. Roedd y Ddeddf hon yn dod, felly roedd y cronfeydd buddsoddi yn gorfod gostwng eu buddsoddiadau dros 1 y cant. Os ydych wedi buddsoddi mewn prosiect £50 miliwn, dyna ergyd o £0.5 miliwn yn syth. Os ydych yn cystadlu â Bryste, Birmingham, Manceinion neu Lerpwl, sydd ar y ffin â ni, ac mai chi yw rheolwr y gronfa fuddsoddi honno, byddwch yn rhoi'r arian i unrhyw un o'r pedwar cyrchfan arall, oherwydd pan fyddwch yn edrych ar eich cynnyrch, pan fyddwch yn edrych ar eich elw, mae'n gyfradd uwch o elw am yr arian a fuddsoddwch. Felly, galwaf ar y Gweinidog i ystyried y sylwadau a gafodd hyd yn hyn, i ystyried y ddadl y prynhawn yma, a gwneud Cymru yn economi gystadleuol fel yr hoffem iddi fod, economi sy'n creu swyddi o ansawdd ac yn codi cyflogau, rhywbeth y mae Llywodraethau Llafur olynol yn y sefydliad hwn wedi methu ei gyflawni dros yr 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli.
Wel, rwy'n cydymdeimlo â'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei gynnig yma yn y rhan gyntaf o'u cynnig, ond rwyf hefyd yn cydymdeimlo â'r Llywodraeth, heblaw am y cymal 'dileu popeth', a byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru hefyd. Cefnogais ddatganoli pwerau trethu i Gymru am fy mod yn credu mewn cystadleuaeth dreth rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Credaf y bydd hyn yn iach ar gyfer economi'r Deyrnas Unedig gyfan, fel y nododd Mark Reckless yn ei araith ar ddechrau'r ddadl hon.
Mae trethi eiddo, fel y maent wedi datblygu yn y DU dros gannoedd o flynyddoedd, yn drethi drwg iawn yn wir oherwydd mai eu heffaith gyffredinol yw llesteirio gwaith yr economi—gwneud y defnydd o gyfalaf yn fwy a mwy anhyblyg. Rydym wedi gweld hyn yn digwydd i raddau cynyddol ddramatig yn y farchnad dai ddomestig. Rwy'n cofio, pan brynais dŷ gyntaf yn ôl ym 1984, roedd cyfradd y dreth stamp ar y pryd yn 1 y cant, felly nid oedd o bwys. Ni châi neb ei ddatgymell rhag prynu tai ar gyfradd o'r fath, hyd yn oed pan gafodd ei ddyblu i 2 y cant yn fuan ar ôl hynny. Ond gan fod cyfraddau'r dreth stamp yn sylweddol uwch bellach, mae hyn wedi cael effaith anffodus iawn yn fy marn i ar holl farchnad eiddo'r Deyrnas Unedig—llai felly yng Nghymru, wrth gwrs, oherwydd bod prisiau eiddo yma yn llawer is am mai dyma'r rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig.
Roeddwn yn cefnogi, ac rwy'n cefnogi, y Llywodraeth ynglŷn â'r cyfraddau trafodiadau tir yn gyffredinol. Credaf fod yr hyn y mae'r Ysgrifennydd Cyllid wedi'i gynhyrchu yn system well yn gyffredinol na'r hyn sydd gennym ar draws y ffin yn Lloegr, sy'n beth da. Ond os ydym am dyfu economi Cymru, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol, os ydym yn mynd i ariannu gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus, inni wneud Cymru'n fagned ar gyfer busnes. Nid ydym yn gwneud hynny drwy gael trethi uwch ar fusnesau yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Er y gallai'r gwahaniaeth fod yn fach iawn—. Wyddoch chi, nid yw 1 y cant yn ddiwedd y byd o bell ffordd, ac yn sicr, os ydych yn ystyried lleoli yma, mae'n debyg y caiff effaith y dreth ei hadlewyrchu ym mhris is y tir neu'r adeiladau i gychwyn. Ond y broblem gyda'r trethi tir hyn yw eu bod yn rhewi perchnogaeth neu feddiant ar eiddo gan mai'r rhai sy'n symud sy'n ysgwyddo'r dreth. Mae trethi ar symud yn bethau drwg iawn i'r economi yn gyffredinol. Felly, barn UKIP yw y dylai Cymru werthu ei hun o fewn y Deyrnas Unedig fel math o hafan dreth, a gobeithio—. Roeddwn wedi gobeithio pan gâi'r pwerau hyn—a phwerau treth newydd gobeithio—eu datganoli i Gymru, y byddem yn gallu eu defnyddio i ostwng cyfraddau treth yn hytrach na'u codi, oherwydd mae cael cyfradd dreth uchel yng Nghymru yn debygol o fod yn gwbl wrthgynhyrchiol.
Mae ein trethi eiddo yn llanastr llwyr yn y Deyrnas Unedig: treth gyngor, ardrethi busnes, y dreth stamp, y dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru, y cyfyngiadau a gyflwynwyd gan George Osborne ar brynu i osod. Mae'r holl bethau hyn wedi cael effaith ddramatig ar y system dai, gan ei llesteirio ar adeg pan fo arnom angen mwy o dai. Mae'r holl ymarfer esmwytho meintiol wedi diferu i lawr i werthoedd cyfranddaliadau ac eiddo. Un o'r prif resymau pam y bu cyfnod mor ffyniannus mewn prisiau tai a thir yn ne-ddwyrain Lloegr yw'r rhaglen esmwytho meintiol helaeth a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth Geidwadol. Mae hynny wedi gwneud yr economi leol yn ne-ddwyrain Lloegr yn llawer mwy anodd—nid ein bod yn poeni gormod am honno yma, ond ceir rhyw fath o effaith o'r brig i lawr o'r fan honno, allan i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.
Felly, rwyf am seilio fy araith heddiw ar egwyddor yn hytrach na dirgelion gorsaf fysiau Caerdydd ac elfennau eraill o gynnig y Ceidwadwyr, a hynny er mwyn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r rhyddid sydd ganddi o ganlyniad i ddatganoli i ddangos esiampl i weddill y Deyrnas Unedig—yn wir, i achub y blaen ar weddill y Deyrnas Unedig, er mwyn gwneud Cymru yn lle mwy deniadol i fusnesau leoli ynddo ac i weithredu, ac i ddenu trethdalwyr cyfradd uchel o Loegr i Gymru hefyd er mwyn helpu i gynyddu ein sylfaen dreth, a derbyniadau treth yn sgil hynny, fel y gallodd diwygiadau treth Lawson yn y 1980au sicrhau gostyngiad yn y cyfraddau treth yn ogystal â chynnydd dramatig yn y refeniw treth.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn am siarad yn y ddadl hon yn bennaf oherwydd fy mhryderon ynglŷn â bargen ddinesig bae Abertawe, ond credaf y buaswn yn hoffi dechrau gyda sylw, os caf. Rydym wedi arfer bellach â Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddfwriaeth fframwaith i guddio'r ffaith nad oes ganddi beth o'r dystiolaeth i gefnogi amcan polisi penodol. Mae yna benderfyniadau penodol ar brosesau sydd angen eu dilyn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth, neu ffigurau penodol a gaiff eu cyfeirio at y rheoliadau, er enghraifft. Er nad ydynt yn ddarnau o ddeddfwriaeth fframwaith, credaf fod y Ddeddf hon, a'r Bil isafbris am alcohol mewn gwirionedd, yn dioddef o'r un broblem, sef bod yr ysgogiad deddfwriaethol gwreiddiol yn deillio o astudiaeth academaidd sy'n allosod canlyniadau o sylfaen astudiaeth ar gyfer y DU gyfan, ac yna caiff ei basio fel polisi cyffredinol gan y partïon sydd â diddordeb, ond o ran y manylion, nid yw barn y rhai sydd â phrofiad go iawn o'r hyn a allai ac na allai weithio i'w weld yn cyfrif fawr ddim.
I roi sylw i bwynt Simon Thomas, credaf ei bod yn enghraifft dda: addasu cyfraddau er budd prynwyr ar ben rhatach y farchnad breswyl, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cefnogi hynny—nid wyf wedi gweld bod y Llywodraeth wedi ystyried o ddifrif, drwy greu anfantais ar ben uwch, pen creu swyddi y cyfraddau masnachol, y bydd gostyngiad yn nifer y cyfleoedd gwaith newydd i brynwyr tai sydd angen y gwaith i gynnal y morgeisi ar eu cartrefi newydd.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, credaf efallai ein bod wedi cael ein gorlwytho braidd drwy gael ein dylanwadu gan eich sicrwydd ar yr adeg y cefnogwyd y Ddeddf hon gennym, ac rwy'n credu y buaswn yn hoffi ichi edrych eto ar y pwyntiau—cyfeiriodd Andrew Davies at lawer ohonynt—y cyfeirir atynt yng nghyflwyniad yr asiantau eiddo ar 16 Chwefror. Tybiaf y byddai pobl sinigaidd yn dweud eu bod yn poeni am eu trosiant eu hunain i ryw raddau, ond credaf y dylech boeni pam eu bod yn poeni am hynny. Oherwydd, os nad yw'r Llywodraeth, fel y dywedant, wedi ymgynghori â hwy, na chael unrhyw ddealltwriaeth ganddynt, nac unrhyw ddealltwriaeth o'r diwydiant eiddo masnachol, rwy'n meddwl mai dyna pam y mae nodau polisi'r Ddeddf hon yn mynd i wynebu trafferthion yn go fuan.
Mae effeithiau uniongyrchol y gyfradd o 6 y cant yn fesuradwy, ac nid yn rhagweladwy yn yr ystyr academaidd yn unig. Gellir edrych arnynt fel mathemateg amser real, ac eisoes mae'r cwmnïau y cyfeiriodd Andrew atynt yn gweld gostyngiadau a gofnodwyd mewn gwerthoedd cyfalaf ar eiddo masnachol yng Nghymru. Fel y clywsom, mae teimladau buddsoddwyr yn cael eu heffeithio er mantais y canolfannau rhanbarthol mawr yn Lloegr a'r Alban, ond ar yr union adeg, y pwynt hwnnw yn 2015, 2017, pan oedd Caerdydd yn arbennig yn dechrau chwalu'r canfyddiad fod Cymru'n fan llai deniadol i fuddsoddi ynddo—. Ac wrth gwrs, fe dafloch chi ddom da ar lwybr Cymru i ffyniant eisoes drwy gyflwyno'r lluosydd ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain ar yr adeg dyngedfennol hon. Felly, nid oes gennyf syniad pam eich bod yn meddwl y byddai codi'r dreth yn y ffordd hon ar yr un pryd yn helpu.
Nawr, nid yw £1 miliwn yn swm enfawr o arian am bryniant masnachol. Mae oddeutu 80 y cant o werthiannau tir masnachol, hyd yn oed yma yng Nghymru lle mae'n tueddu i fod yn rhatach, yn uwch na hynny, ac yn ôl pob tebyg, dyna pam y credech y byddai'n faes proffidiol i godi uwch dreth ynddo, er y deallaf nad yw'r derbyniadau treth mewn gwirionedd yn mynd i fod lawer iawn yn uwch. Wrth gwrs, tynnaf sylw at gampws y bae Prifysgol Abertawe. Roedd y tir yno yn costio dros £87 miliwn ac rwy'n siŵr y byddai negodi go ffyrnig wedi bod dros y ffigur pryniant hwnnw pe bai wedi bod yn agored i godiad ychwanegol o 20 y cant, i bob pwrpas, yn y dreth yr oeddent yn ei thalu. Felly, gallwch weld pam rwy'n awyddus i ddeall pa ymgynghori a wnaed gennych yn uniongyrchol gyda bwrdd cysgodol bargen ddinesig bae Abertawe a chydag unrhyw rai o gynrychiolwyr y diwydiant a fynegodd ddiddordeb mewn bod yn un o'r partneriaid sector preifat angenrheidiol.
Yn gyntaf, dyna'r cwestiwn hwnnw a nododd Mark Reckless ynglŷn ag a oes gan awdurdodau lleol esemptiad Cyllid a Thollau EM rhag y dreth hon ar bryniant fel sydd gan Lywodraethau. Mae bwrdd gweithredol y fargen ddinesig yn ymwneud yn llwyr ag awdurdodau lleol wrth gwrs. Yna, yn ail, mae yna gwestiwn i mi ynglŷn ag a allai Tatas a GSKs y byd hwn, nad oes yn rhaid iddynt ddod i fae Abertawe wedi'r cyfan, gael eu denu i fuddsoddi yn ardaloedd bargeinion dinesig eraill y DU lle byddent yn talu llai.
Rydym yn sôn am ffigurau mawr: mae ardal ddigidol glannau Abertawe yn werth £168.2 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys 100,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa; mae'r prosiect cartrefi fel gorsafoedd pŵer yn £517.1 miliwn; ac mae'r pentref gwyddorau bywyd a lles ychydig o dan £200 miliwn. Ychydig iawn o arwyddocâd sydd i'r trothwy £1 filiwn yma, ond bydd buddsoddwyr yn talu 20 y cant yn fwy o dreth nag y byddent yn Lloegr a dros 30 y cant yn fwy nag y byddent yn yr Alban, a mawredd, fe fyddant yn sylwi ar y gwahaniaeth mewn ffigurau mor fawr â hynny. Efallai y bydd y pris fesul hectar neu fesul troedfedd sgwâr yn rhatach na chanol Llundain, ond rydych yn camddeall y sector eiddo masnachol os ydych yn meddwl mai dyna'r unig ffactor y mae'n ei ystyried.
Felly, i fynd yn ôl at dystiolaeth am eiliad, a wnaethoch chi drafod effeithiau'r 6 y cant gyda phartïon sydd â diddordeb yn y fargen ddinesig, ac Ysgrifennydd yr economi yn benodol? A sut y gwnaethoch chi ystyried hynny cyn taflu'r ail dalp o ddom da ar y llwybr i ffyniant yn fy rhanbarth? Diolch.
Efallai y gallaf ddechrau drwy geisio amddiffyn trethiant. Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Ymddengys bod gormod o bobl yn credu y gallwn gael gwasanaethau cyhoeddus o'r un ansawdd â Sgandinafia yn ogystal â chael system drethiant sy'n fwy tebyg i un yr UDA. Pan edrychwch ar gost addysg breifat a gofal iechyd preifat, mae'n rhoi persbectif i'r gwerth am arian a gawn o'n system drethiant. Nid damwain neu serendipedd sy'n esbonio pam fod gan y gwledydd sydd â'r lefelau treth uchaf y gwasanaethau cyhoeddus gorau a pham fod gan y rhai sydd â'r lefelau treth isaf y gwasanaethau cyhoeddus salaf. Oherwydd bod angen trethiant i godi arian i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus sydd eu hangen ar bawb ohonom—pethau fel ffyrdd, diogelwch bwyd a'r gwasanaeth iechyd, y siaradwn lawer amdanynt yma.
Mae ansawdd gwasanaethau cyhoeddus, boed yn iechyd, addysg neu seilwaith, yn costio'n sylweddol i'r pwrs cyhoeddus a'r unig ffordd o dalu amdanynt yw drwy drethu. Gellir trethu incwm, elw, treuliant, gwariant, neu werth tir ac eiddo, neu gyfuniad o bob un ohonynt. Ond mae angen ichi drethu er mwyn cael yr arian.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Yn sicr, roeddwn yn ei ddisgwyl.
A all egluro sut y bydd yn cael y dreth hon drwy godi'r gyfradd o 5 y cant i 6 y cant pan fo'r bobl sy'n buddsoddi yn cael cyfle i beidio â'i thalu o gwbl drwy fynd i Reading neu Fryste neu Birmingham yn lle hynny?
Hoffwn pe baech wedi aros am y dudalen nesaf. Hoffwn ddweud hyn: trethiant yw ein tâl aelodaeth am berthyn i gymdeithas wâr. Credaf efallai fod angen ichi gofio hynny.
I gorfforaethau amlwladol, mae'r dreth gorfforaeth yn daliad dewisol y gellir lleihau ei gwerth drwy bethau fel taliadau o fewn y cwmni, talu am hawliau eiddo deallusol, trosglwyddo taliadau am nwyddau a gwasanaethau, neu sicrhau bod y man gwerthu y tu allan i Brydain.
Yr hyn nad yw pobl yn ei hoffi am y dreth trafodiadau tir a'r hyn nad yw pobl yn ei hoffi ynglŷn â threthi ar eiddo yw bod yn rhaid i chi eu talu. Ni ellir eu hosgoi. Mae'r rhain yn drethi anodd i'w hosgoi. Y trethi anodd i'w hosgoi bob amser yw'r rhai a gaiff eu beirniadu am na allwch beidio â'u talu.
Gall trethi effeithio'n waeth ar y bobl gyfoethocaf neu ar y bobl dlotaf. Naill ai rydych chi'n cael y rhai sydd â'r mwyaf o arian i dalu swm uwch, neu rydych yn cael y rhai gyda'r lleiaf o arian i dalu'r gyfran fwyaf.
Gan droi at y dreth trafodiadau tir, mae sicrhau bod y dreth trafodiadau tir yn effeithio'n waeth ar y bobl gyfoethocaf yn rhywbeth rwy'n ei groesawu. A gaf fi roi enghraifft wedi'i weithio ar werth gwahanol? Os yw un parsel o dir yn werth £1 filiwn heb unrhyw dreth ac yna ar gyfradd dreth o 100 y cant, ni fydd ei gost yn £2 filiwn; bydd ei gost yn £1 filiwn o hyd, ond bydd 50 y cant yn dreth a bydd 50 y cant yn mynd i'r perchennog. Felly, perchennog y tir yw'r unig berson ar ei golled, nid y prynwr. Un o'r problemau sydd gennym yw'r gred fod yna werth absoliwt i dir.
Felly, bydd trethi'n dod ar ben y gwerth hwnnw—[Torri ar draws.] A gaf fi orffen y darn hwn, Andrew? Rwy'n mynd i'ch galw oherwydd rwyf newydd eich crybwyll. Felly, bydd trethi'n dod ar ben y gwerth, yn hytrach na'n rhan ohono. Edrychwch sut y mae pris tir amaethyddol yn codi pan geir caniatâd cynllunio ar gyfer tai. Nid oes unrhyw werth absoliwt. Faint ydych chi'n ei dalu ym Mro Morgannwg am dir amaethyddol? A yw'n £20,000 neu'n £30,000—
Fe werthaf beth i chi nawr.
—am dir caniatâd cynllunio da? Ai £1 filiwn yr erw yn y Bont-faen a'r Fro? Dyna'r gwahaniaeth—rwy'n dod at ddiwedd y frawddeg hon—dyna'r gwahaniaeth. Felly, pe bai gwerth absoliwt i'r tir hwnnw ni fyddech byth yn cynnal arwerthiant arno, oherwydd byddech yn gwybod beth fyddai ei werth a byddai'n rhaid i bobl dalu hynny. Diolch.
Diolch i chi, Mike, am gymryd yr ymyriad, ac rydych wedi rhoi nifer o ffigurau yno. Ond mae'n rhaid i chi gael marchnad i greu'r ffigurau hynny, ac os ydych yn rhoi mesurau llym ar waith fel Llywodraeth, rydych yn lladd y farchnad, felly rydych yn lladd y gwerth, ac yn sgil hynny'n colli'r refeniw treth. Onid ydych yn cydnabod hynny? Nid oes raid i bobl ddod i Gymru i fuddsoddi. Mae ganddynt gyfleoedd eraill os oes amgylcheddau eraill yn fwy ffafriol i'r buddsoddiadau hynny, fel y dengys model yr Alban.
Credaf mai'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud oedd y tir. Ni fydd pris y tir yn codi. Ni fydd yr arian y mae pobl yn ei dalu am y tir yn codi. Yr hyn fydd yn digwydd i'r gyfran honno o bris y farchnad yw y bydd mwy ohono'n mynd ar drethiant, a llai ohono'n mynd yn elw mawr i'r perchennog. Rwy'n credu mai dyna'r gwahaniaeth. Credaf na ddylai pobl gael serendipedd o'r fath, neu'r 'Rwy'n ffodus iawn, mae gennyf y darn hwn o dir, ac os nad oes neb yn casglu treth arno, bydd gennyf £1 filiwn yn fy mhoced ôl.' Credaf y dylem gael trethiant uwch arno, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet.
Os gostyngir y dreth trafodiadau tir ar dir sy'n werth mwy nag £1 filiwn—o wrando ar eraill yn gynharach, byddent yn ei ddiddymu'n llwyr—pwy sy'n talu am y diffyg? A ydym yn dymuno ei godi gan y bobl—? [Torri ar draws.] Neu a yw'r Ceidwadwyr Cymreig am leihau gwariant cyhoeddus? Rwy'n llongyfarch y Gweinidog cyllid a'r Llywodraeth ar wneud y dreth trafodiadau tir yn un sy'n effeithio mwy ar y bobl gefnog. Nid ydych yn gwybod pa bobl—. Rhan fach iawn yw'r gyfradd pan fydd tir yn cael ei gyfnewid; mae'n fater o bwy sydd am ei brynu, pam y maent am ei brynu a beth sydd ar gael. Gyda chaniatâd cynllunio ar 10 erw o dir ym Mro Morgannwg, ni fyddai ots pe baech yn talu trethiant ar 50 neu 100 y cant, byddai pobl yn dymuno ei werthu a byddai pobl yn dymuno ei brynu.
Diolch. David Melding.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae bob amser yn bleser cael dilyn Mike Hedges, ac roedd mor ddewr yn trafod y mater o safbwynt athronyddol. Roedd i'w weld fel pe bai'n dadlau bod y dreth ar dir yn hanfodol ac yn ddychmygol ar un pryd, ond efallai na lwyddais i ddilyn ei resymeg yn arbennig o dda. Roedd gweddill ei berorasiwn ar ddiben a rhyfeddod trethiant, ac rwyf wedi darllen y cynnig yn ofalus, ac ni allaf weld unrhyw beth ynddo sy'n dweud y dylem fod mewn amgylchedd heb unrhyw drethi o gwbl. Yn amlwg, mae treth yn rhan bwysig o sefydlu unrhyw ffurf ar fywyd dinesig, ac fel Ceidwadwyr rydym yn cydnabod hynny. Ond mae'n ymwneud â chael y gwerth gorau a sicrhau nad yw'r gyfundrefn dreth yn llesteirio'r fenter orau sy'n bosibl, ac am hynny y mae'r ddadl y prynhawn yma. Ac mae'n hollol briodol ein bod yn craffu ar y dewisiadau a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet a lle y dylai'r baich treth fod.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n well edrych ar y darlun mawr. Bellach, gyda ffurf gymharol radical o ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, rhywbeth rwy'n ei gefnogi, mae gennym botensial i gyflwyno lefel o gystadleuaeth economaidd y gallwn ei rheoli i ryw raddau. Hyd yn hyn, rydym wedi cael ein dominyddu'n helaeth gan batrwm economaidd Llundain a de-ddwyrain Lloegr, sy'n pennu normau go gadarn o ran trethiant a pholisi economaidd ehangach, ond gyda datganoli gallwn bellach wneud mwy o'r dewisiadau hyn ein hunain. A dylem ystyried sut y cymharwn ag awdurdodaethau eraill yn y Deyrnas Unedig; dyna'r peth rhesymegol i'w wneud. O edrych ar y darlun cyfan, onid yw'n well inni ddweud, 'Dewch i Gymru, dyma'r lleoliad mwyaf ystyriol o fusnesau yn y Deyrnas Unedig'?
Siaradodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies am farchnadoedd rhentu yn Llundain, ac nid oes neb un anghytuno bod eiddo masnachol yn ddrutach o lawer yn Llundain, ond ein cystadleuwyr am y gweithgarwch economaidd sy'n cael ei wthio allan o Lundain a de-ddwyrain Lloegr yw Manceinion, Newcastle, Lerpwl, a dyna'r ardaloedd y byddwn bellach yn gweld buddsoddwyr yn dianc iddynt, lle y gallent fod wedi dod i Gymru. Ac rwy'n credu bod angen rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pwynt hwn. Nid yw'n neges dda i ddweud, 'Dewch i Gymru a byddwch yn sicr yn talu mwy o dreth trafodiadau tir nag y byddech yn yr Alban neu yn Lloegr'.
Fy ngweledigaeth economaidd ar gyfer Cymru yw inni ddefnyddio'r adnoddau sydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn ogystal. Rwy'n credu'n gryf y bydd yn gweithio er budd Llundain a de-ddwyrain Lloegr os daw mwy o weithgaredd economaidd i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac roedd hyn yn rhan fawr o'r symud a welsom mewn polisi cyhoeddus ar ôl 2010 ac ethol Llywodraeth dan arweiniad y Ceidwadwyr. Mae angen inni ailgydbwyso economi'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Dylem weld Llundain fel adnodd. Dylai fod gennym fwy o bresenoldeb yn Llundain. Roeddwn bob amser yn feirniadol braidd o safbwynt fy mhlaid ynglŷn â'n llysgenhadaeth fasnachol, neu beth bynnag y'i gelwir gennym bellach, yn Llundain. Ymddangosai i mi y dylai fod wedi bod yn fwy mawreddog ac amlwg ac uchelgeisiol wrth fynd allan a defnyddio Llundain fel ffordd o ddenu busnes, nid yn unig yr hyn sy'n cael ei wthio allan o Lundain, ond y buddsoddwyr sy'n dod i Lundain i fuddsoddi yn economi Prydain o dramor hefyd.
A gaf fi gynnig i'r Gweinidog, oherwydd fe'i gwelaf yn ysgwyd o dan lach ein beirniadaeth—? [Chwerthin.] Rwy'n edmygu Ysgrifennydd y Cabinet yn fawr, ac yn dymuno'n dda iddo yn ei uchelgais ar gyfer y dyfodol fel—. Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig—[Torri ar draws.] Rwyf am gynnig rhyw damaid o ffordd allan iddo—
Eich uchelgais chi ar gyfer y dyfodol yw symud ymlaen. Felly, dyna yw eich uchelgais chi ar gyfer y dyfodol.
Credaf mai un peth y dylem edrych arno efallai yw lleihau baich y dreth ar fuddsoddiad masnachol drwy wobrwyo arferion a thechnegau adeiladu amgylcheddol sensitif a sut y maent yn mynd i ddefnyddio'r adeilad a chyfleusterau eraill a allai fod ganddynt yno a fydd yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Efallai y gallech gynnig cymhellion yn hynny o beth i liniaru'r penderfyniad anffodus rydych wedi'i wneud yn yr achos hwn.
Mae'n ffodus iawn, onid yw, nad y Torïaid sy'n gyfrifol am gyllid Llywodraeth Cymru? Roeddwn am nodi'r camgymeriad sylfaenol hwn a wnaeth y Ceidwadwyr yn ail ran eu cynnig, oherwydd mae'n dangos nad oes ganddynt unrhyw ddealltwriaeth o statws Llywodraeth Cymru na dibenion y trethi y maent yn eu dibrisio i'r fath raddau. Mae'n druenus yn wir eich bod wedi methu gwirio cywirdeb eich honiadau eich hunain cyn ichi gyflwyno'r cynnig.
Ni all fod unrhyw awgrym synhwyrol fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio osgoi'r dreth trafodiadau tir oherwydd mae goblygiadau treth dir y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir yn union yr un fath: dim. Nid oes unrhyw dreth yn daladwy lle y gwneir pryniant gan y Goron, ac mae hynny'n cynnwys Gweinidogion Cymru. Felly, credaf fod awgrymu bod Gweinidogion Cymru yn ceisio cymryd rhan mewn gweithred fwriadol i osgoi treth fisoedd yn unig ar ôl i ni, y Cynulliad, ystyried deddfwriaeth lle'r oedd rheolau i atal osgoi talu trethi yn rhan amlwg o'r ddadl, yn crafu'r gwaelod braidd.
Mae'r esemptiad yn glir ar wyneb y ddeddfwriaeth. Yn Atodlen 3 i'r Ddeddf, dan y teitl 'Trafodion sy'n esempt rhag codi treth arnynt', o dan 'Caffaeliadau gan y Goron', mae'n dweud bod paragraff 2 yn rhestru cyrff Llywodraeth sy'n esempt. Mae hyn yn gyson â'r un rheolau'n union â threth dir y dreth stamp a ragflaenodd y dreth trafodiadau tir.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Ddim ar hyn o bryd.
Mae'n wirioneddol siomedig, ar ôl pasio'r Ddeddf, ein bod yn dal i orfod egluro diben y ddeddfwriaeth yn y modd hwn, yn enwedig mewn ymateb i gynnig sy'n awgrymu y byddai'r Llywodraeth yn mynd ati i osgoi talu trethi. Fel y mae Mike Hedges eisoes wedi'i gyfleu'n gwbl glir, yn sicr ddigon nid siarad am hynny yr ydym, ac yn hytrach, rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn ariannu cyfoeth parhaus ein gwlad. Felly—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Fe ildiaf yn awr, gwnaf.
Ond onid yw'n wir, drwy gamu i mewn a phrynu'r safle hwn, fod Llywodraeth Cymru, nad yw'n talu treth oherwydd esemptiad y Goron, yn osgoi treth a fyddai'n cael ei thalu o bosibl gan un arall o'i phartneriaid? Dywed y canllawiau ar y dreth trafodiadau tir os caiff y tir ei brynu ar y cyd ag awdurdod cyhoeddus arall nad yw'n esempt yn y fath fodd, e.e. awdurdod lleol, ni fydd yr esemptiad yn gymwys, ac yna, yn ddiweddarach mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod hi'n mynd i fod yn prynu'r swyddfeydd. Felly, yn hytrach na'r sector preifat, nad ydynt am dalu'r 6 y cant o bosibl, mae'n dweud yma y bydd Llywodraeth Cymru yn prynu'r swyddfeydd ar y safle, gan gamu i mewn i osgoi'r dreth.
Rwyf wedi treulio 10 mlynedd yn aros i gael gorsaf fysiau newydd ar gyfer Caerdydd, ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi camu i mewn i adeiladu'r orsaf fysiau, oherwydd, am resymau nad wyf wedi eu deall yn llawn eto, mae'r arian y dylem fod yn ei dderbyn o dan adran 106 o'r holl drafodiadau masnachol eraill sydd wedi bod yn digwydd yn y Sgwâr Canolog, sef lle'r oedd yr hen orsaf fysiau, gyda llaw—. Nid wyf yn deall yn iawn pam nad oedd digon o arian o'r holl drafodiadau masnachol hyn i dalu am yr orsaf fysiau, ond yn amlwg, nid oedd yn ddigonol a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy.
Credaf fod y ffaith eu bod wedi prynu tir ar 29 Mawrth yn deillio o reswm hollol wahanol, sydd i'w weld wedi ei fethu gennych, sef ei bod yn ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac mae'n hysbys iawn fod Llywodraethau, fel awdurdodau lleol, fel llawer o sefydliadau eraill, yn dymuno cael arian allan drwy'r drws ar ddiwedd y flwyddyn ariannol er mwyn rhoi cyfrif amdano yn y flwyddyn honno yn hytrach na gweld yr arian yn mynd ymlaen at rywbeth arall.
Felly, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi prynu'r darn hwn o dir, a maes o law, nid oes gennyf amheuaeth y bydd yr adeiladau uwchben yr orsaf fysiau, wedi iddynt gael caniatâd cynllunio, yn dwyn ffrwyth i economi Cymru cyn gynted ag y cawn brynwyr ar eu cyfer. Mesur dros dro yw hwn i sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â'r orsaf fysiau sydd mor hanfodol i gael y system drafnidiaeth integredig sydd ei hangen ar ein prifddinas.
Felly, credaf fod y neges yn y rhan hon o'ch cynnig yn warthus ac yn gwbl groes i'r hyn y ceisiwn ei gyflawni. I ddilyn yr hyn a ddywedodd David Melding, credaf mai fy neges fyddai ei bod hi'n amlwg nad ydym am i bobl ddod i Gymru i wneud hap-gynigion ar werth y tir yn unig, ac nid ydym am i bobl ddod i Gymru os ydynt am lanhau'r arian budr y mae Llundain yn nofio ynddo, yn anffodus. Credaf fod y dreth trafodiadau tir yn ffordd deg iawn o godi arian ar adnodd cyfyngedig, sef tir.
Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roedd y mis diwethaf yn garreg filltir bwysig yn ein taith ddatganoli, gyda threthi datganoledig yn mynd yn fyw yn llwyddiannus ar 1 Ebrill ac yn awr yn weithredol ers pum wythnos lawn. Mae Awdurdod Cyllid Cymru bellach wedi derbyn yr enillion cyntaf ac wedi dechrau casglu refeniw treth pwysig, gan nodi diwedd y gwaith i sicrhau bod y trethi hyn yn cael eu datganoli.
Ddirprwy Lywydd, gwrandewais yn ofalus ar yr araith a gyflwynodd y cynnig heddiw. Daw'r cynigydd atom o ochr dywyllach planed Thatcher, gan ddibynnu ar ei gopi o'r Encyclopaedia Britannica o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y dibynna ei holl gyfraniadau arno: 'Am Gymru, gweler Lloegr'. Dyna'i unig gyfraniad i'r ddadl: os nad ydym yn gwneud yr hyn a wneir ar draws y ffin, rhaid ei fod yn waeth yng Nghymru.'
Gadewch imi fynd i'r afael yn uniongyrchol ag ail ran y cynnig, ac er mwyn ystyried y pwyntiau roedd Jenny Rathbone yn eu gwneud, mae gennyf y cynnig o fy mlaen: mae'n ddiamwys yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o osgoi treth. Mae hwnnw'n gyhuddiad difrifol iawn, ac nid oes unrhyw—[Torri ar draws.] Na. Rwyf wedi clywed digon. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf. Mae'n awgrymu'n uniongyrchol fod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu i osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun, ac nid oes unrhyw fwydro gan yr Aelod a gyflwynodd y ddadl yn mynd i ddileu cryfder y cyhuddiad hwnnw, ac mae'n gyhuddiad difrifol iawn na ddylai fod wedi'i wneud. Nid wyf yn credu bod yr arbrawf y soniodd Simon Thomas amdano o gael eich cynigion wedi'u cyflwyno gan rywun nad yw'n Aelod o'ch plaid eich hun yn yr achos hwn yn un y dychmygaf y byddwch eisiau ei ailadrodd ar fyrder.
Gadewch imi fod yn glir, Lywydd: fel y dywedodd Jenny Rathbone, dan dreth dir y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir, nid oes unrhyw atebolrwydd treth pan wneir pryniant gan y Goron, gan gynnwys Gweinidogion Cymru. Mae hynny yno ar wyneb y ddeddfwriaeth. Byddai wedi bod yn well pe bai rhywun sy'n honni ei fod yn deall y manylion wedi sicrhau ei fod yn deall y pwynt hwnnw cyn perswadio eraill i ysgrifennu'r cynnig yn y ffordd honno.
A wnaiff y Gweinidog ildio? Rwy'n deall bod prynu'r safle hwn ar 28 Mawrth, a rhoi'r brydles 999 mlynedd ar 29 Mawrth, wedi digwydd o dan drefn treth dir y dreth stamp. Pe bai wedi digwydd dri diwrnod yn ddiweddarach, ni fyddai Gweinidogion wedi osgoi eu cyfundrefn eu hunain. Rwyf wedi codi pwyntiau difrifol iawn ynglŷn â beth sy'n digwydd i awdurdodau lleol, beth sy'n digwydd i gyrff sector cyhoeddus eraill, pam y mae'r Llywodraeth yn dod i mewn wedyn gyda bwriad i brynu'r swyddfeydd ar y safle hwn, gan osgoi treth y byddai'r sector preifat wedi gorfod ei thalu. Ai oherwydd y gyfradd hon o 6 y cant, sy'n golygu y bydd llai o bobl yn y sector preifat am brynu swyddfeydd yng Nghymru?
Pe bai'r Aelod wedi dymuno canolbwyntio ar y pwyntiau hynny yn y ddadl hon, gallai fod wedi eu rhoi yn y cynnig; ni wnaeth hynny. Yn lle hynny, rhoddodd rywbeth arall i mewn ac mae wedi cael ei ddal yn gwneud hynny, ac ni fydd codi ar ei draed a chwistrellu cyfres o gyhuddiadau eraill o amgylch yr ystafell yn tynnu sylw oddi ar y ffaith bod ei gynnig yn ddiffygiol; mae'n gwybod ei fod, mae wedi cael ei ddal yn gwneud hynny. Ac mae'r cyhuddiad yn un difrifol. Gadewch inni fod yn glir am hyn: pe bai'n wir fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n fwriadol i osgoi treth, nid yw hynny—
Ni ddywedais hynny. Ni wnaethom ddweud hynny.
Wel, dylech ddarllen eich cynnig eich hun. Dylech ddarllen eich cynnig eich hun a dylech fod yn fwy gofalus y tro nesaf y byddwch yn ei ysgrifennu fel nad ydych yn awgrymu pethau a fyddai'n ddifrifol iawn pe baent yn wir—ond rydych yn treulio'r ddadl gyfan yn awr yn ceisio ein darbwyllo nad dyna oeddech chi'n ei olygu yn y lle cyntaf. Mae'n amlwg mai dyna oeddech chi'n ei awgrymu; rydych wedi cael eich dal a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig am y rheswm hwnnw ac am lawer o resymau eraill.
Gadewch imi droi at gyfraddau'r dreth trafodiadau tir. Lywydd, cawsom drafodaeth amdanynt ym mis Ionawr eleni. Yng nghyd-destun cyni Llywodraeth y DU, cafodd fy ymagwedd tuag at bennu cyfraddau'r dreth ei llywio gan yr egwyddor na ddylai fod llai o arian ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o ganlyniad i ddatganoli treth.
Bellach, gan Gymru y mae'r gyfradd gychwynnol isaf o dreth ar gyfer busnesau o gymharu ag unman arall yn y DU, fel y nododd Simon Thomas. Bydd chwe mil o drafodiadau amhreswyl yng Nghymru bellach yn cael peidio â thalu unrhyw dreth neu'n talu llai o dreth nag y byddent cyn cyflwyno'r newidiadau hyn. Bydd llai na 300 yn talu'r gyfradd o 6 y cant. Dywedodd Neil Hamilton mai tyfu'r economi ddylai fod yn ddiben i'n cyfundrefn dreth, ac rwy'n cytuno ag ef. Mae'n debyg nad wyf yn cytuno â'i strategaeth ar gyfer gwneud hynny, ond gwnaeth bwynt pwysig am gyflwr cyffredinol trethiant eiddo a'r angen inni fabwysiadu safbwynt mwy rhesymegol ynglŷn â hyn oll. O fewn y farn resymegol honno, mae'r ffaith y bydd ein cyfundrefn dreth o fantais i 90 y cant o fusnesau yng Nghymru bellach yn ymddangos i mi, fel yr ymddangosai i Ysgol Fusnes Bangor, yn ffordd o weithredu a fydd yn arwain at fwy o weithgarwch yn y farchnad eiddo amhreswyl nag a fyddai wedi digwydd fel arall.
Mae trafodiadau amhreswyl yn denu amryw o gostau a bydd y dreth trafodiadau tir yn un ohonynt. Mae'r newid yn y dreth ar gyfer y trafodiadau uchaf eu pris yn llai nag 1 y cant o gynnydd yng nghost gyffredinol y trafodiad, ac mae'r gyfradd honno o 6 y cant yn gyfradd ymylol beth bynnag gan nad yw ond yn berthnasol i'r pris a delir dros £1 filiwn.
Roedd y cyfraddau'n deillio o ystyriaeth ofalus ynglŷn â blaenoriaethau ac amgylchiadau Cymru, gyda dadansoddiad o effeithiau posibl gan Lywodraeth Cymru ynghyd â sicrwydd annibynnol gan Ysgol Fusnes Bangor.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn ymyriad. A ydych yn cydnabod, fodd bynnag, er bod canran y nifer o gytundebau yn gymharol fach, dyma'r sector mwyaf symudol yn y farchnad, a gall fuddsoddi'r arian hwnnw mewn mannau eraill, ac yn y llythyr a gawsoch gan y diwydiant ei hun, mae'n dweud:
Fel arbenigwyr diwydiant, rydym eisoes yn gweld gostyngiad ym mhrisiadau asedau a buddsoddwyr nad ydynt yn ystyried Cymru mwyach o ganlyniad uniongyrchol i'r polisi hwn.
A ydych yn cydnabod y pryderon hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?
Wel, Ddirprwy Lywydd, wrth gwrs fy mod wedi clywed y sylwadau a wnaed gan rai yn y sector datblygu. Rwyf fi, a fy swyddogion ar wahân, wedi cyfarfod â'r rhai sydd â phryderon, a bydd yr ymgysylltiad hwnnw'n parhau. Nododd Andrew R.T. Davies eu pryderon yn deg iawn yn ei gyfraniad gwreiddiol ac wrth gwrs y byddaf yn gwrando ac yn parhau i wrando arnynt. Nid oes amheuaeth fod Llywodraeth y DU, ei Lywodraeth ef, yn 2016, yn ei chyllideb, pan gododd y gyfradd uchaf o dreth ar drafodiadau annomestig 25 y cant—nid yr 20 y cant arswydus y soniodd Mark Reckless amdano wrth agor, ond 25 y cant—Canghellor Ceidwadol yn gwneud hynny, ac yna roedd yn dibynnu ar yr hyn y dywedai dogfen y gyllideb wrtho, fod y newidiadau hyn yn sicrhau bod busnesau sy'n prynu'r rhydd-ddaliadau a'r prydlesi uchaf eu gwerth yn gwneud cyfraniad mwy gan sicrhau toriad yn y dreth i'r prynwyr, sef busnesau llai yn aml, sy'n prynu eiddo llai drud; yr un dadansoddiad yn union ag a wnaethom yma yng Nghymru.
Dywedai dogfen gyllideb y Canghellor Ceidwadol, pan gododd gyfradd uchaf y dreth ar eiddo 25 y cant yn y gyllideb honno, nad oedd disgwyl i'r cam hwn gael unrhyw effeithiau macroeconomaidd sylweddol. Pan wneir y pethau hyn gan Ganghellor Ceidwadol, maent yn codi ar eu traed a chymeradwyo. Pan gânt eu gwneud gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru, mae'r byd i gyd ar fin disgyn ar eu hysgwyddau.
Clywais hefyd, Ddirprwy Lywydd, o'r sector busnes, fod busnesau, pan gafodd y dreth trafodiadau tir ei datblygu, wedi pwysleisio pwysigrwydd sefydlogrwydd a sicrwydd. Byddai ystyried newid y cyfraddau ar ôl mis o weithredu'n unig, heb ragor o dystiolaeth am effaith y cyfraddau hyn, yn gynamserol ac yn creu ansefydlogrwydd ac ansicrwydd a allai fod, ynddo'i hun, yn niweidiol i'r economi yng Nghymru. Felly, yr hyn a wnaf yw'r hyn a ddywedais dro ar ôl tro yn y Siambr hon: byddwn yn edrych ar y dystiolaeth go iawn, nid y dystiolaeth ddyfaliadol, nid y pethau sy'n cael eu dweud ymlaen llaw ynglŷn â'r hyn y gallai'r effaith fod; byddwn yn gweld y dystiolaeth go iawn o drafodiadau ac yn rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r dystiolaeth honno. O ganlyniad i'r gwelliannau a hyrwyddwyd gan ein cyd-Aelod Steffan Lewis yn ystod hynt y Bil, ceir gofyniad deddfwriaethol i sicrhau adolygiad annibynnol o'r dreth trafodiadau tir yn y dyfodol. Yn y cyfamser, bydd ystyriaeth o'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn rhan o bob cylch cyllidebol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer treth sydd newydd ei dechrau.
Lywydd, bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Rydym yn falch o gefnogi gwelliannau Plaid Cymru. Rydym eisoes yn ymrwymedig i gadw'r holl drethi y mae gennym gyfrifoldeb drostynt dan adolygiad. Byddwn yn ceisio gwneud hynny ar y cyfle ymarferol cyntaf ac yn bwysicaf oll, byddwn yn gwneud hynny ar sail y dystiolaeth go iawn na all ond profiad yn unig ei darparu.
Galwaf ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Wel, efallai'n wir ein bod, ar yr ochr hon, wedi dod o ochr dywyll planed Thatcher, ond y prynhawn yma rydym wedi glanio'n bendant iawn ar blaned Corbyn, onid ydym? A gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl y prynhawn yma? Mae yna lawer ohonoch; fe geisiaf sôn am gynifer ohonoch ag y gallaf, ond gallai fod yn anodd cynnwys pawb.
Fel y cawsom ein hatgoffa gan Ysgrifennydd y Cabinet yn y gorffennol ac unwaith eto heddiw, mae cyfnod 1 o ddatganoli trethi ar ben; y cyfnod nesaf fydd gweithredu a'r monitro hollbwysig. Wrth agor, amlygodd Mark Reckless yr angen i wrando ar y sector, i wrando ar fusnesau a'u pryderon ac ymateb i hynny wedyn. Ac rydym yn pryderu, ar yr ochr hon i'r Siambr o leiaf, y bydd y gyfradd uwch o 6 y cant ar drafodiadau masnachol dros £1 filiwn yn niweidio busnesau. Nid ni yn unig sy'n dweud hynny; mae'r sector yn dweud hynny hefyd. Mae busnesau'n dweud hynny wrthym, mae ein bagiau post yn dweud hynny wrthym; rwy'n siŵr fod yr un pryderon gan ACau yn y pleidiau eraill hefyd. Efallai nad yw o fudd iddynt wrando—[Torri ar draws.]—un funud—ar y rheini yn yr un modd, ond yn sicr, nid yw'n onest i ddweud nad yw'r pryderon hynny'n cael eu lleisio. Mike Hedges.
A allwch roi enghraifft i mi o sector sy'n gofyn am gael talu mwy o dreth?
Wel, dyna sylw nodweddiadol o Mike Hedges, onid e? Felly, yn y bôn, nid ydych yn gwadu eich bod chi hefyd wedi clywed pryderon o'r sector ynglŷn â chyfradd uwch.
Ond mae pob sector yn gofyn am gael talu llai o dreth.
Iawn. Fe soniaf am hynny pan ddof at eich sylwadau yn nes ymlaen. Rwyf wedi colli fy lle nawr.
A, ie, bydd fy nghyn gyd-aelod o'r Pwyllgor Cyllid yn cofio ei ymgyrch a'n hymgyrch ni i gael y cyfraddau ar wyneb y Bil, oherwydd hyd yn oed bryd hynny—. Rwy'n deall bod pryderon gan rai o'r gweision sifil ynglŷn â gwneud hynny, a chan y Llywodraeth ynglŷn â gwneud hynny, ond ar y pryd, roeddem yn meddwl bod honno'n ffordd o ddarparu eglurder ar gyfer y sector, o dawelu meddwl y sector, fod yr adeg anodd hon o newid—mae'n gas gennyf ddefnyddio'r gair—cyfundrefn, sydd wedi achosi cymaint o annifyrrwch yma y prynhawn yma, ond yn y newid hwnnw o gyfundrefn dreth y DU i gyfundrefn dreth newydd Cymru, roeddem yn tybio bod yna rinwedd mewn cael rhyw fath o sefydlogrwydd ar yr adeg honno. Dyna oedd y pwynt yr oeddem yn ceisio ei wneud.
Simon Thomas—wel, roeddwn yn fwy na pharod, mewn gwirionedd, i adael i fy nghyn gyd-Aelod ar y Pwyllgor Cyllid i ddisgleirio drwy agor y ddadl. Rwy'n hapus i annog a chynorthwyo Aelodau Cynulliad eraill—[Torri ar draws.] Rwyf bob amser yn fwy na pharod i gael y gair olaf, yn ogystal, ac rwyf yn ei gael heddiw. [Chwerthin.] Cytunaf i'r carn â'r pryderon, mewn gwirionedd, y sonioch chi amdanynt ynglŷn â thafarndai, ac rydych yn gywir nad ydynt yn talu ardrethi busnes traddodiadol. Credaf ein bod i gyd yn ymwybodol o hynny, ac yn sicr dylid edrych ar hynny. Gwn eu bod yn edrych ar hynny yn Lloegr, ac mae'n debyg ei fod wedi'i anwybyddu ers amser hir ledled y Deyrnas Unedig, ac rydym bellach yn gweld y problemau sy'n digwydd i dafarndai oherwydd hynny. Felly, roedd hwnnw'n bwynt da a wnaethoch.
Andrew R.T. Davies, fe wnaethoch nodi—ni chefais amser i'w hysgrifennu—rhestr hir o brosiectau yng Nghymru a Chaerdydd sydd, gadewch inni wynebu'r gwir, wedi cael buddsoddiad sylweddol ac sy'n cael buddsoddiad sylweddol. A dywedodd Andrew y gallai amrywiadau bach yn y polisi treth o'i gymharu â dros y ffin gael effaith anghymesur—pwynt cwbl resymol i'w wneud. Efallai y gallai fod achosion lle y ceir pobl sy'n talu llai o dreth oherwydd y newidiadau yn y polisi hwn a'r polisïau treth eraill—mae hynny i'w groesawu—ond rhaid ichi edrych hefyd ar y bobl a'r busnesau a fydd yn gorfod talu mwy. Efallai fod eu nifer yn fach, ond os ydynt yn gorfod talu swm anghymesur o uchel ac os ydynt yn fuddsoddwyr yn yr economi ar y lefel honno o ddatblygu economaidd, mae hynny'n destun pryder.
Ond rwy'n deall—a buom yn trafod hyn yn helaeth yn y pwyllgor—safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn ddyddiau cynnar. Wrth gwrs ei bod. Serch hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, dylid rhoi sylw i arwyddion rhybudd bob amser. Fel y dywedodd Neil Hamilton—wel, roedd Neil Hamilton yn cefnogi'r cynnig. Roeddech yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, sy'n dileu'r cynnig. Nid oeddech yn cefnogi'r rhan 'dileu', a bod yn deg. Rydych yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru yn ogystal. Credaf eich bod yn fodlon at ei gilydd â'r ddadl hon heddiw, felly nid wyf yn credu bod llawer o ots gennych pa ffordd yr aiff y ddadl hon, a chredaf eich bod wedi ennill beth bynnag o ran hynny, Neil. Credaf eich bod wedi cael eich difyrru ar wahanol adegau heddiw. Ond rwy'n cytuno â chi nad yw cystadleuaeth dreth yn beth drwg o reidrwydd. Fel cyn Geidwadwr, wrth gwrs, fe fyddech chi'n dweud hynny, ac wrth gwrs, fel Ceidwadwr Cymreig fy hun, rwy'n cytuno â hynny. Fodd bynnag, fel Aelod o Gynulliad Cymru, credaf ei fod yn beth drwg os yw cystadleuaeth dreth yn digwydd bod yn andwyol i Gymru a chadarnhaol i Loegr. Wrth gwrs, dyna oedd y perygl roeddem yn ei wynebu bob amser. Ydy, mae datganoli treth yn dda ar gyfer cynyddu atebolrwydd, ac mae'n dda iawn i ni yma gael yr awenau grym sydd eu hangen i wella ein heconomi. Ond ochr arall hynny, sy'n rhaid ei wylio, sy'n rhaid ei fonitro, yw gwneud yn siŵr nad yw'n arwain at osod ein heconomi ar sylfaen lai cadarn.
Fe sonioch am esmwytho meintiol. Nid Llywodraeth Geidwadol y DU yn unig ydoedd, wrth gwrs; Llywodraeth Lafur y DU a gyflwynodd y cysyniad o esmwytho meintiol yn wreiddiol i economi Prydain. Mewn gwirionedd, os ydych yn dweud nad ydych eisiau esmwytho meintiol, mae'n debyg y byddai'r toriadau wedi bod yn ddyfnach. Felly, ar yr adeg honno, roedd yn arf gwerthfawr i Lywodraeth ystyried ei ddefnyddio. Wrth gwrs, roedd yna ofn effaith chwyddiant uwch nad yw wedi bwydo drwodd i'r system eto yn sicr, ond ar yr adeg honno, yn amlwg, aethom drwy gyfnod anodd. Ond credaf fod yn rhaid i chi gydnabod mai Llywodraeth Lafur a gyflwynodd y cysyniad hwnnw. Felly, mae'n amlwg fod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'r economi i wneud hynny'n ofynnol.
Nawr, fel y mae economegwyr yn enwog am ei ddweud, mae rhagfynegiadau fel rheol bob amser yn anghywir. Cawsom y dystiolaeth honno yn y Pwyllgor Cyllid. Nid yw hynny'n golygu nad ydynt yn ddefnyddiol. Mewn gwirionedd, maent yn ddefnyddiol iawn, cyn belled â'ch bod yn cydnabod y gallent gynnwys gwallau o'u mewn a'ch bod yn barod i adolygu'r rhagfynegiadau hynny.
Cyn gorffen, rhaid i mi sôn am Mike Hedges, a ddyfynnodd—euthum i chwilio am y dyfyniad—Oliver Wendell Holmes Jr, 1904:
Trethi yw'r pris a dalwn am gymdeithas wâr.
Wrth gwrs, rwy'n credu ein bod i gyd yn cytuno â hynny. Ni fyddai neb yma'n dweud nad ydym am dalu treth. Buaswn yn deud, fodd bynnag wrth gwrs, nad codi treth ynddo'i hun yn unig sy'n bwysig; mae'r ffordd y caiff y dreth ei gwario yn hollbwysig hefyd. Wrth i Lywodraeth Cymru gael mwy o bwerau, a mwy o bwerau codi treth at ei defnydd, daw'n fwyfwy pwysig iddi brofi y gall wario'r arian mor effeithlon â phosibl.
David Melding, fe siaradoch chi am ailgydbwyso economi'r DU, gan ddefnyddio Llundain fel adnodd ond gan wneud yn siŵr ein bod yn bwrw iddi ein hunain i ddatblygu economi Cymru gystal ag y bo modd—a dyna yw hanfod datganoli treth. Fe ddywedoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod yn barod i fonitro, gwerthuso a gwneud newidiadau os ydych yn credu bod y polisïau sydd ar waith mewn perthynas â chodiadau treth yn anghywir. Wel, rydym yn clywed llawer o bryderon gan fusnesau eu bod yn teimlo eu bod yn anghywir. Rwy'n eich annog i gadw'r sefyllfa hon dan arolwg ac i wneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu i newid unrhyw bolisïau treth sy'n profi'n anghystadleuol i'n heconomi yn y dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.