– Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
Felly, symudwn at eitem 5, sef dadl ar gynnig diwrnod heb ei enwi 6753: Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Galwaf ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
Cynnig NNDM6753 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn datgan nad oes ganddo bellach hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni proseictau seilwaith mawr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe.
2. Yn datgan nad oes ganddo hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn credu y dylai’r swydd gael ei dileu a’i disodli gan gyngor Gweinidogion y DU, wedi’i gyfansoddi’n briodol gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y cyd.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi, yn gyntaf oll, ddiolch i'r Cynulliad am ganiatáu i ni drafod y cynnig diwrnod heb ei enwi yn awr? O ystyried y digwyddiadau dros yr wythnos ddiwethaf a phenderfyniadau Llywodraeth San Steffan, credaf ei bod hi'n briodol i ni drafod y cynnig hwn. Deallaf na fydd pawb yn cefnogi cynnwys y cynnig, a cheir gwelliannau ger ein bron, ond credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn caniatáu i'n hunain drafod y cynnig o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol.
Pan gyflwynais y cynnig, wrth gwrs, nid oeddwn yn meddwl y byddem yn cael dau gynnig o ddiffyg hyder ar yr un diwrnod mewn perthynas â'r Blaid Geidwadol, ond mae'n ymddangos mai dyna fel y mae. Ond rydym ni yma i farnu cyfrifoldeb un dyn, a chyfrifoldeb un dyn i gyflawni ymrwymiadau maniffesto, a dyna rwyf am farnu'r Ysgrifennydd Gwladol arno—ymrwymiad yn 2015 i fuddsoddi mewn dau ddarn mawr o seilwaith yng Nghymru, buddsoddiad o dros £2 biliwn: trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Abertawe a Chaerdydd a chefnogi'r morlyn llanw. Yn fwy na hynny, roedd yna ymrwymiad yn y maniffesto y safodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru arno, ac y cafodd ei ethol arno, i orffen y gwaith trydaneiddio a chefnogi'r morlyn llanw.
Ers maniffesto 2015, mae amgylchiadau wedi newid, do, a llawer ohonynt wedi'u creu gan y Llywodraeth Geidwadol ei hun, wrth gwrs, wrth alw am refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid oes un o'r buddsoddiadau mawr hynny wedi'u gwneud, ac mae hynny'n codi cwestiynau, nid yn unig ynglŷn â gair yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun ond ynglŷn â gwleidyddiaeth yn fwy eang, rwy'n credu—pob un ohonom sy'n sefyll etholiad ar faniffestos. Rwyf wedi gweld rhai o'r ymatebion gan fy etholwyr ynglŷn â hyn yr wythnos hon, ac maent yn teimlo bellach nad oes unrhyw un yn gwrando arnynt ac y gellir torri ymrwymiadau ac addewidion maniffesto yn ddi-wahân, nid gan wrthbleidiau, nid gan bleidiau bach, nid gan eraill, ond gan bleidiau sydd wedi bod mewn Llywodraeth ers nifer o flynyddoedd.
Mae'r methiant hwnnw i gyflawni wedi ein gadael mewn sefyllfa gas iawn yn y Cynulliad hwn, oherwydd roeddem eisiau i'r prosiectau hyn gyflawni ar ein cyfer, roedd Llywodraeth Cymru eisiau gweithio gyda'r prosiectau hyn, roedd Llywodraeth Cymru yn barod i gydfuddsoddi yn y prosiectau hyn, ac roedd gan Lywodraeth Cymru gynlluniau ar waith er budd Cymru gyfan pan fyddai'r prosiectau hyn yn mynd rhagddynt, o ran trydaneiddio rheilffyrdd ac o ran y morlyn llanw. O ganlyniad i benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth San Steffan, ac i ryw raddau, o ran y ddadl hon heddiw, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw'r sawl sy'n atebol—mae'n bosibl nad ef yn bersonol a wnaeth rai o'r penderfyniadau hyn, yn yr ystyr fy mod yn deall mai'r Prif Weinidog a benderfynodd ganslo'r cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe—ond ef yw ein llais mwyaf uniongyrchol yn San Steffan. Ef sydd i fod yn llais Cymru yn y Cabinet, yr eiriolwr dros Gymru yn y Cabinet, a'r person y dylai hyn fod yn fater o ymrwymiad personol a chyfrifoldeb personol iddo ei gyflawni.
Os oes dau ymrwymiad yn eich maniffesto etholiad, ac mai chi yw'r Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol amdanynt, ac nid ydych yn eu cyflawni, a ydych yn parhau yn eich swydd? A ydych yn ymddiswyddo? A ydych yn dweud, 'Mae'n ddrwg gennyf, methais â'u cyflawni'? A ydych yn ymddiswyddo fel arwydd eich bod yn anhapus â pherfformiad eich Llywodraeth eich hun? Rydym wedi cael ymddiswyddiadau yr wythnos hon gan aelodau o'r Llywodraeth, am resymau llai na hyn, mewn gwirionedd—ar egwyddor i bleidleisio yn erbyn penderfyniad cynllunio ar Heathrow, nad yw mor ddatblygedig â'r cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffyrdd a'r morlyn llanw hyd yn oed. Mae'r ffaith nad yw'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dewis gweithredu yn ysbryd yr hyn roedd Cymru ei eisiau, na dangos ei anfodlonrwydd gyda phenderfyniadau ei Lywodraeth ei hun—ac a bod yn deg, mae rhai o'r Aelodau gyferbyn â mi wedi gwneud hynny dros y dyddiau diwethaf—rwy'n credu bod hynny'n golygu y dylem wneud cynnig o ddiffyg hyder ynddo yma heddiw.
Nawr, wrth gwrs nad ydym yn gyfrifol am Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid yw'n atebol i ni, ac nid yw'n dod i'r Cynulliad mwyach hyd yn oed i roi ei araith flynyddol. [Torri ar draws.] Mewn eiliad, wrth gwrs. Roeddem yn iawn i gael gwared ar y drefn braidd yn anacronistig honno, ond ei lais ef yw ein hunig lais yn San Steffan, a ni yw llais pobl Cymru, felly mae'n gwbl briodol yn wleidyddol—nid yn gyfansoddiadol efallai, ond yn wleidyddol credaf ei bod yn gwbl briodol—ein bod yn trafod y cynnig ac yn ei basio yma heddiw.
Roeddwn am ddweud ei fod hefyd yn gwrthod dod i bwyllgorau i roi tystiolaeth.
Mae'n wir, ac yn fwyaf diweddar i'r pwyllgor y mae Mike Hedges yn aelod ohono, fel rwyf fi, y Pwyllgor Cyllid.
Nid wyf am restru methiannau un unigolyn yma. Mae llawer ohonynt, a gallwn eu rhestru—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser yn yr awr nesaf. Rwy'n canolbwyntio ar y ddau ymrwymiad mawr na lwyddodd i'w cyflawni, a oedd yn y maniffesto ac y dylai ef yn bersonol gymryd cyfrifoldeb drostynt. Credaf fod y lleill, a allai ddod yn amlwg yn y drafodaeth i ddod, yn bethau ar gyfer dadl. Nid ydynt yn ein rhoi mewn sefyllfa lle byddem eisiau pasio cynnig neu wneud cynnig o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol, ond mae'r ddau benderfyniad hwn yn ein rhoi yn y sefyllfa honno.
Gadewch i ni edrych yn benodol ar y penderfyniad ar forlyn llanw bae Abertawe, yr un mwyaf diweddar. Wrth wrthod y prosiect hwn, nid un prosiect morlyn yn unig a wrthodwyd. Yr hyn a wrthodwyd yw'r holl syniad o dechnoleg amrediad llanw. Cafodd ei wrthod ar sail eu hadroddiad annibynnol eu hunain a gomisiynwyd gan Weinidog ynni blaenorol ar botensial ynni amrediad llanw, nad oedd yn ymwneud â morlyn Abertawe yn unig—er iddo ddod i gasgliad penodol ar forlyn Abertawe—ond mewn gwirionedd, roedd yn adroddiad ar yr holl ynni amrediad llanw o gwmpas ynysoedd Prydain. Yng ngeiriau prif weithredwr Tidal Lagoon Power, mae'r penderfyniad i wrthod y morlyn yn bleidlais o ddiffyg diddordeb yng Nghymru, diffyg hyder mewn gweithgynhyrchu ym Mhrydain, a diffyg gofal am y blaned.
O ystyried hynny, credaf mai diffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol yw'r ymateb lleiaf y gall y Cynulliad hwn ei wneud. Roedd y ffordd y cafodd y cyhoeddiad hwn ei wneud yn rhwbio ein hwynebau yn y baw, ac yn rhwbio halen ar y briw. Ar y diwrnod y cafodd y morlyn llanw ei wrthod, cymeradwywyd rhedfa ychwanegol gwerth £14 biliwn yn Heathrow, ac ar y diwrnod y gwrthodwyd y morlyn llanw, penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio ei gyfrwng cymdeithasol ei hun, cyfrif Twitter Swyddfa Cymru, i drydaru cyfres o femynnau plentynaidd ynglŷn â nifer truenus y swyddi a fyddai'n cael eu creu gan y morlyn llanw, a sut na fyddai'n gwneud hyn a'r llall ac arall, ar sail symiau a ffigurau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu nad ydynt yn gwneud synnwyr. Roeddent yn gwrthddweud ei gilydd yn llwyr; er enghraifft, roedd trydariad gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud na fyddai ond wedi creu 28 o swyddi hirdymor, a cheir ymrwymiad ym maniffesto 2015 sy'n dweud:
Bydd y prosiect hwn yn creu miloedd o swyddi ac yn denu gwerth miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad i Gymru.
[Torri ar draws.]—Rwyf am roi hynny i'r naill ochr. Dair blynedd ar wahân—pa un yw'r celwydd? Pa un yw'r celwydd—trydariad yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe neu'r ymrwymiad mewn maniffesto y cytunwyd arno, nid gan un unigolyn yn unig, ond gan y Blaid Geidwadol gyfan?
Mae Charles Hendry wedi nodi hyn ac wedi gwneud pwynt pwysig iawn yn ei ymateb ei hun i'r penderfyniad hwn. Dywedodd:
yn union fel nad yw gweithfeydd nwy a ffermydd gwynt ond yn creu nifer fach o swyddi hirdymor. Y pwynt yn y fan hon oedd a allwn ddechrau diwydiant byd-eang newydd o'r DU? Dechrau'n unig fyddai Abertawe.
Dechrau'n unig fyddai Abertawe. Nid un prosiect yn unig y mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'i ddwyn oddi arnom, ond dechrau technoleg gyfan, dechrau newydd i Abertawe ac i Gymru, dechrau marchnad allforio newydd, dechrau sylfaen weithgynhyrchu newydd, dechrau gobaith newydd i Tata Steel, dechrau gobaith newydd ar gyfer sgiliau a hyfforddiant yn ne Cymru. Dyna y mae wedi'i ddwyn oddi arnom, a dyna pam na ddylem roi unrhyw arwydd iddo fod gennym hyder o gwbl yn ei allu i wneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Mae yna gefnogaeth gyhoeddus enfawr i'r morlyn—mae 76 y cant o bobl Prydain yn cefnogi ynni tonnau ac ynni'r llanw, o'i gymharu, fel y mae'n digwydd, â 38 y cant yn unig sy'n cefnogi ynni niwclear. Ac eto, nid yn unig y mae ynni niwclear yn cael y cymhorthdal contract gwahaniaeth—roedd y morlyn yn gofyn am yr un peth â Hinkley, wrth gwrs—ond mae hefyd yn cael cydfuddsoddiad gan Lywodraeth y DU, rhywbeth yr oedd Llywodraeth Cymru, a bod yn deg, wedi'i gynnig i'r morlyn, ac a gafodd ei wrthod gan Lywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, mae gan fôr-lynnoedd llanw fywyd gweithredol gwahanol iawn a llawer hwy ac maent yn costio llai yn y tymor hir, fel y dywedodd Hendry yng nghasgliad ei adroddiad annibynnol. I'w roi yn y cyd-destun hwn, disgwylir y bydd prosiect braenaru, megis bae Abertawe, wedi'i ariannu drwy'r dull contract gwahaniaeth, sef 30c y flwyddyn ar bob bil, yn costio 30c i bob cartref ar gyfartaledd, fel y dywedais. Mae hyn, i mi, yn ymddangos yn bris bach iawn i'w dalu am dechnoleg newydd sy'n cynnig y manteision hynny ac sydd â photensial amlwg i ddechrau diwydiant newydd sylweddol. Mae symud ymlaen gyda morlyn braenaru, rwy'n credu, yn bolisi 'di-edifeirwch'.
Os ydym yn derbyn y penderfyniad hwn gan San Steffan, a chan yr Ysgrifennydd Gwladol yn benodol, os nad ydym yn sicrhau bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn edifar am ei benderfyniad, yna bydd y polisi 'di-edifeirwch' hwn yn troi'n benderfyniad trychinebus. Mae'n rhaid i ni fynnu ein hawliau yma i anfon neges glir at San Steffan. Fe roesant neges glir iawn i ni ddydd Mawrth. Dywedasant, 'Ewch, anghofiwch am fuddsoddi, anghofiwch am eich dyfodol, anghofiwch am y dechrau newydd hwn. Ewch a byddwch yn dawel.' Rhaid inni beidio â bod yn dawel yn wyneb y fath negeseuon cryf gan San Steffan a rhaid i ni anfon neges yr un mor gryf yn ôl at yr Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd weithiau mae'n rhaid i chi wneud gwleidyddiaeth yn bersonol, ac weithiau mae'n rhaid i chi sylweddoli bod y rheini sy'n ceisio bod yn bont ar gyfer gwireddu uchelgeisiau Cymru wedi cau'r drws yn glep ar yr uchelgeisiau Cymreig hynny mewn gwirionedd. Datgan nad oes gennym unrhyw hyder ynddo yw'r unig ffordd y gallwn wrthod ei ymgreinio a'i friwsion oddi ar fwrdd y DU a mynnu ein hawl ddemocrataidd i'n hadnoddau ein hunain a'n penderfyniadau ein hunain.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth ar ôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi yn ei le:
1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru, gan gynnwys Morlyn Ynni’r Llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio’r brif linell rhwng Caerdydd ac Abertawe.
2. Yn gresynu at fethiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddadlau achos Cymru ac i gefnogi’r angen am ragor o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.
3. Yn credu:
a) bod rhaid sicrhau rhagor o gydweithredu sy’n fwy cynaliadwy rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig;
b) bod angen diwygio peirianwaith rhynglywodraethol y DU gan sefydlu cyngor Gweinidogion newydd ar gyfer y DU, gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol, er mwyn atgyfnerthu’r cydweithio a’r broses o wneud penderfyniadau.
Ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Paul Davies i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn ei enw. Paul Davies.
Gwelliant 2—Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyflawniadau sylweddol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sy'n cynnwys:
a) y cytundeb â Llywodraeth Cymru ar fframwaith cyllidol hanesyddol;
b) diddymu tollau'r pontydd Hafren;
c) buddsoddiad sylweddol mewn bargeinion dinesig a bargeinion twf rhanbarthol ledled Cymru; a
d) y cyhoeddiad diweddar ynghylch negodiadau pellach i ddatblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd.
2. Yn nodi anallu Llywodraeth Cymru i ddarparu cynnydd ar brosiectau seilwaith mawr ledled Cymru, yn dilyn ei phenderfyniad i wrthod Cylchffordd Cymru a'i methiant parhaus i gyflawni gwelliannau i'r M4, yr A40 a'r A55.
3. Yn credu bod swydd a swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hanfodol o ran cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Llywodraeth y DU.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i.
Rwy'n siomedig fod y cynnig hwn wedi'i gyflwyno gan Blaid Cymru heddiw, ac rwy'n drist eu bod yn chwarae gwleidyddiaeth plaid â'r mater penodol hwn. Ni fydd yn syndod i'r Aelodau y bydd fy nghyfraniad yn canolbwyntio ar rai o'r cyfraniadau cadarnhaol y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'u gwneud dros Gymru. Wrth gwrs, nid yw hynny'n golygu nad yw'r Aelodau ar yr ochr hon i'r Siambr yn siomedig iawn gyda'r cyhoeddiad diweddar am y morlyn llanw, ac mae fy nghyd-Aelodau wedi ei gwneud yn gwbl glir ein bod yn rhannu'r siom a'r rhwystredigaeth a adleisiwyd gan Aelodau eraill yn y Siambr hon. Yn wir, fel Aelod sy'n cynrychioli ardal lle mae datblygiadau ynni llanw yn gwneud cynnydd sylweddol, rwy'n cydnabod gwerth posibl y morlyn llanw. Fodd bynnag, rwy'n sylweddoli bod gan Weinidogion y Llywodraeth ddyletswydd i sicrhau bod y ffigurau'n gwneud synnwyr a sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr, ac mae'n amlwg eu bod yn teimlo nad oeddent yn gallu gwneud hynny gyda'r prosiect hwn. Yn fy marn i, mae angen inni edrych ar fodel diwygiedig sy'n gwneud y prosiect yn fwy costeffeithiol ac yn fwy deniadol i fuddsoddiad gan y sector preifat.
Fodd bynnag, ni chyflwynwyd y ddadl heddiw er mwyn trafod hynny na goblygiadau'r morlyn llanw i Gymru, ond yn hytrach i drafod swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Felly, mae'n briodol ein bod yn bachu ar y cyfle i fod ychydig yn fwy gwrthrychol, a chydnabod fan lleiaf rai o'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol cyfredol. [Torri ar draws.] Gwnaf, mewn munud. Er enghraifft—ac rwyf am roi rhai enghreifftiau i chi—gwyddom fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi chwarae rôl allweddol yn darparu'r fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth Cymru, fframwaith sydd wedi'i groesawu gan bawb yn y Siambr hon. Mae'r fframwaith cyllidol yn darparu trefniant cyllido hirdymor teg i Gymru, gan ystyried y pwerau trethu newydd a ddatganolwyd eleni, ac yn sicr mae'n arwain y ffordd ar gyfer datganoli cyfraddau Cymreig o dreth incwm yn 2019.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dweud yn glir hefyd y bydd y tollau ar bont Hafren yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, ac mae hwnnw hefyd yn ddatblygiad i'w groesawu'n fawr. Bydd y cyhoeddiad hwn o fudd i ddegau o filiynau o yrwyr bob blwyddyn, yn lleihau'r gost o wneud busnes rhwng Cymru a Lloegr, ac yn darparu hwb gwerth £100 miliwn i economi Cymru. Mae cael gwared ar y rhwystr ariannol hwnnw'n datgan yn glir bod Cymru ar agor ar gyfer busnes ac mae'n ddatganiad symbolaidd fod Llywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Gwladol cyfredol yn chwalu rhwystrau ac yn cefnogi economi Cymru, yn hytrach na chreu rhwystrau. Ildiaf i'r Aelod dros Ynys Môn.
Diolch i chi am ildio. Rydych yn siarad am swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae'n eithaf clir, onid yw, mai dyn San Steffan yng Nghymru yw Alun Cairns, nid dyn Cymru yn San Steffan? Mae'n gwbl amlwg, onid yw, fod Alun Cairns yn ailddyfeisio rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel llywodraethwr cyffredinol ar Gymru? Rwy'n gwrthwynebu hynny ar egwyddor, rwy'n gwrthwynebu hynny fel Cymro, a phan fo'n amlwg fod y llywodraethwr cyffredinol hwnnw'n gweithio yn erbyn budd Cymru, onid yw'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder ynddo?
Mae'n nonsens llwyr. Rwyf newydd roi rhestr i chi o'r hyn y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'i gyflawni dros Gymru.
Mae ein gwelliant hefyd yn tynnu sylw at y gwaith allweddol sy'n cael ei wneud ar y bargeinion twf dinesig a rhanbarthol ledled Cymru a'r buddsoddiad sylweddol a wnaed mewn gwahanol rannau o Gymru. Cytunwyd ar fargeinion twf ar gyfer rhanbarthau Caerdydd ac Abertawe, gyda chynlluniau'n cael eu llunio yng ngogledd Cymru—ac mae'r rhain i gyd yn cael cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth y DU. Mae'r bargeinion yn rhoi cyfleoedd i bobl leol fynd i'r afael â'r heriau i dwf economaidd yn yr ardal drwy ddatblygu busnesau newydd gwerth uchel a chynorthwyo busnesau sy'n bodoli eisoes i arloesi a datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd, a dylai'r Cynulliad gefnogi'r bargeinion hynny a gweithio gydag awdurdodau lleol i hybu eu potensial. Er enghraifft, deallaf y bydd bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe yn sicrhau cynnydd parhaol yn ei gwerth ychwanegol gros ac yn cynhyrchu tua 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol hefyd wedi gweithio'n galed mewn perthynas â datblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd, a fydd yn creu miloedd o swyddi yng ngogledd Cymru yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn darparu'r buddsoddiad mwyaf yng ngogledd Nghymru ers cenhedlaeth. Yn wir, mae Horizon yn rhagweld y bydd yn creu hyd at 9,000 o swyddi ar frig y cyfnod adeiladu, a chyda dau adweithydd ar y safle, bydd y gwaith hefyd yn cynnal tua 1,000 o swyddi yn ystod ei weithrediad. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod, yn wahanol i'r darlun llwm iawn y mae rhai yn y Siambr hon wedi'i baentio, mae Ysgrifennydd Gwladol cyfredol Cymru wedi cyflawni rhai canlyniadau da iawn i Gymru.
Wrth gwrs, ar yr ochr hon i'r Siambr, credwn fod swydd a swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn hanfodol er mwyn cynrychioli buddiannau Cymru ar lefel Llywodraeth y DU. Yn wir, wrth i'r DU symud gam yn agosach at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach byth fod llais Cymru i'w glywed o amgylch bwrdd y Cabinet a bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu cynrychioli yn holl gyfarfodydd y Cabinet.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae Ysgrifennydd Gwladol cyfredol Cymru wedi sicrhau rhai canlyniadau sydd i'w croesawu'n fawr ac mae'n bwysig i'r Aelodau fod yn wrthrychol wrth ystyried cyhoeddiadau polisi. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau, i edrych y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid, a chael dadl go iawn ynglŷn â chyflawni prosiectau seilwaith ledled Cymru.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Ddoe, soniais yn y datganiad ar y morlyn llanw am y ffyrnigrwydd a'r dicter diatal yn Abertawe, a ddiwrnod yn ddiweddarach mae'r ffyrnigrwydd diatal hwnnw'n dal i fod yn ddiatal, rhaid i mi ddweud, a dyna'r rheswm dros y ddadl hon y prynhawn yma.
Mae carfannau o raddedigion peirianneg yn Abertawe, dwsinau o fusnesau lleol a chontractwyr bach wedi bod yn aros am benderfyniad cadarnhaol ar swyddi cyflog uchel o ansawdd da ers blynyddoedd, miloedd ohonynt, fel ym maniffesto'r Ceidwadwyr. Roedd yna obeithion uchel ar gyfer y fenter fawr arloesol hon, ac ni allwn, mewn unrhyw ffordd, fychanu'r ymdeimlad o ddinistr y mae Abertawe a'r gymuned rwy'n byw ynddi yn ei deimlo yr wythnos hon—brad a dinistr llwyr. Maent yn disgwyl ateb grymus gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n derbyn bod ein dwylo wedi'u clymu yn gyfansoddiadol i raddau helaeth. Dyma hyd a lled ein hateb grymus i newyddion dinistriol ac echrydus. Mae cannoedd o bobl wedi cysylltu â phob un ohonom, nid fi yn unig. Mae yna ffyrnigrwydd yno—ffyrnigrwydd llwyr—ac nid yw, mewn unrhyw ffordd, yn fater o chwarae gêm wleidyddol o gwbl.
Mae'n rhaid dal rhywun i gyfrif am hyn. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fod i ymladd ar ein rhan. Prin iawn yw'r dystiolaeth o'r frwydr honno dros y misoedd diwethaf, mae arnaf ofn—prin iawn. Rydym yn gwybod beth yw'r ffigurau. Yr un prisiau streic yn Hinkley Point. Iawn, byddai 30c yn ychwanegol i'w dalu yn ein biliau trydan o ganlyniad i'r morlyn llanw—30c yn hytrach na £15 ychwanegol yn sgil y diwydiant niwclear. Ond yn fwy na hynny, mae'n wastraff llwyr o ddiwydiant arloesol o'r radd flaenaf a fyddai wedi'i leoli yng Nghymru—yn Abertawe i ddechrau, y prosiect braenaru, ond hefyd Caerdydd, Casnewydd, Bae Colwyn. Dyna'r dinistr rydym yn ei deimlo o ganlyniad i'r penderfyniad ofnadwy hwn. [Torri ar draws.] Mae'n frad ac mae'n enfawr, ac mae wedi mynd, yn llwyr. Dyna pam rydym yn cael y ddadl hon. Mae'n rhaid dwyn rhywun i gyfrif am hyn, ac nid oes gennyf unrhyw hyder, nid oes gennym unrhyw hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Darren—yn amlwg, ni allwch glywed.
Fe sonioch am amddiffyn rhag llifogydd, ac yn gwbl briodol, mae rhai Aelodau wedi bod yn tynnu sylw at y ffaith fy mod wedi bod yn cefnogi prosiectau yng ngogledd Cymru oherwydd y manteision amddiffyn rhag llifogydd. Roedd Llywodraeth y DU yn eithaf clir fod gwrthod y cynnig penodol hwn yn golygu gwrthod y cynnig penodol hwn. Nid oedd, mewn gwirionedd, yn benderfyniad i wrthod ynni'r llanw ar ei ben yma yng Nghymru. A dweud y gwir, pe baech yn siarad â datblygwyr y prosiectau posibl yng ngogledd Cymru, fel rwyf fi wedi'i wneud, byddent yn dweud wrthych fod eu prosiect wedi'i lunio gyda thechnoleg wahanol sy'n gallu lleihau'r pris streic yn sylweddol i'w wneud yn llawer mwy fforddiadwy. Felly, credaf ei bod hi'n amlwg fod yna wahanol dechnolegau i'w cael yn ogystal â gwahanol gynlluniau y dylid, a hynny'n gwbl briodol, eu pwyso a'u mesur yn ôl eu rhinweddau eu hunain.
Diolch i chi am hynny—un o'r ymyriadau hwyaf a gofnodwyd erioed o bosibl. A phe bai Llywodraeth y DU wedi siarad â'r cwmni morlyn llanw yn Abertawe, byddent wedi clywed dadl debyg, ond nid oedd unrhyw gyfathrebu am ddwy flynedd, yn ôl yr hyn y mae'r prif weithredwr a'r cadeirydd yn ei ddweud wrthyf. Felly, beth y mae disgwyl iddynt ei wneud? [Torri ar draws.] Wel, yn hollol. Ni allwch ei amddiffyn. Dyna pam rwy'n gofyn i chi bleidleisio dros ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Ac yn amlwg, mae'r brad hwn ar ben sawl brad arall. Mae fy amser yn brin yn awr, ond rwyf am ganolbwyntio ar y penderfyniad i beidio â thrydaneiddio'r brif reilffordd i, unwaith eto, Abertawe. Mae yna ffactor cyffredin yma—Abertawe. Beth rydym ni wedi'i wneud? Beth rydym ni wedi'i wneud? Felly, ie, yn hollol—dau addewid maniffesto mawr nad ydynt yn digwydd. Nid oes gennym unrhyw hyder o gwbl yn yr Ysgrifennydd Gwladol cyfredol.
Os caf orffen ar ail bwynt ein cynnig o ddiffyg hyder, nid oes gennym hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru chwaith. Rydym mewn hinsawdd newydd bellach ar ôl Brexit. Dylem fod o blaid Llywodraethau'n cydweithio yn deg gyda'i gilydd gyda chyngor Gweinidogion y DU wedi'i gyfansoddi'n briodol, gyda phwerau cyfartal a rennir i wneud penderfyniadau. Dyna'r ffordd ymlaen. Nid ydym angen rhyw golomen gludo rhwng Caerdydd a Llundain mwyach. Mae'n perthyn i orffennol trefedigaethol—cefnogwch y cynnig.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn am un peth yn benodol, sef y ffaith y byddai wedi bod yn bosibl cael cynnig heddiw y gallai'r Cynulliad cyfan fod wedi cytuno arno, rwy'n credu, oherwydd rydym o ddifrif yn siomedig gyda'r canlyniad ar y morlyn llanw ac rwy'n gobeithio y bydd yn bosibl i ni ailystyried pethau cyn gynted â phosibl yn y tymor canolig. Mae'n ddyletswydd ar y rheini sydd wedi cynnig y cynllun i ailedrych ar y ffigurau, oherwydd bydd llawer o'r manylion yn awr, yn anochel, yn dod i'r amlwg, a byddant yn haeddu cael eu harchwilio'n fanwl iawn, a dyna beth y byddwn ni yn ei wneud ar yr ochr hon i'r Cynulliad.
A gaf fi sôn yn gyntaf oll am y gorgyrraedd amlwg a gafodd ei awgrymu'n gryf, a bod yn deg, yn araith Simon wrth wneud y cynnig? Ond mae angen i ni fyfyrio ar yr angen i ddangos parch tuag at gylchoedd y Llywodraeth—mae hynny wrth wraidd system ddatganoledig neu ffederal. Beth fyddai Plaid Cymru yn ei wneud pe bai San Steffan yn cynnig pleidlais o ddiffyg hyder ym Mhrif Weinidog Cymru? Mae'n rhaid i mi ddweud ar unwaith—ac ni fydd hyn yn eich synnu—fy mod yn teimlo mai gwleidyddiaeth wirion yw hon. Wedi'r cyfan, caiff Plaid Cymru eu cynrychioli'n fedrus yn San Steffan—gadewch i mi orffen y pwynt hwn—a dylai fod ganddynt hyder yn eu cyd-Aelodau yn San Steffan i fynd ar drywydd y materion hyn yno, lle y gellir dwyn yr Ysgrifennydd Gwladol i gyfrif wrth gwrs. Rwy'n fodlon ildio yn awr.
Rwy'n siŵr fod fy nghyd-Aelodau yn fwy nag abl i wneud hynny yn San Steffan, ond onid yw'n sylweddoli bod ei Brif Weinidog ei hun yn defnyddio GIG Cymru i ymosod ar Jeremy Corbyn yn gyson?
Wel, wyddoch chi, dyna yw'r taro a'r gwrthdaro a geir mewn gwleidyddiaeth—
Yn hollol. Yn hollol.
Rydych wedi gwneud y pwynt drosom. Rydych wedi gwneud y pwynt drosom.
Wel, gadewch i mi orffen fy mhwynt, diolch i chi, Leanne. Mae gwleidyddiaeth angen cymariaethau. Wrth wraidd Llywodraeth ddatganoledig, mae'r ddamcaniaeth eich bod yn edrych ar awdurdodaethau gwahanol ac yn dysgu ganddynt. Mae hynny'n bendant yn ddilys. Ond yr hyn nad ydych yn ei wneud ym model San Steffan—yn wir, mewn unrhyw system ddemocrataidd o lywodraethu—yw cael un ddeddfwrfa i bleidleisio 'diffyg hyder' mewn Gweinidog nad yw'n atebol i'r ddeddfwrfa honno. Mae'n nonsens cyfansoddiadol, fel y gwyddoch yn iawn.
Gadewch i mi symud ymlaen. Rheswm arall pam rwy'n siomedig iawn yn y cynnig hwn yw bod gan Alun Cairns graffter unigryw a ddaw o fod yn Aelod Cynulliad blaenorol a fu'n gwasanaethu am gyfnod maith. Rydym yn gwerthfawrogi hynny'n fawr ar yr ochr hon i'r Cynulliad, ac rwy'n amau, y tu ôl i'r llenni, fod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi hynny hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth i'w drysori'n fawr. Mae ganddo hanes da iawn o gyflawni yn y swydd, ac mae'n eiriolwr diflino dros Gymru, fel sydd wedi'i amlinellu. Gallwn restru'r holl gyflawniadau, ond cawsant eu rhestru'n fedrus gan fy nghyd-Aelod.
Carwn wneud y pwynt hwn yn unig.
A gaf fi ychwanegu hyn, mewn ysbryd o gonsensws? Mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ar faterion economaidd yn deilwng yn fy marn i. Ac ers 2010, rydym wedi gweld cynnydd o dros 18,000 yn nifer y busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y gallwch ddweud mai Llywodraeth y DU yn unig yw hynny, na Llywodraeth Cymru yn unig—partneriaeth yw hi. Ers 2010, rydym wedi gweld 117,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru a 57,000 yn llai o bobl ddi-waith. Unwaith eto, llwyddiannau ar y cyd yw'r rhain, ac maent yn rhai teilwng. Rwy'n fodlon ildio yn awr, Mick.
Onid rhan o'r broblem yw eich bod wedi gwneud addewidion penodol iawn yn eich maniffesto, eu bod wedi cael eu cyhoeddi gyda'r bwriad penodol o gael pobl i bleidleisio drosoch, ac i ennill rhai etholaethau, ac ati? Nawr, nid oes gennyf broblem gyda hynny, oherwydd mae hynny'n rhan o wleidyddiaeth. Ond onid yw'n dinistrio holl bwrpas cael maniffesto, mewn gwirionedd, a hygrededd ein system wleidyddol? Hynny yw, beth ydyw—pan wnaethoch yr addewidion penodol hynny i bobl yn eich maniffesto, ai'r gwir yw na wnaethoch roi ystyriaeth briodol iddynt, eich bod yn gweld eich cyfle a dyna i gyd, neu a gawsant eu gwneud heb fod gennych unrhyw fwriad o gwbl o'u cyflawni?
Rydych yn hollol gywir yn dweud bod unrhyw Lywodraeth yn atebol i'r etholaeth am yr hyn y mae'n ei ddatgan mewn maniffesto. Nid wyf yn credu bod yr un Lywodraeth yn cyflawni popeth y mae'n bwriadu ei wneud, ac yn amlwg os ydych yn cyrraedd islaw pwynt penodol gallwch ddisgwyl ymateb deifiol gan yr etholaeth. Ond rydym yn falch o'r hyn rydym yn ei gyflawni, a byddwn yn ei amddiffyn, ac rwy'n siŵr y bydd pobl Cymru, a'r DU, yn ein barnu'n deg ac yn gweld ystod lawn ein llwyddiannau.
A gaf fi siarad am swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, oherwydd mae gennym adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol ar y gweill ar hyn o bryd? Rwy'n llongyfarch Llywodraeth Cymru am sicrhau, fel rhan o'r trefniadau wrth i ni adael yr UE, ein bod yn adolygu sut rydym yn datblygu cydlywodraethu yn y DU. Mae'n dasg hanfodol—rwyf wedi dweud hyn dro ar ôl tro—ond yn sicr rydym angen cadw swydd yr Ysgrifennydd Gwladol, o leiaf hyd nes y bydd dulliau mwy ffurfiol o gydlywodraethu yn cael eu sefydlu a'u gweld ar waith. Byddai'n ffôl dod â swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ben hyd nes bod y rhagolwg cyfansoddiadol newydd hwnnw wedi'i gyflawni.
Ac rwyf am ddweud hyn yn uniongyrchol wrth Blaid Cymru: byddai'n gyngor gwell i chi gael eich cefndryd yn yr SNP i gefnogi datblygiad dulliau mwy ffederal o ffurfio cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU, oherwydd y gwir amdani, ar hyn o bryd, yw bod yr SNP yn fwy awyddus i ddibynnu ar drafodaethau dwyochrog, oherwydd maent naill ai yn eu hennill neu maent yn condemnio Llywodraeth y DU yn llwyr os nad ydynt yn cael eu ffordd, hyd yn oed os nad ydynt yn cyfaddawdu o gwbl, ac nid oes ganddynt ddiddordeb yn y dasg sylfaenol y mae gennym ni ddiddordeb ynddi, sef cryfhau cyfansoddiad y DU. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau Llafur yn bennaf yn myfyrio ar hynny.
Fel y dywedais ddoe, rwyf wedi cael fy siomi'n wirioneddol gan benderfyniad cibddall Llywodraeth Theresa May i wrthod y morlyn llanw. Mae siom mawr yn fy rhanbarth i hefyd ymysg y bobl sy'n sicr yn lleisio eu barn, a hynny'n briodol hefyd. Unwaith eto, mae Llywodraeth San Steffan wedi dangos eu dirmyg llwyr tuag at fy rhanbarth, ar ôl torri'r addewid i ddarparu trydaneiddio i Abertawe ac yn awr, sathru ar gyfle Abertawe i arwain y byd ym maes ynni adnewyddadwy arloesol.
Ond rwy'n derbyn mai un llais yn unig yw'r Ysgrifennydd Gwladol: un Gweinidog o blith 118; un llais o blith 21 sy'n eistedd o amgylch bwrdd y Cabinet. Felly, rwy'n rhoi'r bai am y penderfyniad ofnadwy hwn ar Theresa May a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark. Negesydd yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'r cyfan, ac yn yr achos hwn ni allwn roi'r bai i gyd arno am y penderfyniad hwn. Fodd bynnag, rwy'n teimlo, mewn gwirionedd, fod angen i Alun Cairns fod yn llawer cryfach wrth sefyll dros Gymru, wrth sefyll dros fy rhanbarth i.
Yn dilyn y ddadl hon, rwyf eisiau i Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod yn llai o was bach a gwneud y peth iawn dros fy rhanbarth i, dros Gymru a dros y bobl. Felly, er fy mod yn cydymdeimlo'n fawr â gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n teimlo bod Llywodraeth y DU wedi siomi Cymru a bod angen i ni sicrhau mwy o gydweithredu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Ymddengys nad yw'r trefniadau cyfredol yn gweithio ac o ganlyniad, byddaf yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru.
Felly, y penderfyniad ar y morlyn llanw oedd y diweddaraf mewn cyfres hir o benderfyniadau gwael gan Lywodraeth y DU. Mae Cymru angen i'r ddwy Lywodraeth weithio gyda'i gilydd os yw am ffynnu. Diolch.
Rheilffyrdd heb eu trydaneiddio, pontydd yn cael eu hailenwi ar ôl y tywysog trefedigaethol, gwrthod y morlyn llanw: dyna beth sy'n cael ei gyflawni gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Llais San Steffan yng Nghymru ydyw nid llais Cymru yn San Steffan. Torrwyd un addewid maniffesto ar ôl y llall. Aethpwyd yn ôl ar un cyhoeddiad ar ôl y llall. Ac wrth gwrs, do, cafodd pleidleisiau eu hennill ar sail yr addewidion hynny.
Mae £5 biliwn o arian trethdalwyr yn mynd tuag at ynni niwclear, ond ni ellir dod o hyd i un rhan o bump o hwnnw ar gyfer y morlyn llanw; £3.5 biliwn i drwsio Palas San Steffan, ond ni ellir dod o hyd i un rhan o dair o hwnnw i adeiladu'r morlyn llanw; cil-dwrn o £1 biliwn i'r DUP, ond mae morlyn llanw bae Abertawe yn rhy ddrud. Roedd dydd Llun yn crynhoi dirmyg San Steffan tuag at Gymru yn berffaith. Ar yr union ddiwrnod y gwnaethant gymeradwyo rhedfa gwerth £14 biliwn yn Llundain, fe wnaethant y penderfyniad i wrthod morlyn llanw bae Abertawe. Mae hi bron fel pe baent yn ceisio rhwbio eu methiant i fuddsoddi yng Nghymru yn ein hwynebau.
Ddoe, yn chwerthinllyd, cawsom ein cyhuddo gan y Prif Weinidog o adael i'r Torïaid, a chynrychiolydd Cymru yn San Steffan, wneud fel y mynnant. Bydd y Blaid Lafur heddiw i bob pwrpas yn dangos eu cefnogaeth i Ysgrifennydd Gwladol Cymru drwy ymatal, neu o bosibl drwy bleidleisio yn erbyn ein cynnig. Rwy'n derbyn mai cynnig symbolaidd yw hwn, ond sut arall rydym ni i fod i ddangos cryfder ein teimladau? Pa ddulliau sydd ar gael i ni? Mae'n gwrthod, fel y dywedwyd eisoes, rhoi tystiolaeth i bwyllgor. Sut ar y ddaear y gallwn ni ei ddwyn i gyfrif?
Yr hyn rydym ei angen yn awr yw gweithredoedd, nid ymataliadau. Pwrpas sydd ei angen arnom, nid datganiadau i'r wasg, a phleidleisiau yn hytrach na dicter. Yn y pen draw, heddiw, mae'r Blaid Lafur, unwaith eto, yn dangos eu bod yn barod i sefyll dros San Steffan i amddiffyn y gweithredoedd hyn na ellir eu hamddiffyn, yn hytrach na sefyll dros Gymru. Oherwydd y swyddi a'r cyfleoedd a allai fod wedi cael eu creu yn sgil y morlyn llanw, mae'n rhaid i ni ddadlau ein hachos. Mae Plaid Cymru yn credu bod yn rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol fynd, ynghyd â'r cysyniad o swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei hun. Ni all San Steffan byth, ac ni fyddant byth, yn gweithio dros Gymru—dyna y mae hyn yn ei ddangos i ni. Felly, heddiw, mae gennym gyfle i anfon neges ddiamwys: ni wnawn ganiatáu i'n gwlad gael ei thrin â'r fath ddirmyg.
Testun siom i mi yw bod yma heddiw i siarad ar y cynnig hwn o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dylai fod yn llais Cymru yn San Steffan, ond mae'n amlwg nad yw'n hynny o gwbl. Mae ganddo record o fethiant llwyr. Gydag Alun Cairns yn Ysgrifennydd Gwladol, rydym wedi gweld y cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffyrdd yn cael eu canslo. Mewn sawl gwlad yn y byd y mae'n amhosibl i chi deithio ar drên trydan rhwng y ddwy ddinas fwyaf? A oes unrhyw le arall yn Ewrop? Mae'n sefyllfa hollol gywilyddus.
Yn awr mae morlyn llanw Abertawe wedi cael ei ganslo. Roedd hwn yn gyfle i Gymru arwain y byd ym maes ynni adnewyddadwy. Y math o ail-ddiwydiannu y mae Cymru ei angen yn daer yn yr unfed ganrif ar hugain, ond nid oedd Alun Cairns yn ei gweld hi felly. Mae wedi gadael i'r Llywodraeth hon gael gwared ar y prosiect hwnnw o dan ei oruchwyliaeth ef. Pe bai ganddo unrhyw ddewrder—dewrder gwleidyddol—byddai wedi ymddiswyddo dros hyn, neu efallai ei bod hi'n amlwg nad oes ots ganddo.
Os meddyliwn am Bont Hafren, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn parhau i honni bod mwyafrif tawel eisiau gweld y bont yn cael ei hailenwi, pan fo holl dystiolaeth yr arolygon barn gan y cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y DU yn dangos mai canran eithriadol o fach o bobl sy'n cefnogi newid enw'r bont.
Y cwestiwn go iawn i mi yma yw, pam fod y Blaid Lafur yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, a pham mai tua 10 yn unig o ACau Llafur sydd yma i gael dadl ar y cynnig hwn. Mae'n amlwg fod ganddynt hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o hyd. Nid yw'n syndod i mi, oherwydd rwyf wedi gwybod ers amser maith fod y Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur yn ddwy ochr i'r un geiniog—Torïaid coch a glas, yn gweithio gyda'i gilydd i sathru ar Gymru.
Mae pobl Cymru wedi colli hyder yn y Ceidwadwyr gyda chymaint o brosiectau na chawsant eu cyflawni a chymaint o addewidion wedi'u torri. Ond eto gallwn gael adweithyddion niwclear, mwd niwclear a charchardai mawr wedi'u dadlwytho arnom. A dyma'r Gymru rydym yn byw ynddi heddiw. Y gwir amdani yw bod y Blaid Lafur yr un mor wael â'r Ceidwadwyr. Ni fyddent hyd yn oed yn cyfaddef eu bod wedi cefnogi'r cynlluniau i newid enw'r bont. Cymerodd gais rhyddid gwybodaeth i ddarganfod hynny. Ddydd Llun, tybed a welwn y Prif Weinidog yn plygu glin i'r frenhiniaeth yn union fel y Prif Weinidog Ceidwadol o'i flaen.
Mae angen i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun ac mae'r Blaid Lafur yn ein rhwystro rhag gwneud hynny. Mae'r Ceidwadwyr yn ein rhwystro rhag gwneud hynny. Felly, mae'n bryd i bobl Cymru sefyll ar eu traed, oherwydd yn amlwg ni chawn unrhyw beth tra bôm yn parhau i gael ein hanwybyddu dro ar ôl tro, fel rhan o'r Deyrnas Unedig honedig, a thra anghyfartal hon.
Diolch. Ac yn olaf, Neil Hamilton.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, ac mae arnaf ofn nad wyf yn rhannu'r gwrthwynebiadau cyfansoddiadol a fynegodd David Melding yn gynharach. Credaf fod hawl gan y Cynulliad hwn i fynegi barn ar gymhwysedd Gweinidogion y Deyrnas Unedig lle mae eu cyfrifoldebau'n cyffwrdd ar Gymru a buddiannau ei phobl yn uniongyrchol. Mae hynny'n ymddangos yn gwbl briodol i mi ac rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon heddiw, er na fyddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru oherwydd, yn anffodus, mae'r ail ran yn rhywbeth nad wyf yn cytuno ag ef.
Ond credaf yn sicr fod gennym hawl, mewn perthynas â mater eiconig y morlyn llanw, a thrydaneiddio'r rheilffyrdd yn wir, i arddel safbwynt ar gymhwysedd yr Ysgrifennydd Gwladol. Amddiffyniad eithaf treuliedig o'r Ysgrifennydd Gwladol presennol yw na ddylem fod yn trafod y mater hwn oherwydd ei fod yn rhy debyg i wleidyddiaeth plaid. Wel, os nad ydym ni yn y sefydliad hwn yn cynrychioli gwleidyddiaeth plaid, pam ar y ddaear rydym ni yma? Ond nid yw hynny'n golygu ein bod yn gwneud pwyntiau yn y ddadl hon am resymau pleidiol amheus yn unig. Ceir dicter go iawn ar yr ochr hon i'r Siambr ynghylch y penderfyniad ar y morlyn llanw, a theimlaf yn flin iawn dros gyd-Aelodau Ceidwadol, sy'n amlwg yn rhannu'r teimlad hwnnw ond yn methu ei fynegi yn yr un modd yn hollol. Oherwydd mae'r Ysgrifennydd Gwladol a'i gymheiriaid yn y Cabinet wedi troi'r llanw ar y Ceidwadwyr yn hyn o beth, a'u gadael mewn picil.
Mae dweud bod Alun Cairns wedi cael cyflawniadau mawr ar ffurf y fframwaith cyllidol yn crafu'r gwaelod go iawn. Os ewch chi draw i'r Eli Jenkins heno a gofyn i bobl yn y bar dros beint am beth y bydd Alun Cairns yn cael ei gofio, ai am fframwaith cyllidol Cymru neu'r dyn a suddodd y morlyn llanw—os gallwch suddo morlyn—credaf fod yr ateb yn go amlwg ac nid oes angen unrhyw esboniad.
Nawr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn, Neil. Nid oes gennyf ddigon o amser i ddweud beth y mae wedi'i wneud. Mae'n un o feibion Cymru a heblaw amdano ef, gallaf eich sicrhau na fyddai Tata Steel yno ym Mhort Talbot. Felly, peidiwch ag anghofio. Mae gennych gof byr iawn—[Torri ar draws.] Mae gennych gof byr iawn yma, a bydd ei wasanaeth i'r wlad hon yn cael ei gofio a bydd yno i helpu'r wlad hon. A pheidiwch ag anghofio nad yw'r morlyn llanw hwn yn farw eto.
Wel, mae gennyf barch mawr at farn leiafrifol, oherwydd rwyf mewn lleiafrif bach iawn yn y tŷ hwn, ond credaf fod y rheini sy'n arddel y farn honno mewn lleiafrif hyd yn oed yn llai na'r un rwyf ynddo fel arfer.
Ond er fy mod yn cefnogi swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, nid wyf yn meddwl y gallaf gefnogi'r sawl sydd ynddi ar hyn o bryd. Wrth gwrs, rhaid inni barhau i gael Ysgrifennydd Gwladol Cymru, oherwydd mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig ac mae yna nifer o faterion o bwys mawr sydd heb eu datganoli, ac ef yw llais Cymru yn y Cabinet. Ond y cwestiwn yw: pa mor effeithiol yw'r llais hwnnw? Dyna'r cwestiwn allweddol yma, a chredaf fod yr enghreifftiau a nodwyd yn y ddadl hon eisoes yn dangos nad yw'r llais hwnnw'n effeithiol o gwbl, mewn gwirionedd.
Nawr, mae pawb yn gwybod fy mod yn sgeptig ar faterion ynni gwyrdd mewn sawl ffordd, ond os ydym yn mynd i gael prosiectau ynni gwyrdd, ymddengys i mi fod ynni'r llanw ac ynni'r tonnau yn cynnig gwell gwerth am arian yn hirdymor na phrosiectau fel ffermydd gwynt, oherwydd mae ynni llanw o leiaf yn rhagweladwy ac nid yw'n ddarostyngedig i natur ysbeidiol haul neu wynt. Ac am y rhesymau a nodwyd ynghylch datblygu technoleg newydd fyd-eang a allai greu sgil-effeithiau pwysig i Gymru, mae yna resymau eraill pam y dylid bod wedi cefnogi'r prosiect hwn.
Nawr, roedd yn gyd-ddigwyddiad yn wir, onid oedd, fod y cyhoeddiad wedi'i wneud ar yr un diwrnod â'r buddsoddiad yn Heathrow, y buom yn aros ers oes pys amdano, mae'n ymddangos—fod y ddau gyhoeddiad wedi'u gwneud gyda'i gilydd. Oherwydd roedd hwnnw, mae'n debyg, yn ddiwrnod da ar gyfer claddu newyddion drwg i Gymru, heblaw fod arnaf ofn na fydd rhuo'r awyrennau jet sy'n codi o Heathrow yn ddigon i foddi'r bloeddiadau o ddicter sy'n dod o Gymru wrth iddi gael ei hanghofio, unwaith eto, ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth.
Felly, mae arnaf ofn fod y Llywodraeth wedi gwneud cam â Chymru yn hyn o beth ac mewn llawer o ffyrdd eraill yn ogystal. Ac mae'n ddrwg gennyf, oherwydd mae Alun Cairns yn ddyn hoffus, ond rwy'n ofni bod gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth effeithiol, yn fwy na bod yn hoffus. Rhaid i chi allu sicrhau canlyniadau. Bachgen ysgol oeddwn i pan benodwyd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, sef Jim Griffiths. Ef oedd fy Aelod Seneddol, a rhaid i mi ddweud, yn yr oddeutu 50 mlynedd ers hynny, rydym wedi gweld ambell un da i ddim yn y swydd honno, ond rwy'n credu y bydd Alun Cairns ymhell i lawr y rhestr ar sail profiad hanesyddol. Ac os edrychwn am gymariaethau hanesyddol, efallai mai'r sarhad seneddol mwyaf dinistriol a ynganwyd erioed yn erbyn Gweinidog yn y Llywodraeth oedd yr un a wnaed gan Disraeli am yr Arglwydd John Russell, pan ddywedodd pe bai crwydryn o bell yn cael clywed bod dyn o'r fath yn Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, fe allai'n hawdd ddechrau deall sut roedd yr Eifftwyr yn addoli pryfyn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n ddadl yr ydym yn ei chael, wrth gwrs, oherwydd penderfyniad Llywodraeth y DU ddydd Llun i beidio â chefnogi prosiect morlyn llanw Bae Abertawe, prosiect braenaru a fyddai wedi profi hyfywedd cynhyrchiant ynni môr-lynnoedd llanw a gallai fod wedi paratoi'r ffordd ar gyfer datblygu diwydiant ehangach yng Nghymru, diwydiant, fel y dywedodd Simon Thomas wrth agor, a oedd â photensial i feddu ar arwyddocâd byd-eang.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, mae wedi cymryd bron flwyddyn a hanner i Lywodraeth y DU gyrraedd y penderfyniad hwn. Yn wir, roeddent wedi cael adroddiad eu cynghorydd annibynnol eu hunain a ddaeth i'r casgliad y dylid ei gefnogi ar sail ddi-edifeirwch am chwe mis llawn cyn mynd i mewn i etholiad cyffredinol yn gwneud yr addewidion a nododd Mick Antoniw yn ei ymyriad—chwe mis hir y gallai fod wedi dod i benderfyniad ynglŷn â'r mater. Yn wir, aeth i mewn i etholiad gan wneud addewidion i bobl y rhan honno o dde Cymru a byth ers hynny, yn hytrach na chefnogaeth, rydym wedi gweld hanes digalon o anwadalu, mwydro, oedi, ac amharodrwydd i ymgysylltu hyd yn oed â'r llawer o fuddiannau a oedd eisiau cefnogi'r cynnig o forlyn llanw ar gyfer bae Abertawe.
Fel rydym wedi clywed yn y ddadl, mae hon yn Llywodraeth, wrth gwrs, ag iddi hanes o ddweud 'na' wrth Gymru. Prin fod y llwch wedi setlo ar benderfyniad annoeth Llywodraeth y DU i dorri ei gair ar drydaneiddio'r brif reilffordd yr holl ffordd i Abertawe. Bydd llawer ohonom yma yn cofio addewidion cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, ynglŷn â threnau trydan cyflymach yr holl ffordd i Abertawe pan oedd yn eistedd ar un o'r trenau diesel hynny sy'n dal i deithio'n ddyddiol i ac o Paddington. Ac fel y clywsom, ac fel y dywed Simon Thomas, gwyddom yn awr fod Prif Weinidog y DU yn bersonol wedi cymeradwyo'r penderfyniad i ganslo cynlluniau i drydaneiddio'r rhan o'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Un mewn cyfres o brosiectau seilwaith mawr eu hangen i gael eu canslo gan y Llywodraeth honno yn y DU oedd trydaneiddio'r brif lein rhwng Caerdydd ac Abertawe.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, diolch i'r Blaid Geidwadol am eu gwelliant. Fe wnaeth godi calon ar ddiwedd prynhawn hir ddoe gyda'i haeriad pwerus fod oes dychan yn dal yn fyw ac yn iach yn y seddi gyferbyn. Ar wahân i agor y môr coch, gwyddom yn awr fod popeth sydd wedi digwydd yng Nghymru o fewn cof yn ganlyniad i ymdrechion Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ei ben ei hun. Fodd bynnag, wrth edrych yn fanylach, Ddirprwy Lywydd, tybed a all y Swyddfa Gyflwyno ystyried gosod rhybudd iechyd ar welliannau o'r fath yn y dyfodol, rhyw fath o neges 'gwirio yn erbyn realiti', oherwydd wrth i mi ddechrau darllen y rhestr o gyflawniadau arwyddocaol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, deuthum, yn gyntaf oll, at ei rôl yn y cytundeb ar fframwaith cyllidol hanesyddol â Llywodraeth Cymru. Wel, rwy'n cofio hydref 2016 yn iawn, Ddirprwy Lywydd, gan fy mod yn cyfarfod bob mis, a mwy nag unwaith y mis, â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd, David Gauke. Rwy'n cofio llofnodi'r fframwaith cyllidol hanesyddol gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Nid wyf yn cofio gweld yr Ysgrifennydd Gwladol yn un o'r cyfarfodydd hynny. Gwelais ef mewn sesiwn dynnu lluniau gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ac ni feddyliais y byddai ei ran mewn sesiwn dynnu lluniau yn cyrraedd cynnig gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyflawniad hanesyddol. Gallwn fynd drwy weddill y gwelliant—[Torri ar draws.] Mr Ramsay.
Gan fod angen ymyriad, rwy'n siŵr fod yr Ysgrifennydd Gwladol yno o ran ysbryd, Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Ac efallai nad oedd yn y cyfarfodydd penodol hynny, ond wrth gwrs, rôl yr Ysgrifennydd Gwladol yw helpu i gydgysylltu a hwyluso'r mathau hynny o gytundebau, ac yn y pen draw, roedd y fframwaith cyllidol yn rhywbeth y gweithioch chi'n galed iawn arno, rwy'n gwybod, ac rwyf bob amser wedi rhoi clod i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, a heb rôl San Steffan, ni fyddai wedi digwydd, na fyddai?
Wel, wrth gwrs, diolch i Nick Ramsay—mae'r syniad o Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel ysbryd Marley, yn ysgwyd ei gadwynau yn y cefndir yn ystod fy nghyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn un difyr. O ystyried ei hanes mewn perthynas â materion eraill, yn bersonol, rwy'n tueddu i fod yn ddiolchgar am y ffaith nad oedd yn yr ystafell, o ystyried beth allai fod wedi digwydd pe bai wedi bod yno.
Gadewch i mi droi, Ddirprwy Lywydd, at y cynnig ei hun. Mae gwelliant y Llywodraeth yn wahanol i'r cynnig, rwy'n credu, o ran ei ddull yn hytrach na'i gyflawniad. Ychydig iawn oedd yna yn yr hyn a ddywedodd Simon Thomas wrth agor y ddadl hon y buaswn wedi anghytuno ag ef o gwbl. Credaf yn syml, ar yr ochr hon, nad ydym yn credu ei fod yn gwneud synnwyr i'r sefydliad hwn gael ei ddenu i basio cynigion o ddiffyg hyder mewn unigolion nad ydynt wedi eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol nac yn atebol iddo.
At hynny, Ddirprwy Lywydd, ym meddyliau'r cyhoedd, mae i gynnig o ddiffyg hyder mewn lleoliad gwleidyddol ddiben penodol: os caiff ei dderbyn, rhaid i'r unigolyn ymddiswyddo. Ac rydym yn gwybod na fyddai hyn yn wir yn yr achos hwn; byddai'n arwydd, meddai arweinydd Plaid Cymru wrthym. A suddodd fy nghalon, oherwydd nid oeddwn yn credu ein bod wedi sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn bod yn gadarnle ar gyfer gwleidyddiaeth arwyddion.
Mae gwelliant y Llywodraeth yn gwneud dau beth: mae'n nodi'r swydd sy'n gyfrifol—ac nid wyf yn anghydweld ag unrhyw beth sydd wedi'i ddweud gan Aelodau Plaid Cymru am y cyfrifoldeb sydd ar ysgwyddau'r sawl sydd yn y swydd—ac yna mae'n mynd yn ei flaen i osod methiannau'r swydd yng nghyd-destun ehangach cyflwr anghynaliadwy y peirianwaith rhynglywodraethol yma yn y Deyrnas Unedig.
Mae hyn yn fwy na methiant unigolyn, Ddirprwy Lywydd; mae'n fethiant ar ran Llywodraeth. Wrth gwrs, mae'n iawn y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol nodi ei ddyfarniad ar faint y dicter a'r siom a deimlir ynglŷn â'r penderfyniad a nodi pwy sy'n gyfrifol. Ond rhaid inni fynd ymhellach na hynny; rhaid inni feddwl sut y gellid unioni hyn ar gyfer y dyfodol. Dyna beth y mae gwelliant y Llywodraeth yn ei wneud, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn ei gefnogi y prynhawn yma.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Simon Thomas i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar i bawb wnaeth gymryd rhan yn y drafodaeth. Fel Mark Drakeford, roeddwn i’n prysur weld y dewin yma yn ymddangos ar y gorwel oedd â hudlath yn newid cwrs gwleidyddiaeth Cymru. Ond realiti'r peth, wrth gwrs, yw bod penderfyniadau, neu ddiffyg penderfyniadau, gan Lywodraeth San Steffan wedi dal yn ôl dau broject pwysig iawn i Gymru: y trydaneiddio i Abertawe, ac, yn ail, y morlyn llanw ym Mae Abertawe. Er fy mod i’n gallu derbyn, wrth gwrs, bod y Blaid Geidwadol am amddiffyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru—rwy’n derbyn nad yw’r Llywodraeth, efallai, yn y fan hyn eisiau cefnogi cynnig fel hwn oherwydd natur rynglywodraethol—nid ydw i'n gallu derbyn nad yw'n briodol i ni fel Senedd ddemocrataidd cael pasio barn ar berfformiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nid yw’n anghyfansoddiadol i wneud hynny. Mae yn wleidyddol—ydy, mae yn wleidyddol, ond rydym ni yma, wedi ein hethol, i fod yn wleidyddol ac i roi'r bys o gyfrifoldeb gwleidyddol lle mae’r briw.
Ac, yn yr achos yma, rydw i hefyd jest eisiau codi un pwynt a wnaed gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Rydw i’n derbyn beth mae e’n ei ddweud. Hynny yw, rydw i’n derbyn bod gyda fe ddadl pan fo’n dweud ddylem ni ddim pasio cynnig o ddiffyg ffydd mewn aelod o Senedd arall, ond mae mynd mor bell â dweud nad yw’r lle yma’n gallu cynnig diffyg ffydd mewn unrhyw un sydd ddim wedi’i ethol i’r lle yma yn mynd yn llawer rhy bell i fi. Pe bai bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu’n llwyr, byddem ni eisiau pleidleisio dros ddiffyg ffydd yng ngweinyddiaeth y bwrdd iechyd, oni fyddwn ni ddim? Ac felly mae yn briodol ein bod ni’n defnyddio’r dulliau sydd gyda ni fan hyn, mewn trefn, i wneud hynny. Mae’n mynd â ni i gors wleidyddol, rwy’n derbyn hynny, ond nid ydw i’n siŵr iawn pam nad yw’r Llywodraeth wedi bod yn fwy creadigol wrth ymateb i hyn, mae'n rhaid imi ddweud, yn hytrach na dileu popeth a rhoi rhywbeth yn ei le—sydd, i bob pwrpas, yn cytuno ag ail ran ein gosodiad ni bod angen gwella'r drefn rhynglywodraethol yma—a chaniatáu i feinciau cefn Llafur gael pleidleisio â'r botwm yna i ddweud nad ydyn nhw'n credu yn Alun Cairns. Mae mor syml â hynny, achos dyna rydw i'n gwybod yn wir sydd yng ngwaed y rhan fwyaf o Aelodau'r Llywodraeth.
Nawr, mae pawb wedi cyfrannu yn eu—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Fe gymeraf ymyriad cyflym.
Diolch am ildio. Deallaf yn iawn pam eich bod eisiau cyflwyno dadl ar y morlyn llanw, ac fel y gwyddoch, rydym yn rhannu siom y Cynulliad a Chymru na fwriwyd ymlaen â hynny. A ydych chi'n meddwl y gellid bod wedi gwneud achos, fodd bynnag, dros lunio cynnig y gallai pob plaid yma fod wedi'i gefnogi'n eithaf hawdd, a fydda'n dal i fod wedi mynegi anfodlonrwydd wrth Lywodraeth y DU, ond mewn ffordd adeiladol? Felly, roedd ffordd wahanol o'i wneud, a dyna pam rwy'n deall y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cynnig o ddiffyg hyder.
Rwy'n cofio llunio cynnig o'r fath. Arweiniais ddadl meinciau cefn ar gynnig o'r fath. Cefnogodd pawb yn y Cynulliad y cynnig hwnnw, a beth wnaeth Llywodraeth San Steffan mewn ymateb i'r cynnig hwnnw? Fe ddywedodd, 'Na, dim diolch.' Fe basiwyd cynnig yma, gyda phob plaid o blaid y morlyn llanw, ac mae wedi'i wrthod gan San Steffan. Nid wyf yn erbyn yr hyn a awgrymodd yr Aelod, ond credaf fod heddiw'n ddiwrnod ar gyfer gwyntyllu'r dicter a fynegwyd yn Abertawe ac i ni leisio'r dicter hwnnw ar ran y bobl. Dyna sydd ei angen heddiw.
A gaf i droi at rai o'r pwyntiau mwy cadarnhaol a wnaed? Paul Davies, croeso i'r digwyddiad cyntaf fel arweinydd y grŵp Ceidwadol—[Torri ar draws.] Dros dro am y tro—beth bynnag rydych chi eisiau ei ddweud. Mae Paul wedi datgan yn glir bod cyfle o hyd i ynni o'r môr, ond pa fuddsoddwr nawr sy'n mynd i ddod i Gymru a thrafod gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan gan gredu y byddai eu harian nhw a'u gwaith caled dros flynyddoedd yn cael ei ysgrifennu bant mewn datganiad byr iawn i Dŷ'r Cyffredin ar gefn chwe tudalen o fathemateg hollol ropey, os caf i ddweud, hefyd? Edrychwch chi ar beth mae Marine Energy Wales, sydd, wrth gwrs, yn sir Benfro, wedi ei ddweud. Maen nhw'n dweud bod hyn yn golygu disregard ar gyfer amcanion ac uchelgeisiau Cymru o'i gymharu â beth mae Llywodraeth San Steffan yn ei wneud. Byddwch chi'n gwybod bod cwmnïau fel Ledwood yn Noc Penfro yn barod i fod yn rhan o adeiladu'r morlyn llanw yma.
Rydw i'n ofni ein bod ni wedi tynnu'r plwg—os caf i ei ddweud e fel yna—nid yn unig ar un cynllun, fel y dywedais i, ond ar y diwydiant, ar y broses ac am rai blynyddoedd. Y tro nesaf y daw rhywun i ddatblygu yn y môr yng Nghymru, byddwn ni'n gorfod edrych ar gwmni o'r tu allan, o Ffrainc neu Tsieina, ac yn gorfod derbyn eu termau nhw, yn hytrach na bod yn rhan o lunio'r cynllun fan hyn. Dyna fethiant San Steffan a methiant yr Ysgrifennydd Gwladol yn benodol.
Rwy'n diolch i bawb. Nid oes gen i amser nawr i fynd trwy bawb, so gwnaf i jest gloi drwy ddweud ein bod ni wedi cael neges glir iawn gan San Steffan: dau gynllun enfawr, pwysig, dros £2 biliwn, y cyfle i fuddsoddi yng Nghymru, creu miloedd o swyddi, creu diwydiannau newydd a chreu cyfleoedd newydd—maen nhw wedi cael eu gwrthod ar sail tystiolaeth denau iawn, iawn, iawn. Nawr yw'r amser, heddiw yw'r amser i yrru neges unfrydol, glir at yr Ysgrifennydd Gwladol: 'Gwnaethoch chi fethu, gwnaethoch chi fethu'r job, dewch o 'na a rhowch y cyfle i rywun arall ei wneud e eto.'
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.