1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Cyn i mi ddechrau, fe wnaf i egluro: cwestiynau i chi yw'r rhain, nid i'r Gweinidog dros dreftadaeth na'r iaith.
Buaswn i'n licio dechrau trwy longyfarch yr holl fusnesau hynny sydd ag agwedd iach ac adeiladol tuag at y Gymraeg, nid yn unig oherwydd eu bod nhw'n cefnogi'r Gymraeg a'n diwylliant ni, ond hefyd oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu busnes. Ond, wrth gwrs, mae yna eithriadau. Felly, o ystyried sylwadau gwbl sarhaus gan un cwmni—ni wnaf ei enwi—am yr iaith dros y dyddiau diwethaf, a ydych chi'n credu y gallwn ni wastad ddibynnu ar ewyllys da cwmnïau preifat i barchu a defnyddio'r iaith Gymraeg?
Ni chredaf y gallwn ddibynnu ar ewyllys da yn unig o reidrwydd; credaf mai'r hyn sydd ei angen yw ewyllys da, rhywfaint o gydweithredu â Llywodraeth Cymru, ond cydnabyddiaeth hefyd, os ydych am fod yn llwyddiannus mewn busnes, yn enwedig yn y sector manwerthu—ac mae'r cwmni nad yw'r Aelod wedi'i enwi yn rhan o'r sector manwerthu—mae angen i chi ymgysylltu â'r gymuned rydych yn dibynnu arni, yn y bôn, i oroesi. Os ydych yn gelyniaethu cyfran sylweddol o'r gymuned honno, ni ddylech ddisgwyl iddynt fod yn gwsmeriaid. Ac felly, nid yn unig ei bod yn gwneud synnwyr busnes da i fabwysiadu a chroesawu'r iaith Gymraeg, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr masnachol da, gan y gallwch ychwanegu gwerth at eich cynnyrch a'ch gwasanaethau drwy ddefnyddio rhywbeth sy'n unigryw, ac mae'r iaith yn hollol unigryw i Gymru.
Mae hynny'n hollol iawn. Eto, o dynnu sylw at y busnesau hynny sydd eisoes yn gweithredu'n gadarnhaol, mae o'n fy nharo i y dylai'r busnesau hynny eu hunain gael eu defnyddio i annog busnesau eraill i fod yn fwy cadarnhaol tuag at yr iaith, yn enwedig hefyd o ystyried y cyfraniad mawr y gall y sector breifat ei wneud tuag at gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Pam felly, os caf fi ofyn, nad oedd apêl ar fusnesau i ymestyn eu cefnogaeth a'u defnydd o'r Gymraeg fel un o alwadau gweithredu craidd eich strategaeth economaidd chi ac yn enwedig lle mae yna gwmnïau wedi derbyn arian Llywodraeth?
Wrth gwrs, gyda'r contract economaidd, fe'i cynlluniwyd i sbarduno twf cynhwysol, a bydd y galwadau i weithredu yn lens newydd y byddwn yn cefnogi busnesau drwyddi, gyda'r bwriad o leihau'r bwlch cynhyrchiant rhyngom a llawer o wledydd Ewrop. O fewn y contract economaidd, a gynlluniwyd, dywedaf eto, er mwyn sbarduno twf cynhwysol, ceir pwynt penodol yn y meini prawf ar gyfer hyrwyddo gwaith teg, ac mae gwaith teg yn golygu bod yn rhaid inni sicrhau bod gan bobl fynediad at swyddi o ansawdd da a'u bod yn gallu defnyddio'u sgiliau, ac mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y gallu i siarad yr iaith y mae pobl yn dewis ei siarad. Credaf y bydd y contract economaidd, wrth sbarduno twf cynhwysol, nid yn unig o fudd i leihau'r bwlch mewn anghydraddoldeb o ran cyfoeth a lles, ond bydd o gymorth hefyd i sicrhau ein bod yn lleihau'r bwlch rhwng y bobl sy'n gweithio neu sy'n byw mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, yn aml mewn ardaloedd mwy gwledig a difreintiedig, a'r economïau mwy llwyddiannus hynny mewn ardaloedd trefol iawn.
Credaf eich bod yn iawn—mae cyfeiriad yn y strategaeth economaidd at ddefnyddio datblygiad economaidd i dyfu a datblygu'r iaith, ond ni cheir unrhyw gyfeiriad at sut y gall yr iaith ei hun hybu twf economaidd. Cadeiriais un o gyfarfodydd diweddar Cymru Ryngwladol, y grŵp trawsbleidiol, a buom yn edrych ar adroddiad gan y Cyngor Prydeinig ar rym gymell tawel a sut i fanteisio i'r eithaf ar ein grym cymell tawel. Gwnaeth nifer o argymhellion, a rhai diddorol iawn hefyd. Un peth a gryfhaodd rym cymell tawel yr Alban dramor oedd y ffaith eu bod wedi cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn ddiweddar—ac rwy'n hyderus y cawn un yng Nghymru heb fod yn rhy hir hefyd—ond roedd hynny'n rhoi hwb i hunaniaeth y genedl. A pheth arall a argymhellodd oedd y dylem dynnu sylw at y pethau sy'n gwneud inni sefyll allan oddi wrth weddill y DU, ac mae un peth amlwg, sef yr iaith Gymraeg. Felly, onid oes llawer mwy y gall y Llywodraeth ei wneud i ddefnyddio'r iaith a'r ffaith ei bod yn gwneud inni sefyll allan a bod yn wahanol fel arf ar gyfer tyfu ein heconomi yng Nghymru?
Rwy'n cytuno'n llwyr, a chredaf fod Ewro 2016 yn enghraifft berffaith i ddangos sut y gall sylw cyfandir cyfan—y byd i gyd, mewn gwirionedd—gael ei hoelio ar wlad fach a chanolbwyntio ar beth yw ei nodweddion unigryw. Yn achos Ewro 2016, siaradwyd y Gymraeg dros bob man, ac roedd hynny'n ychwanegu gwerth. Ond rwy'n falch iawn o allu dweud y byddwn yn edrych ar brosiect penodol yng Nghymru a fydd yn archwilio potensial yr iaith Gymraeg i sbarduno datblygiad economaidd. Prosiect Arfor fydd y prosiect hwnnw, prosiect a argymhellwyd gan Adam Price, a bydd yn cael ei ddatblygu gan y Llywodraeth hon.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch am ymweld ag abaty Nedd a'r gwaith haearn yn ddiweddar iawn gyda Jeremy Miles a minnau. Mae'n rhaid imi ddweud bod y cyfeillion yn falch iawn eich bod wedi dod i ymweld â hwy, fel y gallent ddangos y gwaith caled y maent wedi'i wneud yn hyrwyddo a gofalu am y safle hwnnw, er nad ydynt yn berchen arno. Yn amlwg, yr awdurdod lleol sy'n berchen arno.
Mae twristiaeth yn un o elfennau gwaith Tasglu'r Cymoedd, a gwn eich bod yn cytuno â mi a'r cyfeillion fod gan y safleoedd hyn, ynghyd â safleoedd diwylliannol pwysig eraill yng nghwm Nedd a chwm Dulais, gryn dipyn o botensial twristiaeth. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru ein cynorthwyo i fanteisio ar y twf mewn cyfoeth sy'n deillio o'r fargen ddinesig, a hyrwyddo twristiaeth yng Nghastell-nedd fel cynnig cydlynol? A ydych wedi rhoi rhagor o ystyriaeth i raglen debyg i Cymru Gydnerth er mwyn cynorthwyo i gefnogi grwpiau cymunedol, fel cyfeillion y gwaith haearn, i reoli a hyd yn oed i gymryd cyfrifoldeb llawn am rai o'n safleoedd diwylliannol pwysig?
Fe wnes i fwynhau fy ymweliad â'r abaty a'r gwaith haearn—
Mynachlog Nedd.
Ie, Mynachlog Nedd. Mae'n well imi ateb Suzy yn Gymraeg, onid yw?
Pam lai?
Gwnes i fwynhau fy nhaith yn arbennig. Roedd hi'n hyfryd gweld ansawdd y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn barod ar yr abaty, yn dod â'r adeilad yn ôl i ddiogelwch—nid y cyfan ohono fo, ond rhannau ohono fo. Ond wrth gwrs, chawsom ni ddim gweld y gwaith mwyaf ardderchog; nid yw eto wedi'i gwblhau, ond rydw i'n sicr ei fod o'n cael ei wneud i'r safon uchaf.
Y ffordd y mae Cadw yn gweithio: byddwn ni'n cydweithio fel corff. Mae'r corff yn parhau yn rhan o Lywodraeth Cymru, ond y mae o'n cael ei reoli yn annibynnol o fewn y Llywodraeth. Cyn bo hir, mi fydd yna hysbyseb pellach i benodi cadeirydd a bwrdd i Cadw, ac yna rydym ni'n gobeithio y bydd y bwrdd hwnnw wedyn yn gallu parhau â'r gwaith o gydweithio â chymunedau sydd yn barod wedi dangos eu gofal am eu hetifeddiaeth. Mae yna enghraifft dda iawn wedi digwydd yn ddiweddar lle'r ydym ni wedi cael castell yn feddiant, yng Nghaergwrle a'r Hôb, oddi wrth y cyngor cymuned, ac y mae'r trafodaethau yn parhau o hyd i'r gwirfoddolwyr a oedd yn edrych ar ôl yr ardal o gwmpas y castell i barhau i wneud hynny, tra bod pobl sydd yn gweithio yn uniongyrchol i Cadw—contractwyr Cadw—yn gallu gofalu ar ôl yr henebion.
Felly, rydym ni'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y gefnogaeth yr ydym ni'n ei chael gan wirfoddolwyr. Ac mi fyddaf i yn sicrhau, yn unrhyw gynlluniau a fydd yn cael eu datblygu ar gyfer glanhau ac addasu, yn arbennig y gwaith haearn sydd mor hanesyddol o ran adeiladu llongau ager, ac yn y blaen, yng Nghymru, y bydd y gwaith yna yn cael ei sicrhau, a bydd y gwirfoddolwyr yn parhau i gydweithio.
Wel, diolch yn fawr iawn am hynny. Mewn gwirionedd, rwy'n hapus iawn gyda'ch ateb, oherwydd pan fo gennym gymaint o unigolion yn ein cymunedau sy'n awyddus iawn i gefnogi'r lleoedd lle maent yn byw, a chynorthwyo i'w cadw'n gryf a chynaliadwy, ni ddylem anwybyddu'r cyfleoedd i wneud hynny.
Wrth gwrs, y penwythnos diwethaf, roedd hi'n Ddiwrnod y Lluoedd Arfog, a gwn fod llawer ohonom yma wedi bod yn talu teyrnged i aelodau a chyn-aelodau'r lluoedd arfog yn ein ffyrdd ein hunain. Addawodd y Ceidwadwyr Cymreig greu amgueddfa filwrol genedlaethol aml-safle yn Nghymru, gan adeiladu ar a chynnwys yr amgueddfeydd sydd gennym eisoes. Byddai hyn yn gyfle nid yn unig i ddangos i'n cyn-filwyr ac aelodau presennol y lluoedd arfog gymaint y maent yn ei olygu i ni, ac i ddathlu eu llwyddiannau, ond hefyd i archwilio'r cwestiynau ehangach ynglŷn â rhyfel a natur newidiol rhyfela, a gwaith heddychlon ac anfilwrol y lluoedd hefyd. Y llynedd, ymrwymodd Llywodraeth y DU £2 filiwn i gefnogi amgueddfa feddygaeth filwrol yng Nghymru. Mae amgueddfa bêl-droed dan ystyriaeth yma yng Nghymru. Beth yw eich barn ynglŷn ag amgueddfa filwrol genedlaethol i Gymru?
Nid wyf wedi ystyried y cwestiwn yma, oherwydd rydw i'n parhau i ddisgwyl adroddiad ar un cynllun arall yn arbennig, sef oriel gelf gyfoes, ac mi fyddaf i’n ystyried honno pan ddaw'r adroddiad. Mae yna, wrth gwrs, nifer o elfennau o'n traddodiad milwrol yn cael eu coffau yn barod. Mae gan y gwahanol rannau o'r lluoedd arfog amgueddfeydd bychain. Mae yna amgueddfa, fel y gwyddoch chi, o fewn castell Caerdydd—Firing Line. Roeddwn i'n arfer bod yn gysylltiedig â'r amgueddfa honno cyn i fi ddod i'r swydd yma, ac felly rydw i'n hapus iawn i edrych ar y posibiliadau, ond mi fyddai'n rhaid i hynny fod yn bartneriaeth gyda'r lluoedd arfog eu hunain, os ydym ni'n mynd i dderbyn arteffactau neu unrhyw dystiolaeth hanesyddol ar gyfer unrhyw arddangosfa felly, neu amgueddfa felly. Nid wyf wedi gweld y cynllun gan y blaid Geidwadol Gymreig, ond mi fyddwn i'n croesawu cael cyfarfod i drafod hyn, pe byddech chi'n dymuno.
Diolch yn fawr iawn am y cynnig. Gallaf argymell maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig fel rhywbeth da i'w ddarllen ryw gyda'r nos. [Torri ar draws.] O, diar. Yn gynharach y mis hwn, trydarodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod
Yn falch iawn o gyhoeddi bod un o'r cynyrchiadau diweddaraf i gael eu comisiynu yn y DU gan @NetflixUK yn cael ei ffilmio yng Nghymru ar hyn o bryd diolch i gefnogaeth @LlywodraethCym.
Mae hynny'n newyddion gwych, rwy'n croesawu hynny. Fodd bynnag, gyda'n hymchwiliad parhaus i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cyfryngau a'r ffaith bod y gyllideb fuddsoddi yn y cyfryngau wedi'i hatal dros dro, a allwch gadarnhau mai cefnogaeth ariannol sydd dan sylw yma? Ac os felly, o ba gronfa neu raglen fenthyca y daw'r cymorth hwnnw?
Rydym ni ar hyn o bryd yn edrych ar ein rhaglen fuddsoddi. Rydym ni yn edrych yn arbennig ar sut y gellir cyfuno datblygiad Cymru Greadigol, sy'n ymrwymiad ar gyfer y Llywodraeth gan Lafur Cymru. A'r drafodaeth rydw i wedi'i chael hyd yn hyn ydy y byddem ni'n rhagweld, pan fyddwn ni'n sefydlu Cymru Greadigol fel corff—a byddaf i'n dweud mwy am hyn, o bosibl, yn y pwyllgor yn fuan, oherwydd rydw i'n bwriadu rhoi tystiolaeth ar y mater yma—yna y byddwn ni'n cyfuno'r cronfeydd ar gyfer buddsoddi gyda gwaith Cymru Greadigol, fel y bydd y paneli presennol sydd yn penderfynu ar gefnogaeth ar gyfer y cyfryngau ac ar gyfer ffilmiau yn gallu cael dod yn rhan o'r corff hwnnw. Dyna rydw i'n meddwl fyddai'r ffordd resymol o symud ymlaen, ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud ar hynny eto.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet o'r farn y bydd methu lleihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei gwneud yn anos gweithredu eich strategaeth economaidd, fel yr amlinellwyd yn eich dogfen 'Ffyniant i Bawb'?
Nid o reidrwydd, oherwydd mae'r cynllun gweithredu economaidd yn rhoi pwyslais penodol ar weithio'n rhanbarthol, a chan fod y prif swyddogion rhanbarthol ar waith gennym bellach a bod gweithio rhanbarthol cryf yn digwydd drwy ddatblygiad y bargeinion twf a'r bargeinion dinesig, rwy'n hyderus y bydd modd inni gryfhau'r economïau rhanbarthol ymhellach gyda'u hunaniaeth unigryw eu hunain yn y blynyddoedd i ddod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond onid yw'n credu bod posibilrwydd go iawn y gallai'r ymagwedd amlhaenog hon tuag at gyflawniad economaidd droi'n hunllef fiwrocrataidd, a bod y gormodedd o lywodraeth leol yn gwaethygu'r posibilrwydd hwn?
Buaswn yn dweud bod angen inni ddatrys rhai materion pwysig sy'n ymwneud â gweithgarwch awdurdodau lleol, gan gynnwys cynllunio, er enghraifft. Mae hefyd yn hanfodol fod gennym broses symlach a mwy tryloyw ar gyfer cefnogi busnesau—dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn cydgrynhoi nifer o gronfeydd ar ffurf cronfa dyfodol yr economi. Ond yn y misoedd i ddod, wrth i ni roi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith ymhellach, gyda ffocws penodol ar ran ranbarthol y cynllun, rwy'n awyddus i archwilio lle y gallwn gydgrynhoi cymaint â phosibl ar y gweithgarwch y mae llywodraeth leol yn ei gyflawni ar y cyd ac mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, er mwyn gwneud rhagor i leihau'r fiwrocratiaeth a'r weinyddiaeth y mae llawer o fusnesau yn cwyno amdanynt, ac i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n hadnoddau cyfunol.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond os edrychwn ar y sefydliadau sy'n gyfrifol bellach am ddarparu economi gref ar sail ranbarthol—y bargeinion dinesig, menter y Cymoedd, yr ardaloedd menter sy'n weddill, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, ac wrth gwrs, yr awdurdodau lleol—yn sicr, mae'r ffiniau rhwng yr holl gyrff hyn yn aneglur. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ffyddiog y gallant weithredu mewn modd cydweithredol a chosteffeithiol, ac a oes gennych dystiolaeth fod y cydweithrediad hwn yn digwydd mewn gwirionedd?
O ran y cynlluniau rhanbarthol sy'n cael eu llunio, credaf y bydd angen i'r cynlluniau hynny arwain at fframwaith ar gyfer gweithio'n rhanbarthol sy'n cael gwared ar y cymhlethdodau a all fod yn feichus, gyda gormod o sefydliadau a chyrff yn gwneud yr un peth â'r corff arall yn y bôn, ond mewn ffordd wahanol neu gydag ymarfer brandio gwahanol. Dywed busnesau wrthym fod arnynt eisiau un pwynt cyswllt ar gyfer yr holl gymorth gan y Llywodraeth neu lywodraeth leol, ac o ran datblygu economaidd, ein bod yn canolbwyntio ar y ffactorau a all hybu cynhyrchiant, ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl y sgiliau cywir i lenwi swyddi gwag, a'n bod yn parhau i fuddsoddi yn y seilwaith cywir. Mae pob un o'r rhain yn elfennau o'r cynllun gweithredu economaidd ac rwy'n hyderus y byddwn, drwy gadw at y trywydd rydym wedi'i sefydlu bellach ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru, yn arwain at well lefelau o ffyniant—nid yn unig o ran cyfoeth, ond lefelau gwell o les hefyd.