– Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2018.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar dlodi, a galwaf ar Leanne Wood i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6874 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r datganiad gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol a thlodi eithafol yn sgil ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig.
2. Yn gresynu at ganfyddiadau'r adroddiad:
a) bod newidiadau i nawdd cymdeithasol wedi cael effaith anghymesur ar fenywod, plant a phobl anabl;
b) bod gan Gymru'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;
c) nad oes gan Lywodraeth Cymru ffocws strategol ar fynd i'r afael â thlodi, heb ddangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith;
d) bod anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, yn gwaethygu'r achosion strwythurol sydd y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu allan a digartrefedd; ac
e) bod tlodi yn ddewis gwleidyddol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ceisio'r pwerau i gyflwyno hyblygrwydd o'r fath wrth weinyddu credyd cynhwysol; a
b) cyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Er na chafodd lawer o sylw yn y cyfryngau, roedd y datganiad diweddar gan adroddwr y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn ddeifiol iawn. Felly, mae'n bleser gennyf agor y ddadl Plaid Cymru hon ar beth ddylai ein hymateb i'r datganiad hwnnw fod.
Ymddengys i mi nad oes amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer unrhyw Lywodraeth pan fydd yn wynebu adroddiad beirniadol gan y Cenhedloedd Unedig. Mewn gwirionedd, nid yw'r rhestr o wledydd sydd wedi wynebu datganiadau beirniadol gan y Cenhedloedd Unedig, yn rhestr y dylai unrhyw Lywodraeth fod â'r nod o fod arni. Mae Llywodraeth y DU, a'u cydweithwyr yma, mae'n ymddangos, wedi mabwysiadu y math gwaethaf o ymateb. Eu hymateb nhw yw gwadu hyn. Mae'n dweud llawer iawn, yn fy marn i, am y dirywiad mewn ceidwadaeth fodern sydd mor barod i dderbyn damcaniaeth tebyg i Trump fod y Cenhedloedd Unedig yn gynllwyn adain chwith yn hytrach na cheisio ymgysylltu â'r adroddiad hwn. Ai Ceidwadwyr wir yn credu mai dyma yw'r Cenhedloedd Unedig? Felly, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr.
Trof yn awr at welliant y Llywodraeth. O leiaf y mae i'r gwelliant hwn y rhinwedd o dderbyn yr hyn a nodwyd yn yr adroddiad, ond ar yr un pryd, mae'n gwrthod cymryd unrhyw gyfrifoldeb. Ac felly, byddwn, wrth gwrs, yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwnnw hefyd.
Bydd fy nghyd-Aelodau yn manylu ar pam y dylai Cymru fod â rheolaeth dros weinyddu budd-daliadau lles, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn arbennig, byddan nhw'n bwrw golwg ar y rhagfarn annatod o ran rhywedd y mae credyd cynhwysol wedi ei greu, ac rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf o'r Aelodau, os nad yr holl Aelodau yn y fan yma, yn ymwybodol, er enghraifft, o'r cymal treisio, lle mae'n rhaid i fenyw brofi ei bod wedi ei threisio cyn y gall hawlio unrhyw gymorth ar gyfer trydydd plentyn.
Ac er y bydd Llafur yn dweud bod yr holl faterion hyn yn rhai i'r Torïaid yn San Steffan, sut y gall yr SNP a hyd yn oed y DUP sefydlu mesurau diogelu ar gyfer eu poblogaethau rhag effeithiau gwaethaf credyd cynhwysol? Pam mai caniatáu i bobl yng Nghymru ddioddef yw ymagwedd Llafur Cymru? Bydd fy nghyd-Aelodau hefyd yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny ar y datganiad sy'n tynnu sylw at annigonolrwydd dull y Llywodraeth hon i drechu tlodi.
Mae'n bosibl iawn y bydd Llywodraeth Cymru yn pwyntio ei bys at Lundain ac yn rhoi'r bai ar rywun arall, ond mae beirniadaeth glir yn y datganiad hwn na ellir ei hosgoi drwy roi'r bai ar gyni. Mae'r datganiad yn nodi diffyg targedau a dangosyddion perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith y strategaeth trechu tlodi. Mae'n nodi, yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, y bydd diffyg pwerau Cymru i gyflwyno hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol yn gwaethygu'r problemau sy'n wynebu ein pobl. Ydy, wrth gwrs, mae'n warthus ei bod yn ofynnol i'r Llywodraeth yn y fan yma wario arian i liniaru polisïau Llywodraeth y DU, ond mae'n rhaid i chi wneud hynny beth bynnag. Byddai bod â rheolaeth dros weinyddu credyd cynhwysol yn caniatáu i chi leihau'r gost honno, mewn gwirionedd. Sut gall y Llywodraeth yn y fan yma barhau i fethu â deall bod gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu cost ychwanegol pan geir digartrefedd? Rydych chi'n wynebu cost ychwanegol pan fydd pobl yn dioddef salwch cronig ac yn dioddef o ddiffyg maeth ac yn gorfod defnyddio'r GIG. Rydych chi'n wynebu cost ychwanegol pan fo'n rhaid i ysgolion ymdopi â phlant na allant ganolbwyntio oherwydd bod eu teuluoedd yn dibynnu ar fanciau bwyd. Sut y gall y blaid sy'n Llywodraethu yn y fan yma barhau i fod eisiau i'r reolaeth lawn dros y mater hwn aros yn Llundain oherwydd ryw deyrngarwch truenus i egwyddor yn ymwneud â'r undeb yn cynnig rhywfaint o ffyniant â rennir pan fo'r holl dystiolaeth yn dangos nad yw ASau San Steffan yn poeni fawr ddim am ffyniant ardaloedd o'r undeb sydd y tu allan i'r de-ddwyrain a'r siroedd cartref.
Diolch. Rydych chi wedi dweud yn aml, fel plaid, nad oes gennych chi unrhyw ffydd mewn unrhyw gytundebau gyda'r DU. A oes gennych chi ffydd y bydd Cymru'n cael y gyllideb angenrheidiol i gyd-fynd ag unrhyw fudd-daliadau lles datganoledig?
Wel, fe wnaethon nhw yn yr Alban, ac nid wyf i'n clywed unrhyw Aelodau Llafur yn dadlau na ddylai gweinyddu'r system cyfiawnder troseddol gael ei datganoli dim ond rhag ofn na fydd Llywodraeth San Steffan yn trosglwyddo'r arian sy'n gysylltiedig â hynny. Rydych chi'n dadlau dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol ar y sail y bydd yr arian hwnnw yn dod, felly dylech ddadlau dros ddatganoli lles a gweinyddu budd-daliadau hefyd.
Rydym ni i gyd yn gwybod ers cryn amser bod pobl yn ein cymunedau yn dioddef, ac maen nhw'n dioddef yn arw iawn, ac mae'r adroddiad hwn nawr yn rhoi tystiolaeth inni o hynny. Yn ei adroddiad, mae adroddwr y Cenhedloedd Unedig yn nodi'n eithaf clir y gall Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth am hynny, hefyd. Felly, yn hytrach nag aros i dlodi yng Nghymru waethygu hyd yn oed yn fwy, a bydd yn gwneud hynny os na fyddwn yn cymryd camau gweithredu, dyma'r cyfle i weithredu, ac mae'r adroddiad hwn yn rhoi inni'r dulliau sydd eu hangen arnom i wneud hynny.
Diolch. Rwyf wedi dewis dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf i alw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar? Mark.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth y DU wedi’u cymryd i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhoi credyd cynhwysol ar waith.
2. Yn nodi, yn ôl canfyddiadau adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘A yw Cymru’n Decach?’, fod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain, mai Cymru yw’r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, a bod enillion fesul awr canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a’r Alban.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi sy’n cynnwys dangosyddion a thargedau perfformiad clir i fesur cynnydd ac effaith.
Diolch. Fel y dywedodd Ysgrifennydd gwaith a phensiynau'r DU, Amber Rudd, yr wythnos diwethaf:
Gwn fod problemau gyda'r credyd cynhwysol, er gwaethaf ei fwriadau da. Rwyf wedi eu gweld drosof fy hun. Byddaf yn gwrando ac yn dysgu oddi wrth y grwpiau arbenigol yn y maes hwn sy'n gwneud gwaith mor dda. Gwn y gall fod yn well.
Ychwanegodd bod adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, ar ei ymweliad â'r Deyrnas Unedig, wedi defnyddio iaith a oedd, mewn gwirionedd, yn bwrw amheuaeth ar lawer o'r hyn yr oedd yn ei ddweud.
Ni wnaeth adroddiad yr adroddwr unrhyw gyfeiriad at unrhyw un o'r camau gweithredu y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi'u cymryd neu eu cyhoeddi, er i mi gyfeirio'n benodol at rai o'r rhain pan gyfarfu rhai o aelodau'r pwyllgor gydag ef yn y Cynulliad.
Cynigiaf welliant 1. Fel y mae hwn yn ei ddatgan, mae'n rhaid inni nodi'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch gweithredu credyd cynhwysol. Mae'r system yn disodli system orgymhleth—[Torri ar draws.] Rwyf am orffen y frawddeg hon, Helen. Ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod pobl yn fwy tebygol o gael swydd o ganlyniad. Helen Mary.
A wnaiff Mark Isherwood gydnabod bod asesiad y Llywodraeth ei hun yn 2011 wedi amlygu bod rhai o'r problemau hyn sy'n codi oherwydd credyd cynhwysol, yn enwedig o ran sut y maen nhw'n effeithio ar fenywod, yn hysbys. Roedden nhw'n hysbys yn yr asesiad hwnnw, sy'n ddogfen gyhoeddus. Sut y gall Amber Rudd—sut y gallwch chi gredu Amber Rudd yn awr pan ddywed ei bod hi'n mynd i liniaru'r effeithiau hyn pan yr oedd y Llywodraeth yr ydych chi'n ei chefnogi yn gwybod beth fyddai'r effeithiau hynny yn 2011?
Oherwydd bod ganddi brofiad ymarferol ac mewn gwirionedd oherwydd y lansiwyd y fecanwaith cymorth yng Nghymru yn 2013, y gwnaeth y criw hwn geisio ei danseilio. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ers 2012 ar y cynlluniau i'w gyflwyno, a chyflwynodd y fframwaith gwasanaethau cymorth lleol ar gyfer credyd cynhwysol yn 2013, a ddatblygwyd gyda phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i helpu hawlwyr nad oedd yn barod eto i gyllidebu ar gyfer eu hunain a'r rhai hynny sydd angen trefniadau talu amgen. Cyhoeddodd datganiad Hydref 2017 y Canghellor bythefnos ychwanegol o fudd-dal tai, gostyngiad o saith diwrnod i'r cyfnod y mae pobl yn gorfod aros am eu taliad cyntaf, a blwyddyn yn hytrach na chwe mis i ad-dalu benthyciadau caledi. Y mis diwethaf, cadarnhaodd y Canghellor £4.5 biliwn o gyllid a £1.7 biliwn ar gyfer lwfansau gwaith uwch. Bydd amseroedd aros yn cael eu gostwng o bump i dair wythnos, ad-daliadau dyledion yn cael eu gostwng, y dyddiad cau ar gyfer newid budd-daliadau yn cael ei ymestyn i dri mis, a bydd y cymorth ar gyfer pobl hunan-gyflogedig yn cael ei gynyddu.
Dim ond ddydd Gwener diwethaf, dywedodd Amber Rudd ei bod am fynd i'r afael yn benodol ag effaith y credyd cynhwysol ar fenywod a mamau sengl, sicrhau bod menywod sydd mewn perthynas gamdriniol yn cael mynediad at daliadau, ac adolygu'r cyfnod aros o bum wythnos, taliadau ar gyfer tai, mynediad at arian parod ac ad-dalu benthyciadau. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda chyflogwyr drwy Hyderus o ran Anabledd i sicrhau bod pobl anabl, a'r bobl hynny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael cyfleoedd gwaith i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau. Mae rhaglen gwaith ac iechyd Remploy Cymru yng Nghymru yn rhaglen Llywodraeth y DU i gynorthwyo pobl anabl, sy'n ddi-waith yn yr hirdymor a'r rhai hynny â chyflyrau iechyd i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth. Ar gais yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae Cyngor ar Bopeth wedi lansio gwasanaeth newydd i helpu pobl i hawlio credyd cynhwysol yn annibynnol—allweddol—yn annibynnol ar y Llywodraeth, ac mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi recriwtio timau partneriaeth cymunedol o bobl sydd â phrofiad ymarferol o gyrff allanol arbenigol i gefnogi pobl sy'n agored i niwed, gwella sgiliau staff y Ganolfan Byd Gwaith, a chodi pontydd rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
Mae ffigurau annibynnol yn cadarnhau bod lefelau diweithdra a chyfran y swyddi â thâl isel ar eu hisaf erioed, mae enillion wythnosol cyfartalog llawn amser wedi gweld eu cynnydd mwyaf mewn dros ddegawd, ac mae anghydraddoldeb cyfoeth y DU wedi lleihau yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, mae llawer o'r ysgogiadau i drechu tlodi yng Nghymru yn gorwedd gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n peri pryder mawr, felly, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, bod adolygiad blynyddol diweddar Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru wedi canfod mai Cymru yw'r genedl lleiaf cynhyrchiol yn y DU, bod tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag mewn gwledydd eraill ym Mhrydain, a bod enillion canolrifol fesul awr yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar enillion gweithiwyr yn y DU ar gyfer 2018 yn dangos bod enillion cyfartalog yng Nghymru yn is ac wedi tyfu'n arafach nag yng ngwledydd eraill y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod gan Gymru y cynnydd tâl hirdymor isaf o blith gwledydd y DU. A chanfu adroddiad Sefydliad Bevan, fis diwethaf, ar gyfraddau tlodi yng Nghymru bod cyfradd tlodi incwm cymharol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, cyfran uwch o oedolion o oedran gweithio mewn tlodi yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU, a bod cyfradd tlodi pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yng ngwledydd eraill y DU.
Yr hanes echrydus hwn o fethiant, y brad dinistriol hwn, yw gwir fesur dau ddegawd o rethreg a rhoi'r bai ar rhywun arall gan Lafur Cymru. Rydym ni felly yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i drechu tlodi sy'n cynnwys targedau a dangosyddion clir i fesur cynnydd ac effaith.
Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 2 yn ffurfiol a gyflwynwyd yn enw Julie James?
Gwelliant 2—Julie James
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn derbyn canfyddiadau’r adroddiad:
a) bod costau cyni wedi’u hysgwyddo i raddau annheg gan bobl dlawd, menywod, lleiafrifoedd ethnig, plant, rhieni sengl a phobl anabl;
b) mai Cymru sydd â’r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y Deyrnas Unedig;
c) bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi ceisio lliniaru effeithiau gwaethaf cyni, a hynny er gwaethaf dioddef gostyngiadau sylweddol yn eu cyllid grant bloc; a
d) ei bod yn 'warthus' bod rhaid i genhedloedd datganoledig wario arian i ddiogelu pobl rhag polisïau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar drechu tlodi, a’i galwadau parhaus ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â diffygion niferus Credyd Cynhwysol.
Yn ffurfiol.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Pe byddai'n gwlad ni yn un wirioneddol waraidd, mi fyddai'r datganiad yma gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig dros dlodi difrifol yn cael ei weld fel moment i'n deffro ni unwaith ac am byth, rydw i'n meddwl. Mi ddylai gael ei weld fel mater o warth a chywilydd bod gwladwriaeth mor gymharol gyfoethog â'r Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi ar restr o wledydd sy'n cael eu cydnabod fel rhai sy'n methu ag edrych ar ôl eu mwyaf tlawd, eu mwyaf bregus. Ond mae gen i ofn mai'r awgrym clir o'r ymateb sydd wedi bod i'r datganiad yma ydy nad ydy diwylliant gwleidyddol y wladwriaeth yma cweit mor waraidd ag y byddem ni'n licio meddwl ei fod o.
Beth am i mi dreulio ychydig funudau yn siarad mewn iaith efallai y bydd pobl yn ei deall, sef arian? Nid am y tro cyntaf heddiw, mi wnaf i grybwyll llymder. Rydym ni'n clywed y Ceidwadwyr yn dadlau, onid ydym, bod llymder a thoriadau i'r wladwriaeth les wedi bod yn gwbl anochel, wedi bod yn angenrheidiol am resymau economaidd. Nid oedd o'n rhywbeth yr oedden nhw eisiau ei wneud, ond mi oedd yn rhaid. A beth allai fod o'i le, wedi'r cyfan, ar daro'r 20 y cant tlotaf mor galed oherwydd problemau efo rheoleiddio yn y sector ariannol?
Ond hyd yn oed os ydych chi'n derbyn nad oedd yna ddewis ond cwtogi ar wariant cyhoeddus dros y degawd diwethaf, wel, mae polisïau Llywodraeth ganolog Brydeinig wedi bod yn fethiant llwyr. Mae'r Joseph Rowntree Foundation, er enghraifft, wedi amcangyfrif bod tlodi yn costio rhyw £78 biliwn y flwyddyn i'r Deyrnas Unedig mewn mesurau i ymateb i neu i geisio lliniaru effeithiau tlodi. Ac nid yw hynny'n cynnwys costau taliadau'r wladwriaeth les. Mae £1 o bob £5 sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yn gwneud i fyny am y ffordd y mae tlodi wedi niweidio bywydau pobl. Mae Crisis wedi modelu cost digartrefedd ac yn amcangyfrif, os ydy'r Deyrnas Unedig yn parhau i adael i ddigartrefedd ddigwydd, i bob pwrpas, fel y mae o ar hyn o bryd, yn hytrach na cheisio cael gwared ohono, bydd gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwario £35 biliwn yn ychwanegol.
Meddyliwch am yr incwm sy'n cael ei golli o ran enillion y dyfodol i bwrs y wlad o blant yn tyfu mewn tlodi ac yn methu â chyrraedd eu potensial, a'u rhieni'n defnyddio banciau bwyd, ac yn mynd i ysgolion sydd ddim yn cael eu cyllido'n iawn ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld sydd o berthnasedd arbennig i ni ydy bod Cymru yn cael ei tharo yn anghymesur. Yng Nghymru mae'r lefelau uchaf o dlodi cymharol yn y Deyrnas Unedig, efo bron iawn i un o bob pedwar person yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae tlodi mewn gwaith wedi tyfu dros y ddegawd ddiwethaf. Er bod cyfraddau cyflogaeth wedi cynyddu, beth sydd gennym ni ydy swyddi sydd ddim digon da. Mae chwarter swyddi—rwyf wedi gweld ffigurau—o dan y lleiafswm cyflog. Beth mae hyn yn ei ddweud ydy bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ddrutach i'w rhedeg na'r cyfartaledd Prydeinig o ran mynd i'r afael ag effaith tlodi. Nid yw'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i hyn yn amlwg ddim yn gweithio. Mi wnaf i eich annog chi i ddarllen tystiolaeth Victoria Winckler o'r Bevan Foundation i'r Pwyllgor Cyllid ar 25 Hydref, lle roedd hi'n edrych ar y gyllideb ac yn methu â gweld lle roedd y gyllideb yma'n dangos arwyddion o strategaeth glir i fynd i'r afael â thlodi.
Y ni yng Nghymru, y ni ar y meinciau yma, rydym ni'n gofyn pam byddem ni, pam y byddai unrhyw un, yn dymuno bod yn rhan o undeb sy'n gwneud hyn i ni, ac yn gwirfoddoli i adael i bethau fel gweinyddiaeth y wladwriaeth les aros yn San Steffan. Mae pobl Islwyn, ie, fel rhannau eraill o Gymru, yn methu ag edrych tuag at Lywodraeth Cymru sy'n ceisio defnyddio, ceisio cael, y levers a fyddai'n gallu lliniaru effeithiau caletaf y polisïau sy'n cael eu dilyn gan Lywodraeth Geidwadol greulon yn San Steffan. Mae Llafur yn y fan hyn yn methu â chwilio am y pwerau hynny.
Fel rydym ni'n ei weld, rydym ni'n gweld mewn rhannau eraill o'r ynysoedd yma erbyn hyn y camau hynny'n cael eu cymryd yng Ngogledd Iwerddon, yn yr Alban. Mae'n amser i ni yng Nghymru ddweud bod yn rhaid i ni geisio yr arfau hynny, bob un ohonyn nhw, a allai fod o fewn ein cyrraedd ni, i fynd i'r afael â'r tlodi sydd yn ein cywilyddio ni fel cenedl. Nid yw Plaid Cymru yn gofyn am y pwerau er mwyn eu cael nhw; rydym ni'n gofyn am y pwerau oherwydd bod pobl yn marw ac yn cael eu cloi mewn tlodi.
Mae'n rhaid imi ddweud, pan fyddaf yn siarad â'r bobl hynny sy'n ymwneud ag ymdrin â chanlyniadau polisi'r Llywodraeth a thlodi yng Nghymru—y trydydd sector, awdurdodau lleol, asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol—ymddengys eu bod yn deall yn iawn mai agenda cyni Llywodraeth y DU sy'n sbarduno'r materion hyn i bob un ohonom ni: Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, a phawb arall sy'n ceisio darparu gwasanaeth neu ymdrin â'r canlyniadau hynny.
Mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, Dirprwy Lywydd, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, wedi bod yn gwneud amrywiaeth o waith yn ystyried tlodi yng Nghymru ers dechrau'r Cynulliad hwn. Yn ddiweddar, mewn gwirionedd, cyfarfuom ag adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig, Philip Alston, yn rhan o'i ymweliad â'r Deyrnas Unedig. Canfuom ei fod yn agored, yn wleidyddol niwtral ac yn barod i wrando. Mae'n siomedig iawn clywed Ceidwadwyr yn Llywodraeth y DU, ac yn wir yma yn y Cynulliad, yn ceisio tanseilio swyddogaeth yr adroddwr a'r Cenhedloedd Unedig. Credaf fod y rhan fwyaf o bobl o'r farn bod y Cenhedloedd Unedig yn gorff uchel ei barch, sy'n gwneud gwaith da iawn ac iddo statws a hygrededd gwirioneddol, a hanes aruthrol. Mae clywed y tanseilio hwnnw, yr ymgais i danseilio, yr Athro Philip Alston yn anffodus iawn, yn fy marn i. Mae ef wedi gwneud asesiad deifiol iawn o bolisi Llywodraeth y DU ac wedi galw yn glir am weithredu ar frys. Rydym yn ei gefnogi ar yr ochr hon i'r Cynulliad, ochr Llafur, Dirprwy Lywydd, yn gryf iawn yn wir, gan ein bod ni'n credu bod angen newid mawr i roi terfyn ar raglen cyni Llywodraeth y DU, oherwydd rydym ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r niwed y mae'n ei wneud a'r effaith gronnol dros yr wyth mlynedd diwethaf, fwy neu lai.
Ond, wrth gwrs, dydym ni ddim yn anwybyddu'r ffaith bod gan Lywodraeth Cymru hefyd gyfrifoldeb, ac wrth gwrs rydym ni eisiau gweld strategaeth a chyfres o bolisïau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi, sydd mor effeithiol â phosibl. Mae gwaith fy mhwyllgor i wedi cynnwys argymell bod angen pwyslais cryfach, cliriach ar drechu tlodi yma yng Nghymru, Dirprwy Lywydd, gyda thargedau, dangosyddion, gwerthuso a monitro clir, sy'n gwneud gwaith craffu ac atebolrwydd yn haws nag y mae ar hyn o bryd, ac rydym ni eisiau gweld cynnydd yn y maes hwnnw, ac rydym ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid gwneud y gwelliannau angenrheidiol. [Torri ar draws.] Ildiaf i Siân Gwenllian.
Diolch. Dim ond ar y pwynt hwnnw nad oes gan y Llywodraeth strategaeth gwrth-dlodi, er gwaethaf galwadau gan y pwyllgor ddwywaith, dair gwaith, pa mor siomedig ydych chi ein bod yn dal i fod heb y strategaeth gwrth-dlodi honno ac nad ydym ni, mewn gwirionedd, hyd yn oed yn gwybod yn union pwy yw'r Gweinidog Cabinet sy'n gyfrifol am atal tlodi ar draws y Llywodraeth? Roeddwn i'n meddwl mai Ken Skates oedd hwnnw, ond bellach mae'n bob un ohonoch chi. Felly, pwy mewn gwirionedd sy'n gyfrifol yn y pen draw?
Wel, fel y dywedais, rwy'n credu bod materion o ran atebolrwydd a chraffu. Gwn fod y sector y tu allan i'r Cynulliad yn teimlo hynny hefyd, ac rwy'n credu bod barn ein pwyllgor yn glir iawn. Cafwyd amryw o ddulliau gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o amser o ran sut yr ydych chi'n trechu tlodi yn fwyaf effeithiol, ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn pwysleisio dull cydweithredol, traws-Lywodraethol. Nid yw'r pwyllgor yn credu y byddai bod ag atebolrwydd gweinidogol mwy uniongyrchol a strategaeth gwrth-dlodi gyffredinol yn negyddu'r math hwnnw o ddull traws-Lywodraeth sy'n cael ei weld fel y ffordd orau o ymdrin â'r materion hyn gan Lywodraeth Cymru ar y hyn o bryd. Credaf felly, bod barn y pwyllgor yn gwbl glir, ac rydym yn chwilio am gynnydd a newid i'r perwyl hwnnw. A, beth bynnag sy'n digwydd, mae angen y pwyslais mwy eglur hwnnw arnom ni—pwyslais manwl—a chyfleoedd atebolrwydd a chraffu ychwanegol a chliriach.
Hefyd, Dirprwy Lywydd, credaf fod angen i mi symud ymlaen at weinyddu lles yng Nghymru a'r posibilrwydd o'i ddatganoli. Unwaith eto, mae'r pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio yn mynd i wneud darn o waith ar hyn a bydd yn ystyried yr holl faterion, gan gynnwys yr agweddau ariannol. Rydym ni'n credu mai'r profiad yw bod yna broblemau gwirioneddol o ran cyflwyno'r credyd cynhwysol. Mae wedi cael effaith echrydus ar gysgu ar y stryd, er enghraifft, ac rydym yn gweld tystiolaeth o hynny ym mhob un o'n trefi a chanol ein dinasoedd drwy'r amser. Ac, os ydym ni'n mynd i ymdrin â phroblemau amseroedd aros pan wneir hawliadau am y tro cyntaf, y ffordd y gweithredir y gyfundrefn gosbau ac, yn wir, pa mor hawdd yw hi i roi taliadau budd-dal tai yn uniongyrchol i'r landlord, yna byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddai gennym ni fwy o reolaeth uniongyrchol dros hynny. Felly, bydd y pwyllgor yn edrych ar y materion hynny yn y flwyddyn newydd, a bydd hynny'n cynnwys edrych ar y profiad yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Bydd UKIP yn cefnogi cynnig Plaid Cymru y prynhawn yma, ond rwy'n credu mai camgymeriad oedd ei seilio ar yr adroddiad Cenhedloedd Unedig hwn gan Philip Alston. Mae e'n bell iawn o'r hyn y mae John Griffiths newydd ei ddweud, gwleidyddol niwtral, mewn gwirionedd mae'n athro yn y gyfraith ym mhrifysgol Efrog Newydd sy'n benboethyn adain chwith eithafol gwrth-Trump â chanddo gyllell wleidyddol i'w hogi. Ei fesur ef o dlodi—[Torri ar draws.] Ei fesur ef o dlodi yw unrhyw un sy'n ennill llai na 60 y cant o ganolrif incwm aelwydydd. Nid yw hynny'n fesur o dlodi, ond yn hytrach mesur o anghydraddoldeb, ac mae'r ddau beth yn dra gwahanol. Byddai cymdeithas heb unrhyw anghydraddoldeb, ni waeth pa mor isel yw lefelau incwm, pe byddai pawb yn enbyd o dlawd, yn byw mewn cytiau pren ac yn bwyta tywod, mewn gwirionedd yn lle heb unrhyw dlodi, yn ôl ei ddiffiniad ef.
Mae wedi ysgrifennu adroddiadau am wledydd eraill. Mae wedi ysgrifennu adroddiad am Mauritania, er enghraifft, ac wedi canmol yr Arlywydd Mohamed Ould Abdel Aziz am y cynnydd sylweddol y mae'n ei wneud wrth fynd i'r afael â thlodi, ac mae hon yn wlad lle mae 42 y cant yn byw mewn tlodi llwyr, gyda chyflog blynyddol cyfartalog o lai na £1,000, lle mae disgwyliad oes pobl 20 mlynedd yn llai nag yn y wlad hon a lle mae'r wladwriaeth yn llofruddio ei gwrthwynebwyr gwleidyddol ac yn eu harteithio, ac ni wnaeth dim o hyn ysgogi unrhyw ddrwgdeimlad ynddo. Felly, gadewch inni roi hyn yn ei wir oleuni. [Torri ar draws.] Nid yw'n warthus; y cwbl yr wyf yn ei wneud yw adrodd y ffeithiau. Os na all Aelodau ymdopi â nhw, mae'n rhaid i hynny fod yn fater iddyn nhw yn hytrach nag i mi.
Y peth arall hurt am y modd hwn o fesur tlodi yw bod dirwasgiadau, wrth gwrs, yn wych ar gyfer lleihau tlodi, oherwydd mewn dirwasgiadau ceir tueddiad cyffredinol o ostyngiad mewn incwm o gyfalaf, difidendau ac ati, ac felly, os yw'r bobl gyfoethog yn llai cyfoethog o'u cymharu â'r tlodion, does dim ots nad yw'r tlodion yn gyfoethocach mewn gwirionedd, mae llai o dlodi. Mae hynny'n hurt.
Ac os edrychwn ni ar y profiad mewn gwledydd eraill, mae'n rhoi sefyllfa Prydain yn ei gwir oleuni hefyd. Mae adroddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar dlodi parhaus yn y DU a'r UE yn 2015 gennyf yma yn fy llaw, ac roedd 7.3 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn 2015 yn byw mewn tlodi parhaus. Mae hynny'n cymharu â 10.9 y cant fel y cyfartaledd yn yr UE. Mae un ar ddeg pwynt tri y cant o boblogaeth yr Almaen yn byw mewn tlodi parhaus wrth fesur yn yr un modd; 8.5 y cant yn Ffrainc; 14.5 y cant yn yr Eidal. Felly, mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, mae llai o dlodi ym Mhrydain, pan y'i diffinnir ar delerau cymharol, nag mewn rhannau eraill o'r UE ac mewn rhannau eraill o'r byd.
Nid tlodi cymharol yw'r gwir broblem yng Nghymru. Rwyf i eisiau gweld incwm pobl yn gyffredinol yng Nghymru yn codi o'i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, oherwydd mae Cymru ar waelod y domen. Mae hynny'n drasiedi fawr, a chredaf bod hynny'n gondemniad o 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru. Ond yr hyn sy'n fy synnu i yw bod y pleidiau ar y chwith mor frwdfrydig fel arfer i gosbi pobl dlawd. Mae'r cynigion treth niferus sydd ganddynt, mewn gwirionedd, yn gwneud bywyd yn fwy anodd i'r rhai sydd ar yr incwm isaf. Mae trethi gwyrdd, fel yr wyf yn ei godi yn aml yn y Siambr hon—nawr, mae trethi gwyrdd yn gyfrifol am 20 y cant o filiau trydan pobl, a phobl tlawd sy'n dioddef fwyaf yn sgil y trethi hyn. Yn y gaeaf, mae pobl yn gorfod gwneud dewis, yn anffodus, rhwng gwresogi a bwyta yn aml iawn. Mae trethi siwgr, isafswm prisiau ar gyfer alcohol—mae'r rhain i gyd yn drethi a fydd yn effeithio'n anghymesur ar y tlawd.
Mae'r pleidiau ar y chwith hefyd yn awyddus iawn, iawn, wrth gwrs, i barhau ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ond mae'r Undeb Ewropeaidd yn gynllwyn diffyndollol, a'r rhai sy'n dioddef waethaf yw'r rhai hynny sydd ar yr incymau isaf. Treth ar werth, er enghraifft—ni allwn ni gael gwared ar TAW ar danwydd gwresogi domestig, er enghraifft, ni allwn gael gwared ar TAW ar esgidiau a dillad, ac mae'r weithdrefn tariffau yn yr UE yn gwneud yr holl bethau hyn yn destun tariffau andwyol, fel na allwn ni gymryd mantais o'r prisiau is am yr holl eitemau a'r hanfodion sylfaenol hyn a fyddai'n digwydd yn sgil Brexit pe byddem ni'n negodi cytundebau masnach rydd gyda gweddill y byd. Mae'r polisi amaethyddol cyffredin yn gwneud bwyd yn y wlad hon yn llawer drutach nag y dylai fod. Edrychwch ar y tariffau ar hyn, sy'n aml yn 40 y cant neu'n 50 y cant. Gwn fod angen inni gadw ffermwyr ar y tir, a bod angen inni roi cymhorthdal iddyn nhw er mwyn llwyddo i wneud hynny mewn ardaloedd penodol, ond gellir gwneud hynny mewn ffyrdd heblaw am achosi dioddefaint i bobl dlawd drwy brisiau bwyd uchel.
Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw bod â dadansoddiad priodol o dlodi a'i achosion, a sut i'w liniaru ac, yn wir, swyddogaeth allweddol y Llywodraeth wrth sicrhau ei barhad a'i wneud, mewn gwirionedd, yn waeth. Roedd credyd cynhwysol yn syniad da, ond gwnaethpwyd traed moch mewn gwirionedd o'r ffordd y cafodd ei gyflwyno a'i weithredu. Felly, nid oes gennym broblem o ran cefnogi tôn gyffredinol cynnig Plaid Cymru ond, yn anffodus, nid ydyn nhw'n byw yn y byd go iawn os ydyn nhw'n ei seilio ar ymosodiad gwleidyddol gan Philip Alston.
Bydd y rhan fwyaf o'm sylwadau heddiw yn canolbwyntio ar gredyd cynhwysol, yn arbennig o ran y modd y mae'n effeithio ar fenywod. Nawr, cafodd hyn ei werthu i ni fel system newydd, mwy hyblyg a fyddai'n helpu pobl i symud yn haws rhwng gwaith a budd-daliadau, a byddai'n system haws ei deall a'i llywio i bobl sydd angen budd-daliadau. Ond y tu ôl i'r amcanion canmoladwy hyn, gorwedda agenda wenwynig, hynafol a, byddwn i'n dadlau, fel y dywedodd adroddwr y Cenhedloedd Unedig, un gwbl wreig-gasaol. A byddwn yn dweud wrth Mark Isherwood, sy'n gyd-Aelod o'r Siambr hon yr wyf yn ei barchu, fod yr adroddwr wedi defnyddio iaith gref iawn oherwydd ei fod yn meddwl ei fod yn warthus, ac roedd yn iawn i deimlo felly, bod ein cyd-ddinasyddion yn byw yn yr amgylchiadau hyn yn y bumed economi fwyaf yn y byd.
Lluniwyd y system budd-daliadau gyffredinol o'r dechrau i atgyfnerthu gwerthoedd teuluol 'traddodiadol', trwy dalu budd-daliadau i un aelod o'r aelwyd ar ran pawb, ac mae yna Aelodau o'r Siambr hon—mae Jane Hutt yn un ohonyn nhw—a fydd yn cofio sut y gwnaethom ni ymgyrchu mor galed yn y 1980au i amddiffyn menywod trwy roi eu budd-daliadau iddyn nhw yn eu pocedi eu hunain ar eu cyfer hwy a'u plant. Bwriad hyn oedd atgyfnerthu, byddaf yn defnyddio'r gair hen ffasiwn, 'patriarchaeth'.
Nawr, yn ymarferol, y dyn yw'r un derbynnydd o'r budd-daliadau bron bob amser mewn teulu pan fo dyn yno, ac mae hyn yn atgyfnerthu'r darlun ystrydebol mai'r dyn sy'n ennill y cyflog a bod ei wraig a'i blant yn ddibynnol arno. A byddwn i'n dadlau nad yw hyn yn ddymunol yn gyffredinol, ond pan fydd y dyn hwnnw sy'n ennill y cyflog yn cam-drin ac yn ffiaidd, mae hynny'n rhoi menywod mewn perygl gwirioneddol. Mae'r system hon yn gwahaniaethu yn erbyn yr ail enillydd cyflog ar aelwyd lle ceir dau unigolyn yn ennill cyflog, sef y fenyw gan amlaf, ac nid yw hynny ar ddamwain : fe'i cynlluniwyd felly. Mae hyn yn cael effaith ofnadwy ar fenywod sy'n dioddef cam-drin domestig a'u plant. Maen nhw bron bob amser yn dioddef cam-drin ariannol yn rhan o'r cam-drin hwnnw, ac mae'r diffyg gallu i gael gafael ar fudd-daliadau yn eu rhinwedd eu hunain yn gwneud hyn yn waeth. Os na ellir cael gafael ar arian, mae'n anhygoel o anodd gadael. Ac os bydd menyw yn dianc, mae'n rhaid iddi hawlio o'r newydd ar gyfer ei hunan a'i phlant, ac aros pum wythnos neu fwy—ac rwy'n pwysleisio pum wythnos neu fwy—ar gyfer y broses. Ar beth, rwy'n gofyn i'r Aelodau gyferbyn, mae hi i fod i fyw arno yn ystod y pum wythnos hynny? Rydym ni'n gwybod ar beth mae hi'n byw: mae hi'n byw ar fanciau bwyd ac elusengarwch y system Cymorth i Fenywod.
Mae hyn yn cefnogi camdrinwyr ac yn ei gwneud yn anos i oroeswyr adael, ac nid yw hynny'n ddamweiniol ac nid oedd yn annisgwyl. Dangosodd asesiadau o effaith yn 2011 y byddai hyn yn digwydd, a dewisodd y Llywodraeth Dorïaidd, gyda chymorth y Democratiaid Rhyddfrydol bryd hynny, fwrw ymlaen beth bynnag. Trwy roi hyn at ei gilydd—
A wnewch chi ildio?
Rwyf yn fodlon iawn ildio i Jane Hutt.
Diolch yn fawr iawn, Helen Mary. A hon, wrth gwrs, yw'r wythnos pan yr ydym ni'n canolbwyntio ar ddileu trais yn erbyn menywod, ac rydym ni wedi cael datganiad y prynhawn yma gan Julie James. Oni fyddech chi'n dweud y dylai hyn fod yn brawf ar Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Waith a Phensiynau, i weld a fydd hi'n atal ac yn cael gwared ar yr ymosodiad anghyfiawn hwn ar fenywod ac yn ei newid fel nad oes un taliad sengl i bob aelwyd ac a yw hi'n cydnabod yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar fenywod, ac a fydd hi'n cydnabod adroddiad Philip Alston yn arbennig?
Byddaf yn dod at fy sylwadau am Ms Rudd mewn eiliad, ond byddwn i'n cytuno â'r hyn yr ydych chi wedi'i ddweud.
Nawr, os ydym ni'n cyfuno'r modd y mae credyd cynhwysol yn gweithio gydag, er enghraifft, rheolau budd-daliadau tai, na fydd ond yn talu cost ystafell mewn tŷ a rennir i bobl ifanc, sy'n arwain at fenywod ifanc sy'n agored i niwed yn cael eu gorfodi yn aml i rannu â thenantiaid eraill cwbl anaddas, a'r cymal trais rhywiol ffiaidd y mae Leanne Wood eisoes wedi cyfeirio ato, ynghyd â llawer o enghreifftiau eraill y gallwn i sôn amdanyn nhw, mae'n cyflwyno system fudd-daliadau sydd wedi'i seilio ar y camargraff mai'r dyn yw'r enillydd cyflog a'r camargraff o bobl dlawd, diog ac annheilwng. Mae'n system wreig-gasaol a dyna oedd ei bwriad o'r cychwyn.
A dylai'r gwleidyddion a gyflwynodd y system honno deimlo cywilydd llwyr, ond nid ydynt, oherwydd bod y system yn cyflawni'r hyn yr oedden nhw'n dymuno iddi ei wneud. Ac o ran sylwadau Jane Hutt a sylwadau Mark Isherwood ynghylch Amber Rudd, nid wyf i'n credu y bydd hi'n cael lliniaru yn y modd y mae hi'n dweud yr hoffai ei wneud, oherwydd nid yw'r effeithiau hyn yn ddamweiniol. Ac mae'n rhaid imi ddweud wrth fy ffrindiau ar ochr arall y Siambr honno—ac mae rhai ohonyn nhw'n ffrindiau i mi—bod angen iddyn nhw edrych yn hir ac yn galed arnyn nhw eu hunain os ydyn nhw'n credu eu bod yn gallu cefnogi hyn. Rwyf i wir yn meddwl: ydyn nhw'n wirioneddol falch o hyn? Roedd gen i feddwl gwell ohonyn nhw.
Ond nid oes gan y Llywodraeth unrhyw gyfiawnhad dros hunanfoddhad yn y fan yma, ac mae tôn eu gwelliant hunanglodforus braidd yn peri siom. Nid wyf i'n credu y byddai unrhyw blaid neu gyfuniad o bleidiau a allai gael eu hethol i lywodraethu yn y Senedd hon yn trin ein dinasyddion tlotaf yn y modd y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei wneud. Fel yr ydym ni wedi clywed eisoes, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi cymryd rheolaeth weinyddol o gredyd cynhwysol, ond nid yw'n ymddangos bod ein Llywodraeth ni yn dymuno gwneud hynny. A des i o hyd i ddyfyniad gan un o'r ymgeiswyr i fod yn arweinydd y Blaid Lafur. Dywed:
Nid wyf i'n frwd dros ddatganoli systemau treth a budd-daliadau. Mae'n ymddangos i mi mai nhw sy'n clymu'r DU at ei gilydd... Os ydych chi'n cefnogi ailddosbarthu, y systemau treth a budd-daliadau yw'r ffordd i wneud hynny. O ran y cwestiwn allweddol ynghylch tlodi, rwy'n credu bod Cymru yn elwa
—'yn elwa'—ar fodel ailddosbarthu y DU.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Siambr hon nad yw'r mecanwaith ailddosbarthu hwnnw yn gwasanaethu ein dinasyddion tlotaf yn dda iawn ar hyn o bryd, ydy 'e? Ac nid wyf i'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y sawl yr oeddwn i'n ei ddyfynnu, yn gallu sefyll yn y fan yma mewn gwirionedd—neu eistedd yn y fan yma—ac amddiffyn y safbwynt hwnnw.
Nid oes neb yn honni y byddai cymryd rheolaeth dros weinyddu credyd cynhwysol yn datrys yr holl broblemau sydd gennym ni yn y system niweidiol hon. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei geisio, wrth gwrs, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, yw rheolaeth lawn ar y system fudd-daliadau. Ond gallai, fel y mae Sefydliad Bevan wedi ei ddweud, wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig o ran sut y caiff budd-daliadau eu talu, ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd John Griffiths yn hyn o beth yn gynharach yn y ddadl hon.
Dirprwy Lywydd, trwy gefnogi'r cynnig gwreiddiol ac annog y Siambr hon i wrthod y gwelliant, rwy'n annog y Llywodraeth hon, ein Llywodraeth ni, Llywodraeth Cymru, i ddangos rhywfaint o ddewrder ac o leiaf gofyn am reolaeth weinyddol o'r credyd cynhwysol er mwyn gallu gwneud yr hyn y mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn ei wneud ar ran eu dinasyddion tlotaf. Mae ein dinasyddion tlotaf angen i ni weithredu nawr, ac nid ydyn nhw angen dogma unoliaethol.
Nid trethi gwyrdd sy'n gwneud pobl yn dlawd. Polisïau bwriadol Llywodraeth y DU o ran sut maen nhw'n dewis trethu a dosbarthu budd-daliadau sy'n ei wneud. Mae'n rhaid imi gytuno ag ef ar un peth—nad yw'r TAW ar nwyddau hanfodol yn dreth flaengar, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i dreth arall yn ei lle. Pe byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae hynny'n rhywbeth y gallem ni ei wneud, ond mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar y presennol, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i bobl yn sgil y dewisiadau y maen nhw'n eu gwneud yn eu cyllidebau.
Y bobl sydd yn dioddef fwyaf yn sgil cyllideb y Canghellor yw menywod mewn gwaith rhan-amser â chyflog isel oherwydd eu bod nhw'n mynd i golli unrhyw doriadau treth oherwydd nad ydyn nhw'n ennill digon i elwa ar y cynnydd yn y lwfansau personol, ac maen nhw'n dioddef gostyngiadau mewn incwm real o ganlyniad i rewi'r budd-daliadau. Felly byddan nhw, mewn gwirionedd, yn waeth eu byd, ni waeth beth fo'r holl gyhoeddusrwydd ynghylch sut mae cyni ar ben erbyn hyn. Nid yw ar ben o gwbl ar gyfer gweithwyr rhan-amser, sy'n fenywod yn bennaf. Mae dros dair miliwn a hanner o fenywod yn ennill llai na £15,000 y flwyddyn. Maen nhw yn draean o'r gweithlu. Ar yr un pryd, bydd y 10 y cant uchaf o aelwydydd yn gweld gwerth £1 biliwn yn fwy o gynnydd yn eu hincwm na'r 10 y cant isaf. Mae hyn yn gwbl warthus: dyma sut yr ydym yn ehangu'r bwlch enillion cyffredinol rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn llwyr, ac fel y dywedodd Helen Mary, mae hyn yn y bumed economi fwyaf yn y byd.
Mae'n rhaid inni ddeall bod codi'r trothwy di-dreth bob amser o fudd anghymesur i bobl ar incwm canolig ac uwch. Nid yw o fudd i bobl ar gyflog isel. Mae'n rhaid bod dulliau eraill o sicrhau bod gwaith yn talu, oherwydd bod gan bawb sy'n mynd i weithio ac yn gwneud diwrnod caled o waith, yr hawl i ennill digon o gyflog i dalu am hanfodion bywyd ac i ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Mae'n amlwg nad yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Yn hytrach, gellid bod wedi buddsoddi'r bron i £17 biliwn o refeniw treth na gasglwyd oherwydd y polisi bwriadol hwn, a dylid bod wedi gwneud hynny, yn y system fudd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus, y mae pobl dlawd yn dibynnu'n anghymesur arnyn nhw. Felly, gallen nhw wrthdroi'r rhewi budd-daliadau, ac mae hyd yn oed rhai o'r ASau Torïaidd—hyd yn oed cyn uwch Weinidogion—yn dadlau y dylem ni fod yn rhoi diwedd ar rewi budd-daliadau.
Ond rwyf i eisiau sôn am y ffordd, ers 2010, yr ydym ni i gyd wedi diystyru'n wirioneddol ein holl ymrwymiadau tuag at blant, oherwydd mae'r ymosodiad ar blant wedi bod yn ddi-baid ers i'r Llywodraeth newydd ddod i rym. Yn gyntaf, yn y ffordd y mae wedi tanseilio budd-daliadau plant, sef y rhan fwyaf hanfodol, ar ran y gymdeithas, o helpu'r rhai hynny sydd â phlant er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o arian i'w magu. Trwy ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu, fe wnaethon nhw sicrhau na fyddai budd-daliadau yn cyd-fynd â phrisiau, ac wedyn cafodd y budd-dal plant ei rewi am dair blynedd gyntaf y Llywodraeth Dorïaidd, ac wedyn mae'r newid hwn wedi cael effaith enfawr ar y swm o arian a roddir ar gael ar gyfer plant.
Yn 2010, roedd y budd-dal plant yn £20.30 ar gyfer plentyn cyntaf y teulu a £13.40 ar gyfer plant eraill. Pe byddai polisïau'r Llywodraeth flaenorol wedi parhau i fod ar waith, byddai'r budd-dal plant heddiw o leiaf £24.30 ar gyfer y plentyn cyntaf ac £16.05 ar gyfer plant eraill. Mae hynny'n ostyngiad enfawr i arian plant, ac mae'r effaith y mae hyn wedi'i chael wedi bod yn wirioneddol ddinistriol. A'r hyn y mae wedi ei olygu yw y bydd dros 100,000 o blant yn amddifad y Nadolig hwn o ganlyniad i oedi mewn un peth: oedi i'r taliad credyd cynhwysol. Felly, ni fydd pobl ar Ynys Môn, er enghraifft, a fydd yn cael eu dechrau ar y credyd cynhwysol, yn cael unrhyw beth tan y flwyddyn newydd. Felly, byddan nhw'n cael Nadolig fel Scrooge heb unrhyw anrhegion, a dyn a ŵyr sut y byddan nhw'n goroesi. Yn y cyfamser, mae Prif Weithredwr Bet365 yn ennill £265,000 y dydd. Mae'n rhaid dweud, mae'n amlwg bod gennym ni gymdeithas sydd wedi colli cysylltiad yn llwyr â'r gwerthoedd y mae i fod i'w harddel. Mae amser wedi mynd yn drech na mi i allu dweud beth y dylem ni ei wneud am hyn, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod ein plant yn cael eu bwydo, ar y lefel fwyaf sylfaenol.
Mae'n bryd i ni fod o ddifrif yn y fan yma: mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn rhoi'r bai yn blwmp ac yn ddigamsyniol ar Lywodraeth y DU. Am bron i ddegawd, mae Llywodraethau Torïaidd wedi gosod trallod mawr ar bobl Prydain, gyda pholisïau cyni cosbol, crintachlyd a dideimlad. Philip Alston sy'n dweud hyn, nid fi. Mae lefelau tlodi plant:
nid yn unig yn warthus, ond maen nhw'n drallod cymdeithasol ac yn drychineb economaidd.
Unwaith eto, ei eiriau ef, nid fy rhai i. Un o'r canfyddiadau allweddol yw'r cynnydd enfawr hwn o ran tlodi mewn gwaith. Ac fe wnaethom ni glywed ystadegau eto—digonedd ohonynt, unwaith eto—gan Mark Isherwood, yn sôn am leihau tlodi mewn gwaith. Ac eto, mae'r adroddiad hwn yn canfod yn glir iawn mai tlodi mewn gwaith sydd wrth wraidd tlodi plant, ac mai ar y bobl hynny sydd mewn gwaith y mae cyflwyno credyd cynhwysol yn effeithio.
Felly, gadewch inni fod yn glir. Nid yw hyn yn ymwneud â chael pobl i mewn i waith. Nid yw hyn yn fater o, fel yr oedd y Torïaid yn arfer ei ddweud, 'Ar eich beic.' Wel, triwch chi ddweud hynny wrth y cludwr sy'n methu â thalu rhent y mis hwn, er gwaethaf bod ar ei beic neu ar ei feic, ac er gwaethaf gweithio bob awr o'r dydd. Dywedwch wrth yr un o bob pedwar unigolyn yn y wlad hon sy'n gweithio am lai na'r isafswm cyflog. Dywedwch wrth yr unigolion a'r teuluoedd yn Rhydaman, yng Nghaerfyrddin, yn Llanelli, yn Aberystwyth, yn Aberteifi, yn Nolgellau, ym Mhorthmadog ac ym Mhwllheli a fydd yn cael Nadolig diflas eleni, oherwydd bod cyflwyniad y credyd cynhwysol wedi'i orfodi arnyn nhw dros y Nadolig. Ac mae pob un ohonom ni'n gwybod, onid ydym ni, nad yw un o bob pedwar o hawlwyr yn cael eu harian ar amser. Felly, ni allaf weld pa lawenydd y Nadolig y byddan nhw'n ei gael yn eu cartrefi. Ac mae'n bolisi bwriadol. A allwch chi ddychmygu cyflwyno polisi sy'n arwain at bobl a theuluoedd i fod heb arian, heb obaith o gael unrhyw arian, ar adeg y Nadolig? Ni allai Scrooge fod wedi gwneud yn well pe byddai wedi trio.
Felly, awn yn ôl at y cyn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Esther McVey. Cyfaddefodd y bydd rhai o'r teuluoedd tlotaf oddeutu £200 yr wythnos yn waeth eu byd—mae'r bobl dlotaf £200 yr wythnos yn waeth eu byd. Wn i ddim a ydych chi'n mynd i ddadlau â'r teuluoedd hynny a dweud bod hwn yn syniad da. Darllenais heddiw fod grŵp o fenywod wedi lansio achos cyfreithiol yn yr uchel lys yn dadlau bod y system taliadau credyd cynhwysol yn afresymol ac yn wahaniaethol. Rwy'n cytuno yn llwyr â nhw. Rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw, ond ni ddylen nhw orfod ymladd y frwydr honno.
Mae'r un peth yn wir am fanciau bwyd. Mae'n wych bod pobl yn eu cefnogi—rwy'n siŵr ein bod ni i gyd, ac rwy'n siŵr y bydd rhai ohonom ni'n mynd ac yn ymuno â nhw dros y Nadolig. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei weld yw llun arall yn y papur lleol o wleidydd Torïaidd yn gwenu'n falch wrth gefnogi'r diwydiant twf mwyaf sydd wedi ei greu trwy eu polisïau. Yr hyn yr hoffwn i ei weld yw llun o unrhyw wleidydd Torïaidd yn dangos cywilydd am y ffaith ei fod y diwydiant twf mwyaf.
Rwyf i'n credu, fel y nodir yn adroddiad y Cenhedloedd Unedig, bod cost cyni wedi effeithio'n anghymesur ar bobl dlawd, ar fenywod, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, plant, rhieni sengl a phobl ag anableddau. Ac rydym ni wedi clywed heddiw bod Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn, pan fo'n bosibl, y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Nid yw hynny wedi digwydd yn Lloegr. Rydym ni wedi parhau i ddarparu mynediad at gronfeydd lles ar gyfer caledi mewn argyfwng, ond maen nhw wedi'u dileu yn Lloegr. Mae gennym ni gynnig gofal plant cynhwysfawr a chlybiau cinio gwyliau ysgol; maen nhw'n enghraifft wych o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Ac mae'n flaengar ac mae'n sosialaidd, ac rydym ni o leiaf yn falch o geisio gwneud yr hyn a allwn.
Mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn mynd ymlaen i ddweud nad oes gennym ni'r pŵer datganoledig dros fudd-daliadau nawdd cymdeithasol. Hoffwn i fod â ffydd Plaid Cymru pe byddem ni'n cymryd yr awennau, y byddai gennym ni'r arian. Ond, mae wedi costio £266 miliwn i Lywodraeth yr Alban i wneud rhywbeth â'r pwerau hynny heb fawr o effaith. Rwy'n siŵr y gallai £266 miliwn, pe byddai wedi ei wario ar ddulliau wedi'u targedu, fod wedi cael effaith fwy o lawer.
Gwn fod pob un ohonom yn deall yn glir iawn yn y Siambr hon mai digartrefedd yw'r perygl mwyaf i bobl ar y system newydd hon o gredyd cynhwysol. Pan nad yw rhent yn cael ei dalu ar amser, mae'n bosibl iawn mai byw ar y stryd fydd hanes pobl. Yr hyn yr wyf am ei ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet yw a fydd hi'n gallu gwneud rhywbeth i amddiffyn y bobl hynny sy'n canfod eu hunain mewn tenantiaeth breifat, fel nad ydyn nhw mewn gwirionedd yn diweddu ar y stryd yn y pen draw, dros y Nadolig nac ar unrhyw amser arall yn y dyfodol.
Mae adroddiad adroddwr arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol yn y Deyrnas Unedig yn agoriad llygaid. Mae gwir effaith agenda cyni y Llywodraeth Dorïaidd hon yn amlwg i bob un ohonom ei gweld. Mae'n ddewis gwleidyddol sy'n rhoi'r baich mwyaf ar y rhai hynny â'r lleiaf o allu i ymdopi ag ef, ac yn gorfodi pobl i dlodi. Rwy'n annog Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i ddarllen adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn ofalus. Mae angen gwrando ar brofiadau bywyd pobl yn ein cymunedau sy'n dioddef oherwydd diwygiadau lles bondigrybwyll neu arferion gwaith annheg.
Yn ganolog i'r cyflwyniad anhrefnus ac effaith hyn mae credyd cynhwysol. Mae'r polisi creulon hwn yn cynnwys dulliau, fel y nodwyd gan bob plaid, i eithrio pobl o'r system les, ac mae'n achosi llawer o ddioddefaint i bobl ledled y DU, gan gynnwys llawer o'm hetholwyr i yn Islwyn. Mae'n rhaid rhoi terfyn arno ar unwaith. Mae hyd yn oed yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau blaenorol, Esther McVey, wedi cyfaddef y bydd rhai o'r teuluoedd tlotaf, fel sydd wedi'i nodi eisoes, £200 yr wythnos yn waeth eu byd. Teuluoedd sydd eisoes yn byw mewn tlodi truenus yn sgil asesiadau PIP yn methu, tynnu'n ôl gredydau treth, y dreth ystafell wely a thaliadau sengl i rieni unigol, fel y dywedodd Helen Mary, yn gwaethygu cam-drin domestig a thrais teuluol—polisi wreig-gasaol yr wyf innau hefyd yn credu iddo gael ei greu gyda'r bwriad hwnnw. Er y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i liniaru'r polisïau hyn, mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn amlygu ac yn datgan:
ei bod yn warthus bod angen i weinyddiaethau datganoledig wario adnoddau i amddiffyn pobl rhag polisïau Llywodraeth.
Yn wyneb yr heriau hyn, dywed yr adroddwr arbennig fod:
Llywodraeth Cymru wedi newid ei phwyslais yn benderfynol i gynyddu ffyniant economaidd a chyflogaeth fel y porth i leihau tlodi.
Mae'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull Llywodraeth gyfan o leihau tlodi. Yr unig ffordd o roi terfyn ar y trallod hwn, a achoswyd gan gredyd cynhwysol creulon y Torïaid, yw ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Mae rhai yn y Siambr hon a fydd yn ymgyrchu dros ddatganoli lles, fel yr ydym wedi clywed. Ond rwy'n eu rhybuddio bod hyn yn wystl ffawd, o ystyried achosion blaenorol pan ofynnwyd i Lywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am reolaeth weinyddol cynlluniau lles heb y gyllideb gysylltiedig. Mae gwasanaethau rheng flaen yr Alban £266 miliwn ar eu colled o ganlyniad i hyn. Nid oes gan Weinidogion a'r bobl y ffydd y byddai Llywodraeth Dorïaidd y DU yn trosglwyddo cyllideb deg ochr yn ochr â throsglwyddo cyfrifoldeb dros reoli gweinyddol y budd-daliadau lles, ac nid oes gen innau ychwaith. Mae'r Alban, fel y dywedais, wedi gorfod tynnu'r arian hwnnw yn ôl oddi wrth wasanaethau rheng flaen—oddi wrth rhai sydd fwyaf ei angen .
I gloi, Dirprwy Lywydd, nid yw'n iawn bod plant yn llwglyd yn un o economïau cyfoethocaf y byd. Mae cyni yn wir yn ddewis gwleidyddol ac yn un sydd, fel y dengys yr adroddiad hwn, yn niweidio'n anghymesur y rhai hynny â nodweddion gwarchodedig—menywod, plant, lleiafrifoedd hiliol ac ethnig, rhieni sengl a'r rhai hynny ag anableddau—ac yn effeithio'n anghymesur ar y rhai hynny sy'n agored i niwed. Er bod y Llywodraeth Lafur Cymru hon wedi gwneud llawer i godi pobl allan o dlodi, mae'r adroddiad hwn yn atgoffa pob un ohonom am effeithiau anfaddeuol polisïau creulon Llywodraeth y DU, ac ni ellir gweld ei ddiwedd. Mae'n amser am etholiad cyffredinol. Mae'n bryd rhoi terfyn ar gredyd cynhwysol, a therfyn hefyd ar ymddygiad gwarthus y cwmnïau mawr rhyngwladol fel Atos a Capita ymysg eraill sydd wedi ei gynnal. Diolch.
Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i eisiau bod yn glir ein bod ni'n cytuno â Phlaid Cymru, â'u cynnig, i'r graddau y mae'n ymwneud ag effaith ddinistriol mesurau cyni Llywodraeth y DU ar bobl Cymru. Rydym ni yn anghytuno â'r ymarferoldeb a'r awydd i gael cyfrifoldeb gweinyddol am nawdd cymdeithasol, a byddaf yn sôn yn fanylach am hyn maes o law.
Fel y byddai'r Aelodau yn ei ddisgwyl, rydym yn gwrthod gwelliant hunanfodlon y Ceidwadwyr, sy'n anwybyddu'r dioddefaint gwirioneddol sy'n cael ei achosi gan ymdrechion carbwl a chreulon eu plaid i ddiwygio lles. Mae'n rhaid imi ddweud y bu'n brynhawn o gyfraniadau eithaf syfrdanol o feinciau'r Ceidwadwyr, ac ar sail yr unig gyfraniad gan y Ceidwadwyr yr ydym wedi'i gael yn y ddadl hon, gellid maddau i chi mewn gwirionedd am feddwl bod y trefniadau diwygio lles yn llwyddiant ysgubol.
Rydym yn gwybod yn iawn bod lefelau tlodi ledled Cymru a gweddill y DU yn rhy uchel. Fe gwrddais i â'r Athro Alston yn ystod ei ymweliad â Chymru, ac rwy'n cytuno ag ef mai polisïau diwygio lles a chyni Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hyn yn llwyr. Mae'r effeithiau yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau sydd eisoes yn agored i niwed a'r rhai hynny â'r lleiaf o allu i ymdopi â nhw. Crynhodd yr Athro Alston yn y sefyllfa sydd gennym ar hyn o bryd fel hyn:
Mae profiad y Deyrnas Unedig, yn enwedig ers 2010, yn tanlinellu'r casgliad bod tlodi yn ddewis gwleidyddol. Gallai cyni yn hawdd fod wedi arbed y tlawd, pe byddai'r ewyllys gwleidyddol wedi bodoli i wneud hynny.
Mae'n parhau:
Roedd adnoddau ar gael i'r Trysorlys yn y gyllideb ddiwethaf a allai fod wedi trawsnewid y sefyllfa i filiynau o bobl sy'n byw mewn tlodi, ond gwnaed hytrach.
Geiriau damniol. Mynegodd yr adroddwr arbennig ei ddicter bod angen i'r gweinyddiaethau datganoledig wario eu hadnoddau sy'n prinhau i amddiffyn pobl rhag y polisïau niweidiol hyn gan Lywodraeth y DU. Yn sgil cyni mae ein cyllideb gyffredinol ar gyfer 2019-2020 wedi gostwng gan £850 miliwn mewn termau real o'i gymharu â 2010-2011. Serch hynny, yn absenoldeb newid cyfeiriad gan o fewn ein gallu i liniaru effeithiau gwaethaf y polisïau dinistriol hyn.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi datganoli budd-daliadau lles am sawl rheswm. Fel mater o egwyddor, o undod cymdeithasol, dylai fod gan bawb hawl gyfartal i hawlio gan ein gwladwriaeth les. Dylid diwallu anghenion dinasyddion yn yr un modd, ni waeth ble maen nhw yn y DU, ac nid ydym yn credu bod cydraddoldeb ac undod ac ailddosbarthu cyfoeth yn 'deyrngarwch truenus' nac yn 'ddogma unoliaethol', fel yr awgrymodd meinciau Plaid Cymru. Byddem ni hefyd yn hynod o ofalus wrth gytuno ar unrhyw newidiadau i'r system nawdd cymdeithasol, gan gynnwys datganoli budd-daliadau, cyn asesu goblygiadau sut y byddai'r newidiadau hynny yn cael eu hariannu. Ac, wrth gwrs, rydym yn arbennig o ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd pan wnaeth Llywodraeth y DU ddatganoli'r budd-dal treth gyngor i Gymru, pan wnaethon nhw frig-dorri'r gyllideb.
Mae'r dull o ddatganoli budd-daliadau lles i Lywodraeth yr Alban wedi trosglwyddo'r risg ariannol sy'n gysylltiedig, wrth i'r galw am fudd-daliadau fesul pen gynyddu'n gyflymach yn yr Alban nag yn Lloegr o'r pwynt datganoli. Ac i Gymru, byddai hynny'n risg ariannol sylweddol. Fel yr ydym ni wedi clywed, byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r system les yn tynnu adnoddau oddi wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Yn yr Alban, mae £266 miliwn wedi'i dynnu oddi wrth wasanaethau rheng flaen er mwyn gweithredu'r pwerau lles datganoledig newydd. Efallai nad yw pobl eraill yn hoffi'r dadleuon hyn, ond rwy'n credu eu bod yn bryderon rhesymol a dilys pan awgrymir y dylem ni fod yn cymryd cyfrifoldeb am yr eitemau hyn.
Felly, dylai hyblygrwydd wrth weinyddu credyd cynhwysol fod ar gael, a gall fod ar gael i bawb sy'n cael y budd-dal hwnnw trwy drefniadau taliadau amgen. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yn cytuno i'n cais am hyn, byddai'n lleddfu llawer o'r anawsterau y mae pobl yn eu profi yn sgil y taliad credyd cynhwysol. Nid oes angen datganoli trefniadau gweinyddu i wneud hyn, byddai'n gostus, fel yr ydym ni wedi clywed, ac yn dargyfeirio cyllid oddi wrth gyflawni ein cyfrifoldebau.
Rwyf i wedi ysgrifennu at Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, sydd wedi cydnabod bod problemau o ran credyd cynhwysol, gan ei hannog i ystyried sut y gall credyd cynhwysol gefnogi pobl yn well a chydnabod bod llawer o'r hawlwyr yn dymuno dewis amlder eu taliadau a bod angen gwneud hynny ar rai. Pwysleisiais hefyd yr angen i sicrhau bod yr holl hawlwyr blaenorol yn derbyn y lefel uchaf o daliadau amddiffyniad trosiannol atodol er mwyn sicrhau nad oes neb dan anfantais ac yn waeth eu byd pan fyddan nhw'n symud i gredyd cynhwysol.
Ein dull ni o fynd i'r afael â thlodi yw y dylai fod yn rhan annatod o'r ffordd y mae llywodraeth a'i phartneriaid yn gweithio ac yn cyflawni dros bobl Cymru. Dyna pam mae trechu tlodi yn sylfaenol i 'Symud Cymru Ymlaen' a 'Ffyniant i Bawb'. Mae 'Ffyniant i bawb' yn cydnabod bod lleihau lefelau tlodi a thyfu ein heconomi yn dibynnu ar ei gilydd. Mae'n nodi'r camau hynny y byddwn ni'n eu cymryd fel Llywodraeth i greu'r amodau a'r cyfleoedd er mwyn i bobl a chymunedau lwyddo, tyfu a ffynnu.
Ein hymrwymiad sylfaenol yw atal tlodi. Rydym yn gwneud hyn trwy fuddsoddi a rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant, helpu pobl i wella eu sgiliau, cefnogi pobl i gael cyflogaeth deg a chymryd camau i liniaru effaith tlodi nawr. Mae'r rhain i gyd wedi'u hymgorffori yn ein strategaeth genedlaethol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Wrth gwrs, un o brif ganfyddiadau'r adroddiad hwn yw bod pobl anabl yn disgyn ymhellach ar ei hôl hi ac y gwrthodir yr hawl i fyw'n annibynnol iddynt. Nawr, fe wnaethoch chi restru rhai o'r pethau yr ydych chi wedi'u gwneud. Rhywbeth arall yr ydych chi wedi'i wneud fel Llywodraeth, yn groes i bolisi eich plaid eich hun, wrth gwrs, yw cael gwared ar grant byw'n annibynnol Cymru. Nawr, cafwyd llawer o hanesion am bobl anabl yn disgyn ar ei hôl hi, felly a allwch chi roi sicrwydd pendant i'r Cynulliad hwn na fydd y bobl a fu'n derbyn arian cronfa byw'n annibynnol Cymru yr un geiniog yn waeth eu byd yn dilyn eich penderfyniad?
Diolch yn fawr iawn ichi am yr ymyriad yna. Wrth gwrs, Llywodraeth y DU a diddymodd y gronfa byw'n annibynnol, ac yna ceisiodd Llywodraeth Cymru gefnogi pobl a oedd eisoes yn derbyn arian o'r gronfa honno. Ond mae hon yn enghraifft o sefyllfa, os oes gennych chi'r swm hwn o arian ac nad ydych chi ond, mewn gwirionedd, yn caniatáu i'r bobl hynny sydd ar y budd-dal hwnnw, neu sy'n derbyn y budd-dal hwnnw, i barhau arno, yna mae gennych chi system ddwy haen ar gyfer pobl anabl yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth na fyddem ni eisiau ei gefnogi. Dylai pobl allu cael eu hanghenion wedi'u bodloni, a'u bodloni'n dda, drwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant a'r darpariaethau y bydden nhw'n eu derbyn o dan honno.
Felly, mae cynnig a gwelliannau'r Ceidwadwyr yn galw am dargedau a dangosyddion perfformiad clir i fesur cynnydd o ran trechu tlodi. Bydd y dangosyddion cenedlaethol, sy'n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn helpu i fesur ein cynnydd fel gwlad tuag at gyflawni'r saith nod llesiant. Bydd llawer o'r dangosyddion hyn yn ein helpu i asesu'r cynnydd o ran trechu tlodi. Bydd y rhain yn mesur, er enghraifft, tlodi cymharol, amddifadedd materol, lefelau cyflogaeth a ffyrdd o fyw iach, ymhlith pethau eraill. Yn ogystal â hyn, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu cerrig milltir cenedlaethol a fydd yn dynodi graddfa a chyflymder y newid sydd ei angen os ydym ni am gyflawni'r saith nod erbyn 2050.
Felly, Llywydd, fel yr ydym wedi'i nodi yn ein gwelliant ein hunain, rydym yn gweithio'n galed i liniaru effaith waethaf camau cyni parhaus Llywodraeth y DU, tra bod angen i Lywodraeth y DU fynd i'r afael ar frys â'r diffygion sylfaenol yr ydym ni wedi eu nodi yn y credyd cynhwysol.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i alw yn awr ar Leanne Wood i ymateb i'r ddadl?
Diolch. Dylai'r adroddiad hwn fod wedi bod yn ysgytwad i'r Torïaid, ond dyw e' ddim, felly nid wyf i hyd yn oed yn mynd i sôn am y ffaith bod y Ceidwadwyr yn gwadu hyn yn llwyr. O ran y pwyntiau a wnaed gan yr asgell dde eithafol, rydych chi'n jôc llwyr. Nid oes gennych chi unrhyw syniad am dlodi na sut y bydd y bobl dlotaf yn y byd yn dioddef o ganlyniad i'r ffaith eich bod yn gwadu newid yn yr hinsawdd, na sut y bydd pobl dlawd â nodweddion gwarchodedig yn cael eu niweidio gan eich rhethreg gas. Mae eich cyfraniad chi a'r ymgynghorydd diweddar, newydd, i'ch plaid, sydd hyd yn oed ymhellach i'r dde, yn dangos nad ydych chi'n addas i gynrychioli pobl. Nid oes unrhyw le i chi yn y math o Gymru yr wyf i eisiau ei weld. Rydych chi'n rhan o'r broblem ac nid yn rhan o'r ateb.
O ran y Torïaid, rydych chi mor ddiddeall o'r sefyllfa fel nad oes gennych chi unrhyw syniad o'r boen a achosir i bobl gyda'r credyd cynhwysol. Er gwaethaf y dystiolaeth—ac asesiad effaith yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun yn 2011 yn dangos nad yw'n talu'r ffordd i bobl weithio gyda'r credyd cynhwysol—mae mwy o bobl yn wynebu datgymhellion uwch i weithio nag o dan yr hen system. Er gwaethaf y dystiolaeth, rydych chi'n dal i honni bod y system hon yn wych. Bydd unrhyw un sy'n gwylio hyn yn llunio ei farn ei hun, rwy'n siŵr.
Rwyf eisiau dweud 'diolch' wrth yr Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon mewn ffordd gadarnhaol, yn arbennig i'r rhai a dynnodd sylw at yr effaith ar wasanaethau datganoledig eraill yn sgil effeithiau'r credyd cynhwysol a'r rhai hynny a siaradodd am grwpiau penodol y gwahaniaethir yn eu herbyn. A diolch arbennig i Helen Mary Jones am gyflwyno'r agwedd ryweddol ar y ddadl hon mewn modd mor rymus. Rwyf hefyd yn cefnogi galwad Jane Hutt i roi mwy o bwysau ar Amber Rudd ar hyn hefyd.
Mae'n rhaid imi roi sylw i'r pwynt a wnaed gan Joyce Watson a'r Gweinidog am yr hyn y mae'r Alban wedi'i wneud o ran lliniaru'r problemau hyn. Yn yr Alban, mae ganddyn nhw bwerau, erbyn hyn, i ddarparu 11 o fudd-daliadau. Maen nhw'n mynd i gyflwyno lwfans gofalwyr uwch, ac yna'r grant Best Start a'r grant cymorth angladdau o fis Medi 2019. Maen nhw wedi cael yr arian ac maen nhw'n gwario mwy. Pam? Oherwydd eu bod nhw'n blaenoriaethu tlodi. Nawr, mae'r Blaid Lafur yn yr Alban eisiau i'r SNP fynd hyd yn oed ymhellach, i fod hyd yn oed yn fwy hael, i liniaru effeithiau'r budd-daliadau hyn hyd yn oed yn fwy. Felly, pam ydych chi'n gwrthwynebu? Mae hyn yn enghraifft arall eto o'r Blaid Lafur yn wynebu nifer o wahanol gyfeiriadau. Byddai'r newidiadau yr ydym ni eisiau eu gweld o ran datganoli gweinyddu budd-daliadau yn arbed arian i'r Llywodraeth hon. Pe byddech chi'n gwneud hyn yn iawn gallech chi arbed arian i'r GIG, gallech chi arbed arian ym maes tai, gallech chi arbed arian mewn addysg a llawer iawn mwy. O gofio ein sefyllfa â'r holl dlodi hwn, ac mae'n debygol o gael ei wneud yn llawer iawn gwaeth ar ôl Brexit, mae'r ffaith nad oes gan y Llywodraeth unrhyw strategaeth, ac nad oes ganddi unrhyw Weinidog penodol i fynd i'r afael â thlodi na thlodi plant, yn warth llwyr.
Rwyf eisiau gorffen gyda dyfyniad o'r adroddiad, gan yr Athro Philip Alston ei hun, sy'n dweud,
Yn absenoldeb pŵer datganoledig dros fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, mae gallu Llywodraeth Cymru i liniaru yn uniongyrchol y gostyngiad mewn budd-daliadau yn gyfyngedig, gan felly symud y baich i aelwydydd incwm isel. Mae consensws eang ymhlith rhanddeiliaid bod y newidiadau budd-dal yn un o'r achosion strwythurol y tu ôl i'r cynnydd mewn tlodi, cysgu ar y stryd a digartrefedd yng Nghymru. Lleisiodd seneddwyr a chymdeithas sifil bryderon difrifol y gallai credyd cynhwysol waethygu'r broblem, yn enwedig yn sgil anallu Llywodraeth Cymru i gyflwyno hyblygrwydd yn ei dull gweinyddu, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban.
Mae hynny'n dweud bod gennych chi'r pŵer i wneud rhywbeth am hyn. Gwnewch hynny.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb welliannau. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, rydym yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.