– Senedd Cymru am 3:51 pm ar 12 Mehefin 2019.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Gweithgarwch Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc.
Yng Nghymru, rydym ni'n wynebu argyfwng cenedlaethol o ran iechyd ein plant a’n pobl ifanc. Mae cyfran uwch o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew, ac yn nodi ffordd o fyw nad yw’n iach, o’u cymharu â phlant gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Gwyddom fod plant gweithgar yn fwy tebygol o ddod yn oedolion gweithgar. Eto i gyd, mae tystiolaeth o Brifysgol Southampton yn nodi bod lefelau gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff ymhlith plant yng Nghymru ymysg y gwaethaf ledled y byd.
Fel rhan o’r ymchwiliad yma, cawsom ystod eang o dystiolaeth. Yn ogystal â’r gwaith arferol o gasglu tystiolaeth ffurfiol yng nghyfarfodydd y pwyllgor, fe wnaethom ni ymweld ag Ysgol Basaleg i glywed barn disgyblion ac athrawon; cynnal trafodaethau grŵp ffocws â rhanddeiliaid; a chynnal sgwrs ar y we gyda phobl ifanc rhwng 11 a 21 mlwydd oed am eu lefelau o weithgarwch corfforol a’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu neu wedi eu hwynebu rhag bod yn weithgar. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith hwn.
Rydym ni wedi gwneud 20 o argymhellion yn yr adroddiad hwn a fyddai, o’u gweithredu, yn gam mawr ymlaen wrth ysgogi newid a’r gwelliannau sydd eu hangen i wrthdroi’r duedd bryderus hon. Mae'n hadroddiad yn ymdrin ag ystod eang o faterion, ar draws nifer o bortffolios gweinidogol, a byddaf yn ceisio cynnwys cymaint o’r rhain â phosibl yn yr amser sydd ar gael i mi.
Clywsom dystiolaeth gymhellol fod angen i sgiliau echddygol sylfaenol gael eu dysgu ar oedran cynnar. Ceir camsyniad y bydd yr holl sgiliau'n datblygu'n naturiol yn ystod plentyndod, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Clywsom dystiolaeth fod sgiliau echddygol sylfaenol, fel llawer o sgiliau academaidd eraill, angen cyfarwyddyd a chyfleoedd sy'n ddatblygiadol briodol i ymarfer sgiliau mewn amgylcheddau dysgu cyfoethog. Mae plant sydd wedi'u dal yn ôl o ran eu sgiliau echddygol sylfaenol yn llai tebygol o fod yn gorfforol egnïol yn awr ac yn y dyfodol.
Clywsom am gyfarwyddyd cinesthetig llwyddiannus i blant cyn oed ysgol—SKIP—rhaglen o ddatblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddefnyddiwyd i hyfforddi athrawon, cynorthwywyr dysgu a rhieni ynghylch pwysigrwydd symud yn gynnar i ddatblygiad plentyn. Dywedodd Dr Nalda Wainwright, cyfarwyddwr Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru, ac rwy'n dyfynnu, rydym yn hyfforddi'r athrawon i ddeall sut y mae plant yn symud drwy'r camau hynny. Maent yn ei wneud mewn llythrennedd a rhifedd, ond nid oes neb wedi dysgu hynny iddynt mewn cyd-destun corfforol. Cafwyd y fath gamargraff yn y byd academaidd ynghylch datblygiad echddygol—sy'n awgrymu bod plant yn dysgu hynny eu hunain drwy chwarae. Ond mae hynny fel taflu bag o lythrennau i ystafell a dweud, "Chwaraea ddigon gyda'r rhain ac fe wnei di ddysgu darllen"'.
Fe wnaethom argymell felly—argymhelliad 5—fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pellach yn y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei alluogi i ddatblygu'r sgiliau echddygol sylfaenol hanfodol sydd eu hangen ar oedran cynnar yn yr ysgol, a sicrhau bod bylchau presennol yn y cyfnod sylfaen sy'n gysylltiedig â'r sgiliau hyn yn cael sylw llawn. Byddem yn cefnogi buddsoddiad er mwyn cyflwyno rhaglenni fel SKIP Cymru ledled y wlad i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn gallu cefnogi plant yn ddigonol i ddysgu'r sgiliau hyn. Er ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn, nid yw'n cael ei adlewyrchu'n glir yn yr ymateb, sy'n sôn am y cyfnod sylfaen a'r adnoddau presennol sy'n cyflawni'r gofynion ac yn nodi y gallent ddatblygu astudiaeth achos ar raglen SKIP Cymru. Mewn ymateb i'r datganiad hwn, dywedodd Dr Nalda Wainwright wrthym, ac rwy'n dyfynnu,
Mae'n hynod siomedig, yng Nghymru, lle mae gennym y lefelau uchaf yn Ewrop o ordewdra ymhlith plant a lle mae traean o'r plant yn byw mewn tlodi, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo mai ymateb priodol i argymhellion yr adroddiad yw dyfynnu cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, y dengys ymchwil a gyhoeddwyd nad yw'n datblygu'r sgiliau echddygol angenrheidiol. Maent hefyd yn awgrymu bod adnoddau heb sylfaen dystiolaeth yn fodel addysgeg ar gyfer addysg gorfforol. Drwy anwybyddu'r dystiolaeth mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o wneud cam â phlant ifanc a theuluoedd Cymru yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle maent yn wynebu argyfwng cynyddol o anweithgarwch, datblygiad echddygol gwael a lefelau gordewdra cynyddol.
Mae'n amlwg i ni nad yw ysgolion yn rhoi digon o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol, ac mae'n rhaid i hyn newid. Mae'r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle gwych i unioni'r fantol a rhoi'r sylw a'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu i weithgarwch corfforol. Mae'n achos pryder mawr i ni glywed nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn cyflawni'r 120 munud yr wythnos a argymhellir o addysg gorfforol, a bod lleihau'r amser a neilltuir i addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn arfer cyffredin oherwydd pwysau'r cwricwlwm. Cytunwn â rhanddeiliaid y dylai'r 120 munud yr wythnos a argymhellir fod yn ofyniad statudol, gan ei gwneud yn glir mai targed isaf yw hwn, ac y dylid annog mwy o weithgarwch os yn bosibl. Felly, rydym yn hynod siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, o ystyried y dystiolaeth nad yw'n digwydd yn y mwyafrif helaeth o ysgolion yng Nghymru.
Er mwyn dyrchafu'r statws a'r flaenoriaeth a roddir i weithgarwch corfforol mewn ysgolion, rydym hefyd yn cytuno bod yn rhaid i Estyn ei arolygu er mwyn monitro cydymffurfiaeth â'r 120 munud a hefyd er mwyn asesu ansawdd y profiad o addysg gorfforol. Unwaith eto, er bod argymhelliad 9—y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o flaenoriaeth i addysg gorfforol yn y cwricwlwm newydd a gwneud y flaenoriaeth hon yn glir i Estyn—wedi'i dderbyn, mae'r naratif cysylltiedig yn nodi'r hyn y mae Estyn yn ei wneud ar hyn o bryd, er bod yr argymhelliad yn galw am weithredu o'r newydd, i roi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol yng ngweithdrefn arolygu Estyn. Felly nid yw'n ymddangos bod yr argymhelliad wedi'i dderbyn mewn gwirionedd. Buaswn yn ddiolchgar am sylwadau'r Gweinidog ar hyn.
Clywsom am bwysigrwydd darparu dewis priodol o weithgareddau a chynnwys disgyblion yn y broses o ddatblygu'r gweithgarwch corfforol a'r chwaraeon a gynigir yn eu hysgolion. Ategwyd hyn yn ein trafodaethau â disgyblion yn Ysgol Basaleg, a ddywedodd wrthym fod gan yr ysgol ddull gweithredu cytbwys, a bod cael opsiwn yn bwysig, yn enwedig i'r rhai nad oeddent am gymryd rhan mewn ymarfer corff ffurfiol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 7 felly, i sicrhau bod pob ysgol uwchradd yn ymgynghori'n rheolaidd â disgyblion ynglŷn â'r dewis a'r ystod o weithgareddau corfforol sydd ar gael iddynt ac yn sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried.
Edrychwyd ar y gwahaniaethau yn agweddau bechgyn a merched tuag at weithgarwch corfforol. Mae'r arolwg o chwaraeon mewn ysgolion ar gyfer 2018 yn dangos bod 50 y cant o fechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos o'i gymharu â 46 y cant o ferched. O ran agweddau tuag at chwaraeon, mae mwynhad o addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd yn debyg rhwng y rhywiau—75 y cant ymhlith bechgyn o gymharu â 71 y cant ymhlith merched—ond mae'r darlun yn newid ar lefel uwchradd. Yma, tra bod 64 y cant o fechgyn yn mwynhau addysg gorfforol, dim ond 45 y cant o ferched sy'n dweud hynny.
Mae'r rhesymau a roddwyd gan dystion am y gwahaniaeth hwn yn cynnwys diffyg modelau rôl benywaidd ym myd chwaraeon, pwysau gan gyfoedion a hunan-barch isel. Mae tystiolaeth gan Women in Sport yn nodi bod merched yn llawer mwy tebygol o fod yn hunanymwybodol, ac erbyn eu bod yn 14 i 16 mlwydd oed, mae tua un o bob tair merch, 36 y cant, yn anhapus gyda delwedd eu cyrff.
Pwysleisiodd llawer o dystion yr angen i ddechrau peidio â gwahaniaethu rhwng chwaraeon i ddynion a menywod. Clywsom fod ystrydebau o ran rhywedd yn dechrau ffurfio yn gynnar iawn, gyda merched yn cael eu magu i gredu nad ydynt mor dda mewn chwaraeon â bechgyn. Dywedodd Laura Matthews o Women in Sport wrthym y gall hyn ddigwydd fesul tipyn, gydag ymadroddion fel 'Rwyt ti'n taflu fel merch' yn rhoi’r argraff i ferched yn ifanc iawn nad ydyn nhw cystal â bechgyn. A bydd teimladau tebyg yn golygu bod merched yn llai tebygol o fod eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon.
Clywsom hefyd am y diffyg modelau rôl benywaidd ym myd chwaraeon yn y cyfryngau a'r diffyg sylw a roddir i chwaraeon menywod. Yn ôl ymchwil a wnaed gan Women in Sport, mae chwaraeon i fenywod yn cyfrif am 7 y cant o'r holl sylw a roddir i chwaraeon yng nghyfryngau'r Deyrnas Unedig. Er ein bod yn cydnabod y bu gwelliannau, mae rhywfaint o waith i'w wneud o hyd yn y maes hwn. Felly, rydym ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i argymhelliad 14, y bydd yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i gefnogi datblygiad pellach ymgyrchoedd fel Our Squad a #WatchHerGo i annog merched i gymryd rhan mewn chwaraeon yn fwy cyffredinol.
Ac i gloi, felly, y sylwadau agoriadol, mae anweithgarwch corfforol yn broblem genedlaethol sy’n effeithio arnom ni i gyd. Rydym angen ymyriadau effeithiol o ran iechyd y cyhoedd i helpu i fynd i'r afael efo'r materion cysylltiedig. Fodd bynnag, ni allwn ddibynnu ar gyrff cyhoeddus ac ysgolion yn unig. Mae gan rieni hefyd rôl bwysig wrth ddylanwadu ar weithgarwch corfforol eu plant. Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach' am yr angen i ganolbwyntio ar ddulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar deuluoedd, ac rydym yn ei hannog i ddwyn hyn ymlaen yn y strategaeth derfynol, gyda thargedau uchelgeisiol a threfniadau monitro effeithiol i sicrhau deilliannau pendant. Oherwydd os na fyddwn yn dechrau cymryd camau brys nawr i newid agweddau tuag at weithgarwch corfforol, rydym yn creu problemau i genedlaethau’r dyfodol. Diolch yn fawr.
Wrth gwrs, mae ein Cadeirydd yn ei ddull dihafal ei hun wedi hwylio drwy'r adroddiad cyfan, wedi cyffwrdd â phob argymhelliad, ond serch hynny, Weinidog, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fy mod yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaeth oherwydd mae gennym y cyfraddau uchaf o ordewdra, ac mae plant afiach fel arfer yn tyfu'n oedolion eithaf afiach. Mae hwn yn ystadegyn sy'n peri pryder mawr, ac mae'n golygu y bydd mwy o bobl yn cael anhawster i gael cyflogaeth briodol fel oedolion. Mae'n anodd iawn gwneud rhai o'r swyddi sy'n rhaid inni eu gwneud os oes gennych gefnau drwg, os ydych chi'n llawer rhy drwm i wneud y gwaith sydd angen i chi ei wneud. Mae mwy ohonom, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig iawn, yn fwy tebygol o farw hyd at 10 mlynedd yn gynharach; dyna 10 mlynedd o fywyd gogoneddus y gallech fod wedi'i gael nad ydych yn ei gael oherwydd pethau fel diabetes, problemau'r galon a strôc a rhai mathau o ganser, i enwi dim ond rhai.
Ac wrth gwrs, nid ymwneud â bod yn drwm yn unig oedd yr adroddiad. Mae ein lefelau ffitrwydd cyffredinol yn hanfodol os ydym yn mynd i fwynhau bywyd corfforol hir a hapus, yn ogystal â bywyd meddyliol hir a hapus. Hoffwn atgoffa'r Aelodau na ddylem danbrisio manteision gweithgarwch corfforol i'n hiechyd meddwl. Rydym oll yn rhy ymwybodol fod plant a phobl ifanc heddiw'n dioddef pwysau cymdeithasol nad oedd yn rhaid inni ei ddioddef. Mae pethau erchyll yn digwydd drwy'r rhyngrwyd, bwlio mewn ysgolion, llu o bethau, heb sôn am bwysau cyflawni, arholiadau a cheisio symud ymlaen fel pobl. Os ydych yn holliach a bod gennych y rhyddhad hwnnw, a bod y lefelau serotonin hynny'n llifo drwy eich corff, rydych yn llawer mwy abl i ymdrin â rhai o'r pethau sy'n dod tuag atoch.
Mae bod yn iach ac yn egnïol yn rhywbeth y gallwn anelu tuag ato, ond fel pob dyhead mae'n wreiddiedig mewn arfer, mewn gwybodaeth, mewn hyder a phrofiad. Felly, dylem ddechrau yn y dechrau, a dyna pam roeddwn mor falch o fod yn rhan o adroddiad y pwyllgor ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc, oherwydd credaf fod yn rhaid inni weithredu yn awr i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn ystyried bod yn egnïol, bod yn normal—cerdded, beicio, dawnsio, gwneud chwaraeon—. Bobol bach, nid oes raid iddo olygu gwneud faint bynnag o funudau ydyw o bêl-droed a rygbi, ac nid wyf am ddweud pa un oherwydd fe fyddaf yn anghywir, rwy'n gwybod y byddaf. Rhaid inni sicrhau hefyd fod y plant hyn yn gwybod pan fyddant yn tyfu i fyny nad ysmygu a chyffuriau a bwyta gormod ac yfed gormod yw'r modd o gael y ffordd o fyw heini ac iach honno.
Mae angen inni ddechrau gydag addysg, a dyna pam rwyf mor falch o weld y Gweinidog Addysg yn bresennol, gan fod llawer o hyn yn dibynnu ar y bobl a all ddylanwadu fwyaf ar ein plant yn yr oedran ifanc hwnnw, sef rhieni ac athrawon, a hwy yw'r allweddi ac mae angen i ni ddefnyddio'r allweddi hynny. A dyna pam y gwnaethom argymhelliad mor glir ynglŷn â'r oriau o weithgarwch corfforol sy'n orfodol mewn ysgolion, a chytunwyd ar 120 munud fel gofyniad sylfaenol ar ôl gwrando ar lawer o dystion arbenigol. Bydd y Gweinidogion sy'n bresennol yn gwybod fy mod wedi codi'r ffaith bod y niferoedd yn gostwng ac yn gostwng ac yn gostwng ac rwy'n wirioneddol bryderus ynglŷn â hynny.
Felly, annwyl ddarllenydd, os darllenwch ein hadroddiad, mae'n edrych fel newyddion gwych fod y Llywodraeth wedi derbyn argymhellion 5 a 7, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi, oherwydd yn argymhelliad 5 mae arnom eisiau'r gweithredu pellach hwnnw. Siaradodd Dai lawer am ddatblygu sgiliau sylfaenol, sgiliau echddygol, mewn plant ifanc. Wyddoch chi, mae'r Llywodraeth yn traethu'n huawdl am y cyfnod sylfaen, ac rwy'n cefnogi'r cyfnod sylfaen yn frwd, ond mae Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru yn glir iawn: maent wedi dychwelyd at y gwaith ymchwil, maent wedi dychwelyd at y dystiolaeth ac nid oes tystiolaeth ar gael ar ei gyfer. Mae eu hymchwil yn dangos nad yw disgyblion yn datblygu'r sgiliau hynny, ac mae angen iddynt wneud hynny oherwydd dyna yw'r blociau adeiladu hanfodol i bobl iach. Ac rwy'n credu bod yr ymateb hwn yn ddi-hid ac yn rhagdybiaethol.
Mewn perthynas ag argymhelliad 7, rwyf wedi cyfarfod â llawer o blant ysgol nad oes neb erioed wedi gofyn iddynt beth yr hoffent ei wneud fel chwaraeon corfforol. Os ydych yn fachgen cymerir eich bod yn gwneud rygbi neu bêl-droed, ac os ydych yn ferch, fel y dywedwyd wrth fy merch i, 'Gallwch redeg o gwmpas y cae pêl-droed tra bod y bechgyn yn cael hwyl yn y canol yn chwarae gêm.' Dyna wych; fe wnaeth hynny'n siŵr ei bod hi'n dwli ar chwaraeon am weddill ei hoes. Felly, os ydych chi'n mynd i ymgysylltu'n wirioneddol â merched a menywod ifanc a phlant sy'n byw bywydau difreintiedig iawn, â gofalwyr, â phlant mewn amgylcheddau gwledig na allant ddychwelyd i wneud chwaraeon ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i chi ofyn iddynt a gwrando arnynt go iawn. A chredaf fod yna rai ysgolion da sy'n ei wneud, ac fe wnaethom ymweld ag ambell un; nid yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn ei wneud, ac mae'n rhaid i hynny newid.
Yn olaf, hoffwn roi sylw i'r modd y gwrthodwyd argymhelliad 8 yn ei grynswth. Dim ond un maes dysgu a phrofiad sydd i'w gael yn y cwricwlwm newydd, ac mae ein system addysg gyfan yn mynd drwy newid enfawr. Rhaid iddo wreiddio dros gwricwlwm newydd; mae yna newidiadau sylweddol i fethodoleg ac arferion; a thra bod yr athrawon yn gweithio'n ddi-baid i amsugno hyn, tra bod y Llywodraeth yn monitro ac yn adolygu, nid yw ein plant yn dod yn ddigon egnïol yn gorfforol i fod o fudd i'w bywydau ac i fod o fudd i'n bywyd cyllidol yn y dyfodol, oherwydd gwyddom am y pwysau. Ni fydd ein gordewdra, ein hiechyd a'n hargyfyngau lles meddyliol yn gwella nes inni fynd i'r afael â hyn, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn gam da ymlaen.
Hoffwn ddechrau drwy ganmol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am yr hyn sydd, yn fy marn i, yn waith diddorol iawn. Dilynais yr ymchwiliad hwn yn fanwl, ac rwyf am ganolbwyntio ar un neu ddau o argymhellion heddiw. Mae hwn yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae'n agos at fy nghalon fel rhiant, mae'n agos at fy nghalon fel cyn-athrawes a hefyd fel cyn-weithiwr cynllun chwarae, ac fel rhywun sydd wedi ymgyrchu ar wella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc ers i mi gael fy ethol.
Yn ogystal â hynny, rwy'n awyddus i weld dull Llywodraeth gyfan o ymdrin â'r mater hwn, a gobeithio y gallaf ymchwilio i hynny yn fy nghyfraniad heddiw, gan ddechrau gydag argymhellion 3 a 4, sy'n argymell dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y teulu ac sy'n galw ar Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu rhaglen briodol. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, gan ei fod yn cynnig ffordd ar gyfer gwella iechyd plant a phobl ifanc fel catalydd ar gyfer lles y teulu cyfan. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, gwn fod cyfeiriad at bartneriaeth gweithgarwch corfforol Cymru, a allai wella lefelau gweithgarwch corfforol. Hefyd, hoffwn weld cyfraniad gan fentrau megis tasglu'r Cymoedd mewn perthynas â chysyniad parc rhanbarthol y Cymoedd hefyd. Mewn ardaloedd fel fy ardal i, gallai hon fod yn ffordd hygyrch a rhad iawn o gael pobl i ddod allan a mwynhau'r amgylcheddau nad ydynt yn rhai trefol sydd, yn llythrennol, ar garreg drws pobl.
Rwyf wedi siarad o'r blaen—credaf mai dyna oedd fy nadl fer gyntaf yn ôl yn 2016—am yr hyn a elwir yn 'anhwylder diffyg natur'. Mae'n seiliedig ar ymchwil sy'n dangos mai dim ond 13 y cant o blant Cymru a oedd yn ystyried bod ganddynt gysylltiad agos â byd natur. Rwy'n credu bod hynny'n syfrdanol. Mae'n ffigur is na'r Alban, Gogledd Iwerddon neu Lundain hyd yn oed. Yn yr un modd, fel rhywun sy'n hoff iawn o hanes diwydiannol, credaf fod cyfleoedd yma yn gysylltiedig â'n treftadaeth ddiwydiannol. Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen am fy angerdd ynglŷn â thwnnel Aber-nant, sy'n cysylltu Cwm-bach yn fy etholaeth â Merthyr Tudful. Os caiff ei ailagor, gallai fod yn atyniad go iawn fel llwybr teithio llesol, a gwn fod llawer o gynlluniau eraill tebyg a allai gael yr un effeithiau cadarnhaol.
Mae argymhelliad 11 yn arf arall defnyddiol iawn. Mae caniatáu mynediad ehangach at gyfleusterau ysgolion, yn enwedig rhai sydd wedi eu hadnewyddu o dan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn synnwyr cyffredin. Rwy'n falch fy mod wedi gallu gweithio gyda chyngor Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar ar geisiadau gan gymuned leol i blant allu chwarae ar MUGA newydd sbon—man chwarae amlddefnydd, i'r rhai nad ydynt yn gwybod—mewn ysgol gynradd yng Nghwm-bach. Mae'n gwneud synnwyr y dylem agor yr ardaloedd hyn y tu allan i oriau ysgol er mwyn i'r gymuned allu elwa ohonynt.
Hoffwn fynd y tu hwnt i hyn a thynnu sylw hefyd at fy nghynnig blaenorol ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. Byddai hwnnw wedi sicrhau bod cyfleoedd chwarae yn diwallu anghenion yr holl blant a phobl ifanc yn y gymuned, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn parhau'n flaenoriaeth.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru, yn eu tystiolaeth, a ddyfynnir drwy'r adroddiad, wedi cyflwyno achos pwerus dros fynd ati o ddifrif ac integreiddio cynwysoldeb mewn ymatebion llywodraethol. Yn yr un modd, gobeithiaf y byddaf yn cyfarfod â'r Dirprwy Weinidog iechyd yn y dyfodol agos iawn i drafod chwarae cynhwysol ac edrychaf ymlaen at glywed sut y mae gwaith ar wahanol ymatebion yn mynd rhagddo.
Mae argymhelliad 16, ar y grant datblygu disgyblion, hefyd yn bwysig iawn yn fy marn i. Ar sail ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae un o bob pedwar plentyn rhwng 11 ac 16 oed yn ardal Cwm Taf yn ordew, fel y mae bron i 15 y cant o blant rhwng pedair a phump oed. Dyma'r ffigurau uchaf yng Nghymru, ac yn syml iawn, nid ydynt yn dderbyniol. Pan geir cysylltiadau clir rhwng amddifadedd a gordewdra, mae hi mor bwysig ein bod yn defnyddio dulliau fel y grant datblygu disgyblion i geisio unioni hyn.
Rwy'n derbyn ymateb Llywodraeth Cymru fod rhai enghreifftiau da o hyn yn bodoli eisoes, ond hoffwn weld mwy o waith ar y pwynt hwn. Yn yr un modd, hoffwn weld cynnydd ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll diodydd meddal—argymhelliad 20. Yng Nghymru, fe wyddom fod y siwgr a fwyteir dair gwaith yn fwy na'r hyn a argymhellir ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau rhwng 11 ac 16 oed, a chyda Wythnos Diabetes yn digwydd yr wythnos hon, gallai fod manteision amlwg yma.
I gloi, hoffwn ystyried argymhelliad 19, sy'n ymwneud ag adran 106 a chyfleusterau hamdden hygyrch gyda datblygiadau tai newydd. Yn ddiweddar adeiladodd Persimmon ystâd newydd sbon yn fy etholaeth, ac roedd eu llyfryn sgleiniog yn dangos man chwarae yng nghanol yr ystâd. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ni cheir ardal chwarae, dim ond tir dympio i'r datblygwr, a phob gwyliau ysgol mae preswylwyr yn gofyn imi pryd y bydd y man chwarae'n agor, ond yr unig ymateb a gawn yw rhagor o gymylu'r dyfroedd ac oedi. Mae hwn yn fater y cyffyrddwyd arno'n ddiweddar ym mhwyllgor yr economi, yn ein hymchwiliad i adeiladwyr tai lleol. Yn bendant, mae awdurdodau lleol yn gyndyn o adeiladu mannau agored yn awr o ganlyniad i gyni ariannol, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno yn y dyfodol.
Hoffwn fynegi fy niolch, fel y mae eraill eisoes wedi'i wneud, i bawb a gymerodd ran yn y gwaith pwysig hwn gan ein pwyllgor. Wrth gwrs, deuthum at y gwaith hwn tua'r diwedd—ymunais â'r pwyllgor tuag at ddiwedd y broses—ac mae wedi bod yn agoriad llygad i edrych yn ôl a darllen drwy rywfaint o'r dystiolaeth wrth baratoi ar gyfer ymateb i adroddiad drafft y pwyllgor. Fel y mae eraill wedi dweud—ac nid wyf am dreulio amser y Siambr yn ei ailadrodd—mae hwn yn fater eithriadol o ddifrifol. Mae'r effaith hirdymor ar blant o gario gormod o bwysau ac o beidio â bod yn heini pan fyddant yn fach iawn yn un gydol oes, a chredaf y dylem fod yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaethpwyd gan y Fonesig Tanni Grey-Thompson heddiw ynglŷn â'r modd y cronnwn broblemau ar gyfer y dyfodol os nad ydym yn ymdrin â'r materion hyn yn awr, i'r plant unigol hynny, ond hefyd i bob un ohonom fel cymdeithas.
Wrth gwrs, fel y dywedodd Dai Lloyd, mae'n gadarnhaol iawn ar un lefel fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynifer o argymhellion y pwyllgor. Ond fel y dywedodd Dai eisoes, mae'n ymddangos bod gormod o'r derbyniad hwnnw'n dweud, 'Mae'n berffaith iawn gan ein bod eisoes yn ei wneud'. Wel, ar ôl edrych yn ôl ar y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor, nid yw hyn yn wir, a buaswn yn annog Gweinidogion Cymru i roi'r parch a'r ddealltwriaeth i'r pwyllgor na fyddem yn argymell eich bod yn gwneud pethau rydych eisoes yn eu gwneud. Efallai y byddem yn eich llongyfarch, efallai y byddem yn dweud pa mor ddiolchgar rydym i chi am hynny, ond ni fyddem yn gofyn i chi wneud pethau rydych eisoes yn eu gwneud.
Hoffwn ddweud ychydig eiriau'n gyflym am dri argymhelliad penodol, Ddirprwy Lywydd. Nawr, o ran ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 5, sy'n ymwneud â sgiliau athrawon yn y blynyddoedd cynnar a pha mor bwysig yw hi i blant ddatblygu'r sgiliau symud sylfaenol hynny, mae'r dystiolaeth yn glir iawn: mae ymateb y Llywodraeth yn dweud efallai y gallwn wneud mwy o astudiaethau achos. Wel, rydym eisoes wedi gwneud y gwaith hwnnw; nid oes angen i chi ei wneud. Ceir dulliau sefydledig o wella sgiliau addysgwyr yn y maes hwn, ac mae'r dystiolaeth, fel y dywedodd Dai eisoes, yn glir nad yw'r sgiliau yno ar hyn o bryd. Hynny yw, hyfforddais fel athrawes a dysgodd pobl lawer i mi am ddatblygiad plant a oedd yn ymwneud â llythrennedd a llawer am ddatblygiad plant a oedd yn ymwneud â rhifedd, ond disgwylid y byddai datblygiad corfforol plentyn yn dod drwy chwarae. Rydym yn gwybod nad yw hynny'n wir.
Felly, rydym yn derbyn argymhelliad yn y fan hon, ond nid yw ond yn dderbyniad sy'n dweud wrthym fod popeth yn iawn, mae'n digwydd beth bynnag. Wel, nid yw popeth yn iawn ac nid yw'n digwydd beth bynnag. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dau o argymhellion y pwyllgor, ac mewn rhai ffyrdd wrth gwrs, mae perffaith hawl gan y Llywodraeth i wneud hynny. Ac rwyf am sôn yn fyr am argymhelliad 6 ac yna am argymhelliad 8.
Felly, mae argymhelliad 6 yn sôn am ofyn i'r Llywodraeth ystyried cyflwyno rhaglen fuddsoddi i wella cyfleusterau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion presennol. Nawr, bydd pob un ohonom wedi ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain ac wedi gweld mai'r gofod a ddefnyddir ar gyfer gweithgarwch corfforol dan do, er enghraifft, yw'r gofod a ddefnyddir ar gyfer bwyta prydau bwyd hefyd, ac yn aml iawn dyma'r gofod sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau ychwanegol—mae hyn yn arbennig o wir mewn ysgolion cynradd. Nawr, mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad hwnnw—ac fe wyddom hyn fel pwyllgor wrth gwrs—yn dweud mai mater i awdurdodau lleol yw hwn. Wel, wrth gwrs ei fod yn fater i awdurdodau lleol, ond roedd tystiolaeth y pwyllgor yn glir nad yw awdurdodau lleol yn gwneud y buddsoddiad angenrheidiol hwnnw yn yr ysgolion y tu allan i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a dyna'n union pam ein bod wedi gofyn i'r Llywodraeth wneud rhywbeth yn ei gylch. Nawr, wrth gwrs nad yw pot y Llywodraeth yn llawn, wrth gwrs ein bod yn gwybod bod yna lawer o bwysau, ond mae hyn yn hollbwysig. A hoffwn annog y Llywodraeth i ailedrych ar eu gwrthodiad i'r argymhelliad hwnnw. Pe bai awdurdodau lleol yn gallu, neu'n awyddus i unioni hynny, byddent wedi ei wneud eisoes, ac maent naill ai'n methu neu nid ydynt wedi gwneud hynny.
Ac i droi eto at argymhelliad 8 a gwrthodiad y Llywodraeth i dderbyn yr angen i ddeddfu ar gyfer 120 munud o ymarfer corff fan lleiaf, nawr, rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth ynglŷn â'r ffaith bod y cwricwlwm newydd, yn ôl ei natur, yn llai rhagnodol, ac fel cyn-athrawes fy hun, rwy'n croesawu hynny'n llwyr. Ond darllenais ymateb y Llywodraeth yn fanwl iawn, ac nid yw'n glir i mi o gwbl sut y mae unrhyw beth y maent yn bwriadu ei wneud yn mynd i wneud y gwahaniaeth sydd ei angen. Gwyddom fod gweithgareddau corfforol yn cael eu gwasgu. Yn y blynyddoedd cynnar, fel y dywedais, efallai na fydd sgiliau yn y gweithlu addysgu a chymorth; efallai nad oes gofod ffisegol ar gael. Gyda disgyblion hŷn, bydd yna bwysau arholiadau. Nawr, unwaith eto, gobeithio y bydd y cwricwlwm newydd yn codi rhywfaint o'r pwysau, ond mae yna bwysau o ran arholiadau ac mae yna amharodrwydd ymhlith disgyblion, yn enwedig yn achos merched a menywod ifanc.
Nid wyf wedi fy argyhoeddi, ac nid wyf yn credu y byddai neb arall a ddarllenodd y dystiolaeth wedi eu hargyhoeddi, fod dull gweithredu'r Llywodraeth yn mynd i atal hyn. Felly, os mai'r llwybr yw peidio â deddfu ar gyfer 120 munud, mae angen inni gael ffordd arall o wneud yn siŵr fod amser gweithgarwch yn cael ei ddiogelu rywsut, a buaswn yn falch o glywed mwy gan y Llywodraeth heddiw ynglŷn â sut y bwriadant wneud hynny.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni all dim fod yn bwysicach nag iechyd corfforol ein plant; mae eu dyfodol cyfan yn dibynnu arno, eu gallu i ddysgu'n academaidd, eu gallu i dyfu i fod yn union y math o ddinasyddion y mae'r cwricwlwm newydd yn dweud ein bod yn awyddus i'w creu. Yr hyn na allwn ei gael yn yr agenda bwysig hon yw hunanfodlonrwydd a difaterwch.
Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad gwirioneddol werthfawr hwn, gyda rhai argymhellion gwerthfawr iawn? Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un maes yn unig—rwy'n dweud wrth Gadeirydd y pwyllgor—sef y mater y cyfeirir ato yn yr adroddiad yn ymwneud â theithio llesol a beth arall y gellir ei wneud. Ac mae'n ddiddorol fod yr adroddiad yn nodi mewn gwirionedd, os ydym am sicrhau teithio llesol go iawn yn ystyrlon, nid seilwaith teithio llesol yn unig ond y newid diwylliannol a fyddai'n galluogi ysgolion i'w gwneud yn gwbl arferol i gerdded ac i feicio i ysgol, byddai'r effaith yn sylweddol, ond byddai'n effeithio'n arbennig o gymesur ar ferched ifanc, oherwydd byddai'r manteision y byddent yn eu cyflawni drwy hynny yn fwy, yn ôl astudiaethau a wnaed, na chyda bechgyn ifanc, er y byddai merched a bechgyn yn ei wneud.
Felly, hoffwn ddweud wrth Weinidogion y Llywodraeth sydd wedi gweld hyn—ac roedd yn galonogol iawn, ychydig wythnosau'n ôl mewn gwirionedd, pan ddaeth y Gweinidog Addysg i gyflwyniad gan ysgol yng Nghaerdydd yma yn y Senedd a gwylio'r hyn a wnaethant. Mae'n anodd dweud weithiau wrth ysgolion yn eich ardal eich hun, 'Dychmygwch ysgol lle byddai'r corff llywodraethu yn dweud, "Rydym yn mynd i wneud hyn; rydym yn mynd i wneud ein hunain yn ysgol deithio llesol. Rydym yn mynd i'w wneud o ddifrif, nid y seilwaith yn unig, nid y rheseli beiciau'n unig, rydym yn mynd i'w wneud. Ac rydym yn mynd i'w wneud mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn mynd i gael yr ymrwymiad gan uwch arweinwyr yr ysgol, gan yr athrawon, y penaethiaid, cadeirydd y llywodraethwyr, y corff llywodraethu, rydym yn mynd i ymgysylltu â'r awdurdod lleol yn ei gylch i wneud yn siŵr nid yn unig fod gennym y seilwaith caled yn yr ysgol, ond o gwmpas yr ysgol ac o amgylch y dref ac yn y gymuned honno hefyd". Dychmygwch ysgol lle maent yn dweud wrth bob rhiant unigol, "Rydym yn mynd i gyflwyno cytundebau teithio personol gyda chi. Ar ddechrau eich blwyddyn ysgol, rydym yn mynd i siarad ynglŷn â sut y bydd eich plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel a hynny heb fod mewn car. Felly, gallwch gerdded, gallwch gael crocodeilod, gallwch fynd ar sgwter, gallwch feicio, gallwch wneud beth bynnag, ond rydym am gael y ddealltwriaeth a'r cytundeb hwnnw", a chan weithio gyda'r rhieni, er gwaethaf amheuaeth, eich bod yn cyrraedd y pwynt lle mae pob rhiant yn cytuno i'w wneud, ac yna ymwneud â thrigolion lleol i esbonio iddynt beth fydd yn digwydd, y bydd grwpiau bach o blant yn mynd heibio iddynt yn y bore ac i beidio â phoeni am hynny—bydd hynny'n arferol yn awr—a bydd ganddynt blant yn mynd heibio i gefnau eu tai ar y lonydd beicio ar feiciau mewn niferoedd mawr.
Nawr, mae ffordd o wneud hyn ac mae'n galw am gymorth ac arweiniad i rieni, a bydd rhai ohonynt yn amheus. Mae'n galw am i seilwaith yr ysgol ar gyfer beiciau a sgwteri, a pharcio ar gyfer beiciau a sgwteri yn hytrach na cheir—
A fyddai'r Aelod yn derbyn ymyriad?
Gwnaf, yn wir.
A fyddech yn cytuno hefyd y byddai terfynau cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd trefol yn gymorth mawr i gyflawni'r math hwnnw o newid?
Yn sicr, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, John. A chredaf fod y gwaith a wnaethoch ar roi'r ddeddfwriaeth arloesol ar waith i wneud hyn wedi mynd â ni gam o'r ffordd, ond mewn gwirionedd, erbyn hyn byddai gwireddu dyheadau Llywodraeth Cymru i gael terfynau cyflymder de facto o 20 mya mewn ardaloedd trefol yn help mawr yn hyn, ac yn wir, mae wedi rhagweld yr hyn roeddwn yn mynd i'w ddweud nesaf: dychmygwch ysgol a fyddai'n gweithio gydag awdurdod lleol ar gyflawni hynny mewn gwirionedd, ac ysgol wedyn a fyddai'n datblygu eu bysiau cerdded gyda'r rhieni dan sylw, gan gynnwys rhai o'r rhieni mwy amheus.
Wel, mae hynny'n digwydd. Mae gennym hynny'n union yn digwydd yn awr yng Nghaerdydd, yn Ysgol Hamadryad. Ac o'r gorau, gallwch ddweud bod ganddi fanteision pendant, ond nid oedd yn hawdd gwneud i hynny ddigwydd. Roedd yn ysgol newydd sbon, gallent ddechrau o ddalen wag mewn ardal gymharol wastad ac yn y blaen, ond fe wnaethant weithio gyda'r cyngor, fe wnaethant weithio gyda'r heddlu, fe wnaethant weithio gyda'r rhieni, fe wnaethant berswadio'r amheuwyr. Ac fe wnaethant weithio gyda'r heddlu hyd yn oed i ddweud ac i egluro i rieni a phreswylwyr, 'Byddwn yn annog rhybuddion parcio yn gyntaf oll, ond wedyn rhoddir dirwyon i unrhyw un sy'n parcio', a wyddoch chi, ers mis Medi diwethaf, pan gyflwynasant y dirwyon, dim ond tri a gawsant, ac nid oedd yr un ohonynt, yn ôl yr hyn a ddeallaf, ar gyfer rhieni—roeddent i bobl eraill a ddaeth i mewn i'r ardal i barcio. Mae hyn yn eithaf rhyfeddol, ac mae'r effaith a amlygwyd yn adroddiad y pwyllgor ynglŷn â beth y gall hyn ei wneud i iechyd pobl ifanc, ni waeth beth yw'r pethau eraill sydd yn yr adroddiad, yn arwyddocaol. Mae'r ddeddfwriaeth arloesol honno gennym. Os oes gennym ewyllys yn awr ar ran Gweinidogion—y Gweinidog sy'n gyfrifol am deithio llesol, y Gweinidog Addysg, a Gweinidogion llywodraeth leol a chymunedau ac eraill—i wneud i hyn weithio o ddifrif, gallwn wneud gwahaniaeth enfawr. Mae 101 o resymau pam na allwn ni wneud hyn; mae 101 o resymau gwell o lawer pam y dylem. Mae Ysgol Hamadryad yn profi y gellir ei wneud. Gadewch inni weld a allwn ei wneud drwy Gymru gyfan.
Cefais y fraint o fod yn aelod o'r pwyllgor wrth i'r ymchwiliad i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc gael ei gynnal. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau'r pwyllgor, y clercod a phawb a roddodd dystiolaeth dros gyfnod yr ymchwiliad. Fel cyn-athrawes addysg gorfforol fy hun, mae'r pwnc hwn a'i bwysigrwydd yn agos iawn at fy nghalon—rwy'n deall yn llwyr, ar ôl blynyddoedd lawer o astudio sut y mae twf a datblygiad corfforol ac emosiynol yn cael eu gwella drwy weithgarwch corfforol, a'i bwysigrwydd i'r twf hwn a'i berthynas ag ef.
Fel y mae Dai yn ei ddweud yn gwbl gywir yn y rhagair i'r adroddiad, gordewdra yw un o'r heriau mwyaf difrifol yn fyd-eang ym maes iechyd cyhoeddus ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac mae gan Gymru un o'r lefelau uchaf o ordewdra yng ngorllewin Ewrop. Rwy'n croesawu 20 argymhelliad y pwyllgor ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf ohonynt. Mae'n wirioneddol siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dau o'r rhai pwysicach, sef argymhellion 6 ac 8.
Mae plant yn treulio llawer o'u hwythnos yn yr ysgol, ac eto mae llai na'u hanner yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. O ganlyniad, mae llai na hanner y plant yn bodloni'r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgarwch corfforol. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw mai dim ond un o bob 6 o blant 11 i 16 oed sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cymharol egnïol i egnïol iawn am o leiaf awr y dydd. Ni allwn ei adael i awdurdodau addysg lleol sicrhau gwelliant. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad.
Yn ddiweddar, cefais siom o glywed am y bwriad i fyrhau'r diwrnod ysgol yn Ysgol Gynradd Notais yn fy rhanbarth. Bydd y newidiadau arfaethedig i'r diwrnod ysgol er mwyn cyd-fynd â'r ysgol gyfun gyfagos yn dileu egwyl y bore ac yn torri 20 munud oddi ar amser cinio'r disgyblion, a bydd y newid hwn yn lleihau'n ddramatig y cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol i ddisgyblion yn yr ysgol hon. Mae chwarae'n hanfodol i iechyd a lles ein pobl ifanc, a dylem fod yn cynyddu cyfleoedd, nid eu lleihau, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei safbwynt ar argymhellion 6 ac 8.
Yn olaf, er fy mod yn croesawu argymhelliad 19 y pwyllgor a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn mewn egwyddor, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach. Rhaid i ddatblygiadau tai cymdeithasol newydd gynnwys mannau gwyrdd mor agos i'r annedd â phosibl. Dylai pob cartref gael gardd unigol i blant chwarae ynddi, a lle nad yw hynny'n bosibl, gardd a rennir.
Rhaid inni fod yn feiddgar os ydym am sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc mor iach ag sy'n bosibl. Diolch yn fawr.
Mae mynd i'r afael â phroblemau iechyd ein cenedl ni'n gorfod bod yn flaenoriaeth. Does prin angen dweud hynny. Dŷn ni'n gwybod bod gordewdra a diffyg gweithgarwch corfforol, sy'n helpu i greu'r gordewdra yna, yn rhywbeth na allwn ni fforddio ei anwybyddu ar unrhyw lefel. Mae yna Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 gennym ni bellach sy'n mynnu bod yna strategaeth mewn lle ar gyfer taclo gordewdra. Roeddwn i'n falch o gael chwarae fy rhan fel llefarydd iechyd Plaid Cymru ar y pryd mewn sicrhau bod y gwelliant hwnnw'n cael ei gynnwys i'r Bil drafft gwreiddiol.
Ond yr her rŵan, wrth gwrs, ydy sicrhau bod strategaeth yn cael ei rhoi mewn lle all yn wirioneddol newid diwylliant at fuddsoddi o'r newydd ac at gyflwyno llawer mwy o frys neu urgency, felly, yng ngweithredoedd y Llywodraeth. A, heb os, mae sicrhau bod camau'n cael eu rhoi mewn lle i annog mwy o weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc yn gorfod bod, dwi'n meddwl, yn ganolog i hynny. Yn wir, roeddwn i'n hynod o falch fel aelod o'r pwyllgor iechyd ar y pryd, fod consensws wedi ei gyrraedd ymhlith yr Aelodau bod hwn yn faes oedd yn haeddu ein sylw ni, a'r adroddiad yma dŷn ni'n ei drafod y prynhawn yma ydy'r canlyniad, wrth gwrs.
Mae'n broblem genedlaethol. Mae'n ddrwg gen i ddweud ei bod hi'n broblem arbennig o ddifrifol yn fy etholaeth i. Mi wnaeth ymchwil diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddangos bod 13.5 y cant o blant pedair a phump oed yn Ynys Môn yn ordew, a hynny o'i gymharu â 12 y cant drwy Gymru. Mi oedd dros chwarter plant Cymru, gyda llaw, yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau.
Ac mi oeddwn i'n falch iawn mai'r tyst cyntaf ddaeth o'n blaenau ni fel pwyllgor fel rhan o'r ymchwiliad yma oedd Ray Williams, cyn-hyfforddwr corfforol yn y fyddin, enillydd medal aur y Gymanwlad am godi pwysau ac sydd rŵan drwy ei gampfa, sy'n fenter gymdeithasol hynod lwyddiannus yng Nghaergybi, yn trio mynd ati i newid agweddau tuag at iechyd a ffitrwydd. Mi ges i sgwrs efo Ray ddechrau'r wythnos yma ac mae'r ddau ohonom ni'n cytuno bod hwn yn adroddiad defnyddiol iawn, ond bod ymateb y Llywodraeth yn hynod, hynod o siomedig.
Does gennym ni'n dau, yn sicr, ddim amheuaeth mai un o'r prif bethau sydd angen eu gwneud ydy defnyddio'r ffaith bod plant gennym ni yn yr ysgol am gyfran helaeth o'u bywydau nhw er mwyn gyrru newid mewn lefelau ffitrwydd ac iechyd. Yn bersonol, mi fuaswn i'n licio symud at rywbeth fel awr o weithgarwch corfforol bob dydd i bawb drwy gyfuniad o weithgaredd o fewn oriau ysgol, dywedwn ni, a thu allan i'r ysgol. Mi wnaeth y pwyllgor gasglu tystiolaeth ryngwladol. Mi ddaeth Slofenia i'r amlwg fel gwlad wnaeth sylweddoli'r argyfwng iechyd oedd yn eu hwynebu nhw a wnaeth drawsnewid eu hagwedd nhw tuag at gyflwyno gweithgarwch corfforol i fywydau plant a phobl ifanc, ac i wneud hynny'n genedlaethol. Fe wnaf i ddyfynnu o'r adroddiad:
'Mae Senedd Slofenia wedi mabwysiadu Rhaglen Chwaraeon Genedlaethol ar gyfer 2014-2023 sy’n cynnig y camau canlynol: darparu o leiaf 180 munud o AG o ansawdd da yr wythnos i bob plentyn, darparu gwersi nofio a beicio am ddim fel ffordd o wella cymwyseddau cymdeithasol, a sicrhau amser hamdden ar gyfer gweithgareddau chwaraeon.'
Mae'n mynd ymlaen i restru rhai o'r camau eraill. Ac ydy, mae'r amser sy'n cael ei warantu ar gyfer gweithgarwch corfforol yn bwysig, a dyna pam rydw i, fel Cadeirydd y pwyllgor, mor siomedig i weld y Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad y pwyllgor—argymhelliad 8—i wneud y 120 o funudau o addysg gorfforol, sydd yn cael ei argymell yn barod ar gyfer ysgolion, yn statudol. Dydy 120 munud yr wythnos, fel dwi wedi dweud yn barod, ddim yn ddigon uchelgeisiol yn fy nhyb i, ac mae gwrthod hyd yn oed gwarantu hynny yn fethiant mawr, dwi'n meddwl, ar ran y Llywodraeth, i gymryd y mater yma ddigon o ddifri.
A beth sy'n digwydd yn llawer rhy aml, dwi'n gwybod o brofiad fy mhlant fy hun a'r hyn a glywsom ni fel pwyllgor, ydy bod amser gweithgarwch corfforol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion eraill. Diben argymhelliad 9, wedyn, mewn difri, ydy atal hynny rhag digwydd, drwy gael Estyn i roi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol, i fesur ac i werthuso'r addysg gorfforol sy'n cael ei gynnig. Ydy, mae'r Llywodraeth yn cytuno ar y pwynt o'i wneud o'n flaenoriaeth, ond maen nhw'n gwneud nodyn, wedyn, yn eu hymateb i'r pwyllgor yn dweud nad ydyn nhw wrth gwrs yn cytuno y dylai rhoi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol olygu sicrhau 120 munud o weithgarwch yr wythnos. Mae hynny eto yn hynod, hynod siomedig.
I gloi, mater arall dwi'n siomedig ynddo fo ydy bod y Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad 6 i gyflwyno rhaglen o fuddsoddiad mewn ysgol sydd ddim yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Dweud maen nhw, yn eu hymateb, fel clywsom ni gan Helen Mary Jones, ydy mai mater i awdurdodau lleol ydy hyn. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol wedi gweld eu cyllid nhw yn cael ei dorri yn arw, ond buddsoddiad ydy hyn, yn ein plant, yn ein dyfodol. Ddaw iechyd ein cenedl ni ddim am ddim, ac ar ddiwedd y dydd, corff iach, meddwl iach.
Hoffais yn fawr y ffocws yn eich adroddiad ar y sgiliau echddygol sylfaenol y mae angen i blant eu datblygu ar oedran ifanc, a'r camsyniad y bydd yr holl sgiliau sydd eu hangen arnynt yn datblygu'n naturiol yn ystod plentyndod drwy redeg o gwmpas, ac mae hynny'n gwbl anghywir. Yn union fel y dywed un o'ch tystion, ni fyddech yn disgwyl i bobl ddysgu darllen drwy luchio bag o lythrennau atynt a thybio y byddai llythrennedd yn deillio o'r anhrefn. Felly, rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith bod eich adroddiad wedi nodi'r bwlch hwn yn y cyfnod sylfaen o ran dysgu'r sgiliau echddygol a chydsymud hyn, sy'n amlwg yn—. Mae'n effeithio'n wirioneddol ar hyder plant os nad oes ganddynt y sgiliau hynny, oherwydd dyna sut y maent yn ffurfio cyfeillgarwch, ac os na allant wneud pethau y gall eu cymheiriaid eu gwneud, mae'n mynd i'w hanalluogi'n fawr.
Felly, rwy'n cytuno'n llwyr fod gan ysgolion rôl hanfodol i'w chwarae yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn fwy egnïol yn gorfforol, ond credaf fod angen mynd i'r afael â'r broblem yn gynharach o lawer. Sylwaf, yn ymateb y Llywodraeth, y bydd mwy o fesur pwysau babanod a phlant bach, a hoffwn dybio ein bod yn defnyddio'r cyfleoedd cyswllt hynny i holi eu gofalwyr am y gweithgarwch corfforol y maent yn ei wneud, yn ogystal â deiet y plentyn. Rwy'n derbyn y ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 3 ynghylch pwysigrwydd ymagwedd teulu cyfan tuag at y plant sydd mewn perygl o fod yn ordew, a thybed a yw'r Llywodraeth wedi ystyried llwyddiant HENRY yn Leeds, sef ymagwedd system gyfan tuag at addysg gynnar a rhieni plant ifanc, a ddangosodd fod cyfraddau gordewdra plant sy'n dechrau yn y dosbarth derbyn yn Leeds wedi gostwng, cyfraddau sy'n mynd i'r cyfeiriad arall yng ngweddill y wlad.
Felly, rhaid bod rhywbeth yn iawn am yr hyn y mae ymyrraeth HENRY yn ei wneud, sef dibynnu ar hyfforddi gwirfoddolwyr i weithio ar raglen gymorth un i un i alluogi teuluoedd sydd dan anfantais, sy'n llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau statudol i fanteisio ar y rhaglen teuluoedd iach. Credaf fod y gwaith a wnaethpwyd gan HENRY wedi bod yn—. Mae llawer o dystiolaeth ei fod yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol yn ystadegol o ran sicrhau newidiadau parhaus mewn rhianta, deiet, gweithgarwch corfforol, lles emosiynol ac arferion ffordd o fyw. Mae'r pethau hyn i gyd yn mynd law yn llaw. Os nad yw pobl yn egnïol yn gorfforol, fel y mae Angela Burns eisoes wedi dweud, maent yn annhebygol o fod yn dda iawn yn emosiynol ac yn feddyliol. Sylwaf eu bod yn gweithio mewn sawl rhanbarth yn Lloegr mewn gwirionedd, a pheth o'r gwaith a wnânt yw hyfforddi staff mewn canolfannau plant yn Lloegr. Felly, fy nghwestiwn i'r Llywodraeth yw: a ydych wedi ystyried defnyddio'r rhaglen hon yng Nghymru, ac a gredwch y byddai Dechrau'n Deg yn elwa o'r fethodoleg? Os nad ydych, a allwch roi tystiolaeth bod Dechrau'n Deg yn cyflawni'r canlyniadau gwell a welsom yn y rhaglen yn Leeds?
Gan symud ymlaen at yr hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion uwchradd, rwy'n cytuno ei bod yn siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhelliad 8—ar gyfer dwy awr o weithgarwch corfforol pwrpasol yr wythnos. Nid yw'n llawer iawn o amser wedi'r cyfan. Gofynnais i'r ysgol uwchradd lle rwy'n llywodraethwr, ac maent yn cydymffurfio yng nghyfnod allweddol 3, ond erbyn cyfnod allweddol 4 mae wedi gostwng i un awr oherwydd pwysau'r cwricwlwm. Ond rwy'n credu bod hwnnw'n benderfyniad hynod gibddall, yn syml oherwydd, os nad ydynt yn bod yn egnïol, nid yw eu hymennydd yn mynd i fod mor weithgar chwaith. Felly, credaf y byddai awr arall o weithgarwch corfforol yn gwella'u perfformiad academaidd mewn gwirionedd.
Os edrychwn ar yr hyn sy'n digwydd ar ôl ysgol, dim ond 50 y cant o ddisgyblion blwyddyn 7 sy'n gwneud unrhyw ymarfer corff y tu allan i'r ysgol bedair gwaith yr wythnos, ac mae'n disgyn i draean ym mlwyddyn 11. Felly, rwyf am wybod beth y mae'r Llywodraeth yn ystyried ei wneud i agor pob ysgol i fod yn ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Rwy'n ystyried hyn yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Yn yr un modd ag y mae gennym argyfwng newid hinsawdd, mae gennym argyfwng iechyd cyhoeddus hefyd. Ar yr un nodyn, sawl ysgol sydd â chynllun teithio llesol? Unwaith eto heddiw gwelais gerddwyr yn cael eu gwthio oddi ar y ffordd gan yrwyr yn danfon eu plentyn—sy'n abl yn gorfforol—i'r ysgol mewn car ar hyd y strydoedd cefn. Mae hyn yn gwbl annerbyniol, ac nid yw'n llesol i'r plentyn, sy'n anadlu'r holl fygdarth o'r car.
Mae ysgol breifat yn fy etholaeth yn derbyn disgyblion o dair sir, ac mae ganddynt gynllun teithio llesol. Pam na all pob ysgol gael cynllun teithio gweithredol? Lle mae'n rhaid cludo plant mewn bws i'r ysgol oherwydd bod yr ysgol 10 neu 11 milltir o'r man lle mae pobl yn byw, stopiwch y bws o leiaf hanner milltir o'r ysgol a gallant gerdded neu redeg yr hanner milltir olaf. Dyma bethau y mae angen inni eu gwneud ac mae angen inni eu gwneud yn awr oherwydd mae gennym broblem fawr.
A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Fe wna i geisio canolbwyntio ar yr adrannau hynny rydym wedi ymateb iddyn nhw ychydig yn negyddol, yn ôl barn y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl yma. Ond, cyn gwneud hynny, fe garwn i gyfeirio at ddau bwynt yn benodol. Yn gyntaf, ein bod ni yn edrych ar holl gwestiwn cyflwr corfforol a chyflwr iechyd disgyblion o safbwynt holistig a chymunedol. Dwi'n ddiolchgar iawn i Huw Irranca-Davies yn benodol am gyfeirio at yr ysgol ddiweddaraf sydd wedi'i chodi yma ym Mae Caerdydd, y bydd y Gweinidog Addysg yn dod i'w hagor hi yn fuan. Mae'r ysgol yna yn enghraifft ac yn ysbrydoliaeth o sut y mae modd gweithredu yn gymunedol mewn ffordd sydd yn diogelu disgyblion ac ymwelwyr ag ysgol ond sydd hefyd yn cyfarfod â'r her o beidio â dibynnu ar geir i gario plant yn gyson i'r ysgol.
Rwy'n falch o ddweud fy mod yn credu bod llawer o enghreifftiau da ledled Cymru o ysgolion yn ateb yr her hon, a tybed a fyddech yn ymuno â mi i gydnabod cynnydd ysgolion fel Ysgol Gynradd Ringland yn fy etholaeth i, lle maent wedi cynyddu cerdded, beicio a mynd ar sgwter i'r ysgol 20 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf, felly erbyn hyn mae ychydig dan hanner y disgyblion yn teithio i'r ysgol gan ddefnyddio'r dulliau hynny.
Diolch yn fawr am ddweud wrthyf am Ysgol Gynradd Ringland, ac yn sicr rwy'n eu llongyfarch, oherwydd i mi, dyma'r ffordd y mae'n rhaid inni fynd. Rhaid inni symud yn gyfannol ac ar sail cymuned a chymuned yr ysgol ei hun, a'r gymuned ehangach.
Peth arall sydd yn bwysig i'w nodi, dwi'n meddwl, ydy ein bod ni wedi symud ymlaen i weithredu mewn partneriaeth gyda chyrff eraill er mwyn canolbwyntio ar y cwestiwn iechyd, sydd mor ganolog i ni fel gwlad, fel mae pawb wedi'i ddweud yn y ddadl. Ac rydym ni wedi gwneud hynny drwy gael y cyrff sydd yn gweithio yn y maes yma i gydweithio'n gadarn gyda'i gilydd—sef y corff iechyd sy'n hybu iechyd, a'r corff chwaraeon, Chwaraeon Cymru, yn ogystal hefyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n pwysleisio yr ochr amgylcheddol a'r ochr o ddefnyddio byd natur a'r amgylchedd o'n cwmpas ni fel lle i bobl gael profiadau o fod yn fywiog yn gorfforol.
Ond peth arall rydym ni wedi'i wneud efo Chwaraeon Cymru ydy cymryd sylw penodol o fynd i'r afael â'r cwestiwn o gyfranogaeth merched a menywod mewn chwaraeon. Ac mae cylch gorchwyl Chwaraeon Cymru erbyn hyn yn cynnwys ffocws penodol ar annog merched a menywod i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Ac mae yna raglen arbennig o ymweliad gan athletwyr amlwg ag ysgolion er mwyn sicrhau bod yna ddelwedd o fenywod llwyddiannus ym maes athletau yn cael ei gosod o flaen ysgolion. Ac mae yna gynllun arbennig, sef Llysgenhadon Ifanc, sydd wedi'i ddatblygu, ac mae hyn yn fodd o dynnu sylw at yr enghreifftiau llwyddiannus sy'n fodelau i bobl eu dilyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Rydych chi'n garedig iawn yn derbyn ymyriad. Credaf mai'r pwynt yr hoffwn ei wneud yw ein bod yn cyfeirio llawer at chwaraeon, ac rwy'n ymwybodol o raglenni Chwaraeon Cymru, ond wrth gwrs, i fenywod ifanc—12, 13, neu 14 oed, mae hormonau'n rasio o amgylch eu cyrff, maent yn ymwybodol iawn o'u corff, yn ymwybodol iawn o geisio darganfod beth yw eu pwrpas a phopeth—a dweud y gwir, gallai'r syniad fod rhywun yn dod i mewn ac yn gwneud yr ochr chwaraeon i bethau ladd eu diddordeb. A buaswn wrth fy modd yn gweld rhai o'r sefydliadau hyn yn bod yn llawer mwy creadigol yn y ffordd y maent yn cael y menywod ifanc hyn i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
Wel, dyma'r holl bwynt am symud i ffwrdd oddi wrth y syniadau traddodiadol am weithgarwch corfforol ac addysg gorfforol fel y'u haddysgir. Mae'n ymgais i wneud gweithgarwch corfforol yn atyniadol drwy ryngweithio â'r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y maes hwnnw. Nid mater o ddweud ein bod yn disgwyl i bawb roi cynnig ar chwaraeon elît yw hyn, ond disgwyliwn i bawb roi cynnig ar weithgarwch corfforol i raddau sy'n eu bodloni, sy'n eu galluogi i fwynhau bywyd i'r eithaf. A dyna pam y mae'r modelau rôl hyn mor bwysig.
Gaf fi sôn hefyd am yr hyn sydd wedi cael ei ddweud yn feirniadol ynglŷn â'r argymhellion sydd wedi cael eu gwrthod, a'i gwneud hi'n hollol glir mai'r rheswm ein bod ni wedi gwrthod nifer o'r argymhellion yma ydy am ein bod ni yn credu bod y ffordd rydym ni'n gweithredu ar hyn o bryd yn delio â'r hyn sydd yn yr argymhellion?
Er enghraifft, dwi'n meddwl bod yna gamddealltwriaeth yn y fan hyn ynglŷn â natur y newidiadau cwricwlwm y mae'r Gweinidog Addysg yn eu harwain ar hyn o bryd. Dydyn ni ddim yn maes—a dwi'n ddigon hen i fod wedi bod yn ymwneud â'r cwricwlwm cenedlaethol yn ôl yn y 1980au, a dwi'n falch iawn o weld y cysyniad yna yn diflannu o'n disgẃrs ni. Dyna pam ein bod ni wedi gwrthod yr argymhelliad ynglŷn â 120 o funudau o addysg gorfforol. Oherwydd beth rydym ni am ei weld yn digwydd ydy annog y math o beth y ces i'r pleser o'i weld yn Llansanffraid Glan Conwy yn sir Conwy, lle dwi'n byw, yn gymharol ddiweddar, sef y modd yr oedd y disgyblion yn cymryd rhan yn y filltir ddyddiol mewn cae neu ran o gaeau'r ysgol, a hynny yn cael ei wneud heb unrhyw fath o orfodaeth, ond yn cael ei wneud gan fod yr arfer da yna wedi'i ddatblygu o fewn yr ysgol a bod hynny'n digwydd yn ddyddiol. Mae Estyn, fel sydd wedi cael ei bwysleisio gennym ni sawl gwaith, yn parhau i adolygu eu dulliau o arolygu i gefnogi'r cwricwlwm newydd ac mae hynny'n mynd i olygu ystyried y modd y gellir edrych ar ansawdd addysgu yn yr holl feysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yn y maes penodol yma.
Diolch yn fawr iawn i chi. Dwi innau hefyd yn ffan mawr o'r filltir ddyddiol. Roedd yr ysgol roedd fy mhlant i yn mynd iddi, Ysgol Henblas yn Llangristiolus, yn gwneud hynny ac roedd yn dod â budd mawr i'r plant. Wrth fy mod am weld 120 munud yn cael ei roi i weithgarwch gorfforol, dwi'n berffaith hapus i hynny gynnwys y filltir ddyddiol. Dydw i ddim yn golygu yn angenrheidiol gwersi addysg gorfforol ffurfiol. Y pwynt ydy bod yn rhaid sicrhau bod yr amser yna yn cael ei neilltuo rhywsut, a grymuso Estyn i fynnu ei fod yn digwydd drwy ei wneud yn statudol.
Wel, beth rydym ni wedi symud oddi wrtho fo fel Llywodraeth erbyn hyn ydy'r syniad bod cwricwlwm cenedlaethol yn cael ei osod ar ysgolion, yn hytrach bod y profiad addysgol sydd yn cael ei fwynhau mewn ysgolion yn datblygu o fewn yr ysgolion yna, ac felly ein bod ni'n ceisio gosod hyn i gyd yng nghyd-destun y polisïau sy'n cael eu datblygu ar draws y Llywodraeth.
Er enghraifft, mae'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', a fydd yn cael ei chyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Hydref, yn mynd i roi fframwaith newydd i ysgogi cynnydd i'r ymrwymiad o weithredu'n egnïol ar draws Cymru. Fe fydd yna gyfle i ni yn fuan, cyn diwedd y flwyddyn yma, i weld canlyniad y cydweithio rhwng Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru—y bartneriaeth gweithgarwch corfforol Cymru sydd yn dwyn y materion yma at ei gilydd. Mae'r defnydd sydd wedi cael ei wneud o'r gronfa iach ac egnïol—mae'r gronfa yna yn barod wedi creu ymateb ac fe fydd yna gyhoeddiad yfory ynglŷn â nifer o'r cynlluniau sydd yn cael cefnogaeth o ran y gronfa honno.
Felly, y symudiad sydd yn bwysig i ni wedyn ydy ein bod ni'n mynd i ymateb i'r heriau sydd gennym ni drwy'r canllawiau newydd gan y prif swyddog meddygol, y cyfeiriais i atyn nhw, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr haf, ond hefyd drwy'r gweithgaredd sydd yn mynd i gynyddu ar yr ochr gymunedol, pan fydd ysgolion yn edrych ar yr her y byddwn ni'n ei osod iddyn nhw. Dwi'n derbyn—a dyma'r pwynt olaf dwi am wneud—fod yna her ddifrifol yn y fan yma, ond dwi am ddweud mai nid drwy efengylu gan unigolion yr ydym ni'n mynd i ddatrys y sefyllfa yma, ond drwy gydweithio'n gymunedol yn ein hysgolion.
Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi'n falch i ymateb. Diolch i bawb am eu cyfraniadau.
Yn amlwg, fe glywsom, ac ni wnaf ailadrodd y dadleuon a amlinellais yn yr araith wreiddiol, a dwyn ynghyd yr holl dystiolaeth a gawsom, ond erys y ffaith bod gordewdra'n agenda enfawr sy'n codi. Mae'r dystiolaeth a gawsom fod sgiliau echddygol sylfaenol cynnar, y sgiliau cydsymud a ddysgir ar oedran cynnar yn hanfodol bwysig. Dyna'r dystiolaeth ac nid yw'n digwydd ar hyn o bryd. Dyna'r dystiolaeth hefyd, ac mae angen iddo ddigwydd, a dyna hefyd yw'r dystiolaeth.
Clywaf yr hyn roedd y Gweinidog yn ei ddweud am 120 munud o weithgarwch corfforol fel lleiafswm statudol, ond y dystiolaeth a gawsom—rydym yn ceisio seilio popeth ar dystiolaeth—yw bod yn rhaid i hynny ddigwydd. Nid yw'n digwydd pan nad yw'r 120 munud yn cael ei ragnodi ar hyn o bryd mewn llawer iawn o ysgolion. Nid ydynt yn cael yn agos at y 120 munud, faint bynnag y byddai pobl yn hoffi iddo ddigwydd. Nid yw'n digwydd oni bai eich bod yn ei roi ar sail statudol ac unwaith eto, dyna'r dystiolaeth a gawsom.
Unwaith eto fel y dywed y dystiolaeth, os ydych yn ffit yn gorfforol, mae eich pwysedd gwaed 30 y cant yn is nag os nad ydych yn ffit yn gorfforol. Mae lefel y siwgr yn eich gwaed 30 y cant yn is nag os nad ydych yn ffit yn gorfforol, ac mae eich colesterol yn y gwaed 30 y cant yn is nag os nad ydych yn ffit yn gorfforol, ac mae eich pwysau yn normal o gymharu ag os nad ydych yn ffit yn gorfforol. Ond mae'r greddfau hynny'n cael eu gwreiddio ar oedran cynnar, a dyna lle mae'n ymwneud ag ysgolion, mae'n ymyrraeth gynnar yn yr ysgol, mae'n fater i rieni—rydym yn sôn llawer am deuluoedd a phethau—a dyna'r dystiolaeth.
A'r rhan arall o'r dystiolaeth oedd bod angen newid sylweddol ar ran y Llywodraeth. Nid yw busnes fel arfer yn gwneud y tro. Rydym yn wynebu epidemig o ordewdra, a rhaid inni wynebu hynny ac ysgwyddo ein cyfrifoldeb, a dyna'r dystiolaeth a gawsom hefyd. Bydd pobl bob amser yn sôn bod costau iechyd yn cynyddu. Mae hynny'n wir oherwydd mai iechyd sy'n gorfod ysgwyddo'r baich y dylem fod yn ei ddatrys yn awr yn ifanc o dan addysg, gweithgarwch corfforol, neu unrhyw bortffolios eraill y mae'r Dirprwy Weinidog yn eu dal.
Felly, er mwyn osgoi'r cynnydd hwnnw mewn costau iechyd, mae angen inni ddatrys y broblem yn gynharach o lawer, fel y mae'r Aelodau wedi tystio. Rwy'n ddiolchgar am sylwadau cefnogol pawb. Angela, yn gyntaf oll, yn pwysleisio'r epidemig gordewdra ac nid y namau corfforol yn unig, ond namau meddyliol hefyd. Ac rwy'n ddiolchgar i Vikki Howells hefyd am bwysleisio'r dreth siwgr y mae angen inni fod yn gyfrifol amdani er mwyn gwneud yn siŵr fod yr arian o'r dreth siwgr yn cael ei fuddsoddi yn yr agenda gordewdra yma yng Nghymru. Nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd oherwydd nad ni sy'n ei rheoli. Ac yn amlwg, defnyddio ysgolion hefyd, ein hysgolion modern, am gyfnod hwy y tu allan i oriau ysgol arferol.
Rwy'n ddiolchgar i Helen Mary am bwysleisio'r pwyntiau pwysig hyn, fod angen newid sylweddol mewn ymddygiad, fel y dywedasom. Nid yw'r hyn rydym yn ei wneud yn awr yn llwyddo i wneud hynny, a rhaid inni newid. Dilynodd Huw Irranca agenda wahanol—ond cysylltiedig yn amlwg—o ran teithio llesol a'r newid diwylliannol y mae angen iddo ddigwydd, ac rwy'n ddiolchgar am ei brofiad. Ac yn amlwg, John Griffiths ar y terfyn cyflymder o 20 mya. Mae cymaint o agweddau ar hyn i gyd yn dod at ei gilydd, yn ogystal â Caroline Jones yn rhoi ei phrofiad fel athrawes addysg gorfforol. Rhun, o ran—
—y dystiolaeth bwerus yna y gwnaethom ni gael. Dyna oedd un o'r prif rannau o'n tystiolaeth ni i gyd, oedd clywed Ray Williams yn traddodi ei feirniadaeth ar beth ddylai fod yn digwydd, o'i gampfa yng Nghaergybi. Ie, ac hefyd yn cytuno, fel rydym ni fel pwyllgor yn cytuno, fe wnaeth y pwyllgor adroddiad bendigedig, ond bod ymateb y Llywodraeth mor, mor siomedig. A dyna ydy'r ymateb allan yn fanna, achos mae'n gofyn camu yn sylweddol i fyny i'r plât. Fe wnaethom ni glywed hanes Slofenia, gwlad yr un faint â Chymru, 1 miliwn yn llai o bobl na Chymru, annibynnol wrth gwrs, ond yn amlwg yn gallu meddwl yn greadigol ynglŷn â'r pethau yma, a hefyd yn dyfarnu bod angen 180 o funudau bob wythnos. Ac wrth gwrs, maen nhw yn blaenoriaethu gweithgarwch corfforol. Mae o'n hynod, hynod bwysig.
Rwy'n ddiolchgar am bwyslais Jenny Rathbone ar y sgiliau sylfaenol a chydsymud hynny a ddysgwch yn ifanc iawn pan allwch wneud pethau—cicio, dal, sgiliau cydsymud ar oedran ifanc iawn. Fe fyddwch yn meithrin hyder wrth wneud hynny o oedran cynnar iawn, yn sicr cyn eich bod yn saith oed. Os nad ydych yn llwyddo i'w wneud, rydych yn meddwl, 'O, nid yw gweithgarwch corfforol yn rhywbeth i mi.' Mae'n sylfaenol bwysig. Nid yw'r cyfnod sylfaen presennol yn mynd i'r afael â hyn.
Mae wedi mynd yn goch arna i, dwi'n sylweddoli. Felly, i gloriannu, diolch i bawb am gyfrannu i'r adroddiad gwerthfawr yma. Diolch i'r holl dystion, i'r clercod a'r ymchwilwyr ac ati, i chi Aelodau am gyfrannu heddiw, ond mae yna her sylweddol yn dal i aros i Lywodraeth i gamu fyny i fan hyn—
—gan nad yw busnes fel arfer yn gwneud y tro. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.