– Senedd Cymru am 4:39 pm ar 25 Medi 2019.
Iawn, symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y Llywodraeth, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffudd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd dros dro, ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dwi'n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi mynegi ei bryder nad yw'r Cynulliad yn cael cyfle ffurfiol i drafod, ac wrth gwrs drwy wneud hynny, gobeithio, i ddylanwadu ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyflwyno.
Yn ystod y sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft ar 27 Mehefin, fe gytunodd y pwyllgor y dylai Aelodau'r Cynulliad gael y cyfle i drafod blaenoriaethau gwariant yn y dyfodol yn gynharach ym mhroses y gyllideb. Yn wir, mae'n hymchwiliad ni i broses gyllidebu ddeddfwriaethol wedi amlygu sut mae seneddau eraill yn caniatáu cyfleoedd llawer cynharach i Aelodau meinciau cefn i ddylanwadu ar flaenoriaethau gwariant y Llywodraeth yn y cyfnod ffurfiannol cynnar hwnnw, ymhell cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyflwyno.
Nawr, er bod y pwyllgor yn credu'n gryf bod dadl gynnar yn rhywbeth y mae angen ei hwyluso ar sail barhaol yn y dyfodol, mae’n bwysig, wrth gwrs, ein bod ni’n cael dadl ar flaenoriaethau gwariant eleni hefyd, er ychydig yn hwyrach nag y byddem ni'n ei dymuno, o ystyried cylch gwariant diweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac amseriad arfaethedig cyllideb Llywodraeth Cymru. Bydd ein gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft yn dilyn yr un dull â’r gorffennol, gan ganolbwyntio ar y pedair egwyddor craffu ariannol, sef, yn gyntaf, fforddiadwyedd, hefyd blaenoriaethu, gwerth am arian, a phroses y gyllideb.
Fe gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ddigwyddiad yn Aberystwyth ar 27 Mehefin i glywed barn rhanddeiliaid ar y blaenoriaethau gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Drwy drafod a thrwy ddilyn ymlaen o’r argymhellion wnaed yn sgil ein gwaith craffu parhaus ar gyllideb Llywodraeth Cymru, fe wnaethom ni nodi nifer o feysydd yr hoffem ni ganolbwyntio arnyn nhw wrth graffu eleni, ac mae'r rhain yn cynnwys sut ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau trethu a benthyca, yn enwedig o ran cyfradd treth incwm Cymru, a sut mae gwariant ataliol yn cael ei flaenoriaethu'n gynyddol a sut mae hynny’n cael ei gynrychioli wrth ddyrannu adnoddau. Rŷm ni’n sôn fan hyn, wrth gwrs, am wariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau ac yn lleihau’r galw am wasanaethau yn y dyfodol drwy ymyrraeth gynnar, yn enwedig mewn perthynas ag ariannu byrddau iechyd lleol, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Maes arall y byddem ni am ganolbwyntio arno fe ydy cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n cynnwys arloesi a thrawsnewid gwasanaethau i ymateb i ofynion newidiol a newid demograffig. Mae blaenoriaethu polisi i hybu twf economaidd, lleihau tlodi ac anghydraddoldeb rhywiol, a lliniaru effaith diwygio lles hefyd yn faes pwysig. Hefyd, gwaith cynllunio a pharodrwydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit, wrth gwrs, a sut mae Deddf cenedlaethau’r dyfodol yn dylanwadu ar y gwaith o lunio polisi. Ac wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, a yw hi'n glir sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i’r her honno a sicrhau bod adnoddau priodol ar gael, a bod hynny'n cael ei adlewyrchu'n glir yn y gyllideb?
Ar ôl y digwyddiad yn Aberystwyth, mi ysgrifennais i at holl Gadeiryddion y pwyllgorau i rannu safbwynt y Pwyllgor Cyllid â nhw ac i annog y pwyllgorau eraill i ystyried sut y gallan nhw gyfrannu at graffu ar gynlluniau gwariant y Llywodraeth yn y ffordd fwyaf cydlynol ac effeithiol. Fel yn y gorffennol, rŷn ni hefyd yn cynnal ymgynghoriad ar y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb ddrafft ar ran yr holl bwyllgorau. Ac heddiw, fel mae'n digwydd, yw’r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad hwnnw, ac mi fydd yr ymatebion yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnosau nesaf er mwyn helpu'r Cynulliad i graffu ar y gyllideb ddrafft.
Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer 2020-21 yn ddiweddar, wrth gwrs, fel rhan o gylch gwariant un flwyddyn. Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys manylion am gyllideb refeniw Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn cynyddu £593 miliwn yn uwch na llinell sylfaen eleni. Mewn termau real, mae hyn yn gynnydd o 2.3 y cant. Roedd y cylch gwariant hefyd yn cynnwys cynnydd o £18 miliwn i'r gyllideb gyfalaf ar gyfer Cymru, gan olygu bod y gyllideb 2.4 y cant yn uwch mewn termau real o’i chymharu â 2019-20.
Ymatebodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd i’r cylch gwariant mewn datganiad ysgrifenedig ar 4 Medi eleni, gan nodi, a dwi'n dyfynnu:
'Bydd Cyllideb Llywodraeth Cymru'n seiliedig ar anghenion pobl Cymru a byddwn yn anelu at ddarparu'r setliad tecaf posibl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.'
Ond beth mae hynny wir yn ei olygu? Mae'n ddatganiad eang a chyffredinol tu hwnt, wrth gwrs. Beth fydd y ffactorau allweddol o ran sut y caiff yr arian ychwanegol hwn ei wario yng Nghymru? Sut y dylem ni gydbwyso'r angen i fuddsoddi mewn mentrau ataliol i leihau'r galw yn y dyfodol â'r angen i gefnogi ein gwasanaethau presennol, sydd, wrth gwrs, wedi dioddef blynyddoedd o gyni? A sut fyddwn ni’n asesu a yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni ei hamcanion? Mae angen inni sicrhau bod y gyllideb yn cael ei defnyddio mor effeithiol â phosib er mwyn diwallu anghenion poblogaeth Cymru yn y ffordd orau, yn amlwg. Mae'r ddadl heddiw yn gyfle i'r Cynulliad ystyried sut ddylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant er mwyn cyflawni'r canlyniadau dymunol yma.
Does dim dwywaith ei bod hi’n gyfnod ansicr, wrth gwrs, gyda Brexit heb gytundeb yn dal i fod yn bosibilrwydd real, a'r posibilrwydd, wrth gwrs, o etholiad cyffredinol arall yn y Deyrnas Unedig ar y gorwel, ac mae hyn oll yn ei gwneud hi'n anoddach fyth rhagweld dyfodol economaidd Cymru. Mae'r ffaith mai blwyddyn yn unig oedd hyd cylch gwariant y Deyrnas Unedig yn rhwystredig i'r holl weinyddiaethau datganoledig hefyd, gan nad yw e'n ein galluogi ni i ddatblygu cynlluniau ariannol tymor hwy, fel y byddem ni, a nifer o'r rhanddeiliaid rŷn ni wedi siarad efo nhw, wrth gwrs, yn dymuno gweld.
Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd hwn yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth inni gael y ddadl yma heddiw, yn fy marn i, ac ystyried y blaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf yn ofalus, er mwyn lliniaru, cyn belled ag y bo modd, unrhyw effeithiau yn y dyfodol yn sgil Brexit, ac er mwyn amddiffyn dyfodol ariannol Cymru a buddiannau ein dinasyddion ni. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at glywed barn, safbwyntiau a blaenoriaethau Aelodau o bob rhan o'r Cynulliad yma. Diolch.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl bwysig y prynhawn yma ar flaenoriaethau'r gyllideb, wrth i ni symud i gyfnod hollbwysig gosod cyllideb Llywodraeth Cymru a chyfnod craffu ar gyllideb Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.
Roeddwn yn falch o gymryd rhan yn y digwyddiad i randdeiliaid yng Ngwesty'r Marine yn Aberystwyth—diwrnod heulog braf, yn ôl fel y cofiaf; mae'n ymddangos ymhell i ffwrdd yn awr. Cawsom lawer o drafodaeth yn y ddadl flaenorol am farn gwleidyddion a barn Aelodau yn y Siambr hon a siambrau tebyg i hon ynglŷn â barn y cyhoedd, felly credaf fod y digwyddiadau hynny i randdeiliaid yn hollbwysig fel ffordd o fynd allan a chanfod beth y mae pobl ar lawr gwlad, mewn busnesau a sefydliadau yn y trydydd sector—beth yw eu blaenoriaethau, fel y gallwn ni, fel pwyllgor, fwydo'n ôl i Lywodraeth Cymru, a gallwn geisio ffurfio cyllideb sy'n wirioneddol o fudd i bawb.
Credaf iddi ddod yn amlwg, drwy gydol y digwyddiad yn Aberystwyth, fod yna gytundeb cyffredinol fod atal ac ymyrraeth gynnar yn eiriau ac yn gysyniadau allweddol a ddylai fod wrth wraidd y broses o ddyrannu'r gyllideb. Eto, y syniad craidd hwn o atal a blaengynllunio ar y naill law—yn rhy aml, teimlid bod hynny'n cael ei negyddu, neu o leiaf ei leihau, ar y llaw arall, gan y pwysau cynyddol ar gyllidebau, y mae sefydliadau a chyrff cyhoeddus ledled Cymru'n rhy aml yn teimlo eu bod yn suddo oddi tano—i beidio â defnyddio ymadrodd rhy gryf. Ac mae cynllunio mwy hirdymor yn anodd iawn i'r sefydliadau hynny.
Clywsom dystiolaeth sy'n peri pryder fod llawer o awdurdodau lleol wedi cyrraedd pwynt dirlawnder—dyna'r ymadrodd a ddefnyddiwyd ganddynt—ac na allant amsugno rhagor o gostau ychwanegol. Mae hyn yn arwain at doriadau mewn gwasanaethau anstatudol, fel hamdden, diwylliant a thrafnidiaeth, sydd wedyn yn gallu cael effaith ganlyniadol negyddol ar les y boblogaeth leol. Gwn y bydd y Gweinidog wedi clywed llawer o'r pryderon hyn gan awdurdodau lleol dros amser maith; rydym wedi eu clywed ar y pwyllgor ers cryn amser. Ac mae'n rhy hawdd meddwl, 'Wel, fe fyddent yn dweud hynny, oni fyddent, am eu bod ar y talcen caled?' Ond er hynny, pan fydd y mathau hyn o wasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau lleol, yn cael eu torri, ceir sgil-effeithiau a cheir effeithiau ar gyllidebau eraill, oherwydd mae'r arian yn gorfod dod o gyllidebau eraill i ariannu'r ymrwymiadau anstatudol. Ac wrth gwrs, pan fydd pethau fel canolfannau hamdden yn gweld toriadau, a mannau diwylliannol eraill yn gweld toriadau, mae'n bosibl y bydd effaith ar lesiant lleol ac mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ymdopi â'r canlyniadau.
Felly, gallwn gael ein dal mewn cylch diddiwedd, lle y ceir mwy o bwysau ar y gwasanaethau statudol, sydd wrth wraidd yr hyn y mae'r awdurdodau lleol yn ei ddarparu. Ac wrth gwrs, mae mwy fyth o bwysau ar y gwasanaethau hyn mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n siarad yn gyson am faterion megis trafnidiaeth wledig yn y Siambr hon. Mae'r materion hynny'n creu mwy fyth o bwysau mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru. Roedd yn ddiddorol iawn fod rhanddeiliaid hefyd wedi cwestiynu fforddiadwyedd rhai o'r gwasanaethau cyffredinol, megis presgripsiynau am ddim, nad ydym yn trafod cymaint arnynt yn y Siambr hon bellach, ac mae'n debyg fod hynny wedi tyfu'n fwy o ran o'r dirwedd a dderbynnir. Ond pan siaradwch â rhanddeiliaid, fel y gwnaethom ni, maent yn dweud bod pethau o'r fath sy'n cael eu darparu i bawb—efallai fod yna rywbeth gwirioneddol gadarnhaol y mae pobl am ei gael, ond pan fydd cyllidebau'n dynn a bod yn rhaid i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus wneud penderfyniadau pwysig, teimlant fod yn rhaid iddynt edrych yn gyffredinol ar bopeth, neu fel arall fe welwch feysydd pwysig yn cael eu torri.
Cododd mater niwtraliaeth cost dro ar ôl tro. Mae'n fater allweddol i'r Pwyllgor Cyllid. Dywedir wrthym yn aml gan Lywodraeth Cymru fod deddfwriaeth newydd yn niwtral o ran cost, a chan Aelodau'n aml wrth drafod deddfwriaeth. Dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym mai anaml y mae hyn yn wir yn ymarferol, ac yn aml ceir costau cudd nad ydym yn eu gweld pan fyddwn yn edrych ar ddeddfwriaeth, ac maent yno ac yn cael effeithiau canlyniadol yn y cymunedau. Roeddent am i Lywodraeth Cymru gael gwell ffordd o asesu'r costau cudd a all ddeillio o ddeddfwriaeth a phenderfyniadau cyllidebol.
Soniwyd am Brexit yn ystod y sesiwn wrth gwrs—mae'n amhosibl ei osgoi ar hyn o bryd. Gyda llaw, i unrhyw un sydd wedi darllen adroddiad y Pwyllgor Cyllid, nid wyf yn credu bod y fath beth â Brexit 'cytundeb newydd' yn bodoli, er mor braf y gallai hynny fod. Rwy'n credu bod y rhanddeiliaid yn siarad am Brexit 'heb gytundeb' mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod dau gysyniad gwahanol wedi dod at ei gilydd yno. Efallai ei fod yn derm newydd a ddaw'n amlwg dros yr wythnosau nesaf, nid wyf yn gwybod. Ond gyda Brexit 'heb gytundeb', roeddent yn teimlo bod angen cynllunio ar gyfer hynny. Nid oedd neb y buom yn siarad â hwy eisiau Brexit 'heb gytundeb', ond roeddent yn cydnabod, os mai dyna sydd ar y gorwel, fod angen gwneud rhywfaint o waith i geisio lliniaru unrhyw ganlyniadau posibl yn ei sgil.
Gwyddom fod cylch gwariant Llywodraeth y DU wedi arwain at £600 miliwn ychwanegol, neu ychydig yn llai—credaf mai £593 miliwn neu £594 miliwn a ddywedodd y Cadeirydd—yn dod i mewn i gyllideb Cymru, a £18 miliwn o gyfalaf ychwanegol. Dyna gynnydd o dros 2 y cant mewn termau real, ac mae hynny i'w groesawu. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud ein bod yn troi'r gornel. Rwy'n derbyn ei bod hi wedi bod yn amser hir a bod pwysau yno o hyd, ond rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig i'r rhanddeiliaid y buom yn siarad â hwy ac i bobl ledled Cymru yw bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr fod yr arian hwnnw sy'n cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—y gwasanaeth iechyd, addysg—yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau cyhoeddus hollbwysig, ac i reng flaen gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y gallwn weld y math o welliannau y mae pobl yn awyddus iawn i'w gweld.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dechrau ein sgyrsiau am y cyllidebau ar ddechrau'r broses, yn hytrach na bod y ddeddfwrfa'n ymateb i gynigion y Llywodraeth. Roedd y sgyrsiau yr ydym wedi dechrau eu cael, wrth wrando ar bobl, yn Aberystwyth yn yr achos hwn, yn rhan o'r ymgais honno i sicrhau ein bod yn newid y ffordd—nid craffu ar gyllidebau'n unig a wnawn yn yr ystyr o graffu ar linellau unigol y gyllideb ac ar benderfyniadau gwariant, ond rydym yn edrych ar ffurf cyllideb ac rydym yn ceisio dylanwadu ar ffurf a blaenoriaethau cyllideb. Weithiau, fel Aelod, rwy'n credu fy mod wedi treulio llawer gormod o amser yn ceisio rhwydo Gweinidog mewn perthynas â phenderfyniad gwariant penodol, yn hytrach nag edrych ar ysgogiad polisi ac uchelgais polisi'r gwariant hwnnw ac edrych wedyn ar sut y bydd y Gweinidog yn rhoi cyfrif am gyflawni neu beidio â chyflawni eu blaenoriaethau. Felly, wrth inni symud tuag at broses cyllideb ddeddfwriaethol dros y blynyddoedd i ddod, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn cynnal mwy o'r dadleuon hyn a'n bod yn dechrau proses y gyllideb gyda dadl o'r fath, lle mae'r Aelodau yma yn penderfynu ac yn hysbysu'r Llywodraeth beth yw eu blaenoriaethau, ac yna gall y Llywodraeth, wrth gyhoeddi ei chyllideb, ymateb i'r dadleuon hyn ac i'r blaenoriaethau y mae'r Aelodau yma a'r cyhoedd wedi'u nodi mewn gwirionedd.
Nawr, wrth wneud hynny, a chawsom y sgwrs hon yn Aberystwyth, y demtasiwn, wrth gwrs, yw rhestru'r holl ystod o weithgareddau llywodraethol ac mewn gwahanol ffyrdd, diffinio'r holl wahanol weithgareddau hynny fel blaenoriaeth. Mae rhai areithiau a glywn yma ar brynhawn Mercher yn sicr yn cyflawni hynny, a gellir cyflwyno achos da, wrth gwrs, dros lawer o wariant y Llywodraeth bob amser. Felly, rwyf am ymwrthod â'r demtasiwn i roi rhestr o 1,000 o flaenoriaethau gwahanol i'n Gweinidog y prynhawn yma, a cheisio cyfyngu fy hun i dair blaenoriaeth y credaf ei bod yn bwysig inni eu hystyried dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
I mi, y flaenoriaeth allweddol yw addysg. Siaradais am hyn—ac efallai y bydd aelodau'r Llywodraeth yn cofio—fel Gweinidog y llynedd. Roeddwn yn glir iawn mai'r gwasanaeth cyhoeddus y teimlwn fod angen inni ganolbwyntio go iawn arno yn y blynyddoedd i ddod oedd addysg, ac yn enwedig ysgolion. Mae ysgolion wedi gwneud pethau gwych dros y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi gweld gwelliant gwych yn y safonau a'r canlyniadau. Ond rydym hefyd wedi gweld y pwysau sydd ar ysgolion ac athrawon, cynorthwywyr addysgu ac eraill. Mae'r gymuned addysg gyfan yn cyflawni llwyddiannau gwych, ond rydym mewn sefyllfa yn fy marn i lle mae angen inni sicrhau bod ysgolion yn cael eu gweld fel blaenoriaeth.
Rwy'n gobeithio, yn rhan o hyn—ac fe wnaf sicrhau, Ddirprwy Lywydd dros dro, fod fy muddiant yn y mater wedi'i gofnodi; mae fy mab yn derbyn addysg anghenion dysgu ychwanegol—credaf fod angen inni sicrhau, wrth weithredu'r fframwaith statudol anghenion dysgu ychwanegol, ein bod yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer addysg anghenion dysgu ychwanegol, rhywbeth nad yw'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Credaf y dylid darparu arian ychwanegol ar gyfer addysg ac addysg anghenion dysgu ychwanegol drwy grant uniongyrchol i'r gyllideb addysg, neu drwy grant datblygu disgyblion i sicrhau bod arian ychwanegol yn cyrraedd ysgolion sydd â phoblogaeth uwch yn cael prydau ysgol am ddim. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn cael ei wneud drwy grant uniongyrchol drwy'r adran addysg, oherwydd credaf ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i'r rheng flaen.
Yr ail flaenoriaeth fyddai trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r Aelodau eisoes wedi nodi mai trafnidiaeth gyhoeddus yw un o'r blaenoriaethau allweddol a anwybyddir yn eithaf aml yn rhai o'r dadleuon hyn. Ychydig o wythnosau sy'n mynd heibio yn fy nghymorthfeydd cyngor ym Mlaenau Gwent lle nad yw pobl yn egluro i mi yr anawsterau y mae diffyg gwasanaethau bysiau, er enghraifft, yn eu golygu iddynt yn eu bywydau bob dydd—yr effaith a gaiff hynny ar ganol trefi, yr effeithiau a gaiff ar allu pobl i gyrraedd gwasanaethau cyhoeddus, yr effaith y mae'n ei chael ar allu pobl i siopa neu gymdeithasu. Os ydym o ddifrif ynghylch cydlyniant a chyfiawnder cymdeithasol yn ein cymunedau, rhaid i fynediad at system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol fod yn ganolog i hynny. Mae'n amlwg i mi fod gwasanaethau bysiau ar hyn o bryd yn chwalu mewn rhannau helaeth o'r wlad, ac mae angen inni nodi hynny.
Y drydedd flaenoriaeth, heb fod mewn trefn uniongyrchol, yw—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod ein hamser yn dod i ben, mae'n ddrwg gennyf. Ond y maes olaf yr hoffwn ei nodi yw gwariant ataliol. Rydym wedi gweld protestiadau gwych yn ystod yr wythnos diwethaf, gweithredu gwych gan bobl ifanc yn sôn am effaith newid yn yr hinsawdd. Credaf fod angen inni allu ariannu camau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio'r economi a systemau gwasanaethau cyhoeddus. Trafodasom hefyd yn ystod y cwestiynau iechyd effaith camddefnyddio cyffuriau ar bobl, a phobl ifanc yn arbennig, a chredaf fod angen inni edrych ar y gwasanaethau a ddarperir yn benodol ar gyfer pobl ifanc. Nid wyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i ddysgu gan wledydd eraill a thiriogaethau eraill lle y ceir gwasanaethau ataliol sydd eisoes yn darparu datblygiadau ac amddiffyniadau arwyddocaol i bobl ifanc, ac yn darparu mwy o gyfleoedd iddynt. Ond rwy'n credu mai'r newid yn yr hinsawdd, wrth gwrs, fydd mater diffiniol ein cyfnod ni. Dyma fydd yr her wleidyddol ddiffiniol sy'n ein hwynebu. Fe fydd yn un o'r meysydd hynny y bydd pobl yn edrych yn ôl arno ac yn edrych ar Lywodraethau ac yn edrych ar ddeddfwyr ac yn gofyn y cwestiwn, 'Beth a wnaethoch? Roeddech chi'n gwybod ein bod yn wynebu argyfwng. Beth a wnaethoch yn wyneb yr argyfwng hwnnw?' Ac nid wyf yn credu y gallwn gytuno ar unrhyw gyllideb yn y lle hwn nad yw'n cynnwys buddsoddiad sylweddol ym maes newid hinsawdd a mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd.
Rydyn ni'n gwybod ein bod ni wedi byw drwy gyfnod o wasgu ariannol dybryd, ond beth mae hynny'n ei olygu mewn difri ydy, pan mae'n dod at osod blaenoriaethau a thrio gwneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwireddu'r blaenoriaethau yna, sianelu'r arian i'r ffordd iawn i'r lle cywir, er mwyn gwireddu'r blaenoriaethau, bod yn fwy soffistigedig ynglŷn â sut mae penderfyniadau yn cael eu cymryd.
Nôl ym mis Gorffennaf, mi wnaeth y Gweinidog Cyllid nodi wyth blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-1. Mae'r blaenoriaethau gwariant hynny yn cynnwys gofal cymdeithasol, taclo tlodi, datgarboneiddio—dydw i ddim yn anghytuno efo'r blaenoriaethau hynny, ond un peth ydy gosod blaenoriaethau ar lafar, peth arall wedyn ydy sicrhau bod arian yn gallu cael ei sianelu tuag at wireddu'r uchelgais sy'n cael ei gosod.
Rŵan, mae dadansoddiad cyllidol Cymru yn awgrymu y bydd yna gynnydd mewn grantiau bloc y flwyddyn nesaf, a hynny yn caniatáu i'r Llywodraeth gynyddu cyllid ar gyfer mwy o'i blaenoriaethau, o gymryd y penderfyniadau cywir. Ond, wrth gwrs, mi fydd—ac rydyn ni'n gwybod hyn o'r blynyddoedd diwethaf—gallu'r Llywodraeth i ymateb i ystod o'i blaenoriaethau yn dibynnu, i raddau helaeth, ar faint o arian y bydd y Llywodraeth yn penderfynu ei ddyrannu i'r gwasanaeth iechyd unwaith eto. Mae'n anodd dianc rhag hynny. Mae'r dadansoddiad cyllidol wedi amlinellu tri senario sydd yn pwyso a mesur faint sy'n mynd i iechyd a faint mae hynny yn ei adael ar ôl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig eraill. Ac mae yna, pob amser, pan fo yna gyhoeddiad am arian ychwanegol gan y Trysorlys ar gyfer Lloegr, bwysau gan y rhai mwy ddiddychymyg yn y lle yma ar i’r arian cyfatebol—beth bynnag sy’n mynd i iechyd yn Lloegr, i’r arian cyfatebol fynd i iechyd yng Nghymru, ond, wrth gwrs, dydy hi ddim mor syml â hynny, ac mae’r cwestiwn ataliol yn gorfod bod wrth graidd penderfyniadau cyllidol sy’n cael eu gwneud. Ac mae Sefydliad Iechyd y Byd—roedden ni’n cael ein hatgoffa yr wythnos yma—yn ein hatogffa ni bod 80 y cant o’r pethau hynny sy’n ein cadw ni’n iach yn bethau sy’n digwydd ac yn cael eu dylanwadu arnyn nhw gan bethau y tu hwnt i gyllideb yr NHS. Felly mae’n rhaid inni sicrhau bod yr ochr ataliol yn cael ei chynnal, ac, yn y fan hyn, dwi’n mynd yn syth at gyllidebau llywodraeth leol. All llywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o wasgu. All llywodraeth leol yng Nghymru ddim cymryd mwy o setliadau fflat, oherwydd mae hynny’n mynd i fod yn gam yn ôl.
Diolch, Rhun. Cyn i chi symud ymlaen at yr awdurdodau lleol, o ran iechyd, clywaf yr hyn a ddywedwch, a dywedais yn fy araith fy hun fod yr agenda ataliol yn hollbwysig, ond serch hynny, os oes swm sylweddol o arian yn mynd i'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, ac o ganlyniad i hynny, ein bod yn cael arian drwy swm canlyniadol yma, a fyddech yn derbyn y byddech am weld o leiaf gyfran ohono'n mynd tuag at gynyddu'r gwasanaeth iechyd mewn termau real yma, fel ein bod yn gwneud mwy na dal i fyny'n unig.
Na, nid wyf yn cytuno â chi—rwy'n credu mai'r hyn a welsom yn Lloegr yw eu bod wedi disgyn i'r fagl o feddwl y gallant roi'r holl arian tuag at y gwasanaeth iechyd, llwgu gwasanaethau eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol, gan arwain at bwysau ychwanegol ar y GIG. Yr hyn rwy'n ei ddweud yw y dylid ystyried yr arian yn ei gyfanrwydd. Mae arian sy'n mynd tuag at ofal cymdeithasol, gwasanaethau cymdeithasol, yn arian ataliol sy'n gallu arbed arian i'r GIG yn nes ymlaen. Felly, na, dyna'r union bwynt nad wyf yn ei wneud. Rhaid inni fod yn fwy dychmygus. Ie, yn sicr, ariannwch y GIG yn ddigonol, ond nid ei ystyried ar ei ben ei hun.
Felly, mae arian sy'n mynd i mewn i lywodraeth leol ar gyfer gofal sy'n cael ei ddarparu ganddyn nhw yn arian sy'n cynnig arbedion i'r NHS nes ymlaen, ac mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru yn amcangyfrif bod llywodraeth leol wedi gorfod gwneud toriadau go iawn o 22 y cant yn y degawd diwethaf. Yn amlwg, dydy hynny ddim yn rhywbeth all barhau ac mae'n rhaid i'r flaenoriaeth gael ei gosod yn glir yng nghyllideb 2020-21, neu'r NHS hefyd fydd yn dioddef i lawr y lôn.
Sylw arall ynglŷn â blaenoriaeth mae yna gonsensws yn ei gylch o, a hynny ydy datgarboneiddio: mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi amcangyfrif bod angen, o bosib, ddim yn bell o £1 biliwn i gael eu neilltuo ar gyfer cynlluniau datgarboneiddio yng Nghymru. Y consérn gan lawer ydy ein bod ni, ar y pwnt yma mewn amser, heb weld unrhyw arwyddion mewn difrif gan Lywodraeth Cymru—er iddyn nhw osod datgarboneiddio fel blaenoriaeth ar lefel uchel os liciwch chi, dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi dangos eu bod nhw'n barod i wneud y commitment yna yn ariannol.
Felly, dyna i chi ddau faes mae'n rhaid eu gweld yn cael eu hadlewyrchu yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Un pwynt olaf: mae'n destun pryder mawr mai dim ond un rownd flynyddol o wariant dŷn ei gweld gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a dwi'n meddwl bydd hi'n flaenoriaeth i gryfhau arian wrth gefn wrth inni wynebu'r perig o ragor o lymder mewn blynyddoedd i ddod.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth hon oherwydd rwy'n credu bod angen i ni gael mwy o drafodaethau yn gyffredinol ynghylch gwariant disgwyliedig yn hytrach na siarad am linellau gwariant ac a ddylid cael £10 i £15 miliwn ychwanegol yma neu acw, ond siarad amdano fel pwynt cyffredinol mewn gwirionedd.
Roeddwn innau hefyd yn falch iawn ein bod wedi cael cyfarfod cyllid yn Aberystwyth, gan gyfarfod ag aelodau o'r cyhoedd. Roedd yn ddefnyddiol iawn i mi, oherwydd cyfarfûm â phobl o'r grwpiau amgylcheddol, o lywodraeth leol, ac addysg bellach ac addysg i oedolion, ond cyfarfûm â hwy y tu allan i'r hyn y buaswn yn ei ddisgrifio fel fy nghornel gysurus yn Abertawe. Roedd yn ddiddorol cael barn pobl yn yr un meysydd ag y bu gennyf ddiddordeb ynddynt a meysydd y mae gennyf ychydig o wybodaeth amdanynt, ond sy'n byw mewn ardal arall, ac rwy'n sicr wedi dysgu llawer o hynny. Credaf mai'r un peth y dylem i gyd ei gofio drwy'r amser yw mai arian y cyhoedd a werir gennym. Yn rhy aml o lawer, rydym yn sôn am arian y Llywodraeth, a siaradwn am arian y Cynulliad, ond arian y cyhoedd ydyw ac rydym yn atebol iddynt.
Diddorol iawn oedd siarad â hwy. Buom yn sôn, yn y bôn, am effaith cyni a thoriadau ar wasanaethau cyhoeddus, mai llywodraeth leol sydd wedi ysgwyddo'r baich mwyaf o doriadau yn y sector cyhoeddus, ac mai gofal cymdeithasol sy'n wynebu'r pwysau mwyaf ar unrhyw wasanaeth—ac rwy'n cynnwys iechyd yn hynny. Mae gofal cymdeithasol o dan bwysau aruthrol. Ac mae'n hynod o bwysig. Os nad ydych yn ariannu gofal cymdeithasol yna bydd pobl yn mynd i'r ysbyty yn y pen draw. Os ydych yn eu cefnogi yn eu cartrefi, yn rhoi'r mymryn bach o gymorth y maent ei angen, yna ni fyddant yn cwympo, ni fyddant yn cyrraedd y cam hwnnw lle bydd angen iddynt fynd i'r ysbyty. Felly, rydych chi'n helpu iechyd mewn gwirionedd drwy gadw pobl yn eu cartrefi.
Roedd y cynrychiolydd llywodraeth leol, a oedd yn dod o ardal Ceredigion/Powys, yn awyddus iawn i dynnu sylw—a byddai'n dda gennyf pe bai Russell George yma, oherwydd mae'n ei nodi'n gyson hefyd—at gost darparu gwasanaethau gwledig, ac maent yn gwbl gywir ynghylch cost darparu gwasanaethau gwledig. Cyfrifais gydag ef, ac rwy'n eu cyfrif yma'n rheolaidd—dyma'r galw ychwanegol mewn ardaloedd lle mae gennych amddifadedd cymdeithasol. Felly, mae gennych yr anhawster o ddarparu'r gwasanaethau, a'r galw. Ond yn y bôn, nid ydym—. Nid yw'n ddadl rhwng Blaenau Gwent a Phowys am yr arian; mae'n ddadl fod angen arian ychwanegol arnom yn y system.
Mae toriadau wedi cael effaith enfawr ar addysg. Yn gyffredinol, mae awdurdodau lleol wedi ceisio diogelu gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, ond mae hynny wedi bod yn—. Ar beth yr effeithiwyd? Gwasanaethau llyfrgell, gwasanaethau hamdden, canolfannau hamdden, cyfleusterau chwaraeon—yr holl bethau sy'n wasanaethau anstatudol, maent wedi'u torri'n ôl. Ac mae rhai o'r gwasanaethau statudol wedi cael eu cwtogi. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r gwasanaethau anstatudol hyn yn y bôn yn cadw pobl yn iach a'u cael allan o'r tŷ.
Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cludiant i'r ysgol—neu, fel y mae'r Ceidwadwyr wedi dweud yn y fan hon yn weddol reolaidd, 'biwrocratiaeth'; maent yn disgrifio'r arian a gedwir gan awdurdodau lleol yn ganolog i dalu am fysiau ysgol fel arian a gedwir ar gyfer biwrocratiaeth. Credaf fod angen iddynt ystyried ymhellach ar beth y gwerir yr arian sy'n cael ei gadw gan awdurdodau lleol yn ganolog mewn gwirionedd.
Addysg i oedolion ac addysg bellach—mae'r rheini eto wedi ysgwyddo mwy na'u cyfran deg o unrhyw doriadau. Er ein bod wedi diogelu ysgolion ac wedi diogelu addysg bellach i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed, mae'r rheini sy'n mynd i mewn—maent am aros ymlaen ac ailhyfforddi ac ailsgilio—. Ac rydym yn siarad llawer, onid ydym, am roi ail gyfle i bobl, a phobl yn cael cyfle i ailsgilio mewn byd sy'n newid? Mae'r cyrsiau hynny wedi'u torri'n ddramatig, oherwydd mae'r arian sy'n mynd tuag at addysg bellach yn cael ei gwtogi'n ddramatig, ac mae'r hyn sydd wedi mynd i mewn wedi'i anelu'n bennaf at bobl ifanc 16 i 18 oed. Mae hwnnw wedi bod yn benderfyniad ymwybodol gan y Llywodraeth. Mewn gwirionedd, anfonasant lythyrau allan yn dweud hynny—nid y Llywodraeth hon yn awr yn unig, mae'n mynd yn ôl i Lywodraeth 2007-2011, a anfonodd yr union lythyrau hynny allan.
O ran yr amgylchedd, cafwyd galw am fwy o goed. Rwyf bob amser yn galw am fwy o goed. Cefais drafferthion gydag Undeb Amaethwyr Cymru pan ddywedais, 'Mae arnom angen mwy o goed ym mhobman', ond mae angen inni warchod yr amgylchedd. Nid yw'r gyllideb yn neilltuo agos digon o adnoddau ar gyfer materion amgylcheddol, ac mae gennym sefyllfa hefyd fod Cyfoeth Naturiol Cymru'n cael ei danariannu'n aruthrol. Nid wyf yn meddwl bod uno'r tri sefydliad gyda'i gilydd yn syniad da, ac mae cyfuno'r tri sefydliad a pheidio â'u hariannu'n ddigonol wedyn wedi arwain at broblemau.
Mae gennyf ddau beth yr hoffwn eu dweud i orffen. Fel y gwyddom, rydym wedi cael twf gwirioneddol o 2.3 y cant yn yr incwm ar gyfer y flwyddyn nesaf. Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn dweud yn awr na fydd yr un gwasanaeth yn cael cynnydd is na chwyddiant, ac mae hynny'n cynnwys pob awdurdod lleol. Nid oes unrhyw reswm pam na ellir gwneud hynny, oherwydd mae gennych yr ardal twf o hyd i'w roi tuag at flaenoriaethau'r Llywodraeth, ond gadewch i ni amddiffyn pawb.
Rydym yn sôn am wariant ataliol—ac rydym bob amser yn siarad am wariant ataliol—a allwn roi rhywfaint o arian tuag at iechyd cyhoeddus? Oherwydd collasom y rhan iechyd cyhoeddus o Cymunedau yn Gyntaf, a wnaeth waith aruthrol ar bethau fel gweithgarwch corfforol a hybu bwyta'n iach, ond mae angen inni gael pobl yn well yn hytrach nag aros nes eu bod yn mynd yn sâl a'u trin wedyn.
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn gweithio'n galed i ymgysylltu â rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach fel rhan o'i broses o graffu ar y gyllideb. Serch hynny, yn ystod fy aelodaeth ysbeidiol o'r Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi canfod rhywfaint o ddiffyg cysylltiad rhwng ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ac eraill a phroses y gyllideb. Ac rwy'n credu ei bod yn her wirioneddol i ymgysylltu â phobl mewn ffordd gynhyrchiol a defnyddiol sy'n cyfrannu at ein gwaith craffu ar gyllideb blwyddyn benodol.
Credaf fod a wnelo llawer o hynny â'r ffaith bod gennym broses gyllidebol, a arweinir gan y Weithrediaeth, y Llywodraeth, a ninnau fel pwyllgor, fel Aelodau Cynulliad, i'r graddau ein bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid sydd wedi dod i wthio eu blaenoriaethau penodol o ran gwariant efallai, rydym yn ymgysylltu â hwy a chredaf weithiau efallai ein bod yn gadael y cyfarfod hwnnw o dan yr argraff fod y bobl a wahoddwyd yn disgwyl mwy gennym fel pwyllgor nag yr ydym yn debygol o allu ei gyflawni, oherwydd mae'n broses a arweinir gan y Llywodraeth ar gyfer y gyllideb.
Rwy'n credu bod heriau hefyd o ran pwy a wahoddwch i'r cyfarfodydd hynny, sut y gallwch ymgysylltu'n eang. A ydynt n ffafrio sefydliadau sy'n cyflogi pobl sydd ag amser i fynd yn rhan o ymgynghoriadau ac ymgysylltu ag Aelodau'r Cynulliad yn y ffordd hon? Sut y gwyddom ein bod yn rhoi blaenoriaeth deg i'r math gwahanol o wahoddedigion a gwesteion y byddwn am drafod eu blaenoriaethau penodol gyda hwy o bosibl? Rwy'n credu hefyd, gan fod gennym fwyfwy o bwerau trethu datganoledig, fod maes arall yn dod i mewn i hyn. O'r blaen caem ein hariannu drwy grant bloc i raddau helaeth—yn wir, byddai llawer o wahanol bobl yn cystadlu i ddweud wrthych pa mor bwysig oedd eu maes gwario yn bwydo i mewn i broses a gâi eu gyrru gan grant bloc, a dim ond rhannu'r gacen wariant honno a wnaem i raddau helaeth. Yn awr, mae gennym fwy o bwerau trethu ac ers mis Ebrill, mae 10 y cant o'r gyfradd dreth incwm yn cael ei gosod gennym ni—beth y dylem ei wneud i sicrhau bod trethdalwyr yn cael eu cynnwys ac yr ymgynghorir â hwy a'u bod yn rhan o'r broses honno, a'n bod yn ystyried bod y cyfaddawd rhwng trethiant a gwariant ychydig yn fwy nag sydd gennym pan fyddwn wedi codi llai o'n harian ein hunain?
Y maes olaf lle y credaf fod diffyg cysylltiad yw'r amserlen. Pan fyddwn yn edrych ar linellau'r gyllideb ac yn mynd i lawr i lefel y prif grwpiau gwariant ac efallai'n is, credaf mai'r hyn a glywn gan y rhanddeiliaid yn aml yw eu blaenoriaethau ar gyfer rhaglenni polisi neu feysydd trawsbynciol nad ydynt o anghenraid yn ffitio'n dwt i un neu hyd yn oed gyfuniad o'r llinellau gwahanol hynny. Yn sicr, rwy'n ei chael yn anodd gwrando ar randdeiliaid ac yna craffu ar waith y Gweinidog mewn trafodaeth linell wrth linell ar y gyllideb ar gyfer blwyddyn benodol. A chredaf fod hynny'n cysylltu â mater arall y mae Rebecca Evans wedi siarad amdano yma ac mewn mannau eraill, ynghylch yr anawsterau y mae hi a'r Llywodraeth yn eu hwynebu gyda chyllideb un flwyddyn y maent yn ei chyflwyno am nad yw Llywodraeth y DU ond wedi rhoi'r grant bloc ar gyfer un flwyddyn i ddod. Rwy'n cydymdeimlo â llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud am hynny, ond buaswn yn cwestiynu a yw'n fater deuaidd. Tybed a allem fynd ychydig ymhellach i roi tamaid mwy o sicrwydd mewn rhai meysydd gwariant o leiaf. Nid yw Llywodraeth y DU ei hun yn gwybod beth fydd ei refeniw ymhen dwy neu dair blynedd. Nid yw'n gwybod pryd y bydd yr arian a dalwn i'r Undeb Ewropeaidd ar gael ar gyfer blaenoriaethau eraill. Mae wedi pennu rhai cyllidebau ar gyfer mwy na blwyddyn, ac rwy'n credu y gallai Llywodraeth Cymru bennu cyllidebau am fwy na blwyddyn ar gyfer rhai o'i meysydd, neu ar gyfer blaenoriaethau neu feysydd penodol lle mae'r sicrwydd hwnnw'n arbennig o bwysig.
Fe ildiaf i Mike.
Diolch. Y fantais, wrth gwrs, i San Steffan yw eu bod yn gallu benthyca ar gyfer gwariant refeniw, oni allant, felly mae ganddynt y sicrwydd hwnnw gan eu bod yn gwybod, hyd yn oed os nad oes ganddynt arian yn dod i mewn, y gallant ei fenthyg i lenwi'r bwlch.
Gallant. Ac yn amlwg, mae gennym ein rhaglenni cyfalaf a rhai lle y ceir capasiti benthyca, ond mae mwy o gylchoedd y mae'n rhaid inni neidio drwyddynt na Llywodraeth y DU er mwyn defnyddio'r rheini. Ond ni fydd cyfran mor fawr o'n hincwm yn dod o'r grant bloc yn y dyfodol ac felly nid yw'r ffaith bod y grant bloc hwnnw'n cael ei bennu am y flwyddyn i ddod yn unig yn ddadl mor gref ag y gallai fod wedi bod ynglŷn â pham na allwn gyllidebu am fwy na'r flwyddyn sydd o'n blaenau. Ac rwy'n meddwl tybed a oes meysydd blaenoriaeth, neu rai penodol lle mae angen sicrwydd, y gallai'r Gweinidog ystyried rhoi syniad cadarnach ynglŷn â chynlluniau tebygol. Y llynedd, rwy'n credu ein bod wedi gweld menter eithaf da o ran cyfleu i awdurdodau lleol y pwysau posibl yn y flwyddyn i ddod er mwyn rhoi ychydig mwy o rybudd iddynt, a'r Llywodraeth yn San Steffan—mae ganddynt gyllidebau i ddod, ond weithiau maent yn newid. Yn 2010, cofiaf i Lywodraeth y DU—yr un newydd—ddod i rym ac fe wnaeth doriadau yn ystod y flwyddyn. Nid yw hynny'n ddelfrydol, ond efallai y bydd yn well i rai sefydliadau gael syniad o leiaf beth fydd cyllidebau'r dyfodol, hyd yn oed os yw'n bosibl y cânt eu newid.
Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r adroddiad hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb ac rwy'n parhau i bryderu bod nifer o agweddau ansicr ynghlwm wrth gylch gwariant diweddar y DU o hyd—er enghraifft, y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael, unwaith eto, ag ateb hirdymor i ariannu gofal cymdeithasol. Tra'n bod yn ceisio canfod ein hatebion ein hunain i'r her honno, byddai'n help cael gwybod yn union beth yw cynlluniau ariannu hirdymor Llywodraeth y DU yn hynny o beth. Credaf fod hwnnw'n fethiant mawr yng nghynllun gwariant diweddar y DU, ac mae'n taflu cysgod dros un o'r heriau hirdymor allweddol a wynebwn yma yng Nghymru.
Fodd bynnag, yma yng Nghymru rwy'n croesawu'r arwydd a roddwyd gan y Gweinidog yn y Siambr yr wythnos diwethaf, yn ogystal â'r flaenoriaeth yr ydym yn iawn i'w roi i GIG Cymru, ein bod yn bwriadu edrych yn ofalus ar y setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Ceir llawer o drafodaethau ynglŷn â'r ffyrdd y gwerir arian ar wasanaethau lleol, ond mae'n amlwg i bob un ohonom, er gwaethaf setliadau llawer iawn mwy hael yng Nghymru o gymharu â Lloegr, fod ein cynghorau o dan bwysau difrifol er hynny, a rhaid inni wneud rhagor i geisio cynnal gwasanaethau lleol. Yn anffodus, gwyddom fod cynllun gwariant blwyddyn y DU yn ymwneud yn gyfan gwbl â'r tymor byr, gan gefnu ar strategaeth ac uchelgais hirdymor er mwyn ambell gyhoeddiad poblogaidd yn y tymor byr. Felly, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor Cyllid, o'r hyn a ddarllenaf, efallai ein bod yn dal i wynebu rhai o'r cyfyngiadau ar ein gweithredoedd oherwydd nad yw'r cynllun DU ond yn ymwneud â'r flwyddyn 2020-21 yn unig.
Nawr, fel y mae eraill wedi dweud yn barod, rydym yn gwybod bod canolbwyntio ar atal mewn iechyd a gofal, ac edrych ar gynllunio mwy hirdymor yn ein gwariant cyhoeddus, yn sylfaen y gall Llywodraeth Cymru adeiladu arni. Felly, law yn llaw â'r ansicrwydd a wynebwn, efallai y gall y gyllideb Gymreig sydd ar y ffordd lywio cydflaenoriaethau pellach rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Oherwydd os cred y ddwy mai gwario at ddiben hirdymor clir yw'r peth cywir i'w wneud, mae'n amlwg y dylid llunio cytundeb newydd er mwyn inni sicrhau diben sy'n gyffredin rhyngom a llywodraeth leol, boed hynny yn y ddadl ynghylch ysgolion ac addysg neu'r galwadau am ofal cymdeithasol, gan gynnwys plant sy'n derbyn gofal, neu ddarparu gwasanaethau hamdden hanfodol sy'n gallu darparu pethau fel presgripsiynu cymdeithasol, sydd, yn y tymor hwy, yn helpu i liniaru peth o'r pwysau cynyddol ar y GIG. Os oes diben cyffredin, yna gadewch iddo fod yn gytundeb cyffredin i gyflawni'r blaenoriaethau hynny drwy lywodraeth leol.
Nawr, oherwydd natur fyrdymor y setliad ariannu a wynebwn eleni, efallai nad dyma'r amser i ystyried hyn, ond rwy'n meddwl tybed oni ddylem ddechrau meddwl mwy am iechyd a gofal cymdeithasol, nid fel portffolio integredig ar gyfer Gweinidog yn unig, ond hefyd o ran realiti cyllidebau ar y cyd i ddarparu ateb mwy hyblyg, ymatebol yn y gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol hynny. Credaf mai dyna'r pwynt yr oedd Rhun yn cyfeirio ato yn ei gyfraniad, o ran sut y darparwn y gwasanaethau integredig hynny. Fel y dywedaf, efallai fod hon yn ystyriaeth ar gyfer y tymor hwy y bydd yn rhaid inni ddychwelyd ati, ond heddiw credaf mai'r brif neges i'r cylch cyllidebol hwn yw rhoi'r gallu i awdurdodau lleol nid yn unig i weithredu, ond i ddechrau adfer a darparu'r gwasanaethau lleol a gafodd eu taro mor wael gan flynyddoedd caled o gyni. Efallai mai dim ond dechrau'r broses y gallwn ei wneud y flwyddyn hon, ond mae hyd yn oed y daith hiraf yn gorfod dechrau gydag un cam.
Hoffwn gefnogi'r Aelodau sydd wedi crybwyll addysg fel blaenoriaeth ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru, a hoffwn ganmol yn fawr yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ariannu ysgolion. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion, ond rwy'n credu ei fod yn gosod achos cryf iawn dros flaenoriaethu cyllid ysgolion i raddau helaethach nag sydd wedi digwydd hyd yma.
I mi, os ydym am ymwneud â gwariant ataliol, rhaid inni roi mwy o arian tuag at addysg a'n hysgolion. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am addysg bellach hefyd, a chredaf fod y maes hwnnw wedi'i anwybyddu braidd o ran cyllid digonol ac y dylid darparu'n well ar ei gyfer. Ond mae'r achos hanfodol, rwy'n meddwl, dros ariannu ysgolion oherwydd pwysigrwydd hynny i gynifer o'n pobl ifanc, a chyllid addysg blynyddoedd cynnar a blynyddoedd cynnar yn gyffredinol wrth gwrs. Oherwydd os ydym am fod yn ataliol, rwy'n credu bod addysg yn gwneud popeth i ni bron iawn. Mae addysg yn dda yn ei hawl ei hun. Mae'n hynod o bwysig o ran datblygiad personol. Rwy'n credu bod llawer o astudiaethau ledled y byd yn dangos, os ydych yn blaenoriaethu gwariant ar addysg, y bydd gennych economi lawer cryfach, ac mewn gwirionedd dyma'r peth mwyaf effeithiol y gallwch ei wneud. Os ydych am adeiladu eich economi, rhowch arian tuag at addysg.
Hefyd, wrth gwrs, mae'n bwysig iawn i iechyd. Mae pobl sydd wedi cael addysg well yn mwynhau gwell iechyd drwy gydol eu bywydau a lles gwell, ac ansawdd bywyd gwell yn gyffredinol. Maent yn cael mwy o gyfleoedd, gwell gyrfaoedd; mae'n fuddiol ym mhob ffordd. Mae hefyd yn bwysig iawn o ran diwylliant a'r amgylchedd yn wir. Felly, os edrychwn ar bethau yn eu cyfanrwydd ac ar atal, rwy'n credu y byddem yn cael ein hysgogi i roi mwy o arian tuag at addysg, a cheir sylfaen dystiolaeth gref iawn dros wneud hynny. Dyna pam rwy'n cytuno'n fawr ag adroddiad y pwyllgor.
Rwy'n credu y dylai rhan o hynny—ac rwyf wedi sôn am hyn sawl gwaith yn y gorffennol—fod yn gyllid mwy effeithiol ar gyfer ysgolion bro, oherwydd eu bod yn adnodd sy'n bodoli'n barod, onid ydynt, ein hysgolion, yr adeiladau, y tiroedd, y cyfleusterau, ac yn rhy aml ni chânt eu defnyddio'n ddigon da yn ystod gwyliau'r ysgol, ar benwythnosau, gyda'r nos. Mae hynny'n wastraff ofnadwy ar adnoddau presennol, onid yw? Er bod rhai arferion da, ni cheir hanner digon, ac rwy'n credu bod angen i ni ddarparu mecanwaith ariannu effeithiol sy'n sicrhau bod ysgolion bro yn gweithredu'n effeithiol ledled Cymru.
Daw hynny â mwy o gyfleoedd yn ei sgil, oherwydd ceir llawer o blant nad ydynt yn cael profiad o dacsi mam neu dad—na thacsi mam-gu neu dad-cu hyd yn oed—o ran y cyfleoedd ehangach i ddatblygu eu galluoedd a'u doniau. Nid ydynt yn mynd i'r gweithgareddau a'r clybiau fel y gallent. Os caiff ei ddarparu ar dir yr ysgol fel rhan o estyniad i'r diwrnod ysgol, bydd llawer iawn mwy o deuluoedd, yn enwedig teuluoedd o amgylchiadau difreintiedig, yn cael cyfleoedd ehangach o'r fath, ac mae ysgolion bro yn allweddol i hynny.
Un peth arall yr hoffwn ei grybwyll—ac unwaith eto, rwy'n credu ei fod yn bendant yn perthyn i'r agenda ataliol—yw gwasanaethau ieuenctid. Yn anffodus, oherwydd y pwysau sydd ar lywodraeth leol ac eraill, gwelsom lawer gormod o doriadau i glybiau ieuenctid, gweithgareddau ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid yn gyffredinol, ac mae hynny'n wirioneddol ataliol. Mae'r heddlu'n deall hynny. Mae llywodraeth leol yn deall hynny. Mae'r sector gwirfoddol yn deall hynny. Pan fyddwch yn mynd o gwmpas yn curo drysau, maent yn deall hynny, ond oherwydd y pwysau y mae 10 neu fwy o flynyddoedd o gyni wedi'i achosi, rydym wedi gweld llawer gormod o doriadau i'r ddarpariaeth hynod werthfawr honno. Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru edrych o ddifrif ar sut y gallwn gynnal y ddarpariaeth sy'n weddill, ond adeiladu hefyd y tu hwnt i lefelau'r ddarpariaeth a fu gennym yn y blynyddoedd a fu.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i wrando ar y ddadl heddiw ac i ymateb iddi, a diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy'n croesawu'n fawr y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud yn y maes hwn, ac yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfraniad a wnaed gan y rhanddeiliaid a gymerodd ran yn y digwyddiad yn Aberystwyth ym mis Mehefin. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at adroddiad terfynol y pwyllgor ar ôl i'w hymgynghoriad ddod i ben.
Wrth baratoi ar gyfer y gyllideb, roeddwn am wrando hefyd ar farn rhanddeiliaid ar y modd y mae cyllid y Llywodraeth yn cael ei fuddsoddi ledled Cymru, a'r effaith y mae'n ei chael ar bobl a'u cymunedau. Felly, dros yr haf, ymwelais â chyfres o leoliadau ledled Cymru sy'n adlewyrchu ein hwyth maes blaenoriaeth trawsbynciol, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, iechyd meddwl gwell, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Mae'r wyth maes yn ganolog i uchelgeisiau'r Llywodraeth i weld Cymru fwy cyfartal, Cymru fwy ffyniannus a Chymru fwy gwyrdd. Roeddwn eisiau deall yr heriau o ddydd i ddydd a wynebir yn y meysydd hyn a dysgu mwy am y gwahaniaeth y gellir ei wneud drwy ganolbwyntio arnynt. Ac roedd hefyd yn gyfle gwych i archwilio'r cyfleoedd sy'n bodoli i ni wneud mwy yn y meysydd hyn.
Yng ngogledd Cymru, gwelais drosof fy hun gymuned yn cymryd rheolaeth dros ei defnydd ei hun o ynni drwy brosiect ynni dŵr Ynni Ogwen ym Methesda. Ymwelais hefyd â chanolfan gofal brys iechyd meddwl I CAN yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Tynnodd yr ymweliad sylw at fodel ataliol lle y cynigir cefnogaeth emosiynol i bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl a chymdeithasol lefel isel y tu allan i'r oriau gwaith arferol. Yng nghanolbarth Cymru, ymwelais ag RSPB Llyn Efyrnwy, sy'n dangos nid yn unig sut y gall ardaloedd sylweddol o dirwedd Cymru sicrhau canlyniadau bioamrywiaeth cadarnhaol, ond sut y gallant gefnogi mentrau ffermio cynaliadwy hefyd. Yn Aberystwyth, cyfarfûm ag aelodau bwrdd a staff Tai Ceredigion, ynghyd â darpar breswylwyr datblygiad tai fforddiadwy newydd cyffrous ym Maes Arthur. Ac ym Mhenarth, ymwelais â'r cynllun chwarae newyn gwyliau yn Ysgol y Deri sy'n darparu cymorth i sicrhau bod bwyta'n iach yn parhau drwy gydol y gwyliau ysgol ar gyfer rhai o'n teuluoedd mwyaf difreintiedig.
Roedd yr ymweliadau hyn yn arddangos angerdd, talent ac ymrwymiad y rheini a fydd yn llywio canlyniadau ein blaenoriaethau trawsbynciol. Maent yn enghreifftiau gwirioneddol o sut rydym wedi parhau i flaenoriaethu ein buddsoddiad cyfyngedig er gwaethaf yr agenda cyni ac yn wyneb cyllidebau heriol a sut y gweithiwyd gyda phartneriaid i gyflawni ein blaenoriaethau. Ac mae'r blaenoriaethau hyn yn brawf o gryfder dull cyllidebol sy'n diogelu ac yn hyrwyddo'r hyn sydd bwysicaf. Cânt eu hybu gan ein hymrwymiad i flaenoriaethu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaeth wirioneddol gyda llywodraeth leol. Ac mae hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r profiad yn Lloegr, lle mae toriadau i gynghorau wedi bod ddwywaith mor ddwfn ag yng Nghymru, gan wneud niwed aruthrol i gymunedau lleol.
O'r blynyddoedd cynnar i dai, caiff ein ffocws ei wella gan y blociau adeiladu y mae'r Llywodraeth hon wedi'u rhoi ar waith drwy roi ei harian ar ei gwerthoedd: cynnig gofal plant gyda 48 o wythnosau o ddarpariaeth sy'n cyflawni ar draws Cymru o flaen yr amserlen, a'r ymgyrch i adeiladu dros 20,000 o dai fforddiadwy y tymor hwn—unwaith eto, ar y trywydd iawn, o flaen yr amserlen. Rwy'n benderfynol o wneud y gorau o'r effaith y gallwn ei chael ar y blaenoriaethau hyn i Gymru o fewn ein cyllideb arfaethedig, a hoffwn ddiolch i gyd-Weinidogion o bob rhan o'r Cabinet am y gwaith y maent wedi ei wneud i gefnogi'r ymagwedd gyfunol hon tuag at y gyllideb dros y misoedd diweddar. Wrth edrych tua'r dyfodol, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn glir iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn ganolog yn ein hystyriaethau cyllidebol, ac yn darparu'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol.
Cyn troi at rai o'r negeseuon allweddol y mae rhanddeiliaid wedi'u dwyn i fy sylw dros yr haf ac y credaf eu bod wedi cael eu hadleisio yn y Siambr heddiw, mae'n werth gosod y ddadl yn y cyd-destun ehangach. Fel y clywsom gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chylch gwariant cyflym un flwyddyn ar 4 Medi, a'r tu ôl i'r penawdau, nid yw'r cylch gwariant hwn yn troi'r dudalen ar gyni fel yr honnodd y Canghellor, gan y bydd ein cyllideb yn 2020-21 yn dal i fod 2 y cant yn is, neu £30 miliwn yn llai mewn termau real, nag yn 2010-11, a byddwn yn wynebu dewisiadau anodd dros yr wythnosau nesaf. A byddwn hefyd yn parhau i wynebu—[Torri ar draws.]
Mae'n rhaid eich bod wedi disgwyl i mi godi gyda'r sylw hwnnw. Fel y dywedais wrthych o'r blaen mewn cwestiynau, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch ynglŷn â chymharu'r ffigurau â 2010-2011—mae'n dal i fod ffordd bell i fynd—ond rhaid i chi hyd yn oed dderbyn, pan fyddwch yn optimistaidd, Weinidog, fod hyn, o'i gymharu â'r llynedd, yn gynnydd o fwy na 2 y cant mewn termau real—mewn termau real. Felly, bydd yn bendant yn gwella cyllideb Cymru y flwyddyn nesaf.
Wel, yn seiliedig ar y trafodaethau a gawsom o'r blaen yn y Siambr, roeddwn yn mynd i fynd ymlaen i ddweud hynny. Nid oeddwn yn mynd i oedi'n hir ar hynny y prynhawn yma, yn enwedig ar ôl yr hyn y credaf iddi fod yn ddadl adeiladol a defnyddiol. Ond mae'n deg dweud y byddwn yn dal i wynebu risgiau mawr a rhywfaint o ansicrwydd wrth i ni wneud ein paratoadau. Er enghraifft, mae amseriad a chynnwys cyllideb yr Hydref y DU yn parhau'n aneglur, ynghyd â goblygiadau Brexit a'r posibilrwydd o Brexit 'heb gytundeb' ar ein cynigion gwariant. Felly, rydym angen i'r disgwyliadau fod yn ofalus yn y cyd-destun ehangach hwnnw.
Ond yn ystod fy ymweliadau dros yr haf, cafodd nifer o faterion pwysig eu dwyn i fy sylw gan randdeiliaid ac fel y clywsom eto y prynhawn yma, mae'r gallu i gynllunio ar gyfer y tymor hir gyda chyllidebau sefydlog ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn aml yn cael ei grybwyll fel problem. A'n huchelgais bob amser yw darparu eglurder mwy hirdymor ynglŷn â chyllidebau lle bynnag y bo modd, ond rhaid cydbwyso hyn â rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol, ac nid oes gennym rai y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. Ond er mwyn rhoi cymaint o sicrwydd ag sy'n bosibl i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, rwyf wedi cyflwyno ein cynlluniau i gyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru, a gallaf gadarnhau, gyda chytundeb y pwyllgorau cyllid a busnes, ac rwy'n ddiolchgar iawn amdano, y byddaf yn cyhoeddi ein cyllideb ddrafft yn gynt ar 19 Tachwedd a'r gyllideb derfynol ar 4 Chwefror.
Yn ystod fy ymweliadau a fy nghyfarfodydd a fy ngwaith ymgysylltu ehangach, gwelwyd bod llawer o gefnogaeth i'r ymagwedd ataliol tuag at fuddsoddi y clywsom amdani y prynhawn yma, ac mae wedi bod yn thema eithaf amlwg yn y cyllidebau diweddar. Rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd ariannu gweithgarwch ataliol a'i botensial i gael effaith drawsnewidiol ar wasanaethau cyhoeddus ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae dulliau ataliol fel prosiect I CAN yn Ysbyty Gwynedd yn parhau i fod yn ystyriaeth bwysig wrth ddyrannu cyllidebau Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, nid yw Brexit byth yn bell o fy meddwl. Rwyf wedi ymweld â llawer o gymunedau sydd wedi elwa o gyllid yr UE yn y gorffennol ac mae pryderon, yn amlwg, ynghylch cyllid ar ôl Brexit. Drwy fy holl ymweliadau a chyfarfodydd, roedd dealltwriaeth wirioneddol o'r heriau sy'n wynebu pob un ohonom ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond er gwaethaf hyn, cefais fy nghalonogi'n fawr o glywed sut y mae gwasanaethau'n gyffredinol yn ystyried ffyrdd newydd o weithio er mwyn ymateb i'r her. Felly, wedi fy ysgogi gan y sgyrsiau hyn, rwy'n fwy penderfynol nag erioed o edrych yn gadarnhaol tua'r dyfodol a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y ffordd orau sy'n bosibl.
Mae'r holl sgyrsiau hyn yn llywio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft y byddwn yn ei chyhoeddi ym mis Tachwedd. Bydd y gyllideb yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth lle y gallwn gael yr effaith fwyaf dros y tymor hir er mwyn diwallu anghenion Cymru yn y presennol a'r dyfodol, a darparu'r gwasanaethau a'r canlyniadau y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd, Cadeirydd y pwyllgor, i ymateb i'r ddadl.
A gaf i ddiolch, o waelod calon, i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl? Rwy'n credu bod y drafodaeth rŷm ni wedi'i chael yn yr awr ddiwethaf yma wedi dangos pa mor werthfawr yw cael y math yma o drafodaeth, ac yn wir sut y byddai, efallai, cael trafodaeth ehangach eto o safbwynt amser a nifer y cyfraniadau yn cyfoethogi ac yn cynorthwyo, yn sicr, y Gweinidog ac eraill wrth ddatblygu cyllideb y Llywodraeth, ond ei bod hi'n bwysig gwneud hynny ar yr adeg ffurfiannol, gynnar yna, yn hytrach na fel rŷm ni wedi ffeindio ein hunain, yn anffodus y tro yma, yn ei chael hi'n hwyrach ymlaen yn y broses nag y byddem ni'n dymuno.
Fe wnaf i bigo lan jest ar ambell un o'r pwyntiau. Dwi'n meddwl y cychwynnodd Nick Ramsay drwy ein hatgoffa ni o bwysigrwydd ymgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach, ac yn amlwg mae hynny'n rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn trio ei wneud. Mae'n rhywbeth y dylai bob pwyllgor yn y Cynulliad yma fod yn ei wneud. Yn wir, dylai bob Aelod bod yn achub ar bob cyfle i ymgysylltu ag etholwyr. Dwi'n credu bod pwynt Mike Hedges ynglŷn â'r ehangu daearyddol yna hefyd, o safbwynt pwy rŷm ni'n siarad â nhw. Ac, wrth gwrs, mae ymgynghoriad y pwyllgor, sydd yn gorffen heddiw, fel yr oeddwn i'n sôn yn gynharach, hefyd yn gyfle i daflu'r rhwyd yna ymhellach.
Roedd hi'n ddiddorol ac yn galonogol clywed nifer o Aelodau'n cyfeirio at ffactorau gwledig, wrth gwrs, fel un o'r meysydd sydd yn gweld tipyn o bwysau ar hyn o bryd. A dwi eisiau diolch i Alun Davies yn enwedig jest am ofyn y cwestiwn, 'Beth ŷm ni'n craffu?' mewn gwirionedd, oherwydd rŷm ni yn cael ein sugno i mewn i graffu llinell wrth linell, lle yn aml iawn, efallai, dŷn ni ddim yn cymryd y cam yna yn ôl i edrych ar siâp y gyllideb gyfan a sut mae hynny'n cysylltu ag amcanion neu uchelgais polisi'r Llywodraeth. Rwy'n credu bod hwnna yn ffactor canolog o'n gwaith ni fel pwyllgor, a phwyllgorau eraill. A phan soniodd e fod ganddo fe dair blaenoriaeth, roeddwn i'n poeni ei fod e'n mynd i ddweud, 'Blaenau Gwent, Blaenau Gwent a Blaenau Gwent', ond wnaeth e ddim, er clod iddo fe: addysg, trafnidiaeth gyhoeddus a newid hinsawdd. Ac, wrth gwrs, dyna'r pwynt. Hynny yw, bydd gan bob Aelod tair blaenoriaeth wahanol, dwi'n siŵr, fel rŷm ni wedi clywed gan eraill heddiw, a dyna yn union fwriad y ddadl yma, wrth gwrs, sef rhoi llwyfan a rhoi llais i'r blaenoriaethau hynny wrth i'r Llywodraeth ffurfio ei chyllideb.
Mi wnaeth Rhun, Dawn Bowden ac eraill sôn am y tensiwn yma rhwng cyllido gwasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill, a Mike Hedges hefyd yng nghyd-destun gwerth ataliol buddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol neu ofal cymdeithasol yn enwedig. Rŷm ni wedi clywed yng nghyd-destun llywodraeth leol—. Mi ddefnyddiodd Nick Ramsay'r term 'saturation point' a dwi wedi clywed 'tipping point' a 'rŷm ni ar ymyl y dibyn.' Mae'r llinellau yma'n gyson yn cael eu dweud wrthym ni, ond dwi yn meddwl bod yr amser wedi dod i'r Llywodraeth 'front-o' lan i hyn a bod angen gwneud rhywbeth nawr am y sefyllfa.
Mi gododd Mark Reckless bwynt pwysig, dwi'n meddwl, ynglŷn â'r disconnect rhwng ymgysylltu â rhanddeiliaid a'n craffu ni o'r gyllideb. Mae yn anochel, fel oedd e'n ei ddweud, oherwydd ei bod hi'n executive-led process ac efallai bod canfyddiad y cyhoedd yn un sy'n awgrymu eu bod nhw'n meddwl bod gennym ni fwy o ddylanwad efallai nag y byddem ni'n licio, yn sicr. Ond nid dim ond yng nghyd-destun cyllid mae hynny'n wir, wrth gwrs. Dwi'n meddwl bod hynny'n wir ym mhob cyd-destun yn aml iawn: y diffyg gwahaniaethu yma rhwng Llywodraeth Cymru a rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ond eto mae'n tanlinellu, rwy'n credu, yr angen i gryfhau llais Aelodau meinciau cefn ac Aelodau'r Cynulliad yma fel rhan o'r drafodaeth honno.
Dwi'n rhannu'r rhwystredigaeth ynglŷn â'r cylch gwariant un flwyddyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, dyw hynny ddim wedi stopio, os dwi'n iawn, Llywodraeth yr Alban rhag cynnig sicrwydd mwy hirdymor i'w cyrff cyhoeddus nhw, ond dwi yn deall dyw hi ddim yn hawdd gwneud hynny. Ond mae gwneud hynny hefyd yn caniatáu iddyn nhw ddefnyddio'r arian hwnnw yn fwy effeithiol, ac yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae'n rhaid inni wneud i bob punt weithio mor galed ag sy'n bosib.
Diolch i John Griffiths am ein hatgoffa ni ynglŷn ag addysg a'r angen i ariannu ysgolion, eto yng nghyd-destun y gwariant ataliol yma. Yr hyn ŷn ni'n chwilio amdano fe mewn gwirionedd yw'r shifft yma, ontefe, rhyw fath o decisive shift i fuddsoddiad ataliol, ac mae gwasanaethau ieuenctid, wrth gwrs, yn un rhan bwysig iawn o hynny.
Jest i ymateb yn sydyn i rai o sylwadau'r Gweinidog hefyd, mi gawsom ni restr o brojectau: Ynni Ogwen, I CAN ym Mangor, yr RSPB yn Llyn Efyrnwy, Tai Ceredigion ac yn y blaen. Dwi'n teimlo weithiau mai dyna'r perig, ontefe? Hynny yw, mae modd pwyntio at brojectau unigol i amlygu rhywbeth neu'i gilydd, ond dyw e ddim o reidrwydd yn cynrychioli newid systemig yn y ffordd mae'r Llywodraeth yn mynd ati i greu ei chyllideb. Mae hynny'n dod nôl, rwy'n credu, at yr hyn roedd Alun Davies yn ei ddweud: sut allwn ni gryfhau'r cysylltiad yna rhwng llinellau yn y gyllideb ac uchelgais polisi a chanlyniadau polisi'r Llywodraeth? Hynny yw, y gwahaniaeth yma rhwng outputs ac outcomes, ac rwy'n credu mai yn fanna, os lwyddwn ni i ddatrys fel pwyllgor ac fel Cynulliad ac fel Llywodraeth y conundrum yna a chreu'r cyswllt clir yna, yn hytrach na mynd ati i restru projectau, rwy'n credu efallai y byddwn ni wedi cyrraedd y man lle byddwn i'n licio inni gyrraedd.
Felly, gyda hynny o sylwadau, eto, gaf i ddiolch i'r holl Aelodau am gyfrannu? Dwi'n teimlo ein bod ni wedi cael blas ar y math o drafodaeth y dylen ni fod yn ei chael o gwmpas blaenoriaethau cyllidebol Llywodraeth Cymru, ond i wneud hynny yn y blynyddoedd i ddod yn llawer, llawer cynharach yn y broses. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig.