– Senedd Cymru ar 2 Hydref 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ganlyniadau TGAU a safon uwch. Galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7153 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru.
2. Yn gresynu bod canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth na chanlyniadau haf 2007.
3. Yn gresynu ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y dysgwyr sy'n sicrhau graddau TGAU A*-C mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail iaith.
4. Yn nodi bod ymchwil Llywodraeth Cymru wedi canfod bod perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi dirywio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac wrth gwrs, fe gynigiaf y cynnig. Yn gyntaf oll—a gwn y byddwch i gyd yn ymuno â mi yn hyn o beth—a gaf fi longyfarch yr holl fyfyrwyr, athrawon a staff am eu hymroddiad a'u gwaith yn yr arholiadau eleni? Nid yw'r ddadl yn feirniadaeth arnynt hwy. Mae'n ymwneud â dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynglŷn â sut y maent yn gwneud—mae'n ddrwg gennyf, a sut y maent efallai'n ei gwneud hi ychydig yn anos i ni wneud hynny. Gadewch i mi longyfarch pawb a basiodd arholiadau nad ydynt yn rhai safon uwch na TGAU hefyd. Dro ar ôl tro, rydym yn codi yn y Siambr hon ac yn sôn am barch cydradd rhwng cymwysterau academaidd a chymwysterau galwedigaethol, ond mae'r ffocws bob amser ar y cyntaf i raddau helaeth. Felly, gadewch i ni ddechrau gyda hyn fel enghraifft o ansicrwydd wedi'i wisgo fel newyddion da.
Mae gwelliant Llywodraeth Cymru i'n dadl yn llawn o 'beth am', yn union fel y gwnaeth yn nadl y llynedd ar y pwnc, ond mae yna un ystadegyn y mae'n edrych yn debyg y dylem ymfalchïo ynddo, sef y cynnydd cymedrol yn nifer y myfyrwyr sy'n cael graddau A* i C mewn pynciau gwyddonol. Nawr, bydd yr Aelodau'n cofio bod nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU yn y gwyddorau yn cynyddu, yn rhannol oherwydd y pwysau bwriadol ar rai myfyrwyr i newid o wneud BTEC i wneud TGAU, gan fod y cwrs BTEC wedi cyfyngu myfyrwyr i gyrhaeddiad uchaf cyfwerth â gradd C yn y TGAU. Ac eto, nid yw'n bosibl sefydlu faint o'r myfyrwyr a fyddai wedi dechrau cwrs BTEC yn flaenorol a gafodd C neu is yn y TGAU, ac i'r gwrthwyneb, mae Cymwysterau Cymru yn dweud wrthyf nad yw'n bosibl dadansoddi'r ffigurau ar gyfer y rhai a geisiodd am BTEC eleni i weld faint ohonynt a gyrhaeddodd radd gyfwerth ag C. Yn fyr, ar hyn o bryd, ni allwn ddweud a yw symud myfyrwyr o un cymhwyster i'r llall wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i'r safon cyrhaeddiad neu'n wir, a allai parhau ar gwrs BTEC fod wedi bod yn well i fyfyrwyr penodol. Rwy'n codi cwestiwn ynghylch y tuedd penodol hwn i gamarwain ar ddechrau'r ddadl nid yn unig er mwyn tynnu sylw at y modd y cymylir y dyfroedd ynghylch yr hyn sydd, ar yr olwg gyntaf, yn newyddion da, ond i'ch herio chi, Weinidog, ar eich methiant i weithredu ar statws cymwysterau sy'n amlygu cryfderau gwahanol mewn disgyblion.
Yn 2014-15, cafodd 19,775 o ddisgyblion gymhwyster BTEC. Yn 2017-18, sef y ffigur mwyaf diweddar y gallaf ddod o hyd iddo, dim ond 8,425 o ddysgwyr a oedd yn ymgeisio am BTEC. Rwyf am wybod beth y mae hynny'n ei ddweud am eich hyder fel Gweinidog mewn cymwysterau galwedigaethol fel y'u gelwir. Nid oes diben i chi ddweud wrth Nick Ramsay, fel y gwnaethoch yr wythnos diwethaf, fod pob ysgol yn ei ardal yn cynnig nifer briodol o gyrsiau galwedigaethol, pan nad yw eich penderfyniadau wedi gwneud dim i ddarbwyllo rhieni a disgyblion fod cymwysterau galwedigaethol yn werthfawr. Ac nid yw chwyddo ffigurau arholiadau nad ydynt yn rhai cyffredinol ymhellach drwy gynnwys yr her sgiliau o'r fagloriaeth fawr gwell nag ystryw, a chredaf fod angen tynnu sylw at hynny.
Gydag athrawon yn ogystal â rhieni bellach yn edrych ar TGAU a safon uwch fel yr unig safon aur, ceir mwy fyth o berygl y bydd y rhai a allai gyrraedd rhagoriaeth drwy addysg ar gyfer gwahanol alluoedd yn cael eu hamddifadu o lwybrau i gyflawni eu potensial. A beth bynnag, gadewch i ni wynebu'r peth: nid yw chwifio canlyniadau gwyddoniaeth ymddangosiadol ddisglair yn ein hwynebau yn celu'r ffaith fod gostyngiad wedi bod yng nghyfran y dysgwyr a enillodd raddau A* i C mewn Saesneg iaith, mathemateg a Chymraeg ail iaith. Ni allwch fod yn falch o hynny, Weinidog. Dyma'r cymwysterau mynediad at fwy neu lai yr holl gamau nesaf o ran hyfforddiant, gwaith neu addysg bellach ac uwch, a dyna'r union bwynt a godais yn y ddadl ar y cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgolion a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, yn ôl ym mis Gorffennaf. Dyma'r rheoliadau sy'n dileu'r gofyniad i lywodraethwyr ysgolion osod targedau ar gyfer y pynciau hyn a'r angen i adrodd ar ganran y disgyblion sy'n cyflawni'r targedau hyn yn y blynyddoedd cyn TGAU. Nawr, yn anffodus, gan fod yr is-ddeddfwriaeth honno'n rhan o gyfres o newidiadau, ni fyddai wedi gwneud synnwyr i dynnu'r rheoliad hwnnw allan, ond rydych wedi methu'n lân ag ateb y pwynt am natur allweddol y sgiliau allweddol penodol hynny, Weinidog. Dyna pam ein bod wedi cyflwyno pwynt 4 y cynnig.
Efallai fod asesu perfformiad disgyblion ym mlynyddoedd 4 i 9 yn ymwneud â nodi sut i helpu pob disgybl i wella, ac rwy'n deall hynny, ond mae'r sgoriau hynny hefyd yn gweithredu fel rhybudd. Nid yw disgyblion blwyddyn 9 heddiw mewn sefyllfa mor gryf ag yr oedd disgyblion blwyddyn 11 eleni ddwy flynedd yn ôl—nid yn y Saesneg, nid yn y Gymraeg, nid mewn mathemateg, ac nid mewn gwyddoniaeth hyd yn oed. A chofiwch fod canlyniadau blwyddyn 11 eleni yn y meysydd sgiliau allweddol hynny, y cymwysterau allweddol hynny, wedi gostwng eto ers canlyniadau difrifol y llynedd, y rhai gwaethaf mewn 13 mlynedd. A bellach, gan fod llywodraethwyr yn gallu osgoi gosod targedau hyd yn oed ar gyfer y sgiliau allweddol hyn yn gynharach ar daith y disgybl, mae'r cyswllt hwnnw rhwng safonau a'r daith tuag at ganlyniadau arholiadau yn dod yn llai gweladwy, yn llai tryloyw ac yn ddefnyddiol iawn i Lywodraethau allu cuddio newyddion drwg.
Nawr, efallai y bydd yr Aelodau'n pendroni ynghylch pwynt 2 yn ein cynnig a'r cyfeiriad at 2007. Nid yw wedi'i gynnwys ar hap, rwy'n addo i chi. Rwyf newydd dynnu eich sylw at y gostyngiad yn y cyrhaeddiad yn y TGAU pwysicaf eto eleni. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthddadlau yn erbyn hyn yn ei gwelliant, gyda'r honiad fod y canlyniadau yn gyffredinol wedi gwella eleni, ac maent wedi gwneud hynny mewn gwirionedd, gyda chynnydd o tua 1 y cant, ond gan y gwelwyd gostyngiad o tua'r un faint y llynedd, rwy'n tybio mai dim ond yr ail waethaf mewn 13 o flynyddoedd ydynt. Y flwyddyn ddiwethaf y gwelwyd canran yr un fath fwy neu lai yng Nghymru a Lloegr o bobl ifanc yn cyrraedd graddau A* i C oedd 2007. Ac fel y gwelwn yng ngwelliant y Llywodraeth, maent yn hoff iawn o gymharu â Lloegr. Nawr, ers 2007, mae disgyblion yn Lloegr wedi perfformio'n well na disgyblion Cymru bob blwyddyn o ran graddau A* i C yn eu TGAU, er i'r ddwy wlad weld gwelliannau.
Yn 2015, roedd gostyngiad yn y canlyniadau yn Lloegr yn golygu bod y ddwy wlad fwy neu lai yn yr un lle, ac ers hynny, mae'r ddwy wlad wedi diwygio eu TGAU. Fe deimlodd y ddwy yr ymyrraeth, ond dyfalwch beth? Mae perfformiad Lloegr yn sefydlog—mewn gwirionedd, mae'n codi'n gymedrol. Yng Nghymru, rydym wedi gostwng yr holl ffordd yn ôl i'n lefelau yn 2007. Ni allwch ddweud bod y rhain yn arholiadau gwahanol pan fo Lloegr yn amlwg wedi rheoli ei newidiadau heb y niwed i gyrhaeddiad. A gyda llaw, Weinidog, rydych chi'n ddewr iawn i sôn am Ogledd Iwerddon yn eich gwelliant. Rydych chi'n gwybod cystal â minnau fod disgyblion yng Ngogledd Iwerddon wedi perfformio'n ardderchog eto eleni yn eu TGAU, gyda thua 80 y cant yn cyflawni graddau A* i C, ac maent wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd. Pam nad ydym yn edrych yn agosach ar eu system hwy yn hytrach nag un yr Alban, lle mae ysgolion y wladwriaeth bellach yn cynnig llai o bynciau a lle mae canlyniadau'r Highers wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol?
Nawr, mae cymharu canlyniadau yn fy arwain at y pwynt a godwyd yn ail welliant Plaid Cymru, ac mae Cymwysterau Cymru wedi annog yr un gofal wrth gymharu. A gaf fi wahodd yr Aelodau i ystyried hyn? Mae pob bwrdd arholi ym mhob un o'r gwledydd yn gweithio'n galed i sicrhau bod safonau'r her yn eu harholiadau, fel y'i dangosir gan y graddau, yn cyd-fynd yn fras. Felly, yn fyr, dylai C mewn arholiad CBAC fod cystal ag C mewn arholiad AQA. Nid yw'r gwahaniaeth o ran cynnwys yn yr arholiadau hynny at ddibenion sicrhau ansawdd yn bwysig rhwng byrddau, cyn belled â bod cysondeb yn lefel yr her. A does bosibl fod hynny wedi newid. Gall cynnwys ein cymwysterau TGAU newydd fod yn wahanol iawn—efallai eu bod yn profi gwybodaeth wahanol, efallai eu bod yn profi sgiliau gwahanol—ond dylai safon yr her barhau i gymharu, o fewn lwfans gwallau, nid yn unig â safonau gwledydd eraill, ond â safonau ein cymwysterau TGAU blaenorol. Nid yw ein canlyniadau TGAU salach o'u cymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon yn deillio o fod ein harholiadau'n anos na'u rhai hwy. Felly, ni allwch guddio'ch methiant, Weinidog, drwy honni na allwch gymharu'r hyn sydd gennym heddiw â'r hyn sydd wedi mynd o'r blaen. Dylem bob amser allu cymharu safonau o un flwyddyn i'r llall, ac mae data ar gyrhaeddiad yn rhan o'r broses honno.
Yn fyr iawn, i ymdrin â'r gwelliannau eraill—byddwn yn cefnogi gwelliant 3, os cawn gyfle i wneud hynny. Dim ond un cafeat ar drydydd pwynt gwelliant Plaid Cymru: mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud erioed ein bod am i athrawon fod yn rhydd i addysgu, a dyna pam nad ydym yn beirniadu'r cwricwlwm ar hyn o bryd, ond bydd angen i arweinwyr ysgolion wybod y byddwn yn mynnu cael strwythurau atebolrwydd lefel uchel yn gyfnewid am ymddiried ynddynt. Mae hynny filltiroedd i ffwrdd oddi wrth y rheolaeth ymyrrol bresennol, ond ni allwn osgoi ymwneud yn llwyr. Mae gennym Lywodraeth i'w dwyn i gyfrif am ei pherfformiad, heb sôn am fuddiannau dysgwyr, a staff i'w cynrychioli.
Rydym hefyd yn cefnogi gwelliant Plaid Brexit, nid am ein bod yn credu y dylid ailfabwysiadu mesurau atebolrwydd penodol, ond am ei fod yn sôn am duedd. Rwy'n gobeithio bod fy sylwadau cynharach yn egluro ein pryderon ynghylch cynnal a gwella safonau mewn Cymraeg, Saesneg a mathemateg ac yn wir, cyrhaeddiad o ran cymhwyster cyffredinol o'i gymharu â chymhwyster galwedigaethol.
Yn olaf, gwelliant 4. Mae hwn yn dileu rhan o'n cynnig, felly mae arnaf ofn na allwn ei gefnogi, ond mae'n dod o'r un lle. Nid yw hanner ein disgyblion yn cyflawni eu potensial, ar lefel safon uwch, TGAU neu gymwysterau eraill, ond nid ydynt ychwaith yn cyflawni eu potensial o ran eu hunangyflawniad, o ran eu cynnydd economaidd, o ran cyfrannu at y gymdeithas ffyniannus, hyderus, gref a gweithredol y dylid adeiladu ein gwlad arni.
Yn y pen draw, rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am hynny i gyd. Ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur a'r holl flynyddoedd o danariannu o gymharu â Lloegr, gall pawb sydd wedi bod drwy eich system addysg edrych ar eich gwelliant. Gallant weld beth y credwch chi y dylent fod yn ddiolchgar amdano a beth rydych chi'n eu hannog i'w alw'n llwyddiant, ac rwy'n credu o ddifrif fod hynny'n dwyll truenus. Maent yn haeddu ymddiheuriad, fel y mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn amdano. Maent hwy a'u plant yn haeddu Llywodraeth well.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol yn enw—
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau.
Yn croesawu:
a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes;
b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed;
c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf hwn;
d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol;
e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant;
f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Siân.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi canfyddiadau Estyn fod disgyblion sy’n mynychu hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru yn methu â chyrraedd eu llawn botensial erbyn yr amser iddynt adael yr ysgol.
Yn credu fod y berthynas rhwng disgybl ac athro yn allweddol i gyrhaeddiad academaidd a bod yn rhaid ariannu ysgolion yn ddigonol er mwyn codi safonau.
Yn galw am wella amodau gwaith athrawon, gan ddileu biwrocratiaeth ac ymyrraeth diangen, er mwyn cryfhau cyflawniad academaidd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i’n hysgolion ac i symud gwariant tuag at wasanaethau ataliol yn ei chyllideb nesaf, er mwyn creu’r amodau i’n disgyblion a’n hathrawon lwyddo.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ym mhwynt 5, dileu 'i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi' a rhoi yn ei le 'i ymddiheuro nad yw’r gyfundrefn addysg bresennol yn caniatáu i hanner disgyblion ysgol Cymru gyrraedd eu llawn botensial'.
Dwi'n symud y gwelliannau. Diolch. Rhaid imi ddweud roeddwn i'n hynod o siomedig o ddarllen cynnig y Torïaid sydd am ganlyniadau TGAU yr haf yma yn bennaf. Roeddwn i'n fwy siomedig byth o weld gwelliant y Llywodraeth, sydd eto yn canolbwyntio ar ganlyniadau TGAU a safon uwch. Mae cynnig y Torïaid yn rhoi sbin negyddol i'r canlyniadau, ac mae cynnig y Llywodraeth yn rhoi sbin cadarnhaol i'r un canlyniadau. Mae unrhyw un sydd yn ymwneud â'r byd addysg yn gwybod yn iawn na ellir gwneud cymariaethau credadwy, ystyrlon drwy edrych ar un set o ganlyniadau amrwd o un flwyddyn a'u gosod nhw yn erbyn set arall. Fel un sydd wedi bod yn gadeirydd llywodraethwyr, yn aelod cabinet addysg ac yn gadeirydd cyd-bwyllgor GwE, dwi'n gwybod bod hyn yn ffôl ac yn ddi-werth, ac mae pawb yn y sector yn gwybod hynny hefyd.
Mae angen edrych ar gyflawniad dros dreigl amser, ac hyd yn oed o drio gwneud cymariaethau, mae yna gymaint wedi newid ers y flwyddyn mae'r Torïaid wedi dewis, sef 2007. Mae'r manylebau eu hunain wedi newid, mae patrymau mynediad ar gyfer arholiadau wedi newid, mae pa radd sy'n cyfrif tuag at y mesurau perfformiad—ac yn y blaen, ac yn y blaen. Yr hyn sy'n bwysig ydy ein bod ni'n symud i ffwrdd oddi wrth system atebolrwydd sy'n gyrru'r system addysg i gyfeiriadau negyddol o safbwynt dysgwyr—er enghraifft, system sy'n annog canolbwyntio ar y disgyblion hynny sydd ar y ffin rhwng C a D ar draul y rheini sydd uwchlaw neu oddi tani hi, symud i ffwrdd o system sy'n rhoi pwysau ar ddysgwyr i sefyll arholiadau dro ar ôl tro er mwyn cael canlyniadau gwell, neu efallai hyd yn oed peidio â chaniatáu i rai disgyblion sefyll arholiad er mwyn osgoi cael graddau is ac yn y blaen.
Dwi'n gweld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen. Dwi'n gwybod ei bod hi'n cytuno efo hyn; mae angen symud i ffwrdd o system sy'n trin disgyblion fel data yn hytrach na phobl ac yn gwthio ysgolion i weithredu fel ffatrïoedd yn hytrach na sefydliadau addysgol. Ond yn anffodus, dyna'n union mae'r drafodaeth yma yn ei wneud. Mae'n canolbwyntio ar y gwendidau yn y system. Mae angen symud i ffwrdd hefyd o system sydd wedi cynyddu'r llwyth gwaith a straen ar athrawon yn aruthrol ac wedi rhoi pwysau a straen ar ddisgyblion. Dwi'n croesawu'r symudiad gan y Llywodraeth at system lle mae'r pwyslais ar asesu ar gyfer dysgu—hynny yw, asesu sy'n rhoi adborth gwerthfawr i'r athro a'r dysgwr, yn hytrach nag at bwrpas atebolrwydd allanol, ac mae hynny'n gam arwyddocaol a phositif. Dyna pam roeddwn i'n siomedig o weld y trywydd y mae'r gwelliant yn mynd â ni iddo fo.
Mae ein gwelliannau ni yn tanlinellu beth sydd angen ei wneud er mwyn codi safonau. Ydyn, mae disgyblion yn gadael hanner ysgolion uwchradd Cymru heb gyrraedd eu llawn botensial. Oes, mae angen newidiadau ar frys. Dyna'r ffaith nad oes yna ddim ffordd o roi sbin arno fo. Dyna sydd eisiau inni hoelio sylw arno fo. Y newid mwyaf sydd ei angen er mwyn codi safonau yw sicrhau lefelau cyllido digonol, sy'n caniatáu lefelau staffio priodol, sy'n sicrhau y caiff disgyblion gefnogaeth ychwanegol ac ymyraethau ataliol yn ôl yr angen.
Mi ges i lythyr gan gorff llywodraethwyr un o ysgolion uwchradd Gwynedd ddoe diwethaf. Dyma ichi gri o'r galon. Dwi'n mynd i ddyfynnu o'r llythyr achos mae o'n dweud yn lot gwell na fedraf i beth yw'r broblem: 'Ysgrifennaf i fynegi ein pryderon dwfn ac anfodlonrwydd am gyllid annigonol parhaus i ysgolion. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng cyllido hwn. Credwn fod yn rhaid cael newid ar fyrder a rhoi cyllid priodol sydd ei angen ar ein hysgolion, gweithwyr addysg proffesiynol a disgyblion. Mae dyfodol ein plant yn y fantol. Un cyfle sydd gan ddisgyblion i fynd drwy'r system addysg, a thrwy dorri cyllid mae'r Llywodraeth yn methu ein disgyblion. Golyga toriadau ariannol dros y blynyddoedd fod staff wedi colli eu swyddi, ac mae'n debyg y bydd angen torri mwy yn y dyfodol. Mae effaith diswyddiadau yn golygu llwyth gwaith cynyddol ar ein staff presennol, ac effeithiau eraill cyllid annigonol yw bod llai o adnoddau i'r disgyblion, llai o ddewis mewn pynciau ysgol, meintiau dosbarth mwy, llai o gefnogaeth ychwanegol i blant sydd ei hangen, llai o gefnogaeth i deuluoedd a rhieni, a llai o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi. Ni all hyn barhau, a ni allwn adael i hyn fynd heb ei herio.'
Mae'r llythyr yn egluro'r sefyllfa yn glir iawn. Felly, cefnogwch welliannau Plaid Cymru. Peidiwch â chael eich tynnu i mewn i drafodaeth am ganlyniadau TGAU. Wynebwch y realiti a rhowch mwy o gyllid i'n hysgolion ni.
Diolch. Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones.
Rwy'n cynnig gwelliant 5, a gyflwynwyd gan Caroline Jones, yn ffurfiol. Rwyf am longyfarch Suzy Davies ar agor y ddadl hon, a Siân ar ei haraith yn awr. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae Siân Gwenllian yn ei ddweud am yr angen am fwy o gyllid. Rwy'n credu bod y Gweinidog cyllid yma gyda ni a bod cyllideb ar y ffordd, a chawsom gynnydd sylweddol wedi'i gyhoeddi yn y gwariant ar addysg yn Lloegr, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld hynny'n dod drwodd i Gymru hefyd, ac yn arbennig, y byddwn yn gweld pobl a allai fod yn ystyried dod i mewn i'r proffesiwn—y bydd cyflogau cychwynnol a chynnydd yn cael eu codi.
Cydymdeimlaf hefyd â'r hyn a ddywedodd Siân am yr angen am gymariaethau amlflwydd ystyrlon a chredadwy. Rwy'n credu bod y ddadl hon braidd yn anodd o ran y cynnig gan y Ceidwadwyr a'r gwelliant gan y Llywodraeth. Mae llawer o ddewis a dethol pethau gwahanol iawn er mwyn gwneud i'r Llywodraeth edrych yn wael neu'n dda, ac nid wyf yn credu ei fod yn ein helpu mewn gwirionedd i asesu sut y mae'r duedd wedi bod yn datblygu.
Yn fy marn i, mae'n drueni, yng nghynnig y Ceidwadwyr—. Fe wnaeth Suzy ei ddweud yn ei haraith, ac rwy'n canmol hynny, ond yn ogystal â nodi'r canlyniadau, credaf y dylem longyfarch y dysgwyr dan sylw. Rwy'n credu y byddai wedi bod yn dda pe bai hynny wedi'i gynnwys yn y cynnig, ond fe gafodd ei ddweud. Y gofid fod yr arholiadau TGAU yn waeth na haf 2007—roeddwn yn credu bod hynny'n rhyfedd iawn pan ddarllenais y cynnig. Nid oeddwn yn deall beth oedd y pwynt y ceisiai'r Ceidwadwyr ei wneud. Os mai'r canlyniadau yw'r rhai gwaethaf ond am un flwyddyn ers 2007, fel y mae Siân yn dweud—neu ai Suzy a'i dywedodd—buaswn wedi meddwl mai dyna fyddai'r pwynt i'w bwysleisio yn y cynnig, yn hytrach na dim ond y pwynt nad ydynt cystal â'r rhai yn 2007.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Byddai'n bleser gennyf, Suzy.
Y rheswm y dewiswyd 2007 oedd ei fod ar adeg pan oedd modd cymharu'r canlyniadau yng Nghymru a Lloegr. Euthum ymlaen i ddweud yn fy nghyfraniad, er bod y ddwy wlad wedi gwella dros y cyfnod hwnnw mewn gwirionedd, tan eleni mae Lloegr wedi gwneud yn well na Chymru. Ond eleni, mae Cymru wedi dychwelyd i'r man cychwyn hwnnw.
Credaf mai dyna'r duedd graidd. Cytunaf â chi ac, yn fras, â'r hyn y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei wthio yn y maes hwnnw—yn y maes addysg yng Nghymru, mae hi'n ymddangos bod y canlyniadau wedi gwaethygu'n sylweddol dros ystod y cyfnod hwnnw, a dyna oedd y duedd fwyaf. Os oes rhywfaint o welliant eleni, credaf y dylem gydnabod hynny, ond credaf mai'r duedd yw'r prif fater o hyd.
Gyda Chymraeg ail iaith, nid wyf am ofyn am ymyriad arall, ond Cymraeg ail iaith—a yw hwnnw yr un fath â'r cwrs byr mewn Cymraeg? Oherwydd fy nealltwriaeth i oedd ein bod yn symud oddi wrth—[Torri ar draws.] Maent yn ddau beth gwahanol. Ceisiaf ddeall hynny'n gliriach. Ond rydym yn gweld newidiadau sylweddol yn y maes hwn sy'n ei gwneud hi'n anos inni wneud y cymariaethau y ceisiwn eu gwneud yn y cynnig hwn.
Felly, rydym yn nodi ymchwil Llywodraeth Cymru ynghylch dangosyddion allweddol. Mewn rhai ffyrdd mae'n dda clywed bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywfaint o ymchwil, yn enwedig os yw'n cael ei chyhoeddi, ond ni ddylai fod cymaint o angen amdani, oherwydd dylem gael data cymaradwy wedi'i gyhoeddi y gall pawb ohonom ei ddeall mewn ffordd gyson. Rwyf wedi siarad o'r blaen â'r Ysgrifennydd addysg yn y Siambr ac mewn mannau eraill ynglŷn â fy mhryderon ynghylch peidio â chyhoeddi ystadegau cymaradwy o ansawdd. Canolbwyntiais ar 2014-17 pan ddywedwyd wrthyf, mewn gwirionedd, fod Estyn yn cyhoeddi'r canlyniadau hyn ar arolygiadau ysgolion, ac roeddwn yn falch o weld hynny, ond mae hynny bellach wedi dod i ben, ac nid wyf yn deall pam. Roeddwn yn siomedig hefyd o weld y mesur lefel 2 cynhwysol yn cael ei dynnu i ffwrdd fel gofyniad, a'r ysgolion yn gallu gosod eu targedau a'u mesurau eu hunain, ac yn ofni y byddai hynny'n arwain at eu gweld yn marcio eu gwaith cartref eu hunain heb allu cymharu mewn modd dibynadwy. Ond rwyf am ymwneud â hyn yn synhwyrol drwy wneud y pwyntiau hyn. Nid wyf yn dadlau y dylid cael marchnad breifat yn y maes addysg. Nid wyf yn dweud na ddylai ysgolion gydweithredu a gweithio gyda'i gilydd, ond rwy'n credu ein bod angen data clir, dibynadwy, wedi'i gyhoeddi, data y gellir ymddiried ynddo, ynglŷn â pha mor dda y mae ysgolion yn gwneud er mwyn helpu i hybu gwelliant.
Yn olaf, ar gynnig y Ceidwadwyr, roeddwn yn meddwl eu bod yn obeithiol braidd i ddisgwyl i'r Llywodraeth ymddiheuro i bob disgybl am eu siomi, ond credaf ei fod yn gywir i nodi nad ydym wedi gweld gwelliannau sylweddol. Ond mae'n waeth na hynny—gwelsom duedd waethygol sylweddol hyd yn oed os cafwyd rhywfaint o welliant eleni. Un peth yr hoffwn longyfarch y Llywodraeth arno yn ei chynnig yw pwynt (b), sy'n ymddangos yn drawiadol iawn i mi, os yw Cymru yn wir wedi dod yn gyntaf o ran canlyniadau A* yn y safon uwch. Mae hwnnw'n gryn dipyn o gyflawniad. Nid wyf yn gwybod sut y mae pethau gyda byrddau arholi—efallai fod gennym fyrddau arholi a allai fod yn wahanol; nid wyf yn gwybod a yw hynny'n digwydd neu a oes ffactorau eraill—ond ar yr wyneb, mae hyn yn drawiadol a hoffwn longyfarch y Llywodraeth arno, ar ei thelerau cul ei hun o leiaf. Tybed a yw'r rhaglen Seren y siaradais innau amdani yn eithaf aml hefyd—a ellir cysylltu'r ddau beth hynny mewn unrhyw ffordd? Rwy'n sicr yn awyddus iawn i weld pen uchaf y maes cyrhaeddiad yn cael ei ymestyn ac yn cael cyfle go iawn i gyflawni. Ond yn gyffredinol, hoffem weld cymariaethau cliriach a gwell i sicrhau atebolrwydd priodol i ysgolion, nid ar gyfer cyflwyno marchnad, ond er mwyn gwella safonau. Nid wyf yn credu ei bod o fudd i ni ei ddisgrifio yn y ffordd honno, ac edrychaf ymlaen at glywed beth sydd gan y Gweinidog Addysg i'w ddweud mewn ymateb.
Addysg yw'r allwedd i lwyddiant ym mywyd rhywun, ac mae athrawon yn cael effaith barhaol ar fywydau eu myfyrwyr. Addysg yw'r pasbort i'r dyfodol, sy’n galluogi ein pobl ifanc i gyrraedd ac i gyflawni eu potensial llawn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â’n pobl ifanc o ran cyflawni hynny.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, nid yw canlyniadau TGAU wedi gwella. Mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yng nghanlyniadau a thablau rhyngwladol PISA a'r canlyniadau allweddol megis graddau TGAU A* i C. Mae'n frawychus fod y canlyniadau TGAU yn waeth na’r hyn oeddent yn 2007. Hefyd, mae canlyniadau cyfnod allweddol 2 a 3 wedi gwaethygu am y tro cyntaf er 2007. Mae'r dirywiad hwn mewn safonau addysgol yn gosod rhwystr yn ffordd disgyblion, gan gyfyngu ar eu henillion posibl, ac effeithio ar eu bywydau a'u gyrfaoedd. Dengys ymchwil fod buddsoddiad mewn sgiliau mathemateg a Saesneg yn darparu enillion cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Mae dysgwyr sydd wedi cyflawni cymwysterau Saesneg a mathemateg yn sicrhau premiwm enillion sy’n amrywio rhwng 5 y cant ac 8 y cant.
Fodd bynnag, dywed adroddiad blynyddol Estyn fod y ddarpariaeth ar gyfer datblygu llythrennedd disgyblion, yn enwedig ysgrifennu, a rhifedd ar draws y cwricwlwm yn anghyson yn hanner yr ysgolion. Aethant ymlaen i ddweud bod rhy ychydig o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau'n gynyddol mewn cyd-destunau dilys. At hynny, nid oes gan athrawon afael cadarn ar sut i sicrhau bod eu darpariaeth sgiliau'n briodol ac yn arwain at gynnydd. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi nodi na allai bron i 45 y cant o’r rhai sy’n gadael ysgol yng Nghymru gyflawni pum canlyniad TGAU da rhwng 2015 a 2020. Mae’r diffygion hyn yn y safonau addysg yn trosi’n gyfleoedd cyflogaeth gwael. Cymru sydd â'r cyflog isaf o bob un o 12 rhanbarth y Deyrnas Unedig. Mae cyflogau yng Nghymru £60 yn llai na chyfartaledd y DU. Roedd 36 y cant o weithwyr yng Nghymru mewn swyddi sgiliau isel yn 2018-19, o gymharu â chyfartaledd y DU o 32 y cant. Nid oes sgiliau darllen angenrheidiol i allu gweithredu yn y gweithlu gan dros un rhan o bump o fyfyrwyr Cymru. Heb gynnydd digonol yn y meysydd hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fethu rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ein pobl i sicrhau’r gobaith gorau posibl o gael dyfodol diogel.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i ddiogelu cyllid ysgolion, ac eto mae ffigurau diweddaraf Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn amcangyfrif bod y bwlch cyllido rhwng disgyblion yng Nghymru a Lloegr yn £645, sy’n ffigur syfrdanol. Nid yw cyllid ysgolion wedi'i ddiogelu. Rhwng 2010-11 a 2018-19 mae cyllid ysgolion wedi gostwng bron i 8 y cant mewn termau real. Mae cyllid ychwanegol i addysg yn Lloegr wedi arwain at £1.25 biliwn yn ychwanegol i Gymru dros y tair blynedd nesaf. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fynd i'r afael â thanariannu hanesyddol i ysgolion. Rhaid gwrthdroi'r safon sy'n dirywio, Ddirprwy Lywydd, os nad ydym am wneud cam â chenedlaethau'r dyfodol o ddisgyblion. Mae dywediad enwog iawn gan Benjamin Franklin, un o Arlywyddion America, yn dweud mai ‘Buddsoddi mewn gwybodaeth sy’n talu’r elw gorau.’ Mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru sicrhau’r buddsoddiad hwn yng Nghymru. Diolch.
Rydym mewn perygl o gymharu afalau a gellyg. Yn fy etholaeth i, yn yr ysgolion uwchradd sy'n gwasanaethu fy mhobl ifanc: cafodd 65 y cant o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanisien bum gradd A i C gan gynnwys iaith a mathemateg; 76 y cant yn Ysgol Bro Edern; 86 y cant yn Ysgol Uwchradd Caerdydd. Felly, pa un a wnaeth orau? Wel, yn arwynebol, Ysgol Uwchradd Caerdydd, ond pa gyfran o'r ysgol hon sydd ag anghenion addysgol arbennig? Sawl un sy’n cael cinio ysgol am ddim? Wel, llawer is na'r cyfartaledd yw'r ateb. Felly, rwyf am ganolbwyntio ychydig ar gyflawniadau ysgol lle rwy'n llywodraethwr, sef Teilo Sant, lle cafodd 61 y cant o’r disgyblion bum TGAU gan gynnwys iaith a mathemateg, a dim ond 1 y cant yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol yw hynny. A hyn mewn ysgol sydd â dros un o bob pum disgybl yn cael prydau ysgol am ddim, mae gan 3.5 y cant o blant ddatganiad o angen addysgol arbennig, ac mae 3.5 y cant yn ddisgyblion sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, sef y lefel uchaf yng Nghymru. Felly, o gymharu tebyg â thebyg, mae’r ysgol yn perfformio’n well na phob ysgol arall ond un yn ei theulu ysgolion, sef y grŵp meincnodi 20 y cant i 30 y cant o brydau ysgol am ddim. A dyma lle y dylem fod yn gwneud y cymariaethau hyn. Mae'n ymwneud ag i ba raddau y mae ysgolion o natur debyg yn gwneud cystal ag ysgolion eraill sy'n wynebu rhai o'r heriau y gwyddom fod pobl ifanc yn eu hwynebu, sy'n effeithio ar eu haddysg, ac yn amlwg, mae tlodi yn un ohonynt.
Felly, credaf fod Teilo Sant yn gwneud yn wych, oherwydd eu bod wedi cynyddu eu perfformiad bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf ar gyfer plant sy’n cael prydau ysgol am ddim, ac ar hyn o bryd maent ar 36 y cant, sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd yn y teulu ysgolion y maent ynddo. Ac wrth edrych i'r dyfodol, yr haf hwn, cafodd dwy ran o dair o'r plant ym mlwyddyn 10 sy'n cael prydau ysgol am ddim radd C neu uwch mewn llenyddiaeth Saesneg, sy'n golygu nad oedd bwlch yn y perfformiad rhwng y disgyblion mwyaf cefnog a’r disgyblion lleiaf cefnog. Mae hynny, rwy’n meddwl, yn gyflawniad go iawn, a diolch i’r disgyblion a’r athrawon yn Teilo Sant am y perfformiad gwych hwnnw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Jenny?
Gwnaf.
Rwy'n credu bod lle i longyfarch Ysgol Teilo Sant—mae hynny'n newyddion rhagorol. A allwch chi egluro felly pam fod nifer y graddau A i C yn gyffredinol ledled Cymru, yn enwedig yn y pynciau allweddol, wedi gostwng, os yw ysgolion fel Teilo Sant yn codi’r cyfartaledd mewn gwirionedd?
Rwy'n credu bod angen i ni glywed gan y Gweinidog Addysg. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod wedi gosod yr hyn a elwir yn feincnod lefel 2 ac uwch—fod angen i bob disgybl gyflawni pum TGAU lle bo hynny'n bosibl, gan gynnwys iaith a mathemateg. Credaf fod hynny'n hollol iawn. Yn y blynyddoedd a fu, pan nad dyna oedd y meincnod hwnnw’n bodoli, gallwch weld sut y rhoddwyd llai o sylw ar iaith a mathemateg. Rwy'n credu ei bod hi'n hollol iawn ein bod ni bellach yn gosod y pwyslais hwnnw. Felly, credaf mai dyna un o'r ffyrdd y sicrhawn fod pobl ifanc, lle bo hynny'n bosibl, yn cyflawni'r hyn y credwn sydd ei angen arnynt i wneud eu ffordd yn y byd.
Ond nid wyf yn deall pam y mae'r Blaid Geidwadol wedi cyflwyno'r cynnig yn y ffordd y gwnaethant. Nid wyf yn deall beth sydd mor bwysig am 2007. I mi, mae’n bwysig iawn am bob math o resymau, ond dim i'w wneud â chanlyniadau'r arholiadau. Beth oedd mor arwyddocaol am 2007? Fel y soniodd Siân Gwenllian eisoes, mae pethau wedi newid yn aruthrol yn y cyfnod hwnnw, ac rydym mewn perygl, fel rwy’n dweud, o gymharu afalau a gellyg.
Felly, credaf ein bod wedi gweld cyflawniadau gwirioneddol sylweddol gan ddisgyblion Cymru ac mae gwir angen i ni eu dathlu. Mae'r niferoedd sy'n cyflawni'r pum gradd A i C, gan gynnwys iaith a mathemateg, wedi codi, ac mae hynny'n wych, ac mae'r gyfradd sy’n cael A* ac A wedi aros yn sefydlog. Fel y mae Suzy Davies wedi cydnabod, mae'r perfformiad mewn gwyddoniaeth yn parhau i wella, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig, oherwydd fel arall bydd ein dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r byd yn gweithio yn llawer anos.
Felly, wrth edrych ar y canlyniadau safon uwch yn unig, mae Cymru’n perfformio'n well na gweddill y DU, ac mae'n ymddangos nad yw'r Ceidwadwyr yn crybwyll hyn. Felly, ni sydd ar y brig bellach ar gyfer A*, o gymharu â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae hynny'n wirioneddol dda. Felly, pam nad ydym yn dathlu hynny?
Credaf mai rhai o'r pethau y mae'n rhaid i ni eu hystyried os ydym am roi mwy o arian tuag at addysg, yw o ble y daw'r arian hwnnw, o gofio ein bod yn parhau i fod â llai o arian i'w wario nag a oedd gennym yn 2010. Felly, a yw'n mynd i ddod oddi wrth iechyd? A yw'r gwrthbleidiau'n mynd i ddweud, 'Oes, mae angen i ni fynd ag arian oddi wrth iechyd'—sef lle y gwerir hanner y gyllideb ar hyn o bryd—'a'i roi i addysg'? Dewch inni gael y ddadl honno. Rwy'n hapus iawn i gael y ddadl honno. Ond mae dweud yn syml, 'Mae'n rhaid i ni wario mwy o arian ar hyn', heb nodi o lle byddwn yn ei gymryd, o gofio nad oes gennym gyllideb gynyddol, yn rhywbeth y mae angen i ni gael trafodaeth aeddfed yn ei gylch.
Rwy’n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Yn dilyn canlyniadau arholiadau’r haf, roedd canmoliaeth haeddiannol i ddysgwyr Cymru a oedd wedi gweithio’n galed i gyflawni eu graddau o dan bwysau sylweddol yn sgil setliadau cyllido gwael a diwygiadau pwysig. Mae pawb ohonom wedi bod yno ein hunain fel dysgwyr, gall y pwysau fod yn llethol, a gall yr ofn a'r pryder a ddaw yn sgil cael eich canlyniadau arholiadau fod yn enfawr.
Yn fy etholaeth i, gwelwyd perfformiad cryf iawn yn Ysgol y Preseli ar gyfer graddau A* i A, ac rwy'n falch o ddweud ei fod yn sylweddol uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Fodd bynnag, ni welwyd gwelliannau ym mhob ysgol yn sir Benfro, ac er fy mod yn deall bod gwelliannau wedi'u gwneud mewn sawl ysgol ledled y sir o ran cyflawni graddau A* i C, mae Cyngor Sir Penfro wedi dweud yn glir fod angen gwaith pellach o hyd i gefnogi Ysgol Aberdaugleddau ac ysgol uwchradd Hwlffordd.
Wrth gwrs, ar y cam hwn, mae'r canlyniadau'n dal i fod yn rhai dros dro ar lefel ysgol yn unig, a gallent newid. Fodd bynnag, hyd yn oed ar y cam cynnar hwn, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud wrthym pa ymyriadau uniongyrchol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio, i weithio gydag ysgolion unigol er mwyn archwilio ffyrdd y gallant wella safonau. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno nad oes un dull sy'n addas i bawb o wella safonau addysg yng Nghymru ac efallai y bydd y gefnogaeth sydd ei hangen mewn un ysgol yn wahanol iawn i un arall. Felly, rwy'n credu ei bod yn amlwg y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i ddatblygu dull mwy pwrpasol o weithio gydag ysgolion ledled Cymru fel bod y pecyn cymorth a gynigir wedi'i deilwra i'r ysgol unigol.
Wrth gwrs, ceir llu o resymau pam nad yw rhai o'n dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn. Yn ôl NASUWT, un o'r rhesymau yw’r angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r bwlch cyllido parhaus rhyngddynt ag ysgolion yn Lloegr a llwyth gwaith cynyddol athrawon ac arweinwyr ysgolion. Rydym i gyd yn gwybod bod y bwlch cyllido sy'n wynebu ysgolion ledled Cymru yn golygu bod diffyg adnoddau i'n darparwyr addysg ac mae hynny, yn ddealladwy, yn tanseilio gallu ysgolion i sicrhau'r safonau addysg gorau posibl. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gyllid ysgolion, a ganfu y bydd y bwlch cyllideb ysgolion o £109 miliwn yn 2019-20 yn codi i £319 miliwn yn 2022-23 ac y bydd o leiaf hanner holl ysgolion uwchradd Cymru yn wynebu diffyg. Ac mae'r ffigur hwnnw'n codi.
Mae ysgolion ledled Cymru yn iawn i ddweud bod anhawster gwirioneddol i gynnal a gwella safonau yn erbyn cefndir o bwysau cynyddol ar adnoddau. Wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw, nododd Cymdeithas y Prifathrawon Uwchradd yn sir Benfro yn glir fod ysgolion uwchradd yn lleihau nifer y staff addysgu, gan leihau ehangder y cwricwlwm a gynigir, yn rhannol yng nghamau allweddol 4 a 5. Dywedasant hefyd fod angen cynyddu nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau er mwyn galluogi llai o athrawon i gyflawni'r cwricwlwm. Aethant ymlaen i ddweud y bydd llai o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth, a fydd yn cynyddu llwyth gwaith yr aelodau staff hynny ac yn lleihau eu capasiti i ganolbwyntio ar wella perfformiad ysgolion. Rwy'n siŵr nad yw'r Gweinidog dan unrhyw gamargraff mai dim ond ysgolion uwchradd sir Benfro sy'n gorfod cymryd y camau hyn, ac felly mae'n hanfodol fod mater cyllido ysgolion yn cael sylw er mwyn sicrhau bod gan ysgolion adnoddau llawn a'r offer gorau i ddarparu ar gyfer ein dysgwyr.
Fodd bynnag, dim ond un rhan o’r darlun yw cyllid ysgolion, a gwyddom fod canlyniadau Cymru yn 2019 wedi'u gosod yn erbyn cefndir o ddiwygiadau sylweddol i'r cwricwlwm. Ym mis Ionawr, cyn i'r cwricwlwm drafft gael ei gyhoeddi, cyfaddefodd pennaeth blaenorol Cymwysterau Cymru y gallai'r cwricwlwm newydd olygu diwedd ar TGAU yn y tymor hwy a mwy o ddiwygiadau yn y tymor byr. Mae’n dal i fod angen trafod sut, neu i ba raddau, y bydd y cymwysterau hynny'n newid, ond afraid dweud bod hynny wedi wynebu gwrthwynebiad gan rai yn y proffesiwn addysg. Er enghraifft, mae'r Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau wedi dweud yn glir iawn, ac rwy’n dyfynnu, mae’n bwysig deall bod y canlyniadau hyn yn dod ar adeg o newid enfawr yn system addysg Cymru, sydd wedi cynnwys ailwampio enfawr ar y manylebau TGAU.
Aethant ymlaen i ddweud mae'n hanfodol cael hyn yn iawn fel ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i weithredu’r diwygiadau hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol sydd yn yr arfaeth ar gyfer cwricwlwm Cymru dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Gan symud ymlaen, mae'r Gweinidog wedi ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac efallai y gall fanteisio ar y cyfle y prynhawn yma i ddweud ychydig mwy wrthym am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.
Ddirprwy Lywydd, wrth wraidd y ddadl hon y mae'r awydd i weld ysgolion Cymru’n ffynnu a'i dysgwyr yn cyrraedd eu potensial llawn. O ran fy etholaeth fy hun, lle mae ysgolion wedi cael cefnogaeth sylweddol, fe welwyd gwelliant ac mae hynny i'w groesawu. Ond fe ellir ac fe ddylid gwneud mwy i sicrhau bod safonau'n gwella mewn ysgolion ledled Cymru fel bod ein dysgwyr yn gorffen eu taith addysg wedi’u harfogi â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt yn y byd modern. Felly, wrth gloi Ddirprwy Lywydd, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth i rai o'r pryderon a godwyd gan y sector addysg ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Rwyf innau hefyd yn falch o gyfrannu at y ddadl bwysig hon y prynhawn yma—pwysig, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na thrafod addysg? Beth allai fod yn bwysicach na dyfodol ein pobl ifanc? Nid y canlyniadau y buom yn siarad amdanynt y prynhawn yma yw’r cyfan sy’n bwysig mewn addysg, ond maent yn ddangosydd allweddol o ble rydym arni fel gwlad o ran addysgu ein pobl ifanc, ac yn fodd o fesur ar hyd y ffordd i ble yr hoffem fod.
Mae Aelodau eraill wedi sôn am lawer o'r pethau yr oeddwn am sôn amdanynt, felly nid wyf am eu hailadrodd. Mae Paul Davies wedi sôn am sir Benfro a’r canlyniadau yno; yn sir Fynwy, hoffwn longyfarch y disgyblion ledled sir Fynwy a weithiodd mor galed, a'u hathrawon a weithiodd yn galed a chael canlyniadau da. Gwn fod y Gweinidog, o'ch ateb blaenorol, yn Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni ar ddiwrnod y canlyniadau, rwy'n credu, felly fe allech chi weld y llawenydd drosoch eich hun. Mae pawb ohonom yn cofio pan oeddem yn y sefyllfa honno, yn agor ein canlyniadau, ac mae'n gyfnod yn eich bywyd na ddaw byth yn ôl, ond rwy'n falch fod y Gweinidog yn fy etholaeth ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Rhaid i mi ddweud—a soniodd Siân Gwenllian am hyn yn gynharach—o ran gwelliant y Llywodraeth, cefais fy siomi gan y gwelliant hwnnw. Mae'n tynnu sylw at ystadegau diddorol, ond mae'n gwneud i bethau ymddangos fel pe bai popeth yn fêl i gyd, ac nid wyf yn credu ei fod yn adlewyrchu'r gwir ddyhead mewn ysgolion ymhlith y disgyblion, athrawon a thu hwnt i ddiwygio a chamu ymlaen a chodi safonau. A bydd lle bob amser i godi safonau, ni waeth pa mor dda yw pethau yn ôl y Llywodraeth, neu pa mor dda yw'r canfyddiad ohonynt. Yn y pen draw, yn enwedig wrth inni nesáu at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Cymru a'r DU yn mynd i orfod cystadlu'n gynyddol ar lwyfan y byd a rhaid inni barhau i fod cystal â gwledydd eraill sy'n gweld eu safonau addysgol yn codi, a rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd bob yn gam â hynny.
Hoffwn ategu geiriau Paul Davies yn gynharach fod rhai ysgolion wedi gwneud yn dda iawn, ond beth am yr ysgolion nad ydynt wedi gwneud cystal? Mae'n bwysig fod arferion da'n cael eu lledaenu o'r ysgolion da i'r ysgolion llai cefnog, a byddai'n dda gweld ailddatganiad, ailwerthusiad, o strategaeth Llywodraeth Cymru o sut y mae'r Gweinidog yn gweld hynny'n datblygu a sut y gellir lledaenu arferion da, gan fod yna waith y gellir ei wneud ar hynny bob amser.
Mae cyllid wedi'i grybwyll a gwyddom y bydd cylch gwariant diweddar Llywodraeth y DU yn darparu swm ychwanegol o arian—£1.24 biliwn—i ddod i Gymru o ganlyniad i fuddsoddiad ychwanegol mewn ysgolion yn Lloegr. Credaf mai Jenny Rathbone a grybwyllodd o ble y daw'r arian hwn a gadewch inni gael dadl ynglŷn â sut y rhannwn y gacen yng Nghymru. Wel, o'r gorau, efallai nad yw'n bopeth, ond mae swm da iawn o arian yn mynd i ddod i Gymru, felly mae angen inni gael dadl ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwnnw. A gadewch i ni sicrhau bod yr arian yn mynd i reng flaen y gwasanaethau cyhoeddus ac nad yw'n cael ei ailgyfeirio i feysydd eraill. Rhaid iddo fynd i'r rheng flaen ym maes addysg. Wrth gwrs, nid arian yw'r ateb cyfan—mae'r Gweinidog wedi gwneud y pwynt hwn yn y gorffennol—a chredaf ein bod yn rhy aml yn gallu rhoi'r argraff, os ydym yn taflu arian at rywbeth, fod hynny'n mynd i'w ddatrys. Ond dim ond hanner yr ateb yw arian wrth gwrs, ac yn wir mae NASUWT, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Paul Davies, wedi dweud bod y bwlch ariannu'n £645 y disgybl. Rwy'n gwybod bod rhai wedi anghytuno â hynny mewn rhai cylchoedd, ond dyna farn NASUWT a beth bynnag yw'r bwlch cyllido, mae'n bwysig ein bod yn ceisio ei gau.
Rydym yn croesawu'r gwelliant a fu yn y canlyniadau TGAU a safon uwch ers 2018. Roeddwn yn mynd i sôn am y flwyddyn 2007, ond achosodd gymaint o bryder yn gynharach. Eglurodd Suzy Davies pam fod 2007 wedi'i defnyddio, sef oherwydd mai dyma'r dyddiad olaf y gellir cymharu'r setiau data. Felly, dyna pam y pennwyd y dyddiad hwnnw. Ond os ewch chi'n ôl i'r llynedd, mae gwelliant wedi bod. Os ewch chi'n ôl ymhellach, mae'r canlyniadau'n llai clir. Felly, y tu ôl i'r ystadegau a ddyfynnwyd y prynhawn yma, credaf fod rhaid i ni gofio ei fod yn ymwneud â mwy nag ystadegau; mae pobl, pobl ifanc, bodau dynol y tu ôl i'r ystadegau. Mae'r dyfodol y tu ôl i'r ystadegau hynny. Oherwydd pan fyddwch yn rhoi arian i addysg ac yn cynllunio eich strategaeth addysg, yr hyn a wnewch mewn gwirionedd yw adeiladu dyfodol y wlad hon. Ac mae pawb ohonom eisiau gweld yn y Siambr hon—. Credaf ein bod i gyd yn unfryd ein bod am weld gwelliant yn y safonau heddiw fel y gall Cymru wneud hyd yn oed yn well ar lwyfan y byd yn y dyfodol, ac fel y gall pob un ohonom fwrw ymlaen â'r gwaith o adeiladu dyfodol mwy disglair i'n pobl ifanc a dyfodol mwy disglair i Gymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn ôl ym mis Awst, cefais y fraint o ddathlu canlyniadau arholiadau gyda'r dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd ar ddiwrnod safon uwch, ac fel y dywedodd Nick Ramsay gynnau, gyda'r disgyblion yn Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn y Fenni ar ddiwrnod TGAU—diwrnod pan oedd yr ysgol honno'n dathlu ei set orau erioed o ganlyniadau TGAU. Ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod ar draws y Siambr yn dymuno llongyfarch dysgwyr ar draws ein gwlad am y cyflawniadau aruthrol a manteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n hathrawon ac i'w canmol am eu gwaith caled, yn enwedig y rhai sydd wedi gweithio mor ddiflino i addasu i newidiadau wrth gyflwyno cymwysterau TGAU newydd. Rwy'n falch iawn fod Jenny Rathbone wedi sôn am Teilo Sant yn ei hetholaeth ac Ysgol y Preseli yn etholaeth Paul Davies—cefais y fraint o ymweld â'r ddwy ysgol ac mae'n wych eu gweld yn parhau i wneud mor dda.
Ond rhaid i mi gyfaddef, Ddirprwy Lywydd, fy mod wedi meddwl tybed a oedd y Ceidwadwyr yn edrych ar y set gywir o ganlyniadau'r haf wrth ddrafftio'u cynnig, oherwydd credaf eu bod wedi manteisio ar y cyfle i ddibrisio cyflawniadau ein dysgwyr eleni. Gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn ymuno â mi yn lle hynny i groesawu cyflawniad gwell nag erioed ar y graddau uchaf yn y safon uwch, gyda 9 y cant o'r graddau a ddyfarnwyd yn A*, mwy na chwarter yn A*/A, a mwy na thri chwarter yn A* i C. Gobeithio y byddant hefyd yn croesawu'r ffaith bod Cymru bellach yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran cyflawni graddau A*, ac mae'r canlyniadau hynny'n gynnyrch blynyddoedd lawer o waith caled gan ddysgwyr ac athrawon, a dylid eu cydnabod.
Gofynnodd Mark Reckless a allwn briodoli peth o'r llwyddiant hwnnw i rwydwaith Seren. Wrth gwrs, dyma'r flwyddyn gyntaf y bydd y myfyrwyr wedi bod trwy raglen Seren ar ei hyd, a chredaf fod rhywbeth yno’n bendant sydd wedi gyrru'r canlyniadau rhagorol hynny. Ochr yn ochr â'r canlyniadau hynny rydym wedi gweld y nifer uchaf erioed o gynigion gan Brifysgol Caergrawnt i'n myfyrwyr Seren ar gyfer mynediad yn 2019, cyfradd gynnig o oddeutu 30 y cant, sy'n sylweddol uwch na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a phan feddyliwch am ddemograffeg Cymru o'i chymharu â'r ddemograffeg mewn rhannau cyfoethocach o'r Deyrnas Unedig, rwy'n credu y dylem ddweud 'da iawn' wrth y plant hynny ac wrth eu hathrawon.
O ran TGAU, rydym wedi gweld gwelliant yng nghanlyniadau cyffredinol yr haf ers y llynedd. Fodd bynnag, dywedais yn glir iawn fod sawl newid pwysig yn y system dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn ei gwneud hi’n anodd cymharu’n ystyrlon mewn modd tebyg, ond nid yw hynny'n golygu ein bod wedi gweld safonau’n gostwng na llai o drylwyredd; i’r gwrthwyneb, mewn gwirionedd. Mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi pob un o'n dysgwyr ac ni fyddwn byth yn gostwng ein disgwyliadau ar gyfer unrhyw un o'n pobl ifanc. Mater o realiti'r newidiadau a wnaed ydyw, ac nid newidiadau i fanyleb cyrsiau unigol yn unig, ond gwelsom newid radical mewn patrymau mynediad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid wyf am ymddiheuro am ddatblygu rhaglen ddiwygio sy'n benderfynol o gyflawni'r gorau i ddysgwyr yng Nghymru. A dyna un o'r rhesymau pam y mae ein diwygiadau o reidrwydd yn bellgyrhaeddol ac yn drawsnewidiol, oherwydd credaf y byddant yn sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru gyfan yn cael eu cefnogi trwy'r system addysg i gyrraedd eu potensial llawn.
Er enghraifft, mae'r camau a gymerwyd i roi diwedd ar y defnydd amhriodol o gofrestru disgyblion yn gynnar ar gyfer arholiadau yn dechrau ysgogi newidiadau o ran maint a natur cohortau, ac mae ysgolion wedi addasu ar yr un pryd i newidiadau yn yr arholiadau eu hunain a gyflwynwyd yn raddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Cymraeg ail iaith yn enghraifft dda o hyn, ac roedd hwn yn fater arall a godwyd gan Mark Reckless. Dyma'r flwyddyn gyntaf i ddysgwyr wneud y cwrs TGAU llawn newydd, yn sgil dileu'r opsiwn cwrs byr. Mae traean yn fwy o ymgeiswyr ac mae'r newidiadau a ddyfynnwyd ar gyfer cyfraddau cyrhaeddiad yn gamarweiniol yn y cyd-destun hwnnw, gan na fyddai'r mwyafrif o'r dysgwyr hynny wedi sefyll arholiad TGAU llawn o'r blaen; byddent wedi cael eu cofrestru ar gyfer y cwrs byr. O edrych ar effaith y newidiadau hyn, gwelwn gynnydd yn y nifer wirioneddol o ddysgwyr sy'n cyflawni gradd A* i C mewn Cymraeg ail iaith, i fyny tua 12 y cant. Mae’r TGAU newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar siarad, gwrando a defnyddio'r iaith, sy'n golygu bod mwy o bobl ifanc yn datblygu'r sgiliau iaith sydd eu hangen ar Gymru yn awr ac yn y dyfodol. Gwelodd cyfres yr haf welliannau hefyd yn y graddau A* i C mewn mathemateg, rhifedd, Cymraeg, ffiseg, bioleg, cemeg, gwyddoniaeth ddwbl, dylunio a thechnoleg, daearyddiaeth ac addysg gorfforol.
Nawr, gan symud ymlaen at asesiadau athrawon, mae angen ystyried canlyniadau eleni yng ngoleuni newidiadau polisi diweddar. Rydym wedi newid prif ddiben asesiadau athrawon yn ôl i ddysgwyr unigol ar gyfer defnydd mwy ffurfiannol yn unig, i lywio penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ddatblygu dysgu pobl ac i beidio â gwneud cymariaethau rhwng ysgolion neu ffurfio rhan o unrhyw system atebolrwydd. Felly, rwy'n credu y dylai canlyniadau eleni fod yn adlewyrchiad cywirach a mwy gwrthrychol o gynnydd dysgwyr, ac ni chredaf fod cymariaethau â blynyddoedd blaenorol yn ystyrlon. Gwyddom fod canlyniadau anfwriadol wedi bod i rai o elfennau ein system atebolrwydd ysgolion, ond nid wyf yn derbyn bod newidiadau diweddar yn gyfystyr â glastwreiddio.
Mae cenhadaeth ein cenedl yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer system atebolrwydd sy'n deg, yn gydlynol, yn gymesur, yn dryloyw ac yn seiliedig ar ein gwerthoedd cyffredin ar gyfer addysg yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gallu gweld sgoriau capio 9, sgoriau llythrennedd, sgoriau rhifedd, sgoriau gwyddoniaeth, yn ogystal â gwahaniaethu rhwng dysgwyr gwrywaidd a benywaidd a rhwng dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim a dysgwyr nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim. Bydd y trefniadau gwerthuso a gwella newydd yn helpu i sicrhau'r newid diwylliannol sydd ei angen yn y pen draw i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein cwricwlwm newydd. Ac yn ganolog iddo, mae hunanwerthuso cadarn a pharhaus ar gyfer pob haen o'r system addysg, ynghyd â deialog broffesiynol i gefnogi dysgu a gwella ac ymgorffori cydweithredu, gan fod Nick Ramsay yn gywir: y gwaith rhwng ysgolion sy'n gyrru pethau yn eu blaen mewn gwirionedd, gan adeiladu ymddiriedaeth ac ysgogi hunanwella a chodi safonau ar gyfer pob dysgwr. Ac mae ein cynlluniau'n ymwneud â sicrhau bod y ffordd rydym yn asesu perfformiad ysgol yn dangos perfformiad yr ysgol yn ei holl agweddau, ac nid canlyniadau arholiadau'n unig. Bydd atebolrwydd o'r tu allan yn parhau i fod yn nodwedd o'r system. Bydd ysgolion yn parhau i gael eu harolygu, ac yn fwy rheolaidd na'r 13 blynedd a amlygwyd dros y ffin heddiw. A bydd rhieni a gwarcheidwaid yn parhau i gael adroddiadau ar gynnydd eu dysgwyr.
Nawr, gofynnodd Paul Davies pa gamau penodol rydym yn eu cymryd yn sgil canlyniadau'r haf. Mae angen inni weithio gyda'n bwrdd arholi, gyda Cymwysterau Cymru, gyda'n consortia rhanbarthol a'n haddysgwyr Saesneg, gan fod mwy o waith i'w wneud ar Saesneg, ac rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiad i'r Cynulliad cyn hir ar ddull newydd i ysgolion sy'n peri pryder a sut y gallwn gynorthwyo'r ysgolion hynny i sicrhau gwelliant cyflymach a chynnydd cyflym.
O ran y bwlch cyllido, heriwyd y ffigurau a ddyfynnwyd yma o sawl cyfeiriad. Dywedodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn glir iawn ychydig wythnosau'n ôl yn unig fod y bwlch cyllido rhwng ysgolion Cymru ac ysgolion Lloegr yn diflannu bron yn llwyr pan hepgorwch Lundain o'r hafaliad. O ran adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad hwnnw, gan gynnwys yr argymhelliad sylfaenol ynghylch ymchwilio i gyllid addysg, a byddaf yn rhoi mwy o fanylion i'r Aelodau am natur y gwaith yr ymrwymais i'w gyflawni wrth ymateb yn llawn i adroddiad y pwyllgor, yn yr wythnosau nesaf rwy'n credu, pan gaiff ei drafod yma yn y Siambr.
Ond os ydych chi'n benderfynol o fychanu Cymru, fel roedd rhai i'w gweld yn ei wneud yn y Siambr hon y prynhawn yma, rydych yn methu cydnabod y newid sy'n sicr yn digwydd yn ein system addysg—trawsnewid gwirioneddol sy'n seiliedig ar gydgynhyrchu ar draws yr holl haenau a chyda rhanddeiliaid allweddol. Mae wedi'i wreiddio mewn arferion da, mae wedi'i wreiddio mewn ymchwil ac mae wedi'i wreiddio mewn tystiolaeth. Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr—wrth gwrs nad wyf—cynnig sy'n camliwio ac yn bychanu cynnydd ein dysgwyr a'n gweithwyr addysgol proffesiynol. Rwy'n gwybod—rwy'n gwybod—nad oes lle i laesu dwylo, a gwn y gallwn wneud yn well. Ond wedi ein sbarduno gan farn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod Cymru'n arwain y ffordd, a chan weithio gyda'r sector, byddwn yn parhau â chenhadaeth ein cenedl i godi safonau a chyflwyno system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder pobl Cymru.
Diolch. A gaf fi alw ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, Weinidog, fe roddaf bump allan o 10 i chi am yr ymateb hwnnw, oherwydd—[Torri ar draws.] Rwy'n ceisio bod yn garedig. Oherwydd nid oes amheuaeth fod rhai camau cadarnhaol wedi bod o ran ceisio mynd i'r afael â mater atebolrwydd yn ysgolion Cymru a'n system addysg, a dyna pam ein bod ni, fel plaid, yn croesawu rhywfaint o'r gwaith a gyhoeddwyd yn y gorffennol.
Roeddem yn rhoi croeso arbennig i'r ffaith bod yr arfer diangen ac amhriodol o gofrestru ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer arholiadau wedi dod i ben. Dyna'n bendant yw'r peth iawn i'w wneud. Ond wrth gwrs, yr hyn nad ydym wedi rhoi diwedd arno eto yw'r ffaith nad yw rhai disgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau o gwbl, ac wrth gwrs, mae'n bosibl mai dyna pam y mae'r canlyniadau safon uwch wedi gwella. Rhybuddiodd Cymwysterau Cymru ynglŷn â hyn y llynedd. Dywedodd fod nifer y rhai a gâi eu cofrestru ar gyfer arholiadau safon uwch wedi gostwng ac mai'r rheswm am hynny oedd nad oedd myfyrwyr gwannach yn cael eu cofrestru'n briodol ar gyfer eu harholiadau. Rwy'n fodlon derbyn ymyriad.
Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol fod newid demograffig sylweddol wedi bod, felly ceir llai o ddisgyblion yr oedran hwnnw yn y system mewn gwirionedd. Ac rydym newydd glywed gan Suzy Davies ynglŷn â'r angen i werthfawrogi a sicrhau parch cydradd i gymwysterau academaidd a chymwysterau galwedigaethol fel ei gilydd. Mae'n ymwneud â'r myfyrwyr iawn yn gwneud y cymwysterau iawn, ac os yw'r myfyrwyr safon uwch hynny'n mynd i wneud cymwysterau galwedigaethol, fel y tybiwn eu bod, rydych newydd danseilio'r union ddadl yr oedd eich llefarydd yn ei gwneud yn gynharach.
A gaf fi awgrymu eich bod yn cyfeirio eich dicter at Cymwysterau Cymru? Dyna pwy oeddwn yn eu dyfynnu, a dyna pwy sy'n dweud nad yw disgyblion gwannach, myfyrwyr gwannach, yn cael eu cofrestru ar gyfer eu harholiadau.
Nawr, pan edrychwn ar y dadansoddiad annibynnol o system addysg Cymru, y cymharydd gorau sydd gennym yn rhyngwladol wrth gwrs yw canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr. Ac mae Cymru ar waelod tabl cynghrair y DU. Mae yn yr 50 y cant gwaelod o wledydd y byd o ran ansawdd ein system addysg.
Mae pawb ohonom am weld Cymru'n cyrraedd y brig, a cheir rhai ysgolion gwych yng Nghymru sy'n gweithio'n galed ac yn sicrhau canlyniadau gwych i'w disgyblion. Dylwn sôn, wrth gwrs, am Ysgol Santes Ffraid yn Ninbych, lle cafodd fy mab gasgliad gweddus o ganlyniadau TGAU yr haf hwn. Rwyf am longyfarch pob disgybl ledled Cymru hefyd sydd wedi gwneud yn dda. Fy hen ysgol yn Abergele, Ysgol Emrys ap Iwan, a gafodd y canlyniadau gorau a gyflawnodd erioed. Ond nid yw'n lleihau'r ffaith bod gennym ormod o ddisgyblion o hyd yn gadael yr ysgol heb gymwysterau ac a dweud y gwir, nid yw hynny'n ddigon da.
Nawr, bu llawer o ddyfalu a allwn gymharu'r canlyniadau hyn â'r canlyniadau yn 2007. Un o'r rhesymau eraill pam y defnyddiwyd 2007, gyda llaw, oedd ei fod yn dangos yn glir fod y canlyniadau'n waeth eleni nag yn 2007—na fu unrhyw gynnydd. Ac os na fu unrhyw gynnydd dros y cyfnod hwnnw rwy'n credu'n onest y dylem fod â chywilydd ohonom ein hunain yma yng Nghymru am beidio â sicrhau unrhyw welliant i'n plant a'n pobl ifanc.
Ceisiodd y Gweinidog ddiystyru'r bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr, gan ddweud bod popeth yn edrych yn eithaf addawol os hepgorwch Lundain o'r darlun. Ond wrth gwrs, am bob £1 a werir yn Lloegr—ac mae hynny'n cynnwys y punnoedd a werir yn Llundain pan fyddwch yn cyfrif y cyfan o ran y cyfrifoldebau datganoledig—am bob £1 a werir yno ar blentyn, erys y ffaith bod Cymru'n cael £1.20 i'w wario yma. Felly, fe ddylai fod bwlch ariannu'n bodoli mewn gwirionedd, ond dylai ddangos bod 20 y cant yn fwy yn cael ei wario ar blentyn yng Nghymru, yn hytrach na'r bwlch cyllido hwn o £645 yn llai. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Felly, gan lynu wrth y ddadl honno, a ydych yn barod felly i drafod lleihau'r gyllideb iechyd er mwyn rhoi mwy o arian i addysg?
Pe baech chi wedi gwrando'n gynharach, Jenny Rathbone, ar yr ymateb a roddodd Nick Ramsay i chi, mae gennym arian ychwanegol yn dod i mewn i'r system o ganlyniad i'r rheolaeth dda sydd gan Lywodraeth y DU ar gyllid cyhoeddus. Mae gennym £1.25 biliwn yn dod i Gymru ar gyfer addysg dros y tair blynedd nesaf, a gellid buddsoddi'r £1.25 biliwn hwnnw ar gyfer cau'r bwlch a'i ddileu'n llwyr. Felly, rydych chi wedi cael yr arian—rydych chi wedi cael yr arian, felly y ffordd rydych chi'n ei rannu ar hyn o bryd sy'n golygu na allwch ei fuddsoddi yn ein hysgolion.
Felly, mae angen inni ddileu'r bwlch cyllido. Bydd hynny wedyn yn rhoi cyfle i ysgolion fuddsoddi yn y staff, buddsoddi yn y dechnoleg a buddsoddi yn eu disgyblion er mwyn cael y canlyniadau y mae'r disgyblion hynny'n eu haeddu. Dyna rwyf am ei weld, dyna rydym am ei weld ar y meinciau hyn, a dyna pam ein bod yn gresynu at y ffaith nad yw'r canlyniadau wedi gwella dros y 12 mlynedd diwethaf yn y ffordd y byddem wedi gobeithio. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi'r cynnig.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.