– Senedd Cymru ar 23 Hydref 2019.
Daw hynny â ni at y ddadl nesaf—dadl y Ceidwadwyr Cymreig yw honno—ar fynd i'r afael â digartrefedd. A dwi'n galw ar David Melding i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7167 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod nad yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol.
2. Yn cymeradwyo'r arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru.
3. Yn nodi:
a) bod 25 o farwolaethau wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru yn 2018, sy'n gynnydd nodedig o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017;
b) bod 25,937 o bobl wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn ôl ffigurau gan Shelter Cymru;
c) bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng 2012 a 2017, a bod y nifer sy'n cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl ymchwil gan Crisis a Phrifysgol Heriot-Watt;
4. Yn nodi ymhellach gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i'r afael â digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd â phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Darren Millar.
Wrth wraidd y cynnig hwn mae'r farn y gellir dod â chysgu ar y stryd i ben fel problem systematig sy'n effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac y bydd adeiladu 40,000 yn fwy o gartrefi cymdeithasol yn y 2020au yn mynd yn bell i ddod â digartrefedd i ben yn gyffredinol. Credwn fod y rhain bellach yn flaenoriaethau hollbwysig, a dyna pam y credwn y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i wneud tai yn hawl ddynol sylfaenol yng Nghymru.
I mi, pwrpas y ddadl heddiw yw y gallwn roi'r mater hwn ar frig ein hagenda, ac yn yr ysbryd hwnnw y gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein cynnig, ynghyd â gwelliannau 5, 11 a 12 gan Blaid Cymru a gwelliant 13 yn enw Neil McEvoy.
Fel y dywed ein cynnig, yn gynharach y mis hwn, lansiodd y Ceidwadwyr Cymreig gynllun 10 pwynt, 'Mwy na Lloches yn Unig', ac rwy'n falch o sicrhau ei fod ar gael i unrhyw Aelod sy'n gofyn am gopi. Pe baent yn cael eu rhoi ar waith, byddai’r 10 pwynt yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r argyfwng tai yng Nghymru.
Mae hwn yn faes heriol, Ddirprwy Lywydd, a dyna pam y credaf fod angen dull trawsbleidiol o weithredu os gallwn gyflawni hynny. Nid oes a wnelo'r maes hwn—tai yn gyffredinol, rwy'n credu, ond yn enwedig pan fyddwn yn edrych ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd—â gwleidyddiaeth gystadleuol; mae'n ymwneud â'r mesurau ymarferol a all gyflawni'r amcanion y mae pawb ohonom yn sicr yn eu dymuno. A dyna pam y ceisiais ddrafftio’r cynnig fel nad oedd yn rhy bleidiol a gwleidyddol, ond yn hytrach, ceisiais newid y cywair ac yn wir, hyd yn oed wrth gyfeirio at 'Mwy na Lloches yn Unig', rydym yn dweud 'yn nodi'r cynllun gweithredu', fel nad oes angen i'r Aelodau yma a fyddai'n teimlo ei fod gam yn rhy bell i gymeradwyo polisi Ceidwadol yn llawn orfod gwneud hynny. [Chwerthin.]
Fe wyddom y bydd gwahaniaeth o ran sut yr awn i'r afael â'r materion hyn yn y Siambr, oherwydd mae gan bob un ohonom syniadau amrywiol ynglŷn â digartrefedd, tai a chysgu ar y stryd. Ond yn gyffredinol, rwy'n credu ein bod i gyd yn mynd i'r un cyfeiriad ac rydym am wneud hyn yn flaenoriaeth uwch ac o gwmpas hynny, a pholisïau allweddol eraill y credaf eu bod yn rhai cydsyniol iawn yn awr, gallwn gyflymu'r camau gweithredu lawer mwy yn ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r flaenoriaeth hollbwysig hon.
Rydym yn gwbl ymwybodol yn wir, Ddirprwy Lywydd, nad yw'r broblem hon wedi'i chyfyngu i Gymru yn unig, a byddwn yn cefnogi un o welliannau Plaid Cymru sy'n tynnu sylw at y cynnydd ym marwolaethau pobl ddigartref yn Lloegr. Mae hynny'n beth hollol deg a chytbwys i'w wneud, ac yn sicr nid fy mwriad oedd wrth ddrafftio'r cynnig gwreiddiol oedd peidio â rhoi sylw dyledus i hynny, ond roeddwn eisiau dyfynnu’r ffigur ar gyfer Cymru.
Ond fel y dywedais, yn anffodus rydym yn methu annog consensws eang ar yr achlysur hwn. Mewn gwirionedd, mae gennym un o erchyllterau'r Siambr hon: gwelliant gan y Llywodraeth sy'n dileu popeth. Rwy'n credu y gellid bod wedi cynnig ychydig mwy o garedigrwydd, oherwydd credaf y gellid bod wedi llunio cynnig diwygiedig roeddem i gyd yn cytuno arno o amgylch ein cynnig ni. Ond rwy'n cynnig y dull hwn ar gyfer y dyfodol, y dylem uno a cheisio cytuno ar ddulliau cyffredin, a dyna’n sicr yw’r ysbryd y byddaf yn gweithio ynddo yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. Rwy'n gobeithio, fodd bynnag, y bydd y ddadl heddiw yn adeiladol, oherwydd rwy'n credu bod y sector yn rhwystredig ynglŷn â’r diffyg newid ac yn sicr, ynglŷn â pha mor gyflym rydym yn mynd. Mae gennym lawer gormod o bobl o hyd yn cwympo rhwng y craciau yn y system, ac mae rhai ohonynt yn cwympo'n bell iawn wir.
Os caf siarad yn fyr am y cynllun gweithredu, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedais, nid oes atebion hawdd i'r broblem hon, ac rydym i gyd yn gwybod hynny. Ond rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cydnabod yr angen i ddechrau meddwl yn radical oherwydd, mewn sawl ffordd, ers y rhaglen ddogfen honno yn y 1960au, a ddegawd ar ôl degawd ers hynny o dan yr holl weinyddiaethau, mae’n rhaid dweud, rydym wedi wynebu problem barhaus gyda'r rhai ar y pen gwaethaf i’r argyfwng digartrefedd, ac mae angen i ni ail-werthuso yn radical ein dull o lunio polisi a'r blaenoriaethau a roddwn i’r maes hwn o bolisi cyhoeddus. Ac mae'n wir ledled y Deyrnas Unedig, mae Llywodraethau a gweinyddiaethau yn yr ardaloedd datganoledig, ond yn y dinasoedd o gwmpas Lloegr yn ogystal, o bob cyfansoddiad gwleidyddol, yn ei chael hi'n anodd goresgyn problem digartrefedd ar ei wahanol weddau.
Mae ein strategaeth wedi bod yn gynnyrch misoedd o waith o gyfarfodydd gyda'r sector i drafod ffyrdd y gallai ein penderfyniadau polisi ddechrau trawsnewid pethau i'r rhai mwyaf anghenus. Rwy'n croesawu'r cyfraniad a roddwyd mor frwd gan ein partneriaid yn y gymdeithas ddinesig ac maent wedi helpu o ddifrif i lunio ein ffordd o feddwl, a gwn eu bod yn effeithio’n fawr ar feddylfryd y Llywodraeth ac yn ddiau, ar bleidiau eraill hefyd, a dylem dalu teyrnged i’r holl waith polisi y mae'r gwahanol elusennau yn ei wneud yn y meysydd hyn.
Ddydd Llun, roeddwn yn falch iawn o ymweld â Cartrefi i Gyn-filwyr ym Mhontypridd, sy'n cael ei redeg gan elusen Alabaré, a dyna un enghraifft yn unig o sefydliad sy'n ymddangos fel pe bai'n cynnig model diddorol iawn o ran y gofal y maent yn ei ddarparu yno i gyn-filwyr sydd wedi wynebu amser caled iawn ac fe gânt hyd at ddwy flynedd o help yn y cartref hwnnw, ac yna cânt gefnogaeth yn y denantiaeth sy’n dilyn gan weithwyr allgymorth o'r elusen, fel bod y cyfnod allweddol hwnnw'n cael ei ystyried hefyd a rhoddir y cymorth hwnnw iddynt i’w helpu i’w cynnal yn eu cynnydd.
Hefyd, rwy'n credu bod llawer ohonom wedi mynd i lawr ac o leiaf wedi edrych ar y beiciau a oedd gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Senedd i hyrwyddo ymgyrch y pabi, ac rwy'n canmol y rhai a aeth ar y beic a cheisio beicio'r 2 km neu beth bynnag ar daith rithwir, ond yr hyn a wnaeth fy niddori fwyaf y prynhawn yma oedd y ffaith bod y Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhoi cyhoeddusrwydd i'w canllawiau arferion gorau ar gyfer awdurdodau lleol o ran cefnogi cymuned y lluoedd arfog gyda thai yng Nghymru, ac mae'n ddogfen ragorol, ac rwy'n ei chymeradwyo i’r Aelodau ond hefyd i awdurdodau lleol—y canllawiau arferion gorau, y pecyn cymorth y mae'n ei ddarparu, ac unwaith eto, enghraifft o ymarfer gorau yn y sector gwirfoddol.
Nawr, yn y cynllun gweithredu, fel y dywedais, rydym wedi siarad am yr angen am fwy o uchelgais yn ein rhaglen tai cymdeithasol a'r angen i gasglu data'n well ac yn fwy cynhwysfawr. Dyna fater allweddol arall fel y gallwn fynd ati o ddifrif i fapio graddau'r broblem. Rydym hefyd yn cyffwrdd â'r angen i newid barn ein cymdeithas am ddigartrefedd trwy fwy o addysg am y symptomau a'r achosion ac rydym hefyd yn ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid yn San Steffan i gael gwared ar Ddeddf Crwydradaeth 1824, sydd wedi dyddio, yn anymarferol, ac i bob pwrpas yn hunandrechol o ran yr union fater y cafodd ei chynllunio’n wreiddiol i'w atal—ym Mhrydain yr oes Sioraidd, gadewch inni beidio ag anghofio.
Un o brif ganlyniadau'r gwaith a wnaethom—a daeth y trafodaethau a gawsom gyda'r sector gan rai fel Crisis a Shelter Cymru—oedd fod angen dull mwy cyfannol arnom, ac wrth gwrs, mae'n debyg mai tai yn gyntaf yw'r enghraifft fawr orau bellach o ddull cyfannol, a dyna un enghraifft rydym yn ei chymeradwyo'n fawr. Nid yw'n ddigon da dweud mai tai yn syml yw'r ateb i ddigartrefedd oherwydd mae'n broblem sy'n rhychwantu asiantaethau, o iechyd i addysg, tai i gyflogaeth. Felly, mae gwir angen dull gweithredu trawsasiantaethol cyfannol arnom, a dyna pam y gwnaethom ddewis 'Mwy na Lloches yn Unig' yn deitl i’n polisi. Ystyriwyd achosion digartrefedd, sy'n gymhleth ac yn gorgyffwrdd, a gwnaeth dadansoddiad yr archwilydd cyffredinol yn ei adroddiad yn gynharach eleni argraff arnaf. Meddai, ac rwy'n dyfynnu,
Mae'n llawer mwy na rhoi to dros bennau pobl yn unig.
Ac rwy'n credu bod hynny'n bendant yn mynd i wraidd y broblem.
A gaf fi gloi trwy ddweud—? Yn gynharach, nodais ein bod yn gyfarwydd â’r pla modern hwn yn ein cymdeithas ers 40 i 50 mlynedd ac nid ydym erioed wedi cyrraedd y lefel o ymateb polisi rydym yn dyheu amdano, ac y mae pob plaid yn y Siambr yn dyheu amdano rwy'n credu. A dyna pam mai un o'r pethau y galwn amdano yw tsar tai—rhywun a fydd yn mesur ac yn monitro ein cynnydd ac yn ein dwyn i gyfrif am yr hyn a wnawn, a chredaf, yn ddelfrydol, y dylai tsar digartrefedd fod yn rhywun sydd wedi cael profiad byw o fod yn ddigartref. Rydym i gyd wedi cyfarfod â phobl sydd wedi bod yn y sefyllfa honno. Maent yn dod o bob cefndir ac mae eu setiau sgiliau a'u potensial wedi creu argraff fawr arnom ar ôl iddynt ddychwelyd i lety sefydlog, ac rwy'n siŵr bod rhywun yng Nghymru a allai fod yn bartner inni a bod yn tsar tai rhagorol i ni allu dechrau mesur cynnydd go iawn a chynnal y cyflymder. Gallai'r cyfryw unigolyn, y tsar, ddadlau ar ran y bobl agored i niwed ac annog y Llywodraeth drwy gydol y 2020au i gyflawni'r targedau y cyfeiriais atynt.
Felly, rwy’n gorffen trwy ddweud wrth y Llywodraeth, er gwaethaf yr hyn a wnaethoch drwy gynnig gwelliant 'dileu popeth', rydym am fod yn rhan go iawn o'r sgwrs genedlaethol sydd ei hangen yn awr, fel y gallwn arwain, efallai, ym Mhrydain, a rhoi diwedd ar bla digartrefedd yn ein gwlad. Diolch.
Diolch yn fawr. Rwyf wedi dethol 14 gwelliant i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliant 7. Os cytunir ar welliant 1, bydd gwelliannau 2 i 6 yn cael eu dad-ddethol, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ffurfiol yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod bod yna fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd.
2. Yn cymeradwyo'r arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.
3. Yn croesawu sefydlu Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei adroddiad cyntaf.
4. Yn nodi:
a) Bod un person digartref sy'n marw yn drasiedi.
b) Yr effaith y mae cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref.
5. Yn nodi ymhellach Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac ymgyrch adduned y sector cyhoeddus.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Diolch. A gaf fi alw ar Neil McEvoy i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 13, 14 a 15, a gyflwynwyd yn ei enw?
Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae tai yn bendant yn un o heriau ein hoes, ac mae'n her y mae Llywodraeth Cymru yn methu mynd i’r afael â hi—yn methu’n wael â mynd i’r afael â hi. Rwy’n dal yn gadarn o’r farn fod perchentyaeth yn hanfodol ar gyfer cyfoeth. Mae'n anodd iawn dianc rhag tlodi os nad ydych yn berchen ar eiddo. Felly, mae'n siomedig fod Aelodau Cynulliad yma—gyda rhai ohonynt yn berchen ar hyd at dri eiddo gyda'u partneriaid—wedi pleidleisio dros atal pobl ddosbarth gweithiol rhag bod yn berchen ar un hyd yn oed. A dyna'r union fath o agwedd 'gwneud fel rwy'n dweud ac nid fel rwy’n gwneud' a geir gan y chwith plastig, ac mae'n gwbl ragrithiol.
Hefyd, mae yna nifer gynyddol o bobl yng Nghymru heb do uwch eu pennau o gwbl, ac os nad yw pobl yn credu bod yna argyfwng digartrefedd, cerddwch trwy strydoedd Caerdydd, Pontypridd a bron unrhyw dref neu ddinas yng Nghymru, ac fe ddangosaf i chi ble mae’r argyfwng hwnnw. Dyna pam y cyflwynais nifer o welliannau heddiw.
Mae gwelliant 2 yn nodi methiant Llywodraethau Cymru i ymdrin â digartrefedd dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae'n warth cenedlaethol. Mae gwelliant 4 yn cydnabod bod dyblygu gwasanaethau, cyflogau uchel uwch reolwyr yn y trydydd sector, ynghyd â thoriadau i lywodraeth leol, yn gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn wael.
Mae gwelliant 13 yn mynnu y dylai Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng digartrefedd a chyflwyno polisïau tai yn gyntaf i dynnu pobl oddi ar y strydoedd oherwydd yng Nghaerdydd, er enghraifft, nid yw hynny'n digwydd. Ac mae'r opsiwn o ddarn o lawr mewn hostel yn anneniadol iawn i'r mwyafrif o bobl ddigartref y byddaf yn siarad â hwy.
Mae gwelliant 14 yn gydnabyddiaeth y dylid blaenoriaethu angen lleol wrth ymdrin â digartrefedd. Mae gwelliant 15 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad bôn a brig o’r holl arian cyhoeddus a werir yn y sector tai ac a werir yn ymdrin â digartrefedd oherwydd, gadewch inni fod yn onest, mae cyflogau gwarthus ac enfawr prif weithredwyr yn y trydydd sector—. Mae yna amrywiaeth syfrdanol o sefydliadau lle mae pobl yn ennill symiau enfawr o arian nad wyf yn credu y byddent yn eu cael yn y sector preifat. Ac i fod yn berffaith onest, nid yw o fudd i’r bobl hynny ddatrys yr argyfwng tai a digartrefedd oherwydd eu bod yn gwneud yn rhy dda gyda'r sefyllfa fel y mae.
Gobeithio y gallwch gefnogi’r gwelliannau hyn heddiw a gobeithio y gall y sefydliad hwn, yn ddelfrydol trwy Lywodraeth, roi diwedd ar argyfwng digartrefedd a’r argyfwng tai sydd gennym yng Nghymru, oherwydd dyna yw gwaith y rheini ohonom a etholwyd i’r lle hwn. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 5, 6, 8, 9, 10, 11 a 12, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth?
Gwelliant 10—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb.
Gwelliant 12—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn ogystal â darparu tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, yn un anghyffredin i'r blaid sydd wedi'i chyflwyno, ac rwy’n meddwl tybed a fyddant yn cyhoeddi pamffled polisi yn nodi sut i ddatrys problemau credyd cynhwysol y mis nesaf.
Rydym wedi cyflwyno nifer o welliannau i'r cynnig hwn, ac mae rhai ohonynt yn ceisio gosod argyfwng digartrefedd yn y cyd-destun cywir—toriadau nawdd cymdeithasol a chyni ehangach sydd wedi dileu llawer o'r gwasanaethau a arferai ddarparu rhwyd ddiogelwch. Ond hoffwn ganolbwyntio'n bennaf ar ddau o'r gwelliannau a gyflwynwyd gennym y prynhawn yma. Y cyntaf yw gwelliant 12, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwasanaeth priodol i'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o fod yn ddigartref. A hoffwn dynnu sylw’r Aelodau at yr ymchwiliad diweddar gan y Biwro Newyddiaduraeth Ymchwiliol a ddarganfu fod awdurdodau lleol wedi troi cefn ar 32,000 o aelwydydd yng Nghymru a Lloegr oherwydd mân gamgymeriadau, yn aml, yn y broses ymgeisio—camgymeriadau mor fach â cholli e-bost, neu fethu ymateb i lythyr na chafodd ei ddosbarthu. Caiff ymgeiswyr yn y sefyllfa hon eu categoreiddio fel rhai anghydweithredol, ac felly, bydd unrhyw gymorth a gânt yn cael ei dynnu'n ôl neu ni chaiff ei ddarparu. Nawr, bydd unrhyw un sydd wedi gweithio yn y sector yn gwybod sut y gall porthgadw fod yn broblem enfawr—er gwaethaf yr holl ddeddfau a chyllid ar gyfer gwasanaethau, gall swyddog awdurdod lleol anwybyddu'r rhain a gwadu cymorth i berson am resymau sy'n cynnwys rhagfarn a diffyg dealltwriaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn mynd i dynnu sylw at ganllawiau diweddar a roddwyd i weithwyr tai proffesiynol ar helpu pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, sy'n nodi sut y mae pobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth wedi cael eu labelu fel rhai anghydweithredol. Ond mae angen gwneud mwy na hyn, ac i ddechrau, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gwasanaethau cynghori'n cael eu hariannu'n iawn.
Ond mae'n rhaid i ni fod yn onest. Mae angen mwy o ddealltwriaeth gan swyddogion ac mae'n rhaid ystyried y math hwn o borthgadw negyddol, beirniadol a chosbol yn gamymddwyn difrifol. Tybed a oedd gan Boris Johnson y rheolau credyd cynhwysol mewn golwg pan wrthododd lofnodi'r llythyr yn gofyn am estyniad i ddyddiad cau Brexit; tybed a oedd yn rhagdybio y byddai'r UE yn ei ystyried yn yr un modd ag y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried cais am gredyd cynhwysol ac yn ei wrthod ar y sail na chafodd ei lofnodi.
Mae gwelliant 11 yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymuno â ni i ymgyrchu dros ddileu’r Ddeddf Crwydradaeth. Ni ellir cyfiawnhau ein bod yn troseddoli tlodi, ac yn lle defnyddio’r system cyfiawnder troseddol yn y modd hwn, byddai’n well gan Blaid Cymru gefnogi pobl. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, a fyddech chi'n barod i gyfarwyddo eich comisiynwyr heddlu a throseddu eich hun i wneud yr hyn y mae comisiynwyr heddlu a throseddu Plaid Cymru wedi'i wneud a chefnogi dirymu Deddf Crwydradaeth ac i'r heddlu beidio â defnyddio'r pwerau hynny? Buaswn yn dychmygu bod yna rai Torïaid a allai fod yn difaru creu swyddi gwleidyddol y comisiynwyr heddlu a throseddu gan eu bod bellach yn tanseilio polisïau Torïaidd.
Nawr, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli bod rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn rhywbeth sydd o fewn ein gallu a bod peidio â'i wneud yn ddewis gwleidyddol. Cynhyrchodd Crisis adroddiad cynhwysfawr yn dangos i ni sut i ddod â digartrefedd i ben y llynedd, ac mae'n cynnwys argymhellion clir ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys newidiadau deddfwriaethol. Felly, fy neges yw fod yn rhaid i ni roi'r gorau i siarad yn awr a bwrw ymlaen â gweithredu'r argymhellion hynny'n llawn. Diolch.
Credaf yn wirioneddol ei bod yn ddiddorol clywed gan Leanne am brofiadau unigolion y gwrthodir eu ceisiadau llwyddiannus ar sail mân newidiadau. Dyma'r mathau o bethau sydd o ddifrif yn effeithio ar bolisi yn ehangach, a phan geisiwn wahaniaethu rhwng syniadau da—ar draws y pleidiau gobeithio—a chyflwyno syniadau da yn wael.
Cefais fy nghalonogi mewn gwirionedd wrth glywed gan y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ei fod wedi darllen ein cynllun 10 pwynt ac ni theimlais o gwbl nad oedd yn barod i gymryd syniadau da o ble bynnag y dônt a’i fod yn teimlo bod tai yn broblem a rennir i raddau helaeth ar draws y Cynulliad hwn fel blaenoriaeth i'r bobl a gynrychiolwn. Ac mewn gwirionedd, rwy'n credu bod hynny'n wir. Nid yw'n golygu na allwn graffu ar fethiannau polisi ymddangosiadol. Rwy'n credu bod y ffigurau yn y cynnig yn awgrymu nad yw Deddf tai 2014 wedi cael yr effaith y gellid bod wedi gobeithio amdani. Ond heb hawl statudol i dai, fel y gofynnwn amdani, rwy'n credu bod disgwyl i ddeddfwriaeth ddatrys problemau digartrefedd yn gofyn llawer, yn anad dim oherwydd y problemau gweithredol y siaradoch chi amdanynt, Leanne.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os caf amser, gwnaf, diolch.
Rwy'n eich canmol yn fawr am geisio cynnig syniadau polisi da ar hyn, ond a ydych chi'n derbyn bod yn rhaid i ni fynd i'r afael ag achosion digartrefedd? Ac un o achosion allweddol digartrefedd yw'r system fudd-daliadau. Beth a wnewch i gael sgyrsiau gyda'ch cymheiriaid yn Llywodraeth San Steffan i newid rhai o'r polisïau cosbol, gwirioneddol greulon hynny sy'n arwain at bobl yn byw ar y strydoedd?
Iawn, wel, fe ddof ymlaen at hynny mewn ychydig bach, ond fel y cofiwch—credaf i chi glywed gan fy nghyd-Aelod, Angela Burns, heb fod yn bell iawn yn ôl am rai o'r safbwyntiau sydd gennym ar gredyd cynhwysol, ei amseriad a phryderon ynghylch yr oedi am bum wythnos ar ei ddechrau. Ond wrth gwrs, nid yw wedi'i ddatganoli ac ni allwn wneud mwy na hyn a hyn o waith ar hynny'n uniongyrchol ein hunain.
A gaf fi fynd yn ôl i ble y dechreuais, ynglŷn â deddfwriaeth a phroblem digartrefedd? Oherwydd os ydym am gyflwyno hawl statudol i hyn, yn bersonol nid oes gennyf lawer o amynedd gyda statud yn cael ei ddefnyddio’n symbolaidd yn unig, ac os gellir perswadio'r Gweinidog i ddilyn y llwybr hwn—ac rwy’n gobeithio y gwnaiff hi—y bydd hi’n annog ystyriaeth o'r mecanweithiau ar gyfer rhoi unrhyw hawliau mewn grym a chynnig camau unioni ar gyfer methiant i wneud hynny.
Rwy'n credu y byddai adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o'r Ddeddf i'w groesawu'n fawr yn awr. Rydym yn cytuno, fel y clywsoch, gyda Tai yn Gynraf yn blaenoriaethu dod o hyd i lety, ond nid wyf yn berffaith siŵr bod y gefnogaeth gofleidiol yn dilyn, a gobeithio y byddwch yn nodi ein hymrwymiad i'r cyllid Cefnogi Pobl.
Weinidog—rwy'n credu fy mod wedi codi hyn gyda chi o'r blaen—mae pobl fregus o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael eu cartrefu yn Abertawe yn ddiweddar, ac mae'r heddlu a thrigolion wedi dweud wrthyf fod yna broblemau ynghlwm wrth hynny. Mae gan y ddinas ei llinellau cyffuriau a'i phroblemau cyffuriau eisoes, gan gynnwys cogio, a hynny yn y sector cymdeithasol yn ogystal â'r sector rhentu preifat.
Nid dyna yw ffocws y cynnig hwn, ond rwy'n credu y gall ac y dylai'r sector rhentu preifat gyfrannu at leddfu digartrefedd. Efallai y bydd angen 40,000 o gartrefi sector cymdeithasol newydd arnom, ond byddai hynny'n cymryd 10 mlynedd, hyd yn oed o dan Lywodraeth Geidwadol Gymreig, felly rwy'n credu y dylai'r sector preifat hefyd fod yn asiant gweithredol i ddarparu tai o ansawdd da yn ogystal â bod yn bartneriaid da. Yn Abertawe, mae’r gwerthwyr tai Wallich a Dawsons wedi helpu cleientiaid a oedd wedi profi digartrefedd i ddod o hyd i lety cynaliadwy trwy gynnig gwarantau yn lle bondiau arian parod i landlordiaid, ynghyd â chymorth gydag oedi budd-daliadau ac ôl-ddyledion rhent, er enghraifft.
Mae'n werth nodi nad ansicrwydd deiliadaeth yw’r prif reswm pam y mae pobl yn gadael llety rhent preifat. Y tenant sy’n dod â’r rhan fwyaf o denantiaethau i ben, ond er hynny, pan fydd y landlord yn dirwyn y denantiaeth i ben, y prif reswm yw ôl-ddyledion rhent, ac yn aml, newidiadau yn y system fudd-daliadau sy’n sail i hynny. Nid wyf yn ceisio osgoi hynny, fel rwy’n gobeithio fy mod wedi dangos yn glir, ond os dywedwn fod a wnelo hyn â budd-daliadau yn unig, neu gyflog isel hyd yn oed, rydym yn colli golwg ar gamddefnyddio diod a chyffuriau a phroblemau iechyd meddwl cynifer a fyddai, heb yr heriau hynny, Leanne, yn gallu rheoli eu cyllid yn well, ni waeth pa mor anodd fyddai hynny. Rydym yn colli golwg ar y rhai sy'n dianc rhag trais a chael eu taflu allan o'u cartref teuluol, y rhai sy'n mynd ar goll o ofal, a hyd yn oed rhywbeth, fel y clywsom gan Jack Sergeant, sydd mor syml, ond mor ddinistriol yn bersonol, â methu cadw eich anifeiliaid anwes gyda chi.
Ac felly trof at bwynt 6 yn ein cynllun gweithredu, sef addysg. Roedd Llywodraeth Cymru yn anghywir i beidio â chefnogi Bil meinciau cefn Bethan Sayed ar gynhwysiant ariannol. Fel rwy'n siŵr y byddwn yn clywed eto yn y ddadl hon, nid yw digartrefedd bob amser yr hyn y credwn ydyw, a gallai ddigwydd i unrhyw un. Mae rheoli arian a datblygu gwytnwch yn erbyn sioc yn bethau a ddysgwn, ac mae hynny'n ymwneud lawn cymaint â phrofiad personol ac iechyd meddwl ag â deallusrwydd neu dlodi cymharol. Mae lle i hyn ym meysydd dysgu a phrofiad y cwricwlwm newydd. Mae digartrefedd yn bodoli ym mhobman, fel y dywedodd Neil, ac ni fydd prinder deunydd Cynefin i ddarparu'r cynnwys lleol hwn. Mewn gwirionedd, mae cyngor Abertawe eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen addysg gyda phobl ifanc, wedi'i chydgynhyrchu, i wella eu gwaith ar atal digartrefedd.
Felly, casglu data—os caniatewch hyn i mi, Ddirprwy Lywydd—nid yw hyn yn ymwneud â digartrefedd yn unig yn fy marn i. Beth sy'n ddefnyddiol i'w gasglu trwy ddata? Gadewch i ni gymryd y gymuned sefydlog o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig fel un enghraifft. Ar un adeg, roeddent wedi’u gorgynrychioli mewn ceisiadau tai cymdeithasol, ond bellach, y gwrthwyneb sy’n wir. Ac nid wyf yn siarad am ffoaduriaid a cheiswyr lloches yma, ond teuluoedd sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru, teuluoedd Cymreig y mae eu ffactorau risg o ddigartrefedd yn gyfarwydd—chwalfa perthynas, anghenion cymorth heb eu diwallu, methu byw'n annibynnol—ond gall fod ffactorau ychwanegol fel gorlenwi, cael eich cartrefu mewn ardal lle rydych yn wynebu gwahaniaethu neu gam-drin hiliol, lle nad oes unrhyw breswylwyr eraill yn siarad iaith eich cartref, efallai eich bod yn rhy bell o'ch man addoli, eich system gymorth, a lle bydd diffyg gwelededd cymorth tai yn eich gyrru tuag at dai preifat o ansawdd gwael, felly nid ydych yn ymddangos yn yr ystadegau tai.
Yn olaf, mae Noddfa Digartref Abertawe yn wynebu cau oherwydd ei fod £900 yn y coch: swm mor fach am rywbeth a all wneud gwahaniaeth mor fawr, ac mae'r un peth yn wir am gyllid Cefnogi Pobl. Cadwch hwn a’i glustnodi am dair blynedd, Weinidog, neu byddwn yn gofyn i bobl Cymru ofyn i ni ei wneud. Diolch.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’n fawr y cyfle i drafod y mater pwysig hwn a’r ysbryd y cafodd ei drafod ynddo hyd yma. Mae digartrefedd yn gymhleth ac fe’i hachosir gan nifer o wahanol ddigwyddiadau. Er bod pobl yn aml yn meddwl bod digartrefedd yn golygu cysgu ar y stryd, un math yn unig o ddigartrefedd yw cysgu ar y stryd, er mai dyna'r math mwyaf gweladwy a'r mwyaf peryglus yn ôl pob tebyg. Rydym yn gwybod bod llawer mwy o bobl ddigartref yn cysgu ar soffas a lloriau ffrindiau a theulu neu mewn llety dros dro, neu'n byw mewn amodau gorlawn, weithiau gyda dau deulu'n byw mewn tŷ dwy ystafell wely. Pan fydd y dewis rhwng byw mewn llety gorlawn neu fyw ar y strydoedd, mae'n hawdd gweld pam y mae pobl yn dewis y llety gorlawn iddynt eu hunain mewn perthynas â ffrind, a gallwch ddeall pam y mae pobl yn gwneud lle i bobl pan nad oes ganddynt le mewn gwirionedd, fel nad ydynt yn gorfod cysgu ar y stryd.
Mae digartrefedd yn ddinistriol. Caiff ei yrru gan renti uchel ac incwm isel, diffyg tai fforddiadwy, pobl ddim yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt pan fo’i angen arnynt, ac mae hyn yn cynnwys budd-daliadau. Y peth pwysicaf yw atal pobl rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf trwy ymyrraeth gynnar, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hynny, a phasiwyd Deddf ychydig flynyddoedd yn ôl yn siarad am ymyrraeth gynnar. Bydd atal yn rhwystro pobl rhag mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Mae angen i bobl ymyrryd pan geir bygythiad o ddigartrefedd, nid aros am y diwrnod cyn iddynt gael eu symud allan, neu mewn rhai achosion y diwrnod y cânt eu symud allan. Nawr, mae gan awdurdodau lleol bŵer a dyletswydd i'w wneud, ond mae angen i ni sicrhau bod pob awdurdod lleol yn defnyddio'r pŵer hwnnw a'r ddyletswydd honno er mwyn sicrhau nad yw pobl yn mynd yn ddigartref. Weithiau gall ymyrraeth gynnar gadw pobl yn y cartref y maent ynddo ar hyn o bryd, gan ddarparu cefnogaeth ar y cam hwn yn hytrach nag aros i bobl fynd yn ddigartref, ymateb mewn argyfwng, darparu cymorth brys fel lloches, bwyd a rhaglenni dydd tra bo rhywun yn ddigartref.
Mae angen tai, llety a chymorth—darparu tai a chymorth parhaus fel ffordd o symud pobl allan o ddigartrefedd. I rai pobl ddigartref, ni fydd darparu tŷ neu fflat yn datrys eu problemau. Mae ganddynt broblemau eraill. Maent angen y cymorth sy’n gysylltiedig â thai a'r gwasanaethau byw â chymorth sy'n helpu pobl i fyw mor annibynnol ag y gallant, neu symud ymlaen i fyw'n annibynnol. Mae llawer o wahanol grwpiau o bobl yn elwa o'r gwasanaethau hyn.
Ceir llawer o ddarparwyr yng Nghymru sy'n darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai a gwasanaethau byw â chymorth, ond nid fi fuaswn i pe na bawn i’n sôn am y rhai yn Abertawe. Gwneir gwaith da gan The Wallich hefyd, gan gynnwys eu prosiect menywod trawsffiniol yn Birchgrove, Abertawe, ac rwy'n annog pobl i ymweld ag ef os ydynt yn yr ardal, a Dinas Fechan hefyd, hostel 15 ystafell wely sy'n darparu lloches a chymorth i bobl ddigartref sengl. Mae'r hostel yn darparu llety a chefnogaeth i bobl ag amrywiaeth o anghenion cymorth, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, ymddygiad troseddol neu gamddefnyddio sylweddau. Mae'r holl breswylwyr yn cyfarfod yn rheolaidd â'u gweithiwr cymorth a fydd yn cynnig gwaith datblygu personol, mynediad at wasanaethau priodol a chyngor ar chwilio am lety parhaol. Mae gan bob preswylydd ei le byw ei hun ac ystafelloedd byw cymunedol a rennir. Mae'r holl waith da yn bwysig, ond rydym yn dymuno i bawb gael cartref digonol. Ni fydd penodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd wedi cael profiad o fyw'n ddigartref ac sy'n gallu craffu ar y cynnydd tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, yn dod â digartrefedd i ben.
Mae angen i ni adeiladu mwy o dai cyngor. Rwy'n gwybod fy mod yn rhygnu ymlaen am hyn drwy'r amser, ond yr unig amser ers yr ail ryfel byd nad oedd gennym argyfwng tai oedd pan oeddem yn adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Dyna beth sydd angen i ni ei wneud—mynd yn ôl i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr. Mae gennym alw nad yw'n cael ei ddiwallu. Gallwn newid pwy sy’n cael blaenoriaeth gennym a sut i'w symud o gwmpas, ond y gwir amdani yw oni bai fod gennym dai digonol, rydym ond yn penderfynu bod gwahanol bobl yn mynd i gael cartref. Mae'n bwysig ein bod yn sicrhau bod digon o dai ar gael, ac mae gennym broblem enfawr oherwydd prinder tai cyngor, ac mae'n rhaid eu hadeiladu. Mae angen i ni fynd yn ôl i adeiladu ar raddfa fawr. Os edrychwn yn ôl ar y 50au a’r 60au, pan oedd gennym Lywodraethau Llafur a Cheidwadol yn San Steffan a oedd, ar adeg etholiad, yn ymgyrchu i weld pwy oedd yn mynd i adeiladu’r nifer fwyaf o dai cyngor. Mae’n debyg y byddai pobl fel Harold Macmillan yn ei chael hi’n anodd iawn bod yn rhan o Lywodraeth Boris Johnson. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr mewn cael tai cyngor. Mae angen hynny arnom.
Mae angen i ni hefyd ddefnyddio tai a fflatiau gwag unwaith eto. Gall pob un ohonom grwydro o amgylch ein hetholaethau ein hunain a gweld tai, llawer ohonynt mewn ardaloedd poblogaidd, sydd wedi'u gadael yn wag, ac mae angen inni ddefnyddio’r rheini unwaith eto. Rwy'n gwybod bod Manselton yn fy etholaeth yn ardal boblogaidd o dai teras o ansawdd da, ond gallwch grwydro o amgylch y mwyafrif o strydoedd a dod o hyd i un neu fwy o dai sydd wedi'u gadael yn wag. Gwastraff adnoddau yw hyn, ac anfantais i bobl ddigartref mewn gwirionedd. Mae angen i ni gael mwy o dai cyngor a defnyddio tai a fflatiau gwag unwaith eto fel nad yw pobl yn ddigartref mwyach.
Fel y dywed ein cynnig, nid yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol. Ond nid oes dim o hyn yn newydd. Dyblodd ffigurau digartrefedd yn ystod tymor cyntaf y Cynulliad rhwng 1999 a 2003. Cyflwynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd fesurau atal digartrefedd anstatudol yn ystod ail dymor y Cynulliad i fynd i'r afael â hyn. Disgynnodd niferoedd y digartref, ond nododd y sector fod digartrefedd cudd wedi dyblu. Fel y dywedais yma yn 2007 yn ystod y ddadl ar adroddiad y pwyllgor cyfiawnder cymdeithasol ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru,
Mae sefydliadau gwirfoddol yn nodi y gallai digartrefedd cudd ddyblu ffigurau digartrefedd Llywodraeth y Cynulliad. Pan gyfarfuom â grŵp o bobl ifanc ddigartref yn Hen Golwyn, fe wnaethant ddweud wrthym fod prinder enfawr o lety fforddiadwy, a gofyn, “I ble'r awn ni?”
Yn 2007 oedd hynny. Fel y dywedodd y bobl ifanc yng ngogledd Cymru wrthym bryd hynny, mae angen cyfryngu ac ymyrraeth gynnar ar gam mwy buan—mae angen inni fynd i mewn i ysgolion a gweithio gyda theuluoedd cyn i bobl fynd yn ddigartref.
Mynegwyd pryder bryd hynny gan sawl sefydliad gwirfoddol, gan gynnwys Shelter Cymru, nad oedd llawer o bobl ddigartref neu bobl a allai fynd yn ddigartref yn cael eu cynnwys yn yr ystadegau digartrefedd. Dysgodd y pwyllgor wedyn fod niferoedd cynyddol o ymgeiswyr digartref yn cael eu hystyried yn ddigartref yn fwriadol ar y pryd. Wrth orffen yr araith honno, dywedais
Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad adolygu ei pholisi ar gyfer pobl sy'n gadael gofal, mynd i'r afael â phroblemau digartrefedd mewn ardaloedd gwledig, a gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i fynd i'r afael â'r anghysonderau yn y system fudd-daliadau sy'n cosbi pobl ddigartref, yn 2007.
Er na fydd brics a morter yn datrys y broblem ar eu pen eu hunain, ni chaiff ei datrys heb raglen adeiladu tai uchelgeisiol. Yn 1999, pan ddaeth Llafur i rym yma gyntaf, nid oedd yn argyfwng ar y cyflenwad tai yng Nghymru, ond fe wnaethant dorri'r grant tai cymdeithasol a thorri'r cyflenwad o dai fforddiadwy newydd 71 y cant yn ystod eu tri thymor cyntaf. Yn ystod yr ail Gynulliad, daeth y sector tai at ei gilydd i rybuddio Llywodraeth Cymru y byddai argyfwng tai pe na baent yn gwrando—ond ni wnaethant wrando.
Neidiwch ymlaen, mae'r ffigurau blynyddol diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Cymru yn dangos gostyngiad yn nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, nifer y tai a gwblhawyd yn y sector preifat, nifer y tai a gwblhawyd gydag awdurdodau lleol ac unedau tai fforddiadwy newydd. Er bod y ffigurau chwarterol diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn dangos bod y nifer uchaf o gartrefi newydd ers 12 mlynedd wedi’u cofrestru yn y DU, cynnydd o 12 y cant ers yr un cyfnod y llynedd a chynnydd o 14 y cant yn Lloegr, dim ond 3 y cant o gynnydd a welwyd yng Nghymru. Dim ond 3 y cant o'r cartrefi newydd hyn a gofrestrwyd oedd yng Nghymru, er bod ganddynt 5 y cant o boblogaeth y DU ac er gwaethaf maint argyfwng tai Llafur yma.
Roedd tystiolaeth ar gysgu allan i’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr wythnos diwethaf gan Dr Helen Taylor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, yn dyfynnu tystiolaeth gan ymatebwyr, na fyddai gwneud rhywun yn flaenoriaeth yn unig yn datrys y problemau y maent yn eu profi.
Nododd un,
Ni fydd yn datrys y problemau drwy roi rhywle iddynt fyw, drwy roi help iddynt; mae’n rhaid iddynt fod eisiau ei wneud.
Nododd ymatebwyr y berthynas rhwng deddfwriaeth ddigartrefedd a darparu gwasanaethau eraill, megis gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Ac eto mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi anwybyddu'r angen am wasanaethau dadwenwyno ac adfer preswyl yng Nghymru fel y nodwyd mewn adroddiadau annibynnol olynol yn rhybuddio bod hyn yn cyfrannu, er enghraifft, at y boblogaeth ddigartref a phoblogaeth y carchardai .
Fel y nododd y canllaw a gyhoeddwyd ddydd Llun i helpu gweithwyr tai proffesiynol i gefnogi pobl awtistig, mae pobl awtistig wedi nodi heriau yn gyson wrth ddod o hyd i wasanaethau tai, cefnogaeth a chymorth priodol oherwydd diffyg dealltwriaeth o'r cyflwr a'u hanghenion unigol. Rwy'n dal i gael gwaith achos o’r fath bob dydd.
Argymhellodd adroddiad End Youth Homelessness fis Awst ar ddigartrefedd ymhlith ieuenctid LHDT+, y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi treialu gwasanaeth ar ffurf Upstream, lle mae ysgolion yn gweithio gydag arbenigwyr ar ddigartrefedd ieuenctid i nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref.
Déjà vu—a ydych chi'n cofio hynny o 2007? Yn y cyfarfod ar y cyd yr wythnos diwethaf o’r grwpiau trawsbleidiol ar dai ac ar drais yn erbyn menywod a phlant, clywsom fod gwasanaethau tai a digartrefedd yn ganolog i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac y dylai angen blaenoriaethol gynnwys pob ffurf ar y rhain. Déjà vu unwaith eto.
Yng ngogledd Cymru, mae pobl ifanc wedi creu Youth Shedz. Pan ymwelais â'r prosiect Grŵp Cynefin hwn yn Ninbych, dywedodd y bobl ifanc wrthyf ei fod yn darparu gofod diogel iddynt ddatblygu ac ymbaratoi ar gyfer byw'n annibynnol. Yn nigwyddiad Digartref Ynys Môn a Phrifysgol Bangor yma ym mis Medi 2017, clywsom bobl ifanc ddigartref eu hunain yn dweud y gallai pobl ifanc sy'n byw mewn llety â chymorth fod â llu o broblemau i ymdrin â hwy ac y gallent ei chael hi'n anodd gwneud hynny ochr yn ochr ag astudio.
Felly, rwy’n eich annog i gefnogi ein cynnig, sy’n canmol yn briodol yr arferion da sydd i’w canfod yn y sector tai ac sy'n nodi cynllun 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i’r afael â digartrefedd, ‘Mwy na Lloches yn Unig’. Rydym wedi aros yn rhy hir yn barod.
Diolch i David Melding am gyflwyno'r ddadl hon, ac am gyhoeddi ei gynllun 10 pwynt ar gyfer mynd i'r afael â digartrefedd. Rwy'n cefnogi unrhyw gamau i wella'r ffordd yr awn i'r afael â digartrefedd a byddaf yn gweithio'n gadarnhaol gydag unrhyw Lywodraeth i sicrhau nad oes unrhyw berson yn cael ei adael heb yr hawl ddynol fwyaf sylfaenol: yr hawl i do dros ben pob person, ac un addas ar hynny.
Mae'n hawl na lwyddwyd i'w datrys gan 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru. Mae'r ateb yn gymhleth ac yn galw am flaengynllunio sylweddol. Ac eto, nid yw Llywodraethau'r DU ychwaith wedi gallu cynnig ateb. Ac er y gall pob un ohonom feio’n gilydd a chwarae pêl-droed gwleidyddol, ni fyddai unrhyw bwrpas i hynny. Mae hwn yn fater rhy ddifrifol ac mae angen newid cadarnhaol. Mae angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio'n gadarnhaol gyda'i gilydd i sicrhau'r newid hwn a dileu digartrefedd yn yr unfed ganrif ar hugain.
O edrych ar yr argyfwng tai, mae'r newid i gredyd cynhwysol wedi chwarae rhan negyddol mewn digartrefedd. Ceir nifer uchel o gyn-filwyr a chyn-droseddwyr yn cysgu ar y stryd am y gall gymryd hyd at bum wythnos neu fwy i gael talaidau budd-dal. Er bod Llywodraeth y DU yn iawn i fynd i'r afael â phobl sy’n twyllo'r system, roedd y modd y gweithredwyd hynny’n ddiffygiol ac fe niweidiodd y rhai oedd mewn gwir angen. Mae anghenion pobl sy'n ddigartref yn niferus, yn gymhleth ac yn amrywiol. Nid yw’n fater syml o gael cartref a dyna ddiwedd arni. Unwaith eto, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod taliadau budd-dal yn dechau ar y diwrnod y caiff rhywun ei ryddhau o'r lluoedd arfog neu o'r carchar.
Rhaid mynd i’r afael â’r cynnydd enfawr a welsom mewn digartrefedd yn uniongyrchol, ac felly rwy’n cymeradwyo’r Ceidwadwyr Cymreig am eu cynllun gweithredu, yn y gobaith y bydd yn helpu Llywodraeth Cymru i fabwysiadu cynlluniau mwy uchelgeisiol eu hunain. Mae dyblu nifer y tai cymdeithasol sy'n cael eu hadeiladu yn ddechrau da.
Rwyf hefyd yn croesawu’r argymhelliad i benodi rhywun sydd wedi bod yn ddigartref i gynghori Gweinidogion ar bolisi tai. Rhaid i Lywodraeth Cymru gyfaddef nad yw eu dull o weithredu’n gweithio, a byddai cael person digartrefedd i'w helpu yn cynorthwyo i adfywio eu hymdrechion i ddod â digartrefedd i ben, fel y byddai mabwysiadu llawer o'r cynigion a gyflwynwyd iddynt heddiw. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant Llywodraeth Cymru. Oes, mae yna arferion da, ond maent yn bodoli mewn pocedi bach ledled y wlad ac nid ydynt yn genedlaethol.
Byddwn yn cefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau eraill y teimlwn eu bod yn ychwanegu at gynnig y Ceidwadwyr, ond byddwn yn gwrthwynebu gwelliannau 3, 6 a 9. O ran gwelliant 11, cytunaf yn llwyr y dylid diddymu'r Ddeddf Crwydradaeth. Ni ddylid ei defnyddio i gael gwared ar bobl sy'n cysgu allan, fel a ddigwyddodd yng Nghastell-nedd pan geisiodd y cyngor Llafur gael gwared ar arwyddion gweladwy o ddigartrefedd. Ond wedi dweud hynny, mae angen i ni fynd i'r afael â chardota problemus. Mae angen i’r Senedd basio deddfwriaeth newydd—sydd, o ystyried ei chyflwr camweithredol presennol, yn annhebygol yn y dyfodol agos—i fynd i’r afael â chardota problemus. Mae'n ffaith drist fod llai nag un o bob pump o'r bobl yr aethpwyd i'r afael â hwy oherwydd eu bod yn cardota yn ddigartref. Yn anffodus, mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn cymryd mantais ar garedigrwydd pobl ac yn mynd ag arian prin oddi wrth bobl sydd mewn gwir angen.
Mae yna awydd trawsbleidiol i roi diwedd ar gysgu ar y stryd, ac rwy'n gofyn a oes gan Lywodraeth Cymru weledigaeth ac uchelgais i gyrraedd y nod, oherwydd mae'n galw am weithio gyda'n gilydd. A phan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, gall pawb ohonom roi diwedd ar y gwarth cenedlaethol hwn, fel y mae Neil McEvoy yn ei ddisgrifio mor gryno.
Mae gan bawb hawl sylfaenol i dŷ. Mae gan bobl yr hawl i gartref diogel a gweddus sy'n fforddiadwy gyda'r rhyddid rhag cael eu gorfodi i adael. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth i warantu y gall pawb arfer eu hawl i fyw mewn lle diogel, heddychlon ac urddasol. Mae'n fater o bryder, felly, fod ystadegau tai diweddar yn dangos gostyngiad yn y lefelau adeiladu tai yng Nghymru. Mae nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd yn ail chwarter y flwyddyn hon 7 y cant yn is na flwyddyn yn gynharach. Yn ogystal, mae nifer yr aelwydydd yng Nghymru sydd dan fygythiad o ddigartrefedd wedi cynyddu.
Cysgu ar y stryd yw'r math mwyaf gweladwy o ddigartrefedd. Rydym yn byw yn un o'r gwledydd mwyaf datblygedig a llwyddiannus yn y byd—y bumed gyfoethocaf fel mae'n digwydd—ac edrychwch ar hyn, pobl yn dal i fyw ar y strydoedd ac o dan draffyrdd, mae'n gwbl annerbyniol. Mae'r ffaith bod gennym bobl o hyd heb gartref ac yn cysgu ar ein strydoedd yn destun cywilydd i bawb ohonom. Yn ein trefi a'n dinasoedd, mae gweld pebyll yn ymddangos ar gylchfannau a chloddiau glaswellt ac ochrau ffyrdd yn digwydd yn rhy gyffredin y dyddiau hyn. Y llynedd, cyfrifodd awdurdodau lleol yng Nghymru 158 o bobl yn cysgu ar y stryd ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r dull a ddefnyddiwyd i wneud y cyfrifiad wedi cael ei feirniadu'n eang. Cafodd ei alw'n hen ffasiwn gan Shelter Cymru, gyda Chyngor Sir Ddinbych yn adrodd mai dim ond un person yn unig oedd yn cysgu ar y stryd.
Yn hanesyddol, mae gwasanaethau digartrefedd ar gyfer rhai sy'n cysgu ar y stryd wedi cael eu darparu gan hosteli, ond mae llawer o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn dewis peidio â defnyddio hosteli. Mae'r rhesymau a roddant yn cynnwys problemau cyffuriau, alcohol a thrais dwys. Mae pobl ddigartref yn aml wedi datblygu problemau caethiwed ac iechyd meddwl difrifol tra'u bod yn byw ar y strydoedd. Mae'r holl ffactorau hyn yn cyfuno i wneud hosteli yn ddewis anneniadol. Gelwais yn y Siambr hon yn y gorffennol am atebion arloesol i gael pobl ddigartref oddi ar y strydoedd. Yng Nghasnewydd, agorodd yr elusen Amazing Grace Spaces bodiau cysgu i ddarparu llochesi dros dro diogel. Mewn ymateb i fy nghwestiwn yn croesawu hyn, dywedodd y Prif Weinidog:
'er y gall atebion arloesol fod o gymorth yn y presennol, yr ateb hirdymor i fynd i'r afael â'r problemau tai yr ydym ni'n eu hwynebu ar draws y wlad yw mwy o gartrefi parhaol'.
Rwy'n cytuno â'r dyfyniad, Lywydd. Mae angen i ni ddiwallu anghenion cymhleth pobl sy'n cysgu ar ein strydoedd. Mae angen gweithredu beiddgar ar frys. Mae angen strategaeth sy'n atal cysgu ar y stryd cyn iddo ddigwydd, strategaeth sy'n ymyrryd ar bob pwynt argyfwng ac yn helpu pobl i wella'u sefyllfa, gyda chymorth hyblyg sy'n diwallu eu hanghenion. Dyna pam rwy'n croesawu dogfen strategaeth fy nghyd-Aelod, David Melding, 'Mwy na Lloches yn Unig'. Diolch yn fawr, David; da iawn. Mae'r ddogfen hon yn rhoi lle blaenllaw i ddigartrefedd a chysgu ar y stryd yn ein blaenoriaethau gwleidyddol. Mae'n ein hymrwymo i'r targedau uchelgeisiol ar gyfer dod â chysgu ar y stryd i ben yng Nghymru erbyn 2026. Bydd tasglu cenedlaethol yn ymgymryd â rhaglen helaeth i ddatgelu'r holl ddigartrefedd yng Nghymru. Byddai'r problemau sy'n gysylltiedig â hosteli'n cael eu datrys drwy adolygu llety argyfwng a llety dros dro. Byddai hyn yn arwain at osod targed ar gyfer darparu atebion hirdymor o ran tai. Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn amcangyfrif bod 6,000 o gyn-filwyr digartref yn y Deyrnas Unedig. Mae'r strategaeth hon yn galw am ailgyflwyno 150 o dai cymdeithasol gwag, rhywbeth a grybwyllwyd gan ein cyd-Aelod, yn benodol ar gyfer cyn-filwyr sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref, ac mae'n galw am benodi tsar digartrefedd i gydlynu'r gwaith o ddatblygu a chyflawni polisïau.
Ddirprwy Lywydd, mae'r adroddiad hwn wedi cael ei groesawu gan lawer o elusennau a sefydliadau tai. Os gweithiwn gyda'n gilydd ar draws y Cynulliad, gallwn ddileu cysgu ar y stryd ac atal digartrefedd yng Nghymru; gallwn roi cyfle i bobl gael cartrefi saff a diogel a darparu sylfaen gadarn i wella ansawdd eu bywydau. Cyfarfûm yn bersonol â rhai o'r bobl ddigartref yng Nghasnewydd ac roedd gan bawb stori wahanol i'w hadrodd. Rwy'n credu bod angen hanner awr arall arnaf i ddweud wrth fy nghyd-Aelodau, ond dim ond ychydig eiliadau sydd gennyf. Ond credwch fi, nid oes neb—neb—eisiau byw ar y strydoedd geirwon hynny, maent angen cartrefi diogel a saff lle gallant fyw eu bywydau mewn heddwch a chyfrannu at y gymuned, oherwydd mae stori drist i'w hadrodd am bob un o'r 158 o bobl ddigartref yn y wlad hon ac fel y dywedais yn gynharach, mae'n destun cywilydd i ni. Rhaid inni wneud rhywbeth ac mae'n hen bryd; rhaid inni ei wneud yn awr. Diolch.
Rhaid imi ddweud, yn fy mhrofiad i, mae'r cyhoedd yn credu, yn y bumed neu'r chweched economi fwyaf yn y byd, ei fod yn gyhuddiad ofnadwy yn erbyn y DU fod cynifer o bobl yn cysgu ar y stryd ac mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae pobl yn ei ystyried yn anamddiffynadwy'n foesol, ac mae hynny'n wir. Nid wyf yn credu y gallwn osgoi cefndir o gyni Llywodraeth y DU dros gyfnod tebyg i 10 mlynedd o ran y cefndir i'r sefyllfa honno, oherwydd mae'r toriadau i wasanaethau cyhoeddus o flwyddyn i flwyddyn a'r effaith gronnol wedi rhoi'r gwasanaethau hynny mewn sefyllfa lle mae'n gynyddol anodd iddynt, yn fwyfwy anodd iddynt ddarparu'r cymorth angenrheidiol. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gydnabod hynny, a chydnabod effaith credyd cynhwysol hefyd. Yn y gwaith y mae'r pwyllgor cydraddoldeb wedi'i wneud ar ddigartrefedd a chysgu ar y stryd clywsom am effaith uniongyrchol ac ymarferol iawn credyd cynhwysol a sut y mae wedi gwaethygu'r problemau hyn. Mae'r cyfnodau aros cychwynnol ar gyfer hawlio budd-daliadau, anallu i dalu'r elfen budd-dal tai yn uniongyrchol i'r tenant, a llawer o agweddau eraill wedi cynyddu problemau digartrefedd a chysgu ar y stryd.
Fe gymeraf ymyriad.
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad, John Griffiths. Nid wyf yn anghytuno â llawer o'ch dadansoddiad, ond hoffwn wneud y pwynt, pan oeddwn yn byw yn Llundain 40 mlynedd yn ôl, roeddwn yn arfer mynd allan nos Fercher a nos Sadwrn am oddeutu tair blynedd gyda sefydliadau amrywiol a oedd yn gweithio gyda phobl ddigartref ar strydoedd Llundain. Roeddent yno bryd hynny, maent yno yn awr, a dyna'r trueni mawr. Nid yw'n ganlyniad i'r degawd diwethaf; mae'n ganlyniad i'r ffaith nad yw ein cymdeithas yn ymdrin â phroblem anodd sydd wedi bodoli er pan oeddwn yn arfer gweithio gyda hwy 40 mlynedd yn ôl.
Ni fyddai neb ohonom yn dweud nad yw'r problemau wedi bodoli dros—[Torri ar draws.]
Diolch. Nid oes angen hynny. Rydym yn ceisio cynnal hyn mewn ysbryd o gonsensws trawsbleidiol ar draws y meinciau. Rwyf am ddweud hyn: a gawn ni barhau yn yr un cywair â'r hyn a gafwyd? Mae bai ar bob ochr weithiau, felly beth am i ni feddwl am hynny.
O'r gorau. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn gwadu bod problemau hirsefydlog yn bodoli. Byddai llawer ohonom yn ystyried profiad Llywodraethau Thatcher dros gyfnod o amser—wyddoch chi, gwerthu tai cyngor heb y gallu i ddefnyddio'r enillion i adeiladu tai cyngor newydd, y canolbwyntio ar brynu preifat. Gwyddom yn awr, er enghraifft, fod pwysau cyson cyflogau isel a rhenti uchel yn y sector rhentu preifat—a hynny drwy rywfaint o'r gwaith y mae Crisis wedi ei gomisiynu ar y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd—wedi arwain at sefyllfa lle mae 82 y cant o'r ardaloedd yng Nghymru â llai nag un o bob pum person sengl neu gyplau neu deuluoedd gydag un neu ddau o blant yn gallu fforddio eiddo yn y sector rhentu preifat. Dyna 82 y cant o'r ardaloedd yng Nghymru, lle mae llai nag un o bob pump yn gallu fforddio eiddo yn y sector rhentu preifat os ydynt yn y categorïau hynny. Dyna'r math o sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd. Rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â chredyd cynhwysol, ac yn wir mae'r pwyllgor rwy'n ei gadeirio, y pwyllgor cydraddoldeb, yn gwneud gwaith ar hynny, ac rwy'n gobeithio y gallwn gyrraedd sefyllfa well yng Nghymru, a hynny'n fuan.
Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi dweud yr hyn a ddywedais yn fy sylwadau agoriadol, ond er hynny rwy'n croesawu'r fenter gan y Ceidwadwyr Cymreig gyda'r cynllun gweithredu a chyflwyno'r ddadl hon i'r Cynulliad heddiw. Rwy'n credu bod yr elfen hawliau dynol yn ddiddorol iawn, a'r gydnabyddiaeth i lefel y cymorth sy'n angenrheidiol, ac wrth gwrs mae angen i ni adeiladu llawer mwy o dai cymdeithasol, ac rwy'n credu bod hynny wedi cael ei gydnabod yn eang hefyd. Ond mae'n rhaid i ni edrych ar y darlun ehangach yn ogystal, ac mae llawer o ffactorau eraill yn dod yn weithredol.
Mae'r pwyllgor a gadeiriaf wedi gwneud llawer o waith ar gysgu ar y stryd a digartrefedd. Gwyddom fod Tai yn Gyntaf yn eithriadol o bwysig ac rwy'n croesawu cynlluniau peilot Llywodraeth Cymru. Mae'n ymwneud â chael lefel uchel o gymorth i bobl ag anghenion cymhleth a sicrhau bod hynny ar waith a bod y tai a ddarperir yn briodol ac yn ddigonol. Gwyddom fod rhaid i allgymorth grymusol fod yn nodwedd gryfach o'r hyn a ddarperir ar ein strydoedd. Rwyf wedi bod allan gyda Wallich; soniodd eraill am Wallich hefyd. Maent yn gwneud gwaith anhygoel, ac mae angen cryfhau hynny a'i ddatblygu ymhellach.
Rwy'n credu bod yna feysydd lle mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau sydd wedi bod yn wrthgynhyrchiol, a buaswn yn cyfeirio at garcharorion yn hynny o beth. Rwy'n credu bod newid deddfwriaethol mewn perthynas â thai wedi creu anawsterau, ac nid yw'r llwybr a sefydlwyd yn lle angen blaenoriaethol i garcharorion wedi gweithio'n effeithiol. Mae angen ei newid. Rwy'n gwybod bod newid wedi digwydd, ond mae angen rhagor o newid. Oes, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb yma, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y gwasanaethau iechyd meddwl yn cysylltu â'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn llawer mwy effeithiol. Ceir rhwystrau gwirioneddol y mae angen eu goresgyn.
Rwy'n croesawu adroddiad Crisis yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf ei fod yn cyd-fynd yn dda â'r gwaith y mae fy mhwyllgor wedi'i wneud. Felly, rwy'n croesawu'r rhan y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Crisis yn y gwaith a wnaethant ac yn y grŵp gweithredu.
Ac yn olaf, mae arnom angen dull gweithredu hirdymor, a chredaf fod pawb wedi siarad am hynny. Mae angen inni fod yn llawer mwy ataliol. Fodd bynnag, rwy'n croesawu ffocws grŵp gweithredu Llywodraeth Cymru a Crisis wrth sôn am y gaeaf hwn. Bob gaeaf ceir marwolaethau ymhlith pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae'n argyfwng llwyr yn ystod y gaeaf. Ceir ymateb cydgysylltiedig gan y trydydd sector, gan eglwysi, gan lywodraeth leol, gan asiantaethau, ond mae'n her enfawr a rhaid inni fod yn effro i'r her honno y gaeaf hwn, cyn inni gyrraedd ateb hirdymor gwell.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Mae'n anodd pan nad oes gennych neb. Rwy'n sefyll yma heddiw fel mam i filwr sy'n gwasanaethu yn y fyddin Brydeinig ac fel rhywun a oedd yn ddigartref am gyfnod byr yn berson ifanc 15 oed. Oherwydd bywyd cartref gwirioneddol wael, roeddwn angen rhywle i aros, felly roeddwn yn byw mewn carafán gyda ffrindiau yn gyfnewid am wneud gwaith achlysurol gyda ffair deithiol. Chwe wythnos yn ddiweddarach, ymosodwyd arnaf a bu bron i mi gael fy nhreisio, ac nid oedd gennyf ddewis ond dychwelyd adref i ddioddef ymosodiadau pellach gan fy llysfam. Aeth hynny ymlaen ac ymlaen. Roeddwn i'n mynd rownd mewn cylchoedd am flynyddoedd. Ni wyddwn ble i droi, felly rwy'n credu fy mod yr hyn rydym yn ei alw heddiw'n 'syrffiwr soffas'. Roeddwn yn teimlo o dan bwysau, heb sylfaen, yn ansicr iawn ac yn gwbl ddiwerth. Ond oherwydd y sefyllfa gartref, ymddangosai mai dyma'r dewis gorau a oedd ar gael i mi ar y pwynt hwnnw.
Mae'r profiad hwnnw wedi llywio llawer o fy mhenderfyniadau mewn bywyd: i weithio'n galed, cynnal fy hun, a chadw to dros fy mhen a dros bennau fy mhlant, heb fod arnaf ddim i neb. Mae fy mab yn dal i wasanaethu fel milwr ac wedi bod ar wasanaeth gweithredol, gan gynnwys teithiau amrywiol yn Irac ac Affganistan, a meddwl am gyn-filwyr yn arbennig sydd wedi fy nghymell i siarad heddiw.
Gwn fod achosion digartrefedd yn niferus, yn amrywiol ac yn gymhleth, ac y bydd gan bob person stori wahanol. Fodd bynnag, gwlad fach iawn yw Cymru a chanddi haenau cymhleth iawn o wasanaethau cyhoeddus a chymorth. Ble mae mynd? Ble mae dechrau? Gwn fod pocedi o arferion da. Soniwyd am Tai yn Gyntaf, er enghraifft, fel ymarfer gorau rai blynyddoedd yn ôl rwy'n credu ac mae'n gwneud synnwyr perffaith i roi cymorth go iawn i rywun allu rheoli eu tenantiaeth, yn hytrach na dim ond rhoi'r allweddi iddynt a'u gadael iddi. Mae hynny'n sicr o fethu. Felly, nid wyf yn deall pam nad yw Tai yn Gyntaf nac unrhyw faes arall o ymarfer da yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyfan erbyn hyn. Mae'n ymddangos bod podiau cysgu wedi cael eu hanwybyddu a'u diystyru, ac nid yw'n ymddangos bod cartrefi cynwysyddion—hyblyg a symudol—wedi bod yn llwyddiant mawr. Nid wyf yn gwybod pam.
Gwn fod grŵp gweithredu'n cynghori'r Gweinidog. Rwy'n croesawu hyn, ond mae Llafur Cymru wedi cael 20 mlynedd a mwy i wneud rhywbeth, i gyflawni rhywbeth, i sganio'r gorwel ac i astudio demograffeg a newid yn y boblogaeth. Rwy'n bryderus iawn ei bod yn ymddangos fel pe baem wedi cerdded yn ein cwsg i mewn i'r argyfwng presennol lle mae ein pobl yn llythrennol yn marw ar ein strydoedd. Mae cynlluniau gweithredu, grwpiau gweithredu, strategaethau yn hyfryd, ond nid ydym yn gweld y canlyniadau y byddem yn gobeithio amdanynt i'r person ifanc neu'r cyn-filwr sydd angen y cymorth mewn gwirionedd. Ac mae'n edrych fel pe na bai neb yn gwrando, oherwydd maent i gyd yn edrych i lawr ar y cyfrifiaduron ac nid ydynt yn gwrando. Dyma'r realiti, ac nid oes yr un ohonoch wedi bod drwy'r math hwnnw o beth, felly fe ddylech wrando. [Torri ar draws.]
Fy marn i yw nad oes gan yr un blaid fonopoli ar syniadau da ac rwy'n croesawu'r adroddiad meddylgar hwn gan y Ceidwadwyr. Ond buaswn yn dweud nad yw 'prysur' yn golygu effeithiol, ac mae'n bryd gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y maes hwn. Mae pobl angen gobaith, mae pobl angen diogelwch, maent angen sefydlogrwydd. Ac mae pawb angen cartref.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy groesawu sylwadau cyntaf David Melding am weithio ar draws y Siambr, ac adleisio croeso'r Prif Weinidog i syniadau da o unrhyw ffynhonnell, a'u hadleisio. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ganmol yng nghynllun y Ceidwadwyr, a hefyd, mewn gwirionedd, yng nghynllun Plaid Cymru. Ac rwy'n meddwl bod gennym ni rai agendâu a rennir ar draws y Siambr, ac rwy'n awyddus iawn i weithio gyda phobl i ddarganfod sut y gallwn fwrw ymlaen â'n hagenda ar y cyd. Ond rwyf am ddweud hefyd fy mod bob amser yn rhyfeddu at ddiffyg dealltwriaeth lwyr pobl o'r problemau a grëir gan dlodi ac yn arbennig, gan gyflwyno credyd cynhwysol a phethau eraill.
Felly, gadewch i mi ddweud un ohonynt wrthych, felly os ydych chi'n wirioneddol bryderus, gallwch ymuno ag ymgyrch Crisis ar hyn. Mae'r lwfans tai lleol wedi bod yn ddim ers 2016—ers pedair blynedd. Felly, canlyniad hynny, os ydych yn y sector rhentu preifat a'ch bod ar gredyd cynhwysol, yw eich bod yn talu'r gwahaniaeth rhwng y lwfans tai lleol a'r rhent yn y sector hwnnw. Mae hynny'n hybu digartrefedd. Mae'n bolisi uniongyrchol gan y Blaid Geidwadol. Nid wyf yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd y flwyddyn nesaf, ond os oes gennych unrhyw ddylanwad ar hynny, ceisiwch wneud, gan ein bod wedi ysgrifennu dro ar ôl tro i ddweud bod hyn, yn amlwg, yn gyrru pobl allan o'r sector rhentu preifat—ac rydych chi'n gywir, mae angen i ni adeiladu mwy o dai cymdeithasol ac rydych chi'n gywir, rydym yn mynd mor gyflym â phosibl ers i'r Llywodraeth Geidwadol weld synnwyr a thynnu'r capiau, ddiwedd y llynedd. Mae'r holl sôn am 20 mlynedd—nid ydym wedi cael gwneud hynny tan y llynedd. Rydym yn cael gwneud hynny yn awr, rydym yn ei wneud yn gyflym ac ar raddfa fawr. Rydych yn ein helpu gyda hynny—rydych yn rhannu'r agenda honno, rwy'n gwybod. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau bod pobl yn y sector rhentu preifat yn gallu fforddio eu rhenti, ac ar hyn o bryd ni allant wneud hynny. Felly, os ydych am wneud rhywbeth, gwnewch hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn bendant.
Oes gennych chi unrhyw beth i'w ddweud am niferoedd? Gwn fod yna—wrth gwrs, fod digartrefedd yn bodoli 40 mlynedd yn ôl, a byddai wedi bod yn fwy cyffredin yn Llundain—wrth gwrs. Ond mae'r niferoedd gwirioneddol o bobl y gallwch eu gweld yn cysgu ar y strydoedd yn awr yn llawer uwch nag unrhyw beth a welais erioed o'r blaen, ac rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r rhesymau rydych wedi'u disgrifio. A oes gennych unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod nifer y digartref yn broblem fwy o lawer nag oedd hi, dyweder, 40 mlynedd yn ôl?
Oes, mae gennym rywfaint o dystiolaeth. Mae'r niferoedd yn broblemus, oherwydd rydym yn eu gwneud mewn hapwiriadau ac rydym yn eu gwneud mewn cyfrifiadau o bobl sy'n cysgu ar y stryd. Ac rydym yn gwybod, er enghraifft, ei bod yn anodd iawn cyrraedd menywod mewn cyfrifiadau o bobl sy'n cysgu ar y stryd. Rydym yn gwybod hynny oherwydd eu bod yn tueddu i gerdded drwy'r nos a chysgu yn ystod y dydd oherwydd ei bod yn fwy diogel ac yn y blaen. Felly, mae'r niferoedd yn broblemus. Mae gennym ddata. Mae gennym fesurau ataliol yma yng Nghymru y credaf eu bod wedi atal ychydig ar y llif, ond rydych yn ymladd llanw cynyddol.
Ddirprwy Lywydd, nid dyma'r tro cyntaf i mi siarad am ddigartrefedd yn y Siambr yn ystod y tymor hwn. Pythefnos yn unig sydd yna ers i mi wneud datganiad, felly nid wyf am ailadrodd rhai o'r pethau hynny. Ond mae'n rhaid i ni atal y llanw yn ogystal â mynd i'r afael â'r problemau yn y pen gwaethaf. Ac mae'n rhaid i ni wneud y ddau beth neu byddwn yn parhau i weld y pwysau wrth i bobl adael llety addas. Ond yr un peth hwnnw, os ydych am wneud rhywbeth go iawn—newidiwch yr elfen lwfans tai lleol yn y credyd cynhwysol a byddwch yn sicr o gau un o'r tapiau hynny.
Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r ysgogiadau sydd gennym o fewn ein rheolaeth. Rydym yn buddsoddi dros £20 miliwn eleni'n unig i gynyddu ein cyflenwad tai. Ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid ydym erioed wedi cilio rhag cefnogi'r gwaith o ddarparu tai cymdeithasol. Rwy'n cytuno'n llwyr â fy nghyd-Aelod, Mike Hedges: adeiladu tai cyngor yw'r unig ffordd ymlaen. Felly, rydym wedi cymryd camau breision ymlaen o ran gwreiddio'r dull ataliol hwnnw a chynyddu ein cyflenwadau. [Torri ar draws.] Yn sicr, Mark.
Rydych yn dweud nad ydych erioed wedi torri tai cymdeithasol, ac rwy'n cymryd eich bod yn cyfeirio at y Llywodraeth hon, oherwydd bydd ystadegau eich Llywodraeth eich hun yn profi iddynt gael eu torri'n aruthrol yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad a'u bod wedi gwastatáu wedi hynny. Roedd y grant tai cymdeithasol yn dal i adeiladu tai cymdeithasol drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac erbyn i'r Llywodraeth Geidwadol golli grym yn 1997 yn Llundain, roedd y gyfradd adnewyddu yn lle'r rhai a werthwyd bron yn gyfartal—fe gwympodd ar ôl 1997 a chwympo hyd yn oed ymhellach ar ôl 1999. Edrychwch ar y ffigurau.
Rwyf wedi edrych ar y ffigurau, ac rydych chi, yn daclus iawn, yn osgoi'r pwynt fod eich Llywodraeth wedi gwrthod caniatáu dro ar ôl tro i dai cyngor gael eu hadeiladu gan ddefnyddio'r elw o werthiant tai cyngor. [Torri ar draws.] Fe wnaethoch leihau'r cyflenwad. Roeddwn innau yn Llundain 40 mlynedd yn ôl hefyd—40 mlynedd yn ôl oedd hi pan ddaeth Llywodraeth Thatcher i mewn a dinistrio'r cyflenwad o dai cymdeithasol. Felly, mae llawer y gallwn gytuno arno yn y Siambr hon, ond mae rhai hanfodion na fyddwn byth yn cytuno arnynt, ac un ohonynt yw y byddwch yn cael digartrefedd os ydych yn dinistrio'r cyflenwad o dai cymdeithasol. A dyna a welwn ar hyn o bryd.
Gwnaethom gyhoeddi datganiad polisi strategol gwta bythefnos yn ôl, i gydnabod yr angen i edrych o'r newydd ar ein dull o weithredu. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio'n llwyr ar atal digartrefedd ac yn yr amgylchiadau prin hynny lle na ellir ei atal, ar leihau'r niwed y mae'n ei achosi, canolbwyntio ar ailgartrefu'n gyflym, sicrhau bod digartrefedd yn ddigwyddiad prin, byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd. Mae'r dull yn ceisio cynorthwyo'r rheini sy'n wynebu digartrefedd ar hyn o bryd i gael llety hirdymor diogel, gan leihau'r llif i ddigartrefedd ar yr un pryd. Mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi gwneud y pwynt: maent wedi gwneud y pwynt am Tai yn Gyntaf, cynllun a groesewir gennym. Rydym yn buddsoddi £1.6 miliwn eleni yn ein prosiectau peilot. I fod yn glir: nid yw Tai yn Gyntaf yn ateb i bob dim; mae'n un agwedd ar ddull ailgartrefu cyflym. Mae angen inni weithredu ar draws y system gyfan os ydym am newid ein model darparu gwasanaeth. A rhaid ystyried deddfwriaeth fel y llinell amddiffynol olaf i atal digartrefedd, nid y gyntaf.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud hyn hefyd wrth ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol: nid targed yw'r pwynt 56 diwrnod, ond cynllun wrth gefn. Nid wyf am weld awdurdodau lleol yn dweud wrthyf eu bod wedi llwyddo i gyflawni eu rhwymedigaethau am fod pobl wedi cael eu gweld cyn pen 56 o ddiwrnodau pan allent fod wedi cael eu gweld cyn pen 63 diwrnod, 110 diwrnod, neu beth bynnag y bo. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â Leanne Wood. Mae hyn yn ymwneud â newid calonnau a meddyliau o fewn gweinyddiaeth y system. Ac er mwyn gwneud hynny, ac mewn ymateb i adroddiad y grŵp gweithredu, rwyf wedi siarad, neu mae fy swyddogion wedi siarad, â holl arweinwyr y cynghorau a phrif weithredwyr y pedair dinas fawr yng Nghymru lle mae'r pwyntiau cyfyng—mae'n ddrwg gennyf ddefnyddio'r term hwnnw, ond lle daw'r rhan fwyaf o bobl ddigartref iddynt. Oherwydd dyna lle mae gwasanaethau a dyna'n aml lle gallant gael rhywfaint o'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Ac rydym wedi siarad â hwy am symud y model yn y dinasoedd hynny y gaeaf hwn, mewn ymateb i argymhellion y grŵp gweithredu a dderbyniwyd gennym yn llawn. Ac mae pob un ohonynt, rwy'n falch iawn o ddweud, wedi croesawu hynny'n gyfan gwbl. Erbyn hyn mae hyfforddiant allgymorth grymusol ar waith ym mhob un o'r ardaloedd hynny ac ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â chydweithwyr ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac yn y blaen. A byddwn yn gweithio tuag at gael polisi lle nad oes unrhyw droi allan na rhyddhau pobl i ddigartrefedd gan unrhyw wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, cyn gynted ag y gallwn symud y gwasanaeth i'r llwybr hwnnw. Felly, nid wyf yn gwneud unrhyw esgus dros symud hynny yn ei flaen. Rhaid inni wneud rhywbeth yn gyflym iawn.
Mae'r grŵp gweithredu wedi argymell y dylem edrych o'r newydd ar ein dull o weithredu, a dylwn ddweud hefyd, oherwydd mae llawer o bobl wedi sôn amdanynt, fod gennym lwybrau penodol ar gyfer cyn-filwyr a phobl sy'n gadael y carchar. Rydym yn gweithio'n benodol gyda grwpiau gorchwyl a gorffen ar y llwybrau hynny i weld ble maent yn gweithio, pam eu bod yn gweithio, neu ble nad ydynt yn gweithio, pam nad ydynt yn gweithio, ac yn mynd ar drywydd hynny. Ac yn benodol, mae gennyf grŵp gorchwyl a gorffen yn gweithio gyda charchar Caerdydd, Cyngor Caerdydd a fy swyddogion, i wneud yn siŵr nad ydym yn cylchdroi pobl sy'n dod allan o garchar Caerdydd ar strydoedd Caerdydd. Pan fydd hynny wedi'i wneud, byddwn yn ei gyflwyno ledled Cymru. Felly, rwy'n credu ein bod yn mynd ati'n gyflym i geisio datrys hyn.
Rwyf hefyd yn cytuno'n llwyr â datgymhwyso'r Ddeddf Crwydradaeth. Rwyf wedi dweud hyn mewn nifer o gyfraniadau yn y Siambr y tymor hwn, Ddirprwy Lywydd, felly nid af drwyddo eto, gan fy mod wedi gwneud ein safbwynt yn glir iawn. Rydym hefyd yn cymryd cyngor cyfreithiol i weld a allwn ddatgymhwyso unrhyw adrannau ohoni'n gyfreithiol, ond rydym hefyd yn gweithio ar gytundebau gwirfoddol ledled Cymru i wneud yn siŵr bod cynghorau a heddluoedd yn cyflawni ar hynny. Rwyf hefyd yn cydweithio â fy nghyd-Aelod Lee Waters ar nifer o fentrau sy'n ymwneud â sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ar draws nifer o ardaloedd cyngor, a bydd Mike Hedges yn falch iawn o wybod bod Abertawe yn un ohonynt. Felly, rwy'n hapus iawn i wneud hynny.
Felly, rwy'n mynd i orffen drwy ddweud hyn: edrychwch, rwy'n cytuno'n llwyr fod angen inni groesawu'r mannau y gallwn gytuno arnynt ar draws y Siambr, ac mae llawer rydym yn cytuno yn ei gylch. Felly, rwy'n credu y gallwn wneud hynny. Gallwn osod y pethau na allwn gytuno arnynt i'r naill ochr. Rwy'n fwy na pharod i glywed syniadau da o bob rhan o'r Siambr, ond hefyd o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus a'r sectorau. Felly, rwy'n mynd i orffen gyda hyn, Ddirprwy Lywydd: galwaf ar bawb yma a'r holl arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i addo gweithio'n unol â'n hegwyddorion polisi i roi diwedd ar ddigartrefedd. Fe fyddwch wedi cael cyfle i ddarllen y datganiad polisi strategol, yr adroddiad gan y grŵp gweithredu a'n hymateb iddo. Cawsom lawer o gyfleoedd yn y Cyfarfod Llawn a'r pwyllgorau hefyd yn ystod yr wythnosau diwethaf i drafod y mater hwn. Nawr gallwn droi'r geiriau hynny'n weithredoedd. Rydym yn cychwyn ar adeg dyngedfennol o'r flwyddyn o ran marwolaethau ar y stryd. Nid wyf yn credu bod y ffigurau'n gywir, ond mae unrhyw farwolaeth yn farwolaeth yn ormod—gadewch inni fod yn glir. Mae pobl ddigartref yn marw yn eu 40au, ac ychydig yn iau i fenywod nag i ddynion—ond yn eu 40au. Mae'n warthus. Felly, rhaid inni wneud rhywbeth am y peth oherwydd, yma yng Nghymru, gyda'n gilydd, fe allwn ac fe wnawn roi diwedd ar ddigartrefedd. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan mewn dadl rymus iawn, ac adeiladol ar y cyfan, rwy'n credu—gyda rhai ymylon miniog; o ystyried natur y pwnc, mae'n debyg fod hynny'n gwbl briodol. Gadewch i mi fynd drwy rai o'r cyfraniadau.
Dechreuodd Neil gyda thaith ar hyd strydoedd Caerdydd, ac rwy'n meddwl bod honno'n ffordd deimladwy a phriodol iawn i ddechrau. Rwy'n credu bod y trydydd sector yn bartneriaid hanfodol sy'n cynnig atebion da. Nid oes gennyf gydymdeimlad mawr â'ch sylwadau ar yr ochr honno i bethau, ond roeddwn yn meddwl bod ein hatgoffa, mewn gwirionedd, am ein prifddinas ein hunain yn bwysig.
Leanne, ni soniais am fod yn anghydweithredol yn fy araith, ac fe ddylwn fod wedi gwneud mewn gwirionedd. Felly, rwy'n meddwl eich bod wedi rhoi eich bys ar her polisi go iawn a gwendid yn y ddeddfwriaeth dai gyfredol, ac mae'r holl grwpiau'n dweud hynny wrthym. Rwy'n cytuno mai'r prinder tai, sut bynnag y mae hynny wedi digwydd, sydd wedi sbarduno llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu o ran digartrefedd. Yna gwnaethoch sylwadau miniog iawn am y system fudd-daliadau; gwnaeth nifer o'r Aelodau eraill yr un fath, gan gynnwys y Gweinidog, a gyfeiriodd yn benodol at y lwfans tai lleol. Nawr, rwy'n credu y byddem yn elwa o ddadl gyfan ar hyn a sut y mae wedi effeithio ar y maes hanfodol rydym yn gyfrifol amdano—polisi tai a digartrefedd. Yn amlwg, nid ydym yn gosod polisi budd-daliadau, ond mae'n amlwg fod rhaid ei asesu o ran y modd y mae wedi effeithio ar y rhai mwyaf agored i niwed, a chredaf fod angen inni ei archwilio'n dda iawn, a chredaf efallai nad oedd rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd wedi'u seilio'n llwyr ar ddadansoddiad cywir ar hyn o bryd. Ond dylem fod yn agored iddo; dyna'n bendant yw'r meini prawf ar gyfer barnu unrhyw ddiwygio.
Soniodd Suzy fod angen i unrhyw ddull yn seiliedig ar hawliau ganolbwyntio ar y gallu i orfodi hawliau, ac roeddwn o'r farn fod hwnnw'n bwynt diddorol—rwy'n cytuno'n llwyr—a soniodd wedyn am yr angen i graffu ar ôl deddfu ar Ddeddf 2014, a fyddai wedyn yn arwain at gynnwys pethau fel bod yn anghydweithredol. Felly, roeddwn yn meddwl bod hwnnw'n gyfraniad pwysig.
Mike, mae bob amser yn bleser gwrando arnoch yn siarad am dai a materion cysylltiedig gan fod gennych gyfoeth o brofiad, a chalon garedig, os caf ddweud, o ran croesawu syniadau lle bynnag y dowch o hyd iddynt, a'r holl ystod o ddigartrefedd—y gwahanol fathau o ddigartrefedd, o dai anaddas i gysgu ar y strydoedd, a diffyg tai fforddiadwy, rhywbeth y mae gennych ddiddordeb angerddol ynddo. Mae hynny'n bendant yn rhywbeth y mae angen i ni ddod at ein gilydd yn ei gylch a'i ddatrys.
Rhoddodd Mark ddadansoddiad hanesyddol iawn i ni, gan gynnwys y dull gweithredu yn y Cynulliad cynnar a'i gyfraniadau, a soniodd am ddigartrefedd cudd yn benodol, a chredwn fod hynny'n allweddol iawn. Mae'r broblem hon wedi bod gennym yn hir iawn—rwy'n credu mai'r ateb gonest yw ei bod hi'n broblem sy'n eiddo i bawb ohonom.
Soniodd Caroline am yr hawl i gael to dros eich pen—dyna'r ffordd rwyf am ei roi hefyd—ac roedd yn croesawu ein cynllun gweithredu a'r rôl y gallai tsar ei chwarae.
Mohammad wedyn: ni yw'r pumed grŵp cyfoethocaf, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth i'w gofio bob amser pan nad oes gan lawer o'n dinasyddion hawl mor sylfaenol â thai. Fe wnaethoch y pwynt—nid wyf yn credu bod neb arall wedi dweud hyn—nad yw'r rhai sy'n cysgu ar y stryd eisiau mynd i hostel argyfwng bob amser, a hynny am wahanol resymau rwy'n eu deall yn iawn.
Roeddwn yn credu bod John wedi gwneud cyfraniad rhagorol fel Cadeirydd y pwyllgor llywodraeth leol a thai, ac roedd yn ddigon hael i gydbwyso ei sylwadau gyda beirniadaeth eithaf miniog, ond hefyd gyda lle credai ein bod yn gwneud cyfraniad gwerthfawr. Roedd yn croesawu'r elfen hawliau dynol ac yna siaradodd am bethau fel allgymorth grymusol, nad ydym bob amser yn gyfforddus yn ei gylch, ond mae'n rhywbeth sy'n cael ei godi gyda ni ac mae'n bwysig.
Wedyn, roeddwn yn credu bod Mandy wedi rhoi araith bwerus iawn mewn sawl ffordd, oherwydd roeddech yn hael eto wrth fyfyrio ar eich profiad eich hun fel person 15 mlwydd oed, a phwy all wybod beth sydd ym meddwl rhywun 15 oed yn y sefyllfa honno—tai annigonol, rhoi eich hun ar drugaredd ffrindiau neu fynd yn ôl i sefyllfa deuluol a oedd yn wirioneddol enbyd i chi. Rwy'n siŵr bod llawer o bobl a fyddai wedi clywed hynny sydd wedi bod yn y sefyllfa honno, neu hyd yn oed yn mynd drwyddi yn awr, ac a fyddai'n cael cryn dipyn o gymorth o wybod o leiaf fod rhywun yn ein Siambr wedi cael profiad uniongyrchol o'r broblem hon. Credaf fod sefyllfa cyn-filwyr yn allweddol iawn ac fel y dywedais, yn gynharach yr wythnos hon roeddwn yn edrych ar hynny ym Mhontypridd. Ac unwaith eto, rydych yn cefnogi'r dull tai yn gyntaf. Ac rwy'n croesawu ymateb y Gweinidog pan ddywedodd y dylem wneud hon yn agenda ar y cyd. Dylem goleddu pob syniad da a'u defnyddio. Ac unwaith eto, roeddech yn ddigon caredig i gydbwyso'ch sylwadau â'r meysydd lle teimlwch fod gan ein hochr ni fwy i ateb drosto nag y teimlwch iddo gael ei godi y prynhawn yma efallai. Ond rwy'n credu bod y natur adeiladol yn gyffredinol yn sylfaen dda inni sicrhau ein bod yn trafod y pwnc yn aml yn ei holl gymhlethdodau. Diolch i chi am eich amynedd, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. Y cwestiwn yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen i'r bleidlais gyntaf.