– Senedd Cymru am 4:15 pm ar 8 Ebrill 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynais ym mis Tachwedd. Mae'n sicr yn wir fod y ddadl hon yn digwydd mewn cyfnod digynsail, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gydnabod, er bod heriau sylweddol ar hyn o bryd, bod yn rhaid inni bob amser edrych i'r dyfodol.
Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths, Llyr Gruffydd, Mick Antoniw ac aelodau eu pwyllgorau am eu dull trwyadl ac adeiladol o graffu ar y Bil a'u hadroddiadau a'u hargymhellion dilynol. Ysgrifennais at y tri phwyllgor ar 23 Mawrth yn nodi fy syniadau mewn ymateb i'w sylwadau a'u hargymhellion. Felly, ni cheisiaf fynd i'r afael â phob un o bron i 60 o argymhellion yn yr amser sydd gennym y prynhawn yma, ond byddaf yn myfyrio ar sylwadau'r Aelodau os a phan symudwn tuag at Gyfnod 2.
Wrth gyflwyno'r Bil, dywedais fod y darpariaethau wedi bod yn destun ymgynghori helaeth. Caiff hyn ei gydnabod gan y pwyllgorau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu ac wedi gweithio gyda ni dros y blynyddoedd ar ddatblygu'r cynigion yn y Bil. Mae hyn yn cynnwys aelodau'r gweithgor ar lywodraeth leol ac is-grŵp dilynol y cyngor partneriaeth sydd wedi llunio'r Bil ac sy'n helpu i gyd-gynhyrchu'r canllawiau a'r trefniadau rheoleiddio a grëir gan y Bil. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r sefydliadau a'r unigolion a ddarparodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn ystod y cyfnod craffu hwn.
Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i alluogi diwygio etholiadol ac yn sefydlu fframwaith llywodraethu newydd ar gyfer llywodraeth leol. Rwy'n falch bod rhanddeiliaid, yn gyffredinol, yn cefnogi darpariaethau'r Bil, fel y mae'r pwyllgorau. Felly, rwy'n falch iawn fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi argymell bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Gan droi wedyn at fanylion y Bil, rwy'n falch bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cefnogi ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Rwyf hefyd yn falch bod y pwyllgor yn cefnogi ein barn mai'r prif gynghorau sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu drostynt eu hunain pa system bleidleisio sy'n gweddu'n well i anghenion eu pobl a'u cymunedau lleol.
Rwy'n cydnabod holl safbwyntiau'r pwyllgor ar y gwelliannau arfaethedig ar gyfer Cyfnod 2 a fyddai'n caniatáu i garcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa o Gymru sydd â dedfrydau o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Nid ailadroddaf y rhesymau dros gyflwyno darpariaethau yng Nghyfnod 2 o ran rhoi'r bleidlais i garcharorion, ond gallaf eich sicrhau fy mod wedi ystyried yn ofalus yr holl bwyntiau a wnaed gan y pwyllgorau ar y darpariaethau hyn. Yn anffodus, Llywydd, rwyf wedi gorfod gwneud y penderfyniad, fel rhan o ystyriaeth ehangach Llywodraeth Cymru o'i rhaglen ddeddfwriaethol ar ddechrau ein gwaith cynllunio ar gyfer ymdopi â'r amgylchiadau difrifol yr ydym ynddynt, i beidio ag ymrwymo unrhyw adnodd swyddogol yn y dyfodol i'r gwelliant arfaethedig hwn yng Nghyfnod 2.
Llywydd, bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn ymwybodol y bydd y ddadl heddiw, os caiff y cynnig ei basio, yn caniatáu inni barhau i gynnwys gwaith yn y dyfodol ar y Bil yn ein cynlluniau ar gyfer materion y byddwn eisiau iddynt fod yn barod i'w datblygu unwaith y bydd yr argyfwng a wynebwn nawr wedi mynd heibio. Gwn fod llawer o Aelodau'n cefnogi'r Bil ac amcanion ei bolisi, a bydd pasio'r cynnig hwn heddiw yn caniatáu inni gynllunio adnoddau ar gyfer y dyfodol i weithio ar amcanion y polisi hynny yr ydym ni'n gytûn yn eu cylch.
Gan droi wedyn at rannau o'r Bil nad ydynt yn ymwneud ag etholiadau, mae llywodraeth leol wedi bod yn galw am bŵer cymhwysedd cyffredinol am flynyddoedd lawer. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid i ddynodi lle mae pwerau neu hyblygrwydd ychwanegol wedi bod o gymorth iddyn nhw gyflawni eu hamcanion.
Rwy'n derbyn argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch y ddyletswydd i annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn cyrff cysylltiedig. Rwyf felly'n bwriadu cyflwyno gwelliant yn dileu'r cysyniad o awdurdodau cysylltiedig yng Nghyfnod 2.
Rwy'n cydnabod pryderon y Pwyllgor Cyllid, ar sail rhai llywodraeth leol, ynghylch cost ac ymarferoldeb y darpariaethau darlledu. Rwy'n credu bod gennym ni ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau bod y darpariaethau'n gweithio yn y ffordd fwyaf synhwyrol ac ymarferol. Sefydlwyd gweithgor gyda CLlLC i ystyried y materion hyn ac i bwyso a mesur beth fyddai'r ffordd orau o ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau y mae'r darpariaethau hyn yn ei gynnwys i eithrio cyfarfodydd cyngor penodol o'r gofyniad i ddarlledu.
Rwy'n derbyn argymhelliad 19 y pwyllgor mewn cysylltiad â rheoli perfformiad gwael gan brif weithredwyr, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru a Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol ar ddull gweithredu diwygiedig.
Mae'r pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion mewn cysylltiad â rhannu swyddi. Rwyf wedi ymrwymo i alluogi trefniadau hyblyg pan fo'n bosib o fewn prif gyngor, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ystyried goblygiadau ehangu yn y maes hwn a pha gamau a chanllawiau y gallai fod eu hangen.
Bydd cyd-bwyllgorau corfforaethol yn darparu dull cyson i awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi'i sefydlu mewn statud ar gyfer cydweithredu rhanbarthol. Rwy'n croesawu sylwadau'r pwyllgor ar ein cynigion. Fel y pwysleisiwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n fodlon ymrwymo i ddarparu asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a chadarn ar gyfer pob darn o is-ddeddfwriaeth a wneir o ganlyniad i'r Bil hwn. Dyma'r lle gorau i asesu eu costau a'u manteision penodol.
Rwy'n croesawu'r graddau o gonsensws ymysg y rhai sy'n rhoi tystiolaeth ar yr angen am y darpariaethau yn y Bil, a'u priodoldeb, a fydd yn cyflwyno system newydd ar gyfer gwella perfformiad a llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygu gan gymheiriaid. Yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, bwriadaf gyflwyno gwelliant a fyddai'n cynnwys darpariaeth yn y Bil sy'n egluro amseriad adroddiad hunanasesu.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi cyhoeddi canllawiau: prosbectws ar gyfer uno'r prif gynghorau yng Nghymru yn wirfoddol. Paratowyd y canllawiau gan y gweithgor ar lywodraeth leol. Mae'n rhoi cyngor ymarferol ar y materion craidd y bydd angen mynd i'r afael â nhw yn rhan o'r bwriad i ddatblygu unrhyw gynnig i uno'n wirfoddol.
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a gwasanaethau cynghori i wella pob agwedd ar gasglu'r dreth gyngor a rheoli ôl-ddyledion. Bydd y gwaith hwn, sy'n canolbwyntio ar atal, yn parhau.
Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch y gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer arfer pwerau is-ddeddfwriaethol a phwerau dirprwyedig eraill yn y Bil. Ni fu'n bosibl imi dderbyn holl argymhellion y Pwyllgor yn llawn, a rhoddais fy rheswm yn fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor.
Rwy'n cydnabod ac yn derbyn mewn egwyddor argymhelliad 32 y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio'r canllawiau ar berfformiad a llywodraethu yn y Bil i dynnu sylw at bwysigrwydd ystyriaethau tai wrth gyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol fel enghraifft o ble dylai cynghorau fod yn ymdrechu i wneud yn well ac nid dim ond bodloni gofynion sylfaenol. Bydd hyn yn sicrhau bod y ddarpariaeth o ran tai yn cael ei hystyried ar y cyd â'r ystod o bwerau a dyletswyddau sydd gan gynghorau fel rhan o asesiad corfforaethol ehangach o berfformiad cyffredinol y cyngor, yn hytrach nag ar ei phen ei hun.
I gloi, mae'r Bil hwn yn darparu'r pwerau a'r offer y mae llywodraeth leol wedi bod yn gofyn amdanynt. Bydd yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch, o safon uchel ar gyfer a chyda'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil heddiw. Diolch, Llywydd.
Diolch. Cyn i mi alw'r siaradwr nesaf, a gaf i ddweud fy mod yn ymwybodol bod Neil McEvoy yn darlledu'n fyw ar Facebook yn ystod y trafodion? Mae gen i fy ffôn wrth law, ac roeddwn i'n gallu ei wylio, er nad oeddwn i'n ei glywed. Mae hynny'n gwbl groes i'm cyfarwyddyd i ar y dechrau, ac yn groes i'n Rheolau Sefydlog. Rwyf wedi gofyn i chi gael eich symud o'r cyfarfod hwn o'r Cynulliad, ac ni chewch eich galw yn ystod y ddadl hon.
Mark Isherwood—mae'n ddrwg gennyf, mae angen imi alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gyntaf, John Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni i helpu i lywio ein gwaith. Sylwaf fod yr amserlen dynn ar gyfer cyflawni ein gwaith craffu wedi achosi anawsterau i rai rhanddeiliaid, felly rydym yn fwy diolchgar byth am eu cyfraniad.
Cyfeiriwyd llawer at y ffaith y buwyd wrthi'n paratoi'r Bil hwn ers blynyddoedd lawer. Mae'n sylweddol o ran ei gynnwys ac yn cwmpasu ystod eang o ddarpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau llywodraeth leol. Yn amlwg, ers cyflwyno'r Bil, mae'r amgylchiadau wedi newid yn sylweddol iawn, ond mae'n dal yn ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth, ac ni ddylid peidio â chraffu arno.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan randdeiliaid, gwnaethom argymell y dylai'r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Fodd bynnag, credwn y gellir cryfhau'r Bil mewn rhai meysydd, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys cyfanswm o 32 o argymhellion, sy'n amlinellu'r gwelliannau yr hoffem eu gweld yn ystod y cyfnodau diwygio.
Mae'n siomedig mai dim ond saith o'n hargymhellion a dderbyniwyd yn llawn gan y Gweinidog, er fy mod yn sylweddoli bod nifer o rai eraill wedi'u derbyn mewn egwyddor. Roedd ein hargymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth gan randdeiliaid arbenigol, felly byddwn yn annog y Gweinidog i ailystyried ei hymateb i rai o'r rhain.
O ran y darpariaethau sy'n ymwneud ag ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed, credwn y bydd angen codi ymwybyddiaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod grwpiau newydd o bleidleiswyr yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gwneud defnydd o'u pleidlais. Felly, rydym yn argymell y dylai'r Bil gynnwys darpariaeth benodol i gyflwyno lefel ddigonol o addysg ar wleidyddiaeth a democratiaeth yn ein holl ysgolion yng Nghymru. Rydym yn credu y dylai hyn gael ei ategu gan gynlluniau gwersi clir i rymuso athrawon i ddarparu'r gwersi hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed fel un o'r prif resymau dros fwrw ymlaen â'r Bil hwn ar hyn o bryd. Felly, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn datblygu eu dealltwriaeth a'u hymwybyddiaeth o'u hawl i bleidleisio, neu fel arall bydd y darpariaethau hyn yn llai effeithiol nag y byddem ni i gyd yn ei hoffi.
Er gwaethaf yr amheuon a fynegwyd ynglŷn â'r dull yn y Bil o ganiatáu i gynghorau unigol ddewis eu systemau pleidleisio eu hunain, rydym yn cydnabod manteision posibl systemau etholiadol cyfrannol, megis Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, yn enwedig fel ffordd o gynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i archwilio diwygiadau i drefniadau pleidleisio, gan gynnwys yr effaith gadarnhaol y gallai Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ei chael ar gynyddu amrywiaeth. Mae nifer o ddarpariaethau eraill yn y Bil sydd â'r nod o gynyddu amrywiaeth, yn arbennig galluogi rhannu swyddi a chyfrifoldebau newydd yn ymwneud ag ymddygiad cynghorwyr. Er ein bod yn croesawu'r rhain, credwn y gallai'r Bil fynd ymhellach, fel yr adlewyrchir yn ein hargymhellion.
I gloi, er ein bod wedi argymell i'r Cynulliad gymeradwyo'r egwyddorion cyffredinol, rydym yn credu bod lle i gryfhau'r Bil yn y ffyrdd a amlinellais heddiw ac a amlinellir yn fanylach yn ein hadroddiad. Diolch, Llywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rydw i'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud 19 argymhelliad, ac rydw i'n diolch i'r Gweinidog am ei llythyr, dyddiedig 23 Mawrth, yn nodi ymateb i'r argymhellion hynny, ac, o ystyried faint o amser, wrth gwrs, sydd ar gael ar gyfer y ddadl yma heddiw, mi fyddaf i'n canolbwyntio ar ein prif bryderon ni'n unig. Rydym ni fel pwyllgor yn cydnabod bod hwn yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth, ond mae yna ddau faes y mae gan y pwyllgor bryderon penodol yn eu cylch nhw.
Yn gyntaf, pan gyflwynodd y Gweinidog y Bil, mi gyhoeddodd ei bwriad i gyflwyno gwelliannau i estyn yr etholfraint i garcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa. Roeddem ni'n feirniadol o ddull tebyg a gafodd ei ddefnyddio wrth i ni graffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), pan gyhoeddwyd yn ystod Cyfnod 1 y byddai gwelliannau sylweddol yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â threfniadau ariannol y Comisiwn Etholiadol bryd hynny. Mae'r pwyllgor yn ailadrodd, felly, ei farn bod mewnosod darpariaethau newydd drwy welliannau yng Nghyfnod 2 yn amharu ar allu'r pwyllgor i ystyried costau cyffredinol y ddeddfwriaeth arfaethedig, yn enwedig gan fod y cyfle i gynnal gwaith craffu ariannol ar y newidiadau hyn yn gyfyngedig. Heddiw, mi ofynnir i'r Cynulliad, wrth gwrs, i gymeradwyo penderfyniad ariannol, ond, eto, os bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud yn ystod Cyfnod 2, bydd y Cynulliad wedyn wedi pleidleisio dros ymrwymo adnoddau heb gael gwybod beth yw costau llawn y Bil. Mae'r pwyllgor o'r farn ei bod hi'n hanfodol bod gan y Cynulliad y wybodaeth ariannol berthnasol i sicrhau ei fod yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth pan ofynnir iddo ymrwymo adnoddau.
Yn ail, mae'r Bil yn cynnwys nifer sylweddol o bwerau galluogi i Weinidogion Cymru a dyw'r pwerau hyn, wrth gwrs, ddim wedi cael eu costio. Mae hwn hefyd yn fater rydym ni wedi'i godi ar sawl achlysur, sef y dylai'r Aelod sy'n gyfrifol gynnwys yr amcangyfrif gorau o'r costau sy'n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol. Serch hynny, rydw i'n falch bod y Gweinidog wedi cytuno mewn egwyddor i argymhellion 1, 5, 15 ac 17, sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn darparu asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a chadarn ar gyfer unrhyw is-ddeddfwriaeth berthnasol sy'n cael ei gwneud o ganlyniad i'r Bil hwn.
Mae'r pwyllgor yn pryderu bod rhai costau yn yr asesiad rheoleiddiol yn ymwneud â phleidleisio, etholiadau a chodi ymwybyddiaeth yn gostau ar gyfartaledd ar draws prif gynghorau ac nad ydyn nhw'n ystyried y gwahaniaethau rhwng ardaloedd awdurdodau lleol. Rŷn ni o'r farn bod rhai costau yn debygol o daro rhai ardaloedd yn drymach na'i gilydd. Yn argymhelliad 2, rŷn ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhagor o waith i nodi dosbarthiad yr etholwyr ledled Cymru, ac egluro'r dull mae'n bwriadu'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw gyllid a ddyrennir i gefnogi'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud ag etholiadau a phleidleisio. Rŷn ni'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn a'i bod hi'n gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i ystyried y ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru reoli'r effeithiau gwahaniaethol posib ar awdurdodau lleol unigol. Edrychwn ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf maes o law.
Mewn perthynas ag etholiadau a phleidleisio, mae'r pwyllgor o'r farn bod nifer o feysydd lle gellid bod wedi darparu rhagor o wybodaeth. Mae'n siom bod argymhelliad 6, sy'n gofyn am ragor o wybodaeth am y mathau o gynlluniau y bydd Llywodraeth Cymru efallai am eu treialu, a'r adnoddau posib sy'n ofynnol ar gyfer gweithgaredd o'r fath, wedi cael ei wrthod. Rŷn ni'n nodi nad yw'r Gweinidog yn bwriadu treialu'r un peilot etholiadol cyn yr etholiadau lleol yn 2022 nac ar gyfer yr etholiadau hynny, ond mae'r Gweinidog, er hynny, wedi nodi ei bod yn debygol y bydd goblygiadau o ran cost oherwydd newidiadau i feddalwedd rheoli etholiadol, staffio, hyfforddiant, ac ati. Mae'r pwyllgor o'r farn y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol fod wedi cynnwys amcangyfrif o'r adnoddau y mae'n bosib y bydd eu hangen ar gyfer gweithgaredd o'r fath.
Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddarlledu cyfarfodydd, a hynny er budd tryloywder yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif y byddai'r contract darlledu ar gyfer Cymru yn costio oddeutu £12,000 y flwyddyn i brif gyngor ar gyfartaledd. Fe glywsom ni dystiolaeth bod y ffigwr hwn wedi cael ei amcangyfrif yn rhy isel o lawer, ac rŷn ni'n falch felly bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad 10, i ystyried a yw contract darlledu Cymru gyfan yn ymarferol, ac ai hwn fyddai'r ateb mwyaf cost-effeithiol, ac yn falch y bydd ei swyddogion yn ystyried ymhellach y manteision a'r anfanteision o wneud hyn.
Mae'r pwyllgor yn nodi cefnogaeth gyffredinol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r cynnig ar gyfer cydbwyllgorau corfforedig fel cyfrwng ar gyfer cydweithredu. Fodd bynnag, rŷn ni o'r farn y gallai sefydlu pwyllgorau o'r fath arwain at gostau cychwynnol posib, yn ogystal, wrth gwrs, ag arbedion posib gydag amser. Mae'r pwyllgor yn falch bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad 16, sef bod Llywodraeth Cymru yn rhannu dadansoddiad o gostau a buddion sefydlu cydbwyllgorau corfforedig pan fydd yr adolygiad yn dod i ben ac y bydd yn ystyried rhoi cyfrif am y wybodaeth hon yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Rwy'n cydnabod y ffaith y bydd y Bil hwn yn symud ymlaen, wrth gwrs, mewn cyfnod unigryw a'r posibilrwydd y bydd yna newidiadau yn cael eu gwneud yn y cyfnodau diwygio, ac efallai y bydd rheini yn llai sylweddol na'r disgwyl. Fodd bynnag, dwi am ailadrodd fy sylwadau o ddechrau fy nghyfraniad, sef, wrth gwrs, y dylid sicrhau bod Biliau yn cael eu datblygu mor drylwyr a phosib cyn eu cyflwyno ac na ddylid defnyddio cyfnodau diwygio i gyflwyno cynigion newydd a helaeth nad ydyn nhw wedi bod yn destun craffu yng Nghyfnod 1. Diolch, Llywydd.
Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni adrodd ar y mesur hwn ar 13 Mawrth a gwneud 12 argymhelliad, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, fe ymatebodd hi ar 23 Mawrth. Croesawaf y ffaith fod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad 5 a'r sylwadau cadarnhaol a wnaed o ran argymhellion 4, 6, a 9 o'n heiddo.
Hoffwn wneud rhai sylwadau cyffredinol ar y Bil, sydd wedi cymryd chwe blynedd i'w baratoi. Mae'n Fil cymharol gymhleth, ac mae'n cynnwys 98 o bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth. Nawr, mae modd cyfiawnhau llawer o'r pwerau a gymerir, ond roeddem yn bryderus o glywed y Gweinidog yn dweud bod llawer ohonyn nhw yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb i amgylchiadau yn y dyfodol na ellid eu rhagweld eto. Felly, nid ydym ni o'r farn ei bod hi'n briodol i Lywodraeth Cymru gymryd pwerau i ymdrin â pholisïau nad ydyn nhw wedi eu datblygu nac eu rhagweld yn llawn eto. Credwn fod hwn yn arfer deddfwriaethol gwael. Mae'r dull hwn yn rhoi gormod o rym i'r Llywodraeth ar draul y ddeddfwrfa.
Nawr, yn gyffredinol, mae natur llawer o'r pwerau gwneud rheoliadau a gymerir yn y Bil yn rhoi'r argraff ei fod yn anghyflawn wrth ei gyflwyno. Mae'r farn negyddol hon yn cael ei chryfhau gan fwriad clir y Llywodraeth i gyflwyno polisi arwyddocaol yng Nghyfnod 2 y broses ddeddfwriaethol o ran rhoi'r bleidlais i garcharorion, gan osgoi Cyfnod 1. Rydym yn cydnabod bod y Gweinidog ers hynny wedi darparu gwelliannau drafft ynglŷn â rhoi'r bleidlais i garcharorion cyn trafodion Cyfnod 2. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried bod hyn yn disodli proses graffu Cyfnod 1. Mae'r dull gweithredu a fabwysiadwyd yn osgoi'r gwaith craffu ac ymgynghori gyda rhanddeiliaid a fyddai wedi digwydd yng Nghyfnod 1. Mae'r ffaith bod yn rhaid i'r pwyllgor wneud sylwadau o'r fath yn barhaus yn siomedig, ac rydym yn gwneud hynny er mwyn sicrhau y creffir yn briodol ac yn deg ar ddeddfwriaeth ac y llunnir cyfreithiau da.
Fe hoffwn i dynnu sylw nawr at dri o'r argymhellion nad yw'r Gweinidog wedi eu derbyn. Mae a wnelo'r cyntaf, argymhelliad 2, â'r angen i gyflwyno deddfwriaeth sydd wedi ei ffurfio'n llawn pan gaiff ei chyflwyno. Mae adran 18 yn ymwneud â rheoliadau i ddarparu ar gyfer cronfa ddata ar gyfer y gofrestr etholiadol. Cydnabu'r Gweinidog fod y pwerau i wneud rheoliadau wedi eu cymryd oherwydd y diffyg amser i gynnwys gwybodaeth ar wyneb y Bil. Felly, fe wnaethom argymell gweithdrefn uwchgadarnhaol ar gyfer y pwerau hyn i wneud rheoliadau yn y lle cyntaf, ac yna'r weithdrefn gadarnhaol. Gwrthododd y Gweinidog yr argymhelliad hwn, gan nad oedd yn cyd-fynd â llawlyfr deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â phryd i ddefnyddio'r weithdrefn uwchgadarnhaol. Nid yw hon, yn ein barn ni, yn ddadl gref nac yn darbwyllo, a byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ailystyried ein hargymhelliad. Byddai'n caniatáu craffu mwy cadarn ar gynigion a fyddai, yn ôl ei chydnabyddiaeth ei hun, wedi cael eu cynnwys ar wyneb y Bil pe byddai amserlen y Llywodraeth ei hun wedi caniatáu mwy o amser. Nawr, rwy'n cydnabod ac yn croesawu cyfeiriad Gweinidogion Cymru at ganllawiau arfer da wrth gyflwyno eu cynigion cyfreithiol. Fodd bynnag, roedd ein hargymhelliad yn seiliedig ar ein dadansoddiadau ein hunain, a oedd yn cynnwys yr amgylchiadau a arweiniodd at y darpariaethau a gynhwysir yn adran 18.
Mae argymhelliad 3 yn ymwneud ag adran 26 y Bil. Mae adran 26 yn ceisio newid y darpariaethau presennol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. Un o themâu allweddol y Bil yw grymuso awdurdodau lleol ac annog gwneud penderfyniadau ar y lefel lywodraethol isaf posibl. Felly, mae'n syndod, felly, gweld darpariaeth yn y Bil sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i gynnal cynllun etholiadol arbrofol yn groes i'w ddymuniadau. Mae'n fwy o syndod fyth na fyddai penderfyniad i gyhoeddi Gorchymyn, fel y mae wedi ei ddrafftio yn y Bil ar hyn o bryd, yn destun unrhyw graffu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Gellir defnyddio'r pŵer yn adran 26 i newid systemau etholiadol awdurdod lleol, felly nid yw hwn yn bŵer mân neu dechnegol. Gallai gael effaith sylweddol ar ffurfiant gwleidyddol awdurdod lleol ar ôl etholiad, hyd yn oed pe na byddai ond ar gyfer un gyfres o etholiadau. Gallai unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru o unrhyw blaid wleidyddol benodol i ddefnyddio'r pŵer, felly, fod mewn perygl o fod yn gymhelliant gwleidyddol ac, felly, i fod yn ddadleuol. Hyd yn oed pe na byddai cymhelliant gwleidyddol, gallai hyn, yn sicr, fod yn dybiaeth.
Fel yr amlygwn yn aml, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng sut y gallai Gweinidogion Cymru ddefnyddio pwerau, yn hytrach na bwriad Gweinidogion Cymru sydd yn y swydd ar hyn o bryd wrth eu cymryd. O dan yr amgylchiadau, credwn y dylid cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer gwneud Gorchymyn o dan sylw. Mae'r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrthod ein hargymhelliad ar y sail ei fod yn anghymesur yn siomedig, o ystyried bod y pŵer i'w arfer heb i awdurdod lleol gymell hynny, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, a heb i'r Cynulliad graffu arno. Yn ein barn ni, nid yw'r pŵer hwn yn gweddu i Fil sy'n ceisio grymuso awdurdodau lleol.
Yn olaf, hoffwn ailadrodd ein barn bod y pwerau i wneud rheoliadau sydd yn adran 109 (2) y Bil yn rhy eang, ac, fel y nodwyd yn Argymhelliad 11, dylid dileu'r gair 'hwylus', felly, o'r ddarpariaeth hon. Diolch, Llywydd.
[Anhyglyw.]—ymarferiad torri-a-gludo yn cynnwys, o bosib, 28 o ddarpariaethau a gynhwyswyd ym Mhapur Gwyn llywodraeth leol Mark Drakeford o 2017, y'i rhoddwyd o'r neilltu yn wreiddiol. Yn ei ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â deddfwriaeth yng ngoleuni COVID-19 yr wythnos diwethaf, gofynnodd y Prif Weinidog i'r Senedd Cymru hon weithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio dulliau newydd o graffu er mwyn caniatáu iddi ddatblygu ei rhaglen ddeddfwriaethol o dan yr amgylchiadau presennol. Nid oedd unrhyw gyfeiriad yn y datganiad hwn at roi'r bleidlais i garcharorion a euogfarnwyd. Sylwn hefyd bod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil hwn ddim ond yn derbyn chwarter ein 32 argymhelliad, argymhellion a wnaed ar ôl casglu tystiolaeth fanwl gan amrywiaeth o dystion arbenigol ac oriau o drafodaeth gan Aelodau'r Pwyllgor.
Mae'r Bil yn darparu bod pob prif gyngor yn cael penderfynu drosto'i hun ar y system bleidleisio i'w defnyddio, boed hynny y cyntaf i'r felin neu gynrychiolaeth gyfrannol drwy ddefnyddio'r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Fodd bynnag, roedd 33 o'r 35 a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn anghytuno ac roedd yn well ganddyn nhw gadw un system bleidleisio ar gyfer Cymru gyfan. Ymhellach, fel y dywed ein hadroddiad pwyllgor, mae'r
'rhan fwyaf o’r dystiolaeth a gafwyd yn gwrthwynebu’r darpariaethau sy’n caniatáu i brif gynghorau ddewis eu system bleidleisio eu hunain.'
Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol hefyd yn nodi y byddai cost ychwanegol pe byddai prif gyngor yn dewis newid ei system bleidleisio, ond nad yw'r costau hyn yn hysbys ar hyn o bryd. Mae'n destun pryder mawr felly fod y Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gynnal rhaglen ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—CLlLC—prif gynghorau a chymunedau ledled Cymru ynghylch diwygio trefniadau pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Bydd darpariaethau yn y Bil yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu a chynnal cronfa ddata ar gyfer Cymru gyfan o'r bobl sydd ar y gofrestr etholiadol. Tynnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sylw at y fantais o leihau'r posibilrwydd i unigolion gofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad. Fodd bynnag, mae adroddiad ein pwyllgor yn nodi nad yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn diffinio unrhyw gostau ar gyfer datblygu cronfa ddata Cymru gyfan, ac mae'n cydnabod pryderon a grybwyllwyd ynghylch diogelwch data personol unigolion. Unwaith eto, mae'n destun pryder mawr bod y Gweinidog wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylid diwygio'r darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru heb wneud cais er mwyn sicrhau y caiff unigolion sydd wedi cofrestru yn y modd hwn eu rhoi ar y gofrestr etholiadol gaeedig yn hytrach na'r gofrestr agored.
Rydym yn cefnogi darpariaeth y Bil i ddileu'r pŵer i ganiatáu carcharu fel cosb am beidio â thalu'r dreth gyngor. Fodd bynnag, fel y mae ein hadroddiad pwyllgor yn ei nodi, roedd 22 o'r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru o'r farn y dylid cyflwyno dulliau eraill o adfer y dreth pe byddai hynny'n cael ei ddileu, gan gynnwys awdurdodau lleol. Mae'n destun pryder mawr, felly, bod y Gweinidog wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ystyried mesurau amgen ar gyfer adennill dyledion a gronnwyd drwy beidio â thalu'r dreth gyngor. Mae'r Gweinidog yn iawn i ganolbwyntio ar atal, ond bydd yn dal angen cosb nad yw'n garchar ar gyfer rhai.
Ar hyn o bryd, caiff dinasyddion Iwerddon a'r Gymanwlad a dinasyddion perthnasol yr UE bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a rhai datganoledig, ond bydd y Bil hwn yn galluogi pob dinesydd tramor sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Ceir cytundeb cyfatebol hirsefydlog rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon o ganlyniad i'r berthynas hanesyddol rhwng y ddwy wlad, ac mae gallu dinasyddion y Gymanwlad i bleidleisio yn etholiadau'r DU yn waddol o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Fodd bynnag, mae'r Bil hwn yn cynnig cam yn rhy bell. Mae gan y rhan fwyaf o'r gwledydd sy'n caniatáu i ddinasyddion tramor bleidleisio o leiaf ofyniad o statws preswylio o leiaf, ond mae hyd yn oed hynny ar goll yn y fan yma. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, David Melding, wrth graffu ar ddarpariaethau tebyg yn Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru), dylai eu dinasyddiaeth benderfynu ble maen nhw'n pleidleisio yn bennaf, ac os ydyn nhw'n gwneud y dewis i beidio â cheisio dinasyddiaeth yma, yna eu dewis nhw yw peidio â chael hawliau gwleidyddol i'r graddau o gael pleidleisio yn ein hetholiadau ni.
Yn waeth byth, er nad oedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys darpariaeth yn y Bil hwn ar gyfer rhoi'r hawl i garcharorion bleidleisio, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau, os bydd Aelodau yn derbyn y cynnig hwn heddiw, y gwnaiff gyflwyno gwelliannau i ganiatáu i garcharorion sy'n cael dedfrydau o lai na phedair blynedd, megis ar gyfer ymosodiad cyffredin a symbylwyd gan hil, torri gorchymyn trosedd rhyw, neu buteinio menywod, i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mewn geiriau eraill, ar adeg o argyfwng cenedlaethol, mae'r Llywodraeth hon yng Nghynulliad Cymru eisiau i ni ei helpu i ruthro deddfwriaeth Llywodraeth Cymru trwodd a fydd yn cyflwyno newidiadau sy'n aruthrol o amhoblogaidd ymhlith y bobl, ac na allwn ni eu cefnogi.
Cyn dechrau, hoffwn ddiolch ar goedd i'r Gweinidog a'r Llywodraeth, a datgan fy nghefnogaeth i'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd wrth ymestyn y cyfyngiadau ar symud. Ar y darn hwn o ddeddfwriaeth, mae'r Gweinidog a'i thîm wedi gwneud llawer iawn o waith eisoes, ac rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan John Griffiths, â minnau'n aelod o'i bwyllgor.
Pan gyflwynwyd y Bil am y tro cyntaf, roeddwn i'n credu bod llawer i'w groesawu ynddo—rwy'n dal i gredu hynny. Mae pleidleisio yn 16 oed a dileu'r rhwystrau i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, yn enwedig, yn ddarpariaethau pwysig iawn. O dan amgylchiadau arferol, byddem wedi bod yn cefnogi'r Bil hwn heddiw ac yn edrych tuag at ei gryfhau drwy welliannau a phrofi ewyllys y Llywodraeth gyda rhai syniadau newydd. Ond nid yw'r rhain yn amgylchiadau arferol, ac nid nawr yw'r amser i drafod y Bil hwn. Bydd llawer o bobl yn pendroni sut y gallai hyn fod yn unrhyw fath o flaenoriaeth i'r Llywodraeth ar hyn o bryd, pan fo pobl yn marw bob dydd. Dylai pob un ohonom ni ganolbwyntio'n gadarn ar helpu'r wlad i ymdrin â'r argyfwng iechyd mwyaf mewn degawdau, pan na fyddai'n or-liwio i ddweud ein bod ni mewn sefyllfa debyg i adeg rhyfel i raddau helaeth.
O safbwynt ymarferol, mae'n anodd iawn cyfathrebu ar hyn o bryd, ac yn amhosib craffu'n effeithiol. Nid ydym ni'n gwybod mewn gwirionedd, yn glir, beth yw bwriadau Llywodraeth Cymru wrth i'r Bil hwn fynd tuag at Gyfnod 2, oherwydd, yn amlwg, byddai craffu trwyadl ar ddarn o ddeddfwriaeth mor helaeth â hyn yn amhosibl, o leiaf yn y dyfodol rhagweladwy. Barn Plaid Cymru yw, os na allwn ni ddeddfu'n iawn oherwydd yr amgylchiadau, ni ddylem ni fod yn deddfu o gwbl, ac y byddai gwneud hynny'n anghyfrifol.
Amser cyfyngedig sydd gennym ni heddiw i graffu ar y Llywodraeth yr wythnos hon, a dylid neilltuo'r holl amser hwn i graffu ar ymateb y Llywodraeth i'r coronafeirws. Mae'n drueni ein bod ni, o'r amser a roddwyd i ni, wedi rhoi hanner hynny i'r ddadl hon ar ddeddfwriaeth y byddem yn dadlau nad yw'n sensitif o ran amseru.
Rwyf yn sylwi bod y Llywodraeth wedi dweud bod angen iddi basio'r ddeddfwriaeth hon heddiw er mwyn i waith gael ei wneud mewn pryd ar gyfer 2022. Dydw i ddim yn siŵr a yw hyn yn dal dŵr yn llwyr. Os ydym ni mewn gwirionedd yn dweud y byddai oedi o ychydig fisoedd yn peryglu prosiect o flynyddoedd lawer, rwy'n siŵr bod cwestiynau ynglŷn â rheoli'r prosiect dwy flynedd hwnnw nad oes ganddo unrhyw hyblygrwydd yn yr amserlen. Mae hefyd yn werth nodi, rwy'n credu, mai llusgo traed deddfwriaethol sydd wedi dal materion yn ôl yn barod. Pleidleisio yn 16 oed fu ewyllys pendant y Senedd ar sail drawsbleidiol ers sawl blwyddyn bellach. Rydym yn talu pris mewn cyfnod o argyfwng am ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn ystod amseroedd arferol. Felly, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y Bil heddiw, nid am ein bod yn anghytuno â'r egwyddorion cyffredinol, ond oherwydd ein bod yn credu'n gryf na ddylid cyflwyno'r ddadl hon a'r bleidlais hon o dan yr amgylchiadau hyn.
Ond nawr rwyf eisiau troi at rai o'r sylwadau y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn eu cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig. Y cwbl a ddywedaf yw, os nad yw'n iawn i'r Llywodraeth barhau â'r Bil ar hyn o bryd, nid yw'n iawn ychwaith i'r Ceidwadwyr fod yn camddehongli'r Bil hwn ac ymosod arno mewn modd eithaf ffiaidd. Mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn dweud bod—wel, honni yn anghywir ei fod yn cynnwys darpariaethau ar gyfer pleidleisiau i garcharorion, pan nad yw'r Bil yr ydym yn pleidleisio arno heddiw yn cynnwys y darpariaethau hynny. Gwelliannau i'w cyflwyno yng Nghyfnod 2 gan y Llywodraeth ar ddyddiad anhysbys yn y dyfodol yw'r rhain, ac yn sicr ni fyddan nhw yn berthnasol i lofruddion, fel y mae rhai aelodau o'r blaid wedi ei honni yn anghywir. Gwnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yr honiadau hyn ei hun, sy'n ymostwng i wleidyddiaeth y gwter, byddwn yn dadlau, pan fo arweinydd ei blaid ei hun mewn gofal dwys. Felly, byddwn yn croesawu'r cyfle i Paul Davies ymddiheuro am gamarwain yr etholwyr er mwyn cael mantais wleidyddol fechan ar hyn o bryd.
Hefyd, rwy'n deall bod 10 carcharor eisoes wedi marw o COVID-19, a bod dros 100, o bosib llawer mwy, wedi eu heintio. Mae ymosod arnyn nhw ar yr adeg hon, a bod yn onest, yn warthus. Byddwn yn awgrymu wrth y Llywydd mai'r pwyllgor safonau yw'r fforwm priodol efallai, os yw Aelodau etholedig o'r farn bod nawr yn amser da i hyrwyddo newyddion ffug am y sefydliad hwn.
Felly, i gloi, edrychaf ymlaen at ailedrych ar y Bil yn y dyfodol pan fydd yr argyfwng hwn ar ben, ond, am y rhesymau yr wyf wedi eu hegluro, mae'n amlwg na ddylem ni fod yn trafod hyn heddiw, pan ddylem ni fod yn trafod cyfarpar diogelu personol, profi ac achub bywydau. Felly, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn.
Mae'n drueni bod Llywodraeth Cymru wedi dewis bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n teimlo mai annoeth iawn yw dargyfeirio adnoddau ar hyn o bryd pan allem ni ohirio hyn nes bod ein gwlad mewn sefyllfa well yn dilyn pandemig y coronafeirws. Oherwydd ar hyn o bryd, mae gwthio ymlaen â deddfwriaeth hefyd yn amhoblogaidd iawn ymhlith y cyhoedd.
Rwyf wedi gwneud fy marn am Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gwbl glir yn y gorffennol, ond hyd yn oed petawn i wedi cefnogi nod y Llywodraeth yn llwyr, ni fyddwn yn cefnogi bwrw ymlaen ar yr adeg hon o argyfwng cenedlaethol. Ni allwn ni ddeddfu'n iawn ac ni allwn ni ruthro i gyflawni rhywbeth, oherwydd mae pobl yn marw o glefyd enbyd ac angheuol, ac er mwyn cyfyngu ar nifer y marwolaethau a lleihau'r straen ar ein GIG, cyfyngwyd ar ryddid pob un ohonom ni. Rydym ni wedi cau rhannau helaeth o'n gwlad a'n heconomi, ac mae rhai o'n hetholwyr wedi colli eu swyddi a'u bywydau, ac eto dyma ni yn trafod deddfwriaeth.
Nid yw fy marn i ynglŷn â rhoi hawliau i garcharorion bleidleisio erioed wedi bod oherwydd nad dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae bob amser wedi bod oherwydd nad wyf i'n credu mai dyna'r flaenoriaeth y dylem ni fod yn edrych arni pan fyddwn yn ymweld â charchar. A minnau wedi gweithio yno, rwyf wedi gweld pobl ers saith mlynedd yn mynd allan gyda bag du ar ddydd Gwener heb do uwch eu pennau o gwbl, dim bwyd, dim dillad a dim mecanwaith cymorth, a dyma pam yr wyf yn credu bod ein blaenoriaethau ar adsefydlu gwirioneddol yn gwbl anghywir.
Mae democratiaeth wedi ei hatal i frwydro yn erbyn y feirws hwn ac mae etholiadau o amgylch y DU wedi eu gohirio, ac ni ddylem fod yn defnyddio amser gwerthfawr yn ystod argyfwng rhyngwladol er mwyn ymestyn yr hawl i bleidleisio. Gallwn drafod hyn a'i ohirio nes y caiff y cyfryw gyfyngiadau eu codi a bod y byd busnes yn dychwelyd i sefyllfa nad ydym ni'n ei adnabod ar hyn o bryd. Tan hynny, a dim ond bryd hynny, y dylem ni ystyried bwrw ymlaen â'r Bil hwn.
Rwyf wedi cefnogi Llywodraeth Cymru. Mae hi wedi cael fy nghefnogaeth lawn a chefnogaeth fy mhlaid yn ystod haint y coronafeirws, a byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi fwrw ymlaen, ond ni allaf ac ni wnaf ei chefnogi gyda'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr.
Mae gennyf ambell sylw byr i'w gwneud ynghylch y Bil, ac wrth ddweud hyn, wrth gwrs, rwy'n cydnabod, fel y dywedodd y Gweinidog, y bu hyn yn destun ymgynghori aruthrol, a chyda thri gwahanol bwyllgor yn y Senedd, gan gynnwys y Pwyllgor yr wyf i'n gwasanaethu arno dan stiwardiaeth flaenllaw John Griffiths. Fe wnaethom ni ystyried hyn yn fanwl iawn, ac rwy'n credu mai fy mhwynt cyntaf fyddai, wrth gydnabod bod y Gweinidog wedi dweud yn ei sylwadau agoriadol ei bod yn cyflwyno'r Bil hwn gyda golwg ar y dyfodol, y dylem ni, wrth gwrs, Aelodau'r Senedd, geisio cadw llygad ar yr hyn sy'n dod y tu hwnt i'r argyfwng enbyd hwn yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd. Ond gyda'r llygad hwnnw ar y dyfodol, byddwn yn annog y Gweinidog i edrych ar yr argymhellion nad ydyn nhw ond wedi cael eu derbyn yn rhannol, neu sydd wedi eu gwrthod o archwiliad helaeth y pwyllgor o hyn gyda llawer iawn o dystion ger ein bron. Byddwn yn croesawu'n fawr, pe gellid, wrth i'r Bil hwn fynd yn ei flaen, dychwelyd i edrych ar rai o'r argymhellion hynny.
Ond wrth fynd â'r Bil hwn yn ei flaen, mae cefnogaeth aruthrol iddo. Mae'n rhywbeth y bu llywodraeth leol yn galw amdano yn gyffredinol ers cryn amser, mewn llawer o'r meysydd yn y Bil hwn, gan gynnwys meysydd cymwyseddau cyffredinol a'r gallu i gydweithio'n wirfoddol ac yn y blaen.
Gwn fod y pŵer i ymestyn yr etholfraint bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn rhywbeth y mae cefnogaeth gref iddo yn y Senedd yn ogystal ag ymhlith y rheini sydd, er enghraifft, yn y Senedd Ieuenctid hefyd. Ond mae angen i ni—mae'r sylw wedi ei wneud yn barod—wneud yn siŵr, os ydym yn bwrw ymlaen â hynny, fod y rhai sy'n 13, 14, 15 oed mewn gwirionedd yn dysgu nid yn unig am y broses o ymwneud â democratiaeth, ond hefyd am y prosesau gwleidyddol yn ogystal, mewn rhyw fath o ymarferiad ymgysylltu â dinasyddion. Ac rwy'n credu bod angen i'r Gweinidog ystyried gyda chyd-Aelodau eraill beth yw'r ffordd orau o ymgorffori hynny yn ein system addysg.
Mae mesurau gwych yn y Bil hwn yn ogystal o ran bod yn agored a thryloyw. Rwy'n cofio cymryd carfan o fyfyrwyr, pan oeddwn yn ddarlithydd yn Abertawe, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Felly, roedden nhw'n eistedd yn yr orielau ac yn gwylio sesiwn ar waith. Roedden nhw i gyd yn fyfyrwyr twristiaeth. Yn anffodus, y diwrnod i ni ymweld oedd diwrnod pan yr oedden nhw yn siarad am dorri glaswellt yn y parciau a'r mynwentydd. Fodd bynnag, roedd yn dangos sut yr oedd awdurdodau lleol yn mynd ati i wneud eu penderfyniadau a sut yr oedden nhw'n pleidleisio. Ond dylai'r ffaith y gallem ni bellach fod yn ystyried ymestyn gallu pobl nad ydyn nhw'n gallu bod yn bresennol yn bersonol i weld y rhain, ac i fod yn rhan o hynny, o bosib, yn ogystal, ar sgriniau ac o bell, fel yr ydym ni yn ei wneud heddiw, fod yn rhywbeth yr ydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen ag ef.
Roedd gwahanol safbwyntiau ar ein pwyllgor o ran y mesurau ynghylch y bleidlais sengl drosglwyddadwy a'r cyntaf i'r felin. Nawr, rwyf am siarad yn bersonol yn y fan yma: byddwn i'n gefnogol i fwy o ddiwygio etholiadol, ond rwy'n credu bod angen cydbwysedd yn y Bil hwn. Credaf fod y ffaith bod gennym ni bleidlais sengl drosglwyddadwy yma fel posibilrwydd, os ydym ni'n sôn am egwyddorion cyffredinol y Bil, yn gam hynod ymlaen. Ond byddwn yn annog y Gweinidog, fel y mae John Griffiths wedi ei ddweud hefyd, i archwilio, gyda'r awdurdodau lleol, lle'r oedden nhw'n teimlo bod teimlad ymhlith y cyhoedd lleol i fwrw ymlaen â hyn mewn gwirionedd ac ymhlith yr Aelodau i'w galluogi i wneud hynny, oherwydd, fel arall, fel y dywedodd llawer o dystion wrthym ni, efallai na fyddwn ni byth yn gweld y diwrnod pan fydd pleidlais sengl drosglwyddadwy ac, wrth gwrs, gyda'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, nid y cysyniad yn unig ydyw, ond y ffaith y gall arwain at weld pob pleidlais yn fwy cyfartal yn y ffordd y mae'n pwyso yn y blwch pleidleisio, ond hefyd yr effaith y gall y bleidlais sengl drosglwyddadwy ei chael ar amrywiaeth hefyd.
Ac mae hynny'n dod â mi at fy mhwynt nesaf, ynglŷn â rhannu swyddi. Rwyf i'n un o'r Aelodau hynny a hoffai weld y cynigion rhannu swydd yn mynd ymlaen, er bod y Bil hwn yn gam mawr ymlaen o ran rhannu swyddi i aelodau gweithredol, a chlywsom dystiolaeth am hyn ynglŷn â sut y gallai weithio. Ond, yn y pen draw, rwy'n credu bod angen i ni symud i'r pwynt lle gallwn ni weld rhannu swyddi pan fydd pobl yn sefyll mewn etholiad, oherwydd, unwaith eto, o ran cynyddu amrywiaeth yr ymgeisyddiaeth, gallai hynny fod yn gam mawr ymlaen. Nawr, rwy'n sylweddoli bod materion ymarferol yn ymwneud â phob un o'r rhain, ac mae'n rhaid i'r Gweinidog ymgodymu â phob un o'r rhain, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil hwn yma.
Yn fy sylwadau olaf i gloi, a gaf i ddiolch i John ac i holl Aelodau eraill y pwyllgor am y ffordd y maen nhw wedi ymgodymu â rhai materion eithaf cymhleth yn y Bil hwn, i'r holl dystion a ddaeth ger ein bron ac ymgysylltu â ni'n llwyr ac yn ddidwyll, a dim ond annog y Gweinidog unwaith eto, i gloi, i edrych ar y meysydd hynny nad yw wedi gallu eu derbyn hyd yma ac ymgysylltu â'r meysydd hynny wrth i'r Bil hwn fynd rhagddo? Mae'n Fil da; gallai fod yn Fil rhagorol os cawn ni rywfaint o fireinio. Diolch.
Yn ystod cyfnod o argyfwng byd-eang ac amgylchiadau difrifol iawn sy'n effeithio ar lawer o'n pobl yng Nghymru, ni allaf ar unrhyw gyfrif groesawu'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) heddiw. I ganolbwyntio, yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng, ar y Bil hwn, pan ein bod ni wedi gweld mygu ein democratiaeth leol, a lle na ellir craffu'n briodol o ganlyniad i bob un ohonom ni'n cydweithio i addasu i gadw pellter cymdeithasol—. Felly, i mi, mae amser gwerthfawr yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei golli oherwydd y ddeddfwriaeth hon. Nid oes ond angen i rywun edrych ar heddiw, pan oedd naw Aelod nad oedd modd iddyn nhw holi cwestiynau craffu difrifol a phwysig i'r Prif Weinidog a gorfod ildio i roi amser ar gyfer hyn, ac mae'n rhywbeth nad wyf i'n hapus iawn o gwbl ag ef.
Nawr, yn y lle cyntaf, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac ymateb y sector cyhoeddus i COVID-19 yn rhoi straen rhyfeddol a sylweddol ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael i'n hawdurdodau lleol, a hoffwn gydnabod ar goedd waith ein hawdurdod lleol a'r holl bersonél wrth ymdopi â'r sefyllfa argyfwng erchyll hon sydd gennym ni, ond mae yn rhoi straen ariannol ar ein hawdurdodau lleol.
Nawr, mae llawer o'r adnoddau ariannol hynny wedi gorfod dod o'u cyllidebau cyfredol ac ati. Felly, i mi, mae'n ymddangos braidd yn anghyfrifol i ni fod yn ystyried Bil, a fydd, yn ôl ei asesiad effaith rheoleiddiol ei hun, yn costio dros £17 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys costau trosiannol i lywodraeth leol o tua £3 miliwn. I wneud pethau'n waeth, dywedodd y Pwyllgor Cyllid fod y Bil yn cynnwys nifer o feysydd na chyfrifwyd eu cost hyd yma a bod hyn—. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae hyn yn digwydd yn rhy aml gyda phasio deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Gwyddom fod dileu cosb rhesymol—a basiwyd dim ond wythnosau yn ôl—wedi ei dangyllido o ran yr effaith a gaiff.
Nawr, rwyf yn cytuno â'u hargymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu asesiad effaith rheoleiddiol llawn a chadarn ar gyfer unrhyw is-ddeddfwriaeth berthnasol a wneir o ganlyniad i'r Bil hwn, ond byddwn i'n ychwanegu ein bod i gyd yn ystyried yn ofalus iawn a yw mynd ar drywydd y ddeddfwriaeth yn rhesymol, yn enwedig o ystyried y cyfnod ansicr yr ydym ni'n gweld ein hunain ynddo ar hyn o bryd.
O ystyried ei bod yn debygol y caiff y Bil hwn ei wthio drwodd, ac mewn ymdrech i fod yn adeiladol fodd bynnag, fe fyddwn i'n nodi bod rhai agweddau yr wyf yn eu croesawu. Rwyf yn cefnogi'r gallu y bydd gan Weinidogion Cymru i sefydlu a chynnal cronfa ddata Cymru gyfan o wybodaeth am gofrestru etholiadol. Fodd bynnag, nid yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn diffinio unrhyw gostau ar gyfer datblygu cronfa ddata Cymru gyfan. Felly, byddai rhywfaint o eglurder ynghylch hyn heddiw yn cael ei groesawu.
Dau: darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i brif gyngor greu cynllun deisebau. Nawr, fel y mae ERS Cymru wedi nodi—ac rwy'n gwybod yn dda iawn o'n Pwyllgor Deisebau ein hunain—mae deisebau'n ffordd wych o ymgysylltu â'r cyhoedd, ac rwy'n gweld democratiaeth ar ei gorau pan ein bod ni'n gwneud hynny. Hoffwn gofnodi galwad Cyngor Sir Fynwy i'r Bil nodi'n glir, er hynny, nad refferenda yw'r deisebau, a'u bod yn gynghorol yn hytrach nag yn rhwymol.
Tri: bod y Bil yn darparu ar gyfer dau neu fwy o brif gynghorau i gyflwyno cais ar y cyd i Weinidogion Cymru ar gyfer uno gwirfoddol yn eu hardaloedd a'u cynghorau nhw pe bydden nhw'n dymuno gwneud hynny. Mae atebolrwydd a phenderfyniadau lleol yn allweddol. Felly, pe byddai dau awdurdod yn dymuno uno, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd na fyddai gan Lywodraeth Cymru ddull ar waith i atal y cynllun hwnnw ac y byddai'n gweithio gyda nhw o ran adnoddau a chanllawiau i helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rhywbeth cadarnhaol arall yr wyf wedi ymgyrchu'n hir amdano yw diwygio cymhwysedd ar gyfer ymgeisyddiaeth mewn llywodraeth leol i ganiatáu i weithwyr cyngor sefyll mewn etholiad. Fodd bynnag, byddwn yn annog y Gweinidog i ystyried a yw wir yn angenrheidiol i unigolion megis athrawon ysgol, cogyddion a hyfforddwyr nofio roi'r gorau i'w gwaith cyflogedig os cânt eu hethol. Os edrychir ar ein system addysg, caiff rhywun fod yn athro ac yn llywodraethwr ysgol. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hynny eto.
Nawr, yn ogystal ag ymgeiswyr llywodraeth leol, mae'r Bil yn bwriadu cyflwyno newidiadau mawr o ran pwy sy'n cael pleidleisio, ac er ei fod yn y cyfnod diwygio, yn y diwygiadau ac yng Nghyfnodau 2 a 3, rwy'n gwrthwynebu'n gryf rhoi'r bleidlais i garcharorion. Rwyf wedi ymgynghori'n eang â nifer o'm hetholwyr yn Aberconwy, ac mae mwyafrif llethol yr ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael yn gwrthwynebu'n chwyrn.
Felly, hoffwn gael rhywfaint o eglurhad—gan, efallai, fy mod wedi colli'r pwynt ynghylch hyn—gan y Gweinidog, yn yr hyn a ddywedasoch chi'n gynharach: a yw'n gywir na fyddwch chi yn awr, yng Nghyfnod 2 neu 3 yn bwrw ymlaen â diwygiadau a fyddai'n caniatáu i garcharorion bleidleisio? Oherwydd ni allaf gefnogi hynny mewn unrhyw ffurf. Nid wyf i'n credu bod cyflwyno Bil, diwygiadau yng Nghyfnod 2 a fydd yn rhoi'r hawl i garcharorion sydd wedi eu dedfrydu i lai na phedair blynedd, o fudd i ddemocratiaeth. Felly, hoffwn ofyn i chi gadarnhau, ac yn wir, i ddiystyru pleidleisiau ar gyfer carcharorion heddiw. Hoffwn awgrymu fy mod yn siomedig bod gennym ni Lywodraeth Cymru sy'n barod i gredu bod mater o'r fath yn flaenoriaeth ddeddfwriaethol ar hyn o bryd.
Yn olaf, er fy mod yn cydnabod ac yn cefnogi'r cynseiliau a osodwyd gan Ynys Manaw a'r Alban ar gyfer ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, gofynnaf am fwy o sicrwydd heddiw y bydd rhywfaint o gadarnhad y caiff yr oedolion ifainc hyn fwy o addysg mewn gwleidyddiaeth, fel y byddan nhw, wrth fynd ymlaen i fwrw eu pleidlais gyntaf, yn gwneud hynny gyda chyd-destun sylweddol o'r hyn y mae democratiaeth yn ei olygu a sut y gallan nhw chwarae eu rhan ynddi. Diolch. Diolch, Llywydd.
Wel, rwy'n credu bod hon yn adeg anhygoel i gyflwyno'r Bil hwn. Cam cyfansoddiadol yw hwn, ac rydym mewn fforwm sydd wedi'i wanhau'n fawr yn y ddadl hon heddiw. Er gwaethaf rhyfeddodau technoleg fodern, sydd wedi ein galluogi'n eithaf effeithiol, rwy'n credu, i gymryd rhan yn y trafodion yn ystod y pythefnos diwethaf, dydw i ddim yn credu ei bod yn iawn, pan nad yw dwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad yn gallu cymryd rhan yn y ddadl hon, i'w dwyn ymlaen heddiw i'w thrafod ac i gael pleidlais.
Yr unig reswm y mae'r Bil hwn yn cael ei wthio ymlaen—yn fy marn i, yw ei bod yn ymdrech daer gan y Blaid Lafur i sicrhau hwb i'w chefnogaeth wleidyddol sydd wedi edwino ymhlith yr etholwyr. Gwelwn yn yr etholiad cyffredinol diweddar sut y mae map etholiadol Prydain, a Chymru yn arbennig, wedi newid. Mae Llafur wedi colli llawer iawn o gefnogaeth ei phleidleiswyr traddodiadol, ac mae'n fesur o'i hanobaith ei bod bellach yn ceisio achubiaeth o ryw fath drwy ymestyn y bleidlais i blant, carcharorion a thramorwyr. Os mai dyna yw maint anobaith y Blaid Lafur, dydw i ddim yn credu y bydd ganddyn nhw lawer o obaith yn y gyfres nesaf o etholiadau. Mae'n ymddangos i mi eu bod yn yr un sefyllfa heddiw ag yr oedd yr actor mawr hwnnw yn y ffilmiau mud, Harold Lloyd—yn hongian ar fysedd y cloc, yn ceisio'n daer i atal ei hun rhag disgyn i'r ddaear. A dydw i ddim yn credu y byddan nhw'n llwyddo yn hynny o beth.
O ran y pleidleisiau ar gyfer pobl nad ydyn nhw yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig, credaf fod hynny'n anghywir mewn egwyddor, sef os ydych chi eisiau pennu ffurf Senedd a Llywodraeth gwlad, yna dylech chi ymrwymo gymaint ag y gallwch chi i fod yn ddinesydd. Felly, mae hyn yn anghywir mewn egwyddor a does bron unman arall yn y byd lle mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol.
A ddylid rhoi pleidleisiau i'r rhai sy'n 16 ac yn 17 oed, eto credaf ei fod yn fater dadleuol iawn, ac mae'n amhriodol, rwy'n credu, iddo gael ei ddwyn gerbron y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth yn y modd hwn. Mae'n werth sylwi bod y Blaid Lafur heddiw yn cael cyfran fawr iawn o'r gefnogaeth y mae'n ei chadw oddi wrth bobl iau ac oddi wrth gymunedau mudol, ac, wrth gwrs, dyna ddwy o brif elfennau ymestyn yr etholwyr y mae'r Llywodraeth yng Nghymru yn eu ceisio yn ystod hynt y Bil hwn. Yn fy marn i, mae'n weithred wleidyddol ddirmygadwy at ddibenion pleidiol. Cyflwynwyd y Bil hwn i geisio rhoi mantais i'r Blaid Lafur yn ei hargyfwng, ac nid oherwydd yr argyfwng cenedlaethol. Rydym ni wedi atal dros dro ein rhyddid sifil o ran nifer fawr o hawliau dynol yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac ni fyddai hynny byth yn digwydd mewn cyfnod arferol. Mae hwn yn argyfwng, ar hyn o bryd, o ran feirws COVID, nad ydym wedi ei weld o'r blaen yn ystod ein hoes, ac, o dan yr amgylchiadau hyn, rwy'n credu ei bod yn gwbl anghredadwy bod Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod yn iawn ac yn briodol i gyflwyno'r Bil hwn i'w ystyried heddiw. Felly, gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn sefyll dros ei hawliau a hawliau ei Aelodau nad ydyn nhw yn gallu cymryd rhan yn y trafodion yn ystod y ddadl hon, ac yn gwrthod y Bil hwn heddiw.
Suzy Davies.
Diolch yn fawr. Esgusodwch fi am funud. Ie, diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Roeddwn i eisiau cyfrannu yn sgil cyfraniad Mick Antoniw yn gynharach a hefyd yn sgil rhan o'r hyn yr oedd Delyth Jewell yn ei ddweud ynghylch pa un ai dyma'r amser priodol i graffu'n iawn ar y Bil hwn, felly rwyf eisiau trafod llai ar amcanion y polisi, ond canolbwyntio ychydig yn fwy ar ein swyddogaeth ni'r deddfwyr mewn cysylltiad â darn mawr o ddeddfwriaeth. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yno i'n helpu ni Aelodau'r Cynulliad gyda'r cyfrifoldeb unigol a sylfaenol sydd gennym ni, ni waeth beth yw ein blaenoriaethau gwleidyddol, sef gwneud cyfraith dda. Byddwn i'n dweud bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, beth bynnag y maen nhw'n dymuno ei gael o'r Bil hwn, eisiau i'r gyfraith hon fod yn dda ac yn rhywbeth y gallan nhw ei ddefnyddio, ac yn rhywbeth y gallan nhw ddibynnu arno. Felly, ni fyddaf yn siarad am yr amcanion polisi hynny, ac eithrio o safbwynt esboniadol.
Nid oes arnaf gywilydd dweud hyn unwaith eto, mai Senedd Cymru sy'n gwneud y gyfraith, nid y Llywodraeth. Felly, dyma'r lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl fel cam cyntaf gan y Llywodraeth ei bod yn gosod Bil sydd, yn gyntaf, yn gyflawn; yn ail, â chig digonol ar yr esgyrn o ran ei amcan polisi ac o leiaf ei ddarpariaeth gychwynnol; ac, yn drydydd, wedi ei gostio'n iawn. Rwy'n credu bod y methu â derbyn argymhellion penodol gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch hyn yn gamgymeriad. Nid wyf yn credu bod y Bil hwn yn bodloni'r tair egwyddor gyffredinol hynny. Os nad yw'n gwneud hynny, rwy'n credu fel deddfwyr, y dylem ni ei wrthod heddiw, ei anfon yn ôl ac, efallai, ei ail-wahodd er mwyn ei ail-osod ar ffurf sy'n bodloni'r profion hynny. Mae hynny er gwaethaf y pwynt a wnaed eisoes ynghylch y cyfnod y mae'r darn hwn o ddeddfwriaeth wedi ei gyflwyno ynddo.
Dywedodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—y fersiwn flaenorol, wrth gwrs, o bwyllgor Mick Antoniw—mai diben diwygiadau yw trafod ac awgrymu gwelliannau i Fil, ac nid darparu symiau mawr a sylweddol o destun na pheidio â chwblhau Biliau nad ystyrir eu bod wedi eu datblygu'n llawn ar adeg eu cyflwyno. Fel Cynulliad, wrth gwrs, anwybyddwyd hynny pan basiwyd Bil y Senedd ac Etholiadau, ac fel deddfwyr, ni ddylem wneud hynny eto. Os twyllwch ni unwaith yna rhag eich cywilydd, Lywodraeth Cymru, ond os twyllwch ni ddwywaith yna rhag ein cywilydd ni. Fe fyddwn i'n hoffi dweud mai dyma'r tro cyntaf, ond nid yw hynny'n wir. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni wneud ein gwaith a dweud pam y mae hon yn gyfraith wael nawr.
Felly, dim ond i edrych yn ôl ar Fil y Senedd ac Etholiadau, un o'r dadleuon a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru oedd y byddai cynnwys pleidleisiau ar gyfer gwladolion tramor preswyl heb graffu yn ei wneud yn fwy cyson â hyn—cynnwys, ar y pryd, Bil heb ei weld. Nawr, bydd y Bil nas gwelwyd hwn, yn hwyr, yn cynnig pleidleisiau i rai carcharorion, er i mi glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn gynharach, ac efallai y gwnaiff hi egluro'r sefyllfa yn awr a'r hyn yr oedd yn ei olygu pan ddywedodd na fyddai'n gofyn i swyddogion neilltuo rhagor o adnoddau ar gyfer hyn. Ond, y pwynt yw ei fod yn gwbl anghyson â'r Ddeddf Senedd ac Etholiadau, sydd eisoes yn rhesymu gwael ar ran Llywodraeth Cymru, a nawr maen nhw'n ceisio ei chael hi bob ffordd, oni bai bod gan y Gweinidog rywbeth arall i'w ddweud am hyn. Fel deddfwyr, dylem, felly, ddweud 'na'.
Y cwestiwn amlwg yw pam nad oedd pleidleisio gan garcharorion wedi ei gynnwys yn y Bil gwreiddiol. Mae'n ddrwg gennyf ddweud bod yr atebion a roddodd y Gweinidog i'n Pwyllgor yn ei thystiolaeth i ni yn arbennig o wan. Roeddem yn gwybod y byddai'r cyfrifoldeb dros etholiadau yn cael ei ddatganoli i'r sefydliad hwn mor bell yn ôl â 2017, felly bu 18 mis da i baratoi ar gyfer drafft i'w gynnwys ar ddechrau'r Bil ynghylch hyn. Dyfynnu penderfyniad Hirst i oedi: wyddoch chi, mae hwnnw'n benderfyniad sy'n mynd yn ôl, neu mae'r mater yn mynd yn ôl i 2005, felly nid yw hynny'n gredadwy iawn ychwaith.
Os ydych eisiau rhagor o dystiolaeth o baratoi anghyflawn, rwy'n credu mai hynny fyddai cynnwys y 98 o bwerau y cyfeiriodd Mick Antoniw atyn nhw yn gynharach. Rydych chi wedi bod yn ymwneud â hyn ers chwe blynedd bellach—mae'n dipyn o gyfnod ar gyfer Bil hir. Ar hyn o bryd, byddai angen i ni wybod pam yr ydych chi'n ceisio pwerau, yn hytrach nag ymrwymo i ddyletswyddau mewn rhai achosion, ac yna o dan ba amgylchiadau y byddech chi'n defnyddio'r pwerau hynny. Rydych chi wedi cael digon o amser i gynllunio ar gyfer sefyllfa, a dydyn ni ddim yn glir ynglŷn â hynny.
Mae gennym ni rai pwerau, fel y crybwyllodd Mick, heb unrhyw weithdrefn ynghlwm wrthynt, gan gynnwys pwerau sy'n berthnasol i newidiadau yn y ffordd y mae cynghorau'n cynnal etholiadau. Eich cyfiawnhad dros hyn yw iddo gael ei wneud felly mewn deddfwriaeth a oedd yn rhagflaenu bodolaeth y Cynulliad gan bron i 30 mlynedd. Nid yw hynny'n rheswm da. Y pwerau trymion hynny sy'n ymwneud â gweithredu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy: dylech chi fod yn glir nawr ynglŷn â sut y dylid defnyddio'r rheini a dylent fod mewn Atodlen i'r Bil hwn. Rydym eisoes wedi clywed am greu cronfa ddata etholiadol. Y broblem ynglŷn â hynny, fel y dywedasoch, Gweinidog, eich hun, yw nad oeddech wedi gweithio pethau allan eto.
Ar y llaw arall, mae gennym sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn sicr ynglŷn â'r hyn y mae eisiau ei wneud ynghylch mathau penodol o gyhoeddi, fel yn Atodlen 4—ychydig o baragraffau yn y fan honno. Ond, yn hytrach na'i osod allan, mae mewn gwirionedd yn ceisio pwerau i wneud hynny yn hytrach, pan nad oes angen hynny.
Felly, yn hytrach nag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi ei ddweud, rwyf eisiau gorffen drwy dynnu sylw Aelodau a Gweinidogion at yr argymhellion sydd wedi eu gwrthod gan y Gweinidog—mae arnyn nhw angen ymateb pellach gan Weinidogion—ond hefyd at bennod 3 o adroddiad y pwyllgor, ac i ystyried yr hyn a ddywed, fel y gall y Llywodraeth ddrafftio cyfraith well ac y gallwn ninnau ddod yn well deddfwyr, a dweud y gwir. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, a ninnau i gyd, fel deddfwyr, yn cadw hynny mewn cof. Diolch.
Rwyf, unwaith eto, yn dweud diolch yn fawr iawn am drefnu'r math hwn o gyfarfod o'r Cynulliad, nad wyf erioed wedi cael profiad ohono o'r blaen, yn enwedig yn y dyddiau hyn pan fo'r holl wlad yn methu â symud. Yn bersonol, rwy'n credu ei fod yn amseru gwael i gyflwyno'r Bil llywodraeth leol hwn o flaen traean o'r Cynulliad.
Rwyf eisiau siarad yn glir ar un maes yn ymwneud â hyn, y prynhawn yma. Hoffwn siarad yn erbyn y cynnig sy'n rhoi'r hawl i bleidleisio, mewn etholiadau datganoledig Cymru, i garcharorion o Gymry sy'n bwrw tymor dedfrydau o lai na phedair blynedd. Byddai carcharorion a gollfarnwyd am droseddau fel pedoffilia, ymosod cyffredin ar sail hil a thorri gorchmynion troseddau rhywiol yn cael pleidleisio o dan y ddeddfwriaeth hon, sy'n rhyfedd yn fy marn i. Nid yw'n syndod na chefnogir y cynnig hwn ymhlith y cyhoedd. Fe wnaeth person yn fy swyddfa i ofyn i'r cyhoedd am eu barn, ac nid oedd unrhyw berson yn cefnogi'r farn hon.
Hefyd, rwy'n credu, mewn egwyddor, na ddylai gwneuthurwyr cyfraith fod yn dorwyr cyfraith. Os ydym ni'n cynhyrchu fframwaith o gyfreithiau mewn cymdeithas sy'n nodi safon y cyfrifoldeb a'r ymddygiad y disgwyliwn i'n dinasyddion lynu wrtho a'i gynnal, drwy ddiffiniad, hefyd, nid yw pobl sydd wedi troseddu yn erbyn eu cyd-ddinasyddion wedi bodloni'r safonau hynny. Drwy dorri'r gyfraith, maen nhw wedi ildio neu wedi fforffedu'r hawl i ddeddfu ar gyfer eraill. Bu llawer o drafod am ryddid dinesig carcharorion, ond er hynny, drwy ddiffiniad, mae dedfrydu rhywun i gyfnod mewn carchar yn golygu atal yr hawl i ryddid. Mae'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau, mewn democratiaeth, yn hawl dinesig, wedi ei gyfuno ag eraill megis rhyddid cymdeithasol, rhyddid i ymgynnull a symud, a'r hawl i sefyll mewn etholiad. Oherwydd canlyniadau eu gweithred, mae carcharorion yn cael eu hamddifadu o'u hawliau. Mae'n ddewis y maen nhw wedi ei wneud gan wybod yn llwyr beth y mae carcharu yn ei olygu. Mae dwy nod i garcharu: cosbi ac adsefydlu. Rwyf yn llwyr gefnogi adsefydlu troseddwyr. Dylid ystyried bod adfer yr hawl i bleidleisio yn symbol pwysig bod yr unigolyn wedi talu ei ddyled i gymdeithas. Mae'n gymhelliant i integreiddio troseddwyr yn ôl i Gymdeithas; bydd hyn yn cael ei golli os rhoddir yr hawl i garcharorion bleidleisio.
Llywydd, mae hefyd rhesymau ymarferol pam na fydd y cynnig hwn yn gweithio. Maen nhw'n creu hunllef fiwrocrataidd a fydd yn rhoi baich diangen ychwanegol ar staff a swyddogion y gwasanaeth carchardai, ond mae llawer o garcharorion o Gymru yn bwrw eu dedfrydau yn Lloegr. Er enghraifft, nid oes carchar i fenywod yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, felly, yn cynnig caniatáu i bobl bleidleisio heb y fraint o allu cael gafael ar wybodaeth yng nghyfryngau Cymru i roi gwybod iddyn nhw am y materion, eu materion lleol. Felly, bydd pobl yn gwbl anymwybodol o'r materion lleol pan fyddant yn pleidleisio. Mae etholiadau yn golygu hawl etholwyr i gwrdd â'r ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiadau. Mae'n gwbl anymarferol i ymgeiswyr deithio i garchardai, hyd yn oed yng Nghymru, i gwrdd ag etholwyr, heb sôn am gynnal hustyngau ar eu safleoedd. Mae'r risg i ddiogelwch hefyd yn amlwg.
Llywydd, fe ddywedaf eto: nid oes cefnogaeth ymhlith y cyhoedd i'r cynnig hwn. Anogaf y Cynulliad i fynnu hawl y cyhoedd dros hawl y troseddwr a gwrthod y cynnig hwn heddiw. Diolch.
David Melding.
Llywydd, diolch yn fawr am fy ngalw i. Ydw i'n cael fy nghlywed?
Ydych, mi ydych chi. Cewch fynd ymlaen.
Diolch, mae'n ddrwg gennyf. Roedd 'unmuted' yn fflachio ar fy sgrin.
Mae hwn yn fesur cyfansoddiadol pwysig iawn. Rydym ni wedi clywed bod y broses o wneud hyn wedi cymryd chwe blynedd. Mae'n amser hir i'r Llywodraeth gael ei blaenoriaethau at ei gilydd ac yn awr rydym am weld, mae'n ymddangos, proses ddeddfwriaethol wedi ei chwtogi yn helaeth, er gwaethaf y ffaith fod y tri phwyllgor a edrychodd ar y Bil hwn wedi gwneud argymhellion helaeth ar gyfer gwelliannau, ac ychydig iawn ohonyn nhw sydd wedi eu derbyn gan y Llywodraeth. Ac rwyf yn nodi nad yw'r Gweinidog wedi cael cefnogaeth frwd gan ei chydweithwyr ei hun. Cymeradwyaeth glaear iawn yw hi wedi bod, pryd y mae hi wedi llwyddo i'w chael. Rwy'n credu y dylai hyn anfon neges atoch am y broses yr ydych chi yn ei dilyn, ac nad yw'r swyddogaeth ddeddfwriaethol yn cael ei hanrhydeddu'n llawn yn y dull yr ydych chi wedi ei ddilyn, ac mae'n broblem, rwy'n credu, pan fydd y Weithrediaeth yn gweithredu mewn modd gormesol.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod hwn yn Fil eithaf uchelgeisiol, ac mae agweddau arno yr wyf yn eu ffafrio'n fawr. Byddwn wedi mwynhau'r cyfle i geisio gweithio mewn gwirionedd yng nghyflawnder y cyfnod deddfwriaethol gan ymgynghori'n briodol—clywsom John Griffiths yn dweud na allai llawer o randdeiliaid ymwneud ag ef yn briodol yn yr amser a roddwyd. Ond, rwy'n credu bod yna Fil llywodraeth leol pwysig iawn yn y fan yma, a dyma yw'r gwir drasiedi, y ffaith nad ydym yn mynd i weld cynigion cwbl gydlynol yn cael eu cyflwyno mewn Bil wedi ei lunio'n dda a fyddai, mae'n debyg, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, a ddylai fod yn nod newidiadau cyfansoddiadol.
Rwy'n cefnogi'n frwd ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Gan ymddiheuro i'm cyd-Aelodau, credaf y dylai cynghorau lleol benderfynu beth yw eu system etholiadol, ar yr amod bod cefnogaeth i'r newid hwnnw ymhlith eu hetholwyr. Nid wyf yn credu y byddai 22 o systemau, sydd ag un dewis neu'r llall, y cyntaf i'r felin neu bleidlais sengl drosglwyddadwy, yn trethu ein hetholwyr yn arbennig. Bydden nhw'n dod i arfer â'r math arbennig hwnnw o etholiadau lleol. Os ydym yn credu mewn democratiaeth leol, beth am estyn yr egwyddor honno iddyn nhw er mwyn iddyn nhw benderfynu ar sut y cânt eu cynrychioli a sut y maen nhw'n ffurfio eu cynghorau?
Dydw i ddim yn cytuno ag ymestyn tymhorau cyngor o bedair i bum mlynedd. Ni fu ein newid ni yn y Cynulliad o bedair i bum mlynedd yn llwyddiannus, yn fy marn i, a chredaf y gellir argymell tymor o bedair blynedd ar bob haen o lywodraeth.
Mae llawer i'w ddweud o blaid y pŵer cymhwysedd cyffredinol; byddai'r strategaeth o gael cyfranogiad y cyhoedd yn rhywbeth a fyddai'n ein llusgo i'r oes fodern. Cyd-bwyllgorau corfforaethol rhwng cynghorau, rwy'n credu bod hynny'n ymestyn: rydym ni wedi gweld pa mor effeithiol y mae dinas-ranbarthau yn gweithio ar hyn o bryd. Mae llawer i'w ddweud o blaid perfformiad mewn diwygiadau llywodraethu, ac yna caniatáu uno lleol lle mae cynghorau eisiau gwneud hynny.
Ceir deunydd da yma, ond rhaid inni wynebu'r anhawster fod y Bil hwn bellach angen gwaith helaeth iawn yn y cam pwyllgor i edrych ar y gwelliannau. Mae'r diwygiadau hynny'n gynhwysfawr iawn a bydd yn rhaid iddyn nhw gael eu saernïo gan y grwpiau gwleidyddol mewn cydweithrediad â chyfreithwyr y Cynulliad. Mae'r rhain yn gyfarfodydd sylweddol. Mae hon yn gyfraith ddifrifol, yn ôl pob tebyg yn un o'r biliau pwysicaf yn y tymor Cynulliad hwn.
Mae'n anffodus bod y Llywodraeth wedi cael ei dal gan argyfwng na allai hi fod wedi'i ragweld, ac rwy'n derbyn yr heriau sydd wedi dod yn ei sgil. Ond eich penderfyniad chi oedd eich amserlen chi, ac mae cyflwyno diwygiadau mawr yn hwyr iawn yn y cylch etholiadol bob amser yn gofyn am helynt. Gwneuthum y pwynt hwn pan wnaethom ni drafod Bil y Senedd, ynghylch ddefnyddio dau Fil i ostwng yr oedran pleidleisio. Hefyd, rwy'n credu bod angen ystyried rhai pethau mawr yn ofalus iawn pan fyddwn yn ymestyn yr etholfraint i bobl nad ydyn nhw'n ddinasyddion. Mae honno'n amlwg yn egwyddor enfawr y mae angen llawer o feddwl ac archwilio arni, ac yn yr un modd gyda mater y carcharorion, os caiff hwnnw ei gyflwyno.
Unwaith eto, dydw i ddim yn cytuno'n llwyr â'r farn elyniaethus iawn na ddylid rhoi'r etholfraint i unrhyw garcharor. Rwy'n credu o ran troseddau llai—. Rydym yn carcharu llawer iawn o bobl ym Mhrydain, ac wedi gwneud hynny ers y 1980au pan oedd gennym ni tua 40,000 o garcharorion, erbyn hyn mae gennym ni tua 90,000, llawer ohonyn nhw'n wedi cael dedfrydau byr, a chredaf fod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o'r cyrff rhyngwladol a'r cytundebau yr ydym wedi'u llofnodi, a rhai o'r newidiadau polisi y bydd yn rhaid inni efallai eu gwneud o ganlyniad i gyfraith ryngwladol, neu benderfyniadau mewn cyfraith ryngwladol, yn milwrio yn ein herbyn. Felly, dydw i ddim yn condemnio Llywodraeth Cymru am ystyried hynny, gan ei fod yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi gorfod ei wneud hefyd. Er hynny nid yw'n briodol iawn i gyflwyno'r fath ddiwygiad yng Nghyfnod 2 a heb ymgynghori'n llawn yn ei gylch.
Felly, rwy'n credu o ddifrif y byddai'r Llywodraeth yn gwneud cymwynas fawr drwy dderbyn, yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi, nad yw'n fai ar Lywodraeth Cymru, nad yw'n bosib gwneud y gwaith craffu deddfwriaethol helaeth sydd ei angen ar y Bil hwn, ac mae'n well penderfynu gohirio rhywbeth na rhuthro rhywbeth na fyddai'n cael cefnogaeth drawsbleidiol ac a allai fod â diffygion difrifol oherwydd y canlyniadau anfwriadol. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn. Clywaf elyniaeth y gwrthbleidiau, ond rwyf eisiau ein hatgoffa ni i gyd, pan wnaethom ni ymchwiliad trawsbleidiol i garcharorion yn pleidleisio, roedd yn drawiadol nid yn unig oherwydd y gefnogaeth ymhlith y carcharorion, ond hefyd ymhlith llywodraethwyr carchardai, gan gynnwys un o'r llywodraethwyr uchaf ei statws yn y wlad hon. Felly mae bob amser yn bosib ennyn gwrthwynebiad i'r syniad o garcharorion yn pleidleisio. Yn anffodus, dyna un o nodweddion ein system cyfiawnder troseddol, sef ei bod ar drugaredd agweddau a rhagfarnau llawer o'r papurau newydd yn y wlad hon, a dyna pam ei bod hi mor anodd trafod y pwnc hwn yn ystyrlon. Ond rwy'n credu y byddai'n drychineb pe byddem yn colli'r cyfle hwn i gyflwyno deddfwriaeth y credaf y gallwn ni ddangos y bydd yn gwella ymgysylltiad dinesig pobl ar y cyrion, llawer ohonyn nhw yn y pen draw yn y system garchardai am droseddau cymharol ddibwys—ac rydym yn sôn am etholfraint gyfyngedig iawn—a byddai hyn yn ein galluogi ni i roi llawer mwy o sylw i wella ein system cyfiawnder troseddol, yr ydym yn gwario biliynau o bunnau arni, ac nad yw'n effeithiol o ran mynd i'r afael ag aildroseddu.
Y Gweinidog i ymateb i'r ddadl, Julie James.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am sylwadau'r Aelodau heddiw, ac am yr holl waith a wneir gan y pwyllgorau, a byddaf yn myfyrio ymhellach ar bopeth y mae Aelodau wedi'i ddweud heddiw, ac ar y gyfres lawn o argymhellion yr amrywiol bwyllgorau sydd ger ein bron.
Yn anffodus, Llywydd, teimlaf fod angen ailadrodd fy sylwadau agoriadol ar ddau bwynt, y mae nifer fawr o Aelodau wedi'u colli yn ôl pob golwg heddiw. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, yn anffodus bu'n rhaid i mi wneud y penderfyniad, yn rhan o ystyriaeth ehangach Llywodraeth Cymru o'i rhaglen ddeddfwriaethol, ar ddechrau ein cynllunio ar gyfer ymdopi â'r amgylchiadau difrifol, yr amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld, yr ydym ni ynddyn nhw, i beidio ag ymrwymo unrhyw adnodd swyddogol yn y dyfodol i'r diwygiadau arfaethedig yng Nghyfnod 2 o ran carcharorion yn pleidleisio felly ni fyddwn yn cyflwyno'r diwygiadau hynny fel y dywedais ar ddechrau'r ddadl hon. Nid yw'r Bil yr ydym yn pleidleisio arno heddiw yn cynnwys y darpariaethau hynny, felly mae nifer fawr o Aelodau wedi treulio eu hamser heddiw ar rywbeth nad yw wedi'i gynnwys yn y Bil Cyfnod 1 ar hyn o bryd.
Rwyf fi, hefyd, yn gresynu'n ddifrifol at yr anghwrteisi a ddangoswyd at waith meddylgar y pwyllgor ynghylch hyn gan y cyfryngau Ceidwadol diweddar, a chredaf y dylen nhw o ddifrif ystyried eu dileu. A Llywydd, fel y dywedais ar y dechrau hefyd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd y ddadl heddiw, os caiff y cynnig ei basio, yn caniatáu inni barhau i gynnwys gwaith yn y dyfodol ar y Bil yn ein cynlluniau ar gyfer materion y byddwn ni eisiau iddyn nhw fod yn barod i'w symud ymlaen ar ôl i'r argyfwng yr ydym yn ei wynebu nawr fynd heibio.
Gwn fod llawer o Aelodau'n cefnogi'r egwyddorion yn y Bil a'i amcanion polisi, ac wrth basio'r cynnig hwn heddiw, bydd yn caniatáu inni barhau i gynllunio er mwyn i hynny ddigwydd yn y dyfodol. Os na fyddwn yn pasio'r cynnig heddiw, ni allem ei gynnwys yn y cynllunio. Byddai hynny'n amarch difrifol i'r Senedd. Mae angen mewnbwn y Senedd er mwyn inni barhau â'r cynllunio hwnnw. Ni allwn wneud hynny heb hwnnw, fel y mae rhai Aelodau, yn ôl pob golwg, yn ei awgrymu.
Felly, Llywydd, ar y sail honno, ac ar y sail y byddaf yn myfyrio o ddifrif ar yr argymhellion y mae'r pwyllgorau wedi'u gwneud unwaith eto, byddaf yn annog Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil heddiw, er mwyn caniatáu'r cynnydd hwnnw. Diolch.
Y cynnig yw ein bod yn cytuno ar y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf fod Aelodau'n gwrthwynebu, ac rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.]