3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

– Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:49, 6 Mai 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar goronafeirws. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganaiad. Mark Drakeford.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Diolch yn fawr, Llywydd. Unwaith eto byddaf yn rhoi gwybodaeth i Aelodau'r Senedd am y datblygiadau mwyaf pwysig yn yr wythnos a aeth heibio. Byddaf yn canolbwyntio ar y gwasanaethau iechyd a gofal a sut rydym yn ymateb i effaith coronafeirws ar y bobl mwyaf bregus yng Nghymru. Mae rheolau ymbellhau yn dal i fod mewn lle, wrth gwrs, a rhaid inni gyd gadw atynt. Mae nifer o bethau calonogol i'w dweud, ond rhaid inni barhau i fod yn ofalus iawn wrth gynllunio am y camau nesaf.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, unwaith eto, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y datblygiadau allweddol ers fy natganiad wythnos yn ôl. Fel mewn wythnosau blaenorol, byddaf yn ymdrin â materion nad ydynt wedi'u cynnwys yn y datganiadau sydd i ddilyn gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd.

Lywydd, wrth inni agosáu at ddiwedd yr ail gyfnod o gyfyngiadau symud, hoffwn roi'r ffigurau diweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd y clefyd yng Nghymru. Diolch i ymdrechion aruthrol pobl ym mhob rhan o'n gwlad, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn gostwng ac mae cyfradd lledaeniad y feirws wedi gostwng. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn agos at y lefel a allai ein peryglu unwaith eto. Yn sicr, nid yw'r argyfwng drosodd, hyd yn oed wrth i rai arwyddion wella.

Yn y cyd-destun hwnnw, mae nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws a gadarnheir bob dydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn llai na 200 yn gyson bellach. Mae nifer y bobl yn yr ysbyty â’r coronafeirws wedi gostwng eto i ychydig dros 900 ar 5 Mai. Erbyn hyn, mae llai na 70 o bobl â’r coronafeirws mewn gofal critigol, i lawr o fwy na 100 ganol y mis diwethaf.

Gyda'i gilydd, mae'r corff hwn o dystiolaeth yn dangos bod popeth a wnawn gyda'n gilydd fel cymuned yn ein helpu i symud y tu hwnt i uchafbwynt y feirws. Ond yr wythnos hon, nodwn fod nifer y marwolaethau yng Nghymru bellach dros 1,000. Mae'r garreg filltir ddigalon hon—pob un ohonynt yn fywyd dynol, ac yn deulu mewn galar—yn tanlinellu'r angen am gryn ofal wrth inni agosáu at ddiwedd yr ail gyfnod adolygu yr wythnos hon.

Lywydd, trof yn awr at rai materion ymarferol. Diolch i ymdrechion diflino llawer o gyd-Aelodau, mae'r sefyllfa gadarnhaol a nodais yr wythnos diwethaf mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol wedi'i chynnal. Mae cyflenwadau a anfonwyd o Gambodia a Tsieina i Faes Awyr Caerdydd wedi golygu bod ein stociau'n fwy sefydlog. Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cyflenwadau'n cael eu dosbarthu'n deg ac yn ddibynadwy ledled Cymru, i ddiwallu anghenion staff ysbytai a staff gofal, yn ogystal â meddygon teulu, optometryddion, canolfannau deintyddol brys a fferyllfeydd ac eraill.

Lywydd, fel rydych newydd glywed, mae ein capasiti profi yn parhau i gynyddu. Mae bellach yn 2,100 o brofion y dydd, i fyny o 1,800 yr wythnos diwethaf. Agorodd canolfannau profi drwy ffenest y car yng ngogledd Cymru a Chaerfyrddin yr wythnos diwethaf. Bydd cyfleuster newydd bae Abertawe yn agor yr wythnos hon. Rydym yn profi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, yr heddlu, y gwasanaeth tân a staff carchardai, a byddwn yn ehangu i gynnwys gweithwyr allweddol eraill wrth i'r capasiti gynyddu. Ddoe, cawsom gyflenwad sylweddol o offer profi o dramor. Heddiw, mae’r offer hwnnw’n cael ei osod a'i ddilysu. Mae'r broses honno'n cael ei chwblhau cyn gynted â phosibl, a bydd yn arwain at gynnydd pellach yn y capasiti yr wythnos nesaf.

Lywydd, rhoddais wybod i’r Aelodau yr wythnos diwethaf ein bod yn gweithio gyda'r sector cartrefi gofal ar gylch gwaith ehangach ar gyfer profi yn y cartrefi gofal lle ceir achosion o’r coronafeirws. Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd y newidiadau i roi'r cylch gwaith ehangach hwnnw ar waith mewn datganiad ysgrifenedig ar 2 Mai. Yn y bôn, mae'r newidiadau'n gwneud mwy i atal y coronafeirws rhag cyrraedd y cartrefi gofal lle nad oes unrhyw achosion eisoes, a mwy i ymateb i achosion newydd. Fel rhan o'r ymdrech honno, o ddechrau'r wythnos hon, bydd wyth uned brofi symudol newydd ar waith fel rhan o'r cynllun i brofi'r holl breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal lle cafwyd achos o’r coronafeirws.

Lywydd, yr wythnos diwethaf, soniais am y gwaith sydd eisoes ar y gweill ar seilwaith iechyd cyhoeddus gwell i fod yn sail i adfer yng Nghymru. Bydd yn cynnwys tair elfen graidd: olrhain cysylltiadau, samplu a phrofi, a gwyliadwriaeth. Mae hynny bellach wedi bod yn destun cwestiwn amserol a atebwyd gan y Gweinidog iechyd.

Lywydd, dangosodd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y swyddfa ystadegau gwladol yr wythnos diwethaf ar y coronafeirws a’r effeithiau cymdeithasol ar bobl anabl ym Mhrydain yr anghydraddoldeb amlwg yn yr argyfwng presennol. Mae'n amlwg fod y feirws yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sydd â'r lleiaf o adnoddau. Bydd yn dwysáu'r anghydraddoldebau sydd eisoes wedi'u sefydlu gan ddegawd o gyni, a gall yr effaith hon fod yn fwy difrifol yng Nghymru oherwydd proffil oedran ein poblogaeth a'r lefel uwch o amddifadedd yn rhai o'n cymunedau.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:55, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Fel y nodwyd yn glir gennym yn nogfen y fframwaith adfer, a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill, bydd mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ffactor allweddol yn ein cynlluniau ar gyfer cefnu ar gyfyngiadau symud. Yn y cyfamser, rydym eisoes wedi gweithredu cyfres o gamau i liniaru, lle gallwn, effeithiau’r argyfwng ar y dinasyddion tlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Fel y gŵyr yr Aelodau, mae ymchwil wedi sefydlu bod grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael eu niweidio'n waeth gan y feirws na mwyafrif y boblogaeth, a bod effaith wahaniaethol ymysg cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Drwy ein grwpiau rhanddeiliaid, rydym yn gweithio i ddeall yr effeithiau hyn a sut y maent yn effeithio ar ein cymunedau yng Nghymru. Mae grŵp cynghori COVID-19 ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi’i sefydlu i archwilio’r dystiolaeth ac i nodi camau y gellid eu rhoi ar waith i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, a byddaf yn mynychu cyfarfod y grŵp hwnnw yn syth ar ôl gorffen fy natganiad y prynhawn yma.

Rydym wedi parhau i flaenoriaethu lles teuluoedd sydd fwyaf o angen help. Mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cyllid o hyd at £40 miliwn i alluogi awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim hyd nes y bydd ysgolion yn ailagor, neu hyd at ddiwedd mis Awst. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddarparu'r sicrwydd parhaus hwn o gymorth yn ystod gwyliau'r ysgol, yn yr un modd ag rydym yn ariannu gofal plant am ddim i blant oedran cyn ysgol gweithwyr hanfodol, a ni yw'r unig wlad yn y DU sy'n darparu gofal plant am ddim i bobl agored i niwed. A bydd y grant allgáu digidol o £3 miliwn, a gyhoeddwyd ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, yn galluogi pob plentyn i gael mynediad at y TG y gallent fod ei angen ar gyfer dysgu o bell yn ystod yr argyfwng.

Rydym wedi cydnabod y gwasanaeth eithriadol a ddarperir gan weithwyr gofal drwy daliad o £500 i'r rheini yn y gweithlu gofal cymdeithasol sy'n darparu gofal cymdeithasol personol. Yn yr un modd â'r taliad marw yn y swydd o £60,000, bydd hwn yn darparu’r budd cymharol mwyaf i'r rheini sydd â'r lleiaf i ddechrau. Lywydd, menywod sy’n ysgwyddo baich cyflog isel yn ein cymdeithas. Mae mwy nag 80 y cant o weithwyr ym maes gofal cymdeithasol yn fenywod, a bydd ein penderfyniad i wneud taliad o £500 yn cael effaith ar gydraddoldeb o ran rhywedd yn ogystal ag ar incwm.

Ar yr un pryd, Lywydd, dylwn groesawu penderfyniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder i leoli'r ganolfan breswyl newydd gyntaf i droseddwyr benywaidd yng Nghymru, datblygiad hirddisgwyliedig a gafodd ei gynorthwyo'n fawr gan gefnogaeth fy nghyd-Aelod, Alun Davies, a Jane Hutt yn awr.

Lywydd, wrth ddarparu cymorth ariannol o gyllideb bloc gyfyngedig, rydym yn gweithio i dargedu cyllid lle mae ei angen fwyaf. Drwy ddarparu terfyn uchaf o £0.5 miliwn ar gymhwysedd gwerth ardrethol ar gyfer ein cynllun rhyddhad ardrethi busnes, rydym wedi rhyddhau mwy na £100 miliwn i gefnogi busnesau llai ledled Cymru. Ac yma, rydym wedi cadw at gynlluniau pwysig sydd o fudd i bobl ar gyflogau isel a phobl sy'n agored i niwed. Roedd y gronfa cymorth dewisol yn arbennig o bwysig yn ystod yr argyfwng llifogydd yn gynharach eleni, ac mae'n parhau i gynnig amddiffyniad hanfodol i bobl mewn argyfwng ariannol. Rydym wedi dyrannu £11 miliwn ychwanegol i'r gronfa hon eleni. Ar adeg arferol, Lywydd, mae'r gronfa cymorth dewisol yn gwneud oddeutu 5,600 o daliadau bob mis, a chyfanswm o £330,000; ers effaith yr argyfwng, mae 12,000 o daliadau’n cael eu gwneud yn fisol, ac mae'r cyfanswm bellach yn £0.75 miliwn. Rydym yn parhau i gefnogi aelwydydd sy'n ei chael hi’n anodd drwy gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, ac yn parhau i annog pobl i gysylltu â'u hawdurdod lleol i weld a ydynt yn gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun hwnnw.

Yn olaf, Lywydd, yr wythnos diwethaf, roedd hi’n bum mlynedd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddod yn rhan o gyfraith Cymru, a nodwyd hynny mewn datganiad pwysig gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ddoe. Wrth inni ymateb i'r argyfwng presennol a chynllunio ar gyfer Cymru ôl-COVID, bydd Llywodraeth Cymru yn cadw at egwyddorion y Ddeddf honno i adeiladu Cymru fwy llewyrchus, mwy gwyrdd a mwy cyfartal. Mae'r camau rwyf wedi'u hamlinellu heddiw wedi'u gwreiddio yn ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, a dyma fydd yn parhau i lywio ein camau gweithredu yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi newid ei pholisi ar brofi mewn cartrefi gofal, ac yn y dyfodol, y bydd yr holl staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal lle bu achos o COVID-19 bellach yn cael eu profi.

Nawr, yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi wrthym nad oedd unrhyw werth clinigol i ymestyn y profion ymhellach, ac eto, yn amlwg, mae'r gwerth clinigol hwnnw bellach wedi'i ddarganfod. Gwyddoch fy mod wedi codi'r mater hwn gyda'r prif swyddog meddygol, ond mae pobl Cymru yn haeddu gwybod pa dystiolaeth glinigol newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chael. Fodd bynnag, nid yw'r polisi hwn yn mynd yn ddigon pell o hyd, ac mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots, yn iawn i ddweud y dylai Llywodraeth Cymru fod yn profi holl breswylwyr a staff cartrefi gofal, a hynny ar frys.

Felly, a wnewch chi gyhoeddi'r dystiolaeth glinigol a gawsoch yn wreiddiol, yn eich cynghori i beidio â phrofi preswylwyr a staff cartrefi gofal, ac a wnewch chi hefyd gyhoeddi'r wybodaeth newydd rydych wedi’i chael ers hynny sydd wedi arwain at newid y polisi hwn? Ac a wnewch chi fynd gam ymhellach ac ymrwymo i brofi holl breswylwyr a staff cartrefi gofal, fel nad yw'r sector yn cael ei ystyried yn ddifrod cyfochrog gan sylwebyddion fel Fforwm Gofal Cymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:02, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, diolch i Paul Davies. Fe fydd yn gwybod, wrth ateb ei gwestiynau yr wythnos diwethaf, i mi ddweud bryd hynny fod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r dystiolaeth ynghylch profi mewn cartrefi gofal ac yn edrych i weld a ellid ymestyn ein trefn brofi ymhellach. Dywedais hynny wrth yr Aelod ddydd Mercher, a ddydd Gwener, nododd y Gweinidog iechyd y camau ymarferol y byddem yn eu cymryd. Mae'r Aelod yn gofyn am y dystiolaeth a ystyriwyd gennym wrth wneud y newid hwnnw. Gallaf ddweud wrtho ein bod wedi ystyried astudiaethau o Singapôr ac o Sbaen, astudiaeth beilot gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr i chwe chartref gofal yn Llundain, adroddiad ar gyfer Canolfan Atal a Rheoli Clefydau Ewrop yn Efrog Newydd, a phrofiad y sector cartrefi nyrsio yno mewn perthynas â COVID. Rydym wedi ystyried tystiolaeth o Washington ac rydym wedi ystyried adroddiad systematig Canolfan y DU ar gyfer Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth ar dystiolaeth ar y ffordd orau o reoli lledaeniad y coronafeirws yn y sector cartrefi gofal.

Nododd yr adroddiad hwnnw bum ffordd wahanol o reoli lledaeniad y coronafeirws, ac un yn unig ohonynt yw profi. Mae'r adolygiad systematig yn rhoi pwyslais ar hylendid dwylo, ar ddiheintio’r amgylchedd, ar rotâu staff mewn cartrefi gofal a'r ffordd y gellir rhoi staff ar rotâu er mwyn lleihau'r risg y bydd y coronafeirws yn cael ei gludo i gartrefi gofal, ar gyfyngiadau ar ymwelwyr â chartrefi gofal, ac yna, yn bumed ac yn olaf, ar fesurau mewn perthynas â phrofi.

Dywedais wrth yr Aelod yr wythnos diwethaf nad oeddwn wedi gweld unrhyw dystiolaeth glinigol a oedd yn gwneud imi gredu bod gwerth clinigol i brofi preswylwyr a staff nad oes symptomau ganddynt mewn cartrefi gofal lle na cheir achosion o’r coronafeirws. Cadarnhawyd hynny yn y dystiolaeth a roddwyd i Weinidogion yr wythnos diwethaf, a dyna pam na fyddwn yn gwneud hynny yng Nghymru ar hyn o bryd. Os bydd y dystiolaeth glinigol yn newid, byddwn yn dilyn y dystiolaeth.

Dechreuodd yr Aelod drwy ofyn am dystiolaeth, ac yna gofynnodd imi wneud rhywbeth nad oes tystiolaeth ar ei gyfer, ac ni fyddwn yn gwneud hynny. Nodwyd ein safbwynt yn natganiad Vaughan Gething ddydd Gwener diwethaf, ac yn y bôn, mae'n ymwneud â gwneud mwy i atal y coronafeirws rhag cyrraedd cartrefi gofal lle nad oes achosion ohono yno heddiw, ac yna gwneud mwy yn y cartrefi gofal lle ceir lledaeniad symptomatig, er mwyn gallu rheoli’r feirws yn y cartrefi hynny'n fwy effeithiol.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:05, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Brif Weinidog, credaf ei bod yn bwysig inni weld y dystiolaeth, gan fod y polisi hwn, yn wir, wedi newid. Mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn agored ac yn dryloyw ar y materion hyn gan fod gan y cyhoedd hawl i wybod pa dystiolaeth sydd wedi'i defnyddio pan fydd polisi'n newid.

Nawr, wrth symud ymlaen, Brif Weinidog, rwy'n falch o weld bod Ynys Wyth bellach yn paratoi i dreialu ap ffôn a fydd yn olrhain achosion o COVID-19. Brif Weinidog, gall hwn fod yn faes y gall Llywodraeth Cymru weithio arno gyda Llywodraeth y DU er mwyn i Gymru hefyd fod ar flaen y gad yn y datblygiadau technolegol hyn. Er bod problemau'n codi o ran sut i rannu data yng Nghymru, gallai'r math hwn o olrhain cysylltiadau fod o fudd enfawr i ni yma yng Nghymru. A allwch gadarnhau felly fod Cymru’n barod i fod yn rhan o'r broses hon, a bod eich swyddogion yn gweithio gyda'u swyddogion cyfatebol yn Lloegr i weld sut y gallem ddefnyddio'r dechnoleg hon yma yng Nghymru? Ac a wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi'r canllawiau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael ar y mater hwn, er mwyn inni allu olrhain cynnydd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy ddweud bod yr holl dystiolaeth a grybwyllais yn fy ateb cyntaf i Paul Davies, heblaw am astudiaeth beilot Iechyd Cyhoeddus Lloegr o'r chwe chartref gofal yn Llundain, yn dystiolaeth gyhoeddus? Mae ar gael i unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n dymuno’i gweld, gan gynnwys Aelodau Cynulliad, ac fe wnaf gadarnhau a yw astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr hefyd yn gyhoeddus.

O ran cynllun peilot yr ap ar Ynys Wyth, mae Llywodraeth Cymru yn aelod o'r grŵp goruchwylio sy'n datblygu'r ap hwnnw, fel Llywodraeth yr Alban. Mae angen datrys materion sy'n codi mewn perthynas â data, fel y dywedodd Paul Davies, a diben arbrawf Ynys Wyth yw gweld a yw’r ap mor llwyddiannus â’r disgwyl. A bydd yn gwybod ein bod wedi cael sawl achos yn ystod argyfwng y coronafeirws lle nad oedd rhywbeth a oedd yn edrych yn addawol iawn yn gallu cyflawni'r addewid hwnnw, a dyna pam fod peilot Ynys Wyth mor bwysig. Ond gobeithiaf y bydd yn llwyddiant, a gobeithiaf y bydd modd datrys y materion sy'n ymwneud â phreifatrwydd data, gan fy mod am allu argymell yr ap i bobl yng Nghymru, oherwydd po fwyaf o bobl sy’n defnyddio’r ap, y mwyaf effeithiol y bydd.

Felly, y sefyllfa yr hoffwn fod ynddi yw un lle gallaf ddweud yn hyderus wrth bobl yng Nghymru fod hyn yn rhywbeth y gallant ei wneud, a'i wneud yn ddiogel, ac y bydd y gwaith sy'n digwydd yn ystod y cyfnod peilot yn lleddfu unrhyw bryderon sydd ganddynt ynghylch y defnydd o'u data personol. Ond mae'n rhaid inni aros i weld canlyniadau'r cynllun peilot a’r materion sy'n codi ynglŷn â data wedi'u datrys. Fel y dywedais wrth Weinidogion Llywodraeth y DU ddoe, rwy'n awyddus iawn i allu cyhoeddi—fel y nodwyd yn y cwestiwn a ofynnodd Paul Davies i mi—datganiad y gall aelodau'r cyhoedd ei weld, sy’n esbonio iddynt sut y bydd y data y byddant yn ei gyfrannu drwy'r ap yn cael ei reoli, y diben y bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer, a gwarantau na chaiff ei ddefnyddio at ddibenion nad ydynt wedi cydsynio iddynt. Oherwydd yn y ffordd honno, byddwn yn ennyn yr hyder ymysg y cyhoedd y bydd ei angen arnom os yw'r ap i gael ei ddefnyddio mewn ffordd a fyddai o fudd i bob un ohonom.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ddoe, Brif Weinidog, fe wnaethoch gyhoeddi ffigurau a ddangosodd fod 1,239 o farwolaethau wedi’u cofrestru mewn cartrefi gofal ym mis Ebrill yng Nghymru o gymharu â 417 am yr un mis y llynedd—cynnydd o 200 y cant. Nawr, rydych newydd ddweud, mewn perthynas â chartrefi gofal lle na fu achosion a gadarnhawyd neu amheuaeth fod y clefyd yn bresennol, nad oedd cyngor clinigol o blaid profi preswylwyr mewn sefyllfa o'r fath. Ond rydych yn gwneud hynny nawr, onid ydych, mewn cartrefi gofal sydd â 50 neu fwy o breswylwyr? Ac onid y rheswm pam nad ydych yn rhoi’r polisi hwnnw ar waith mewn cartrefi gofal llai o faint yw am nad oes gennych brofion ar gael, sy'n golygu nad oes gennych gapasiti i brofi pob cartref?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Adam Price am dynnu sylw at y ffigurau a gyhoeddwyd ddoe? Byddant yn rhan o gyfres reolaidd y byddwn yn eu cyhoeddi mewn un lle yn awr, er mwyn dwyn ynghyd y ffeithiau difrifol iawn ynglŷn ag effaith y coronafeirws ar gartrefi gofal yma yng Nghymru. Bydd modd i'r Aelodau weld hynny bob wythnos.

Ac a gaf fi ddiolch i Adam Price hefyd am dynnu sylw at yr amrywiad ar fy atebion i Paul Davies? Oherwydd cafwyd tystiolaeth—gall yr Aelodau ddod o hyd iddi ymhlith y cyfeiriadau a roddais yn gynharach—fod diben clinigol, mewn perthynas â chartrefi gofal a chartrefi nyrsio mwy o faint, i brofi lleoliadau lle na cheir symptomau hyd yn oed, a hynny am fod y cartrefi mwy o faint yn fwy agored—yn fwy agored—i ledaeniad coronafeirws, am nifer o wahanol resymau. Maent yn aml yn perthyn mwy i'r pen cartrefi nyrsio i'r sector cartrefi gofal, ac fel y gŵyr Adam Price, ar ôl gweld y ffigurau, mae crynodiad mwy o farwolaethau mewn gofal lle mae nyrsio yn rhan o ofal nag yng ngweddill y sector, fel y byddech yn ei ddisgwyl o gofio bod y coronafeirws yn ymosod ar bobl â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes.

A rheswm arall pam fod cartrefi gofal mwy o faint wedi cael eu trin yn wahanol yw oherwydd bod ganddynt nifer fwy o bobl yn mynd a dod. A pho fwyaf o bobl sy’n mynd a dod rhwng y byd y tu allan a chartref gofal, y mwyaf yw'r risg y bydd y coronafeirws yn cael ei gludo i'r cartref gofal—boed hynny gan weithwyr sy'n mynd a dod, neu ar yr adegau prin pan fo aelodau'r teulu'n ymweld â rhywun â salwch angheuol; po fwyaf o ymweliadau a geir â chartref gofal, yr uchaf fydd y risg, a pho fwyaf yw’r cartref gofal, y mwyaf o ymwelwyr ac aelodau o staff fydd yn mynd a dod ohono. Ac mae'r rheini ymhlith y rhesymau pam mai'r cyngor oedd bod diben clinigol i brofi pobl asymptomatig yn y cartrefi gofal mwy o faint, ac rydym wedi cynnwys hynny'n rhan o'n trefn brofi.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:12, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, os oes tystiolaeth wyddonol bosibl sy'n awgrymu bod gwerth clinigol i brofi mewn cartref gofal gyda 50 o breswylwyr, heb achos o’r feirws, sut nad oes gwerth clinigol i brofi mewn cartref gofal gyda 49? Onid yw hwnnw’n drothwy cwbl fympwyol?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n fympwyol yn yr ystyr nad yw'n fanwl gywir dweud y gallech ei osod yn union rhwng 49 a 51. Pryd bynnag y bydd gennych ffin, mae rhywfaint o fympwyoldeb yn ei chylch. Ond y cyngor a gawsom oedd, yn gyffredinol, fod cartref gofal â 50 neu fwy o bobl ynddo yn fwy agored i’r coronafeirws, hyd yn oed pan nad oes achos yn y cartref gofal heddiw. Dyna'r nifer y cawsom ein cynghori fel y man gorau i dynnu'r llinell. O ran pa mor benodol ydyw, mae iddo elfen fympwyol, fel sydd i unrhyw rif, ond nid yw wedi'i ddewis ar hap, mae'n deillio o'r wyddoniaeth sy'n sail iddo, natur y sector cartrefi gofal, a'r cyngor a roddir wedyn i Weinidogion.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, fe gyhoeddoch chi yn nogfen eich fframwaith adfer ddydd Gwener, 24 Ebrill, y byddai eich Llywodraeth, cyn codi’r cyfyngiadau symud, yn asesu a oedd y camau'n mynd i arwain at effaith gadarnhaol fawr ar gydraddoldeb, a oeddent yn darparu unrhyw gyfleoedd ar gyfer ehangu cyfranogiad a chymdeithas fwy cynhwysol, ac a oeddent yn gyson â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Chymru gyfartal a mwy gwyrdd. Fe gyfeirioch chi at yr agweddau hynny eto yn eich datganiad heddiw, gan ddweud eich bod yn fwyaf pryderus ynghylch cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol. Rydych wedi dweud hefyd bod yn rhaid i unrhyw gamau i lacio cyfyngiadau symud fod yn seiliedig ar werthoedd Cymreig penodol.

Ond yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch chi eich bod am i’r cyfyngiadau gael eu codi ar sail gyffredin rhwng y pedair gwlad. Tybed, felly, a wnaethoch ymgynghori â Llywodraeth y DU ynghylch eich profion cydraddoldeb cyn eu cyhoeddi? Os caiff y cyfyngiadau eu codi ar sail gyffredin, sut y gellir seilio hyn ar werthoedd Cymreig penodol? A ydych wedi perswadio Llywodraeth y DU i’w mabwysiadu, ynghyd â’ch profion cydraddoldeb a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

Yn olaf, a allwch gadarnhau bod cydraddoldeb yn golygu, os wyf yn danfon fy mhlant i ysgolion Cymraeg eu hiaith, y gallent ddychwelyd yn gynnar, ond os wyf yn eu danfon i ysgol Saesneg ei hiaith, y byddech yn gwneud iddynt aros gartref?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:15, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, ni ofynnais am ganiatâd Llywodraeth y DU cyn cyhoeddi'r ddogfen hon gan Lywodraeth Cymru—wrth gwrs na wneuthum. Ond pan gyhoeddais y fframwaith, dywedais fy mod yn ei ystyried yn gyfraniad at drafodaeth roeddwn o’r farn fod angen iddi ddigwydd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. A chyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ddogfen debyg, fel cyfraniad a oedd yn amlinellu eu syniadau ynglŷn a’r ffordd y gallwn lunio llwybr gyda'n gilydd allan o'r cyfyngiadau symud sy’n wynebu pob un ohonom heddiw.

Rwy'n gwbl ddiedifar ynglŷn â rhoi effaith unrhyw un o'r camau hynny ar gydraddoldeb wrth wraidd y ffordd y byddem yn meddwl am hyn yma yng Nghymru. Dyma pam y cyflwynodd y Senedd Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda Chymru fwy cyfartal yn un o'i saith nod. Yn fy natganiad, nodais y ffeithiau difrifol am effaith anghymesur y coronafeirws ar gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig. Ac mae angen mesur y camau a gymerwn yn erbyn yr effaith y byddant yn ei chael ar wahanol gymunedau yng Nghymru i sicrhau nad yw'r baich o ymdopi â'r afiechyd yn pwyso’n anghymesur ar un rhan o gymdeithas Cymru yn hytrach nag un arall. Rwy’n falch iawn o’r ffaith ein bod yn blaenoriaethu cydraddoldeb yn ein hystyriaethau, ac rwy’n sicr yn dadlau dros hynny yn fy nhrafodaethau â Gweinidogion y DU hefyd.

Byddai’n well pe gallai’r Aelod wrthsefyll ei reddf i fanteisio ar gyfle i droi un rhan o gymdeithas Cymru yn erbyn y llall. Gwn ei fod yn cyfeirio at ateb a roddais i gwestiwn ynglŷn â sut roeddem yn bwriadu dod â phlant yn ôl i'r ysgol yng Nghymru. Ac fel enghraifft, dywedais ein bod yn edrych ar grwpiau lle roedd achos penodol i’w gael dros adael iddynt ddychwelyd i'r ysgol yn gynnar. Ac wrth drafod hynny, dywedais, ar gyfer plant ym mlwyddyn 6—plant sy’n mynd i fyny i'r ysgol uwchradd ym mis Medi—y byddai achos cryf i’w gael dros feddwl amdanynt fel y grŵp y byddech am ddod â hwy'n ôl at ei gilydd yn gynnar yn y broses, gan fod y plant hynny’n cwblhau’r ddefod newid byd bwysig honno ochr yn ochr â'u cyd-ddisgyblion, ni waeth pa iaith y maent yn digwydd cael ei dysgu ynddi a pha bynnag iaith y maent yn digwydd ei siarad gartref.

Soniais am blant ag anghenion ymddygiadol, sy'n dibynnu ar rythm y diwrnod ysgol ac y mae eu rhieni'n ei chael hi'n anodd gofalu amdanynt am 24 awr bob dydd dan gyfyngiadau eu cartref, fel grŵp a allai ddychwelyd i'r ysgol yn gynnar.

A soniais am y bobl ifanc yng Nghymru rydym mor falch o’u cael mewn addysg Gymraeg, sy’n dod o gartrefi lle nad oes gair o Gymraeg yn cael ei siarad fel rheol, ac a fydd bellach wedi bod allan o’r amgylchfyd iaith Gymraeg am wythnosau lawer. Ac fe wnes eu nodi, unwaith eto, fel grŵp y gallech ddadlau bod ganddynt achos penodol dros ddychwelyd i'r ysgol yn gynharach, ochr yn ochr â'r holl rai eraill hynny. Mae ceisio troi un rhan o boblogaeth ein hysgolion yn erbyn y llall a chreu ymdeimlad o annhegwch, unwaith eto—nid yw'n adlewyrchu’n dda ar yr Aelod, ac yn sicr, nid dyna'r ffordd rydym yn meddwl am bethau yng Nghymru.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:19, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Brif Weinidog. Gofynnais i chi bythefnos yn ôl pa mor ymrwymedig yr oeddech i'r dull pedair Llywodraeth o weithredu, ac fe ddywedoch chi eich bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i hynny. Ac mewn egwyddor, mae hynny'n rhywbeth rwy'n cytuno ag ef—byddai bob amser yn well gennyf weld pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'i gilydd, yn rhannu gwybodaeth ac yn rhannu profiad ac yn gweithio i sicrhau bod gennym ddull cyffredin o weithredu.

Ond yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn methu mewn ffordd hynod ofidus. Rydym yn gweld bellach mai nifer y marwolaethau yn y DU yw'r uchaf yn Ewrop—yn ail yn unig i America Trump. A chredaf fod angen inni gwestiynu a yw cysylltu ein hunain yn rhy agos â Llywodraeth y DU sy'n amlwg yn methu yn rhywbeth sy'n rhaid inni ei wneud yn y dyfodol. Ac felly, Brif Weinidog, rwy'n mentro cwestiynu hynny unwaith eto, a gofyn i chi a ydych yn parhau i edrych ar Lywodraethau sy’n llwyddo i ymdopi â’r feirws hwn mewn gwahanol rannau o’r byd, yn hytrach nag edrych yn unig tua’r dwyrain ar Lywodraeth nad yw’n llwyddo. Credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig i’w ystyried.

Yr ail gwestiwn sydd gennyf—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:20, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Na, na. Rydych wedi gofyn eich cwestiwn cyntaf ac rydych wedi mynd y tu hwnt i'ch amser ar gyfer y sesiwn. Y Prif Weinidog i ymateb.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf fi ddiolch i Alun Davies am hynny? Ac mewn gwirionedd, ni chredaf fod fy safbwynt yn wahanol i'r un a nododd, gan y credaf innau hefyd fod yr egwyddor o geisio gweithio ar sail pedair gwlad ar draws y Deyrnas Unedig yn un bwysig, ond ni fyddai hynny'n golygu y byddwn yn barod i fabwysiadu polisïau yng Nghymru y gwyddys eu bod yn methu yn rhywle arall. Felly, nid oes a wnelo hyn ag ymlyniad slafaidd wrth yr egwyddor honno; mae a wnelo â’r lens yr hoffwn ei defnyddio—rwy’n awyddus i gael dull pedair gwlad o weithredu. Rwyf wedi bod yn gweithio’n galed yr wythnos hon gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig i geisio sicrhau hynny. Ond mae'n—. Rydym wedi dweud bob amser, os oes angen inni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru, am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, dyna fyddwn ni'n ei wneud, ac mae honno'n egwyddor bwysig iawn hefyd.

Ac rydym yn parhau, Lywydd, i ddysgu gwersi o bedwar ban byd. Bob wythnos, rwy'n cael adroddiadau am ddatblygiadau, naill ai'n uniongyrchol drwy sgyrsiau y mae'r prif swyddog meddygol yn eu cael yn Sweden, yn yr Almaen a De Korea, er enghraifft, neu mewn ymchwil i lenyddiaeth a gyflawnir gennym yn Llywodraeth Cymru i olrhain yr hyn sy'n digwydd mewn rhannau o'r byd lle mae'r cyfyngiadau symud wedi’u codi eisoes, i weld beth sy'n gweithio, i weld beth nad yw'n ymddangos ei fod yn gweithio, ac i fwydo'r wybodaeth honno i'n ffordd o feddwl fel ein bod yn nodi'r mesurau sydd â'r gobaith mwyaf o lwyddo yn ein barn ni, ni waeth o ble yn y byd y daw'r dystiolaeth honno.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:22, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, roeddwn yn synnu nad oedd unrhyw gyfeiriad yn eich datganiad heddiw at y garreg filltir o 75 mlynedd ers Diwrnod VE, sy'n digwydd ddydd Gwener, wrth gwrs. Ddydd Gwener, bydd llawer o bobl ledled Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig, ac yn wir, Ewrop gyfan yn dathlu trechu Natsïaeth a ffasgaeth ledled Ewrop. Ac wrth gwrs, cawn gyfle hefyd i gofio’r rheini a fu farw wrth ymladd yn yr ail ryfel byd, ac yn wir, yr arwyr hynny yn ein plith a helpodd i sicrhau’r fuddugoliaeth aruthrol honno—pob un o’r gweithwyr allweddol, os mynnwch, ochr yn ochr â'r rheini a fu’n ymladd mewn brwydrau ar y rheng flaen.

Mae rhai pobl yng Nghymru, gan gynnwys rhai unigolion sy'n Aelodau o'r Senedd, yn dweud na fyddant yn dathlu ddydd Gwener, gan nad ydynt yn teimlo bod dathlu'r pethau hyn yn briodol. Byddaf yn sicr yn dathlu, Brif Weinidog. A gaf fi ofyn, a fyddwch chithau hefyd? A pha gynlluniau sydd ar waith i nodi'r garreg filltir bwysig hon yn ein hanes pan fydd y pandemig penodol hwn dan reolaeth?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:23, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, a gaf fi ddiolch i Darren Millar am ei gwestiwn, am y cyfle i ddweud rhywbeth am y garreg filltir o 75 mlynedd, a diolch iddo am ei ddygnwch wrth sicrhau ein bod yn meddwl am y digwyddiadau hyn a sut rydym yn eu nodi?

Treuliais lawer o brynhawn ddoe mewn cyfres o sgyrsiau dros y ffôn a thrwy gyswllt fideo â chyn-filwyr o Gymru a fu’n ymladd ar Ddiwrnod VE, ac roeddent yn sgyrsiau hyfryd. Rwy'n credu bod yr unigolyn ieuengaf y siaradais ag ef yn 94 oed, ac roedd y unigolyn hynaf y siaradais ag ef yn 100 oed, o Aberystwyth. Mae pob un ohonynt yn llawn o atgofion am yr amser hwnnw, ac yn llawn tristwch hefyd, oherwydd iddynt hwy, mae Diwrnod VE—mae'n fater o ddathlu'r hyn a gyflawnwyd, ond mae hefyd yn destun cryn dristwch ynglŷn â'r bobl roeddent yn eu hadnabod ac a safodd gyda hwy, y bobl na oroesodd y rhyfel fel y gwnaethant hwy. Ac ni siaradais ag unrhyw un na wnaeth enwi rhywun arall a oedd wedi bod yn agos atynt ac nad oedd wedi goroesi fel y gwnaethant hwy. Ond roeddent yn sgyrsiau hyfryd. Roedd yn wych gweld pobl yn ymdopi â thechnolegau nad oeddent byth yn meddwl y byddai angen iddynt eu defnyddio, a chael y sgyrsiau hynny drwy Skype a thrwy Zoom a'r holl bethau eraill y mae'n rhaid inni eu gwneud.

Byddaf yn sicr yn nodi Diwrnod VE fy hun. Byddaf wrth y senotaff yma yng Nghaerdydd am 11 o'r gloch ddydd Gwener, fel rhan o'n ffordd genedlaethol o nodi’r foment honno, ac mae'n cael ei nodi, fel y gŵyr yr Aelodau, mewn ffyrdd gwahanol iawn oherwydd yr adeg rydym yn byw ynddi. Ac yna, mae angen inni edrych y tu hwnt i'r adeg hon i weld beth y gallwn ei wneud pan allwn ddod at ein gilydd unwaith eto, ac mae trafodaethau'n mynd rhagddynt, a phan ddaw'r adeg y gallwn wneud pethau mewn ffyrdd rydym yn fwy cyfarwydd â hwy, ni fyddwn wedi anghofio'r angen i sicrhau y bydd nodi Diwrnod VE yn rhywbeth y gallwn ei wneud yn y dyfodol yn ogystal â ddydd Gwener.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:25, 6 Mai 2020

Fedrwch chi roi gwybod i ni pa drafodaethau sydd yn mynd ymlaen ynglŷn â chael hwb ar gyfer carcharorion ym Mangor, yn fy etholaeth i? Dwi yn deall bod cynllun ar waith i greu hwb ym Mangor ar gyfer carcharorion sy'n hanu'n wreiddiol o bob rhan o ogledd Cymru ac sy'n cael eu rhyddhau yn gynnar oherwydd yr argyfwng presennol. Rŵan, dydw i nac Aelod Seneddol Arfon yn San Steffan ddim wedi derbyn unrhyw wybodaeth swyddogol am y trafodaethau. Pryd oeddech chi'n bwriadu trafod y cynllun efo ni? Ac os oes yna gynllun ar y gweill, fel dwi'n ei ddeall, beth yn union sy'n cael ei drafod, o ble daw'r adnoddau a'r arbenigedd i gynnal yr hwb, a beth fydd y trefniadau ar gyfer ailsefydlu a lletya'r unigolion bregus yma ar ôl yr argyfwng?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:26, 6 Mai 2020

Wel, Llywydd, dwi ddim wedi gweld dim byd ar y pwnc yna. Dwi ddim wedi cael cyngor, dwi ddim wedi cael trafodaethau o gwbl, a dwi ddim wedi clywed am y posibiliad cyn clywed beth yr oedd Siân Gwenllian wedi'i ddweud nawr. So, wrth gwrs, dwi'n fodlon i fynd ar ôl y pwnc i weld a oes trafodaethau wedi bod ar y gweill yn unrhyw le yn Llywodraeth Cymru. Ac os oes unrhyw beth y tu ôl i beth mae Siân wedi'i glywed, dwi'n hapus i ysgrifennu ati hi a rhoi mwy o fanylion. Ond dwi ddim wedi clywed dim byd ar hyn o bryd.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:27, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

[Anghlywadwy.]—penderfyniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r taliad o £500 i weithwyr gofal, a gaf fi awgrymu mai cam cyntaf yn unig yw hwn yn yr hyn y mae'n rhaid iddi ddod yn fargen newydd i'n gweithwyr sector cyhoeddus yn y pen draw? A gaf fi ofyn pa gynnydd sy'n cael ei wneud i berswadio Llywodraeth y DU i hepgor y dreth yn y taliadau hyn, fel a ddigwyddodd, yn wir, yn ystod argyfwng y llifogydd?

A hefyd, Brif Weinidog, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyngor TUC Cymru wrth lacio unrhyw fesurau? Mae cymheiriaid o Loegr wedi canmol Cymru wrthyf am y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i reoleiddio mesurau cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle. Felly, a gaf fi sicrwydd y bydd canllawiau a rheoliadau diogelwch llym yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod diogelwch yn y gweithle a theithio i'r gwaith yn fwy na 'digon da' yn unig, fel yr awgrymwyd gan rai o Weinidogion y DU, ond y bydd yn hollbwysig? Ar ôl coffáu’r Diwrnod Rhyngwladol i Gofio Gweithwyr, a gaf fi awgrymu nad yw unrhyw beth llai na hyn yn dderbyniol, a gofyn i’r Llywodraeth Cymru roi diogelwch y cyhoedd a gweithwyr yn gyntaf bob amser yn eu proses benderfynu?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:28, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, diolch i Mick Antoniw am y ddau gwestiwn. Mae ein taliad o £500 yno i gydnabod y cyfraniad anhygoel, y cyfraniad dewr, y mae gweithwyr sy'n darparu gofal personol uniongyrchol i bobl yn ein sector gofal yn ei wneud yn ystod yr argyfwng. Pan fydd yr argyfwng drosodd, cytunaf yn llwyr â Mick Antoniw—mae angen inni sicrhau bod y bobl sydd wedi bod mor bwysig wrth ymateb i'r argyfwng yn cael eu hystyried yr un mor bwysig wedyn, ac yn cael eu gwobrwyo mewn ffordd y byddem am eu gweld yn cael eu gwobrwyo.

Gadewch imi ddweud unwaith eto, gan imi ddweud hyn ar y pryd: roedd cymorth Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn sicrhau bod y taliadau a wnaethom o'r gronfa cymorth dewisol i bobl a ddioddefodd yn sgil y llifogydd—y ffaith nad oedd hynny’n cyfrif tuag at gyfrifiadau budd-daliadau—yn ddefnyddiol iawn, a gobeithiaf y gall fod yr un mor ddefnyddiol i ni yma. Rydym am i bob punt o'r £500 fynd yn uniongyrchol i'r bobl rydym yn ceisio eu gwobrwyo. Dylai fod yn rhydd o dreth, dylai fod yn rhydd o yswiriant gwladol, a chodwyd hyn gyda Llywodraeth y DU cyn gwneud y cyhoeddiad a gwn fod fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ers hynny gan ddadlau eto y dylai Llywodraeth y DU gydnabod y cyfraniad y mae'r gweithwyr hynny'n ei wneud, nid yn unig mewn geiriau cynnes, ond yn yr arian sychion rydym wedi'i ddarganfod o gyllideb Llywodraeth Cymru, ac mae angen iddo fynd i'r bobl hynny a pheidio â chael ei seiffno'n ôl i'r Trysorlys ar ffurf treth a chyfraniadau yswiriant gwladol.

Ac ar gyfranogiad TUC Cymru ac undebau yn fwy cyffredinol, y pwynt rwy’n ei wneud, Lywydd, ac rwy’n ceisio'i wneud i Weinidogion Llywodraeth y DU yw oni bai ein bod yn gallu argyhoeddi pobl ei bod hi'n ddiogel i ddychwelyd i'r gwaith, gallwch agor beth bynnag a fynnoch, ni fydd pobl yn mynd yno os ydynt yn teimlo eu bod yn peryglu eu hunain. Un o'r ffyrdd gorau o allu dangos i weithlu fod yr holl gamau rhesymol wedi'u cymryd i wneud y gweithle hwnnw'n ddiogel, yw cael yr undeb llafur i ddweud ochr yn ochr â chi fod y camau hynny wedi'u cymryd. Felly, mae gan yr undebau llafur rôl wirioneddol ganolog a rôl gadarnhaol yn dangos i weithluoedd ei bod hi’n ddiogel i ddychwelyd i'r gwaith oherwydd eu bod hwy eu hunain wedi bod yn rhan o'r paratoadau hynny. Dyna'r ffordd rydym yn ceisio ei wneud yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod gan y mwyafrif o gyflogwyr Cymru awydd i'w wneud yn y ffordd honno. A gofynnodd Alun Davies am y gwersi a ddysgwn gan ein gilydd a dysgu gwersi i'n gilydd. Rwy’n credu bod y ffordd rydym wedi rhoi ein rheol 2m mewn rheoliadau, y ffordd rydym yn ystyried undebau llafur fel partneriaid canolog wrth wneud gweithleoedd yn ddiogel, yn rhywbeth y gallai rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ei ddysgu.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:32, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r bonws o £500 ar gyfer ein gweithwyr gofal cymdeithasol i'w groesawu'n fawr, ond, Brif Weinidog, a wnewch chi ymestyn y bonws i'n byddin anhunanol o ofalwyr di-dâl, fel y mae cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi galw amdano, egluro pam nad yw ein hawdurdodau lleol yn gwybod dim am sut y bydd yr arian hwn yn cael ei dderbyn a'i ddosbarthu, a dweud hefyd a fydd staff gofal cymdeithasol yn cael codiad cyflog yn y dyfodol, yn union fel y mae rhai staff anfeddygol wedi'i gael yng Nghaerdydd?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i Janet Finch-Saunders am y croeso a roddodd i'r £500. Nid wyf yn credu ei bod yn gywir yn dweud nad oedd awdurdodau lleol yn gwybod dim amdano. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei groesawu mewn dyfyniadau a gyflwynwyd ganddynt ar y diwrnod y gwnaethom ei gyhoeddi. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef llais cyfunol awdurdodau lleol yng Nghymru, i wneud yn siŵr fod yr arian yn gallu cyrraedd y rhai rydym yn dymuno iddo eu cyrraedd yn y ffordd orau a'r ffordd gyflymaf, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cytuno y dylai'r £500 hwnnw i gyd fynd i'r unigolion hynny.

Hoffwn pe bawn yn gallu dweud wrthi y gallem dalu'r cyflog byw gwirioneddol fan lleiaf i'r holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a byddwn yn gweithio gydag undebau llafur, awdurdodau lleol a'r sector i weld sut y gellid cyflawni hynny ar ôl cefnu ar y coronafeirws. Ond er mwyn inni allu gwneud hynny, bydd yn rhaid inni gael yr arian o Whitehall er mwyn gallu talu'r gyfradd rwyf newydd ei chlywed yn ei chefnogi i bobl, ac yn sicr byddem eisiau gweithio tuag at hynny, ond nid ydym yn cael ein hariannu i wneud hynny ar hyn o bryd a byddai'n wych, ar ôl cefnu ar y coronafeirws, pe baem mewn sefyllfa i wneud hynny ar draws y DU.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:34, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth y DU yn treialu ap olrhain cysylltiadau sy'n gofyn i ddefnyddwyr a oes ganddynt unrhyw symptomau, ac os oes, yn gofyn iddynt hwy ac unrhyw un y maent wedi dod i gysylltiad â hwy hunanynysu am 14 diwrnod. Nawr, does bosibl nad profi, olrhain ac ynysu gyda'i gilydd yw'r allwedd i atal lledaeniad y feirws, ac er mwyn i'r ap fod yn effeithiol, mae'n rhaid i 60 y cant o'r boblogaeth ei lawrlwytho. Ond fel y dywedwyd eisoes heddiw, efallai y bydd rhai pobl yn gyndyn o'i lawrlwytho oherwydd pryderon ynghylch preifatrwydd, yn rhannol oherwydd ymwneud Dominic Cummings a phenderfyniad Llywodraeth y DU i ddewis system ddata ganolog yn hytrach na system ddata ddatganoledig fel gwladwriaethau eraill.

Nawr, at hynny mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud, er mwyn i'r ap fod yn effeithiol, fod angen iddo gael ei gefnogi gan dimau profi, olrhain ac ynysu ar lawr gwlad. Felly, Brif Weinidog, a ydych yn hyderus y bydd data pobl yn cael ei gadw'n ddiogel ac na chaiff ei gamddefnyddio os byddant yn lawrlwytho'r ap, a hefyd, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sefydlu timau profi, olrhain ac ynysu ar lawr gwlad yng Nghymru?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:36, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Delyth Jewell am hynny. Rwy'n hyderus fod Llywodraeth y DU eisiau gwneud y peth iawn o ran preifatrwydd a'r ap. Cefais gyfle i drafod hyn gyda Gweinidogion y DU a Phrif Weinidog yr Alban ddoe, felly nid wyf yn amau eu bwriadau. Rwy'n credu bod bwlch o hyd rhwng y bwriad a gallu i gynnig y gwarantau y credaf y bydd pobl eu hangen er mwyn teimlo'n hyderus fod eu gwybodaeth yn cael ei rhannu at y dibenion y maent yn barod i'w rhannu ac nad yw mewn perygl o gael ei chamddefnyddio at ddibenion nad ydynt wedi rhoi eu caniatâd ar eu cyfer. Dyna pam y dywedais yn fy ateb i Paul Davies fy mod yn credu y dylai Llywodraeth y DU gyhoeddi datganiad o drefniadau preifatrwydd ochr yn ochr â'r ap, fel y gall pobl fynd i weld pa warantau sydd yno, ac os nad ydynt yn gallu darparu'r gwarantau hynny, a chadarnhau rhai agweddau eraill ar yr ap, mae'r gobaith o weld 60 y cant o bobl yn ei ddefnyddio yn gostwng. Hoffwn allu ei argymell i bobl yng Nghymru, ond bydd angen i mi wybod bod y pethau hynny yn eu lle cyn i mi allu cymryd y cam cadarnhaol hwnnw, ond dyna lle hoffwn fod.

Ac yna, wrth gwrs, mae Delyth Jewell yn iawn mai dim ond un agwedd ar hyn i gyd yw'r ap. Yn y byd newydd hwn, mae'n rhaid ichi gael trefniadau profi, olrhain ac ynysu yn y gymuned. Mae papur Iechyd Cyhoeddus Cymru, papur nad yw'n fersiwn derfynol a ddatgelwyd yn answyddogol, ac un y treuliasom beth amser yn sôn amdano heddiw, yn rhoi cyfrif manwl o sut y gallem gyrraedd y sefyllfa honno. Mae'n cael ei fireinio mewn trafodaethau pellach. Credaf y bydd gan awdurdodau lleol ran bwysig iawn i'w chwarae yn helpu i ddarparu pobl i'r timau y byddwn eu hangen, yn rhannol oherwydd bod ganddynt bobl nad ydynt yn gallu gwneud y swyddi y byddent yn eu gwneud fel arfer, a hefyd am fod ganddynt ddealltwriaeth a gwybodaeth leol am boblogaethau ar lawr gwlad.

Yr wythnos hon, byddwn yn gweithio i nodi nifer y profion rydym yn credu y byddwn eu hangen, y nifer o olrheinwyr cysylltiadau y credwn y bydd eu hangen arnom, y rhaniad rhwng pobl y cysylltir â hwy ac a gaiff eu holrhain ar-lein, dros y ffôn ac ar droed—oherwydd mae'n rhaid cael rhai darnau o hynny i gyd—ac yna byddwn yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu yn dangos sut y caiff y systemau hynny eu cyflawni yma yng Nghymru.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 2:38, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, ar 17 Ebrill, fe ddywedoch chi y gallai'r cyfyngiadau symud barhau hyd yn oed yng Nghymru—. Rwyf am ddechrau eto. Brif Weinidog, ar 17 Ebrill, fe ddywedoch chi y byddai cyfyngiadau symud yng Nghymru yn parhau hyd yn oed pe baent yn cael eu codi mewn mannau eraill. Ar 27 Ebrill, fe ddywedoch chi y gallai'r cyfyngiadau symud gael eu codi yng Nghymru cyn gweddill y DU. Ar 1 Mai, fe'ch dyfynnwyd yn dweud y gallai'r cyfyngiadau symud gael eu codi yng Nghymru ar yr un pryd â gweddill y DU. Wel, mae'n ymddangos eich bod yn newid eich meddwl o hyd a heb roi unrhyw fath o hyder i'r cyhoedd nac i fusnesau. Felly, mae'n gwestiwn syml iawn: a ydych yn gwybod beth rydych yn ei wneud mewn gwirionedd? Ac os ydych, beth yw'r cynllun mewn perthynas â chodi'r cyfyngiadau symud?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:39, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Yr ateb syml iawn yw 'ydym'. Cyhoeddasom ein cynllun yn y ddogfen fframwaith a nodwyd gennym. Wrth gwrs, mae'r tri posibilrwydd y mae'r Aelod wedi'u hamlinellu yn dal i fod yn bosibl. Fy newis i, fel rwyf eisoes wedi'i ddweud y prynhawn yma a sawl gwaith, yw ein bod yn codi'r cyfyngiadau symud yn unol â chyfres gyffredin o fesurau ac amserlen gyffredin ar draws y Deyrnas Unedig. Os nad yw hynny'n iawn i Gymru, ni fyddwn yn gwneud hynny. Pe bai'n rhaid inni gadw'r cyfyngiadau symud yn hwy oherwydd mai dyna'r peth iawn i Gymru, byddem yn gwneud hynny. Pe bai modd llacio rhai mesurau yng Nghymru'n ddiogel oherwydd mai dyna'r peth iawn i Gymru cyn y lleill, byddem yn gwneud hynny. Dyna pam mai ni yw Llywodraeth Cymru.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn ac ehangu ar bolisi Llywodraeth y DU o gefnogi busnesau, gyda mwy o gyllid a grantiau ar gael yma yng Nghymru, yn enwedig os ydych yn hunangyflogedig, ond a ydym yn gwybod faint a roddwyd i fusnesau Cymru o gynlluniau Llywodraeth y DU ac yn arbennig i rai o'n cwmnïau angori megis Airbus a Tata, sydd eisoes yn amlygu eu pryderon ynghylch dyfodol eu busnesau? Ac rwy'n gwybod bod Tata wedi gofyn yn benodol am lawer mwy na'r cap sydd ar y cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws ar hyn o bryd. A ydych yn gwybod pa gynnydd sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU i gefnogi'r cwmnïau angori hyn yng Nghymru?

Ac yn olaf, Brif Weinidog, rwyf yn llythrennol newydd dderbyn e-bost gan reolwr cartref gofal, o fewn y 15 munud diwethaf, sydd ag achosion o COVID yn ei gartref, ond pan gysylltodd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun, dywedwyd wrtho na fydd yn cael prawf am nad ydynt yn achosion newydd. A allwch chi sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwybod y canllawiau newydd fel y gall yr holl breswylwyr a staff gael eu profi mewn cartrefi lle ceir achosion o COVID?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:40, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, ar y pwynt olaf, wrth gwrs y gallaf warantu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwybodol iawn o'r canllawiau newydd. Mae arnaf ofn na allaf ymateb i e-bost unigol, ond mae yna ffyrdd y gall y cartref gofal hwnnw fynd ar drywydd hynny a dylent wneud hynny yn sicr.

Ar y set gyntaf a'r set fwyaf o gwestiynau a ofynnodd David Rees, nid oes gennyf, ac nid wyf yn siŵr a yw ar gael yn gyhoeddus hyd yn oed—yn sicr, nid yw gennyf yn fy mhen—nid oes gennyf ddadansoddiad o'r cymorth y mae busnesau Cymru wedi'i gael o gynlluniau'r DU hyd yma. Felly, i ailadrodd unwaith eto, Lywydd, y prynhawn yma, rwy'n croesawu'r holl gynlluniau hynny ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ar waith, ac rwy'n siŵr y bydd yna adeg pan fydd yn bosibl gweld faint o'r cymorth hwnnw sydd wedi'i dderbyn yma yng Nghymru. Yn sicr ddigon, i gytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd David Rees am Airbus a Tata, fel dau gyflogwr mawr a phwysig iawn yma yng Nghymru, a'r ddau ohonynt ag argyfyngau byd-eang ar eu dwylo yn y diwydiant awyrofod a'r diwydiant cynhyrchu dur, rwy'n rhoi sicrwydd i David Rees fod fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol ac agos â rheolwyr Tata a rheolwyr Airbus, i edrych i weld pa bethau y gallwn eu gwneud yma yng Nghymru. Er enghraifft, ar yr agenda sgiliau, lle rydym yn dal i fod yn barod ac yn awyddus i wneud y pethau y gallwn eu gwneud i helpu, ond lle mae problemau mawr—ynni yn achos Tata, er enghraifft—yn nwylo Llywodraeth y DU, a'r angen i roi sylw iddynt wedi bod yno ers misoedd lawer, ac mae taer angen amdano bellach er mwyn diogelu iechyd hirdymor y diwydiannau tra phwysig hynny.

Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ddefnyddio ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn, nad yw'n canolbwyntio'n unig ar y cwmnïau mawr eu hunain, ond yn bwysig iawn, ar gadwyni cyflenwi, gan sicrhau, os bydd cwmnïau mawr yn wynebu trafferthion, ein bod yn mynd i'r afael â'r effaith y bydd hynny'n ei chael, yr effaith ganlyniadol y bydd hynny'n ei chael, ar eu cadwyni cyflenwi hefyd.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:43, 6 Mai 2020

Dŷn ni i gyd yn gorfod aberthu llawer o ryddid ar hyn o bryd, a dwi'n meddwl bod hi’n niweidiol iawn i undod cymdeithasol pan fydd pobl yn fy etholaeth i yn gweld ymwelwyr i'r ardal fel petaen nhw ddim cweit yn gorfod aberthu'r un rhyddid, ac mae pobl yn dweud wrthyf i'n dal eu bod nhw’n teimlo ei bod hi’n brysur iawn o ran ymwelwyr yn eu hardaloedd nhw. Y mwyaf cadarn, dwi’n meddwl, y gallwn ni fod rŵan, y lleiaf o densiwn sy’n mynd i gael ei greu; mae’n bwysig lleihau tensiwn achos dŷn ni'n edrych ymlaen at weld twristiaeth yn gallu ailgydio. Ond, dwi yn cyd-fynd â'r neges yn eich llythyr chi i'r heddlu a llywodraeth leol yn dweud wrth bobl i gadw draw o dai gwyliau, ail gartrefi, ac ati. Roeddech chi’n dweud bod hynny'n cynnwys pobl sydd eisoes yma. Roeddech chi'n dweud bod gadael neu aros yn rhywle lle nad ydych chi’n byw, heb reswm da iawn, yn cyflawni trosedd. Rŵan, os ydy hi’n drosedd, onid oes yna le'n dal i ystyried ymbweru’r heddlu'n fwy ar hyn, yn cynnwys y posibilrwydd o ddirwyon trymach?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:44, 6 Mai 2020

Wel, wrth gwrs, rŷn ni’n agored, bob tro, i gadw llygad ar bwerau sydd gyda'r heddlu ar hyn o bryd a beth rŷn ni'n ei wneud trwy’r pethau—

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

—pethau rydym yn eu gwneud o ran dirwyo a sicrhau bod effaith y mesurau y gall yr heddlu eu cymryd yn effeithiol. Y wybodaeth rydym wedi'i chael bob amser gan yr heddlu wythnos ar ôl wythnos yw bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnynt. Nawr, os bydd hynny'n newid yn y dyfodol, byddwn yn meddwl am hynny wrth gwrs ac yn gweld beth y gallwn ei wneud.

Y dystiolaeth wirioneddol sydd gennym yw bod nifer y tripiau sy'n cael eu gwneud gan bobl yng Nghymru yn sefydlog. Roedd nifer y tripiau a wnaed ar 7 Ebrill a 28 Ebrill—dau ddyddiad pan gynhaliwyd cyfrifiadau—bron yn union yr un fath. Felly, nid oes llawer o dystiolaeth gadarn fod mwy o deithiau'n cael eu gwneud. Ond rydym yn mynd i'r afael â phryderon pobl wrth gwrs, ac mae gwyliau banc yn creu pryderon penodol y byddant yn annog pobl i wneud siwrneiau nad ydynt yn hanfodol ac na ddylid eu gwneud. Dyna pam yr ysgrifennais lythyr agored, ynghyd â'r gwasanaeth heddlu, ynghyd ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i geisio cyfleu'r neges honno i bobl.

Rydym yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth atynt. Ni chaniateir teithiau diangen yn y trefniadau presennol. Mynd ar daith i'r traeth, teithio pellter hir i fynd i Eryri—ni chaniateir y pethau hynny o dan y trefniadau hyn. Ni ddylai pobl ei wneud ac os ydynt yn ei wneud, bydd yr heddlu yng Nghymru yn rhoi camau ar waith.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:46, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd cost y cyfyngiadau symud presennol i'w theimlo nid yn unig mewn termau ariannol ond hefyd mewn termau gofal iechyd. Dywedodd Cancer Research UK yn ddiweddar ein bod yn colli 2,300 o ganserau'r wythnos oherwydd y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau gan feddygon teulu. Mae'n amlwg fod angen inni wario llawer mwy o arian ar iechyd yn y dyfodol, ond ni fyddwn ond yn gallu gwneud hynny gydag economi lwyddiannus sy'n tyfu.

Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi amcangyfrif y bydd y cyfyngiadau symud hyn yn costio rhwng £500 biliwn a £1 triliwn. Mae'n bosibl y bydd diffyg y Llywodraeth yn y DU yn cynyddu £300 biliwn eleni—mae hynny'n 20 gwaith cymaint â chyllideb Llywodraeth Cymru gyfan. Os nad ydym yn cymryd rhai risgiau i geisio sicrhau bod yr economi'n symud, ac mae'n rhaid inni gymryd y risg y bydd cyfradd heintio'r coronafeirws yn parhau fel y mae—. Cyhyd â'n bod yn gallu amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed, neu'r rhai mwyaf agored i niwed, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod yn rhaid i ni gael yr economi yn ôl ar ei thraed os ydym eisiau gwario mwy ar y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:47, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, gallaf gytuno â rhywbeth y mae'r Aelod yn ei ddweud, oherwydd, wrth gwrs, mae'n gywir fod yn rhaid inni wneud llwyddiant o'r economi er mwyn gallu cael y gwasanaethau cyhoeddus rydym eu hangen. Felly, rwy'n cytuno â'r gosodiad cyffredinol iawn hwnnw ganddo.

Yr hyn na allaf gytuno ag ef yn ei gylch yw bod hyn yn golygu, cyhyd ag y gallwn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, y dylem fod yn barod i gymryd risgiau gydag iechyd pobl eraill. Oherwydd nid ydym yn sôn am ei iechyd ef na fy iechyd i, rydym yn sôn am iechyd pobl eraill—pobl eraill sydd â phlant, sydd â theuluoedd, a phobl nad ydynt yn barod i fynd ar hyd y llwybr hwnnw gydag ef.

Fe gymerwn y camau mwyaf gofalus ymlaen—y camau y credwn y byddant yn cael yr effaith orau am y risg lleiaf sy'n bosibl, oherwydd mae unrhyw gam y tu hwnt i gyfyngiadau symud yn risg, ond yn sicr, nid yw unrhyw ymagwedd ddi-hid tuag at risg, lle rydym yn rhoi pobl mewn perygl yn fwriadol, yn rhywbeth y byddwn yn barod i ymrwymo iddo.  

Wrth inni agor yr economi eto, a chytunaf fod yn rhaid inni allu gwneud hynny, mae angen inni ei wneud mewn ffyrdd sy'n dangos i'r bobl y byddwn yn gofyn iddynt fynd yn ôl i'r gwaith ein bod wedi ystyried y risgiau hynny, ein bod wedi lliniaru'r risgiau hynny, ein bod wedi cymryd pob cam rhesymol i'w cadw'n ddiogel yn y gweithle ac nad ydym am greu amodau lle bydd coronafeirws yn ffynnu ac yn ymledu fel tân gwyllt drwy'r boblogaeth gyfan, gan arwain at uchafbwyntiau enfawr unwaith eto yn nifer y derbyniadau i ysbytai, gan drechu gallu gofal critigol ac yn y blaen i ymdopi.  

Dyma lle rydych yn rhoi eich hun ar y sbectrwm risg, ac rwyf eisiau inni fod ar y rhan o'r sbectrwm sy'n dangos i bobl Cymru ein bod wedi gweld popeth a wnawn drwy'r lens iechyd cyhoeddus hwnnw, ac ni fyddwn yn gofyn i unrhyw un gymryd risg y gallem fod wedi'i osgoi.  

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:49, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Crybwyllwyd sawl gwaith y bore yma ein bod yn rhoi taliad o £500 i ofalwyr—a hynny'n briodol, yn fy marn i—i gydnabod yr hyn y maent yn ei wneud. Ond yr hyn nas crybwyllwyd y bore yma, a thynnwyd fy sylw ato gan etholwr sy'n byw yn Sir Drefaldwyn ond sy'n gweithio dros y ffin, yw na fyddant yn derbyn y taliad hwnnw. Nawr, rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi gyda'r Aelod Seneddol Torïaidd sydd newydd gael ei ethol yn Sir Drefaldwyn a hefyd ym Mhowys i ofyn am sicrwydd y gellid mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn sy'n bodoli am ein bod ni wedi rhoi hyn ar waith a Lloegr heb wneud hynny. Mae'n gwbl annheg yn hynny o beth.

A'r peth arall nas crybwyllwyd ynglŷn â newidiadau cadarnhaol i'n budd-daliadau i bobl yng Nghymru yw'r ychwanegiad rydym yn ei dalu a'r gwahaniaeth rhwng hwnnw ar gyfer y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim. Mae'n £15 yr wythnos yn Lloegr ac mae'n £19.50 yr wythnos yng Nghymru. Ac unwaith eto, mae'n dangos yn glir y gwahaniaeth ym meddylfryd Llywodraeth Dorïaidd a Llywodraeth Lafur o ran pwy sydd angen cymorth a phwy sy'n ei gael mewn gwirionedd.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:51, 6 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch yn fawr i Joyce Watson am y cwestiwn hwnnw ac am ddod â ni'n ôl at un o brif elfennau fy natganiad gwreiddiol, sef effaith anghydraddoldeb coronafeirws a'r ffaith bod y baich yn cael ei deimlo gan rai pobl yn llawer mwy nag eraill a'r camau rydym wedi'u cymryd fel Llywodraeth flaengar yng Cymru i geisio lliniaru hynny?

Nawr, mae ein taliad o £500 yn seiliedig ar eich lle gwaith, yn hytrach na'r man lle rydych yn byw. Felly, mae Joyce yn llygad ei lle, mae yna anghysonderau. Bydd yna bobl sy'n byw yn Lloegr yn gweithio ar draws y ffin yng Nghymru a fydd yn cael y taliad o £500, ac mae yna bobl sy'n byw yng Nghymru ac yn gweithio yn Lloegr na fyddant yn ei gael. Mae'r ateb, fel y dywedodd Joyce Watson, yn syml: gwnewch daliad yn Lloegr hefyd, a dowch o hyd i'r cyllid i wneud hynny, fel y gwnaethom ni. Clywaf Weinidogion Ceidwadol yn rheolaidd iawn ar y teledu yn dweud wrthym cymaint y maent yn gwerthfawrogi popeth y mae'r gweithwyr gofal hynny'n ei wneud. Yr hyn rydym ni wedi ceisio ei wneud, ac mae'n gymedrol, ond mae'n anfon neges symbolaidd bwysig, yn sicr, yw ceisio rhoi rhywfaint o'n harian ar yr hyn rydym yn ei deimlo.

Ac mae'r un peth yn wir am brydau ysgol am ddim. Rydym i gyd yn poeni'n briodol am effaith coronafeirws ar deuluoedd agored i niwed a phlant a fyddai, fel arall, wedi cael cefnogaeth yr ysgol o'u cwmpas, a phopeth arall rydym yn ei wneud yng Nghymru i sicrhau bod y teuluoedd hynny'n cael y cymorth y maent ei angen. Mae ein buddsoddiad mewn prydau ysgol am ddim, y £40 miliwn rydym wedi'i gyhoeddi, yn golygu y gall y plant hynny fod yn sicr o gael eu bwydo drwy gydol gwyliau'r ysgol, y gwyliau ysgol hir, sydd, fel y gwyddom, yn gymaint o frwydr i gynifer o deuluoedd. Mae'n fwy na'r hyn sy'n cael ei dalu mewn mannau eraill, ond rydym bob amser wedi rhoi mwy yn y maes hwn. Drwy gydol tymor y Cynulliad hwn, rydym bob amser wedi cynnal cynllun o fwydo plant yn ystod y gwyliau ysgol hir—cynllun cenedlaethol, y talwyd amdano drwy Lywodraeth Cymru. Rydym yn falch iawn o allu parhau â hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Joyce am dynnu sylw priodol ato y prynhawn yma.