– Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw'r ddadl ar y coronafeirws. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Vaughan Gething.
Cynnig NNDM7441 Rebecca Evans, Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;
2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;
3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am bleidleisio i ganiatáu i'r ddadl heddiw gael ei chynnal, ac i Blaid Cymru am y trafodaethau a arweiniodd at destun cynnig y Llywodraeth sydd ger ein bron.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe y bydd cyfnod atal byr yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o 6.00 p.m. y dydd Gwener hwn. Rydym ni'n wynebu sefyllfa eithriadol o ddifrifol. Mae'r feirws yn lledaenu'n gyflym ym mhob rhan o Gymru. Mae graddfa dreigl saith diwrnod nifer yr achosion ar gyfer Cymru bellach yn fwy na 130 o achosion wedi'u cadarnhau fesul 100,000 o bobl. Mae cyfradd ein profion cadarnhaol bron yn 12 y cant ledled Cymru, ac yn anffodus mae ffydd uchel bod y feirws wedi sefydlu ledled y wlad yn y Gymru drefol a gwledig. Mae angen yr ymyriad ar ffurf y cyfnod atal byr hwn er mwyn helpu i ddod â'r coronafeirws yn ôl dan reolaeth. Os na weithredwn ni, mae perygl gwirioneddol y bydd ein GIG yn cael ei lethu. Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty, sydd â symptomau coronafeirws, yn cynyddu bob dydd. Mae ein hunedau gofal critigol eisoes â mwy o gleifion ynddyn nhw na'u capasiti arferol. Capasiti arferol yng Nghymru yw 152 o welyau gofal critigol. Ddoe, roedd gennym ni 167 o welyau gofal critigol yn cael eu defnyddio. Roedd mwy nag un o bob pedwar o'r gwelyau hynny yn gofalu am gleifion COVID. Heb weithredu, ni fydd ein GIG yn gallu gofalu am y nifer gynyddol o bobl sy'n mynd yn ddifrifol wael. Bydd llawer mwy o bobl yng Nghymru yn marw o'r clefyd hwn.
Mae adroddiad y gell cyngor technegol a gyhoeddwyd ddoe yn nodi ein bod ar hyn o bryd yn tracio'r achos gwaethaf rhesymol, gan dybio y bydd 18,000 o bobl yn yr ysbyty a 6,000 o farwolaethau oherwydd COVID yn ystod y gaeaf hwn. Mae'r cyngor gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn rymus, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen eu hadroddiad. Nid yw'r dystiolaeth sy'n cefnogi'r adroddiad hwnnw yn wan, fel y mae rhai wedi ei honni. Mae'r dystiolaeth yn glir, ac mae Gweinidogion wedi gweithredu yn wyneb y niwed cynyddol gan y coronafeirws i helpu i gadw Cymru yn ddiogel. Bydd y cyfnod atal byr yn darparu ergyd fer a sydyn, i helpu i droi'r cloc yn ôl, arafu'r feirws, ac i roi mwy o amser i ni. Bydd yn gyfle amhrisiadwy i atgyfnerthu ein system brofi, olrhain a diogelu sydd eisoes yn effeithiol. Felly, rydym ni'n gweithredu nawr, drwy'r gwyliau hanner tymor, i leihau'r effaith ar addysg, gyda chyfyngiadau symud yn cael eu gweithredu dros ddwy wythnos waith a thri phenwythnos.
Rydym ni wedi penderfynu mai cyfnod atal byr a llym yw'r dewis gorau ar gyfer lleihau niwed. Po hwyaf y mae'r cyfyngiadau ar waith, y mwyaf yw'r effeithiau economaidd, cymdeithasol ac ar lesiant. Mae'r cyfyngiadau mor llym â phosibl er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar iechyd y cyhoedd. Rhwng dydd Gwener, 23 Hydref a 9 Tachwedd, bydd yn ofynnol i bawb yng Nghymru aros gartref. Mae hyn yn golygu gweithio gartref pryd bynnag y bo modd. Yr unig eithriadau fydd gweithwyr allweddol a swyddi pan nad yw gweithio o gartref yn bosibl. Bydd pob busnes manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth nad yw'n hanfodol yn cau. Bydd canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu hefyd yn cau. Bydd addoldai ar gau heblaw am ar gyfer angladdau neu seremonïau priodas.
Rydym wedi blaenoriaethu plant a phobl ifanc yn ein dewisiadau. Wrth wneud hynny, rydym wedi rhoi ystyriaeth i gyngor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y bydd cadw ysgolion ar agor yn lleihau niwed tymor byr a hirdymor. Fodd bynnag, mae hynny'n golygu bod Gweinidogion wedi gorfod gweithredu i gau'r rhan fwyaf o weithleoedd eraill a chyfyngu ar ymweliadau cymdeithasol er mwyn lleihau cyswllt a thorri'r cadwyni trosglwyddo. Rydym wedi ceisio lleihau'r tarfu ar addysg plant a phobl ifanc. Felly, bydd ysgolion cynradd ac arbennig yn dychwelyd fel arfer ar ôl wythnos gyntaf hanner tymor a bydd gofal plant yn aros ar agor drwyddi draw. Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl hanner tymor i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 a'r rhai y mae angen iddyn nhw sefyll arholiadau. Bydd disgyblion ym mlynyddoedd 9 ac uwch yn parhau i ddysgu o'u cartrefi am wythnos ychwanegol, yn yr un modd â myfyrwyr mewn colegau addysg bellach. Bydd prifysgolion yn parhau i ddarparu cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Fel pawb arall yng Nghymru, er hynny, bydd angen i fyfyrwyr aros gartref yn eu llety prifysgol.
Fel y gwyddom, mae'r coronafeirws yn lledaenu pan fydd pobl mewn cysylltiad agos â'i gilydd, yn enwedig o dan do. Oherwydd hyn, ni chaniateir i ni gwrdd â phobl dan do nad ydym yn byw gyda nhw yn ystod y cyfnod o bythefnos. Bydd oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain a rhieni sengl yn dal i gael ymuno ag un aelwyd arall o unrhyw ran o Gymru i gael cymorth. Ni chaniateir ymgasglu yn yr awyr agored; mae hyn, yn anffodus, hefyd yn berthnasol i ymgasglu ar gyfer noson tân gwyllt a Chalan Gaeaf. Gall digwyddiadau sydd eisoes wedi eu trefnu i goffáu'r cadoediad fynd yn eu blaenau gan ddilyn y cynlluniau cadw pellter cymdeithasol sydd eisoes ar waith.
Fel y byddwch wedi ei glywed mewn modd mwy manwl heddiw gan Weinidog yr economi, Ken Skates, rydym yn darparu pecyn newydd o gymorth ariannol o bron i £300 miliwn i helpu busnesau drwy'r cyfnod heriol iawn hwn. Bydd yr arian ar gael yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod atal byr a byddwn yn gweithio i ddyrannu'r arian cyn gynted ag y gallwn ni. Dylai pob busnes y mae'n ofynnol iddyn nhw gau hefyd allu cael gafael ar y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth y DU, drwy'r cynllun cadw swyddi presennol a'r cynllun cymorth swyddi newydd. Rydym ni'n cydnabod na fydd yn hawdd i fusnesau yng Nghymru gydbwyso'r ddau gynllun hynny, ac fel y clywsom ni yn gynharach heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at y Canghellor i ofyn iddo roi mynediad cynnar i fusnesau Cymru at y cynllun cymorth swyddi newydd ac estynedig o ddydd Gwener ymlaen, ac rydym wedi cynnig darparu cyllid i wneud hynny'n bosibl.
Gallaf, serch hynny, sicrhau'r Aelodau y bydd ein gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol yn parhau i drin a gofalu am bobl â chyflyrau ac anghenion eraill yn ystod cyfnod y cyfnod atal byr. Cyngor ein prif swyddog meddygol yw nad oes angen i'r rhai hynny sy'n glinigol agored i niwed fabwysiadu mesurau gwarchod llym unwaith eto yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r rheoliadau eu hunain yn gweithredu i leihau cylchrediad y feirws, a thrwy gadw at y rheolau yn llym, bydd pobl sy'n agored i niwed yn lleihau eu risg o ddod i gysylltiad ag ef. Rwy'n ymwybodol bod rhai yn dadlau y gallem ni ailgyflwyno gwarchod yn rhan o becyn i amddiffyn pobl rhag niwed ac osgoi mesurau ar gyfer y gymuned gyfan. Nid yw hynny'n adlewyrchu realiti'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, sut y mae'r firws yn lledaenu, na sut yr ydym ni'n tarfu ar y cadwyni trosglwyddo. Fel y mae adroddiad y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ddoe yn ei wneud yn glir, nid oes yr un wlad wedi llwyddo i gyfyngu eu hepidemig i grwpiau oedran risg is; nid ydym yn credu y byddai dull gwarchod yn gyntaf mor effeithiol â chyfnod atal byr a diwallu'r anghenion sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd.
Bydd y cyfnod atal byr yn dod i ben ar 9 Tachwedd. Mae'n bwysig bod yn glir nad yw'r effaith gadarnhaol o ran lleihau trosglwyddo yn debygol o gael ei gweld ar unwaith ar ddiwedd y cyfnod atal byr. Disgwylir i'r gostyngiad yn y trosglwyddiad y bydd y cyfnod atal byr hwn yn ei gyflawni ddod i'r amlwg ddwy i dair wythnos yn ddiweddarach. Rwy'n gwybod ein bod eisoes wedi gofyn llawer iawn gan bobl Cymru. Cadarnhaodd adroddiad y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a gyhoeddwyd ddoe fod y cyfyngiadau lleol sydd ar waith wedi arwain at arafu sylweddol yn y don bresennol o'r pandemig, ond mae angen i ni wneud mwy o hyd. Er hynny, pe na byddai pobl wedi gwneud y cyfraniad y maen nhw eisoes wedi ei wneud, byddem ni mewn sefyllfa lawer gwaeth erbyn hyn. Ac rwyf eisiau diolch i bob person ledled Cymru sydd wedi dilyn y mesurau lleol sydd ar waith i amddiffyn ffrindiau, teuluoedd, anwyliaid a'u cymuned.
Ar draws y Llywodraeth rydym ni nawr yn bwriadu gweithio i gytuno ar drefniadau y bydd eu hangen yn y dyfodol i sicrhau'r enillion yn sgil y cyfnod atal byr, a byddwn ni'n nodi y rheini yn y dyddiau nesaf. Y cyfnod atal byr hwn yw ein cyfle gorau i adennill rheolaeth dros y feirws ac osgoi cyfyngiadau cenedlaethol llawer hwy a mwy niweidiol. Mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan yn awr i gadw Cymru yn ddiogel. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron ni heddiw.
Rwyf wedi dethol pedwar o'r wyth gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), dwi ddim wedi dethol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones, gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton, na gwelliannau 6 a 7, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Galw nawr ar Paul Davies i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Paul Davies.
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y tueddiadau diweddar yn nifer yr achosion o ganlyniad positif mewn profion COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda COVID-19.
2. Yn mynegi siom ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod cyfnod atal byr ar gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n angenrheidiol.
3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr effeithir yn andwyol arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles.
4. Yn croesawu'r cymorth ariannol digynsail gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4 biliwn i helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf i ddweud, o'r cychwyn cyntaf, ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal i fod yn agored ein meddyliau am unrhyw gyfyngiadau symud ychwanegol? Ond, cyn gweithredu cyfyngiadau symud cenedlaethol, mae angen arfarniad gonest o'r mesurau presennol, darlun llawn o'r holl ddata sy'n cyfiawnhau pam mae angen y cyfyngiadau symud, ac mae angen pecynnau cymorth cryfach ar waith ar gyfer busnesau, sefydliadau ac unigolion.
Nawr, fe wnaethom ni gefnogi'r cyfyngiadau symud cenedlaethol blaenorol, a, phan rydym ni wedi bod o'r farn bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gymesur a bod ganddi achos cyfiawn, rydym ni wedi cefnogi ei rheoliadau coronafeirws. Byddem ni'n gwneud hynny unwaith eto pe byddai'r dystiolaeth ar gael a bod angen gwneud hynny. Nawr, fel y dywedais yn gynharach yn y Siambr hon wrth y Prif Weinidog, mewn llawer o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol mae nifer yr achosion fesul 100,000 yn gostwng. Am y rheswm hwnnw, ac oherwydd nad oes gennym ni y darlun llawn o ddata ar gael o hyd, rwy'n credu bod angen mwy na dull un trefniant ar gyfer pawb arnom ni i fynd i'r afael â'r feirws hwn yn ein cymunedau. Mae angen dull ac ymyrraeth wedi eu targedu yn well o lawer arnom ni. Nawr, rwy'n deall bod Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r diwedd wedi penderfynu cyhoeddi data cymunedol ar gyfer pob rhan o Gymru y prynhawn yma, ac rwy'n croesawu hynny yn fawr. Fel y dywedais yn gynharach heddiw hefyd, dylid cyhoeddi data demograffig a data trosglwyddo penodol hefyd, a mawr obeithiaf y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei chyhoeddi hefyd.
Nawr, rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at y papur modelu a ysgrifennwyd gan yr Athro Graham Medley a chydweithwyr, sy'n nodi'r sefyllfa waethaf y gellid ei disgwyl, ond efallai nad yw'r papur yn ystyried ffactorau hollbwysig fel lefelau cefnogaeth y cyhoedd, ac mae'n dweud mewn gwirionedd am gyfnod clo llym, ac rwy'n dyfynnu,
'nid yw'n fesur rheoli parhaol, ond mae'n rhoi mwy o amser i roi rheolaethau eraill ar waith i bob pwrpas; mae'n mynd â ni "yn ôl i adeg pan oedd nifer yr achosion yn is"'.
Dyna ddiwedd y dyfyniad. Felly, mae'n hanfodol, os yw'r cyfyngiadau symud hyn i fod yn effeithiol, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mesurau difrifol ar waith yn ystod y cyfnod cloi a dweud wrthym ni beth fydd y mesurau hynny. Nawr, mae'r Prif Weinidog wedi nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfnod cloi hwn i gryfhau'r system olrhain cysylltiadau, er nad ydym ni eto wedi clywed unrhyw fanylion pellach am ba gamau pellach a gaiff eu cymryd yn ystod y cyfnod clo i arwain at unrhyw newid ystyrlon. Dengys ystadegau diweddar fod gwerth llai nag un diwrnod a hanner o gapasiti GIG Cymru wedi ei ddefnyddio mewn wythnos gyfan, gydag ychydig dros 20,000 o brofion yn cael eu cynnal, ac mae'r Aelodau eisoes yn ymwybodol bod profion Cymru yn dibynnu'n ormodol ar Lighthouse Labs y DU, a dim ond 31 y cant o brofion sy'n cael eu dadansoddi mewn labordai yng Nghymru. Felly, mae'n gwbl glir nad oes digon o brofion yn cael eu cynnal ar gyfer system effeithiol o dracio ac olrhain, ac mae'r ffigurau yn awgrymu y byddai angen i Gymru gynyddu'r profion i 36,000 y dydd i olrhain heintiau. Bu sôn hefyd am recriwtio mwy o staff a chyflymu'r broses o weithredu ysbytai maes, ond, unwaith eto, heb fawr o fanylion. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog, yn ei ymateb, yn darparu rhai o'r manylion hynny y prynhawn yma. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym ni hefyd pa asesiad sydd wedi ei wneud o effaith rhai ymyraethau wedi'u targedu sydd wedi eu cynnal hyd yma yng Nghymru.
Llywydd, mae'r Aelodau i gyd yn ymwybodol o'r effaith sylweddol y bydd cyfnod clo Llywodraeth Cymru yn ei chael ar bob rhan o gymdeithas. Mae effaith y cyfyngiadau symud cyntaf yn dal i gael eu teimlo gan lawer, ac mae Aelodau o bob plaid wleidyddol yn y Siambr hon wedi sôn am effaith cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl a lles pobl, ac mae'n bwysig bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, y gwnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa fesurau cymorth newydd a fydd yn cael eu rhoi ar waith o ddydd Gwener ymlaen i sicrhau y gall unrhyw un sydd angen cymorth gael gafael ar y cymorth hwnnw.
Wrth gwrs, byddai cyfnod clo ar draws Cymru gyfan yn cael effaith andwyol benodol ar fywoliaeth a swyddi ledled Cymru. Gydag oddeutu 250,000 o weithwyr, mae gan Gymru a'r Alban gyfran uwch o weithwyr a gyflogir mewn diwydiannau yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan gyfyngiadau symud, o'i gymharu â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Felly, pe byddai dim ond un o bob pedwar o'r gweithwyr hyn yn colli eu swyddi, byddai'n golygu y gallai diweithdra yng Nghymru gynyddu i lefel uwch nag a welwyd yn y dirwasgiad diwethaf.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi taliad untro o £1,000 i bob busnes sy'n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, ac y bydd cwmnïau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig eu maint sy'n cael eu gorfodi i gau yn cael taliad untro o hyd at £5,000, nid yw hynny'n mynd i fod yn ddigon i helpu i ddiogelu cynaliadwyedd cynifer o fusnesau ledled Cymru ar gyfer y dyfodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi sicrwydd i fusnesau ledled Cymru y bydd yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i ddiogelu eu cynaliadwyedd wrth symud ymlaen.
Llywydd, rwyf wedi ceisio bod mor adeiladol ag y gallaf yn fy nghyfraniad y prynhawn yma. Fel y dywedais ar y dechrau, er ein bod ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn dal i fod â meddwl agored am y syniad o gyfnod o gyfyngiadau symud, ni allwn ni gefnogi hwn, o leiaf nid tan y byddwn wedi gweld y darlun llawn o ddata ac y gallwn ni argyhoeddi'r bobl ei fod nid yn unig yn gyfiawn, ond yn gymesur hefyd. Ond rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn glir heddiw, o dderbyn mai dyma safbwynt Llywodraeth Cymru, ddydd Gwener, bydd y cyfyngiadau symud hyn yn cael eu cyflwyno dros dro ac, felly, er ein bod yn anghytuno â nhw, byddwn ni yn naturiol yn cydymffurfio â'r gyfraith a byddwn ni'n sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud hynny hefyd. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant.
Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 4, 5 ac 8, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—Adam Price.
Gwelliant 4—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal prawf.
Gwelliant 5—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.
Gwelliant 8—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.
Diolch, Llywydd. Rydym ni, yn amlwg, o'r farn, o ystyried difrifoldeb difrifol y sefyllfa sy'n ein hwynebu ni yn awr, nad oes gan y Llywodraeth unrhyw ddewis heblaw cyflwyno'r mesurau a gyhoeddwyd ddoe. Nid oes gennym ni amser i'w wastraffu, a dweud y gwir, oherwydd mae'r adroddiad gan y gell cyngor technegol mor ddiamwys ag y mae'n—. Wel, rwyf eto i fyth—. Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn ysgwyd ei ben, ond ni allaf i, mewn 20 mlynedd o fywyd cyhoeddus, gofio adroddiad cynghorol i'r Llywodraeth sydd wedi bod mor glir a diamwys â hyn. Gadewch i mi ddarllen y paragraff olaf:
'Mae'r gell cyngor technegol yn argymell ystyried a gweithredu cyfnod atal cenedlaethol caled ar frys er mwyn lleihau'r trosglwyddo yn aruthrol am gyfnod o wythnosau'.
Ac yn yr adroddiad—. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch yr hyn y mae'n ei ddweud: pe na byddai'r Llywodraeth yn gwneud yr hyn y mae wedi ei gyhoeddi, yna byddai rhwng 960 a 1,300 o bobl yn marw yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon, erbyn diwedd y flwyddyn. Dyna'r pris, o bosibl, o ohirio unrhyw gamau gweithredu; byddem ni wedi hoffi eu gweld yn cael eu cymryd yn gynharach.
Wrth gwrs, mae'n wir nad oes gennym ni wybodaeth berffaith. Nid oes gennym ni dreialon rheoli ar hap ynghylch yr ymyraethau manwl, ond beth mae y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn ei ddweud? Rwyf i wedi gweld dyfyniad. Beth am i ni ddarllen yr hyn y mae y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn ei ddweud am y dystiolaeth yn llawn:
'Mae'r sylfaen dystiolaeth i effeithiolrwydd a niwed yr ymyraethau hyn yn wan ar y cyfan. Fodd bynnag, mae brys y sefyllfa yn golygu na allwn ni aros am dystiolaeth o ansawdd gwell cyn gwneud penderfyniadau.'
Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd o'n blaenau, ac mae'r gell cyngor technegol yn gwbl glir—mae gennym ni gynnydd esbonyddol mewn achosion, cyfartaledd o 4 y cant, yn ôl adroddiad y gell cyngor technegol, ac mae hynny'n parhau ac mae'n arwain at ymledu ledled Cymru, a dyna pam y maen nhw wedi dod i'r casgliad ei bod yn angenrheidiol, fel mesur o frys, i gyflwyno'r cyfnod atal byr.
Nawr, nid cyfyngiadau symud parhaus yw'r ateb. Mae'n rhaid i ni felly ailosod y strategaeth a'r polisïau, a dyna sydd wrth wraidd ein gwelliant, ac mae'n gyson â'r hyn yr ydym ni wedi ei ddweud drwyddi draw. Ni ddylem ni fod yn y sefyllfa hon. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r cyfnod hwn a myfyrio ar yr hyn sydd wedi mynd o'i le a'r hyn y gellir ei unioni.
A phan edrychwn ni ar draws y byd, wrth gwrs—a gwelsom yn yr astudiaeth yn The Lancet fis yn ôl—mae gennym ni wersi o bob cwr o'r byd y gallwn ni eu rhoi ar waith er mwyn ein hatal rhag bod yn y sefyllfa hon eto, ac, yn enwedig, gan fod un o'r gwelliannau eraill yn pwysleisio, wrth gwrs, pwysigrwydd, pwysigrwydd canolog, fel y dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd o'r dechrau, system brofi, olrhain ac ynysu a chefnogi. Mae'n rhaid i ni unioni hynny, ac mae gwersi o bob cwr o'r byd o ran sut y gallwn ni gryfhau'r system honno a sicrhau bod ganddi adnoddau digonol.
Mae angen i ni fabwysiadu strategaeth dim-COVID neu strategaeth ddileu, oherwydd, pan edrychwn ni ar draws y byd, wrth gwrs—. Edrychwch ar y sefyllfa mewn llawer o wledydd ledled y byd—Fietnam, 97 miliwn o bobl. Faint o farwolaethau yn Fietnam? Hyd yma, 35. Taiwan, 23 miliwn o bobl. Faint o farwolaethau hyd yma? Saith. Seland Newydd, sy'n gyfarwydd iawn i ni—33 o farwolaethau mewn poblogaeth o 5 miliwn. Cymharwch hynny—125 miliwn yn y tair gwlad hynny gyda'i gilydd, 75 o farwolaethau i gyd—cymharwch hynny â'r 1,700 o farwolaethau yng Nghymru. Mae gwledydd y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw, ac mae angen i ni ddefnyddio'r cyfnod hwn dros yr wythnosau nesaf i gael dadl, ie, a sefydlu system wahanol, polisi gwahanol, fframwaith gwahanol, sy'n golygu nad ydym ni'n gorfod ystyried cyfnod o gyfyngiadau symud dro ar ôl tro.
Ni ddylem ni fod yn y sefyllfa hon, ond mae'n rhaid i ni weithredu nawr, neu fel arall bydd pobl yn marw yn ddiangen. Ond gadewch i ni, yn sicr, edrych ar draws y byd ar yr hyn y mae'r Almaen yn ei wneud ar awyru, ar y polisi masgiau sydd wedi'i gyflwyno mewn llawer o wledydd, gan ymestyn ei ddefnydd, ar yr olrhain cyswllt tair haen y mae Fietnam yn ei ddefnyddio, ar bwysigrwydd cymorth ariannol ac ymarferol i helpu pobl i ynysu, ar atal digwyddiadau ymledu mawr, ar brofi cysylltiadau asymptomatig—mae llu o wersi ar gael, ac mae cyfathrebu clir a chyson yn gwbl ganolog. Gadewch i ni ddysgu'r gwersi hynny yn awr, fel y gallwn ni ddefnyddio'r wythnosau nesaf a chael ymdeimlad o genhadaeth genedlaethol, fel y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd, y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau yn gweithio'n adeiladol, gan weithio gyda chymunedau ledled Cymru, fel y gallwn ni achub bywydau nid dim ond yn ystod y tri mis nesaf, ond ein hatal rhag bod yn y sefyllfa hon eto.
Llywydd, pan aethom ni i'r cyfnod o gyfyngiadau symud am y tro cyntaf ym mis Mawrth a phasio deddfwriaeth frys yn groes i gymaint o'n greddfau naturiol, democrataidd, dywedais bryd hynny—ac fe'i dywedaf eto nawr—wnes i ddim dod i'r lle hwn i wneud penderfyniadau felly, ond, ar adegau o argyfwng, mae'n rhaid gwneud y penderfyniadau anoddaf. Dyna yw ein dyletswydd. Mae hynny'n golygu na allwn ni guddio nac osgoi'r penderfyniadau anodd hynny. Allwn ni ddim dilyn y llif poblyddol a fyddai o bosibl yn rhoi rhywfaint o boblogrwydd tymor byr i ni gyda phobl sy'n gwrthod gwrando ar yr wyddoniaeth na chael eu harwain ganddi. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er lles gorau pawb—dyna beth sy'n iawn ac yn briodol i'w wneud. Dyna y cawsom ni ein hethol i'w wneud, a dyna y mae ein Llywodraeth yng Nghymru wedi bod yn ei wneud.
Mae ein Prif Weinidog wedi dangos agwedd ddigyffro, pwyllog a deallus wrth ymdrin â'r argyfwng hwn. Mae'n deall y problemau, mae'n deall yr effaith ar bob un ohonom ni, ac mae wedi dangos gwerth datganoli a llywodraethu da i bawb sy'n barod i wrando. Cymharwch hynny, os gwnewch chi, â'r cawlio a'r diffyg manylion a dealltwriaeth Trumpaidd o'r argyfwng a ddangoswyd gan Brif Weinidog y DU, ac rwyf yn diolch byth ein bod ni yng Nghymru.
Felly, ar ôl bod drwy'r cyfnod anoddaf y gall unrhyw un ohonom ni ei gofio, ar yr adeg hon rwy'n gofyn i mi fy hun: beth sydd fwyaf pwysig? Ac mae'n rhaid mai'r ateb yw cefnogi'r camau hynny sy'n helpu i leihau cyfraddau heintio a helpu i achub bywydau yn fy etholaeth i a ledled Cymru, ac i wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau y gall ein GIG nid yn unig reoli'r cynnydd mewn achosion o COVID, ond y gall hefyd gynnal y cynnydd mewn gweithgarwch nad yw'n COVID sydd wedi ei ailddechrau yn y misoedd diwethaf.
Ar ôl darllen y cyngor cefndirol i'r penderfyniad hwn, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth heddiw yn ei phenderfyniad i gyflwyno cyfnod atal byr. Mae'n seiliedig ar wyddoniaeth, mae'n seiliedig ar gyngor meddygol, mae'n seiliedig ar wybodaeth o'r gell cyngor technegol. Nid yw'n osgoi yr hyn y mae'n rhaid ei wneud—mae'n gwneud y peth iawn. A dylai gwrthwynebwyr poblyddol y Llywodraeth yn rhengoedd y Torïaid Cymreig, UKIP, Brexit, Diddymu Cynulliad Cymru, y grŵp diwygio annibynnol, neu unrhyw fersiwn arall gan y rheini sy'n credu bod y byd yn wastad ac sy'n gwadu bod COVID yn bodoli, fyfyrio ar hynny.
Ond bydd Gweinidogion hefyd yn gwybod—ac rwyf i wedi bod yn glir iawn yn fy marn—bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau iechyd gyd-fynd â chymorth economaidd. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod mesurau wedi'u cyhoeddi a fydd yn helpu i gefnogi'r busnesau hynny y bydd yn ofynnol iddyn nhw gau unwaith eto am y pythefnos nesaf. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu yn y fan yma o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddi. Maen nhw'n cymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau, ond mae angen i ni hefyd weld Llywodraeth y DU a'r Canghellor yn gwneud yr un peth. Maen ganddynt hwythau hefyd gyfrifoldeb mawr, ac mae'n rhaid iddyn nhw gynnig cymorth ychwanegol i'r gweithwyr hynny sy'n canfod eu hunain yn cael eu diswyddo am gyfnod byr neu'n cael eu diswyddo'n barhaol wrth i ni geisio cael rheolaeth dros ledaeniad y feirws hwn.
Mewn gwirionedd, nid haf o pizzas hanner pris oedd yr ymateb gorau i'r pandemig hwn. Cymorth economaidd parhaus yw'r unig bont y gallwn ni ei darparu rhwng nawr a dyfodol anhysbys. Ond mae'n amlwg bod model economaidd y degawdau diwethaf yn wynebu her ddofn yn wyneb y pandemig hwn. Ni all yr argyfwng iechyd cyhoeddus lithro i argyfwng economaidd a chymdeithasol hir, ac rwy'n credu mai dyna yw'r gwir linell sy'n ein gwahanu mewn gwleidyddiaeth gyfoes erbyn hyn. Fel Aelodau o'r Senedd, mae'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu iechyd ein hetholwyr, ond rwy'n disgwyl i'n system wleidyddol ddiogelu buddiannau cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau hefyd. Efallai ein bod ni yn ei chael hi'n anodd i ymdrin â'r feirws hwn, ond gallwn ni roi'r cymorth i bobl y mae ei angen arnynt.
I fod yn gwbl eglur: mae Plaid Cymru'n cefnogi cael y cyfnod clo dros dro yma, achos mae'n amlwg ers tro, dwi'n meddwl, fod y trywydd sydd wedi bod yn cael ei ddilyn ddim yn gweithio. Rydym ni wedi bod yn gofyn am gael pwyso reset, ac mae'r data mae'r Llywodraeth wedi'i rannu efo ni yn y dyddiau diwethaf yn cadarnhau ein bod ni'n iawn i ddweud hynny, a dwi'n ddiolchgar am y data yna sydd wedi cael ei rannu efo ni. Ond hyd yn oed wedyn, mae'n cefnogaeth ni i gymryd y cam yma, un fydd yn cael impact pellgyrhaeddol ar bobl, yn dibynnu ar nifer o elfennau.
Mi fydd Helen Mary Jones yn siarad am yr amodau economaidd, bod yn rhaid cael cefnogaeth sylweddol a chyflym i'r busnesau a'r unigolion sy'n mynd i deimlo effaith hyn—y sector dwristiaeth a lletygarwch yn un amlwg yn fy etholaeth i a llefydd eraill, ond mae yna lawr iawn o fusnesau eraill sy'n dioddef, felly mi barhawn ni i wthio am hynny.
A gaf i apelio yn arbennig yn fan hyn, plis, plis cyhoeddwch ar frys y rhestr o fusnesau a sectorau bydd disgwyl iddyn nhw gau yn llwyr? Mae M&G Windows yng Nghaergybi yn un o'r busnesau sydd wedi cysylltu heddiw i ddweud eu bod nhw wedi darllen a darllen y nodiadau esboniadol, ond dydyn nhw ddim callach eto. Felly, mae busnesau angen gwybod, ond maen nhw hefyd angen gwybod, mor fuan â phosib, nid yn unig beth fydd yn digwydd o nos Wener yma, ond beth sy'n mynd i fod yn digwydd ar ôl y cyfnod clo yma, sy'n dod â fi at brif thema fy nghyfraniad i'r prynhawn yma.
Nid ydym yn gallu ystyried y cyfyngiadau hyn ar eu pennau eu hunain. Ac fe alwodd Plaid Cymru am gyfnod atal byr cenedlaethol oherwydd ein bod ni'n gallu gweld bod angen i ni ailosod, ond ni all fod yn ailosod cylched lle'r ydych chi wedyn yn mynd yn ôl i'r un lle dro ar ôl tro yn y pen draw. Nid ydym yn gallu ymrwymo i broses gylchol, sy'n arwain at gyfnodau clo tebyg anochel yn y dyfodol, a dyna'r sail ar gyfer ein gwelliant 4. Mae'r hyn sy'n digwydd ar ôl 9 Tachwedd yr un mor bwysig, neu gellid dadlau ei fod yn bwysicach, na'r hyn sy'n digwydd yn y 17 diwrnod hynny o gyfyngiadau symud newydd.
Rydym ni wedi cyflwyno nifer o syniadau yr wythnos hon. Fe wnaethom ni ei alw yn '14 syniad ar gyfer 14 diwrnod', ond gallaf eich sicrhau, os yw cyfathrebu taclus yn bwysig, y gallwn ei wneud yn '17 syniad ar gyfer 17 diwrnod' o gyfyngiadau symud, os hoffech chi. Y pwynt yw bod angen i ni edrych ar frys ar yr holl syniadau, gan ein plaid ni ac eraill, ac o'r tu mewn i'r Llywodraeth, a all helpu i roi fframwaith cenedlaethol newydd ar waith ar gyfer y cam nesaf—cam mwy cynaliadwy, gobeithio, yn y frwydr yn erbyn y feirws hwn.
Felly, mae'n rhaid i ni gael trefn ar y drefn brofi; mae hynny'n hollbwysig. Fe wyddoch beth yw fy marn ar yr orddibyniaeth ar Labordai Goleudy. Dylem ni fod wedi meithrin ein capasiti ein hunain—capasiti y gallem ni ei reoli. Er gwaethaf addewidion, mae'r problemau hynny yn parhau: pobl yn aros pum diwrnod am ganlyniadau; pobl yn cael gwybod, yn rhan o'r broses mewn gwirionedd, y dylen nhw ddisgwyl eu canlyniadau o fewn 72 awr, ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni systemau cadarn ac mae hynny'n golygu cael canlyniadau yn ôl o fewn 24 awr, fel y gall timau olrhain ddechrau ar eu gwaith. Mae angen i ni brofi cysylltiadau asymptomatig. Mae gen i ddigon o bobl rwy'n eu hadnabod sy'n mynd ati i wneud hynny eu hunain, ac yn mynd am brawf ar ôl bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif, ond mae'n rhaid i hynny fod y norm, ac mae'n rhaid profi ymwelwyr rhyngwladol â Chymru hefyd.
Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r rhai sydd yn bositif, a'r rhai y mae'n rhaid iddyn nhw hunanynysu, wybod y byddan nhw'n cael eu cefnogi i wneud hynny. Nid ydym yn gallu bod mewn sefyllfa lle mae gan bobl gymhelliant i dorri'r rheolau i fynd i'r gwaith gan nad ydyn nhw'n gallu fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd fel arall. I wneud hyn—a dyma'r hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato yng ngwelliant 4—mae'n rhaid i ni allu defnyddio'r capasiti sydd gennym ni yng Nghymru yn ein labordai ein hunain. Rydym ni wedi clywed Gweinidogion yn sôn am beth yw ein gallu damcaniaethol, ond nid yw profion damcaniaethol o unrhyw ddefnydd o gwbl; mae angen cynnal profion gwirioneddol ac adrodd yn ôl yn gyflym.
Beth arall? Beth am gael cynllun awyru ar waith. Mae agor ffenestr yn swnio mor, mor hawdd. Mae awyr iach yn ei gwneud yn llai tebygol o heintio. Ond mae'n rhaid cyfleu hynny yn helaeth yn rhan o strategaeth. Ac mae'n rhaid gwella cyfathrebu yn gyffredinol. Mae'n rhaid iddo fod y math o gyfathrebu y mae pobl yn ei ddefnyddio ac yn ei ddeall, sy'n torri ar draws gwirioneddau ymddygiad dynol. Fe wnes i'r achos i'r Gweinidog iechyd y bore yma: i egluro beth yw'r cyfnod atal byr; beth mae'r data yn ei ddweud wrthym; beth yw'r sefyllfaoedd yr ydym ni'n ceisio eu hosgoi; ac, yn hollbwysig, yr hyn y gall pobl ei wneud i helpu eu hunain ac i osgoi dod yn ôl i'r fan yma dro ar ôl tro.
Gadewch i ni ymestyn y canllawiau ar orchuddio'r wyneb. Ceir lleoliadau gweithle, er enghraifft, lle gellid tynhau pethau. Mae gen i ffigurau sy'n dangos bod lleoliadau gweithle, ledled y DU, yn gyfrifol am un rhan o bump neu fwy o'r trosglwyddo o hyd, felly gadewch i ni weld a allwn ni leihau'r niferoedd hynny. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos, yn anffodus, bod cartrefi gofal yn dal i fod yn agored i niwed. Mae angen tynhau pellach yn y fan yna. Ac fel yr ydym yn cyfeirio ato yng ngwelliant 8, mae'n rhaid cael dull newydd o reoli heintiau mewn ysbytai. Mae argyfwng nad yw'n ymwneud â COVID yn digwydd erbyn hyn o ran afiechydon nad ydyn nhw wedi eu trin ac mae'n rhaid datrys hyn.
Felly, i gloi, mae'r cam cywir yn cael ei gymryd i gyflwyno'r cyfnod atal byr hwn, ond bydd y feirws hwn yn dal i fudlosgi ar ôl y cyfnod hwnnw. Bydd hwn yn firws a fydd yn barod i losgi eto, felly gadewch i ni beidio â gwastraffu'r cyfle hwn.
Rwy'n siarad yn fyr i gefnogi'r prif gynnig a gyflwynwyd yn enwau Rebecca Evans a Siân Gwenllian. Mae hon yn adeg pan fo arweinyddiaeth bendant yn wirioneddol bwysig: arweinyddiaeth ar frig y Llywodraeth, arweinyddiaeth mewn pleidiau gwleidyddol, ac arweinyddiaeth gennym ni yn y cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli. Ac rwy'n cymeradwyo'r arweinyddiaeth sy'n cael ei dangos gan y Prif Weinidog a gan Lywodraeth Cymru, a gynrychiolir gan fy mhlaid i fy hun, Llafur Cymru, wrth gwrs, ond hefyd gyda chynrychiolaeth gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ac aelod annibynnol o'r Llywodraeth, sydd wedi dod i benderfyniad anodd ond ar y cyd ar y ffordd orau ymlaen i Gymru a phobl Cymru, ar sail y dystiolaeth a'r data sy'n dangos y cynnydd yn y feirws. Rwyf i'n cymeradwyo hefyd yr arweinyddiaeth a ddangoswyd gan gefnogaeth Plaid Cymru, wrth i'r cynnig hwn gael ei osod ar y cyd yn eu henw hwythau hefyd, gan gydnabod, fel yr ydym ni newydd ei glywed, argyfwng y sefyllfa.
At hynny, rwy'n cymeradwyo arweinyddiaeth nyrsys a meddygon ar y rheng flaen, a gweithwyr proffesiynol ac undebau cysylltiedig, sydd wedi cefnogi'r mesurau a gynigiwyd oherwydd eu bod nhw'n gwybod yn uniongyrchol am y bygythiad cynyddol i'n GIG oni bai ein bod ni'n gwyrdroi cyfeiriad y feirws hwn. Rwy'n cymeradwyo hefyd yr arweinyddiaeth unigol yng nghartrefi a gweithleoedd, teuluoedd a chymunedau mwyafrif helaeth pobl Cymru—yn fy ardal i yn Ogwr, ond ledled Cymru—sydd wedi arwain drwy esiampl. Trwy gydymffurfio â'r rheolau a'r canllawiau hyd yn hyn, maen nhw wedi helpu i arafu cynnydd a lledaeniad y feirws yn is na'r hyn yr ydym yn ei weld mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Felly, Prif Weinidog, Gweinidog iechyd ac eraill, rwy'n cefnogi'r mesurau a gynigir a'r cyfnod atal byr sydd wedi ei gwmpasu yn y cynnig sydd ger ein bron heddiw, ond wrth wneud hynny, gofynnaf i chi hefyd ystyried rhai cwestiynau pwysig. Mae'r mesurau economaidd a mesurau ariannol ychwanegol i'w croesawu'n fawr, ond tybed a wnewch chi amlinellu sut y bydd y gronfa cymorth dewisol sydd ar gael i awdurdodau lleol yn gweithio. A fydd hi ar gael yn arbennig i'r busnesau hunangyflogedig llai hynny nad ydyn nhw yn gymwys ar gyfer cymorth yn ôl y meini prawf ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes a chymorth cysylltiedig gan nad oes ganddyn nhw safle neu oherwydd eu bod yn is na'r trothwy trosiant ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd, a bennwyd ar £50,000, neu nad ydyn nhw wedi eu cofrestru ar gyfer TAW, neu eu bod yn fusnesau newydd wedi cychwyn yn gymharol ddiweddar sydd, dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, wedi gwario eu costau ar y busnes newydd ac felly nid ydyn nhw'n gallu dangos elw na throsiant uchel? Felly, a fydd y gronfa cymorth dewisol hon, yr wyf i'n ei chroesawu'n fawr, yn gallu ystyried unrhyw rai o'r entrepreneuriaid bach hyn sydd wedi llithro trwy'r rhwyd bresennol o ran cymorth busnes a swyddi? Ac os felly, beth maen nhw i fod i'w wneud a pha mor hawdd yw hi i wneud cais?
A hefyd, o ran cymorth busnes a swyddi, a yw e'n gallu parhau, yn ei swydd Prif Weinidog, i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i weithio gyda ni yng Nghymru trwy sicrhau bod cymorth swyddi ar gael mewn pryd ar gyfer ein mesurau cyfnod atal amserol? Nid ein bai ni yw hi, wedi'r cyfan, bod Prif Weinidog y DU yn gohirio ac yn petruso o ran mesurau ehangach yn Lloegr. Ond a gaf i hefyd ei annog i bwyso arnyn nhw i ailystyried lefel y cymorth i gadw swyddi, a fydd yn gostwng, fel y gwyddom, o'r lefel ffyrlo o 80 y cant i ychydig dros 67 y cant? Mae'n ymddangos nad yw Gweinidogion y Cabinet yn Llywodraeth y DU yn deall na fydd landlord yn cael 67 y cant o'r rhent, na fydd yr archfarchnad yn cael 67 y cant o'r bil cart bwyd, na fydd y cyflenwr trydan a nwy yn cael 67 y cant o'r bil ynni, na'r cwmni morgeisi yn cael 67 y cant o daliad y mis hwnnw.
Ac yn olaf ac yn hollbwysig, a wnaiff ef nodi, yn syml, yn onest, yn glir heddiw i bobl Cymru faint o ffydd sydd ganddo ef a'r Llywodraeth, os byddwn ni i gyd yn gwneud ein rhan, os byddwn ni i gyd yn cydymffurfio â'r rheolau am 17 diwrnod o'r dydd Gwener hwn am 6.00pm, y bydd hyn wir yn atal lledaeniad y feirws unwaith eto, yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y Nadolig ac o fewn golwg y flwyddyn newydd, a beth arall y gallai fod angen i ni ei wneud wedyn i fynd â ni at y Pasg ac i'r haf, a'r gobaith realistig o ymyraethau meddygol, gan gynnwys brechlynnau, a allai ein helpu i fyw gyda COVID-19 yn y dyfodol? Diolch, Llywydd.
Rwy'n codi yn bennaf i siarad ynglŷn â phwynt tri y cynnig, ac i wneud rhai pwyntiau ychwanegol ynglŷn â'r effaith ar yr economi. Ond cyn i mi wneud hynny, rwyf i'n awyddus i bwysleisio nad oes neb yn credu bod hyn yn hawdd, ac nad oes neb yn dymuno i ni fod yn y sefyllfa hon. Byddwn ni i gyd yn meddwl heddiw am bobl y byddwn yn gweld eu heisiau yn ystod y 17 diwrnod nesaf, ac i rai o'n cyd-ddinasyddion, mae hynny yn llawer iawn mwy difrifol. Ond o ran y pwyntiau y mae Adam Price ac eraill wedi eu gwneud ynglŷn â beth yw'r canlyniad i rai o'n cyd-ddinasyddion mwyaf agored i niwed os nad ydym yn gwneud hyn: a ydym ni'n barod i ddweud ein bod yn barod i aberthu bywydau y bobl hynny, eu bywydau mewn gwirionedd? Wel, nid wyf i'n gwybod am yr Aelodau eraill yn y lle hwn, ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sydd wedi ysgrifennu llawer o lythyrau yn ystod y misoedd diwethaf na fyddwn i erioed wedi dymuno eu hysgrifennu, i bobl yn fy rhanbarth i sydd wedi colli eu hanwyliaid, a dyna'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano heddiw. Rydym yn sôn am wneud penderfyniadau anodd am resymau y mae'n rhaid eu gwneud i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed hynny.
Felly, fel y dywedais i, hoffwn i siarad ynglŷn â phwynt tri, sy'n ymwneud â chymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau ac unigolion ar yr adeg hon. Wrth gwrs, hoffwn i groesawu'n fawr iawn y cyllid ychwanegol ar gyfer y gronfa cadernid economaidd—mae hynny'n bwysig iawn—ac rwy'n falch iawn o weld bod y Gweinidog wedi cytuno, mewn ymateb i sylwadau gan y ddwy brif wrthblaid, i newid defnydd y gronfa i ganolbwyntio yn fwy ar gymorth brys ac yn llai ar ddatblygu. Rydym yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd ein busnesau yn gallu datblygu, ond mae llawer ohonyn nhw yn mewn sefyllfa enbyd ar hyn o bryd—nid ydyn nhw'n gallu gwneud hynny. Ac rydym ni'n croesawu'n fawr iawn y cymorth brys sydd ar gael i fusnesau yn ystod y 17 diwrnod y mae'n rhaid i lawer ohonyn nhw fod ar gau.
Mae'n rhaid i ni, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, sicrhau bod y cymorth hwnnw yn cyrraedd pob math o fusnesau, gan gynnwys microfusnesau a gan gynnwys y rhai na chawsant eu cynnwys o'r blaen. Gobeithio mai dyna fydd diben y gronfa cymorth dewisol pan fyddwn ni'n gweld y manylion. Yn y tymor hwy, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni weld cymorth tymor hwy i sectorau penodol, fel lletygarwch, fel busnesau diwylliannol, na fyddan nhw'n gallu gwneud elw am fisoedd lawer i ddod.
Bydd pobl yn ei chael hi'n anodd iawn cydymffurfio â'r cyfyngiadau symud hyn os ydyn nhw'n dewis rhwng rhoi bwyd ar eu bwrdd a chadw eu cymuned yn ddiogel. Rwyf i eisoes wedi cael sylwadau gan unigolion y mae eu cwmnïau yn gofyn i staff deithio o Gymru i Loegr i wneud gwaith yng nghartrefi pobl. A bydd yn rhaid iddyn nhw fynd os nad oes cymorth. Bydd yn rhaid iddyn nhw fynd, oherwydd, fel y dywed Huw Irranca-Davies, mae'n rhaid iddyn nhw fynd â'u cyflog adref.
Nid wyf i'n deall pam nad yw'r Canghellor yn fodlon cyflwyno ei gynllun cymorth swyddi ar gyfer cyfyngiadau symud lleol wyth diwrnod yn gynharach—dim ond wyth diwrnod—i alluogi busnesau Cymru i ddechrau cael cymorth ar gyfer costau staff cyn gynted ag y bydd angen i ni ddechrau ar y cyfnod caeedig hwn. Wel, mae'n dangos lle mae Cymru ar restr blaenoriaethau Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr pe byddai'r rhain yn gyfyngiadau symud lleol yn Berkshire neu yn Surrey, y byddai'n dod o hyd i'r allwedd i'r cabinet.
Mae problemau gwirioneddol hefyd, wrth gwrs, ynglŷn â lefel y cymorth. Nid yw dwy ran o dair o'r isafswm cyflog yn ddigon i fyw arno, dim hyd yn oed am wythnos neu ddwy, a byddwn i'n gwahodd unrhyw Aelod ar y meinciau gyferbyn sy'n credu ei fod yn ddigon i roi cynnig arni. Mae'n rhaid i'r Canghellor godi yn ôl i'r 80 y cant a ddarparwyd o dan y cynllun ffyrlo blaenorol. I rai, nid oedd hynny'n ddigon. Ac os na fydd y Canghellor yn gweithredu, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gallan nhw gefnogi incwm pobl, yn enwedig ar y lefel isaf.
Ac fy mhwynt olaf, Llywydd—ac mae'n bwynt yr wyf i'n ei wneud yn wastadol—yw nad wyf yn gwybod faint mwy o dystiolaeth y mae angen i Lywodraeth Cymru ei dangos nad ydym ni'n gallu dibynnu ar San Steffan i flaenoriaethu anghenion Cymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy llafar wrth fynnu pwerau benthyca i'n galluogi ni yn y fan yma i bennu ein blaenoriaethau i roi'r cymorth i'n pobl a'n busnesau sydd ei angen fwyaf. Nid oes diben cwyno nad oes gan Lywodraeth Cymru y grym heb fynnu'r grym. Bydd yn ddiddorol gweld, wrth edrych yn ôl, am ba hyd y bydd Aelodau Llafur yn glynu wrth y chwedl o undod ledled y DU er gwaethaf y dystiolaeth ysgubol sy'n awgrymu mai'r gwrthwyneb sy'n wir.
Ond wedi dweud hynny, rwyf i yn dymuno rhoi ar gofnod unwaith eto fy niolch i Weinidog yr economi am y ffordd y mae wedi gweithio gyda mi a llefarwyr eraill yr wrthblaid yn ystod yr argyfwng hwn ac yn y cyfnod cyn y penderfyniad y bu'n rhaid i ni ei wneud heddiw. Rwyf i'n cymeradwyo y cynnig hwn a gwelliannau 4, 5 ac 8 i'r Senedd hon.
Mae'r syniad y bydd y pythefnos hwn o gyfyngiadau symud yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i gyfraddau heintiau a marwolaethau hirdymor y clefyd hwn yn amlwg yn hurt. Nid oes dim yn yr hyn yr ydym ni'n ei wybod am epidemioleg y clefyd hwn yn ystod y chwe mis diwethaf a allai gyfiawnhau y rhagfynegiadau hurt ynghylch diwedd y byd gan y modelwyr mathemategol—nid gwyddonwyr, modelwyr mathemategol—sy'n cynghori'r Llywodraeth i gyflwyno'r mesurau llym iawn hyn.
Rwy'n falch o ddweud fy mod i, drwy gydol yr argyfwng cyfan hwn, wedi bod yn gyson, o'r cychwyn cyntaf, pan ddyfynnais Dr Johan Giesecke, epidemiolegydd hynod nodedig o'r radd flaenaf a ysgrifennodd yn The Lancet ar 5 Mai fod y clefyd hwn:
bron bob amser yn ymledu oddi wrth bobl iau heb unrhyw symptomau neu symptomau gwan i bobl eraill a fydd hefyd â symptomau ysgafn... Ychydig iawn y gallwn ni ei wneud i atal y lledaeniad hwn: efallai y bydd cyfyngiadau symud yn gohirio achosion difrifol am gyfnod, ond ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio, bydd yr achosion yn ailymddangos. Rwy'n amau, pan fyddwn ni'n cyfrif nifer y marwolaethau o COVID-19 ym mhob gwlad flwyddyn i nawr, y bydd y ffigurau yn debyg, ni waeth pa fesurau a gymerwyd.
Wel, nid ydym ni flwyddyn yn ddiweddarach eto; dim ond chwe mis ydym ni, ond hyd yn hyn, y mae wedi ei brofi yn hollol gywir. Rwy'n credu bod y neges hon wedi cyrraedd rhai rhannau o'r blaid Lafur, os nad yng Nghymru, oherwydd dywedodd Syr Richard Leese, arweinydd y Blaid Lafur ar gyngor dinas Manceinion fwyaf ddoe,
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n profi'n bositif ar gyfer y feirws yn mynd yn arbennig o sâl. Nid nhw yw'r broblem.
Felly, nid nifer yr heintiau yw'r ystadegyn cywir i ganolbwyntio arno os ydym ni'n bwriadu lleihau effaith y clefyd hwn ar y wlad. Dywedodd Syr Richard Leese ddoe:
Pe byddai'r Llywodraeth yn gwario £14 miliwn y mis yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed gallai hynny osgoi'r angen am gyfyngiadau symud Haen 3, a honnodd y byddai hyn yn llai nag un rhan o bump o gost cau busnesau, gan eu galluogi i aros ar agor ac i'r rhan fwyaf o bobl osgoi cyfyngiadau llymach. Dyna'r agwedd aeddfed a synhwyrol sydd wedi ei seilio ar realiti, nid ar ragfynegiadau hurt sefyllfa waethaf nad ydyn nhw erioed wedi eu gweld yn unman yn y byd, hyd y gwelaf i. Mae'n un o weddillion y dyddiau pan oedd y mawreddog Athro Ferguson o goleg Imperial yn rhagweld hanner miliwn o farwolaethau o COVID yn y Deyrnas Unedig, rhagfynegiad a gafodd ei chwalu yn gyflym iawn o dan amgylchiadau braidd yn annifyr iddo ef, fel efallai y byddwn ni i gyd yn cofio.
Nid cyfnod atal byr yw'r gyfres hon o fesurau; mewn gwirionedd, llosgydd ydynt i'r busnesau a'r swyddi a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i'r newidiadau llym iawn hyn. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, dim ond 20 o achosion newydd sydd wedi digwydd. Yn ystod gwyliau'r haf pan gawsom ni dorfeydd o bobl ar eu gwyliau o rannau eraill o'r wlad, ni fu unrhyw gynnydd sydyn yn nifer yr achosion o'r clefyd. Cafwyd 600 o achosion newydd yng Nghymru ddoe ac un farwolaeth. Ar y sail honno yr ydym ni'n cyflwyno'r mesurau eithriadol hyn, nad ydyn nhw wedi eu gweld erioed o'r blaen yn ystod cyfnod o heddwch.
Cefais i gyfarfod, ynghyd ag Aelodau eraill, â bwrdd iechyd Hywel Dda ddydd Gwener diwethaf, ac yn siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Chaerfyrddin, roedd chwe unigolyn yn yr ysbyty gyda COVID: tri yn Llanelli, tri ym Mronglais yn Aberystwyth, ac roedd un o'r tri yn Aberystwyth wedi ei drosglwyddo yno mewn gwirionedd o Abertawe. Ac mae 16 o bobl yr amheuir bod ganddyn nhw COVID. Nid yw hynny'n ymddangos i mi yn argyfwng iechyd ar y lefel yr oedd y Gweinidog iechyd yn ei nodi ar ddechrau ei araith heddiw. Yn y cyfamser, yn Hywel Dda, mae 15,800 o bobl wedi bod yn aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau difrifol, ac mae'r bwrdd iechyd 650 o nyrsys cofrestredig yn brin o'i gymharu â faint sydd eu hangen arno i ofalu am bobl yn yr ysbyty. Rydym ni'n dinistrio'r union sylfaen creu cyfoeth yn yr economi y mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei hariannu arni, ac os oes cymaint o frys, pam mae'n rhaid i ni aros tan ddydd Gwener cyn i'r mesurau hyn gael eu cyflwyno?
Y broblem sydd gennym ni yw mai ymarfer enfawr yw hwn lle mae Llywodraethau a chynghorwyr iechyd yn diogelu eu hunain trwy gyflwyno'r sefyllfa waethaf bosibl, ni waeth pa mor annhebygol ydyw o ddigwydd, fel na allan nhw ddweud, 'Roeddem ni'n gyfrifol am x o farwolaethau ar ddiwedd hyn i gyd.' Ond yr hyn sydd ei angen arnom ni, mewn gwirionedd, yw synnwyr o gymesuredd yn hyn i gyd, a dyna'r un peth nad oes gan Lywodraeth Cymru mohono.
O, wel, Neil, ni fydd o bwys i chi; nid ydym ni yn Wiltshire beth bynnag. Mae hwn yn fater i ni sydd, mewn gwirionedd, yn ceisio cynrychioli'r bobl a oedd yn meddwl eu bod nhw'n ein hethol ni.
Gadewch i mi ddweud hyn: pan edrychais i ar y cynnig hwn gan y Prif Weinidog, roeddwn i'n ansicr a bod yn gwbl onest. Gofynnais dri chwestiwn i mi fy hun. Y cwestiwn cyntaf oedd, 'A oes unrhyw ddewis arall?', yn ail, 'A yw'n gymesur?' ac yn olaf, 'Beth sy'n digwydd nesaf?' Darllenais y dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Darllenais a gwrandewais ar y dystiolaeth gan y cynghorwyr arbenigol. Gwrandewais ar yr hyn yr oedd gan y prif swyddog meddygol i'w ddweud. Darllenais yr adroddiad cyngor technegol cyfan, ac fe ddes i i'r un casgliad nid yn unig â'r Prif Weinidog, ond ag Adam Price hefyd. Fel Gweinidog, rwyf i wedi darllen nifer o ffolderi penderfyniadau a ddarparwyd gan gynghorwyr, a byddwn wedi bod yn falch iawn pe byddai gennym y cyngor clir sydd wedi ei ddarparu yn y ddogfen hon. Rwyf i wedi bod eisiau cael llai o amwysedd yn aml, rwyf i wedi bod eisiau cael mwy o gyfeiriad yn aml, a phan ddarllenais y ddogfen hon, roeddwn i'n glir, yn gwbl berffaith glir yn fy meddwl, mai'r peth cyfrifol y mae'n rhaid i mi ei wneud yw cefnogi'r Llywodraeth yn yr hyn y mae'n ei wneud.
Rwyf i'n dweud hynny fel rhywun a fyddai hefyd yn siarad pe byddwn i'n meddwl ei bod yn anghywir, ac rwyf i'n dweud hynny oherwydd fy mod i'n cynrychioli'r bobl yn y gymuned hon ym Mlaenau Gwent. Mae'n rhaid i mi wneud yr hyn sy'n iawn ac yn briodol i'r bobl yn y gymuned hon ym Mlaenau Gwent. A phan fyddaf i'n cerdded i fyny ac i lawr y strydoedd yn y fan yma, mae'n rhaid i mi edrych ym myw llygaid y bobl; nid diflannu ar ôl i etholiad gael ei hymladd, anfon neges atyn nhw ar Facebook ac anghofio amdanyn nhw, ond edrych ym myw eu llygaid—edrych ym myw eu llygaid yn yr archfarchnad, yn y siopau, a siarad â phobl, a siarad ag aelodau o fy nheulu fy hun, a siarad â phobl yr oeddwn i yn yr ysgol gyda nhw, ynghylch yr effaith y mae'n mynd i'w chael ar eu bywydau. Y peth anghywir i'w wneud fyddai gwneud y peth haws a dweud, 'Rwy'n llai sicr, nid wyf i'n sicr.' Oherwydd fy mod i'n gwybod fy mod i'n siŵr bod yn rhaid i ni wneud y peth iawn a symud i'r cyfeiriad hwn.
Yn rhy aml o lawer, Llywydd, yn y ddadl hon, rydym ni wedi gweld pobl sy'n galw eu hunain yn gynrychiolwyr y cyhoedd—er na fyddai'r cyhoedd yn eu hadnabod—yn chwarae gyda gwybodaeth ffug, yn chwarae gyda newyddion ffug, yn rhoi pethau ar gyfryngau cymdeithasol, nid yn unig heb wybod a yw'n wir, ond yn gallu bod yn eithaf sicr nad yw'n wir. Heddiw, fe wnaeth dwy fil a hanner o bobl ar Twitter ailadrodd celwydd ynghylch Ysbyty Nevill Hall, gan ddweud ei fod yn wag, a bod meddygon yn chwarae golff. Mae'r math o wybodaeth sy'n mynd o amgylch ein cymunedau a'n cymdeithasau ar hyn o bryd yn beryglus iawn ac mae pobl yn mynd i farw o'r herwydd. Felly, nid oedd unrhyw ddewis arall, ac rwyf i'n gwahodd yr holl Aelodau yn y lle hwn heddiw i gefnogi Llywodraeth Cymru yn yr hyn y mae'n ei wneud.
A yw'n gymesur? Rwyf i wedi siarad â'r Prif Weinidog am rai o fy mhryderon ynghylch yr effaith ar iechyd meddwl, ynghylch yr effaith ar iechyd corfforol, cau campfeydd, ac ynghylch cau canolfannau hamdden, oherwydd bod gen i bryderon ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bobl. Mae gen i bryderon ynghylch yr effaith y bydd yn ei chael ar ddynion ifanc, na fyddan nhw'n ffonio llinellau cymorth, na fyddan nhw'n siarad â phobl am yr effaith y mae'n ei chael ar eu hiechyd meddwl. Rwy'n cydnabod grym ei ddadl mai cyfyngiadau symud byrrach, llymach yw'r ffordd orau o weithredu, ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog hefyd yn cydnabod grym fy mhwynt i ynghylch materion sy'n ymwneud ag iechyd corfforol a iechyd meddwl y bydd angen i ni fynd i'r afael â nhw wrth i ni fynd drwy'r cyfnod hwn.
Ac yn olaf, beth sy'n digwydd nesaf? Nid wyf i'n credu y gallwn ni barhau i orfodi cyfyngiadau symud, wedyn llacio, gorfodi cyfyngiadau wedyn llacio ymlaen i'r dyfodol pell, heb roi unrhyw ymdeimlad i bobl o ble yr ydym ni'n mynd. Rwy'n credu bod angen i ni ddefnyddio'r offer sydd ar gael i ni. Gallwn ni, yng Nghymru, yn fy marn i, ymfalchïo yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu'r pandemig hwn a'r argyfwng enfawr hwn. Nid ydym ni wedi cael y contractau llwgr y maen nhw wedi eu cael yn Llundain. Nid ydym ni wedi cael y methiannau pan fyddan nhw wedi rhoi swyddi i'w ffrindiau yn hytrach na rhywun sy'n gwybod sut i wneud y gwaith. Mae gennym ni drefn brofi sy'n gweithio. Mae gennym ni broses olrhain a thracio sy'n gweithio, ac mae gennym ni'r gallu i ddiogelu ein poblogaeth. Ac rydym ni'n gwneud hynny oherwydd ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd, ac rydym ni'n trefnu ac yn gweithio'r sector cyhoeddus cyfan gyda'n gilydd—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd gwladol yn cydweithio i wasanaethu'r bobl, nid i wasanaethu eu hunain ac nid i lenwi eu pocedi. Mae'r gwahaniaeth moesol hwnnw mewn gwerthoedd, yn fy marn i, hefyd yn rhoi llwyfan i ni symud ymlaen ac edrych ymlaen, gan ddefnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i ni, gan ddefnyddio'r dulliau a'r strwythurau yr ydym ni wedi eu creu yn ystod y misoedd diwethaf hyn, i lunio dyfodol gwahanol wrth i ni symud ymlaen, er mwyn i ni allu dweud wrth bobl, 'Ie, nid yn unig y cewch chi Nadolig, ond cewch chi fwy o obaith yn y flwyddyn newydd hefyd', bod gennym ni fodd o olrhain a thracio y feirws, gan sicrhau bod gennym ni ddull gorfodi i sicrhau ein bod ni wedyn, yn gallu cael dyfodol gwahanol iawn.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn. Ac rwy'n gwybod ei bod yn anodd, hefyd, i Aelodau'r gwrthbleidiau wneud hynny weithiau, ond rydym ni wedi gweld enghreifftiau yn y dyddiau diwethaf hyn o wrthwynebiad cyfrifol, ac rwy'n talu teyrnged i Adam Price yn y ffordd y mae wedi ymdrin â hynny. Ac yna rydym ni wedi gweld enghreifftiau o boblyddiaeth anghyfrifol a gwrthwynebiad anghyfrifol, ac rydym ni i gyd yn gwybod yr hyn a olygir wrth hynny. Pobl Cymru yw'r flaenoriaeth. Y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent yw'r flaenoriaeth, a dylem ni i gyd roi popeth arall o'r neilltu.
Rwy'n cefnogi'r mesur hwn am nifer o resymau sydd wedi cael eu hamlygu eisoes. Mae'n siom, wrth gwrs, ein bod ni'n gorfod gwneud hyn, ond mae hyn yn fesur angenrheidiol, mae'n rhywbeth brys, a dwi wir yn meddwl y dylai'r bobl sydd yn bwriadu peidio â chefnogi'r mesur yma ailystyried eu blaenoriaethau. Ddylen ni fyth bod yn ystyried unrhyw farwolaeth o COVID-19 fel rhywbeth sydd yn anochel, a dwi'n meddwl ei fod e'n eithaf sarhaus bod pobl wedi bod yn dweud rhywbeth o'r fath yma heno.
Yn fy nghyfraniad heno, dwi eisiau codi rhai materion lles, fel eu bod nhw'n flaenllaw ym meddwl y Llywodraeth. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynnig yn sôn am lesiant, ond byddai'n dda gosod mas rhai pethau penodol sydd eu hangen. Yr egwyddor bwysig yma ydy allwn ni ddim disgwyl i iechyd meddwl a lles pobl ymdopi yn y cyfnod clo dros dro hwn, ac i gefnogaeth fod ar gael dim ond ar ddiwedd y cyfnod. Byddai hynny ddim yn unig yn creu backlog, byddai hefyd yn esgeuluso pobl ar yr union bwynt pan maen nhw angen cefnogaeth fwyaf.
Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn gallu parhau â'u swigod cymorth yn ystod y clo yma, ac rwy'n falch y bydd yr opsiwn yma hefyd ar gael ar gyfer cartrefi un rhiant, ond gallwn ni ddim, chwaith, anwybyddu'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar les pobl, ac mae'n rhaid inni roi cefnogaeth ar waith i bobl ar frys. Bydd hyn yn cynnwys adnoddau i helpu pobl â'u hiechyd meddwl. Dylai hyn gynnwys, er enghraifft, llinell gymorth pwrpasol ac adnoddau ar gael ar-lein, gan gymryd mewn i ystyriaeth beth roedd Alun Davies yn ei ddweud ynglŷn ag efallai'r ffaith bod rhai pobl yn mynd i fod yn llai parod nag eraill i edrych mas am y cymorth yna sydd ar gael.
Dylai adnoddau hefyd fod ar gael i helpu pobl sy'n rhieni i blant ifanc ac a fydd yn gweithio o gartref yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhieni o dan gymaint o straen oherwydd maen nhw naill ai yn gorfod jyglo'r cyfrifoldebau sydd gyda nhw fel rhiant, a ddim, efallai, yn gallu gweithio cymaint ag y maen nhw eisiau, neu maen nhw'n gorfod dewis gweithio ac wedyn teimlo'n euog am y ffaith nad ydyn nhw'n treulio'r amser yna gyda'u plant. Mae hyn yn cael effaith anochel ar hwyliau pobl a'u gallu i ymdopi. Dylem ni fod yn targedu adnoddau i helpu'r grŵp hwn o bobl, oherwydd rŷm ni'n gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth sydd wir, efallai, yn ymddangos yn amhosibl, a dylem hefyd fod yn gofyn i fusnesau ddatblygu canllawiau fel bod aelodau staff sydd heb gyfrifoldebau gofalu yn gallu deall y pwysau ychwanegol y mae eu cydweithwyr yn ei wynebu.
Daw hynny â mi at y bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu; pobl sy'n ofalwyr i aelodau'r teulu ac yn byw gyda'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt. Mae'r grŵp hwn o bobl eisoes wedi mynd am fisoedd heb seibiant ac mae'n cael effaith ar eu llesiant. Cyhyd ag y bo cyfleusterau canolfannau dydd ar gau, dylid sicrhau bod cefnogaeth unigol ar gael i'r teuluoedd hynny, a dylai hyn yn sicr barhau yn ystod y cyfnod clo. Mae'r adroddiad, 'Caring Behind Closed Doors', sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, yn amlygu'r effaith ddifrifol y mae'r misoedd diwethaf wedi'i chael ar ofalwyr. Mi oedd fy nghyfaill Dr Dai Lloyd wedi dweud yn gynharach heddiw fod 95 y cant o bobl yn dweud bod y misoedd diwethaf wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd, boed yn feddyliol neu'n gorfforol—dylwn i ddweud 95 y cant o'r gofalwyr. Dywedodd 66 y cant eu bod nhw'n blino'n ddi-baid. Mae angen cymorth respite ychwanegol a chymorth cynghori ar frys.
Llywydd, bydd y cyfnod hwn yn anodd i bawb, ond i rai grwpiau o bobl bydd y cyfnod hyd yn oed yn fwy heriol. Mae'n rhaid i ni adeiladu contract ymddiriedaeth gyda'r cyhoedd er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo y bydd yr aberth rŷm ni'n gofyn i bobl ei wneud—ac rwy'n cefnogi'r ffaith ein bod ni yn gwneud hyn a dwi'n meddwl ei fod yn angenrheidiol—eu bod nhw'n gallu gweld ei fod yn cyflawni rhywbeth a'u bod nhw'n teimlo'n rhan o'r penderfyniad hwnnw. Bydd cyfathrebu clir yn hanfodol er mwyn i hyn ddigwydd. Rhaid cyfathrebu ar frys ynghylch pa gymorth ariannol fydd ar gael, fel y mae Helen Mary Jones wedi gosod allan, a phryd, fel bod y rhai sy'n gorfod hunanynysu neu'r rhai sydd wedi gorfod cau eu busnesau yn teimlo bod y cymorth yna'n wastad ar gael iddyn nhw. Diolch.
Roeddwn i eisiau ymdrin yn gyflym â gwelliant 5, oherwydd rwy'n credu ei bod yn uchelgeisiol iawn i fod eisiau dileu COVID yng nghyd-destun bod yn rhan o ynys Prydain. Nid ydym ni'n debyg i Seland Newydd, sy'n ynys ar ei phen ei hun. Mae gennym ffin gwbl agored â Lloegr, ac, ar hyn o bryd, mae gennym Lywodraeth yn Lloegr nad yw'n rheoli'r sefyllfa o gwbl. Yn wahanol i Neil Hamilton a rhai o Aelodau'r Blaid Geidwadol, rwy'n llwyr gydnabod yr angen inni gael y cyfnod atal byr hwn er mwyn atal achosion o COVID rhag llethu ein hysbytai. Mae gennyf nifer o etholwyr sydd i fod i gael llawdriniaethau nad ydyn nhw'n rhai COVID yr wythnos hon; nid oes COVID arnyn nhw, ond mae ganddyn nhw gyflyrau difrifol sy'n gofyn am ymyriadau meddygol ac mae angen iddyn nhw fod mewn ysbyty. Felly, a fyddan nhw'n cael eu gyrru ymaith, ym myd Neil Hamilton, neu ai'r rheswm yw nad yw Neil Hamilton yn cydnabod bod ein holl welyau gofal critigol yn llawn nawr ac mae rhai llawdriniaethau mor ddifrifol, nad yw'n bosibl rhoi llawdriniaeth i'r unigolyn hwnnw oni bai fod gwely gofal critigol ar gael iddo pan ddaw allan o'r theatr? Rwyf eisiau gweld gwasanaeth iechyd sy'n gallu ymdopi â COVID ond sydd hefyd yn gallu parhau â gwasanaethau meddygol eraill y mae ar bobl eu hangen. Nid yw pobl yn mynd i'r ysbyty oherwydd na allan nhw feddwl am unrhyw beth gwell i'w wneud; maen nhw yn mynd i'r ysbyty oherwydd bod angen ymdrin â rhywbeth difrifol i'w galluogi i barhau i gael bywyd o ansawdd da.
Rwyf nawr eisiau ymdrin â rhan benodol o'm hetholaeth, sef myfyrwyr, oherwydd mae mwy o fyfyrwyr yn byw yng Nghanol Caerdydd nag mewn unrhyw etholaeth arall yn y Deyrnas Unedig. Mae'n wir nad yw myfyrwyr yn debygol o fod yn sâl gyda COVID oherwydd eu hoedran, ond mae'n bwysig iawn nad ydyn nhw'n ei ledaenu i'r cymunedau y mae eu prifysgolion wedi'u lleoli ynddyn nhw, ac mae'n bwysicach fyth nad ydyn nhw'n mynd ag ef adref gyda nhw i'w teuluoedd oherwydd, yn anochel, bydd eu rhieni'n llawer hŷn na nhw a byddan nhw'n llawer mwy agored i ganlyniadau difrifol COVID. Felly, mae gwir angen i fyfyrwyr feddwl am bwysigrwydd gwybod a oes COVID arnyn nhw ac yna hunanynysu hyd nes daw'r amser pan na fyddan nhw bellach yn peryglu neb arall.
Heddiw, fe es i i gampws Cyncoed Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac roeddwn i wrth fy modd o weld y gwasanaeth profi sydd wedi'i sefydlu yno, sydd wedi symud o gampws Tal-y-bont ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hwnnw'n wasanaeth pwysig iawn i'w gael, er mwyn sicrhau y bydd yr holl fyfyrwyr hynny'n cael eu profi, er mwyn sicrhau, pan fyddan nhw'n mynd o le i le na fyddan nhw'n lledaenu'r clefyd. Hyd yn oed os nad ydyn nhw'n teimlo'n sâl, gallen nhw barhau i gario'r clefyd heb symptomau.
I mi, y myfyrwyr pwysicaf i boeni amdanyn nhw yw'r myfyrwyr blwyddyn gyntaf hynny sydd newydd gyrraedd yma ac ar y cyfan, heb sefydlu cylch o gyfeillion. Byddan nhw wedi cael eu dwyn ynghyd gyda myfyrwyr blwyddyn gyntaf eraill sydd wedi eu dewis ar hap, yn wahanol i fyfyrwyr yr ail a'r drydedd flwyddyn, sydd i gyd yn byw gyda phobl o'u dewis nhw ac, felly, maen nhw eisoes mewn swigen o gefnogaeth sy'n eu galluogi i ddod drwy'r unigrwydd y gallai'r myfyrwyr blwyddyn gyntaf fod yn ei ddioddef. Ond mae'r dulliau o gynnig cymorth y mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd wedi'u sefydlu i sicrhau bod bwyd yn cael ei ddarparu i'r myfyrwyr—naill ai gan wasanaeth arlwyo, yn achos Met Caerdydd, neu drwy'r archfarchnadoedd, yn achos Prifysgol Caerdydd wedi cael argraff fawr arnaf. Nid ydym ni'n gweld y problemau a gafodd myfyrwyr prifysgol eraill yn cael eu hailadrodd, pryd yr oedden nhw'n cael eu twyllo'n llwyr, yn cael eu gorfodi i dalu prisiau uchel am fwyd gwael ofnadwy. Felly, nid yw hynny'n digwydd o gwbl yn fy mhrifysgolion i, ac ym Mhrifysgol Caerdydd maen nhw mewn gwirionedd yn cael credyd o £20 os cânt eu gorfodi i hunanynysu. Yna, beth bynnag y maen nhw'n dewis ei archebu y tu hwnt i hynny, mae ganddyn nhw ddull diogel ar gyfer talu amdano heb iddyn nhw fod ar eu colled drwy dwyll ariannol.
Felly, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn sylweddoli nad nhw yw'r grŵp mwyaf agored i niwed. Os ydyn nhw mewn sefyllfa dda, ac os gallan nhw helpu eraill sy'n llawer mwy agored i niwed yn ein cymuned—y bobl hunangyflogedig, bobl yr economi gìg, y bydd angen ein cymorth i ddarparu bwyd iddyn nhw, oherwydd nad ydyn nhw'n mynd i gael eu talu yn ystod y cyfnod hwn o bythefnos gan nad yw credyd cynhwysol yn dechrau am bum wythnos arall—os yw myfyrwyr mewn sefyllfa i wirfoddoli, rwy'n gobeithio y byddan nhw'n dod ac yn ymuno â rhai o'r grwpiau gwirfoddol sy'n cefnogi pobl.
Mae obsesiwn Llywodraeth Cymru gyda'r ymgais i'n gwneud ni'n wahanol i Loegr yn ymestyn i'r hyn y mae'n ei alw y cyfyngiadau symud diweddaraf hyd yn oed. Ar ôl wythnosau o drafod ynghylch rhinweddau neu ddiffygion cyfnod clo llym i atal lledaenu, mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ei bod yn cefnogi'r fath gyfnod o gyfyngiadau, ond oherwydd ein bod ni yng Nghymru, mae'n rhaid i ni ei alw'n rhywbeth gwahanol. Felly, yn hytrach na chyfnod clo'r 'circuit-breaker', mae gennym ni gyfnod clo'r 'firebreak'. Wrth gwrs, efallai y byddai wedi bod yn fwy naturiol ei alw'n wal dân, ond gallai hynny fod wedi atgoffa pobl o bolisi ffin Llywodraeth Cymru.
Beth yw diben y cyfyngiadau symud hyn? Yng ngeiriau'r Prif Weinidog ei hun, i'n cynnal ni drwodd i'r Nadolig. Ble mae'r strategaeth yn hynny? Ar ôl gosod cyfyngiadau symud ar Gymru am gost economaidd a chymdeithasol enfawr drwy'r gwanwyn a dechrau'r haf, dim ond er mwyn gohirio heintiau tan yr hydref, bydd Llywodraeth Cymru nawr yn gosod cyfyngiadau symud eto, er mwyn gohirio heintiau tan y gaeaf, pan fydd gan y GIG y capasiti lleiaf. A phwy sy'n mynd i dalu am hyn? Fel sy'n digwydd mor aml yn sgil datganoli, dywedir wrthym mai Llywodraeth y DU ddylai dalu'r bil wrth i ni arfer grym heb gyfrifoldeb. Mae yna gyfnewidiadau anodd eu gwneud yn y pandemig coronafeirws hwn, un ohonyn nhw yw cost economaidd cyfyngiadau symud o'i chymharu ag unrhyw fudd o ran iechyd. Ni ellir gwneud y cyfnewid hwnnw'n rhesymegol nac yn effeithiol pan fydd un Llywodraeth yn rheoli'r dull cyflawni economaidd a'r un arall yn rheoli'r dull cyflawni o ran iechyd, ond dyna'r hyn yr ydym ni'n ei ddioddef yn sgil datganoli. Dywedodd y Prif Weinidog ddoe,
'Dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r grym ariannol i warantu'r lefel o gymorth incwm sydd ei hangen ar weithwyr. Mae angen taliadau mwy hael arnom i helpu gweithwyr drwy'r argyfwng hwn.'
Un o ganlyniadau rhesymegol hynny yw mai Llywodraeth y DU a ddylai benderfynu a ddylid gosod cyfyngiadau ar ein heconomi ai peidio. Ond na, rhaid inni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru: gosod cyfyngiadau symud ar hyd yn oed ardaloedd â lefelau isel o heintiau, gorfodi ffin rhyngom ni â Lloegr, ac yna, yn anhygoel, mynnu bod Llywodraeth y DU yn talu amdano. Efallai y byddan nhw'n ein hatgoffa ni yn hytrach fod dull cyflawni economaidd allweddol newydd gael ei ddatganoli: y pŵer i godi cyfraddau treth incwm gymaint ag y mae Llywodraeth Cymru a'r sefydliad hwn yn ei ddymuno. Yr wythnos nesaf, bydd gennym gyfnod o gyfyngiadau symud ar gyfer Cymru'n unig; y flwyddyn nesaf, cynnydd mewn treth ar gyfer Cymru'n unig i dalu amdano. Diolch.
Yng Nghymru, mae'r sefyllfa'n llwm. Mewn dim ond chwe wythnos fer iawn, rydym wedi symud o fod â lefelau isel iawn o'r coronafeirws i lefelau uchel o haint yn lledaenu'n gyflym yn ein gwlad, ac mae hyn er gwaethaf yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth y byddai'r sefyllfa a nifer yr achosion o feirysau wedi bod hyd yn oed yn waeth heb ardaloedd diogelu iechyd lleol, a mwy o farwolaethau, ac nid dim ond ymhlith yr henoed.
Fel yr Aelod o'r Senedd hon sy'n cynrychioli cymunedau Islwyn, rwy’n llwyr gefnogi cyfnod atal byr am amser penodol Llywodraeth Cymru. Rydym yn gwybod bod y pandemig hwn yn dechrau cyfnod difrifol arall, a chyd-Aelodau, mae'n fwy na gwleidyddiaeth pleidiol, ond nid yw hynny'n golygu, pan fydd Llywodraeth y DU yn methu, na fyddaf i'n tynnu sylw at hynny, oherwydd mae polisïau yn bwysig ac yn gallu un ai achub bywydau neu ddod â nhw i ben. Wrth edrych o amgylch y byd gwelwn gynnydd cyflym, fel y cydnabuwyd, mewn achosion, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau ledled y byd. Mae achosion yn cynyddu unwaith eto, ac mae'r ffordd y mae Llywodraethau ac asiantaethau iechyd cyhoeddus yn ymateb yn pennu cyfraddau marwolaeth. Nid yw gwneud dim yn opsiwn.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd gan grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru yn egluro'n fanwl pam y mae Llywodraeth Cymru yn dilyn y gweithwyr proffesiynol ym meysydd gwyddoniaeth a meddygaeth, y Gell Cyngor Technegol, a SAGE—grŵp cynghori technegol Llywodraeth y DU ei hun. Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae cyfradd twf achosion cadarnhaol tua 4 y cant y dydd yng Nghymru, ac mae amcanestyniadau'r sefyllfa waethaf gan y Gell Cyngor Technegol yn rhagweld 18,000 o dderbyniadau i ysbytai a 6,000 o farwolaethau oherwydd COVID-19 dros gyfnod y gaeaf. Felly, y cwestiwn mewn gwirionedd yw: a ydych chi am aros am y sefyllfa honno? Ac fel y dywedodd y meddyg o Gymru, Matt Morgan, yn gyhoeddus, rwy'n annog pobl Islwyn a Chymru i,
Ddilyn y cyngor nawr fel na fydd neb ar goll pan fyddwn ni'n cyfarfod eto.
Mae'r rheini'n eiriau difrifol iawn. Bydd y cyfnod atal byr hwn yn achub nifer sylweddol o fywydau—COVID ac eraill. Ond ar ben hynny, mae arbenigwyr yn dweud bod yn rhaid i ni fod yn barod i'r gyfradd godi ar ôl y cyfnod atal byr, oherwydd natur cyfnod magu'r clefyd, hyd yr arhosiad mewn gwelyau gofal critigol, a natur wirioneddol y feirws hwn. Ond bydd yn helpu i atal y GIG rhag cael ei lethu, ac felly bydd y cyfnod atal byr yn gwella'r capasiti ar gyfer gofal cardiaidd, strôc ac eraill nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Mae'n bwysig dweud nad yw'r cyfnod atal byr hwn yn ymwneud â COVID yn unig; mae'n ymwneud â'r GIG sydd ar gael i'r nifer o bobl o bob oed a chyflyrau. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'm hetholwyr yn Islwyn sydd wedi gwneud aberthau mawr a phenderfynol yn barhaus, ac wedi dilyn y rheolau lleol diweddar yn ardal bwrdeistref sirol Caerffili. Diolch yn fawr, bawb, oherwydd rydych chi'n achub bywydau, ac fel y dywed adroddiad y Gell Cyngor Technegol, mae cyfyngiadau lleol sydd ar waith ar hyn o bryd ar draws llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi arwain at arafu ton bresennol y pandemig yn sylweddol.
Rydym wedi arafu'r lledaeniad hwnnw ar y cyd, ond mae angen inni arafu'r lledaeniad hwnnw hyd yn oed yn gyflymach, oherwydd nid arbenigwyr iechyd a meddygol yn unig sy'n dweud hyn, na'r rhai sydd wedi dod drwy'r clefyd. Yn wir, siaradodd y Prif Weinidog dros bob un ohonom, yn drawsbleidiol, mi gredaf, pan ddywedodd:
Rydym i gyd eisiau gweld diwedd ar y pandemig hwn a chael ein bywydau yn ôl.
Fodd bynnag, tan y diwrnod hwnnw, rwy'n croesawu'n fawr y broses o greu cronfa cadernid economaidd ychwanegol gwerth £300 miliwn gan Lywodraeth Lafur Cymru heddiw, ac mae'n ychwanegu £150 miliwn yn fwy at ei chronfa cadernid economaidd bresennol. Yn Islwyn bydd pob busnes sy'n gymwys ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach bellach yn cael taliad o £1,000 a bydd unrhyw fusnes manwerthu, lletygarwch a hamdden bach yn cael un taliad o hyd at £5,000. Ond dim ond Llywodraeth y DU, fel y dywedwyd, sydd â'r pŵer ariannol i warantu'r cymhorthdal incwm sydd ei angen ar weithwyr. Llywydd, mae hyn, mewn un ffordd, yn syml. Mae'n ymwneud â'r Deyrnas Unedig yn gweithio fel y dylai, bod Boris Johnson a Rishi Sunak yn gweithredu'n bendant, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, i achub gweithwyr Cymru ac economi Cymru, ac yn y pen draw gwneud popeth o fewn eu gallu i amddiffyn dinasyddion—prif ddyletswydd sylfaenol unrhyw Lywodraeth.
Dai Lloyd. Dai Lloyd, a ydych chi'n gallu dad-dawelu eich hun? Ie—Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae wastad yn werth aros, yn amlwg, cyn dechrau fy nghyfraniad.
Mae'n amser tyngedfennol, fel y mae sawl un wedi'i ddweud. Allaf i ddechrau ar y cychwyn fan hyn drwy longyfarch rhai areithiau arbennig dwi wedi'u clywed yn y ddadl yma mor belled? Wrth gwrs, Vaughan Gething, i fod yn deg—agoriad bendigedig. A hefyd Adam Price, Helen Mary Jones, Rhun, Delyth ac Alun Davies—cyfraniadau bendigedig. Buaswn i'n licio sôn am gyfraniadau rhai o'r Torïaid hefyd, ond dwi ddim yn gwybod a oes rhywun wedi siarad o'u rhengoedd nhw eto, oni bai am eu harweinydd.
Ond yn y bôn, mae hwn yn amser tyngedfennol ac rydyn ni'n wynebu argyfwng cenedlaethol, ac mae yna angen i bawb dynnu efo'i gilydd—mae hwn uwchben pleidiau gwahanol. Ac o edrych ar y cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o COVID heddiw—rydyn ni wedi clywed mai rhyw 600 o achosion COVID oedd yng Nghymru ddoe; heddiw, 1,148 o achosion newydd yn ein gwlad. Gyda'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael eu hanfon i'n hysbytai achos COVID, achos eu bod nhw mor sâl, a'r cynnydd diweddar yn nifer y cleifion mewn unedau gofal dwys, rydyn ni'n llawn yn barod. Dyna pam dwi'n cefnogi'r cyfnod clo dwys yma dros y pythefnos nesaf.
Dwi ddim yn gwybod a ydw i wedi crybwyll o'r blaen fy mod i wedi bod yn feddyg ac wedi cael rhyw fath o ddiddordeb yn y pethau hyn. Ond mae angen defnyddio'r amser clo yma i arfogi ac i gryfhau ein systemau. Fel rydyn ni wedi clywed, rhaid gwella profi, olrhain ac ynysu—rhaid cael canlyniadau y profi nôl o fewn 24 awr. Mae ein system gyhoeddus ni o brofi ac olrhain yn gweithio yn fendigedig—rhaid cael mwy ohono fo. Gan ddefnyddio ein gwasanaeth iechyd, labordai ein prifysgolion a'n hysbytai ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r system gyhoeddus yna'n cyflawni campweithiau dyddiol. Mae angen arallgyfeirio adnoddau ychwanegol atynt hwy yn ein gwasanaeth iechyd ac yn ein hawdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael efo'r olrhain, sydd yn arwain, wedyn, at yr ynysu. Mae hyn i gyd i leihau ein dibyniaeth yn y pen draw ar y system breifat Brydeinig o lighthouse labs, Serco ac ati, sydd wedi bod yn tanberfformio yn ddiweddar, a hefyd sydd ddim yn cydfynd efo'n system gyhoeddus ni pan mae'n dod i ddarganfod beth yw'r canlyniadau.
Ar ddiwedd y dydd, mae diogelu, sef hunanynysu, yn allweddol i lwyddiant hyn i gyd ac mae e'n dibynnu arnon ni i gyd. Ond hefyd, mae hunanynysu yn anodd iawn mewn tlodi—amhosib buaswn i'n ei ddweud, ac fel mae eraill wedi'i ddweud. Rhaid cael y £500 yna i'n pobl ni sydd yn gymwys i'w dderbyn o ac sydd wedi cael ei gyhoeddi eisoes.
Yn ôl at y profi—mae angen ymestyn y profi i holl staff y gwasanaeth iechyd a chysidro profi staff heb symptomau yn rheolaidd, fel y mae'r BMA yn gofyn, ac ymestyn y profi i bobl eraill, fel gyrwyr angenrheidiol ac i swyddogion diogelwch. Nid jest mater i iechyd a gofal ydy hyn yn unig. Yn ogystal, mae angen mynd i'r afael â lledaeniad y coronafeirws y tu mewn i'n hysbytai ni hefyd. Mae angen gwneud mwy i ddiogelu safleoedd gwaith wrth gynyddu profi ac olrhain, ddim dim ond yn ein hysbytai, ond mewn cartrefi gofal, prifysgolion, ffatrïoedd cig, ein carchardai ni, ac yn y blaen. Rhaid inni wneud ein gweithleoedd yn ddiogel.
Ac mae angen sicrhau bod gwaith COVID yn ein hysbytai yn cynyddu, wrth gwrs, ond nid ar draul y gwaith non-COVID. Ni allwn gau popeth lawr a jest rhedeg ar achosion brys fel o'r blaen.
Felly, i gloi, mae angen, yn y pythefnos cloëdig yma, sicrhau gwytnwch ein stoc PPE, mygydau ac yn y blaen. Dwi'n dal i dderbyn adroddiadau am bryderon diffyg PPE—nawr ydy'r amser i ddatrys hyn.
Mae staff ein gwasanaeth iechyd—a dwi'n adnabod llawer ohonyn nhw; dwi'n perthyn i rai ohonyn nhw—maen nhw wedi cyflawni llawer. Mae ein nyrsys a'n meddygon ni wedi dioddef llawer. Maent yn barod am frwydr, ond maent yn disgwyl cefnogaeth bod eu safleoedd gwaith yn ddiogel a'r cyfarpar diogelwch yn ei le, ac mae'r gwasanaeth iechyd ar agor i achosion eraill sydd ddim yn ymwneud â coronafeirws o gwbl, fel mae'r Gweinidog eisoes wedi'i ddweud.
Ar ôl y cyfnod clo hwn, mae angen i bawb barhau i ymbellhau yn gymdeithasol, golchi dwylo yn rheolaidd, gwisgo mygydau a lleihau nifer y cysylltiadau efo pobl eraill. Nid yw'r cyngor sylfaenol yn newid, ac o gadw ato, fe fyddwn yn dod drwy hyn i gyd.
Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Ac rwy'n mynd i siarad i gefnogi y cyfnod atal byr hwn a fydd yn cael ei gyflwyno ddydd Gwener. Rwy'n cydnabod ei fod yn gwbl angenrheidiol. Rwyf wedi gwrando ar y ddadl a chafwyd rhai datganiadau rhagorol, ac, yn anffodus, datganiadau nad oedden nhw mor rhagorol.
Rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn glir iawn nad y Blaid Lafur yn unig sy'n cefnogi hwn, ond rwyf hefyd eisiau sicrhau bod eraill yn deall y bydd Plaid Cymru ac Aelodau eraill o'r Cabinet nad ydyn nhw'n perthyn i Lafur—yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Kirsty Williams—hefyd yn ei gefnogi, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Ond yr hyn sy'n bwysig yma hefyd yw ei bod yn glir iawn bod angen i ni weithredu'n gyflym i amddiffyn pobl ac i ddiogelu gwasanaethau.
Rwy'n ymdrin â'r Gymru wledig—rwy'n eistedd yma yn Sir Benfro heddiw—ac rwyf wedi clywed Paul Davies, sydd hefyd yn cynrychioli Sir Benfro, ac rwyf wedi clywed Russell George, sy'n cynrychioli Powys, yn honni mai ychydig iawn o gefnogaeth sydd mewn ardaloedd lle mae nifer yr achosion o'r haint yn isel ar gyfer y math hwn o weithredu. Wel, gallaf ddweud wrth y rheini fod y bobl—. Nid wyf hyd yn oed wedi gorfod siarad â phobl—maen nhw wedi dod ataf ac wedi gofyn am weithredu, oherwydd maen nhw'n cydnabod, a hynny'n gwbl briodol, y gall y gwasanaethau fynd o sefyllfa o allu ymdopi i fod dan fygythiad mewn cyfnod byr iawn. Nid oes gennym ysbytai mawr iawn, felly nid oes angen achosion ar raddfa fawr iawn i orlethu'r gwasanaethau hynny.
Rwyf hefyd wedi gwrando, a hynny'n gwbl briodol, ar yr un unigolion yn gofyn i ni ailagor y sector gofal iechyd i achosion nad ydyn nhw'n rhai COVID. Dyna'n union sydd wedi dechrau digwydd. Maen nhw wedi bod mewn cyfarfodydd, gyda mi a Neil Hamilton, pryd dywedwyd hynny. Ni allwn wneud dau beth gyda'r system mewn ardaloedd gwledig, sef caniatáu i gyfradd heintio COVID godi ac, ar yr un pryd, cadw'r gwasanaethau nad ydyn nhw'n rhai COVID ar agor. Rwyf hefyd yn anghytuno â'r hyn ddigwyddodd pan ofynnodd y Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn gwbl briodol i Lywodraeth y DU weithredu i atal pobl, lle bynnag yr oedden nhw'n byw, ac, wrth gwrs, Lloegr, am eu bod nhw'n gyfrifol am Loegr—fe'i gwnaethant yn fater o Gymru-Lloegr. Rwy'n credu bod hynny'n amhriodol iawn. A'r hyn sy'n amhriodol yma yn fy marn i yw eu bod yn ceisio ei wneud yn fater gwledig/trefol heddiw, ac nid yw hynny, unwaith eto, yn symud yr hyn yr ydym ni i gyd yn ceisio'i wneud yma ymlaen, sef gofyn i bawb sydd eisoes wedi gweithredu'n gyfrifol barhau i weithredu'n gyfrifol, ei fod yn ddull gweithredu un wlad. Rwy'n siŵr ein bod wedi clywed 'dull un wlad' yn rhywle arall o'r blaen. Wel, fe fyddai'n braf iawn pe bai gennym ddull un wlad nawr. Dyna'r hyn yr wyf yn gofyn i'm cyd-Aelodau ei wneud yma heddiw.
Rwyf hefyd yn cydnabod y bydd gan y bobl hynny a fydd yn teimlo'r unigedd yn fwy nag eraill anghenion, ac rwy'n falch iawn o glywed y bydd aelwydydd sengl yn cael y gefnogaeth y mae ei angen arnyn nhw, ac roedd hynny'n cydnabod yr hyn a ddigwyddodd o'r blaen. Felly, rydym wedi dysgu rhai gwersi o'r hyn a roddwyd ar waith o'r blaen.
Rwy'n falch iawn hefyd y bydd gwasanaethau coffa Diwrnod y Cadoediad yn gallu digwydd, er y byddan nhw ar ffurf gyfyngedig. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n amlwg yn mynd i ddigwydd yw bod y busnesau hynny sy'n aros ar agored, ac yn enwedig archfarchnadoedd—yr hyn yr wyf yn gofyn amdano yw bod pobl yn trin y staff â'r urddas a'r parch y maen nhw'n eu haeddu, oherwydd mae llawer iawn o dystiolaeth sydd eisoes wedi dod i'r amlwg yn dangos nad yw hynny wedi digwydd. Felly, dywedaf hynny nawr.
Ond rwy'n credu ei bod yn bryd cydnabod bod gweithio mewn Llywodraeth yn golygu cymryd y camau cywir. Mae'n golygu eu cymryd ar yr adeg iawn, a gofynnaf yn barchus i'r Torïaid gydnabod mai dyma'r adeg iawn, fod gennym eglurder nid trychineb yng Nghymru, ein bod yn rhoi iechyd y cyhoedd uwchben popeth, nid gwleidyddiaeth. Clywais yr wythnos diwethaf gyda rhywfaint o siom David Rowlands yn dweud, ac mae eraill wedi ei ailadrodd yma eto heddiw, mai ychydig iawn o bobl fydd yn dioddef y canlyniadau pe baen nhw'n dal neu'n ddigon anffodus i ddal COVID a nhw yw'r rhai sy'n agored i niwed a'r henoed, a rhywsut, pe baem yn ynysu'r ddau grŵp hynny, gallai'r gweddill barhau. Rwy'n credu bod hwnnw—
Mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws—
—yn ddatganiad ffôl. Rwyf am orffen, diolch, Llywydd, ond hoffwn ddiolch i'r bobl—
Nid oes angen i chi—
—sydd wedi gweithredu. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Derbynnir a gwerthfawrogir y diolchiadau i gyd.
Mark Drakeford, y Prif Weinidog, i ymateb i'r ddadl.
Llywydd, diolch yn fawr. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Hoffwn fynd yn ôl i'r fan lle dechreuodd y ddadl hon. Nid yw'r hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma y prynhawn yma yn ddim llai nag argyfwng iechyd cyhoeddus yng Nghymru, ac rydym yn sôn am y ffordd fwyaf effeithiol y gallwn ni ymateb iddo. Wrth agor y ddadl, nododd y Gweinidog iechyd ddifrifoldeb y sefyllfa, yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau nifer yr achosion newydd, lefelau canlyniadau positif a derbyniadau i'r ysbyty, ac ailadroddodd hefyd y cyngor y mae Gweinidogion wedi'i gael gan y prif gynghorwyr clinigol a gwyddonol a'r uchaf sydd ar gael inni.
Rydym wedi clywed, Llywydd, fod Aelodau yma sydd â barn wahanol. Wel, rwyf yn anghytuno'n llwyr â nhw. Ond mae o leiaf rai Aelodau yma yn ddiamwys wrth amlygu eu gwrthwynebiad. Diystyrodd Neil Hamilton ddifrifoldeb y coronafeirws—salwch ysgafn, meddai. Honnodd nad yw gwyddonwyr—nad yw mathemategwyr yn wyddonwyr. Wfftiodd y 2,500 o bobl sydd wedi marw yng Nghymru o'r coronafeirws, gan annog y Llywodraeth i gael amcan am gymesuredd. Dywedodd Alun Davies fod llawer o nonsens yn cael ei siarad gan rai am y coronafeirws, ond nid nonsens yn unig ydyw—mae'n nonsens peryglus. Clywsom hynny eto, yn anffodus, yma yn y Senedd y prynhawn yma.
Mae eraill, Llywydd, yn llai didwyll ond nid yn llai annoeth.
Fel y dywedodd Dr Dai Lloyd, dim ond un llais ar ochr y Ceidwadwyr rŷn ni wedi'i glywed yn y ddadl y prynhawn yma.
Mae'n enghraifft o esgeulustod, ar adeg pan ydym ni'n trafod y materion hynod ddifrifol hyn, pan gawn ni dim ond un cyfraniad gan y Blaid Geidwadol i hyn, y penderfyniad mwyaf difrifol yr ydym ni'n ei wynebu fel cenedl. Dywedodd arweinydd yr wrthblaid y dylem ni fod yn cymryd camau lleol. Fel y dywedodd Joyce Watson, heddiw mae'n ymgais i greu rhaniad rhwng Cymru wledig a Chymru drefol—ychydig wythnosau'n ôl, pan oedd ei Aelodau Seneddol yn San Steffan yn ysgrifennu ataf gyda'i Aelodau o'r Senedd yn gwrthwynebu mesurau lleol, roedd yn ymgais i greu rhaniad rhwng y gogledd a'r de.
Nawr, rwy'n hynod ddiolchgar i'r bobl hynny sydd wedi ein helpu gyda'r cyfyngiadau lleol y bu'n rhaid i ni eu gosod, ac oni bai amdanyn nhw, byddai pethau'n waeth o lawer nag y maen nhw yng Nghymru heddiw, ond pan ddywed arweinydd yr wrthblaid y dylem ni barhau â'r mesurau lleol hynny yn unig, beth yn union y mae'n ei olygu? Mae'n ddyn sydd wedi ymffrostio llawer dros sawl diwrnod bellach ei fod yn deall y data. Beth yw ei ddadansoddiad o'r data, felly, yn ardal leol Abertawe, lle mae'r niferoedd, fel y dywedodd wrthym, wedi gostwng heddiw—i lawr i 155 o bobl fesul 100,000 a chyfradd profion positif o 15 y cant? Beth yw ei farn ynghylch Wrecsam, ardal arall lle mae ffigurau wedi gostwng heddiw, i lawr i 201 gyda chyfradd profion positif o 12 y cant? A Rhondda Cynon Taf, i lawr eto heddiw, i dros 200 fesul 100,000 yn y boblogaeth a chyfradd profion positif o 17 y cant. Parhau â'r mesurau lleol yn unig—dyna'r presgripsiwn Ceidwadol a gynigir yn y Senedd y prynhawn yma. Ac er bod y mesurau hynny wedi llwyddo i helpu i atal llif y coronafeirws, nid ydyn nhw'n ddigon. Mae'n amlwg ac yn glir nad ydyn nhw'n ddigon.
Nawr, y piler arall yn nadl arweinydd y Blaid Geidwadol oedd nad yw wedi gweld digon o ddata. Llywydd, edrychais eto, yn dilyn cwestiynau yn gynharach heddiw, ar adroddiad y Gell Cyngor Technegol a gyhoeddwyd gennym ddoe. Mae'n darparu data ar gyfartaledd treigl saith diwrnod yr achosion a gadarnhawyd bob dydd, a'r swm treigl saith diwrnod o farwolaethau yng Nghymru, cyfartaledd achosion y coronafeirws a gadarnhawyd fesul 100,000 o'r boblogaeth, cyfradd yr achosion a gadarnhawyd, yr amser dyblu, rhif atgynhyrchu, nifer y cleifion yn yr ysbyty, nifer y cleifion mewn gwelyau unedau gofal dwys. Mae'n rhoi dadansoddiad o broffil oedran, o nifer yr achosion yn ôl lleoliadau ac yn ôl daearyddiaeth. Mae'n darparu data a dadansoddiadau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, o Brifysgol Bangor, o Brifysgol Abertawe a Choleg Imperial Llundain. Mae'n cyfeirio at saith ffynhonnell ddata wahanol ar symudedd y boblogaeth ar draws Cymru. Llywydd, beth yn union y mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru yn credu sydd ei angen arni? Faint fwy o ddata sydd eu hangen arni nad ydyn nhw eisoes wedi bod yn ddigonol i argyhoeddi'r prif swyddog meddygol, y grŵp cynghori gwyddonol a'n grŵp cynghori technegol ein hunain? Nid esgus i'r Blaid Geidwadol yn unig, Llywydd, yw data, mae'n fodd o osgoi, a dydy hynny ddim yn derbyniol.
Daeth arweinydd y Blaid Geidwadol i ben yn y ddadl y prynhawn yma drwy ein sicrhau y byddai ei Aelodau'n ufuddhau i'r gyfraith. Roedd yn foment syfrdanol, Llywydd; dywedodd hyn wrthym fel petai'n disgwyl cael ei longyfarch. Mae'n sefyllfa ryfedd iawn pan fydd plaid fawr fel y Blaid Geidwadol yn credu bod angen iddi sicrhau'r gweddill ohonom y bydd ei haelodau'n ufuddhau i'r gyfraith yma yng Nghymru.
Llywydd, os na fydd y Blaid Geidwadol yn pleidleisio o blaid y cynnig o flaen y Senedd heddiw, byddan nhw'n gwrthwynebu'r holl gyngor arbenigol sydd ar gael inni. Byddan nhw'n siomi'r holl bobl hynny sy'n gweithio yn rheng flaen ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Ac, yn bwysicaf oll, byddan nhw'n siomi'r holl bobl hynny ledled Cymru sy'n gwneud popeth o fewn eu gallu bob dydd i'n helpu i gadw Cymru'n ddiogel.
Llywydd, mewn cyferbyniad, a gaf i ddiolch i Blaid Cymru am eu cefnogaeth wrth ddod â'r cynnig hwn i'r llawr y prynhawn yma?
Does dim rhaid i fi enwi pob un o Aelodau Plaid Cymru sydd wedi cyfrannu at y ddadl achos roedd Dr Lloyd wedi gwneud hynny ar fy rhan i. A dwi'n cytuno gyda fe ar beth ddywedodd e am safon y cyfraniadau gan Aelodau Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yma yn y ddadl y prynhawn yma.
Llywydd, ni fydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu gwelliannau Plaid Cymru a osodwyd ar gyfer y ddadl, ond, oherwydd bod pob un o'r tri gwelliant hynny'n cynnwys cymysgedd o fesurau, rhai ohonyn nhw yr ydym ni'n eu cefnogi'n gadarnhaol a rhai eraill yr ydym yn petruso ychydig yn eu cylch, byddwn yn ymatal y prynhawn yma. O ran y prif fater, fodd bynnag, mae'n amlwg ein bod ni wedi cytuno. Dangosodd Adam Price, gan ddyfynnu adroddiad y Gell Cyngor Technegol, y cyngor cwbl ddiamwys yr ydym wedi'i gael. A'r pwyntiau y mae Aelodau Plaid Cymru wedi'u gwneud yn y ddadl—dysgu o fannau eraill, defnyddio'r cyfnod atal byr yn bwrpasol, cyfathrebu mor glir ag y gallwn, diogelu ein busnesau, adeiladu ymdrech genedlaethol—mae'r holl bethau hynny'n dir cyffredin rhyngom.
Llywydd, rwy'n diolch i'm cyd-Aelodau Llafur nid yn unig am eu cefnogaeth yn ystod y ddadl hon, ond am eu cefnogaeth yn ystod y dyddiau anodd a'r penderfyniadau heriol yr ydym ni wedi gorfod eu gwneud yn ystod y dyddiau hynny—Dawn Bowden yn sôn am staff rheng flaen ac am gynrychiolaeth gymunedol; Huw Irranca-Davies ar adeiladu'r ymdrech genedlaethol honno, o ddefnyddio ein cronfeydd dewisol, fel yr ydym wedi'i wneud drwy gydol argyfwng y coronafeirws, i helpu i lenwi'r bylchau sydd yn y ddarpariaeth arall i fusnesau, gan annog Llywodraeth y DU i weithio gyda ni, nid i geisio tanseilio'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru bob amser. Erfyniodd Steve Rotheram, maer Lerpwl, ar y Canghellor yr wythnos diwethaf i roi mwy o gymorth i'r bobl hynny y bydd eu cyflogau'n cael eu gostwng o ganlyniad i fesurau ledled y Deyrnas Unedig i ymdrin â'r feirws, ond ni chymerwyd unrhyw sylw o hynny. Ac roeddwn yn cytuno'n gryf â'r hyn a ddywedodd Alun Davies am effaith corfforol ac iechyd meddwl cyfnod pellach o gyfyngiadau. Dyna pam yr ydym wedi dewis y cyfnod byrraf posibl ar gyfer cyfnod atal byr ychwanegol.
Roeddwn i eisiau diolch i Jenny Rathbone am ei chydnabyddiaeth o'r datblygiadau cyflym a wnaed wrth brofi ein poblogaeth o fyfyrwyr ac am y mesurau sy'n cael eu cymryd gan sefydliadau addysg uwch Cymru i ddarparu addysg i'r bobl ifanc hynny, i ddiogelu eu lles a'u hiechyd meddwl ac i'w hystyried, fel y gwnawn yma yng Nghymru, fel aelodau llawn o'n cymuned, gyda'r un hawliau ond yr un cyfrifoldebau yn ogystal â phob un ohonom i weithredu i gydnabod difrifoldeb y sefyllfa a wynebwn.
Cyfeiriodd Rhianon Passmore at y ffordd y gofynnir i bobl yng Nghymru wneud aberth arall, i ymdopi ar incwm a fydd yn gostwng, i feddwl am y busnesau a fydd yn cael trafferth drwy'r cyfnod hwn ac, wrth gwrs, roedd hynny i gyd ym meddyliau Aelodau'r Cabinet wrth inni fynd i'r afael â'r materion hyn.
Llywydd, gadewch imi gloi drwy ddweud hyn: wrth gwrs rydym ni i gyd wedi blino ac wedi cael digon o'r coronafeirws. Byddai'n dda gennym i gyd pe gallem ni fynd â'n bywydau yn ôl i ble yr oedden nhw cyn dechrau'r pandemig. Ond roedd Helen Mary Jones yn gywir pan ddywedodd, er nad yw dim o hyn yn hawdd, ni all yr un ohonom ni osgoi'r her y mae'n ei gosod i ni. Dywedodd Rhianon Passmore:
'Nid yw gwneud dim yn opsiwn.'
Dyna pam yr ydym ni wedi gwneud y penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud. Dyna pam yr ydym ni'n chwilio am gefnogaeth y Senedd i weithredu ar yr adeg heriol hon.
Mae'r coronafeirws yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru. Mae cyflymder y cylchrediad yn cynyddu'n ddyddiol. Mae 800 o bobl yn yr ysbyty eisoes yn dioddef ohono. Ni ellir ac ni ddylid gwadu difrifoldeb y sefyllfa. Bydd cyfnod atal byr ond llym yn ein helpu i droi'r llanw yn ôl. Ni fydd yn dileu'r coronafeirws. Ni fydd yn arwain at driniaeth i'w wella. Ond bydd yn rhoi yr amser sydd ei angen arnom i ganiatáu i'r gwasanaeth iechyd fynd ati i ddarparu'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig fel arfer, nid yn unig o ran y coronafeirws, ond ym mhob agwedd arall sy'n bwysig i bobl yma yng Nghymru. Bydd yn rhoi llwybr inni ymlaen i'r dyddiau anodd sydd dal o'n blaenau yr hydref hwn a'r gaeaf hwn, a bydd yn tynnu ar beth wmbreth o benderfyniad, undod a pharodrwydd i weithredu gyda'i gilydd sydd wedi bod yn gymaint o nodwedd o ymateb y genedl Gymreig i'r argyfwng hwn. Gadewch i ni weld yr un penderfyniad, gadewch i ni weld yr un ymdeimlad o undod ymysg Aelodau'r Senedd yma y prynhawn yma: cefnogwch gynnig y Llywodraeth.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae gwelliant 3 yn cael ei wrthynebu ac felly'n cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio, ac mae pob gwelliant felly, a'r cynnig, yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio.