– Senedd Cymru ar 11 Tachwedd 2020.
Felly, rydym yn ailymgynnull gydag eitem 10, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y lluoedd arfog. Cyn i mi alw ar Mark Isherwood i wneud y cynnig, rwyf wedi edrych ar nifer y siaradwyr sydd gennym ac rwyf wedi torri'r amser siarad i lawr i dair munud. Nid yw hynny'n effeithio ar y Gweinidog na'r rhai sy'n cynnig neu'n cloi'r ddadl, ond bydd yn ofynnol i'r holl siaradwyr gadw at dair munud a byddaf yn eich torri i ffwrdd ar dair munud. Drwy wneud hynny, cawn bawb yn y ddadl. Felly, galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig. Mark.
Cynnig NDM7456 Darren Millar, Rebecca Evans, Siân Gwenllian, Caroline Jones
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi mai heddiw yw Diwrnod y Cadoediad.
2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethau ein gwlad, gan gynnwys clwyfedigion sifil gwrthdaro.
3. Yn diolch i'r holl sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gweithio i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr.
4. Yn mynegi diolch am gyfraniad sylweddol y Lluoedd Arfog i'r ymateb COVID-19 cenedlaethol yng Nghymru.
5. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth iddi geisio cynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Diolch. Y bore yma, ar yr unfed awr ar ddeg o unfed diwrnod ar ddeg yr unfed mis ar ddeg, roeddem yn cofio aberth y rhai a wasanaethodd yn y lluoedd arfog, a'r rhai yn y boblogaeth sifil a gollodd eu bywydau neu y newidiwyd eu bywydau'n barhaol gan ryfeloedd ers 1914. Mae'r cynnig trawsbleidiol hwn yn cynnig ein bod yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethu ein gwlad, gan gynnwys sifiliaid a anafwyd mewn rhyfeloedd.
Eleni mae'n 80 mlynedd ers Dunkirk a brwydr Prydain a 75 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. Mae hefyd yn 60 mlynedd ers i argyfwng Malaya ddod i ben; 38 mlynedd ers rhyfel y Falklands; 30 mlynedd ers i'n lluoedd arfog gael eu hanfon i'r Gwlff yn dilyn yr ymosodiad ar Kuwait; a 25 mlynedd ers i gam cyntaf gweithrediadau'r DU i gynnal yr heddwch yn yr hen Iwgoslafia ddod i ben.
Yn ystod y cilio i Dunkirk, ymladdodd John Edwards a'i gefnder Llewellyn Lewis yn yr amddiffyniad enciliol gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig—neu'r RWF—cyntaf. Ganed John Edwards yn Rhuthun yn 1911 ac roedd yn was i swyddog. Ganed Llewellyn Lewis ger Dolgellau yn 1919 ac fe'i galwyd i wasanaethu ar ddechrau'r rhyfel. Roedd yn 20 pan gafodd ei ddal. Roedd Edwards yn 28.
Ar 26 Mai 1940, roedd Edwards a Lewis ymhell o draethau Dunkirk. Roeddent wedi cael eu gorchymyn i sefyll ac ymladd i'r pen ac i'r dyn olaf mewn ymdrech i arafu cynnydd yr Almaen, tra bod eraill yn cael eu tynnu allan. Ymladdodd yr RWF cyntaf yn nhref fach Saint-Venant a phentrefi cyfagos, gan ail-gymryd pontydd dros ddyfrffyrdd pwysig. Fodd bynnag, gyda'r Almaenwyr yn parhau i ddal pontydd eraill, cafodd y cwmni ei amgylchynu, dioddefodd golledion gwael a chafodd y dynion olaf eu dal wrth iddynt ymdrechu i ddianc y noson honno. Gorymdeithiodd Edwards, Lewis a'r milwyr eraill a ddaliwyd tuag at yr Almaen heb fawr o fwyd a dŵr, ac aethpwyd â hwy yn y pen draw i Toruń yng Ngwlad Pwyl. Treuliodd Edwards weddill y rhyfel mewn caethiwed, gan weithio fel carcharor rhyfel ar fferm. Dychwelodd i Brydain yn 1945 yn edrych fel ysgerbwd ac yn ddieithr i'r sawl a'i hadwaenai. Bu farw Lewis yn Stalag XX-A yn 1941, yn 21 oed.
Wyth mlynedd ar ôl brwydr Prydain, cofiwn yr ychydig o Gymru, 67 o ddynion o bob cwr o Gymru a wasanaethodd gyda rhagoriaeth yn yr awyr ac a wnaeth gyfraniad sylweddol a dewr i frwydr Prydain. Roeddent yn rhan o'r criw awyr o 2,947 o Brydain, y Gymanwlad a llawer o wledydd eraill a ymladdodd yn y frwydr. Cofiwn hefyd y rhan hanfodol a chwaraewyd gan ganolfannau'r Llu Awyr Brenhinol yng Nghymru yn darparu peilotiaid ac awyrennau yn y frwydr enbyd honno yn ystod haf hir a phoeth 1940.
Ar 5 Medi 1940, saethodd Sarjant Glyn Griffiths o Landudno, a oedd yn hedfan awyrennau Hurricane gyda sgwadron 17, awyren fomio Heinkel He 111 i lawr dros Chatham. Roedd wedi mynychu Ysgol John Bright yn Llandudno cyn ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol fel peilot yn 1938. Daeth yn un o 'aces' brwydr Prydain—peilot gyda phump o fuddugoliaethau a gadarnhawyd—a saethodd 10 o awyrennau'r gelyn i lawr yn ystod y frwydr, a dyfarnwyd y fedal hedfan nodedig iddo. Mae ei fedalau a'i lyfr log hedfan i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd erbyn hyn.
Swyddog peilot o Lanelwy oedd Denis Crowley-Milling, a fu'n hedfan awyrennau spitfire gyda sgwadron 242, a saethodd awyren ryfel Messerschmitt 110 i lawr dros ddwyrain Llundain. Yn ddiweddarach yn y rhyfel, saethodd nifer o awyrennau'r gelyn i lawr a dyfarnwyd fedal hedfan nodedig y groes a'r bar iddo. Ym mis Awst 1941, cafodd ei saethu i lawr dros Ffrainc, ond llwyddodd i osgoi cael ei ddal a chyda chymorth gwrthryfelwyr tanddaearol Ffrainc, llwyddodd i ddianc yn ôl i Brydain ac ailymuno â'i sgwadron. Yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, cafodd Denis Crowley-Milling yrfa nodedig gyda'r Awyrlu Brenhinol, gan godi i safle marsial yr awyrlu a chael ei urddo'n farchog hefyd.
Ar gyfer Diwrnod Treftadaeth Gwlad Pwyl ar 9 Mai eleni, recordiais neges ar gyfer canolfan integreiddio Bwylaidd Wrecsam, gan gyfeirio at y rôl allweddol a chwaraewyd gan sgwadron ymladd Bwylaidd 303 a hedfanai awyrennau Hawker Hurricane, y saethwyd y nifer fwyaf o awyrennau i lawr o'r 66 sgwadron a gymerodd ran ym mrwydr Prydain. Bu farw 31 o'r 145 o beilotiaid Pwylaidd a gymerodd ran ym mrwydr Prydain tra'n gwasanaethu.
Mae'r rôl a chwaraewyd gan yr RAF yng Nghymru yn diogelu'r awyr uwchben Prydain yn parhau hyd heddiw. Mae criwiau ein hawyrennau jet Typhoon, sy'n amddiffyn ein hawyr bob dydd o'r flwyddyn, i gyd wedi'u hyfforddi yn RAF y Fali ar Ynys Môn, ac mae Sain Tathan yn chwarae rhan hanfodol yn hyfforddi technegwyr peirianneg ar gyfer rheng flaen yr RAF.
Ar 8 Mai, buom yn coffáu 75 mlynedd ers Diwrnod VE—Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop—y diwrnod y cyhoeddodd lluoedd y cynghreiriaid yn ffurfiol fod yr Almaen wedi ildio, gan ddod â'r ail ryfel byd i ben yn Ewrop. Fodd bynnag, roedd miloedd lawer o bersonél y lluoedd arfog yn dal i ymladd brwydrau chwerw yn y dwyrain pell. Ar 15 Awst, roedd yn 75 mlynedd ers Diwrnod VJ, i goffáu'r diwrnod y bu i Japan ildio a diwedd yr ail ryfel byd.
Eleni, rhaid i ni hefyd ddiolch i'n lluoedd arfog am y cyfraniad sylweddol y maent wedi'i wneud ar adegau o heddwch i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol y GIG yn dal i redeg a bod cyflenwadau'n cael eu dosbarthu i'n gwasanaethau rheng flaen pwysig yn ystod pandemig COVID-19. Fel y dywed y cynnig trawsbleidiol hwn, mae Senedd Cymru yn mynegi ei diolch am gyfraniad sylweddol y lluoedd arfog i'r ymateb cenedlaethol i COVID-19 yng Nghymru. Fodd bynnag, dylem hefyd sicrhau eu bod yn parhau i gael ein cefnogaeth drwy gynnal cyfamod y lluoedd arfog.
Croesawyd y cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y mis diwethaf y bydd cyn-filwyr milwrol yng Nghymru yn elwa o gerdyn rheilffordd newydd sy'n cynnig teithio rhatach ar y rheilffyrdd, ar ôl i Lywodraeth y DU yn Lloegr gyhoeddi'r cynllun yn gynharach eleni. Yn dilyn ymgyrch dan arweiniad y Lleng Brydeinig Frenhinol a Poppy Scotland y soniais amdani yma o'r blaen, croesawyd cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf y bydd cyfrifiad 2021 bellach yn cynnwys cwestiwn i ddarparu gwybodaeth i ddynodi a yw rhywun wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i'r lleng, cyrff cyhoeddus ac elusennau milwrol eraill er mwyn sicrhau y gallant ddiwallu anghenion personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr a'u teuluoedd yn y ffordd orau.
Lansiwyd menter Great Place to Work for Veterans yn ddiweddar gan y Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn Swyddfa Cabinet y DU i annog mwy o gyn-filwyr i ymuno â'r gwasanaeth sifil pan fyddant yn gadael y lluoedd arfog, gan sicrhau bod y gwasanaeth sifil yn elwa o'r ystod eang o sgiliau a doniau yng nghymuned ein lluoedd arfog. Felly, roeddem hefyd yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y penwythnos diwethaf y byddant yn ymuno â'r fenter hon. Gall gadael y lluoedd arfog fod yn arbennig o heriol i gyn-filwyr, sy'n aml yn ei chael yn anodd ymdopi â bywyd sifil a dod o hyd i waith. Yn ogystal â bod o fudd i'r gwasanaeth sifil, mae'r fenter hon yn rhoi hwb i ragolygon cyflogaeth pobl sydd wedi gwasanaethu, gan eu helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd y tu hwnt i'r lluoedd arfog.
Mae'n hanfodol fod gwaith caled GIG Cymru i Gyn-filwyr yn parhau ac yn parhau i ehangu, gan roi asesiadau a thriniaeth seicolegol i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru ar gyfer problemau iechyd meddwl, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma. Rhwng mis Ebrill 2010, pan lansiwyd ei wasanaeth, a mis Mawrth 2019, maent wedi derbyn 4,319 o atgyfeiriadau. Yn 2018-19 yn unig, derbyniwyd 808 o atgyfeiriadau. Mae achos busnes GIG Cymru i Gyn-filwyr dros fwy o arian bellach yn ddiymwad, ac felly gofynnaf i Lywodraeth Cymru pa bryd y gwneir penderfyniad, lle mae cyflogaeth nifer o therapyddion yn ansicr ar ôl mis Mawrth 2021.
Pwysleisiwyd maint yr angen i mi unwaith eto yn ystod galwad ym mis Medi gyda'r elusen Icarus Online, sydd yn ei thrydedd flwyddyn ar ôl cael ei sefydlu mewn ymateb i'r problemau a wynebir gan gyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma a difrifoldeb eu symptomau. Mae Icarus yn darparu gofal, asesiadau a gwasanaeth adsefydlu uniongyrchol i gyn-filwyr milwrol, y gwasanaethau mewn lifrai a'u teuluoedd. Mae tîm o ddim ond 16 o bobl, pob un yn wirfoddolwr, yn trin 1,100 o bobl bob blwyddyn, gan lenwi bwlch o ran mynediad at driniaeth. Maent yn derbyn tri achos newydd bob dydd drwy eu gwasanaeth ateb a ddarperir gan Moneypenny yn Wexham.
Fel y dywed gwelliant 2, rhaid inni ymdrechu i gael penderfyniadau heddychlon i bob gwrthdaro ac i roi diwedd ar ryfeloedd, ac felly rydym yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru. Byddwn yn cefnogi gwelliant 2 yn unol â hynny.
Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn penodi comisiynydd lluoedd arfog ar gyfer Cymru i fod yn atebol i Senedd Cymru, i hyrwyddo anghenion cymuned y lluoedd arfog a sicrhau bod Cymru'n cynnal cyfamod y lluoedd arfog; sefydlu cerdyn y lluoedd arfog i ddarparu teithio am ddim ar fysiau, mynediad â blaenoriaeth i driniaeth y GIG, ac addasiadau yn y cartref ar gyfer anafiadau neu salwch sy'n gysylltiedig â gwasanaeth; mynediad am ddim i ganolfannau hamdden a safleoedd treftadaeth Cadw; cyflwyno premiwm i bobl y lluoedd arfog ar gyfer plant y rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog; dod â 150 eiddo tai cymdeithasol gwag yn ôl i ddefnydd, yn benodol ar gyfer cyn-filwyr milwrol sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref; a sicrhau bod gwaith cynnal a chadw'n digwydd ar gofebau rhyfel. Ni â'u cofiwn hwy.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol gwelliant 1 a gyflwynwyd i'r cynnig, ac felly, galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Dai.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.
Yn credu bod yn rhaid i Gymru, ar adeg o heriau cenedlaethol a byd-eang na welwyd eu tebyg o'r blaen, chwarae ei rhan wrth lunio dyfodol heddychlon ac felly yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, ar yr unfed awr ar ddeg, ar yr unfed dydd ar ddeg, o'r unfed mis ar ddeg, bu i bawb dawelu, fel ar y Dydd Cadoediad cyntaf. Wrth gofio aberth y rhai a gollwyd, rydym ni hefyd yn cofio dioddefaint y rhai sydd wedi goroesi.
Bu fy nhaid yn ymladd ym mrwydr y Somme yn y rhyfel byd cyntaf ym 1916 ac, yn rhyfeddol, bu iddo oroesi, neu buaswn i ddim yma yn naturiol, ond goroesi mewn cryn ddioddefaint byth wedyn, tan ei farwolaeth gynamserol, yn wir, pan oeddwn i'n fachgen bach iawn. Wrth gwrs, mae aeolau a chyn aelodau ein lluoedd arfog ni wedi gweld pethau erchyll ac mae'n anodd iawn fyth ymdopi efo hynna, ac mae eisiau cefnogaeth yn wastadol ac mae yna lu o fudiadau yn darparu hynna, achos mae pobl wedi eu creithio am oes.
Wrth gofio taid, rhaid cael cynnydd hefyd ar waith heddwch. Rydym ni'n croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru, sef testun ein gwelliant, a gofynnaf yn garedig am eich cefnogaeth mewn ysbryd trawsbleidiol, a dwi'n croesawu cefnogaeth Mark Isherwood.
Mae Dydd y Cadoediad eleni yn dra wahanol—y cofio yn digwydd ar wahân, y fintai fechan o'r rhai sy'n goroesi yn lleihau bob blwyddyn, a'r cofio yng nghanol unigrwydd didostur y pandemig. Mae'n dyled yn enfawr i genhedlaeth taid a chenedlaethau mwy diweddar, eu haberth yn ingol.
Collwyd y bardd Hedd Wyn ym 1917, a'i eiriau iasol am ryfel, fel dwi wedi eu hadrodd o'r blaen mewn sawl gwasanaeth cadoediad:
'Mae'r hen delynau genid gynt / Ynghrog ar gangau'r helyg draw, / A gwaedd y bechgyn lond y gwynt, / A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.'
Felly, i gloi, yn ein dagrau, Dirprwy Lywydd, ac fel cyd-gyflwynwyr y cynnig, yn naturiol yr ydym yn cefnogi'r cynnig gerbron y Senedd heddiw ac yn diolch i bawb fu ynghlwm yn ei gyflwyno gerbron. Yn dechnegol, er mwyn cael pleidlais ar ein gwelliant ni, byddwn yn ymatal ar y cynnig cychwynnol, a dwi yn diolch yn fawr iawn am arweiniad Mark Isherwood, fel y byddan nhw hefyd yn cefnogi ein gwelliant. Mi fyddwn ni'n mynd am bleidlais ar ein gwelliant cyn cefnogi yn frwd y cynnig terfynol wedi ei wella. Diolch yn fawr.
Fel hyrwyddwr lluoedd arfog Cyngor Sir Fynwy ac fel wyres i uwchgapten fy hun, gwn am bwysigrwydd cydnabod gwaith, anghenion ac ymrwymiad ein lluoedd arfog. Mae'n briodol, felly, ein bod heddiw, ar Ddiwrnod y Cadoediad, yn cydnabod y ddyled enfawr sydd arnom i'r rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Maent yn gwasanaethu ein gwlad gydag ymroddiad, er gwaethaf y perygl i'w bywydau eu hunain, a'n dyletswydd iddynt yw darparu'r gofal a'r cymorth y maent yn eu haeddu i'r fath raddau.
Yn anffodus, mae'r cofio eleni wedi gorfod bod yn wahanol iawn: dim gorymdeithio, dim parêd, dim gŵyl. Mae'r ffaith bod y cofio eleni'n wahanol yn dangos pam ei fod yn bwysicach. Fel y mae Mark Isherwood eisoes wedi nodi, mae personél milwrol Prydain wedi chwarae ac yn parhau i chwarae rôl allweddol yn ymateb y wlad hon i'r pandemig. Ar anterth ymateb y lluoedd arfog, roedd 20,000 o filwyr yn barod fel rhan o lu cymorth COVID, gyda mwy na 4,000 yn cael eu defnyddio ar y tro. Yng Nghymru, helpodd personél milwrol i adeiladu'r ysbyty maes yn Stadiwm y Principality. Cafodd personél y lluoedd arfog eu cynnull i helpu gwasanaeth ambiwlans Cymru, fel yr amlinellwyd eisoes, a gweithiodd lluoedd milwrol yn Aberhonddu ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth cynllunio.
Mae gennym ddyletswydd i sicrhau nad anghofir ein lluoedd arfog yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Credaf fod ar Gymru angen comisiynydd y lluoedd arfog sy'n atebol i'r Senedd hon i hyrwyddo anghenion personél ein lluoedd arfog ac i sicrhau ein bod yn cynnal cyfamod y lluoedd arfog. Mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hystyried a'u hymgorffori ym mhob maes polisi, ac mae angen i arian ddilyn i'r cynghorau er mwyn iddynt fodloni'r gofynion hynny.
Mae gadael y fyddin, yn aml ar ôl cyfnod hir o wasanaeth, yn cyflwyno llawer o heriau i gyn-bersonél y lluoedd arfog. Mae'n aml yn golygu eu bod yn gorfod adleoli, symud cartref, dod o hyd i waith newydd a newid ffordd o fyw. Yn aml, gall cyn-filwyr ei chael hi'n anodd cael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt wrth ddychwelyd i fywyd sifil. Mae cynllun adnabod cyflogwyr cyfamod y lluoedd arfog wedi gwneud llawer i ymgorffori a thynnu sylw at eu hanghenion wrth ddarparu gwasanaethau ar lefel cyngor sir, ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Cyngor Sir Fynwy ar dderbyn eu gwobr aur yn ddiweddar, a chynghorau a chyflogwyr eraill ar draws fy ardal i yn Nwyrain De Cymru sydd wedi gwneud llawer o waith caled i newid meddyliau ac agweddau yng nghyswllt cyn-filwyr a'u hanghenion.
Byddem yn cyflwyno cerdyn y lluoedd arfog a fyddai ar gael i gyn-filwyr a phersonél presennol y lluoedd arfog. Byddai'n cynnig amrywiaeth eang o fanteision gan gynnwys teithio am ddim ar fysiau a mynediad am ddim i byllau nofio a safleoedd treftadaeth Cadw. Rwy'n croesawu'r ffaith y bydd cyn-filwyr milwrol o bob cenhedlaeth yn gallu elwa cyn bo hir ar deithio ar y rheilffyrdd am bris is diolch i fenter gan Lywodraeth y DU. Nod y cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr yw cefnogi cyn-filwyr ar ôl eu gwasanaeth, gan ddarparu hyd at draean o docynnau adegau tawel i oedolion, cymdeithion a phlant. Ar y pwynt hwn, hoffwn dalu teyrnged i holl waith caled Johnny Mercer AS, y Gweinidog dros bobl amddiffyn a chyn-filwyr, sydd â'r gorchwyl o ddwyn ynghyd holl swyddogaethau'r Llywodraeth i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael y gofal y maent yn ei haeddu. Mae ei waith caled a'i benderfyniad yn ei waith, gan dynnu ar ei brofiadau ei hun yn aml, wedi bod yn rhagorol. Dechreuodd y fenter Great Place to Work for Veterans, i helpu cyn-filwyr i ymuno â'r gwasanaeth sifil, ac mae'n wych gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn.
Lywydd, mae gan Gymru berthynas hir a balch â'r lluoedd arfog. Mae ein lluoedd arfog yn gwneud aberth enfawr i gadw'r wlad hon yn ddiogel. Mae'n iawn ein bod yn parhau i ddangos cymaint rydym yn gwerthfawrogi eu hymdrechion ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog. Mae llawer wedi'i wneud, ond mae llawer mwy y gallwn ac y dylem ei wneud. Diolch.
Credaf fod pob un ohonom yn cymryd amser i fyfyrio a chymryd amser i edrych eto ar y gwasanaeth a'r aberth y mae aelodau o'r lluoedd arfog wedi'i wneud, heddiw ac yn y gorffennol. I mi, rhywbeth y teimlwn ei fod yn arbennig o ingol eleni oedd canmlwyddiant claddu'r milwr dienw yn Abaty Westminster, ac efallai fod Aelodau wedi clywed hanes hynny'n cael ei adrodd ar Radio 4 yn y boreau ar hyn o bryd. Mae'n ffordd ryfeddol o dalu teyrnged i'r holl bobl ifanc a gollwyd yn y rhyfel byd cyntaf, ond mae'r stori ei hun a'r ffordd y digwyddodd hefyd yn ysbrydoliaeth inni heddiw.
Bydd cytundeb cyffredinol, rwy'n meddwl, ar draws y Siambr ynglŷn â phwysigrwydd canolog y cyfamod milwrol, a thalu ein dyled i gyn-filwyr ac i deuluoedd y rhai sy'n gwasanaethu. Rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros y blynyddoedd ar hyn, ac fel Gweinidog cyn-filwyr, yn sicr roeddwn am sicrhau bod y Llywodraeth—ac a bod yn deg, fel Senedd rydym bob amser wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol ar yr holl faterion hyn—yn sicrhau bod teuluoedd a chyn-filwyr y lluoedd arfog yng Nghymru yn cael y gefnogaeth orau, a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu'n barhaus.
Yr hyn yr hoffwn glywed mwy amdano gan Lywodraeth Cymru yw sut y gallwn sicrhau ein bod yn cefnogi ein lluoedd arfog presennol hefyd. Mae Cymru eisoes yn gwneud mwy na'r disgwyl o ran cyfrannu pobl ac adnoddau i luoedd arfog y DU, a hoffai llawer ohonom weld nifer lawer mwy o bersonél sy'n gwasanaethu wedi'u lleoli yng Nghymru, a strategaeth sy'n cysylltu cymorth i gymuned ehangach y lluoedd arfog â chymorth i'r rheini sy'n gwasanaethu heddiw. Mae hynny'n golygu cefnogi a buddsoddi yn y diwydiannau amddiffyn, sy'n rhan bwysig o'n heconomi eisoes, ac rydym am weld Llywodraeth Cymru'n gweithio'n agosach gyda'r weinyddiaeth amddiffyn ar gaffael a datblygu'r adnoddau y gallwn eu darparu ar gyfer y lluoedd arfog heddiw.
Credaf ein bod i gyd hefyd am weld y pencadlys yn Aberhonddu yn cael ei gadw a'i gryfhau ynghanol rhwydwaith a seilwaith newydd, gan gynnal rôl newydd ac estynedig i'r lluoedd arfog yng Nghymru, gyda chanolfannau'n sicr ar gyfer y catrodau a'r trefniannau Cymreig, ond gan chwarae mwy o ran hefyd yn cynnal a chefnogi'r sefydliad milwrol ehangach. Hoffwn weld rheoliadau'r Frenhines, er enghraifft, yn cael eu diwygio i ddarparu lle i Gymru yn nhrefniadau rheoli ein lluoedd arfog. Mae sedd i Lundain ar fwrdd y fyddin—pam ddim i Gymru hefyd? Credaf fod yna agenda sy'n gofyn am weledigaeth ac uchelgais, gan gydweithio â phersonél sy'n gwasanaethu heddiw i sicrhau, wrth gofio aberth y gorffennol, ein bod hefyd yn buddsoddi mewn pobl a theuluoedd heddiw, ac ar gyfer y dyfodol.
Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i bob dyn a menyw sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd. Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dathlu rhyfel a nodi aberth unigolion. Yr olaf y byddwn i'n dymuno ei wneud. Pan oeddwn yn gweithio fel ymchwilydd yn San Steffan, gweithiais yn agos gydag Elfyn Llwyd a'n cyfaill rydym yn gweld ei golli'n fawr, y diweddar Harry Fletcher, ar faniffesto ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog. Cyhoeddwyd hwn yn 2014, a dilynai flynyddoedd o waith gan ein plaid, gan gynnwys sefydlu grŵp seneddol hollbleidiol ar gyfer cyn-filwyr ac ym mis Ionawr 2010, cyhoeddi papur gwaith gyda'r nod o gryfhau'r darpariaethau lles i gyn-filwyr.
Fel y dywedwyd, er bod y mwyafrif helaeth o gyn-filwyr yn ymaddasu nôl i fywyd sifil, bydd lleiafrif sylweddol yn wynebu anawsterau gyda digartrefedd, camddefnyddio sylweddau a chwalu perthynas. Nid oes unrhyw gyfeirio awtomatig at gymorth yn y broses gyfarwyddo wrth adael y fyddin. Galwodd ein maniffesto am i'r cyfamod milwrol gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, am i asesiadau iechyd meddwl fod yn rhan o'r weithdrefn drafod, yn ogystal â chymorth lles, gan gynnwys cyngor ar dai, cyflogaeth a rheoli arian, a galwasom am sefydlu system o lysoedd cyn-filwyr. Mae gormod o'r argymhellion heb gael gwrandawiad o hyd chwe blynedd yn ddiweddarach, felly rwy'n falch o gefnogi'r cynnig heddiw. Ond rwyf hefyd yn cymeradwyo gwelliant Plaid Cymru i'r Siambr. Mae'n dweud ein bod yn cefnogi'r angen i ymdrechu i sicrhau atebion heddychlon i bob gwrthdaro.
Dywedais ar ddechrau fy sylwadau fod gwahaniaeth rhwng cefnogi a diolch i unigolion a mawrygu'r rhyfeloedd roeddent yn ymladd ynddynt. Ar Ddiwrnod y Cadoediad, mae ymwybyddiaeth gyfunol Ewrop yn canolbwyntio ar ddiwedd rhyfel penodol, y rhyfel a oedd i fod i roi diwedd ar bob rhyfel. Yn Goodbye to All That, dywed Robert Graves am y cadoediad,
Achosodd y newyddion i mi fynd allan i gerdded ar fy mhen fy hun ar hyd y gorglawdd uwchben morfeydd Rhuddlan... gan regi ac wylo a meddwl am y meirw.
Enillwyd yr heddwch, ond ni allai guddio oferedd rhyfel na thrueni disynnwyr y ffaith bod cynifer wedi marw. Rwyf am orffen fy sylwadau ag englyn gan William Ambrose, neu 'Emrys':
'Celfyddyd o hyd mewn hedd—aed yn uwch / O dan nawdd tangnefedd; / Segurdod yw clod y cledd, / A rhwd yw ei anrhydedd.'
Gellir aralleirio'r cwpled olaf yn llac fel,
Mae cleddyf ar ei orau pan fo'n segur a'r rhwd arno sy'n ei wneud yn wych.
Wyndham Davies, Arthur Jenkins, Richard Jones, David Lumley, Edward Meredith, Albert Metcalfe, Thomas Shelton a William Davies—enwau'r rhai a fu farw yn yr ail ryfel byd a ddarllenwyd yn y gwasanaeth coffa a fynychais yn Rhaglan y bore yma. Ac mewn trefi a phentrefi ledled y wlad, roedd nifer dirifedi'n fwy o enwau'n cael eu darllen ar yr un pryd—enwau rhai a wasanaethodd na fyddai neb ond eu teuluoedd yn eu hadnabod bellach mae'n debyg, ond hebddynt, mae hi bron yn sicr na fyddem yn y Siambr hon heddiw gyda'r rhyddid i drafod y pynciau rydym am eu trafod heddiw.
Mae gan Gymru dreftadaeth filwrol falch—dynion a menywod yn ein gorffennol diweddar a alwyd i amddiffyn, ymosod ac mewn rhai achosion, i roi eu bywydau yn enw rhyddid. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol i bob un ohonom ac unwaith eto, mae'r lluoedd arfog wedi parhau i ddangos eu cyfraniad i Gymru yn wyneb adfyd y pandemig byd-eang. Fel cenedl, rydym bob amser wedi bod yn falch o'n lluoedd arfog am yr hyn y maent wedi'i aberthu ac am y rôl y maent bellach yn ei chwarae yn cefnogi buddiannau'r DU o gwmpas y byd. Ar nodyn personol, deuthum yn arbennig o ymwybodol o'r pethau a wynebir gan deuluoedd y lluoedd arfog pan briodais i mewn i deulu o'r fath. Mae fy nhad-yng-nghyfraith ei hun yn gyn-filwr.
Mae fy etholaeth i, Mynwy, yn gartref i Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy, y gatrawd uchaf ym myddin Prydain o filwyr wrth gefn, ac mae wedi rhoi gwasanaeth ffyddlon parhaus i'r Goron ers 1539. Mae'n rhan o'n lluoedd wrth gefn a dyma'r unig fyddin sirol sydd ar ôl ym myddin Prydain. Fel y bydd yr Aelodau'n deall rwy'n siŵr, yn y ddadl hon ni allwn beidio â sôn am ein cysylltiadau ag HMS Monmouth yn yr etholaeth. Y llong drawiadol hon yw'r seithfed i dwyn yr enw hwnnw yn y Llynges Frenhinol, ac mae iddi hanes sy'n rhychwantu 354 o flynyddoedd. Yn 2018, hi oedd y llong gyda'r nifer fwyaf o anrhydeddau brwydr o'r holl longau sy'n gwasanaethu yn y llynges ar hyn o bryd.
Nawr, mae Paul Davies ac Aelodau eraill yn y Siambr heddiw wedi sôn yn flaenorol am bwysigrwydd ein cofebau rhyfel ledled Cymru. Mewn pentrefi, trefi a dinasoedd ledled Cymru, maent yn rhan o'n hanes cyffredin, gan gysylltu teuluoedd a lleoedd yn eu hymdrechion cyffredin yn y gorffennol ar ran y wlad. Y maent yn ein hatgoffa o'r hyn sydd wedi digwydd, a hefyd yr hyn sy'n siapio ein dyfodol. Rydym yn ffodus i gael byw mewn democratiaeth ryddfrydol, lle rydym yn mwynhau'r math o ryddid a chyfle nad yw cynifer o bobl eraill yn eu cael. Mae'r cofebau hyn yn fy atgoffa o'r ffaith bod yr hyn a amddiffynnwyd yn wyneb adfyd yn y ganrif ddiwethaf mor hynod o werthfawr, ond hefyd, rhaid inni barhau i werthfawrogi, parchu ac amddiffyn y rhyddid hwnnw bob dydd, nid yn unig i ni ein hunain, ond i'n gilydd.
Dylem fod yn falch ac yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae ein lluoedd arfog wedi'i rhoi i Gymru dros y saith mis diwethaf, ond nid yw'n ddigon i ni fod yn ddiolchgar. Rhaid inni ddangos angerdd dros ein holl wasanaethau arfog am eu hymroddiad, ac am yr hyn y maent yn parhau i'w wneud ar ein rhan ni oll.
Fel y dywedwyd o'r blaen, fel yn achos llawer o gymunedau ledled Cymru, roedd Sul y Cofio yn wahanol iawn yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac roedd yr un fath ar draws y Deyrnas Unedig. Ond roeddwn yn ddiolchgar iawn am y cyfle i osod torch i gofio'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf i gadw ein rhyddid. Fodd bynnag, gwelais golli gweld ffrindiau a chymdogion ar yr hyn sydd fel arfer yn achlysur mawr yn y calendr dinesig. Fodd bynnag, roedd hi'n iawn fod cyn-filwyr yn parhau i fod yn ganolog yn nigwyddiadau dydd Sul a heddiw, a gwn y bydd y Gweinidog wrth ei fodd yn gwybod bod Tom Oldfield, sy'n 94 oed, yn bresennol yn y gwasanaeth, er mawr falchder i'w deulu, fel bob amser. Bydd y Gweinidog yn gwybod ein bod yn hynod ddiolchgar i Tom yng Nghei Connah.
Lywydd, cawsom newyddion trist yn Alun a Glannau Dyfrdwy yr wythnos hon. Collasom wir arwr. Roedd Gilbert Butler yn 19 oed pan gymerodd ran yng nglaniadau D-day. Yn 91 mlwydd oed, cafodd Gilbert anrhydedd uchaf Ffrainc am ei ddewrder—y Légion d'honneur. Ac fe'i cyflwynwyd i Gilbert gan fy nhad bedair blynedd yn ôl. Hoffwn fanteisio ar y cyfle heddiw i ddweud, 'Gorffwyswch mewn hedd, Gilbert, diolch am bopeth a roesoch i ni'. Rwy'n meddwl am anwyliaid Gilbert ar yr adeg drist hon.
Lywydd, os caf, hoffwn gofnodi hefyd fy niolch i'r lluoedd arfog am y ffordd y maent wedi gweithio i fynd i'r afael â her y coronafeirws, a'r holl waith y byddant yn parhau i'w wneud yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r ddadl hon yn gyfle i gofio, ac i gofnodi ein teyrnged drawsbleidiol i bawb a roddodd gymaint fel y gallem fod yn rhydd. Wrth gloi, Lywydd, hoffwn ddweud: pan elo'r haul i lawr, ac ar wawr y bore, ni â'u cofiwn hwy.
Mae'r newyddion heddiw'n sôn am y rhyfeloedd newydd—Affganistan ac Irac—ac mae ein helusennau a'n Llywodraethau'n ceisio ailadeiladu'r bywydau ifanc presennol sydd wedi'u clwyfo, a chefnogi'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid mewn rhyfeloedd diweddar. Rwyf am sôn am gyn-filwyr y rhyfeloedd anghofiedig—pobl fel fy nhad, oherwydd mae'n cynrychioli hanfod y dynion a'r menywod cyffredin iawn yn y lluoedd arfog sydd wedi gwasanaethu ers yr ail ryfel byd mewn rhyfeloedd llai adnabyddus. Fel llawer o'i genhedlaeth, dyn cyffredin a wnaeth bethau eithriadol.
Yn iau nag unrhyw Aelod o'r Senedd erioed, ef oedd un o'r ychydig bobl a arweiniodd ddynion i jyngl Myanmar yn ystod y gwrthryfel comiwnyddol, ac arweiniodd y rhan fwyaf ohonynt yn ôl allan eto. Dyn cyffredin a weithiai'n gudd mewn sefyllfaoedd peryglus nad yw ei deulu ond yn dysgu amdanynt yn awr wrth i'w oed ennill y frwydr. Dyn cyffredin a gymerodd ran yn y Falklands, ac y gwelodd ei gyfoeswyr wasanaeth mewn rhyfeloedd a anghofiwyd fel rhyfel Korea, argyfwng Suez, Kenya, Nigeria, Sierra Leone, Cyprus, Dhofar, Lebanon, Bosnia, Kosovo, Iwerddon. Ac yn rhy aml, pan fyddent yn dychwelyd, byddent yn wynebu gelyniaeth gyhoeddus a chyflogwyr di-hid. Ac eto, nid personél y lluoedd arfog sy'n gyfrifol am yr hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n anghywir am ein hymwneud mewn rhyfel, ond ni fel gwleidyddion yn llunio polisïau, a ni fel dinasyddion sy'n pleidleisio dros y gwleidyddion hynny, a dyna pam rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r Bil Gweithrediadau Tramor (Personél a Chyn-filwyr y Lluoedd Arfog), er mwyn mynd i'r afael â'r ymlid diddiwedd ar bersonél y lluoedd arfog sy'n gwneud penderfyniadau bywyd a marwolaeth o dan bwysau eithriadol mewn amgylcheddau gelyniaethus.
Hoffwn hefyd gydnabod a diolch i'r elusennau a'r sefydliadau niferus sy'n cefnogi personél y lluoedd arfog, ond y realiti yw na ddylid dibynnu ar yr elusennau hyn fel y prif fecanweithiau cymorth i gyn-filwyr. Gwn fod honno'n bregeth gyson a glywir gan y Llywodraeth, ond dylem gofio bod gan gyn-bersonél y lluoedd arfog set wahanol o brofiadau i'r rhan fwyaf ohonom. Maent wedi bod yn rhan o gymuned unigryw iawn, lle mae ymddiriedaeth, trefn a pharch yn gerrig sylfaen, mae'r gadwyn reoli'n gryf, ac mae cychwyn ar fywyd sifil i rai yn mynd yn groes i'r cyfan y maent yn ei wybod, ac mae'n eu torri. Mae llawer yn mynd yn ddi-waith, yn ddigartref ac yn teimlo'n ddiwerth. A dyna pam y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn sicrhau bod 150 o dai cymdeithasol gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, yn benodol ar gyfer cyn-filwyr milwrol sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Lywydd, pobl gyffredin wirioneddol ryfeddol yw personél y lluoedd arfog. Maent yn gwasanaethu ac yn aberthu heb ddisgwyl gwobr, a gofynnaf i Aelodau'r Senedd gydnabod hynny a chefnogi'r cynnig hwn.
Ar y diwrnod hwn rydym yn coffáu'r diwrnod y distawodd y gynau yn y rhyfel i roi diwedd ar bob rhyfel. Yn anffodus, nid dyma oedd diwedd rhyfeloedd, ond nodwn ddiwedd y rhyfel mwyaf enbyd hwn bob blwyddyn a choffáu pawb a gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd arfog drwy gydol yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Yn anffodus, mae angen mynd i ryfel weithiau er mwyn trechu'r drwg a diogelu'r diniwed. Diolch byth, mae dynion a menywod yn barod i roi eu bywydau i amddiffyn ein bywydau a'n rhyddid ni. Ar y diwrnod hwn cofiwn yr aberth hwnnw.
Dechreuodd y traddodiad o nodi Diwrnod y Cadoediad yn 1919. Y flwyddyn ganlynol, datgladdwyd cyrff milwyr dienw o Brydain o bedair ardal lle bu brwydro. Daethpwyd â'u gweddillion i'r capel yn St Pol. Aeth y Brigadydd L. J. Wyatt i mewn i'r capel lle gorweddai'r cyrff ar stretsieri wedi'u gorchuddio â baneri'r undeb. Nid oedd ganddo syniad o ba ardal y daethai'r cyrff. Dewisodd y Brigadydd Wyatt un, a oedd wedi'i osod mewn arch blaen wedi'i selio. Cafodd y tri chorff arall eu hailgladdu. Cludodd y llong ryfel, HMS Verdun, yr arch i Dover, ac yna fe'i cludwyd ar drên i orsaf Victoria, yn Llundain, lle bu'n gorffwys dros nos. Ar fore 11 Tachwedd, gosodwyd yr arch gan y cludwyr o drydydd bataliwn y Coldstream Guards ar gerbyd gwn a dynnwyd gan chwe cheffyl du o Fagnelau'r Ceffylau Brenhinol. Yna dechreuodd ar ei thaith drwy'r torfeydd ar y strydoedd, gan aros yn gyntaf yn Whitehall, lle dadorchuddiwyd y Senotaff gan y Brenin George V. Gosododd y Brenin ei dorch o rosynnau coch a dail llawryf ar yr arch, ac ar ei gerdyn roedd y geiriau, Er cof balch am y rhyfelwyr a fu farw'n ddienw yn y Rhyfel Mawr. Dienw, ac eto'n enwog. Yna aethpwyd â'r arch i Abaty Westminster, a gosodwyd corff y milwr dienw i orffwys ym mhen gorllewinol yr eglwys. Dyma fedd y milwr dienw.
Felly, bob blwyddyn, ar Ddiwrnod y Cofio, rwy'n diolch ac yn talu teyrnged i'r milwyr dienw a roddodd eu bywydau ar ein rhan. A hyd yn oed heddiw, 102 mlynedd yn ddiweddarach, mae milwyr yn dal i aberthu i ddiogelu ein rhyddid. A chofiwn yr aberth a wnaed ac anrhydeddwn a oroesodd, a gwnawn hyn drwy anrhydeddu cyfamod y lluoedd arfog. Ni â'u hanrhydeddwn, ni â'u cofiwn. Diolch yn fawr.
Ledled y byd, mae gwledydd yn coffáu Diwrnod y Cadoediad a Diwrnod y Lluoedd Arfog. Mae'n gydnabyddiaeth o'r aberth a wneir gan filwyr, lle bynnag y bônt, i gefnogi rhyddid a democratiaeth, ym mha wlad bynnag y maent yn byw. Ymhlith gwledydd y byd, yn anffodus, rhyfel fu'r digwyddiad mwyaf cyffredin rhyngom drwy gydol ein hanes modern. Gwahanol ddiwylliannau, ffurfiau gwahanol iawn ar Lywodraeth yn aml, ond i gyd â chred gyffredin ym mhwysigrwydd amddiffyn rhyddid cyffredinol. Mae miliynau o bobl wedi aberthu eu bywydau fel hyn, ac yng Nghymru a'r DU a ledled y byd, rydym yn cydnabod yr aberth eithaf a wnaed gan gynifer yn y gorffennol, y presennol ac yn anffodus, y rheini a ddaw yn y dyfodol.
Rydym i gyd yn dod o gefndir a threftadaeth wahanol, ond mae gan bob un ohonynt barch cyffredin. Roedd fy nhad yn ffoadur o Ukrain, gwlad a gollodd 10 miliwn o bobl yn ystod yr ail ryfel byd, a gwlad sydd, yn anffodus, yn dal i ryfela. Bu farw un o fy ewythrod yn y Fyddin Goch, wrth iddo groesi Afon Oder, yn y cyrch ar Berlin. Bu farw ewythr arall yn y rhyfel pleidiol yn erbyn Stalin, ym mis Hydref 1951. A gwelwn heddiw brotestiadau ym Melarws, lle mae pobl yn ymladd dros ddemocratiaeth—gwlad a gollodd tua 6 miliwn o bobl yn ystod yr ail ryfel byd a gallwn hefyd edrych ar ein ffrindiau yn Ewrop sydd â phrofiadau tebyg. Mae gan bob un ohonom yn y Senedd hon ein hanesion teuluol ein hunain i fyfyrio arnynt ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i gofio'r miloedd o bobl a'u teuluoedd a wasanaethodd eu gwlad, pobl sydd wedi aberthu eu bywydau neu eu lles, naill ai drwy salwch corfforol neu feddyliol. Ac rwy'n falch fod hwn yn fater sydd mor aml yn ein meddyliau ac yn ein dadleuon yn y Senedd hon.
Un ffactor sy'n uno'n derfynol i bawb sy'n gwasanaethu yn lluoedd arfog eu gwlad, ym mha ran bynnag o'r byd y maent ynddi, yw cydnabyddiaeth o erchyllterau rhyfel ac mai'r fuddugoliaeth bwysicaf iddynt hwy, iddynt i gyd, fyddai sicrhau gwaddol o fyd lle gallwn i gyd fyw gyda'n gilydd mewn heddwch, rhyddid a ffyniant. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Mae'r Aelodau'n aml yn dechrau cyfraniad drwy ddiolch neu longyfarch yr Aelod sydd wedi gwneud y cynnig i'w drafod. Yn y modd hwnnw, diolch i Mark Isherwood fel y sawl a gyflwynodd y cynnig, a Darren Millar am ei osod. Fodd bynnag, hoffwn fynd y tu hwnt i'r fformiwla safonol honno heddiw i gydnabod y gwaith sylweddol iawn y mae Darren Millar wedi'i wneud dros flynyddoedd lawer mewn nifer o wahanol ffyrdd i gefnogi'r lluoedd arfog yng Nghymru ac i gysylltu'r sefydliad hwn mor gryf â'u gwaith. Diolch, Darren.
Wrth gwrs, nid yw'r gwaith y bydd unrhyw un ohonom fel Aelodau yn ei wneud yn cymharu â'r risgiau a'r aberth y mae aelodau o'n holl luoedd arfog yn ei wneud ar ein rhan. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn cofio'r aberth eithaf a wnaed gan gynifer dros y rhyddid a'r heddwch cymharol a fwynhawn heddiw a gwaith ein lluoedd arfog heddiw i helpu i gynnal hynny.
Soniodd Mick cyn i mi siarad am ein gwahanol dreftadaethau, ac mae fy mam yn Wyddeles a bu fy nhad-cu yn gwasanaethu fel aelod o Fianna Fáil yn y Dáil yn Nulyn, ac eto dim ond un tymor a wasanaethodd. A chredwn, neu o leiaf dyma rwy'n ei ddeall gan y teulu, fod hyn yn rhannol o leiaf am ei fod yn credu y dylai Iwerddon fod wedi mabwysiadu polisi mwy cefnogol i Brydain yn ystod yr ail ryfel byd yn hytrach na niwtraliaeth lem a ddaeth i ben gyda'r neges honno ar farwolaeth Hitler gan Arlywydd Iwerddon.
Rwy'n falch nawr bod pobl yn Iwerddon a wasanaethodd yn lluoedd arfog Prydain, boed yn y rhyfel byd cyntaf neu'r ail ryfel byd neu fel arall, bellach yn cael eu cofio ac yn cael eu haeddiant. Mae hynny'n rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr ac yn bwysig iawn i'w teuluoedd.
Rydym hefyd yn cydnabod heddiw y gefnogaeth y mae ein lluoedd arfog yn ei rhoi i awdurdodau sifil mewn ffyrdd allweddol eraill, gan gynnwys rhaglen frechu COVID nawr o bosibl. Oherwydd COVID, nid yw llawer ohonom wedi gallu mynychu gwasanaethau coffa eleni yn y ffordd y gwnawn fel arfer. Felly rwy'n cloi gyda'r geiriau cyfarwydd hynny, nad ydynt byth yn pylu o'u hailadrodd:
Ni heneiddiant hwy, fel ni, a adawyd: / Ni ddwg oed iddynt ludded, na’r blynyddoedd gollfarn mwy. / Pan elo’r haul i lawr ac ar wawr y bore, / Ni â’u cofiwn hwy.
Ar Ddiwrnod y Cadoediad, nodwn aberth eithaf y rhai a roddodd eu bywydau fel y gallwn heddiw fyw ein bywydau ni yn rhydd o orthrwm, hiliaeth a ffasgaeth. Ni fyddwn yn anghofio'r holl rai sydd wedi marw yn sgil eu galw i wasanaethu eu gwlad na'r rhai yr effeithir arnynt mewn cynifer o ffyrdd o hyd heddiw mewn rhyfel a gwrthdaro. Ni fyddwn ychwaith yn anghofio'r miliynau o deuluoedd Iddewig—plant a babanod, brodyr a chwiorydd—a arteithiwyd ac a lofruddiwyd yn systematig ac yn erchyll, ynghyd â grwpiau ethnig eraill, yr anabl a charcharorion gwleidyddol. Ni fyddwn yn eich anghofio.
Y bore yma, nodais foment hanesyddol y cadoediad ar yr unfed awr ar ddeg ar yr unfed diwrnod ar ddeg o'r unfed mis ar ddeg yn Nhŷ Penallta, pencadlys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, lle cyfarfu cynrychiolwyr y lluoedd arfog a bywyd dinesig mewn seremoni gan gadw pellter cymdeithasol i anrhydeddu'r rhai a fu farw.
Heddiw, mae'r defnydd o'r lluoedd arfog yn ystod argyfwng y pandemig hwn yn ein hatgoffa o'r aberth sy'n dal i gael ei wneud, ond mae llawer wedi talu a byddant yn parhau i dalu'r pris eithaf. Ac mae hyn yn rhywbeth na all neu nad yw llawer o bobl yn ei ystyried yn ganlyniad i'r gwaith a wnawn. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn anrhydeddu'r rheini sydd wedi marw mewn brwydrau a'n bod yn anrhydeddu'r rhai sy'n barod i frwydro yn ein henw. Heddiw gwnaeth ysgolion ar draws Islwyn yr un peth, fel y gwnaeth Ysgol Gynradd y Coed Duon, a oedd hefyd yn anrhydeddu pawb sydd wedi rhoi eu bywydau, gyda gwasanaeth rhithwir i'r ysgol gyfan. Ac rwyf am gofnodi fy ngwerthfawrogiad i ysgolion fel ysgol gynradd y Coed Duon, a oedd, yn y flwyddyn ryfedd hon, yn coffáu gyda'r genhedlaeth nesaf o gymuned yr ysgol yn dod at ei gilydd i nodi'r achlysur arbennig hwn. Y plant hyn yw ein dyfodol, a byddwn yn eu cofio.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, gwn hefyd faint y mae Darren Millar yn ei wneud i gefnogi ein lluoedd arfog. Mae'n gadeirydd galluog ar y grŵp trawsbleidiol, ac felly, ar y mater hwn, hoffwn adleisio ei alwad yn llwyr, a galwad Llywodraeth Cymru, am gefnogaeth barhaus i gyfamod y lluoedd arfog. Gwn, yn bersonol, fod cymuned y lluoedd arfog yn gwerthfawrogi'r cyfamod yn fawr, fel y mae'r awdurdodau sy'n ei weithredu, eu hyrwyddwyr lluoedd arfog ac wrth gwrs, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Mae'n arwydd o ddod ynghyd, lle mae cymaint yn ein rhannu. Felly, heddiw, yfory ac am byth, byddwn yn cofio'r rhai a fu farw o Islwyn a Chymru a phawb sy'n parhau i wasanaethu er mwyn ein cadw'n rhydd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn?
Diolch. Bob mis Tachwedd, wrth inni oedi ar gyfer Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad, cawn ein hatgoffa o ddewrder ac aberth aruthrol ein lluoedd arfog blaenorol a phresennol ynghyd â'u teuluoedd. Mae'n dyst i'r gwasanaeth a'r aberth hwnnw fod y cynnig sydd ger ein bron wedi'i gyflwyno gyda chefnogaeth drawsbleidiol ac mae'n iawn ein bod gyda'n gilydd yn cofio ac yn cydnabod cymunedau ein lluoedd arfog yma heddiw ar Ddiwrnod y Cadoediad. Rwy'n falch o allu ymateb ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'n fraint cael arwain ar ein gwaith i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yng Nghymru.
Cynhelir digwyddiadau'r cofio eleni o dan amgylchiadau gwahanol iawn. Ar adeg pan ofynnir i bawb yng Nghymru aberthu, cofiwn y cenedlaethau o'n blaenau a aberthodd—yr aberth eithaf yn achos llawer ohonynt—i'n cadw'n ddiogel. Arweiniodd y Lleng Brydeinig Frenhinol yr ymgyrch i annog pobl i roi pabi yn eu ffenestri ac ymuno â gweithred goffa gyfunol i nodi'r ddwy funud o ddistawrwydd ar garreg ein drws. Mae'r cyfryngau lleol a chenedlaethol wedi darlledu llawer o straeon gwych ynglŷn â sut y mae pobl a chymunedau wedi dod o hyd i ffyrdd diogel ac arloesol o gofio a pharhau i godi arian ar gyfer apêl y pabi.
Wrth fwrw golwg ar y cyfryngau cymdeithasol, bu bron i mi grio wrth weld ffigur cyfarwydd, mewn gorchudd wyneb, yn y cefndir mewn gwasanaeth llai na'r arfer yng Nghei Connah, y tu ôl i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy. A diolch i fy nghyd-Aelod am ei deyrnged garedig i fy hen ewythr Tommy Oldfield, sydd bellach yn 94 oed, ac yn un o gyn-filwyr balch glaniadau D-day. Manteisiodd llawer ohonom yma heddiw hefyd ar y cyfle i nodi'r achlysur yn briodol yn ein cymunedau ein hunain, a chefais y fraint o fynychu gwasanaeth bach gan gadw pellter cymdeithasol yn yr Wyddgrug, y tu allan i eglwys y Santes Fair, yn ogystal â thalu teyrnged yn ddiogel ac ar wahân yn Neuadd Treffynnon, y Fflint a Llaneurgain.
Ddirprwy Lywydd, mae'n iawn ein bod yn cofio maint y dinistr y gall rhyfel ei achosi. Roedd yr ail ryfel byd ei hun yn un o'r rhyfeloedd mwyaf angheuol mewn hanes, a chollodd llawer o pobl gyffredin eu bywydau hefyd. Ni ddylid anghofio aberth dewr y rhai a ymladdodd dros ein rhyddid ac a roddodd eu bywydau dros ein gwlad. Eleni, rydym wedi coffáu digwyddiadau arwyddocaol. Er eu bod efallai wedi'u nodi mewn ffordd wahanol oherwydd COVID-19, ni wnaeth leihau ein gwerthfawrogiad, ein cydnabyddiaeth a'n parch mewn unrhyw fodd.
Buom yn nodi 80 mlynedd ers brwydr Prydain a dathlwyd 75 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ hefyd. Eleni cefais y fraint o siarad â chyn-filwyr o'r ail ryfel byd a chefais fy nghyffwrdd a fy ysbrydoli gan eu profiadau. Un o'r rhain oedd Mr Ronald Jones. Er gwaethaf anafiadau yn ystod yr ymosodiad ar Ffrainc, dychwelodd Mr Jones, cyn-sarjant o Ail Blatŵn 17eg Cwmni Maes y Peirianwyr Brenhinol, yn ddewr i faes y gad ar ddau achlysur gwahanol. Bydd llawer ohonom yn ymwybodol o straeon rhyfeddol eraill tebyg, ac rydym wedi clywed y rheini'n cael eu rhannu mewn cyfraniadau heddiw—atgofion y dylid eu rhannu a'u cadw am genedlaethau i ddod.
Rydym yn falch iawn o'r genhedlaeth hynod honno a ddaeth o'n blaenau, ac rwy'n falch o'r cyfan a wnawn heddiw yng Nghymru i gefnogi ein cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog, gan gydweithio tuag at achos cyffredin, drwy grŵp arbenigol y lluoedd arfog a'r grŵp trawsbleidiol, gan fynd ati ar y cyd i roi llais i gymuned y lluoedd arfog.
Mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi ehangder y cymorth sydd ar gael a'r cynnydd cydweithredol rydym wedi'i wneud, o'r gefnogaeth barhaus o £700,000 y flwyddyn i GIG Cymru i Gyn-filwyr; darparu £120,000 i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol, cyllid sydd wedi galluogi Blesma i sefydlu eu prosiect brecinio a chynhwysiant digidol; hyrwyddo rhaglen Cefnogi Addysg Plant y Lluoedd Arfog, SSCE Cymru, a sicrhaodd gyllid ymddiriedolaeth y cyfamod mewn cydweithrediad â'r fyddin yng Nghymru ar gyfer pedwar swyddog cyswllt ysgolion rhanbarthol; ac roeddwn yn falch o allu cadarnhau £275,000 ychwanegol y flwyddyn am ddwy flynedd o 2021 ymlaen er mwyn galluogi swyddogion cyswllt rhagorol a gweithredol y lluoedd arfog i barhau yn eu rolau. Rydym yn parhau i gyfarfod a gweithio gyda'n rhanddeiliaid allweddol gyda'i gilydd, gan ystyried a datrys unrhyw faterion a nodir. Gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, rydym yn cefnogi ac yn cymryd rhan yn y cynllun cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr, i alluogi cyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd i deithio am bris gostyngol ar draws y DU.
Byddwn bob amser yn ymdrechu i fynd ymhellach yn ein cefnogaeth i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu a'u teuluoedd. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno'r fenter Great Place to Work for Veterans o fewn y Llywodraeth yma, i gydnabod y sgiliau a'r galluoedd y mae cyn-filwyr yn eu cynnig i'r gweithle. Ar 30 Tachwedd, byddaf yn lansio ein dogfen 'Manteisio ar Dalent Filwrol'. Wedi'i chreu mewn partneriaeth â Llywodraeth yr Alban a Busnes yn y Gymuned Cymru, mae'r ddogfen wedi'i hanelu at wŷr a gwragedd priod a phartneriaid personél sy'n gwasanaethu ac mae'n nodi'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr. Sefydlwyd grwpiau gweithredu newydd i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â chyflogaeth, pontio, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, a chyllid, yn dilyn ein hymarfer cwmpasu cynhwysfawr ar y lluoedd arfog. Mae'r grwpiau eisoes yn cyfarfod ac yn gwneud cynnydd ac yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau sy'n cefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Er bod cyfnod y cofio yn naturiol yn cynnig cyfle i dalu teyrnged i wasanaeth blaenorol, byddai'n esgeulus ohonof i beidio â manteisio ar y cyfle heddiw i dalu teyrnged i aelodau presennol ein lluoedd arfog, sydd wedi camu i'r adwy eleni i gefnogi ein cymunedau a'n gwlad wrth inni wynebu heriau'r pandemig coronafeirws. Mae eu cymorth wedi bod yn ganolog i gefnogi ein GIG a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau drwy ddarparu arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau hanfodol i helpu i fynd i'r afael â COVID-19, ond gwyddom fod eu cyfraniad yn mynd yn llawer pellach, ac mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod nid yn unig y rôl flaenllaw y mae ein lluoedd arfog yn ei chwarae, ond y manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach a roddant i'r cymunedau lle maent wedi'u lleoli.
Rydym yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru, a dylem bob amser ymdrechu i sicrhau atebion heddychlon a chydnabod y rôl y mae ein lluoedd arfog wedi'i chwarae mewn gweithrediadau i gadw'r heddwch ledled y byd. Fel cynnydd, nid yw heddwch yn anochel. Rydym wedi dod mor bell wrth ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn a thrwy barhau i weithio mewn partneriaeth yng Nghymru, byddwn yn adeiladu ar ein cefnogaeth i'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu. Ni fyddwn yn anghofio, byddwn yn cofio, a byddwn bob amser yn cefnogi cymuned ein lluoedd arfog. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl? Darren.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl dda iawn ei hysbryd? Cafwyd rhai cyfraniadau rhagorol, ac fel bob amser, rhaid imi atgoffa fy hun fod y lluoedd arfog a'r cyfraniad a chwaraeant i'r Gymru fodern yn ogystal â'n hanes wedi bod yn gwbl aruthrol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn clywed mwy, unwaith eto, am hanesion teuluol pobl, gan gynnwys y Gweinidog, gyda Dewyrth Tom; Angela Burns yn sôn am gyfraniad ei thad i wasanaeth milwrol; ac wrth gwrs y straeon a glywsom gan Mark Isherwood yn ei sylwadau agoriadol a'i sylwadau ar y ddadl, ac wrth gwrs, y gŵr bonheddig o Alun a Glannau Dyfrdwy—credaf mai Gilbert oedd ei enw. Ni chlywais ei gyfenw'n iawn; rwy'n credu mai Gilbert Butler ydoedd. Am ddyn hynod. Pobl a ymladdodd dros ein gwlad, pobl sydd wedi aberthu'n aruthrol, a rhai ohonynt yn dal gyda ni—arwyr y gallwn eu hanrhydeddu a dewis eu hanrhydeddu cymaint ag y gallwn—ond mae gormod ohonynt, yn anffodus, wedi syrthio ar faes y gad a ddim yma heddiw. A dyna pam ei bod hi'n bwysig ein bod, ar Ddiwrnod y Cadoediad eleni, yn eu cofio i gyd.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb hael i'r ddadl hefyd? Rwy'n credu y bu cydweithio rhagorol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran hyrwyddo'r gefnogaeth i deulu'r lluoedd arfog ac i gyn-filwyr, ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, roedd yn wych cael gwahoddiad i gymryd rhan yng ngrŵp arbenigol Llywodraeth Cymru. Eich rhagflaenydd, Alun Davies, cyn Weinidog y lluoedd arfog a gyfrannodd at y ddadl heddiw, a agorodd y cyfle i wneud hynny, a chredaf fod yr ymgysylltiad wedi bod yn wirioneddol gadarnhaol ac mae wedi dwyn manteision sylweddol i gymuned ein lluoedd arfog.
Gwyddom nad oes dim yn berffaith, mae gwelliannau y gallwn eu gwneud o hyd, ond cafwyd cyflawniadau aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig i'n cyn-filwyr gyda'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gan Lywodraeth Cymru. Fe wnaethoch restru rhai ohonynt ychydig funudau'n ôl, gyda'r cerdyn rheilffordd i gyn-filwyr eleni, y fenter lle gwych i weithio, sy'n gwarantu cyfle i gyn-filwyr gael cyfweliad os oes ganddynt set sgiliau iawn ar gyfer swyddi yn y gwasanaeth sifil. Mae'r rhain yn ddatblygiadau cadarnhaol iawn, fel oedd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yn y flwyddyn ar gyfer swyddogion cyswllt ein lluoedd arfog, sy'n gwneud gwaith hollbwysig ar y rheng flaen yn ein hawdurdodau lleol a chan weithio gyda byrddau iechyd hefyd, i geisio cydgysylltu popeth. Felly, hoffwn dalu teyrnged i chi, fel Gweinidog y Llywodraeth, am y gwaith hwnnw. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud bob amser. Gwyddom fod angen mwy o gapasiti ar GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn gallu cynyddu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu i'n cyn-filwyr i gau'r bylchau yn yr amseroedd aros, a gwyddom fod angen gwneud gwaith pellach ar ochr Llywodraeth y DU hefyd, yn enwedig mewn perthynas â chynnal yr ôl troed milwrol yma yng Nghymru, sydd wedi bod dan bwysau dros y blynyddoedd wrth gwrs, ond rydym yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chi fel Llywodraeth Cymru yn ein hawydd i gynnal yr ôl troed milwrol hwnnw. Rydym yn cydnabod y budd economaidd sylweddol y mae Cymru'n ei gael ohono.
Mae'n ingol iawn heddiw ein bod yn dathlu—neu'n nodi, yn hytrach—can mlynedd ers claddu'r milwr dienw yn Westminster. Roedd yn ddiddorol clywed manylion llawn y stori honno gan Caroline Jones—stori deimladwy iawn, rwy'n credu, ynglŷn â sut y bu i'r corff hwnnw gael ei gladdu yn Eglwys Gadeiriol Westminster. A bydd stori ar ôl stori y gall pobl eu rhannu am unigolion a ddioddefodd, sy'n arwyr di-glod allan yno, ond roedd honno yn arbennig yn fy nghyffwrdd yn fawr.
Llongyfarchiadau i Sir Fynwy ar gyflawni ei statws cyflogwr aur yn y cynllun adnabod ar gyfer y lluoedd arfog. Rwy'n gobeithio y bydd llawer o awdurdodau lleol eraill yn dilyn yr arweiniad hwnnw, ac y bydd rhannau eraill o'r sector cyhoeddus yn dilyn yr arweiniad hwnnw hefyd. Rydych wedi gwneud gwaith rhagorol fel llysgennad i'r lluoedd arfog fel hyrwyddwr y lluoedd arfog, Laura, ac mae'n wych cael rhywun arall sydd â diddordeb mawr yn y lluoedd arfog yma yn Aelod o'r Senedd.
Wrth gloi, rwyf am droi at gyfraniad ein lluoedd arfog i'r ymateb i COVID yn y misoedd diwethaf. Cafodd Llywodraeth Cymru lawer iawn o gymorth logistaidd gan y lluoedd arfog yn ystod y pandemig. Rydym wedi'u gweld yn dosbarthu cyfarpar diogelu personol i wasanaethau rheng flaen. Rydym wedi eu gweld yn ymgynnull i gyflawni Ysbyty Calon y Ddraig. Rydym wedi'u gweld yn cefnogi ein gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru gyda'u hymateb, gan gynorthwyo i eni babi hyd yn oed ar un o'r galwadau hynny, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthym yn ein grŵp trawsbleidiol. Ac wrth gwrs, maent wedi bod yn ymwneud yn helaeth â'r gwaith o gyflwyno a chynyddu'r capasiti profi hefyd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, wrth gloi, i ddiolch nid yn unig iddynt hwy am eu gwasanaeth dros ganrifoedd lawer i Gymru, ond hefyd am eu gwasanaeth heddiw, eu gwasanaeth byw ledled y wlad i'n cynorthwyo gyda'r argyfwng newydd hwn sydd yn ein plith, ac i dalu teyrnged i bob un ohonynt. Byddwn yn eich cofio, nid yn unig heddiw, ond ar bob adeg o'r flwyddyn, a byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn ar sail drawsbleidiol yn y Senedd hon i sicrhau ein bod yn cynnal cyfamod pwysig y lluoedd arfog y mae pawb ohonom wedi ymrwymo iddo. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, felly byddwn yn gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod am bum munud cyn symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio, pan fydd cymorth TGCh wrth law i helpu gydag unrhyw faterion sy'n codi cyn inni ddechrau'r cyfnod pleidleisio.