10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022

– Senedd Cymru ar 9 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Mark Isherwood, a gwelliant 4 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:01, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Mae eitem 10 ar ein hagenda y prynhawn yma yn ddadl ar gyllideb ddrafft 2021-2022, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7586 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ar 21 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:01, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n bleser gennyf agor y ddadl hon y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22. Ers inni gael y cyfle cyntaf i drafod y gyllideb ddrafft yn y Senedd, mae'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Senedd wedi craffu ar ein cynlluniau gwariant. O ystyried yr amgylchiadau digynsail yr ydym wedi'u hwynebu, hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgorau eraill am eu cydweithrediad wrth gynnal gwaith craffu mewn cyfnod wedi'i gwtogi.

Cyn imi roi myfyrdodau cynnar ar y themâu allweddol sy'n deillio o graffu, hoffwn amlinellu'r asesiad diweddaraf o'r cyd-destun sy'n llywio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb. Er bod canlyniad 'dim cytundeb' wedi'i osgoi, mae'r cytundeb gyda'r UE yn creu rhwystrau masnach newydd i fusnesau Cymru, colli hawliau dinasyddion Cymru ac economi lai yng Nghymru hyd at 6 y cant dros 10 i 15 mlynedd, yn ôl arbenigwyr annibynnol. Ochr yn ochr â'r pandemig, mae hyn yn arwain at economi wannach ac yn gwaethygu rhagolygon cyllidol ar gyfer Cymru. Cytunwn â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol nad yw'n briodol tynhau polisi cyllidol yn y tymor byr, ond mae dull Llywodraeth y DU o ymdrin â hyn ac ailadeiladu cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn aneglur. Mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn parhau i fod yn her sylweddol. Er bod y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd wedi nodi y bydd y sector preifat yn ysgwyddo costau sylweddol, mae'n anochel y bydd goblygiadau o ran gwariant cyhoeddus.

Mae'r setliad cyllideb siomedig o gylch gwariant blwyddyn Llywodraeth y DU a'r addewidion a dorrwyd o ran cyllid ar ôl yr UE hefyd wedi ein gadael yn waeth ein byd y flwyddyn nesaf, gyda'r risg y bydd penderfyniadau llywodraeth y DU munud olaf yn parhau. Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o broblemau parhaus dull anhrefnus Llywodraeth y DU o ymdrin ag amserlen ei chyllideb a'r effeithiau sylweddol ac afresymol y mae hyn wedi'u cael ar ein paratoadau cyllidebol ein hunain. Rwyf hefyd yn croesawu'r galwadau gan y pwyllgor i Lywodraeth y DU roi inni'r hyblygrwydd i'n galluogi i reoli ein cyllideb yn y ffordd fwyaf effeithiol i Gymru.

Mae'n anodd gweld adeg pan fyddai'r angen am yr hyblygrwydd ychwanegol hwn yn fwy, sydd hefyd wedi'i gefnogi gan alwadau annibynnol am yr hyblygrwydd hwn gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi'r tegwch, yr hyblygrwydd a'r eglurder sydd eu hangen arnom i Gymru, gan gynnwys mater ariannu ffermydd ar ôl yr UE, y gronfa ffyniant a rennir, llifogydd ac adferiad y tomenni glo. Ni fyddaf ychwaith yn gadael i'r cyd-destun anodd hwn dynnu sylw oddi ar ein hymrwymiad cyson i ddarparu tryloywder i gefnogi gwaith craffu ystyrlon ar ein cynigion gwariant. Byddwn yn ceisio adeiladu ar y camau ychwanegol yr ydym wedi'u cymryd eleni i ddarparu tryloywder llawn ac i barhau â'r mesurau hyn i'r flwyddyn i ddod. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl, yn dilyn cyllideb Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth, sef y diwrnod ar ôl inni gyhoeddi ein cyllideb derfynol. Yn y cyd-destun hwn, rydym yn canolbwyntio ar le y gallwn gael yr effaith fwyaf, gan gydbwyso'r angen i gadw hyblygrwydd i'r flwyddyn nesaf. Rwy'n falch ein bod wedi sicrhau'r manteision gorau gyda'r cyllid sydd ar gael i ddiogelu'r hyn sydd bwysicaf, a mynd ar drywydd y newid sydd nid yn unig yn bosibl, ond sy'n hanfodol.

Arweiniwyd ein paratoadau gan ein wyth blaenoriaeth ailadeiladu, wedi'u llunio gan fwy na 2,000 o ymatebion cyhoeddus ac arbenigwyr blaenllaw Cymru a rhai rhyngwladol. Mae'r cynllun uchelgeisiol hwn yn canolbwyntio ar ein blaenoriaethau tymor byr, ochr yn ochr â darparu'r sylfeini ar gyfer ein hadferiad tymor hwy.

Rydym yn buddsoddi mewn cyflogaeth ac yn y farchnad lafur, gan gynnwys hwb o £5.4 miliwn ar gyfer cyfrifon dysgu personol i helpu gweithwyr ar incwm isel i uwchsgilio ac ailhyfforddi. Rydym yn buddsoddi yn ein pobl ifanc, grwpiau difreintiedig, ac mewn addysg, gan gynnwys y £176 miliwn yr ydym yn ei ddarparu i awdurdodau lleol, £8.3 miliwn ar gyfer diwygio'r cwricwlwm, a £21.7 miliwn ar gyfer pwysau demograffig addysg uwch ac addysg bellach. Rydym yn buddsoddi mewn tai gyda £40 miliwn ar gyfer y grant cymorth tai i gyflawni ein huchelgais o roi terfyn ar ddigartrefedd a £37 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi'r gwaith o adeiladu cartrefi fforddiadwy a chynaliadwy. Rydym yn buddsoddi yng nghanol trefi, gan gynnwys £3 miliwn ychwanegol i gefnogi'r stryd fawr a chanol trefi a dinasoedd, a £5 miliwn i gefnogi ein gweithgareddau adfywio ehangach drwy ein rhaglen benthyciadau canol tref. Ac rydym yn buddsoddi yn ein hinsawdd, ein tir a'n hadnoddau naturiol, gan adeiladu ar y pecyn cyfalaf sylweddol gwerth £140 miliwn a ddarparwyd gennym yn 2020-21, gan gynnwys £5 miliwn ychwanegol ar gyfer bioamrywiaeth a'r goedwig genedlaethol, a £26.6 miliwn ychwanegol i'r economi gylchol i wella ailgylchu yng Nghymru a mynd i'r afael ag annhegwch cymdeithasol. Rydym yn buddsoddi mewn gweithio a theithio, gan gynnwys £20 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau teithio llesol, a chyfanswm o £275 miliwn yn ein rheilffyrdd a'n metro. Rydym yn buddsoddi yn ein heconomi sylfaenol a busnesau Cymru, gan gynnwys £3 miliwn arall i ddarparu cronfa economi sylfaenol i gefnogi lledaenu a chynyddu arferion da yn gyflym, ac i ddarparu swyddi yng nghanol ein cymunedau lleol. Rydym yn buddsoddi yn ein GIG, gan ddarparu £420 miliwn ychwanegol ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi twf y GIG ac adferiad ar ôl y pandemig.

Rwyf hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r camau cadarnhaol yr ydym wedi'u cymryd ar newid hinsawdd a'r diwygiadau i'n prosesau cyllideb a threth. Drwy ein cynllun gwella'r gyllideb, rydym eisoes wedi amlinellu sut y bwriadwn fwrw ymlaen â'r diwygiadau hyn dros y pum mlynedd nesaf, ac rwy'n croesawu'r ymgysylltu parhaus ar yr agenda bwysig hon. Roeddwn hefyd yn falch bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn ei gwaith craffu wedi croesawu ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ein buddsoddiad mewn adfywio canol trefi a dinasoedd, a'n buddsoddiad mewn tai a digartrefedd. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda'r comisiynydd wrth inni ddatblygu ein cynlluniau uchelgeisiol.

Rwy'n croesawu cydnabyddiaeth y pwyllgor o bwysigrwydd ariannu iechyd a llywodraeth leol; fel yr amlinellais o'r blaen, mae'r rhain yn feysydd sydd ar flaen fy ystyriaethau ar gyfer cyllid COVID-19 yn y gyllideb derfynol ar 2 Mawrth. Rwyf hefyd yn ystyried y meysydd eraill a godwyd gan y pwyllgor; byddaf i a'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac adroddiadau eraill pwyllgorau'r Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 9 Mawrth.

Felly, i gloi: a ninnau wedi wynebu'r amgylchiadau mwyaf heriol yr ydym wedi'u hwynebu ers datganoli, rwy'n falch bod y gyllideb ddrafft hon nid yn unig yn darparu sylfaen gadarn i'r weinyddiaeth nesaf, ond yn diogelu, yn adeiladu, ac yn newid, i sicrhau Cymru fwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach. Diolch.

Daeth y Llywydd (Elin Jones) i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:09, 9 Chwefror 2021

Mae'n ddrwg gen i. Rôn i ar mute. Blwyddyn yn ddiweddarach, byddech chi'n meddwl y byddwn i wedi dysgu'r wers yna. A gaf i alw nawr ar Siân Gwenllian i siarad ar ran y Pwyllgor Cyllid? Siân Gwenllian.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’n bleser gen i wneud cyfraniad yn y ddadl bwysig hon ar ran y Pwyllgor Cyllid—y ddadl ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22. Hon, wrth gwrs, ydy cyllideb ddrafft olaf y Senedd hon ac, am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae hi wedi cael ei llunio ac mae hi wedi bod yn destun gwaith craffu o dan amgylchiadau eithriadol. Eleni, mae’r pandemig yn golygu bod digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig wedi cael eu hoedi, ac mae hynny wedi arwain at oedi i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn ei dro, mae wedi golygu bod gan y pwyllgorau lai o amser ar gyfer eu gwaith craffu, ac mae hynny’n peri pryder arbennig o ystyried y bydd COVID-19 yn cael effaith ar wariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:10, 9 Chwefror 2021

Drafft yn sicr yw’r gyllideb ddrafft hon. Mae diffyg ffigurau cyllido at y dyfodol a setliad cyllid refeniw am flwyddyn yn unig wedi gwneud y gwaith o osod cyllideb yn fwy heriol byth. Yn ogystal, mae gan Lywodraeth Cymru gronfeydd wrth gefn sylweddol gwerth oddeutu £800 miliwn, a’r rheini heb eu dyrannu. Y bwriad yw i gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael ei gosod ar 3 Mawrth, sy’n golygu na fydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried ei chynnwys. Felly, mi fedrwn ni fod yn sicr y bydd yna newidiadau sylweddol i ddyraniadau yn ystod y flwyddyn. Felly, rydym ni'n argymell bod y Gweinidog yn amlinellu goblygiadau cyllideb y Deyrnas Unedig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol.

Mae gan y pwyllgor bryder ers cryn amser am y mecanwaith a’r tryloywder mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu defnyddio ar gyfer penderfyniadau cyllido, gyda’r Gweinidog yn dweud bod yr ymgysylltu ar lefel weinidogol rhwng y Trysorlys a Llywodraeth Cymru wedi bod yn 'wael'. Yn 2020-21, cafwyd symiau mawr o gyllid canlyniadol yn ystod y flwyddyn. Mae problemau hefyd gyda thryloywder y symiau canlyniadol hyn a’r ffordd maen nhw’n cael eu cyfrifo. Canlyniad hyn oedd gwybodaeth gyfyngedig i’r pwyllgor am gyllid ychwanegol a datganiadau croes i’w gilydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio ymrwymiadau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd digwyddiadau cyllidol y Deyrnas Unedig yn cael eu cynnal fel arfer erbyn dyddiad penodol, ac y bydd setliadau cyllido aml-flwyddyn yn cael eu hadfer mewn pryd ar gyfer proses gyllideb y flwyddyn nesaf. 

Eglurodd y Gweinidog wrth y pwyllgor sut mae proses penderfyniadau cyllidebol wedi newid yn ystod y pandemig, gyda Gweinidogion yn cyfarfod yn aml i ymdrin â materion allweddol wrth iddyn nhw godi. Mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion y Gweinidog i reoli'r broses flaenoriaethu yn fwy canolog eleni. Fodd bynnag, rydym ni'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru roi systemau ar waith i sicrhau, pan gaiff symiau canlyniadol, ei bod yn gallu blaenoriaethu a darparu cyllid yn gyflym ac yn effeithiol.

Mae'r pwyllgor yn croesawu’r dull sydd wedi cael ei ddefnyddio’r flwyddyn hon lle mae newidiadau i drethi Cymru wedi cael eu gwneud fel rhan o’r gyllideb ddrafft, o gofio bod newidiadau treth yn gysylltiedig ag ymrwymiadau gwariant. Pleidleisiodd y Senedd hon ar dair set o reoliadau treth ar 2 Chwefror. Fodd bynnag, rydym ni'n credu y byddai’n ddoethach i’r gyllideb a'r penderfyniadau treth gael eu hystyried ar yr un pryd.

Mae sawl her wedi dod yn sgil COVID-19 ac mae’r effaith ariannol ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn sylweddol. Rydym yn croesawu'r cynnydd ar gyfer iechyd sy'n adlewyrchu'r rôl bwysig y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei chwarae wrth ymateb i'r pandemig. Mae’r Gweinidog wedi cadarnhau bod bron i £700 miliwn o'r gronfa wrth gefn sydd heb ei ddyrannu yn ymwneud â COVID-19 a'i bod hi’n bwriadu gwneud dyraniadau ychwanegol rhwng y gyllideb ddrafft a'r gyllideb derfynol.

Dyw hi ddim yn glir faint o adnoddau sydd wedi cael eu nodi ar gyfer y codiad cyflog i staff y gwasanaeth iechyd ac, felly, ba gyllid ychwanegol fydd ar gael i ymateb i'r pandemig, yn ogystal â gwasanaethau nad ydyn nhw’n ymwneud â COVID. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth am sut y bydd y £385 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau craidd y gwasanaeth iechyd yn cael ei ddefnyddio, gan gynnwys dadansoddiad i ddangos faint sydd wedi'i neilltuo ar gyfer y dyfarniad cyflog i staff a gwasanaethau eraill. 

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:15, 9 Chwefror 2021

Fe glywsom ni fod yna broblemau sylweddol efo capasiti’r gweithlu cyn y pandemig a bod y pandemig wedi gwaethygu’r problemau hyn. Rydym ni hefyd yn pryderu am effeithiau tymor hir y pandemig ar ofal nad yw'n gysylltiedig â COVID. Rydym ni’n disgwyl gweld cynnydd yn y gofal nad yw'n gysylltiedig â COVID dros y flwyddyn nesaf, ond bydd pwysau parhaus ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gweithwyr gofal iechyd oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, a'r ffaith y bydd llai o staff ar wardiau, a gallai hyn fod yn gymaint o her â COVID. Rydym ni hefyd yn pryderu’n fawr am yr effaith ar staff y gwasanaeth iechyd ledled Cymru. Rydym fel pwyllgor wedi argymell bod y gyllideb ddrafft yn egluro sut mae dyraniadau'n mynd i'r afael â'r materion cyfredol sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd gwladol o ran nifer y staff a chapasiti, yn ogystal â'r materion y mae'n debygol o'u hwynebu o ystyried effaith barhaus y pandemig ar ei weithlu. 

Rydym ni hefyd yn argymell bod angen mwy o fuddsoddiad mewn staff a hyfforddiant i gefnogi gweithwyr y gwasanaeth iechyd. Mae'n hanfodol bod y gwaith o gyflwyno’r brechlynnau yn parhau yn gyflym, ac mae'r pwyllgor yn croesawu'r sicrwydd cyllid ar gyfer y rhaglen frechu ac ar gyfer profi, olrhain a diogelu. O ystyried bod cyllid ar gyfer y rhaglen frechu yn cynnwys cyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid y Deyrnas Unedig, dylai Llywodraeth Cymru roi gwybodaeth bellach i wahaniaethu rhwng y costau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu talu a'r rhai yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd yn darparu ar gyfer y rhaglenni hynny.  

Bydd effaith y pandemig ar iechyd meddwl yn sylweddol dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Rydym ni’n croesawu safbwynt y Gweinidog y bydd gwasanaethau iechyd meddwl yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Fodd bynnag, wrth fynd i'r afael â lefelau uwch o broblemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â'r pandemig, rydym ni'n credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei wneud mewn mesurau ataliol sy'n ystyried penderfynyddion ehangach iechyd meddwl, megis sgiliau a chyflogadwyedd, addysg, tai, mynediad i fannau gwyrdd a gweithgaredd corfforol. 

Mae awdurdodau lleol hefyd o dan bwysau cynyddol a bydd rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Mae’n destun pryder clywed na fydd y cyllid cynyddol yn setliad llywodraeth leol yn cwmpasu’r holl bwysau o ran costau, fel costau gofal cymdeithasol, gofal plant ac addysg. Mae hefyd yn destun pryder clywed bod darparwyr gofal cymdeithasol wedi dweud bod cronfa galedi’r awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21 yn hanfodol er mwyn goroesi. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu'r cyllid ychwanegol sydd yn y gyllideb ddrafft, sef £172 miliwn, neu 3.8 y cant ychwanegol mewn cyllid craidd cyffredinol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ond rydym ni'n gwybod bod arweinwyr y gymdeithas wedi ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn gofyn am derfyn ariannu isaf.

Mae'r pwyllgor yn pryderu’n fawr am y risg y bydd ein plant a'n pobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig a phlant blynyddoedd cynnar, yn colli tir yn eu haddysg o ganlyniad i'r pandemig. Mae'r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut mae'r cyllid ar gyfer llywodraeth leol ac addysg yn cefnogi'r ffyrdd cyfredol o ddysgu, a sut mae’n darparu digon o adnoddau i ymdrin ag effaith negyddol y pandemig ar addysg.

Mae’r aflonyddwch economaidd a achoswyd yn sgil y pandemig wedi bod yn ddinistriol. O ystyried nad ydym ni’n gwybod beth yw llwybr y pandemig o hyd, ac efo llawer o fusnesau yn dal i fethu â masnachu, ac ansicrwydd ynghylch pa mor gyflym y bydd hyder busnes yn dychwelyd, mae'n synhwyrol caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor o'r farn y gallem ni weld mwy o uchelgais gan Lywodraeth Cymru yn ei chynllun ailadeiladu, a gwell pecynnau cymorth ar gyfer busnesau.

Yn ogystal â'r effeithiau a ragwelir ar gyflogaeth, gallai'r argyfwng newid yr economi am byth, gyda newidiadau sylfaenol mewn patrymau gwaith, ymddygiadau a'r farchnad lafur. Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a yw'r rhaglenni adfywio presennol yn dal i gynrychioli'r gwerth gorau, ac y dylai ystyried yr angen i ganolbwyntio mwy ar gefnogi twf a buddsoddi mewn sgiliau a chyflogadwyedd, yn enwedig ar gyfer economi werdd, gynaliadwy. Mae'n debygol y bydd 2021-22 yn dal i gael ei reoli gan yr ymateb i'r pandemig, ac yn amlwg bydd llawer o waith i’r Llywodraeth nesaf, a'r Pwyllgor Cyllid nesaf, i'w wneud, ond rydym ni'n obeithiol y bydd modd symud i ganolbwyntio ar adferiad yn ystod y flwyddyn.

I gloi, felly, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ar bob cam o'r broses graffu, trwy ein hymgynghoriadau ni, ein harolygon a'n polau. Mae pob un o’r rhain wedi helpu i lunio ein casgliadau. Dwi'n edrych ymlaen at glywed ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad. Diolch, Llywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:21, 9 Chwefror 2021

Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig, ond, yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliannau 2 a 3 a gyflwynwyd i'r cynnig. Felly, dwi'n galw ar Mark Isherwood nawr i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw e. Mark Isherwood.

Gwelliant 1—Mark Isherwood

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i adeiladu'n ôl yn well ac adfer yn dilyn pandemig COVID-19.  

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:21, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae ein gwelliant yn galw ar i'r Senedd hon gydnabod nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i ailgodi'n gryfach ac adfer ar ôl pandemig COVID-19. Mae'r term 'ailgodi'n gryfach' yn cydnabod yr angen am strategaeth dwf yn sgil coronafeirws sy'n darparu swyddi, sgiliau a seilwaith ym mhob cwr o Gymru ac yn mynd i'r afael â heriau mawr heb eu datrys yn ystod y tri degawd diwethaf, gan gynnwys 22 mlynedd o Lywodraethau Llafur datganoledig Cymru. Fel y dywedodd Prif Weinidog y DU, pan gyhoeddodd hefyd fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno cyllid i gyflymu prosiectau seilwaith yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r Llywodraethau datganoledig i nodi lle y gallwn ni roi rhawiau yn y ddaear, adeiladu ein cymunedau a chreu swyddi'n gyflymach i ddinasyddion ledled y Deyrnas Unedig. Mae'n destun gofid felly bod rhethreg gyhoeddus y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn hytrach wedi canolbwyntio'n gwbl negyddol ar fwrw'r cyfrifoldeb yn adweithiol, gan geisio diawleiddio Llywodraeth y DU a'i beio am eu holl fethiannau eu hunain.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at fethiannau Llywodraethau Llafur Cymru un ar ôl y llall wrth reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Yn y flwyddyn cyn y pandemig, dyblodd amseroedd aros y GIG yng Nghymru, ac mae Cymru wedi cadw'r cyfraddau tlodi uchaf a'r cyflog isaf o holl wledydd y DU drwy gydol datganoli ers 1999. Mae gwariant Llywodraeth Cymru wedi cynyddu 4.2 y cant i £22.3 biliwn, 83 y cant a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU. Er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru i'r gwrthwyneb, nododd dadansoddiad cyllidol Cymru y mis hwn gan Brifysgol Caerdydd £655 miliwn o gyllid COVID-19, nad yw Llywodraeth Cymru wedi'i ymrwymo eto, gan godi i £760 miliwn, gan gynnwys y gwariant sy'n bodoli eisoes ac heb ei ddyrannu yn ei chynlluniau cyllideb derfynol.

O ran llywodraeth leol, er gwaethaf effaith COVID-19, bydd awdurdodau lleol yn cael cynnydd llai yn eu setliadau na'r flwyddyn ariannol hon. Unwaith eto, mae cynghorau'r gogledd yn cael cynnydd cyfartalog is na'r de, ac unwaith eto mae'r Llywodraeth Lafur hon yn gwrthod cyllid gwaelodol i ddiogelu cynghorau fel Wrecsam a Cheredigion, y disgwylir iddynt ymdopi â chynnydd o ddim ond 2.3 y cant ac 1.96 y cant yn y drefn honno. Fel y nododd arweinydd cyngor Sir Fynwy, mae'n bwysig mynd i'r afael â'r pwysau gwirioneddol mewn llywodraeth leol a bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r 

'arian canlyniadol sylweddol yn llifo o gyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y DU, gyda chyfran ohono eto i’w ddyrannu o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru.'

Fel y nododd arweinydd cyngor Sir Ddinbych,

'mae heriau gwasanaeth cyhoeddus a chyllidebol yn parhau, yn enwedig i’r awdurdodau hynny a fydd yn derbyn cynnydd is na’r cyfartaledd.'

Mae'r trydydd sector ac elusennau yng Nghymru, sydd ar flaen y gad yn ymateb Cymru i'r pandemig, gan arbed miliynau i'r sector cyhoeddus, wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn incwm sy'n cefnogi gwasanaethau hanfodol. Dywedodd ymateb Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru fod y sector gwirfoddol yn parhau i fod ag angen mwy o adnoddau i ymateb i'r galw cynyddol am ei wasanaethau.... Mae gan drydydd sector ffyniannus ran hanfodol i'w chwarae yn yr agenda atal, yn arbed arian yn ogystal â gwella bywydau, a bod yn rhaid i gydgynhyrchu gwasanaethau chwarae rhan allweddol yn hyn.

Wrth ymateb i'r gyllideb ddrafft hon, nododd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ansicrwydd ynghylch o ble y byddai cymorth ariannol i fusnesau yn dod, a disgrifiodd gyflwyno pecynnau cymorth busnes fel rhai 'tameidiog' a mynegodd bryder nad yw'r gyllideb ddrafft hon yn rhoi digon o gymorth i bobl hunangyflogedig.

Ar ôl imi arwain y ddadl ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog iechyd hwn £3 miliwn yn ychwanegol i gefnogi hosbisau yn ystod y flwyddyn ariannol hon—i'w groesawu, ond ble mae gweddill yr arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i fwy o gyllid ar gyfer hosbisau yn Lloegr? A beth am y flwyddyn nesaf?

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £2.25 miliwn hwyr ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ond rhoi plastr ar friw yn unig yw hwn ac ni fydd yn atal diswyddiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn honni'n ddrygionus fod Llywodraeth y DU wedi torri addewidion ynghylch cyllid amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru. Gwarantodd Llywodraeth y DU y gyllideb flynyddol bresennol i ffermwyr ym mhob blwyddyn Senedd y DU. Pan wnaed yr ymrwymiad hwn, cyfanswm y cymorth fferm a roddwyd i ffermwyr Cymru oedd £337 miliwn. Ar gyfer 2021-22, mae Llywodraeth y DU wedi darparu cyllid newydd ar ben y £97 miliwn sy'n weddill o gyllid yr UE, gan sicrhau y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddarparu £337 miliwn o gymorth i ffermwyr Cymru y flwyddyn nesaf, os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur i weithredu cynllun adfer i Gymru. Mae'n destun pryder mawr, felly, nad yw'r gyllideb ddrafft hon yn darparu'r chwyldro ariannol y mae mawr ei angen i gyflawni hyn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:27, 9 Chwefror 2021

Galwaf ar Rhun ap Iorwerth nawr i gynnig gwelliant 4, gyflwynyd yn enw Siân Gwenllian. 

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:27, 9 Chwefror 2021

Diolch, Lywydd. Mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol iawn. Mae COVID a'r pandemig yn rhoi pwysau digynsail ar wariant cyhoeddus yng Nghymru ac, i ychwanegu at y cymhlethdod sy'n cael ei wynebu o ran cyllido i ddelio efo hynny mae amseru cyhoeddiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyraniadau ac ar benderfyniadau cyllidol yn ei gwneud hi'n anodd iawn i Lywodraeth Cymru, a ninnau fel Senedd, i gynllunio ymlaen, hyd yn oed am y flwyddyn sydd o'n blaenau ni, heb sôn am ein dymuniad ni i allu cynllunio ymhellach na hynny ac yn y tymor hirach.

Drafft sydd gennym ni yn fan hyn. Mae cyllido terfynol a chyflawn wedi mynd yn amhosib bron. Ychwanegwch at hynny y diffyg hyblygrwydd fiscal sydd gennym ni, y cyfyngiad hurt ar bwerau gwariant a benthyg, y diffyg hyblygrwydd ar ddefnyddio arian wrth gefn ac ati. Yn hyn o beth, mi ydw i a'r Gweinidog yn gweld lygad yn llygad, fel yr ydym ni wedi ei ddweud yn y Siambr a'r Siambr rithiol yma droeon. Ond gadewch inni alw'r diffyg hyblygrwydd yma beth ydy o: dyma enghraifft glir o'r Deyrnas Unedig yma ddim yn gweithio i Gymru ac yn gweithredu mewn ffordd sy'n ystyried anghenion Cymru.

Nid ein cyllideb ni ym Mhlaid Cymru ydy hon, wrth gwrs. Cyllideb y Llywodraeth Lafur ydy hi. Rydym ni'n credu bod sawl blaenoriaeth yn cael eu colli a dyna pam na allwn ni ei chefnogi hi. Mae yna fethiant i gefnogi llywodraeth leol yn sicr. Oes, mae yna gynnydd yn y dyraniad, ond nid y math o gynnydd sydd yn tynnu pwysau oddi ar gynghorau sydd wedi perfformio yn arwrol dros y flwyddyn ddiwethaf ac sydd wedi wynebu pwysau digynsail, ac sy'n parhau i wneud hynny. Y realiti ydy bod yr arian ychwanegol wedi cael ei lyncu cyn cyrraedd y cynghorau i bob pwrpas. A rhowch lawr yn ei le ar gyfer y cynghorau hynny sydd yn gweld y cynnydd lleiaf. Mae yna golli cyfle yn y fan hyn yn sicr. Mae yna golli cyfle i dynnu pwysau oddi ar drethdalwyr lleol hefyd. O dan yr amgylchiadau yma dwi'n meddwl bod yr achos yn gryf i ystyried rhewi treth cyngor. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gwneud hynny. Dydy o ddim yn rhywbeth i'w wneud yn ysgafn o ran, hynny ydy, mae yna gost i hynny. Ond rydym ni'n credu bod yr arian yno ar hyn o bryd i'w wneud, ac mai dyma'r amgylchiadau i ystyried gwneud hynny. Wrth gwrs, mae eisiau chwilio am ffyrdd llawer tecach o gyllido llywodraeth leol yn yr hir dymor. Y tlotaf sydd yn talu cyfran fwyaf o'u hincwm ar dreth cyngor.

Ac a gaf i droi at ein gwelliant ni yn benodol yn fan hyn? Eto, wedi ei anelu at helpu y tlotaf. Mae'r pandemig wedi dangos anghydraddoldebau ein cymdeithas ni yn glir iawn, iawn. Felly, dewch—cyllidwch ginio ysgol am ddim i bob plentyn mewn cartrefi sydd yn derbyn credyd cynhwysol. Mae yna arian sylweddol ar ôl o'r arian sydd wedi dod yn ychwanegol ar gyfer delio â'r pandemig yma—arian sydd heb gael ei glustnodi eto. Mi wnaeth grŵp gweithredu ar dlodi plant y Llywodraeth yma ei hun bwysleisio bod ehangu cinio ysgol am ddim yn un o'r gweithredoedd mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth ei gael er mwyn lliniaru tlodi plant yma yng Nghymru. Felly, gweithredwch.

Mae'r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yn dweud, 'Gwariwch bob dimai o'r arian sydd heb gael ei glustnodi eto yfory nesaf.' Does gen i ddim amheuaeth mai ei wario fo'n dda ydy'r flaenoriaeth, nid ei wario fo mor gyflym â phosib. Ond, wedi dweud hynny, mi ydym ni angen gweld yr arian yn llifo i helpu busnesau sydd wir ei angen o, i helpu efo'r pwysau ar y gwasanaethau iechyd a gofal, ac, ie, i helpu y mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.

Dwi'n edrych ymlaen at gyfnod ar ôl yr etholiad lle gall Plaid Cymru, dwi'n gobeithio, roi cychwyn ar raglen fuddsoddi biliynau o bunnoedd mewn codi Cymru yn ôl ar ei thraed, yn gymdeithasol ac yn economaidd, ac nid yn ôl i le roeddem ni cynt, ond yn ein codi ni i lefel lle gallwn ni fod yn llawer mwy uchelgeisiol yn yr hyn rydym ni'n trio ei gyflawni fel gwlad. Ond i chi, rŵan, efo'r cyfyngiadau sydd gennych chi ar eich uchelgais chi yn hynny o beth, Lywodraeth Cymru, o leiaf cymerwch y cam yna dwi wedi ei grybwyll i dargedu yn benodol y rhai mwyaf bregus a'r plant mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd—daeth hynna'n gyflymach nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Hoffwn ymdrin â dau faes: yn gyntaf, dewis amgen yn y gyllideb gyffredinol; yn ail, cyllid ar gyfer yr amgylchedd. Lle rwy'n cytuno â'r wrthblaid: gyda'r Ceidwadwyr, os byddwn yn lleihau cost Comisiwn y Senedd, yna byddai gennym fwy o arian i'w wario ar wasanaethau; gyda Phlaid Cymru, rwy'n cefnogi prydau ysgol am ddim i'r rheini sydd ar fudd-daliadau. Rwy'n falch eu bod wedi newid eu polisi oddi wrth brydau ysgol am ddim i bob disgybl, a oedd yn cynnwys y rhai mewn ysgolion preifat. Nawr y cyfan sydd ei angen arnaf yw ymrwymiad i ddarparu prydau am ddim am 52 wythnos o'r flwyddyn, fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru, nid dim ond darpariaeth yn ystod y tymor. Rwy'n chwilio am ymateb cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ariannu prydau ysgol am ddim i'r bobl hynny sydd ar fudd-daliadau. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen edrych arno. Efallai nad yw pasio penderfyniad heddiw yn ffordd gadarnhaol ymlaen, ond mae angen i'r Llywodraeth ymrwymo i edrych ar hynny ac edrych ar faint y bydd yn ei gostio ac o ble y daw'r arian.

Ymhen tri mis, bydd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, naill ai'n unigol neu gyda'i gilydd, yn gobeithio ffurfio Llywodraeth a gosod y gyllideb atodol gyntaf. Er bod y ddau wedi dweud sut y maen nhw am wario arian mewn gwahanol ardaloedd, mae'r cwestiynau o ble y daw'r arian a pha feysydd sydd i'w torri a pha drethi a godir yn dal yn ddirgelwch. A wnewch chi gyhoeddi eich cyllidebau, os gwelwch yn dda, fel y gall pobl eich cymharu â'r Llywodraeth Lafur, nid, 'Byddwn yn addo popeth i bawb oherwydd rydym yn gobeithio y bydd rhywbeth yn digwydd'? Er mwyn helpu Plaid Cymru, gall awdurdodau lleol fenthyca'n ddarbodus gan ddefnyddio'r gallu benthyca darbodus, a ddisodlodd gymeradwyaeth credyd atodol. Y gair allweddol yw 'darbodus', nid 'benthyca'. Gall awdurdodau lleol fenthyca os oes ganddynt y capasiti a ragwelir i drin eu dyledion. I ddefnyddio gallu awdurdodau lleol i fenthyca, byddai angen ymrwymiad hirdymor i ariannu benthyca o'r fath, a bernir hynny'n ddarbodus gan y prif swyddog ariannol, a'r person hwnnw'n unig. Hefyd, mae cap ar fenthyca ar gyfer yr holl awdurdodau lleol gyda'i gilydd, ac eithrio'r Trysorlys.

A gaf i ddweud—mae'r amgylchedd yn bwysig iawn i bawb nes iddi ddod yn amser y gyllideb? Cynnig cyflym, syml ac isel ei gost yw cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol ar raddfa fach. Yn rhan o'r gyllideb, mae arnom angen, yn ôl cais y pwyllgor ar y newid hinsawdd, i'r ail gynllun cyflawni carbon isel gynnwys asesiad o'i oblygiadau ariannol, gan gynnwys costau a manteision ac asesiad o effaith carbon pob polisi neu ymyrraeth—hefyd sut y byddai'r dyraniadau ychwanegol i wasanaeth ynni Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio, ac a yw'n ddigonol a sut y bydd yn cyfrannu at sector cyhoeddus di-garbon net ac yn cynyddu ynni i 1 GW erbyn 2020. A oes digon o arian i ymdrin â thlodi tanwydd, sef yr hyn sy'n bodloni'r diffiniad a'r hyn nad yw, oherwydd mae pobl yn byw mewn cartrefi oer, yn methu â thalu'r gost o gadw hyd yn oed un ystafell yn gynnes? Mae angen egluro faint o arian sydd wedi'i ddyrannu yn 2021-22 i gyflawni'r camau gweithredu a nodir yn y cynllun aer glân ac a yw hynny'n ddigonol.

Un mater sy'n peri pryder i lawer ohonom yw lles anifeiliaid. A yw lefel y cyllid a ddarperir ar gyfer prosiectau treialu i wella capasiti ar draws arolygiadau lles anifeiliaid a gwasanaethau gorfodi awdurdodau lleol yn ddigonol? A yw yn y gyllideb, neu a fydd awdurdodau lleol yn cael gwybod ei fod eisoes wedi'i ddarparu yn rhan o'r cyllid allanol cyfanredol?

Gan droi at Cyfoeth Naturiol Cymru, mae fy marn am yr uno a'i creodd yn hysbys iawn, ac nid wyf am ei ailadrodd. A yw'n cael ei ariannu'n ddigonol i gyflawni'r hyn yr wyf fi a llawer o'm hetholwyr yn teimlo yw ei ddyletswyddau diogelu'r amgylchedd pwysicaf? Mae gennym broblemau o ran Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymdrin â digwyddiadau llygredd, ac, yn Aelod etholaeth, rwy'n ymdrin â dau beth: carthion yn dod trwodd o waith trin i Afon Tawe, ac mae'r clwb pysgota lleol yn dweud wrthyf fod hyn yn weddol reolaidd, a hefyd llosgi plastig oddi ar wifrau yn yr ardal—rhywbeth mae'n ymddangos nad oes ganddo ddiddordeb ynddo, Cyfoeth Naturiol Cymru, o gwbl, tra arferai hen Asiantaeth yr Amgylchedd ei orfodi, ac rwy'n credu bod pethau wedi mynd ar yn ôl yn ofnadwy. Ac os oes gan fwy o garthion yn yr afon a llosgi plastig oddi ar wifrau a'r llygredd sy'n deillio o hynny ddosbarthiad isel yn y system ddosbarthu yn CNC, nid wyf yn siŵr beth sydd â dosbarthiad uchel.

A gaf i orffen drwy ddweud rhywbeth am lywodraeth leol? Rwy'n credu mai un o'r problemau yw ein bod yn dal i siarad am y cynnydd canrannol. Mae'n rhaid inni edrych ar faint y mae'n rhaid i awdurdodau lleol ei wario, a rhywfaint o hynny yw'r arian y maen nhw'n ei godi eu hunain o'r dreth gyngor; rhywfaint ohono yw'r arian a gewch o renti a gwasanaethau eraill y maen nhw'n eu darparu. Nawr, mae cyngor fel Abertawe, a Chaerdydd mewn gwirionedd yn cael cryn dipyn o incwm o arian parcio ceir mewn amser arferol—mae awdurdodau eraill yn cael llawer llai. Felly, mae angen ichi edrych ar gyfanswm cyllid awdurdodau lleol a chynnydd canrannol—. A gaf i ddweud am Geredigion, efallai ei fod wedi cael cynnydd isel iawn, ond mae'n dal i fynd yn uwch na hanner uchaf yr awdurdodau lleol o ran cyllid allanol cyfanredol? Felly, os ydych chi'n mynd i edrych ar lywodraeth leol, mae angen i chi edrych ar y mater yn ei gyfanrwydd, am allu awdurdodau lleol i godi arian yn ogystal â'r hyn y maen nhw'n ei gael gan Lywodraeth Cymru. Felly, rwy'n credu bod angen dadl fawr a llawer o drafod ar gyfer hyn, a gobeithio y gallwn wneud hynny yn y dyfodol.

Photo of Russell George Russell George Conservative 6:38, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch—diolch i'r Llywodraeth, am gyflwyno'r ddadl hon, yn amlwg, ond rwy'n hapus i siarad fy hun yn rhinwedd fy swydd o fod yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Yn gyntaf oll, byddwn i'n dweud—. Rwy'n ymbalfalu i ddod o hyd i'm nodiadau, fel y mae'n digwydd. Ymddiheuriadau am hynny. Dyna ni. Mae'n ddrwg gen i, Llywydd. O ran gwaith y pwyllgor, mae'n amlwg ein bod ni wedi edrych yn fanwl ar y gyllideb ddrafft, efallai ddim mor fanwl ag y gwnaethom ni mewn blynyddoedd blaenorol, oherwydd gofynion eraill gwaith y pwyllgor, ond fe wnaf sylw, rwy'n meddwl, yn bennaf yn fy nghyfraniad ar faterion sy'n ymwneud â chymorth busnes yn ystod y pandemig.

Byddwn i'n dweud, o'm safbwynt i a safbwynt y pwyllgor, yn gyffredinol, wrth gwrs, ein bod yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai y mae'r pandemig yn debygol o effeithio'n andwyol arnyn nhw fwyaf yn cael y lefel fwyaf o gefnogaeth. Dyna mae Llywodraeth Cymru yn ei honni, ac, wrth gwrs, byddem ni fel pwyllgor yn croesawu'r ymrwymiad hwnnw, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud a'r hyn y byddai'r pwyllgor yn ei ddweud yw bod angen cynnal hynny drwy gydol unrhyw gymorth newydd a thrwy'r broses o gynllunio adfer hefyd.

Photo of Russell George Russell George Conservative 6:40, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu mai'r pryder mawr i'r pwyllgor a minnau yw'r ffaith nad yw'r holl gyllideb sydd ar gael ar gyfer y pandemig o ran rhyddhad busnes wedi ei thynnu i lawr, mae hi'n ymddangos—os wyf i'n anghywir, gall y Gweinidog Cyllid amlinellu hynny. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a deall, os nad yw Llywodraeth Cymru yn tynnu' i lawr yr holl arian sydd ar gael iddi o ran cymorth busnes, os yw hynny'n gywir, pam mae hynny'n wir. Oherwydd, yn amlwg, rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth egluro ei dull gweithredu yn hynny o beth. O ran cynllunio a thynnu arian i lawr hefyd, y gellid ei ddefnyddio ar gyfer rowndiau pellach o'r gronfa cadernid economaidd, neu gylchoedd pellach o'r gronfa honno, rwy'n credu y byddai hefyd yn ddefnyddiol pe byddai'r Llywodraeth yn rhoi esboniad yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r arian hwn, ac yn sicrhau na fydd dim o'r arian hwn yn cael ei golli i Gymru.

Un o'r argymhellion a wnaethom oedd gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu rhagor o fanylion am y nifer sy'n manteisio ar y cyllid cymorth busnes i sectorau penodol, a lansiwyd ganol y mis diwethaf, gan gynnwys manylion am y nifer sy'n manteisio arno, oherwydd mae gennym ddiddordeb yn yr hyn oedd disgwyliadau'r Llywodraeth a'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb a oedd yn gymwys—pob busnes a oedd yn gymwys—i gael arian, yn ymwybodol o'r cynllun.

Mae pryder hefyd, rwy'n credu, ynglŷn â chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar gymorth busnes, ac yn sicr fel pwyllgor, roeddem ni o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru nodi pa werthusiadau cadarn a fu o effeithiolrwydd gwefan a gwasanaethau cymorth Busnes Cymru, i nodi pa un a oes unrhyw fesurau pellach eraill sydd eu hangen i helpu busnesau i ddeall y gyfres gyfan o gymorth busnes sydd ar gael.

Rwy'n credu mai'r hyn a oedd yn bwysig yw deall y pwynt hwn hefyd: mae Llywodraeth Cymru yn aml yn dweud ac yn ailadrodd ei bod yn cynnig y pecyn cymorth busnes gorau ledled y DU. Felly, rydym ni wedi cael cynnig rhywfaint o wybodaeth gymharol gan y Gweinidog droeon o ran cymorth Llywodraeth Cymru o'i gymharu â chymorth mewn rhannau eraill o'r DU; nid ydym wedi cael honno hyd yma, er bod un neu ddau o gynigion wedi'u gwneud. Nawr, byddai'n ddefnyddiol gweld y gymhariaeth honno. Rwy'n sylweddoli y bydd rhai anawsterau ynghylch hynny, oherwydd weithiau mae'n anodd cael gwybodaeth gyfatebol, yn enwedig pan fydd cynlluniau cymorth yn dechrau ac yn gorffen ar wahanol adegau, ond rwy'n credu pe byddai hynny'n rhoi hyder i'r busnesau bod hynny'n iawn, rwy'n credu bod angen cyflwyno'r gymhariaeth honno. Ac yn sicr, o'm mewnflwch fy hun, clywaf am siopau manwerthu ar y stryd fawr, caffis ar y stryd fawr, salonau gwallt a harddwch, yn credu pe byddai eu busnes wedi'i leoli yn rhywle arall yn y DU, y bydden nhw'n cael lefel uwch o gymorth, oherwydd y bydden nhw'n gallu cael gafael ar gyllid ychwanegol. Yr unig beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud yw, 'Na, mae gennym ni'r cyllid dewisol, mae gennym ni'r cyllid sy'n benodol i sector', ond yn aml nid yw'r mathau hyn o fusnesau yn gymwys am nad ydyn nhw ar gynllun talu wrth ennill, nid oes ganddyn nhw gyflogeion ar gynllun talu wrth ennill, nid ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer TAW. Felly, mae nifer o rwystrau sy'n atal busnesau rhag cael rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn y mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ato. Ac rwy'n sicr yn credu—neu yr ydym ni fel pwyllgor yn credu—bod yn rhaid i'r Llywodraeth edrych ar y meini prawf cymhwysedd hynny eto.

A phan ddaw'n fater o'r gronfa ddewisol y mae gan awdurdodau lleol y gallu i'w defnyddio, mae cwestiwn ynghylch pa mor ddewisol yw hynny mewn gwirionedd. Gan ei bod yn ymddangos bod awdurdodau lleol yn adrodd yn ôl gan ddweud, 'Wel, mewn gwirionedd, na, nid oes gennym ni yr un lefel o ddisgresiwn—' neu, 'Rydym ni'n pryderu am ddefnyddio hynny gan nad ydym ni'n siŵr o ba un a allwn ni hawlio'r holl arian hwnnw yn ôl gan Lywodraeth Cymru.' Felly, a yw'n gronfa ddewisol mewn gwirionedd? A oes rhai meini prawf gwell y gellir eu rhoi i awdurdodau lleol i ganiatáu iddyn nhw fod yn fwy dewisol hefyd?

A'r pwynt olaf y byddwn i'n ei wneud yw y byddai gennyf ddiddordeb arbennig mewn cael y data hynny gan Lywodraeth Cymru o ran dadansoddi'r cymorth i fusnesau, ond hefyd edrych ar y dadansoddiad o'r nifer o grwpiau arbennig o bobl sy'n manteisio arno os hoffech chi, o ran y nifer sy'n manteisio arno, boed nhw yn fusnesau bach neu fawr, neu'n fenywod mewn busnes, oherwydd rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cael y data hynny a chymharu hynny hefyd, a chyferbynnu hynny â rhannau eraill o wledydd y DU hefyd. Diolch Llywydd.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 6:45, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Bob blwyddyn, mae ein pwyllgor yn ystyried sut y mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Drwy gydol y Senedd hon, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth glir am sut y mae hi wedi asesu effaith ei phenderfyniadau ariannol ar blant a phobl ifanc. Nid oherwydd ein bod ni'n credu y dylai Gweinidogion wneud hyn, y rheswm yw bod y ddyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw asesu effaith eu penderfyniadau ar hawliau plant.

Eleni, mae ein galwadau am i blant fod yn amlwg mewn penderfyniadau cyllidebol yn fwy hanfodol nag erioed. Mae pandemig COVID wedi taro pawb yn galed, ond does dim dwywaith bod ein plant a'n pobl ifanc wedi cael eu taro'n arbennig o galed. Mae ein plant a'n pobl ifanc yn gorfod dysgu gartref, nid ydyn nhw'n cael gweld eu ffrindiau, maen nhw'n wynebu amhariadau ar eu harholiadau a'u hasesiadau. Rydym ni'n gwybod nad oes neb ar fai am hyn, a gwyddom fod yr holl bethau hyn yn digwydd i geisio lleihau lledaeniad COVID yng Nghymru ac i achub bywydau, ond gwyddom hefyd fod hyn wedi effeithio arnyn nhw ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i leihau hynny. Mae gan y ffordd yr ydym ni'n gwario ein harian ran allweddol i'w chwarae, ac ar y sail honno mae nifer o'n hargymhellion eleni yn ymwneud â'r penderfyniadau ariannol y credwn y mae'n rhaid eu gwneud yng ngoleuni effaith COVID-19.

Yn gyntaf, nodwn fod dros £800 miliwn yn dal heb ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft. Gwyddom fod llawer o hyn yn debygol o gael ei ddefnyddio i liniaru effaith COVID. Mae ein hadroddiad yn glir bod yn rhaid i hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc fod yn ystyriaeth allweddol i holl Weinidogion Llywodraeth Cymru pan wneir penderfyniadau ynghylch sut y dyrennir yr arian hwn. Fel pwyllgor, rydym ni'n disgwyl gweld yr ystyriaeth hon yn cael ei dangos yn glir ac yn dryloyw pan wneir y penderfyniadau hyn. Hefyd, o ystyried yr amgylchiadau digynsail yr ydym yn canfod ein hunain ynddyn nhw, rydym ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd a manwl i'r Senedd a phwyllgorau perthnasol ar ddyraniadau yn ystod y flwyddyn, a hynny yn ystod y flwyddyn ariannol 2021-22. Credwn fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael blaenoriaeth fel y dylen nhw ei chael.

Gan droi nawr at arian sydd eisoes wedi'i ddyrannu i gefnogi plant a phobl ifanc, rydym yn croesawu'r gwariant hyd yma ar y rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau, a'r dyraniadau ar ei chyfer yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r cyllid hwn yn hollbwysig ac mae'n rhaid i ni sicrhau ei fod yn cyflawni ei effaith arfaethedig. O ystyried ei bwysigrwydd, rydym wedi gofyn am fwy o fanylion am sut y defnyddiwyd yr arian recriwtio, adfer a chodi safonau hyd yma. Rydym hefyd wedi galw am i ddata o'r fath gael ei gyhoeddi yn barhaus. Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein plant yn dychwelyd i addysg yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer buddsoddiad y Llywodraeth dros y blynyddoedd i ddod. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod yr arian sy'n mynd i mewn yn cyflawni'r canlyniadau a fwriedir ar gyfer plant a phobl ifanc.

Rydym ni'n gwybod nad plant oedran ysgol yn unig sy'n dioddef oherwydd COVID. Mae ein pobl ifanc mewn addysg bellach ac uwch a hyfforddiant hefyd wedi bod ar reng flaen y pandemig hwn. Rydym ni'n croesawu'r cyhoeddiad diweddar o £40 miliwn i'w ddarparu i fyfyrwyr sy'n dioddef caledi, ac rydym ni wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch sut y bydd yn cael ei ddefnyddio.

Mae ein hadroddiad yn cyffwrdd â nifer o feysydd pwysig iawn eraill, yn enwedig y dyraniadau sydd ar waith ar gyfer ariannu cymorth iechyd a gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc. Mae iechyd meddwl a llesiant wedi bod yn brif flaenoriaeth i'n pwyllgor yn ystod y Senedd hon. Rwy'n falch o weld bod ein galwadau parhaus am welliant yn dwyn ffrwyth o ran dyraniadau ariannol. Fodd bynnag, rydym yn dal yn bryderus bod dilyn yr arian fel y mae'n ymwneud ag iechyd plant a phobl ifanc yn her enfawr. Mae hyn yn achosi pryder arbennig i ni yng nghyd-destun COVID.

Mae ein pryderon am effaith y pandemig ar ofal iechyd arferol i blant wedi eu cofnodi'n glir yn ein hadroddiad. Disgrifiodd y Gweinidog iechyd ôl-groniad mawr yng ngwasanaethau arferol y GIG a chydnabu'r effaith y mae hyn yn debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc. Ar y sail honno, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion iechyd arferol plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried yn llawn ochr yn ochr ag anghenion oedolion. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cyfran deg o gyllid pan ddatgelir cynlluniau gwario i fynd i'r afael ag ôl-groniadau. Rydym yn glir y dylid cyhoeddi asesiad o'r effaith ar hawliau plant ochr yn ochr â'r cynllun hwn a bod yn rhaid darparu gwybodaeth dryloyw am yr hyn a ddyrannwyd i wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn benodol.

Wrth gloi, Llywydd, hoffwn gyfeirio at y grant plant a chymunedau. Ddwy flynedd yn ôl, mynegodd ein pwyllgor bryder ynghylch cyfuno amrywiaeth o grantiau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phlant. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal yn siomedig ac yn bryderus ynghylch y diffyg tryloywder ynghylch gwariant ar blant ers i'r newid hwn gael ei wneud. Nid yw hwn, sef dros £138 miliwn, yn swm dibwys o arian. Rydym yn parhau i fod yn aneglur ynghylch sut y caiff gwerth am arian a chanlyniadau i rai o'n plant mwyaf difreintiedig eu monitro, ac rydym wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol i dawelu meddyliau'r pwyllgor ynghylch y maes pwysig hwn. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 6:51, 9 Chwefror 2021

Mae'n anochel fod y gyllideb ddrafft a'r gwaith o graffu arni wedi'u llywio gan gyd-destun y pandemig, fel y mae eraill wedi crybwyll eisoes, ac mae'r pandemig yma'n gallu newid yn gyflym. Mae angen sylweddoli maint yr argyfwng iechyd cyhoeddus y mae Cymru yn ei wynebu, naill ai o ran ymateb i'r heriau uniongyrchol, neu'r angen i wneud yr hyn y gellir ei wneud i gynnal ac adfer y gwasanaethau hanfodol hynny y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ac nad ydynt yn ymwneud â COVID. Credwn na fydd gwir faint yr effaith ar y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon yn dod yn gwbl glir am rai blynyddoedd. Ar ben hyn, mae'r argyfwng hefyd wedi dwysáu rhai problemau sylfaenol, gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd.

Rydyn ni'n cydnabod yn benodol y pwysau y mae'r byrddau iechyd lleol wedi'i wynebu yn ystod y flwyddyn diwethaf, ac rydym yn deall bod hyn yn debygol o barhau. Er hynny, mae'r ffaith nad yw rhai byrddau iechyd lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau ariannol statudol yn parhau i fod yn destun pryder. Yn ogystal â hyn, nid ydym wedi ein darbwyllo eto fod digon o gapasiti yn y system i fwrw ymlaen efo'r broses o integreiddio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol mor gyflym ac i'r un graddau ag y bo angen, na bod y weledigaeth strategol ar gyfer y trawsffurfiad yn ddigon i sicrhau a chynnal y pwyslais ar symud tuag at wasanaethau gofal sylfaenol a gwasanaethau ataliol.

Rydyn ni'n pryderu o hyd am y ffaith bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dal i fod yn fregus. Mae gwasanaethau o'r fath nid yn unig yn hollbwysig i'r rhai sy'n eu derbyn, ond maen nhw hefyd yn hanfodol yn y modd y maen nhw'n ategu ac yn cyd-fynd â gwasanaethau iechyd. Rydyn ni wedi ein darbwyllo bod angen dybryd i ddiwygio'r system ac i ddatblygu trefniadau cyllido cynaliadwy a hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n bwysig sylweddoli faint o bwysau maen nhw wedi ei wynebu ac yn dal i'w wynebu, a'r trawma y maent wedi'i ddioddef dros y misoedd. Rydyn ni'n croesawu'r cynllunio i ddarparu cymorth iechyd meddwl i 60,000 o weithwyr gofal iechyd yng Nghymru, a'r cynlluniau i ehangu'r cynllun i gynnwys staff gofal cymdeithasol. Bydd angen ystyried effaith y pandemig ar unigolion a gwasanaethau hefyd wrth gynllunio'r gweithlu ac adnoddau ac wrth ddechrau ar y gwaith adfer yng Nghymru.

Yn ogystal â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol cyflogedig, mae cannoedd ar filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru wedi bod, ac yn parhau i fod, yn dyngedfennol gan roi gofal a chymorth y mae mawr eu hangen i'w teuluoedd a'u ffrindiau. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth a gaiff gofalwyr gan y trydydd sector, ond credwn bod angen eu cynorthwyo'n ddigonol drwy ddarparu gwasanaethau awdurdod lleol craidd a chyllid cynaliadwy. Drwy gydol eleni, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl briodol wedi buddsoddi symiau sylweddol i ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae cwrs y pandemig yng Nghymru yn parhau i fod yn ansicr, ond mae'n amlwg y bydd angen cyllid ychwanegol, mae'n debyg, ar y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. 

I gloi, bydd penderfyniadau anodd i'w gwneud am y modd y dylid blaenoriaethu adnoddau cyfyngedig. Rydyn ni'n disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth gynllunio ac wrth ymgysylltu efo'u partneriaid i nodi unrhyw anghenion ychwanegol posib, ac i ystyried sut y gellid dyrannu a blaenoriaethu adnoddau i ymateb i'r pandemig, hybu'r gwaith tymor hwy o adfer y sector iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon, a buddsoddi yn iechyd a llesiant pobl Cymru. 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:56, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y cyfraniad wrth agor y ddadl hon. Mae tri mater yr hoffwn ymdrin â nhw yn y cyfraniad hwn y prynhawn yma: strwythur ein harian, ac yna incwm a gwariant.

Gadewch i ni edrych ar y strwythur yn gyntaf. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn glir iawn yn ei adroddiad fod y ffordd y mae'r gyllideb wedi'i strwythuro a'r cyd-destun y mae'r gyllideb yn digwydd ynddo eleni yn anfoddhaol, ac rwy'n cytuno â hynny yn yr adroddiad hwnnw. Nid bai'r Gweinidog na'r Llywodraeth yw'r sefyllfa hon o reidrwydd; rydym yn cydnabod hynny. Ond 20 mlynedd ar ôl datganoli, mae pob un o'n Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig yn dibynnu gormod ar fympwyon a dyheadau Trysorlys y DU. Mae llawer o fethiannau y mae'r Prif Weinidog wedi'u hamlinellu droeon yn ystod yr wythnosau diwethaf lle mae gwladwriaeth y Deyrnas Unedig yn methu ymdrin â realiti datganoli. Yn sicr y llanastr ynghylch arian cyhoeddus ledled y DU yw un o'r enghreifftiau mwyaf arwyddocaol, ac rwyf yn gobeithio, pan ddeuwn yn ôl i drafod y materion hyn yn y Senedd nesaf—fod hwnnw'n fater y bydd angen inni allu mynd i'r afael ag ef gyda Llywodraeth y DU.

Ymdriniodd Siân Gwenllian â'r ail fater strwythurol yn ei chyfraniadau a hithau'n Gadeirydd dros dro y Pwyllgor Cyllid, a hynny yw bod gormod o arian y gyllideb hon heb ei ddyrannu, ac mae hynny'n gwneud craffu ac atebolrwydd democrataidd priodol ynghylch gwariant yn anodd iawn, ac yn llawer anoddach nag y dylai fod. Y tro hwn, rwy'n credu y dylid maddau i'r Llywodraeth am y sefyllfa hon, oherwydd rydym mewn sefyllfa gyfnewidiol iawn, rydym yn wynebu penderfyniadau anodd iawn, ac nid oes yr un ohonom yn gwybod beth fydd y sefyllfa ymhen chwe mis. Ond yr hyn a ddywedaf wrth y Llywodraeth yw na ddylid ystyried bod derbyn hynny yn gosod cynsail, ac yn y dyfodol, rwy'n credu ei bod yn hollol gywir a phriodol bod y Llywodraeth yn mynd yn ôl at sefyllfa lle mae gennym dryloywder agored wrth wneud y cynigion cyllidebol hyn.

Yr ail fater yw incwm. Rwy'n canmol uchelgeisiau'r Llywodraeth ac rwyf yn rhannu eu huchelgeisiau. Rwyf am weld y Llywodraeth yn buddsoddi mwy yn ein pobl, rwyf am weld y Llywodraeth yn buddsoddi yn ein hamgylchedd a'n lleoedd, ond rwy'n pryderu nad oes gennym y grym i wneud hynny. Os wyf i'n gwbl onest â chi, Gweinidog, nid yw'n ddigon da treulio dydd ar ôl dydd yn ymosod ar y Torïaid am gyni ac yna'n ei gyflawni mewn gwirionedd yng Nghymru. A dyna'r realiti sy'n ein hwynebu mewn termau real. Mae'n rhaid inni fuddsoddi naill ai yn ein sylfaen drethi neu mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn ehangu a dyfnhau'n sylfaen drethi. Nid wyf yn siŵr a yw'r gyllideb hon yn gwneud llawer o'r tri hynny, os wyf i'n gwbl onest â chi.

Ni allwn gyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym gyda'r cyllid sydd ar gael inni, ac mae angen inni allu mynd i'r afael â hynny. Ac mae hynny'n arbennig o wir ar hyn o bryd, nid yn unig oherwydd y pandemig ac effaith y pandemig—er bod hynny'n sbardun mawr—ond mae hefyd yn wir oherwydd y bradychiadau yr ydym wedi'u gweld gan Lywodraeth y DU ynghylch cyllid amaethyddol a chronfeydd strwythurol. Maen nhw wedi dweud celwyddau uniongyrchol wrth bobl Cymru, ac nid ydyn nhw wedi cyflawni'r addewidion a wnaethpwyd. Mae hynny'n broblem wirioneddol i ni, oherwydd mae'n rhaid i ni gasglu'r darnau ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod gennym y grym i wneud hynny.

Fy mhwynt olaf yw hyn, Gweinidog, ar wariant. Gobeithio pan ddaw'r Llywodraeth yn ôl ar gyfer dadleuon diweddarach ar y materion hyn y byddant yn mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn. Cytunais â'r hyn a ddywedodd Mike Hedges am brydau ysgol am ddim. Rwy'n credu bod gwelliant Plaid Cymru y prynhawn yma'n iawn ar y cyfan, ac rwy'n credu bod angen i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hyn. Mae'r Llywodraeth ar ochr anghywir y ddadl hon. Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cydnabod hynny a gobeithiaf y bydd y Llywodraeth, wrth ddychwelyd i'r Siambr, yn cydnabod nad yw ei safbwynt yn gynaliadwy nac yn gredadwy ar y mater penodol hwnnw.

Ond hefyd, mae angen i ni fuddsoddi mewn lleoedd sy'n dioddef yn anghymesur ar hyn o bryd, sef lleoedd fel Blaenau Gwent, lleoedd fel Blaenau'r Cymoedd, dyma rai o'n pobl dlotaf, lle bynnag y maen nhw'n byw, ac mae angen i'r gyllideb gydnabod hynny. Mae angen inni gydnabod mai'r unig ffordd y byddwn ni'n cyflawni ein huchelgeisiau a'n gweledigaethau, yr ydym i gyd yn cytuno â nhw ac yr ydym i gyd yn eu rhannu, yw trwy fuddsoddi yn y lleoedd hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r weledigaeth honno a'r uchelgais hwnnw. Rwyf yn cynrychioli un o'r lleoedd hynny, ac nid yw'n gredadwy dweud wrth y bobl hynny, a'r bobl yr ydym ni i gyd yn ceisio'u cynrychioli, 'A wyddoch chi beth? Gallwn gyflawni'r holl bethau gwahanol hyn, ac nid yw'n mynd i gostio ceiniog ychwanegol i chi.' Nid yw hynny'n gredadwy. Nid yw erioed wedi bod yn gredadwy. Nid yw wedi bod yn gredadwy yn y gorffennol, nid yw'n gredadwy heddiw, ac ni fydd yn gredadwy yn y dyfodol, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud hynny.

Fy mhwynt olaf yw: gadewch inni beidio â mynd i gylch cyllideb arall gan ddweud y gall strwythur y sector cyhoeddus yng Nghymru gyflawni unrhyw un o'r pethau hyn. Ni all o gwbl. Nid oes gennym y strwythurau ar waith i'w wneud, felly mae angen cyllideb ddiwygio arnom yn ogystal â chyllideb sy'n buddsoddi mewn pobl, lleoedd, yr amgylchedd a'r dyfodol. Gobeithio, wrth inni fynd drwy'r ddadl hon dros yr wythnosau nesaf, y byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r holl bethau gwahanol hynny. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 7:01, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i ynglŷn â gwaith craffu'r pwyllgor ar ran diwylliant a'r iaith Gymraeg. [Anghlywadwy.]—y cyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol a amlygwyd yn yr adolygiad wedi'i deilwra a gynhaliwyd y llynedd, ac mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn tynnu sylw at yr angen am fwy o arian ar gyfer y llyfrgell genedlaethol a'r amgueddfa yn ystod y—[Anghlywadwy.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:02, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n mynd i'ch stopio chi yn y fan yna, Bethan. Byddaf yn eich galw chi yn nes ymlaen. Gadewch i ni weld a allwch chi gael llinell band eang fwy sefydlog. Byddaf yn dod yn ôl atoch chi. Roeddem ni'n cael tipyn o drafferth yn eich deall chi. Byddaf yn gofyn i rai o'n gweithredwyr TG siarad â chi am sut y gellir gwella hynny. Beth bynnag, gobeithio y byddwn yn gallu dod yn ôl atoch chi. Neil Hamilton.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cytuno yn llwyr â'r cyhuddiad yr ydym ni newydd ei glywed gan Alun Davies yn erbyn Llywodraeth Cymru ac, yn wir, Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y cyfyngiadau yr ydym yn eu hwynebu yn y ddadl hon. Mae'n debyg i ddadl ynglŷn â symud y cadeiriau haul ar y Titanic wrth i economi Cymru ruthro tuag at y mynydd iâ, a hynny am ddau reswm. Yn gyntaf, mae cyllideb y Llywodraeth, wrth gwrs, wedi ei chyfyngu gan y cyfyngiadau a osodir gan Lywodraeth y DU, ond hefyd am fod iechyd ac addysg yn cymryd y gyfran fwyaf o bell ffordd o gyfanswm y gyllideb yng Nghymru, dros 75 y cant, felly mae terfyn ar y gwariant dewisol sydd ar gael i'r Llywodraeth y gallwn ni ei drafod y prynhawn yma.

Y realiti sylfaenol ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur yw bod Cymru, yn ogystal â bod yn hŷn ac yn fwy sâl na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, mae hefyd yn dlotach. Rydym ni ar waelod tablau incwm y DU am godi refeniw er mwyn talu am y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir—llai na £10,000 y pen, o'i gymharu â bron i £20,000 y pen yn Llundain. Fel y nododd Adam Price yng nghwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, roedd gan Lywodraeth Cymru uchelgais amlwg i roi terfyn ar dlodi tanwydd erbyn 2018 a rhoi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020, ac mae wedi methu'n gyfan gwbl yn y ddau beth hynny.

Ar y naill law, mae'r gyllideb yn rhy fach i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni i gyd eu heisiau yng Nghymru, ac yn ail, nid oes gan Lywodraeth Cymru yr ysgogiadau treth a pholisi mewn cynifer o feysydd sy'n ofynnol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i faint yr economi, fel y nododd Alun Davies. Mae'n rhaid i ni naill ai godi mwy mewn trethi neu mae'n rhaid i ni dyfu'r economi, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd iawn, iawn i wneud y naill na'r llall. O fewn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddileu bron i £500 miliwn o ddyledion y GIG sydd wedi eu cronni ers 2013, neu fel arall byddai'r gwasanaeth iechyd wedi bod mewn cyflwr gwaeth fyth nag ydyw ar hyn o bryd.

Mewn ffyrdd eraill hefyd, mae gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau pŵer y mae'n mynnu eu defnyddio mewn ffordd sy'n wrthgynhyrchiol o'i safbwynt ei hun o ran gwella'r economi a chynyddu lles pobl Cymru. Er enghraifft, o ran polisi amgylcheddol—polisi gwyrdd ar ynni adnewyddadwy, ac ati—effaith ei pholisi yw ei bod yn defnyddio ei phwerau i niweidio busnesau ac arwain y tlawd at fwy o dlodi ac, ar yr un pryd, yn arllwys arian i bocedi datblygwyr sy'n filiwnyddion, sydd wedi eu lleoli yn Lloegr yn ddieithriad. Ac yn y cyfamser, mae'n rhaid i bobl dlotach Cymru mewn lleoedd fel Blaenau Gwent dalu biliau trydan rhy uchel er mwyn cadw'n gynnes yn y gaeaf. Nawr, mae trethi a thaliadau gwyrdd yn cyfrif am gyfartaledd o £200 y cartref ar fil trydan pawb.

Rwy'n credu mai'r hyn y mae'r ddadl hon yn ei ddangos yw nad yw'r datganoli rhannol hwn yn gweithio, ac rwyf i o'r farn na all weithio oherwydd na fydd gwariant cyhoeddus sy'n cael ei gyfyngu gan Drysorlys y DU byth yn ateb ymarferol i broblemau Cymru. Ar y naill law, ni fydd San Steffan yn rhoi mwy o arian i Gymru. Pam byddai Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan byth yn bwriadu rhoi mwy o arian i Lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd? Wel, yr ateb yw na fydd. Pan oedd gennym ni Lywodraeth Lafur yn San Steffan, ni welodd hynny yn newid fawr o ddim byd ychwaith. Mae fformiwla Barnett yn parhau fel yr oedd ym 1978 ac mae Cymru dan anfantais sefydliadol oherwydd hynny.

Ar y llaw arall, mae annibyniaeth, yn fy marn i, yn ffantasi cyllidol. Mae'r bwlch cyllidol yng Nghymru—y gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae Cymru'n ei godi neu'n gallu ei godi mewn trethi a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wario mewn gwirionedd ar bob lefel yng Nghymru—yn 25 y cant o incwm cenedlaethol Cymru, £4,300 y pen. Pe byddai gennym ni annibyniaeth, byddai hynny yn arwain naill ai at gwymp ar unwaith yng ngwariant y Llywodraeth yng Nghymru neu gynnydd enfawr mewn trethi, er bod Rhun ap Iorwerth eiliad yn ôl yn lladd ar annhegwch Llywodraeth y DU yn gorfodi cyfyngiadau benthyca ar Lywodraeth Cymru. Wel, rwy'n gwybod bod ganddo awydd diddiwedd am arian trethdalwyr Lloegr, ond nid wyf i'n credu y byddai trethdalwyr Lloegr yn barod i'w fodloni. Felly, y realiti yw bod annibyniaeth Cymru yn sicr o arwain at y math hwnnw o wasgfa yr wyf i newydd ei chrybwyll.

Ar y llaw arall, mae yn ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o arian, mewn rhai ffyrdd, i'w wastraffu. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi gwario £114 miliwn ar ymchwiliad yr M4 o amgylch Casnewydd, er i'r Prif Weinidog ddweud y byddai wedi nacáu'r penderfyniad i weithredu gwelliannau i'r M4 ni waeth beth y byddai'r ymchwiliad wedi ei ddweud. Ac—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:08, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Bydd angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben nawr. Mae eich amser ar ben.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Mewn cynifer o feysydd eraill hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymroi i ddinistrio'r economi sy'n cynhyrchu cyfoeth yng Nghymru, yn union fel y mae Llywodraeth y DU ar ochr arall y ffin wedi ei wneud hefyd. Dim ond gwaethygu'r wasgfa y mae'r pandemig COVID wedi ei wneud. Ond nid yw hynny'n ddim byd—fe wnaf i orffen gyda'r sylw olaf hwn, Llywydd—o'i gymharu â'r wasgfa sydd i ddod, oherwydd nid yw hyn yn ddim byd os edrychwch chi yn ôl ar y polisïau cyni sydd wedi eu beirniadu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dim ond ar ddechrau gwasgfa enfawr ar yr economi yr ydym ni, a fydd yn gwneud ein holl broblemau yn waeth o lawer oherwydd cyfyngiadau COVID.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 7:09, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ddechrau drwy longyfarch Rebecca Evans ar lwyddo i lunio cyllideb sy'n cadw'r olwynion yn troi ar y gwasanaeth iechyd a'n heconomi yng nghanol pandemig. Nid cyflawniad bach yw hynny. Dim ond o wrando ar yr hyn y mae pawb arall wedi ei ddweud, nid oes unrhyw ran o gymdeithas Cymru nad yw'r pandemig yn effeithio arni. Felly, mae'r galwadau ar bwrs y wlad yn ymosod arni ar bob ochr, ac mae'n wych, er gwaethaf hynny i gyd, ei bod hi'n dal i lwyddo i neilltuo rhannau o'r gyllideb i sicrhau ein bod yn symud ymlaen i greu cymdeithas decach a gwyrddach yma yng Nghymru. Ond mae llawer iawn i'w wneud.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 7:10, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'n fawr yr ymrwymiad y mae Rebecca wedi ei wneud i sicrhau bod pob plentyn sy'n cael prydau ysgol am ddim, yn ystod tymor ysgol ac yn ystod y gwyliau, yn cael un pryd y dydd, hyd at y Pasg y flwyddyn nesaf. Mae hwn yn fater hynod o gymhleth, ac mae'n ymwneud â llawer mwy na'r un pryd hwnnw bob dydd. Er enghraifft, nid yw pwysigrwydd y rhaglen Bwyd a Hwyl yn ymwneud dim ond â phrydau o ansawdd da wedi eu llunio â chariad gan y staff, sydd wedi ymrwymo i fwyd da i bawb. Mae'n ymwneud â'r ffaith bod y plant yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i wybod beth sy'n dda iddyn nhw, i'w helpu i dyfu yn gryf ac yn heini, ac mae'n helpu i'w hamddiffyn rhag ffrwydrad y cwmnïau rhyngwladol sy'n hysbysebu pethau sy'n annog plant i fwyta pethau sy'n mynd i'w lladd nhw, neu o leiaf lleihau ansawdd eu bywyd pan fyddan nhw'n hŷn.

Fy nyhead hirdymor yw prydau ysgol am ddim i bawb ar gyfer pob plentyn ysgol gynradd, wedi ei gyflwyno i safonau achredu Bwyd am Oes, fel y pennir gan Gymdeithas y Pridd. Mae rhai awdurdodau lleol yn Lloegr yn dal i lwyddo i wneud hynny, er gwaethaf yr ergyd drom y mae cynghorau ac ardaloedd difreintiedig wedi ei chael yn sgil y polisi bwriadol o ailddyrannu darnau mawr o'u cyllideb i rannau mwy cefnog, deiliog o'r wlad, sydd, fel y noda Neil Hamilton, yn digwydd bod yn ardaloedd sy'n pleidleisio dros y Torïaid hefyd, neu felly maen nhw'n meddwl.

Fodd bynnag, rwyf i'n realydd. Mae angen i ni gael gafael ar gyfran fwy o lawer o gynhwysion ein prydau ysgol cyn i ni allu fforddio cyflawni'r dyhead hwnnw, felly rwy'n croesawu'r £3 miliwn ychwanegol ar gyfer yr economi sylfaenol, sy'n mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at yr angen hwnnw, ond mae ymhell o'r sefyllfa y mae angen i ni fod ynddi. Ni allwn fforddio gweld y gollyngiadau o wariant cyhoeddus yn mynd i gwmnïau y tu allan i Gymru ar y raddfa sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni barhau i brif ffrydio'r cynlluniau treialu economi sylfaenol sydd wedi profi eu gwerth, er mwyn bod â'r economi gylchol a'r rhwydweithiau bwyd lleol sydd eu hangen arnom ni.

Er fy mod i'n croesawu tröedigaeth Plaid at bwysigrwydd bwyd i blant, nid wyf i'n croesawu ymosodiadau Plaid yn fy nghyhuddo o fod yn gyfrifol rywsut am blant yn mynd yn llwglyd. Mae hyn yn llawer mwy cymhleth na sicrhau bod mwy o blant yn bwyta pryd o fwyd da unwaith y dydd. Mae'n fater diwylliannol yn gymaint ag un economaidd. Ni fyddai'r Eidal byth yn caniatáu i ansawdd y bwyd y mae rhai o'n plant ni yn ei dderbyn gael ei ddanfon atom ni, ac mae angen i ni fynd i'r afael â hynny.

Mae'n rhaid i ni wrando ar y ffaith nad oedd 20 y cant—20 y cant, un ym mhob pump—o'n plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim wedi manteisio ar yr hawl honno yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Er y bu cynnydd mawr yn y niferoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim, nid yw hynny'n golygu mewn unrhyw ffordd ein bod ni wedi gostwng yr un ym mhob pump o blant hynny nad ydyn nhw'n cael yr hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae'n llawer mwy cymhleth na hynny.

Un o'r materion yw'r ffordd y mae'r system fudd-daliadau'n gweithio, ac mae'r ffaith na fu unrhyw gynnydd yn y lwfans tai yn golygu bod diffyg enfawr yn yr hyn y mae'n rhaid i lawer o fy etholwyr i ei dalu pan fyddan nhw'n byw mewn llety rhentu preifat. A dyfalwch o ble mae'r diffyg hwnnw yn yr hyn y mae'r lwfans tai yn barod i'w dalu a'r hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei dalu mewn gwirionedd i gadw to uwch eu pen—o ble mae'r arian hwnnw yn dod? Mae'r arian hwnnw yn dod o'r hyn y dylen nhw fod yn ei wario ar fwyd. Felly, rwy'n credu yn llwyr mai un o'r pethau pwysicaf y mae'r gyllideb Llywodraeth hon yn ein hymrwymo ni iddo yw adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy, wedi'u hinswleiddio'n llawn, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, â ffram bren ac wedi'i adeiladu ymlaen llaw. Dyna un o'r ffyrdd y bydd pobl na allan nhw fforddio byw yn y llety preifat hwn a gynhelir yn wael yn cael cymorth i drechu tlodi.

Mae ffyrdd eraill y gallwn ni helpu teuluoedd tlawd ar hyn o bryd hefyd: £20 miliwn ar gyfer teithio llesol. Dychmygwch y rhyddid y mae rhoi beic i blentyn gyrraedd yr ysgol yn ei roi iddo; gall gyrraedd ar amser a gadael pan fydd wedi gorffen cael yr holl weithgareddau cyfoethogi, a hefyd heb fod angen teithio ar gludiant i'r ysgol yng nghyfnod y pandemig. Dyma rai o'r pethau y mae angen i ni fod yn meddwl amdanyn nhw. Mae'n rhaid i ni fod â dull llawer mwy ataliol o ymdrin â holl agweddau ein cyllideb er mwyn sicrhau bod gennym ni ddinasyddion mwy heini, iachach, sy'n byw yn hirach ac i safon fyw well a hynny i'n holl ddinasyddion.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:15, 9 Chwefror 2021

Gwnawn ni drio Bethan Sayed unwaith eto. Bethan Sayed.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

Sori am hynny. Gobeithio bydd e'n gweithio nawr.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y byddai'n esgeulus i mi, fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, beidio â chofnodi rhai o'n meddyliau am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad am gyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol a amlygwyd yn yr adolygiad wedi'i deilwra a gynhaliwyd y llynedd, ond mae ein pwyllgor wedi bod yn gofyn am y pedair blynedd diwethaf am gymorth i'r llyfrgell genedlaethol ac i'r amgueddfa, ar bob cyfle posibl.

Daeth y Dirprwy Weinidog i'n cyfarfod ar 14 Ionawr ac fe wnaethom ni drafod y ffaith bod yr adolygiad wedi'i deilwra yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu gofynion ariannu'r llyfrgell genedlaethol gan nad oedd y panel yn credu bod y sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Felly, dywedwyd wrthym y byddai'r Llywodraeth yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r llyfrgell genedlaethol i weld ble y gellir gwneud arbedion effeithlonrwydd a ble y gallan nhw geisio cyflawni'r gyllideb, ond mae hynny yn heriol dros ben. Ac rydym ni wedi mynd o 'heriol dros ben' i gyhoeddi £2.25 miliwn i dalu am anawsterau gweithredol uniongyrchol a diffygion ariannol i ddiogelu swyddi a sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy ein cyrff cenedlaethol mewn llai na thair wythnos. Wel, mae'r pwyllgor wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i ryddhau'r cyllid y mae mawr ei angen ac wedi rhoi sicrwydd i weithwyr pryderus yn y llyfrgell na fyddan nhw'n wynebu diswyddiadau gorfodol. Ac eto, pan gyhoeddwyd cyllid, ni ddywedwyd wrthym ni, cawsom ni wybod drwy'r wasg, yn union fel y gwnaeth pawb arall, rwy'n credu, am y cyllid ychwanegol hwnnw. Dywed datganiad y Dirprwy Weinidog,

'Rydym wedi bod mewn cysylltiad parhaus â'r llyfrgell a gydag Amgueddfa Cymru ers cryn amser'.

Beth a'i rhwystrodd e' rhag trafod gyda ni fel pwyllgor i roi rhywfaint o barch i ni cyn y cyhoeddiad penodol hwnnw? Os bwriedir i'r arian ddiogelu swyddi, a yw hynny'n golygu bod pob sôn am ddiswyddiadau posibl yn y llyfrgell ar ben? A allwch chi gadarnhau hyn fel Llywodraeth ai peidio?

Rydym ni'n gwybod bod y cyllid ar gyfer y celfyddydau yn dod i ben ym mis Mawrth. Rydym ni eisiau gwybod a fydd y cyllid hwnnw, i unigolion yn arbennig, yn parhau ar ôl mis Mawrth, neu a yw hynny'n ddibynnol ar y Trysorlys? Mae'n hanfodol nid yn unig bod sefydliadau'n cael eu cefnogi, ond hefyd unigolion yn y celfyddydau sydd wedi ei chael yn anodd yn ystod y cyfnod hwn.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 7:17, 9 Chwefror 2021

Cwpwl o sylwadau ar yr iaith Gymraeg. Dŷn ni'n gwybod bod lot o fudiadau'n stryglo ar hyn o bryd—yr Eisteddfod, yr Urdd ac yn y blaen—a gwnaethon ni ofyn i Weinidog yr iaith Gymraeg a oedd hi'n mynd i apelio at y pot COVID ehangach ar gyfer arian yn y maes yma. Roedd hi'n dweud bod hwn yn opsiwn, ond gwnaethon ni ddim clywed a oedd hynny'n mynd i ddigwydd. Dŷn ni'n gwybod bod rhai o'r digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod ddim yn gallu digwydd, ac felly byddem ni'n erfyn ar y Gweinidog yn y maes yma i edrych ar ba fath o gyllid ychwanegol sy'n gallu cael ei roi i'r mudiadau yma.

Ac i drafod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, maen nhw wedi dweud wrthym ni eu bod nhw eisiau £800,000 yn ychwanegol y flwyddyn yma ac mwy, wedyn, i ddilyn yn y blynyddoedd i ddod, oherwydd maen nhw eisiau rhoi strategaethau yn eu lle ar gyfer addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Maen nhw'n dweud bod angen mwy o arian yn y maes yma er mwyn gallu gweithredu. A yw'r Gweinidog dros yr iaith Gymraeg yn mynd i sicrhau ei bod hi'n cael y trafodaethau angenrheidiol hynny gyda'r Gweinidog Addysg er mwyn sicrhau bod y maes yma'n gallu ffynnu a datblygu i'r dyfodol?

A'r sylwad olaf, dwi'n credu bod pawb ohonom ni eisiau gweld mwy o athrawon yn addysgu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ond dŷn ni wedi gweld y niferoedd o ran recriwtio ddim yn mynd mor bell ag y byddem ni wedi hoffi gweld. Dŷn ni wedi gofyn i'r Gweinidog ar gyfer y strategaeth yn y maes yma i geisio ei helpu hi ar hyd y ffordd. Ond byddem ni eisiau gweld a oes ewyllys yn yr ardal yma i sicrhau bod y cynllun 2050 yn llwyddiannus, ac mae angen i ni recriwtio mwy o athrawon drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg er mwyn bod y strategaeth yna'n llwyddiannus. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:19, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod Cadeirydd pwyllgor arall a gafodd broblemau band eang wedi ailymddangos—John Griffiths.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac fe wnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf.

Pan siaradais y llynedd yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, neu yn hytrach pan siaradais ddiwethaf am y gyllideb ddrafft hon ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, canolbwyntiais ar bwysigrwydd dyraniadau'r gyllideb i'r grant cymorth tai a llinell y gyllideb i atal digartrefedd. Ac rwy'n siŵr na fydd yr Aelodau'n synnu o glywed y byddaf yn dweud yr un peth i raddau helaeth heddiw yn gysylltiedig â'r ddadl hon.

Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at bwysau sylweddol ar ddigartrefedd a gwasanaethau tai. Rydym yn cymeradwyo'r gwaith rhagorol a wnaed ar ddechrau'r pandemig i roi pobl sy'n cysgu ar y stryd ac eraill y mae angen cartref arnyn nhw yn y llety dros dro yr ydym ni i gyd yn gyfarwydd ag ef. Ond wrth gwrs, erbyn hyn mae'n rhaid cynnal yr ymatebion i'r heriau sydd wedi codi o ganlyniad i'r pandemig. Ac mae pwysigrwydd cartref diogel, a pha mor gyflym y gellir cyflawni gwelliannau gyda phwyslais ac adnoddau penodol wedi ei ddangos, rwy'n credu, yn yr ymateb i gysgu ar y stryd yn ystod y pandemig hwn. Ond mae'n rhaid i ni gynnal y cynnydd hwnnw a sicrhau nad yw'n cael ei golli yn y dyfodol.

Felly, rydym yn pryderu'n benodol ynglŷn â natur dros dro y cyllid datblygu sydd wedi ei ddarparu a'r ansicrwydd a ddaw yn sgil hynny i gynaliadwyedd gwasanaethau yn y tymor hwy. Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wrthym y bydd y cyllid ychwanegol yn y gyllideb ddrafft yn galluogi llety a chymorth brys hyd at ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. Nid ydym yn credu y bydd hyn yn rhoi'r sicrwydd hirdymor angenrheidiol i'r rhai sy'n darparu ac sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn.

Mae'n rhaid parhau i adeiladu ar y gwelliannau sydd wedi eu cyflawni o ran ailgartrefu pobl i lety parhaol, os yw digartrefedd i gael ei ddileu neu mor agos at gael ei ddileu ag y gellir ei gyflawni. Rydym ni, felly, wedi argymell y dylai dyrannu adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â digartrefedd fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn y gyllideb derfynol. 

Agwedd arall sydd wedi gweld cynnydd mawr yn y galw yw cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Bu gostyngiad sylweddol yng nghyfradd casglu'r dreth gyngor, o ganlyniad i incwm pobl yn gostwng yn sydyn neu'n dod i ben yn gyfan gwbl. Mae cynghorau wedi gweld ffynonellau incwm eraill yn diflannu yn ystod y pandemig. Felly, mae refeniw'r dreth gyngor yn bwysicach byth i ariannu gwasanaethau. Ni fu pwysigrwydd y cynllun gostyngiadau i gynorthwyo pobl ar incwm is erioed yn fwy, tra bod angen digolledu awdurdodau lleol am effaith y galw cynyddol am fudd-dal ar eu casgliad refeniw.

Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog Cyllid i adolygu'r dyraniad ar gyfer cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor cyn y gyllideb derfynol, ac rydym wedi argymell y dylai hwn fod yn faes blaenoriaeth ar gyfer adnoddau ychwanegol. Ac mae'r gwaith ar effaith y pandemig wedi dangos bod yr effaith ar y rhai hynny ar incwm is yn fwy andwyol. Felly, mae'n rhaid i gamau pellach i liniaru'r anghydraddoldebau hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Diolch, Llywydd. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:23, 9 Chwefror 2021

Y Gweinidog Cyllid i ymateb i'r ddadl, Rebecca Evans. 

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch yn fawr iawn i'r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heno. Mae wedi bod yn ddefnyddiol clywed gan bob cyd-Aelod, a byddaf yn bendant yn ystyried y sylwadau hynny wrth i ni symud tuag at y gyllideb derfynol, a fy nghydweithwyr gweinidogol yn yr un modd, ac rwy'n gwybod eu bod wedi bod yn gwrando ar y ddadl hefyd.

Roedd nifer eithaf sylweddol o'r sylwadau'n ymwneud â gwariant yn ystod y flwyddyn a'n hymdrechion presennol i fynd i'r afael â'r pandemig. Byddaf yn cyhoeddi'r drydedd gyllideb atodol yn fuan iawn, a bydd gan fy nghyd-Aelodau gyfle i graffu ar honno a'i thrafod. Felly, byddaf yn cadw fy sylwadau ar wariant yn ystod y flwyddyn a dyraniadau yn ystod y flwyddyn nes i ni gael y ddadl honno, ond roeddwn i eisiau ymateb i un sylw yn unig, a wnaed ynglŷn â chyllid ar gyfer busnes. Ac rwyf i yn dymuno cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi gwario mwy ar gymorth busnes yma yng Nghymru nag yr ydym ni wedi ei gael mewn symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU, a dyna sut yr ydym ni wedi gallu darparu'r setliad mwyaf hael posibl i fusnesau unrhyw le yn y DU.

Felly, i roi rhywfaint o gyd-destun o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd, bydd y gyllideb refeniw ar gyfer 2021-22 yn cynyddu £694 miliwn, ac mae hynny'n gynnydd o 4.6 y cant mewn termau arian parod, ond mae hynny hefyd yn golygu bod ein cyllideb graidd y pen mewn gwirionedd 3 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos y cyfyngiadau yr ydym ni'n dal i weithredu oddi tanyn nhw. Yn ogystal â hyn, mae'r £766 miliwn o gyllid ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID, ac mae hynny'n llawer llai na'r £5.2 biliwn o gyllid a ddyrannwyd i ni eleni. Felly, rwy'n credu y dylem ni ganolbwyntio ar hynny yn ein meddyliau hefyd, o ran sut y gallwn ni ddyrannu'r cyllid hwnnw yn ddarbodus ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 7:25, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Nid ydym wedi ei drafod rhyw lawer yn y ddadl hon, ond bu llawer o graffu ar ein setliad cyfalaf, ac mae'n werth cydnabod yn y fan honno ein bod ni wedi cael cynnydd o £60 miliwn i'n cyllideb gyfalaf gyffredinol, ond hefyd gostyngiad o £191 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol. Felly, yn gyffredinol, mae ein cyllid cyfalaf wedi gostwng £131 miliwn yn 2021-22. Felly, rwy'n credu bod hynny hefyd yn dangos rhai o'r heriau y byddwn ni'n eu hwynebu wrth symud ymlaen.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr fod y pandemig wedi tynnu sylw at ddatganoli. Wel, byddwn i'n sicr yn cytuno ag ef ynglŷn â hynny, ac, yn sicr, dyma'r tro cyntaf i lawer o Weinidogion Whitehall sylwi ar ddatganoli. Ac a dweud y gwir, nid ydyn nhw'n ei hoffi, oherwydd eu bod nhw'n gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru er lles pobl Cymru, a bod hynny'n cynnwys y penderfyniadau ariannol yr ydym ni wedi bod yn eu gwneud drwy gydol y pandemig hwn. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw, wrth gwrs, at Lywodraeth y DU, ac mae llawer wedi dweud eu bod nhw wedi gweld lefel o ffrindgarwch y maen nhw'n anghyfforddus iawn ag ef, ac mae wedi tynnu sylw at wastraff gan Lywodraeth y DU hefyd. Felly, rwyf i'n credu y bu'n addysgiadol yn yr ystyr hwnnw—i gael y sylw hwnnw ar y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU hefyd.

Ac roedd yn arbennig o sarhaus clywed gan lefarydd y Ceidwadwyr am ei bryderon ynglŷn â'r gymuned ffermio a'i awgrym nad yw Cymru wedi ei siomi gan Lywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, ein bod ni. Mae ffermwyr a'n cymunedau gwledig yng Nghymru wedi eu gadael yn brin o £137 miliwn o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU. Ar 27 Tachwedd, ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i ofyn iddo am adolygiad o'r trosglwyddiad pileri, yn gofyn i'r cyllid ffermydd o £42 miliwn gael ei ddychwelyd i Gymru. Mae'n fis Chwefror, ac nid wyf i wedi cael ymateb ffurfiol i'r cais hwnnw o hyd, ac rwyf ar ddeall y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn amcangyfrifon atodol Llywodraeth y DU erbyn hyn. Ond rwyf i yn deall bod y cais hwnnw i'r £42 miliwn hwnnw gael ei ddychwelyd atom wedi ei wrthod, sy'n siomedig dros ben. Pe byddai Llywodraeth y DU wedi disodli cyllid yr UE yn llawn, byddai Cymru wedi bod mewn gwell sefyllfa i fuddsoddi yn ein rhaglen datblygu gwledig ddomestig. Mae'n drueni nad yw Llywodraeth y DU wedi manteisio ar y cyfle i gyflawni'r addewidion a wnaeth i Gymru wledig.

Cafwyd llawer o sylwadau ynglŷn â llywodraeth leol a'r setliad llywodraeth leol. Mae awdurdodau lleol eto eleni wedi cael setliad da. Dyma'r setliad gorau y gallem ni ei ddarparu—cynnydd o £176 miliwn. Mae hynny'n gynnydd cyfartalog o 3.8 y cant, ac rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac Archwilio Cymru i fonitro sefydlogrwydd y sector ac awdurdodau unigol. Er bod y rhan fwyaf o'n cyllid i lywodraeth leol yn mynd drwy'r grant wedi'i neilltuo, mae awdurdodau lleol hefyd yn elwa ar ryw £1 biliwn o gymorth i wasanaethau lleol drwy grantiau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Mae awdurdodau lleol a CLlLC wedi croesawu'r setliad, ac rwy'n credu bod angen i ni gydnabod hynny. Ond yn yr un modd, rwyf i bob amser yn dymuno cydnabod y ffaith bod awdurdodau lleol yn dal i fod o dan lawer iawn o bwysau, ac nid oes dim dianc rhag hynny o gwbl. Nid wyf i'n credu bod dwy flynedd o setliadau da yn gwneud iawn am y degawd o gyni sydd wedi taro awdurdodau lleol yn galed.

Rwyf i yn dymuno mynd i'r afael â'r materion difrifol y mae cyd-Aelodau, ar draws y Siambr, wedi gwneud sylwadau arnyn nhw o ran prydau ysgol am ddim. Rwyf i yn credu ei bod yn bwysig cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i brydau ysgol am ddim drwy fod y genedl gyntaf yn y DU i warantu cymorth drwy gydol y gwyliau ym mis Ebrill 2020, ac yna ni oedd y Llywodraeth gyntaf i ymestyn y cymorth hwn yr holl ffordd i Pasg 2022. Rwy'n gobeithio y bydd y cyd-Aelodau hynny sydd wedi siarad ar y mater hwn heddiw yn cefnogi ein cyllideb pan fyddwn yn dod at y gyllideb derfynol, gan roi cyfle i gyd-Aelodau ddangos eu cefnogaeth i hynny. Gan ategu'r £50 miliwn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi hyd yma eleni, adlewyrchir y £23.3 miliwn ychwanegol yn y gyllideb i barhau â'r gefnogaeth drwy gydol gwyliau'r ysgol. Fe fyddaf i'n dweud ei bod yn bwysig ein bod ni yn parhau i archwilio'r holl opsiynau sydd ar gael i ni ac yn ceisio adeiladu ar y camau yr ydym ni wedi eu cymryd eisoes, ond rwy'n cydnabod hefyd bod yn rhaid iddo fod yng nghyd-destun y cyfyngiadau cyllidebol yr ydym ni oddi tanyn nhw.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 7:30, 9 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Rwyf i bob amser yn hapus iawn i ymgysylltu ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn agweddau ar y gyllideb a pharhau i drafod gyda nhw, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n glir ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei ofyn. Gallai dod o hyd i arian ychwanegol o'r symiau canlyniadol sy'n gysylltiedig â COVID fod yn un opsiwn y sonnir amdano, ond rwyf i yn credu bod angen i ni ystyried y ffaith bod £766 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer COVID y flwyddyn nesaf, o'i gymharu â £5.2 biliwn eleni. Felly, beth fydd yn talu am hwn? Ydym ni'n sôn am lai o gyllid ar gyfer ymateb y GIG i COVID? Ydym ni'n ystyried rhoi llai o arian i awdurdodau lleol am eu hymdrechion o ran cefnogi cymunedau drwy'r pandemig? Dyma'r penderfyniadau difrifol a'r dewisiadau difrifol y mae'n rhaid i ni eu gwneud pan fyddwn yn galw am gyllid ychwanegol ar gyfer rhannau o'r gyllideb. Ac, yn yr un modd, a fyddai'n awgrym i chwilio am gyllid ychwanegol o'r arian wrth gefn nad yw wedi ei ddyrannu? Fel arfer, rydym ni'n dechrau blwyddyn ariannol gyda rhyw £100 miliwn o arian wrth gefn, ac mae'r swm bach iawn hwnnw o arian ar gael i'n helpu ni i reoli pwysau sy'n dod i'r amlwg trwy gydol y flwyddyn ariannol gyfan. A phan fyddwch chi'n meddwl am £100 miliwn o arian wrth gefn i'ch helpu i reoli cyllideb o £20 biliwn, rwy'n credu y gallwn ni i gyd fyfyrio'n wirioneddol ar yr heriau yn y fan yna. Ac, wrth gwrs, dewisiadau eraill fyddai torri o'r gyllideb, ac rwy'n credu bod angen i ni gael sgyrsiau difrifol ynghylch o ble y byddai galwadau ychwanegol am gyllid yn cael eu talu.

Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, rwyf i wedi clywed Plaid Cymru yn benodol yn galw am wariant a fyddai'n arwain at gannoedd o filiynau, neu biliynau, o bunnoedd o gyllid ychwanegol. Felly, o ran yr eitem sydd dan sylw yn y gwelliant heddiw, ac yna £100 miliwn ar gyfer rhewi'r dreth gyngor y flwyddyn nesaf, gofal plant am ddim i bob plentyn o'i enedigaeth i bedair oed, y taliad wythnosol o £34 yr wythnos i blant Cymru a gofal cymdeithasol am ddim ar adeg ei ddefnyddio, rydym ni'n sôn am gannoedd o filiynau neu hyd yn oed, o bosibl, biliynau o bunnoedd, ac rwyf i'n credu ei bod yn bwysig, pan fyddwn ni'n cyflwyno syniadau—ac rwy'n credu ei bod yn wych ein bod ni yn cyflwyno syniadau—fod yn rhaid i ni fod yn ddiffuant wrth wneud hynny trwy ddangos sut y byddai'r pethau hynny'n cael eu talu.

Mae cyd-Aelodau wedi mynegi diddordeb arbennig mewn iechyd meddwl yn ystod y ddadl, ac roeddwn i yn dymuno gwneud sylwadau byr am hynny a hefyd am ofal cymdeithasol, oherwydd fy mod i'n gwybod bod y meysydd hynny yn rhai lle mae diddordeb arbennig. Mae'r gyllideb yn darparu £20 miliwn ychwanegol o gyllid ychwanegol ar gyfer cymorth iechyd meddwl ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys mwy o gymorth ar gyfer gwasanaethau anghlinigol rheng flaen, cymorth argyfwng i bob oed, gwasanaethau asesu cof, a chymorth ar gyfer y llwybr iechyd meddwl clinigol, trwy'r gwasanaeth ffôn 111. Ac mae arian ychwanegol yn y gyllideb i gefnogi'r gwaith o gyflwyno mewngymorth CAMHS ledled Cymru, ac mae hynny'n ategu'r cyllid ychwanegol a ddarperir yn y flwyddyn ariannol hon a'r £5.4 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl y GIG i blant a'r glasoed ar gyfer timau haen 4 a thimau cymunedol dwys. Unwaith eto, buddsoddiad pwysig iawn yn sgil y pandemig. Ac mae £13 miliwn ychwanegol i gyllid twf y GIG i gefnogi cynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Felly, bydd yr holl bethau hynny yn bwysig iawn yn ein cyllideb y flwyddyn nesaf.

Ac yna, o ran gofal cymdeithasol, rydym ni hefyd yn dyrannu £15.5 miliwn o gymorth ar gyfer gofal cymdeithasol, sy'n cynnwys cynnydd o £10 miliwn i £50 miliwn i grant y gweithlu gofal cymdeithasol, a dyrannu cyllid ychwanegol trwy grantiau'r trydydd sector a buddsoddi trwy Gofal Cymdeithasol Cymru. Felly, rydym ni wedi blaenoriaethu gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, o gofio pa mor bwysig fydd y ddau beth hynny o ran cefnogi pobl gyda'r adferiad.

Ac yna, dim ond ychydig o sylwadau ar fy null yn awr o lunio'r gyllideb derfynol. Yn amlwg, byddaf yn myfyrio ar y ddadl yr ydym ni wedi ei chael heddiw. Bydd cyd-Aelodau hefyd yn ystyried holl adroddiadau'r pwyllgorau a'r argymhellion y mae'r pwyllgorau wedi eu gwneud. Rwyf i eisoes wedi nodi y byddwn yn ceisio gwneud rhai dyraniadau ychwanegol o'r cyllid COVID hwnnw nad yw wedi ei ddyrannu, yn enwedig yn gysylltiedig â'r GIG ac awdurdodau lleol, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld beth arall y gallwn ni ei wneud ym maes prentisiaethau hefyd, o ystyried y ffaith, fel y mae nifer o gyd-Aelodau wedi ei gydnabod, y bydd swyddi a sgiliau yn gwbl hanfodol o ran ein datblygiad ar ôl y pandemig ac i'r cyfnod adfer sydd o'n blaenau. Felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r holl gyd-Aelodau am eu holl sylwadau, ac edrychaf ymlaen at fyfyrio arnyn nhw gyda'r cyd-Aelodau yn y Cabinet.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:35, 9 Chwefror 2021

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu gwelliant 1? [Gwrthwynebiad.] Oes. Fe wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, felly.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.