– Senedd Cymru am 6:01 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar baratoi’r gyllideb—blaenoriaethau ar gyfer 2022-23. Dwi'n galw unwaith eto ar y Gweinidog cyllid i gyflwyno'r cynnig yma—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Gan barhau â thraddodiad y weinyddiaeth flaenorol, mae'n bleser gennyf i amlinellu'r paratoadau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Mae'r ddadl flynyddol hon wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y Senedd, gan roi cyfle cynnar i edrych ymlaen at flaenoriaethau gwario'r flwyddyn nesaf, ac, yn bwysig, rhoi cyfle i Aelodau lunio'r paratoadau hynny. Fel Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cael mandad clir gan bobl Cymru yn dilyn yr etholiad, mandad i gyflawni'r ymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu yn ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol. Ond rydym ni'r un mor glir nad oes gennym ni fonopoli ar syniadau da. Fel y dywedodd y Prif Weinidog eisoes, byddwn ni'n ystyried syniadau newydd a chynigion newydd o ble bynnag y byddan nhw'n dod yn y Siambr hon, pryd bynnag y maen nhw o fudd i Gymru a'n cymunedau ni. Ac yn yr ysbryd hwnnw yr wyf i'n agor y ddadl heddiw.
Cyn amlinellu ein dull gweithredu, mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y cyd-destun ehangach yr ydym ni'n ymgymryd â'r paratoadau hyn ynddo. Mae'n anffodus bod yr hyn y byddem ni wedi'i ystyried yn rhyfeddol wedi dod yn gyffredin. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu ni'n sylweddol. Maen nhw'n cynnwys effeithiau parhaus y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yr angen dybryd i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ogystal ag effeithiau dinistriol y pandemig ei hun.
Bydd effeithiau'r heriau hynny'n sylweddol. Yn ystod y pandemig, bydd o leiaf ddwy flynedd o dwf cynnyrch domestig gros yn cael ei golli, ac efallai na fydd llawer ohono byth yn cael ei adennill. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn credu y bydd y pandemig yn lleihau cynnyrch domestig gros 3 y cant yn barhaol. Mae busnesau Cymru nawr yn dechrau gweld llawer o'r gwir gostau yn sgil y DU yn ymadael â'r UE. Bydd colli'r £375 miliwn o gyllid yr UE y flwyddyn i Lywodraeth Cymru yn arwain at oblygiadau difrifol i fusnesau, unigolion a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod effaith y pandemig wedi disgyn yn anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed, ac rydym ni'n gwybod bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi amcangyfrif y gallai'r buddsoddiad ychwanegol sy'n ofynnol yng Nghymru gyfan godi i dros £2 biliwn erbyn 2030 i ymdrin â'n hanghenion datgarboneiddio, heb gynnwys costau ymaddasu na'r bygythiad i fioamrywiaeth.
Mae'n amlwg bod cyd-destun cyllidol y pandemig wedi gwanhau cyllid cyhoeddus. Mae'r Resolution Foundation yn amcangyfrif y bydd gwariant adnoddau adrannol nad ydyn nhw wedi'i gwarchod 24 y cant y pen yn is mewn termau real yn 2024-25 nag yn 2009-10. Y tu hwnt i'r adolygiad nesaf o wariant, mae dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn tynnu sylw at bwysau hirdymor difrifol, wedi'u hysgogi gan newid demograffig a chostau cynyddol gofal iechyd. Heb ymdrin â hyn, byddai'r pwysau yn gwthio dyled Llywodraeth y DU yn anghynaliadwy i fwy na 400 y cant o'r cynnyrch domestig gros 50 mlynedd o hyn ymlaen.
Rydym ni hefyd yn wynebu ansicrwydd parhaus ynghylch amseriad adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ac a fydd y Canghellor yn wir yn cadw at ei addewid o ddarparu setliad amlflwydd. Tan fod hyn yn dod i ben yn yr hydref, rydym ni'n gorfod ymgymryd â'n paratoadau heb wybodaeth benodol o ran ein setliad. Yn y cyd-destun hwnnw, byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ei bwriadau ar frys cyn gynted â phosibl.
Rwy'n ddiolchgar am gydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r cyd-destun heriol hwn. Rwy'n bwriadu dilyn arfer diweddar a chyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol ac adrannol gyfunol ar 20 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 1 Mawrth. Rwyf i'n llwyr gydnabod yr effaith a gaiff yr amserlen hon, yn enwedig ar awdurdodau lleol a'r trydydd sector, yn ogystal â'r effaith a gaiff hyn o ran craffu ar ein cynlluniau yn y Senedd. Wrth nodi'r cynllun hwn, rwyf i eisiau cadw cydbwysedd gofalus o sicrhau y gallwn ni wneud ein paratoadau'n effeithiol gan roi cymaint o sicrwydd ag y gallwn ni i bartneriaid a sicrhau gymaint o amser â phosibl i graffu arno yn y Senedd.
Wrth baratoi ar gyfer yr heriau sydd i ddod, rhaid i ni barhau i sicrhau bod ein cyllid sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf posibl ar flaenoriaethu'r gwaith o gyflawni ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, ac yn yr ysbryd hwnnw, rwyf i eisiau cydnabod gwaith diflino ein partneriaid yn ystod y pandemig. I gydnabod y gwaith hwnnw, rwyf i eisiau cadarnhau heddiw y bydd cyllid ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd i'n paratoadau ar gyfer y gyllideb.
Rydym ni eisoes wedi datgan ein huchelgais i ddarparu setliadau amlflwydd os ydym ni mewn sefyllfa i wneud hynny gan Lywodraeth y DU. Ar y sail bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewid, yr ydym ni'n ymgymryd â'n paratoadau ein hunain i'n galluogi ni i ymateb. Yng nghyd-destun adolygiad effeithlonrwydd y DU yn arwain at ganlyniad llai ffafriol, ni allwn ni anwybyddu'r cyd-destun hynod heriol yr ydym ni'n ei wynebu a'r dewisiadau anodd sy'n deillio ohono. Ond ni fyddwn ni'n gadael i'r heriau hyn ddanto ein huchelgais. Mae cyfnodau anodd yn galw am ddewisiadau anodd a dyna pam y byddwn ni'n defnyddio'r gwaith o ddatblygu strategaeth buddsoddi seilwaith 10 mlynedd newydd Cymru, yr wyf i'n bwriadu ei chyhoeddi ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23, i lunio'r gwaith pwysig y mae angen i ni ei wneud yn y blynyddoedd i ddod i gryfhau'r cysylltiad rhwng seilwaith a'r angen i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Byddwn ni'n ystyried pob dull sydd ar gael i ni, ond yr ydym ni hefyd yn parhau'n ymrwymedig i addewidion ein maniffesto. Rwyf i wedi ymrwymo i barchu'r addewid maniffesto y gwnaethom ni i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru wrth i effaith economaidd y pandemig barhau i gael ei theimlo.
Gwn fod llawer iawn o ddiddordeb yn y gyllideb hon. Yn debyg i flynyddoedd blaenorol, rwy'n bwriadu ymgysylltu â grwpiau o bob rhan o fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n manteisio ar y cyfle i siarad â'u rhwydweithiau eu hunain i ystyried a chyflwyno syniadau arloesol a newydd i ateb yr heriau y mae'n rhaid i ni eu hwynebu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael mandad clir a beiddgar: creu Cymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus. Bydd ein cyllideb y flwyddyn nesaf yn ein cefnogi ni ar hyd y llwybr hwnnw i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, ac, yn y gwaith hwnnw, rwyf i eisiau gwrando ar gyd-Aelodau a gweithio gyda nhw o bob rhan o'r Siambr hon, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw yn fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Fel bysys, dŷn nhw ddim yn dod am hydoedd ac wedyn mae yna ddau yn dod efo'i gilydd, ac rwy'n falch iawn o gael cymryd rhan.
Mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi arwain ar y math hwn o ddadl ac, yn arferol, byddai'r pwyllgor yn cynnal digwyddiad mawr i randdeiliaid neu ymgyrch ar-lein i glywed barn rhanddeiliaid ynghylch lle y dylai Llywodraeth Cymru fod yn blaenoriaethu ei gwariant. Byddai'r wybodaeth hon wedyn yn cyfrannu at ddadl o'r math hwn fel bod aelodau'n cael cyfle i drafod penderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru a dylanwadu arnyn nhw cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft. Fel pwyllgor, rydym ni'n credu y dylai'r ddadl hon gael ei harwain gan y Pwyllgor Cyllid yn y dyfodol. Rydym ni wedi ysgrifennu at y Gweinidog ac at y Pwyllgor Busnes i ofyn am eu cytundeb ar gyfer y ddadl flynyddol hon dan arweiniad y Pwyllgor Cyllid.
Y llynedd, dim ond setliad un flwyddyn a ddarparodd Llywodraeth y DU, felly rydym ni unwaith eto mewn sefyllfa lle bydd cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn cael ei ohirio nes bod gan Lywodraeth Cymru sicrwydd ynghylch ei setliad cyllid. Mae Canghellor y Trysorlys wedi nodi ei fwriad i gynnal adolygiad cynhwysfawr o wariant amlflwydd, sy'n debygol o ddod i ben yn yr hydref.
Mae'n siomedig y bydd cyllideb ddrafft gyntaf Llywodraeth Cymru hon yn cael ei chyhoeddi yn ystod toriad y Nadolig. Er ein bod ni'n gwerthfawrogi'r ansicrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wynebu, mae'r amserlen arfaethedig hon ar gyfer ystyried y gyllideb ddrafft yn cwtogi ar waith craffu gan y Senedd hon. Byddem ni'n annog y Gweinidog i ystyried unrhyw gyfle i gyflwyno'r dyddiad cyhoeddi yn gynt. Serch hynny, rydym ni'n falch y bydd adolygiad cynhwysfawr o wariant yn cael ei gynnal eleni fel bod gan Gymru rywfaint o sicrwydd o gyllid ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gynllunio'n effeithiol a darparu cyllid dangosol hirdymor ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'n anochel y bydd y gyllideb ddrafft sydd ar y gweill yn adlewyrchu adferiad parhaus Llywodraeth Cymru o COVID-19. Yng nghyllideb ddrafft y llynedd, roedd Llywodraeth Cymru yn dal cronfeydd sylweddol heb eu dyrannu oherwydd yr angen ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd i ymdrin â'r ymateb i'r pandemig. Rydym ni'n gobeithio eleni y byddwn ni'n gweld cyllideb ddrafft fanylach yn canolbwyntio ar adferiad y GIG, ar gyfer llywodraeth leol ac economi Cymru.
Y gyllideb ddrafft hon fydd y gyntaf yn y chweched Senedd, ac rwy’n gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid gydweithio â’r pwyllgorau polisi eraill. Gan ei bod yn debygol y caiff y gyllideb ddrafft ei chyhoeddi cyn y Nadolig, rydym yn bwriadu ymgynghori ar y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb ddrafft nesaf yn nhymor yr hydref. Mi fuaswn i'n annog Cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau i ymgysylltu â’r Pwyllgor Cyllid ynghylch sut y gall yr ymgynghoriad hwn gefnogi pwyllgorau unigol—
A gaf i oedi yma? Rwy'n deall nad yw'r cyfieithu'n gweithio, o edrych ar y Gweinidog.
Mae'n gweithio'n iawn i mi.
Mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n rhannol ac yn methu'n rhannol. [Torri ar draws.] Felly, mae'n ymddangos ei fod yn fater i'r meinciau cefn Llafur ar hyn o bryd. A gaf i oedi am eiliad wrth i ni weld a oes modd ymyrryd i ailddechrau'r cyfieithiad?
Felly, os gwnaf i siarad yn y Gymraeg i weld a ydy'r cyfieithu'n gweithio nawr—. Ydy, mae'n gweithio i rai Aelodau yn sicr. Dyw e ddim yn gweithio i bawb o hyd.
Mae'n iawn.
Mae'n iawn. Os yw Joyce yn dweud ei bod yn iawn—[Torri ar draws.] Iawn, rydym ni'n anfon Jack Sargeant i gefn y Siambr nawr i geisio gweld a all ddatrys hyn.
Felly, fe wnawn ni gario ymlaen. Dwi ddim yn siŵr iawn beth ddigwyddodd fanna. Ymddiheuriadau i Gadeirydd y pwyllgor, ond gallwch chi gario ymlaen gyda'ch gwaith.
Dim ond mymryn sydd i fynd, so does dim rhaid ichi boeni'n ormodol, felly. Dwi'n gobeithio y bydd y Pwyllgor Cyllid yn gallu cydweithio efo pwyllgorau polisi eraill gan ei bod, fel roeddwn i'n dweud, yn debygol y bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi cyn y Nadolig. Rydym yn bwriadu ymgynghori ar y blaenoriaethau yma ar gyfer y gyllideb ddrafft nesaf yn nhymor yr hydref. Mi fuaswn i hefyd yn annog Cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau i gysylltu â’r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â sut y gall yr ymgynghoriad hwn gefnogi pwyllgorau unigol yn eu prosesau craffu a sut y gallwn gydweithio ar draws y meysydd polisi i graffu ar waith y Llywodraeth. Diolch yn fawr.
Byddai'n dda gennyf pe bawn i'n gallu siarad Cymraeg a defnyddio'r cyfieithiad hefyd, ond efallai y byddaf i'n cyflawni hynny rhyw ddiwrnod. Gweinidog, diolch i chi am nodi blaenoriaethau'r Llywodraeth wrth symud ymlaen, ac rwy'n croesawu hefyd eich awydd chi ar gyfer syniadau newydd, felly ni fyddaf i'n eich siomi chi a byddaf i'n eich arwain chi drwy rywfaint o fy syniadau.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl Cymru wedi bod yn gwrando ar eich araith gyda diddordeb arbennig oherwydd mae'n bosibl dadlau mai blaenoriaethau'r gyllideb eleni fydd y rhai pwysicaf mewn cenhedlaeth. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir mai'r flaenoriaeth gyffredinol i unrhyw Lywodraeth yw sicrhau bod ein cymunedau a'n gwasanaethau ni'n ailgodi ar ôl COVID-19. O'r cychwyn cyntaf, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi bod yn sbarduno ei mentrau cadarn yn gryf i ddiogelu swyddi, busnesau a bywoliaethau rhag effaith ddinistriol y pandemig.
O dipyn i beth, rydym ni'n dod i'r golwg eto o gamau gwaethaf y pandemig, a dyna pam na all Llywodraeth Cymru wastraffu unrhyw amser wrth baratoi'r ffordd i ni ailgodi'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach. Mae'r pandemig wedi amlygu y bu Cymru'n dirywio hyd yn oed cyn i COVID-19 daro. Mae gennym ni un o bob pump o bobl yn sownd ar restr aros, yr economi sy'n tyfu arafaf yn y DU a'r cyflogau isaf ym Mhrydain. Mae dau ddegawd o Lywodraeth Lafur Cymru wedi dal gwir botensial Cymru yn ôl—dau ddegawd pan gafodd dyhead ei fygu, dau ddegawd pan gafodd gormod o bobl ifanc eu gadael ar ôl, a dau ddegawd pan gafodd gobeithion a breuddwydion eu chwalu. Roedd gennych chi gyfle gyda blaenoriaethau ariannol eleni i unioni llawer o gamweddau hanesyddol, a gobeithio efallai y gwelwn ni rai o'r camweddau hynny'n cael eu hunioni rywbryd. Ond, yn anffodus, Gweinidog, unwaith eto, rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi methu'r nod a'r cyfle heddiw i rannu mwy. Roedd angen i bobl Cymru weld glasbrint hirdymor ar gyfer adferiad wedi'i arwain gan swyddi i roi hwb mawr i economi Cymru a gwella'r wlad gyfan. Mae Cymru'n wlad o dalent aruthrol, ac rydym ni eisiau helpu i'w wireddu.
Fel plaid dyhead a chyfle i bawb, mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun buddsoddi uchelgeisiol i sicrhau dyfodol Cymru. Byddai ein cynllun beiddgar ar gyfer yr economi yn cynnwys adeiladu 100,000 o dai newydd yn ystod y degawd nesaf i helpu i roi hwb cychwynnol i economi Cymru, yn ogystal â chreu 65,000 o swyddi newydd. Byddem ni'n buddsoddi mewn seilwaith modern i Gymru, nid yn ei dynnu ymaith. Byddem ni'n sicrhau bod dim trethi drwy gydol tymor y Senedd, ac yn diddymu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach yn gyfan gwbl. Byddai codi trethi ar yr union adeg hon yn drychinebus, a gobeithio, Gweinidog, y byddwch chi heddiw yn diystyru cyflwyno trethi newydd.
Yn ystod yr 16 mis diwethaf, rydym ni hefyd wedi gweld sut mae ein gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol rheng flaen wedi dioddef cymaint wrth ein cadw'n ddiogel; mae'n ddyletswydd arnom ni nawr i sicrhau bod ganddyn nhw'r cyfleusterau gorau a digon o adnoddau i wneud eu gwaith. Dyna pam y mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth allweddol i ddatblygu cynllun clir i alluogi GIG Cymru i glirio'r ôl-groniad o restrau aros sydd wedi dirywio yn ystod y pandemig, yn ogystal â gweld mwy o arian i ymdrin â'r meysydd penodol niferus, megis iechyd meddwl, a'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol.
Fel cyn arweinydd cyngor hirsefydlog, rwyf i wedi crybwyll yn y Siambr hon sut yr wyf i wedi gweld y gwahaniaeth cynyddol rhwng cyllid a chronfeydd wrth gefn gwahanol gynghorau, ac wedi dadlau bod y system bresennol yn hen ac mae angen ei hadolygu, a bod angen setliad amlflwydd ar gynghorau—ac yr oeddwn i'n falch o glywed yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud ynghylch hynny—i sicrhau y gallan nhw barhau i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf. Er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i awdurdodau lleol, byddai'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn diwygio'r fformiwla ariannu llywodraeth leol i sicrhau cyllid teg ledled Cymru, yn enwedig i'n cynghorau gwledig, ac yn helpu i atal cynnydd gormodol yn y dreth gyngor.
Ac un o'r ffeithiau tristaf hyd yma yw bod cenhedlaeth o bobl ifanc wedi cael eu siomi. Ni allwn ni fforddio i hyn gael ei ailadrodd. Dyna pam y byddai ein cynllun ar gyfer newid hefyd yn sicrhau bod pob ysgol yr ysgol orau y gallai fod drwy roi terfyn ar danariannu addysg pobl ifanc—rhywbeth sydd wedi mynd ymlaen yn rhy hir o lawer. Mae hyn yn ychwanegol at recriwtio 5,000 yn fwy o athrawon i helpu pobl ifanc i ddal i fyny â dysgu a gollwyd ac i roi hwb i berfformiadau ysgolion.
Dylai'r hyn yr wyf i newydd ei nodi fod yn flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer symud Cymru yn ei blaen. Nid oes angen rhagor o esgusodion arnom ni neu unrhyw alwadau pellach o ran mwy o bwerau, ni fyddan nhw'n gwneud dim i ddatrys y problemau cynhenid sy'n wynebu pobl Cymru. Mae'r hyn yr ydym ni'n galw amdano heddiw yn gwbl bosibl, ond mae'n fater i Weinidogion Llafur Cymru, sy'n rheoli'r arian, a ydyn nhw'n dymuno unioni'r camweddau hanesyddol niferus hynny. Mae'n ffaith bod gennych chi swm syfrdanol o arian heb ei ddyrannu o hyd, fel y gwnes i sôn amdano yn y ddadl gynharach. Dyma'r amser, os ydych chi'n mynd i ddefnyddio'r arian hwnnw, i wneud hynny. Felly, Gweinidog, er mwyn dyfodol Cymru, a wnewch chi ystyried ein galwadau a defnyddio'r arian sydd heb ei ddyrannu, yn ogystal â chyflwyno ein syniadau blaengar, yr ydych chi wedi'u croesawu, i'n galluogi ni i ailgodi Cymru'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach?
Gaf i groesawu'r ddadl yma, a diolch i'r Gweinidog, wrth gwrs, am gynnig y ddadl yma yn absenoldeb y ffaith bod y Pwyllgor Cyllid heb ei sefydlu mewn pryd i allu gwneud hynny?
Y peth cyntaf dwi eisiau dweud a'r hyn dwi eisiau gwneud yw jest ategu'r hyn a wnes i ddweud yn y ddadl flaenorol: nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru fod yn fwy creadigol ac yn fwy uchelgeisiol o safbwynt ei chyllideb am y flwyddyn nesaf. Mae'r amgylchiadau o safbwynt ymateb i'r argyfwng hinsawdd, o safbwynt dod allan o'r pandemig ac o safbwynt parhau ymateb i Brexit yn golygu bod angen i'r Llywodraeth wneud popeth sy'n bosib i arloesi gyda'i chynlluniau gwariant.
Nawr, mi wnaethom ni fel plaid amlinellu opsiynau yn ein maniffesto, wrth gwrs, ar gyfer yr etholiad diweddar, ond rhan fawr o hyn i gyd, wrth gwrs, yw gwneud popeth y gallwn ni i osgoi jest gweithredu mwy o lymder ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, a defnyddio'r pwerau sydd gennym ni, ond hefyd mynnu pwerau ychwanegol i fedru buddsoddi yn yr adferiad rŷn ni i gyd eisiau ei weld.
Nawr, mi gyfeiriais at fenthyca gynnau, a dwi'n mynd i ategu'r pwynt eto: mae benthyca wedi'i gyfyngu i £150 miliwn y flwyddyn—dwi'n gwybod hynny—ond, dros y pum mlynedd diwethaf, dim ond £59 miliwn allan o'r £0.75 biliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fenthyca. Dwi'n credu bod amgylchiadau nawr yn mynnu ein bod ni'n symud o'r fan yna, achos nawr, yn fwy nag erioed, mae angen cyllideb i drawsnewid bywydau pobl Cymru sy'n canolbwyntio ar y tymor hir, sy'n canolbwyntio ar agenda ataliol ac nid busnes fel arfer.
Nawr, dyna oedd y newid diwylliannol radical roedd nifer ohonom ni'n gobeithio byddai'n cael ei sbarduno gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ond, yn ei hanfod, wrth gwrs, dyw'r newid sylweddol hwnnw ddim wedi digwydd. Ar y cyfan, mae dosraniad neu ddosraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru i bob pwrpas yr un peth heddiw ac roedden nhw efallai 10 mlynedd yn ôl. Dwi eisiau gweld sifft fwy pendant a ffocws cryfach flwyddyn nesaf ar ddelifro yn erbyn nodau llesiant Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Dwi hefyd eisiau gweld ffocws mwy didrugaredd ar drosglwyddo i economi werdd—transition i economi werdd—fydd yn helpu, wrth gwrs, i liniau'r risg o sioc economaidd yn y dyfodol, ac a fydd, hefyd, yn creu Cymru fwy gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Nawr, mae'r oedi ac adolygu ar brosiectau ffyrdd y mae'r Llywodraeth wedi'i gyhoeddi yn arwydd i mi, neu'n signal, fod y Llywodraeth eisiau symud fwyfwy i'r cyfeiriad yna, ond y litmus test i mi bob tro yw'r gyllideb. Os nad ydw i'n gweld y neges yna yn cael ei hategu a'i thanlinellu'n glir yng nghyllideb flwyddyn nesaf—nid dim ond yng nghyd-destun ffyrdd, ond ar draws cyllideb gyfan y Llywodraeth—yna fydd hynny ddim yn arwain at y newid go iawn dwi eisiau ei weld, ac mae'r amgylchiadau erbyn hyn yn mynnu dyw busnes fel arfer ddim yn opsiwn rhagor.
Nawr, mi fydd rhai o'm cyd-Aelodau i ar y meinciau yma yn amlinellu rhai materion penodol yn y ddadl; dwi eisiau jest cyffwrdd ar un neu ddau yn yr amser sydd ar ôl. Rŷn ni oll, wrth gwrs, eisiau gweld sicrhau gwell tâl ac amodau i staff y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, ac mae Plaid Cymru'n cefnogi'r alwad am godiad cyflog ystyrlon i staff nyrsio sy'n cydnabod gwerth eu gwaith nhw. Dwi'n mawr obeithio y gwelwn ni ymateb Llywodraeth Cymru yn debycach i'r ymateb sydd wedi'i gytuno yn yr Alban—y 4 y cant—yn hytrach na'r awgrym o 1 y cant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, oherwydd, heb roi cynnydd haeddiannol yng nghyflog ein nyrsys ni, mi fydd problem cadw a recriwtio nyrsys o fewn y gwasanaeth iechyd, wrth gwrs, yn dwysáu. Felly, buddsoddi nawr er mwyn sicrhau gweithlu digonol a'r sylfaen i wasanaeth mwy cydnerth a chynaliadwy yn y dyfodol. Byddai unrhyw beth llai na hynny yn wrth-gynhyrchiol.
Mae'r un peth yn wir o safbwynt cyflogau gofalwyr hefyd, wrth gwrs. Fel cymdeithas, rŷn ni wedi dirprwyo gofal i'r rhai sydd ar y lefel isaf o dâl a chyda'r gefnogaeth isaf, ac yn wyneb y toriadau parhaus i gyllidebau awdurdodau lleol dros y blynyddoedd—lawr bron chwarter mewn termau real ers 2010—mae'n rhaid i'r Llywodraeth weithredu ar yr agenda yna.
Mae tai, wrth gwrs, yn faes pwysig. Rŷn ni wedi clywed cyfeiriad at hynny eisoes—nid dim ond yr argyfwng tai a'r angen i weithredu yn y cyd-destun cyllidebol pan fo'n dod i daclo rhai o'r materion sy'n ymwneud â'r farchnad dai, ond hefyd, wrth gwrs, yr angen i gynyddu'r uchelgais o ran adeiladu tai. Mae'r pandemig wedi dangos bod modd dod â digartrefedd i ben os ydy'r ewyllys gwleidyddol yna; mae angen cynnal y momentwm penodol yna nawr. Ac, wrth gwrs, mae ymchwil wedi dangos y byddai buddsoddiad ataliol i atal digartrefedd yn creu arbedion yn ei sgîl, ac mae hynny'n rhywbeth byddwn i'n awyddus iawn i weld y Llywodraeth yn dwysáu o safbwynt eu ffocws gyllidol.
Mae'r argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, yn treiddio i bob rhan, gobeithio, o gyllideb y Llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gyrru elfen bwysig iawn, neu elfennau pwysig iawn, o'r gwaith yna, ac rŷn ni'n gwybod am y trajectory anghynaliadwy o safbwynt ariannu sydd yn crebachu o flwyddyn i flwyddyn, tra bod dyletswyddau a disgwyliadau yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae angen datrys hynny unwaith ac am byth.
Felly, fy mhle i yw'r Llywodraeth yw: os fydd eich cyllideb nesaf chi yn gyllideb busnes fel arfer, yna does dim awydd ar y meinciau yma i hwyluso hynny; ond, os byddwch chi'n ddewr, os byddwch chi'n radical, os byddwch chi'n uchelgeisiol, yna fe gerddwn ni'r llwybr yna gyda chi.
Rwyf i newydd ddeall polisi economaidd y Ceidwadwyr: rydych chi'n gwario mwy, ac rydych chi'n trethu llai. Nid wyf i'n hollol siŵr sut mae hynny'n gweithio, ac rwy'n siŵr na wnaeth Peter Fox hynny pan oedd yn arwain Cyngor Sir Fynwy, felly pam y mae eisiau i Lywodraeth Cymru wneud hynny, nid wyf i'n hollol siŵr.
Mae nod pob cyllideb yr un fath: gwella iechyd, gwella'r amgylchedd, lleihau allyriadau carbon, gwella cyrhaeddiad addysgol, gwella'r economi a gwella ansawdd bywyd pobl Cymru. Yr hyn a fydd yn digwydd yw y bydd cynnydd sylweddol yn y cyllid ar gyfer y gyllideb iechyd, a fydd, drwy fyrddau iechyd, yn anfon yr arian i ysbytai i gynnal triniaeth.
Rwyf i eisiau sôn am rywbeth gwahanol: hybu iechyd, yn hytrach nag ymdrin â salwch yn unig. Mae modd hybu iechyd drwy annog gweithgareddau iach, ymarfer corff rheolaidd, lleihau neu osgoi gweithgarwch neu sefyllfaoedd afiach, fel ysmygu neu ormod o straen. Rydym ni'n gwybod bod y canlynol yn gwella iechyd: golchi'ch dwylo. Rydym ni wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn problemau stumog a phroblemau gastrig yn ystod y 18 mis diwethaf, pan fu pobl yn diheintio ac yn golchi eu dwylo'n barhaus. Rwyf i wedi clywed gan o leiaf un bwrdd iechyd ei fod wedi gostwng tua 90 y cant. Mae angen i ni gysgu'n rheolaidd—gwella ein hylendid cysgu—cynnal ystum da, yfed digon o hylifau, bod yn fwy egnïol, cael 150 munud o ymarfer aerobig yr wythnos, lleihau lefelau straen a lleihau llygredd. Po leiaf o draffig sydd gennym ni ar y ffordd, y mwyaf yr ydym ni'n lleihau llygredd, ac mae llawer gormod o fy etholwyr yn byw yn agos at ffyrdd lle maen nhw dim ond 1m i ffwrdd ohonyn nhw, pan fyddan nhw'n mynd allan drwy'r drws ffrynt, mae'r ocsid nitrogen yn dod i mewn ac yn niweidio eu hiechyd.
Ac, wrth gwrs, a gaf i fynd â chi ymlaen at y prif un: gordewdra? Gordewdra yw ein problem fwyaf. Hwn fydd ein lladdwr mwyaf cyn bo hir. Mae'n achosi pwysedd gwaed uchel oherwydd bod angen ocsigen a maetholion ar feinwe braster ychwanegol yn y corff er mwyn byw. Gordewdra yw prif achos diabetes math 2. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd gennym ni 300,000 o bobl yng Nghymru sydd â diabetes, a bydd hynny'n costio dros £500 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Ac rwy'n sôn am ddiabetes math 2, nid diabetes math 1, sy'n hollol wahanol. Mae tua 80 y cant yn cael ei wario ar reoli cymhlethdodau, y byddai modd atal y rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae clefyd y galon gyda chaledu'r rhydwelïau yn bresennol 10 gwaith yn amlach mewn pobl ordew nag ydyw mewn pobl nad ydyn nhw'n ordew.
Er ein bod ni wedi gweld gostyngiad parhaus mewn ysmygu, sy'n un o'r llwyddiannau mawr a dweud y gwir—ac rwy'n siŵr y bydd pob Llywodraeth yn hawlio clod amdano, ond rwy'n credu ei fod yn un o'r llwyddiannau mawr yr ydym ni wedi'i weld; mae pobl yn ysmygu'n llai o lawer, ac mae wedi dod yn rhywbeth nad yw'n dderbyniol yn gymdeithasol erbyn hyn—yr hyn sydd gennym ni yw pobl yn bwyta eu hunain i ordewdra. Mae angen i Lywodraeth Cymru hyrwyddo ffordd iach o fyw, ac felly lleihau nifer y bobl â chyflyrau afiechyd.
A yw'n syndod bod pobl sydd â diet gwael, sy'n byw mewn amodau oer, llaith, yn fwy tebygol o fod ag iechyd gwael? Sylweddolodd Llywodraeth Attlee o 1945-51 y cysylltiad rhwng tai ac iechyd. Yn anffodus, nid yw hynny wedi'i ddilyn gan unrhyw Lywodraeth ers hynny. Mae angen i ni adeiladu tai cyngor o safon ledled Cymru i wella bywydau ac iechyd pobl. Mae gwella'r amgylchedd a darparu mannau gwyrdd a gwell ansawdd aer yn gwella iechyd.
Gan droi at rai meysydd eraill, fel y gwyddom ni, rydym ni'n colli bioamrywiaeth yn gyflym yng Nghymru. Mae'r 'Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol' diweddaraf yn nodi bod y duedd gyffredinol yn un o ddirywiad difrifol, sy'n adlewyrchu'r argyfwng natur byd-eang, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. O ran yr economi, mae gan ardaloedd llwyddiannus yn y byd, gan gynnwys y DU, brifysgolion o ansawdd uchel, cyflenwad parod o raddedigion newydd a màs critigol o gwmnïau technoleg, gydag ymchwil a datblygu'n digwydd, a nifer fawr o gwmnïau newydd. A all polisi economaidd Llywodraeth Cymru dargedu gwyddorau bywyd, TGCh a gwasanaethau ariannol? Dydw i ddim yn credu mai fi yw'r unig un sy'n credu bod angen mwy o 'Admirals' a llai o lywodraethau lleol arnom ni. Mae buddsoddi yn ein hysgolion a'n pobl ifanc yn fuddsoddiad ar gyfer y dyfodol. Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw llywodraeth leol a sut, pan fydd ei hangen arnom, y mae'n darparu nid yn unig y gwasanaethau sylfaenol, ond y gall fynd allan a darparu'r holl gymorth sydd ei angen.
Yn olaf, yn 2022, bydd yn gwbl wahanol i 2019. Mae gweithio gartref a siopa ar-lein yma i aros. Dyna gyfeiriad teithio'r economi hyd at 2019; roedden nhw'n symud yn araf. Yr hyn y gwnaethom ni ei weld oedd y pandemig yn rhoi hwb enfawr i'r hynny, ond nid yw pobl yn mynd yn ôl—i nifer o'r bobl yr wyf i'n siarad â nhw mewn gwahanol fannau, gweithio gartref rywfaint neu yn gyfan gwbl yw'r drefn newydd. Ac nid oedd unrhyw reswm dros fynd i rai gweithleoedd. Os mai'r cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw mynd at gronfa ddata nad yw hyd yn oed yn y swyddfa yr ydych chi'n mynd iddi, yna pam mae angen i chi fynd i mewn i'r swyddfa honno i wneud hynny? Gallwch chi ei wneud o unrhyw le. Efallai fod y gronfa ddata yn Nulyn neu efallai ei bod y tu allan i Gasnewydd—pam y mae angen i chi fynd i swyddfa ym Mae Caerdydd neu yn Abertawe i wneud hynny?
Ac a gaf i ddweud pa mor siomedig ydw i fod Llywodraeth Cymru yn dal i adeiladu ail ffordd osgoi Llandeilo? Yr A40 yw'r un gyntaf.
Rwy'n croesawu'r cyfle i godi, yn ystod y ddadl heddiw, bwysigrwydd y cynllun taliadau sylfaenol wrth gefnogi ffermwyr yng Nghymru sy'n gweithio'n galed a'r angen iddo gael ei ddiogelu yng nghyllideb 2022-23. Mae'r cynllun talu sylfaenol, y BPS, yn rhan annatod o ddiwydiant ffermio Cymru, gan gefnogi ffermwyr i gynhyrchu cynnyrch o safon mewn modd cynaliadwy. Rwy'n croesawu sylwadau cadarnhaol y Gweinidog materion gwledig fis diwethaf, lle dywedodd hi mai bwriad Llywodraeth Cymru oedd cynnal y cynllun taliadau sylfaenol drwy gydol 2022. Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i sicrhau bod hyn yn digwydd, a byddwn i'n dadlau nad yw'n dibynnu ar ymrwymiad ariannu Llywodraeth y DU yn y dyfodol, yn wahanol i'r hyn a ddywedodd y Gweinidog. Mae'n ddigon hysbys nad yw cynllun datblygu gwledig Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei rwymedigaethau a'i fwriad, a byddwn i'n dadlau'n gryf yn y dyfodol, y dylai blaenoriaethu cyllid amaethyddol gael eu cyfeirio at gynllun y taliad sylfaenol yn hytrach na'r cynllun datblygu gwledig.
Pan gaiff yr ymadrodd 'arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus' ei wyntyllu, ni allaf weld gwell nwydd cyhoeddus na'r bwyd a gaiff ei gynhyrchu gan ffermwyr ymroddedig Cymru. Ac er mai dim ond ar gyllideb 2022-23 y mae'r ddadl hon yn canolbwyntio, hoffwn i ychwanegu bod angen ymrwymiad ariannu hirdymor ar y diwydiant amaethyddol. Yn wir, dywedodd llywydd NFU Cymru, John Davies, fod angen ymrwymiad arall arnom ni nawr gan Lywodraeth Cymru i gynnal y cyllid hwn. Felly, rwy'n pwyso arnoch chi, Gweinidog, i weithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Cabinet, yn enwedig y Gweinidog materion gwledig, i sicrhau bod ein ffermwyr ni'n parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw drwy flaenoriaethu cyllid tuag at gynllun y taliad sylfaenol. Diolch.
Dwi'n siŵr ein bod yn gytûn yn y gobaith mai cyllideb adferol yn hytrach nag adweithiol fydd hon, a hoffwn ategu pwyntiau Llyr Gruffydd: mae angen i hon fod yn gyllideb radical os ydym am fynd i'r afael â'r heriau y mae ein cymunedau yn eu hwynebu. Bydd yn hanfodol felly fod rôl ganolog ein sectorau diwylliannol, celfyddydol, creadigol a threftadaeth yn cael ei chydnabod ynddi. Wedi'r cyfan mae'r sectorau hyn mor ganolog i'n heconomi a'n hunaniaeth fel cenedl, yn ogystal â lles personol pawb ohonom.
Maent hefyd yn rhan annatod o'n bywydau, fel sydd wedi dod hyd yn oed yn fwy amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth i nifer ohonom ganfod cysur drwy fod yn greadigol, â nifer o hobïau newydd, ac ati. Ond er bod y sectorau hyn wedi bod yn flaengar ac yn arbrofol o ran eu hymateb i'r pandemig, maen nhw hefyd wedi cael eu heffeithio'n ddybryd, gydag ansicrwydd mawr yn wynebu nifer o bobl sydd yn gweithio yn y meysydd hyn, yn llawrydd neu fel aelodau o staff. Nid gor-ddweud yw nodi er gwaetha'r gronfa adfer ddiwylliannol fod dyfodol Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Ffilm Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Urdd Gobaith Cymru o dan fygythiad. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiogelu eu cyfraniad gwerthfawr, eu hannibyniaeth a'u hyfywedd ariannol.
Ond peidied neb â meddwl mai bai y pandemig yn unig yw pa mor fregus ydy cyrff a sefydliadau diwylliannol Cymru. Y gwir amdani yw eu bod wedi dioddef diffyg buddsoddiad a chyfeiriad strategol ers dros ddegawd—yn wir, ers dyddiau Llywodraeth Cymru'n Un gydag Alun Ffred Jones fel Gweinidog diwylliant a chwaraeon. Ychydig fisoedd yn unig sydd ers i'r Senedd hon drafod yr angen am gyllideb gyllid teg a chyson i'n sefydliadau cenedlaethol, megis Amgueddfa Cymru a'r llyfrgell genedlaethol. Diolch byth, wedi ffrae gyhoeddus am fisoedd rhwng y llyfrgell a'r Llywodraeth, daeth cyllid brys i'r sefydliadau hyn ychydig fisoedd yn ôl, ond dim ond llenwi bwlch oedd hyn, yn hytrach na darparu cymorth a sicrwydd hirdymor. Mae'n sgandal nad oes gennym strategaeth ddiwylliannol gyda'r cyllid i'w chefnogi, a dwi'n croesawu ymrwymiad y Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden, i fynd â'r gwaith yma rhagddo. Mae ei angen ar fyrder, ac mae angen i'r cynnwys fod yn radical ac uchelgeisiol, ond gyda'r cyllid i'w wireddu. Un enghraifft bosib y dylid ei hystyried ydy'r syniad o incwm sylfaenol i bobl greadigol, rhywbeth y siaradodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru o'i blaid, gan nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru yn colli cyfleoedd o ran diwylliant mewn cynllunio ôl-bandemig.
Nid rhywbeth ymylol yw diwylliant Cymru, ac ni ddylai gael ei drin felly gan ein Llywodraeth. Fel y nododd What Next? Cymru yn eu maniffesto cyn yr etholiad, rhaid cryfhau'r
'dimensiwn diwylliannol ar draws Llywodraeth Cymru gan y bydd hyn yn cyflawni uchelgais gymdeithasol ac economaidd y llywodraeth ei hun yn fwy effeithiol ac effeithlon'.
Fe wnaethant hefyd ofyn i'r Llywodraeth
'sicrhau fod holl adrannau’r llywodraeth yn cefnogi, yn ariannu ac yn galw am elfen ddiwylliannol gref yn eu gwaith'.
'Culture is ordinary', sef geiriau enwog Raymond Williams. Ond os ydym o ddifrif am sicrhau mynediad a chynrychiolaeth i bawb yng Nghymru o ran diwylliant, mae'n rhaid i ni gyllido hynny. Mawr obeithiaf y gwelwn y gyllideb hon yn gwneud yn union hynny drwy unioni’r tangyllido hanesyddol a chefnogi’r sectorau hyn i wireddu eu potensial er budd pobl Cymru, economi Cymru a hefyd statws Cymru fel gwlad hyderus, ryngwladol, amlddiwylliannol.
Liciwn i ddechrau trwy ddweud gair o ddiolch i'r Llywodraeth am gynnal y drafodaeth yma yn absenoldeb y Pwyllgor Cyllid yn ystod y cyfnod yma. Dwi'n credu ei bod yn beth pwysig bod y Senedd yn cael cyfle i drafod y gyllideb cyn i'r Llywodraeth sefydlu'r gyllideb, so mae gennym ni gyfle i ddweud, fel cynrychiolwyr pobl Cymru, beth yw ein blaenoriaethau ni fel cenedl. A dwi eisiau dechrau trwy ofyn i'r Gweinidog os gallech chi yn eich ymateb i'r drafodaeth yma esbonio lle mae'r Llywodraeth yn sefyll ar hyn o bryd ar yr holl bwnc o gyllideb ddeddfwriaethol. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi trafod hyn ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a dwi yn meddwl bod hyn yn rhywbeth sy'n bwysig, yn arbennig yn y Senedd yma.
Ond fel eraill, mae yna ambell le ble dwi'n meddwl y dylai'r Llywodraeth bennu ei blaenoriaethau. Fel eraill hefyd, mi fuaswn i'n awgrymu hinsawdd, mynd i’r afael â thlodi—dwi'n credu bod hynny’n hynod o bwysig—a diogelu dyfodol gwasanaethau cyhoeddus. Fuasai dim un ohonoch chi yn cael eich synnu gan y fath flaenoriaethau, ac mi fyddai'r peth rhwyddaf yn y byd i ddweud hynny, ond dwi hefyd eisiau dweud ei bod yn bwysig yn ystod y blynyddoedd nesaf fod y Llywodraeth yn gwneud pethau sydd efallai ddim yr un mor boblogaidd.
Dwi wedi dadlau dros y blynyddoedd—a dwi'n credu ei bod hi'n hen bryd nawr i'r Llywodraeth fynd i'r afael â hyn—fod Llywodraeth Cymru yn rhy fach i actually cyrraedd y nod dŷn ni'n ei osod iddi hi. Dwi'n credu bod angen i ni fuddsoddi yn rhwydwaith y Llywodraeth ei hun. Y peth rhwyddaf yn y byd—ac mae pob un ohonom ni'n ei wneud e, pob un blaid, y gwrthbleidiau ac Aelodau meinciau cefn Llafur—yw beirniadu'r Llywodraeth am beidio cyflwyno beth mae eisiau gwneud. Ond am yn rhy hir hefyd, dŷn ni i gyd, pob un ohonom ni, wedi bod yn dadlau dros doriadau i'r gwasanaeth sifil a thoriadau i weinyddiaeth y Llywodraeth. Ac os ydyn ni o ddifrif amboutu y polisïau gwahanol sydd gyda ni—dwi wedi sôn amboutu'r hinsawdd, dwi'n sôn amboutu tlodi—mae'n rhaid inni hefyd gael Llywodraeth sy'n gallu gwneud hynny, ac mae hynny'n meddwl ein bod ni'n buddsoddi yn y Llywodraeth, a dwi'n credu ei bod yn bwysig gwneud hynny.
A dwi'n falch iawn bod y Prif Weinidog yn ei sêt y prynhawn yma ar gyfer y drafodaeth yma, ac mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth ymateb i gwestiynau fod datganiad yn mynd i fod gan y Llywodraeth ar sut mae’r Llywodraeth bresennol, newydd yn mynd i gyflwyno gwaith yn y Cymoedd. Mi wnes i ac eraill arwain gwaith ar dasglu'r Cymoedd yn ystod y Senedd sydd newydd ddod i ben, a dwi'n awyddus i ddeall sut mae'r gyllideb yn mynd i ystyried buddsoddi yn ein cymunedau mwyaf tlawd yn y wlad. Dwi yn clywed beth mae pobl yn ei ddweud amboutu pob man yn y wlad, ac mae'n bosibl gwneud dadl gref iawn dros fuddsoddi ym mhob un cymuned—dwi'n cydnabod hynny—ond dŷn ni i gyd yn gwybod hefyd fod y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn Ewrop yn dal i fod yn y Cymoedd, a dwi'n credu bod angen i'r Llywodraeth yma wneud datganiad clir fod buddsoddiadau'n mynd i fod yn y rhanbarth yma.
Y peth olaf dwi eisiau dweud yw amboutu sut dŷn ni'n fforddio hyn i gyd, achos dŷn ni i gyd yn dal yn meddwl amboutu cyllideb fel cynllun gwario, a does dim un cyfraniad wedi bod eto yn ystod y drafodaeth yma amboutu o ble mae'r incwm yn dod. Mae gyda ni gyfle yn fan hyn i godi trethi, os dyna beth ydy nod y Llywodraeth; dwi wedi dadlau yn y gorffennol bod angen gwneud hynny er mwyn diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus. Ond beth dwi eisiau clywed gan y Gweinidog ydy hyn: mae hi wedi dweud beth ydy blaenoriaethau'r Llywodraeth, a dwi'n cyd-fynd â phob un ohonyn nhw, ond gaf i ofyn i'r Gweinidog oes yna ddigon o cash yn y banc i wneud hynny? Ac os nad oes, o ble mae'r arian yn dod? Pa fath o impact mae'r pandemig wedi'i gael ar yr incwm o drethi Cymreig? Ydyn ni'n gwybod hynny eto? Oes yna ddadansoddiad wedi bod o ble mae'r incwm yn dod? Achos dwi'n credu, fel rhan o aeddfedu fel Senedd, fod yn rhaid inni symud i gyllideb ddeddfwriaethol, ond mae'n rhaid iddi fod yn gyllideb, a dim jest cynllun gwario. Dwi'n credu mai dyna'r gwendid rydyn ni wedi'i gael yn ein trafodaethau yn y gorffennol. Mae pob un eisiau gwario arian, a does neb yn cynnig o ble mae'r arian yn dod. Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni ddechrau ystyried hynny yn ystod y misoedd nesaf. Diolch yn fawr.
Diolch am y cyfle i drafod paratoadau o ran y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fwy neu lai. Mae hon yn ddadl amserol, ac mae'n amlwg yn un eithriadol o bwysig wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19, a hoffwn i droi fy nghyfraniad at lywodraeth leol, a'r swyddogaeth a'r chyfle i gefnogi cynghorau yn briodol. Ond ar yr adeg hon, rwy'n atgoffa'r Aelodau o'm diddordeb fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd.
Drwy gydol y pandemig hwn, mae cynghorau wedi gweithio yn anhygoel o galed, ac mae eu hymdrechion wedi bod yn eithriadol. Mae'r flwyddyn a hanner diwethaf wedi dangos mai cynghorau sydd yn y sefyllfa orau yn aml i benderfynu yr hyn sydd orau i'w hardal. Mae pobl yn gwybod pwy yw eu cynghorwyr lleol, ac mae ganddyn nhw gysylltiad personol â'r ddemocratiaeth leol honno hefyd. Fel y cyfryw, mae'n hanfodol bwysig bod ganddyn nhw'r arian i gyflawni blaenoriaethau lleol. Mae cynghorau yng Nghymru, fel y gwyddom ni, wedi wynebu pwysau sylweddol yn ystod y pandemig, ac mae rhywfaint o'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod cynghorau Cymru hyd yma, wedi adrodd am golledion ariannol o gannoedd o filiynau o bunnoedd drwy golli incwm a gwariant ychwanegol. Rwyf i'n sicr yn cydnabod y gefnogaeth sylweddol y mae'r Llywodraeth wedi ei rhoi i gynghorau drwy gydol y cyfnod hwn, ond bydd y colledion hyn yn cael effaith sylweddol ar gyllidebau cynghorau yn y dyfodol, gan arwain at bwysau cyllidebol cynyddol, nid yn unig nawr, ond yn y dyfodol hefyd. Dangosodd yr adroddiad diweddaraf gan Ddadansoddi Cyllid Cymru y gallai pwysau pethau heb eu cyllido mewn cynghorau y flwyddyn nesaf fod dros £400 miliwn, ac mae angen cydnabod a chefnogi hyn yn briodol drwy benderfyniadau cyllidebol fel y gall cynghorau gyflawni y blaenoriaethau lleol hynny.
Felly, o ddarparu gwasanaethau lleol i gefnogi pobl sy'n agored i niwed a darparu cymorth busnes, mae cynghorau wedi dangos yr hyn y gallan nhw ei wneud pan gânt eu hariannu a'u cefnogi yn briodol, ac yn aml mae modd gwneud hyn gan darparu gwerth am arian ac atebolrwydd lleol clir. O ran gwerth am arian, rydym ni'n gwybod bod gwariant lleol gan awdurdodau lleol yn darparu'r gwerth hwnnw am arian. Yn aml, gall llywodraeth leol weithio'n agosach ac yn well gyda chyflenwyr lleol, ac mae adroddiadau hyd yn oed wedi dangos, ar gyfer pob £1 sy'n cael ei gwario gyda chyflenwr lleol, bod hynny werth tua £1.76 i'r economi leol, ond dim ond 36c os caiff ei wario y tu allan i'r ardal leol. Mae hynny'n gwneud pob £1 werth tua 400 y cant yn fwy yn lleol i'r economi leol, felly mae'n rhoi gwerth da iawn am arian yn yr ardaloedd lleol.
Yn olaf, mae modd cryfhau mwy ar brosesau gwaith a chynllunio cynghorau drwy ddarparu setliadau realistig, amlflwydd i'r cynghorau hynny, a byddai hyn yn rhoi sicrwydd ariannol tymor hir i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau hanfodol. Hefyd, fel y dywedais i eisoes yn y Siambr droeon, dyma'r amser i ddatganoli mwy o bwerau i gynghorau a dod â'r pŵer hwnnw yn nes at bobl, a fyddai'n cael ei groesawu ynghyd â'r cymorth ariannol priodol hwnnw. Felly, i gloi, Llywydd, o'm hochr i, dyma'r amser i'r gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf ganiatáu i gynghorau ffynnu drwy fwy o sicrwydd o ran cyllid, ac i rymuso penderfyniadau lleol drwy'r lefelau ariannu hynny sy'n adlewyrchu'r gwerth sydd gan gynghorau yn ein gwlad. Diolch yn fawr iawn.
Gan mai bwriad y drafodaeth yma ydy ceisio barn y Senedd am flaenoriaethau cyllidebol y Llywodraeth, dwi am gymryd y cyfle i bwysleisio unwaith eto yr angen i symud tuag at gyllidebau sydd ag atal problemau ac atebion tymor hir wrth eu gwraidd.
Mae buddsoddi mewn addysg ein plant a'n pobl ifanc yn rhan gwbl greiddiol o'r agenda ataliol, ac mae'n hollol amlwg fod angen blaenoriaethu buddsoddi yn ein hysgolion ni, a chyflogi mwy o staff a all gefnogi ein pobl ifanc efo'u dysgu. Dros ddegawd, rydym ni wedi colli bron i 1,700 o staff o'n hysgolion ni, ac mae angen cychwyn gwyrdroi hyn ar frys, a gwneud hynny drwy gynllunio i gynyddu'r gweithlu drwy fuddsoddi yn ein hysgolion ni, yn hytrach na'r hyn sydd wedi bod yn digwydd, sef eu gorfodi nhw i wneud toriadau i'w cyllidebau nhw ac i ddiswyddo staff.
A gaf i erfyn arnoch chi i gynnwys ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim fel blaenoriaeth yng nghyllideb 2022-23? Peidiwch ag anwybyddu adolygiad eich Llywodraeth chi'ch hun, sydd wedi dod i'r casgliad y dylai pob teulu sydd ar gredyd cynhwysol fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Os ydych chi'n gwneud un peth yn y gyllideb yma, gwnewch hyn er mwyn y teuluoedd tlotaf yng Nghymru.
Yn olaf, a gaf i jest gymryd y cyfle i holi am dâl ac amodau athrawon? Mae'r corff adolygu cyflogau annibynnol wedi argymell y dylid cynyddu pob pwynt graddfa statudol—ar bob graddfa a phob lwfans—1.75 y cant. Mae'r Gweinidog addysg wedi derbyn yr argymhelliad yma. Wrth gwrs, dwi'n deall nad oes yna ddim cyllid ychwanegol yn dod ar gyfer dyraniadau cyflogau athrawon gan y Torïaid a'u Llywodraeth nhw yn Lloegr. A fedrwch chi felly gynnig eglurder am hyn? Sut ydych chi'n mynd i weithredu'r argymhelliad sydd wedi cael ei dderbyn gan eich Gweinidog addysg chi? A wnewch chi roi diweddariad am eich trafodaethau chi efo'r gymdeithas llywodraeth leol ynglŷn â beth fydd y sefyllfa efo tâl ac amodau athrawon? Mae angen gwybod ar frys, achos mae eu cyllidebau nhw yn yr ysgolion yn cychwyn o fis Medi, wrth gwrs, onid ydyn, sydd yn broblem arall, wrth gwrs. Ond mi fyddai cael eglurder am y sefyllfa yna pnawn yma yn ddefnyddiol. Diolch yn fawr.
Mae angen i mi ddatgan buddiant gan fy mod i'n dal i fod yn gynghorydd yn sir y Fflint o hyd hefyd. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf o gyni, oherwydd i gyllidebau Llywodraeth Cymru gael eu torri, mae gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, wedi eu torri at yr asgwrn. Maen nhw wedi ad-drefnu ac ailstrwythuro tan eu bod nhw wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Roedd y dreth gyngor yn arfer cyfateb i 24 y cant o'r gyllideb; daw'r gweddill o'r Llywodraeth. Nawr, mae'n cyfateb i 30 y cant o'r gyllideb, ac ni all barhau i gynyddu. Ni all preswylwyr ei fforddio, a bydd cyfraddau treth heb ei chasglu yn parhau i dyfu. Mae cynghorau hefyd yn un o'r cyflogwyr mwyaf, sydd hefyd wedyn yn cyfrannu at yr economi. Mae angen cynnwys dyfarniadau cyflog, pwysau cynyddol ar y gyllideb, yn bennaf ar ofal cymdeithasol ac addysg, a chyflwyno deddfwriaeth newydd, gan fod cynghorau bellach ar y pwynt tyngedfennol. Mae toriadau i wasanaethau'r cyngor yn golygu toriadau i dimau draenio, cynnal a chadw priffyrdd, cyllid ar gyfer addysg, gofal cymdeithasol, casgliadau gwastraff, trwsio tyllau ar y ffordd a glanhau strydoedd—yr holl bethau hyn sy'n bwysig i bobl. Beth bynnag yw maint a demograffeg cyngor, mae costau sefydlog nad oes posibl eu newid, yn parhau mewn sawl ardal. Mae angen sefydlu cyllid gwaelodol fel bod gan y rhai sy'n cael y cyllid lleiaf ddigon o hyd i allu darparu'r gwasanaethau sylfaenol. A gaf i ofyn i'r Gweinidog pa waith sydd wedi ei wneud i ymchwilio i gyflwyno cyllid gwaelodol llywodraeth leol i ddiogelu gwasanaethau a'r rhai sy'n dibynnu arnyn nhw, ac a oes modd ystyried hynny ar gyfer y dyfodol hefyd? Diolch.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl heno. A gaf i ddatgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd yn sir Ddinbych? Rwy'n mynd i sôn am lywodraeth leol.
Mae'r pandemig coronafeirws a'r effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar y glannau hyn yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf wedi amlygu'r problemau strwythurol o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru. Wrth i'r genedl gyfan frwydro i ymdopi â'r feirws, y rhai a oedd yn dibynnu ar ein sector gofal cymdeithasol a ddioddefodd fwyaf. Y rhai a oedd yn gweithio yn ein sector gofal oedd yn gorfod ysgwyddo'r baich mwyaf. Bu'n rhaid i rai o'n gweithwyr a oedd ar y cyflogau isaf weithio bob dydd, drwy'r dydd, heb fawr ddim amddiffyniad, gan orfod ymdrin â'r tor calon cyson o'u cleifion yn marw o glefyd ofnadwy a aeth â bywydau cynifer o bobl. Bu farw dros 1,600 o bobl a oedd yn byw mewn cartrefi gofal o ganlyniad i'r pandemig, ond yn fwy na hynny, fe wnaethon nhw farw oherwydd bod ein sector gofal cymdeithasol yn cael ei danariannu a'i orymestyn. Mae'r ddadl hon gan Lywodraeth Cymru yn gofyn i ni ystyried y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r blaenoriaethau yn syml yn fy marn i: mae angen i ni fynd i'r afael â thanariannu cronig ein system ofal. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gwblhau'r broses o gyfuno iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw'n ehangu swyddogaethau byrddau partneriaeth rhanbarthol, ond nid ydyn nhw'n darparu mwy o arian ar gyfer hynny. Felly, mwy o'r un peth yw hyn. Maen nhw'n disgwyl i adrannau gwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol wneud mwy, ond maen nhw'n rhoi llai a llai iddyn nhw bob blwyddyn. Cyn i unrhyw un ohonom ni hyd yn oed glywed am COVID, roedd cydweithwyr mewn llywodraeth leol yn rhybuddio y byddai diffyg o gannoedd o filiynau o bunnoedd mewn gofal cymdeithasol. Mae'r sefyllfa wedi mynd o ddrwg i waeth.
Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd flaenorol, nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gwerth dros £279 miliwn o bwysau cyllidebol sylfaenol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn unig. Yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor iechyd, tynnodd CLlLC sylw at y ffaith bod y problemau ariannu wedi creu materion penodol o ran yr effaith ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn seiliedig ar alw, a breuder posibl darparwyr gofal preifat llai wedi'u comisiynu gan y cyngor. Mae'r pwysau hyn yn cynyddu a byddan nhw’n parhau i gynyddu. Bydd angen tua 20,000 o staff gofal cymdeithasol ychwanegol arnom ni erbyn diwedd y degawd, ac mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cael cyflog teg. Mae gennym ni ddiffyg truenus o dai y mae modd eu haddasu ar gyfer anabledd. Rydym ni wedi gweld cynnydd o dros chwarter yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Er hynny, methodd Llywodraeth Cymru â rhoi'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu i ofal cymdeithasol. Methodd y gyllideb atodol â neilltuo unrhyw arian sylweddol ar gyfer gofal cymdeithasol. Cafodd mwy o arian ei ddyrannu i raglenni cyfnewid rhyngwladol na'r hyn a gafodd ei ddyrannu ar gyfer cymorth ychwanegol i ddysgwyr y blynyddoedd cynnar. Mae'n bryd rhoi'r gorau i ariannu prosiectau anifeiliaid anwes a sicrhau ein sector gofal cymdeithasol, ac o ganlyniad, llywodraeth leol, yn cael eu hariannu'n ddigonol. Diolch yn fawr iawn.
Ail-etholwyd Llywodraeth Lafur Cymru ym mis Mai eleni am dymor arall o bum mlynedd gan bobl Cymru. I mi, y man cychwyn yw'r trafodaethau hynny ar baratoadau cyllideb 2022-23. Mae modd eu gweld ar dudalennau'r contract hwnnw rhwng y Llywodraeth Lafur a phobl Cymru. Rydym ni'n gwybod—pob un ohonom ni yn y lle hwn—bod yn rhaid i ni ddod â'r pandemig hwn i ben ac ailgodi'n gryfach yn decach ac yn wyrddach, ond y daith honno sy'n hollbwysig. Ni fyddaf i'n ailadrodd y pwysau allanol anochel a'r diffyg ysgogiadau, a gafodd ei anwybyddu'n yn llwyr gan y Blaid Geidwadol gyferbyn a'u dull 'gwario mwy, trethu llai', mae'n siŵr y caiff ei werthfawrogi'n fawr gan Alice yng nghynhyrchiad diweddar Opera Cenedlaethol Cymru.
Fodd bynnag, yn y pumed Senedd—fy nghyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd dros Islwyn—roeddwn i'n dadlau'n gryf am i ni sicrhau bod Cymru yn datblygu strategaeth gerddoriaeth genedlaethol a chynllun addysg, yn eistedd o fewn strategaeth ddiwylliannol wedi'i hariannu, fel y gall ein plant ledled Cymru gael y cyfle i fanteisio ar addysg gerddorol heb rwystrau ariannol na rhwystrau o ran cael cymryd rhan. Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn sydd wedi ei ddweud yn y maes hwn. Mae Cymru yn adnabyddus ledled y byd fel gwlad y gân. Ein dyletswydd ni yw sicrhau yn y lle hwn ein bod ni'n meithrin yr etifeddiaeth honno ac yn ei gwella ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Felly, roeddwn i'n arbennig o falch o weld, ym maniffesto Llafur Cymru, yr ymrwymiad i sefydlu gwasanaeth cerdd cenedlaethol i sicrhau nad yw diffyg arian yn rhwystr i bobl ifanc sy'n dysgu canu offeryn. Ni fydd hynny'n hawdd yn y cyd-destun hwn. A bydd, bydd her bob amser, fel sydd wedi ei fynegi, o ran dyrannu cyllid. Ond mae'n rhaid i ni ariannu plant Cymru er mwyn sicrhau bod ein bywyd diwylliannol gwych yn cael ei gadw, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n rhaid i gyllidebau ganolbwyntio' ar bunnoedd a cheiniogau ac mae hynny'n briodol, ond ni allwn ni, ac ni ddylem ni werthfawrogi bywyd ein cenedl ar sail elw a cholled yn unig. Mae'n rhaid i'n holl genhadaeth a'n gweledigaeth gyfunol ganolbwyntio ar feithrin bywyd cerddorol a chreadigol Cymru. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gerddoriaeth, rwy'n croesawu'r llu o Aelodau ledled y Siambr a ledled yr holl bleidiau sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod plant Cymru yn parhau i gael y cyfle i fanteisio ar eu hawl gerddorol a chreadigol. Rwy'n croesawu hefyd y cynigion cyffrous a gafodd eu crybwyll ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol.
Llywydd, Llywodraeth Dorïaidd y DU sy'n cynnal y system fudd-daliadau yng Nghymru, a bydd angen mawr i Lywodraeth Lafur Cymru barhau i sefyll yn gadarn iawn dros y rhai mewn angen, boed hynny'n rhai a gafodd eu gadael ar ôl oherwydd toriadau lles cronig, canlyniadau tlodi tanwydd, diweithdra neu realiti'r diffyg tosturi a ddangoswyd iddyn nhw gan San Steffan. Fel y dywedodd Llywodraeth Cymru, drwy benderfynu dod â'r taliad credyd cynhwysol ychwanegol o £20 i ben o fis Medi ymlaen, mae Llywodraeth y DU wedi tro ei chefn ar lawer iawn o bobl pan fo angen y cymorth arnyn nhw fwyaf. Bydd yn hanfodol ein bod ni'n asesu blaenoriaethau'r gyllideb yn y dyfodol er mwyn parhau i leddfu'r dinistr y mae tlodi'n ei achosi ym mywydau teuluoedd a chymunedau. Gweinidog, un peth yr wyf i'n ei wybod yn sicr yw y bydd pobl dda Islwyn yn cael eu gwasanaethu'n dda gan Lywodraeth Lafur Cymru wrth bennu blaenoriaethau'r gyllideb ar gyfer 2022-23, ac yn ymladd dros ddyfodol mwy disglair, gwyrddach, tecach a mwy llewyrchus i bawb.
Y Gweinidog cyllid i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r holl gydweithwyr am yr hyn sydd wedi bod yn ddadl eang iawn a diolch am y sylwadau yr ydych chi wedi bod yn eu cyflwyno heddiw. Rwyf i'n cytuno y byddai'n wych, yn y dyfodol, i'r ddadl hon gael ei chynnal gan y Pwyllgor Cyllid. Yn amlwg, oherwydd rhesymau ymarferol, nid oedd yn bosibl eleni, ond mae'n galonogol iawn clywed y bydd y pwyllgor yn cynnal ymchwiliad drwy'r hydref. Bydd hynny'n ddefnyddiol iawn o ran ein helpu ni i benderfynu ar y penderfyniadau y mae angen eu gwneud o ran dyraniadau. Unwaith eto, mae'n gadarnhaol iawn y bydd y pwyllgor yn ymgysylltu â phwyllgorau polisi eraill i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb ar y cyd a blaenoriaethau ar y cyd. Felly, unwaith eto, arloesedd rhagorol arall, rwy'n credu.
Er ein bod ni'n parhau i wynebu amgylchiadau ansicr a heriol iawn, rydym ni'n croesawu'r syniadau newydd hynny a'r cynigion newydd pa bryd bynnag y maen nhw o fudd i Gymru a'n cymunedau ni. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n barod i ymgymryd â chysyniadau arloesol waeth pa blaid wleidyddol sy'n eu cyflwyno. Ni allwn ni ddianc rhag, ac ni allwn ni ychwaith anwybyddu'r penderfyniadau anodd y bydd angen i ni eu gwneud. Ar yr un pryd, ni fyddwn i'n gadael i hyn ddigalonni ein hymgyrch a'n penderfyniad i gyflawni ein hymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu yn ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, a gafodd fandad gan bobl Cymru. Rwy'n ffyddiog bod gennym ni yr offer a'r syniadau i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon yr ydym ni wedi ei gosod ar gyfer ein hunain. Byddaf i'n defnyddio ein paratoadau i archwilio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf bosibl, boed hynny drwy roi mwy o werth ar effeithiau cymdeithasol a chontractau caffael, neu fodelau cyllid ad-daladwy sy'n canolbwyntio yn fwy ar fusnes i'r rhaglenni a'r prosiectau yr ydym ni'n eu cefnogi.
Rwy'n ddiolchgar i'm cyd-Aelodau am yr holl sylwadau. Ni fyddaf i'n ymateb yn fanwl, oherwydd nad dyna bwrpas y ddadl heddiw; mae'r ddadl heddiw yn ymwneud mewn gwirionedd â gwrando a chithau'n cael cyfle i nodi eich blaenoriaethau chi. Ond rwyf i eisiau rhannu rhai o'r pethau gyda chi yr wyf yn credu fy mod i wedi eu clywed o'r drafodaeth heddiw. Un ohonyn nhw yw y dylem ni ganolbwyntio yn ddi-baid ar adferiad, o ran unigolion a threchu tlodi, ond hefyd o ran diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwych, gan gynnwys y GIG ac, wrth gwrs, llywodraeth leol, a gweithio i sicrhau nad yw'r bobl hynny sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig yn cael eu gadael ar ôl yn yr adferiad. Mae'r pwyntiau a gafodd eu gwneud am ran addysg a chefnogi teuluoedd sy'n cael trafferthion wedi eu clywed yn dda yn y fan yna
O ran iechyd a gofal cymdeithasol, rwyf i wedi clywed bod awydd i gefnogi'r gweithlu, cymorth i ofalwyr a hybu iechyd a lles, a hefyd pwyslais gwirioneddol ar wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. O ran tai, mae awydd i ymdrin â'r materion hynny sy'n ymwneud â'r farchnad ei hun, i ymdrin â'r angen i adeiladu mwy o dai ac ymdrin â digartrefedd, gyda'r canolbwyntio dwysach hwnnw ar atal hynny rhag digwydd. O ran ymdrin â newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, roedd angerdd gwirioneddol dros hynny, rwy'n credu, ledled y Siambr y prynhawn yma. A llawer o sylwadau o ran sut y gallwn ni gefnogi'r economi, pa un ai yw honno'n tyfu mewn meysydd lle yr ydym ni'n datblygu arbenigedd gwirioneddol yma yng Nghymru, fel y sector gwasanaethau ariannol, neu gefnogi ein heconomi wledig, neu nodi a datblygu'r rhan bwysig sydd gan ein sector cerddoriaeth, diwylliant a threftadaeth yn yr economi, ond hefyd o ran ein diwylliant a'n bywyd cymdeithasol. Mae'r holl bwyntiau hynny, yn fy marn i, wedi cael eu gwneud yn dda iawn y prynhawn yma.
Rwyf hefyd eisiau dweud rhywbeth yn fyr iawn ynghylch yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae angen y cyllid arnom ni i droi'r dyheadau hyn yn bethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl yma yng Nghymru. Ond rwyf i eisiau sôn am yr effaith y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â'r gronfa codi'r gwastad yn ei gael arnom ni yma yng Nghymru a'n cyllideb ni a'r hyn y gallwn ni ei wneud. Mae'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd werth £375 miliwn bob blwyddyn i Gymru dros saith mlynedd. Pe byddem ni wedi aros yn yr UE, byddai Cymru wedi cael dyraniad ariannol blwyddyn lawn yn dechrau o fis Ionawr 2021 ar gyfer rhaglenni newydd, waeth beth fo'r taliadau parhaus o gyllideb yr UE ar gyfer ymrwymiadau presennol a gafodd eu gwneud yn ystod y cylch presennol o raglenni'r UE. Yn 2021-22, rydym ni'n amcangyfrif y bydd Cymru'n cael £30 miliwn i £50 miliwn o'r gronfa codi'r gwastad a'r gronfa adnewyddu cymunedol, gan nodi bod y ddwy hyn, wrth gwrs, yn gystadleuol, ac mae hyn yn creu toriad enfawr i gyllideb Llywodraeth Cymru, gan wneud i gynghorau lleol gystadlu am rywfaint o'r arian hwnnw. Ac mae wedi cael ei werthu i bobl yng Nghymru fel buddsoddiad mewn codi'r gwastad, ond a dweud y gwir, os nad yw'r bwlch yn cael ei lenwi, bydd Cymru o dan anfantais arall o ran ymdrin â'n heriau economaidd.
Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn peryglu rhaglenni hanfodol i Gymru gyfan a fydd yn ganolog i adferiad, er enghraifft, Busnes Cymru a'r banc datblygu, yn ogystal â chynlluniau cyflogadwyedd allweddol fel y prentisiaethau a'r hyfforddiaethau sydd wedi'u hintegreiddio i'r sefyllfa economaidd yng Nghymru dros nifer fawr o flynyddoedd. Felly, dyna sydd mewn perygl yn y fan yma hefyd.
Ac rwyf i eisiau dweud rhywbeth ynghylch yr adnoddau sydd ar gael o ran cyllid ffermydd a physgodfeydd hefyd. Dim ond £400 miliwn y byddwn ni'n ei gael—. Mae'n ddrwg gennyf i, esgusodwch fi, byddwn ni ond yn cael £242 miliwn o gyllid newydd ar gyfer y polisi amaethyddol cyffredin o'r DU, gan adael Cymru £137 miliwn yn brin o'r cyllid yr oeddem ni'n disgwyl ei gael eleni. Ac rydym ni'n anghytuno'n llwyr ag awgrym Llywodraeth y DU eu bod wedi cyflawni eu rhwymedigaethau i ddarparu cyllid newydd i ffermwyr a datblygu gwledig drwy gyfuniad o gyllid newydd o'r adolygiad o wariant, a gweddill cyllid yr UE yng Nghymru o £95 miliwn a throsglwyddiad o £42 miliwn o golofn i golofn. Pe byddai Llywodraeth y DU wedi darparu setliad ariannol rhesymol ac amlflwydd y llynedd, yna byddem ni wedi bod mewn gwell lle i ystyried y gefnogaeth i'r trefniadau hyn.
Felly, dyma rai o'r heriau gwirioneddol yr ydym ni'n ymdrin â nhw ar hyn o bryd, ac a fydd yn anochel yn cael effaith barhaus ar ein cyllideb yn y dyfodol hefyd.
Felly, hoffwn i ddweud wrth gloi, fy mod i yn croesawu'r ddadl. Rwy'n credu ei bod yn dangos bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i godi'r Gymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus honno. Diolch i bob cyd-Aelod am eu cyfraniadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim gwrthwynebiad i'r cynnig yma. Felly, mae'r cynnig yn cael ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Sy'n dod â ni nawr at y cyfnod pleidleisio, ac felly, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr cyn cynnal y bleidlais.