– Senedd Cymru ar 13 Hydref 2021.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar y sector ynni a'r argyfyngau hinsawdd a natur. Galwaf ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7803 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) datganiad y Senedd o argyfwng hinsawdd yn 2019, ac argyfwng natur yn 2021;
b) y bydd 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP26) yn cyfarfod yr Hydref hwn i gytuno ar gamau gweithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd;
c) y bydd 15fed cyfarfod Cynhadledd y Partïon (COP15) i'r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol (CBD) yn cyfarfod y gwanwyn nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang;
d) targed Llywodraeth Cymru i gyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050;
e) cred y Senedd y dylid sicrhau cydraddoldeb rhwng y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r rhai a gymerir i fynd i'r afael â'r argyfwng natur (NDM7725);
f) bod y Senedd wedi pasio NDM7725 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gofyniad sy'n rhwymo mewn cyfraith i wrthdroi colli bioamrywiaeth drwy dargedau statudol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) geisio datganoli rheolaeth Ystad y Goron a'i hasedau yng Nghymru yn llawn i Lywodraeth Cymru;
b) ceisio datganoli pwerau ynni yn llawn;
c) gwneud y mwyaf o botensial Cymru ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni a gefnogir gan y wladwriaeth;
d) datblygu gweithlu sero-net yng Nghymru drwy hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr yn y sector ynni;
e) hwyluso'r gwaith o ehangu'r pŵer adnewyddadwy sy'n angenrheidiol i gwrdd â sero-net drwy fuddsoddi'n helaeth mewn uwchraddio grid trydan Cymru;
f) datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru, a cheisio cyllid pellach gan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith porthladdoedd yng Nghymru i gefnogi'r sector gwynt ar y môr sy'n datblygu;
g) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni drwy arwain y gwaith o nodi datblygiadau adnewyddadwy i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae angen ymateb brys ar unrhyw argyfwng. Dyna'r neges sydd wrth wraidd ein dadl heddiw, gan y diffinnir argyfwng fel rhywbeth y mae angen gweithredu arno ar unwaith; dyna sy'n ei wneud yn argyfwng. Rydym ni yng Nghymru wedi datgan argyfyngau natur a hinsawdd dros y blynyddoedd diwethaf, ond hyd yn hyn, ni chafwyd digon o weithredu i atgyfnerthu'r datganiadau hynny. Mae arnaf ofn nad yw aros yn fraint y gallwn ei fforddio mwyach. Mae Cymru a'r byd yn wynebu trychinebau hinsawdd a natur, ac yn yr un modd ag y mae'r argyfyngau hyn yn cydblethu a'u hachosion yn gydgysylltiedig, mae'n rhaid i'w hatebion fod wedi'u cydblethu hefyd. Mae'n rhaid inni gael dulliau cydradd o fynd i'r afael â'r argyfyngau hyn, y newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth, oherwydd Ddirprwy Lywydd, rydym ar drobwynt yn hanes y ddynoliaeth. Nid yn aml y gallwn ddweud rhywbeth mor fawr â hynny mewn gwirionedd, ond mae'n wir. Nid yn unig y bydd y dewisiadau a wnawn yn awr, neu'r rhai y methwn eu gwneud, yn gosod y sefyllfa ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, byddant hefyd yn sicrhau a yw'r byd hwnnw'n dal i fodoli ai peidio.
Mae COP15 yn agor yr wythnos hon ac mae COP26 ar y gorwel. Nawr, maent yn rhoi cyfle i'r byd wrthdroi'r newid yn yr hinsawdd a dirywiad bioamrywiaeth. Mae llawer iawn yn y fantol, ond mae llawer yn ofni y gallai'r fframweithiau a ddaw o'r COP fod yn esgus dros beidio â chymryd camau cryfach, a phawb yn claddu eu pennau yn y tywod ar yr union adeg y mae'r tywod hwnnw'n llifo allan o'r awrwydr, ac ar yr awr dyngedfennol, gallai arweinwyr y byd fethu gwneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud. Ond nid oes angen i bethau fod felly, a gall Cymru helpu i osod y cywair. Yn hytrach nag aros i COP26 a COP15 ddod i ben a defnyddio'r fframweithiau hynny i lunio ein hatebion ein hunain, gallem arwain y ffordd a dangos unwaith eto sut y gall gwlad o faint Cymru arwain y byd.
Dywedais na allwn fforddio aros, ond mae'r datganiadau a wnaethom a'r cynadleddau sydd i ddod yn rhoi cyfle inni fod yn radical, i fod yn arloesol ac i dorri cwys newydd, gan fod angen gweithredu ar frys. Mae'r argyfwng hinsawdd eisoes yn taro ein cymunedau'n galed. Y Rhondda, Llanrwst, Ystrad Mynach—mae strydoedd ym mhob cornel o'n gwlad, bron â bod, wedi wynebu llifogydd erchyll. Mae cartrefi a busnesau wedi'u dinistrio, ac mae tirlithriadau o domenni glo anniogel yn fygythiad parhaus. Mae tanau gwyllt a sychder wedi dod yn gyffredin, a bob blwyddyn daw tymereddau uwch nag erioed â dinistr yn eu sgil, gan godi'n ddi-droi'n-ôl fel y moroedd wrth ein traed.
Yn union fel y mae rhai pethau'n codi, mae eraill yn cwympo. Disgwylir i'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar ein planed arwain at golli miliwn o rywogaethau. Yng Nghymru, mae'r RSPB a phartneriaid eraill wedi ein rhybuddio yn eu hadroddiad Cyflwr Natur 2019 fod 666 o rywogaethau yng Nghymru dan fygythiad o ddifodiant, ac mae 73 rhywogaeth eisoes wedi diflannu, sy'n drychineb y dylem wneud mwy na dim ond ei nodi a symud ymlaen. Mae'r rhywogaethau hynny wedi ein gadael oherwydd y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Mae niferoedd gloÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant ers 1976, ac mae 30 y cant o rywogaethau mamaliaid y tir mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl yng Nghymru, fel y wiwer goch a llygoden y dŵr. Ddirprwy Lywydd, mae'r wyddoniaeth yn glir, ac mae Cymru yn teimlo effeithiau'r argyfyngau hyn sy'n cyd-fodoli, yr un sy'n parhau i godi a chodi, a'r llall sy'n ein tynnu i lawr i ddyfnderoedd colled.
Felly, beth y gallwn ei wneud i newid hyn? Wel, mae ail ran ein cynnig yn nodi cyfres o gamau beiddgar ac uchelgeisiol y gall, ac y mae'n rhaid i Gymru eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â difrifoldeb yr argyfyngau hyn. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gynyddu potensial ein gwlad ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu cwmni datblygu ynni wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth. Rydym yn galw am ddatblygu gweithlu sero-net yn y sector ynni, ehangu capasiti ynni adnewyddadwy drwy fuddsoddi mewn gwaith uwchraddio i'r grid trydan, strategaeth ar gyfer porthladdoedd Cymru a fyddai'n cefnogi'r sector gwynt ar y môr, a chynllun datblygu morol i roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni ac i sicrhau nad yw datblygiadau adnewyddadwy yn cael eu cynllunio yn yr ardaloedd mwyaf sensitif o safbwynt ecolegol.
Dywedais fod adnoddau ar gael i ni, ond nid yw holl adnoddau Cymru o dan ein rheolaeth, a dyna pam ein bod hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgyrchu dros ddatganoli rheolaeth Ystad y Goron yn llawn a datganoli pwerau ynni yn llawn, er mwyn sicrhau bod gennym yr holl ysgogiadau sydd eu hangen arnom i fynd benben â'r argyfyngau hyn.
Nawr, bydd llawer o'r hyn y siaradwn amdano yn y ddadl hon ar raddfa enfawr, targedau byd-eang a llwybrau a chynlluniau sy'n ymestyn ddegawdau i'r dyfodol, ond nid mewn graffiau neu rifau neu beilonau yn yr awyr yn unig y caiff effeithiau diffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn y meysydd hyn eu mesur. Effeithir ar fywydau pobl ar lawr gwlad mewn ffordd aruthrol o bersonol hefyd. Mae'r argyfwng ynni diweddar yr ydym yn dal i fod yn ei ganol wedi tanlinellu ein dibyniaeth ar farchnadoedd ac adnoddau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, a pha mor agored yr ydym i'w siociau hwy. Mae cwsmeriaid yn wynebu biliau uwch ac mae'r diwydiant yn wynebu toriadau yn y cyflenwad a chau i lawr. Y teuluoedd sydd leiaf abl i fforddio prisiau uwch fydd yn cael eu taro waethaf. Mae'r llifogydd y soniais amdanynt yn gynharach nid yn unig yn dinistrio tai, maent yn rhwygo bywydau pobl. Dyna ganlyniad diffyg gweithredu.
Ddirprwy Lywydd, pan gawsom ein dadl ym mis Mehefin, a arweiniodd at y Senedd yn datgan argyfwng natur, dywedodd Mike Hedges y gallai cymaint o greaduriaid annwyl yr ydym yn eu hadnabod mewn llyfrau plant ddiflannu o’n byd cyn bo hir. A chredaf fod y ddelwedd honno o lyfrau stori yn un gref. Pa lyfrau stori, pa lyfrau hanes, y byddem eisiau i'n hwyrion eu darllen yn datgan beth a wnaethom ar yr adeg hon, pan ellir newid cymaint o hyd, os bydd papur ar ôl i ysgrifennu arno? A ydym am i'r naratif ymddatod, i gaethiwo cenedlaethau'r dyfodol mewn dystopia o dir llosg, tirweddau llwm a llanw sy'n codi ac yn codi? Neu a ydym am droi'r ddalen heddiw, ac agor pennod a fydd yn caniatáu i'r plant hynny adrodd stori o lwyddiant? Mae llygaid y dyfodol arnom ni heddiw. Mae eu tynged yn ein dwylo ni. Gadewch inni ddechrau eu straeon yn awr tra gallwn.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni prosiectau ynni mawr i Gymru;
b) croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau sero-net arloesol yng Nghymru;
c) adeiladu ar y ffaith bod diwydiant a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £40 miliwn i gefnogi'r clwstwr o ddiwydiannau yn ne Cymru i bontio i sero net;
d) cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi darparu £4.8 miliwn, yn amodol ar achos busnes a chymeradwyaethau eraill, i gefnogi datblygiad hwb hydrogen Caergybi;
e) yn croesawu Cronfa Bwyd Môr y DU, sydd werth £100 miliwn, a gynlluniwyd i lefelu cymunedau arfordirol ledled y DU, a gweithio i weithredu yn hytrach nag oedi cyn creu porthladd rhydd yng Nghymru;
f) gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu pecyn o gymorth ar gyfer buddsoddiad preifat mewn cynlluniau ynni adnewyddadwy;
g) hwyluso goruchafiaeth gynyddol ynni adnewyddadwy drwy roi mwy o frys ar sicrhau y gall seilwaith ddarparu ar gyfer galw;
h) datblygu a gweithredu cynllun datblygu morol;
i) creu 15,000 o swyddi glas/gwyrdd newydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar, ac rwy'n ddiolchgar iawn unwaith eto i Blaid Cymru am y ddadl bwysig hon. Nawr, gyda COP15 ar y gweill, mae'n briodol iawn ein bod yn sicrhau bod ein Llywodraeth yng Nghymru yn gwneud ei gorau glas i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Ar draws y Siambr, rydym yn cytuno bod angen cyflawni sero-net erbyn 2050 a diogelu o leiaf 30 y cant o dir a môr erbyn 2030. Ond rydym yn anghytuno ynglŷn â sut yr awn ati i gyflawni'r nodau hynny.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn genedlaetholwyr Cymreig go iawn, yn galw am ddatganoli pwerau ymhellach a chreu cwmni wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth, cwmni newydd wedi'i gefnogi gan y wladwriaeth, ond pam y byddech am i Lywodraeth Cymru wneud hynny pan oeddent, ychydig wythnosau yn ôl yn unig pan oeddem yn siarad am y tomenni glo, yn awyddus i roi'r cyfrifoldeb hwnnw ar ysgwyddau Senedd y DU, gan ddweud nad oes gennym adnoddau yma yng Nghymru? [Torri ar draws.] Na, na, na, fe'i gelwir yn ddatganoli. Pam fyddai arnoch eisiau Llywodraeth Cymru fel hon, sydd wedi gwastraffu cannoedd o filiynau o bunnoedd, fel £221 miliwn ar ardaloedd menter anghystadleuol, £9.3 miliwn ar gyllid cychwynnol diffygiol i Gylchffordd Cymru, a £130 miliwn ar gynnal Maes Awyr Caerdydd?
Nawr, mae Llywodraeth y DU—Ceidwadwyr—ar y llaw arall yn barod iawn i brofi ei bod am gyflawni chwyldro gwyrdd, ac yma yng Nghymru, gyda dros £40 miliwn wedi'i ymrwymo i gefnogi'r clwstwr o ddiwydiannau yn ne Cymru i drawsnewid i sero-net, £4.8 miliwn yn cael ei ddarparu, yn amodol ar achos busnes a chymeradwyaethau eraill, i gefnogi—[Torri ar draws.]—i gefnogi hwb hydrogen Caergybi, ac maent eisoes wedi ymrwymo £90 miliwn i brosiectau sero-net arloesol yng Nghymru.
Nawr, nodais yn glir yn y Senedd ddiwethaf y dylai 'Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040' fod wedi mynd i'r afael â'r problemau difrifol a nodwyd gan randdeiliaid, sef y diffyg difrifol o gapasiti grid yng nghanolbarth Cymru. Bûm yn siarad heddiw ddiwethaf â datblygwyr ynni, ac maent yn wirioneddol bryderus am y sefyllfa yng nghanolbarth Cymru. Ac mae angen i chi fel Llywodraeth Cymru wynebu eich cyfrifoldeb ar hyn a gweithio mewn modd cydlynol gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gallwn gynyddu capasiti'r grid. Mae angen inni wybod pa derfyn amser a bennwyd i gyflawni'r cynllun hirdymor a pha gamau a fydd yn cael eu cymryd i wella capasiti yn y tymor byr, fel y gall y seilwaith ddarparu ar gyfer y galw sydd ei angen i drydaneiddio ein seilwaith gwresogi a thrafnidiaeth.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio i'r eithaf ar y potensial ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy drwy sefydlu pecyn cymorth ar gyfer buddsoddiad preifat mewn unrhyw gynlluniau newydd, ac mae hyn yn ymwneud â'r hyn yr oeddech yn ei ddweud yn gynharach, Rhun, am gynlluniau bach. Penderfynodd y Gweinidog Materion Gwledig ddiddymu cymorth ardrethi busnes gwirioneddol hanfodol ar gyfer prosiectau hydrodrydanol ar raddfa fach dan berchnogaeth breifat. Yn hytrach, beth am anfon neges glir at ein ffermwyr a'n rheolwyr tir fod Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi i arallgyfeirio drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy? Os na wnewch chi weithredu yn awr, bydd tystiolaeth syfrdanol yr adroddiad 'Cynhyrchu Ynni yng Nghymru' diwethaf yn cael ei hailadrodd: cynnydd yng nghyfanswm y capasiti ynni dŵr o lai na 0.2 y cant; cynnydd o lai nag 1 y cant yng nghapasiti solar ffotofoltäig Cymru; dim un prosiect storio batri ar raddfa fawr wedi'i gomisiynu yn 2019; a chynnydd o 0.6 MWh yn unig yn nifer y gosodiadau storio batri domestig a masnachol ar raddfa fach.
Er y gallwch roi camau ar waith i annog buddsoddiad preifat, mae angen i lywodraeth ar bob lefel—ac rwy'n derbyn hynny—gydweithredu ar ddarparu cynlluniau ynni mawr i Gymru. Mae Wylfa Newydd yn enghraifft allweddol, a diolch—. O, mae wedi mynd; roedd y tu ôl i mi. Ond fe soniodd Sam Kurtz am Wylfa a’r gwaith y mae ein cyd-aelod o'r Blaid Geidwadol, Virginia Crosbie AS, yn Ynys Môn—. Gallwn fod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod adweithydd modiwlar bach yn cael ei adeiladu yn Nhrawsfynydd erbyn y 2030au, ac mae gennym gyfle anhygoel o gyffrous gyda morlyn llanw gogledd Cymru, a allai ddarparu ynni glas cwbl ragfynegadwy i dros filiwn o gartrefi. Gwnaf, fe wnaf ildio.
Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn am ddweud: a wnewch chi ychwanegu morlyn llanw Abertawe at hynny?
Yn sicr. Roeddwn yn cefnogi morlyn llanw Abertawe, ac rwyf—. Yn y pen draw, ydw, rwy'n cefnogi hwnnw—felly hwnnw a'r un yng ngogledd Cymru.
Fel y dywedodd Margaret Thatcher, 'Efallai y bydd yn rhaid i chi ymladd brwydr fwy nag unwaith i'w hennill.' Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda'n busnesau preifat a Llywodraeth y DU i barhau i ymladd er mwyn cyflawni'r chwyldro gwyrdd hwn yng Nghymru, a gadewch inni wneud hon yn genedl ynni fyd-eang wych unwaith eto. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 2—Lesley Griffiths
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Cadarnhau ei ymrwymiad i'r egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn Natganiad Silesia i gefnogi gweithwyr drwy drosglwyddo teg i net zero.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) chwarae ei rhan i alluogi trawsnewid ein system ynni i gadw manteision economaidd a chymdeithasol o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng nghymunedau Cymru.
b) cynyddu capasiti cynhyrchu ynni sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol.
c) cefnogi porthladdoedd Cymru i sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi i sicrhau'r manteision lleol mwyaf posibl o ddatblygu cynhyrchu ynni morol.
d) diogelu bioamrywiaeth morol tra'n hwyluso'r defnydd o dechnoleg ynni morol, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas.
Yn galw ar arweinwyr byd-eang i ddefnyddio 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd i ymrwymo i roi terfyn ar y defnydd o lo wrth gynhyrchu ynni.
Yn ffurfiol.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddigon ffodus i allu cerdded ar hyd yr afon Taf i'r Senedd, ac, wrth gerdded ar hyd y glannau, dwi'n adlewyrchu'n aml gymaint o'r ardaloedd o amgylch a fyddai o bosib o dan dŵr o fewn ychydig flynyddoedd os nad ydyn ni'n cydweithio gyda'n gilydd. Ac mae hyn yn bwysicach na gwleidyddiaeth pleidiol, onid yw e? Mae'n rhaid inni gydweithio gyda'n gilydd—Llywodraethau ledled y byd a hefyd Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig a llywodraethau lleol.
Y rhybudd amlwg gan gadeirydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yw 'addasu neu farw', a gŵyr pob un ohonom nad oes Clawdd Offa yn bodoli mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd. Ond mae angen inni ddod o hyd i atebion yma yng Nghymru ar gyfer realiti byd-eang. I wneud hynny, mae angen y rheolaeth arnom. Mae arnom angen yr ysgogiadau i wneud gwahaniaeth go iawn. Mae gwelliannau i'n trefniadau cyfansoddiadol wedi cael eu rhewi gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Tra bo Boris Johnson yn mwynhau paentio yn ei fila foethus, mae'r argyfwng hinsawdd yn arwain at rewlifoedd yn toddi, ac yma, maent yn gwarafun yr offer sydd eu hangen arnom i weithredu.
I daclo'r argyfwng, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru geisio datganoli pwerau ynni yn llawn. Dylai Llywodraeth Cymru lywodraethu adnoddau Cymru ar gyfer pobl Cymru ac er budd amgylcheddol ac economaidd Cymru, heddiw ac i'r yfory.
Ni allwn ganiatáu i eraill ecsbloetio adnoddau Cymru eto fyth. Dros ddegawd yn ôl yn y lle hwn, dywedodd Leanne Wood hyn:
'Ar anterth y diwydiant glo, cynhyrchwyd elw enfawr o adnoddau naturiol Cymru, ond llifodd yr holl arian, bron, allan o'r wlad ac i bocedi pobl mewn mannau eraill.'
Allwn ni ddim gadael i hyn ddigwydd eto.
Gall Cymru gynhyrchu'r pŵer sydd ei angen arnom o ffynonellau adnewyddadwy ac allforio ynni ledled y byd. O'r lle hwn, bu porthladd Caerdydd, Cymru fyd-eang, Cymru ryngwladol, yn allforio glo i bedwar ban byd. Gallwn fod yn arweinydd unwaith eto.
Yr hyn na allwn ei wneud yw aros ac aros am roddion prin gan Lywodraeth ddifater San Steffan. Fel y gwelir yn yr adroddiad ar borthladdoedd y dyfodol, a gyhoeddwyd heddiw, mae Ystad y Goron yn arwerthu lesoedd ar gyfer datblygu ynni gwynt ar y môr a thechnolegau adnewyddadwy eraill. Gwnânt hynny er mai Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am ynni adnewyddadwy ar gyfer prosiectau hyd at 350 MW. Mae refeniw proffidiol o lesoedd Ystad y Goron a ddylai ddod yma i Drysorlys Cymru yn diflannu yn hytrach i bot yn Whitehall, gyda chyfran hael o 25 y cant i'r teulu brenhinol. Mae arian a allai wneud gwahaniaeth i deuluoedd yma yng Nghymru yn mynd yn syth i gyfrifon banc biliwnyddion.
Wedi cael ei ofni gan gynnydd yr SNP ar ôl y refferendwm annibyniaeth, cafodd Ystâd y Goron ei datganoli i'r Alban, ond mae llais honedig Cymru yn y Cabinet, Simon Hart, yn erbyn hynny i Gymru; dyw Cymru ddim yn ddigon da am y pŵer yna, yn ôl e. Ond mae'r ffigurau yn drawiadol. Gwrandewch: 27 y cant o ynni Cymru yn dod o ynni adnewyddadwy o gymharu â 61 y cant yn yr Alban.
Mae rheolaeth Ystad y Goron ar wely ein môr, heb sôn am ddarnau mawr o'n tir, yn golygu bod Cymru'n colli'r rhuthr gwyrdd y mae'r Alban yn elwa ohono ar hyn o bryd, ac mae'r un peth wedi digwydd ar hyd y canrifoedd. A dyna eironi marchnad ynni neoryddfrydol y DU—mae cwmnïau ynni a chanddynt gefnogaeth y wladwriaeth o bob rhan o Ewrop yn manteisio ar adnoddau Cymru ac yn gwario'r arian hwnnw i helpu eu gwasanaethau cyhoeddus eu hunain gartref, tra bod ein gwasanaethau cyhoeddus ein hunain yn dirywio oherwydd diffyg buddsoddiad.
Heddiw, yn nigwyddiad y gynghrair werdd yn San Steffan, nododd Ed Miliband mai Rachel Reeves fyddai Canghellor gwyrdd cyntaf y DU. Wel, yma yng Nghymru, nid oes angen inni aros am Lywodraeth Lafur. Beth am gael y pwerau fel mai Rebecca Evans yw'r Gweinidog cyllid gwyrdd cyntaf a dangos y ffordd i'ch cyd-aelodau o'r Blaid Lafur yn Llundain?
Yn hytrach na diffyg uchelgais San Steffan, mae angen sicrhau'r pwerau i bweru Cymru. A dwi'n gorffen gyda hwn.
Os ydym am wneud y mwyaf o'n potensial ynni adnewyddadwy, mae'n rhaid inni wneud hynny gyda'n dwy droed ein hunain a'n dwy law ein hunain; ni allwn ddibynnu ar eraill, yn enwedig Llywodraeth ddifater San Steffan. Dylai adnoddau Cymru gael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru—
A wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
—ar gyfer pobl Cymru, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.
Mae mor syml â hynny. Diolch yn fawr.
Rydym mewn perygl o gael ein parlysu gan faint yr her sydd o'n blaenau, ond nid yw gwasgu ein dwylo mewn anobaith yn dda i ddim; mae'n rhaid inni achub ar y cyfle, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae.
Ond ni chredaf fod llawer o werth taflu dartiau at Lywodraeth y DU i ofyn iddynt am fwy o ddatganoli, gan nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb o gwbl. Maent yn casáu datganoli ac maent yn gwneud popeth a allant i'w fachu'n ôl oddi wrthym, gan ddefnyddio gadael yr Undeb Ewropeaidd fel cyfle i wneud hynny. Dywedwyd wrthym na fyddem yn cael 'yr un geiniog yn llai' o ganlyniad i Brexit—aeth hynny'n dda; £137 miliwn yn llai o'r rhaglen datblygu gwledig a'r holl gronfeydd strwythurol yn cael eu herwgipio i'w cronfa ffyniant gyffredin, fel y'i gelwir. Nid oedd 'adfer rheolaeth' yn golygu grymuso cymunedau lleol, dim ond mwy o bŵer i'r mega-gyfoethog, sydd bellach yn prynu eu dylanwad dros y blaid sy'n rheoli yn Llywodraeth y DU.
Felly, gadewch inni anghofio'r hyn nad yw Llywodraeth y DU yn mynd i'w wneud drosom; rydym yn gwybod hynny. Rwy'n cytuno â Rhys ab Owen y gallem gynhyrchu digon o ynni glân i ddatgarboneiddio ein marchnad ynni ddomestig, a gallem fod yn ei werthu i’r niferoedd dirifedi o bobl sydd am ei brynu oddi wrthym, ond nid ydym wedi llwyddo i wneud hynny hyd yn hyn, ac mae angen inni ddeall ychydig yn well pam ein bod wedi gweld gostyngiad yng nghynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Efallai y dylwn ddatgan buddiant yma, gan fod fy mhartner yn ymgynghorydd gyda Bute Energy, sy'n archwilio yng Nghymru. Ond mae gwir angen inni feddwl sut rydym yn mynd i gyflymu'r defnydd o ynni adnewyddadwy gwyrdd, gan fod galw mawr am ynni, yma yng Nghymru ac yng ngweddill Ewrop.
Rydym yn ymwybodol o'r angen i ddatgarboneiddio ein trafnidiaeth, a bydd rhywfaint o hynny'n ymwneud â newid i geir trydan o danwydd ffosil, ond ni allwn fforddio gwefru'r ceir trydan hyn gan ddefnyddio'r tanwyddau ffosil budr yr ydym yn ceisio dianc rhagddynt, felly mae'n rhaid inni gynhyrchu llawer iawn mwy o ynni adnewyddadwy. Mae'n rhaid i ni hefyd ddatgarboneiddio ein holl dai, ac mae hynny'n golygu nid yn unig ôl-osod yr holl dai presennol sydd eisoes wedi'u hadeiladu, sef ein holl dai, bron â bod, ond mae'n rhaid i ni hefyd roi stop ar yr holl gwmnïau adeiladu tai mawr hyn sydd am barhau i adeiladu tai nad ydynt yn addas at y diben. Felly, rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog ddweud wrthym pryd y byddwn yn uwchraddio Rhan L yn y rheoliadau adeiladu i sicrhau mai safonau di-garbon yn unig a gynhyrchir gennym yn y dyfodol.
Mae angen inni feddwl hefyd am bopeth a wnawn fel unigolion. Ac er mwyn gallu gwneud y dewisiadau iawn, mae'n rhaid inni ddeall beth yw cost prynu cynnyrch penodol yn hytrach nag un arall. Oherwydd nid oes pwynt allforio ein hallyriadau carbon drwy ddweud, 'Nid wyf am brynu hwn am ei fod yn cynhyrchu gormod o allyriadau carbon yma. Fe gawn rywun dramor i wneud hyn drosom.'
Mae'n rhaid inni ddeall, os ydym am gynhyrchu cig yn ddiwydiannol yn y ffatrïoedd cig moch hyn neu'r ffatrïoedd cyw iâr hyn, mae cost i'r byd, nid yn unig yng Nghymru wrth i'n hafonydd gael eu llygru, ond beth y maent yn ei fwyta ac o ble y daw? Os ydym am gael anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu'n anghynaladwy—. Mae porfa yn ddull cynaliadwy iawn o gynhyrchu cig, ond os ydym yn eu cynhyrchu drwy eu bwydo â soia a grawn, mae'n debyg ein bod yn cyfrannu at ddatgoedwigo sylweddol yn yr Amazon.
Felly, bydd angen inni addysgu pawb i wneud dewisiadau priodol am bopeth a wnawn yn ogystal â meithrin ein natur drwy benderfyniadau bach iawn ynghylch gosod blychau ffenestri a phlannu bwyd i ni a'n cymdogion ei fwyta. Dyma'r pethau y gallwn eu gwneud, ond credaf fod angen inni roi'r gorau i geisio meddwl bod Llywodraeth y DU rywsut yn mynd i newid eu hymddygiad—nid ydynt yn mynd i wneud hynny—ac rydym yn mynd i orfod gwneud hyn ein hunain.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig ac amserol hon heddiw, sy'n amlwg yn eang ei chyrhaeddiad o safbwynt ei theitl—gallai'r Aelodau ddilyn sawl trywydd mewn perthynas â'r ddadl hon heddiw.
Hefyd, hoffwn groesawu a chefnogi adran gyntaf y cynnig gan Blaid Cymru, sy'n nodi'r holl waith da sydd wedi digwydd mewn gwahanol sefydliadau ac mewn gwahanol rannau o'r wlad hefyd. Rwyf am geisio cadw fy nghyfraniad mor ymarferol â phosibl, gan ganolbwyntio ar gyflawniad.
Mewn perthynas ag atebion ynni gwyrdd, i mi, mae tri phwynt perthnasol y byddaf hefyd yn canolbwyntio arnynt yn fy nghyfraniad. A'r cyntaf sydd angen inni ei drafod a pharhau i'w ystyried, rwy'n credu, yw'r amrywiaeth o atebion ynni y byddem eisiau eu gweld yng Nghymru. Mae wedi bod yn glir, onid yw, yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ein bod wedi rhoi gormod o'n hwyau mewn un fasged ynni gwyrdd o bosibl, gan beri inni fynd i drafferthion, oherwydd rydym wedi gweld, onid ydym, fod y diffyg gwynt drwy fis Medi yn golygu bod llai o ynni ar gael inni ei ddefnyddio?
Fel seneddwyr, credaf y dylem ystyried y ffocws ar gynlluniau ynni sydd i'w gweld yn rhad o ran eu costau gosod cychwynnol a'u costau cychwynnol, ond mae gwir angen inni ystyried: a ydynt yn gyson? A ydynt yn ddibynadwy? Beth yw effaith macro'r cynlluniau a roddwyd ar waith yn y gorffennol a pha dechnolegau eraill y dylem geisio eu cefnogi yn y dyfodol? Soniodd fy nghyd-Aelod dros Aberconwy am gynllun ynni'r llanw, a gwn fod Mr Hedges hefyd wedi sôn am hynny mewn ymyriad, ond mae yna gynlluniau fel cynllun ynni'r llanw—technolegau fel hynny—a all ddarparu ynni dibynadwy, rhagfynegadwy i ni yn y dyfodol. Fe wnaf dderbyn ymyriad.
Ie. Hoffwn eich atgoffa, fel Aelod newydd, ein bod wedi ymdrechu mor galed, ar draws pob plaid, i gael Llywodraeth y DU yn y Senedd ddiwethaf i gefnogi cynllun ynni'r llanw ac fe wnaethant ei wrthod. Ac mewn gwirionedd, mae'r llanw ar drai ar hynny. Mae'n gwbl anobeithiol ac yn awr rydym yn y sefyllfa rydym ynddi.
Rwy'n sicr yn cydnabod hynny a byddaf yn parhau i gefnogi manteision ynni'r llanw o fy ochr i. Efallai nad yw'r cynllun penodol hwnnw wedi bod mor effeithiol â rhai eraill, ond nid yw'n golygu bod ynni'r llanw a'r dechnoleg yn beth drwg. Ac rwy'n credu bod y gwaith da mewn lleoedd fel Morlais, sy'n edrych ar ynni'r llanw a sut y gellir ei wella, yn bwysig iawn a dylem barhau i'w gefnogi. Hefyd, yr hyn y mae ynni'r llanw yn ei gynnig i ni, fel y bydd yr Aelod yn deall, yw cyfle i liniaru rhai o effeithiau newid hinsawdd, nad yw Llywodraethau wedi'i ystyried yn briodol yn y gorffennol efallai.
Ac mae'r ateb arall, nad yw wedi'i grybwyll gymaint yma heddiw—mae wedi cael ei grybwyll—yn ymwneud ag ynni niwclear, wrth gwrs. Mae hwnnw'n ynni glân, dibynadwy heb unrhyw allyriadau. Mewn gwirionedd, mae gennym safleoedd da, fel y gwyddom, ledled Cymru ar hyn o bryd, a thechnolegau eraill y soniodd Mr Kurtz amdanynt yn gynharach, nad ydynt efallai wedi'u profi i'r un graddau ar hyn o bryd, ond nid yw hynny'n golygu y dylem ochel rhag y rheini, a throi'n ôl at yr hen ffyrdd o wneud pethau drwy'r amser. Dyna oedd fy mhwynt cyntaf. Mae arnaf ofn fod yr amser yn mynd, Ddirprwy Lywydd; fe geisiaf gyflymu rhywfaint.
Yn ail, y maes arall sy'n hanfodol inni ei ystyried a chanolbwyntio arno yw sicrhau bod gennym yr amgylchedd cywir ar gyfer buddsoddi preifat hefyd. Credaf y gallai fod risg weithiau o sôn am ynni gwyrdd neu economi sy'n ffynnu. Nid wyf yn credu bod y ddau beth yn gwbl annibynnol ar ei gilydd. Rydym i gyd yn deall, ac yn cefnogi rwy'n siŵr, y ffaith bod ynni gwyrdd yn gyfle inni dyfu ein heconomi yma yng Nghymru. Yn sicr, mae gan y Llywodraeth rôl bwysig, nid yn unig mewn perthynas â buddsoddiad cwmnïau ynni, ond hefyd i greu'r seilwaith amgylcheddol, mater a godais yr wythnos diwethaf yma yn y Siambr, i alluogi ac annog y buddsoddiad preifat hwnnw.
Y trydydd pwynt, sydd efallai wedi cael mwy o sylw y prynhawn yma nag unrhyw fater arall, yw pwysigrwydd gweithio ar draws y gwledydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'r argyfwng hinsawdd a natur a wynebwn yn bryder i Gymru'n unig, ac felly nid yw'n ateb i Gymru'n unig. Mae'n rhaid inni barhau i geisio gweithio gyda'n gilydd, ac efallai y bydd yna adegau pan fydd hynny'n anodd, byddwn yn cydnabod hynny—nid wyf yn mynd i anwybyddu hynny—ond nid yw'n golygu bod yn rhaid inni roi'r gorau i'w wneud, ac mae'n rhaid bod ffyrdd y gallwn barhau i adeiladu ar y cysylltiadau a'r ymdrechion hynny lle maent yn gweithio'n dda.
Felly, fe geisiais fod mor gryno â phosibl yno, Ddirprwy Lywydd: tri phwynt sydd, gobeithio, yn ymarferol ac rwy'n gobeithio y byddant yn ein helpu i gyflawni'r gwaith pwysig sydd o'n blaenau.
Y Senedd hon oedd y gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd, yn ôl yn 2019, ac ychydig fisoedd yn ôl, hon oedd y Senedd gyntaf i ddatgan argyfwng natur. Gwyddom fod y dasg sydd o'n blaenau yn aruthrol, a bod angen meddwl o ddifrif amdani ac ewyllys i newid y system yr ydym yn byw ynddi. Rwyf bob amser wedi bod yn glir: mae'r system economaidd bresennol yr ydym yn byw ynddi yn anghydnaws â'r hyn sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, fel sy'n wir am unrhyw system sy'n rhoi elw a thrachwant o flaen popeth arall.
Bydd y newid i economi sero-net, er enghraifft, yn un o'r trawsnewidiadau economaidd mwyaf dwys i ni eu gweld ers degawdau, a bydd yn foment allweddol yn hanes nid yn unig Cymru, ond y ddynoliaeth. Mae'n galw arnom i roi cymunedau a'r blaned yn gyntaf. Ni, yn y fan hon, yr eiliad hon, fydd yn penderfynu a fydd y blaned hon yn weddus i'n hwyrion fyw arni neu beidio. Rydym yn byw ar un o'r adegau hynny mewn hanes, fel y dywedodd Delyth Jewell, lle mae dynoliaeth naill ai'n llwyddo neu'n methu.
Wrth inni symud tuag at economi sero-net, bydd y canlyniadau i'n cymunedau yn bellgyrhaeddol. Ydy, mae datgarboneiddio yn cynnig rhai enillion a allai fod yn werthfawr, ond mae'n rhaid inni sicrhau bod pawb yn elwa o'r enillion hynny. Gobeithio bod yr Aelodau'n ymwybodol o egwyddor trawsnewid cyfiawn. Mae'n rhaid i'r egwyddor hon fod yn allweddol i unrhyw strategaeth i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae'n golygu gwneud ein heconomi yn un fwy cynaliadwy, mewn ffordd sy'n deg i bob gweithiwr, ni waeth pa ddiwydiant y maent yn gweithio ynddo.
Mae'r ffordd yr adeiladwyd ein heconomi yn golygu bellach fod bywoliaeth llawer o bobl a chymunedau ehangach ynghlwm wrth y diwydiannau sy'n llygru: diwydiannau a fydd yn newid yn eithriadol; diwydiannau a fydd yn crebachu; a diwydiannau a allai ddiflannu'n llwyr, gan newid bywydau gweithwyr yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod yn y pen draw. Rydym eisoes wedi gweld effaith trawsnewid anghyfiawn. Pan gaeodd Thatcher y pyllau glo, gadawyd y cymunedau i wynebu'r canlyniadau ar eu pen eu hunain, ac mae'r effeithiau'n dal i'w teimlo heddiw.
Rhaid i Lywodraeth Cymru archwilio'r cyfleoedd i sefydlu canolfan ragoriaeth ynni adnewyddadwy i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau presennol, boed drwy hyfforddi pobl o'r newydd neu ailhyfforddi'r rheini mewn sectorau carbon uchel. Ni ellir ond cyflawni hyn ar raddfa genedlaethol strategol. Hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru roi eu hymateb gonest, a ydynt yn credu y gall y gweithlu fel y mae ar hyn o bryd gyflawni eu hymrwymiadau gwyrdd? A all y gweithlu gyflawni ymrwymiadau tai gwyrdd mewn gwirionedd? A all gyflawni nodau inswleiddio ynni? A all gyflawni dros natur?
Er mwyn adeiladu gweithlu sero-net, mae angen inni weld arweiniad gan Lywodraeth Cymru i hwyluso ymdrechion traws-sector i uwchsgilio gweithwyr. Mae ystod eang o randdeiliaid—megis EDF, er enghraifft—wedi mynegi pryderon ynglŷn ag a fyddai gan Gymru gapasiti i greu mwy o swyddi yn dilyn y pandemig COVID-19. Ategwyd pryderon tebyg y bore yma mewn cyfarfod a gynhaliais gyda chynrychiolwyr o'r sector adeiladu.
Dros y pum mlynedd nesaf, bydd yn rhaid i bob cwmni yng Nghymru fod ar ryw fath o daith ddatgarboneiddio. Mae angen inni fachu ar y cyfle a gweithredu yn awr i ddatblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer gweithlu gwyrdd, neu beth bynnag y mae Llywodraeth Cymru eisiau ei alw—gwnewch hynny. Gallem greu miloedd ar filoedd o swyddi, sicrhau ffyniant economaidd i amryw o sectorau ar hyd a lled Cymru, cyflawni ein nodau gwyrdd, a sicrhau dyfodol cynaliadwy i bawb. Ond mae angen inni fod yn strategol, mae angen inni sicrhau bod gennym weithlu gwyrdd gyda sgiliau da ac wedi'i hyfforddi'n dda i gyflawni'r nodau hyn.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae yna rywbeth y credaf ei fod yn aml yn cael ei anwybyddu pan soniwn am wneud yr economi yn fwy cynaliadwy, a thlodi yw hwnnw. Gwyddom fod pobl eisiau gwneud y newidiadau gwyrdd hynny yn eu bywydau, fel y nododd Jenny Rathbone, ond y realiti yw na allant fforddio gwneud hynny. Mae'n iawn i ni sefyll yma a rhygnu ymlaen am y newidiadau sydd angen inni eu gwneud, ond rydym ni, wrth gwrs, yn siarad o safbwynt breintiedig. Os ydych yn deulu gyda phlant i'w bwydo, yn gweithio nifer o swyddi ac yn gwneud popeth yn eich gallu i gadw dau ben llinyn ynghyd, ni allwch fforddio mynd i brynu bwyd cynaliadwy. Ni allwch fforddio mynd i'r siop ddiwastraff, ni allwch fforddio newid i gerbyd trydan, ni allwch fforddio gwneud unrhyw beth heblaw cynnal y status quo ansicr. Mae'n rhaid i ymladd yr argyfwng hinsawdd olygu ymladd tlodi. Mae gennym gyfle i newid popeth, i droi'r byrddau. Pan fyddwn yn cymryd y camau hynny, mae angen iddynt fod ar gyfer pawb. Rydym wedi siarad digon, ac mae'r amser ar ben. Os nad yw'n digwydd yn awr, ni fydd byth yn digwydd.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar fater pwysig a pherthnasol iawn. Ar wahân i rai ar gyrion cymdeithas, nid oes neb ar y blaned hon sy'n gallu gwadu'r trychinebau sy'n ein hwynebu, o'r newid hinsawdd sy'n bygwth digwyddiadau tywydd eithafol yn rheolaidd, fel y llifogydd dinistriol yn fy etholaeth ar ddechrau'r flwyddyn hon, i'r dirywiad enfawr ym myd natur sydd wedi arwain at golli rhywogaethau di-rif. Bydd y modd y gweithredwn dros y degawdau nesaf yn penderfynu pa mor hyfyw yw bywyd ar y ddaear.
Fodd bynnag, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn, a'n bod hefyd yn ei wneud yn y ffordd gywir. Rydym i gyd yn cofio polisïau trychinebus cyfnod Blair/Brown a oedd yn hyrwyddo injans diesel mewn ymgais annoeth i reoli allyriadau carbon. Rydym yn dal i ymdrin â chanlyniadau'r llanastr hwnnw heddiw. Faint o blant a fu farw neu sydd wedi dioddef effeithiau iechyd hirdymor o ganlyniad i'r cynnydd mewn gronynnau ac ocsidiau nitrogen? Mae'n raid inni sicrhau nad yw'r hyn a wnawn heddiw yn arwain at ganlyniadau anfwriadol, neu fel arall byddwn wedi methu dysgu gwersi'r gorffennol.
Arweiniodd y chwyldro diwydiannol at fanteision enfawr i'r ddynolryw, ond arweiniodd hefyd at ddifrod di-ben-draw i'r unig le y gall pobl ei alw'n gartref: y ddaear. Ni allwn barhau i wneud yr un camgymeriadau. Hyd yn oed ar lefel ficro, mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r camau a gymerwn i gyfyngu ar ddifrod i'n hinsawdd a'n byd natur yn achosi niwed diangen i fywydau a bywoliaeth pobl. Mae'r 10 corfforaeth fyd-eang fwyaf yn gyfrifol am 70 y cant o allyriadau, ond nid eu cyfrifon banc hwy fydd yn dioddef wrth i ni ymladd newid hinsawdd; y rhai tlotaf mewn cymdeithas fydd yn rhannu'r baich trymaf.
Er nad oes dewis arall yn lle sero-net, bydd pris anferthol i'w dalu er mwyn cyflawni hynny. Bydd yn sicr o arwain at gost uwch am angenrheidiau sylfaenol, megis bwyd a thanwydd. Rydym yn gweld yr effeithiau hynny yn awr. Mae'n bosibl mai fy etholwyr i, rhai o'r bobl dlotaf yn y byd gorllewinol, fydd yn cael eu taro galetaf. Sut y bydd cwpl wedi ymddeol yn y Rhyl yn gallu fforddio talu am ôl-osod system yn lle eu system wresogi nwy? Gan na lwyddasom i ragweld beth oedd i ddod, rydym wedi methu buddsoddi yn y dechnoleg a fydd yn mynd i'r afael â'r materion hyn. Mae ein gwariant ar ymchwil a datblygu yn druenus, a dyna pam y bu'n rhaid i Gymro deithio i America i ddatblygu cerbydau trydan. Gobeithio y gall Llywodraeth Cymru berswadio prif swyddog gweithredol Lucid Motors i ddychwelyd i Gymru, a gallaf argymell parc busnes Llanelwy yn fawr.
Dylai popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'n diffygion amgylcheddol, yn ogystal ag ystyried y goblygiadau ehangach. Drwy beidio ag ailadeiladu pont Llannerch yn fy etholaeth yn gynt, rydym yn ychwanegu at y tagfeydd a'r llygredd, yn ogystal ag atal mynediad at deithio llesol i drigolion lleol. Drwy ofyn i gynghorau ddilyn polisi dad-ddofi tir, rydych yn methu ystyried canlyniadau troi man gwyrdd, a ddefnyddir ar gyfer chwarae ac ymarfer corff, yn weirglodd blodau gwyllt. Mae'n wych ar gyfer gwenyn, ond heb fod mor wych ar gyfer bechgyn a merched. Mae lle i bob polisi, ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau dull cyfannol o weithredu, a rhaid inni osgoi canlyniadau anfwriadol. Diolch yn fawr.
Mae ein cymunedau yn bwysig i holl Aelodau Plaid Cymru ledled Cymru, ond maen nhw'n arbennig o bwysig i mi gan eu bod yn rhan o fy mhortffolio. Felly, hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon ar gynhyrchu ynni cymunedol, ac rydyn ni wedi clywed rhywfaint am hynny y prynhawn yma yn y ddadl flaenorol.
Mae'n bosib y bydd y prosiectau hyn ddim ond yn rhan fach o'r system ynni yn y dyfodol, ond maent yn hanfodol gan y byddant yn chwarae rhan allweddol wrth gael caniatâd, cynyddu cyfranogiad ac ymgorffori math o ymddygiad radical y bydd angen inni ei gael i osgoi eithafoedd gwaethaf yr argyfwng hinsawdd. Mae'n rhaid i gymunedau fod wrth wraidd unrhyw newid gwyrdd. Mae gan bob cymuned ei rôl i'w chwarae. Fel y nododd Ynni Cymunedol Cymru, mae diddordeb cynyddol gan gynghorau plwyf a thref a sefydliadau cymunedol eraill sydd am ddarparu prosiectau ynni i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae prosiectau ynni cymunedol ar lawr gwlad, yn ôl eu natur, yn ddemocrataidd eu strwythur, ac mae hyn yn golygu eu bod yn hyrwyddo cyfranogiad democrataidd, a gwyddom fod gennym ddiffyg o hyn yng Nghymru. Bydd angen dinasyddiaeth ynni ymgysylltiol er mwyn sicrhau net sero. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu cefnogaeth wirioneddol amlwg i'r sector.
Er mwyn datganoli potensial ynni cymunedol i gyflawni ar raddfa eang, mae angen amgylchedd polisi hirdymor sefydlog a chefnogol gan Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd ynni cymunedol wrth sicrhau newid ymddygiad. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd datgarboneiddio’r economi yn gofyn am newidiadau sylweddol i ddefnyddwyr, megis newid i bympiau gwres ac ôl-ffitio ein stoc dai, sydd yn aml yn hen ac wedi'i hinswleiddio'n wael. Mae sefydliadau ynni cymunedol yn cael eu hymddiried a'u cydnabod yn eu hardal leol am flaenoriaethu lles eu cymunedau, ac felly maen nhw'n hanfodol wrth adeiladu cefnogaeth gyhoeddus a chefnogaeth i gyfrannu yn y broses o bontio newid ynni.
I gloi, hoffwn amlinellu rhai o'r camau y mae'r sector wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru eu cymryd, a byddwn yn sicr yn gwerthfawrogi ymateb gan y Gweinidog—[Torri ar draws.] Yn sicr.
Credaf fod eich pwynt am ynni cymunedol a arweinir gan gynghorau cymuned yn bwysig iawn, ond tybed pam nad yw cynghorau tref a chymuned wedi manteisio ar hyn lawer yn gynt yn eich barn chi. Oherwydd mae'r holl brosiectau ynni cymunedol y gallaf feddwl amdanynt yng Nghymru oll wedi'u datblygu gan bobl eraill, boed gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu gan unigolion penderfynol sydd wedi glynu ati er gwaethaf yr holl rwystrau cynllunio a roddwyd yn eu ffordd. Pam nad yw cynghorau tref a chymuned, y mae gan lawer ohonynt adnoddau go sylweddol, wedi mynd ati i ailfuddsoddi yn yr ynni cymunedol a allai gyfoethogi eu cymunedau?
Diolch yn fawr am yr ymyriad. Rwy'n credu y gellir priodoli hynny i'r diffyg fframweithiau a chymorth i'w hannog i gymryd rhan yn yr ochr honno i bethau.
Mae'r sector wedi gofyn am fynediad at gymorth, adnoddau a chyllid angenrheidiol. At hynny, maent wedi gofyn am alluoedd pellach i gynhyrchwyr werthu eu hynni'n lleol, boed drwy ofynion caffael i gyrff cyhoeddus neu wella capasiti grid. Mae asedau'n faes craidd arall i'w ystyried, yn ogystal â mynediad at dir ac adeiladau i'w datblygu, ac mae'r sector eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn hwyluso ac yn cefnogi rheolaeth ddemocrataidd bellach dros asedau o'r fath. Maent hefyd eisiau rheolaeth ddemocrataidd bellach dros y broses, megis datblygu cynlluniau datgarboneiddio a dulliau o ymchwilio a thrafod drwy gynulliadau dinasyddion, gan roi cymunedau wrth wraidd yr adferiad gwyrdd.
Un o'n dadleuon canolog mewn gwirionedd yw ein bod eisiau rheolaeth ddemocrataidd ar ein hadnoddau ein hunain. Boed yn Ystad y Goron neu gynhyrchiant ynni lleol, Cymru, ein pobl, ein cymunedau a'n hawdurdodau a etholir yn ddemocrataidd a ddylai reoli ein hadnoddau, ac elwa ar y budd yn y pen draw. Ni ddylai ein cynhyrchiant ynni a'r elw sy'n deillio ohono fod yn nwylo cwmnïau rhyngwladol tramor mawr, nac yn nwylo ein cymdogion dros y ffin yn wir. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon yn fawr. Mae'r cynnig gan Blaid Cymru yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn ac yn cydnabod y camau a gymerwyd gennym i nodi a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Mae'n amlwg nad yr argyfwng hinsawdd a natur yw'r argyfwng byd-eang nesaf; yr un sydd eisoes gyda ni ydyw. Ac rwy'n falch iawn ein bod, fel Senedd, wedi cymryd camau ar y cyd i ddatgan yr argyfyngau hyn, ac am ymrwymo Cymru i darged sero-net ar gyfer 2050. A gadewch imi ailadrodd y pwynt a wneuthum yn flaenorol: nid targed Llywodraeth Cymru yw hwn, fel y mae'r cynnig yn ei nodi, ein targed ar y cyd i Gymru yw hwn—ein targed ar gyfer pobl, busnesau a sefydliadau o bob rhan o'n gwlad. Mae'n darged sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom weithredu. Nododd Delyth ac eraill raddfa a difrifoldeb yr her a'i heffaith ar fodau dynol a'n cymunedau, ond mae'n bwysig nad ydym yn ildio i anobaith yma. Gallwn fachu ar y cyfle i'w newid, ac mae gwir angen inni wneud hynny. Mae angen i'r 2020au fod yn ddegawd pendant o weithredu, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang. Mae COP26 yn garreg filltir ac mae'n rhaid iddi gyflawni'r newid sylfaenol sydd ei angen.
Mae'r Llywodraeth hefyd yn gefnogol iawn i lawer o'r hyn a nodir yn ail ran y cynnig. Rydym yn cytuno bod angen newid yn sylfaenol y ffordd y caiff pwerau a chyfrifoldebau eu dosbarthu ledled y DU. Dyna pam ein bod wedi cyhoeddi ein bwriad i sefydlu comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Ond yr hyn sydd ei angen arnom yw asesiad cynhwysfawr o'r pwerau sydd eu hangen ar Gymru mewn setliad cyfansoddiadol sylfaenol wahanol. Mae hyn yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i'n cyfrifoldebau ym maes ynni a rheoli Ystad y Goron yng Nghymru. A chredaf ei bod yn dweud llawer fod Janet Finch-Saunders yn ymddangos fel pe bai'n gwbl anymwybodol o'r ffaith nad yw'r grid wedi'i ddatganoli—o, na byddai—ac mae ei dryswch llwyr ynglŷn â hynny yn arwydd o wir natur yr angen i wneud y pethau hyn yn llawer cliriach. Oherwydd, yn anffodus, yr hyn a welsom gan y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yw gelyniaeth ddofn tuag at ddatganoli. Wrth iddynt ddathlu buddsoddiadau bach iawn yng Nghymru, yn debyg i'r rhestr yn y cynnig gan Darren Millar, mae Llywodraeth y DU hefyd yn tanseilio'r cyfrifoldebau y mae pobl Cymru wedi'u rhoi i'r Senedd hon mewn modd systemig.
Rydym yn croesawu buddsoddiad i Gymru, ond rydym eisiau gweithio gyda Llywodraeth y DU a pharhau â'n gwaith partneriaeth gyda llywodraeth leol a phartneriaid cymdeithasol ehangach yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU, yn anffodus, yn gwthio agenda sy'n mynd ati'n fwriadol i adael y Llywodraeth yng Nghymru allan, er mai hi sydd wedi bod yn gyfrifol am gyflawni dros Gymru dros y tri degawd diwethaf. Mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi bwrw ymlaen â chyllid ar gyfer pysgodfeydd yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli, ac mae wedi achosi dryswch, a bydd yn parhau i greu drwgdeimlad diangen ymhlith rhanddeiliaid. Ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant gan Darren Millar. Mae gwelliant y Llywodraeth yn rhannu teimlad y cynnig gwreiddiol, a galwaf ar bob Aelod i'w gefnogi.
Wrth inni edrych ymlaen at COP26, mae'n bwysig iawn nad ydym yn anghofio'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd yng nghynadleddau blaenorol partïon y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd, gan gynnwys COP24. Rydym wedi bod yn glir, wrth inni symud at sefyllfa lle bydd cyfran fwy o'n hynni yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, fod yn rhaid i'r newid hwn fod yn un cyfiawn. Clywsom nad oedd y newid diwethaf yn un cyfiawn ac rydym yn benderfynol iawn na fydd y newid hwn yn anghyfiawn. Mae ein rhaglen lywodraethu yn tanlinellu pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol a thrawsnewid i sero-net mewn ffordd nad yw'n gadael unrhyw berson nag unrhyw le ar ôl. Roedd datganiad Silesia yn COP24 yn dangos yr angen i gefnogi gweithwyr yn rhan o'r newid hwn i sero-net. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ysbryd y datganiad hwnnw, gan adlewyrchu ei hanfod yn ein Bil partneriaeth gymdeithasol a'n methodolegau gwaith.
Drwy'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, rydym yn gweithio i sicrhau bod y seilwaith addysg ar waith i gefnogi'r twf yn yr economi werdd, ac mae Ynni Morol Cymru yn datblygu'r adnoddau sydd eu hangen i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i gael swyddi medrus newydd mewn ynni morol yng Nghymru. Cytunaf yn gryf â nifer fawr o Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw fod hwn yn gyfle inni gael miloedd o swyddi gwyrdd newydd i bobl Cymru wrth ddatblygu'r diwydiannau newydd hyn, a galwaf ar y Senedd i gadarnhau ei hymrwymiad i'r egwyddorion a ymgorfforwyd yn natganiad Silesia.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn glir fod gan Lywodraeth Cymru ran allweddol i'w chwarae yn trawsnewid ein system ynni drwy symud oddi wrth y defnydd o danwydd ffosil a thuag at ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae ein cynllun sero-net, sydd i'w gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, yn nodi'r camau allweddol y byddwn yn eu rhoi ar waith i sicrhau mai hwn yn wir fydd y degawd o weithredu, a bod y sylfeini'n cael eu gosod i gyrraedd ein targedau ynni adnewyddadwy a sero-net. Wrth annog y cynnydd sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, rydym wedi ymrwymo i gadw'r cyfoeth yn ein heconomi ac yn ein cymunedau. Felly, yfory, bydd fy nghyd-Aelod Lee Waters yn dechrau astudiaeth ddofn i bennu'r camau y gallwn eu cymryd i oresgyn y rhwystrau i fuddsoddi, a sut y gallwn gynyddu capasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol ledled Cymru. Rydym eisiau i'r sector cyhoeddus chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Ni fydd gadael buddsoddiad i'r sector preifat yn unig yn sicrhau budd o'r maint sydd ei angen ar ein cymunedau, na'r gyfran o fudd o'n hadnoddau cenedlaethol yr ydym ei hangen ar gyfer pobl Cymru.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddaf yn nodi rhagor o fanylion am ein cynlluniau i sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo cyhoeddus i arwain buddsoddiad yng Nghymru. Gwyddom fod y cyfleoedd ar gyfer hynny'n sylweddol iawn. Yn y môr Celtaidd yn unig, rydym yn gweld dechrau chwyldro mewn ynni morol, gyda photensial ar gyfer 15 GW o ynni gwynt arnofiol ar y môr. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein porthladdoedd, ein busnesau a'n cymunedau yn barod i elwa o'r buddsoddiad hwnnw. Drwy'r rhaglen ynni morol, rydym yn datblygu opsiynau i sicrhau maint y buddsoddiad sydd ei angen yn ein porthladdoedd yng Nghymru. Bydd hyn yn dod â chyfleoedd gwaith uniongyrchol a buddsoddiad newydd i'n cymunedau lleol, a thrwy'r rhaglen ynni morol, rydym hefyd yn ystyried sut y gall Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd o gynhyrchiant ynni'r llanw, gan gynnwys y gwaith sydd ar y gweill i gyflwyno her môr-lynnoedd llanw i sicrhau ein bod yn aros ar flaen y gad gyda datblygiadau môr-lynnoedd llanw ledled y byd.
Wrth i ni archwilio'r cyfleoedd ar gyfer ynni morol, rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y gall ynni morol ei chael ar ein hamgylchedd a bioamrywiaeth ein hamgylchedd morol. Mae cynllun morol cenedlaethol Cymru yn gosod y fframwaith strategol ar gyfer datblygu i sicrhau bod datblygiadau newydd yn dilyn y gweithdrefnau cydsynio ac yn cynnal asesiad rheoleiddio cynefinoedd naill ai ar lefel cynllun neu ar lefel prosiect, gan sicrhau bod safleoedd dynodedig yn cael eu diogelu. Ers cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol Cymru, mae gwaith pellach wedi dechrau ar fapio rhyngweithiad sectorau, nodi meysydd adnoddau allweddol y bydd polisi diogelu yn berthnasol iddynt, a datblygu gwell dealltwriaeth o gyfyngiadau ecolegol. Drwy'r gwaith hwn, byddwn yn darparu canllawiau ar gyfer deall y lleoliadau mwyaf addas ar gyfer datblygu ynni morol.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n dychwelyd at bwysigrwydd COP26. Rwy'n annog arweinwyr y byd i ddangos yr arweiniad cyfunol sydd ei angen ar y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol pan fyddant yn cyfarfod yn Glasgow ymhen cwta 18 diwrnod. Mae'n rhaid inni beidio â cholli'r cyfle hwn. Ni allwn adael i'r ymateb tymor byr i amodau presennol y farchnad ynni beryglu'r camau pendant sydd eu hangen. Mae'n rhaid blaenoriaethu ymrwymiad byd-eang i roi diwedd ar y defnydd o lo ar gyfer cynhyrchu ynni. Fel y nodwyd yn ein polisi glo yn gynharach eleni, rydym yn gwrthwynebu echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil, ac yn cefnogi cyfiawnder cymdeithasol yn y trawsnewid economaidd wrth gefnu ar eu defnydd. Rydym yn annog pob gwlad i ddilyn ein harweiniad yng Nghymru, a galwaf ar y Senedd i gefnogi'r cynnig yn enw Lesley Griffiths. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth. Mae wedi bod yn drafodaeth eang, a hynny, mae'n debyg, yn adlewyrchu ehangder y cynnig gwreiddiol, ond hefyd ehanger y gwelliannau sydd wedi cael eu gosod. Mae sawl cyflwyniad wedi ein hatgoffa ni o'r ffaith mai argyfyngau sydd gennym ni, hinsawdd a natur, a'r ddau beth yn cydblethu. Mae'r achosion yn rhyng-gysylltiedig, ac felly, wrth gwrs, mae'n sefyll i reswm bod y datrysiadau yn gysylltiedig hefyd, ac mae COP26 a COP15 yn ddau ran o'r un jig-so pan fo hi'n dod i geisio datrys yr her sydd o'n blaenau ni. Dyw'r gweithredu hyd yma ddim wedi bod yn ddigonol. Dwi'n meddwl y byddai'r Llywodraeth a phawb arall yn cydnabod hynny, oherwydd mae yna wastad mwy y gallwn ni ei wneud, y dylen ni ei wneud ac y byddem ni'n dymuno i'w wneud i fynd i'r afael â'r heriau yma.
Nid ydym wedi crybwyll un maes penodol, a chredaf y byddwn yn esgeulus pe na bawn yn cyfeirio ato. Y bore yma, mynychodd y Gweinidog a minnau ac eraill lansiad adroddiad gan WWF Cymru, RSPB Cymru a Maint Cymru sydd, rwy'n credu, yn pwysleisio'r ffaith mai rhan o'r broblem yn unig yw mynd i'r afael â'n hôl troed domestig o safbwynt allyriadau carbon a cholli bioamrywiaeth. Mae bai arnom na chafodd yr elfen fyd-eang ei chynnwys yn ein cynnig, nac yn unrhyw un o'r gwelliannau chwaith.
Mae gan Gymru ôl troed sylweddol iawn ar dir tramor—datgelwyd ffigurau go syfrdanol yn yr adroddiad heddiw. Fel y dywedais yn gynharach, mae'r effaith a gawn y tu hwnt i'n ffiniau yn adlewyrchiad arnom ni fel gwleidyddion a chymdeithas yn ehangach. Roedd angen arwynebedd sy'n cyfateb i 40 y cant o faint Cymru dramor i dyfu mewnforion o gynnyrch penodol a ddefnyddiwn yma yng Nghymru, caiff 30 y cant o'r tir a ddefnyddir i dyfu nwyddau sy'n cael eu mewnforio i Gymru yn rhai o'r gwledydd hynny eu categoreiddio fel rhai sydd â risg uchel neu uchel iawn o fod yn gysylltiedig â phroblemau cymdeithasol a datgoedwigo, ac mae'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â'r gweithgarwch hwnnw'n 4 y cant o gyfanswm amcangyfrifedig ôl troed carbon nwyddau domestig a nwyddau a fewnforir i Gymru, neu'r hyn sy'n cyfateb i bron i chwarter yr holl allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n syfrdanol, mae'n peri syndod, mae'n gywilyddus mewn gwirionedd, ac mae pob un ohonom yn cyfrannu at hynny, yn anffodus. Mae'n bwysig, pan oedd Delyth Jewell, wrth agor y ddadl, yn sôn am yr angen am eglurder ynghylch y cydraddoldeb y mae angen inni ei sicrhau rhwng yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur—credaf ei bod bellach yn bryd i'r cydraddoldeb hwnnw gael ei adlewyrchu mewn perthynas â'n cyfrifoldebau domestig a'n cyfrifoldebau byd-eang, yn enwedig yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, lle mae bod yn wlad sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang yn gyfrifoldeb i bob un ohonom fel dinasyddion Cymreig.
Rwyf am ymateb i rai o'r cyfraniadau. Roedd Janet Finch-Saunders yn canmol y chwyldro gwyrdd ymddangosiadol, credaf mai dyna'r term a ddefnyddiwyd gennych, sydd ar ei ffordd o Lywodraeth San Steffan. Wel, rydych yn sicr yn gwneud eich rhan i wyrddgalchu'r Torïaid yno. Ni sonioch chi am faes olew Cambo nac am y pyllau glo newydd yng ngogledd Lloegr nac yn wir, fel y cawsoch eich atgoffa gan rai o'r Aelodau, am y diffyg cefnogaeth i fôr-lynnoedd llanw yng Nghymru, na'r modd y mae Llywodraeth y DU i'w gweld yn mynnu gwthio mwy o geir ar fwy o ffyrdd yng Nghymru, yn enwedig o amgylch Casnewydd. Felly, peidiwch â dod yma i siarad ar eich cyfer pan nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon gweithredu. Rwy'n credu ei bod yn destun gofid eich bod wedi defnyddio'r cywair hwnnw. Ac yn yr un modd, Gareth Davies yn beio Blair a Brown am y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. A bod yn deg, nid yw fel pe baem wedi cael Llywodraeth Dorïaidd am 10 mlynedd ers hynny, ond rwy'n siŵr y cewch gyfle i weithredu rywbryd. Gadewch i ni obeithio y cewch gyfle i weithredu erbyn i ni gyrraedd trafodaethau COP26. Oherwydd, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'n garreg filltir, onid yw, ac ni ddylem golli'r cyfle. Fy ofn i yw bod Llywodraeth y DU wedi methu ffurfio cynghrair ryngwladol o gwmpas yr angen i fynd i'r afael â hyn cyn COP26 ond yn amlwg fe ddaw dydd o brysur bwyso a bydd yn rhaid inni aros i weld beth a gyflawnir. A gwn y bydd llawer ohonom yn mynychu ac yn chwarae ein rhan fach ein hunain gymaint ag y gallwn, gobeithio, i geisio cyflawni'r canlyniad yr hoffem ei gyflawni.
Rhys ab Owen, rydym angen pwerau i sicrhau'r dyfodol yr ydym ei eisiau, oherwydd wrth gwrs nid yw Llywodraeth y DU yn cynnig y dyfodol yr ydym eisiau ei weld. Ac fel y dywedodd Luke Fletcher, rydym angen sgiliau hefyd i allu cyflawni'r potensial sydd gennym. Ac fel y dywedodd Peredur hefyd, mae angen i'n cymunedau fod wrth wraidd yr adferiad gwyrdd. Mae angen iddo fod yn newid gan ein cymunedau ar gyfer ein cymunedau. Felly, boed yn gyflawni ar gyfer yr hinsawdd ac ar gyfer natur drwy ddatblygu prosiectau ynni, datblygu ein grid a'n porthladdoedd, buddsoddi yn ein cymunedau, mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth wrth gynllunio, newid ein hymddygiad fel defnyddwyr, gosod targedau sy'n rhwymo mewn cyfraith—ac rwyf wedi bod ar daith mewn perthynas â'r targedau hynny. Roedd gennyf amheuon i ddechrau, ond rydym wedi gweld sut y mae targedau allyriadau carbon yn gyrru agenda yn hynny o beth—credaf y gallwn wneud yr un peth yn union mewn perthynas â bioamrywiaeth hefyd. Beth bynnag ydyw, ac mae'n debyg ei fod yn hynny i gyd a mwy, mae gan Gymru rôl go iawn i'w chwarae, ac mae Cymru'n frwd i chwarae ei rhan yn y gwaith o gyflawni hynny, gartref a thramor.
Felly, y cwestiwn yw: a ydym yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â hyn? Nawr, rwyf bob amser wedi dweud wrth y Llywodraeth, 'Pan fydd Gweinidogion yn ddewr, bydd y Senedd hon yn eich cefnogi. Pan fyddwch yn methu cyrraedd y nod, yn amlwg, byddwn yn eich dwyn i gyfrif.' Dywedodd Delyth Jewell wrthym ar ddechrau'r ddadl hon fod llygaid y dyfodol arnom heddiw, felly gadewch inni ailddatgan ein hymrwymiad i Gymru a'r byd drwy gefnogi cynnig Plaid Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio, sydd nesaf.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, byddaf yn atal y cyfarfod dros dro cyn symud i'r cyfnod pleidleisio.