– Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2022.
Yr eitem nesaf—eitem 9—yw dadl Plaid Cymru ar dâl nyrsys, a dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8140 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod nyrsys Cymru yn haeddu tâl teg am eu gwaith hanfodol o ran cadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gwneud cynnig tâl gwell i nyrsys y GIG yng Nghymru.
Diolch, Cadeirydd. Rydyn ni'n gofyn heddiw i Lywodraeth Cymru gefnogi nyrsys Cymru. Rydyn ni'n gofyn i'r Senedd gefnogi ein datganiad ni bod nyrsys yn haeddu cyflog teg am eu gwaith, ac rydyn ni'n gofyn i Weinidogion ddefnyddio pob arf posib er mwyn gallu gwneud cynnig cyflog gwell i nyrsys.
Rydyn ni'n wynebu streic gan nyrsys am y tro cyntaf. Mae nyrsys sy'n ofalwyr wrth reddf, yn ogystal ag wrth broffesiwn, wedi gwneud y penderfyniad anoddaf y gallan nhw i weithredu yn ddiwydiannol achos eu bod nhw'n teimlo bod dim dewis ganddyn nhw. Rydyn ni'n gofyn i'r Senedd i gyd gefnogi'r cynnig. Mi gefnogwn ni'r gwelliant, yr ail welliant, hefyd yn galw ar y Llywodraeth y ddod yn ôl at y bwrdd trafod. Mi ddywedodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf:
'Mae pob streic yn dod i ben yn y diwedd wrth drafod', ond beth am geisio trafod er mwyn dod â'r streic i ben? Mae hyd yn oed Llywodraeth y DU wedi trafod, yn ofer, ond pam ar y ddaear na wnaiff Gweinidog iechyd Llafur Cymru gynnull pawb o amgylch y bwrdd drwy fforwm partneriaeth Cymru, sydd yno ar gyfer yr union ddiben hwn? Nodais yr wythnos diwethaf nad oedd Llywodraeth Cymru hyd yn oed wedi ymateb i'r ohebiaeth a anfonwyd gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ar 25 Hydref, yn gofyn am i'r trafodaethau hynny gael eu cynnal. Megis drwy hud, mae’r Gweinidog wedi ymateb yn yr ychydig funudau diwethaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf—yr ohebiaeth gyntaf ers canlyniad y bleidlais ar y streic. Ond eto, nid oes unrhyw ymrwymiad i gyfarfod ar gyfer trafodaethau newydd ynghylch cyflogau. Yr hyn a welaf yw Llywodraeth yn paratoi ar gyfer streic y nyrsys, pan ddylai fod gennym Lywodraeth yn ceisio atal y streic honno yn y lle cyntaf.
Mae hyn yn ymwneud â mwy na chyflogau—mae'n bwysig cofio hynny. Mae nyrsys hefyd yn dymuno gwybod eu bod yn cael eu cefnogi, eu bod yn cael amser ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant, nad yw lefelau staffio yn eu rhoi hwy na’u cleifion mewn perygl, fod yna gynllun ar gyfer y gweithlu wedi’i anelu at lenwi rhywfaint o'r 3,000 o swyddi nyrsio gwag yng Nghymru. Ond mae cyflogau'n rhan allweddol o allu dangos i nyrsys eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Ers gormod o amser, mae cyflogau wedi'u gwasgu. Ers gormod o amser, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi gwneud toriadau, toriadau a thoriadau; gyda'u hanghymhwysedd economaidd yn gwaethygu'r hyn a oedd eisoes yn argyfwng gwariant cyhoeddus. Ond ers gormod o amser, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio hynny fel rheswm i gilio oddi wrth ei chyfrifoldebau. Beth bynnag yw'r cyd-destun, mae llywodraethu bob amser wedi ymwneud â blaenoriaethu. Caf glywed eto heddiw, fel y caiff fy nghyd-Aelodau glywed, 'Ble fyddech chi'n dod o hyd i'r arian?' Ac rwyf fi a fy nghyd-Aelodau wedi bod yn agored. Rydym wedi eich annog i edrych i weld sut y gallwch ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i chi—trethiant, cronfeydd wrth gefn, ailddyrannu. Ond nid wyf fi yn y Llywodraeth. Mae llywodraethu'n fraint. Mae'n gyfrifoldeb enfawr. Ac yn yr achos hwn, mae'n gyfrifoldeb i osgoi argyfwng dyfnach fyth yn y GIG na'r un rydym eisoes yn ei wynebu.
Mae yna 3,000 o swyddi nyrsio gwag yn yr NHS yng Nghymru. Mae nyrsys yn gadael. Mae methiant i gadw staff yn argyfwng. Ac oni bai bod y cwestiynau yma o gwmpas cyflogau yn cael eu hateb, colli mwy y gwnawn ni—argyfwng yn dyfnhau. Mae mwy a mwy wedi bod yn troi at weithio drwy asiantaeth, yn cyfrannu at y bil asiantaeth enfawr o ryw £130 miliwn y flwyddyn erbyn hyn—bil na allwn ni ddim ei fforddio, a bil fyddai'n talu am gyflogau bron i 5,000 o nyrsys newydd.
Diolch byth nad ydym wedi wynebu prinder o bobl sydd eisiau bod yn nyrsys yn dod i mewn i'r proffesiwn. Mewn gwirionedd rydym wedi gweld cynnydd, cynnydd cadarnhaol, mewn llefydd nyrsio i fyfyrwyr yng Nghymru ym mhob blwyddyn ond un, rwy'n meddwl, dros y degawd diwethaf. Ar ei ben ei hun, mae hynny'n newyddion gwych, ond mae'n argae sy'n gollwng. Oes, mae gennym fwy yn dod i mewn i'r byd nyrsio, ond mae'r niferoedd sy'n gadael yn dadwneud hynny, ac nid yw'r ecsodus yn dangos unrhyw arwydd o arafu.
Mae gweithlu nad yw'n cael ei dalu'n ddigonol ac sydd hefyd yn cael ei orweithio yn rysáit ar gyfer mwy fyth o grebachu. Bob wythnos, mae nyrsys yn rhoi 67,000 awr o waith ychwanegol i'r GIG yng Nghymru. Mae hynny'n cyfateb i 1,800 o nyrsys. Nid yw hynny'n gynaliadwy. Felly, ydy, efallai fod cadw staff yn fwy o her na recriwtio, ond wrth gwrs, mae dod â nyrsys newydd i mewn yn parhau i fod yn hollbwysig. Gadewch imi ofyn un cwestiwn penodol i'r Gweinidog ynghylch hynny. Ychydig flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried dileu'r fwrsariaeth, sy'n elfen mor bwysig i allu denu pobl i nyrsio. Fel gwrthblaid, fe lwyddasom ni, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol, a phawb a welodd werth y fwrsariaeth, i berswadio'r Gweinidog ar y pryd i beidio â chael gwared arni, ac roedd hynny i'w groesawu. A wnaiff y Gweinidog cyfredol gadarnhau'n ddigamsyniol nawr nad oes cynllun i ddileu na thanseilio'r fwrsariaeth honno, y bydd y taliad yn parhau i chwarae rhan bwysig yn denu a chefnogi nyrsys drwy eu hyfforddiant? Hebddo, mae'r argyfwng yn dyfnhau fwyfwy.
Dwi'n gobeithio fy mod i’n gallu rhoi darlun eglur i chi y prynhawn yma ynghylch pam mae'n rhaid dod i setliad ar y cwestiwn o gyflogau a chefnogaeth i nyrsys. Ond gadewch imi ei gwneud hi’n fwy eglur fyth drwy eiriau a phrofiadau nyrsys a’u teuluoedd yn uniongyrchol. Y fam o Ynys Môn sydd a dwy ferch yn nyrs, a diolch amdanyn nhw, un yng Nghymru, a’r llall yn Awstralia, yn anffodus. Mae’r ferch yn Awstralia yn cael ei thalu ddwywaith gymaint â’r ferch sydd yma yng Nghymru. Mi fyddai hi’n licio dod adref i nyrsio, ond sut y gall hi gyda fel mae pethau’n sefyll? Mae traean o gyflog nyrs yma, meddai’r fam, yn gallu mynd ar ofal plant i un plentyn. Mae’n gofyn i’r Llywodraeth roi cyflog teg iddyn nhw.
Daeth Tony, nyrs iechyd meddwl plant a'r glasoed sydd wedi ymddeol, allan o'i ymddeoliad i helpu yn ystod y pandemig, a diolch byth ei fod wedi gwneud hynny. Mae bellach yn nyrs gronfa, ac mae'n dweud, 'Roedd y sefyllfa'n wael cyn imi ymddeol, ond wrth ddychwelyd i'r gwaith, cyfarfûm â nyrsys rhagorol yn disgrifio teimlo'n sâl oherwydd gorbryder cyn mynd i'r gwaith yn y bore, a chrïo ar ôl gorffen gwaith oherwydd eu bod yn teimlo eu bod wedi methu rhoi'r safon gofal roeddent eisiau ei roi i gleifion.'
Dywed Sarah ei bod wedi pleidleisio o blaid streicio oherwydd, ar ôl bron i 40 mlynedd o nyrsio, mae hi wedi cael llond bol ar gael ei chymryd yn ganiataol pan ddaw'n fater o gyflog: 'Rydym wedi cael ein hesgeuluso dro ar ôl tro ac nid ydym wedi ymladd yn ôl', meddai. 'Ond y tro yma rydym wedi cael digon.' Mae'r esgeulustod hwn wedi cyfrannu at lai o nyrsys dan hyfforddiant, ac ymddeoliad cynnar miloedd o bobl, gan achosi prinder staffio difrifol.
Mae Tom, sy'n nyrs gymunedol, yn dweud bod yr argyfwng costau byw yn ei daro ef a nyrsys eraill yn galed. Dywedodd, 'Ni ddeuthum i mewn i'r GIG i fod yn gyfoethog'—ni wnaeth yr un ohonynt hynny; mae'n dod o'r galon—ond mae'n ychwanegu, 'Rydym mewn argyfwng. Rydym yn gofalu am bobl fregus iawn, ac ni waeth pa mor galed y gweithiwn, mae cymaint o bwysau ac nid oes adnoddau yno.'
Ac i orffen, yn ôl Katherine, sy'n aelod o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, 'Ni ddylid gorfodi pobl sydd wedi'u cyflogi'n broffesiynol i ddefnyddio banciau bwyd na chysgu yn eu ceir rhwng shifftiau am na allant fforddio petrol.'
Mae cymaint mwy o straeon nyrsys y gallwn eu rhannu gyda chi.
Llywydd, mae'n air dwi wedi'i ddefnyddio droeon heddiw: argyfwng. Mae'r NHS mewn argyfwng yn barod. Mi oedd o cyn COVID—mae'n bwysig iawn wastad cofio hynny. Ond wrth gwrs mae'r pandemig wedi gwaethygu pethau. Ond mi all y sefyllfa fynd yn fwy argyfyngus byth. Rŵan, mae gennym ni nyrsys yn paratoi i adael y wardiau mewn anghydfod cyflog, ond, ar yr un pryd, mae mwy a mwy yn paratoi i adael y proffesiwn yn llwyr, ac mae lefel y cyflog yn rhan fawr o'r hyn sy'n gyrru hynny. Mae'n rhaid stopio hyn, ac, er nad yr unig ateb, mae sicrhau setliad cyflog haeddiannol yn gorfod bod yn rhan fawr o'r ateb. All y Llywodraeth ddim oedi mwy.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd yn gyntaf yn gyflwyno'n ffurfiol gwelliant 1.
Yn ffurfiol.
Mae gwelliant 1 wedi'i gyflwyno, felly. A nawr gwelliant 2 sydd i'w gynnig gan Russell George.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? Defnydd cwbl briodol o amser trafod yn y Siambr y prynhawn yma.
Bydd streic yn arwain at ganlyniadau dinistriol i gleifion, ac rydym yn gwybod bod chwech o'r saith bwrdd iechyd wedi pleidleisio o blaid streicio. Rwy'n credu bod hynny'n dangos cymaint y mae nyrsys eisiau i Lywodraeth Cymru wrando arnynt. Rwyf am ddweud wrth y Gweinidog: rhaid ichi wneud popeth yn eich gallu i osgoi streic nyrsio yn ogystal ag atal pwysau ar y gweithlu.
Os caf siarad am y gwelliannau heddiw, byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru'n llawn. Rwy'n siomedig iawn fod y Llywodraeth wedi dileu pwynt 2 o gynnig Plaid Cymru. Rydym wedi ychwanegu gwelliant ein hunain, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i drafod eu hymgyrch dros gyflog teg a staffio diogel i osgoi streicio y gaeaf hwn. I fod yn glir iawn ar hyn, nid yw'r Gweinidog wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod eu hymgyrch dros gyflog teg, ac nid ydynt ond newydd ymateb i'r cais a wnaethant y mis diwethaf. Fel y mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi, nid oes gan y Gweinidog gynlluniau o hyd i gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol, a'r hyn sy'n fy ngwneud yn rhwystredig yw bod y Gweinidog yn ceisio osgoi pan ofynnir y cwestiwn hwn iddi, ac yna'n ymateb i bwynt gwahanol. Efallai eich bod yn cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod materion eraill, ac efallai eich bod yn cyfarfod ag undebau, ond nid ydych wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod eu hymgyrch dros gyflog teg. A dyna ein gwelliant i'r cynnig y prynhawn yma, Weinidog. Gobeithio y gwnewch chi gadarnhau y byddwch yn cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac yn cefnogi ein gwelliant heddiw.
Nawr, fel mae Rhun ap Iorwerth wedi nodi, mae'n ymwneud â mwy na chyflog yn unig, wrth gwrs. Mae meysydd eraill i'w harchwilio—amodau allweddol, fel cymorth iechyd meddwl, cadw staff, uwchsgilio a mynd i'r afael â'r bylchau staffio enfawr yn y GIG. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy ar frys hefyd, fel bod gweithlu'r GIG yn cael cefnogaeth lawn. Ac ar y pwynt hwnnw, rwy'n nodi bod Rhun wedi gofyn i chi warantu, yn ei sylwadau agoriadol, ond hoffwn ailadrodd hynny fy hun, Weinidog: a wnewch chi warantu y bydd bwrsariaeth ffioedd dysgu'r nyrsys yn cael ei diogelu ar gyfer y dyfodol yn eich sylwadau y prynhawn yma?
Weinidog, yr wythnos diwethaf yn y Siambr fe wnaethoch ateb un o fy nghyd-Aelodau drwy ddweud eich bod wedi cael llond bol; roeddech chi wedi cael llond bol ar rai o'r cwestiynau a ofynnwyd i chi. [Torri ar draws.] Fe ddywedoch chi hynny, Weinidog; fe ddywedoch chi eich bod wedi cael llond bol ar rai o'r cwestiynau a gâi eu gofyn i chi. Wel, a gaf fi ddweud fy mod innau wedi cael llond bol, rwy'n teimlo'n rhwystredig pan nad yw Gweinidogion yn cymryd cyfrifoldeb am yr hyn y mae ganddynt rym drosto yma? Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am GIG Cymru ers 20 mlynedd, a chi, Weinidog—[Torri ar draws.] Fe ddof at hynny nawr, peidiwch â phoeni, Ddirprwy Weinidog. Ond mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am gyflog ac amodau nyrsys hefyd. Felly, rwy'n cael llond bol pan fyddwch chi'n pwyntio eich bys—mae'n gyfrifoldeb i fyrddau iechyd, mae'n gyfrifoldeb i San Steffan, rydych chi eisiau mwy o arian—gan osgoi'r cyfrifoldeb yma drwy'r amser.
Mae datganiad yr hydref newydd gael ei gyhoeddi. Bydd Llywodraeth Cymru'n cael £1.2 biliwn ychwanegol o arian canlyniadol. Gallwch chi, Weinidog, dorri'r brethyn fel y dewiswch chi ei wneud yma. Gallwn enwi toreth o feysydd lle credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwario arian yn amhriodol, neu wastraffu arian. Felly, mae cyfrifoldeb arnoch chi yma i dorri eich brethyn eich hun. Gallwn sôn am y gwahanol safbwyntiau yn y Siambr hon am y £100 miliwn sydd ar fin cael ei wario ar 30 o Aelodau newydd o'r Senedd. Mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall, ond mae hynny'n cyfateb i 4,000 o nyrsys newydd gymhwyso. Bydd y ddadl honno'n digwydd eto, rwy'n siŵr. Ond y pwynt yw mai penderfyniadau a wneir yma gennych chi yw'r rhain, Weinidog. Rwyf fi a fy nghyd-Aelodau'n cefnogi ein nyrsys GIG yn llwyr, a chredwn y dylent gael eu cefnogi yn y proffesiwn y maent yn ei garu. Ac mae'n siomedig fod Llywodraeth Cymru'n dal i fethu llunio cynllun cadw staff nyrsio dros ddwy flynedd ar ôl cyhoeddi cynllun gweithlu'r GIG yn 2022.
Rydym yn wynebu gaeaf arall o bwysau difrifol ar y GIG, a dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i osgoi streic ac osgoi rhoi pwysau ar y GIG ar draws Cymru. Weinidog, rwy'n galw arnoch y prynhawn yma ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod eu hymgyrch dros gyflog teg a staffio diogel er mwyn osgoi gaeaf o weithredu diwydiannol yn ystod y misoedd nesaf. Diolch yn fawr.
Fel y nododd Rhun ap Iorwerth, rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu nifer y lleoedd i fyfyrwyr nyrsio yng Nghymru, ac eithrio 2019-20, pan arhosodd y nifer yn statig. Mae croeso mawr i hynny. Ond yn anffodus, nid yw'r ecsodus o nyrsys sy'n gadael y GIG yn dangos unrhyw arwydd o arafu, ac mae'n amlwg i'w weld fel pe bai'n cynyddu, gan fod llawer o nyrsys yn gadael y proffesiwn yn gynharach yn eu gyrfaoedd. Mewn gwirionedd, pan gyfarfûm â'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ddiweddar, clywais yn uniongyrchol gan staff fod myfyrwyr hyd yn oed yn penderfynu peidio â cheisio am waith gyda'r GIG oherwydd yr hyn y maent wedi'i weld a'i brofi yn ystod lleoliadau gwaith, a'r straen sydd wedi bod arnynt oherwydd yr hyn y maent yn ei ystyried yn lefelau staffio anniogel.
Dim ond atgyfnerthu profiadau a oedd eisoes yn hysbys mewn perthynas â'r GIG a'r gweithlu nyrsio yma yng Nghymru a wnaeth y pandemig. Mae'n weithlu sy'n dioddef oherwydd prinder staff, cyflogau isel a morâl isel, ac eto mae ei angen a chaiff ei werthfawrogi'n fawr. Ond y gwir amdani yw bod nyrsys yn gweithredu mewn amgylchedd sy'n cael ei amddifadu o fuddsoddiad ac adnoddau, a dyna pam na ddylai fod yn syndod mai'r bygythiad mwyaf i'r gweithlu yw ei gynaliadwyedd, gyda llawer mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag a geir o nyrsys newydd gymhwyso neu nyrsys wedi'u recriwtio'n rhyngwladol.
Mae ymchwil wedi dangos, lle mae llai o nyrsys, fod cleifion 26 y cant yn fwy tebygol o farw, ac mae hyn yn codi i 29 y cant yn dilyn arosiadau cymhleth mewn ysbyty. Mae byrddau iechyd yn cydnabod bod cadw nyrsys yn broblem, ac mewn sawl adroddiad, a drafodwyd mewn cyfarfodydd dirifedi, maent yn aml yn tynnu sylw at ddiffyg strategaeth genedlaethol ar gadw staff nyrsio. Mae angen ateb cenedlaethol i broblem genedlaethol, ond eto mae'n ymddangos nad oes unrhyw graffu ar gymhelliant na rheoli perfformiad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chadw staff. Mae yna argyfwng staffio amlwg, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i fynd i'r afael â mater cadw staff os ydym am weld gwelliannau.
Fel y nodwyd eisoes, ceir amryw o strategaethau i fynd i'r afael â'r cyfraddau uchel o swyddi gwag, megis y dull cenedlaethol Cymru gyfan, a cheir mentrau caffael effeithiol a chefnogaeth i nyrsys rhyngwladol. Fodd bynnag, o ran cadw a recriwtio staff, rydym eisoes yn gwybod beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth i nyrsys, oherwydd eu bod wedi dweud wrthym, sef codi cyflogau nyrsys a sicrhau bod lefelau staffio'n ddiogel. Gyda phwysau'r gaeaf ar ei ffordd yn ogystal â'r argyfwng costau byw, fe wyddom mai dim ond gwaethygu a wnaiff y sefyllfa hynod bryderus yn GIG Cymru. A bydd y risg bresennol i gleifion oherwydd prinder staff nyrsio a gweithlu sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac sydd wedi ymlâdd yn cynyddu.
Credwn fod ein nyrsys a'r cyhoedd yn haeddu gofal priodol a digonol. Yr unig ffordd i ddenu a chadw staff nyrsio yw eu gwobrwyo, a'u gwobrwyo'n dda am eu sgiliau a'u hymrwymiad, ac mae'n rhaid i hyn ddechrau gyda chodiad cyflog uwch na chwyddiant. Nid fy ateb i na Phlaid Cymru yw hwn—dyma beth y mae nyrsys wedi dweud wrthym fod angen iddo ddigwydd. Mae hyn yn rhywbeth a ddywedwyd wrthyf wrth gyfarfod â hwy mewn ysbytai, a chlywed yn uniongyrchol ganddynt am yr heriau go iawn y maent yn eu hwynebu, a pham fod rhai pobl yn teimlo nad oes ganddynt opsiwn ond gadael proffesiwn y maent yn malio'n wirioneddol amdano.
Yn ystod y pandemig, fe wnaethom ddangos ein gwerthfawrogiad o'r GIG drwy sefyll ar garreg y drws a chlapio, ond nid yw dweud 'diolch' yn ddigon mwyach, ac mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau, a hoffwn ofyn i bob Aelod o'r Senedd gefnogi ein cynnig a chefnogi ein nyrsys heddiw.
Yn ddiweddar, ymwelais â Phrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, sydd wedi ehangu i gynnig nyrsio erbyn hyn ac amrywiaeth o raddau perthynol i iechyd, ynghyd ag ailhyfforddi, mewn gofodau newydd gwych gyda'r dechnoleg ddiweddaraf. Mae'r fwrsariaeth yng Nghymru ar gyfer hyfforddi yn gwneud gwahaniaeth enfawr hefyd. Mae nyrsys a staff arall yn cael amser mor galed ac mae morâl yn isel, felly mae angen inni hyrwyddo nyrsio ac iechyd fel gyrfa, ac mae angen inni sicrhau bod y ddwy Lywodraeth yn buddsoddi mewn pobl wrth edrych ar ailadeiladu'r economi, nid mewn adeiladu a'r sector preifat yn unig. Mae angen inni hefyd greu llwybrau gyrfaol ar gyfer gwasanaethau arbenigol, fel nyrsys iechyd meddwl. Mae angen inni adeiladu ein gwasanaethau cyhoeddus yn ôl a sicrhau bod cyllid digonol gan Drysorlys y DU i roi cyflogau teilwng a chyflogi mwy o staff rheng flaen, fel y gallwn gadw'r rhai sydd gennym ar oriau gweddus heb eu gorlethu. Nid yn unig nyrsys, ond gweithwyr gofal hefyd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, porthorion, gweinyddwyr, gwasanaethau cynghori, swyddogion tai, athrawon—mae'r rhain oll yn effeithio ar iechyd ac mae dirfawr angen cyllid arnynt. Ac mae'r pot yn cael ei rannu, ei fwyta gan bwysau chwyddiant, a achoswyd nid yn unig gan y rhyfel, ond gan Brexit, 12 mlynedd o gyni a phenderfyniadau ofnadwy a wnaed gan y Prif Weinidog Ceidwadol diweddar, gan greu pwysau o £30 biliwn a chwyddiant cynyddol. Rwy'n deall bod twll du bil ynni'r GIG y flwyddyn ariannol hon yn £100 miliwn. Mae cynghorau'n dal i wynebu twll du cyllidebol gwerth £802 miliwn, ac mae'r oedi wrth drosglwyddo gofal yn broblem enfawr, ac mae'n gydbwysedd ariannu sensitif. Ni ellir mynd i'r afael ag un heb effeithio ar y llall. Yn syml, mae angen mwy o arian arnom gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus i dalu am yr holl gynnydd mewn chwyddiant.
Ond o ran yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, hoffwn wybod hefyd pa ystyriaeth a roddwyd i leihau dibyniaeth y GIG ar staff asiantaeth, gan ganiatáu iddynt wella cyflogau i weithwyr y GIG a mynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio, fel bod gennym fwy o nyrsys wedi'u cyflogi'n uniongyrchol. Rwy'n credu bod cyfanswm y gwariant ar nyrsys asiantaeth ar gyfer 2021-22 yn £133.4 miliwn, sef cynnydd o 41 y cant o'r flwyddyn ariannol flaenorol. Ar hyn o bryd, mae asiantaethau'n cynnig cyfraddau sylweddol yr awr. Er enghraifft, ceir hysbysebion ar hyn o bryd am nyrs asiantaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam sy'n cynnig rhwng £23 a £48 yr awr, felly hyd yn oed ar ben isaf y cynnig hwn, mae'r cyflog yn sylweddol uwch na'r hyn y byddai nyrs GIG yn ei gael; rwy'n credu ei fod tua £16 yr awr. Yn gynharach eleni, cyfarfûm â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ynglŷn â thâl ac amodau nyrsys y GIG, a dywedwyd wrthyf, pe bai byrddau iechyd yn rhoi'r gorau i dalu i ddod â staff asiantaeth i mewn i lenwi'r bylchau ac yn cyflogi nyrsys yn uniongyrchol yn lle hynny ar gyflogau a phatrymau gwaith gwell, ni fyddai angen talu'r gost uchel i asiantaethau yn y lle cyntaf. Oherwydd roeddwn yn pendroni sut y gellid torri'r cylch hwn, ac os nad yw lawn mor glir â hynny, efallai y gallem drosglwyddo'r wybodaeth ymlaen i nyrsys hefyd, fel eu bod hwy'n deall.
Felly, Weinidog, yn eich ymateb, hoffwn wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i dorri'r cylch o ddibyniaeth ar nyrsys asiantaeth, er mwyn sicrhau bod arian yn mynd yn uniongyrchol i gyflogi nyrsys y GIG yn hytrach na dibynnu ar lwybr drud nyrsys asiantaeth. Ac os nad yw mor syml â hynny, a wnewch chi adael i mi wybod pam ei fod yn digwydd? Diolch.
Ar gyfer fy nghyfraniad y prynhawn yma, hoffwn ganolbwyntio ar yr effaith y mae'r argyfwng nyrsio yng Nghymru yn ei chael ar hosbisau, ac yn arbennig ar y ddwy hosbis blant yng Nghymru—Tŷ Hafan a Thŷ Gobaith. Mae'r ddwy hosbis yn noddfeydd i rai o'r plant mwyaf bregus yng Nghymru a'u teuluoedd. Serch hynny ni all yr un o'r ddwy hosbis weithio ar gapasiti llawn oherwydd costau staffio cynyddol a chyfyngiadau ariannol ar gynnal dewis cyflogaeth cystadleuol i nyrsys. Mae hyn yn golygu nad yw'r hosbisau'n gallu rhoi'r holl gefnogaeth y gallent i'r bobl sydd ei hangen fwyaf.
Ar ôl ymgyrchu'n galed gyda'r hosbisau i wella'r setliad cyllido a ddarperir gan y wladwriaeth i hosbisau, mae'n hynod siomedig nad yw hosbisau'n gallu gweithio ar gapasiti llawn ar hyn o bryd. Mae'n ymddangos nad yw'r codiad diweddar a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf mewn dros ddegawd ac sy'n dal i fod ymhell ar ôl y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth yr SNP i hosbisau plant yn yr Alban, wedi cadw i fyny â'r amgylchiadau sy'n newid yn gyflym. Nid yn unig y mae'r amodau sy'n bodoli a'r rhagolygon economaidd yn effeithio ar allu'r elusennau i godi arian, ond ni fu llawer o gydnabyddiaeth ychwaith i'r modd y mae costau cynyddol a chwyddiant wedi llyncu'r rhan fwyaf o'r cyllid oedd ar gael yn y bôn. Hefyd, gyda chostau adnoddau nyrsio ar fin codi ymhellach, mae'r bwlch rhwng cyllid a gafwyd a'r effaith ar wasanaethau sy'n cael eu darparu yn tyfu.
Mae ymchwil yn dangos bod yr angen am wasanaethau hosbis, gofal diwedd oes, rheoli symptomau a gofal seibiant yn sgil argyfwng yn mynd i gynyddu. Ac eto, yn frawychus ac yn gynyddol, nid yw'r anghenion hyn yn cael eu diwallu. Ar ôl ymweld a Thŷ Hafan a gweld o lygad y ffynnon y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i blant sy'n wynebu'r dyfodol mwyaf llwm, mae hyn yn wirioneddol dorcalonnus. Y rhagolwg yw y bydd pethau'n gwaethygu. Bydd astudiaeth sydd ar y gweill o niferoedd, a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dangos nad yw nifer helaeth y teuluoedd â phlant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar oes, teuluoedd sydd ymhlith y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn cael cefnogaeth hosbis ar hyn o bryd.
Nid yw darparu adnoddau ar gyfer gwelyau bob amser wedi bod yn syml, yn enwedig ar gyfer Tŷ Hafan, lle mae'r llif o nyrsys plant cymwysedig wedi ei ddisbyddu ac wedi arwain at heriau recriwtio. Mae'r her recriwtio hon yn adlewyrchu'r prinder nyrsys ar hyn o bryd, ac mae cyllid cynaliadwy yn hanfodol i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hyn yn cael eu darparu yn unol â'r angen presennol. Mae'r cysylltiad rhwng gofal gwych a nyrsys profiadol yn hysbys, ac eto mae'r prinder staff nyrsio yng Nghymru ar hyn o bryd yn effeithio'n ddifrifol ar allu hosbis i ddarparu'r lefel o ofal a chefnogaeth yr hoffent ei gynnig i gymaint o deuluoedd â phosibl. Os yw'r crebachu'n parhau ar y gyfradd bresennol, mae'n bosibl na fydd yr hosbisau'n gallu gweithredu. Yn unol â'u nod datganedig i fod yn wlad dosturiol, dylai Llywodraeth Cymru gefnogi'r sector hosbisau, a'r nyrsys hynny sy'n gerrig sylfaen iddo yn benodol, a rhaid i'r gefnogaeth hon ddechrau gyda chodiad cyflog uwch na chwyddiant. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw, a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno. Fel siaradwyr eraill, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy dalu teyrnged i'r holl weithwyr rheng flaen yn ein GIG. Maent wedi ein harwain yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws, o drin pobl mewn ysbytai i roi brechlynnau yn rhan o ymdrech frechu'r DU sy'n arwain y byd.
Rwyf am achub ar y cyfle i edrych yn benodol ar amodau nyrsio yn fy mwrdd iechyd lleol, Hywel Dda. Dangosodd ffigurau gan y Coleg Nyrsio Brenhinol fod nifer y swyddi nyrsio gwag yn fy mwrdd iechyd—yn ein bwrdd iechyd ni, Weinidog—wedi cynyddu o 408 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ym mis Mai 2021 i 539.2 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ym mis Gorffennaf eleni. Mae hyn yn arwain at ddibyniaeth lawer mwy ar staff asiantaeth, sy'n cael ei adlewyrchu mewn gwariant syfrdanol, a welwyd mewn ffigurau pellach gan y Coleg Nyrsio Brenhinol. Yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22, roedd gwariant y bwrdd iechyd ar nyrsys asiantaeth rhwng £28.9 miliwn a £34.3 miliwn. Pam na allaf roi gwariant manwl gywir? Oherwydd bod y ffigurau a ddarparwyd gan y bwrdd iechyd, drwy gais rhyddid gwybodaeth, £5.4 miliwn yn is na'r ffigurau a gafwyd gan gais rhyddid gwybodaeth union yr un fath a anfonwyd at Lywodraeth Cymru. Sut yn y byd y gellid cael anghysondeb cyfrifyddu mor fawr rhwng ffigurau Llywodraeth Cymru a rhai'r bwrdd iechyd? Ac er bod yr anghysondeb hwn yn peri gofid mawr, ni ddylem adael iddo dynnu ein sylw oddi ar y swm enfawr o arian y mae'r bwrdd iechyd yn ei wario dros gyfnod o flwyddyn ar nyrsys asiantaeth—arian y gellid ei wario ar gadw nyrsys a thalu cyflogau uwch iddynt, gyda gwell rheolaeth ac yn bwysicaf oll, gydag arweiniad gwell o'r brig.
Ond mae'r ddadl hon heddiw'n ymwneud â mwy na'r gydnabyddiaeth ariannol y mae nyrsys yn ei chael, mae hefyd yn ymwneud â'r parch y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddangos tuag atynt. Nid ydych wedi cyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol i drafod yr anghydfod cyflogau. Mae Gweinidogion iechyd San Steffan a'r Alban wedi gwneud hynny. Ac ar ôl gwrando ar ymateb y Gweinidog i adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar lefelau staffio diogel ar 28 Medi, rwy'n gwybod y bydd hi'n codi i ymateb i'r ddadl hon ac yn pwyntio bys at Lywodraeth San Steffan. Ond o ddifrif calon, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog oedi ac ystyried ei strategaeth bresennol, sef osgoi? Ai dyma'r ffordd orau o drin ein gweithlu nyrsio, gweithlu o bobl ddeallus, huawdl a phenderfynol, gyda diffyg parch drwy geisio taflu llwch i'w llygaid? Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am y GIG yng Nghymru ers dros 23 mlynedd bellach—cyfnod o amser lle mae Plaid Lafur Cymru bod â'u dwylo ar awenau grym o'r cychwyn. Rwy'n gwybod hyn, mae'r Gweinidog yn gwybod hyn ac yn bwysicaf oll, mae'r nyrsys yn gwybod hyn.
Weinidog, nid oes unrhyw un ohonom eisiau gweld ein nyrsys yn streicio. Fel Ceidwadwr Cymreig, mae gweithredu diwydiannol yn rhywbeth nad wyf yn gyfforddus yn ei gylch. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi ymweld ag Ysbyty Cyffredinol Glangwili a chael sgyrsiau gonest gyda nyrsys. O'r sgyrsiau hyn ac yn dilyn trafodaethau gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol, gallaf weld pam eu bod mor rhwystredig. Felly, rwy'n erfyn arnoch, Weinidog, yn apelio arnoch, i eistedd o amgylch y bwrdd gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol i siarad yn benodol am dâl a'r streic. Drwy osgoi eich cyfrifoldeb fel Gweinidog iechyd rydych yn gwneud cam â'r gweithlu sy'n ein gwasanaethau mor ddewr ar adeg pan fo'r ddealltwriaeth, ar ôl y pandemig, o ble mae penderfyniadau iechyd yn cael eu gwneud yng Nghymru ar ei lefel uchaf erioed. Mae fy etholwyr yn haeddu gwell. Mae ein nyrsys yng Nghymru yn haeddu gwell. Weinidog, cymerwch gyfrifoldeb am weithredoedd eich Llywodraeth. Sefydlwch ffordd adeiladol ymlaen i osgoi gweithredu diwydiannol, a rhowch gydnabyddiaeth i gyfraniad ein nyrsys yng Nghymru. Diolch.
Faint ohonom a fu'n ddiolchgar am y gofal y mae perthynas wedi'i gael pan fyddant yn sâl? Rwy'n sicr yn ddiolchgar am y gofal a gafodd dau o fy mam-guod a thad-cuod yn ystod COVID. Ni fyddai'r gofal hwnnw y dibynnwn arno yn bosibl, ac ni fyddai ansawdd y gofal cystal, heb nyrsys—nyrsys y gofynnir iddynt bob shifft i fynd y filltir ychwanegol, ac y gofynnwyd iddynt weithio shifft ychwanegol yn ystod y pandemig. Y gwir yw bod mwy na hanner nyrsys Cymru wedi digalonni.
Mae Leanne Lewis, nyrs yn fy rhanbarth i, un o gyd-drigolion Pencoed, wedi dweud yn gyhoeddus ac wrthyf fi sut mae'n argyfwng staffio go iawn. Dywedodd fod staff yn gadael yn eu heidiau. Mae Leanne yn dweud wrthym fod llawer o salwch staff yn deillio o orflinder a chymhlethdodau ar ôl COVID, ac nad oes cymysgedd cywir o sgiliau ar y wardiau. Fel y mwyafrif o nyrsys—sef 78 y cant ohonynt, gyda llaw—roedd Leanne yn teimlo bod gofal cleifion yn cael ei beryglu.
Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod wedi galw am estyniad i adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Yn flaenorol, mae'r Gweinidog wedi dweud bod adran 25B yn seiliedig ar dystiolaeth, ac mai'r ffaith ei bod wedi'i seilio ar dystiolaeth sy'n rhoi hygrededd i'r Ddeddf, a bod unrhyw alwad i ymestyn adran 25B yn esgeuluso sylfaen y Ddeddf. Wel, fe fyddwn i'n dweud bod y dystiolaeth yno. Mae'n llethol. Mae yno heddiw yn yr hyn y mae nyrsys ar draws GIG Cymru yn ei ddweud wrthym. Mawredd, roedd yn adroddiad Tawel Fan, yn ôl ym mis Medi 2014. Mae hyn oll wedi amlygu difrifoldeb y sefyllfa. Mae ein nyrsys yn gwneud popeth yn eu gallu i liniaru'r problemau, ond fel pawb, ni allant fod ym mhobman ar unwaith, ni waeth faint y maent eisiau bod.
Yn y pen draw, mae angen recriwtio a chadw staff yn well. Dof yn ôl at Leanne. Mae hi'n dweud wrthym fod nyrsys wedi'u trawmateiddio'n llwyr ac wedi cael llond bol ar fethu rhoi'r gofal y maent am ei roi i'w cleifion, a'r gofal y maent yn ei haeddu. 'Mae'n dorcalonnus', meddai wrthym,
'cael cydweithwyr yn fy ffonio ar ôl shifft yn eu dagrau oherwydd eu bod yn teimlo nad ydynt wedi gallu darparu'r gofal y dymunant y gallent fod wedi'i roi, a hynny oherwydd prinder staff.'
Dylai Tawel Fan fod wedi canu larymau i'r Llywodraeth, ond mae'r problemau wedi parhau a gwaethygu, ac o ganlyniad i ddiffyg gweithredu ar ran y Llywodraeth, y bobl sy'n talu'r pris yw staff a'u cleifion. Yn eich ymateb, Weinidog, byddwn yn croesawu pe bai'r Llywodraeth yn barod i ymestyn adran 25B.
Nawr, mae galwadau mynych wedi bod ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i werthfawrogi ein gweithlu nyrsio. Ym mis Mehefin 2021, ysgrifennodd 16 o sefydliadau at y Prif Weinidog i annog y Llywodraeth i sicrhau lefelau diogel o staff nyrsio ac ehangu adran 25B i gynnwys wardiau i gleifion mewnol iechyd meddwl a lleoliadau cymunedol. Ym mis Hydref 2021, gofynnodd y byrddau iechyd am fwy o gyllid, adnoddau a nyrsys i baratoi ar gyfer ehangu i gynnwys wardiau pediatrig. Ac roedd llai o ddigwyddiadau cleifion yn 2021 hefyd, lle cafodd nyrsio ei ystyried yn ffactor ar wardiau a oedd wedi'u cynnwys o dan adran 25B, o'i gymharu â 2019.
Dewis olaf yw streic, fel bob amser. Ni waeth pa ddiwydiant rydych chi ynddo, nid oes neb eisiau streicio. Ond mae diffyg gweithredu ar ran y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa wedi gwneud i aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol deimlo fel pe nad oes ganddynt opsiwn arall, am y tro cyntaf yn y 100 mlynedd ers eu sefydlu. Dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov yng Nghymru fod 85 y cant o'r cyhoedd yn cefnogi codiad cyflog i nyrsys. Gallai'r holl bobl hynny fod yn gleifion GIG Cymru. Heb weithlu nyrsio, ni all y GIG weithredu. Heb godiad cyflog uwch na chwyddiant, ni fydd gwelliannau'n bosibl i wasanaethau i gleifion. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gael trafodaethau agored gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac ymrwymo go iawn i godi cyflogau nyrsys.
Diolch i Blaid Cymru am y ddadl yma heddiw.
Mae sefyllfa ddifrifol iawn yn ein hwynebu, ac mae'n dda ein bod yn gallu trafod hyn yn iawn yma yn y Senedd. Rwyf am ddweud fy mod yn gwybod bod gan y Gweinidog lawer iawn o bethau ar ei phlât ac mae wedi bod yn amser anodd iawn, ond ar hyn o bryd, mae meddwl y gallem wynebu streic nyrsys yn heriol iawn i ni fel cymdeithas yma yng Nghymru. Mae meddwl y gallai llawer o'r rhai sy'n cael y cyflogau isaf ac sy'n gofalu'n fwyaf uniongyrchol ac yn gweithio mor galed dros y cleifion yn eu gofal fod yn ystyried mynd ar streic—. Nawr, rhowch eich hun ym mhen rhywun sydd wedi ymroi i ofalu am bobl fregus mewn angen, a meddyliwch, 'Yr unig ffordd y gallaf gael amodau gwell, gwell cyflog, yw drwy streicio.' Nid ydynt wedi gwneud y penderfyniad hwnnw ar chwarae bach.
Rwyf eisiau canolbwyntio ar ddau faes yn fyr. Mae un o'r rheini wedi cael sylw gan Luke Fletcher, mewn perthynas ag adran 25B. Hoffwn ofyn am gadarnhad nad oes ymrwymiad o gwbl i gefnu ar hyn, oherwydd rwy'n bryderus y gallai hynny fod yn digwydd. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn nodi'n glir iawn fod adran 25B yn cadw nyrsys—fod nyrsys sy'n gweithio ar wardiau lle mae hynny'n wir eisiau aros mewn gwirionedd. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ei gadw ac yn ei ymestyn. Rhaid imi ddweud, wrth gwrs, mai Kirsty Williams a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a gyflwynodd y Bil. Mewn gwirionedd, dyma'r unig Fil Aelod preifat mewn 23 mlynedd i fynd drwy'r Senedd, sy'n dangos, rwy'n credu, faint o gefnogaeth ac ymrwymiad a welwyd ar draws y pleidiau i wneud yn siŵr fod gennym lefelau diogel o staff nyrsio. Byddwn yn croesawu diweddariad gennych chi hefyd, Weinidog, yn nodi a ydych chi'n bwriadu ymestyn y Ddeddf, fel y clywsoch gan Luke Fletcher, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng cadw staff mewn sawl rhan arall o'n GIG.
Y mater terfynol roeddwn eisiau ei grybwyll yw ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi i ddyfarnu tâl gwell i nyrsys. Cyn i mi fynd ymlaen at hynny, rwy'n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn mynd ar goll yn iaith 'codiad cyflog', oherwydd yn yr amgylchiadau economaidd enbyd rydym ynddynt, nid yn lleiaf fod mesur chwyddiant y mynegai prisiau manwerthu ar 11 y cant, mae unrhyw ddyfarniad cyflog y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i nyrsys o dan y lefel honno yn doriad cyflog mewn termau real, a dyna pam rwy'n erfyn arnoch i wneud popeth yn eich gallu i sicrhau codiad cyflog go iawn i'n nyrsys, i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio a chadw staff yn y GIG yng Nghymru. Dyna pam y byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw. Oherwydd rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru rym i allu talu ein nyrsys, a gallwn edrych ar sut y defnyddiwn bwerau yma i godi trethi. Rwyf wedi dweud hyn dro ar ôl tro: mae gennym allu yma yng Nghymru nawr—mae gennym allu i godi ceiniog yn y bunt. Nawr, rwy'n siŵr na fyddai llawer o bobl o amgylch Cymru yn gwarafun hynny; mewn gwirionedd, rwy'n credu y byddent yn ymrwymo i hynny, i'n gweithwyr GIG gwerthfawr a'n gweithwyr gofal cymdeithasol gwerthfawr. Gadewch inni fod yn feiddgar, gadewch inni fod yn ddewr, gadewch inni weld ymrwymiad i'r rhan honno o'n cymdeithas sy'n gofalu am ein pobl fwyaf bregus. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma ar bwnc rwy'n eithaf angerddol yn ei gylch, gyda fy mhrofiad yn y GIG. Fel y soniwyd yn gynharach yn y ddadl, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi £1.2 biliwn i Gymru o symiau canlyniadol Barnett ar ôl cyhoeddiadau a wnaed yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf, ac mae hynny'n gwbl groes i honiadau'r Gweinidog iechyd y byddai ei chyllid yn cael ei dorri. Dim ond hwy eu hunain sydd gan y Llywodraeth Lafur i'w feio, ac fe ddylai'r Gweinidog iechyd roi'r achos hwnnw i'w Chabinet. Fe roddaf rai enghreifftiau i chi o ychydig o'r arian a wastraffwyd gan Lywodraeth Cymru y gellid dadlau y byddai modd ei roi i nyrsys a gweithwyr rheng flaen y GIG. Felly, £66.2 miliwn ar fenthyciadau i gynnal Maes Awyr Caerdydd; £110 miliwn ar orwariant ac oedi i ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465; £157 miliwn ar ffordd liniaru'r M4, na chafodd ei hadeiladu; £14 miliwn ar ffordd osgoi Llanbedr yng Ngwynedd, cynllun a gafodd ei atal pan benderfynodd Lee Waters atal gwaith adeiladu ffyrdd; £4.25 miliwn ar Fferm Gilestone ym Mhowys; ac £20 miliwn ar y peilot incwm sylfaenol cyffredinol. Peidiwn ag anghofio, fel y soniodd Russell George hefyd, fod y Blaid Lafur yn hapus iawn i wario £100 miliwn ar 36 Aelod newydd o'r Senedd, a fyddai'n cyfateb i tua 4,000 o nyrsys newydd gymhwyso, fel y soniodd Russell George hefyd. Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru wedi amcangyfrif bod cyfraddau swyddi gwag wedi bron â dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda 2,900 o swyddi gwag yn y gweithlu nyrsio o'i gymharu â 1,719 yn 2021. Yn wir Cymru yw'r unig wlad yn y DU i beidio â chyhoeddi ei data swyddi gwag yn llawn.
Os caf amlinellu'n fyr pam rwy'n angerddol ynglŷn â lefelau staff nyrsio a sicrhau bod nyrsys yn cael cytundeb cyflog teg, y rheswm am hynny yw oherwydd fy mod wedi gweithio i Betsi Cadwaladr a'r GIG am 11 mlynedd, ac roeddwn yn gweithio'n agos iawn gyda nyrsys ar draws ystod eang iawn o ddisgyblaethau. Nid oes diwedd ar yr hyn y mae nyrsys yn ei wneud. Maent yn ymwneud â chymaint o feysydd gwahanol—iechyd cyffredinol, iechyd meddwl, y gwasanaeth carchardai. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Maent yn arbenigo mewn meysydd eraill, felly mae set sgiliau nyrsys yn eang iawn. Peidiwn ag anghofio hefyd fod yn rhaid iddynt aberthu llawer er mwyn cymhwyso fel nyrsys. Peidiwn ag anghofio ei fod yn golygu tair blynedd o addysg yn y brifysgol, ffioedd dysgu o £9,000 y flwyddyn, felly rydych chi'n edrych ar werth tua £27,000 o ddyled cyn iddynt ddechrau eu gyrfaoedd hyd yn oed. Ac mae eu rhestr o ddyletswyddau yn ddi-ben-draw. Maent yn gweithio shifftiau 12 awr, maent yn gweithio nosweithiau, maent yn gweithio ar benwythnosau, maent yn gweithio'r holl oriau anghymdeithasol—Dydd Nadolig, y cyfan oll i gyd. Felly, maent yn sicr yn gwneud eu rhan, ac maent yn gweithio'n galed iawn ac mae ganddynt lawer o gyfrifoldeb dros iechyd y cyhoedd, ac rwy'n meddwl y dylai hynny gael ei wobrwyo'n deg o fewn gwasanaeth y GIG.
Felly, rwyf am ddod i ben drwy annog y Gweinidog i ddod o gwmpas y bwrdd gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol a dod i gytundeb er mwyn atal streic nyrsys, yn enwedig gan ein bod ar drothwy'r gaeaf—wel, rydym wedi cyrraedd y gaeaf; nid ydym ar drothwy'r gaeaf, rydym ni yma. Mae'n amlwg ein bod yn gwybod am bwysau canlyniadol y gaeaf, felly, o ran yr amseru, nid dyma'r adeg orau o'r flwyddyn pe bai streiciau'n digwydd. Felly, Weinidog, cymerwch rywfaint o gyfrifoldeb, dewch o gwmpas y bwrdd gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol a gadewch i ni ddod i gytundeb. Diolch.
Y Gweinidog iechyd nawr i gyfrannu i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am ddweud ar y dechrau ein bod yn cydnabod yn llwyr pam fod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol am y tro cyntaf yn hanes y Coleg Nyrsio Brenhinol. Credwn y dylai nyrsys, ynghyd â gweithwyr eraill sy'n gweithio'n galed yn y GIG a'r sector gyhoeddus, gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith. Mae nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, glanhawyr, porthorion, parafeddygon a llawer o broffesiynau eraill sy'n ffurfio staff y GIG ar yr un telerau ac amodau'r GIG â'u cydweithwyr ledled y DU—y contractau 'Agenda ar gyfer Newid'. Felly, dylai Aelodau fod yn ymwybodol fod canolbwyntio ar un grŵp o staff neu flaenoriaethu un grŵp dros y llall mewn materion cyflog yn arwain at ganlyniadau sylweddol. Mae holl staff ein GIG yn hanfodol bwysig, a hebddynt—pob un ohonynt—ni allem ddarparu gwasanaethau'r GIG.
Nawr, rydym yn deall pryderon a dicter ein gweithlu ynglŷn â sut mae eu safonau byw yn cael eu herydu, ond cyn imi droi at gyllid a chyllido, rwyf am nodi'r broses a ddilynais eleni wrth wneud y dyfarniad cyflog. Nawr, fel mewn blynyddoedd blaenorol, gwnaethom ofyn i'r cyrff adolygu cyflogau annibynnol ddarparu eu cyngor annibynnol, a phan wnaethom ofyn am y cyngor hwnnw, fe wnaethom ofyn yn benodol iddynt ystyried yr argyfwng costau byw. Mae'r corff adolygu cyflogau yn adolygu tystiolaeth gan bob parti, yn cynnwys y Llywodraeth, undebau llafur a chyflogwyr, cyn gwneud argymhellion annibynnol. Mae'n fecanwaith rydym ni ac undebau llafur wedi cytuno i'w ddilyn mewn trafodaethau cyflog i weithwyr y GIG ar gontractau 'Agenda ar gyfer Newid'. Felly, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn rhan o drafodaethau cytundebol 'Agenda ar gyfer Newid'. Felly, ar ôl ystyried yn ofalus, fe dderbyniais eu hargymhellion, a chytunais hefyd i dalu'r codiad o £1,400 ar ben y codiad cyflog byw gwirioneddol dros dro a gyhoeddwyd gennyf ym mis Mawrth 2022, sy'n golygu y bydd staff y GIG ar y cyflogau isaf yn gweld y cynnydd sylweddol o 10.8 y cant yn eu cyflogau.
Cyn cyhoeddi'r dyfarniad cyflog, cyfarfûm â chydweithwyr undebau llafur i drafod y pwysau ariannol presennol ac esboniais na allem gynyddu'r dyfarniad cyflog heb wneud penderfyniadau anodd iawn am doriadau i feysydd eraill yn y gyllideb iechyd, a fyddai, yn anochel, yn torri'r gwasanaethau sydd ar gael i'r cyhoedd ac yn gwneud clirio'r rhestrau aros yn anos byth. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y cyswllt rheolaidd sydd rhyngof ag undebau llafur, ac er nad yw'r rhain yn drafodaethau cyflog—rwyf newydd esbonio'r broses rydym yn ei defnyddio ar gyfer hynny—maent yn ymwneud â materion sy'n effeithio'n fawr ar weithlu'r GIG, fel llesiant a lles staff, ac rwy'n edrych ymlaen at fy nghyfarfod nesaf gydag undebau llafur pwyllgor busnes GIG Cymru, sy'n cynnwys y Coleg Nyrsio Brenhinol, ddydd Llun.
Lywydd, mae'n peri tristwch i mi, ynghanol argyfwng costau byw, nad ydym yn gallu rhoi dyfarniad cyflog sydd gyfuwch â chwyddiant i nyrsys, staff ein GIG a'n staff sector cyhoeddus ehangach, oherwydd bod ein setliad cyllid yn llawer is na'r hyn sydd ei angen i godi'r pwysau sylweddol y maent hwy a ninnau'n eu hwynebu. Yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Canghellor ddatganiad yr hydref, a chredwn fod hwn yn gyfle a gollwyd i ddarparu codiad cyflog i nyrsys, staff y GIG a gweithwyr sector cyhoeddus. Nawr, roedd rhywfaint o arian ychwanegol i Gymru—£1.2 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hynny ar gyfer popeth a wnawn yn y Llywodraeth—dwy flynedd—ond mae'n llawer llai na'r hyn sydd ei angen i lenwi'r tyllau yn ein cyllideb, heb sôn am ateb y galwadau cyflog gan staff ac undebau ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus. Ac roedd newyddion gwaeth ar gyfer eleni. Nid oes unrhyw arian ychwanegol ar gyfer eleni, er gwaethaf y pwysau chwyddiant enfawr, ac mae'r cynnig hwn gan Blaid Cymru yn galw arnom i ddefnyddio pob ysgogiad posibl i roi codiad cyflog i nyrsys. Rydym wedi clywed awgrymiadau y dylem ddefnyddio cronfeydd wrth gefn neu gronfeydd heb eu dyrannu. Wel, mae arnaf ofn nad yw'r ffigurau a glywsom yr wythnos hon, ynghylch arian heb ei ddyrannu, yn gyfredol. Rydych chi'n defnyddio ffigurau mis Mehefin. Roedd hynny cyn inni wybod am y bil ychwanegol o £207 miliwn ar gyfer ynni yn y GIG yn unig. Felly, mae angen pob ceiniog o'n cyllideb i leddfu pwysau chwyddiant ar wasanaethau cyhoeddus.
A wnaiff y Gweinidog yn ildio?
Gwnaf, rwy'n hapus i ildio.
Diolch am ildio. Gofynnais yn benodol a allech ein diweddaru ar y ffigur presennol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth yw'r ffigur cyfredol ar gyfer gwariant heb ei ddyrannu a beth yw'r ffigur presennol ar gyfer cronfa wrth gefn Cymru?
Wel, i fod yn hollol glir, mae'r pwysau'n llawer mwy na hynny. Nid tanwariant yw hyn eleni. Mae'n bryd inni agor ein llygaid. Fe ddywedaf wrthych faint yn ychwanegol y bu'n rhaid imi ddod o hyd iddo mewn toriadau eleni yng nghyllideb y GIG. Toriadau ydyw. Rydym wedi gorwario'n helaeth.
Ie, wel, a wnewch chi ddweud wrthym beth—? Oes gennych chi'r ffigurau ar gyfer gwariant heb ei ddyrannu ar hyn o bryd ac ar gyfer y cronfeydd wrth gefn? Ac a wnewch chi eu rhannu gyda ni?
Na, gallaf ddweud wrthych nad oes cyllid heb ei ddyrannu. Ni allaf fynd ymhellach na hynny. Gallaf ddweud wrthych faint drosodd—. Rwy'n credu y gallwn gael y wybodaeth honno i chi.
I fod yn glir, rydych chi'n dweud—
Na, nid wyf am ildio eto.
Nid yw'r Gweinidog yn ildio. Gall y Gweinidog barhau.
Mae'r gyllideb atodol yn mynd i ddod allan yn fuan iawn, ac fe gewch chi'r holl fanylion yn y fan honno. Fe welwch effaith pwysau chwyddiant, ac mae'n bell y tu hwnt i unrhyw beth a oedd yn y cyllid heb ei ddyrannu yr edrychoch chi arno ym mis Mehefin. Mae angen pob ceiniog o'n cyllideb. Ond hyd yn oed pe bai gennym danwariant, gadewch inni fod yn glir na ellid defnyddio hwnnw i ariannu dyfarniadau cyflog. Dyma gyllid am amser cyfyngedig nad yw'n gyllid rheolaidd. Ni ellir defnyddio cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwariant bob dydd. Dim ond unwaith y gellir eu defnyddio, a chânt eu cadw ar gyfer argyfyngau. Mae llywodraethu cyfrifol hefyd yn golygu paratoi ar gyfer yr annisgwyl—ar gyfer llifogydd, ar gyfer straeniau COVID newydd, ar gyfer yr argyfwng costau byw.
Clywsom awgrymiadau hefyd y dylem dorri'n ôl ar wariant asiantaeth. Rwy'n gwybod bod llawer mwy y gallwn ei wneud, ac sy'n rhaid inni ei wneud, i ostwng costau yn y maes hwn, ac rydym yn gweithio arno. Ond byddai diddymu defnydd o staff asiantaeth yn arwain at ganlyniadau difrifol pe baem yn ei wneud yn gyflym iawn yn GIG Cymru. Rydym—
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Wrth gwrs.
Rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch, ac rwy'n credu bod pwynt dilys ynglŷn â hyn yn digwydd yn rhy gyflym gyda staff asiantaeth. Ond rwy'n meddwl bod problem yma gyda'r ddibyniaeth ar asiantaeth. Rydych chi'n aml yn siarad â gweithwyr rheng flaen y GIG a fydd yn dweud, 'Pe bai rhyw gyfran o'r hyn sydd wedi'i wario ar staff asiantaeth ychwanegol yn cael ei wario ar welliannau bach i'n hannog i ddod yn ôl i mewn neu aros ar ôl shifft'. A gawn ni wneud hynny dros amser?
Gallaf eich sicrhau bod fy swyddogion yn gweithio ar hyn wrth i ni siarad. Mae llawer o waith yn cael ei wneud. Rwy'n credu bod angen i bobl ddeall bod gennym ofyniad cyfreithiol mewn perthynas â lefelau staffio diogel. Os ydych chi'n dweud, 'Peidiwch â defnyddio staff asiantaeth', bydd hynny'n golygu y bydd rhaid inni gau wardiau. Bydd rhaid i wasanaethau damweiniau ac achosion brys stopio. Dyna ganlyniad ei wneud yn rhy gyflym. Rydym yn gwybod bod rhaid inni wneud mwy, ond ni allwn ei wneud dros nos.
Mae'n wir fod gennym ddewisiadau. Clywsom alwadau heddiw i gynyddu cyfraddau Cymreig y dreth incwm i dalu nyrsys. Eglurais yn gynharach fod blaenoriaethu un grŵp o staff y sector cyhoeddus dros un arall yn arwain at ganlyniadau sylweddol. Byddem eisiau ystyried rhoi codiad cyflog i gyd-fynd â chwyddiant i bob gweithiwr sector cyhoeddus, ond mae hynny'n mynd i fod yn anodd dros ben. Byddai angen inni godi o leiaf £900 miliwn ychwanegol. Er mwyn codi hynny drwy gyfraddau treth incwm Cymreig, byddai angen inni godi, nid ceiniog ond 4.5c, ar y gyfradd sylfaenol. Gallai'r fath godiad gynhyrchu tua £900 miliwn. Felly, gallem ei wneud, ond dychmygwch beth fyddai hynny'n ei olygu. Byddai'n golygu y byddai gennym rai o'r cyfraddau treth uchaf yng Nghymru, sy'n un o rannau tlotaf y DU. Byddai'n rhaid iddo fod yn barhaol, a gadewch imi roi enghraifft i chi o'r hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol. Byddai rhywun sy'n ennill £20,000 yng Nghymru yn talu £424 ychwanegol y flwyddyn mewn treth, a byddai rhywun sy'n ennill £30,000 yng Nghymru yn talu £784 yn fwy o dreth. A pheidiwch ag anghofio y byddai nyrsys wedi'u cynnwys yn hynny. Felly os ydynt yn ennill £35,000, byddai'n rhaid i hyd yn oed nyrsys dalu £1,009 ychwanegol o dreth.
Ysgogiad arall sydd ar gael i ni fyddai gwneud toriadau dwfn i gyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol nawr ac yn y dyfodol. Byddai hynny'n golygu torri swyddi a thoriadau i wasanaethau. Byddai'n golygu amseroedd aros hwy a llai o feddyginiaethau newydd. Wrth gwrs, mae hynny'n bosibl. Mae Llywodraeth yr Alban wedi penderfynu gwneud hynny, a'r hyn a wnaethant yw toriadau enfawr i gyllidebau gwasanaethau rheng flaen. Dyna realiti'r hyn sydd angen i chi ei wneud. Pe baem ni'n gwneud yr un peth, fe fyddai—
A wnewch chi dderbyn ymyriad byr?
Na, nid wyf yn gwneud mwy o ymyriadau, os nad oes ots gennych, oherwydd rwy'n gwybod bod y Llywydd yn mynd i fy ngalw i drefn yn fuan iawn.
Mae gennych berffaith hawl i benderfynu ynglŷn ag ymyriadau.
Diolch. Rwyf am roi sicrwydd i chi y bydd y fwrsariaeth nyrsio'n parhau. Hoffwn bwysleisio mai'r hyn sydd ei angen arnom yw setliad ariannu teg gan Lywodraeth y DU, un sy'n cydnabod gwaith caled holl staff ein GIG a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus ac sy'n eu gwobrwyo'n deg am y swyddi y maent yn eu gwneud.
Rwy'n achub ar y cyfle hwn eto i erfyn ar Lywodraeth y DU i ystyried yr effaith sylweddol a gaiff gweithredu diwydiannol ar ddarparu gwasanaethau, a darparu cyllid ychwanegol ar gyfer dyfarniad cyflog teg i staff er mwyn osgoi gweithredu diwydiannol a'r effaith y bydd hynny'n ei chael ar ofal cleifion. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth nawr i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am gyfraniadau pawb i'r ddadl y prynhawn yma. Rydyn ni wedi clywed gan Aelod ar ôl Aelod pam rydyn ni'n gwerthfawrogi nyrsys gymaint. Ydyn, rydyn ni wedi diolch iddyn nhw ar garreg y drws, fel rydyn ni wedi diolch i holl staff y gwasanaeth iechyd a gofal am eu gwaith diflino, ond mae yna bwynt yn dod lle mae'n rhaid dangos gwir werthfawrogiad, ac mae hynny'n gorfod cynnwys drwy becyn cyflog.
Mae'r Gweinidog wedi egluro wrthym ni eto heddiw pam ei bod hi'n teimlo bod eu dwylo hi wedi cael eu clymu gan setliad ariannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, dwi'n cytuno'n llwyr efo hi ynglŷn ag effaith yr ideoleg sydd wedi bod tu cefn i doriadau un Llywodraeth Geidwadol ar ôl y llall. Dewis ydy torri cyllid gwasanaethau cyhoeddus. A gair o gyngor i'r Ceidwadwyr, o bosib: peidiwch â thynnu sylw yn ormodol at y cynnydd pitw sydd wedi cael ei roi i gyllid cyhoeddus yng Nghymru gan eich Llywodraeth Geidwadol chi yn San Steffan, a chymryd arnoch fod £1.2 biliwn dros ddwy flynedd yn unrhyw beth mwy na'r briwsion ydy o. A gair arall o gyngor: peidiwch â defnyddio dadl fel hon i ymosod ar ddatganoli ac ar y gwaith sy'n cael ei wneud i ddatblygu ein democratiaeth ni yng Nghymru drwy wneud ffigurau i fyny ynglŷn â chost y diwygio sydd yn digwydd yma yn Senedd Cymru.
Ond mae yna flas mwy chwerw, wrth gwrs, rŵan, i ddiffygion economaidd y Ceidwadwyr yn San Steffan, oherwydd wrth gwrs rydyn ni i gyd yn talu'r pris am eu hanallu nhw, ac mae ein nyrsys ni yn talu'r pris am yr anallu hwnnw. Ond mae dal gan Lywodraeth Cymru le i edrych ar eu blaenoriaethau. Does yna ddim esgusodi'r diffyg gweithredu. Mi gawsom ni ein herio fel gwrthblaid i ddod o hyd i'r arian. Roedd y Prif Weinidog yn feirniadol, fel y Gweinidog heddiw, yr wythnos diwethaf, o Lywodraeth yr Alban am ddweud eu bod nhw wedi tynnu arian allan o'r NHS i wneud gwell cynnig cyflog, fel petasai nyrsys eu hunain ddim yn un o'r pethau mwyaf pwysig mae'r NHS yn gallu talu amdano fo. Ar hyn o bryd, rydyn ni mewn difri yn gofyn i nyrsys eu hunain gyllido yr NHS maen nhw eu hunain yn gweithio ynddo fo. Sut all hynny fod yn gyfiawn ac yn dderbyniol?
Mi gawsom ni addewid bod y bwrsari am byth. Dydy o ddim yr addewid unequivocal nad oes yna danseilio i ddigwydd o gwbl, nad oes yna israddio i ddigwydd. Dwi'n berffaith hapus derbyn ymyriad gan y Gweinidog os ydy hi am roi sicrwydd nad oes yna unrhyw newid i fod. Mae hi'n dewis peidio â gwneud hynny. Fe wnawn ni ei gadael hi yn y fanna—[Torri ar draws.] Na, roeddwn i'n gofyn bod yna ddim israddio yn mynd i fod chwaith. Rydyn ni wedi clywed ei fod e'n aros, ond dwi'n edrych ymlaen am ragor o addewidion y bydd o'n cael ei gynnal, achos mae o mor, mor bwysig.
Fe ddywedais fod cadw staff yn fwy heriol na recriwtio o bosibl, ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw'r holl arfau sydd eu hangen i ddod â nyrsys i mewn i'r proffesiwn, a chofiwch na fydd llawer ohonynt yn dod yn syth o'r ysgol, ond efallai ychydig yn hwyrach yn eu bywydau a gorfod rhoi'r gorau i swydd arall. Maent angen cefnogaeth y fwrsariaeth honno ar y lefel bresennol.
Ar y trafodaethau cyflog, mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddod at y bwrdd, ac mae'n rhaid iddi ein perswadio ei bod wedi gwneud popeth yn ei gallu. Mae'n amlwg nad ydynt wedi gwneud hynny hyd yma, ac mae'n amlwg nad ydynt wedi gwneud hynny y prynhawn yma. Mae o fudd i'r Llywodraeth wneud hyn. Mae cyflogau isel yn gwthio nyrsys allan o'r proffesiwn. Mae'n gwthio nyrsys i weithio mewn asiantaeth. Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau gan Huw Irranca-Davies am effaith gwaith asiantaeth, a Carolyn Thomas hefyd. Rydym i gyd eisiau torri'r bil asiantaeth. Ond mae lefel cyflogau ar hyn o bryd a lefel morâl o fewn y gwasanaeth iechyd yn gwthio nyrsys i weithio shifftiau asiantaeth. Mae'r bil wedi saethu i fyny tua 41 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, i £133 miliwn mewn blwyddyn. Mae'r gweithlu nyrsio i bob pwrpas yn cael ei breifateiddio o dan oruchwyliaeth Llafur.
Mae gwelliant y Llywodraeth Lafur heddiw yn dileu ein galwad ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gwneud cynnig cyflog gwell. Nid un ysgogiad unigol mohono; mae'n golygu dod â'r holl ysgogiadau at ei gilydd, a dod â'r holl opsiynau sydd ar gael i'r Llywodraeth at ei defnydd at ei gilydd. Edrychaf ymlaen at sylwadau pellach gan y Gweinidog Cyllid ar y ffaith nad oes unrhyw arian heb ei ddyrannu yn ôl pob tebyg, ac nad oes unrhyw arian mewn cronfeydd wrth gefn. Efallai y gallem gael esboniad a yw hynny'n wir mewn gwirionedd. Wrth gyflwyno'r gwelliant hwnnw, mae Llafur yn gwrthod defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddynt, er y gallent wneud hynny. Maent yn gwrthod cyfleoedd i geisio osgoi'r streic. Os yw gwelliant y Llywodraeth yn pasio, byddwn yn cefnogi popeth sydd ar ôl wrth gwrs, datganiad yn unig fod nyrsys yn haeddu tâl teg. Ond geiriau'n unig yw'r rheini oni bai bod y Llywodraeth yn dangos ei bod yn barod i weithredu.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Cyn symud ymlaen at y bleidlais, gofynnodd Natasha Asghar i mi yn gynharach i fyfyrio ar briodoldeb defnyddio'r term 'hysterig' mewn ymateb iddi gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ystod cwestiynau y prynhawn yma. Mae yna hanes hir iawn gan ddynion o ddefnyddio'r term 'hysteria' i fychanu menywod, yn enwedig menywod mewn bywyd cyhoeddus, ac rwy'n ymddiheuro i Natasha Asghar am beidio â sylwi arno pan gafodd ei ddweud. Mae 'hysterig' yn air amhriodol i ddisgrifio unrhyw gyfraniad gan unrhyw fenyw yn y Siambr hon. Efallai iddo gael ei ddefnyddio'n naïf gan y Dirprwy Weinidog ar y pryd, ond nid wyf yn disgwyl ei glywed eto.
Nawr, awn ymlaen at y bleidlais, oni bai bod gennyf dri Aelod sy'n dymuno i'r gloch gael ei chanu.