5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni

– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:19, 22 Mawrth 2023

Eitem 5 sydd nesaf, dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21: mesuryddion rhagdalu a gwasanaethau cyngor ynni. Galwaf ar Jack Sargeant i wneud y cynnig. 

Cynnig NDM8219 Jack Sargeant

Cefnogwyd gan Alun Davies, Carolyn Thomas, Delyth Jewell, Heledd Fychan, Jane Dodds, Jayne Bryant, Joyce Watson, Llyr Gruffydd, Luke Fletcher, Mike Hedges, Peredur Owen Griffiths, Rhianon Passmore, Rhys ab Owen, Sarah Murphy, Sioned Williams, Vikki Howells

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu:

a) ei fod yn sgandal genedlaethol bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu yn 2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;

b) bod rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni osgoi gwiriadau priodol;

c) y dylai'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol gan gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim. 

2. Yn nodi:

a) y cafodd cyflenwad ynni 3.2 miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi rhedeg allan o gredyd ar eu mesuryddion rhagdalu;

b) y gallai biliau ynni cyfartalog cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw. 

3. Yn cydnabod cynllun peilot ynni yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi cyngor rhagweithiol a chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn perygl o fod, mewn tlodi tanwydd. 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 3:19, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

Mae’r cynnig hwn yn benllanw misoedd o ymgyrchu. Ers yr hydref y llynedd, rwyf wedi bod yn galw am waharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Roedd hyn am fod cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu yn cael eu gorfodi i dalu mwy am eu trydan, ond hefyd oherwydd y dystiolaeth gynyddol drwy gydol y flwyddyn fod pobl yn cael eu gorfodi i newid i fesuryddion rhagdalu ar raddfa ddigynsail.

Yn hwyr y llynedd, ysgrifennodd y newyddiadurwr a'r ymgyrchydd, Dean Kirby, o bapur newydd The i stori yn disgrifio eistedd mewn llys lle cyhoeddwyd bron i 400 o warantau i osod mesuryddion rhagdalu gorfodol mewn llai na thri munud—400 o warantau mewn llai na thri munud. Ddirprwy Lywydd, yn sydyn, roedd popeth yn gwneud synnwyr: cafodd mesuryddion 600,000 o bobl eu newid y llynedd yn unig, gyda dim ond 72 o'r gwarantau hyn yn cael eu gwrthod, a'r cynnydd o fis i fis yn nifer y bobl a oedd cael eu gorfodi i newid. Datgelodd stori Dean y rheswm y tu ôl i'r niferoedd hyn. Nid oedd unrhyw archwiliadau o gwbl yn cael eu cynnal i weld a oedd unrhyw un o'r bobl hyn yn agored i niwed. Fel yr eglurodd Dean, ni ddarllenwyd eu henwau hyd yn oed ar y diwrnod hwnnw yn y llys.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 3:20, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, gadewch inni fod yn glir ynghylch yr hyn sydd i fod i ddigwydd: dylai cyflenwyr ynni roi cyfle i unrhyw un sy'n ystyried eu hunain yn agored i niwed wrthod mesurydd rhagdalu. Yn lle hynny, roedd Ofgem yn caniatáu i'r cyflenwyr ynni eu hunain ddiffinio’r hyn yw unigolyn agored i niwed, a manteisiwyd ar hyn gyda chanlyniadau trychinebus. Roedd Llywodraeth y DU ac Ofgem yn cysgu wrth y llyw, ac er bod yr ystadegau rwyf wedi’u nodi eisoes wedi'u gwneud yn gyhoeddus, ni wnaethant unrhyw beth. Nid nes i The Times ddatgelu asiantau a oedd yn gweithio ar ran Nwy Prydain yn torri'r rheolau ar gamera y gwnaeth y rheolydd, Ofgem, gyfaddef unrhyw gamweddau. Dylai unrhyw reoleiddiwr a welodd y cynnydd aruthrol hwn yn nifer y gwarantau a gyhoeddwyd y llynedd, gan gynnwys dros 20,000 ohonynt mewn un llys yn Abertawe, fod wedi gweithredu. Ac mae hyd yn oed y moratoriwm presennol ar osod mesuryddion rhagdalu yn digwydd yn wirfoddol, yn syml oherwydd y fideos Nwy Prydain hynny.

Nawr, Ddirprwy Lywydd, nodaf alwad genedlaethol ddiweddar Ofgem am dystiolaeth ar fesuryddion rhagdalu, ond mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhannu pryder gwirioneddol ynglŷn ag a fydd y rheini sydd eisoes wedi cael cymaint o gam gan y rheoleiddiwr yn ymgysylltu â'r broses honno. Ym mis Chwefror, lansiais fy arolwg fy hun i gasglu tystiolaeth, ac roedd hyn oherwydd, ar y pryd, dywedodd Ofgem wrthyf yn y cyfarfod a gefais gyda hwy nad oedd unrhyw dystiolaeth i'w chael o gamweddau y tu allan i Nwy Prydain, er bod yr ystadegau’n profi fel arall. Ac roedd yr ymatebion a gefais, Ddirprwy Lywydd, yn fy adroddiad, 'A National Scandal: The true cost of pre-pay meters' yn anodd iawn i'w darllen. Maent yn darlunio'n glir pa mor anodd yw bywyd ar fesurydd rhagdalu i gynifer o deuluoedd. Dywedodd un ymateb, a dyfynnaf,

'Mae fy ngŵr yn gyn-filwr yn y fyddin gyda fferau wedi'u hadlunio, anhwylder straen wedi trawma a llawer mwy o broblemau iechyd'.

Aethant ymlaen i ychwanegu,

'Ar un achlysur, roeddwn yn teimlo cymaint o gywilydd yn gorfod ffonio i ofyn a allent roi credyd ar fy mesuryddion, y gwnaethant ei gymryd yn ôl cyn gynted ag yr oedd gennyf arian i'w roi ar y mesuryddion, gan fy rhoi yn ôl yn y man cychwyn yn y bôn. Ni wneuthum eu ffonio wedyn, ac yn lle hynny, bu'n rhaid imi wneud heb'.

Ddirprwy Lywydd, ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain, sut rydym yn gwneud y fath gam â'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog i'r fath raddau nes eu bod yn cael eu gadael yn y tywyllwch ac yn yr oerfel yn eu cartrefi eu hunain? Mae'r gŵr hwn yn arwr rhyfel. Peryglodd ei fywyd dros bob un ohonom, ac eto, yn ei awr gyfyng, mae'r system wedi gwneud cam mawr ag ef.

Cafodd mesurydd pâr arall, ill dau'n derbyn taliadau annibyniaeth personol, a chanddynt dri o blant ifanc, ei newid gan eu cwmni ynni ym mis Ionawr. Roeddent yn dweud hyn,

'Roeddem yn teimlo ein bod wedi cael ein bwlio i gael mesurydd rhagdalu gan eu bod wedi rhoi llawer o ddyled i ni allan o unman na allem fforddio'i thalu. Ar hyn o bryd, rydym yn talu £10 y dydd am drydan yn unig, ac rydym yn ei chael hi'n anodd yn ariannol'.

Mae eu sefyllfa, Ddirprwy Lywydd, mor anodd bellach fel eu bod wedi cael eu gorfodi i fenthyg arian gan deulu i ychwanegu at eu mesurydd. Yn drist iawn, mynegodd nifer o ymatebwyr eraill eu bod hwythau hefyd wedi gorfod benthyca arian er mwyn cadw'r golau ymlaen. Mae’r effaith y mae mesuryddion rhagdalu yn ei chael ar iechyd y rheini sy’n cael eu gorfodi i fyw gyda hwy mor syfrdanol o glir yn yr adroddiad hwn. Gosodwyd mesurydd rhagdalu gorfodol yng nghartref un unigolyn sydd ag arthritis difrifol ddiwedd y llynedd. Esboniodd unigolyn arall sut maent yn rhedeg allan o gredyd yn rheolaidd ar eu mesurydd nwy, a bod y cyfnodau estynedig o oerfel wedi gwaethygu eu hasthma yn sylweddol.

Fel rwyf wedi'i ddweud yn y Siambr hon ar sawl achlysur, Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn fater o fywyd a marwolaeth. Dywedodd un ymatebydd i’r arolwg, er eu bod yn ddibynnol ar ddyfais feddygol sy’n rhaid ei chysylltu ynglŷn â’r prif gyflenwad, eu bod wedi’u rhoi ar fesurydd rhagdalu. Bob dydd, maent yn gorfod gwneud y dewis i gyfyngu ar eu defnydd o ynni fel y gallant fod yn sicr y gallant ddefnyddio eu dyfais feddygol. A allwch chi ddychmygu'r straen a'r pryder y mae'n rhaid bod hyn yn ei achosi i'r teulu hwn? Mae’n wirioneddol dorcalonnus fod teuluoedd ledled y Deyrnas Unedig yn gorfod byw fel hyn.

Ddirprwy Lywydd, yn anffodus, nid yw'n syndod fod llawer o'r rheini a ymatebodd i fy arolwg wedi mynegi sut mae eu hiechyd meddwl wedi dioddef o ganlyniad uniongyrchol i'w mesurydd rhagdalu. Mae'r gorbryder hwn wedi'i waethygu gan y ffordd y cawsant eu trin gan eu cyflenwyr ynni. Bydd y Gweinidog yn cofio imi dynnu sylw yn ddiweddar at achos mam a fu'n aros ar y ffôn am dros awr, yn eistedd yn y tywyllwch, yn eistedd yn yr oerfel, ar ôl i’w mesurydd rhagdalu roi’r gorau i weithio. Pan gafodd ei chysylltu o’r diwedd ac esbonio bod angen cymorth arnynt, a bod eu mab chwech oed yn amlwg yn ofidus iawn, yn bryderus iawn, yn crio gartref yn y tywyllwch, yn yr oerfel, yr unig beth a wnaeth yr unigolyn ar ben arall y ffôn oedd chwerthin, a rhoi'r ffôn i lawr. Mae'r peth yn gwbl warthus, Ddirprwy Lywydd.

Mae pob un o'r bobl hyn sydd wedi ymateb i fy arolwg, pob un o'r bobl hyn rydym wedi'u disgrifio yn yr ystadegau hyn, wedi cael cam gan eu cyflenwr ynni. Maent wedi cael cam gan Ofgem, ac maent wedi cael cam gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Hoffwn ddweud yn gwbl glir, Ddirprwy Lywydd, nad oes gennyf unrhyw ffydd yn Ofgem o gwbl, ond mae rôl glir i Lywodraeth y DU ddeddfu. Bydd fy nghyd-Aelodau’n cofio, ar ddiwedd y 1990au, y cydnabuwyd na ddylid caniatáu i gwmnïau preifat dorri cyflenwad dŵr pobl. Mae ynni, hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn fater o fywyd neu farwolaeth. Dylem wneud yr un peth a deddfu i atal cwmnïau rhag torri cyflenwadau ynni pobl, ac mae hyn yn cynnwys torri cyflenwadau ynni pobl am fod eu mesurydd rhagdalu wedi rhedeg allan o gredyd.

Ddirprwy Lywydd, yn y cyfamser yma yng Nghymru, mae angen inni edrych ar gyflwyno'r cynllun peilot cyngor ynni domestig yn y cartref ar raddfa fwy i sicrhau bod pobl yn cael eu grymuso â mynediad at y cyngor gorau posibl. Ac mae angen inni edrych ar ba bwerau sydd gennym i atal landlordiaid rhag gallu gorfodi tenantiaid i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu hefyd. Ddirprwy Lywydd, i gloi, hoffwn ddweud hyn: mae pobl wedi cael cam mawr gan y rhai sydd i fod i’w hamddiffyn yn y farchnad ynni. Rwy'n gobeithio y gwelwn ddiwedd ar y sgandal genedlaethol hon, ac rwy'n gobeithio y daw i ben cyn bo hir. Diolch.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:28, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf sydd ar gael gan y rheolydd ynni, Ofgem, roedd oddeutu 4.1 miliwn o gwsmeriaid trydan a 3.3 miliwn o gwsmeriaid nwy ar fesurydd rhagdalu ym Mhrydain yn 2020, gyda nifer gyfrannol fwy o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu nag yn Lloegr. Cymru sydd â’r gyfran uchaf o fesuryddion rhagdalu nwy o gymharu â gwledydd eraill Prydain, ac maent yn aml yn cael eu defnyddio gan rai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, fel y clywsom, pobl sydd ar incwm isel ac sydd eisoes mewn dyled i’w cyflenwyr. Ynys Môn sydd â'r lefel uchaf o fesuryddion rhagdalu yng Nghymru, gyda bron i 29 y cant, ac yna Gwynedd, gyda bron i 22 y cant.

Er gwaethaf ymdrech unedig gan Ofgem yn 2020, gan gynnwys cyflwyno amodau trwydded newydd i gyflenwyr ar gyfer nodi cwsmeriaid agored i niwed, cynnig credyd brys a chredyd oriau cyfeillgar, ac ystyried gallu cwsmeriaid i dalu wrth sefydlu cynlluniau ad-dalu dyledion, gwaethygodd yr argyfwng prisiau ynni byd-eang ddifrifoldeb y sefyllfa, gyda nifer y mesuryddion rhagdalu sydd ar waith ledled y DU yn cynyddu. Ym mis Ionawr, cyn i ymchwiliad The Times ddatgelu bod Nwy Prydain yn anfon casglwyr dyledion fel mater o drefn i dorri i mewn i gartrefi cwsmeriaid a gosod mesuryddion rhagdalu gorfodol, hyd yn oed pan oeddent yn gwybod eu bod yn eithriadol o agored i niwed, ysgrifennodd Ysgrifennydd busnes y DU ar y pryd at y cyflenwyr ynni, gan nodi y dylent roi'r gorau i orfodi cwsmeriaid sy'n agored i niwed i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu, ac y dylent wneud mwy o ymdrech i helpu'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Galwodd am gyhoeddi ymchwiliad diweddar y cyflenwyr ynni i gwsmeriaid agored i niwed ar unwaith, a rhyddhau data ar geisiadau roedd cyflenwyr wedi eu gwneud i osod mesuryddion gorfodol.

Ym mis Chwefror, gofynnodd Ofgem i gwmnïau ynni roi'r gorau i osod mesuryddion rhagdalu gorfodol, a gorchmynnodd yr Arglwydd Ustus Edis i lysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr roi'r gorau ar unwaith i awdurdodi gwarantau i gwmnïau ynni osod mesuryddion rhagdalu gorfodol. Ar yr un diwrnod, cyfarfu Gweinidog ynni’r DU ar y pryd â phennaeth Ofgem a dweud wrtho fod Llywodraeth y DU yn disgwyl camau gweithredu cryf ar unwaith pan na fydd cyflenwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau. Mae gwaharddiad dros dro Ofgem ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol yn cynnwys atal gosod mesuryddion drwy warant, atal newid mesuryddion clyfar i fesuryddion rhagdalu o bell heb gytundeb penodol y cwsmer, a rhoi’r gorau i geisiadau newydd i’r llys am warantau gosod oni bai bod amheuaeth o ddwyn.

Yn ystod cyllideb Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Canghellor, o 1 Gorffennaf, y bydd taliadau ynni rhagdalu'n cael eu cysoni ar gyfer cwsmeriaid sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol ar sail barhaol. Mae Climate Cymru wedi mynegi pryder nad yw hyn yn effeithio ar y taliadau sefydlog, sef yr hyn sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o gost uwch mesuryddion rhagdalu. Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i Ofgem adrodd yn ôl ar opsiynau ar gyfer atal y taliadau sefydlog uwch y mae defnyddwyr mesuryddion rhagdalu yn eu talu. Ym Mhwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Senedd y DU ar 14 Mawrth, cadarnhaodd Ofgem fod pob cyflenwr bellach yn ymestyn yr ataliad ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol y tu hwnt i 1 Ebrill, ac na fydd yn cael ei godi hyd nes bod Ofgem yn fodlon fod cyflenwyr yn gweithredu'n unol â chod ymarfer newydd.

Mae National Energy Action, NEA, o’r farn fod angen sicrhau ar unwaith hefyd fod y camau gorfodi'n gryf, gan gynnwys gwrthdroi gosodiadau na ddylid bod wedi'u gwneud a digolledu’r aelwydydd yr effeithir arnynt, er mwyn cryfhau amddiffyniadau ac amodau trwyddedau, a chael adolygiad sylfaenol o fesuryddion rhagdalu, lleihau nifer y mesuryddion rhagdalu traddodiadol a ddefnyddir a mynd i'r afael â dyledion. Cred NEA y dylid hyrwyddo a darparu mesurau effeithlonrwydd ynni ochr yn ochr â chyngor a chymorth uniongyrchol annibynnol i aelwydydd agored i niwed sydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd ar wella effeithlonrwydd ynni'r cartref, gwneud y gorau o incwm a rheoli neu leihau costau ynni a chael mynediad at y cymorth ehangach sydd ar gael yn y farchnad ynni.

Mae blwyddyn wedi bod ers i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar iteriad nesaf ei rhaglen Cartrefi Clyd, ac mae angen inni gyflymu’r gwaith o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi sydd mewn tlodi tanwydd ar fyrder. Hoffai NEA a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru weld Llywodraeth Cymru yn nodi amserlen ar gyfer sicrhau bod y cynllun nesaf sy’n cael ei arwain gan y galw yn weithredol cyn y gaeaf, gan ganolbwyntio ar y rhai gwaethaf yn gyntaf—y rheini ar yr incwm isaf, sy’n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon—a defnyddio dull priodol aml-fesur, 'ffabrig yn gyntaf'. Anfonodd etholwr e-bost ataf, yn dweud mai bwriad mesuryddion rhagdalu oedd atal pobl rhag mynd i ôl-ddyledion, ac mai’r broblem yma yw bod y cwmnïau cyfleustodau’n codi cyfradd uwch ar y bobl sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu, a bod angen i hynny newid. Ni ellir cyfiawnhau cosbi rhywun am dalu ymlaen llaw a chosbi rhywun am fod ar incwm isel. Byddwn yn falch o gefnogi’r cynnig hwn yn unol â hynny.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:33, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r ddadl hon. Rwy'n llwyr gefnogi dadl y cynnig ei bod yn sgandal genedlaethol fod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi ar fesuryddion rhagdalu oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni, ond tra bo dosbarthu a chyflenwi nwy a thrydan a diogelu defnyddwyr yn faterion a gadwyd yn ôl, rwyf am nodi hefyd na fyddwn byth yn gallu bod yn gwbl hyderus y gallwn amddiffyn ein dinasyddion rhag y math hwn o weithredu niweidiol a chywilyddus hyd nes bod pwerau dros y materion hyn wedi'u datganoli i Gymru. Nid yw'r gwaharddiad dros dro presennol ar osod mesuryddion rhagdalu yn ddiwedd ar bethau, a hyd yma, nid yw'r cod ymarfer y siaradodd Mark Isherwood amdano i gyflenwyr yn orfodol yn gyfreithiol.

Fel mae'r cynnig yn gwneud yn glir, mae tlodi tanwydd ar lefelau difrifol yng Nghymru, a gallai ddyfnhau ymhellach byth. Mae'r rhai sydd wedi cael eu gorfodi i fynd ar fesuryddion rhagdalu fel arfer yn ei chael hi'n anodd nid yn unig gyda chostau byw, ond hefyd gyda dyledion. Yr ymchwiliad pwyllgor cyntaf yr oeddwn yn rhan ohono ar ôl cael fy ethol oedd yr un a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn hydref 2021 ar ddyled a'r pandemig. Fel yn achos argyfwng COVID, bydd dyled lethol yn sicr yn un o ganlyniadau erchyll yr argyfwng costau byw hwn, gan ddwysáu canfyddiadau pryderus yr adroddiad hwnnw, a gyhoeddwyd fel yr oedd prisiau ynni'n dechrau codi. 

Yn ogystal â sicrhau iawndal priodol gan gyflenwyr ynni i'r rhai a orfodwyd i fynd ar fesuryddion rhagdalu, mae National Energy Action yn iawn i alw ar Lywodraeth y DU hefyd i ariannu amnest dyledion, gan ddefnyddio'r cyllid a ddaeth ar gael efallai yn sgil y cwymp diweddar mewn prisiau cyfanwerthu. Mae'r cynnig hefyd yn nodi'r angen i sicrhau cyngor a chymorth i'r rhai sydd mewn perygl o wynebu tlodi tanwydd, ac mae croeso mawr i hynny, ond mae'n rhaid cael mesurau effeithlonrwydd ynni i gyd-fynd â hynny i helpu i atal tlodi tanwydd yn y lle cyntaf. Drwy gwestiwn ysgrifenedig yn y Siambr hon, a chyda fy nghyd-aelodau o'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ceisiais gael eglurder ynghylch y llinell amser ar gyfer pryd y bydd yr iteriad nesaf o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn weithredol—nid wedi'i gaffael, ond yn weithredol. Fel y dywedodd Mark Isherwood, rhaid inni gyflymu'r gwaith o wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi lle mae pobl yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru. Yr hyn a gawsom hyd yma, gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yw ymrwymiad y bydd cynllun newydd, cenedlaethol sy'n cael ei arwain gan y galw, ac sy'n canolbwyntio ar gartrefi mewn tlodi tanwydd, yn cael ei gaffael erbyn diwedd y flwyddyn, ac na fyddai bwlch yn y ddarpariaeth rhwng y rhaglenni newydd a'r rhaglenni presennol. 

Felly, hoffwn ofyn eto, Weinidog: pryd fydd y cynllun sy'n cael ei arwain gan y galw, sy'n canolbwyntio ar y rhai ar yr incwm isaf, sy'n byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon, yn weithredol? Atebwch yn glir, gan fy mod yn gobeithio y bydd pob Aelod a'r Gweinidog yn cytuno ei bod yn hanfodol fod y rhai sy'n wynebu'r caledi mwyaf yn cael eu helpu cyn gynted â phosibl i fyw mewn cartrefi cynhesach ac iachach cyn i'r gaeaf nesaf wthio pobl i ddyled fwy niweidiol byth a nosweithiau hyd yn oed yn dywyllach ac oerach. 

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:37, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrud iawn i fod yn dlawd; mae bron bopeth yn costio mwy. Pe bawn i wedi bod yn cael y drafodaeth hon tua 20 mlynedd yn ôl, byddwn wedi dweud bod popeth yn costio mwy, ond cyrhaeddodd y siopau disgownt Almaenig, felly nid yw popeth yn costio mwy, ond ychydig iawn o bethau sydd heb fod yn costio mwy i bobl dlawd. Mae'n gwneud synnwyr busnes da i'r cyflenwyr ynni gael mesuryddion rhagdalu. Maent yn cael incwm gwarantedig am yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio. Nid ydynt yn datgysylltu pobl, oherwydd maent yn datgysylltu eu hunain. Mae Cyngor ar Bopeth wedi darganfod yn y DU bod dros 2 filiwn o bobl yn cael eu datgysylltu o leiaf unwaith y mis, a bod tua un o bob pum cwsmer ar fesurydd rhagdalu a ddatgysylltwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi treulio o leiaf 24 awr heb nwy na thrydan. Dim ystyriaeth i'r rhai sydd heb ynni.

Mae'n amlwg fod datgysylltu o ganlyniad i brinder credyd yn effeithio'n rheolaidd ar fywydau'r rhai sy'n byw gyda mesuryddion rhagdalu. Ni allwn ganiatáu i system barhau os yw'n arwain at beryglu bywydau pobl fregus am eu bod yn wynebu cael eu datgysylltu'n gyson. Mae'n effeithio'n anghymesur ar yr henoed, y rhai sy'n agored i niwed a phobl â phlant ifanc. Gall oedolion hŷn golli gwres y corff yn gyflym, yn llawer cyflymach na phan oeddent yn ifanc. Gall newidiadau yn eich corff sy'n dod gyda heneiddio ei gwneud hi'n anodd ichi fod yn ymwybodol eich bod yn mynd yn oer. Gall oerfel mawr droi'n broblem beryglus—cyn i berson hŷn wybod beth sy'n digwydd hyd yn oed, mae hypothermia'n dechrau. 

I blant sy'n byw mewn cartref oer, maent mewn mwy o berygl o asthma, heintiau anadlol, datblygiad arafach a risg uwch o anabledd, problemau iechyd meddwl, yn ogystal â lefelau isel o hunan-barch a hyder, cyrhaeddiad addysgol gwael, maeth gwael ac anafiadau. Rydym yn gwneud llawer o bethau yn siarad am blant a rhoi cyfle iddynt mewn bywyd—mae dechrau bywyd mewn cartref oer yn eich rhoi dan anfantais enfawr. 

Os ydych chi ar dariff sy'n cynnwys taliadau sefydlog, bydd yn rhaid i chi eu talu bob amser, ni waeth a ydych chi'n defnyddio ynni ai peidio mewn gwirionedd. Mae bod heb arian ar gyfer y mesurydd rhagdalu yn golygu bod heb ynni. Beth mae bod heb ynni'n ei olygu mewn gwirionedd? Mae'n golygu bod heb olau. Mae'n golygu bod heb wres. Mae'n golygu bod heb deledu. Mae'n golygu bod heb ddŵr poeth i ymolchi neu olchi eich dillad, dim peiriant golchi, dim bwyd na diod poeth, dim cwcer na meicrodon, dim oergell na rhewgell, a dychwelyd i godi a mynd i'r gwely yn dibynnu ar y golau y tu allan. Mae hwn yn fyd ymhell y tu hwnt i fywyd Aelodau'r Senedd, ond dyma fywyd llawer o'n hetholwyr. 

Yna ceir creulondeb ychwanegol taliadau sefydlog. Rhaid talu taliad ar ddiwrnodau pan na allwch fforddio defnyddio unrhyw ynni, ffioedd sy'n cael eu codi os nad ydych wedi defnyddio unrhyw ynni o gwbl. O fis Ebrill 2023, bydd cwsmeriaid yn y DU yn talu tâl sefydlog cyfartalog o tua 53c y dydd am drydan, a 29c y dydd am nwy. Felly, os yw rhywun heb nwy, mae hynny'n golygu, os nad ydynt yn defnyddio unrhyw ynni am dridiau, sefyllfa nad yw'n anarferol, byddant yn gwneud taliad ar eu mesurydd rhagdalu ac yn syth mae'r arian sydd ar gael yn gostwng dros £1.50 cyn iddynt dalu tâl am eu defnydd. 

Dywedodd etholwr wrthyf ei bod yn costio dros £2.50 i wresogi dysglaid o gawl. Roedd yn rhaid imi egluro bod hynny'n cynnwys y taliadau sefydlog yn bennaf. Yn yr enghraifft hon, mae rhagdaliad o £10 yn gweld dros ei chwarter yn mynd ar daliadau sefydlog ar ddiwrnodau pan na ddefnyddir unrhyw ynni. Rwy'n credu bod hynny'n hollol anghywir, ac mae'n brifo'r bobl dlotaf yn fawr. Rwy'n gwybod fy mod yn rhygnu ymlaen am hyn, ac rwy'n siŵr fod pobl yn cael llond bol arnaf yn rhygnu ymlaen am y peth, ond mae gwir angen gwneud rhywbeth amdano. Pe baent ond wedi cynnau'r golau, byddent yn dal i fod wedi defnyddio eu £1.50. Hefyd, pan fydd wedi rhedeg allan, mae'n rhaid i chi ailosod y boeler, sydd, gyda boeler hŷn, yn gallu cymryd sawl ymgais i'w ailosod. Hoffwn ychwanegu y dylid diddymu taliadau sefydlog. Os nad oes modd eu diddymu, dylid eu hychwanegu at y tariff. Os na fydd cwmnïau ynni'n diddymu ac yn talu'r gost o'u helw hwy, dylid ei ychwanegu at y costau, fel nad yw'r rhai ohonom sydd ag ynni bob dydd, sef pawb yn yr ystafell hon, yn cael eu sybsideiddio i bob pwrpas gan bobl na allant fforddio ynni bob dydd. Mae'n rhaid inni roi'r gorau i daliadau sefydlog ar ddiwrnodau pan nad oes unrhyw ynni'n cael ei ddefnyddio ac mae'n rhaid i honno fod yn flaenoriaeth gyntaf. Mae'n brifo pobl, mae'n niweidio cynnydd plant, mae'n peryglu bywydau pobl oedrannus. 

Gyda'r cyflenwad ynni, rydym wedi symud o fonopoli gwladol i oligopoli, lle mae'r elw'n fawr a'r defnyddiwr yn talu. Er y byddwn yn hoffi gweld ynni'n cael ei gymryd yn ôl i ddwylo cyhoeddus, i'r rhai sy'n cofio'r hysbysebion, 'It is now—tell Sid', dylai fod bellach yn, 'Dywedwch wrth Sid ei fod yn mynd i gael ei orfodi ar fesurydd rhagdalu ac fe fydd yn mynd heb ynni am ddyddiau.'  

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 3:41, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Os ydych chi'n dlawd, mae bywyd yn eich erbyn yn llwyr. Nid oes gennych unrhyw obaith o gael debyd uniongyrchol i dalu'ch biliau, mae'n rhaid ichi ddioddef tâl sefydlog uwch, a nawr fe wyddom am sgandal y mesuryddion rhagdalu. Rydym yn defnyddio'r gair 'sgandal' yma gryn dipyn, ond mae'n sgandal go iawn, yn sgandal gywilyddus, sydd ond wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar, a dim ond nawr y gweithredwyd yn ei chylch. Os ydych chi'n gyfranddaliwr Centrica, perchennog Nwy Prydain, nid oes gennych unrhyw broblem gyda thalu eich bil nwy nac unrhyw filiau o gwbl. Gadewch inni atgoffa ein hunain ynglŷn â'r hyn a wnaeth Centrica y llynedd. Fe wnaethant £3.3 biliwn o elw, deirgwaith y £1 biliwn a wnaethant y flwyddyn flaenorol, ac fe wyddom beth a wnaethant. Fe wnaethant orfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl er mwyn gosod mesuryddion rhagdalu. Rydym yn gwybod hefyd y gallai Llywodraeth y DU fod wedi gwneud mwy yn gynt, ac rwy'n falch eu bod wedi dod allan o'r diwedd, ond fel y gwyddom, mae hyn yn mynd i gymryd peth amser.

Bydd y cynlluniau rheibus hyn yn parhau, ac rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r cynnig hwn heddiw a chlywed gan Lywodraeth Cymru beth maent yn mynd i'w wneud. Mae'n iawn fod cwmnïau ynni sydd wedi cronni biliynau dros y flwyddyn ddiwethaf, tra bod llawer o bobl wedi wynebu diflastod llwyr wrth orfod datgysylltu gwres o'u cartrefi, peidio â chael oergelloedd, peidio â chael unrhyw beth i gynhesu eu cartrefi—. Dyna'r bobl sydd angen iawndal ac ad-daliad nawr.

Mae ffigyrau'r swyddfa ystadegau gwladol yn dangos bod 41 y cant o bobl ar fesuryddion rhagdalu wedi'i chael hi'n anodd aros yn gyfforddus gynnes. Felly, mae angen inni wneud mwy am hynny hefyd, ac rwy'n dilyn yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams wrth ofyn y cwestiwn i'r Gweinidog, os caf, ynghylch effeithlonrwydd ynni a phryd y cawn weld dechrau gweithredu rhaglen Cartrefi Clyd yng Nghymru. Rydym wedi bod yn aros ers peth amser, ac ni allwn fforddio aros mwy. Bydd y gaeaf nesaf gyda ni heb fod yn hir, a'r ddealltwriaeth yw—nid wyf yn economegydd, ond y ddealltwriaeth yw—y bydd sefyllfa ariannol pobl dlawd y flwyddyn nesaf hyd yn oed yn waeth—allwch chi ddychmygu—nag y mae eleni. Mae'n rhaid inni gyflymu datblygiad y rhaglen Cartrefi Clyd. Yn ôl fy nghyfrifiadau fy hun, os edrychwn ar insiwleiddio, byddai'n cymryd 135 o flynyddoedd i insiwleiddio holl gartrefi Cymru sy'n dlawd o ran tanwydd, ar sail perfformiad y cynllun yn 2020-21. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn glywed yn fuan iawn y bydd y rhaglen yn cyflymu, ond hefyd y byddwn yn dysgu o'r rhaglen flaenorol ynglŷn â sut y gallwn gyrraedd a thargedu'r cartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd. Byddai buddsoddi cyflym yn ein cartrefi o fudd i bawb sy'n dlawd o ran tanwydd yn ogystal â sicrhau ein bod yn mynd i'r afael, yn rhannol, â'r argyfwng hinsawdd.

Rwy'n croesawu'r cyfle i gefnogi'r cynllun hwn a gyflwynwyd gan Jack Sargeant. Diolch yn fawr, Jack, rydych chi'n dadlau dros bobl sydd mewn amgylchiadau anodd, ac rwy'n falch o allu cefnogi'r cynnig hwn. Rwy'n gobeithio y cawn glywed gan y Gweinidog pa gamau y byddwn yn eu cymryd er mwyn mynd i'r afael, nid yn unig â'r mater y mae Jack wedi'i godi yn ei gynnig, ond â mater y rhaglen Cartrefi Clyd hefyd. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:45, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o bwyntiau gwych wedi'u gwneud yn y ddadl hon yn barod. Mae natur wrthnysig mesuryddion rhagdalu mewn sawl ffordd yn ddangoseb berffaith o wleidyddiaeth ddideimlad San Steffan a'r farchnad ynni anonest y cawn ein llethu ganddi yn y DU. Sut y cyraeddasom y sefyllfa hon, lle eid i mewn i gartrefi pobl heb ganiatâd ar raddfa ddiwydiannol i osod mesuryddion rhagdalu yn erbyn eu dymuniadau? I ychwanegu at y sarhad, byddai'r rhai ar fesuryddion rhagdalu yn talu llawer mwy am eu nwy a'u trydan yn y pen draw na rhywun sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y byddai miliwnydd yn talu llai fesul uned o nwy a thrydan nag y mae rhywun sy'n cael budd-daliadau, sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Sut yn y byd oedd hynny'n gyfreithlon?

Mae teuluoedd wedi bod yn oer y gaeaf hwn oherwydd y sgandal yma. Mae pobl hŷn wedi eistedd yn y tywyllwch oherwydd y sgandal yma. Mae pobl wedi marw oherwydd y sgandal yma. Mae hyn i gyd wedi bod yn digwydd tra bo'r cwmnïau ynni wedi bod yn gwneud elw digynsail, elw a wnaed ar draul pobl mewn gofid. Dyma un o'r enghreifftiau mwyaf brawychus o annhegwch o blith nifer y gallwn eu gweld yn y DU heddiw. Mae'n iawn ein bod yn trafod y mater hwn yn y Senedd heddiw, ac rwy'n canmol Jack am ddod â'r ddadl hon i'r Siambr ac am ei waith ymgyrchu diflino ar y pwnc. Mae Plaid Cymru yn ei gefnogi'n llwyr wrth iddo roi sylw i'r anghyfiawnder y caniatawyd iddo barhau yn llawer rhy hir yn y sector ynni.

Er fy mod yn cefnogi cynigion Jack, rwy'n credu bod yna ddadl ehangach i'w chael am y ffordd y caiff pobl mewn dyled eu trin. Yn gynharach eleni, cyfarfûm â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, sy'n darparu goruchwyliaeth annibynnol ar feilïaid, ac fe wnaethant rannu straeon arswyd am y taliadau a godir ar bobl mewn dyled. Rwyf wedi sôn am yr achos hwn o'r blaen, ond mae'n werth ei ailadrodd. Cefais enghraifft o fenyw sy'n byw mewn tŷ cymdeithasol yng Nghasnewydd ac sy'n derbyn credyd cynhwysol a thaliadau annibyniaeth personol. Bu'n destun achos gorfodi yn yr Uchel Lys ar ran credydwr cyfleustodau. Gofynnodd i'r cwmni casglu dyledion a gâi drefnu cynllun rhandaliad, ond gwrthododd y cwmni gan fynnu eu bod yn ymweld â hi i weld a oedd ganddi unrhyw asedau y gallent eu hadfeddiannu. Yn ogystal â'r tâl o £75 a ychwanegwyd at ei dyled oherwydd y cam o'r orfodaeth a gynhaliwyd dros y ffôn, golygai hyn fod £190 arall wedi ei ychwanegu at ei dyled am yr ymweliad. Pe na bai wedi bod gartref adeg yr ymweliad cyntaf, byddai ail ymweliad wedi arwain at ychwanegu ffi gorfodi cam 2 yr Uchel Lys o £495.

Mae'r ffordd y mae pobl mewn dyled yn cael eu trin gan gwmnïau beilïaid yn ymdebygu i'r ffordd y mae pobl yn cael eu trin drwy gael mesuryddion rhagdalu wedi'u gorfodi arnynt gan gwmnïau ynni. Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru bellach yn ymgysylltu â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi, a byddwn yn croesawu'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Gobeithio y gall y cyfarfodydd hyn arwain at fwy o reoleiddio er mwyn gwahardd cwmnïau diegwyddor rhag manteisio ar bobl mewn tlodi a pheri iddynt fynd i fwy fyth o dlodi. Diolch yn fawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:48, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'n sgandal lwyr, onid yw, fod dros hanner ein hynni bellach yn cael ei gynhyrchu gan ynni adnewyddadwy, ond eto rydym yn dal i drin pobl dlawd yn y ffordd hon? Mae'r system ynni wedi torri'n llwyr.

Roeddwn eisiau canolbwyntio ar ba mor effeithiol yw'r dull o gael taliadau i bobl. Felly, siaradais ag Ofgem, a wnaeth fy sicrhau bod cwmnïau'n ychwanegu credyd yn awtomatig, lle bo'n bosibl, os oes gan gwsmeriaid fesurydd rhagdalu clyfar—os yw'n gweithio'n iawn. Dylai ychwanegu'r £45 yr wythnos yn awtomatig at falans credyd yr aelwyd. Os yw'r mesurydd yn ddiffygiol, dywedir wrthyf fod aelwydydd yn cael cod drwy neges destun neu e-bost, fel y gallant ei ddefnyddio i ychwanegu at eu credyd ar-lein. Fel dewis olaf, caiff taleb ei hanfon at y cwsmer drwy'r post, ac fe ddof yn ôl at pam mai dewis olaf yw hynny.

Os oes gan aelwyd fesurydd rhagdalu traddodiadol, maent naill ai'n cael credyd pan fyddant yn gwneud taliad atodol yn eu man talu arferol—ac mae'n dda gweld faint yn union o wybodaeth mae cwmnïau ynni'n ei gadw am unigolion; nid yw Sarah Murphy yn yr ystafell ar hyn o bryd, ond mae hwn yn fater diogelu data pwysig—neu byddant yn cael taleb drwy'r post fel dewis olaf. A'r rheswm pam rwy''n disgrifio hyn fel dewis olaf yw bod gennym lawer iawn o dystiolaeth fod pobl sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yn rhoi'r gorau i agor y post—dyna'r ffordd y maent yn ymdopi. Felly, maent yn meddwl fod pob llythyr nad yw'n dod gan eu hwyres yn mynd i fod yn fil arall am arian nad oes ganddynt. Felly, ni fyddant byth yn cael gwybod am y daleb y mae ei gwir angen arnynt i'w helpu i dalu am wres.

Nawr, nid oes gwybodaeth ar gael hyd yma am y dadansoddiad cost a budd o wahanol ddulliau o ddarparu cymorth, ond mae'n amlwg fod llawer o waith i'w wneud. Felly, er enghraifft, yng Nghanol Caerdydd, rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr y llynedd, dylai bron i 105,000 o aelwydydd fod wedi cael eu harian, ond i 2,000 ohonynt, ni chafodd ei ddarparu. Felly, ni chafodd 2,000 y taliadau yr oedd ganddynt hawl i'w cael, a dyna'r taliad a gafodd Boris Johnson a phawb arall yn yr ystafell hon—ni chafodd 2,000 o'r bobl dlotaf mo'r arian hwnnw. Beth yw'r esboniad am hynny? Ac yn yr un modd, er bod talebau wedi'u rhoi i 6,800 o aelwydydd, ychydig dros 4,000 o aelwydydd a ddefnyddiodd y talebau hynny; ni wnaeth 1,600 o bobl mo'u cael. Ni wnaeth neb guro ar y drws a dweud, 'A gawsoch chi'r daleb, neu a ddylem roi un newydd i chi?'

Mae'r rhain yn faterion pwysig iawn, a diolch byth, ar ben hynny, mae gennym ystadegau talebau tanwydd Llywodraeth Cymru yn ogystal i'w hystyried, oherwydd cafodd y £200 a roddwyd gan Lywodraeth Cymru ei dargedu at y rhai a oedd ei angen yn hytrach nag i rai a allai fforddio talu. Ac mae'r Sefydliad Banc Tanwydd wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y sefydliadau sydd bellach yn cysylltu â hwy. Fe wnaethant gyhoeddi dros 17,000 o dalebau i gefnogi pobl nad oeddent yn gallu fforddio ychwanegu at eu mesurydd rhagdalu; 44,000 o bobl, gyda dros 40 y cant yn blant—y plant na allai fforddio cael bath neu bryd poeth neu ddarllen llyfr cyn iddynt fynd i'r gwely. Rwy'n credu mai'r ystadegyn pryderus i mi yw mai dim ond 148 o aelwydydd a gafodd help i brynu tanwydd oddi ar y grid. Beth mae awdurdodau lleol mewn ardaloedd lle mae llawer o'r anheddau oddi ar y grid yn ei wneud i sicrhau bod pobl, a ddylai fod yn cael yr help hwnnw, yn ei gael?

Felly, rwy'n credu bod hyn i gyd yn dweud wrthym fod angen inni—. Yn union fel y mae angen inni reoleiddio awdurdodau lleol sy'n defnyddio beilïaid heb eu rheoleiddio i gasglu dyledion treth gyngor, mae'n amlwg fod angen inni reoleiddio cyflenwyr ynni sy'n defnyddio beilïaid heb drwydded i dorri i mewn i gartrefi pobl. Mae'n rhaid rhoi dannedd rheoleiddiol i'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi i orfodi hynny ac a dweud y gwir, mae angen gosod mesurau rheoli ar y cwmnïau ynni yn yr un ffordd ag y gwaherddir cwmnïau dŵr rhag torri cyflenwad dŵr pobl. Mae angen inni sicrhau bod lleiafswm o ynni'n cael ei ddarparu i bob cartref yn y wlad hon—fel y dywedaf, y pumed neu'r chweched economi fwyaf yn y byd.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:54, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Jack, am gynnig y ddadl bwysig hon sy'n ymwneud â mater sy'n effeithio ar gymaint o bobl yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau bob dydd o'r flwyddyn. Ac nid wyf am ailadrodd y pwyntiau a godwyd, ond rwy'n credu ei fod yn ymwneud â'r cysylltiad personol hwnnw: rydym i gyd wedi cael pobl yn dod atom sy'n ei chael hi'n anodd; rydym i gyd yn gwybod am sefydliadau sy'n ceisio darparu cymorth ac nad ydynt yn gallu ateb y galw. Ac rwy'n credu yn y cyfnod cynt, lle'r oedd Cyngor ar Bopeth ac yn y blaen yn gallu cynnig atebion ynglŷn â sut y gallech leihau eich costau ynni ac yn y blaen, rydym ar bwynt nawr lle nad yw hanfodion yn fforddiadwy mwyach, ac nid mater o allu addasu mymryn yma ac acw yn unig ydyw. Fel y clywsom eisoes mewn cyfraniadau eraill, mae prisiau ynni wedi codi allan o reolaeth, a sgandal lwyr yw gweld y cwmnïau hyn yn gwneud symiau enfawr o elw, tra gwyddom—fel y mae eraill wedi sôn—fod pobl yn marw oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi. Dyna'r realiti yma yng Nghymru heddiw.

Mae'n hawdd inni ddod i arfer â rhai o'r ystadegau hyn, ond mae'n rhaid inni ofyn i'n hunain: pam fod gennym gyfraddau marwolaeth uwch yma yng Nghymru ar hyn o bryd? Beth yw'r rhesymau am hynny? Pam ein bod yn gweld cynnydd mewn tlodi plant? Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig. Felly, rwy'n credu, i ni—. Rwy'n cofio gwneud fy TGAU hanes, ac edrych yn ôl ar pan glywoch chi mor ofnadwy oedd pethau yn Oes Fictoria ac yn y blaen. Wel, mae'r straeon a glywn nawr yr un mor ddrwg. Mae pobl yn marw oherwydd na allant fforddio hanfodion. Mae hyn, i mi, yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno fel cymdeithas.

Yn amlwg, mae yna broblem benodol gyda mesuryddion rhagdalu, a'r ffaith eu bod wedi'u gosod drwy orfodaeth, a bod pobl yn cael eu datgysylltu. Ond yn y bôn, mae prisiau ynni'n rhy uchel, ac nid yw pobl yn gallu fforddio'r pethau sylfaenol, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef. Rwy'n meddwl bod Sioned Williams yn berffaith gywir i ddweud bod angen inni gael pŵer dros bŵer yma yng Nghymru. Mae angen inni allu sicrhau bod hanfodion yn fforddiadwy. Mae yna bethau y gallwn alw amdanynt gan Lywodraeth y DU, ond yn y pen draw, mae yna atebion yma yng Nghymru, ac ar hynny y dylem ganolbwyntio yn y tymor hir.

Rwy'n credu bod mater cynlluniau Cartrefi Clyd—rwy'n sicr yn adleisio'r galwadau hynny. Ond roeddwn eisiau rhannu gyda chi beth mae hyn yn ei olygu ar hyn o bryd i bobl sy'n byw yng Nghanol De Cymru. Ym mis Ionawr, cynhaliais ddigwyddiad costau byw, lle roedd sefydliadau'n dweud wrthyf am y rhai y maent wedi gallu eu helpu—unigolion—drwy dalebau banc tanwydd, ond bod y galw'n eithriadol, ac roedd sut roeddent yn mynd i barhau i ateb y galw hwnnw yn destun pryder.

Roeddent yn dweud wrthyf am bobl a oedd yn dod atynt a oedd wedi bod yn dwyn, a hynny er mwyn gallu talu costau ynni; pobl a oedd wedi dychwelyd at ddelio cyffuriau er mwyn gallu talu am ynni. Dyma'r realiti yn ein cymunedau nawr, fod pobl yn gorfod gwneud pethau eithafol, a bod pobl yn dewis gwneud pethau eithafol ddim ond er mwyn cynhesu eu cartrefi. Rwy'n pryderu'n fawr am y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas sy'n mynd heb—y rhai sy'n penderfynu, 'Nid wyf yn mynd i allu fforddio unrhyw beth. Nid wyf am ofyn i unrhyw un am help.' Felly,  nid ydynt yn cael y cymorth sydd ar gael hyd yn oed.

Mater arall yr hoffwn ganolbwyntio arno, yng nghyd-destun mesuryddion rhagdalu, yw pa mor anodd y gall fod i brynu ynni, hyd yn oed os oes gennych arian. Rydym wedi cael enghreifftiau o swyddfeydd post yn cau mewn cymunedau, llefydd sy'n aml yn cael eu defnyddio fel mannau ar gyfer prynu ynni, sy'n golygu bod rhaid i bobl deithio ymhellach, ychydig filltiroedd weithiau efallai, i allu prynu ynni. Fe wyddom pa mor aml y mae'n rhaid ichi brynu ynni oherwydd y costau. Nid yw rhai siopau wedyn ond yn cymryd arian parod, ond ni cheir peiriant arian, neu nid yw'n gweithio. Golyga hynny wedyn fod rhaid ichi gerdded, milltiroedd efallai, yn ôl i'ch cartref, ar ôl methu prynu ynni. Byddwn yn trafod bysiau yn nes ymlaen. Mewn rhai cymunedau, os nad oes gennych fynediad at fysiau, ac os nad ydynt yn rhedeg yn aml neu'n dod o gwbl, sut mae prynu ynni wedyn? Felly, rwy'n credu bod yna broblem sylfaenol gyda hygyrchedd hefyd.

Mae credyd brys yn amrywio o gwmni i gwmni. Weithiau, mater i landlord i raddau helaeth yw a ydynt yn gosod mesurydd clyfar, sy'n golygu nad yw credyd brys ar gael bob amser os nad oes gennych fesurydd clyfar. Mae cymaint o anawsterau pan fyddwch chi'n cael eich datgysylltu yn ystod y nos neu ar benwythnosau, pan fydd siopau ar gau, ac nid ydych yn gallu cael y cymorth brys y dywedir wrthym ei fod ar gael, ond nad ydyw ar gael mewn gwirionedd.

Hoffwn sôn yn fyr am urddas mislif hefyd. Rwy'n meddwl am y ffaith ein bod yn ymdrechu fel cenedl i fod yn genedl urddas mislif, ond mae methu defnyddio dŵr cynnes a methu ymolchi yn cael effaith anghymesur. Ac rwyf wedi clywed rhai cyd-Aelodau'n sôn am amser bath—fod rhieni'n gorfod dogni amser bath, ac yn y blaen. Mae'r rhain yn broblemau real iawn, ac mae angen atebion brys arnom. Felly, diolch i chi am godi hyn, Jack, ond nawr mae angen inni weithredu fel Senedd a sicrhau bod y newidiadau hynny'n digwydd, fel nad yw pobl yn dioddef, yn marw neu'n methu gwneud y pethau sylfaenol rydym ni'n eu cymryd yn ganiataol.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 3:59, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Fel un sy'n cael ei enwi fel cefnogwr yn y ddadl Aelodau hon, rwyf am gofnodi gwaith Jack Sargeant yn codi'r mater allweddol hwn, fel y dywedodd nifer, yn y lle hwn a thu hwnt. Ac fel y mae llawer wedi dweud heddiw, y sâl a'r anabl a'r henoed a'r ifanc sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y mater hwn. Dyma yw canlyniad gosod elw'n uwch na phobl, a dyma wyneb afiach preifateiddio heb ei reoleiddio, gyda pherchnogion ynni sy'n biliwnyddion yn sathru ar y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd nawr yn sgil prisiau ynni uwch ac effeithiau cyllidebol o ganlyniad i hynny.

Fe wnaeth y datguddiadau brawychus yn The Times fis diwethaf ddatgelu hinsawdd o ofn, fel y nododd llawer o Aelodau'r Senedd hon heddiw, gyda phobl yn methu talu eu biliau tanwydd, casglwyr dyledion yn cael eu gollwng yn rhydd, fel y dywedodd Jane Dodds ac eraill, a mesuryddion rhagdalu'n cael eu gosod drwy orfodaeth. Ond mae graddau'r broblem hon a'i hanfoesoldeb—fe ddefnyddiaf y gair cryf hwnnw, oherwydd mae'n anfoesoldeb—mor ddwfn. Mae fy etholwyr, fel y dywedodd Sioned hefyd, yn dweud hyn wrthyf yn wythnosol. Mae tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn defnyddio mesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan, ac mae 45 y cant o denantiaid tai cymdeithasol yn defnyddio mesuryddion rhagdalu.

Rwyf am ddiolch i Jack yma am yr ymgyrch hon, ac rwyf hefyd yn croesawu gwaith Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd wedi galw'n gyhoeddus ar Ofgem i ymestyn y gwaharddiad ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth. Mae'n rhaid i ni, fel y dywed Mike Hedges, roi'r gorau i daliadau sefydlog. Yn wir, gyda'i gilydd, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gryf yn ei hymateb unedig, gyda £90 miliwn i ddarparu cymorth i aelwydydd sy'n agored i niwed i dalu costau ynni cynyddol, gan gynnwys cynllun cymorth tanwydd gwerth £200 ar ben taliadau cymorth tanwydd Llywodraeth y DU. Daeth yr arian o feysydd blaenoriaeth eraill Llywodraeth Cymru. Ac ymhellach, er mwyn diwallu'r angen, mae Gweinidogion cyfiawnder cymdeithasol wedi sicrhau £18.8 miliwn ychwanegol yn y gyllideb ddrafft, gan gynyddu cyfanswm y gronfa cymorth dewisol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon i £38.5 miliwn.

Ond mae'n destun tristwch fod angen hyn heddiw, fel y mae eraill wedi sôn, mewn gwlad G7 lle rydym ni, y DU, ar y gwaelod. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU bellach yn camu i'r adwy a defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt ar gyfer pobl mewn tlodi tanwydd yng Nghymru sydd oll wedi'u gwneud yn dlotach gan bob un o weithredoedd canlyniadol y Llywodraeth ddideimlad hon yn y DU. Gwn y bydd y Gweinidog yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU, Ofgem a chyflenwyr ynni i wneud eu dyletswydd o'r diwedd a chyflawni eu rhwymedigaethau moesol i'r tlotaf mewn cymdeithas, ond yn anffodus, hyd nes y cawn Lywodraeth Lafur yn San Steffan, i weithio gyda ni, Senedd Cymru, bydd hon yn alwad sy'n parhau i ddisgyn ar glustiau byddar wrth i bobl gyffredin barhau i rewi. 'Cywilydd ar Ofgem', meddaf, a 'Chywilydd ar Lywodraeth y DU.'

Photo of David Rees David Rees Labour 4:03, 22 Mawrth 2023

Galwaf nawr ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeiathasol. Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw ar fesuryddion rhagdalu. Mae'r ffordd y mae defnyddwyr, yn aml y rhai tlotaf yn ein cymunedau, wedi cael eu trin yn sgandal genedlaethol. Mae Jack Sargeant wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i ddatgelu'r sgandal hon, ac mae Llywodraeth Cymru nid yn unig yn croesawu ond yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch i'r holl Aelodau sydd wedi siarad ac sydd wedi cyfrannu heddiw. Mae'n dda gweld y Senedd i gyd—rydych chi wedi ein huno ni i gyd yn ein cefnogaeth i'ch cynnig gydag areithiau mor bwerus.

Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith andwyol ar ein holl safonau byw, ond mae'n cael effaith fwy dinistriol ar yr aelwydydd lleiaf abl i dalu. Ac eto mae'r farchnad cyflenwi ynni, sy'n darparu gwasanaeth hanfodol, yn gweithredu yn y fath fodd fel bod aelwydydd agored i niwed, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau, yn wynebu'r bygythiad o gael mesuryddion rhagdalu wedi'u gorfodi arnynt. Yn 2022, roedd tua 200,000 o aelwydydd yng Nghymru yn dibynnu ar fesuryddion rhagdalu ar gyfer eu prif gyflenwad nwy a thrydan, ac mae hyn yn 15 y cant o'r holl aelwydydd. Mae 24 y cant o denantiaid yn y sector rhentu preifat yn defnyddio mesuryddion rhagdalu, ac mae bron i hanner tenantiaid tai cymdeithasol yn dibynnu ar fesuryddion rhagdalu. Ddirprwy Lywydd, cawsom oll ein brawychu, onid chawsom, a'n harswydo wrth weld aelwydydd, gan gynnwys y rhai sy'n amlwg yn agored i niwed, yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu yn erbyn eu hewyllys. 

Gyda sylwadau Jack Sargeant ac ymgyrchwyr eraill, mae'n destun pryder pellach mai newyddiadurwr a dynnodd sylw at y mater, fel y dywedodd Jack, er mai'r rheoleiddiwr, Ofgem, sy'n gyfrifol am reoleiddio i atal hyn rhag digwydd. Mae'n amlwg nad yw'r rheolau presennol, a sut y cânt eu gorfodi, yn gweithio. Cafodd hyn ei adlewyrchu mewn cyfraniadau y prynhawn yma. Nid ydynt yn amddiffyn y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas. Rwy'n cyfarfod ag Ofgem ddydd Llun, a byddaf yn adrodd yn ôl yn llawn ar y cyfraniadau a wneir mewn perthynas â'r cynnig hwn heddiw. Rwyf wedi bod yn gyson glir: mae'n hanfodol fod deiliaid aelwydydd sydd wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu—naill ai drwy'r broses warant gwbl ddiffygiol, neu oherwydd eu bod wedi cael eu hannog i wneud hynny, heb ddeall y dewisiadau amgen sydd ar gael iddynt efallai—yn cael cynnig dychwelyd at eu mesurydd blaenorol heb unrhyw gost. Rwy'n credu bod cefnogaeth i'r alwad honno y prynhawn yma hefyd.

O ganlyniad i'r sgandal hon, ataliwyd yr arfer o osod mesuryddion rhagdalu, ond dim ond dros dro. Cafodd ei atal ac fe wnaethom groesawu hynny, ond dros dro yn unig ydoedd. Rwyf wedi gwneud y pwynt yn rheolaidd i Lywodraeth y DU ac i Ofgem ei bod yn rhy gynnar i ganiatáu i'r broses warant barhau o ddiwedd y mis hwn ymlaen. Os cofiwch, cafodd ei atal hyd at ddiwedd mis Mawrth yn unig, gan roi rhagor o aelwydydd agored i niwed mewn perygl o gael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion yn erbyn eu hewyllys tra bod ymchwiliad Ofgem yn parhau. Felly, gyd-Aelodau, rwy'n credu ei bod yn bwysig cofnodi heddiw fod prif weithredwr Ofgem wedi cyhoeddi ar 14 Mawrth y byddant yn parhau â'r gwaharddiad hwnnw ac na fyddant yn ei godi hyd nes bod, a dim ond os yw cwmnïau'n dilyn cod ymarfer newydd Ofgem. Byddaf yn pwyso am barhau'r gwaharddiad hwnnw am gyfnod amhenodol. Mae sylwadau wedi cael eu gwneud am y cod ymarfer—rwy'n credu bod rhaid i'r gwaharddiad hwnnw barhau am gyfnod amhenodol, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n fy nghefnogi yn hynny o beth.

Mae'n hanfodol bwysig fod Ofgem yn rheoleiddio'r diwydiant yn effeithiol. Rwyf wedi gofyn am sicrwydd ar lefel bwrdd ac rwyf wedi dweud, os nad oes ganddynt ddigon o bwerau ac ymyriadau ar gael iddynt, hoffem eu helpu i bwyso am y pwerau hynny. 

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:07, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Yn eich cyfarfodydd gydag Ofgem ac yn wir gyda Llywodraeth y DU, a wnewch chi gadarnhau y bydd y sgandal arall mewn perthynas â mesuryddion rhagdalu, sef y premiwm rhagdalu fel y'i gelwir, sy'n gorfodi pobl i dalu hyd yn oed mwy, yn dod i ben ym mis Gorffennaf mewn gwirionedd? A allwch chi gael sicrwydd pendant ynglŷn â hynny, os nad ydych wedi'i gael yn barod?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Yn amlwg, bu newid yn y gyllideb yr wythnos diwethaf o ran y premiwm. Rwy'n ceisio eglurder ynglŷn â beth yn union mae hynny'n ei olygu, oherwydd nid ydym eisiau dychwelyd i'r sefyllfa dalebau, a godwyd gennych mor briodol yn gynharach. Oni bai bod y premiwm hwnnw'n cael ei wastatáu a'i adlewyrchu yn y gost mewn gwirionedd, ni fydd hynny'n ddigon da, a byddaf yn codi'r pwynt hwnnw ddydd Llun.

A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn falch fod pobl wedi codi mater taliadau sefydlog? Rydych chi wedi codi hyn ar sawl achlysur, Mike Hedges. Mae'n anghyfiawnder go iawn i gwsmeriaid sy'n rhagdalu. Fe wnaethant barhau â'r taliadau sefydlog a rhoi pobl mewn sefyllfa fwy bregus. Yn dilyn cyfnod o hunan-ddatgysylltu, pan fo'n amhosibl sicrhau credyd pellach, mae deiliaid aelwydydd yn gweld bod disgwyl iddynt dalu am yr holl ddyddiau pan nad oedd modd cael cyflenwad. Unwaith eto, diolch am ymuno â'm galwad i ddiddymu'r taliadau sefydlog hyn ar gyfer cwsmeriaid sy'n rhagdalu.

Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid inni edrych ar ffyrdd y gallwn wella pethau. Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau at ei defnydd yn y farchnad cyflenwi ynni ac mae ganddynt bŵer i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd agored i niwed. Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol i warchod aelwydydd agored i niwed. Mae'n bwysig eu bod bellach wedi cytuno i archwilio hyn. Mae'n rhaid inni bwyso am y newid hwnnw oherwydd gallem ariannu ynni mewn ffordd fwy blaengar wedyn. Mae tariffau cymdeithasol wedi cael cefnogaeth gadarnhaol ac eang.

Mae deddfwriaeth yn y diwydiant dŵr—ac mae'r pwynt hwn wedi cael ei wneud—yn atal cwsmeriaid rhag cael eu datgysylltu, hyd yn oed os oes ganddynt ôl-ddyledion. Rwyf wedi annog newid yn y farchnad i atal datgysylltu; rwyf wedi cynnig argymhellion ar unwaith yn dilyn cyngor National Energy Action Cymru a Cyngor ar Bopeth. Rwyf hefyd wedi bod yn galw ar y Canghellor i fanteisio ar y cyfle yn y gyllideb hon i beidio â chynyddu'r gwarant pris ynni, ac rwy'n croesawu'r ffaith ei fod bellach yn aros ar £2,500 ar gyfer aelwyd nodweddiadol tan fis Gorffennaf.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae'n bwysig fy mod yn crybwyll rhai o'r pwyntiau eraill sy'n codi yn y cynnig. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gwasanaethau cyngor dibynadwy yn bwysig iawn, ac mae mwy na 176,500 o bobl wedi cael cyngor ar effeithlonrwydd ynni drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd ers ei lansio yn 2011. Mae'r cynllun peilot cyngor ynni hwnnw hefyd yn profi ac yn mesur effeithiolrwydd darparu cyngor yn y cartref hefyd. A gaf fi ddweud bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, mewn perthynas â'r rhaglen Cartrefi Clyd, yn disgwyl caffael cynllun newydd sy'n cael ei arwain gan y galw ac sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a thlodi tanwydd? Mae iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd yn hollbwysig. Ni fydd unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth rhwng y rhaglen newydd a'r rhaglen sy'n bodoli eisoes, a bydd yn mabwysiadu dull carbon isel 'ffabrig yn gyntaf', Cymru'n gyntaf.

Ac yn olaf, diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am ein galluogi ni i gyd i gyfrannu. Cyfarfûm â Jack Sargeant yr wythnos diwethaf i drafod canfyddiadau ei arolwg a'r adborth brawychus gan ei etholwyr, ac rwyf wedi rhannu'r arolwg hwnnw gydag Ofgem. Rwy'n cyfarfod â phrif weithredwr Ofgem ddydd Llun, a byddaf yn adrodd nid yn unig ar ei arolwg a'i ganlyniadau ond hefyd ar y cyfraniadau a wnaed yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw. Diolch yn fawr i chi i gyd. 

Photo of David Rees David Rees Labour 4:11, 22 Mawrth 2023

Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl. 

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog, Jane Hutt, am ei hymroddiad i'r mater hwn, ac ymroddiad Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru hefyd? Mae'r ddau ohonoch wedi amgyffred ac wedi deall difrifoldeb y sefyllfa sydd o'n blaenau o'r cychwyn cyntaf. Mae eich ymateb heddiw yn pwysleisio hynny, ac mae eich llythyr at Grant Shapps, yr Ysgrifennydd Gwladol, ar 14 Mawrth, yn pwysleisio hynny eto. 

Rwyf am geisio trafod rhai o'r cyfraniadau'n gyflym cyn ystyried un pwynt olaf. Diolch i chi, Mark Isherwood, oherwydd nid oeddwn yn gwybod beth oedd safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig ar hyn tan heddiw mewn gwirionedd. Diolch iddo am ei gyfraniad heddiw ac am gadarnhau cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r cynnig hwn. Mae'r cyfraniadau a'r gefnogaeth gan Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a fy nghyd-Aelodau ar y meinciau cefn yma, ac wrth gwrs y Gweinidog, yn profi bod hyn yn fwy na gwleidyddiaeth, mae'n fwy na gwleidyddiaeth bleidiol; mae'n fater o fywyd neu marwolaeth. A Mike Hedges, dyna pam na fyddaf byth yn diflasu arnoch yn gweithio'n ddiflino ac yn barhaus i godi'r mater, gan siarad yn erbyn anghyfiawnder pan fyddwch yn ei weld a sefyll dros y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mike Hedges, ni fyddaf byth yn diflasu ar eich gweld yn sefyll dros y bobl hynny ac yn siarad yn erbyn taliadau sefydlog; a hynny'n briodol. 

Cyfeiriodd Jane Dodds at elw anhygoel cyflenwyr a'r gwahaniaeth amlwg a'r gwrthgyferbyniad llwyr rhyngddynt hwy â'r bobl nad oes ganddynt arian i brynu ynni ar eu mesuryddion rhagdalu. Clywsom gan Sioned Williams a Heledd Fychan am realiti byw heb ynni, yr angen am ddigolledu, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gaffael y rhaglen Cartrefi Clyd, fel y crybwyllodd Jenny Rathbone ac eraill hefyd. Rhianon, rydych yn hollol iawn; mae maint y rhaglen yn haeddu ymateb gan Lywodraeth y DU. Rwyf am gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ystyried ambell sylw terfynol, er mwyn dangos i chi, fel y dywedodd Peredur Owen Griffiths, pa mor anonest yw'r farchnad.

Gadewch i mi egluro i chi pa mor doredig yw'r system. Yn yr un cyfarfod hwnnw, yr un cyfarfod ag Ofgem lle dywedasant wrthyf nad oes problem ac nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu unrhyw ddrwgweithredu—ar wahân i Nwy Prydain oherwydd iddynt gael eu dal ar gamera—dywedais stori fach wrthynt a gofynnais iddynt beth y dylwn ei ddweud wrth fy mhreswylydd a ddaeth i fy nghymhorthfa leol a oedd yn eu dagrau oherwydd eu bod wedi cael eu trosglwyddo i fesurydd rhagdalu. Rydym i gyd wedi clywed straeon tebyg i hynny. Rydym wedi eu clywed o bob un o'r meinciau heddiw. Dywedodd Ofgem wrthyf y dylent gwyno. Wel, rydych chi'n gwybod, rydym i gyd yn gwybod, rwy'n gwybod, maent hwy'n gwybod bod y broses gwynion yn hurt. Rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflenwr gyda'ch cwyn, rhaid i chi roi wyth wythnos iddynt ymateb, ac yna efallai y cewch ymateb, ond mae'n debyg na fydd o unrhyw werth. Yna rhaid i chi fynd â'r gŵyn at yr ombwdsmon ynni, heb unrhyw gyfnod diffiniedig ar gyfer ei datrys. Pa mor hurt yw hynny? Dyna pam nad yw Ofgem yn addas i'r diben. Sut y gall fod mai dim ond hyn sydd gan y rheoleiddiwr i'w ddweud wrth berson agored i niwed sydd wedi cael ei orfodi'n anghywir i newid, ac sydd, ar yr union ddiwrnod hwnnw, mewn perygl o orfod mynd heb wres na golau? Rwy'n falch fod y Gweinidog wedi ymateb gyd chyflwyno'r gwasanaeth ynni. Dyma'r cyngor gorau y gallwn ei gynnig i bobl a fydd yn atal pobl rhag wynebu argyfwng.

Lywydd, rwyf am ddirwyn i ben gydag un sylw olaf. Rydym ni yma yn y Senedd, ond mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na'r Senedd; mae'n fater o fywyd a marwolaeth—mae hynny'n sicr. Ac mae'n dda gweld yr holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru yma heddiw a Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig hwn, oherwydd mae yna un peth yn bendant na allwn ei wneud: ni allwn adael i'r sgandal genedlaethol hon barhau. Diolch yn fawr iawn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:15, 22 Mawrth 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.