2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 4 Hydref 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
Diolch yn fawr. Gweinidog, bydd cyfnod 2 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn dod i rym ym mis Ebrill, a chlywsom yn y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth neithiwr fod angen i gomisiynwyr a darparwyr gynllunio ar gyfer hyn, ac fe fydd angen rhywfaint o gynllunio mewn gwirionedd. Clywsom hefyd, er y bu peth ymgysylltu â rhanddeiliaid, na rannwyd y cynlluniau i leihau presenoldeb nyrsys cymwysedig mewn cartrefi nyrsio gyda’r cyhoedd, sydd bellach, efallai, yn talu am drefniant gofal sy’n wahanol i’r hyn roeddent wedi’i ddisgwyl. A wnewch chi ymrwymo heddiw i gyhoeddi map, erbyn diwedd y mis hwn—rhyw fath o amserlen o’r camau y byddwch yn eu cymryd rhwng nawr a mis Ebrill—er mwyn rhoi rhywfaint o eglurder i gomisiynwyr a darparwyr? Ac a fydd y map hwnnw’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â phryd y byddwch yn lansio ymgyrch wybodaeth i’r cyhoedd?
Diolch am eich cwestiwn, a buaswn yn hapus i roi datganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad yn ystod yr wythnosau nesaf ar y map a’r amserlenni penodol sydd gennym ar gyfer gweithredu’r rhan hon o’r Ddeddf.
Wel, diolch am eich ateb. Gall ‘wythnosau nesaf’ olygu unrhyw beth, felly rwy’n gobeithio y gallwch wneud hynny o fewn ychydig iawn o wythnosau.
Fel y gwyddoch, mynegwyd pryderon difrifol yn yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid ynglŷn â chael gwared, i bob pwrpas, ar bresenoldeb nyrsio 24 awr mewn cartrefi nyrsio a newid i oruchwylio gofal nyrsio o bell gan unigolyn cyfrifol, a fyddai’n nyrs, ac a allai fod yn goruchwylio unrhyw nifer o gartrefi. Yn benodol, dywedwyd wrthym y byddai hynny’n arwain at fwy o alw am nyrsys ardal a darpariaeth y tu allan i oriau yn lleol pe bai’r unigolyn cyfrifol gryn bellter i ffwrdd pan fyddai’r angen am ofal nyrsio’n codi. Rwy’n siŵr y buasech yn cytuno bod ymyrraeth nyrsio yn gynnar yn atal angen rhag gwaethygu’n rhywbeth sy’n peri mwy o ofid i’r unigolyn ac sy’n costio mwy i’r GIG. A allwch ddweud wrthyf am unrhyw asesiad rydych chi neu Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r galw dadleoledig hwn, a pha waith modelu a wnaed i nodi a oes unrhyw gapasiti i’n niferoedd gostyngol o nyrsys ardal a’n gwasanaeth y tu allan i oriau allu diwallu’r galw dadleoledig hwnnw?
Diolch am eich cwestiwn. Yn sicr, roeddem yn argymell y dylid cael gwared ar y gofyniad am nyrsys 24 awr yn y rheoliadau gan ei fod yn llym ac yn gaeth iawn, ac mewn gwirionedd, nid oedd yn darparu’r hyblygrwydd sydd ei angen ar gartrefi preswyl—yr hyblygrwydd y credwn sydd ei angen arnynt—i ddiwallu anghenion y bobl y maent yn gofalu amdanynt yn y ffordd fwyaf priodol. Felly, yn y dyfodol, bydd y datganiad o bwrpas a ddarperir gan gartrefi gofal yn gwbl hanfodol o ran nodi’r gofal y maent yn ei ddarparu ar gyfer y mathau o gyflyrau a fydd gan bobl a’r hyn y byddant ei angen. Felly, credaf fod honno’n ffordd fwy priodol o fwrw ymlaen â’r strwythur staffio yn y cartrefi gofal. Rwy’n deall bod rhywfaint o nerfusrwydd ynghylch hynny; wrth gwrs fy mod. Yn ddiweddar bûm ar ymweliad a drefnwyd gan David Rees â chartref gofal yn ei etholaeth ef, ymweliad a drefnwyd ar y cyd â’r Coleg Nyrsio Brenhinol. Felly, cawsom gyfle i ddatrys rhai o’r pethau penodol a’r pryderon penodol a godwyd gan y proffesiwn nyrsio. Yn sicr, byddwn yn ystyried y rhain i gyd wrth benderfynu ar y camau nesaf.
Mae’n ddefnyddiol gwybod hynny. Mae hynny’n rhywfaint o dystiolaeth, ond nid ydym wedi mynd yr holl ffordd at asesiad o’r effaith debygol ar nyrsys ardal, a chredaf y gallai hynny fod yn rhywbeth yr hoffech ei ystyried. Ond fe gyfeirioch at anghenion staffio cartrefi nyrsio unigol, ac mae cyfansoddiad unrhyw dîm mewn cartref nyrsio yn hanfodol i lwyddiant y gofal a ddarperir ganddo. Mae cael gwared ar nyrs oddi ar y safle yn un math o bwysau ar y tîm hwnnw, ond mae sicrhau sgiliau cywir yn lle’r rhai a allai fod wedi’u colli wrth i bobl adael yn fath arall o bwysau.
Mae datblygu sgiliau staff presennol, pa un a ydynt yn gynorthwywyr nyrsio neu’n weithwyr cymorth gofal iechyd, yn dda o ran lefelau cadw staff a datblygiad personol, ond ceir anawsterau ymarferol yn gysylltiedig â dod o hyd i amser i hyfforddi staff mewn cartrefi nyrsio a gofal cartref. Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fo angen i unigolyn arfer crebwyll a deall goblygiadau ymyrraeth yn hytrach na gallu cyflawni tasg yn fecanyddol, os mynnwch. Sut y gallwch roi sicrwydd inni nad yw ansawdd a safonau’n dioddef pan fo datblygiad proffesiynol parhaus yn anghyson oherwydd y pwysau hwn? A sut y bydd yr anghysondeb wrth gaffael sgiliau yn creu anghysondeb o ran pryd yn union y mae unigolion yn penderfynu eu bod bellach yn ddigon cymwys i gofrestru?
Diolch am eich cwestiwn. Yn bersonol, mae datblygu’r gweithlu a rhoi sicrwydd i’r cyhoedd yn ddwy flaenoriaeth allweddol, ond maent hefyd yn flaenoriaethau i Gofal Cymdeithasol Cymru, a sefydlwyd, fel y gwyddoch, ym mis Ebrill eleni. A chredaf fod y ddau fater yn rhan bwysig o’u cynllun strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Ac maent yn canolbwyntio’n bendant ar ba gymwysterau y bydd yn ofynnol i bobl sy’n gweithio yn y sector eu cael yn y dyfodol. Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, neu credaf ei fod newydd gael ei lansio’r wythnos hon neu’r wythnos nesaf, o ran pa gymwysterau y byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bobl yn y sector gofal cartref feddu arnynt yn y dyfodol, gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod gennym gymwysterau, pan fo pobl yn cofrestru, sy’n berthnasol, ac a fydd yn rhoi hyder i’r cyhoedd, ond mae angen inni sicrhau hefyd ein bod yn cynnal y sgiliau meddal hynny y mae cymaint ohonynt gennym yn y sector gofal cartref. Mae pobl wedi bod yn gweithio yn y sector hwnnw ers blynyddoedd lawer, ac mae ganddynt brofiad ac maent yn bobl dosturiol. Maent yn darparu gofal o ansawdd da; maent yn deall yr unigolion. Mae’n anodd mesur y pethau hynny, felly mae angen inni sicrhau’r cydbwysedd o ran y sgiliau meddal a’r agweddau a’r doniau i allu gwneud y gwaith, yn ogystal â’r cymwysterau mwy ffurfiol, wrth i ni geisio proffesiynoli’r gweithlu er mwyn gwneud y gwaith yn fwy deniadol i bobl yn y dyfodol ac i roi’r math o glod a pharch a strwythur gyrfaol yr hoffem eu gweld yn y gweithlu hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Nawr, mae gormod o gleifion yn dal i wynebu amseroedd aros gormodol ar gyfer triniaeth, a hoffwn ganolbwyntio yn gyntaf ar amseroedd aros orthopedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae gennyf etholwr sydd wedi cael blaenoriaeth glinigol fel rhywun sydd angen llawdriniaeth orthopedig ar frys. Ar hyn o bryd, mae wedi bod yn aros am y driniaeth frys hon ers 66 wythnos ac nid yw’n disgwyl cael triniaeth tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mewn llythyr a gefais yn ddiweddar gan y bwrdd iechyd, dywedwyd wrthyf fod rhai cleifion yn gorfod aros am fwy na 100 o wythnosau. Ac nid yw hyn yn dderbyniol mewn unrhyw fodd. Wynebodd eich rhagflaenydd broblem debyg yn ne Cymru mewn perthynas â llawdriniaeth y galon, a gwnaeth benderfyniad ar y pryd i drefnu rhai llawdriniaethau drwy gontract allanol er mwyn lleihau’r rhestrau aros hynny. A wnewch chi’r un peth ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn?
Rwy’n cydnabod bod rhai pobl yn aros am amseroedd annerbyniol o hir, ac mae yna her wirioneddol o ran y bobl sy’n aros am amser hir, yn enwedig yng ngogledd Cymru, a gallu’r bwrdd iechyd i gael y capasiti priodol, gan gynnwys capasiti’r unedau therapi dwys ar gyfer pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth. Felly, nid yw’n sefyllfa dderbyniol. Mae’n fater rwyf wedi’i godi’n uniongyrchol, yn amlwg, gyda’r cadeirydd; rwyf mewn cysylltiad rheolaidd bellach gyda’r cadeirydd a’r prif weithredwr. Rwy’n disgwyl i’r cynllun orthopedig y mae’r bwrdd iechyd yn ei gyflwyno fynd i’r afael â’r problemau eleni, yn hytrach nag edrych tua’r dyfodol pan ddywedant y dylai’r broblem fod wedi’i datrys. Os nad ystyrir bod y cynllun hwnnw’n ddigonol, a byddaf yn derbyn cyngor gan swyddogion yma hefyd, bydd yn rhaid i mi ystyried mesurau eraill. Ond mae’n rhaid gwneud hynny ar sail cynnwys y cynllun, a yw’n gredadwy mewn gwirionedd, gan fy mod yn disgwyl i bobl yng ngogledd Cymru allu cael mynediad at ofal amserol o ansawdd da, ac rwy’n cydnabod nad yw hynny’n digwydd o gwbl yn achos rhai pobl.
Rydych newydd ddisgrifio beth yr hoffech ei weld yn digwydd ymhen amser, ac rydych yn aros am adroddiadau; byddwch yn ystyried yr adroddiadau. Mae hyn yn digwydd yn awr, pobl yn aros am dros 100 o wythnosau, ac roedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol â beth y gellid ei wneud yn awr er mwyn lleihau’r amseroedd aros i bobl sydd wedi bod yn aros mewn poen, gan arwain at ragor o broblemau gyda’u hiechyd. Rydych yn honni’n aml fod amseroedd aros yn gwella. Mae rhai ohonynt yn gwella. O gymharu â 2014 yn hytrach na 2011, mae’r duedd hirdymor yn eithaf amlwg o ran amseroedd aros yn mynd yn hwy ac yn hwy. O bryd i’w gilydd, rydych yn cyhoeddi arian ar gyfer mentrau i fynd i’r afael â meysydd problemus, ond mae methiannau o ran cynllunio’r gweithlu yn tanseilio eu cynaliadwyedd. Flwyddyn i fis Awst diwethaf, fe fyddwch yn cofio lansio gwasanaeth thrombectomi yng Nghaerdydd i drin cleifion strôc—gofal o’r ansawdd uchaf. Gohiriwyd y gwasanaeth ym mis Mai eleni o ganlyniad i broblemau staffio, sy’n golygu na fydd 500 o gleifion y flwyddyn yn cael y driniaeth orau sydd ar gael bellach. Pam fod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn gallu gwneud hyn yn iawn, ond nid GIG Cymru o dan arweiniad y Blaid Lafur?
Mae mwy nag un rhan i’r sylwadau a’r cwestiynau a wnaed, ac mewn gwirionedd, o ran gwelliant eleni, rwy’n disgwyl y caiff gwelliannau eu gwneud eleni. Rwy’n disgwyl i’r cynllun orthopedig gan fwrdd iechyd gogledd Cymru gael ei ddarparu o fewn y mis nesaf. Dyna rwy’n ei ddisgwyl, ac rwy’n disgwyl i hynny gael ei ystyried yn briodol wedyn o ran pryd y caiff ei roi ar waith. Y bwriad yw i’r arian ychwanegol sydd wedi bod ar gael yma wneud gwelliannau eleni ar gyfer pobl sy’n aros ar hyn o bryd. Mae hynny’n cynnwys comisiynu capasiti y tu allan i ogledd Cymru hefyd. Ni fyddai’n iawn i mi roi ymrwymiad ynglŷn â pha bryd y bydd y mater yn cael ei ddatrys cyn i mi weld eu cynllun a deall pa mor effeithiol y mae’n debygol o fod, ond dywedaf eto: os nad wyf yn hyderus y caiff y mater ei ddatrys, bydd angen i mi gael trafodaeth wahanol ynglŷn â sut i sicrhau gwelliannau ar gyfer pobl yng ngogledd Cymru.
Ynglŷn â’ch pwynt am thrombectomi, mae hon yn driniaeth gymharol newydd sydd ar gael, a gall gael cryn effaith ar gleifion strôc. Comisiynwyd y gwasanaeth yng Nghaerdydd, a daeth yn weithgar gyda thri meddyg ymgynghorol yn gweithio gyda’i gilydd mewn tîm—aseswyd mai dyna’r nifer gywir o bobl ar gyfer anghenion pobl ar draws de Cymru. Yn anffodus, mae dau o’r tri meddyg ymgynghorol wedi gadael bellach, oherwydd amgylchiadau sydd, at ei gilydd, y tu hwnt i reolaeth y bwrdd iechyd. Yr her oedd recriwtio pobl i’r swyddi hynny. Mae un person wedi cael ei recriwtio a bydd yn dechrau’r mis hwn. Fodd bynnag, bydd yn treulio cyfnod dan oruchwyliaeth am y pedwar mis cyntaf, sy’n gwbl arferol. Rwy’n disgwyl y bydd camau pellach yn cael eu cymryd wedi hynny i sicrhau bod y gwasanaeth yn darparu hyd at y capasiti unwaith eto. Golyga hynny ein bod, ar hyn o bryd, yn comisiynu capasiti ychwanegol o system Lloegr.
Dylid nodi hefyd fod pob rhan arall o system y Deyrnas Unedig yn wynebu her, mewn gwirionedd, o ran diwallu’r angen am y gwasanaeth newydd hwn. Fe nodwch, yn y darn y penwythnos hwn, ei fod yn dweud bod rhannau sylweddol o Loegr yn wynebu heriau tebyg o ran sicrhau gwasanaeth wedi’i staffio a’i weithredu’n llawn, a gellid dweud yr un peth am yr Alban hefyd. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut y dychwelwn at driniaeth gymharol newydd, er mwyn ei chomisiynu’n briodol ac ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae hon, wrth gwrs, yn flaenoriaeth bwysig i mi a’r gwasanaeth.
Unwaith eto, mae hon yn neges rydym yn ei chlywed dro ar ôl tro, nad yw hwn yn fater unigryw i Gymru, ei bod yn broblem ledled y DU, boed o safbwynt recriwtio neu gadw neu beth bynnag, ond fe wyddom fod hwn yn wasanaeth sy’n cael ei ddarparu mewn rhannau eraill o’r DU. Yn wir, mae arweinydd strôc Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Bryste wedi dweud bod y methiant i gael trefn ar bethau yng Nghaerdydd ac yng Nghymru, yn arbennig, yn golygu bod Cymru’n destun gwawd y gymuned niwrofasgwlaidd ryngwladol. Nid wyf fi, ac nid yw cleifion a staff, eisiau i bobl siarad am ein GIG yn y ffordd honno. Oni allwch weld bod gwahaniaeth enfawr rhwng yr hyn a ddywedwch chi a Llywodraeth Cymru, y disgwyliadau rydych yn hoffi eu creu, a’r realiti i staff a chleifion y GIG, sydd, a bod yn onest, yn haeddu gwell?
Efallai nad ydych yn hoffi ei glywed, Rhun, ond dyma’r gwir yn onest ynglŷn â lle’r ydym o gymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig hefyd. Fe nodwch, o’r darn yn The Guardian a ddyfynnwyd gennych, ei fod yn nodi, mewn gwirionedd, fod yna heriau sylweddol mewn rhannau eraill o Loegr hefyd. Nid yw’n wir i ddweud mai Cymru’n unig sy’n gwneud yn wael yn yr achos hwn. Mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn teimlo bod y sylw a wnaed gan yr ymgynghorydd ym Mryste yn arbennig o sarhaus a chibddall. Teimlwn fod rhoi sylwadau ar wasanaethau a ddarparir gan gomisiynau ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig yn y ffordd honno yn sarhaus, fel y dywedais. Mae hon yn her sydd y tu hwnt i—. Nid yw’n rhywbeth lle y mae’r bwrdd iechyd wedi achosi problem gyda dau o bobl yn gadael o fewn cyfnod byr iawn; yr her yw sut y down yn ôl, ac mewn gwirionedd, rydym yn dibynnu ar berthynas dda rhwng rhannau’r system yng Nghymru, ond hefyd gyda chydweithwyr yn Lloegr, ac fel arall hefyd.
Mae her yma ynglŷn â sut y gallwn greu rhwydwaith priodol i wasanaethu anghenion pobl yng Nghymru ac mae angen inni weithio gyda chydweithwyr yn Lloegr i ddeall sut y gallem ac y dylem wneud hynny mewn ffordd sy’n gynaliadwy ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Felly edrychaf ymlaen at sgwrs fwy aeddfed rhwng cydweithwyr yng Nghymru ac yn Lloegr am y ffordd y mae’r driniaeth hon sy’n datblygu, a allai effeithio’n sylweddol ar wella cyfraddau marwolaethau ac anabledd y gellir ei osgoi i bobl sy’n cael strôc, yn cael ei chyflwyno ar sail gynaliadwy at ei gilydd. Nid yw’n bwysig iawn i mi a ydych yn rhwystredig ynglŷn â chael ateb gonest am ein sefyllfa, ond rwy’n credu bod y gonestrwydd yn bwysig, oherwydd fel arall, nid ydym yn mynd i gael y math o system gofal iechyd rydym yn awyddus i’w chael ac y mae pobl Cymru yn haeddu ei chael.
Llefarydd UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mis Hydref yw mis ymwybyddiaeth o ganser y fron ac i nodi’r achlysur, mae Breast Cancer Now wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy’n edrych ar lwybr cleifion canser y fron, ac yn gwneud argymhellion i wella canlyniadau i gleifion. Rydym bellach yn gwneud cynnydd o ran gwella cyfraddau goroesi canser y fron. Mae cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn a phum mlynedd wedi cynyddu 1.7 y cant dros y degawd diwethaf. Mae lefelau canfod canser y fron yn gwella, ond nid ydym bob amser yn trin y canser yn ddigon cynnar. Ni chyrhaeddwyd targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth canser y llwybr brys a heb fod yn frys yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae Breast Cancer Now yn galw arnoch i fonitro perfformiad yn erbyn amseroedd aros yn agos ac i roi camau unioni ar waith. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi dderbyn yr argymhelliad hwn ac amlinellu’r camau rydych yn eu cymryd i gyrraedd targedau rhwng atgyfeirio a thriniaeth?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Dyma fater lle y ceir pryder gwirioneddol ar draws y Siambr ac oddi mewn a thu allan i’r pleidiau gwleidyddol. Mewn gwirionedd, mae’r cyflawniad yn y gwasanaethau canser yn arwydd o’r llwyddiant a gawsom yn y GIG, ond hefyd o’r her na chafodd ei goresgyn sy’n dal i fodoli. Rwy’n falch eich bod wedi nodi bod cam mawr ymlaen wedi’i wneud yn y cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn a phum mlynedd yng Nghymru. Yn ystadegol, rydym yn yr un lle â phedair gwlad arall y DU. Rydym hefyd yn gweld mwy o bobl yn cael eu hatgyfeirio a mwy o bobl yn cael eu trin, a’u trin o fewn yr amser. A hynny ar gefn cynnydd o 40 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau yn y pedair blynedd diwethaf.
Ond y gwir na ellir ei osgoi yw bod pob un o’r pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig yn dal i fod ar waelod tabl cynghrair canlyniadau’r gwledydd eraill yn Ewrop. Mae llawer mwy i ni ei wneud. Nawr, nid wyf yn derbyn popeth y mae arolwg Breast Cancer Now yn ei ddweud, ond o ran yr angen i geisio gwneud rhywbeth am sgrinio—oherwydd, yn anffodus, mae canlyniadau sgrinio canser y fron wedi gostwng; nid ydym yn cael yr un nifer o fenywod yn dod drwodd—mae yna her i ni wneud yn siŵr fod y neges yn cael ei deall yn glir y bydd sgrinio cynnar yn helpu i achub bywydau. Hefyd o ran yr heriau yn ein capasiti diagnostig yn ogystal—ac mae hynny’n bendant yn rhan o’r hyn y bwriadwn ei wneud, nid yn unig gyda’r arian perfformiad uniongyrchol eleni, ond ar sail fwy hirdymor a mwy cynaliadwy. Ac rwy’n sicr yn monitro perfformiad yn agos.
Mae amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn bethau y bydd pob cadeirydd yn disgwyl gorfod eu trafod gyda mi ac yn wir, pan fo gwasanaethau’n gwaethygu, rhoddir rhagor o sylw. Enghraifft dda o hyn yw bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro. Nid oes llawer iawn o amser er pan oedd ffigurau canrannau yn y 70au yn erbyn y targed 62 diwrnod—cwbl annerbyniol. Maent wedi datrys ac wedi edrych ar y problemau hynny ac maent bellach mewn lle llawer gwell ar dros 90 y cant. Yr her ar gyfer gweddill Cymru yw sut i gael yr un lefel o ddealltwriaeth o’u heriau a’u cyflawniad wedyn, a gwneud hynny ar sail gynaliadwy yn wyneb galw cynyddol.
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Un o’r gwelliannau mwyaf y gallwn ei wneud i ofal canser y fron—a holl ddiben y mis ymwybyddiaeth—yw gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o arwyddion a symptomau canser y fron. Mae canfod canser y fron yn gynnar yn gwella eich gobaith o oroesi, fel y gwn o brofiad personol. Mae hi bellach yn ddeng mlynedd ers i mi gael canser y fron ac achubwyd fy mywyd gan i mi sylwi ar bant yn hytrach na lwmp a chefais ofal o’r radd flaenaf gan y staff rhagorol yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.
Ysgrifennydd y Cabinet, gall canser y fron ymddangos mewn sawl ffordd, felly mae’n hanfodol fod y cyhoedd yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau. Ceir llawer o ddynion nad ydynt yn sylweddoli y gall canser y fron effeithio arnynt—nid yw 54 y cant o ddynion yn y DU erioed wedi archwilio eu hunain am symptomau. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gynnal ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd am ganser y fron, gan dargedu dynion a menywod?
Fe edrychaf, ond nid wyf yn ymwybodol fod yna gynllun penodol gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch wedi’i thargedu at ddynion, ond rydym yn cydnabod bod y trydydd sector yn mynd ati’n arbennig o weithgar i hyrwyddo ymwybyddiaeth. Rwy’n meddwl mewn gwirionedd mai’r peth mwyaf a wyddom, gan fod tystiolaeth fod hyn yn effeithiol ar sail sgrinio poblogaeth, yw gwneud yn siŵr mewn gwirionedd fod mwy o bobl yn defnyddio gwasanaeth sgrinio canser y fron yn y dyfodol. Mae gennym her gyda dynion a’u hymwybyddiaeth o ganser y fron—gyda dynion yn gyffredinol a’u hymwybyddiaeth o’u hiechyd eu hunain ar ystod eang o bethau mewn gwirionedd. Mae yna her ehangach, nid yn unig o ran deall bod problem, ond rwy’n credu y gellir gwneud y cynnydd mwy ym maes atal sylfaenol mewn gwirionedd, a deall y patrymau ymddygiad—drwy ddeiet, ymarfer corff, alcohol ac ysmygu—lle’r ydym yn fwy tebygol o fynd yn sâl, gan gynnwys dioddef amryw o ganserau, a chymryd mwy o berchnogaeth a rheolaeth dros y pethau y gallwn eu gwneud drosom ein hunain.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym i gyd yn gwybod bod atal yn well na gwella. Er y gallwn roi camau ar waith i fynd i’r afael â rhai o’r ffactorau risg sy’n gysylltiedig â chanser y fron, mae Breast Cancer Now yn tynnu sylw at y ffaith na allwn fynd i’r afael â’r ffactorau risg mwyaf: bod yn fenyw a mynd yn hŷn. Fodd bynnag, gallwn roi camau ar waith i leihau’r risg o gael canser y fron yn lledaenu i rannau eraill o’r corff. Mae Breast Cancer Now yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad at feddyginiaethau ataliol, megis bisffosffonadau. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i wella mynediad at feddyginiaethau oddi ar y patent ar gyfer cleifion canser y fron yng Nghymru?
Yn ddiddorol, roedd yr Aelod yn yr ystafell pan gefais gyfarfod ar yr union bwnc hwn tua chwe wythnos yn ôl gyda’r Aelod dros Torfaen a’i chydweithiwr seneddol. Mae’r rhain yn feysydd rydym wrthi’n eu hystyried. Rydym yn dechrau gweld bod mwy y gallwn ei wneud i gael dull wedi ei arwain gan dystiolaeth i sicrhau bod y triniaethau mwyaf effeithiol a chymesur ar gael yn ein gwasanaeth.
Tynnwyd cwestiwn 3 (OAQ51130) yn ôl. Cwestiwn 4, felly, Lee Waters.