1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 29 Tachwedd 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ffermio yng Nghymru yw dynodiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau, a allai arwain at gryn bwysau ar ffermwyr pe baent yn cael eu rhoi ar waith, ac o ganlyniad i hynny, gallent orfodi llawer ohonynt allan o fusnes. O ystyried bod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru wedi dod i ben bron i flwyddyn yn ôl, a allwch esbonio pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod i benderfyniad eto ynglŷn â'r dynodiadau arfaethedig ar gyfer parthau perygl nitradau, ac a wnewch chi ymrwymo yn awr i wneud datganiad gerbron Siambr y Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn ar safbwynt Llywodraeth Cymru, ac esbonio pam fod y penderfyniad hwn wedi cymryd cymaint o amser?
Wel, rwyf eisoes wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw sawl gwaith yn y Siambr hon, felly rwy'n fwy na pharod i wneud yr ymrwymiad hwnnw y byddaf yn sicr o gyflwyno datganiad cyn diwedd y tymor hwn, felly o fewn y pythefnos nesaf. Y rhesymau pam fod hyn wedi cymryd cymaint o amser yw oherwydd ein bod wedi cael nifer fawr o ymatebion i'r ymgynghoriadau, ac am ein bod hefyd wedi cael nifer fawr o safbwyntiau pobl ac ystyriaethau i wneud pethau'n wahanol. Gwelais gyflwyniad yr wythnos diwethaf—mae pobl yn dal i gynnig syniadau—a chan fy mod yn agored iawn i'r syniadau hyn, roeddwn yn awyddus i roi digon o amser ac ystyriaeth i'r safbwyntiau hyn.
Rwy'n falch iawn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad yn y Siambr hon cyn diwedd y tymor, ac edrychaf ymlaen at y datganiad hwnnw.
Un o'r pryderon sy'n gysylltiedig â'r cynigion hyn yw y gallai glynu wrth y rheolau ar gapasiti storio slyri/tail olygu bod yn rhaid i fusnesau fferm gael eu llethu gan fuddsoddiadau cyfalaf mawr mewn cyfleusterau storio er mwyn cydymffurfio. Yn wir, dywed Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wrthym fod cost uwchraddio cyfleusterau bron yn £80,000 ar gyfartaledd. Os yw Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'r dynodiadau hyn, a allwch ddweud wrthym pa arian fydd yn cael ei neilltuo i helpu'r ffermwyr sy'n gorfod cydymffurfio ag unrhyw reolau capasiti newydd, o ystyried bod y dyraniad cyllid cyffredinol i'ch cyllideb wedi lleihau mewn gwirionedd?
Credaf fod angen inni ystyried ychydig o bwyntiau. Rwyf eisoes wedi bod yn cynnal trafodaethau ynghylch capasiti pyllau slyri ffermwyr a chredaf fod llawer ohonynt ar lefel uwch na'r hyn sy’n angenrheidiol ar hyn o bryd. Felly, rwyf wedi gweld y gost honno o £80,000; rwyf hefyd wedi gweld cost o £150,000. Felly, unwaith eto, credaf fod angen i ni fod yn realistig a phragmatig o ran y gost, ond rwy’n cydnabod y gall fod angen i ni roi cymorth mewn ambell fan mewn perthynas â buddsoddi yn y pyllau slyri. Felly, unwaith eto, mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn ei drafod gyda swyddogion i weld sut y gallwn gynorthwyo gyda chyllid, lle bo angen gwneud hynny.
Byddwch yn gwybod bod rhai o ffermwyr Cymru eisoes wedi bod yn cymryd camau i fynd i'r afael â llygredd nitrad ac i wella ansawdd dŵr. Ceir tystiolaeth fod gwaith da iawn yn cael ei wneud ledled Cymru. Er enghraifft, mae prosiect arddangos ffermio sensitif i ddalgylch Cymru yn esiampl o gynllun gwirfoddol llwyddiannus iawn a gafodd ei groesawu'n fawr gan ffermwyr. O gofio nad oedd eich ymgynghoriad yn ystyried trefniadau gwirfoddol a chynlluniau gwirfoddol, a allwch ddweud wrthym pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried gweithredu dull gwirfoddol mewn perthynas â'r mater hwn? A wnewch chi ystyried gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a chyda'r diwydiant amaethyddol i fabwysiadu mesurau gwirfoddol yn lle hynny?
Rwyf wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r sector amaethyddol a chyda ffermwyr yn gyson. Felly, unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth arall y buom yn ei ystyried dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth edrych ar yr amrywiaeth eang o ymatebion a gawsom. Cawsom dros 250 o ymatebion, ond rwyf hefyd wedi cael llawer o sgyrsiau â ffermwyr unigol a grwpiau o ffermwyr dros y blynyddoedd diwethaf.
Bu'n rhaid i mi gwblhau'r arolwg; mae'n ofyniad statudol o dan y gyfarwyddeb nitradau. Ond rydym hefyd wedi gweld rhai achosion sylweddol o lygredd amaethyddol eleni, felly bu'n rhaid i mi ddwyn popeth ynghyd, ac mae hyn yn ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Ond fel y dywedais wrth yr Aelod ar y cychwyn, byddaf yn gwneud datganiad o fewn y pythefnos nesaf.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd.
Gan barhau i drafod parthau perygl nitradau, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r mater hwn yn peri cryn bryder ymhlith y bobl a allai gael eu heffeithio ganddo. Hoffwn gefnogi'r dull o weithredu a fabwysiadwyd gan ein cyd-Aelod o'r Preseli. O ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn, mae modd i Ysgrifennydd y Cabinet osgoi dull llawdrwm wrth gwrs os yw'n argyhoeddedig y gallwn gyflawni amcanion y gyfarwyddeb cynefinoedd a'r cyfarwyddebau amgylcheddol sy'n berthnasol yma drwy ddulliau gwirfoddol.
Rwy'n siŵr ei bod yn ymwybodol o arbrawf a gynhaliwyd gan ffermwyr yn y Cleddau sydd wedi llwyddo i leihau lefelau nitradau ar eu ffermydd i lai nai'r terfynau a geir yn rheolau a rheoliadau'r UE. Maent wedi cyflawni'r canlyniadau hyn am ran fach iawn o'r gost y byddent wedi mynd iddi pe baent wedi gorfod gosod pyllau newydd anferth ar gyfer storio slyri ac ati. Felly, a all hi, heb ddymuno rhagdybio canlyniadau'r ymchwiliad mewn unrhyw ffordd, roi sicrwydd i ni heddiw y bydd cynlluniau o'r math hwn yn sicr o gael eu cadw mewn cof fel y gallwn leihau costau rheolaethau amgylcheddol angenrheidiol i ffermwyr?
Ie, rwyf wedi ystyried sawl cynllun gwahanol, ac mae ffermwyr wedi sôn wrthyf am yr hyn y maent wedi'i wneud ynghylch y mater hwn. Fel y dywedais yn fy ateb i Paul Davies, rwyf wedi gweld ffigurau o £80,000 ac rwyf wedi gweld ffigurau o £150,000. Siaradais â ffermwr o Sir Fynwy, rwy'n credu, a oedd wedi gwneud hyn am ran fach iawn o'r gost honno. Felly, hoffwn sicrhau'r Aelodau fy mod yn agored iawn i'r awgrymiadau a gyflwynwyd, a dyna pam ei bod wedi cymryd llawer mwy o amser nag a ragwelais ar y cychwyn.
Rwy'n siŵr fod pawb yn awyddus i weld y penderfyniad cywir yn cael ei wneud yn y pen draw, ac os yw oedi yn arwain at hynny, ni fydd unrhyw un yn cwyno. Wrth gwrs, y rhagamod yw ein bod yn cael y penderfyniad cywir yn y pen draw. Ond mae'r arbrawf penodol hwn y cyfeiriais ato gynnau yn y Cleddau wedi llwyddo i leihau trwytholch nitradau i'r pridd a'r dyfrffyrdd bron i 90 y cant. Felly, pe bai hynny'n cael ei ymestyn dros y sir gyfan yn Sir Benfro, byddai hynny'n fantais enfawr i ni. Credaf fod cynlluniau o'r fath yn dangos manteision gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau canlyniadau dymunol y bydd pobl sydd â phryderon amgylcheddol ar frig eu hagendâu yn eu croesawu, heb orfod defnyddio ffon i orfodi pobl i wneud pethau nad ydynt yn dymuno'u gwneud. Mae hyn er lles gorau ffermwyr hefyd, gan fod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi datblygu'r cynllun baner las hwn, yn union fel y tractor coch, a fyddai'n ddull defnyddiol iawn o farchnata ein cynnyrch hefyd—eu bod wedi eu cynhyrchu gyda pholisi amgylcheddol sensitif. Felly, mae hynny'n newyddion da i'r diwydiant ffermio yn ogystal ag i'r amgylchedd.
Yn sicr, credaf fod yn rhaid i chi weithio gyda'r diwydiant mewn perthynas â pholisïau a strategaethau, a'r wythnos diwethaf, cafodd Gweinidog yr Amgylchedd a minnau gyflwyniad ynghylch y cynllun baner las. Felly, rydym yn dal i ystyried popeth sydd wedi dod ger ein bron dros y flwyddyn ddiwethaf. A dywedaf eto: byddaf yn gwneud datganiad yn y pythefnos nesaf.
Mae'n bwysig, wrth gwrs, fod pryderon amgylcheddol yn cael eu cymryd o ddifrif, a bod y dulliau a ddefnyddir felly, os na chânt eu rheoli drwy statud neu reoliadau, yn cael eu harchwilio'n briodol, a bod modd ystyried y canlyniadau'n rhai credadwy o'r herwydd. Mae'r cynllun penodol hwn yn y Cleddau yn cael ei archwilio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, felly unwaith eto, os yw'r cyrff rheoleiddio yn gweithio law yn llaw â'r diwydiant, yn y pen draw, mae pawb yn hapus. Ac wedi'r cyfan, hapusrwydd yw'r hyn rydym ni fel gwleidyddion am ei sicrhau ar gyfer ein hetholwyr. Felly, gobeithiaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd yn cyhoeddi ei chanlyniad, yn gallu bod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros hapusrwydd yng nghefn gwlad.
Wel, ie, hoffwn feddwl mai fi yw Ysgrifennydd y Cabinet dros hapusrwydd yng nghefn gwlad.
Credaf, ar ddechrau'r cwestiwn diwethaf hwnnw, eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r cydbwysedd. Roeddwn bob amser yn arfer dweud, ar y pryd, fy mod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, felly roedd yn hollbwysig fy mod yn sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Nawr, wrth gwrs, mae gennym Weinidog yr Amgylchedd, ond nid yw hynny'n golygu bod yr amgylchedd yn llai pwysig i mi fel Ysgrifennydd y Cabinet.
Felly, mae'n gwbl hanfodol fod unrhyw bolisi a gyflwynwch yn cyfleu ymagwedd gytbwys. Yn sicr, mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn cael cynifer o ymatebion i'r ymgynghoriad a chael cynifer o ffermwyr unigol—a hefyd, yn amlwg, y ddau ffermwr a ddaeth i'm gweld mewn perthynas â'r cynllun baner las—yn cyflwyno'u syniadau ynglŷn â sut y maent wedi llwyddo i leihau lefel y nitradau, ac ati. Felly, rydych yn llygad eich lle, byddaf yn gwneud y datganiad hwnnw.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. A gaf fi wneud Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus iawn drwy ddweud na fyddaf yn ei holi ynglŷn â pharthau perygl nitradau, ond yn aros am ei datganiad ymhen wythnos neu ddwy? Ond byddaf yn ei gwneud yn llai hapus, o bosibl, drwy ofyn hyn iddi: pam fod ei hadran wedi wynebu'r toriad unigol mwyaf yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a beth y mae hynny'n ei ddweud, mewn gwirionedd, am ymrwymiad y Llywodraeth i'r amgylchedd a materion gwledig?
Wel, byddwch yn deall fod pob un ohonom wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Roeddwn gerbron y pwyllgor yr wythnos diwethaf, yn ystod y broses o graffu ar y gyllideb, a byddwch yn gwybod fod llawer o sôn wedi bod ynglŷn â'r ffaith bod fy nghyllideb wedi'i thorri 5 y cant; nid oedd hynny'n wir, gan fy mod wedi trosglwyddo £35 miliwn o gyllid gwastraff i'r grant cynnal refeniw. Er hynny, rwyf wedi cael toriad o 1.5 y cant. Gobeithiaf, unwaith eto, fy mod wedi'i gydbwyso. Mae gennyf bortffolio eang iawn, ond rwy'n gobeithio nad oes unrhyw ran o'r portffolio yn teimlo eu bod wedi cael toriadau nad ydynt yn gymesur.
Serch hynny, mae ei phortffolio wedi dioddef o ganlyniad i'r un toriadau 5 y cant i grantiau llywodraeth leol, sydd wedi cael eu hailgylchu i helpu gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Mae hi wedi cadarnhau'n bendant mai ei hadran hi, mewn gwirionedd, sydd wedi wynebu'r toriad mwyaf o unrhyw un o adrannau Llywodraeth Cymru yn y gyllideb hon. Gwyddom fod anawsterau ynghlwm wrth y gyllideb, ond mae'n rhyfedd fod yr adran hon wedi cael ei dewis ar gyfer y toriad mwyaf hwnnw.
Nawr, dywedodd yr Ysgrifennydd cyllid wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fod £100 miliwn a oedd wedi'i gadw yn y cronfeydd wrth gefn wrth ragweld rhagor o doriadau effeithlonrwydd ar gael bellach, gan na ddisgwylir y toriadau hyn bellach, yn dilyn y gyllideb yr wythnos diwethaf. Felly, a gaf fi ofyn iddi, fel Ysgrifennydd y Cabinet: beth y mae'n cynnig amdano o'r £100 miliwn hwn? Y llynedd, gyda Phlaid Cymru yn ymlid, cafodd ychydig o arian ychwanegol ar gyfer cynlluniau atal llifogydd, yn ôl yr hyn a gofiaf. Beth y mae'n awyddus i'w adfer yn awr i'w chyllideb?
Pan fyddaf yn dychwelyd i fy swyddfa ar ôl y sesiwn gwestiynau hon, byddaf yn cyfarfod â swyddogion cyn ysgrifennu at y Gweinidog cyllid. Credaf mai fi oedd y cyntaf i gyflwyno cynnig, felly byddwch yn falch o glywed hynny. Rwyf wedi cadarnhau mai fy adran i sydd wedi cael y toriad mwyaf, gan fod ganddi—mae'n ffaith. Felly, nid wyf am geisio cuddio y tu ôl i hynny, ond credaf ein bod wedi llwyddo i gydbwyso pethau fel nad oes un rhan o'r portffolio, fel y dywedais, wedi cael mwy o ergyd. Rydym wedi ceisio rhannu'r boen, os mynnwch. Ni ddeuthum i mewn i wleidyddiaeth i wneud toriadau—ni wnaeth unrhyw un—ond rydym yn wynebu'r realiti.
Felly, fel y dywedwch, mae'r £100 miliwn hwn gennym bellach. Beth y byddaf yn ceisio'i adfer? Wel, unwaith eto, un o'r blaenoriaethau rwy'n eu rhannu, fwy na thebyg, gyda llawer o'r Aelodau, yw cartrefi cynnes. Mae angen i ni edrych ar beth a wnawn mewn perthynas ag ôl-osod ein stoc dai, yn enwedig er mwyn gallu bodloni'r cyllidebau carbon isel y byddwn yn eu gosod, wrth gwrs. Felly, dyna un maes rwy'n edrych arno. Llifogydd, yn amlwg—cawsom lifogydd erchyll yr wythnos diwethaf. Pan oeddwn yn Llangefni ddydd Iau, dioddefodd Llangefni'n aruthrol, ac mae'r Aelod dros Ynys Môn eisoes wedi ysgrifennu ataf mewn perthynas â'r llifogydd ym Mhorthaethwy—rwy'n credu mai dyna lle y sonioch amdano'n benodol. Felly, byddaf yn edrych ar lifogydd hefyd, yn sicr. Ond os yw Plaid Cymru yn awyddus i gyflwyno safbwyntiau, rwy'n fwy na pharod i wneud hynny—yn amlwg, fe gefnogoch chi ein cyllideb.
Rydych yn llygad eich lle, mae gennym gytundeb cyllidebol, ac rwy'n falch iawn o rai o'r pethau a gawsom o ganlyniad i hynny. Fodd bynnag, mae rhai o'r pethau a grybwyllwyd gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, yn bwysig, ond ar y cyfan, cyfalaf ydynt. Gallech ddefnyddio gallu'r cyfalaf newydd rhyfedd hwn y mae llawer o sôn amdano sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru, y math hwn o gyfalaf trafodiadol, i edrych ar sut y gallai hwnnw fynd tuag at gartrefi cynnes, er enghraifft. Felly, credaf fod hynny'n dal i olygu eich bod chi'n cynnig am y £100 miliwn hwn, ac edrychaf ymlaen at weld effaith eich lobïo ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn y gyllideb derfynol.
Ond wrth gwrs, er eich bod wedi llwyddo i dalu'r taliadau fferm sylfaenol, ac fe gyhoeddoch hynny yn y ffair aeaf yr wythnos hon, mae cwestiynau ehangach ynghylch arian parhaus wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd. Ymddengys yn gynyddol amlwg i mi na allwn ddibynnu ar yr addewidion a wnaed ynghylch polisi amaethyddol cyffredin a thaliadau fferm parhaus y tu hwnt i 2020. Mae llawer o sôn wedi bod am 2022, ond mewn gwirionedd, pan edrychwch ar y gwarantau, maent yn hollol gadarn tan 2020, efallai, ond ar ôl hynny, maent yn edrych braidd yn sigledig yn fy marn i. Felly, a gaf fi ofyn iddi a yw'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw o safbwynt San Steffan ac a yw bellach mewn sefyllfa i roi sicrwydd llwyr yn y Cynulliad, ar gyfer tymor y Cynulliad hwn o leiaf—tymor y Cynulliad hwn—y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau'r amlen bresennol o daliadau fferm?
Ydw, ar gyfer tymor y Cynulliad hwn fe fyddwn yn gwneud hynny—felly, tan 2021. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynglŷn â 2020 a 2022. Rydym wedi cael sicrwydd y byddwn yn derbyn y cyllid hwnnw tan ddiwedd tymor Senedd San Steffan yn 2022, ond wedyn rydych yn clywed sibrydion gwahanol. Ond o'm rhan i, mae'r Trysorlys wedi rhoi sicrwydd i ariannu taliadau uniongyrchol yn llawn tan 2022.
Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll y cynllun taliadau sylfaenol. Roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi yn y ffair aeaf ddydd Llun y bydd 91 y cant o'n ffermwyr yn derbyn eu taliadau ddydd Gwener. Dyna'r diwrnod cyntaf y bydd modd iddynt wneud hynny. Felly, credaf y byddwn yn talu £201 miliwn i dros 14,000 o'n ffermwyr, a hoffwn dalu teyrnged i fy nhîm sydd wedi gwneud hynny. Nid ydynt yn dîm mawr iawn, ond unwaith eto, credaf pan—nid wyf wedi gweld y gwledydd eraill, pa ffigurau y maent hwy yn eu cyflwyno, ond buaswn yn dychmygu y byddwn ymhell ar y blaen unwaith eto.