– Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar ariannu ysgolion, a galwaf ar Llyr Gruffydd i wneud y cynnig. Llyr.
Cynnig NDM6739 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr argyfwng ariannu mewn ysgolion yng Nghymru.
2. Yn nodi ei effaith ar lwythi gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn cael effaith andwyol ar addysg plant.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) dwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu amgen ar gyfer ysgolion;
b) sicrhau bod prosesau mor dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses o ariannu ysgolion; ac
c) sicrhau bod pob ysgol yn cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n codi i gynnig y ddadl yma ar ariannu ysgolion yn enw Plaid Cymru. A gaf fi ddweud, reit ar y cychwyn fan hyn, nad ydw i'n ddall i realiti llymder, ac mi fyddwch chi'n sylwi nad yw hwn yn gynnig sydd jest yn dweud, 'Rhowch mwy o bres i ysgolion'? Ond nid ydw i chwaith yn fyddar i'r rhybuddion sy'n dod o gyfeiriad y sector ein bod ni'n cyrraedd pwynt, ar ôl blynyddoedd o doriadau a chyllidebau yn lleihau, gyda chostau, wrth gwrs, yn aml iawn yn dal i gynyddu, lle ei bod hi bellach yn anghynaladwy i barhau i ddarparu'r lefel o wasanaeth rŷm ni wedi dod i'w ddisgwyl dros y blynyddau. Ac, wrth gwrs, nid jest fi sy'n dweud hyn. Mi fydd pob un ohonoch chi, rydw i'n siŵr, fel Aelodau etholedig, wedi derbyn gohebiaeth a chyswllt gan benaethiaid, gan lywodraethwyr, gan rieni, gan gynghorwyr a chan undebau athrawon, i gyd yn dweud yr un peth. Maen nhw, wrth gwrs, erbyn hyn yn defnyddio'r geiriau 'creisis ariannu' yn agored yn y cyd-destun yma.
Felly, beth yw'r realiti cyllidebol? Wel, rydym ni'n gwybod bod cyllidebau ysgolion a chyllid fesul disgybl wedi gostwng mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf yma. Yn y flwyddyn academaidd yma, mae'r gyllideb addysg yng Nghymru wedi cwympo, o £1.75 biliwn yn 2016-17, i £1.6 biliwn. Yn ôl BBC Cymru, mae cyllidebau ysgolion wedi gostwng gan tua £370 fesul disgybl mewn termau real mewn chwe blynedd. Rydym ni'n gwybod 10 mlynedd yn ôl fod cyllideb ysgolion unigol cyfartalog fesul disgybl yn rhyw £3,500 y flwyddyn. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd cyllideb pob ysgol unigol, ar gyfartaledd fesul disgybl, yn £4,234, a gyda llaw, roedd yna wahaniaeth o hyd at £1,000 rhwng ambell sir o fewn y ffigur yna, sydd yn ei hun yn dweud stori arall am y sefyllfa ariannu, ac efallai y down ni at hynny yng nghwrs y ddadl yma, rydw i'n siŵr. Ond pe bai'r gwariant fesul disgybl yna wedi codi gyda chwyddiant, wrth gwrs, mi fyddai fe dipyn yn uwch. Yn wir, mi fyddai fe bron i £400 yn uwch fesul disgybl. Felly, mae hynny yn adlewyrchu y toriad termau real yr ydym ni wedi'i weld. Nid oes rhyfedd, felly, fod cyllidebau ysgolion wedi dod yn ansefydlog a bod risg y bydd addysg y disgyblion yna yn dioddef oni bai fod camau brys yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r argyfwng cyllido yma.
A ble mae hyn yn ein gadael ni? Wel, rŷm ni'n gwybod bod ysgolion ar draws Cymru yn wynebu sefyllfa lle nad oes modd osgoi gwneud toriadau sylweddol er mwyn ymdopi â’r diffyg ariannol, ac y mae hynny yn golygu, wrth gwrs, toriadau i lefelau staffio, i adnoddau, i gyfleoedd dysgu proffesiynol athrawon, a nifer fawr o agweddau eraill ar weithgaredd yr ysgolion. Mae’r undebau athrawon wedi tynnu’n sylw ni at rai o’r enghreifftiau yma. Mae llai o athrawon, yn anochel, yn mynd i olygu bod maint dosbarthiadau yn mynd i gynyddu—rhywbeth rydw i'n gwybod sy’n agos at galon yr Ysgrifennydd Cabinet; llai o sylw unigol i’r dysgwyr; a chynnydd mewn llwyth gwaith i staff, wedyn, wrth gwrs, yn enwedig o safbwynt marcio ac asesu, a hynny yn ei dro—ac mi ddown ni at hyn hefyd yn nes ymlaen—yn arwain at fwy o straen a mwy o salwch tymor hir mewn sawl achos.
Mae yna ddibyniaeth gynyddol ar staff cynorthwyol yn hytrach nag athrawon cymwysedig. Mae’r gymhareb staff-plant yn gwaethygu, fel yr oeddwn i'n sôn, ac mae’n gynyddol heriol i roi’r sylw dyledus i bob plentyn. Mae yna ddibyniaeth gynyddol hefyd, wedyn, wrth gwrs, ar benaethiaid, yn enwedig mewn ysgolion bach. Nawr, mae gan benaethiaid yn aml amserlen ddysgu eu hunain, wrth gwrs, ond yn gorfod gwneud oriau dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau bod eu staff nhw yn cael eu hamser cynllunio, paratoi ac asesu statudol. O ganlyniad, nid ydyn nhw'n derbyn yr amser y mae ei angen arnyn nhw i reoli yr ysgol fel y dylen nhw ei gael.
Mae yna effeithiau negyddol ar y cwricwlwm yn benodol hefyd, wrth gwrs. Mae lleihad yn nifer yr oriau cyswllt i bynciau cwricwlaidd yn un amlwg, athrawon yn aml yn gorfod dysgu ystod ehangach o bynciau, sydd wedyn yn golygu eu bod nhw’n dysgu llai o oriau o fewn eu harbenigedd hefyd, wrth gwrs, a phynciau weithiau, yn ôl rhai o’r undebau, yn diflannu’n llwyr o’r cwricwlwm—cerddoriaeth, drama, ieithoedd tramor modern, pynciau galwedigaethol—am nad oes modd, yn aml iawn, cyfiawnhau rhedeg cwrs gyda nifer cymharol fach o ddisgyblion hefyd. Mae hynny’n cael effaith.
Rydym yn gweld dwysáu cystadleuaeth ddiangen, yn fy marn i, am ddisgyblion, oherwydd yr arian sy’n dod gyda nhw, nid yn unig rhwng ysgolion ond yn enwedig, wrth gwrs, rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach yn y sector ôl-16. Mae yna effeithiau negyddol ar amodau gwaith hefyd. Rydym yn gweld defnydd amhriodol o athrawon yn cyflenwi yn lle eu cydweithwyr weithiau, pan maen nhw mewn sefyllfa o fod dan bwysau. Mae yna ailstrwythuro lwfansau yn digwydd, er bod y cyfrifoldebau ychwanegol yna yn dal yn angenrheidiol. Mae staff yn cytuno i leihau oriau mewn rhai amgylchiadau yn hytrach na chael eu diswyddo, ac, wrth gwrs, os ydyn nhw wedyn yn cael eu diswyddo, mae’r tâl diswyddo hwnnw yn seiliedig ar y cyflog rhan-amser. Mi allwn i fynd ymlaen.
Yn naturiol, mae’r bygythiadau parhaol yma i swyddi yn creu awyrgylch o ofn ac o ddigalondid ymhlith y proffesiwn. Maent yn tanseilio amodau gwaith ac yn achosi straen a salwch, fel roeddwn yn ei ddweud. Rydw i wedi cyfeirio at y ffigurau yma yn y gorffennol: mae 90 y cant o athrawon yn dweud erbyn hyn na fedran nhw reoli eu llwyth gwaith o fewn yr oriau y maen nhw wedi eu cytundebu i’w gweithio. Mae Estyn yn dweud bod athrawon yng Nghymru yn gweithio, ar gyfartaledd, 50 awr yr wythnos, ac nid oes rhyfedd, felly, ein bod ni wedi gweld nifer y dyddiau gwaith y mae athrawon yn eu colli o ganlyniad i stres wedi mwy na dyblu yn y blynyddoedd diwethaf i dros 50,000 o ddyddiau gwaith y flwyddyn.
A’r eironi pennaf, wrth gwrs, yw bod hyn oll yn mynd yn uniongyrchol yn erbyn uchelgais Llywodraeth Cymru o ran symud tuag at y cwricwlwm newydd—rhywbeth yr ydym i gyd, wrth gwrs, yn awyddus i’w weld: cwricwlwm a fydd yn eang, yn hyblyg ac yn rhyngddisgyblaethol—heb sôn, wrth gwrs, am awydd y Llywodraeth i hyrwyddo pethau fel ieithoedd tramor modern, y pynciau STEM yr oeddwn i’n sôn amdanyn nhw, lle'r ydym ni'n awr yn stryglo i weld y rhannau yna o’r cwricwlwm yn cael eu delifro fel y liciem ni. Mae uchelgais y Llywodraeth i roi cefnogaeth i’n disgyblion mwyaf bregus yn cael ei danseilio, ac i drawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol, fel rŷm ni wedi ei weld, a chyrraedd yr 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg—mae hyn oll yn cael ei danseilio gan y sefyllfa ariannu sydd yn wynebu yr ysgolion.
Nawr, mae’r toriadau yma, fel yr ŷm ni i gyd yn ei wybod, eisoes wedi effeithio ar lawer o weithgareddau anstatudol—mae gwersi offerynnol ac yn y blaen yn cael eu codi yn y Siambr fan hyn yn gyson—ond nawr mae’r toriadau yn brathu i’r fath raddau fel eu bod nhw yn bygwth y gofynion statudol.
Nawr, mae pawb yn deall bod y sefyllfa yma yn deillio o'r setliad ariannol y mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, a bod setliad Llywodraeth Cymru, yn ei dro, yn deillio o'r setliad gan Lywodraeth San Steffan. Ond, erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt lle bydd yr effaith ar y proffesiwn a'r disgyblion, fel ei gilydd, mor niweidiol fel bod yn rhaid inni ystyried y sefyllfa yma yn argyfwng. Mae'n rhaid inni felly godi llais yn erbyn y parhad yma o safbwynt y toriadau, ac mae'n rhaid inni hefyd weld beth allwn ni ei wneud i gydweithio yn fwy effeithiol i leihau'r effaith andwyol yma y mae'n ei chael ar ein hysgolion ni.
Felly, mae cynnig Plaid Cymru, yn ei hanfod, yn galw am dri pheth. Mae'r amser wedi dod inni ddwyn ynghyd holl randdeiliaid allweddol y system addysg yng Nghymru i ystyried pa opsiynau sydd yna, mewn gwirionedd, i edrych eto ar y modd y mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu hariannu. Rwy'n dweud hynny oherwydd yr ail bwynt sydd yn y cynnig, sef bod y tirlun ariannu ysgolion yng Nghymru, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn un dyrys, yn un aml-haen a biwrocrataidd ac, yn wir, yn un anghyson ar draws Cymru. O ganlyniad, wrth gwrs, nid yw hynny'n gydnaws â chyfundrefn sydd yn dryloyw, lle mae modd sicrhau atebolrwydd a dal pobl i gyfrif hefyd. Mi ymhelaethaf ychydig ynglŷn â hynny.
Rwyf wedi codi yn y gorffennol y modd y mae'r Llywodraeth yn ariannu'r gyfundrefn addysg, a sut y mae'r pres yn cyrraedd ysgolion mewn sawl ffordd wahanol—yn bennaf, wrth gwrs, drwy awdurdodau lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r arian yn mynd drwy'r grant cefnogi refeniw, yr RSG, a pheth yn mynd ar ffurf grantiau penodol at ddibenion penodol, wedi cael eu 'ring-fence-io'. Mae'r Llywodraeth hefyd yn darparu peth arian ar gyfer y consortia addysg. Mae peth arian yn mynd yn fwy uniongyrchol at yr ysgolion drwy grantiau a rhaglenni eraill. Wedyn, mae ariannu chweched dosbarth, wrth gwrs, yn digwydd drwy gyfundrefn wahanol eto, ac rŷm ni'n dechrau gweld, rwy'n credu, pa mor ddryslyd y mae'r dirwedd yna yn gallu bod. Wedyn, ychwanegwch chi at hynny y ffaith bod gennych chi 22 awdurdod lleol, 22 fformiwla ariannu gwahanol ym mhob sir, ac mae'r sefyllfa'n dwysau.
Mae anghysondebau hefyd i'w gweld, os caf i ddweud, yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y modd y mae cyllid yn cael ei dargedu i wella canlyniadau addysgol. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r pwyllgor addysg wedi cyfeirio ato a thynnu sylw ato ar sawl achlysur. Rŷm ni'n cofio'r modd yr aeth y Llywodraeth ati i ddileu'r grant gwella addysg ar gyfer dysgwyr sy'n Sipsiwn, Roma a Theithwyr a lleiafrifoedd ethnig, a'i brif-ffrydio i mewn i'r RSG, gan honni nad oedd hynny'n mynd i arwain at golli'r canlyniadau addysgiadol yr oedd y Llywodraeth yn dymuno eu sicrhau pan oedd y grant wedi'i neilltuo.
Ond wedyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn amddiffyn yn gryf yr angen am arian penodol wedi'i neilltuo ar gyfer y PDG er mwyn sicrhau canlyniadau addysgol ar gyfer y rhai sydd yn gymwys am ginio ysgol am ddim. Felly, mae'r ddau safbwynt yna gan yr un Llywodraeth yn gwrth-ddweud ei gilydd i bob pwrpas, ac rwy'n meddwl bod hynny'n enghraifft, efallai, o'r anghysondeb rydym yn dod ar ei draws yn gyson o fewn y gyfundrefn ariannu.
A gaf i fod yn glir fan hyn? Nid yw Plaid Cymru, yn sicr, yn galw am ariannu uniongyrchol i ysgolion—rhag ofn bod unrhyw un yn meddwl mai dyna le rwy'n mynd ar hwn. Rŷm ni'n gweld rôl allweddol i awdurdodau lleol yn hyn o beth fel modd i sicrhau bod mwy o gydlynu, bod mwy o gysondeb. Mae'n dod â chyfle i rannu arbenigedd, rhannu adnoddau, yr holl economies of scale, a'r holl resymau eraill mae eraill eisoes yn y gorffennol wedi'u hamlinellu dros sicrhau bod yna gydgordio yn digwydd ar lefel leol. Ond, rwy'n meddwl bod yna le i edrych ar greu cyfundrefn fwy syml a mwy cyson. Mae awdurdodau lleol ac ysgolion wedi bod yn galw hefyd, er enghraifft, am gyllidebu mwy tymor hir, a fyddai'n caniatáu iddyn nhw gynllunio'n fwy effeithiol a defnyddio'r pres yn fwy effeithlon yn sgil hynny, yn enwedig o safbwynt materion staffio.
Rwy'n sylweddoli bod yr amser yn mynd. Mae rhai rhanddeiliaid, gan gynnwys rhai o'r undebau athrawon, wedi galw am fformiwla ariannu genedlaethol er mwyn dod â'r loteri cod post yna i ben—roeddwn yn sôn amdani gynnau: y £1,000 o wahaniaeth yna—a rhoi i bob disgybl yr un hawl, medden nhw, a chyllideb deg. Mae hynny'n dod â ni at drydydd pwynt y cynnig: beth fyddai'n cynrychioli cyllid teg? A oes gan y Llywodraeth syniad o faint y maen nhw'n credu y dylid ei wario fesul disgybl er mwyn sicrhau bod pob un yn derbyn addysg safonol? Nid wyf yn siŵr. Mae pobl yn cymharu'n aml iawn Cymru a Lloegr, ac rwy'n meddwl bod honno'n ddadl ffug, ond mi wnaf i ymateb i rai o'r gwelliannau eraill ar y diwedd.
Mae’r NAHT wedi dweud bod angen archwiliad cenedlaethol o gyllid ysgolion er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol yn y system i alluogi ysgolion i gyflwyno’r agenda o ddiwygio cyffrous yma yr ydym ni i gyd am ei weld. Rwy’n meddwl y byddai hynny yn syniad da. Mi fyddai archwiliad neu awdit cenedlaethol yn rhoi darlun cliriach, mwy gonest i ni o’r sefyllfa gyfredol ymhob rhan o Gymru, ac yn fan cychwyn, rwy’n meddwl, ar gyfer y drafodaeth genedlaethol yma sydd ei hangen ar ariannu ysgolion yng Nghymru.
Fel yr oeddwn i’n dweud, gwnaf i ddelio â’r gwelliannau wrth gloi, ar ôl clywed yr holl gyfraniadau. Ond, fel y dywedais ar y dechrau, nid jest dadl yn dweud, 'Rhowch fwy o arian i ysgolion' yw hon. Rwyf i yn deall realiti llymder, ond rwyf hefyd yn grediniol mai adeg o lymder yw’r amser pwysicaf i fuddsoddi yn ein plant a’n pobl ifanc, er mwyn eu harfogi nhw a’u hymbweru nhw i adeiladu dyfodol gwell a mwy llewyrchus na’r un y maen nhw wedi ei etifeddu. Ac os na fydd y Llywodraeth yma yn blaenoriaethu ariannu addysg yn ddigonol, yna mi fyddwn ni i gyd yn talu’r pris.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i gefnogi ysgolion a chodi safonau:
a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau babanod;
b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau ysgolion;
c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;
d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a
e) buddsoddi mwy na £90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf difreintiedig Cymru.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Galwaf ar Mark Reckless i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. Rwyf hefyd yn canmol Plaid Cymru ar eu cynnig, ac rydym yn cytuno ag ef. Fe ofynnaf iddynt ddeall mai ein hunig reswm dros bleidleisio fel arall fydd er mwyn sicrhau pleidlais ar ein gwelliant ein hunain.
Mae'r argyfwng ariannu ysgolion yng Nghymru yn ddifrifol. Mae NASUWT Cymru yn cyfrif bod £678 o fwlch cyllid y disgybl bellach rhwng Cymru a Lloegr. Credwn ei bod yn bwysig nodi bod hynny er gwaethaf y fframwaith cyllidol newydd a gytunwyd gyda San Steffan sydd ar hyn o bryd yn darparu £1.20 o wariant y Llywodraeth yng Nghymru am bob £1 a werir yn Lloegr. O ystyried yr anghysondeb ymddangosiadol hwn, rhaid inni ofyn beth y mae'n ei awgrymu ynglŷn â lle mae addysg ar restr flaenoriaethau Llywodraeth Lafur Cymru. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant y Llywodraeth, ond mae'n bwysig nodi mai'n anfoddog y cytunwyd i lawer o'r arian ychwanegol y cyfeiriant ato yn y gwelliant gyda ein hunig AC Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn sicrhau bod y Blaid Lafur yn parhau mewn grym.
Gwn fod Llafur bellach yn rhedeg oddi wrth unrhyw beth a ddywedodd neu a wnaeth Tony Blair erioed, ond credaf y byddai llawer ohonom o amgylch y Siambr hon yn gwerthfawrogi pe baent yn gwneud eithriad ar gyfer 'Addysg, addysg, addysg'. Os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, efallai y dylai agor trafodaeth gydag eraill yn y Siambr hon ynglŷn â sut y gallwn wneud addysg yn flaenoriaeth uwch nag y byddai arweinydd Llafur newydd yn ei ganiatáu.
Yn ymarferol, beth y mae llai o arian y disgybl wedi ei olygu? Yn fwyaf amlwg, mae'n effeithio ar safonau, ac rydym wedi ei drafod droeon yn y Siambr hon. Rydym wedi llithro ymhellach y tu ôl i Loegr ym mhob un o sgoriau'r tair Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, ac mae'r gyfradd sy'n pasio TGAU ar raddau A* i C yn is nag y bu ers mwy na 10 mlynedd. Rydym hefyd yn gweld llai o ddewis i ddisgyblion. Rydym wedi gweld ysgolion yn cau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan leihau'r dewis o ran lle y gall plant gael eu haddysgu a chynyddu'r pellter y mae'n rhaid iddynt deithio. Dros 10 mlynedd, cafodd 157 o ysgolion a gynhelir eu cau, yn ôl ateb ysgrifenedig i Darren Millar, ac roedd 60 y cant o'r rheini mewn ardaloedd gwledig.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Wrth gwrs y gwnaf.
Ar wariant, sylweddolaf fod yr Aelod yn newydd i grŵp y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, ond heb fod mor bell yn ôl â hynny, roedd gan y Ceidwadwyr addewid i glustnodi gwariant iechyd yng Nghymru. Y canlyniad fyddai toriad enfawr yn y gwariant ar addysg. Felly, mae cryn dipyn o wyneb gan yr Aelod yn pregethu wrthym ynglŷn â lefelau gwariant ar iechyd a ninnau wedi ei amddiffyn ac wedi ei gynyddu.
Wel, y gwir amdani, yn gyffredinol, yw y ceir 20 y cant yn fwy o wario yng Nghymru a chafodd hynny ei ddiogelu o dan fframwaith cyllidol a gytunwyd gan Lywodraeth San Steffan. Os ydych am gymharu lefelau gwariant yng Nghymru a Lloegr, y gwahaniaeth mawr—a chlywsom beth o hyn yn gynharach—yw bod llywodraeth leol yn cael dyraniadau uwch yng Nghymru—buaswn yn cwestiynu pa mor effeithlon y defnyddir yr arian hwnnw mewn llawer o awdurdodau lleol—ac rydym wedi gweld toriadau yn y gwasanaeth iechyd nas gwelwyd yn Lloegr mewn termau real. Ac mae gennym y bwlch sylweddol iawn hwn yn y gwariant ar addysg. Lafur, rhaid i chi benderfynu beth yw eich blaenoriaethau, ac os yw addysg yn llai o flaenoriaeth i chi yng Nghymru nag ydyw i'r Ceidwadwyr yn Lloegr, ac yn llai o flaenoriaeth nag y byddem yn hoffi ei wneud yng Nghymru, yna dyna'r sefyllfa.
Rydym hefyd yn gweld llai o ddewis mewn addysg ôl-16. Yn fy rhanbarth i, Dwyrain De Cymru, y duedd yw i'r holl addysg ôl-16 mewn awdurdod lleol gael ei ddarparu gan un sefydliad addysg bellach. Nid wyf yn beirniadu sefydliadau penodol, ond mae llawer o resymau pam y gallech fod eisiau mynychu sefydliad penodol ar gyfer Safon Uwch, parhau i chweched ysgol neu beidio â bod eisiau mynychu coleg penodol. Oni bai bod myfyrwyr yn barod i deithio pellteroedd mawr y tu allan i ardal eu cyngor am addysg, yn rhy aml, caiff y dewis hwnnw ei gymryd oddi arnynt.
Ni ddylem gyfyngu ar allu plant yng Nghymru i gyflawni eu potensial ac i fynd ar drywydd eu breuddwydion a'u dyheadau eu hunain. Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod nad yw'r lefelau cyllido presennol yn ddigonol i gynnal system addysg gystal â gweddill y DU, heb sôn am yr un well y byddem oll yn dymuno ei gweld. Mae angen inni weithredu o ddifrif ac yn bendant yn awr os ydym am achub ein system addysg sy'n gwegian. Mae'n bryd i'r Ysgrifennydd addysg edrych y tu hwnt i'r meinciau Llafur os yw'n dymuno darparu system o'r fath.
Galwaf ar Michelle Brown i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Michelle Brown.
Gwelliant 3—Caroline Jones
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried:
a) y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu; a
b) y ffyrdd y gellir symleiddio'r cyllidebau a ddyrennir i awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion er mwyn lleihau biwrocratiaeth a defnyddio'r gyllideb addysgol gyffredinol yn fwy effeithiol.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n cynnig ein gwelliant yn enw Caroline Jones.
Mae UKIP yn credu mai'r bobl yn y system addysg ar bob lefel sydd â'r syniad gorau o ble mae'r gwastraff a lle y ceir unrhyw flaenoriaethau gwariant anghywir. Dyna'r bobl sy'n gwybod pa newidiadau sydd eu hangen i ryddhau mwy o arian ar gyfer addysgu rheng flaen. Un o'r pethau sydd wedi mynd o'i le yn y system addysg yng Nghymru yw bod penderfyniadau wedi'u gwneud hyd braich oddi wrth y rhai sy'n gwybod yn iawn beth sy'n digwydd. Rydym yn cefnogi llawer o gynnig Plaid Cymru felly, ond y rheswm yr ydym yn cynnig gwelliant, a'r rheswm pam y byddwn yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru, er bod angen ailystyried modelau ariannu, yw ein bod yn credu mai'r bobl sydd â'r atebion pragmatig a mwyaf effeithiol yw'r rhai sy'n gorfod gweithio gyda'r modelau ariannu hynny bob dydd. Dylid rhoi cylch gwaith digon eang iddynt fel eu bod yn rhydd i feddwl yn greadigol.
Mae'r ffaith bod Plaid Cymru yn sôn am edrych ar fodelau ariannu eraill yn awgrymu i mi fod ganddynt eisoes fodel ariannu dewisol dan ystyriaeth. Rydym yn cytuno y byddai lleihau biwrocratiaeth yn beth da, ac yn amlwg mae pawb ohonom am i'r system fod yn dryloyw, felly nid oes yr un o'r amcanion yn newydd. Ond unwaith eto, nid yw'r atebion ynglŷn â ble y dylid gwneud toriadau mewn biwrocratiaeth, a sut y gellir gwneud y system yn fwy tryloyw, i'w gweld yn y lle hwn; maent i'w canfod ymysg y rhanddeiliaid sy'n gorfod gweithio gyda'r system hon ddydd ar ôl dydd, wythnos ar ôl wythnos.
Nid yw gwelliant Llafur yn ddim llai na chyfaddefiad eu bod wedi mynd ati yn y ffordd anghywir, ac mae'n dweud eu bod yn rhoi camau ar waith i leihau'r llwyth gwaith ychwanegol y maent wedi ei greu, i leihau'r fiwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth y maent hwy eu hunain wedi ei gynyddu, ac i roi hwb i'r dysgu proffesiynol y maent wedi gadael iddo lithro dros yr 20 mlynedd diwethaf. Am y rheswm hwnnw, y ffaith mai hwy sydd wedi gadael i addysg lithro yng Nghymru, ni ellir ymddiried ynddynt i wybod sut i'w drwsio pan nad ydynt wedi gwybod sut i wneud hynny dros y ddau ddegawd diwethaf.
Mae gwelliant Llafur yn rhestru nifer o gamau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, ond buaswn yn awgrymu, pe bai'r mesurau hyn yn dwyn y ffrwyth sy'n ofynnol, na fyddem yn cael y ddadl hon bellach. Felly, er bod UKIP i raddau helaeth yn gefnogol i'r cynnig hwn, rydym wedi cynnig ein gwelliant i'w gwneud yn glir mai'r rhanddeiliaid perthnasol a ddylai wneud yr argymhellion i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn dod ag academyddion i mewn—academyddion teilwng iawn, rhaid i mi ddweud, ond unwaith eto, mae'r atebion ar y rheng flaen—i roi cyngor iddynt, fel mewn meysydd eraill o bolisi addysg.
Mae ein gwelliant yn cynnig bod rhanddeiliaid yn cael eu dwyn ynghyd ac yn darparu ar gyfer cylch gwaith ehangach ar gyfer y gwaith hwnnw, o ran ystyried sut y gellir symleiddio cyllidebau, yn hytrach na gofyn i'r rhanddeiliaid hynny ganolbwyntio ar faterion penodol biwrocratiaeth, er mwyn gwthio arian i ffwrdd oddi wrth reoli annirnadwy ac i mewn i addysg ddiriaethol. Felly fe ddywedaf eto: gadewch i'r rhanddeiliaid roi eu cyngor a gwneud eu hargymhellion yn rhydd oddi wrth unrhyw hoff gynnig a argymhellir oddi fry. Felly, gofynnaf i chi gefnogi ein gwelliant. Diolch.
Rwy'n derbyn bod gan Lywodraeth Cymru uchelgeisiau ar gyfer y cwricwlwm, y targed i gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, ac adnewyddu'r system ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Hoffwn weld llawer o'r dyheadau hyn yn cael eu cyflawni. Heb ariannu digonol, er hynny, nid yn unig ni fydd yr uchelgeisiau hyn yn cael eu gwireddu, ond byddwn yn gwneud cam â'r genhedlaeth nesaf. Yn ôl rheng flaen addysg, gan gynnwys yr undebau addysg—UCAC, NEU a Chymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon—mae yna argyfwng ariannu yn ysgolion Cymru.
Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar dri mater allweddol. Yn gyntaf, rwyf am gwestiynu sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl i unrhyw gwricwlwm newydd weithredu ochr yn ochr â thoriadau mor llym. Fe symudaf ymlaen i dynnu sylw at gyflwr ffisegol ofnadwy ein hysgolion a grëwyd gan y wasgfa ariannol hon. Ac yn olaf, rwyf am ddangos yr effaith y mae'r argyfwng cyllido hwn yn ei chael ar ysgolion yn y Rhondda.
Mae llawer o gynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer y newid i'r cwricwlwm i'w croesawu, ond gyda chyn lleied o arian, nid wyf yn rhy obeithiol ynglŷn â'i weithrediad. Rydym yn gwybod y bydd llai o oriau addysgu ar gyfer rhai pynciau, a gallai rhai pynciau ddiflannu'n gyfan gwbl. Mae cerddoriaeth, drama, ieithoedd tramor a phynciau galwedigaethol yn wynebu risg. Mae hyn yn bennaf oherwydd yr anawsterau i recriwtio athrawon arbenigol ac ysgolion yn methu cyfiawnhau cynnal cyrsiau gyda niferoedd bach o ddisgyblion. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at lai o opsiynau i ddisgyblion, yn enwedig ar gyfer Safon Uwch a TGAU, a cholli mwy byth o staff arbenigol yn sgil hynny. Hyd yn oed lle mae cyrsiau o'r fath ar gael, yn aml bu'n rhaid lleihau oriau addysgu gan na all ysgolion fforddio talu am athrawon arbenigol. Er mwyn gwrthbwyso'r toriadau, gofynnir i rai athrawon addysgu amrywiaeth ehangach o bynciau y tu hwnt i lefel eu harbenigedd, ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod hyn yn annheg i athrawon a disgyblion.
Efallai mai canlyniad mwyaf trawiadol yr argyfwng ariannu hwn yw cyflwr adeiladau ysgol. Nod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Cymru oedd darparu ysgolion modern diogel at y dyfodol, gyda phaneli solar a'r holl gyfleusterau gorau. Ni wireddwyd yr uchelgais hwnnw. Mae hen adeiladau ysgol annigonol yn lleoedd annymunol a pheryglus weithiau hyd yn oed i ddisgyblion a staff. Nawr, gwn nad oes angen imi argyhoeddi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag effaith gadarnhaol adeiladau ysgol, ond rwyf am dynnu sylw'n fyr at—[Torri ar draws.] Iawn.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y ceir ysgolion sydd mewn cyflwr tebyg i'r hyn yr ydych yn siarad amdano, a dylent fod ar fand A neu fand B o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond a ydych hefyd yn derbyn y ffaith bod yna ysgolion newydd sbon yn cael eu hadeiladu? Mae gennyf dair ysgol gyfun yn fy etholaeth, ynghyd â dwy ysgol gynradd newydd, sy'n gyfleusterau modern o'r radd flaenaf ar gyfer ein plant ifanc.
Wel, mae'n wych pan fydd plant yn cael yr ysgolion newydd hynny, ond mae yna lawer gormod o blant sy'n cael eu haddysgu mewn adeiladau annigonol a pheryglus. Canfu arolwg barn diweddar ledled y DU fod 90 y cant o athrawon yn credu bod ysgolion sydd wedi'u hadeiladu a'u cynllunio'n dda yn gwella canlyniadau addysgol. Felly, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein plant yn cael eu haddysgu mewn adeiladau nad ydynt yn niweidio eu haddysg neu eu hiechyd, waeth beth fo'r cyfyngiadau ar y gyllideb.
Rwy'n croesawu eich cyfeiriad at y Rhondda, ac yn wir at Rondda Cynon Taf, ond bydd eu rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn golygu, erbyn 2020, y byddant wedi buddsoddi £0.5 biliwn mewn ysgolion newydd. Dyma'r rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf aruthrol ers cenedlaethau. Does bosib nad ydych yn croesawu hynny'n fawr iawn fel rhywbeth sy'n gweddnewid y system addysg, yn enwedig yn Rhondda Cynon Taf.
Ond ni wnaiff hynny sicrhau bod pob plentyn yn cael ei addysgu mewn adeilad digonol, a dyna'r pwynt rwy'n ei wneud.
Mae'r wasgfa ariannol hon yn creu penderfyniadau anodd i ysgolion ar draws Cymru, nid yn unig yn y Rhondda, ond ysgrifennais at ysgolion yn fy etholaeth yn ddiweddar ac roeddwn am nodi un neu ddau o'r ymatebion yma heddiw.
Mae un ysgol gynradd yn y Rhondda wedi gorfod gwneud toriadau o dros £15,000, gan gynnwys cwtogi oriau'r gofalwr ysgol i arbed £5,000. Mae'r pennaeth yn rhagweld toriadau pellach dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hon yn ysgol newydd, ond mae angen paentio'r tu mewn a gosod carpedi newydd, ac ni ellir fforddio gwneud hynny. Er bod yr ysgol honno'n wynebu toriadau, mae nifer y disgyblion yn cynyddu.
Mae Ysgol Gyfun Treorci yn wynebu penderfyniadau yr un mor anodd—cafodd £230,000 ei dorri eleni, heb unrhyw ostyngiad cyfatebol yn nifer y disgyblion. Byddai hyn yn waeth o lawer pe na baent wedi treulio llawer iawn o amser ac ymdrech yn cynhyrchu incwm annibynnol drwy staff a gwirfoddolwyr. Disgwylir toriadau pellach, gyda'r awdurdod lleol yn nodi y bydd yn gwneud yr hyn y mae'n ei alw'n 'arbedion effeithlonrwydd yn seiliedig ar ysgolion'.
I ryw raddau, rwy'n cydymdeimlo ag Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cydnabod bod San Steffan, drwy ei pholisi cyni, wedi gweithredu toriadau didostur sydd wedi rhoi pwysau ar ein cyllid, ond faint yn rhagor y gall ein hysgolion ei gymryd? Ni allwn fforddio gweld addysg cenedlaethau'r dyfodol yn dioddef oherwydd cyni. Rwy'n erfyn ar Ysgrifennydd y Cabinet felly i edrych eto ar y toriadau hyn sy'n cael eu gorfodi ar ein hysgolion ac i wneud popeth yn ei gallu i'w gwyrdroi.
Lynne Neagle.
Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod â diddordeb brwd iawn mewn materion cyllido ers inni gael ein sefydlu. Roedd un o'n hymchwiliadau cynharaf yn ymwneud â'r penderfyniad i gyfuno cyllid y grantiau a oedd wedi'u clustnodi'n flaenorol ar gyfer dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr sy'n Sipsiwn a Theithwyr yn y grant gwella addysg newydd ac ers i'r penderfyniad gael ei wneud yn y gyllideb fwyaf diweddar i roi'r arian hwnnw yn y grant cynnal refeniw, rydym wedi cynnal deialog gyson gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac yn parhau i graffu ar effaith y penderfyniad hwnnw ar y grwpiau hynny o ddysgwyr.
Yma, ar 4 Gorffennaf, rydym yn mynd i fod yn trafod ymchwiliad mawr y pwyllgor i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc. Mae'r argymhelliad cyffredinol yn hwnnw yn galw am sicrhau bod cyllid wedi'i glustnodi ar gael i ysgolion fel y gallant ddod yn ganolfannau cymorth iechyd emosiynol a meddyliol ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc, oherwydd pan fydd y system dan bwysau, rydym yn cydnabod na fydd yn bosibl i'n hathrawon fuddsoddi'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gwaith hwnnw a hefyd fel rhan o'r ymchwiliad, roedd hi'n amlwg fod yna lawer iawn o ymarfer da yng Nghymru o ran cefnogi pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl ond bod llawer o hynny hefyd yn cael ei ariannu drwy bethau fel y grant amddifadedd disgyblion. Clywsom fod yna ysgolion nad oeddent yn gallu cyflawni'r rôl honno am nad oedd ganddynt fynediad at y grant amddifadedd disgyblion.
Bydd ein hymchwiliad diweddaraf i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf, ac roedd digon o gyllid i ysgolion yn thema gref iawn drwy gydol yr ymchwiliad hwnnw, gyda llawer o dystiolaeth yn cael ei rhoi i'r pwyllgor fod pethau fel y grant amddifadedd disgyblion yn cael ei ddefnyddio bellach o ganlyniad i'r pwysau ar gyllidebau ysgol mwy cyffredinol. Felly, o ganlyniad i hynny, rwy'n falch iawn fod y pwyllgor wedi penderfynu mai dyma'r amser i ni edrych yn fwy trylwyr ar ariannu ysgolion. Fel y bydd Llyr a Mark yn gwybod, yfory byddwn yn trafod y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad— ymchwiliad eang a phellgyrhaeddol—i ddigonolrwydd cyllid ysgolion yng Nghymru, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i'r gwaith hwnnw gael ei wneud yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a chredaf mai ein pwyllgor fydd y bobl iawn i wneud y gwaith hwnnw.
Mae'n rhaid imi anghytuno â chyfraniad Mark Reckless. Credaf fod gan y Ceidwadwyr Cymreig wyneb i ddod i'r Siambr a rhoi pregeth i ni ar record y Llywodraeth hon yn ceisio diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb mwy nag erioed o gyni o San Steffan. Buaswn yn awgrymu, Mark Reckless, y byddai'n well i chi ddefnyddio eich ymdrechion yn pregethu wrth y rheini yn San Steffan sy'n trosglwyddo'r toriadau cyllidebol parhaus hyn i ni.
A wnaiff yr Aelod ildio? Mae ein hymdrechion wedi cael eu defnyddio i gael cytundeb cyllidol lle rydym yn cael £1.20 o wariant Llywodraeth yng Nghymru o gymharu â £1 yn Lloegr ar hyn o bryd. Nawr, fe ofynnaf iddi: a yw hi'n credu bod gwario mwy na £600 yn llai fesul disgybl yng Nghymru nag yn Lloegr yn iawn neu'n rhywbeth y mae hi a'i Llywodraeth yn falch ohono?
Wel, rhaid i mi ddweud nad wyf yn cydnabod yr haelioni rydych wedi'i ddisgrifio gan Lywodraeth San Steffan, a chredaf ei bod hi'n anodd iawn gwneud cymariaethau rhwng Cymru a Lloegr ar ariannu ysgolion, a dyna un o'r rhesymau pam y credaf fod yr ymchwiliad hwn mor bwysig. Rhaid inni fynd at wraidd beth yn union sy'n cael ei wario, faint sy'n mynd i'r grant cynnal refeniw, faint mewn gwirionedd sy'n cyrraedd y rheng flaen ar gyfer ein disgyblion, oherwydd lle rwy'n cytuno'n llwyr gyda Leanne Wood yw bod gennym agenda ddiwygio uchelgeisiol iawn yng Nghymru—nid yn unig y cwricwlwm newydd ond hefyd y cynlluniau ar gyfer hyfforddiant athrawon, datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae'n sicr yn wir y bydd angen cyllid ychwanegol ar y cynlluniau hynny. Rwy'n cydnabod ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu'r cynlluniau hynny. Mater i Lywodraeth Cymru gyfan yw hyn. Rwy'n gobeithio y caiff gwersi eu dysgu wrth i ni fynd i mewn i'r cylch cyllidebol am rai o'r penderfyniadau a wnaed i roi pethau yn y grant cynnal refeniw, ac ni chredaf fod hynny wedi gweithio er lles ein disgyblion mwyaf agored i niwed y tro hwn. Ond mae angen inni edrych yn ehangach yn awr ar sut yr ariannwn ein system addysg gyfan yng Nghymru—
A wnaiff yr Aelod ildio? Ar y pwynt hwnnw, rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae newydd ei ddweud ynglŷn â'r pwyllgor yn edrych ar ariannu addysg. Credaf y byddai gan y Pwyllgor Cyllid ddiddordeb mewn edrych ar eich casgliadau yn ogystal. Ond ar y pwynt y mae newydd ei wneud, fe fydd hi'n gwybod—oherwydd mae hi wedi ysgrifennu ataf fel Cadeirydd y pwyllgor cyllid—fod ei phwyllgor wedi gofyn y cwestiynau cywir am symud arian o fewn y grant cynnal refeniw, ond i fod yn onest, ni chawsant yr atebion cywir o ran esboniad eglur a llawn o ble'r oedd yr arian hwnnw'n mynd. A yw hynny'n rhywbeth y byddai'n edrych i weld yn awr yn y cylch cyllidebol newydd—esboniad cliriach o lawer ynglŷn â sut y mae'r arian hwn yn cael eu defnyddio?
Wel, fel y mae Simon Thomas yn gwybod, mae un o'r materion allweddol yr ydym wedi'i godi gyda Llywodraeth Cymru yn ymwneud â holl dryloywder y ffordd y pennir y gyllideb, ac rwy'n gobeithio, yn y cylch cyllidebol y byddwn yn mynd i mewn iddo, y byddwn yn fwy tryloyw ac y gallwn graffu'n well ar y penderfyniadau hynny. Hefyd, rwy'n gobeithio y bydd ein hymchwiliad yn gwneud gwahaniaeth mawr, oherwydd mae buddsoddiad mewn addysg yn fuddsoddiad yng nghyfleoedd bywyd ein pobl ifanc, ac nid oes dim sy'n bwysicach na hynny.
Fe ddylai lles ac addysg ein disgyblion mewn ysgolion ar draws Cymru fod ar flaen ein meddyliau ni yn y Cynulliad yma. Mae ysgolion Cymru wedi wynebu sefyllfa ariannol heriol ers nifer o flynyddoedd, ac yn barod wedi gwneud arbedion mawr. Mae'r arweinwyr a staff yr ysgolion wedi gwneud eu gorau o sefyllfa anodd dros ben er mwyn diogelu addysg a lles disgyblion, ond mae'r sefyllfa wedi cyrraedd pwynt ble mae'r effaith ar y proffesiwn a'r disgyblion fel ei gilydd mor niweidiol fel bod yn rhaid ystyried y sefyllfa fel un o argyfwng erbyn hyn.
Mae'r sefyllfa yn deillio o'r setliad ariannol mae awdurdodau lleol wedi'i dderbyn gan Lywodraeth Cymru, sydd, yn ei dro, yn deillio o'r setliad gan Lywodraeth San Steffan. Rydym ni'n gwybod hynny, ond mae angen i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb dros geisio taclo'r argyfwng sy'n wynebu'r byd addysg heddiw.
Mewn llythyr at Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros addysg, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn dweud mai awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gyllido ysgolion, ac mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i awdurdodau lleol wneud yn siŵr bod darpariaeth ddigonol ar gael ar gyfer anghenion pob dysgwr. Er mwyn sicrhau hynny, wrth gwrs, mae angen sicrhau bod y cynghorau yn derbyn digon o arian. Mewn adroddiad gan Wasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025, fe edrychwyd ar gyllidebau cynghorau rhwng 2009-10 a 2016-17. Dros y cyfnod yma, roedd cynnydd o 48 y cant ar wariant y gwasanaeth iechyd, ac roedd ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn gwariant ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Ym maes addysg, roedd ymrwymiad penodol i gynyddu gwariant ar ysgolion dros 1 y cant uwchben y newid yng nghyllideb bloc Cymru, bloc a oedd yn crebachu.
Nid oedd dim ymrwymiad i amddiffyn cyllidebau cynghorau, ac erbyn 2016-17 roedd grantiau gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 17.1 y cant, gostyngiad o bron i draean yr holl wariant ar ysgolion gan gynghorau Cymru. Er i gynghorau ddefnyddio trethi cyngor a mesurau eraill i wneud i fyny am hyn yn rhannol, roedd yn dal i fod £529 miliwn yn llai o arian yn 2016-17 o'i gymharu â 2009-10. Mae hyn bron gymaint â'r holl wariant gan gynghorau yng Nghymru ar wasanaethau cymdeithasol i bobl hŷn. O ganlyniad, fe ddisgynnodd gwariant llywodraeth leol ledled Cymru tua £223 y pen, ac, er gwaethaf ymdrech cynghorau Cymru i osgoi salami-slicing a diogelu ysgolion a gofal, fe ddisgynnodd gwariant ar gyllidebau ysgolion 4.4 y cant, neu £254 y pen. Fe ddefnyddiwyd arian wrth gefn yn yr ysgolion, ac fe ddisgynnodd cronfeydd wrth gefn ysgolion 41.3 y cant yn y cyfnod dan sylw. Mae hyn i gyd yn arwydd clir o’r argyfwng ariannol sy’n wynebu ein hysgolion ni.
Yn ôl yr un un adroddiad, fe wnaeth ymrwymiad y Llywodraeth flaenorol i warchod cyllidebau ysgolion rywfaint o wahaniaeth, ond nid oes ymrwymiad o’r math mewn lle gan y Llywodraeth bresennol, ac felly mae’n ddealladwy bod undebau, y gweithlu addysg, rhieni a disgyblion yn bryderus iawn ynglŷn â’u hysgolion.
Yn y tymor byr, mae angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gymryd camau i sicrhau bod y wybodaeth sydd ar gael i ysgolion mor llawn â phosib, mor dryloyw â phosib, fod y wybodaeth yna yn gyflawn, ac maen nhw angen cael y wybodaeth yna mor gynnar â phosib fel bod ysgolion yn gwybod beth ydy’r gyllideb yn mynd i fod. Mae UCAC, er enghraifft, wedi galw am ystyried y posibilrwydd o osod cyllidebau bob tair blynedd, ac mae rhai awdurdodau lleol yn llwyddo i fedru cynllunio ymlaen ar hyd y graddau yna.
Mae angen hefyd i Lywodraeth Cymru gynnal archwiliad llawn o sefyllfa ariannol ysgolion Cymru, ar y cyd â rhanddeiliaid, a hynny fel y cam cyntaf tuag at geisio datrys yr argyfwng ariannol yn ein hysgolion ni.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ddydd Llun, cefais y fraint fawr o ymweld ag Ysgol Gynradd Adamsdown, ychydig i fyny'r ffordd yma, yng nghymuned Sblot. Diolch i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru o £2.8 miliwn, mae disgyblion ac athrawon yno yn elwa o estyniad newydd i'r ysgol a chyfleusterau awyr agored sydd wedi'u gwella'n fawr mewn ymateb i dwf sylweddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion yn y rhan honno o'r ddinas. Mewn trafodaeth gyda'r pennaeth, Mrs Thomas, a chyfarfod â staff a disgyblion, cefais fy nharo gan yr ymrwymiad i ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr ar draws yr hyn sy'n boblogaeth gyfnewidiol ac amrywiol. Roedd hyn yn cynnwys disgyblion o gefndiroedd ffoadurol, ac roeddwn wrth fy modd yn cael cyfarfod â bachgen ifanc o Syria. Roedd wedi ei barlysu o'r canol i lawr, ac ni allwn ond dechrau dychmygu'r trawma y mae'r bachgen bach hwnnw wedi bod yn dyst iddo yn ei fywyd. Yn wir, pan gyraeddasom yr ysgol, cyrhaeddodd ef mewn pram, nid oedd yn gadair olwyn briodol hyd yn oed. Ond gyda'r Saesneg y mae wedi ei ddysgu, mae wedi dweud wrthyf sut oedd ei addysg yn Adamsdown, sut oedd y system addysg yng Nghymru, yn ei wthio ymlaen ac yn caniatáu iddo osod nodau ac uchelgeisiau newydd. Dywedodd wrthyf am y synau newydd yr oedd yn eu dysgu y diwrnod hwnnw.
Lywydd, nid oes angen i neb yn y Siambr hon ddweud wrthyf pa mor galed y mae ein hathrawon yn gweithio o ddydd i ddydd ar ran plant a phobl ifanc Cymru. Ac nid oes angen i neb ddweud wrthyf fod yn rhaid inni ymladd am bob ceiniog i fynd i'r rheng flaen honno yn wyneb cyni sy'n parhau gan y Torïaid yn San Steffan. Ac nid oes angen i neb ddweud wrthyf fod angen yn wir inni ddwyn ein holl bartneriaid ynghyd mewn ymdrech i godi safonau i bawb a sicrhau ein bod yn parhau i gyllido ein hysgolion a'n hathrawon yn briodol.
Felly, yn gyntaf, hoffwn gywiro ambell beth. Ar y cyd, fel Llywodraeth, rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod cymaint o adnoddau â phosibl yn mynd i awdurdodau lleol, boed hynny yn y cyfanswm cyffredinol a roddir iddynt yn y grant cynnal refeniw, neu drwy gyflwyno a gweithredu cyllid gwaelodol er mwyn sicrhau bod rhai awdurdodau lleol yn cael eu hamddiffyn yn well rhag toriadau nag a fyddent fel arall oherwydd y fformiwla ariannu.
Nawr, caiff y fformiwla ar gyfer dosbarthu arian craidd i awdurdodau lleol ei datblygu a'i chytuno mewn ymgynghoriad â llywodraeth leol drwy Gyngor Partneriaeth Cymru a'i is-grŵp. O fewn y system hon, mae yna botensial i wneud newidiadau sylweddol i'r fformiwla ariannu, ond rhaid gwneud hyn gyda chefnogaeth ar y cyd gan lywodraeth leol drwy'r trefniadau partneriaeth sydd gennym ar waith. Hyd yma, nid ydym wedi cael neges gyson ar hyn gan ein partneriaid llywodraeth leol, ond byddwn yn parhau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
A fyddech yn cydnabod mai llais lleiafrifol yn unig sydd gan y lleiafrif sy'n cael leiaf ac sy'n dioddef fwyaf yn ariannol—a cheir bwlch cyllido mewn cyllidebau dirprwyedig i ysgolion o dros £1,000 y disgybl rhwng y rhai a ariennir orau a'r rhai a ariennir waethaf? Mae'n amlwg nad yw'r rhai sy'n cael budd yn mynd i gynorthwyo oherwydd nid oes digon o gymhelliant iddynt wneud hynny. Felly, mae angen inni fod yn wrthrychol ynglŷn â hyn a gweld pa mor effeithiol y defnyddir yr arian sy'n bodoli yn deg ac yn gyfartal ar draws Cymru gyfan i dargedu anghenion pob disgybl.
Mark, gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn fwy na pharod i drafod unrhyw newidiadau i'r fformiwla ariannu ar gyfer gwariant cyffredinol gyda'r teulu llywodraeth leol neu, yn wir, y data a ddefnyddir i gyfrifo gwariant tybiannol ar addysg. Mae'r hyn yr ydych yn sôn amdano—y gwahaniaeth o ran ariannu rhwng ysgolion unigol—yn dangos cymhlethdod y system addysg yng Nghymru a pham y byddai'n eithriadol o anodd dod o hyd i un fformiwla ariannu genedlaethol. Sut y gallwch ddod o hyd i un fformiwla ariannu ar gyfer anghenion ysgol mewn ardal neu ysgol ddifreintiedig iawn, fel yr un yn Adamsdown, lle mae'r plant yn siarad 44 o ieithoedd gwahanol, o'i gymharu â heriau darparu addysg mewn ysgol wledig fach iawn lle mae'n anochel y bydd y gost fesul disgybl yn yr ysgol honno gryn dipyn yn uwch nag y byddai mewn sefydliad mwy o faint? Hynny yw, ni allwn, Mark—ni allwn ddefnyddio'r amgylchiadau heriol hyn mewn perthynas â chyllid fel esgus. Yn fy etholaeth i, gwn fod yr ysgol uwchradd sy'n cael y canlyniadau gorau yn gyson yn dweud wrthyf, oherwydd y system a ddefnyddir gan Gyngor Sir Powys, mai hwy yw'r ysgol sy'n cael y lleiaf o arian fesul disgybl, ond mae eu canlyniadau, y canlyniadau ar gyfer eu plant, yn well na rhai pawb arall.
Ond fe geisiaf wneud rhywfaint o gynnydd. Fe fyddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol, consortia rhanbarthol ac ysgolion i sicrhau y gwireddir ein gweledigaeth ar gyfer gwella canlyniadau addysgol i bob dysgwr yng Nghymru. Llyr, rwyf am eich sicrhau, lle y ceir pryder fod arian naill ai'n cael ei gadw mewn modd amhriodol ar lefel llywodraeth leol, neu'n cael ei gadw mewn modd amhriodol ar lefel consortia rhanbarthol, yna byddwn yn mynd i mewn i edrych i weld sut yn union y mae'r arian hwnnw yn mynd i'r rheng flaen neu fel arall, a cheir consortia rhanbarthol ar hyn o bryd lle rydym yn gwneud y gwaith hwnnw fel y gallwn fodloni ein hunain fod fy uchelgais i gael cymaint o adnoddau i gyllidebau ysgolion unigol yn cael ei wireddu.
Rydym yn darparu mwy na £187 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf drwy'r grant datblygu disgyblion i helpu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a byddwn yn buddsoddi £225 miliwn drwy'r grant gwella addysg. Rydym hefyd yn buddsoddi £36 miliwn i leihau maint dosbarthiadau, wedi'i dargedu at yr ardaloedd a fydd yn elwa fwyaf, ac mae athrawon ychwanegol yn cael eu cyflogi ledled Cymru i'n helpu gyda'r nod hwn. Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydym yn buddsoddi £100 miliwn i godi safonau mewn ysgolion, ac mae mwy na hanner y buddsoddiad hwn yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer gwella addysgu a dysgu, oherwydd rwy'n cydnabod mai ein hathrawon yw'r cyfryngau newid a gwella mwyaf un yn yr ystafell ddosbarth.
Nawr, siaradodd Leanne, yn hollol briodol yn ei chyfraniad am y diwygiadau uchelgeisiol rydym yn eu cyflawni i'r cwricwlwm, a Leanne, byddwn yn sicrhau, dros y ddwy flynedd nesaf, fod yr £20 miliwn yn cael ei fuddsoddi'n benodol ar weithrediad y gwaith cwricwlwm a pharodrwydd ar ei gyfer. Gwn hefyd fod materion cynnal a chadw ysgolion yn llyncu amser a chyllid—yn wir, soniodd Leanne am hyn ei hun yn y cyfraniad a wnaeth—yn hytrach na'u bod yn mynd tuag at gefnogi dysgwyr. Nawr, rwyf am i athrawon beidio â phoeni am doeau sy'n gollwng, rwyf am iddynt fod yn meddwl am eu disgyblion, am addysgeg ac am y cwricwlwm. Felly, dyna pam, ym mis Mawrth, y rhyddhawyd £14 miliwn ychwanegol gennym i'w ddyrannu'n uniongyrchol i ysgolion. Helpodd hyn i ymdrin â materion cynnal a chadw ar raddfa fach, gan leddfu'r pwysau ar gyllidebau, ac fe elwodd pob ysgol ledled Cymru o'r arian hwnnw, ac aeth yn uniongyrchol i'r rheng flaen.
Soniodd Leanne am gyflwr adeiladau ein hysgolion hefyd. Wel, Leanne, ein rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw'r buddsoddiad unigol mwyaf mewn adeiladu ysgolion a cholegau newydd ers y 1960au—buddsoddir £1.4 biliwn dros fand—[Torri ar draws.]
Yn ddiweddar ysgrifennais atoch am ysgol yr ymwelais â hi lle y cwympodd lwmp mawr o goncrit o'r nenfwd a glanio ar y llawr, a phe bai'r disgyblion wedi bod yn yr ysgol ar y pryd, gallai fod wedi achosi anaf difrifol neu hyd yn oed yn waeth. A ydych yn dweud nad yw honno'n broblem?
Wrth gwrs nad wyf yn dweud nad yw'n broblem. Rwy'n dweud beth yr ydym yn ei wneud am y peth, ac fel y dywedais, ym mand A byddwn yn gwario £1.4 biliwn ar ysgolion a cholegau ledled Cymru. Bydd band B y rhaglen yn gweld buddsoddiad ychwanegol o £2.4 biliwn mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru, a dyna'r buddsoddiad unigol mwyaf, fel y dywedais, yn ein hystâd ysgolion ers y 1960au. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol ar nodi'r blaenoriaethau sydd ganddynt yn eu hardaloedd lleol lle mae angen adeiladu ysgolion newydd, ac adnewyddu neu ehangu ysgolion. Os oes gennych bryderon ynglŷn ag ysgolion unigol yn eich etholaeth chi, rwy'n awgrymu eich bod yn cael sgwrs gyda'r awdurdod lleol i gadarnhau beth yw eu cynlluniau i'w cyflwyno i'r Llywodraeth hon, oherwydd bydd y cynlluniau yr wyf wedi rhoi ymrwymiad iddynt yn cael eu hariannu gan y Llywodraeth hon.
Ond os nad ydynt yn rhoi blaenoriaeth i addysg cyfrwng Cymraeg, beth rydych chi'n ei wneud wedyn?
Wel, mae'r Aelod, ar ei heistedd, yn sôn am hybu addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol fod gennym gronfa newydd uniongyrchol ar gyfer ehangu lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg i gefnogi uchelgais y Llywodraeth i weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gennym gronfa benodol ar gyfer hynny y gall awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau iddi, ac rwy'n falch o ddweud bod awdurdodau lleol wedi dangos cryn dipyn o ddiddordeb yn y rhaglen gyllid cyfalaf ychwanegol honno nad oedd yn bodoli flwyddyn yn ôl.
Mae'r broses sydd ar y ffordd ar gyfer datganoli cyflogau athrawon yn rhoi cyfle go iawn inni wneud hyn yn iawn a'i wneud yn dda, ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod Cymru yn lle deniadol i ddod i ddysgu, ac i gael dull cenedlaethol sy'n gweddu orau i anghenion Cymru.
Nawr, Lywydd, rwy'n tybio y dylwn droi at welliant y Ceidwadwyr o ran cwrteisi. Os na allant ddechrau hyd yn oed drwy gydnabod bod y gyllideb ar gyfer Cymru wedi cael ei gostwng dros £1 biliwn, nid wyf yn siŵr fod ganddynt goes i sefyll arni. Lee Waters, rydych yn hollol—[Torri ar draws.] Lee Waters, rydych yn llygad eich lle—y tro diwethaf y cafodd grŵp y Ceidwadwyr ddigon o ddewrder i gyhoeddi cyllideb amgen yn y Siambr hon, roeddent yn argymell toriadau llym i'r gyllideb addysg.
Lywydd—[Torri ar draws.]
Mae amser Ysgrifennydd y Cabinet ar ben, felly nid wyf yn meddwl bod amser i gael ymyriadau.
Lywydd, rwy'n cydnabod, hyd yn oed gyda'r adnoddau ychwanegol yr ydym yn eu rhyddhau, fod cyllidebau ysgolion o dan bwysau. Rwy'n deall hynny. Mae'n golygu dewisiadau anodd er mwyn sicrhau bod yr arian yn cyrraedd y rheng flaen mewn gwirionedd, a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda phenaethiaid, athrawon, undebau, consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar godi safonau ar gyfer pob disgybl unigol ym mhob ysgol unigol, ac rwy'n croesawu'r sylw y mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc yn ei roi i'r mater hwn. Yn wir, er nad ydym wedi clywed yn uniongyrchol gan Blaid Cymru heddiw beth fyddai eu cynnig ar gyfer model amgen mewn gwirionedd, nodaf fod Llyr wedi diystyru cyllid uniongyrchol i ysgolion, felly nid y model hwnnw y maent yn ei ffafrio. Ond rwy'n hapus i weithio gyda phobl ar draws y Siambr i edrych i weld sut y gallwn flaenoriaethu anghenion plant ein cenedl gyda'n gilydd. Drwy'r ymdrech gyfunol honno, byddwn yn gosod disgwyliadau uchel, byddwn yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a byddwn yn cyflwyno system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac yn mwynhau hyder y cyhoedd.
Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi clywed bod gennyf 90 eiliad i gloi, felly ymddiheuriadau am fethu ymateb i'r holl bwyntiau a wnaethpwyd, ond dechreuaf drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl.
Mae angen i mi ymateb i'r gwelliannau, felly fe wnaf hynny. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru. Yn ôl arfer Llywodraeth Cymru, mae'n dechrau gyda, 'Dileu popeth,' felly dyna pa mor bell yr af, mewn gwirionedd, ar ddarllen eich gwelliannau. Ond yr hyn y mae eich gwelliant yn ei wneud mewn gwirionedd yw rhestru llu o gronfeydd a chynlluniau ychwanegol rydych wedi'u rhoi ar waith. Mae llawer ohonynt yn gadarnhaol iawn, nid wyf yn amau, ond credaf ei fod yn dangos y pwynt rydym yn ceisio ei wneud yma. Mae'n tanlinellu'r ffaith pe bai'r cyllidebau craidd yn ddigon, na fyddem angen pot ychwanegol ar gyfer dosbarthiadau mawr, ni fyddem angen pot ychwanegol ar gyfer hyn a'r llall. Felly, rwy'n teimlo bod gwelliant y Llywodraeth yn gwneud ein pwynt ar ein rhan.
Mae gwelliant y Ceidwadwyr—wel, mae cymharu Cymru â Lloegr, yn y cyd-destun hwn, yn enghraifft o economeg gyntefig rwy'n credu, oherwydd nid ydych yn cymharu tebyg at ei debyg. Gadewch inni beidio ag anghofio, agenda gyni'r Torïaid sy'n gyrru ariannu ysgolion i lawr y ffordd dywyll hon yn y lle cyntaf. Mae i chi ddod yma a cheisio dweud wrthym fod y sefyllfa yn wahanol iawn yn Lloegr—wel, fe ddywedaf rywbeth wrthych: roeddwn yn darllen ychydig wythnosau yn ôl fod ysgolion yn Lloegr yn cau'n gynnar ar ddydd Gwener yn awr er mwyn torri costau. Felly, ni chymerwn unrhyw wersi gan y Torïaid ar yr hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr.
Unwaith eto, mae UKIP am ddileu'r rhan ganolog o'n cynnig, felly ni fyddwn yn eu cefnogi hwy.
Y gwir amdani yma, wrth gwrs, yw bod yr hinsawdd ariannu ysgolion presennol yn anghynaladwy. Mae cyllidebau'n lleihau, mae costau'n cynyddu, ac mae'r toriadau'n cynyddu'r pwysau ar weithlu sydd eisoes mewn trafferthion. Felly, beth a wnawn? A ydym am aros tan y gwelwn effaith hynny ar addysg ein plant, neu a ydym yn gweithredu yn awr ac yn ariannu ein hysgolion yn briodol er mwyn rhoi'r dechrau mewn bywyd y maent i gyd yn ei haeddu i'r genhedlaeth nesaf? Rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn cefnogi cynnig Plaid Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i'n symud i’r cyfnod pleidleisio.