– Senedd Cymru am 2:41 pm ar 17 Mawrth 2020.
Felly, pawb yn barod i symud ymlaen at y datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws. Ken Skates fydd yn gwneud y datganiad hwnnw.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod yna bwysau digynsail ar ein heconomi ni o ganlyniad i'r achosion o coronafeirws. Fe fydd llawer o gwmnïau yng Nghymru, rhai bach a mawr, yn ymdrin â chanlyniadau'r feirws hwn. O ganslo contractau hyd at gyfraddau cynyddol o salwch staff, o darfu mawr ar y gadwyn gyflenwi hyd at heriau sylweddol y llif arian, fe fydd yr argyfwng hwn yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae ein heconomi ni'n gweithio dros y dyddiau, yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Mae'n bosib na fydd cyfran sylweddol o'r boblogaeth sy'n gweithio yn gallu gweithio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn. Gan fod Cymru yn dibynnu'n arbennig ar fusnesau bach a chanolig, fe fydd yr effaith ar ein heconomi ni yn un sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau i ymdrin ag effeithiau coronafeirws.
Fy nghyngor i bob busnes yw defnyddio'r cymorth a'r cyngor sydd ar gael. Fe ddylai unrhyw fusnes yr effeithir arno gysylltu â llinell gymorth ffôn Busnes Cymru ar 03000 60 3000. Fe allan nhw helpu gyda chyngor ymarferol, o staffio hyd at gynllunio ariannol yn ogystal â chefnogaeth i'r gadwyn gyflenwi. Nawr, mae Banc Datblygu Cymru ar gael hefyd i helpu. Mae ganddo ecwiti ac arian ar gael i'w fenthyca ar unwaith i helpu busnesau drwy'r heriau llif arian a'r heriau eraill y gallan nhw fod yn eu hwynebu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Ddydd Llun, fe gyhoeddais y bydd Banc Datblygu Cymru yn rhoi seibiant o dri mis rhag gorfod ad-dalu cyfalaf i'r busnesau y maent yn eu cefnogi. Mae'r Banc yn cynnal tua 1,000 o fusnesau ar hyn o bryd ac fe fydd hyn yn eu helpu nhw—rhai o'n BBaCh lleiaf ni, sy'n amrywio o fanwerthwyr bwyd bychain i'r diwydiannau creadigol—i gael y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt. Heddiw, fe siaradais i â chadeirydd y Banc Datblygu i drafod mesurau pellach potensial y gallai fod angen inni eu cymryd yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac yna ddydd Iau, fe fyddaf i'n cael trafodaethau pellach gyda banciau'r stryd fawr a Banc Busnes Prydain. Fe fyddaf i hefyd ddydd Iau yn cael cyfarfod cyngor brys ar ddatblygiad economaidd i ddarparu fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth fusnes a thrafod atebion ymarferol i'r heriau sy'n ein hwynebu ni.
Rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o drafodaethau â sefydliadau busnes a phartneriaid cymdeithasol, a thrwy ein tair swyddfa ranbarthol, rydym ni'n casglu gwybodaeth fusnes i lywio ein camau lliniaru ni a'r camau nesaf. Fe wnes i gyfarfod â'm huwch dîm arweinyddiaeth yn adran yr Economi a Thrafnidiaeth ddoe ac fe gafwyd cadarnhad y bydd timau'r tasglu ymateb rhanbarthol a sefydlwyd yn ystod ein paratoadau ni ar gyfer Brexit bellach yn mynd ati i gefnogi'r anghenion o ran diswyddiadau a sgiliau wrth iddyn nhw ymddangos. Mae ein cyngor ni ar gael drwy ReAct a Gyrfa Cymru, ac rwyf wrthi'n archwilio ffyrdd o wella'r dulliau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae ein trafodaethau ni â grwpiau busnes a'r wybodaeth a gafwyd ganddynt wedi ein helpu ni i lywio'r pecyn cymorth gwerth £200 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid. Yn rhan o'r pecyn hwnnw, fe fydd busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael 100 y cant o ryddhad ardrethi, ac fe fydd tafarnau â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 yn eu bil. Fe fydd £100 miliwn arall ar gael ar gyfer cynllun grant newydd i fusnesau bach. Pa bynnag gyllid canlyniadol pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gymorth i fusnesau, fe fyddwn ni'n ei glustnodi ar gyfer cymorth i fusnesau yma yng Nghymru drwy wella ein pecyn cymorth ni.
Nawr, fe allai hyn effeithio yn arbennig ar economi Cymru oherwydd y nifer uchel sydd gennym o swyddi gweithgynhyrchu ac amlygrwydd y sectorau modurol, hedfan a thwristiaeth. Yn ogystal â hyn, fe fydd y sefyllfa'n effeithio ar y gweithwyr mewn sawl ffordd, gan amrywio o salwch gweithwyr ac ynysu hyd at ofalu am blant nad ydyn nhw'n gallu mynd i'r ysgol efallai. Fe fydd rhai meysydd yn yr economi, lle nad oes modd i bobl weithio o gartref, yn wynebu her sylweddol.
Rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Fanc Lloegr. Er hynny, prin yw'r cyfle i gael ysgogiadau polisi ariannol i helpu, yn arbennig felly gan fod y cyfraddau llog ar lefel isel iawn eisoes. Mae maint yr her hon bellach mor fawr ac yn fater o gymaint o frys fel mai dim ond ymyriad polisi cyllidol enfawr gan Lywodraeth y DU all helpu busnesau ac unigolion i ysgwyddo baich yr hyn sydd i ddod. At hynny, mae ymateb sydd wedi'i chydlynu ag economïau mawr eraill yn fater o frys bellach ac yn debygol o fod yn llawer mwy effeithiol i leihau ansicrwydd a chynnal hyder defnyddwyr a busnes na chael gwledydd yn gweithredu ar eu pennau eu hunain.
Y brif flaenoriaeth economaidd i Lywodraeth y DU yw osgoi dirwasgiad mawr a difrod strwythurol hirdymor i'n heconomi ni. Mae hynny'n gofyn am ddull diffuant, gan y pedair gwlad, o gefnogi'r economi, ac mae'r diffyg gwybodaeth o du Lywodraeth y DU yn llesteirio'r ymdrech hon ar hyn o bryd. Fel Llywodraethau datganoledig, fe fyddwn ni'n gwneud ein rhan i helpu i ddefnyddio'r ysgogiad cyllid sylweddol hwnnw yn y ffordd fwyaf effeithiol. Gyda'n gilydd, mae angen inni ddod o hyd i ffordd o roi seibiant i fusnesau hyfyw yr effeithir arnyn nhw gan yr argyfwng hwn; ac amddiffyn cadwyni cymorth hanfodol a chadwyni cyflenwi a rhoi'r cymorth ariannol sydd ei angen ar yr unigolion y mae'r achosion hyn yn effeithio arnynt er mwyn eu galluogi i ddod trwyddi. Dyna'n union a ofynnais i Lywodraeth y DU yn ystod fy nhrafodaeth i â'r Ysgrifennydd Gwladol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y bore yma ac yn y llythyr a anfonodd y Prif Weinidog at Lywodraeth y DU yn gynharach heddiw.
Mae angen i Lywodraeth y DU weithio gyda Banc Lloegr i sicrhau bod y swm gofynnol o arian yn cael ei roi i'r system fancio, a'r lefel o hyblygrwydd sydd ei hangen i sicrhau bod busnesau hyfyw sy'n wynebu problemau llif arian yn goroesi. Fe fyddaf i'n pwysleisio yn fy nghyfarfod i â'r banciau yma yng Nghymru yr angen i sicrhau bod yr hylifedd ariannol ar gael.
O ran tâl salwch statudol, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi busnesau bach a chanolig a chyflogwyr i adfachu tâl salwch statudol a dalwyd am absenoldeb oherwydd salwch o ganlyniad i COVID-19. Fe fydd hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru ac fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod cyflogwyr yn sefydlu'r mecanweithiau ad-dalu cywir dros y misoedd nesaf a hynny cyn gynted ag y bo modd. Nawr, rwy'n annog Llywodraeth y DU yn gryf i ddefnyddio'r system hon i gefnogi'r unigolion mwyaf bregus a diamddiffyn yn economaidd.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun dros dro, sef cynllun benthyciadau ymyrraeth busnes i'w gyflenwi gan Fanc Busnes Prydain. Fe fydd hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru drwy gyfrwng Banc Busnes Prydain. Cafodd cynllun Amser i Dalu ei gyhoeddi hefyd sy'n golygu y gall pob busnes a phobl hunangyflogedig sydd mewn trafferthion ariannol a chyda rhwymedigaethau treth dyledus fod yn gymwys i dderbyn cymorth gyda'u materion treth drwy wasanaeth Amser i Dalu Cyllid a Thollau ei Mawrhydi. Mae hwn ar gael i fusnesau yng Nghymru hefyd.
Mae ein darparwyr trafnidiaeth yn wynebu heriau hynod anodd hefyd. Rwyf wedi bod yn cynnal sgyrsiau brys gyda phenaethiaid yn y diwydiant gan fod llai o deithio'n rhoi pwysau sylweddol ar gyllid ein gwasanaethau rheilffordd, bws a meysydd awyr mawr. Rwyf wedi siarad sawl gwaith â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru. Erbyn hyn, ledled y DU, gan gynnwys Cymru, mae nifer y teithwyr rheilffordd wedi gostwng hyd at 18 y cant ar rai llinellau eisoes. Mewn mannau eraill, mae Network Rail wedi lansio arolwg o'i gyflenwyr oherwydd pryderon ynglŷn â phrinder defnyddiau oherwydd y coronafeirws. Er gwaethaf yr effaith economaidd, mae ein gweithredwyr ni i gyd yn parhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf gan yr awdurdodau iechyd cyhoeddus a chyrff y diwydiant. Fe gafodd cynlluniau wrth gefn eu sefydlu ac mae Trafnidiaeth Cymru yn archwilio trefniadau lliniaru ar gyfer y dyfodol fel staffio a stocio, yn ogystal â dosbarthu offer diheintio ac offer ychwanegol i ddiogelu personél, ac adolygu gweithdrefnau glanhau.
Nawr, fe roddir cyngor i deithwyr yn rheolaidd, gan gynnwys yr ymgyrch 'Daliwch e, biniwch e, lladdwch e', drwy arddangos posteri mewn prif orsafoedd ac anfon negeseuon drwy Trydar a sianelau eraill o'r cyfryngau cymdeithasol. Mae tîm gweithredu traws-ddiwydiant wedi ei sefydlu i gyfathrebu'n ddyddiol i sicrhau eu bod yn barod i ymateb pe byddai'r sefyllfa'n newid, gan gynnwys cynllunio ar gyfer ystod o wahanol senarios.
Fe ellir dweud yr un peth am y diwydiant bysiau, gyda mwy o lanhau ar fysiau a chyhoeddiadau rheolaidd i atgoffa staff am arferion da o ran hylendid i atgoffa'r staff a deunyddiau glanhau ychwanegol, pethau fel potel o hylif i lanhau dwylo, ar gyfer gweithwyr rheng flaen, depos ac ardaloedd gweithio. Mae swyddogion wedi cyfarfod â grŵp y diwydiant bysiau, ac fe siaradais i ag aelodau uwch y diwydiant ddoe.
O ran maes awyr Caerdydd, fe siaradais i â'r Prif Swyddog Gweithredol a'i thîm dros y penwythnos, ac mae fy swyddogion i'n parhau i fod mewn cysylltiad agos drwy gydol yr wythnos hon. Fe adawodd methiant Flybe fwlch o 5.6 y cant yn ei refeniw, ac fe fydd yr argyfwng hwn yn rhoi prawf ar gynaliadwyedd pob maes awyr ledled y byd mewn ffordd sylweddol wrth i niferoedd y rhai sy'n hedfan ostwng yn enfawr. Yn ddiweddar, serch hynny, mae maes awyr Caerdydd wedi arallgyfeirio sail ei fusnes ac fe ddaw i gwrdd â'r argyfwng hwn â llai o ddyled na llawer o'i gymdogion yn y DU.
Fodd bynnag, fel mewn sectorau eraill, ni ddylem fod dan unrhyw gamargraff o ran maint yr her sydd o'n blaenau ni. Mae Tui wedi dweud y bydd yn ymatal â'r rhan fwyaf o'i weithrediadau, ac efallai y bydd yna weithredwyr eraill yn cymryd yr un camau yn yr wythnosau nesaf. Yn amlwg, rwy'n meddwl am y gweithwyr a'r teithwyr hynny yr amharwyd ar eu trefniadau teithio. Fe fyddaf i'n dal i fod mewn cysylltiad cyson â maes awyr Caerdydd a'r adran drafnidiaeth ynglŷn â materion hedfan a materion eraill sy'n ymwneud ag ymwelwyr.
Rwy'n gobeithio y bydd y datganiad hwn yn rhoi sicrwydd i Aelodau'r Senedd ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu economi Cymru a chyfyngu ar yr effaith ar unigolion a busnesau ledled Cymru. Pan ddaw'r gwaethaf o'r argyfwng hwn i ben, fe fydd yn rhaid inni edrych i'r dyfodol yn fuan—i'r economi decach, fwy tosturiol a mwy cyfartal sydd angen ei hadeiladu. Fel Llywodraeth Cymru, fe fyddwn yn chwarae rhan lawn yn y gwaith hwnnw.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, yn gyntaf, ac a gaf i ddweud, o'm rhan i fy hunan a'r meinciau hyn, ein bod ni'n awyddus i fod yn gefnogol i'r Llywodraeth a'i dull hi o weithredu? Yn amlwg, mae cydbwysedd, rwy'n credu, rhwng craffu ar y Llywodraeth, ond hefyd bod mor gefnogol i'r Llywodraeth ag y gallwn ar yr achlysur arbennig hwn. Mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd yn iawn. Rwy'n gobeithio y byddaf yn cael y cydbwysedd iawn heddiw yn fy nghwestiynau i chi.
Gweinidog, rydym ni'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, sef £250 miliwn i helpu busnesau a £225 miliwn ar ben hynny yn y gyllideb yr wythnos diwethaf, ac rwy'n croesawu ymrwymiad y Trefnydd yn fawr—ymrwymiad y Gweinidog Cyllid—a'ch ymrwymiad chithau hefyd y bydd unrhyw gyllid a ddaw fel swm canlyniadol yn cael ei neilltuo i fusnes. Mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn, ac rwy'n credu y bydd busnesau yn ddiolchgar am yr ymrwymiad hwnnw.
Roeddech chi'n sôn am yr un man—rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at hyn yn ei atebion ef hefyd i gwestiynau heddiw, am yr un man ar gyfer cael pob math o gymorth i fusnesau. A gaf i ofyn: a yw honno mewn gwirionedd yn siop un stop gyflawn? Pe byddai busnes yng Nghymru yn ffonio Busnes Cymru, a fyddai'n cael cyngor am feysydd hefyd nad ydyn nhw wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru? A fyddai'n cael ei gyfeirio'n gywir? A yw'n siop gwbl un stop? Rwyf i o'r farn mai felly y dylai fod, ac rwy'n gobeithio y gallwch chi ateb yn gadarnhaol ar y mater hwnnw.
Y mater arall, wrth gwrs, yw gallu Busnes Cymru i ymdrin â hyn, oherwydd, yn arbennig felly pan ddaw cyhoeddiadau pellach gerbron, efallai oddi wrth Lywodraeth y DU heno, fe fydd problem o ran capasiti Busnes Cymru i ymdrin â hynny. Felly, efallai y gallech chi siarad am y ffordd y byddwch chi'n trosglwyddo swyddogion o adrannau eraill i helpu ar linell Busnes Cymru ac yn sicrhau bod pobl yn cael ymateb amserol i'w ymholiadau. Os oes yna siop un stop, efallai y gallech chi ymhelaethu, hefyd, beth yn union sy'n cael ei gynnwys ar linell Busnes Cymru.
O ran y banc datblygu, rwy'n falch eich bod wedi cael cyfarfodydd ac rwy'n credu ichi sôn heddiw eich bod wedi siarad â'i gadeirydd. A gaf i ofyn, efallai, am ychydig mwy o fanylion am y capasiti i gael cymorth benthyciad ychwanegol gan y banc datblygu ei hun? Rwy'n sylweddoli bod yna gyhoeddiadau eraill i ddod yn ddiweddarach heddiw ac fe wn i y gallai'r wythnosau nesaf hyn newid y sefyllfa honno, ond fel y mae hi ar hyn o bryd, faint o gapasiti sydd yna i gynnig benthyciadau ychwanegol. Ac efallai y gallech roi rhagor o wybodaeth hefyd i fusnesau sydd â benthyciadau gyda Busnes Cymru ar hyn o bryd o ran cael saib oddi wrth dalu'r benthyciadau hynny'n ôl am gyfnod, ond cymorth hefyd i rai nad ydyn nhw'n gwsmeriaid i'r banc datblygu, ac a allai fod yn gwsmeriaid eto i'r banc datblygu o bosib.
O ran rhyddhad ardrethi busnes, rwy'n llwyr groesawu'r mesurau a amlinellodd y Gweinidog yn gynharach heddiw, y Gweinidog Gyllid. Rwy'n pryderu bod rhai busnesau, wrth gwrs, nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes, a sut y gellir eu cefnogi nhw, busnesau bach yn enwedig. Yn aml iawn, busnesau ydyn nhw sy'n unig fasnachwyr ac sy'n methu â chael tâl salwch hefyd—sut y gellid eu cefnogi nhw o bosib. Ond mae yna rai busnesau hefyd sydd â gwerth ardrethol o dros £50,000. Roeddwn i'n siarad ag un busnes dros y penwythnos, sydd â gwerth ardrethol o ychydig dros £50,000 fel mae'n digwydd, sydd wedi colli gwerth tua £80,000 o fusnes dros y misoedd nesaf, ac nid yw'n gallu gweld ffordd drwy hynny. Mae eisiau cael system sy'n cynnig rhyddhad yn raddol i'r mathau hynny o fusnesau hefyd. Mae'n ymddangos, oherwydd eu bod nhw ychydig dros y trothwy, y gallen nhw fod dan anfantais sylweddol, felly efallai y gallwn gael rhywfaint mwy o wybodaeth am hynny.
Rhowch eiliad imi, Llywydd, cefais fy ngalw ychydig yn gynt na'r disgwyl.
Cymerwch eich amser.
Diolch. I'r dyfodol, mae'n bosib y gellir gofyn sut y gallai strwythur Busnes Cymru newid a datblygu yn ôl y galw, hefyd. Rwy'n credu bod gwir angen helpu gweithgynhyrchwyr a'r diwydiant twristiaeth—dau ddiwydiant pwysig iawn i ni yng Nghymru—felly, unrhyw gyngor y gallwch ei gael yn hynny o beth. Yn ogystal â hynny, mae mater amseru'r cyhoeddiadau hefyd. Er fy mod i'n dymuno bod mor adeiladol ag y bo modd, rwy'n sylweddoli o ran ardrethi busnes fod Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr a Llywodraeth yr Alban ar gyfer yr Alban wedi cyflwyno cynlluniau yn llawer cynharach ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes. Rwy'n sylweddoli bod yn rhaid ichi gael y cydbwysedd rhwng siarad â busnesau a gwneud y cyhoeddiadau, ond os caiff y cyhoeddiadau eu gohirio am ychydig ddyddiau'n unig, yna mae'n amlwg bydd blychau llythyrau Aelodau'r Senedd yn orlawn gan negeseuon oddi wrth fusnesau sy'n bryderus sut fydd y rhyddhad hwnnw'n digwydd yn raddol ledled Cymru. Mae'n ymwneud â sut rydych chi'n cydbwyso'r ddau; rwy'n sylweddoli eich bod chi'n gorfod jyglo rhwng y ddau, ond mae angen cyhoeddi'r wybodaeth honno cyn gynted â phosib.
O ran trafnidiaeth gyhoeddus, Gweinidog, pe gallech chi, efallai, roi ychydig yn rhagor o wybodaeth inni am gynnal y gwasanaethau cyhoeddus a Thrafnidiaeth Cymru o ran sut y gallai'r problemau amrywio yno—rwy'n sylweddoli ei bod yn debygol na fydd yna broblem gyda threnau gorlawn, ond fe fydd yna broblem o ran rhai gwasanaethau, efallai, yn gorfod cael eu gohirio a'u haildrefnu. Hefyd, ceir rhywfaint o broblem ynghylch cludiant ysgolion y mae angen ei hystyried hefyd. Gwn, yn aml, efallai mewn rhannau gwledig o Gymru yn benodol, fod bysiau mini yn rhedeg yn llawn i'r ymylon, gyda phlant mewn lle cyfyng iawn. Ac fe wnaeth un etholwr fy hysbysu ei fod ef yn yrrwr bws mini ac yn 71 oed, ac mae hyn yn eithaf cyffredin yng nghefn gwlad Cymru—i yrwyr fod yn hŷn, neu o grŵp oedran hŷn. Felly mae'n amlwg bod angen rhoi ystyriaeth i hynny hefyd. Diolch ichi, Gweinidog.
A gaf i ddiolch i Russell George nid yn unig am ei gwestiynau, ond am ei gyfraniad hynod adeiladol y prynhawn yma? Mae Russell George yn llygad ei le fod yn rhaid inni gydweithio i drechu'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Gan fyfyrio ar rywbeth a ddywedodd Dr Dai Lloyd ychydig yn gynharach, rwy'n credu mai dyma fygythiad mwyaf ein hoes ni. Rydym mewn rhyfel i bob pwrpas, ac mae'n rhaid inni ddefnyddio ein holl allu ar y cyd i ymladd yn erbyn y coronafeirws. Mae hynny'n golygu cydweithio â Llywodraeth y DU, â llywodraeth leol, â'r gymuned fusnes a'r gymdeithas gyfan i ymdrin â'r her hon yn y byrdymor, a sicrhau y daw adferiad yn gyflym.
Llywydd, fe gododd Russell George nifer o bwyntiau pwysig. Yn gyntaf oll, fe hoffwn i grybwyll y gwaith a fydd gan Busnes Cymru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Dyma'r siop un stop ar gyfer pob cyngor a chymorth i fusnesau, ac fe fydd yn cyfeirio busnesau at gyrff eraill nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys, er enghraifft, Banc Busnes Prydain.
Rwy'n falch o ddweud, o ganlyniad i'r gwaith helaeth a wnaed o fewn y Llywodraeth i gynllunio ar gyfer Brexit 'heb gytundeb', ein bod wedi gallu modelu senarios amrywiol o ran gallu rhoi pobl i wasanaethu ar y rheng flaen, ac mae Russell George yn hollol iawn ynghylch yr angen i adlewyrchu'r galw, yn Busnes Cymru, a ddaw yn yr wythnosau sydd i ddod, ac felly, fe fydd yn rhaid cynyddu eu capasiti nhw i ymdrin â'r galwadau.
Mae gennym ni brofiad da o weithio mewn gwahanol dasgluoedd hefyd wrth inni ymyrryd ledled Cymru, ac mae honno eto'n sylfaen dda i ni, o ran gallu ymaflyd â busnesau yn gyflym a chynnig toreth o gymorth a chyngor i'w tywys nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Rydym wedi bod yn edrych yn fewnol hefyd ar sut y gallwn ni, dros dro, ailddyrannu adnoddau dynol mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau, o fewn fy adran i.
Nawr, o ran y gwaith sydd gan y banc datblygu wrth oresgyn yr her hon, fe fyddaf i'n cwrdd â'r banc datblygu eto ddydd Iau, ac fe fydd gennyf i hefyd—yn yr un ystafell, neu ar alwad cynhadledd ffôn—fanciau'r stryd fawr. Mae'n gwbl hanfodol bod ymyriadau a chynigion y banc datblygu yn plethu'n daclus gyda'r hyn y mae banciau'r stryd fawr yn ei gynnig hefyd. Ac fe fydd yna, rwy'n gobeithio, o ganlyniad i gyhoeddiad gan y Canghellor yn ddiweddarach y prynhawn yma, gyfalaf ychwanegol ar gael o fewn y banc datblygu yn yr wythnosau nesaf.
O ran ardrethi busnes, rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod yn llwyr. Mae'r cyhoeddiad a wnaeth Rebecca Evans neithiwr ynglŷn â'r cymorth ardrethi busnes yr ydym ni'n ei gynnig yn berthnasol i ddegau o filoedd o fusnesau yng Nghymru. Eto i gyd, megis dechrau yw hyn, ac mae taer angen y cynnig enfawr hwnnw o gyllid gan Lywodraeth y DU y mae Aelodau, gan gynnwys Alun Davies, wedi sôn amdano eisoes y prynhawn yma. Mae'r £300 biliwn yna a gyhoeddodd Arlywydd Macron neithiwr yn dangos pam mae'r £12 biliwn a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn gwbl annigonol, ac rwy'n obeithiol y bydd y Canghellor yn cyhoeddi pecyn enfawr o gefnogaeth y prynhawn yma.
Os gallwn ni sicrhau rhagor o adnoddau, fe fyddwn ni'n gallu eu defnyddio mewn ffordd sydd o fudd i fusnesau o bob math a maint, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion fodelu amryw o fesurau, gan gynnwys, fel enghraifft, foratoriwm dros dro ar bob trethiant ar fusnes am dri mis, ond fe fyddai hynny'n gofyn am adnodd ariannol sylweddol. A dyna pam rwy'n obeithiol y bydd y Canghellor yn hael y prynhawn yma gyda'r gefnogaeth angenrheidiol.
Rwy'n cytuno â Russell George hefyd fod rhai sectorau'n cael eu taro'n arbennig o galed. O ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru wrth gefnogi busnesau, ein cred ni yw y bydd yna ddau gam i'r her hon: yn gyntaf oll, y cyfnod o oroesi, ac yna'r cyfnod o adferiad. O ran y cyfnod o oroesi, fe fydd ton ar don lle bydd angen cefnogaeth ddwys ar rai sectorau. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld hynny yn yr economi gymdeithasol a'r sector gofal cymdeithasol a'r hunangyflogedig, a dyna pam rwy'n awyddus i fodelu'r £100 miliwn o gefnogaeth a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans ar gyfer y rhannau penodol hynny o economi Cymru. O ran yr 'economi gymdeithasol', yr hyn yr wyf yn ei olygu yw twristiaeth, gwestai, bwytai, digwyddiadau, caffis a thafarndai, yn ogystal â rhai rhannau o'r sector manwerthu a rhai meysydd allweddol eraill yn economi Cymru, wrth gwrs. Rwy'n benderfynol y gallwn ni ddefnyddio Busnes Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer dosbarthu arian hanfodol bwysig yn y busnesau hynny sydd ei angen.
O ran gwasanaethau trên, mae Russell George yn llygad ei le, os gwelwn ni nifer sylweddol o bobl yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch neu hunan ynysu, yna fe fydd angen inni wneud penderfyniadau anodd iawn o ran gwasanaethau rheilffyrdd, ac yn yr un modd, fe fyddai hynny'n berthnasol i wasanaethau bysiau hefyd. Mae gan Trafnidiaeth Cymru grŵp strategaeth. Maen nhw'n modelu senarios amrywiol, ac maen nhw'n cyfarfod yn ddyddiol i benderfynu pa gamau allai fod yn angenrheidiol. Ond fe fyddaf i'n ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am unrhyw benderfyniadau a wneir gan Drafnidiaeth Cymru. Maen nhw'n cyflogi miloedd o bobl, Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, ledled y wlad, ac nid oes amheuaeth gennym ni y bydd nifer sylweddol yn hunan ynysu neu'n dioddef o'r coronafeirws. Wrth gwrs, mae rhai o'r unigolion hynny a gyflogir â swyddi hanfodol ganddyn nhw, y gyrwyr trenau a'r gwarchodwyr yn benodol, ac os bydd yna ostyngiad sylweddol yn nifer y gweithwyr proffesiynol penodol hynny sy'n gallu gweithio, yna fe fydd hynny'n sicr o effeithio ar wasanaethau'r rheilffyrdd. Ond fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn rheolaidd iawn am effaith y coronafeirws ar ein rhwydwaith trafnidiaeth ni.
Yn olaf, fe siaradais i â Chydffederasiwn Cludiant Teithwyr y DU ddoe ynglŷn â'r rhwydwaith bysiau, ac mae'r pwynt a wnaeth Russell George am y gweithlu, proffil oedran y gweithlu, yn rhywbeth sy'n peri pryder i ni. Rydym yn gweithio gyda'r sector i nodi'r posibilrwydd o gael cefnogaeth i gael gyrwyr eraill pe bai llawer o yrwyr yn mynd yn sâl neu'n hunan ynysu. Mae hynny'n arbennig o wir, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yng nghefn gwlad Cymru, lle mae gennym nifer fawr o fusnesau bach a chanolig yn gweithredu, ac felly rydym yn canolbwyntio ein sylw ar yr ardaloedd gwledig hynny yn benodol ar hyn o bryd sydd eisoes yn wynebu mathau eraill o ynysu.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am ei atebion i Russell George. Rydym ni, fel y dywedodd ef, yn wynebu sefyllfa gwbl ddigynsail, ac roeddwn i'n falch iawn o'i glywed ef a'r Prif Weinidog yn cytuno â'r farn ar y meinciau hyn ac, yn fy marn i, ar draws y Siambr fod angen ymateb anferth i'r sefyllfa hon ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Nid ydym ni, yn llythrennol, y rhan fwyaf ohonom ni, wedi wynebu unrhyw beth fel hyn erioed. Mae pobl yn siarad am yr ail ryfel byd, ond ni all unrhyw un ohonom ni gofio sut beth oedd hynny mewn gwirionedd, ac rwy'n credu, yn wir, y bydd angen rhywfaint o'r raddfa honno o uchelgais ac ymateb arnom. Mae'r Gweinidog yn llygad ei lle wrth ddweud bod yn rhaid i hynny gael ei arwain gan Lywodraeth y DU.
Rwy'n awyddus i ganolbwyntio fy nghwestiynau i, Llywydd, ar y materion hynny sydd o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ond mae'n bosib y bydd rhai o'r cwestiynau hynny'n cyfeirio at ei drafodaethau ef a'i gydweithwyr gyda Gweinidogion y DU. Yn gyntaf, fe hoffwn i ddweud ein bod ni, yn amlwg, yn croesawu'r cyhoeddiad ar ryddhad ardrethi busnes, ond fel y mae eraill wedi ei ddweud eisoes, ni fydd hynny'n helpu llawer o fusnesau oherwydd nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes ar hyn o bryd. A wnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym am y cynigion ar gyfer y cynllun grant? Efallai na all roi manylion inni, ond rwy'n credu y byddai'r gymuned fusnes yn ddiolchgar iawn o glywed pryd y bydd yn gallu rhoi manylion inni, oherwydd mater yw hwn o fusnesau yn mynd i'r wal wrth ein bod yn siarad nawr, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar lwfansau cynnil iawn. Felly mae'n gwbl hanfodol, os na all ef ddweud unrhyw beth mwy wrthym gyda llawer mwy o fanylder heddiw—ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd ynglŷn ag ymgynghori â'r sector busnes, oherwydd, wrth gwrs, mae hynny'n briodol— pe gallem gael rhyw syniad o'r hyn y gallai'r amserlen fod ar gyfer hynny.
Fe hoffwn i awgrymu i'r Gweinidog y gellid gwneud mwy i hysbysu busnesau am y ffaith mai'r llinell gymorth arferol yw'r man cywir i fynd. Rwy'n credu ei fod ef, mae'n debyg, yn cytuno â mi nad ydym bob amser mor llwyddiannus ag yr hoffem fod wrth gyfathrebu â busnesau bach iawn. Mae'n bosib y bydd yna bethau, wrth gwrs, y gall pob un ohonom ni eu gwneud, yn Aelodau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ni ein hunain, i helpu busnesau sy'n cysylltu â ni i fod yn ymwybodol o'r llinell gymorth. Ond rwy'n credu bod yna fwy o waith i'w wneud ynglŷn â hyn er mwyn i bobl ddeall nad dim ond llinell ar gyfer busnes fel arfer yw honno, ond ei bod hi hefyd yn llinell y gellir ei defnyddio mewn argyfyngau.
Fe soniodd y Gweinidog yn ei ymateb i Russell George am rywfaint o'r argyfwng llwyr y gall rhai busnesau lletygarwch a theatrau, sinemâu ac yn y blaen fod ynddo. Rydym ni, wrth gwrs, mewn sefyllfa lle y cynghorir pobl i beidio â defnyddio'r busnesau hyn ond, ar y llaw arall, nid yw'n orfodol i gau'r busnesau hynny. Felly, ni all y busnesau hynny a allai gael yswiriant pe byddent yn cael eu cau'n ffurfiol allu gwneud hynny ar hyn o bryd. Fy nealltwriaeth i yw y gallai hynny fod yn fater i Lywodraeth y DU. Ond tybed a gaf i ofyn i'r Gweinidog, gyda'i gydweithwyr a chyda'r Cwnsler Cyffredinol yn benodol, edrych ar bwerau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1994, sy'n rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru wahardd digwyddiadau a chyfarfodydd, a gweld a oes modd, wrth inni aros—ac wrth gwrs, efallai y cawn ni ragor o gyhoeddiadau yn nes ymlaen heddiw—i Lywodraeth y DU weithredu, a oes modd rhoi gorchymyn o'r fath ar fusnesau fel y gallan nhw hawlio efallai, y rhai ohonyn nhw sydd ag yswiriant ymyrraeth busnes, er enghraifft. Rwy'n gofyn hefyd i'r Gweinidog pa asesiad y mae ef wedi ei wneud neu y gall ef ei wneud o faint o'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt sy'n meddu ar yswiriant o'r fath. Wrth gwrs, ni fydd gan lawer o'r busnesau llai yr yswiriant hwnnw, neu ni fydd ganddynt warchodaeth yn y sefyllfa benodol hon. Fe fyddwn i'n dweud wrth y Gweinidog y bydd angen cymorth grant ar rai o'r busnesau hyn yn y byrdymor i'w cadw nhw i fynd. Unwaith eto, roeddwn i'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn dweud na ddylai unrhyw fusnes a oedd yn fusnes hyfyw 10 diwrnod yn ôl beidio â bod felly ar ddiwedd yr argyfwng hwn ac rwy'n credu bod angen mwy o ystyriaeth gydlynol i wneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd.
Ynglŷn â mater arall, fe ddywedwyd wrthyf i y gallai rhai busnesau sy'n cael eu gorfodi i gau ddefnyddio'r amser hwn i ailddatblygu o bosib, yn benodol eu hadeiladau. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog a all ef ystyried, o ran rhai o gynlluniau presennol y Llywodraeth ar gyfer rhoi grantiau—rwy'n credu mai busnesau twristiaeth gododd hyn gyda mi, ond efallai fod yna eraill—a ellid cyflymu'r broses honno? Oherwydd os oes gennych chi fusnes gwely a brecwast ac nad oes dewis ond ei gau oherwydd nad oes neb yno a'u bod yn gwybod, yn y tymor canolig, bod angen iddyn nhw wneud datblygiadau, a allai rhywfaint o'r adnoddau fod ar gael iddyn nhw yma, fel y gallan nhw fanteisio ar hynny, gan eu bod ar gau.
Gan droi at drafnidiaeth gyhoeddus am foment, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y cyngor a roddir i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Tybed a wnaiff ystyried eto, gyda'r Gweinidog Iechyd, a oes angen inni ddweud mwy wrth ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus i'w helpu nhw i gadw'n ddiogel. I lawer o bobl, fel y gŵyr y Gweinidog, nid oes ganddynt ddewis. Fe ddywedodd ef ei hun: mae rhai ohonom yn lwcus ac efallai y gallwn ni weithio o gartref, ond mae yna bobl na allan nhw wneud hynny. Ac a wnaiff ef hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw faterion o ran mesurau y gellid eu cymryd i leihau gorlenwi.
Yn ogystal â hynny, o ran trafnidiaeth gyhoeddus, fe fydd yn gwybod bod llawer o gwmnïau bysiau llai yn arbennig a fydd wedi colli llawer o fusnes. Fe fyddan nhw wedi colli eu busnes twristiaeth: mae hynny'n digwydd eisoes. Fe godwyd gyda mi y gallai hon fod yn broblem i'r cwmnïau hynny os byddwn yn mynd i lawr y llwybr o gau ysgolion, oherwydd dyna eu hunig waith hirdymor cynaliadwy—. Mae darparu cludiant ysgol yn ffordd gynaliadwy iddyn nhw o gadw busnesau yn hyfyw yn yr hirdymor. Tybed a fyddai modd iddo gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidogion priodol i weld a allwn ni gefnogi Llywodraeth Leol i barhau i dalu am y contractau hynny, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Fe fyddai'n ddealladwy iawn, rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno, i bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel leol ddweud, 'Wel, os nad yw'r plant yn mynd i'r ysgol, 'dydyn ni ddim yn mynd i dalu am y bysiau.' Ond y gwir amdani yw, yn sicr yn Sir Gaerfyrddin, ac fe wn i ledled y Canolbarth a'r Gorllewin, os na thelir am y gwasanaethau hynny, ni fydd y cwmnïau bysiau hynny'n goroesi erbyn inni ddod allan o'r argyfwng, felly mae'n rhaid inni feddwl sut y gallwn ni gadw'r rhain yn gynaliadwy.
Mae e'n sôn yn ei ddatganiad am dâl salwch statudol, ac wrth gwrs, fe fydd hwnnw o gymorth i'r bobl hynny sydd allan o waith am eu bod nhw'n sal, neu am eu bod nhw'n ynysu eu hunain. Ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi y bydd llawer iawn o bobl a allai eu cael eu hunain allan o waith dros dro neu'n barhaol oherwydd hyn. Tybed a oes modd iddo gael trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU ynglyn â sut y gallen nhw, er enghraifft, gyflymu'r broses geisiadau am gredyd cynhwysol, ac fe fyddem ni'n dadlau ar y meinciau hyn, am fwy o amser yn y tymor byr efallai i fod yn fwy uchelgeisiol ac edrych ar incwm sylfaenol i bawb. Ond o fewn pwerau Llywodraeth Cymru ei hun, wrth gwrs, mae gennym ni'r taliadau cymorth brys, a tybed a fydd ef yn cynnal trafodaethau priodol gyda'r Gweinidogion priodol ynglŷn â'r cynllun hwnnw, ac ystyried a allwn ni roi mwy o arian i mewn i hwnnw, fel y gallai teuluoedd sydd mewn argyfwng am eu bod nhw'n hunan ynysu, er enghraifft, ac nad oes ganddyn nhw incwm o bosib, geisio cael rhywfaint o gymorth o'r gronfa honno. Ac fe fyddai angen newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer honno, wrth gwrs.
Yn olaf, rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud ei fod yn cynnal trafodaethau gyda'r banciau masnachol. Rwyf i o'r farn y byddai llawer ohonom yn credu bod arnyn nhw ddyled i ni: cafodd y banciau eu hachub mewn argyfwng a achoswyd ganddyn nhw. Fe ddywedodd etholwr wrthyf i heddiw, er enghraifft, fod yr HSBC eisoes yn gwrthod cynyddu cyfleusterau gorddrafft ar gyfer rhai busnesau gwledig, oherwydd gallai eu benthyciadau nhw fod yn eithaf mawr yn barod gan eu bod ar ddiwedd tymor y gaeaf a dim ond nawr y mae'n amser iddyn nhw allu gwneud eu harian. Fe hoffwn i ofyn iddo am godi'r mater hwnnw'n benodol oherwydd bod y busnesau bach gwledig hynny, unwaith eto, yn fychan iawn, ac maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n cael amser caled yn y gaeaf. Fe ddylai eu banciau nhw wybod eu bod nhw'n cael amser caled yn y gaeaf, ac ni ddylai hynny eu hatal nhw rhag cael eu cefnogi i gael benthyg, ac mae'n hollol annerbyniol os yw'r banciau mawr hyn yn gwneud hynny, a gwn fod yr HSBC yn gwneud hynny mewn un achos.
Ac fe hoffwn i orffen fy nghyfraniad i, Llywydd, drwy ddiolch unwaith eto i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a gofyn iddo ef—fel rwy'n siŵr y gwnaiff—roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni oll. Wrth gwrs, fe fydd ef yn disgwyl cael ei graffu'n drwyadl o'r meinciau hyn, ond fe fyddwn ninnau hefyd yn cynnig ein cefnogaeth iddo ef wrth ymdrin â sefyllfa sy'n gwbl ddigynsail, fel yr ydym ni i gyd yn cytuno.
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am y cwestiynau a godwyd ganddi hi'r prynhawn yma ac am gyfraniad adeiladol arall i'r drafodaeth hon a'r ddadl hon? Tynnodd Helen Mary Jones gymariaethau â'r ymdrech yn y rhyfel, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol gywir: mae hyn yn gofyn am ymdrech gydunol drwy'r gymdeithas, ac yn union fel y gwnaethom ni ailadeiladu'r wlad wedi'r ail ryfel byd, fe fydd yna gyfle i ni, yn y cyfnod o adferiad, sicrhau ein bod ni'n datblygu economi newydd sy'n decach, un sy'n fwy addas i'r diben. Yn rhan o'r adferiad, efallai y bydd angen bargen newydd sylweddol iawn arnom ni—pecyn ysgogi enfawr dan arweiniad Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr adferiad yn gallu digwydd mor gyflym â phosib.
O ran yr amserlen ar gyfer dosbarthu'r £100 miliwn i fusnesau, fe allaf i sicrhau pob Aelod ein bod ni'n ceisio gwneud hyn mor gyflym ag y gallwn ni. Fe fydd y cyfarfod ddydd Iau gyda'r cyngor datblygu economaidd yn hanfodol bwysig. Rwy'n dymuno cael cymeradwyaeth y cyngor, ein partneriaid cymdeithasol ni, at ddiben y £100 miliwn a'r meini prawf a fydd yn cael eu gosod i sicrhau bod y busnesau iawn yn cael eu cynorthwyo.
Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud, Llywydd, y bydd busnesau yn wynebu dewis anodd iawn. A oes angen cymryd cyfnod o seibiant hir i oroesi? A fydd y cyfnod o seibiant yn para trwy'r argyfwng presennol hwn, neu a fyddan nhw'n mynd ati i geisio ennill incwm drwy'r argyfwng? A fyddan nhw'n goroesi drwy barhau i weithio? Nawr, mae gan Lywodraeth y DU ran yn y ddwy senario. Yn gyntaf oll, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i Lywodraeth y DU warantu cyflogau i sicrhau bod busnesau'n gallu cynnal cyflogaeth unigolion, hyd yn oed os nad ydyn nhw yn y gweithle, ac mae hynny'n hollol iawn. Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r cwestiwn hefyd ynghylch swyddogaeth i incwm cyffredinol. Unwaith eto, fe allai hyn fod yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau nad y rhai sy'n fwyaf agored i gael eu heintio â'r coronafeirws o ran eu lles a'u gwaith sy'n cael eu taro galetaf.
Yn ogystal â hynny, fe all Llywodraeth y DU fod â swyddogaeth bwysig o ran gostwng trethi a chael saib o dalu trethi, ac rydym wedi gofyn hyn iddyn nhw heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio rhyddhad ardrethi busnes, ac fe allwn ystyried cefnogi busnesau hefyd o ran llif arian a chostau sefydlog ar wahân i'r rhain a gymhwysir i filiau cyflogau, os yw Llywodraeth y DU yn fodlon ac yn barod i gamu i mewn fel yr amlinellais i eisoes. Ac rydym ni'n ystyried defnyddio'r £100 miliwn hwnnw at y diben hwnnw.
Rwy'n cydnabod ar hyn o bryd fod rhai sectorau, fel y dywedais i wrth Russell George, mewn gwewyr ofnadwy. Mae'r sectorau hynny'n cynnwys lletygarwch, maen nhw'n cynnwys y sector twristiaeth yn ei gyfanrwydd, rhannau o'r sector manwerthu hefyd. Mae yna alwadau hefyd gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol i sicrhau bod darparwyr gofal cymdeithasol yn gallu talu am gostau cyflog cyflogeion y mae angen i rywun weithio yn eu lle nhw, a chostau staff asiantaeth felly, o bosib. A hefyd, wrth gwrs, mae pobl hunan-gyflogedig yn wynebu penderfyniadau anodd iawn, iawn ar hyn o bryd o ran sut maen nhw am ddod drwy'r coronafeirws. Ond mae'r Aelod yn llygad ei le bod angen inni sicrhau bod gan unrhyw fusnes hyfyw heddiw obaith hyfyw o oroesi a ffynnu ar ddiwedd yr argyfwng coronafeirws.
Roeddwn i o'r farn fod y datganiad a wnaeth Arlywydd Marcon neithiwr yn rymus pan ddywedodd na fydd yna unrhyw fusnes, mawr neu fach, waeth pa mor fawr ydyw, yn cael ei orfodi i gau o ganlyniad i'r coronafeirws. Ac mae hon yn neges y gwnes i ei hailadrodd i Lywodraeth y DU. Mae angen i Lywodraeth y DU weithredu i sicrhau mai'r un fydd y sefyllfa yn y DU. Fe fydd gan y banciau masnachol, fel y dywedodd yr Aelod, swyddogaeth bwysig dros ben, ac fel y dywedodd llawer o'r Aelodau eisoes heddiw, yn 2008 fe wnaeth y cyhoedd achub croen y banciau, a nawr yn 2020 mae'n gwbl briodol fod y banciau yn gwneud eu rhan nhw drwy achub croen llawer o fusnesau sy'n hyfyw, sydd â dyfodol cryf, ond sy'n wynebu her ofnadwy ar hyn o bryd.
Fe fyddwn ni'n cyfarfod â'r banciau masnachol ddydd Iau. Mae gennyf amryw o gwestiynau i'w codi gyda nhw, gan gynnwys i ba raddau y gallan nhw wneud penderfyniadau dewisol. Yn aml, fe wneir penderfyniadau mewn pencadlys. Nid yw'r penderfyniadau hynny o reidrwydd yn adlewyrchu'r wahanol fath o economi sydd gennym ni yma yng Nghymru, yn enwedig felly mewn ardaloedd gwledig. Felly, fe hoffwn i ganfod i ba raddau y gall y banciau wneud penderfyniadau dewisol. Mae yna amryw o gwestiynau eraill y byddaf i'n eu codi gyda'r banciau. Fe fyddaf i'n ysgrifennu at yr Aelodau ar ôl y cyfarfod hwnnw i roi rhagor o wybodaeth, fel y gall yr holl Aelodau, yn eu tro, roi gwybod i'r busnesau yn eu hetholaethau neu yn eu hardaloedd nhw. Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hefyd, Llywydd, wrth inni fynd trwy'r cyfnod adfer, y bydd galw sylweddol am gyfalaf gweithio, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf i'n ei godi gyda'r banc datblygu a banciau'r stryd fawr ddydd Iau.
Fy nghyngor i i'r cyhoedd sy'n teithio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yw na ddylen nhw ddefnyddio cludiant cyhoeddus oni bai ei bod hi'n gwbl hanfodol os credant y gallai fod ganddyn nhw symptomau. Os oes ganddyn nhw symptomau, fe ddylen ddim ond—ddim ond—defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os yw'n gwbl hanfodol ar gyfer cael y cymorth meddygol sydd ei angen. Mae'n hanfodol bwysig bod pob teithiwr yn dilyn y canllawiau a ddosbarthwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'u bod nhw'n gallu cadw eu pellter wrth ddefnyddio cludiant neu pan fyddan nhw mewn gorsafoedd.
Rwy'n falch o ddweud bod y sector bysiau eisoes wedi rhoi'r ffigurau ynghylch cost cynnal gwasanaethau yn ystod y cyfnod anodd hwn i mi. Fe fyddwn ni'n ystyried y lefel honno o gefnogaeth y gofynnwyd amdani, gan gydnabod, wrth gwrs, bod y rhwydwaith bysiau ledled Cymru yn hanfodol bwysig a bod yn rhaid ei gynnal i'r dyfodol.
A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiadau a wnaethoch chi ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnes? Mae manylion y cyhoeddiadau hyn, rwy'n siŵr, wedi bod o gysur mawr i'r busnesau yn fy etholaeth i sydd wedi cysylltu â mi i fynegi eu pryderon nhw, ac felly rwy'n diolch ichi hefyd am yr wybodaeth ychwanegol a nodwyd gennych chi heddiw.
Fodd bynnag, mae'n debyg na fyddwch chi'n synnu o glywed mai busnesau unigol, hunangyflogedig yw'r rhan fwyaf o fusnesau sydd wedi cysylltu â mi ynghylch eu pryderon, a dyna yw cnewyllyn fy nghwestiwn i mewn gwirionedd, gan fy mod i'n gwybod bod meysydd eraill wedi cael eu trafod gyda pheth manylder. Felly, os caf i roi enghraifft ichi: roedd yn o fy etholwyr yn gerddor proffesiynol ac yn athro cerdd. Mae ef wedi cysylltu â mi i ddweud, yn ystod y 24 awr ddiwethaf, ei fod wedi colli'r rhan fwyaf o'r gwaith dysgu sydd i ddod iddo oherwydd cyngor cyfredol y Llywodraeth, ac mewn gwirionedd ni allwn ni ond gweld y cyngor hwnnw'n gosod cyfyngiadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac rwy'n dyfalu y bydd amgylchiadau tebyg yn siŵr o godi ar gyfer nifer o unigolion hunangyflogedig, ac rwy'n sôn am bobl fel siopau trin gwallt symudol, er enghraifft—y mathau hynny o fusnesau, fel y gwyddom, nad yw ardrethi busnes yn fater iddyn nhw ac mae'n debyg nad yw benthyciadau banc yn fater iddyn nhw. Felly, ni fyddai unrhyw gyhoeddiadau ynghylch y meysydd hynny o unrhyw gymorth penodol iddyn nhw. O ystyried hynny, fel y nodwyd yn gywir gennych chi eisoes, nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad fel y gwnaeth Macron o €300 biliwn o gefnogaeth i warantu na fydd unrhyw fusnesau yn mynd i'r wal, felly pa fath o sicrwydd y gallwch chi ei roi i bobl yn yr un sefyllfa a'm hetholwr i o ran y cymorth y gallan nhw ddisgwyl ei gael dros y misoedd nesaf, o gofio bod eu ffynonellau nhw o incwm yn y bôn wedi diflannu dros nos bron?
Wel, mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwerus iawn am yr angen i gefnogi'r unigolion hynny sy'n hunangyflogedig. Fel y dywedais i wrth ymateb i Helen Mary Jones, rydym yn edrych yn benodol ar y £100 miliwn a gyhoeddwyd a sut y gellir ei ddefnyddio i gefnogi unigolion hunangyflogedig ar hyn o bryd. Fe amlinellais hefyd i Helen Mary Jones sut yr ydym ni'n edrych yn benodol ar gostau sefydlog a materion o ran llif arian. Fe allaf i sicrhau'r aelod fod y mesurau hynny a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn berthnasol i Gymru: y mesurau tâl salwch statudol; y cynllun benthyciadau ymyrraeth busnes; y cynllun Amser i Dalu. Maen nhw i gyd yn berthnasol i fusnesau Cymru, ac os bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'r pecyn cymorth ariannol sylweddol iawn hwnnw y prynhawn yma, yna fe fyddwn ni'n sicrhau bod cymorth i bobl hunangyflogedig yn flaenoriaeth.
Rydym ni bellach yn agos at 45 munud i mewn i'r datganiad hwn ac rydym wedi cael un cyfraniad gan bob grŵp plaid. Felly, os gall Aelodau'r Senedd fod yn weddol gryno gyda'ch cwestiynau a'r atebion a roddir gan y Gweinidog—mae yna nifer o faterion wedi eu trafod eisoes. Felly, os cawn ni fod yn gryno, yna fe fyddaf i'n ceisio galw cymaint o Aelodau ag y bo modd. Y chi sydd gyntaf, Angela Burns.
Diolch. Rwy'n addo'n llwyr ichi mai un maes sydd gennyf yr wyf i'n awyddus iawn i siarad â chi amdano, sef yswiriant ymyrraeth busnes. Mae nifer sylweddol o fusnesau wedi cysylltu â mi sy'n ei chael hi'n anodd iawn cael yswirwyr i wneud dau beth: (1) deall bod COVID-19 yn glefyd hysbysadwy. Nawr, rydych chi a minnau yn gwybod o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020, fod hwn wedi cael ei wneud yn glefyd hysbysadwy ar y pumed o Fawrth, ac fe ddilynodd pob un o wledydd eraill y DU ar y pumed neu'r chweched o Fawrth, ac eto i gyd mae'n anodd iawn (1) i'r busnesau ddod o hyd i unman ar unrhyw wefan—eich un chi, un Llywodraeth y DU, unrhyw un—sy'n dweud ei fod yn glefyd hysbysadwy, a (2) i gael y cwmnïau yswiriant i gydnabod ei fod yn glefyd hysbysadwy. Dyna fy nghwestiwn cyntaf i o ran yswiriant, ac rwy'n gwybod eich bod chi'n cwrdd â'r banciau, ac rwy'n meddwl tybed a ydych chi'n cwrdd â'r yswirwyr efallai.
Mae fy ail gwestiwn o ran yswiriant, sydd, unwaith eto, yn debyg iawn i'r cyntaf, yn ymwneud ag yswiriant ymyrraeth busnes. Unwaith eto, mae busnesau'n dweud wrthyf i, er enghraifft, os bydd rhywun yn mynd i westy ac yn cael diagnosis o COVID-19, fe fydd y gwesty'n cael ei dalu, ond os bydd rhywun yn canslo'r ystafell westy honno, nid yw yswiriant ymyrraeth busnes yn berthnasol. Unwaith eto, mae'r yswirwyr yn chwarae gêm galed iawn. Gweinidog, tybed beth allech chi, ar y cyd â gwledydd eraill y DU, ei wneud gyda'r cwmnïau yswiriant, fel y gall yswiriant ymyrraeth busnes fod yn berthnasol yn y maes hwn.
A gaf i ddiolch i Angela Burns am y cwestiwn ynglŷn ag yswiriant ymyrraeth busnes? Mae'n ddefnyddiol mewn gwirionedd bod yr Aelod yn awgrymu ein bod yn gwneud hyn ar sail pedair gwlad, oherwydd dyma'r union bwynt yr oeddwn i'n bwriadu ei godi, ymhlith llawer o bwyntiau eraill, gyda fy Ngweinidog cyfatebol i yn Llywodraeth yr Alban pan fyddaf i'n siarad â hi y prynhawn yma. Mae hefyd yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei godi gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Rydym ni eisoes yn siarad â'r sector a chorff y cynrychiolwyr ar ran y sector, gan bwyso arnyn nhw i weithredu'n gyfrifol, a byddwn yn sicrhau eu bod yn gweld, mewn du a gwyn, y cyhoeddiad ei fod yn glefyd hysbysadwy, er mwyn sicrhau nad oes rheswm ganddyn nhw i osgoi gwneud taliadau.
Ni fyddaf i'n ymhelaethu ar lefel y gefnogaeth, y mae fy nghyd-Aelod Helen Mary Jones, eisoes wedi mynd ar ei hôl, heblaw am ddweud bod yn rhaid inni sicrhau'r lefel honno o gefnogaeth ddigyffelyb a sicrhau ei bod yn cael effaith ar lawr gwlad cyn gynted â phosib.
Hoffwn amlinellu rhai o'r elfennau sydd wedi dwyn fy sylw a chanolbwyntio ar yr hyn yr ydym ni'n ymdrin ag ef: cwmni bach sydd â £120,000 o golled mewn refeniw; gweithredwr teithiau arfordir—colledion o £30,000 eisoes; yr atyniad twristaidd—newyddion torcalonnus iddyn nhw, gyda cholli busnes. Ar yr un pryd, mae'r perchennog yn gwella ar ôl canser, mae dau o'r plant yn sefyll eu harholiadau TGAU yr haf hwn, mae gan aelodau eraill o'r teulu afiechydon difrifol. Cwmni gweithgynhyrchu diodydd y mae ei archebion yn darfod. Tafarndai'n cael ergyd ofnadwy gan fod cwsmeriaid wedi cael rhybudd i gadw draw, ond neb wedi rhoi gwybod iddyn nhw, fel yr ydym ni newydd glywed nawr, bod yn rhaid iddyn nhw gau. Gweithredwyr bysiau yn poeni y bydd eu busnesau'n methu, ac effeithiau hirdymor hynny, gan fod angen cludo plant i'r ysgol ar ôl i hyn ddod i ben, ac yn y blaen.
Rwyf i'n apelio, yn fwy na dim nawr, ar wahân i lefel y gefnogaeth, am gael mwy o gyfathrebu cadarn a chlir rhwng y Llywodraeth â busnesau. Dyna'r un peth y mae pobl yn gofyn amdano mewn gwirionedd. Rwy'n falch ein bod wedi cael y sicrwydd bod llinell gymorth Busnes Cymru, i bob pwrpas, yn llinell gymorth COVID-19 nawr. Byddwn i'n eich cynghori i gael golwg ar y wefan honno i weld a oes modd ei chryfhau. Nid wyf yn siŵr a yw'r neges yno mai dyna'r lle i fynd, er fy mod i bellach yn cynghori fy etholwyr i ffonio'r rhif hwnnw, 03000 603000. Rwyf hefyd yn gofyn iddyn nhw roi adborth imi ynghylch pa fath o wasanaeth sydd ganddynt, oherwydd mae'n mynd i fod dan bwysau difrifol. Ac fel un cwestiwn, byddwn i'n gofyn i chi: pa adnoddau ychwanegol sydd wedi cael eu rhoi i Fusnes Cymru er mwyn ateb y galw hwnnw sy'n siŵr o fod yno nawr ein bod yn gwybod mai dyna'r lle i fynd?
A gaf i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau? Mae'n llygad ei le, mae yna fusnesau yng Nghymru sydd wedi dangos cadernid rhyfeddol wrth ymdrin â nid yn unig yr her hon, ond hefyd, yn ddiweddar iawn, â llifogydd mewn sawl rhan o Gymru ac, wrth gwrs, yr ansicrwydd a achoswyd gan Brexit.
O ran Busnes Cymru, roedd Busnes Cymru yn cynnig cyngor fel y prif bwynt cyswllt o ran Brexit. Mae llawer o fusnesau felly'n gyfarwydd â'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig. Rwy'n ysgrifennu at fusnesau'n uniongyrchol heddiw drwy Busnes Cymru, a gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd unrhyw adnoddau sydd eu hangen o fewn Busnes Cymru i fynd i'r afael â'r galw sydd i ddod yn cael eu darparu. Fel y dywedais mewn ymateb i Russell George, roeddem yn gallu cynllunio, fel rhan o'n parodrwydd ar gyfer Brexit, i ddefnyddio adnoddau dynol rheng flaen ychwanegol, a bydd hynny'n digwydd o ran ateb y galw o ran coronafeirws hefyd.
Yn anffodus, mae datganiad y Prif Weinidog ddoe wedi achosi cryn bryder i lawer o fusnesau, yn enwedig y rheini yn y sector lletygarwch nad ydyn nhw'n gwybod sut y gallan nhw barhau i weithredu mewn llawer o achosion. Yr hyn sydd ei angen, rwy'n credu, yw cynllun Marshall i fusnesau bach. Yn yr un modd—fel y soniodd pobl eraill y prynhawn yma—fe wnaethom ni achub y banciau gyda'n gilydd fel cymdeithas ddegawd yn ôl, mae angen inni sicrhau nawr fod busnesau bach sydd yn anadl einioes i'n heconomi a'n cymunedau yn cael cefnogaeth y Llywodraeth ar bob lefel i sicrhau eu bod yn goroesi'r cyfnod nesaf. Rwy'n credu bod pobl ledled y wlad yn croesawu'r datganiad a wnaethoch chi ar ryddhad ardrethi. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cael ei groesawu. Ond mae angen inni fynd ymhellach o lawer na hynny.
Byddwn i'n ddiolchgar, Gweinidog, os gallwch chi godi rhai o'r materion hyn gyda Changhellor y Trysorlys yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod busnesau'n cael y cymorth incwm sydd ei angen arnyn nhw i'w cynnal drwy'r cyfnod hwn, ond hefyd i'r bobl hynny sy'n hunangyflogedig. Siaradais i'r bore yma â gyrwyr tacsi yng Nglynebwy ac yn Nhredegar sy'n pryderu am fywiogrwydd a hyfywedd eu busnesau, sut y gallan nhw gynnal eu teuluoedd a'u busnesau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Siaradais â rhywun sy'n rhedeg bar a chaffi yn Nhredegar, sy'n pryderu am y bobl a fydd yn colli gwaith, o bosib, yn ystod yr wythnosau nesaf. Sut y byddan nhw'n goroesi? Bydd canlyniadau economaidd hyn yn effeithio ar rai o'r teuluoedd ar yr incwm isaf yn y wlad. Mae hwn yn rhywbeth y mae angen i lywodraethau ar bob lefel weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag ef. Rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu arwain y gwaith o sefydlu tasglu busnes yn y DU i sicrhau bod holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'i gilydd—lle bo gennych chi bwerau, bod y pwerau hynny'n cael eu defnyddio.
Fe wnaethom ni siarad yn gynharach am y strwythurau ariannol o fewn y Deyrnas Unedig. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud newidiadau brys i'r ffordd y mae cyllid yn cael ei ddarparu i lywodraethau'r DU i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac mae angen gwneud hynny'n gyflym iawn. Rwy'n gobeithio hefyd—yr oeddech chi wedi sôn am linell gymorth Busnes Cymru—fod yr wybodaeth honno ar gael i'r Aelodau hefyd i'n galluogi ni i ymateb i'n hetholwyr, a'n bod yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i Busnes Cymru i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw i bobl sydd weithiau wedi cyrraedd pen eu tennyn. Bydd yr ychydig fisoedd nesaf yn penderfynu sut y bydd bywiogrwydd ein cymunedau a'n heconomi yn gallu adfer ar ôl o'r argyfwng hwn. Ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu adleisio'r hyn a ddywedodd Macron wrth bobl Ffrainc neithiwr: na fydd swydd yn cael ei cholli, ac na fydd busnes yn cael ei golli oherwydd yr argyfwng hwn.
A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Ac mae e'n hollol iawn i ddweud y bydd angen dull pedair gwlad, nid yn unig o ran sicrhau bod cynifer o fusnesau â phosib yn gallu parhau, ond hefyd i gynllunio ar gyfer y cyfnod wedi hynny, er mwyn cynllunio ar gyfer adfer yr economi. Ac rwyf eisoes yn ystyried sut y gallwn ni ffurfio math o dasglu, fel y mae'r Aelod yn ei ddweud, i sicrhau ein bod ni'n buddsoddi ar y cyd yn y math priodol o fusnesau ledled y wlad er mwyn sbarduno twf cynhwysol, teg a phwrpasol yn y dyfodol.
Byddaf yn ysgrifennu at bob Aelod yn rhoi gwybodaeth ynghylch gwasanaethau Busnes Cymru. Mae tudalennau penodol ar y wefan honno sy'n ymwneud â COVID-19, ond, yn amlwg, o ystyried maint y broblem sy'n ein hwynebu ni, mae'n gwbl glir y bydd cyfraniad Busnes Cymru yn ystod y misoedd nesaf yn cael ei lyncu bron yn gyfan gwbl gan achosion coronafeirws. Ac felly bydd yn rhaid iddo hefyd sicrhau, yn fewnol, ei fod wedi'i strwythuro mewn modd sy'n ailgyfeirio cymaint o adnoddau dynol â phosib i'r her benodol hon.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig hefyd am rai sectorau lle nad oes modd gweithio o gartref, gan gynnwys, fel y dywedodd ef, lletygarwch. Ac, i'r busnesau hynny, yr unig opsiwn ymarferol fyddai cael cyfnod o seibiant. A dyma pam ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraeth y DU yn cytuno i alwadau'r Prif Weinidog am gymorth o ran gwarantu cyflogau i sicrhau na chaiff unigolion eu diswyddo ac nad yw cwmnïau'n mynd yn ansolfent, ac i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn camu i mewn o ran gwyliau a rhyddhad trethi.
Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fel rhywun yn y Siambr hon y bu ei fusnes ei hun drwy sefyllfaoedd tebyg i'r rhai y mae busnesau'n canfod eu hunain ynddyn nhw, yn ôl ar 20 Mawrth 1996, pan darodd yr argyfwng cig eidion ac i bob pwrpas, caeodd marchnadoedd yn gyfan gwbl dros nos, gallaf ddeall yn llwyr gwir effaith yr hyn yr ydym ni ar fin ei weld yn datblygu o flaen llawer o bobl. A bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn i hyn gael ei gydbwyso, fel petai—ni fyddwn i'n dweud 'unioni' oherwydd rwy'n credu bod y difrod economaidd, hyd yn oed yn ystod y pum diwrnod diwethaf, wedi bod mor sylweddol fel y bydd yn anodd ennill y tir hwnnw yn ôl. Ond fe fydd yna ddyfodol yn deillio o hyn, a rhaid inni fod yn barod ar gyfer y dyfodol hwnnw, ei ffurfio a'i greu.
Hoffwn i holi'r Gweinidog am ddau bwynt, os caf i. Rwy'n synnu nad yw'r Gweinidog wedi sôn am y £100 miliwn y rhoddodd y Canghellor ar y bwrdd ddydd Mercher diwethaf yn ei gyllideb, sef cymorth benthyca drwy'r banciau a thanysgrifennu 80 y cant o'r sicrwydd cyfochrog pe bai'r benthyciad yn mynd yn ddrwg. Rwy'n credu bod hynny ar goll o'r datganiad y prynhawn yma. Fel y dywedais, rwy'n synnu'n fawr ei fod ar goll o'r datganiad, oherwydd mae'n hanfodol bod pobl yn gallu cael gafael ar gredyd. Ac, ar adeg y cyhoeddiad hwnnw, hyd y gwn i, dyna oedd yr ysgogiad ariannol mwyaf yn Ewrop—ar yr adeg y cafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher; bydd y Canghellor yn cyhoeddi rhagor o ysgogiadau y prynhawn yma. Ond mae'n hanfodol deall sut y bydd y Gweinidog yn ymgysylltu â'r banciau. Clywais i'r hyn a ddywedodd am gyfarfod ddydd Iau, od mae llawer o'r penderfyniadau hynny'n cael eu gwneud y tu allan i Gymru. Ni all fod yn iawn y bydd busnesau yng Nghymru, o bosib, yn cael eu peryglu o ran eu ceisiadau oni bai bod y llais hwnnw'n cael ei glywed yn uchel a chlir a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn seiliedig ar y ffordd y mae economi Cymru wedi'i strwythuro, sy'n canolbwyntio'n sylweddol ar fusnesau bach, yn hytrach na rhai o'r endidau mwy o faint yr ydych chi yn eu gweld mewn mannau eraill. A byddwn i'n falch iawn o ddeall beth fydd eich prif geisiadau yn y cyfarfod hwnnw a gynhelir ddydd Iau.
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud i'r Gweinidog yw'r cyflenwad gwybodaeth hwnnw. Mae'n hanfodol bwysig. Fel y canfu'r Aelod etholaethol dros Fro Morgannwg a minnau ddoe, mae busnesau ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn gweithio mewn gwagle o wybodaeth. Mae rhywfaint o'r wybodaeth honno wedi'i darparu yn ystod y 24 awr ddiwethaf. Ond, bore ddoe, roedd y rhan fwyaf o'r busnesau yr oeddem ni'n siarad â nhw—a bydd yr Aelod etholaethol dros Fro Morgannwg yn cefnogi hyn—yn deall yr hyn oedd yn cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU, ond nid oedden nhw'n deall yr hyn oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n clywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud, sef mai Busnes Cymru yw'r prif bwynt cyswllt, ond a allwch chi roi sicrwydd i mi eu bod nhw wedi'u hariannu'n ddigonol? Oherwydd mae'r hyn sy'n datblygu o flaen ein llygaid yn effeithio ar bob un busnes yng Nghymru. Ac nid wyf yn golygu hyn fel beirniadaeth, oherwydd mae maint hyn mor enfawr, ond mae'n anodd credu y bydd yr un pwynt hwnnw'n cael digon o adnoddau i fod yn siop un stop i ddarparu'r holl wybodaeth sy'n ofynnol o safbwynt Llywodraeth y DU, yn ogystal â safbwynt Llywodraeth Cymru. Ac nid wyf yn golygu hynny fel beirniadaeth— rwy'n golygu hynny fel graddfa'r hyn yr ydym ni'n ei wynebu yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf sydd o'n blaenau.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? Ac wrth gwrs, byddwn i'n fwy na pharod i dderbyn unrhyw gyngor sy'n adlewyrchu ei brofiad personol o oresgyn yr argyfwng cig eidion, ac yn arbennig o ran y modd yr oedd ef a'r sector y mae'n rhan ohono wedi sicrhau bod dyfodol hyfyw ar gael yn rhai o'r cyfnodau tywyllaf yr oedd y sector wedi'i wynebu yn ôl yn y 1990au. O ran y £100 biliwn y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, nid yw busnesau o anghenraid yn galw am hynny ar hyn o bryd—mae eisiau grantiau arnyn nhw, mae angen cyllid grant arnyn nhw, er mwyn goresgyn problemau gyda llif arian, gyda biliau cyflog, ac yn y blaen. Ac, o ran fy nghyfarfod â'r banciau ddydd Iau, byddaf i'n codi cwestiynau ynghylch goddefgarwch, byddaf i'n codi cwestiynau ynghylch—fel y dywedais i wrth Helen Mary Jones—gallu'r banciau i weithredu yn ôl disgresiwn yma yng Nghymru. A byddwn i hefyd yn trafod sut rydym yn sicrhau bod mesurau Llywodraeth y DU, mesurau Llywodraeth Cymru, a gweithredoedd y banciau'n unigol, yn cydweddu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rwyf i'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud, ac y mae'r Aelodau eraill wedi'i wneud, o ran y capasiti o fewn Busnes Cymru. Ond, fel y dywedais, byddwn i'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cymaint â phosib o'r galw hwnnw ar Busnes Cymru yn cael ei gyflawni o fewn y sefydliad hwnnw.
Gweinidog, mae fy etholaeth i, sef Pontypridd—a llawer o Rondda Cynon Taf, wrth gwrs— wedi cael ei distrywio gan y llifogydd. Ym mharc adwerthu Trefforest yn unig—£150 miliwn o ddifrod yw'r amcangyfrif. Y peth cyntaf y mae arnaf i ei angen yw sicrwydd na fydd y cyllid sydd ar gael i ymadfer ar ôl y difrod llifogydd yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd, oherwydd mae llawer o'r busnesau hynny ar hyn o bryd hefyd yn cael eu heffeithio gan bandemig y coronafeirws, ac mae hynny wedi creu bron ddwywaith yr ergyd— ergyd ddwbl i'r busnesau penodol hynny. Yn union wrth iddyn nhw ddechrau ymadfer, dod yn ôl ar eu traed, maen nhw wedi cael eu taro hefyd, felly bydd angen help penodol iawn arnyn nhw. O ran trafnidiaeth, wrth gwrs mae yna gwmni trafnidiaeth mawr iawn. Rydym wedi sôn am fusnesau bach a busnesau canolig, ond mae gennyf i gwmni trafnidiaeth—fel y gwyddoch chi'n iawn—yn fy etholaeth i sy'n cyflogi tua 800 o bobl. Mae trafnidiaeth yn cael ei heffeithio'n ddirfawr. Mae wedi'i chysylltu â'r fasnach dwristiaeth, mae wedi'i chysylltu â gwyliau, a chredaf nad yr hyn sydd ei angen yw ymateb adweithiol gan fusnesau, ond mewn gwirionedd ymateb rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru i fynd at y busnesau hynny ac ymgysylltu â nhw am yr hyn sydd angen ei wneud yn benodol yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, oherwydd mae rhai'n mynd i golli gwaith, a bydd diswyddiadau, ledled y wlad. Rwy'n gweld mai'r amcangyfrif yw bod un rhan o bump o holl weithlu'r DU yn debygol o fod i ffwrdd o'r gwaith ar ryw adeg o ganlyniad i'r coronafeirws.
A gaf i hefyd ofyn a oes modd ichi ddweud ychydig mwy am y llythyr gan y Prif Weinidog, yr wyf yn credu iddo fynd at y Llywodraeth, ynghylch y mater o incwm cyffredinol? Oherwydd rwy'n gweld yr holl gamau a mesurau sydd wedi'u cymryd ynghylch tâl salwch ac yn y blaen, ond, a bod yn onest, rhywun sy'n mynd o swydd ar gyflog llawn i dâl salwch o £94.25 yr wythnos—nid yw'n mynd i allu byw ar hynny, mae'n mynd i'w wthio i dlodi, a'r un broblem yn union o ran credyd cynhwysol.
Nawr, efallai ei bod yn warthus bod y lefelau budd-daliadau hynny mor isel o'u cymharu â'n partneriaid Ewropeaidd, ac efallai mai nawr yw'r amser i wthio'r cyfle i roi gwarant isafswm incwm i bob un gweithiwr neu berson sy'n colli ei swydd neu ei gyflogaeth yn dod i ben o ganlyniad i'r coronafeirws. Wrth gwrs, nid yw hwn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, ond dylem fod yn ei wthio. Oherwydd mae'n ymddangos i mi mai dyma'r ffordd symlaf a mwyaf amlwg o sicrhau bod yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod o gyni, pan wnaeth y bobl sy'n gweithio a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed ddioddef am 10 mlynedd—a gwyddom yr ymddengys mai'r bobl sy'n gweithio a'r bobl sy'n agored i niwed sydd ar eu colled mewn trychinebau—nad yw hynny'n digwydd eto o ganlyniad i coronafeirws.
Wrth gwrs, rydym yn amddiffyn ein busnesau, oherwydd rydym eisiau cadw swyddi. Rydym eisiau i'r swyddi hynny fod yno yn yr amgylchedd ôl-bandemig. Ond, yn yr un modd, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr nad y bobl sy'n gweithio sy'n dioddef canlyniadau'r trychineb hwn ac—os ydym ni'n gymdeithas unedig, yn Deyrnas Unedig, yn Gymru unedig ac yn rhan o strwythur byd-eang, yna mae'n rhaid inni sicrhau nad yw pobl sy'n gweithio yn cael eu gwthio i dlodi o ganlyniad i'r hyn sy'n digwydd, a bod eu hincwm a'u lles cymdeithasol yr un mor bwysig â phob agwedd arall ar y feirws hwn yr ydym ni'n ceisio ymdrin ag ef.
A gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am y pwyntiau hynod o arwyddocaol y mae'n eu gwneud ynghylch y posibilrwydd o warant isafswm incwm ar hyn o bryd ac yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod? Byddai hefyd yn galluogi adferiad cyflymach, oherwydd byddech chi'n darparu arian i'r unigolion hynny a fyddai'n fwyaf tebygol o'i ddefnyddio, gan gefnogi ein strydoedd mawr ni, cefnogi'r economi sylfaenol, sicrhau bod twf yn digwydd yn gynt, yn hytrach na fyddai'n digwydd fel arall os nad oes gennym ni unrhyw fath o warant isafswm incwm.
Byddaf yn sicrhau bod y llythyr gan y Prif Weinidog yn cael ei gyhoeddi, os nad yw wedi ei gyhoeddi eisoes, er mwyn i'r Aelodau allu bwrw golwg dros fanylion yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud. Un o'r galwadau a wnaed gennym, fel y dywedais wrth nifer o'r Aelodau nawr, yw i Lywodraeth y DU warantu cyflogau cyflogwyr y mae'r feirws hwn yn effeithio arnyn nhw.
Mae'r Aelod yn gwneud y pwynt pwysig bod nifer o fusnesau yn ei etholaeth ef a ledled Cymru wedi dioddef cyfres o anawsterau sylweddol yn ddiweddar ac, yn benodol, mae'r her o lifogydd a wynebwyd gan fusnesau yn ei etholaeth ef eisoes wedi cael ei adlewyrchu yn y Siambr yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth. Mae'r cyllid sy'n cael ei ddarparu at y diben hwnnw, at y diben hwnnw'n unig—i gynorthwyo busnesau y mae'r llifogydd a ddigwyddodd o ganlyniad i storm Ciara a storm Dennis wedi effeithio arnyn nhw, a dylai'r arian hwnnw, ac fe gaiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio at y diben hwnnw'n unig. Bydd unrhyw gymorth ychwanegol o ran y coronafeirws, fel dywedais, yn ychwanegol.
Ac o ran y cwmni trafnidiaeth—. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi codi achos penodol gyda mi eisoes yn ei etholaeth, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion fwrw golwg yn rhagweithiol ar sut y gallem gynorthwyo'r cwmni hwnnw. Ond, eto, fel y dywedais wrth nifer o'r Aelodau, mae'n ddigon posib y bydd rhai cwmnïau'n dewis cymryd cyfnod o seibiant fel y ffordd orau o weithredu, yn hytrach na brwydro ymlaen. Fy marn i yw na ddylem gael diswyddiadau yn ystod y cyfnod anodd hwn ac, os bydd Llywodraeth y DU yn dilyn arweiniad Arlywydd Macron, byddai modd osgoi diswyddiadau. Wedi dweud hynny, mae'n mynd i fod yn gyfnod hynod bryderus i'r wlad gyfan.
Mae'r amser a neilltuwyd gan y Llywodraeth i'r datganiad hwn wedi dod i ben, ond byddaf yn cymryd tri siaradwr arall—un o bob plaid wleidyddol. Mark Isherwood. Cwestiynau cyflym, os gwelwch yn dda.
Diolch, Llywydd. Sut ydych chi'n ymgysylltu â sefydliadau ambarél busnes ledled Cymru? Fe fyddwch yn ymwybodol, er enghraifft, bod Twristiaeth Gogledd Cymru wedi cael llif o alwadau gan aelodau yn gofyn am gymorth ac arweiniad. Felly, sut ydych chi'n manteisio i'r eithaf ar y cyfle o ddefnyddio pwyntiau mynediad eraill i gasglu gwybodaeth ond hefyd i rannu gwybodaeth?
Rydych chi wedi cyhoeddi'r rhyddhad o 100 y cant mewn gwerth ardrethol ar gyfer eiddo hyd at £ 51,000—rhyddhad ardrethi. Ddoe, ymwelais â gwesty a lleoliad cynnal priodas yn Sir y Fflint gyda gwerth ardrethol o £79,000, ac fe wnaethon nhw ddweud bod eu holl gwsmeriaid yn canslo, bod eu staff i gyd yn cael eu hanfon adref. Maen nhw'n cyflogi 40 o bobl, ond fyddan nhw ddim yn goroesi heb gymorth. Felly, beth alla i ei ddweud wrth y gwesty hwnnw, lle mae'r gwerth ardrethol yn uwch na'r ffigur hwnnw o £51,000, ac maen nhw eisoes yn bwrw'r wal mewn argyfwng?
Mae lleoliad priodas arall yn Sir Ddinbych wedi cysylltu â mi. Mae'n debyg bod cofrestrwyr Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud nad ydyn nhw bellach yn fodlon cynnal priodasau mewn gwestai na swyddfeydd cofrestri. Maen nhw'n holi pwy wnaeth y penderfyniad, pam na chawsant wybod, a pham maen nhw'n mynd yn syth at gwsmeriaid sydd mewn panig erbyn hyn. Felly, rwy'n cwestiynu tybed a ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i, neu a allech chi roi rhywfaint o sylw i gyhoeddiadau gan gofrestryddion, o leiaf yn Sir Ddinbych ac yn ehangach o bosib, o ystyried pwysigrwydd lleoliadau priodas i lawer o fusnesau ledled Cymru ?
Mae cyfeiriadau wedi'u gwneud at—
Dyna oedd eich trydydd cwestiwn nawr, pan ofynnais am gwestiwn cyflym. Felly, rwy'n siŵr bod tri chwestiwn yn ddigon i'r Gweinidog fwrw ymlaen â nhw. Gweinidog.
A gaf i ddiolch i Mark Isherwood am ei dri chwestiwn? Os oes ganddo ragor o gwestiynau, mae croeso iddo ysgrifennu ataf i. Yn wir, os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau, unrhyw syniadau, unrhyw sylwadau, unrhyw wybodaeth, a wnewch chi eu rhoi i mi.
O ran ein hymgysylltiad â'r sefydliadau ambarél, rwyf wedi siarad yn eithaf helaeth â nifer o sefydliadau, gan gynnwys Conffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, y siambrau masnach ac yn y blaen. Byddwn i'n cyfarfod eto yn ddiweddarach yr wythnos hon. Siaradais â swyddogion yn adran fy nghydweithiwr, Dafydd Elis-Thomas, ddoe ynglŷn â'r ymgysylltiad sydd ganddyn nhw â'r sector twristiaeth. Cefais sicrwydd bod cysylltiad agos wedi'i sefydlu â'r sector twristiaeth.
Rwyf bellach wedi cael nifer o lythyrau a mathau eraill o ohebiaeth gan fusnesau yn y sector lletygarwch, o fewn sectorau allweddol eraill yr economi y mae Dafydd Elis-Thomas yn gyfrifol amdanynt. Rydym yn rhoi ystyriaeth i'r galwadau hynny a wnaed o fewn yr ohebiaeth, o ran sut yr ydym yn defnyddio'r £100 miliwn ac unrhyw adnodd ariannol ychwanegol y gallwn ei ddarparu o ganlyniad i'r hyn a fydd, gobeithio, yn gyhoeddiad arwyddocaol iawn yn ddiweddarach heddiw gan Lywodraeth y DU.
Llywydd, bydd yn rhaid imi ystyried y pwynt a gafodd ei wneud o ran y penderfyniad gan gofrestryddion, os caf i, a mynd yn ôl at yr Aelod gyda rhagor o fanylion ynghylch hynny. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth penodol i rai ardaloedd o Gymru ar hyn o bryd, ond bydd angen imi gadarnhau hynny a byddaf yn ysgrifennu yn ôl at yr Aelod cyn gynted ag y gallaf.
Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad ynghylch ardrethi busnes, ond ni fydd hyn yn helpu'r rhan fwyaf o fusnesau bach a phobl hunangyflogedig yn y Rhondda gan nad ydyn nhw'n gymwys i dalu ardrethi busnes. Rwyf wedi cael fy llethu gan negeseuon gan bobl bryderus y mae eu hincwm wedi dod i ben yn ddisymwth yn y dyddiau diwethaf, ac nid oes gan lawer o bobl gynilion oherwydd eu bod wedi buddsoddi popeth yn eu busnesau. Mae pobl sy'n ceisio cyngor ar beth i'w wneud ar hyn o bryd wedi cael gwybod gan yr awdurdodau am fynd ar lwfans ceisio gwaith. Wrth gwrs, nid yw hynny'n mynd i dalu costau gorbenion, morgeisi a biliau eraill. Ni allwn anghofio'r effaith ar y busnesau bach hyn, a rhaid inni wneud yr hyn a allwn i'w helpu i oroesi, ac mae hynny'n cynnwys cymorth gyda thaliadau morgais a rhent fel nad yw pobl yn colli eu cartrefi a'u hadeiladau o ganlyniad i hyn.
Dim ond y bore yma, daeth busnes a oedd yn dechrau codi'n ôl ar ei draed ar ôl cwymp mewn gwerthiannau y llynedd i'm gweld i. Ar ddechrau'r flwyddyn, gofynnais i Lywodraeth Cymru weithredu'n gyflym i gynorthwyo'r cyflogwr sylweddol hwn yn y Rhondda, ac rwy'n falch o ddweud eich bod wedi ateb y galw hwnnw'n dda, Gweinidog, a chafodd cynllun a model busnes eu datblygu a oedd, ynghyd â chynnydd mewn gwerthiannau, wedi rhoi'r cwmni hwnnw ar sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol. Erbyn hyn mae'r cynlluniau hynny'n debygol o fod yn gwbl anghynaladwy. Un peth a allai fod o gymorth i'r cwmni arbennig hwn a nifer o rai eraill yn yr un cwch fyddai cyflwyno'r cynlluniau ProAct a ReAct a ddaeth o adran yr economi o dan Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru yn 2008. Daeth cwmnïau ac undebau llafur at ei gilydd ar ôl y cwymp yn y banciau a gyda'i gilydd gwnaethant gynigion lle'r oedd modd i'r gweithwyr gadw eu swyddi nes bod y storm ariannol wedi symud yn ei blaen. Fe wnaethoch chi sôn am ReAct yn eich datganiad, Gweinidog, ond gwnaeth yr uwchgynadleddau hyn yn 2008 fwy o lawer na hynny.
Soniais i hefyd am yr incwm sylfaenol cyffredinol yn gynharach, ac rwyf eisiau eich gweld yn ymrwymo i hynny o hyd. A allai Llywodraeth Cymru lunio pecyn o fesurau ar fyrder a fyddai'n cynorthwyo'r economi ac yn cadw pobl mewn gwaith ac allan o dlodi? Mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys nawr.
Ac i orffen, hoffwn i ofyn pryd y bydd y grantiau hyn ar gael i fusnesau bach. Mae pobl yn y Rhondda yn dal i aros am gymorth Llywodraeth Cymru a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer y llifogydd bron fis yn ôl. Nid yw pobl yn gallu fforddio aros cyn cael y cymorth hwn. Mae busnesau'n dadfeilio erbyn hyn. Mae angen y cymorth hwn arnyn nhw ar unwaith.
Diolch i Leanne Wood am ei chwestiynau. Rwy'n cydnabod yn llwyr y brys sydd ei angen o ran ymateb i anghenion busnesau. Dyna pam mae'r Prif Weinidog a minnau wedi bod mor glir wrth alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pecyn sylweddol o gymorth i'r economi, llawer yn fwy na'r hyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ac yn unol â'r math o becyn a gyhoeddodd yr Arlywydd Macron neithiwr. Rwy'n credu mai'r ffordd orau o helpu unigolion yn ystod yr argyfwng hwn os ydyn nhw'n gweithio, os ydyn nhw'n hunangyflogedig, yw sicrhau bod yna incwm cyffredinol gwarantedig wedi ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, ac wrth gwrs, gellid diwallu'r gost enfawr sydd ynghlwm â chyflwyno incwm gwarantedig drwy'r ffaith ein bod ni'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae'n weithred sylweddol iawn, iawn, a dim ond Llywodraeth y DU a all ei chyflawni.
O ran helpu busnesau, y ffordd orau o helpu busnesau ar hyn o bryd yw cynorthwyo o ran llif arian, eu costau sefydlog, a'u rhwymedigaethau treth. Unwaith eto, dyna ein gofyn i Lywodraeth y DU. Gallaf sicrhau'r Aelod fod ReAct yn gweithredu ar hyn o bryd. Caiff ei ddefnyddio, rwy'n sicr, yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Ac rydym ni'n edrych ar sut y gallwn ni ddwysáu'r gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu cynnig i fusnesau a sut y gallwn ni, o bosib, ddatblygu ac ail-lunio rhai o'r ymyraethau hynny y mae'r Aelod wedi eu hamlinellu, a ddatblygwyd ar gyfer argyfwng ariannol 2008.
Rwy'n cynrychioli canol dinas ein prifddinas, ac mae'n amlwg bod nifer enfawr o siopau, bwytai, bariau a lleoliadau adloniant y mae hyn yn debygol o effeithio arnyn nhw. Mae canol y ddinas yn dechrau teimlo fel tref anghyfannedd, felly rwy'n ddiolchgar iawn am y rhyddhad ardrethi yr ydych chi wedi ei gyhoeddi, yn ogystal â'r amser i dalu yr ydych chi wedi ei drafod gyda chyllid y wlad. Ond yn amlwg, mae mesurau eraill y bydd eu hangen arnom ni i fynd â ni drwy hyn os nad ydym ni eisiau rhywbeth tebyg i'r blitz yn digwydd i ganol ein dinasoedd, sydd fel arfer yn fannau bywiog.
Roeddwn yn meddwl tybed a allwn i eich holi ynghylch sefyllfa athrawon cyflenwi, gan ychwanegu at yr hyn y mae Dawn Bowden ac Alun Davies wedi ei ddweud, oherwydd os ydych chi'n athro cyflogedig a bod angen i chi hunanynysu cewch eich talu beth bynnag, os ydych chi'n athro cyflenwi sydd angen ynysu eich hun chewch chi ddim eich talu. Yn yr un modd, petai angen i ysgolion gau yn y dyfodol, byddai athrawon cyflenwi heb incwm. Felly, hoffwn ailadrodd y pwyntiau a wnaethpwyd gan Mick Antoniw ac eraill, bod gwir angen eglurder arnom ni y bydd tâl salwch yn statudol i bawb, beth bynnag fo'u statws cyflogaeth, ac mae angen sefydlu naill ai tâl salwch statudol i bawb neu isafswm incwm gwarantedig fel mater o frys i sicrhau bod pobl yn ynysu eu hunain yn hytrach na mentro.
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn? Mae'n tynnu sylw at un maes penodol o weithlu Cymru sy'n dioddef pryder eithriadol ar hyn o bryd o ganlyniad i'r posibilrwydd o golli gwaith. Amcangyfrifwn na fyddai oddeutu 8 y cant o unigolion yng Nghymru yn gymwys i gael tâl salwch statudol. Mae hynny'n gyfran sylweddol iawn, ac felly mae angen i Lywodraeth y DU roi sylw llawn iddo, fel y mae'n cael sylw llawn Llywodraeth Cymru.
Diolch i'r Gweinidog.