– Senedd Cymru am 2:36 pm ar 22 Ebrill 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch ichi, Lywydd. Rwyf am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â'n hymateb i'r coronafeirws o bob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym yn parhau i gynnal cyflenwad o gyfarpar diogelu personol i'n gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen. Rydym yn gweithio ar sail Cymru a'r DU i sicrhau trefniadau cyflenwi mwy cadarn yn y dyfodol. Fel y clywsoch yn gynharach gan y Prif Weinidog, hyd at yr wythnos ddiwethaf, roeddem wedi darparu dros 16.2 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol i'r GIG ac i awdurdodau lleol, i'w dosbarthu ym maes gofal cymdeithasol, o storfeydd pandemig ein GIG. Mae'r stoc pandemig hwnnw yn rhan o'r 48.3 miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol a ddosbarthwyd gennym yng Nghymru ers 9 Mawrth. Mae cyflenwadau wedi'u dosbarthu i ysbytai, ymarfer cyffredinol, gwasanaeth ambiwlans Cymru, fferyllfeydd, a phob awdurdod lleol i'w trosglwyddo ymlaen i ofal cymdeithasol. Ac rwyf eisiau cydnabod y gwaith sylweddol sydd wedi'i wneud i sefydlu strwythurau newydd i ddarparu cyfarpar diogelu personol o'n cyflenwadau cenedlaethol i'n gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys ein darparwyr sector annibynnol ym maes gofal cymdeithasol. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi chwarae rhan yn hyn—ein partneriaid iechyd ac awdurdod lleol, darparwyr gofal cymdeithasol a chydgysylltwyr fforymau lleol Cymru gydnerth.
Mewn unrhyw waith ar y raddfa hon, bydd yna adegau lle na fydd pethau'n gweithio'n union fel y byddem yn ei hoffi. Ac rwy'n ymwybodol iawn o'r straen a'r pryder a deimlir gan ein staff rheng flaen; maent eisiau bod yn siŵr y bydd offer hanfodol ar gael pan fydd ei angen. Ac mae undebau llafur wedi bod yn allweddol yn nodi'r materion hynny mewn amser real ar lefel y gweithle, er mwyn i gyflogwyr ymateb yn gyflym i brinder, sy'n ein galluogi i wella a mireinio'r broses a beth y mae hynny'n ei olygu i ganiatáu i'n staff wneud eu gwaith a gofalu am y cyhoedd.
Mae'r galw byd-eang am gyfarpar diogelu personol yn creu marchnad anniogel ac anrhagweladwy. Fel y gwyddom, mae rhai gwledydd wedi penderfynu atal cyflenwadau cyfarpar diogelu personol rhag cael eu hallforio, ac mae llwybrau cyflenwi eraill wedi wynebu oedi sylweddol. Ac mae'n bosibl mai'r enghraifft amlycaf a mwyaf cyhoeddus yw'r oedi a brofodd y DU gydag archeb o Dwrci yn ddiweddar.
Fodd bynnag, rydym yn mabwysiadu ymagwedd amlweddog yma yng Nghymru i sicrhau ein bod yn llwyddo i ddarparu ein cyflenwad parhaus o gyfarpar diogelu personol yng Nghymru, ac mae hynny'n cynnwys gweithio gyda'r gwledydd eraill yn y DU i gyfuno a rhannu ein hymdrechion caffael i ddod â stociau newydd hanfodol i mewn, ein trefniadau arferol yng Nghymru, caffael cyflenwadau ychwanegol o gyfarpar diogelu personol gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, a'n gwaith gyda busnesau Cymru i gynhyrchu mwy o gyfarpar diogelu personol yma yng Nghymru.
Yn ogystal â gweithio ar y cyd â Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, rydym wrthi'n ysgogi diwydiant yng Nghymru i ychwanegu at y llwybrau cyflenwi hynny ledled y DU drwy arloesedd a gweithgynhyrchu newydd.
Fel y gwyddoch, galwodd y Prif Weinidog yn ddiweddar ar fusnesau a gwneuthurwyr o Gymru i helpu i gynhyrchu cyflenwad Cymreig o gyfarpar diogelu personol i gefnogi ein staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn gweithio gyda diwydiant Cymru i ddatblygu, mireinio a chyflwyno'r syniadau hynny. Ac mae ein dull o weithredu yn bwriadu manteisio i'r eithaf ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael i ni er mwyn cydnabod maint y galw a'r farchnad fyd-eang heriol iawn rydym yn gweithredu ac yn cystadlu ynddi.
Fodd bynnag, rydym wedi cael ymateb gwych gan gwmnïau o Gymru hyd yma. Yng ngogledd Cymru, mae gennym Brodwaith ar Ynys Môn, sy'n gwneud 2,000 o wisgoedd i weithwyr ysbytai bob mis. Hefyd mae gennym Worksafe Workwear yn Rhuthun, sy'n cynhyrchu dros 2,000 o wisgoedd i weithwyr ysbytai bob mis. Roedd un o'r cwmnïau hynny'n arfer gwneud pyjamas a'r llall yn arfer gwneud bagiau. Maent yn enghreifftiau da o'r modd y mae cwmnïau wedi addasu eu prosesau mewn ychydig wythnosau i gynhyrchu'r offer rydym ei angen—dillad i weithwyr ysbytai yn yr achos hwn.
Mae gennym hefyd enghreifftiau amlwg iawn o'r Bathdy Brenhinol a Rototherm Group, sy'n gwneud y feisorau a'r tariannau wyneb sy'n cael eu gwisgo gan staff gofal iechyd. Ac mae distyllfa jin In The Welsh Wind yn gwneud diheintydd llaw a gymeradwywyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae lefel yr arloesedd a'r cymorth sydd wedi dod o bob rhan o Gymru wedi gwneud argraff fawr arnaf.
Bydd y galw am gyfarpar diogelu personol yn parhau i fod yn llawer uwch na'r arfer am y dyfodol rhagweladwy. Mae'r holl gamau rydym yn eu cymryd yng Nghymru wedi'u hanelu at sicrhau cyflenwad o gyfarpar diogelu personol i'n staff sydd ei angen i barhau i weithio ac i ofalu am y cyhoedd yn ddiogel. Wrth gwrs, mae'n bwysig fod y canllawiau ar gyfarpar diogelu personol yn cael eu dilyn yn briodol a bod y staff sydd angen y cyfarpar diogelu personol hwnnw, wrth gwrs, yn ei ddefnyddio'n unol â'r canllawiau hynny.
Ar gynnal profion—gwn fod sylwadau wedi cael eu gwneud yn natganiad y Prif Weinidog ac mewn cwestiynau—ar 15 Ebrill, comisiynais adolygiad cyflym a oedd yn canolbwyntio ar elfennau allweddol ein cynllun ar gyfer profi gweithwyr hanfodol. Roedd hwnnw'n cynnwys ein capasiti profi, mynediad at brofion, ynghyd â'r broses atgyfeirio a chanlyniadau. Yn dilyn yr adolygiad, gallaf gadarnhau bod ein capasiti profi yn 1,800 o brofion y dydd bellach. Rwyf wedi sicrhau bod £50 miliwn o arian Llywodraeth Cymru ar gael i gyflwyno rhagor o offer, adweithyddion cemegol ac adnoddau eraill i gynyddu ein capasiti profi. Bellach, mae gennym ganolfannau profi mawr yn weithredol yng Nghaerdydd a Chasnewydd a bwriedir i seilwaith profi newydd ar gyfer gogledd a de Cymru fod ar waith yn fuan—o fewn y pythefnos nesaf, yn ôl yr hyn a ddeallaf heddiw—i roi hwb i'r trefniadau profi presennol sydd eisoes ar waith. Rydym yn treialu platfform archebu ar y we yr wythnos hon, ac rwyf wedi dileu'r terfyn ar atgyfeiriadau gan awdurdodau lleol, ac rwyf hefyd wedi cyhoeddi polisi gweithwyr hanfodol newydd sy'n ymestyn nifer y grwpiau y gellir eu profi yn awr. Rydym bellach yn profi holl breswylwyr cartrefi gofal sy'n dangos symptomau a phob preswylydd cartref gofal sy'n dychwelyd o'r ysbyty. Gellir atgyfeirio pob aelod o staff cartrefi gofal sy'n dangos symptomau i gael profion hefyd yn awr.
Rwy'n parhau i fod yn hyderus, yn dilyn trafodaethau gyda'n prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd, fod ein cynllun yn nodi'r dull cywir o sicrhau ein bod yn darparu'r profion cywir ar yr adeg gywir lle mae eu hangen yn y tymor byr a'r tymor hwy. Felly, rwy'n hyderus ar y pwynt hwn ein bod yn profi'r bobl iawn.
Ar bwnc gwahanol, rwy'n deall ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod ac yna'n ceisio deall, ar draws y DU, pam ein bod yn gweld nifer anghymesur o bobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi mynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i Covid-19.
Ddoe, cadarnheais y byddem ni yng Nghymru yn cyfrannu at yr adolygiad sy'n cael ei arwain gan Public Health England i archwilio rôl cyflyrau meddygol sy'n bodoli eisoes. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymdrechu i sefydlu a oes unrhyw ffactorau penodol a allai helpu i lywio penderfyniadau ynglŷn â'r angen i ni roi cyngor cyhoeddus gwahanol ynghylch cydafiachedd, ynysu, gwarchod a chyfarpar diogelu personol mewn perthynas â phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Byddwn yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'n cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yma yng Nghymru i helpu i lunio'r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen.
Nawr, ar ofal cymdeithasol a diogelu plant, rwy'n gwybod bod pryderon mawr, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond gan randdeiliaid allweddol eraill. Rydym yn deall bod gwasanaethau o dan bwysau, ac ar yr un pryd, gwyddom fod yr argyfwng yn rhoi straen mawr ar bawb sy'n rhan o fywydau plant agored i niwed. Er mwyn cefnogi adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'u partneriaid i fynd i'r afael â'r heriau hynny, rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant. Cawsant eu datblygu drwy weithio'n agos gyda rhanddeiliaid ac maent yn nodi mesurau y dylid eu rhoi ar waith i leihau effaith y pandemig; i helpu awdurdodau lleol a'u partneriaid i barhau i ddarparu cymorth effeithiol i blant sy'n agored i niwed, sydd mewn perygl neu sydd wedi cael profiad o ofal, tra'n cynnal eu dyletswyddau statudol.
Mae diogelu yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i bawb. Rwy'n bryderus am y gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau a'r adroddiadau o bryder am oedolion a phlant sydd mewn perygl o gael eu niweidio, eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ystod pandemig y coronafeirws. Felly, rwyf eisiau atgoffa pawb fod adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn gweithredu yn ôl yr arfer a'u bod yn gallu ymateb i bryderon sydd gan bobl. Felly, os ydych yn teimlo y gall unrhyw un, boed yn oedolyn neu'n blentyn, fod mewn perygl o gael ei gam-drin, ei niweidio neu ei esgeuluso, gallwch roi gwybod drwy ffonio 101 neu gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol. Mae cymorth ar gael drwy linell gymorth Byw Heb Ofn i unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn ag unrhyw un a allai fod yn dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Ac yn olaf, rwy'n gofyn i'r cyhoedd beidio â llaesu dwylo. Rydym wedi cynyddu capasiti'r GIG yn sylweddol ac wedi cymryd camau eithriadol i newid y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Nid oes amheuaeth fod hynny wedi atal lledaeniad llawer ehangach a mwy ffyrnig o goronafeirws yma yng Nghymru. Mae'r camau rydym i gyd yn eu cymryd yn achub bywydau. Fodd bynnag, mae llawer mwy i bawb ohonom ei wneud am beth amser i ddod.
Prynhawn da, Weinidog. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch nid yn unig i'n holl wasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymunedol, ond i bawb sy'n helpu Cymru i geisio rheoli ac ymdopi â'r sefyllfa erchyll hon rydym ynddi. Hoffwn gydymdeimlo hefyd â'r holl bobl sydd wedi colli anwyliaid dros yr wythnosau erchyll diwethaf. Hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn ddiolchgar am ein trafodaethau rheolaidd, ac maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi allu deall yr hyn sy'n digwydd a gallu craffu ar waith y Llywodraeth.
Gan droi at eich datganiad, rwyf wrth fy modd eich bod yn teimlo bod gwelliant yn cael ei wneud mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol a sicrhau ei fod yn y lle iawn, ar yr amser iawn ar gyfer y bobl iawn. A allwch chi gadarnhau, fodd bynnag, faint yn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei gaffael y tu allan i strategaeth brynu'r pedair gwlad? Rwy'n rhannu'r farn yn llwyr y dylem fod yn rhan o strategaeth brynu'r pedair gwlad. Mae'n amlwg y bydd prinder cyfarpar diogelu personol yn y byd am fisoedd lawer i ddod, ac mae'n gwneud synnwyr i gael y pŵer prynu cyfunol hwnnw, ond wrth gwrs, mae nifer o lwybrau eraill y gallwn fanteisio arnynt. Felly, a ydych mewn sefyllfa i ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â chaffael cyflenwadau cyfarpar diogelu personol ychwanegol gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a nodwyd gennych yn eich datganiad?
Rwyf hefyd eisiau diolch a chroesawu'r newyddion gwych fod cymaint o gwmnïau o Gymru wedi troi eu llaw at ein helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Nawr, hoffwn droi at y rhan o'ch datganiad sy'n ymwneud â phrofi, Weinidog. Rwy'n pryderu'n fawr am y penderfyniad i roi'r gorau i'r targedau ar gyfer profi. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gyfraniad ychydig yn gynharach—yn ei ddatganiad—byddwn yn y sefyllfa hon am amser hir, ac rwy'n credu bod hwn yn faes hollbwysig. Ac rwy'n credu y gallwch ddweud ei fod yn faes pwysig am ei fod wedi cael sylw heddiw gan gynifer o bobl eraill. Os ydym eisiau rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau symud gan gyfyngu'n helaeth ar y perygl o ail neu drydydd ymchwydd o'r clefyd, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol inni gael system brofi gref iawn ar waith.
Nodaf eich adolygiad cyflym—mae gennyf gopi ohono yma, rwyf wedi'i ddarllen. A bod yn onest, nid yw'n dweud llawer mwy na'r hyn roeddem i gyd yn ei wybod dros yr wythnosau diwethaf hyn, ond ei bod wedi cymryd amser i'w gynhyrchu. Rwy'n siomedig mai 1,800 prawf y dydd yn unig rydym wedi'i gyrraedd, i lawr o'r 9,000 a addawyd pan ddechreuodd hyn i gyd. Rwy'n croesawu'r platfform archebu ar y we, ond rwyf eisiau ailadrodd fy ngalwad am arweinydd adnabyddadwy a all ddarparu rhaglen brofi i Gymru, nid yn unig heddiw, ond ar gyfer y misoedd sydd i ddod. Rhywun—a thîm—sydd â logisteg, profiad a llwyddiant o ran cyflawni, oherwydd nid yn unig y mae angen profion yn y pwynt gofal a chanolfannau profi rhanbarthol arnom, rydym angen canlyniadau cyflym hefyd. Yng ngorllewin Cymru a gogledd Cymru, rwy'n dal i glywed bod canlyniadau profion yn dod yn ôl yn rhy hwyr. Byddwn yn edrych ar becynnau cartref, bydd angen olrhain cysylltiadau, bydd angen i ni adeiladu meddalwedd, bydd yn rhaid i ni edrych ar y modelu y byddwn angen ei wneud er mwyn ein galluogi i roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud, ac mae angen tîm pwrpasol i wneud hynny.
Ychydig ddyddiau'n ôl, fe ddywedoch chi mai profi oedd eich prif flaenoriaeth, y diwrnod wedyn fe ddywedoch chi mai cyfarpar diogelu personol oedd eich prif flaenoriaeth. Rwy'n llwyr gydnabod eich bod yn cael eich tynnu i bob cyfeiriad gyda blaenoriaethau'n cystadlu'n erbyn ei gilydd. Rwy'n erfyn arnoch, Weinidog, i ystyried rhoi'r gwaith hwn i dîm a all ganolbwyntio arno a'i gyflawni, oherwydd bydd yn strategaeth mor hanfodol i ni allu symud ymlaen.
Hoffwn fynd i'r afael â dau faes arall na chafodd eu crybwyll yn eich datganiad er mar ofid i mi. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r ffaith bod ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr, oddeutu tair wythnos yn ôl, wedi cael sicrwydd y gellid dileu eu dyledion presennol er mwyn sicrhau y gallent ganolbwyntio'n llawn ar ymladd COVID-19. Ond yma, nid oes addewid tebyg wedi bod, a sylwais ar yr ymatebion yn y gynhadledd i'r wasg ddoe pan oeddech yn awyddus iawn i ddweud, 'Wel, nid ydym yn gwybod yn iawn pa fath o arian rydym yn ei gael. Nid ydym yn hollol siŵr.' Gallaf fod yn glir—byddwn yn cael cronfa COVID gwerth £2 biliwn eleni; ar ben hynny, mae gennym £1.4 biliwn arall o symiau canlyniadol. Yn eich ateb ysgrifenedig i fy nghwestiwn, sylwais eich bod yn dweud nad ydych yn codi llog ar y ddyled. Yn hollol, ac rydych yn cyfeirio at fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro fel enghraifft o fwrdd iechyd sydd bellach yn rhydd o ddyled, ond gadewch inni fod yn glir iawn, roedd y bwrdd hwnnw'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru am ddwy flynedd a hanner, a chyflawnodd hynny yn y cyfnod cyn-COVID. Rydym mewn sefyllfa wahanol yn awr. Mae gennym fyrddau iechyd sydd mewn dyled rhyngddynt o £100 miliwn i Lywodraeth Cymru, ac maent hwy hefyd yn dal i weithredu ar y rhagdybiaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn talu am yr holl waith y maent yn ei wneud yn awr. A wnewch chi nodi, yn glir iawn, pa gymorth ariannol rydych yn bwriadu ei gynnig i'r byrddau iechyd hyn?
Mae fy set olaf o gwestiynau'n ymwneud â'r data rydym yn ei gasglu ar hyn o bryd. Mae data, wrth gwrs, bob amser yn un o'r pethau y gallwch ei ddehongli mewn llawer iawn o ffyrdd, ac mae gwahanol wledydd yn mesur data mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ond rwy'n pryderu bod setiau data diweddar sydd wedi ymddangos yn dangos gwahaniaethau mor enfawr, Weinidog iechyd, rhwng byrddau iechyd o ran nifer y bobl sydd wedi marw yn yr ysbyty, nifer y bobl sydd wedi marw mewn cartrefi gofal, mewn hosbisau, neu hyd yn oed yn eu cartrefi eu hunain. A heb ddeall y data hwnnw'n iawn, nid wyf yn credu y gallwn ddechrau creu darlun sylweddol o sut y mae proses COVID-19 yn gweithio; y math o bobl—pryd, lle, pam, sut—cwestiynau hanfodol i ddeall unrhyw beth cyn y gellir mynd i'r afael o ddifrif â'r hyn sydd wedi digwydd a beth sydd angen inni ei wneud yn y dyfodol. Felly, a wnewch chi adolygu sut rydym yn casglu ein data a sut rydym yn ei ddefnyddio? Felly, un enghraifft gyflym: rydym yn dweud mai tua 10 i 12 o bobl yn unig a fu farw o COVID mewn cartrefi gofal ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan o gymharu â'r bwrdd iechyd cyfagos lle mae'r nifer bron dair gwaith yn uwch. Nawr, efallai eu bod wedi'i ddal mewn cartref gofal, a'u bod wedi cael eu cludo i'r ysbyty, ac mai dyna lle buont farw yn anffodus. Ond mae hwnnw'n ddata pwysig iawn i'w ddeall, oherwydd rydym yn gwybod felly fod y clefyd wedi digwydd yn y cartref gofal mewn gwirionedd a gallwn roi mesurau ar waith yn unol â hynny. Felly, a wnewch chi adolygu hynny, os gwelwch yn dda?
Yn amlwg mae gennyf nifer o gwestiynau, ond gallaf weld y bydd y Llywydd eisiau clywed gan bobl eraill, a hynny'n briodol, ac felly rwyf am roi'r gorau iddi yn y fan honno. Unwaith eto, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am y wybodaeth rydych yn ei rhannu'n rheolaidd.
Ar y pwynt olaf a godwyd gan Angela Burns ynglŷn â chasglu a defnyddio data, rwy'n hapus i adolygu'r data er mwyn inni allu bod yn fwy sicr am ei gywirdeb a sut y caiff ei ddefnyddio wedyn i fynd i'r afael â meysydd gwella a dysgu ar draws y system. Rwy'n credu ei bod bob amser yn bwynt teg i feddwl ynglŷn â sut rydym yn adolygu'r hyn rydym yn ei wneud a pham a sut y caiff gwybodaeth ei defnyddio i'n galluogi i wella.
O ran cyllid, rwyf am ailddatgan yr hyn a ddywedais ddoe: ni fydd yr un bwrdd iechyd lleol yn cael ei gosbi am y camau y maent wedi'u cymryd wrth ymateb i'r bygythiad unwaith mewn canrif y mae coronafeirws yn ei greu. Rwyf wedi siarad yn rheolaidd â chadeiryddion a phrif weithredwyr ar draws teulu'r GIG ac nid oes unrhyw un wedi tynnu fy sylw o gwbl at bryderon ynglŷn â sut y bydd y cyllid yn cael ei gysoni ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn, ond pwynt o gywirdeb yn unig yw'r ffaith nad ydym yn sicr ynglŷn â'r symiau canlyniadol. O'r prif ddatganiadau a wneir, rhaid inni drosi'r hyn a ddaw i Gymru mewn gwirionedd.
A'r pwynt arall na all yr un ohonom ei osgoi yw'r ffaith nad ydym yn gwybod sut yn union y mae coronafeirws yn datblygu a hyd a lled y straen a'r pwysau y bydd yn eu cynhyrchu, nid yn unig mewn perthynas â'r adnoddau ychwanegol sylweddol rydym wedi'u darparu i greu rhwydwaith o ysbytai maes, ond wrth gwrs, y pwysau sylweddol a pharhaus i ddarparu cyfarpar diogelu personol a phwysau'r gost real iawn y mae hynny'n ei olygu ynddo'i hun, a chydbwyso hynny â gweithgarwch arall nad yw'n digwydd lle nad yw'r costau'n codi ond lle caiff y staff hynny eu hadleoli i raddau helaeth. Felly, nid yw'r modd y mae arian yn symud o amgylch y system yn sicr, ond i ailddatgan: ni fydd unrhyw fwrdd iechyd, nac unrhyw ymddiriedolaeth yng Nghymru, yn cael eu cosbi am y gweithgarwch y maent yn ei wneud i gadw pob un ohonom yn ddiogel.
Ar gynnal profion, rydym wedi cyrraedd 1,800 o brofion heddiw. Bob bore dydd Mawrth, byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar y cynnydd mewn profion a'r rhagolygon, ac yn ddiweddarach heddiw, byddaf yn cadarnhau nifer o ffigurau eraill. Ond o ran yr amserlen ar gyfer profi, fy nealltwriaeth i yw y dylwn allu cadarnhau pan fyddaf wedi cyhoeddi materion heddiw—ac mae'n destun gofid i mi nad oeddwn yn gallu gwneud hyn cyn y sesiwn heddiw—fod dros 90 y cant o bobl yn derbyn eu canlyniadau o fewn deuddydd i gynnal y prawf. Rydym wedi cynnal dros 27,000 o brofion yma yng Nghymru, ac ar sail y pen o'r boblogaeth mae hynny'n golygu ein bod yn cynnal mwy o brofion na'r Alban a Lloegr. Felly, mewn gwirionedd, mae ein cyfradd weithgarwch yn cymharu â gwledydd eraill y DU. Mae'r her sy'n ein wynebu yn ymwneud nid yn unig â'r hyn rydym ei angen yn awr i sicrhau bod gweithwyr hanfodol, gan gynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, gwasanaethau brys eraill a phartneriaid eraill yn cael y prawf, ond yn amlwg, y pwynt rwyf wedi'i wneud dro ar ôl tro ynglŷn â graddau'r profi rydym ei angen cyn cefnu ar y cyfyngiadau symud er mwyn sicrhau ein bod yn profi ar raddfa lawer mwy sylweddol a gwasgariad a mynediad at y profion hynny hefyd.
Ar gyfarpar diogelu personol, hoffwn ailddatgan: rydym ymhell o fod yn llaesu dwylo neu'n hunanfodlon ynglŷn â'n sefyllfa. Rydym yn gwybod ein bod yn gweithredu gyda'r rhagdybiaeth y byddwn yn cael cyfarpar diogelu personol, ond rydym yn dibynnu ar gyflenwadau a ddaw i mewn bob wythnos i wneud yn siŵr ein bod yn ddiogel. Nid yw'r sefyllfa o ran gwisgoedd atal hylif a welsom yn Lloegr dros y penwythnos yn rhywbeth sy'n rhoi unrhyw gysur i ni am nad oeddem yn y sefyllfa honno, oherwydd gwyddom ein bod angen cyflenwadau rheolaidd i sicrhau nad ydym yn y sefyllfa honno lle mae'n rhaid inni ailystyried beth i'w wneud os nad yw'r ffynhonnell gyntaf o gyfarpar diogelu personol ar gael i ni ac i'n staff. Ni allaf roi cyfanswm y nifer o eitemau cyfarpar diogelu personol rydym wedi'u caffael y tu allan i lwybrau prynu'r pedair gwlad, ond rydym yn parhau i fynd drwy bob un o'r cyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Rydym yn awyddus i edrych ar gyfleoedd unigol i gydweithio â gwledydd eraill y DU. Ac mae hynny'n dal i ddigwydd yn ogystal â'n trefniadau caffael pedair gwlad. A'r hyn rydym wedi cytuno i'w wneud yw bod yn agored gyda'n gilydd ar draws y pedair Llywodraeth ynglŷn â faint sydd gennym o bob eitem. Oherwydd y cyd-gymorth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato a ddarparwyd gennym i Ogledd Iwerddon, efallai ein bod yn disgwyl i'r cyd-gymorth hwnnw gael ei ddarparu yn y dyfodol, boed o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Felly, mae'r tryloywder rydym ei angen yn bwysig iawn i wneud i hyn weithio oherwydd mae'r farchnad rydym ynddi mor gystadleuol ac mor ansicr fel na fydd ymagwedd cenedl unigol o fudd i'n staff na'r cyhoedd. Ond rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ein sgyrsiau rheolaidd ynglŷn â'n sefyllfa a'r cwestiynau y gwn eich bod yn eu gofyn mewn gohebiaeth hefyd. Rwy'n hapus i wneud hynny.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad ac am ein sgyrsiau rheolaidd ni? Rydw i'n falch gallu gofyn y cwestiynau mewn fforwm gyhoeddus fel hyn. Gaf i gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i'r holl weithwyr allweddol hynny mewn iechyd a gofal a meysydd allweddol eraill sydd yn gweithio mor, mor galed ar ein rhan ni gyd ar hyn o bryd?
Yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod yna nifer o feysydd sydd dal yn sefyll allan: diffyg profion; pryderon am offer diogelwch neu PPE yn dal yn broblem wirioneddol ar lawr gwlad, ac ymhlith y rheini sydd ar y rheng flaen, wrth gwrs. Dydyn ni ddim yn profi digon. Does yna ddim cynlluniau i brofi digon, a does gan wasanaethau, yn enwedig y gwasanaethau gofal, dwi'n meddwl, ddim yr hyder y buaswn i'n licio eu gweld nhw yn ei gael yn ein cyflenwadau, wrth inni edrych ar yr wythnosau sydd o'n blaenau ni.
Gadewch imi ganolbwyntio ar ychydig o'r materion allweddol hynny, felly. Rwy'n meddwl bod llawer o ddryswch o hyd ynglŷn â phrofi. Fel y gwyddoch, Weinidog, rwy'n dal i fod heb fy argyhoeddi gan safbwynt Llywodraeth Cymru ar brofi. Cawsom wybod eto heddiw fod ychydig dros 20,000 o bobl wedi cael eu profi yng Nghymru hyd yn hyn, ond i roi hynny yn ei gyd-destun: o dan y targedau gwreiddiol, byddem wedi profi 20,000 ers bore Llun. Nawr, ni fyddech wedi dewis y targedau gwreiddiol—8,000 y dydd a mwy erbyn hyn—allan o unman; byddent wedi bod yn seiliedig ar gyngor. Gwyddom mai cyngor Sefydliad Iechyd y Byd yw bod profi yn rhan allweddol o'r frwydr yn erbyn coronafeirws, felly a allwch egluro pa newid a fu yn y cyngor a roddir ichi ar werth profi, oherwydd rydym wedi mynd o'r targed o 8,000 neu 9,000 y dydd i tua 1,000? Rydych newydd ddweud funud yn ôl ei fod yn 1,800 heddiw. Nawr, mae'n gapasiti o 1,800 heddiw; roedd yn llai na 1,000 o brofion ddoe, felly mae angen inni wybod beth sy'n cael ei ddweud yn wahanol wrthych.
Ddoe, dywedwyd wrthym fod llai o ledaeniad nag a feddyliom: oes, ond mae hynny oherwydd y cyfyngiadau symud, oherwydd cadw pellter cymdeithasol effeithiol; mae'n gweithio'n well nag yr oeddem wedi'i ofni o bosibl. Nid yw'n gwneud y firws yn llai heintus, felly onid oes angen inni gael profion cymunedol effeithiol ar waith cyn y gallwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud? Yn wir, oni ddylem ddweud na allwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud? Ni allwn gael gwared ar y cyfyngiadau i raddau sylweddol hyd nes y bydd gennym brofion cymunedol ar waith, ac mae angen cynllun i wneud hynny. Nid yw'n ymddangos bod gennym un, neu nid wyf wedi fy argyhoeddi bod gennym un, felly a all y Gweinidog gysoni'r anomaledd hwnnw i ni? Sut y gallwn ddatblygu ein profion yn barod ar gyfer llacio'r cyfyngiadau heb fod gennym lwybr i'w ddilyn ar gyfer cynyddu niferoedd y profion?
A dywedodd y Prif Weinidog heddiw nad oes gennym broblem capasiti. Os nad oes gennym broblem capasiti, pam eich bod chi, yn gwbl briodol, yn rhoi £50 miliwn tuag at gynyddu capasiti? Yn ôl yr hyn a welaf i, nid ydym yn cyrraedd y capasiti hwnnw'n ddigon cyflym. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ymwneud â'r ffaith nad oes digon o bobl yn mynd i gael profion. Wel, beth am gael polisi sy'n annog pobl i wneud hynny, fel model profi cymunedol sy'n tyfu, fel ein bod yn adeiladu tuag at roi'r gorau i'r cyfyngiadau? Mae pob un ohonom am iddo ddigwydd cyn gynted â phosibl, ond ni allwn ei wneud hyd nes ein bod yn gwybod bod yr amser yn iawn.
Gadewch imi droi at gyfarpar diogelu personol: pryder gwirioneddol. Dau beth sydd angen i ni ei wybod, wrth gwrs: fod gennym ddigon o gyfarpar diogelu personol ar y silffoedd yn awr, a'r wythnos hon a'r wythnos nesaf ar gyfer y rhai sydd eu hangen. O'r hyn rwy'n ei ddeall, rwy'n meddwl ein bod yn weddol agos ati ar y funud, sy'n beth da, er fy mod yn dal i glywed am broblemau, yn enwedig yn y sector gofal. Yn y tymor hwy, fodd bynnag, y pryderon a glywaf yw bod diffyg hyder yn yr hyn sydd ar ei ffordd yn yr wythnosau nesaf, faint ohono, ac yn hollbwysig, beth yw'r amserlenni cyflenwi er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y mannau lle mae ei angen. Nawr, a allwn ddisgwyl cael y math hwnnw o gynllun manwl? A chyda'r fyddin, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi bod yn cynorthwyo gyda'r adolygiad o ddosbarthiad, a ellir rhannu canlyniadau'r adolygiad hwnnw fel ffordd o roi hyder i bobl?
Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod hefyd—ac rwyf wedi gofyn i'r Gweinidog droeon—lle rydym arni o ran gallu cyrchu ein cyfarpar diogelu personol ein hunain yn rhyngwladol, yn ogystal â bod yn rhan o'ch cydymdrechion pwysig ar draws y DU. Rydym yn gwybod y cefndir: cyflenwyr yn Lloegr yn gwrthod gwerthu cyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal yng Nghymru; awyrennau'n llawn o gyfarpar diogelu personol yn glanio yn yr Alban; archeb fawr ar ei ffordd i Ogledd Iwerddon, ond nid oes unrhyw beth tebyg i hynny'n digwydd yma. Felly, os ydym yn cyflwyno archebion o'r fath ein hunain, a chael ein cyflenwadau ein hunain—o Tsieina, er enghraifft—mae hynny'n wych; mae'n newyddion da. Efallai y gallwn ofyn ichi rannu manylion yr archebion hynny heddiw. Ond rydym hefyd yn clywed am Lywodraeth y DU yn dweud wrth y gweinyddiaethau datganoledig, 'Ni chewch chi gaffael drosoch eich hunain yn rhyngwladol mwyach.' Efallai y gallwch ddweud wrthym a ydych wedi cael cyfarwyddyd o'r fath.
Y trydydd maes i holi yn ei gylch yn fyr: a gaf fi ofyn pa waith sy'n cael ei wneud ar gyfarpar diogelu personol i'w ddefnyddio gan y cyhoedd? Rwy'n credu bod tystiolaeth gynyddol y gallai gwisgo masgiau fod yn ddefnyddiol er mwyn arafu'r trosglwyddiad pan fydd rheoliadau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu llacio. Felly, yn ychwanegol at gyfarpar diogelu personol at ddefnydd proffesiynol, pa gynlluniau sy'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru ar gyfer caffael neu gynhyrchu neu ddosbarthu masgiau at ddefnydd y cyhoedd, oherwydd mae'n ddigon posibl y bydd pawb ohonom eu hangen yn fuan?
Ac yn olaf—cwestiwn gennyf fi hefyd ar ddata. Rydym yn cael y data dyddiol ar farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID mewn ysbytai, ac mae oedi yn y broses o gofrestru marwolaethau. Rydym wedyn yn aros i weld ffigurau marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID yn y gymuned hefyd, sy'n awgrymu, rwy'n credu, fod tua thraean yn fwy yn marw'n uniongyrchol o COVID o ran cyfanswm nag y mae'r ffigurau dyddiol swyddogol o ysbytai yn ei ddangos. Ond ar ben hynny, mae gennym y marwolaethau trasig sy'n digwydd—marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID, ond marwolaethau na fyddent wedi digwydd yn ôl pob tebyg oni bai am y cyfyngiadau presennol: pobl ddim yn mynd am driniaeth amserol, ddim yn mynd at y meddyg ac yn y blaen. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cymharu cyfraddau marwolaeth yn awr â'r cyfraddau marwolaeth arferol, a chanfod fod y ffigur bron yn ddwbl yr hyn y byddem fel arfer yn ei ddisgwyl ar draws y DU ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Dyna 8,000 yn fwy yn yr wythnos lawn gyntaf o Ebrill. Felly, a allwch ddweud wrthym gydag unrhyw hyder beth gredwch chi yw'r ffigurau cyfredol ar gyfer nifer y marwolaethau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac a ydym yn gallu asesu, drwy'r data hwnnw, y camau y gellid eu cymryd i achub bywydau?
Diolch ichi am y rhestr faith honno o gwestiynau, sylwadau a phwyntiau. O ran y man cychwyn ar gyfer profi ac a ydym yn cynnal digon o brofion—rydym wedi siarad am hyn yn ein cyfarfodydd eraill ac yn yr ymateb a ddarparwyd gennyf yn y fforwm cyhoeddus mewn sylwebaeth ac wrth ateb cwestiynau gan y wasg. O ran a ydym yn profi digon, mae gennym ddigon o gapasiti, ac mae'n ymwneud â gwneud defnydd o'r capasiti hwnnw. Dyna pam roedd angen i'r adolygiad y gofynnais amdano edrych nid yn unig ar ba mor gyflym rydym yn cynyddu'r capasiti, ond y defnydd a wnawn ohono a'r system sydd gennym i sicrhau bod pobl yn cael profion ar ôl eu hatgyfeirio. Rwy'n cydnabod bod rhai heriau yn ein system, a dyna pam y bu rhai newidiadau ar unwaith i wella hynny. Rydym eisoes wedi gweld llawer mwy o weithgaredd mewn perthynas â'r bobl o'r sector gofal. Rydym eisoes wedi clywed gan lywodraeth leol; maent yn cyflwyno niferoedd llawer mwy o'u staff a phobl yn y sector annibynnol. Rydym yn fwriadol wedi tynnu Fforwm Gofal Cymru i mewn i'r gwaith a wnawn fel bod gan y rheini yn y sector annibynnol lwybr mwy eglur o lawer o ran sut y gallant gael eu staff wedi'u hatgyfeirio, a deall y newidiadau polisi a wnaed y cyfeiriais atynt yn fy natganiad, ac yn hollbwysig, fod fforymau lleol Cymru gydnerth, sy'n gorfod cyd-gysylltu'r ymateb brys ledled Cymru, a'r amrywiaeth o wasanaethau, hefyd yn deall sut y gallant atgyfeirio eu haelodau staff yn ogystal, er mwyn sicrhau bod y broses yn gydradd, yn gyson ac yn effeithiol. Felly, ein capasiti presennol yw'r hyn y defnyddir hynny ar ei gyfer, ac rwyf wedi cael sgwrs uniongyrchol gyda'r prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd, ac rwyf hefyd wedi siarad â'r prif swyddog meddygol bob dydd yn ogystal, ac maent yn hyderus.
Roedd un o'r pwyntiau a godwyd gennych yn ymwneud â pha gyngor a gawn. Bydd ein sefyllfa yn ateb yr angen sydd gennym yn y sector hwnnw o weithwyr. Ond y pwynt rwyf wedi'i wneud yn rheolaidd, a gwn ichi gyfeirio ato hefyd yn eich sylw ynglŷn â gwerth profion—rwyf wedi gwneud y pwynt yn rheolaidd fod angen inni gael seilwaith cymunedol llawer mwy ar waith ac yn barod i weithredu. Nid yw hynny'n golygu ein bod yn ei brofi am y tro cyntaf ar y diwrnod cyntaf ac yn ceisio rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau symud fesul cam, ond bod y capasiti'n cael ei gynyddu'n raddol, yn gynyddol, a'i fod ar waith cyn inni roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud. Dyna bwynt a wneuthum sawl gwaith dros yr wythnos ddiwethaf.
Ond y rheswm pam nad ydym yn gorfod profi 5,000 o bobl a mwy y dydd yw oherwydd y cadw pellter cymdeithasol a gyflwynwyd, oherwydd y mesurau a roddwyd ar waith i gyfyngu ar symud yn y wlad, oherwydd ymateb y cyhoedd, oherwydd ein bod wedi ymyrryd a gwastatáu'r gyfradd heintio bresennol mor llwyddiannus. Ond nid yw hynny'n golygu y gallwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud heddiw, a hynny am amryw o resymau y credaf fod yr Aelodau yma'n eu deall yn iawn. Dyna pam y gwneuthum y pwynt droeon, a byddaf yn parhau i'w wneud, ein bod angen y seilwaith mwy hwnnw'n barod ac ar waith cyn i'r profion fynd allan. Ac nid wyf yn meddwl bod anghysondeb yn hynny, oherwydd dyna'n union y bûm yn ei ddweud yn eithaf cyson pan ofynnwyd i mi am hyn dros yr wythnos ddiwethaf a mwy.
Ar y pwynt am y diweddariad wythnosol—yn y diweddariad wythnosol sy'n cael ei gyhoeddi ar fore Mawrth, yn y dyfodol ni fyddaf yn rhoi diweddariad ond yn hytrach, byddaf yn nodi ble rydym yn disgwyl ei gyrraedd dros yr wythnos nesaf. Daw hynny o'r cyngor a gawn gan ein system ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill ar sut rydym yn cynyddu ein capasiti yma, yr hyn y mae contractau'r DU yn ei ddarparu ar ein cyfer, i roi'r syniad o ble rydym yn mynd nesaf. Oherwydd nid tynnu ffigur o unman a wneuthum—roedd yn seiliedig ar y cyngor a gawsom. Ac yn yr adolygiad profion, nodais y rhesymau pam nad oeddem yn gallu cael y ffigur blaenorol hwnnw ar brofion: y newid mewn ymddygiad ar draws gweddill y byd; y trefniadau blaenorol a oedd gennym ar waith; y ffaith bod gwledydd eraill wedi rhwystro cyfarpar rhag gadael eu gwledydd, gan gynnwys adweithyddion cemegol a phecynnau profi ffisegol; a'r ffaith bod oedi wedi bod cyn cael rhywfaint o'r cyfarpar hwnnw. Mae'r rhain i gyd yn ffactorau real iawn sydd y tu hwnt i'n rheolaeth. Felly, yn hytrach na gosod targed newydd pan na allaf reoli amryw o'r ffactorau hynny, na'n gweithredwyr ein hunain yma ychwaith yn y teulu iechyd yng Nghymru, rwyf wedi ymrwymo i roi diweddariad rheolaidd ar yr hyn rydym yn ei wneud a'r hyn rydym yn disgwyl ei wneud i gyrraedd y pwynt lle bydd gennym seilwaith llawer mwy o faint yn ei le.
Ar gyfarpar diogelu personol, darperir amserlen reolaidd i awdurdodau lleol ac o fewn ein system gofal iechyd, ar gyfer pryd y gallant ddisgwyl cyflenwadau. A bod yn deg, mae'r arweinyddiaeth yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cydnabod y bu gwelliant yn y ddealltwriaeth o'r hyn sy'n dod a'r ffordd y caiff ei gyflenwi. Fel y dywedais, mae dros 40 y cant o stoc pandemig ein gwasanaeth iechyd gwladol wedi cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i'w ddefnyddio yn y sector gofal, gan gynnwys gan y busnesau unigol a fyddai fel arfer yn dod o hyd i'w cyfarpar diogelu personol eu hunain, ond sydd bellach yn ei gael gennym am ddim, drwy'r gwasanaeth iechyd gwladol, ond mewn rhai rhannau o Loegr maent yn dal i dalu am y stoc honno er ei bod yn cael ei darparu drwy'r system gofal iechyd.
Ar yr adolygiad y mae'r fyddin wedi'i gynnal, mae wedi rhoi hyder i ni yn logisteg ein system gyflenwi. Mae wedi rhoi rhai awgrymiadau i ni ynglŷn â lle i wella, ac rydym yn edrych sawl gwaith yr wythnos ar yr hyn sy'n digwydd a'n gallu i gael y lefelau cywir o gyfarpar diogelu personol, a lle rydym yn credu bod yna broblemau posibl gyda'r cyflenwad. Rydym hefyd yn darparu cyfarwyddyd technegol i bobl sydd wir angen gwybod hyn yn y system, ar ochr yr undebau llafur a chyflogwyr, fel bod ganddynt hyder i roi gwybod i'w haelodau a'u gweithwyr beth sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Ar gaffael, rydym yn parhau i weithio nid yn unig fel unigolion i fynd ar drywydd awgrymiadau a roddir i ni, ond rydym hefyd, fel y nodais, yn gweithio gyda Gogledd Iwerddon a'r Alban, yn ogystal â Lloegr, ac rydym hefyd wedi cytuno i ddod at ein gilydd ar sail pedair gwlad. Nid gwneud hynny drwy gyfarwyddyd a wnawn fel y cyfryw, ond yn hytrach, drwy gytundeb rhyngom i weithio ar fynd ar drywydd y cyfleoedd hynny.
O ran masgiau ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol—unwaith eto, rwyf wedi ateb llawer o gwestiynau ar hyn mewn nifer o fforymau dros yr wythnos ddiwethaf—mae'r sylfaen dystiolaeth yn cael ei hadolygu. Ar hyn o bryd, y cyngor a gawn yw nad oes angen i'r cyhoedd wisgo masgiau. Gwyddom fod nifer o bobl yn gwneud hynny'n barod. Mae gwisgo masgiau'n golygu diogelu pobl eraill fel nad ydych chi'n lledaenu coronafeirws i rywun arall, ac mae hynny'n fwyaf effeithiol i bobl a allai fod yn asymptomatig, ond mae'n werth atgoffa ein hunain y dylai pobl sy'n dangos symptomau ac sydd heb gael prawf fod yn hunanynysu. Yn bendant, dylai pobl sydd wedi cael prawf COVID positif fod yn hunanynysu.
Bydd angen inni ystyried effaith gofyn i'r cyhoedd wisgo masgiau a beth y mae hynny'n ei olygu, gan sicrhau nad yw'n peryglu'r cyflenwad o fasgiau o safon lawfeddygol, ond ein bod, yn yr un modd, yn deall beth yw'r sylfaen dystiolaeth. Os bydd y sylfaen dystiolaeth yn newid, byddaf yn hapus iawn i newid y safbwynt a'r cyngor a roddwn i'r cyhoedd. Nid ydym yn gwybod popeth am coronafeirws—rydym yn dysgu mwy bob dydd a phob wythnos. Mae'n rhan o'r rheswm pam y mae rhywfaint o'r cyngor wedi newid dros hynt y pandemig. Rwy'n disgwyl y byddwn yn gwneud pethau'n wahanol ar amryw o bethau yn ystod y misoedd i ddod o gymharu â'r lle rydym heddiw.
Ar farwolaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID—eich pwynt olaf—yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, cododd prif weithredwr GIG Cymru y pwynt hwn yn ei gynhadledd i'r wasg. Rwyf wedi cyfeirio ato sawl gwaith yr wythnos hon, gan gynnwys yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, ac rwyf eisoes wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd wneud gwaith i ddeall y marwolaethau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, i ddeall faint y mae'r angen hwnnw'n cael ei lethu i bobl sydd ag anghenion gofal brys. Fel y crybwyllais yn fy natganiadau yn flaenorol, mae'r GIG ar agor i bobl ag anghenion gofal brys. Nid wyf eisiau i bobl fod mor ofnus fel nad ydynt yn troi at y gwasanaeth iechyd gwladol am driniaeth gan beryglu eu hiechyd a'u lles o bosibl. Weithiau mae hynny wedi arwain at farwolaethau y gellid eu hosgoi. Mae'n fater y llwyddais i'w drafod gyda phrif weithredwyr a chadeiryddion yn gynharach heddiw. Rwyf am roi mwy o bwyslais ar hynny yn ystod yr wythnos i ddod, oherwydd mae ymddygiad y cyhoedd yn rhan fawr o'r rheswm pam ein bod wedi cael llwyddiant yn atal lledaeniad coronafeirws, ond mae hefyd yn rhan o'r her rydych wedi tynnu sylw ati, ac rydym wedi siarad amdani o'r blaen, gyda marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID a sut rydym yn parhau i ailgychwyn rhannau eraill o'n gwasanaeth iechyd gwladol yn y dyfodol.
Diolch am eich datganiad, Weinidog, ac am ymdrechion parhaus eich adran i helpu i frwydro yn erbyn y clefyd hwn—clefyd sydd wedi lladd bron 200,000 o bobl ym mhob rhan o'r byd. Mae pob un o'r rheini'n annwyl i rywun, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros bawb sydd wedi dioddef colled dan law'r lladdwr anweledig hwn. Heb ymdrechion ein GIG, arwyr gofal cymdeithasol a gwirfoddolwyr, byddai llawer iawn mwy ohonom yn dioddef o'r golled honno.
Weinidog, yn ogystal â'n staff gofal cymdeithasol amser llawn, mae gan ofalwyr—cyflogedig a di-dâl—ran hanfodol i'w chwarae yn ystod yr argyfwng hwn. Yn anffodus, nid yw'r rhan hanfodol hon yn cael ei chydnabod bob amser. Mae un etholwr sydd wedi cysylltu â mi wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn cael eu gorfodi i gerdded chwe milltir adref ar ôl gofalu am rywun oherwydd bod trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i neilltuo ar gyfer gweithwyr allweddol. Er ei bod yn dangos dogfennau sy'n dweud ei bod yn ofalwr ac yn weithiwr allweddol, gwrthodwyd caniatâd iddi ar fwy nag un achlysur i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod gofalwyr yn weithwyr allweddol ac a wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog trafnidiaeth i sicrhau y caiff ein gofalwyr eu cydnabod yn briodol fel gweithwyr allweddol hanfodol, oherwydd heb eu hymdrechion byddai ein system iechyd a gofal yn cael ei llethu?
Weinidog, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio'r bathodyn CARE er mwyn ei gwneud hi'n bosibl i ymdrechion y rhai sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol gael eu cydnabod a'u gwobrwyo. Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau tebyg?
Rwy'n falch o weld bod ein cartrefi gofal yn cael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol, er bod prinder o hyd yn y system drwyddi draw. Rwy'n derbyn bod hon yn broblem fyd-eang. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i wella cynhyrchiant domestig a'i gwneud yn haws dod â chyflenwadau i mewn. Cysylltodd cwmnïau cludo nwyddau â mi i ddweud eu bod yn pryderu ynglŷn â lefel y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â chludo cyfarpar diogelu personol. Er fy mod yn derbyn bod yn rhaid cael archwiliadau i sicrhau effeithiolrwydd cyfarpar diogelu personol, does bosibl na allwn wneud mwy i symleiddio'r prosesau yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn.
Weinidog, rhaid inni hefyd sicrhau ei bod mor syml â phosibl i gwmnïau a sefydliadau weithgynhyrchu cyfarpar diogelu personol. Rwyf wedi cysylltu â gwneuthurwr gwisgoedd priodas yn lleol sy'n dymuno gwneud gwisgoedd a masgiau ar gyfer y GIG. Felly, Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i'w gwneud yn haws i gwmnïau o'r fath gyfrannu, ac a wnewch chi ystyried pa gamau y gallwch eu cymryd i symleiddio'r broses, megis darparu templedi, ac ati, yn enwedig ar gyfer masgiau wyneb?
Ceir tystiolaeth gref sy'n awgrymu, pan roddir y gorau i'r cyfyngiadau symud yn y pen draw, y bydd y cyhoedd ar adegau, wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er enghraifft, yn dal i wisgo masgiau wyneb i helpu i gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws. Ond ni allwn wneud hynny oni bai bod cyflenwadau digonol o fasgiau wyneb ar gael. Felly, Weinidog, a oes gennych gynlluniau ar y gweill ar gyfer cynyddu'r cyflenwadau hyn?
Ac yn olaf, Weinidog, mae'n rhaid i ni gynllunio, yn amlwg, ar gyfer llacio'r cyfyngiadau presennol yn y pen draw, ac rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru yn recriwtio pobl i helpu gydag olrhain cysylltiadau ac wedi mabwysiadu'r ap olrhain symptomau. Fodd bynnag, nid oes gan bawb ffôn clyfar, felly pa gynlluniau sydd gennych i wella'r broses o olrhain symptomau ar gyfer y rhai sydd heb ffôn clyfar at eu defnydd?
Diolch ichi, unwaith eto, Weinidog, am eich ymdrechion parhaus.
Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Rydym wedi gweithio gyda datblygwyr ar yr ap ffôn clyfar ac mae'n rhoi llawer iawn o ddata i ni yng Nghymru i ddeall gweithgarwch ac ymddygiad cymunedol ehangach, ond nid yw'r un o'r systemau hynny'n berffaith ac mae yna bobl sydd ar eu colled—yn yr un modd, nid o ran symptomau'n unig, ond o ran y data rydym yn gallu ei olrhain am symudiadau traffig a symudiadau pobl yn ogystal i ddangos lefelau cydymffurfiaeth o ran cadw pellter cymdeithasol yn ehangach.
Felly, mae gennym amrywiaeth o ymdrechion i gadw golwg, nid yn unig ar symptomau, ond ar y bobl sy'n rhoi gwybod amdanynt, a hefyd, wrth gwrs, nifer y bobl sy'n cysylltu â'n system gofal iechyd os yw eu symptomau'n peri digon o bryder iddynt a'u bod yn teimlo'n anhwylus.
Felly, mae yna amrywiaeth o feysydd gwahanol i ddeall yr heriau sy'n ein hwynebu ar draws systemau a sut rydym yn mynd i'r afael â symptomau wedyn, yn enwedig o ystyried y lleoliadau—dyna pam y bu cymaint o bryder am y sector cartrefi gofal.
Ar fasgiau wyneb, credaf ei bod unwaith eto'n bwysig iawn ailadrodd nad ydym am i'r cyhoedd geisio caffael masgiau wyneb o safon meddygol sydd i'w defnyddio yn ein sector iechyd neu ofal cymdeithasol. Mae'n ymwneud â'r sylfaen dystiolaeth sydd gennym i ddeall a fyddai masgiau'n gwneud gwahaniaeth i'r cyhoedd, ac os felly, pa fath o fasg, a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynhyrchu mewn ffordd wahanol iawn a'i gwneud yn glir nad ydynt yn cystadlu â'r rhai y mae gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen eu hangen. Nawr, ar fewnforio cyfarpar diogelu personol, hyd yn oed os ydych yn rhoi'r materion hynny sydd wedi'u cadw yn ôl ac nad oes gennym reolaeth drostynt i'r naill ochr, rydym yn sicr am sicrhau ein bod yn profi ac yn deall natur y cyfarpar sy'n cael ei ddarparu. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un am i ni geisio gwneud y system honno'n llai trwyadl mewn unrhyw fodd. Rydym eisiau gwybod y gall pobl fod â hyder yn yr hyn a ddarperir iddynt. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr economi, drwy ddefnyddio'i gysylltiadau lleol, gyda mewnforio masgiau wyneb drwy gwmni yng ngogledd Cymru—bu'n rhaid inni brofi'r cyfarpar hwnnw cyn cael y sicrwydd y gallem ei ddefnyddio yn ein system ehangach. Rhaid mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Ond awn ar drywydd pob un o'r awgrymiadau a gaiff eu cyflwyno i ni ac mae'n bwysig gwneud hynny'n glir.
Un o'r rhwystredigaethau sydd gennyf yw nad yw pob un sydd ag awydd caredig i helpu yn cael cyfle i wneud hynny, am resymau rwy'n siŵr y gall pawb ohonom eu deall. Ond o'r holl bethau da a charedig a chadarnhaol sy'n cael eu gwneud, fy rhwystredigaeth fwy yw'r ffaith ein bod yn dal i orfod treulio amser yn gweithio drwy'r hyn sy'n ymholiadau twyllodrus cwbl ddrygionus, ac mae hynny'n creu teimlad gwirioneddol rwystredig. Mae cynifer o bobl yn y byd yn ymddwyn mewn ffordd eithriadol i helpu eu cyd-ddinasyddion, ond yn anffodus, mae rhai pobl yn ceisio manteisio, ac mae hynny'n mynd â llawer o'n hamser prin, ein hegni a'n hymdrech.
Ar fater cydnabod gofalwyr, bydd Gweinidog yr economi'n gwneud datganiad cyn bo hir, ond mae angen inni feddwl am gapasiti ymarferol ein rhwydwaith trafnidiaeth i ymgymryd â'r angen ychwanegol o ran hynny, ac mae'n gydbwysedd anodd. Rydym yn ystyried rôl gofalwyr yn rheolaidd, gan gynnwys gofalwyr di-dâl a'r hyn a wnânt, ac mae llawer ohonom, mewn gwirionedd, yn ofalwyr di-dâl ein hunain, pan feddyliwch am ffrindiau a theulu rydym yn gofalu amdanynt. Rwy'n sicr yn gwneud hyd yn oed mwy dros fy mam, fel y mae llawer o bobl eraill gyda'u rhieni a'u neiniau a'u teidiau hefyd, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig i gadw cymdeithas i fynd ac i wneud yn siŵr fod pobl sy'n byw bywydau mwy cyfyngedig yn gallu gwneud hynny'n dda ac yn ddiogel.
Ar fater y cerdyn y mae Llywodraeth y DU wedi'i gynhyrchu—fy nealltwriaeth i yw mai cerdyn i weithwyr gofal cymdeithasol ydoedd. Rydym eisoes wedi darparu cerdyn yng Nghymru—un electronig, ac mae fersiwn ffisegol yn mynd allan—ond mae hynny er mwyn i'n gweithwyr gofal cymdeithasol allu cael eu hadnabod fel gweithwyr hanfodol. Bydd hynny'n eu helpu gyda chymorth i gyfyngiadau ymarferol mewn siopau, pan gânt eu neilltuo ar gyfer y GIG a gweithwyr hanfodol eraill, ac yn eu helpu i gael cymorth ymarferol. Rydym hefyd yn edrych ar fesurau ychydig yn fwy ymarferol yn ymwneud â sut rydym yn cydnabod ymdrechion sylweddol ein system gofal cymdeithasol, a grŵp o staff y mae pawb ohonom yn cydnabod eu bod ar gyflogau cymharol isel, ac rydym yn ailystyried, yn gwbl briodol, y gwerth y maent yn ei roi i'n gwlad drwyddi draw.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Hoffwn, yn gyntaf oll, ofyn i chi a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am nifer y meddygon a'r nyrsys a oedd wedi ymddeol yn flaenorol ac sydd wedi dychwelyd i'r GIG ac efallai unrhyw fyfyrwyr nyrsio a sut y gallant lenwi'r bylchau hynny.
Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â'r cyhoeddiad ynghylch ymgynghoriadau fideo ar-lein gan feddygon teulu. A allwch gadarnhau eu bod ar gael ledled Cymru yn awr, ac a oes unrhyw gynlluniau i ymestyn y rheini i ofal eilaidd?
Ie, rwy'n hapus i gadarnhau, ynglŷn â staff sy'n dychwelyd i'r gwasanaeth iechyd, fod dros 10,000 o staff bellach wedi mynd yn ôl ar y gofrestr sydd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac mae oddeutu 5 y cant o'r rheini'n staff o Gymru. Mae'n newyddion dda iawn, oherwydd mae hynny ychydig yn fwy na'n cyfran o'r boblogaeth, ac mae'n dangos parodrwydd gwirioneddol gan staff sydd wedi ymddeol yn ddiweddar i fod eisiau dychwelyd. Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, fel y corff rheoleiddio sy'n cadw'r cofnodion, yn ysgrifennu at bobl sydd wedi ymddeol ers mwy o amser i weld a ydynt am ddychwelyd. Mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r bobl hynny mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'u sgiliau, ond hefyd i gydnabod y gall fod angen defnyddio rhai ohonynt i ffwrdd o ofal am bobl ar y rheng flaen hefyd, felly rydym yn gwneud defnydd o'u sgiliau heb beryglu eu diogelwch eu hunain.
Ac mae'r un darlun gyda meddygon sy'n dychwelyd hefyd. Mae gan nifer o bobl sydd wedi ymddeol eu cydafiacheddau eu hunain bellach lle mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn eu defnyddio mewn ffordd sy'n gwbl briodol. Byddaf yn gallu rhoi ffigurau dros yr wythnosau nesaf am nifer yr israddedigion sydd wedi derbyn y cynnig i ddychwelyd i'r gwaith a chael eu talu ar amodau'r 'Agenda ar gyfer Newid' a chefnogi'r rhwydwaith sydd gennym. Ac nid oes angen ymestyn hynny i'r graddau y credem y byddai'n rhaid ei wneud hyd yn oed fis yn ôl, oherwydd y ffaith amdani yw nad ydym wedi cael y cynnydd mwy sylweddol yn y nifer a heintiwyd gan y coronafeirws a gynlluniwyd gennym ac y bu'n rhaid paratoi ar eu cyfer. Felly, mae hynny'n newyddion dda—nad ydym wedi gorfod cael yr holl bobl hynny i weithio o fewn ein system. Ond fe fydd yn bwysig wrth inni symud nid yn unig at ailgychwyn rhannau o'n gwasanaeth iechyd gwladol, lle bydd angen inni ddefnyddio'r rhwydwaith hwnnw o ysbytai maes; bydd hefyd yn bwysig o ran ein gallu i ofalu am bobl sydd ag anghenion gofal brys. Ac os gwelwn gynnydd pellach yn y coronafeirws, bydd angen i ni allu galw ar y bobl hynny'n weddol gyflym, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y lefel o hyblygrwydd ac ymrwymiad a ddangoswyd gan yr holl bobl hynny.
O ran defnyddio fideo-gynadledda, rwy'n falch iawn ein bod wedi llwyddo i gyflwyno hyn ledled y wlad. Cafwyd peilot yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. Felly, cafodd hyn ei dreialu yng Ngwent yn gyntaf a dangoswyd ei fod yn llwyddiannus, ac rydym wedi llwyddo i'w gyflwyno'n llawer mwy cyflym nag y byddem wedi'i wneud fel arfer wrth gyflwyno cynllun yn genedlaethol. Rhan o fy rhwystredigaeth ar adegau arferol yw nad ydym yn gallu symud yn gyflymach ar draws y system. Mae gwir barodrwydd y staff i wneud i bethau ddigwydd ac i gael gwared ar rwystrau wedi bod yn un o'r agweddau gwirioneddol gadarnhaol ar ein hymateb. Mae hynny ar gael yn rhydd ac yn gynhwysfawr mewn gofal sylfaenol mewn ymarfer cyffredinol, ac rydym yn bwriadu ei gyflwyno ymhellach mewn gofal eilaidd hefyd, oherwydd mae gan rai meysydd o'r gwasanaeth hwnnw amrywiaeth o dechnoleg ddigidol a fideo-gynadledda eisoes. Rwyf am weld hynny'n rhan lawer mwy cyson o'r ffordd rydym yn rhedeg ein gwasanaeth. Mae'n angenrheidiol ar gyfer y sefyllfa rydym ynddi, ond wrth gwrs, mae'n fantais wirioneddol ac yn gyfle ar gyfer y dyfodol wrth i ni ddod i arfer â ffyrdd gwahanol o weithio sy'n gwneud gwell defnydd o amser pawb—y cleifion sydd angen gofal, a'n staff sy'n ei ddarparu.
Rwyf bellach wedi galw Aelodau o bob un o'r grwpiau gwleidyddol. Bydd angen cwestiynau ac atebion mwy cryno o hyn ymlaen i geisio galw cynifer ohonoch ag sy'n bosibl. Mae'r amser ar ben ar gyfer y datganiad hwn eisoes. Janet Finch-Saunders.
[Anghlywadwy.]—Lywydd. Ac unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, Vaughan, am eich datganiad a chydnabod yr ymdrech sylweddol rydych yn ceisio ei gwneud i ymateb yn gyflym i'r argyfwng COVID-19 sy'n esblygu'n barhaus. Nawr, ddoe, fe gyhoeddoch chi mai dim ond ychydig ddyddiau o stoc cyfarpar diogelu personol oedd ar gael yng Nghymru, ac fe fyddwch yn cofio imi ysgrifennu atoch ar 3 Ebrill, yn cyflwyno cwestiwn ysgrifenedig Cynulliad yn gofyn i chi roi camau ar waith ar frys i sicrhau bod gan hosbisau oedolion a phlant fynediad at gyfarpar diogelu personol digonol. Nawr, er fy mod eto i gael ymateb, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad rydych wedi'i wneud ynglŷn â phecyn tri mis o gymorth ychwanegol sy'n werth hyd at £6.3 miliwn i hosbisau yng Nghymru, ond a allwch egluro pa gamau rydych hefyd wedi'u cymryd i'r perwyl hwnnw i sicrhau, gan fod y cyllid yn ei le bellach, y gallant gael y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnynt?
Rwy'n sylweddoli bod mwy na £62.2 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol ychwanegol wedi'u hanfon at weithwyr rheng flaen, ond ni allaf ddiystyru canfyddiadau'r Coleg Nyrsio Brenhinol fod 54 y cant o'r rhai a holwyd yn teimlo o dan bwysau i ofalu am glaf COVID-19 heb gyfarpar diogelu digonol a bod 49 y cant o'r staff nyrsio sy'n trin cleifion COVID-19 nad ydynt ar beiriant anadlu yn dweud nad oeddent wedi cael hyfforddiant ar ba gyfarpar diogelu personol safonol i'w wisgo a phryd y dylent ei wisgo. A chafodd y pryder hwnnw ei ddwyn i fy sylw yn y sector gofal cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cysylltu â chynllunwyr milwrol ynghylch y galw am gyfarpar diogelu personol, ac yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu gyda'r gwaith o'i ddosbarthu'n effeithiol, ond a wnewch chi egluro pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddosbarthu'n deg ar draws rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod rhai cwmnïau wedi ysgrifennu atoch ac er gwaethaf yr hyn a ddywedoch chi am bobl yn ysgrifennu'n dwyllodrus atoch, mae pobl yn cynnig cyflenwadau, ac maent wedi gorfod dod ataf fi am eu bod yn dweud nad ydynt wedi cael ymateb gennych chi hyd yn oed—felly, 'na' bach syml, efallai. Ond nid yw gadael pobl mewn limbo pan fyddant yn darllen adroddiadau newyddion yn dweud bod yna banig ynghylch cyfarpar diogelu personol a phan fyddant yn trafferthu ysgrifennu atoch chi a'r Gweinidog cyllid—nid yw peidio ag ymateb yn ddigon da.
Nawr, yn anffodus, yn y ffigurau ar gyfer ddoe, amcangyfrifwyd bod 100 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi marw o COVID-19 yn y DU. Felly, unwaith eto, hoffwn ailadrodd—rwy'n credu mai Leanne Wood a ofynnodd am deuluoedd y rhai a fu farw yma yng Nghymru—a fydd grantiau ar gael i'r rhai sydd wedi colli eu bywydau i'r ymdrech fyd-eang, o ran angladdau a phethau.
Yr hyn sy'n peri mwy o bryder i mi, a dyma yw byrdwn pob un o fy nghwestiynau, yw fy mod wedi cael llawer o bryderon gan y sector gofal cymdeithasol yma ynglŷn â'r methiant i gynnal profion ar bobl sy'n gadael yr ysbyty, a'r modd y gofynnir i gartrefi gofal cymdeithasol gymryd y bobl hyn. Mae gennyf sefyllfaoedd yn awr lle nad yw rhai darparwyr gofal cymdeithasol yn barod i wneud hynny oherwydd y methiant i gynnal profion, oherwydd yn amlwg, os oes ganddynt amgylchedd sy'n rhydd o COVID mewn cartref gofal preswyl neu leoliad nyrsio, dyna sut y maent am ei gadw. Ond hoffwn ofyn: sut y mae'r marwolaethau hyn yn cael eu cofnodi? Pan fyddwch chi'n ysgrifennu at awdurdodau lleol maent yn dweud, 'Nid ydym yn eu cofnodi. Arolygiaeth Gofal Cymru sy'n eu cofnodi.' Rydych chi'n ysgrifennu at Arolygiaeth Gofal Cymru ac maent hwy'n dweud, 'Nid ydym yn eu cofnodi.' Felly, hoffwn i chi egluro oherwydd mae nifer y marwolaethau yn y sector gofal cymdeithasol ar draws y DU wedi cynyddu bedair gwaith, ac mae'n bryder enfawr i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, ac mae'n bryder i mi fel cynrychiolydd y bobl hynny a fy etholwyr. Caf fy holi'n aml iawn am faterion gofal cymdeithasol ar hyn o bryd.
Felly, rwy'n credu fy mod wedi gofyn digon o gwestiynau i chi, ond hoffwn gael eich atebion cynhwysfawr i'r rheini, atebion a fydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i mi. Diolch.
I ailadrodd y pwynt a wneuthum, gofynnais am gwestiynau cryno ac atebion cryno, felly bydd angen imi ofyn i'r Gweinidog fod yn gryno yn ei atebion hefyd, a byddwn yn gwerthfawrogi pe bai'r Aelodau'n gwrando ar yr hyn a ddywedaf pan ofynnaf am gwestiynau cryno. Weinidog.
Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n credu bod wyth pwynt gwahanol wedi'u gwneud. Nodais fod gennym tua wythnos o wisgoedd atal hylif, rydym yn disgwyl cael mwy yr wythnos hon, ond roeddwn yn ceisio bod yn agored gyda phobl am y sefyllfa, a'r staff a'r cyhoedd yn wir.
Ar ofal hosbis, cyhoeddais arian ychwanegol ar gyfer y sector hosbisau. Mae angen dilyn y canllawiau ar gyfer cyfarpar diogelu personol yn y sector hwnnw hefyd, ac fel y dywedais, mae'r offer, y cyfarpar diogelu personol rydym yn ei ddarparu i'w ddefnyddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn amlwg yn cael ei ddefnyddio'n briodol a lle bo angen mewn hosbisau.
Ar arolwg y Coleg Nyrsio Brenhinol, y pwynt allweddol yw fy mod yn disgwyl i bobl godi'r materion hynny gyda chyflogwyr. Rydym yn cael cyfarfodydd partneriaeth gymdeithasol helaeth yma yng Nghymru, a dull gweithredu drws agored fwy neu lai. Mewn gwirionedd, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac undebau llafur eraill eu hunain yn cymryd rhan mewn cyfarfod wythnosol gyda mi fel y gallant ddwyn materion i fy sylw yn uniongyrchol. Mae'n bwysig fod y materion unigol hynny'n cael eu trafod gyda chyflogwyr yn gyntaf, ac rwy'n disgwyl i'r rheini gael eu datrys.
Rwy'n hapus i gadarnhau bod y dosbarthiad yn deg ar draws y wlad. Nid oes unrhyw ranbarth yn cael mantais neu anfantais yn y ffordd rydym yn diwallu'r angen ar draws y wlad, ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac os oes gan bobl enghreifftiau o bryderon lle mae cwmnïau'n dweud nad ydynt wedi cael ymateb, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Aelodau roi'r manylion i mi allu mynd ar eu trywydd.
O ran profi preswylwyr sydd ar fin dychwelyd i'r sector cartrefi gofal o'r ysbyty, mae hwnnw'n fater rwyf wedi'i drafod yn yr adolygiad profion ac rwy'n siŵr y byddwch wedi fy nghlywed yn ei gynnwys yn fy natganiad heddiw.
O ran cofnodi marwolaethau yn y gymuned, gan gynnwys yn y sector cartrefi gofal, mae gennym eisoes adroddiad rheolaidd drwy'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y marwolaethau hynny a ble maent yn digwydd. Mae oedi rhwng y rheini, oherwydd mae angen iddynt adolygu pob tystysgrif farwolaeth, rhwng saith ac 14 diwrnod o'r prif ffigurau sy'n cael eu rhyddhau bob dydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, ceir cofnod eithaf clir a thryloyw o bob marwolaeth ar draws pob sector.
Mae'n fethiant anfaddeuol, Weinidog, nad ydych wedi cynnal y 5,000 o brofion y dydd a addawyd gennych yng Nghymru. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori fod y gwledydd sy'n ymdopi orau â'r pandemig hwn yn cynnal profion torfol, yn olrhain ac yn gosod cwarantin. Rhaid cynnal profion wythnosol fan lleiaf ar yr holl weithwyr allweddol, p'un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat, a hyd nes y cawn hynny, ni allwn lacio'r cyfyngiadau. Rwyf am ofyn a fyddech yn derbyn y pwynt hwnnw. Rydych chi wedi dweud eich bod yn gweithio tuag at gynnal profion torfol, ond ni ddywedoch chi mewn ymateb i gwestiynau gan fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth p'un a ydych yn derbyn y pwynt hwnnw—na allwn lacio'r cyfyngiadau os na chynhaliwn brofion ar raddfa fawr.
Rwyf wedi clywed adroddiadau sy'n peri pryder o gartrefi gofal hefyd, lle mae cyflenwad o gyfarpar diogelu personol ar gael, ond mae'r rheolwr yn ei gadw dan glo oherwydd ei fod yn cael ei ddogni. Y polisi yw ei ddefnyddio pan fydd preswylwyr neu eraill yn dangos symptomau, ond gwyddom i gyd ei bod yn ddigon posibl fod y feirws eisoes wedi'i drosglwyddo erbyn i'r symptomau ymddangos. Felly, a wnewch chi gyhoeddi canllawiau ar frys i wella'r mesurau diogelu y dylai cartrefi gofal a lleoliadau caeedig eraill eu dilyn? Rwy'n gwybod bod cyfarpar diogelu personol yn adnodd gwerthfawr, ond nid yw'n dderbyniol disgwyl i weithwyr ar gyflogau isel a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt gael eu rhoi mewn perygl fel sy'n digwydd o dan y polisi presennol, yn fy marn i.
O'r gorau. Ar y man cychwyn, nid wyf yn derbyn y rhagosodiad fod methiant anfaddeuol i beidio â darparu mwy o brofion. Rwyf wedi egluro ar sawl achlysur y rhesymau pam nad oeddem yn gallu gwneud hynny, y ffactorau a oedd y tu hwnt i'n rheolaeth a beth y mae hynny'n ei olygu, a'r cyngor uniongyrchol a gawsom gan ein prif swyddog meddygol a'n prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd ar sut i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau profi, a'r ffaith bod gennym ddigon o gapasiti profi ar gyfer ein gweithwyr rheng flaen. Rwyf hefyd wedi bod yn hollol glir, nid yn unig heddiw ond ar sawl achlysur yn y gorffennol, am y ffaith bod cynnal profion ar raddfa fawr yn rhagofyniad cyn gallu rhoi'r gorau i'r cyfyngiadau. Nid oedd angen gofyn cwestiwn i mi ar hynny, rwyf wedi gwneud hynny'n glir mewn nifer o ddatganiadau cyhoeddus.
Nid wyf yn derbyn y rhagosodiad ein bod ni angen profion wythnosol ar weithwyr hanfodol. Nid ydym yn cynnal profion er mwyn cynnal profion, rydym yn profi mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr ac sy'n unol â'r cynllun a gymeradwywyd gennym. Ac mewn gwirionedd, nid yw'n ddull annhebyg i ddull y pedair Llywodraeth ledled y DU o weithredu, o ran sut rydym am ddefnyddio ein hadnoddau a'r rhesymeg sy'n sail i hynny.
Ar gyfarpar diogelu personol, rwyf am ailddatgan ein bod yn dilyn y canllawiau. Cawsom adolygiad o'r canllawiau ledled y DU; mae'r pedair gwlad yn ceisio dilyn y canllawiau hynny ac yng Nghymru, nid ydym wedi gorfod gwyro oddi wrthynt. A dyna'r pwynt ynglŷn â gwneud yn siŵr nad ydym yn peri i bobl heidio i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol am ein bod yn ymateb i'r ofnau mawr sydd gan bobl, ond ein bod yn rhoi hyder fod y canllawiau'n briodol ac yn cael eu dilyn, ac mae hynny'n tanlinellu pam mai darparu swm digonol o gyfarpar diogelu personol yw'r brif flaenoriaeth i mi ac i'r Llywodraeth ar hyn o bryd.
David Rees.
Diolch, Lywydd. Gallaf bob amser fod yn gryno, fel y gwyddoch.
Tri maes. Cyfarpar diogelu personol: byddaf am dynnu sylw at gyfarpar diogelu personol oherwydd, unwaith eto, rwy'n clywed pryderon gan ddarparwyr cartrefi gofal a hefyd gan ddarparwyr gofal yn y cartref ynglŷn â chyfarpar diogelu personol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn sicrhau bod ganddynt lefelau digonol, ac rwyf o'r farn y gall Iechyd Cyhoeddus Cymru gryfhau'r canllawiau, oherwydd os ydych dan gyfyngiadau symud, mae cartref gofal yn debygol o weld heintiau oherwydd bod aelod o staff asymptomatig yn dod i mewn gyda'r feirws ac yn ei drosglwyddo, felly dylent ddefnyddio cyfarpar diogelu personol ar bob adeg, nid yn unig pan fydd achos yn digwydd yn y cartref hwnnw. Felly, efallai y gallech gryfhau cyngor ac arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â hynny.
Mewn cartrefi gofal hefyd—. Rwy'n gwerthfawrogi'r wefan sydd ar y gweill, a fydd yn gwneud pethau'n haws, ond a allwch chi hefyd ystyried sicrhau ei bod yn haws yn awr i ddarparwyr cartrefi gofal gael atgyfeiriadau drwy ofyn i'r cyngor ei wneud yn uniongyrchol, yn hytrach na gorfod mynd drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n peri mwy o bryder i rai o'r darparwyr cartrefi gofal pan fo aelodau o staff yn dangos symptomau a'u bod eisiau iddynt gael prawf? Gallai atgyfeirio uniongyrchol at y cyngor fod o gymorth yn hynny o beth.
Yn olaf, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr iawn yr hyn a ddywedoch chi wrth Rhun ap Iorwerth ynglŷn â'ch trafodaethau gyda byrddau iechyd ynghylch y paratoadau i gyflwyno triniaethau eraill sy'n ymwneud â'r ddarpariaeth ar gyfer materion nad ydynt yn rhai COVID, ond rwyf hefyd wedi cael gwybodaeth fod atgyfeiriadau canser gan feddygon teulu mewn rhannau eraill o'r DU, mewn rhai ardaloedd, wedi gostwng 75 y cant. A ydym yn ymwybodol o ba newid a fu yn y ganran o atgyfeiriadau canser—atgyfeiriadau canser brys—gan feddygon teulu, ac a wnewch chi ymchwilio i'r mater? Oherwydd efallai nad yw cleifion yn dymuno mynd at feddygon teulu yn awr, neu efallai mai'r rheswm yw bod meddygon teulu'n cael cyngor fod angen bodloni rhai mathau o amodau a'u bod felly'n petruso rhag atgyfeirio. Mae angen inni sicrhau nad yw'r rhai sydd ag anghenion brys o'r fath yn wynebu oedi oherwydd ofn gorlwytho'r system iechyd ar hyn o bryd.
Diolch am y cwestiynau. Hoffwn ailadrodd y pwynt, ar gyfarpar diogelu personol, ynglŷn â'r angen i ddilyn y canllawiau. Y peth olaf y mae angen inni ei wneud yw annog pobl i ddefnyddio llawer iawn o gyfarpar diogelu personol oddi allan i'r canllawiau, oherwydd er y gallai hynny roi mwy o hyder i rai pobl nad oes ei angen arnynt, bydd yn mynd â chyflenwad oddi wrth ein staff rheng flaen sydd ei angen yn ddybryd. Mae angen sicrhau bod pob un o'n lleoliadau rheng flaen, gan gynnwys gofal preswyl a gofal cartref, lle mae angen iddynt ddefnyddio cyfarpar diogelu personol, yn ei gael. Dyna pam ein bod wedi cymryd y cam eithriadol o ddefnyddio ein hadnoddau cyhoeddus i ddarparu cyfarpar diogelu personol i fusnesau annibynnol. Ni fyddem yn gwneud hynny fel arfer. Ar adeg arferol, pe baem yn darparu cyfarpar diogelu am ddim i'r rheini, byddai gan bobl set hollol wahanol o gwestiynau, ond mae'n dangos y bygythiad unwaith mewn canrif hwn sy'n ein hwynebu a'r ffordd rydym yn ymateb.
Ar y broses atgyfeirio, rwy'n hapus i adrodd bod hynny eisoes wedi gwella. Ac fel y dywedais, clywsom yn uniongyrchol gan lywodraeth leol fod nifer lawer mwy o atgyfeiriadau'n cael eu gwneud ar gyfer gweithwyr yn y sector gofal. Mae'n bwysig i mi nad pobl a gyflogir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol yn unig yw'r rheini, ond pobl yn y sector annibynnol, fel y mae Dai Rees yn pwysleisio. Felly mae angen i ni wneud yn siŵr eu bod yn cael atgyfeiriadau cyflymach, boed hynny drwy'r awdurdod lleol neu'n uniongyrchol, i wneud yn siŵr eu bod yn cael y prawf yn brydlon. Unwaith eto, dylai'r ffigurau rydym wedi'u cyhoeddi heddiw roi rhywfaint o hyder fod y canlyniadau hynny'n cael eu darparu'n gyflym wedyn.
Ar y pwynt penodol am atgyfeiriadau canser, rwy'n cydnabod diddordeb hirsefydlog Dai Rees yng ngwaith y wlad ar wella canlyniadau canser, ac mae'n un o'r pethau rwy'n poeni amdano i wneud yn siŵr nad yw atgyfeiriadau brys lle mae angen gofal brys yn cael eu gwthio i'r naill ochr. Mae hynny eisoes yn un o'r pethau rwyf wedi gofyn i'r gwasanaeth ymchwilio iddo yn rhan o fy awydd i ddeall y darlun yn gywir, ac yna nid yn unig i gyflwyno'r darlun hwnnw ond i wneud rhywbeth am y peth; annog pobl i gamu ymlaen i allu rhoi sylw i'w hangen gofal iechyd real iawn oherwydd, fel y gwyddom, mae atgyfeirio hwyr, adnabod canser yn hwyr yn aml yn arwain at driniaeth lawer mwy radical ac yn peryglu'r rhagolygon gorau i bobl allu cael canlyniad da. Felly, maent yn bendant yn bwyntiau rwyf am fynd ar eu trywydd, a byddwch yn clywed mwy gennyf dros yr wythnosau nesaf am y gwaith a wneir ar hynny, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb cwestiwn Dai.
Credaf mai'r realiti, Weinidog, yw bod llawer gormod o bobl ar y rheng flaen heb gyfarpar diogelu personol. Unwaith eto, mae'r hyn rwy'n ei glywed y prynhawn yma bron â bod yn gwadu realiti'r sefyllfa. Felly, mae fy nghwestiwn yn un syml iawn: beth a wnaethoch i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei archebu ym mis Ionawr a mis Chwefror, a faint o gyfarpar diogelu personol a gafodd ei archebu ar gyfer GIG Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw?
Fel y bydd Mr McEvoy yn deall, nid oes gennyf y ffigurau penodol hynny wrth law, ond gallaf gadarnhau'n bendant na fu unrhyw laesu dwylo na gwadu maint yr her sy'n ein hwynebu, a phe bai ond wedi gwrando ar y datganiad a'r cwestiynau rwyf wedi'u hateb yn gyhoeddus ar amryw o achlysuron, rydym wedi dosbarthu miliynau o eitemau ychwanegol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r 16.2 miliwn o eitemau sydd eisoes wedi'u dosbarthu o'n stociau pandemig yn fewnlif ychwanegol enfawr o gyfarpar diogelu personol ar draws ein system, ac mae'r gwaith yn ddiflino gan ein staff a phobl yn y sector y tu allan i'r Llywodraeth. Ac rwyf am dalu teyrnged iddynt am yr ymdrechion eithriadol y maent yn eu gwneud i sicrhau bod ein staff rheng flaen yn cael eu harfogi'n briodol â chyfarpar diogelu personol mewn sefyllfa fyd-eang na welwyd erioed mo'i thebyg o'r blaen.
Diolch, Weinidog, am yr holl waith rydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud ar yr adeg hon. Yn dilyn buddsoddiad Llywodraeth Cymru, roedd Ysbyty Athrofaol Grange i fod i agor yn rhannol ddiwedd mis Ebrill. Er y bydd y 350 o welyau ychwanegol yn barod ac ar gael yn ôl y bwriad, yn ystod y diwrnodau diwethaf mae wedi bod yn braf iawn cael gwybod ei bod yn annhebygol y bydd angen i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddefnyddio'r capasiti ychwanegol. Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud y byddant yn adolygu'r sefyllfa'n gyson rhag ofn y bydd y dystiolaeth yn newid, a rhaid inni beidio â llaesu dwylo. Mae'r bwrdd iechyd, eu staff ymroddedig a'r gymuned wedi bod ar y pen blaen ers dechrau mis Mawrth, a gwn y bydd y staff ychwanegol a gaiff eu recriwtio'n cael eu defnyddio i gefnogi'r gwasanaethau presennol. A all y Gweinidog fy sicrhau y caiff y profiadau a ddysgwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan eu rhannu ag eraill, a hefyd beth arall y gellir ei wneud i annog aelodau o'r cyhoedd, os ydynt yn cael trawiad ar y galon neu strôc, er enghraifft, i ffonio 999 gan fod gwelyau critigol ar gael?
Ie, diolch. Rwy'n credu bod un neu ddau o bwyntiau yr hoffwn eu gwneud yn gyflym mewn ymateb, sef ei bod yn newydd da nad oes angen i Aneurin Bevan ddefnyddio'r capasiti sydd ar gael yn y Grange yn awr. Mae hynny'n dangos effaith ein mesurau cadw pellter cymdeithasol, ond y neges bwysig am beidio â bod yn hunanfodlon am yr hyn rydym yn ei wneud yn awr fel nad yw pobl yn sydyn yn afradu'r enillion a gawsom. Ond mae ar gael i'w ddefnyddio yn y dyfodol oherwydd ein bod yn disgwyl, wrth i ni ryddhau mesurau cadw pellter cymdeithasol, y gallai fod mwy o angen yn dod i mewn i'n system, ac mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda am atal yr angen. I'r bobl sy'n osgoi dod i mewn i'n system oherwydd eu bod yn pryderu ynglŷn â dod i amgylchedd ysbyty yn awr, er bod ganddynt anghenion gofal brys eu hunain, rwyf am ailadrodd y neges honno eto: os oes gennych angen gofal brys, mae'r GIG yn dal ar agor fel arfer; rydym am i chi roi gwybod am eich angen gofal brys. Mewn rhai achosion, mae'n wir y gall wneud y gwahaniaeth rhwng achub bywyd rhywun neu beidio.
Ac mae'n bwysig gwneud y pwynt am ddysgu o'r hyn sy'n cael ei wneud, ac rwy'n meddwl yn bendant ar draws y system ein bod yn ceisio dysgu o'r ehangu a'r ffordd y mae Aneurin Bevan wedi ymdopi. Rwy'n credu mai dyma'r adeg anghywir yn awr i gael ymchwiliad cyhoeddus llawn; byddai hynny'n tynnu sylw mewn modd hynod o ddiangen. Mae angen i ni ddysgu wrth i ni symud, dysgu wrth i ni wneud hynny, ac wrth gwrs daw amser pan fydd angen edrych yn ôl yn llawnach o lawer ar yr hyn sydd wedi'i wneud a pham. Rwy'n siŵr y bydd y Senedd hon am chwarae ei rhan yn penderfynu sut i wneud hynny.
Yn olaf, Jenny Rathbone.
Yn gyntaf, hoffwn ddweud bod hwn wedi'i wneud i mi gan ddau geisiwr lloches. Mae'n amlwg nad yw'n addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, ond mae wedi'i wneud yn wych, a dyma'r math o beth y gallem gael ein myfyrwyr dylunio a thechnoleg i'w wneud, er enghraifft. Felly, efallai y gallech drosglwyddo'r syniad hwnnw i'r Gweinidog addysg.
Dau gwestiwn: mae un yn ymwneud â chyfarpar diogelu personol. Mae'n amlwg fod brwydr geisiadau fyd-eang yn mynd rhagddi, ac mae cartrefi gofal yn rhy fach ac yn rhy brysur o lawer i gymryd rhan ynddi. Felly, rôl i lywodraeth, llywodraeth leol a chenedlaethol, yw sicrhau bod gennym y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnom. Rwy'n meddwl na ddylem fod yn saethu'r negesydd pan fydd Syr Martin Evans yn dweud ei bod yn rhyfeddol nad yw gwlad ddatblygedig, ddiwydiannol fel ni'n gallu cyrchu cyfarpar diogelu personol yn ein gwlad ein hunain. Ac nid wyf yn golygu bod angen i ni gynhyrchu pob eitem o gyfarpar diogelu personol yng Nghymru; rwy'n golygu, ar draws y DU, y dylem allu bod yn hunangynhaliol mewn cyfarpar diogelu personol. A chan fod y pandemig coronafeirws hwn yn mynd i barhau am fisoedd lawer, mae gwir angen inni gynyddu ein gallu i'w gynhyrchu drosom ein hunain, neu fel arall nid oes unrhyw obaith i wledydd sy'n datblygu. Roeddwn eisiau gofyn cwestiwn am hynny, sef pa ystyriaeth a roddwyd, os o gwbl, i'w gwneud yn ddiogel i ailddefnyddio rhai eitemau o gyfarpar diogelu personol, oherwydd dyna sy'n digwydd beth bynnag gan bobl ar y rheng flaen sy'n methu cael eitemau penodol pan fydd eu hangen arnynt. Felly, a oes unrhyw dystiolaeth y gellid ailddefnyddio rhywfaint ohono yn hytrach na'i waredu yn syth ar ôl ei ddefnyddio?
Mae fy ail gwestiwn yn ymwneud â phrofion, oherwydd rydych chi'n dweud eich bod yn hyderus fod yr holl bobl iawn wedi cael profion. Wel, mae rhai o fy etholwyr sy'n weithwyr gofal wedi cael anhawster mawr i gael prawf, a hynny'n unig am nad oes ganddynt gar. Ni allwch fynd i Stadiwm Dinas Caerdydd neu gyfleusterau profi drwy ffenest y car eraill os nad oes gennych gar, ac nid yw eu rhoi mewn tacsi yn cyd-fynd â'r canllawiau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer rhywun yr amheuir bod COVID-19 arnynt. Ond drwy beidio â darparu'r profion hyn, rydym yn cadw unigolion sydd heb COVID rhag dychwelyd i'w gwaith, ac rydym yn gorfodi eu teuluoedd i hunanynysu. Ac felly, yn ogystal â chynnal profion yn y cartref—a hoffwn gael ychydig mwy o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer cynnal profion yn y cartref—tybed a allech ddweud wrthym pa bosibilrwydd sydd yna o gynnal profion symudol gan brofwyr sy'n mynd i'r cartrefi gofal, a'r carchar, a mannau eraill lle gwyddom fod angen profi pobl er mwyn gallu gwneud gwaith cartrefi gofal yn haws.
Diolch am y set olaf honno o gwestiynau. Ar gyfarpar diogelu personol, rwyf am ailadrodd ein bod yn mynd ar drywydd pob awgrym ac yn gweithio'n adeiladol gyda gwledydd eraill y DU, am mai dyna'r peth cyfrifol i'w wneud. Ac ar adegau arferol, fe fyddem yn ymwneud â gwleidyddiaeth yn ôl yr arfer. Rwy'n credu ei bod yn bryd rhoi popeth felly o'r neilltu yn bendant er mwyn sicrhau'r cyfarpar cywir ar gyfer ein staff. Ac nid yw'n fater o saethu'r negesydd o ran yr hyn a ddywedodd Martin Evans. Nid yw Prifysgol Caerdydd o'r farn fod ei safbwynt yn un sy'n berthnasol i waith a natur ein partneriaeth â'r brifysgol honno. Mae'n wir, fodd bynnag, fod y cadwyni cyflenwi byd-eang y daethom i arfer â'u cael yn darparu ar ein cyfer, wedi cael eu tarfu'n sylweddol mewn modd na ellid ei ragweld hyd yn oed yn y gorffennol agos. Dyna pam y mae cymaint o weithgynhyrchwyr Cymru wedi ymateb i'r alwad i newid y ffordd y maent yn cyflenwi nwyddau er mwyn cynhyrchu cyfarpar diogelu personol a nwyddau y gwyddom ein bod eu hangen. Ac wrth gwrs, o ran edrych yn ôl a dysgu gwersi, mae angen i ni edrych ymlaen er mwyn deall pa gadwyni cyflenwi lleol sydd gennym i ddarparu mwy o allu i gyflenwi cyfarpar diogelu personol ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hwnnw'n bwynt sy'n cael ei ddeall yn dda o fewn y Llywodraeth a thu hwnt.
Mewn perthynas ag ailddefnyddio cyfarpar diogelu personol, mae'n bosibl y gall rhywfaint o gyfarpar diogelu personol gael ei ddefnyddio, er enghraifft, mewn deintyddiaeth fel rhan reolaidd o wneud defnydd o rai o'r amddiffynwyr llygaid y maent yn eu gwisgo. Ond nid dewis na phroses a arweinir yn wleidyddol yw hynny; mae'n rhaid i hynny ddigwydd ar sail tystiolaeth o'r hyn sy'n ddiogel, oherwydd os byddaf yn penderfynu dweud yn awr y dylem fod yn ailddefnyddio rhai mathau o gyfarpar diogelu personol, ni fydd hynny'n rhoi'r lefel o hyder y mae staff ei heisiau, yn ddigon dealladwy, neu'r cyhoedd yn wir. Mae'r rhain yn sgyrsiau proffesiynol penodol sy'n mynd rhagddynt ar y potensial i ailddefnyddio mwy ar gyfarpar diogelu personol.
Ac o ran profi, nid cyfleusterau profi trwy ffenest y car yn unig sydd gennym, fel y gwyddoch. Felly, er enghraifft, rydym yn credu ein bod yn agosáu at allu profi yn y cartref. Fe fyddwch wedi clywed peth o'r cyhoeddusrwydd yr wythnos hon ynghylch pecynnau profi yn y cartref sy'n cael eu datblygu yma yng Nghymru. Ac mae hynny'n sicr yn rhan o'n cynllun, i fod eisiau gallu manteisio ar y rheini—profion yn y pwynt gofal—fel nad oes rhaid i ni aros yn hir i symud o atgyfeiriad i brawf i ganlyniad. Ond hefyd, mae gwasanaethau profi cymunedol sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru yn cynnwys pobl sy'n mynd i weithleoedd pobl eraill neu'n wir, i'w cartrefi. Mae hynny eisoes yn digwydd ar hyn o bryd, ac mae hynny'n rhan o'r seilwaith sydd gennym yn barod, ac rydym yn edrych ar geisio ehangu hynny eto i'r dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.