– Senedd Cymru am 3:50 pm ar 22 Ebrill 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar yr ymateb i goronafeirws. A chyn galw ar y Gweinidog, gaf i gadarnhau y bydd y Dirprwy Lywydd yn cymryd y Gadair ar gyfer y datganiad yma? Felly, dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. Nage, nid Vaughan Gething, Ken Skates. [Torri ar draws.]
Rwy'n credu bod angen i Vaughan Gething ddiffodd ei feicroffon. Mae angen i Vaughan Gething ddiffodd ei feicroffon.
A gawn ni ofyn i Aelodau, yn enwedig y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol—? Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd.
Mae'n iawn. Rwy'n galw ar Weinidog yr economi i wneud ei ddatganiad—Ken Skates. A gaf fi oedi am eiliad? A gawn ni gadarnhad fod y meicroffon ar gyfer y Gweinidog ymlaen yn awr, a bod modd ei glywed? [Torri ar draws.] Fe gymerwn seibiant technegol am funud, tra byddwn yn ailddechrau meicroffon y Gweinidog—meicroffon Ken Skates.
Iawn, rydym yn ailddechrau'r sesiwn, a galwaf yn awr ar Weinidog yr economi i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Aelodau ar draws y Siambr am y trafodaethau cadarnhaol a gefais gyda chyd-Aelodau o bob plaid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae rhai syniadau adeiladol iawn wedi codi o'r trafodaethau hynny, ac rydym wedi defnyddio llawer ohonynt i lunio'r cymorth rydym bellach yn ei roi i fusnesau ledled Cymru, ac i unigolion hefyd. Felly, rwyf am i'r Aelodau wybod pa mor ddiolchgar ydwyf am y cyngor a'r cyfarwyddyd hwnnw.
Nawr, nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â maint yr her economaidd sydd o'n blaenau. Mae senario cyfeirio'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dynodi y bydd cynnyrch domestig gros y DU yn gostwng 35 y cant yn ystod ail chwarter y flwyddyn hon. Felly nid oes modd osgoi dirwasgiad, ond os ydym am osgoi dirwasgiad mawr, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraethau ledled y DU yn gwneud popeth yn eu gallu i roi cysgod i fusnesau drwy'r storm, a diogelu gweithwyr rhag bygythiad gwirioneddol o golli swyddi.
Nawr, fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y gwaith hwnnw. Dyna pam ein bod wedi ailedrych ar ein cyllidebau ac wedi gwneud penderfyniadau anodd ar draws y Llywodraeth i sefydlu cronfa cadernid economaidd newydd gwerth £0.5 biliwn. Mae ein cronfa yn darparu cymorth ariannol sylweddol sy'n ychwanegol at yr hyn a ddarperir gan Lywodraeth y DU. Mae'n cynnig cymorth hanfodol i fusnesau, yn enwedig y cwmnïau bach a chanolig eu maint sydd mor hanfodol i economi Cymru, ac nid yw hynny ar gael i gwmnïau yn Lloegr. Rydym wedi gwneud hyn oherwydd ein bod yn awyddus i gynorthwyo busnesau da yn 2019 i fod yn fusnesau da yn 2021. Rydym am gefnogi pobl a oedd â swydd dda yn 2019 i fod â swydd dda yn 2021.
Felly, ddydd Gwener diwethaf, agorasom y broses ymgeisio ar gyfer y gronfa. Mae cyfradd y ceisiadau yn y dyddiau ers hynny wedi bod yn ddigynsail. Daeth mwy na 6,000 o geisiadau am grant i law o fewn 24 awr i'r lansiad. Erbyn 6 o'r gloch fore heddiw, roedd y gronfa cadernid economaidd wedi cael 5,842 o geisiadau gan ficrofusnesau, cyfanswm o £56.7 miliwn, a 2,267 o geisiadau gan fusnesau bach a chanolig eu maint, cyfanswm o £127.3 miliwn. Mae hynny gyda'i gilydd yn 8,109 o geisiadau, a chyfanswm o £184 miliwn.
Credaf fod y galw hwnnw'n dyst i raddfa'r argyfwng rydym yn ei ganol ar hyn o bryd, a dyna pam roeddwn yn falch ddydd Llun yr wythnos hon i fod wedi ymateb yn gyflym i ryddhau £100 miliwn ychwanegol i gymal cyfredol y gronfa cadernid economaidd. Mae'n werth dweud bod y gwaith hwn yn adeiladu ar y gwerth mwy na £440 miliwn o grantiau ardrethi busnes sydd bellach wedi cyrraedd bron i 35,000 o fusnesau ledled Cymru.
Ddirprwy Lywydd, mae awdurdodau lleol wedi gweithio'n gyflym ac yn ddeheuig i brosesu taliadau ac maent yn gwneud gwaith gwych i drosglwyddo cyllid i fusnesau cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, hoffwn ddiolch i bob un awdurdod lleol sydd wedi chwarae rhan yn y gwaith hwn.
Hoffwn roi teyrnged unwaith eto hefyd i staff Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, a fy swyddogion, sydd wedi gweithio'n ddiflino, yn aml mewn amgylchiadau personol anodd, i ddatblygu'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw ran o'r DU.
Rydym wedi ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng cefnogi cymaint o fentrau â phosibl a gwneud cyfraniad ystyrlon i oroesiad pob un. Ond wrth wneud hynny, nid ydym yn colli golwg ar ein huchelgeisiau mwy hirdymor: yr angen i ddatgarboneiddio economi Cymru, yr angen i gynyddu gwaith teg a'r angen i godi lefelau sgiliau unigolion ledled Cymru. A dyna pam rydym wedi gofyn i bob un sy'n derbyn ein cymorth ymrwymo i egwyddorion y contract economaidd.
Bydd y gronfa a'r meini prawf yn cael eu hadolygu cyn rhyddhau'r cymal nesaf. Yn ogystal, hoffwn groesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd gyda'r cynllun cadw swyddi sydd bellach ar agor, ac rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cynllun wedi'i ymestyn tan ddiwedd mis Mehefin fan lleiaf.
Ddydd Llun, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth i gwmnïau arloesol newydd nad ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau achub coronafeirws sy'n bodoli eisoes. I fod yn gymwys, mae'n rhaid bod cwmni wedi codi £0.25 miliwn neu fwy yn breifat yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae'n bwysig, rwy'n credu, fod Llywodraeth y DU yn monitro cynnydd y cynllun i sicrhau nad yw'r trothwy hwn yn atal busnesau bywiog a hyfyw rhag cael cymorth.
Yng Nghymru, bydd busnesau newydd a sefydlwyd cyn 1 Mawrth eleni yn gallu gwneud cais i'r gronfa cadernid economaidd os ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, wrth gwrs. Mae'r pecyn hwn yn cyd-fynd â'r pecyn cymorth hirsefydlog a safonol ar gyfer busnesau bach o'r cyfnod cyn COVID sydd ar gael trwy Fanc Datblygu Cymru ac wrth gwrs, benthyciadau dechrau busnes a chyngor cynhwysfawr Busnes Cymru.
Felly, er bod llawer wedi'i wneud, dylwn ddweud hefyd fod llawer i'w wneud eto. Mae angen taer i weld mwy o'r benthyca a addawyd ac a warentir gan Lywodraeth y DU yn cyrraedd y rheng flaen. Rhaid i Lywodraeth y DU barhau i gefnogi a phwyso ar fanciau'r stryd fawr i fod yn llawer mwy ymatebol i anghenion ein busnesau ar yr adeg hynod anodd hon. Credaf fod llawer y gallai banciau'r stryd fawr ei ddysgu gan ein Banc Datblygu Cymru ein hunain yn y ffordd y mae wedi addasu i'r cyfnod rydym yn ei ganol ar hyn o bryd—sicrhau ei fod wedi addasu ei bolisïau a'i brosesau ei hun i gael cyllid a chymorth i fusnesau yn ddi-oed.
Felly, Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn hynod o falch o fusnesau ar hyd a lled Cymru—busnesau sy'n camu i'r adwy i gefnogi'r frwydr yn erbyn COVID ac i gynorthwyo ein GIG. Cafwyd ymateb hynod gadarnhaol gan y gymuned fusnes i'n galwad i weithredu ar gyfarpar diogelu personol. Yn sil hynny, rydym yn awr yn gweld ffyrdd arloesol o weithio wrth i fusnesau newid i greu dyfeisiau a chynnyrch a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol.
Serch hynny, mae angen cymorth ar y gweithwyr sydd ar hyn o bryd ar ffyrlo neu'n ddi-waith. Dyna pam y gwneuthum lansio ein darpariaeth e-ddysgu newydd ddydd Llun gyda'r nod o wella sgiliau a chefnogi llesiant meddyliol trwy helpu unigolion i baratoi'n gadarnhaol ar gyfer y dyfodol, beth bynnag a ddaw. Drwy ein cynnig newydd, rydym wedi darparu ystod o adnoddau dysgu ar-lein o ansawdd uchel am ddim gan ddarparwyr dibynadwy fel y Brifysgol Agored. Cefnogir y ddarpariaeth hon gan gyngor a chanllawiau gyrfaoedd ar-lein sydd ar gael i'w defnyddio gan unigolion ledled Cymru trwy wefan Cymru'n Gweithio.
Edrychaf ymlaen yn awr at ateb cwestiynau gan fy nghyd-Aelodau.
Diolch yn fawr, Weinidog. Russell George. Russell George?
Mae meic Russell wedi'i ddiffodd.
Mae angen i chi agor y meic—
Iawn?
Dyna chi.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Croeso.
Diolch yn fawr, Weinidog. A gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, ac a gaf fi hefyd ddiolch i chi am eich cyfarfodydd wythnosol gyda llefarwyr y gwrthbleidiau? Rwy'n credu eu bod yn amhrisiadwy, gan eu bod yn caniatáu i ni godi materion yn uniongyrchol gyda chi, yn ogystal â chael y wybodaeth ddiweddaraf. Felly, mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr, Weinidog. A gaf fi roi croeso diffuant i'ch datganiad? Rwy'n credu bod y cymorth ariannol sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn dda iawn hyd yma. Rwyf hefyd yn credu bod yr hyn ddywedodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw yn hollol iawn, ei bod yn bwysig i gynlluniau gan y ddwy Lywodraeth ategu ei gilydd.
Cyhoeddodd y Canghellor gronfa'r dyfodol gwerth £250 miliwn ar gyfer busnesau newydd a'r sector technoleg, a tybed sut rydych chi'n cefnogi busnesau yng Nghymru i ddenu cyllid o'r cynllun arbennig hwnnw. Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ystyried y Ganolfan Ymchwil Menter, a gyhoeddodd ddata yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, rwy'n meddwl, sy'n dangos mai Cymru fyddai'n dioddef fwyaf o bosibl o ganlyniad i'r coronafeirws a'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith, ac maent wedi cynnwys manylion i gyd-fynd â hynny. Ond yn amlwg, rwy'n credu eich bod wedi dweud eich hun, Weinidog, mae gennym ganran uwch o fusnesau llai yma yng Nghymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, felly rwy'n credu bod angen inni addasu yn unol â hynny.
Roedd croeso mawr i'r gronfa cadernid economaidd. O'm rhan i, roeddwn yn dweud wrth fusnesau a oedd yn cysylltu â mi 10 diwrnod neu bythefnos yn ôl: 'Os gwelwch yn dda, arhoswch. Mae'r gronfa cadernid economaidd yn mynd i lenwi'r bylchau hynny sydd ar ôl'. Rwy'n sylweddoli na all unrhyw Lywodraeth lenwi'r holl fylchau, ond roeddwn yn disgwyl i fwy o fylchau gael eu llenwi nag sydd wedi digwydd hyd yma, yn ôl yr hyn a gyhoeddwyd. Ond rwy'n gobeithio'n arw y byddwch yn cyflwyno cynlluniau pellach a fydd o gymorth i lenwi'r bylchau sy'n bodoli, ac rwy'n meddwl yn benodol am—a byddaf yn rhestru rhai o'r bylchau yn awr—TAW, er enghraifft. Mae busnesau nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW—busnesau bach yw'r rhain; nid yw'r rhan fwyaf o fusnesau bach yng Nghymru, neu nifer sylweddol ohonynt, yn mynd i fod wedi cofrestru ar gyfer TAW—wedi'u heithrio o'r meini prawf ar hyn o bryd. Felly, byddai'n dda cael cadarnhad fod y busnesau hynny, yng nghyfnod nesaf y cynllun, yn mynd i gael eu gwasanaethu. Rwy'n gwybod bod Paul Davies wedi codi hyn gyda'r Prif Weinidog yn gynharach, ond ni roddodd y Prif Weinidog ateb manwl ar y pwynt hwnnw.
Mae problem o hyd gyda'r rhai sy'n hunangyflogedig, unig fasnachwyr a ddaeth yn hunangyflogedig yn ddiweddar nad ydynt yn gallu cynhyrchu cyfrifon. Mae problem hefyd gyda'r rhai nad ydynt wedi gallu cyflwyno ffurflenni treth eto neu sydd â throsiant afreolaidd. Rwy'n meddwl yn arbennig am fusnesau sydd o bosibl yn anfonebu, felly roedd ganddynt waith ym mis Ionawr, mis Chwefror, ac anfonwyd anfonebau allan ac maent yn cael eu talu ym mis Mawrth a mis Ebrill, ond nid oes ganddynt unrhyw waith yn dod i mewn ar hyn o bryd. Felly, nid ydynt yn gallu bodloni'r meini prawf a bennwyd yng nghyllid presennol y gronfa cadernid economaidd mewn perthynas â gostyngiad o 40 y cant mewn trosiant neu elw.
Yna, mae rhai materion yn ymwneud ag ardrethi busnes rwy'n gobeithio y gallwch roi sylw iddynt. Rwy'n sylweddoli bod hyn yn gorgyffwrdd â gwaith eich cyd-Weinidog, y Gweinidog cyllid, ond mae llawer o fusnesau wedi'u heithrio, ac mae'n ymddangos i mi fod angen rhyw gymaint o dapro neu gymhwysiad ar gyfer hyn. Mae yna fusnesau, er enghraifft, gyda gwerth ardrethol o £12,500, sydd wedi'u heithrio, tra bo busnesau sydd â gwerth ardrethol o ychydig bach yn llai yn cael £10,000 o arian grant, ac mae busnesau yn y sector lletygarwch, er enghraifft, gyda gwerth ardrethol—. Rwy'n gwybod am un gyda gwerth ardrethol o £53,000 nad yw'n gallu cael unrhyw gyllid o gwbl, tra bydd busnes gyda gwerth ardrethol o tua £49,000 yn cael arian grant o £25,000. Felly, faint o dapro y gellid ei gyflwyno ym mentrau rhyddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?
Hefyd ar ryddhad ardrethi busnes, rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi trosglwyddo'r arian i awdurdodau lleol yn gyflym, ond yn anffodus, mae peth gwahaniaeth rhwng awdurdodau lleol o ran sut y maent yn darparu'r cyllid yn uniongyrchol i fusnesau. Mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud yn dda, megis Cyngor Sir Powys yn fy ardal i, a drosglwyddodd yr arian yn gyflym iawn. Felly, rwy'n cymeradwyo hynny'n fawr. Ond mae rhai awdurdodau lleol yn methu trosglwyddo'r arian hwnnw, ac mae systemau eraill yn llawer mwy biwrocrataidd.
Y sector twristiaeth—rwy'n gwybod iddo gael ei grybwyll yn gynharach heddiw. Gwelwyd dirywiad sylweddol yn y sector penodol hwn, a tybed pa gymorth pellach gan y Llywodraeth y gallwch gadarnhau y bydd yn cael ei gyflwyno i gefnogi'r sector penodol hwn. Yn amlwg, mae hynny'n hollbwysig. Hefyd, mae yna fusnesau sydd â throsiant tymhorol hefyd, yn enwedig rhai sydd angen dangos colled yn yr elw. Yn amlwg, ni fydd rhai yn gallu gwneud hynny oherwydd natur dymhorol hyn.
Hefyd, gan dynnu at y terfyn, y cyfnod adfer. A allwch chi gadarnhau mai yn y cyfnod presennol yn unig y bydd y gronfa cadernid economaidd ar waith, neu a yw yno'n fwy hirdymor? Rwy'n cymryd mai yn y cyfnod presennol yn unig y bydd ar waith, ac y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno pecyn arall mwy ar gyfer symud y tu hwnt i'r cyfnod presennol, a'n bod yn cael cymorth allan i helpu busnesau i newid eu modelau busnes, arloesi drwy dechnoleg, ac ati.
Ac yn olaf, Banc Datblygu Cymru—rwy'n falch iawn eu bod wedi trosglwyddo benthyciadau yn gyflym i bobl. Mae'n newyddion da, efallai, i ryw raddau, fod llawer o fusnesau wedi cael cymorth. Ond wrth gwrs, mae'r cronfeydd wedi sychu, felly pa gyllid ychwanegol arall y gall Llywodraeth Cymru eu sicrhau o'i hadnoddau ei hun neu gyllid Llywodraeth y DU neu arian Ewropeaidd yn ogystal?
Diolch. Weinidog.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i Russell George, am ei sylwadau caredig ar y dechrau ac am y cwestiynau y mae wedi eu gofyn? Rwy'n credu bod y ffordd rydych chi, Russell, Helen Mary, David a minnau wedi gallu gweithio dros y mis diwethaf yn dangos eich bod yn gallu gweithredu mewn ffordd golegol ar draws pleidiau gwleidyddol heb golli craffu cadarn ar y Llywodraeth hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd rydym wedi gallu cydweithio wrth asesu'r hyn sydd orau i'r wlad.
O ran y cwestiynau sydd wedi'u gofyn, fe geisiaf fynd drwyddynt yn y drefn y'u gofynnwyd. Yn gyntaf oll, cronfa'r dyfodol—y gronfa a gyhoeddwyd ar gyfer busnesau newydd. Rwyf eisoes wedi dweud bod anhawster ynghlwm wrth y meini prawf ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru ynglŷn â'r gofyniad i fod wedi codi £0.25 miliwn yn breifat yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac ar ben hynny wrth gwrs, mae'n rhaid sicrhau arian cyfatebol gan fuddsoddwyr preifat ar gyfer unrhyw arian a gyfrannir gan Lywodraeth y DU, ond os nad yw'r arian yn cael ei ad-dalu, bydd Llywodraeth y DU yn cymryd cyfran o berchnogaeth y cwmni.
Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth wedi adolygu'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Rwy'n gobeithio ei bod yn monitro effeithiolrwydd y cynllun penodol hwn yn agos iawn hefyd, a phe bai'n dod yn amlwg fod angen diwygiadau pellach yma, y bydd yn gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn cynorthwyo busnesau ledled y wlad, oherwydd ar hyn o bryd, mae perygl mai i fusnesau Llundain y byddai'n fwyaf buddiol.
Rhaid dweud, fodd bynnag, fod yna ddewisiadau amgen eraill sy'n creu argraff—sydd dan ystyriaeth gan Weinidogion Llywodraeth y DU, gan gynnwys defnyddio'r drefn bresennol ar gyfer lleihau'r dreth ar ymchwil a datblygu i gyflymu'r broses o dalu symiau sylweddol o arian. Mae'r arian eisoes yn y system, ond gellid ei ryddhau'n gynt i gefnogi busnesau.
Mae'n werth dweud y gall busnesau newydd a sefydlwyd cyn 1 Mawrth 2020 wneud cais i'r gronfa cadernid economaidd os ydynt yn bodloni'r meini prawf. Felly, mae'r cymorth hwnnw ar gael iddynt, ac mae hynny'n ychwanegol, wrth gwrs, at yr hyn a fyddai ar gael i fusnesau a busnesau newydd yn Lloegr. Mae'r banc datblygu ei hun yn gweithredu ei ddwy gronfa benodol i gynorthwyo gyda busnesau newydd a busnesau technoleg newydd mewn sectorau penodol.
Nawr, o ran y gronfa cadernid economaidd, rydych yn iawn i dybio bod y gronfa benodol hon ar gyfer y cyfnod achub. Wrth i ni edrych yn awr ar ailosod yr economi ac adfer ar ôl COVID-19, byddwn yn edrych ar y ffordd fwyaf priodol o gefnogi busnesau wrth inni symud ymlaen. Bydd ail gam y gyfran honno o £100 miliwn yn ein galluogi i edrych ar rai o'r bylchau sydd ar ôl ac rydych chi wedi tynnu sylw at nifer ohonynt.
Un o'r bylchau mwyaf sydd wedi mynnu ein sylw yw'r microfusnes nad yw'n gofrestredig ar gyfer TAW. Nawr, y rheswm pam ein bod wedi cynnwys y maen prawf penodol hwnnw yng ngham 1 y gronfa cadernid economaidd oedd er mwyn osgoi twyll sylweddol, oherwydd ei fod yn ein galluogi i wirio cyfeiriad busnes, bodolaeth busnes. Wrth symud ymlaen, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno model y buom yn ei ystyried, sef bwrsari yn y bôn. Efallai mai dyna fydd yr opsiwn y byddwn yn ei ddewis. Ond mae un peth yn sicr: rydym eisiau mynd i'r afael â'r rhan arbennig honno o'r economi.
O ran unig fasnachwyr sydd wedi dechrau gweithio'n ddiweddar a rhai o'r bylchau eraill y tynnodd Russell George sylw atynt, mewn sawl ffordd, mae'r rhain yn faterion lles a allai alw am sylw swyddogion sy'n ymwneud â'r gronfa cymorth dewisol, ac ar draws adrannau, rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio cronfa cymorth dewisol estynedig i gau rhai o'r bylchau hyn.
Bu'n rhaid inni sefydlu torbwyntiau ar ryw bwynt ar gyfer lefel y grantiau y byddai busnesau'n eu cael. O ran tapro rhyddhad ardrethi yn y dyfodol, mae'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei drafod gyda fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog cyllid yn bennaf. A byddwn yn rhannu llongyfarchiadau Russell George i gyngor Powys, sydd wedi bod ar flaen y gad yn gyson, o wythnos i wythnos, yn trosglwyddo grantiau i fusnesau. Yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf, o fewn yr wythnos gyntaf rwy'n credu, llwyddasant i weinyddu 2,000 o grantiau, ac roedd hynny'n drawiadol iawn.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd yn cyhoeddi perfformiad holl gynghorau Lloegr, ac o gofio bod hynny'n debygol o ddigwydd yn fuan iawn dros y ffin, credaf ei fod yn gwneud synnwyr inni ystyried hynny yma, ond rwyf hefyd wedi gofyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi tabl cynghrair, os mynnwch, o gefnogaeth y stryd fawr i'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws, fel y gallwn wirio pa rai o'r banciau sy'n camu i'r adwy a pha rai sy'n gwneud cam â'u cwsmeriaid.
Gallai cam nesaf cynllun benthyciadau COVID-19 Banc Datblygu Cymru ddenu arian gan Lywodraeth y DU. Rydym yn sicr wedi gofyn amdano ac mae'r banc datblygu ei hun wedi gwneud cais i fod yn fenthyciwr cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Byddai hynny'n cynnig cyfle enfawr o ran gallu darparu mwy o arian yn gynt i fusnesau Cymru. Mae'n ffaith syfrdanol fod Banc Datblygu Cymru, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd gyda'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws, wedi ein sicrhau y bydd yn gallu trosglwyddo arian i bob un o'r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn diwedd y mis hwn. Bydd yn eithaf trawiadol os llwyddant i gyflawni hynny.
Wrth inni ystyried yr ailosod a'r adfer, bydd cyfleoedd enfawr yn codi. Wrth gwrs, bydd rhai sectorau'n crebachu, bydd rhai sectorau'n newid yn sylweddol, ond bydd llawer o gyfleoedd hefyd, ac rydym eisiau gwneud yn siŵr fod y mecanweithiau cymorth gennym yn eu lle. Mae cryn dipyn o feddwl ar hyn o bryd ynglŷn â sut y gallwn groesawu a manteisio ar y cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg a fydd yn cael eu sbarduno'n bennaf gan newid mewn ymddygiad.
Mae Russell George wedi nodi un sector penodol a fydd yn galw am gyfnod hwy o gymorth—yr economi ymwelwyr. Rwyf eisoes wedi mynd ar drywydd pryder Gweinidog Llywodraeth y DU ynghylch y sector twristiaeth a sectorau ac is-sectorau eraill a fydd yn debygol o fod angen rhagor o gymorth yn y misoedd i ddod, yn enwedig mewn perthynas â'r cynllun cadw swyddi.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o lawer o sgyrsiau a gafodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar sail y DU i archwilio pa gymorth ar draws y sector y gellid ei gynnig ar draws Prydain a Gogledd Iwerddon. Pan fyddwn yn dechrau ymadfer wedi cyfnod y coronafeirws, rwy'n credu hefyd y bydd angen ystyried pa brotocolau sydd angen eu cyflwyno er mwyn ailgychwyn yr economi ymwelwyr yn ddiogel ar draws Cymru. Gallai'r protocolau hynny, pe baent yn cael eu hardystio, roi sicrwydd i gwsmeriaid ac i ymwelwyr fod busnesau'n cydymffurfio â gofynion ôl-COVID-19 er mwyn gweithredu'n llwyddiannus, ac rwy'n credu mai dyna'r ffordd fwyaf diogel o ailgychwyn gweithgarwch yn y sector pwysig hwn.
A gaf fi ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Russell George a diolch i'r Gweinidog ac yn wir, i'w staff, sydd wedi bod yn ymatebol iawn i bryderon penodol rwyf fi a fy nghyd-Aelodau wedi'u codi a hefyd yn agored iawn i syniadau newydd ac awgrymiadau newydd? Byddwn yn awgrymu bod hwn yn fodel cadarnhaol iawn ar gyfer y ffordd y dylai Llywodraeth ymgysylltu â gwrthwynebiad adeiladol ar yr adeg hon, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'r Gweinidog wedi sicrhau bod hynny'n digwydd yn fawr iawn.
Os caf godi rhai materion penodol yn fyr. Roeddwn yn falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud bod y gronfa cadernid economaidd—mae'n ymwybodol iawn nad yw'n cynnwys yr holl fusnesau yr hoffai eu cynnwys, yn enwedig y busnesau nad ydynt yn cofrestru ar gyfer TAW. Rwy'n falch iawn o'i glywed yn dweud y bydd hynny'n cael ei adolygu'n rheolaidd. Tybed a all y Gweinidog roi syniad inni heddiw pa bryd y gallai hynny ddigwydd, oherwydd fel y gwn ei fod yn gwybod, mae'r busnesau bach iawn hynny'n rhai a all fod â llai wrth gefn, gallent fod yn fwy agored i niwed ac efallai y bydd arnynt angen cymorth yn gyflymach na busnesau mwy a allai fod â pherthynas fwy cadarn â'u banciau. A siarad am fanciau, rwyf am groesawu'n arbennig yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am dabl cynghrair, fel petai, ar gyfer banciau'r stryd fawr, ynghylch y rhai sy'n helpu a'r rhai nad ydynt yn helpu. Byddwn i'n dweud, yn fwy cyffredinol, rwy'n credu, y bydd pobl Cymru yn cofio'r busnesau mawr a wnaeth ymddwyn yn dda ac y byddant yn cofio am y rhai na wnaethant hynny, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ynglŷn â hynny.
Yn ei ddatganiad, mae'r Gweinidog yn sôn am gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, y cynllun cadw swyddi, ac rwy'n gwybod ein bod i gyd yn falch iawn o weld hynny ar waith, ond mae'r Gweinidog yn ymwybodol fod rhai problemau, ac mae rhai bylchau, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle y mae wedi'i roi i mi ddarparu rhywfaint o dystiolaeth iddo am y bobl hynny'n arbennig sy'n cael eu gadael ar ôl am eu bod wedi newid eu gwaith ar yr adeg hon—ni fydd eu cyflogwyr blaenorol yn eu rhoi ar ffyrlo, weithiau efallai am eu bod wedi gadael heb fod y berthynas rhyngddynt yn gadarnhaol, a chyflogwyr newydd a fyddai'n dymuno gwneud hynny. Tybed a all y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni y prynhawn yma am y trafodaethau y gwn ei fod wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, ac a yw'n teimlo bod posibilrwydd, gan fod y prif gynllun ar waith bellach—a'r dystiolaeth amlycaf yw'r gyflogres—o weld unrhyw bosibilrwydd o hyblygrwydd. Ac yn olaf, mae'r Gweinidog wedi cydnabod yn ei ymatebion i Russell George fod rhai bylchau o hyd, a byddwn yn dweud, yn y cyd-destun hwn, pan fyddwch yn gwneud y camau mawr hyn mor gyflym, fe fydd yna fylchau; nid wyf yn credu bod neb yn synnu ynglŷn â hynny.
Nawr, pan holwyd y Prif Weinidog ynglŷn â materion cysylltiedig a meddwl ynglŷn â ble mae'r bylchau a sut y gellid eu llenwi, soniodd y Prif Weinidog am bwyso ar Lywodraeth y DU i lenwi'r bylchau hynny, ac rwy'n siŵr na fyddai neb ohonom yn anghytuno â hynny, ac rydym i gyd yn cydnabod, wrth gwrs, yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Ond yn y gorffennol, mae'r Gweinidog wedi dweud—ac rwy'n meddwl ei fod wedi dweud y prynhawn yma wrth ymateb i Russell George—y bydd yn ceisio cau rhai o'r bylchau hynny â chynlluniau ar gyfer Cymru'n unig os bydd raid.
Roedd yn ddiddorol ei glywed eto'n cyfeirio at y gronfa gymorth, y gronfa cymorth dewisol, a tybed a all roi ystyriaeth bellach i ddefnyddio'r gronfa honno i ddarparu incwm sylfaenol brys i rai o'r bobl a fydd yn disgyn drwy'r bylchau, oherwydd ni allwn wneud cynlluniau ffyrlo i bawb, a phryd y mae'n credu y caiff asesiad o faint o fusnesau a faint o unig fasnachwyr unigol sy'n disgyn drwy'r bylchau a pha mor fuan y gallai cynllun newydd fod ar waith i'w cefnogi. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones eto am ei sylwadau caredig a hael iawn a'r cwestiynau a ofynnwyd? Yn sicr nid oes gennym fonopoli ar syniadau yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn ceisio barn, syniadau ac arloesedd o bell ac agos, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rydym wedi cael llawer o syniadau adeiladol gan Aelodau ar draws y Siambr. Rwy'n hynod ddiolchgar i Helen Mary hefyd am y syniadau a'r wybodaeth y mae hi a'i swyddfa wedi gallu eu darparu ar yr adeg hon.
Wrth fyfyrio ar y grŵp o unigolion a busnesau bach sy'n disgyn drwy'r bwlch mewn perthynas â chofrestru ar gyfer TAW, fy nod yw rhoi manylion am gam 2 y gronfa cadernid economaidd yn ystod y 10 diwrnod i bythefnos nesaf, fel y gallwn symud yn ddidrafferth yn y bôn o gam 1 i gam 2, gan gydnabod na fydd y cyfnod presennol, gyda gofyniad, neu gyfanswm ceisiadau o dros £180 miliwn, yn para am gyfnod sylweddol y tu hwnt i—[Anghlywadwy.] Felly, nid wyf yn dymuno cael bwlch rhwng cam 1 a cham 2 os gellir ei osgoi. Ac rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle o ran perfformiad banciau'r stryd fawr. Bydd atgofion yn byw'n hir iawn o'r profiad hwn a bydd pobl yn barnu ac yna'n gwneud penderfyniadau ar sail perfformiad banciau'r stryd fawr ac eraill. Rwy'n credu ei bod yn iawn fod Llywodraeth y DU, os yw'n dewis cyhoeddi tabl cynghrair, os mynnwch, ar berfformiad awdurdodau lleol yn Lloegr, hefyd yn gwneud yr un peth gyda'r banciau. Nid yw ond yn deg, yn fy marn i, y dylid cymhwyso hynny.
O ran y ffyrlo—y rheswm pam rwy'n crybwyll ffyrlo yw oherwydd, Helen Mary, eich bod wedi nodi grŵp o unigolion sydd wedi disgyn drwy'r bwlch o ran y dyddiad terfyn. Rydym wedi cael ein cefnogi gan Lywodraeth yr Alban yn ein galwad am i'r dyddiad gael ei wthio'n ôl i 1 Ebrill. Byddai hynny hefyd yn dal nifer sylweddol o bobl sy'n weithwyr tymhorol o fewn yr economi ymwelwyr. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r trafodaethau a gaf gyda Gweinidogion yn Llywodraeth y DU bob amser yn gyfeillgar, yn adeiladol, maent yn agored i'n syniadau ni, ac yn wir, maent wedi gallu cyhoeddi newidiadau i becynnau cymorth penodol yn seiliedig ar ein hargymhellion, yn seiliedig ar y wybodaeth rydym wedi bod yn ei chael. Felly, maent wrthi'n ystyried yr estyniad pellach hwnnw i 1 Ebrill. Cynhaliwyd galwad bedair ochrog y prynhawn yma yn ystod y Cyfarfod Llawn; nid oeddwn yn gallu cymryd rhan ynddi felly fe gymerodd fy nghyd-Aelod Lee Waters fy lle. Os oes unrhyw newyddion am estyniad posibl i'r ffyrlo wedi dod yn ôl o ganlyniad i'r alwad honno, byddaf yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei rhannu â'r Aelodau.
Hoffwn fynd ar drywydd y cwestiwn ynglŷn ag i ba raddau y dylem fod yn llenwi bylchau yn sgil gweithgareddau Llywodraeth y DU. Dim ond hyn a hyn y gallwn ei wneud gyda'n hadnoddau cyfyngedig. Mae gwir angen i Lywodraeth y DU gael ei gweld yn Llywodraeth sydd â'r pocedi eithriadol o ddwfn yn wahanol i ni, ond nid yw hynny'n gyfystyr â dweud na allwn ymyrryd mewn ffordd ar gyfer Cymru'n unig—dyna'n union a wnaethom gyda'r gronfa cadernid economaidd gwerth £0.5 biliwn. Fel arfer, rydym yn gwario—drwy'r is-adran busnes a rhanbarthau o'r Llywodraeth, cymorth busnes a buddsoddi—tua £30 miliwn y flwyddyn, felly rwy'n credu bod £500 miliwn, £0.5 biliwn, yn dangos maint yr hyn rydym wedi'i wneud. Ond o ran cymorth megis cynllun incwm sylfaenol brys, rwy'n credu y byddai hwnnw'n anhygoel o ddrud, yn anfforddiadwy yn ôl pob tebyg i Lywodraeth Cymru, yn sicr o ystyried yr ymrwymiadau rydym eisoes wedi'u gwneud. Byddai ceisio dod o hyd i'r swm o arian y byddai ei angen ar gyfer hynny bron yn amhosibl, ond mae'n rhywbeth rydym wedi'i ddweud wrth Lywodraeth y DU y dylid yn sicr iawn ei ystyried. Rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r gronfa cymorth dewisol i gefnogi mwy o bobl. Mae'r galw am y gronfa cymorth dewisol ar hyn o bryd yn eithaf anghredadwy, felly hyd yn oed pe baem yn cynyddu'n sylweddol y swm o arian sydd ar gael drwy'r gronfa honno, ni fyddai'n atgynhyrchu, ni fyddai'n cynnig yr hyn y byddai cynllun incwm sylfaenol brys amgen yn ei gynnig. Dyna pam ein bod wedi bod yn weddol gyson ac yn glir wrth ddweud wrth Lywodraeth y DU, 'Edrychwch, gallwch gyflwyno'r cynllun brys hwn, gall fod am amser cyfyngedig, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl hynod o agored i niwed sy'n disgyn drwy'r bylchau ar hyn o bryd.'
Mae unig fasnachwyr yn cysylltu â mi—hyfforddwyr gyrru, ffotograffwyr, plymwyr—i ddweud bod eu gwaith newydd ddod i ben. Maent wedi gwneud ymholiadau ac maent wedi cael gwybod nad oes cefnogaeth iddynt o fewn y system bresennol. A yw hynny'n gywir, ac os nad yw'n gywir, a wnewch chi ofyn i bwy bynnag sy'n rhoi'r wybodaeth honno i ddweud wrthynt pa gymorth sydd ar gael iddynt, oherwydd mae'r rhain yn bobl sydd newydd golli eu holl incwm?
Mae'r ail bwynt yr hoffwn ei godi yn ymwneud â chael strategaeth ar gyfer pob sector economaidd. Os edrychaf ar fanwerthu, er enghraifft, mae rhai cwmnïau nad ydynt erioed wedi ei chael hi cystal—manwerthwyr ar-lein a manwerthwyr bwyd nad oes raid iddynt gael unrhyw gynigion arbennig oherwydd mae ganddynt giw yn ffurfio y tu allan. Nid ydynt erioed wedi ei chael hi cystal, mae fel Nadolig bob wythnos, tra bo gennych fanwerthwyr eraill sy'n methu gwerthu o gwbl.
Rydym yn gweld un manwerthwr mawr yn methu bob wythnos, ac rwy'n disgwyl y bydd llawer mwy na hynny o fanwerthwyr lleol na fyddant yn gallu ailagor. A oes unrhyw beth y gellir ei wneud i gefnogi rhai o'r manwerthwyr llai hyn? Gwyddom fod eu hardrethi wedi mynd—mae'n dal i fod angen iddynt dalu rhent ac mae ganddynt y gorbenion eraill o hyd. Mae'n rhaid iddynt wneud yr holl daliadau hyn ddim ond er mwyn cadw eu hadeilad.
A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei gyfraniad? O ran cymorth i'r rheini sydd newydd ganfod bod eu trosiant, eu hincwm, wedi gostwng yn helaeth o ganlyniad i'r coronafeirws, rwy'n credu y gallant wirio eu cymhwystra drwy Busnes Cymru—y porth ar-lein—ar gyfer y gronfa cadernid economaidd. Mae cymorth gan Lywodraeth y DU hefyd ar gyfer yr hunangyflogedig.
Ni allaf roi sylwadau ar bob sector ar hyn o bryd, a bydd pob busnes yn cael trafferth gweld a oes cymorth ar gael. Y ffordd orau i fusnes wneud hynny'n sicr yw mynd draw i wefan Busnes Cymru ac edrych ar y gwahanol gynlluniau sydd ar gael yno. Yn benodol mewn perthynas â'r gronfa cadernid economaidd, sy'n gysylltiedig—mae'r meini prawf yn gysylltiedig—â gostyngiadau sylweddol mewn trosiant, mae yna adnodd cymhwystra sy'n syml iawn. Gallai unig fasnachwr fynd drwyddo mewn munudau i weld a fyddai'n gymwys i gael y cymorth hwnnw neu unrhyw gymorth arall y mae Busnes Cymru yn darparu cyngor yn ei gylch.
O ran y sector manwerthu, mae hwn yn sector arall a fydd, yn ôl pob tebyg, yn galw am gyfnod hwy o gymorth gan Lywodraethau. Nid oes amheuaeth o gwbl, fodd bynnag, oherwydd newid ymddygiad a ysbrydolir gan y cyfnod hwn, y bydd y newid tuag at lawer o fanwerthu ar-lein yn cyflymu eto. Bydd hynny'n cael sgil-effeithiau ar natur y stryd fawr—diben y stryd fawr neu ganol tref yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae gwaith ar y gweill yn yr adran tai a llywodraeth leol ar y dull canol trefi'n gyntaf o weithredu, a sut y gallwn ail-lunio canol trefi yn erbyn pwysau newydd y coronafeirws a'r effaith y mae'n debygol o'i chael ar dueddiadau hirdymor defnyddwyr.
Wedi dweud hynny, rydym hefyd yn gweithio ar y sector manwerthu—gwaith yng ngogledd Cymru yw hwn yn benodol, lle rydym wedi dwyn ynghyd awdurdodau lleol, y bwrdd uchelgais economaidd, y sector manwerthu ei hun a Llywodraeth Cymru ar ddarn o waith sydd â thair elfen iddo, yn cynnwys dyfodol y stryd fawr. Byddwn yn sicr yn ystyried ymestyn y darn hwn o waith i dri rhanbarth arall Cymru, oherwydd rwy'n credu y bydd yn fater cwbl allweddol i awdurdodau lleol, i Lywodraeth Cymru ac i'r sector.
Diolch. David Rowlands. A all rhywun agor meicroffon Mr Rowlands? Dyna ni.
O'r gorau, rwyf wedi'i wneud fy hun. Iawn.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ond a gaf fi hefyd ddiolch i chi am y diweddariadau wythnosol rheolaidd a gawn fel llefarwyr, sy'n gynhwysfawr iawn ac sydd, mewn gwirionedd, yn gadael fawr iawn o le i ofyn cwestiynau, os caf ddweud hynny?
A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu bod llawer o'r asiantaethau rydych chi'n eu defnyddio ar gyfer yr ymyriadau, yn enwedig awdurdodau lleol, a Banc Datblygu Cymru yn benodol—a gawn ni i gyd ddiolch iddynt am y gwaith aruthrol y maent yn ei wneud? Heb os nac oni bai, maent yn camu i'r adwy.
Hoffwn ailadrodd cryn dipyn o bethau a ddywedodd Helen Mary Jones a Russell George ynglŷn â gallu sectorau penodol i gael gafael ar arian. Mae'n anodd iawn gwybod ble yn union mae'r bylchau, ac rydym yn sylweddol0i hynny, a hefyd y ffaith bod yn rhaid inni gofio mai arian cyhoeddus yw hwn a bod yn rhaid cael mesurau diogelu ar gyfer craffu ar bobl sy'n gwneud cais am y cyllid hwnnw. Felly, rydym yn sylweddoli y gall fod oedi cyn i'r cronfeydd hynny ddod drwodd.
Un o'r meysydd rwyf am ofyn yn benodol yn ei gylch yw'r diwydiant adeiladu, lle mae'n ymddangos bod yna gymysgedd mawr o bethau'n digwydd. Er enghraifft, beth sy'n digwydd ar yr A465 ar hyn o bryd? A oes cynnydd yn digwydd o hyd neu a yw'r gwaith wedi'i atal? Beth rydych chi'n ei glywed gan y diwydiant adeiladu o ran beth sy'n digwydd gydag argyfwng COVID-19?
Diolch. Weinidog.
A gaf fi ddiolch i David Rowlands, Ddirprwy Lywydd, am ei gwestiynau, a hefyd am ei sylwadau caredig am y trafodaethau a gawsom, a'r cyfraniadau a wnaeth Aelodau ar draws pob plaid yn ein brwydr yn erbyn coronafeirws?
Yn sicr fe wnaf gyfleu ei ddiolchiadau, ac rwy'n siŵr eu bod wedi eu hategu ar draws y Siambr, i awdurdodau lleol, i'r banc datblygu ac i Busnes Cymru. Mae'r pwysau sydd ar bobl yn y sefydliadau hynny'n eithaf anhygoel, a chânt eu hanghofio'n aml. Yn yr un modd, gweision sifil—mae'r pwysau sydd arnynt yn anferthol ar hyn o bryd ac unwaith eto, nid ydynt yn cael eu cofio'n aml ynghanol y gymeradwyaeth i weithwyr hanfodol, ond maent yn gwneud eu gorau glas i gadw pobl yn ddiogel ac i gadw ein heconomi mor iach ag y gall fod.
Felly, rydym yn gweld bod gwefan Busnes Cymru yn cael tua 0.5 miliwn o ymweliadau yr wythnos ar hyn o bryd. Mae'r traffig i'r wefan honno'n eithaf anhygoel, ac mae eu staff yn cael tua 250 i 300 o alwadau ffôn bob dydd—tîm ymroddedig gwirioneddol dda o dros 40 o bobl sy'n dangos tosturi anhygoel at bobl sydd dan bwysau ac yn bryderus iawn ar hyn o bryd, yn ceisio cadw eu busnesau'n fyw.
Gan symud ymlaen at sut rydym yn gwario'r arian, wrth gwrs, rydych yn iawn, mae'n rhaid i ni ymdrin ag ymdrechion twyllodrus i gael gafael ar arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, ac rwyf wedi tynnu sylw at un maes penodol o gymorth lle mae'r meini prawf wedi'u gosod mewn ffordd a fyddai'n atal ceisiadau twyllodrus rhag cael eu gwneud. Y grŵp nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW sydd wedi dioddef o ganlyniad i hyn yn anffodus, ond rydym yn anelu at gynorthwyo'r grŵp hwn yng ngham 2. Ond wedyn mae'r cwestiwn ychwanegol ynglŷn â pha fath o werth—yn fwy na chadw'r cwmni hwnnw'n fyw, cadw'r bobl hynny mewn gwaith—rydym yn ei gael am y buddsoddiad mewn gwirionedd.
Wel, rwy'n falch ein bod wedi gallu cyflwyno'r contract economaidd i'r broses grantiau. Rydym am sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau posibl o'n buddsoddiad. Byddwn yn ailedrych ar y busnesau hynny yn ystod y misoedd i ddod, gan sicrhau y gallant ddangos sut y maent wedi gallu datgarboneiddio, yr hyn y maent wedi'i wneud, yn yr amser ers llofnodi'r contract economaidd, i wella iechyd ac iechyd meddwl a sgiliau'r gweithlu, a sut y maent wedi tyfu hefyd, oherwydd rydym am sicrhau ein bod yn buddsoddi yn y busnesau sy'n hyfyw ar gyfer y dyfodol, busnesau sy'n gyfrifol.
Rwy'n mynd i droi'n fyr, os caf, at y sector adeiladu. Rydym wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar draws y pedair gwlad ynglŷn â safleoedd adeiladu a sicrhau bod cyngor i weithwyr mor glir a hygyrch â phosibl. Ond fel y nodwyd gennych, David Rowlands, nid yw'r darlun yn berffaith ac mae dehongliadau gwahanol ar hyn o bryd ar draws y pedair gwlad, ac ymhlith y cwmnïau, ac nid yw hynny'n fanteisiol iawn.
Rwy'n credu mai'r rheoliadau a gyhoeddwyd gyda'r canllaw atodol sy'n rhoi'r arweiniad cliriaf yn unman yn y DU. Ac o ganlyniad i hynny, rwyf wedi cael trafodaethau gyda Chymdeithas y Contractwyr Peirianneg Sifil a chyrff sgiliau sy'n cynrychioli'r sector adeiladu. O'r herwydd, rwy'n credu ein bod wedi gweld adeiladu mewn nifer o ardaloedd yn cael ei gynnal er mwyn cefnogi'r ymdrech iechyd a'r economi sydd ar waith ar hyn o bryd. Felly, er enghraifft, mae gwaith adeiladu ysbyty'r Grange yn parhau—mae'n agos at gael ei gwblhau. Bydd yn darparu 350 o welyau ysbyty ychwanegol amhrisiadwy. Mae'n iawn i'r prosiect adeiladu hwnnw gael ei gwblhau; yr A465 hefyd—darn hanfodol o seilwaith economaidd a fydd yn ganolog i'r economi ranbarthol a'r broses o ymadfer wedi'r coronafeirws yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym am weld prosiectau eraill hefyd fel ffordd osgoi Bontnewydd, Caernarfon yn cael ei chyflawni o fewn yr amserlen a fwriadwyd ar ei chyfer, oherwydd ei bod mor bwysig i gymunedau ac i'r economi leol. Fodd bynnag, rhaid cadw at y canllawiau bob amser ar safleoedd adeiladu.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn deg dweud y bydd y gwaith adeiladu'n chwarae rhan ganolog yn ystod y cam adfer. Gwyddom y gall buddsoddi mewn seilwaith ddarparu'r ffordd gyflymaf o dyfu economi allan o ddirwasgiad, ac rydym yn wynebu dirwasgiad yn awr. Felly, rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio prosiectau adeiladu ar raddfa fawr, yn ogystal â phrosiectau llai o faint yn aml hefyd a fydd o ychydig mwy o fudd i gadwyni cyflenwi er mwyn cynnal gwaith yn awr, ond hefyd i ehangu cyfleoedd cyflogaeth cyn gynted ag y gallwn, pan fyddwn wedi dod trwy gyfnod y feirws.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi roi'r datganiad arferol ein bod wedi cael prif siaradwr gan bob un o'r pleidiau, felly a all y gweddill ohonoch ofyn eich cwestiynau'n unig? Mae gennym nifer o bobl sydd eisiau gofyn eu cwestiynau i Weinidog yr economi, felly mater i chi yw sawl un y gallaf eu galw. Nick Ramsay.
[Anghlywadwy]—Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi gytuno â'r datganiadau blaenorol ein bod yn meddwl am y rheini ar y rheng flaen ar hyn o bryd yn ein gwasanaethau cyhoeddus? A gwn fod Gweinidog yr economi wedi dweud hynny hefyd.
Os caf ofyn ychydig o gwestiynau am yr economi'n benodol, yna trafnidiaeth, Weinidog. Yn gyntaf oll, mae nifer o siaradwyr, gan gynnwys Russ George, wedi sôn am broblem rhai busnesau sy'n teimlo eu bod yn disgyn drwy'r bylchau, fel petai. Mae un o'r rhai y siaradais â hwy'n ddiweddar, un perchennog busnes, yn pryderu, os byddwch yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi, y gall hynny eich eithrio o'r gronfa cadernid ac y gallwch droi mewn cylchoedd. Felly, tybed a allech chi egluro'r sefyllfa o ran hynny.
Hefyd, mae perchennog canolfan chwarae meddal yn y Fenni wedi cysylltu â mi heddiw ddiwethaf, ac mae hi'n pryderu am y meini prawf ar gyfer gwneud cais am arian argyfwng, ar y sail fy mod yn meddwl bod yn rhaid i chi naill ai fod yn fusnes lletygarwch neu'n fusnes hamdden, ac nid yw ei busnes yn perthyn i'r naill gategori na'r llall. Mewn gwirionedd, mae'n debyg ei fod yn perthyn i'r ddau ac yn amlwg, fel canolfan chwarae meddal, efallai ei fod yn rhywbeth nad yw'n cael ei ystyried mor bwysig â chyfleusterau eraill ar adegau penodol mewn amser, ond wrth gwrs, pan ddown allan o'r broblem hon rydym ynddi, bydd rhieni, plant, yn dibynnu ar y math hwnnw o brofiad addysg a chwarae i'w plant. Felly, tybed a allech chi edrych eto ar y categorïau a'r busnesau na fyddant yn ffitio'n hawdd i un categori.
Ac yn olaf ar yr economi, yr hunangyflogedig—roedd dyn busnes lleol unwaith eto yn pryderu, er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid argyfwng gan Lywodraeth Cymru, fod yn rhaid i chi gael elw cyfartalog, rwy'n meddwl, neu ddangos elw cyfartalog dros dair blynedd, ac roedd yn pryderu mai'r flwyddyn ddiwethaf sy'n fwyaf perthnasol yn ei achos ef. Felly, nid wyf yn gwybod a allech chi ystyried, neu ofyn i'ch swyddogion edrych i weld a ellid gwneud eithriadau o ran proffidioldeb busnesau.
Yn ail, yr ail faes roeddwn am ei grybwyll yn fyr oedd trafnidiaeth a faint o gyfarpar diogelu personol sydd ar gael. Yn gyntaf, trafnidiaeth gyhoeddus: arhosodd gweithiwr allweddol rwy'n ei adnabod yn ysbyty'r Waun am 75 munud am fws adref y noson o'r blaen. Tybed beth sy'n cael ei wneud i gefnogi'r diwydiant bysiau ar hyn o bryd, yn enwedig o safbwynt ein gweithwyr allweddol a darparu trafnidiaeth yn ôl ac ymlaen iddynt; maent ar y rheng flaen. Ac wrth gwrs, y gyrwyr bysiau eu hunain a staff Trafnidiaeth Cymru—maent hwy ar y rheng flaen hefyd, ac rwy'n meddwl tybed a yw cyfarpar diogelu personol wedi cael ei ystyried ar eu cyfer hwy. Gwn fod pwysau a straen ar hynny ar hyn o bryd, ond gallai hynny fod yn rhywbeth i edrych arno yn y dyfodol.
A'r diwydiant cludo nwyddau y mae rhai siaradwyr wedi sôn amdano, a'r gyrwyr dosbarthu nwyddau—Amazon a'u tebyg—maent yn gweithio'n galed iawn i gwmnïau ar hyn o bryd, ac mae'n debyg iawn eu bod, mewn llawer achos, yn cadw'r economi i symud o ran bod pobl yn cael eu cyflenwadau a phobl yn cael eu siopa. Felly, tybed pa gymorth sy'n cael ei ddarparu i gwmnïau o'r fath er mwyn rhoi digon o amddiffyniad i'w gyrwyr ac i'w staff.
Yn olaf, Weinidog, ar fater cadw pellter cymdeithasol, mae'n beth anodd iawn i'w gyflawni ar drafnidiaeth gyhoeddus, felly tybed sut rydych yn cysylltu â Trafnidiaeth Cymru i wneud yn siŵr ar hyn, ac yn wir, pan ddechreuwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau, fel y gwnawn ar ryw adeg gobeithio, os oes unrhyw ofynion cadw pellter cymdeithasol yn dal i fod ar waith, y bydd Trafnidiaeth Cymru a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael y math o gymorth ac arweiniad fydd ei angen arnynt.
A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiynau? Trof at gwestiynau'r economi yn gyntaf, ac o ran yr ymholiadau y mae wedi'u cael gan gwmni chwarae meddal, rwyf wedi cael nifer anhygoel o ymholiadau gan fusnesau chwarae meddal sydd mewn sefyllfa debyg. Mae'n wir nad ydynt wedi eu categoreiddio fel hamdden na manwerthu na lletygarwch, ac felly nid oeddent yn gallu elwa o'r rownd gychwynnol o gymorth. Roeddem yn ymwybodol o hyn pan ddatblygwyd y gronfa cadernid economaidd, ac at ei gilydd, mae busnesau chwarae meddal yn ficrofusnesau neu'n fentrau bach neu ganolig. Mae nifer enfawr ohonynt yn cyflogi naw o bobl neu lai, felly cânt eu categoreiddio fel microfusnesau. Mae'r rhan fwyaf wedi'u cofrestru ar gyfer TAW. Maent wedi dioddef gostyngiad o 40 y cant neu fwy at ei gilydd, ac felly maent yn gymwys, rwy'n credu, ar gyfer elfen ficrofusnesau'r gronfa cadernid economaidd. Yn sicr, dyna lle rydym wedi bod yn cyfeirio busnesau chwarae meddal i gael cymorth priodol, ac mae'r manylion hynny ar gael ar wefan Busnes Cymru.
Awn ar drywydd y cwestiwn olaf a ofynnoch chi ynglŷn â'r economi a sut y gallem gefnogi pobl sydd wedi bod yn weithredol ers tair blynedd, ond y mae eu perfformiad o ran proffidioldeb wedi amrywio'n eithaf sylweddol dros y tair blynedd hynny. Fe ofynnaf i swyddogion fynd ar drywydd hynny.
O ran trafnidiaeth wrth gwrs, rydym wedi darparu'r gronfa galedi ar gyfer y diwydiant bysiau. Ar ôl inni gyhoeddi hynny, gwnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddiad a oedd, yn y bôn, yn sicrhau bod yr Alban, Cymru a Lloegr yn cynnig yr un faint o gymorth i weithredwyr bysiau yn ystod y cyfnod hwn. Ond yn amlwg, fel y gallwch ddychmygu, rydym yn awr yn ystyried sut i gefnogi bysiau wrth i ni ymadfer wedi'r coronafeirws, sut rydym yn sicrhau, fel rydych wedi nodi, y gellir parhau i gadw pellter cymdeithasol ar wasanaethau bysiau a pha fath o gymorth y byddai ei angen ar y sector i allu cynnal hynny, gyda'r canlyniad anorfod sydd iddo o ran yr ergyd i dderbyniadau, yn enwedig ar y llwybrau sy'n hyfyw yn fasnachol. Mae hynny'n rhywbeth rydym wrthi'n ei ystyried yn awr. Cefais alwad gynadledda gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr trafnidiaeth a'r economi y bore yma, ac fe nodais nifer o ffrydiau gwaith sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac mae'n fwriad gennyf weithio gyda phartneriaid mewn awdurdodau lleol a chyrff fel y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i sicrhau ein bod yn cael y cymorth priodol i'r diwydiant yn y dyfodol a'n bod yn datblygu model ar gyfer gwasanaethau bws lleol sy'n addas ar gyfer y dyfodol hefyd, o ystyried y byddwn yn debygol o weld newid mewn ymddygiad am y 12 mis nesaf o leiaf, os nad 24 mis, a allai, ac a fyddai'n debygol o arwain at lai o ddefnydd o wasanaethau bysiau. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni sicrhau ein bod yn cyflwyno rhai o'r syniadau radical a gyhoeddwyd gennym yn y Papur Gwyn, er mwyn inni allu mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â chanfyddiad o'r gwasanaethau bysiau er mwyn ceisio cynyddu defnydd ymysg cwsmeriaid newydd, teithwyr newydd, wrth i rai o'r teithwyr presennol benderfynu peidio â defnyddio bysiau oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd gyda'r coronafeirws, oherwydd eu bod yn ofni mynd yn rhy agos at deithwyr eraill.
Mae rhai safonau ymarfer gorau wedi'u datblygu yn y diwydiant—er enghraifft, ynysu seddi fel nad oes neb yn eistedd yn agos at ei gilydd, fel bod pobl yn cael eu cadw draw oddi wrth yrwyr bysiau. Rwyf wedi clywed bod cwmnïau bysiau eu hunain ar y cyfan wedi mynd ati'n gyfrifol iawn i sicrhau bod gyrwyr yn cael rhywfaint o amddiffyniad ar ffurf glanhawyr dwylo ac yn y blaen. Ond yn yr un modd, clywais am un neu ddau o achosion lle nad yw cyflogwyr wedi bod mor gyfrifol ag y byddai'r diwydiant, a ninnau yn sicr, yn ei ddisgwyl. Mae hyn yn rhywbeth a godwyd yn uniongyrchol gyda hwy.
Rydym mewn cysylltiad agos iawn, fel y gallwch ddychmygu, gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â'r modd rydym yn mynd i sicrhau ein bod yn gallu cynnal rheolau cadw pellter cymdeithasol ar ôl i ni ddechrau ymadfer wedi'r coronafeirws. Yn amlwg, bydd hynny'n cael effaith o ran darparu cerbydau ar y rheilffyrdd mwyaf poblogaidd—y rheilffyrdd hynny lle mae'r capasiti eisoes wedi'i gyrraedd. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Unwaith eto, ar sail y dystiolaeth rydym wedi gallu ei chasglu, rydym yn disgwyl y bydd newid mewn ymddygiad yn arwain, yn y tymor byr o leiaf, at ostyngiad yn nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio ein rheilffyrdd, ac rydym yn gweithio gyda gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru i asesu sut y bydd hynny'n effeithio ar y cytundeb a wnaed ychydig flynyddoedd yn ôl ar y fasnachfraint.
Credaf fod hynny'n ymdrin â phopeth bron, ar wahân i'r pwynt pwysig a gododd Nick Ramsay ynglŷn â gyrwyr, a'r modd y mae'r sector preifat hefyd yn sicrhau bod gweithwyr yn cael yr amddiffyniad y maent ei angen. Unwaith eto, mae safonau amrywiol—er yn anecdotaidd—yn cael eu mabwysiadu gan gwmnïau dosbarthu. Rwy'n awyddus i sicrhau, wrth i ni ailgychwyn yr economi ac yna wrth i ni ymadfer wedi'r coronafeirws, ein bod yn datblygu—a byddaf yn awyddus iawn i sicrhau bod y sectorau eu hunain yn arwain ar hyn—yn datblygu protocolau clir y gellir eu cymhwyso'n gyson, os oes modd, ledled y DU, a fydd yn hwyluso ymagwedd gyson o fewn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, fel y gellir cymhwyso safonau cadw pellter cymdeithasol yn y sector cyhoeddus ar gyfer trafnidiaeth i'r math o safonau y byddai angen eu bodloni ar gyfer ac ar ran a chan yrwyr dosbarthu yn ogystal.
Diolch. A gaf fi apelio eto ar yr Aelodau? Mae ein hamser wedi dod i ben ar y datganiad hwn. Fe wnaf ei ymestyn i gynnwys ychydig mwy o Aelodau'r meinciau cefn ar hyn.
Ymddiheuriadau.
Diolch. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod—. Felly, a gawn ni ddweud cwestiynau byr yn unig, atebion byrrach, ac efallai y gallaf gynnwys ychydig rhagor ohonoch? David Rees.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf fi hefyd ddiolch i chi am y camau a roddwyd ar waith gennych fel Llywodraeth Cymru i lenwi rhai o'r bylchau a grëwyd gan gymorth busnes Llywodraeth y DU? Mae'n bwysig ein bod yn rheoli'r busnesau yn y bylchau hynny, ond fel y nodwyd yn gywir gennych, ceir rhai bylchau o hyd. Rydych wedi ateb llawer o gwestiynau y byddwn wedi dymuno eu codi i fy nghyd-Aelodau ar y rheini, felly fe gadwaf at ddau bwynt yn unig. Un: ceir llawer o fusnesau a oedd yn cyflenwi neu a oedd â chleientiaid yn y diwydiannau lletygarwch a hamdden, ond nid ydynt yn y diwydiannau hynny'n uniongyrchol eu hunain. Gan nad yw eu cleientiaid yno bellach, maent yn colli incwm, ac felly maent yn ei chael hi'n anodd, ac ni chawsant eu cynnwys yn y cymorth ardrethi nac unrhyw agwedd ar y cymorth busnes. A wnewch chi edrych yn benodol ar y mathau hynny o fusnesau i sicrhau nad ydynt yn mynd ar goll? Oherwydd roeddent yn gynhyrchiol iawn yn 2019, bydd angen iddynt fod yno yn 2021, ac nid ydym am weld y mathau hynny o fusnesau'n cael eu colli o ganlyniad i gefnogi eu cleientiaid, a hwythau ddim yn cael eu cefnogi. Dyna un.
Ac yn ail, yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb brwd iawn yn y diwydiant dur, fel y gwyddoch. Mae'n ymddangos nad yw cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws Llywodraeth y DU yn mynd i gynnwys y sector dur yn hynny. A wnewch chi gyfarfod â Llywodraeth y DU, Weinidog, i weld beth y gellir ei wneud ar gyfer diwydiannau fel Tata ac eraill sydd efallai yn sector mwy yn yr economi, ond sy'n cael trafferth eto am nad oes galw gan eu cleientiaid am ddur o ganlyniad i'r camau gweithredu, ac maent yn mynd i'w chael hi'n anodd? Felly, bydd angen rhywfaint o gymorth arnynt, ond unwaith eto, maent y tu allan i'r meini prawf. Felly, edrychwn ar agenda Llywodraeth y DU ar hynny, oherwydd mae hwnnw'n gwestiwn cymorth busnes i Lywodraeth y DU, ond mae angen i chi ddadlau'r achos dros y sector hwnnw yng Nghymru.
Diolch i Dai Rees am ei gwestiynau. O ran dur, mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei godi gennym yn wythnosol gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ac wrth gydnabod nad oedd y cynllun benthyciad tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws yn cefnogi pob busnes, ac yn benodol nad oedd yn cefnogi'r canol coll o fusnesau â throsiant o £45 miliwn, rwy'n falch fod newidiadau wedi'u gwneud er mwyn i gymorth fod ar gael. Yn ogystal, mae'r terfyn benthyciad o £25 miliwn wedi cael ei adolygu, ac rwy'n falch fod ein galwad i hynny gael ei gynyddu wedi'i gytuno, ond rydym yn pwyso'n barhaus ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yna gydnabyddiaeth fod angen cefnogaeth ar Tata yn enwedig. Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Tata a'i nifer o safleoedd yng Nghymru, ond mae'n amlwg fod gan Lywodraeth y DU rôl allweddol yn cefnogi'r sector hwn, a Tata yn arbennig, ac rydym wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ar sawl achlysur bellach fod angen i ymyrraeth mewn perthynas â dur arwain at fwy na chyfran wedi'i Barnetteiddio i Lywodraeth Cymru, gan na fyddai hynny'n arwain i unman o ran maint y sector dur yng Nghymru o'i gymharu â'r DU gyfan. Felly, mae angen iddi fod yn fenter a arweinir gan y DU i gynorthwyo'r sector penodol hwnnw.
Rydych chi'n iawn, rydym bob amser yn ceisio llenwi bylchau. O ganlyniad i'r gronfa cadernid economaidd a'r cronfeydd eraill y gallasom eu darparu, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gallu cefnogi bron un rhan o bump o fusnesau Cymru yn uniongyrchol erbyn hyn, ac mae hynny'n ychwanegol at gynlluniau Llywodraeth y DU, y cynlluniau cadw swyddi a chymorth i'r hunangyflogedig, sydd wedi bod o fudd i lawer iawn mwy.
O ran y cyflenwyr i'r sector lletygarwch, rydych yn llygad eich lle, Dai, mae nifer fawr o fusnesau wedi disgyn allan o'r dosbarthiad sector i allu hawlio'r gyfran gyntaf o gymorth, ond drwy'r gronfa cadernid economaidd, byddent yn gymwys oherwydd, wrth gwrs, microfusnesau ydynt ac nid oes amheuaeth eu bod wedi gweld eu trosiant yn gostwng 40 y cant fan lleiaf. Yn ôl pob tebyg, os ydynt yn cyflenwi'n bennaf i'r sector lletygarwch a'u bod yn fusnes bach neu ganolig, bydd eu trosiant wedi gostwng mwy na 60 y cant. Felly cafodd y gronfa cadernid economaidd ei chynllunio gan ystyried y cyflenwyr i'r sectorau allweddol sydd ar gyfnod o seibiant i bob pwrpas.
Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad, er bod llawer wedi'i wneud, fod llawer i'w wneud o hyd, ac mae hynny'n sicr yn wir. Mae'r Llywodraeth, i bob pwrpas, wedi rhoi'r rhan fwyaf o'r economi mewn math o goma wedi'i ysgogi'n feddygol ac mae llawer o fusnesau yn ofni, gyda pheth cyfiawnhad, nad ydynt yn mynd i ddod allan o'r coma hwnnw'n fyw, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn dechrau'r broses raddol o godi cyfyngiadau cyn gynted ag y gallwn ac yn y ffordd fwyaf hirben, i ni allu diogelu iechyd y cyhoedd yn ogystal ag iechyd yr economi.
Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rydym yn dibynnu'n helaeth ar ffermio, twristiaeth, lletygarwch, ac ati, ac mae llawer o'r busnesau hyn yn mynd i ddisgyn drwy'r bylchau, fel y soniwyd eisoes, yn yr amrywiol gronfeydd sydd ar gael i geisio ymdopi â chanlyniadau'r cyfyngiadau symud. Mae ffermydd, er enghraifft, yn cael eu heithrio o'r gronfa cadernid economaidd yn ôl yr hyn a ddeallaf am eu bod bron drwy ddiffiniad yn derbyn grantiau a ariennir yn gyhoeddus drwy'r polisi amaethyddol cyffredin. Ac eto, rydym wedi gweld y diwydiant llaeth yn wynebu gostyngiad o 25 i 30 y cant yn y galw am laeth, rydym wedi gweld y sector da byw yn dioddef mewn modd tebyg am nad yw gwestai, bwytai ac ati'n defnyddio toriadau cig gwerth uchel ym mhen uchaf y farchnad mwyach. Mae llawer o'r busnesau hyn yn mynd i fod ar yr ymylon, ac ni ellir eu helpu o dan y cynlluniau presennol.
Yn yr un modd, roeddwn yn siomedig iawn o glywed mai twyll oedd y rheswm dros ddefnyddio'r trothwy TAW fel cymhwyster ar gyfer ceisiadau i'r gronfa cadernid economaidd. Mae llawer iawn o ffyrdd o drechu twyll ar wahân i edrych ar y wybodaeth sydd ar gael i'r awdurdodau TAW. Felly rwy'n gobeithio bod hynny'n mynd i gael ei ailystyried. Gadewch imi roi un enghraifft ichi o fusnes nad yw'n dwyllodrus yn sicr, ond sy'n ficrofusnes: nid yw pont dollau Llynpenmaen ger Dolgellau yn mynd i unman ac nid yw'r bobl sy'n berchen ar y bont yn mynd i unman chwaith, ond maent yn disgyn drwy'r holl fylchau hyn am nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW. Maent yn dibynnu'n llwyr ar incwm o dwristiaeth i gadw'r bont i fynd. Mae'n atyniad twristaidd. Mae llawer o fusnesau o'r fath yn mynd i fynd i'r wal oni bai eu bod yn cael cymorth yn fuan iawn. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn edrych yn fwy hyblyg ar hyn wrth ailystyried y rheolau presennol ac ymhen wythnos neu ddwy, yn cyflwyno rhyw fath o gynllun dewisol mwy hyblyg, ac oherwydd na fyddwn yn cynnwys pob enghraifft bosibl mewn set o reolau, bydd rhyw fath o fecanwaith dewisol ar waith i allu ailystyried busnesau sy'n disgyn drwy'r bylchau.
A gaf fi ddiolch i Neil Hamilton am ei gwestiynau a dweud mai cynllun dewisol fyddai'r syniad o fwrsariaeth? Mae hynny'n rhywbeth rydym wrthi'n edrych arno. Rydym wedi llacio ein hagwedd tuag at risg, ac mae hynny'n cynnwys y risg o dwyll, er mwyn cael arian allan drwy'r drws mor gyflym â phosibl i gynifer â phosibl. Ond o ran y gronfa cadernid economaidd, rwyf eisoes wedi amlinellu sut y mae 8,100 a rhywbeth o geisiadau eisoes wedi'u cyflwyno ac angen eu prosesu cyn gynted â phosibl. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hynny gyda'r nifer lleiaf o achosion twyllodrus, roedd yn gwneud synnwyr i ddefnyddio'r meini prawf TAW, ond roeddem yn glir iawn pan wnaethom lansio cam 1 y gronfa cadernid economaidd, ein bod hefyd yn edrych ar sut y gallwn gynorthwyo'r rhai nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW yng ngham 2, a byddwn yn gwneud hynny gyda'r ail gam. Ond hoffwn sicrhau ein bod yn osgoi twyll eang a sylweddol, oherwydd mae pob grant o £10,000 sy'n mynd i ymgeisydd twyllodrus yn £10,000 na fydd yn mynd i ficrofusnesau a allai oroesi yng Nghymru. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod yr arian yn cyrraedd busnesau priodol, gweddus sy'n bodoli go iawn, ac nid twyllwyr.
Mae'n well gennyf ddefnyddio'r ymadrodd 'cyfnod o seibiant' yn hytrach na 'coma', ond mae eich pwynt yn gywir; dyna'n union rydym yn ceisio'i wneud. I bob pwrpas rydym yn rhoi sectorau penodol drwy gyfnod o seibiant, gan wneud yn siŵr, drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, y gallant oroesi a bod eu gweithwyr yn cael rhywfaint o incwm dros gyfnod y coronafeirws. Yna, gellir eu hailgychwyn wrth i ni gyflwyno datblygiad graddol allan o'r cyfyngiadau coronafeirws, a'n bwriad yw sicrhau bod y datblygiad hwnnw'n cael ei gynnal ar sail gweithgarwch a sector, yn hytrach nag ar sail lle neu'n gysylltiedig ag oedran.
Mae'n werth dweud ynglŷn â ffermydd y gall ffermydd sydd wedi arallgyfeirio ac sydd â busnesau ychwanegol wneud cais i'r gronfa cadernid economaidd, ond am y rhesymau y mae Neil Hamilton eisoes wedi'u hamlinellu, nid yw ffermydd sydd heb arallgyfeirio yn gymwys. Mewn perthynas â'r sector llaeth, ar ôl siarad â Calon Wen, ar ôl siarad â busnesau eraill sy'n gweithredu yn y sector hwn, rwy'n ymwybodol o'r ymdrech aruthrol sy'n digwydd ar hyn o bryd. Nid oes gennym gyfleusterau sychu hyd y gwn i yn y DU, felly mae pryder y bydd llaeth yn mynd yn wastraff. Rydym yn gweld y pris gât yn disgyn i gyfradd anhygoel o isel. Mae hynny'n annerbyniol yn fy marn i, o gofio bod ffermwyr llaeth yn cyfrannu cymaint at yr ymdrech i gadw pobl yn iach ar hyn o bryd. Ac felly, rwyf wedi codi trafferthion y sector llaeth yn fy ngalwadau wythnosol gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy'n rhannu fy mhryder innau hefyd, a chyda chymheiriaid ar draws y gweinyddiaethau datganoledig, ac wrth gwrs gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Rwy'n croesawu'r hyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar ddeddfau cystadlu, ond wrth gwrs, rydym yn effro i sefyllfa sy'n newid yn gyflym, a byddaf yn cyflwyno sylwadau ar ran y sector llaeth yn yr wythnosau nesaf i Lywodraeth y DU, fel y gallwn gael y gefnogaeth sydd ei hangen ar ei gyfer.
Rwyf wedi ysgrifennu atoch, Weinidog, ynglŷn â nifer o fusnesau sydd wedi disgyn drwy'r bylchau y mae pawb wedi bod yn siarad amdanynt yn y ddarpariaeth i atal diweithdra a methiant busnesau o ganlyniad i bandemig COVID-19. Nid yw un o'r busnesau hyn yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol am nad yw wedi'i gofrestru ar gyfer TAW a'i fod yn cael ei redeg o gartref. Nawr, mae perchennog y busnes wedi ceisio cael cyllid gan fanc ar ffurf benthyciad tarfu ar fusnes i gadw'r busnes i fynd, ond yr isafswm y maent yn dweud y gallant ei fenthyg yw £25,000, ac mae hynny'n ormod. Mae llawer o bobl hunangyflogedig eraill wedi bod mewn cysylltiad i ddweud na allant gael y cymorth ariannol sydd ar gael hefyd, ac mae incwm y rhan fwyaf o'r bobl hyn bellach wedi sychu ac maent yn goroesi ar gynilion os oes rhai ganddynt. Mae'r rhain i gyd yn achosion sydd wedi'u gwirio yn erbyn y meini prawf cymhwyster, felly sut y gallwch gynorthwyo'r grwpiau o fusnesau ac unigolion sydd wedi colli'r cymorth hwn? Byddai incwm cyffredinol yn un ateb i hynny, ond a oes rhywbeth penodol y gallwch ei wneud ar gyfer y grŵp penodol hwn o bobl? Sut y gallwch atal y nifer o fusnesau da hyn rhag mynd i'r wal?
A gaf fi ddiolch i Leanne am ei chwestiynau? Rwy'n credu ei bod yn werth dweud y byddai un o'r achosion penodol a amlinellwyd gennych wedi bod yn gymwys i gael benthyciad bach gan Fanc Datblygu Cymru. Efallai fod £25,000 yn ormod; mae cynllun benthyciadau COVID-19 Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau llai ar gyfraddau llog ffafriol iawn gyda gwyliau blwyddyn o hyd. Nawr, mae hynny wedi'i gefnogi'n llawn, ond fel y dywedais yn flaenorol wrth ateb cwestiynau yn gynharach, mae'r banc datblygu yn edrych ar ail gam cronfa fenthyciadau COVID-19, felly mae'n bosibl iawn y bydd y busnes rydych chi wedi tynnu sylw ato yn gymwys ar gyfer yr ail gam hwnnw o gymorth. Wrth gwrs, cyfeiriais at y rôl sydd gan fanciau'r stryd fawr yn hyn o beth hefyd. Ac mae gan fanciau'r stryd fawr fynediad at fwy na'r cynlluniau benthyciadau tarfu i fusnesau yn unig; gallant helpu eu cwsmeriaid presennol mewn llawer iawn o ffyrdd, boed gyda thelerau ffafriol ar orddrafftiau estynedig, neu delerau ffafriol o ran benthyciadau. Mae'n gwbl hanfodol fod banciau'r stryd fawr yn camu i'r adwy yn hyn o beth. Ac rwyf eisoes wedi amlinellu'r rhesymeg dros beidio â chynnwys yng ngham 1 y gronfa cadernid economaidd y busnesau hynny nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, ac rwyf wedi rhoi sicrwydd i'r Aelodau fod hyn yn flaenllaw iawn yn ein meddyliau wrth i ni ddatblygu cam 2.
Mae Leanne yn iawn yn dweud mai cymorth lles, ar lawer ystyr, yw'r cymorth sydd angen ei gynnig i bobl sydd wedi disgyn drwy'r bwlch, ac rydym yn derbyn bod gennym ran i'w chwarae yn Llywodraeth Cymru. Mae gan Lywodraeth y DU rôl bwysig iawn hefyd, ac rwyf eisoes wedi crybwyll bod gwaith ar y gweill i archwilio rôl y gronfa cymorth dewisol o safbwynt Llywodraeth Cymru.
Diolch. Mohammad Asghar.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Weinidog, diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Fy mhwynt yw hwn: collais gyfaill da iawn yn y pythefnos diwethaf i'r coronafeirws, a bu farw ei fab y bore yma, ac mae'r ail fab eisoes yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Fy nghwestiwn i chi yw fy mod yn dal i synnu'n fawr nad oes yr un Aelod Cynulliad wedi sôn am y teuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru. Beth yw'r cymorth ariannol sydd ar gael i'r anwyliaid hynny, sydd nid yn unig yn bobl annwyl iddynt ond hefyd yn ennill bywoliaeth i'w teuluoedd? Beth yw'r cymorth ariannol sydd ar gael i'r teuluoedd hynny yn y dyddiau hyn?
Ac yn ail, rwyf hefyd yn ymwneud ac mewn cysylltiad â chymaint o fusnesau a wnaeth gais i fanc datblygu Cymru am fenthyciadau, ac mae llythyr safonol yn dod i'r busnesau hynny sydd eisoes wedi bod yn ymwneud â busnes ers cymaint o flynyddoedd. Maent wedi cyflwyno'r cyfrifon a phopeth, ac mae llythyr safonol yn dod iddynt i ddweud nad ydynt yn bodloni'r meini prawf. Nid oes manylion cyswllt i'r bobl hyn allu mynd yn ôl a gofyn iddynt am y meini prawf.
Mae cryn dipyn o gwestiynau eraill, Weinidog, ond rwy'n credu, oherwydd ein bod yn brin o amser, hoffwn i chi esbonio i mi sut y gallwch eu helpu yn y ddau faes hwn.
Diolch. Weinidog.
Diolch, ac a gaf fi estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu a ffrindiau Mohammad Asghar? Mae'n amser ofnadwy ar hyn o bryd. Clywais lawer iawn o straeon am bobl rwy'n gweithio gyda hwy'n colli anwyliaid. Mae'n gyfnod trasig, ac mae'n boenus iawn i'r rhai sydd dan bwysau ariannol. Dyna'n union beth y cafodd y gronfa cymorth dewisol ei sefydlu i helpu pobl ag ef—pobl na allant fforddio cael deupen llinyn ynghyd mewn cyfnod arferol, ond wrth gwrs, mae'n arbennig o anodd ar yr adeg hon.
Gwn fod y Prif Weinidog wedi cymryd cwestiynau'n gynharach heddiw ynglŷn â'r costau sy'n gysylltiedig â cholli bywyd i deuluoedd. Credaf ei bod yn bwysig nodi ei bod yn debygol mai'r gronfa cymorth dewisol yw'r sianel gymorth fwyaf addas i unigolion yn y sefyllfa honno.
Ac felly, o ran y llythyr safonol sy'n cael ei anfon, mae arnaf ofn fod llythyrau safonol yn cael eu hanfon oherwydd cyflymder yr ymateb sydd ei angen ar hyn o bryd, a'r angen i leihau gweinyddiaeth a biwrocratiaeth, fel y gallwn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn y banc datblygu a Busnes Cymru, a Llywodraeth Cymru ac ati ar y rheng flaen yn gweinyddu ac yn darparu grantiau a chymorth ariannol.
Dylai meini prawf ar gyfer cymorth fod yn dryloyw iawn i bawb yn awr, boed drwy'r banc datblygu, neu ar-lein, wedi'u darparu gan Busnes Cymru drwy'r porth coronafeirws. Hoffwn eich annog chi, ac unrhyw fusnesau sy'n dod atoch, i edrych yn gyntaf ar y meini prawf a gyhoeddir ar-lein, ac os oes cwestiynau dilynol y mae angen eu hateb, anfonwch e-bost ataf os gwelwch yn dda.
Diolch. Ac yn olaf, Dawn Bowden.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu fy mod i lawr i un pwynt nawr, Weinidog, gan fod y gweddill i gyd wedi cael eu hateb. A dweud y gwir, mae tua hanner dwsin o Aelodau wedi gofyn cwestiwn am y bwlch TAW mewn gwahanol ffyrdd. Felly, fe wnaf basio heibio i hwnnw a mynd yn syth at fy mhwynt ar yswiriant busnes. Nawr, diolch i chi am ysgrifennu ataf am hynny yn ddiweddar, oherwydd rwy'n deall eich bod yn mynd i gyfarfod â'r diwydiant yswiriant yn awr i drafod hynny gyda hwy. Ac er fy mod yn deall yn iawn nad yw rheoleiddio'r diwydiant yswiriant yn fater wedi'i ddatganoli, rwy'n siŵr nad fi'n unig sy'n cael busnesau'n cysylltu â mi ynglŷn ag agwedd cwmnïau yswiriant, sy'n achosi straen sylweddol i nifer o unigolion a gredai fod ganddynt sicrwydd yswiriant—mewn gwirionedd, roedd hyd yn oed eu broceriaid eu hunain yn credu bod ganddynt sicrwydd yswiriant, ond mae'n ymddangos bod y cwmnïau yswiriant eu hunain yn gweld pethau'n wahanol. Mae hyn i'w weld yn arbennig o amlwg yn y sector lletygarwch, ond nid yn y sector hwnnw'n unig.
Ac os caf roi dwy enghraifft fer iawn: un yw cymal tarfu ar fusnes yn y polisi, ond mae'n galw am lythyr gan y Llywodraeth wedyn i ddweud bod yn rhaid i'r busnes gau er mwyn gwneud yr amod hwnnw'n ddilys. Sut mewn gwirionedd y mae Llywodraeth mewn sefyllfa i ddarparu llythyrau o'r fath i bob cwmni yn y sefyllfa honno, nid wyf yn siŵr. Ac enghraifft arall oedd lle roedd gan glwb cymdeithasol yswiriant i ddweud, os oedd yn rhaid iddynt gau oherwydd clefyd heintus, fod ganddynt sicrwydd yswiriant, ddim ond i ganfod nad yw'r cymal hwnnw'n golygu pandemig. Felly, nid oes ganddynt sicrwydd yswiriant.
A allwch gadarnhau i ni beth yw'r ffyrdd gorau y gallem helpu i ddwyn materion i'ch sylw a allai eich cynorthwyo mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a'r diwydiant yswiriant i sicrhau nad yw cwmnïau yswiriant yn dod o hyd i ffordd o osgoi cyfrifoldeb a gadael y baich i gyd ar ysgwyddau'r Llywodraeth er mwyn helpu'r cwmnïau hyn sydd wedi talu arian i bolisïau yswiriant ers blynyddoedd lawer?
A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am nodi pryder y mae nifer o wleidyddion wedi tynnu fy sylw ato hefyd? Rydych chi'n llygad eich lle, Dawn, fod rhai yswirwyr, i ryw raddau, yn ceisio dod o hyd i unrhyw ffordd bosibl o osgoi talu hawliadau. Nid yw hynny'n dderbyniol, ac rydych chi'n iawn fod Gweinidogion yn siarad â'r ABI—Cymdeithas Yswirwyr Prydain—y prynhawn yma. Dechreuodd y drafodaeth honno tua 30 munud yn ôl. Roeddwn i fod yn rhan ohoni, ac rwyf wedi gofyn i fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles, ei chadeirio. Byddwn yn adrodd yn ôl i'r Aelodau ar ganlyniad y drafodaeth honno. Ond os oes unrhyw achosion sydd angen eu hamlygu i'r Llywodraeth, ceir cyfeiriad e-bost busnes penodol ar gyfer COVID-19 y byddwn yn annog yr Aelodau i'w roi i fusnesau. Mae'n syml iawn: business.covid-19@gov.wales.
Ac rydych chi'n iawn fod busnesau, yn enwedig yn y sector digwyddiadau, yn canfod nad oedd eu polisïau yswiriant yn ddigon manwl, nad oedd ganddynt ddigon o sicrwydd yswiriant i sicrhau eu bod yn gallu ymgeisio am hawliad llwyddiannus pe bai pandemig o'r math hwn yn digwydd. Y broblem sydd gennyf fi'n bersonol gyda busnesau yswiriant yn hyn o beth yw bod y print mân weithiau'n rhy fach i'w ddarllen, a bod tyllau amlwg y dylid tynnu sylw cwsmeriaid atynt wrth iddynt brynu eu polisïau yswiriant nad ydynt yn cael eu hamlygu. Rwy'n credu bod rôl yn y diwydiant yswiriant i gynnig ffyrdd mwy tryloyw o rannu gwybodaeth hanfodol gyda'u cwsmeriaid.
Diolch yn fawr, Weinidog. Ac rwy'n ymddiheuro i'r rhai ohonoch a oedd wedi nodi y byddech am ofyn cwestiynau, ond rwyf wedi ymestyn yr amser yn sylweddol ar y datganiad hwn.