– Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliannau 2, 5 a 6 yn enw Neil Hamilton, gwelliant 3 yn enw Gareth Bennett, gwelliant 4 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 7 ac 8 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol.
Eitem 18 yw dadl Plaid Cymru: Cymru annibynnol. Cyn i mi ofyn i Rhun ap Iorwerth gynnig y cynnig, a gaf i ddweud bod gen i lawer mwy o siaradwyr nag y bydd yn bosibl eu galw? I'r rhai yr wyf i yn eu galw, a fyddech cystal â chadw at derfynau amser, neu fel arall fe fyddaf i'n gallu galw llai nag yr wyf i'n bwriadu ei wneud. Mae'n amlwg yn bwnc poblogaidd a phwysig iawn. Rhun ap Iorwerth.
Cynnig NDM7356 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi croesawu’r gallu i Gymru weithredu’n annibynnol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
2. Yn cydnabod llwyddiant gwledydd annibynnol o faint tebyg i Gymru wrth ddelio gyda’r feirws.
3. Yn credu y byddai annibyniaeth yn rhoi mwy o hyblygrwydd a gwydnwch i Gymru wrth ymateb i heriau yn y dyfodol.
4. Yn nodi’r gefnogaeth gynyddol i Alban annibynnol ac Iwerddon unedig.
5. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio’r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm gyfrwymol ar annibyniaeth.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae'n bleser gen i gynnig y cynnig yma yn ffurfiol. Mae'n bleser gen i agor y ddadl yma, sydd, i mi, yn gofyn i'r Senedd roi sêl bendith i egwyddor ddemocrataidd gwbl sylfaenol. Gymaint â dwi yn bersonol yn gwbl eglur y byddai Cymru yn gallu ffynnu fel gwlad annibynnol, nid gofyn i'r Senedd gefnogi annibyniaeth rydyn ni, ond yn hytrach gofyn i'r Senedd gefnogi'r egwyddor mai pobl Cymru ddylai benderfynu.
Dwi'n ddiolchgar i fy etholwraig i wnaeth anfon llythyr ataf i y bore yma yn rhannu ei barn hi mai hawl pobl Cymru yw penderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol. Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud dylai'r grym dros alw refferendwm o'r fath fod yn eiddo i'r Senedd; wedi'r cyfan, hawl unrhyw genedl yw penderfynu ar ei dyfodol ei hun.
Mae cymal olaf y cynnig yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio'r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm gyfrwymol ar annibyniaeth.
Ydym, rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i geisio'r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu cynnal refferendwm rhwymol ar annibyniaeth. Nawr, rwyf i wedi bod yn gefnogwr brwd o annibyniaeth drwy gydol fy oes; gall angerdd weithiau awgrymu ysgogiad emosiynol i hyn, a byddwn i'n dweud celwydd pe byddwn i'n dweud nad oedd gen i ymlyniad emosiynol iawn i'm gwlad a'i dyfodol. Ond rwyf i'n ystyried fy hun yn ddyn eithaf pragmatig: nid yw annibyniaeth, i mi, yn nod ynddo'i hun, yn hytrach mae'n fodd o ganiatáu i'm gwlad ddarparu gwell dyfodol i'w phlant, i allu mynegi ei hun yn wlad agored, sy'n edrych tuag allan, yn meithrin partneriaethau, yn groesawgar ac yn mynd amdani, a'i chyfyngiadau wedi eu dileu. Heriol? Mawredd, ydy, a wyddoch chi beth? Os nad ydym ni'n ddigon cryf i ateb yr her, gallwn ni barhau fel yr ydym ni: dibyniaeth, diffyg twf, tlodi, tlodi o ran cyfle, diffyg buddsoddiad. Nid yw'r un o'r rhain yn ddigon i mi, ond dyna yw Cymru ar hyn o bryd: llawn o bobl dda, llawn o syniadau da, ymdeimlad gwirioneddol o'i hunan, ymdeimlad o gymuned a menter gyffredin, ond yn methu â defnyddio'r holl bethau hynny i unrhyw raddau sy'n agos at eu potensial.
Nawr, y cyd-destun presennol, wrth gwrs, yw'r pandemig. Ar hyn o bryd y DU sydd â'r trydydd nifer uchaf o farwolaethau yn y byd, y tu ôl i UDA a Brasil. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi ffurfio rhyw fath o echel o anallu, yn cyfrif am dros 250,000 o farwolaethau, bron i hanner y cyfanswm byd-eang. Rwyf i wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ynghylch llawer o'i hymateb i'r pandemig, ond rwy'n gobeithio bod Gweinidogion o'r farn fy mod i wedi ceisio gwneud hynny mewn modd adeiladol a fy mod i wedi nodi bod llawer i'w groesawu yn null Llywodraeth Cymru hefyd. Ac rwyf i'n credu y gellir dadlau ei bod ar ei chryfaf pan fu hi'n barod i ymwahanu—trwy lynu wrth y neges i aros gartref, er enghraifft, yn hirach, gan weithredu'n fwy gofalus yn gyffredinol.
Nawr, rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru efallai yn cyfaddef yn breifat mai'r camgymeriad mwyaf a wnaeth oedd cyd-fynd yn rhy agos â strategaeth pedair gwlad y DU. Arweiniodd hyn at gamgymeriadau fel cyfyngu ar brofion, penderfynu peidio â gweithredu system profi ac olrhain yn gynnar ac, wrth gwrs, methu â gorfodi'r cyfyngiadau symud yn gynharach. Mae digon o enghreifftiau hefyd pan fo Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi tanseilio ymdrechion Cymru: herwgipio cytundeb profi Roche, dweud wrth gyflenwyr cyfarpar diogelwch personol i beidio â chyflenwi cartrefi gofal na deintyddion yng Nghymru, methu â chyfathrebu'n ddigonol y rheolau gwahanol o ran y cyfyngiadau symud yng Nghymru, methu, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan y Prif Weinidog, â sicrhau cyfathrebu yn ddigon rheolaidd rhwng Prif Weinidog u DU ac arweinyddion datganoledig.
Nawr, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gallem ni fod wedi gwneud mwy pe byddai gennym ni'r mathau o arfau sydd gan wledydd annibynnol: y gallu i lunio ac amseru'n iawn ein cynllun ffyrlo ein hunain, gan alluogi cyfyngiadau symud yn gynharach—ac, o ganlyniad, fel yr ydym ni wedi ei weld o wledydd eraill, rwy'n credu, dod allan yn gynharach, ailddechrau gweithgarwch economaidd yn gynharach hefyd—y gallu i reoli ffiniau, efallai, i gyfyngu ar y trosglwyddo ar adegau allweddol, fel yr oedd cenhedloedd Ewropeaidd bach eraill yn gallu ei wneud; byddai ein Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ein hunain wedi teilwra cyngor i ddiwallu anghenion Cymru o'r cychwyn cyntaf. Mae'n rhestr faith.
I'r rhai hynny sy'n dweud na fyddem ni'n gallu ei fforddio, mai gan y DU yn unig oedd yr adnoddau, mae'n ddrwg gen i ddweud wrthych chi, ond er bod y DU wedi cynyddu ei benthyca yn aruthrol i ymateb i'r argyfwng, mae honno yn ddyled i ninnau hefyd. Does bosib na fyddai wedi bod yn llawer gwell gwneud ein benthyca ein hunain, gan deilwra'r maint, y telerau ac, unwaith eto, amseriad y benthyca hwnnw i gyd-fynd â'n blaenoriaethau.
Yn eu datganiad ar sefydlogi ac ailadeiladu ar ôl pandemig y coronafeirws, a gyhoeddwyd ddoe, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog cyllid:
'nid oes gennym ddigon o arian.... Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid oes gennym yr hyblygrwydd i fenthyca mwy o arian mewn cyfnod o angen economaidd brys.'
Wel, yn union. Rwyf i'n dweud: gadewch i ni geisio'r hyblygrwydd hwnnw, y math o hyblygrwydd sydd gan wledydd annibynnol.
Nid yw Cymru wedi perfformio cystal â llawer o genhedloedd bach annibynnol eraill. Edrychwch ar Norwy, y Weriniaeth Tsiec, Croatia, Serbia, Lithwania, Gwlad yr Iâ, Wrwgwái—mae ganddyn nhw gyfraddau marwolaeth sy'n ddegfed rhan o gyfraddau marwolaethau Cymru. Ond bydd llawer, wrth gwrs, yn ddealladwy ac yn eithaf priodol, yn cymharu dulliau gweithredu Cymru a'r DU, ac i lawer iawn o bobl, mae'r cyfnod hwn wedi newid y ffordd y maen nhw'n edrych ar Gymru a'r ffordd y cawn ni ein llywodraethu, y ffordd y gallwn ni gael ein llywodraethu. Mae pobl wedi sylweddoli o'r newydd ein bod ni'n gallu gwneud pethau yn wahanol, bod gwerth gwirioneddol mewn gwneud pethau yn wahanol—efallai y gall gwneud pethau yn wahanol achub bywydau, hyd yn oed.
Cefais i e-bost gan etholwr ddoe—nid cefnogwr annibyniaeth gydol oes; un sydd wedi dod i feddwl felly yn ystod y blynyddoedd diwethaf—roedd yn falch ein bod ni'n cael y ddadl hon. Dyma a ddywedodd: 'Mae'n debyg y bydd hyn yn sicr yn arwain y ffordd i Aelodau eraill a fydd yn cefnogi'r undeb yn ddifeddwl. Rwy'n synnu at Lee Waters yn ochri gydag Andrew R.T. Davies', meddai, 'wrth i fwy a mwy ddod i'r amlwg ynghylch aflerwch cyffredinol a dichell Llywodraeth San Steffan wrth ymdrin â'r ymateb COVID.' Ymchwiliais i hyn. Ar y cyfryngau cymdeithasol—ble arall, wrth gwrs—roedd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dilorni cefnogaeth Plaid Cymru i annibyniaeth. Dywedodd ein bod ni'n:
treulio gormod o amser yn siambr atseinio cenedlaetholwyr ar Twitter.
Braidd yn eironig, o gofio ei fod yntau yn atseinio'n rheolaidd o amgylch y cyfryngau cymdeithasol, ond mae croeso iddo fod â'i farn. Camodd Lee Waters i'r adwy—Dirprwy Weinidog—i ddweud ei fod yn cytuno ag ef, ond yna gofynnodd unigolyn arall iddo:
beth ddylai Cymru ei wneud pan fydd yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth a phan fydd Gogledd Iwerddon yn ailuno â gweddill Iwerddon?
Yr ymateb a roddodd Lee Waters oedd 'ailasesu'. Nawr, rwy'n credu bod hynny'n dweud llawer. A ddylem ni drafod ein dyfodol fel gwlad ar ôl i wledydd eraill drafod eu dyfodol nhw? Ai dyna'r hyn yr ydym ni ei eisiau: bod yn wlad sy'n ceisio ffurfio ei dyfodol ei hun dim ond ar sail yr hyn y mae eraill yn ei benderfynu ar eu cyfer nhw—gwlad a fydd hyd yn oed ddim ond yn ystyried beth sydd orau i ni os bydd eraill yn ein rhoi ni mewn sefyllfa pan fo'n rhaid i ni wneud hynny? Mae angen i ni gael y ddadl honno yn awr, yn rhagweithiol, a dyna pam mae mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn ymuno â'r drafodaeth honno. Ac mae'n synnwyr cyffredin democrataidd pur mai ni ddylai fod â'r dewis, fel gwlad, trwy ein Senedd genedlaethol, i gyflwyno hynny i bleidlais: ein dyfodol ni yn ein dwylo ein hunain.
Mae wyth gwelliant wedi'u dethol i'r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi datganoli i Gymru.
2. Yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
3. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi'i rhoi i gynorthwyo gyda'r ymateb i'r pandemig coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys:
a) £2.8 biliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi ymyriadau mewn materion datganoledig;
b) cymorth ar gyfer mwy na 316,500 o swyddi drwy'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws;
c) cymorth i fwy na 102,000 o bobl drwy'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws;
d) cyllid brys ar gyfer y diwydiant dur;
e) Bonws Cadw Swyddi i annog cyflogwyr i ddiogelu swyddi gweithwyr sydd ar ffyrlo;
f) Cynllun Kickstart ar gyfer ceiswyr gwaith ifanc;
g) gostyngiad mewn TAW ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch;
h) Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynorthwyo caffis, bwytai a thafarndai; ac
i) cyllid i ddatgarboneiddio adeiladau sector cyhoeddus Llywodraeth y DU yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gydweithredu â Llywodraeth Ei Mawrhydi i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.
Diolch, Dirprwy Lywydd—neu'r Llywydd dros dro—rwy'n falch iawn o'ch gweld chi yn y Gadair heddiw. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i.
Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n synnu braidd bod Plaid wedi dewis cyflwyno dadl ar annibyniaeth heddiw o bob diwrnod. Dyma'r cyfarfod llawn olaf cyn toriad gwyliau'r haf, a gallem ni fod wedi bod yn trafod llu o faterion pwysicach—materion fel ffiasgo profi COVID Llywodraeth Cymru, yr ymateb araf i ailagor yr economi yng Nghymru, neu'r angen i gynyddu'r defnydd o orchuddion wyneb. Ond, yn hytrach na hynny, rydym ni yma yn bogailsyllu, a dweud y gwir, am annibyniaeth fel rhyw fath o syniad rhamantus i ddatrys holl drafferthion Cymru.
Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod yn eironig iawn bod Plaid Cymru, sydd wedi treulio pedair blynedd yn dadlau bod Cymru'n gryfach ac yn fwy diogel yn rhan o undeb o genhedloedd, yr Undeb Ewropeaidd—yn erbyn ewyllys y cyhoedd, os caf i ddweud—bellach yn galw am i Gymru fynd ymlaen ar ei phen ei hun yn y byd ac i wahanu ei hun oddi wrth yr union undeb sy'n amddiffyn ein gwledydd ar y cyd.
Rydym ni wedi treulio gormod o amser yn y degawdau diwethaf, yn fy marn i, yn trafod y cyfansoddiad yng Nghymru. Mae pob awr a dreuliwn yn trafod y cyfansoddiad a thincran â'r cyfansoddiadol yn awr nad ydym ni'n trafod sut i godi safonau yn ein hysgolion, yn ein hysbytai a sut i wneud ein heconomi'n gyfoethocach. Felly, yn hytrach na ffraeo am fwy o bwerau o hyd, gadewch i ni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym ni eisoes a gadewch i ni wella bywydau pobl gyda nhw. Mae angen neilltuo'r degawd nesaf o ddatganoli i gyflawni ar ran pobl Cymru, nid mwy o hunanymholi cyfansoddiadol.
Erbyn hyn, gwyddom fod cefnogaeth i annibyniaeth, dros 20 mlynedd, wedi aros yn ei unfan i raddau helaeth. Fe wnaeth yr unig blaid wleidyddol a oedd o blaid annibyniaeth i Gymru a safodd mewn seddi—nid pob sedd—yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yng Nghymru, sicrhau llai na 10 y cant o'r bleidlais. Mae hynny'n gyfran lai na'r hyn a enillodd Plaid yn y 1970au. Felly, ymlaen, gyfeillion, gadewch i ni weld lle mae'r ddadl hon yn mynd â ni mewn gwirionedd.
Ac nid Plaid yn unig sydd mewn trafferth ynglŷn â datganoli ychwaith. Mae Llafur mewn llanast hefyd. Rydych chi'n honni eich bod chi'n blaid unoliaethol. Mae'r Prif Weinidog ei hun wedi dweud bod sosialaeth yn anghydnaws â chenedlaetholdeb Cymreig. Eto i gyd, mae e'n arwain plaid yma yng Nghymru sy'n gartref i grŵp o'r enw 'Llafur dros Gymru Annibynnol'. Nawr, os yr ydym ni i gredu nifer yr hoffiadau a geir ar Facebook, mae gan y grŵp hwn o leiaf 600 o aelodau. Felly, os yw'r Prif Weinidog wir yn credu ei rethreg ei hun a'i fantra ar ddatganoli, yna pam nad yw'r Blaid Lafur yn cymryd camau yn awr i ddiarddel y gwrthryfelwyr hyn? Siawns y byddai hynny'n anfon y math o neges glir a chryf y byddai plaid unoliaethol eisiau ei hanfon at bobl?
Mae fy mhlaid i yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r Deyrnas Unedig. Dydyn ni ddim yn barod i dderbyn y rhai sy'n ymgyrchu yn ei herbyn o fewn ein haelodaeth, ac rwy'n herio'r Blaid Lafur i wneud yr un ymrwymiad.
Nawr, er mwyn ei roi ar goedd, gadewch i mi fod yn glir: rwy'n gefnogwr mawr o ddatganoli, ond nid wyf o blaid Cymru annibynnol. Ac i'r rhai sy'n tynnu sylw at yr 21 mlynedd ddiwethaf ac yn dweud bod datganoli wedi siomi Cymru, rwyf i'n dweud, 'Na, nid datganoli sydd wedi siomi Cymru; ond y Blaid Lafur, ynghyd â'u helpwyr bach sydd wedi bod yn y Llywodraeth, gan gynnwys Plaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol a rhai o'r annibynwyr yr ydym ni wedi eu gweld ar y ffordd. Nhw sydd wedi siomi Cymru.'
Datganoli yw dymuniad diysgog, yn fy marn i, y rhan fwyaf o bobl Cymru. Pleidleisiodd Cymru yn 1999, er mai o drwch blewyn oedd hynny, o blaid sefydlu datganoli. Fe wnaethon nhw bleidleisio eto yn 2011 i ymestyn pwerau'r Senedd hon. Ac mae'n rhyfeddol i mi y bydd rhai o'r bobl a fydd heb os yn cyfrannu at y ddadl hon heddiw yn galw am refferendwm arall ar fodolaeth y sefydliad hwn, neu, hyd yn oed yn waeth byth, i gael gwared ar y sefydliad hwn heb refferendwm nac unrhyw fandad democrataidd i wneud hynny. Ac mae'n debyg mai'r union bobl a ddywedodd y dylem ni barchu refferendwm Brexit yn 2016 a fydd yn cyflwyno'r ddadl honno.
Byddai annibyniaeth yn ddrwg i Gymru a byddai'n ddrwg i'r Deyrnas Unedig. Byddai'n ein gwneud ni'n llai cydnerth i ymdrin â digwyddiadau a thrychinebau byd-eang. Byddem ni'n llai diogel. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod, fel un o fuddiolwyr net Trysorlys y DU, y byddai Cymru'n dlotach. Am bob £1 a gaiff ei gwario yn Lloegr ar faterion datganoledig, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.20 ar hyn o bryd. Yn 2017-18, roedd gan Gymru ddiffyg ariannol amcangyfrifedig o bron i £14 biliwn. Mae hynny bron yn cyfateb i gyfanswm grant bloc blynyddol Llywodraeth Cymru. Felly, byddai gan Gymru annibynnol ddewis anodd iawn i'w wynebu: toriadau enfawr—[Torri ar draws.] Gwnaf. Toriadau enfawr mewn gwariant cyhoeddus, neu gynnydd enfawr mewn trethiant neu gyfuniad o'r ddau. Nid wyf i'n credu mai dyna'r math o ddull sydd ei angen i adfer ein gwlad yn dilyn pandemig y coronafeirws.
Diolch yn fawr iawn. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 2, 5 a 6, a gyflwynwyd yn ei enw.
Diolch, Llywydd dros dro. Wel, rwy'n synnu'n fawr clywed Darren Millar yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Carwyn Jones wrthyf y tro diwethaf y gwnaethom ni drafod y materion hyn, mai datganoli oedd dymuniad diysgog pobl Cymru. Oherwydd, wrth gwrs, os mai refferendwm 1975 ar aelodaeth o'r UE oedd dymuniad diysgog pobl Prydain, ni fyddai Darren Millar wedi bod yn ymgyrchu i gael refferendwm arall yn 2016. A'r gwir amdani yw, mewn democratiaeth, ni all dim byd byth fod yn ddymuniad diysgog y bobl, oherwydd ni ellir rhwymo un genhedlaeth gan ei rhagflaenwyr, a byddai'n gwbl anghyfiawn i geisio cyfyngu hynny.
Felly, i'r graddau hynny, rwyf i o blaid ymagwedd Plaid Cymru, sef os oes nifer fawr o bobl yng Nghymru sydd eisiau pleidleisio dros annibyniaeth, pam na ddylid caniatáu iddyn nhw fynegi hynny yn y ffordd ddemocrataidd, drwy gynnal refferendwm ar hynny? Felly, nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad i hynny ddigwydd. Does gen i ddim amheuaeth y byddai'n cael ei wrthod gan fwyafrif llethol y bobl. Ond yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw nad oes hoffter mawr o'r setliad datganoledig sydd gennym ni ar hyn o bryd, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yng Nghymru. Ni wnaeth y Cynulliad erioed gyrraedd 50 y cant o ran y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad ar gyfer y Cynulliad, ac rwyf i'n amau'n fawr a fydd yn cyrraedd y lefel honno yn yr etholiad y flwyddyn nesaf os bydd yn digwydd. Felly, nid oes y fath beth â dymuniad diysgog pobl Cymru, gan fod pobl Cymru eu hunain yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth.
Y peth mwyaf rhyfeddol am Plaid yn cyflwyno'r cynnig hwn heddiw yw, er eu bod nhw'n galw eu hunain yn blaid genedlaetholgar, dydyn nhw mewn gwirionedd ddim yn dymuno cael Cymru annibynnol o gwbl, fel y nododd Darren Millar. Maen nhw yn erbyn datganoli pwerau dros amaethyddiaeth, pysgodfeydd a'r amgylchedd, ac ati, i Gaerdydd, gan eu bod nhw'n dal i ymdrechu i gyfyngu Cymru o fewn aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Eu syniad nhw o annibyniaeth yw bod y penderfyniadau gwleidyddol pwysig y mae'n rhaid i Gymru ufuddhau iddyn nhw yn cael eu gwneud ym Mrwsel; bod cymrodeddwyr terfynol ein deddfau wedi eu lleoli yn Lwcsembwrg; ac y dylid pennu ein polisi ariannol a'n cyfraddau llog yn Frankfurt. Felly, mae'r syniad y byddai Rhun ap Iorwerth yn cael pwerau benthyca diderfyn mewn Cymru annibynnol yn hurt oni bai bod gan Gymru ei harian annibynnol ei hunan. Felly, ai dyna yw polisi Plaid Cymru erbyn hyn? Rwyf i'n amau hynny'n fawr iawn. Dyna'r rhwystr nad oedd Nicola Sturgeon yn gallu ei oresgyn yn refferendwm yr Alban ar annibyniaeth.
Ac, wrth gwrs, pe byddai Cymru yn wleidyddol annibynnol o Loegr, byddai'n golygu ffin galed â Lloegr, oherwydd bod Plaid Cymru yn credu mewn ffiniau agored, mewnfudo a gwneud Cymru yn genedl o noddfa, derbyn pawb sy'n dod i Gymru, ac ni fyddai hyn yn dderbyniol i fwyafrif o bobl Lloegr, yn sicr. Felly, dydw i ddim yn hollol siŵr sut y byddai pobl Cymru yn teimlo ynglŷn â hynny, ychwaith.
Ac fel y dywedodd Syr Darren Millar mewn gwirionedd, mae'r bwlch cyllidol yng Nghymru yn enfawr; mae'n cyfateb i bron i draean o gynnyrch domestig gros Cymru. Mae'r cymhorthdal trethdalwr o Lundain a de-ddwyrain a dwyrain Lloegr i bob rhan o'r DU, ar wahân i'r tair ardal hynny, yn enfawr ac yn dod i £4,289 y flwyddyn, ar gyfer pob unigolyn yng Nghymru. Felly, mae'r syniad y byddai haelioni diddiwedd y gallai Llywodraeth Plaid Cymru ei ddosbarthu mewn Cymru annibynnol yn hurt. Mewn gwirionedd, yr hyn y byddech chi'n ei weld yw economi Cymru yn crebachu'n aruthrol a'r holl dlodi ac amddifadedd a fyddai o ganlyniad i hynny.
Ond rwy'n credu mai'r hyn yr ydym ni wedi'i weld yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf yw methiant cynhwysfawr datganoli i gyflawni'r addewidion a wnaed ar ei gyfer ar y pryd. Cymru yw gwlad dlotaf y Deyrnas Unedig, gydag incwm cyfartalog o 75 y cant o gyfartaledd y DU. Mae tri chwarter y boblogaeth yn byw o fewn byrddau iechyd sydd naill ai mewn mesurau arbennig neu ag ymyrraeth wedi'i thargedu. Ni sydd â'r canlyniadau addysg gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, yn ôl tablau PISA. Mae pwerau datganoli wedi eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru yn yr 20 mlynedd diwethaf, ond nid i'r cyfeiriad a allai fod wedi gwneud datganoli yn llwyddiant.
Dydyn nhw ddim wedi defnyddio'r pwerau hyn i geisio sicrhau rhyw fath o fantais gystadleuol dros rannau eraill o'r Deyrnas Unedig; i'r gwrthwyneb yn llwyr—maen nhw wedi rhoi llyffethair ar goesau pobl Cymru. Gor-reoleiddio, y wladwriaeth faldodus, rydym ni wedi ei weld eto yr wythnos hon yn ymatebion Llywodraeth Cymru i'r coronafeirws a'r arafwch o ran llacio'r cyfyngiadau. Mae'r agweddau ar wladwriaeth faldodus Llafur a Phlaid Cymru yno i bawb eu gweld wrth iddi geisio gwahardd pobl rhag ysmygu y tu allan i fwytai a thafarndai erbyn hyn. Eu hunig ddiddordeb yw eu hagenda o amlygu rhinwedd a'u hymwybyddiaeth tybiedig o gyfiawnder cymdeithasol a hiliol. Yn y cyfamser, mae buddiannau pobl Cymru wedi aros yn eu hunfan, ac o'u cymharu â gweddill y Deyrnas Unedig, wedi dirywio mewn gwirionedd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Gogledd Iwerddon oedd ar waelod y domen 20 mlynedd yn ôl; heddiw, Cymru sydd ar y gwaelod.
Nawr, nid yw hynny'n golygu bod gwlad fach fel —
Trefn. Neil, rwyf i wedi gofyn—[Anghlywadwy.]—
Helo?
— un neu ddau rybudd. Wel, mae'n lle rhesymegol i chi ddod i ben. Diolch yn fawr iawn.
Ah. Maen ddrwg gen i.
Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Gareth Bennett i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw ef.
Gwelliant 3—Gareth Bennett
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y gwahanol bolisïau o ran cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan wahanol lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi arwain at ddryswch.
2. Yn cydnabod mai yr unig gwir wydnwch economaidd y mae Cymru yn ei fwynhau yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig.
3. Yn nodi refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, a arweiniodd at yr Alban yn pleidleisio dros aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
4. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a yw Cymru'n parhau i fod â llywodraeth ddatganoledig.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ynghylch a ydym yn cadw neu'n diddymu llywodraeth a senedd ddatganoledig Cymru.
Diolch, Cadeirydd, a diolch i Plaid am gyflwyno dadl heddiw. Clywn siaradwyr yn aml yn dweud ar yr adeg hon, 'Ar y pwnc pwysig hwn', wel, mae dadl heddiw, os edrychwn ni ar yr holl welliannau, yn wirioneddol ar bwnc pwysig, sef: a ddylem ni barhau i fod â Chynulliad neu Senedd o gwbl? A'r ateb syml i hynny yw, 'Dylem, fe ddylem ni barhau i fod ag ef, os oes ganddo gefnogaeth ddemocrataidd pobl Cymru.' Os nad oes ganddo'r gefnogaeth honno, yna ni ddylem ni fod ag ef. Cydsyniad democrataidd yw popeth.
Ond mae angen i ni gynnal refferenda fwy neu lai bob 15 i 20 mlynedd, fel y gallwn ni ganfod yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei gredu mewn gwirionedd, oherwydd, mae'n ddrwg gen i, Darren Millar, nid oes y fath beth â dymuniad diysgog. Mae barn yn newid dros amser, felly mae angen i ni ei fesur. Byddwn i'n dweud bod y gwelliant yr wyf i'n ei gynnig heddiw, ar gyfer Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, yn dilyn rhesymeg cynnig Plaid Cymru. Dywed Plaid yn eu cynnig, ac rwy'n dyfynnu:
'mae pobl Cymru wedi croesawu'r gallu i Gymru weithredu'n annibynnol'.
Wel, pwy yw'r 'bobl Cymru' hyn? A yw pawb yng Nghymru â'r un meddylfryd? Mae llawer o bobl yng Nghymru yn credu bod coronafeirws wedi amlygu'r dryswch enfawr sy'n codi pan fo gennych chi bedair gwahanol Lywodraeth yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig. Mae llawer o bobl wedi canfod nad ydyn nhw wir eisiau pedair Llywodraeth; dydyn nhw ddim eisiau pedwar GIG gwahanol ledled y DU, maen nhw eisiau un GIG. Dydyn nhw ddim eisiau pedair cyfres wahanol o reolau Llywodraeth na phedwar cynllun gwahanol ar gyfer ffyrlo; maen nhw eisiau un gyfres o reolau ac un cynllun ffyrlo, ac yn y blaen. Mae llawer iawn o bobl yng Nghymru bellach yn gweld datganoli am yr hyn yr ydyw, sef anghyfleustra costus, a dylai'r bobl hynny yng Nghymru fod â'r hawl i ddweud eu dweud.
Mae cynnig Plaid Cymru yn datgan ymhellach y byddai annibyniaeth yn rhoi mwy o ystwythder a chadernid i Gymru. Wel, yn sicr, byddai angen ystwythder ar Gymru annibynnol gan y byddai gennym ni ddiffyg enfawr yn y gyllideb, a heb Lywodraeth y DU, pwy fyddai gennym ni i roi cymhorthdal i ni? At bwy fyddai Mark Drakeford a'i gyd-Aelodau yn y Cabinet yn mynd i ymofyn cardod pe na byddem ni'n rhan o'r DU? Os yw Cymru eisiau ffynnu yn genedl annibynnol, fel y mae'n ymddangos bod Plaid yn ei gredu, yna a allan nhw ddweud wrthym ni o ble yn union y mae'r cymhorthdal o £15 biliwn bob blwyddyn o Loegr i Gymru yn mynd i ddod pan na fyddwn ni bellach yn rhan o'r DU? Oherwydd efallai y byddai pobl Cymru o bosib eisiau gwybod hynny.
A gawn ni droi ein sylw at y ddau refferendwm sydd wedi mynd i'r afael â'r mater o ba un a ddylem ni fod â chorff datganoledig yma yng Nghymru ai peidio? Yn 1979, pleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli; yn 1997, newidiodd Cymru ei meddwl a phleidleisio i gael Cynulliad. Roedd hynny'n ddigon teg; roedd 18 mlynedd wedi mynd heibio yn y cyfamser ac roedd achos cryf dros ofyn i gyhoedd Cymru unwaith eto. Erbyn hyn, mae 23 mlynedd wedi mynd heibio ers refferendwm 1997, a greodd y lle hwn. Yn ogystal â hynny, rydym ni wedi cael 21 mlynedd o ddatganoli. Gall y cyhoedd erbyn hyn wneud dewis gwybodus, yn seiliedig ar brofiad gwirioneddol datganoli, o ran pa un a ydyn nhw eisiau iddo barhau ai peidio. Dyna'r unig beth yr ydym ni'n ei ofyn, sef yr ymgynghorir â'r bobl.
Yn fy mhlaid i, wrth gwrs, rydym ni eisiau diddymu'r lle hwn gan ein bod ni'n credu ei fod yn wastraff arian cyhoeddus, ond nid ydym ni'n dweud bod ein syniadau ni'n bwysicach na'r hyn y mae pobl Cymru ei eisiau. Wrth gwrs, nad ydyn nhw; yr hyn yr ydym ni'n ei ddweud yn syml yw y dylem ni gael refferendwm ac yna gwneud yn union yr hyn y mae pobl Cymru yn ei ddweud wrthym ni am ei wneud. Ar ôl 23 mlynedd, mae'n hen bryd i bobl Cymru gael dweud eu dweud unwaith eto. Dyna pam yr wyf i'n cynnig y gwelliant hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip i gynnig yn ffurfiol gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 4—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu arweinyddiaeth gref ac effeithiol Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19;
2. Yn ystyried mai penderfyniadau a negeseuon ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth y Deyrnas Unedig fydd y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â heriau'r pandemig i'n dinasyddion a'n busnesau; a
3. Yn credu mai'r ffordd orau o gynnal buddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn aelod o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, gan alluogi llywodraethau i weithredu mewn modd cydgysylltiedig.
Yn ffurfiol.
Mae hynny wedi ei gynnig yn ffurfiol.
Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliannau 7 ac 8, a gyflwynwyd yn ei enw.
Diolch, Llywydd dros dro. Dyma'r trydydd tro i ni drafod Cymru sofran mewn ychydig dros ddwy flynedd. Cymerodd hi 19 mlynedd i gael y ddadl gyntaf, felly rydym ni'n gwneud cynnydd—rydym ni'n gwneud cynnydd.
Rwy'n falch iawn o Gymru, rwy'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni, ac rwy'n fwy balch byth pan rydym ni'n mynd ymlaen i gyflawni mwy o bethau pan fo'r pwerau gennym ni. Rwy'n cefnogi cysyniad hen ffasiwn, a chaiff ei alw'n ddemocratiaeth. Dylai penderfyniadau ar gyfer Cymru gael eu gwneud yng Nghymru.
Ni allaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith arbennig o dda yn ystod yr 21 mlynedd diwethaf. Nid yw'n syndod, oherwydd mai rheolaeth un blaid fu gennym ni, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, felly byddwn yn cytuno â datganiadau nad ydym ni wedi gwneud yn dda dros yr 21 mlynedd diwethaf. Ond mae'n rhaid i ni wahaniaethu rhwng y sefydliad a'r cartel gwleidyddol sy'n rhedeg datganoli a'r Senedd ar hyn o bryd. Mewn democratiaeth iach, mae Llywodraethau yn newid, a chredaf y bydd yn arwydd o aeddfedrwydd gwleidyddol yng Nghymru pan gaiff Cymru ei llywodraethu gan blaid wahanol.
Credaf hefyd y dylai pobl, mewn democratiaeth iach, gael cyfle uniongyrchol i wneud y cyfreithiau sy'n eu rheoli, a dyna pam yr wyf i wedi rhoi gwelliant 8. Mae cyflwyno democratiaeth uniongyrchol fodern yn un o fentrau allweddol Welsh National Party. Mae'n rhywbeth sydd gan lawer o wledydd, fel y Swistir, ac yn hytrach na chael pleidlais unwaith bob pum mlynedd a gadael i'ch Llywodraeth wneud pob penderfyniad ar eich rhan, mae democratiaeth uniongyrchol fodern yn golygu y gall pobl wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Os gellir sicrhau digon o lofnodion, yna gallai refferendwm lleol neu genedlaethol gael ei gynnal a fyddai'n rhwymol. Llywodraeth y bobl yw hynny.
Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut, o gael y cyfle, y mae'r cyhoedd yn cyflwyno cynigion craff. Ond, ar hyn o bryd, dim ond trwy sicrhau 5,000 o lofnodion y gallan nhw sicrhau dadl yn y Siambr. Rwy'n credu, efallai, os sicrheir 100,000 o lofnodion, yna y dylen nhw allu cael refferendwm, ac rwyf yn ymddiried ym mhobl Cymru i wneud hynny a gwella ein democratiaeth. Dylid pleidleisio ar bethau fel cynlluniau datblygu lleol. Os yw corfforaeth eisiau rhoi llosgydd yn eich cymuned, dylai'r gymuned gael pleidlais ar hynny i benderfynu a yw pethau'n digwydd ai peidio.
Mae angen cyfansoddiad a bil hawliau arnom ni hefyd i sicrhau bod lleiafrifoedd yn ein gwlad yn cael eu diogelu, ynghyd â hawliau unigolion, a dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno gwelliant 7. Rwyf wedi galw am gyfansoddiad Cymru a bil hawliau.
Mae'r DU yn enwog am beidio â chael cyfansoddiad ysgrifenedig, ond rwy'n credu bod gwir angen am un, a gallwn ni arwain yn y fan yma drwy gyflwyno un i ni ein hunain yng Nghymru. Hoffwn i weld hynny'n digwydd gyda chonfensiwn cenedlaethol yn cael ei sefydlu, ynghyd â chynulliad dinasyddion a fyddai'n gyfrifol am lunio cyfansoddiad a bil hawliau cyn i'r cyhoedd bleidleisio arnynt. Rwy'n credu bod cyfansoddiad yn rhywbeth sy'n wirioneddol gadarnhaol, oherwydd gall pobl edrych ar—. Wel, gallwn ni drafod, yn gyntaf, fel gwlad, a gallwn ni ddweud, 'Beth yw Cymru? Beth ydym ni? I ble yr ydym ni'n mynd?' Rhyddid a warantir i fynegi barn, hawl a warantir i gael cartref, hawl i addysg am ddim. Mae'r rhain i gyd yn bethau y gallem ni eu trafod mewn cyfansoddiad, ac yna gallem ni ddweud, 'Iawn, dyna pwy ydym ni. Dyna yw Cymru. Os ydych chi'n dod i Gymru, rydych chi'n ymrwymo i'r cyfansoddiad ac rydych chi'n Gymro.' Mae hynny'n rhywbeth mae'r Welsh National Party yn awyddus iawn i symud ymlaen.
Rhoddais y gwelliannau oherwydd fy mod i eisiau gweld Cymru yn symud ymlaen fel gwlad ddemocrataidd, ac rydym ni eisiau rhoi'r grym sofran yn ôl yn nwylo'r bobl sy'n byw yng Nghymru, mewn ystyr unigol, mewn ystyr gymunedol, ac mewn ystyr genedlaethol hefyd. Felly, rwyf yn gofyn i bawb yn y fan yma gefnogi dau welliant eithaf synhwyrol, yn fy marn i, i'r cynnig cyffredinol, y byddaf i'n eu cefnogi. Diolch yn fawr.
Nawr, mae'r argyfwng COVID hwn hefyd wedi dangos y tensiynau cyfansoddiadol clir sy'n bodoli, ac mae'n arwain llawer i gwestiynu hyfywedd hirdymor y setliad presennol. Yn anffodus, mae'r argyfwng wedi dangos bod Lywodraeth y DU yn gweithio yn erbyn buddiannau Cymru mewn meysydd penodol. Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, wrth i genhedloedd o bob cwr o'r byd ruthro i sicrhau cyflenwadau digonol o brofion COVID, cawsom wybod bod cytundeb Llywodraeth Cymru â chwmni preifat, Roche, i gyflenwi 5,000 o brofion dyddiol yng Nghymru wedi chwalu. Pam? Oherwydd i Lywodraeth y DU atal ymdrechion Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod Lloegr yn cael yr hyn yr oedd ei angen arni. Roedd buddiannau Cymru yn eilradd o ran pwysigrwydd. Mae hynny'n dweud y cwbl am y Deyrnas Unedig hon.
Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, canfuom fod buddiannau Cymru yn cael eu diraddio unwaith eto, wrth i gyflenwyr preifat cyfarpar diogelu personol gael gwybod gan asiantaeth Llywodraeth y DU sef Iechyd Cyhoeddus Lloegr y dylen nhw ddosbarthu Cyfarpar Diogelu Personol i gartrefi gofal yn Lloegr yn unig. Roedd archebion allweddol o fygydau, menig a ffedogau diogelu yn cael eu gwrthod i gartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban. Unwaith eto, y Deyrnas Unedig ddim mewn gwirionedd yn darparu ar gyfer pawb.
Nawr, rwyf wedi bod yn gefnogol ar y cyfan i ddull gofalus Llywodraeth Cymru o lacio'r cyfyngiadau, ac yn gyffredinol mae'n dangos, pan fo gan Gymru y rhyddid i weithredu, ei bod yn gallu gwneud dewisiadau cadarnhaol. Rydym wedi dangos y gallwn ddilyn llwybr gwahanol, a chyda chyfradd marwolaethau fesul pen yng Nghymru yn is nag yn Lloegr, credaf y gellir cyfiawnhau y llwybr gwahanol. Mae amcangyfrifon diweddar yn dangos pe byddai Lloegr, yn ystod cyfnod y pandemig, wedi cyfateb y gyfradd is o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru, byddai wedi arwain at 24,000 yn llai o farwolaethau yn Lloegr rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Fe wnaeth David Cameron dynnu sylw unwaith at Glawdd Offa fel llinell bywyd a marwolaeth, ac mae'r ystadegau hyn yn dangos bod hynny'n wir, ond nid yn y modd yr oedd Cameron yn ei gredu.
Nawr, nid yw dyfodol cyfansoddiadol Cymru erioed wedi cael cymaint o sylw, wrth i'r pwyslais ar annibyniaeth a'r gefnogaeth i hynny fod yn uwch nag erioed. Rydym ni wedi cyrraedd croesffordd ar ôl pleidlais Brexit. Yn y blwch pleidleisio y flwyddyn nesaf, bydd gan bobl Cymru ddewis clir. Mae angen i ni ofyn rhai cwestiynau sylfaenol i ni ein hunain. Yn union fel yn yr Alban, lle mae polau piniwn bellach yn dangos mwyafrif o blaid annibyniaeth yr Alban, mater o amser yn unig yw hi tan y bydd angen i Gymru benderfynu beth sydd nesaf i ni. Gyda'r Alban wedi mynd, a Gogledd Iwerddon hefyd, ni fydd gennym DU. Bydd pobl yng Nghymru yn wynebu dewis deuol: Cymru neu Loegr. A ydym ni'n hapus i ddod yn Sir o Loegr, fel y mae UKIP, Plaid Brexit a chenedlaetholwyr eraill o Loegr eisiau i ni ei wneud? Neu a ydym ni'n mynd i dyfu asgwrn cefn a phenderfynu ein bod ni o'r diwedd yn mynd i sefyll drosom ni ein hunain a hawlio ein lle ymhlith cenhedloedd rhydd y byd? Mae un peth yn glir: dylai fod gan bobl Cymru yr hawl i benderfynu ar ba un a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol, dylai Senedd Cymru gael yr hawl cyfansoddiadol i ddeddfu i gynnal refferendwm rhwymol.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, mae rhai eisiau dileu Cymru. Ni allaf fradychu canrifoedd o hanes cenedlaethol Cymru, o ddioddefaint, o aberth, o gyflawniadau ei phobl a'i bri dros 2,000 o flynyddoedd. Mae ceisio rhyddid cenedlaethol yn achos clodwiw, i Gymru fel i unrhyw wlad arall. Mae'r Ddraig yn cyffroi. Diolch.
Gwrandewais yn astud ar y dadleuon a gyflwynwyd gan Neil Hamilton a Gareth Bennett. Ni chefais fy argyhoeddi ganddyn nhw, mae'n rhaid i mi ddweud.
Gaf i yn gyntaf droi at beth mae Plaid Cymru wedi dweud yn eu dadl heddiw? Mae yna gonfensiwn cyfansoddiadol yn barod, sydd wedi cael ei sefydlu, sydd yn dweud os oes yna blaid sydd yn sefyll ar faniffesto sydd o blaid cael refferendwm i gefnogi annibyniaeth, yna dylai fod yna refferendwm. Rŷn ni wedi gweld yna yn yr Alban. So, mewn ffordd, does dim eisiau'r ddadl hyn o'n blaenau ni heddiw, ta beth yw'ch barn ar annibyniaeth, ac rwy'n siarad fel rhywun, wrth gwrs, sydd ddim o blaid annibyniaeth, ond hefyd ddim o blaid y Deyrnas Unedig fel mae e nawr, a gwnaf i esbonio hwnna nes ymlaen.
Gwrandewais ar Neil Hamilton. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'n ymddangos ei fod wedi anghofio'r rhan a chwaraeodd mewn dinistrio economi Cymru am lawer o'r 1980au a'r 1990au. Petawn i wedi sefyll yn y fan yma a dweud bod 18 mlynedd o Lywodraeth Geidwadol yn drychineb llwyr a bod hynny'n rheswm wedyn i gael gwared ar Lywodraeth y DU, byddai'n dweud, 'Na, na, na. Roedd hynny oherwydd bod pobl wedi pleidleisio dros y Blaid Geidwadol i fod yn Llywodraeth', ac mae hynny'n safbwynt dilys. Yn yr un modd, mae'n safbwynt dilys i ddweud bod pobl wedi pleidleisio dros Lywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru dros yr 21 mlynedd diwethaf, neu fel arall y perygl yw dweud bod pobl rywsut yn rhy dwp i ddeall sut y gwnaethom nhw bleidleisio, a dyna'r gwir amdani.
Nawr, rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Darren Millar yn fawr iawn, mewn rhai ffyrdd, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod Plaid Geidwadol Cymru yn dod yn blaid Geidwadol Cymru go iawn gydag arweinydd go iawn, sy'n rhywbeth nad oes gennych chi eto, gydag arweinydd go iawn, ac sydd yna'n amlinellu ac yn cyflwyno ei hun fel llywodraeth amgen,gan dderbyn sefydliadau datganoli. Rwy'n credu bod hynny'n deg iawn—ar yr amod eich bod chi'n parhau i fod yn llywodraeth amgen, o'm safbwynt i, ond rwy'n credu mai dyna'n union sy'n iawn i gorff gwleidyddol Cymru. Rwyf yn ceisio bod mor wrthrychol â phosibl.
Yr hyn yr oeddwn i'n anghytuno ag ef, a byddaf yn dod yn ôl at hynny mewn eiliad, yw ei farn o'r cyfansoddiad fel tincran, ac egluraf pam. Gwrandewais yn astud ar Gareth Bennett, a phe byddai ond wedi sylweddoli, roedd yn dadlau o blaid refferendwm Brexit arall, oherwydd os ydych chi'n dweud, 'Wel, mae'n rhaid i chi gael refferendwm bob 15 i 20 mlynedd', wel mae hynny'n berthnasol i unrhyw bwnc. Byddem yn cael refferendwm arall ar y Bleidlais Amgen, er enghraifft, ar y system bleidleisio. Byddem ni'n parhau i gynnal refferenda ar agor ar y Sul. Pob saith mlynedd oedden nhw, wrth gwrs, hyd at 1996, ond dyna'r ddadl, yn y bôn, yr oedd yn ei gwneud, sef bod cenedlaethau yn newid ac felly mae'n rhaid i chi gael refferendwm bob hyn a hyn i wneud yn siŵr bod pobl yn cefnogi sefydliad, ond byddwn i'n dweud eich bod chi'n barnu hynny drwy etholiad. Pe byddai plaid, neu bleidiau, yn cael eu hethol i'r lle hwn gyda mwyafrif ac yn dweud, 'Rydym ni eisiau refferendwm ar ddiddymu', wel dyna ni, felly. Dyna'r ffordd yr ydych chi'n ennill dadl, drwy ennill etholiad, nid drwy fynnu rhywbeth nad yw'n—yn enwedig gan rywun sy'n sefyll dros blaid na chafodd ei ethol i'r Siambr hon i'w chynrychioli—yn ddadl ddemocrataidd ddeniadol.
Os gwrandawodd arno'i hun, roedd yn dadlau dros ddiddymu Senedd yr Alban. Yn awr, pe byddai unrhyw beth yn gwneud pleidleiswyr niwtral yn yr Alban i droi tuag at annibyniaeth, dyna fyddai ef. Ac awgrymodd hefyd y byddem ni'n gweld Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cael ei ddiddymu. Nawr, arweiniodd 25 mlynedd o ryfel at sefydlu heddwch yng Ngogledd Iwerddon a'r Cynulliad hwnnw a'i Weithrediaeth. Mae ei ddiystyru fel rhywbeth nad yw'n berthnasol yn weithred o anghyfrifoldeb difrifol. Nawr, rwyf i'n cofio sut le oedd yng Ngogledd Iwerddon. Ni fyddai unrhyw un yn dymuno mynd yn ôl i'r hyn ydoedd yn 1992, credwch chi fi. Magwyd fy ngwraig yn ei chanol hi, ac mae awgrymu rhywsut eich bod chi'n cael gwared ar Gynulliad Gogledd Iwerddon fel pe na byddai unrhyw ganlyniadau i hynny, mewn cymdeithas lle nad oes hunaniaeth gyffredin, a dweud y gwir—a defnyddiaf y gair hwn yn ofalus—yn wallgof.
Ond mae'n rhaid i ni gofio, wrth gwrs, bod annibyniaeth, ynddo'i hun, yn gallu bod yn ddigwyddiad trychinebus yn aml. Oes, mae enghreifftiau o annibyniaeth a oedd yn heddychlon — y Weriniaeth Tsiec, y Slovaciaid, Gwlad yr Iâ, Norwy, gan fynd yn ôl mwy o flynyddoedd—ond yn eithaf aml mae annibyniaeth yn dod gyda llawer o chwerwder ac weithiau rhyfel — Iwgoslafia, Iwerddon. Cafodd Iwerddon ddwy flynedd o ryfel cartref yn syth ar ôl annibyniaeth, ac yna cafwyd rhyfel lefel isel a ymladdwyd yn Iwerddon am o leiaf 70 mlynedd a effeithiodd yn ddirfawr ar ei heconomi ac a effeithiodd yn ddirfawr ar hunaniaeth ei phobl. Diolch byth, mae'r dyddiau hynny y tu ôl iddi.
Ac felly fy nadl i yn y bôn yw hyn: rwy'n credu bod yna ddewis arall. Nawr, i'r rhai ohonoch chi sy'n cael trafferth cysgu, byddwch yn gwybod fy mod i wedi rhoi rhai darlithoedd ar hyn, ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mewn mannau eraill yn ddiweddar. Y pwynt yw: rwy'n credu mewn Cymru sofran, ond rwy'n credu y gallwn ni rannu'r sofraniaeth honno gyda'r tri endid arall yn y DU. Mae'n rhyw fath o gydffederasiwn. Nawr, rwy'n derbyn nad oes gan sofraniaeth a rennir yr un soniaredd etholiadol â 'Chymru Rydd' neu 'Rule Britannia', ac mae'n gysyniad anodd ei egluro, ond dywedaf hyn wrth Darren Millar yn ysbryd y ddadl: rwy'n credu ein bod ni wedi symud ymhell y tu hwnt i dincran cyfansoddiadol; mae hyn yn sylfaenol i ddyfodol y DU. Mae'r tensiynau hyn gennym ni oherwydd annigonolrwydd cyfansoddiadol y DU. Mae gennym ni gyfle yn awr i wneud iawn am bethau, i gael cyfansoddiad sy'n gweithio, lle mae pawb yn deall ble maen nhw'n sefyll a phwy sy'n gwneud beth, partneriaeth gyfartal o bedair gwlad ac un lle y cedwir sofraniaeth gan bob un o'r pedair gwlad ond a rennir er lles pawb yn y meysydd lle mae'n iawn i wneud hynny. Rwyf yn ofni, os na fyddwn ni'n dilyn y trywydd hwnnw, ymhen 10 mlynedd, y bydd y DU yn atgof, ac mae hynny'n rhywbeth, yn bersonol, y byddwn i'n ei resynu.
Mae argyfwng COVID wedi egluro cymaint o bethau: yr hyn sy'n bwysig i'n cymdeithas ni, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei newid, pam y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn agos at y bobl y maen nhw'n effeithio arnynt, ac mae'r argyfwng hefyd wedi rhoi cipolwg i ni ar ddyfodol gwahanol, oherwydd nid yw'r ddadl hon am annibyniaeth yn gwestiwn cyfansoddiadol pellennig ar gyfer yfory; mae'n flaenoriaeth frys ar gyfer heddiw. Yr wythnos hon, cadarnhaodd y Prif Weinidog nad oedd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig hon, fel y'i gelwir, wedi codi'r ffôn yn ystod y cyfnod o bandemig iddo ers diwedd mis Mai. Rydym ni hanner ffordd drwy fis Gorffennaf. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Prif Weinidog y DU ei fod yn fodlon tarmacio dros wastadeddau Gwent a datganoli mewn arddangosiad digywilydd o hawlio haerllug. A hyd yn oed yn awr, yng nghoridorau tywyll San Steffan, mae confensiwn yn cael ei rwygo i sicrhau ein bod ni'n gadael yr UE heb gytundeb. Mae miliynau'n cael eu clustnodi ar gyfer rheoli a rhwystrau ar y ffiniau, a hyn i gyd tra bod y Torïaid yn cynllunio eu hymosodiad nesaf ar bwerau'r gwledydd datganoledig. Dyna yw dyfodol yr undeb hwn sydd dan warchae.
Mae ein cynnig ni yn cynnig rhywbeth gwahanol, cipolwg, gobaith o ddyfodol lle mae pobl Cymru yn penderfynu ein tynged ni ein hunain, dyfodol sy'n agor drysau yn hytrach na'u cau. Llywydd, mae pobl Cymru yn gwthio'r drws hwnnw. Mae cefnogaeth i annibyniaeth wedi cyrraedd lefelau yr oedd llawer yn eu gweld fel bod yn amhosibl. Mae gweithredwyr YesCymru yn ennill y ddadl ar lawr gwlad, ac mae'r gorymdeithiau All Under One Banner yn dangos cenedl hyderus yn datblygu. Nid ydym yn gweld annibyniaeth fel diwedd y daith ond yn hytrach, ei dechrau, gan mai annibyniaeth yw'r unig ateb gwleidyddol i'r cwestiwn o sut y gallwn ni adeiladu gwlad sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd ac sy'n gwireddu ein breuddwydion. Pe byddai gennym ni'r arfau i wneud hynny, gallem ni yng Nghymru greu gwlad gadarn, economi flaengar, man sy'n gofalu am yr hen a'r ifanc, lle gall ein hamgylchedd ni ffynnu a lle gall ein pobl ni adeiladu rhywbeth gwell.
Mewn Cymru annibynnol, gellid dileu tlodi plant drwy fuddsoddi yn ein system addysg, ein gweithlu, ynghyd â system fudd-daliadau sy'n ateb i angen. Nid oes unrhyw beth yn gynhenid am dlodi Cymru—tlodi o ran uchelgais sy'n ein cadw ni fel hyn, tlodi mewn uchelgais a wneir yn hynod amlwg gan benderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i ddileu ein cynnig cyfan, yn hytrach na mynd i'r afael â'r hyn a gynigir, ymgais i gau drws os bu un erioed.
Llywydd, mae'n anrhydedd mawr i mi fod yn Weinidog yr wrthblaid ar gyfer y dyfodol. Mae graffig di-chwaeth ar led ar hyn o bryd gan Aelod Seneddol Llafur sy'n gweiddi'n groch am ddyled Cymru, gan anwybyddu'n gyfleus iawn y ffaith bod dyled y DU ar hyn o bryd yn £2 triliwn. Does bosib nad y ddyled fwyaf sydd gennym ni yw honno i genedlaethau'r dyfodol, oherwydd mae gwleidyddiaeth yn siomi'r cenedlaethau hynny ar hyn o bryd. Rydym ni'n gwybod ers dros 40 mlynedd bod trychineb carbon deuocsid yn ein hwynebu ni oherwydd y lefelau yr ydym ni'n eu rhyddhau i'r atmosffer, ac rydym ni'n dal i ryddhau 40 biliwn tunnell o garbon diocsid bob blwyddyn. Allwn ni ddim rheoli'r hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill, ac mae ceisio cael San Steffan i weld y golau yn wastraff amser, ond yr hyn y gallwn ni ei wneud yw cymryd cyfrifoldeb drosom ni ein hunain. Drwy harneisio'n hadnoddau naturiol yn hytrach na'u llosgi, gallem ni yng Nghymru arwain y ffordd a dod yn esiampl o economi oleuedig sy'n wynebu'r dyfodol â balchder.
Nid yw'r cynnig hwn yn gofyn i Aelodau bleidleisio ar annibyniaeth; mae'n cadarnhau y dylai pobl Cymru gael yr hawl i benderfynu. Siaradais am fathau gwahanol o ddyfodol, a gwn fod llawer o Aelodau ar y meinciau Llafur yn rhannu'r weledigaeth yr wyf i wedi'i gosod o wlad gyfrifol yn fyd-eang sy'n arddel gobaith, cydraddoldeb a ffyniant. Byddwn i'n dweud wrthyn nhw, heb annibyniaeth, ni fydd unrhyw lwybr arall yn ein tywys ni tuag at y dyfodol hwnnw. Cyhyd ag y byddwn ni'n parhau i fod yn rhan o'r undeb sy'n achosi tlodi i'n pobl ac sy'n dilyn polisïau economaidd sydd wedi'u cynllunio i ddod â budd i'r canol cyfoethog ar draul ein pobl ein hunain, ni fyddwn ni byth yn cyrraedd ein potensial a bydd pob llwybr yn troi yn ôl arnynt eu hunain. Os ydym ni eisiau adeiladu rhywbeth gwell ar ôl COVID, ni ellir penderfynu ar ein dyfodol yn adfeilion sigledig San Steffan. Felly, rwyf i'n gofyn i bob aelod o'r Senedd hon ddangos eu hymddiriedaeth ym mhobl Cymru, rwyf i'n gofyn iddyn nhw gadw'r drws hwnnw yn gilagored, ac rwyf i'n gofyn iddyn nhw bleidleisio dros ddyfodol ein gwlad, nid ei gorffennol.
Llywydd, rwy'n croesawu'r ddadl hon, sydd, er gwaethaf ei theitl difrïol, yn ymwneud mewn gwirionedd â strwythur dyfodol y DU a pherthynas Cymru â thair gwlad arall y DU. Nawr, yn ystod pandemig COVID, rydym ni wedi symud yn sylweddol y tu hwnt i'n cysyniad blaenorol o ddatganoli, i fersiwn llywodraeth pedair gwlad. Mae datganoli yn ddiwygiad sydd wedi cael ei amser, ac mae'n rhaid i ni bellach feddwl am ddiwygiad cyfansoddiadol modern a radical, i wneud Cymru a'r DU yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt.
Nid oes amser yn y ddadl hon i ddatblygu dadleuon cymhleth ynghylch gwahanol gysyniadau Plaid Cymru o annibyniaeth a'r hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd mewn economi gyfalafol, fyd-eang. Mae hon yn broblem gyffredin gyda'r ddadl hon—defnyddir termau yn aml sy'n golygu pethau gwahanol i wahanol bobl, a heb ddiffiniad. Annibynnol oddi wrth bwy, sut? Ac mae llawer o gwestiynau eraill. Ond yn hytrach na hynny, yn yr amser byr sydd ar gael, hoffwn gadarnhau fy ymrwymiad i, ac ymrwymiad Llafur Cymru—ac rwy'n credu ymrwymiad Llafur y DU yn wir—i gonfensiwn cyfansoddiadol, y bydd angen iddo hefyd fynd i'r afael â'r mater o ddemocrateiddio a diwygio ar gyfer Lloegr hefyd, a mynd i'r afael â chwestiwn Lloegr, sy'n hanfodol yn y ddadl hon.
Mae'n bwysig ailddatgan, rwy'n credu, egwyddor sylfaenol, ryngwladol, egwyddor y, Cenhedloedd Unedig ac, yn wir, egwyddor sosialaidd, yn bennaf fod gan bob gwlad yr hawl i hunanbenderfyniad. Mae'n rhaid i'r math o Lywodraeth yng Nghymru, a'i pherthynas â gweddill y DU, fod yn fater o ddewis i bobl Cymru bob amser. Ac ar yr amod mai dyna yw dewis rhydd a democrataidd pobl Cymru, yna mae Cymru wir yn annibynnol. Nid yw dewis rhannu sofraniaeth, sut bynnag y'i diffinnir, os caiff ei wneud yn rhydd, yn groes i annibyniaeth. Nid oedd y DU yn llai annibynnol drwy fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, ac ni fyddai Cymru yn llai annibynnol o gwbl drwy fod yn rhydd mewn perthynas gyfansoddiadol ac ariannol â'r DU.
Ond mae'n rhaid i ddiwygiad, yn fy marn i, ddigwydd cyn bo hir, neu mae perygl y bydd y DU yn chwalu, neu bydd o leiaf proses o ddarnio yn ddiofyn, a chyda chanlyniadau cymdeithasol ac economaidd andwyol i'r bobl—[Anghlywadwy.]—hanfodol. Nawr, mae'r fforwm trawsbleidiol, rhyng-seneddol, sy'n gorff o'r holl bwyllgorau cyfansoddiadol a deddfwriaethol yn amryw Seneddau'r DU, gan gynnwys Tŷ'r Arglwyddi, wedi datgan droeon, mewn cytundeb cadarn, nad yw'r trefniadau cyfansoddiadol presennol yn addas i'w diben.
Llywydd, dydw i ddim yn genedlaetholwr, ac rwy'n gwrthod cenedlaetholdeb fel ideoleg negyddol a rhwygol. Mae'n well gennyf i ddull sy'n seiliedig ar ddatganoli grym, gan ddod â phŵer mor agos â phosibl at bobl a chymunedau. Nawr, rydym ni'n cydnabod y buddiannau cyffredin sydd gan bobl a chymunedau sy'n gweithio yng Nghymru â'u cyfatebwyr yn Lloegr, yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon. Dydw i ddim yn unoliaethwr ychwaith. Mae'n syml: sosialydd wyf i. A datblygu fframwaith cyfansoddiadol ddylai fod egwyddor arweiniol confensiwn cyfansoddiadol, a hwnnw'n dderbyniol i bob un o'r pedair gwlad, i'w gymeradwyo drwy refferendwm, yn seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder, cydraddoldeb a dosbarthu cyfoeth yn deg er budd pob un o'r pedair gwlad, a holl bobl y DU.
Y Dirprwy Weinidog i gyfrannu—Jane Hutt.
Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn yn sesiwn olaf y Senedd hon. Mae wedi darparu dadl fywiog iawn, a chredaf ei bod wedi canolbwyntio ar effaith gadarnhaol datganoli ar Gymru, wrth ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig y coronafeirws. Ac rwy'n credu bod y ddadl wedi rhoi cyfle i dynnu sylw at y nifer o ffyrdd yr ydym wedi defnyddio ein pwerau, gyda chryfder a hyder cynyddol, o dan arweiniad y Prif Weinidog, wrth ymdrin â'r feirws ofnadwy hwn, i amddiffyn a diogelu ein dinasyddion a'n gwasanaethau cyhoeddus. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y craffu trylwyr o Lywodraeth Cymru gan y Senedd hon, yn y Senedd ac yn ein pwyllgorau seneddol, wedi bod o fantais i ni. Ac rwyf yn diolch i'r Llywydd a'i swyddogion am wneud i'r gwaith craffu hwn ddigwydd o ddyddiau cynharaf y cyfyngiadau symud ac ar ôl hynny.
Ond dyma'r ddemocratiaeth y gwnaethom ni ei cheisio ar gyfer Cymru, â Phwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Ty'r Cyffredin yn nodi yn 2018 fod
Datganoli bellach yn nodwedd sefydledig ac arwyddocaol o bensaernïaeth gyfansoddiadol y DU a dylid ei drin â pharch i gynnal uniondeb y Deyrnas Unedig.
Mae'r pandemig presennol, fel y dywedwyd yn y ddadl hon, wedi tynnu sylw at y ffordd y mae ein cyfansoddiad yn gweithio, ei gryfderau a'i wendidau, a'n gallu i ddilyn ein dull ein hunain, fel y cydnabu Rhun ap Iorwerth, a'r angen i gydweithredu gydag eraill. Mae ymreolaeth a rheolaeth a rennir, a'r cynigion yn 'Reforming our Union: Shared Governance in the UK', a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog y llynedd, wedi nodi safbwynt y Llywodraeth.
O ran y cynnig ar gyfer refferendwm, a chan ddilyn pwyntiau Carwyn Jones, ein barn ni yw, os yw Llywodraeth Cymru wedi sicrhau mandad etholiadol i gynnal refferendwm ar gwestiwn cyfansoddiadol sylfaenol, bod ganddi hawl i ddisgwyl i Senedd y DU wneud y trefniadau angenrheidiol. Gwnaed darpariaeth ar gyfer refferendwm cyfreithiol rhwymol ar annibyniaeth i'r Alban yn 2014 gan Senedd y DU, ar ôl i Blaid Genedlaethol yr Alban ennill mwyafrif clir yn yr etholiad yn 2011. Ond mae'r rhagamod yn hanfodol. Er mwyn gofyn i San Steffan wneud y trefniadau ar gyfer refferendwm ar statws cyfansoddiadol Cymru—mae'n rhaid i'r cais hwnnw ddod oddi wrth Lywodraeth Cymru sydd â mandad i wneud hynny, ac nid oes mandad o'r fath yn bodoli ar hyn o bryd. Ond gall y rhai hynny sy'n ceisio refferendwm yn y Senedd nesaf, boed hynny er mwyn sicrhau annibyniaeth neu, yn wir, diddymu, gyflwyno eu hachos i bobl Cymru fis Mai nesaf. Ond mae barn Llywodraeth Cymru yn glir: rydym yn credu y byddai buddiannau Cymru yn elwa fwyaf drwy setliad datganoli cryf o fewn Teyrnas Unedig gref, ac mae'r Deyrnas Unedig yn well ac yn gryfach o fod â Chymru ynddi.
Nid yw'r setliad presennol yn berffaith. Mae ein cyfansoddiad presennol yn hen ffasiwn ac yn amhriodol. Dylai pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu fel partneriaid cyfartal—pob un yn parchu hunaniaeth a dyheadau cyfreithlon y lleill, gan gydweithredu er budd yr undeb cyfan. Ac fel y y mae Mick Antoniw wedi ei ddweud, gallai'r confensiwn cyfansoddiadol, y galwyd amdano ers tro, fynd â ni ymlaen i gyflawni hyn. Ac nid oes dim yn dangos yr angen i'r achos hwn gael ei wneud mor ddybryd â'n profiad presennol. Nid yw feirysau yn cario pasbortau, nac yn parchu ffiniau cenedlaethol. Mae ein busnesau nid yn unig yn ddibynnol ar gwsmeriaid Cymru; mae cyswllt anorfod rhwng ein heconomi ni a gweddill y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Nid yw anghenion iechyd ein dinasyddion ni yn wahanol i anghenion y rheini mewn mannau eraill, ac mae mynd i'r afael â COVID-19 yn galw am fwy o gydweithredu rhwng Llywodraethau, nid llai.
Os edrychwn ni ar ein hymgysylltiad â Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig ers dechrau'r pandemig, maen nhw wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Yn ddiymdroi—[Anghlywadwy.]—o'r coronafeirws mewn gwirionedd wedi arwain at gydweithrediad agos rhwng y pedair Llywodraeth ac mae'n enghraifft o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni pan fyddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Ond yn anffodus, wrth i ni symud i wahanol gyfnodau o ymateb ac adfer, mae'n ymddangos mai Llywodraeth y DU sy'n ymbellhau oddi wrth y dull pedair gwlad o weithredu.
Rwy'n croesawu datganiad Darren Millar heddiw o fod yn gefnogwr brwd o ddatganoli ac rwy'n gobeithio y byddwch chi, Darren, yn codi eich llais, fel y bydd Ceidwadwyr Cymru, i gael Llywodraeth y DU i helpu i ddileu'r cyfyngiadau afresymol hynny ar ein cyllideb fel y gallwn ni ddefnyddio ein pwerau cyllidol yn fwy effeithiol.
Croesawyd y gefnogaeth ar gyfer swyddi a busnesau a gyhoeddwyd ar y cychwyn gan y Canghellor. Ac mae'r adnoddau a'r ysgogiadau sydd ar gael iddo yn llawer mwy nag a fyddai ar gael i ni, pe byddem ni'n sefyll ar ein pen ein hun. Ond rydym ni'n wynebu'r dirwasgiad gwaethaf o fewn cof—[Anghlywadwy.]
Rwy'n credu ein bod ni—
—o fewn cof, ac mae hynny, rwy'n credu—
Byddai Jane Hutt yn bownsio'n ôl, oni fyddai? [Chwerthin.] Jane Hutt, ewch ymlaen.
Iawn. Nid yw'r camau a amlinellwyd yr wythnos diwethaf gan y Canghellor yn mynd yn ddigon pell i ddiwallu maint yr heriau sy'n ein hwynebu. Mae arnom ni angen gweithredu mwy helaeth a phellgyrhaeddol i fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argyfwng hwn, ac i adeiladu'n ôl yn well.
Rwyf am ddweud yn derfynol, Llywydd, mai ein blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru heddiw, a phob dydd yn yr wythnosau nesaf, yw ymateb i bandemig y coronafeirws, ac ni fyddai pobl Cymru yn disgwyl dim llai. Ond mae'n berthnasol i ddweud, wrth ymateb i'r ddadl hon, bod angen i ni, yn fwy nag erioed, sefydlu'r mecanweithiau rhynglywodraethol hynny ar y cyd er mwyn sicrhau y gallwn ni fynd i'r afael â'r heriau niferus sydd o'n blaenau.
Roedd cyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn cytuno â'r model datganoli 'pwerau at ddiben'. Soniodd ein Prif Weinidog, Mark Drakeford, heddiw am 'ddatganoli pendant', ac mae wedi dangos effaith gadarnhaol y datganoli pendant hwn yng Nghymru ac yn y DU, fel ein Prif Weinidog yng Nghmru.
Ond gyda'n pwerau, yr hyn y mae pobl eisiau ei wybod yw beth allwn ni ei wneud? Rydym ni wedi rhoi gofal plant am ddim i weithwyr allweddol yn ystod y cyfyngiadau symud, wedi cymeradwyo taliad o £500 ar gyfer ein gweithwyr gofal, wedi darparu cronfa cydnerthedd economaidd sy'n fwy na symiau canlyniadol Llywodraeth y DU, wedi rhoi £20 miliwn i roi terfyn ar ddigartrefedd, rydym ni wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i gydlynu prydau ysgol am ddim ac i ddod â'n plant yn ôl i'r ysgol, ac rydym ni wedi cynorthwyo'r bobl hynny na allan nhw gael cymorth drwy arian cyhoeddus, gan weithio gyda'n partneriaid yn y GIG, llywodraeth Leol, y byd busnes a'r trydydd sector i ddiogelu ac amddiffyn Cymru. Dyna fu ein blaenoriaeth, Llywydd, ac rwy'n annog pob un ohonoch chi i gefnogi ein gwelliant ni a gwrthod yr holl welliannau eraill. Diolch yn fawr.
Rwy'n galw nawr ar Adam Price i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Wrth wraidd y ddadl gyntaf hanesyddol hon, y ddadl olaf yn y sesiwn Seneddol hon, mae'r gosodiad syml ond sylfaenol bod yn rhaid i'r penderfyniad ynghylch pa un a ddylai Cymru ddod yn genedl annibynnol fod yn ddewis i bobl Cymru a neb arall. Credwn y dylai hawl Cymru i bennu ei dyfodol cyfansoddiadol, gan gynnwys yr hawl i ddod yn wlad annibynnol, pe byddai pobl Cymru yn pleidleisio i wneud hynny, gael ei ymgorffori yn y gyfraith. Yn benodol, mae hyn yn mynnu bod gan y Senedd hon y pŵer i ddewis pryd a pha un a ddylid galw refferendwm ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan wireddu yn ymarferol hawl pobl Cymru i ddewis y math o lywodraethu sydd fwyaf addas i'w hanghenion, a hefyd sut, a chyda phwy, y maen nhw eisiau rhannu eu sofraniaeth.
Democratiaeth yn ôl ei diffiniad yw llywodraeth gan y bobl. Ond wedyn mae'n rhaid i ni benderfynu pwy yw'r bobl, ac i ni mae'r ateb yn amlwg. Y bobl yw pobl Cymru, sy'n byw o fewn ei ffiniau ac sydd gyda'i gilydd yn ffurfio gwlad sy'n mwynhau'r hawl i hunan-benderfyniad sy'n un o egwyddorion sylfaenol cyfraith ryngwladol, un o egwyddorion sylfaenol Siarter y Cenhedloedd Unedig ac, fel y dywedodd Mick Antoniw, yn un o egwyddorion y mudiad Sosialaidd Rhyngwladol. Felly, gobeithiwn y bydd llawer o Aelodau Llafur yn ymuno â ni i gefnogi ein cynnig heno.
Yr hawl sofran hwn i bobl Cymru benderfynu ar eu dyfodol eu hunain yw conglfaen y Senedd hon. Ond ar hyn o bryd, nid yw ein cyfreithlondeb cronnol, sef y pwerau sydd gennym ni, ar gael i ni drwy hawl parhaol mewn ystyr ffurfiol, ond ar fenthyg i ni gan Senedd arall sy'n disgrifio ei hun, heb eironi, fel 'goruchaf', hyd yn oed wrth iddi adfeilio'n araf i mewn i afon Tafwys. Mae hynny'n hunandybiaeth cyfansoddiadol y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dweud ei bod yn anghytuno'n gryf iawn â hi. Yn ei Phapur Gwyn 'Diwygio ein Hundeb: Llywodraethu ar y cyd yn y DU', dywedodd Llywodraeth Cymru hyn:
'Nid yw sofraniaeth Senedd y DU, yn ôl y ddealltwriaeth draddodiadol ohoni, yn cynnig sylfaen gadarn bellach ar gyfer y cyfansoddiad hwn sy'n esblygu...mae'n rhaid iddi fod yn agored i unrhyw ran ohoni ddewis yn ddemocrataidd i ymadael â'r Deyrnas Unedig.'
Felly, pan fyddwn ni'n cadarnhau yn y cynnig hwn hawl pobl Cymru i benderfynu ar ba un a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol, dylem ddisgwyl yn rhesymol i'r Llywodraeth hon gefnogi cais Cymru i gael yr hawl. Ond yr hyn sydd gennym ni gan y Llywodraeth yw distrywio seneddol heno, gwelliant 'dileu popeth' sy'n dileu pob cyfeiriad at yr hawl i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain. Nid yw'n dweud dim am natur wirfoddol yr undeb hwn, ac mae'n cyflwyno pâr chwedlonol y llew a'r ungorn, sydd mor hoff gan undebwyr blaengar—Teyrnas Unedig ddiwygiedig.
Mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn cyfateb yn gyfansoddiadol i gri Awstin Sant, 'Gwna ni'n sofran, Arglwydd, ond ddim eto.' Na, gadewch i ni roi'r syniad o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, a fyddai'n caniatáu gweithredu cydgysylltiedig gan y Llywodraeth, un hwb olaf, er ein bod wedi gweld, dros y misoedd diwethaf gamgymeriadau trychinebus Llywodraeth analluog, anfedrus, di-glem San Steffan—geiriau'r Prif Weinidog, nid fy ngeiriau i—sydd wedi trin Llywodraeth Cymru a'r genedl Gymreig mewn modd sydd wedi pendilio rhwng esgeulustod diniwed a dirmyg llwyr, o dan arweiniad elît gwleidyddol a gweinyddol sy'n dal i fod yn credu mai San Steffan sy'n gwybod orau, hyd yn oed pa fo cyfraddau marwolaeth Prydain ymhlith y gwaethaf yn y byd.
Pan ddaw'n fater o ddiwygio mewn unrhyw faes—soniodd y Prif Weinidog yn gynharach heddiw am yr ansicrwydd yn y maes gofal cymdeithasol ers Comisiwn Dilnot—mae San Steffan yn gwneud i Godot ymddangos fel petai'n cyrraedd ar amser. Ni fyddwn ni byth yn cyflawni newid drwy aros i eraill newid pethau drosom ni. Gallwn naill ai fynnu ein hawl i benderfynu ar ein dyfodol ein hunain, neu byddwn yn canfod bod y dyfodol yn cael ei bennu ar ein cyfer—boed hynny yn rhoi tarmac dros wastadeddau Gwent, neu ymgais ddiweddaraf y Canghellor i grafangu grym ar gyfer cymorth gwladwriaethol.
Beth bynnag a benderfynwn ni heno, mae'n bwysig i'n democratiaeth Gymreig fod y ddadl yn y fan yma yn adlewyrchu'r ddadl sydd eisoes yn digwydd ar lawr gwlad. A beth bynnag yw ein barn ar fater annibyniaeth, dylai hawl pobl Cymru i ofyn y cwestiwn fod yn ddiymwad. I ni ym Mhlaid Cymru, yr ateb i'r ddau gwestiwn hynny yw 'ie'—ie i gael dweud ein dweud, ac ie i 'ie'. Mae pobl Cymru ar gerdded, ac maen nhw yn y man y dylen nhw fod ynddo—ar y blaen, wrth y llyw, yn arwain y ddadl ac yn gwrando ar ein dadl ni heno.
Pan ysgrifennir hanes ein hannibyniaeth, bydd y blynyddoedd diweddaraf hyn o argyfwng a helbulon, o Brexit i COVID, yn cael rhan flaenllaw, rwy'n credu, ac am y rheswm hwn, oherwydd, yn hytrach nag achosi i bobl lynnu at yr hen sicrwydd, mae'r adegau hyn o argyfwng wedi agor meddyliau pobl i bosibiliadau newydd. Mae'r slogan hwnnw, 'adeiladu'n ôl yn well', yn atseinio gyda phob un ohonom ni erbyn hyn mewn gwahanol ffyrdd. Rydym ni wedi colli cynifer, ond rydym ni wedi ennill dealltwriaeth o'r hyn yr ydym ni yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd. Dyna'r edau euraidd, ymyl arian ar gwmwl tywyll yr adeg hon. Ni, pobl Cymru, yw adeiladwyr y Gymru well honno. Ni fydd neb arall yn ei hadeiladu ar ein rhan, ond, os ydym ni yn credu ynom ni ein hunain ac yn ein gilydd, nid oes unrhyw beth na allwn ni ei gyflawni.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.