– Senedd Cymru ar 9 Mehefin 2021.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru—pwerau'r Senedd. Galwaf ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7701 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cytuno bod gan y chweched Senedd hon fandad i ddatganoli pwerau sylweddol pellach o San Steffan i Gymru.
2. Yn credu bod yn rhaid i'r Senedd gael yr ysgogiadau i wella bywydau ein dinasyddion ac ailadeiladu Cymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus ar ôl y pandemig COVID-19.
3. Yn cydnabod y bygythiad i bwerau'r Senedd sy'n deillio o agwedd Llywodraeth y DU at ddatganoli, yn enwedig ers Brexit.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd dros faterion a gedwir yn San Steffan ar hyn o bryd, gan gynnwys plismona a chyfiawnder, rheilffyrdd, lles, darlledu, prosiectau ynni, Ystâd y Goron, Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 a'r pŵer i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Fe wnaeth etholiadau'r Senedd fis yn ôl roi mandad cryf a chlir ar gyfer datganoli pwerau sylweddol i fan hyn, i Gaerdydd.
Mae'n deg dweud bod Cymru ar groesffordd yn ein datblygiad fel cenedl wleidyddol. Ychydig a feddyliais yn fachgen ysgol wrth wylio trafodion cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 y byddwn yn sefyll yma fel Aelod o'r Senedd, pwerdy o Senedd gyda phwerau deddfu sylfaenol a chodi trethi. Mae wedi bod yn daith ryfeddol—neu'n broses, fel y mae rhai wedi'i galw. Er i Boris Johnson alw datganoli yn gamgymeriad, er bod rhai pobl draw yno ar feinciau'r Ceidwadwyr wedi bod yn fflyrtio gyda'r criw Abolish, cafodd hyn ei wrthod yn llwyr gan bobl Cymru yn y blychau pleidleisio. Maent wedi rhoi cefnogaeth gref i bwerau pellach. Fodd bynnag, gan fod pobl Cymru wedi rhoi'r gefnogaeth ddiamwys honno inni, nid yw hynny'n ddigon da i'r Ceidwadwyr, nid yw'n ddigon da i Lywodraeth San Steffan: maent yn parhau i danseilio ein bodolaeth. Dros y penwythnos diwethaf, clywsom Boris Johnson yn cyfarwyddo gweision sifil yn Whitehall i beidio â chyfeirio at Gymru fel cenedl. Wel, gadewch imi ddweud wrthych: rydym yn genedl, ac rydym yma i aros. Ni fydd eich ymdrechion gwan i gryfhau'r undeb yn gweithio.
Fe gafodd Llywodraeth Cymru ei hethol gyda'r addewid yn ei maniffesto am newid radical i'r cyfansoddiad. Wel, a gaf i gynnig bod dim byd radical yn eich gwelliannau chi heddiw, Llywodraeth? Gallai rhywun feddwl ein bod ni wedi mynd yn ôl i ddechrau'r pumed Senedd, wrth inni edrych ar eich gwelliannau chi.
Yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd y Prif Weinidog:
'Rydym angen ymreolaeth i Gymru, mwy o bwerau, sefyllfa lle na ellir tynnu datganoli yn ôl ar fympwy un o brif weinidogion y DU.'
Wel, Brif Weinidog, wel, Gwnsler Cyffredinol, heddiw mae gennych gyfle i ategu'r geiriau hynny â chynllun priodol wedi'i osod mewn statud. Dyma'r amser i weithredu, i gyflawni mandad pobl Cymru, i sbarduno'r ddarpariaeth yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau pellach. Dyma'r amser i wireddu rhethreg ymreolaeth a sicrhau'r Gymru gryfach a'r Senedd gryfach y mae pobl Cymru'n galw amdanynt.
Wrth inni'n araf ymlwybro i gyfnod ôl-COVID, mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio'r cyfle yma i greu Cymru well. Fedrwn ni ddim mynd nôl i sut oedd pethau. Allan o ddinistr yr ail ryfel byd, fe wnaeth Llywodraeth Lafur ddangos y ffordd—gwnaethon nhw weddnewid Prydain er gwell. Rhaid i ni heddiw yng Nghymru meddwl yn radical unwaith eto, ond y tro yma, yng Nghymru gwnaiff hynny ddigwydd, nid ym Mhrydain.
Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos, pan fydd Cymru'n arwain mewn materion iechyd cyhoeddus, ei bod fel arfer yn llawer mwy effeithiol na dilyn arweiniad San Steffan. Lywodraeth Cymru, rydych yn falch iawn o'ch rhaglen frechu, a hynny'n briodol, ond yn awr mae angen inni greu system gyfiawnder y gallwn fod yr un mor falch ohoni. Mae angen inni greu system les sy'n diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae angen inni greu gofal cymdeithasol sy'n gofalu am ein henoed ac sy'n rhoi iddynt y parch y maent yn ei haeddu.
Mae'n rhaid i ni greu Deddfau sydd wedi cael eu hasio'n agos at iechyd ac addysg, at y gwasanaeth lles.
A ddylem adael yr holl faterion pwysig hyn i blaid sy'n dymuno torri'r gyllideb cymorth rhyngwladol? O ddifrif? Ai dyna y gofynnwn i bobl Cymru ei dderbyn?
Wedi dros 20 mlynedd o ddatganoli, dyw e ddim yn gwneud dim synnwyr, yw e, fod cyfiawnder heb gael ei ddatganoli yma i'r Senedd? Os yw'n ddigon da i'r Alban, os yw'n ddigon da i Ogledd Iwerddon, pam nad yw'n ddigon da i ni yn fan hyn yng Nghymru? Pam nad ydyn ni yn y Senedd yn gallu cael gofal am gyfiawnder? Ond hyd yn oed os ŷn ni'n rhoi o'r neilltu yr anomali rhyfedd hwnnw, fod gennym ni ddeddfwrfa, ond ein bod ni'n methu gweithredu ein cyfreithiau, jest ddychmygwch y system gyfiawnder gymaint yn well y byddem ni'n gallu ei gwneud yn fan hyn yng Nghymru: cyfiawnder a fyddai'n well i ddioddefwyr, i droseddwyr a'n cymunedau ni. Mae system well yn bosib, ond yn fwy na hynny, mae system well yn angenrheidiol i bobl Cymru.
Adsefydlu priodol, siarter dioddefwyr effeithiol a thosturiol a gwaith ataliol i gael gwared ar achosion sylfaenol troseddu. Dyna sydd ei angen ar ein cymunedau. Yn anffodus, bydd yr holl ddyheadau egwyddorol hyn yn parhau i fod y tu hwnt i'n rheolaeth hyd nes bod gennym fodd o greu cyfiawnder Cymreig yma yng Nghymru. Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a'r Llysoedd, sy'n mynd ar ei daith ddeddfwriaethol drwy San Steffan ar hyn o bryd, yn enghraifft berffaith o'r rheswm pam y mae angen inni ddatganoli cyfiawnder yma yng Nghymru. Mae'r llu o newidiadau sylweddol yn y Bil, gan gynnwys pwerau newydd i gyfyngu ar brotest ac ehangu stopio a chwilio, yn sicr o waethygu anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli yn ein system cyfiawnder troseddol. Gwyddom i gyd y bydd mesurau stopio a chwilio'r Bil yn effeithio'n anghymesur ar bobl dduon.
Mae cymaint o newidiadau positif wedi digwydd yn ein gwlad ni oherwydd protestio, o ferched Beca i'r Siartwyr, i Gymdeithas yr Iaith ac i heddiw, gyda Black Lives Matter ac Extinction Rebellion. Mae yna uwchfwyafrif yn fan hyn yn ein Senedd ni dros ragor o bwerau. Dyma'r cyfle perffaith i ni gefnogi hynny, i ni gefnogi'r cynnig, i'r Senedd a'r genedl fod yn un, a dangos yn glir i Lywodraeth San Steffan beth yw ewyllys pobl ein gwlad.
A dwi'n gobeithio, fel gwnes i wylio'r Senedd dros 20 mlynedd yn ôl, fod yna berson ifanc yn ein gwylio ni heddiw, a bydd y person ifanc hwnnw'n dod yn Aelod rhyw ddydd, ond yn Aelod o Senedd sy'n gweinyddu cyfiawnder; Aelod o Senedd sydd â'r gallu i frwydro dros holl bobl Cymru; Aelod o Senedd sydd ddim yn ddibynnol ar fympwy Llywodraeth San Steffan, ac i mi, ac i'm mhlaid, Senedd annibynnol ein gwlad.
Mae ein cynnig heddiw yn canolbwyntio ar y pwerau y dylem ni fod yn eu ceisio, a'u ceisio ar unwaith; pwerau mae yna gefnogaeth eang iddyn nhw a chonsensws eisoes ar gael yn y Siambr yma. Does dim angen comisiwn arall i'w trafod, mae'r gefnogaeth yma yn barod. Ond yn fwy na hynny, mae'n rhaid inni hefyd geisio pŵer i bobl Cymru i hunanbenderfynu drostyn nhw eu hunain. Nid y sgwrs mae'r Blaid Lafur yn cyfeirio ati yn eu gwelliant nhw, ond trafodaeth go iawn. Mae angen i ni ymbweru pobl Cymru i benderfynu eu dyfodol nhw eu hunain; ddylai e ddim bod yn ddibynnol ar San Steffan beth yw'n dyfodol ni yng Nghymru. Mae'n rhaid i ni gael y pwerau, yn enwedig os yw San Steffan yn gwrthod ein galwad clir am hunanlywodraeth. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu bod canlyniad etholiad diweddar y Senedd yn dangos nad oes mandad ar gyfer newid cyfansoddiadol sylweddol na refferendwm pellach ar bwerau datganoledig.
2. Yn nodi'r cydweithrediad rhwng Llywodraeth Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru ar fframweithiau cyffredin yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn croesawu'r cydweithredu rhwng Llywodraeth Ei Mawrhydi a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, sy'n cynnwys:
a) darparu cyllid i ddiogelu busnesau, incwm, swyddi, gwasanaethau cyhoeddus, y trydydd sector, y celfyddydau a mwy;
b) defnyddio'r fyddin;
c) caffael a darparu brechlynnau.
4. Yn credu mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru yw fel rhan o Deyrnas Unedig gref.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig ac am siarad yn erbyn y cynnig a gwelliant 2 y Llywodraeth.
A gaf fi yn gyntaf groesawu llefarydd newydd Plaid Cymru i'w swydd a'i longyfarch ar ei benodiad? Mae'n rhaid imi ddweud y gall arwain dadl am y tro cyntaf yn y Siambr fod yn brofiad nerfus iawn, ond os oedd ganddo unrhyw nerfau, yn sicr ni wnaeth eu dangos heddiw. Gallaf gofio'r ddadl gyntaf un a arweiniais yn y lle hwn: canodd y larwm tân a chafodd y lle cyfan ei wagio hanner ffordd drwodd. Nid wyf yn gwybod a ddigwyddodd hynny o ganlyniad i'r gwres roeddwn yn ei gynhyrchu yn y Siambr, neu a oedd rhywun yn gwneud drygioni y tu allan, ond fe'i gwnaeth yn fwy cofiadwy. Edrychaf ymlaen at ddadlau gyda chi ar draws y Siambr am flynyddoedd lawer i ddod.
Ddirprwy Lywydd, cafodd Plaid Cymru gyfle i ddefnyddio eu dadl gyntaf fel gwrthblaid yn y Senedd i edrych ar ystod eang o faterion sydd o bwys tyngedfennol i bobl Cymru, ond yn hytrach na dewis canolbwyntio ar y materion pwysig eraill hynny fel ein gwasanaeth iechyd, ein hysgolion, ein heconomi, yn lle hynny maent wedi penderfynu dechrau'r tymor seneddol newydd gyda chynnig a wrthodwyd yn llwyr yn etholiadau diweddar y Senedd, etholiad lle cyflwynodd Plaid Cymru achos i bobl Cymru dros fwy o bwerau a refferendwm arall gyda mwy o anhrefn cyfansoddiadol, ac eto refferendwm lle'r aeth eu cyfran hwy o'r bleidlais i lawr, yn wahanol i'n cyfran ni o'r bleidlais. Aethant tuag yn ôl. Fe wnaethant golli tir. Ni wnaethant ennill unrhyw dir o ganlyniad i'r neges benodol honno a gyflwynwyd ganddynt i bobl Cymru, a hynny oherwydd bod pobl Cymru wedi gwrthod bogailsyllu cyfansoddiadol ac anhrefn cyfansoddiadol ar 6 Mai. Ac oherwydd hynny hefyd, rhaid inni fanteisio ar y cyfle hwn y prynhawn yma yn y Siambr i wrthod chwarae pŵer o'r fath hefyd.
Dyna pam rydym yn ei gwneud yn gwbl glir yn ein gwelliant ein bod yn credu nad oes mandad o gwbl i ddatganoli pwerau sylweddol pellach i'r Senedd hon. Yn wahanol i lefarydd Plaid Cymru, credwn fod y pandemig a Brexit yn dangos yn glir iawn pam nad oes angen y pwerau ychwanegol hynny arnom oherwydd, Ddirprwy Lywydd, yr arf mwyaf sydd gennym i ailadeiladu Cymru well yw'r ffaith bod Cymru yn rhan annatod o'r Deyrnas Unedig. Nid oes ond angen inni edrych ar y 18 mis diwethaf dros y pandemig i weld sut y mae Cymru'n elwa o'r setliad datganoli presennol. Rydym wedi cael personél o luoedd arfog y DU yn darparu brechlynnau, yn gyrru ambiwlansys ar hyd a lled Cymru, pan oedd angen cymorth ychwanegol ar y GIG wrth iddo wynebu'r pwysau hwnnw. Maent hefyd wedi dod â chyfarpar diogelu personol i mewn ar awyrennau o leoedd fel y dwyrain pell i'r Deyrnas Unedig, pan oedd ein GIG ar ei gliniau ac angen y gefnogaeth honno fwyaf.
Prosesau caffael Llywodraeth y DU a buddsoddiad mewn gwaith ymchwil ar y brechlyn COVID sy'n gyfrifol am un o'r rhaglenni brechu gorau yn y byd. Heb y gefnogaeth honno, ni fyddai Cymru yn arwain yn fyd-eang ar gyflwyno'r brechlyn fel y mae heddiw. Byddai ein rhaglen ar ei hôl hi mewn gwirionedd, gan beryglu bywydau a pheryglu ein hadferiad economaidd. Drwy fod yn rhan o'r DU, gallodd Cymru ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl drwy gydol y pandemig gyda'r cynllun ffyrlo, y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig, benthyciadau adfer, arian i ddarparu'r gronfa cadernid economaidd yma yng Nghymru, a chyllid i gefnogi'r trydydd sector, y celfyddydau a'n sector diwylliannol. Ac ar ben hyn, mae Llywodraeth y DU hefyd wrth gwrs wedi buddsoddi arian ychwanegol yn ein system les i gynyddu taliadau i'r bobl sydd ei hangen.
Mae cynnig Plaid Cymru hefyd yn honni bod Llywodraeth y DU yn fygythiad i ddatganoli, ond ni allai dim fod ymhellach o'r gwirionedd. Hoffwn atgoffa'r Aelodau yn y Senedd heddiw mai Llywodraeth Geidwadol y DU a gyflwynodd y refferendwm yn ôl yn 2016 a arweiniodd at drosglwyddo pwerau pellach i'r Senedd, oherwydd yn wahanol i bleidiau eraill yn y Siambr hon a geisiodd rwystro Brexit, rydym yn parchu canlyniadau refferenda. Gwyddom mai ewyllys sefydlog pobl Cymru yw cael Senedd yma sydd â'r set o bwerau sydd gennym ar hyn o bryd. Ni wnaeth Llywodraeth y DU gipio pwerau ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ychwaith. Yn wir, mae Cymru wedi cael dwsinau o bwerau a chyfrifoldebau newydd o ganlyniad i adael yr UE. Roedd Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn cadarnhau pwerau mewn gwirionedd ac yn rhoi cyfrifoldebau i'r Senedd mewn tua 70 o feysydd polisi a ddaeth yma yn uniongyrchol o Frwsel. Hynny yw, ni fyddaf byth bythoedd yn gwybod sut y gallwch ddweud bod hynny'n gipio pwerau.
Felly, yn hytrach na chwyno am y pwerau nad ydym yn meddu arnynt, gadewch inni ddefnyddio'r pwerau sydd gennym i wella bywydau pobl Cymru, i ddatrys y problemau yn ein gwasanaeth iechyd, yn ein hysgolion, ac yn ein heconomi, fel y gall Cymru fod yn genedl lewyrchus fel y mae pawb ohonom angen iddi fod.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Gwelliant 2—Lesley Griffiths
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei gwaith parhaus i sicrhau bod plismona a chyfiawnder yn cael eu datganoli yn unol ag argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.
2. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn a sgwrs gyda phobl Cymru i ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol.
3. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o ‘Diwygio ein Hundeb’, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2019.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Rwy'n mynd i ostwng y tymheredd ychydig. Mae tair o'r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd hon bellach yn derbyn yn fras nad yw'r Deyrnas Unedig yn addas at y diben ar hyn o bryd o ran y modd y mae'n llywodraethu'r DU gyfan a'i threfniadau cyfansoddiadol, a'r berthynas rhyngddi a sefydliadau democrataidd. Ac yn y Senedd flaenorol, roedd o leiaf un Aelod blaenllaw ac amlwg ar feinciau'r Ceidwadwyr hefyd yn derbyn hyn ac yn dadlau'r achos dros ddiwygio er mwyn cadw'r undeb. Arhoswn i weld a oes unrhyw Geidwadwyr Cymreig yn fodlon dilyn ôl troed David Melding yn y ffordd ddigyffro ac ystyrlon a chraff y dadansoddai fethiannau'r undeb a'r peryglon i'r undeb o fwrw ymlaen fel y gwnawn, oherwydd nid yw'r status quo yn opsiwn. Mae fel gyrru hen gar nes ei fod yn syrthio'n ddarnau, heb unrhyw waith cynnal a chadw, heb sôn am uwchraddio. Yn y pen draw, mae'n rhydu, mae'n dod i stop ac mae'n syrthio'n ddarnau. Mae angen i chi naill ai ofalu'n iawn am yr hen siandri neu gael gwared arni a chael rhywbeth newydd.
Nawr, lle mae tair o'r pedair plaid a gynrychiolir yma yn cytuno yn eu pryderon, fel y mae'r cynigion a'r gwelliannau'n dangos, mae eu rhagolygon yn wahanol iawn, o broffwydo diwedd yr undeb i ddadlau dros ddiwygio radical, ac felly'r ystod o welliannau i'r prif gynnig. Byddwn yn dweud bod yr achos dros ddiwygio radical ar frys yn ddiamheuaeth bellach. Nid pwynt gwleidyddol yw hwn; mae'n bwynt pragmataidd. Mae cyfansoddiad presennol y DU, sy'n seiliedig ar fodel traddodiadol sofraniaeth seneddol San Steffan, yn hen ac yn anaddas ar gyfer heddiw. Nid yw'n adlewyrchu hunaniaeth fodern a dyheadau'r pedair gwlad, heb sôn am ail-ymddangosiad y maeryddiaethau metropolitan a rhanbarthol cryf yn Lloegr, sy'n ddatblygiad i'w groesawu.
Felly, sut olwg ddylai fod ar undeb diwygiedig? Wel, rhaid iddo adlewyrchu'r realiti mai undeb gwirfoddol o genhedloedd a rhanbarthau yw hwn sy'n cydweithio er budd pawb, nid system wedi'i gorganoli gydag anghydbwysedd pŵer clir. Fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd, rhaid iddi hefyd fod yn agored yn y pen draw i ddewis democrataidd unrhyw un o'i rhannau cyfansoddol i dynnu'n ôl a throi cefn ar yr undeb, yn hytrach na bod yn rhwym wrthi am byth, doed a ddelo. Ac fel undeb gwirfoddol, dylai fod parch rhwng y rhannau cyfansoddol, ond dylai'r parch hwnnw gael ei adlewyrchu yn y ffordd y mae rhannau'r undeb yn cydweithio ac yn herio syniadau a pholisïau a gweledigaeth ar gyfer yr undeb cyfan; lle mae gan y rhannau cyfansoddol lais cydradd yn yr hyn y mae'r canol yn ei wneud a'r hyn nad yw'n ei wneud; lle nad yw'r canol yn gorfodi, ond yn hytrach yn gwrando ac yn ymateb, a lle mae'r cyfanswm yn fwy na'r rhannau oherwydd bod y cenhedloedd a'r rhanbarthau'n teimlo bod ganddynt, a bod ganddynt yn wir, rôl ystyrlon yn yr undeb hwnnw.
Nawr, ymgyrchodd Llafur Cymru, fy mhlaid i, dros ddiwygio, ac mae'r Llywodraeth hon wedi cael mandad i ddatblygu syniadau ar hyn, a chyda'r cyhoedd yng Nghymru yn ehangach, ar rywbeth sy'n edrych fel, beth bynnag y byddem yn ei alw, math o ffederaliaeth bellgyrhaeddol o fewn undeb newydd a llwyddiannus—credaf mai David Melding oedd y person olaf i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw yma—i gael sgwrs gyhoeddus genedlaethol yng Nghymru am ein dyfodol; i sefydlu comisiwn annibynnol sefydlog i edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru ac o fewn y DU; i gefnogi gwaith y comisiwn cyfansoddiadol ledled y DU sy'n cael ei sefydlu ar hyn o bryd gan Blaid Lafur y DU i weithio ar draws y pedair gwlad, ond i weithio gyda phleidiau eraill y DU ar hyn hefyd, a chyda Thŷ'r Arglwyddi, i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddiwygio ffederal mwy trylwyr i'n cyfansoddiad a'n cysylltiadau rhynglywodraethol; i fynd ar drywydd datganoli plismona a chyfiawnder, fel yr argymhellwyd gan gomisiwn Thomas, ac i herio Deddf marchnad fewnol y DU, nid am resymau gwleidyddol, ond er mwyn osgoi treth ar ddatganoli ac i hyrwyddo hawliau'r Senedd hon i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd.
Nawr, edrychwch, weithiau, mae'r berthynas rhwng pobl yn dod o dan straen—rhwng brodyr, rhwng partneriaid, rhwng plant yn eu harddegau a rhieni hen ffasiwn—a dylwn ddweud nad oes dim o hyn yn hunangofiannol. [Chwerthin.] Nid yw'r berthynas rhwng pobl bob amser yn llyfn iawn; maent yn taro darnau garw yn y ffordd, rhai mawr weithiau, ac os yw'n ddrwg iawn, rydych chi weithiau'n cwestiynu, 'A yw mor ddrwg fel ei fod ar ben, a ydym wedi syrthio allan o gariad â'n gilydd, a ddylem wahanu?'
Yn senario Plaid Cymru—ac mae'n bwynt egwyddorol—mae ar ben, roedd bob amser ar ben ac ni ddylai byth fod wedi dechrau: 'Roedd yr undeb rhwng Cymru a Lloegr yn berthynas drychinebus o'r cychwyn, dylem wahanu yn awr a diwedd arni'. Ond mae'n rhaid inni gydnabod bod y senario 'diwedd arni' wedi'i phrofi'n gadarn yn yr etholiad diweddar ac na wnaeth ennyn cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru.
I'r Ceidwadwyr, mae'r undeb yn berthynas gariadus a hardd lle mae'r Llywodraeth bresennol yn San Steffan yn cadw buddiannau gorau Cymru yn ei chalon ac weithiau mae'n rhaid iddi ddangos ychydig o gariad caled i Gymru i ddangos cymaint y maent yn malio. Nid amarch yw hynny, nid bychanu'r plant, dim ond gosod rheolau'r tŷ ar gyfer y teulu a'r gwesteion, mae'n dangos pwy yw'r bos, ac mae hyn yn rhoi straen ar y berthynas.
Mae Llafur Cymru yn glir: nid yw'r undeb yn gweithio ar ei ffurf a'i gwedd bresennol, ond gallai weithio drwy ddiwygio radical ar frys. Gallai gwledydd fel Cymru a'r Alban a rhannau pwerus o Loegr lle mae'r pwerau a'r cyllid wedi'u datganoli fwyfwy fod hyd yn oed yn gryfach a dal i gydweithio—
A wnaiff yr Aelod orffen ei gyfraniad, os gwelwch yn dda?
Fe wnaf yn wir—a dal i gydweithio o hyd er budd cyffredin ehangach gwledydd a rhanbarthau'r DU a'r DU gyfan.
Ddirprwy Lywydd, efallai fod gan yr hen siandri fwy o fywyd ynddi eto, ond rhaid inni osgoi sefyllfa lle rydym yn dal i fynd nes dod i stop, neu daro'r clawdd. A dyna fy mhryder gydag ymagwedd bresennol Llywodraeth y DU.
Ein rôl ni i gyd sy'n cynrychioli pobl Cymru yw sicrhau'r bywyd gorau posibl i drigolion ein cenedl; i wneud popeth posib i greu Cymru lewyrchus, deg a chyfiawn, sy'n gofalu am bob un sy'n galw Cymru'n gartref. Os na wnawn ni hyn, yna nid ydym yn haeddu eistedd yn y Siambr hon, na chwaith yn deilwng o gynrychioli'r cymunedau sydd wedi rhoi eu ffydd ynom i'w gwasanaethu.
Ers 2010, mae Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Gyfunol wedi mynd ati i ailstrwythuro'n system les mewn modd llym ac anghyfiawn. Er bod ganddi'r adnoddau i sicrhau nad yw ein teuluoedd a'n plant tlotaf yn llwglyd ac yn cwympo drwy rwyd y wladwriaeth les, mae'n methu â gwneud hynny. Ochr yn ochr â hyn, rhaid gosod effaith methiant Llywodraeth Lafur Cymru i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Erbyn hyn, mae gan Gymru'r gyfradd uchaf o dlodi plant o unrhyw genedl yn y Deyrnas Gyfunol, gydag un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi. Mae'n sgandal cenedlaethol; yn adlewyrchiad damniol o effaith llymder y Ceidwadwyr ac 20 mlynedd o ddiffyg Llafur yng Nghymru i wneud fawr mwy na rheoli tlodi.
Ers 2016, mae gan yr Alban reolaeth dros 11 o fudd-daliadau lles a'r gallu i greu budd-daliadau nawdd cymdeithasol newydd o fewn meysydd polisi datganoledig. Felly y cwestiwn yw: pam nad oes gennym y grymoedd yma yng Nghymru? Hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn erbyn datganoli lles yn ei chyfanrwydd i Gymru, y lleiaf y gallant ei wneud heddiw yw dechrau'r broses i sicrhau cydraddoldeb i Gymru ar yr un lefel â'r Alban. Mae'r farn gyhoeddus o blaid hynny. Mae arolygon barn wedi dangos bod mwyafrif o blaid datganoli pwerau lles i'n Senedd. Mae pwyllgor trawsbleidiol o'r Senedd ddiwethaf, o dan gadeiryddiaeth Aelod o'r Blaid Lafur, o blaid hynny. Mae'r arbenigwyr cyllid o blaid hynny hefyd. Yn ôl tîm Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, gall datganoli lles yn yr un modd â'r Alban roi hwb o £200 miliwn i gyllideb Cymru. Ac fe fyddai'n cael effaith gadarnhaol, fesuradwy ar fywydau'r rhai mwyaf anghenus yn ein gwlad.
Felly, pam y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i lusgo ei thraed ar ddatganoli pwerau a fydd yn gwneud Cymru'n well ei byd? Pam amddifadu Cymru o ysgogiad pwerus pellach a fyddai'n helpu i fynd i'r afael â thlodi? Beth am weithredu i helpu i godi ein pobl? Yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod yn credu bod pwerau dros fudd-daliadau lles a'r rhan fwyaf o drethi
'yn well o'u cyflawni ar lefel y DU.'
Hyd yn oed os mai'r canlyniad yw'r lefel uchaf o dlodi plant yn y Deyrnas Unedig? Mae'n ymddangos bod cred y Prif Weinidog yn yr undeb yn gryfach na'i gred mewn cydraddoldeb cymdeithasol. I bob pwrpas, mae'r Prif Weinidog yn dweud bod yn rhaid i blant Cymru sy'n byw mewn tlodi aros—rhaid iddynt aros i Lywodraeth San Steffan newid, hyd yn oed os yw hynny'n cymryd 10 neu 15 mlynedd neu fwy. Ni all teuluoedd mewn angen yng Nghymru fforddio aros mor hir â hynny. Os yw'r Llywodraeth hon o ddifrif yn awyddus i sicrhau urddas, tegwch a bywyd gweddus i'n holl bobl, ni all fod dadl yn erbyn sicrhau'r modd i wneud hynny.
Os yw sicrhau urddas i'n trigolion yn waelodol i'r Gymru deg y dylem oll fod yn ceisio ei chreu, yna mae'r hawl i fyw bywyd yn rhydd o ragfarn, gwahaniaethu ac erledigaeth hefyd yn waelodol i fi. Y llynedd, ar ôl bron i ddwy flynedd o oedi, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei hymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004—y Ddeddf ddiffygiol honno. Roedd y Ddeddf fod i ganiatáu i bobl draws dderbyn cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u rhywedd, ond roedd y broses gymhleth, fiwrocrataidd, feddygol a drud yn atal nifer rhag gwneud hynny. Er gwaethaf barn y mwyafrif llethol a ymatebodd i'r ymgynghoriad, methodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol â sicrhau proses a fyddai'n helpu pobl draws i fedru byw eu bywydau bob dydd ag urddas.
Rydym ar hyn o bryd yn dathlu mis Pride, ac wrth inni wneud hynny, rhaid inni ailddatgan ein hymrwymiad i bobl LHDT+ Cymru ein bod yn parchu eu hawliau ac y byddwn yn ymladd dros eu hawliau. Os ydym yn datganoli pwerau sy'n ymwneud â'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i Gymru, gallem helpu i sicrhau hawl pobl draws i fyw eu bywydau fel y dymunant, gydag urddas. Mae'n siomedig, felly, fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi penderfynu tynnu'r alwad hon yn ein cynnig ni gyda'u gwelliant, a hynny er bod Llafur Cymru wedi datgan yn eu maniffesto—
A wnaiff yr Aelod orffen ei chyfraniad, os gwelwch yn dda?
Rwy'n gorffen.
Rwy'n dyfynnu:
'Byddwn hefyd yn gweithio i ddatganoli'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned Draws.'
Mae angen y pwerau hyn arnom—mae eu hangen arnom yn awr. Mae'n bryd gweithredu ar y mandad a roddwyd i ni gan bobl Cymru, a hoffwn annog pob Aelod i bleidleisio dros y cynnig heddiw. Diolch yn fawr.
Roedd y ganran a bleidleisiodd yn etholiad diweddar y Senedd yn isel, 47 y cant ledled Cymru. Ceir dryswch cyffredinol o hyd ynglŷn â pha bwerau y mae gan y Senedd reolaeth drostynt ar hyn o bryd, ac mae angen gwneud gwaith helaeth i gael pobl i ymgysylltu â'r broses sydd gennym yma a'r gwaith a wnawn i wella bywydau pobl Cymru. Mae hon yn her nid yn unig i ni yma, ond i Lywodraethau datganoledig ledled y Deyrnas Unedig: ceisio cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a'u cynnwys yn y broses etholiadol.
Dylai hyn fod yn brif flaenoriaeth i'r Senedd hon, ond yn hytrach, mae Plaid Cymru, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn benderfynol o chwarae gemau cyfansoddiadol yma yng Nghymru, gan weithio'n gyson yn erbyn Llywodraeth y DU ac nid gyda hwy, a chyhuddo Llywodraeth y DU a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig gyfan o fygwth datganoli. Y cyfan a wnewch yw galw am bwerau pellach a diwygio ein hundeb gwych. Nid oes eisiau hynny yma yng Nghymru. Rydym yn gryfach gyda'n gilydd—rhan o'r Deyrnas Unedig.
Pam y byddai pobl Cymru am inni gael unrhyw reolaeth dros ragor o bwerau pan nad yw Llywodraeth Lafur Cymru yn rhedeg Cymru'n effeithiol gyda'r pwerau sydd ganddynt ar hyn o bryd? Nid yw addysg yng Nghymru yn cyflawni fel y dylai, mae amryw o fyrddau iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig, mae gennych bobl yn aros am driniaeth canser, mae rhestrau amseroedd aros yn cynyddu, mae prosiectau seilwaith mawr wedi'u canslo neu eu gohirio ac mae ein sector busnes yn teimlo ei fod wedi'i esgeuluso, a'r cyfan rydych chi am sôn amdano yw pwerau pellach a chreu anhrefn cyfansoddiadol pan ddylem fod yn canolbwyntio'n unig ar adferiad ac ar wella bywydau pobl Cymru.
Felly, beth yw'r nod yma? Beth yw eich obsesiwn â mwy o bwerau? I lawer y tu allan i'r swigen hon ym Mae Caerdydd, mae'n edrych fel adeiladu gwladwriaethol tuag at Gymru annibynnol, ac o'r canlyniadau diwethaf ychydig dros fis yn ôl, nid oes awydd yn fy etholaeth i, Brycheiniog a Sir Faesyfed, na Chonwy nac unrhyw un o'r meinciau Ceidwadol hyn, ac yn ehangach, am annibyniaeth neu refferenda nac unrhyw bwerau pellach i'r Senedd hon. Mae pobl fy etholaeth i a Chymru gyfan am inni fwrw ymlaen â'n gwaith. Felly, dylid pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw, a gadewch inni fwrw ymlaen â'n gwaith o gynrychioli pobl Cymru a pheidio â chreu mwy o ddryswch na'r hyn sy'n bodoli'n barod. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn ganolbwyntio, fel rhan o fy nghyfraniad i’r ddadl, dros yr angen i ddatganoli darlledu. Mae’n faes sydd wedi ei ddatganoli mewn gwledydd datganoledig eraill, megis Gwlad y Basg a Chatalwnia, ac mae’r pwerau wedi cael eu defnyddio er lles eu hieithoedd nhw.
Darganfu pwyllgor trawsbleidiol comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, ynghyd ag arolwg barn YouGov yn 2017, bod dros 60 y cant o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu i Gymru. Felly, mae cefnogaeth y cyhoedd yn ddiamheuol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod gweithredu argymhelliad y comisiwn i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr ychydig filiynau o bunnau’n unig sydd yn cael eu casglu gan drethdalwyr i ariannu S4C. A oes unrhyw wlad arall yn y byd lle mae’r pŵer dros ei phrif sianel a’i darlledwr cyhoeddus yn perthyn i wlad arall? Dywedodd pwyllgor cyfathrebu'r pumed Senedd ei bod yn 'sefyllfa anarferol' bod y pwerau dros S4C yn gorwedd yn Llundain yn hytrach na’r wlad ble mae’r iaith sydd i’w chlywed yng nghynnwys y sianel yn cael ei siarad. Rhaid i hynny newid.
Mae nifer cynyddol o gyrff a sefydliadau eraill hefyd wedi galw ar Lywodraeth Prydain i fynd ymhellach ac yn gweld rhinwedd y ddadl dros ddatganoli darlledu yn ei gyfanrwydd. Byddai datganoli darlledu yn helpu’r bobl sy’n byw yma yng Nghymru i ddeall yn well yr hyn sy’n digwydd yn eu gwlad eu hunain, nid derbyn camwybodaeth gan y cyfryngau Llundeinig sy’n methu’n deg â deall datganoli. Mae’n bwysig nid yn unig er lles ein democratiaeth ond, fel mae’r pandemig wedi dangos, er lles ein hiechyd cyhoeddus bod pobl Cymru yn derbyn gwybodaeth sy'n berthnasol i'w bywydau hwy yma yng Nghymru. Byddai datganoli darlledu hefyd yn rhoi’r cyfle i ddatblygu’r cyfryngau Cymreig amrywiol sy’n adlewyrchu anghenion a buddiannau’r Gymru fodern. Mae papurau newydd Cymreig lleol yn crebachu, fel y mae papurau newydd ym mhobman, ac er mai BBC Radio 2 yw’r orsaf radio gyda’r mwyaf o wrandawyr yma yng Nghymru, prin ac anaml iawn yw’r sôn am Gymru arni.
Bu sefydlu S4C yn hwb aruthrol nôl yn 1982—hwb aruthrol i'n cenedl, i'n hunaniaeth ac i'n diwylliant—ond mae angen llawer mwy. Rydym ni eisiau adeiladu ar lwyddiant bodolaeth S4C mewn hinsawdd wleidyddol hynod o fregus, lle mae goroesiad ein cenedl ein hunain o dan fygythiad. Mae Cymru yma i bawb, p'un ai ydyn nhw'n siarad Cymraeg ai peidio. Mae S4C yn wych, ac fel mam i fachgen ifanc, mae Cyw wedi bod yn fendith, ond mae angen mwy na dim ond S4C i hyrwyddo hunan-barch 3 miliwn o bobl a hyrwyddo datblygiad cenedl gyfan. Mae'n bryd i Gymru gael llais, ac i ni, fel pobl, allu cael y sgyrsiau cenedlaethol i wella'r ffordd y mae'r wlad yn cael ei llywodraethu. Bydd datganoli darlledu yn hanfodol i hyn.
Dylid datganoli cyfrifoldeb dros ddarlledu a chyfathrebu yn eu cyfanrwydd i’r Senedd hon. Byddai hyn yn rhoi grym rheoleiddio’r holl sbectrwm darlledu i ni yma yng Nghymru, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y ffi drwydded. Gellir wedyn hefyd sefydlu fformiwla ariannol statudol ar gyfer ein sianeli a llwyfannau a fydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant, gan gynnig sicrwydd ariannol hirdymor i’r darlledwyr a’r maes darlledu yma yng Nghymru. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro mai yn nwylo’r Senedd hon y dylai grym dros ddarlledu yng Nghymru fod ac nid yn nwylo San Steffan sy’n gwybod braidd dim ac yn poeni hyd yn oed yn llai am ein cymunedau. A rŵan, am y tro cyntaf yn hanes gwleidyddiaeth Cymru, mae gennym gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli darlledu.
Ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a oedd yn cynnwys Aelodau nid yn unig o Blaid Cymru, ond o'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol, adroddiad ar y mater hwn. A'u casgliad: y dylid datganoli darlledu, gyda rhai yn cytuno y dylid gwneud yn ei gyfanrwydd, ac eraill eisiau ei weld yn rhannol. Mae datganoli darlledu yn allweddol i'n democratiaeth. Mae gennym ni gonsensws trawsbleidiol. Rŵan yw'r amser i weithredu.
Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y setliad datganoli. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud. A gaf fi wneud tri sylw cyffredinol i ddechrau? Nid yw datganoli anghymesur yn gweithio; ymddengys bod gan Blaid Cymru bolisi tameidiog ar ymwahanu, ac mae arnom angen safbwynt terfynol, diffiniedig ar ddatganoli i Gymru, ac yn bwysicach, o fewn Cymru.
Rwyf wedi cefnogi 'devo max' ers tro byd, a datganoli o fewn Cymru hefyd i bedwar rhanbarth Cymru ac i awdurdodau lleol. Hanner can mlynedd yn ôl, roedd llywodraeth leol yn rheoli dŵr a charthffosiaeth, addysg bellach, addysg uwch y tu allan i'r brifysgol ac ysgolion a reolir yn uniongyrchol. Cyn 1950, rheolid plismona gan awdurdodau lleol. Mae rheolaeth ar y pethau hynny a mwy wedi'i thynnu o ddwylo awdurdodau lleol. Rwy'n cefnogi 'devo max', y symud tuag at ddatganoli cymesur, ond rhaid i hynny gynnwys rhanbarthau Lloegr. Ni all model o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon weithio; mae Lloegr yn rhy fawr o'i chymharu â'r gweddill. Rhaid i unrhyw fodel gynnwys rhanbarthau Lloegr, nid Lloegr yn unig.
Ceir y meysydd amlwg y mae angen eu cynnal yn ganolog oni bai bod gennych annibyniaeth. Maent yn cynnwys pethau fel amddiffyn, materion tramor, diogelwch cenedlaethol, arian cyfred, cyfraddau llog, cymorth tramor, mewnfudo, trwyddedu gyrwyr a cheir, banc canolog a rhifau yswiriant gwladol. Dylai fod modd datganoli popeth ar wahân i'r uchod, er nad oes angen eu datganoli o reidrwydd. Nid oes raid i ddatganoli yng Nghymru ddod i ben yng Nghaerdydd. Mae datganoli o fewn Cymru yn bosibl i'r pedwar rhanbarth yng Nghymru, a hefyd i awdurdodau lleol. Rydym wedi cael llawer gormod o ganoli yng Nghaerdydd. Yr heddlu, diogelwch yn San Steffan, troseddau difrifol—. Plismona—. Diogelwch yn San Steffan, rwy'n credu, ymdrin â throseddau difrifol yng Nghaerdydd, ond bod plismona lleol yn dychwelyd i awdurdodau lleol sy'n gwybod beth sydd ei angen i gadw eu hardaloedd yn ddiogel. Mae yna feysydd roeddem yn trafod a ddylid eu datganoli neu eu canoli. Oedran a swm pensiwn y wladwriaeth—a ddylem gael un ar gyfer y Deyrnas Unedig, neu a ddylai pob awdurdodaeth bennu drosti ei hun? Sut y byddai hynny'n gweithio gyda symud rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys pobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n gweithio yn Lloegr, a'r ffordd arall? Ac mae llawer o bobl, ac rwy'n cynnwys fy hun yn hynny, wedi gweithio yn Lloegr am gyfnod byr. A ddylem gael un system nawdd cymdeithasol unedig, neu a ddylai pob un o'r ardaloedd bennu'r lefelau? A ddylid cael trethi'r DU i dalu am yr eitemau a ariennir yn ganolog, gyda'r holl drethi eraill wedi'u datganoli a'u casglu'n lleol? Sut y bydd cymorth ariannol gan y rhanbarthau mwy cyfoethog i'r rhanbarthau tlotach yn cael ei drefnu a'i gynnal?
Er y feirniadaeth ddilys o fformiwla Barnett, ac rwyf wedi bod yn un o'r rhai sydd wedi ei beirniadu, mae wedi darparu cyllid ychwanegol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o'i gymharu â Lloegr, ac mae'n ystyried angen—nid cymaint ag y byddem am iddi wneud, ond rydym yn cael mwy nag a roddwn i mewn, ac rydym yn cael mwy na 100 y cant o'r hyn sydd wedi'i wario yn Lloegr. Ac nid wyf yn credu bod unrhyw fudd i geisio cael gwared ar y fformiwla heb fod unrhyw beth arall yn ei le. Nid oes raid datganoli popeth i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon na dinas-ranbarthau Lloegr ar yr un pryd. Yr hyn sydd ei angen arnom yw rhestr o eitemau sydd ar gael i'w datganoli, a bod pob Senedd angen o leiaf ddwy ran o dair o'r Aelodau i bleidleisio o blaid cyn iddynt gael eu datganoli.
Pam y dywedaf hynny? Wel, dyma a ddigwyddodd yng Ngogledd Iwerddon pan ddatganolwyd plismona i Ogledd Iwerddon. Mae'n osgoi datganoli sydyn lle trosglwyddir rheolaeth ar bopeth mewn un diwrnod, ond mae'n caniatáu i faterion gael eu datganoli wrth i'r Seneddau ddod yn barod ar eu cyfer, ac yn bwysicach, wrth gytuno ar gyllid. A chredaf y bydd llawer o'r Aelodau'n cofio Aelod blaenorol o Blaid Cymru'n dweud, 'Wel, os cawn blismona wedi'i ddatganoli i ni, byddwn yn cael 1.05 y cant o'r hyn a—cawn 5 y cant yn fwy nag a wnawn ar hyn o bryd ar gyfer plismona oherwydd y ffordd y mae'r fformiwla ddatganoli'n gweithio.' Mae hynny'n newyddion da, ac roedd Steffan Lewis yn dadlau o blaid datganoli plismona, ond os ydym am wneud y pethau hyn, rwy'n credu y bydd yn rhaid inni geisio dod yn hyfyw yn economaidd hefyd o ran yr hyn y gallwn ac na allwn fforddio ei wneud. Mae'n gosod pwynt terfyn ar y daith ddatganoli y tu hwnt i greu gwledydd newydd. Mae'n caniatáu i bob un symud ar gyflymder y mae'n gyfforddus ag ef, ond pwynt terfyn cyffredin.
Yn olaf, nid oes raid i ddatganoli yng Nghymru—unwaith eto, dychwelaf at hyn—ddod i ben yng Nghaerdydd. Nid yw'n dod i lawr yr M4 ac yna'n stopio. Mae datganoli o fewn Cymru'n bosibl, nid yn unig i'r pedwar rhanbarth, ond hefyd i'r awdurdodau lleol. Beth fyddai'n well i awdurdodau lleol ymdrin ag ef? Gwelodd yr ugeinfed ganrif symudiad un ffordd o awdurdodau lleol i'r canol. Mae angen inni ddechrau symud mwy o bethau yn ôl i awdurdodau lleol. Dylai'r cwestiwn ofyn, 'Ble y gellir ymdrin ag ef yn y ffordd orau?', nid, 'Faint y gallwn ei hawlio a faint y gallwn ei gymryd oddi wrth awdurdodau lleol ar un pen a San Steffan ar y pen arall?' Mae datganoli yng Nghymru yn daith, ond ni ddylai ddod i ben yng Nghaerdydd. I ddatganoli go iawn, mae angen datganoli pwerau hefyd i ranbarthau a chynghorau Cymru. Mae angen inni feddwl am ddatganoli yng Nghymru, nid, 'Os oes amheuaeth, rhowch ef yng Nghaerdydd.'
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw, yr un gyntaf imi gael cyfle i siarad ynddi, ac mae wedi bod yn ddadl ddiddorol ac angerddol hyd yma heno. Roeddwn yn meddwl y byddai'n ddefnyddiol rhannu rhai o fy syniadau fy hun ar yr hyn a glywais hyd yma a'r eitem sydd ger ein bron, wrth gwrs.
Mae rhan agoriadol cynnig Plaid Cymru yn honiad eithaf beiddgar, fod
'gan y chweched Senedd hon fandad i ddatganoli pwerau sylweddol pellach o San Steffan i Gymru.'
A'r hyn y mae Plaid Cymru wedi methu ei grybwyll, wrth gwrs, yw'r modd y gwrthodwyd annibyniaeth yn helaeth unwaith eto yn y set ddiweddaraf o etholiadau. Mae'n amlwg fod pobl Cymru'n gwybod pa mor gryf yw'r Deyrnas Unedig a'r ffordd rydym yn cydweithio ar draws y Deyrnas Unedig honno.
Mae'n ymddangos bod ail bwynt Plaid Cymru unwaith eto yn diystyru'n llwyr y pwerau sydd gan ein Senedd eisoes mewn amrywiaeth eang o feysydd, ac mae'n amlwg, yn fwy nag erioed, fod pobl Cymru eisiau Senedd gref sy'n gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, gan gydweithio i sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru, ac unwaith eto, dangoswyd hyn yn y refferendwm, fel petai, fis diwethaf yn yr etholiadau, lle daeth trigolion allan a phleidleisio dros bleidiau sy'n cefnogi adeiladu undeb cryfach ledled y Deyrnas Unedig.
Ar drydedd ran y cynnig heddiw, fe'i disgrifiwyd yn huawdl gan fy nghyd-Aelod Mr Millar fel rhethreg cipio pwerau sy'n amlwg yn fyth ac nad yw'n bodoli, oherwydd, fel y disgrifiwyd yn gynharach, diwedd y cyfnod pontio ar gyfer trefniadau Brexit a Bil y farchnad fewnol yn dod yn weithredol—bydd pwerau mewn o leiaf 70 o feysydd polisi a weithredwyd yn flaenorol ar lefel yr UE yn dod yn uniongyrchol yma i'r Senedd. At hynny, ni fydd yr un o'r pwerau sydd gan weinyddiaethau datganoledig ar hyn o bryd yn cael ei ddileu.
Mae rhan olaf y cynnig gan Blaid Cymru wrth gwrs yn dod i ben drwy amlinellu y byddent yn ceisio pwerau pellach yma i'r Senedd. Ond mae'n amlwg i mi fod pobl Cymru—yr hyn y maent am ei gael yw adferiad cryf ar ôl y pandemig y mae pawb ohonom wedi gorfod ymrafael ag ef, gyda swyddi a'r economi yn flaenllaw yn hynny.
Gan symud ymlaen at welliant y Llywodraeth, roeddwn yn eithaf cefnogol i ddechrau pan welais y geiriau 'Dileu popeth'—[Chwerthin.]—ar ddechrau'r gwelliant hwnnw. Ond yn anffodus, ni allwn barhau i gefnogi gweddill yr hyn a ddisgrifiwyd. Yn fwyaf arbennig, roeddwn yn siomedig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am ddatganoli plismona a chyfiawnder. Yn wir, mae comisiwn Silk wedi amcangyfrif y byddai'n costio tua £100 miliwn y flwyddyn i greu awdurdodaeth ar wahân i Gymru, ac rwy'n siŵr y byddai pobl Cymru yn cwestiynu pam fod gwerth £100 miliwn o'u harian yn cael ei wario ar awdurdodaeth ar wahân, a'r hyn y byddent am ei gael, mewn gwirionedd, yw mwy o heddweision, gwell gwasanaeth prawf, mwy o swyddogion prawf, yn ogystal â chynyddu capasiti yn ein systemau llysoedd a charchardai. Felly, rhaid cwestiynu hynny'n helaeth.
Gan symud ymlaen at welliant y Ceidwadwyr a gyflwynwyd gan Darren Millar ar ddechrau'r ddadl hon, rydym yn glir nad oes mandad ar gyfer newid cyfansoddiadol na refferendwm pellach ar bwerau datganoledig. Fel y dywedais yn gynharach, cafodd hyn ei roi i'r pleidleiswyr yn y blwch pleidleisio, ac fe wnaethant ei wrthod yn llu. Fel y nodwyd eisoes, mae pobl Cymru yn parhau i gefnogi Cymru gref mewn Teyrnas Unedig gref, gyda Llywodraethau Cymru a'r DU yn cydweithio er lles pobl Cymru. Ac fel y mynegwyd eisoes, ni allwn anghofio'r gwaith da a ddangoswyd ledled y Deyrnas Unedig drwy'r pandemig hwn gyda gwerth £6 biliwn o arian ychwanegol yn cael ei roi i bobl Cymru i'n diogelu yma yn ein swyddi, ein hincwm a'n bywoliaeth. Drwy weithio gyda Llywodraeth y DU, nid yn ei herbyn, gallwn fanteisio i'r eithaf ar y Deyrnas Unedig wych hon.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, y ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru yw fel rhan o Deyrnas Unedig gref. Y peth olaf sydd ei angen ar bobl Cymru yw cynigion pellach gan Blaid Cymru ar anhrefn gyfansoddiadol. Ac onid yw'n eironig fod Plaid Cymru yn parhau i wthio'r cyhuddiadau ffug fod Llywodraeth y DU yn rhwygo'r setliad datganoli, ac mewn gwirionedd, Plaid Cymru yw'r unig blaid wleidyddol yng Nghymru sydd am rwygo'r setliad datganoli, er iddo gael ei gefnogi mewn sawl refferendwm? Rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio dros ein gwelliant Ceidwadol a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Diolch yn fawr iawn.
Ac yn olaf, Delyth Jewell.
Oherwydd rwy'n gwybod y bydd hi'n gryno yn ei chyfraniad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Beth yw diben pŵer? Pam ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi defnyddio ein dadl gyntaf yn y chweched Senedd i siarad am gylch gwaith ein deddfwrfa? Wel, mae pŵer yn gyfrwng. Mae'n cynnig gallu i wneud rhywbeth. Mae'n cynnig gallu i newid. Yn ein cynnig, rydym yn nodi meysydd eang eu cwmpas lle byddwn yn llithro'n ôl os na chawn y pwerau hyn gan San Steffan oherwydd rhaid i'r pwerau fodoli yn rhywle ac os nad ydynt yma, byddant yn bodoli yn San Steffan. San Steffan, a fydd ond yn cynnwys 32 o ASau o Gymru cyn bo hir, gostyngiad o 20 y cant—ffigur rwy'n amau y gwelir ei debyg yn unman arall yn y byd yng nghyd-destun colli cynrychiolaeth. Ddirprwy Lywydd, pan oeddwn yn paratoi ar gyfer y ddadl hon, cefais wybod mai'r tro diwethaf i nifer yr ASau o Gymru gael eu newid i 32 oedd yn 1832, blwyddyn y Ddeddf Ddiwygio Fawr, pan gynyddodd nifer ein seddi i'r ffigur hwnnw. Nawr, yn 1831, roedd poblogaeth Cymru yn 904,312. Ers hynny, mae ein poblogaeth wedi cynyddu dros 248 y cant. Ac eto, bydd gennym yr un lefel o gynrychiolaeth ag ar y dechrau. Yn 1832, roedd yn rhaid iddynt ymdrin â bwrdeistrefi pwdr; heddiw, rhaid inni ymdrin â Boris pwdr.
Os nad yw'r Senedd hon yn dal y pwerau y mae ein cynnig yn eu nodi, ni fydd y pwerau hynny'n diflannu. Nid oes gwactod. Byddant yn bodoli yn San Steffan, lle bydd llai o ASau i graffu arnynt. Ni fydd gennym bŵer na llais—cyfnod newydd, nid o ddiwygio mawr, ond o lithro'n ôl.
Un o'r meysydd lle yr hoffem ni weld symudiad fyddai trwy ddatganoli Ystâd y Goron. Buasai hynny nid yn unig yn rhoi hwb i'n heconomi, buasai'n rhoi mwy o reolaeth dros yr adnoddau fydd mor bwysig inni fuddsoddi ynddynt fel rhan o'n hadferiad gwyrdd ac yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn dilyn y refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn 2014, wrth gwrs, datganolwyd Ystâd y Goron i'r Alban, ond yng Nghymru, mae'r refeniw yn dal i ddiflannu i'r Trysorlys ac i Buckingham Palace. Ac mae'r refeniw yna yn sylweddol. Amcangyfrifir y gallai Lywodraeth San Steffan godi lan at £9 biliwn dros y ddegawd nesaf trwy arwerthu tir ar waelod y mor i bobl fydd yn datblygu ffynonellau ynni cynaliadwy. Mae Cymru ar fin colli rhent economaidd werdd o'n hadnoddau ni ein hunain.
A phan drown at brosiectau ynni, mae gennym ni ganiatâd ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy lan at 350 MW, ond mae'n rheolaeth dros isadeiledd y grid, sy'n dosbarthu'r trydan i'n tai yn aros gyda San Steffan. Mae hyn yn amlwg yn cwtogi ar allu Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau mawr. Er enghraifft, y mwyaf amlwg o'r rhain oedd y tidal lagoon yn Abertawe. Doedd San Steffan ddim yn fodlon cefnogi'r prosiect, felly ni ddigwyddodd y prosiect.
Ac wrth sôn am gwtogi ar ein hisadeiledd, beth am y rheilffyrdd? Mae gan Gymru 11 y cant o'r trac rheilffyrdd yn yr ynysoedd hyn, ond mae ond yn derbyn 1 y cant o'r buddsoddiad. Ac er bod trafnidiaeth yn faes sydd wedi ei ddatganoli, dydy isadeiledd y rheilffyrdd ddim. Am lanast, Dirprwy Lywydd, ac mae'r llanast yn golygu bod buddsoddiad unwaith yn rhagor ddim yn dod i drigolion Cymru. Mae'n golygu hefyd ein bod ni'n colli mas ar filiynau o bunnoedd y bydden ni wedi gallu eu cael oherwydd high speed 2 line—arian y bydden ni wedi gallu buddsoddi yn ein gwlad.
Dirprwy Lywydd, gwnaf i gloi trwy ddweud bod y ddadl yma i fod am greu cyfleoedd, am agor gwagle i fyny, dim cau pethau i lawr, fel y mae'r Torïaid yn amlwg eisiau ei wneud. Ond am siom, hefyd, bod y Llywodraeth wedi dechrau tymor newydd trwy ddefnyddio'r un hen dric o 'delete all' ar ein cynnig. Bydd angen mwy o uchelgais na hynny.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Dyma ein cyfle cyntaf ers etholiadau'r Senedd i ystyried rhai o'r heriau cyfansoddiadol difrifol sy'n wynebu Cymru a gweddill y DU, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar i Blaid Cymru am ddewis cyflwyno'r cynnig hwn fel un o'u dadleuon cyntaf yn y chweched Senedd hon. Mae'n debygol mai dyma'r gyntaf o lawer o ddadleuon o'r fath. Yn y Senedd ddiwethaf, fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cofiaf gyflwyno adroddiad ar ddiwygio cyfansoddiadol, a dechreuais fy nghyflwyniad drwy ddweud ei fod, mae'n debyg, yn un o'r adroddiadau mwyaf diflas y byddai'n rhaid i'r Aelodau ei ddarllen, ond i'r un graddau, byddai'n un o'r pwysicaf, ac nid wyf wedi newid fy marn. Felly, mae'r rhai sy'n dweud nad yw'r materion cyfansoddiadol hyn yn bwysig yn sylfaenol anghywir, gan eu bod yn mynd at wraidd ein democratiaeth—maent yn diffinio'r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud, i ba raddau y gallwn wneud penderfyniadau ar y materion sy'n bwysig i bobl Cymru, ein gallu i wella ffyniant a gwneud penderfyniadau a fydd yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru, a dyna pam ein bod ni yma a dyna pam y mae'r Senedd hon yng Nghymru yn bodoli ac mor bwysig i'n dyfodol ac yn wir i ddyfodol y Deyrnas Unedig.
Nawr, er na fyddaf yn cefnogi cynnig Plaid Cymru ar y ffurf y'i cyflwynwyd, mae'n amlwg fod llawer o dir cyffredin ar y mandad ar gyfer diwygio ac ar y meysydd y cytunwn ers tro byd fod angen eu datganoli os ydym am allu cyflawni ein haddewidion i bobl Cymru. Rhaid imi ddweud bod gwelliant y Ceidwadwyr yn siomedig tu hwnt; yn anffodus, mae'n arwydd o blaid sy'n methu wynebu'r gwir. Yn fy marn i, ceir mandad clir a diymwad i ddiwygio. Ni allai'r mandad ar gyfer y Llywodraeth hon fod yn gliriach: fel y nododd ein maniffesto, byddwn yn gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol. Rydym am feithrin sgwrs gyhoeddus genedlaethol yng Nghymru am ein dyfodol. Byddwn yn sefydlu comisiwn annibynnol sefydlog i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Nawr, i ddychwelyd at welliant y Ceidwadwyr, ar bwynt 2, mae'n iawn dweud bod gwaith rhynglywodraethol adeiladol wedi digwydd ac yn parhau i ddigwydd ar gyflawni'r rhaglen fframweithiau cyffredin ar sail gydweithredol. Fodd bynnag, ni allwn sôn am fframweithiau heb dynnu sylw at yr ymosodiad ar ddatganoli sydd wedi'i gynnwys yn rhai o ddarpariaethau Deddf marchnad fewnol y DU.
Ar bwynt 3 yng ngwelliant y Ceidwadwyr, rydym yn cytuno, er enghraifft, fod gwaith ar y rhaglen frechu wedi dangos effeithiolrwydd cydweithio ar draws y pedair gwlad. Yn anffodus, yn rhy aml, cyflawnwyd hyn er gwaethaf Llywodraeth y DU yn hytrach nag o'i herwydd. Y mis diwethaf, traddododd Syr David Lidington, un o Weinidogion Swyddfa'r Cabinet yn Llywodraeth Theresa May, ddarlith ar yr undeb, lle dywedodd ei bod
'mewn mwy o berygl nag ar unrhyw adeg yn ystod fy oes'.
Credaf y byddai'r wrthblaid yn gwneud yn dda hefyd i wrando ar gyngor eu cyn-Aelod David Melding, a ysgrifennodd yn ddiweddar y bydd y Ceidwadwyr yn ennill etholiad yng Nghymru pan fyddant yn hyderus ynglŷn â sut y gallant ddefnyddio'r sefydliadau datganoledig yn greadigol, a bod gan y rhan fwyaf o wladwriaethau rhyngwladol democrataidd strwythur datganoledig neu ffederal. Ac eto, mae gennym Lywodraeth y DU yn awr sydd wedi penderfynu yn wyneb y posibilrwydd o chwalu'r DU, yn hytrach na dewis croesawu newid a cheisio consensws gyda chenhedloedd y DU a rhanbarthau Lloegr, mai'r ffordd ymlaen yw canoli grym a thanseilio datganoli drwy fynd ati'n fwriadol i geisio cyflawni drwy gamdrafod ariannol yr hyn na allant ei gyflawni drwy'r blwch pleidleisio. Mae gennym arweinwyr yn Llywodraeth Geidwadol y DU na all hyd yn oed gyfeirio at 'Lywodraeth Cymru', gan ddewis cyfeirio bob amser yn lle hynny at 'weinyddiaeth ddatganoledig'. Ac rydym yn clywed yn awr nad yw Gweinidogion bellach i fod i gyfeirio at wledydd y Deyrnas Unedig, ond yn hytrach i gyfeirio at y DU fel gwlad. Ddirprwy Lywydd, bydd y strategaeth hon yn methu. Os yw'r Llywodraeth Geidwadol yn credu y gall rwbio Cymru a datganoli allan o fodolaeth fel hyn, byddant yn methu, oherwydd ni all y DU ond goroesi os yw'n gymdeithas go iawn o genhedloedd sofran yn cydweithio gyda phwrpas cyffredin. Nid yn San Steffan y mae sofraniaeth, nac ychwaith yn Holyrood nac yma yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae sofraniaeth yng Nghymru yn bodoli lle mae bob amser wedi bod, gyda phobl Cymru, a mater iddynt hwy bob amser yw sut y maent yn dewis arfer y sofraniaeth honno.
Nawr, bydd yr Aelodau'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo'r ddadl ar ddiwygio cyfansoddiadol. Mae bron i ddegawd ers inni alw gyntaf am gonfensiwn cyfansoddiadol ar ddyfodol y DU, ond mae'r angen i drafod a dadlau am y materion hyn bellach yn fwy nag erioed. Yn fwyaf arbennig, rydym am gynnal sgwrs, ymgysylltiad, â phobl Cymru, i ddod o hyd i gonsensws ymysg dinasyddion a chymdeithas ddinesig ynglŷn â'r ffordd ymlaen ar gyfer datganoli a'r cyfansoddiad. Felly, ar y sail hon byddwn yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad maniffesto i sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Byddwn hefyd yn cefnogi gwaith comisiwn cyfansoddiadol y DU gyfan a sefydlir gan Blaid Lafur y DU. Ein nod yw gweithio ar draws y gwledydd a'r pleidiau gwleidyddol i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddiwygio ein cyfansoddiad yn fwy trylwyr. Rydym wrthi'n llunio ein cynlluniau ar gyfer ein comisiwn, a gobeithiaf wneud cyhoeddiadau pellach am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, ond rwy'n glir iawn y bydd ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru a'r gymdeithas ddinesig yn rhan ganolog o'n dull o weithredu, ac yn y cyfamser, byddwn yn cyhoeddi fersiwn newydd ac wedi'i diweddaru o 'Diwygio ein Hundeb' yn ddiweddarach y mis hwn. Bydd yr Aelodau'n cofio i ni gyhoeddi hwn yn 2019, yn seiliedig ar tua 20 o gynigion ar gyfer llywodraethu'r DU yn y dyfodol. Bydd ein fersiwn newydd yn ystyried datblygiadau ers 2019, gan ystyried goblygiadau ymagwedd Llywodraeth y DU ers mis Rhagfyr 2019 yn ogystal â safbwyntiau pellach ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac academaidd am yr angen i ddiwygio.
Mae'r achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder wedi'i wneud yn gryf gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ond credaf nad yw'n ddefnyddiol cyflwyno rhestr siopa o bwerau pellach rydym am eu cael heb egwyddor arweiniol a heb fynd i'r afael â'r newidiadau strwythurol sydd eu hangen i'w gweithredu a'u hariannu. Dyna oedd 'Diwygio ein Hundeb' yn ei gynnig—gweledigaeth o sut y gallai gwir bartneriaeth weithio rhwng y pedair gwlad yn cymryd rhan yn wirfoddol, gweledigaeth sy'n seiliedig ar barch cydradd, sgwrs reolaidd, ariannu teg a setiau cydlynol o bwerau, gan ddefnyddio egwyddor sybsidiaredd. Nawr, pan fyddwn yn diweddaru'r ddogfen honno, rwy'n gobeithio y bydd yn helpu i hybu sgwrs genedlaethol am ddyfodol y wlad hon. Yn anad dim, mae arnom angen ymgysylltiad gwirioneddol â phobl Cymru i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn yr hyn a fydd yn sgwrs feirniadol a radical am ddyfodol Cymru a'r DU.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwrthod ymgais y Ceidwadwyr i awgrymu nad oes dim o'i le ar y status quo cyfansoddiadol, ac er ein bod yn cytuno â rhai o'r teimladau sy'n sail i gynnig Plaid Cymru, rydym am roi ein bys ar y sgyrsiau mwy sydd eu hangen yn awr am ddyfodol datganoli a'r cyfansoddiad, a gwneud yn siŵr bod barn pobl Cymru yn ganolog yn y sgyrsiau hyn. Dyna fyrdwn sylfaenol ein gwelliant. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Nid oes unrhyw Aelod ychwanegol wedi dweud eu bod yn dymuno siarad. Felly, galwaf ar Rhys ab Owen i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr i chi, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i ddechrau am eiriau caredig Darren Millar?
Mae'n drueni na ddaeth i ben ar ôl y geiriau caredig. Soniodd Darren Millar fod y larymau tân wedi canu yn ystod ei araith gyntaf yn 2007—wel, Darren, rwy'n siŵr bod y larwm yn canu yn uned yr undeb yn Stryd Downing, oherwydd mae Cymru ar gerdded a bydd newid cyfansoddiadol yn digwydd, pa un a ydych yn hoffi hynny neu beidio.
A brysied y dydd y cawn ni ar feinciau'r Ceidwadwyr unwaith eto pobl sy'n fodlon meddwl am faterion cyfansoddiadol mawr fel David Melding—wedi cael ei sôn—fel Nick Bourne ac fel Lisa Francis.
Huw Irranca-Davies—dwi'n falch iawn o'ch clywed chi'n sôn am radical reform.
Roeddwn yn falch o'ch clywed yn dweud am y berthynas rhwng elfennau cydradd. Os felly, pam na allwn ddatgan yn awr pa bwerau rydym eu heisiau? Rydym wedi cael consensws. Pam na allwn ni ddechrau'r broses yn awr? Rydych chi'n dweud, gyda llaw, fod annibyniaeth wedi'i gwrthod yn y blwch pleidleisio. Dylech gael gair gyda chriw Llafur Cymru dros annibyniaeth am hynny, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, a ganfu fod dros 40 y cant o gefnogwyr annibyniaeth wedi pleidleisio dros y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf.
Sioned Williams yn dweud wrthym ni dydyn ni ddim yn moyn pwerau jest er mwyn pŵer. Nid rhyw ego boost yw hwn i'r Senedd. Rŷn ni'n moyn pwerau er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Pam na ddylem ni ddatganoli lles i'r un lefel â'r Alban? Pam nad oes modd i ni gael consensws am hyn nawr? Pam nad oes modd i ni ofyn am hyn nawr? Ddylai plant Cymru, fel dywedodd Sioned Williams, ddim gorfod aros ymhellach am hyn.
Ni ddylai fod disgwyl iddynt aros i gamu allan o dlodi.
James Evans—dryswch ynglŷn â datganoli. Wel, nid yw'n helpu nad yw plismona a chyfiawnder wedi'u datganoli yng Nghymru, ond mae wedi'i ddatganoli ym mhobman arall yn y Deyrnas Unedig—mae plismona wedi'i ddatganoli ym Manceinion, mae plismona wedi'i ddatganoli yn Llundain. Rydych chi'n creu—chi sy'n creu—y dryswch. Ac roedd Heledd Fychan, fy nghyd-Aelod, yn llygad ei lle pan ddywedodd y byddai datganoli darlledu yn helpu i ymdrin â'r dryswch y soniwch amdano. Pe baech yn gofyn i'r rhan fwyaf o bobl allan ar y strydoedd, 'Pwy sy'n ariannu S4C?', byddai'r mwyafrif yn dweud wrthych ei fod yn cael ei ariannu yma ym Mae Caerdydd, ond nid yw hynny'n wir. Mae'n cael ei ariannu o San Steffan. Chi sy'n creu'r dryswch hwnnw, ac nid wyf am dderbyn unrhyw bregethau gan y Blaid Geidwadol am anhrefn cyfansoddiadol fel y sonioch chi, James Evans. Gofynnwch i bobl Gogledd Iwerddon am anhrefn cyfansoddiadol heddiw, am yr hyn rydych wedi'i wneud gyda Brexit.
Mike Hedges, rwy'n falch eich bod yn cefnogi—[Torri ar draws.] Rwy'n falch eich bod yn cefnogi 'devo'—'[Torri ar draws.] Ac fe wnaeth Gogledd Iwerddon, ac rydych chi'n achosi anhrefn yno. Rwy'n falch fod Mike Hedges yn cefnogi 'devo max', ac rwy'n falch fod cefnogaeth drawsbleidiol amlwg, hyd yn oed gan y Ceidwadwyr, i ddatganoli grym. Rwy'n falch o glywed y gallwn barhau i weithio gyda hynny i ddatganoli pŵer o Lundain, ac o Gaerdydd.
Datganoli cyfiawnder—soniodd Sam Rowlands am ddatganoli cyfiawnder, ac na fydd yn helpu neb. Wel, rydych chi'n anwybyddu arbenigwr ar ôl arbenigwr. Rydych chi'n anwybyddu'r cyn Arglwydd Brif Ustus, adolygiad annibynnol a ddywedodd y byddai cyfiawnder yn well o'i arfer o'r fan hon ym Mae Caerdydd, y byddai pobl Cymru yn cael eu gwasanaethu'n well gyda chyfiawnder yma. Rwy'n gwybod bod y Blaid Geidwadol yn mwynhau anwybyddu arbenigwyr, ond ni allwch barhau i anwybyddu comisiwn Silk, comisiwn Thomas, a defnyddio'r un hen ddadl ddiflas drosodd a throsodd.
Fe sonioch chi am ffyrlo, am gymorth Llywodraeth y DU. Wel, ni wnaethoch gefnogi gweithwyr Cymru yn ystod y cyfnod atal byr cyntaf pan wnaeth Llywodraeth Cymru hynny. Ni wnaethoch roi ffyrlo i ni hyd nes y cafodd de-ddwyrain Lloegr eu gosod dan gyfyngiadau symud.
Delyth Jewell—mae pŵer yn gyfrwng i wneud rhywbeth. Unwaith eto, fy mhwynt i: nid ydym yn gofyn am ddatganoli er mwyn datganoli—rydym yn gofyn am ddatganoli er mwyn gwella bywydau pobl Cymru. Cyn bo hir, 32 ASau o Gymru, fel y cawsom ein hatgoffa gan Delyth Jewell. Bydd ein llais yn mynd ar goll. Rydym yn ôl-ystyriaeth ar y gorau yn San Steffan; byddwn yn mynd ar goll yn gyfan gwbl yn awr. Nid oedd Boris Johnson yn gwybod heddiw fod Cymru'n mynd i chwarae yn yr Ewros ddydd Sadwrn hyd yn oed. Dyna lefel y ddealltwriaeth sydd gennym yn San Steffan.
Ac ar Ystâd y Goron—fel yr oedd Delyth yn sôn, enghraifft arall o arian yn cael ei fethu, Cymru yn cael ei methu, dro ar ôl tro. A'r tidal lagoon roedd y Ceidwadwyr yn ei gefnogi am sbel, ac yna ddiflannu i'r difancoll.
Cwnsler Cyffredinol, a gaf i eich llongyfarch chi ar eich apwyntiad? Dwi'n gwybod am y gwaith rŷch chi wedi'i wneud yn hyrwyddo datganoli ers y 1970au, a dwi'n gwybod am eich dyhead i gael Prydain fwy radical a mwy ffederal.
Mae'n drueni mawr—fe sonioch chi fod tir cyffredin—mae'n drueni mawr pan gawsom ein cyfle cyntaf i gydweithio fod Llafur wedi llithro'n ôl eto a dweud 'dileu popeth'. Mae gennym gyfle yma i gael y ffederaliaeth bellgyrhaeddol honno. Pam na allwn ni ddweud yn awr beth rydym ei eisiau? Nid yw'n newydd. Roedd Keir Hardie yn sôn amdano'n ôl ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac iddo ef—iddo ef, i Keir Hardie—roedd ymreolaeth yn golygu yr un lefel â Chanada, Seland Newydd, ac felly nid oes dim yn newydd. Pam na allwn ddatgan yn glir yn awr, 'Dyma'r pwerau sydd eu hangen arnom ar gyfer pobl Cymru'? Pam ein bod yn gohirio pethau unwaith eto? Nid oes arnom angen comisiwn arall i ymdrin â materion lle ceir consensws.
A gaf fi annog yr Aelodau felly i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw—cefnogwch gynnig Plaid Cymru—dros Senedd gryfach a Chymru gryfach, fel y gellir grymuso ein Senedd i gyflawni dros holl bobl Cymru? Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n mynd i atal y cyfarfod cyn symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio.