– Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2021.
Yr eitem nesaf heddiw yw dadl Plaid Cymru ar dlodi bwyd. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7862 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd hon:
1. Yn nodi bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi.
2. Yn nodi ymhellach yr oedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn pandemig COVID-19, ei fod wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig a'r holl arwyddion yw y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu.
3. Yn cydnabod ganlyniadau dwys, dinistriol a pharhaus ansicrwydd bwyd ar iechyd, lles a bywoliaeth pobl.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch hawl i fwyd, sy'n arbennig o feirniadol o ystyried yr argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o sut yr ymdrinir â thlodi o fewn polisi ar sail trawslywodraethol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, mae gennym ddadl arall wedi'i chyflwyno ar dlodi, problem hirsefydlog i'r Senedd hon, ac mae cysylltiadau hysbys na ellir eu gwadu rhwng tlodi ac ansicrwydd bwyd. O gofio bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, nid yw'n syndod bod ansicrwydd bwyd yn broblem fawr sy'n wynebu llawer o aelwydydd yng Nghymru. Wrth gwrs, ceir camau cadarnhaol ar y gorwel: prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd, er enghraifft, rhywbeth rwyf fi, fel rhywun a arferai gael prydau ysgol am ddim, yn hynod falch ohono. Mae gwybod y bydd pob disgybl ysgol gynradd, cyn bo hir, yn cael prydau ysgol am ddim a bod fy mhlaid i a'r Llywodraeth wedi dod at ei gilydd, er gwaethaf ein gwahaniaethau, yn gwneud i mi deimlo'n emosiynol iawn. A phan fydd yn digwydd, mae'n siŵr y bydd yn un o adegau mwyaf balch fy ngyrfa wleidyddol.
Ond rwy'n siŵr na fydd yn syndod i'r Aelodau glywed fy mod yn credu bod angen inni fynd ymhellach eto. Ni ddaeth prydau ysgol am ddim i ben i mi yn yr ysgol gynradd, ond rydym wedi cymryd y cam cyntaf tuag at gynnwys bwyd a mynediad at fwyd yn rhannau hanfodol o'r profiad addysg, ac wrth gwrs, ar ei lefel sylfaenol, dyna rydym yn ceisio'i gyflawni gyda'n cynnig. Dylai'r hawl i fwyd fod yn hawl ddiymwad i bob dinesydd, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang. Ni allwn oroesi na ffynnu hebddo. Dyna pam y dylid ymgorffori'r hawl i fwyd ym mhob polisi sy'n ymwneud â thlodi.
Tlodi yw un o'r ffactorau cliriaf a mwyaf sy'n cyfrannu at ansicrwydd bwyd, ac mae tlodi wedi bod ar gynnydd yng Nghymru yn dilyn blynyddoedd o gyni, twf economaidd wedi'i lesteirio yn sgil COVID-19 a Brexit, a phrisiau cynyddol. Rydym yn gweld argyfwng tlodi bwyd yn deillio o'r dewisiadau gwleidyddol a'r methiannau systemig a grëwyd dros y pedwar degawd diwethaf gan ddod â ni at ymyl y dibyn mewn cynifer o'n cymunedau. A hyn, wrth gwrs, er bod Cymru'n rhan o'r DU, un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd.
Yn 2017 a 2018, profodd bron i un o bob 10 o bobl yng Nghymru lefel isel o ddiogelwch bwyd, ac aeth 14 y cant o bobl yn brin o fwyd cyn y gallent fforddio prynu mwy. Canfu cynghrair tlodi bwyd de Cymru y byddai angen i aelwydydd ag incwm yn yr 20 y cant isaf yng Nghymru wario 36 y cant o'u hincwm i fodloni canllaw Bwyta'n Iach Llywodraeth y DU. Mae'n rhaid i fwy o bobl yng Nghymru newid eu harferion bwyta a phrynu am resymau ariannol na'r cyfartaledd yn y DU, ac mae lefelau ansicrwydd bwyd ymylol hefyd yn uwch yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU. Mae ein system les, ein system ddiogelwch cymdeithasol, yn amlwg yn methu diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas drwy fethu darparu digon ar gyfer bwyd angenrheidiol i'r rhai sydd ei angen. Er mwyn mynd i'r afael yn iawn â thlodi bwyd, rhaid cael newid systemig. Nid yw cynyddu taliadau lles neu gymorth i fanciau bwyd yn mynd i'r afael ag achos sylfaenol y broblem nac yn rhoi'r urddas y mae ganddynt hawl iddo i bobl.
Os caf droi'n fyr at welliannau'r Ceidwadwyr am eiliad, ni fydd cael mwy o bobl mewn gwaith yn datrys y broblem os nad yw'r gwaith hwnnw'n dda neu'n deg. Mae mwy nag un rhan o bump o weithwyr Cymru yn ennill llai na'r cyflog byw go iawn, ac mewn rhai ardaloedd yn ne Cymru mae hyn yn codi i chwarter neu hyd yn oed i draean. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru mewn gwaith ar hyn o bryd, ac roedd un o bob chwech o bobl a gafodd eu cyfeirio at fanciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yn y DU mewn gwaith, sy'n dangos nad yw cyflogaeth yn gallu gwarantu ffordd allan o dlodi. Mae'r gwelliant hefyd yn sôn am gynllun Kickstart Llywodraeth y DU ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed sydd ar gredyd cynhwysol. Mae'n darparu cyllid i gyflogwyr i dalu'r isafswm cyflog cenedlaethol am chwe mis, ond yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc 18 i 20 oed yw £6.56 yr awr. Sut y mae hyn i fod i helpu rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft, i ddechrau byw ar eu pen eu hunain a pheidio â phoeni o ble y daw eu pryd nesaf? Nid yw'n agos digon.
Ar fater plant a phobl ifanc, roeddwn am godi mater tlodi plant ac effaith tlodi bwyd ar blant. Bydd aelwydydd yng Nghymru sydd â phlant yn profi mwy o bwysau ariannol o gostau bwyd cynyddol a thlodi na'r rhai heb blant. Amcangyfrifodd y Sefydliad Bwyd fod deiet iach yn fwyfwy anfforddiadwy yn achos oddeutu 160,000 o blant yng Nghymru. Dair wythnos yn ôl, ar 17 Tachwedd, codais fater tlodi plant Cymru yn y Siambr hon, lle nodais fod 54,000 o barseli banciau bwyd wedi mynd i blant yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, o'i gymharu â dim ond 35,000 yn ystod 2017 a 2018. Ar yr un gyfradd, o heddiw ymlaen, byddai mwy na 3,000 o barseli bwyd wedi mynd i blant yng Nghymru ers imi wneud y datganiad hwnnw. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhagdybio nad yw'r sefyllfa wedi gwaethygu, ac mae llawer o ddangosyddion yn awgrymu y bydd yn parhau i wneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio bod fy sylwadau wedi'u cymryd gan feinciau'r Ceidwadwyr fel rhai adeiladol ac nid fel rhai pleidiol, a dywedaf hyn oherwydd credaf fod hwn yn fater sy'n trosgynnu gwleidyddiaeth plaid. Yn wir, mae'n fater trawsbleidiol. Dylai pawb gael mynediad diogel at fwyd maethlon o safon. Credaf fod hynny'n rhywbeth y gall pob un ohonom gytuno arno, ni waeth beth fo'n credoau gwleidyddol. Dyna'n bendant yw athroniaeth Baobab Bach ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, ac athroniaeth Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n darparu brecwast am ddim mewn ysgolion i'w myfyrwyr, a dyna yw athroniaeth sefydliadau cymunedol eraill sy'n gweithio ar dlodi bwyd ledled Cymru, ac mae pawb ohonom wedi ymweld â sawl un ohonynt ac wedi eu crybwyll cyn hyn yn y Siambr hon.
I gloi, rwyf am ddangos pwysigrwydd yr ymgyrch Hawl i Fwyd a'i natur drawsbleidiol, a thalu teyrnged i'r gwaith sydd eisoes ar y gweill yn San Steffan gan Beth Winter AS ac Ian Byrne AS, y cyfarfûm ag ef yn rhithwir mewn panel Cynulliad y Bobl ar yr union fater hwn. Mae'r ddau wedi bod yn gweithio ar draws y pleidiau i gael hyn ar yr agenda yn San Steffan, gan ennill cefnogaeth ASau Plaid Cymru, ASau'r SNP, ASau Llafur, ASau Ceidwadol, ASau'r Democratiaid Rhyddfrydol—ac rwy'n rhoi'r gorau iddi yn y fan honno gan fy mod yn credu bod yr Aelodau'n deall. Rwy'n gobeithio y gellir efelychu hynny yma yn y Senedd wrth gwrs. Y gwir amdani yw bod arnom ddyletswydd i'n holl etholwyr sy'n byw mewn tlodi bwyd bob dydd o'u bywydau i ddod at ein gilydd yma i ddatrys y broblem. Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Rwy'n cynnig gwelliannau 1, 2 a 3. Fel y dywed ein gwelliant 1, mae gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol. Bob dydd, mae pobl yng Nghymru yn mynd yn llwglyd am eu bod mewn argyfwng. Mae llawer o resymau dros hyn, gan gynnwys incwm isel, dyled, mynediad at fudd-daliadau, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl.
Fel y mae rhwydwaith banciau bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yn datgan, yn aml ni fydd sefydliadau statudol yn gallu ymateb yn ddigon cyflym i'r anghenion hyn, ac eto gall argyfwng tymor byr waethygu'n hawdd i fod yn broblemau hirdymor anodd a chostus fel colli tai neu weithgaredd troseddol. Ar ôl cael gwybod am broblem newyn cudd gan fam leol, lansiodd sylfaenwyr yr ymddiriedolaeth, Paddy a Carol Henderson, fanc bwyd cyntaf Ymddiriedolaeth Trussell o'u sied yn yr ardd yn 2000. Aethant ymlaen i ddatblygu'r egwyddorion sy'n dal i fod yn gadarn heddiw: dylai'r holl fwyd fod wedi'i roi, a dylai gwirfoddolwyr fod â hawl i weinyddu'r bwyd a darparu cymorth emosiynol anfeirniadol. Lansiwyd y banc bwyd cysylltiedig cyntaf yng Nghaerloyw yn 2004.
Pan gyfarfûm ag Ymddiriedolaeth Trussell am y tro cyntaf, ymhell dros ddegawd yn ôl, roeddent yn dweud wrthyf mai eu nod oedd agor banciau bwyd newydd ym mhob tref yn y DU. Mynychais agoriad banc bwyd sir y Fflint yn yr Wyddgrug, banc bwyd cyntaf Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru, bron i ddegawd yn ôl. Yn 2014, lansiodd Ymddiriedolaeth Trussell raglen newydd hanfodol, More Than Food, sy'n dod â gwasanaethau cymorth eraill i mewn i fanciau bwyd, gan weithio mewn partneriaeth ag elusennau a gwasanaethau eraill i gynnig cyngor ar fudd-daliadau, tai, cyllidebu, a chyngor cyfreithiol hyd yn oed. Ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Trussell, mae'r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol yn cynnwys dros 500 o fanciau bwyd annibynnol y DU, sydd wedi ymrwymo i ddyfodol lle mae bwyd da yn hygyrch i bawb. Gan ddod â'r sectorau elusennol, cyhoeddus a busnes ynghyd â chymunedau, mae banciau bwyd yn cynnig ateb cydgynhyrchiol i broblem barhaus.
Ymhen pum mis, bydd Llafur wedi bod yn rhedeg Cymru ers chwarter canrif. Nododd adroddiad Joseph Rowntree ar dlodi yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018 mai Cymru yw'r wlad sydd â'r gyfradd tlodi uchaf o bedair gwlad y DU a hynny'n gyson dros yr 20 mlynedd diwethaf. Fis Tachwedd diwethaf, nododd adroddiad 'Tlodi yng Nghymru' Sefydliad Joseph Rowntree fod
'cyflogau Cymru'n is i bobl ym mhob sector o'u cymharu gyda gweddill y DU' a
'Hyd yn oed cyn y coronafeirws, roedd bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi.'
Canfu ymchwil a wnaed ar ran cynghrair Dileu Tlodi Plant y DU ym mis Mai mai Cymru sydd â'r gyfradd tlodi plant waethaf o holl wledydd y DU. Mae Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a thlotaf o Gymru a rhwng Cymru a gweddill y DU, er iddynt wario biliynau a roddwyd iddynt i fynd i'r afael â hyn ar raglenni o'r brig i lawr na lwyddodd i wneud hynny. Pe baent wedi gwneud hynny, wrth gwrs, byddent wedi anghymhwyso eu hunain rhag cael cyllid pellach.
Yn 2014, ar ôl cyfarfod arall gydag Ymddiriedolaeth Trussell, dywedais yma fod yr ymddiriedolaeth wedi dweud wrthyf
'fod banciau bwyd yn fynegiant o rywbeth sydd wedi bod yn digwydd yn yr eglwysi erioed, sef bwydo’r newynog.'
Ond mae tlodi bwyd wedi bod gyda ni erioed. Roedd yn ei gwneud yn ofynnol i bob un ohonom weithio gyda'n gilydd, gan anghofio unrhyw wahaniaethau gwleidyddol a allai fod gennym, i ganolbwyntio ar y rhai mewn angen. Roeddent yn dweud wrthyf y byddent yn rhoi'r neges hon i bob plaid a phob asiant. Fe addawais eu cefnogi a dywedais wrth y Gweinidog ar y pryd, 'Rwy'n eich annog chi i wneud yr un peth.'
Mae mesurau Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn cynnwys cynyddu'r cyflog byw, gwario dros £111 biliwn ar gymorth lles i bobl oedran gweithio yn y flwyddyn ariannol hon a chyflawni ei chynllun swyddi, gan gynnwys y rhaglen Kickstart sy'n anelu at greu swyddi llawnamser i leihau'r risg o dlodi. Mae ein gwelliant 3 yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni hyn yng Nghymru. Yn ogystal, mae Ymchwil ac Arloesi yn y DU, a noddir gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, wedi comisiynu prosiect ymchwil ar gydgynhyrchu systemau bwyd iach a chynaliadwy ar gyfer cymunedau difreintiedig, dan arweiniad Prifysgol Reading. Gan gydweithio â chymunedau difreintiedig, bydd hyn yn sefydlu dulliau effeithiol o gyd-greu polisïau, cynhyrchion a chadwyni cyflenwi y gellir eu gweithredu ledled gwledydd y DU. O ganlyniad, bydd gan bob dinesydd botensial i wneud penderfyniadau am eu bwyd a bydd ganddynt fynediad at ddeiet sy'n fforddiadwy, yn ddeniadol, yn iach ac yn amgylcheddol gynaliadwy. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o ddulliau trawslywodraethol o fynd i'r afael â thlodi. Diolch.
Mae hon yn ddadl ofnadwy o amserol gan ein bod yng nghrafangau gaeaf anodd eisoes. Mae ffigurau Cyngor ar Bopeth yn dangos bod un o bob pump o bobl eisoes wedi torri'n ôl ar eu siopa bwyd yn ystod y tri mis diwethaf i arbed arian. Mae un o bob 10 yn rhagweld y bydd yn rhaid cael cymorth argyfwng y gaeaf hwn, fel banciau bwyd neu dalebau tanwydd. Cymorth argyfwng, hynny yw, i'w helpu i gael pethau y maent eu hangen i aros yn fyw, oherwydd nid moethusrwydd yw bwyd, ond anghenraid sylfaenol.
Hoffwn ganolbwyntio ychydig ar yr effaith a gaiff newyn bwyd ar iechyd meddwl, oherwydd nid yn gorfforol yn unig y mae newyn yn effeithio ar bobl, nid yn unig drwy gyfyngu ar dwf pobl neu drwy stumog wag; mae newyn yn llwgu pobl o hapusrwydd, mae'n crebachu eu hunan-barch ac mae'n erydu eu potensial. Mae newyn yn caethiwo pobl mewn panig a gofid wrth i'r pryder cyson ynglŷn ag o ble y daw'r pryd nesaf bwyso ar gyflwr meddwl person. Mae'n creithio pobl yn seicolegol a gall sbarduno blinder, embaras, euogrwydd a chywilydd.
Dyma'r realiti sy'n wynebu niferoedd brawychus o bobl yng Nghymru. Dangosodd adroddiad 'Food Security in Wales' fod un rhan o bump o'n poblogaeth yn poeni ynglŷn â rhedeg allan o fwyd. Yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o'n poblogaeth wedi rhedeg allan o fwyd cyn y gallent fforddio prynu mwy. Nawr, mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar yr hawl i fwyd, ac ynghyd â bwyd, byddwn yn cynnwys yr hawl i urddas a bywyd heb bryder am fwyd. Fel y dywedodd Susan Lloyd-Selby o Ymddiriedolaeth Trussell, ni ddylai neb wynebu'r diffyg urddas a ddaw yn sgil bod angen bwyd argyfwng. Ond yn rhy aml yn ein cymdeithas, yn lle hynny, mae tlodi'n cael ei ddarlunio bron fel cosb.
Gadewch inni atgoffa ein hunain am y llynedd, pan oedd y ddadl gymdeithasol ynghylch prydau ysgol am ddim yn Lloegr yn y penawdau, a rhannwyd lluniau o'r dognau tila a roddwyd i blant mewn rhai awdurdodau lleol ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwelsom bupurau wedi'u torri yn hanner mewn cling ffilm, dyrnaid o diwna neu basta mewn bagiau plastig bach pitw. Roedd yn ymddangos i'r byd i gyd fel pe bai'r bobl a roddai'r pecynnau at ei gilydd wedi cael cyfarwyddyd i gyfyngu ar unrhyw obaith y gallai pobl eraill yng nheulu'r plentyn elwa o'r pecynnau hynny. Pa reswm arall dros roi rhan o lysieuyn, neu agor tun o diwna a thynnu dim ond ei hanner allan? Byddai wedi galw am ymdrech i fod mor greulon â hynny. Byddai wedi cymryd amser i fesur yn drefnus union faint o dosturi a chymorth a gâi pob plentyn gyda'r parseli hynny, gan gyfyngu ar bopeth, cadw cap ar y caredigrwydd hwnnw. A pha neges a roddai hynny? Oherwydd nid mater o faeth yn unig yw prydau ysgol a bwyd am ddim fel y cyfryw. Er mor bwysig yw hynny, dylai hefyd ymwneud ag ymdeimlad o ddigon, o beidio crafu byw a chael dim ond digon i allu ymdopi'n unig. Dylai ymwneud â chael mwynhad o fwyd—nid gorfwyta na thrachwant, ond cael digon, teimlo'n gyflawn.
Mae ein perthynas â bwyd yn gymhleth. Mae'n gallu bod yn gysur pan fydd digon, ond gall fod yn fygythiad ac yn artaith pan nad oes digon. Mae'r ymchwiliad i fwyd plant yn y dyfodol yn dyfynnu Siobhan Clifford, pennaeth, sy'n dweud bod plant yn dweud wrthych am
'boenau yn eu stumog... am fynd i'r gwely'n teimlo'n llwglyd... cur pen... blinder... a'r berthynas wyrdroëdig â bwyd y mae hynny'n ei greu'.
Mae rhai plant yn dwyn bwyd o finiau y mae plant eraill wedi taflu bwyd iddynt. Ni ddylid cael llinell sy'n rhannu rhwng pobl sy'n gallu cael mwy o fwyd nag sydd ei angen arnynt tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd cael digon i'w cynnal. Yn amgylcheddol, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn foesol nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n arwain yn wrthnysig at wastraff bwyd ac at brinder bwyd direswm. Y plant hynny sy'n dwyn o finiau.
Ddirprwy Lywydd, mae angen inni edrych ar ein cadwyni cyflenwi, creu system fwyd fforddiadwy a chynaliadwy sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, cefnogi marchnadoedd lleol, cwmnïau cydweithredol, manwerthwyr cymunedol, proseswyr, dosbarthwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau safonau bwyd o ansawdd uchel. Ond tra byddwn yn datblygu'r cadwyni cyflenwi hynny, gadewch inni edrych hefyd ar y cysylltiadau sy'n ein rhwymo, y sylw a roddwn i urddas. Ni ddylai neb fynd i'r gwely'n llwglyd na chael eu gyrru i anobaith drwy boeni o ble y daw eu prydau bwyd. Yng Nghymru, neu mewn unrhyw wlad yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'n falltod na ddylai fodoli.
Mae tlodi bwyd yn bodoli. Mae'n sicr yn bodoli yn nwyrain Abertawe. Yr hyn sydd wedi fy synnu yw banciau bwyd yn dechrau yn yr hyn roeddwn i bob amser yn meddwl amdanynt fel maestrefi cyfoethog gorllewin Abertawe. O'r wyth ward yn Nwyrain Abertawe, mae gan chwech ohonynt fanciau bwyd. Mae'r ddwy sydd heb rai yn agos iawn at fanciau bwyd yn yr ardaloedd cyfagos. Roedd y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu cyn y pandemig COVID-19, mae wedi dyblu i bob pwrpas yn ystod y pandemig, ac mae'r holl arwyddion yn awgrymu y bydd y sefyllfa hon yn parhau i waethygu. Mae banciau bwyd yn Abertawe yn bethau diweddar; hynny yw, ar ôl 2010 yn bennaf. Mae'r rhan fwyaf yn cael eu rhedeg gan sefydliadau crefyddol—eglwysi, capeli a'r mosg—ac mae eraill yn cael eu rhedeg gan bobl yn y gymuned sy'n gofalu am y bobl o'u cwmpas. Eu hunig gymhelliad yw ceisio helpu'r rhai sy'n llai ffodus na hwy eu hunain.
Ers 2010, bu twf enfawr yn nifer y banciau bwyd a'r niferoedd sy'n eu mynychu. Caiff peth o hyn ei yrru gan yr economi gìg ac oriau afreolaidd. Pan fyddwch chi'n gweithio 30 a 40 awr yr wythnos a'ch bod chi'n llwyddo i ymdopi o drwch blewyn, pan ewch i lawr i saith awr yr wythnos ni fyddwch yn llwyddo i ymdopi. Wrth gwrs, ni chaniateir i chi fod yn sâl. Dyna pam y mae cynifer o bobl wedi bod yn amharod i hunanynysu yn ystod COVID. Byddai eu plant yn mynd yn llwglyd pe baent yn hunanynysu, ac mae hynny wedi bod yn broblem nad yw wedi cael sylw.
Pe bawn i, 40 mlynedd yn ôl, wedi dweud wrthyf fy hun yn 21 oed y byddai pobl yn mynd yn llwglyd yng Nghymru, a bod banciau bwyd yn dod fel y ceginau cawl newydd, ni fyddwn wedi credu y gallai hynny ddigwydd. Byddwn wedi dweud, 'O ddifrif, nid 2021 rydych chi'n ei feddwl—1821 rydych chi'n ei feddwl'. Pobl yn mynd yn llwglyd; cofiwch y rhai ar y dde a ddywedodd, 'Nid oedd gennym dlodi yn y wlad hon, roedd popeth yn iawn, nid oes neb yn mynd yn llwglyd'. Wel, mae hynny wedi newid, onid yw? Mae pobl bellach yn llwglyd o eisiau bwyd. Mae'r toriad creulon yn y credyd cynhwysol wedi gwneud pethau'n llawer gwaeth i lawer o deuluoedd. Fe gofnodaf rai enghreifftiau o dlodi bwyd. Y fam nad oedd wedi bwyta ers tridiau fel y gallai ei phlant fwyta, a ddechreuodd agor a bwyta tun o ffa pob ar unwaith wedi iddi ei gael mewn banc bwyd. Y fenyw a ddywedodd wrthyf mai un ffordd o gadw'ch stumog yn llawn oedd bwyta papur toiled, neu bapur arall, a fyddai wedyn yn eich llenwi. Neu rywun yn gofyn yn y banc bwyd am fwyd nad oedd angen ei gynhesu am na allent fforddio ei gynhesu. Croeso i Gymru'r unfed ganrif ar hugain.
Gallai fod wedi bod yn wahanol pe bai'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu ochri gyda Llafur ac nid y Ceidwadwyr yn 2010, a chyflwyno degawd o gyni. Ac mae 'cyni' yn air mor niwtral. Yr hyn y mae wedi'i olygu yw llawer o bobl yn oer ac yn llwglyd. Dyna pam y mae llawer ohonom wedi bod yn gofyn am ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim dros wyliau'r haf. Dyna pam y mae llawer ohonom wedi bod yn gofyn am ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol gynradd, ac eithrio'r rhai mewn ysgolion sy'n talu ffioedd.
Yn olaf, rwy'n rhoi ac yn casglu i'r banciau bwyd lleol, ac rwy'n diolch i'r South Wales Evening Post am gyhoeddi fy ngheisiadau, ac a gaf fi ddiolch hefyd i'r holl bobl sy'n rhoi er mwyn helpu eraill? Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at gymdeithas lle nad oes angen banciau bwyd, lle nad oes neb yn mynd yn llwglyd. Dywedwyd wrthyf mai iwtopia newydd rhyfedd yw hynny. Rwyf wedi dweud nad yw hynny'n wir—dyma sut oedd hi yng Nghymru'r 1960au a'r 1970au y cefais fy magu ynddynt, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn symud yn ôl at hynny cyn gynted â phosibl.
Mae'n sefyllfa enbyd lle mae mynediad at fwyd allan o gyrraedd llawer o bobl yn un o wledydd cyfoethocaf y byd. Rwy'n croesawu'r ymrwymiad i brydau ysgol am ddim yn y cytundeb cydweithio. Rwyf hefyd yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i incwm sylfaenol cyffredinol. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn gostwng cyfraddau tlodi cyffredinol yng Nghymru 50 y cant, a byddai tlodi plant yn gostwng 64 y cant, gan ddod â'r gyfradd islaw 10 y cant, i lawr o'i lefel bresennol, sef 28 y cant.
Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, dysgais am anialwch bwyd, sy'n disgrifio un o bob pum cymuned yng Nghymru mewn gwirionedd. Os ydych chi'n byw mewn anialwch bwyd, byddwch yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar fwyd fforddiadwy, ffres. Gallai hynny fod oherwydd eich bod yn ddibynnol ar siopau llai sy'n lleol, y gwyddys eu bod yn codi mwy am yr un cynhyrchion wrth gwrs, a hynny am na allwch gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy. Ac mae hynny yr un fath mewn ardaloedd gwledig fel sir Benfro neu Geredigion ag yng Nghaerdydd ddinesig.
A bydd tlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd yn waeth byth oherwydd Brexit. Mae ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd wedi ymrwymo i gynhyrchu bwyd o ansawdd da, ond maent angen cefnogaeth, nid cytundebau ag Awstralia, a fydd yn arwain at fwyd o ansawdd gwael. Nid yw'r sefyllfa'n ymwneud â thlodi bwyd yn unig. Mae hefyd yn gyfuniad o Brexit, COVID a newid hinsawdd, ac anghydraddoldebau cymdeithasol dwfn, ansicrwydd rhanbarthol, a chyni economaidd a dirwasgiad. Mae hyn i gyd yn golygu mai'r teuluoedd sydd eisoes yn wynebu pwysau ariannol enfawr, teuluoedd sy'n dibynnu ar fanciau bwyd, heb fynediad at fwyd ffres, sy'n talu mwy mewn siopau bach lleol, a fydd yn cael eu taro galetaf gan gytundeb Brexit gwael y Ceidwadwyr. Mae'n mynd i olygu trafferthion i deuluoedd sy'n wynebu argyfwng costau byw yn barod; i'n systemau bwyd, mae'n golygu eu bod yn cael eu tanseilio; i'n manwerthwyr, sydd wedi gorfod cael eu galwadau am adeiladu mwy o sefydlogrwydd wedi'u hanwybyddu gan San Steffan. Felly, fel yr wythnos diwethaf, rwy'n mynd i annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach ac yn gyflymach ar syniadau fel incwm sylfaenol cyffredinol a choelcerth dyledion, er mwyn lleddfu'r pwysau uniongyrchol ar deuluoedd, yn ogystal ag edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i adeiladu diogelwch bwyd a mynediad at fwyd i mewn i bolisïau a chynlluniau yn fwy hirdymor. Rwy'n croesawu'r dull o weithredu polisi trawslywodraethol, yn y cynnig hwn, ar dlodi bwyd, a byddwn hefyd yn croesawu dull trawsbleidiol o weithredu. Ymadrodd Ymddiriedolaeth Trussell yw,
'Rydym yn mynd i greu DU lle nad oes angen banciau bwyd'.
A dyna y dylem i gyd anelu ato. Diolch yn fawr iawn.
Clywch clywch, Jane Dodds. Cytunaf yn llwyr â'ch safbwynt terfynol yno. Fel rydym i gyd yn gwybod o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain, roedd y defnydd o fanciau bwyd wedi bod yn cynyddu ers blynyddoedd cyn y pandemig, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn dweud bod y galw am fanciau bwyd yn eu rhwydwaith wedi cynyddu 128 y cant rhwng 2015 a 2020. Yn ystod y pandemig, mae hyn wedi cynyddu'n gyflym ac yn sylweddol, gydag Ymddiriedolaeth Trussell yn nodi cynnydd o 11 y cant yn y galw rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021, o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Yng Nghymru, dosbarthodd Ymddiriedolaeth Trussell dros 145,828 o barseli bwyd argyfwng tri diwrnod i aelwydydd yng Nghymru dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Gadewch i'r ffigur hwnnw suddo i mewn: 145,828 o barseli bwyd argyfwng tri diwrnod mewn un flwyddyn yma yng Nghymru.
Yn fy rhanbarth i yng Nghanol De Cymru, hoffwn roi rhai enghreifftiau. Rhannodd banc bwyd Taf-Elái yn ddiweddar eu bod wedi rhoi 1,163 o barseli banc bwyd allan, a bod 397 o'r rhain ar gyfer plant. Ym mis Hydref, nododd banc bwyd y Fro ei fod wedi bod ar agor ers 10 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd wedi darparu 36,000 o barseli bwyd i bobl leol mewn argyfwng. A nodwch y gair 'nodi', yn hytrach na 'dathlu' cyrraedd y garreg filltir hon, gan nad oes dim i'w ddathlu yn y ffaith bod banciau bwyd wedi gorfod dod mor gyffredin ledled Cymru. Byddwn yn gobeithio ein bod i gyd yn unedig yn y farn na ddylai banciau bwyd, o dan unrhyw amgylchiadau, ddod yn rhan sefydliadol o gymdeithas Cymru.
Nid yw'r ffigurau hyn ar eu pen eu hunain yn egluro maint y defnydd o fanciau bwyd yng Nghymru yn llawn, gan fod y ffigurau ond yn ymwneud â banciau bwyd yn rhwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell, ac nid y cannoedd o ddarparwyr cymorth bwyd annibynnol a grwpiau cymunedol sydd hefyd yn darparu cymorth, megis Rhondda Foodshare a'r pantri cymunedol yng Nghilfynydd. Ac er bod 200,000 o blant a'u teuluoedd yn mynd yn llwglyd yng Nghymru, onid yw'n greulon o eironig fod gennym broblem enfawr ar yr un pryd gyda gwastraff bwyd, gyda thua 500,000 tunnell o fwyd yn cael ei wastraffu yma yng Nghymru bob blwyddyn? Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod hyn yn 1.3 biliwn tunnell o fwyd sy'n cael ei wastraffu neu ei golli bob blwyddyn—traean o gyfanswm y bwyd a gynhyrchir ar gyfer pobl. Roeddwn yn arswydo wrth ddarllen mewn erthygl ddiweddar yn The National gan Leanne Wood fod Tesco, mewn cyfarfod diweddar a gynhaliwyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth y DU ac archfarchnadoedd mawr, wedi cyfaddef bod 50 tunnell o fwyd bwytadwy yn cael ei daflu bob wythnos oherwydd prinder gyrwyr.
Er bod mentrau blaenorol Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i helpu i leihau gwastraff bwyd, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno bod mwy i'w wneud, ac mae mesurau y gallai Llywodraeth Cymru eu harchwilio i fynd i'r afael â'r broblem yn cynnwys annog pob busnes yng Nghymru i ymrwymo i dargedu, mesur a gweithredu ar wastraff bwyd; annog busnesau yng Nghymru i ddangos eu cyfrifoldeb cymdeithasol drwy lofnodi ymrwymiad Courtauld 2024 i fynd i'r afael â gwastraff bwyd a chefnogi ailddosbarthu; a hefyd, gallem gynnwys gwastraff bwyd fel ffactor yng nghontract economaidd Llywodraeth Cymru.
Hoffwn gloi fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ystyried pam rwy'n cefnogi'r cynnig heddiw. Er y gall gollwng ychydig o roddion i fanc bwyd—rhywbeth y mae pob un ohonom wedi'i wneud yn ddi-os—fod yn arwydd gweladwy o gefnogaeth i fynd i'r afael ag ansicrwydd a newyn bwyd, fel gwleidyddion nid yw hyn yn ddigon. Mae'r cynnig heddiw yn ymrwymo pob un ohonom i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd maethlon i'w fwyta. Ni ddylai neb fod yn llwglyd yng Nghymru yn 2021. Ni ddylai cymorth bwyd ychwaith ddisodli'r urddas a'r dewis a roddir i'r rhai ar incwm uwch, fel ni ein hunain. Wrth ddiolch i fanciau bwyd a'u gwirfoddolwyr am bopeth a wnânt, gadewch inni ymrwymo heddiw hefyd i weithio i sicrhau nad oes angen iddynt fodoli. Bydd honno'n adeg i ddathlu.
Rwy'n siarad i gefnogi'r prif gynnig, sy'n cefnogi'r hawl i fwyd. Nodwyd yr hawl i fwyd yng nghyfamod rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU yn ôl yn 1976, ac mae'n dweud:
'Gwireddir yr hawl i fwyd digonol pan fydd gan bob dyn, menyw a phlentyn, ar ei ben ei hun neu yn y gymuned gydag eraill, fynediad ffisegol ac economaidd bob amser at fwyd digonol neu fodd o'i gaffael'.
Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod sicrhau diogelwch bwyd i bawb felly yn rhagofyniad ar gyfer gwireddu'r hawl ddynol hon. Ar y diffiniad hwn—y diffiniad cyfreithiol hwn—rydym yn methu yn y dyletswyddau o dan gyfamod y Cenhedloedd Unedig ar yr hawl i fwyd, fel y mae'r cynnydd yn nifer y banciau bwyd yn tystio.
Yn ôl yn 2010, pan oeddwn yn AS, pan oedd Llafur mewn grym, roedd un banc bwyd yn gweithredu yn fy etholaeth i, sef Ogwr—un. Roedd wedi'i leoli yn Eglwys y Bedyddwyr Bethel ym Mhont-y-clun. Erbyn hyn mae gennym fanciau bwyd ym mhob cymuned. Mae ystadegau o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell yn tynnu sylw at y galw cynyddol am fanciau bwyd ers 2010 ac oes cyni. A thros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wedi dyfnhau ymhellach yn sgil effaith y pandemig. Bydd rhai'n dweud, fel y clywsom yma heddiw, fod y cynnydd mewn banciau bwyd yn Ogwr ac ar draws y DU yn wir, yn dyst i haelioni gwirfoddolwyr a rhoddion gan y cyhoedd. Yn sicr. Ond gadewch i ni beidio â chuddio rhag y ffaith bod hyn hefyd yn arwydd erchyll o ddegawd o gyni cosbol a pholisïau lles sy'n gorfodi'r rhai sy'n agored i niwed, gan gynnwys teuluoedd sy'n gweithio, i ddibynnu ar fanciau bwyd. Ac mae'n fethiant parhaus, a wnaed yn waeth yn ystod y pandemig. Bydd unrhyw un sy'n gwirfoddoli mewn banc bwyd yn dweud, 'Mae'n arwydd o fethiant arweinwyr gwleidyddol eu bod yn bodoli o gwbl.' Rhaid iddynt fod yno; nid ydynt eisiau bod yno.
Y llynedd, darparodd Ymddiriedolaeth Trussell ei hadroddiad diweddaraf, fel y nodwyd. Dangosodd effaith gynyddol y pandemig ar y rhai a oedd eisoes wedi'u dinistrio gan ddegawd o gyni a thoriadau i nawdd cymdeithasol a llai o gymorth i'r rhai ar gyflogau isel. Roedd yn ddigon drwg drwy'r 2010au, ond mae banciau bwyd bellach yn darparu 130 y cant yn fwy o barseli bwyd argyfwng na'r hyn a wnaent bum mlynedd yn ôl. Gwelwyd cynnydd o draean yn nifer y parseli bwyd argyfwng a ddosbarthwyd ers y flwyddyn flaenorol yn unig, gyda 2.5 miliwn o barseli bwyd argyfwng yn yr unfed ganrif ar hugain wedi'u dosbarthu i bobl mewn argyfwng dros y flwyddyn. Yng Nghymru, mae'r cynnydd wedi codi o bron i 88,000 bum mlynedd yn ôl i 146,000 o barseli bwyd argyfwng yng Nghymru eleni. Mae'n gyfartaledd o ddau barsel y funud yn cael eu dosbarthu i deuluoedd â phlant—cynnydd o 36 y cant o un flwyddyn i'r llall. Yng Nghymru, rhoddwyd un parsel i deulu bob 10 munud. Mae hyn yn warthus. A rhan fach iawn o'r darlun truenus yw hyn. Fel y soniwyd, ni chafodd dros 500 o ddarparwyr cymorth bwyd annibynnol ychwanegol a gefnogir drwy'r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol mo'u cynnwys, na'r amrywiaeth o ddarparwyr bwyd cymunedol sydd hefyd yn gweld patrymau tebyg. Nawr, nid oes gennym yr holl ysgogiadau at ein defnydd yn Llywodraeth Cymru i ddatrys y broblem gynyddol hon, ond mae gennym arfau pwerus a all helpu i lenwi'r bwlch newyn a adawyd gan bolisïau'r DU.
Y £52 miliwn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod disgyblion cymwys yn cael darpariaeth yn lle eu prydau ysgol am ddim arferol tra byddant yn methu mynychu'r ysgol yn ystod y pandemig—fe helpodd hynny'n fawr, a gwelais hynny ar lawr gwlad yn fy etholaeth i. Y £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol hefyd—rwyf wedi ymweld â'r cynlluniau hynny yn fy ardal i; rwyf wedi'u gweld yn gweithio ac rwyf wedi gweld y lles a wnânt. Yn ddiweddar ymwelais â Big Bocs Bwyd—prosiect BBB—yn ardal tasglu'r Cymoedd. Mae'n helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth gynnar o ddewisiadau bwyd iach, tra'n darparu bwyd am bris fforddiadwy i deuluoedd mewn cymunedau sydd angen cymorth. Gallwn weld hyn mewn mannau fel ysgol Garth yng nghwm Llynfi yn fy etholaeth; mae'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn barod.
Wrth gwrs, fel y crybwyllwyd, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i roi trefniadau ar waith dros y blynyddoedd nesaf i ddarparu pryd ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru—pob un ohonynt—fel na ddylai unrhyw blentyn byth fod yn yr ysgol yn llwglyd, a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fenter pantri bwyd anhygoel yn fy ardal i a rhannau eraill o'r Cymoedd, sy'n darparu miloedd o fagiau o fwyd fforddiadwy i drigolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae angen i Lywodraeth y DU chwarae eu rhan; fel arall, rydym bob amser yn nofio yn erbyn llanw sy'n ysgubo'r rhai agored i niwed a'r rhai ar gyflogau isel ymaith. Ond nid oes amheuaeth y gallwn hefyd wneud llawer ein hunain drwy Lywodraeth Cymru weithredol, sy'n canolbwyntio ar dlodi bwyd yn ogystal â thlodi cyffredinol, a chefnogaeth y Senedd hon. Gadewch inni wneud yr hawl i fwyd yn real i bawb.
Diolch i Blaid Cymru a Luke Fletcher am gyflwyno'r ddadl heddiw. Os caf, hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad i ehangu cwmpas y cynnig gwreiddiol i ffwrdd o effaith costau byw ar dlodi bwyd yn unig. Mae'n bwysig ein bod yn ystyried yr ystod eang o ffactorau economaidd-gymdeithasol a all ddylanwadu ar allu person i gael gafael ar fwyd a pha fwyd y gallant ei gael, a'r pwynt olaf un a wneuthum yw'r un yr hoffwn ganolbwyntio arno'n benodol. Mae'n rhywbeth sydd wedi'i drafod fel rhan o fy nghynnig ar gyfer Bil bwyd, a drafodwyd yma heb fod yn rhy hir yn ôl, ac rwy'n falch fod yr Aelodau wedi ei gefnogi.
Gwn ein bod i gyd yn cytuno bod tlodi bwyd yn gwbl annerbyniol ac nad oes angen iddo fodoli. Mae angen inni weld gweithredu gan bob Llywodraeth i sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i bawb, nid yn unig yma yng Nghymru ond yn y DU gyfan. Ond yng Nghymru gallwn wneud mwy. Mae angen inni wneud mwy—ac nid wyf am geisio dod o hyd i lawer o bobl i'w beio—oherwydd mae'r pethau hyn yn bethau y mae gennym bwerau i'w gwneud. Fel pobl yn y lle hwn, mae gallu gennym i wneud gwahaniaeth ac i wneud pethau. Mae geiriau cynnes yn iawn, ond gweithredoedd yw'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn, ac mae gennym bŵer i wneud y pethau hyn.
Yn ôl yn 2016, dadleuodd adroddiad gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae'r cynnydd mewn tlodi bwyd, efallai'n fwy nag unrhyw faes polisi bwyd arall, yn dangos natur aml-ddimensiwn bwyd a'r heriau y mae hyn yn eu creu i lunwyr polisi.'
Credaf mai dyma pam y mae arnom angen strategaeth fwyd gyfannol, drosfwaol i Gymru—un sy'n dwyn ynghyd y dulliau gweithredu amrywiol. Mae llawer o sefydliadau trydydd sector ledled y wlad yn gwneud gwaith gwych, ond gallem ddod â hwy at ei gilydd mewn dull unedig sy'n ymdrin â'r problemau strwythurol yn ogystal â'r rhai economaidd-gymdeithasol. Oherwydd daw tlodi bwyd ar sawl ffurf; nid yw'n ymwneud â'r gallu i brynu bwyd yn unig, ond pa fwyd y gall person ei gael. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng y gallu i brynu bwyd brys a phrydau parod, er enghraifft, a'r gallu i brynu a defnyddio bwyd maethlon o ansawdd da. Dyma lle mae angen inni ystyried sut y gall pethau fel ysgolion a cholegau wella addysg bwyd, fel bod pobl yn gwybod sut i ddefnyddio bwyd mewn ffordd fuddiol, fel y trafodais yn gynharach y prynhawn yma gyda'r Gweinidog addysg.
Mae angen inni hefyd ystyried sut y gall cynhyrchwyr bwyd ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros sicrhau bod eu cynnyrch yn bodloni'r nodau llesiant, yn ogystal â sut yr awn â'r cynnyrch lleol, iach hwn i stondinau marchnad a silffoedd archfarchnadoedd. Dyma lle gall pethau fel cynlluniau bwyd lleol chwarae rhan. Ac oes, mae angen inni ystyried sut y gwnawn y bwyd yn fwy fforddiadwy a deniadol i bobl, yn ogystal â sicrhau bod pobl yn gallu prynu'r bwyd yn y lle cyntaf.
I gloi, Lywydd, rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi teimlo bod fy sylwadau'n adeiladol. Yn y pen draw, mae gan bob person hawl i gyflenwad bwyd maethlon a digonol, fel y nododd Mark Isherwood wrth ddechrau, ond mae achosion tlodi bwyd yn gymhleth ac yn gysylltiedig yn anorfod â ffurf a swyddogaeth y diwydiant bwyd ei hun. Os ydym yn mynd i drechu tlodi bwyd o'r diwedd, dyna lle credaf fod angen inni ddechrau. Diolch.
Wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae’r ddadl hon yn un amserol, ac rydym ni wedi clywed y geiriau yna lot heno. Ond mae’n ein hatgoffa ni o'r rhai fydd yn mynd heb ddim dros gyfnod yr ŵyl. I’r bobl yma, fydd dim anrhegion, fydd dim gwledda—fydd dim hyd yn oed partïon cudd iddyn nhw gael eu gwadu. Y gorau y gall llawer obeithio amdano ydy to uwch eu pennau, digon o wres i’w cadw nhw’n gynnes, a digon o fwyd yn eu boliau i leddfu rhywfaint ar y boen o fod yn llwglyd. Fel y noda’r ddadl hon, mae bron i chwarter o bobl Cymru mewn tlodi. Mae hynny’n gyhuddiad brawychus o’r status quo yn y wlad yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hefyd yn gymhelliant cryf inni alw am newid, ac annibyniaeth yn y pen draw, oherwydd gallwn ni wneud cymaint yn well na hyn. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell na hyn.
Mae'r cynnydd diflas a meteorig yn nifer y banciau bwyd yn atgoffa dyn o nofelau Dickens. Mae'n fy mhoeni bod cymaint o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac nad yw cynifer ohonynt yn gallu gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae hyn yn wir am bobl hŷn sydd ar incwm sefydlog a heb gyfle i'w gynyddu. Mae banciau bwyd wedi bod yn rhwyd ddiogelwch bwysig i bobl ar y llinell dlodi neu oddi tani, ond mae pobl hŷn yn ei chael hi'n anos cyrraedd banciau bwyd oherwydd problemau symudedd a hygyrchedd. Mae newyn ymysg pobl sydd ar eu pensiwn yn peri pryder arbennig i'n gwasanaeth iechyd, oherwydd bod diffyg maeth yn un o brif achosion dirywiad yng ngweithredoedd y corff a marwolaethau ymhlith pobl hŷn. Gall diffyg maeth mewn pobl hŷn arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth, cwympiadau a thorri esgyrn, oedi wrth wella o salwch, a chyfnodau hirach yn yr ysbyty i enwi ond ychydig.
Nid yw'n syndod, felly, fod derbyniadau i ysbytai gyda diagnosis o ddiffyg maeth wedi mwy na dyblu yn y saith mlynedd i 2017, gyda chyfraddau uchel mewn pobl hŷn rhwng 60 a 69 mlwydd oed. Ers cyhoeddi’r ffigurau hynny, rydym wedi cael pedair blynedd arall o Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Mae eu diwygiadau yn y wladwriaeth les wedi arwain at doriadau sylweddol mewn gwariant cyhoeddus, gofal cymdeithasol i bobl hŷn, ac ar wasanaethau cymunedol. Mae hyn yn cael canlyniad gwariant uniongyrchol yma yng Nghymru. Unwaith eto, dyma enghraifft o’r Torïaid yn San Steffan yn dangos eu bod yn gwybod pris popeth a gwneud dim. Fel y gwelsom yn ystod y dyddiau diwethaf, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod gwerth bod yn agored ac yn dryloyw chwaith.
I ddychwelyd at fanciau bwyd, un o'r agweddau mwyaf gofidus ar y gwaith hwn yw'r parseli bwyd sy'n barod i'w bwyta ar unwaith. Pam, gallech ofyn, y mae hyn yn peri gofid neu hyd yn oed yn angenrheidiol? Y rheswm amdano yw nad oes gan rai pobl fynediad at gyfleusterau coginio, neu ni allant fforddio cynnau'r trydan neu'r nwy i goginio'r bwyd. Faint o bensiynwyr fydd yn wynebu'r broblem hon y gaeaf hwn oherwydd costau tanwydd rhy uchel sydd i godi eto eleni? Dylem wneud yn well na hyn. Fe allwn wneud yn well na hyn. Rhaid inni wneud yn well na hyn. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn am sôn am y bobl hyn nad ydynt yn gallu rhoi'r cwcer ymlaen, oherwydd roedd hynny'n rhywbeth y dywedwyd wrthyf amdano pan ymwelais â phrosiect yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn Trowbridge a Llaneirwg yn ddiweddar—fod rhai pobl yn gorfod gwario cymaint o arian ar wresogi eu cartrefi llaith fel nad oes ganddynt ddigon o arian i dalu am y cwcer. Rwy'n poeni'n fawr am hynny, ond rwyf hefyd eisiau gwybod llawer mwy, oherwydd er bod y ffwrn yn ddrud iawn, nid yw rhoi'r cwcer ymlaen yn defnyddio cymaint â hynny o nwy neu drydan, ac rwy'n awyddus iawn i edrych ar y broblem hon, oherwydd nid yw pobl yn bwydo eu hunain yn iawn ym misoedd y gaeaf os na allant goginio a bwyta pryd poeth.
Mae'n fater pwysig tu hwnt, ac yn un y teimlaf fod gwir angen inni edrych arno, oherwydd mae bwyd brys yn ddrud iawn pan ystyriwch ei werth maethol gwael. Ac mae'n rhaid i chi gymharu—. Mae'n rhoi boddhad ar unwaith, ond nid yw'n rhoi maeth i bobl. Felly, credaf fod llawer o gymhlethdod yn perthyn i'r broblem hon, a chredaf fod Peter Fox wedi cydnabod hynny. Mae'n fwy na'r toriad gwarthus yn y budd-daliadau a pholisïau bwriadol Llywodraeth y DU i gadw budd-daliadau ar gyfradd lawer is na'r cynnydd yng nghostau byw, ond credaf ei fod yn ymwneud â newid ein perthynas â bwyd mewn gwirionedd.
Mae gennyf etholwr sy'n gweithio'n ddiflino gyda phobl ifanc, ac sydd wedi gwneud hynny ers tua 30 mlynedd, ar eu cael i wneud chwaraeon. Mae'n un o deulu o 12, ac fe ddywedodd, 'Wel, roeddem bob amser yn dlawd, ond roeddem yn hapus adeg y Nadolig cyn belled â'n bod yn cael ychydig o afalau a thanjerîns.' Ac yn y dyddiau hynny, roedd tanjerîns yn brin, nid yn bethau gydol y flwyddyn; roeddent yn drêt. Un o'r problemau yma yw ein bod yn byw mewn cymdeithas lle mae cymaint o ddigonedd ym mhobman, a chaiff ei ddisgrifio i ni ar ein sgriniau teledu bob nos a gall pawb ei weld. Mae pawb yn gwylio'r teledu, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu fforddio rhoi'r cwcer ymlaen. Mae hynny'n rhan o'r broblem.
Mae traean o'n holl fwyd yn y wlad hon yn cael ei wastraffu. Ni allwn ddweud ein bod yn byw yn yr un math o anialwch bwyd ag y maent yn byw ynddo yn Eritrea neu leoedd eraill yr effeithir arnynt gan newid hinsawdd; mae'r broblem hon yn llawer mwy cymhleth na hynny. Nid yw hynny'n golygu nad yw'r manteision wedi'u gosod yn rhy isel yn fwriadol, a bod pobl yn y contractau tymor byr hyn, contractau dim oriau sy'n ei gwneud yn wirioneddol anodd i bobl gyllidebu, ac mae'n anochel eu bod yn mynd i ddyled. Dyna un o'r rhesymau pam y mae'n rhaid iddynt droi at fanciau bwyd, oherwydd maent wedi gorfod defnyddio unrhyw gyflogau y maent wedi'u cael yr wythnos honno er mwyn ad-dalu'r dyledion y maent wedi mynd iddynt pan nad oeddent mewn gwaith. Dyna un o'r problemau gyda chredyd cynhwysol: mae'n mynd i fyny ac i lawr fel io-io, ac mae cyn lleied o sicrwydd ynghlwm wrtho.
Rwyf am edrych ychydig yn fanylach ar y gwelliant gan y Ceidwadwyr, oherwydd rydych wedi gofyn am ddileu ail baragraff y cynnig, sy'n sôn am y cynnydd yn nifer y banciau bwyd. Tybed pam nad ydych yn barod i dderbyn y cynnydd a fu yn nifer y banciau bwyd, oherwydd gallwn i gyd gynhyrchu llawer iawn o dystiolaeth i ddweud bod hynny wedi digwydd. Credaf hefyd ei fod yn ymwneud â rhywbeth yr heriais Gareth yn ei gylch ddoe, ynglŷn ag a yw Llywodraeth y DU yn gwneud asesiadau o'r effaith ar hawliau plant. Rwy'n siŵr nad ydynt yn gwneud hynny, yn syml am mai dim ond edrych ar y ffordd y maent wedi lleihau gwerth budd-dal plant sy'n rhaid i chi ei wneud, sef y peth olaf y gall pob mam ddibynnu arno, hyd yn oed pan fydd popeth arall wedi diflannu, pan fydd eu perthynas wedi chwalu a'u bod wedi gorfod dianc o aelwyd dreisgar. Ym mis Ebrill 2010, roedd yn £20.30 ar gyfer y plentyn cyntaf a £13.40 ar gyfer unrhyw blentyn arall; nawr, mae'n £21.15 ar gyfer y plentyn cyntaf a £14 ar gyfer plant eraill. Felly, dyna gynnydd o 85c mewn 11 mlynedd ar gyfer y plentyn cyntaf, a 60c ar gyfer plant eraill. A bydd unrhyw un sy'n mynd i siopa yn gwybod bod prisiau bwyd wedi codi'n aruthrol—yn aruthrol—yn ystod y misoedd diwethaf yn unig o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn bennaf, ac eto—. Dyna un o brif ffynonellau tlodi.
Bydd angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Fe ddof â fy nghyfraniad i ben. Mae hon yn broblem gymhleth ac mae llawer mwy y mae angen inni ei wneud, ond o leiaf mae bwydo plant mewn ysgolion—pob plentyn—yn mynd i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei fwydo'n briodol o leiaf.
Ychydig wythnosau'n ôl, cefais y fraint o gyfarfod â'r gwirfoddolwyr ym manc bwyd Kings Storehouse yn y Rhyl. Banc bwyd annibynnol yw Kings Storehouse sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr o Ganolfan Gristnogol Wellspring. Fe'i sefydlwyd yn 2012 pan welodd yr eglwys bobl yn lleol a oedd yn mynd drwy gyfnod anodd, a llawer ohonynt heb fod unrhyw fai arnynt hwy, a daeth aelodau'r eglwys i'r adwy i geisio cynorthwyo. Câi ei gefnogi'n wreiddiol gan aelodau o eglwys Wellspring, a fyddai, bob tro y byddent yn mynd i siopa, yn prynu eitemau ychwanegol o fwyd neu hanfodion ac yn dod â hwy i'r eglwys bob dydd Sul. Mae ganddynt droli yn Sainsbury's yn y Rhyl hefyd, lle gall siopwyr fanteisio ar y cyfle i lenwi'r troli a rhoddir yr hyn a gesglir i'r banc bwyd. Mae hefyd yn cael cefnogaeth wych gan fusnesau, sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd yn lleol.
Yr awgrym yng nghynnig Plaid Cymru a'r canfyddiad ymysg y cyhoedd yn ehangach yw na ddylai banciau bwyd fodoli, neu eu bod yn ffenomenon newydd. Mae hyn yn anwybyddu'r hanes, oherwydd mae eglwysi ac elusennau bob amser wedi cefnogi pobl mewn angen yn eu cymunedau. O sefydlu'r ffydd Gristnogol ar y glannau hyn, roedd helpu pobl mewn angen yn ganolog i'r ffydd. Sefydlwyd abaty Glyn y Groes yn sir Ddinbych gan fynachod Sistersaidd a dyfai fwyd i'w roi i'r tlodion. Roedd y rhai a oedd yn dewis byw'r bywyd mynachaidd yn ildio eu heiddo bydol er mwyn byw'n unol â'u llw o dlodi, a defnyddid unrhyw gyfoeth a gesglid i helpu pobl mewn angen. Mae'r egwyddorion hyn wedi goroesi ar hyd yr oesoedd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Diolch. A ydych yn credu mai gwaith eglwysi a mudiadau gwirfoddol yn unig yw darparu'r rhwyd ddiogelwch, fel y dywedwch, i'r rhai sydd â'r angen mwyaf?
Wel, os gwnaiff yr Aelod wrando ar weddill fy nghyfraniad, fe welwch sut y daw'n ôl yn naturiol i ateb eich ymholiad. [Chwerthin.] Felly, rhaid bod yn amyneddgar, fel y maent yn ei ddweud. [Chwerthin.]
Daw'r banciau bwyd heddiw ar sawl ffurf. Mewn byd delfrydol, ni fyddai gennym dlodi, ond nid ydym yn byw mewn byd delfrydol. Yn anffodus, mae teuluoedd yn wynebu caledi ariannol heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, a diolch byth, mae banciau bwyd yn bodoli ar gyfer yr adegau hynny. Ond mae'r ffaith fod y sefydliadau hyn yn bodoli wedi cael ei ddefnyddio er budd gwleidyddol. Ceir canfyddiad ymhlith y cyhoedd na ddylai fod angen banciau bwyd yn y gymdeithas heddiw a'u bod yn bodoli o ganlyniad i fethiannau gwleidyddol. Mae canfyddiad a stigma o'r fath yn bychanu gwaith caled banciau bwyd fel y Kings Storehouse ac yn atal—[Torri ar draws.] Rwy'n dod, rwy'n dod at hynny. Ac yn atal pobl mewn angen rhag defnyddio'r gwasanaethau. Ac ni ddylid difrïo banciau bwyd.
Hyd yn oed pe na bai chwarter ein poblogaeth yn byw mewn tlodi, byddai adegau o hyd pan fyddai angen help llaw ar bobl. Dyma a ddysgodd y Parchedig Mark Jones o eglwys Wellspring i mi ar fy ymweliad â'r cyfleuster yn y Rhyl, dywedodd fod arwyddair y banc bwyd yn sôn am weithred o gymorth yn hytrach na rhoi elusen, gan ein bod yn deall y gall unrhyw un fynd drwy gyfnod o argyfwng sy'n galw am ymyrraeth yn y tymor byr, ac ni ddylai neb fod â chywilydd o dderbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.
A wnewch chi ildio ar hynny?
Gwnaf, yn sicr. Yn sicr.
A wnewch chi egluro i mi, sydd wedi gweld y cynnydd yn nifer y banciau bwyd—? Ac rwy'n bendant yn cymeradwyo'r gwirfoddolwyr a'r bobl sy'n cyfrannu atynt. Ond a allech egluro i mi a fy etholwyr pam y mae'r adegau hynny o argyfwng wedi cynyddu y tu hwnt i bob rheswm ers 2010?
Wel—[Chwerthin.]
Dywedwch wrthym. Dywedwch pam.
Wel, rwy'n—
Twf y boblogaeth.
Twf y boblogaeth? [Aelodau o'r Senedd: 'O.'] Anghredadwy.
Rwy'n ceisio ychwanegu at y ddadl. Rwy'n ychwanegu at y ddadl, ac—
O'r gorau. Gadewch i'r Aelod barhau.
Yn amlwg gallaf weld angerdd yr Aelod a'r achosion yn ei etholaeth, ac mae gennyf yr un peth yn union yn fy etholaeth i. Y Rhyl yw un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad, yng Nghymru a'r rhan fwyaf o'r DU, felly nid wyf yn mynd i gymryd unrhyw wersi gan Aelodau o dde Cymru ar broblemau yn fy etholaeth. Felly, mae gan yr Aelod wyneb yn dweud wrthyf, 'O, wel'—a phregethu am broblemau yn y Rhyl gan Aelodau yn y Cymoedd. Felly—[Aelodau o'r Senedd: 'O.']
Mae banciau bwyd yn bodoli i helpu pobl ar adegau o argyfwng, ac rwy'n ailadrodd nad hwy yw'r gelyn. Tlodi ydyw—tlodi yw'r gelyn—ac yn anffodus, nid yw Llywodraeth Cymru, wedi'i chefnogi gan Blaid Cymru ar y meinciau hynny, dros y ddau ddegawd diwethaf, wedi gwneud dim i fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Cafodd cronfeydd gwrth-dlodi'r UE eu gwastraffu, cafodd llafur tramor rhad flaenoriaeth dros greu swyddi â chyflogau uchel i bobl sy'n byw yng Nghymru, a phe baent yn treulio llai o amser ar faterion cyfansoddiadol a'u hoff brosiectau a mwy a mwy ar drawsnewid ein heconomi, efallai na fyddai un o bob pedwar o'n dinasyddion yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi fel y maent yn ei wneud heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i gyfrannu. Jane Hutt.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, sydd, wrth gwrs, yn gynnig y byddwn yn ei gefnogi, gan ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol pan fo elusennau fel Ymddiriedolaeth Trussell wedi rhybuddio y bydd llawer o aelwydydd incwm isel yn wynebu dewisiadau llwm iawn iddynt eu hunain a'u teuluoedd y gaeaf hwn. Ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu'n helaeth yn y ddadl rymus hon.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun i ddileu'r cynnydd o £20 yn y credyd cynhwysol, rhaid imi ddweud mai Ymddiriedolaeth Trussell a ddarparodd ymchwil, gan arolygu pobl y byddai'r toriad arfaethedig hwnnw'n effeithio arnynt, ac fe wnaed y toriad wedyn. Dywedodd un o bob pedwar o bobl y byddai'n debygol iawn y byddai angen iddynt fynd heb brydau bwyd pe bai'r toriad i'r credyd cynhwysol yn mynd yn ei flaen, ac fe wnaed y toriad er gwaethaf dadleuon cryf a wnaed yn y Siambr hon gan Lywodraeth Lafur Cymru, ledled y DU, lleisiau trawsbleidiol o blith y Torïaid hefyd, a chan yr elusennau sy'n flaenllaw ym maes trechu tlodi plant. Ac mae'r galw am ddarpariaeth bwyd argyfwng wedi cynyddu'n sylweddol ac yn parhau i dyfu wrth i aelwydydd sy'n agored i niwed brofi'r dirywiad economaidd yn sgil y pandemig—rydym yn cydnabod hynny ar draws y Siambr—lefelau cynyddol o ddyled, cynnydd yng nghostau byw, mae pob un ohonynt wedi cael effaith andwyol. Ond yn y ddadl rymus hon ar fynd i'r afael â thlodi bwyd, mae angen inni ystyried yr achosion yn ogystal â'r cyfrifoldebau dros roi camau priodol ar waith.
Llywodraeth y DU sydd â'r ysgogiadau ar gyfer lleihau lefelau tlodi yng Nghymru, pwerau dros y system drethiant a'r system nawdd. Serch hynny, mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth Cymru i atal tlodi, lleihau ei effaith a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n deillio o fyw mewn tlodi. Ac mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi ein hymrwymiad i ddiogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed a gwella canlyniadau i aelwydydd incwm isel. Mae ein cefnogaeth i'r cyflog cymdeithasol, drwy fentrau fel y cynnig gofal plant, ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, darparu prydau ysgol am ddim—ac fe af ymlaen at hynny—wedi golygu bod mwy o arian ar ôl ym mhocedi dinasyddion Cymru.
Ac rwy'n ymuno â Luke Fletcher, a agorodd y ddadl hon mor rymus, ac Aelodau ar draws y Siambr, ar yr ochr hon, i groesawu'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru, gyda chefnogaeth Jane Dodds i'r ymrwymiad i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd dros oes y cytundeb. Ac mae hyn yn weithredu trawsnewidiol. Bydd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn yr ysgol gynradd yn cael ei adael yn llwglyd. Bydd yn allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant, gan leihau anghydraddoldebau canlyniadau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd darparu pryd iach fel rhan o'r diwrnod ysgol yn helpu i annog arferion ac agweddau bwyta'n iach, ac mae'n ddysgu ymarferol a gaiff ei atgyfnerthu gan y cwricwlwm newydd i Gymru, maes iechyd a lles dysgu a phrofiad, i helpu dysgwyr i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd a lles corfforol, gan gynnwys ymddygiadau hybu iechyd, megis maeth a deiet cytbwys.
Yn ystod yr haf, cyfarfûm â'r rhai sy'n gweithredu cynllun chwarae gwyliau'r haf Wrecsam ym Mharc Caia ac yn etholaeth Mike Hedges, ymwelais â'r prosiect Ffydd mewn Teuluoedd yn y ganolfan deuluol ym Môn-y-maen. Ac roedd hi'n bwysig siarad â'r rhieni a oedd yn cymryd rhan lawn yn y prosiect hwnnw ac a oedd wedi cael hunan-barch ac anogaeth i allu cefnogi eu teuluoedd ac edrych ar gyfleoedd ar gyfer eu hyfforddiant, eu haddysg bellach a'u cyflogaeth eu hunain. Roeddwn yn gallu deall y gwaith hanfodol a wnaed yn y cymunedau hynny, ac mae llawer ohonoch wedi tynnu sylw atynt o brosiectau rydych yn eu cefnogi ar draws y Siambr hon.
Nid oes amheuaeth y bydd cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd yn lleddfu peth o'r pwysau ariannol sydd ar lawer o'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi. Ond hefyd, yn bwysig, bydd yr ymrwymiad i brydau ysgol am ddim yn ein galluogi i ddefnyddio ein hysgogiadau i sbarduno caffael cyhoeddus a chynyddu cynhyrchiant bwyd lleol—rwy'n siŵr y bydd Peter Fox yn cael ei annog gan hynny—a dosbarthu. Yn ei dro, bydd o fudd i economïau, ecolegau a chymunedau lleol. A bydd yn digwydd ochr yn ochr â datblygu'r strategaeth bwyd cymunedol, gyda bwyd yn ffactor cyffredin. Mae ganddo'r potensial i wella iechyd meddwl a chorfforol dinasyddion Cymru, a chododd Delyth Jewell y pwynt pwysig hwn. Gall hefyd sicrhau'r manteision hynny i gymdeithas—manteision economaidd, amgylcheddol a chynaliadwy i helpu i adfywio ein cymunedau.
Ac am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym wedi dyrannu £2 filiwn i sefydliadau bwyd cymunedol i helpu i drechu tlodi bwyd a mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd. Rydym wedi cynyddu ein cyllid i FareShare i £500,000 eleni a dros y degawd diwethaf, maent wedi dosbarthu'r hyn sy'n cyfateb i 11 miliwn o brydau bwyd i bobl a oedd eu hangen, ac ar hyn o bryd maent yn darparu bwyd dros ben o ansawdd i tua 180 o sefydliadau cymunedol ac elusennau yng Nghymru, ac mae llawer o'r rheini'n gadarnhaol iawn yn y ffordd y maent yn ymgysylltu â'u cymunedau i ddarparu bwyd hygyrch. Rwy'n falch iawn fod Huw Irranca-Davies wedi crybwyll Big Bocs Bwyd, sydd eisoes wedi ennill gwobr yn sgil ei ddechrau yn ysgolion cynradd y Barri, gan gyflwyno'r prosiect i fwy nag 20 o ysgolion yn ardal parc rhanbarthol y Cymoedd. Ac wrth gwrs, ceir dealltwriaeth hefyd fod bwyd ac ymgysylltiad dychmygus FareShare, sef yr hyn y maent yn ei ddefnyddio, yn darparu bwyd fforddiadwy i deuluoedd, ond mae'n meithrin gwerthfawrogiad ehangach o'r cysylltiadau rhwng bwyd, natur a'r economi. Ond hefyd, yn rhan o'r gronfa £51 miliwn o gymorth i aelwydydd y mis diwethaf, bydd £1.1 miliwn yn mynd tuag at drechu tlodi bwyd, gan helpu'r banciau bwyd rydych i gyd yn eu cefnogi ledled Cymru gyda'r pwysau uniongyrchol y maent yn ei wynebu.
Gwyddom mai bod heb ddigon o arian yw prif achos tlodi bwyd, felly mae hyn yn bwysig os byddwn yn ei gysylltu â'r ymgyrch genedlaethol i annog defnydd o fudd-daliadau, gan godi ymwybyddiaeth pobl o'r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, a'u hannog i ffonio Advicelink Cymru am gymorth a chyngor am ddim, a chynyddu incwm, a bydd ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn gweld £38 miliwn yn mynd tuag at gefnogi aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau lles oedran gweithio ar sail prawf modd i leddfu'r pwysau uniongyrchol ar gostau byw y gaeaf hwn. Yn wir, fe wnaethom drafod hynny yr wythnos diwethaf yn y ddadl ar dlodi tanwydd. Ac mae gennym ein cronfa cymorth dewisol. Dyma'r holl ysgogiadau, y ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddewis blaenoriaethu'r ffordd y gwariwn ein hadnoddau. Mae ein cronfa cymorth dewisol yn hanfodol i helpu pobl mewn argyfwng ariannol i ymateb i rai o'r heriau ariannol a wynebant, gan gynnwys talu costau bwyd a thanwydd. Ac ym mis Mawrth, cyhoeddwyd £10.5 miliwn arall gennym i barhau'r gefnogaeth ddigynsail i'r rhai sydd angen y gronfa cymorth dewisol ac sydd angen yr hyblygrwydd, ac rydym yn parhau'r hyblygrwydd hwnnw o ganlyniad i effaith andwyol y pandemig.
Rydym hefyd yn cymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar dalebau Cychwyn Iach—ac mewn gwirionedd, rwy'n cyfarfod â Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles—gan wybod y gall y rhain hefyd ddarparu £4.25 i deuluoedd ifanc ar incwm isel bob wythnos i brynu llaeth, fitaminau a bwydydd sy'n gwella maeth plant. Rydym yn glir ynglŷn â'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi. Mae'n thema drawsbynciol ym mhroses gynllunio'r gyllideb. Bydd yn helpu i sicrhau bod tlodi yn ganolog i bolisi a darparu gwasanaethau, ond rhaid i mi ddweud bod hon yn adeg heddiw pan fo'n rhaid inni edrych ar bwy sy'n gyfrifol, beth yw'r achosion, a gwnaed penderfyniadau niweidiol gan Lywodraeth y DU, megis toriadau i gymorth lles a mwy nag 11 mlynedd o gyni sydd wedi gwthio mwy o aelwydydd agored i niwed yng Nghymru i mewn i dlodi.
Byddwn yn ysgwyddo ein cyfrifoldeb fel Llywodraeth Cymru, a gobeithio y bydd Llywodraeth y DU a'r blaid, a'r Ceidwadwyr Cymreig, yn ysgwyddo'u cyfrifoldebau hefyd. Mae gennym y dystiolaeth: Trussell Trust, Plant yng Nghymru, Sefydliad Bevan, Sefydliad Joseph Rowntree. Os chwaraewn ein rhan gyda'n pwerau a'n hadnoddau ni, rhaid i Lywodraeth y DU chwarae eu rhan lawer mwy hwythau. Rwy'n croesawu ac yn cefnogi'r cynnig a'r ddadl hon. Diolch.
Sioned Williams i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd, a hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl y prynhawn yma a'ch annog chi i gefnogi'r cynnig. A da clywed gan y Gweinidog y bydd y Llywodraeth yn cefnogi ein cynnig, achos hanfod y cynnig yma yw y dylen ni anelu nid yn unig at greu system fwyd decach a mwy cynaliadwy i'n pobl, ond y dylai hyn gael ei sefydlu fel hawl ddynol, a'i ymgorffori o fewn polisïau a gweithgarwch llywodraethol. Beth, wedi'r cyfan, allai fod yn fwy o ddyletswydd sylfaenol Llywodraeth tuag at ei phobl na sicrhau'r hawl nid yn unig i gyflenwad bwyd cynaliadwy, maethlon a digonol, ond hefyd yr hawl i iechyd, a does dim byd yn fwy sylfaenol i iechyd na chyflenwad digonol o fwyd iachus. Fe glywsom gan Luke Fletcher am y pwysigrwydd o sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o'r system addysg, a bod tlodi a thlodi bwyd yn effeithio ar blant yn arbennig. Fe wnaeth Heledd Fychan sôn am sut y gallai Llywodraeth Cymru, er enghraifft, wneud mwy i daclo gwastraff bwyd drwy, er enghraifft, gynnwys amodau i atal hyn mewn cytundebau economaidd. Ac fe gawson ni ein hatgoffa yn rymus iawn gan Delyth Jewell fod hon yn ddadl ofnadwy o amserol. Mae'n gyfnod o argyfwng, fel rŷn ni wedi clywed gan sawl Aelod yma'r prynhawn yma, a bod mynd heb fwyd nid yn unig yn effeithio ar y corff, ond ar y meddwl ac ar yr enaid.
Fe soniodd Heledd Fychan a Mike Hedges hefyd am y defnydd o fanciau bwyd yn ehangu. Roedd Mike Hedges yn sôn bod hyn yn digwydd mewn ardaloedd sy'n cael eu hystyried fel rhai cymharol gefnog erbyn hyn. Roedd enghreifftiau torcalonnus o bobl yn mynd heb hanfodion bwyd. Roeddwn i'n hynod, hynod o bryderus i glywed Gareth Davies yn methu pwynt y ddadl yma yn gyfan gwbl yn ei gyfraniad e, drwy ddweud ei fod e am weld banciau bwyd, ac felly'r achosion o dlodi, yr angen sy'n gwneud banciau bwyd yn hanfodol, yn parhau. Meddai,
'Mewn byd delfrydol', ni fyddai angen banciau bwyd arnom. Diffyg ewyllys wleidyddol yw'r rheswm pam nad ydym yn byw mewn byd delfrydol.
Fe soniodd Jane Dodds am yr ardaloedd o ddiffeithwch bwyd, yr ardaloedd yma lle mae e'n amhosib cael gafael ar fwyd maethlon, fforddiadwy. Mae hyn yn bwysig, ac mae pethau fel polisïau trafnidiaeth gyhoeddus, wrth gwrs, yn cyfrannu at y darlun yma a phroblemau'r cymunedau hyn. Roeddwn i'n falch iawn—. Sori, Mike.
Fe ddywedoch chi 'mewn byd delfrydol'. Mae rhai ohonom yn ei adnabod fel y 1950au, y 1960au a'r 1970au.
Nid bob amser i fenywod, ond dyna ni.
Roedd Peter Fox yn sôn yn rymus iawn am gael cynlluniau bwyd lleol. Rwy'n croesawu'r syniad yna yn fawr iawn. Fe soniodd Peredur Owen Griffiths a Jenny Rathbone am, ac fe wnaethon nhw dynnu sylw at, y broblem yma o bobl yn methu fforddio tanwydd, wrth gwrs, i goginio eu bwyd, a phwysigrwydd newid ein perthynas â bwyd. Mae'n anodd credu, onid yw e, â'r Deyrnas Gyfunol yn un o wledydd cyfoethocaf y byd—y byd—fod llawer o bobl yn cael hi'n anodd fforddio bwyd, ac mae eu hiechyd wedyn yn dioddef.
Dwi'n wyres i löwr, ac roedden nhw ar streic ym 1926, a dwi wedi clywed am yr hanesion, am y caledu a'r prinder bwyd bryd hynny gan fy mam-gu. Mae'n anodd credu ein bod ni—ac mae llawer wedi sôn am hyn—bron ganrif yn ddiweddarach yn sôn am lefel o angen sydd wedi gweld atgyfodi'r angen am y cydweithredu cymunedol yna a gadwodd teuluoedd ein gweithwyr rhag llwgu yn y 1920au a'r 1930au.
Rwy'n gwirfoddoli gyda fy manc bwyd lleol i, Y Pantri ym Mhontardawe. Mae'r modd y mae'r gymuned yn dod at ei gilydd i geisio sicrhau bod gan bobl ddigon i'w fwyta yn ysbrydoledig. Dydyn ni ddim yn taflu unrhyw fath o sen ar y banciau bwyd, ond mewn gwirionedd mae eu bodolaeth nhw yn yr oes sydd ohoni yn gwbl droëdig.
Mae ein cynnig ni yn sôn am yr hawl i fwyd, ac fe soniodd Huw Irranca-Davies yn rymus am hyn, a phwysigrwydd y ffaith taw hawl yw e, a sut mae llywodraethau ac arweinwyr gwleidyddol wedi methu yn eu dyletswydd i gynnal yr hawl yma. Ers datganoli mae Cymru yn aml wedi ymfalchïo yn y camau blaengar y mae wedi'u cymryd ym meysydd hawliau, fel hawliau plant, er enghraifft, y clywsom ni sôn amdano yn y Siambr yma ddoe. Un o nodau datblygu cynaliadwy byd-eang y Cenhedloedd Unedig yw dileu newyn erbyn 2030, nod sy'n cael ei gydnabod gan y Llywodraeth yma yn ei hadroddiad atodol i adolygiad cenedlaethol gwirfoddol y Deyrnas Gyfunol o gynnydd tuag at y nodau hyn, ac mae'r datganiad ein bod ni yng Nghymru yn gwneud pethau yn wahanol yn cael ei frolio yn yr adroddiad hwnnw. Mae'r rhagymadrodd, yn enw Mark Drakeford a Jane Hutt, yn nodi bod nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig yn gosod agenda uchelgeisiol er mwyn trawsnewid y byd i'r bobl ac i'r blaned er mwyn iddynt ffynnu.
'Rydym ni’n rhannu’r uchelgais hon yng Nghymru, ac rydym wedi ymroi i gyfrannu at y nodau', medd ein Prif Weinidog a'n Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a chydraddoldeb. O gofio'r ymrwymiad hwnnw, felly, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan elfennol o'r polisïau ar draws y Llywodraeth sy'n mynd i'r afael â thlodi ac anfantais economaidd.
Rwyf am eich atgoffa chi unwaith eto pam mae hyn mor allweddol, drwy ailadrodd yr hyn yr ydym yn nodi yn ein cynnig, sef bod chwarter pobl Cymru mewn tlodi a'r defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu, a bod ansicrwydd bwyd yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles ein pobl. Ac ydy, mae ansicrwydd bwyd yn fater o ddiogelu iechyd cyhoeddus. Rydym ni wedi clywed gan Peredur Owen Griffiths sut y gall ansicrwydd bwyd gael effaith ddifrifol ar iechyd pobl hŷn, bod y rhai sy'n profi ansicrwydd bwyd yn fwy tebygol o gadw bwyd yn hirach a bwyta bwyd y tu hwnt i'r dyddiad mae'n ddiogel i'w fwyta. Mae hyn, ynghyd â mynd heb fwyd neu fwyta deiet anghytbwys, yn gallu deillio, wrth gwrs, o dlodi, ac mae'n rhoi pobl mewn perygl o ddiffyg maeth, gwenwyn bwyd, afiechyd. Sawl tro dros y misoedd diwethaf rŷm ni wedi clywed cyfeiriadau yn y Siambr hon at y storm berffaith o incwm yn gostwng a chostau byw yn cynyddu, o tswnami o angen sydd yn raddol godi ac ar fin taro gormod o'n haelwydydd? Mae'r cysylltiad rhwng prisiau bwyd yn codi wrth i incwm pobl ostwng yn gwbl amlwg, ac mae'r modd y mae bwyd yn rhan o'r hafaliad pryderus yma yn ganolog i'n dadl ni y prynhawn yma. Mae'n hysbys bod maeth mewn deiet yn gostwng wrth i'r ffactorau yma ddod ynghyd, ac wrth i hynny ddigwydd, mae'r tebygolrwydd o afiechyd a salwch yn cynyddu, ynghyd ag effaith negyddol, wrth gwrs, ar gyflyrau iechyd sydd eisoes yn bodoli, fel dywedodd Peredur.
Wrth gloi, felly, fe erfyniaf arnoch i gefnogi ein galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru i ymrwymo i gyflawni eu dyletswydd fwyaf gwaelodol: bwydo eu pobl a rhoi taclo tlodi ar ben pob agenda. Does dim modd gwadu bod rhywbeth mawr o'i le ar ein cymdeithas. Rhaid sicrhau nad oes yna rwystr i bobl fwynhau y mwyaf sylfaenol o'u hawliau dynol—yr hawl i fwyd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe gymerwn ni egwyl fer cyn hynny i baratoi yn dechnegol ar gyfer y bleidlais. Egwyl.