– Senedd Cymru am 3:33 pm ar 23 Mawrth 2022.
Iawn. Symudwn ymlaen yn awr at ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, ar adeiladau crefyddol, a galwaf ar Mike Hedges.
Cynnig NDM7953 Mike Hedges, Darren Millar, Jane Dodds, Rhys ab Owen
Cefnogwyd gan Alun Davies, Russell George, Sam Rowlands
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-gyflwynwyr a'r rhai a gefnogodd y cynnig ar gyfer y ddadl hon. Bydd Jane Dodds yn ymateb i'r ddadl.
Nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â chrefydd, mae'n ymwneud â'n treftadaeth adeiledig. Mae'n ymwneud â phwysigrwydd adeiladau eglwysi a chapeli yn ein cymuned. Ni all yr Aelodau fod wedi methu sylwi ar nifer yr adeiladau crefyddol sy'n parhau i gau, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn eu hetholaethau eu hunain. Dros y degawdau diwethaf, gwelsom ddirywiad graddol a pharhaus yn yr hyn y gellir cyfeirio ato fel dau draddodiad mawr y gymdeithas Gymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, sef y traddodiad o fynychu'r capel lleol a'r tafarndy lleol.
Yn aml, ystyrir mai gwlad y cestyll yw Cymru, ond mae gennym lawer mwy o gapeli, eglwysi ac adeiladau crefyddol eraill ledled Cymru nag sydd gennym o gestyll. Mae gennym eglwysi a chapeli gwych, megis eglwys gadeiriol Tyddewi a chapel y Tabernacl yn Nhreforys, a ddisgrifiwyd fel eglwys gadeiriol anghydffurfiaeth, yn ogystal â llawer o adeiladau eraill o arwyddocâd hanesyddol a gwerth pensaernïol. Mae hanes a threftadaeth eglwysig Cymru yn rhan hynod bwysig o'n treftadaeth adeiledig a diwylliannol. Mae llawer o bobl nad ydynt yn mynychu capeli neu eglwysi Cymru yn gweld arwyddocâd enfawr i'w gwerth pensaernïol a'r statws sydd iddynt yn eu cymunedau. Gofynnwch i rywun am Dewi Sant, a byddant yn sôn am yr eglwys gadeiriol. Gofynnwch i bobl am Dreforys, a'r ymateb mwyaf tebygol fydd capel y Tabernacl.
Wrth ichi edrych o gwmpas Cymru, mae'n amlwg yn yr oes sydd ohoni fod gan Gymru bellach ormodedd enfawr o gapeli ac eglwysi ar gyfer ei hanghenion crefyddol presennol. Mewn ymateb i'r orddarpariaeth hon, gwelsom gau nifer ohonynt mewn ymgais nid yn unig i arbed arian, ond hefyd i achub rhai o'r adeiladau gwirioneddol wych o'r un enwad.
Mae'r gwaith o gynnal a chadw'r adeiladau hynod hyn wedi disgyn ar ysgwyddau yr aelodau sy'n weddill, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn amrywio o fod yn oedrannus i fod yn oedrannus iawn. Fel y dywedodd un diacon wrthyf, 'Fe etifeddom ni'r capel hwn gan ein rhieni, ond nid yw ein plant am ei etifeddu gennym ni.' Dywedodd yr un diacon, 'Yr hyn rwy'n ei hoffi fwyaf am fynd i'r capel yw mai dyma'r unig le rwyf fi, fel rhywun dros 60 oed, yn cael fy ystyried yn un o'r aelodau ifanc.' Mae'r cynulleidfaoedd yn teneuo, a rhaid ichi gofio faint o gapeli sydd i'w cael o hyd. Yn ôl Blwyddiadur Undeb yr Annibynwyr, ceir dros 600 o gapeli annibynwyr yng Nghymru a phedwar capel annibynwyr Cymraeg yn Lloegr, ond bydd y nifer bron yn sicr yn parhau i ostwng.
Rydym wedi gweld hen gapeli'n cael eu haddasu neu eu newid mewn modd addas at nifer o wahanol ddibenion, yn amrywio o fflatiau, sef y defnydd mwyaf cyffredin, i dai, busnesau, bwytai, swyddfeydd, canolfannau cymunedol, ac mewn rhai achosion, eu troi'n addoldai ar gyfer crefyddau eraill. Yn anffodus, mae eraill wedi mynd yn adfeilion, wedi'u llosgi i lawr, neu wedi cwympo. Un enghraifft nodedig o hen gapel yn Abertawe sydd wedi'i addasu mewn modd sensitif yw capel Christmas Evans, sydd bellach yn gartref i swyddfeydd y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yn Abertawe, ond maent yn caniatáu i bobl ymweld a gweld ei blac sy'n coffáu Christmas Evans. Mae'n rhyfeddol faint o bobl sy'n ymweld, er nad yw'n cael ei hysbysebu, ac mae'n rhaid ichi wneud cryn dipyn o ymchwil i ganfod y lle, ac ar ôl gwneud hynny, rhaid ichi drefnu gyda'r NSPCC i ymweld.
Mae pobl, megis Daniel James—a adwaenir yn well fel Gwyrosydd—cyfansoddwr 'Calon Lân', wedi'i gladdu yng nghapel Mynyddbach, ac Evan Roberts, y pregethwr a arweiniodd yr adfywiad mawr o gapel Moriah yng Nghasllwchwr. Dau yn unig o'r pregethwyr mawr a'r cyfansoddwyr emynau o Gymru oedd y rhain. Gallwn lenwi'r araith gyfan yn mynd drwy gyfansoddwyr emynau enwog o Gymru ac—[Torri ar draws.] Yn fwy pryderus, efallai y dechreuaf sôn am berthnasau Aelodau eraill yma. [Chwerthin.]
Ond fel y dywedais, mae'r rhan fwyaf o'r capeli a'r eglwysi llai wedi cael eu troi mewn modd addas yn dai neu'n swyddfeydd. Yn Nwyrain Abertawe, gan ganolbwyntio ar Dreforys lle rwy'n byw, a Phlas-marl lle y cefais fy ngeni, af â chi drwy sefyllfa'r capeli a'r eglwysi. Mae capel Philadelphia yn Nhreforys, hen gapel Methodistaidd, wedi'i droi'n swyddfeydd a fflatiau. Unodd capel Calfaria, capel Soar a Seion i ffurfio Seion Newydd, y capel rwy'n ei fynychu. Mae capel Calfaria wedi cwympo. Y cyfan y gallwch ei weld mewn gwirionedd lle'r oedd capel Calfaria yw cerrig ar y ddaear, ac roedd hwnnw'n gapel a gâi ei ddefnyddio hyd at 50 mlynedd yn ôl. A bellach, y cyfan sydd gennych yw cerrig ar y ddaear, ar ben uchaf Stryd Banwell yn Nhreforys.
Mae Soar wedi dod yn rhan o'r Eglwys Gatholig, a chaiff ei ddefnyddio fel canolfan ar gyfer cyngherddau a digwyddiadau bach. Mae eglwys Sant Ioan, a adwaenir yn lleol fel yr eglwys yng nghanol y ffordd—dyma'r unig adeilad ar y gylchfan—yn cael ei adnewyddu i fod yn gaffi, oriel ac uned fasnachol ar y llawr gwaelod a'r llawr mesanîn, gyda thri fflat llofft uwch ei ben. Roeddwn i'n arfer ei disgrifio fel yr unig eglwys Gymraeg ei hiaith yn yr Eglwys yng Nghymru, ond cefais wybod bod yna rai eraill. Ond mae'n un o ychydig iawn o eglwysi Cymraeg eu hiaith yr Eglwys yng Nghymru. Mae'n adeilad rhyfeddol, ond bu'n segur ers 10, 15 mlynedd; mae bellach yn cael ei ailddefnyddio. Mae addoldy Grove wedi'i droi'n fflatiau.
Mae'r rhan fwyaf o'r capeli eraill wedi cael eu troi mewn modd addas yn fflatiau neu'n dai, neu, yn achos un, yn gartref gofal i bobl ag anawsterau dysgu. Mae peth o'r gwaith adnewyddu, megis addoldy Grove, wedi bod yn rhagorol, gan gadw'r ffasâd allanol ac ailfodelu mewn modd sensitif ar y tu mewn. Mae capel Mynyddbach wedi'i adfer ar ôl sawl blwyddyn o fod yn wag, ac mae bellach yn ganolfan Daniel James Gwyrosydd. Mae'r eglwys ym Môn-y-maen a'r eglwys yn Portmead wedi'u troi'n ganolfannau Ffydd mewn Teuluoedd, ac maent yn gwneud gwaith rhagorol gyda rhieni a phlant. Ac a gaf fi ddweud cystal gwaith y mae Ffydd mewn Teuluoedd yn ei wneud yn fy etholaeth?
Dyma lle y daw'r newyddion da i ben. Dymchwelwyd capel Horeb yn Nhreforys, ac adeiladwyd fflatiau ar y safle gan gymdeithas dai. Mae eglwys Sant Paul yng Nglandŵr wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn. Mae'n eglwys fawr, ac er y cafwyd sawl awgrym ynglŷn â sut y dylid ei defnyddio, nid oes unrhyw beth wedi digwydd. Cafwyd tân yng nghapel Libanus yng Nghwmbwrla ar ôl iddo fod yn wag am nifer o flynyddoedd, ac fe'i dymchwelwyd yn rhannol ar sail diogelwch. Mae dwy wal yn dal i sefyll ar hyn o bryd, ac wrth gwrs mae Cadw yn dal i'w rhestru. Mae capel Cwm, lleoliad arall lle bu tân, wedi cael ei ddymchwel, er ei fod yn dal wedi'i restru gan Cadw. Mae Aenon yn Heol Las wedi cau, heb unrhyw gynlluniau ar y gorwel i'w ddefnyddio eto at ddibenion gwahanol. Mae'r un peth yn wir am Bethania yng nghanol tref Treforys. Mae capel Moriah, lle roedd fy nhad-yng-nghyfraith yn unig ddiacon ar ôl, bellach wedi cau, mae wedi'i werthu sawl gwaith a cheir caniatâd cynllunio ar gyfer ei droi'n fflatiau, ond nid oes unrhyw ddatblygiad wedi digwydd.
Ceir llawer mwy o adeiladau eglwysi a chapeli nag a geir o bobl sydd eisiau eu defnyddio ar gyfer addoli. Mae'n mynd â ni at beth sy'n digwydd nesaf. Erbyn hyn, yr eglwysi a'r capeli mwy o faint yn bennaf sydd ar ôl. Ni ellir troi'r rheini'n fflatiau neu'n swyddfeydd yn hawdd fel y gwnaed i'r rhai llai o faint. Mae'r rhan fwyaf wedi'u rhestru, gan gynnwys y Tabernacl yn Nhreforys, sy'n adeilad rhestredig gradd I. Mae'r eglwysi a'r capeli llai wedi cau. Nid oes problem. Mae'r newidiadau hawdd eisoes wedi digwydd mewn gwirionedd. Ac os caf fi ddweud, yn gyffredinol, mae'r gwaith a wnaed yn dda? Nid ym mhobman, ond yn gyffredinol, fe wnaed gwaith da.
Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru drafod dyfodol yr adeiladau hyn gyda'r gwahanol enwadau yng Nghymru. Nid rhestru adeiladau gan Cadw yw'r ateb, ac weithiau mae'n rhan o'r broblem, gan na allwch wneud newidiadau i'r adeilad; bydd yn eistedd yno hyd nes y bydd yn dymchwel ohono'i hun neu'n cael ei losgi, ac mae llawer gormod o adeiladau'n cael eu llosgi pan gânt eu gadael yn wag am gyfnodau hir.
Mae gan Gymru enw da iawn am ei phregethwyr, ei hadeiladau eglwysig a'i chapeli, sy'n rhywbeth y mae angen inni ei ddatblygu. Credaf fod angen inni edrych ar farchnad dwristiaeth America; mae angen inni gynhyrchu teithiau enwadol yng Nghymru. Nid America yn unig, ond gwledydd yn nwyrain Asia, fel Singapore. Mae gennym sefyllfa lle'r arferai Seilo Newydd yng Nglandŵr, un o gapeli mwyaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fod â lle i dros 1,000 o bobl, ond roeddent yn llawer teneuach yn y dyddiau hynny—[Chwerthin.]—felly dim ond lle i tua 600 o bobl sydd yno erbyn hyn. Ond aeth i ddwylo eglwys yn Singapore. Cyn hynny, roedd ganddo saith o aelodau, a hynny ond am fod dau gapel wedi uno i roi pump o un a dau o'r llall i wneud saith.
Felly, y cwestiwn yw: a ddylem ni yng Nghymru dargedu marchnad dwristiaeth America? A ddylem dargedu rhai o'n hysbysebion twristiaeth i hyrwyddo ein hanes crefyddol gwych, ei bobl a'i adeiladau? Credaf fod cyfle enfawr i hyrwyddo twristiaeth sy'n gysylltiedig â'n capeli, ein heglwysi a'r pregethwyr mawr a'r cyfansoddwyr emynau. Dyma gyfle y mae angen i ni yng Nghymru fanteisio arno cyn ei bod yn rhy hwyr. Gallwn achub rhai. Nid yw'n bosibl eu hachub i gyd. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i siarad â'r gwahanol enwadau a llunio strategaeth ar gyfer eglwysi a chapeli Cymru.
Yn gyntaf, mae angen rhestr o flaenoriaethau. Yn ail, mae angen cynllunio'r modd y gellid defnyddio adeiladau yn y dyfodol—mae swyddfeydd, fflatiau a thai i gyd yn bosibl. Bydd hyn yn gweithio, fel y dangosais yn gynharach. Rhaid cael opsiwn i'w troi'n adeiladau cymunedol. Bydd angen cymorth ariannol a chefnogaeth gymunedol i wneud hyn. Ni allwn adael i nifer fawr o bobl oedrannus fod yn unig warcheidwaid ein treftadaeth. Rydym yn gwarchod cestyll ein goresgynwyr Normanaidd; dylem wneud yr un peth i'r prif gapeli a oedd, i neiniau a theidiau a hen neiniau a hen deidiau llawer ohonom, yn fannau addoli a chanolfannau cymunedol pwysig. Os caiff y cynnig hwn ei basio ac os na wnaiff y Llywodraeth weithredu, neu os na fydd yn pasio, bydd mwy a mwy o'r adeiladau hyn yn cau. Bydd mwy a mwy'n mynd yn adfail, a bydd rhan fawr o'n hanes yn cael ei cholli. Dyma'r amser i weithredu. Ymhen 10 mlynedd fe fydd yn rhy hwyr i lawer o'r adeiladau hyn.
A gaf fi ofyn hefyd am amgueddfa genedlaethol ar gyfer ein hanes crefyddol? Mae gennym amgueddfa wlân, amgueddfa ddiwydiannol a morol, mae gennym amgueddfa lechi. Credaf y dylem gael amgueddfa i barhau a dangos ein hanes crefyddol, oherwydd, er ei fod wedi bod yn hanes byw i lawer ohonom, ymhen 50 mlynedd, ni fydd yn hanes byw i'r bobl yr adeg honno. Felly, a gaf fi annog y Llywodraeth i feddwl am hynny? Ac os ydynt yn edrych am safle, a gaf fi awgrymu'r Tabernacl?
Diolch, ac yn gyntaf hoffwn gofnodi fy niolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl Aelodau hynod bwysig hon ar adeiladau crefyddol, a diolch hefyd i Darren Millar, Jane Dodds a Rhys ab Owen am gyd-gyflwyno. Hoffwn dynnu sylw hefyd at fy nghofrestr buddiannau—rwy'n ymddiriedolwr eglwys hefyd.
Mae'n bleser, wrth gwrs, cael fy ngalw'n gefnogwr i'r cynnig hwn a siarad yma heddiw. Fel y dywed y cynnig, mae'n destun pryder mawr ein bod yn parhau i weld cau adeiladau crefyddol ar hyd a lled Cymru, ac rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yma heddiw yn cytuno bod ffydd yn agwedd bwysig ar fywyd Cymru. Mae adeiladau crefyddol yn aml yn galon cymunedau, ac ar adegau, yn dod â phob rhan o'n cymuned at ei gilydd. Hyd yn oed i bobl nad ydynt yn credu, ffydd yw'r hyn y mae llawer o bobl yn chwilio amdano ar adegau o angen, ac yn aml, mae'r adeiladau hyn yn symbol o bwysigrwydd y ffydd hon a'r gefnogaeth sydd gan ffydd i'w chynnig.
Fel rhywun a fagwyd yn yr eglwys, fel mab i weinidog eglwys, er mai strwythurau i ddal yr eglwys yn unig yw'r adeiladau hyn, a gwn mai y tu hwnt i'r brics a'r morter y mae eu harwyddocâd—yr hyn y maent yn ei gynrychioli sy'n bwysig. Yr adeiladau hyn sydd mor aml yn dal atgofion teuluol a chymunedol pwysig o ddathlu, o alaru, a phob emosiwn yn y canol rhyngddynt. Yr adeiladau hyn sydd mor aml wedi bod yn fannau ymgynnull dros genedlaethau, yn gefnogaeth ar adegau tywyll ac ar adegau da, ac rwy'n dadlau y bydd angen iddynt fod yno ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
Ond yn anffodus, fel y gwyddom, ac fel y crybwyllodd Mike Hedges eisoes, nid yw dyfodol llawer o adeiladau crefydd a ffydd ledled Cymru yn ddiogel. Ac mae hefyd yn anffodus iawn yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru, gyda'r dyfodol yn ansicr i lawer o adeiladau pwysig. Er enghraifft, mae eglwys gadeiriol y Santes Fair yn Wrecsam, adeilad rhestredig gradd ll, yn wynebu cyfnod pryderus ar hyn o bryd gyda'r angen i adnewyddu neuadd yr eglwys gadeiriol yn llwyr ac mae angen system wresogi newydd. Hefyd, daw eglwys Llanrhychwyn yn nyffryn Conwy i'r meddwl, ac mae llawer o bobl yn honni mai honno yw'r eglwys hynaf yng Nghymru, er fy mod yn siŵr y gall Mike Hedges ddadlau dros hynny yn ei ardal ef, ond mae honno'n dyddio'n ôl i'r chweched ganrif yn wreiddiol.
Rwy'n sôn am hyn oherwydd mae'r adeiladau hyn yn bwysig, nid yn unig i'n ffydd yma yn awr, maent yn bwysig er mwyn tynnu sylw at ein hanes a hwy yw tirnodau ein gwlad hefyd. Mae maint yr hanes yn y lleoedd hyn yn anhygoel, gan adrodd stori rhan sylweddol o'n bywyd a'n diwylliant yma yng Nghymru. Mae'n bwysig i bobl allu parhau i ddefnyddio'r adeiladau hyn a deall ein diwylliant a'n hanes yn y dyfodol hefyd.
Felly, fel y dywed pwynt 2 o'r cynnig heddiw, dyma'r adeg i Lywodraeth Cymru weithio gyda phob enwad yng Nghymru i drafod dyfodol adeiladau crefyddol, ac yn bwysicaf oll, i sicrhau eu bod yma i aros ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am gyflwyno'r ddadl wirioneddol bwysig hon a galwaf ar Lywodraeth Cymru a'r Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol heddiw i gefnogi'r cynnig heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i fy nghyfaill Mike Hedges am ddod â'r ddadl yma. Ble arall yn y byd fyddem ni'n cael dadl fel hon? Wel, efallai yng nghynulliad talaith Chubut, o bosib. Mae'n hyfryd, onid yw e? Mae'n quintessentially Welsh i gael dadl fel hyn ar gapeli Cymru. Efallai bod Mike Hedges a fi yn Aelodau o bleidiau gwleidyddol gwahanol, ond mae llawer gyda ni'n gyffredin, ac un o'r pethau hyn yw bod y ddau ohonom ni'n gyd-aelodau o Undeb Bedyddwyr Cymru. Croeso i chi 'cheer-io' ar y pwynt yna.
Un hen enw ar gapeli oedd 'tŷ cwrdd', yn llythrennol yn golygu dyna lle roedd y gymuned yn dod at ei gilydd. Heb or-sentimentaleiddio, yn aml iawn, ceiniogau prin y werin adeiladodd ein capeli ni, o Salem Rhydcymerau yn etholaeth fy nghyfaill Mabon ap Gwynfor, a gafodd ei anfarwoli gan Curnow Vosper ac Endaf Emlyn, i Dabernacl Treforys, eglwys gadeiriol anghydffurfiaeth Gymraeg, fel mae Mike Hedges yn ein hatgoffa ni yn gyson.
Gwir am gapeli Cymru yw geiriau englyn hyfryd Williams Parry am y neuadd ym Mynytho:
'Adeiladwyd gan dlodi;—nid cerrig / ond cariad yw'r meini; / cyd-ernes yw'r coed arni; / cyd-ddyheu a'i cododd hi.'
Fel saer coed yn y Rhondda—Buffy Williams—yn negawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe wnaeth fy hen dad-cu weithio ar nifer o gapeli, gan gynnwys ei gapel ef ei hun, sef capel Noddfa Treorci. Roedd y capel yn dal dros 1,500 o bobl—mwy hyd yn oed na Thabernacl Treforys, Mike—ac wrth ymweld â’r lle ar ddiwedd y 1970au fe wnaeth Penri Jones, awdur Jabas a golygydd Lol, ddweud hyn am Noddfa Treorci: 'Mae'r capel fel arena maes chwaraeon a'r pulpud fel llwyfan mawr.' Ac wrth ymweld â’r festri, dywedodd fod gwell cyfleusterau yno nag mewn nifer o ysgolion cyfoes. Yno roedd y cyfansoddwr John Hughes yn organydd. Yno roedd man cyfarfod cyntaf y byd-enwog côr meibion Treorci.
Ond, am amryw o resymau—yn gymdeithasol, yn economaidd, yn wleidyddol—ciliodd y tyrfaoedd o Noddfa, fel sawl Noddfa, Tabernacl a Salem arall. Mae Penri Jones yn terfynu ei ymweliad trwy ddweud hyn: 'Bu yma unwaith lawenydd, ond rhaid bod rhyw ddiofalwch trychinebus i beri bod y cyfan yn diflannu mewn modd mor derfynol.' Gwir oedd geiriau y proffwyd ffraeth, oherwydd o fewn ychydig flynyddoedd, o fewn pum mlynedd, llosgwyd Noddfa i lawr. Fe ddiflannodd y cyfan yn y modd mor derfynol roedd Penri Jones wedi rhagweld, yr holl adnoddau cymunedol a cherddorol wedi mynd yn llwyr.
Dywedodd Huw T. Edwards, yr undebwr Llafur a gafodd ei ddisgrifio yn Brif Weinidog answyddogol Cymru,
'Rwyf am weld o leiaf 75 y cant o'r addoldai yng Nghymru yn cael eu tynnu i lawr neu eu defnyddio mewn ffordd fwy effeithiol.'
Wel, dwi'n cytuno, i raddau, gyda Huw T. Edwards. Mae angen eu defnyddio nhw mewn ffordd llawer mwy effeithiol. Ond cytunaf hefyd gyda'r Huw Edwards arall, a pha ddadl ar gapeli allem ni ei chael heb Huw Edwards y BBC? Huw Edwards yn dweud hyn:
Mae addoldai wedi gwneud cyfraniad anfesuradwy i fywyd Cymru: maent wedi dysgu miloedd o blant i ddarllen ac ysgrifennu; roeddent yn meithrin yr ymdeimlad cryfaf posibl o gymuned; roeddent yn darparu llwyfan hanfodol ar gyfer diwylliant Cymru; roeddent yn aml yn ymgyrchu dros hawliau gweithwyr ac yn darparu gwasanaethau lles pan oedd llywodraeth yn cynnig y nesaf peth i ddim.
Ddwy flynedd yn ôl, fe gaewyd drysau holl fannau—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch, Rhys, ac rwy'n mwynhau gwrando ar eich araith yma, ond onid yw'n ffaith bod yr ysgol Sul ei hun—rydym yn sôn am addysg pobl ifanc drwy'r capeli, ac roeddwn innau'n mynd i'r ysgol Sul—yn fath arall o addysg, sydd, yn fy marn i, yn eithriadol o bwysig? A ydych chi'n cytuno bod yr ysgol Sul yn rhan bwysig o'r capeli hyn hefyd?
Yn sicr, cytuno, Sam, 100 y cant gyda ti.
Caeodd y drysau'n llwyr ddwy flynedd yn ôl, ac i nifer am y tro olaf. Gallaf feddwl am dair enghraifft yng Nghwm Cynon: Siloa Aberdâr, y man lle cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus tanllyd i ymateb i frad y llyfrau gleision, y man lle cafodd y cyfarfod cyntaf i sefydlu'r Wladfa ei gynnal, y man lle cafodd yr emyn dôn hyfryd 'Rhys' ei chyfansoddi ar yr organ; y capel Cymraeg yn Hirwaun, lle dechreuodd Jennie Eirian ac Eirian Davies eu bywyd priodasol, a lle, meddai Penri Jones, roedd aelodau yr ysgol Sul yn gallu dyfynnu Gwenallt y bardd a Karl Marx mewn un frawddeg; Bethesda Abercwmboi, man lle sefydlodd yr awdures Kate Roberts cangen gyntaf Plaid Cymru tu fas i sir Gaernarfon yn 1925, capel a fu’n cynorthwyo yn ymarferol yn streic gyffredinol 1926, ac hefyd yn streic y glowyr yn yr 1980au. Y cyfan wedi cau yn ystod COVID.
Mae’r sefyllfa yn gymhleth, fel mae Gethin Matthews yn dweud yn ei erthygl yn Barn, oherwydd gweithredoedd—title deeds—capeli a hefyd cyfraith elusennol. Ond, a dwi'n gorffen gyda hyn, Llywydd dros dro, lle mae’r ewyllys mae modd i lwyddo. Yng ngogledd sir Benfro, mae ymgyrch ddiweddaraf y Cynghorydd Cris Tomos ac eraill wedi sicrhau bod capel Brynmyrnach nawr yn ymuno â'r nifer fawr o asedion cymunedol sydd yno, fel Tafarn Sinc—un o fy hoff dafarndai, Mike. Y bwriad yw agor canolfan dreftadaeth yno a dwy fflat i bobl leol yn yr hen gapel. Mae’r lleoliadau yma yn bwysig, nid yn unig i'n treftadaeth, nid yn unig yn bensaernïol, maen nhw'n bwysig fel man sy’n perthyn i’r gymuned i gyd, i'r bobl i gyd. Felly, braint yw cefnogi cynnig fy nghyfaill Mike Hedges. Diolch yn fawr.
Pum munud ydyw, mewn gwirionedd, nid chwech. Galwaf ar Alun Davies.
Mae'n fraint wirioneddol cael ymuno â'r ddadl hon a dilyn cyfraniadau mor gryf a phwerus i'r Senedd hon sydd ynddi'i hun yn rhan o gontinwwm ein hanes. Rydym yn sôn am ein capeli a'n heglwysi, ond gallwn hefyd siarad am ein synagogau, ein mosgiau a'n temlau, rhan o wead yr hyn ydym ni. A phan feddyliaf am ein hanes crefyddol, rwyf innau hefyd, fel eraill yma heddiw, yn meddwl am ein hanes cymdeithasol, ein hanes diwylliannol. Mae'r genedl a aned yng nghysgod Rhufain ac a adeiladodd gapeli sy'n bodoli heddiw, fel Sant Gofan, yr un mor bwysig er mor adnabyddus yw Dewi Sant.
Ac felly, wrth i'r genedl fabwysiadu ei hunaniaeth wleidyddol, siaradodd Mike Hedges am y gystadleuaeth, os mynnwch, neu'n agos at ryfela mewn rhai achosion, rhwng capeli a thafarndai ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf. A phan ddarllenais am hanes cymdeithasol Tredegar, roedd y gwrthdaro hwnnw i'w weld. Ganwyd y mudiad dirwest yn ein capeli a cheisiodd mudiad yr undebau llafur wneud y gorau o ddau fyd, ac nid wyf yn siŵr pa mor llwyddiannus oedd hynny bob amser ar wahanol adegau. Ond mae'n rhan o'r hyn ydym ni, oherwydd gallwn i gyd siarad am y pethau hyn. Ond nid oes unrhyw wlad arall yn y byd a fyddai wedi adeiladu Soar y Mynydd lle y cafodd ei adeiladu a lle mae'n sefyll heddiw—yn un o'r lleoedd mwyaf hudol yn ein gwlad. Ond gallwn i gyd siarad am ein capel lleol a'n lleoedd lleol.
Bydd yr Aelodau yma'n gwybod fy mod wedi colli fy nau riant dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac wrth ddarllen drwy rai o bapurau fy nghapel lleol, Ebenezer, Sirhywi, yr hyn a welwch yng nghofnodion y capel yw hanes, hanes cymdeithasol Sirhywi a hanes cymdeithasol Tredegar, a lle'r Gymraeg. Y ddadl: a ddylem gael ein gwasanaethau yn y Gymraeg neu'r Saesneg? Penderfynasant, yn gyntaf oll yn sicr, y byddent yn pregethu yn Saesneg ond yn gweddïo yn Gymraeg. Os bu trosiad erioed am Gymru ac am Dredegar, mae'n debyg mai dyna fe.
Ond mae hyn hefyd yn ymestyn yn ôl ac yn rhoi gwybod i ni pwy ydym ni heddiw. Pan gyflwynodd Griffith Jones ei ysgolion cylchynol, nid pregethu'r Beibl yn unig a wnâi, daeth ag anllythrennedd i ben; creodd genedl lythrennog drwy gyfrwng y Gymraeg, ac arweiniodd hynny at estyn allan eto a chreu profiad diwylliannol gwahanol. Ac Evan Roberts, yn cystadlu yn 1905 gydag Undeb Rygbi Cymru am bwy a ddylai gael ei gofio fel yr enillydd yn 1905. Arweiniodd y diwygiad at ffrwydrad mewn hunaniaeth a adeiladwyd ar sylfaen ein capeli. A'r hyn a wnaethom yno, wrth gwrs, oedd creu Cymru wahanol iawn, oherwydd y Gymru a fodolai cyn hynny oedd Cymru rhywle fel Sant Martin yng Nghwm-iou. Rwy'n credu mai dyna un o'r eglwysi harddaf yn y wlad, a bydd y rhai ohonoch sy'n ei hadnabod, i fyny yn y bryniau uwchben y Fenni, yn gwybod eich bod yn cerdded drwy gorff cam yr eglwys honno ac yn edrych ar sut y mae daeareg a daearyddiaeth y lle wedi creu eglwys sy'n cael ei defnyddio heddiw, ond rhywle sy'n unigryw Gymreig a hefyd yn lle unigryw a hardd, a lle hudol iawn. Ond rydym yn darllen hanes ein gwlad drwy ein heglwysi a'n capeli a'n hadeiladau crefyddol.
Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges wrth gyflwyno'r ddadl hon, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymateb i'r rheini. Fe fydd yn gwybod bod y ganolfan dreftadaeth sy'n cael ei hadeiladu ym Merthyr, o'r synagog, yn sôn am hanes y gymuned Iddewig yng Nghymoedd de Cymru. A chredaf fod yn rhaid inni ddod i delerau â rhannau o'n hanes o hyd, ac yn sicr mae'r terfysgoedd gwrth-Iddewig yn Nhredegar ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf yn rhywbeth nad ydym wedi dod i delerau â hwy eto heddiw. Yn y ffordd y diogelwn y brics a'r morter, credaf mai'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yw trosi hynny i'r presennol hefyd ac i bwy ydym ni fel pobl a phwy ydym am fod fel cenedl.
Hoffwn ofyn i'r Gweinidog hefyd sut y mae'n credu y gellir defnyddio Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a basiwyd gan y lle hwn yn ôl yn 2016, rwy'n credu, i ddiogelu'r lleoedd hyn, oherwydd hyd nes y byddwn wedi diogelu'r lleoedd hyn, yn llythrennol ni fydd gennym frics i allu adeiladu'r dyfodol hwn. Felly, yn y ddadl hon y prynhawn yma, rydym wedi ymestyn yn ôl i gysgod yr ymerodraeth Rufeinig, pan wnaethom adeiladu ein cenedl, ac i lle y cafodd y genedl honno ei ffurfio, yn y chwyldro diwydiannol a'r holl rannau eraill o'n hanes yr ydym yn gyfarwydd â hwy, ond hefyd yn y capeli a'r eglwysi. Nid Llywodraeth yn creu pobl oedd yr hyn a ddigwyddodd yno, ond pobl yn creu diwylliant.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r eitem hon i'w thrafod. Fel y gŵyr nifer yma eisoes, rwy'n siomedig o weld cynifer o adeiladau hanesyddol ledled Cymru yn cael eu gadael yn segur ac yna, o ganlyniad, yn cael eu chwalu a'u dymchwel er mwyn codi adeiladau mwy newydd a mwy dinod yn eu lle, adeiladau nad ydynt yn cyfrannu at hunaniaeth ardal. Mae cael gwared ar adeiladau fel hen eglwysi a chapeli yn newid ein tirwedd drefol yn y pen draw, ac yn fy marn i, mae'n cael effaith negyddol ar y ffordd yr ydym yn cysylltu ac yn uniaethu â'r mannau lle'r ydym yn byw. At hynny, rydym yn colli ein cysylltiad diriaethol â'n hanes ein hunain. Er bod amgueddfeydd yn darparu enghreifftiau priodol, wrth inni ddatblygu ein hardaloedd trefol, mae perygl inni erydu hunaniaeth ein cymunedau.
Yn bersonol, ac fel y dywedwyd eisoes, mae adeiladau crefyddol yn rhan bwysig iawn o'n cymuned, ac maent wedi darparu lloches a gobaith i genedlaethau o bobl drwy rai o'r adegau mwyaf cythryblus yn hanes ein cenedl. Wrth inni gael gwared ar ein mannau addoli, rydym yn dynodi'n anfwriadol fod colli ein crefydd yn beth da, sydd yn fy marn i yn sefyllfa drist, oherwydd mae'n normaleiddio'r farn nad yw ein hysbrydolrwydd a'n cysylltiad â phŵer uwch yn berthnasol mwyach.
Yn y pentref lle rwy'n byw, Llanilltud Faerdref, mae capel Methodistiaid Calfinaidd Bethesda ac eglwys haearn rhychiog gwyrdd Sant Andrew bellach yn atgofion pell. Nid anghofiaf gapel Methodistiaid Calfinaidd Trinity a'r effaith a gafodd arnaf pan yrrais rownd y gornel un diwrnod i weld yr adeilad a fu yn fy nghymuned ers 1913, heb rybudd i'r gweddill ohonom yn y pentref, yn ddim byd ond pentwr o frics ar y ddaear. Cyfrannodd pob un o'r adeiladau hyn at hanes fy mhentref a'i siapio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a bellach rwy'n ofni y bydd y genhedlaeth nesaf a phobl sy'n symud i'r ardal yn gweld fy mhentref fel dim mwy nag ystâd enfawr o dai heb hanes na hunaniaeth unigryw ei hun.
Er bod cymunedau o bosibl wedi cefnu ar addoli yn yr adeiladau hyn, a bod y rheswm dros eu defnydd gwreiddiol wedi pylu, ni ddylem fod mor barod i ganiatáu iddynt gael eu dinistrio, oherwydd nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod cymunedau'n dal i fod eu heisiau ac y byddent yn falch o'u gweld yn cael eu hachub a'u haddasu at ddibenion gwahanol, gan barhau i wasanaethu'r gymuned yn yr ysbryd y cawsant eu hadeiladu. Byddwn hefyd yn dadlau y byddai sefydliadau sy'n berchen ar yr adeiladau crefyddol hyn yn croesawu eu gweld yn cael eu hailddefnyddio yn hytrach na'u dymchwel ac y byddent yn barod i gynnig eu cymorth a'u gwasanaethau i wneud hynny mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn bwysleisio bod angen inni wneud mwy fel cenedl sy'n cydnabod pwysigrwydd llesiant ein cymunedau i'w helpu i addasu'r adeiladau crefyddol a hanesyddol eraill hyn at ddibenion gwahanol. Yn ddiweddar, cyfarfûm â chymdeithas dai ynglŷn â'u cynlluniau i ddymchwel hen ysgol yn fy rhanbarth, ac un o'r rhesymau pam y maent yn gwneud hyn yn hytrach na'i hadnewyddu yw oherwydd defnydd aneffeithlon yr adeilad o ynni a'r diffyg cymorth ariannol i wneud unrhyw beth i'w wella. O ystyried hyn a'r angen digynsail i adeiladu dyfodol sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, mae angen inni ddarparu lefel fwy addas o adnoddau cyhoeddus i gymunedau, asiantaethau a grwpiau crefyddol allu uwchraddio effeithlonrwydd ynni'r adeiladau hyn a'u helpu i gyrraedd targedau datgarboneiddio.
Yn olaf, fel y soniwyd eisoes, o ystyried gwerth adeiladau crefyddol i'r gymuned a'u gwerth posibl i dwristiaeth, fel teithiau pererindod a llwybrau hanesyddol, rwy'n credu y dylem ddarparu tystiolaeth a chefnogaeth glir y gall cymunedau addasu neu adfywio eu hadeiladau crefyddol a'u galluogi i barhau i wasanaethu eu cymunedau cyn y caiff rhagor eu colli. Diolch, Lywydd dros dro, a hoffwn annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn y ddadl hon, ond roedd Mike wedi cysylltu ac roeddwn i'n meddwl am ba mor bwysig mae adeiladau crefyddol wedi bod i fy nheulu i, felly roeddwn i eisiau dweud gair.
Rwy'n cofio offeiriad yn ysgrifennu darn yng nghylchlythyr y plwyf, a dywedodd, 'Nid amgueddfa i seintiau yw'r eglwys, ond ysbyty i bechaduriaid.' Mae'r frawddeg honno wastad wedi aros yn y cof—fod yr adeiladau crefyddol hyn sydd gennym yng Nghymru wedi'u hadeiladu nid yn unig i ddathlu gogoniant eu Duw, ond fel balm i'r gynulleidfa, lle i gael cysur, i addoli ac i gael heddwch. Mae'r adeiladau hyn i'w gweld ar bron bob stryd yn nhrefi'r Cymoedd, ac fel y dywed yr hen jôc, bydd gan bob pentref yng Nghymru gapel yr ydych yn ei fynychu yn ogystal â'r holl gapeli nad ydych yn eu mynychu, ond fwy a mwy y dyddiau hyn, ychydig iawn sy'n eu mynychu.
Mae'r adeiladau hyn—mae'r pwynt wedi'i wneud—yn fwy na gwaith maen; rhain yw eglwysi cadeiriol ein cof cyfunol, ein cysylltiad â'n gorffennol. Mae yna eglwys ym Mhatrisio ag iddi groglen o'r bymthegfed ganrif. Yn y fynwent mae croes yn nodi'r man lle'r oedd Gerallt Gymro'n pregethu'r drydedd groesgad. Pan fyddwch yn sefyll yno, gallwch ddychmygu eich bod yn clywed y geiriau. Mae'r synagog ym Merthyr yn dangos tueddiadau pensaernïol tylwyth teg amlwg castell Cyfarthfa a Chastell Coch gerllaw, adeilad sy'n adlewyrchu ein hanes mwy diweddar a'r wyneb y mae'n ei ddangos i'r byd. Pe bai adeiladau fel hyn yn cael eu colli, faint o'n hanes a fyddai'n cael ei gladdu gyda hwy? Dim ond sylfeini Abaty Ystrad Fflur sy'n weddill, man claddu Dafydd ap Gwilym yn ôl y chwedl. Nid oes fawr ddim ar ôl o Abaty Cwm Hir. Mae gormod o fannau crand, enwog yn dwyn i gof y llinell gan Harri Webb fod danadl yn tyfu ar yr allor lle'r oedd y seintiau'n ymprydio a'r pererinion yn gweddïo.
Nid yn unig y mae'r adeiladau hyn yn bwysig i'n gorffennol. Maent yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y gymuned fel canolfannau ar gyfer boreau coffi, ffeiriau sborion, mannau casglu, banciau bwyd. Drwy gydol COVID-19, defnyddiwyd capeli, eglwysi, synagogau, mosgiau, gwrdwaras a themlau ar gyfer allgymorth, cysylltu aelodau o'r gymuned, trefnu dosbarthu bwyd, corau Zoom, cynlluniau cyfeillio. Maent yn cynnig rhaff achub i breswylwyr o bob ffydd a'r di-ffydd. Byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o adeiladau crefyddol yn cael cymorth, yn cael cyllid gwarantedig fel y gallant gadw eu drysau ar agor a chadw'r gwres ymlaen. Gwn fod Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr wedi ysgrifennu at yr Aelodau cyn y ddadl heddiw i dynnu sylw at y ffaith y bydd cyllid, boed o'r Loteri Genedlaethol neu'r gronfa adferiad diwylliannol, yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ac mae llai o arian ar gael yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.
Mae llawer o esgobaethau a llawer o gynulleidfaoedd yn dibynnu ar roddion gan y bobl sy'n mynychu ac sy'n gysylltiedig â'u cynulleidfaoedd, a bydd hyn yn wir am bob ffydd. Ond oherwydd y pandemig, mae llai o bobl yn mynychu gwasanaeth neu offeren neu gyfarfod gweddi. Nid ydynt yno i roi'r arian yn y fasged. Tybed pa sicrwydd arall y gall y Llywodraeth ei roi i gymunedau crefyddol yng Nghymru y gellir diogelu eu hadeiladau, yn ogystal â'u cryfhau a'u cefnogi? Oherwydd rwy'n ailadrodd eto nad cofadeiladau i'r dwyfol yn unig ydynt, ond tystiolaeth fyw o ewyllys da trigolion yn ein cymunedau—pobl o bob crefydd, y rhai heb unrhyw grefydd, y rhai sy'n dod at ei gilydd i gefnogi pobl sydd angen y gefnogaeth honno, i ddarparu cysur i ddieithriaid, a heddwch i'r rhai sydd ei angen.
Diolch am gyflwyno'r ddadl hon, Mike. Maent yn dweud nad oes unrhyw beth yn sicr mewn bywyd ar wahân i farwolaeth a threthi. Wel, gallaf ddweud wrth y Siambr heddiw nad oes unrhyw beth yn sicr ar wahân i farwolaeth, trethi ac eglwysi a chapeli yn y Rhondda. Ni allwch yrru o'r Cymer i fyny i Dreherbert neu o Drehafod i Faerdy heb basio eglwys neu gapel. Rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda Rhys ab Owen am y cymanfaoedd a gynhaliwyd yn y Rhondda a hen eglwys y Bedyddwyr, Noddfa, yn Nhreorci, a'r rheswm am hynny yw oherwydd, yn ystod y chwyldro diwydiannol, roedd eglwysi a chapeli yn bileri cymunedau dosbarth gweithiol ac roeddent yn rhan sylfaenol o fywydau ein cyndadau. Mae rhai yn parhau i fod yn sefydliadau pwysig yn ein cymunedau heddiw, ond rydym wedi gweld dirywiad sylweddol mewn eglwysi a chapeli gweithredol, gyda llawer iawn naill ai wedi'u gwerthu neu wedi'u gadael i ddadfeilio.
Wrth dyfu i fyny, roeddwn yn arfer mynychu eglwys Llanfair cyn iddi wneud lle i dai. Boed eich bod yn grefyddol ai peidio, mae mynychu'r adeiladau crefyddol hyn yn rhoi ymdeimlad o deulu a pherthyn i chi. Maent yn sefyll fel canolfannau cymunedol, ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau yn y Siambr yn cytuno â mi fod ein grwpiau cymunedol a'n helusennau yn chwarae rhan hanfodol i'r rheini y mae fwyaf o angen cymorth arnynt yn ein cymunedau. O gymorth iechyd meddwl a llesiant, presgripsiynu cymdeithasol, a darparu prydau am ddim i deuluoedd a'n cenedlaethau hŷn, i wirfoddoli a chyfleoedd gwaith ar garreg y drws i'n pobl ifanc, mae grwpiau cymunedol ac elusennau yn darparu gwasanaethau hanfodol o'r fath, ond mae dyfodol llawer ohonynt yn y fantol yn anffodus, oherwydd ansicrwydd trefniadau rhent. Mae angen inni ddileu'r rhwystr hwnnw a helpu'r grwpiau cymunedol a'r elusennau hyn i ddod o hyd i gartrefi parhaol. Nid wyf yn gweld pam na all adeiladau crefyddol fod yn gartref iddynt.
Ceir dwy enghraifft yn y Rhondda o eglwysi sydd bellach wedi dod yn fwy nag adeiladau crefyddol. Ym Mhenrhys, mae Sharon yn gweithio'n galed gyda byddin o wirfoddolwyr i ddiwallu anghenion y teuluoedd sy'n byw yn ei chymuned. Bydd trigolion yr ystâd yn dweud wrthych y byddai bywyd yn llawer anos iddynt heb yr eglwys a heb Sharon. Hefyd, mae gennym Gymuned Santes Anne Ynys y Werin, sy'n gweithio'n ddiflino i godi arian i brynu eglwys Santes Anne ar gyfer y gymuned. Mae eglwys Santes Anne yn adeilad hardd ac mae'r adeilad yn lwcus iawn o gael grŵp mor angerddol yn brwydro drosto. Gallaf weld o'r eglwysi a'r capeli gwag yn y Rhondda, a'r ddwy enghraifft rwyf newydd eu crybwyll ym Mhenrhys ac Ynys-hir, y gwahaniaeth cadarnhaol y gallai cynigion Mike ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru. Byddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw.
Ac yn olaf, Mabon ap Gwynfor.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro, a diolch yn fawr iawn i Mike am ddod â'r ddadl yma ger ein bron. Dwi wedi'i mwynhau'n arw, hyd yma, beth bynnag, a dwi eisiau cyfyngu fy nghyfraniad rhyw ychydig, os caf i. Ond mae'n ddadl amserol iawn, yn enwedig wrth ystyried, y rhai ohonoch chi a fydd yn cofio'r haf diwethaf, y drafodaeth fuodd yn Nwyfor Meirionydd am Gapel Tom Nefyn, Pistyll, efo'r gymuned yno yn trio achub y capel yno ar gyfer budd cymunedol, ond yn y diwedd y capel yn cael ei brynu ac yn mynd i gael ei ddatblygu yn dŷ haf. Felly, mae'n rhaid i ni edrych hefyd at ddibenion cymunedol yr adnoddau yma.
Mae'n ddadl sy'n bwysig i mi'n bersonol hefyd am sawl rheswm. Yn gyntaf, dwi'n fab i weinidog, ac wedi mynychu sawl capel ar hyd fy oes. Dwi hefyd yn bregethwr lleyg, neu mi oeddwn i cyn cael fy ethol, ac mae'n drist dweud bod y tri chapel diwethaf imi bregethu ynddynt bellach wedi cau. Dwi ddim yn gwybod ydy hwnna mewn gwirionedd yn dweud rhywbeth am fy mhregethu i yn fwy na'r cynulleidfaoedd, neu ddiffyg cynulleidfaoedd, a oedd yn mynd yno. Mae'r capeli yna bellach yn eistedd yn wag, ac un wedi'i droi mewn i swyddfeydd.
Hefyd mae gen i ddiddordeb teuluol yn y peth. Roedd fy ewythr i, Dewi-Prys Thomas, yn bensaer nodedig, ac mi oedd o'n bencampwr i gapeli Cymru. Mae ysgolheigion o'r tu allan i Gymru wedi dadlau erioed nad oes yna fath beth â phensaernïaeth Gymreig, ond roedd Dewi-Prys Thomas yn anghytuno. Roedd o'n dadlau bod yr hen gapeli bach Cymreig yn enghreifftiau perffaith o bensaernïaeth werinol Cymru, efo'r capel yn ganolbwynt cymunedol yn tynnu pobl ynghyd. Felly, mae yna werth pensaernïol i'r adeiladau hynny.
Dwi'n fab i weinidog, fel tithau. Fyddet ti'n cytuno efo fi mai un o'r ffyrdd gorau i allu symud pethau ymlaen fyddai cydweithio cydenwadol a chydaddoli cydenwadol i ddod â chymunedau at ei gilydd yn lleol?
Dwi'n cytuno. Mae Peredur yn gwneud pwynt pwysig yn fanna. Mae yna gapeli yn wag, so pam ddim yr enwadau'n dod ynghyd er mwyn cael defnydd o gapel sydd ddim ond yn cael ei ddefnyddio yn rhan amser ar hyn o bryd? Mae'n bwynt pwysig gan Peredur.
Mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio hefyd fod yr adeiladau yma wedi cael eu hadeiladu nid yn unig at ddibenion crefyddol, ond hefyd yn fwriadol fel asedau cymunedol, fel sydd wedi cael ei sôn gan Rhys ynghynt. Yn wir, os darllenwch chi erthyglau sefydlu rhai o'r capeli yma, maen nhw'n sôn am ddibenion crefyddol, ond hefyd dibenion gwleidyddol, a dibenion cymdeithasol yn benodol, efo cyfarfodydd mawr gwleidyddol yn aml iawn yn cael eu cynnal yn y capeli yna, efo cymanfaoedd a chyngherddau hefyd. Roedden nhw'n adeiladau a oedd yn ganolbwynt i'r gymuned, ac yn amlbwrpas, felly mae'n iawn ein bod ni yn trafod sut mae ailberchnogi'r adeiladau yma a'u hailbwrpasu nhw yma at ddibenion amgenach heddiw.
Diolch yn fawr iawn i Mike am y ddadl, a gobeithio y caiff y cynnig ei dderbyn yn ddiwrthwynebiad.
Galwaf ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, Dawn Bowden.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. A gaf fi ddiolch i Aelodau'r Senedd am gyflwyno'r ddadl wirioneddol bwysig hon ar gau adeiladau crefyddol ledled Cymru, ac am ddangos cymaint o angerdd ynghylch y mater—mater sydd, yn fy marn i, yn peri pryder i bob un ohonom? Oherwydd mae gan bob un ohonom yr adeiladau hyn yn ein hetholaethau, onid oes? Cyfeiriodd Alun Davies at y synagog ym Merthyr Tudful, a fydd yn cael ei haddasu i fod yn ganolfan treftadaeth Iddewig ar gyfer Cymru gyfan. Rwy'n meddwl am Gapel Aberfan, sydd bellach yn wag, a'i bwysigrwydd i'r gymuned honno ar ôl y drychineb yn Aberfan.
Mae mannau addoli wedi'u gwreiddio'n llwyr yn nhreftadaeth pob cymuned yng Nghymru, ac roedd yn wych clywed Rhys ab Owen, Joel James, Delyth Jewell, Buffy Williams a Mabon ap Gwynfor i gyd yn siarad mor angerddol ac ysbrydoledig am enghreifftiau o'u bywydau eu hunain a'u hetholaethau eu hunain, oherwydd gyda'i gilydd maent yn cynnwys mwy o hanes, o bosibl, nag unrhyw fath arall o adeilad a welwn bob dydd. Mae cymaint â 3,000 o fannau addoli wedi'u rhestru yng Nghymru, sy'n gydnabyddiaeth rymus o'u harwyddocâd pensaernïol a hanesyddol. Nid oes llawer ohonynt wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru statudol ar lefel genedlaethol, ond wrth gwrs maent yn dal i fod yn bwysig iawn ar lefel leol.
Yn anffodus, mae'r cysylltiadau cymunedol sydd wedi cynnal yr holl adeiladau hynny dros ganrifoedd wedi treulio'n denau iawn mewn sawl ardal. Cytunaf yn llwyr ei bod yn hanfodol i Lywodraeth Cymru weithio gyda gwahanol enwadau i drafod dyfodol yr adeiladau hyn. Rwy'n falch o adrodd bod fy swyddogion yn Cadw yn gwneud hynny. Mae'n rhaid inni hefyd fod yn greadigol a gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid eraill i ddod o hyd i ddyfodol cynaliadwy i'r adeiladau gwerthfawr hyn sy'n eu hadfer i'w lle yng nghalon ein cymunedau.
A hoffwn ddechrau efallai drwy roi ychydig o enghreifftiau da o lle mae'r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus ac yna esbonio'n fyr sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar lefel strategol ar hyn o bryd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon cyffredin hyn. Felly, mae yna gynlluniau addasu, er enghraifft, sy'n ymateb i werth cymdeithasol adeiladau crefyddol, gyda ffyrdd newydd o'u defnyddio sy'n sicrhau budd i'r gymuned. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n helaeth yn rhai o'r rhain, gan gynnwys y llyfrgell yng nghapel Hanbury ym Margod. Mae'r rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi prosiectau sy'n datblygu eiddo sy'n cael ei danddefnyddio neu sy'n wag, gan gynnwys sawl hen addoldy. Ac rwy'n cymeradwyo ymrwymiad Circus Eruption yn arbennig, elusen ieuenctid sydd wedi ymsefydlu yn hen eglwys Sant Luke yng Nghwmbwrla yn Abertawe. Maent yn gweithio'n bennaf gyda phobl ifanc, gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches, gofalwyr ifanc a'r anabl, ac maent eisiau i'r adeilad hanesyddol hwn fod yn lle i bawb. Fel elusen nad oes ganddi unrhyw brofiad blaenorol o dreftadaeth, maent hefyd eisiau ysbrydoli elusennau eraill i weld bod adeiladau treftadaeth yn creu cyfle.
Mae rhaglen Cyfiawnder Tai Cymru, Ffydd mewn Tai Fforddiadwy, yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gymdeithasau tai yng Nghymru i ryddhau tir neu adeiladau dros ben ar gyfer tai fforddiadwy. Ar hyn o bryd mae'r sefydliad yn gweithio gyda'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ar brosiect peilot sy'n canolbwyntio ar addasu capeli hanesyddol segur.
Mae mannau addoli hefyd yn cael eu hannog i ymchwilio i ffyrdd y gallant agor eu drysau at ddefnydd y gymuned, ochr yn ochr â'u diben gwreiddiol. Enghraifft bwysig, rwy'n siŵr y bydd Mike Hedges yn ymwybodol ohoni, yw Tabernacl Treforys, lle bydd mannau ategol yn cael eu haddasu at ddefnydd y gymuned, gan adael tu mewn gogoneddus y capel heb ei newid a gwneud defnydd ohono. Nawr, tra bod agor y drysau i ddiwallu anghenion y gymuned leol yn bwysig, ni fydd o reidrwydd yn darparu digon o incwm i gadw to ar yr adeilad. Fodd bynnag, gall mannau addoli estyn allan at gymuned lawer ehangach i helpu i gynnal yr adeiladau hynny. Er enghraifft, mae diddordeb cynyddol mewn twristiaeth ffydd, ac rydym yn dechrau gweld syniadau newydd creadigol i wireddu ei photensial, gan gynnwys profiadau y gellir eu harchebu a llwybrau thema a hyrwyddir gan Croeso Cymru ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi.
Mewn achosion eithriadol, gall adeiladau crefyddol gwag gael eu cynnal a'u cadw heb eu newid i raddau helaeth gan ymddiriedolaethau a sefydlwyd yn benodol at y diben hwnnw. Ac mae dwy ymddiriedolaeth sy'n gweithredu'n genedlaethol yng Nghymru. Mae gennym Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, sy'n achub ac yn atgyweirio eglwysi gwag yr Eglwys yng Nghymru ac yn cadw eu drysau ar agor, ac ar hyn o bryd mae ganddi tua 28 o eglwysi, mewn ardaloedd gwledig yn bennaf. Yna mae gennym Addoldai Cymru, a sefydlwyd i ofalu am nifer fach o'r capeli anghydffurfiol gorau ledled Cymru, ac ar hyn o bryd mae'n gofalu am 10 capel. Mae'r ddau sefydliad yn derbyn cymorth grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru i barhau â'u gwaith.
Felly, mae addasu ar gyfer defnydd newydd sy'n ymateb i arwyddocâd llawn adeiladau crefyddol, cyflwyno ffyrdd ychwanegol o'u defnyddio sy'n helpu i gynnal adeilad, estyn allan at amrywiaeth o gymunedau newydd a diddordebau newydd neu gyflwyno i ymddiriedolaeth yn enghreifftiau o ffyrdd y gellir rhoi dyfodol i'n hadeiladau crefyddol. Ond mae pob un ohonynt yn dibynnu ar bobl—i ofalu am yr adeiladau, i agor y drysau, i groesawu ymwelwyr, i ddarparu gwasanaeth cymunedol. Maent yn dangos pwysigrwydd trosfwaol creu cysylltiadau newydd rhwng adeiladau a'u cymunedau, gan gydnabod bod yr adeiladau hyn yn eiddo i bob un ohonom. Felly, mae'n galonogol fod llawer yn mynd ymlaen eisoes i geisio mynd i'r afael â hyn, a hoffwn i'r gweithgarwch hwn gael ei rannu a'i ddathlu'n ehangach.
Nawr, efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, wedi cyhoeddi cynllun gweithredu strategol ar gyfer mannau addoli yng Nghymru yn 2015. Roedd y cynllun yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau yn defnyddio, yn mwynhau ac yn gofalu am fannau addoli hanesyddol, a'i gam gweithredu pwysicaf oedd sefydlu fforwm mannau addoli i rannu gwybodaeth ac arferion gorau ac adolygu anghenion parhaus. Denodd y fforwm gynrychiolaeth o bob rhan o'r sector ac am nifer o flynyddoedd defnyddiwyd ei gyfarfodydd fel cyfle i ddysgu o brosiectau amrywiol ledled Cymru. Cafodd y cyfarfodydd wyneb yn wyneb hyn eu hatal gan y pandemig wrth gwrs, ond manteisiodd y fforwm ar y cyfle i fyfyrio ar ei gyfeiriad ac mae bellach yn y broses o ymsefydlu ar sail newydd. Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru, unwaith eto drwy Cadw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau fforwm i gynnal adolygiad ffurfiol o'i gwaith a'r cynllun strategol. Yn ogystal, maent yn defnyddio cyfarfodydd gweminar ar-lein i gyrraedd pobl ar lawr gwlad. Mae tri chyfarfod o'r fath eisoes wedi'u cynnal, gan ddod â siaradwyr at ei gilydd i gynnig cyngor proffesiynol, gyda lleisiau angerddol o gymunedau ledled Cymru yn siarad am eu profiadau eu hunain. Roedd y ddau ddigwyddiad diweddaraf yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned a chodi arian. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y digwyddiad nesaf yn ystyried yr amgylchedd ac ymatebion i newid hinsawdd.
Ond rwy'n hoff o awgrym Mike Hedges y gallem archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio adeilad eglwys gwag, neu gapel, fel amgueddfa genedlaethol ar gyfer crefydd. Credaf fod hyn yn rhywbeth y gallai'r fforwm edrych arno fel cyfle i weld pa bosibiliadau a allai fod ar gael i rai o'r adeiladau gwag hyn.
Nawr, nid wyf o dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr her. Ond pan fyddaf yn arolygu'r mentrau sydd eisoes ar y gweill, a phan welaf yr egni a'r ymrwymiad sy'n cael ei roi i gyflawni'r her hon, credaf fod llawer o'r elfennau a fydd yn ein helpu i ailsefydlu'r cysylltiad hanfodol rhwng adeiladau a chymunedau eisoes yn eu lle. Y cyswllt hwnnw a fydd yn rhoi ffydd i'n mannau addoli hanesyddol yn eu dyfodol.
Felly, rwy'n fodlon cefnogi'r cynnig ac rwy'n cytuno bod angen inni weithio gyda'r gwahanol enwadau i sicrhau dyfodol i'r adeiladau hyn. Wrth gwrs, bydd angen inni weithio gyda phartneriaid eraill, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro ein bod yn ceisio gwneud hynny.
Galwaf yn awr ar Jane Dodds i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Lle arall y byddech yn clywed meibion gweinidogion, Sam Rowlands a Mabon ap Gwynfor, yn sôn yn benodol am 48 capel ac eglwys ac adeiladau crefyddol eraill, a dau ddywediad gwych, un gan Alun Davies—roeddwn yn hoff iawn ohono—a ddywedodd ei fod wedi clywed am bobl yn pregethu yn Saesneg ac yn gweddïo yn Gymraeg, a hefyd, gan Delyth Jewell, a ddywedodd nad amgueddfeydd ar gyfer y seintiau yw eglwysi a chapeli, ond ysbytai i bechaduriaid?
Rydym wedi cael dadl wych y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn i chi i gyd. Clywsom gan Sam Rowlands pa mor bwysig yw ffydd i ni yn ein cymunedau, a bod adeiladau crefyddol yn galon i'n cymunedau. Nid tirnodau hanesyddol yn unig ydynt, ond mae angen inni eu defnyddio, oherwydd maent yma i aros.
Clywsom gan Rhys hefyd am yr amrywiaeth o wahanol ffyrdd y gellir defnyddio ein capeli. Maent yn fannau lle y ceir dadleuon hanesyddol a gwleidyddol, maent yn fannau lle y cawn gymanfaoedd canu, lle y dechreuodd ein hemynwyr gwych—clywsom lawer o'r enwau hynny'n cael eu crybwyll—corau, mannau addysgiadol—ac roedd Samuel Kurtz hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ysgolion Sul—mae gennym wasanaethau lles yn cael eu rhedeg oddi yno, neuaddau trafod, mannau lle y cafodd gwleidyddion eu meithrin.
Yna clywsom gan Alun Davies sut y maent yn rhan o'n tapestri cymdeithasol a diwylliannol, a pha mor bwysig yw hynny. Ond maent yn fwy na rhan o'n tapestri cymdeithasol a diwylliannol. Maent yn rhan o'n dyfodol hefyd.
Clywsom gan Joel James pa mor bwysig yw capeli ac eglwysi, ac y gallai eu diflaniad erydu ein hunaniaeth. Mae'n rhaid iddynt roi ymdeimlad o ddiogelwch a gobaith i bob un ohonom. Mae'n rhaid eu hachub a'u haddasu at ddibenion gwahanol, ac mewn gwirionedd maent angen cymorth i ddatgarboneiddio a bod yn wyrddach hefyd.
Delyth Jewell, diolch yn fawr iawn. Mae'n bwysig clywed sut y mae'r capeli hynny'n bwysig i chi, a bod angen sicrwydd arnom ar gyfer yr adeiladau hyn. Mae angen eu diogelu. Maent yn dystiolaeth fyw ac yn lleoedd lle y gallwn ddod o hyd i heddwch.
Clywsom gan Mabon pa mor bwysig yw hi i gapeli gael eu cynnal fel capeli, a'r enghraifft a roddodd yn ei gymuned ei hun o un yn cael ei addasu'n gartref gwyliau. Clywsom hefyd am ei rôl flaenorol fel pregethwr, ac mewn gwirionedd—. Byddwn wedi bod wrth fy modd yn eich clywed yn pregethu, Mabon. Ond y capel yw canolbwynt ein cymuned. Maent yn asedau cymunedol. Dyna a ddywedoch chi, Mabon, a pha mor bwysig yw hynny.
A chlywsom gan Buffy Williams hefyd am y capeli yn ei chymuned yn y Rhondda, a oedd mewn gwirionedd yn rhoi gobaith, yn bywiogi ei chymuned, a sut roedd hynny'n darparu rhywbeth gwahanol a chadarnhaol i'r bobl yn ei chymuned mewn gwirionedd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac roedd yn dda clywed am y cynlluniau sy'n mynd rhagddynt, y cynllun gweithredu strategol y gwyddom amdano, i edrych ar y fforwm mannau addoli—ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am hynny ar ôl iddo gael ei ohirio yn sgil COVID—ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi hefyd a'r hyn y maent yn ei wneud. Ond mae'n rhaid inni symud ymlaen, fel y dywedoch chi, ac nid ydych dan unrhyw gamargraff, ond drwy weithio gyda'n gilydd rhaid inni ddod o hyd i ffordd o symud ymlaen o ran cefnogi capeli ac eglwysi ac adeiladau crefyddol eraill, oherwydd, fel y clywsom, maent yn galon i'n cymuned ac maent yn rhoi gobaith i bobl. Maent yn darparu profiadau gwahanol i'r cymunedau hynny, maent yn fannau y mae pobl hŷn yn eu mynychu, mannau y mae pobl unig yn eu mynychu, pobl sydd angen cymorth a chefnogaeth, ond hefyd, maent yn fannau lle y gallwn ganu a mwynhau ein hunain.
Gwych clywed hefyd, Weinidog, eich bod yn barod i ystyried awgrym Mike Hedges ynglŷn â sut y gallem gael amgueddfa eglwysi, sut y gallwn gael llwybr cerdded, llwybr teithio, o gwmpas eglwysi a chapeli ledled Cymru. Ac rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen gyda'r awgrymiadau hynny. Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae wedi gwneud inni ddod yn fyw yn y Senedd, ac er nad wyf yno, gallaf deimlo'r cynhesrwydd a'r cariad sydd gan lawer ohonoch, ac rwy'n siŵr fod hynny'n cael ei rannu ar draws y Siambr, tuag at lawer o'r adeiladau crefyddol ac eglwysi a chapeli hyn. Mae pawb ohonom wedi bod ynddynt. Mae pawb ohonom wedi cael adegau o dristwch. Mae pawb ohonom wedi cael adegau o hapusrwydd hefyd. Gadewch inni sicrhau ein bod yn cadw'r rheini wrth galon ein cymuned. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.