6. Dadl Plaid Cymru: Iechyd menywod

– Senedd Cymru ar 18 Mai 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:39, 18 Mai 2022

Eitem 6 y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar iechyd menywod. Galwaf ar Sioned Williams i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8004 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at y diffyg sôn am iechyd menywod—gan gynnwys darpariaeth mamolaeth—yng nghynllun hirdymor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach', er gwaethaf y nod a ddatganwyd o fod yn 'lywodraeth ffeministaidd'.

2. Yn nodi bod costau sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n llwyr ar fenywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis, a dementia.

3. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, a bod angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datblygu Strategaeth Iechyd Menywod pwrpasol i Gymru a ddylai ganolbwyntio ar iechyd gydol oes menywod;

b) darparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol, sydd ar gael i breswylwyr ar hyd a lled Cymru;

c) buddsoddi mewn ymchwil o ansawdd uchel i iechyd a thriniaethau menywod;

d) buddsoddi mewn gwell hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd menywod.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:40, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gallwn agor y ddadl hon drwy restru’r ystadegau sy’n dangos yn glir yr angen i weithredu ar anghydraddoldebau iechyd a’r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno’r cynnig hwn gerbron yr Aelodau heddiw, a bod angen craffu a dadlau ynghylch y diffyg strategaeth iechyd menywod, yn enwedig o ystyried nod datganedig y Llywodraeth ei hun o ddod yn Llywodraeth ffeministaidd. Ond rwyf am arbed fy ngeiriau fy hun y prynhawn yma a gadael i eraill siarad ar fy rhan, gan fy mod am rannu adroddiadau a phrofiadau menywod a fydd yn dadlau'r achos dros ein cynnig yn rymus ac yn llwyddiannus. Mewn gwirionedd, mae rhoi'r llwyfan iddynt hwy yn Siambr y Senedd, gan sicrhau bod pob un ohonom yn clywed eu lleisiau y prynhawn yma, yn hollbwysig. Oherwydd y gwir trist yw bod stigmateiddio cyflyrau iechyd menywod fel endometriosis, y menopos, syndrom ofarïau polysystig, anhwylder dysfforig cyn mislif ac eraill yn cyfyngu ar y sgwrs ac yn ynysu menywod pan fyddant, mewn gwirionedd, yn brofiadau a ddylai ein huno a'n sbarduno i weithredu. Nid yw'r lleisiau hyn yn cael eu clywed, na’u galwad am fwy o gymorth, am y sylw y maent yn ei haeddu, am driniaeth well, oherwydd, yn hanesyddol, gyda phrinder buddsoddiad mewn ymchwil i iechyd menywod yn gyffredinol, mae cyn lleied o ymchwil wedi bod i gyflyrau fel endometriosis fel nad ydym hyd yn oed yn gwybod beth sy'n ei achosi. A heb wybod yr achos, wrth gwrs, ni ellir dod o hyd i wellhad.

Mae Kate Laska o Wynedd yn dioddef o endometriosis. Bu’n rhaid iddi deithio y tu allan i Gymru i gael cymorth arbenigol a thalu’n breifat am driniaeth, ar ôl aros am flynyddoedd i gael diagnosis a hyd yn oed yn hwy i gael triniaeth. Ac mae hi mewn poen cronig o hyd. Dyma ei geiriau hi:

'Dychmygwch eich bod yn byw mewn cryn dipyn o boen corfforol ers blynyddoedd. Rydych yn ceisio cael cymorth, ond dywedir wrthych fod y poen a deimlwch yn normal. Yn y cyfamser, rydych yn colli eich swydd, eich incwm a'ch partner. Ar ôl newid fy meddyg, cefais fy niagnosis o’r diwedd, ond nid oedd gennyf unrhyw syniad y byddwn yn treulio'r saith mlynedd nesaf yn ymladd dros fy hawl i gael triniaeth. Oherwydd y gofal a oedd yn aml iawn yn llai na delfrydol a diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y gweithwyr gofal iechyd yn ogystal â'r gymdeithas, gan gynnwys fi fy hun, gwaethygodd fy endometriosis i gam 4 ac roedd angen nifer o lawdriniaethau cymhleth arnaf. Nawr, dychmygwch nad ydych yn cael fawr o gefnogaeth ar yr adegau pan fydd ei hangen fwyaf arnoch, gan fod yna gred yn y gymdeithas mai tynged menywod yw profi poen. Mae menywod ag endometriosis yn dioddef yn dawel ac yn aml iawn ar eu pen eu hunain, gan na all unrhyw un o'u cwmpas ddychmygu eu poen. Un clinig arbenigol yn unig a geir, a hwnnw yng Nghaerdydd lle y gall menywod fel fi obeithio cael lleddfu eu poen. Fodd bynnag, mae'r clinig hwn yn llawn ar hyn o bryd. Mae amser yn hollbwysig gyda'r cyflwr cronig hwn. Dyna pam fod taer angen gwasanaeth lleol yng ngogledd Cymru.'

Mae’r diffyg buddsoddiad mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd menywod fel endometriosis wedi arwain at gytundebau trawsffiniol ar gyfer triniaethau—er enghraifft, mae menywod fel Kate, sy’n byw yng ngogledd Cymru, yn mynychu'r ganolfan endometriosis arbenigol yn Lerpwl. Ond nid yw hyn yn digwydd bob amser. Mae un o fy etholwyr, Becci Smart, wedi bod yn byw gydag anhwylder dysfforig cyn mislif, PMDD, er pan oedd yn 14 oed, ond ni wnaed diagnosis o'r cyflwr tan oedd yn 30 oed. Mae PMDD yn fath difrifol iawn o syndrom cyn mislif, a all achosi amrywiaeth o symptomau emosiynol a chorfforol bob mis yn ystod yr wythnos neu ddwy cyn eich mislif. Yn ei phrofiad ei hun, ac o brofiadau pobl eraill â PMDD y mae hi wedi siarad â hwy, dywed fod prinder difrifol o gymorth iechyd meddwl ar gael a diffyg dealltwriaeth o’r cyflwr ymhlith meddygon teulu. Yn wir, dywed fod dioddefwyr PMDD yn cael eu troi ymaith gan wasanaethau iechyd meddwl, gan y dywedir wrthynt, yn anghywir, mai cyflwr gynaecolegol yn unig yw hwn, yn hytrach na chyflwr iechyd meddwl. Wrth gwrs, mae'r ddau beth yn wir. Yn hytrach, dywedir wrthynt fynd i weld eu meddyg teulu, nad ydynt yn arbenigwyr ar iechyd meddwl, bob tro y bydd PMDD yn effeithio'n ddifrifol ar eu hiechyd meddwl, ac mae'n gwneud hynny am wythnos neu ddwy bob mis.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw brofion gwaed na phoer na sganiau a all wneud diagnosis o PMDD. Yr unig ffordd i wneud diagnosis ohono yw drwy olrhain symptomau ochr yn ochr â chylchred y mislif am o leiaf ddeufis llawn. Nid oes gwellhad, dim ond rheoli symptomau. Mae diagnosis yn cymryd 12 mlynedd ar gyfartaledd, ac mae'n rhaid mynd at chwe gweithiwr gofal iechyd proffesiynol gwahanol ar gyfartaledd. Hyn, tra bo PMDD yn effeithio ar un o bob 20 unigolyn o oedran atgenhedlu sy'n cael mislif, ac mae'r rheini sydd â PMDD yn wynebu risg 7 y cant yn uwch o hunanladdiad na phobl nad ydynt yn cael anhwylderau cyn mislif. Mae 72 y cant yn cael syniadau hunanladdol gweithredol yn ystod pob cylchred PMDD, hynny yw, ym mhob cylchred mislifol. Mae 34 y cant wedi gwneud ymdrechion hunanladdol gweithredol yn ystod wythnosau PMDD. Mae 51 y cant wedi hunan-niweidio mewn ffordd nad yw'n hunanladdol yn ystod wythnosau PMDD. Rwy’n siŵr y byddwn yn clywed llawer mwy o’r hanesion brawychus hyn yn rhan o gyfraniadau’r Aelodau y prynhawn yma. Rwy’n falch fod ein cynnig yn golygu y cânt eu clywed, gan fod y dioddefaint hwn yn anfaddeuol, gan nad oes unrhyw amheuaeth fod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ar waith yma.

Er bod gan fenywod yng Nghymru ddisgwyliad oes hirach na dynion, mae’n glir eu bod yn treulio llai o’u bywydau mewn iechyd da, ac mae hyn yn deillio o ddiffyg ymchwil feddygol i iechyd menywod, sy’n golygu nad yw ymchwilwyr yn cael cyfle i nodi ac astudio gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn clefydau. Ac mae’n creu rhagdybiaethau y bydd triniaethau meddygol tebyg yn gweithio i ddynion a menywod. Er enghraifft, mae diabetes, trawiadau ar y galon ac awtistiaeth yn gyflyrau a all edrych yn wahanol mewn dynion a menywod. Ceir cred hollbresennol hefyd mewn rhannau o’r gymuned feddygol sy’n deillio o batriarchaeth gymdeithasol, ac i ryw raddau, o gasineb at fenywod, fod menyw, pan fydd yn cwyno am ei hiechyd, naill ai’n hormonaidd, yn emosiynol neu’n afresymol, ac yn aml, caiff ei fframio o amgylch eu gweithrediadau atgenhedlol fel menywod.

Ceir bwlch iechyd rhwng y rhywiau y mae’n rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael ag ef. Pam arall y gwnaed pum gwaith cymaint o waith ymchwil i anhawster codiad ymhlith gwrywod, sy'n effeithio ar 19 y cant o ddynion, nag a wnaed i syndrom cyn mislif, sy'n effeithio ar 90 y cant o fenywod? Beth arall a all egluro pam, pan fo pryderon nad oedd rhai menywod ledled y DU yn gallu cael eu presgripsiynau oherwydd prinder cynhyrchion therapi adfer hormonau, HRT, ddwy flynedd yn ôl, y bu methiant i fynd i'r afael â’r prinder? Ac mae hyn, ynghyd ag effaith problemau cyflenwi byd-eang sy’n gysylltiedig â COVID, yn golygu y bydd oddeutu 1 filiwn o fenywod yn y DU, sy’n defnyddio HRT i leddfu symptomau’r menopos, yn cael eu heffeithio, ac felly hefyd nifer o fenywod yng Nghymru sy’n dibynnu ar y driniaeth hon.

Mae’n hollbwysig ein bod yn mynd i’r afael â’r methiannau ym maes iechyd menywod, fel y gallwn agor y sgwrs a newid ei natur gul. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth iechyd menywod bwrpasol i Gymru, a ddylai ganolbwyntio ar iechyd gydol oes menywod; gwasanaethau o ansawdd uchel, gan gynnwys gofal trydyddol arbenigol; a buddsoddiad mewn gwell hyfforddiant a hyfforddiant o ansawdd uchel ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl bwysig hon, ac rwy'n annog yr holl Aelodau i gefnogi’r cynnig. Ein dyletswydd i'r menywod sydd wedi dweud wrthym am eu poen a'u rhwystredigaeth yw gwrando a gweithredu. Diolch.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:48, 18 Mai 2022

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod nad yw iechyd menywod yn cael ei grybwyll yn benodol yng nghynllun hirdymor presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, 'Cymru Iachach'. Strategaeth lefel uchel yw hon sy'n nodi'r fframwaith a'r egwyddorion allweddol ar gyfer sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac, o’r herwydd, nid yw'n canolbwyntio ar grwpiau na chyflyrau penodol.

2. Yn nodi bod costau sylweddol yn gysylltiedig â chyflyrau iechyd sy'n effeithio'n unig ar fenywod ac ar rai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, megis endometriosis, y menopos, a chlefydau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, gan gynnwys clefydau awtoimiwnedd a chardiofasgwlaidd, osteoporosis a dementia.

3. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi bod menywod yn byw llai o flynyddoedd mewn iechyd da na dynion a'u bod yn fwy tebygol o fod mewn tlodi, sy’n golygu bod angen cymorth cymdeithasol ac ariannol arnynt.

4. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Datganiad Ansawdd a chynllun i’r GIG yn yr haf gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyson o ansawdd uchel ar draws holl feysydd iechyd menywod.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw? Pan ffurfiwyd y pwyllgor iechyd y llynedd, fel y mae llawer o bwyllgorau'n ei wneud, anfonodd ymgynghoriad at randdeiliaid perthnasol, a'r ymateb mwyaf a gafwyd oedd yr angen i ganolbwyntio ar faterion iechyd menywod, ac o ganlyniad, cytunodd holl aelodau'r pwyllgor y byddai hyn yn flaenoriaeth i’r pwyllgor iechyd yn y Senedd hon. Felly, a gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl? Ac fel Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn cefnogi cynnig Plaid Cymru fel y'i cyflwynwyd heddiw hefyd.

Fel rhan o’n gwaith fel pwyllgor, gwnaethom ofyn i Glymblaid Iechyd Menywod Cymru ddod i siarad â ni, i roi eu safbwyntiau i ni mewn sesiwn dystiolaeth gyhoeddus yn ôl ym mis Mawrth, felly rwyf am amlinellu rhai o’r materion a godwyd ganddynt. Ac o hynny hefyd, tynnwyd sylw'r Gweinidog at rai o’r materion, ond bydd y dystiolaeth a gawsom ar y diwrnod hwnnw yn ein helpu i wneud rhywfaint o’n gwaith arall hefyd drwy gydol gweddill y tymor hwn. Yr hyn a ddywedodd y glymblaid wrthym yw bod menywod yn fwy tebygol o brofi iechyd gwaeth na dynion, ac y gwneir diagnosis anghywir o symptomau’n aml neu ni chânt eu trin. Roeddent yn dweud hefyd fod menywod yn wynebu oedi cyn cael diagnosis a gofal.

Dywedodd adroddiad a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Rhagfyr 2019 wrth bob un o bedair gwlad y DU fod angen cynllun gofal iechyd menywod arnom, ac yn yr Alban, maent yn arwain y ffordd, er tegwch i’r Alban. Cyflwynwyd eu cynllun ym mis Awst 2021. Mae cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, felly rydym yn awyddus i sicrhau na chaiff Cymru ei gadael ar ôl yn hyn o beth wrth gwrs.

Un o’r materion a nododd y glymblaid yw prinder data. Un rheswm posibl am hyn yw'r ffaith nad yw menywod wedi'u cynrychioli'n ddigonol mewn treialon, sy'n aml yn broblem a fydd yn arwain at y diffyg gwybodaeth, at y prinder data.

Roedd mynediad at wasanaethau arbenigol yn fater arall a nodwyd. Yn hanesyddol, nid yw’r modelau darparu gofal iechyd presennol yng Nghymru wedi gweithio i fenywod gan eu bod wedi'u canoli neu heb eu teilwra i anghenion penodol—mater a nododd y glymblaid yn benodol. Nid yw’r modelau sydd angen arbenigwyr gwahanol y gallant ddod o hyd iddynt yn cael eu cydgysylltu’n effeithiol, a’r diffyg cydweithredu hefyd rhwng byrddau iechyd wrth ddatblygu gwasanaethau arbenigol a sicrhau eu bod ar gael i bawb.

Mae gwybodaeth a chyfathrebu'n fater arall a nodwyd yn bendant hefyd. Wrth gwrs, yr enghraifft yno oedd y camgyfathrebu diweddar ynghylch y rhaglen sgrinio serfigol. Mae hynny wedi amlygu pwysigrwydd cyfathrebu clir a chywir.

Roedd iechyd meddwl, wrth gwrs, yn fater arall a gafodd ei ddwyn i'n sylw fel pwyllgor gan y glymblaid. Canfu adroddiad gan dasglu iechyd meddwl menywod y DU fod menywod yn fwy tebygol o gael cyflyrau iechyd meddwl cyffredin fel gorbryder ac iselder na dynion, a dywedant fod hyn, yn enwedig ymhlith menywod ifanc, ac mewn grwpiau iau o fenywod yn benodol, yn deillio'n bennaf o'u gorbryder cynyddol nad ydynt yn gwybod yn iawn pa gyflwr sydd arnynt.

Roedd addysg a hyfforddiant yn fater arall a godwyd. Tynnodd y glymblaid ein sylw at yr angen blaenoriaethol am well hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Unwaith eto, gwnaethant awgrymu meysydd i'w gwella, gan gynnwys blaenoriaethu gwell hyfforddiant meddygol ar iechyd menywod yn benodol mewn hyfforddiant sylfaenol i feddygon, er mwyn mynd i'r afael â rhagfarn ddiarwybod ac i godi ymwybyddiaeth hefyd.

A'r pwynt olaf yr hoffwn ei godi yw iechyd ataliol. Rwy’n siŵr fod pob un ohonom yn cytuno â hynny ac y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny hefyd. Ond awgrymodd y glymblaid, mewn sawl achos, fod yfed alcohol, ysmygu, ac ati, yn ddulliau eithaf cyffredin o ymdopi â phroblemau mewn bywyd, gan gynnwys salwch cronig. Heb ddealltwriaeth well o'r hyn sy'n ysgogi'r ymddygiad hwn ymhlith merched a menywod, roeddent yn dweud y byddai'n anodd iawn cynllunio gwasanaethau i ddiwallu'r anghenion penodol hynny. Felly, rwy'n gobeithio—.

Diolch yn fawr iawn. Nodaf fod fy amser wedi dod i ben, ond diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac edrychaf ymlaen at weddill y cyfraniadau gan yr Aelodau.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:53, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar rywbeth y mae Sioned Williams wedi’i grybwyll: normaleiddio poen i fenywod mewn gweithdrefnau meddygol a’r ffyrdd y mae merched a menywod yn cael eu magu i ddisgwyl a goddef anghysur yn rhan o’u bywydau bob dydd. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf efallai, pan fydd menywod yn cwyno am boen, fel y clywsom, yw y ceir digonedd o ymchwil i awgrymu eu bod yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn, neu nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif i'r un graddau â dynion mewn lleoliadau meddygol. Ym mis Ionawr, cynhaliodd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod drafodaeth am brofiadau o boen mewn lleoliadau gynaecolegol i gleifion allanol, a chlywsom straeon gwirioneddol frawychus, Lywydd, ynglŷn â sut y mae rhai menywod yn teimlo na allant gwyno pan fyddant mewn poen. Clywsom am anfodlonrwydd ymhlith rhai ymarferwyr i ddarparu cyffuriau lleddfu poen ar raddfa ehangach ac am ddatgysylltiad rhwng cleifion a chlinigwyr yn y ffordd y maent yn amcangyfrif poen.

Ar y cwestiwn ynglŷn â sut rydym yn amcangyfrif poen, ymddengys bod y datgysylltiad yn deillio o'r ffaith bod menywod a merched yn cael clywed yn aml iawn y bydd lefel yr anghysur yn debyg i boen mislif, ac mae problem fawr yn hynny o beth gan y bydd poen mislif yn dra gwahanol i wahanol unigolion, a bydd y dybiaeth fod poen mislif yn gyson yn golygu bod rhai clinigwyr naill ai’n rhoi disgwyliad afrealistig o isel i gleifion ynglŷn â'r math o boen y dylent ei disgwyl, neu nid ydynt yn deall sut y mae cyrff rhai menywod yn gweithio. A pham y dylid disgwyl i fenywod oddef poen tebyg i boen mislif fel mater o drefn? Pam y dylid cael rhagdybiaeth y bydd menywod yn gallu goddef mwy o boen am eu bod yn geni plant? Pam y dylai hynny fod yn normal?

Mae ein cynnig yn sôn am gost iechyd menywod. Mae'r gost ariannol wedi'i hailadrodd lawer gwaith: eitemau ar gyfer y mislif yn cael eu trethu fel pethau moethus tan yn ofnadwy o ddiweddar; meddyginiaeth lleddfu poen dros y cownter. Ond unwaith eto, beth am iechyd meddwl? Mae wedi'i grybwyll eisoes, effaith y methiant i gydnabod problemau iechyd menywod ar iechyd meddwl, cost cynnal tabŵ i gymdeithas ac i’r economi, llen o gywilydd wrth sôn am rai cyflyrau. Faint o fenywod sy'n teimlo na allant ddweud wrth eu cyflogwr na allant fynd i'r gwaith am fod eu poen mislif yn wanychol? Faint o fenywod sy'n dioddef yn dawel neu'n methu dweud wrth eu cydweithwyr eu bod wedi cael camesgoriad a bod angen amser i ffwrdd arnynt i ymdopi? Faint o fenywod sy'n cael eu galw gan yr adran adnoddau dynol i egluro pam fod eu cofnod salwch mor hir, pan fyddant, mewn gwirionedd, yn mynd drwy'r menopos? Mae cymdeithas yn normaleiddio poen menywod ac yn disgwyl i ni ei anwybyddu, peidio â sôn amdano, ei ystyried yn amhriodol ar gyfer sgwrs gwrtais. Mae hynny'n anghyfiawnder dwbl, yn anaf dwysach ac yn gamwedd ar fenywod.

Nawr, mae ymchwil yn awgrymu bod menywod sydd mewn poen acíwt yn mynd yn hirach heb gael eu trin mewn ysbytai na dynion sy'n dioddef o gyflyrau tebyg. Maent hefyd, fel y clywsom, yn fwy tebygol o gael diagnosis anghywir o broblemau iechyd meddwl a chael meddyginiaeth gwrth-bryder yn hytrach na bod eu poen neu achos y boen yn cael ei drin. Mae'r duedd i ddiystyru poen menywod wedi'i gwreiddio mewn rhagfarn sy'n ganrifoedd oed. Mae’r geiriau am hysterectomi a hysteria yn dod o'r un gwreiddyn, a’r syniad canoloesol hwn fod menywod wedi mynd yn wallgof neu’n ddryslyd oherwydd eu crothau, sy'n dal atseinio heddiw—rhagfarn hynafol, hen ffasiwn sy'n cael ei chynnal gan arferion meddygol modern.

Mae cyflyrau poen cronig sy'n effeithio ar fenywod, fel ffibromyalgia ac endometriosis, yn cael eu trin â diffyg difrifoldeb a brys. Mae menywod yn aros yn hirach i gael meddyginiaeth lleddfu poen; maent yn wynebu amseroedd aros hirach cyn cael diagnosis o ganser; maent yn llai tebygol o gael triniaeth adfywio cardio-pwlmonaidd am fod eu symptomau'n cael eu hanwybyddu neu eu diystyru mor aml. Ac nid rhagfarn wybyddol yn unig yr ydym yn brwydro yn ei herbyn, ond y ffaith bod gwerslyfrau'n tueddu i ganolbwyntio ar anatomeg wrywaidd. Mae’r norm yn wrywaidd bob amser, ac nid oes digon o gyllid yn cael ei roi tuag at y cyflyrau sy’n effeithio ar fenywod. Mae'r methiannau hyn, Lywydd, yn arwain at niferoedd annerbyniol o fenywod yn marw, a chyn hynny, niferoedd ofnadwy o uchel o fenywod yn meddwl bod lefel y boen y maent yn ei dioddef yn normal pan nad yw'n normal. Dyna gost diffyg sylw i iechyd menywod: gallwch ei gyfrif mewn cyrff neu bresgripsiynau.

Felly, i gloi, Lywydd, yn hytrach na normaleiddio poen menywod, dylem fod yn normaleiddio siarad am y ffordd yr ydym yn profi poen, yn siarad am gyflyrau gynaecolegol, yn gwella hyfforddiant, gan fod yn rhaid cau’r bwlch poen hwn rhwng y rhywiau unwaith ac am byth.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 4:59, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf bob amser yn falch o gymryd rhan mewn unrhyw ddadl am iechyd menywod, ond credaf fod y ffordd y mae’r cynnig wedi’i eirio braidd yn anffodus gan nad yw’n amserol nac yn strategol o ran ei ymagwedd, felly mae’n mynd i gael effaith gyfyngedig. Y rheswm am hynny yw bod y Gweinidog iechyd eisoes wedi cyhoeddi yn y Senedd rai wythnosau’n ôl ei bod yn gweithio ar ddatganiad cydraddoldeb ar iechyd menywod y bydd yn ei wneud cyn toriad yr haf, ac mae hefyd wedi dweud wrthym yn y Siambr ei bod yn craffu fesul llinell ar gynlluniau datblygu canolraddol y byrddau iechyd. Rwy'n hyderus ei bod yn edrych drwy lens iechyd menywod yn ogystal ag effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mwy cyffredinol y ffordd y maent yn cyflawni eu rhwymedigaethau i fenywod.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 5:00, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Wedi dweud hynny, mae'n amlwg fod yr holl bwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill yn bwysig iawn. Mae bob amser yn mynd i fod yn syniad da troi'r ffocws ar iechyd menywod, oherwydd yn draddodiadol nid yw menywod erioed wedi cael yr un gofal â dynion. Cyn i'r GIG gael ei sefydlu gan y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel, rhaid inni gofio mai prin y câi menywod unrhyw ofal iechyd o gwbl, oherwydd byddent bob amser yn rhoi eu plant a'u gŵr, a oedd yn brif enillydd cyflog, yn gyntaf i gael gofal iechyd am dâl. Felly, roedd dechrau'r GIG yn ddigwyddiad gwirioneddol bwysig ym mywydau menywod.

Gan ganolbwyntio ar 'Cymru Iachach', a gyhoeddwyd yn 2021, nid oedd hwnnw'n fy mhlesio'n llwyr ychwaith, oherwydd mae gennych Senedd newydd, Gweinidog iechyd newydd a nifer o gynlluniau pwysig iawn y teimlaf fod gwir angen inni barhau i ganolbwyntio arnynt. Fodd bynnag, wedi dweud hynny i gyd, mae'n amlwg fod angen inni ganolbwyntio ar y materion hyn. Ni ddylai gymryd wyth mlynedd i wneud diagnosis cywir o endometriosis. Roedd yn bleser cyfarfod â Suzy Davies i fyny'r grisiau heddiw—mae hi yma yn rhinwedd ei gwaith gyda'r bwrdd twristiaeth—am mai hi, yn anad neb, a roddodd hyn ar yr agenda. Ac yn awr, o ganlyniad i ymyriadau Suzy yn arbennig, mae gennym addysg llesiant mislif i fechgyn a merched ym mhob un o'n hysgolion fel nad yw merched yn dioddef mewn distawrwydd am rywbeth nad ydynt yn sylweddoli nad yw'n arferol yn y ffordd y maent yn cael y mislif. A bydd bechgyn yn gallu cefnogi merched yn hynny o beth pan fyddant yn cael y sgyrsiau agos hynny am y person y maent mewn perthynas agos â hwy.

Rydym yn gobeithio y bydd penodi nyrsys endo arbenigol ym mhob bwrdd iechyd yn gwella perfformiad meddygon teulu ac yn fwy pryderus, dealltwriaeth rhai gynecolegwyr o symptomau endometriosis, oherwydd i mi mae'n anesboniadwy fod rhywbeth sy'n effeithio ar un o bob 10 dynes—. Nid rhyw glefyd prin nad oes neb ond meddyg arbenigol yn ei ddeall ydyw, mae'n un o bob 10 dynes. Sut y mae'n bosibl na all gynaecolegwyr weld symptomau endometriosis pan ddônt drwy'r drws? Felly, mae'n amlwg fod llawer o waith i'r nyrsys endo hynny ei wneud.

Cyfeiriodd Jane Dodds at ddementia a'i phrofiad personol o hynny yn gynharach y prynhawn yma. Rhaid inni gofio mai dementia, yn ôl yr hyn a ddarllenais, sy'n lladd fwyaf o fenywod y dyddiau hyn, ac mae hynny, yn amlwg, yn rhywbeth y mae gwir angen inni fyfyrio arno, oherwydd bydd rhywfaint ohono'n ymwneud ag unigrwydd, bydd rhywfaint ohono'n ymwneud ag ansawdd bwyd menywod, ymarfer corff, a phob math o bethau eraill y mae gwir angen inni eu deall, oherwydd mae'n bandemig go iawn.

Ar erthyliadau telefeddygol, mae Cymru wedi arwain y ffordd ar sicrhau bod yr hyn a ddatblygwyd gennym yn ystod y pandemig bellach wedi dod yn nodwedd barhaol, fel y gall menywod gael erthyliad telefeddygol heb orfod gadael y tŷ, gallu ei wneud yn ddiogel ym mhreifatrwydd eu cartref eu hunain, a pheidio ag oedi cyn cael triniaeth a gorfod cael erthyliad llawfeddygol wedyn. Felly, da iawn Weinidog iechyd, am fod yn ddigon dewr i wneud hynny, oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi bradychu'r achos.

Ond mae llawer mwy o bethau y mae angen inni eu dysgu gan wledydd eraill. Er enghraifft, yn Ffrainc, fe gewch 10 sesiwn ffisiotherapi am ddim ar ôl geni plentyn, nid oherwydd eu bod yn awyddus iawn i roi sesiynau am ddim i bobl—y rheswm dros ei wneud yw ei bod yn ymyrraeth ataliol i sicrhau nad yw menywod yn cael prolapsau, problemau cefn, anymataliaeth, a'r holl bethau eraill sy'n gallu mynd law yn llaw â beichiogrwydd. I'r rhai ohonoch nad ydych erioed wedi'i wneud, gallaf ddweud wrthych ei fod yn ymarfer eithaf corfforol yn ogystal â meddyliol. Felly, credaf fod hwnnw'n un peth y byddwn yn sicr o fod eisiau dod yn ôl ato.

Rhaid i hyn fod yn fwy na siarad gorchestol. Mae angen inni gael y drafodaeth aeddfed hon a sicrhau cefnogaeth yr holl randdeiliaid. Mae'n wych fod Sioned ac eraill wedi dod â barn rhanddeiliaid i'r Siambr. Bydd cyfle i unrhyw un arall sydd â diddordeb yn y pwnc glywed gan Triniaeth Deg i Fenywod Cymru a Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod amser cinio yfory, sy'n cael ei gynnal yn rhithiol, felly, lle bynnag y byddwch chi, fe allwch ymuno. Oherwydd dyma'r ffordd y mae'n rhaid inni fynd ar hyd-ddi i gael strategaeth iechyd menywod—i sicrhau bod pob dynes yn cael ei chynnwys, a merched. Edrychaf ymlaen at gael cynllun arloesol, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn ei gynhyrchu maes o law. 

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:05, 18 Mai 2022

Dwi’n falch ein bod ni'n cael y drafodaeth bwysig hon heddiw. Er ein bod ni wedi cael ymrwymiad gan y Gweinidog, dwi'n meddwl bod y ffaith bod cymaint o etholwyr yn parhau i gysylltu efo ni yn dangos pwysigrwydd siarad a chodi ymwybyddiaeth bob cyfle rydyn ni'n ei gael ynglŷn ag iechyd menywod a phobl gydag organau benywaidd. Dwi'n gwybod bod pethau, fel rydw i'n sôn, ar y gweill, ond mae pobl yn byw mewn poen, ac mae gwybod eu bod nhw'n gorfod efallai dioddef y boen yna am flynyddoedd i ddod, gan y bydd cynllun, neu y bydd datrysiadau, yn eithriadol o anodd pan fo'n cael effaith andwyol ar eich gallu chi i fyw o ddydd i ddydd.

Mae yna gyfeiriadau wedi bod at endometriosis yn barod, pwnc y gwnes i godi yn ddiweddar yn sgil cael etholwraig yn cysylltu gyda mi wedi iddi gael ar ddeall gan fwrdd iechyd Cwm Taf bod y driniaeth hanfodol roedd hi ei hangen, ac oedd i fod i ddigwydd cyn y cyfnod clo cyntaf COVID nôl yn 2020, ddim jest wedi ei ohirio, ond wedi'i ganslo yn llwyr. Ers hynny, mae hi wedi cysylltu gyda mi i ddweud ei bod wedi gwrthod yr unig opsiwn a roddwyd iddi hi, sef triniaeth er mwyn ei gorfodi mewn i'r menopos, oherwydd bod ganddi hefyd gyflwr esgyrn, a allai waethygu yn ddirfawr gyda meddyginiaeth o'r fath. Yn hytrach na bod yn gefnogol, aeth y nyrs yn flin iawn gyda hi a bygwth y byddai'n cael ei rhyddhau o ofal gynaecolegydd os nad oedd yn fodlon derbyn y meddyginiaeth yn hytrach na pharhau i fynnu y llawdriniaeth y mae ei hangen. Mae hyn er gwaetha’r ffaith ei bod mewn poen sydd yn cael effaith ar ei gwaith a’i bywyd personol. Yn anffodus, mae achosion o’r fath yn llawer rhy gyffredin a dydy o ddim digon da ein bod yn disgwyl i fenywod ddioddef fel hyn.

Hoffwn hefyd yn fy nghyfraniad heddiw ganolbwyntio ar feichiogrwydd yn benodol, a’r problemau y mae’n rhaid i strategaeth o’r fath fynd i’r afael â nhw. Er bod beichiogrwydd yn y Deyrnas Unedig yn cael ei ystyried yn ddiogel ar y cyfan, mae menywod a babanod yn dal i farw'n ddiangen o ganlyniad uniongyrchol i gymhlethdodau beichiogrwydd y gellir eu hatal. Bob blwyddyn mae tua 5,000 o fabanod yn y Deyrnas Unedig naill ai’n farwanedig neu’n marw yn fuan ar ôl eu geni, ac mae 70 o famau’n marw o ganlyniad i gyflyrau beichiogrwydd-penodol. Rydyn ni'n gwybod bod menywod du bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd na merched gwyn, a merched Asiaidd ddwywaith yn fwy tebygol. Mae mamau hŷn, y rheini o grwpiau difreintiedig, a menywod o ethnigrwydd cymysg hefyd yn fwy tebygol o farw yn ystod beichiogrwydd, neu’n fuan ar ôl hynny. Mae gofal menywod yn cael ei rwystro'n ddifrifol gan ddiffyg meddyginiaethau addas y gwyddom yn bendant eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd neu wrth fwydo ar y fron. Ond dros y 40 mlynedd diwethaf, dim ond dwy feddyginiaeth newydd sydd wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd.

Pwnc arall sydd hefyd angen sylw, ac sydd yn adeiladu ar bwynt Jenny Rathbone, yw anafiadau mae merched yn eu dioddef wrth eni plentyn sydd yn cael effaith andwyol a hirdymor ar allu person i weithio, hyd yn oed gadael y tŷ, a chael rhyw, oherwydd anymataliaeth y coluddyn. Maen nhw hefyd yn colli cysylltiad efo'u plant. Mae hyn yn cael effaith seicolegol dirfawr. Prin yw hyn yn cael ei drafod. Mi oeddwn i'n falch iawn ddydd Llun o gael mynychu lansiad hyb iechyd pelfig yn Ysbyty’r Barri. Dan arweiniad Julie Cornish, dyma’r unig hyb yng Nghymru sydd yn cefnogi menywod gydag anafiadau o’r fath. Bûm yn siarad gyda’r elusen MASIC am hyn, wnaeth rannu gyda mi bod un ym mhob 20 menyw neu berson sy’n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf yn dioddef anaf difrifol. Wrth ganmol i’r cymylau gwaith yr hyb newydd hwn, fe ddywedon nhw pa mor annerbyniol oedd o nad yw hyb o’r fath ym mhob bwrdd iechyd, a bod y mwyafrif o fenywod yng Nghymru yn methu â chael unrhyw gefnogaeth o gwbl gyda hyn. Ni all hyn barhau.

Ac nid dyma’r unig faes sydd angen gwella. Mae 65 y cant o bobl sy'n byw gyda dementia yn fenywod ond mae 60 i 70 y cant o ofalwyr pobl â dementia yn fenywod. Hefyd, mae 20 y cant o ofalwyr benywaidd wedi mynd o gyflogaeth amser llawn i waith rhanamser oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, ac roedd 17 y cant yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi yn y gwaith.

Rydyn ni'n gwybod hefyd bod yna lu o ystadegau o ran clefydau'r galon, ffigurau dirdynnol iawn bod merched ddim yn cael y cydnabyddiaeth bod ganddynt clefyd coronaidd y galon, ac ati, i gymharu efo dynion. Mae menyw 50 y cant yn fwy tebygol na dyn o gael y diagnosis cychwynnol anghywir ar gyfer trawiad ar y galon. Felly, mae yna anomalïau llwyr yn fan hyn o ran merched a dynion efo cyflyrau sy'n gyffredin iawn. Mae hwn yn gallu bod yn ddigalon eithriadol o ran gweld yr holl bethau rydyn ni'n eu hwynebu fel heriau. Ond, y mwyaf rydyn ni'n siarad amdanyn nhw a gobeithio, hefyd, annog merched i fynd at feddygon yn lle dioddef yn dawel—dwi'n meddwl am y ffaith roedden ni bron yn sibrwd am rai o'r cyflyrrau yma yn y gorffennol—y mwyaf rydym yn siarad, trafod a sicrhau ein bod ni yn symud ymlaen yn y meysydd hyn. Dwi'n falch ein bod ni'n cael cyfleoedd fel hyn, ac mi fyddwn ni, wrth gwrs, yn croesawu gweld y strategaeth yma, ond hefyd y gweithredu ar lawr gwlad i gefnogi menywod Cymru. 

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:11, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hynod bwysig hon heddiw. Rydym wedi clywed am y nifer o glefydau sy'n unigryw i fenywod a llu o glefydau eraill sy'n effeithio'n anghymesur ar iechyd a llesiant menywod. Un o nodau allweddol 'Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol' gan Lywodraeth Cymru yw gofal iechyd ataliol, ac mae modd atal nifer o'r clefydau sy'n effeithio ar iechyd menywod i raddau helaeth, neu bydd iddynt ganlyniadau llawer gwell, os cânt ddiagnosis ar gam cynnar. 

Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn enghraifft. Er mai clefyd cardiofasgwlaidd yw'r prif achos marwolaeth ymhlith menywod, mae rhai gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd yn aml yn tybio bod menywod mewn llai o berygl o'r clefyd hwn. Er bod hyn yn wir i ryw raddau, mae'r gwahaniaeth yn lleihau gydag oedran, yn enwedig dros 50 oed, a hyd yn oed yn gynharach o bosibl mewn menywod sy'n cael menopos cynnar. Felly, yma eto, mae'r menopos yn ffactor arwyddocaol yn iechyd menywod. Ategir hynny gan ymchwil, wrth gwrs, ac mae'n dangos, yn achos clefyd cardiofasgwlaidd, fod menywod yn fwy tebygol o gael diagnosis arafach neu o gael diagnosis hollol anghywir o'u cymharu â dynion. Gall hyn, wrth gwrs, gael effaith ddinistriol ar gyfradd farwolaethau ac afiachedd unigolion. Gellir atal rhai o'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd, gan gynnwys dewisiadau ffordd o fyw, deiet, pwysedd gwaed uchel a cholesterol. Gyda hynny mewn golwg, credaf y gall sgrinio iechyd hefyd chwarae rhan bwysig yn atal clefydau yn y lle cyntaf. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roeddem i gyd i fod i gael sgriniad blynyddol yng Nghymru yn 50 oed—pawb. Ac rwy'n meddwl rywsut nad yw hynny wedi digwydd, yn gyntaf oll oherwydd COVID, ond nid yw wedi digwydd ar ôl COVID mewn gwirionedd oherwydd y pwysau a ddaeth i'r amlwg yn ei sgil. Mae hynny'n amlwg yn rhan o ddull gweithredu ataliol, ac rwy'n gobeithio y gallwn gael hynny'n ôl ar y trywydd iawn. 

Mae addysg, wrth gwrs, yn ffactor pwysig i helpu i atal clefydau a chael diagnosis ohonynt yn gynharach. Faint o fenywod, er enghraifft, sy'n ymwybodol mai clefyd cardiofasgwlaidd yw'r bygythiad mwyaf i'w hiechyd? Dewisais hyn yn fwriadol oherwydd roeddwn bron yn rhagweld yr hyn y byddai pawb arall yn siarad amdano. Mae'n ddiddorol, onid yw, nad yw'n un o'r pethau y siaradwyd amdano. Nid oeddwn yn ymwybodol o hyn nes imi ddechrau chwilio am y pethau nad oedd pobl yn siarad amdanynt sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o fenywod. Felly, credaf fod angen lledaenu'r negeseuon hynny. Wrth gwrs, ceir nifer o afiechydon perthnasol eraill, ac mae canser yr ofari yn un o'r rheini. Mae nifer o symptomau amhenodol yn perthyn i'r canser hwnnw, fel bol chwyddedig, teimlo'n llawn ar ôl bwyta, newidiadau mewn arferion gwneud dŵr ac ysgarthu, lludded eithafol a blinder, ymhlith eraill. Ond mae llawer o'r symptomau'n debyg i gyflyrau iechyd llai difrifol, fel syndrom coluddyn llidus, ac nid ydynt yn cael sylw. Felly, mae addysg yn gwbl hanfodol, oherwydd gwyddom mai lladdwr tawel yw canser yr ofari. A fy nghwestiwn i yw hwn: pam y'i gelwir yn lladdwr tawel? Ai oherwydd nad yw pobl yn gwybod amdano ac nad ydynt yn ei adnabod, neu ai am nad yw pobl yn siarad amdano? Felly, credaf fod arnom angen ffocws gwirioneddol ar hynny.

Weinidog, rwy'n falch iawn eich bod wedi cyhoeddi eich bod yn cyflwyno cynllun iechyd menywod, ac rwy'n croesawu'r cam hwnnw'n fawr. Gobeithio y gallwch ddweud wrthym pryd y credwch y gallem drafod hynny yn y Senedd. Rwy'n falch iawn fod gennym Weinidog sydd wedi ymrwymo i iechyd menywod, i gyflwyno'r hyn a fydd yn gynllun iechyd menywod cyntaf, rwy'n credu, ac rwyf wedi eistedd yma sawl gwaith—mae eraill wedi bod yma ers 1999. Felly, mae'n gam enfawr ymlaen, a gallaf weld erbyn heddiw—ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y ddadl hon wedi'i chyflwyno heddiw—fod gennych gefnogaeth enfawr i'w chyflawni. 

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:16, 18 Mai 2022

Mae iechyd menywod yn rhywbeth mae angen i ni gyd ddeall. Mae yna ddyletswydd arnon ni i sicrhau gwell ymwybyddiaeth, a bod gwell darpariaeth gofal ar gael i'r amryw o gyflyrau mae menywod o bob oedran yn eu dioddef, a hynny yn aml yn dawel a heb gymorth digonol, fel y clywon ni'n gynharach gan Sioned Williams.

Yn y misoedd diwethaf, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â fi ynglŷn ag un cyflwr yn benodol, sef endometriosis. Mae'n gyflwr sy'n achosi poen cronig i un o bob 10 menyw yng Nghymru—tua 300,000 i gyd. Ac er fy mod i'n ymwybodol bod y Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi y bydd pob bwrdd iechyd yn cyflogi nyrsys arbenigol i ofalu am ferched sy'n dioddef o endometriosis—a dwi'n croesawu hynny yn fawr iawn—mae'r bwlch iechyd, fodd bynnag, o ran rhywedd yn parhau. Fel rŷn ni wedi clywed eisoes, yng Nghymru mae'n cymryd naw mlynedd i dderbyn diagnosis o'r cyflwr endometriosis, yr hiraf yn yr holl Deyrnas Unedig.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:17, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn rannu stori un o fy etholwyr, Emily o sir Gaerfyrddin, gyda chi. Mae hi bellach yn 23 oed, ond roedd Emily yn gwybod nad oedd pethau'n iawn pan ddechreuodd gael ei mislif yn 12 oed. Bob mis, câi boen annioddefol. Fodd bynnag, am flynyddoedd, nid oedd ei meddyg yn credu pa mor ddifrifol oedd ei chyflwr. Nid tan i Emily lewygu a chael ei chludo i'r ysbyty gyda sepsis ym mis Awst 2019 y rhoddwyd ystyriaeth ddifrifol i'w chyflwr.

Mae Emily wedi ysgrifennu'n ddirdynnol am ei phrofiad mewn rhifyn diweddar o gylchgrawn Glamour, ac rwy'n dyfynnu: 'Dywedodd meddygon wrthyf fy mod yn ceisio dod o hyd i atebion nad oeddent yno, fy mod yn bod yn ddramatig, eu bod yn poeni mwy am fy iechyd meddwl; yn y bôn, roedd y cyfan yn fy mhen. Cefais dabledi gwrth-iselder ar bresgripsiwn, a gwyddwn wrth gwrs nad oeddwn eu hangen. Cefais fwy o atgyfeiriadau iechyd meddwl nag a gefais o sganiau ar fy ofarïau.'

Pan gafodd ei derbyn i'r ysbyty yn y pen draw, canfuwyd syst 25 cm ar ei hofarïau, a chafodd ddiagnosis o endometriosis cam 4—y cam mwyaf difrifol. Mae Emily hefyd yn dioddef o adenomyosis, cyflwr sy'n mynd law yn llaw ag endometriosis difrifol, a gall achosi i'r groth chwyddo i dair gwaith ei maint arferol.

Mae Emily wedi profi pa mor annigonol yw'r gofal sydd ar gael i fenywod ifanc sy'n dioddef o'r cyflwr hwn drwy'r blynyddoedd a gymerodd i gael diagnosis gan y GIG. Ar ôl poen pellach ac anesmwythyd difrifol, bu'n rhaid iddi dalu am ofal preifat dros y ffin yn Lloegr yn y pen draw. Dyma feirniadaeth drist o'r ffordd y cefnogwn iechyd menywod yng Nghymru, yn enwedig y ffordd y caiff y cyflwr gwanychol hwn ei drin. Yn y tair blynedd ers y diagnosis cychwynnol, mae wedi cael sawl llawdriniaeth i leddfu ei symptomau, ac mae bellach yn mynd drwy fenopos wedi'i gymell yn gemegol. Ie, mae'n ddrwg gennyf, fe ildiaf.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 5:20, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Roeddwn am ymyrryd yn gynharach. Mae'n ymwneud â'r boen, ac endometriosis, nad yw'n ymwneud ag un organ yn unig—mae'n broblem sy'n effeithio ar sawl organ. Tynnu sylw'n unig a wna poen. Mae'n tynnu sylw at y ffaith fod yn rhaid ichi weld y claf cyfan, rhywbeth nad yw'n digwydd dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi bod yn trin y symptomau. Dyna pam fy mod wedi bod yn llafar iawn yn ei gylch dros y 15 neu 20 mlynedd diwethaf—y dylem weld y claf yn ei gyfanrwydd, blaenoriaethu triniaeth a pharhau â'r driniaeth. Mae'r rhain yn bethau pwysig iawn, ac nid yw'n digwydd. Dyna pam ein bod yn dioddef, a dyna pam nad ydym yn cyrraedd unman gyda'r mathau hyn o ddiagnosis, yn enwedig mewn menywod. Mae fy nghalon yn gwaedu drostynt. Mae gennyf wraig, mae gennyf ferch, mae gennyf wyres. Pam y dylent ddioddef? Mae'n digwydd yn bennaf am nad ydym yn edrych ar yr unigolyn cyfan. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:21, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch ichi am hynny, ac rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed sut yr ymdrinnir â'r symptomau yn hytrach na gwraidd y broblem. Os caf ddyfynnu Emily unwaith eto? Fe'ch atgoffaf mai dim ond 23 oed yw hi:

'Rwy'n byw mewn poen bob dydd ac yn ceisio ymdopi gystal ag y gallaf. Nid yw pethau'n edrych yn wych gyda fy ffrwythlondeb. Rwy'n gobeithio drwy'r amser am ryw fath o ryddhad. Ond oherwydd bod fy endometriosis wedi cael ei adael i ddatblygu i gyflwr mor ddifrifol, mae fy ngobaith o fyw bywyd normal, di-boen yn fychan. Fy nghyngor i unrhyw fenywod eraill sy'n cael cam yn sgil y bwlch iechyd rhwng y rhywiau yw peidio â chymryd "na" fel ateb. Gwrandewch ar eich corff, a pheidiwch â gadael i unrhyw un wneud i chi feddwl bod y cyfan yn eich pen. Rydych chi'n adnabod eich corff yn well na neb arall. Ymladdwch dros hawl eich corff i gael ei glywed.'

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 5:22, 18 Mai 2022

Wrth restru ei phryderon am y gofal sydd ar gael i'r rheini sy'n dioddef o'r cyflwr, roedd mam Emily yn glir ei barn fod angen mwy o ganolfannau endometriosis ar draws Cymru er mwyn darparu gofal arbenigol sydd yn hollol angenrheidiol i gleifion. Er bod yna un yng Nghaerdydd, mae hi o'r farn bod angen gwella'r gofal yno yn fawr iawn.

Yn ail, a dwi'n gorffen gyda hyn, codwyd pryderon gan y teulu am yr ymwybyddiaeth sydd ar gael yn gyffredinol am y cyflwr yma, boed yn gymdeithasol neu yn y byd meddygol, ac sydd, yn anffodus, yn arwain at naw mlynedd i dderbyn diagnosis. Mae tystiolaeth cymaint o ferched yn awgrymu bod gormod o feddygon teulu yn diystyru difrifoldeb y cyflwr. Dyw awgrymu bod 'hyn yn arferol i ferched o'ch oedran chi, a chymerwch gwpwl o barasetamols' ddim yn ddigon da.

Dwi yn gorffen gyda hwn, sori, os caf i jest eiliad arall—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Na. 'Na' yw'r ateb. Dŷn ni ddim yn negodi heddiw. 

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

Ocê. Dwi'n dod â hyn i ben.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Sarah Murphy.

Photo of Sarah Murphy Sarah Murphy Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hynod bwysig hon i'r Siambr heddiw. Nos Lun, bûm mewn digwyddiad caffi menopos lleol a gynhaliwyd gan Sarah Williams o Equality Counts, lle daeth menywod a'r rhai sy'n ymdrin â materion iechyd tebyg at ei gilydd i drafod eu profiadau. Heb os, mae mannau agored fel caffis menopos a digwyddiadau fel hyn yn fy nghymuned yn eithriadol o rymusol.

Yn y caffi, trafododd menywod ddiffyg ymwybyddiaeth o'r menopos. Mae'r etholwyr wedi gofyn am glinig arbenigol ac am ffyrdd mwy hyblyg o gael HRT i'r rhai sy'n dioddef o symptomau menopos. Mae Sarah wedi dweud wrthyf fod tystiolaeth yn awgrymu bod menywod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o fanteisio ar driniaeth HRT hyd yn oed, a bod hyn yn parhau anghydraddoldebau iechyd i'r rhai mwyaf agored i niwed. Roedd y sesiwn hefyd yn archwilio sut y mae profiadau menopos yn unigryw ac yn amrywio rhwng un unigolyn a'r llall. Dyna pam y mae arnom angen ymarferwyr diwylliannol tosturiol sy'n ymarfer heb ragdybio cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd, oherwydd mae rhagfarnau o'r fath yn atal pobl rhag cael gafael ar gymorth a thriniaeth.

Rwyf am bwysleisio nad yw ein profiad o gyflyrau na wnaed diagnosis ohonynt, poen heb esboniad, y diffyg opsiynau triniaeth byth yn ymwneud â ni fel unigolion. Maent yn ymwneud â system sydd bob amser wedi rhoi gofal iechyd dynion heterorywiol, gwyn yn flaenaf. A dyna pam, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, y gofynnais i fenywod rannu eu profiadau fel y gallaf rannu eu lleisiau yma heddiw, yn union fel y dywedoch chi, Sioned Williams. Mae'n gyfle gwych i allu gwneud hynny.

Dywedodd un etholwr mai'r hyn a ddymunai oedd gallu teimlo bod rhywun yn gwrando arni. Dywedodd un arall wrthyf am eu profiad o fynd at y meddyg teulu ynghylch haint cronig ar y llwybr wrinol, lle y dywedwyd wrthynt nad oedd dim y gellir ei wneud, ac mai'r unig beth i'w wneud oedd cymryd parasetamol a chael bath. Rwyf wedi siarad â menywod eraill yn fy etholaeth sydd wedi cael asesiad hwyr ar gyfer niwroamrywiaeth megis awtistiaeth ac ADHD. Yr amser aros ar hyn o bryd ar gyfer yr asesiad hwnnw yw dwy flynedd. Ar hyd eu hoes, gwrthodwyd hawl i fenywod yn eu 30au a'u 40au hwyr gael cymorth, a hynny'n unig am fod yr arwyddion ar gyfer asesiad wedi'u hadeiladu o amgylch y ffordd y mae bechgyn ifanc yn arddangos arwyddion o niwroamrywiaeth.

Ar bwynt arall, dywedodd fy etholwr, Samantha, 'Nid oes ward gynaecoleg yn ein hysbyty lleol.' Mae clywed am ddynes yn mynd drwy gamesgoriad wrth ymyl pobl sy'n geni eu babanod tymor llawn, ar yr un ward â phobl sy'n mynd drwy erthyliad, nid yn unig yn dorcalonnus, mae hefyd yn annerbyniol.

Dywedodd etholwr arall wrthyf ei bod wedi llewygu oherwydd y boen o osod dyfais yn y groth ar gyfer endometriosis. Dywedwyd wrthi y byddai'r boen fel ychydig bach o gramp mislif. Dim ond ar ôl mynychu cyfarfod gyda menywod eraill a wynebodd yr un problemau y sylweddolodd y gallai fod wedi cael cyffuriau lleddfu poen yn ystod y driniaeth, ond ni ddywedwyd hynny wrthi. Dywedodd wrthyf, 'Os ewch at y deintydd i gael tynnu dant, ni waeth pa mor barod i ddod allan yw'r dant, byddant yn lladd y teimlad yn eich deintgig. Cefais driniaeth i gael IUD drwy geg y groth heb unrhyw gyffur lleddfu poen. Roeddwn mor ddig pan sylweddolais y gallwn fod gofyn amdano.'

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi canfod nad yw menywod weithiau'n sylweddoli eu bod yn cael trawiad ar y galon oherwydd bod poen eu mislif yn waeth na'u symptomau—gan droi at yr hyn yr oeddech yn ei ddweud yn gynharach, Delyth—oherwydd, fel y clywsom droeon heddiw, os ydych chi'n ddynes, dywedir wrthych fod poen yn rhywbeth y mae'n rhaid ichi fyw gydag ef.

Felly, er fy mod yn cymeradwyo'r newidiadau cymdeithasol sy'n caniatáu inni siarad am iechyd yn fwy agored, rhaid inni fod yn ymwybodol fod cywilydd a rhagfarn hanesyddol yn dal i fwrw eu cysgod dros ein profiadau o ofal iechyd. Ac yn ogystal, mae gofal iechyd menywod bob amser wedi cael ei weld fel mater unigol. O ganlyniad, mae cymhlethdod ac amrywiaeth llawer o broblemau, fel y clywsom amdanynt heddiw, yn aml wedi'u clystyru gyda'i gilydd mewn un maes, gan arwain at ddiffyg ymchwil, ymwybyddiaeth a buddsoddiad, a rhaid inni wneud mwy i newid hyn.

Ond rwyf hefyd am adleisio fy nghyd-Aelodau heddiw—Jenny Rathbone a Joyce Watson. Rwy'n credu bod Gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru yn deall hyn. Nid wyf yn credu eich bod yn ei weld fel un mater unigol. Credaf mai'r hyn y ceisiwch ei wneud mewn gwirionedd yw mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb. Ac rwyf hefyd am ddweud bod gennym waith gwych eisoes yn digwydd ar draws ein cymunedau. Nid wyf am golli golwg ar hynny. Rwy'n ffodus o gael Wings Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n gweithio i ddadstigmateiddio urddas mislif. Mae gennym y caffis menopos gwych, fel y soniais. Maent yn chwyldroi gweithleoedd i fod yn fwy cynhwysol. 

Rwyf am ddod â fy nghyfraniad i ben drwy ddiolch i'r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol—meddygon teulu, nyrsys, bydwragedd ac arbenigwyr—sy'n gweithio'n ddiflino i wrando ar fenywod a'u cefnogi yn yr amgylchiadau hyn. Rydym yn herio system gyfan, ond nid yw hynny'n golygu na all y system newid, ac mae menywod yn gweiddi'n ddigon uchel. Rhaid inni wrando a rhaid inni weithredu. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:28, 18 Mai 2022

Galwaf nawr ar y Gweinidog iechyd i gyfrannu i'r ddadl. Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch yn fawr am ganiatáu imi ymateb i'r ddadl hon gan yr wrthblaid ar iechyd menywod, y gwn fod y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yn ymwybodol ei fod yn fater rwy'n teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac mae'n wych gweld bod consensws llwyr ar y mater, os nad ar y cynnig ei hun.

Nawr, fel y gwyddom, menywod yw ychydig dros hanner ein poblogaeth a 47 y cant o'r gweithlu. Ond mae'r dystiolaeth yn cynyddu nad yw menywod bob amser yn cael y cymorth iechyd sydd ei angen i gyflawni'r canlyniadau gwell a ddisgwyliwn. Mae anghydraddoldebau iechyd rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn sylweddol iawn. Er enghraifft, gyda chlefydau'r galon, fel y clywsom, mae menywod yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o'u risgiau a'u symptomau, yn llai tebygol o gael diagnosis cyflym, yn llai tebygol o gael y driniaeth orau bosibl, ac yn llai tebygol o gael mynediad at gymorth adsefydlu. Rwy'n ddiolchgar iawn i Sefydliad Prydeinig y Galon am dynnu fy sylw at hyn mewn sesiwn friffio, gan fy arwain i gomisiynu datganiad ansawdd ar fenywod yn fuan iawn ar ôl i mi gael fy mhenodi y llynedd.

Gwyddom fod menywod wedi'u tangynrychioli mewn treialon clinigol, ac mae'r anghydraddoldebau hyn yn costio'n fawr. Mae ymchwil yn awgrymu y gellid bod wedi atal marwolaeth o leiaf 8,000 o fenywod drwy driniaeth gardiaidd deg dros gyfnod o 10 mlynedd yng Nghymru a Lloegr. 

Mae pobl wedi sôn am ymatebion gwahanol menywod, er enghraifft i awtistiaeth, i iechyd meddwl. Ond yn hollbwysig hefyd, rwy'n credu mai un peth nad yw'n cael ei drafod mewn poblogaeth sy'n heneiddio, yw effaith enfawr anymataliaeth ar fenywod hŷn—sy'n effeithio'n anghymesur, unwaith eto, ar fenywod yn hytrach na dynion. Ceir ymagwedd benodol yn 'Cymru Iachach', sef ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a holl ethos y rhaglen yw i'r gwasanaethau fod yn deg, wedi'u cynllunio o amgylch yr unigolyn ac o amgylch grwpiau o bobl, yn seiliedig ar eu hanghenion unigryw a'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Ond gydag iechyd menywod, mae gofal iechyd menywod yn y GIG yn rhy aml o lawer wedi'i gyfyngu i faterion iechyd atgenhedlol. Nawr, rwyf am gael gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n cefnogi ac yn meithrin iechyd a llesiant ehangach menywod, ac rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion i fabwysiadu'r ymagwedd ehangach hon wrth ddatblygu'r datganiad ansawdd hwnnw.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 5:30, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Gweinidog ildio?

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch am ildio, Weinidog, ac rwy'n croesawu ac yn cymeradwyo eich ymdrechion i greu cynllun iechyd menywod. Rwy'n credu ei fod yn gam gwych ymlaen yn yr hyn y ceisiwch ei wneud. Fe sonioch chi am ehangu'r cynllun i ateb popeth—mae'n fy atgoffa o ddeiseb ar wella gofal iechyd endometriosis a'r deisebydd, Beth Hales; byddwn yn adolygu honno eto ddydd Llun. Ond sylw a wnaeth i mi: nid bwlch iechyd rhwng y rhywiau yn unig yw hwn, nid anghydraddoldeb iechyd yn unig ydyw, mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol mewn gwirionedd. A fyddech yn cytuno â hynny?

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:31, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Yn bendant. Credaf fod anghyfiawnder wedi bod yn digwydd ers gormod o amser, a'r union ffaith nad yw menywod mewn treialon, fod swm anghymesur o arian yn cael ei fuddsoddi mewn rhai meysydd ymchwil yn hytrach nag eraill—menywod sydd ar eu colled bron bob tro. Rhaid i hynny fod yn rhywbeth yr ydym yn mynd i'r afael ag ef. Mae'n fater cyfiawnder cymdeithasol, yn hollol.

Yn 2019, cyhoeddodd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr 'Better for women: Improving the health and wellbeing of girls and women'. Nawr, mae'r adroddiad hwn yn dadlau bod angen dull strategol ar hyd oes dynes er mwyn atal afiachedd a marwolaethau rhagweladwy ac i fynd i'r afael â phenderfynyddion iechyd sy'n benodol i fenywod. Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen i'n gwasanaethau iechyd ddarparu cyngor a gofal i ferched a menywod ar hyd eu hoes. Rhaid i'r GIG yng Nghymru ddarparu model gofal sy'n galluogi menywod i fyw bywydau iach a chynhyrchiol, ac nid bod yn wasanaeth sydd ond yn ymyrryd pan fydd menywod yn cael problemau.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o'n hymateb i fynd i'r afael â materion iechyd menywod wedi'i gyflawni drwy waith y grŵp gweithredu ar iechyd menywod, sydd wedi canolbwyntio ar faterion atgenhedlol. Ers ei sefydlu, dyrannwyd £1 miliwn y flwyddyn i'r grŵp gan Lywodraeth Cymru, a defnyddiwyd y cyllid hwn i sefydlu rhwydwaith o gydlynwyr iechyd y pelfis a llesiant ym mhob bwrdd iechyd. Yn fwy diweddar, mae'r cyllid hwn wedi ei gwneud hi'n bosibl recriwtio rhwydwaith o nyrsys endometriosis arbenigol ym mhob bwrdd iechyd, a hynny er mwyn datblygu llwybrau cenedlaethol, lleihau amseroedd diagnostig a chefnogi menywod sy'n byw gydag endometriosis. A gallaf eich sicrhau yn y Siambr hon heddiw fy mod wedi treulio mwy o amser ar yr angen i wella ein hymateb i endometriosis nag y gwneuthum ar bron unrhyw gyflwr iechyd arall.

Rhaid inni roi diwedd ar brofiadau dirdynnol pobl fel Emily, ac rwy'n tybio, Beth, a deisebwyr eraill hefyd. Gwyddom fod tabŵs a diffyg addysg am y mislif yn cael effeithiau negyddol gwirioneddol ar fywydau merched a menywod, a'r llynedd, lansiwyd Mislif Fi, ein hadnoddau ar-lein a'n platfform addysgol. Fe'i lluniwyd gyda mewnbwn sylweddol gan bobl ifanc i helpu i dorri tabŵs a hwyluso sgyrsiau agored am iechyd mislif, gan gynnwys yr hyn sy'n normal a phryd y dylent ofyn am gymorth. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio i helpu i wella gwasanaethau i gefnogi menywod sy'n mynd drwy'r menopos. Mae grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu i geisio rhannu arferion gorau lleol a sefydlu llwybr gofal gwell. Rydym hefyd yn cymryd rhan yn nhasglu menopos y DU, sy'n defnyddio dull pedair gwlad o wella gwybodaeth am y menopos a rhoi gwell cefnogaeth i fenywod sy'n mynd drwyddo.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:34, 18 Mai 2022

Mae’r cynllun adfer ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi’i gyhoeddi ac mae hwn yn gosod nifer o dargedau heriol i fyrddau iechyd eu cyflawni ar draws pob arbenigedd, gan gynnwys gwasanaethau gofal eilaidd gynaecolegol. Bydd y bwrdd gynaecoleg sydd newydd gael ei ffurfio yn datblygu cynlluniau i gyflawni'r targedau. Bydd hyn yn cynnwys amryw o gamau gweithredu, gan gynnwys e-gyngor, gwell llwybrau atgyfeirio a rhyddhau, cyflwyno siopau un-stop, sylw yn ôl symptomau, a chamau dilynol ar gais y claf.

Nawr, fel mae Aelodau'n ymwybodol, dwi wedi cytuno ar ddull dwy elfen o sicrhau gwell canlyniadau, a sicrhau bod menywod yn cael y gofal a'r cymorth gorau posibl i aros yn iach drwy gydol eu bywydau. Fel dwi wedi nodi, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu datganiad ansawdd iechyd menywod a fydd yn ein galluogi i roi darlun strategol o'n disgwyliadau o ran darparu gwasanaethau iechyd menywod ledled Cymru. Bydd hwn yn disgrifio beth ddylai darpariaeth dda edrych fel, nid yn unig ar gyfer iechyd atalgenhedlol menywod, ond hefyd er mwyn mynd i'r afael â'r bias rhyw sydd yn ein system prif ffrwd ar hyn o bryd. Nawr, mi fydd hwn yn cael ei gyhoeddi y tymor yma, ac mi fyddwn ni'n trafod hwnna ar lawr y Senedd, dwi'n meddwl ym mis Gorffennaf.

Yn ail, bydd cydweithfa'r gwasanaeth iechyd yn arwain y gwaith o ddatblygu cynllun 10 mlynedd ar gyfer iechyd menywod. Bydd hwn yn nodi'r camau y bydd y gwasanaeth yn eu cymryd i fodloni'r disgwyliadau yn y datganiad ansawdd. Bydd y cynllun yn dilyn yr un dull cwrs bywyd a argymhellir gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynecolegwyr yn ei adroddiad 'Better for Women', a'r bwriad yw lleihau anghydraddoldeb mewn iechyd, gwella tegwch gwasanaethau a gwella canlyniadau iechyd i fenywod yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu tymor byr, canolig a thymor hir, a byddaf i'n cyflwyno hwnnw yn ystod yr hydref. Dwi'n awyddus y dylai defnyddwyr gwasanaethau gael cyfrannu'n sylweddol i'r cynllun er mwyn sicrhau bod lleisiau menywod yn ganolog iddo. Felly, bydd ymgysylltu'n digwydd gyda rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r cynllun, yn ogystal â'r ymgynghoriad arferol. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Gynghrair Iechyd Menywod am y gwaith maen nhw wedi'i wneud i godi proffil iechyd menywod, a dwi'n edrych ymlaen i gyfarfod a gweithio gyda nhw wrth inni ddatblygu ein cynlluniau. Dwi'n sylweddoli bod llawer i'w wneud o hyd, ond dwi'n sicr y bydd y datganiad a'r cynllun ansawdd, law yn llaw â'r gwaith sydd ar y gweill sydd gyda ni eisoes, yn arwain at ofal llawer gwell i fenywod ledled Cymru.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am bob cyfraniad i'r ddadl bwysig yma heddiw ac am ymateb y Gweinidog. Mae hwn yn faes sydd wedi cael ei esgeuluso yn llawer, llawer rhy hir, ac mae'n rhyfeddol ei fod o wedi cael ei esgeuluso mor hir. Mae yna, dwi'n meddwl, ryw fath o ddeffroad wedi bod—a dwi ddim yn sôn am Gymru'n benodol yn y fan yna, ond yn fwy cyffredinol. Dwi'n nodi'r gwaith yn Lloegr, er enghraifft, ar y strategaeth iechyd i ferched, sydd wedi cael ei chroesawu yno. Rydyn ni fel y pwyllgor iechyd, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn gwneud gwaith yn y maes yma, a dwi'n ddiolchgar i Joyce Watson am ei bod wedi gwthio i sicrhau bod hynny yn digwydd. Yma yng Nghymru, rydyn ni wedi clywed y Gweinidog heddiw yn sôn am yr ystod o gamau mae hi'n bwriadu eu cymryd. Rydyn ni'n gweld yng ngwelliant y Llywodraeth y cyfeiriad at y datganiad ansawdd a'r cynllun NHS sydd i ddod. Mi gafon ni, os gwnes i glywed yn iawn gan Aelod sydd wedi gadael y Siambr erbyn hyn, ein cyhuddo o 'grandstand-o'. Roeddwn i'n gobeithio gofyn iddi hi egluro ai dyna ddywedodd hi, ond dydy hi ddim yma i wneud hynny.

Dwi'n deall bod Senedd.tv wedi 'crash-o' y prynhawn yma, bosib iawn oherwydd bod yna gymaint o bobl yn gwylio'r sesiwn yma—mor bwysig ydy hyn. A'r gwir amdani ydy, dydy clywed geiriau gan y Gweinidog ynddo fo'i hun ddim yn ddigon. Dwi'n croesawu'r geiriau, ond beth sy'n bwysig ydy beth sy'n mynd i fod yn digwydd o hyn ymlaen. 

Mi oedd yr Aelod, eto sy'n absennol, wedi awgrymu bod ein dadl ni heddiw ddim yn amserol oherwydd bod y Gweinidog wedi gwneud sylwadau yn ddiweddar ynglŷn â'r cynlluniau mae'n mynd i'w datblygu. Ond ydych chi'n gwybod beth? Mi wnaf i fanteisio, mi wnawn ni i gyd fanteisio, ar y negeseuon positif yna. Mae yna Weinidogion Llafur mewn lle ers 1999, felly allwch chi ddim gweld bai arnom ni am amau beth sy'n digwydd dan law Gweinidogion yn y fan hyn. Ond beth sy'n bwysig i mi ydy mai dyma'r union gyfle felly i wthio ar Weinidog sy'n dweud ei bod hi'n benderfynol o wneud gwahaniaeth yn y maes yma. Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog â chyfrifoldeb dros iechyd meddwl yn frwd iawn dros wneud gwahaniaeth yn y maes hwnnw, a dyna pam fy mod i'n gwthio mor galed arni hi i'w wneud, achos dwi'n gweld bod yna ddrws agored yno. Mae i fyny i chi, fel Llywodraeth, brofi bod eich geiriau chi yn eiriau sy'n gallu cael eu troi'n realiti.

Mae yna gymaint o elfennau i hyn dŷn ni wedi'u trafod a chlywed amdanyn nhw. Mae gennym ni'r afiechydon sy'n effeithio ar ferched yn unig, a lle mae yna wendid dirfawr wedi bod mewn ymchwil ac mewn buddsoddiad—endometriosis rŷn ni wedi clywed amdano fo'n barod, sy'n golygu bod cymaint o ferched yn byw mewn poen bob dydd. A dydyn ni ddim hyd yn oed wedi rhoi'r parch iddyn nhw o fuddsoddi yn yr ymchwil a all ganfod beth yn union sy'n achosi hyn er mwyn gallu gwneud buddsoddiad mewn canfod ffordd o drin endometriosis.

Mae yna sylw dŷn ni'n gallu rhoi ar gefnogaeth i ferched sydd yn mynd drwy'r menopos: hanner ein poblogaeth ni—hanner ein poblogaeth ni—yn mynd drwy'r menopos. A tan yn ddiweddar iawn, doedd yna brin sôn amdano fo, ac ar y gorau, ar y gorau, mae'r ddarpariaeth sydd ar gael yng Nghymru yn anghyson—mae hynny'n bod yn garedig. Mae yna ferched ym mhob cwr o Gymru sy'n methu â chael y gofal maen nhw ei angen.

Mae tair o bob pedair merch feichiog yn cymryd rhyw fath o feddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd—lle mae'r ymchwil ar ganfod beth sydd yn ddiogel i'w cymryd fel meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd a thra'n bwydo o'r fron? Mae angen buddsoddi yn hynny.

Dyna chi rai materion sy'n gwbl benodol i ferched. Ond wedyn mae gennych chi'r materion hynny sy'n berthnasol i'r boblogaeth gyfan ond lle mae yna impact mwy ar ferched, oherwydd diffyg sylw, diffyg buddsoddiad, diffyg ei gymryd o ddifrif, diffyg ystyriaeth o anghenion penodol merched—anghydraddoldeb rhwng dynion a merched, mor syml â hynny.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:42, 18 Mai 2022

(Cyfieithwyd)

Y bwlch rhwng y rhywiau mewn perthynas â chlefyd y galon y clywsom amdano heddiw. Mae'n costio bywydau menywod. Ac fe wnaeth yr adroddiad arloesol yn 2019, 'Bias and biology: The heart attack gender gap', gan Sefydliad Prydeinig y Galon, agor fy llygaid i'r hyn a oedd yn digwydd, neu'r hyn nad oedd yn digwydd, wrth drin clefyd y galon mewn menywod: trawiadau ar y galon mewn menywod yn arwain at ddiagnosis anghywir o orbryder neu byliau o banig. Cafodd ei wneud yn glir i mi yn y ffordd hon: yn draddodiadol mae'r mwyafrif llethol o arbenigwyr cardiaidd wedi bod yn ddynion, felly mae anghenion menywod o fewn yr arbenigedd ei hun wedi'u hanwybyddu'n rhy hir.

Meigryn—roeddwn yn siarad â grŵp a oedd â diddordeb mewn gwthio'r agenda ar feigryn yn ei blaen yn ddiweddar. Mae'n llawer mwy cyffredin mewn menywod nag mewn dynion; efallai y bydd traean o fenywod yn profi meigryn, o'i gymharu â 13 y cant o ddynion. Efallai y bydd rhywfaint o danadrodd gan ddynion, ond mae'r lefel uwch ymhlith menywod yn debygol o ddeillio o ffactorau hormonaidd, gwahaniaethau genetig ac yn y blaen. 

Mae asthma ar 180,000 o fenywod yng Nghymru. Mae ffigurau'n awgrymu bod asthma yn lladd ddwywaith cymaint o fenywod â dynion. Mae'n broblem iechyd menywod y mae angen mynd i'r afael â hi. Mae un elusen wedi dweud bod menywod wedi cael cam yn sgil diffyg ymchwil i gysylltiadau rhwng newidiadau hormonaidd ac asthma. Dywedodd Asthma + Lung UK fod menywod yn cael eu dal mewn cylch o fod i mewn ac allan o'r ysbyty ac mewn rhai achosion, yn colli eu bywydau oherwydd diffyg ymchwil. Mae ymchwil ynddo'i hun yn faes lle mae angen canolbwyntio o'r newydd ar fenywod. Crybwyllodd Russell George hyn. Yn draddodiadol, mae treialon clinigol wedi canolbwyntio ar ddynion, dynion hŷn, heb ddigon o fenywod yn cymryd rhan.

Gallaf weld bod amser yn brin. Rydym ni fel seneddwyr heddiw yn gwneud yr alwad hon ar y Llywodraeth. Er gwaethaf yr hyn y mae wedi'i addo, gwnawn yr alwad i fynnu bod yr addewidion a wnaed yn cael eu rhoi ar waith yn awr. Gwn fod cynghrair o sefydliadau wedi dod at ei gilydd i lunio ei hachos dros strategaeth iechyd menywod, fel y galwn amdani heddiw. Mae'n bryd gweithredu ar hyn. Rydym wedi siarad llawer am anghydraddoldebau iechyd yn y Senedd hon yn ddiweddar. Dyma enghraifft arall eto o anghydraddoldeb, yr anghydraddoldeb mwyaf amlwg o bosibl, a rhaid inni ei ddileu.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 18 Mai 2022

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.