– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 28 Medi 2022.
Eitem 7 y prynhawn yma yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig—canser gynaecolegol. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8082 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mis Medi yn fis ymwybyddiaeth canser gynaecolegol.
2. Yn mynegi ei phryder mai'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle tiwmor yw'r un gynaecolegol, gyda llai na thraean o gleifion yn cael eu gweld o fewn 62 diwrnod.
3. Yn gresynu at y ffaith bod cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.
4. Yn nodi ymhellach ymchwil a wnaed gan Jo's Cervical Cancer Trust sy'n amlygu na all 80 y cant o fenywod sy'n gweithio'n llawn amser gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gynnal adolygiad brys i amseroedd aros canser gynaecolegol;
b) sicrhau bod cynlluniau'r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar iechyd gynaecolegol; ac
c) cyflwyno ei chynllun gweithredu canser ar unwaith.
Diolch. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Yn y cynnig hwn heddiw, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun gweithredu ar gyfer canser yn cael ei gyhoeddi ar frys, ochr yn ochr â chanolbwyntio ei chynllun gweithlu canser ar iechyd gynaecolegol, gyda nodau clir a mesuradwy y gellir eu cyflawni o fewn y pump i 10 mlynedd nesaf.
Yn awr yn fwy nag erioed, mae'n rhaid rhoi'r flaenoriaeth y maent yn ei haeddu i wasanaethau canser gynaecolegol. Nid oes fawr o amheuaeth fod y pandemig, wrth gwrs, wedi cyflymu anghydraddoldebau mewn gofal iechyd, yn enwedig ym maes canserau benywaidd. Mae'r cyfraddau goroesi canser diweddaraf rhwng 2015 a 2019 yn dangos bod y cyfraddau goroesi pum mlynedd wedi lleihau 4 y cant ar gyfer canser y groth dros y degawd diwethaf, yr unig ganser i weld ei gyfraddau goroesi'n lleihau dros gyfnod o 10 mlynedd.
Mae oedi gwasanaethau sgrinio hanfodol am bedwar mis yn 2020, ochr yn ochr â chyfyngiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi peri i'r nifer sy'n mynychu sgriniadau serfigol ostwng i'w lefel isaf ers dros ddegawd. Ar ben hynny, mae llawer o fenywod a gafodd wahoddiad i apwyntiadau yn ei chael hi'n anodd trefnu amser addas gyda'u cyflogwyr, a rhai'n aml yn defnyddio gwyliau blynyddol ar gyfer mynychu triniaethau meddygol.
Yn anffodus, nid yw amseroedd aros hir am driniaethau canser yn newydd. Ni chyrhaeddwyd targedau amseroedd aros canser ers 2008. Roedd y nifer a gafodd driniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Chwefror 2020 yn 56%; roedd hynny cyn y pandemig wrth gwrs. Er bod gan ganserau gynaecolegol gyfradd oroesi un flwyddyn a phum mlynedd sydd fel arfer yn uchel, mae perfformiad triniaeth i safleoedd tiwmor gynaecolegol yn erbyn y llwybr canser unigol wedi gostwng yn sylweddol, gan arwain at bryderon ynglŷn ag a fydd cyfraddau goroesi yn lleihau ymhellach oherwydd y pandemig. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bryd, ac mae'n hanfodol, fod cleifion yn cael eu gweld yn gyflym, i dderbyn y driniaeth sydd ei hangen arnynt, a drwy gael cynllun cadarn yn ei le, rwy'n credu y gallwn ddechrau gwneud cynnydd ar hyn.
Fel rhan o hyn, rwy'n credu o ddifrif y dylai gweithlu canser arbenigol sy'n gallu ymdopi â'r galw ac ôl-groniadau cynyddol fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth, er mwyn atal cyfraddau goroesi canser gynaecolegol rhag llithro ymhellach. Eisoes, yng Nghymru y ceir y prinder mwyaf o arbenigwyr canser yn y DU. Dywedodd 90% o gyfarwyddwyr clinigol yng Nghymru wrth Goleg Brenhinol y Radiolegwyr yn 2021 eu bod yn poeni am ddiogelwch cleifion. Ac nid oes dim o'r hyn a nodais, wrth gwrs, yn fater pleidiol wleidyddol. Nid yw'r pwyntiau a wneir yn rhai pleidiol wleidyddol. Mae llawer o sefydliadau wedi mynegi pryder mawr ynghylch y gweithlu. Er enghraifft, canfu Cymorth Canser Macmillan hefyd fod un o bob pump o'r rhai a gafodd ddiagnosis o ganser yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf yn dweud nad oeddent wedi cael darpariaeth nyrsio canser arbenigol wrth gael diagnosis neu driniaeth, ac mae Ymchwil Canser y DU hefyd wedi nodi bod bylchau yng ngweithlu'r GIG yn rhwystr sylfaenol rhag gallu trawsnewid gwasanaethau canser a gwella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Ac yn syfrdanol, er gwaethaf y pryderon difrifol hyn, nid yw cynllun gweithlu 10 mlynedd diwethaf y GIG yn cynnwys cynllun gweithlu penodol ar gyfer arbenigwyr canser. A dweud y gwir, nid yw strategaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru ym mis Hydref 2020 yn sôn am ganser o gwbl. Ac er bod yna nodau canmoladwy, wrth gwrs—rwy'n derbyn hynny—yn natganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar ganser, mae'r diffyg manylion yng nghynllun gweithlu 10 mlynedd y GIG ar gyfer arbenigwyr canser wedi ei adlewyrchu yn y ddogfen hon, gwaetha'r modd.
Mewn ymateb i ddadl Mabon ap Gwynfor ar driniaeth a diagnosis canser ym mis Rhagfyr, er bod y Gweinidog wedi sôn am y datganiad ansawdd canser, unwaith eto, ni roddwyd llawer o fanylion i sicrhau sut y gellid cyflawni'r gwaith o ehangu'r gweithlu canser. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn bryderus dros y ddwy flynedd ddiwethaf ynglŷn â'r diffyg cynnydd a wnaeth Llywodraeth Cymru ar gefnogi gwasanaethau canser i adfer o'r pandemig a'r diffyg blaengynllunio i sicrhau bod gwasanaethau canser yn addas ar gyfer y dyfodol.
Diolch, Weinidog, am wrando'n astud ar fy nghyfraniad i heddiw. I mi, un peth yw i mi ailadrodd yr un dadleuon ag y buom yn eu cael ers blynyddoedd, ond mae hwn yn faes penodol y credaf o ddifrif y dylem fod yn arwain drwy esiampl arno. Mae Jo's Cervical Cancer Trust wedi amlinellu'n ffurfiol yr hyn sy'n rhwystro menywod rhag cael prawf syml a fyddai'n eu hatal rhag mynd drwy driniaethau sy'n aml yn gymhleth neu wynebu risg o farw hyd yn oed, felly nid wyf yn credu y gallwn oedi ymhellach. Mae'n rhaid inni sicrhau bod menywod yn cael profion, yn cael diagnosis yn gynharach, ac yn cael eu profi o fewn amseroedd targed, ar gyfer canser gynaecolegol yn enwedig.
Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y cynnig hwn heddiw'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol. Nid mater pleidiol wleidyddol ydyw; mae'n rhywbeth y credaf y gall pawb ohonom ei gefnogi. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau i'r ddadl heddiw.
Diolch yn fawr i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig hwn, oherwydd mae iechyd menywod yn cael llawer llai o sylw gan y GIG, gan ymchwil feddygol a'r diwydiant fferyllol, felly mae croeso gwirioneddol i unrhyw beth sy'n taflu goleuni ar iechyd menywod. A dylem i gyd boeni bod llai na thraean o atgyfeiriadau gynaecolegol yn cael eu gweld o fewn 62 diwrnod, ond ar ôl siarad â rhai o'r gynaecolegwyr a'r obstetregwyr sy'n gweithio yn Lloegr, rwy'n derbyn nad rhywbeth sy'n wynebu Cymru'n unig yw hyn; mae hefyd yn destun pryder mawr ar draws y GIG.
Rwy'n meddwl mai un o'r pethau sydd angen inni ei wneud wrth edrych ar pam fod atgyfeiriadau gynaecolegol—. Yn amlwg, mae rhestrau aros yn llawer hirach nag y mae gennym gapasiti i'w gweld ar hyn o bryd. A ydynt yn briodol, yr atgyfeiriadau gynaecolegol hyn, neu a yw'n wir nad yw pobl mewn gofal sylfaenol yn ymdrin â materion eu hunain, pan ddylent fod yn gwneud hynny? Nawr, mae angen inni ddechrau, wrth gwrs, gydag atal, ac rwy'n credu bod yr addysg cydberthynas a rhywioldeb orfodol yn helpu pob dinesydd i fod yn ymwybodol o sut mae eu corff yn gweithio a'r hyn sy'n normal a beth nad yw'n normal, a phryd y dylent ofyn am gyngor. Mae hynny'n bwysig iawn. Mae angen inni weithredu gofal iechyd darbodus mewn gofal sylfaenol, ac rwy'n cofio, er enghraifft, sut y bu'n rhaid llusgo Llywodraeth y DU gerfydd ei fferau i wneud erthyliadau telefeddygol yn nodwedd barhaol o ddarpariaeth iechyd rhywiol, rhywbeth y gwnaeth Cymru wneud penderfyniad beiddgar yn ei gylch. Mae'n amlwg mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, yn enwedig i bobl sydd â chyfrifoldebau gofalu neu sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, lle mae cyrraedd clinig yn mynd i fod yn llawer anos nag i bobl sy'n byw mewn etholaeth drefol fel fy un i.
Yn yr un modd, mae angen inni sicrhau bod gan bobl fynediad at ddarpariaeth atal cenhedlu fel nad oes angen erthyliadau arnynt yn y lle cyntaf. Mae hynny i gyd yn rhan o ofal iechyd darbodus. Rwy'n gwybod bod gennym gardiau-C ar gyfer pobl dan 25 oed, fel y gallant gael condomau, ac mae hynny'n amlwg yn helpu i atal beichiogrwydd diangen yn ogystal â heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, ac mae'r ddau beth yn eithriadol o bwysig i atal problemau gynaecolegol yn nes ymlaen.
Yr wythnos hon, clywais gan feddyg ymgynghorol ym maes iechyd menywod yn ysbyty'r menywod yn Lerpwl mai dulliau atalgenhedlu gwrthdroadwy hirdymor—LARCs—sef pigiad i'ch galluogi i beidio â beichiogi sy'n gweithio dros gyfnod hir, oedd yr ymyrraeth iechyd cyhoeddus mwyaf effeithiol. Fe wneuthum ei nodi oherwydd roeddwn o'r farn ei fod yn ddatganiad beiddgar iawn. Ond roedd hi'n dweud, yn Lloegr beth bynnag, ei bod hi'n anodd iawn cael gafael arno, a gwyddom o waith cynharach a wnaed gan Lywodraeth Cymru fod hwn yn ddull atal gwirioneddol effeithiol ar gyfer grwpiau bregus—pobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi beichiogi ac sy'n amlwg eisiau sicrhau nad ydynt yn beichiogi eto.
Felly, mae angen inni sicrhau bod pob person sy'n rhywiol weithredol yn gallu cael y cyngor priodol ar gyfer eu hanghenion, a hefyd i ddiogelu eu hunain rhag heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Clamydia yw un o brif achosion anffrwythlondeb, sydd wedyn yn arwain at nifer enfawr o atgyfeiriadau at gynaecolegwyr, a thaith gymhleth a hir iawn i geisio gwrthdroi'r problemau a allai fod wedi eu creu gan glefydau a drosglwyddir yn rhywiol na chafodd eu trin yn ddigon effeithiol ac yn ddigon buan.
Nawr, fe wyddom hefyd, yn fwy diweddar, fod datblygiadau mawr wedi bod yn y gefnogaeth a roddwn i bobl gyda'r menopos, o ganlyniad i ymgyrchoedd gan bobl fel Triniaeth Deg i Fenywod Cymru, 'Y menopos yn y gweithle' TUC Cymru, a'r hyfforddiant i gyflogwyr sy'n cael ei gynnig gan bobl fel Jayne Woodman, sy'n cynnwys cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Academi Wales. Roeddwn yn falch iawn o weld bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn treialu holiadur i bawb dros 40 oed sy'n mynychu sgriniad serfigol, i dynnu eu sylw at y symptomau menopos y gallent fod yn eu profi. Mae hyn yn helpu i gynyddu gwybodaeth menywod am eu cyrff, ac yn eu harfogi â rhywfaint o wybodaeth cyn iddynt ymweld â'u meddyg teulu, fel bod ganddynt restr fach o bethau sy'n berthnasol i'r mater dan sylw, gan leihau hyd yr ymgynghoriad a chynyddu effeithiolrwydd yr ymgynghoriad hwnnw.
Mae angen i'r Aelod ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Gallai hyn fod yn arf pwysig iawn i sicrhau bod pob menyw yn gwybod amdano.
Yr eliffant yn yr ystafell, yn fy marn i, yn endometriosis, ac rwy'n derbyn ein bod yn gwneud llawer o waith i wella dealltwriaeth meddygon teulu a gynaecolegwyr ynglŷn â hyn. Ond mae'n fater gwirioneddol ddifrifol, ac mae'n anodd iawn ei wahanu oddi wrth ganser gynaecolegol, oherwydd os oes gennych chi broblemau o'r fath—
Jenny, a wnewch chi ddod i ben yn awr, os gwelwch yn dda?
—mae'n gallu bod yn broblematig iawn, ac yn amlwg mae angen inni wneud llawer mwy o waith ar hyn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma ar bwnc mor bwysig ym mywydau llawer o fenywod yng Nghymru. Ac er y gall godi aeliau fod dyn yn siarad am iechyd menywod, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wella bywydau menywod yng Nghymru drwy fynd i'r afael â'r rhwystrau i sgrinio serfigol, ac osgoi marwolaethau diangen oherwydd canser gynaecolegol.
Roeddwn i'n gweithio yn y GIG am 11 mlynedd, os nad oeddech chi'n gwybod yn barod, ac er nad oeddwn yn gweithio'n uniongyrchol ym maes iechyd menywod, roeddwn i'n gweithio mewn timau iechyd meddwl cymunedol a byddwn yn cefnogi iechyd meddwl menywod, a fyddai'n dirywio o ganlyniad i'w hiechyd corfforol. A'r pwynt yr hoffwn ei wneud yw ein bod weithiau'n canolbwyntio ar y mater craidd, sy'n hollol gywir, ond yr hyn sy'n rhaid inni ei ystyried hefyd a gofalu amdano yw'r sgil-effeithiau y mae afiechydon o'r fath yn eu cael ar hunan-barch ac iechyd meddwl menywod, wrth gwrs.
Ddirprwy Lywydd, mae Jo's Cervical Cancer Trust wedi amlinellu'r problemau y mae menywod yn eu hwynebu eisoes mewn perthynas â sgrinio serfigol, gan gynnwys embaras, poen, ofn, ofn canlyniadau ac anghyfleustra. Mae'r rhwystrau hyn sy'n bodoli, yn ogystal â COVID-19 yn creu cyfyngiadau mewn ôl-groniadau ac wrth weld meddygon teulu, wedi golygu bod nifer y rhai sy'n cael sgriniadau serfigol wedi gostwng i 69.5 y cant ym mis Hydref y llynedd, y lefel isaf mewn dros 13 mlynedd, ac yn is na'r safon gwasanaeth gofynnol i sgrinio 70 y cant—[Torri ar draws.] Iawn, wrth gwrs.
Diolch am dderbyn ymyriad. Tybed a allwch chi ddweud wrthym os mai ffigurau'r DU neu ffigurau Cymru yw'r rheini, oherwydd mae Jo's Cervical Cancer Trust yn elusen ledled y DU.
Ie, ffigurau Cymru yn unig yw'r rhain, oherwydd rwy'n mynd i sôn yn awr, ym Merthyr Tudful, fod llai na dwy ran o dair o fenywod wedi cael eu prawf sgrinio, sy'n frawychus yn fy marn i ond nid yw'n syndod, a dweud y lleiaf, pan fo llawer o fenywod wedi dweud mai trefnu eu profion o amgylch eu gwaith oedd y prif rwystr ac fel y soniodd Russell George wrth agor y ddadl, mae menywod mewn sefyllfa lle maent yn gorfod defnyddio gwyliau blynyddol er mwyn gwneud apwyntiadau sgrinio serfigol. Nododd Jo's Cervical Cancer Trust hefyd mai dim ond un o bob pedair menyw oedd wedi gallu cael apwyntiad sgrinio canser cyfleus yn 2021, a dywedodd un o bob pum menyw eu bod wedi defnyddio gwyliau blynyddol fwy nag unwaith i fynychu apwyntiadau sgrinio serfigol. Ac mae 80 y cant o fenywod sy'n gweithio'n llawn amser yn methu cael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus, a 15 y cant wedi gohirio sgrinio am eu bod yn teimlo na allent gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith.
Ond nid fy lle i yw dweud wrth y Siambr heddiw pa mor anodd yw hi i fenywod gael apwyntiadau sgrinio canser. Fodd bynnag, rwyf am ddefnyddio geiriau un o fy etholwyr, a gafodd drafferthion wrth drefnu ei phrawf. 'Ym mis Awst,' meddai, 'cefais lythyr gan fy meddyg teulu ynglŷn â fy apwyntiad sgrinio canser serfigol tair blynedd. Rwy'n gwybod ei fod yn bwysig ac roeddwn i'n lwcus fod gan fy meddygfa gyfeiriad e-bost, felly nid oedd raid imi deimlo'n anghyfforddus ynglŷn â ffonio. Ond er i'r feddygfa nodi fy e-bost ar yr un diwrnod, ni fu modd imi drefnu apwyntiad cyfleus tan fis Hydref. Mae fy ngwaith yn golygu bod rhaid imi fod yn y swyddfa ar rai dyddiau penodol ac ar adegau penodol, felly er fy mod yn bryderus ynglŷn â'r apwyntiad, nid oedd modd imi drefnu amser cynharach. Felly, byddaf yn aros deufis o'r dyddiad y cefais fy llythyr i gael y prawf. Er bod fy mos wedi bod yn gefnogol, mae'n gas gennyf feddwl am y menywod sy'n cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae'n rhaid iddynt drefnu gwyliau blynyddol ar gyfer apwyntiad meddygol.'
Nawr, un person yn unig yw hynny, ond caiff ei stori ei hailadrodd ledled Cymru. Gohiriodd fy etholwr ei sgriniad serfigol. Gallai'r canlyniadau fod yn drychinebus pe bai diagnosis o gelloedd canser posibl wedi ei wneud ar gam diweddarach, byddai ei chyfradd goroesi yn gostwng o 95 y cant wedi pum mlynedd neu fwy ar gam 1 i ddim ond 15 y cant ar gam 4. Ac fel y clywsom yn flaenorol, hyd yn oed pan fydd diagnosis wedi ei wneud o ganserau gynaecolegol, ychydig dros draean fydd yn cael eu trin o fewn 62 diwrnod ar y llwybr canser unigol, ac rwy'n credu bod honno'n sefyllfa annerbyniol i roi menywod a merched Cymru ynddi.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, fe ddylai fod yn ddyletswydd arnom i gael gwared ar y rhwystrau hynny a gosod esiampl i hanner poblogaeth Cymru. Rhaid i gyflogwyr, a ninnau fel gwleidyddion hyd yn oed, sicrhau bod profion canser hanfodol yn cael eu cyflawni, fel bod menywod yn cael diagnosis ac yn cael eu trin yn gynt, ac ni allwn oedi hyn ymhellach. Felly, mae'n bryd inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar ganserau gynaecolegol, ochr yn ochr â chwyddo ein gweithlu canser, ac yn anad dim, mae'n bryd profi, felly cefnogwch ein cynnig y prynhawn yma. Diolch.
Dwi'n croesawu y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw, wrth inni nodi Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol. Mae pob merch yng Nghymru a phob merch o gwmpas y byd yn wynebu risg o ganser gynaecolegol. Mae o yn cynyddu efo oed, ond mae o yn rhywbeth sy'n risg i bawb. Ond, wrth gwrs, fel efo pob canser, y ffordd i gynyddu'r siawns o oroesi, os ydy y canser yn cael cyfle i gymryd gafael, ydy i ganfod a thrin y canser hwnnw'n gynnar. Ond, mae'r realiti'n un digalon iawn, mae'n rhaid dweud, yng Nghymru: llai nac un o bob tri claf canser gynaecolegol sy'n cael eu gweld o fewn y targed 62 diwrnod. Mae'r cyfraddau goroesi un a phum mlynedd ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf. Mi ddylai ein bod ni'n gweld cyfraddau goroesi yn cynyddu yn yr unfed ganrif ar hugain. Ac, yn drasig, mae dros hanner y mathau o ganser efo'r cyfraddau goroesi isaf yng Nghymru yn cael eu darganfod yn hwyr, sy'n gwneud y gwaith o drin yn fwy anodd.
Ym mis Mai, gelwais ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth iechyd menywod bwrpasol ar gyfer Cymru. Dylai strategaeth o'r fath ganolbwyntio ar gau'r bylchau rhwng y rhywiau mewn gofal iechyd, gan ddarparu buddsoddiad, cefnogaeth a thriniaeth gyson i iechyd menywod. Ond mae'r ddadl heddiw eto yn dangos bod cymaint o waith i'w wneud o hyd. Hyd yn oed cyn y pandemig COVID, sydd ar adegau yn gallu teimlo fel pe bai'n cael y bai am bopeth, roedd Cymru'n gweld bylchau sylweddol yn y gweithlu diagnostig a chanser, mewn delweddu, mewn endosgopi, patholeg, oncoleg anfeddygol. Mae'r GIG wedi dibynnu, onid yw, ar ewyllys da ei weithlu i gadw gwasanaethau'n weithredol.
Ym mis Gorffennaf eleni, dywedodd y ffigurau wrthym mai dim ond 34 y cant o ganserau gynaecolegol a gyrhaeddodd darged y llwybr lle'r amheuir canser i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i'r pwynt lle'r amheuir canser yng Nghymru. Mae hyn ymhell islaw'r targed o 75 y cant o bobl yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.
Yn 2017, lluniodd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad ar y pryd adroddiad a oedd yn galw am ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ymhlith y cyhoedd yng Nghymru. Hyd yma, ni fu unrhyw ymgyrch ymwybyddiaeth benodol ar ganser yr ofari, er gwaethaf lefelau isel o ymwybyddiaeth o symptomau canser yr ofari yng Nghymru. Mae bron i 400 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn. Bydd ymhell dros eu hanner yn marw o ganser yr ofari yng Nghymru bob blwyddyn. Os nad oes ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, os nad oes ymwybyddiaeth gyffredinol o ganser yr ofari, gan gynnwys y symptomau cyffredin, pryd y dylai pobl ofyn am gyngor meddygol, nid yw'r rhai sydd â'r canser yn cael eu canfod a'u trin, ac mae canfod yn gynnar, fel y dywedais, yn hanfodol.
Mae Target Ovarian Cancer eisiau cwtogi'r llwybr diagnostig. Nawr, ar hyn o bryd, mae profion unigol yn cael eu cynnal ar wahân, gan adael menywod yn aros yn hirach am ddiagnosis. Rydym am weld y profion perthnasol yn cael eu cynnal ar yr un pryd, gan ganiatáu i fenywod gael diagnosis yn gynt.
Mae sgrinio'n allweddol pan ddaw hi i iechyd menywod. Mae llawer o fywydau wedi cael eu hachub drwy gael diagnosis cynnar yn deillio o raglenni sgrinio. Mi roedd y symudiad tuag at sgrinio pum mlynedd yn hytrach na thair blynedd cynt yn benderfyniad yn seiliedig ar dystiolaeth. Mi roedd o'r penderfyniad cywir, ond mi gafodd y peth ei ddelio ag o mewn ffordd a oedd yn gwbl annerbyniol—cyfathrebu gwael, diffyg manylion, ac mae hynny'n digwydd yn rhy aml pan ddaw hi at gyflyrau iechyd menywod ledled Cymru. Ond, wrth gwrs, mae Jo's Cervical Cancer Trust yn pwysleisio nad ydy atal canser ceg y groth yn dechrau a gorffen efo sgrinio. Mae llawer mwy o waith i'w wneud o ran dilyn llwybr y claf wedi'r diagnosis.
I gloi, yn ôl Cancer UK, mae yna gyfraddau sylweddol uwch o ganser y groth yng Nghymru na sydd yna yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Mae canser y fylfa yn effeithio ar tua 80 o ferched yng Nghymru bob blwyddyn—triniaeth arbenigol a chymhleth. Does gennym ni ddim gweithdrefnau sgrinio ar gyfer hynny o gwbl.
Mi roedd Cymru'n perfformio'n wael ar gyfraddau diagnosis, trin a goroesi canser, fel dwi'n dweud, ymhell cyn yr argyfwng COVID. Dyna pam rydyn ni ar y meinciau yma ac eraill wedi bod yn gofyn am gynllun canser ers blynyddoedd. Gadewch i ni heddiw yma, yng nghyd-destun merched yn benodol, a chanser gynaecolegol, i wneud yr alwad honno eto. Gallwn ni ddim gweithredu'n rhy gyflym pan fo'n dod at ganser a'r bygythiad i fywydau merched yng Nghymru.
Mae effeithiau andwyol y pandemig ar y modd y darperir gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn dal i gael eu teimlo, ac mae'n arbennig o bryderus mewn perthynas â gwasanaethau canser. Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Russell George yn gynharach, sef y bu'n rhaid oedi gwasanaethau sgrinio canser hanfodol am bedwar mis yn 2020, ac mae gosod cyfyngiadau ar symud a chyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi golygu bod y niferoedd sy'n mynychu sgriniadau serfigol wedi gostwng i'w lefelau isaf ers dros ddegawd, sy'n drueni mawr, ond rydym hefyd yn deall pam. Bob blwyddyn, mae tua 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yma yng Nghymru. Mae'r gyfradd achosion ar gyfer canser gynaecolegol yn sylweddol uwch yng Nghymru, gyda 72 achos ymhob 100,000 o fenywod, o gymharu â chyfartaledd y DU o 68 achos. Yn anffodus, mae'r gyfradd farwolaethau hefyd yn sylweddol uwch yma, gyda 26 marwolaeth ym mhob 100,000, o gymharu â 24 yn y DU—tua 470 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae'r llwybr lle'r amheuir canser yn gosod targed o 62 diwrnod i bobl ddechrau triniaeth o'r pwynt lle'r amheuir canser. Yng Nghymru, ym mis Gorffennaf eleni, dim ond 34 y cant o gleifion canser gynaecolegol a wnaeth gyrraedd y targed hwn. Mae'n glir fod angen gweithredu ar frys, nid yn unig i adfer gwasanaethau canser i lefelau cyn y pandemig, ond hefyd i wella canlyniadau canser a chyfraddau goroesi yn y dyfodol. Heb y camau hyn gyda'r nod o sicrhau diagnosis amserol a thriniaeth effeithiol, ni fydd canlyniadau i gleifion canser yng Nghymru yn gwella.
Mae datganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar ganser yn parhau i fod yn annelwig. Nid yw'n nodi targed ac mae'n brin o fanylion ynglŷn â sut y bydd yn lleihau amseroedd aros a sut y mae'n bwriadu cynyddu gweithlu canser y GIG. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu diagnostig a chanser, megis delweddu, endosgopi, patholeg ac oncoleg anfeddygol. Mae'r bylchau hyn wedi effeithio'n ddifrifol ar allu GIG Cymru i roi diagnosis gynnar o ganserau, darparu'r driniaeth ganser fwyaf effeithiol a gwella cyfraddau goroesi canser.
Ni chafwyd ond 3 y cant y flwyddyn o gynnydd yn y gweithlu meddygon ymgynghorol oncoleg glinigol yng Nghymru a Lloegr dros y pum mlynedd diwethaf, o'i gymharu â 5 y cant yng Ngogledd Iwerddon a 6 y cant yn yr Alban. Mae gwariant ar staff asiantaeth ar gyfer GIG Cymru wedi cynyddu o £50 miliwn yn 2011 i £143 miliwn yn 2019. Mae hyn yn gyfystyr â mwy na hanner gwariant blynyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar hyfforddiant addysg gofal iechyd. Mae'r adnodd sylweddol hwn yn cael ei wario ar gontractau allanol yn hytrach na buddsoddi yn nhwf hirdymor gweithlu'r GIG yma yng Nghymru. Heb y buddsoddiad hwn, ni fydd gennym y staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd eu hangen arnom i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser. Weinidog, mae'r amser wedi dod i gael cynllun gweithredu manwl ar gyfer canser. Rhaid i'r cynllun gynnwys mecanweithiau adrodd cadarn i adrodd ar gynnydd yn rheolaidd ac yn dryloyw.
Mae’r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn gwbl annigonol, fel y dywedoch chi, ac mae angen rhywbeth gwell cyn gynted â phosibl. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu ffocws hynod fanwl ar ganserau yn gyffredinol yng Nghymru a llunio strategaeth i fynd i’r afael â hwy. Bydd hyn oll yn llywio ac yn arwain nid yn unig meddygon a staff clinigol eraill, ond hefyd y rheolwyr y mae angen iddynt ddeall beth fydd y blaenoriaethau yn y dyfodol.
Mewn perthynas â’r cynllun gweithredu ar ganser, dylai’r cynllun gynnwys, fel ei nod canolog, yr egwyddor y dylai pawb gael mynediad cyfartal at ddiagnosis amserol a’r sylfaen dystiolaeth, y driniaeth a’r cymorth mwyaf effeithiol. Dylid ystyried sut y gellir dod ag arbenigedd a chapasiti digonol ynghyd i alluogi mynediad amserol a thrawsnewidiad, a sut i ddod â gwasanaethau canser yn nes at gymunedau a chleifion yn gyffredinol. Fodd bynnag, bydd trawsnewidiad parhaol a fydd yn gwella canlyniadau'n amhosibl heb fuddsoddiad digonol, tyfu’r gweithlu canser a gwella'r seilwaith. Mae angen inni weld dulliau arloesol o ddarparu gwasanaethau mewn meysydd fel diagnosis a chanfod achosion yn gynnar, patholeg ddigidol a datblygu systemau TG integredig.
Weinidog, mae eich Llywodraeth a phob plaid yn y Senedd hon wedi ymrwymo i hyrwyddo hawliau menywod, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ddydd Llun, cymerais ran yng nghyfarfod cyntaf grŵp llywio'r cawcws menywod, a drefnwyd gan ein cyd-Aelod uchel ei pharch Joyce Watson. Ar sail awydd y Senedd i gefnogi menywod ym mhob maes, ni fyddai unrhyw beth yn dangos eich ymrwymiad i hyrwyddo hawliau menywod yn gliriach na thrwy roi eich cefnogaeth i’r cynnig heddiw. Diolch.
Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed cryn dipyn o gynnydd ar atal canser ceg y groth drwy gyflwyno rhaglen y brechlyn feirws papiloma dynol. Cyflwynwyd y brechlyn hwnnw gyntaf mewn ysgolion yn y DU ar gyfer merched yn eu harddegau yn 2008 ac mae wedi bod ar gael i fechgyn ers 2019. Mae wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar gyfraddau canser ceg y groth ers ei gyflwyno. Dangosodd astudiaeth ddiweddar, a oedd yn cynnwys degawdau o ymchwil, fod cyfraddau canser ceg y groth wedi gostwng 90 y cant ymhlith merched yn eu hugeiniau a oedd wedi cael y brechlyn hwnnw yn 12 neu 13 oed. Mae HPV yn enw ar grŵp cyffredin o feirysau, ac mae llawer ohonynt yn ddiniwed, ond gwyddys bod rhai feirysau HPV yn arwain at risg uchel am eu bod yn gysylltiedig â datblygiad rhai canserau fel canser ceg y groth. Mewn gwirionedd, mae HPV yn gysylltiedig â 99 y cant o ganserau ceg y groth.
Mae'n bwysig nodi nad yw hyn wedi dileu'r angen am brofion ceg y groth—mae hynny wedi'i grybwyll yma heddiw—a'u bod yn dal i fod mor bwysig ag erioed, gan nad oes unrhyw frechlyn yn effeithiol 100 y cant, ac mae'n dal i fod yn bosibl i'r feirws gael ei drosglwyddo er gwaethaf y brechiad hwnnw. Ond mae wedi bod yn ddatblygiad enfawr ym maes iechyd menywod, a chanfuwyd ei fod yn effeithiol wrth amddiffyn menywod rhag canserau gynaecolegol eraill—sef canser y fwlfa a'r wain. Mae’r nifer sy’n cael y brechlyn hwn yng Nghymru wedi bod yn uchel ar y cyfan ers ei gyflwyno—oddeutu 80 y cant. Bu gostyngiad, fel y gŵyr pob un ohonom, rhwng 2019 a 2021, wrth i frechiadau rheolaidd gael eu hoedi. Ymddengys bod cyfradd derbyn o 80 y cant yn gyfradd dda iawn, ac mae hynny'n wir, ond os cymharwch hynny â'r brechlyn MMR, mae'r gyfradd derbyn ar gyfer hwnnw'n 90 i 95 y cant. Felly, rwy'n awyddus i wybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer yr unigolion 12 i 13 oed sy'n cael y brechlyn HPV.
Gwn fod Jenny wedi ceisio sôn am endometriosis, felly rwyf am grybwyll hynny—y cysylltiad ag endometriosis heb ei ddiagnosio mewn menywod, a pho hiraf y mae menywod yn byw gyda'r cyflwr heb gael diagnosis, y mwyaf yw'r perygl y bydd yn ymledu ac mae'r tebygolrwydd y daw'n ymlediad canseraidd yn cynyddu. Felly, galwaf arnoch, Weinidog—rwy’n siŵr fy mod yn gwthio wrth ddrws agored—i edrych ar hynny.
Y peth arall yw bod canser yr ofari yn cael ei adnabod—fel y soniodd Rhun—fel y llofrudd cudd. Mae'n rhaid inni wneud mwy i addysgu'r bobl sy'n gweithio yn y maes, ond hefyd y bobl sy'n dioddef symptomau, i wybod beth y maent yn ymdrin ag ef. Ni ddylai fod yn llofrudd cudd—dylem fod yn ei amlygu ac yn sicrhau bod menywod a merched, yn ogystal â'u partneriaid a’r bobl o’u cwmpas, yn gwybod am yr arwyddion a’r symptomau o oedran ifanc iawn, yn ogystal â'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chanserau a'r camau y gallant eu cymryd i helpu i leihau'r risg honno, fel brechu, deiet a ffordd o fyw. Yn sicr, hoffwn weld ymdrech wirioneddol i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn. Gofynnaf i chi, Weinidog: a yw hynny’n rhywbeth y gallech fod yn ei gynnwys yn eich cynllun iechyd menywod i Gymru?
Un o anfanteision siarad yn hwyrach yn y dadleuon hyn yw bod llawer o bobl eisoes wedi dweud llawer o'r hyn roeddwn am ei godi. Nid wyf am ailadrodd llawer o’r sylwadau y mae pobl eraill wedi’u gwneud, ond un peth yr oeddwn am ei ddweud, a rhywbeth am yr ystadegau allweddol sydd wedi sefyll allan o ddifrif i mi, yw bod 1,200 o bobl bob blwyddyn yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol, ac o hynny, mae 470 yn marw. Dyna 470 o chwiorydd, neiniau, gwragedd a mamau. Nid yw'n ddigon da fod y bobl hynny'n marw. Rhaid i’r Llywodraeth wneud mwy. Mae’r Gweinidog wedi clywed, ar draws y Siambr heddiw, syniadau ynglŷn â sut y gallwn fynd i’r afael â hyn, gan Aelodau o bob ochr i’r hollt wleidyddol. Bu'r bobl hyn yn dioddef mewn poen, ac yna fe fuont farw, ac rwy'n siŵr fod y Llywodraeth yn awyddus i fynd i'r afael â hyn. Dyna nod clir ein cynnig. Nid yw hyn yn wleidyddol, mae a wnelo â mynd i'r afael â phroblem, mynd i'r afael â chanser gynaecolegol fel nad oes raid i bobl farw'n ddiangen, gan fy mod yn siŵr, fel y dywedais yn gynharach, fod y chwiorydd, y gwragedd, y mamau a'r neiniau hynny'n dymuno bod yma o hyd, ac os gall y Llywodraeth wneud mwy i roi cynllun gweithredu ar ganser ar waith, ni fydd raid i unrhyw un farw’n ddiangen oherwydd y clefyd cwbl atgas hwn. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Bydd un o bob dau ohonom yn datblygu rhyw fath o ganser yn ystod ein hoes. Mae hyn yn anochel yn golygu y bydd pob un ohonom yn teimlo effeithiau canser, ond yn debyg iawn i lawer o afiechydon a chlefydau eraill, diolch i gyllid ymchwil arloesol, nid yw pob diagnosis o ganser yn dedfrydu i farwolaeth. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y degawdau, gyda chyfraddau goroesi'n dyblu dros y 40 mlynedd diwethaf, ond mae anghydraddoldebau’n parhau, felly mae gwaith i’w wneud o hyd. Mae darllen y cynnig heddiw'n gwneud imi deimlo llawer iawn o dristwch. Perfformiad y llwybr canser gynaecolegol yw'r perfformiad llwybr canser unigol isaf yn ôl safle tiwmor, ac mae cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn sylweddol. Mae'r anghydraddoldeb hwn yn annheg, ac nid yw ond yn iawn ein bod yn trafod hyn ar lawr y Siambr gyda'n gilydd yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol.
Os ydym am achub mwy o fywydau, ac os ydym am gyflawni uchelgeisiau’r cynnig heddiw, mae'n rhaid inni gael gwared ar y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu ar bob carreg filltir ar eu taith gyda chanser. Mae'n gwbl syfrdanol na all 80 y cant o fenywod sy'n gweithio amser llawn gael apwyntiad sgrinio serfigol cyfleus. Os ydym am achub mwy o fywydau, mae angen inni ddiagnosio'n gynnar. Dim ond os yw menywod yn gallu trefnu apwyntiadau pan fo angen y byddwn yn sicrhau bod hyn yn digwydd. I mi, mae'n rhaid mai hon yw’r agwedd bwysicaf ar y cynllun gweithredu ar ganser. Ar ôl cael diagnosis, yn rhy aml, rydym yn clywed straeon gan fenywod sy'n aros am gyfnodau annerbyniol rhwng un apwyntiad a'r nesaf. Mae'r ansicrwydd y mae hyn yn ei achosi yn arwain at ddirywiad pellach yn eu hiechyd a'u hiechyd meddwl. Mae’n hanfodol cynnal adolygiad brys o amseroedd aros gynaecolegol os ydym am ddod â hyn i ben.
Yn y dadleuon hyn, credaf y gall yr iaith a ddefnyddiwn a’r pwyntiau a wnawn wneud i staff y GIG deimlo mai hwy yw’r rhai sydd ar fai. Felly, gadewch imi ddweud un peth yn gwbl glir: nid staff y GIG yw'r broblem. Mae arnom angen mwy o staff ymroddedig yn y GIG, fel nad yw meddygon a nyrsys yn gweithio mwy nag oriau eu contract yn enw ewyllys da. Mae arnom angen mwy o staff ymroddedig yn y GIG i lenwi'r bylchau mewn endosgopi, delweddu, patholeg ac oncoleg anfeddygol. Nid hwy yw'r broblem; hwy yw’r ateb, ac ni allaf ddiolch digon iddynt am eu gwaith. Mae angen inni gefnogi Canolfan Ganser newydd Felindre yn ddiedifar, nid cilio rhagddi na'i thrin fel rhyw fath o reg. Mae angen inni gefnogi, yn ddiedifar, y cynlluniau ar gyfer canolfan sydd o'r safon uchaf ar gyfer ymdrin â phob math o ofal canser—heb os nac oni bai.
Hoffwn orffen fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i Wayne Griffiths, y cyfarfu rhai ohonoch ag ef yn gynharach eleni yn y Senedd. Fel y gŵyr llawer ohonoch, rwy’n falch o gefnogi cronfa Forget Me Not, cronfa deyrnged er cof am Rhian Griffiths, a fu farw'n 25 oed ym mis Mehefin 2012 o ganser ceg y groth. Mae stori Rhian a’r hyn y mae'n ei adael ar ei hôl, diolch i’w rhieni, yn newid bywydau bob dydd. Gadewch i Rhian, ei rhieni, a chronfa Forget Me Not, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni, ein hysbrydoli i sicrhau y gallwn newid y canlyniadau i fenywod sy’n cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Russell a’r Ceidwadwyr am gyflwyno dadl bwysig arall ar wasanaethau canser. Hoffwn ddiolch i eraill hefyd am eu cyfraniadau pwerus a meddylgar iawn i'r ddadl hon.
Wrth inni ddod dros effaith y pandemig, mae'n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar adferiad mewn gwasanaethau canser a cheisio lleihau unrhyw effaith ar ganlyniadau. Rydym wedi nodi, mewn nifer o gynlluniau, y gwaith a wnawn i gefnogi gwasanaethau canser, ac rydym yn canolbwyntio'n agos ac yn barhaus ar hyn yn ein trafodaethau gyda byrddau iechyd. A dweud y gwir, nid ydym yn gwneud yn ddigon da eto, ac rwy'n ymwybodol iawn fod llawer gennym ar ôl i'w wneud ar hyn. Mae llawer o’r hyn sydd wedi’i drafod heddiw yn berthnasol i sawl math o ganser, ond credaf ei bod yn iawn, yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol, ein bod yn canolbwyntio ar ganserau’r ofari, y groth, ceg y groth a rhai o’r mathau mwy prin, megis canserau'r fwlfa a’r wain.
Gwn fod cyfraddau goroesi ar gyfer canser y groth wedi gostwng yn y ffigurau diweddar, er ein bod wedi gweld gwelliannau ar gyfer canser yr ofari a chanser ceg y groth. Mae'n bwysig iawn fod pobl sydd â phryderon ynghylch canser yn mynd i weld eu meddyg teulu'n gynnar, ac mae'n rhaid inni beidio â theimlo cywilydd wrth siarad am y cyflyrau hyn a cheisio cymorth. Rwyf hefyd yn annog pobl sy’n gymwys i wneud defnydd o wasanaethau sgrinio serfigol neu'r rhaglen frechu rhag HPV, gan mai atal yw’r dull gorau oll.
Rwyf wedi clywed yn glir yr hyn y mae rhai ohonoch wedi’i ddweud am yr angen i sicrhau bod y gwasanaethau sgrinio hynny ar gael i fenywod ar adegau cyfleus. Rwy’n deall y gall fod yn heriol i fenywod o oedran gweithio wneud apwyntiadau o amgylch eu hymrwymiadau gwaith, felly rydym yn mynd i edrych ac rydym yn mynd i ddysgu gan Loegr am y potensial i gyflwyno hunan-samplu. Rwy'n cytuno nad yw perfformiad GIG Cymru mewn perthynas â chanserau gynaecolegol yn enwedig gystal ag y dylai fod, ac yn sicr, nid yw cystal â'r hyn rwy'n disgwyl ei weld. Mae'r gwasanaeth yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â hyn, gan gynnal clinigau ychwanegol, symleiddio llwybrau a chwilio am ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau. Ym mis Gorffennaf yn unig, ymunodd 1,561 o bobl â’r llwybr canser penodol hwn, ac yn yr un mis—yr un mis—cafodd 1,256 o bobl ar y llwybr canser wybod nad oedd canser arnynt. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo ac mae pobl yn mynd drwy'r system, ond nid yw hynny'n ddigon. Dechreuodd 76 o bobl eu triniaeth canser ddiffiniol gyntaf ar gyfer y cyflyrau hyn ym mis Gorffennaf.
Nawr, rydym yn dal i fod mewn pandemig, ac er bod yr effaith uniongyrchol ar wasanaethau'n cilio, mae canlyniadau anuniongyrchol tonnau cynharach y pandemig gyda ni o hyd—mae pobl a oedd efallai wedi oedi cyn lleisio pryderon bellach yn ceisio cymorth, yn ychwanegol at y rheini a fyddai fel arfer yn lleisio pryderon ar yr adeg hon. A'r hyn sy'n digwydd yw bod hynny'n arwain at niferoedd sylweddol uwch o bobl angen archwiliad—oddeutu 11 y cant yn uwch ar gyfer canserau gynaecolegol ers mis Ionawr.
Nawr, mae timau ein GIG ar y camau diagnosis a thriniaeth yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r nifer o atgyfeiriadau yr ydym yn eu gweld yn awr ac wedi bod yn eu gweld ers misoedd lawer. Ac fel y gŵyr pob un ohonom, ni allwn greu radiolegwyr, gynaecolegwyr, llawfeddygon, oncolegwyr a nyrsys arbenigol hyfforddedig ychwanegol allan o unman. Mae gennym y gweithlu a oedd gennym ar ddechrau'r pandemig. Er ein bod yn hyfforddi mwy o arbenigwyr mewn meysydd fel oncoleg a radioleg, mae'n mynd i gymryd sawl blwyddyn i weld budd y capasiti staffio ychwanegol hwn. Yn y cyfamser, rydym yn hyfforddi pobl mewn rolau ymarfer uwch i leddfu rhywfaint o'r pwysau. Ac wrth gwrs, wrth i atgyfeiriadau canser fynd drwy wasanaethau diagnostig a chleifion allanol generig, rydym yn blaenoriaethu gofal canser dros gyflyrau eraill oherwydd y brys clinigol sydd ynghlwm wrth hyn.
Ond, mae yna realiti i hyn i gyd. Mae'n mynd i gymryd amser i adfer, amser i dyfu ein gweithlu ac amser i gyrraedd lle mae angen inni fod. Nawr, dwi'n ymwybodol o safbwynt gwasanaethau canser nad yw'r amser hwnnw ar gael i bobl bob amser, ac nid gofyn i bobl i fod yn amyneddgar ydw i ond ceisio egluro beth sy'n achosi'r broblem a sut rŷn ni'n mynd i adfer y sefyllfa.
Gallaf i eich sicrhau nad oes angen adolygiad o amseroedd aros canser gynaecolegol. Rŷn ni'n edrych ar y data bob mis ar sail Cymru gyfan a gyda byrddau iechyd unigol. Rŷn ni'n trafod y perfformiad o ran canser gyda'r byrddau iechyd yn aml ym mhob un o'r fforymau atebolrwydd perthnasol. Mae'r byrddau iechyd yn deall y ffocws dwi'n disgwyl ei weld ar hwn. Mae rhai arwyddion bod perfformiad yn gwella, ac mae'n bwysig nodi hefyd fod tua 94 y cant o bobl sydd ar lwybr canser yn cael gwybod nad oes ganddyn nhw ganser. Os ydyn ni'n ystyried pawb sydd ar lwybr canser gynaecolegol, y rhai sy'n cael gwybod nad oes ganddyn nhw ganser a'r rhai sydd angen triniaeth, yr amser aros canolrif ar y llwybr i gleifion gael gwybod a oes ganddyn nhw ganser ai peidio yw 36 diwrnod.
Byddaf i'n cynnal uwchgynhadledd o uwchreolwyr a chlinigwyr canser o bob cwr o Gymru ar 12 Hydref er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adfer ein gwasanaethau.
Felly, rwy’n cynnal uwchgynhadledd, uwchgynhadledd canser, ar 12 Hydref, a gallaf roi sicrwydd i chi y byddaf yn sicrhau fy mod yn rhoi dadansoddiadau o ganser ar sail rhywedd ar yr agenda honno er mwyn sicrhau nad ydym yn gweld gwahaniaeth yn y ffordd y caiff gwahanol ganserau eu hystyried.
Dwi'n fwy na pharod i roi sylw arbennig i wella'r gwaith o gynllunio gweithlu canser ac i ystyried a yw ein darpariaeth ar gyfer y gweithlu yn ddigonol. A dwi'n bwriadu cyflwyno cynllun gweithredu gwasanaethau canser y gwasanaeth iechyd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Felly, bydd y cynllun ar gyfer y gwasanaethau canser yn cael ei gyhoeddi yn yr ychydig wythnosau nesaf.
Ac yn y cynllun yma, byddaf i'n nodi yn fanylach sut rŷn ni'n cyflawni'r disgwyliad a nodwyd yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n cynllun trawsnewid gofal sydd wedi'i gynllunio. Rŷn ni hefyd wedi cyflwyno cynllun gweithredu ar iechyd menywod i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion gofal iechyd penodol menywod yng Nghymru.
Felly, i ateb yn benodol ynglŷn â sut y mae hyn yn mynd i gael ei gynnwys yn y cynllun menywod, mae hwn yn ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny. Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo sy'n gofyn i fenywod gyfrannu: beth y dylem ei gynnwys yn y cynllun gofal iechyd menywod ar gyfer y dyfodol? Ac felly, mae hwnnw'n ddull gweithredu o'r gwaelod i fyny, felly os yw pobl am i hyn fod ar yr agenda hefyd, i sicrhau bod pobl yn cyfrannu at hynny, ond byddaf yn bendant yn sicrhau ei fod yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried.
Mae cymaint i'w wneud, a dwi'n gwybod bod ein rheolwyr a'n clinigwyr ymroddedig yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiwallu anghenion pobl. Dyw codi'r pryderon hyn o ran systemau ddim yn feirniadaeth o gwbl o'u hymdrechion na'u hymroddiad nhw, a gallaf i eich sicrhau fy mod i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i i roi ffocws haeddiannol i hyn.
Dywedodd Russell nad yw hwn yn fater pleidiol wleidyddol. Gallaf roi sicrwydd i chi nad wyf yn meddwl ei fod yn fater pleidiol wleidyddol, a dyna pam ein bod ni, fel chithau, am weld gwelliant yn y system, a dyna pam y byddwn ni yn y Llywodraeth ac ar feinciau Llafur yn cefnogi’r cynnig hwn.
Galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’m cyd-Aelod, Russ George AS, am gyflwyno’r ddadl bwysig hon, a’r rheini ar draws y Siambr am eu cyfraniadau gwirioneddol bwysig i fater hynod bwysig i fenywod. Mae canser o unrhyw fath yn gystudd ofnadwy sydd eisoes yn cymryd gormod lawer o fywydau, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod canser wedi dod yn brif achos marwolaethau ers 2016, hyd yn oed gan gynnwys yr amseroedd brawychus y buom drwyddynt gyda'r pandemig COVID-19.
Fel y mae cyd-Aelodau eraill eisoes wedi'i nodi, mae oddeutu 12,000 o fenywod yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol bob blwyddyn yng Nghymru, gan arwain at farwolaethau trasig 470 o bobl bob blwyddyn. A dyna pam fod y pwynt a wnaethoch yn bwysig, James, fod y rhain yn famau, chwiorydd, merched neu berthnasau eraill i bobl—470 o deuluoedd y flwyddyn y mae eu bywydau wedi'u niweidio'n anadferadwy gan y clefyd ofnadwy hwn. Mae canser gynaecolegol, wrth gwrs, yn broblem enfawr ledled y DU, ond mae arnaf ofn ei fod yn waeth yma yng Nghymru. Tynnodd Russ George sylw at y pryderon—[Torri ar draws.]
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Credaf mai un o’r pethau nad oes unrhyw un wedi’i grybwyll ac sydd angen ei grybwyll a’i gofnodi yw’r cysylltiad rhwng gordewdra a chanser. Ac mae gennym gyfraddau uwch o ordewdra yng Nghymru nag yn Lloegr, ac mae'n rhaid bod hynny'n un o'r ffactorau y mae angen inni eu cadw mewn cof pan fyddwn yn ymdrechu i ostwng cyfraddau canser.
Ie. Rydych yn gwneud pwynt dilys iawn. Pan fyddwn yn gwneud ymchwiliadau i ordewdra ymhlith plant, gwn fod gennym rai o'r ystadegau mwyaf gofidus. Felly, rydych chi'n gwneud pwynt dilys.
Tynnodd Russ George sylw at bryderon ein bod ni fel grŵp wedi bod â'r pryderon hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf a’r angen sydd wedi codi, a’i bod yn amlwg fod mwy o brofion yn rhan o’r ateb. Yn ôl Ymchwil Canser y DU, mae’r gyfradd o achosion canser gynaecolegol yn sylweddol uwch yng Nghymru, gyda 72 o achosion fesul 100,000 o fenywod, o gymharu â chyfartaledd y DU o 68. Fel pe na bai hynny’n ddigon drwg, nodwyd heddiw fod y gyfradd farwolaethau ar gyfer y canser hwn yn sylweddol uwch, gyda 26 o farwolaethau fesul 100,000 o fenywod, o gymharu â chyfartaledd y DU o 24. A Jenny, mae’r ffaith eich bod yn cydnabod bod canserau sy’n gysylltiedig â menywod yn bryder mawr, a bod angen mwy o atal, a gallu nodi arwyddion eu hunain—dylem oll, fel menywod, wybod beth i edrych amdano, beth sy'n normal, beth nad yw'n normal.
Ond nid cyfraddau achosion a marwolaethau yng Nghymru yw'r unig bethau yr ydym yn poeni amdanynt, ond yr amseroedd aros hefyd. Rydym yn deall yr effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y GIG, ond fe wyddom—gwnaeth Rhun bwynt dilys iawn fod rhai o’r problemau hyn yn bodoli yn ein system iechyd cyn y pandemig. Ym mis Gorffennaf eleni, dim ond 34 y cant o’r canserau hyn a gyrhaeddodd y targed ar gyfer llwybr lle'r amheuir canser o 62 diwrnod rhwng y pwynt amheuaeth a thriniaeth, o gymharu â 40 y cant ym mis Chwefror. Felly, mae'n peri cryn bryder, wrth inni siarad, ein bod yn gweld tuedd am i lawr. Cododd Joyce Watson bryderon dilys iawn am HPV, ac er bod datblygiadau wedi bod gyda'r brechlynnau, mae pryderon yn bodoli o hyd, wrth symud ymlaen. Mae targed Llywodraeth Cymru ei hun o 75 y cant a’r cyfrifoldeb am amseroedd aros hir iawn ar gyfer triniaeth canser ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru, ac rwyf wedi fy nghalonogi’n fawr, a dweud y gwir, Weinidog, wrth weld eich bod wedi gwrando ac wedi derbyn yr holl sylwadau a wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig, yn enwedig ynghylch cyflwyno cynllun gweithredu ar ganser ar unwaith. Ac unwaith eto, mae'n galonogol clywed eich bod yn mynd i'w roi ar waith a hynny cyn bo hir.
Mae angen inni sicrhau bod cynlluniau’r gweithlu ar gyfer arbenigwyr canser yn canolbwyntio ar iechyd gynaecolegol, gan yr ymddengys bod y canserau gynaecolegol hyn yn llithro drwy’r rhwyd mewn perthynas â thriniaeth. Mae cyd-Aelodau eraill wedi datgan bod gwir angen i ddatganiad ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer canser fod yn gliriach, gan mai yng Nghymru y mae'r prinder mwyaf o arbenigwyr canser yn y DU. Mewn gwirionedd, rwy'n adleisio galwadau gan gyd-Aelodau ar Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i weithio tuag at gynnydd sylweddol mewn lleoedd hyfforddi, gyda chanolfannau canser diagnostig cyflym yn cael eu cyflwyno ledled y wlad fel y gallwn sicrhau bod y canserau hyn yn cael eu canfod yn llawer cynharach. Dadleuodd Natasha Asghar, fy nghyd-Aelod, fod arnom angen y gwasanaethau hyn yn fwy lleol, ynghyd â’r angen i gyflwyno gwir gydraddoldeb i fenywod mewn gofal iechyd. Yn anffodus, efallai y bydd canser bob amser yn bla ar ein bodolaeth, ond nid oes raid iddo fod cynddrwg ag y mae ar hyn o bryd. Ar ôl y ddadl hon heddiw, rwy'n credu y byddwch yn bwrw ymlaen â’r pryderon hyn. Mae’n galonogol clywed eich bod yn cefnogi ein cynnig heddiw—diolch am hynny, a dywedaf hynny ar ran y grŵp i gyd. Buffy Williams, roedd eich cyfraniad a’ch cyfeiriad at gronfa Forget Me Not yn berthnasol iawn yn wir. Nid yw Buffy yma, ond lle bynnag yr ydych.
Beth bynnag, diolch, Weinidog. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich holl gyfraniadau, a diolch i fy ngrŵp am gyflwyno’r ddadl hon. Diolch.
[Anghlywadwy.]—a ddylid derbyn y cynnig? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.