9. 9. Dadl Frys: Cytundeb ‘Hyder a Chyflenwi’ Llywodraeth y DU a Phlaid yr Unoliaethwyr Democrataidd

– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 27 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:28, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Symudwn yn awr at y ddadl frys ar gytundeb hyder a chyflenwad Llywodraeth y DU a’r DUP, ac rwy’n galw ar y Prif Weinidog i agor y ddadl frys hon. Prif Weinidog.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 5:29, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar am yr amser a ganiatawyd ar gyfer y ddadl frys heddiw mewn ymateb i'r amgylchiadau cwbl eithriadol a grëwyd gan gytundeb Llywodraeth y DU â'r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd. Daeth telerau'r cytundeb i gynnal Llywodraeth leiafrifol yn Llundain i'r amlwg ddoe a bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â'r manylion, ond, yn y bôn, mae Llywodraeth y DU wedi clustnodi bron i £1 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf i Ogledd Iwerddon, a llawer mwy yn y blynyddoedd wedi hynny, a byddant yn cael mwy tu hwnt i hynny, rwy’n amau, fel pris cefnogaeth gan y DUP er mwyn cadw'r Llywodraeth Geidwadol ar ei thraed. Yn gyfnewid, bydd y DUP yn cefnogi Araith y Frenhines, Biliau ariannol, a deddfwriaeth ymadael yr UE. Rydym yn clywed y caiff y cytundeb ei oruchwylio gan bwyllgor cydlynu wedi’i gadeirio gan Lywodraeth y DU.

Dirprwy Lywydd, hwn yw’r cytundeb gwleidyddol mwyaf dinistriol o fewn cof. Mae'n annheg, yn anghywir ac yn gyrydol. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrthym mai blaenoriaeth Prif Weinidog y DU oedd adeiladu gwlad fwy unedig, gan gryfhau'r rhwymau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol rhwng Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru. Wel, mae’r cytundeb hwn yn tanseilio’r union egwyddorion o degwch ac undod sy’n sylfaenol i’r DU.

Mae’n rhaid dosbarthu refeniw ledled y DU mewn modd tryloyw, yn unol ag egwyddorion a rheolau sefydledig sydd ar gael i'r cyhoedd, gan esbonio'n llawn a chyfiawnhau unrhyw wyriad oddi wrth y rheolau hynny. Ni ddylid symud ymlaen ar sail mantais wleidyddol yn y tymor byr. Er ei holl ddiffygion, mae gennym, i fod, ryw fath o system sy'n seiliedig ar reolau o gwmpas fformiwla Barnett. Nawr, fel y bydd yr Aelodau’n gwybod yn iawn, nid wyf i’n cefnogi Barnett. Mae, ar y gorau, yn amherffaith a dylid ei disodli â system fwy gwrthrychol sy’n dosbarthu adnoddau ar sail angen. Ond, am y tro, dyna’r cyfan sydd gennym.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 5:29, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, pe bai fformiwla Barnett yn cael ei chymhwyso i'r cytundeb â’r DUP, byddai Cymru'n cael £1.5 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf a chyfanswm o £1.67 biliwn dros bum mlynedd. Fodd bynnag, yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud yw y bydd Cymru’n cael sero. Wrth gwrs, nid dim ond Cymru sydd ar ei cholled; ni fydd Lloegr na'r Alban yn cael dim byd ychwaith. A'r cwestiwn yr wyf yn ei ofyn yw: sut y gall hyn fod yn sail i sefydlogrwydd? Sut y gall fod yn sail i unrhyw fath o barch gan bobl Cymru a mannau eraill tuag at Lywodraeth y DU? O leiaf, mae gan bleidleiswyr yr hawl i ddisgwyl y bydd Llywodraeth y dydd yn gwneud ei gorau glas i hybu buddiannau pob rhan o'r DU yn deg ac yn gyfartal. Os yw’r DUP wedi cael arian ychwanegol i’w wario ar seilwaith, ysgolion, y gwasanaeth iechyd a chymunedau difreintiedig gan Lywodraeth y DU yn gyfnewid am eu cefnogaeth, dylid ymestyn hynny ledled y DU, nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon. Nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon y ceir pwysau uniongyrchol ar wasanaethau iechyd ac addysg. Nid dim ond Belfast a ddylai gael darpariaeth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Unig ganlyniad anwybyddu anghenion Cymru, yr Alban a Lloegr yn y ffordd hon fydd hau hadau dicter a chwerwder pellach. Bydd aberthu cyfanrwydd y DU er mwyn cytundeb i ddal gafael ar rym yn byw’n hir yn y cof.

Llywydd, mae'n rhaid i minnau fynegi pryder am yr hyn y mae'r DUP wedi cytuno i'w wneud yn gyfnewid am gynnal y weinyddiaeth hon. Maent, yn ôl pob golwg, wedi cynnig cefnogaeth carte-blanche i Lywodraeth y DU ar gyfer deddfwriaeth gadael yr UE heb gael gweld dim cynigion ar ffurf fanwl. Mae hyn wedi chwalu’n llwyr y trefniadau ymgynghorol a sefydlwyd ar gyfer datblygu ymagwedd at Brexit sy’n cynnwys Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig drwy’r Cydbwyllgor Gweinidogion.

Nawr, mae angen ateb cyfres o gwestiynau. Yn gyntaf, beth yw goblygiadau’r cytundeb hwn i drefniadau ariannu yn y dyfodol ar gyfer gwledydd eraill yn y DU ac, yn wir, rhanbarthau Lloegr? A yw Llywodraeth y DU nawr, mewn gwirionedd, wedi cefnu ar y rheolau presennol ar gyfer mantais tymor byr? Bydd gan y Siambr ddiddordeb arbennig mewn clywed gan arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. A wnaethant ymgynghori ag ef am y cytundeb? A yw'n rhannu fy nicter i ac eraill yn y Siambr hon ynghylch yr achos clir hwn o gam-drin trefniadau ariannu teg? A yw'n cytuno â mi y dylid mwynhau manteision gwariant ychwanegol ledled y DU, nid dim ond yng Ngogledd Iwerddon? Mae wedi bod yn dawel hyd yn hyn, ond dyma ei gyfle y prynhawn yma.

Beth yw goblygiadau'r cytundeb hwn ar gyfer y broses ymgynghori ledled y DU ar adael yr UE? Yn benodol, os daw Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn ôl i fodolaeth, fel y gobeithiaf y daw, sut y mae cytundeb Llywodraeth y DU a’r DUP gydnaws â threfniadau ar gyfer y Cydbwyllgor Gweinidogion? Rydym yn credu bod y cytundeb hwn yn mynd yn groes i arferion cyfansoddiadol sefydledig, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, gallaf hysbysu'r Cynulliad, wedi cymryd y camau cyntaf i gychwyn anghydfod ffurfiol o dan delerau offer datrys anghydfodau’r Cydbwyllgor Gweinidogion.

Rwyf eisoes wedi rhoi fy marn, yn gwbl eglur, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru pan siaradais ag ef ddoe. Ni allai ateb y cwestiynau a ofynnais bryd hynny, ond, Llywydd, nid wyf yn amau y bydd llawer o Aelodau’n teimlo mor gryf am y materion hyn â mi na neb yn Llywodraeth Cymru, a dyna pam ein bod yn awyddus i roi amser heddiw i’r ddadl frys hon, er mwyn i’r Aelodau gael cyfle i nodi eu meddyliau.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:34, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu'r cyfle i sefyll yma heddiw a chyfrannu at y ddadl. Weithiau, pan gaiff batiwr ei anfon allan i fatio, mae'n edrych o gwmpas y cae, dim ond i wneud yn siŵr ei fod yn gweld yr holl faeswyr, ac yna mae'n gwneud yn siŵr nad oes dim o'r gwglis yn ei ddal ar yr ochr anghywir. Yn y pen draw, rwy’n gobeithio gallu, yn amlwg, gwneud synnwyr o'r cytundeb a gynigiwyd ddoe yng nghyd-destun Cymru, ond, yn bwysig, yng nghyd-destun Prif Weinidog Cymru. Oherwydd rwy’n cofio, yr adeg hon y llynedd, pan oedd ef mewn sefyllfa leiafrifol, ac yn amlwg roedd yn cerfio cytundebau â'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn amlwg Plaid Cymru, a gwelsom y llun cofiadwy ohono’n defnyddio ei hances i sychu ei lygaid, bron yn sychu’r dagrau i ffwrdd pan ddaeth y Siambr at ei gilydd ar y bleidlais a’i gwnaeth yn Brif Weinidog. A, heb amheuaeth, roedd y fargen a gafodd Kirsty Williams gan ein Prif Weinidog ni’n llawer mwy oherwydd y bleidlais honno. Eto i gyd, dro ar ôl tro, rydym wedi ceisio canfod beth mae’r cytundeb hwnnw wedi’i olygu, beth mae’r cytundeb hwnnw’n ei olygu a beth yn union yw trefniadau llywodraethu’r cytundeb hwnnw, a hyd yma, nid oes gennym ddim. Bedwar mis ar ddeg yn ddiweddarach, nid oes gennym ddim byd o gwbl.

Gwelsom, yn y concordat a lansiwyd gyda Phlaid Cymru am y cymorth yn ymwneud â chyllidebau, nad ymgynghorir â nhw, yn y pen draw, ar unrhyw beth, oherwydd gwelsom hynny yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r trefniadau Ewropeaidd a’r farchnad sengl. Nid oedd cytundeb rhwng y ddwy blaid, a heddiw yn y datganiad deddfwriaethol, yr ymateb gan Blaid Cymru oedd na fu ymgynghori â nhw o hyd. Felly, rydym mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth leiafrifol yn San Steffan ar ôl yr etholiad cyffredinol. Rydym i gyd yn deall hynny. Rydym i gyd yn deall hynny, ond mae'r rhagrith sy'n dod gan y Prif Weinidog Llafur yn arbennig, yn hytrach na bod yn Brif Weinidog, yn golygu nad yw’n ddim mwy na sylwebydd gwleidyddol drud iawn—yn ôl pob tebyg y sylwebydd gwleidyddol drutaf yng Nghymru, byddwn yn awgrymu—oherwydd yn hytrach na chynnig atebion i faterion Cymru, mae'n ymddangos yr hoffai wneud sylwadau am bopeth nad yw o fewn ei reolaeth. A’r broblem go iawn yma yw beth—[Torri ar draws.] Y mater go iawn yma yw bod y wlad—[Torri ar draws.] Mae’r wlad—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:37, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf am glywed arweinydd yr wrthblaid. Andrew R.T. Davies.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae’r Deyrnas Unedig—[Torri ar draws.] Mae angen Llywodraeth ar y Deyrnas Unedig, a Llywodraeth fwyafrifol, i barhau a bwrw ymlaen â'i busnes. Ac felly, i gyflawni’r statws mwyafrifol hwnnw, yn amlwg gwnaethpwyd cytundeb â’r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, yn debyg i— [Torri ar draws.] Gallaf weld yr Aelod dros Ogwr yn grwgnach yn y fan yna, ond mae'n ffaith bod Shaun Woodward, pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol yn 2010 ar ôl etholiad cyffredinol 2010, yn ceisio cerfio bargen gyda'r DUP bryd hynny, a oedd yn cynnwys arian i Ogledd Iwerddon. A hefyd mae’r Arglwydd Adonis, yn ei hunangofiant, yn gwneud yn union yr un pwynt. Nawr, yr hyn sydd angen inni ei wneud yma, o safbwynt Cymru, fel yr wyf wedi’i ddweud dro ar ôl tro, ac fel y dywedais ddoe ac y dywedais yr wythnos diwethaf, yw lle mae’r arian wedi mynd drosodd a chreu budd—

Huw Irranca-Davies a gododd—

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:37, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Cymeraf yr ymyriad mewn munud. Os oes budd wedi mynd drosodd i Ogledd Iwerddon, mae angen inni sicrhau’r buddion hynny yma yng Nghymru. Ac oeddwn, roeddwn yn siarad â Stryd Downing fore ddoe, Brif Weinidog. Tra’r oeddech chi ar y balconi’n siarad â'r BBC, roeddwn i’n siarad â'r bobl sy'n bwysig. Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Dyna'r gwahaniaeth rhyngof fi a chi, ac rydym yn gwybod beth yr hoffem ei gyflawni dros Gymru. Y cyfan yr ydych chi am ei wneud yw brolio, Brif Weinidog, ac fe wnewch hynny. Byddwch yn parhau i gael eich gwthio i'r cyrion a'ch rhoi i un ochr yn hytrach na gweithio dros yr hyn sydd er lles gorau Cymru. Nawr, mae'n ffaith—. Mae'n ddrwg gennyf, gwnaf gymryd yr ymyriad.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:38, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n diolch i Andrew am ildio ar y pwynt hwn, oherwydd mae’n codi’r mater pwysig bod Llywodraethau olynol, fel rhan o'r broses heddwch, yn hanesyddol, yn wir wedi dangos eu cymwynasgarwch i Ogledd Iwerddon er mwyn caledu’r broses heddwch—rhan o'r difidend heddwch, fel y’i gelwir. Hollol gywir. Mae hwn yn fater hollol wahanol. Byddwn yn gofyn iddo ystyried yn ofalus iawn y gwahaniaeth rhwng tanategu’r cytundeb Gwener y Groglith a gwneud yn siŵr bod y sefydliadau hynny’n sefyll, a dangos annhegwch dwfn i'r gwahanol rannau cyfansoddol o’r DU, drwy daro bargen nad yw'n dangos tegwch i rannau eraill. Nid yw hyn yr un peth. A byddwn yn gofyn yn syml, wrth eistedd, i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig siarad fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, nid fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:39, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn dynnu eich sylw at yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd Adonis pan oedd yn trafod gyda'r DUP yn 2010, pan ddywedodd ‘Rydym wedi nodi’r rhifau newydd’ wrth sôn am arian—ar gyfer beth oedd y bleidlais DUP ar y pryd. Felly, ni wnawn gymryd unrhyw ddarlithoedd gan Blaid Lafur Cymru na gan y Blaid Lafur ynglŷn â tharo bargeinion o gwmpas sicrhau pleidleisiau. Yr hyn sy'n dryloyw am y cytundeb hwn yw bod y ffigurau yno ac mae'r cytundeb yno. Yr hyn y byddwn ni'n ei wneud o ochr y Ceidwadwyr Cymreig yw gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod adnoddau’n dod i mewn—

(Cyfieithwyd)

Member of the Senedd:

Wnewch chi gymryd ymyriad?

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Does gen i ddim amser. Yr hyn y byddwn yn ei sicrhau, o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, yw, yn hytrach na chael ein gwthio o'r neilltu, fel y caiff y Prif Weinidog, y byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod yr adnoddau’n cael eu darparu i gyflwyno prosiectau er budd Cymru, bod y wlad hon yn cael y Llywodraeth sefydlog sydd ei hangen i fynd â ni drwy broses Brexit, ac yn y pen draw, y cawn ein llywodraethu gan dryloywder a thegwch, yn wahanol i’r hyn y mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud—[Torri ar draws.]—yn wahanol i’r hyn y mae’r Llywodraeth hon wedi’i wneud wrth geisio gwella ei sefyllfa yma gyda'r Rhyddfrydwyr neu gyda Phlaid Cymru. Dyna'r ffaith. Dyna'r dystiolaeth. Gan y Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn ymdrechu i'r eithaf i sicrhau ein bod yn datgloi’r adnoddau hynny i ddod â nhw i Gymru i geisio’r budd-daliadau. Rwy’n gwybod fy mod yn edrych ar Huw Irranca wrth ddweud hyn, ond yn y pen draw, mae angen i Huw Irranca edrych ar yr hyn yr oedd yn pleidleisio drosto yn 2010 ac yn y pen draw ofyn iddo ei hun: pam y rhagrith? Yr hyn y gallwch ddibynnu arno gan y Ceidwadwyr Cymreig yw y byddwn yn dod â'r adnoddau i mewn i Gymru, yn wahanol i'r Blaid Lafur, a fydd ond yn brolio, fel yr ydym wedi’i weld heddiw gyda Chylchffordd Cymru. A’r hyn sy’n bwysig heddiw yw myfyrio ar sut y gallwn fwrw ymlaen yn adeiladol â safbwynt Cymru yn y Senedd newydd yn San Steffan a dylanwadu i ddod ag adnoddau yma a chreu budd i Gymru, ac ar yr ochr hon i'r Siambr, byddwn yn gwneud hynny. Ni chawn ein gwthio i'r cyrion, a byddwn yn gwneud yn siŵr bod llais Cymru’n cael ei glywed yn y ddadl hon.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:41, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'r cytundeb â’r DUP yn cadw Theresa May mewn grym drwy gytundeb hyder a chyflenwi, ac mae maint a chwmpas y cytundeb yn ddigynsail—£1.5 biliwn, gan gynnwys £1 biliwn o arian newydd, a hyblygrwydd o £500 miliwn o gyllid presennol, heb unrhyw arwydd o ble y mae'r arian hwnnw yn dod. Wel, efallai ei fod yn hud. Maent wedi anwybyddu fformiwla Barnett yn gyfan gwbl, ac rydym yn amcangyfrif bod cost hyn i Gymru yn £1.7 biliwn, ac mae hynny ar ôl toriadau i grant bloc y Cynulliad hwn o—faint? Rydych wedi ei ddyfalu: £1.7 biliwn, yn ôl Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i gyni ariannol. Mae hwn yn arian sydd ei angen ar Gymru. I roi halen ar y briw, mae’r Torïaid yn dweud wrthym bod ein hariannu gwaelodol a’n bargeinion dinesig rywsut yn debyg i’r swm enfawr hwn, er bod y bargeinion dinesig yn cynnwys arian sector cyhoeddus Cymru, o’r Llywodraeth yma ac o awdurdodau lleol, ac er bod y llawr cyllid wedi digwydd yn fwy drwy ddamwain na drwy fwriad.

Ar wahân i'r effaith benodol ar Gymru, mae'n rhaid inni ystyried ble mae hyn yn gadael y DU fel gwladwriaeth yng ngoleuni trafodaethau Brexit. A yw'r trafodwyr ym Mrwsel yn edrych ar lywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn gweld sefyllfa sy'n gryf ac yn sefydlog? Annhebygol, byddwn i'n dweud.

Ond dewch inni droi at sefyllfa Cymru yn hyn i gyd. Dylai pobl yng Nghymru fod yn fwy na rhwystredig am y fargen hon; dylent fod yn flin. Mae Cymru bob amser wedi bod yn drydydd yn y ciw, y tu ôl i Ogledd Iwerddon a'r Alban, o ran pwerau a chyllid. Dyw hi ddim fel pe bai angen arian ychwanegol ar y wlad hon. Hon yw’r wlad sydd wedi gwneud y lleiaf o ffwdan. Ni fu’r dawelaf o holl wledydd y DU, ac ni sydd wedi ymddwyn orau. Nid ydym erioed wedi cyffroi’r dyfroedd, ac mae hynny wedi golygu ein bod wedi cael ein gadael ar ôl, ein hanwybyddu. Rydym—ac rwy’n golygu y Cynulliad yn ei gyfanrwydd, nid unrhyw un blaid wleidyddol—newydd benderfynu, yn eithaf hwyr, y dylem gynnal ein heddlu ein hunain, y dylai fod gennym ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain, ac mae wedi cymryd blynyddoedd lawer inni gyrraedd y consensws hwnnw ar ôl i Ogledd Iwerddon a'r Alban sefydlu’r agweddau hynny ar eu democratiaeth. Rydym yn edrych fel nad ydym wedi bod yn ein parchu ein hunain na’n sefydliad cenedlaethol, felly does ryfedd nad ydym yn cael ein parchu yn San Steffan.

Nid yw'r sefyllfa bresennol a'r ffordd yr ydym wedi bod yn gwneud pethau wedi creu rhyw lawer o drosoledd. Nid yw Llywodraethau yn San Steffan yn gweld unrhyw awydd go iawn am newid cyfansoddiadol o Gymru. Mae Swyddfa Cymru, sydd wedi’i hail-frandio nawr fel Llywodraeth y DU Cymru, yn gwneud yr hyn mae'n ei ddweud ar y tun: gweithredu fel llefarydd dros San Steffan yng Nghymru, nid fel llais dros Gymru yn San Steffan. Rhaid i hynny newid, a dyna pam yr wyf yn galw ar bob un AS Torïaidd i sefyll gyda Chymru i bleidleisio yn erbyn Araith y Frenhines oni bai a hyd nes y gallant gael arian ychwanegol i’n gwlad ni, hefyd. Os na allant wneud hynny, byddant yn siomi Cymru, ac maent yn haeddu talu pris trwm am hynny.

Mae angen i bob un o'r pleidiau gwleidyddol yma ystyried sut y gallwn newid y sefyllfa hon. Nid dim ond mater o’n cyfansoddiad ni ydyw. Mae effeithiau’r gwendid gwleidyddol hwn i’w gweld o'n cwmpas i gyd, yn ein seilwaith a'n heconomi. Mae'n warth ein bod yn un o ddim ond tair gwlad yn Ewrop heb ddim rheilffordd wedi'i thrydaneiddio, ynghyd â Moldofa ac Albania. A phan fydd trydaneiddio yn digwydd yn y pen draw bydd flynyddoedd yn ddiweddarach nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon—symbol amlwg o ble yr ydym yn y drefn flaenoriaeth honno.

Nawr, nid wyf yn dweud dim o hyn er mwyn bychanu Cymru. Rwy'n dweud hyn oherwydd bod fy uchelgais ar gyfer y wlad hon yn ddi-ben-draw. Mae ein potensial yn enfawr. Nid yw wedi'i ddatgloi na’i ryddhau eto. Ond wrth gondemnio’r cytundeb hwn, rhaid inni hefyd ddysgu’r gwersi.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:46, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Leanne, diolch am ildio. Rydych chi’n gwneud rhai pwyntiau da am yr angen i Gymru fod yn genedl hyderus sy'n edrych i'r dyfodol, ac nid wyf yn anghytuno â chi yno, ond mae'n rhaid ichi dderbyn bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn nifer o'r meysydd yr ydych wedi sôn amdanynt. Rydych chi’n sôn am drydaneiddio, ond y prynhawn yma rydym wedi bod yn sôn am y dreth datganoli—mae hynny’n digwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed iawn i ddarparu fframwaith cyllidol. Felly, rwy’n gwybod nad ydych yn hapus â'r cytundeb hwn yn San Steffan—hoffech chi gael mwy—ond mae’n rhaid ichi barchu’r ffaith, o dan y Llywodraeth flaenorol, y bu newidiadau y dylem eu croesawu.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:47, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae newidiadau wedi bod. Fy mhwynt i yw mai ni yw’r olaf bob tro. Rydym bob amser yng nghefn y ciw. Mae'n rhaid inni fod yn onest. Mae'n rhaid inni fod yn onest ymysg yr holl bleidiau yn y Siambr hon. Byddwn i’n dweud nad yw'r Deyrnas Unedig yn gweithio drosom ni. Yn rhy aml, fel yn yr achos hwn, maent yn gweithio yn ein herbyn. Y cam cyntaf i ni yma yw cyfaddef nad yw’r DU, y system San Steffan, yn cyflawni dros Gymru. Mae'n cosbi Cymru, ac ar ôl inni gyfaddef hynny, dylem edrych o ddifrif ar y camau nesaf i Gymru i ddefnyddio'r holl ddylanwad sydd gennym fel pleidiau gwleidyddol i sicrhau bod y wlad hon yn symud i fyny’r drefn flaenoriaeth honno.

Fel y dywedais, dim ond y dechrau yw’r cytundeb £1.5 biliwn. Mae'r DUP yn siŵr o ddod yn ôl at y bwrdd am fwy. Y tu hwnt i'r prif ffigur arian mae ymrwymiadau ar doll teithwyr awyr, treth gorfforaeth a mwy o fargeinion dinesig. Ar yr un pryd ag yr ydym yn clywed na chaiff Cymru reoli toll teithwyr awyr ac y dylem fod yn ddiolchgar am y bargeinion dinesig sydd gennym eisoes, bydd y DUP yn casglu’r consesiynau ychwanegol hyn drwy’r Senedd hon i gyd.

Ni allwn fforddio i Gymru fod yn dawel pan fo hynny'n digwydd ac rwy'n annog arweinwyr y pleidiau eraill yma heddiw i feddwl am yr hyn y gallwn i gyd ei wneud i godi ein lleisiau. Mae'n rhaid inni ystyried yr hyn y gallwn ei wneud ar y cyd oherwydd dylem i gyd dderbyn nad yw’r hyn y mae Cymru’n ei wneud ar hyn o bryd yn gweithio.

I orffen, mae’r cytundeb hwn wedi gwneud llawer o bobl yn ddig iawn. Mae'r arian i Ogledd Iwerddon i bob diben wedi rhoi diwedd ar galedi yno er ein bod ni’n dal i orfod dioddef cyni yng Nghymru. Dylai Cymru fynnu triniaeth gyfartal ac mae gan bawb yma ddyletswydd i wneud hynny.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:49, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd araith agoriadol y Prif Weinidog yn llawn hiwmor anymwybodol ac roedd o leiaf cystal, rwy’n meddwl, â chwerthin tra’r oedd yn dweud bod y cytundeb hwn yn annheg, yn anghywir ac yn gyrydol, fel pe bai pethau’n wahanol o gwbl pe bai gan y Blaid Lafur nifer mwy o seddi a’u bod nhw’n taro bargen debyg â'r DUP. Rwy'n ddigon hen i gofio, fel y nododd Lynne Neagle neu Ken Skates, dydw i ddim yn siŵr pa un, yn gynharach yn y dydd, sut beth oedd gwleidyddiaeth yn yr 1970au. Rwy’n cofio’r trafodaethau rhwng Llywodraeth Wilson a Llywodraethau Callaghan ac Aelodau o Ogledd Iwerddon, ac rwy’n cofio’r dydd pan gafodd y Llywodraeth Lafur ei threchu gan Frank Maguire a ddaeth drosodd i gael ei bledu â diod ym mar y Strangers, cyn ymatal yn bersonol fel bod y Llywodraeth yn colli pleidlais o ddiffyg hyder. Felly, gwleidyddiaeth grym yw hyn. Rydym wedi gweld y cyfan o'r blaen ac nid oes amheuaeth y gwnawn ei gweld eto. Rwy'n llongyfarch y DUP ar y cytundeb y maent wedi’i wneud gyda’r Llywodraeth. Yn wir, maen nhw'n drafodwyr cystal, rwy’n meddwl mai nhw a ddylai fod yn gyfrifol am drafodaethau Brexit ar ran y Deyrnas Unedig. [Torri ar draws.] Ond i’r Prif Weinidog gwyno am hyn—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:50, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

A ydych yn cymryd yr ymyriad?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—mewn sioe fawr o rawnwin surion, rwy’n meddwl, ac mae’n eithaf—gwnaf ildio i Dafydd.

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iddo am gyfeirio at yr 1970au, oherwydd rwyf finnau'n cofio’r cyfnod hwn yn hynod o dda. Roeddwn yn y bar ar yr union noson—[Chwerthin.]—pan gyrhaeddodd y ddau Wyddel, Gerry Fitt a Frank Maguire, i ymatal yn bersonol.

Ond y gwahaniaeth, does bosib, yw hyn: yn yr achos hwn, mae’r cytundeb hwn yn cael ei wneud gyda chymhorthdal enfawr sy’n llwyr y tu allan i'r trefniadau cyfansoddiadol ac ariannol arferol ac yn gwbl y tu allan i fformiwla Barnett. Roedd y bargeinion a wnaethpwyd rhwng y Blaid Lafur a ninnau a phartïon eraill, yng nghyfnodau Wilson a Callaghan, yn fargeinion a wnaethpwyd yn agored ar raddfa gyfyngedig. Nid eu bwriad oedd cynnal Llywodraeth am bum mlynedd.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:51, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r DUP yn amlwg yn well trafodwyr na'u cymheiriaid yn y dyddiau hynny. Mae'n rhaid inni gofio bod fformiwla Barnett ei hun, wrth gwrs, yn gynnyrch i’r trafodaethau hynny, rhywbeth sydd yn ei hanfod yn annheg i Gymru, yn gwbl ar wahân i’r trafodaethau hyn, oherwydd, ar sail y pen, wrth gwrs, mae Cymru, fel y nododd arweinydd Plaid Cymru yn gywir iawn, yn cael bargen wael iawn wir.

Ond pam nad ydyn nhw'n mynd i mewn i drafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwell bargen i Gymru? Maent yn wrthblaid i’r Llywodraeth, fel yn wir y mae'r DUP, yn dechnegol, a gallent fod yn taro bargen i gael yn union yr hyn y mae'n honni bod ei eisiau arni ar ran pobl Cymru. Ond oherwydd ei gwrthodiad rhagfarnllyd a chul i hyd yn oed i ystyried siarad â Llywodraeth Geidwadol, heb sôn am drafod gyda nhw, mae hi'n gwrthod rhoi’r manteision i bobl Cymru y mae hi'n honni bod eu heisiau arni.

Felly, roedd yr araith honno'n dwyll a rhagrith pur, oherwydd mae ganddi bŵer, drwy ei phedwar Aelod Seneddol yn San Steffan, i ddylanwadu ar y broses negodi, oherwydd prin bod gan y Llywodraeth fwyafrif beth bynnag gyda phleidleisiau’r DUP. Felly, os yw hi wir eisiau dweud, er enghraifft, am brosiect Cylchffordd Cymru, y gallem newid y confensiynau cyfrifo—mae’n ymddangos mai dyna’r unig reswm pam ataliodd Llywodraeth Cymru y cytundeb—yn gyfnewid am eu pleidleisiau, pam nad yw hi'n gwneud hynny? Ateb—[Torri ar draws.]

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 5:52, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

A yw'n cytuno â mi, pe bai Plaid Cymru wedi gwneud cytundeb gyda’r Llywodraeth Geidwadol, y byddai wedi rhoi 322 o seddi iddynt ac, ac eithrio Sinn Féin, y byddai hynny wedi bod yn fwyafrif cyffredinol? Gallem fod wedi cael cryn dipyn o bethau i Gymru gyda hynny.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Yn wir. Wel, am unwaith, mae fy nghyn gydweithiwr yn siarad synnwyr—[Chwerthin.]—fel yr oedd bob amser yn arfer ei wneud. Ond dyna'n union y—. Rydym mewn cyfnod o wleidyddiaeth grym. Nid oes unrhyw bwynt mewn cwyno am annhegwch—mae bywyd yn annheg, fel y gwyddom. Dyn a ŵyr, rwyf wedi derbyn cymaint o annhegwch yn ystod fy mywyd ac nid wyf yn cwyno am hynny, wrth gwrs. Mae'n rhaid fy mod yn fasochist i fod yn wleidydd yn fy oed i. Ond, serch hynny, mae'r DUP wedi gwneud yr hyn y cawsant eu hethol i'w wneud—cael y fargen orau ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Beth mae Plaid Cymru yn ei wneud? Maen nhw wedi cael eu hethol i gael y fargen orau i Gymru, ond maen nhw wedi methu’n llwyr â manteisio ar y cyfle. Yn wir, gwnaeth plaid Llafur Cymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf gymaint â phosibl i esgus nad oeddent yn rhan o'r Blaid Lafur yn genedlaethol o gwbl ac nad oedd Jeremy Corbyn yn bodoli. Pam nad ydynt yn defnyddio'r annibyniaeth yr oeddent yn ceisio perswadio pobl Cymru bod ganddynt oddi wrth Lafur yn genedlaethol i wneud cytundeb gyda Theresa May eu hunain? Gallent weddnewid gwleidyddiaeth Prydain trwy dorri’n rhydd oddi wrth y Blaid Lafur yn genedlaethol a gwneud yr hyn y maent yn honni bod ei eisiau arnynt hwythau—bargen er budd pobl Cymru.

Felly, yn anffodus, er fy mod yn croesawu'r cyfle inni i drafod y mater hwn heddiw, nid yw’r ddadl mewn gwirionedd yn ddim mwy nag ymarfer mewn twyll, rhagrith a grawnwin sur. Gwnaeth May a gafodd y nifer mwyaf o seddi. Mae'r DUP yn barod i daro bargen. Maen nhw wedi cael bargen. Ie, ni yw’r collwyr, ond pwy sy'n gyfrifol am hynny? Nid nhw, ond Plaid Cymru, y Blaid Lafur, a’u cynorthwy-ydd bach o Aberhonddu a Maesyfed.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:54, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi eistedd yn y Siambr hon nawr ers dros 10 mlynedd ac fel eraill, yn ystod y cyfnod hwnnw, rwyf wedi gwrando ar y Torïaid yn pledio am arian—arian i’w wario ar bob gwasanaeth cyhoeddus yn ddieithriad. Ac rwy’n fodlon mentro y byddwn yn clywed y pledion hynny eto. Rwy’n meddwl mai'r peth gorau y gall y grŵp Torïaidd, neu’r grŵp Ceidwadol, draw fan yna ei wneud nawr, a dweud y gwir, yw mynd â’r bowlen gardota honno i San Steffan a gofyn iddyn nhw ysgwyd eu coeden arian hud, oherwydd maent wedi dod o hyd iddi, ac roedd digonedd o arian arni, ar draul y bobl y dylech fod yn eu cynrychioli. Felly, dyna'r darn cyntaf o gyngor y byddwn yn ei roi iddynt. Ond rwyf am symud ymlaen at Crabb a Cairns et al. Maent i fod i gynrychioli Cymru. Felly, gwyliais y teledu neithiwr gan aros iddynt ddweud rhywbeth a fyddai wir yn rhoi rhywbeth i'r cyhoedd yng Nghymru a fyddai'n disgwyl iddynt sefyll dros Gymru. Wel, cefais siom enfawr, ac rwy'n siŵr bod pobl Cymru yr un mor siomedig.

Felly, clywsom Crabb, sef Stephen Crabb, yr AS dros Breseli, Sir Benfro—prin, mae'n rhaid imi ychwanegu, prin—ac roedd yn arfer bod yn ysgrifennydd lles. A’r un Stephen Crabb a gefnogodd doriad i hawlwyr budd-dal anabl o £30 yr wythnos. Roedd yn cyfiawnhau hynny drwy ddefnyddio arian cyhoeddus, hynny yw arian trethdalwyr, yn ‘ddoeth’, fel y gallai pobl helpu eu hunain. Felly, roeddwn yn disgwyl iddo ddweud rhywbeth ar ran y bobl yn Sir Benfro a phobl Cymru a fyddai'n cyd-fynd â defnyddio arian trethdalwyr o Gymru er lles pobl Cymru. Ond beth ddywedodd e? A hoffwn ddyfynnu hyn, yr hyn a ddywedodd oedd, ‘Wel, dyna gost gwneud busnes’. Nawr, yn ôl yr ‘Independent' ar-lein, mae hwnnw'n ymadrodd a ddefnyddir fel arfer gan gwmnïau i ddisgrifio talu llwgrwobrwyon i gael cytundebau mewn marchnadoedd tramor. Nid yw fel arfer yn derm a ddefnyddir mewn Llywodraeth. Os ydym ni’n sôn am ddefnyddio arian cyhoeddus, arian y trethdalwyr, o bob rhan o'r DU dim ond i gadw'r Torïaid mewn grym, a gwerth £1 biliwn dros ddwy flynedd, hoffwn ofyn cwestiwn i Cairns a Crabb et al: nid yw 97 y cant o'r trethdalwyr sy'n talu hyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ac eto Gogledd Iwerddon sy'n mynd i weld yr holl fudd.

Felly, rwyf am symud ymlaen nawr i edrych ar Cairns. Rwyf am edrych ar yr hyn a ddywedodd Cairns. Felly, roeddwn yn meddwl y byddai ganddo ef, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, rywbeth i'w ddweud am Gymru, ac am ddod ag arian i Gymru—a, do, fe wnes ei enwi, rydych yn hollol gywir, ef yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru—ac yn falch iawn, efe a safodd ac a amddiffynnodd yr anamddiffynadwy. Roedd yn meddwl ei bod yn berffaith iawn rhoi arian tuag at Ogledd Iwerddon. Dim sôn am Gymru, wrth gwrs. Dim sôn am sefyll dros Gymru. Efallai y dylai ystyried ei safle. Efallai fod angen iddo feddwl am ble mae’n sefyll a phwy mae'n ei gynrychioli. Byddai wedi bod yn braf cael y gwerth £1 biliwn hwnnw yng Nghymru. Byddai wedi bod yn braf ei gael i’w wario ar ein GIG, ein hysgolion, ein ffyrdd. Y tro nesaf, pan fydd y Ceidwadwyr yn cyflwyno dadl ac yn gofyn inni am fwy o arian, rwy’n gobeithio y gwnânt ystyried mynd â’r bowlen gardota honno, mynd â hi i San Steffan, a gofyn am ailddosbarthu cyfoeth y dylai, mewn gwirionedd, fod wedi cael ei roi i ninnau hefyd.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:59, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym, ar hyn o bryd, yn ymdrin â chanlyniad yr etholiad cyffredinol, a dim ond dau opsiwn dichonadwy gafodd eu cynhyrchu ganddo. Un oedd Llywodraeth Geidwadol leiafrifol—yr un yr oeddwn i, gyda llaw, yn ei ffafrio, ond byddai hynny wedi bod yn fregus, yn amlwg—neu, yn ail, cyfuniad gyda'r DUP i greu cytundeb hyder a chyflenwi. Nid oedd dim cyfuniad arall a allai fod wedi cynhyrchu Llywodraeth i’r wlad hon ac, yn amlwg, penderfynodd y Prif Weinidog fod yr angen i negodi Brexit llwyddiannus yn golygu bod angen sicrwydd ychwanegol ar ffurf cytundeb hyder a chyflenwi. Ar y sail honno, mae rhywfaint o gost wedi ei hawlio. Dydw i ddim yn synnu bod hynny bellach yn destun craffu ac, wrth gwrs, mae hynny'n gwbl briodol.

Mae'n rhaid imi ddweud, cyn imi gyrraedd hynny, fy mod yn gweld y cyfuniad hwn rhwng y Blaid Geidwadol a'r DUP yn anodd, oherwydd statws eithriadol Gogledd Iwerddon yng ngwleidyddiaeth y DU. Nawr, mae gennym Lywodraeth Brydeinig sy’n dibynnu ar blaid Wyddelig am y tro cyntaf ers 1910. Fel John Major, rwy’n nodi’r cymhlethdodau y gallai hyn eu cyflwyno i'r broses heddwch. Fodd bynnag, gallai’r pecyn ariannol helaeth y mae'r DUP wedi ei negodi, o leiaf, gynorthwyo i ailsefydlu'r Weithrediaeth rhannu pŵer. Roedd wedi dod o dan gryn straen oherwydd—dewch inni ei alw’n wleidyddiaeth cyni, hyd yn oed cyn i’r ddadl am wresogi â biomas ddod â phethau i stop llwyr. Fel mater o grefft llywodraeth—ac rwy’n gwybod bod gan y Prif Weinidog ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon—rwy’n gobeithio y byddwn nawr yn gweld cyfle i'r holl bleidiau i gydweithio a defnyddio eu hadnoddau ychwanegol yn gynhyrchiol.

Rwy’n gweld bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi dweud ac, yn wir, ailadroddwyd hynny y prynhawn yma yn y fan hyn, y byddant yn cychwyn y mecanwaith anghydfod ffurfiol. Rwy'n meddwl bod hynny’n beth cyfrifol i'w wneud os ydych yn credu bod yr anghydfod yn ddigon difrifol, ac rwy'n siŵr y gwnewch yr achos yn gryf iawn. Mae'n amlwg, rwy’n meddwl—hyd yn oed ar yr ochr hon i'r tŷ mae'n rhaid inni gydnabod—bod y cytundeb gyda'r DUP yn peri goblygiadau ehangach, ac mae, rwy’n cyfaddef, yn peri rhai heriau difrifol i Blaid Geidwadol Cymru ac i Geidwadwyr yr Alban. Fodd bynnag, nid yw rhai o'r beirniadaethau yr ydym wedi’u clywed y prynhawn yma wedi bod yn ddim mwy na gwrthdaro pleidiol syml. Rwy’n meddwl bod angen rhywfaint o gymedroldeb a chymesuredd wrth edrych ar y materion hyn, gan ein bod yn sôn am y broses heddwch, Brexit a strwythur ein gwladwriaeth yn y dyfodol, ac mae angen crefft llywodraeth, yn ogystal â gwneud pwyntiau mwy uniongyrchol o ddeialog amhleidiol. Rydym wedi clywed bod Gordon Brown, yn nyddiau olaf ei brifweinidogaeth, wedi mynd at y DUP, ac, yn ôl pob tebyg, byddai wedi wynebu anawsterau tebyg o gynnwys nid plaid â stamp ideolegol—

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

[Yn parhau.]—ond un sy'n cynrychioli rhan benodol iawn o'r Deyrnas Unedig ac nad oes ganddi fandad ehangach na hynny.

Byddai’n well gen i beidio, ac rwy’n meddwl eich bod yn mynd i siarad yn y ddadl, ond os ydych yn pwyso arnaf, gwnaf ildio, ond mae gennyf ragor o bethau yr hoffwn eu dweud ac yr wyf yn meddwl yr hoffai’r Cynulliad eu clywed. Ydych chi am imi ildio?

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Os yw hynny’n iawn. Rwy'n meddwl mai Syr Nicholas Macpherson, cyn bennaeth y Trysorlys, a adawodd ei swydd y llynedd, a ddywedodd

‘Dim ond blaendal yw’r £1 biliwn i Ulster. Bydd y DUP yn ôl am ragor’

Felly, o ran cysondeb y trefniant hwn wrth symud ymlaen, a ydych chi’n pryderu am hynny?

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, amser a ddengys ar sefydlogrwydd yr holl drefniant hwn. Yn fy marn i, ac rwy'n mynd i fynd i drafferth ofnadwy nawr, yw mai dyn a ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl diwedd y trafodaethau Brexit. Ond rwy’n meddwl bod angen inni sefyll dros Gymru. Dyna pam mae'r Cynulliad Cenedlaethol yma. Mewn adegau o drafod dyrannu adnoddau gwladwriaeth y DU, yr ydym yn rhan ohoni ac wedi bod yn cynhyrchu’r adnoddau hynny ers cyn cof, yn amlwg, ceir dadl gyson ynghylch beth yw'r gyfran deg. Rwy’n credu y dylid defnyddio fformiwla Barnett â rhan o'r hyn y byddwn yn ei alw’n gytundeb dwy flynedd gwerth £1 biliwn a gafodd Gogledd Iwerddon. Ond hoffwn gael fy ffrwyno yn yr hyn yr wyf yn mynd i alw amdano, oherwydd rwy’n meddwl bod rhai o'r hawliadau’n sicr yn ormod.

O ran seilwaith, mae gennym eisoes—yn aml iawn, beth bynnag—ymagwedd ddwyochrog at hyn, ac rwy'n meddwl, wrth alw am brosiectau arbennig yn y dyfodol, y bydd angen inni sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg. Mae'r morlyn llanw yn un amlwg iawn sydd nawr ar y gorwel.

Fodd bynnag, rwy’n pryderu am oblygiadau peidio â defnyddio fformiwla Barnett ar gyfer rhywfaint o'r gwariant refeniw—rwyf yn ei amcangyfrif fel tua £450 miliwn dros ddwy flynedd i Ogledd Iwerddon—gan nad wyf yn meddwl bod hyn yn gosod cynsail da i’r Deyrnas Unedig. Rwy’n meddwl y gellir cyfiawnhau rhai o'r codiadau hynny i Ogledd Iwerddon ar y sail y byddant yn cynorthwyo'r broses heddwch, ac mae cynsail ar gyfer hyn. Ond rwy’n meddwl bod angen defnyddio fformiwla Barnett ar gyfer rhywfaint o'r arian hwn, ac rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried yr agwedd hon ar y cytundeb y maent newydd ei drafod, a meddwl yn nhermau cyllidebau Cymru a'r Alban.

A gaf i gloi—rydych wedi bod yn hael iawn, Llywydd—drwy ddweud, o ran ble mae ein gwladwriaeth yn mynd ar ôl Brexit ac i fyfyrio ar y profiad hwn hefyd, bod angen inni weld system grantiau bloc yn cael ei disodli gan ryw fath o grant gan y Trysorlys wedi’i oruchwylio gan gomisiwn grantiau annibynnol? Gallai hynny ddal i ganiatáu taliadau arbennig mewn amgylchiadau eithriadol, ond rwy'n meddwl mai dyna’r math o sefydlogrwydd y bydd ei angen arnom ar gyfer y wladwriaeth Brydeinig wedi iddi fynd heibio i’r dyfroedd gwyllt yr ydym nawr yn eu hwynebu o ran y broses Brexit. Diolch.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 6:06, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o ddilyn David Melding, a wnaeth yr ymgais fwyaf cydlynol i nodi unrhyw gyfiawnhad dros y sefyllfa yr ydym ynddi, ac yn sicr gwnaf ymuno ag ef i ddweud bod rhaid inni nawr sefyll yn gadarn dros Gymru.

Ond dewch inni edrych ar y sefyllfa yr ydym ynddi. Drwy drafod y cytundeb hwn, mae gennym weinyddiaeth a arweinir gan y Ceidwadwyr yn San Steffan ag, i bob pwrpas, yn union yr un mwyafrif ag oedd ganddi cyn yr etholiad cyffredinol pan ddywedodd nad oedd y mwyafrif hwnnw’n ddigon cryf a sefydlog i fynd â hi drwy'r trafodaethau Brexit. Ac rwy’n teimlo bod hynny wir, wir yn dangos bod San Steffan mewn sefyllfa fregus iawn. Nid wyf yn meddwl y gwnaiff y Llywodraeth hon bara rownd o drafodaethau Brexit, ond amser a ddengys, fel y dywed David Melding.

Nawr, mae'r taliad a wnaethpwyd er mwyn caniatáu i hyn ddigwydd, sydd tua £100 miliwn i bob AS DUP—mwy na gwerth trosglwyddiad Gareth Bale, gyda llaw—yn ei gwneud yn amlwg yn union pa mor daer yw Theresa May a'r Blaid Geidwadol i aros mewn Llywodraeth, neu yn hytrach i osgoi etholiad cyffredinol arall am yr amheuaeth sydd ganddynt o ble y gallai eu harwain. Ac rwy’n meddwl ei fod wedi’i risialu orau yn y dyfyniad hwn, a ddywedwyd heddiw:

Mae hon yn wlad sydd wedi'i rhannu’n ddwfn ac mae rhoi sylw penodol i un rhan ohoni, er mwyn rhoi rhyw lun o sefydlogrwydd tymor byr, yn un arall eto o'r prisiau yr ydym yn eu talu am oblygiadau Brexit.

Yr Arglwydd Heseltine a ddywedodd hynny. Yr Arglwydd Heseltine, wrth siarad ar radio’r Alban heddiw. Rwyf wedi meddwl erioed mai’r unoliaethwyr a fyddai’n dinistrio’r undeb, ac rwy'n fwy argyhoeddedig byth o hynny nawr.

Dewch inni weld beth yw’r cymorth ariannol i Ogledd Iwerddon, oherwydd rwy’n meddwl bod angen ei archwilio rywfaint. Mae llawer o bobl wedi dweud ei bod yn ddogfen hyder a chyflenwi tair tudalen; yn wir, mae tair tudalen arall. Mae'r tair tudalen arall yn ymwneud â'r trefniadau ariannol a cheir cryn fanylder yno am y trefniadau ariannol. Datblygu seilwaith yng Ngogledd Iwerddon—£200 miliwn y flwyddyn am ddwy flynedd ar gyfer prosiect cyfnewidfa York Street. Nid wyf yn gwybod beth yw hwnnw. Efallai y bydd y Prif Weinidog yn gwybod drwy ei gysylltiadau teuluol beth yw hwnnw, ond yr hyn yr wyf yn ei wybod yw bod hynny'n rhagderfyniad cyn ichi ethol gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon, ac mae hynny'n un o flaenoriaethau’r DUP sydd wedi'i hariannu. Saith deg pum miliwn o bunnoedd y flwyddyn am ddwy flynedd i ddarparu band eang cyflym iawn i Ogledd Iwerddon. Wel, gallem wneud â £75 miliwn y flwyddyn ar gyfer band eang cyflym iawn yma yng Nghymru hefyd. Ymrwymiad bod anghenion Gogledd Iwerddon yn cael eu hadlewyrchu'n briodol yn y dyfodol yng nghronfa rhannu ffyniant y DU. Nid ydym wedi cael ymrwymiad o'r fath eto—dim ymrwymiad ysgrifenedig o'r fath gan Lywodraeth San Steffan bod y gronfa rhannu ffyniant, sy'n cymryd lle, wrth gwrs, cronfeydd strwythurol yr UE, yn mynd i gyflawni hynny’n dda i Gymru. Ymrwymiad i ddefnyddio rhwydweithiau o lysgenadaethau ac uchel gomisiynau i hyrwyddo Gogledd Iwerddon fel lleoliad ar gyfer buddsoddiad tramor uniongyrchol. Hyrwyddo Gogledd Iwerddon dros yr Alban, dros Gymru, dros ranbarthau Lloegr—beth mae hyn yn ei olygu? Ymrwymiad yn y dyfodol i weithio tuag at ddatganoli cyfraddau treth gorfforaeth—rhywbeth sydd wedi cael ei wrthod i’r rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig—a datblygu opsiynau ar gyfer cyllideb yr hydref eleni. Ymrwymiad i fargeinion dinesig ledled Gogledd Iwerddon. Nawr, dyma sy’n gwneud sylwadau Alun Cairns bod hyn yn rhyw fath o uwch fargen ddinesig yn nonsens llwyr oherwydd maent yn cael y cytundeb hwn, ac maent yn cael bargeinion dinesig ac maent yn cael parthau menter. Felly, maent yn cael popeth yr ydym ni’n ei gael yn ogystal â'r biliwn. Nid dim ond torri Barnett yw hyn, ond ei chwalu a'i sathru i mewn i'r mwd.

Er mwyn targedu pocedi o amddifadedd difrifol—ac rwy’n derbyn bod amddifadedd difrifol yng Ngogledd Iwerddon—bydd Llywodraeth y DU yn darparu £20 miliwn y flwyddyn am bum mlynedd. Nid cytundeb dwy flynedd ydyw; mae’n un pum mlynedd. Dyna £100 miliwn i gefnogi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflwyno'r mesurau o gwmpas twristiaeth. £50 miliwn ychwanegol am ddwy flynedd i leihau pwysau ar unwaith ar iechyd ac addysg. Wel, ie, gallem ni wneud â’r rheini. Ac yna, £100 miliwn am ddwy flynedd i gefnogi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i gyflawni ei blaenoriaeth o drawsnewid y gwasanaeth iechyd. Nid oes gennym Weithrediaeth Gogledd Iwerddon eto, ac eto maent eisoes yn sôn am eu blaenoriaethau. Wrth gwrs, gallai Llywodraeth San Steffan gyflwyno hyn, i bob pwrpas, drwy reol uniongyrchol, a fydd yn arwain at fwy fyth o broblemau.

Ac yna’r peth olaf—hyblygrwydd i’r arian sydd dros ben ers dyraniadau blaenorol ar gyfer addysg a rennir a thai i gael ei wasgaru’n hyblyg o fewn cyfnod yr adolygiad hwn o wariant. Mewn geiriau eraill, ni fydd dim o reolau'r Trysorlys ar drosglwyddo arian o un flwyddyn i'r llall mewn addysg na thai nawr yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon. Nid wyf yn gwybod ers pryd yr ydym wedi bod yn dadlau am hynny—o leiaf 10 mlynedd, o leiaf 10 mlynedd. Mae'n gwneud ichi feddwl: rydych yn gwneud dadl synhwyrol, gydlynol sy'n seiliedig ar yr economi, yn seiliedig ar les eich pobl, a’r oll yr ydych yn ei glywed yw mai ychydig o wleidyddiaeth bôn braich sy’n mynd i ennill y gêm. Wel, rwyf yn dweud nad gwleidyddiaeth bôn braich yw hyn; mesurau anobeithiol ydynt a Llywodraeth ansefydlog a fydd yn methu. Bydd yn methu, os dim byd arall, oherwydd hyn, y darn olaf o’r cytundeb a'r rhan ariannol, sy'n sôn am yr etifeddiaeth ac yn dweud hyn:

Mae'r ddwy blaid yn ailadrodd eu hedmygedd i ddewrder ac aberth yr heddlu a'r lluoedd arfog wrth gynnal democratiaeth a rheolaeth y gyfraith ac ni wnawn byth anghofio’r ddyled o ddiolchgarwch sy'n ddyledus gennym iddynt.

Nawr, mewn unrhyw gyd-destun arall, mae honno’n ystrydeb y byddem i gyd yn cytuno â hi. Yng nghyd-destun Gogledd Iwerddon, mae’n ddeinameit—yn llythrennol, deinameit.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 6:12, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog, a dweud y gwir, am ei ymateb ddoe i'r cytundeb hyder a chyflenwi. Roeddwn yn meddwl bod ei ddicter—ei ddicter—wrth y cytundeb yn amlwg ddoe, ac roedd yn glir iawn, yr anfodlonrwydd, nid dim ond o Gymru ond hefyd o'r Alban, wrth y ffaith y gallwch heddiw gael arian parod am bleidleisiau. Dyna beth sydd wedi digwydd yma. Efallai y bydd rhai pobl yn y Siambr hon yn fwy cyfarwydd ag arian am gwestiynau; mae arian am bleidleisiau’n waeth. Mae arian am bleidleisiau’n waeth a dyna beth yr ydym yn sôn amdano yma.

A gaf i ddweud mai’r pwynt arall yr wyf yn meddwl ei bod yn werth ei danlinellu yw nad hyn fydd diwedd y peth? Nid hyn fydd diwedd y peth. Byddant yn ôl am ragor. Dyna un o'r pethau brawychus am hyn. Dim ond dechrau’r negodi yw hyn. Maen nhw wedi eu cloi i mewn am gwpl o flynyddoedd. Os gallant ddal gafael ar rym am y pum mlynedd y maent i fod i ddal gafael ar rym, byddwn yn siarad am wthio mwy fyth o gyllid i lawr eu gyddfau. Nid yw hynny'n dderbyniol. A phwy yw’r DUP hyn sy'n cynnal y Llywodraeth Dorïaidd simsan? Pwy ydyn nhw? Wel, mae ganddynt farn eithaf amheus am erthylu ac mae ganddynt farn annymunol am hawliau i bobl hoyw. Ond, yn fwy na dim byd arall, ydych chi'n gwybod beth sy’n fy mhoeni? Y ffaith eu bod yn ddi-glem yn wleidyddol ac yn economaidd. Cawsant eu darostwng oherwydd eu bod yn cynnig talu £160 i bobl i losgi gwerth £100 o danwydd. Mae'n sefyllfa hurt. Doedd dim terfyn uchaf ar y swm y gellid ei dalu iddynt, a dyna beth ddaeth â'r sefyllfa i ben yn Stormont. Maent wedi mynd i’r gwely gyda phobl sydd, yn syml, yn ddi-glem, ac rwy'n meddwl y dylid tanlinellu hynny hefyd.

Ond, yn fwy na hynny, mae Llywodraethau olynol yn y wlad hon wedi brwydro a gweithio’n ddiflino i sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Y ffaith yw bod penderfyniad wedi’i wneud yn y Cenhedloedd Unedig sy'n awgrymu y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn frocer gonest yn y trafodaethau yng Ngogledd Iwerddon. Yn syml, nid yw hynny'n bosibl pan fo Llywodraeth Dorïaidd y DU yn y gwely gydag un o'r pleidiau. Nid yw'n bosibl bod yn frocer gonest ac rwy’n meddwl tybed beth ar y ddaear a ddaw o’r sefyllfa honno.

Brexit—mae siec wag ar gyfer Brexit. Maent wedi dweud yn llythrennol, ‘Unrhyw beth sydd ei eisiau arnoch. Unrhyw beth sydd ei eisiau arnoch ar hyn, byddwn yn cytuno ag ef.’ Yr unig bwynt y maent wedi ei wneud yw yr hoffent ffin feddal â Gogledd Iwerddon. Nawr, rwy’n croesawu—rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cael ffin feddal â Gogledd Iwerddon, ond rwy’n bryderus ofnadwy y byddwn yn gweld ffin galed â Chymru. Nawr, ble mae’r ASau Torïaidd hyn o Gymru, yn gweiddi ac yn gwneud yn siŵr nad ydym ni’n cael ffin galed os ydynt yn cael ffin feddal â Gogledd Iwerddon? Rwy'n meddwl bod pobl yng Nghymru sy'n sâl ac sy’n haeddu cael eu trin yn dda gan y GIG yr un math o bobl â’r bobl sy'n sâl yng Ngogledd Iwerddon; maent yn haeddu’r un math o wasanaethau.

Mae'r datganiad yn awgrymu, yn olaf, yr hoffai gryfhau a gwella'r undeb. Credaf y bydd y cytundeb hwn yn gyrru hollt drwy ein gwlad a'n cefndryd Celtaidd, ac rwyf fi, yn bersonol, yn gresynu’n ddifrifol wrth y ffaith honno.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 6:16, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch ein bod yn gallu lleisio ein barn am y cytundeb hyder a chyflenwad rhwng mwyafrif y Ceidwadwyr yn Nhŷ'r Cyffredin a’r DUP, er fy mod yn meddwl bod rhai o'r sylwadau hyd yn hyn wedi bod mor rhagweladwy.

Roedd yr etholiad hwn yn her i bob un o'r prif bleidiau. Er eu bod wedi pleidleisio dros Brexit, ni roddodd yr etholwyr y mandad clir sydd ei angen ar y Ceidwadwyr i gyflawni ewyllys y bobl, ac yn fy marn i, bydd y diffyg eglurder hwnnw’n effeithio ar y fargen y gallai unrhyw Lywodraeth ei tharo. Serch hynny, cynyddodd cyfran y Ceidwadwyr o’r bleidlais dros 5 y cant ers yr etholiad cyffredinol diwethaf, ac â 318, ni yw'r blaid fwyaf yn San Steffan. Cynyddodd ein cyfran o'r bleidlais yng Nghymru—yn wir, hon oedd y bleidlais orau yng Nghymru ers o leiaf 1935. Ac rwy’n meddwl bod hyn yn bwysig iawn, oherwydd roedd yr etholiad yn her i bob plaid.

Roedd yn her i'r Blaid Lafur, sydd nawr wedi’u beichio ag arweinydd y mae Carwyn Jones a'r rhan fwyaf o'r Aelodau Cymreig etholedig yma wedi treulio amser yn ceisio ymbellhau oddi wrtho. Pwy a fyddai wedi ffurfio Llywodraeth os nad y Ceidwadwyr? Ynteu a oeddech i gyd yn argymell y dylem ofyn i'r cyhoedd i fynd yn syth i etholiad cyffredinol arall? Mae tensiynau enfawr yn parhau o fewn y Blaid Lafur yng Nghymru rhwng y rhai sy’n ffyddlon i Corbyn a'r rhai sydd wedi diarddel ei arweinyddiaeth, a dim ond mater o amser yw hi cyn i’r anghytgord hwn ymddangos eto yn gyhoeddus.

Ar ôl colli 15 o adneuon, byddwn wedi meddwl y byddai Plaid Cymru wedi bod yn fwy effro i'r cyfle hwn, oherwydd pam na ddefnyddiodd ASau Plaid Cymru ddim o'u dylanwad posibl ar gyfer Cymru? Rwy’n meddwl bod Neil Hamilton—neu, yn wir, rwy’n meddwl mai Mark Reckless a Neil Hamilton a wnaeth—wedi gwneud y pwynt hwnnw’n glir iawn am fathemateg y sefyllfa. Gallai fod wedi helpu, oherwydd rydych yn hollol gywir, mae angen inni fod yn onest, fel yr oedd Leanne Wood yn ei ddweud dro ar ôl tro. A yw'n wir, er enghraifft, bod Liz Saville-Roberts yn awyddus i daro bargen, ond bod arweinydd Plaid Cymru wedi gwrthod?

Yr holl bigo beiau hurt hyn dros y cytundeb hyder a chyflenwad. Mae clymbleidiau a chytundebau hyder a chyflenwad yn gyffredin mewn gwleidyddiaeth. Mae un ar waith nawr rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac mae diffyg tryloywder ar eu cytgord. Beth maent wir wedi cytuno iddo? Mae’r Alban hefyd wedi gweld cytundebau o'r fath rhwng y Ceidwadwyr a'r SNP. Ar lefel y DU, bu chwe chlymblaid dros y 120 mlynedd diwethaf, gan gynnwys yr un fwyaf diweddar. A dylem gofio bod y Blaid Lafur wedi dal gafael ar rym drwy daro bargen â’r Democratiaid Rhyddfrydol, i alluogi Jim Callaghan i gyrraedd diwedd ei gyfnod yn y swydd.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Gwnaf yn wir, Rhun.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A fyddech chi’n cytuno y gallai'r grŵp o wyth Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru hefyd fynnu pridwerth gan Theresa May dros hyn?

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Os hoffech aros tan ddiwedd fy araith, efallai y gwnaf ateb eich cwestiwn ichi.

Ledled Ewrop ac mewn llawer o rannau eraill o'r byd, mae cytundebau o'r fath yn gyffredin. A dewch inni fod yn glir: dydych chi ddim yn ei hoffi, allwch chi ddim dod drosto, ond gyda'r nifer mwyaf o seddi a'r nifer mwyaf o bleidleisiau, dim ond y Blaid Geidwadol sydd â’r gallu a'r dilysrwydd i ffurfio'r Llywodraeth nesaf. Ydw i'n cytuno â'r DUP ar lawer o'u safbwyntiau am faterion cymdeithasol? Ddim o gwbl. Ond bydd hyn yn darparu'r sicrwydd a’r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar y wlad gyfan wrth inni ddechrau ar Brexit a thu hwnt, a dyna beth mae'n rhaid inni ganolbwyntio arno.

Rwy’n siarad fel rhywun a oedd yn dymuno aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n edrych fel ein bod yn gadael, a does dim llawer y gallwn ei wneud am y peth ar hyn o bryd. Ond brensiach, os ydym yn gadael, rydym yn gadael gyda'r fargen orau bosibl ac rwyf am inni fod â Llywodraeth gref yn y DU i wneud hynny. A dewch imi fod yn glir—

Rhianon Passmore a gododd—

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 6:18, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Na. A dewch imi fod yn glir, rwy’n Geidwadwr, ond yn bennaf oll, rwy’n Geidwadwr Cymreig, felly byddaf fi, o leiaf, yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran deg. Rwy’n deall bod Gogledd Iwerddon yn achos arbennig a bod angen buddsoddiad ychwanegol yno. Heb ddim cynrychiolaeth gan bleidiau gwleidyddol y tir mawr a dim ond y Ceidwadwyr yn sefyll mewn rhai seddau yno, nid ydynt yn aml yn cael y llais sydd ei angen arnynt yn San Steffan. Bydd y cytundeb yn rhoi’r llais hwnnw iddynt, ac, yn anffodus, rwy’n parchu'r DUP am ddod o hyd i’r llais hwnnw a’i ddefnyddio. Mae'n rhaid inni ofyn i ni ein hunain, wrth feirniadu’r fargen, a fyddai unrhyw un yn y Siambr hon wedi bod yn awyddus i fyw o dan yr amgylchiadau a oedd yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon yn ystod y Trafferthion a'r niwed a wnaethant i ddenu mewnfuddsoddi a gwelliannau i seilwaith.

Fodd bynnag—[Torri ar draws.] Fodd bynnag, rwyf am weld cynnydd cadarnhaol o San Steffan ar y morlyn llanw. Rwyf am weld cynnydd cadarnhaol o San Steffan ar drydaneiddio. Rwy’n derbyn y bydd dileu'r tollau ar bont Hafren yn dod i mewn o dan ddeddfwriaeth eilaidd, ond hoffwn hefyd weld fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio ar gyfer rhai elfennau ar y cytundeb hyder a chyflenwad, fel iechyd ac addysg. A pheidiwch â siarad â mi am wleidyddiaeth ffafrio ardaloedd lleol ar adeg etholiad: mae ffordd osgoi Llandeilo yn dod i'r meddwl fel enghraifft berffaith.

Gwnaeth Simon Thomas rai sylwadau synhwyrol iawn wir am agweddau ariannol ar y cytundeb hyder a chyflenwad, ac rwy’n credu y dylai pob un ohonom roi o'r neilltu y gwenwyndra sydd wedi cydio mewn gwleidyddiaeth ers mor hir. Mae angen inni weithio, y 60 ohonom, a’n ASau Cymreig o bob lliw, i sicrhau’r fargen orau i Gymru. Dylem bwyso ar y gwendidau o fewn y setliadau ariannol hynny i wneud yn siŵr na chawn ein gadael ar ôl. Dylem bwyso am gynnydd ar yr holl faterion hyn a dyna beth fydd fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 6:22, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Dewch inni fod yn glir am y cyd-destun: yn ddiweddar, cawsom etholiad cyffredinol sydd wedi diberfeddu’r Llywodraeth Dorïaidd hon. Mae ei mwyafrif wedi cael ei ddinistrio ac mae awdurdod Theresa May wedi cael ei chwalu. Mae'n anodd erioed cofio ymgyrch lle mae Prif Weinidog wedi ceisio mynd ati i frwydro ymgyrch heb gwrdd â'r cyhoedd nac ateb dim cwestiynau. Roedd hi'n rhyfedd gweld y Torïaid yn cynnal ymgyrch arlywyddol lle’r oedd eu prif ymgeisydd yn rhy ofnus hyd yn oed i ymddangos ar ‘Women’s Hour’. Trodd cryf a sefydlog yn wan a sigledig mor gyflym â jeli wedi’i adael allan yn yr haul. Dywedodd y Torïaid wrthym mai nhw oedd y trafodwyr gwych yr oedd eu hangen ar gyfer Brexit, ac eto fe gymerodd bythefnos gyfan i sicrhau cefnogaeth y Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd. Pythefnos i brynu pleidleisiau Aelodau Seneddol y DUP sydd, bleidlais ar ôl pleidlais, yn heidio i mewn i’r un lobïau â’r blaid Dorïaidd beth bynnag.

Dywedodd y Prif Weinidog y gwir am y mater, sef mai bwng £1 biliwn yw hwn. Yn wir, mae'r meinciau Torïaidd gyferbyn yn hoffi pregethu wrthym am gadw llyfrau’n ddarbodus, rhinweddau cyni a sut y mae angen ichi wario arian yn ddoeth. Felly, dewch inni ddyfynnu o’r ‘Times’ heddiw a gweld a all yr Aelodau gyferbyn gyfiawnhau taflu gwerth £1 biliwn o arian trethdalwyr i Ogledd Iwerddon, dim ond er mwyn osgoi wynebu dicter cyhoedd Prydain mewn etholiad cyffredinol arall. Dyfynnaf,

Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod gan Ogledd Iwerddon eisoes y gwariant cyhoeddus uchaf fesul person, ond yn gwneud y cyfraniad treth isaf.

Does dim rhyfedd felly, ledled y Deyrnas Unedig, o Glastonbury i stadiwm Swalec SSE ddydd Sul, bod torfeydd yn canu enw Jeremy Corbyn. Mae prif egwyddor y Blaid Lafur, dros y llawer ac nid yr ychydig, nawr wedi dod yn alwad wladgarol i'r gad.

Felly, ble y bydd a ble y mae diwedd y prynu ffafrau hyn gan y Torïaid? Ac rwy’n ailadrodd fy nghwestiwn: a oes unrhyw un o ddifrif yn meddwl na fydd y DUP yn ôl am fwy? Mae hyn i gyd ar wahân i hanes arswydus y DUP, y soniwyd amdano, ar gydraddoldeb, erthyliad, newid yn yr hinsawdd ac agwedd Fictoraidd at hawliau pobl hoyw.

Rydym i gyd yn gwybod bod y Prif Weinidog, fel y nododd George Osborne yn gofiadwy, yn ‘farw ar ei thraed’. Prif Weinidog sy’n farw ar ei thraed a Llywodraeth sombi. Yn wir, mae'r parlys yn Stryd Downing mor ddrwg nes bod rhai’n dyfalu y bydd y Canghellor yn dod yn Brif Weinidog dros dro, a dewch inni beidio ag anghofio bod ‘Spreadsheet Phil’ ar fin cael ei P45 cyn i'r Prif Weinidog ddioddef canlyniad etholiad mor dila. Sut y gall y cysgod gwag hwn o Brif Weinidog herio trafodwyr hirben a phrofiadol iawn y DUP? Fel y dywedais, dywedodd Syr Nicholas Macpherson, cyn bennaeth y Trysorlys, a adawodd ei swydd fel Ysgrifennydd Parhaol y llynedd,

Dim ond blaendal yw’r £1 biliwn i Ulster. Bydd y DUP yn ôl am fwy ... dro ar ôl tro ... Mae ganddynt hanes mewn materion o'r fath.

Mae'r cytundeb hyder a chyflenwad hwn rhwng y Torïaid a’r DUP yn wirioneddol warthus, ac yn fy marn i, mae’n feddargraff i’r Llywodraeth Dorïaidd hon. Yn wir, byddai Bruce Reynolds a Ronnie Biggs wedi bod yn falch o’r lladrad dwyn a dianc hwn sydd wedi cael ei wneud ar Drysorlys y DU, ond yn anffodus, Cymru yw dioddefwr y lladrad gwleidyddol mawr hwn. Prif Weinidog, rwy’n gwybod na wnewch sigo na methu yn eich ymdrechion i sefyll dros Gymru a sefyll dros ein dinasyddion yng Nghymru. Mae'n iawn y dylai unrhyw gyllid sy'n mynd i Ogledd Iwerddon olygu bod Cymru yn cael ei chyfran deg o dan fformiwla Barnett, ac mae'n wir bod pobl Cymru wedi cael llond bol o'r Torïaid yn pregethu nad oes dewis arall ond cyni. Felly, rwy’n galw ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig i wrthod darganfyddiad y Prif Weinidog o’r goeden arian hud, sy'n creu cawodydd o aur i’w hachub ei hun, ond yn rhoi dail marw i bobl mewn tlodi. Nid yw Theresa May, rydym yn gwybod, yn gyfaill i arweinydd y Torïaid Cymreig, ond yn sicr, yn sicr, dydy hi ddim yn gyfaill i bobl Cymru.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 6:26, 27 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn ddigon teg, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, bod y cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP bron iawn yn lladd y syniad o ariannu teg i’r gwledydd a'r rhanbarthau. Mae'r cytundeb hwn yn mynd yn groes i degwch, a dyna ni. Mae'n ddigalon, yn siomedig ac yn annymunol iawn bod Theresa May wedi coblo bargen at ei gilydd gyda phlaid â hanes mor ofnadwy o ran cydraddoldeb. Byddai’n ymddangos bod Theresa May yn poeni mwy am ddal gafael ar rym nag am ein hawliau dynol sylfaenol. Mae'r DUP wedi gwrthwynebu hawliau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yn gyson ac yn gryf. Maent yn gwrthwynebu priodas un rhyw yn gadarn, ac maent wedi rhoi feto ar sawl ymgais i basio deddfwriaeth newydd, ac o ganlyniad wedi ein trin ni, a dweud wrth bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, ein bod yn ddinasyddion eilradd.

Mae Ian Paisley Jr. wedi dweud o'r blaen ei bod yn anfoesol, yn ffiaidd ac yn atgas i fod yn hoyw, ac wedi dweud ei fod yn ffieiddio wrth hoywon a lesbiaid. Wel rwy'n siŵr bod rhagfarn, anoddefgarwch a gwahaniaethu atgas Ian Paisley Jr. yn ffieiddio’r mwyafrif llethol ohonom ninnau yn yr un modd. Yn ei sylwadau agoriadol, dywedodd y Prif Weinidog fod y fargen yn tanseilio union ysbryd tegwch ac undod. Rwy'n meddwl, nawr, bod rhaid inni ddal i sefyll yn ysbryd undod, ac mae'n hollbwysig bod pob gwleidydd teg a blaengar yn herio’r cytundeb hwn gyda'r DUP, ac yn siarad dros gydraddoldeb a hawliau pob dinesydd lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol —nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU gan gynnwys Gogledd Iwerddon.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:27, 27 Mehefin 2017

Galwaf ar y Prif Weinidog i gloi’r ddadl.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae'n iawn ein bod wedi cael y ddadl hon y prynhawn yma, er mwyn i Aelodau roi eu barn. A gaf ddweud, cyn imi ymdrin ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bod yr areithiau a roddwyd gan David Melding a gan Angela Burns yn llawer agosach at y math o araith arweinydd y byddwn wedi ei disgwyl gan rywun sy'n arwain un o bleidiau gwleidyddol mwyaf Cymru? Dyna gyferbyniad rhwng eu cyfraniadau meddylgar a'r gweiddi a welsom gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dewch inni beidio ag esgus bod hyn yn ddim byd ond yr hyn ydyw. Bwng ydyw; llwgrwobr; arian am bleidleisiau. Mae hyn yn enghraifft o Lywodraeth y DU yn dweud bod yn rhaid i Barnett aros, ond yn dweud ei bod yn hwylus anwybyddu Barnett pan fydd Llywodraeth y DU yn barnu bod hynny’n addas—mewn geiriau eraill, i’w helpu eu hunain. Maent wedi dechrau datod un o'r rhwymau sy'n dal pedair gwlad y DU at ei gilydd, sef cyllid teg. Os nad yw'r DU o blaid cyllid teg i’w gwledydd a’i rhanbarthau cyfansoddol, beth sydd ar ôl iddi? Does bosib nad yw’r undod hwnnw’n rhywbeth y dylem ei werthfawrogi ac yn rhywbeth na ddylid ei roi i ffwrdd—ei wastraffu, yn wir—yn ddiangen. Mae'n siŵr gen i, i Theresa May, nad yw’n gymaint o fater o egwyddor, ond os yw'r het bowler yn ffitio, ei gwisgo—o ystyried y bobl y mae hi wedi bod yn ymdrin â nhw.

Roeddwn yn disgwyl mwy gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Mae ef yn rhywun sydd â chroen trwchus. Hynny yw, cafodd ei gicio oddi ar ddadleuon yng nghanol yr ymgyrch etholiadol, a chafodd ei gicio allan o'i lansiad maniffesto ei hun, rhywbeth yr ydym yn dragwyddol ddiolchgar amdano, oherwydd newidiodd hynny’r etholiad, yn ein barn ni. Yr araith a wnaeth Theresa May yn Wrecsam a drodd lanw’r etholiad. Nid yw'n cael mynychu Cabinet y DU. Mae Ruth Davidson, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, yn cael gwneud hynny. Rwyf bron yn teimlo trueni drosto erbyn hyn, ac eto mae'n dweud wrthym ei fod wedi bod yn siarad â'r bobl sy'n cyfrif. Wel, nid oes unrhyw ganlyniadau erioed wedi bod yn y gorffennol; ni fydd dim canlyniadau yn y dyfodol. Sut y gall ef amddiffyn sefyllfa lle mae mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer iechyd meddwl yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru; mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer addysg yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru; mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer pwysau iechyd yng Ngogledd Iwerddon, nid yng Nghymru? Mae ei gydweithwyr, ac rwy’n rhoi clod iddynt am hyn—wedi nodi bod hynny’n broblem ac yn fater, ac maent wedi dweud y byddent yn ymladd i newid pethau. Ni allodd ef wneud hynny. Dywedodd y byddai'n sefyll dros Gymru. Mae wedi methu â gwneud hynny y tro hwn. A allwn ei annog hefyd i sôn am y mater hwn gyda'i gydweithwyr seneddol? Mae wyth ohonynt. Mae ganddynt lais pwerus. Mae ganddynt lais gwirioneddol rymus, yr wyth ohonynt. Gallent ddweud wrth Theresa May nad yw hyn yn dderbyniol, o ran Cymru, ac y dylai Barnett ddal i fod yn berthnasol. Gadewch iddynt nawr ddechrau siarad dros Gymru yn hytrach na bod yn wyth didaro fel y maent wedi bod yn ystod y rhai wythnosau diwethaf.

A gaf i ddweud, o ran y—? Os caf i droi at David Melding hefyd, mae bob amser werth gwrando ar David, a gwnaeth rai pwyntiau perthnasol iawn. Gwnaeth y pwynt y dylid defnyddio fformiwla Barnett ag o leiaf rhywfaint o'r arian hwn. Nawr, o fy safbwynt i, nid wyf yn gwarafun yr arian i Ogledd Iwerddon, ond rwy’n dweud os dylai Gogledd Iwerddon gael arian ychwanegol, dylai Cymru, yr Alban, a rhanbarthau Lloegr gael rhagor hefyd. Y gwirionedd yw, fel y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, bod cyni wedi dod i ben yng Ngogledd Iwerddon, ond nid yng Nghymru, Lloegr, a'r Alban, er mai trethdalwyr cenhedloedd Prydain Fawr sy’n talu am ddod â chyni i ben. Pam y dylent dalu am rywbeth nad ydynt yn cael budd ohono? Mae hynny'n rhywbeth y byddant yn ei ofyn. Oherwydd ni ddylem danbrisio'r dicter y mae tair gwlad Prydain Fawr wedi ei deimlo am y cytundeb hwn. Os oedd angen taro bargen, ni ddylid bod wedi taro’r fargen honno ar draul gwerthu Lloegr, yr Alban, a Chymru i lawr yr afon. Mae hynny'n rhywbeth sy'n rhannu'r DU yn hytrach na’i huno.

Nawr, fel y dywedodd Simon Thomas—ac rwy’n croesawu’r ffordd y mae wedi dyrannu’r cytundeb ei hun yn fforensig—mae arian yma ar gyfer prosiectau y byddai’n rhaid inni dalu amdanynt ein hunain fel arfer. Rwy'n gwybod am gyfnewidfa York Street, fel y mae'n digwydd. Mae'n broblem draffig ofnadwy yng nghanol Belfast. Mae'n cyfateb i dwnnel Brynglas neu rai o'r problemau ar yr A55 yma, ac eto ni sy’n gorfod talu am y prosiectau hynny. Does dim arian ychwanegol i Gymru i dalu am y prosiectau seilwaith hynny, er mor bwysig ydynt. Does dim arian ychwanegol i dalu am fand eang, er mor bwysig yw hynny, ond, mae'n debyg bod pethau’n wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n rhaid i ni fenthyg arian i dalu am y cynlluniau hyn. Mae’r arian yn cael ei roi i Ogledd Iwerddon. [Torri ar draws.] Mae'r Ceidwadwyr yn meddwl bod hyn yn ddoniol. Edrychwch arnynt. Maent yn meddwl ei bod yn ddoniol bod Cymru yn cael ei gadael i lawr yn y modd hwn. Wel, gadewch i bobl Cymru eu barnu. Ac, ie, dewch inni gael yr etholiad cyffredinol nesaf, a dweud y gwir, os ydych chi’n ei ofni gymaint. Rydym yn fwy na pharod i ddweud wrth bobl Cymru nad ydych—ac eithrio, a bod yn deg, rhai o'ch siaradwyr—wedi sefyll dros Gymru ar yr achlysur hwn.

Gwnaeth Angela Burns y pwyntiau a wnaeth. Rwy'n cydnabod y ffaith ei bod wedi dweud y dylai Barnett fod yn berthnasol i iechyd ac addysg. Rwy’n ei hatgoffa ei bod wedi dweud bod gan y Ceidwadwyr, fel y blaid fwyaf, y dilysrwydd i lywodraethu. Nid dyna'r ffordd y gwelodd hi bethau y llynedd pan fu pleidlais yn y Siambr hon pan ddaethom ni’n ôl fel y blaid fwyaf. Roedd yn wahanol bryd hynny i'r hyn sydd yn awr, ond roedd honno’n blaid wahanol. Felly, mae anghysondeb yno, a gawn ddweud, yn y pwyntiau y mae hi wedi'u gwneud.

Yr hyn sy'n fy mhoeni’n fwy na dim yw bod y Llywodraeth Geidwadol wedi cael y dasg o gael y fargen orau ar gyfer y DU wrth iddi adael yr UE, a bod 10 o ASau y DUP wedi eu blingo nhw. Pa obaith sydd felly ar gyfer y dyfodol os mai dyna yw eu cryfder?

Gwrandewais yn ofalus ar Neil Hamilton: ‘malu awyr cwerylgar’ yw'r hyn yr wyf wedi’i ysgrifennu yma, yn ffugio bod yn ymgais i drafod, rhywun a gymerodd safbwynt Llywodraeth y DU—efallai yr hoffai fynd yn ôl i'r blaid Geidwadol—a’r DUP yn hytrach nag, unwaith eto, siarad dros y bobl y mae mewn gwirionedd yn eu cynrychioli. A gaf i ei atgoffa? Mae’n ddigon hawdd iddo ef feio pleidiau eraill am y sefyllfa hon, ond methodd ei blaid gael un AS o gwbl. Felly, os yw unrhyw blaid yn mynd i gymryd y bai am hyn, ei blaid ef fydd honno am eu methiant llwyr i gael unrhyw un wedi’i ethol i San Steffan.

Y gwir amdani yw bod y fargen hon wedi'i tharo i achub croen y Prif Weinidog, ac nid er budd pedair gwlad y DU. Ble mae hyn yn gadael Brexit? Ble mae'n gadael trafodaethau Brexit? Yr unig beth yr ydym yn ei wybod yw hyn, Llywydd: mae'r DUP yn hoff o'r ymadrodd ‘dim ildio’. Heddiw, mae'r Ceidwadwyr yn hoff o'r ymadrodd ‘ildio truenus’.